0976 Gwefan Cymru-Catalonia. Mari Lwyd. Agorwch y drysa, Gadewch i ni wara, Mae'n ôr yn yr eira Y Gwila. TROSIAD / TRANSLATION: Open the doors, Let us play, It's cold in the snow. Christmastime. Cer odd na'r hen fwnci, Ma d'anadl di'n drewi, A phaid a baldorddi, Y Gwyliau. TROSIAD / TRANSLATION: Get lost you old monkey, Your breath stinks, And stop prattling. Christmastime

 

http://www.kimkat.org/amryw/sion_prys_038_mari_lwyd_1897_0976ke..htm

Yr Hafan / Home Page


..........
1864e Y Fynedfa yn  Gatalaneg / Gateway in English to this website

....................0010e Y Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English


...........................................0977e Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh texts on this website - contents page

............................................................y tudalen hwn / this page



baneri
.. 




 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Mari Lwyd
Tarian y Gweithiwr 1896? 1897?
 

map o gymru a'r gwledydd catalaneg (map_cymru_pc_drenewydd_050112)

Adolygiad diweddaraf / Latest update 27 12 2000

 

 0975k - Cymraeg yn unig

   xxxx Aquesta pàgina en català

 

MARI LWYD - o Darian y Gweithiwr (1896? 1897? yr ym ni wedi colli dyddiad y ffynhonell)


MARI LWYD - from Tarian y Gweithiwr (1896? 1897? we've lost the date of this article)

________________________________________________

The translated article is in three parts.

(1) In purple letters is the article with some amended spelling (yn ôl for yn ol, â for a, etc and y for the 'y eglur' - dydd for dydd, etc). It is written in colloquial south-eastern Welsh (Sometimes called 'Y Wenhwyseg', or 'Gwentian' in English).

0975 - This page has a version with the original spelling

0923 - Information on the dialect of south-east Wales (index page)

(2) In blue letters, a version of the article in a more standardised form

(3) In green letters, the English translation

________________________________________________

MARI LWYD

_________________

Na fel odd yr hen ddynon odd yn arfadd â hi yn i galw, "Fari Lwyd." Odd i yn arfadd bod mewn bri mawr yn amsar Nadolig slawar dydd, ond os fawr o sôn am deni nawr.

(MODERN SPELLING) Dyna fel yr oedd yr hen ddynion a oedd yn arfer â hi yn ei galw, "Fari Lwyd." Yr oedd hi yn arfer bod mewn bri mawr yn amser Nadolig er's llawer dydd, ond nid oes fawr o sôn amdani nawr.


(OUR TRANSLATION) That's how the old people who used to do it called it, "Fari Lwyd". It used to be a very popular practice at Christmas time many years ago, but it's hardly ever seen these days ('there's not much mention about it')



_________________

(ORIGINAL SPELLING, SLIGHTLY AMENDED) Otw i ddim moyn dangos y munan yn rhw sgolar clyfar, ond fe glywas hen ewyrth i fi yn gweid am deni (a odd a yn glyfar, os dim dowt gen i), ta orwth enw'r Forwyn Fair, ne Mair Dda, odd yr enw wedi tarddu, a bod y beirdds slawar dydd yn iwso y gair "lwyd" am dda, fel "Dwn Lwyd," &c.

(MODERN SPELLING) Nid wyf i ddim yn ymofyn dangos fy hunan yn rhyw sgolar (ysgolháig) clyfer, ond fe glywais hen ewyrth i mi yn dweud amdani (ac yr oedd ef yn glyfer, nid oes dim dowt gennyf), taw oddiwrth enw'r Forwyn Fair, neu Mair Dda, yr oedd yr enw wedi tarddu, a bod y beirdd ers llawer dydd yn iwso (defnyddio) y gair "lwyd" am dda, fel "Dwn Lwyd," &c.


(OUR TRANSLATION) I don't want to make out that I'm ('show myself as') some sort of expert on the matter ('clever scholar') but I heard an old uncle of mine saying something about it (and he was clever, I've no doubt about that) that the name der¡ves from the name of the Virgin Mary, or Good Mary, and that the poets long ago used the word 'llwyd' (literally 'grey') for 'good', as in "Dwn Lwyd," &c.



_________________

(ORIGINAL SPELLING, SLIGHTLY AMENDED) Ta beth am hyny, odd y Fari Lwyd odd yn arfadd dod bothti amsar y Gwila ddim yn depyg i fenyw, wath fe gwelas i ddi rai troion. Pishin o bren wedi cal i naddu run shâp â pen ceffyl ne gaseg, os os rhw waniath yndi nhw, o bob lliw, a'i geg a wedi ca'l i neid mwn ffordd gallsa'r bachan odd yn i witho fa, i shiglo lan a lawr o gordyn fel sa fa'n fyw.

(MODERN SPELLING) Ta beth am hynny, roedd y Fari Lwyd a oedd yn arfer dod o boptu amser y Gwyliau ddim yn debyg i fenyw, o waith fe'i gwelais i hi rai troeon. Pishyn (darn) o bren wedi ca'l ei naddu yr un siâp â phen ceffyl neu gaseg, os oes rhyw wahaniaeth ynddyn nhw, o bob lliw, a'i geg ef wedi cael ei wneud mewn ffordd gallasai'r bachan (bachgen) a oedd yn ei weithio ef, ei siglo i lan ac i lawr â chordyn fel pe buasai ef yn fyw.


(OUR TRANSLATION) However, the Fari Lwyd that used to come around Christmastime ('the time of the holy days') wasn't like a woman, because I saw it a few times. A piece of wood carved in the shape of the head of a horse or a mare, if there's any difference between them, multicoloured ('of every colour'), and its mouth made in such a way that the fellow operating it could move ('shake') it up and down with a cord as if it was alive.



_________________

(ORIGINAL SPELLING, SLIGHTLY AMENDED) Odd y bachan yn perfformio miwn o'r golwg dan sheet wen fawr yn i gwato fa'i gyd, a bachan arall yn i ledo fa wrth ffrwyn a rhipan coch ne las, fel ledo ceffyl.

(MODERN SPELLING) Yr oedd y bachan (bachgen) yn perfformio i mewn o'r golwg o dan shît wen fawr yn ei gwato (ei guddio) ef i gyd, a bachan (bachgen) arall yn ei ledo (ei arwain) ef wrth ffrwyn a rhuban coch neu las, fel ledo (arwain) ceffyl.


(OUR TRANSLATION) The lad performed inside, out of sight under a big white sheet completely covering him ('hiding him all'), and another fellow led him by a halter ('bridle') with a red or blue ribbon, like leading a horse.



_________________

(ORIGINAL SPELLING, SLIGHTLY AMENDED) Odd cwmpni yn myn'd â'r "Feri" rownd trw'r dre ne'r pentra, a chyn bysa nhw yn acto odd un part o'r cwmpni yn myn'd mewn i'r ty, a chauad y drws yn erbyn part arall. Wetin, fysa y rhai odd mas yn dechra "pwnc" trw dwll y clo, a'r rhai odd miwn yn "pwnco" yn u herbyn nhw.

(MODERN SPELLING) Yr oedd cwmni yn mynd â'r "Feri" rownd (o gwmpas) trwy'r dref neu'r pentref, a chyn y buaswn nhw yn actio yr oedd un part (rhan) o'r cwmni yn mynd i mewn i'r ty, a chau'r drws yn erbyn part (rhan) arall. Wedyn, fe fuasai y rhai a oedd i maes yn dechrau "pwnc" trwy dwll y clo, a'r rhai a oedd o fewn yn "pwnco" yn eu herbyn nhw.


(OUR TRANSLATION) A group of people ('a company') took the "Feri" around through the town or village, and before they acted, part of the group would go into the house and close the door on the other people ('part'). Then the people outside would begin to sing a verse ('start a "pwnc"') through the keyhole, and the people inside would answer them with another verse ('pwnco', i.e. 'singing a verse against them')



_________________

(ORIGINAL SPELLING, SLIGHTLY AMENDED) Odd amball un yn lled ddoniol wrth y gwaith, a os bysa rhwun clyfar tu fiwn, odd a'n catw y "Fari" mas nes odd y bois jest a sythu. Rhwpath fel hyn odd y pwnco,"-

(MODERN SPELLING) Yr oedd ambell un yn lled ddoniol wrth y gwaith, ac os buasai rhwyun clyfer tu fewn, yr oedd ef yn cadw'r "Fari" i maes nes yr oedd y bois jest â (bron â) sythu. Rhywbeth fel hyn a oedd y pwnco,"-


(OUR TRANSLATION) Occasionally there was someone ('there was an occasional one') who was quite amusing in doing this ('during the work'), and if there was someone adroit inside, he kept the 'Fari' outside until the boys were frozen stiff ('on the point of stiffening'). The verse singing ("pwnco") was something like the following ('like this')



_________________

(ORIGINAL SPELLING, SLIGHTLY AMENDED) Tufas,-
"Agorwch y drysa,
Gadewch i ni wara,
Mae'n ôr yn yr eira
Y Gwila."

(MODERN SPELLING) Tu faes,-
"Agorwch y drysau,
Gadewch i ni chwarae,
Mae'n oer yn yr eira
Y Gwyliau."


(OUR TRANSLATION) Outside:
"Open the doors,
Let us play,
It's cold in the snow.
Christmastime



_________________

(ORIGINAL SPELLING, SLIGHTLY AMENDED) Tufewn,-
"Cer odd na'r hen fwnci,
Ma d'anadl di'n drewi,
A phaid a baldorddi,
Y Gwyliau."

(MODERN SPELLING) Tu fewn,-
"Cer oddi yna yr hen fwnci,
Mae d'anadl di yn drewi,
A phaid â baldorddi,
Y Gwyliau."


(OUR TRANSLATION) Inside:
"Get lost ('go away from there') you old monkey
Your breath stinks
And stop prattling.
Christmastime."



_________________

(ORIGINAL SPELLING, SLIGHTLY AMENDED) Tufas,-
"Ma'r gasag o'r perta,
Gadewch i ni wara,
Mae 'phen yn llawn cnota
Y Gwila."

(MODERN SPELLING) Tu faes,-
"Mae'r gaseg o'r pertaf,
Gadewch i ni chwarae,
Mae ei phen yn llawn cnotau
Y
Gwyliau."


(OUR TRANSLATION) Outside:
"The mare is very pretty ('of the prettiest'),
Let us play,
Her hair is full of knots (i.e. ?decorated with knotted ribbons)
Christmastime."



_________________

(ORIGINAL SPELLING, SLIGHTLY AMENDED) Tufewn,-
"Yn lle bo chi'n sythu,
Wel, ledwch y "Feri",
I fiwn i'n difyrru'r
Nos heno."

(MODERN SPELLING) Tu fewn,-
"Yn lle eich bod chi yn sythu,
Wel, ledwch (arweiniwch) y "Feri",
I mewn i'n difyrru'r
Nos heno."


(OUR TRANSLATION) Inside
Instead of freezing,
Well, lead the "Feri",
Inside to entertain us
Tonight."



_________________

(ORIGINAL SPELLING, SLIGHTLY AMENDED) Wetin fe fysan yn martsho miwn dan ganu rhw hen lol fel hyn, -
"Ti dy lodl lidl,
Tym tidl odl idl,
Tym, tym, tym."

(MODERN SPELLING) Wedyn fe fuasan yn martsho i mewn dan ganu rhyw hen lol fel hyn, -
"Ti dy lodl lidl,
Tym tidl odl idl,
Tym, tym, tym."


(OUR TRANSLATION) Then they'd march in singing some old nonsense like this: -
"Ti dy lodl lidl,
Tym tidl odl idl,
Tym, tym, tym



_________________

(ORIGINAL SPELLING, SLIGHTLY AMENDED) Os bydda merch ifanc yno rhwla, odd y "Feri" yn starto mwn wincad, a'i phen yn acor, a'r ferch yn screchan, fel gall merched screchan, yn uwch na hwtar Dowlash.

(MODERN SPELLING) Os byddai merch ifanc yno rhywle, yr oedd y "Feri" yn starto (cychwyn) mewn winciad, a'i phen yn agor, a'r ferch yn screchan, fel gall merched screchan, yn uwch na hwter Dowlais.


(OUR TRANSLATION) If there was a young girl somewhere, the "Feri" started off at once ('in a wink'), and its mouth opened, and the girl screamed, as girls can scream, louder than the hooter in Dowlais



_________________

(ORIGINAL SPELLING, SLIGHTLY AMENDED) Ar ôl perfformio felni am spel, o nhw yn doti cap ne het yn ngheg y "Feri" i fyn'd rownd i gasglu at yr achos, ac o nhw yn llwyddo i neid coin piwr cyn cwpla'r "Gwila".

(MODERN SPELLING) Ar ol perfformio fel hynny am spel, yr oedden nhw yn dodi cap neu het yng ngheg y "Feri" i fynd rownd i gasglu at yr achos, ac yr oedden nhw yn llwyddo i wneud coin piwr cyn cwpla'r (cwblhau'r) "Gwyliau".


(OUR TRANSLATION) After performing like this for a bit, they put a cap or hat in the Feri's mouth to go round to collect for the cause, and they were able to make a pretty penny ('pure coin') before Christmas ended

 


_________________

(ORIGINAL SPELLING, SLIGHTLY AMENDED) Dyna fi wedi rhoi cownt lled acos i chi shwd odd y "Feri Lwyd" yn cario mlan; ond ma addysg a goleuni wedi'i hala hi mas o'r wlad erbyn hyn, ac anaml y ma sôn am deni, a dyw hyny ddim colled yn y byd am wn i.

(MODERN SPELLING) Dyna fi wedi rhoi cownt lled agos i chi sut yr oedd y "Feri Lwyd" yn cario ymláen; ond mae addysg a goleuni wedi ei hala hi (ei hanfon hi) i maes o'r wlad erbyn hyn, ac anaml y mae sôn amdani, ac nid yw hynny ddim colled yn y byd am a wn i.


(OUR TRANSLATION) I've given you a fairly accurate account of how the "Feri Lwyd" was carried out; but education and enlightenment have put an end to it ('have sent it out of the country') by now, and it is rarely mentioned / seen, and it's no loss at all ('no loss in the world') as far as I know



_________________

(ORIGINAL SPELLING, SLIGHTLY AMENDED) I ni yn lico cofio am hen bethach er hyny, a dyna rheswm mod i wedi gweid cymant am yr hen arferiad hyn, a w i yn cretu bydd llawar o hen ddarllenwrs y Darian yn mynd nôl o ran u meddwl at yr hen amser gynt wrth gofio am rw Nadolig y gnetho nhw, fel gnaiff llawar y Nadolig hyn, sef mynd i "glwb y rhacs."

(MODERN SPELLING) Yr yn ni yn leicio cofio am hen bethach (bethau) er hynny, a dyna'r rheswm fy mod i wedi dweud cymaint am yr hen arferiad hwn, ac yr wyf fi yn credu y bydd llawer o hen ddarllenwyr y Darian yn mynd yn ôl o ran eu meddwl at yr hen amser gynt wrth gofio am ryw Nadolig y gwneuthont nhw, fel gwnaiff llawer y Nadolig hwn, sef mynd i "glwb y rhacs."


(OUR TRANSLATION) However we like to remember old things, and that's why I've said so much about this old practice, and I think lots of old readers of the Darian (Tarian y Gweithiwr) will go back in their mind to the old days remembering some Christmas they went, as many are going this Christmas, to 'the club of rags' ('clwb y rhacs' usually refers to destitution after marriage from having to meet the new expenses which marriage involves)



_________________

(ORIGINAL SPELLING, SLIGHTLY AMENDED) A fe wetan yr atnod hyn ar yn ol i :-
"Dyw amsar ddim yn aros,
Ond wrth ei waith o hyd."

(MODERN SPELLING) Ac fe ddywedan yr adnod hyn ar f'ol i :-
"Nid yw amsar ddim yn aros,
Ond wrth ei waith o hyd."


(OUR TRANSLATION) And they will say this verse after me :-
"Time never stays still ('stops'),
It's busy ('at its work') always."
 
 

DIWEDD / END
 
 


DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN / LINKS TO THE REST OF THE WEBSITE

1004e

Y Wenhwyseg

The Gwentian dialect
 
····
1796k
Yr iaith Gymraeg

The Welsh Language
·····
2210k
Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan; o’r tudalen hwn gellir hefyd
chwilio’r gwefan hwn â’r archwiliwr mewnol

Index of contents of the website
·····
1051e
Testunau Cymraeg â throsiad Saesneg yn y gwefan hwn

Welsh texts with English translations
 

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 


Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats