1221k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Rhÿs Lewis – nofel gan Daniel Owen (1885) – una novel·la d’en Daniel Owen  (1885) – a novel by Daniel Owen  (1885)

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_021_rhys_lewis_01_1221k..htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
The Wales-Catalonia Website

 
 

 Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Rhÿs Lewis

gan Daniel Owen (1885)

 

Adolygiadau diweddaraf:
22 09 2001 – tudalennau 01-11
18 03 2002
– tudalennau 12-19
20 03 2002
– tudalennau 19-37

 

 

 

Rhÿs Lewis (“Hunangofiant Rhÿs Lewis, Gweinidog Bethel”)

Daniel Owen (1836-95).

Cyhoeddwÿd Rhÿs Lewis yn 1885 (pan oedd Daniel Owen yn 48 / 49 oed)

 

 

AR Y GWEILL GENNYM

Mae’r tudalennau sydd wedi eu hychwanegu hyd yn hyn mewn print coch:

 

*0001 *0002 *0003 *0004 *0005 *0006 *0007 *0008 *0009 *0010 *0011 *0012

*0013 *0014 *0015 *0016 *0017 *0018 *0019 *0020 *0021 *0022 *0023 *0024 *0025 *0026 *0027 *0028 *0029 *0030 *0031 *0032 *0033 *0034 *0035 *0036 *0037 *0038 *0039 *0040 *0041 *0042 *0043 *0044 *0045 *0046 *0047 *0048 *0049 *0050 *0051 *0052 *0053 *0054 *0055 *0056 *0057 *0058 *0059 *0060 *0061 *0062 *0063 *0064 *0065 *0066 *0067 *0068 *0069 *0070 *0071 *0072 *0073 *0074 *0075 *0076 *0077 *0078 *0079 *0080 *0081 *0082 *0083 *0084 *0085 *0086 *0087 *0088 *0089 *0090 *0091 *0092 *0093 *0094 *0095 *0096 *0097 *0098 *0099 *0100 *0101 *0102 *0103 *0104 *0105 *0106 *0107 *0108 *0109 *0110 *0111 *0112 *0113 *0114 *0115 *0116 *0117 *0118 *0119 *0120 *0121 *0122 *0123 *0124 *0125 *0126 *0127 *0128 *0129 *0130 *0131 *0132 *0133 *0134 *0135 *0136 *0137 *0138 *0139 *0140 *0141 *0142 *0143 *0144 *0145 *0146 *0147 *0148 *0149 *0150 *0151 *0152 *0153 *0154 *0155 *0156 *0157 *0158 *0159 *0160 *0161 *0162 *0163 *0164 *0165 *0166 *0167 *0168 *0169 *0170 *0171 *0172 *0173 *0174 *0175 *0176 *0177 *0178 *0179 *0180 *0181 *0182 *0183 *0184 *0185 *0186 *0187 *0188 *0189 *0190 *0191 *0192 *0193 *0194 *0195 *0196 *0197 *0198 *0199 *0200 *0201 *0202 *0203 *0204 *0205 *0206 *0207 *0208 *0209 *0210 *0211 *0212 *0213 *0214 *0215 *0216 *0217 *0218 *0219 *0220 *0221 *0222 *0223 *0224 *0225 *0226 *0227 *0228 *0229 *0230 *0231 *0232 *0233 *0234 *0235 *0236 *0237 *0238 *0239 *0240 *0241 *0242 *0243 *0244 *0245 *0246 *0247 *0248 *0249 *0250 *0251 *0252 *0253 *0254 *0255 *0256 *0257 *0258 *0259 *0260 *0261 *0262 *0263 *0264 *0265 *0266 *0267 *0268 *0269 *0270 *0271 *0272 *0273 *0274 *0275 *0276 *0277 *0278 *0279 *0280 *0281 *0282 *0283 *0284 *0285 *0286 *0287 *0288 *0289 *0290 *0291 *0292 *0293 *0294 *0295 *0296 *0297 *0298 *0299 *0300 *0301 *0302 *0303 *0304 *0305 *0306 *0307 *0308 *0309 *0310 *0311 *0312 *0313 *0314 *0315 *0316 *0317 *0318 *0319 *0320 *0321 *0322 *0323 *0324 *0325 *0326 *0327 *0328 *0329 *0330 *0331 *0332 *0333 *0334 *0335 *0336 *0337 *0338 *0339 *0340 *0341 *0342 *0343 *0344 *0345 *0346 *0347 *0348 *0349 *0350 *0351 *0352 *0353 *0354 *0355 *0356 *0357 *0358 *0359 *0360 *0361 *0362 *0363 *0364 *0365 *0366 *0367 *0368 *0369 *0370 *0371 *0372 *0373 *0374 *0375 *0376 *0377 *0378 *0379 *0380 *0381 *0382 *0383 *0384 *0385 *0386 *0387 *0388 *0389 *0390 *0391 *0392 *0393 *0394 *0395 *0396 *0397 *0398 *0399 *0400 *0401 *0402 *0403 *0404 *0405 *0406 *0407 *0408 *0409 *0410 *0411 *0412 *0413 *0414 *0415 *0416 *0417 *0418 *0419 *0420 *0421 *0422 *0423 *0424 *0425 *0426 *0427 *0428 *0429 *0430 *0431 *0432

 

(x7)

CYNNWYSIAD.

 

PENNOD

TUDALEN

RHAGARWEINIAD

-

x9

COFIAINT 

I.

x11

Y CYFNOD CYNTAF AR  FY OES 

II.

x13

COFION BOREUAF 

III.

x15

EVAN JONES, HWSMON GWERNYFFYNNON

IV.

x18

Y CYFARFOD PLANT 

V.

x24

Y GWYDDEL

VI.

x29

Y DDWY YSGOL 

VII.

x35

O DAN ADDYSG 

VIII.

x42

MATERION EGLWYSIG

IX.

x49

Y PWNGC O ADDYSG 

X.

x57

WIL BRYAN AR NATUR EGLWYS

XI.

x65

AR YR AELWYD 

XII.

x74

SETH

XIII.

x82

WIL BRYAN

XIV.

x93

DECHREUAD  GOFIDIAU

XV.

x101

DYDD Y BROFEDIGAETH

XVI.

x110

YCHWANEG O BROFEDIGAETHAU

XVII..

x123

THOMAS A BARBARA BARTLEY

XVIII.

x132

ABEL HUGHES

XIX.

x140

PERSON Y PLWYF 

XX.

x150

(x8)

 

                      

DYCHWELEDIGION

XXI

x159

YMWELIAD MWY NAG UN PERTHYNAS

XXII.

x171

BOB

XXIII.

x182

ADGOFION PRUDD A DYDDANOL

XXIV.

x194

MARWNAD RYDDIAETHOL

XXV.

x206

DIRYWIAD A DRYCHIOLAETH

XXVI

x215

DYDDIAU TYWYLLWCH

XXVII.

x227 

Y MEISTR A’R GWAS 

XXVIII.

x238

CYNGHOR Y GLANHAWR CLOCIAU

XXIX.

x251

YR HERWHELIWR

XXX.

x264

DAFYDD DAFIS

XXXI.

x279

AMLDER CYNGHORWYR  

XXXII.

x291

YCHWANEG AM WIL BRYAN

XXXIII.

x305

THOMAS BARTLEY AR ADDYSG  ATHROFAOL 

XXXIV.

x319

HELBULUS

XXXV.

x333

CYMERIAD ADNABYDDUS 

XXXVL.

x346 

YMWELIAD THOMAS BARTLEY A’R BALA

XXXVII.

x360

CYFARFYDDIAD FFORTUNUS

XXXVIII.

x380

WIL BRYAN YN EI GASTELL

XXXIX.

x391

HUNANGOFIANT WIL BRYAN

XL. 

x405

Y TRO CYNTAF A’R TRO OLAF.

XLI.

x417

GWEINIDOG BETHEL

XLIL.

x427

 

HUNANGOFIANT RHYS LEWIS
GWEINIDOG BETHEL.

 

(x9)

RHAGARWEINIAD.
Mae Gweinidog Bethel, er ys peth amser bellach, yn gorwedd yn dawel yn mhriddellau’r dyffryn. Yn ei ddydd ystyrid ef yn ŵr call a diymhongar; a gwyddai y rhai a’i hadwaenent oreu fod mwy ynddo nag oedd yn dyfod i’r golwg. Er ei fod, fel gweinidog yr efengyl, yn “ddyn cyhoeddus” fel y clywedir, ni byddai byth yn chwannog i ddangos ei hun. Nid oedd yn boblogaidd fel pregethwr, a hyny yn benaf am nad allai ganu, yr hyn oedd yn anffawd fawr iddo. Serch hyny, byddai ganddo ef bob amser rywbeth gwerth ei wrandaw; a chlywais ddynion o farn addfed yn dywedyd, y buasai ei bregethau “mewn preint” yn sefyll eymhariaeth ffafriol â goreuon y pulpud Cymreig. Yn wir, tadogid yr ychydig erthyglau a ysgrifenodd efe i’r Traethodydd i’r Dr._______; a darllenid hwy gyda blâs. Yr oedd hyn yn y cyfnod pan na chyhoeddid enwau yr awduron yn y chwarterolyn gwerthfanwr hwnw. Dichon pe cyhoeddasid yr enwau y pryd hwnw, na fuasai neb yn myned i’r drafferth i ddarllen ysgrifau Rhys Lewis. Fel bugail bu yu lled hapus a llwyddiannus. Ond y mae yn rhaid cydnabod nad oedd hyny ond dygwyddiad; oblegid y prif reswm am y ffaith oedd, fod mwyafrif yr eglwys yr oedd efe yn weinidog iddi yn meddu gradd helaeth o synwyr cyffredin, ac ychydig o deimlad cristionogol.

 

Er fod Rhys Lewis yn ŵr hywaeth a chymdeithasgar iawn gyda y rhai yr oedd efe yn weddol hyf arnynt, eto ei hoff fan oedd (x10) unigrwydd ei fyfyrgell. Ar adegau byddai yn anghofio ei hun, ac yn rhoi ffordd yn ormodol i’r duedd hon at neillduaeth; ac ar fwy nag un achlysur bu raid i’r diaconiaid alw ei sylw at ei ddyledswyddau cyhoeddus. Blinid ef weithiau gan iselder ysbryd; a thybiai rhai fod rhywbeth yn pwyso ar ei feddwl nad oedd hyd yn nôd ei gyfeillion mwyaf mynwesol yn hysbys o hono, tra y dywedai eraill mai anhwyldeb ar ei nervous system oedd yr achos. Dichon y bydd yr hanes canlynol, o’i waith ef ei hun, yn taflu rhyw gymaint o oleuni pa un o’r ddwy dybiaeth oedd yn gywir. Bu gweinidog Bethel farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb, ac heb flotyn ar ei gymeriad, a thra nad oedd efe ond cymharol ieuanc.

 

Yn ddiweddar, pan oeddwn o dan gyfarwyddyd ei ysgutores yn trefnu ei lyfrau gogyfer â’u gwerthiant, tarewais ar ysgrif drwchus; ac wedi ei harchwilio cefais mai hunangofiant ydoedd. Gan dybied y gallai fod yn yr ysgrif rywbeth o ddyddordeb, ac wedi cael caniatad ysgutores yr ymadawedig, cymerais yr ysgrif gyda mi gartref; a phan gefais hamdden, darllenais hi yn fanwl. Heblaw fod awdwr y cofiant yn dyweyd hyny yn bendant (fel y ceir gweled eto), y mae yn ddigon amlwg oddiwrth arddull a chynnwys yr ysgrif na fwriadai efe iddi gael ei hargraffu. Pa fodd bynag cefais i fy hun y fath foddhad wrth ddarllen yr hunangofiant, a barodd i mi ofyn caniatad i’w gyhoeddi; ac yr wyf yn awr vn ei gyflwyno i’r cyhoedd, gan hyderu y bydd iddynt hwythau gael yr un boddhad. Ar yn {sic} un pryd, yr wyf yn teimlo fod apology dros yr hanes yn ddyledus. Mae y pennodau cyntaf braidd yn ysgafn a phlentynaidd. er yn ddiniwed, ac, fel yr wyf yn credu, yn ffyddlawn i natur, ac yn mynegu profiad llawer un. Fel y mae yr hanes yn myned ymlaen, y mae yn dyfod yn fwy sylweddol, ac yn cynnwys desgrifiadau o hen gymeriadau hynod a chrefyddol. Cymerais fy rhyddid, o herwydd rhesymau neillduol, i newid enw yr awdwr, ac eraill y mae yn sôn am danynt. Nid oeddwn yn teimlo fod genyf hawl i wneyd ychwaneg, o gyfnewidiadau. Os bydd y darllenydd yn canfod rhyw bethau heb fod yn - unol â’i feddwl, ac yn tueddu i dramgwyddo wrth yr arddull rhydd sydd weithiau yn ymylu ar y digrifol, ac hefyd y gorfanylder a ddangosir wrth ddesgrifio pethau bychain, dymunwn iddo gofio yn barhaus na fwriadodd yr awdwr i’r hanes gael ei argraffu.

 

(x11)

PENNOD I.
COFIAINT.

Yn ystod fy oes darllenais amryw gofiaint, ac nis gallaf byth fesur na phrisio y difyrwch a’r lles a gefais trwy hyny. Dichon fod llawn cymaint o dalent, ac o synwyr yn enwedig, yn cael eu harddangos mewn bwygraffiaeth ag sydd mewn unrhyw gangen o lenyddiaeth, am y rheswm, dybygid, fod yn rhaid i’r awdwr wybod rhywbeth am ei destyn, yr hyn, fel yr ymddengys, nad ydyw yn anhebgorol gyda changenau eraill; oblegid pa mor fynych yr ydys yn cael dynion yn ysgrifenu ar bynciau na wyddant ddim yn eu cylch? Ar yr un pryd, er mor alluog a ffyddlawn y desgrifiai y cofiantydd gymeriad cyhoeddus ei wrthddrych, gofidiwn yn fynych wrth feddwl mor ychydig a wyddai efe, wedi’r cwbl, am deimladau a hanes mewnol yr un y byddai yn sôn am dano. Teimlwn hefyd mor dda a fuasai gan y cofiantydd, yn gystal a’r darllenydd, gael gofyn ychydig gwestiynau i’r hwn oedd bellach yn gorwedd yn ei ddystaw fedd. Ac yn hyn y mae gan hunangofiant fantais fawr ar gofiant cyffredin. Ond wedi ail ystyried, yr wyf yn tybied mai cofiant wedi ei ysgrifenu gan arall, ac nid gan y gwrthddrych ei hun ydyw y cywiraf ar y cyfan. Gwir fod teimladau a defnyddiau wrth alwad y dyn sydd yn ysgrifenu ei hanes ei hun nad all un arall, gan nad beth fyddo ei alluoedd a’i ffyddlondeb, byth ei dyfalu. Ond er byny, pan fyddo un yn ysgrifenu ei hanes ei hun, ac ar yr un pryd yn ymwybodol fod yr hanes hwnw i gael ei gyhoeddi, os bydd yn ŵr coeth a lleddais, meddiennir ef gan wyleidd-dra ac ofn i eraill dybied ei fod yn gorbrisio ei hun, a’r canlyniad fydd nad ydyw yn hawlio, iddo ei hun yr enw ar lle a roisid iddo gan arall.

 

Meddyliais lawer gwaith mor dda a fuasai genyf gael gofiant cywir o fywyd dyn cyffredin fel fy hunan. Yr holl gofiaint a ddarllenais i, yr oedd eu gwrthddrychau yn ddynion mawr a hynod mewn rhywbeth neu gilydd, ac wedi bod yn troi mewn cylchoedd na buaswn i erioed ynddynt, a myned trwy amgylchiadau na wyddwn i ddim am danynt. Ac er o bosibl mai hyn oedd yn eu gwneyd yn wrthddrychau gwerth ysgrifenu cofiant o honynt, teimlwn ar yr un pryd mor (x12) hyfryd a fuasai genyf gael darllen hanes dyn cyffredin - un wedi bod yn troi yn yr un cylchoedd a chyfarfod yr un profedigaethau â mi fy hun. Onid oes yma ddosbarth o feddyliau a theimladau na roddwyd mynegiad iddynt erioed, a hyny o herwydd eu cyffredinedd, yr un modd ag mae llawer o brydferthion natur heb dynu sylw am eu bod i’w gweled ymhobman? Ai amddifadrwydd o brydferthwch ydyw y rheswm fod llygad-y-dydd heb dynu sylw y blodeuydd, ac ennyn molawd y bardd, ai ynte am ei fod i’w weled ar bob cae, ac am ei fod yn cael ei sathru gan bob buwch? Pe dechreuai y robyn goch a’r ysnosen felen draethu ar brydferthwch anian, deuai tlysni y friallen wyllt am ran helaeth yn eu canmoliaeth, er mai y cloddiau anamaethedig a addurnir ganddi hi. Tueddir fi i feddwl nad oes odid un dyn na fyddai hanes gonest o’i fywyd yn ddyddorol. Onid oes yn mywyd pob dyn ddygwyddiadau gwerth eu croniclo, a meddyliau wedi bod yn ei galon, na ddarfu iddo ef ei hun na neb arall roddi mynegiad iddynt? Bum yn meddwl lawer gwaith mai un gwahaniaeth mawr rhwng dyn cyffredin a dyn anghyffredin ydyw, fod yr olaf yn gallu mynegu yr hyn y mae efe wedi ei feddwl a’i deimlo, tra nad all y blaenaf, neu o leiaf na cheisiodd, wneyd hyny. Yr hyn a barai i mi feddwl felly oedd hyn: pan fyddwn yn darllen awdwyr enwog, neu ynte yn gwrando ar feistriaid y gynnulleidfa, teimlwn yn gyffredin nad oeddynt yn dyweyd dim oedd yn hollol newydd i mi, eithr yn unig eu bod yn gallu rhoddi ffurf, a gosod mewn geiriau, yr hyn yr oeddwn i fy hun eisoes wedi ei deimlo neu ei feddwl, ond na fedraswn roddi mynegiad iddo. Neu, mewn geiriau eraill, eu bod yn gallu darllen llêch fy nghalon, yr hon yr oeddwn i am flynyddau wedi bod yn ceisio ei sillebu. Yr oeddwn yn ymwybodol fod y meddyliau a’r teimladau eisoes yn fy nghalon, ond eu bod yn cysgu, neu yn hytrach yn hepian, ac mai yr unig beth yr oedd y meistriaid yn gallu ei wneyd oedd curo drws eu hystafell wely mor effeithiol nes yr oedd y cysgaduriaid yn neidio i’r llawr ac yn agor eu llygaid!

 

Mae arnaf flys ysgrifenu hanes fy mywyd fy hun, nid i eraill, ond i mi fy hun; ac yn sicr nid i’w argraffu, ond yn hytrach fel math o hunangymundeb. Gwn yn eithaf da nad oes berygl i neb wneyd cofiant o honof wedi i mi farw. Can’ mlynedd i heddyw, ni bydd y byd yn gwybod mwy am danaf na phe buaswn erioed wedi bod (x13) ynddo. Gyda miloedd ar filoedd o’m cydoeswyr, byddaf y pryd hyny yn gorwedd yn dawel yn nystawrwydd dinodedd ac anghof. Ac eto nid wyf yn hoffi meddwl am hyn. Eithr pa help sydd, gan mai hon ydyw ffawd pawb o honom ni y bobl gyffredin? Pa beth ydyw yr achos, tybed, fod dyn mor anfoddlawn i’w enw syrthio i anghof wedi iddo farw, pryd nad all cof nac anghof wneyd da na drwa iddo? Mae y meirw, dybygaf, yn cael llawn cymaint o foddhad yn y gareg sydd yn nodi eu beddrod ag y mae y ei gosod yno. Mae esgyrn y meirw yn cyfeillion tyner sydd yn gorwedd yn fwy tawel os bydd coffadwriaeth uwch eu pen! Anfarwoldeb! a oes a wnelych di rywbeth a hyn?

 

Yr wyf am ysgrifenu fy hanes, meddaf, nid i’w argraffu - diolch am hyny! - oblegid pe felly, nid allwn ddyweyd y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir, gan y byddwn yn yr amgylchiadau hyny yn astudio y darllenydd yn gystal a mi fy hun. Rhys, beth a ddywedi am danat dy hun? Cofia ddyweyd y gwir. Hyny a wnaf; ac os cyferfydd car neu gyfaill i mi â’r ysgrifen hon, gwybydded nad oes genyf air i’w dynu yn ol.

 

PENNOD II.

Y CYFNOD CYNTAF AR FY OES

Pan darawyd fi gyntaf gan y drychfeddwl i ysgrifenu hanes fy mywyd fy hunan, tybiais y gallwn wneyd hyny heb gymorth neb byw bedyddiol. Mor ynfyd oeddwn! Gwelaf wrth ddechre ar y gwaith y bydd raid i mi ymddibynu yn hollol ar dystiolaeth eraill gyda golwg ar y rhan flaenaf o’m hoes; a chan fy mod yn benderfynol o geisio ymgadw at ffeithiau, rhaid i mi addef wrthyf fy hun nad ydwyf yn cofio dim am yr adeg, y daethum gyntaf i’r byd.

 

Yn ngwyneb y diffyg hwn o eiddo fy nghof, yr wyf yn meddwl y gallaf ymddiried yn gwbl yn ngeirwiredd fy mam. Dywedodd hi wrthyf fwy nag unwaith mai rhwng dau a thri o’r gloch yn y bore, ar y pummed dydd o Hydref, yn y flwyddyn 18----, y gwelais gyntaf oleuni canwyll ddimai. Pa un ai teimlo yn dramgwyddedig o herwydd (x14) fod y paretoadau ar gyfer fy nyfodiad mor salw, neu ynte rywbeth arall, a barodd i mi fod mor groes fy nhymher, a gwaeddi ac ysgrechian hyd eithaf fy ngallu ar ddechre fy oes, nid allai y ddwy gymydoges oeddynt yn y fan ar lle benderfynu. Pa fodd bynag, ystyrid fi gan y ddwy gymydoges grybwylledig yn un hollol ddideimlad ac anystyriol, pan wnawn y fath drwst, a minnau yn gwybod, neu o leiaf y dylaswn wybod, fod fy mam mor wael y bore hwnw. Gwn hyn - nad ymgynhorwyd â fi o gwbl gyda golwg ar yr amgylchiad y cyfeiriais ato; a dichon mai hyny a barodd i mi fod mor afrywiog fy natur. Wrth gwrs, nid yw hyn ond dyfaliad, ac nis gallaf ei osod i lawr fel ffaith. Oni buasai fy mod yn berffaith sicr na byddai fy mam un amser yn dyweyd yr hyn nad oedd wir, o’r braidd y gallwn gredu fy mod yn y cyfnod hwn ar fy mywyd fel yr wyf agos yn awr, sef yn hollol benfoel a diddannedd, ac hefyd fod fy nhrwyn, yr hwn a ystyrir yn gyffredin yn Rhufeinig o ran ffurf ei fod, meddaf, y pryd hwnw, nid yn unig yn fflat, ond fel newyddloer â’i dau big i fyny, a fy mod mor gnawdol, fel yr oedd tyllau yn fy mhenelinoedd a’m pen-liniau, lle nad oes yn awr, byd a’i gwŷr, ond esgyrn pigfain i’w canfod. Nid wyf yn cofio ychwaith am gyfnod pryd nad allwn a phan nad oeddwn yn weddol barod i gerdded; ond dywedodd fy mam wrthyf fy mod ar un adeg yn gwbl wrthwynebol i hyny, ac na wnawn ond gorwedd ar fy nghefn a gwaeddi a chicio, os na fyddai rhywun yn fy nghario. Mae yn ddrwg genyf fy mod yn euog o’r fath ymddygiadau, er nad oes genyf un cof am danynt. Rhyfedd genyf feddwl erbyn hyn fod tair blynedd o fy oes wedi myned heibio na wn ddim yn eu cylch oddiar fy nghof; a phe byddai y rhai a’m hadwaenent oreu yr adeg hono, ac yn ngeirwiredd y rhai y gallwn ymddiried, yn rhoddi y cyhuddiadau gwaethaf yn fy erbyn, ni fyddai genyf ddim i’w wneyd ond eu credu. Ai onid oedd genyf y pryd hwnw reswm, cof, a theimlad? Ai lwmp o glai byw oeddwn? Os felly, o ba le y daeth i mi reswm, cof, a phethau cyffelyb?

 

Un peth a feddwn, mi wn, oddiar dystiolaeth fy mam - ac y mae arnaf ofn fy mod yn ei feddu heddyw i raddau gormodol - sef yw hyny, drygioni. Torais, ebe hi, lawer o lestri; a gwn ei bod yn dyweyd y gwir: chwilfriwiais yr ychydig, arddurniadau a feddai, cripiais wynebau a thynais wallt amryw o’m perthynasau a’m (x15) cymydogion. Tynais glustdlws un ferch ieuanc yn glir drwy ei chnawd, nes oedd y gwaed yn pistyllio ar ei hysgwydd. Lleddais dair o gathod bychain trwy wasgu y gwynt allan o honynt; a chyflawnais amryw ystrywiau eraill na wiw i mi hyd yn nôd eu cyfaddef wrthyf fy hun, er nad wyf yn teimlo eugrwydd o’u herwydd. Yr hyn sydd yn fy synu fwyaf ydyw, fod pawb wedi cymeryd i fyny gyda mi, ac ymddwyn tuag ataf fel pe buaswn yn dwyn llawer o elw iddynt, pryd mewn gwirionedd nad oeddwn yn dda i ddim. Nid yn unig nid oeddwn yn dwyn dim elw i neb, ond achoswn lawer o flinder a thrafferth. Collodd fy mam lawer noswaith o gysgu o’m herwydd; ac ugeiniau o weithiau y bu raid iddi godi gefn nos i wneyd tê slecyn i mi. Ar adegau gwaeddwn am oriau bwygilydd; ac o herwydd fy mod wedi cymeryd yn fy mhen i beidio siarad am gryn ddwy flynedd, ni wyddai neb am ba beth y gwaeddwn. ac er y cwbl, clywais fy mam yn dyweyd na chymerasai y byd am danaf, hyd yn nôd pan waeddwn fwyaf.

 

Yr oeddwn yn dalp o blentyn tewdrwm, ac ystyried fy mod yn byw ymron yn hollol ar laeth; ac er fy mod mor drwm, ymgystadleuai fy nghymydion yn fy nghario. Ymddengys fy mod yn hoffi bod heb ddannedd; oblegyd pan ddechreuodd yr aelodau hyny wneyd eu hymddangosiad, yr oeddwn yn flin iawn fy ysbryd, yn gymaint felly nes y curiodd fy nghnawd. Dywedwyd wrthyf fy mod wedi rhoi ffordd mor fawr i natur ddrwg nes i mi o’r diwedd gael convulsions. Mor ynfyd oeddwn! Gwyn fyd na chawn y cyfleusdra i dyfu dannedd yrwan! Ond y mae un fantais o fod fel yr ydwyf yn awr: ni fedr neb daflu dim “ar draws fy nannedd!”

 

Wel, dyna ddigon am y cyfnod nad oes genyf un cof am dano; a gwell o lawer genyf droi at yr amser y gwn rywbeth yn ei gylch oddiar fy mhrofiad a’m cof.

 

PENNOD III

COFION BOREUF.

Yr wyf yn meddwl, ïe, yr wyf yn sicr o ran hyny, mai un or pethau cyntaf yr wyf yn gofio ydyw myned gyda fy mam i’r capel. (x16) Nid ydyw yn ddrwg genyf fod fy nghofion cyntaf ynglyn a’r capel mawr. Yr hon gapel anwyl! ti a adewaist lawer argraff ar fy nghof, ac ar fy nghydwybod hefyd, mi obeithiaf.

Pa un ai y cyntaf, yr ail, neu yr ugeinfed tro i mi fyned yno, neu ynte amryw droion wedi ymdoddi i’w gilydd a adawodd argraff mor ddwfn ar fy meddwl, nis gallaf yn awr benderfynu. Ond sicr wyf fy mod yn cofio myned yn llaw fy mam i’r capel, a fy mod yn gweled y ffordd yn faith iawn - a fy mod wedi mynu cael fy nghario ran fawr o’r siwrnai. Tebygol mai nos Sabboth ydoedd; oblegid yr oedd y capel yn llawn o bobl, ac hefyd wedi eu oleuo, nid â gas y pryd hwnw, eithr â chanwyllau. Brawychais weled cynnifer o bobl, a thorais allan i wylofain; ac yr wyf yn cofio fod fy mam wedi gosod ei llaw ar fy safn nes y bu agos iddi a fy mygu; ac nid cyn i rywun oedd yn fy ymyl roddi i mi Nelson ball y peidiais a gwaeddi. I ba le y mae y melusion enwog hyny wedi myned! Ni fyddaf yn gweled dim tebyg iddynt yn y dyddiau hyn. Pa un ai fi ai y melusion sydd wedi newid? Yr oedd llawr y capel y pryd hwnw yn wahanol iawn i’r peth ydyw yn awr. Yr oedd yn agored, a rhesi o feinciau digefn ar ei draws, gydag ychydig eisteddleoedd dyfnion o’i gwmpas, y rhai a bwysent ar y mur. Ar ganol y llawr yr oedd stove fawr, a llawer o blant o’i chwmpas, â’u hwynebau cân goched â chrib y ceiliog.
Mae yn debyg mae y gauaf oedd yr adeg ar y flwddyn.

Yr wyf yn cofio am y sêt fawr a’r sêt ganu ar yr ochr chwith iddi, ac am Abel Hughes gyda’i gap melfed yn eistedd o dan y pulpud, yr hwn - sef Abel - oedd yn myned oddiamgylch yn awr ac yn y man i snyffio y canwyllau. Bydd genyf rywbeth i’w ddyweyd eto am Abel Hughes. Yr oedd y pulpud â’i gefn ar y mur, ac yn sefyll ar ddwy golofn, ac mor uchel nes peri i mi feddwl am nyth y wenol a adawsid o dan fondo ein tŷ ni er yr haf blaenorol. Synwn sut yr oedd “y dyn,” fel y galwn i ef, oedd yn y pulpud, wedi gallu dringo i’r fath le, a pha amcan oedd ganddo yn myned yno. Gofynwn i mi fy hun os oedd efe yn arfer a dringo yno, a fyddai efe, tybed, yn cael codwm weithiau wrth ddyfod i lawr y grisiau, fel y cawsom i fwy nag unwaith wrth ddyfod i lawr o’r llofft, neu a fyddai rhywun yn ei gario ar ei gefn, fel y cerid fi gan Bob fy mrawd i lawr o’n llofft ni! Rhyfeddwn yn fawr nad oedd neb yn dyweyd dim ond “y dyn oedd yn y (x17) box,” a rhyfeddwn fwy fod ganddo ef gymaint i’w ddyweyd. Nid oeddwn yn deall dim oll a ddywedai, oddigerth yr enw “Iesu Grist,” a thybiais ar y dechre mai efe oedd yr “Iesu Grist” y soniai fy mam gymaint am dano wrthyl. Dysgwyliwn o hyd iddo dewi, ond nis gwnai. Wedi bod yn siarad yn faith, fel y tybiwn i, dechreuodd “y dyn” edrych yn ddig, a chochi yn ei wyneb, a gwaeddi yn uchel; phenderfynais ar unwaith mai nid Iesu Grist oedd efe. Tybiwn fod “y dyn” yn fy nwrdioi yn dost – am ba beth nis gwyddwn; ond o herwydd ei fod wedi edrych arnaf lawer gwaith, gwyddwn o’r goreu mai ataf fi yr oedd efe yn cyfeirio, a dechreuais wylofain drachefn; a bu raid fy hanner fygu cilwaith, a rhoddi i mi eto Nelson ball cyn y tawn

Edrychais o’m cwmpas, ac i lawr ac i fyny.
Synais weled cynifer o bobl yn llofft y capel. A oeddynt i gyd yn arfer a chysgu yno? Pa le yr oeddynt yn cael digon o welyau? Gwelwn y capel yn dechre tywyllu, a’r dyn oedd yn y box yn ymddangos yn llai ac ymhellach o lawer oddiwrthyf, er ei fod yn dal ati i waeddi yn uwch ac yn uwch. Teimlwn fy mam yn fy llochesu, ac yn y fynyd collais olwg ar bawb a phobpeth - yr oeddwn mewn trwmcwsg. Nis gwn am ba hyd y bum yn cysgu; ond cafwyd trafferth fawr i fy neffro, er fod yr holl gynulleidfa yn canu. Hoffwn y canu yn fwy o lawer na’r bregeth. Teimlwn rywfodd fy mod yn deall y canu, er nas gallaf yn awr roddi ffurf ar y dealltwriaeth hwnw. Erbyn hyn, eisteddai y dyn oedd yn y pulpud, gan sychu y chwys oddiar ei dalcen, a chan osod cadach mawr yn llac am ei wddf. Gwelwn Abel Hughes yn dringo i fyny grisiau y pulpud; a phenderfynais yn fy meddwl mai myned i nôl “y dyn” ar ei gefn yr oedd efe, fel y byddai Bob yn fy nôl i o’r llofft gartref. Siomwyd fi yn ddirfawr pan welais ef yn sefyll ar ganol y grisiau, ac yn dyweyd rhywbeth wrth y bobl. Deallais ymhen y rhawg ar ol hyny mai cyhoeddi y moddion am yr wythnos ddilynol yr oedd efe. Aeth y nifer mwyaf o’r bobl allan; ond arosodd fy mam ac amryw eraill ar ol, a chauwyd drysau y capel. Meddyliais nad oeddym byth i gael myned adref, a dechreuais grio drachefn; ond dywedodd fy mam wrthyf ar ei gwir y caem fyned “rwan just.” Gwelwn y dyn oedd wedi bod, fel y dychymygwn, yn fy nwrdio i, yn disgyn i lawr grisiau y pulpud; a gwyliwn ef yn ddyfal rhag iddo syrthio. Cyrhaeddodd i’r gwaelod yn ddiogel. Wedi hyn gwelwn (x18)  Abel Hughes yn codi y llian oedd yn cuddio rhywbeth ar ffrynt y sêt fawr, ac yn ei lapio yn daclus, gan ei osod o’r neilldu. Synais pan welais beth oedd o dan y llian. Y fath lestri hardd! Gwelwn y dyn oedd wedi bod yn siarad yn faith yn codi, ac yn myned at y llestri a’r bara oecid wedi ei dori yn fân; ac wedi dyweyd rhywbeth eto am Iesu Grist, dechreuodd fwyta. Tybiais mai cymeryd ei swper yr oedd efe. Pa fodd bynag, ni phrofodd efe ond un tamaid ac un llymaid bach; a meddyliais wrth ei weled yn aros ar hyny nad oedd yn ei hoffi. Pa faint oedd fy syndod pan welais y dyn yn cymeryd y bara ac yn myned oddiamgylch, gan roddi tamaid i bawb. Yr oedd arnaf chwant bwyd, a chredais mai dyn clên oedd y gŵr wedi’r cwbl, ac er ei fod wedi fy nwrdio i mor dost. Pan ddaeth at fy mam cymerodd hi damaid, ac estynais innau fy llaw; ond gwrthododd fi. Digiais yn enbyd wrtho, a thorais i wylo allan am oddeutu y chweched waith y noson hono. Yr oedd yn amlwg i mi erbyn hyn fod gan y dyn rywbeth yn fy erbyn. Cafodd fy mam drafferth fawr yn fy nhawelu; a phan ddaeth y dyn oddiamgylch gyda’r cwpan, cuddiais fy wyneb o dan glog fy mam rhag imi edrych arno, a rhag iddo yntau gael y cyfleusdra i fy ngwrthod eilwaith. Rhwng fod y nos yn dywell, a minnau, fel y tybiwn’, wedi cael fy insultio gan y pregethwr, yr oeddwn yn flin iawn fy nhymher; a bu raid i fy mam fy nghario yr holl ffordd gartref y noson hono.

 

Mor ffortunus ydyw na fwriedir i’r hanes hwn gael ei gyhoeddi! oblegid pe amgen, nis gallaswn adrodd yr hyn a adroddais, am y buasai yn rhy syml a phlentynaidd, er ei fod yn wir, ac er y buasai o bosibl, yn newydd mewn llenyddiaeth, er nad yn newydd i brofiad y ambell ddarllenydd.

 

PENNOD IV.

EVAN JONES, HWSMON, GWERNYFFYNNON.

Wrth i mi daflu fy meddwl yn ol at yr adeg pan oeddwn blentyn, mor rhyfedd genyf feddwl mai yr un un ydwyf o hyd er yr holl gyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lle yn fy syniadau a’m tueddiadau. Wrth gymharu y plentyn â’r dyn, mor wahanol ac eto mor debyg ydynt! Ni fynwn am y byd wadu fy hunaniaeth, na newid fy (x19) ymwybyddiaeth am ymwybyddiaeth neb arall. Bum lawer gwaith yn tosturio wrth yr afon Alun yn y pwynt lle y mae yn colli ei hunan yn y Dyfrdwy. O Lanarmon yn Iâl i lawr i Gilcain, a thrwy y Belan ar hyd dyffryn yr Wydd-rug, mor annibynol, hoew, a siriol y mae hi hi yn edrych! Ond pan yr agoshâ hi at Holt, y mae ei hwyneb yn newid, a phrudd-der yn amlwg i’w weled ar ei gwêdd, yn y rhagolwg, yn ddiammheu, ar golli ei hunan yn y Dyfrdwy. Nis gwn pa fodd y mae dynion eraill yn teimlo; ond y mae yn dda genyf fi feddwl mai yr un un ydwyf o hyd, ac ni fynwn er dim golli fy hunaniaeth. Onid hyn yw gwallgofrwydd? “Colli arno ei hun ydyw yr ymadrodd, onidê, a ddefnyddir am un yn gwallgofi? Wel, y mae yn hyfryd genyf daflu fy meddwl yn ol, a dilyn cwrs fy mywyd trwy wahanol gyfnodau, amgylchiadau, a golygfeydd.hyd yr awr hon, o chofio mai yr un ydwyf. ac y mae yn fwy hyfryd genyf feddwl, pan fyddaf nas gwn pa mor fuan yn rhoddi llam i’r byd mawr tragywyddol, mai yr un un a fyddaf, ac na fydd i mi golli fy hun yn neb arall yr un fath â’r Alun druan! Mor rhyfedd! ymhen miloedd o oesau yr un ymwybyddiaeth a fydd genyf a phan oeddwn yn myned yn llaw fy mam i’r capel am y tro cyntaf!

 

Ond i ddychwelyd at gyfnod fy mhlentyndod. ac i mi ddyweyd y gwir - yr hyn yr wyf yn benderfynol o wneyd - rhaid i mi addef nad oeddwn yn hoffi myned ir capel. Yr oedd y gwasanaeth yn rhy faith o lawer genyf. Nid bob amser y gallwn gysgu yn y moddion. Pan fyddwn yn effro, nid oeddwn yn cael difyrwch mewn dim oll oddigerth yn y canu. Tra y llefarai y pregethwr yn ddiddarfod, fel tybiwn i, byddai gwaew annyoddefol yn fy nghoesau, a chymaint ag a allai fy mam ei wneyd oedd fy nghadw yn ddiddig. Yr oedd fy mam yn Fethodist o’r Methodistiaid, ac yn glynu yn glós wrth syniadau a thraddodiadau y tadau. Bendith arni! un o’i phynciau mwyaf cysegredig ydoedd cadwriaeth y Sabboth. Nid gwiw oedd i mi sôn am chware nac edrych ar fy nhegenau, ar ddydd yr Arglwydd. Byddai raid i mi eistedd yn llonydd a difrifol, pryd nad oedd genyf y syniad lleiaf am y gwahaniaeth rhwng y naill ddiwrnod ar llall. Os byddwn yn aflonydd a chwareugar, dywedai fy mam fod Iesu Grist yn ddig wrthyf, ac na chawn byth fyned i’r nefoedd, ond y byddai iddo fy nhaflu i’r “tân poeth.” Parai hyn dristwch mawr i mi. Ar yr un pryd, methwn a deall os oedd Iesu Grist mor hoff

(x20) o blant bychain ag y dywedai fy mam ei fod, pa fodd yr oedd efe mor exact ac mor wrthwynebol i mi gael chware ar y Sul. Yr oedd yn gâs genyf weled y Sabboth yn agosâu, gan y gwyddwn y byddai i mi yn sicr ddigio Iesu Grist. Un tro gofynais i fy mam pa fath le oedd y nefoedd? Atebodd hithau, gan geisio yn ddiammheu gyfarfod â fy nealltwriaeth, mai gwlad ydoedd lle yr oedd pawb o’r trigolion yn cadw’r Sabboth am byth. Syrthiodd fy ngweb y foment hono, a dywedais wrthi yn bendant nad awn byth i’r nefoedd. Y fath ergyd a roddais iddi! Gwelaf ei hwyneb hoff yn pruddhâu, a’r dagrau yn ei llygaid. Rhoddais innau fy mraich am ei gwddf, a dywedais wrthi yr awn i’r nefoedd er ei mwyn hi (fy mam), ond fy mod yn gobeithio y cawn yno gan Iesu Grist chware tipyn bach.

 

Druan oedd fy mam! Gyda’r amcanion goreu yn y byd, yr oedd yn myned o gwmpas fy addysgiaeth grefyddol yn y ffordd fwyaf chwithig a allasai ei dychymygu. Wel, fy hoff fam, yr oeddit yn annysgedig ac anwybodus, ond er hyny y fam oreu yn y byd yn fy meddwl i. Diammheu genyf fod dy weddiau ar fy rhan wedi eu hateb i ryw fesur. Yr wyf yn awr mewn oedran gŵr; ond pa beth a roddwn am gael unwaith eto weled dy wedd! Pa beth a roddwn am un cyfleusdra i geisio gwneyd i fyny am bob gair cas a. ddywedais wrthyt, ac am bob ymddygiad angharedig tuag atat! Tybed a wyddost di am fy helyntion a’m profedigaethau wedi i mi dy hebrwng i’r fynwent oer? Mor rhyfedd genyf feddwl erbyn hyn na ddarfu i fy holl anufudd-dod a’m holl ddrygioni leihau un gronyn ar dy gariad tuag ataf! Cyfarfyddais â llawer cyfaill ffyddlawn, ond neb a’m carai fel tydi - a’m carai yn fwy na’i heinioes ei hun. Mae y byd yn oer a dyeithr i mi hebot ti. Nid oes genyf neb yn fy neall, na neb yn gallu myned i mewn i’m teimladau, fel y byddit ti yn wneyd. Cyn i mi ysgrifenu brawddeg arall, rhoddaf dro at dy “gareg arw a’r ddwy lythyren,” gan nad beth a feddylio eraill o honof.

 

Mae fy adgofion ynglŷn â’r Ysgol Sabbothol yn gymysglyd ac anmhenodol. Yr wyf yn sicr o hyn - mai nid yn yr Ysgol Sul y dysgais y llythyrenau. Nid wyf yn cofio i mi erioed fod yn dysgu yr (x21) A B C; naill ai yr oeddwn yn eu hadnabod wrth natur, neu ynte, yr hyn sydd yn fwy tebyg, yr oedd fy mam wedi eu dysgu i mi yn y cyfnod nad oes genyf un cof am dano. Yr wyf yn sicr mai Evan Jones, hwsmon Gwernyffynnon, oedd fy athraw cyntaf; ac yr wyf yr un mor sicr mai allan o lyfr bychan, tebyg i’r “Rhan Gyntaf” a ddefnyddir yn ein hysgolion yn y dyddiau hyn, yr oeddwn yn cael gwersi ganddo. Yr hyn sydd yn peri [i] mi fod mor sicr ydyw hyn - mai a b, ab, y galwn i Evan Jones wrth fy mam, am mai hono oedd y wers - a b, ab, e b, eb, o b, ob, &c. Hen ŵr clên oedd Evan Jones, yn gwisgo ar y Sabboth gôb lâs â botymau gloewon arni, a chlôs a leggins llwydion. Yr oedd chwech neu saith o honom yn ei ddosbarth; a dull Evan o gyfranu addysg oedd cymeryd un o honom ar ei lin a rhoi gwers iddo tra y byddai y lleill yn chwareu. Wedi iddo roddi gwers i bob un, teimlai Evan ei fod wedi gwneyd ei ddyledswydd, ac yna cymerai gyntyn. Tra y byddai Evan yn cymeryd nap, a’i ên wedi suddo yn ddwfn i’w wasgod, a choler fawr ei gôb lâs ymron yn lefel hefo’i goryn, nid unwaith na dengwaith y cyfrifais yr holl fotymau oedd ar ei ddillad. Yr wyf yn cofio y fynyd hon eu nifer. Pe cymerwn fy llŵ ar rywbeth, cymerwn ef ar hyn, mai saith o fotymau oedd ar bob leggen, pump ar ddau benglin ei glôs, pedwar ar bob ochr i’w gôb a dau tu ol, a saith ar ei wasgod. Yr wyf yn sicr o’u nifer, canys cyfrifais hwynt gannoedd o weithiau tra yr oedd Evan yn cysgu. Perchenogai Evan oriawr fawr - mor fawr ymron â’r hyn a elwir yn ein dyddiau ni yn timepiece, yr hon y gadwai efe yn mhoced ei glôs. Un tro gofynais i fy mam paham na wisgai Evan Jones ei watch yn mhoced y wasgod fel y byddai gŵr y Plâs yn gwneyd? Atebai hithau, ei fod yn bechod mawr gwisgo watch yn mhoced y wasgod, ac nad oedd neb yn gwneyd hyny ond y rhai oedd heb “deimlo’r cortyn.” Nid oeddwn yn deall ar y pryd beth oedd ystyr “teimlo’r cortyn;” ond gwyddwn ei fod yn rhywbeth mawr ac anhebgorol er gwneyd i fyny ddyn da; ac mor hoff oeddwn i o Evan Jones fel nad allaf yn awr ddesgrifio fy moddhâd y pryd hwnw mai yn mhoced ei glos y gwisgai efe ei watch ac nid yn y wasgod. Yn gysylltiedig wrth watch Evan yr oedd riban ddû, ac wrth hono ddwy

gragen wèn, hen goin, a sêl goch. Teimlem ni, y bechgyn oedd yn ei ddosbarth, awydd mawr am (x22) gael watch Evan i’w dwylaw. Un prydnawn Sul gwresog, yr oedd Evan wedi gwneyd ei ddyledswydd, ac wedi syrthio i gwsg trwm. Y modd y gwyddem hyn oedd ei fod yn chwyrnu yn uchel, - yr hwn arwydd na chlywsem erioed o’r blaen yn y dosbarth.  Wele, y cyfleusdra hirddysgwyliedig wedi dyfod; a chynnygiodd Wil Bryan, yr hwn oedd yr byliaf yn y dosbarth, ei wasanaeth, ac ni ddangoswyd gwrthwynebiad gan neb. Tynwyd y watch allan, a chafodd pob un o honom yn ei dro ei benthyg i’w harchwilio, ac i’w gosod wrth ei glust. Yr oedd safle ein dosbarth yn llofft y capel yn y gongl uchaf a elwid y pryd hyny yn Gibraltar,” ac felly mewn sefyllfa neillduedig. Yr oedd watch Evan wedi treiglo ddwy waith o gwmpas y dosbarth, ac ar y pryd yn fy llaw i. Yr oeddym yn yr act o osod ein penau ynghyd pa fodd i’w dychwelyd i’w sefyllfa wreiddiol heb ddeffroi ei pherchenog, pryd y taranodd llais uwch ein penau, “ Be ‘dach chi’n neyd yma?” Yn fy mraw gollyngais y watch i lawr,nes oedd y gwydr yn deilchion, ac ar yr un pryd neidiodd ein hathraw parchus fel pe buasai rhywun wedi ei drywanu yn ei feingefn. Y taranwr ydoedd Abel Hughes yr arolygwr, yr hwn, yn ei gap velvet a edrychai yn ddig dros ymyl y sêt. Yr oedd ein hathraw wedi cynhyrfa yn gymaint fel na ddarfu iddo sylwi dim ar ei oriawr. “Ai cysgu yr ydach chi, Evan Jones?” gofynai Abel yn geryddgar. “Synfyfyrio,” ebe Evan yn ffwdanus. “Synfyfyrio yn wir , â’ch dosbarth yn chware hefo’ch watch. Rhaid i mi ddwyn eich hachos o flaen y cyfarfod athrawon,” ebe Abel, ac aeth ymaith yn ddigofus.

 

Yr un fynyd ag yr oedd Evan yn dechre sylweddoli sefyllfa pethau dechreuais innau wylo - gwaith a fedrwn yn burion. Nid oedd neb wedi cyffwrdd â’r oriawr ar ol iddi syrthio o fy llaw. Edrychodd Evan arni, ac arnaf finnau bob yn ail am yspaid, ac yna cododd hi, gan ei lapio yn ei gadach poced a’i rhoddi yn mhoced frest ei gôb lâs. Wrth weled fy nhristwch mawr, er ei fod yn credu, mi wn, mai fi oedd euog o’r holl ddrwg, cymerodd fi ar ei lîn, a dywedodd wrthyf yn garedig, “Wel na hidia y ‘ngwas i; dydi o fawr o beth.” Bum yn meddwl ar ol hyn mai rhyw fath o fellow feeling o euogrwydd a wnaeth i Evan fod mor garedig ataf. Pa fodd bynag, parodd ei garedigrwydd i mi wylo yn waeth o lawer; ac erbyn i mi fyned adref yr oedd fy llygaid wedi chwyddo yn gymaint fel nad allwn gelu yr ystori oddiwrth fy mam. Yr union beth a ddywedodd hi wrthyf oedd, (x23) Wel, cawn weled fory.” Bu yn un â’i gair; cafodd hi weled, a chefais innau deimlo. Nis gwn i sicrwydd a ddygwyd achos Evan Jones, Gwernyffynnon, o flaen y cyfarfod athrawon; ond y mae genyf bob lle i gredu ddarfod i hyny gymeryd lle; oblegid byth wedi hyn pan fyddai Evan yn gosod ei hun i gymeryd cyntyn, rhoddai siars benodol arnom i fod ar y look-out, ac i ofalu am ei ddeffroi pan ddeuai Abel Hughes i’r cyffiniau, - i’r hyn y buom ffyddlawn. Yr wyf yn cofio yn dda ein bod fel dosbarth yn edrych ar waith Abel Hughes yn gwarafun i Evan gael cyntyn, ar ol iddo roddi gwers i bob un, fel gorthrwm a thrahausder anfaddeuol.

 

Pe buaswn yn argraffu yr hanes hwn, dichon y dywedasai rhywun, “Gymaint rhagorach ydyw trefniadau ac athrawon yr Ysgol Sabbothol yn awr o’u cymharu a’r hyn oeddynt y pryd hyny.” Hwyrach hyny. Nid oedd Evan Jones ond un o lawer cyffelyb iddo. A chymeryd ei rinweddau ynghyd a’i ddiffygion i’r cyfrif, yr oedd Evan cystal athraw â’r rhelyw o honynt yn y dyddiau hyny.   Mae genyf fi barch dauddyblyg iddo, o herwydd o dan ei aden ef y dysgais ddarllen, er iddo farw pan oeddwn yn lled ieuanc. Mae genyf gof da am amryw o ddywediadau fy mam pan fyddai hi yn sôn am Evan Jones, megys y rhai canlynol: - “Gŵr ydyw Evan â gwreiddyn y mater ganddo.” “Mae Evan Gwernyffynnon yn fwy ar ei liniau nag ar ei sefyll.” “Gŵyr Evan yn dda beth ydyw teimlo’r cortyn.” Dyn y dirgel ydyw Evan Jones.” “Pe buasai gan Evan gymaint o ddysg ac arian ag sydd ganddo o ras, buasai yn Ustus Heddwch er ys llawer dydd, ac ni buasai gŵr y Plâs ond cardotyn yn ei ymyl.” Yr oedd yr ymadroddion hyn, a llawer o rai cyffelyb o’r eiddo fy mam, fel Lladin i mi ar y pryd, ac ymhen blynyddau y daethum i’w deall. Da genyf droi fy meddwl yn ol at yr adeg pan, oeddwn yn astudio classics fy mam! Fel yr awgrymais yn barod, y mae genyf bob lle i gredu fod Evan Jones, er ei holl ddiffygion, yn gymeriad tryloew, ac yn un oedd wedi profi pethan mawrion crefydd. Pan oeddwn yn ei ddosbarth, edrychwn ar ei waith yn cysgu ran o’r moddion yn fwy fel rhinwedd ynddo na dim arall, am ei fod yn rhoddi cyfleusdra i ni y plant i chware; ac wrth edrych yn ol at hyny o’r pryd hwn, a chofio ei fod yn un oedd yn gorfod gweithio yn (x24) galed, a chodi bob dydd am bump or gloch y bore, yr wyf yn gallu maddeu iddo o waelod fy nghalon. Os caf fyned i’r nefoedd, bydd i mi wneyd search am dano er mwyn i mi allu diolch iddo. Mor ynfyd ydwyf! Yr wyf yn edrych ar Evan yn y nefoedd yn ei glôs a’i leggins â’i gôb lâs! Nis gallaf edrych arno ond yn y wêdd hono.

 

PENNOD V.

Y CYFARFOD PLANT.

Pan oeddwn fachgen, un o’r sefydliadau crefyddol gwerthfawrocaf oedd y cyfarfod plant, neu yn ol yr enw arferol gan ieuanc a hen, y seiat plant. Cynnelid hi yn wythnosol yn ddifwlch haf a gauaf; ac yr wyf yn meddwl y gallaf sicrhau nad oedd un bachgen na geneth os byddai eu rheini yn aelodau eglwysig, heb roddi eu presennoldeb ynddi yn gyson, oddigerth i afiechyd eu lluddias. Os absennolai un ei hun am fwy nag un noswaith yn olynol, heb fod rheswm digonol am hyny, byddai i Abel Hughes, can sicred â’r byd, alw y tad neu y fam i gyfrif yn y seiat gyffredinol ganlynol; ac os nad ellid rhoddi rheswm boddhaol, rhoddid cerydd cyhoeddus iddynt am yr esgeulusdra. Y fath ddirywiad sydd wedi cymeryd lle yn y peth hwn yn ein dyddiau ni! Mae ymron yn anmhosibl yn awr cynnal wrth ei gilydd gyfarfod plant am ychydig wythnosau yn ystod misoedd y gauaf. A beth pe gelwid rhieni i gyfrif cyhoeddus yn y dyddiau hyn am esgeuluso anfon eu plant i’r seiat? Meddylier am fynyd am geryddu Mrs. Dowell y shop, plant yr hon na welir unwaith yn y pedwar amser yn y cyfarfod eglwysig. Gwarchod pawb! pe rhyfygid gwneyd y fath beth, y mae yn gwestiwn genyf a ddeuai hi na’i phlant i’r capel byth, heb sôn am ddyfod i’r seiat. Ond pe buasai Abel Hughes yn fyw, buasai ef wedi galw Mrs. Dowell i gyfrif, a llawer Mrs. arall, gan nad both fuasai y canlyniadau. Yn sicr, dywedaai ef wrthynt mai yn Eglwys Loegr yr oedd eu lle, ac mai goreu po cyntaf iddynt fyned yno. A ydyw yr hen flaenoriaid gonest i gyd wedi meirw? Wrthi mi alw amryw o honynt i’m cof, yr wyf yn gorfod cydnabod fod cryn lawer o erwindeb yn perthynu iddynt; ond gyda’u holl erwindeb, yr oedd ynddynt ryw unplygrwydd, a gonestrwydd ag sydd yn ffurfio (x25) gwrthgyferbyniad ffafriol i’r oes felfedaidd a gweniaethus hon o grefyddwyr. Can gynted ag y medrais barablu “Cofiwch wraig Lot,” bu raid i mi hwylio i’r seiat plant o dan ofal Wil Bryan, yr hwn oedd rai blynyddau yn hyn na mi. Ynglŷn â fy hanes, bydd raid i mi gyfeirio yn fynych at Wil Bryan, ac weithiau gyda gofid. Hwyrach mai da i mi a fuasai pe nas gwelswn ef erioed, er fy mod ar un adeg yn credu nad oedd y fath Wil yn y byd. Cyndyn iawn oeddwn i ddysgu adnod; ac o herwydd hyny bu raid i “Cofiwch wraig Lot” wasanaethu i mi ar rai degau o achlysuron, a hyny heb yn wybod i fy mam. Gofalai hi yn wastad am ddysgu adnod newydd i mi ar gyfer pob seiat; ond erbyn i mi fyned i’r cyfarfod, byddai yr adnod wedi cymeryd ei haden, ac nid oedd dim i’w wneyd dan yr amgylchiadau ond syrthio yn ol ar “Cofiwch wraig Lot.” Yr wyf yn cofio ddarfod i mi ar fwy nag un amgylchiad ddechre adrodd adnod newydd, megys “Gwir yw y gair ac yn haeddu - ;” ac wedi methu myned ymlaen i’w gorphen, diweddwn yn ddieithriad trwy ddyweyd “Cofiwch wraig Lot.” O herwydd fy mod mor fychan, cyd-ddygwyd â mi yn hyn am yspaid maith; ac nid cyn i’r plant ddechre fy ngalw yn wraig Lot y rhoddais heibio sôn am dani. Fy ngwaith yn adrodd yr adnod adnabyddus mor fynych a roddodd achlysur i’r rhai oedd yn arwain y cyfarfod wneyd sylwadau aml arni; ac yr wyf yn meddwl fy mod yn gwybod yr oll ag oedd i’w wybod am wraig Lot cyn i mi fod yn bump oed. O leiaf nid wyf yn ymwybodol fod fy syniadau am y Sodomiaid, yr angylion, y tân a’r brwmstan, Lot a’i deulu, y golofn halen, Soar, &c., wedi cyfnewid rhyw lawer oddiar y peth oeddynt yn fy meddwl pan oeddwn yn bum mlwydd oed, fel y dywedais. Yr oedd hanesiaeth ysgrythyrol yn y modd yma yn cael ei ddyferu i’n meddyliau megys heb yn wybod i ni; ac yr wyf yn meddwl y gallaf sicrhau fod gwybodaeth Fiblaidd yn llawer uwch a pherffeithiach mewn ieuenctyd yn yr oes hono nag ydyw yn “yr oes oleu hon.” Y dydd o’r blaen yr oeddwn yn gofyn i fab Mrs. Frederick Dowell, y shop, yr hwn sydd yn bymtheg mlwydd oed, “Pwy oedd Jeroboam? “ a’i ateb oedd ei fod yn meddwl mai un o’r apostolion ydoedd. Mae genyf le i ofni fod llawer o blant crefyddwyr y dyddiau hyn nad ydynt yn rhagori nemawr mewn gwybodaeth ar Solomon Dowell.   

 

(x26)
Y fath zel ac ymroddiad a ddangosai Job a Joseph ac Abel Hughes gyda ni y plant, er fod yr olaf yn hen ŵr; hen yr wyf yn ei gofio. Yr oedd John Joseph wrth fodd ei galon yn ein dysgu i ganu pennillion, megys

“O, hyn fydd yn hyfryd!”

ac

“Ni bydd diwedd
Byth ar swn y delyn aur.”

O’r ochr arall byddai Abel Hughes mor ddifrifol a sobr yn gwrando ein hadnodau, ac yn llefaru arnynt, mor ddifrifol, meddaf, a phe buasai yn gwybod fod dydd y farn i gymeryd lle drannoeth. Yr oeddym ni y plant yn fwy hoff o John Joseph nag o Abel Hughes; oblegid os na byddai Abel yn bresennol, byddai John Joseph yn defnyddio y pitchfork; ac yr oeddym yn hoffi ei weled yn ei tharo ar y stove, ac yn ei gosod wrth ei glust, ac yn cau ei lygaid a gosod ei ben yn gam i wrando ar ei sŵn, gan roddi dau neu dri o nodau allan cyn dechre canu, er na wyddem yn y byd mawr pa ddybenion goruchel oedd yn cael eu cyrhaeddyd trwy hyn. Nid gwiw oedd i John Joseph fyned trwy y seremoni hon pan fyddai Abel yn bresennol. Gwelais ef unwaith yn gwneyd cais at hyny; ond dywedodd Abel wrtho yn union deg am gadw y taclau hyny gartref - nad oeddynt yn weddus i dŷ Dduw. Beth pe buasai Abel yn fyw yn awr? Beth pe clywsai efe ŵr o’r sêdd fawr yn cyhoeddi fod y dôn a’r dôn yn y modd Lah, a dwsin neu ddau o ddynion yn gwaeddi ar draws eu gilydd, “Doh, soh, doh, soh?” Yn sicr buasai Abel, druan, yn meddwl fod crefydd wedi myned yn bricsiwn; ac y mae arnaf ofn mai rhywbeth tebyg i ddyrysu yn ei synwyrau fuasai’r canlyniad. Fel y mae amgylchiadau yn newid mewn llai na hanner oes!

 

Byddai Abel Hughes yn fanwl iawn am gael dechre a diweddu y seiat plant mewn pryd. Gwyddem i’r fynyd yr adeg y deuai i’r capel. Cof genyf y byddai fy mam yn canmawl Wil Bryan am alw am danaf mor brydlawn i fyned i’r cyfarfod; ond ychydig a wyddai hi mai ein hamcan yn myned mor gynnar oedd cael chware ymguddio yn llofft y capel. Yr oedd Wil wedi cael allan rywfodd (x27) fod Abel yn dechre y cyfarfod yn ol ei watch, ac yn diweddu yn ol cloc y capel. Un noswaith, pan oedd pawb o honom yn eu lle yn dysgwyl am Abel i mewn, dywedodd Wil yr elai ef i’r gallery i symud bys y cloc banner awr ymlaen; ac ar y gair efe a aeth. Yr oeddym oll yn bryderus iawn rhag i Abel ddyfod i mewn. Pan oedd Wil wedi cyrhaedd sêt y cloc, ac ar fedr rhoddi ei law ar y bys, agorwyd drws y capel, a dacw Abel yn gwneyd ei ymddangosiad. Crwcydodd Wil y fynyd hono. Curai calon pawb ohonom, o blegid nid dyn i gellwair ag ef oedd Abel Hughes. Tra yr oedd Abel yn gweddïo wrth ddechre y cyfarfod, ac wedi can ei lygaid yn dyn, achubai pawb o honom y cyfleusdra i edrych tua sêdd y cloc. Synwyd ni gan eofndra Wil Bryan, oblegid gwelem ef yn symud bys y cloc, ac yna yn gorphwys yn hamddenol ar ei benelinoedd ar ffrynt y gallery, gan roddi winc ar hwn a’r llall. Wedi hyn, gwelem ef yn chwilota ei logellau am friwsion, ac yn ei gollwng i lawr ar ben yr hen Abel. Oherwydd fod Abel wedi ymgolli yn y weddi, neu ynte o herwydd ei fod yn gwisgo cap melfed, nid ymddangosai ei fod yn teimlo dim oddiwrth y briwsion.

 

Nid oedd John Joseph yn bresennol y noswaith hono, ac ni chafwyd hwyl o gwbl ar y cyfarfod. Anmherffaith iawn yr adroddem ein hadnodau, gan fod ein meddyliau yn llofft y capel gyda Wil Bryan, pen yr hwn oedd yn dyfod i’r golwg yn awr ac yn y man. Bob tro y caem gipolwg ar ei wyneb, yr oedd yn gwenu ac yn ymddangos yn mwynhâu ei hun yn braf. Yr wyf yn meddwl mai efe oedd yr unig un nad oedd ei galon yn curo gan ofn. Cawsom gerydd lawer gwaith aan Abel Hughes am adrodd ein hadnodau mor wael, ac am ein bod yn cyfeirio ein llygaid yn barhâus at y cloc, fel pe buasem ar frys am gael myned adref. Ychydig a wyddai efe mai nid ar y cloc yr edrychem, ond ar dop gwallt Wil Bryan. Er fod ein gwynebau yn ddifrifol, blinodd Abel yn ceisio cael ein meddyliau at yr adnodau, ae edrychodd ar y cloc, ac arwyddodd syndod fod yr amser wedi cerdded mor bell. Ar yr un fynyd agorwyd drws y capel, a daeth Marged Ellis, gwraig tŷ’r capel, i mewn. Dechreuodd hi gwyno yn dost wrth Abel ein bod ni y plant yn dyfod i’r cyfarfod cyn yr amser er mwyn chware, a’n bod yn gwneyd trwst enbyd. Gofynodd Abel i Marged pwy oedd euog o hyny, ac atebodd hithau, “Bachgen Hugh Bryan ydi’r gwaetha’ o honyn’ nhw i gyd; ‘roedd o’n enbyd o ddrwg heno.” “Wel, Marged bach,” ebe Abel, “‘rydach chithe fel fine yn myn’d yn hen; ni fu William Bryan yma heno o gwbl, er fod hyny yn beth digon rhyfedd, achos mae William yn ffyddlawn iawn i’r cyfarfod.” “Ydach chi’n meddwl, Abel Hughes,” ebe Marged, “na wn i ddim be dwi’n dd’eyd? Oni weles i o,  ac oni chlywes i o â’m llygid fy hun yn rhedeg ac yn rhampio ar hyd y capel!”  “Rhys,” ebe Abel, gan edrych yn myw fy llygaid, “ddôth William Bryan hefo ti i’r capel heno?” Yn erbyn fy ngwaethaf, rhedodd fy llygaid at sêt y cloc, a gwelwn Wil yn cau ei ddwrn arnaf i beidio dweyd gair. Ni chymeraswn lawer ag agor fy ngenau wedi i Wil gau ei ddwrn; ond ni bu raid i mi yngan dim. Cafodd Marged tŷ’r capel gipolwg ar dop ei wallt yn suddo i’r sêt. “Abel Hughes,” ebe hi, “mae o yn sêt y cloc; mi gweles o’r mynyd ‘ma.” Crynai pob un o honom yn ei le tra y troediai Abel gam neu ddau yn ol â’i gefn at y sêt fawr. Ond yn ei fyw nis gallai efe weled Wil. “Ewch i nol yr hogyn drwg i lawr, Abel Hughes; mae o ene yn siwr i chi,” gwaeddai Marged. Gwelaf Abel wedi cynhyrfu drwyddo yn myned i’r gallery. Teimlwn fy ngalon yn fy ngwddf wrth ei weled yn nesâu at sêt y cloc. Pa fodd bynag, cyn i Abel gyrhaedd y fan, neidiodd Wil i’r sêt nesaf, ac i’r nesaf at hono; a llamodd o’r naill sêt i’r llall nes cyrhaedd pen y grisiau, i lawr yr hen y daeth megys ar un naid. Yn y gwaelod ceisiodd Marged ei ddal, ac wrth ysgythru heibio iddi bu agos i Wil ei thaflu i lawr. Yr oedd Wil ymhell ar ei ffordd gartref cyn i Abel druan droi ar i sawdl. Tra y dadganai Marged tŷ’r capel ei meddwl yn ddigamsyinied ar fuchedd Wil Bryan, ymdrechai yr hen flaenor hybarch feddiannu ei hun; ond yr oedd efe wedi cynhyrfu gymaint fel y bu raid iddo ein gollwng ymaith y noson hono heb weddïo; yn unig rhoddodd siars arnom i fyned adref yn ddystaw, ac i fod yn blant da, a pheidio dilyn esiampl William Bryan. Aeth Abel rhag ei flaen i achwyn wrth Hugh Bryan am ymddygiad anweddaidd ei fab; a chlywais yr olaf yn dyweyd drannoeth na chafodd yn ei fywyd y fath gurfa gan ei dad ag a gawsai y noswaith hono. Nid ydyw yr amgylchiad uchod ond syml a phlentynaidd, ac ni buasai yn werth ei adrodd ond wrthyf fy hunan; ac eto yr wyf yn cofio amser pan edrychwn yn ol at ddygwyddiadau y noswaith hono, ac y cysylltwn gyda hwynt y fath ddyddordeb a phwysigrwydd ag a gysylltai Wellington a Waterloo. Noswaith fawr fy mywyd oedd hi (x29) yr adeg hono. Yn fy ffolineb plentynaidd, edmygwn tu hwnt i bobpeth ddewrder ac eofndra Wil Bryan, a thybiwn nad oedd ei fath yn y byd. Wrth daflu fy meddwl yn ol at yr amgylchiad a gymerodd le yn y seiat plant, nis gallaf erbyn hyn beidio gweled cymeriad Wil Bryan yn yr hedyn o hono, yr hwn ar ol hyny a dyfodd yn bren mawr.

 

Gresyn, gresyn, Wil, na buasit wedi gwrando ar gynghorion difrifol Abel Hughes a John Joseph yn y seiat plant. Pe buasit wedi gwneyd hyny, nid yn y lle yr wyt heddyw y buasit. â wyt ti yn cofio, Wil, o’r man lle’r wyt, fel y byddai Abel Hughes yn ein cynghori i ymgadw oddiwrth bob rhith drygioni, gan ddangos i ni eilwaith ac eilwaith y perygl o rodio ffordd yr annuwiol? A wyt ti yn cofio, tybed, mor daer y byddai efe yn gweddïo drosom, ac fel y byddai yn ein cyflwyno i ofal yr Hwn yr oedd efe ei hun wedi ei gael yn arweinydd ffyddlawn ac yn Iachawdwr galluog? Os wyt, a diammheu genyf dy fod, nid yw dy adgofion, gallwn feddwl, yn felus.

 

 

PENNOD VI.

Y GWYDDEL.

Mae yn debyg nad ydyw fy mhrofiad i yn wahanol i’r eiddo dynion eraill sydd wedi bod yn ceisio myned yn ol at ddechreuad pethau. Mor anhawdd ydyw i mi gael gafael ar ddechreuad unrhyw beth yn fy hanes! Er engraifft, pa bryd y daethum i ddeall fod cysylltiad agosach rhyngof fi a fy mam rhagor â rhyw wraig arall? Pa bryd y dechreuodd y drychfeddwl am Dduw ffurfio yn syniad ynof? Pa bryd y daethum i ddeall fy mod yn fôd gwahanol i bawb? Pa bryd y dechreuodd y syniad am gyfrifoldeb, am bechod, ac am fyd arall ddyfod yn rhan o fy ymwybyddiaeth? ac yn y blaen. Pan geisiaf fyned yn ol, a sefydlu ar bwynt fel dechreuad y syniadau hyn a’r cyffelyb, byddaf yn gweled yn union fy mod yn camgymeryd, a bod y pwynt ymhellach yn ol fyth; ac wrth ei ddilyn, byddaf yn ei golli yn y diddechreuad. Nis gwn pa fodd i roddi cyfrif am hyn. Onid ydyw y côf yn croniclo dechreuad pethau yn y meddwl? A raid i ddechreuad peth fod wedi cymeryd lle am ryw gyhyd o amser (x30) cyn y gall y cof dderbyn yr argraff o hono? Neu, a ydyw dechreuad peth yn y meddwl â’r côf am dano yn gydamserol? A ydyw pob syniad y mae dyn yn dyfod yn feddiannol arno eisoes yn yr enaid er pan grëwyd ef, ond ei fod mewn ystad o gysgadrwydd nes y deffroir ef gan amgylchiadau, neu ynte ai rhyw gyfaddasder sydd yn yr enaid i dderbyn argraffiadau, a’r argraffiadau hyny wrth eu mynychu yn myned yn ddyfnach bob tro nes o’r diwedd ffurfio yn syniadau?

 

Tua’r adeg yr wyf yn ceisio myned yn ol ati, yr wyf yn meddwl mai oddeutu chwe’ mlwydd oed oeddwn, a bod Bob fy mrawd, oddeutu deunaw oed. Yr oedd Bob, fel y tybiwn i, yn ddyn mawr cryf; a digon o brawf o hyny i mi oedd ei fod yn gallu fy nghario ar ei gefn yn ddidrafferth. Gweithiai yn y glo, ac nis edmygodd neb erioed ei frawd yn fyw nag a wnawn i Bob, pan ddeuai adref yn ei glocsiau, â’i lamp yn ei law, ai wyneb can ddued a’r simdde. Cyn y pryd hwn, yr wyf yn tybied nad oeddwn wedi meddwl o ba le yr oedd fy mam a Bob a minnau yn cael ein cynnaliaeth. Pa fodd bynag, yn y cyfnod hwn, neu ynte yn fuan ar ol hyn, daethum i ddeall nad oedd dim o bethau da y byd hwn i’w cael heb brês - gwirionedd yr wyf, er fy ngofid, wedi ei brofi filoedd o weithiau ar ol hyny. Dichon mai y moddion trwy ba un y daethum i ddeall hyn oedd fy ngwaith yn gofyn yn feunyddiol i fy mam am y peth yma a’r peth arall, a’i gwaith hithau yn ateb nad oedd ganddi brês i’w geisio. Yr wyf yn cofio y byddai rhyw ddyddordeb mawr i mi ynglŷn yr adeg y byddai Bob yn dwyn ei gyflog gartref. Eisteddem ein tri o gylch y tân tra y gwaghâi Bob ei boced i ffedog fy mam. Cyfrifai fy mam y cyflog lawer gwaith drosodd. Ystyriwn fod swm yr arian yn fawr iawn, a methwn a deall yn glir pa fodd yr oedd fy mam yn dyweyd nad oedd ganddi brês, a hithau yn derbyn cymaint gan Bob. Sylwn y byddai fy mam wrth gyfrif yr arian ar rai adegau yn edrych yn llawen, ac ar adegan eraill yn brudd iawn; a phob amser ar ol eu cyfrif edrychai yn synfyfyriol. Dychymygwn mai synu y byddai hi fod ganddi gymaint o arian. Druan oeddwn! Beth pe buaswn yn gwybod mai dyfeisio a phensynu y byddai hi pa fodd i’w rhoi allan, pa fodd i allu talu i bawb gyda’r ychydig sylltau oeddynt yn ei ffedog! Wrth i mi daflu fy meddwl yn ol, a chofio pa faint oedd swm cyflog Bob - y fath chancellor of the exchequer raid fod fy hen fam! Yr wyf yn cofio yn dda y byddai fy mam a Bob, ar ol (x31)  cyfrif yr arian, yn siarad cryn lawer yn gyfrinachol, ac mewn iaith nad oeddwn i yn ei deall, oddigerth y geiriau “rhent,” a “siop.” Rywbryd yn y cyfnod hwn daethum i edrych yn mlaen at ddiwrnod y cyflog gydag awch, oblegid byddai fy mam, ar ol cael y prês, yn myned i’r shop i nôl bwyd; ac am un diwrnod, fodd bynag, byddai genym gyflawnder o ymborth, Càn lleied o bobl, fel mae’r goreu, sydd wedi profi y dirfawr bleser o gael cyflawnder o ymborth. Yr wyf yn meddwl nad ŵyr neb am y pleser hwnw ond y rhai, fel fy hunan, sydd yn gwybod beth ydyw bod yn brin o luniaeth. Prin a ddywedais? Ie, bod heb ddim! ond bydd raid i mi gyfeirio at hyny eto.

 

Fel yr awgrymais yn barod, yr oedd Wil Bryan a minnau yn gyfeillion mawr, ac nis gallaf beidio cysylltu gydag ef greadigaeth neu gynhyrfiad meddyliau a syniadau yn fy enaid. Mae y côf yn fyw ynof fel y byddwn yn cenfigenu at Wil Bryan. Cadwai ei dad shop fawr, fel y tybiwn i, yn yr hon yr oedd cyflawnder o bobpeth. Yr oedd Wil yn cael tatws a chig i’w ginio bob dydd, a minnau yn cael browes. Yr oedd Wil yn cael dillad newydd yn fynych, tra mai hen ddillad Bob fy mhrawd, wedi ei hailwneyd gan fy mam, a gawn i fyth a hefyd. Yr oedd Wil yn cael ceiniog bob dydd Sadwrn, tra nad oeddwn i byth yn gweled un ond pan waghâi Bob ei boced i ffedog fy mam. Ond yr hyn a barai i mi edrych ar Wil fel y bachgen dedwyddaf ar y ddaear oedd, y ffaith fod ganddo ful bach byw! Yr adeg hono nid oeddwn yn gwybod am ddim yn y byd mawr llydan y buaswn yn ei ddymuno yn, fwy na chael mul bach yr un fath ag un Wil Bryan. Nid myfi oedd yr unig un a edmygai sefyllfa hapus Wil: yr oedd yn deimlad cyffredinol ymhlith fy nghyfoedion. Ac nid oedd Wil ei hun yn anymwybodol o’i uchafiaeth arnom oll; oblegid os byddai rhai o honom wedi troseddu yn ei erbyn, y gosbedigaeth drymaf oedd yn bosibl ei gweinyddu a fyddai, nad oeddem i gael dyfod yn agos at y mul bach, yr hyn fel rheol a’n dygai yn union deg yn edifeiriol wrth ei draed. Mewn gair, yr oedd Wil, yn rhinwedd ei ful bach, yn ein gorthrymu yn enbyd; yn gymaint felly fel y darfu iddo (yr wyf yn cofio yr adeg yn dda) yn un o’n cyfarfyddiadau, pan oedd un o honom yn crwydro oddiwrth y pwnc - y darfu iddo, meddaf, roddi gorchymyn allan nad oedd un o honom, heb ei ganiatad ef, i sôn gair am ddim oll ond am (x32) y mul bach, ac nid oedd genym ninnau ddim i’w wneyd ond ymostwng yn dawel i’r gorchymyn. Wrth i mi adfyfyrio, gynifer o bobl mewn oed ac ymhob sefyllfa yr wyf wedi dyfod i gysylltiad â hwynt yn ystod fy oes sydd yn gwneyd capital o’u mulod bychain.

 

Wel, ni fuaswn yn sôn am hyn oni buasai fod mul bach Wil Bryan wedi bod yn achlysur i gynhyrfu neu ynte i greu ymofyniad yn fy enaid. Yr wyf yn cofio fy mod un tro yn synfyfyrio ar, ac yn cenfigenu at sefyllfa hapus a manteision goruchel Wil rhagor yr eiddof fi, a fy mod yn ceisio rhoddi cyfrif i mi fy hun am y gwahaniaeth, pryd y daethum i’r penderfyniad mai yr unig reswm ydoedd hwn, - fod gan Wil dad, tra nad oedd genyf fi yr un. Paham yr oeddwn i heb dad? Pan ofynais y cwestiwn i fy mam, edrychodd yn gynhyrfus, a neidiodd y dagrau i’w llygaid; ond ni atebodd hi air, a cheisiodd droi fy sylw at rywbeth arall. Gwesgais innau y cwestiwn ati drachefn, a gofynais ai wedi marw yr oedd fy nhad. “Ië,” ebe hi, “mae dy dad di, ’y ngwas gwirion i, yn farw mewn camwedd a phechod.” Byddai fy mam yn gyffredin yn siarad mewn ieithwedd ysgrythyrol. Nid oeddwn yn deall yr ymadrodd; ond cymerais ef i arwyddo fod fy nhad wedi ei osod yn y “twll du,” fel y galwn i y bedd yr adeg hono. Parodd y syniad dristwch mawr i mi ar y pryd; ond aeth heibio yn fuan. Toc ar ol hyn - nis gallaf fod yn fanwl i ychydig fisoedd - yr wyf yn cofio fod fy mam wedi bod yn y shop; oblegid noswaith y cyflog ydoedd, a’n bod newydd orphen swper da. Eisteddem ein tri o gylch y tân, a theimlwn i yn hapus iawn, gan nad pa fodd y teimlai fy mam a Bob. Byddai fy mam yn caniatau i mi gael aros i fyny awr neu ddwy yn hwyrach ar y noswaith y byddai Bob yn derbyn ei gyflog. Nis gallaf yn awr gyfleu mewn geiriau y dirfawr foddhad a hapusrwydd yr oedd cael aros i fyny yn hwyr yn ei fforddio i mi. Wrth feddwl càn lleied peth oedd yn rhoddi i mi y fath ddedwyddwch pan oeddwn fachgen, byddaf yn gofidio yn fy nghalon na fuasai yn bosibl i mi aros yn fachgen byth. Eisteddem ein tri o amgylch y tân, meddaf; y gauaf oedd hi, ac yr oedd y noswaith yn oer ac ystormus. Eisteddwn i ar fy ystôl fach, gan wrando ar y gwynt yn rhuo yn y simdde, ac yn chwibanu yn nhwll y clo. Teimlwn yn gysgadlyd iawn, ond gwnawn ymdrech egniol i beidio cau fy llygaid rhag i fy mam fy anfon i’r gwely, a rhag i mi fforffedio cael aros i (x33) fyny yn hwyr noswaith y cyflog canlynol. Pan oeddwn bron a chael fy nghorchfygu gan gwsg, clywn rywun yn curo y drws, yr hyn a’m gwnaeth yn effro iawn. Cyn i neb gael amser i agor, daeth i mewn ddyn anolygus a chauodd y drws ar ei ol, a cherddodd yn syth at y tân heb ddyweyd gair. Càn gynted ag y gwelais ef penderfynais yn fy meddwl mai dyn drwg ydoedd. Yr oedd yn fudr a charpiog, a llanwodd y tŷ o arogl annymunol. Hyd yn nôd pan glywais ef yn siarad Cymraeg, yr oeddwn yn sicr yn fy meddwl mai Gwyddel ydoedd. Yr adeg hono, tybiwn mai Gwyddel oedd pob un a fyddai yn fudr a charpiog. Pan ddaeth efe i’r tŷ, neidiodd Bob ar ei draed, a’i wyneb càn wyned a’r galchen, a chrynai drwyddo. Gwyddwn ar osgo Bob ei fod am goleru y dyn a’i droi allan; gwaith a fedrai yn hawdd, oblegid nid oedd y dyn ond eiddil a gwanaidd, tra yr oedd Bob yn grwmffast cryf a chrwn. Deallodd fy mam ei fwriad, a chrefodd yn grynedig arno i ymattal.

 

Yn fy meddwl, ni welswn neb erioed can hylled, taiog, a brwnt yr olwg ag ydoedd y dyeithrddyn, a synwn at ei hyfdra yn dyfod felly i’n tŷ ni. Ni welais fy mam erioed wedi cynhyrfu yn gymaint, ac yn y fath drafferth i lywodraethu ei hun, tra y dywedai rywbeth i’r perwyl canlynol, “James, yr wyf wedi dyweyd wrthych lawer gwaith nad ydych i ddyfod yma: nid oes arnaf eisieu eich gweled byth.” Ni chymerai y dyeithryn arno ei chlywed, ond yn hytrach ceisiai wneyd ffrynd o honof fi, gan siarad yn dyner wrthyf, a chan fy ngalw wrth fy enw. Synwn yn fawr sut yr oedd efe yn gwybod fy enw, a chwiliwn oddiwrtho fel oddiwrth sarph. O’r diwedd, cymerodd afael ynof gan geisio fy ngosod ar ei lin, ac aethum innau yn nwydwyllt; a chyda fy nwrn bychan, tarewais ef fy ngoreu yn nghanol ei wyneb, ac ar yr un pryd, tynodd Bob fi o’i afaelion. Gofynodd fy mam iddo drachefn fyned ymaith; ond nid äi efe, a chododd Bob eilwaith ar ei draed ar fedr ei fwrw ef allan trwy drais; ond attaliwyd ef eto gan fy mam. Teimlwn yn ddig enbyd wrthi am rwystro Bob ei fwrw ef allan. Gofynodd y “Gwyddel,” fel y galwn ef, am ymborth: a synais weled fy mam yn gosod lluniaeth o’i flaen. Bwytäodd swm digydwybod, a thybiwn unwaith na doedd yn meddwl rhoi heibio. Gwarafunwn ni bob tamaid iddo, a gwyddwn fod Bob o’r un meddwl; oblegid eisteddwn ar ei lin, a theimlwn ei liniau yn crynu yn barhaus gan ddigofaint    (x34) Wedi i’r “Gwyddel” orphen bwyta, closiodd at y tan yn hamddenol, fel pe buasai ar fedr aros trwy y nos. Erfyniodd fy mam arno wedyn fyned ymaith; ond nid äi efe heb gael arian. Er fy mawr syndod, gwelwn fy mam yn estyn swm o arian iddo. Parodd hyn i Bob fyned i dymher ddrwg; a chof genyf ei fod yn dyweyd yn ddigofus fod fy mam wedi ynfydu, ac nad äi efe byth i’r glo i chwysu a baeddu os oedd am roddi ei ennillion caled i scamp meddw lladronllyd. Teimlwn innau yn ddigllawn fod fy mam wedi rhoddi i’r “Gwyddel” fwy o arian nag a fuasai yn angenrheidiol i brynu mul bach byw yr un fath ag un Wil Bryan. Ar yr un pryd, er mor ieuanc oeddwn, cydymdeimlwn yn fawr â fy mam; oblegid yr oedd argraff ar fy meddwl fod gan y dyeithryn ryw ddylanwad dirgelaidd arni, nad oedd ganddi mo’r help am yr hyn a wnelai. Nid oedd tymher ddrwg Bob yn effeithio dim ar y “Gwyddel.” Wedi iddo gael yr arian, ymddangosai yn fwy penderfynol i aros. Taniodd ei getyn, a dechreuodd ddattod careïau ei esgidiau.

 

Wrth weled hyn, collodd Bob bob amynedd; neidiodd ar ei draed, agorodd y drws yn llydan agored, gafaelodd yn ngwar y “Gwyddel,” a thaflodd ef i’r heol fel burgyn, a bariodd y drws. Oddeutu chwarter mynyd a gymerodd i Bob i fyned trwy y gwaith hwn; a churais innau fy nwylaw mewn llawenydd, nes y gwelais fod fy mam yn llesmeirio. Tybiais ei bod yn marw, ac yr oeddwn bron a gwallgofi gan ofn. Pa fodd bynag, wedi i Bob gymhwyso dwfr oer at ei hwyneb, dadebrodd a dechreuodd wylo; a chydunwyd â hi yn hyn o orchwyl gan Bob a minnau am spel. Wedi ymdawelu, ymgofynodd fy mam â Bob yn gyfrinachol; ond deallwn yn burion mai y “Gwyddel” oedd y testyn, yr hwn a alwent “y fo.” Er holi ac ymofyn yn daer gyda fy mam a Bob, methais yn hollol gael gwybod pwy oedd y dyeithryn. Yr unig ateb a gawn oedd, mai dyn drwg ydoedd, ac ara i mi beidio sôn am dano wrth neb. Wel, da i rai a fuasai pe nas cawswn fwy o wybodaeth yn ei gylch mewn amser dilynol. Ond nid felly y gwelodd rhagluniaeth yn oreu. Onid y “Gwyddel” sydd wedi chwerwi fy holl oes? Onid efe sydd wedi rhoddi wermod yn fy nghwpanau melusaf? Mor wahanol a fuasai fy hanes pe na buasai am dano ef? Pan dybiai fy nghyfeillion (x35) fy mod yn hapus a dedwydd, byddai efe fel fy ysbryd drwg yn diflasu pob mwyniant yn fy mynwes, ac fel hunllef arnaf pan ddylaswn fod yn gorphwyso.

 

PENNOD VII.

Y DDWY YSGOL.

Gallwn feddwl fod pob dyn ymhob man yn meddu syniad, pa mor gywir bynag, am dano ei hun, sef am ei ymddangosiad personol, am ei alluoedd corfforol a meddyliol, ac am ei sefyllfa gymdeithasol. Mewn geiriau eraill, mae gan bob dyn syniad am ei faint; ond nid bob amser y bydd efe yn gwneyd y syniad hwn yn hysbys i eraill. Fel rheol, ceidw ef iddo ei hun. Dichon fod rhesymau cryfion i’w rhoddi dros ei ymddygiad. Mae yn sefyll i reswm mai y dyn ei hun a ŵyr oren am dano ei hun; ac efe yw y cymhwysaf i ffurfio syniad cywir. Ond os bydd yn ŵr gweddol alluog, ni faidd fynegu hyn heb beryglu tynu ei hun i lawr yn syniadau eraill, a gosod ei hun yn is yn eu meddyliau nag ydyw yn ei feddwl ei hun. Rhyw un ymhob miliwn o bobl sydd yn meiddio, fel yr apostol Paul, fynegu yn ddigryn ei ragoriaeth ar eraill; ond y mae y cyfartaledd yn llawer mwy o’r rhai sydd yn credu yn eu rhagoriaeth. Cymaint ydyw dysgleirdeb prydferthwch gostyngeiddrwydd yn ngolwg dynion, fel y mae byd yn nôd gonestrwydd yn gorfod gwisgo gorchudd dros ei lygaid yn ei bresennoldeb. Mor fawr raid fod yr Hwn oedd yn gallu gwneyd y fath fynegiadau a honiadau, ac ar yr un pryd heb lychwino dim ar ei ostyngeiddrwydd a’i ledneisrwydd. Tybir yn gyffredin y dylai mawredd a gostyneiddrwydd gydfyned â’u gilydd; ac eto y mae lle i feddwl nad ydyw yr hyn a elwir yn ostyngeiddrwydd ymhlith dynion, yn fynych iawn, ond ffurf arall ar ddoethineb, neu yn hytrach gyfrwysdra. Tybier fod y Doctor - pan yn nghanol ei frodyr yn y gymanfa, yn eu hannerch fel hyn. “Wel frodyr anwyl, chwi a wyddoch fy mod yn alluocach na chwi oll - y gallaf ysgrifenu traethawd neu gyfansoddi pregeth, pan geisiaf, yn llawer rhagorach na neb o honoch. Mewn gair, gwyddoch fy mod o ran cynneddfau naturiol a diwylliant gymaint â dwsin o rai (x36) o honoch, ac yn fwy na dau o’ch goreuon.” Beth a ddywedai ei frodyr? Oni edrychent ar eu gilydd? ac oni fyddai yn yr edrychiad awgrym fod y llefarwr yn dechre dyrysu? ac eto pwy a ŵyr yn well na’r llefarwr ei hun fod yr hyn a roddir yn ei enau genyf fi yn wir bob gair, er na chymerai efe y byd am ddyweyd hyny? Teimla y dyn gwir fawr y gall ymddiried i eraill ffurfio eu syniadau am dano heb iddo ef eu cyfarwyddo, ac mai y tebygolrwydd fydd iddynt synied yn rhy uchel am dano; a gwell ganddo iddynt gyfeiliorni yn y ffordd hono na’r ffordd arall. Nid oes gormod o barodrwydd yn y mawr na’r bychan i gywiro eraill, os byddant yn tueddu i synied yn rhy dda am danynt.

 

Yr wyf yn brofiadol mai teimlad anghysurus ydyw yr ymwybyddiaeth o fychander; a dichon mai hyn ydyw y rheswm fod y bychan bob amser yn gwneyd ymdrech i ddangos yr oll o hono ei hun, a hyny i’r fantais oreu. Mae hyn i’w weled mewn creaduriaid eraill heblaw dynion. Y dydd o’r blaen edrychwn ar ddau geiliog ar y domen - y Cochin China mawr heglog a phenuchel, a’r dandy bychan twt. Edrychai y blaenaf yn swrth a didaro, a hollol foddlawn ar ei sefyllfa. Ond am y dandy, O fel y gwthiai ei frest allan, gan sefyll ar flaenau ei draed, a dal ei ben a’i gynffon mor uchel nes oeddynt ymron cyffwrdd â’u gilydd! Canai a chanai drachefn mewn llais clir; a cheisiai, fel y tybiwn i, dynu cweryl â’r Cochin China. Troai o’i gwmpas; ac, yn ei ffordd ef, dywedai, “Wyt ti ddim yn gwel’d fy mron a fy nghynffon? Does gen’ ti’r un gynffon fel hon?” Ni chymerai y Cochin China arno ei glywed. Ond o’r diwedd, canodd yntau; ac yr oedd ei gân yn fwy tebyg i ochenaid nag i ddim arall, a thybiwn mai tosturio yr oedd efe at fychander y dandy. Nis gwn pa un ai y Cochin China a’r dandy sydd yn efelychu dynion, ynte ai dynion sydd yn eu hefelychu hwy; ond amlwg ydyw fod tebygolrwydd rhyngddynt. Ond hyn yr oeddwn yn myned i’w ofyn: “Rhys, pa syniad yr wyt ti wedi ei ffurfio am danat ti dy hun? Nid oes yma neb yn gwrando; ac felly gelli ateb yn onest, heb fawr berygl i neb dybied dy fod yn hunanol nac yn ffugostyngedig. Yr wyt yn bregethwr, yn fugail, yn prydyddu weithiau, ac yn ysgrifenu yn achlysurol i’r cyfnodolion. Pa safle yr wyt yn ddal yn dy feddwl dy hun?” Wel, ceisiaf roi fy nhroed ar wddf balchder ac ateb yn onest heb dwyllo fy hun, gan nad oes yma neb dynion yn gwrando.


(x37)

Mae yr Hwn a ŵyr bobpeth yn gwybod fy mod yn yr hyn y dylwn ac y dymunwn fod fwyaf ynddo, sef crefydd a phrofiad o bethau ysbrydol, yn ofidus o fychan. A pho fwyaf yr wyf yn geisio ymwneyd â phethau Dwyfol a thragywyddol, mwyaf oll yr wyf yn teimlo yr afael sydd gan y ddaear arnaf, a thrymaf oll yw y pwysau sydd yn fy nal i lawr. Oni bae fod dadganiadau y gair ysbrydoledig mor bendant a chryfion am allu a gras y Gwaredwr, buaswn wedi suddo i anobaith o dan lwyth calon lygredig a chydwybod euog. Fy ngweddi o ddyfnder fy nghalon ydyw, ar iddo Ef fy nerthu yn y ffydd.

Gyda golwg ar fy ymddangosiad personol, gwn nad oes dim yn serch-hudol ynof, a byddaf yn synu weithiau wrth gofio fod un, rywdro, wedi fy hoffi, fel y caf, hwyrach, gyfleusdra i gyfeirio at hyn eto. Bum lawer gwaith yn cenfigenu at allu ymddyddanol Glàn Alun, yr hwn oedd yn peri i bawb anghofio ei berson.
Y dyn anwyl! mae yn well genyf am danat nag am gant o’r dynion golygus, twt, ond dienaid yma! Ar yr un pryd, byddaf yn ceisio credu nad oes dim yn anghynhesol yn fy ymddangosiad. Tybed a ydwyf yn camgymeryd? Pa fodd bynag, buaswn yn fwy na boddlawn i fod yn Thomas John pe buasai bosibl cael ei enaid hynod. Er y cwbl, y mae ymddangosiad prydferth a thywysogaidd yn glamp o beth i bregethwr; ac y mae yr hwn sydd yn dringo i bulpud hebddo at a discount.

O ran cynneddfau naturiol - wel, ie, nid oes yma neb yn gwrando - yr wyf yn meddwl eu bod yn rhagori ar eiddo rhai o fy mrodyr. Maent yn gwybod hyny, neu o leiaf dylent wybod. Ni chymerwn lawer a dyweyd hyn wrth neb, a phe dywedai rhywun hyny wrthyf, mae yn sicr y protestiwn yn erbyn y peth; a chyfrifid hyny, hwyrach, yn ostyngeiddrwydd ynof.

Gyda golwg ar fy ngwybodaeth, nid wyf nac yma nac acw. Yn wir, y mae yn yr eglwys yma hogiau sydd yn gwybod mwy o lawer na mi mewn rhyw bethau; a byddaf ar fy ngoreu yn aml rhag iddynt ddyfod i ddeall hyny. Dyna ddaearyddiaeth, er engraifft: nis gwn i y nesaf peth i ddim am y wybodaeth werthfawr hono; a phan fydd un o’r hogiau yn y cyfarfod yn gofyn cwestiwn i mi yn y cyfeiriad hwnw byddaf yn gorfod arfer cyfrwysdra mawr i guddio fy anwybodaeth; oblegid ni wnai y tro iddynt deall mai anwybodus ydwyf, a minnau yn weinidog yr eglwys; canys creda y bechgyn,


tudalen *0038  i’w ychwanegu   (x38)
tudalen *0039  i’w ychwanegu   (x39)
tudalen *0040  i’w ychwanegu   (x40)
tudalen *0041  i’w ychwanegu   (x41)
tudalen *0042  i’w ychwanegu   (x42)
tudalen *0043  i’w ychwanegu   (x43)
tudalen *0044  i’w ychwanegu   (x44)
tudalen *0045  i’w ychwanegu   (x45)
tudalen *0046  i’w ychwanegu   (x46)
tudalen *0047  i’w ychwanegu   (x47)
tudalen *0048  i’w ychwanegu   (x48)
tudalen *0049  i’w ychwanegu   (x49)
tudalen *0050  i’w ychwanegu   (x50)
tudalen *0051  i’w ychwanegu   (x51)
tudalen *0052  i’w ychwanegu   (x52)
tudalen *0053  i’w ychwanegu   (x53)
tudalen *0054  i’w ychwanegu   (x54)
tudalen *0055  i’w ychwanegu   (x55)
tudalen *0056  i’w ychwanegu   (x56)
tudalen *0057  i’w ychwanegu   (x57)
tudalen *0058  i’w ychwanegu   (x58)
tudalen *0059  i’w ychwanegu   (x59)
tudalen *0060  i’w ychwanegu   (x60)
tudalen *0061  i’w ychwanegu   (x61)
tudalen *0062  i’w ychwanegu   (x62)
tudalen *0063  i’w ychwanegu   (x63)
tudalen *0064  i’w ychwanegu   (x64)
tudalen *0065  i’w ychwanegu   (x65)
tudalen *0066  i’w ychwanegu   (x66)
tudalen *0067  i’w ychwanegu   (x67)
tudalen *0068  i’w ychwanegu   (x68)
tudalen *0069  i’w ychwanegu   (x69)
tudalen *0070  i’w ychwanegu   (x70)
tudalen *0071  i’w ychwanegu   (x71)
tudalen *0072  i’w ychwanegu   (x72)
tudalen *0073  i’w ychwanegu   (x73)
tudalen *0074  i’w ychwanegu   (x74)
tudalen *0075  i’w ychwanegu   (x75)
tudalen *0076  i’w ychwanegu   (x76)
tudalen *0077  i’w ychwanegu   (x77)
tudalen *0078  i’w ychwanegu   (x78)
tudalen *0079  i’w ychwanegu   (x79)
tudalen *0080  i’w ychwanegu   (x80)
tudalen *0081  i’w ychwanegu   (x81)
tudalen *0082  i’w ychwanegu   (x82)
tudalen *0083  i’w ychwanegu   (x83)
tudalen *0084  i’w ychwanegu   (x84)
tudalen *0085  i’w ychwanegu   (x85)
tudalen *0086  i’w ychwanegu   (x86)
tudalen *0087  i’w ychwanegu   (x87)
tudalen *0088  i’w ychwanegu   (x88)
tudalen *0089  i’w ychwanegu   (x89)
tudalen *0090  i’w ychwanegu   (x90)
tudalen *0091  i’w ychwanegu   (x91)
tudalen *0092  i’w ychwanegu   (x92)
tudalen *0093  i’w ychwanegu   (x93)
tudalen *0094  i’w ychwanegu   (x94)
tudalen *0095  i’w ychwanegu   (x95)
tudalen *0096  i’w ychwanegu   (x96)
tudalen *0097  i’w ychwanegu   (x97)
tudalen *0098  i’w ychwanegu   (x98)
tudalen *0099  i’w ychwanegu   (x99)
tudalen *0100  i’w ychwanegu   (x100)
tudalen *0101  i’w ychwanegu   (x101)
tudalen *0102  i’w ychwanegu   (x102)
tudalen *0103  i’w ychwanegu   (x103)
tudalen *0104  i’w ychwanegu   (x104)
tudalen *0105  i’w ychwanegu   (x105)
tudalen *0106  i’w ychwanegu   (x106)
tudalen *0107  i’w ychwanegu   (x107)
tudalen *0108  i’w ychwanegu   (x108)
tudalen *0109  i’w ychwanegu   (x109)
tudalen *0110  i’w ychwanegu   (x110)
tudalen *0111  i’w ychwanegu   (x111)
tudalen *0112  i’w ychwanegu   (x112)
tudalen *0113  i’w ychwanegu   (x113)
tudalen *0114  i’w ychwanegu   (x114)
tudalen *0115  i’w ychwanegu   (x115)
tudalen *0116  i’w ychwanegu   (x116)
tudalen *0117  i’w ychwanegu   (x117)
tudalen *0118  i’w ychwanegu   (x118)
tudalen *0119  i’w ychwanegu   (x119)
tudalen *0120  i’w ychwanegu   (x120)
tudalen *0121  i’w ychwanegu   (x121)
tudalen *0122  i’w ychwanegu   (x122)
tudalen *0123  i’w ychwanegu   (x123)
tudalen *0124  i’w ychwanegu   (x124)
tudalen *0125  i’w ychwanegu   (x125)
tudalen *0126  i’w ychwanegu   (x126)
tudalen *0127  i’w ychwanegu   (x127)
tudalen *0128  i’w ychwanegu   (x128)
tudalen *0129  i’w ychwanegu   (x129)
tudalen *0130  i’w ychwanegu   (x130)
tudalen *0131  i’w ychwanegu   (x131)
tudalen *0132  i’w ychwanegu   (x132)
tudalen *0133  i’w ychwanegu   (x133)
tudalen *0134  i’w ychwanegu   (x134)
tudalen *0135  i’w ychwanegu   (x135)
tudalen *0136  i’w ychwanegu   (x136)
tudalen *0137  i’w ychwanegu   (x137)
tudalen *0138  i’w ychwanegu   (x138)
tudalen *0139  i’w ychwanegu   (x139)
tudalen *0140  i’w ychwanegu   (x140)
tudalen *0141  i’w ychwanegu   (x141)
tudalen *0142  i’w ychwanegu   (x142)
tudalen *0143  i’w ychwanegu   (x143)
tudalen *0144  i’w ychwanegu   (x144)
tudalen *0145  i’w ychwanegu   (x145)
tudalen *0146  i’w ychwanegu   (x146)
tudalen *0147  i’w ychwanegu   (x147)
tudalen *0148  i’w ychwanegu   (x148)
tudalen *0149  i’w ychwanegu   (x149)
tudalen *0150  i’w ychwanegu   (x150)
tudalen *0151  i’w ychwanegu   (x151)
tudalen *0152  i’w ychwanegu   (x152)
tudalen *0153  i’w ychwanegu   (x153)
tudalen *0154  i’w ychwanegu   (x154)
tudalen *0155  i’w ychwanegu   (x155)
tudalen *0156  i’w ychwanegu   (x156)
tudalen *0157  i’w ychwanegu   (x157)
tudalen *0158  i’w ychwanegu   (x158)
tudalen *0159  i’w ychwanegu   (x159)
tudalen *0160  i’w ychwanegu   (x160)
tudalen *0161  i’w ychwanegu   (x161)
tudalen *0162  i’w ychwanegu   (x162)
tudalen *0163  i’w ychwanegu   (x163)
tudalen *0164  i’w ychwanegu   (x164)
tudalen *0165  i’w ychwanegu   (x165)
tudalen *0166  i’w ychwanegu   (x166)
tudalen *0167  i’w ychwanegu   (x167)
tudalen *0168  i’w ychwanegu   (x168)
tudalen *0169  i’w ychwanegu   (x169)
tudalen *0170  i’w ychwanegu   (x170)
tudalen *0171  i’w ychwanegu   (x171)
tudalen *0172  i’w ychwanegu   (x172)
tudalen *0173  i’w ychwanegu   (x173)
tudalen *0174  i’w ychwanegu   (x174)
tudalen *0175  i’w ychwanegu   (x175)
tudalen *0176  i’w ychwanegu   (x176)
tudalen *0177  i’w ychwanegu   (x177)
tudalen *0178  i’w ychwanegu   (x178)
tudalen *0179  i’w ychwanegu   (x179)
tudalen *0180  i’w ychwanegu   (x180)
tudalen *0181  i’w ychwanegu   (x181)
tudalen *0182  i’w ychwanegu   (x182)
tudalen *0183  i’w ychwanegu   (x183)
tudalen *0184  i’w ychwanegu   (x184)
tudalen *0185  i’w ychwanegu   (x185)
tudalen *0186  i’w ychwanegu   (x186)
tudalen *0187  i’w ychwanegu   (x187)
tudalen *0188  i’w ychwanegu   (x188)
tudalen *0189  i’w ychwanegu   (x189)
tudalen *0190  i’w ychwanegu   (x190)
tudalen *0191  i’w ychwanegu   (x191)
tudalen *0192  i’w ychwanegu   (x192)
tudalen *0193  i’w ychwanegu   (x193)
tudalen *0194  i’w ychwanegu   (x194)
tudalen *0195  i’w ychwanegu   (x195)
tudalen *0196  i’w ychwanegu   (x196)
tudalen *0197  i’w ychwanegu   (x197)
tudalen *0198  i’w ychwanegu   (x198)
tudalen *0199  i’w ychwanegu   (x199)
tudalen *0200  i’w ychwanegu   (x200)
tudalen *0201  i’w ychwanegu   (x201)
tudalen *0202  i’w ychwanegu   (x202)
tudalen *0203  i’w ychwanegu   (x203)
tudalen *0204  i’w ychwanegu   (x204)
tudalen *0205  i’w ychwanegu   (x205)
tudalen *0206  i’w ychwanegu   (x206)
tudalen *0207  i’w ychwanegu   (x207)
tudalen *0208  i’w ychwanegu   (x208)
tudalen *0209  i’w ychwanegu   (x209)
tudalen *0210  i’w ychwanegu   (x210)
tudalen *0211  i’w ychwanegu   (x211)
tudalen *0212  i’w ychwanegu   (x212)
tudalen *0213  i’w ychwanegu   (x213)
tudalen *0214  i’w ychwanegu   (x214)
tudalen *0215  i’w ychwanegu   (x215)
tudalen *0216  i’w ychwanegu   (x216)
tudalen *0217  i’w ychwanegu   (x217)
tudalen *0218  i’w ychwanegu   (x218)
tudalen *0219  i’w ychwanegu   (x219)
tudalen *0220  i’w ychwanegu   (x220)
tudalen *0221  i’w ychwanegu   (x221)
tudalen *0222  i’w ychwanegu   (x222)
tudalen *0223  i’w ychwanegu   (x223)
tudalen *0224  i’w ychwanegu   (x224)
tudalen *0225  i’w ychwanegu   (x225)
tudalen *0226  i’w ychwanegu   (x226)
tudalen *0227  i’w ychwanegu   (x227)
tudalen *0228  i’w ychwanegu   (x228)
tudalen *0229  i’w ychwanegu   (x229)
tudalen *0230  i’w ychwanegu   (x230)
tudalen *0231  i’w ychwanegu   (x231)
tudalen *0232  i’w ychwanegu   (x232)
tudalen *0233  i’w ychwanegu   (x233)
tudalen *0234  i’w ychwanegu   (x234)
tudalen *0235  i’w ychwanegu   (x235)
tudalen *0236  i’w ychwanegu   (x236)
tudalen *0237  i’w ychwanegu   (x237)
tudalen *0238  i’w ychwanegu   (x238)
tudalen *0239  i’w ychwanegu   (x239)
tudalen *0240  i’w ychwanegu   (x240)
tudalen *0241  i’w ychwanegu   (x241)
tudalen *0242  i’w ychwanegu   (x242)
tudalen *0243  i’w ychwanegu   (x243)
tudalen *0244  i’w ychwanegu   (x244)
tudalen *0245  i’w ychwanegu   (x245)
tudalen *0246  i’w ychwanegu   (x246)
tudalen *0247  i’w ychwanegu   (x247)
tudalen *0248  i’w ychwanegu   (x248)
tudalen *0249  i’w ychwanegu   (x249)
tudalen *0250  i’w ychwanegu   (x250)
tudalen *0251  i’w ychwanegu   (x251)
tudalen *0252  i’w ychwanegu   (x252)
tudalen *0253  i’w ychwanegu   (x253)
tudalen *0254  i’w ychwanegu   (x254)
tudalen *0255  i’w ychwanegu   (x255)
tudalen *0256  i’w ychwanegu   (x256)
tudalen *0257  i’w ychwanegu   (x257)
tudalen *0258  i’w ychwanegu   (x258)
tudalen *0259  i’w ychwanegu   (x259)
tudalen *0260  i’w ychwanegu   (x260)
tudalen *0261  i’w ychwanegu   (x261)
tudalen *0262  i’w ychwanegu   (x262)
tudalen *0263  i’w ychwanegu   (x263)
tudalen *0264  i’w ychwanegu   (x264)
tudalen *0265  i’w ychwanegu   (x265)
tudalen *0266  i’w ychwanegu   (x266)
tudalen *0267  i’w ychwanegu   (x267)
tudalen *0268  i’w ychwanegu   (x268)
tudalen *0269  i’w ychwanegu   (x269)
tudalen *0270  i’w ychwanegu   (x270)
tudalen *0271  i’w ychwanegu   (x271)
tudalen *0272  i’w ychwanegu   (x272)
tudalen *0273  i’w ychwanegu   (x273)
tudalen *0274  i’w ychwanegu   (x274)
tudalen *0275  i’w ychwanegu   (x275)
tudalen *0276  i’w ychwanegu   (x276)
tudalen *0277  i’w ychwanegu   (x277)
tudalen *0278  i’w ychwanegu   (x278)
tudalen *0279  i’w ychwanegu   (x279)
tudalen *0280  i’w ychwanegu   (x280)
tudalen *0281  i’w ychwanegu   (x281)
tudalen *0282  i’w ychwanegu   (x282)
tudalen *0283  i’w ychwanegu   (x283)
tudalen *0284  i’w ychwanegu   (x284)
tudalen *0285  i’w ychwanegu   (x285)
tudalen *0286  i’w ychwanegu   (x286)
tudalen *0287  i’w ychwanegu   (x287)
tudalen *0288  i’w ychwanegu   (x288)
tudalen *0289  i’w ychwanegu   (x289)
tudalen *0290  i’w ychwanegu   (x290)
tudalen *0291  i’w ychwanegu   (x291)
tudalen *0292  i’w ychwanegu   (x292)
tudalen *0293  i’w ychwanegu   (x293)
tudalen *0294  i’w ychwanegu   (x294)
tudalen *0295  i’w ychwanegu   (x295)
tudalen *0296  i’w ychwanegu   (x296)
tudalen *0297  i’w ychwanegu   (x297)
tudalen *0298  i’w ychwanegu   (x298)
tudalen *0299  i’w ychwanegu   (x299)
tudalen *0300  i’w ychwanegu   (x300)
tudalen *0301  i’w ychwanegu   (x301)
tudalen *0302  i’w ychwanegu   (x302)
tudalen *0303  i’w ychwanegu   (x303)
tudalen *0304  i’w ychwanegu   (x304)
tudalen *0305  i’w ychwanegu   (x305)
tudalen *0306  i’w ychwanegu   (x306)
tudalen *0307  i’w ychwanegu   (x307)
tudalen *0308  i’w ychwanegu   (x308)
tudalen *0309  i’w ychwanegu   (x309)
tudalen *0310  i’w ychwanegu   (x310)
tudalen *0311  i’w ychwanegu   (x311)
tudalen *0312  i’w ychwanegu   (x312)
tudalen *0313  i’w ychwanegu   (x313)
tudalen *0314  i’w ychwanegu   (x314)
tudalen *0315  i’w ychwanegu   (x315)
tudalen *0316  i’w ychwanegu   (x316)
tudalen *0317  i’w ychwanegu   (x317)
tudalen *0318  i’w ychwanegu   (x318)
tudalen *0319  i’w ychwanegu   (x319)
tudalen *0320  i’w ychwanegu   (x320)
tudalen *0321  i’w ychwanegu   (x321)
tudalen *0322  i’w ychwanegu   (x322)
tudalen *0323  i’w ychwanegu   (x323)
tudalen *0324  i’w ychwanegu   (x324)
tudalen *0325  i’w ychwanegu   (x325)
tudalen *0326  i’w ychwanegu   (x326)
tudalen *0327  i’w ychwanegu   (x327)
tudalen *0328  i’w ychwanegu   (x328)
tudalen *0329  i’w ychwanegu   (x329)
tudalen *0330  i’w ychwanegu   (x330)
tudalen *0331  i’w ychwanegu   (x331)
tudalen *0332  i’w ychwanegu   (x332)
tudalen *0333  i’w ychwanegu   (x333)
tudalen *0334  i’w ychwanegu   (x334)
tudalen *0335  i’w ychwanegu   (x335)
tudalen *0336  i’w ychwanegu   (x336)
tudalen *0337  i’w ychwanegu   (x337)
tudalen *0338  i’w ychwanegu   (x338)
tudalen *0339  i’w ychwanegu   (x339)
tudalen *0340  i’w ychwanegu   (x340)
tudalen *0341  i’w ychwanegu   (x341)
tudalen *0342  i’w ychwanegu   (x342)
tudalen *0343  i’w ychwanegu   (x343)
tudalen *0344  i’w ychwanegu   (x344)
tudalen *0345  i’w ychwanegu   (x345)
tudalen *0346  i’w ychwanegu   (x346)
tudalen *0347  i’w ychwanegu   (x347)
tudalen *0348  i’w ychwanegu   (x348)
tudalen *0349  i’w ychwanegu   (x349)
tudalen *0350  i’w ychwanegu   (x350)
tudalen *0351  i’w ychwanegu   (x351)
tudalen *0352  i’w ychwanegu   (x352)
tudalen *0353  i’w ychwanegu   (x353)
tudalen *0354  i’w ychwanegu   (x354)
tudalen *0355  i’w ychwanegu   (x355)
tudalen *0356  i’w ychwanegu   (x356)
tudalen *0357  i’w ychwanegu   (x357)
tudalen *0358  i’w ychwanegu   (x358)
tudalen *0359  i’w ychwanegu   (x359)
tudalen *0360  i’w ychwanegu   (x360)
tudalen *0361  i’w ychwanegu   (x361)
tudalen *0362  i’w ychwanegu   (x362)
tudalen *0363  i’w ychwanegu   (x363)
tudalen *0364  i’w ychwanegu   (x364)
tudalen *0365  i’w ychwanegu   (x365)
tudalen *0366  i’w ychwanegu   (x366)
tudalen *0367  i’w ychwanegu   (x367)
tudalen *0368  i’w ychwanegu   (x368)
tudalen *0369  i’w ychwanegu   (x369)
tudalen *0370  i’w ychwanegu   (x370)
tudalen *0371  i’w ychwanegu   (x371)
tudalen *0372  i’w ychwanegu   (x372)
tudalen *0373  i’w ychwanegu   (x373)
tudalen *0374  i’w ychwanegu   (x374)
tudalen *0375  i’w ychwanegu   (x375)
tudalen *0376  i’w ychwanegu   (x376)
tudalen *0377  i’w ychwanegu   (x377)
tudalen *0378  i’w ychwanegu   (x378)
tudalen *0379  i’w ychwanegu   (x379)
tudalen *0380  i’w ychwanegu   (x380)
tudalen *0381  i’w ychwanegu   (x381)
tudalen *0382  i’w ychwanegu   (x382)
tudalen *0383  i’w ychwanegu   (x383)
tudalen *0384  i’w ychwanegu   (x384)
tudalen *0385  i’w ychwanegu   (x385)
tudalen *0386  i’w ychwanegu   (x386)
tudalen *0387  i’w ychwanegu   (x387)
tudalen *0388  i’w ychwanegu   (x388)
tudalen *0389  i’w ychwanegu   (x389)
tudalen *0390  i’w ychwanegu   (x390)
tudalen *0391  i’w ychwanegu   (x391)
tudalen *0392  i’w ychwanegu   (x392)
tudalen *0393  i’w ychwanegu   (x393)
tudalen *0394  i’w ychwanegu   (x394)
tudalen *0395  i’w ychwanegu   (x395)
tudalen *0396  i’w ychwanegu   (x396)
tudalen *0397  i’w ychwanegu   (x397)
tudalen *0398  i’w ychwanegu   (x398)
tudalen *0399  i’w ychwanegu   (x399)
tudalen *0400  i’w ychwanegu   (x400)
tudalen *0401  i’w ychwanegu   (x401)
tudalen *0402  i’w ychwanegu   (x402)
tudalen *0403  i’w ychwanegu   (x403)
tudalen *0404  i’w ychwanegu   (x404)
tudalen *0405  i’w ychwanegu   (x405)
tudalen *0406  i’w ychwanegu   (x406)
tudalen *0407  i’w ychwanegu   (x407)
tudalen *0408  i’w ychwanegu   (x408)
tudalen *0409  i’w ychwanegu   (x409)
tudalen *0410  i’w ychwanegu   (x410)
tudalen *0411  i’w ychwanegu   (x411)
tudalen *0412  i’w ychwanegu   (x412)
tudalen *0413  i’w ychwanegu   (x413)
tudalen *0414  i’w ychwanegu   (x414)
tudalen *0415  i’w ychwanegu   (x415)
tudalen *0416  i’w ychwanegu   (x416)
tudalen *0417  i’w ychwanegu   (x417)
tudalen *0418  i’w ychwanegu   (x418)
tudalen *0419  i’w ychwanegu   (x419)
tudalen *0420  i’w ychwanegu   (x420)
tudalen *0421  i’w ychwanegu   (x421)
tudalen *0422  i’w ychwanegu   (x422)
tudalen *0423  i’w ychwanegu   (x423)
tudalen *0424  i’w ychwanegu   (x424)
tudalen *0425  i’w ychwanegu   (x425)
tudalen *0426  i’w ychwanegu   (x426)
tudalen *0427  i’w ychwanegu   (x427)
tudalen *0428  i’w ychwanegu   (x428)
tudalen *0429  i’w ychwanegu   (x429)
tudalen *0430  i’w ychwanegu   (x430)
tudalen *0431  i’w ychwanegu   (x431)
tudalen *0432 i’w ychwanegu   (x432)

                                             

 

Sumbolau arbennig: ŵ ŷ

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website


CYMRU-CATALONIA

 


Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats