1352k Siencyn Penhydd. Edward Matthews (1813-1892).
Fe’i ganwyd yn Sain Tathan, Bro Morgannwg a bu’n golier yn Hirwaun am 14
blynedd nes yn 28 oed pan gafodd ei ordeinio gan y Methodistiaid Calfinaidd.
Bu’n weinidog ym Mhont-y-priddam gyfnod, ond wedyn aeth i fyw i Ewenni, ger
Pen-y-bont ar Ogwr. Cyhoeddwyd y llyfr yn 1850, ac yntau’n 37 oed.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_046_siencyn_penhydd_1850_1_1352k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Barthlen
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
|
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
|
Dynodir y tudalennau felly (x20), (x21), a’r adrannau felly (d1), (d2)
ayyb.Defnyddiwch eich archwiliwr i fynd atynt yn uniongyrchol.
Orgraff ddiwydiedig sydd yma, fel y’i ceir ym ‘Morgannwg Matthews Ewenni’ a
olygwyd gan Henry Lewis, yn 1952. Dim ond detholion o’r Hanes sydd gennym ar hyn o bryd. Gobeithiwn
ychwanegu ato rywdro.
d2 TAFLU
DISlAU (I) x8
d3 TAFLU DISIAU (II) x10
d4 TAFLU PÊL I DO x12
d5 CLWB TE x14
d6 GWYL MABSANT x15
d7
CWRW BACH
x18
d8 STREIC
TAI-BACH x20
d9 CHWARAE BANDO
x22
(x1)
Y mae yr enw uchod mor
adnabyddus ym Morgannwg ag yw haul, sêr a phlanedau; a diamau gennym fod Cymru
yn gyffredin, yn enwedig yr hen bobl, yn hynod gyfarwydd â chymeriad Apostol
Pen-hydd. Wrth fyned o Gastell-nedd i’r Maes-teg, ychydig tu hwnt i le a elwir
Pont-rhyd-y-fen, yr ydym yn dringo gallt, ar hyd ffyrdd troeog, geirwon ac anhygyrch,
i ben clogwyn o fynydd diffaith ac anniwylliedig. Oddi yno canfyddir amryw
fryniau a dyffrynnoedd bychain wedi ymffurfio yn debyg i ben a chyrn yr hydd
oherwydd paham, y mae yn debygol, y gelwid y tŷ gan ei hynafiaid yn
Ben-hydd. Yng nghanol y bryniau bychain hyn, mewn ychydig o bant, y gwelir yr
amaethdy hynafiaethol; ei furiau isel a’i agweddiad gostyngedig sydd yn
ymddangos fel pe byddai yn ymostwng i’r llwch, i’r diben i roddi mantais i’r
mynyddoedd cylchynol i daflu eu hadenydd cysgodlawn drosto. Er cyflymed yw
cyfnewidiadau amser, ac er mor ddirfawr yw gwelliadau yr oesoedd, y mae hen dŷ
Pen-hydd wedi ymgadw at ei ffurf gyntefig, wrth ychydig neu ddim cyfnewidiad er
ys rhai canrifoedd. Er cymaint o gyfnewidiadau sydd wedi bod ynddo o bryd i
bryd, nid oes nemor i’w weld
Pan gymerwn olwg wrthedrychol ar bethau er ys
can mlynedd yn ôl neu ragor,... yr oedd tywyllwch dudew ar wyneb y dyfnder. Y
Beibl ydoedd lyfr anadnabyddus ac anghyfarwydd i’r cyffredin, ac heb neb braidd
yn gallu ei ddarllen pe buasai yn gyraeddadwy. Yr oedd un lled fawr ym mhob
eglwys plwyf, yr hwn a ystyrid yn llyfr at swyno yn fwyaf neilltuol, a’r
offeiriadon yn trin y gelfyddyd o swynyddiaeth. Tybid am bawb oedd wedi dysgu
Lladin, y gallent, drwy offerynoliaeth y Beibl, wneud d’r byd yn agos fel y
mynnent. Nid rhyfedd oedd clywed fod Mr. Jones o’r persondy wedi dodi Twm Tŷtywarch
i sefyll ar ei ben ar dop y simne, a phob ymdrech wedi bod yn (x3) aflwyddiannus
i’w gael o’r fan honno, nes i’r gŵr varchedig ddyfod â’r llyfr i’w
rhyddhau o’i benyd. Treulid y Sabothau mewn chwaraeyddiaeth a difyrrwch cnawdol
gan ieuenctid yr oes, a chyfarfyddai yr hen bobl fethedig â’i gilydd, yma ac
acw, wrth eu ffyn, ac ym mhob llun, gorau y gallent, i siarad am eu campau
gynt. Chwaraeid pêl ddydd Sul, o fore hyd yr hwyr, yn erbyn yr hen eglwys, a’r
offeiriadon hybarchus yn fynych yn cadw cyfrif rhwng y pleidiau, ac yn cael
rhan o’r cwrw ar ddiwedd y daplas am eu gwasanaeth. Wrth weled y fath agwedd
alaethus ar Gymru, yr ‘enynnwyd tân’ yn rhai personau, a ‘llefarasant â’u
tafodau.’ Dyma y cyfnod y taflwyd y baban Methodistaidd allan o groth
tragwyddoldeb i feysydd anniwylliedig Cymru, ‘heb lygad yn tosturio wrtho.’
Gwelodd Duw, er hynny, ‘ei amser yn amser serchogrwydd; lledodd ei adain
drosto, a chuddiodd ei noethni; tyngodd hefyd iddo, ac aeth i gyfamod ag ef.’
Pan oedd rhyw lais distaw fel hyn yn dechrau swnio, a thrydar soniarus fel pe
byddai rhyw gornant yn sïo, ac mewn ymdrechfa ddiarbed am dorri allan oddi
rhwng y glennydd, ar yr 16eg o Fedi, 1746, y ganwyd Siencyn.
Nid oes neb, ar a wyddom ni, yn meddwl fod Duw
wedi danfon y bachgen hwn i’r byd at un pwrpas uwch na bugeilio da a defaid ar
hyd y mynyddoedd a’r clogwyni cymdogaethol, byw yn hen, a marw yn gyfoethog,
wedi talu i bawb eu gofynion. Ond yr oedd Llywydd nef a llawr, wrth bob tebyg,
wedi rhagweled pethau gwell iddo, a ‘phethau ynglŷn wrth iachawdwriaeth.’
Yn bugeilio a thrin y ddaear y bu am flynyddoedd, yn hollol ddifeddwl am enaid,
a byd diddarfod. Er hynny yr oedd rhywbeth yn y bachgen (x4) hwn yn wahanol i fechgyn eraill, er yn
annuwiol. Tyfodd i fyny yn ddyn lled annibynnol, hynod o arw ac anniwylliedig.
Nid oedd yn prisio am neb, mawr na bach, gwreng na bonheddig, dyn na diafol;
ymlaen yr âi Siencyn drwy’r tew a’r tenau. Dyn blewog, mynyddig, a Chymroaidd
yr olwg
‘Cafodd ef mewn lle anial, mewn anialwch gwag
erchyll; arweiniodd ef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel
cannwyll ei lygad.’
Er mor arw ei ymddangosiad, cafodd hwn
drugaredd. Yr oedd rhyw ddyn dieithr yn digwydd bod yn pregethu yn y gymdogaeth
y pryd y dygwyd y gwirionedd adref at ei feddwl, ac y bu rhyw ymgynhyrfiad
rhyfeddol yn holl ymerodraeth feddyliol y llanc.
Yr oedd rhywbeth o gylch argyhoeddiad fy ewythr
Siencyn ag oedd yn weddol hynod. Yn y dyddiau hynny yr oedd pregethu yn beth
anghynefin, ac edrychid ar hynny fel rhyw newyddbeth disylwedd ac afreolus.
Ymhlith yr ychydig gynghorwyr, fel y’u gelwid, yr oedd hen ŵr a adnabyddid
wrth yr enw ‘Iefan Tŷ-clai’; arferai ddyfod drwy Forgannwg yn fynych ar
daith bregethwraidd. Dyn lled fywiog yr olwg arno ydoedd, yn gwisgo cot lwyd, o
frethyn gwlad heb goler melfed, siaced fraith, clos pen-lin corduroy,
hosanau du’r ddafad, ac esgidiau coed wedi eu sicrhau am y traed â byclau pres.
Yn y wisg offeiriadaidd hyn, gan farchogaeth ar ebolyn coch, heb docio na mwng
na chynffon, y teithiai fy ewythr Iefan Tŷ-clai bant a bryn, a’r efengyl
dragwyddol ganddo. Yn y dyddiau (x5) hynny
cynhelid y cyfarfodydd mewn tai annedd neu ysguboriau, fel y gwyddoch. Yn y
cyfryw leoedd y byddai Iefan Tŷ-clai yn cerdded o gylch y lle, gan
bregethu wrth hwn a’r llall wrth fyned heibio. Ar rai achlysuron cerddai o
gylch y tŷ ryw naw neu ddeg o weithiau, gan draddodi yn ddihafarch yn awr
y ddeddf, ac wedi hynny yr efengyl. Yr oedd cetyn o ffon onnen, â chlopa
anferthol, o gwmpas pwys neu ddau, yn un llaw, a’r dwrn arall ynghaead wrth
ddannedd y gynulleidfa, yn ymddangos yn benderfynol i bastyno y bregeth i’w
hymenyddiau a’u calonnau. Mae yn gofus gennym glywed yr hen bobl yn dweud am
dro y digwyddodd apostol Tŷ-clai ddyfod ar gyhoeddiad i Langrallo, y plwyf
gerllaw yr hwn yr oedd Jones Llan-gan yn byw. Noson o’r wythnos ydoedd, a
chrynhodd bagad o bobl y pentref i dŷ annedd i’r cwrdd. Eisteddasant oll o
gylch muriau’r tŷ, gael ddisgwyl y pregethwr dieithr. Ym mhen tipyn, wele
yr angel yn dod. Darllenodd a gweddiodd yng nghanol y dynion, yn danllyd
ryfeddol. Yna dechreuodd ymsymud wrth ei ffon o un i’r llall, gan bregethu
efengyl y deyrnas i fawr a mân yn ddiwahaniaeth.
‘Deuwch allan o’u canol hwynt,’ meddai, ‘ac
ymddidolwch. Gwyddoch chwi beth, ffrins, os gwelwch iâr yn ymdroi llawer mewn
gwrysg bytatws, yno y bydd yn debyg iawn o wneud ei nyth; ac felly, os ymdrowch
chwithau lawer rhagor yn y byd annuwiol hwn, yno y byddwch yn debyg o aros, ac
fe aiff eich nyth ar dân byth, bobl; deuwch oddi yno. A chwithau y bobl
grefyddol yma, edrychwch ar ba bethau yr ydych yn byw, o ran eich ysbrydoedd,
canys bydd ôl ac argraff y pethau hyn arnoch ym mhob man, a chyda phob peth. Maent
yn dywedyd wrthyf fi, os (x6) bydd oen yn sugno gafr, mai blew
gafr a dyf
Fel hyn y bu y gŵr o Dŷ-clai yn
cerdded yn frysiog o amgylch y tŷ, o gwmpas hanner awr, gan draddodi
lliaws o’r cyfryw sylwadau diwinyddol a philosophyddol, a’u cymhwyso yn gelfydd
at bob un ar ei ben ei hun; o’r diwedd ymddangosai’r agerdd fel pe buasai yn
gwanhau, a’r olwynion yn raddol yn arafu, a phob arwyddion fod cerbyd y Tŷ-clai
yn sefyll. Pan oedd ar gyfer y gadair yr eisteddai hybarch efengylydd Llan-gan,
Mr. Jones, gyda serchogrwydd a gwên fwynaidd, a lefarodd wrth yr hen bregethwr,
gan ddywedyd wrtho,
‘Iefan bach, yr wyt yn yr ysgol er ys llawer
dydd yn awr; atolwg, beth yr wyt wedi ei ddysgu yno yr holl amser hyn ?’
‘Mr. Jones, bach,’ ebe yntau, ‘yr wyf wedi bod
wrth yr un wers trwy yr holl flynydde, a gallaf ddweud yn onest wrthych heno,
fy mod wedi dysgu honno o’r diwedd.’
‘Beth ydyw honno, Iefan bach ?’
‘Wel, mi ddywedaf wrthych; Yr wyf wedi dysgu
nad wyf yn gwybod dim.’
‘Ti wyt ?’
‘Ydwyf yn siŵr i chwi.’
‘Wel, wel, yr ydwyt ti, Iefan bach, yn y
dosbarth blaenaf yn ysgol Iesu. Yr ydwyf fi o hyd, er ymgyrraedd, yn methu yn
llwyr ddod i fyny i’r class yna.’
Wedi yr ymddiddanion hyn, terfynwyd y cyfarfod
trwy fawl a gweddi, ac aeth pawb i’w ffyrdd dan synnu wrth athryllth a
huawdledd y pregethwr.
****************************
(x7) Yr ydym yn
meddwl y dylasem wneud sylw o’r hen gyfaill hwn yn fwy na llawer o’r rhai yr ydym
yn cyfarfod â hwy ar ein taith, yn gymaint ag mai efe yw tad ysbrydol y
patriarch o Ben-hydd. Fel y mae yn gyffredinol, felly yr awr hon hefyd,
cenhedlwyd y mab ar ddelw ei dad.
Cawsom yr hanes yn ddiweddar, gan frawd sydd yn hen yn awr, am ymddiddan a fu
rhyngddo a Siencyn ar y mater hwn, mewn cyfeillach neilltuol. Gofynnodd y brawd
ieuanc yn ddisymwth iddo, wrth deithio ynghyd,
‘Siencyn Tomos, pa bryd, neu trwy ba foddion y dechreuasoch chwi feddwl a
chwennych bod yn grefyddol?’
‘Mi ddywedaf i ti y gwir, yn union a rhwydd,’ ebe yntau. ‘Pan oedd hen ŵr
o gynghorwr, nid enwog iawn o ran ei ddoniau, ond hynod effeithiol ar brydiau,
yn dyfod trwy y wlad i bregethu, euthum i, gyda llawer eraill o’m cyfoedion,
i’r cwrdd i wrando, nid gyda golwg ar un lles ysbrydol trwy hynny, ond i gael
difyrrwch yn bennaf, oherwydd ei ddawn dieithr a’i lwybr ysmala. Wedi iddo
ddechrau fel arferol, trwy ddarllen a gweddïo, dechreuodd ymadroddi fel pe
buasai yn siarad â ni ei wrandawyr. Nid wyf yn cofio ei destun, os oedd testun
hefyd ganddo; canys nid wyf yn cofio iddo enwi un adnod wrth ei henw a’i rhif.
Meddyliais wedi hynny lawer gwaith fod ei araith yn dra ysgrythurol drwyddi
oll. Ei amcan y pryd hwnnw, yr wyf yn cofio, oedd ymdrechu deffroi pechadur o’i
gwsg pechadurus, a pheri iddo gredu ei fod mewn perygl enbyd o fod yn uffern am
byth. Yr oedd yn union fel pe buasai yn siarad yn bersonol a rhyw un yn y
gynulleidfa a adwaenai ef fel dyn melltigedig o ddrwg, drwg iawn, allan o’r
cyffredin. Agorais innau fy llygaid, ac edrychais yma ac acw; (x8) a chan droi eilwaith fy ngolygon yn ôl ar y
pregethwr, canfyddwn ef yn edrych yn daer arnaf, a bygwth y dyn drwg yn
ofnadwy. Mor wir â’i ddweud, credais yn benderfynol mai ataf fi yr ydoedd yn
cyfeirio yn uniongyrchol. Beth bynnag, nid hir y gwrandewais cyn gorfod credu
taw fi oedd y dyn drwg, a’r dyn drwg iawn oedd gan y pregethwr, a fy mod yn
wrthrych y bygythiad ofnadwy. Dilynodd sŵn y bygythiad fi nes llanw fy
nghydwybod â braw a dychrynfeydd uffern dân; ac yno y gadawodd fy ewythr Iefan
Tŷ-clai fi heb ddywedyd cymaint a ffarwel i ti, fachgen.Minnau a euthum
i’m ffordd tua chartref, ond nid fel cynt; ac nid oedd cartref, na phawb a phob
peth a feddyliwn amdanynt yn fy ngwella i, nac yn esmwytho fy ngofid. Yn wir mi
wnes dros beth amser, lawer cynnig i dawelu fy meddwl, ond methu a wneuthum.’
d2 / TAFLU DISlAU (I)
Wedi’r
oedfa hon, y mae’n debyg i Siencyn wneud llawer cynnig arni i dawelu cydwybod
deffroëdig, a’i hesmwytháu yn ysgafn, heb blygu gerbron Duw. Ychydig wedi’r amser
hyn, debygid, yr oedd peth a elwir yn daflu disiau mewn lle cyfagos, o’r enw
Troed-y-rhiw, neu Ben-rhiw, ym mhlwyf Margam. Byddai y gamp hon yn arferedig
iawn er ys llawer dydd yn y gwledydd yma. Yn hirnos y gaeaf bydda’r teuluoedd
yn myned, yn fechgyn ac yn ferched, yn hen wŷr a hen wragedd wrth. eu
ffyn, yn lluoedd tua rhyw fan y byddai taflu disiau, a thyna lle y byddent yn
torri cnau ac yfed cwrw hyd y bore yn fynych. Ar nos Calan Gaeaf byddai cnau ac
afalau yn gyffredin ar ddisiau, a gwaith yr enillwr fyddai gwerthu’r ysglyfaeth
(x9) i’r gwyddfodolion, gan eu cadw hwynt yn
malu trwy gydol y nos. Rhai sychedig iawn yw cnau, fel y gwyddoch, yr hyn oedd
yn galw am ryw wlybwr ym mron o hyd i gynorthwyo’r felin i falu. Serch noson yn
y flwyddyn, yr oedd pawb yn maddau ychydig o draul i’r diben o gael gwledd ar
gwrw. Yng ngwres y gwirf, yr ymddiddan cyffredin a gymerai le oedd ynghylch
ysbrydion, canhwyllau cyrff, a bendith y mamau. Bid a fynno, aeth Siencyn
Pen-hydd tua Phen-rhiw, i dreio’i law ar ergyd o ddisiau ryw noson, ac i edrych
a gâi yno esmwythad i’w feddwl trallodedig. Pa un ai rhagluniaeth neu rywbeth
arall y gelwch yr amgylchiad, trodd y chwarae o blaid ein gwron, ac enillodd y
gamp. Cyhoeddwyd trwy y llys mai efe oedd wedi cario’r fuddugoliaeth, a
choronwyd ef â banllefau cymeradwyol. Dwy ŵydd oedd yn digwydd bod ar
ddisiau y tro hyn, o ganlyniad trodd y noson hon allan yn sychach na llawer un,
yn gymaint â bod cryn dipyn o drafferth wrthynt cyn y gallesid eu bwyta. Gan
awydd dangos yr ysglyfaeth i’r teulu gartref a phob peth, cychwynnodd Siencyn
i’w daith tua chanol nos. Cododd y gwyddau, un dan bob cesail, a ffwrdd
ag ef. Yr oedd yr adar yn lled anesmwyth yn awr ac eilwaith, fel pe byddent yn
arwyddo anghymodolarwydd â’u sefyllfa, gan roi ambell ysgrech yn awr ac yn y
man. Nid oedd hyn yn rhyfedd yn y byd, pan ystyrir eu bod yn hanner hurt mewn
tywyllwch nosawl, rhwng cwsg a di-hun, wedi eu haflonyddu yn amhrydlon; nid
ydynt y creaduriaid callaf o’r cwbl liw dydd, yng nghanol eu synwyroldeb. Er
hynny ymdrechodd Siencyn fel gwron i gadw heddwch a distawrwydd ar bob llaw;
ond gwnaed ei eithaf, byddai un yn rhoi ysgrech wrth un glust iddo, a’r llall
fel pe (x10) byddai’n cydsynio â’r
afreolaeth wrth y glust arall, nes gwneud y sefyllfa yn hynod annymunol i
fodoli yn hir rhwng dwy ŵydd. Eto nid ymoflyngodd yn ei ysbryd, eithr
cerddodd yn y blaen trwy y llaca tew, gan ddymuno bob cam gyrraedd pen y daith.
Och fi! er y cwbl cynyddodd yr ymdrechfa ar ddeau ac ar aswy; y gwyddau yn
dyfod yn fwy aflonydd, Siencyn yntau yn gwanychu a digalonni, nes o’r diwedd
iddynt ymryddhau ychydig, a chael gwell mantais i guro ar bob llaw ar ystlysau
y bachgen, fel y gallesid meddwl eu bod o ddifrif am geryddu ynfydrwydd y
llanc. O ryfedd, fe chwysodd yn yr ymdrechfa, a daeth ofn a braw arno; tybiai
ei fod yn gweled goleuni disglair yn tywynnu o’i amgylch, daeth golygfeydd
uffern a’r farn ddiwethaf o flaen ei feddwl, a thybiodd ei fod yn marw! Y pryd
hyn y gollyngodd y gwyddau yn sybyrthol i’r llawr, a syrthiodd ar ei liniau,
gan weiddi am drugaredd.
d3 / TAFLU DISIAU (II)
Clywsom am dro ddigwyddodd y bu
yn gyfyng ar Siencyn o’i blegid, er mai caredigrwydd ei galon yn ddiau a’i
harweiniodd y ffordd honno. Yr oedd hen wraig yn y gymdogaeth yn lled dlawd, ac
wedi cyfarfod yn ddiweddar â rhyw bethau anffortunus, fel yr ydoedd yn wasgfa
ryfeddol arni mewn perthynas i’w hamgylchiadau bydol. Penderfynodd mai yr unig
lwybr iddi ddyfod allan o’i chyfyngderau presennol oedd gosod rhywbeth ar
ddisen. Nid ydym yn cofio pa beth ydoedd, pa un ai gŵydd, bwrdd, pedwaran
o gnau, neu beth, pe byddai rhyw bwys yn hynny hefyd; beth bynnag, dyna’r
pethau sydd yn cael eu gosod ar (x11) ddisen
yn gyffredin, ac y mae yn gofus gennym ennill pedwaran o gnau unwaith, pan yn
ieuanc, yn y ffordd hon. Daeth
yr hen wraig at Siencyn i adrodd ei chŵyn, a thruenus ydoedd yr hanes,
mae’n debyg. Gosododd y mater ger ei fron, dan wylo’r dagrau yn hidl, ac ôl
gofid caled yn ei hwynepryd. Gofynnodd a oedd efe’n meddwl y byddai yn bechod
yn erbyn Duw iddi hi, o dan y cyfryw amgylchiadau, i osod rhyw beth ar ddisiau,
i gael casglu ychydig o arian i ddyfod o’r gwasgfeuon presennol. Yr oedd enaid
y patriarch yn ddrylliedig iawn erbyn hyn, a’i deimladau yn gorlifo pob rheswm,
fel y byddai efe weithiau. Trodd o amgylch gryn dipyn, gan edrych weithiau i’r
nef, ac yn fynych tua’r ddaear.
‘Gwrando di,’ eb ef, ‘gan mai hon yw’r unig ffordd effeithiol i ddyfod allan
o’r dryswch hwn, a chan fod dy ddiben dithau yn gywir yn y mater, yr wyf fi yn
methu gweled na ellir ei wneud yn ddistaw; cofia, bydd mor ddistaw ag sydd
bosibl, heb ddwyn dim arall mewn cysylltiad ag ef. Beth yw pris yr ergyd?’
‘Swllt, Siencyn Tomos,’ ebe’r wraig. ‘Wel, dyma swllt i ti; ond paid dodi fy
enw i i lawr i daflu disiau; yr ydwyf fi yn rhoddi swllt yn rhad.’ I bant yr
aeth y wraig, fel un wedi cal ‘ysglyfaeth lawer,’ a chyhoeddodd ym mhob man fod
taflu disiau i gymryd lle yn ei thŷ hi, a chasglodd enwau lawer i
ymgystadlu am y wobr. Yr oedd y wraig wedi cyrraedd y diben erbyn hyn, a
chanddi ddigon o arian yn ei phoced i dalu’r cwbl, a rhyw faint dros ben. Noson
y gystadleuaeth a ddaeth; yr ydoedd yn prynhawnu yn deg, a Sol yn ymddangos fel
pe buasai wedi bod yn trochi ei adenydd mewn môr o borffor, a chan eu lledu am
draws yr wybren, ymsuddai yn ddistaw o’r golwg y tu cefn i fynydd cyfagos. Yng
ngwyll y nos, rhwng dau olau, (x12) fel y
dywedir, dyma sŵn cynnwrf mawr drwy’r holl ardal, yn enwedig ymhlith y
dynion ieuainc, gan wneud y darpariadau angenrheidiol tuag at gychwyn i
diriogaeth y gystadleuaeth. Yn fuan gwelid hwy o bob cyfeiriad yn dringo’r allt
tua thŷ y fenyw, yr hwn oedd yn sefyll ar ael y bryn. Pan welodd Siencyn
yr hofl ymdyrru hyn, deallodd yn eglur mai nid yn ddistaw, fel y cynghorwyd, y
byddai y gorchwyl yn debyg o fyned yn y blaen, ac y byddai rhyw gyffro yn debyg
iawn o fod yn y byd crefyddol hefyd o’i blegid. Ond, fel y byddir yn gyffredin,
gobeithiodd y pethau gorau, ac esmwythodd ychydig. Dyrchafai ei olygon
drachefn, a gwelai y cryddion a’r teilwriaid yn ymdyrru o bob cwr tuag yno, a
Wil y crydd cloff o fewn can llath ar eu hôl, yn gwneud gorau ei galon i’w
dilyn ar ddwy ffon fagl. Deallodd ein hewythr, wrth weled y tylwyth yma yn
carlamu, fod cwrw yn y cwestiwn hefyd, gyda’r disiau. Nid anuniawn y barnodd
ysywaeth, canys yr oedd yr hen wraig wedi darpar ychydig o borter, fel na
fyddai iddynt chwarae yn sych. Aeth yr ymdrechfa heibio; enillodd rhyw un, ac
yfwyd wedyn hyd y bore; canys pan oedd Sol yn agor drws ei ystafell i ddyfod
allan fel cawr i redeg gyrfa y diwrnod hwnnw, tywynnai ar rai o’r cryddion a’r
teilwriaid yn gorwedd yn ochrau’r cloddiau wedi cysgu mewn meddwdod; ac yr oedd
eraill i’w gweled yn rhedeg yma a thraw am loches, fel pe buasai arnynt
gywilydd i weled yr haul.
Y mae yn gofus gennym glywed hen bregethwyr a
fuont yn cydoesi gryn lawer ag ef yn adrodd am y (x13)
cymdeithas rhyfeddol ag oeddynt yn y Dyffryn yn yr amseroedd hynny. Yr oedd
Siencyn, meddant, Daniel o’r Constant, Wil y gwehydd, a Richard James, ynghydag
amryw eraill, yn cwrdd gyda’i gilydd yn wastad. Dechreuai un ohonynt adrodd
rhywbeth, fe allai o’i deimladau y diwrnod hwnnw, neu sylw ar ryw ran o’r
Beibl; cymerai y nesaf ato y sylw, ac yn y blaen, o un i’r llall yn ddiorffwys
fel tân gwyllt yn ffaglu mewn gwellt. Y mae yn gofus gennym glywed yr hen
weinidog parchus, Mr. Richard James, wedi iddo heneiddio a methu gyda’r achos,
yn adrodd dan wylo, fel glaw y cynhaeaf, yn rhyw ddafnau breision a ffrwythlawn
ryfeddol, am hen societies y Dyffryn yn amser y gwroniaid a enwyd uchod.
‘Yr oedd yn union,’ eb ef,’ fel pe taflesid pêl i do, a’r hen fechgyn yn
dechrau twymo, a chwarae drwy ei gilydd gyda chyflymdra bachgennaidd, heb neb
yn blino. Wedi iddi gael to unwaith, nid oedd yn cael amser i syrthio i’r
llawr; yr oedd un neu y llall yn ei gafael hi o hyd. Byddai Wil y gwehydd yn
taflu pêl i do yn fynych, a Siencyn, â’i wallt fflwch a’i lygaid eryraidd, yn
codi ac yn ei tharo yn ôl gyda grymuster mawr. Gyda hynny, byddai yn llaw
Daniel o’r Constant, yr hwn a’i gwasanaethai i bwrpas. Felly, o un i un, y
chwaraeent, weithiau hyd hanner nos; a’r benywod, er nad oeddynt yn dweud dim
yno, yn curo’u dwylo ynghyd, ac yn dibennu mewn banllefau o fawl.’
Fel hyn yr oedd yr hen bobl yn tynnu eu cymariaethau oddi wrth yr hen gampau yr
oeddynt wedi eu harferyd yn eu hieuenctid, a’r rhai yr oedd pawb yn adnabyddus
ohonynt.
d5 / (x14) CLWB TE
Yr oedd rhyw Fari oedd yn anferthol o
ymrafaelgar yn perthyn i’r Dyffryn. Hi oedd y feistres am dafod drwg yn y
rhestr tai lle’r oedd hi yn byw, ac nid oedd hi byth yn hapus heb bwt o ffrae
cyn machlud haul bob prynhawn. Yr ydoedd yn bur hoff o’r peth a elwir yng
Ngwent a Morgannwg, ‘Clwb te.’
Y dull y cynhelir y clybiau hyn yw, drwy ymgynlliad o amryw o ferched Efa at ei
gilydd, un yn dyfod â the, y llall deisen, un arall ag ychydig frandi neu gin
i’w roi ynddo, ac yn y blaen fel yna. Cynhelir y gymdeithas yn nhŷ un o’r
aelodau, a’r gorchwyl sydd yn myned yn y blaen fwyaf, ebe hwynt wrthym ni, yw
ymdrin ychydig mewn ffordd gyfeillgar a distaw i materion y gymdogaeth. Bydd y
rhan fwyaf o bethau fel hyn, perthynol i bobl eraill, yn dyfod dan sylw y
cyfarfod; a phob un wedi dibennu yr hanesyn yn dweud: ‘Er mwyn dyn, peidiwch â
dweud wrth neb arall; cedwch e’n secret.’
Yr oedd Mari, deg i un, â’i llaw yn go ddwfn yn y fasnach hon â’i thafod hefyd
yn rhedeg yn gyflymach o lawer na’r express ar y Great Western. Wel, yr oedd
pawb ohonynt, drwyn yn nhrwyn, yn addo gadael y cwbl yno ar eu hôl, heb sôn am
ddim byth mwyach. Ond, rywfodd, erbyn trannoeth, byddai’r glec yn dechrau
cerdded, hanes y clwb yn dyfod allan yn raddol, a phawb yn sibrwd o dŷ i dŷ,
fel y gallasech feddwl fod sŵn llawer o ddyfroedd yn eich clustiau, ac
ystormydd o wynt, glaw a tharanau ar ymdorri. O brysur, rhyngoch chwi a ninnau,
nid oedd y gawod ddim ymhell pan fyddai rhyw arwyddion fel hyn yn ymddangos.
(x15) Byddai aml un ohonynt fel hyn wedi
gollwng y
Pa fodd bynnag, a’r ôl y terfysg uchod, noson y cwrdd eglwysig cyntaf, dyma
Mari yn taro i mewn mor dal â neb. Cynhyrfodd Siencyn yn yr olygfa arni; cododd
i fyny, caeodd ei ddwrn, trawodd ei droed yn erbyn y llawr, a chrochlefodd:
‘Mari, Mari, cerdda maes o’r society, y jack y lantern uffernol,
gwaith arwain pawb i ddryswch ydwyt y ffordd y cerddi.’
Felly y gorfu i hon gymryd y traed, ac i bant â hi ar hyn yna. Fel hyn y byddai
ef yn gweinyddu y peth a elwir yn ddisgyblaeth eglwysig yn dra aml, a hynny yn
ateb y diben lawn cystal â rhyw ffordd arall, os nid gwell yn fynych, yn yr
amserau hynny.
d6 / GWYL MABSANT
Byddai Siencyn a satan yn cwympo allan yn bur
aml - weithiau yn yr ysgubor, y caeau, wrth gerdded yr heol, ac yn fynych ar
gefn y ceffyl. Clywyd ef o getyn o ffordd mewn ffrae ddychrynllyd â rhywun, ac
â’r tafod casaf, mwyaf bawlyd a brwnt ag oedd bosibl ddychmygu. Galwai rywun yn
rascal, scoundrel, y bredych, y twyllwr, y lleidr, ac felly yn y blaen.
Byddai pobl ddieithr, a ddigwyddai ei glywed, (x16)
mewn syndod, ond y lleill oeddynt yn bur gyfarwydd â’i arferion. Yr oedd yr hen
frawd yn bwrw pob bai ar gefn y diafol, pa un a oedd yn ei haeddu ai peidio.
Pan y byddai rhyw demtasiwn yn dyfod i’w feddwl o rywle, byddai y ffon i fyny
yn erbyn satan yn y funud, ac yntau yn ceisio cynllunio rhyw lwybrau i ymddial
arno am ei boeni.
Yr oedd yn myned unwaith at gyhoeddiad, ac yr oedd y ceffyl oedd ganddo y pryd
hynny yn digwydd bod yn go denau, fel y bydd ceffylau pregethwyr yn gyffredin.
Yr oedd yn myned heibio i hen chwarel, ac yno saethodd profedigaeth oddi wrth
ddiafol, medd ef, yn ei gymell i daflu’r hen geffyl i mewn i’r chwarel, i dorri
ei wddf, a dweud mai slipo a wnaeth wrth fyned heibio. ‘Cei geffyl newydd gan
dy frodyr pan glywant am yr anap; maent yn ddigon abl.’ Bu meddwl y patriarch
mewn dirfawr boenau yn y brofedigaeth ddieithr hon; ond trwy ras ataliol
gorchfygodd y brofedigaeth, a dihangodd yr anifail â’i einioes yn ysglyfaeth
heibio i’r pyllau a’r chwarelau. Wedi i’r ystorm fyned heibio, yr oedd yn methu
deall beth i wneud mewn ffordd o ymddial ar ddiafol. Safodd gryn dipyn, ac
ystyriodd. Daeth yn sydyn idd ei gof fod gwylmabsant yn y gymdogaeth, lle yr
ymgynullai yr holl wlad i yfed a dawnsio am nosweithiau cyfain. Yr oedd yn
tynnu yn hwyr y pryd hyn, ond tuag yno yr aeth.
Wedi nesu at y tŷ, clywai yr holl le yn gynghanedd a dawnsio. Galwodd wrth
y tŷ, a daeth yr hen dafarnwr allan. Gofynnodd iddo am le i ddodi ei geffyl
yn yr ystabl, ond nid oedd lle iddo gan geffylau y mabsantwyr. Edrychodd
Siencyn ar y tafarnwr yn ofnadwy o lewaidd, a gofynnodd:
’A oes license gennyt (x17) ar dy dŷ?’
’Oes,’ oedd yr ateb.
‘Dod fy ngheffyl i mewn yn y funud, onid e mi dy dacla di.’
Cafodd y tafarnwr beth braw ac arswyd, a throdd rai o geffylau y mabsantwyr
allan i gael lle. Wedi hynny aethant ill dau tua’r tŷ, y pryd y clywai yr
hen apostol y llamddawnsio mwyaf arswydlawn uwch ei ben ar y llofft, nes yr
oedd y lle yn crynellu bob tipyn. Tynnodd ei het, a throdd ei glust i fyny at y
sŵn, rywbeth fel y gwelsoch hwyad ar y taranau; tynnodd ei fysedd drwy ei
wallt, ac edrychodd yn annaearol ar y tafarnwr, yr hwn oedd mewn peth arswyd
eisoes, a gofynnodd:
‘A ydyw y diawl gyda thi yn y ty^ yma?’
‘O, nac ydyw, syr; dawns sydd yma.’
‘Dawns, ai e? dawns! O wel, cânt ddawnsio ar eu pennau yn y pwll yna yn
fuan!’
Rhedodd y tafarnwr i fyny i’r llofft mewn braw a dychryn, a dywedodd fod
consuriwr yn y tŷ, ac y byddai rhyw ddrygfyd mawr yn syrthio yn fuan.
‘Y mae y dyn hysbys sydd ar y llawr wedi dweud y byddwch yn sefyll ar eich
pennau yn y pwll oddieithr i chwi ymadael yn fuan. Ffowch, a gwnewch y gorau
o’ch traed.’
Gyda hyn dyma rai o’r merched yn dechrau ysgrechian, a’r dryswch mwyaf yn
syrthio ynmlith byddin y diafol, pob un yn ffoi megis am ei einioes i’w gartref
a llawer ohonynt yn dweud eu bod yn gweled rhyw angenfilod echrydus yn rhedeg
yn gyfochrog i hwynt bob cam.
Wedi dianc ohonynt trwy ddrws y cefn, daeth y tafarnwr i’r gegin at Siencyn, yn
bur ddychrynedig.
‘Wel,’ ebe’r hen Ben-hydd, ‘a oes bara a chaws gennyt yn y tŷ?’
‘Oes,’ oedd yr ateb.
‘Dere ag ef i’r bwrdd yma. Yn
awr,’ eb ef wrth y tafarnwr, ‘rhaid i ti ofyn bendith arno.’
‘Myfi, syr? ni ofynnais (x18) i fendith
erioed.’
‘Gofynnaist ti fendith erioed! Y filain, beth yw dy oedran di?’
‘Hyn a hyn.’
’Ac heb ofyn bendith ar dy fwyd eto! Pa bryd yr wyt ar fedr dechrau? Y dyn,’
meddai, gan edrych yn ei llygaid fel llew, ‘rhaid iti ofyn bendith y foment hon.’
Y dyn yn ddychrynedig a waeddodd:
‘O Dduw, beth a wnaf?’
’Dyna,’ ebe Siencyn, ‘efallai y gwna hyn yna y tro yn awr; gofyn di yn fynych i
Dduw beth a wnei, ac ef a ddywed wrthyt efallai o’r diwedd.’
Aeth i weddi ei hun wedyn, gan ddiolch i Dduw am y goncwest ar ddiafol, ar ei
dir ei hun.
‘Ha, ha,’ eb ef wrth fynd adref, ‘mi dy ffitiais di, satan; ’enillaist ti fawr
ym mhrofedigaeth yr hen geffyl.’
d7 / CWRW BACH
Ym Morgannwg, yn enwedig yn y dosbarthiadau gweithfaol, yr oedd y bobl yn gyffredin
yn cadw y peth a alwant ‘Cwrw bach.’ Rhywun yn gwneud cwrw yn ei dŷ oedd
hynny, er mwyn gwneud rhyw swm i fyny gogyfer â rhent, neu amser gwasgedig mewn
cystudd, &c. Yr oedd hyn wedi myned yn arferiad cyffredinol bron gan bawb,
ac yn hynod lygredig. Yr oeddynt yn myned yno i wneud lles i’r teulu, ac o
ganlyniad tybiai pawb mai eu dyletswydd oedd yfed cymaint ag oedd bosibl; a’r
hwn a dreuliai fwyaf o arian a gyfrifid yn fwyaf anrhydeddus ar yr amgylchiad.
Mewn rhan arall o’r tŷ, byddai rhyw bymtheg neu ugain o’r rhywogaeth deg
yn ymddifyrru gyda’r clwb te, er dangos eu serchogrwydd a’u cydymdeimlad
hwythau â’r teulu adfydus. Yr oedd y fan hon, fel yr awgrymwyd o’r blaen, yn
llys anhyfryd iawn i neb (x19) gael trin ei
achos, yn bersonol, teuluol, neu amgylchiadol. Beth bynnag yn y byd oedd yr Inquisition
a’r Star Chamber, nid oedd sefyll ger ei bron hwy yn rhyw lawer mwy
annymunol na syrthio rhwng pymtheg neu ugain o dafodau menywod, y pryd y byddai
un neu y llall yn eich blingo o hyd. Byddai rhai o newyddiaduron y glec yn
dyfod allan â hanes y cyfarfod drannoeth yn fore, fel yr ydoedd yn troi yn
dryblog tua’r Constant yn dra aml; ac nid oedd dim posibl deall ar rai amserau
dan ba graig y gallech gael cysgod ‘rhag cynnen tafodau.’
Digwyddodd un noson, pan oedd Siencyn yn pasio rhyw dŷ, fod yno ‘Gwrw
bach,’ a chlywai orchwylion y cwrdd gwlyb yn myned yn y blaen yn dra hwylus.
Meddyliodd ynddo ei hun beth a wnâi. Safodd, a meddyliodd
‘shwt y gallaf roddi ergyd ar ben y bwystfil?’
Yr oedd rhywbeth yn dweud o’i fewn
‘Cerdd i mewn, Sianco.’
I mewn yr aeth o’r diwedd idd eu canol hwynt; tynnodd ei het, ac edrychodd o’i
amgylch, nes oedd sylw y cyfarfod yn hollol arno. Yna dywedodd wrthynt:
‘Byddwch yn uffern bob siol cyn pen fawr amser, wrth ei dilyn hi yn y blaen fel
hyn.’
Yr oedd y bobl wedi arswydo, a chwant ffoi pe medrent; ac i’r rhan fwyaf
ohonynt yr oedd Siencyn yn berffaith adnabyddus. Yng nghanol y cwbl dyma ef yn
dywedyd:
’Gweddiwn.’
I weddi yr aeth, gan weddï o gyda’r fath nerth anorchfygol nes oedd pawb bron
yn efrydd yn y lle. Bid a fynno, cawsant nerth i fyned oddi yno i gyd cyn i’r
weddi ddarfod, canys nid oedd yno neb ond ei hunan pan gododd oddi ar ei
liniau. Fel hyn y torrwyd i fyny y rhialtwch yma. Yr oedd satan yn gorfod ffoi
yn anhrefnus o flaen cadfridog Pen-hydd.
d8 / (x20) STREIC TAI-BACH
Heb fod ymhell oddi wrth y fan yr ydoedd yn byw y mae lle a elwir Tai-bach
Aberafan, man pur enwog am weithfaoedd copr. Mewn cysylltiad â’r gwaith uchod,
yr ydoedd wedi myned yn dra helbulus rhwng y meistriaid a’r gweithwyr; y
diwethaf yn ymofyn ychwaneg o bris, a’r cyntaf yn nacáu hynny. Safodd y
gweithwyr allan. O’r diwedd cymerwyd gafael ar rai ohonynt gan y golygwyr, i’w
gwneuthur yn esiampl, am esgeuluso’r ffwrneisiau, a thrwy hynny achosi
colledion dirfawr i’r perchenogion. Carcharwyd un yn Abertawy, ac yn y diwedd
trosglwyddwyd ef i’r press gang, y rhai oedd yn y dref yr amser hwnnw.
Yr oedd pawb drwy’r gymdogaeth yn trydar yn drwm am dynged y bachgen, wrth
feddwl fod y fath ganlyniad wedi digwydd ag i beri iddo ymadael â’i wlad. Erbyn
hyn yr oedd pawb yn dechrau edrych yn brysur ar yr amgylchiad, a cheisio
dyfeisio beth oedd idd ei wneud. Llawer o’r bobl fawrion a ddanfonasant ac a
ddaethant at y gŵr bonheddig, i ddymuno arno adael i’r llanc ddyfod yn
rhydd, gan fod ar ei law ef i wneud hynny. Er yr holl ymdrech i gyd, methwyd â
chael un tro yn y byd arno; yr ydoedd yn parhau yn ei gynddeiriogrwydd yn
ddiymod. Wrth weled pob peth fel hyn yn methu tycio, a’r amser yn agosáu i’w
ddanfon ymaith, yr oedd y perthnasau bron yn ymdorri gan ofid, ac yn wir, y
cymdogion yn lled drybylog. O’r diwedd cafodd rhai ar eu meddyliau i fyned at
Siencyn Tomos i’r Goetre, i ddeisyf arno, yn enw pob daioni, fyned at y gŵr
bonheddig yn achos y bachgen. O brysur, dacw’r patriarch yn ufuddhau i fyned yn
bur ddiorchest. Yr oedd y bonheddwr ac yntau yn eithaf (x21)
adnabyddus a’i gilydd, ac yn byw yn lled gymdogol. Dacw ef yn myned, boed a
fyddo, tuag yno ar ffrwst, a ffon hir yn ei law yn ddigon o ddwy, ac yntau yn
cydio yn rhyw le tua’i chanol. Dychmygwn ein bod yn ei weled y munud hwn yn
chwythu a thynffaglu ar draws y caeau, yn wyllt a hanner call yr olwg arno.
Wele ef wrth ddrws y tŷ yn curo yn ddiarbed. Agorwyd, a chafodd y
bonheddwr yn y tŷ. Tynnodd ei het, gwasgodd hi yn deisen dan ei gesail, a
chyda’r ffon yn y llaw arall, a’i wallt fel blew gafr yn y gwrthwyneb i gyd. Yn
yr agwedd honno i mewn i’r parlwr yr aeth, gan sefyll fel post ar ganol y parth,
ei lygaid yn serennu yn ei ben, a’i holl ddullwedd yn arwyddo fel pe buasai
wedi dianc y bore hwnnw o’r gwallgofdy, ac heb wybod pa le i fyned nesaf am
gysgod. Gyda hyn, trawodd y llawffon yn erbyn y llawr, a dywedodd wrth y
bonheddig synedig:
‘Yr wyt ti wedi ei gwneud hi yn daclus o’r diwedd; danfon bachgen cymydog o
wlad ei enedigaeth. Beth yw dy feddwl di? Nid ymedy y cleddyf â dy dŷ di
byth; fel y gwnaethost y gwneir i tithau, a bod yn siŵr iti hefyd.’
Yn rhagluniaethol i bregeth y patriarch, erbyn ei fod yn darfod yr ystori, dyna
rywun yn cwympo o’r llofft, dros y grisiau, i lawr i’r gwaelod fel taranau.
Gyda hynny, yr oedd y forwyn yn gweiddi;
‘Oh fi! y mae y plentyn wedi cwympo a thorri ei wddwg!’
Gellwch feddwl erbyn hyn fod y tŷ yn derfysg drwyddo draw, ac yn benbleth
i gyd, a phawb yn rhedeg ar draws ei gilydd at odre’r grisiau. Ond cafwyd fod y
plentyn wedi ymdaro yn well na’r disgwyliad.
‘Wel,’ ebe Siencyn, wedi i’r mwstwrf ddechrau ymdawelu, ‘’d yw hyna ond cychwyn
ar ofidiau o fewn y tŷ hwn, os na ddanfoni am y bachgen adref.’ A (x22) thyma Siencyn allan gyda’i ergyd heb ddweud
‘Dydd da i chwi,’ na dim yn y byd. Y bonheddwr mewn braw a redodd ar ei ô1, gan
weiddi:
‘Siencyn, fe gaiff ddyfod adref, beth bynnag fo yn y byd.’
Felly y bu; danfonwyd yn union amdano adref, er costio cryn dipyn i’w gael yn
rhydd. Ni a welwn fod hynodrwydd Siencyn Tomos ac ofergoeledd yr oes yn
cyfarfod â’i gilydd, nes effeithioli yn hynod ar yr amgylchiadau hyn.
Yn amser ein hewythr Siencyn yr oedd campau a
chwaraeyddiaethau Cymru mewn bri cyffredinol gan fawr a mân. Nid oedd braidd sŵn
dim ar dymhorau ond chwarae pêl, ymladdfeydd ceiliogod a chŵn, y bêl
droed, a’r bando. Yr oedd plwyf Margam, lle trigiannol Siencyn, yn ddosbarth
nid anenwog yn y celfyddydau hyn, yn enwedig y bando. Yn ein cof ni, yr oedd y
plwyf hwn yn glodfawr dros ben, a moliennid y llanciau gan filoedd trwy’r
gwledydd am ystwythder a chyflymder eu symudiadau, ynghyda’u destlusrwydd a’u
deheuder yn gyrru’r bêl. Yn wir, fe fu Siencyn ei hun yn nyddiau ei ieuenctid
yn un o gystadleuwyr gorau yr oes. Gwelwyd ef lawer gwaith ar draeth Cynffig yn
herio’r wlad ar fando neu ddwrn. Beth bynnag, digwyddodd i blwyfi y Pil a
Margam wneud match i chwarae ar draeth Cynffig, am ryw gymaint o arian y
gŵr, a mawr y sŵn oedd, fel arferol, am yr amser apwyntiedig. Dyna
oedd gan bob dau, yn fenyw ac yn wryw; ac ni wetid nemor i blentyn, o flwydd
oed ac uchod, heb fando yn ei law. Yr oedd yr ysbryd hwn mor gerddedol a
chyffredinol fel pe buasai wedi ei dywallt ar bob cnawd, a’r wagers yn (x23) myned yn y blaen fel y gwynt. Edrychwyd, bid
sicr, am y bechgyn mwyaf gwisgi a champus yn yr holl ardaloedd, y rhai oedd yn
gwybod am bwys a gwres y dydd o’r blaen, ac wedi eu disgyblu i’r man eithaf. Yr
oedd bachgen yn ardal Tai-bach, at yr hwn yr oedd llygaid agos pawb yn troi,
fel prif gampwr yr oes. Nid ydoedd yn ddyn mawr o ran corffolaeth, yn yr ochr
arall, ond ystwyth ei symudiadau, a yn anffaeledig ei ergydion. Ymorchestodd yn
nechreuad ei oes i’w wneud ei hun yn enwog fel rhedeg ynghyda chywreinrwydd yn
nhriniaeth y bando. Mae llyn yn gyfagos, yr hwn a elwir Pwll Cynffig, yn mesur
oddeutu tair milltir o gwmpas; y peth cyntaf bob bore wedi codi o’r gwely a
wnâi y gwron hwn oedd rhedeg tair milltir o gylch y llyn, er mwyn disgyblu ei
draed, ei ewynnau, a’i anadl. Cyrhaeddodd yr amcan yn bur dda hefyd, meddant,
canys rhedai fel hydd yn agos, nes oedd braidd ond ei lun yn ganfyddadwy wrth
fyned heibio. Yr oedd deheurwydd ei ergydion hefyd mor rhyfeddol fel nad oedd
yn methu taro’r bêl i beillter anghredadwy, gan ei hofran drwy’r awyr las dan
chwiban fel pelen magnel. Yr oeddem ni yn adnabod y gŵr hwn yn dda, ond yr
ydoedd wedi heneiddio yn ein cof cyntaf, fel nad oedd dim ond olion y pethau
uchod yn ganfyddadwy.
Cynhaliwyd y pwyllgor ym Margam at ddethol y gŵrr oedd i gymryd rhan yn yr
ymdrechfa, a golygai pawb yn unfrydol mai gobaith gwan oedd am fuddugoliaeth
heb gael y dyn ieuanc hwn ym mlaen y chware. Yr oedd erbyn hyn rwystr mawr ar y
ffordd, serch hynny, fel yr oedd pawb yn methu deall beth i wneud. Drwy nerth
diwygiad grymus a ymwelsai i’r wlad hon ychydig cyn hynny, cipiwyd y llanc hwn
‘megis (x24) pentewyn o’r gynnau dân,’ ac yr
oedd yn awr, er gofid dirfawr i’w gyfoedion, yn grefyddwr. Er hynny nid oeddynt
wedi rhoi fyny yn lân nad oedd yn bosibl ei adennill, a’i gofrestru o’r newydd
ym mhlith y glewion. Danfonwyd dau o’r mwyaf dawnus ac athrylithgar i osod
pethau yn drefnus ger ei fron, a dymuno ei gydweithrediad gyda hwynt, y waith
hon, beth bynnag. Mae’n debyg iddo wrthwynebu y tro hwn yn gadarn, gan roddi
ateb penderfynol i genhadon y genedl. Ar yr un pryd cynhyrchwyd profedigaeth yn
ei feddwl, a ganlynwyd ag ymrysonfa aruthrol. Daliwyd o flaen yr enaid mewn
lliwiau godidog yr hen fuddugoliaethau gynt, yr ysnodau yn chwifio yn yr het,
ac ar y ddwy ysgwydd, yngyda’r bloeddiadau o fawl a arllwysid ar eu pennau nes
hollti heolydd llydain yn yr awyr. Ah! dacw draeth Cynffig o flaen ei lygaid ar
ddydd y gystadleuaeth ddyfodol; dacw’r miloedd yn ymgrynhoi, ac wele yr holl
faes yn bortreiedig o flaen ei lygaid. Mae y meddwl yn dianc ac yn ehedeg yno,
yn cymryd rhan yn y gorchwyl, yn chwifio’r bêl, a’i gymalau ystwyth fel yn troi
yn gyson mewn olew, yn gweithio yn hwylus, yn cerdded ymron yng nghyflymdra’r
wennol, gan adael pawb ar ô1. Clywai weryriad y meirch ar ei glustiau, a
banllefau’r werin fel yn ymuno i’w goroni a buddugoliaeth. Ow! y mae yn cael ei
gario ymaith yn nheimlad ac ysbryd y gamp! Och! ebe’r enaid ym mhen tipyn, wedi
iddo ddod ato’i hun, ai dyma lle yr wyf yn y diwedd? Griddfanodd, wylodd, a
cheisiodd weddïo am faddeuant. Tybiodd iddo gael maddeuant, am mai pechod o
wendid ydoedd, a theimlai gysur yn cael ei adferyd i’w enaid. Tra yr ydoedd
cysur yn dechrau dychwelyd i’w enaid fel hyn, ac yntau yn mwynhau ychydig o (x25) dangnefedd, mae yn debyg fod pwyllgor yn
eistedd i gymryd dan sylw y moddion tebycaf i’w ddenu a’i ddwyn trosodd at ei
hen gyfeillion.
Yr oedd dyn yn y committee hwnnw yn hytrach yn fychan o gorffolaeth, ond yr oedd
dau lygad bywiog a chryn graffus eu hymddangosiad yn ei ben. Nid annhebyg ar y
cwbl i Rufeiniwr oedd y gŵr hwn, yn gymaint fod ei drwyn yn lled fawr, a
cham hefyd, gan ogwyddo yn hytrach i’r ochr aswy. Yr oedd ffalster yn
ddarflenadwy yn ei holl awgrymiadau. Hwn, mewn llwybr cyfrwysgall, oedd yn
siarad fwyaf am y moddion tebycaf i’w ennill drosodd. Y penderfyniad fu, beth
bynnag, oedd danfon parselyn, yn cynnwys dillad chware plwyf Margam iddo erbyn
y diwrnod. Yr oedd dillad o wahanol liwiau gan y plwyf, fel sydd gan wahanol
deyrnasoedd, ac y mae rhyw beth yn y colours sydd yn twymo gwaed dynion
yn rhyfedd, y mae’n debyg. Hyd yr ydym yn cofio, yr oedd gwŷr Margam yn
arfer coch a gwyn. Daeth y dillad aml-liwiog hyn, beth bynnag, yn gryno mewn
neisied i’r bachgen un diwrnod, ryw ychydig cyn y dydd apwyntiedig. Rhyfeddol
byth; dyma ystorm newydd yn codi, gwnaeth na’r gyntaf. Ow! dyma’r pedwar gwynt
o’r diwedd fel yn cyfamodi i chwythu ar bedair congl y tŷ. O! pan welodd
ef y lliwiau a’r ysnodau, hen arwyddluniau buddugoliaethau blaenorol, y mae ei
enaid yn llesmeirio ynddo - y mae awydd myned yn dechrau cymysgu ei feddwl;
arswyd ac ofn yn sefyll wrth y drws, yn bygwth yn ofnadwy os allan yr âi. Y
mae’n llewygu ac yn myned i’r gwely. Yr oedd y dillad y naill ochr ar y gadair
gyferbyn y gwely. Byddai weithiau yn cuddio’i ben o’r golwg, ond wedyn codai ar
ei eistedd, a’i law dan ei ben, ac edrychai yn (x26)
syn ar hen golours Margam ar y gadair gyferbyn, a thyna chwant eu gwisgo
yn ymaflyd yn ei enaid ansefydlog. Neidiodd o’r gwely yn wyllt, a dacw ef yn
dechrau rhoi y dillad amdano. Ymhen tipyn, dacw ef yn ymdrwsio yn yr holl
arfogaeth, ac yn sefyll yn daclus o flaen y drych, i gymryd golwg arno’i hun.
Erbyn hyn dyma ystorm newydd yn codi, a’r enaid anfarwol fel llong mewn perygl
myned yn ddrylliau ar leoedd geirwon. Edrychwch, dacw’r llestr yn awr yng
nghanol yr Ewroclydon, yn cael ei thaflu yma a thraw, gan daro weithiau ar y
graig hon, ac weithiau ar y cerrig danheddog draw, nes ydoedd pob gobaith am
fod yn gadwedig wedi ei ddwyn ymaith.
Yng nghanol y drygfyd hyn, ac ofn soddi byth, dyma’r herlod yn dechrau
dadwisgo, gan daflu’r dillad dros y bwrdd am byth i ddadlwytho’r llong, a
chyda’r morwyr gynt yn ‘dymuno ei myned hi yn ddydd.’ Ym mhen ychydig, wedi
dadlwytho fel hyn, ac â’i ddwylo’i
Y mae’n debyg fod Thomas, mab ein hewythr, yn aelod go.ffyddlon yn y gymdeithas
hon, ac nid y lleiaf mewn bri ymhlith y gamesters. Byddai yntau, ebe
hwy, yn cyrraedd ergydion cywir a champus ar y bêl yn aml; a chan nerth
aruthrol ei fraich, pan drawai hi, byddai yn cael gwynt i bellter anferthol, ac
nid yn anfynych y byddai ergydion nerthol Thomas yn ei danfon yn ddihafarch i
‘gôl.’ Wedi’r siomedigaeth a gafwyd drwy golli Thomas Robert, syrthiodd y
cyfrifoldeb lawer yn fwy ar ysgwyddau mab yr hen bregethwr, ac wrtho yr oedd
disgwyliad cyffredin y plwyfolion. Yr oedd yr hen ŵr, ei dad, yn ddiamau,
fel y mae’n rhesymol i ni feddwl, yn lled groes i’r fasnach, ac mewn ymdrech
ddiflino yn ceisio perswadio’r bachgen i aros gartref, a pheidio ymuno â hwynt
yn y cyfryw ryfyg ac annuwioldeb; eto nid oedd dim yn tycio; myned oedd yng
nghalon Tomos, trwy’r tew a’r tenau. Byddai Siencyn weithiau yn pendrymu yn
fynych yn ochneidio, a phrydiau eraill. yn dwrdio’n ofnadwy, gan fygwth y byd
hwn a’r nesaf ar y bachgen. Yr oedd yn wahanol dywydd
Wel, y diwmod oedd yn prysuro, hen amser yn gyrru ei olwynion yn ddiorffwys yn
ei flaen, nes oedd gwawr y diwrnod apwyntiedig bron yn barod i ymagor ar y (x28) golygfeydd gorchestol. Eto nid oedd argoel
yn y byd fod Thomas yn ystwytho mewn ufudd-dod i gynghorion ac ymbiliau ei dad.
‘Twm,’ ebe’r hen ŵr, yn sydyn un diwrnod, ‘yr wyt yn penderfynu myned,
fachgen, y mae’n debyg; ond gwrando, yr wyf yn dweud wrthyt, os myned, gwna
orau dy galon - paid colli o eisiau gwneud dy eithaf; ati â’th holl egni, neu
ddim.’
Ond, yn rhagluniaethol neu rywbeth, ychydig cyn cychwyn cafodd Thomas annwyd,
aeth yn sâl iawn fel na allodd ddwyn ei fwriad i ben; ac yn lle myned i
Gynffig, gorfu
‘Ha ddiafol, ti ’collaist hi dy wala, er mor gyfrwys ydwyt; y mae un yn
ddoethach ac yn gryfach na thithau. Haleliwia! Buddugoliaeth! Unwaith eto.
Bendigedig; dyma’r cythraul dan fy nhraed.’
Tra yr ydoedd Siencyn yn canu’r goncwest fel hyn, yr oedd terfysg a thrymder
calon nid bychan drwy’r holl gymdogaeth, yn enwedig ymhlith y chwaraewyr,
oherwydd fod clefyd wedi lluddais un o’r gamesters gorau; eto nid oedd
dim i wneud ond ceisio edrych allan ymhlith yr ieuenctid am rywun arall i
gyflawni’r diffyg hwn. Wedi edrych o gwmpas am ychydig, cafwyd un i graddau
helaeth iawn o gymwysterau, llanwyd y rhestr, a gwnawd pob peth yn barod i’r
ymdrechfa eilwaith. Dacw hwynt ryw ben bore yn cychwyn yn unfrydol i draeth
Cynffig i dreio eu dwylo. Cyfodai y wlad o’r bron gyda hwynt, rhai mewn
cerbydau, rhai ar feirch, rhai ar fulod, eraill ar asynnod, (x29) a miloedd ar draed; pob gradd, a phob
oedran, a phawb yn ddiwahaniaeth yn dân gwyllt o blaid rhyw ochr. Yr ydoedd
hefyd yn lled frwd a thanbaid yn nosbarth y benywod y dyddiau hyn. Siaradent,
ymrafaelient, a danodent i’w gilydd y pethau rhyfeddaf a glywsoch erioed, a
dywedir y byddai ergydion chwyrn gwaedlyd yn pasio rhyngddynt weithiau. Yr oedd
y mamau yn twymo o blaid eu meibion, a’r merched hwythau yn ymwresogi o blaid
eu cariadon, nes oedd y cwbl yn un gabolfa ansoniarus ac ymrafaelgar. Yr
ychydig boblach oedd yn gorfod aros gartref y diwrnod hwnnw oedd y cleifion, y
deillion, yn anafusion, a’r methedig, ynghyda’r ychydig grefyddwyr oedd yn
peidio er mwyn cydwybod. Ymhlith bagad o’r rhain hefyd, yr oedd llawer o’r un
ysbryd, a disgwylient yn bryderus, gyda phob symudiad, am ryw newydd o faes yr
ymdrechfa.
Wele, y mae’r dydd yn prynhawnu, ac adenydd nosawl yn ymdaenu dros y ddaear
gron, gan gymell cwsg ar ei phlant lluddiedig. Ust! dacw drwst cerddediad, onid
e? Yr ydoedd rhwng dau olau, neu yng ngwyll y nos, yn anodd i ganfod. Y mae pob
un yn clustfeinio, ac heb anadl yn cerdded braidd, ar ymdorri am glywed y
newydd. Y maent yn dyfod yn nes, hwynt-hwy ydynt, y mae sŵn dieithr yn eu
mysg. Sŵn wylofain, ac ochneidiau trymlwythog ydyw, yn agosáu bob trawiad
amrant. Dyma hwynt o’r diwedd gogyfer, pryd y deallwyd er tristwch a gofid
calon fod Margam wedi colli’r dydd! Och! y mae’n effeithio yn farwol ar
deimladau cannoedd. Derbyniodd clust Siencyn ychydig ohono, ac er ei holl
grefyddolrwydd i gyd, ymgymysgodd ei enaid yn nheimladrwydd y foment. Trawyd
yntau â phrudd-der dwfn, a (x30) gwingodd yn
aruthrol oherwydd fod ei blwyf ef wedi colli’r dydd, fel nas gwyddai beth i
wneud, ac ym mhrofedigaeth y foment gwaeddodd allan,
‘Pe buasai Twm ni yno, nid fel hyn y buasai.’
DIWEDD
·····
|
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN ...... Y Wenhwyseg - tafodiaith y
De-ddwyrain º |
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Adolygiadau
diweddaraf: 10 07 2002
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n
ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
“CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
(o ymwelwyr i Adran Cywaith Siôn Prÿs - testunau Cymraeg
arlein - ers 1 Medi 2005)
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu
les estadístiques / View My Stats