1242  S Lawer Dydd / W. Llewelyn Williams, K.C., M.P. (1867-1922), newyddiadurwr, gwleidydd a hanesydd, o Lansadwrn, Sir Gaerfyrddin. Fe’i cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn y flwyddyn 1918.

http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_testunau/sion_prys_022_slawer_dydd_01_1242k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Cyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

S Lawer Dydd
W. Llewelyn Williams, K.C., M.P. (1918)
  

 

Adolygiadau diweddaraf:
21 01 2002 :: 2003-10-28 :: 2004-02-06

 


W. Llewelyn Williams. 1867-1922. Ganwyd yn Llansadwrn, Sir Gaernfyrddin. Golygydd The South Wales Post, tan 1897, Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Fwrdeistrefi Caerfyrddin 1906-1918, barnwr, llenor, newyddiadurwr. Yn frwd o blaid Datgysylltu Eglwys Lloegr yng Nghymru, a Hunanlywodraeth i Gymru.

 

Dynodir rhifau’r tudalenau ag xfelly: x23, ayyb


·····

(x1)

S LAWER DYDD
gan
W. LLEWELYN WILLIAMS, K.C., M.P.
Ail Argraffiad
Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan James Davies a’i Gwmni, Cyf.
Gwasg Deheudir Cymru. 1929.

{Cyhoeddwyd am y tro cyntaf  yn 1918}


(x2) tudalen gwag

(x3)
CYNHWYSIAD.

Pennod / Tudalen
I. Fy Hen Gartref 5
II. Mamgu 17
III. Yr Hen Lias 28
IV. Twmi Price 39
V. Griffith y Gôf 49
VI. Rhys Edwards a Dewi Towy 60
VII. Wil Gelynen 74
VIII. Chware Plant 83
IX. Hen Dramp  93


(x4)
tudalen gwag


(x5)
PENNOD I.
FY HEN GARTREF
.

Fel mae’r byd wedi newid oddiar pan oeddwn i’n fachgen yn Nuffryn {sic} Towy ddeugain rnlynedd yn ôl! Nid meddwl yr wyf am y cyfnewidiadau a wneir gan y Rhyfel, er y gwna’r Rhyfel esgor ar fyd gwahanol iawn i’r hyn ydoedd dair neu bedair blynedd yn ôl. Mae rhyferthwy’r magnelau yn “synnu pensyfrdanu dyn,” nes y tueddir fi i lefain gyda Huw Morus, wrth gofio’r hen amser “’s lawer dydd,”

Pan oeddwn in fachgen,
Mi welais fyd llawen
Cyn codi o’ genfigen flin filen yn fawr.

Ond cyn i’r Rhyfel dorri allan yr oedd Cymru wedi newid mwy mewn un genhedlaeth nag odid a wnaeth mewn un ganrif o’r blaen ar ei hyd. “Pan oeddwn i’n fachgen,” ’roedd llawer o hen ddefodau ac arferion y Cymry yn aros, os nad yn eu grym, yn fyw ac yn flodeuog, ac ambell i hen “gymeriad” wedi ei adael na cheid ei debyg mewn un wlad arall dan haul.

Yr oedd y teulu yn fy hen gartref yn lluosog, oblegid heblaw ni’r plant, ’roedd rhyw ddwsin neu ragor o wasanaeth-ddynion, yn wŷr ac yn wragedd, ac edrychid ar bob gwasanaeth-ddyn fel un o’r teulu. Cyflogid hwy am flwyddyn adeg Calan Gaeaf -
the Winter (x6) Kalends - y 12fed o Dachwedd. Yr oedd ffeiriau cyflogi yn Llandeilo a Llanymddyfri, ond nid yn y ffeiriau y cyflogid y goreuon o’r gwasanaeth-ddynion. Am bythefnos neu dair wythnos cyn C’lan-gaea’ yr oedd y ffermwyr a’u gwragedd yn brysur yn gwneuthur trefniadau am y flwyddyn ddyfodol, - yn “cytuno” a’r gweision a’r morwynion. “Mis y celwyddau” y gelwid mis Tachwedd, gan gymaint y cyffro a’r gleber yn yr ardal, - gymaint cyffro a chleber ag a geir yn Nhy’r Cyffredin pan newidir Llywodraeth, ac y mae gweision newydd yn cael eu cyflogi gan y deyrnas, - pawb am wybod faint o gyflog addawyd i Rhys y Fron, beth oedd cyflog llaeth-wraig Cwmbran, faint o “ern” (ernest) a roddwyd i was mawr Llwyngwenno, pwy oedd yn aros yn neu yn ymadael â’i hen lê, a phwy oedd wedi bod yn euog o’r anfadwaith o “hala’r ern yn ôl.”

Ar nos C’lan-gaea’ telid yr hyn oedd yn ddyledus i’r gwasanaeth-ddynion. Nid oedd y cyflogau ond bychain. Ugain punt y flwyddyn a delid i Tomos, y “gwas mowr.” ’Roedd Tomos wedi bod gyda ni oddiar pan yn grwtyn, ac aml yr adgoffai mai pum punt y flwyddyn a’i fwyd oedd ei gyflog y flwyddyn gyntaf iddo fod yn was mawr. Yr oedd yn byw mewn tyddyn bach gerllaw’r tŷ, a digon o dir i gadw buwch, ac yr oedd ganddo hanner cyfer o ardd heblaw, a thalai chwech punt y flwyddyn o rent am danynt. Er lleied ei gyflog, cododd ef a Neli dri-ar-ddeg o blant, a thyfasant yn bobl iach a chryf. Deunaw punt oedd cyflog yr ail was, a phunt yn llai y waginer. Yr oedd pymtheg punt yn cael ei ystyried yn gyflog dda i’r cowman, ac yr oedd dau was bach na chawsant fawr ond eu bwyd. Un neu ddwy bunt ar bymtheg oedd (x7) cyflog y llaethwraig neu’r “forwyn fowr,” ac yr oedd rhyw dair neu bedair o forwynion ereill dani, heblaw “croten fagu.” Ar nos C’lan-gaea’ aent oll, un ar ol y llall, y gwŷr yn gyntaf a’r merched ar eu hôl yn eu tro, o’r gegin i’r neuadd i gael eu talu. Yn y neuadd eisteddai fy nhad wrth y ford a le
dger mawr o’i flaen, a mam yn eistedd ger y tân yn y gadair freichiau. Yn swil ac afrosgo deuai’r gwasanaeth-ddynion i mewn, ac yn ei dro Wil y Waginer. Eisteddai ar ymyl ei gadair gyferbyn a nhad. “Deunaw punt oedd y gyflog gytun’son ni, William?” gofynnai’n nhad.

“Ie, ie,” atebai Wil.

“Wel, fe gesoch ’wheigen (deg swllt) i fyn’d i ffair Glan-gaea’ llynedd?”

“Ag ’rych chi’n cofio, William,” torrai mam i mewn, “i fi ymhwedd arno chi beidio gofyn am fwy na choron, o achos nag oech chi ddim wedi talu Tomos y Crydd am y pâr o ’sgidie parch.”

“Odw, odw, Mystres fach, ’rwy’n cofio o’r gore,” ebe Wil druan.

“Ag yna fe gesoch ’wheigen amser N’dolig i dalu Tomos y Crydd?” meddai nhad.

“Eitha gwir, mishtir,” ebe Wil.

“Ag fe gesoch ’wheigen arall i fyn’d i breimin (pl
oughing match) Pantllwyfen?” meddai nhad.

“Do’n siwr,” atebai Wil.

“A choron i fyn’d i ’Steddfod Caio dydd Gwener Croglith gyda’r Côr?”

“O’r gore,” meddai Wil. “A choron arall i fyn’d i daith Leisa Fronddeunant i dalu’r pwyth dros eich ’wha’r?”

“Eitha gwir,” ebe Wil.

(x8) ’Roedd Wil, druan, wedi hen ddyrysu erbyn hyn, ac yn teimlo fel pechadur pan ddadlennir y Llyfr yn nydd bam, a thynnai ochenaid o wir ryddhad pan glywai’n nhad yn dweyd,

“A fel’ny, William, ’does dim ond deg swllt ar hugain yn dwad i chi.”

“A rhag y’ch c’wilydd, William,” dywedai mam, “a chithe’n caru merch neis, lanwaith fel Mari’r Esger, medde nhw, a dych chi ddim yn trio safio dime. Wa’th ’rych chi heb dalu John Teilwr am y pâr dillad gesoch chi’r haf d’wetha i fyn’d i ffair Gwyl Barna’. Da chi, William bach, triwch gynilo tipyn y flwyddyn nesa’ wa’th wyddoch chi ddim pryd bydd eisie punt neu ddwy aroch chi.”

“’Rych chi’n gweyd y gwir, Mystres fach,” ebe Wil gyda gwên ddireidus, “’rwy’n penderfynnu troi’n gybydd fel Morgans y Siop o hyn i ma’s.”

Ond os dannod hen oferedd oedd yn y neuadd, ’roedd rhialtwch yn y gegin, - chware cannwyll a’r afal, codi arian mân o’r dŵr, ac ereill o gampau’r aelwyd. Arferai Griffith y Gof a William y Saer ddod yno bob amser i feirniadu’r llwyau coed a’r pasgedi fu’r gweision yn eu gwneuthur wrth oleu’r tân ar yr aelwyd. Ie, ac y mae’n gof gennyf am y trenshwnau coed a ddefnyddid bob amser adeg y “fedel wenith,” ac a wnawd gan ddwylaw celfydd y gwasanaeth-ddynion, cyn bod llestri pridd wedi dod mor rhad a chyffredin. Nemawr byth y byddid yn prynu rhaca gwair, - gwaith cartref oedd y rhan fwyaf o’r eirf amaethyddol a ddefnyddid ar y tir - ac nid anghofiaf byth fy malchder pan ges yn eiddo i mi fy hun y “rhaca bach” cyntaf o law Tomos y gwas mawr! 

(x9) Er lluosoced y teulu, yr oedd rhagor na hwy yn eistedd i fwyta yn y gegin. Ddwywaith y flwyddyn deuai John Teilwr a dau o’i weithwyr i dreulio wythnos neu ddwy i wneuthur neu i gywiro dillad i’r teulu. Amser melys i ni’r plant oedd hwn, oblegid gwr hynaws a llawen oedd John, a gŵr digrif oedd ei weithwyr. Ond nid oedd digon o le iddynt wrth y ford fawr, ac felly eisteddent wrthynt eu hunain o gylch bord gron a osodid ynghanol y gegin. Un tro gwelodd Marged y forwyn fawr John yn torri ychydig o’r menyn oedd ar y ford a’r prentis ar yr un pryd yn torri ychydig o ben arall y menyn.

“John bach,” meddai Marged, oblegid, parch da i’w choffa, ’roedd hi mor bryderus i rwystro gwastraff a’i mheistres, “pam na fyddwch chi’ch dou yn torri’r menyn yr un ochr?”

“O dewch chi, Marged fach,” atebai John gan chwerthin, “fe ddewn ni’n dou at ein gilydd cyn bo hir.”

Unwaith yn y flwyddyn byddai Morgan Jones y Sa
ddler a’i fab yn dyfod am wythnos i gywiro’r offer (harness), ac nid oedd nemawr wythnos na fuasai y ddau Willam y seiri neu Dafi’r meuswn yno. Yr oedd gwehydd yn byw yn y plwyf ac efe oedd yn gweu defnydd ’sanau a chrysau i ni gyd; ac yr oedd lliwdŷ a phandŷ hefyd yn y plwyf cyfagos. Brethyn a gwlanen cartref a wisgid gan bawb, ac un o’r ffugenwau mwyaf poblogaidd yn yr Eisteddfodau lleol oedd “Brython llon mewn brethyn llwyd.” Ond mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i’n llon iawn pan yn gwisgo crys gwlanen gwlad am y tro cyntaf. Flynyddoedd ar ol hynny deuthum i wybod beth oedd Shakespeare yn ei feddwl wrth ddywedyd, (x10) “Winter garments must be lined,” oblegid yr oedd gymaint o tunica molesta a chrys Nessus. Pe tae’r Rhyfel wedi torri allan ddeugain mlynedd yn ôl, ni fyddai raid i bobl yr hen blwyf ofni newyn. Nid oedd neb y pryd hwnnw yn gwerthu llaeth, a’r uriig beth at wasanaeth y fferm a ddygid “oddi bant” oedd calch. ’Roedd ffermwyr yn trin eu tir yn y dyddiau hynny, oblegid ’roedd digon o lafurwyr yn y wlad oeddynt heb deimlo swyn y trefydd a’r gweithiau. Ni ymadawai neb braidd o’r hen blwyf os nad oedd mewn rhyw fath o drwbwl. Clywais ddywedyd gan fy nhad am hen greadur a enwid Bili Jaci Deimoth. Yr oedd wedi ei “dorri ma’s” gan y tri enwad crefyddol, a dyma ryw un yn gofyn iddo, “Wel, Bili bach,. ble ei di ’nawr?” “O,” ebe Bili’n ddigyffro, “mae’n o’r gore arna’ i. Fe alla i fyn’d eto i Ferthyr neu i Eglwys Loegr, ’wa’th mae nhw, fel trugaredd, a’u drws heb ei gau.” Dim ond un noson dreuliodd fy nhad erioed yn Lloegr, os yn wir y dylid galw Henffordd yn rhan o Loegr. Un o’r ychydig o’r plwyfolion a fu’n byw yn Lloegr oedd Tomos y Crydd. Bu efe yn gweithio wrth ei grefft am dri mis yng Nghaerloyw, a mawr oedd ei ymffrost byth wed’yn. Yr oedd Tomos bob amser yn y cwrdd gweddi cenhadol nos Lun cynta’r mis, ac os gofynnid iddo gymryd rhan, ni anghofiai ddywedyd rhywbeth fel hyn ar ei weddi:

“Cofia, hefyd, Arglwydd, am y paganiaid sy’n cyfaneddu yn ein trefydd mawrion. Mae rhai o honom. ni’n gwybod am danynt,” &c.

Ond erbyn hyn mae pawb yn y plwyf wedi ymweled a’r “trefydd mawrion”; mae mwy na hanner y tyddynnau yn anghyfannedd, ac y mae’r bobl ieuainc (x11) wedi ffoi. “Tri pheth sydd eisieu i ’neud ffarmwr yn Shir Gâr y dyddiau hyn,” ebe hen walch wrthyf rai blynyddoedd yn ôl; “Basi
c slag yn lle tail; barbed wire yn lle clawdd; a chrwt o Sais yn lle gweithiwr.”

Ond ’roedd trin ar y tir ’slawer dydd. O’r Mynydd Du y ceid y calch. Mae fel ddoe yn fy nghof y tro cyntaf yr euthum yn y wagen i ymofyn calch o’r odynau gyda Wil y Waginer. Yr oedd cystadleuaeth lem drwy’r holl gwmpasoedd p’un fyddai gyntaf wrth yr odyn. Yr oedd yr odynau rhyw ddeg milltir oddiwrth fy hen gartref, ac felly yr oedd yn rhaid cychwyn tua chanol nos er mwyn bod wrth yr odyn gyda’r wawr. Yr oeddem i gychwyn fore Llun, a gwaherddid ni i dorri’r Sabboth drwy ddechreu ar ein taith cyn bod y cloc wedi taro deuddeg. Ond er nad oedd lle i ni gychwyn, yr oedd Wil wedi dodi’r pedwar ceffyl yn barod yn y wagen fawr bedair-olwyn, Lester, a Ventin, a Duchess, a Diamond. Ac wrth gofio, onid yw’n hynod fel mai enwau Saesneg sydd gennym ni’r Cymry ar geffylau? Enw march rhyfel Syr Rhys ap Tomos, gwron Maes Bosworth, oedd “Llwyd-y-Bacsau”; ac fel “Dafydd y ceffyl cwta” yr adwaenid ei ewythr. Ond anghofiodd y bonedd eu Cymraeg:

Yn rhyw garn Saeson trawsion y troisant,
A’r groyw-iaith wiwdeg Gymraeg wrthodant.

Y bonedd yn unig oedd yn berchen ceffylau yn y dyddiau gynt, a galwasant hwy ar enwau dieithr. Ag ychen y byddai’r ffermwyr yn aredig:

A mynych yr ych o’r iau
A bawr lawr ei barlyrrau.

(x12) A phan ddaethant yn berchen ceffylau ryw ganrif a hanner yn ol, dilynent esiampl y bonedd a rhoddasant enwau Saesneg iddynt am nad oedd enwau Cymraeg wrth law. Ond enwau Cyrnraeg oedd ar bron bob un o’r deg-ar-hugain gwartheg - Seren, Moelen, Mwyn- wen, Cynffonwen, ac felly yn y blaen.

Yn union wedi’r cloc daro’r ergyd olaf o’r deuddeg ymaith a Wil fel taranfollt. Yr oedd er’s dyddiau wedi bod yn dwyn ceirch i’r ceffylau nes oeddynt mor llawn ysbryd a hwyl gystadleuol a Wil ei hun. Golygfa hardd, gallwn feddwl, oedd gwel’d y pedwar ceffyl mawr porthiannus, a’u mwng a’u cynffon wedi eu plethu, ac yn edrych mor ffroenuchel yn eu cerbyd amryliw - coch a glâs a gwyn – a meirch rhyfel. Yr oeddem fel pe tae yn hedeg heibio plâs Abermarles, Wil yn sefyll yn gryf ar ei draed yn y wagen, a minnau yn gorwedd yn fy hyd ar wely o wellt yn y gwaelod. Cyn bo hir clywwn grochwaedd Wil yn galw “Gât” o flaen toll-borth Abermarles. Nid oedd gennym braidd ddigon o amynedd i aros hyd nes i’r hen wr oedd yn cadw’r gât ddod allan i’w hagor, - yn enwedig pan glywsom fod wagen Cwmbran a wagen Glandulais wedi myn’d trwodd eisoes ddeng mynud o’n blaen. Nid cynt y talwyd y doll ac y derbyniwyd y tocyn nag yr oeddem yn carlamu nerth traed dros Bont-ar-Dowy, a thrwy bentref Llangadog, a’r pentrefwyr yn syllu arnom drwy’r ffenestri, tra ’roedd Wil yn slashan ei chwip a thraed y ceffylau a phwys y wagen fawr yn peri i’r ddaear grynu! Yna rhaid oedd dechreu dringo i fyny drwy Gwm Sawdde nes d’od i Bontarllechau. Bu Twm o’r Nant am ysbaid yn cadw hen gât Abermarles, ac ysgrifennodd englyn i Bontarllechau. Ni welais ef mewn print, ond rhoddaf (x13) ef fel y’i dysgwyd ef i mi,- er na wn a oes na synnwyr na chynghanedd ynddo:

Penigamp, groywgamp ar greigiau - pincod
Pencydiad mân lwybrau,
Paunes pennant gomdnt gau -
Pwynt yr holl ochr, Pontarllechau.

Ar ol y Bont rhaid oedd dringo rhiw serth hyd nes cyrraedd yr odynau calch. Wrth edrych yn ol, mae’n rhyfedd gennyf na fuasai llawer cyflafan wedi digwydd, oblegid ’roedd Wil yn gyrru fel Jehu yny tywyllwch dudew. ’nawr ac yn y man byddem yn gorddiwes wagen arall, - aethom heibio wagen Cwmbran a Glandulais, diolch i’r annwyl, er iddynt hwy dorri’r Sabboth, y creaduriaid brwnt! - ac o’r chwipian a’r carlamu a’r bloeddio! Pa fodd y gallasom basio rhyw hanner dwsin o’r wageni yn yr heol gul ac wrth oleu’r sêr yn unig yn ddi-anhap nis gwn, ac nis gofynnais, oblegid yr oedd gennyf yr hyder mwyaf diysgog yn neheurwydd Wil fel gyrrwr; ond cyrhaeddasom yr odynau fel yr oedd y wawr lâs yn torri dros y Mynydd Du, - y cyntaf oll o’n hardal ni!

Rhyfeddais lawer paham yr oedd pobl yr ardal yn siarad am “Gymraeg cerryg calch,” neu, beth bynnag, y rhai hynny o’r ardalwyr oedd wedi treulio peth amser “yn y gweithiau.” Os byddai rhywun yn siarad Cymraeg gwael, trwsgl, “troednoeth” (chwedl Syr John Rhys) - yn “mixio Cymraeg a Saesneg” ys dywedai Ceiriog - dywedid ei fod yn siarad “Cymraeg cerryg calch.” Yr oedd y dywediad yn ddirgelwch mawr i mi pan yn grwtyn, a synnwn paham a pha fodd yr oedd cerryg calch yn elyniaethus i burdeb yr hen iaith. Flynyddoedd lawer wedi ymadael â chartref, cefais oleuni ar y mater. Mae’n (x14) debyg mai Saeson o Wlad-yr-Haf a Dyfnaint oedd y cyntaf i weithio calch ar lannau’r môr yn.y Deheudir, yn Aberthaw ger y Barri, yng ngwlad Gŵyr, yn Lacharn, a lleoedd ereill. Dysgent ddigon o Gymraeg i’w galluogi i ymgyfathrachu â brodorion y wlad, ond pidg
in Welsh oedd eu Cymraeg, a daeth “Cymraeg cerryg calch” yn ddiarhebol drwy’r Deheubarth.

“Fe godais heddyw gyda’r wawr,
Gan frysion fawr fy lludded,”

canai Wil Hopcyn. Nid yw’r desgrifiad yn un hapus iawn o garwr sydd ar ei ffordd i’r goedwig i gusanu ôl troed ei Wen. Ond yn fy hen gartref codai pawb gyda’r wawr, ac nid oedd neb yn fawr ei ludded. Mor ddiddan oedd sŵn yr adar yn telori yn yr ardd a’r berllan, a’r anifeilaid yn deffro o’u cwsg, y ceiliogod yn canu o flaen yr ysgubor, y llaethwraig yn galw’r da, Wil y Waginer yn chwibanu yn y stabal, - ie, ac yr oedd hyd yn oed sŵn y moch yn rhochian pan oedd y forwyn fach yn eu bwydo yn llonder ysbryd. Ac wedi i’r gwartheg gael eu godro, a llu o orchwylion eu gorffen, wele’r fintai brysur, newynog yn tyrru i’r gegin i frecwast am hanner awr wedi saith, a phob un o’r gweision oedd ar enw crefydd yn gofyn bendith yn ei dro. Ac ar ol i’r chwant am fwyd a llyn gael ei osod heibio, ys dywed Homer, a’r ford gael ei chlirio, byddai fy nhad a’m mam, a ninnau’r plant, yn dod i’r gegin o’r neuadd i’r ddyledswydd deuluaidd, - fy nhad yn dwyn Beibl Peter Williams dan ei gesail ac yn ei osod ar ben y ford. Ni waeth pa mor brysur ydoedd, boed hindda boed ddrychin, boed haf boed aeaf, boed dymor aredig neu gynhaeaf, rhaid oedd cynnal y ddyledswydd deuluaidd. Os byddai pregethwr yn treulio noswaith yno, ef fyddai’n darllen (x15) a gweddio. Yr oedd fy hen gartref wedi bod yn “lletty fforddolion” am genhedlaethau, ac nid oes odid un o’r hen “hoelion wyth” na fu’n tynnu wrth raffau yr addewidion yn y gegin fawr. ’Rwyf fi’n cofio, ymysg ereill, Williams, Llanwrtyd, ac Ap Fychan, S.R. a J.R., Nicholson, Groeswen, a John Thomas, Lerpwl, Thomas Hughes, Machynlleth, a Lleurwg, David Saunders a Harris Jones, Trefecca, Herber a Penry Evans, Hiraethog a David Roberts, Wrexham, Gwalchmai a James, Nefyn, Dr. Rees, Abertawe, a Michael Jones, y Bala, Brythonfryn a Chaeronwy, Matthews Ewenny a Watcyn Wyn. Garw nas gallwn gofio ymddiddan Dafydd Williams, Llanwrtyd. Yr oedd yn ymylu at gant oed ar y pryd, ac yr wyf yn cofio ei fod yn sôn am Williams, Pantycelyn, ond beth a ddywedai am dano nis gwn; ond cofiaf un frawddeg o’i weddi wrth ford y gegin. “Rho i ni dy nerth, O Dduw,” meddai, “ac yna fe ymladdwn fixed
baginet battle â’r diafol ei hun.” ’Roedd Dafydd Williams wedi dechreu pregethu cyn blwyddyn Waterloo.

Clywais am lawer ereill o’r hen gewri fu’n cynnal y wasanaeth yn y gegin, - Williams o’r Wern, a John Evans, Llwynffortun, William Williams, Llandeilo, ac Evans, Capel Seion, y Tri Brawd a Rhys Price, Cwmllynfell, Dr. Phillips, Neuaddlwyd, Thomas Jones, Hermon, a Lewis Powell, Caerdydd, Dafydd Rees, Llanelli, Brutus, a Rhys Dafis y Glun Bren, y gwr llwm ei ddoniau a fu’n foddion i argyhoeddi Williams o’r Wern. Pa le a freintiwyd ac a gysegrwyd yn fwy gan “draed y rhai fu yn efengylu”?

Ond pan na fyddai pregethwr yn aros gyda ni, byddai pob un o’r gwrywod oedd yn “arddel crefydd” yn gweini yn ei dro. ’Rwy’n cofio un frawddeg a (x16) ddefnyddiwyd gan yr ail was un waith, - adeg hau gwenith, gallwn dybio. “Rho i ni, O Arglwydd,” ebe ef, “ras i hau grwn yn y byd hwn fydd yn bleser gyda ni ei fedu yn y byd a ddaw.”

Wrth edrych yn ol drwy nidd y blynyddoedd, ai tybed fy mod yn colli fy ngolwg ar bopeth ond gwyndud yr hen amser? Efallai fy mod. Ond bywyd tawel, heddychol, yn llawn gweithgarwch amyneddgar a digrifwch diniwed oedd bywyd fy hen gartref fel y daw i’m cof heddyw, ynghanol ffwdan afler bywyd arall tra gwahanol. Ond pe awn yn ol i’m hen gynefin nid yr hen fywyd syml fyddai’n fy nisgwyl, oblegid mae dull yr hen fyd wedi myned heibio am byth. Yn wir, yr oedd cysgod cyfnewidiad ar y wlad hyd yn oed ddeugain mlynedd yn ol. Clywais yr hen frawd Dafydd y Gam yn dywedyd: “’Rwy’n cofio tair cenhedlaeth,” meddai. “Y genhedlaeth gyntaf oedd cenhedlaeth Bili a Belo a chawl; yr ail oedd cenhedlaeth Mishtir a Mystres a broth; a’r
drydedd yw cenhedlaeth Syr, a Madam, a thê!”

(x17) PENNOD II.

MAMGU.

Enwau p
ert yw “mamgu” a “thadcu,” - maent yn awgrymu rhyw diriondeb ac anwyldeb na cheir mewn “nain” a “thaid.” “Cu iawn fuost i mi,” galarnadai Dafydd ar ol Jonathan; a chu iawn fu llawer hen wr a hen wraig i’w hwyrion. Ni welais fam fy nhad erioed; bu farw cyn fy ngeni. Merch ydoedd i Jac Harri Dafydd, neu o’i Seisnegeiddio, John Henry Davies, Pistyll Dewi, Llanfynydd, a mab i Thomas William Thomas Ruffydd, neu Thomas Williams, o’r Crossnant, yn yr un plwyf, oedd fy nhadcu. Unig hawl Thomas Williams i anfarwoldeb oedd iddo dalu am yr unig dipyn ysgol a gafodd bachgennyn a elai dan yr enw Twm Sali, ŵyr i hen wneuthurwr cychau gwenyn, oedd yn byw mewn tyddyn bychan ar ei dir. Yng nghyflawnder yr amser daeth y bachgennyn yn ddyn enwog, neb llai na’r Hybarch Thomas Rees, Abertawe.

Yr oedd rhyw gweryl wedi torri allan rhwng teulu’r Pistyll a theulu’r Crossnant, ac nid oedd y ddau benteulu yn foddlon i garwriaeth y bobl ifanc. Rhyw fore wele ’nhadcu yn brochgau (marchogaeth) i Landeilo, a merch y Pistyll ar banier wrth ei sgil, a phriododd y ddeuddyn heb gariatad yr hen bobl. Ffromodd y ddau dad yn aruthr, a gorfu i’r pâr ifanc (x18) ymladd eu
brwydr heb help llaw eu rhieni. Ond os gwgu amynt wnaeth y ddau hen wr ystyfinig, gwenodd Rhagluniaeth ar eu cariad ffyddiog. Ganwyd iddynt wyth o blant, chwech mab a dwy ferch, ac yr oedd eu da a’u defaid yn lluosogi flwyddyn ar ol blwyddyn. Aethant i fyw i’m hen gartref, y ffarm fwyaf yn yr holl ardal. Pan welodd Jac Harri Dafydd fel yr oedd buddiannau bydol ei ferch a’i fab-ynghyfraith yn cynyddu, a phob peth yn llwyddo dan eu llaw, lliniarodd ei lid a’i ddigasedd. Clywais ddywedyd gan fy nhad fel y maddeuodd yr hen Jac i’w ferch henaf am “garu’n ôl ei ffansi.” Un bore teg yn yr haf yn 1830 daeth hen wr gwisgi i Brownhill ar gefn poni felen. Yr oedd wedi ei wisgo’n daclus i’w ryfeddu mewn cot lâs, gwasgod fflwsh, a britshis penlin. ’Sanau glânddu’r ddafad oedd ei ’sanau, ac am ei draed yr oedd esgidiau bach a bwclau arian amynt. Synnai’r plant wrth wel’d gwr bonheddig dieithr ar y clôs o flaen y tŷ, a rhedasant i mewn i ddywedyd wrth eu mham. Aeth hithau allan i roesawu’r gwr dieithr, ond pan ei gwelodd, dyma hi’n gwelwi ac yn crynu fel y ddeilen, ac yn llefain, “O nhad annwyl, yr y’ch wedi dwad o’r diwedd.”

“Odw, Beti,” ebe’r hen wr yn grynedig, “’rwyf wedi dwad cyn marw i ddweyd wrtho ti fy mod wedi maddeu i ti.”

“O diolch, diolch, nhad bach,” meddai mamgu rhwng ei dagrau, “dyna’r unig beth sydd wedi fy mecso erio’d.”

Ac ni chafodd y mab afradlon well croesaw nag a gafodd yr hen wr ystyfnig, calon-galed, gan ei ferch. Arhosodd yno am noswaith, a mamgu druan, - oblegid un drafferthus fel Martha ydoedd - yn methu gwneyd (x19) digon o’i
thad, na welsai am ugain mlynedd a rhagor. Bore drannoeth dyma Jac yn cychwyn yn ol i Lanfynydd ar gefn ei boni, a dyna’r tro diweddaf y gwelodd mamgu ef yn fyw.

“Diolch i ti, Beti,” ebe wrth ymadael, “am y greso ges i ar dy law. Fe gofiaf am danat ti yn fy ewyllys.”

Torrodd argaeau teimladau fy mamgu ar hyn, ac yr oedd ei mwynhad a’i llawenydd yn ddigymysg. Cyn pen hanner blwyddyn yr oedd Jac Harri Dafydd wedi huno gyda’i dadau, ac y mae copi o’i ewyllys yn fy meddiant.. Gadawodd ddwy fil o bunnau’r un i’w dair merch ieuengaf, ac am fy mamgu dywed:- “And to my
daughter Elizabeth, as a sign of my forgiveness, half a guinea and a pair of blankets.”

Yr unig
beth arall a glywais am yr hen wraig oedd ei bod yn meddu ar lais cerddgar a soniarus. Hi a Sara Daniel oedd yn arwain y moliannu yn Ebenezer pan dorrodd y diwygiadau allan yn 1849 a 1859. Williams, Llandeilo, oedd gweinidog Ebenezer ar y pryd, - y gwr a ddaeth a Diwygiad ’59 i’r Deheubarth o Lerpwl. Mab yr Hafod yn Llanfynydd oedd ef, ac yn berthynas i’r teulu. Nosweithiau lawer bu ef a mamgu a Mari ei merch, a John ei mab, yn “canu yn y nos” yn fy hen gartref alawon y diwygiad.

Mynych y gofynaf, A welais i mamgu Bancylan, mam fy mam? Mae gennyf rith cof i mi gael fy nghodi i fynny ym mreicmau rhywun i edrych arni yn ei harch, a’r amdo gwyn am dani. O’r braidd na chredaf fy mod yn cofio ei hwynebpryd, - yn debyg i fy mam, ond yn welw, O mor welw! Ai cof neu rith cof yw hyn? Anodd gwybod, oblegid nid oeddwn ond tair blwydd oed pan fu farw. Goroesodd yr hen wr fy nhadcu hi am ddeugain mlynedd, ond ni wellodd (x20) fyth
ei galon friw. Ni chlywodd neb ef yn dywedyd ei henw na sôn am dani, - hyd yn oed fy mam, a hithau ei unig blentyn. Ond ’roedd ei choffa yn berarogl yn ei hen gartref, a hithau ei hun yn aros yno beunydd, fel pe tae, tu ôl i’r llen. Ni flinem ni’r plant ar glywed sôn am dani, - ei hysbryd llon, ei direidi diniwed, ei charedigrwydd i’r tlawd a’r anghenus, ei duwiolfrydedd - er mai Eglwyswraig oedd hi - a’i thiriondeb cariadus atom ni’r plant. Hoffem yn enwedig glywed y stori am ei thad a’i mham yn brochgau o’u cartref, Derimoelon, ym mhlwyf Llanegwad, i ymladd a’r Ffrancod oedd wedi glanio yn Abergwaun yn 1797, gan adael y plant yn ddi-amddiffyn gartref. Bid siwr, ni anwyd mamgu am flynyddoedd ar ol hynny, ond nid oedd waeth am hynny. Ac fel yr edmygem hen gleddyf rhydlyd ei thad oedd yn hongian uwch ben y tân yn Bremenda Isaf, lle’r oedd ei brawd hynaf yn byw. Oblegid nid oedd cleddyfau mor gyffredin yn y dyddiau tywyll hynny ag ydynt yn “yr oes oleu hon.”

Yr oedd fy nhadcu yn berchen ar ei ffarm, wedi ei chael yn etifeddiaeth oddiwrth ei ewythr, “Williams y ’ffeirad.” Dyn pwysig yn ei ddydd a’i dymhor oedd y Parch. Thomas Williams, M.A., gynt o Goleg Wadham, ym Mhrifysgol Rhydychen. Bu yn Ficer Llansadwrn a Llanwrda o 1790 hyd 1826. Yr oedd ganddo bump bywioliaeth arall, un o honynt mor bell a Rhandirmwyn - oherwydd dyddiau’r pluralists
oeddynt-a gelwid ef, ar lafar gwlad, yn “Angel y Saith Eglwys.” Ond mae’n debyg y perchid ef gan ei gyfoedion, oblegid, rhag brifo’i deimladau, ni chodwyd un tŷ-cwrdd Ymneillduol yn Llansadwrn yn ei ddydd. Yr oedd llawer o seintiau’n byw yn y plwyf, ond (x21) addolent mewn tai annedd ac ysguboriau, ac aent i dderbyn cymundeb bob pen mis i Grug-y-bar. Un o honynt oedd yr enwog Nansi Jones, Godreu’r Mynydd, ond gan mai yng Nghrug-y-bar yr oedd yn aelod, fel Nansi Jones, Crug-y-bar, yr adwaenid hi yn ei dydd ac hyd yr awr hon. Hen gyfaill annwyl a chymydog agos iddi oedd Dafydd Sion Edmwnt. Achubwyd ei enw rhag myned ar ddifancoll ar y ddaear gan un o bregethau John Williams, Castell Newydd Emlyn, brawd fy nhad. Clywais lawer o adrodd ar y bregeth hanner can’ mlynedd wedi iddi gael ei thraddodi, a chlywais Herber ac Owen Glandwr a Brythonfryn ac ereill yn dynwared y pregethwr tanllyd. Son yr oedd am farwolaeth y duwiol, a chyferbynnai farwolaeth Thomas Hobbes, yr athronydd, a Dafydd Sion Edmwnt. Ar ol manylu ar alluoedd a gwybodaeth yr athronydd, desgrifiai ei wely angeu a’i eiriau olaf, “A leap in the dark.” Ond am Dafydd Sion Edmwnt, “Beth wyddai fe am ddaearyddiaeth na daeareg, ond dyfnder pâl yn yr ardd iddo fe gael digon o gennin erbyn y gwanwyn. Beth wyddai Dafydd Sion Edmwnt am seryddiaeth ond digon i ddanfon Mali i gornel y tŷ i wel’d os oedd y lleuad wedi codi iddo fe gael goleu i fyn’d drwy’r cwm i’r cwrdd gweddi. Ond pan ddaeth Dafydd Sion Edmwnt i lyn tywyll cysgod angau, llefodd, “Fe welaf doriad dydd.”

Gerllaw bedd yr hen Ficer y claddwyd fy mamgu, ym mynwent y plwyf. Carreg lwyd ddiaddurn a ddengys man fechan ei bedd. Uwchben yr hen Ficer y mae rhywun wedi codi carreg fedd, ac wedi cerfio arni feddargraff Lladin. Copiwyd ef y dydd o’r blaen gan dri o raddedigion Prifysgol Cymru a danfonwyd ef i mi. Dyna newid ar fyd! Tri gwr ifanc graddedig (x22) yn gwario
eu gwyliau yn y pentref bach anenwog, - ie, ac y mae llawer yn rhagor o wŷr dysgedig wedi eu codi yn Llansadwrn erbyn hyn. Dyma’r tipyn Lladin a gyfieithiais yn gyntaf erioed, ond “Balbus mensam facit” a ffwlbri cyffelyb o’r Primer. Yn Ysgol y Plwyf yr oeddwn ar y pryd. Na synned neb glywed i mi ddechreu dysgu Lladin yn y Board School. Yn 1877 cynygiodd Viscount Sandon, gweinidog addysg y pryd hwnnw, roddi “ysgol rydd” i blentyn fuasai’n pasio’r arholiad o Standard IV. ymhob testyn cyn ei fod yn un mlwydd ar ddeg oed. Bum i mor ffodus ac ennill yr ygoloriaeth, ond yr oedd amod ynglyn â hi, sef fod yr ysgoler i ddewis “special subject” yn ychwanegol at wersi arferol yr ysgol. Ni wn paham, ond y testyn arbennig a ddewisais i oedd Lladin. Euthum ym mhen ychydig i’r fynwent i geisio dehongli beddargraff fy nghâr yr hen Ficer. Fel hyn y darllena:

Hic jacet
Vir admodum Reverendus
Thomas Williams
Qui cum Vicarius fuisset
hujus ecclesiae per
Spatium vi et XXX annorum
Cum summo omnium
Maerore obiit dic
vii men. Sept. A.D.
MDCCCXXVI. AET.,
LXIX.
In memoria aeterna erit justus. Psalm cxii.

Ond er marw mamgu cyn fod fawr cof gennym ni’r plant am dani, clywsom lawer o son am dani gan y cymydogion a’r ardalwyr, - am ei

Dull digrifbert o wau
Ei dedwydd ddywediadau.

(x23) Ond yr hyn, efallai, a wnai i ni ryfeddu mwyaf oedd ei bod wedi cyfansoddi barddoniaeth. Nid er mwyn cystadlu mewn Eisteddfod - ychydig o Eisteddfodau a geid yn Nyffryn Towy yn ei hadeg hi, - nac er mwyn ei gyhoeddi mewn cylchgrawn neu newyddiadur. Ni phrintiwyd llinell o’i heiddo yn ei bywyd, ac ni wyddai neb ei bod yn barddoni. Ar ol iddi farw cafwyd gafael mewn llyfryn bychan yn ei llawysgrif yr hwn a orwedda o’m blaen fel yr wyf yn ysgrifennu. Gallwn feddwl fod hanner y tudalennau wedi eu dinystrio. Ar un tudalen fe geir cyfarwyddyd ffordd i wneyd “furniture
polish”; ar dudalen arall ceir dan y dyddiad “June, 1863: To Herbert Davies, 34lbs. of wool for blankets; July 24, 3lbs. of grey wool; July 80, 6lbs. of grey do.” Yna yn Gymraeg y modd “i godi unrhyw saim oddiar ddillad.” a phethau cyffelyb. Ond ar rai tudalennau yr oedd penillion wedi eu hysgrifennu, na wyddai neb am danynt o’r blaen. Beth a gynhyrfodd gwraig ffarmwr syml i geisio barddoni? Ffarmwr oedd ei thad, ac ni chafodd hithau, mae’n dra thebyg, lawer o ysgol, ac yn sicr ni chafodd gyfarwyddyd, mwy na minnau, ffordd i ysgrifennu’r Gymraeg. Bid siwr, nid oes llawer o werth llenyddol yn y “farddoniaeth,” ond nid dyna’r pwnc. Pa fodd y daeth gwraig ffarrnwr, heb gael cyfarwyddyd gan neb, i ysgrifennu penillion o gwbl? Os gall neb ateb y gofyniad, gwnaiff ddeongli cyfriniaeth y bywyd Cymreig a gwna esbonio dirgelwch arbenigrwydd yr hen genedl ymysg cenhedloedd y ddaear.

Ar un adeg mae’n amlwg fod cyflwr ei brodyr yn blino ei hysbryd tyner:

(x24) O na
b’ai fy mrodyr annwyl
Yn ufuddhau’r Efengyl fwyn,
Ac i’r drefen ogoneddus-
Yr Iesu’n marw er eu mwyn.
Dyro iddynt ras i weled
Y fath ogoniant ynot Ti,
Nes y delont a’u teuluoedd
I lefain, “Arglwydd, achub ni.”

O am fodd i hau i’r Ysbryd
Tra fo’m yn y byd yn byw,
Fel cawn fedi mewn llawenydd
Yn y nefoedd gyda’m Duw.
Y mae’r adeg yn yr ymyl
Nad oes dim a dâl i ni,
Ond fo rhyngom yn sylweddol
Yr ochr yma a Thydi.

Un o ragorolion y plwyf oedd Sarah Thomas, - neu i roi ei henw cyffredin, yn ol dull gwledig ein cyndeidiau - Sara Daniel. Yn Ebenezer, tŷ-cwrdd yr Annibynnwyr, yr oedd Sara’n addoli; ond nid oedd anghariadoldeb yn ffynnu yn y dyddiau hynny rhwng Eglwyswyr ac Ymneillduwyr. Eglwys-wraig o’i mebyd i’w bedd oedd fy mamgu, a’r unig gysgod ar heulwen eu bywyd priodasol oedd fod fy nhadcu, ac yntau wedi ei godi gan yr Hen Fam ac yn un o etifeddion yr hen Ficer, wedi troi’n Fethodus ar ol symud i Lansadwrn. Ond o barch a chariad tuag ato, ai mamgu i’r capel am ddeg bob bore Sul gyda’i phriod, ac yna äi’r ddau am hanner awr wedi un-ar-ddeg i’r gwasanaeth i Eglwys y Plwyf. Deuai’r Ficer i holl oedfaon y Diwygiad, a llawenychai wrth wel’d y defaid oedd ar ddisperod yn cael eu dwyn yn ôl o’r anialwch, ac ni chenfigennai am eu bod yn myn’d i gorlan arall na’r eiddo ef. Yn un oedfa wlithog gwaeddodd Sara Daniel allan yng ngwres ac angerddoldeb ei hysbryd (x25) tanbaid,
Dere am dro, Arglwydd, yn Dy gerbyd achub,” a dyna fu arwyddair Diwygiad 1859 yn yr ardal. Er mai Eglwys-wraig oedd mamgu, yr oedd hi a Sara Daniel yn gyfeillion mynwesol. Gwraig dlawd, yn byw mewn bwthyn bach tô gwellt yn y pentref, oedd Sara, ond flynyddoedd ar ol iddi ymadael siaredid am dani fel mam yn yr Israel. Ysgrifennodd fy mamgu ychyclig bennillion syml er coffa am dani.

Ti ddisgwyliaist lawer, Sara,
Am i’r amser ddod i ben,
It’ gael gwel’d dy annwyl Iesu
A’i fwynhau Ef yn ddilen.
Fe ddaeth adeg dy ogonedd
Ar yr eilfed ddydd o Fai,
Ce’st dy ollwng o’th gaethiwed
At y gwaredigol rai.

Yn dragwyddol debyg iddo,
Dyma’th amcan tra fo’t byw,
Cefaist hynny ’nghyd a phobpeth
A ordeiniwyd i blant Duw.
“Y garreg wen alr enw newydd,”
D’wedaist wrthyf yn dy ddydd,
Oedd yr adnod a fendithiwyd
Iti gael dy draed yn rhydd,

Y cuddiedig fanna nefol
A’th gynhaliodd ar dy daith,
Ac a’th nerthodd yn yr anial
Ysbaid hir flynyddoedd maith
Pwy mor barod i gyhoeddi
Doniau’r Arglwydd yn ei Dŷ,
Ar bwy eto y gorffwysa
Deuparth o dy ysbryd di?

Bu yn bleser genni’th glywed
Yn y cyrddau lawer pryd,
Dy ddull ath lais’n gwaeddi diolch
Am gyfreidiau gras i gyd.
(x26) Yn dy gystudd buost dawel,
Cedwaist olwg ar y nôd;
Pwy na ddwed wrth wel’d dy hyder
Am fodd i ddilyn ôl dy dro’d?

Cefaist ti fynediad helaeth
‘Mhlith angylion tua thre,
Rhai sydd wedi eu hordeinio
I weinir sawl ai carant E’:
‘Nawr mi’th welaf dithau yna,
‘Mhlith y dorf o fewn i’r nef,
‘N canu’r gloch ddechreuaist yma,
“Diolch byth i’w enw Ef.”

Daeth i’m meddwl wrth fyfyrio
Am dy holl ddedwyddwch di,
Na pherffeithir ddim o honot
Heb ryw wael un fel myfi!
Ac os byth caf ddyfod atat
I drigiannu yn y nef,
“Diolch Iddo” fyth ni ganwn,
“Clod a mawl i’w enw Ef.”

Ni roddaf yma’r penillion marwnadol ereill a geir yn y llyfryn. Dyfynnais ddigon eisoes i ddangos gymaint oedd dylanwad Pantycelyn arni. Ni roddaf, chwaith, ond dwy o’r “Emynau” a gyfansoddodd, er nad oedd hi, druan, yn ei gwyleidd-dra, wedi beiddio rhoddi’r fath enw uchelgeisiol arnynt.

TRAGWYDDOLDEB.
Tragwyddoldeb sydd yn faith
Heb un terfyn,
Minnau’n gyflym ar fy nhaith
Sydd yn cychwyn;
Arglwydd cyfiawn, santaidd, pur,
Rhaid wynebu,
Modd i lynu wrth y gwir
Yw fy ngweddi.

(x27) ’nawr yw’r adeg i bar’toi,
Gwnawn ystyried,
Cyn y caffo’r drws ei gau,
Rhaid ein harbed,
Os diangaf ddydd a ddaw,
Minnau gana’
Ar fryniau gwyn Caersalem draw,
‘Haleliwla.”

AR FIN YR AFON.
Mae angeu yn y babell,
Rwyf yn ei deimlo ’nawr
Yn gwasgu’m natur egwan
Nes yw’n fy llethu lawr.
O am gael ’nabod Iesu
Heb un amheuaeth ddim,
Cyn myn’d i rydiau’r afon -
Ei fod yn briod im’.

Hawdd gennyf gredu y try’r Colegau allan, sydd erbyn heddyw’n britho’n gwlad, wragedd mwy eu gallu a’u diwylliant na Jane Davies, Banc-y-lan, ond os cadwant ei chalon dyner, a’i phurdeb ysbrydol, a’i ffydd syml, gwyn eu byd, - a gwyn fyd y wlad a’u magodd.

(x28) PENNOD III
.
YR HEN LIAS.

Yn yr hen
amser gynt ’roedd yn arferiad yn Llansadwrn i dalu pum punt er gwneuthur plentyn tlawd yn “brentis plwyf.” Yr olaf o’r prentisiaid oedd “yr hen Lias,” fel ei gelwid pan gofiaf fi ef gyntaf. Prentisiwyd Lias pan yn grwtyn deng mlwydd oed yn was bach, neu page boy, gydag Admiral Syr Thomas Foley, ym Mhlas Abermarles. Yr oedd yr Admiral wedi priodi Lady Lucy Fitzgerald, merch y Duc Leinster, a chwaer Lord Edward Fitzgerald, gwr Pamela a gwron gwrthryfel 1798. Ef oedd y cyntaf, yn ei long-ryfel y “Goliath,” i ymosod ar y llynges Ffrengig ym mrwydr y Nile, ac ar ei long ef, yr “Elephant,” yr oedd Nelson ym mrwydr Copenhagen, ac wrth ei ochr ef y safai’r gwron pan gododd ei ysbienddrych at ei lygad tywyll. Bu farw yn 1888 yn Admiral of the Fleet yn Portsmouth, - ym mreichiau Lias, y prentis plwyf o fynydd Llansadwrn. Aeth ei weddw, Lady Lucy, i fyw i Ffrainc, lle y treuliodd y gweddill o’i dyddiau, a Lias gyda hi. Pan fu’r hen foneddiges farw tua 1850, gadawodd ddwy fil o bunau yn y Three per cents. i Lias i fyw ar yr iws (interest), a ffarm Llettyrywen, gerllaw fy hen gartref, yn eiddo iddo tra byddai byw. Pan aeth Lias i Abermarles yn grwtyn, ni wyddai air o Saesneg. Ar ol byw gyda’r hen Admiral yn Lloegr am flynyddoedd, anghofiodd (x29) yn agos bob gair o’r hen iaith. Wedi aros yn Ffrainc am ddeng mlynedd a rhagor, yr oedd yn fwy cyfarwydd a’r Ffrangeg nag a’r Saesneg. Ac yna, pan oedd tua hanner-canmlwydd oed, daeth yn ol i fyw yn yr hen blwyf, lle nad oedd ond ambell un yn gallu dim ar yr iaith fain.

‘Rwy’n cofio, fel engraifft, y tro y daeth sparbil o Gapten, yr hwn oedd wedi newydd briodi ag aeres ystâd gyfagos, i ymweled â threftadaeth ei wraig. Daeth ar ei dro i’n tŷ ni; dangoswyd ef i’r parlwr - ystafell na ddefnyddid ond pan fyddai “pregethwyr mawr” yn aros gyda ni. Gofynnodd fy nhad iddo’n foesgar os dymunai gael rhywbeth i fwyta neu i yfed. Dyna’r cwestiwn cyntaf a ofynnid bob amser i ymwelydd. “Mae gyda ni ddigon o bopeth yma,” arferai fy nhad ei ddywedyd, “ond gras ac arian.” Atebodd y Capten yr hoffai gael glasiaid o home brew,
oblegid yr oedd pob ffarmwr yn darllaw yn y dyddiau hynny. Yr oedd darluniau Gladstone a Bright ar y muriau, a golwg sur a sarug a daflai’r Capten arnynt. Nid oedd moesgarwch yn goddef i fy nhad adael yr ymwelydd wrtho’i hun, ac yr oedd mam oddicartref. Nid oedd dim i’w wneyd felly ond rhoddi rhywbeth i’r gwr bonheddig i’w ddarllen tra byddai fy nhad allan o’r ystafell, ond nid oedd ond un llyfr Saesneg yn y tŷ, sef “The Missionary Travels of the Rev. Thomas Thomas in South Africa.” Ac wele fy nhad, druan, yn ei ddiniweidrwydd llednais, yn cynnyg hwnnw i’r Capten, tra yr elai ef allan i ymofyn y ddiod. Beth fu achos yr anghydfod a gymerodd le wed’yn rhyngddynt ni allaf ddywedyd gyda sicrwydd, oblegid nid oeddwn ond rhyw saith neu wyth mlwydd oed y pryd, yn dilyn fy nhad yma a thraw. Pa un ai’r (x30) darluniau Radicalaidd ar wal y parlwr goreu, ynte llyfr y Cenhadwr Cymreig, neu rywbeth arall, ni allaf benderfynu. Gan nad p’un, pan oeddem ein tri yn yr ydlan, dyma’r Capten yn dywedyd rhywbeth swrth wrth fy nhad yn Saesneg, - ni ddeallais beth, - ac yr oedd fy nhad, fel llawer Cymro arall, dipyn yn wyllt ei natur. Fflamiodd fel mellten, ond nid oedd ganddo ddigon o feistrolaeth ar y Saesneg i ddweyd ei feddwl. Wedi methu cael gafael ar eiriau, cydiodd yn ysgwydd y Capten a throdd ef yn rownd nes oedd yn wynebu gât yr ydlan. “See that gate, man?” ebe’n gynhyrfus. “Then wâc thro’ it.” A myn’d wnaeth y Capten, fel ci a phadell wrth ei gwt.

Ond i ddod ’nol at Lias. Ar ol dychwelyd i Lansadwrn, priododd â merch o’r pentref, a gwriaeth ei oreu i ddyfod yn ffarmwr. Er gwaethaf ei holl ymdrechion, ni fu fawr llewyrch ar ei amaethu. Valet oedd
Lias, ac anodd gwneud ffarmwr o hen valet. Ceisiodd ail-ddysgu’r Gymraeg, ond rhyw gymysgedd ryfedd a siaradai o Gymraeg a Saesneg, ac aml lw neu air llusg yn Ffrangeg. Nid oedd ball ar storhaus am yr hen Admiral a Lady Lucy, - yn enwedig Lady Lucy. Gan mor fynych yr oedd ei henw ar ei dafod, “Lady Lucy” y galwai Griffith y Gof yr hen Lias, a glynodd y llysenw wrtho tra fu byw. Erbyn i mi gyrraedd oedran i ddeall beth oedd Lias yn siarad am dano, yr oedd pobl yr ardal wedi hen ’laru (flino) ar ei storhâus. Yr oedd yr hen wr wedi myned yn drwm ei glywed, a chymerai awr i ddywedyd hanesyn y byddai adroddwr deheuig yn gallu ei ddweyd mewn degwm o’r amser. Yn ei henaint, felly, digwyddodd Lias ar ddyddiau blin. Nid oedd neb yn foddlon gwario awr i wrando ar y laudator temporis acti yn (x31) ymffrostio yng ngwrhydri’r hen Adrniral a glendid Lady Lucy, a’u dywediadau pert a’u gweithrediadau digymhar.

Er nad oedd Llettyrywen ond lled cae oddiwrth fy hen gartref, ni wyddwn i lawer am yr hen Lias hyd nes yr oeddwn tua deuddeng mlwydd oed. Dechreuodd dafaden (wart) dyfu
ar drwyn Lias; dywedodd y meddyg wrtho mai cancer ydoedd, ac na ellid ei gwella. Ond yn y dyddiau gynt ’roedd llawer o “ddoctoriaid bôn clawdd” yn yr ardal. Yn Llansawel yr oedd doctor esgyrn; yn Llangadog trigai gwr oedd yn berchen ar eli llosg-tân digyffelyb; yn Nhal-y-llychau yr oedd gof a chanddo eli ardderchog at wella’r ddarwden (ringworm) a fflamwydden (erysipelas); ac yn y Plough Inn ym mhentref Caio yr oedd gan Morgans y tafarnwr eli digymhar at wella cancer. Penderfynodd Lias dreio meddyginiaeth y tafarnwr, a chan nad oedd càr ganddo, syrthiodd y gorchwyl arnaf fi i yrru’r hen Lias unwaith yr wythnos i Gaio i gael eli cancer ar ei drwyn. Fel yna y deuthum i’w adnabod ac i hoffi ei ddirif ystoriau. Yr oedd adgofion yr hen Lias yn gystal a chrwth a thelyn i imi, gan nad oeddwn erioed wedi darllen un nofel ond “Taith y Pererin” a “Chaban F’ewyrth Twm.” Ni chafodd yr hen Lias erioed o’r blaen y fath wrandawr, ac o’r pryd hwnnw hyd ddydd ei farwolaeth edrychai arnaf fel “silly bucket” (ys dywed Coleridge) i arllwys ei adgofion iddo.

“Wyddot ti pam mae dy gartre’n ca’l ei alw’n Brownhill?” meddai un tro. “Na? Mon Dieu,
what ignorance! Wel, pan dalwyd y prize-money i’r hen Adrniral ar ol the Battle of Copenhagen - thousands and thousands of pounds - penderfynodd brynu stât - (x32) cete va sans dire, that’s what all the Admirals did! He was the son of the squire of Ridgeway in Pembroke, ond stât fach oedd honno - not big enough, comprenez vous, for a great man like Sir Thomas. ’Roedd stât Abermarles yn cael ei gwerthu - it had been in Chancery for 60 years and more - a fe brynnodd yr hen Admiral ei hanner, a Williams y ’ffeirad, your ancestor, mon ami, - gwarter o honi. ’Roedd yr hen blâs wedi myn’d yn hopeless ruin - no one living there for 60 years - a fe dynodd yr Admiral ef i lawr, ac o’r cerryg fe gododd blas newydd Abermarles a thŷ ffarm Brownhill. Cododd hefyd y tŷ bach lle mae Isaac Nathan yn byw, a galwyd hwnw’n Copenhagen - ar ol y Battle, wel’d di. He wanted to call your house Copenhagen Farm, but my lady would not have it. Lady Lucy was a great admirer of Bobby Burns, - all the Whigs loved Burns and hated William Pitt - a chan fod Bobby wedi bod yn byw unwaith mewn lle o enw Brownhill, Brownhill y galwyd the new house.”

Ni wn h
yd y dydd heddyw a ydoedd esboniad yr hen Lias yn iawn ai peidio am yr enw: ond credaf ei fod yn iawn wrth ddywedyd mai o gerryg hen blâs enwog Abermarles yr adeiladwyd Brownhill yn 1801. Yn yr hen blâs y cynlluniodd Dr. Lewis, meddyg Iarlles Rismwnt, a Rhys ap Tomos pa fodd y gallai Harri Tudur lanio yn Aberdaugleddau a goresgyn Cymru a Lloegr. Yno hefyd y llawnododd Ficer Pritchard ei ewyllys. Wel, wel, mae’r ffaith i mi dynnu fy anadl gyntaf rhwng cerryg yr hen blâs yn dwyn Cymru Fu rywfodd yn agosach ataf.

“We always loved to have the Napier boys staying with us,” eb ef dro arall. “Roedd Lady Lucy’n (x33) perthyn yn agos iddi nhw. Eh bien - th
ose were great days. ’Roedd y cryts bob amser yn full of fun and frolick. I remember once Lady Lucy heard that Charlie was killed in the Peninsula. Fe gadd pob gwasanaeth-ddyn suit of mourning, ond, ma foi! the first day we wore them, who should turn up but Charlie himself. And what a feast we had!”

Ond efallai mai ei ’stori oreu yn ol fy marn i ar y pryd oedd ei ddesgrifiad byw o’r guillotine ar
waith yn Paris yn 1848, a’r pennau wedi eu hysgaru a’r cyrff yn dawnsio yn y basged! Nid oeddwn byth yn blino ar glywed yr hanes, ac ar ol i mi ei adrodd wrth blant yr ardal, byddent yn tyrru at yr hen Lias ar y ffordd fawr, ac yn gweiddi, “Dwedwch wrtho ni, Lias Lewis, ffordd mae nhw’n torri penne bant yn Ffrainc.”

Un haf, pan oeddwn gartref ar fy ngwyliau, digwyddodd amgylchiad ynglyn â’r hen Lias sydd wedi bod yn destyn llawer ystori gyfeiliornus, ac felly, gwell yw i mi adrodd yr hanes yn union fel y digwyddodd.

Un bore ym mis Awst daeth Mari Lloegr-fach i ddywedyd wrth mam fod Willie’r mab wedi cael gafael ar ddwy goes ôl mochyn yn un o’r caeau. Tyddyn bach, a lle i gadw pedair buwch, oedd Lloegr-fach, nid nepell o’m hen gartref. Bu unwaith yn dafarn, a’i enw’r pryd hynny oedd Parc-y-beili. Ond ar ddechreu’r ganrif olaf, pan oedd plâs newydd Abermarles yn cael ei adeiladu, daeth gweithwyr o Saeson i westya yno, a chan gymaint o Saesneg a glywid yn y tŷ, galwodd yr ardalwyr doniol ef yn Lloegr-fach. Ac fel y gŵyr pawb, oddiar pan alwodd gŵyr Antioch ddeiliaid y grefydd newydd yn Gristionogion hyd ein dyddiau ni, ’does dim a lŷm fel llysenw (x34) enw, ac wrth yr enw Lloegr-fach yr adwaenir Parc-y-beili hyd heddyw.

Yr oedd Mari mewn cryn bryder, oherwydd ni allai ddirnad ffordd y daeth y darnau mochyn i’r cae, ac yr oedd yn ddrwgdybus mai rhyw elyn iddi oedd wedi eu taflu yno.

“Beth ’na i, Mystres fach?” ebe’n gythryblus. Dwy i ddim am i neb dowlu i’n ngwyneb i na’r plant nad ydym ni ddim yn bobl onest.”

“O,” meddai mam, “mae Llewelyn yn myn’d i bosto llythyron yn Llangadog y prydnawn, a geiff e’ ddweyd wrth y polis.”

Ac felly bu. Pan oeddwn yn ei throedio’n gyflym tua’r pentref, pwy welwn ar ochr yr heol, a cheffyl a chart a gwas gydag ef, ond yr hen Lias. Nid oedd gennyf amser i wrando ar storhâus dibendraw yr hen wr hanner-byddar, ac felly aethum heibio yn dawel a llechwraidd, gan hyderu na welsai fi. Ond siomwyd fi. Cyn i mi ei basio ugain llath, clywn lais yr hen fachgen yn gweiddi-

“C’est tu,
scelerat! Be’ gebyst syarnat ti’n rhedeg heibio fel ’na heb ’weyd siw na miw wrtha i?” “’Does gen i ddim amser i aros, Lias bach,” meddwn innau.

“Beth yw’r hast sy’ amat,
imbecile?” gwaeddai Lias.

“Mae eisieu gwel’d y polis ama i,” ebe finnau.

“Y polis?” gofynnai Lias. “Pwy eisieu nhw sy’ arnat ti?”

“Chlywsoch chi ddim?”

“Naddo, wir i Dduw,” ebe Lias. “Fe gawson afel mewn corff ar dir Lloegr-fach bore heddi!” meddwn innau.

(x35) “Sacre bleu!”
gwaeddai Lias. “Murder at our doors, and we know nothing of it! Mae’n waeth na Gwerddon ’ma! Dyn neu feniw o’dd e’?”

“O, corff meniw oedd hi,” meddwn innau.

“O’r fileined d-----!” ebe Lias. “And how old was the poor thing?”

“I can’t say,” meddwn innau, “but her hair was quite white.” “A1lez vite, mo
n ami,” ebe Lias. Bant a ti, ’ngwas bach i, paid loetran, a dwed wrth y plisman am fwstro. There’s not a moment to lose.”

Ac ymaith a fi, heb feddwl rhagor am y peth, ond fy mod wedi cael y goreu ar yr hen Lias.

Pan ddaethum i’r pentref ac wedi posto’r llythyrau, euthum i ddweyd y stori wrth y plisman, ac addawodd yntau ddyfod cyn nos i Loegr-fach. Arhosais yn y pentref am awr neu ddwy yn hollol ddifeddwl-ddrwg, wedi anghoflo’r hen Lias, ac ar ol tê troais fy wyneb tuag adre’.

Pan ddeuthum i Gât Abermarles, gwelais rhyw ddwsin neu ragor o geir o flaen y Square and Com
pass, a chlywn lais clochaidd yr hen Lias y tu fewn yn baldorddan am y “murder” oedd wedi cym’ryd lle yn Lloegr-fach. Nid oedd dim i’w wneyd ond ei gwanu hi gartref gynted ag y medrwn.

Erbyn hyn ’roedd y sôn wedi myn’d ar led, fel y gwna mewn ardaloedd gwledig, fod cyflafan erchyll wedi cym’ryd lle yn Lloegr-fach. Danfonodd rhywun am y Sergeant o Lanymddyfri, a daeth hwnnw a dau blisman gydag ef i wneud ymchwiliad i’r “terrible tragedy.” fel y’i gelwid yn y papurau newyddion bore drannoeth. John Crwca oedd y gohebydd, ac (x36). am ddeuddeg awr ’roedd John yn tybio ei fod yn fwy o ddyn na golygydd y Times.

Y cyntaf i gyrraedd Lloegr-fach oedd John Saer, Cwmllife. Gwelodd Arthur, mab Lloegr-fach, yn brwsho’r clôs o flaen y tŷ. ’Roedd John yn gosod cryn fri arno ei hun fel llenor, a phan yn gwneuthur coffin neu mewn angladd, ’roedd bob amser yn siarad Cymraeg “clasurol.”

“Maent yn d’eyd wrthyf fi, Arthur,” ebe John - yr oedd yn hoff o fenthyg priod-ddull y Gogledd ar achlysuron difrifol - “maent yn d’eyd wrthyf fi fod damwain alaethus wedi cymeryd lle yma heddyw’r bore.”

“Beth?” gofynnai Arthur yn syn.

“Clywais ddeyd,” ebai John, “eich bod wedi cael gafael ar gorff ar un o’r caeau - “

“O do,” atebai Arthur.

“Ac fod y gelain wedi ei sybedu’n arswydus,” meddai John.

Edrychai Arthur yn hurt am foment. Yna dywedodd gyda gwên:

“O, ’rwy’n diall ’nawr. Do, do, ’roedd ei hams hi wedi ca’l eu torri bant.”

“Hams, y crwt melldigedig!” rhuai John. Hams! Cofia’r, bredych brwnt, dy fod yn siarad am fenyw’n gorwedd yn ei gwaed

“Meniw?” llefai Arthur. “Ond hwch yw hi!”

“Hwch!” meddai John. “Hwch! Wel, wel, ni fydd dim eisieu coffin arni, sownd.”

A throdd ymaith, fel y gwr ieuanc goludog, yn athrist. Cyn pen nos yr oedd yr holl ardal yn ferw drwyddi gyda’r newydd, ac fel yr oedd gwaetha’r modd, ’roedd (x37) cwrdd gweddi’n digwydd bod yn y pentref. Erbyn hyn ’roedd pawb ond y gweinidog wedi dyfod i wybod mai canard, ys dywed
ai yr hen Lias, oedd y stori. Wrth ddiweddu’r cyfarfod, defnyddiodd y gweinidog ryw eiriau fel hyn:

“Gwared Di, Arglwydd, rhag y picellau sy’n ymlid liw nos. Bydd yn dyner wrth anwyliaid y chwaer a gollasom mor ddisyfyd,” &c.

Ni chlywodd Lias, druan, y diwedd fyth ar “stori’r hwch,” ond chware-teg iddo, estynnodd lawn faddeuant i mi.

“Tu malin!” medda
i wrthyf, “yn twyllo hen ddyn! But boys will be boys. I remember Charlie Napier once,” - a gorfu i mi wrando ar ryw stori ddiddiwedd am hwnnw, ac yr oedd yn falch gennyf mai dyna’r unig benyd a dalais am “rigan” yr hen Lias. ’Doedd dim Defence of the Realm Act mewn bod y pryd hynny!

Os oedd yr hen Lias yn hanner addoli’r Admiral a Lady Lucy, edrychai ar y Capten oedd yn briod ag aeres Abermarles gyda dirmyg ysgornllyd. Nid oedd dim a wnelai’r Capten yn iawn. “That is not how things were done by Sir Thomas and Lady Lucy,” oedd ei fyrdwn bob cinio rhent. Llawer i ysgarmes boeth a gymerodd le rhwng y Capten â hen pensioner y teul
u, a chan fod y ddau’n dafodrydd, celai’r deiladon hwyl fawr wrth wrando ar y ddau’n bragawthan ac yn chwythu bygythion a chelanedd, un yn erbyn y llall. Yr oedd Lias yn feistr ar lwon mewn tair iaith, ond bu’r Capten fyw am flynyddoedd yn Quebec ac yr oedd yn well ysgolor yn y Ffrangeg na’r hen Lias. Barn y gymydogaeth oedd fod y Capten yn (x38) cael y goreu ar Lias, gan gyfoethoced ei vocabulary a hyawdledd ei regfeydd.

O’r diwedd, yn llawn o ddyddiau, bu farw Lias, a chladdwyd ef ym mynwent y plwyf yn agos i fur dwyreiniol yr Eglwys. Cyn pen blwyddyn ar ei ôl bu farw ei hen elyn, y Capten, a thrwy ryw hap, penderfynwyd ei gladdu gerllaw’r hen Lias. Digwyddodd Tom fy mrawd fyn’d i’r fynwent pan oedd bedd y Capten yn cael ei dorri.

“Wyddoch chi pwy sy’ wedi ei gladdu man yna?” gofynnai’r torrwr beddau, gan bwyntio at fedd Lias.

“Na wn, wir,” atebai ’mrawd.

“Yr hen Lias,” ebe’r torrwr beddau. “Ag a wyddoch chi lle ’rwy’ i’n myn’d i ga’l fy nghladdu?”

“Na wn i,” meddai ’mrawd.

“Rhwng y ddou!” ebe’r torrwr beddau. “’Wa’th fe fydda i’n codi o’u bla’n nhw, - mae’r Gair yn dweyd mai’r meirw yng Nghrist a adgyfodant yn gyntaf. Ond ni wna’ i syflyd o’r man yma hyd nes y coda’ nhw a gwel’d i gilydd. Y mowredd annwl, dyna reiets fydd gyda nhw!”

(x39) PENNOD IV.

TWMI
PRICE.
Gwr bach, tew, g
raenus, oedd Twmi Price, pum troedfedd a modfedd o hyd, ac yn agos cymaint a hynny o led. Yr oedd yn llydan drosto, ond yr oedd fel stond, yn lletach yn ei ganol nag mewn un man arall. Edrychai Twmi mor ddiniwed a’r golomen, ond dywedid fod nid ychydig o gyfrwysder y sarff ganddo hefyd. Gof oedd o ran ei grefft - yn hanner brawd i Griffith y Gof, ond wedi iddo briodi â gweddw’r Three Horse Shoes, rhoddodd y goreu i’r efail, a daeth yn dafarnwr digon medrus i allu cynnal y fusnes ymlaen ar ol colli Marged ei wraig. Ie, a llwyddodd gymaint yn ei amgylchiadau fel mai ef oedd y Vicar’s Churchwarden ym mlynyddoedd olaf ei fywyd. Yr oedd yn meddu, fel y teulu i gyd, ar lais soniarus, ac yr oedd ei glod drwy’r holl gwmpasoedd am ei ddatganiad o “Hob y Deri Dando,” “Glan Meddwdod Mwyn,” “Ar Hyd y Nos,” ac ereill o’r hen alawon. Ond ei gampwaith, meddid, oedd tair cân na welais mewn llyfr erioed: “Yr Eneth wrthodedig,” “Daeth mwydyn i Maesteilo,” a “’Stim posib a chael.” Nid wyf yn cofio geiriau’r ddwy gyntaf, ond dyma fel y cofiaf fi eiriau’r olaf:

(x40) ’Rwy’ ’nawr yn un
ar hugain oed
Heb damed o faraf a loesen;
Mae’n ngwyneb i yn gwmws fel
Gwyneb rhyw hen groten.

Cydgan-
‘Stim posib a cha’l,
‘Stim posib a chocl,
‘Stim posib ca’l baraf a loosen.

Wrth brynu a gwerthu ebol blwydd
Enillais hanner sofren;
A honno i gyd a rown yn rhwydd
Am damed o faraf a locsen.

I siop y druggist ’n union es,
A gofyn wnes yn syden,
“Os gennych chi ddim rywbeth i roi
I fi i ga’l baraf a locsen?”

“O dyma eli gwerthfawr iawn,
A hwnnw’n eli gwawrgoch,
Wrth rwbio’n dda a rhwbio’n lew
Cewch wishgers lle y mynnoch.”

Wrth fynd i’r gwely rhwbio wnes,
A rhwbio nes bo’n twymo,
A bore dranno’th synnu wnes,
Yr own i’n wishgers drosto!
Edrychid ar Twmi, am ryw reswm neu’i gilydd, fel gwr oedd o flaen ei oes. Ni allaf ddywedyd pam, oherwydd nid oedd wedi cael fawr o ysgol, ac nid oedd chwaith yn ddarllenwr. Ni chlywodd neb ef erioed yn ’nelu siarad Saesneg, ac yn wir yr wyf yn “ddirgel gredu” (ys dywed y pregethwyr) na wyddai ond ychydig eiriau o’r iaith fain.

(x41) Un gaeaf bu i rai ohonom rai’r bobl ifenc gychwyn darllenfa yn y pentre, ac er mwyn diddori’r rhai nad oeddynt yn hoff o ddarllen, prynwyd draught-boards. Yr unig chware o’r fath a welwyd yn y plwyf o’r blaen oedd “chware carw” (rhyw fath o backgammon), ond
ar ol dysgu’r ffordd i chware draughts cyfaddefai pawb fod y chware newydd yn llawer trech na chware carw. Lledodd y blŷs am y chware newydd fel haint y nodau drwy’r ardal; yr oedd y Ddarllenfa’n llawn bob nos, a’r tafarndai’n wâg. Gwnaeth rhai o’r tafarnwyr brynu draught-boards er ceisio denu eu hen gwsmeriaid yn ol. Un dydd, pan oedd ffair yn y pentre, aeth dau ŵr i’r Three Horse Shoes, a gofynasant i Twmi os oedd draughts ganddo. Safodd Twmi’n llonydd am eiliad neu ddwy, yna meddai:

“Na, ’does dim draughts gen i,
ond mae gen i Druman, a Burton, ac Allsopps.”

Wedi clywed sôn am draught beer yr
oedd Twmi, mae’n debyg, heb erioed ddeall ei ystyr.

Er nad oedd ei arabedd mor gyfoethog ag eiddo Griffith, ei frawd, eto adroddid llawer stori ddigrif am Twn)i. Un tro ’roedd Twmi a Marged ei wraig yn dychwelyd yn lled hwyr o’r Gwter Fawr, yr ochr arall i’r Mynydd Du, - Marged yn gyrru’r cel (ceffyl) bach, a Twmi’n cysgu wrth ei hochr. Pan ddaethant at Garreg Fawr Abermarles - lle’r oedd bwci’n aros bob amser - safodd y ceffyl yn ddisymwth. Treiai Marged fel y mynnai, ’doedd dim modd cael Jac i symud, ac o’r diwedd gorfu iddi ddihuno Twmi. Ac ebe Twmi pan ddeallodd beth oedd yn bod

“Be’ sy’ na, howyr bach? Pwy sy’n stoppo’r cel bach i fyn’d tua thre? Nid yr Hollalluog, mi wranta, wa’th ’dyw e’ ddim yn gneud drwg i neb. A nid y (x42) d---1, wa’th ’rwy’ i wedi priodi ’i whar e’. Come Jac, ’y ngw
as i - bant a’r cart!”

A dyma Jac, wedi clywed llais ei feistr, yn myn’d yn ei flaen yn ddiddig ei wala.

Bu Twmi am flynyddoedd yn cario caws a ’menyn ac wyau a blawd ceirch i’r Gwter Fawr. Nid oedd relwê yn Nyffryn Towy’r amser hwnnw, ac äi Twmi bob nos Wener yn y cart gyda Jac, gan gyrraedd y Gwter Fawr - fel y gelwid Brynamman - yn gynnar bore dydd Sadwrn. ’Roedd rhai pobl faleisus yn drwg-dybio mai nid caws a ’menyn yn unig a gariai Twmi, ond fod ffesants a phetris i’w cael weithiau yng ngwaelod y cart. Un tro pan oedd yn myn’d drwy Bontarllechau daeth plisman at Twmi.

“Stopiwch, Twmi,” ebe fe. “Oes game gennych chi h
eno?

“Game?” atebai Twmi
. “Game? Oes, fe dynga’ - fe dynnith Jac nes bod ei fola bach ar y llawr! Come, Jac,” ac yn slashio’i chwip. A dyma Jac yn carlamu nerth traed, nes oedd y plisman wedi ei adael ymhell o’i ôl.

Ond prif deitl Twmi i enwogrwydd oedd ei allu i ragweled marwolaethau. Pan oedd yn ddyn ifanc, ’roedd yn gwel’d “toilu” (drychiolaeth o angladd), ac ni ddoi cannwyll gorff i’r ardal heb i Twmi ei gwel’d o flaen neb arall. Clywais fy nhad yn adrodd lawer gwaith fel yr oedd ef a Twmi’n dod ’nôl un tro o ffair Trecastell, ac yr oedd tua hanner nos erbyn iddynt ddod i gymydogaeth cartref. Yr oedd y ddau’n flinedig a chysglyd, a’r ddau geffyl oedd danynt heb fod yn fawr gwell. Yn ddirybudd dyma’r ceffylau’n sefyll, a’r ddau wr ifanc yn dihuno.

“Welwch chi hwn ’co? “ ebe Twmi’n gynhyrfus.

(x43) “Na, wela i ddim,
atebai fy nhad, gan lygadrythu yn y tywyllwch.

“Mae ceffyl yn neidio ar yr hewl,” ebe Twmi.

“Chlywch chi ddim rhyw ochen yr ochr arall i’r berth?”

Clustfeiniodd fy nhad, ond ni chlywai ddim.

“Hisht! clywch ’nawr!” meddai Twmi. “Mae’r ochen i’w glywed ’nawr yn blaen.”

Credodd fy nhad am foment ei fod yntau’n clywed rhywun yn griddfan yn y cae.

“Cydiwch ym mhen y ceffyl, Twmi,” ebe ’nhad, “ag fe af i i wel’d pwy sy’ yco. Mae rhywun wedi ca’l anhap.”

Gyda’r gair dringodd dros y berth i’r cae, ond er chwilio a chwilio, ni welai neb yno, ac ni chlywai’r ochain mwyach, er fod Twmi’n taeru o hyd ei fod ef yn ei glywed. Aethant adref, ac yr oedd fy nhad wedi ei ddirgymell erbyn hyn mai wedi breuddwydio’r cyfan yr oedd Twmi ac yntau.

Drannoeth yr oedd ffarmwr cyfagos yn marchogaeth ar yr heol fawr, a phan ddaeth i’r man lle clywodd fy nhad yr ochain y noson cynt, neidiodd ei geffyl yn ddisymwth naill ochr, a thaflwyd y ffarmwr ar ei ben dros y berth i’r cae. Ymhen ysbaid clywodd rhai fforddolion ei ochain. Dygwyd ef i dyddyn bach gerllaw, ond bu farw cyn i’r meddyg gyrraedd.

Llawer stori gyffelyb a adroddid am Twmi a’i ddawn ryfedd ac ofnadwy. Wedi myn’d i gadw tafarn, gwnaeth Twmi ei oreu i guddio ei dalent, ond parhau a wnaeth yr ardalwyr i gredu’n ddiysgog yn ei alluoedd.

Yn fuan wedi i Twmi gael ei wneuthur yn Churchwarden daeth ciwrad newydd, o’r enw Williams, i’r (x44) plwyf - dyn ifanc
oedd wedi ei urddo o Goleg St. Bees heb fawr o baratoad at y weinidogaeth. Nid oedd ball ar y storhâus adroddid am dano. Un tro yr oedd yr Esgob yn dyfod i ymweled â’r plwyf, ac yr oedd “cyrddau mawr” i gael eu cynnal yn yr Eglwys. Syrthiodd i ran y ciwrad i ddarllen y llithiau, a bu’r offeiriad am ddyddiau yn ei ddysgu’n fanwl fel na chawsai anair gan yr Esgob. Daeth y dydd, a gwnaeth y ciwrad ei ran yn fedrus ddigon hyd nes y daeth at un adnod, ac fel hyn y darllenodd hi:- “Pilate saith unto him, What is truth? And when he had said this, he went out again unto the juice.”

Cyn bo h
ir daeth y ciwrad i wybod fod yr ardalwyr yn credu fod Twmi’n gallu rhagweled marwolaethau. Enynnodd ei lid pan glywodd fod y fath ofergoeledd yn ffynnu yn y plwyf. Aeth i wel’d Twmi un bore i ymresymu ag ef.

“Thomas Price,” ebe’r ciwrad, “mae’n ddrwg gen i glywed eich bod chi’n twyllo’r bobl anwybodus - eich bod yn gallu rhagweled marwolaethau.

“Mr. Williams,” meddai Twmi’n ôl, “’rwy’n rhoi ’ngair i chi nag w’ i ddim wedi ynganu gair wrth neb am y fath beth er’s blynydde.”

“Feallai nag ych,” ebe’r ciwrad, “ond mae’n nhw’n credu hynny ta p’un, a’ch dyledswydd chi, - fel churchwarden, yw i
hargyhoeddi nhw i bod yn camsyned.”

“Wel, Mr. Williams,” meddai Twmi, “dalla i ddim help os yw pobol yn cyfeiliorni fel ’na.”

“Gallwch, mi allwch help,” meddai’r ciwrad, waeth ta chi’n dweud yn blaen wrthi nhw nag ych chi ddim yn perthyn y fath ddawn, fe fyddai’r grêd farw cyn bo hir.”

(x45) “Wel,” atebai Twmi, “dalla i ddim gneud mwy nag a wnes i.”

“O gallwch, gallwch, Thomas Price,” meddai’r ciwrad drachefn. “A mae’n rhaid i chi ’neud rhagor hefyd, neu fe weda i wrth y ficer fod ei churchwarden yn tw
yllo’r bobl ofergoelus, ag ni fyddwch yn hir fel churchwarden wedyn.”

“Y dyn!”
ebe Twmi’n wyllt, “odi chi’n meddwl mod i’n falch fy mod yn gallu rhagweld pwy sy’n myn’d i farw nesa’ yn y plwydd? Odi chi’n meddwl i fod e’n beth neis i fi wybod pan fydd rhywun yn yfed glased yma gyda fi na fydd e’ byw i wel’d diwedd y mis? ’Dwy’i ddim wedi gweud gair wrth neb am hyn ers blynydde, ag ’rwyf fi’n fo’lon bod yn ddistaw byth, ond ’dalla i ddim gwadu’r ffaith mod i’n berchen ar y ddawn, fel mae gwaetha’r modd.”

“Thomas Price!” llefai’r ciwrad yn syn. “A ych chi’n beiddio dweud wrtha i ryw rigmarôl ddwl fel na?”

“Nid rigmarôl yw e’,” ebe Twmi’n frawychus, mae e’ mor wir â’r Efengyl.”

“Rwy’n synnu’ch clywed chi,” meddai’r ciwrad, ag os nad oes dim rhagor i ga’l oddi wrtho chi, fe fydd yn rhaid i fi ddweud wrth y Ficer.”

“Gwedwch chi fynnoch chi, syr,” ebe Twmi, “wneiff e’ ddim altro’r gwir. Ag os i chi’n dowto ’ngair i, fe weda wrthoch chi’r fyned yma pwy fydd y cynta’ i farw yn y plwydd.”

Safodd y ciwrad yn fud am foment neu ddwy.

Yna eb ef:

“Rhowch enwau’r tri cyntaf, ag yna, os byddwch yn iawn, fe’ch creda chi.”

“Na, na,” llefai Twmi, “mae un yn ddigon.”

(x46) “Na,” meddai
r ciwrad, “os ych chi’n iawn, mae mor rhwydd i chi roi tri ag un.”

Y diwedd fu i Twmi gytuno i ysgrifennu tri enw ar dri phapur a’u dodi mewn tri envelope. Ar ol ma
rcio’r envelopes yn 1, 2, 3, a’u cau, penderfynnwyd eu rhoddi i’r ysgolfeistr i’w cadw. Clywais yr ysgolfeistr yn dywedyd y stori lawer gwaith.

Y cyntaf i fyn’d oedd merch ifanc ddeunaw oed, yr hon oedd wedi bod yn dihoeni ers misoedd o’r darfodedigaeth, gelyn creulonaf Cymru wledig. Ar ol yr angladd, aeth y ciwrad at yr ysgolfeistr, agorwyd yr envelope cyntaf, a
c ar y papur tufewn cafwyd enw Ann Morgan, druan.

“Wel, lwc oedd hyn,” ebe’r ciwrad, “’roedd pawb ers wythnosau’n disgwyl clywed ei bod wedi myn’d.”

Cyn pen mis digwyddodd marwolaeth arall, a’r tro hwn marwolaeth ddisyfyd oedd. Yr oedd Nathaniel Rees wedi gwneud ffortiwn fach fel grocer yn y gweithiau, ac wedi dychwelyd i’w hen gynefin i dreulio’r gweddill o’i ddyddiau. Nid oedd eto’n dri ugain oed, ac yr oedd yn ddyn cryf, bywiog, iachus. Ond un diwrnod yr oedd yn brysio i ddal y trên. Yr oedd yr amser yn brin, dechreuodd redeg, syrthiodd mewn llewyg ar yr heol, a bu farw’n union o apoplexy.

Ar ol
y gladdedigaeth aeth y ciwrad at yr ysgolfeistr. Agorwyd yr ail envelope, ac ar y papur tufewn yr oedd enw Nathaniel Rees wedi ei ysgrifennu yn llaw grynedig Twmi Price.

Gwelwodd y ciwrad a’r ysgolfeistr. Ofnent edrych ar eu gilydd. Y cyntaf i dorri ar y distawrwydd oedd yr ysgolfeistr.

Mr. Williams,” ebe fe, “daf fi ddim ymla’n â hyn. Mae rhywbeth arswydus yma nag w’ i ddim yn gallu (x47) ei ddiall. Fy nghyngor i yw i dowlu’r trydydd envelope i’r tân.”

“Na, na,” meddai’r ciwrad yn ofnus. “Fe ddylem wel’d enw pwy sy’ lawr a rhybuddio’r dyn fel na fydd iddo fyn’d i’r farn heb baratoi.”

“Nonsense!” ebe’r ysgolfeistr. “’Dwy’ i ddim yn gallu penderfynu a oes rhywbeth yn hyn neu beidio. Ta beth, wneiff e’ les i neb i w’bod pwy enw sydd lawr yna. ’Does dim eisieu i ni weud wrth neb am y peth, ond llosgwn yr envelope ar unwaith.”

“Na!” meddai’r ciwrad, “’rwy’n penderfynu ei agor.’

“Wel,” ebe’r ysgolfeistr, “chi roddodd yr envelope i fi, ag
mae gennoch chi hawl i ofyn am dano’n ôl. Dyma fe. Ond cofiwch mod i wedi’ch rhybuddio chi.”

“O’r gore, o’r gore,” meddai’r ciwrad yn swrth, gan gydio yn yr envelope.

Agorod
d ef, tynnodd aran y papuryn i llaw grynedig, edrychodd ar yr enw oedd arno. Trodd mor welw ag angeu.

“Drychwch!” meddai wrth yr ysgolfeistr, gan estyn y papur. Edrychodd yr ysgolfeistr, a gwelodd y geiriau, “Mr. Williams, curate,” yn llaw T
wmi Price wedi ei ysgrifennu arno. Ni allodd un ddywedyd gair wrth y llall am rai munudau. O’r diwedd ebe’r ysgolfeistr


‘Twt, lol yw’r cyfan! Shwd y gall Twmi ragwel’d yn ots na rhywun arall! Mae’n hen bryd lladd yr hen ofergoelaeth am second sight. Dyla
i fadel â’r wlad gyda’r ysbrydion a’r canwyllau cyrff a’r holl ffwlbri arall oedd yr hen bobl yn credu yndyn nhw.”

(x48) “Eitha gwir,” meddai’r ciwrad yn groch, ond ’roedd ei rudd yn welw a’i wefusau’n crynu. “Nos da, fe af fi gartre’n awr.”

“Ie, dyna sy’ ore,” ebai’r ysgolfeistr. “A pheidwch a gweud wrth neb am y nonsense ’ma, a meindwch ’nawr beido a becso.”

“O na wnaf, wir,” meddai’r ciwrad, gan geisio chwerthin; ond ’roedd ei chwerthin yn annaturiol. “Fe ’nawn ddiwedd bythol ar enwogrwydd Twmi Price fel proffwyd.”

Ac ymaith yr aeth y ciwrad. Y noswaith honno aeth ar ei union i’r gwely, ac ni chododd ohono mwy. Cyn pen pythefnos yr oedd wedi marw, ac ni allodd y meddyg ddarganfod beth oedd ei glefyd. Barn yr ysgolfeistr oedd ei fod wedi ei ddychrynu i farwolaeth.

(x49) PENNOD V.
GRIFFITH Y GOF.
Dyn gwahanol iawn
i Twmi Price oedd ei hanner brawd, Griffith y Gôf. Yr oedd Griffith mor deneu ag oedd Twmi’n dew, ac mor dal ag oedd Twmi’n fyr. Er fod y ddau yn berchen ar arabedd, cyfaddefid mai Griffith oedd wit y plwyf, ac yr oedd ei bon mots, ys dywedai’r hen Lias, ar dafod pawb. Yr oedd Griffith yn un o’r ychydig Eglwyswyr yn y plwyf, ac er nad oedd yn aelod rheolaidd, yr oedd yn wrandawr cyson ac yn amddiffynnwr selog o gysylltiad yr Eglwys â’r Wladwriaeth. Ei arwr mawr oedd Brutus, yr hwn oedd wedi ymsefydlu yn ei ddyddiau olaf yn yr Half Way, ger Llanymddyfri, ac yn golygu’r “Haul” dros William Rees, yr argraffydd clodwiw. Siaradai Griffith gyda dirmyg am Dafydd Rees “y Diwygiwr,” yr hwn y bu Brutus yn ymryson beunydd ag ef. Barn isel oedd gan Griffith am Ymneilltuaeth, a’r syndod oedd fod yr Ymneilltuwyr yn foddlon goddef enllibion Griffith tra byddent yn cynhyrfu wrth glywed ereill, llai eu dawn, yn dywedyd rhywbeth angharedig am danynt. Efallai mai un rheswm am. hyn oedd fod Griffith yn perthyn i deulu Tomos Lewis, “y gôf ysbrydoledig,” o’r plwyf cyfagos, Tal-y-llychau.

(x50) “’Rwy’n cofio Dafi Rees un tro,” ebe Griffith, yn ysgrifennu llythyr at Lord John Russell, a’i gyhoeddi e’ yn y Diwygiwr, a fe wna’th i bobol gredu fod Lord John yn gallu darllen Cymraeg, a’i fod yn derbyn y Diwygiwr. Yr oedd yn gweiddi byth a hefyd am Ddadgysylltiad yr Eglwys. Fe oedd y cynta’ bron i wneud, - fe a’r rhest o’r pregethwyr. Ond fe gafodd bryd o dafod gan Brutus. Baptis oedd Brutus wedi bod, ond fe welodd gyfeiliorni ei ffordd, ac fe dda’th yn Eglwyswr cadarn cyn diwedd. Ond fe gredai i ddiwedd ei oes mai Christmas Evans oedd y pregethwr mwyaf siangodd mewn esgid erio’d. Christmas Evans yn wir! Dim ond gwas ffarm o’dd e’, ag fe gollodd i lygad wrth ymladd mewn ffair, a chas e’ ddim cystal ysgol ag a ges i. Fe glywes Brutus yn adrodd rhai o’i bregethau, a chlywes i’r fath ffwlbri erio’d â ’nghlustiau. ’Roedd gydag e’ un bregeth am y doethion yn dwad o’r Dwyrain i edrych am y mab bychan yn Methlem. Yr oedd yn desgrifio’r ffordd yr oedd y doethion yn galw mewn siop grocer
, ac fod y grocer yn arfer dodi sand yn y shwgir. Fel pe ta’ grocer i’w ga’l ym Methlem ’ramser hynny, a’i fod e’n gwerthu shwgir brown a Demerara cyn i Columbus ga’l gafel ar America. Glywodd neb shwd lol erio’d?”

Yn 1885, ar ol “unauthorised
programme “ Mr. Chamberlain, daeth cwestiwn Dadgysylltiad i’r amlwg, ac yr oedd yr holl gym’dogaeth wedi ei chyffroi. Aeth Griffith o’i gof, a meddai:

“’Does dim eisie Dadgysylltiad. ’does neb ond y pregethwyr a’r Radicaliaid yn ’mofyn y fath beth. ’doedd dim son am y fath beth ’slawer dydd pan oedd yr Eglwys yn wannach nag yw hi heddi. Yr (x51) Eglwys yw gwra
ig y Wladwriaeth. Beth ddeuthai ohonno ni’r gwrywod ta gyda ni ddim gwragedd gartre’ i fod yn gydwybod i ni? Mae’r gwrywod yn gorfod myn’d i ffair a marchnad, ond mae’r gwragedd yn aros gartre’ i ddryched ar ol y plant. Ydych chi’n meddwl y buswn i’n dwad gartre’ o ffair ne seshwn mor daliedd ag w’ i, ta dim o Jane yn y’ nisgwyl i? Mae tafod Jane yn well na chydwybod i fi! A beth ddeuthai o grefydd oni bae am y menywod? Yr argoel fawr, fyddai dim na seiet na chwrdd gweddi cyn pen blwyddyn! ’Roedd yr apostolion yn cwmpo mâs a’u gilydd hyd yn oed pan oen nhw yng nghwmpni’r Gwaredwr, a ’doedd neb ohonyn nhw’n specto pwy oedd e’. Ond ’roedd y gwragedd, Mair a Martha a Magdalen, yn gwbod yn iawn. A mae’r Wladwriaeth yn gorfod gneud ambell i dro brwnt, ond fe ddylai’r Eglwys fod uwchlaw’r fath dricks. Mae eisieu cydwybod ar y wlad fel sy’ ar ddyn, a’r Eglwys Sefydledig yw’r gydwybod i gadw’r wlad yn weddol right.”

Un tro aeth
Griffith a Dafi’r Felin i’r Sasiwn i Langadog. Pan gyrraeddasant y cae lle cynhelid y Sasiwn yr oedd tyrfa fawr wedi dyfod ynghyd.

“Dier mi, dier mi,” meddai

 

Hei, Deio, wel di’r brain yco?’

 

Gwela,’ mynte’r crwt.

 

Wel, cer, styria nhw.’”

Er gwaethaf popeth, gwasgu at y disgyblion a wnai Wil drwy’r blynyddoedd. Daeth ei achos eto o flaen y seiet.

“A oes ofon uffern arnat ti?” gofynnwyd iddo.

“O’s, o’s, ofon ofnadwy,” ebe Wil.

“Licet ti fyn’d i’r nefoedd?”

“O licwn wir,” ebe Wil.

“Wyt ti’n caru Iesu Grist?” gofynnai’r gweinidog iddo.

“O, odw’n wir, Mr. Thomas bach,” atebai Wil, a’r dagrau’n hidlo dros ei ruddiau, “’rwy’n i garu e’ o waelod ’y nghalon.”

“A pham ’rwyt ti’n ei garu e’?” gofynnai Mr. Thomas.

“O, Mr. Thomas bach,” atebai Wil, “am i fod e’n fy ngharu i, yr hen Wil Gelynen ag mae pawb yn ’wherthin ar i ben e’.”

“Ond beth ta Iesu Grist yn myn’d i lawr i uffern?”

“Gydag e’ licwn i fod, ta ble mae e’,” ebe Wil; ac ar hyn penderfynwyd derbyn Wil yn aelod rheolaidd.

(x78)
Bu fyw’n ddiargyhoedd drwy ei oes. Ni fu neb ffyddlonach gyda’r moddion, ac ni chadwodd neb honno ei hun yn fwy difrycheulyd oddiwrth y byd. Dim ond unwaith y bu’n euog o unrhyw amryfusedd, ond daeth allan yn fwy na choncwerwr. Pan gawsem gyfle, yr oeddem ni’r plant yn hoff o glywed Wil yn adrodd y stori pa fodd y cipiwyd ef un noswaith gan y diafol. Honno, a “stori’r cel-pren” (oblegid dyna’r gair y pryd hwnnw am bicycle) oedd dwy stori Wil; ond o’r ddwy, “stori’r Gwr-Drwg” oedd yn cael y lle blaenaf gyda’r plant. Nos Ffair Fedi Llangadog oedd hi. Yr oedd Wil wedi bod yn y ffair, ac wedi bod yn ennill ychydig docyns (h.y. tokens, neu geiniogau,) drwy helpu’r porthmyn i fyn’d â’u da ymaith gyda’r trên i Landeilo, oblegid dyna oedd y stesion nesaf yn y dyddiau hynny. Gan fod ganddo saith milltir i gerdded adref, yr oedd yn hwyr ar Wil yn dychwelyd i’r Gelynen, lle’r oedd yn byw gyda’r hen wraig ei fam.

Pan ddaeth i Ben-duad, croesffordd mewn lle unig, yn ddisymwth gwelodd Wil ryw ledrith enfawr yn y llwydnos. Arhosodd yn frawychus, a’i galon yn curo yn erbyn ei eis, nes iddi bron hollti.

“Dere gyda fi!” ebe llais fel trydan wrth Wil.

“Ble’r ŷch chi’n myn’d, Syr?” oedd gofyniad naturiol Wil.

“Paid a balban,” atebai’r llais, “fe ddangosa i’r ffordd i ti.”

Gyda’r gair, dyma Wil yn teimlo llaw ar ei ysgwydd yn gafael ynddo mor dynn fel y teimlai fel pe tae haearn poeth ar ei gnawd.

“O, peidiwch a’n sero i, os gwelwch chi’n dda, Syr, ebe Wil.

(x79)
Hisht.!” ebe’r llais yn sarrug, “neu fe sera i di gorff ac enaid.”

Erbyn hyn yr oedd Wil, druan, yn crynu fel y ddeilen. Llusgwyd ef oddiar yr heol, drwy’r berth, i gwm Llwyntywyll gerllaw.

“Roedd hi mor ddued â’r fagddu erbyn hyn,” arferai Wil ddywedyd, “a ’doedd dim posib i fi wel’d yn llaw o fla’n y’n llyged. ’Roedd y llaw dân yn gafaelyd yn fy ysgwydd o hyd, ond ’dallwn i wel’d dim ond rhyw hwdwch fileinig, gymaint dairgwaith o faint na fi. 'Cydia yn hwn,’ mynte’r Gwr Drwg, wa’th ’rwy’n siwr mai’r hen Fachgen o’dd ’no, wa’th ’ro’dd e’n gwynto o dân a brwmstan.

“A dyma finne’n cydio yn rhwbeth, a theimles mai pen pâl o’dd hi. ‘Torra dwll man hyn,’ mynte’r Gwr Drwg, a gorfu i fi ’neud. Ar ol torri a thorri am awr a rhagor, nes o’wn i’n ’whŷs poten, dyma’r bâl yn bwrw yn erbyn twlpyn o ha’rn. ‘Cydia yn hwnna,’ mynte’r Gwr Drwg, ‘a thyna fe i fynydd.’

“Fe gydies yn yr ha’rn, ac fe dynnes i’r lan grochon mowr, a fel rhw gawl o frwmstan yn berwi yndo fe, ac yn gneud swn ofnadwy. Cyn i fi ga’l amser i feddwl dyma fe’n cydio yndo i wrth ’y ngwegil, ac yn hedfan a fi i’r awyr, a’i adenydd mowr ar led fel adenydd slymyn, a’r hen grochon yn fy llaw o hyd, - wa’th do’dd dim posib ca’l y’n llaw yn rhydd oddiwrtho fe, fel pe buse fe’n un o’r hen
fachines yna sy’ yn y ffeire. I’r lan, i’r lan yr euthom ni, nes mod i’n credu y buse ’mhen i’n bwrw yn erbyn rhyw seren, ac ’roedd Clochdy Llansadwrn ddim yn fwy na marblen fach yn ’y ngolwg i. A dynna ni’n hedfan yn gynt na gwenolen drwy’r awyr a thua’r Mynydd Du, a feddyles i byth y gwelswn i neb o’m ffrindie wed’yn. ‘Ffarwel, (x80) Gelynen Fach,’ myntwn i wrth fyn’d. ‘Mae mam druan yn ’y nisgw’l i ga’tre, yn darllen y Beibl wrth y tân, ond welith hi Wil y mab byth yto.’” Erbyn hyn ’roedd Wil yn tywallt dagrau, a ninnau’r plant, ie, a phobl mewn oed hefyd, yn gwrando gyda dychryn a galar.

‘Ffarwel, hen Gapel Seion,’ myntwn i wed’yn, ‘llawer i odfa flasus ges i rhwng dy welydd, ond welith neb ohono i yna yto. Ffarwel, Bryn Towy annwl, lle mae Mr. Tomos y gweindog yn byw, - mae e’ wedi bod yn garedig iawn i’r hen Wil, ac wedi ei helpi i ga’l gras. Ychydig feddyliodd e’ na neb arall y buswn i byth yn hedfan bant dan adenydd y Gwr Drwg.’

“Ac yna bant â ni dros y Towy a heibo Llangadog fel y fellten, a lan a ni dros Gwm Sawdde, a heibo Llanddeusant, nes y dethon ni uwchben Llyn-y-Fan Fach. A dyma’r Gwr Drwg yn gweiddi rhwbeth fel ta fe’n rhegi mewn iaith ddierth, ond nag own i ddim yn diall un gair ond ‘Abracadabra,’ a fe’n shiglodd i mor greulon nes y colles i’n ngafel ar yr hen grochon, a dyma hwnnw’n cwmpo i’r llyn, a’r cawl berwedig yndo fe. Ym mhen eiliad wed’yn, dyma’r llyn i gyd yn berwi nes oedd y tonne’n wyn ar i wyneb, a’r pysgod yn neido i’r tir, ac ar ol hynny dyma ladi wen yn codi o ganol y llyn, ac yn rhoi sgrech ofnadwy, ac yna fe gwmpodd ’nol i’r dwr, a suddodd o’n ngolwg. ‘Ha! ha l’ ag fe ’wherthinodd y Gwr Drwg nes o’dd yr holl le’n crynu, a finne’n crynu’n fwy na dim.

‘Wel, ’rwyt ti wedi gneud dy waith,’ mynte fe wrtha i, ‘a fe af a ti’n ol i Lansadwrn, ’y ngwas i. Uchel wynt, neu isel wynt fynni di?’ .

“Rown i wedi ca’l digon ar fod yn y cymyle, ac (x81)
rown i wedi dotio’n arswydus. ‘Isel wynt, un isel iawn, syr, os gwelwch chi fod yn dda,’ myntwn i. A gyda’r gair dyma ni’n cwmpo fel carreg blwm o’r awyr, nes own i’n meddwl y cesen ni’n towlu’n rhacsjibbedêrs yn erbyn y creige coch sy’ rownd i’r llyn. Ond fe stopodd yn syden pan o’en ni rhyw ugen tro’dfedd o wrth y ddaear, a bant a ni fel tân gwyllt yn ol tua Llansadwrn. Fe ddeuthon yn ddianhap hyd Bontarlleche. ’Dipyn bach yn uwch, os gwelwch chi’n dda, syr,’ mynte fi, wa’th ’rown i’n gwel’d fod brige’r co’d ar ein ffordd. ‘Bydd yn llonydd,’ mynte’r Gwr Drwg, ‘isel wynt ofynsot ti am dano, ag isel wynt gei di.’ A bant a ni drwy frige’r co’d, a thrwy’r perthi, a’r drysni, a’r drain, nes o’dd ’y ngwyneb i’n gwaedu, a ‘nghnawd yn ddolur i gyd. ’nol a ni dros Langadog, lle bues i jist a bwrw yn erbyn clochdy’r eglws, a thros y Towy, ac i’r lan tua’r Gelynen. ‘Arglwydd grasol, cadw fi,’ myntwn i, wa’th ’rown i’n meddwl fod fy niwedd i wedi dwad a ’down i ddim wedi ’styried am weddio o’r bla’n.

“Yn y man dyma’r Gwr Drwg yn rhoi sgrech arswydus, a dyma fe’n ’ngellwng i’n rhydd. Fe gwmpes ar ’y mhen ar ben y mwdwl gwair ar bwys y tŷ, a dyna lwc mai ar hwnnw y cwmpes i, neu fu’swn i ddim byw i ’weud yr hanes. Mae’n rhaid i fi fod wedi ffeintio, wa’th ’wy’ ddim yn cofio dim wed’yn hyd nes i fi ddwad ato’n hunan bore dranno’th, a’r houl wedi codi er’s orie, a hen wraig ’y mam bron colli arni’i hunan, am nad o’dd Wil i mab wedi cyrraedd gatre o’r ffair.”

“Odi chi’n gweud y gwir, Wil?” gofynnem ninnau’r plant bob tro y clywen y stori; ac ni fynnem i Wil newid un gair nac ymadrodd o’r dechreu i’r diwedd. (x82)
Yn wir, o hir arfer ei chlywed, yr oeddem yn gwybod y stori gystal â Wil ei hun. “Odi chi’n gweud y gwir, Wil?”

“Mae’n eitha’ gwir, ’tawn i’n aped barn,” atebai Wil gyda dwyster difrifol. “’Roedd ’y ngwyneb i’n greithe i gyd am wythnose, ag ’roedd hynny’n dangos mai nid wedi breuddwydio neu wedi cael hunllef own i.”

“Ond beth o’dd yn y crochon?” gofynnem.

“O, rhyw frwmstan at gwnsheri, ’stim dowt,” ebe Wil, “ond wrth gwrs alla i ddim a gweud, wa’th ro’dd gormod o ofon arna i i dasto fe.”

“Ond pam o’dd e’n gneud i chi i dowlu e’ i’r llyn?”

“Fe fues gyda Harris Cwrt-y-cadno, y dyn hysbys, chi’n gwbod, i dreio ca’l diall,” meddai Wil, “wa’th o’dd gan Harris lyfre cwnsheri, a fe wedws wrtha i mai Abracadabra oedd un o’r rhegfeydd glwes i. ’Ro’dd Harris yn tyngu mai eisie lladd y ladi wen, mam Meddygon Myddfai - wa’th ’ro’dd hi’n arfer byw yng ngwaelod y llyn - o’dd ar y Gwr Drwg, rhag iddi hi ddwad i helpi pobol dlawd yn erbyn afiechyd. Ag mae’n eitha’ gwir - neu gofynnwch chi i Jac Sucan, wa’th mae e’n gwbod, o achos fe ’na’th e’ ffortiwn ar y pryd wrth werthi sucan ym Merthyr - i’r colêra dorri ma’s yn y gweithe yn union ar ol ’ny, a fe dda’th y ddyrton (h.y. y cryd), i’r ardal hyn y gaea’ ar ôl, a ’do’s neb wedi gwel’d y ladi wen ar ddydd Llun cynta Awst byth wed’yn. Ond diolch i fi ddwad yn rhydd o’i grafange fe, er fod gwynegon yn fy ysgwydd i, jist lle cydiodd y Gwr Drwg yndo i, hyd heddi.”

“Ond pam ddaeth e’ atoch chi, Wil oedd y gofyniad diweddaf.

“O’! ’rown i newydd ga’l fy nerbyn yng Nghapel Seion,” ebe Wil, “a ’stim dowt mai dyna fel yr o’dd e’n talu’r pwyth yn ol i fi.”


(x83)
PENNOD VIII.
CHWARE PLANT
.
Wrth edrych yn ôl, y mae’n syn gennyf gymaint o hen arferion oedd eto ar gael a chadw “pan oeddwn i’n fachgen.” Amser Nadolig deuai “Mari Lwyd” heibio, - dau neu dri o wŷr â phen ceffyl pren yn gorchuddio eu pennau. Ni wyddem ifi, na’r chwareuwyr eu hunain, mai
mystery play y Canol Oesoedd oedd Mari Lwyd, mai dynwared yr asyn a farchogwyd gan Joseph pan aeth ef a’r mab bychan a Mair Fendigaid (Mari Lwyd) yr oedd y chwareuwyr a’r pen ceffyl, ac mai Pabyddiaeth rhonc oedd wrth wraidd yr hen ddefod. Nid wyf yn cofio’r rhigymau a genid, ond fel hyn y dechreuent:

Mari Lwyd lawen
Ddaeth lawr o Bendarren
I ofyn am gennad i ganu:

a thebyg, gan mai o Bendarren y deuthant, mai gwŷr o’r gweithiau” oedd y chwareuwyr.
Clywais lawer o sôn am y “gwahoddwr,” hynny yw, gwr fyddai’n myn’d oddiamgylch i wahodd pobl i briodas, ond nid wyf yn cofio gwel’d un o’r tylwyth erioed. ’Rwy’n cofio, serch hynny, am y briodasferch yn cuddio pan ddeuai’r priodfab i’w hymofyn, ac am y ddeuddyn yn carlamu ymaith ar ol y seremoni, a’r gwŷr ceffylau yn eu dilyn. Clywais ddywedyd gan Rhys Edwards ei fod ef yn cofio’r amser pan oedd (x84)
prydydd yn myn’d gyda’r priodfab i geisio’r ferch ifanc. Byddai drws y tŷ ynghlô, a byddai prydydd y priodfab o’r tuallan yn ymryson â phrydydd y ferch ifanc o’r tu mewn cyn yr agorid y drws.

Yr oedd y daith (neithior) yn beth cyffredin, er mai ychydig o blant ffermwyr oedd erbyn hyn yn cadw’r hen arferiad i fyny, ond cofiaf mai’r un ddiweddaf a fum i ynddi oedd taith gan berthynas imi. Weithiau, yn lle taith cynhelid “cwrw bach” i helpu’r pâr ifanc i ddechreu eu byd, neu i gynorthwyo rhywun tlawd. Nid oedd neb yn cael ei geryddu gan y seiet am “fyn’d ar y criws” mewn taith neu gwrw bach, oblegid golygid, er fod y dyn yn gwneud drwg iddo ei hun, yr oedd yn gwneud, hynny er mwyn helpu arall, ond ’roedd disgyblaeth lem yn disgwyl neb pwy bynnag äi “ar y cnap” mewn ffair neu acshwn. (Ac wrth son am “fyn’d ar y criws,” ai “go on a cruise” a feddylier? Gair hynod arall ar lafar gwlad oedd dweyd fod dyn wedi troi allan yn “eitha Rodne” pan wedi colli ei gymeriad. Ai cyfeiriad at Admiral Rodney yw hyn - hen forwr dewr ond dibarch oedd yn blodeuo “flwyddyn y tair caib” - 1777?) Mae’n agos i dri chan mlynedd er pan geisiodd Harri’r Wythfed, drwy rym cyfraith, osod i lawr y “cymhorthau,” ond er gwaethaf cyfraith, yr oedd yr arferiad yn ei rwysg ddeugain mlynedd yn ôl. Gwelais gynifer a chant o wŷr, gwragedd, a phlant yn y “fedel wenith” yn fy hen gartref, a mawr oedd y spri a’r rhialtwch wrth swpera wedi dyfod a’r ysgub olaf dan dô. Bid siwr, nid oedd y “fedel wenith” yn sefydliad arbennig i Gymru, oblegid, yn yr amser gynt, yr oedd “
melsupper” neu “harvest home” yn beth cyffredin drwy Loegr, a gorchymynnwyd i’r (x85) Israeliaid gadw gŵyl i’r Arglwydd ar ol casglu ffrwythau’r ddaear. A pheth cyffredin oedd i weithwyr a’u gwragedd dalu am gymwynas drwy roddi “diwrnod o waith gyda’r cynhaeaf.” Bum mewn llawer gwylnos, cwrdd gweddi a gynhelid mewn tyddyn y noson cyn claddu’r marw, a byddid yn cynneu canwyllau o gylch yr arch, heb feddwl mai defod Babyddol ydoedd. Ar Sul y Blodau byddai pawb yn gosod blodau ar fedd eu hanwyliaid, arferiad sydd erbyn hyn wedi ail-daenu dros yr holl wlad, ond oedd y pryd hwnnw’n gyfyngedig braidd yn hollol i Gymru Brotestanaidd. Clywais ddywedyd gan yr hen bobl eu bod ’s lawer dydd yn plygu glin cyn cymeryd eu sedd yn yr Eglwys, fel y moesgryma aelodau Tŷ’r Cyffredin o flaen Cadair y Llefarydd. Meddyliai’r hen bobl mai er dangos parch i’r offeiriad y gwnaent hyn, fel y cred llawer aelod mai er dangos parch i’r Llefarydd y mae ef yn plygu ei ben. Ond tarddell yr arferiad, yn ddiau, yn y ddau le oedd y moesgrymu o flaen llun y Groes. Pan groesai pioden, aderyn aflan - er na wn pam y meddylid hynny am un o’r creaduriaid harddaf mewn natur - ein llwybr, rhaid oedd tynnu llun y Groes ar y ffordd, gan ddywedyd “gris-gro’s.” Pan fyddai’r plant yn bargeinio a’u gilydd, ar ol cytuno daliai un ei law allan gan weiddi “llaw dân,” a tharawai’r llall hi’n ffyrnig, gan ateb “tâl po’th.” “Persondy” y gelwid y vicarage, er mai “’ffeirad” oedd y person. Ar y cyntaf o Ionawr äi’r plant oddi-amgylch y plwyf i hel “calennig,”-p’un ai arian neu bicenni, - ond dethlid “Calan Gaeaf” ym mis Tachwedd yn ol yr hen arfer, a syrthiai “Calan Mai” ym mis Mai.. Yr oeddem ni felly wedi gwella ar y (x86) Rhufeinaid, oblegid yr oedd gennym ni dri yn lle dau “galan.” Nid oedd fawr o hen chware-gampau’r Cymry yn aros. Chwareuem ryw fath o fando, a chaffem hwyl fawr wrth “neidio caerbedw,” ond, gan mwyaf, chwareuon “dwad” oedd chwareuon y plant, - marbles, sixstones, hop scotch, a’r bêl-ddu. Yr oedd pawb yn gyrru ffolantau (valentines) ym Mis Bach, ac yr oedd merched yr ardal yn cystadlu p’un a fyddai wedi derbyn mwyaf. Ond arfer Seisnigaidd a newydd ydoedd, ac y mae erbyn hyn wedi darfod o’r tir, oherwydd nid oedd iddi ddyfnder daear. Ond yr oedd yr hen arferiad Cymreig o ddanfon “capan helyg” i fab oedd wedi ei wrthod gan ei gariad yn aros mewn bri.

Mae llawer o sôn yn y dyddiau hyn am “Eisteddfod y Plant,” a chlywais lawer yn honni mai hwn-a-hwn neu hwn-a-hwn oedd wedi dechreu’r sefydliad defnyddiol am y tro cyntaf, ond pan oeddwn yn ddeng mlwydd oed, bum yn ysgrifennydd Eisteddfod o’r fath. Plant oedd y pwyllgor, plant oedd y cystadleu- wyr, a Tom fy mrawd, ac yntau heb fod ond 14 mlwydd oed, oedd y cadeirydd. Yn yr awyr agored, yn yr allt gerllaw’r tŷ, y cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf o’r gyfres, a chofiaf, fel pe na bai wedi digwydd ond ddoe, wel’d yr hen Nansi, Lloegrfach, yr hon oedd dros bedwar ugain oed ar y pryd, yn eistedd yn ei shôl fach a’i phais fach a’i chap lasis mewn cadair freichiau ar y llwyfan yn mwynhau’r Eisteddfod gyntaf - a’r olaf - y bu hi ynddi erioed. Cafodd y bobl mewn oed y fraint o dalu am fyn’d i mewn i’r Eisteddfod, a phobl mewn oed oedd y beirniaid i gyd.

Yr oedd Mynyddog wedi newydd fod ar ymweliad â’r plwyf cyfagos, i arwain a beirniadu mewn Eisteddfod (x87)
yn y prydnawn, ac i ganu yn y cyngerdd yn yr hwyr. Dyma’r unig waith y gwelais y gwr amryddawn, ac y mae’n fyw yn fy nghof hyd y dydd heddyw. Ef oedd y cyntaf a welais erioed yn chware’r berdoneg ac yn canu yr un pryd, a chredwn i a phawb arall na welwyd y fath gampwaith o’r blaen. Bu cystadlu ar adrodd ei benillion, “Curwch yr haearn tra fyddo yn boeth,” ac i Tom fy mrawd y dyfarnodd Mynyddog y wobr. Ni chreodd dim gymaint o gynnwrf yn yr ardal ag ymweliad y gwr enwog, ac am fisoedd buwyd yn adrodd ac ail-adrodd ei ffraethebion. “Be ’di’r sŵn wyt ti’n gadw yn y gallery?” gofynnai’r arweinydd yn wawdlym. “’Rwy’ wedi colli’n hat,” atebai rhywun. “Wel, beth os wyt? ’Rwyf fi wedi colli’n ngwallt, a ’dwyf fi ddim yn gneud hanner y row wyt ti.” Ymweliad Mynyddog a wnaeth i ni’r plant benderfynnu cychwyn Eisteddfod, - yn union fel y cynhaliem “breimin” (ploughing match) ar ochr y clawdd, - a dernyn o bren yn aradr, - a chymanfa yn y llwyn arel (laurel) yn yr ardd, i ddynwared y bobl mewn oed.

Beth amser yn ol danfonodd fy hen gyfaill a chydoeswr, James Rees y Teiliwr, gopi ataf o raglen “Eisteddfod y ’Sgubor,” a gynhaliwyd yn 1878. Nid yn yr un lle y cynhelid yr Eisteddfodau. Yn yr Allt y bu’r gyntaf. Cymerodd Gruffydd y Gôf y gadair yn “Eisteddfod y Cartws” (
cart-house); Tomos Pencae (y gwas mawr) yn “Eisteddfod y Storws” (storehouse); a fy nhadcu yn “Eisteddfod y ’Sgubor.” Eisteddfod werinol oedd Eisteddfod y plant, ac ni ddisgwylid i’r cadeirydd wneud dim ond rhoddi ei bresenoldeb ynoi. O si sic omnes! Dyma’r Rhaglen wedi ei thalfyrru ychydig.

(x88)
BROWNHILL, LLANSADWRN.

Cynhelir Eisteddfod Gadeiriol yn y lle uchod ar ddydd Mercher, y 15fed o Hydref, o dan nawdd

Rhai o Brif Foneddigesau a Boneddigion yr Ardal,

pryd y gwobrwyir yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ol y drefn ganlynol.

CERDDORIAETH. s. d. {solidus, = swllt; denarius = ceiniog}
1. I’r un a gano yn oreu, Unawd Soprano, “Tyn am y lan,” a’r cydgan i’w ganu gan Bedwarawd. Gwobr 4 {d.}
2. I’r un a gano yn oreu “Y Milwr Bach.” 2 {d.}
3. I’r un a gano yn oreu “Carmel” (Stephens & Jones). 2 {d.}

BARDDONIAETH.
4. Am y Bryddest oreu ar “Yr olygfa geir o ben y Fan (Llansadwrn)” dim dros 100 o linellau. Gwobr, Cadair, Capan Comicyll, ac 20 ffyrling.
5. Am yr englyn goreu i “Lansadwrn a Llanwrda.” Gwobr 2 {d.}

RHYDDIAITH.
6. Am y Traethawd goreu ar “Y gwenyn ar addysg a roddant i ddyn.” Gwobr, Llyfr gan gyfaill, a 2 {d.}
7. Am y Traethawd goreu i rai dan ddeg oed ar “Samson.” Gwobr, Llyfr gan gyfaill.
8. Am y Llythyr goreu at frawd neu chwaer. Gwobr 3 {d.}

AMRYWIAETH.
9. Am y ddadl, “Pa un sydd fwyaf defnyddiol i ffarmwr, Buwch neu ddafad.” Gwobr 2 {d.}
10. Araith ar y pryd. Gwobr 1½ {d.}
11. Am yr Araith oreu ar “Yr Eisteddfod a’i daioni.” Gwobr 2{d.}
12. Am yr Adroddiad goreu o’r Salm gyntaf. Gwobr 1½ {d.}
13. Sillebu. Gwobr 1½ {d.}
14. Darllen. Gwobr 1½ {d.}

(x89)
CELFYDDYDWAITH.
15. Am y Ffon oreu. Gwobr 2 {d.}
16. Am yr Hosanau goreu. Gwobr 1½ {d.}
17. Gwobr-gwd goreu i wobrwyo’r Bardd buddugol ar y Bryddest. Gwobr 3 {d.} 18. Am y gwniad goreu: rhyw ddernyn o ddewisiad yr awdwr. Gwobr 3 {d.}

Ymysg y beimiaid ceir enwau prif wŷr a gwragedd y plwyf. Y cadeirydd oedd “Thomas Davies, Ysw., Banc-y-lan” (ac yntau, druan wr, yn tynnu at ei ddeg a thrigain oed, ac heb gymeryd y gadair mewn cyfarfod cyhoeddus byth ond hynny), a’r Arweinydd oedd Dewi Towy. Ymysg yr “Amodau” ceir hwn:

Rhaid i’r holl gystadleuwyr fod dan 17 oed.

Diwedd y gân. oedd y geiniog:-

Mynediad i mewn. Esgynlawr, 3d. Blaen-seddau, 2d. Ol-seddau, id.

Nid wyf yn cofio ond pedair llinell o’r Bryddest fuddugol:-

Llandilo Fawr ar ael y bryn,
Llandilo Fân gerllaw,
Llandyfri dref a’i grydd yn wlyb
Yn cwato rhag y glaw;

a dwy linell o’r unig Englyn a ddanfonwyd i mewn i’r gystadleuaeth

Llansadwrn didwrn a da,
Llawn order yw Llanwrda. –

Dyfarnodd Dewi Towy, ar ol gwneud llawer o spri ar ben y “didwrn” a’r “order,” hanner y wobr i’r cystadleuydd am ei anturiaeth!

Ni fu Pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol erioed yn fwy eu ffwdan nag oeddem ni’r plant am ddyddiau (x90)
cyn yr Eisteddfod, - yn poeni’r merched i wneud “gwobrgydau” (oblegyd meddylid mil-mwy am y bag hyd yn oed nag am y wobr), yn paratoi’r tocynnau a’r rhaglenni (oblegyd ni ellid fforddio eu hargraffu), ac i godi’r llwyfan a gwneuthur y meinciau.

Pa ryfedd, meddaf, - wrth gofio am Eisteddfodau’r plant - fod yr hen iaith wedi goroesi cymaint o’i chaseion a’i gelynion? Y fath ynni a brwdfrydedd mewn plantos! - yn ffurfio pwyllgor, yn ethol swyddogion, yn trefnu’r rhaglen, yn bwrw’r draul, yn paratoi’r cyhoeddiadau, yn codi’r llwyfan, yn dysgu’r tonau, yn ysgrifermu traethodau a phenillion ac areithiau, a’u dysgu ar gof, - a’r cyfan heb gyfarwyddyd gan “bobl mewn oed”! Ni chlywid gair o Gymraeg yn yr ysgol ddyddiol, ac ni ddysgwyd un ohonom y ffordd i ysgrifennu’r hen iaith. Nid oedd gan neb ohonom, chwaith, lawer o lyfrau Cymraeg, a’r ychydig oedd yn ein meddiant, tra anghymwys oeddynt i blant o’n hoedran ni. Ystoriau’r Beibl, Taith y Pererin, a’r Rhyfel Ysbrydol, Caban F’Ewyrth Twm, John Halifax (wedi ei gyfieithu a’i gyhoeddi yn “Nhrysorfa’r Plant”), Gweithiau Ceiriog, Mynyddog, a Watcyn Wyn oedd ein prif lyfrau. ’Roedd un neu ddau yn hyddysg yng nghampwaith yr hen Theophilus, “Drych y Prif Oesoedd,” a “Chymru Fu,” a darllenais yn gynnar “Llewelyn Parri” Llew Llwyfo, a “Jeffrey Jarman” Gruffydd Rhisiart. Ond, o’u cymharu â’r llyfrau a ddarperid ar gyfer plant Saeson, mor llwm oedd ein llenyddiaeth! Er hynny, yr oedd rhyw allu gwyrthiol yn yr hen iaith, yn ein symbylu i wrteithio’n talentau syml a’n cynheddfau cynhenid. A dyna, mi gredaf, yw hynodrwydd a rhamant y Gyrnraeg, - er lleied ei buddiannau, (x91)
mae rhyw fywyd a chynnydd gwyrthiol ynddi. Hi a dâl ar ei chanfed i’r rhai a’i carant, ac y mae mor wir am dani hi ag am ddoethineb: “Dyrchafa di hi, a hi a’th ddyrchafa di.”

Ond mae’r byd wedi newid, ac yn parhau i newid, o dô i dô. A ydyw bywyd gwledig yng Nghymru heddyw mor gyfoethog, mor llawn diddordeb ag ydoedd cynt? Caiff ereill ateb, oblegid ni allaf fi dorri’r ddadl. A yw prif areithwyr a phregethwyr ein gwlad yn y dyddiau hyn yn arfer talu ymweliad â’r pentrefi dinod? Neu a ydynt yn boddlon ar areithio a phregethu yn ein “trefydd mawrion,” ys dywedai Tomos y Crydd? ’Rwy’n cofio Llew Llwyfo yn canu ac adrodd am oriau, Eos Morlais yn canu a Charadog yn chware’r crwth, Hiraethog a Matthews Ewenny, Cranogwen a’r Ferch o Ganaan yn darlithio, Tanymarian yn arwain Cymanfa Ganu, a chewri’r pulpud yn pregethu “ar y maes,” mewn ysguboriau a thai annedd a chapelau bach diaddurn. Nid oedd gan Gymru na phrifddinas na phrifysgol, ac ni ddaeth i’w meddwl roddi Prif Weinidog i Brydain Fawr. Ond ai tybed nad ydoedd y genedl yn ei chyfanrwydd yn fwy ei breintiau, yn gryfach a gwreiddiolach ei doniau, ac yn fwy Cymreig ei hathrylith? Aberthodd y tadau lawer dros gael addysg i’r werin. “Gwell dysg na golud” oedd eu harwyddair. A ydyw’r Cymry dysgedig bob amser yn foddlon eilio’r hen ddihareb? Malldod ac nid bendith fydd ein haddysg os defnyddir ef i godi’r ychydig ar draul esgeuluso’r llawer. Boed i ni ymestyn at ragori ar Gymru Fu rnewn dysg a diwylliant, mewn gwybodaeth, mewn (x92)
cariad at y prydferth a’r cain. Ond na foed i ni anghofio mai prif ogoniant Cymru ’s lawer dydd oedd ei diwylliant gwerinol, ei hegni meddyliol, ei greddf lengarol. Nid yw Cymru heb Gymraeg ond fel Dafydd ap Gwilym heb ei Wen:

Un ydwyf pan bwyf heb Wen,
Afrywiog heb fawr Awen,
Ac ernych tost i’m gornwyf -
O flaen neb aflawen wyf,
Heb gof, heb ynof enaid,
Na rhith o’r synnwyr fo rhaid.

Ond tra erys y Gymraeg yn fyw ac yn flodeuog, yn destyn ymchwil ac yn offeryn llên, gall Cymru ganu gyda’r bardd

Gyda Gwen wy’n ddibenyd,
Gwna hon fi’n galon i gyd,
A’m can, yn rhedeg i’m cof
Yn winaidd awen ynof;
Ond ni ddaw im awr lawen
I’m bywyd mewn byd heb Wen.

Ymffrostiwn yn ein cariad at ddysg, a chlywais wladweinydd o Sais, ac efe’n Weinidog Addysg, yn ein canmol ar g’oedd gwlad a Senedd am ein sêl a’n brwdfrydedd. Ond na foed i ni anghofio mai “gwell dawn na dysg,” na cholli yr hen ddawn Gymreig yn ein sêl ysol am wybodaeth a llwyddiant.

Hydref 2, 1917.

(x93)
PENNOD IX.
HEN DRAMP.

Ar brynhawngwaith tesog ym Mis Awst, fel yr oeddwn yn dychwelyd yn llwythog o lannau’r Tywi, a’r wialen bysgota ar fy ysgwydd, gwelwn hen ŵr yn rhodio’n wisgi o’m blaen ar y ffordd fawr. Yn fuan deuthum i fyny ato, a chanfum mai dyn dieithr, neu yn ol y gair lleol, “dyn dwad” ydoedd.

“Prynhawn da i chi, syr,” eb ef wrthyf, a gwên hapus ar ei wyneb llwyd. Yr oedd tua hanner cant oed, a’i wallt a’i farf yn frith, ond gan gymaint hoywder ei gerddediad a llonder ei lygad glâs, braidd y gellid credu fod henaint wedi gosod llaw i gyffwrdd ag ef.

“Prynhawn da,” meddwn innau yn Saesneg, - oherwydd yn Saesneg y cyfarchodd fi.

“’Rwyf wedi cerdded o Lambedr heddyw,” meddai, “ac ’rwyf wedi blino’n ofnadwy. ’does gennyf un geiniog, Mr. Lloyd bach -”


“Nid Lloyd yw f’enw,” atebais yn swrth.


“Nage?” eb ef yn syn. “’Roeddwn i’n meddwl mai Mr. Lloyd Glansefin oeddech chi,” gan enwi ysgweier yn yr ardal. “Ond pwy bynnag ydech chi, gŵr bonheddig ydech chi, a fyddwch chi ddim yn gâs wrthyf os dof i byth o’ch blaen chi.”

“Ond ’dwyf fi ddim yn Ustus Heddwch,” meddwn innau.

“Ddim yn J.P.?” gofynnai “Wel, wel, fe glywes cyn heddyw fod pobl Shirgâr ymhell yn ol yn hyn o beth, ac fod y bobl oreu yn cael eu cau allan o’r Fainc, (x94)
ond chredes i ddim o hynny o’r blaen. Meddyliwch nawr - y chi, syr, yn ŵr bonheddig, ac heb fod yn J.P.!”

“Nid gŵr bonheddig wyf fi,” atebais yn Gymraeg, gan gofio hen chwedl Tal., “ond Cymro.”

“Cymro?” ebe’r hen dramp. “Weles i ’rioed ffasiwn beth! Ac yn siarad Cymraeg glân gloyw! O fel mae’r hen genedl yn mynd yn i blaen! Dyna beth nad oedd i’w gael yng Nghymru pan oeddwn i’n hogyn yn Nhowyn ystalwm! Gŵr bonheddig fel chi, syr, yn siarad Cymraeg cystal a minne! Cymru am byth, ynte? Mae’r hen genedl a’r hen iaith yn mynd yn i blaen! Piti na faswn inne, syr, yn mynd yn fy mlaen efo nhw,” ychwanegai gydag ochenaid. “Do, do, mi ges i’r
chance ore yn y byd. Ac aberthodd yr hen wraig fy mam lawer i’m codi’n berson -”

“A fuoch chi’n ’ffeirad?” gofynnais yn syn.

“Dier mi, do, syr,” atebodd gan chwerthin, “ac roedd pawb a’m clywodd yn deud y gallwn i bregethu gystal a’r un Sentar, ond fe feddwes yn yfflon jibarders, fel y byddan nhw’n deud yn Nghwm Rhondda, a fe ddaeth fy ngyrfa offeiriadol i
sudden stop. ’Roeddwn i yn y coleg efo person y plwy yma, ond ’daiff John Evans ddim ato yn i garpie. Na, na, mae gormod o honour yn yr hen John i wneud hynny hefyd.”

“Ond ffordd trowyd chi ma’s o’r Eglwys?” gofynnais eilwaith.

“Syr,” eb ef, a’i lygad glasddu’n dawnsio gan ddigrifwch ac ysmaldod, “’does dim ond un ffordd i stopio pregethwr - drwy dorri’i dafod o! Ond mae tair ffordd i stopio person - yn y lle cyntaf, fel yr oeddwn i’n arfer deud, drwy dynnu’r Llyfr Gweddi Cyffredin oddiwrtho, ac yna feder o ddim traethu; yn ail, (x95)
drwy dynnu’r wenwisg oddiamdano, ac yna chaiff o ddim traethu; ac yn drydydd ac yn olaf, drwy dynnu’r degwm oddiwrtho, ac yna fyn o ddim traethu. Ac fe wnawd y tri pheth bendigaid â mi ar yr un pryd.”

“Wel,” meddwn, “fuoch chi ddim yn treio cael mynd ’nol? Wedi’r cyfan, efallai y cewch faddeuant” -

“Maddeuant?” ebe’r hen dramp. “
Life Sentence, Syr, oedd hi. Ac yn wir yr oeddwn i wedi danto, fel y dywed gwŷr Shirgâr, ar grefydda ystalwm.”

“Danto achos peth?” gofynnais irmau.
 
“Wel, ’r ydw i’n fab i ’nhad, ag ’r ydw i’n cofio’r gweinidog yn dwad i weld fy nhad yn y Bala -”

“Ond ’rown i’n meddwl mai yn Nhowyn oedd ych cartre chi?”

“Ddwedes i hynny, Syr? “ eb ef, yn hollol ddigyffro. “Y Bala oeddwn i’n feddwl -
lipsus languae, fel y dyweden ni yn y Coleg gynt. Yn y Bala, Syr, a fe ddaeth y gweinidog, fel ’roeddwn i’n deud, i weld fy nhad i’w gymell o i ddwad i’r moddion. ‘Dowch rwan, Robert Ifans,’ medde fo, ‘dowch i’r capel. Fe naiff les i chi ddwad. Fe fydd rhywbeth yn y bregeth, ne yn narlleniad y gair, ne yn y weddi ne’r emyn, yn siwr o neud lles i chi. Ne dowch petae ddim ond i weld y’ch cymydogion, yn lle pendrymu wrth y tân fel hyn.' 'Na,’ medde ’nhad, 'rwy’ wedi danto,’- achos Hwntw oedd y ’nhad, ac iaith yr Hwntws oedd o’n siarad. ‘Danto sut?’ medde’r gweinidog. ‘Wel, medde ’nhad, ‘ ’rwy’ wedi bod yn meddwl nawr am dana i a chi, a ’nhad a mam, a ’nhadcu a’m mamgu, a’r hen dduwiolion erill oddiar amser Iesu Grist hyd y’n hamser ni. Beth maen nhw wedi bod yn ’neud ond cwrso’r diawl? A mae’n nhw mor bell o’i ddala fe heddi ag erio’d.’ Ac yr oeddwn inne wedi hen ddanto (x96) ar grefydda, syr, cyn i mi gael fy nhroi allan o’r eglwys. A dyma fi heno heb geiniog yn fy mhoced, na gwely i fynd iddo. Mae gan y llwynogod ffeuau -”

“Ond pam na throwch chi ddalen, John Ifans ebe finnau. “Fe ellwch gael digon o waith yn yr ardal ’nawr ynghanol y cynhauaf.”

“Gwaith, syr,” meddai’r hen dramp, yn ddireidus. “Roedd mam - mae hi’n angel gwyn yn y nefoedd ers blynyddoedd, druan, - yn arfer deud nad oedd dim ofn gwaith ar John i mab - y gwnae o gysgu wrth i ochor o. A gwir ddeudodd yr hen santes ogoneddus, ’roedd hi’n deall John i mhab i’r blewyn. Ac os ydi chi’n edrych dros ganllawie’r nef ar hynt y ddaear, fel y crede hi pan oedd hi yma ar y llawr, - a fydd y nefoedd ddim yn nefoedd iddi hi os na chaiff hi drafod busnes pobol erill - mi wêl fod i phroffwydoliaeth wedi dwad yn wir, ac na chaiff John i mhab ddiwrnod o waith yn i fywyd, - a dydi o ddim yn mynd i ddechre ar y fath job yn i hen ddyddie. ’Rydw i’n gwybod yn dda fel yr oedden ni’n arfer siarad am
the dignity of labour, ond mae dull y byd hwn yn mynd heibio. Dyna i chi adnod i brofi’r pwnc, syr, a ’does neb yn gweithio ’rwan os gall o fyw heb neud.

Mae’r wraig yn gwisgo sidan,
A’r gwr a’i aur yn ffri,
A’r ferch ar gefn ei bicycle,
A’r beili yn y tŷ.

Ond Mr. Rice bach -”

“Nid Rice yw f’enw,” meddwn innau.

“Nage?” ebe’r hen walch, gan grychu ei dalcen a sefyll yn syn ar y ffordd. “’Roeddwn i’n siwr mai mab Lord Dynevor oeddech chi, oblegid mi glywes i (x97)
fod oln gallu siarad Cymraeg a’i fod o’n wr bynheddig glân llednais! Ond pwy bynnag ydech chi, syr, mi wn mai gwr bynheddig fine, caredig, elusengar, ydech chi. Cofiwch yr adnod, ‘Gwyn fyd y trugarogion,’- ond dyna, dyna, ’does dim ond eisie edrych ar ych gwyneb chi i weld ych bod chi’n dilin ôl y Meistr, gan fyned oddiamgylch gan wneuthur daioni! ’Rydw i’n cydfynd â Luther, syr, nad ydi Epistol Iago ddim yn rhan o’r Gair Ysbrydoledig. Mae, o wedi gwneud drwg mawr yn y byd, ac wedi peri i lawer gyfeiliorni.”

“Shwd hynny?” meddwn.

“‘Crefydd bur a difrycheulyd,’ ebe Iago, ‘yw ymweled â’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd,’ a phwy grefydd sydd eisie i fynd i weld gweddw ifanc, hawddgar, a dal i llaw, a chydymdeimlo â hi yn i hadfyd? Pan oeddwn i’n weinidog yn Rhymni -’

“Ond ginne fach ’roech chi’n gweud mai ’ffeirad oech chi’n arfer bod? “

“A ddeudes i hynny? Wel, wel, peidiwch bod yn rhy gritic, Syr. ’Roeddwn i’n meddwl pryd hynny mai Eglwyswr oeddech chi. Mi fum i’n
bolitician blaenllaw unwaith, a mae rhai o’r hen drics yn glynu wrtha i o hyd! Ond dyna oeddwn i’n mynd i ddeud, syr, - mae’n hawdd cydymdelmlo â gwidw - yn enwedig os ydi hi’n ifanc a chlên - ond mae eisie crefydd ar ddyn cyn y rhoiff o gardod i hen dramp na wnaeth ddiwrnod o waith yn i fywyd. Ac, a deud y gwir i chi, ’rydw i’n cael fod cryn lawer o grefydd yn aros yng Nghymru o hyd! Neithiwr yn Llambed mi ges chwe cheiniog gan berson, a ’dalla i ddim credu fod llai o grefydd ymhhth Ymneilltuwyr Dyffryn Tywi.”

“Ac yn Llambed buoch chi neithiwr?”

(x98)
Ie, yn y workhouse, yn y Tŷ Mawr! Diolch fod tô i gael i gadw’r storm rhag curo ar fy nhalcen slip ’does dim lle rhy gysurus yn workhouse Llambed, ond ’roeddwn i’n penderfynu cael gwerth chwech o gwrw Jem - yr hen Number One bendigedig - ar ben y mynydd heddyw’r bore. Ond ow! ow! 'Does dim workhouse yn Llangadog, a ’does gen i geiniog bren i dalu am wely, na châr na pherthynas i fynd ato. ’Rydw i’n cofio’r hen Sergeant Williams yma flynyddoedd yn ol pan oeddwn i’n dwad yma i glera, ond mae plisman newydd yma, meddan nhw, erbyn hyn yr hwn nid adwaen mo’r hen John Ifans. Ach y fi, fel dywedwch chi’r Shirgârs, fel mae cyfnewidiadau yn cymryd lle mewn lle bach fel hyn!

Mae llawer iawn o droeon
Yn digwydd yn y byd;
Ond os marw wnaiff y Sergeant,
Mae’r
lock up yr un o hyd.

Ond mae’n rhaid i mi’ch gadel chi, syr, i chwilio am wely, er, y nefoedd fawr a ŵyr ffordd galla’i dalu am dano, a mae credit John Ifans wedi mynd dipen yn isel ers blynyddoedd! O diolch yn fawr iawn i chi, syr, - swllt? Y nefoedd a’ch bendithio, ’r ydech chi ddwywaith yn fwy o Gristion na pherson Llambed - gaf wely cynnes heno, a pheint cyn mynd iddo, syr. ’Roeddwn i’n gwybod mai gŵr bynheddig oeddech chi. Mae llygad ym mhen yr hen John Ifans o hyd. Ac a allwch chi ddeud pwy amser mae’r trên cynta yn mynd i Landeilo bore fory? Chwech o’r gloch? Rhy gynnar i wŷr byddigions fel chi a fi, syr, ‘Pryd mae’r trên diwetha’n mynd i’r Bermo?’ medde mam druan wrth
station-master Towyn. ‘Dyn dy (x99) helpo di ’rhen wreigan,’ medde hwnnw, 'ddim yn dy oes di na minne!’ Ddowch chi ddim i mewn i gâl glasiad efo’n gilydd? Wel, nos dawch ynte, a diolch ganwaith am helpu hen dramp!”

Ac aeth i mewn i’r tafarn cyntaf wrth law.

Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan James Davies a’i Gwmni, Cyf.,
Gwasg Deheudir Cymru, Llanelli.



DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN

0043c
Yr iaith Gymraeg
·····
0005k

Mynegai yn nhrefn y wyddor i’r hyn a geir yn y gwefan
 


·····
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats