1271k Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya. MYNYDAU HAMDDENOL: AIL LYFR NATHAN WYN. Ystrad-Rhondda:
Cyhoeddedig ac ar werth gan yr Awdwr.  TREORCI A THONYPANDY: Argraffwyd gan Evans a Short, Howard Street. Blwyddyn 1905

 
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_028_nathan_wyn_1905_1_1271k.htm
Cysylltwch â ni trwy’r llyfr ymwelwyr:
YMWELFA

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
The Wales-Catalonia Website

 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Mynydau Hamddenol
Nathan Wyn (1905)

RHAN 1 - CERDDI

 



(x0.5) MYNYDAU HAMDDENOL: AIL LYFR NATHAN WYN.
Ystrad-Rhondda:
Cyhoeddedig ac ar werth gan yr Awdwr.
TREORCI A THONYPANDY:
Argraffwyd gan Evans a Short, Howard Street.
1905

 

Tudalennau wedi eu gwneud mewn teip bras:

*0001 *0002 *0003 *0004 *0005 *0006 *0007 *0008 *0009 *0010 *0011 *0012 *0013 *0014 *0015 *0016 *0017 *0018 *0019 *0020 *0021 *0022 *0023 *0024 *0025 *0026 *0027 *0028 *0029 *0030 *0031 *0032 *0033 *0034 *0035 *0036 *0037 *0038 *0039 *0040 *0041 *0042 *0043 *0044 *0045 *0046 *0047 *0048 *0049 *0050 *0051 *0052 *0053 *0054 *0055 *0056 *0057 *0058 *0059 *0060 *0061 *0062 *0063 *0064 *0065 *0066 *0067 *0068 *0069 *0070 *0071 *0072 *0073 *0074 *0075 *0076 *0077 *0078 *0079 *0080 *0081 *0082 *0083 *0084 *0085 *0086 *0087 *0088 *0089 *0090 *0091 *0092 *0093 *0094 *0095 *0096 *0097 *0098 *0099 *0101 *0102 *0103 *0104 *0105 *0106 *0107 *0108 *0109 *0110 *0111 *0112 *0113 *0114 *0115 *0116 *0117 *0118 *0119 *0120 *0121 *0122 *0123 *0124 *0125 *0126 *0127 *0128 *0129 *0130 *0131 *0132 *0133 *0134 *0135 *0136 *0137 *0138 *0139 *0140 *0141 *0142 *0143 *0144 *0145 *0146 *0147 *0148 *0149 *0150 *0151 *0152 *0153 *0154 *0155 *0156 *0157 *0158 *0159 *0160 *0161 *0162 *0163 *0164 *0165 *0166 *0167 *0168 *0169 *0170 *0171 *0172 *0173 *0174 *0175 *0176 *0177 *0178 *0179 *0180 *0181 *0182 *0183 *0184 *0185 *0186 *0187 *0188 *0189 *0190 *0191 *0192 *0193 *0194 *0195 *0196 *0197 *0198

(x-vi)
NODIAD.

Dilynwyd orgraff y Swyddfa yn y llyfr hwn, gydag ambell i eithriad, megis yn nheitl y llyfr “MYNYDAU HAMDDENOL.” Gofynwyd i ni droion a throion, paham y gosodem ddwy y yn gair “mynydau,” yn lle munydau, neu mynudau ? Ein hatebiad bob amser ydoedd, mai felly yr oeddem wedi arfer gwneyd “holl ddyddiau blynyddoedd ein heinioes.” A’n prif awdurdod dros hyny ydoedd Dr. Roger Edwards; y llenor medrus a choethedig hwnw, golygydd y Drysorfa am flynyddoedd meithion, a chyd-olygydd y Traethodydd. Gwel ei sylwadau adolygiadol yn y Drysorfa am Gorphenaf, 1864.

Ni fynem er dim yngan gair anmharchus am orgraff Rhydychen, nac unrhyw orgraff arferedig arall; eto prin y tybiwn fod amryw ymddiheuriad yn ddyledus oddi wrthym yn y cyfeiriad hwn am ddilyn llenorion o urddas a safle fel W. Owen Pughe, Ysw., LL.D.; Parchn.
Lewis Edwards, M.A., D.D.; Wm. Rees, D.D. (Hiraethog) Roger Edwards, D.D. Wm. Williams (Caledfryn), &c., &c.

YR AWDWR.

(x-vii)
EGLURHAD.

Awgrymwyd teitl y llyfr hwn, “MYNYDAU HAMDDENOL,” gan y ffaith mai ar adegau byrion a phrinion o’r fath, y cynyrchwyd ac y cymhlethwyd yn nghyd y sydiadau a gynwysir ynddo. Er hyny, bu yr awdwr ar achlysuron neillduol dan orfodaeth i gymeryd benthyg “oriau cwsg” hyd fynydau mân y boreu, i orphen aml un o’r cyfansoddiadau meithaf.

Nid ydym yn dàl ein hunain yn gyfrifol am y dewisiad o’r testynau i ganu arnynt. Y mae y rhai hyny oll yn eiddo i Bwyllgorau Eisteddfodau a Chyfarfodydd Llenyddol. Yr oedd hyny, i fesur mwy neu lai, yn anfanteisiol i ni; eto teimlwn ein bod yn dra rhwymedig i’r hen sefydliadau anwyl a gwasanaethgar hyn. Rhwng bodd ac anfodd, ar gais rhai o’n cyfeillion goreu, gollyngwyd un darn i fewn i hwn ag oedd wedi ei gyhoeddi yn ein Llyfr cyntaf, yr hwn sydd wedi ei lwyr werthu allan er ys mwy nag ugain mlynedd.

Pell ydyw cynwysiad y Gyfrol o fod càn loewed a gorphenedig ag a dymunid iddi fod. Mae rhai o’r darnau wedi eu cordeddu ddeugain mlynedd yn ol, ar gychwyniad ein gyrfa Eisteddfodol; ac ereill ar wahanol adegau o’r tymhor hwnw hyd yn awr.

Ni fynem er dim awgrymu ei bod yn ddifeius, na bod y caneuon yn cynwys unrhyw deilyngdod uchel fel barddoniaeth; ond os gallant fod o rhyw gymaint o fudd a mwynhad i’r neb a’u darllenant, bydd ein hamcan wedi ei gyrhaedd.

Yr ydym yn dra diolchgar i amrywiol gyfeillion am y cynorthwy parod a roddasant i gasglu enwau tuag at ddwyn y Llyfr drwy’r Wasg.

Yn rhwymau Cân ac Englyn,
Yr eiddoch yn bur,
YR AWDWR.
YSTRAD-RHONDDA, Chwefror, 1905.

(x-viii) CYNWYSIAD.

Beddargraff Mr. E. Morris, y Banc, Dolgellau

58

Bedd Moses

100

Carnedd Twyn Bryn Beddau

85

Castell Caerffili

127

Cerddoriaeth Anian

148

Crist yn y Pretorium

51

Coffi Tafarn Tredegar

191

Codi’n Forau

25

Doh, Me, Soh, Doh

179

“Dos, na phecha mwyach!”

10

Dr. Herber Evans

59

Dyoddefaint y Groes

175

Dydd Nadolig yn Nghwm Rhondda

144

Einion Wyn o’r Hafod Ddu

1

Estyniad yr Etholfraint

183

Gofid

163

Goleuni Trydanol

147

Glanfa Lerpwl

36

Glofa’r “Navigation,” Treharris

126

Gwraig Lot

199

Hen Wron Tirion Horeb

129

Henaint

158

Hiraeth

122

Ioan Fedyddiwr yn Ngharchar

103

Llaw Rhagluniaeth

138

Lliwiau

154

Mam

126

Meibion a Merched Cerdd

83

Môr o Gân yw Cymru ‘Gyd

152

(x-ix) Nodau’r Ty^ Anniben

157

O Fôn i Fynwy

104

Os ydwyt ti

150

Pen Pych

34

Pontbren y Gelli

165

Principal Edwards, Bala

88

Spurgeon

28

Suddiad yr Elbe

171

Tangnefedd

42

Telynegion y Blodau

5

Telynegion y Modrwyau

19

Tiriondeb.

155

Trachwant

83

“Twr Jonadab”

144

Twr Llundain

155

Tydfil Ferthyres

136

Y Barry Dock

199

Y Berllan

4

Y Bugail

159

Y Bugail

177

Y Cadfridog De Wet

184

Y Cadfridog Gordon

183

Y Cadfridog Wolseley

184

Y Chwarelwr

151

Y Cristion Cystuddiedig

27

Y Ddeilen

147

Y Ddeilen Brudd Olaf

179

Y Diacon Pur

185

Y Dyn Hunanol

161

Y Fam

42

Y Ffynon

106

(x-x) Y Galon Galed

149

Y Goedwig

191

Y Grwgnachwr

90

Y Gweledydd

77

Y Gwlithyn

85

Y Gwybedyn

196

Y Lleuad...

95

Y Masnachwr Crist’nogol

86

Y Meddwyn

180

Y Morwr yn y Dymhestl

134

Y Môr

177

“Y Mwya’i Fai Parota’i Feio”

196

Y Mynedol

166

Y Pegwn Gogleddol

101

Y Pellseinydd

174

Y Pererin Blin

175

Y Sabbath

11

Y Tafod

158

Y Wenol

122

Y Wenynen

5

Yr Albanau

66

Yr Amddifad

159

Yr Awrlais

10

Yr Eira

174

Yr Ymfudwr Cymreig

193

Yr Ymgeisydd Annibynol

52

Yr Ysglemyn

86

Yr Ysgol Sabbothol

125

Yr Ystorm

157

Ymddiried yn yr Iesu

124

Ysgol Trewilliam

181



(x1)
MYNYDAU HAMDDENOL.

EINION WYN O’R HAFOD DDU.
BUGEILGERDD.
Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902.
(Argreffir gyda chaniatad Cymdeithas yr Eisteddfod.)

Anwylyd fy nhelyn yw gwynaf fachgenyn
O Hafod Ddu’r Berwyn, hen dyddyn di ail;
Fry hwyliaf i’r aelwyd, ac holaf lle gwelwyd
Un anwyd a fagwyd yn fugail.

Ty^ cynes tô cawnog o gylchoedd gwyngalchog,
Dan ddringwydd blodeuog nid euog o’r du;
Hen dyddyn dedwyddaf y cewri cywiraf,
Ffyddlonaf ac hiraf i’w caru.

Yn benaf bu Einion o gydnerth wyr gwydnion,
Yn mythod amaethon ei gofion a gwyd;
A’i hanfod ddigwynfan yn dwr ac yn darian,
I’w gorlan yn gyfan a gafwyd.

Esgeiriog was gwerin na flysiai feluswin,
Tywysog yr eithin a brenin ei braidd,
Erlynwr i lwynog hyd drumau’n bell dremiog,
A’i glog yn oludog o wladaidd.

Nis carai seguryd, na moeth, nac esmwythyd,
A’i waith yn ddedwyddyd a gwynfyd di gêl;
Drwy anial dir unig âi’n gynar ei ganig,
Mor ddiddig a’r ewig ar awel.

Hir oedai’r ehedydd yn rhuddaur boreuddydd,
Hudlonol delynydd, dieilydd ci dôn;
Ond dinod ar dwynau ac unig glogwynau,
Mwy borau ei wenau oedd Einion.

(x2)
Rhoes anian rosynau ireiddiaf i’w ruddiau,
Fel addurn y borau ar ruddiau yr Haf;
Un oeddynt rinweddau ei fuchedd a’i fochau
O liwiau a doniau dianaf.

Fe heliodd feddyliau y grug a’r moel greigiau,
A rhedyn di-flodau y llethrau, a’r llus;
Nefolaf awelon ga’i eilwaith i’w galon,
Yn dewion o’i sawrion cysurus.

Yn adeg poenydiau digofaint Gauafau,
Tra penau’r mynyddau gan ofnau yn wyn;
Ei acen fywiocaf i’w braidd oedd bereiddiaf,
Ar uchaf grib oeraf y
Berwyn.

Pur feudwy profedig y mynydd llwm unig,
Yn grwydryn pellenig, a’i dalfrig yn der;
A’i gw^n heb amgenach, o anian ffyddlonach
A challach na bodach di bader.

Yn wyneb gogonedd anhygyrch unigedd,
Mor llwm ydyw mawredd a bonedd y byd;
A natur sy’n hwtio rhodreswr di-roeso
A fyno oreuro ei weryd.

Liw nos, y glân weision ac hwyl ar eu calon,
Ddeonglent freuddwydion, rhai gwirion di-ged;
A gwael ofergoelion yn haeru fod oerion
Ysbrydion drwy’r cloion yn clywed.

Wy^r difyr eu deifion o ddoniol ddiddanion,
Yn caru’r encilion yn union eu nôd;
Holl chwerwedd llechwrus y brochwynt brawychus
Oedd felus ar wefus yr Hafod.

Doi Nain o dan henaint a gair am hen geraint
A ga’dd gan ei rhiaint, er cymaint y cwyn;
I’r niwl yr ai ‘n welw a’i charol yn chwerw,
A’i sylw ar farw rhyw forwyn.

(x3) “Yn adeg fy nheidiau, arferid ar forau,
Priodi cariadau, ar gampau di-gêl;
Rhaid oedd i’r gwr diddan deg erlid i’w gorlan,
Ei rian, drwy duchan diochel.

 “O’r Gaerwen, ar gariad bugeilydd bu galwad,
A chododd Angharad ar doriad y dydd;
Ac yna, fel gwenol ai’r eneth wirionol
Ar ebol o faenol i fynydd.

 “Lleolwyd Llewelyn, gryf irlanc ar ferlyn,
A’r gamp iddo wed’yn oedd dilyn a dil;
O’i olwg yn hwylus ai’r hoeden ddireidus,
Ar ffroenus farch nwyfus anhafal.

 “Helbulol ebolyn! naid echrys mewn dychryn
A roes dros y dibyn i lin oedd is law;
Drwy orwyllt weryron hawdd fynodd y fanon,
I’r eigion di d’wnion o danaw.

 “Yn ol o dan heulwen o’r gorwel i’r Gaerwen,
Ni welodd y bachgen y feinwen yn fyw;
A dal mae du elyn neu ellyll annillyn,
Yn ddychryn i’r tyddyn hyd heddyw.”

Ar ddenol rudd Einion y gwelid argoelion
O gynhwrf ei galon wrth sôn am swyn serch;
I’w bryd doi’n bur wed’yn, o dyfiant di-wyfyn
Ddau ddillyn hud-rosyn o draserch.

Y lanaf Eiluned a garai’n agored,
A ffyddlon i’r addfed adduned oedd hon
A’r feinir i’w fynwes gyfriniog fu’r hanes,
Yn gynes fugeiles ei galon.

Nain ddodwyd yn ddedwydd yn nghyfres anghofrwydd,
Mewn hedd diwaradwydd yn gan-mlwydd ac un,.
A’r aelwyd lle treuliodd ei heinioes, pan hunodd,
O’i bodd a waddolodd i’w heilun.

(x4)
Bu’n aelwyd heb niwlen ddigamwedd o gymen,
A chariad ac awen yn ben yno’n bod;
Ni welwyd gan heulwen, sy’n dlysni hyd lasnen,
Liw cynen ar hufen yr Hafod.

Hen geraint fu’n gewri, diwyrog fel deri,
A’u hanes heb lwydni drygioni na gwarth;
Ni fynent am fynyd, i’r anfwyn a’r ynfyd,
Ymyryd â bywyd y buarth.

Ond deuodd du Aua’ o gorwynt ac eira,
Y Gauaf gerwina’ wnai gladdfa o’r glyn:
Ac Einion, gu enw, yn nghanol ing hwnw
Yn welw fu farw ar Ferwyn!

Dychwelwyd o chwilio yn dyner am dano,
Ac Einion er cwyno a cheisio ni chaid;
Hyd fronydd di fraenar e’ dduodd y ddaear,
Gan drydar a galar bugeiliaid.

Iach haul a ddychwelodd, rhwysg eira wasgarodd,
A’r marw ddadguddiodd pan wenodd yr hin:
‘Roedd oen, medd yr hanes, yn fwyn ar ei fynwes -
Anghynes hedd-loches ddilychwin.

Eiluned ddilynodd, a galar a’i gwelwodd,
Ei chalon a dorodd, a chefnodd o’i chur;
Di wylo daweledd y fynwent glaf anedd,
Roes fedd i’r dialedd a’r dolur.

Y BERLLAN.
Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1884.
(Argreffir gyda chaniatad Cymdeithas yr Eisteddfod.)

Cyfoethog, liwiog, chwareule Awen,
Bur oll ei nwyddau yw’r Berllan addien;
Natur yn doraeth yn trin daearen,
Fewn hon a hongiodd ofynion angen
Planigfa rhagora’i gwên, - darlun byw
I’r oesau ydyw o rasau
Eden!

(x5)
Y WENYNEN.
Eisteddfod yr Ystrad, 1885.
Ymloni yn nheml anian - yn hoenus
Wna’r Wenynen fechan;
Mwynha waith a m·yn weithian
Olud mêl y blodau mân.

TELYNEGION Y BLODAU.
(Unrhyw bum’ Blodeuyn.)
Eisteddfod yr Ystrad, 1885.

1.- LLYGAD Y DYDD.

i.
Flodeuyn tlws, Haf wystla’i fri,
Byth arnat ti a’th hanes;
Beth bychan, dêl, ai lloni’n gwedd
Ar fin y bedd yw’th neges?
Flodeuyn pêr, flodeuyn gwyllt,
Dy sathru hyllt ein mynwes.

ii
Flodeuyn gwyl, a’th lygad cun,
Heb, ynddo’r un brycheuyn
Pêr huno wnei, cau’th amrant lon,
A’th ben ar fron y flwyddyn;
Flodeuyn hoff, flodeuyn bach,
Wyt fyw ac iach bob Gwanwyn.

iii.
Y nos a’th gâr, flodeuyn Mwyn,
Mae’th lon’d o swyn i’w chymell:
(x6) Cusana’r wawr dy dyner rudd,
Ar ddrws ei chudd ystafell;
Flodeuyn hardd, flodeuyn swil,
Pwy luniodd ffril dy fantell?

iv.
Ce’st gywrain wisg o wynion ddail,
Heb un o’i hail mewn tlysni;
Dy harddaf ffyrdd, a’th arliw prid,
Gwyd wrid ar ael y lili;
Flodeuyn têg, flodeuyn gwyn,
Pob dôl a bryn goroni.

II. – Y LILI.

i.
Canfu geneth Lili ferth,
Lili dlos y drysni;
Ac wrth redeg at y berth,
Canfu fwy o swyn a gwerth
Ei naturiol dlysni;
Lili, lili, lili wen,
Lili dlos y drysni.

ii.
D’wedai’r eneth-toraf gain
Lili dlos y drysni;
D’wedai’r lili: piga’r drain,
Gochel di dy ddwylaw glain’
Tra yn boddio’th flysni;
Lili, lili, lili wen,
Lili dlos y drysni.

iii.
Cipiai’r eneth yn ei blys,
Lili dlos y drysni;
(x7) Cafodd bigad yn ei bys,
Rhedodd adref yn ei brys
Heb wel’d fawr o’i chlysni;
Lili, lili, lili wen,
Lili dlos y drysni.

III.-Y RHOSYN.

i.
Urddasol deyrn perlysiau’r ardd
Wyt ti, flodeuyn balmaidd;
Ymgryma’r gwull yn dyrfa hardd,
O’th flaen mewn ysbryd gwylaidd;
Wyt oll yn oll, heb wall na bai,
Pwy fedra lai na’th ganmol?
Rosyn coch, rosyn coch,
Mae gwrid dy foch yn swynol.

ii.
Gwyl flodau’r grug a’r eithin mân,
Edmygant liw dy hugan;
Diwniad “ yw dy fantell lân
Fel gwisg “Offeiriad Anian”;
Os nad yw’th swyn o hir barhad,
Cei feirdd pob gwlad i’th foli;
Rosyn gwyn, rosyn gwyn,
Lliw teyrn y llyn a’r camri.

iii.
Eiddigus yw y blodau cu
O’th dlysni di a’th symledd;
Pan wywa’r gwull o’th gylch yn llu,
Wyt lawn o berarogledd;
Os pigyn llym geir wrth dy fôn,
M·yn rhai wneyd son am dano;
Rosyn brith, rosyn brith,
Dan berlau gwlith yn dawnsio.

(x8)
IV.-Y FRIALLEN.

Croesawu’r dydd bob Gwanwyn gwyrdd,
A gwylio’r nos a’i swynion fyrdd,
Mor ddiflin wna’r friallen;
Cudd lechu wna dan lwyn o ddrain,
Rhag tanbaid wres yr heulwen;
Friallen wyl, friallen gain,
Friallen dlos liw’r hufen.

ii.
Daw gwrid dros ael pob blod’yn brith,
Pan genfydd bon dan goron wlith,
Wrth fôn y clawdd mor llawen;
Ceir ffurf ei gwisg, a swyn ei lliw,
Fel eiddo blodau Eden;
Friallen deg, friallen wiw,
Friallen dlos liw’r hufen.

iii.
Ffieiddio trwst y daran froch,
Ac ymffrost balch y rhosyn coch,
Wna’r ddistaw hardd friallen;
O’i gorsedd werdd wrth odreu’r berth,
Ysgydwa’i theyrnwialen;
Friallen fwyn, friallen ferth,
Friallen dlos liw’r hufen.

iv.
Doed fel y dêl, ar deg a gwlaw,
Gyr brudd-der bron i’r fynwent draw
At flodau mwy aflawen;
A chario blwch perarogl bon
Wna’r awel dan ei haden;
Friallen fyw, friallen lon,
Friallen dlos liw’r hufen.

(x9)
V.-BLODEUYN Y GLASWELLTYN.

Dirf flodeuyn! Perl digymar
Coron hardd teleidion daear;
Uwch dychymyg yw clodforedd,
Myrr a balm dy berarogledd;
Gwyrdd ac ir yw’th goesen ddillyn,
Mewn swyn a bri,
Mor llawn wyt ti,
Hoff flodeuyn y glaswelltyn.

ii.
Dewis flodyn cylch pedryfan,
Duwies hud a’th hawlia’n gyfan
Ar dy ddail mewn lliwiau tyner,
Ceir swyn y nef a’i hysblander;
Arnat gwena’r haul yn eglur,
Ceir bri pob gardd,
Yn ddwyfol hardd,
Gymhlith, drafflith, drwy dy natur.

iii.
Rhaid i’r eiddew llesg ei elfen,
Ro’i ei fraich am wddf y goeden
Bydd y gwinwydd farw’n gelain,
Heb gael help i’w dal a’u harwain;
Tyfi dithau heb gynorthwy,
Mor deg dy brid,
Mor hardd dy wrid,
Led-led byd wyt ganmoladwy.

iv.
Mae’th ogoniant braidd yn ormod,
I barhau am ddau ddiwrnod;
Ambell gawraidd gyfaill flod’yn
Hawlia fyw am haner blwyddyn;
(x10) Tithau’n gwywo ar dy wely,
Mewn byd mor groes,
Bêr yw dy oes, -
Methu byw hyd bore ‘fory.



YR AWRLAIS.
Eisteddfod Gadeiriol Bodringallt, 1899.

Y mwyn Awrlais am iawn erlyn - tro’r haul
Trwy’r wybr faith a dillyn
A llwyr deg holl oriau dyn,
A noda i’r mynydyn.



DOS, NA PHECHA MWYACH.”
Eisteddfod Ystrad-Dyfodwg, 1889.

Yn nghyntedd teml gysegredig Iôr
Y safai gwraig yn ofnus ac yn brudd -
Mor fud, heb yngan gair, a’i dagrau’n fôr
Yn araf lanw dros ei gwelw rudd;
Cyhuddwyr hon a’i gwysient hi trwy drais,
I’w heuog-farnu yno gan ei gwaelach;
Tra ar ei chlust y torodd tyner lais,
Gan sibrwd wrthi - “Dos, na phecha mwyach.”

A’i phen yn pwyso ar ei mynwes brudd,
Mewn syn-fyfyrdod tremiai tua’r llawr;
Fel prawf o ingol friw ei chalon gudd,
Anobaith rithiai ger ei bron yn awr:
I holl reolau mân y “Ddeddf”  bob un
Yr hawlid bywyd glan a mil perffeithiach -
Ger bron y Ceidwad gwridai’r “Ddeddf”  ei hun
Pan fwyn ddywedodd - “Dos, na phecha mwyach.”

(x11)
Plethedig oedd ei dwylaw ar ei bron,
A’i thrwchus hirllaes wallt fel haner nos,
Drosglwyddai brudd-der bedd i’w llygad llon!
Ond torodd gwawr, - tywynodd heulwen dlôs
Ar achos blin y wraig drwy’r cyntedd trist,
Er fod euogrwydd arni’n gwasgu’n drymach;
Dyferiad “diliau mêl” dros wefus Crist
I’w chalon oedd - “Dos, na phecha mwyach.”

Dal sanctaidd bresenoldeb “Mab y Dyn”
Oedd ormod i fucheddau llawn ystaen;
Ei brwnt gyhuddwyr hi, o un i un,
Ddiflanent fel drychiolaeth oll o’i flaen;
I hil syrthiedig, cuog, aflan rai,
Mae gobaith etifeddu bywyd purach;
I ninau’n rhad maddeua Duw ein bai
A dywed wrthym - “Dos, na phecha mwyach.”


Y SABBATH.
Awdl Gadeiriol Eisteddfod Mountain Ash, 1882.

O! sancteiddiol ddwyfol ddydd, - a di-stwr
Aurora ‘i Luniwr ar ei ael lonydd;
Derbynia daear beunydd, - eneiniad
Y dyfnaf gariad ‘fewn ei fagwyrydd.

Duw, cyn bod cân y bydoedd,
Ynddo ei Hun yn Dduw oedd;
Heb un llais o boen na llid,
Idd ei nefoedd yn ofid;
Dydd na nos nid oedd, na neb
I’w wel’d er tragwyddoldeb;
Difai gyfandir dwyfol, - heb hanes
Seren ar fonwes yr annherfynol!



(x12)
Ond â’i fys nodai Efe, - i fydoedd
Eu dyfodol gartre’;
Arfaethodd, rhagluniodd le
Eu goglud yn y gwagle.

O fôr digeulan ei fwriad golau,
Rhedai rheolaidd raiadr o heuliau
Hyd nef ddihalog; dyna’i feddyliau
Yn risial addurn o wir sylweddau!
Olion o ddwyfol ddoniau, - a roddodd
Y llaw a’i gwreiddiodd yn lliw eu gruddiau.

Wedi gwau’r wybrenau’n brid - braich fy Nêr
Ni wyddai flinder neu ddeifiol wendid!
Ni fu rhaid i’w Fawrhydi - ado’i waith
Hyd forau unwaith er adfer yni.

Ond wedi gorphen y ffurfafenau,
A’u llond o addurn, a llunio dyddiau;
A rhoi digonedd o wridog wenau,
I dirion wyneb ein daear ninau -

Yn Ei hedd ymlonyddodd, - a Sabbath
O seibiant gysegrodd;
Ei ddeiliaid newydd alwodd - i’w fwynhad,
A môr addoliad y myrdd a hawliodd.

I’w foddio Ef, ufuddhau - i’w alwad
Dyner ddylwn inau;
I i Dydd “Gwyl y Gwyliau,” - estynodd
Y llaw beiriannodd arddull wybrenau.

Fyth
nis caf wythnos gyfan - i holi
Helynt aur ac arian;
Heb deimlo rhyw gwyno gwan, - am well maeth
O fewn tiriogaeth fy natur egwan.

(x13)
Diwyd wyf dan frwd huan - yn yr hwyl
Nes fy nhreulio allan;
Wedi dioddef, daw diddan
Sabbath glwys a’i bethau glan.

Dyry loniant ar lwynau - y gweithiwr,
Yn ei gaeth rwymiadau;
Yn syth feunyddiol, dros waith fynyddau,
Ymhola’i galon am “Wyl y Gwyliau;”
Disiglo ydynt y disgwyliadau,
Am y dymunol adforol forau;
Mae’i gofio’n dirion tra’n y pellderau
Yn rhoi dedwyddwch ar hyd y dyddiau;
Disgwyl ei anwyl wenau, - i’r fron gaeth
Sy’n llawn hudoliaeth - sy’n well na diliau.

Dydd enaid a’i ddaioni - dihafal,
I’w lonydd gynal a’i lawn ddigoni;
Ei gryf ddylanwad geir i foddloni
Alltud ar anial llwyd ei drueni;
Duw o’i fodd sy’n rhoddi - y sypiau da,
Sydd fywiol urddas i’iv ddwyfol erddi.

Yn ddibaid, enaid anwyl,
Cadw’r fendigedig Wyl;
Addola Dduw! wele Ddydd
Nofia’r nef i’r anufudd!
Cawn orphwys heb bwys y byd - ar ein bron,
1 dori’n calon a’i droion celyd.

Rhoddodd Iôr ar ddydd arall - ddigonedd
Gwyn i’n cadw’n ddiball;
O! cred, wr, y ceir di-wall
Ddawn dy Dduw yn dy ddeall.

Ar hwnw dry ei enaid
I ddorau hwn, ni bydd rhaid;
(x14) Ni wel eisiau na loesion
O gadw Gwyl anwyl Iôn;
Ysbryd llwydd yn ddedwydd ddaw
I ddilyn gwaith ei ddwylaw;
Disgyna gwlith bendith bur
Hyd fyw lygaid ei flagur;
Llawnder da er llonder dyn
Gyrch amod y gorchymyn;
Ni raid hel ar y dolydd
Am “fanna” tra dalia’r dvdd;
Dognau hael - digon eilwaith,
A ddiddig geir ddyddiau gwaith;
I wael un dros Wyl enaid,
O law’r Iôn pan ddelo rhaid
Bwrir obry o’r wybren, - i’w ymyl,
Y “bara engyl” hyd lwybrau angen!

Dydd bendigedig ydyw,
A’n gorphwsyfa fwynaf yw!
Gwyl Nêr! a phob mwynderau
Cysegredig wedi gwau.
Trylwyr dasg yw treulio’r dydd,
Heb gael olynol lonydd
Gan erch ddwndwr berw’r byd,
A’i anhafal boen hefyd.
Atal rhawd gwaith dwylaw dyn
Yw ei nôd bob mynydyn;
Wele i daw yn gwbl daeth
Twrf nadau blin trafnidiaeth.

Ffy pob trydar byddarol, - ac adsain
A’i gwawdsill watwarol;
Têr ddistawrwydd ystyriol
Deimlwn i gyd, ‘mlaen ac ol.

Rhôd rwyfus celf brid arafa, - a’i chwyrn
Drogylch
arno beidia;
Gwawr y Dydd a gordedda,
A’i hyfryd wedd ffafrau da.

(x15)
Mae swn a chlych masnach lon - mor dawel,
Ni feichir awel nef â’i chwareuon;
Coleddir heddwch, cilia arwyddion
Llafur a thalent ei holl forthwylion;
Yn dawel lonydd daw ei holwynion
I fyw roesawi nef forau Seion;
Tra’n huno dan gysgodion - sancteiddrwydd,
Mae’n ddifyr ddedwydd mewn hedd freuddwydion.

Yr anifail tirion hefyd, - os heb
Sabbath a’i esmwythyd;
Dwyn ei bwn dan ei benyd
A wnai, heb Wyl yn y byd.

Y Sul a roes o’i hael rin, - ei gysgod
Dros hen “fulod” fyth-drawsion y “Felin”;
Yn chwai deg, y baich d·yn, - am ychydig
Oddiar ysig ysgwydd yr “asyn.”

Ceffyl gwar - caffael gorwedd
Wna’n felus mewn hapus hedd;
O’r  “gw^ys” a’r “drol” gorphwyso, - gaiff o’u stw^r,
Heb hanes gyrwr i’w boenus guro!

O’i fawr nwyf yr anifail
Wyneba hoen heb ei ail.

Ar y Dydd hyfryd weddau, - y mwynheir
Cwmni Iôn a’i ffafrau;
Heb ei wyneb a’i wenau,
Ewyllys gwr sy’n llesgâu.

Ar y Sabbath, mor syber,
Swn torf o saint, rhif y sêr,
O hyd geir yr adeg hon
Yn neshau tua Seion;
Dewis glod eu Hiesu glân
A leinw’u bywiol anian.

(x16)
O! mor dirf wylaidd mae’r dorf a welaf,
Tua thy^ Ner ar eu taith yn araf;
Pererinion ffyddlonaf, - yn rheng dlos,
O du gwir achos y Duw Goruchaf.

Ty^ fy Naf haedda fuddiol - addoliad
Rydd elw tragwyddol;
Mae gwasanaeth myg, swynol, - a thanbaid,
Erioed i’m henaid yn dra dymunol.

Iôn a’i gw^yr, bob hwyr a borau - Sabbath,
Os heb hwyl, af finau
I’r addoliad; pêr ddiliau
Nef y nef gaf lon fwynhau.

Y gweinidog yno gawn,
O’i hyawdledd eneidlawn,
A’i fri’n cyhoeddi fod hedd
Duw i ran y di-rinwedd.
Mae’n darllen yr “hen hanes,”
A’i riniau llawn er ein lles;
Wele y têg olud da,
Gwefr enaid a gyfrana;
Dwg urddas “rhad râs” yn rhydd
I afael yr anufudd,
A difyr ddy^d foroedd hedd
O gu ranau’r Gwirionedd;
Dawn hwnw dania’i enaid, - ac yn fflwch
Esbonia degwch ei ras bendigaid.

Plygion newyddion o’i wirioneddau
O hyd o’r gwaelod sy’n d’od i’r golau;
En godidowgrwydd goda y dagrau
O donog lynoedd duon galonau;
Yr lawn a’i ddwyfol riniau - a’i seliodd,
A’i Dduwdod lanwodd ei dudalenau!
(x17) A’i fys dengys ef dynged
A hynt yr hwn ato rêd;
Fe’i try’n hyf tua’r nôd, - egyr eilwaith
Aur ddôr i’w obaith mor ddiarwybod.

Dawn y gwr mae Duw’n ei garu, - dania
Bob dyn wrth bregethu;
A didwrf gad y dorf gu,
Dan ogoniant yn gwenu.

Tinc anwyl y tonau cynhes - a rydd
Wefreiddia bob mynwes;
A thrwyddynt gobaith roddes
Lawer iawn o nefol wres.

O’i ras didrai, yr Iesu - ini ddaeth
A meddyginiaeth - mae modd i ganu.

Rhywsut Iawn yr Iesu tyner - welwa
Farwolaeth o’r pellder;
Rhyfedd wyrth! fe syrth holl sêr
Cain y nef cyn â’n ofer!

Didwylledd, rhinwedd yr Iawnol - farw
Fe erys byth bythol;
O fynu hwn, nef yn ol, - a’i rhyfedd
Agored fawredd gâ’r edifeiriol.

Ar y llawr yn gwlychu’r llwch, - yn gyson,
Glân yw diferion glyn edifeirwch.

O’i warth gwel y gwrthgiliwr
O alar dwys wyla’r dwr;
Blina ar bla anwiredd,
Blina o hyd heb lawn hedd;
Anfad ffyrdd ynfyd y ffol
Adawa fel dyn duwiol;
Bob Sabbath y fath foethau
Mae yn awr yn eu mwynhau;

(x18)Ac hardd ydyw cerddediad
Teulu’r ffydd a’u rhydd fawrhad.

Dilyth swyn hudoliaeth sydd-yn blygion
O resi cryfion ar risiau crefydd;
Sain hynod râs Un yn Dri, - y Dydd hwn
O’i dy^ arwyddwn yn y daer weddi.

Eto maddeuant am weddiau - ni
Chawn er wylo’r dagrau;
Taerineb byth heb wanhau, - yn wastad
Dawdd yn mhob eiliad, waedd ein ymbiliau.

Diau nôd holl ordinhadau - crefydd
Yw cryfion effeithiau;
Tra’r Sul i’r dyn sy’n dwyshau
Nodwedd eu cyflawniadau.

Ar y Dydd Bedydd heb oediad, - addas
Weinyddir yn wastad;
Rhiniau gwir Iôn a’i gariad
Rêd yn hedd o’r ordinhad.

A’r Bedydd a fydd yn foddion - o râs
Trwy’r oesau yn gyson;
Nid dibwys i Eglwys Iôn
Yw cynwys ei amcanion.

O naws hapus! yn y Swper - y ceir
Cariad mewn cyflawnder;
Ar daith, ei hirfaith arfer
Dâl yn wych i deulu Nêr.

Ar y Dydd - gwrid o heddwch - diysgog
Geir, a dihalog wawr o dawelwch.

A donio’r dyn ar ei daith - wna y Dydd
Hynod hwn ar unwaith;
Er na cheir o hyny ‘chwaith,
I w^r heb wawr o obaith.

(x19)Pair gweled y “pur o galon” - fwyniant
Tufewnol yn gyson;
Mae’r Duw byw yn mhurdeb hon,
A’i gariad dan ei goron.

Aml daw i’r ddifraw ddwyfron
Obaith am wel’d Sabbath Ion;
Anhafal rôdd, nefol ryw,
Gwbledig y Beibl ydyw;
Gwyl y ceisiwn gael cysur,
Drwy’r Ysgol Sabbothol bur;
Daw ei hathraw doeth i ro’i dawn
Anrhydeddus i rai diddawn;
O phiol o ddwyfol ddysg
Yf wledd o nefol addysg;
Ernes i’r fynwes gaiff fyw - byth mewn bri,
Gyda’r flinedig dyrfa lân ydyw.

Ceir Sul ar fryn Caersalem
Nefol, a byth-dreiddiol drem
Ar swyn y nef geir hefyd,
Yn fôr o Haf ar ei hyd!
Pob sant mewn nwyfiant nefol, - sy’n mawrhau
Duw am wenau y Sabbath dymunol.

TELYNEGION Y MODRWYAU.
Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1900.
(Argreffir gyda chaniatad Cymdeithas yr Eisteddfod.)

1.- MODRWY CYFEILLGARWCH.
(Tenor.)
i.
Mae genyf gyfaill ffyddlon,
A’i galon yn ei law:
A’i gariad yn ngofidiau’r byd,
Fel enfys yn y gwlaw;
(x20) Mae heulwen yn ei wyneb,
A bendith yn ei fron;
A chalon sydd yn fwy na’r byd
A roes i’w gâr yn râs i gyd
O fewn y fodrwy hon -
Yn aur y fodrwy hon.

ii.
Y fodrwy gysegredig
A gadwaf er dy fwyn;
Er fod ei gemau’n llawn o sêr,
Mae haul tu cefn i’r swyn;
Arwyddlun cyfeillgarwch,
Dan sel y goraf lys,
Yn gylch o bryder a mwynhad,
Heb ofyn cenad deddf y wlad,
A roddodd ar fy mys -
Yn gariad ar fy mys.

iii.
Adgofion fel angylion,
Yn llawn o ysbryd cân,
Sy’n chwareu mwyn alawon serch
O fewn y fodrwy lan;
Telynau didwyll gariad,
A’u tannau yn gytun,
Yn cadw draw elyniaeth ddall,
Yn gwneyd i’r naill i garu’r llall
Mor bur ag ef ei hun -
Yn well nag ef ei hun.

iv.
Cynhyrfus amgylchiadau
A’m cludodd dros y don;
Ond ceidw serch y tân yn fyw
Ar sel y fodrwy hon;

(x21)Pan dyr y cyfeillgarwch
Dan fin yr olaf gledd,
O fewn y fynwent draw
Rho’wch ddarlun dau yn ysgwyd llaw
Ar gareg lwyd fy medd -
Mewn modrwy ar fy medd.

II.-MODRWY Y DYWEDDIAD.
(Bass.)

i.
Cymer hon, fy Elen hawddgar,
Modrwy cariad ydyw hi;
Nid oes arall ar y ddaear
All ei gwisgo ond tydi;
Modrwy gyntaf fy nyweddi,
Modrwy dry bryderon draw;
Ti gei deimlo calon ynddi
Nas gall neb ei ddwyn ohoni,
Gad i minau ‘n awr ei rhoddi
At dy law.

ii.
Ti addewaist, Elen dirion,
Fod yn eiddo byth i mi;
Rhoddais inau sêl fy nghalon
Ar dy lw cariadus di;
Muriaf eto yr adduned
Gydag aur y fodrwy hon,
I lonyddu serch diniwed,
Sydd a’i wynfyd mewn caethiwed,
Ac yn pwyso mewn ymddiried
Ar dy fron.

iii.
Ymdawela mewn gobeithion,
A breuddwydia yn dy flaen;
(x22) Cadw’th lw a chadw’th galon
Fel y fodrwy ‘n ddi-ystaen
Cudd fwriadau cysegredig
Ynddi gei yn hedd i gyd;
Cei ddyfodol anweledig,
A’i gysuron gwynfydedig,
Yn dy fodrwy yn gauedig -
Gwyn dy fyd.

iv.
Paid anghofio dy addewid
I dy gariad, O! fy mun;
Paid a throi y byd yn ofid
I dy ddigyfnewid un;
A phan ddelo Llun y Blodau,
Yn ei gyfareddol swyn,
Sylweddolir disgwyliadau,
A chyflawnir addunedau,
Modrwy arall wisgi dithau -
Elen fwyn.

II.-MODRWY’R BRIODAS.
(Soprano.)

i.
Mae’r fodrwy ar fy llaw yn glir,
O! berlewygol brofiad;
Bu’r boreu yn ymdroi yn hir
Yn mhlith rhosynau cariad;
Er fod serchiadau’r un o hyd,
Heb newid y gymdeithas,
Agoriad dôr i newydd fyd
Yw modrwy fy mhriodas.

ii.
‘Rwyf heddyw wedi dechreu byw,
A chysur yw gofalon;
(x23) Mae swn trafferthion o bob rhyw,
Yn hyglyw i fy nghalon;
Os daw i newydd gylch fy oes
Bryderon di-gymwynas,
Bydd ysgwydd arall dan y groes,
Yn modrwy fy mhriodas.

iii.
Brenhines ydwyf, yn mwynhau
Anrhydedd a dylanwad;
A’m deiliaid oll yn ufuddhau
I deyrnwialen cariad;
Ni raid gorchymyn hogi cledd,
I gadw hedd fy nheyrnas;
Cauedig gylch i gariad wledd,
Yw modrwy fy mhriodas.

iv.
Addewais ddal yn ffyddlon byth,
Mewn gwynfyd a gwasgfeuon,
I’r hwn a gafodd wneyd ei nyth
Yn gynes yn fy nghalon;
Mae sail yr undeb ar fy mys
Yn addurn ac yn urddas;
Mae hefyd sêl y Dwyfol lys
Ar fodrwy fy mhriodas.

v.
Mewn hyder ac ymddiried llwyr
Mae serch yn pwyso arni;
Ond Duw y nef yn unig w^yr
Beth sy’n guddiedig ynddi;
Gall fod daeargryn dan fy nhroed
Mewn llosgfynyddoedd eirias;
Cyfandir heb ei chwilio ‘rioed
Yw modrwy fy mhriodas.

(x24)
vi.
Mi welaf yn fy modrwy hon
Ofnadwy gyfrifoldeb;
Mae ynddi’n tyfu ger fy mron
Breswylwyr anfarwoldeb!
Ymroddaf â deheulaw gref,
Beth bynag ddaw i’m lluddias,
I gynal tân allorau’r nef
Yn modrwy fy mhriodas.

IV.-MODRWY Y WEDDWDOD.
(Contralto.)

i.
Fy modrwy amddifad, wyt anwyl i ml,
Cydymaith fy nghalon glwyfedig wyt ti;
I angor fy mywyd ti fuost yn graig,
Yn obaith y wyryf, yn falchder y wraig;
‘Rwyn cofio dy roi ar fy llaw yn y llys,
Ond O! gyfnewidiad
I wynfyd fy mhrofiad,
Wyt heddyw yn llosgi yn dân ar fy mys!

ii.
Fy modrwy oludog! mor llwm wyt yn awr,
Dy aur a dywyllwyd, a’i fri aeth i lawr;
Dy foreu ogoniant a giliodd i gyd,
Siomedig yw’th hanes, a gwag yw dy fyd;
Mae’th weled yn tori fy nghalon yn ddwy,
Wrth weled fod cynes
Anwylyd fy mynwes
Gan angau’n glöedig yn mynwent y plwy’.


(x25)
iii.
Hen fodrwy’r cyfaniod, llawenydd fy oes,
Ei nefol ddiddanwch yn dristwch a droes;
Fy rhwymau a dorwyd, difwynwyd fy hedd,
A gobaith a laddwyd ar riniog y bedd;
Dyfodol fy nyddiau a lanwyd â braw,
A minau mewn adfyd
Yn ymladd â bywyd,
A bedd yn fy modrwy o hyd ar fy llaw!

iv.
Fy modrwy ddolurus, mae cariad yr un,
A’i wendid yn gryfach nag angau ei hun;
Mae’n aros yn ffyddlon, yn glynu o hyd,
Er colli ei waed ar ofidiau y byd;
Pan gesglir fy llwch at fy mhriod mewn hedd,
O! rhodder i gariad
Ei olaf ddymuniad -
Na thynwch fy modrwy wrth dori fy medd!


CODI’N FORAU.
Eisteddfod yr Ystrad, 1886.

i.
Cyfodwn yn y borau
Ar ol ein lludded mawr,
Tra’r haul o’i dderch ororau
Yn agor dorau’r wawr;
Mor felus hun y gweithiwr,
Dan gwrlid du y nos;
O’r nef daeth angel neithiwr
I wylio’n pabell dlos.

(x26)

(x27)

(x28)

(x29)

(x30)
Uwch ei rwysg, ffon ucha’r ysgol, - raddol
Gyrhaeddai’n naturiol;
A’r goron aur gariai’n ol
Ar ei ddwys ben urddasol.

Ceisio maeth ac esmwythyd - ni wnai,
Uwch oedd nôd ei fywyd;
A gorwedd mewn seguryd
Wnai gam â’i anian i gyd.

Ar aden talent helaeth,
Ymddyrchu, cynyddu wnaeth;
A’i dalent brofwyd eilwaith
Yn hufen nef yn ei waith;
Bu llafur yn eglurhau
Athrylith ar ei aeliau;
Lliw crebwyll ac arabedd,
Gyda’u rhin geid ar ei wedd;
A’i fawl am ei ddarfelydd
Yn daniol anfarwol fydd.

Ymwau y bu amheuon - o’i ogylch
Fel gwgus ysbrydion;
Ond rhag i frâd rhwygo’i fron
Diogelwyd ei galon.

Tystiai symledd pur ei fuchedd
Nad yw mawredd yn dymhorol;
Ceid pob rhinwedd mewn cyd-bwysedd
Yn ei agwedd Gristionogol.

Cychwynodd allan ar dân crediniaeth,
Yn wlad anwylyn, a’i glod yn helaeth;
A’i natur dyner yn llawn trydaniaeth
Am Dduw yn elw i lwm ddynoliaeth;
Ei air hudolus ysgydwai’r dalaeth,
A brysiai enaid i’w bur wasanaeth;
A thrwy ei lân athrawiaeth-ysbryd gwlad
G’ai dân diwygiad o’i weinidogaeth.

(x31) Un Spurgeon eneidlon oedd,
Yn nifer teulu’r nefoedd;
Un haul, yn gadarn eulun,
Yn hardd ar ei ben ei hun;
Un a fu yn ei fywyd
A’i barch yn amgylchu’r byd!

Brenin y Pwlpud, esgud, diysgog,
O’n goraf gewri yn gryf gyhyrog;
A’i deyrnwialen a’i darian heulog
Yn fraw a dychryn i elyn halog;
Yn ei wyneb eneiniog - hedd yn ol
A g’ai’r dirywiol greadur euog.

Llafuriai, a holl fawredd - ei wir Dduw
Ar ei ddawn a’i brydwedd;
A’r dorf friw, cyn y diwedd - welai’n fud,
Yno’n dirgrynu drwy y gwirionedd.

Efe’n glir ar lwyfan gwlad - ddiodid
Gan doddedig gariad;
Bu’r dagrau brwd o gur bron
Ar swynion llawer syniad.

Ei naturioldeb oedd ddiarebol,
Parod ei lafar, pêr a dylifol;
Oedd ddyn a’i ddullwedd yn newydd hollol,
A’i ddifyr addurn yn ddifai wreiddiol;
Nid oedd ei enaid haeddol - yn ei swydd
O dan waradwydd y dynwaredol.

Drwy ei ddedwydd draddodiad, - dihunai
Yn dyner bob teimlad;
Mwyn lonem yn nylanwad
Dihafal wlith dwyfol wlad.

Eto wrth raid, traethu’r ydoedd - eiriau barn
Ar y byw dyrfaoedd;
A’i lais fel nef-lednais floedd,
Grëai lewy ar luoedd.

(x32)
Gwron Duw! yn gyru’n dân - natur fwyn
Y torfeydd a’i drydan:
Ddoniwyd gan Dduw ei
hunan - hyd ei fedd
O’i febyd irwedd yn “fab y daran”!

Ei lef a siglai’r nefoedd, - y llef fain
Ddrylliai fyd a’i nerthoedd
I’w Dabernacl oracl oedd, - a’i lwyddiant
Dynai y moliant o enau y miloedd.

Agorai blygion yr hen Wirionedd,
Yn graff ei allu heb un gorphwylledd;
Ar fyd yr anwir a’i fai dirinwedd,
Y bwriai gynwys ei bur ogonedd;
Bywiog, agos, heb goegedd - yn anfri
Ar dalaf redli ei fawr hyawdledd.

Gwenwyn i’w galon gynhes - a di ddwl
Ydoedd halo, rodres;
A ffugiol anrasol wres
Ni ddifwynodd ei fynwes.

Gwerin Apostol gorau, - dyn a’i grêd
Yn gryf ar ei luniau;
‘Roedd awyr ei weddiau
Yn heulog oll heb niwl gau.

Henadur uniawn ydoedd, - a’i galon
Yn gweled y nefoedd;
A’i fwyn lef yn hawlio oedd
Nef ddoniau i’w fyddinoedd.

O! sanctaidd genad, mwynhad eneidiau
Yw rhodio’i loewbrid agored lwybrau;
Cyfoeth o rasol lenyddol nwyddau
Huliodd ei reswm i wledda’r oesau;
Digon enaid gawn ninau - yn gnydiog
O’i geinfawr lwythog anfarwol “Weithiau.”

(x33)
Spurgeon dan lon wyrddlwyni - ei grefydd
Oedd gryf yn mhob teithi;
Ni flinodd ar gyflenwi
Ei wlad hoff a’i golud hi.

Awdwr iach o fedr uchel, - a’i dalent
Fel o deulu’r angel;
A’i holl braidd mewn sanctaidd sêl,
Daniai trwy’r “Sword and Trowel.”

Dwyfol “Drysorau Dafydd,” - eglurodd
Yn ddysgleiriol newydd -,
A gorau’r craff seraph sydd
Ar gnwd y Pêr Ganiedydd.

Hudlonol anadl anian - a lanwodd
Ddalenau “John Ploughman”
Llinellu hwnw allan
Wnai ef yn fyw yn y fan.

I ddrygu hedd yr egwan - ni ddoi’r blaidd
A’i ru blin i’w gorlan;
Yr oedd ei dirf braidd o dan
Arweiniad Iôr ei
Hunan.

Y rhai’n a ddygai’n ddiogel, - yn bur fwyn
I borfeydd goruchel;
O rosydd gwywdra isel, - ei felys
Air oedd i’w tywys i’r dyfroedd tawel.

I boen y blin y bu’n blaid, - efe’n deg
Drefnai “Dy^’r Amddifaid;”
A’i achles yn gynhes gaid
I drywanol drueiniaid.

At riniog ddrws trueni - y gyrodd
Aur ac arian lwythi;
O’i law dirion llifo’n lli’
Oedd y bwydydd heb oedi.


(x34) I’r nef rhoes lef dros ei wlad,
I’r iawn arweiniai’r Enwad;
Gwyro i’r goriwaered
Mae dawn a grym y “down grade”
Dan flinion ergydion gant
Ar ddig wên rhodd ogoniant;
Llwyr fethodd llid erlidiau
Ac oer-lais cur ei lesghau.

Neidiai ei enaid i’w wyneb, - a’i drem.
Fflamiai dros uniondeb;
Yntau’n wir fu hwnt i neb
O fendith i’w Gyfundeb.

A rhaid yw rhoi anrhydedd - i’w ddoniau
Oedd fel y borau gan ddwyfol buredd.

Difyr hedfa o’r adfyd - gymerodd
Drwy gamwri bywyd;
Yn nwndwr a berw’r byd, - rhoddes Iôn
I’w was aur goron cyn croesi’r gweryd.

Spurgeon anwyl! noswylia - yn dy hedd
Wedi hwyl dy yrfa;
Ar dy fywyd diwyd, da,
Rhad a ddeil i’r dydd ola’.

PEN PYCH.
Eisteddfod Treherbert, 1884.

i.
Hen fynydd Pen Pych,
Fel clochdy heb glych,
Wyt brudd fel y fynwent, ond teg fel y wawr;
Rhwng trwmgwsg ac effro,
Wyt fel pe’n breuddwydio,
Dy fod yn ffarwelio
A dwndwr y llawr.

(x35)
ii.
Hen fynydd Pen Pych,
Mor gadarn dy ddrych,
Anniflan dy goron, disigl dy sail;
Mae’r awel yn mynu
Dy swynol gusanu,
Gan wylo a chanu
I ti bob yn ail.

iii.
Hen fynydd Pen Pych,
Mor dyner, mor wych;
Cysgodi ein dyffryn a’th edyn wnei di;
Gerwinder ofnadwy
Y storm a’i rhyferthwy,
Arafu wrth dramwy
Wna heibio i ti.

iv.
Hen fynydd Pen Pych
Dan goron gwallt crych,
Fe dorwyd blwch enaint y nef ar dy ben;
Os coch fu’th gudynau
Gan waed ein cyndadau,
Mor hawdd o’th ysgwyddau
Oedd esgyn i’r nen.

v.
Hen fynydd Pen Pych,
Y Rhondda yw’r drych
A gefaist gan natur i weled dy lun;
Ac er fod trysorau
Fil, myrdd, yn dy goffrau,
I’r byd yn ei eisiau
Fe’u rhoddi bob un.

(x36)

(x37)

(x38)

(x39)

(x40)

(x41)

(x42)

(x43)

(x44)

(x45)
Crog enfys yn creu gwynfyd - dihalog,
I’n bryd eilwaith esyd;
Y fynwes yw ei fwyn sedd,
A dyd hedd a dedwyddyd.

Mwynaf wledd mewn aflwyddiant - a lawen
Arlwya heb fethiant;
Dan flinion ergydion gant,
Ar ddu gw^yn rhydd ogotiiant.

Nef-wridog hollol wefredig allu,
A’i lawn awyddiad heb ymlonyddu;
Er ei yfed, angerddol sychedu
Y’m am oludoedd mwy i ymledu;
Trwyddo mwynhad cariad cu - gawn heb aeth,
A Duw Rhagluniaeth yn dirgel wenu.

Ei swyn tyner sy’n tanio - ein gwylaidd
Galon i’w gofleidio;
Mae’n calon ni yn hòni hawl
I nerthawl lynu wrtho.

Drwy ddifrif weddi fuddiot, - Duw erioed
A rydd hwn yn rasol;
A’r goron aur geir yn ol,
Addawa i’r gwir dduwiol.

“Cenad Hedd” sy’n cynheu tân - angylaidd
Yn nghalon y pagan;
Diffoddi yni ei anian
Ni lwydda mil o’i dduwiau mân!

Troi anian dynion truenus, - yw nod
Ei genhadaeth hapus;
Ei eiriau mêl gliria’u maith
Anobath trychinebus.

(x46)

(x47)

(x48)

(x49)

(x50)

(x51)

(x52)

(x53)

(x54)

(x55)

(x56)

(x57)

(x58)

(x59)
DR. HERBER EVANS.
Eisteddfod Gadeiriol Utica, Dydd Calan, 1898.

Dyn heb ei ail mewn dawn bêr, - dyn i’w wlad
Anwyl ydoedd Herber;
Rhy onest oedd o’r haner
I naws flin ei oes aflêr.

Pentyrodd Iôr arno’n forau, - fythol
Gyfoethog dalentau;
Nodau serch geid yn dwyshau, - ffyrdd di-loes
Ei swynol einioes, a’u hanwyl wenau.

I Herber mor dyner daeth
Mwynderau mam yn doraeth;
Mor gynhes oedd llochesu
O dan ei gwyl aden gu.

Di-arswyd gariad wersi - ei fywyd
Fuan ddysgodd drwyddi;
Ei gofal anhafal hi,
A’i Duw’n hawdd geid i’w noddi.

Ac asgell hon yn gysgod - di-bryder,
A wychai geinder ci holl fachgendod.

Y llanc gwrol! llun cariad - ydoedd ar
Ei lwyd wedd yn wastad;
Adsain o’i firain fwriad
Hynod oedd yn nhy^ ei dad.

Pan o’r hirbell, Pen-yr-herber - welid
Draw’n gwylio’r llanc tyner;
Oedd i fyn’d mewn addfwynder,
Allan i’w waith yn llaw Nêr.

Gofal Duw! - ac efail ei daid,
A lynai wrth ei w^yl enaid.

(x60)Efe a wybu o’i febyd, - am radd
O ymroddiad diwyd;
Agor fu gwawr ei fywyd,
O’i flaen barch anniflan byd.

Tystiai symledd
Pur ei fuchedd,
Nad yw mawredd yn dymhorol;
Ceid pob rhinwedd,
Mewn cyd-bwysedd
Yn ei agwedd Gristionogol.

I wellhau ei alluoedd - hawdd dreuliodd
Drylwyr oriau filoedd;
Borau a hwyr Herber oedd
Wrthi i’i holl adferthoedd.

Ffraethineb geid heb yn wybod - iddo,
Yn addurn i’w dafod;
A sail ei glir oesol glod,
Oedd yn ei bur “ddawn barod.”

Castellnewydd yn nydd mwynhad, - diau
Adawodd dan deimlad;
Ymedy o dy^ ei dad, - ond yn hwn
Fe ddeil ei enw’n orfyw ddylanwad.

Ac eilchwyl, yn amgylchu
Tref Lerpwl a’i feddwl fu
Ar aden talent helaeth,
At ei nôd syth bwyntio wnaeth;
I’r ardal anhafal hon,
O gwr i gwr, bu’n goron.

Llawn llafur fu yn Llynlleifiad, - diwyd
Was duwiol ei rodiad;
Am ruddyn ac ymroddiad,
Herber oedd o wir barhad.

(x61)Di siom fu Dr. Thomas,
Yn mesur eglur ei ras.
Ar bynciau cred a gweithredoedd,
I’r Tabernacl yn oracl oedd.

A byw efrydydd heb ofer oedi,
Ydoedd o anian er dydd ei eni
Di-gwymp, heriodd y byd a’i gampwri,
I lwyddo unwaith i ladd ei yni;
Heb arswyd byw ei wersi, - wnai’r doniol
Efrydwr haeddol a’i fryd ar weddi.

O’i ogoniant arno’n gwenu, - gwelai
Goleg Aberhonddu;
Gwr oedd yn gwir awyddu,
Fyth gael “cwrs” fath Goleg cu.

Cael eu hagor wnai’r Colegau - yn rhwydd,
Er rhoi iddo’u breintiau;
I dalent eglurent yn glau - ar g’oedd,
Eu byd o ieithoedd a’u gwybodaethau.

At feib mâd ei wlad lydan, - i ferw
Treforis daeth allan;
A’i eiriau fel cloch arian,
Fe yrai’r dorf fawr ar dân!

Fel gweinidog enwog, gwnai ef weini,
A nôd ei enaid oedd gwneyd daioni;
Drwy flynyddoedd, drycinoedd oer cyni,
Gloew arddunedd ddisgleiriodd ei yni;
Gwelwyd fod breuddwyd a bri - Evans fâd.
A’i wrid yn nghariad Duw yn angori.

Ei ddawn a’i allu, hawdd enillodd
Rin a safle, o’r hon ni syflodd;
A’i athrylith wir hawliodd - yn barchus
Sylw edmygus y wlad a’i magodd.

(x62) Ei yrfa yn Nghaernarfon - fu’n llinell
Gref, yn llawn gorchestion
I’r dref - drwy’i fêl oslef lon
Buan y daeth bendithion.

Herber hefyd,
Fu drud fywyd yr odfeuon;
Cyfrwng heddwch,
A dyddanwch Duw i ddynion.

Pregethwr fu, uwch llu llawn,
A dawn i wneyd daioni;
Sêl y “Groes” oedd sail ei gred,
A’i ddyled i addoli.

Ei awydd a’i ddyhead
Oedd llenwi eglwysi’n gwlad.

Rhodd ef ryddhad,
A’i lef i’w wlad,
Y nef ni wâd ei nwyf noeth;
Pur iawn! Pa reddf,
Mor lawn, mor leddf,
A dawn a deddf y dyn doeth?

O’i bêr ddawn byrlymai barddoniaeth, - heb
Gydnabod deddf “mydraeth;”
Tu hwnt i Ap Edmwnt aeth - pob perl ga’i
A gywrain roddai i goron “rhyddiaeth.”

O! Herber bêr ei barabl,
Dawn y nef geid yn ei nabl!

I’r lesu arhosodd - yn ffyddlawn dw^r,
Dros ei Waredwr drwy’i oes siaradodd.

Ei ddawn hael, hawdd anwylwn, - a’i firain
Leferydd edmygwn;
Cyn daw’r dydd derfydd clod hwn
Nos a gwawl nef nis gwelwn!

(x63)
Llenor pêr, liawn o’r puredd - a’r addurn
Arwyddai wir fawredd;
Drwy ei oes ceid ar ei wedd
Gu hanfodion gwynfydedd.

Gwyl agor wnai fel golygwr, - ddwlaf
Feddyliau pob awdwr;
Trwy’r wasg hoff, troai’r ysig wr - ffaeledig
A’i “bin” trwythedig yn ben Traethodwr.

Hawliai’r gwr ddysglaer goron - ar ei ben,
A mawr barch llenorion;
A’i fwyn wedd, bu ef yn haul
I wlad araul awduron.

Efe o’i râs a’i fawr hwyl, - y Coleg
A hwyliodd am egwyl;
Yn Bangor pob ysgolor gwyl
A gâr enw y gwr anwyl.

Gwr anwyl goronwyd, - a rhiniau fil
Arno fe’u pentyrwyd;
Ei drydanol nerthol nwyd
Ef a’i lwydd nefoleiddiwyd.

Nefoleiddiwyd anhafal weddau - dysg
A dawn ynddo’n forau;
“Gwir i gyd!” nid geiriau gau
Fu’n arwydd i’w fanerau.

Dawn a feddai fel duwinydd, - a dawn
Fyd-enwog fel ieithydd;
Llif ei ddawn hyd bellaf ddydd - hanes a
Ddihalog leda ei haeddawl glodydd.

Myg angel a ei gyngor, - heb ei ail
Oedd yn Bala-Bangor;
A’i drwsio’n benaf drysor
Iddo ei Hun fynodd Iôr.

(x64)
Hudlonol y deil anian,
Yr ieuainc wyr yn eu cân,
Pob bron serchol ato lysg
Am a wydda am addysg.

At Iôr a’i fri troai fron - rhai trwy’r Gair,
I’w fynwes gelwai’r ofnus o galon.

Ni fu achos hyf achwyn
Ar fynwes fawr Evans fwyn;
Ei was parchusaf,
Enwodd, nododd Naf
Yn oraf i’n harwain.

Arweiniai’r pererinion, - ar hyd fwyn
Rodfeydd “Mynydd Seion;”
Tawel reddf teulu’r Iôn, - ydyw caru
En hanwyl Iesu yn nghanol loesion.

Fyw daranol fyd dirinwedd!
Cur Etifedd cariad dwyfol,
Fyn i’r duwiol fan o’r diwedd,
A’i wynfydedd yn hanfodol.

Oes un o fil syna fod
Duw Herber, wedi darbod
Ei ddwyn hwnt i ardd y nef - mewn gwisg lân
O’i addfed oedran i’w wyddfod adref?

O! hudol wedd! duwiol had,
Arnynt ceir enaint cariad;
Am lawn hedd, ymlonyddant,
Yfed gwin gwynfyd gânt.

Clywyd ef, oracl ëon, - ar y bedd
Yn rhybuddio dynion,
Am wylio yr ymylon-fod difrod
Na edwyn waelod i annuwiolion.

(x65)
Fod gwlad o fud galedi, - yn aros
Rhai “anmharod” iddi
Nis daw hanes daioni
Na dim mwynhad o’i mewn hi!

Gwlad arall uwch deall dyn,
Ddynodir gan Dduw wed’yn.

Dyma wlad y melodion, - dyma wlad
Am wledd i’n hanghenion;
Mae llawnder dibryderon
O “fana” iach o fewn hon.

Heibio’r ing olaf - “bara angylion,”
A besga fywyd heb ei wasgfeuon;
Ac aur goronau a gynau gwynion
Yn wobrau renir i bererinion,
O gylch Herber dyner dôn, - bydd crwydriaid
Yn byw’n benaethiaid heb neb yn noethion.

Moli diliau mêl y dalaeth,
Yw gwasanaeth ei gweis unol;
Gwella ciliau gwyll ac alaeth,
Wna’i urdd-haniaeth yn arddunol
Nefol Ganaan, sanctaidd drigfan,
Gwlad am lydan glod ymledol,
Iôr ei Hunan daniodd gyngan
Herber eirian mor berorol.

Cof-feini uwch ben cyfiawnion - ni bydd
I neb ar Fryn Seion;
O! foddus wedd! ni fydd son
Am hiraeth am y meirwon.

Anfarwoldeb heb un haint - fydd yno;
Yn y wlad hono, ni welwyd henaint.

(x66)
YR ALBANAU.
Pryddest y Gadair, Eisteddfod Gadeiriol Llandudno,Gwyl Dewi, 1893.

Addurnedig bedwar cyfnod
Ddeuant fel pe’n ddiarwybod;
Distaw doddi wnant i’w gilydd,
Eto’n wahaniaethol beunydd.
Henffych well! ddi-drwst Albanau,
Ysgafn rodiant mewn sandalau
Pur o arian; dirgel wisgant
Gyrau’r ddaear â gogoniant!
Natur drwsiant, fel eu gilydd,
Oll yn hardd mewn dillad newydd;
Newid ffurf ei gwisg a’i lliwiau
Wna pob Alban am y gorau.

Hoff Albanau! cwmwl tystion
Ydym ni o’u.hael fendithion;
Hawliant deyrnged haner dwyfol,
Ac edmygedd anniflanol;
Gwyneb anian Edeneiddir,
Er croesawi Alban Eilir;
O’u cysgadrwydd deffry’r blodau, -
Cwyd teleidion fyrdd o’u beddau;
Perarogledd, ar eu hedyn
Gluda’r awel drwy y dyffryn;
Tyr ei enaint flwch aneilydd,
Er eneinio gwallt y mynydd.

Llawforwynion tecaf anian
Wisgir yn eu mentyll sidan;
Gwisga’r ddôl ei hugan felfed, -
Ffurfiau’r berth y’nt yn afrifed;
Ar bob cangen yn y goedlan,
Cerfiwyd enw Iôr ei Hunan!

(x67)
Anfeidroledd ar bob dalen,
Hawdd ddarllenir i’r llythyren;
Gyfnod swynol! gyfnod diddan, -
Cyfnod adnewyddiad anian;
Gwrida’r haul wrth wel’d disgleirdeb
Yn dadblygu ar ei wyneb;
Swyn ac harddwch drwchus hulir
Ar hyd feusydd Alban Eilir.

Croesawu’r dydd bob Gwanwyn gwyrdd,
A gwylio’r nos a’i swynion fyrdd,
Wna’r rhosyn coch yn dawel;
Cudd-lechu wna dan lwyn o ddrain,
O wrês yr haul mor ddirgel;
O! rosyn, rosyn, rosyn cain,
Y rhosyn coch liw’r cwrel.

Daw gwrid dros ael holl flodau’r ardd,
Wrth ganfod gwedd y lili hardd -
Pob un o’i blaen ymgryma;
Mae ffurf ei gwisg a swyn ei lliw
Ail eiddo engyl Gwynfa;
O! lili, lili, lili wiw,
Y lili wen liw’r eira.

Ffieiddio trwst y daran froch,
Ac ymffrost balch y rhosyn coch,
Wna’r ddistaw, hardd friallen;
O’i gorsedd werdd, wrth odreu’r berth,
Ysgydwa’i theyrnwialen;
Friallen fwyn, friallen ferth,
Friallen dlos liw’r hufen.

Tra’r caddug yn coroni’r mynydd mawr,
A’r arian-wlith yn harddu gwisg y ddôl;
Y llon ehedydd gyfyd gyda’r wawr,
Gan ado holl ofidiau’r byd ar ol;

(x68)
Y mwyalch wisga’i brudd alarwisg ddu,
Ond eto can nes synu meibion cerdd;
Tra’r fronfraith bêr, o frig y gangen gu,
Enyna dân trwy gân y goedwig werdd!

Ceir coed yr allt yn trwsio’u gwallt i gyd,
A’r llwyni mân mewn dillad glân mor glyd
Yn lledu sail orielau’r dail i’r dim,
I feibion cerdd ar lanerch werdd mor chwim
Fe drefnodd Iôr berseiniau’i gôr mor gain,
Heb daro wrth un nodyn swrth mewn sain,
Carolau’r gwydd a gawn bob dydd am dalm,
O! gyd-gor byw, mor felus yw eu salm!
Tyr cerddi’r gwrych fel arian glych ar glyw
Y trychwr coed - ni fu erioed eu rhyw;
Rhêd trydan poeth o’u mawlgerdd goeth ac hardd
Melodedd pêr o’r goedlan dêr a dardd.
Rhyw ysol dân wefreiddia’r gân i gyd, -
Llwyr yra’r llon y lleddf o’u bron a’u bryd;
Ar ganu’n iach mae’r adar bach yn byw, -
Mwynhant eu hedd heb un a’i wedd yn wyw.
O’u horiel werdd, er plethu’r gerdd mor gun,
Fe’u gwisgodd Naf mor dlws â’r Haf ei hun;
Eu cordiau pêr a gura’r sêr am swyn,
Heb os nac ond mae’r nef yn llon’d y llwyn!

Ymbrancia’r oen bach yn iach ac yn llon,
Dros ysgwydd ei fam, rhydd naid ar y fron
Yn uwch ar y bryn, mae’r m·yn yn mwynhau
Gorwylltedd y graig, heb ddim i’w dristhau.
Cyfoda’r amaethwr ar doriad y wawr,
A’i weision i’w ganlyn, yn fychan a mawr;
Yn fywiog eu hysbryd, a llawen eu bryd,
I’r meusydd cyfeiriant eu camrau yn nghyd;
A’r diwyd aradwr, mor siriol â’r borau,
Heb drafferth na blinder, a egyr ei gwysau;
Ac yna daw’r hauwr yn llwythog o y^d,
Gan daflu’r gronynau ar draws ac ar hyd.

(x69)
Tra’r egin drwy’r ddaear yn dechreu blaen-darddu,
Mae’r awel ddihalog fel pe b’ai yn lledu
Ei breichiau agored i’w tyner gofleidia,
A’u serchog roesawu mewn agwedd ddiflino.
Mae’r heulwen a’r mân-wlith o hyd yn cystadlu
Am gael y rhagorfraint o’u swynol gusanu;
Er huno drwy’r hirnos ar doriad y cyfddydd,
Yr egin o’u trwmgwsg ddadebrant o’r newydd.

ii.
Gwna Alban Hefin wyneb Anian fwyn
Yn baradwysaidd ardd o gyflawn swyn!
Prydferthwch genfydd wrid ei ddelw’i hunan
Yn dawnsio’n llon yn llygad gloew Anian;
Mae awel hwn, fel anadl cerub pur
O nef y nef yn disgyn dros y mur!
Y faethlawn gawod dros y banau pell,
Ddisgyna’n llawn o nef-fendithion gwell.
Wrth lifo i lawr, pob ffrwd yn murmur gawn
Alawon melus o berseinedd llawn;
A nant i nant adseiniant yn ddi-daw:-
Daeth “heulwen Haf” â bendith yn ei llaw;
Ceir benyr llwyddiant ar bob perth a llwyn,
Yn cyhwfanu yn yr awel fwyn;
Ac ar bob cangen yn y goedwig brudd
Teyrnasa llonder dan y dail yn nghudd.

Mae’r morgrug bychain wedi d’od
I ddarbod stbr eu lluniaeth;
Am lafur diball, O! mor hawdd
Derbyniant nawdd Rhagluniaeth;
Myn’d allan wnant bob awr o’r dydd,
Fel ufudd dorf unedig;
Dychwelant eilwaith, gyda’u stôr
O drysor dewisiedig.

A’r blodau a’r melfedaidd ddail
Ymwela y wenynen,
(x70) O’r rhôs i’r brieill, bob yn ail,
Rhydd grwydra ar ei haden,
Yn ngwely blodau teca’r ardd
Sefydla hi ei theyrnas, -
Y rhosyn coch wna’n orsedd hardd,
A’r lili wen yn balas.

O’r ardd i’r maes â dros y clawdd,
I’r grug a’r drain aroglber;
Y meillion mân yn berffaith hawdd
Adwaena hi o’r pellder:
Yn haen ar haen, yn drwch ar drwch,
Mor drefnus rhydd ei thrysor;
A ffurfia’i chelloedd yn ei chwch
Wrth ddeddfau celf a gwyddor.

Daw’r glöyn byw mewn gemwisg lân
I’n gwel’d bob Alban Hefin;
A’i erlyn ef dros fryn a phant,
Mae plant yn llwyr gynefin;
Ymwibia ar ei aden wiw,
O’r swynol liw prydferthaf
Rhy dyner yw y glöyn blydd
I ddal ystormydd Gauaf.

O! swynol wlithyn bardd,
Prif addurn dôl a gardd,
A’u coron dlos;
Cyn colli deigryn hallt,
Eneinia’r brydferth allt,
Gudynau llaes ei gwallt
A balm y nos.

Cofleidia’r clogwyn gwyrdd,
Cusana’r blodau fyrdd
Ei ruddiau ef;
(x71) Ai tybed, wlithyn pur,
Mai syrthio dros y mur,
O lygad bod di-gur,
Wnest ti o’r nef ?

Hael wena’r seren forau,
Rhwng plygion tew-gymylau
Yr wybren glâf ;
Fry esgyn i’w aur-orsedd
Wna’r haul trwy borth arddunedd -
Teyrnasa mewn rhwysgfawredd
Ar forau Haf.

Mor hardd yw’r dalfrig goeden,-
Telynor ar bob cangen,
A’i delyn gâf;
O’u gwyrddlas demlau bywiol,
Ceir côr o engyl swynol,
Yn canu cân blygeiniol
Er cymhell Haf.

Yn ngwely’r ardd mae’r blodau
Yn agor eu hamrantau,
Ar amnaid Naf ;
Tra blodau gwyllt y perthi
A’u sawr yn perarogli
Yr awel dyner drwyddi,
Bob hir-ddydd Haf.

O! hapus Alban Hefin!
Ar ben y bryn, pererin
Yn eistedd gaf :
Islaw, ar droedffordd unig,
I odro â’r forwynig,
Dan ganu’n fendigedig,
Ar nawnddydd Haf.

(x72) Ddymunol Alban hyfryd,
Cyfoethog o bob bywyd,
 Dros enyd, saf;
A paid, O! paid a chilio,-
Nid wyt ond newydd wawrio,-
Rhy anhawdd yw ffarwelio
A thymor Haf.

O! Alban Elfed hael! gorfyddir anian
I blygu’i gwar dan bwys ei ffrwythau weithian;
Cyflawnder rydd ei ddelw ar ei wyneb,
A’u hysguboriau floeddiant- “Digonoldeb;”
Cyfoethog yw, dan goron hardd ffrwythlonder,
A’i hyfryd lwybrau yn diferu brasder.

At-dynu sylw’r teithiwr wrth fyn’d heibio
Wna’r y^d melynwawr, heb na swn na chyffro;
Ymwelwa angen yn ei bangfa olaf
Wrth wel’d y grawn yn addfed i’r cynhauaf
Arch-angel gwywdra wyla’n brudd ei galon
Wrth ganfod tlysni’r flywyddyn dan ei choron.”

O! gyfnod llawn! yr haelaf o’r Albanau
Hardd wisgodd natur yn ei mantell orau;
Ei golud lifa’n loew fel yr afon,
Heb ball na methiant ar ei hael fendithion;
Ei diliau mêl a rydd i’r galon ddynol,-
Terfynau ei mwynhad sy’n anfesurol.

Tyfiadol gafodydd mor dyner, mor fwyn,
Ordoant y ddaear ag harddwch a swyn;
Pob corsen a gwelltyn ymgrymant yn nghyd
Mewn agwedd flinedig dan bwysau yr y^d;
Cydnabod y nefoedd mewn acen fo’n glir,
Ar ddeulin, yw’n dyled am gynyrch y tir.
(x73) Addurnodd y caeau, addfedodd y grawn,
A llanwodd ein celloedd â lluniaeth yn llawn.

Ddynoliaeth adferol!O! cyfod dy lef,
Cydnebydd law dyner Rhagluniaeth y nef,
Am gynal a chadw rhai euog a drwg,
A gyfiawn haeddasant ei soriant a’i gnwg;
Diwallodd anghenion myrddiynau yn nghyd,
Heb gofio camweddau afrifed y byd.

Mae ceinion yr Alban yn berffaith ddi-fai,
A’i hwyrol ogoniant fel llanw heb drai;
Prydferthaf ddelweddau yr wybren a gawn
I’n synu a’n swyno, bob bore a nawn;
Ceir swyn ei “Oleuni Gogleddol mor dêr,
Nes boddi hawddgarwch Caergwydion a’i sêr;
Mae teyrn y ffurfafen, ‘nol taenu y wawr,
Yn disgyn o’i saphir orseddfainc i lawr,
A’i danbaid ogoniant ymwada yn llwyr,
Tra’r brydferth Aurora yn dathlu yr hwyr.

Pelydrau têr yr huan
Oreura’r bryniau pell
Ni luniodd pwyntil anian
Erioed olygfa well;
Mewn hedd diosga Neifion
Ei hugan delaid lin,-
Newidia’i wisg a’i goron
Am fantell goch o dân.

Yr haul a araf gilia
Trwy’r orllewinol ddôr;
A’i ddarlun byw a baentia
Ar wyneb llyfn y môr;
Mae natur yn prysuro
I wylio’r blodau blydd;
Tra’r huan yn ffarwelio
Ag awel bêr y dydd.

(x74)
Llaw anian a daena ddu fantell y nos,
A chuddia ogoniant y wendon;
Yr wybren goronir â’r lleuad wen, dlos,
Er llonder i’r morwyr dewr-galon;
Mor deg a dymunol canfyddant hwy hon,
O danynt yn dawnsio’n ddi-ddwndwr;
Tra’r sêr yn grogedig ar fynwes pob ton,
Fel tlysau ar fron y buddugwr.

Er ymlid o’r hwyrddydd yr haul dros y bryn,
lach chwardda y lloer ar ei delw’n y llyn;
Ac yno fel gwyryf ddihalog a chun,
Hi erys am enyd i drwsio ei hun;
Ar wyneb y dyfroedd grisialaidd y cawn
Swynhudol brydweddion y lleuad yn llawn.

iv.
Cyfnod arall wawriodd eto, -
Stormydd byd barhant i’w guro;
Llwydaidd Alban, diamddiffyn,
Anadl Gauaf ddeifia’i goryn!
Dwylaw’r hin, heb fawr tiriondeb,
Rychodd gwysau ar ei wyneb;
Nwyf ieuengtyd esyd allan,
Linell derfyn Alban Arthan.

Lle bu bywyd yn blodeuo,
Gwywdra’r bedd deyrnasa yno!
Blina’r nant ar daith mor addfwyn, -
Nwydwyllt neidia dros y clogwyn
Sylfaen troed y ddeilen sigla, -
Ysbryd braw a’i chwyrn ysgydwa;
Rhwng y coed mae angeu’n chwiban,
O dan gysgod Alban Arthan.

Graig esgyrnog foel ei choryn,
Hen a llwydaidd yw ei chlogyn;
Meiddia watwar uchel ddwndwr, -
Mae’n ddiysgog fel ei Lluniwr;

(x75)
Am ei gwylltedd hawlia goron, -
Oer a chaled yw ei chalon!
Eto, cydymffurfia’n ddiddan
A holl ddeddfau Alban Arthan.

Parddu wisga’r cwmwl hawddgar,
Gwga trem yr heulwen lachar
Ofnadwyaeth llef y daran
Brudd-lewyga galon anian!
Fflamllyd fellt brawychus rwygant
Leni’r nefoedd a’i gogoniant;
Eto swynion byd yn gyfan
Drwsiant wyneb Alban Arthan.

Mwy canaid a chlir na gwyngalch y mur,
Yw’r eira mân pur a thanbaid ei wawr;
Ar fynydd a dôl, ar ddinas a thref,
Fel “manna o’r nef” yn disgyn i lawr;
Gwull tlysion yr ardd, prif addurn yr Haf,
Dan gwrlid gwyn gaf yn huno yn awr.

Mor ben-foel a llwm yw’r wig heb ei gwallt!
Ond eto, mae’r allt yn brydferth er hyn;
Ac er fod yr hin yn deifio ei brig,
Mae coryn y wig yn ddisglaer a gwyn;
Ail mantell laes hir rhyw angel ar daen,
Yw’r hugan ddi-staen wisg ysgwydd y bryn.

Peroriaeth ni cha un sylfaen i’w throedi -
Mae engyl y coed mor fudion â’r bedd;
Cystadlu ni wnant, mae’r Alban mor flin,
A llymder yr hin i’w natur fel cledd;
Diflanodd holl bryf amryliw y llwch,
Rhew-gloriau yn drwch orchuddiant en gwedd.

Tra anian ei hun yn brudd ac yn lleddf,
Gwanychu wna deddf ei bywyd a’i gwres;
Daw adar y tô o’u nyth-le di-nôd, -
Trwy oerder yr od i’r palmant yn rhês;

(x76)
Mor swil ac mor ddof, bronrhuddyn bach tlws,
I gareg y drws anturia yn nes.

Gwir danbaid a thlos yw mantell y rhos,
A hawddgar yw’r nos, - y caddug a ffy;
Arianaidd a dèl yw gwyneb y lloer, -
Y cyfnos du oer yn wawrddydd a dry;
Iâ-bibau di-rif, a gloew eu drych,
A grogant fel clych wrth fargod fy nhy.

Cyd-ymgynull ar bob Alban
Wnai brodorion “Cymru Fu;”
Tra offeiriaid “allor Anian,”
Yn eu gwisgoedd llaes bob tu;
Oddifewn i “gylch y meini”
Ysai llawer bron yn fflam!
Tra cyfranai’r Derwydd wersi
Dan y llwyni’n “iaith ei fam.”

Caed ein tadau ar bob Alban
Yn addoli’n llawn o sêl;
O dan nawdd “morwynion Anian,”
Dedwydd oeddent, doed a ddêl,
Yno Plenydd, yno Alawn,
Yno Gwron ddewr ei fryd,
A’r cyntefig feirdd amryddawn,
Ddwys ymgryment yno’n nghyd.

Llanw Cymru a ddyddordeb
I’w holafiaid wnaethant hwy;
Llinell brydferth o ddisgleirdeb,
Ar ei gwyneb welwn mwy;
Ninau blygwn, ar bob Alban,
Wrth ei orsedd rasol Ef;
Am gael meddu’r “dduwiol anian”
A mwynhad o nef y nef.

(x77)
Enfys dros gymylau duon,
Tra’n y byd, fo’n bywyd gwyn;
A’n gweithredoedd, fel angylion,
Dros y bwa’n croesi’r glyn;
Y daioni a gyfrenir
Yn yr anial fyd is-law,
Fydd yr addurn penaf welir
Yn nghoronau’r byd a ddaw!

Y GWELEDYDD.
CYWYDD.
Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1900.
(Argreffir gyda chaniatad Cymdeithas yr Eisteddfod.)

Ti Awen deg, blentyn dydd,
Dyro glod i’r Gweledydd;
Oracl Iôr, ac haul eirias
O bur gred ar lwybrau gras,
Er dysgu i deulu dyn,
Hawl nef ar greulawn wyfyn;
Os ar einioes yr anwir
Bu nos yn aros yn hir,
Gwawr a ddwg i awyr ddall,
O liw dwyrain gwlad arall;
Ei glir ben fugeilia’r byd
O’i ‘stafell yn nrws deufyd;
A phuraf ddisgleiriaf glod
Y dwyfol ar ei dafod;
Ysbryd iach a sobrwyd yw,
A breuddwydiol brudd ydyw;
A’i nwyf yn crynu hefyd,
Ar linell mor bell o’r byd.

(x78)
Cyneuedig henadur,
Yn troi pawb at eiriau pur
O enau Duw ei Hunan-
Geiriau deddf a’i dysg ar dân;
Geiriau llid yn ymlid hedd,
A geiriau ei drugaredd;
Geiriau dig ymlyngar Dad,
A gair goreu ei gariad;
En cynwys oll a’u cân sydd
Glywadwy i’r Gweledydd.

Gwr treiddiol, a greddfol graff,
All siarad yn null seraff!
Siarad am fesurau Duw,
I drin creadur annuw;
Gloew ei drem yn gwel’d drwy
Eofn edyn ofnadwy
Arfaethau, fu’n nghau yn ngwyll
Y tew ddyfodol tywyll;
Ar ei lan gywir linell,
Ei glod mawr yw gwel’d yn mhell
Drwy dyrau y daearol,
I gyrau teg o’r tu ol;
Anniwall yn ei hewyd,
Ar wib â, a llawer byd
Cauedig gâ ei adwaen,
Na wybu floedd neb o’i flaen;
Nid ofna siom, na dwfn saeth,
Na chilwg un drychioliaeth;
A dorau’r bwriadau’n rhes
Geir yn agor i’w neges.

Da broffwyd yw a’i brif-ffyrdd
Dan ei haul o hyd yn wyrdd;
Amheuaeth ni thramwya
A’i rhew dig i’w lwybrau da;
O’i Gauafau nis gofyn
Farug oer ar ei fri gwyn

(x79)

(x80)

(x81)

(x82)

(x83) Wron Duw! ar fryniau dawn
Doeth enaid i waith uniawn
Ydyw hwn, wedi’i eni
Yn dàl frawd, a hawl i fri!
Rhaglaw’r Iôr i’w eglurhau,
A’i hanes yn ei enau.

TRACHWANT.
Eisteddfod Nebo 1891.

Rhyw ddi ail chwith angerddol chwant - ydyw,
A nwyd gref am feddiant;
Diau trech ydyw trachwant
Enaid gwr na nwydau gant.

Y dyn cyntaf a adwaenodd - ei rym,
Ffafr Iôn trwyddo gollodd;
A bron drist o’r llwybr iawn drodd,
A thrachwant a’i gorthrechodd.

MEIBION â MERCHED CERDD.
Eisteddfod y Odyddion, Aberdar, 1865.

i.
Y Gôg bencerddes hawddgar,
A’i thrydar llawn o swyn;
Edmyga tant fy nhelyn,
Mawrhâ cerddorfa’r gwanwyn,
Ei chord “dau nodyn” mwyn
Ei chainc ogleisia anian,
O lys y goedlan werdd;
Mae’n dyblu’r dôn, a’i threblu,
My`n ganu, canu, canu,
Nes synu meibion cerdd.

(x84)
ii.
O! ’r Eos dyner galon,
A’i lleddf felodion byw;
Ffieiddia’r dydd a’i dwrw,
Ond cana’n bêr hyd farw,
I sêr y nef a’u Duw;
Trydana’i salm fendigaid,
Holl enaid anian dlos;
Tra’r dydd a’i blant yn cysgu,
Mae’n canu, canu, canu,
Mae’n canu yn y nos.

iii.
Ehedydd, ganwr perffaith,
Cydymaith saint y wawr,
My`n ganu ffwrdd bob gormes,
Faidd lethu’r lonaf fynwes,
Yn hanes plant y llawr;
Er pasio’r cwmwl pellaf,
Melusaf fyth ei lef;
Ei hoffaf waith yw dyrchu,
A chanu, canu, canu,
Yn ymyl drws y nef.

iv.
Pa bryd daw’r byd a thenor
I guro’r Cymro cu?
Caed llawer gwych gantores,
A’i chan fel cân angyles,
Ar lechres “Cymru Fu;”
Nerth llais ein Prima Donna
A dodda’r wlad fel cwyr;
Caiff oesau’i ddod i’w pharchu,
Am ganu, canu, canu,
Mae’n d’rysu’r byd yn llwyr.

v.
O’r nefol fawl difesur,
Mewn gwlad heb gur na phoen

(x84)

(x85)
Eiddunwn am gael ernes,
O’r gân a ganodd Moses,
A’r eiddo Duw a’r Oen;
Pêr gana Côr Caersalem,
Yr anthem “Iddo Ef;”
Tra torf o seintiau Cymru,
Yn canu, canu, canu,
Nes synu nef y nef!

CARNEDD TWYN BRYN BEDDAU.
Eisteddfod Bethel, Ystrad, 1887.

Dengys Carnedd Twyn Bryn Beddau, - y man
Mwy huna ein tadau;
Ab Tewdwr, arwr gorau
Gaiff a’i wy^r eu hir goff hau.

Tywysog enwog huna, - a’i fyddin
Gref faeddwyd fan yma;
Llwyd Garnedd anrhydedda
Dirf wely’r dewr filwyr da.

Y GWLITHYN.
Eisteddfod Nebo, Ystrad, 1892.

O Wlithyn pur dy swyn,
Prif addurn anian fwyn,
A’i choron hi;
Cusanu’r clogwyn gwyrdd,
Y ddol ac ochrau’r ffyrdd
Cofleidio’r blodau fyrdd,
Yr ydwyt ti.

(x86) Eneinia’r brydferth allt,
Gudynau llaes ei gwallt,
A balm y nos;
Ai deigryn angel pur
Wyt ti mewn gwlad o gur,
Ddisgynodd dros y mur
O’r Wynfa dlos?

YR YSGLEMYN.
Eisteddfod y Pentre, 1892.

Drwy’r nos rhydd grwydro’r nen, - wna’r Ysglemyn
Rhwysg-lamol ar aden;
Deryn pur - ond o ran pen,
Oll i gyd yn llygoden!

Y MASNACHWR CRIST’NOGOL.
Sef y diweddar MR. ISAAC JONES, Stationer’s Hall, Treherbert.
Eisteddfod Horeb, Treherbert, 1900.

i.
Isaac Jones a dreuliodd fywyd,-
Bywyd cysegredig glân;
Diymhongar o dueddfryd,
Ond tywynai drwy ei ysbryd
Ddwyfol dân!
Pan y gwelais ef ddiweddaf,
Gloewai gras ei wyneb ef
Os yn wylaidd, os yn araf,
Gwyddai am y ffordd unionaf
Tua’r nef.

(x87)
ii.
Duwiolfrydig gyfaill ydoedd,
Dyn yn rhodio gyda Duw;
Hardd gymeriad diargyhoedd,
Dan belydrau goreu’r nefoedd
Cafodd fyw;
Yn y “Groes” yr oedd ei hyder,
A’i serchiadau wrthi’n nglyn
A chadd ro’i am flwyddi lawer;
Bwys ei ben ar fynwes dyner
Mab y Dyn.”

Dyn o feddwl coeth ei deithi,
Ac eneiniad ar ei ddawn;
Heb ei swyn a’i fwyn oleuni,
Ni fu Horeb wedi’i golli
Byth yn llawn;
Cofir am ei rasol eiriau,
Cofir ei ddifrifwch syn,
Pan yn casglu drychfeddyliau,
Tragwyddoldeb yn haeddianau
Pen y Bryn.

iv.
Yn Nhreherbert safai’n uchel,
Yn edmygedd saint y nef
Amlwg fel ei Geidwad isel,
Am nas gallai fod yn ddirgel
Ydoedd ef;
Gwyn ei fyd yr enaid hwnw,
Nas gall beidio bod yn fawr
Ond gwylaidd dori’i enw
Ar flynyddoedd yn ddidwrw
Fel y wawr.

(x88)
v.
Llwybrau crefydd oedd ei lwybrau,
Ar eu canol mynai fyw;
Yfai’n helaeth o’r ffynhonau
Sydd yn tarddu ar lechweddau
Mynydd Duw;
Gyfaill hoff! gorphwysed bellach,
Pa’m yr wylwn ninau’n ffol?
Mae y byd yn llawer gwynach,
A’i orwelion yn oleuach
Ar ei ol.

vi.
Os yw’r weddw yn ei dagrau,
Os yw’r plant heb neb o’u tu
Cânt gyfuniad o’i rinweddau,
Fel yr enfys ar gymylau
Storom ddu;
Huned! huned! yn yr Iesu,
Wedi cario’r groes cyhyd;
Rhaid i’r ddaear ymdawelu
Ar ei fedd, a’r nefoedd ganu
Gwyn ei fyd.

CADWEN O ENGLYNION.
PRINCIPAL T. C. EDWARDS, M.A., D.D., BALA.
Eisteddfod Gadeiriol Corwen, Awst 4, 1902.

Gwr anwyl hawddgar wenau, - oedd Edwards
O ddidwyll wybodau;
A barn goeth heb wyrni gau
Ydoedd enaid ei ddoniau.

(x89)
Doniau têr yn dwyn taran - yn floedd hy^f
Fel o ddwyfol drydan;
Enynol yn ei anian,
Egwyddor dysg oedd ar dân !

Ar dân ar lwyfan ei wlad, - mor eirias
A marworyn cariad;
I hawlio ei ddychweliad,
O lwm nos i wawl mwynhad.

Mwynhad roes ei gwmni draw - i’r diddysg,
Wedi’r dioddef distaw;
Trefnai lwydd tra fu’n ei law
Arf uthrol y Prif Athraw.”

Prif Athraw pur i feithrin - bywyd doeth
Gwybodaethau cyfrin;
A’i allu hael i well hin
Fraenarodd fron y werin.

Gwerin o’i bri blagurol, - adwaenodd
Ei dywynion moesol;
Ac ar Addysg ireiddiol,
Swyn y nef sy’n wyn o’i ol.

O’i ol y cyfyd heuliau, - gyneuwyd
Gan ei hyawdl ddoniau;
Parha ei nerth heb brinhau,
A’u gwres edmyga’r oesau.

Oesau ni threuliant drysor, - ehelaeth
Ddrychfeddyliau’r “Doctor”;
Iddo’i hun cysegrodd Iôr
Wres calon yr Ysgolor.

Ysgolor ddilesg hawliodd - i’w ruddin
Y graddau dderbyniodd;
I’w fri mor hyf yr ymrôdd,
A gwanc arwr goncwerodd.

(x90)
Concwerodd trwy adnoddau - ei enaid
Finiog anhawsderau;
Yn fab a’i nwyf heb wanhau
Ai heb encil i’w bynciau.

Ei bynciau’n olau a wnaeth, - hyd orwel
Diroedd yr Athrawiaeth
O’i wefredig efrydiaeth,
Ei “Dduw-ddyn” yn hardd a ddaeth.

Hardd y daeth, ac aeth a gweithiwr - i’w fedd
O dan fawl dysgawdwr;
Briwedig am bur awdwr
Yw dawn ei wlad, anwyl wr!

Y GRWGNACHWR.
DUCHANGERDD.
Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1900.
(Argreffir gyda chaniatad Cymdeithas yr Eisteddfod.)

Fy awen sydd yn ysu’n dân
Am gyfarch y grwgnachwr;
Ni fu amgenach testyn cân
I farddol gystadleuwr;
Os clywir rhai yn codi cri,
Am ladd ei ysbryd sobr,
Caiff amddiffynydd ynof fi,
Os arall gaiff y wobr!

ii.
Fe w^yr y dyn fod beirniaid call
Mor brin â beirniaid gonest
(x91) Fe rega un, fe gysga’r llall,
Uwch ben ei farddol orchest;
Mae’r dyn o hyd yn dioddef cam,
A’i esgyrn yn dylosgi;
Ac egwyddorion yn y fflam
Yn grwgnach, nes troi’n grygni.

in.
Ei awen leddf sy’n oleu iawn,
A deifiol yw ei dafod;
Mae’n frawd o ddysg, mae’n frwd ei ddawn,
A neb yn ei gydnabod;
Os yw yn cwyno, nid yw’n syn,
Yn ngwyneb y fath wastraff;
Mae diystyrwch ffol fel hyn,
Yn suro calon seraff.

iv.
Mae llawer calon yn y byd
Yn llawn ysbrydion aflan;
Ac yn eu cadw’i fewn o hyd,
Yn lle eu bwrw allan;
Ond dyma un am galon lân,
Yn bwrw lleng i fyny;
Ac os yw’r byd yn myn’d ar dân
Nid bai y dyn yw hyny.

v.
Lliniorog yw o’i ben i’w draed,
A neb yn cydymdeimlo;
Mae cysur yn gwenwyno’i waed
A bendith yn ei glwyfo;
Mae’n friw i gyd, a’i boenus glwy’
Yn treiddio trwy ei natur;
Ac nid oes Feddyg yn y Plwy
Rydd eli ar ei ddolur

(x92)
vi.
Cymeriad diddig diystaen,
A’r pruddglwyf yn ei flino;
Dywedir fod ei dad o’i flaen
A’r un gwahanglwyf arno;
Fe dreuliodd hwnw oes ddidaw
I gwyno ar ei fywyd;
A’i ysbryd sydd yr ochr draw
Yn cwyno am ddychwelyd.

vii.
Mae’n gymdeithaswr heb ei fath,
A’i lygaid yn gwreichioni;
Mae’n tynu cuchiau wrth y llath,
Fel bargod trwm trueni;
Mae cyfnewidiad yn yr hin
Pryd bynag y daw heibio;
A storm daranau ar ei fin,
Yn cadw’r mellt yn effro.

viii.
Hyfforddwr yw ar ffyrdd yr oes,
A phawb yn troi’n ei erbyn;
Difyra fyd, adfera’i foes,
A dolur ar ei delyn
Pe collai hwn ei gwynol reddf,
Fe gollai’r byd ei ddanedd;
A llyncai’r llon y cywair lleddf,
A’i fiwsig elai’n faswedd.

ix.
Mae pobpeth wedi myn’d o’i le,
A nwyfiant byd yn afiach;
Pe daliai’r oll i droi o dde,
Ni fyddai’r dyn yn grwgnach
Rhaid casglu drain, a chadw stw^r,
A chau ar lwybrau’r defaid;
(x93) A phwy all wneyd yn well na gwr
A drain yn llon’d ei enaid?

x.
Pan’gwyd ei lais, mae’r ysbryd drwg
Yn ffoi mewn ofn a dychryn;
Mae diwygiadau yn ei wg
A’i beswch yn ddaeargryn;
Ni fu y fath hyawdledd mawr
I sobri a dwysbigo;
Mae’n taro’n cyndyn fyd i lawr,
Ac wed’yn yn ei flingo.

xi.
Mae’r byd yn wamal fel yr aig,
Yn canu ac yn cwyno;
Ond dyma wron fel y graig,
Yn dàl heb newid arno!
Os mai yn uffern caiff y cyw
Ei fagu, medd yr hanes,
Yn uffern y m·yn hwnw fyw,
A’i ffaglau yn ei fynwes.

xii.
Saif rhywrai ar ei ffordd o hyd,
Ac eraill yn ei olau;
Ac anystyriol draed y byd
Yn sangu ar ei fodiau;
Ymbwyllwch wy^r, na thynwch waed
O galon mor ddiniwed;
Mae hwn yn feddal yn ei draed,
Os yw ei ben yn galed.

xiii.
Anffodus yn ei briod fu,
Anffodus iawn fu hithau;
Mae ef yn wyn, a hithau’n ddu,
A’i bywyd yn llawn beiau;
(x94) Nid yw ei serch yn ddim ond rhith,
Mae’n oer, a’i threm yn wirion;
Mae’n gwneyd ei gwaith i gyd o chwith,
Ac yntau’n tori’i galon.

xiv.
Mae cysur bywyd ar ei drai,
A galar yn y golwg;
Ond ar y wraig o hyd mae’r bai,
Mae hyny’n ddigon amlwg;
Rhy ddibris yw o’i ysbryd gwyn,
A’i genau nid yw gynil;
Rhy afrad ffol, a mwy na hyn
Rhy hapus ar ei hepil.

xv.
Mae haul Mehefin yn rhy boeth,
A’i wres yn annioddefol;
Mae’r Gauaf yntau yn rhy noeth
A’i oerni yn erwinol;
Mae’r cwmwl yn dyhidlo gwlaw,
Pan ddylai fod yn heulwen;
A natur yn ei gadw draw
Pan fyddo fwya’i angen

xvi.
Pe cawsai gwr mor fyw ei ddawn,
Ro’i bod i’r Greadigaeth;
Buasai yn wahanol iawn
Yn agwedd ei bodolaeth;
Buasai’r cynllun yn fwy doeth,
Ac arno well caboliad
A byth ni welsid clogwyn noeth
A’i esgyrn drwy ei ddillad.

xvii.
Ynfydion sydd ar “Fyrddau’r Sir”
Yn ddistryw aur ac arian;
(x95) A’r unig ddoethawr yn y tir
Yn cwyno o’r tu allan;
Ymladdodd yntau ar ddihun,
Am un o’r uchel swyddi;
Ond dan y “Bwrdd” y ca’dd ei hun,
A basged whg yn gwmni.

xviii.
Nid yw y nef yn ddigon pur
I gerub mor ddi-guro;
A thebyg iawn mae dros y mur
Y myn efe fyn’d yno;
Ar gefn angylion bydd ei ffon,
Am wastraff yn y gwleddoedd;
A thros ei fin daw’r frawddeg hon -
Wel, dyma le yw’r nefoedd!

xix.
Os ffrwyn i farch a’i dwg i drefn
Os frewyll blyg yr asyn;
Gwialen sydd i fesur cefn
Anfoddog groes ynfytyn;
Nid oes a foddia’r diserch un,
Sy’n codi ffrae h’i gysgod,
Ond tragwyddoldeb wrtho’i hun,
A chwlwm ar ei dafod.

Y LLEUAD.
Eisteddfod Llanbedr-y-Fro, 1884.

i.
Olygfa dderch! Machluda’r haul yn awr
I’r gorwel pell, yn brudd a choch ei wawr;
Cysgodau’r gwyll a doant fryn a rhos;
Tra’r Lloer yn araf ddringo grisiau’r nos;
(x96) Distawrwydd dwys deyrnasa ar ei sedd,
Ail prudd dawelwch dwfn cilfachau’r bedd
Mae’r awel fel yn dal ei hanadl bêr,
O barch i’r Lleuad a cbymanfa’r sêr;
Esgyna’n awr i’w hardd orseddfainc dlos,
Fel gwyl frenhines holl derfynau’r nos.

ii.
Yr huan groesawir bob borau â chân, -
Mewn llif o arddunedd ymolcha yn lân;
Ond os yw’r goleuni o’i orsedd glaer, wen,
Yn gwisgo’r boreuddydd âg harddwch di-len;
Ni weuwyd un fantell mewn duwch ddaw’n agos
I eiddo’r ffurfafen ar ysgwydd y cyfnos;
Ac os yw angylion y goedwig o’r gwydd
Yn canu carolau i frenin y dydd;
A’r awel yn cipio pob nodyn o’i heiddo,
Gan ddistaw argymell y byddar i’w gwrando!
Daw’r gwyll yn mhen enyd mor ddu ag erioed,
A gwena y Lleuad rhwng brigau y coed.
Gohiriwyd cyngherddau orielau y dail,
Parlyswyd pêr leisiau’r cerddorion di-ail;
Y cerddi gyffyrddent y teimlad a’r deall,
Ail swynol anthemau cantorion byd arall!
Ai canu i’r haul am ei wrês a’i belydrau,
Yw unig ddyledswydd fath gôr o delynau?
Os ydyw y goedlan a’i hafrif gerddorion -
Yn chwyddo peroriaeth y dydd a’i deleidion,
Ni chrogir telynau y cyfnos i gyd,
Mae telyn yr eos yn aros o hyd;
Os ydyw’r gerddoriaeth i’r dydd wnai ei rhan,
Mor fud ag yw’r beddrod yn mynwent y Llan,
Ei halaw berseiniol a geidw yr eos,
I serchog roesawu brenhines y cyfnos.

iii.
Er ymlid o’r hwyrddydd yr haul dros y bryn,
Y Lleuad a chwardd ar ei delw’n y llyn;
(x97)Ar wyneb y dyfroedd grisialaidd y cawn
Swynhudol brydweddion y Lleuad yn llawn.

Ffynonig dlos,
Anhafal rin
Gwyrth gynta’r nos
Fu’th droi yn win;
Y lloer o’i sedd
Gofleidia’th wedd,
Cusana’th fin.

Tydi yw’r “drych”
Grisialaidd cun,
I’r Lleuad wych
I wel’d ei llun;
Mewn mantell wen,
Saif uwch dy ben
I drwsio’i hun.

Freuddwydiol nant,
O’th oesol fri,
Cyffyrdda’th dant
A’m calon i;
O’th ranbarth oer,
Gogleisio’r Lloer
Wna’th delyn di.

D’wed im’ paham
Y dawnsi’n llon,
O lam i lam,
O dòn i dòn?
Y Lleuad dlos,
Fel tlws y nos
Addurna’th fron.

iv.
Anwylaf Loer, o’th randir oer,
Paham na throer dy lygad mawr,
(x98)Ar fryn a rhos, ar graig a ffos,
Er gwisgo’r nos â gwrid y wawr?

Cawn haul y nen, o’i orsedd wen,
Yn nghudd dan len ar fron y nef
Os disglaer daw, chwai gilia draw,
Gan ysgwyd llaw a ffwrdd ag ef.

Ond O! tydi am wystlo’th fri
I’n lloni ni pan fyddo rhaid
Mae’th gysgod hael o hyd i’w gael
Ar lwybrau’r gwael mewn llwch a llaid.

Awn ninau trwy beryglon mwy,
Er cur a chlwy’, ond cael dy wedd;
Bedyddi’r wlad â gwlith mwynhad,
Tra ffy tristad i byrth y bedd!

Dy swynol edrychiad sy’n ymlid ar ffo,
Genhadon y caddug yn lluoedd o’r fro;
I fantell y Gauaf ar ysgwydd y bryn,
Wyt hafal mewn harddwch os nad wyt mor wyn;
Dileaist o’th orsedd ddihalog a thlos
Ol bysedd y caddug ar wyneb y nos;
Du goryn y cyfnos, cyn dechreu troi’n frith,
Eneiniaist â balm o “flwch enaint” y gwlith.

V.
A’r frawddeg “goleu’r lleuad,”
Mae swynion fyrdd yn nglyn;
A thrydan melus gariad
Mae’n tanio ysbryd dyn;
Os nad y’m oll yn caru
Distawrwydd dwfn y nos,
Mae pawb yn llwyr edmygu
Goleuni’r lleuad dlos.

(x99)Ar noson “oleu’r lleuad,”
Heb ddim i flino’i fron,
I edrych am ei gariad
Rhed llawer bachgen llon;
Er gwaethaf ofn a phobpeth,
Sylldremia drwy y dail,
Gan feddwl am yr eneth,
A’r lleuad bob yn ail.

Ar noson “oleu’r lleuad,”
Mor gyfrwys ag erioed,
Yn ddistaw ei gerddediad
Daw’r llwynog chwim ei droed;
Ysbeilia lu o ednod
Dan leni’r hirnos oer;
Pan na fydd neb i’w ganfod
Ond llygad gwan y lloer.

Ar noson “oleu’r lleuad”
Ceir llawer orig bêr
I blygu mewn addoliad
Ger bron gorseddfainc Nêr;
Gosgorddlu ei glodforedd
Yw’r cymyl fry uwch ben;
Ac argraff ol ei fysedd
Yw disglaer sêr y nen.

vi.
Hoff Leuad gariadus! Ti drefnodd ein Iôr
A’th hudol gyfaredd i arwain y môr;
A’th fys y tywysi gerddediad yr aig,
Tra sigla fel meddwyn rhwng erchwyn dwy graig;
Er iti ei ddysgu er boreu y byd,
I gerdded ei hunan, mae’n cwympo o hyd;
(x100) Fe gafodd aml godwm trwy syrthio’n ddi-drefn,
Ond tithau a’i codaist i fyny drachefn.

Os llewyrch benthyciol sy’n eiddo i ti,
Dy garu o waelod ein calon wnawn ni
O! Leuad hawddgaraf! mor dyner dy wên,
Rhy bur yw dy degwch i fyned yn hên!
Rhy wylaidd, rhy onest, rhy lednais a chun,
Wyt ti i ymffrostio a chanmol dy hun;
Er newid yn fisol, yr un ydwyt ti -
Prif addurn y cyfnos, ei choron a’i bri.

Tra calon bur o dan fy mron,
Pob gelyn wnaf yn gyfaill;
Gan fyw fel tithau, Leuad lon,
I wasanaethu eraill.

BEDD MOSES.
Eisteddfod Ystrad-Rhondda, 1887.

Fedd hynod! ni fydd hanes - am hwnw
‘Mhen oesoedd dirifres;
Ond arno pe ceid ernes
Foddiai’n awch, - ni fyddai’n nes.

Angladd wir angylaidd wedd, - a roes Iôr
I’w was hael ei rinwedd;
Guddiedig, unig, anedd,
Ai cerub Iôn fu’n cau’r bedd?

Bedd Moses! hanes hwnw - ni welir
Yn nail yr “Hen Femrwn”,
Cyn gwel’d dirgel argel hwn
Yr haul yn marw welwn!

(x101)
Y PEGWN GOGLEDDOL.
Eisteddfod Iforaidd Treherbert, 1876.

Hen Begwn urddasol! heb flodau na dail,
Anniflan dy goron a disigl dy sail!
Corwyntoedd yr oesau wynebaist dy hun,
A myrdd o dymhestloedd orchfygaist bob un;
Dy fantell ddilychwyn er borau y byd
Yn wyn ar dy ysgwydd a erys o hyd;
Os na chest ddeniadol lawr-leni o flodau
A demtiai angylion i dynu’u sandalau
Wrth sangu ar ddaear mor swynol a thlos,
Dan gwrlid o risial cei gysgu y nos.

Llwyr-fethodd celfyddyd â’i phwyntil ei hun
Arwyddo ei henw na thynu ei llun
Ar ganfas didoriad o baniad mor bur,
Heb gynyg ei liwio a’i gerfio ar ddur;
Anturiodd chwilfrydedd i agor y cloion,
A’r lleni seliedig orchuddia’th gyfrinion;
Ymbiliodd yn deilwng am linell yn ernes,
Fel blaenbrawf i’r byd o ddirgelion dy hanes.
Pa raid i’th hanesiaeth i aros yn nghêl
Mewn cyfrol anghyfiaeth i’r oesoedd a ddêl?
Paham yr ymguddi o wyddfod dynolryw,
Mewn stid o fudanrwydd di-yngan hyd heddyw?

Pob glaslanc penfelyn a w^yr er ei ddychryn,
Droi o bob cudyn o’th goryn yn wyn;
Mor galed yw’th galon yn cadw’th gyfrinion,
Dan seliau a chloion anhyblyg fel hyn.

Breuddwydiai ein tadau am hawlio trysorau
Cyfriniol dy goffrau yn eiddo i ni;
A ffromaist wrth ddynion am na baent angylion,
A’u mentyll yn wynion r’un fath a’th un di!

(x102)
Fyth danbaid orwynder! llwyr bylaist o’r pellder
Bob llygad o graffder, rhag gweled dy wedd;
Mae cerddi dy ddeiliaid mor brudd ag ochenaid,
A chroesaw dieithriaid yn oerach na’r bedd.

Offrymwyd bywydau ein dewraf gyndadau
Ar oerion allorau yn ebyrth i ti;
O ymyl dy orsedd, eu henwau’n y diwedd
Yw’r unig anrhydedd drosglwyddwyd i ni.

Chwith, na b’ai ysbrydiaeth chwedleugar plant dynion,
Ar ymdaith i’r Gogledd yn cyffwrdd dy galon;
Gad bellach i’n teithwyr anturus a beiddgar,
A’u gwadnau blinedig gysegru dy ddaear.

Rhy wyn a thrylachar-rhy gryf eu tanbeidrwydd,
Yw lleni’th diriogaeth i lygad cywreinrwydd.

Yn rhandir dwys unigedd,
Mae sail dy orsedd wen;
A chymyl o ddirgelion,
Yn blygion uwch ei phen;
Er dymchwel aur-orseddau uwch cyfrif dail y coed,
Mae’th orsedd di hyd heddyw mor loew ag erioed.

Gorwynder pur dy hugan,
A duwch dwfn dy nos;
Y’nt ddewis liwiau anian,
I baentio’r wybren dlos;
Ar un o’r tlysau harddaf ar fron y nefoedd gun
Mae gwyddor wedi cerfio dy enw di dy hun.

Os ydyw’r môr yn llanw
Wrth awgrym bys y lloer;
Mae’r seren wisga’th enw
Yn gwylio’th goryn oer;
“Wrth fraint a defod” Neifion yn foreu urddwyd hon,
Cyn llunio “cwmpawd morwr” i nodi llwybrau’r dòn.

(x103)
Mae’r dydd yn llanw, llanw,
Heb dreio fawr yn ol;
A’r nos yn welw, welw,
A’r lleuad yn ei chôl
Mae clafaidd wedd
Dy gyfnos ddu,
Mor brudd a bedd
Rhyw gyfaill cu.

Ond pan i’w gorseddfainc daw’r nos ar ei thro,
Mae’n ymlid yr hafddydd am fisoedd ar ffo;
Nid cysgod diwrnod yw’th hirddydd maith di,
Na breuddwyd o nos fel ein cyfnos byr ni;
Cei ddydd o oleuni dros haner y flwyddyn,
A nos o dywyllwch caddugol i’w ganlyn.

Bu masnach yn cynyg ei chalon a’i llaw
I’th dyner gofleidio o’r pellder fan draw;
Er deisyf dy wenau dros eigion o iâ,
Ei hunig atebiad oedd sibrwd dy chwa;
Llwyr fethodd trafnidiaeth roi gwadn ei throed
Ar wynder dihalog dy lwybrau erioed!
Er cynyg bendithion i ti yn ystôr,
Clöedig i’w herbyn fu’th diroedd a’th fôr.

Er fod y cyhydedd i’r huan yn nes,
Ac yntau yn tywallt cawodydd o wres
Ar benau’r trigolion yn ddiluw di-ball,
Nes taro pob enaid yn fyddar a dall
I’r sain a’r olygfa gynyrchir yn awr,
Trwy rydd ymollyngiad rhewfryniau i lawr;
Bydd rhuad y daran yn ymyl eu twrw
Yn wanach na sibrwd y baban wrth farw!

Os m·yn y trofanau ymffrostio yn ffôl
Yn nglesni yr afon a gwyrddni y ddôl:-
Mewn rhos a briallu a llygad y dydd,
A myrdd o delynau ar gangau y gwydd;



(x104)

(x105)

(x106)

(x107)

(x108)

(x109)

(x110) Fyth yn ymgolli yn eangder Duw.
Troseddau di-lywodraeth roddodd fod
I garchar du, a’i trodd yn gartref barn
I ddrwg wehilion wedi blino byw
Yn nghwmni engyl - lle i yfed gwae
Ddarllawodd enaid iddo ef ei hun;
Ai hyny yw i mi? A ddichon heyrn
Gyfnewid diniweidrwydd calon dyn
Yn brofiad llofrudd? Dysgais yn fy nydd
Fod camwedd enaid wrth ei swydd yn creu
Cadwynau iddo’i hun; a chalon bur
A llwybrau, heulog yn dragwyddol sydd
Yn creu gwynfydau newydd i’w mwynhau;
Ond wele finau mewn caethiwed blin,
A myfyrdodau dyeithr o bob tu
Yn croni arnaf fel ysbrydion noeth,
Yn holi calon wedi troi yn fud
Am wobrwy rhinwedd, am gysoni cell
Fy ngharchar hwn â chenadwri f’oes.

Ai breuddwyd yw gwirionedd? A yw gras
Yn greadigaeth twyll? Ai enw gwag
Ar wyllt ddychymyg yw cyfiawnder gwyn?
Trugaredd Duw, ac edifeirwch dyn,
Maddeuant, addewidion, Teyrnas Nef,
Ai ofergoelion ydynt? Methu’r wyf
Gysoni deddfau, ac amgyffred trefn
Llywodraeth foesol Duw. Uniondeb sydd
Fel rhosyn ar y bedd yn ngoleu’r lloer,
A’i ddagrau ar ei ddail yn nyfnder nos;
Tra mae ynfydrwydd yn y wledd a’r ddawns,
Yn canu enaid i dragwyddol ing;
Cloedig ydwyf inau yn fy nghell
Am ymladd â drygioni dros fy Nuw -
Am hau goleuni mewn tywyllwch oer,
Am feiddio cyfarwyddo anllad deyrn
I gadw deddf ei wlad. Ymdd’rysu’r wyf
Uwchben fy nghynged flin. Tyr’d, Ysbryd Glân,
(x111) Eglura i mi y dirgelwch hwn.
Mae cwmwl ar fy enaid. Gwlawia’n drwm
Amheuon ar feddyliau oeddynt gynt
Yn gweled hen fwriadau ar eu taith
O galon Duw i ddyfnder calon dyn,
Gan lanw’r gwagle â goleuni’r nef
Meddyliau ansigledig, na fu’r un
Ddaeargryn yn eu hanes, ond sy’n awr
A’u daear fel yn ffoi o dan fy nhraed!

‘Rwyn cofio Duw yn y diffaethwch draw,
Mewn gweledigaeth, a breuddwydion clir,
Yn nesu ataf, ac yn rhoddi tân
Ei farwor dwyfol ar fy enaid oer,
A gyrodd drydan byw ei nerth ei Hun,
Yn llif o fywyd drwy fy natur wan.
Ei gyfaill oeddwn. Tynai’n ol y llen
Oddiar fwriadau fu am lawer oes,
Yn bwrw’u cysgod cyfrin dros y byd;
Bwriadau cariad o dragwyddol hedd,
I ymgnawdoli yn ei Fab ei Hun;
Diysgog oeddwn, ac yn llawenhau
Fel gwyliwr ar y mur wrth weled Haul
Yn codi’n hawddgar ar drueni dyn,
Gan roddi lliwiau’r nef ar rudd y nos.

Ond dyeithr niwl sy’n awr yn ymgrynhoi
Am danaf, ac yn dringo sanctaidd frig
Mynyddoedd agos addewidion gras:
Bwriadau Herod, a bwriadau Duw,
Dialedd gwyfyn, a threfniadau’r nef,
Sy’n ysgwyd fy meddyliau ol a blaen
Fel tonau’n wyn o ddychryn mewn ystorm;
A ddichon llid yr Herod hwn ddileu
Gobeithion byd? A ddichon aflan nwyd
Anianol deyrn arafu cwrs yr haul?
A all trychfilyn eiddil sydd yn byw
Ar fin ddiddymdra fesur nerth â Duw?

(x112)
Hyf lofrudd oedd ei dad. Gormesdeyrn balch,
A’i fron mor ddu â chanol nos y Fall;
Mae Rama’n cofio’i ddydd, yn cofio’i gledd
Yn ymfrashau ar dyner waed ei phlant;
Aflendid marwol yn ymsymud oedd,
A haint o lygredigaeth ar ei ol;
Ei fywyd bydrodd, a chymhelliad fu,
I bryf y bedd i’w ysu cyn ei dranc.
I’w greulon fab, ac i Herodias ddig
Carcharor ydwyf inau; ni ddaw mwy
Ymwared i mi, tra fo calon hyf
Y caled deyrn yn llaw maleisus fun.
“Llef un yn llefain” oedd fy mywyd i,
Yn digaregu’r ffordd i deyrnas nef
Yn symud bryniau o bechodau crin,
Yn codi glynoedd o waradwydd dwfn,
Ac â fy mwyell lem yn tori ‘lawr
Fforestydd o anwiredd - lle yr oedd
Ellyllon fyrdd yn cyfaneddu’n wyllt;
Llef,” dyna’r oll; neu adsain yn y bryn
O’r “Gair,” - y Dwyfol Air oedd yn neshau;
O hyfryd waith! Cael parotoi y ffordd,
I hau ar hyd ei gwyneb yma a thraw
Rosynau edifeirwch, pan oedd swn
Y difrycheulyd frenin yn neshau!

Diffaethwch oedd fy maes, a’i greigiau noeth
I fywyd glas yn waharddedig byth;

‘Rwy’n cofio’r ogofeydd, a’r hafnau dwfn,
Lle mae unigrwydd yn mwynhau ei hun
Heb fywyd yn ei erlid. Cartref hedd,
Lle crona drychfeddyliau rhag i fyd
Llygredig eu halogi. Lawer tro
Bu’m inau yn eu canol yn mwynhau
Cyfrinach hyawdl y distawrwydd mud;
Y locust gwyllt wyddai am y lle,
A deuai yno, nid i ymfrashau
Ar laswellt iraidd, ond i roi ei hun
Yn offrwm ac yn aberth er fy mwyn

(x113)

(x114)

(x115)

(x116)

(x117)

(x118)

(x119)

(x120)
Er gostwng bryniau trwy orchymyn Duw,
Mae eraill yn ymgodi hyd y nef,
A rhagrith yn blaguro hyd eu brig;
A all y Prophwyd hwn drwy fwynder Oen,
A diniweidrwydd y Golomen wen,
Ddiwreiddio bryniau twyll, a’u taflu byth
Tu ol i’w gefn? A lwydda un mor fwyn
I enill gorsedd Brenin iddo’i hun
Heb alw barnau mwyaf nerthol Duw
I wastadhau y ffordd? Mae ar y maes
Yn unig a dinawdd, yn dweyd yn hyf
Fod dydd gerllaw pan fydd coronau’r byd
Yn disgyn yn gawodydd wrth ei draed.

Ond pa’m y mae mor dlawd, mor llwm ei fyd,
Mor wag o rwysg, ac o fawrhydi teyrn?
Di-gartref grwydryn ydyw, ac yn byw
Ar garedigrwydd eraill. Treulia’r nos
Yn y mynyddoedd tawel wrtho’i hun,
A charedigrwydd natur iddo rydd
Ei glaswellt yn obenydd. Gwna i ffawd
O’i olwg ddianc, a daearol glod
A ddiystyra fel ynfydrwydd gwag;
A ydyw tlodi’n briodoledd teyrn?

Pwy ydyw! Mae’r dirgelwch yn dyfnhau
Wrth i’m fyfyrio ar ei hanes Ef
Os yw yn anfonedig gan y Tad,
O! pa’m na thynai’n ol y dwyfol len
I ddiffodd rhagfarn yn ei haul ei Hun?
Ai breuddwyd diflanedig – cysgod – rhith -
Oedd gweledigaeth yr Iorddonen im’?
Mae’r ddaear yn ei wrthod. Ai “Efe”
Yw’r “Hwn” sy’n dyfod, ai rhyw “arall” un
Ddisgwylir genym? Maddeu, O! fy Nuw,
Wamalwch fy meddyliau. Cliria’r niwl –
(x121) Y caddug tywyll sydd yn farwol oer
I ddringo dros fy enaid; mae yn llawn
Amheuon hyll, fel pe am wneyd fy mron
Yn waharddedig i’th oleuni mwy.

Pa’m mae’r cenadau yn ymdroi mor hir?
A drefnwyd carchar arall iddynt hwy?
Neu ai diystyr gan y Prophwyd ddweyd
Ei helynt wrth garcharor fel myfi?
A ydyw yntau’n rhwym? Gwn nad yw parch
At burdeb a gwirionedd yn cael lle
Yn nghalon aflan ddigydwybod fyd;
Gall yntau fod mewn cadwyn erbyn hyn.
Ai tybed iddo ddigio am fod swn
Amheuaeth yn fy nghwestiwn - “Ai Tydi,.
Ai arall a ddisgwylir gan y byd?”
Mae pryder lon’d fy enaid. O! paham
Na ddaw’r cenadau bellach yn eu hol?
Ond mae pryderon yn gwneyd awr yn oes,
Yn troi amynedd yn wylltineb ffôl;
Mae’r dydd yn ffoi, a’i belydr olaf sydd
Yn troi ei gefn ar agen gul fy nghell;
Mewn disgwyliadau aeth y dydd yn hir,
Mewn siomedigaeth bydd y nos yn hwy.

Ffowch ddrychiolaethau, ac amheuon dwl,
Mae ei ogoniant bellach wedi d’od
Yn llif o fywyd i fy enaid dall;
Er na fy^n ddweyd ei enw, dywed fwy
Nas gallaf ddal heb ei addoli byth;
Trugaredd a gwirionedd sydd o’i flaen,
Fel boreu Gwanwyn yn cyfnewid byd;
Maddeuant, gras, a bywyd ar ei ol,
A dardd o’r ddaear lle y sanga’i droed.
lachawdwr yw, a’i bresenoldeb sydd
I haint yn ddychryn. Ni bu son o’r blaen
Am angau’n dianc yn grynedig lâs,
A’i garcharorion o dan newydd wrid
Yn canu Salmau bywyd ar y bedd;

(x122)

(x123)

(x124)

(x125)

(x126)

(x127)

(x128)

(x129)

(x130)
Chwarddai bywyd yn ei lygad,
Bywyd lifai’n ffrwd o hedd;
Dewisiedig flodau cariad,
Yn eu tegwch nefol wastad
Hardd flodeuent ar ei wedd.

Mor hapus treuliodd ef ei fabol hynt,
Ar lan y traeth yn mro Pwllheli gynt;
Ceid rhyw dynerwch ar ei loew ael,
Yn dawnsio’n brydferth heb un llinell wael;
Tra yn Llanengan hoff, fe baentiwyd gwrid
O degwch Eden ar ei ael ddi-lid;
Tra ar ei foch ymffurfiai’n brydferth, brydferth,
Gynddelw tlysni yn ei holl gyfanwerth.

Ar bererindod Evan ieuanc welwyd,
O gam i gam ar ymdaith i Bonterwyd;
O! Geredigion hoff! gwlad crefydd bur
I’w phlant bu’n llunio offer heiyrn a dur
Ond gyda’r “Achos goreu” ni bu ef
Anghofus o addurno llwybrau’r nef
Ei grefyddolder dwfn, a’i dalent rymus
Ddyferent wiredd dros ei wridgoch wefus;
Ei ysbryd oedd mor fyw â’r awel rydd,
Tra’n troi a throsi’r dail ar haner dydd;
Nid â yn anghof byth yn Aberffrwd,
Ei weithgar sêl, a’i holl ymdrechion brwd;
Ymdrechgar yn mhob rhinwedd oedd erioed,
O ddydd i ddydd yn mhob rhyw flwydd o’i oed.

Yn Evan Thomas benderfynol, caed
Y gwron sathrai rwystrau dan ei draed;
Ac angerddoldeb tân ei anian hoew
A ysai anhawsderau fil yn ulw!
Er fod caethiwed yn gymhelliad cryf
I anghyfiawnder godi’ ben yn hyf;
Trahausder grynai’n ofnus rhag ei wedd,
I orthrwm blin ac erchyll, cloddiai fedd;
(x131) Y “trechaf treisied” ydyw dull y byd,
A’r “gwanaf gwaedded” yw ei gân o hyd!
Er gwasgu o’r byd ar aml ysgwydd gref,
Yn drymach filwaith gwasgodd arno ef
Pa ryfedd fod ei gân o hyd yn lleddf,
A chwynfan iddo wedi troi yn reddf ?

Mae awdwr natur am i ddyn fwynhau
Ei ryddid ef ei hun; ac ymgryfhau
Ar ddwyfol ffrwyth yr etifeddiaeth forau
A roddwyd iddo - cyn i anadl angau
Ddifwyno un o’i ddail, a chyn i ormes
Droi gwlith y nef yn llwydrew yn ei hanes.

Beirniadaeth yr “uwch-feirniaid” ar y Gair,
A chwalai’n chwilfriw mân yn Llanbrynmair;
Ffieiddiai ymffrost gwag, a rhodres byd,
Didwylledd ydoedd penaf nôd ei fryd;
Gonestrwydd oedd disglaeriaf berl ei goron,
Cyn torai ef ei air, fe dorai’ galon.

O wlad Maldwyn troes ‘mhen enyd,
D’rysodd prydferth “ raglen bywyd;
Troes ei wyneb i Morganwg,
A daeth haul yn fwy i’r golwg;
Os cadd brofi “dyfroedd Marah,”
Daeth dan ganu tua’r Rhondda;
Canai bellach heb un arswyd,
Salmau’r nefoedd ar yr aelwyd.

Gyda saint anwylaf Horeb,
Dedwydd gyd-addolai ef
Pererinion anfarwoldeb
Oedd ei gwmni tua’r nef
Ac er trymed oedd y croesau
Gariodd yn yr anial maith;
(x132) Fyny dringodd dros fynyddau,
Serth a rhiwiog oedd y llwybrau
Sangodd ef bob cam o’r daith.

Teg fel lliwiau “Bwa’r Drindod,”
Claer ei drem fel ewyn tòn;
Blodau rhinwedd, haul teilyngdod,
Drwsient ei gerddediad llon;
Hawddgar fel y lleuad dirion,
Pan yn gwenu ar y byd;
Gwyn fel eira copa Hermon,
Pur, fel dwr grisialaidd ffynon,
Oedd ei fuchedd drwyddi i gyd.

Ar ddeulin filwaith plygu’n wylaidd wnaeth,
Rhaid “plygu’r bwa” cyn eheda’r saeth
Wrth orsedd gras mor ddwys offrymai ef,
Ei weddi daer fel sant ar drothwy’r nef.

Esgyn wnai i’r Wynfa olau,
Mewn ymbiliau’n syth i’r lan;
Fry i’r nef aeth erfyniadau
Fil miliynau ar ein rhan
Llinell brydferth o ddisgleirdeb,
Ail dilychwin wawl y nef,
Leinw’r ardal â dyddordeb,
Am ei harddwch a’i huniondeb,
Ydyw’r ffordd dramwyodd ef.

Blaenor fu yn hoff gynteddau
“Ty^ ei Dad” am dymhor hir;
Gwyl ddiosgai ei sandalau,
Fel o barch i wirioneddau
Gair ein Iôr a’i ddwyfol dir;
Llanwai enaid duwiol Gristion,
Gyda dysg o nefol flas;
Ac mae adsain ei gynghorion
Ar glogwyni hen adgofion,
Megis swn telynau gras.

(x133)
Bu yn athraw goleuedig,
Ac arddeliad ar ei waith;
Yn y gyfrol ddyrchafedig,
Hen fwriadau gwynfydedig
Gyfarfyddai ai eu taith,
Tynu allan eu cyfrinion
Wnai i’w ddosbarth yn ddi-len,
Sylweddolai’r addewidion,
Gynt fu’n crwydro fel angylion
Dros fynyddau’r nefoedd wen.

Dyn gysegrai’ hunan ydoedd,
I wasanaeth pur ei Dduw;
Glân ei fywyd diargyhoedd,
Dan arweiniad Iôr y nefoedd
Oedd yn byw.

Doeth o galon yn blaenori,
Balm i enaid oedd ei ddawn;
Heb ei dhn a’i lân oleuni,
Nid oedd un cyfarfod gweddi
Byth yn llawn.

Y “gyfeillach” wnelai’n danbaid
Drwy adnodau’r “gwaed” a’r “loes”;
Hen adnodau pechaduriaid,
I iachau gwahanglwyf enaid
Wrth y Groes.

Ar yr allor, dal i losgi
Oedd y tân o hyd yn fyw;
Yr oedd calon yn ei weddi,
A’i thynerwch mawr yn toddi
Calon Duw.

Dyn yn byw yn llwyr i’w Geidwad,
Dyna’r fath un ydoedd ef;
Dyn âi enaid mewn addoliad,
Dyn anniwall ei ddymuniad
Am y nef.

(x134)

(x135)

(x136)

(x137)

(x138)

(x139)

(x140)

(x141)

(x142)

(x143)

(x144)O! tydi, dyner law Rhagluniaeth Iôr,
Diwalla fi o’th annherfynol stôr;
A chael o dan dy nawdd ac yn dy hedd,
Lwyr dreulio oriau’m bywyd hyd fy medd.

“TWR JONADAB.”
PABELL Y RECHABIAID, MOUNTAIN ASH.
Eisteddfod y Drill Hall, Mountain Ash, 1892.

Ambell i Babell sy’n bod - o nodwedd
“Tw^r Jonadab” hyglod,
Rhoi i’r gwael o orau’r gôd,
Y bydd hon heb ei ddanod.

DYDD NADOLIG YN NGHWM RHONDDA.
Telyneg y Gadair, Eisteddfod Bodringallt, 1899.

Henffych well, Nadolig hawddgar!
Addurn Duw ar ddyddiau’r ddaear;
Dydd y canodd engyl tanbaid,
Anthem moliant Ceidwad enaid;
Prin maidd awen ganu iddo,
Rhag i’w bysedd ei lychwino;
Pwyntil angel nis portrea
Dydd Nadolig yn Nghwm Rhondda!

Dyma’r wyl am fyn’d a dyfod,
Myn’d yn scryd heb un cyfeirnod;
Ffwrdd i’r llu trwy’r gwlaw a’r oerfel,-
Ffurfia’u hieithoedd arall Babel;

(x145)

(x146)

(x147)

(x148)

(x149)

(x150)

(x151)

(x152)

(x153)

(x154)

(x155)

(x156)

(x157)

(x158)
Mae’r gath a’r ceiliog ar y bwrdd mewn helynt,
Yn methu rhanu’r dorth yn deg cyd-rhyngddynt;
Mil hawddach dweyd rhifedi sêr yr wybren,
Na chyfrif myrddiwn “nodau’r Ty^ Anniben.”

Y TAFOD.
Eisteddfod y Pentre, 1877.

Hyfedr yw y tafod rhydd - i adrodd
Gwrhydri’r ymenydd;
Dyma’r cyfrwng dwng bob dydd
Holl fwriad y llefarydd.


HENAINT.
Cyfarfod Llenyddol Bethel, 1883.

i.
Henaint ydyw’r cyfnod noda
Derfyn einioes dyn is nen;
Trallod beunydd wrtho lyna
Fel yr eiddew am y pren;
Pyla tân ei graff olygon,
Oera gwaed ei dyner galon,
Ond mae blodau y “pren almon,”
Yn goronbleth ar ei ben.

ii.
Henaint ydyw’r ddolen gydiol
Rhwng ieuenctyd dyn a’r bedd;
Deifiwyd gwrid yr irder swynol,
Oedd yn addurn idd ei wedd;

(x159) Byr ei gam, os mawr ei oedran,
Rhaid wrth ffon i’w gynal weithian,
Ni ddaw henaint wrtho’i hunan,
O’i wir grefydd t·yn ei hedd.

iii.
Henaint geir yn argraffedig,
Ar heirdd wisgoedd anian glyd
Dysgu gwersi bendigedig
I ddynolryw mae o hyd;
Gorphen taith ein pererindod
A wna henaint rhyw ddiwrnod,
Gwelwn draw drwy bridd y beddrod
Etifeddiaeth leinw’n bryd.


YR AMDDIFAD.
Cylchwyl Lenyddol Bethel 1885.

Heddyw’n wan a’i wedd yn wyw - y gwelir
Gwyl blentyn diledryw;
Amddifad o dad ydyw,
A’i lon fam ni wel yn fyw!

Y BUGAIL.
Eisteddfod Llwynypia, 1881.

Yn araf ei gamrau yn nghwmni y wawrddydd,
Cychwyna y Bugail o’i fwthyn i’r mynydd
Esgyna yr aelgerth yn hoenus ei agwedd
O dwmpath i dwmpath, o lechwedd i lechwedd;
Mae’n myn’d mor naturiol i fyny i’w gribyn,
A’r gornant yn rhedeg i waered i’r dyffryn,

(x160) Tra troella yr awel a’i bysedd cyfarwydd
Gudynau ei wallt a chwith dros ei ysgwydd;
Mae natur i’w chanfod yn ngosgo’i gerddediad,
A natur gynheuodd y fflam sy’n ei lygad!
O’r braidd na fu anian rhy hael ar ei cheinion,
Tra’n trwsio prydweddau pererin y lasfron;
Ni phaentiodd a’i dwylaw brydferthach rosynau
Na’r gwridgoch ddau rosyn addurnant ei ruddiau.

Ei unig gymdeithion yw bachog ffon lasddu
A dorodd rhyw noson wrth ddychwel o garu;
A thri o ddefeidgwn ddeallant yn rhyfedd
Awgrymiad ei feddwl ar flaenau ei fysedd;
Ei hoffus gw^n ydynt yn barod ar eiliad,
I’w ddilyn yn ffyddlawn a gwneyd ei ddymuniad
Gwnant bobpeth fel yntau ond siarad, a chanu
Dewisiol alawon bugeiliaid hoff Cymru.

Ar ddwysaf ddistawrwydd y dyffryn o dano,
I’w can y forwynig wrth fyned i odro;
Mae’i swynol beroriaeth fel alaw angylion,
A seiniau pob nodyn yn cyffwrdd ei galon:
Mae’n sefyll, yn gwrando, mae bron a llewygu,
Gwefreiddir ei anian gan drydan y canu.

Ar gopa y mynydd mae iechyd ac hedd
Yn dawnsio heb ofni marwolaeth na bedd;
Yr awel anadla dirf fywyd di-ail
Yn ffroenau agored y blodau a’r dail;
A duwies wen rhyddid yn gyflawn o swyn,
Deyrnasa’n wastadol ar orsedd o frwyn;
Ni feiddiodd gorthrymder roi gwadn ei droed
Ar goryn dihalog y mynydd erioed;
Ac yma mae’r Bugail yn hoffi cael byw,
Mewn tawel gymundeb ag Anian a’i Duw.

(x161)
Mae’n adwaen ei ddefaid cyn gweled eu nodau,
Dealla mewn eiliad pa un fydd yn eisiau;
Fe w^yr eu rhifedi heb achos eu rhifo,
A gw^yr am bob dafad dueddol i grwydro;
Ond poenir ei feddwl a chwerwir ei deimlad
Yn nghanol ei fwyniant gan ambell i ddafad;
Mae mynych grwydriadau y “ddafad fach benddu,”
Ar brydiau bron temtio y Bugail i “regu;”
Mae yntau’r “hwrdd garw” a’r ddafad “wyllt ungorn”
Yn denu y gweddill i gyd ar gyfeiliorn;
Er hyny’r defeidgwn yn reddfol wrth anian,
A gyrchant y praidd o’r pellderoedd i’r gorlan;
Wrth amnaid y Bugail yn unig symudant,
A’r defaid direidus o’u crwydriad ddychwelant.

Mae’r awen chwareus yn awr ac erioed,
Ar lwybrau y Bugail yn hoffi roi ‘throed;
Yn mhlyg ar ei ysgwydd ei mantell a gawn,
A deuparth o’i hysbryd, a deuparth o’i dawn;
Y Bugail yn frenin ddewisodd ein Iôn,
Ac ef yn fardd-brophwyd cwynfanus ei dôn;
A “Bugail y Defaid” cyfenwa ei Hun,
Yr w^yn a’r mamogiaid gofleidia bob un.

Y DYN HUNANOL.
GOGANGERDD.
Eisteddfod Llanerchymedd, 1886.

i.
Mae dyn yn byw’r drws nesa’i ni
Dry oerni’r byd yn wenfflam,
Aeth fyny’n syth i binacl bri
O ris i ris ar garlam;
(x162) Mae mawrion byd i gyd yn grwn,
O’i flaen yn plygu’n rasol;
Enillodd hwn, pa fodd nis gwn,
Yr enw - Dyn Hunanol.

ii.
Bu’r crydd yn ceisio’n ddiwyd iawn,
O’i draed wneyd rhyw grynhodeb,
A’r eillydd ffraeth a’i fin a’i ddawn
Yn trwsio’i wallt a’i wyneb;
I’r pellder ffy pob hagrwch ffwrdd
O wydd un mor eithriadol;
Ceir holl brydferthion byd yn cwrdd
Dan hat y Dyn Hunanol.

iii.
Ac ar y stryd mae fel be ba’i
Ar wyau ieir yn cerdded;
Ail Esquimaux rhwng blodau Mai
Yw yntau’n mhlith y merched:
Ceir ar ei fron flodeuglwm hardd,
Mewn arddull dywysogol;
Pob merch o chwaeth er hyny chwardd
Am ben y Dyn Hunanol.

iv.
Mae’n fwy cyfoethog fil wrth gwrs,
Na neb a anwyd eto;
Ceir mwy o arian yn ei bwrs
Nas dichon neb eu rhifo;
Mae ffawd yn gwelwi ar ei ddôr
Dan bwys ei “arian bathol,”
Uwch cyfrif tywod glan y môr
Yw aur y Dyn Hunanol.

(x163)
v.
I lanau’r môr bob tymhor Haf
Mae’n myn’d mewn rhwysg dychrynllyd;
Fel pawb na fu erioed yn glaf,
Mae’n myn’d er mwyn ei iechyd
M·yn gael ystafell-wely glyd
Mewn gwesty gwych ffasiynol;
Ond eto ni cheir braidd ddim byd
Wrth fodd y Dyn Hunanol.

vi.
Ar gefn y dòn nid oes a wâd,
Nad ydyw yn ei elfen;
Ac yn y dw^r pan gyll y bâd -
Mae’n nofio fel hwyaden;
Ni fedra mil o stormydd blin
Wanhau ei reddf nofiadol;
I ddyfnder mawr hyd ei ben-lin
Anturia’r Dyn Hunanol.

vii.
Pe rhoddid tân yn mhen y nwy
A gronwyd yn ei natur,
Fe fyddai’n hawdd goleuo plwy’
Heb unrhyw draul na llafur
Mae’n gelfyddydwr heb ei ail
Yn nheithi’r “Celfau Breiniol,”
Ar ddyfeisiadau rif y dail
Esgora’r Dyn Hunanol.

GOFID.
Eisteddfod yr Ystrad, 1880.

O! Ofid erch! clwyfo dyn
Mae o’i nwyd bob mynydyn;

(x164)
Trwy drais, hwn gais yn gyson,
A’i gledd dur ddwfn frathu’r fron;
Ei saeth brwnt yra’n syth braidd
I’r galon yn ddirgelaidd;
Cais oeri pob cysuron, -
Ymlid a lladd teimlad llon!
Rhywsut ei ing fun dristau
Cu lawenydd calonau;
Ei naws annhirion esyd,
Bruddaidd Iôn uwch ben ein byd.

Edwynwr blodau yni
Ydyw yn Haf ein byd ni;
Anial dir anhwylderau
Galar byd, gelwir ei bau;
Am reddfol dymhor hawddfyd,
Ni wybu hwn yn y byd.
Lladd rhyddid wna Gofid gan
Ddifwyno’i harddaf anian;
Ar ei faes torf o weision,
Eto’n llu weithiant yn llon;
Ac yn mhob lle efe fydd
Yr ethol lywodraethydd
I bob blin erwin oror
A greodd wae egyr ddôr;
Holl wedd y fro a’i lleddf wrid
Anhafal, edwyn ofid!
Dyn esyd heb gydnawsedd,
Heb londer, ceinder nac hedd.

Dawn oeraidd ddidynerwch,
Gafwyd trwy y Gofid trwch;
Dyn ni all ddiffodd trallod,
Oddifewn edrydd ei fod
Ar drem gyntaf, oraf, hwn,
Gwawr wylaidd o gur welwn.
(x165) Cafwyd rhwysg gofid ar rudd,
A dull afrad y llofrudd;
Yn ei gell dywell a du
Trwy ei ing mae bron trengu!
Cysgod angau’n ddiau ddyd
Ddi-drwst sêl ar y ddedryd!

Ofid dwys; er profi dyn
Efe ddeil i’w fyw ddilyn;
Fel hyn mae’n ei erlyn ef,
Ail ysbryd tanllyd hunllef
Er cael gorau berlau’r byd,
Moethau a phob esmwythyd
Nos a dydd wrth gynhes dhn,
Efe’n reddfol, f·yn ruddfan.
Sain ei gân droes yn gyni,
Wylo’n awr a glywwn ni.

Y fun gaf yn ei gofid
Yn byw’n lleddf dan boen a llid.

Edwyna’r fam dyner fel
O lys ing, ei thlws angel,
A dirion roed i orwedd,
Y mwynaf em - yn ei fedd!

PONT-BREN Y GELLI.
Eisteddfod Capel Bodringallt, 1885.

Pontbren anniben iawn yw, - hen lipren
Laprog heb ei chyfryw;
Ychydig y’nt ei choed gwyw,
A braenedig bron ydyw.

(x166)
Y MYNEDOL.
Cylchwyl Lenyddol yr Ystrad, 1884.

Eiddunaf doriad gwawr goleuni pur,
Ar ddudew gaddug y Mynedol pell
Cloedig ydyw’r pyrth, rhaid dringo’r mur
Os am gael trem ar ei gyfrinion gwell.

Mor bell a gwan yw’n hamgyffrodion ni,
Am gylchdroadau’r cyfnod cêl, a’i fri;
Pa le y mae’r athronydd coeth ei ddawn
Esbonia ddwfn ddirgelion hwn yn llawn?
Aweniaeth gref arswyda rhag prysuro
I’r gwyll di wawr a’i phwyntil i’w egluro;
Pa le y mae’r athrylith nef-ymledol
Bortrea gyfrin lwybrau’r pell Fynedol?

Y gwylltaf ddychymyg wel rwystrau bob tu,
I nodi terfynau argyfwng mor ddu;
Ei nodwedd a’i hanes a gollwyd yn nghyd
O eisiau ‘croniclo ar lyfrau y byd;
Yn mlaen aeth cyfnodau yr oesau di-hedd
Mor gyfrwys ag angau, mor ddistaw a’r bedd!
Anghofiodd hanesiaeth i gryno gofnodi
Helyntion y byd, a’i gyfoeth a’i dlodi -
Mae plygion ar blygion o nifwl nos-ledol
Ail Aiphtaidd dywyllwch yn toi y Mynedol,
Ar ymdaith yr elem pe cawsem yr hawl
Drwy’r broydd diymsang yn ngherbyd y gwawl,
Yn ol ac yn ol fel cydymaith y wawr
O eiliad i eiliad, o fynyd i awr:
Yn ol i wyrdd gyfnod tirf forau y byd,
Cyn geni’r dyn cyntaf na llunio ei gryd.

Sylldremio’n ol! ddifrifolaf waith
Yw olrhain hanes y gorphenol maith;

(x167)
Edmygu Iôr yn lledu’r nefoedd ferth,
A chrogi llu y nef drwy air ei nerth;
Ei wel’d yn paentio grudd y gyntaf wawr,
A gosod sciliau’r mynydd bàn i lawr -
Gwel’d Anian dyner yn ei mantell orau,
O ddwylaw Iôn yn cael ei choron forau.

A’i ganfod o’r pellder mewn goleu di-lèn
Yn hongian y cwmwl yn entrych y nen;
Ac yn ei laith wely yn gosod yr aig
I siglo’n aflonydd rhwng erchwyn dwy graig;
A gweled ein cyn-dad yn Eden fan draw,
Yn llywio’r bydysawd ag amnaid ei law,
Ei ganfod yn frenin ar bobpeth a wnaed
Cyn llunio gorseddfainc na throedfainc i’w draed;
A gwel’d y bwystfilod, rhif sêr yr wybrenau,
Yn dyfod at Adda i dderbyn eu henwau;
Gan wylaidd gydnabod mewn parch a gwarogaeth
Ei hawliau uwchafol a’i dirion nawddogaeth.

Canfyddwn ef eilwaith tro cyntaf erioed
Ar binacl anrhydedd yn colli ei droed;
A’i epil anffodus yn nghyswllt a’u tad
Yn yfed marwolaeth o ffynon mwynhad.

Mae’r byd drwy dwyll ofalon
Yn d’rysu trefn darpariad;
Mae’n oeri gwaed y galon
Mae’n diffodd trydan cariad;
Pa le mae’r llaw symuda yn hamddenol
Sêl cyfrin flwch dirgelion y gorphenol?

Er fod chwyrn olwyn blynyddau
Yn dirwyn fy einioes i ben,
A stormydd dros gopa’r mynyddau
Yn gwywo’m hapusrwydd is nen;
Ni fedra y cerub perffeithiaf ei ddawn,
Ddesgrifio mwynderau’r Mynedol yn llawn.

(x168) Fy anwyl gyfoedion hawddgaraf
A gipiwyd i’r beddrod bob un,
A’m calon ar dori galaraf
Wrth frwydro ag adfyd fy hun;
Cyd-huna anwyliaid fy mynwes
Dan ywen yn mynwent y Llan;
Fy nagrau dywalltaf yn gynes
I falmaidd eneinio y fan.

Wrth dremio i’r Mynedol o’r prydnawn,
Mae’n greadigaeth o gymysgedd llawn;
Rhyw hagrwch hyll yn dilyn swyn di-ball
A chwyn a chân y naill ar ol y llall.
Oer yw gwyn eira pedwar ugain oed,
Ar glogwyn garw Henaint mae fy nhroed;
A si awelon tragwyddoldeb Duw
Yn tori’n bruddaidd ar fy myddar glyw
Fel adgof bywyd am fwynderau’n dyrfa
Yn pasio “careg filldir” gynta’m gyrfa;
Wyf bell o’r byd, fel meudwy llesg blinedig,
Yn ymyl rhyw ddyfodol anweledig;
Yn gwasgu amser yn fy nwrn yn ddim,
A thragwyddoldeb yn deimladwy im’.

Yn ol o bell clogwyn rhewllyd hwn,
A dim ond “careg fedd” yn dal fy mhwn
Y tremiaf heddyw drwy y niwl gysgodau
Sy’n gorwedd ar adfeilion hen gyfnodau;
O! na allaswn roddi llam yn ol,
Tuhwnt i’r nos lle bu breuddwydion ffol
Yn twyllo f’enaid am ddyfodol clir,
Yn creu gobeithion am ddwyfolach tir,
Heb roddi awgrym byth ceid trwst taranau,
A gwibiog fellt yn fflamio ar y bannau.
Breuddwydion oeddynt - a’u sylweddau sydd
Mewn bedd o siomiant er ys llawer dydd!
Er codi o’r dychymyg gestyll glin
Syrthiasant oll i’r llawr yn chwilfriw mân;

(x169) Er fod fy llygaid heddyw yn pruddhau,
Ac aden adgof cyflym yn llesgau;
Mae aden angel gyda’i haur ymylau
Yn agor hollt drwy blyg y tew gymylau!
Draw, draw, mi welaf fel goleuni’r hwyr
Sêr fy moreuddydd yn adfeilion llwyr,
A rhyngom draw, heb brisio’m heirdd rinweddau
Fe roddwyd llawer mil o “geryg beddau,”
Ac yn en cysgod prudd mae acw’n llechu
Ddrychiolaeth ‘mebyd i’m gwahardd i bechu.

Ar geulan byd arall nis gwelir ond trwch
Edefyn brau rhyngwyf a disgyn i’r llwch;
Cyflymodd fy nyddiau fel gwibiad y wenol,
Ceir braslun o’m hanes ar lyfrau’r gorphenol;
Bu lluoedd o engyl mewn mentyll o gnawd
Ar faes y Mynedol mewn stormydd o wawd;
Disgleirdeb eu buchedd wanychai bob bai
A’u moliant fu unwaith fel llanw heb drai.
Teilyngent hyd eto glodforedd y byd,
A thrylwyr edmygedd y nef ar ei hyd,
Ond ni bu hanesiaeth yn uchder ei bri,
Mor fwyn a throsglwyddo eu henwau i ni.

Os ydyw’r dychymyg yn gwisgo’r dyfodol,
A blodau aniflan y gwanwyn cysgodol,
Gan droi yr anialwch yn Eden risialog,
A dyddiau’m blynyddoedd yn wynfyd dihalog
Can wyned nas meiddia y byd mo’i anmharn,
Tra mwyniant a minau’n rhy glos i’n hysgaru;
Rhyw yrfa swynhudol fel rhamant nofelydd
A brydferth linellwyd gan bwyntil darfelydd;
Er hyny, twyllodrus a llawn o dreialon,
Fu’r yrfa ddelweddodd ar leni fy nghalon.

Mil milwaith gonestach yw adgof na dawn
Cronicla ddirgelion tir angho’f yn llawn;
Nid cyfrol ddisylwedd heb bwynt ac heb brofion
Ond cronfa o ffeithiau yw memrwn adgofion;

(x170)

(x171)

(x172)

(x173)

(x174)
Alaethus drychineb! pa le a pha bryd
Croniclwyd ei chwerwach yn hanes y byd?
Y llen dros olygfa mor bruddaidd ei gwawr,
A chalon glwyfedig, a dynwn yn awr.

YR EIRA.
Eisteddfod yr Heolfach, 1887.

O’r nef wen yr anfonir - eira glân,
A’r glynoedd oll ganir;
Arwydd sancteiddrwydd trwy’r tir,
Dyma hugan edmygir.

Yr Eira lunia glaer lèn, - o flodau
Nef-ledol yr wybren;
Oer yw gwedd pob craig addien,
Gwisga dôl ei gwasgod wen.

Y PELLSEINYDD.
Cylchwyl Lenyddol yr Heolfach, 1880.

Y Pellsenydd! pwy all synied - ei werth,
A’i wyrthiau afrifed?
Wele draw ar eiliad rhed
Ein geiriau penagored.

Y Pellseinydd, o’n pwyllus enau - geir
I gario’n meddyliau;
Heb ysgrifell i bell bau
Gwlad arall fe glud eiriau.

(x175)
Y Pellseinydd rydd arwyddion - hollol
O gyfeillach ffyddlon;
Heb ball, ef i’r pellafion,
Y g·yr frwd gywair y fron.

Y Pellseinydd sydd yn dwyshau - amlwg
Deimlad byw galonau;
Gwifren hir, am gyfrin hau
Gras y gwr gwresog eiriau.

Y Pellseinydd - palla swynion - y byd
Pan beidia’i gyfrinion;
Try’r wawr fad a’i llygad llon,
Ail naws bw^l nos helbulon.

Y Pellseinydd ufudd was –g·yr o’i fin
I’w gâr fawr gymwynas;
Seneddwr, gaiff swyn addas
A dawn ei blaid yn ei blas.

DYODDEFAINT Y GROES.
Cylchwyl Lenyddol Bethel, 1881.

Dal “Oen Duw” a hoelion dur - ar y pren
Er prynu pechadur;
O’r llif gwaed! pwy gaed dan gur
Fyth ddaliai y fath ddolur?

Y PERERIN BLIN.
Cylchwyl Lenyddol Soar, 1872.

i.
Er pan oedd y byd,,
Yn gwenu’n ei gryd.
Cyn symud tro cyntaf ei droed;
(x176)Pererin mwy llesg
Ni chuddiodd yr hesg,
Mewn unrhyw wlad gorsiog erioed.

ii.
Er aros am dalm
Nis gellir cael balm
Ond eiddo “Gilead” i’m clwyf;
Sychedu am win,
Mêl ddiliau a’i rin
I loni fy enaid yr wyf.

iii.
Mor eiddil a gwan
Y teimlaf fi pan
Ddynesaf at orsedd yr Iôr
Mae cyfoeth a dawn,
Rhinweddau yr Iawn,
Yn Nuw yn fyth gyflawn ystôr.

iv.
Af ato yn awr,
Mi welaf fod gwawr
O obaith i’r euog a’r drwg;
I’m henaid fe gaed
Dan arwydd y “gwaed”
Fyth noddfa rhag digter a gw^g.

v.
Cyfeirio fy llef
Yn syth tua’r nef,
Wnaf bellach bob borau a nawn;
Daw’r fendith i lawr,
Cyn toriad y wawr,
I’r llesgaf bererin di-ddawn.

(x177)
vi.
Trysorau di rif,
Haelfrydedd yn llif
Sy’n eiddo tragwyddol i’r Iôr;
Cawn ganfod o bell
Ororau’r Wlad Well,
A golud ei mwyniant yn fôr.

Y BUGAIL.
Eisteddfod Abercwmboy, 1888.

Llais clir y Bugail tirion - a dreiddia
Hyd rydd ael y lasfron;
Fel wrth raid, defaid hyfion,
Gawn a pharch i’w gw^n a’i ffon.

Y MOR.
Eisteddfod Aberdar, 1866.

Eang Fôr! oror erwin
Mawr ei aeth, ond mwy ei rin;
Hanfod rhwysg a gwynfyd rhydd
A ddiail lona’i lenydd.
Am drysor hwylio’r heli
Ydyw nôd ein bywyd ni;
Heulwen bur welwn heb ball,
I glyd euro gwlad arall;
A’r eigion annhirion wnaeth
Fynediad i drafnidiaeth.

(x178)
Gwel rhyw leng glaer o longau
Hyd y dw^’r yn diwyd wau;
I’w huthr fordaith ar fyrder,
Hwyliant, mordwyant yn dêr;
Tra mawreddog ysgogant,
O frwd aidd mor hyfryd ânt;
Herio dig ferw y don,
Ar y daith fydd rhaid weithion.

Y lloer ddel i’w llwyr ddilyn,
Eilw y Môr fel y m·yn;
A’i llaw deg llywia y don,
A nodau ei newidion.
O entrych nef hon hefyd,
Os gwyl ei greddf, sigla’i gryd;
Mor wyl mae’n chwim reoli
Dwndwr trai a llanw’r lli’.

Rhyfedd iach ar hafaidd hin,
Ceir hogiau’n casglu cregin;
Yn ornwyfus rhai nofiant,
Yn nghwr y llong eraill ânt
I Ion chwilio’n iach eilwaith
Am bysg difai’n fintai faith;
Swyn parhaus bleserau sydd
Yn glynu wrth y glenydd.

Dyma’r adeg gudeg gawn
Ddifyr ymwelwyr hylawn;
A’u gwedd fel llynedd yn llu,
I siriol ymbleseru;
Rhai’n â’u hil ddon’t yn fil fwy
Hael, dedwydd, a chlodadwy.

Y claf bob Haf f·yn hefyd
Orig bêr o wg y byd;
(x179)Caiff rodio yno yn wych,
O fan i fan yn fynych;
Ar y làn siriol wena,
A chyda gwen iechyd ga -
Swyndeg Hâf sy’n digyfor,
Fwy na mwy ar fin y môr.

DOH, ME, SOH, DOH.
Eisteddfod y Gelli, 1887.

Trwy’r Doh, Me, Soh, Doh, y daeth - mawl leisiau
Melusaf Cerddoriaeth;
A diliau eu hudoliaeth,
Hawdd wefra’n gwyl ddwyfron gaeth.

Y DDEILEN BRUDD OLAF.
Eisteddfod Trecynon, Aberdar, 1868.

i.
Ar ol tymherus hapus hin,
Try’r ddeilen werdd yn ddeilen grin;
Un ddeilen weddw unig,
Dim, dim ond un,
A erys yn y goedwig
Heb gyfaill cun!
Ar frig y pren yn brudd a chlaf,
Fel olaf dyst o fwynder Haf.

ii.
Pa le’r aeth derch gymanfar dail,
Fu’n gwisgo’r wig o’i brig i’w sail,
(x180)Ag harddwch gorphenedig ?
O! ddeilen grin,
Paham yr wyt mor unig,
Mor wyw a blin?
Pa le, pa le ? ai yn y bedd,
Mae’th holl gyfoedion teg eu gwedd ?

iii.
Paham mae’th ddrych mor llwyd a gwyw ?
A thithau gynt fel deilen Yw,
Mor wyrdd a gwyrddni’i hunan;
Ond, ond yn awr
Gwywedig ac aniddan
Yw gwrid dy wawr!
Brau fywyd llawer dyn o fri,
A bortreadir genyt ti.

Y MEDDWYN.
Cylchwyl Ddirwestol yr Ystrad, 1879.

Y Meddwyn, mor ymawyddol - rywsut
A f·yn groesi’r heol;
O berth i berth mor sibwrthol
A mulyn cerdd yn mlaen ac ol.

Y Meddwyn wedy’n nid oeda - redeg
I’r gwaradwydd dyfna’;
Heb weled y niwed wna
Iddo’i hun y ffordd yna.

Y Meddwyn a f·yn ddifenwi - ei holl
Gyfeillion uchelfri;
Am ddiod er tylodi
Cudeg wraig y cwyd ei gri.

(x181)
Y Meddwyn llwm a addef - ei fod yn
Yfed hedd ei gartref;
Gwario ei aur a’i g·yr ef
Rhyw ddydd i fawr ddyoddef.

Y Meddwyn - adyn anedwydd - o hyd
Sycheda’n fwy beunydd!
Ond maes o law daw y dydd,
A byw raid heb wirodydd.

Y Meddwyn, dyn a doniau - ban gerub
Yn gorwedd mewn carpiau;
Llwm a noeth! yn lle mwynhau,
Eirian oes heb ‘run eisiau.

YSGOL TREWILLIAM.
Eisteddfod Williamstown, 1879.

i.
Afreidiol clodfori yr huan uwch ben,
Am wasgar ei wres a’i oleuni;
Tra blodau’r afalau yn gnwd ar y pren,
Bydd pawb yn arganmol eu tlysni;
Os ydyw rhinweddau can amled â’r dail
Yn deilwng o barch ac edmygedd;
I Ysgol Trewilliam ceir digon o sail,
I hawlio ein mawl a’n clodforedd;
Ni ddysgir un foes-wers na syniad fo’n wyrgam,
Gan feistr nac athraw yn Ysgol Trewilliam.

ii.
Er dysgu’n rhai bychain yn ddestlus a choeth,
Rhaid plygu’r ewyllys yn forau;
A’u hanfon i’r Ysgol i’w gwreiddib yn ddoeth,
Yn nheithi doethineb a moesau;
(x182) Fe welir rhieni mewn ambell i dref,
Mewn ffwdan a helbul beunyddiol;
Yn gyru’r “rhai bach” yn wylofus eu llef,
A’u dilyn bob cam tua’r Ysgol;
Tra plant y gym’dogaeth yn rhedeg ar garlam,
Yn nwylaw eu gilydd i Ysgol Trewilliam.

iii.
Ceir ambell i feistr mor ynfyd â ffôl,
Yn curo y plant yn ddiarbed;
Maent wedi dod adref yn ofni mynd ‘nol
O’u rhyddid i dir y caethiwed;
Gwell iddo f’ai arfer tynerwch a pharch,
Na dwrdio y plant a’u pastynu;
Ceid felly ufudd-dod i wneuthur ei arch,
Ac ymdrech arbenig i ddysgu;
Mae’r plant a’u hathrawon â’u bronau yn wenfflam,
O serch at eu gilydd yn Ysgol Trewilliam.

iv.
Gweithgarwch yw’r perlyn disglaeriaf a gawn,
Yn nghoron ddihalog yr Ysgol;
A’i threfn a’i chynlluniau mor ëang a llawn,
Heb gysgod o ffaeledd camsyniol;
Diflanodd rheolau yr hen amser gynt
Fel mwyniant disylwedd breuddwydion;
A phob rhyw aflerwch a ffoes ar ei hynt
Am nodded i wyll y cysgodion;
Ni feiddia hyll ferw direol y “Bedlam,”
Deyrnasu am eiliad yn Ysgol Trewilliam.

v.
Mae bechgyn yr Ysgol yn uchel eu clod,
Ar gyfrif eu llafur a’u cynydd;
A’r merched esgynant i safle o nôd,
Er nad yw yr Ysgol ond newydd;

(x183)
Llawenydd i galon pob swyddog yn hon
Yw canfod y plant yn rhagori;
Tra hwythau’r rhai ieuainc fel engyl bach llon,
A berffaith feistrolant eu gwersi;
Amddiffyn y nefoedd a gadwo yn ddinam,
Y plant a’u hathrawon yn Ysgol Trewilliam.

Y CADFRIDOG GORDON.
Eisteddfod Pentyrch, 1884.

Arwydd geir o wedd gwron - yn Gordon
Ac ardeb gwas ffyddlon;
Eithr y gwr fathra goron
O bydd raid, er boddio’r Ion.

ESTYNIAD YR ETHOLFRAINT.
Eisteddfod Bethel, 1885.

Hawdd edmygwn dalent helaeth,
Angel-arwr mawr Rhyddfrydiaeth;
Ar ei ben blagura’i goron,
Tardd rhinweddau’n frwd o’i galon;
Peraroglant fel yr enaint
Trwy Estyniad yr Etholfraint.

ii.
Llawer mesur gwych a chywrain,
Gaed erioed o Senedd Prydain;
Trwyddynt filwaith bu’n cysuron
Yn dylifo fel yr afon;
Cawsom eilwaith fwy rliagorfraint
Trwy Estyniad yr Etholfraint.

(x184)
iii.
Yn ein natur mae’n gynhenid
Rhyw dqeddiad cryf at ryddid,
A thros hwn bu’n tadau dewrion
Yn offryrnu gwaed eu calon;
Brwd glodforwn hyd ein henaint,
Ddydd Estyniad yr Etholfraint.

iv.
Llu o freintiau sy’n glymedig
A rhinweddau’r blaid Rhyddfrydig;
Cymru ddeil ei chedyrn freichiau
Tra fo’r Wyddfa ar ei sodlau:
Doed mesurau eto’n genfaint
Fel Estyniad yr Etholfraint.

Y CADFRIDOG DE WET.
Eisteddfod Bodringallt, 1891.

Rhyw ryfelwr a’r filain - yw De Wet
Roed yn farn ar Brydain;
Wedi cario’i nôd cywrain,
O’i rhwydau’n fyw, rhed yn fain.

Y CADFRIDOG WOLSELEY.
Eisteddfod yr Heolfach, 1889.

Gwir heini gawr enwog yw - rhyfelwr
A’i fawl beb ei gyfryw;
Dyn i’r oes - a dyna rhyw
Gadfridog difraw ydyw.

(x185)
Y DIACON PUR.
Y DIWEDDAR MR. JOHN MORGAN (GOF), YSTRAD-RHONDDA.
Eisteddfod Nebo, 1895.

Mor ddedwydd oedd ein byd, cyn i lygredd blin,
O bell ddarganfod hardd breswylfod dyn;
Cyn i’r fellten gyntaf saethu drwy y cwmwl
Cartrefle dyn oedd loew fel drychfeddwl;
Draw cyn i bechod feiddio rhoi ei droed
I ddwyno sanctaidd ddaear Duw erioed!
Elfenau dwyf-ogoniant geid pryd hyn
I wisgo dyn fel eiddo’r angel gwyn;
Pryd hyn, ceid nodau’i gân yn nefol dôn,
Cyn teimlo’r pigyn cyntaf dan ei fron;
Draw cyn i’r Hydref prudd a’i glafaidd liwiau,
Ar ei glust erioed sibrwd enw angau;
Fath hedd ddylanwai’i fron yr adeg hono,
Tra’i ddyddiau fel mynydau yn myn’d heibio!

Ond O! daeth angau, bedd, a barn, i.’w hanes,
Gan beri storm a chryndod byth i’w fynwes;
Mewn byd fel hwn, yn awr, mor anhawdd cael
Cymeriad pur, heb lawer llinell wael;
Ond aeth John Morgan drwy ei barch a’i anfri!
A’i wisg yn lân heb fawr o frychau arni;
Mor hapus treuliodd ei foreuol hynt,
Hyd lwyd fynyddig fro Llanwyno gynt;
Ar lanau’r Clydach, tra yn ol a blaen
Y rhedai, drwy fyd yn llawn o ystaen.
A’i bwyntel, Iôr a baentiodd loew wrid
O degwch nefol ar ei ael ddi-lid;
O! fel y chwarddai bywyd yn ei lygad,
Y dawnsiai hoender ar ei wedd yn wastad;
Tra ar ei rudd ymffurfiai’n brydfertb, brydferth,
Gynddelw cariad yn ei holl gyfanwerth.

(x186)
Ei ddiniweidrwydd pur, a’i dalent rymus,
Ddiferent wiredd dros ei wridgoch wefus;
Ei ysbryd oedd mor fyw â’r awel rydd;
Tra’n troi a throsi’r dail ar haner dydd;
Anwylaf fab i rinwedd oedd erioed,
O’i febyd mwyn a gwanwyn gwyrdd ei oed;
Cyn iddo symud, cerdded, na rhoi llam,
A chyn i’w dafod yngan enw’i fam!

Un gadwen o wynfyd
Fu cyfnod ei febyd,
Ar aelwyd ei riaint dinam;
Ni fedrai’r un angel
Ei gadw’n fwy dyogel
Nag aden gysgodfawr ei fam.

O râdd i râdd dadblygai’r dyn yn John,
A daeth yn nwyfus fachgen ieuanc llon.

Nis gwyddai’r pryd hwnw am droion y byd,
Breuddwydion diniwed a swynent ei fryd;
O’r G1òg i Darwyno, yn fil ac yn fyrdd,
Ceid blodau persawrus yn hulio ei ffyrdd;
Yr awel a’r adar yn beraidd a thlws,
Bob dydd a’i cyfarchant ar gareg y drws.
Gobeithion melusaf ei fywyd pryd hwnw
Oedd gwel’d y dyfodol yn wyn ac yn loew;
Dyheai ei galon yn nghwsg ac yn effro,
Am yrfa ddyfodol a’i llwybrau’n disgleirio.

Yn nghwrs ei fywyd penderfynol, caed
Y gwron sathrai rwystrau dan ei draed;
Ac angerddoldeb tân ei anian loew
A ysai anhawsderau fil yn ulw!

Ffieiddiai wâg ogoniant ffol y byd,
Didwylledd ydoedd penaf nod ei fryd;
(x187) Gonestrwydd oedd disgleiriaf berl ei goron,
Ni thorai ef ei air pe torai ‘galon!
I’w egwyddorion safai “Shôn” yn syth,
Pe syrthiai’r sêr i lwyr ddiddymdra byth;
Ei feddwl clir amlygai benderfyniad,
Ymylai ar herfeiddio argyhoeddiad.

O’i fron ni feiddiodd llid wneyd noddfa gref,
Ni fflamiodd cynen den ei ysbryd ef;
Un ydoedd aeth drwy erch gwerylon byd,
Ac engyl hedd yn lleng o’i gylch o hyd;
Ceid duwies rhin yn cario baner wen,
I’w chwifio’n ol a blaen o gylch ei ben.

Gorseddai rhyddid yn ei fron erioed,
Caethiwed welwai’n brudd wrth sôn ei droed;
Elfenau trais er uno’n fyddin gref
A wrident yn ei bresenoldeb ef!
Cenfigen a chamwri ynfyd plaid
A chwalai’n chwilfriw mân i’r llwch a’r llaid.

Er i’r uchelgeisiol sathru
Hawliau’r werin o dan draed;
A thrywanu bron cymdeithas,
Nes ei lliwio’n goch â gwaed!
Er i’n llysoedd a’u cyfreithiau
Ddwyn y nwydwyllt lanc yn ddof
Er i wladol gynhyrfiadau
Lwyr ddadymchwel gorseddfeinciau,
Beth oedd hyn i “Shon y Gôf”?

Dyn yn byw yn llwyr i’w Geidwad,
Dyna’r fath un ydoedd ef;
Dyn â’i galon mewn byd arall
Cyn ei symud tua’r nef;
Wrth yr orsedd byddai’n glynu,
Minau at yr orsedd drof;

(x188) Ar fy neulin ceisiaf blygu,
Taer ymbiliaf am gael meddu
Ysbryd gweddi “Shon y Gof.”

Gwyn fel ôd ar ael y bryniau,
Claer fel ewyn brig y dòn;
Oedd yr ysgol ddringai fyny
Tua’r nef, o ffon i ffon!
Ar yr ysgol byddai’n wastad,
Dringo’r ydoedd er cyn côf
Dewisedig flodau cariad,
Yn eu harddwch lliw a’u ffurfiad,
Geid yn nghrefydd “Shon y Gof.”

Beth gynyrcha fôr o ddagrau,
Beth a dania’n bronau’n fflam?
Onid hen adgofion melus
Am gyfoedion tad a rnam?
“Cyrddau’r Plant” a’r “Cyfeillachau,”
Fel angylion ddont i’n cof;
Di-gwyl gweled hen wynebau,
Disgwyl clywed hen brofiadau
Addfed saint fel “Shon y Gof.”

Ar ei ddeulin hwyr a borau,
Ocheneidiai’n syth i’r làn;
Iôr atebodd ei weddiau
Fil o weitbiau ar ein rhan;
Ar “Orseddfainc Gras” yn gyson
Plygion o ogoniant gaed;
Tynu hanfod nef i’r galon,
A chafodydd ei bendithion
Wnai wrth ddadleu rhin y “Gwaed.”

Plethu ffurfiau ei gymeriad
Wnaeth ei hunan er ei glod;
Treuliodd oes yn Nebo, Ystrad,
I ymestyn at y nôd;
(x189) Afraid crogi ei nodweddion
Ef mewn darlun ar y mur;
Rhai’n ymrithiant fel ysbrydion
O flaen llygaid ei gyfeillion,
Byth er lleddfu iâs eu cur.

Gwir “Fedyddiwr” brwd a chynes
Wrth naturiaeth ydoedd ef;
Duwiolfrydedd lon’d ei fynwes
Geid mor bur a gwawl y nef
Ei fucheddiad defosiynol
Hawliai deyrnged gan bob un;
Dyn o rodiad mor ddymunol,
Dyn ar ddeulin mwy deniadol,
Tynai’r nefoedd ato’i hun.

Ymddiriedaeth yn ei Geidwad,
Ydoedd cryfder mawr ei ffydd,
Ac ar danllyd allor cariad
Yr offrymai’ hun bob dydd
Yn yr “Ysgol” a’r “Cwrdd Gweddi”
Byddai’n llawn o bob mwynhad;
Colled anadferol drwyddi
Byth i Nebo ydoedd colli
Sê1 ac yni’r duwiol dad.

Treuliasom lawer awr o felus gôf,
Mewn difyr ymgom gyda “Shon y Gof”
Ar nawn tawelaf wedi claddu’r dydd
A thwrf yr efail; efe’n rhwydd a rhydd
Ddatodai’n fedrus, ddyrys glwm ar glwm,
Yn nghadwen hanes boreu oes y Cwm.
Draw, draw, pan oedd distawrwydd prudd y bedd
Heb ddim i dori ar ei swynol hedd,
Ond brefiad lleddf y defaid ar y twyn
A sain “Cwn Hela” rhwng y grug a’r brwyn.

(x190)
Prydydd anian oedd ein cyfaill,
Fel goreufeirdd “Cymru Fu;”
Darllen ceinion gweithiau eraill
Ysai’n fflam ei ysbryd cu;
Dyrchai rin a rhagoroldeb
Beirdd Gwyllt Walia hyd y nef
Prif elfenau anfarwoldeb
Yn y Cymro welai ef.

Prin ei gyffwrdd wnai yr awen
Er cynyrchu llinell dlos:
Fel cyffyrddiad bys yr heulwen,
A godreuon gwisg y nos;
Lluniai benill mor ddidrafferth
Ag anadlu’r awel fwyn;
Hoffai’r prudd, edmygai’r prydferth,
A bedyddiai’r ddau â swyn!

Ergyd trwm i’w anwyl briod
Oedd ei ro’i mewn distaw fedd;
Teimlai’r plant fel heb yn wybod
Eu bod eto’n gwel’d ei wedd;
O! mae’r syniad am gyplysu
“Careg Fedd” a’i enw mwy,
Er yn ffaith, mae bron a llethu
Llawer calon fu’n ei garu,
N id oes falm a wella’u clwy’.

Angel wylio ar bob cyfnod
Rhag i neb i ro’i ei droed
Ar y cwrlid guddia feddrod
Un na sathrodd neb erioed;
Boed i’w gorff yn mynwent Nebo
Ddistaw huno mwy mewn hedd;
Taenwn ninau flodau arno,
A d’oed adar nef i byncio,
Eu galar-gerdd ar ei fedd!

(x191)
COFFI TAFARN TREDEGAR.
(Un o’r rhai cyntaf o’r fath yn cylchoedd hyn, os nad yn y wlad.)
Eisteddfod Cymrodorion, Tredegar, 1881.

Hynaws Dafarn nas difa - ein cysur,
A’n cais am weddaidd-dra;
Ail palas clyd mae’n dy^ da,
Byd o hedd a’i bedyddia.

Ty^ Tafarn, ty^ at yfed-diodydd
Didwyll dyr ein syched;
Llety gwiw, gwin diniwed
A rydd i’r rhai iddo rêd.

Gwylaidd gaffael gwledd o goffi - yn hwn
Wnawn hyd ein digoni;
Hen drwyth pur i’n natur ni,
A berw bair heb oeri.

Difyrwch - nid ofera - hwyliog gerdd
Ar fêl gainc gawn yma;
A chryn deg chwareuon da
Geir eilwaith heb gweryla.

Y GOEDWIG.
Eisteddfod Heolfach, 1881.

i.
I’r Goedwig hoff, mae plethu cân
Can hawdded ag anadlu;
Gwneir rhwystrau fil yn ulw mân
Dim ond cael hwyl i ganu!
(x192) Edmygwn byth y dwysder fedd
Y fangre neillduedig;
Hael yfwn o’i “awelon hedd,”
Cofleidiwn swyn, cusanwn wedd
Byth-ryfedd wyrddni’r Goedwig.

ii.
Mae haul y dydd, a sêr y nos,
Yn tremio trwy y brigau
Ar blant y wig o’u haelwyd dlos,
Yn gwisgo’u “dillad gorau;”
Pan dyr y wawr, claer wlith y nen
Eneinia’u gwallt crogedig;
Tra’r dryslwyn drain mewn mantell wèn,
A llys y fran goruwch ei ben,
Ar geubren tala’r goedwig.

iii.
Y gornant glir a ylch ei throed,
A’r gwynt a’i sych a’i dywel;
Cusenir grudd pob un o’i choed
Gan wefus fwyn yr awel;
Y dderwen gref o’i safle s·yn,
Orchfyga’r storm grwydredig;
Yr eiddew llesg ymafla’n d·yn,
A’i fraich am wddf y goeden f·yn
Gael esgyn tw^r y Goedwig.

iv.
Banerau’r allt yn fil a myrdd,
A chwifiant yn yr awyr;
Nid gwyw a llwyd, ond prydferth wyrdd,
Yw gwreiddiol liw ei benyr;
Ond Hydref gwyw o’r pellder draw
Barlysa’r coed uchelfrig;
O’i wgus drem ymsaetha braw,
A bwrw dail fel cawod wlaw
Ddihindda wna y Goedwig.

(x193)
v.
Hawddgarwch pur y Goedwig werdd,
Sy’n ail i nefol fangre;
Mae odlau pêr eu swynol gerdd,
Fel cydgan “ser y bore;”
O’u temlau dail mae’r engyl mân
Yn arllwys ffrwd o fiwsig;
Pob un a’i fron yn llawn o dân,
Wrth daro byrdwn llon y gân,
Ar lwyfan gwyrdd y Goedwig.

vi.
Rhwy nwyfus lanc i’r Goedwig aeth,
I gasglu “cnau” a “mwyar,”
A rhwygo’i wisg a’i gnawd a wnaeth,
Wrth dynu nythau adar;
I’r crwydryn blin yn llety gwnaed,
Ei mynwes brudd ac unig;
A’r llofrudd erch, am guddfan gaed
Yn ffoi yn goch ei wisg gan waed,
Ar flaenau draed i’r Goedwig!

YR YMFUDWR CYMREIG.
Eisteddfod Canol y Rhondda, 1891.

Ymfudwr hoff! rhwng pryder a boddhad,
Mor anhawdd cefnu ar ei anwyl wlad;
Mae’n gwel’d cysuron bywyd draw yn ffoi
O’i flaen, tra yntau yma yn ymdroi
Yn nghanol gorthrymderau fil, a gwaed;
Fel sicraf etifeddiaeth dyn tylawd!

(x194)
Ymgiliodd llwydd a ffawd oli wydd yn mhell
Eu canlyn fyn fel hyn i wlad sydd well!
Mae’n gwel’d y bryniau draw yn wyn i gyd,
A’u tegwch cain a lwyr hud-ddena’i fryd.
Ffarwelio wna a’i dad a’i fam yn brudd,
A ffrwd o ddagrau’n golchi traeth ei rudd;
O’i gylch ymdyra hen gyfeillion lu,
Fel adgof byw o’r cysylltiadau fu.
Rhy anhawdd dweyd, pa un ai’r lleddf ai’r llon,
Gynhyrfa lanw’r teimlad dan ei fron;
Mae’n dàl manteision fil Amerig draw,
A golud ei gogoniant ar un llaw,
Ac ar y llall, mae Cymru lai ei bri,
Yn anwyl, anwyl ar ei chyfer hi;
Hawdd dybiem weithiau fod i’w galon sail,
I ganu’n iach, ac wylo bob yn ail!

Mae’n teimlo fod rhaid cefnu ar
Hen ddaear swynol Cymru;
Gogoniant hon sy’n myn’d dan len,
Pa ddyben yw ei gelu?
Rhaid cychwyn bellach o’r hen wlad,
Am ryw sefydliad newydd;
Mae deiliaid hon o ach i ach
Yn myn’d yn dlotach beunydd.

Mae’n disgwyl cael mwynderau’r byd,
A’i olud gyda’u gilydd;
Fel pe’n cydfyned law yn llaw,
Tu draw i Fôr y Werydd;
Yn Nghalifornia, tybia fod
Yr aur fel tywod yno;
A ffrydiau hael o hufen pur
I natur ar ddiffygio.

Bydd gorthrwm dybryd byd a’i bwn,
O’r cwestiwn o angenrhaid;
(x195) Tra heulwen rhyddid uwch y fro,
Yn ymddisgleirio’n danbaid;
Ni ddaw anhawsder byth i’w gwrdd,
Fe gilia ffwrdd o’i wyddfod;
Gwel ddoniau yno rif y gwlith,
Heb unrhyw rhith o drallod.

Hen Gymru anwylaf! ei gadael heb oed,
Yw’r gorchwyl caletaf a deimlodd erioed;
Rhaid ydoedd ffarwelio mewn dirfawr dristad,
A swyn a gogoniant henafol ei wlad;
Ffarwelio â’i themlau godidog ac heirdd,
Ffarwelio â’i chanwyr-ffarwelio â’i beirdd,
Ond os oedd gorthrymder yn deifio’i fwynhad,
Eiddunai o’i galon dangnefedd i’w wlad;
Dymunai wrth basio pob clogwyn a dol,
Am nodded y nefoedd i bawb oedd ar ol.

Yn mwnglawdd aur yr hyfryd fro,
Mae’n blino ar ei fywyd;
Mae moesau’r gweithwyr iddo ef
Fel hunllef ar ei ysbryd;
A theimlo yn ei galon mae
Fel pe bae’n alltud parod;
Ymgyfyd hen adgofion lu,
I’w fryd am Gymru hyglod.

Ar gyfandir mawr Amerig, .
Teimla’i hun yn berffaith unig;
Ar ei aden hedeg beunydd
Mae ei fryd i Gymru lonydd.
Mae’n gyfoethog o drysorau,
Llifa golud byd i’w goffrau
Ond andwyir ei gysuron
Gan lifogydd o helbulon.

(x196) Hoffa gyflog y mwngloddiau,
Hoffa gysur gwlad ei dadau;
Ac yn Ngwalia mewn tangnefedd,
Hoffa fyw a marw gartref.
Fe rydd fri Amerig lydan,
Am gael byw yn Nghymru fechan;
Taer ymbilia ar ei ddeulin,
Am gael bedd yn Ngwlad y Cenin!

Y MWYA’I FAI PAROTA’I FEIO.”
Eisteddfod Aberaman, 1869.

i.
Hawdd temtir dyn i lunio cân
Gan swyn yr hen ddiareb brydferth
Aweniaeth. oer dry’n eirias dân
Nes ysu rhwystrau’n wenfflam goelcerth;
Pan wywa ceinciau’r gerdd yn fyrdd,
Pan gyll yr awen ei thestynau,
Byth erys hwn o hyd yn wyrdd
Fel ywen brudd uwch ben y beddau:
O oes i oes, parha i dystio,
Mai’r “mwya’i fai parota’i feio.”

ii.
Adwaenaf ddyn sy’n fawr ei fri
Ond bychan iawn yn mhob gwybodaeth;
Gall herio mân segurwyr lu,
I ganfod beiau y gymydoaeth;
Er nad yw ef ond haner pàn
Mae’n gwel’d a chofio pob ffaeleddau,
Ac er na fedd ond talent wàn
O ddim mae creu pob math o feiau;
A dyma’r gwir i gyd am dano
Y “mwya’i fai parota’i feio.”

(x197)
iii.
Mi wn i hyn, nad yw yn llai
Na mwy agored i’w gamddeall;
Drwy ystryw ffals, pentyra rhai
Bob rhith o fai ar rhywun arall;
Gwasgara’r gweilch fân feiau’r plwy’
Rhwng mil a mwy heb hawl na thrwydded,
Ar gyhoedd gwlad tadogant hwy
Eu heiddo’i hunain i’r diniwed;
Rhy brin mae rhai’n yn werth eu damnio,
Y mwya’i fai parota’i feio.”

iv.
Bydd ambell wag yn myn’d drwy’r fro
Gan alw heibio’i holl gydnabod;
Ond dychwel wna o dro i dro,
A rhos o’u beiau, rhif y tywod!
Mae’n rhaid mai ar ei gof mae’r bai,
Pa beth a ddaeth o’u myrdd rhinweddau?
Yn ei fyw nis gallasai lai
Na chofio’n bai, a chwyddo’n brychau;
Waeth beth fo’i gof, waeth beth ddywedo,
Y “mwya’i fai parota’i feio.”

v.
Adwaenwn ddyn oedd fab i’w dad,
Gwr honai’ hun yn Rabbi’r ardal;
Ond methai llygad craff y wlad
A gwel’d ei ddoniau claer anhafal;
Yn llyfrau goreu’r ganrif hon
Canfyddai wall ar bob tudalen;
A’u synwyr, meddai, wthid bron
I lanw ceudod plisgyn cneuen!
Ond dyma’i hanes ef yn gryno,
Y “mwya’i fai parota’i feio.”

(x198)
vi.
Ceir ambell goegyn gwâg ei ben,
A dybia’i hun yn fardd o allu
A rhês o hurt gocosfeirdd pren
Ystyria feirdd gorseddawg Cymru;
A haera fod eu gweithiau’n llawn
O wallau cynghaneddol drwyddynt
Heb olion dysg, na phrawf o ddawn,
Yn werth cyfeirio’n sylw atynt;
Wel, dyma brawf diymwad eto,
Mai’r “mwya’i fai parota’i feio.”

vii.
Cawn lawer dyn crefyddol iawn
A’i farn ar bobpeth yn derfynol,
O “feiau’r saint” mae’i “gad” yn llawn
A’i ddawn i’w ddweyd yn ddiarebol;
Ni wel un bai byth ynddo’i hun
Pe byddai hwnw c’uwch a’r Wyddfa!
Ond beiau eraill o bob llun
Ar ben rhyw un a gamleola;
Ar led-led gwlad mae’r son am dano
Y “mwya’i fai parota’i feio.”

viii.
Prin medrodd angel gwyn erioed
Foddloni chwaeth cynlluniwr beiau;
Bob cam a rydd, mae’n taro’i droed
Wrth garnedd fawr o fân ffaeleddau;
Mae’n poeni’i gorff a’i enaid tlawd
Wrth wel’d y byd i gyd mor feius;
Cerydda’i gw^r a dwrdia’i frawd
Am dreulio bywyd mor anweddus;
A gwiria’r hen ddiareb hono
Y “mwya’i fai parota’i feio.”

(x198)
Y BARRY DOCK.
Eisteddfod Flynyddol Bethel, Ystrad, 1885.

Y Barry Dock, ei bwriad yw - hollol
Wella masnach ddadfyw;
Camp-ymgais dry’n fantais fyw
I deg “wlad y glo” ydyw.

GWRAIG LOT.
Eisteddfod Nebo, 1889.

Heb râdd o ffydd, mae’n rhaid addef - “Gwraig Lot”
Garai’i gwlad a’i chartref;
Nid hawdd i’w henaid oddef,
Arni nôd o farn y nef!

Y GWYBEDYN.
Cylchwyl Lenyddol y Gelli, 1891.

Od o bigog, mi debygaf - ydyw’r
Gwybedyn pan fwynaf;
O’i radd, wele’r eiddilaf
Hefyd o rês fodau’r Haf.

DIWEDD.

 


(x200) 1425k Rhan 2: Rhestr o’r Tanysgrifwyr i “Mynydau Hamddenol” Nathan Wyn (1905)
 

 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

Adolygiadau diweddaraf:  21 01 2002

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats