http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_035_twyll_dyn_1_2175k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Twyll Dyn

Eirwyn Pontshân, 1982

 

Adolygiadau diweddaraf:
2005-09-02

 

  0305kc en català

 

Twÿll Dÿn ,o Gwÿmp Adda tan yr Ugeinfed Ganrif' (1982)

 

Darnau o’r llyfr gan dapiau a wnaethpwyd gan Lÿn Ebenezer o’r digrifiwr Eirwÿn Pontshân (m. Chwefror 1994).

Hawlfraint 'Y Lolfa', Tal-y-bont, Ceredigion (rhoddwyd yma â chaniatâd Rhobat Gruffydd)

 

(1) Seicoleg

Rw i'n hoffi mÿnd nôl weithe ar hÿd hen lwÿbre hanes. Olrhain hanes Cymru, ontefe. Hyfrÿd iawn. Ond dewch nôl 'da fi nawr ymhellach bÿth, i Wlad Groeg, brasgamu nôl drw'r canrifodd, fel petái, at ddyddie'r meddylwÿr mowr ymron beder canrif cÿn Crist. Un dÿdd dyma ryw sbrigÿn o fyfyriwr yn mentro gweud wrth Socrates, yn ddigon haerllug i weud wrth athronÿdd mwÿa'r bÿd,

"Socrates", mynte fe, "dwÿt ti'n deall dim."

Diawl, 'na i chi foi dig'wilÿdd, 'na i chi foi powld. Ond aath Socrates ddim yn grac o gwbwl. Gollodd e mo'i dymer

"Wÿt ti'n iawn", mynte Socrates, "wÿt ti'n berffeth iawn. Dydw i na ti yn deall dim. Ond y gwahanieth mowr rhyngddon-ni ÿw hÿn - rw i'n gwbod hynnÿ a tithe ddim."

Dyna i chi ddÿn odd yn deall pethe. Dyna i chi ddÿn yn defnyddio seicoleg. A ma seicoleg yn beth mowr. Roodd Socrates yn deall, yn 'i adnabod 'i hunan ac yn gwbod am ei wendide, chweld. Mae'n ôlreit i chi dwÿllo rhÿwun arall. Ond pan dwÿllwch chi'ch hunan, mae'n ddobinô arnoch chi. Rw i'n cofio câl gwahoddiad i gymrÿd rhan mewn cyngerdd, a'r cyngerdd hwnnw'n caal 'i gynnal mewn capel. Roodd lot fowr wedi dod at 'i gilÿdd 'na a'r rhan fwÿa 'nÿn-nhw wedi dod gan obeithio 'ngweld i'n mÿnd dros ben llestri, yn gneud ffwl o'n hunan.

Ond cÿn mÿnd mlaan i'r sêt fowr i annerch dyma rÿw hen foi yn 'y ngalw i i'r naill ochor ac yn rhoi cyngor i fi.

"Eirwÿn," mynte fe, "cofia hÿn. Nid yr hÿn wÿt ti'n 'i weud sÿ'n bwÿsig, ond yr hÿn wÿt ti'n peidio'i weud."

'Na i chi gyngor mowr, ontefe, a dw i'n ceisio cofio hynna bob amser. Ac yn amal pan fydda i'n cnoi cil ar fywÿd, yn meddwl am y peth hÿn a'r peth arall, ma eiliad yn dod pan bo chi'n dod yn ymwÿbodol o'ch hunan. A 'na i chi ddiflastod wedÿn. Yr hen ymwÿbyddiaeth 'ma. Pan ddaw honno, ma hi wedi bennu arnoch chi.

 

(I'w orffen / Per acabar)

 

 

 

DOLENNAU / ENLLAÇOS

http://westwales.co.uk/fflach/spoken.htm

Eirwyn

Caset o'r diweddar Eirwyn Pontshan a recordiwyd yn Nhafarn Ffostrasol 1997. Athrylith o storiwr a digrifwr.  .

 

 


Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats