Taith Americanaidd - llythyr o’r flwyddyn 1843 a ysgrifennwyd gan John E. Griffiths o Horeb, Ceredigion. " Pan oeddwn yn Llandyssil clywais ddywedyd fod Indiaid Cymreig oddeutu afon Missouri. Pan oeddent yn ymddyddan â’u gilydd yr oeddwn yn gwneud clust i wrando pa iaith oeddent yn siarad ond er fy siomedigaeth nid Cymraeg na Seisneg oedd ganddynt."  0961k Gwefan Cymru-Catalonia.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_024_taith_americanaidd_1843_0961k.htm

Yr Hafan

..........
1863k Y Fynedfa yn Gymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai

........................................y tudalen hwn


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

 Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
 El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)



Taith Americanaidd
Y Diwygiwr 1843, Cyfrol 8, tudalennau 370-371


Diweddariad diwethaf
18 11 2002

  

 1269e This page in English (American Journey 1843)

 

·····

Llythyr o America

Rhan o lythyr John, mab y Parch. S Griffiths, Horeb

Cincinnati, Gorff. 26, 1843

ANWYL RIENI, - Yr wyf yn cael pleser mawr wrth ysgrifenu at fy anwyl dad a’m mam y rhai a’m magodd yn gariadus ac a’m hyfforddodd ym mhen y ffordd dda.

Yr wyf yn diolch i Dduw am gael rhieni da, nid yn unig i ofalu am fwyd a dillad i mi, pan oeddwn yn ieuanc, ond hefyd, gofalasoch yn foreu am blanu egwyddorion y Grefydd Gristionogol yn fy meddwl - - nid ânt byth yn anghof genyf; y lluaws aneirif o gynghorion a gefais genych y maent ar fy meddwl, ac o flaen fy llygad; y maent gwedi bod yn llesiol iawn i mi lawer gwaith; o ran fy mhrofiad crefyddol, nid wyf yn oer iawn, nac yn frwd iawn chwaith. Yr wyf yn cael pleser yn llwybrau crefydd yn barháus; fel hyn, rhwng gobaith ac ofnau, hyderu yr wyf y caf lanio i mewn i’r Ganaan nefol yn y man. Gweddiwch drosof, am i mi gael dilyn siampl y Brenin mawr, a harddu ffyrdd crefydd yn anialwch y gorllewin llaith.

Yr ydym oll yn iach ac wrth ein bodd yn cael digon o fwyd a dillad, a digon o waith, a thâl am dano. Cyfleusderau crefyddol yn aml, dwy waith yn yr wythnos, a phedair gwaith ar y Saboth. Ar y 4ydd dydd o Orphenaf, buom yn cadw cyfarfod dirwestol yn y coed, oddeutu tair milldir allan o’r dref, ymunodd 25 o’r newydd Er rhated yw y gwirodydd yma, y mae yn dda genyf dweyd, fod y Cymry bron i gyd yn Ddirwestwyr. Chwi welwch nad oes arnom eisieu dim daioni, pob peth bron fel y dymunem ef. Tywallted yr Arglwydd ei Ysbryd arnom, fel y teimlom ein tlodi fel pechaduriaid, ac y gweddïom yn daer am faddeuan.

Rhoddaf ychydig o hanes fy nhaith i Missouri, Iowa ac Illinois. Ymadewais â’r dref hon ar y 7fed o Fawrth, gan fod y mate yn Gymro, cefais fynd yn llaw ar y llong, i lwytho a dad-lwytho; - nid oeddwn yn meddwl myned ymhellach nâ St Lewis, ond gan fod yr hîn mor oer i fyned i Iowa, cychwynais ar y cyntaf o Ebrill tua Missouri, 600 milldir o daith; Gwelais lawer o Indiaid yn y coed - daeth amryw o honynt i’r steam-boat. Pan oeddwn yn Llandyssil, clywais ddywedyd fod Indiaid Cymreig oddeutu afon Missouri. Pan oeddent yn ymddyddan â’u gilydd yr oeddwn yn gwneud clust i wrando pa iaith oeddent yn siarad, ond er fy siomedigaeth nid Cymraeg na Seisneg oedd ganddynt - eu dillad oedd o grwyn da gwylltion, yn lws fel mantell. Gwedi myned tua 600 o filldiroedd, aethum i bentref bychan, rhyfeddais yn fawr i weled rhai o ogledd Cymru yno; ond yn awr, yr wyf wedi cael ar ddeall fod rhai Cymry gwedi myned i bob parth yn y wlad hon, lle mae dynion gwynion gwedi myned. Yn mhen tair wythnos, dychwelais yn ôl i St Lewis, erbyn hyn yr oedd y Cymry a adewais yno, wedi mynd i spio Iowa; cynnygodd Cadben Jones, brawd Jones, gweinidog Rhydybont, i mi fyned ar ei lestr ef, i fynu 150 o filldiroedd a hyd yr afon Desmoin, ond nid aethum. Aeth Cymro o’r enw Roberts, a minnau, oddeutu pump neu chwech cant o filldiroedd ar hŷd afon Mississipi, i Geluna a Debuke; yno y cyfarfum â thri o’r Cymry, rhai fuant yn edrych ansawdd Iowa - ni chefais fawr o air ganddynt i’r wlad; yr oeddynt yn gweled gormod o dir noeth (prairie) yno, a rhy fach o goed - a’i bod yn anghyfleus iawn i farchnata, felly dychwelodd yr yspiwyr yn ôl, bob un idd ei hen drigfan; - bûm yn gweithio yno am bedair wythnos; yr oeddwn yn myned i’r cwrdd ar y Sabboth i Geluna - yr oedd yno bregethau da iawn, er nad oeddent yn iaith fy mam, yr oeddwn yn eu deall yn bur dda; dychwelodd tri o honom i St Lewis. Ar ein taith laniasom i mewn i dre o’r enw Navoor, lle mae Joe Smith, y Mormont, a’i ganlynwyr; nid oes ond tair blynedd er pan sefydlwyd y lle, ac y mae tua 25,000 o’r Mormoniaid yno yn barod. Yn ddiweddar yr oedd Joe yn myned i wneyd gwyrthiau i dwyllo y bobl, trwy gerdded wyneb y dwfr yn y nos gosododd fath o ffwrwmau â thraed iddynt, ac oddeutu troedfedd rhyngddynt a wyneb yr afon - ond daeth rhyw walch i wybod y peth, a thỳnodd un o’r ffwrwmau i ffwrdd; - boreu dranoeth daeth lluoedd i weled y wyrth, dechreuodd Joe gerdded yn hwylus, gan feddwl croesi yn ddiangol, ond yn ddisymmwth aeth dros ei ben i’r gwaelod. Rhyfedd mor barod yw dynion i ddiystyru Mab Duw, a chanlyn cyfeiliornwyr. Clywais fod Joe yn y carchar; bûm fis o amser yn St Lewis. Yr oedd y Pabyddion yn aml ym mhob man lle buais i; ond yr oedd y Presbyteriaid, a’r Bedyddwyr, a’r Wesleyaid yn amlach, ac yn enill tir yn gyflymach. Dywedaf o’m calon, llwydd iddynt i gael yr holl gyfeiliornadau i’r llawr, ac enw y Gŵr a hoeliwyd elo yn ben moliant trwy yr holl fyd. Eich serchiadol fab,
John Griffiths

_____________________________________________________
Y Diwygiwr 1843, Cyfrol 8 (tudalennau 369-371)
 

 

DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN
________________________________________________________

Oval: 0960k 
TESTUNAU CYMRAEG YN Y WEFAN HON Mynegai 
 

 

 
 

 

 

 

NODIADAU: gw-grif1.a / 25 06 93 / nodlyfr N177

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

  

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats