1243k Ble Mà Fa – drama fer yn nhafodiaith De-ddwÿrain Cymru gan T. D. Davies (1913)

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_030_ble_ma_fa_01_1243k.htm

0001 Y Tudalen Blaen Google: kimkat0001

..........2657k Y Porth Cymraeg Google: kimkat2657k

....................0009k Y Barthlen  Google: kimkat0009k

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) Google: kimkat096k

..........................................y tudalen hwn


..

 

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les

 
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Ble Mà Fa?

T. D. Davies (1913)

 

Adolygiad diweddaraf: 2009-12-02

(delwedd 6519)

Y llyfr ymwelwyr: 0860k, Google kimkat0860k

 

 

 


(x7)
BLE MÀ FA?

DRAMA MEWN UN ACT
Yn Nhafodiaith Cwm Rhondda

Gan D. T DAVIES
Ail Argaffiad

ABERYSTWYTH:
ARGRAFFWYD GAN W. JONES, GWASG Y DDRAIG GOCH.
MCMXIV.

Pris 6d.
Y Ddrama hon a ennilodd Wobr Mr. Penry Vaughan Thomas yn Eisteddfod Prifysgol Cymru, Aberystwÿth, 1913.


(x2)
Codir pum swllt y tro am gennad i chware’r ddrama hon.


Ymofynner â
Dr. T. C. JAMES,
Coleg y Brifysgol,
Aberystwyth.

(x3)
CYMERIADAU.
Marged - Gweddw y glowr marw.
Lisa - Ei chymydoges.
Shân Lloyd - Cymydoges arall.
Simon Morris - Blaenor yng nghapel
Salem.
Parch. Daniel Roberts - Gweinidog newydd
Salem.

Amser: Diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Chwareuir y ddrama yn rhwydd mewn haner awr.

(x4)
NODIAD.

Fe wêl y cyfarwydd nad ydyw yr awdwr wedi amcanu at fwy na sillebu geiriau y dafodiaith mor seinyddiaethol ag oedd yn ddichonadwy. Y canlyniad fu i air fel wilia golli pob cyffelybrwydd i’w ffurf wreiddiol, chwedleua; ond gan mai wil-ia (gair deusill) y dywed pobl Cwm Rhondda, nid oedd dim i’w wneuthur ond ei sillebu fel uchod.

Hwyrach y dylid hysbysu’r anghyfarwydd y defnyddir disgwyl yn lle edrych ac erfyn yn lle disgwyl yn y dafodiaith hon, fel y gwneir yn y mwyafrif o barthau Gwent a Morgannwg.

Seinir à yn y geiriau dà, bàch, Shàn, &c., fel a yn y gair Seisnig fare.


(x5) BLE MÀ FA?

Y mae trefniant y chwareufa ychydig yn eithriadol, canys dychmygir fod y gwrandawyr yn edrych drwy bared y Pentan, ac nid drwy un o’r parwydydd ereill yn ol yr arferiad cyffredin. Felly cefna’r pentan ar y gwrandawyr. Awgrymir lle-tân gan aelwyd-gylch ac offer tân, ynghyd â
stand bras neu haiarn ym dal têbot, a theflir gwawl felingoch i wyneb y rhai eisteddant ar yr aelwyd gan oleuadau tu fewn i’r aelwyd-gylch.

Digwydd yr amgylchiad yn nhŷ y glowr marw, mewn cegin ag ynddi ddodrefn yn cyfateb i sefyllfa gweithiwr cyffredin: bwrdd yng nghanol y parth ac ychydig lestri arno, amryw gadeiriau cegin yma a thraw, nifer o ddarliniau ac almanac siop ar y muriau, eithr yn bennaf, llun geneth oddeutu deg oed ar y pared gyferbyn a’r pentan. Awgrymir presenoldeb plant yn y teulu gan degan neu ddau, a rhes o egidiau o dan fainc yn agos i’r ffenestr ar y chwith. Saif tri drws ar y chwareufa: ‘drws-y-ffrynt’ ar y chwith, ‘drws-y-cefan’ ar y ddê, a ‘drws-y-parlwr’ yn y trydydd pared. Nid ymhell oddiwrth yr olaf gwelir godrau grisiau.

(x6) A hi yn hwyrhau, amlunir yng ngoleu’r tân ffurf Marged, dynes tua phymtheg-ar-ugain oed, yn eistedd mewn cadair freichiau ar yr aelwyd. Ymwisg yn syml a gweddus: ffedog brint dywell o’i blaen a shôl fechan wlanen ar ei gwar. Brith ei gwallt, a llwyd ddigon ei gwyneb ar y goreu, gwelwa yn awr gan alar a dirdyniadau ing meddyliol. Syll yn llygad-dyst i’r tân gan blethu ei bysedd yn ei ffedog. Ymhen tipyn clywir swn traed un yn disgyn y grisiau, ac ymddengys Lisa, dynes ychydig yn iau na Marged.

LISA. Wy wedi doti nhw i gyd yn y gwely, Marcat. Mà’n ddrwg gen-i mod-i wedi bod c’yd, ond ôdd ’run bàch yn hir iawn cyn mynd i gysgu. (Nid yw Marged yn symud.) Marcat, beth ŷch-chi’n mo’yn ishta man hyn wrth ych
hunan, a’ch pen yn y tàn? ’Dŷch-chi damad gwell o fecso felna, fysa’n llawar gwell i-chi drio gnithir rwpath.
(Gwna Lisa swn wrth drafod llestri.)

MARGED (yn troi yn sydyn). Lisa, chlywas-i ddim o-chi’n dod lawr. (Try etto i fyfyrio fel o’r blaen, gan syllu tua’r pentan.) Lisa, ble’r ŷch-chi....... ble’r ŷch-chi’n meddwl mà-fa nawr ?

LISA. Ble ma pwy?

MARGED. Gitto.

LISA (yn nesu atti ac yn penlinio o’i blaen). Nawr, Marcat, ddylsa-chi ddim wilia feina. .(Marged
(x7) yn troi ac yn edrych i’w gwyneb.) ’R arswd anwl, beth sy’n bod ferch, pam ŷch-chi’n dishgwl arno-i felna ? Meddylwch am y rai bàch sy gita-chi.

MARGED. Ma ofan arno-chi i wêd beth ŷch-chi’n meddwl, Lisa ........ Ble mà-fa ?

LISA (yn tynu ei llaw yn dyner dros wyneb Marged ac yn troi ei gwallt yn ol). Marged fàch, beth sy’n bod ? Ŷch-chi’n gwmmws fel tsa-chi’n dechra drysu. ’Dŷch-chi ddim yn cofio, ferch, fe geson Gitto a Dick Parry o dan y cwmp yn pwll Mynydd Du, ôdd Gitto wedi ladd a ’dŷn-nhw ddim yn erfyn i Dick Parry i fyw, wath ’dyw-a ddim wedi dod atto-fe’i ’unan ’to. Dewch nawr, triwch gofio.

MARGED. Wy’n cofio’r cwpwl yn itha dà . . . . . . . . Ble mà-fa ?

LISA (yn frawychus). Y Tàd Trugarog! ond yw-a miwn manna (gan gyfeirio at ddrws y parlwr) yn gorph marw yn i goffin !

Ergyd ar y drws ffrynt o’r tu allan, a chyn i neb gael amser i symud agorir y drws ac ymddengys Shân Lloyd, a basged ar ei braich. Hen wraig yw Shân, o brofiad cysurlawn, er garwed troion ei gyrfa. Ymwisg dipyn yn annhaclus: cap ‘gwr ne wàs’ ar ei phen a shôl fagu dros ei hysgwyddau yn cyrhaedd bron i’r llawr. Cerdd yn lledchwith ar bwys ei ffon, gan duchan o herwydd anrhaith y gymmalwst.

(x8)
SHÂN. Hello! Ôs neb miwn ma?...... eh? (Y gwragedd yn codi, a Shân yn nesu attynt.) Beth ar wyneb y ddaear ŷch-chi’ch dwy yn nithir yn y twllwch fel hyn? (Yn dynesu at Marged.) Marcat, y nghrotan anwl i, fyswn-i wedi galw cyn hyn onibai am yr hen gymala ’ma. ’Dôs dim isha i-fi wêd fod calon Shàn Lloyd gita-ti yn dy drwpwl.

MARGED. (yn cymeryd ei basged oddiwrthi ac yn ei gosod ar yr bwrdd). Nà, Shàn, wy’n gwpod ’na. Ishteddwch i lawr.

SHÂN. (yn eistedd yn drafferthus). O’r bendigetig! Mà’r ên gôs dde ’ma’n ofnatw gen-i heno ’to!
Ŷn-ni’n siwr o gàl glaw cyn y bora! (Prysura Lisa i gynneu y lamp.) Ti Lisa sy ’na! Ôn-ni’n meddwl ma merch Edwart Jones ôt-ti. ’Rôt-ti’n od o depyg iddi yn y twllwch. Shwt ma dy fam?

LISA. Fel gwelsoch-chi ddi-achwn o hyd gita’r bronchitis ’na.

SHÂN. Ia, ia; mà hi fel finna wel-di, a chetyn o waith reparo arni. (Y lamp yn goleuo.) Dyna shawns i fi weld rwpath nawr! Wel, Marcat, wyt-ti wedi càl y cnoc casa y gall menyw gàl, colli gwr dà a thàd tyner yn i flota. Mà’n ddà gen-i weld dy fod-ti’n dala cystlad; ond mà cetyn o stamp i fod yndo ti, o ochor dy fam ta pun. Glwsoch-chi rwpath am Dick Parry heno?

LISA. Nàddo, ôdd-a ddim wedi dod atto-fe’i ’unan y bora ’ma.

(x9)
SHÂN. Poor fellow bach! Llond tŷ o blant man ’na ’efyd wel-di.
Cera lan a gofyn shwt mà-fa’n dod ymlàn.

LISA.
Wy’n cretu ’ràf fi, Marcat. Fydda-i ddim yn hir. (Yn taflu shôl dros ei phen.)

MARGED. Ia, ia, cerwch chi. (Lisa yn mynd.)

SHÂN. Plant yn y gwely, spô?

MARGED. Newydd ’u doti nhw ôdd Lisa pan ddithoch-chi miwn.

SHÂN. Wel miwn un ffordd, mà’n fendith ta crots sy gen’t-ti. Beth yw oetran Billy nawr, fe fydd yn ddicon hên i ddechra gwitho cyn hir ?

MARGED. Petar-ar-ddeg mish nesa. Wn-i ddim beth i nithir; mà-fa wedi ennill scholarship i fynd i’r Intermediate, a onibai fod hyn wedi dicwdd ........ (yn methu myned ymlaen.)

SHÂN. Dyna, dyna, merch-i, felna ôdd hi i fod. Fe all crots nithir llawar yn yr ysgol nos nawr, ’nenwetig crotyn sharp fel Billy chi. Dishgwl ar Tom Morgan: dechra yn lamp-room pwll Gorslas, a nawr proffeswr yn y College.

MARGED. Ôdd Gitto wastod yn gwêd na chelsa Billy byth fynd tan ddaear. Fe fysa’n gwitho ddydd a nos i roi ysgol iddo-fa.

SHÂN. Bysa, feginta. Ond nid felna ôdd-hi i fod, ’li- di. (Distawrwydd am beth amser.)

(x10)
MARGED. Shàn.

SHÂN.
Ia.

MARGED. T’swm-i’n gofyn cwestiwn i-chi, roisach-chi attab straight i-fi?

SHÂN. Fe nelswn y ngora.

MARGED. Ble’r ŷch-chi’n meddwl mà-fa nawr?

SHÂN. Pwy?

MARGED. Gitto.

SHÂN. Wei, ys clwas-i shwt gownt ariod! Beth wyt-ti’n gisho wêd, ferch ? (Marged yn troi ac yn edrych i fiw ei llygaid.) Dyna beth sy gen’

MARGED (yn dawel). Ble mà-fa?

SHÂN. Wyt ti’n aelod, Marcat, wyt ti’n cretu?

MARGED. Ôdd e ddim yn aelod, ôdd e ddim yn cretu.

SHÂN. Nàgodd; ond wyt ti’n cretu.

MARGED. Otw, wvy’n cretu.

SHÂN. Wyt-ti ddim yn am’a d’unan!

MARGED. Nàgw, wy yn cretu.

SHÂN. Wel, ma Gitto wedi’n gatal-ni, wedi mynd i fyd arall, wyddon-ni ddim ble -wyt-ti’n cretu i fod-a’n càl whara teg ?

MARGED. Oti, mà’n càl whara teg.

SHÂN. Wyt-ti’n meddwl y bysa-fa’n gofyn am racor na ’na ?

(x11)
MARGED. Mà ofan arnoch-chi i attab yn straight. ’Dŷch-chi ddim yn lico gwêd beth ŷch-chi’n feddwl.

SHÂN. Nàgos, ôs dim ofan arno-i. Fe wêta gymant a hyn yn awr: os yw Gitto wedi mynd i.....

MARGED (yn gyffrous a chyflym). Ond ’dyw-a ddim!!

 

SHÂN. ’Dwy-i ddim yn gwêd i fod-a, ond os yw-a, fe wn-i beth mà-fa’n nithir. Mà-fa’n helpu rwyn gwanach na fe’i ’unan, mh-fa’n trio cysuro y rhai sy miwn trueni.

MARGED. Ôdd-a wastod yn nithir ’na pan ôdd-a byw.

SHÂN. Mà-fa’n ’i nithir-a nawr. Cofia di, nid jobbin bàch fydd nithir i ddyn fel Gitto i ddiodda, wath fydd-a’n sylwi dim ar i ddioddefant e’i ’unan, os bydd y cannodd a’r milodd bob ochor iddo-fa yn ’u poena. Ond dyna, beth ŷn-ni’n well o glepran! Fe ’lli-di fentro dy ben fod Gitto’n all right. (Yn agor ei basged.) Ma gen-i gwpwl o betha man hyn all fod yn useful i-ti. Dyma damad o grêpe, (yn ei estyn i Marged) wedi bod yn y cysandrôs am dros bymthag mlynnadd, oddiar pan claddas-i John. Mà- na ddicon i winio ar lewisha’r crots bàch, a fe fydd na bishin dros ben i titha wetyn. A dyma fwnchin o flôta o’r ardd. Ôdd Gitto’n troi miwn yn amal i weld ym mlôta-i (yn ei gosod ar y bwrdd.) Fe fyddan yn dishgwl yn ffresh bothtu’r rŵm. A wyt-ti’n siwr o gàl sopyn o ddynon ’ma dwarnod yr anglodd; a ôn-i’n meddwl - wyt-ti’n fy napod-i yn rhy dda i ddicio am y mod-i’n cinnyg 
(x12) rhain i-ti-(yn tynu allan ddau blated o deisen) - ond fydd dim isha i-ti nithir dim d’unan nawr.

MARGED. Diolch yn fawr, Shàn, w’th gwrs fe’u cymera-i nhw odd’wthoch chi.

SHÂN (yn clustfeinio ac yn myned i’r ffenestr). ’Dyw-hi ddim yn dechra piccach glaw, oti-ddi? .... eh! Hello, dyma Simon Morris y blaenor. Mà’n well i fi i gwà’n hi. Am wn i nàg yw Simon yn ddyn duwiol, ond rywshap ne gilydd, ’dôs gen-i ginnyg i’r dyn! Fe àf-fi màs trw’r cefan. Noswath ddà nawr.

MARGED (yn ei hebrwng i’r drws). Noswath ddà, Shàn, a diolch yn fawr i-chi. SHAAR. O, ’dôs dim isha i-ti, merch-i, ’dôs dim isha i-ti! (Yn mynd.) (Dau ergyd trwm ar y drws ffrynt o’r tu allan. A Marged yn ol i’w chadair, a gwelir ei bod yn parotoi ei hun gorph ac enaid ar gyfer rhyw orchwyl anhyfryd. Dau ergyd trwm etto ar y drws.)

MARGED (heb symud o’i chadair). Dewch miwn. (Ymddengys Simon Moriis, gwr dros drigain oed, o asgwrn cefn cadarn, eithr anystwyth, yn dymhorol ac ysprydol. Gwyneb tarawiadol yn dynodi cadernid a gerwindeb, ac heb awgrym o’r ddynoliaeth lwydda, yn rhy anfynych, i ymwthio o eigion ei
(x13) enaid drwy grofen wydn ei athroniaeth. Gwr cul a chaled, i bob ymddangosiad, yn eithafol o gydwybodol, chwedl yntau, ’yn ol y gola sy gen i.’ Er hyny, yn gynnyrch ei oes a’i amgylchoedd, a hwyrach yn un o gerryg sylfaen teml Cymru Fydd. Ymwisg yn hên ffasiwn: cot-a-chwt a darn o neisiad goch yn y golwg tu-cefn - ac yn y blaen, Gwna bobpeth yn araf a phwyllog.)

SIMON (yn nesu at yr aelwyd). Shwt ŷch-chi ’ma heno, Marcat?

MARGED. Shwt ŷch-chi, Simon? Ishteddwch i lawr.

SIMON. Nà, ishtedda-i ddim, diolch i-chi. Wy wedi galw i gà1 gwpod pryd bydd-hi’n gyfleus i-chi gynnal cwrdd gweddi ’ma nos yfory, er mwyn i-fi gàl cy’oeddi yn y seiat heno.

MARGED. Fydd ’ma ddim un cwrdd gweddi nos yfory.

SIMON. Ble bydd-a ta?

MARGED. Ddim yn unman.

SIMON. Ddim yn unman! ’Dŷch-chi ddim yn mynd i gatw cwrdd gweddi!

MARGED. Ishteddwch i lawr am funad, Simon.

SIMON (yn cymeryd cadair yn bwyllog). ’Dŷch- chi ddim yn mynd i gatw cwrdd gweddi!!

MARGED. Tsa-ni’n catw cwrdd gweddi, a tsa chi’n cymeryd ran, beth wetsach-chi yn ych gweddi, Simon?

(x14)
SIMON. Alla-i ddim gwêd shwt bysa’r Yspryd yn y’n arwan-i.

MARGED. Fe fysach yn gweddio dros y weddw a’r amddifad?

SIMON. Byswn, feginta.

MARGED. A falla dros Gitto hefyd?

SIMON (yn ddifrifol). Ma Gitto wedi marw.

MARGED. Oti, mà-fa; a chi’n gwpod shwt buws-a byw. Allsa-chi ddim gweddio drosto fe, gallsa-chi?

SIMON (yn anghysurus). Fe fysa-ni yn catw cwrdd gweddi i ddangos yn cydymdeimlad â chi a’r plant bàch.

MARGED. Fe wn-i nawr fod cydymdeimiad yr eclws gen-i heb gàl cwrdd gweddi.

SIMON. ’Dwy-i ddim yn ych diall chi o gŵpwl, Marcat, a chitha’n aelod mor ffyddlon. Tsa chi wedi marw, a tsa Gitto ddim yn fo’lon catw cwrdd gweddi, fyswn-i ddim yn synu cymant.

MARGED. Dyna le ’rŷch-chi’n camsyniad. Thriws Gitto ariod i nithir dim yn erbyn i-fi gretu, wêtws-a air ariod yn erbyn i-fi fynd A’r plant i’r capal, a tswn i wedi marw a finta’n fyw, fysa gita-fa ddim yn erbyn i-chi gatw cwrdd gweddi, a bod-chi’n mo’yn un. Fe fysa gita-fa gymant a hyny o barch i’n ffordd i o gretu, a ma gen inna lawn cymant o barch idd-i ffordd e o gretu a byw.

SIMON. Ia, ond beth weta-nhw yn y capal?

(x15)
MARGED. Beth ŷch chi’n wêd? Dishgwlwch yn y ngwynab i, Simon Morris - ble’r ŷch-chi’n meddwl mà-fa nawr ?

SIMON. Pwy sy’n gwpod! Falla ar yr unfad awr ar ddeg o dan y cwmp-na, i fod-a wedi dod i’r gola.

MARGED. Ond beth os nà ddàth-a?

SIMON. Ŷch-chi’n galad iawn arno-i, Marcat.

 

MARGED. Mà ofan arno-chi i attab, Simon.

SIMON (yn syllu i’r tàn yn fyfyr am dipyn). Wel, o’r gora ta ! Os yw’r hyn ŷch chi a fi wedi gretu odd’ar ôn-ni’n blant (yn troi atti gan siarad yn ddifrifol iawn), os yw’r hyn ŷn ni’n glwad o’r pwlput bron bob Sabboth o’n bywyd yn wir, ’dôs na ddim ond un peth .... (yn sylweddoli y gwna cyfaddefiad o’i argyhoeddiad ei chlwyfo yn enbyd) .... na, Marcat, ’dwy i ddim am ishta mewn barn ar fatar tragwyddol unrhyw ddyn, ’dwy i ddim am wêd mod-i’n diall wyllus y Brenin Mawr.

MARGED. ’Ŷch chi ariod wedi cymeryd arno-chi i wpod i wyllus-A o’r blàn?

SIMON. Wy wedi gwêd ym meddwl yn blaen, ’nol y gola ôdd gen i, ond mà hyn yn wahanol - ’ŷch-chi ddim yn dêg. Tsa-chi’n gofyn i-fi’ch bwrw-chi â nwrn, fe fysa’n rwyddach gita-fi nithir ’ny!

MARGED. Pam? Am ych bod-chi’n gwpod y gnela’ch dwrn-chi lai o ddolur i-fi na’ch attab. Pwy sy’n barnu nawr ?

(x16)
SIMON (yn codi). ’Dych-chi ddim yn mo’yn cwrdd gweddi ta ?

MARGED. Nàgw.

SIMON. Oti-chi wedi bod yn wilia gita’r bucal new- ydd?

MARGED. Mà-fa wedi addo dod ’ma heno i’ngweld i.

SIMON. Os yw-a’n meddwl dod i’r seiat, fe ddylsa fod ’ma nawr. (Rhywun yn curo r y drws ffrynt.) Dyna fe, ’llwn feddwl, ar y gair. (Â Marged i agor y drws, ac ymddengys y bugail newydd, gweinidog ieuanc talgryf, o’r deg i’r pymtheg-ar-ugain, ei wyneb wedi ei eillio’n lân, ac o ran type nid yn an- nhebyg i Simon Morris. Bid sicr, y wyneb- pryd yn llawnach, yng n-rym ieuenctid, ond etto, yr un cadernid yn amlwg yn y prif linellau, er fod yna dynerwch yn chwareu ar hyd-ddynt na welir ym aml yng ngwyneb Simon. Ar ddechreu yr ymgom llefara yn lenyddol, neu hytrach ym bwlpudol iawn, eithr fel y daw Marged âg ef i gyffyrddiad agosach i ffeithiau bywyd, siarada’n fwy naturiol, a sylwir nad ydyw y gwahaniaeth gymaint yng nghywirdeb ei ramadeg ag yn ei ddull o lefaru.
Ymwisg fel y mwyafrif o weinidogion anghydffurfiol.)

(x17)
Y BUGAIL.
Nos dda, Mrs. Edwards. Sut yr ydych- chwi heno ?

MARGED. Gweddol, syr. Fyddwch-chi cystlad a dod miwn?

Y BUGAIL (yn dyfod i fewn ac yn gweled Simon Morris). Ah Mr. Morris, sut ’rych-chwi heno? Ydych chwi wedi bod yn trefnu ynglyn â’r cyfarfod gweddi?

SIMON. Ma ’ma wili wedi bod yn-i gylch-a.

Y BUGAIL. Saith o’r gloch nos yfory, ie? Oes yna rhyw emynau neillduol y carech-chwi i ni ganu, Mrs. Edwards ? (Saif Marged a Simon yn fud, a sylweddola’r Bugail, wrth edrych o un ir llall, fod yna rywbeth allan o le.)

SIMON. Fe fydd yn well i fi’ch gatal-chi i wilia gita Marcat. Fe wêtiff hi wrtho-chi ’rhyn sy wedi passo rhyngto-ni. (Yn symud tua’r drws.) Fe gà-i’ch gweld chi ’to yn y seiat, Mr. Roberts. Noswath ddà, Marcat.

MARGED. Noswath ddà, Simon. (Y mae Marged wedi hebrwng Simon i’r drws. Try y Bugail at nifer o lyfrau ar astell sydd yn crogi ar y mur. Daw Marged yn ol, a saif yng nghanol yr ystafell gan edrych ar y Bugail, yr hwn sydd yn cefnu arni.)
(x18)
Y BUGAIL. Casgliad dyddorol o lyfrau, Mrs. Edwards. Yr oedd eich priod yn ddarllenwr mawr, mi dybiwn.

MARGED. Ôdd-a wastod yn darllan.

Y BUGAIL. Mae’n ddrwg genyf na chefais y fraint o gyfarfod â Mr. Edwards. Yr oeddwn yn siarad i Mr. Evans yr ysgolfeistr boreu heddyw, ac yr oedd ef yn meddwl yn uchel iawn am dano.

MARGED. Ôdd Mr. Evans a Gitto yn diccyn o bart- nars, yn hela cetyn o amsar gita’u gilydd, ac yn roi mentyg llyfra idd’u gilydd. A mod i mor ewn a gofyn, wêtws Mr. Evans rwpath neillduol am Gitto?

Y BUGAIL. Ym mha ffordd? (Y Bugail yn eis- tedd.)

MARGED. Wêtws-a rwpath o bothtu’r hyn ôdd a’n gretu? (Marged yn eistedd gyferbyn ag ef.)

Y BUGAIL. Wel do, fe ddwedodd fod Mr. Edwards yn agnostic.

MARGED. Beth yw hyny, syr?

Y BUGAIL. Agnostic? Dyn sydd ddim yn credu am ei fod yn methu deall, yn methu gweld, wyr e ddim, ac yn y blaen.

MARGED. Ia, dyna Gitto’n gwmmws. ’Rôdd e’n ffilu gweld, ’rôdd e ddim yn diall, ond wêtws-a air ariod yn erbyn y rhai sy’n cretu.

Y BUGAIL. Yn hollol felly. Ond fe ddarfu i chwi
(x19) ddanfon am danaf, Mrs. Edwards. Ai ynghylch y cyfar- fod gweddi? Beth ddywedsoch chwi wrth Mr. Morris?

MARGED. Wy wedi pendryfynu y bydd yn well i-ni bito càl cwrdd gweddi.

Y BUGAIL. Felly.

MARGED. Ôdd Gitto ddim yn cretu, a licswn-i nithir dim byd yn awr yn grôs idd-i deimlata-fa. Gobitho, syr, na fydd a’n ddim gwa’niath i chi.

Y BUGAIL. Bid siwr, os oes teimlad cryf genych ar y pwnc, wel, dyna ddiwedd arni; chynnaliwn ni ddim cyfarfod gweddi. Oedd yna rywbeth arall?

MARGED. Ôdd; ôn-i am wilia â-chi’n fwy neillduol bothtu’r anglodd.

Y BUGAIL. Ie?

MARGED. Wy am i-chi bito pregethu na gwêd dim ar lan y bedd (gyda phetrusder.)

Y BUGAIL. H’m! Mae yna dipyn o anhawsder fan yna. Fe fydd yn rhaid i mi ddweyd rhywbeth, ond bydd e, pe bae dim ond er mwyn gweddeidd-dra.

MARGED. ’Rôdd Gitto’n teimlo’n gryf iawn ar y pwnc o anglodda. Oddiar y claddson-nhw ’rhen Wil y Gof, a’th Gitto byth gam ymhellach na chlwyd y fynwant gita unryw gorph.

Y BUGAIL. Oh, sut oedd hyny?

MARGED. Dyn tynar iawn ôdd y bucal o’ch blàn chi, yn trio pleso pawb, a phan ôdd-a’n gwêd gair ar
(x20) lan y bedd, fe ddotws yr ymadawetig, ys gwêtws-a, yn y nefodd, a - ond dyna, ôch chi ddim yn napod Wil y Gof - wel, ôdd pawb yn y Cwm yn gwpod gwell.

Y BUGAIL. ’Rwy’n credu y medrwn i ddweyd gair heb beri teimlad i neb un ffordd na’r llall.

MARGED. Beth pe bysa-ni ddim ond canu emyn, a wetyn fe allsa chi wêd gair yn ofalus ar weddi.

Y BUGAIL. Fedra-i ddim cydweld A chi yn hyn, Mrs. Edwards. A gosod pethau crefyddol am foment o’r neilldu, tybed nad oes yna rinweddau eraill y dylaswn i s6n am danynt ?

MARGED. Ôs; fe allsach wêd nag ôdd ’na ddim gwell gwr na thàd yn y byd.

Y BUGAIL. Dyna ddechre go dda.

 

MARGED. A tsa-chi’n gofyn i fanigar pwll Mynydd Du, fe wetsa fe wrtho-chi nag ôdd ’na ddim dyn yn y Cwm ’nelsa well dwarnod o waith na Gitto.

Y BUGAIL. ’Roedd e’n hoff o lyfre hefyd.

MARGED. Nid dim ond llyfra, ond atar, côd, blôta, y mynydd, y môr, a’r ser. Tsa-chi’n i glwad a’n wilia am betha felna, ôdd-a’n ddicon i’ch hela chi i feddwl amball waith i fod-a yn cretu wedi’r cŵpwl, yn-i ffordd e’i ’unan.

Y BUGAIL. Fyddech chi byth yn siarad âg e am faterion crefyddol ?

MARGED. Y fi’n wilia âg el (Yn ysgwyd ei phen.) Ôdd Gitto’n ormod o scholar i fl. Chi’n gweld, syr, fel hyn ôdd-hi: ’rwy i’n cretu, wy’n siwr mod i’n cretu, ond
(x21) wn-i ddim yn gwmmws beth na pham. Ôdd Gitto ddim yn cretu, a fe allsa fe wêd pam.

Y BUGAIL. H’m. Fydde-fe’n arfer dod i’r capel gyda chi?

MARGED. Ôdd pum mlynnadd odd’ar pan ddàth-a ddwetha, y dydd Sul ar ol i-ni gladdu Bronwen (gan gyfeirio at lun yr eneth ar y pared). Hi ôdd yr hena, a’r unig ferch geso-ni. Fe fuws farw yn i freicha fa, acha nos Fawrth, a fe wêtws betha ryfadd wrtho-fa cyn mynd.

Y BUGAIL. Ynglyn â’i gredo?

MARGED. Ia, miwn ffordd o wilia. Trw’r wthnos wetyn ôn-i’n gweld fod gira’r plentya ar i feddwl-a, a nos Sul, heb i fi wêd dim, dyma fa’n dod i’r capal gita fi a’r plant. A dyna lle’r ôn-ni, y-fi’n ishta un pen i’r sêt, finta’r pen arall, a’r crots bàch rhyngto-ni. Ar ddiwadd yr otfa, fe ddàth Simon Morris ymlàn i shiglo llaw â Gitto - cofiwch chi, wy’n cretti fod Simon yn falch iawn i weld Gitto’n dod i’r capal, wy’n siwr i fod-a’n onast pan y gwêtws-a beth nàth-a, ond ma’r nefodd yn dyst, nàth-a ddim yn right!

Y BUGAIL. Beth ddwedodd Mr. Morris?

MARGED. ’Wy’n gobitho,’mynta-fa wrth Gitto, ’ych bod-chi’n gweldllaw yr Hollalluog yn ych arwan-chi i’r gola wrth fynd i’r ferch fàch.’
(Cyfyd y Bugail ar ei draed a chymer gam neu ddau ar yr aelwyd.)

(x22)
Y BUGAIL (ymhen tipyn). le.

MARGED. Wêtws Gitto ddim wrtho-fa, ond y noswath wetyn fe ddàth ’nol o’r gwaith yn feddw mawr, er nag ôdd-a byth yn arfadd cwrdd â diferyn, a dyna’r tro cynta ariod i fi glwad a’n tyngu a rhecu. (Yspaid o ddistawrwydd.) ...... Mr. Roberts, ble’r ŷch-chi’n meddwl mà-fa nawr?

Y BUGAIL. Ble mae’ch calon chi yn dweyd y mae e?

MARGED. Wn-i ddim beth i feddwl; wy’n gallu gofyn i bawb ond i-fi’n ’unan. Dim ond nos Sul dwetha ŷch-chi’ch hunan yn gwêd fod yn rhaid i bawb gretu. Ys gwêtws Simon Morris yma heno, wy wedi clwad hyna bron bob Sabboth o’m mywyd - heb ffydd, heb gretu, ’dôs dim gopath. Ond ’dyw-a ddim yn wir ynglyn â Gitto (yn egniol ac erfyniol) ŷch-chi’n wrong, chi’n rwym o fod yn wrong!

Y BUGAIL. ’Rwy’n ofni’ch bod-chi wedi cym’ryd golwg rhy drist ar yr hyn ddwedes-i.

MARGED (yn ymbil). ’Dŷch-chi ddim yn meddwl fod ’na rhyw fan lle y gall dynon fel Gitto fynd, i ymladd â hi nes bo-nhw’n dod i’r gola ?

Y BUGAIL (yn araf). Os bydd dyn wedi bod ar ei ore glân i gredu ar y ddaear ’ma, ac wedi methu, mae’n anhawdd gen i feddwl y bydd hi’n galed arno yn y byd a ddaw.

MARGED (yn syn). Ond fentrach-chi ddim gwêd ’na ar lan y bedd!

(x23)
Y BUGAIL (yn craffu arni). Pam?

MARGED. Wêtwch-chi yna yng nghlyw Simon Morris a rheina i gyd?

Y BUGAIL. Gwnaf, os bydd hyny o ryw gysur i chi.

MARGED (yn sirioli). Os gnewch chi, ’rwy’n fo’lon i-chi bregethu beth fynnwch-chi wetyn; a os yw Simon Morris yn mo’yn cwrdd gweddi ’ma nos yfory, fe all i gal a ! (Agorir y drws yn ddisymmwth, a rhuthra Lisa i fewn.)

LISA. Mà Dick Parry wedi dod atto fe’i ’unan, a mà-fa’n cofio’r cŵpwl!

Y BUGAIL. Beth mae e’n ddweyd?

LISA. Fe fwrws carrag fawr ddou bost màs o’r ochor, a fe ddàth i phwysa’i i gyd ar goesa Dick Parry. Fe nidws Gitto ar unwaith i gal a’n rhydd, a Dick yn gwiddi arno-fa i sefyll ’nol, wath ôdd y top yn siwr o ddod lawr. ‘ ’Dwy-i ddim yn mynd i dy atal di man hyn,’ mynta Gitto, a dyna le ’rodd-a’n trio a thrio symud y garrag, a ar unwaith dyma’r cwmp mawr lawr ar ’u penna-nhw .................

Y BUGAIL (yn gosod ei law ar ysgwydd Marged). Fydd yna ddim un anhawsder ynghylch pregeth ar lan y bedd. Dyna destyn braf i mi: ‘Cariad mwy na hwn nid oes gan neb, sef bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion.’

Llen.

 

 

·····

Adolygiad diweddaraf  2009-12-02, 08 11 2002

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ ə

Fformat 100 chwith, 200 de


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) äm ai? Yüu äa(r) vízïting ə peij fröm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 
  

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats