1345k Pont-ar-Fynach, ai Hamgylchoedd -Y Traethodydd (1851). Mae yma ddwy bont - un oddiar y llall. Mae yr uchaf fel rhyw bont arall,
ond ei bod yn rhy gul uwchlaw sul safnrwth ag sy dani: yn nghrombil hon y bodola gorchestwaith y gŵr drwg.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_041_pontarfynach_traethodydd_1851_1345k.htm
Cysylltwch ni trwyr llyfr ymwelwyr: YMWELFA

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Barthlen

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Sin Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pgina


..







Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Galles


Cywaith Sin Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Pont-ar-Fynach, ai hamgylchoedd
Erthygl ddienw
Y Traethodydd (1851)
Tudalennau 218-223



(delwedd 0729)


Rŷn ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol


PONT-AR-FYNACH, AI HAMGYLCHOEDD

Taflodd y Creawdwr mawr fwy o amrywiaethau mewn rhai ardaloedd nag eraill: pan deithiwn trwy y cyfryw leoedd nis gallwn lai na theimlo eu presennoldeb. Esmwythir a dedwyddir y meddwl gan newidiad gwrthddrychau. Yn ei wibdeithiau o'r naill beth i'r llall, gorphwysa ambell waith gydg ymfoddhd nid bychan ar ffrwythau celfyddyd. Ymddifyrrar ehedydd ar droion ar y brigau gweinion, yn gystal ag ar y derw cryfion ar clogwyni serthion. Ond pan ein teflir i oror lle mae naturiaeth gwedi ymddilladu dyeithr wisgoedd, a lle hefyd y gwasgarodd llaw celfyddyd eu blodau teg yn y cyfryw amgylchiad, nofia ein dychymyg mewn awyr baradwysaidd. Nis gallem fod yn amddifad o'r profiad hwn wrth ymdaith trwy ranau uchaf sir Aberteifi. Blinir ni ar wastadedd hirfaith a helaeth gan ormod undoniaeth yr olygfa; carcherir ni yn y trefydd a'r dinasoedd mawrion yn ngweithiau dyn (y fath ysgafnhd wrth rodio ynddynt, yw cael edrych ar y perlau prydferth a serenant ac a ddysgleiriant wisgoedd yr Hwn a ferchyg nef y nefoedd i enw yn Iah!); ond am y gyfran on gwlad a nodasom, ca yr archwaeth feddyliol ynddi wledd barhaus or danteithion mwyaf amrywiol. Gd yr hen fynyddoedd penlas, ar hen fryniau penfoel a goleddir o fewn eu mynwes, argraff ar y meddwl iddynt gael eu llunio mewn tipyn o frys - y llinell amlycaf yn eu gwedd yw esgeulusdra, a hyny yw eu prif hawddgarwch. Ymddengys graddau go lew o gysondeb lluniadol mewn dyffrynoedd heirdd a gwastadtir eang; ond nid felly y rhanau mynyddig. Y gwirionedd yw, yr ydym yn rhy dueddol i farnu gwaith Duw fel y barnwn waith dynion. Gwelwn a deallwn yn gyffredin yr oll o waith dyn - gwaith ein cydgreadur ydyw. Ar y cwbl y dylid barnu pobpeth. Unionir ein syniadau i raddau anghyffredin, pan osodom un peth ar gyfer y llall. Ond mae dyn yn rhy fach i ddeall gwaith Duw yr hwn sydd yn gwneuthur y cwbl. Nis gwelwn ond rhanau ei ffyrdd; pe gwelem yr oll yn gyfan fel y mae Efe yn ei weled, a phe dirnadem holl gysylltiadau moddion a dybenion ei oruchwylion, caem, er ein mawr foddhd, fod yr oll i gyd yn canu gan gydgordiad, a threfn. Nis gallwn ddilu o'n meddwl olion y golygfeydd an cyfarchasant yn mlaenau sir Aberteifi - y bryniau, y dyffrynoedd, y coedydd, yr afonydd, &c. Cynhesir rhai or bryniau, ou pen iw traed, gan fentyll gwyrddleision o goedydd cysgodfawr - chwery yr awel benrydd ar y cribynau fry; yn yr hon yn awr a phryd arall y gwelir yn nofio rhai o aelodau y llwythau asgellog, y rhai a breswyliant uchelderau y creigiau - gylch yr hen fryniau blinedig eu traed yn yr afonydd a ymddolenant o bobtu eu sodlau (x219) wyla 'r bryniau yma a thraw ddagrau ou llygaid, y rhai a ymdreiglant yn wylofus fel plant gwedi colli eu mammaeth, gan gyfeirio eu hysgogiadau, trwy bob anhawsderau, nes cyrhaeddont yr afon obry, i fynwes yr hon yr ymdaflant, gan fod yn sicr y dygir hwy yn ddiogel i'r pentwr o ddyfroedd mawrion. Nid yn unig gwena yr uchelion hyn gan brydferthwch allanol, ond hefyd llanwyd eu hymysgaroedd thrugareddau mewnol. Mae y dyffrynoedd yn debyg i ambell lodes ln - cymaint a fedd am dani; ond mae y bryniau yn gyffelyb i rai hen ddynwyr - yn ddigon llwydion eu golwg, ond tipyn yn lew tu cefn serch hyny.

Pan oeddym yn nhymmor diniweidrwydd plentyndod, clywsom son pryd hyny am Bont y gŵr drwg; ac wrth agosu ati, nis medrem ymattal rhag peri ir merlyn roddi un troed heibio i'r llall yn fuanach nag arferol: felly, braidd yn ddiarwybod, caem ein hunain ar y Devil's Bridge! Mae yma ddwy bont - un oddiar y llall. Mae yr uchaf fel rhyw bont arall, ond ei bod yn rhy gul uwchlaw sul safnrwth ag sy dani: yn nghrombil hon y bodola gorchestwaith y gŵr drwg. Mae y chwedl ar led, taw cynnyrch noswaith o galedwaith ei fawrhydi Satanaidd oedd hon. Nid ym yn sicr bod y chwedl yn hysbysu pa un ai nos dydd gŵyl Domos, ai nos dydd gŵyl Barnabas, neu ryw noson arall, oedd y cyfnod; ond sut bynag am hyny, yr oedd yn rhy fer - yr oedd mab y wawrddydd gwedi bod tua 'r bryniau cyfagos, medd yr hanes, yn ymofyn baich o geryg - yr oedd y goflaid ar y trymaf, dybygid: methodd, bid a fyno, a gwneuthur y brys dyladwy; agorodd amrantau y boreu gil ei lygad arno; pallodd ei nerth, a dyferodd ei lwyth i lawr. Yr oedd yn weladwy yn ddiweddar yn y man y disgynodd, os nad yw felly yn awr. Fodd bynag y bu pethau, sicr yw, bod y bont heb ei gorphen; neu, os cafodd erioed ei gorphen, cyfarfu, rywfodd, gwedi hyny, g anmhariad. Nid ydym yn rhyfeddu mymryn os y gŵr drwg fu wrthi, iddo ei gadael heb ei dybenu. Fe adawodd lawer gorchwyl arall ar ei hanner. Mae y chwedl yn ceisio esbonio y bont fel hyn hefyd (hen arfer chwedlau yw bod yn anghyson 'r gwirionedd, ac hwy eu hunain): - Hen wreigan dlawd, gwedi colli ei buwch, a'i canfu yr ochr draw i'r a afon. Och y fi! sut y caf i fy muwch fach adref, gwaeddai yr hen wraig. Ar y pryd, fe gydymdeimlodd yr hen Grwydryn i llef, a dywedodd wrthi y gosodai bont dros yr afon yn y fynyd, os cai y peth cyntaf a elai drosti - ammod haiarnaidd. Beth bynag, cytunwyd. Dyma yr hen fodryb yn y fagl: ond yr oedd yr hen gi brith, os brith ydoedd, bron newynu. Dygwyddodd bod tamaid o grystyn yn llogell yr hen ferch: draw g e dros y bont, ar corgi diniwed, wrth geisio myned ar ei ol, a syrthiodd yn wobr ir Pontwr Satanaidd. Dichon nad yw y chwedl hon ein celwyddog na miloedd o chwedlau eraill a gredir yn ddiysgog gan liaws o blant Adda. Ond y gwirionedd am y peth yw hyn: - Enwir yr afonig, ar yr hon y taflwyd y bont, Mynach, yr hon a red i lawr or clogwyni gogleddol, ac a ymdroa tua chymydogaeth y bont hon rhwng ochrau hyllion, a thrwy ddyfnderoedd dyfnion. Ymarllwysa y Mynach yn union gwedi pasio'r bont ir Rheidiol. Tebyg yw bod mynachod Ystrad Fflur, a'r rhanau gogleddol, yn eu pererindodau tuag at Abad-tŷ, Pont Rhydfendigaid, dan yr angheurheidrwydd o groesi y Mynach. Felly, wrth weled culni y llynclyn, ar buddioldeb o fyrhau eu ffordd, nid hir y bu y tadau ysbrydol hyn cyn ei wneyd yn groesadwy, drwy daflu y bont drosto; a di-os bod yno gryn drafferth cyn i feibion yr (x220) abad gwblhau eu tasg. Ni synem am amrantyn os syrthiodd rhyw hanner dwsin o honynt ir berw bair odditanodd; ac wrth eu trochi hwy, bedyddiwyd yr afon ar enw Mynach. Meddylir ir mynachod adeiladu y bont tua 'r flwyddyn 1087. Un bwa yw y naill fel y llall: yr isaf yn ugain troedfedd, ar uchaf yn ddeg troedfedd ar hugain, yn y tant. Yr oedd cadernid yr hen bont yn ammhus; ac yn y flwyddyn 1753 adeiladwyd y bont bresennol ar draul y sir. O Aberystwyth i Bont y gŵr drwg mae deuddeng milltir; o Lanidloes, pedair ar bymtheg. Golygir bod dernyn fel hyn yn well eglurhad ar y pwnc nar chwedlau eraill. Mae yn hollol groes i arferiad y diafol helpu plant Adda: ac, am dano ef ei hun, nid oes arno nac eisieu pont na chanllaw - mae mor gyfarwydd llwybrau llithrig yr awyr. Yn yr ymyl y mae Ystafell plant y Fat. Helpai y rhain eu hunain o eiddo eu cymydogion heb eu cenad. Fe allai bod eu llwch yn gorphwys yma: os felly, diau eu bod yn cysgu yn drymach nar forwyn hno yr ymdrechodd yr Hen Bant-y-celyn ei dihuno, pan mewn rhywfan y galwodd yr awen heibio iddo ryw noswaith. Gwedi methu deffror hogen gysglyd, canodd yr hen frawd fel hyn.

R wyn awr yn gweld yn eglur
Tai glychau mawr y llan;
A rhod y felin bapyr
A gyrdd y felin ban;
Ar crochan mawr ar badell,
Yn twmlo oddeutur tŷ:
Ar gwelyn tori dani,
Taw cysgu wnelai hi.

Ymddengys y rhaiadrau ar dyrfgwymp yn ardderchog ofnadwy, ac yn fawreddog ryfeddol, yn enwedig o rai mannau cyfagos. Geilw eu disgyniad byrbwyll, ar effaith gynhyrfiol a gynnyrchant yn y dyfnderoedd obry, linellau Virgil i gof (Aeneid, iii. 120): -

Dextrum Scylla latus, laevum implacata Charybdis
Obsidet; atque imo barathri ter gurgite vastos
Sorbel in abruptum fluctus, rursusque sub auras
Erigil alternos, et sidera verberat und..

CYFIEITHEDIG: Ar yr ochr dde Scylla, ar yr aswy y gwancus Charybdis eistedda; ie, ac a sugna deirgwaith i drobwll i llifogydd cynddeiriog tua dibya yr eigion; -drachefn dyrcha y unrhyw ir awyr, a chyffyrddar ser 'i dnau trochionog!

Cymer ymuniad y Rheidiol r Mynach le y tu gorllewinol ir bont. Ymddangosent yn gyfeillgar i'w ryfeddu yn eu cyfarfod; cydlawenhaent yn fawr dros ben wrth gofio'r teithiau blin, y troion hirion, ar dyfnderau duon, y daethant trwyddynt - ant tua'r mr, fraich yn mraich, fel priodfab a phriodferch gwedi iddynt gytuno i fyw gydu gilydd er gwell ac er gwaeth.

Pedair milltir yn uwch i fyny, ar yr afon Ystwyth, yn nghilfachau y mynyddoedd, y ceir y breswylfa dra hynod a rhyfedd a elwir Yr Hafod. Trigfa boneddwr yw. Mae yr adeiladau yn wychfawr ac yn gynnwysfawr anghyffredin heb haner eu gorphen. Amgir y fangre o amgylch-ogylch g ysnodenau o goedwigoedd. Gorwedda yr ardd rhwng y tŷ ar Ystwyth, ar lan ogleddol yr afon. Wrth edrych ou hamgylch dros ei (x221) muriau,
nis gwelem ddim ond gelltydd gwyrddleision yn chwareu eu dail, yn cwhwfanu eu cangau, ac yn byw mor ddedwydd a phe buasent yn ngardd Eden, heb un yn dyweyd gair croes wrth y llall. Cawsom ffafr yn ngolwg y gŵr a gyflawnai ddyledswyddau patriarchaidd y wybodaeth a'r gelfyddyd hynaf yn y byd - y garddwr. Y tu gogleddol ir palas, mae y capel teuluol, neu y llan. Cofadail o fewn ir breswyl hon a sugnodd ein sylw fwyaf o ddim. Yr oedd yn byw yn yr Hafod, ers ryw amser yn ol, foneddwr or enw Johnes, yr hwn, yn undeb ei deulu, a dreuliodd fywyd rhinweddol, dyngarol, a duwiol. Nis cedwir neb o honom, mewn un sefyllfa nac amgylchiad, rhag corwyntoedd cystuddiau ac ystormydd angeu. Nis meddai y boneddig hwn ond un plentyn unig ferch ei thad ai mam. Gadawyd Marianne i loni a dedwyddu ei rheni, nes oedd holl ogoniant dyn, yr hwn sydd fel blodeuyn y glaswelltyn, yn gynfyddadwy arni.. Aeth hen frenin y dychryniadau heibio, ac nid oedd neb a wnai y tro yn ysglyfaeth iddo ond y foneddiges ieuanc! Y cofadail a grybwyllwyd sy ddarluniad o Miss Johne yn marw. Gorwedda ar gader-wely (sofa): yr ochr draw iddi saif ei thad. Gesyd ei law aswy dan wegil ei anwyl blentyn, i law ddeheu ymeifl yn ei braich ddeheu, ac a edrycha arni yn syn, eto yn ddirwgnach; er galar a hiraeth, eistedda ymostyngiad ir Ewyllys Ddwyfiol yn ei wedd. Dacw ef yn ei gildio hi i fyny i ddwylaw trugarog Tad yr ysbrydoedd, a Duw pob cnawd. Eistedda ei mam wrth ei thraed - goblyga ei phen - cuddia ei gwyneb - metha teimladau mam ag edrych ar rwygiadau hen elyn ein natur yn ei hamddifadu oi hunig blentyn - ymeifl 'i dwylaw yn neheulaw y marw, a gwasg hi at ei genau, fel pe dymunai, chynhesrwydd ei hanadl, adwresogi y gyfran a yspeiliwyd gan angeu. Gwlych hi 'i dagrau - cusana hi 'i gwefusau: ond marw mae etifeddes yr Hafod er pobpeth. Teifl ei llaw chwith yn llaes a dofal i lawr yr ochr at yr edrychydd: erys ar lyfr, go fawr, yn agored, dan yr hwn mae llyfr arall yn gauad ni feddyliem taw y Bibl yw y llyfr, waith yr oedd gan y teulu anrhydeddus hwn barch mawr i'r hen lyfr. A ydyw llaw Marianne ddim yn nodi allan ryw gyfran or gwirionedd, ar yr hwn y gorphwysodd ei henaid yn y dyfroedd mawr ar tnau? Ni anerchwyd ein llygaid yn ystod ein hoes golygfa ryfeddach! Mae y tad, y fam, ar ferch yn eu llawn faintioli. Yn y fan, tra y safem ac y syllem ar y gelyn diweddaf yn yspeilio bywyd y foneddiges landeg, teimlem ein natur yn toddi, ac effeithiai yr olygfa arnom mor ddwys nes y parodd i'n llygaid ddyferu cawodydd gloewon o ddagrau. Da y cofiem am amgylchiad cyffelyb, rai blyneddau yn ol, yn dwyn agos gysylltiad ni ein hunain: -

Oh!
Marianne, now for thee
The hearts for which thou blest are bleeding. -
Oh! Mariamne, where art thou?-.
And is she dead?
But thou art cold -
And these dark hearts are vainly craving
For her who soars alone above.

Sylw llawer o wir ynddo yw hwnw - y manau a nodir gan natur y chelfyddyd g amryw neillduolion a gynnyrchant effeithiau tebyg yn y trigolion. Cyflwynir i'n meddwl yn awr ddau blwyf: hynodir un o honynt g amldra preswylfeydd boneddigion; mae y llall yn amddifad hollol o'r cyfryw drigfeydd. Mae rhywbeth or gŵr boneddig yn mhob llipryn llwm (x222) yn y cyntaf: ond am yr ail, cuwch cwd a ffetan ydyw, heb un safon uwch gan neb na hwy eu hunain mesurant eu hunain wrthynt eu hunain. Heb os nac oni bai, dir yw y gofelir mwy am y meddwl gan breswylwyr ucheldiroedd a blaenau gwledydd nag a wneir gan y rhai a wladychant iselfanau ffrwythlawn a theg. Cyflyma in sylw wladyddion y tair
Arabia. Nis gellir llai na chydnabod plant mynyddig gwlad William Tell - y Swisiaid. Yr ydym yn rhwym o gofio am feibion Caledonia: ac er i Coleridge ddodi ei ellyn yn ddiarbed ar feibion a merched Gwalia, nid ydym er hyny gwedi ein darbwyllo eu bod yn ol i eraill mewn dim: na, yn wir, mae trigolion gwledig Lloegr bedair gwaith ar bymtheg ar hugain, a rhagor, yn debycach i asynod na hwy. Nid oedd Coleridge ond dyeithr-ddyn - estron i bob sill o'n hiaith - mor anwybodus o'n harferion a phe buasai wedi byw yn y Llwybr Llaethog. Daeth ef, fel yr Ymwelwyr, i Gymru, wedi ein mesur an pwyso cyn cychwyn o gartref - yn llawn cibddallni a rhagfarn, fel y dyn hwnw yn cynnyg goleuo'r ganwyll, r diffoddydd ar ei phen! (Gwel Colerdiges Bio. Literaria: cyf. ii)

Arweinia cryn nifer o drigolion blaenau gwledydd fywyd bugeiliol - cnt trwy hyny fwy o amser nag eraill i ddarllen a meddwl. Mae yr awyr, tuar bryniau yn burach ac yn iachach - ceir effeithiau cyferbyniol i hyn yn y trigolion. Nid ydynt yn byw mor fras chwaith a chyfanneddwyr y dyffrynoedd, fel y dywedai yr hen wraig wrth ei phlant ys llawer dydd, oes dim o fryd llawer o'r rhain ond ar eu boliau. Trwy fod yn rhydd or baich hwn cedwir eu natur rhag trymhau. Hefyd swynir eu hysbrydoedd gan hyfdra mawr a phrydferthwch y gwrthddrychau au hanerchant. Yn mhob gwlad y megir glew, medd y ddiareb: yn mlaenau pob gwlad y megir glewion. Nid ychydig yw rhagorolion dynolion pen uchaf sir Aberteifi. Maent yn ddynion synwyrol, yn gryfion o gyrff, yn iach o gyfansoddiad, ac yn alluog o feddwl. Maent yr un farn hefyd ar hen br ganiedydd o Bant-y-celyn; hyny yw, nad oes fawr o wahaniaeth rhwng dyn ac epa, neu fwnci gwyn, os nai hyfforddir mewn gwybodaeth a dealldwriaeth. Gŵyr y bobl hyn yn burion bod cyfryngau gwybodaeth yn Nghymru; ceir rhai epaod dynol yn ein gwlad nas gwyddant gymaint a bod y fath gyhoeddiad ar Traethodydd wedi ei eni chwaithach hyny. Cartrefa dosbarth gweithiol yn y lleoedd hyn hefyd, y rhai ydynt yn llawn mor drachwantus am ddarllen ar dosbarth tyddynol, os nid yn fwy felly. Er eu bod yn treulio ei hoes yn y mwyngloddfeydd, eto deallant lawer mwy na bagad o bobl sydd u traed yn uwch na'u penau hwy.

Prifddinas yr ardaloedd hyn yw Aberystwyth; nid ychydig ydynt ei rhagoriaethau. O un tu, anadla yr awyr arni ei hawelon iach dros gopau y mynyddau: or tu arall, ymdeifl y gwyntoedd tuag ati dros y gyfran buraf or mr. Mae yr adeiladau yn brydferth, yn neillduol y rhes a wyneba y mr. Dealla y trefolion bod glanweithdra yn ras ymarferol. Ni fu erioed ddyfrfa mewn man iachach: trueni na byddai ager-gerbyd yn galw wrth glustiau ei phreswylwyr - mae eisieu gwell cyfleusderau i fyned ati. Mae crefyddoldeb y lle yn enwog: y gynnulleidfa grefyddol y buom ynddi sydd, dybygem, yn bobpeth a ellir ddysgwyl mewn cynnulleidfa o Gristnogion. Ni chlywsom erioed well canu: O! mae'n hyfryd, hyfryd, hyfryd! Mae wedi teithio tuar cymydogaethau cylchol (x223)

Megys fflam yn llosgi llin.

Hynod mor gydweddol g achos Iesu Grist yw canu trefnus, pwyllus, blasus, a melus!

Nis gallwn yn ein byw lai na chredu i raddau pell, mewn Gwyneboliaeth: gellir ei gymeryd yn rheol, dybygem, os bydd rhywbeth o werth ei weled neu ei glywed tufewn, y bydd rhyw ddangoseg o hyny y tuallan. Os bydd yno dalcen llwm yn suddo i lawr - os bydd yn y wynebpryd fwy o'r llo ar llwdn nag o'r ych a'r dyn - os bydd yno fwy or cadno ar asyn nag or angel a'r eryr - tebyg yw na ddaw nemawr dda o'r cyfryw Nazareth. Mae gwahanol ddosbeirth o'r natur ddynol fel gwahanol ranau or ddaear - rhai yn ddrwg, rhai yn ganolig, a rhai yn dda: nid mewn ystyr foesol, y golygir. Taflwyd ni yn achlysurol ar ein taith i gymdeithas dynion gwledig athrylithgar; ac yr oedd yn hawdd canfod cynneddfau eu meddyliau yn llun, yn null, yn edrychiad, yn ngwedd eu gwynebpryd hwy a'u perthynasau. Ymhyfrydem hefyd yn mhelydron eu sirioldeb, hoffem eu sobrwydd au syberwyd, carem foneddigeiddrwydd Cymreig eu gwisgoedd. Mewn gair, er nad yw trigolion Blaenau sir Aberteifi wedi cyrhaedd perffeithrwydd, mae eu gwaeleddau yn cael eu gorbwyso ymhell gan rinweddau a rhagoriaethau. Na feddylied neb ein bod yn darostwng y godre a chanol y sir pan barchwn fel hyn y rhanau uchaf: nac ydym yn wir; mae genym wir barch iddi trwyddi - o gorn i garn. Mae'r traddodiad yn y gwynt bod un o dalentau mwyaf Cymru wedi dodi ei ffon lath ar rai o siroedd y Deheudir fel hyn: - Os y'ch am welyau gln, teiau gln, a dynion gln, cerddwch i sir Gaerfyrddin; os ych am foesau, dewch i sir Benfro; os am grefydd, cerddwch i sir Aberteifi. Nid ydym yn proffesu manylrwydd na pherffeithrwydd yn ein cyffyrddiadau ond rhoddasom yr argraffiadau cyntaf mor onest ag y medrem.



Simbolau arbennig : ŵ ŷ

 

Adolygiadau diweddaraf: 02 07 2002


Bler wyf i? Yr ych chin ymwld ag un o dudalennaur Gwefan CYMRU-CATALONIA
On sc?
Esteu visitant una pgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Galles-Catalunya)
We(r) m ai? Yu a(r) vzting peij frm dh CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katluni) Wb-sait
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website


CYMRU-CATALONIA


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadstiques / View My Stats

Adolygiadau diweddaraf: 02 07 2002