1413k Gwefan
Cymru-Catalonia. Amrywieithoedd
Y Gymraeg. Y Traethodydd, Ionawr 1847. Gwyr Dyfed ynt haeddiannol o glod am gadw ar
arfer yr hen air Cymraeg anner (buwch ieuanc) am yr hwn ni fedd y
Gogleddwyr un gair, namyn heiffer, sef llygriad o’r Saesoneg heifer.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_054_amrywieithoedd_y_gymraeg_1847_1413k.htm
0001
Y Tudalen Blaen Google: kimkat0001
..........2657k
Y Porth Cymraeg Google: kimkat2657k
....................0009k
Y Barthlen Google: kimkat0009k
..............................0960k
Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
Google: kimkat096k
..........................................y
tudalen hwn
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia
|
|
|
AMRYWIEITHOEDD Y GYMRAEG. |
Adolygiad diweddaraf: 2009-12-02

(delwedd 6513)
Y llyfr ymwelwyr: 0860k,
Google kimkat0860k
Ein
sylwadau mewn teip oren.
Nodyn: (x2), (x13)
ayyb = man cychwyn tudalen 2, tudalen 13, ayyb yn y
cyhoeddiad gwreiddiol
(x1) AMRYWIEITHOEDD Y
GYMRAEG.
Nid oes un iaith, yn y byd, mae yn
debyg, yn cael ei siarad yn hollol yr un modd yn mhob ardal lle ei harferir:
mae gwahaniaeth, mwy neu lai, rhwng pob talaeth, a rhwng pob cymydogaeth. Mae
amryw helyntion a dygwyddiadau yn tueddu i achlysuro hyn. Lle y byddo y
gwahaniaeth yn fawr, gellir tybied fod didoliad o bwys wedi cymeryd lle rhwng
llwythau yr un genedl i randiroedd pell oddiwrth eu gilydd, a bod pob
ymgyfathrach wedi peidio rhyngddynt, a hyny er ys llawer o oesoedd. Mae y
llwythau didoledig hefyd yn agored i ymgymysgu â chenedloedd eraill
cymydogaethol, a thebygu mwy neu lai i'r rhai hyny yn ol fel y byddo grym eu
dylanwad. Os cânt eu darostwng gan eu cymydogion, a'u dwyn dan yr un
cyfreithiau a llywodraeth, gwna hyny mewn amser gyfnewidiadau mawrion : a
thrafnidiaeth a chydgymysgu mewn priodasau a barant, gynnydd ar y cyfryw
gyfnewidiadau. Mae manteision dysgeidiaeth mewn un iaith rhagor y llall yn
effeithio i beri fod dylanwad mwy gan y naill ar y llall, fel y mae cenedl
amddifad o fanteision dysg a gwybodaeth yn dueddol i efelychu cymdogion a
fyddont yn fwy cyfoethog o'r manteision hyny. A lle byddo dysgeidiaeth yn
ffynnu, mae yr iaith yn yr hon ei cyfrenir yn cael ei choethi a'i diwyllio. Yn
ol y gradd o wareiddiad y byddo unrhyw genedl wedi ei gyrhaeddyd, eu dull o
fyw, anghenion, tueddiadau, ac arferion, y ceir yn gyffredin fod tlodi ac
annillynder neu helaethrwydd a thlysni eu hiaith. Mal hyn, tybygem, y mae fod
cynnifer o gangen-ieithoedd perthynol i bob gwlad a chenedl yn y byd; yr un
iaith yn y dechreuad wedi ymranu yn llawer o wahanol gangenau, yn gwahanaethu
rywfaint oddiwrth eu gilydd, ac efallai y fam-iaith wedi llwyr golli o ran y siarad
o honi yn ei phurdeb. Felly y cawn fod yr hen Geltaeg, iaith trigolion cyntaf
Ewrop, wedi, ymranu un amrywieithoedd lawer, megys, y Gymraeg, y Gerniweg, y
Lydaweg neu Vrezonec, y Wendaeg, y Wyddelaeg, a’r Gaeleg; y rhai ydynt oll yn
dangos arwyddion amlwg eu bod wedi deilliaw oddiwrth yr un fam-iaith
ddechreuol; etto, drwy effeithiau amgylchiadau cyffelyb ag a nodwyd, maent oll
yn gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd yn fawr. Ymddengys fod y Gymraeg a'r Lydaweg
yn dwyn mwy o debygolrwydd i'w gilydd nag i’r Wyddelaeg a'r Gaeleg, a bod
llawer mwy o berthynas rhwng y (x2) ddwy olaf
â'u gilydd nag sydd rhyngddynt... ...wyr oddiwrth hyn fod y Cymry ar Gwyddyl
wedi ymddeoli oesoedd lawer o flaen ymddidoliad y Cymry oddiwrth y Llydawiaid
a’r llwythau eraill. Dywedir y gall y Cymry ar Llydawiaid ddeall peth o siarad
eu gilydd, ond nis gall Cymro a Gwyddel gynnal ymddyddan â'u gilydd am un peth
yn y byd.
[Gwel Dr. Pughe's “Outline
of the Characteristics of the Welsh.” - tudal. 17.]
Mae hefyd amrywiaethau lawer yn perthynu i bob un o'r cangen-ieithoedd hyn.
Gallem enwi y Lydaweg, i'r hon y perthyna tair neu bedair o amrywieithoedd, yn
gwahaniaethu mwy neu lai oddiwrth eu gilydd o ran cynaniad ac o barth eu
purdeb; megys cangen-ieithoedd
[Gwel lythyr y Parch. D. Jones,
yn y “Drysorfa” am 1838: - tudal, 110, 111, &c.]
A thybygid fod y cenadon Protestanaidd Cymreig, gan nad ydynt yn enedigion o'r
wlad hono, yn teimlo y cyfryw amrywiaeth yn yr iaith yn radd o rwystr yn eu
hymdrech i bregethu yr efengyl i’r werin yn y modd mwyaf dealladwy yn ngwahanol
barthau y wlad. Effeithia yr amrywiaeth hyn yn fwy drwy fod can lleied o
ysgrifenu yu yr iaith, ac o goledd arni, fel ag i ddwyn yr amrywiol
briod-ddulliau hyny yn nes at eu gilydd, a’u cyfuno fel rhanau hanfodol yr un
dafodiaeth.
Yr un modd am ein hiaith ninnau, y
Gymraeg; perthyna iddi ei hamrywieithoedd. Efallai y gellir cynnwys yr
amrywiaeth i gyd dan ddwy brif gangen, sef y Wyneddaeg a’r Ddeheubartheg “Yn y
Deheu,” medd Theophilus Evans,
[“Drych y Prif Oesoedd:”- tudal. 18; y chweched
argraffiad.]
“nid oes odid
gwmwd na chantref, na wahaniaetha ryw ychydig yn yr iaith, nid yn unig wrth fod
y werin yn rhoddi amryw seiniau i’r un geiriau, ond hefyd wrth alw ac enwi
llawer o bethau ar wahan.' Felly cawn fod Dyfed, Gwent, a Morganwg, yn amrywio,
oddiwrth eu gilydd fel y maent hefyd oddiwrthym ninnau yn y Gogledd. Yr un modd
hefyd y gwahaniaethai Gwynedd a Phowys. Adnabyddir brodorion Llëyn a
gwladyddion Cyfeiliog wrth eu lleferydd; er y sonir am “ynfydion” y naill
[Cyfeiriad at
hen chwedl ddisail am ynfydion Cyfeiliog yn golchi eu traed mewn llyn, ac yn
methu adnabod eu traed eu hunain, nes yr hapiodd i wr synwyrol ddyfod heibio a
chymeryd gwialen, yr hen yn fuan a'u dygodd i ymgydnabod bob un â’r eiddo ei
hun. Felly, os oedd ynfydion yn Nghyfeiliog, yr oedd yno bobl gall hefyd yn
medru taraw yn union ar fodd effeithiol i ddwyn y lleill i'w hiawn bwyll, heb
eu hanfon i'r gwallgof-dy.]
a “gwirioniaid” y llall,
[Sef “gwirioniaid Aberdaron.”
Mae tarddiad y ddiareb lëol hen yn fwy o anrhydedd i'r trigolion na dim arall.
Llong o Ddyfed, rywbryd yn yr hen amser gynt, a chwythwyd i'r làn gan dymhestl
yn Aberdaron; a’r trigolion, hwyntau, a wnaethant ymdrechion tra dyngarol a gorchestol
er achub y dwylaw a diogelu eu heiddo, ac, fel y Melitiaid, a’u lletyasant yn
rhywiogaidd. Y Dyfedwys, pan yn myned trwy Bwllheli ar eu taith tua thre, a
ganmolent yn fawr y caredigrwydd a dderbyniasent, ac wedent yn iaith eu gwlad,
“Pobl fach wirion iawn yw pobl Aberdaron,” gan feddwl, yn ystyr gymhwys y gair,
mai pobl dirion a diniweid oeddynt. Hyn, ac nid eu hanwybodaeth, fel y
gwag-dybia rhai, oedd dechreuad ac yw gwir ystyr y ddiareb.]
etto,
mae y gwahaniaeth rhyngddynt mor amlwg a rhwng Mon a Mynwy.
Y Saeson hefyd yn gystal a ninnau sydd ganddynt eu dialects, twangs, a
brogues. Heblaw fod tafodiaeth Lloegr Goch yn gwahaniaethu oddiwrth eiddo
yr Alban, mae pob sir yn amrywio yn nodedig mewn tòn ac aceniad, fel y mae
brodorion y naill ar llall o honynt yn hawdd i'w hadnabod wrth eu llediaith,
i'r sawl sydd yn hysbys o hyny.
(x3) Mae genym anghreifftiau ysgrythyrol o
beth cyffelyb i hyn. Yr oedd lleferydd Pedr yn ei gyhuddo, er maint a wadai,
mai Galilead oedd efe. Yr oedd gwahaniaeth tafodiaeth rhwng y Galileaid ar
Ephraimiaid, ac fe gostiodd yn ddrud i'r rhai olaf, yn nyddiau Jephthah, wrth
rydau yr Iorddonen, pan gollodd llawer o honynt eu bywydau, am na fedrent swnio
yr sh yn nechreu y gair “Shibboleth,” eithr ei swnio yn s, er llithriced
a fuasai eu tafodau i alw enwau drwg i gyffroi eu brodyr. Cymerwyd mantais ar y
neillduol rwydd hwn yn eu tafodiaeth, i'w hadnabod. Pe buasai y Cymry yno,
syrthiasent dan yr un trychineb, gan nad yw sain sh i'w gael yn ein
hiaith, ac nis gall Cymro uniaith ei swnio heb anhawsdra, oddigerth dan un
amgylchiad, sef pan fo y deuseiniaid ia, ie, io, iw, iy, yn dilyn s,
megys yn y geiriau siarad, sieryd, sionc, siwr, ffasiynau, llysiau,
gweision, &c., orid nid pawb a allant ei swnio mewn geiriau fel hyn. Un o'r
anhawsderau mwyaf ar ffordd y Cymro i ddysgu Saesoneg yw sŵn yr sh
ac y mae ambell un wedi methu ei gyrhaeddyd, ac heb allu i'w wahaniaethu
oddiwrth sain yr s, er y gallant siarad yr iaith yn lled dda yn mhob
ystyr arall: ond yn lle ffish, dywedant ffis; yn lle shilling,
silling. Yr ieuanc er hyny a ddaw iddo un fuan.
Yn awr, tybygid fod ymholiad yn cyfodi
yn naturiol, Beth yw yr achos gwreiddiol o amrywieithoedd y byd? Oddiwrth ba
beth y mae yn deilliaw? Beth sydd yn peri y fath dueddiad mewn ieithoedd yn
gyffredin? Ofer i ni grwydo yn anialwch dychymygon; nid yw athroniaeth yn
alluog i gael allan y dirgewlwch; awn ynte at ffynnon gwybodaeth yn
uniongyrchol. Y Bibl, y Bibl yn unig, a rydd oleuni boddlonawl ar hyn. Amlwg yw
yn ngoleuni hwn, mai effaith y cymysgiad gwyrthiol ar iaith y byd yn Babel
ydyw, yn cyrhaeddyd trwy yr oesoedd, yn parhau i weithredu yn rymus, er yn
arafaidd, ar holl ieithoedd y ddaear. Deillia holl amrywiaeth ieithoedd a
thafodiaethau y byd oddiwrth y cymysgiad a'r wasgarfa hynod a fu yno. “Canys,”
fel y dywed Charles Edwards,
[“Y Ffydd Ddiffuant, neu Hanes a Rhinwedd y Ffydd
Gristionogol,” gan Charles Edwards: - tudal. 330 &c; y chweched
argraffiad.]
“gan fod yn awr gymaint o'r un geiriau, ac o'r unrhyw sain gan y llythyrenau yn
mysg cenedloedd ac ieithoedd dyeithrol i'w gilydd, y mae yn hygoel mai yr un
iaith oedd ar y cyntaf gan bawb, megys y dadgan Moses; - nad yw yr amrafael
ieithoedd ag sydd amlaf yn y parthau hynotaf o’r byd, ond yr un iaith wedi ei
chymysgu, a’i thaflu wyneb a gwrthwyneb, allan o'r dreth gyntaf, gan ddynion
wedi annihwyllo, a ddechreuent ambell air yn ei ddiwedd, ac a'i diweddent yn ei
ddechreu. Dechreuent hefyd rai geiriau yn eu canol, a tharawent eu deupen
ynghyd, a thaflent sillafau geiriau eraill y naill ar draws y llall, fel na
wyddid mai yr un geiriau oeddent.” Felly gall ein llygaid, ein clustiau glywed,
a’n meddyliau deimlo, effeithiau y farn ddwyfol hono, a ddisgynodd ar ddynolryw
gwrthryfelgar er ys miloedd o flyneddau sydd yn ein hiaith ein hunain, yn y
gwahanol ddulliau yn ysgrifeniad a llafariad yr iaith, ac yn yr anhoffder a
deimlwn yn ein meddyliau wrth ymadroddion a seiniai i anghynnefin i ni, yn
enwedig os bydd eu hystyr yn anhysbys, heb sôn am yr anghyfleusdra o drigo
ynghanol cenedloedd o ieithoedd hollol wahanol i'r eiddom ni.
(x4) Ymddengys wrth ysgrifeniadau mor hen ar
ddeuddegfed a'r drydedd-ganrif-ar-ddeg, fod yr amrywiol briod-ddulliau
perthynol i wahanol barthau Cymru yn hanfodi yn yr oesoedd hyny yr un modd ag y
maent yn awr. Dichon i'r amrywiaethau hyny ar y cyntaf gyfodi, mewn rhan,
oddiwrth fod y wlad wedi ei rhanu yn yr hen oesoedd yn llawer o fân
dywysogaethau, a’r rhai hyny yn fynych yn elynol i'w gilydd, ac heb nemawr
ymgyfathrach rhyngddynt. Dyfodiad dyeithriaid i fysg y naill lwyth neu y llall
a effeithiai mewn amser radd o wahaniaeth yn llafariad yr iaith. Dylid cofio
fod y bobl gyffredin yn y cynoesoedd yn ymddibynu bron yn hollol ar eu
harglwyddi, ac wrth eu galwad ar bob achlysur, a llawer fel anifeiliaid yn
feddiant iddynt; yr oedd yn naturiol i'r rhai hyn efelychu eu harglwyddi yn eu
dull o siarad fel mewn pethau eraill. Efallai fod peth o'r gwahaniaeth a
ganfyddir rhwng parabl trigolion Dinbych a Fflint a phreswylwyr y rhan arall o
Wynedd wedi tarddu oddiwrth ymfudiad Gwyr y Gogledd, sef Cymry Ystrad Clwyd yn
yr Alban (wedi eu gorchfygu gan eu gelynion, a cholli o honynt eu brenin), a’u
hymsefydliad yn yr ardaloedd rhwng Conwy a Dyfrdwy, yn y nawfed ganrif, drwy
ganiatâd Anarawd, brenin Gwynedd, ar yr ammod. o fod iddynt ymlid ymaith y
Saeson oeddynt wedi trawsfeddiannu y wlad, yr hyn “a wnaethant yn ddihafarch;”
a diammhau fod hiliogaeth y bobl ddewrion hyny yn parhau yno hyd heddyw.
[“Hanes Cymru,” gan y Parch. Thomas Price, (Carnhuanawc):
- tudal. 325, 326, 398. “Warrington's History of Wales:”- pp. 229-231. Vol.1.
Fourth edition.]
Amlwg
yw fod tuedd yn yr amrywiaethau ieithyddol hyn i barhau, os nad i gynnyddu, hyd
oni cheir rhyw safon, wrth ba un y gellir profi priodoldeb neu anmhriodoldeb
unrhyw ddull neu arferiad o lefaru. Er nad yw ddichonadwy cael un safon
perffaith a digyfnewid, gan fod pob peth îs- loerawl yn agored i gyfnewidiadau,
etto, mae cael un da yn fuddiol tuag at gadw purdeb iaith, ac i attal,
rheoleiddio, a lleihau yr amrywiaethau o dafodiaeth daleithiol a llygriadau
llëol. Yn Lloegr, ymddengys mai y llŷs a’r senedd yn y brifddinas, yn
benaf, sydd yn rheoleiddio yr iaith; a thebygol yw y bydd i ymdaeniad addysg
gyffredinol trwy y deyrnas, yn raddol wisgo ymaith yr amrywiaethau taleithiol
yn lled lwyr. Gyda ni, cyfieithiad awdurdodedig y Bibl yw safon purdeb y
Gymraeg, neu o leiaf a gydnabyddir felly yn awr. A pho agosaf y trefnir
ymadroddion, y seinir, ac yr ysgrifenir, i ddull y Bibl, goreu oll, a mwyaf
cymeradwy fydd gan bawb o berchen ddëall i farnu; er y gellir defnyddio llawer
o eiriau a dywediadau sathredig yn y wlad, a rhai ymadroddion godidawg, nad
ydynt idd eu cael yn y cyfieithiad, am nad oedd achos am danynt, ond a
gyttunant yn dda â’r geirweddiad a ddilynwyd ydddo.
Pan fyddo y gwahaniaeth yn llygriad ar yr iaith, mae yn swnio yn ddrwg yn
nghlustiau trigolion ardaloedd lle nad yw y cyfryw lygriad yn arferedig, er y
gall y rhai hyny fod yn feius mewn dulliau eraill o ymadroddi. Buddiol fyddai i
areithwyr cyhoeddus fedru cynanu yr iaith yn gywir a pharabl-bêr, ac nid yn
null llygredig eu gwahanol ardaloedd; a thra manteisiol hefyd i athrawon yr
Ysgolion Sabbothol, fel y gallont addysgu ieuenctyd y wlad i seinio yn briodol
a syml wrth ddarllen yr ysgrythyrau. Tuag at fod o ryw gynnorthwy yn hyn,
amcanwn nodi allan y prif amrywiaethau (x5)
yn nhafodiaeth gwahanol barthau Cymru benbaladr, mor belled ag y daethant dan
ein sylw: lle byddo y gwahaniaeth yn Gymreigaidd, ymdrechwn i’w esgusodi; ond
os yn feius, rhoddwn y cyfarwyddyd goreu a fedrwn er ei ddiwygio.
1. Y gwahaniaeth cyntaf y sylwn arno sydd yn nghynaniad rhai or llafariaid.
1. Mae y lafariad a, mewn geiriau unsill hirsain, a rhai geiriau
lliossill pan y byddo dan aceniad, megys,
cân,
câs,
glân,
mab,
tad,
tân,
sâl,
mwynhad,
parha, &c.,
yn cael ei swnio mewn rhai ardaloedd yn gyffelyb i’r a fain Seisonig yn
cane, case, sale, tale, &c., yr hon sydd yr un ar e Gymreig. Hefyd
tröir y deuseiniad ae yn ei, yn
mae,
gwaed,
gwael, &c.,
megys ped ysgrifenid,
mêi,
gwêid,
gwêil, &c.
Amlwg yw mai yr un sŵn yn hollol sydd i’r a yn tân ac yn
tàn, ond ei fod yn y blaenaf yn hir ac yn yr olaf yn fyr: ac wrth chwanegu at y
gair mae yn amlycach fyth; fel hyn,
tàn, tanodd;
tân, tanau, tanio;
màn, manau;
mân, manaf;
bàr, bàrau;
bâr, barau.
Bro Trefaldwyn, a rhanau o Feirion, yn y Gogledd, sydd fwyaf yn y bai hwn; ac
yno ystyrir yn brydferthwch siarad yn fain, fel y dywedir, ac nid yn llydan fel
yn y rhanau eraill o Wynedd a Phowys. Etto dilys yw mai yr a lydan,
agored, yw y wir sain Gymreig, ac nad yw y gwahaniaeth o hir a ber, neu leddf a
thalgron, ond mewn hyd yn unig, fel y dangoswyd uchod, ac nid mewn sain; a
hyderwn na ddilynir maldod y Baldwyniaid
[Cymerwn yma
gyfleusdra i unioni camwri sydd wedi llithro yn ddiweddar i arferiad yn rhai
cylchgronau Cymreig, yn ysgrifeniad yr enw Trefaldwyn, gan ei dalfyru yn
“Maldwyn.” Y gwraidd-eiriau ynt Tref-Baldwyn (oddiwrth enw rhaglaw Normanaidd y
cyffiniau, yr hwn a adeiladodd y castell yno, yn amser Gwilym y Goresgynydd),
ac nid Tre-Malwyn, yr hyn nud yw air yn y byd, am a wyddom ni. Mewn
cyfansoddiad, ymnewidia b yn m ar ol yr arddodiad yn; “Arosasom wythnos yn Maldwyn.” Yn
y sefyllfa hon y mae yn gywir, ond ei fod yn dalfyredig. Nid oes, hyd y
gwyddom, un sail i dadogi yr enw wrth Tre.Moeldwyn. Oddiwrth Roger de
Montgomery, un arall o’r arglwyddi Normanaidd yr hwn a adeiladodd y castell, y
deillia yr enw Seisoneg Montgomery a
Montgomeryshire.]
yn y llygriad masw hwn, oblegid y mae yn gwanychu yr iaith yn fawr, ac yn ei
hysbeilio o un o’i seiniau cysefin a godidog. Byddai yn werth myned ar
bererindod o gyffiniau Pumlumon a Chader ldris, i ororau y Wyddfa a Moel Famau,
i glywed rhianod llednais y parthau hyny yn swnio y lythyren a yn ei
sain bur ei hun. Ond rhag na cheir adeg i hyny, hawdd yw dyfod idd ei sain
gywir wrth ei swnio o flaen i, a, neu w, fel yn y geiriau
rhaid, cais;
aur, haul;
awr, bawl, haws, &c.
Mewn rhai ardaloedd, swnir y lafarog hon gyda rhyw fath o leddfiad, megys ea,
mewn geiriau o’r fath a ganlyn,
tad, tead;
mab, meab;
tân, tean; &c.
Y rhai ydynt yn cofio yr hen bererin duwiol Edward Goslet yn pregethu, a
wyddant am y dull digrifol y swniai efe y geiriau hyn a’u cyffelyb, canys yn
llediaith ei fro ei hun (Gwent) yn hollawl y llefarai efe.
2. Yn rhai parthau o Wynedd, troir o yn a, mewn geiriau
lliossill, pan na fyddo dan aceniad; megys,
aber, abar;
adeg, adag;
cangen, cangan;
hanes, hanas;
yfed, yfad;
rhywbeth, rhywbath;
penbleth, penblath; &c.
ac yn y gwrthwyneb, troir a yn e, yn yr un sefyllfa; megys,
allan, allen;
ardal, ardel;
attal, attel;
dinas, dines;
teyrnas, teyrnes, &c.
Mae y gwall hwn yn arwain i gymysgu amserau y perwyddiaid, megys rhoddi y
dyfodol am y gorphenedig, a’r gorphenedig am y tragorphenedig; fel hyn,
gwnaethant yn lle gwnaethent,
daethant yn lle daethent,
dywedasant yn lle dywedasent,&c.
(x6)
Clywsom ŵr dëallus unwaith yn darllen Act.ii.44: “A’r rhai a
gredent oll oeddynt yn yr un man;” gan swnio gredent yn gredant,
yn ol arfer y cwmwd yr oedd yn byw ynddo; ac er fod ei glust yn ei hybu, nad
oedd dim synwyr yn y darlleniad felly, etto nis gallai ddirnad yn mha le yr
oedd y gwall. Ychydig o wybodaeth ramadegol, ac o gywir gynaniad a fuasai yn ei
gadw rhag yr amryfusedd. Diwygir y bai hwn wrth sylwi ar lythyreniad geiriau,
at’u cynanu yn ol hyny.
3. Gwall cyffredinol yn Nyfed a rhanau o Bowys yw esgeuluso gwahaniaethu rhwng
y llafariaid i, u, ac y. Dan rai amgylchiadau, gwnai i y
tro iddynt yno am y tair, megys yn y geiriau canlynol,
du, di;
cu, ci;
drud, drid;
pur, pir;
hun, hîn;
lludded, llidded;
mynyd, minid;
cŷn, cin;
dyn, din;
hyn, hìn;
llyn, llìn;
yw, iw;
byw, biw;
ŵy, wi (ll. wïe);
hyny, hyni;
cyfiawn, kifiawn;
cybydd, kebidd, neu cebydd; &c.
Dylid sylwi fod gwahaniaeth hanfodol rhwng i ac u, amlwg i bawb
sy wedi ymgynnefino â’u seiniau priodol, ond anhawdd ei roddi ar ddëall i
eraill, wrth fod y glust o ddiffyg ymarfer yn analluog i wahaniaethu. Mae yn
llwyr annëlladwy i Saeson, gan nad yw u idd ei chael yn eu hiaith.
Am y lafariad y, dylid cofio fod iddi ddau sain, y rhai er mwyn dynodiant a
alwn yn gysefin a dirprwyol. Ei sain gysefin a glywir mewn
geiriau unsill, yn y rhai canlynol yn unig, sef,
my, fy, dy, (lleddf);
ydd,
ym,
yn,
yr,
ys,
dyd,
dyt,
myn,
syr, (talgron):
ac yn nesaf yn mhob sefyllfa mewn geiriau lliossill ond y sill olaf; megys,
cyflyrau,
prydyddion,
ynysoedd,
cynnyddu, &c.
oddieithr fod y rhagddod cyd, pan yn gofyn pwyslais, yn amrywio oddiwrth y
drefn hon, megys yn
cydymgymysgu,
cydymgysylltu,
cydymlynu, &c.
a’r deuseiniaid ey ac wy, megys yn
teyrn,
teyrnas,
rhwymau,
bwydydd,
ffrwytho, &c.
Ei sain ddirprwyol sydd yr un yn gymhwys a’r lafariad u, yr hyn a gymer
yn mhob geiriau unsill, oddieithr y rhai a nodwyd uchod, ac yn y sill olaf i
bob gair lliossill; megys,
byd,
bys,
dyn,
hŷn,
gwŷn,
cŵyn,
gwŷr,
gŵyr, (lleddf);
gwyn,
hyn,
llym,
myn,
syn, (talgron) ;
canlyn,
ennyn,
eryr,
telyn, &c.
megys ped ysgrifeinid
bud,
bus,
dun,
gwun,
llùm,
sùn,
ennun,
telun, &c.
Mae ei dau sain yn glywedig yn hyny,
llythyr,
myfyr,
pybyr,
ystyr, &c.
Yn y frawddeg ganlynol, ceir addysg i seinio yn briodol yr u a’r y
–
“Dyt! du yw dy dŷ di, y dyn, ac nid gwyn.”
Yn awr, y mae rhywun yn barod i ofyn, Paham nad ysgrifenid u yn lle y
yn y cyfryw amgylchiadau ag y maent o’r un sŵn, fel na byddo dim ond un
sain i bob llythyren yn yr iaith?. Yr ateb yw fod teithi yr iaith yn gwahardd
hyny, yr hyn a ymddengys yn amlwg wrth yr hyn a anlyn. Nid yw u byth yn
newid i y pan estyner gair; megys,
du, duaf;
cur, curo, curio;
llun, lluniau;
mur, muriau;
sur, surion;
awdur, awduron, &c.
ond yn ddirprwyol yr y a ddychwela idd ei sain gysefin bob amser,
oddigerth yn y deuseiniaid cy, oy, wy, pan chwaneger at air; fel hyn,
dyn, dynion;
byr, byraf;
syn, synu;
ynfyd, ynfydu;
ystyr, ystyried;
eithriad,
teyrn, teyrnas;
gloyw, gloywon;
cŵys, cwysau.
Gwir y buasai dodi u yn lle y yn y geiriau hyn un cyffelyb yn
symud yr anghyfleusdra o fod dau sain i’r un lythyren, yr hyn nid oes i un
lythyren arall yn ein hiaith; a gwelsom gynnygiad neu ddau am y fath
gyfnewidiad yn ein horgraff, y rhai a fuant aflwyddiannus; canys, fel y mae yn
amlwg, gorbwysid y fantais gan y tywyllwch a daflai ar dadogaeth geiriau.
Chwithig ac anghelfydd iawn fyddai ysgrifenu, “dun gwun llum a ofun am ud,” yn
unigol; a “dynion gwynion llymion a ofynant am ydau” yn llïosog gan fod
perthynas y geiriau drwy y fath (x7)
lythyreniad yn cael ei lwyr orchuddio. Hefyd, dyddymai y gwahaniaeth
rhwng geiriau o’r un
sain ond o wahanol ystyr; megys,
brud (oes-lyfr),
bryd (meddwl);
clod (mèn, càr),
clyd (cynhes);
hun (cwsg),
hŷn (henach);
llun (delw),
llyn (o ddwfr),
&c.
Gwelir oddiwrth hyn mai gwall yw swnio u yn y; megys, cyro
yn lle curo, pyrwr yn lle purwr, syrion yn lle surion, rhaglyniaeth
yn lle rhaglun- iaeth. Mae y bai hwn o ran cynaniad yn un o’r rhai mwyaf
rhodresgar mewn coeg-areithyddiaeth, fel pan ddywedir
creadyried pechadyrus, du enw, du ogoniant, du wyneb, &c.
mewn dynwarediad o ryw Ddeheuwyr hyawdl; yn lle crëaduriaid pechadurus, dy enw,
dy ogoniant, dy wyneb.
Ond yr ydym yn cofio y ffoledd hyn yn fwy cyffredin nag yw yn awr; mae cenedl
yr Hwyntwys gogleddol yn diflanu, dybygem, o dipyn i beth.
4. Sylwn yn nesaf ar rai gwallau eraill yn seiniad y llafariaid, a ffynant mewn
gwahanol ardaloedd, ac yn benaf yn y Deheudir; megys, troi ae ac e;
bl’an, lla’s, ma’s, gwa’d,
yn lle blaen, llaes, maes, gwaed:
ai yn ae ac e;
bauch, brauch, byddau, rhodie,
yn lle baich, braich, byddai, rhodiai:
au yn ou;
dou, clou, gou, houl,
yn lle dau, clau, gau, haul:
i ac y yn ei;
rhagreithiwr, weineb,
yn lle rhagrithiwr, wyneb:
o yn w; trwed yn lle troed:
oe yn o;
cro’s, llo’r, o’n, po’n,
yn lle croes, lloer, oed, poen:
oe yn oi;
coid, oin, poith,
yn fin-fain ryfeddol, yn lle coed, oen, poeth:
oe yn ou;
oud, ffroun, pour,
yn lle oed, ffroen, poer:
wy yn w;
cwmmws, cwmpo, rhwmo,
yn lle cymhwys, cwympo, rhwymo.
Talfyrir ae ac oe yn a ac o, yn fynych gan
brydyddion er mwyn odli; megys,
bla’n i odli â glân,
ma’s â gras,
erio’d â boc, clod, &c. Efallai fod hyn yn oddefol mewn prydyddiaeth
rydd,
oherwydd prinder geiriau cyfodlaidd, fel yr arforir rhai deuseiniaid eraill,
megys ac, ai ,ao au, i gydodli yn gwae a bai, maes, parhaus, &c. yr
hyn sy lawn gystal ag i ac u yn tir a pur, rhin ac un. Etto,
barna rhai mai gwell a harddach i’r golwg fyddai ysgrifenu y deuseiniaid yn
llawn, hyd yn nod pan eu arferir fel hyn;
maes, oen, erioed, ac nid ma’s, on, erio’d.
[‘Gwel yn helaethach
ar hyn yn “Y Traethodydd:”- tudal, 378, Llyfr ii.]
5. Cyn gadael y llafariaid, sylwn ar un peth ag sydd yn nôd o wahaniaeth
hanfodol rhwng y Wyneddaeg ar Ddeheubartheg; sef, fod amryw eiriau unsill, a
gyfrifir yn fyrion yn y Gogledd, yn cael eu swnio yn hirsain yn y Deheubarth;
ac, yngwrthwyneb, fod amryw eiriau a gyfrifir yn fyr yn y Deheubarth, yn
hirsain yn y Gogledd. Gosodwn yma restr o honynt. Y rhai hyn a swnir yn
gyffredin yn fyrion yn y Gogledd, ac yn hirion yn y Deheudir:
eb, heb, cwb, twb; bid, nid; sef; rhag, nag (gorair a chysylltiad);
dil; call, dall, gwall,
llall, pall, gwell, pell, gwill, mill, pill, a coll, moll, toll, gwyll;
nas, nes, nis.
Y rhai canlynol ydynt hirion yn y Gogledd, a byrion yn gyffredin yn y Deheudir;
gallt, gwant, ballt, allt, dellt, gwellt, mellt, bollt, hollt, mollt, swllt,
gwynt, myllt;
hesb, gwasg, pasg, tasg, hesg, llesg, pesg, gwisg, plisg, rhisg, llosg, cwsg,
dysg, gwrysg, gwysg, mysg;
gast, cest, crest, ffest, cist, Crist, clist, trist, bost, cost, rhost, test,
clust, ffust, crwst, gwst, ffrwst, trwst, cyst, pyst, tyst;
at y rhai efallai gellir chwanegu oll, holl, a byth, a swnir weithiau gan rai
yn fyrion.
Yn awr, pwy a feiddia benderfynu rhwng y Wyneddaeg ai Ddeheubartheg, pa un sydd
gywir yn hyn? Hawdd yw hòni cywirdeb un, a beio anghywirdeb y llall, ond profi
y naill neu y llall felly yw y pwnc. Hyn nis meiddiwn ni anturio arno. Barnwn
yn hytrach mai gwell yw i’r ddwy chwaer uchelryw, y ddwy efelles unoed,
ymostwng i gydoddef a chyd-ddwyn (x8) â’u
gilydd yn gariadus; hyny yw, “cyttuno i wahaniaethu” yn y mater yma. Gan nad
oes un ac acèn-nod yn cael ei arferyd gyda’r cyfryw eiriau, ymddengys fod hyn,
o fwriad, wedi ei adael yn anmhenodol; gan nad yw eu swnio yn hir neu yn fyr yn
arwain i ddim amwysedd. Eisieu iawn olygu y gwahaniaeth hwn a barodd dipyn o
fethu cydweled rhwng ysgrifenwyr dysgedig yn y “Gwladgarwr,” rai blyneddau yn
ol; sef “Cymro Llwyr,” (Deheuwr, fel yr ymddengys) o un tu; “Tydecho,”
a’r Golygydd, (Gogleddwyr) o’r tu arall.
[Gwel y
“Gwladgarwr.” Cyfrol v. am 1837 - tudal. 67, 239, 294.]
Ond iawn i ni gydnabod i ni dderbyn gradd o gymhorth ar y pen hwn oddiwrth en
llafur hwy.
II. Mae amrywiaethau llëol yn nhafodiaeth y wlad yn tarddu hefyd -
1. Oddiwrth gynaniad anghywir y ddwy gydsain c ac g, o flaen y
llafariaid a, e, i, ac u;
swnir c yn
fynych fel ci neu k, ac g yn gi.
Yn lle canys, dywedir cianys (kanys);
caws, ciaws;
cenedl, cienedl.;
tad cu, tad ci;
cŷn, cin;
gair, giair;
gem, giem.
Clywir ambell un yn darllen dywediad fel hwn,
“A’r cadarn fydd fel carth,” megys pe ei hysgrifenid,
“A’r kadarn fydd fel karth”
yn llusgenaidd ddigon felly. Nis gwyddom am un gair yn cael ei lurgunio i
gynnifer o ffurfiau yn fwy nag enw y grawn cyffredin, ceirch, fel arall,
keirch, cerch, kerch, cyrch, circh, a pha beth etto?
Dyma chwe’ dull am yr un gair, ond y cyntaf yn unig sy gywir.
Dylai c ac g gael yr un sain o flaen yr holl lafariaid ag sydd
iddynt o flaen o, w, y, l, n, ac r.
2. Peth arall a wna wahaniaeth yw gadael allan rai llythyrenau heb en swnio,
neu chwanegu ambell lythyren heb ei heisieu; megys y gwelir wrth y cyferbyniad
canlynol rhwng tafodiaeth y ddwy dalaeth:-
|
GWYNEDD. |
DEHEUBARTH.
|
|
boddlon
(boddlawn) |
bo’lon |
|
cyhoeddiad
|
cyhoeddad |
|
cymdeithas
|
cymdeithias
|
|
misol |
misiol |
|
chwech |
hwech |
|
chwe’-llath
|
hwech-llath
|
|
chwedleua |
hwedleua |
|
ei mab
(hi) |
ei mhab |
|
ei nai
(hi) |
ei nhai |
|
ein natur |
ein nhatur |
|
newydd |
newy’ |
|
tywydd |
tywy’ |
|
i fyny |
i fynydd |
|
oeddwn |
o’wn |
|
oeddem |
o’em |
|
rhoddes |
rho’ws |
|
tra
fyddech |
tr’ech |
|
tra fyddo |
tr’o |
|
yr iaith |
y iaith |
“Tafarn hwdlyd,” yw “ tafarn chwydlyd.”
Yr hen ddiarebion hyn o eiddo y Deheuwyr:
“Hwibon i faban, arad i ŵr;”
“Hwareuid mab noeth, ni hwery mab newynog:”
yn y Gogledd a barablid fel hyn
“Chwibon i faban, arad i ŵr,” a
“Chwareued mab noeth, ni chwery mab newynog.”
Yn y gwrthwyneb etto,
“Gieir a chwied “ a wedant yn y Deheudir,
ond yn Ngwynedd, “ieir a hwyaid;”
unigol, giâr, iar;
chwiaden, hwyaden.
Tra beius y dywed rhai Gogleddwyr,
difot am diffodd, diffoddyd;
rhoid am roi neu roddi.
3. Y gwahaniaeth nesaf a ddaw oddiwrth gamgyflëad llythyrenau mewn geiriau:
dd-f, tangneddyf, yn lle tangnefedd;
dd-l, cywiddyl yn lle cywilydd; giddyl, yn lle gilydd;
n-f, onfi, yn lle ofni; cenfi, cefnu; llynfi,llyfnu.
Yn rhai manau clywir wmed a gwymed, yn lle wyneb a gwyneb.
Nid yw hyn amgen na “rhoddi y càr o flaen y ceffyl;” ond efallai mai eithriad
barddonol yw uddyf yn lle ufudd neu ufydd: -
(x9) “Yn eiddil
blentyn uddyf.” Dewi Wyn.
4. Achos arall o wahaniaeth yw estyn geiriau yn afreidiol: megys,
|
cefn |
cefen |
|
drachefn |
drachefan |
|
llyfr |
llyfyr,
llyfur |
|
ofn |
ofan |
|
ochr |
ochor |
|
teml |
temel |
|
llestr |
llester |
|
trefn |
trefen |
|
syml |
symyl |
|
ystorm |
ystorom |
III. Mae gwahaniaeth hefyd yn yr arferiad o enwau a rhagenwau; megys,
1. Yn nherfyniadau llïosog enwau:
(au) penau, pena, pene:
(iau) dyddiau, dyddia, dyddie:
(aid) defaid, defed; llygaid, llyged; offeiriaid, ofeiried:
(ion) “dynon ceimon, byron, bach,” yn lle “dynion ceimion,
byrion, bach:”
(ed) merched, merchaid; pryfed, pryfaid:
(oedd) dyfroedd, dyfrodd; moroedd, morodd.
Hefyd, lloi, lloia; adar, drynod (h. y.) aderynod, &e.
Llygriad enbyd yw dodi s at derfyniad lllosog geiriau;
boneddigion, nid boneddigions;
gweithwyr, nid gweithiwrs;
cregin, nid cregins,
a ddylid.ddywedyd.
2. Yn nherfyniad a threigliad rhai enwau gweidiaid; megys,
(aidd) mwynaidd, mwynedd; peraidd, peredd;
(ain) llydain, llyden; bychain, bychin.
Dywedir yn Ngwynedd, “dynes bach,” “geneth bach,” “eglwys bach” ond yn Mhowys a
Deheubarth, “dynes fach,” geneth fach,” “eglwys fach.”
Y cydseiniaid cyfnewidiol, mewn ansodd-eiriau, a gymerant y sain ysgafn i
gyttuno ag enwau benywaidd o’r rhif unigol; megys,
gwraig ddoeth,
merch lân,
gwisg wen;
felly cywirach y “dynes fach” na “dynes bach.”
Etto, y Deheuwyr a wedant,
“dau gau dyst,”
“yn gau dystion,’
“yn go dda:”
mwy rheolaidd yw
“dau au dyst,”
“yn au dystion,”
“yn o dda.”
Hefyd, hwy wedant,
“lled na’r ddaear.’
“lled na’r môr:”
ond dywed Gwyneddigion,
“lletach na’r ddaear,”
“lletach na’r môr.”
3. Mae cymysgu rhywiau yn achos arall o wahaniaeth. Trwsgl ddigon y dywedai un,
“Y drydydd adnod o’r bedwerydd bennod o Ail Lyfr Samuel.”
Mae cyfnewidiad y cydseiniaid dechreuol t, p, ll, idd eu sain ysgafn d,
b, l, yn arwyddo y rhyw fenywaidd, ond mae y terfyniad ydd, a’r gair
llyfr, yn eu gwrthdaraw, gan eu bod o’r genedl wrywaidd. Cywirach gan
hyny fyddai dywedyd (yn ol canon Arfonwyson)
[“Trysorfa yr
Athrawon:” - tudal. 309.]
“Ail Llyfr Samuel, y bedwaredd bennod, a’r drydedd adnod.”
Tybia rhai er hyny fod ail yn eithriad i’r rhifiadau trefniadol eraill,
yn cael ei ddilyn gan y sain ysgafn heb wahaniaeth rhyw; megys,
ail ddyn, ail wr, ail ben, fel ail ddynes, ail wraig, ail law:
ond eraill a farnant y gellir dywedyd,
ail dyn, ail gwr, ail pen
a bod hyny yn fwy rheolaidd.
“Dwy droed sy ganddo, ac nid pedair,” ebai Martha Pseudogam am ei gŵr:
prin y mae holl helbulon Mrs. P. yn ddigon o esgus dros ei llediaith, oni b’ai
i ni goflo mai yn fenywaidd y treiglir y gair troed yn nhafodiaeth ei gwlad hi.
Gan nad oes yn y Gymraeg ffurf benodol i’r ganolryw, mae enwau pethau difywyd,
a geiriau dansoddawl, yn cael eu troi yn wrywaidd neu fenywaidd, fel y byddo eu
teithi yn gogwyddo. Ond y mae yn anhawdd penderfynu am rai geiriau
[“Cyfarwyddwr
Priodas,” gan William Williams Pant-y-Celyn: - tudal.4. Mae yn waeth fyth yn yr
argraffiad cyntaf, “Dwy troed,” &c.]
(x10) i ba ryw y perthynant; ar un
golygiad, cymerir hwy yn wrywaidd, golygiad arall a’u deugys yn fenywaidd. Y
gair cwpan a dreiglir yn fenywaidd yn gyffredin yn Ngwynedd; fel hyn, y
gwpan, tair cwpan, cwpan fawr, ac y mae y priodolder o gynnwys, dybygid, yn
arwain i hyn; ond y mae y lafarog w yn ei ddynodi yn wrywaidd, a’r
terfyniad an sy gyffredin i’r ddau ryw, megys yn capan, carfan, y
naill yn wrywaidd a’rr llall yn fenywaidd: felly yn y rhyw wrywaidd y ceir y
gair cwpan yn mhob man yn y Bibl; megys “y cwpan hwn,” “y cwpan a’r
ddysgl.” Mae amryw eiriau a gyfrifir yn wrywaidd yn nhafodiaeth y Gogledd, yn y
Dehau yn cael eu treiglo yn fenywaidd, ac yn y gwrthwyneb.
[“Dr Pughe’s Grammar of the
Welsh Language:” - pp. 30, 31. “Hanes Cymru:” - tudal. 157, nodiad.]
Gellir ystyried rhai yn anmhenodol, a’u rhyw i’w benderfynu yn ol rhediad yr
ymadrodd, fel y cawn anghreifftiau aml yn Bibl; megys, “y doethineb hwn,” “y
ddoethineb,” “doethineb a adeiladodd ei thŷ;” “y duwiol anian;” “a’r bla a
attaliwyd,” &c. Etto gwrywaidd y cyfrifir doethineb, a benywaidd yw anian,
ac y mae y gair pla wedi ei ddodi yn unffurf yn wrywaidd yn argraffiadau
diweddaf Cymdeithas y Biblau.
4. Gwahaniaeth arall sydd yn arferiad y rhagenwau, yn enwedig y trydydd dynsawd
unig, gwrywaidd, ar llïosog.
Deheubarth.- Ef, efe, e, unig; hwy, hwynt, hwyntwy, llïosog.
Gwynedd. - O, fo, efo, neu y fo, unig; nhw, nhwy, nhwythau, llïosog
Oddiwrth y gwahaniaeth hwn y tarddodd yr arfer ffôl o alw gwŷr y
Deheubarth yn “Hwyntwys,” a “Hwntwy bach yn awr.” Ond na fydded gwaeth gan y
Deheuwyr o herwydd hyn, oblegid mae y rhagenwau yn llawer mwy destlus ganddynt
hwy na chan y Gogleddwr yn gyffredin, megys y tystia y dywediadau anghryno a
ganlyn;
gydag efo,
efo fo,
efo ag efo,
efo ag o,
gydag o,
efo ag ethi hi,
gydag ethyn nhw,
efo nhwthau, &c.
Yn Ngwynedd, anfynych yr arferir y rhagenwau dangosiadol canolryw yn y rhif
unigol, def hyn, a hyny ond arferir y gwrywaidd a benywaidd, hwn,
hwnw, hon, hon, yn eu lle; ond
yn y Deheubarth, arferir hwynt yn rhëolaidd, fel hyn,
“y llwybr hyn,”
“y ffordd hyn,”
“yr hiraeth hyn,”
“y drefn hyny,”
er y dilyniant y dull ffugrol hefyd yr un modd ag yn y Gogledd, megys, “y bud
hwn,” “y deyrnas hòno.”
IV. Sylwn yn nesaf ar yr amrywiaeth a gyfarfyddwn yn y perwyddiaid.
1. Yn y modd annherfynadwy:
dringo, pwnio, swnio, costio, rhostio, barnu, damsang, meithrin, &c.
a gymerant olddodiad tra gwahanol yn nhafodiaeth Dyfed; megys,
dringad, pwno, swno, costi, rhosti, barni, damsiad, meithrynu.
Yr arddodiad i, pan fyddo yn arwydd o’r modd hwn, a ellir ei hebgor yn
fynych, heb niweidio yr ystyr, megys yn y brawddegau canlynol: -
“A raid i groesau fyth yn llyn
[I] ganlyn f’enaid bant a bryn?”
“Dichon fod yn gymhwys [i] amlygu beth yw ein meddwl wrth y geiriau.”
“Mae y dyn yn cymeryd arno [i] fod yn ddoeth.”
“Gwelodd fod yn dda [i] gyhoeddi y celai y rhai a alwyd eu dysgu.”
“Fe welodd Duw fod yn dda [i] ddyfod ag ef i dref yn iach-lawen,”
ebai y Ficer Prichard am Siarl I.: ond Gogleddwr a ddywedasai,
“Gwelodd Duw fod yn dda
(x11) ddyfod ag
ef adref yn iach a llawen,” neu, “yn iach-lawen,” gan adael heibio yr i
o flaen y perwyddiad.
2. Mae y trydydd dynsawd unig o’r amser gorphenedig, modd mynegol, yn terfynu
yn dra amrywiol. Y terfyniad mwyaf cyffredin yw odd (gynt, awdd)
megys, carodd, dysgodd: arferir hefyd es, ac weithiau is; megys,
rhoddes, gweles, gelwis, &c.
“Ni
weles da yn nhŷ ei dad, a hoffes da yn nhŷ ei chwegrwn.”
“Ni
sengis yr ŷch ar dy droed.”
Ond
heblaw y terfyniaid hyn, ceir yn y Ddeheubartheg as, ws, ac wys;
megys cafas, rhanws, prynwys;
“A ranwys
nef a gafas.”
Mae yr
englyn canlynol “i wraig o Went a gurasai ei gŵr,” yn gynllun campus o’r
terfyniad ws: -
“Yn awr y cwnws i’r nen - ei phastwn,
A ffustws ei gefen;
Cnòcws, tolcws ei dalcen,
Pan waeddws, baeddws ei ben.” W.
Phylip.
Wel, meddwn, un dost oedd hi, beth bynag, a thost oedd y bardd a’i darluniai
mor orchestol ar gan lleied o eiriau. Ystyrir fod gallu iaith yn cael ei
arddangos yn odidog pan fyddo sain y geiriau yn ateb i’r synwyr. O herwydd hyn,
golygir y llinellau canlynol yn dra chywrain a grymus: -
“Tân a dwr yn ymwriaw
Yw’r taranau, dreigiau draw.” D. ab
Gwilym.
“Uchel-gadr raiadr, dwr ewyn, - hydrwyllt,
Edrych arno’n disgyn;
Crochwaedd y rhedlif crychwyn,
Synu, pensyfrdanu dyn.” Dewi Wyn.
Mae y bardd uchod, ysgatfydd, yn gwbl mor llwyddiannus. Drwy fynychu y
terfyniad ws, darlunia mor fywiog y ffrwst, y trwst, yr ymwrwst, a’r
ymosod, naturiol i’r fath ymgyrch, nes yw yn sylweddoli o flaen ein llygaid yr
hyn a hanfodai yn unig yn nychymyg y prydydd. Ond i adael i’r beirdd farnu, awn
rhagom.
Yn y parwyddiaid goddefol o’r amser hwn, arferir ed yn fynych yn lle wyd;
megys, rhodded, tyned, am rhoddwyd, tynwyd. “A aned tydi yn gyntaf dyn?
a lunied dydi o flaen y bryniau?” Job v. 7. Oddiwrth hyn, ymddengys fod
aed,
caed, gwnaed, cloed, rhoed,
yn
gywirach nag aw’d, caw’d, gwnaw’d, clow’d, rhow’d.
3. Yn iaith sathredig y wlad, terfyna y trydydd dynsawd unig o’r amser dyfodol
yn iff, yn lle a, megys aiff, rhoddiff, dysgiff, am äa,
rhodda, dysga, neu â, rhydd, dysg. Llygriad mawr yw hyn,
meddai y Dr. Davies, ag oedd, yn ei amser ef, wedi bod mewn hir arferiad, yn
llefariad ac ysgrifeniad yr iaith; ond y Dr. Pughe yn ei “Ramadeg,” a’i
cyfreithlona; a thybiai awdur “Y Brud a Sylwydd,” (tudal. 40, nodiad) “mai
olddodiad rhagenwol” ydyw, er y “gall fod yn llygriad o f (megys yn o ef)
i iff:’ etto dichon fod “y ddwy lythyren yn arwyddo y rhagenw hwn.” Fel
hyn, gallai i beth, a ystyrid yn llygriad a gwall ar y cyntaf, ddyfod mewn
amser, drwy arferiad cyffredin, yn rhan hanfodol o iaith. Pa fodd bynag, mae
rhai ysgrifenwyr da, megys Charles Edwards ac eraill, wedi defnyddio y
terfyniad iff yn ith. Ond llygriad neu beidio, y mae erbyn ein
dyddiau ni ddirywiad llawer gwaeth wedi cymeryd lle, sef troi yr iff yn ith;
megys,
gwneith,
dywedith, corddith,
yn
lle gwna, dyweda, cordda, neu gwnaiff, &c.
Dylai
areithwyr cyhoedd ochelyd y gwall hwn yn bendifaddeu.
4. (x12) Cyfyd amrywiaeth arall o dreiglo yn rheolaidd
rai perwyddiaid a ystyrir gan y gramadegwyr yn gyffredin yn afreolaidd neu
ddiffygiol; byw a marw yn Ngwynedd, cael a dawed yn
y Deheubarth, ydynt anghreifftiau o hyn. Dywedir yn Eifionydd,
“Gwlad uchel yw Penllyn; ni fywiwn i ddim yno pe y cawn lawer am hyny.’
“Aeth Madawg i America, ac yno y marwodd o.”
“Pa hyd y bywiodd o, nis gŵyr neb.”
“Os bywi di, neu os marwi” - h.y. “Os byddi fyw, neu os marw
a wnai.”
Yn Ngwent, dywedant,
“Pe celai caelai e fyned,” yn lle “Pe
cai efe fyned.”
“Fel y celent caelent ddaioni,” yn lle, “
Fel y caent ddaioni.”
Yn gyffredin, treiglir y barwyddiad hon oddiwrth y trydydd dynsawd unig o’r
awer dyfodol, modd mynegadwy, ac nid oddiwrth ei ffurf yn y modd annhirfynadwy,
sef ca, ac nid cael. Yn lle
dawed, dawaf, dawant, dere, dewch, dawer, dewir, &c., y Deheuwyr -
arferir
dyfod, deuaf, deuant, tyred, (dyred) dowch, deuer, doir, &c., yn
y Gogledd.
Mae buo yn lle bu, ac eutho yn lle aethum, yn anghywir.
V. Annymunol iawn i glust fanol yw clywed geiriau yn cael eu harfer yn
anmhriodol, er fod rhai dywediadau o’r fath yn ddigrif eu gwala. Nodwn ychydig
o lawer a ellid goffau: -
“Dynes lân arw;”
“benyw lân fudr yw hi;”
“dyma beth clws ofnadwy;”
“gwych aflawen;”
“da gynddeiriog;”
“cryf anafus.”
“Nid oes un o’r rhai’n yn cysgu
Ddydd na nos, ond golchi canu.”
Felly y dywedodd ficer Llanymddyfri
[“Canwyll y Cymry:” – tudal.
288]
am y saint yn y nef,
gan feddwl eu bod yn “canu yn egniol a didor.” Yr un modd dywedir, “golchi
pregethu,” a “golchi arni hi,” am bregethu, neu wneuthur rhywbeth yn egniol.
Mae y llygriadau gwrthun o’r geiriau uchod, a’u cyffelyb, sydd yn ffynu ymhlith
y gwerinos anwybodus, yn anoddefol dros ben: megys
“rhad gynddeirus,”
“ofnaswy,”
“afnadsan,”
“shoe o dda,”
ynghyd â llawer o
eiriau hyllion a disynwr a arferir yn lle tyngu amlwg halogedig, ac heb fod dim
gwell a hynny. Dywedir yn Ardudwy, mai cynnyrch sir Fon yw afnadsan; os gwir
hyny, gresyn oedd adeiladu Pont ar Fenai i drosglwyddo oddiyno y fath newydd
diwerth, neu na chadwasid yn toll-borth yn fwy manwl. O ba le bynag yr hanodd,
dylasai yn mhob modd gael ei gadw gartref.
VI. Mae bod gwahanol eiriau yn arwyddo yr un pethau yn peri gwahaniaeth, ond ar
yr un pryd mae yn brawf o helaethrwydd yr iaith. Enwau gwrthddrychau,
crëaduriaid, coed, llysiau, offerynau gwaith a chelfyddyd, nwyddau, &c.
ydynt amrywiol iawn mewn gwahanol ardaloedd. Nis gellir yma ond dodi ychydig o
anghreifftiau; megys,
ammodau, telerau;
ardreth, rhent;
arenau, llefnau,
elwl;
bagad, llu, torf,
tyrfa;
claddedigaeth,
cynhebrwng;
deffol, dethol,
ethol, dewis;
dôr, drws;
edliw, ymliw,
lliwied, dannod;
ffêr, migwrn,
bigwrn;
ffwrn, pobtŷ;
tŷ ffwrn (pobtŷ),
tŷ-pobty;
gwrych, cae,
perthgae;
haidd, barlys
(h.y. bara-lys);
iwin, ffyrnig,
gorwyllt;
lloer, lleuad;
llawn lloer, llawn
lleuad, llawn lluned, llawn lloned;
lloergan, lloergan
lleuad, goleu-leuad, goleu belydr, “mae hi yn oleu belyd’ heno;” mellt,
lluched, dreigiau (mellt dystaw);
niwl, nifwl, nudd,
caddug, ysmwcan;
porfa, porfel;
cenllysg, cesair;
arad,
(x13) aradr, (a elwir yn Ngwynedd) gwŷdd,
gwŷdd-arad, gwŷdd aredig.
Y
gyfarwydd (glow-worm), goleuen, ll. goleuod, y fagien, a elwir yn
Eifionydd, “y tân bach diniwed.”
Enwau cyfathrach
ydynt dra amrywiol; megys –
|
GWYNEDD |
POWYS |
DEHEUBARTH |
|
|
taid |
tad da |
tad cu |
|
|
nain |
mam dda |
mam gu |
|
|
tad yn
nghyfraith |
chwegrwn |
chwegrwn |
Felly yn y Bibl. Saes. Father,
&c. in-law. Mae Powys a Deheubarth yr un modd am yr enwau blaenaf. |
|
mam yn
nghyfraith |
chwegr |
chwegr |
|
|
mab yn
nghyfraith |
dau |
dau |
|
|
merch yn
nghyfraith |
gwaudd |
gwaudd |
|
|
tad yn
nghyfraith |
tad gwyn |
llysdad (step-father) |
|
|
mam yn nghyfraith |
mam wen |
llys-fam (step-mother) |
|
|
mab yn
nghyfraith |
mab gwyn |
llys-fab (step-son) |
|
|
merch yn
nghyfraith |
merch wen |
llys-frech
(step-daughter0) |
|
|
plant yn
nghyfraith |
plant
gwynion |
llys-blant
(step-children) |
|
Wrth hyn, gwelwn
nad oes yr un gair sathredig yn Ngwynedd i wahaniaethu rhwng chwegrwn a llysdad,
&c., er fod y berthynas yn wahanol; yr hyn sydd yn fyrdra y byddai da ei
ddiwygio, drwy ddwyn geiriau y Bibl i arferiad cyffredin.
Yn Neheubarth a
Phowys, arferir y gair ysgadan (oddiwrth câd, yn arwyddo
llïosogrwydd y pysg hyny), ond yn Ngwynedd, penwag a phenweig, a
ddywedir; ond pa briodoldeb sydd yn yr enw nis gallwn ddirnad, os nad yw yn
llygriad o penaig (unig, peneigyn) gair tra chymwys am y pysg lliosocaf
eu heigiad yn y moroedd hyn, un o ba rai a ddwg y nifer mawr 68,606 o silod; ac
felly mae y ddau air yn gyfystyr.
2. mae yr un
geiriau hefyd yn fynych yn arwyddo gwahanol bethau; y naill ardal yn eu cymeryd
mewn un ystyr, a’r llall mewn ystry arall. Gwirion yn y Gogledd a
arwydda ffol; ond yn y Deheu, yn fwy priodol, arwydda diniwed; yn
yr un modd yn y Bibl a’r Llyfr Gweddi, “gwaed gwirion,” “gŵyl y
gwirioniaid,” sef bachgen bach Bethlehem.
Cwt, cut. – Pan
alwodd ein hybarch gyfaill Erfyl gyda’r enwog Dewi Wyn, yn Mhwllheli, ebai
Dewi, “Gwell genyf fod gyda bardd, pe b’ai ond mewn cut mochyn, na chyda
llawer boneddwr yn ei balas.”
[“Blodau Arfon:” tudal.31]
Mae yn dra thebyg
mai cwt mochyn a ddywedodd y bardd; oblegid felly yn gyffredin y dywedir
yn Llëyn ac Eifionydd; oddieithr i Ddewi arferyd y gair a ddëallir yn ngororau
Caereinion. Wrth y gair cwt yno y meddylir godre neu losgwrn.
|
GWYNEDD. |
DEHEUBARTH. |
|
allan |
i maes, i
faes |
|
allan o
law |
maes o law |
|
o hyd,
trwy gydol yr amser |
awr ac
orig |
|
byth a
hefyd |
awr ac
enyd |
|
yrwan (yr
awron) |
yn awr |
|
yr hawg |
enyd o amser (i ddyfod) |
|
yr hawg
iawn |
am hir amser (i ddyfod) |
|
bod
ag un |
bob un, bob
yr un |
|
bod
y pen |
bob pen,
bob copa |
|
da iawn |
iawn-dda |
|
da i’r pen
draw |
da buwr |
|
canu yn iach, canu ffarwel |
ffarwelo |
|
(x14) câd ynghudyn |
pen yn
erfid |
|
am, achos,
oblegid |
o
waith |
|
ynghylch,
oddeutu |
obeutu |
|
i lawr,
isod |
obry, i
waered |
|
i mi |
i fi |
|
acw |
oco, onco |
|
i lawr,
ymaith |
i bant, i bant ag e'
|
|
i'w (i
ei, i eu) |
iddei,
iddeu, (beius yw “i’w ei,” “i’w eu”)
|
|
O bobl! O
wyr! |
hawyr! |
|
bobl
anwyl! |
hawyr bach! |
|
mai - “clywsom mai ef oedd o” |
taw, tai – “clywsom taw e oedd” |
|
fel hyn
(mal hyn) |
yn llyn |
|
i fyny,
uchod |
fry, “fry
ar y lan” |
|
hyn
acw |
onco |
|
codi |
cwnu |
|
tipyn -
“tipyn o ffordd” |
cetyn -
“cetyn o ffordd” |
|
“cryn dipyn
o ffordd” |
“cetyn
diogel o ffordd” |
Hela, hala. – “Hala hi i’r
làn;” h.y. danfon hi i fynu.
“Wedi hela
triugain mlwydd,” sef wedi treulio, neu fyw gynnifer o flyneddau.
Mae hala yn air
o ddefnydd mawr gan y Deheuwyr.
Hô1, nôl. – “Dos i hôl ddŵr”
(Gwent); “dos i nôl dŵr,” (Gwynedd); “dos i geisio dŵr,” “dos i
ymofyn dw’r.”
“O led y pen,” (De);
h.y. yn llydan agored, neu yn lledfan agored.”
“ Mae drws yr ysgubor
yn lledfan agored.”
“Nid oes dim o hano i
yn ei nabod e; nid oes dim o hano fe yno yn awr;”
h.y. “Nid wyf fi yn
ei nabod; nid yw efe yno yn awr.”
Pan ddaeth hymnau y
Parch. W. Williams, Pant-y-Celyn, gyntaf allan, yr oedd rhai ymadroddion ynddynt,
o briod-ddull y Ddeheubartheg, yn swnio yn dra dyeithr yn nghlustiau pobl y
Gogledd, am nad oeddynt yn eu dëall. Hyn a barodd i rai yn Ngwynedd, megys y
Parch. Robert Jones, yn y “Grawn-sypiau,” newid ychydig arnynt tuag at eu
gwneyd yn fwy dëalladwy, fel y byddent yn fwy derbyniol gan y gwerin bobl. Y
Deheuwyr oeddynt anfoddlawn i hyny. Clywsom am henafgwr parchus o Geredigin,
oedd yn byw yn Llundain, ag oedd mewn petrusder mawr pa
un a bechodd
fwyaf, ai Peter Williams, drwy newid cyfieithiad awdurdodedig y Bibl, ai Robert
Jones, wrth newid hymnau W. Williams. Mab yr anfarwol fardd, y Parch. John
Williams, pan ddangoswyd y “Grawn-sypiau” iddo gyntaf, a daflodd y llyfr o’i
law gyda diystyrwch; ac wrth ymddyddan â dau weinidog o Wynedd, oeddynt ar eu
taith ryw dro yn swydd Gaerfyrddin, dywedodd, “Mae pobl y Gogledd oco yn newid
hymnau fy nhad; maent
yn tynu y gair ‘maes’ i maes o honynt.” Yna chwanegai yn lled oganllyd, “Nid
oes o hona i yn gwybod beth a roddant yn ei le yn yr hymn hono -
‘O’r graig y mae’n
dylifo, ma’s
Yn afon ddysglaer
loyw lâs:’
rhywbeth tebyg i hyn
ond odid -
‘O’r graig y mae’n
dylifo allan,
Yn afon fawr hyd ben
draw’r berllan.”‘
Ond beth a ddywedasai
efe yn awr, pe buasai yn fyw, wrth weled y Deheuwyr eu hunain wedi cymeryd mewn
llaw eu newid? Mae pobl y Gogledd erbyn hyn, pa fodd bynag, wedi ymgynnefino
â’r dywediadau, yn awr, i bant, i maes, i dre, &c. fel nad ydynt
mwyach yn dramgwyddus iddynt.’
VII. Cymreigio
Saesoneg sydd wedi bod yn achos o lawer o gymysgedd, llygriad, ac anurddiad, ar
yr iaith: megys, Suppose, dowto, repento, belongo; bilyngied, leicio,
loitran, lwlan; begeriaid, yn lle cardotwyr; drachtio, yn lle yfed,
traflyncu; landio, yn lle glanio, tirio; ledio, yn lle (x15) arwain, tywyso; siort (sort), yn lle
math, &e. Gresyn oedd i eiriau mor anffurfiol ag yw sassiwn, seiat,
cwrdd preifat, &c. ddyfod i arferiad mor gyffredin ymhlith
crefyddwyr, yn lle geiriau Cymreig dilediaith a allesid eu defnyddio; megys,
cymanfa, cymdeithasfa, cymdeithas eglwysig, cyfarfod neillduol, &e. Mae
britho pregethau a geiriau Seisonig dysgedig, megys, inference, instance,
idea, proposition, &c. yn eu gwneyd i ryw raddau yn annëalladwy i’r
gwerinos uniaith; a gwell, dybygem, fyddai rhoddi y dull hyny heibio, ac
ymostwng i lefaru yn nes at eu hamgyffrediadau.
Gwŷr Dyfed ynt
haeddiannol o glod am gadw ar arfer yr hen air Cymraeg anner (buwch
ieuanc) am yr hwn ni fedd y Gogleddwyr un gair, namyn heiffer, sef
llygriad o’r Saesoneg heifer. Ond y maent hwythau heb un addewid; promais
a promeiso sydd ganddynt am y cwbl, ac i hyny y maent yn trusto.
Gallai y Cymry droi y naill hanner o'r Saesoneg yn gyfryw Gymraeg a hyn; ond,
hawyr! pa les fyddai?
VIII. Yn olaf,
nodwn un peth etto sydd yn gwahaniaethu trigolion gwahanol barthau y wlad yn eu
dull o siarad; sef yw hyny, yr amrywiol enwau bychanigion a roddant ar eu
gilydd yn lle eu henwau priodol. Am John, dywedir Jack, Jacky, Jacko, Sion,
Sionyn, Siac, Siacci: yn lle Jane, gelwir Jenny, Jinny, Jinno, Jinten,
Siân, Siani, Sieni, Sianten. Gwilym neu William, a lysenwir yn Wil, Bil,
Bilo, Bilws, Bili; ac am Catherine neu Katherina, Catrin, Kate, Kit,
Kitty, Catti, Cadi, Cadan, Cadws, Cadsan, Cadsen, Kitsen. Mae yr
amrywiaethau rhyfedd ac anghysain hyn i'w clywed mewn gwahanol ardaloedd, a
chyffelyb lysenwau ymron ar yr holl enwau mwyaf arferedig, er mawr waradwydd
i'r trigolion, a diystyrwch ar eu benwau bedydd. Ymdrechiadau diwyd gyda’r
genedl ieuanc a’i dygai i fynu yn ddyeithr i'r arfer ddrwg hon.
Weithian, y Cymry mwynlan cariadus, wele ni wedi gweithio ein ffordd trwy y
dasg ddyrysaf ac annybenaf a gymerasom erioed mewn llaw. Cydnabyddwn mai yn
ddigon anmherffaith ei cyflawnasom, ond nid ydym yn gwybod ddarfod i ni adael
dim o bwys a berthynai i’r testun heb ei grybwyll; er y gallasem ymhelaethu
llawer ar amryw bethau pe buasai ein terfynau yn caniatau. Mae y maes yn
ehelaeth, ac nis gwyddom am neb wedi ei anturio yn y dull hwn o’r blaen; yr
ydym yn meddwl ei fod yn teilyngu sylw llëenyddion ein gwlad. Gwnaethom ein
goreu i wahaniaethu rhwng y gwych a’r gwael, gan ganmawl yr hyn sy ganmoladwy;
a lle y bu gorfod arnom feio, gwnaethom hyny, nid i’r dyben o waradwyddo, ond
yn hytrach er mwyn hylwybro tuag at ddiwygiad. Fe ganfyddir yn hawdd, wrth yr
hyn a draethasom, leied sy gan y naill dalaeth, neu y naill ardal, i edliw i'r
llall, o ran yr iaith: mae rhyw neillduolrwydd gwallus yn perthynu i dafodiaeth
pob cymydogaeth, er nad yr un peth yn mhob lle. Yn gyffredin, ystyrir pobl y
Deheubarth at eu gilydd yn fywiocach eu tymherau na brodorion y Gogledd, ac o
herwydd hyn bod eu Cymraeg yn fèrach, yn siarad yn gyflymach na’r eiddynt hwy.
Ond nid yw hyn yn yr helaethrwydd o hono idd ei gymeryd yn ganmoliaeth: mae y
Wyneddaeg ar amryw ystyriaethau yn fwy cryno a destlus, a chynaniad y
llafariaid ynddi yn fwy cyflawn a chywir; ac y mae yn llai cymysgedig â
llygriadau Seis’nigaidd. Yn ei phurdeb cynwynawl, wedi bwrw ymaith yr hyn sy
feius, mae ei hiaith ei hun yn hardd iawn yn ngenau y Deheuwr parabl-bêr; (x16) a’r un modd yn ngenau y Gogleddwr y mae yr
eiddo yntau; ac yna leied yw y gwahaniaeth rhyngddynt.
“CYMRU,
CYMRO, CYMRAEG!”
(Diwedd)
__________________________
Adolygiadau diweddaraf: 15 10 2002 :: 30 11 2002
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Enw’r parth: kimkat (o’r geiriau yn Esperanto kimrío / Cymru + katalúnaj
lándoj / Països Catalans)
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web
“CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) äm ai? Yüu äa(r) vízïting ə peij fröm dhə
“CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats