|
|
▼
(delw 2424) (tudalen 2)
|
(x2)
(LLUN: “MAWL IDDO YN
DDIDDIWEDD!” Y PARCH. WILLIAM EVANS YM MHWLPUD PENUEL)
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2425) (tudalen 3)
|
(x3)
● RHAN 1
(1) RHAGYMADRODD.
Ysgrifenwyd yr adgofion canlynol am Donyrefail a’i hen bobl gan y diweddar
Thomas Morgan, yn ei ddyddiau olaf ar y ddaear. Yr oedd y duedd lenyddol yn
lled gryf ynddo ef er yn fachgen; ond yr oedd wedi ei rhwystro i ymddadblygu.
Aeth ei fryd ar fasnach bron yn hollol. Yr oedd un o’i berthynasau agosaf yn
cael mwy o fwynhad, er pan oedd yn blentyn, mewn llyfrau, ysgrifenu, a
llenyddiaeth o bob math, nag mewn unrhyw beth arall. Yr oedd hyny yn achosi i
ambell ymrafael godi rhwng y ddau, ac ar droion o’r fath gofynai Thomas
Morgan i’w berthynas, “Pa beth a ddaw llyfrau i mewn i ti?” Yr oedd y
perthynas hwnw yn gweled bod synwyr yn y gofyniad, a phenderfynai y gwnelai o
hyny allan edrych ar y wedd fasnachol ar bob peth; ond ni fedrai ef gadw at
ei benderfyniad yn hir. Tua’r terfyn yr oedd Thomas Morgan yn cryfhau yn ei
dueddiadau llenyddol, a dywedai wrth y perthynas rhagddywediedig, “Yr wyt ti
yn debyg iawn yn dy ddull o feddwl i mi.” Fe welir wrth y dull doniol a
medrus yr ysgrifenodd Thomas Morgan ei “adgofion” fod ei serch at lenyddiaeth
wedi cael lle helaeth yn ei ddyn oddimewn er bod yn nghanol ffwdan masnach
drwy y blynyddoedd. Yr oedd, fel y gwelir, wedi bwriadu ysgrifenu ychwaneg
o’i “adgofion,” ond daeth y wys oddiuchod i’w gyrchu i fyd yr ysbrydoedd
tudraw i’r llen yn lled sydyn. Meddyliais y buasai hiliogaeth hen drigolion
Tonyrefail a’r amgylchoedd yn gwerthfawrogi fy ymdrech i “osod i gadw” yr
adgofion, yn nghyd a fy ychwanegiadau inau.
Llwyn On, Glantaf, Alban Eilir, 1899.
MORIEN
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2426) (tudalen 4)
|
(x4)
● RHAN 2
(2) TUDALEN Y TEITL
HANES TONYREFAIL.
ATGOFION AM Y LLE A’R HEN BOBL,
GAN Y DIWEDDAR
THOMAS MORGAN, Y.H.
Y FRON, PONTYPRIDD
YN NGHYDA
RHAGARWEINIAD, YSTORIAU, AC ENWAU LLEOL
GAN MORIEN.
CAERDYDD.
ARGRAFFWYD GAN Y WESTERN MAIL, LIMITED.
1899
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2427) (tudalen 5)
|
(x5)
(3) RHAGARWEINIAD
● RHAN 3
3-01 Thomas Morgan
MR. THOMAS MORGAN, Y.H., MORGANWG
“NI DDYCHWEL MWY I’W DY.”
BYR HANES GAN OWEN MORGAN (“MORIEN.”)
“Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd.” - Salm lxxvii., 5.
Ganwyd Thomas Morgan ar Donyrefail, neu, yn fwy cywir, Twynyrefail, yn 1815.
Gorphenodd ei yrfa ddaearol Chwefror 7, 1890, yn y Fron, Pontypridd. Ail fab
ydoedd i Llywelin Morgan a Cesil Morgan, nee Francis. Yr oedd iddo y brodyr
a’r chwiorydd canlynol: Dafydd, William, a Morgan, y cyntaf yn unig sydd ar
dir y byw yn awr, 1899, ac y mae yn 86 oed; Margaret (fy mam), Ann, a Mari,
yr olaf yn unig sydd yn fyw pan yr ysgrifenir hyn.
● RHAN 4
3-02 Hynafiaid Thomas Morgan.
Yr oedd ei dad yn fab i Dafydd Morgan, o Glyn Nedd, ac yn hanu o dirfeddianwr
bychan yno. Yr oedd Margaret, ei wraig, yn ferch i’r gwr nodedig hwnw, Shon
Llywelin, o Gefn Coed y Cymmer, awdwr llawer o ganiadau ac emynau poblogaidd,
ond cysylltir ei enw yn benaf a chan ysmala, a elwir, “Y Ddafad Las a’i Ho’n
Sy’n Blino Shon Llywelin” Yr oedd Cesil, ei fam, yn hanu o hiliogaeth
urddasol Morganwg a Brycheiniog. Y canlyn a roddir o’u hanes sydd o Lyfr
Achau Mr. Geo. T. Clark, Talygarn: - Yr oedd Ann Morgan yn etifeddes y Garth
Fawr, Llanilltyd Faerdre. Hi a ymbriododd a Richard, pumed mab Edward Thomas,
perchenog Llan
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2428) (tudalen 6)
|
(x6) Mihangel a’i etifeddiaeth, yn agos i Bontyfon, a elwir
yn awr y “Bontfaen.” Yr oedd y teulu hwn yn hen iawn. O hono yr hanodd y
Thomosiaid, o Gastell Raglan. Cymerodd y gangen hono yr enw Herbert, ac o
hono hanodd Ieirll Penfro. Yr oedd Edward Thomas, Llan Mihangel, yn flaenllaw o
blaid Charles I yn mrwydr St. Ffagan, a ymladdwyd Mai 8, 1648. Cafodd ef ei ddirwyo
i’r swm o dair mil o bunnoedd gan y cadfridog Oliver Cromwell a’r Senedd am
hyny. Gorfu addo werthu Llan Mihangel i Mr. Edwin, gynt Arglwydd Faer
Llundain, i’w alluogi i dalu y ddirwy. Y mae Llan Mihangel yn nodedig
oherwydd ei phlanigfa o goed yw tuol {sic = tu
ôl} i’r magwyrydd. Bu i’r Richard Thomas uchod ac Ann, ei wraig, fab
o’r enw Richard. Ymbriododd ef a Nest, merch Morgan Cadwgan, o Abererchwy
(Abergorci). Cawsant fab, a’i enw oedd James. Ymbriododd ef a Mari merch
Thomas Matthew, Maes Mawr. Cawsant fab, ac enwyd yntau James. Ymbriododd ef a
Jane Prichard, Collena, Tonyrefail, o linach Iestyn ap Gwrgan, brenhin
Morganwg. Cawsant fab, James, ac ymbriododd ef ag Elizabeth Gam, Dre Newydd,
Aberhonddu, o linach Syr Dafydd Gam, a laddwyd yn mrwydr Agincourt, pan a’i
fwyall ryfel yn cadw’r Ffrancod yn ol oddiwrth Henri V. Ei enw priodol oedd
Dafydd ap Llywelin, ac efe yw “Fluellen” Shakespeare. Yr oedd i James Thomas
ac Elizabeth, nee Gam, dri
mab - James, William a John. Priododd John ei berthynas Ann Deere, Trelleng
(“Trallwng”), yn agos i Lan Ilid. Ann, ei merch, a briododd a Edward Francis,
Mwyndy Bach, a’u merch hwynt oedd Cesil, mam Thomas Morgan. (Troednodyn:
1790 Sept. 25th. BAPTISM. Cecily, daughter of Edward Francis, farmer, and
Anne his wife. Llantrisant Register.) Yr oedd y Deere uchod yn hanu o’r
Deereiaid o Wenvo, Penllyn, a Llwyn Onn, yn agos i Ystrad Dawen, yn awr a
elwir “Ystradowen.” Manylir ar achyddiaeth ceffylau “races”; chwareu teg i
achyddiaeth dynoliaeth, canys mwy ei gwerth nag eiddo mulod, yn gystal ag
adar y to.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2429) (tudalen 7)
|
(x7) Am Llywelin a Cesil,
tad a mam Thomas Morgan, yr oeddynt yn wr a gwraig heb ddim yn neillduol yn
eu hanes. Yr oeddynt yn ddiwyd, cynil, ac yn ymdrechgar i fyw a thalu eu
ffordd, ac hefyd yn ymegnio morio i gyfeiriad yr hafan ddymunol ar ddiwedd
mordaith bywyd. Y cof cyntaf sydd genyf am eu cartref yw y dyledswydd foreuol
o amgylch eu haelwyd – Llywelin yn darllen pennod o’r hen Feibl Cymraeg, ac
yna pawb ar eu deulin; yna esgynai y weddi foreuol o enau crynedig fy nhadcu
– canys dyna oedd y gweddiwr i mi – tuag at Dad y Trugareddau. Llawer gwaith
y gwelais fy mamgu, ar ol i’r gweddiwr fyned allan at ei orchwyl, yn sychu y
dagrau oddiar eisteddle y gadair fawr, ger yr hon yr oedd yr hynaws Gristion
wedi ceisio siarad â’i Dduw. Saer coed oedd wrth ei alwedigaeth, a phan y
cafwyd ganddo eistedd i’w “photographio” mynodd ddal ei “rule” yn ei
ddeheulaw, fel y byddai hithau hefyd yn y llun. Gadawodd ar ei ol fwy na’r
cyffredin o dda y byd hwn. Cof genyf y fynyd hon yw iddo ddywedyd wrthyf yn
hwyrddydd ei ddyddiau,
“Gofala di am danaf dy hunan; mae rhyw fwstwr mawr yn dy ben di.”
Codwyd
Thomas Morgan yn grydd, ac, fel hyny, yn un o wyr Sant Crispyn. Pan tuag
ugain oed cychwynodd yn y “grefft” fel meistr, a daeth ei enw yn adnabyddus
trwy yr holl ardaloedd amgylchynol am lawer o filldiroedd. Yr oedd yn ei
wasanaeth nifer go helaeth o gryddion, ac yr oedd eu gweithfa yn nodedig am
ei hysbryd ymofyngar. Yr oedd y rhan
luosocaf o’r cryddion o dref hynafol Llantrisant. Yn “shop y cryddion” y ceid
yr hanesion diweddaf am bob peth mewn byd ac eglwys. Yno y ceid y glec
diweddaf, a’r ystoriau mwyaf digri am garwriaethau pentrefi ac ysmaldod
personau o bob gradd. Ac yr oedd gweithredoedd y Rhaith, neu y Senedd, yn
Llundain, yn cael eu beirniadu yn swn pwnio lledr a hoelion. Oddiyno
lledaenai hanes cwrs y byd i’r ffermdai a’r bythynod o Lantrisant i Glynogwy,
ac o Llan Bedr {sic – dim treiglad = o Lanbedr}
ar Fynydd i Drebanawg.
Clywais Thomas Morgan yn adrodd, gan chwerthin, am Hywel Williams (“Hywel y
Crydd”) yn
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2430) (tudalen 8)
|
(x8) edrych arno yn ddifrifol un boreu pan aeth i’r
gweithdy, gan ofyn iddo, “Meistr, sut y mae hi yn awr gyda Lord John?” Fel
hyn yr oedd gweithdy y lledr yn fath o ffynnon o’r hon y llifai gwybodaeth
trwy yr ardaloedd gwledig hyn.
Yr
oedd Tonyrefail wedi bod am oesau yn nodedig am bedwar peth – ei felin lafur,
ei efail gof, ei gryddion, a’i wehyddion. Yr
oedd tai y pentref wedi eu toi a gwellt, a’r muriau wedi eu gwyngalchu.
Gwnaeth Mr. Evan Prichard, perchenog hen etifeddiaeth y Collena, yr hwn a fu
farw Mawrth 19, 1795, ymdrech i sefydlu yn y lle weithdy gwlan a nyddu ar
raddfa helaeth. Suddodd lynoedd i ddal digon o ddwfr o’r Elwy i gario yn y
blaen yn gyson, haf a gauaf, y felin a’r gweithdy gwlan. Cychwynodd hefyd
waith rhaffau rhawn, a gelwir y fan hyd heddyw “Y Rope-yard.” Ond daeth ei
ddyddiau i ben pan tua 40 oed, ac amddifadwyd y trigolion o’u noddwr penaf,
yr hwn oedd yn llafurio a’i holl allu i ddwyn masnach enillol i’w plith. Ei wraig oedd
Susanna, merch hynaf Mr. Robert Thomas, o hil Llan Mihangel. Hithau a hunodd
Ionawr 1, 1834, yn 86 oed. Clywais gan yr hen bobl ei gelwid hi wrth yr enw
Madam Prichard. Wedi marwolaeth Mr. Evan Prichard, yn 1795, etifeddwyd y
Collena gan eu mab, y Parchedig Richard Prichard, B.D., ar ol hyny ficer
Llandaf. Bu farw yno yn 84 oed. Ei wraig oedd Eleanor, merch Mr. Hopkin
Llywelin, y pryd hwnw yn byw yn y Pentre, Ystradyfodwg. Ar ol hyny symudodd
ei rhieni i Brombil, Margam. Ei mab oedd Mr. Gruffydd Llywelin, Baglan, yr
hwn a fu farw Tachwedd 6, 1822, yn 55 oed. Dwy flynedd cyn ei farwolaeth yr
oedd wedi myned yn berchenog trwy gyfrwysdra o’r Parc Isa a Bwlchyclawdd,
oddiar Hywel Thomas Dafydd Hopkin, tad mam tad yr ysgrifenydd. Bu gweddw
Gruffydd Llywelin farw Tachwedd 9, 1840; a bu farw ei mab, Mr. Gruffydd
Llywelin, Rhagfyr 6, 1888, yn 86 oed. Nid oedd plant ar ei ol. Y mae ei weddw
yn awr yn fyw, ac yn hynod am ei charedigrwydd. Yr oedd Mr. Evan Prichard
(1795) wedi
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2431) (tudalen 9)
|
(x9) benthyca arian gan Mr. Hopcin Llywelin (Pentre)
i gario allan y gwelliantau yn nglyn a’i weithfaoedd ar Donyrefail, a bu y
ddyled fel hunllef ar deulu y Collena hyd ychydig cyn marwolaeth y Gruffydd
Llywelin olaf. Efe a’u “rhoddodd yn rhydd,” ac a ddychwelodd y crwyn
ysgrifenedig, neu y “title deeds,” yn ol i’r teulu.
● RHAN 5
3-03 Llanganna
Bu farw yr enwog “Jones Llangan” Awst 12, 1810, yn 75 oed. a
phenodwyd y Parchedig Richard Prichard, B.D., yn ei le. Mae yn debyg ei fod
yn un o’r offieiriaid hynod hyny yn Nghymru a wyddent fwy am yr ieithoedd
Saesonaeg, y Groeg, a’r Lladin, nag am iaith frodorol Cymru, a’r canlyniad
oedd ei fod bron yn hollol ddifudd i’r Cymry. Am ei anallu yn mhwlpud enwog
Llangan y canodd Thomas Williams, Bro Morganwg, yn ei “Ddyfroedd Bethesda”: -
’Nawr mae eglwys fach Llanganna
Wedi newid oll yn lan;
Porfa las yn awr sy’n tyfu
Ar y ffyrdd oedd goch o’r bla’n;
Muriau’r Llan oedd oll yn eco,
Yn ateb bloedd y werin fawr: -
’Does na llef {sic – heb dreiglad; = does na lef},
na llais, nac adsain,
I’dd ei glywed yno’n awr.
Mae’r gynulleidfa fawr yn rhanu,
Rhai’n myn’d yma, rhai’n myn’d draw;
“’Does yma,” meddant, “ddwr na bara,
Gwell ymadael maes o law;
Beth dal aros yn Llanganna
Bellach byth o hyn i maes?
Nid oes yma ddim ond tlodi,
Yn lle’r holl ddanteithion bras.”
“Dewch i rywle,” medd y Werin,
“Dewch heb ’rofyn, dewch yn un,
Lle bo ’ffeiriad neu gynghorwr,
Nid oes fater nemawr p’un;
Peidiwch aros gyda’r meirw.
Y mae’r ddaear bron ar dan
Awn i ’mofyn Gair y Bywyd,
Fel y cawsom ef o’r bla’n.”
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2432) (tudalen 10)
|
(x10)
GYNT!
Dyddiau hyfryd oedd y rheiny,
Pan oedd Rowland, uchel ddysg;
Peter ffyddlon, William Williams,
Llwyd a Morys yn ei {sic = eu} mysg!
Jones, fel angel o Llanganna {sic – dim treiglad;
= o Langanna}
Yn adganu’r udgorn mawr,
Nes bai’r dorf mewn twym serchiadau
Yn dyrchafu uwch y llawr.
Minau yno’n un o’r werin
(Er mai’r annheilynga ’i gyd)
Dan y bwrdd yn bwyta’r briwsion
O! mor hyfryd oedd fy myd!
Torf yn bwyta’r bwydydd brasa’ –
Gwin a manna, nefoel faeth!
Wrth y fron ’r’own ina’n chwerthin,
Tra’n
ymborthi ar y llaeth.
YR OLWG GYNTAF ARNO.
Un o’r manau, byth mi gofia,
Gwelais i ef gynta’ i gyd,
Yn cyhoeddi Gair y Cymmod
I golledig anwir fyd;
Iesu’n marw, Iesu’n eiriol,
Diwedd byd, a boreu’r farn,
Oedd ei bregeth o flaen canoedd
Wrth hen gapel Talygarn!
EI GLADDU YN MHENFRO - SIOMEDIGAETH
SALEM, PENCOED.
(Jones Llangan a adeiladodd yr hen gapel yn Mhencoed. Dyma lle y meithrinwyd
yr hwyadl Deon David Howel, Ty Ddewi. Gosododd Jones golofnen bres ar ganwyllbren
y pulpud yn Salem.)
“Salem, Salem, lle mae’r glomen,
Arwydd cariad, arwydd hedd;
P’am na chawsai ti’r anrhydeddd
O roi ynot iddo fedd?
P’am ca’dd Penfro’i chyfri’n deilwng?
P’am ysbeiliodd hi dy glod?
Dygodd arnat etifeddiaeth
Oedd yn gyfiawn i ti’n d’od.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2433) (tudalen 11)
|
(x11) Taw, na chwyna, beth sydd fater,
B’le gorwedda’i gorph i lawr?
P’un ai’n Mhenfro ai’n Morganwg
Hyd yr adgyfodiad mawr;
Corph heb fywyd, corph heb ana’l –
Dyna’i gyd sydd ganddynt hwy,
Ninau ’i cawsom yn ei fywyd –
On’d oedd hyn yn llawer mwy?
(Gorwedd Mrs. Selina Jones, priod Jones Llangan, yn nghanol y fynwent ger y
capel hwn.)
Dywedir i’r llinellau uchod achosi loes mawr i bawb o berthynasau y gwr a fu
mor anffortunus ag esgyn i areithfa yr angylaidd “Jones, Llangan.” Yr oedd
i’r Parch. Richard Prichard, B.D., frawd o’r enw Evan, a’r chwiorydd
canlynol: - Mari, Catherine, Susanna, Ann, Elizabeth, Martha, a Deborah. Ann,
Martha, a Deborah oedd “Hen Ladies” Tonyrefail. Buont fyw yn hen iawn, ac hyd
heddiw eu coffadwriaeth sydd fendigedig ar Dwyn yr Efail ac yn nghalonau yr
holl bobl sydd yn eu cofio, trwy yr ardaloedd amgylchynol. Canodd “Williams
Pantycelyn” farwnad i Susanna.
● RHAN 6
3-04 O’r Palasdy i’r Siop
Pan, yn y flwyddyn 1795, y bu farw Mr. Evan Prichard yr oedd rhai o’r merched
yn ieuainc iawn. Yr oedd Madam Prichard, y weddw, yn wrol ei hysbryd, a
chododd ei phlant yn anrhydeddus, a chofiai pob un ohonynt mai Prichard oedd
ei henw, ac mai eu heiddo hwynt oedd y Collena, o Heol Llantrisant hyd Afon
Elwy. Saif yr hen balasdy ar fron, yn gwynebu tref Llantrisant, pump o
filldiroedd i’r deheu, ac yn amlwg o’r palasdy. Ar nosweithiau tawel deuai
peraidd odlau clych y Llan gyda’r awel fwyn i’r Collena. Yn y Llan yr oedd
claddfa y teulu oddiar ddyddiau eu hynafiaid, yr Arglwydd Einon ap Collwyn,
mab Arglwydd Caredigion {sic = Ceredigion}
a’r Arglwyddes Nest, unig ferch Iestyn ap Gwrgan, Brenhin Morganwg. Dywed Mr.
Clark, Talygarn, mai teulu y Collena yn unig sydd yn bresenol yn dal rhan o’r
hen etifeddiaeth a
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2434) (tudalen 12)
|
(x12) ddaeth i’w rhan yn 1093, pan ranwyd Morganwg
rhwng yr estroniaid Normanaidd, ac y bu yr Arglwydd Einion yn anfwriadol yn
foddion i’w dwyn i mewn i amddiffynfeydd Gwlad Morgan. Yn mhell cyn
marwolaeth Mr. Evan Pritchard, Collena – enw, mae’n debyg, yn tarddu o’r enw
Collwyn – yr oedd efo a Madam Prichard, ei wraig, wedi hoffi yn fawr y dull o
gario yn y blaen achos crefyddol gan yr offeiriaid gwir Gymreig hyny a fuont
yn gychwyniad i’r Trefnyddion Calfinaidd a elwid yn watwarus, “Methodistiaid.”
Y waith gyntaf, meddai Madam Prichard yn ei henaint, iddi hi a’i gwr gael eu
denu i’r ffordd newydd, ond gwir hen mewn gwirionedd, oedd ger gwal Llan Bedr
ar Fynydd. Yr oedd hi a Mr. Evan Prichard ar geffylau ar eu taith ar nawn Sul
o’r Collena tua thy ei thad, ger Pontyfon. Clywent “Jones Llangan” yn
pregethu i dorf fawr yn y fynwent, ac ataliasant eu ceffylau. Yr oedd udgorn
Llangan yn peraidd leisio am “y ffordd newydd a bywiol a agorwyd i dy Dafydd
ac i breswylwyr Jerusalem.” Cawsant fod rhyw hudoliaeth yn y floedd beraidd o
Langan!
● RHAN 7
3-05 Neuadd y Collena
Cyn pen nemawr o wythnosau yr oedd ystafell Nyddu (Neuadd y
Collena) yn gyrchfa pobloedd i wrando yr Efengyl yn cael ei thraddodi yn hen
ddull cenedl y Cymry, cyn i’r hen Lanau gael eu halogi gan locustiaid
estronol. O bryd i bryd bu yno yn pregethu, heblaw Jones Llangan, Williams
Pantycelyn, Pedr Williams, Caerfyrddin, a llawer o enwogion eraill. Safai yr
hen gynghorwyr ar hen eisteddle a chefn iddi. Gwnawd pwlpud o’r eisteddfa, a chodai
oddiar ben ei chefn le cyfleus i ddal y Beibl, a dwy fraich o bres i ddal y
canwyllau, un bob ochr iddo. Ffurfiwyd cyfrinfa (“society”) yno, a bu sain
rhodau gwlad y gwawl am flynyddoedd yn aml yr ys ystafell Nyddu bendefigaidd
hon. Yr oedd un Dafydd Evans a Bess, ei wraig, yn bobl ieuainc yn aelodau
yno.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2435) (tudalen 13)
|
(x13) Mae’n ddigon tebyg mai pan ar hyd y ffordd tuag
at ac o’r Collena y syrthiasant, yn ddiarwybod iddynt ei hunain, i hoffi
cyfeillach eu gilydd. Yn mhen ychydig o amser methasant a byw yn hwy ar
wahan, a hwy a briodasant, doed gwell neu waeth. Y ddau hyn oedd rhieni
● RHAN 8
3-06 Y Parch. William Evans,
yr hwn a wnaeth Tonyrefail yn adnabyddus trwy holl gylchoedd y
Trefnyddion trwy Gymru. Ehedodd ei enaid tros yr afon rhwng y ddau fyd
Chwefror 5, 1891; ganwyd ef yn Ebrill, 1795. Yr oedd yn arfer canu yn ei
henaint –
“Megys llestr hen a drylliog.”
Fe welir ei fod o fewn tua mis i gyrhaedd ei naw deg a chwech oed pan hunodd
yn y fuchedd hon. Yr oedd wedi bod yn pregethu oddiar 1814. Yr oedd o ddigon
y gwr mwyaf amlwg yn yr ardal trwy ei oes. Yr oedd llygaid pawb arno, ac felly, fel
gorsedd y teyrn, yn nghanol y fath oleuni buasai’n hawdd canfod y brycheuyn
lleiaf ynddo. Ond bu fyw ei oes hirfaith a’i gymmeriad yn wyn, ac nid oes ond
byd gwyn wedi ei ddarpar i’w fath tudraw i’r llen. Tua dwy flynedd cyn ei
farwolaeth cyfarfyddais ag ef ar Heol-y-Collena, yn agos i’w dy. Ebe fe, yn
ei lais soniarus, “Yr oedd dyn i lawr yna yn gwed wrtho i, ’I chi’n myn’d yn
hen, Mr. Evans.’ Dywedais yn ol, ’Nag wyf fi, y chi sy’n “myn’d” yn hen; yr
wyf fi “wedi” myn’d yn hen!’” Mae hyna yn gystal enghraifft a dim o’i ddull byrbwyll
ac ysmala. Yr oedd ei lais i ni mal sain addoliad. Dyn byr, tua phump a saith
o ddaldra. Yr oedd ei ben yn orchuddedig a thoraeth o wallt mal eira. Ni
chafwyd ganddo ei droi, ond torai ef o amgylch ogylch ei ben, a chruchai
uwchben ei dalcen. Yr wyf yn cofio yn dda y syndod trwy y lle pan gafwyd ei
fod wedi boddloni gwisgo “trousers” yn lle “breeches” penglin ag oedd yn y
ffasiwn yn ei ddyddiau boreuol. Gwelir ei fod hyd y diwedd yn Buritaniadd
iawn yn ei syniadau.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2436) (tudalen 14)
|
(x14) Ond i ddychwelyd. O herwydd gwahanol achosion,
natur pa rai a wel y darllenydd oddiwrth yr hyn a ddywedir am ymdrechion
clodwiw Mr. Evan Prichard (1795), nid oedd pethau yn llewyrchus ar sefyllfa
dymorol y weddw wedi iddi golli ei gwr. Gwnawn gyfyngu ein sylwadau
at y weddw a’i merched Ann, Martha a Deborah.
Ymbriododd Martha ag un Mr. Jones, bragwr, Pontypridd, a Deborah a Mr.
Thomas, Pentwyn, Pentyrch. Aeth Mr. Jones ar goll, ac ni wyr neb beth a
ddigwyddodd iddo. Symudodd Madam Prichard ac Ann, ei merch, i bentref
Tonyrefail, i dy wedi ei adeiladu gan y Parch. Richard Prichard, B.D.,
iddynt. Symudasant yr hen bwlpud o’r Collena fel y symudwyd yr Arch i dy Obed
Edom. Mae’n bosibl y ceir rhyw “phonograph” heb fod yn hir i wneyd i’r hen
bwlpud hwnw i adrodd yr hyn a lefarwyd arno gan y tadau hen!
Y mae’n bresenol yn nhy William Bevan (Treharne), yr ochr arall i’r heol o’r
fynwent o flaen y capel. Bu am o leiaf drugain mlynedd yn eisteddle
pregethwyr teithiol y Corph a hoffent fygu y tobacco yn nhy “yr Hen Ladies.”
Codwyd capel bychan yn ymyl ty Madam Prichard a Miss Ann ei merch, a chlywais
i fy anwyl fam adrodd, ar foreu agoriad yr ail gapel o flaen y gynulleidfa,
yr ail bennod o Lyfr Zachariah – “Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac
edrychais; ac wele wr, ac yn ei law linyn mesur, a dywedias, i ba le yr ai (sic; = ei) di,” &c. Ymadawodd a’r fuchedd
hon pan oedd yr ysgrifenydd yn blentyn bach, ond dywedai ei chydnabod ei bod
yn un o’r serchusaf a’r brydferthaf o’r merched. Elai Madam Prichard bob
boreu wrth ei ffon i weled Cesil, a dywedai yn aml, “Yr wyt ti o’n gwaed ni.”
Yr oedd Cesil yn lled falch o hyn hyd diwedd ei hoes. Chwareu teg iddi. Pwy
na fuasai yn falch o fod yn berthynas i’r foneddiges hon, yr hon gododd allor
addoli ar Dwyn y Ton yn yr amser pan yr oedd Philistiaeth yn llywodraethu yn
Nghymru?
Cychwynodd Miss Ann Prichard faelfa, neu shop, yn y ty newydd, a chadwodd yn
y blaen hyd y flwyddyn 1853. Yr
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2437) (tudalen 15)
|
(x15) oedd yn un o flaenoriaid
Penuel, capel y Trefnyddion, Pontypridd. Yr oedd yn deall cerddoriaeth emynol
yn dda, ac yr oedd pan yn ieuanc, ac hyd ganol oed, yn arweinydd y canu yn
Nghapel y Corph ar Donyrefail. Yr oedd rhaid cael yr “high-dry” goreu a’r “Queen’s,”
a mynai Mrs. Deborah Thomas eu cymysgu a “rappee.” Yr wyf yn gwybod yn dda,
canys mi a’u cymysgais yn aml iddi hi. Wedi marwolaeth Mr. Thomas, Pentwyn,
dychwelodd Mrs. Deborah yn ol i’r Ton, ac yr oedd ei thy bychan, prydferth yn
sefyll lle y saif yn awr ystafell isaf y Boar’s Head, arwyddlun pais arfau
Einion ap Collwyn. Priododd Miss Ann Prichard a Mr. Evan Thomas o’r Rhiw, cyn
bo hir wedi marwolaeth Madam Prichard yn 1834. Cariai fasnach mewn hadau hau,
megys gwenith, ceirch, haidd, &c. Yr oedd yn wr a geisiai wneyd y goreu
o’r ddau fyd, ac yr oedd yn mhell o ganu, “Gadawn y byd ar ol,” &c.
Ymddygai fel dyn call, gan gredu fod amcan gan Dduw wrth ei anfon i’r byd
hyfryd hwn yn gyntaf. Tra fu’r shop gan y teulu ni elai un gwrryw i mewn heb
dynu ei het ar y trothwy. Clywais Cesil Morgan yn dywedyd i Mrs. Ann ofyn
iddi unwaith ar foreu Llun yn y shop, “Pa le y prynaist di y ’shawl’ oedd
genyt ti yn y cwrdd y ddoe?” Chwarddodd Cesil, a gofynodd, “Ai dyna yw eich
gwaith chwi yn y capel, ie fe – edrych ar wisgoedd pobl?” Ond teimlai Cesil
byth ar ol hyny ei bod wedi bod yn feiddgar ofnadwy wrth siarad fel y gwnaeth
hi y tro hwn.
Yn y
flwyddyn 1853, wedi marwolaeth Mr. Evan Thomas, trosglwyddodd Shop y Ton i
Thomas Morgan, ac ni chai neb arall y dyddiau hyny agor siop arall ar stad y
Collena. Yr oedd hyny wedi bod yn ddeddf mai y shop hono yn unig a gai fod ar
yr etifeddiaeth. Adeiladodd Thomas Morgan dy mawr newydd, cyfleus i’r shop,
ac y mae y shop yno hyd heddyw. Cof genyf, pan oedd y ty newydd yn cael ei
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2438) (tudalen 16)
|
(x16) adeiladu i’r hen wr hynod Mr. Evan Morgan, perchenog
Ty’n y Cymmer, Talchan (Tylcha), &c., grio allan am i Thomas Morgan ofalu
am i’r simneiau fod yn ddigon uchel i “Wyr Bryste” - gwerthwyr lledr - “eu
gweled.”
Yn mlodau ei ddyddiau yr oedd Thomas Morgan yn un o’r dynion mwyaf hoew a
diwyd; yr oedd yn bendefigaidd, yn ddirodres, yn yr heolydd, ac yn llawn o
arabedd yn ei dy. Yr oedd ar ei gof lawer iawn o ystoriau am a fu yn yr
ardaloedd amgylchynol yn hanes personau a theuluoedd. Ar gais yr ysgrifenydd,
ysgrifenodd yn hwyr ei ddydd ychydig o’i adgofion. Cof genyf am dano yn
“dechrau’r canu” yn y capel, yr unig un y pryd hwnw ar Donyrefail. Y mae y
capel presenol y trydydd a adeiladwyd. Yr oedd gwedd urddasol ar ail deml Tonyrefail.
Yr oedd y tair “Hen Ladies” ag anian gref eu dygiad i fyny pendefigaidd yn eu
nodweddu, yn cyfleu i wedd fewnol dodrefn y capel eu chwaeth goethedig. Y mae
yr hanesyn canlynol a glywais gan Thomas Morgan yn enghraifft o’u chwaeth
goethedig. Un noson seiat yr oedd y Parch. William Evans yn llefaru am
ddarpariaethau Duw i ddynoliaeth. Lluniaeth o bob amrywiaeth; gwlan y defaid
i’w cynhesu, &c. Yr oedd Mrs. Deborah a’i chorn wrth ei chlust yn gwrando
ar y llefarwr, ond traethu am ddiwalliad corph yn unig a wnelai Mr. Evans y
waith hon. “Ie,” ebe Mrs. Deborah, “a blodau a phethau felly i’w mwynhau.”
“Hawyr, hawyr” ebe fe yn ol, “dyma hi wedi myned heibio i mi i rywle!” Yna,
yn ei ddull ffraeth a pharod, esgynodd i ganol y darpariaethau a welir i ddiwallu
yr archwaeth sydd yn gofyn am y tlws, yr hardd, a’r prydferth a deimlir yn yr
enaid. Heblaw blodau a lliwiau, llefarodd am ogoniant yr wybren nos a dydd.
Peroriaeth yr awel, si cornentydd, rhuad y mor, miwsic y corau asgellog,
toriad mawreddog y dydd, ac agor dorau y wawr, a chodiad yr haul, heb ddihuno
yr un baban a’u trwst. Heneiddiodd Thomas Morgan yn fawr ar ol iddo gyrhaedd
ei saith deg oed, ond yr oedd ei yni yn parhau wedi i beiriant ei gorph lacau
yn ei rym. Aeth yn hen heb feddwl
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2439) (tudalen 17)
|
(x17) ei bod yn hwyrhau arno. Yr oedd ei hen gydnabod,
Mr. Evans, wedi dechreu pregethu flwyddyn cyn ei eni ef, a ph’am na allai
yntau hefyd fyw mor hen a Mr. Evans? Arwyddion cyntaf fod ei oes ar y ddaear
yn tynu at ei therfyn oedd gwendid ei galon. Yr oedd ei liw yn myned yn
llwyd, a phan gynhyrfai ei ysbryd crynai ei wefusau ychydig; ond yr oedd o
ran gallu meddyliol mor ieuanc a buan ag erioed. Tebygol yw y dylasai ymdrin
a’r byd yn fwy hamddenol, ond yr oedd beunydd am gyrhaedd rhyw nod. Ond yr
oedd ei ddyn oddimewn megys yn ei rybuddio yn ddistaw fod y terfyn yma yn
agos, a mynych y clywais ef yn ei fisoedd olaf yn coffa sylwadau’r Apostol
Iago: (4:12) “Un gosodwr cyfaith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli. Pwy
wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall? (4:13) Iddo yn awr, y rhai ydych yn
dywedyd, Heddyw neu yfory ni a awn i gyfryw ddinas, ac a aroswn yno flwyddyn,
ac a farchnattawn, ac a enillwn; (4:14) y rhai ni wyddoch beth a fydd y fory.
Canys beth ydyw eich einioes chwi? canys beth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig
yn ymddangos, ac wedi hyny yn diflanu. (4:15) Lle y dylech ddywedyd, Os yr
Arglwydd a’i myn, ac os byddwn byw, ni a wnawn hyn, neu hyny,” iv., 12-15. Bu
yn briod yn dair gwaith. Ei wraig gyntaf oedd Rebecca, merch Hywel Hopcin a
Mrs. Hopcin, Caerlan, Tonyrefail. Hi oedd mam ei dair merch, Catherine,
Margaret, ac Ann. Priododd y gyntaf Mr. Hugh Begg, genedigol o ardal Ayr; yr
ail a briododd Mr. John Evans (“Ab Dewi Haran”) {hynny
yw, mab Dewi Haran (David Evans), 1812-1885, aelod o ’Glic y Bont’, carfan o
feirdd o ardal Pont-tÿ-pridd}; a’r drydedd Mr. John Crooke, South
Knoll, Norwood. Ei ail wraig oedd Caroline Thomas, gweddw un Isaac Thomas,
Pontypridd (ei henw achyddol oedd Anthony); ei drydedd wraig oedd weddw un
o’r enw Mr. Smart.
● RHAN 9
3-07 Dylanwadau Boreuol Ei Oes
Yr oedd yn un o flaenoriaid Penuel, capel y Trefnyddion,
Pontypridd. Yr oedd yn deall cerddoriaeth emynol yn dda, ac yr oedd pan yn
ieuanc, ac hyd ganol oed, yn arweinydd y canu yn Nghapel y Corph ar
Donyrefail. Yr oedd
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2440) (tudalen 18)
|
(x18) yn mlodeu ei ddyddiau yn hynod am fywiogrwydd ei
symudiadau a boneddigeiddrwydd. Clywais ei dad yn adrodd i Mr. Harris, y
cyntaf o Drefeurig, ddywedyd am Twmi fel hyn: “Llywelin, wn i yn y byd o b’le
mae Twmi, eich mab, wedi d’od; mae gwaed brenhinol ynddo, yn ol fy meddwl i.”
Fy marn i am dano yw hyn: pe buasai wedi cael addysg golegawl, ac wedi mynd
allan o’r unigrwydd pentrefol yn ieuanc, y buasai wedi dwyn toraeth o
ffrwythau meddyliol. Medrai adrodd chwedlau am bersonau yn gampus. Yr oedd ei
gof yn orlawn o adgofion am hynodion hen bregethwyr teithiol y Methodistiaid,
a chofiai lawer o’u sylwadau mwyaf arabol. Pan yr oedd yn ieuanc yr oedd
Methodistiaeth ar Donyrefail yn ei gwedd fwyaf Pengrynol, hyny yw,
Puritanaidd. Yr oedd ochain a gruddfan, yn ol barn yr hen dadau a’r mamau
yno, bob amser yn cyd-deithio a gwir dduwioldeb; ac yr oedd, ar y llaw arall,
chwerthin, ysmaldod, a bywiogrwydd yn arwyddion nad oedd yr hwn a’u harferai
wedi ei “ail eni.” Yr oedd dull y canu Cynulleidfaol yn bwyllog ac araf, fel
symudiadau neu sigliadau cawell i fagu babanod yr ail enedigaeth. Yr wyf yn
cofio yn dda y “syndod” yn mhlith yr hen dadau ar Donyrefail pan ddaeth
“Hanes Bywyd ’Siencyn Penhydd’” allan o’r wasg, wedi ei gyfansoddi gan yr
anwyl a’r gwir hybarch Edward Matthews, y pryd hwnw o’r Ewynwy, ger Penybont.
Yr achos o’r “syndod” oedd fod Mr. Matthews yn “gallu bod mor ysgafn” ag i
ysgrifenu digrifwch o’r fath! Gwnaeth y llyfr gymaint o argraff braidd ac
ymddangosiad cyntaf y Parch. William Evans mewn “trousers” yn lle y
“breeches” penyglin. Cof genyf fod “Caledfryn” i draddodi darlith ar
Donyrefail. Bu yn destyn seiat, pa un a oedd yn unol a’r Efengyl iddo
ddarlithio o fewn y capel. Yr oedd Mr. Evans yn amheus am hyn. Ond yr oedd
“Caledfryn” yn boblogaidd fel gweinidog a bardd trwy holl Gymru, ac yn y
diwedd penderfynwyd y c’ai ddarlithio yn y capel, ond nid oedd i fyned i’r
pwlpud. Daeth y noswaith i “Caledfryn” i ddarlithio; yr oedd y capel yn
orlawn. Daeth “Caledfryn” i
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2441) (tudalen 19)
|
(x19) mewn, ac aeth ar ei union i fyny’r grisiau i’r
pwlpud er i’r blaenor, Morgan Evan (Morgan y Gof) - gwr hynod am ei wedd
Buritanaidd a difrifol – wneyd awgrym i’r bardd-bregethwr fod y pwlpud yn
waharddedig y noson hono. Mae’n debyg fod Morgan yno ar y pryd fel
amddiffynydd neu warcheidwad santeiddrwydd dihalogedig cyssegr Tonyrefail!
Edrychai Morgan i fyny ar ol “Caledfryn” fel un yn dysgwyl gweled taranfyllt
y ddeddf yn fflachio o bob cyfeiriad tuag at hen “Caledfryn”! Ond nid oedd
yno ond tangnefedd. Canfyddwyd Morgan yn codi ei ddwylaw, a chan edrych yn
surllyd ar lawr y sedd fawr, a chlybuwyd ef yn sibrwd wrtho ei hun: “Wel,
wel! (ochenaid) wn i yn y byd ffordd mae gwynebu William Evan!” Nid oedd Mr.
Evans ei hun wedi dyfod i’r cyfarfod. Yr oedd gwisgo blodau o un math yn y
byd gan lodesi – am y gwragedd, nid oedd neb o honynt hwy mor ysgafn a gwneyd
y fath beth – yn arwydd o uchelder ysbryd a balchder yn y galon, a chynghorid
hwy i “feddwl am eu diwedd.” Yr oedd ein hynafiaid yn y cyfnod hwn yn hanes
Cymru, megis wedi datgysylltu duwioldeb a’r tlysau anianol oddiwrth ei
gilydd. Rhoddent wedd alarus ar addoliad, gan ymddwyn fel rhai yn golygu y
buasai Duw yn fwy doeth pe buasai wedi creu llai o flodau a mwy o datws! Yr
ydym yn canfod ol llaw Duw ei hun yn addurniadau gogoneddus y ddaear a’r
wybrenau. Mae y prydferthion nefolaidd, o lygaid y dydd i fyny at yr haul a’r
lloer a’r ser, wedi eu creu i ddiwallu y sychod eneidiol sydd wedi ei osod yn
yr enaid am brydferthwch, harddwch, tlysni, a hyfrydwch. Mae’r enaid yn
anfarwol, ond derfydd y corph o ran ffurf a chydag ef y chwaeth am fwydydd.
Cenadon o fyd yr eneidiau yw blodau a’r prydferthion eraill, i lawenhau yr
enaid pan ar ei bererindod yn y corph. Gollyngir ef yn rhydd yn y man –
“Anngheuir” ef – a gwna drigo mwy yn myd genedigol y blodau. Fe welir
oddiwrth y sylwadau uchod pa beth a olygai yr hynafiaid wrth addurno gwely
marw a lleni gwyn, blodau, byth-wyrddion, gan osod ar eu heirch (“coffins”)
dorchau o flodau. Yn bwyllog iawn y daeth Thomas Morgan
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2442) (tudalen 20)
|
(x20) allan o’r cylch Pengrynol, i weled fod tlysni
anianol yn rhan o ddarparieth y Crewr gyferbyn a gwir ddedwyddwch benywod a
gwyr yn y fuchedd bresenol.
Cyfaill eglwysig penaf Thomas Morgan yn ei amser olaf ar y Ton oedd Bili
Lewis, Rhiw Gwyon Dro Fawr. Yr oedd y Parch. William Evans ugain mlynedd yn
henach ag ef, ac ni fu erioed gyfeillgarwch agos iawn rhwng y ddau. Yr oedd
yr holl ardalwyr yn falch o Mr. Evans, gan edrych arno fel un o brif
addurniadau, nid yn unig Morganwg, ond holl Gymru. Edrychai, yn ddiau, ar y
rhai hyny a welodd yn blant pan oedd yn anterth ei nerth corphorol,
meddyliol, a phregethwrol, gydag ysbryd tadol, yn cynwys awdurdod a
nawddyddiaeth. Yr oedd Thomas Morgan bob amser yn hynod o deimladol yn nghylch
barn a’r hyn a ddywedai y Parch. William Evans am dano. Bu siampl Mr. Evans a
Mr. Evan Thomas, gwr o’r Rhiw, a ymbriododd a Miss Ann Prichard, Shop y Ton,
yn bortreadau (“models”) o flaen ei feddwl yr hoffai eu hefelychu. Ond er i
Mr. Evans fyw i fod yn ymyl bod yn “fab can’ mlwydd,” yr oedd yn ffraeth ac
yn ieuanc ei ysbryd hyd yn agos i ddydd er farwolaeth.
● RHAN 10
3-08 Dyddiau Olaf Thomas Morgan
Fel yr awgrymwyd yn barod, yr oedd ei ymddatodiad yn dra sydyn.
Ychydig fisoedd cyn hyn dywedodd Dr. Hunter wrthyf yn gyfrinachol fod gwendid
yn nghuriadau calon fy ewythr, a bod yn ofynol iddo fod yn ofalus o hono ei
hun. Awgrymais yn union i’r claf y dylai gymweryd pethau yn hamddenol. Dydd
Gwener yr oedd, er yn teimlo yn llesg, wedi myned gyda’i ddwy wyres, Mary a
Rebecca, merched Margaret, ei ferch ymadawedig, tua Chaerdydd, i wrandaw
Ardalydd Bute yn traddodi darlith yn Neuadd y Parc. Wedi dyfod allan o’r
cyfarfod dywedodd wrth Mr. James Richards, Trefforest, ei fod yn rhynu gan
oerni, ac yr oedd yn welw iawn ei wedd. Cymerodd ychydig o frandi. Dychwelodd
gartref, a gwelais ef y noson hono ar ei ledorwedd ar y soffa, a
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2443) (tudalen 21)
|
(x21) dywedodd ei fod yn lled anhwylus, a mynegodd am
ei deimlad oer yng Nghaerdydd. Nos Sul nid oedd yn ei le arferol yn Nghapel
Penuel. Yr oedd Rebecca, ei wyres, yn fy ymyl, a dywedodd wrthyf ei fod heb
godi o’r gwely y dydd hwnw. Yr oedd hyny yn brawf i mi ei fod yn wael iawn.
Es i fyny i’r Fron ar ol y cyfarfod; yr oedd ei anwyl chwaer, Mari, yr hon
a’i haner addolai, yno yn bryderus iawn yn ei gylch. Es i fyny i’w ystafell
wely, a gofynais, “Beth sydd yn bod?” Atebodd o’r gwely, “Yr w’ ’i wedi cael
anwyd seriws, ond y mae yn addfedu. Pan es,” ebe fe, “i ymweled ag Evan
Roberts, Merthyr,” hen gyfaill a fu yn ysgolfeistr ar Donyrefail, “cefais ef
yn eiddil yn ei wely. Yr w’ ’i bron credu fy mod i’n debyg i’r sefyllfa ag y
ces e’ ynddi; ond bu e’ farw.” Gofynais a gawn i fyned i gyrchu y meddyg ato.
Cododd ei lais yn lled anfoddog, gan ddywedyd, “Na chai, siwr. ’Does arno i
ddim ond anwyd.” Ond O! yr oedd yn Rhosydd Moab. Yr oedd yr Iorddonen yn
agos, ond bod trugaredd wedi taenu niwl mal llen wen drosti. Nos Fawrth yr
oedd yn fwy sal, a’r meddyg yn awr yn gweini arno. Dydd Mercher yr oedd yn
fwy gwanaidd fyth, ac yn analluog i symud yn ei wely heb gymorth. Pellebrwyd
am Ann o Lundain; yr oedd Catherine yno yn barod. Bu mynediad Ann i’r
ystafell yn foddion i’w loni yn fawr iawn. Erbyn hyn yr oedd son ei fod yn
wael iawn wedi lledaenu yn mhell ac agos. Yr oedd yn nghanol ei anwyliaid.
Gyda’r wawr boreu dydd Gwener cymerodd bronfraith ei lle ar bren gwyrdd tal
ar gyfer ffenestr ei ystafell, a chanai ei alaw wanwynol yn hynod o beraidd a
soniarus. Edrychai yr ysgrifenydd trwy y dellt ar yr aderyn yn pyncian ei orfloedd
orfoleddus, a gwnelai gofio llinellau prydferth Dafydd ap Gwilym:-
“Y ceiliog serchog ei son,
Bronfraith dilediaeth loywdon;
Ba ryw ddim a fu berach
Blethiad na’i chwibaniad bach,
Pell y clywir uwch tiroedd,
Ei lef o’i lwyn, a’i loyw floedd.”
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2444) (tudalen 22)
|
(x22) Clywai y cystuddiedig odlau yr aderyn. Yr oedd
fy ewythr yn hoff iawn o beroriaeth, a phan oedd efe yn swn yr afon rhwng y
ddau fyd wele un o adar pereiddiaf “Cymru fynyddig”
“Yn chwiban fel cloch aberth,
Eurgan bwnc organ y berth”
megis i’r enaid oedd ar groesi i’r orphwysfa, i
“Ardal lonydd yr aur delynau.”
Yn foreu Sadwrn yr oedd amlygrwydd fod y terfyn daearol gerllaw. Aeth ei ddwy
ferch, ei ddwy wyres, a’i chwaer i ymyl ei wely. Clywyd ef yn sisial, “Trowch
fi tua’r south.” Beth oedd hynny? Onid tua chyfeiriad haul canol dydd?
Gofynodd yn awr, yn ei hen ddull, “Paham yr ydych chwi’n tywyllu y room?” Yr
hyn oedd ddaearol o hono ef oedd yn ymaros ar ol y tuyma {sic = y tu yma} i’r afon; yr oedd ef yn niwl
tew yr afon, ac ni threfnwyd i lygaid anianol i weld drwyddo. Ond cafodd
gipdrem eilwaith ar ei anwyliaid o’i amgylch; yna gofynodd, “B’le mae’r
llall?” Tebygol mai am ei wyres, Margaret Crooke, yr hon oedd gartref yn
Llundain, y gofynai. Agosodd Mari, ei chwaer, at ei ymyl, a llefodd allan,
“Dyma Mari, dy chwaer.” Mewn llais difrifol dywedodd yn awr, “Hush! hush!
hush!” Dyna ei eiriau olaf. Yr eiliad nesaf ehedodd ei ysbryd i’r tragwyddol
fyd i fyw! “Hush!”
“O! distewch, derfysglyd donau.”
Y mae ei “Hush!” pan ar drothwy y byd sydd yn anweledig i ni yn awr yn
awgrymiadol. Ai clustfeinio yr oedd o herwydd sain caniadau llu mawr yn ei
gyrhaedd, a phob un yno yn gwisgo coron ac yn cario’r palmwydd gwyrdd. Pwy a
wyr? Dichon mai gweled “y Brenhin yn ei degwch” a wnaeth yr eiliad hono. Llawer
gwaith y canodd yn ei fisoedd diweddaf “Y Delyn Aur.” Yr oedd brwdfrydedd yn
ei lenwi wrth ganu y geiriau –
“Yno caf fi ddweyd yr hanes,
P’odd {= pa fodd) y dringodd eiddil gwan,
Trwy afonydd a thros greigydd
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2445) (tudalen 23)
|
(x23) Dyrys, anial, aeth i’r lan;
Iesu ei Hunan
Gaiff y clod trwy eitha’r nef.
Nid oes yno ddiwedd canu,
Nid oes yno ddiwedd clod,
Nid oes yno ddiwedd cofio,
Pob cystuddiau fu yn bod;
Byth ni dderfydd
Canmawl Duw yn nhy fy Nhad.”
● RHAN 11
3-09 Llythyr Oddiwrth Thomas
Morgan
Derbyniais y llythr canlynol oddiwrth Thomas Morgan, dyddiedig
Mehefin 28, 1879: - “Mi glywais fod y Parch. D. W. Williams, Fairfield, wedi
ymweled ag Evan Evans a Mrs. Evans, Garthgribin, amryw o weithiau yn ystod y
misoedd olaf cyn marw Evan, a’i fod yn dweyd wrth ddyfod oddi yno ei fod wedi
bod yn gwrando dwy bregeth o’r mwyaf effeithiol – eu bod yn cael eu traddodi
megis ar drothwy y nef. Hen wr a hen wraig, y ddau yn ddall er’s blynyddoedd,
oedd yn eu traddodi. Bod Mr. Williams yn wylo yn hidl pan yn ailgoffa eu
cynghorion iddo ef.”
● RHAN 12
3-10 Y Parch. William Evans a
Hawliau Merched i Bregethu
Rai blynyddoedd cyn ei farwolaeth yr oedd cynhwrf yn mhlith y
Methodistiad yn Morganwg yn nghylch y priodoldeb o adael merched bregethu. Yr
oedd Cyfarfod Misol yn Nghapel Sion, Talygarn, Llantrisant, ac yr oedd yr hen
batriarch anwyl o Donyrefail yno ac yn cael sylw a pharch mawr, fel a roddid
gynt i’r Apostol Ioan yn ei henaint gan Eglwys Ephesus. Yr oedd achos y
merched a phregethu gerbron. Yr oedd Mr. Evans o fewn y sedd fawr, ac yn
gwrando yn astud ar y ddadl. O’r diwedd gofynwyd iddo ef draethu ar y mater.
Cododd, ac meddai, mewn llais a’i nodau rywle rhwng chwerthin ac wylo, “Wel,
wel, ’does genyf fi ddim llawer i’w ddywedyd ar y pwnc – ai priodol yw i
ferched bregethu o’r pwlpud; ond hyn a wn i – y ceiliog ac nid yr iar a wnaed
i ganu; creadur lled afrosgo yw iar i ddynwared y ceiliog yn canu.” Aeth yn
chwerthin mawr trwy y lle, ac yn nghanol y rhuadrau eisteddodd yr henafgwr i
lawr.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2446) (tudalen 24)
|
(x24)
{FFOTO: Y diweddar Thomas Morgan yn ei henaint}
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2447) (tudalen 25)
|
(x25)
(4) ADGOFION AM
DONYREFAIL
GAN THOMAS MORGAN EI HUN
“Os bydd gwr marw, a fydd efe byw drachefn? Disgwyliaf holl ddyddiau fy
milwriaeth, hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad.” – Job xiv., 14
“Canys pan ddel ychydig flynyddoedd yna mi a rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni
ddychwelaf.” – Job xvi., 22
● RHAN 13
4-1 Llith 1
TONYREFAIL YN YR AMSER GYNT - CIPDREM AR “JONES O LANGAN” - MABSANT
LLANBEDR AR FYNYDD - TORF YN CADW GWYL - HEN DAFARN Y TON - YSBRYD ANNIBYNOL
YR HEN DRIGOLION.
Fe ddichon nad annyddorol gan luaws ychydig benodau yn nghylch Tonyrefail, a
manau ereill yn mhlwyf Llantrisant, a ddygwyddasant yn ystod y deng mlynedd a
thri ugain diweddaf. Ar Donyrefail y’m ganwyd, ac yr wyf yn cofio yn dda am
lawer o bersonau, a dygwyddiadau hynod ddyddorol yno yn ystod y cyfnod
hirfaith o ddeng mlynedd a thri ugain. Pan wyf yn cofio sylwi gyntaf, nid
oedd Tonyrefail ond pentref bychan gwledig ar ochr yr heol rhwng Llantrisant
a Glynogwy. Yr oedd yr ychydig dai yn isel, ac wedi eu toi o wellt, yr hwn a
ymddangosai pan yn newydd yn euraidd o dan belydrau yr haul. Yr oedd y
parwydydd wedi eu gwyngalchu o fewn ac allan. Yr oedd i’r bwthynod erddi
prydferth, ac yr oedd yr holl drigolion yn codi blodau, ac hefyd wenyn, can
pa rai, er fy mod yn mawr ofni y cantorion pigog, a’m llonai pan oeddwn
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2448) (tudalen 26)
|
(x26) ond plentyn a “phinafore” gwyn o’m blaen. Yr oedd yr
heol drwy ganol y pentref yn hynod o lan. Ac yr oedd hyny cyn i’r gwahanol
fyrddau cyhoeddus ddyfod i fodolaeth. Nid oedd nifer y trigolion yn cartrefu
o fewn y pentref ond o dri ugain i bedwar ugain. Yn awr y mae yno tua 1,500.
Yr oeddynt oll yn gyfarwydd a’u gilydd, ac hefyd ag hanes y naill a’r llall.
Ac ambell waith byddai ystori ddigri, ac ambell i glec, yn gwefreiddio yr
holl ardalwyr syml a dirodres. Megis yn y dechreu yr oedd yr awr hono; ond yr
oedd gwaith y Dinas wedi dechreu tua thair milldir i’r gogledd oddiyno, ac yr
oedd ei ddylanwad yn dechreu cael ei deimlo yn ein hardal y pryd hwnw. Y gwir
am dani yw, yr oedd yr hen drigolion yn lled ragfarnllyd tuag at y glowyr, a
phan ddeuai ambell un o weithwyr ieuainc Mr. Walter Coffin i lawr o’r Dinas i
edrych am enethod prydferth yr ardal, gwnai yr hen famau edrych yn gilwgaidd
arnynt. Ond daethant yn fwy cyfarwydd a’u gilydd wedi hyny, ac yn mhen tipyn
gwelid bechgyn llenyddol ac ymchwilgar y Dinas wrth fyrddau te y trigolion yn
mwynhau “daionus bethau” yr hen deuluoedd. Ie yn siwr i chwi, wedi hyny aeth
rhai o ferched y Ton i breswylio “er gwell ac er gwaeth, er tloted ac er
cyfoethoced,” o dan yr un groglwyd i ardal y Dinas.
Yr oedd y Ton dri ugain mlynedd yn ol yn un o’r pentrefi mwyaf cyfleus; yr
oedd y lle yn fath o “golony” bychan, a phob peth ynddo at wasanaeth dyn. Yr
oedd yno felin yd; yr oedd yno weithdy gwlan, a gwneid yno frethynau a
gwlaneni o bob math; a maelfa gof. Mae yn debyg mai am hyny ei enwyd yn Dwyn
yr Efail. Yr oedd yno hefyd deilwriaid, seiri, a chryddion, a siopau – un ar
y Ton, a’r llall yn mhlas Abernodwydd, a thua haner milldir oddiwrth ei
gilydd. Yr oedd yno hen dafarn hir wedi ei doi a gwellt; yr oedd yr hen
dafarn mor henafol, fel yr oedd ei furiau fel coesau hen wr yn dyoddef
oddiwrth glefyd y giau, a elwir yn Saesneg yn “rheumatism,” yn ymddangos yn
lled adfeiledig. Yn hwn y cynelid “Clwb
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2449) (tudalen 27)
|
(x27) Benefit,” ac yr oedd yn cynwys of {sic; = o} 120 i 140 o aelodau, wedi dyfod yn
nghyd o wahanol fanau, filldiroedd o gwmpas. Yr oedd yr holl ffarmwyr drwy yr
holl ardaloedd amgylchynol yn aelodau o hono; a thrwy eu hesiampl dda, yn
dylanwadu yn llesol iawn ar bobl llai ffodus na hwy eu hunain. Yr oedd “rope
yard” wedi bod yno ger glan yr afon rhyw amser; ond y mae yn debyg, o herwydd
nad oedd angen rhyw lawer o raffau ar wyr y wlad hono, rhoddwyd heibio gwneud
y pethau hyny ar y Ton.
Yr wyf yn cofio sylwi yn foreu fod pawb ar y “Ton” yn byw, fel y dywedir,
arnynt eu hunain. Edrychid gan y trigolion ar fyned at y plwyf am elusen yn
warth mawr iawn. Ymddangosai pawb fel yn byw yn ddedwydd yno, megis heb dlawd
na chyfoethog, ond pobl pendefigaidd y Collena, yn eu plith.
Saif Tonyrefail ar lethr uwch gwastadedd afon Elwy, rhwng Craig y Dinas a
Mynydd y Rhiw, ac yn mhen uchaf plwyf Llantrisant, a rhyw bymtheg milldir o
Gaerdydd, a phump o Bontypridd. Ychydig i’r gogledd-ddwyrain o’r pentref y
mae tarddle afon Elwy, neu “y Lai,” fel y gwelir hi ar lafar gwlad. Arllwysa
yr afon hon i’r mor ger Penarth. Pan oeddwn yn ieuanc, deuai eogiaid gleision
i fyny hyd y lle hwn yn amser llifogydd. Ond erbyn hyn, maent wedi cael
cymaint o ofn y llwch a’r surni a red o’r gweithfeydd glo ag oedd ar yr hen
bobl ddiniwed gynt ofn glowyr y Dinas! Gobeithio y gwna yr eogiaid a’r
gleisiaid newid eu barn am bethau, fel y gwnaeth yr hen bobl, ac y deuant eto
yn llu arianaidd i ffrydiau ac aberoedd yr hen Elwy anwyl!
Perchenogion yr etifeddiaeth ar ba un y saif Tonyrefail ydoedd teulu henafol
a phendefigaidd Prichard, Collena. Nid oes neb yn gwybod oddiar pa gyfnod y
mae y teulu hwn yn berchenog ar yr etifeddiaeth hon. Mae achos crefyddol y
Methodistiad wedi ei sefydlu yma er’s tua cant a deg ar hugain o flynyddoedd.
Dechreuodd y Methodistiaid yma mewn canlyniad i ddylanwad yr enwog
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2451) (tudalen 28)
|
(x28) Jones o Langan wrth bregethu ar Mr. a Mrs. Prichard,
tad a mam y diweddar beriglor Prichard, ficer Llandaf, yr hwn a gymerwyd o’r
fuchedd hon ychydig o flynyddoedd yn ol. Saif hen balasdy y Prichardiaid, sef
y Collena, yn nghanol meusydd eang gwyrddion, ar war Tonyrefail. Yr oedd y
palasdy ar y cyfnod dywedig yn lle gwych, ac y mae olion ei wychder gynt yn
weledig yno hyd heddyw. Mae wedi ei adeiladu ar le mor ysgafn, fel y gellir
gweled o’r ffenestri dref y Llan a’r holl wlad rhwng y ddwÿ dref. Mae hefyd
yn gwynebu mynyddoedd y Rhiw, a gellir cael cipolwg oddiyno ar Fro Morganwg,
drwy fwlch y dyffryn, rhwng craig y Llan a mynydd Garthmaelwg. Mae yn ysmotyn
hynod o ddyddorol yn hanes adnewyddiad crefydd yn Nghymru!
Yr oedd y Mr. Prichard y soniaf amdano yn ynad heddwch, fel ei deidiau. Enw
Mrs. Prichard cyn priodi oedd Miss Thomas, ac yr oedd yn enedigol o Bontyfon.
Yr oedd wedi ei dwyn i fyny yn yr adeg oreu, ac yr oedd megis tywysoges
Gymreig yn ei chartref, a phob lle y byddai.
Yn mhen ychydig amser wedi priodas Mr. a Mrs. Prichard, dechreuodd yr hybarch
Jones o Langan bregethu gydag arddeliad mawr ar anfoes y Mabsant, yn agos i
Eglwys Llanbedr ar Fynydd – lle ar ben mynydd rhwng Tonyrefail a’r Bryniau
Gwyion {sic = Gwynion} a Phencoed
Llanilid. Yr oedd son drwy yr holl wlad am bregethu hynod periglor Llangan,
ac ar un nawn Sabbath penderfynodd Mr. a Mrs. Prichard fyned ar eu ceffylau
tua’r cyfarfod. Amcan Jones o Langan oed denu y werin a gyrchai i’r Gwyl
Mabsant annuwiol ar y mynydd tuag at newyddion gwell yr efengyl. Pan yn myned
i’r mynyddoedd gwelai y pendefig a’r bendefiges y llethrau, pell ac agos, yn
ddu, fel y dywedir, o bobl yn dylifo tua chyfeiriad Llanbedr ar Fynydd. Yr
oedd yr olygfa yn un gyffrous iawn, ac yn un newydd iawn y dyddiau hyny, yn
Morganwg. Yr oedd tan {sic; = tân} y
diwygiad wedi ei gyneu yn y Deheudir, ac adsain hen ddyffrynoedd Morganwg yn
dechreu cael eu dihuno gan ganiadau dirfawr orfoledd y pererinion! Yr oedd
dringo llethrau mynyddoedd y
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2450) (tudalen 29)
|
(x29) nawn hwnw yn arwyddlunio dyrchafiad ein cenedl ag oedd
yn dechreu cymeryd lle drwy ddylanwad y diwygiad Methodistiaidd!
Wrth fod Mr. a Mrs. Prichard yn dynesu at yr Eglwys, gwelent ganoedd o bobl
yn yr awyr agored gyferbyn a thalcen yr Eglwys. Yn erbyn y talcen yr oedd
esgynlawr i’r offeiriad a’r llefarwyr ag oedd i gyneryd rhan yn ngwaith y
dydd. Maes o law, wedi iddynt gyrhaedd ymyl y dorf fawr, gwelent wr o
edrychiad difrifol yn codi ar yr esgynlawr, ac yn rhoddi emyn allan i ganu.
Ei enw oedd William Thomas o’r Pil. Gwr hynod fu ef yn ei ddydd! Wedi y canu,
cododd Jones Llangan (yr offeiriad), a rhoddodd yntau emyn allan wed’yn, ac
wedi canu eilwaith y penill –
“Tragwyddoldeb maith a minau
Sydd yn mron a chwrdd yn nghyd,
Dyna’r pryd cawn wel’d yn eglur
Fath rai oeddym yn y byd.”
Yna darllenodd ei destyn, sef, “Canys daeth dydd mawr ei ddigter ef, a phwy a
ddichon sefyll?” Pregethodd gyda hyawdledd digyffelyb am y farn ddiweddaf,
nes yr oedd dychrynfeydd wedi gwefreiddio yr holl luaws.
Cyn hir wedi hyny cawn iddynt ymuno a’r Methodistiaid. Cynelid cyfarfodydd
crefyddol wedi hyny yn gyson yn neuadd fawr Collena. Deuai y diwygwyr yno;
yno yn aml y gwelwyd ac y clywyd y Parch. W. Williams, Pantycelyn, y Parch.
Peter Williams, y Parch. Dafydd Jones, Llangan, “Llwyd o Gaio,” a llawer
ereill; ac yno gwelwyd lawer tro –
“Torf yn bwyta’r bwyddydd brasa’,
Gwin a manna, nefol faeth!”
Bu y ddau yn aelodau ffyddlon gyda’r Methodistiaid ar Donyrefail hyd eu bedd.
Cyfansoddodd Williams Pantycelyn farwnad am Susanah ei merch. Bu tair o’r
merched, sef Ann, Deborah, a Martha, fyw ar Donyrefail hyd o fewn ychydig o
flynyddoedd yn ol. Fel eu rhieni, yr oedd eu ty bob
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2453) (tudalen 30)
|
(x30) amser yn gartref fforddolion,
os byddai y fforddolion yn bregethwyr Methodistaidd. Nid yn unig rhoddent
lety i bregethwyr yn rhydd ac am ddim, ond cyfranent hefyd yn helaeth at yr
achos. Mae llawer o bregethwyr Cymru yn cofio yn dyner am letygarwch ac addfwynder
yr “hen ladies.” Cadwasant hyd y diwedd yr hen bwlpud o’r hwn yr arferai
enwogion bregethu yn y Collena, ty eu tad a’u mam. Tua deng mlynedd ar hugain
yn ol yr oedd y duwiol Lewis Powell, Caerdydd, ar ymweliad a Thonyrefail, ac
yn lletya yn nhy yr hen foneddigesau dywededig, merched y Prichards uchod.
Dywedais wrtho hanes yr areithfa lle yr eisteddai. Cododd yn sydyn, a gwedd
ddifrifol iawn arno, a chan godi ei ddwylaw megis i fendithio yr hen bwlpud,
dywedodd, “Os dylai rhywbeth gael ei anfon i’r British Museum, dylid gwneyd
hyny a hwn!”
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2452) (tudalen 31)
|
(x31)
●
RHAN 14
4-02 Llith II
CYCHWYN ACHOS GAN Y TREFNYDDION CALFINAIDD - COFRES Y GWRAGEDD A GADWASANT
Y TAN AR ALLOR TONYREFAIL - CODI’R CAPEL - EI AIL A’I DRYDYDD ADEILADU -
NODION DIDDOROL AM BERSONAU
Bu adeg ar yr achos Methodistaidd yn y lle uchod pan nad oedd ond wyth
o fenywaid yn perthyn iddo. Yr oedd hyny yn mhen rhyw ysbaid wedi claddu Mr.
Prichard, Collena. Dwy Elizabeth Morgan, Jane Morris, Mrs. Prichard, Mary
James, Mrs. Jenkins, Jane Powell, a Margaret Morris. Y gwr cyntaf a ymunodd a
hwy oedd Evan Rhydderch. Yr wyf yn ei gofio yn dda. Y mae mab iddo, sef
Windsor Rhydderch, yn byw yn awr yn Tylcha Isaf, yn agos i Donyrefail. Y mae
mewn oedran mawr – yn agos i bedwar ugain a phymtheg mlwydd oed. Y nesaf a
ymunodd oedd Dafydd Evan – gwr ieuanc dan ugain oed – sef, tad yr Hybarch
William Evans. Dilledÿdd oedd wrth ei alwedigaeth. Dyn teneu oedd, ac o
daldra cyffredin. Yn fy nhyb i, nid oedd yn mhell o fod yn debyg i’r diweddar
Barch. Morgan Howell, Mynwy. Yr oedd yn hynod am ei synwyr cyffredin. Byddai
bob amser yn gwneud argraff ar yr holl ardalwyr ei fod yn wr call ac yn ddyn
da. Yr oedd yn debyg iawn i’r darluniad a rydd y Parch. T. Binney o’r dyn
hoff o’r ddau fyd. Yr oedd i Dafydd Evan a Bess ei wraig amryw feibion a
merched. Thomas oedd y mab hynaf, sef Twmi o Gornel y Parc – dyn medrus i
drafod dynion. Bydd genyf rywbeth i’w ddweyd am y gwr hwn eto. Dafydd oedd yr
ail fab. Yr oedd efe yn dadcu i Syr D. Evans, Arglwydd Faer Llundain. Arferai
y Parch. W. Evans ddweyd mai Dafydd oedd y goreu o honynt oll fel masnachwr.
Richard oedd y trydydd mab. Dyn dymunuol iawn oedd. Yr oedd ei air fel “bond”
am bob peth, ac yr oedd llawer o gyrchu i’w dy, sef Maesyfelin, ger
Pontyglyn, am gynghorion.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2454) (tudalen 32)
|
(x32) Evan oedd y pedwerydd. Cymydog
caredig, gonest i’r carn. Cododd deulu mawr, ac y maent oll wedi troi allan i
fod yn anrhydedd i’w rhieni duwiol, ac o wasanaeth i gymdeithas. “Ei feibion
a ddaw i anrhydedd, ond nis gwybydd efe.”
William, sef y Parch. W. Evans, Tonyrefail, yw y pumed mab. Nid oes eisiau
dweyd gair am dano ef, oblegyd y mae ei glod trwy holl Gymru.
Un o’r gwragedd a enwyd uchod, sef Mrs. Jenkins, o’r Rhiw, oedd mam y Parch.
Mr. Jenkins. Cafodd ef addysg dda. Bu yn Rhydychain am flynyddodd, ac yn mhen
rhyw enyd dechreuodd bregethu, a bu yn llwyddianus iawn. Cafodd alwad i un o
gapelau Arglwyddes Huntingdon, i Lewes, yn Lloegr. Bu yn weinidog llafarus a
llwyddianus yno hyd ei fedd.
Cymerodd Diwygiad mawr le yn yr ardal, ac ymunodd llawer a’r Eglwys
Fethodistaidd yno. Ymunodd amryw o wragedd parchus yn aelodau, megis Sara o’r
Rhiw a Margaret Llywellyn, sef hen famgu “Morien.” Merch oedd hi i’r bardd
enwog o Dy’r Ffynon, Cwmtaf Fawr, sef Shon Llewellyn, awdwr, yn mhlith
caniadau poblogaidd ereill gynt, y gan a elwir “Y Ddafad Las a’i Hoen.” Ar eu
hol ymunodd “Bechgyn y Rhiw” a’r ddeadell fechan o grefyddwyr yno. Eu henwau
oeddynt Evan, Dafydd, a William. Buont o wasanaeth mawr i’r achos yn y lle.
Yr oedd Sara, eu mam, wedi colli ei gwr drwy farwolaeth, ac yr oedd y plant
yn ieuainc iawn pryd y dygwyddodd hyny, ac yr oedd hi yn naturiol yn un
ddigalon ddigon. Ofni yn ddirfawr fethu “talu ei ffordd,” a phenderfynodd
fyned tua Brombil-Margam i siarad a pherchen y tyddyn, sef Mr. Gruffydd
Llewellyn, i roddi y tir allan o’i llaw. Pan yn myned tuag yno marchogai
Evan, ei mab deg oed, ar y gaseg tu ol iddi. Daeth Evan wedi hyny yn
foneddwr. Priododd Miss Anne Pritchard, Collena, ond ni fu iddynt hiliogaeth.
Adroddodd Sara ei chwyn wrth ei landlord, a dywedodd wrtho fod yn rhaid iddi
roddi y tir o’i llaw, am nas gallasai hi dalu am dano. “Na, na,” ebe Mr. G.
Llewellyn, “aroswch yn y Rhiw. Y mae genych chwech o
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2455) (tudalen 33)
|
(x33) fechgyn, a deuant yn fwy cryf bob dydd. Rhyngoch
chwi a minau, Sara, ni dalwn am dano.” Ni derbyniodd Mr. G. Llewellyn
ffyrling o rent ganddi am hir amser. Tyfodd y meibion yn weithwyr caled, ac
yn bobl gynil a sobr, ac mewn amser daethant yr amaethwyr cyfoethocaf yn yr
ardaloedd hyny.
Bydd genyf ragor eto i’w ddywedyd am y meibion hyn. Yr oedd y Margaret
Llewellyn y sonir amdani uchod, yr hon oedd yn famgu i’r ysgrifenydd, a’r
Sara uchod yn hoff iawn o’i gilydd.
Capel presennol y Methodistiaid yma ydyw y trydydd a adeiladodd y
Methodistiaid yn y lle. Codwyd y capel cyntaf o dan gyfarwyddyd yr enwog “Jones
o Langan,” a rhoddwyd y tir ato gan Mr. Pritchard, Collena, am ardreth o un
swllt y flwyddyn. Rhoddodd y boneddwr o’r Collena Feibl hardd i’w osod ar y
pwlpud. Yr wyf yn cofio y dda weled y Beibl, ac yr oedd arno mewn gemau
eurog, “Rhodd gan Evan Pritchard, Collena, i Eglwys y Methodistiaid ar
Donyrefail.” Adeiladwyd y capel cyntaf tu’r {sic
= tua’r} flwyddyn 1779, a’r ail yn 1839, a’r trydydd, sef y presenol,
yn 1860, ac yn werth ₤1,100. Y mae wedi ei dalu am dano ers tipyn o
amser. Y mae yno gynulleidfa fawr, ac mae’r achos yn llewyrchus.
Yr oedd yma, ar le a elwid y Waun Rydd, ysgol ddyddiol fechan i ddysgu
Saesonaeg, &c. Yr ysgolfeistr oedd Mr. Edmund Jones, tad y Parch. Edmund
Jones, gweinidog parchus gyda y Bedyddwyr yn Mhenycoed, Llanilltid. Yr oedd
Mr. Jones a gair da iddo gan bawb, a phobl yr ardal yn siarad yn garedig am
dano wedi iddo ymadael a’r lle.
Y nesaf ddaeth yma oedd Mr. Thomas Jones, brodor o Sir Gaerfyrddin, a’r nesaf
oedd Mr. D. Lewis, wedi hyny o’r Red Lion, Pontypridd. Byddai Mr. Lewis yn
cerdded, nos a boreu i ac o Donyrefail – tua deuddeg milldir y dydd, ac nid
oedd ei enill ddim mwy nag 8s. yr wythnos. Y mae hyn yn dwyn ar gof i mi
hanesyn a adroddodd y Prif Farnwr Coleridge yn ddiweddar wedi ei ddychweliad
o’r America. Rhyw foreu
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2456) (tudalen 34)
|
(x34) ymwelodd Mr. Blaine
(aelod o’r Cynghor yn Washington) ag ymylon yr Ohio. Dywedodd Mr. Blaine
wrtho fod ei dad ef yn dweyd wrtho fod ei dadcu yn arfer gallu taflu dolar yn
groes i’r afon i’r ochr arall. Iddo ef chwerthin wrth glywed y stori, ac i’w
dad ofyn a oedd yn amheu ei gwirionedd. “Na, na,” meddai yntau wrth ei dad,
“ond yr oedd dolar yn myned lawer iawn pellach y pryd hyny nag yr a yn awr.”
Fe chwarddai wyrion cyfoethog Mr. Lewis pe y clywent am enill eu tadcu ar y Ton.
Ond trwy’r cwbl, daeth Mr. Lewis yn werth canoedd o bunau cyn iddo farw. Yr
oedd Mr. D. Lewis yn ddyn talentog, yn ysgolhaig rhagorol, ac yn ddyn gonest
a serchog.
Ar ei ol ef daeth Mr. E. Roberts o Ferthyr. Dyn ieuanc yn nghylch 22 oed oedd
ef. Nid oedd wedi cael nemawr o ysgol, ond ysgol nes yn Merthyr. Yr oeddem yn
ofni fod y cyfaill yn rhyfygu wrth fyned i gadw ysgol gyda can lleied o
ddysgu ei hun, ond siomodd ni o’r ochr oreu. Ymdrechodd dysgu ei hun wrth
geisio dysgu ereill, a llwyddodd yn fawr iawn. Yr oedd yn dysgu gramadeg trwy
ohebu a’r diweddar a’r hynaws, Mr. Rhys Lewis, argraffydd, Merthyr, ac
ereill, a daeth yn un o’r grammadegwyr goreu yn y wlad. Fel y dywedai Mr.
Peter Williams, Merthyr, am Evan Roberts yn yr hanes am ei farwolaeth yn y “Western
Mail,” “Yr oedd yn un o’r ysgolheigion Cymreig goreu yn Nghymru.” Bu yn
Nhonyrefail am flynyddoedd. Daeth ar ei feddwl i ymweled a’r Misses Hill,
Cwrt-yr-Ala, un diwrnod. Yr oeddynt yn chwiorydd i Mr. Hill, perchenog
gweithiau haiarn Pentrebach, Merthyr.
Cymerasant ddyddordeb mawr yn Mr. Roberts am ei fod ef, ei dad a’i frodyr yn
hen weithwyr i’w brawd. Anfonasant at Mr. Hill i ofyn iddo am wneud rhywbeth
drosto. Yn mhen ychydig amser wedi hyny danfonodd Mr. Hill am dano. Bu am rai
misoedd yn pwyso haiarn yn y gwaith; wedi hyny cafodd ei wneud yn “furnace
manager,” a phan fu Mr. Hill farw cafodd rai canoedd o bunau ar ei ol. Bu
wedi hyny
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2457) (tudalen 35)
|
(x35) yn yr un swydd am flynyddoedd o dan Mr.
Fothergill. Gorphenodd Mr. Roberts ei yrfa tua flynedd yn ol. Yr oedd wedi
cyrhaedd parch mawr gan ei gyd-drefnwyr. Ni throediodd Cymru un dyn mwy
cywir. Heddwch i lwch fy hen gyfaill anwyl! Bu yma amryw yn cadw ysgol ar ei
ol ef cyn yr Ysgol Frytanaidd. Byddai yn rhy faith i’w holrhain.
Wedi hyny sefydlwyd Bwrdd Ysgol yma. Yr oedd Tonyrefail yn un o’r ardaloedd
cyntaf i gynyg am y Bwrdd. Cawsom wrthwynebiad mawr. Daeth y Parch. R.
Pritchard, perchen y lle ar y pryd, yn un swydd o Stratford-ar-Afon, i geisio
darbwyllo yr ysgrifenydd i bleidio y National School, ac addawodd roddi swm
go dda yn flynddyol tuag ati. Ond nid oedd bosibl ein troi. Daeth y gwr o
Faenor Misgyn allan yn ei holl nerth, ac nid oedd dim a safai o’i flaen ef! Y
mae yma ysgol ddyddiol enwog o dan Fwrdd Ysgol Llantrisant, ac y mae hi yn
“gredit” i’r ardal.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2458) (tudalen 36)
|
(x36)
●
RHAN 15
4-03 Llith III.
YR HYNAWS MR. WILLIAM MORGAN, TYLCHAFAWR - PORTHMON ENWOG - EI HOFFDER O DDYNION
OD - SHON DAFYDD FEL PRYDYDD A PHREGETHWR - “CLYWCH, DEYRNASOEDD, A
GWRANDEWCH Y CYMYDD” - PREGETHU YN NGHOED Y TYLCHA I DARFU’R “YSBRYD DRWG” -
FFORDD GWERTHWYD COED CAE - TWM EVAN PRYS
Un o’r pethau cyntaf wyf yn ei gofio yw gweled Mr. William Morgan,
Tylchafawr, yn galw wrth dy fy rhieni, ac yn galw ar fy mam,
“Cesil,” meddai, “beth yw y bachgen llefog yna sydd genych? Yr wyf yn clywed
ei swn o Tylcha.”
“Wel, yn wir, syr,” meddai hithau, “un drwg iawn yw e’; mae wedi cael gormod
o’i ffordd o lawer.”
Mi gofiais byth am y tro, er nad oeddwn ddim mwy na chwe’ mlynedd oedd ar y
pryd. Yr hyn oed fy mam yn gyfeirio ato wrth ddweud fy mod wedi cael gormod o
fy ffordd oedd hyn: - Yr oeddwn newydd wella o effaith llosgiad pan oeddwn yn
nghylch pum’ mlwydd oed. Nid oedd neb yn credu y gallesid fy adferyd. Nid
oedd un meddyg y pryd hwnw yn nes na Phontyfon, rhyw ddeuddeg milldir o
Donyrefail.
Byddai y Parch. E. Prichard, o’r Collena, a Rhys Evans, o’r Factory, yn talu
sylw mawr i gleifion yr ardal, ac yr wyf yn cofio yn dda i’r ddau ddyfod i’m
gweled. Yr oedd Mr. Evans yn gwaedu ugeiniau o’r ardalwyr bob gwanwyn. Byddai
yr arferiad y pryd hwnw i wneud hyny. Gwelais lawer merch ieuanc yn cael ei
gwaeddu ganddo yn ei braich nes y byddai yn llewygu. Clywais Mr. Prichard a Mr.
Evans yn ymgynghori beth oedd y peth goreu i wneud i mi, a deallais eu bod yn
bwriadu fy ngwaedu. Minau yn gwybod ei bod hi yn amser lladd moch, mi
waeddais allan,
“Chewch chwi ddim gollwng fy ngwaed i, na chewch wir!”
Wedi i mi dyfu i fyny, pan y
cyfarfyddwn a Mr. Prichard neu a Mr. Evans, byddent yn dweud wrthyf, “Chewch
chwi ddim gollwng fy ngwaed i!”
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2459) (tudalen 37)
|
(x37) Ond am Mr.
William Morgan o Dylcha yr oeddwn yn son. Dyn mawr o gorpholaeth, a gwr mawr o
feddwl, oedd efe. Yr oedd ganddo feddwl gwreiddiol bron am bobpeth. Yr oedd
yn wir wr boneddig, ac yn un o’r dynion harddaf a welais erioed. Byddai yn
cadw rhyw ddeuddeg neu bymtheg o weision a morwynion. Yr oedd ganddo fil o
ddefaid, a llawer iawn o ychain. Byddem ni ar Donyrefail yn edrych arno fel y byddai
pobl yn edrych ar Job yn ngwlad Us. Yr oedd ganddo lawer o deirw a da
“Scotch” ar fynyddoedd y Gilfach Goch a Fforch Nest. Heblaw hyny, yr oedd yn
ffermu Gelligron, Tontraethwg, Tylchawen, Llanilid, a Thylchafawr. Yr oedd
dyddiau cneifio y defaid yn Dylcha yn fath o wyl yn yr ardal, yn enwedig yn
nghyfrif y plant. Byddai Mr. Morgan yn myned i ffair y Llan bob tri mis i
werthu ychain, gwartheg, defaid, a cheffylau. Yr oedd yn hyfryd ei weled yn
myned ar y gareg (sic: = gaseg) las, a phawb ar y ffordd ac yn y ffair yn talu
gwrogaeth iddo.
Nid oedd Mr. Morgan yn myned oddicartref yn fynych – ei ddifyrwch oedd cael
cwmni dynion cyffredin yn ei dy. Byddai rhai cymeriadau hynod ganddo o’i
amgylch bron bob amser. Yr oedd ganddo fath o ffwl neu ddau yn Nghylcha yn
wastad. Yr wyf yn cofio yn dda am Shon Dafydd – “Shon British Coch,” y byddai
yn cael ei alw, am ei fod yn gwisgo felly. Ganwyd Shon yn Gaerwica {sic – treiglad meddal}, Pendeulwyn. Symudodd ei
dad i Hendreforgan; ond nid oedd Shon yn ddedwydd iawn gartref. Aeth i
wasanaethu Mr. Harries, Trefyrhug, a Grey o Rhiwinder, drwy ddanfon ychain i Northampton. Dysgodd Shon
dipyn o Saesneg wrth deithio yn Lloegr. Byddai yn gwneud llawer o ganiadau i
Forwyn y Gilfach, y Crochan Cawl, a Grey o Rhiwinder, &c. Mawr oedd y
difyrwch a gaem wrth ei glywed yn eu canu. Byddai Shon yn “pregethu”
weithiau. Byddai “Llywelyn o’r Lawn” ac yntau yn myned ar “deithiau” yn aml i
“bregethu.” Ni chymerent arnynt eu bod yn perthyn i un enwad neillduol.
“Pregethu” ar yr
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2460) (tudalen 38)
|
(x38) heolydd
y byddent, a chasglu ar y diwedd – pob un a’i het. Testyn Shon un Sabbath pan
yn “pregethu” ar Graig y Dyllais, ar fynydd y Bedw, Cymer, oedd, “Clywch deyrnasoedd,
a gwrandewch y cymydd.” Nid oedd tai yn y Cymer y pryd hwnnw, ond ychydig o
dyddynod bob ochr i’r Cwm. Yr oedd y pregethwr yn dweyd yn ddigon uchel i’r
holl ardalwyr glywed, o Dy’n-y-cymer hyd Nyth Bran. Yr oedd Shon yn gyfaill mawr
i bawb, yn enwedig Mr. William Morgan, Tylcha. Gwnaeth Mr. Morgan le i Shon i
gysgu ar lofft yr ystabl, fel y byddai yn gallu mynd a dod pryd y mynai. Yr
oedd yno wely, bwrdd, ystol, a bara bob amser. Nid oedd canwyllbren yno, o
herwydd, fe ddichon, nad oedd Shon yn gallu darllen. Yr oedd yno bron bobpeth
fel yr oedd y foneddiges hono wedi ei baratoi i’r hen broffwyd Eliseus. Ond
yn sicr, yr oedd cryn wahaniaeth rhwng y ddau ddyn!
Byddai Pentre y Ton yn gwybod pryd y dychwelai Shon adref; byddai yn
“pregethu” bob amser pan yn dychwelyd trwy goed Tylcha, o herwydd ofn ysbryd
drwg, a byddai yn arfer dweyd pethau digrif am wyr y Ton yn ei bregeth. Bu yn
ei flynyddoedd olaf yn cario negeseuon o Donyrefail i Bontypridd. Byddai cod
gan Shon i fyned a’r llythyrau a phethau ereill. Cariodd filoedd o lawer o
bunau i’r ariandy yn Mhontypridd, ac ni wnaeth gamsyniad erioed. Nid oedd
Shon yn gallu rhifo; pan y byddai haner cant o dda o’i flaen byddai yn gwybod
yn union os byddai un wedi myned yn eisieu. Ceiniog y neges fyddai Sion yn ei gael, a digon o fwyd pan y
dychwelai. Ni fyddai yn arfer cymeryd dim lluniaeth yn Mhontypridd, ond
byddai yn talu iddo ar ol cyraedd y pentre. Byddai yn cael ei de yn eu tro
gan bobl y pentref, sef y rhai hyny ag y byddai yn gwneud negeseuau drostynt.
Gwelais
ef yn yfed naw dysglaid o de lawer gwaith. Byddai Shon yn ymffrostio ei fod
yn fwytawr mawr. Clywais ef yn datgan faint o gawl a fyddai yn ei yfed ar y
tro. Gwnaeth “fatch” cawl un tro a gwas y Gilfach. Yfodd hwnw bedair dysglaid
o gawl, ond yfodd Shon chwech! Byddai yn cael llon’d mail
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2461) (tudalen 39)
|
(x39) o uwd sygaethan yn Nghylcha o’i flaen, a byddai
Mr. Morgan yn ymbleseru wrth ei weled yn myned yn mlaen gyda’r bwyd. Byddai
yn debyg iawn o osod y cwbl o’r golwg. Mae Shon wedi ei gladdu er’s
blynyddoedd. Cyrhaeddodd ddwy flwydd ar bymtheg a thri ugain. Claddwyd ef
wrth gapel y Methodistiaid, Tonyrefail. Byddai y bechgyn yn cael llawer o
ddifrifwch wrth ddweyd wrtho y cai ei gladdu yn Glynogwy gyda’i dad. Ond
byddai Shon yn protestio y byddai yn “struggle” ofnadwy os cynygient fyned ag
ef yn mhellach na’r Ton.
Dylaswn
ddweyd fod Mr. Morgan, o Dylchafawr, yn wr cyfoethog. Nid yn unig yr oedd
ganddo anifeiliad lawer, ond yr oedd yn dirfeddianydd. Efe oedd perchen
Tylchafawr, Coedca, Twm Evan Prys, &c. Gwerthodd Mr. Morgan y Coedca i’r
diweddar Mr. J. Hopkins, Cilely. Yr oedd Mr. Hopkins a Mr. Morgan wedi cwrdd
un noswaith yn y Boar’s Head, Tonyrefail, ac wedi yfed i ormodedd eu dau, a
gwerthodd Mr. Morgan y tir am ₤500 – llawer llai na haner ei werth.
Danfonodd dranoeth at Mr. Hopkins i ddweud ei fod wedi yfed y noson cyn hyny,
a’i fod yn gobeithio na wnai Mr. Hopkins gymeryd mantais arno. Trodd yr achos
yn ofid dirfawr i Mr. Morgan, ac effeithiodd yn fawr ar ei iechyd, a bu farw
yn mhen rhyw ddeuddeg mis ar ol hyny. Gwerthodd Mr. Hopkins y Coedca am ₤1,000
i Mr. Vaughan Edwards, Rheolau, ond cadwodd cryn ddarn ohono ei hunan. Perchenog y
rhai hyny yn awr yw Mr. William Hopkins, o’r Island Farm, Penybont. Y mae y
tir a werthwyd y pryd hyny am ₤500 heddyw yn werth ₤100,000 (cant
o filoedd). Mae gwaith glo mawr arno ac ynddo, gan
Syr W. T. Lewis a’i gyfeillion, ac y mae yno rhyw {sic
– dim treiglad} fil o lowyr yn gweithio.
Yr oedd Mr. Morgan, o Dylcha, yn hynod o dyner a gofalus am ei deulu. Yr oedd
bob amser yn ymddwyn tuag atynt fel plant. Byddai yn hynod i geisio eu
cefnogi i sefyll rhyw ran o’u henillion. Yr wyf yn cofio i William Morgan,
adeiladydd, Tonyrefail, fyned ato pan nad ydoedd rhyw
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2462) (tudalen 40)
|
(x40) ddeudeg oed. Rhoddodd ddafad iddo y flwyddyn
gyntaf, gyda chyflog. Yn mhen tair neu bedair blynedd, pan ymadawodd i ddysgu
ei gelfyddyd, yr oedd y ddafad wedi myned yn chwech. Gofynodd i’w feistr pan
yn ymadael, “Beth am yr ychydig ddefaid, syr? Beth gaf fi dalu am eu lle?”
“Paid a blino dy hunan am y defaid,”
ebai Mr. Morgan, “byddant yn ddyogel i ti.” Pan y bu farw Mr. Morgan, yr oedd
y ddiadell wedi cynyddu i un-ar-ddeg! A thalodd ei frawd, sef y diweddar Mr.
Evan Morgan, Ty’n-y-cymer, am danynt iddo. Claddwyd Mr. Morgan gyda’i dadau
yn y Cymer. Cafodd angladd dywysogaidd. Yr oedd yr holl ardalwyr wedi dyfod
i’r cynhebrwng hwnw! Gellir dywedyd fod yno “alar mawr iawn” mewn gwirionedd!
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2463) (tudalen 41)
|
(x41)
●
RHAN 16
4-04 Llith IV.
YR HYNOD NOAH MORGAN, TYLCHAFAWR - “TAI GWENYN” NOAH - NOAH YN Y CAPEL -
SIARAD EI FEDDYLIAU HEB YN WYBOD IDDO EI HUN - “FE FYDD NOAH YNO HEFYD” -
THOMAS, CAEGARW
Addewais yn fy llith ddiweddaf roddi ychydig o hanes Mr. Noah Morgan,
Tylchafawr, ac ereill. Yr oedd gan Mr. William Morgan, o Dylchafawr, bedwar o
frodyr ereill heblaw Noah, sef Twmi, Evan, Hywel, a Morgan. Dyn cyffredin o
daldra oedd Twmi, ac yn grwca ei osgo. Nid oedd fawr o ddawn ganddo, ond yr
oedd yn llawn o ddigrifwch, a’i holl fryd oedd ar wneud rhyw driciau diniwed
a’i gymdogion. Dywedir ei fod yn ddoniol yn hyny. Y mae cannoedd yn cofio
Evan, sef Mr. E. Morgan, Ty’n-y-cymer. Bydd genyf lawer i’w ddywedyd am dano
yn y dyfodol. Hywel oedd y nesaf. Yr oedd hynodrwydd ynddo ef. Morgan oedd yr
olaf, sef tad Mr. Morgan, Floodgate, Llanilltyd Fawr; Mr. John Morgan,
Assistant Overseer, Llantrisant; E. Morgan, y Gadairwen, Groesfaen; a meibion
ereill, ac yr oedd iddo rai merched. Maent oll yn feibion ac yn ferched
talentog, parchus, a chrefyddol. Ond am Noah yr oeddwn yn addaw yr hanes yn
awr. Yr oedd Noah yn ddyn llawn chwe’ throedfedd o daldra, ac ysgwyddau
llydain iddo, ac yr oedd o gorph llunaidd. Yr oedd bob amser yn gwisgo yn
daclus, siaced gron, wen; “breeches” penlin velvet o’r fath orau; ruban wrth
ei benliniau yn ateb lliw y “breeches”; hosanau gleision o waith “Shan
Persondy,” gwerth haner gini, am ei goesau; ysnoden sidan las am ei wddf, ond
nid am ei fod yn Dori; het wellt; ei grys mor wyned a’r eira. ’Roedd yn
edrych fel hen dywysog Morganwg! Byddai bob amser yn gwisgo “channels,” fel y
byddai esgidiau o’r fath yn cael eu henwi. Nid pob gweithiwr a allasai wneud
esgidiau o’r fath. Byddent wedi eu gwnio a byniawyd pedwar onglog, i mewn ac
allan. Byddai y pwythau yn treulio mor galed a’r dur. Ni welais neb yn eu
gwneuthur erioed ond
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2464) (tudalen 42)
|
(x42) Twmi Morgan (Pharaoh). Yr oedd yn grydd heb ei
fath. Ond y mae yntau wedi marw yn America er’s rhai misoedd, yn 84 oed. Yr
oedd yn briod a Shoned, merch Isaac, Ty’nybryn, ac y mae ar ei ol fab yn
ustus heddwch gerllaw Philadelphia, yn America. Fe ddring y Cymro ond iddo
gael chwareu teg. Yr oedd Noah yn talu gini bob amser am y “channels,” a
byddent yn parhau blwyddyn iddo. Yr oedd Noah yn bysgotwr rhagorol. Byddai yn
cario ei enwar gydag ef yn aml. Yr oedd pob math o blyf ganddo yn ei
“bocket-book,” ac yr oedd yn eu “dressio” i’r dim at liw y dwfr. Os byddai
rhywun yn glaf, ac yn dymuno am frithyllod, nid oedd eisieu ond dweyd wrth
Noah, byddent yn sicr o ddod yn fuan. Yr oedd Richard Lewis (“Dic o’r
Cottish”) hefyd yn bysgotwr; ond eu dal mewn rhwydau y byddai Dic. Byddai
Noah yn arfer galw yn nhy Dic yn aml ac un boreu dyna fe yn dweud,
“Mr. Morgan, fe welais ’salmon’ iawn neithiwr.”
“Ym mha le, Dic?”
“Mewn pwll yn afon Lai, rhwng Cwrtygwter a melin Garthgraban.”
“Beth oedd ei bwysau fe, Dic?” gofynai Noah.
“Pedwar pwys ar ddeg yn gywir,” atebodd Dic.
“Ni ’wedwn saith pwys, Dic,” ebai Noah. Fel yna y byddai Mr. Noah Morgan yn
mesur Dic a llawer ereill. Ac yn wir, nid oedd Noah yn mhell iawn o’i le.
Byddai Noah yn gywrain ryfeddol i drin a deall gwenyn. Y mae llawer sydd yn
fyw yn cofio “tai gwenyn Noah” ar y dyffryn o dan Gelligron, ac mewn llawer o
fanau ereill. Yr oedd pob peth o amgylch y “tai” hyny yn ddestlus a chryno, a
gosodai y tai mewn manau gyferbyn a’r haul, ac yn y cysgod oddiwrth wynt y
Gogledd, a’r lle mwyaf tebyg am bob math o lysiau a blodau. Byddai yn aros
oriau i edrych a myfyrio uwchben y gwenyn gyda’u gwaith. Edrychai arnynt trwy
wydr pan yn gweithio. Byddai yn aml yn eu darlunio fel adeiladwyr yn adeiladu
palasdai – rhai yn rhoddi i lawr y sylfaen, eraill y tuallan yn cario
defnyddiau i’r adeilad; y modd y byddent yn addasu y cwyr a’u danedd, ac yn
ffurfio eu celloedd ag ef, &c. Yr oedd yn dweyd fod ganddynt gelloedd
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2467) (tudalen 43)
|
(x43) i’r cwyr, ac ereill i’r mel.
“Y mae,” meddai, “dri math o wenyn yn mhob haid, sef y gwenyn llafurus, y
gwenyn diog, segurllyd (“drone bees”), a’r fam wenynen. Dywedai ef nad oedd
dim mwy na thair mam wenynen yn mhob cwch, a’r rhai hyny sydd yn dodwy yr
holl wyau o ba rai y deorir yr haid. Byddai yn bleser clywed Noah yn darlunio
llafur y gwenyn, a’r trefnusrwydd a’r hunan-ymwadiad sydd yn eu plith .
Byddent yn newid a’i gilydd yn eu gwaith yn aml, ac yr oedd pob un ohonynt yn
fedrus yn eu gwaith ac yn ufydd i’r frenhines. Pan fyddai y gwenyn yn “codi”,
fel y dywedir, byddai Noah yn ei lawn hwyl. Gwisgai pryd hyny het ag ymyl
fawr, i’w cadw oddiwrth ei wyneb. Byddai yn eu llesteirio yn gelfyddydgar; ac
ar ddiwedd yr haf yr oedd gan Noah ddigon o fel i’r holl ardalwyr.
Yr oedd Noah yn ddarllenwr mawr. Llyfr Job, Diarhebion, Solomon a’r Salmau
oedd ei brif lyfrau. Yr oedd llawer o’r rhai hyny ganddo ar ei gof bob amser.
Mynych y gwelsom ef yn dyfod i mewn i gapel Tonyrefail, a chan dynu ei het,
dywedai yn soniarus,
“Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau a llawn o helbul!” gan drydanu pawb
oedd yn bresenol. Bryd arall byddai Noah yn dweyd, yn hollol ddiarwybod iddo
ei hun,
“O nad ysgrifenid fy ngeiriau yn awr; O na ysgrifenid hwynt mewn llyfr!”
Yn wir, ymddangosai fel proffwyd mawr Hebreaidd; a phan ddygwyddai y llefarwr
fod yn “wr dyeithr o’r Gogledd,” ymddangosai, wrth weled a chlywed Noah, fod
yn haner dychrynu yn y pwlpud. Yr oedd un gweinidog enwog yn pregethu yno un
noswaith yn ddifrifol ryfeddol ar y farn ddiweddaf, ac yn darlunio holl ddynolryw
yno yn derbyn eu tynged. Dyma Noah yn llefain allan,
“Fe fydd Noah hefyd yno.”
Cafodd hyn effaith ryfeddol ar y gwrandawyr. Un noswaith yr oedd gwr dyeithr
o’r Gogledd yn pregethu ar y gwr ieuanc yn gofyn i’r Arglwydd Iesu,
“Pa beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol. A’r Iesu gan ateb a
ddywedodd, Cadw’r gorchmynion. Y gwr ieuanc a ddywedodd, Mi a gedwais y rhai
hyn oll o’m hieuenctyd.” Ar hyn wele Noah
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2468) (tudalen 44)
|
(x44) yn dywedyd yn uchel, “Yr oedd efe yn fodel o wr
bonheddig ieuanc; fe’i cadwyd ef yn siwr!” Yn amser y cynhauaf gwair byddai
Mr. Noah Morgan yn tynu ei siaced wen ymaith, ac yn blaenori y gweision, a
byddent wedi gwneud llawer o waith cyn cyniaw. Nid oedd neb yn siarad gair
a’u gilydd pan y byddai Noah yno, ond pawb yn gweithio am eu bywyd. Os
digwyddai rhyw siarad, dyna Noah yn gwaeddi, “Amser cynhaeuaf ydyw.”
Bu yntau farw pan yn agos i ddeng mlynedd a thri ugain. Casglwyd ef at ei
dadau i fynwent Cymmer y Rhondda. Dywedodd ychydig ddyddiau cyn marw,
“Rhoddwch bunt o’m harian i bob gwas a morwyn sydd yma: maent oll wedi bod yn
garedig iawn i mi!” A thalodd Mr. Evan Morgan, Ty’n-y-cymer, yr arian i bob
un, er nad oedd un ysgrifen yn bod am hyny. Mae un o’i hen forwynion yn fyw
yn awr yn Morgan-street, Pontypridd. Bu yn ei wasanaeth am ugain mlynedd, a
bu wedi hyny am 30ain o flynyddau gyda’r diweddar Mr. Jones, Glyncoch, a
gadawodd yntau ddigon o fodd i fyw i Shwan. Mae hithau wedi cyrraedd ei
phedwar ugain oed. Mae hi yn gorwedd ar ei gwely er’s tro, ond da genyf
ddywedyd ei bod yn ddedwydd ryfeddol.
Yr oedd “Tomas, Caegarw,” yn gymeriad rhyfedd. Bu Tomas yn was yn y Cefncoed
am flynyddoedd gyda mam Mr. Robert Thomas o’r Glyn, ac fe briododd a’i feistres.
Un diwrnod yr oedd Hywel Hopkin, o Gaerlan (yr hwn oedd wastad yn llawn
ffraethineb), yn cerdded gyda Mr. Robert Thomas; a dyna Tomas, o’r Cefncoed y
pryd hwnw, yn dyfod i’w cyfarfod gan farchogaeth ar ei geffyl. Dywedodd
Hywel, “Mi glywais am hyn o’r blaen yn yr hen amseroedd – gweision ar feirch
ac arglwyddi ar draed!” gan gyfeirio mai gwas oedd ef o’r blaen i Mr. R.
Thomas a’i fam. “Taw son, Hwlyn,” meddai Tomas, mewn llais cras, “‘does dim
diwedd ar dy ddrygioni di.”
Daeth Tomas, wedi marw ei wraig, i fyw i’r Caegarw, ac a briododd a’i forwyn.
Bu Ann yn ymgeledd gymwys iddo hyd ei
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2469) (tudalen 45)
|
(x45) farwolaeth. Ni byddai Tomas ond yn aml yn chwerthin.
Mae y Caegarw ar fferm Caecwrlais, lle yr oedd y Parch. William Evans yn
preswylio am lawer o flynyddoedd. Yr oedd Tomas yn ddyn mwy na dwy lath o
hyd, a’i freichiau hirion yn cyraedd yn agos at ei benliniau. Byddai yn
cerdded yn ei flynyddoedd olaf o’i oes wrth ddwy ffon. Yr oedd Mr. Evans yn
hoff iawn o’r hen wr, ac yn garedig a thyner tuag ato. Pan y byddai Mr. Evans
yn aros mis yn Bryste, a dau fis yn Llundain a Liverpool, byddai bob amser yn
ymholi am fy “ewyrth Tomas.” Yn meudy y Caegarw y byddai Mr. Evans yn cadw ei
ychain, a byddai yr hen wr yn gofalu am danynt fel am ei eiddo ei hunan. Yr
oedd Mr Evans, pan gartref, yn myned bob boreu i’r Caegarw i weled Tomas a’r
ychain.
Pan y byddai y Parch. David Howell, Abertawe, yn ymweled a Thonyrefail,
byddai yn myned i aros i gartref Mr. Evans; ac yn y bore byddai Mr. Evans ac
yntau yn myned tua Caegarw i weled Tomas a’r ychain. Un boreu, pan aethant
ymaith, yr oedd Tomas ar ei liniau ar y glaswellt wrth y ty yn naddu coed.
“F’ewyrth Tomas,” meddai Howell, “yr ydych yn gweithio ar eich gliniau.”
“Otw,” meddai yr hen Gymro, “mae arnaf ofn nad ydych chwi eich dau yn treulio
rhyw lawer o’ch amser fel hyn, a hyny yw yr achos nad ydych yn gwneud fawr o
waith.” Yr oedd Mr. Howell erbyn hyn yn gwneud “wep” rhyfedd o herwydd cerydd
yr hen Domas; ond yr oedd yn ei fwynhau hefyd. Byddai y Parch. Edward
Matthews yn awyddus iawn am fyned i weled “f’ewyrth Thomas” bob tro y deuai i
Caercwrlais. Yn union ar ol boreufwyd byddai Mr. Evans ac yntau yn cychwyn.
Ar ol myned yno, cawsent Tomas yn frysiog iawn yn bwydo yr ychain, ac yn
ddifrifol iawn ei wedd. “Yr ydych wedi gofalu am y cwbl, ydych chwi,
f’ewyrth?” gofynai Mr. Evans. “Ydw,” meddai yntau, “hi fyddai yn llawer
ffitiach dy fod di a Ned Matho yma yn gwneud rhywbeth yn lle segura fel hyn!”
Byddai y ddau athraw anwyl yn cael gwledd hyfryd gyda’r hen Domas ddirodes.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2470) (tudalen 46)
|
(x46)
● RHAN 17
4-05 Llith V
DIM OND UN TY AR DONYREFAIL - MAN Y SAFAI - DYGWYDDIAD TOST - OS COLLIR AMSER,
PEINT O GWRW YN COSTIO SWLLT - Y DUWIOL ISAAC O’R FELIN - CAFN MELIN Y TON
A’R PECHADUR DEFNYDDIOL
Nid oes neb yn awr yn fyw ag sydd yn cofio dim ond un ty ar Donyrefail. Bu’m
yn ymddyddan a llawer oedd yn cofio yr unig dy oedd yno. Yr oedd yn sefyll yn
nghanol y Pentre, lle y mae pedair o groes-heolÿdd - un yn arwain i’r Cymmer,
un arall i Lantrisant, un arall i Glynogwy, a’r llall i Gwm yr Elwy, ac yn
arwain i Bontyfon. Enw y ty oedd Twyn y Ton. Fe godwyd efail wrth y ty hwnw.
Ganwyd Daniel y gof yn y ty hwnw, ac Elias ei frawd. Gof y mae yn debyg oedd
eu tad. Yr oeddynt yn weithwyr rhagorol. Yr oedd braich Elias fel darn o
haiarn o ran nerth. Yr oedd crefft gof yn gelfyddyd dda iawn yr amser hwnnw.
Yr oedd holl ffarmwyr yr ardal yn codi ychain, ac yn eu cadw nes y byddent yn
dair a phedair oed. Byddai Mr. Harris, Trefyrhug; Robert Thomas, o’r
Glyn; a Hywel Gray, o’r Tran, yn prynu ychain bob gwanwyn, ac yn eu hanfon
tua Northampton. A’r arian a ga’i yr amaethwyr am yr ychain hyny y talent eu
hardreth. I ffair Llantrisant y byddai y ffarmwyr yn anfon yr ychain i
gyfarfod a’r porthmyn. Ystyr yr enw hwn yw “arlwyddi creaduriaid corniog.”
Byddai Owen Morgan, Daniel Price, a Shon y British Coch wrth eu bodd y pryd
hwnw. Byddai yn aml o gant i gant a haner o ychain o’u blaen yn myned tua
Lloegr; a byddai yr holl ychain wedi eu pedoli cyn cychwyn gan Daniel ac
Elias (‘Lias) ei frawd. Cof genyf eu gweled lawer gwaith yn myned a raffau
blewog mawrion ar eu hysgwyddau tua’r Lawn, Garthgribin, Hendreforgan, &c.,
at y gwaith o glymu yr ychain i’w pedoli. Yr oeddent wrth eu bodd gyda’r
gwaith o gwympo yr ychain mawrion ac yna yn gosod pedol mewn pum mynyd ar un
ochr i’r
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2471) (tudalen 47)
|
(x47) traed. Dychwelai y ddau adref gan ymffrostio yn y gwrhydri
a fyddent wedi ei gyflawni yn myd yr ychain corniog. Dywedai yr hen breswylwyr ei
fod yn ddifyr gweled Elias yn llorio ychain mawrion y Richards yn
Hendreforgan. Ar ol i Daniel y gof gael llymaid yn helaeth o ddiod gadarn,
gofynai pobl mewn digrifwch am ei dad. “Y
nhad,” dywedai Daniel, “oedd y dyn calla’ yn y wlad.”
Yr oedd yn Hendreforgan wasanaethwr o’r enw Etwart; dynwaredai yr hen
Richards o flaen ei wyneb, a dywedir ei fod megis crwth a thelyn. Yr oeddwn
yn adnabod mab yr Etwart hwnw, ac yr oedd, fel ei dad, yn llawn o arabedd a
doniau, ac yr oedd hefyd yn un o’r bechgyn mwyaf caredig a geid drwy yr holl
wlad. Cyfarfyddodd a’i angeu drwy fogi mewn lefel glo gwlad ar fynydd Gilfach
Goch, pan oedd yr ardal boblogaidd hono yn rhodfeydd defaid y unig. Bu farw
ar yr un pryd a Lewis Hopcyn, Caerlan, mab Hywel Hopcyn, a fu wedi hyny yn
ysgolfeistr ar Donyrefail. Nid oedd Lewis ond un-ar-bymtheg oed, ac wedi myned
i’r lefel gyda William Edward. Wrth eu gweled mor hir cyn dychwelyd gartref,
awd i chwilio am danynt, a chafwyd hwynt yn gorwedd yn gelain yn mreichiau eu
gilydd. Yr oeddynt wedi teimlo yr awyr yn y lefel yn ddyffygiol ac wedi
ymdrechu dianc am eu heinioes, ac wedi cyrhaedd o fewn herc i oleu dydd pan y
syrthiasant, mae’n debyg, wrth ymdrechu cynorthwyo y naill y llall. Y mae yn
lled debyg mai William Edward caredig oedd yn ymdrechu dwyn Lewis ieuanc
allan i’r awyr agored pan y syrthiodd yntau i fethu codi mwyach. Yr oedd y
fath ddygwyddiad yn newydd yn y wlad y pryd hwnw, a bu cynhwrf mawr o herwydd
yr amgylchiad torcalonnus drwy yr holl gymdogaeth. Erbyn hyn, ysywaeth, y mae
anffodion i bobl ddiwyd ein gweithleoedd wedi dyfod yn beth cyffredin, fel
nad yw lladdiad un neu ddau ar yr un pryd yn tynu nemawr o sylw. Dyrysodd mam
Lewis yn ei synwyrau drwy hiraeth ar ol ei mab.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2472) (tudalen 48)
|
(x48)
Bu Daniel y gof a Mari (Baia) yn cadw y Boar’s Head, Tonyrefail (arwydd
tarian Prichards, fel epil Eynon ap Collwyn, arglwyddiaeth Meisgyn); ond nid
oedd Daniel yn hoffi llawer ar y gwestdy o herwydd ei fod yn methu ymatal
oddiwrth y gyfeddach gyda chyfeillion llawen yn y nos, a’r effaith o hyny y
fath fel yr oedd yn methu yn lan a bod yn hwylus gyda’i waith dranoeth.
Yr wyf yn cofio yn dda fy mod unwaith pan yn laslanc yn myned un boreu Gwener
gyda Daniel heibio Tylchaganol. Daniel Davies oedd yn preswylio yno ar y
pryd. Yr oedd wedi myned tua marchnad Pontypridd boreu Mercher, ond nid oedd
wedi dychwelyd fyth! Yr oedd Daniel Davies wedi bod yn ddyn sobr iawn nes
ei fod tua deg a deugain oed. Pan glywodd Daniel y gof nad oedd wedi
dychwelyd o’r Bont, dywedodd wrthyf, er mai tafarnwr oedd,
“Wel, dyma drueni am y dyn hwn! Ffarmwr rhagorol, cymydog hawddgar, yn
esgeuluso ei fasnach, newynu ei anifeiliaid, gwario ei enill. Gwel di, y mae
y cwrw yn myned yn swllt y peint arno, ac efe, yn
siwr, yw y peth drudaf yn y byd am dair ceiniog.”
Mi ddechreuais y llith hwn wrth son am Ty’nyton, ond cefais fy nghario ar
adenydd adgofion i gyfeiriad nad oeddwn yn ei fwriadu.
Dechreuoedd Tonyrefail gynyddu i fod yn bentref, o dan ddylanwad Mr. Evan
Prichard, Collena, sef tadcu y meddygon Hopcyn Prichard, Taibach, a William
Prichard, Trelalas. Y tadcu oedd perchen y Collena, a dywed haneswyr,
“Morien” ac ereill, fod y teulu wedi meddianu y lle yn ddifwlch yn y llinach
wrywaidd oddiar tua y flwyddyn 1093. Wel, penderfynodd y gwr dan sylw wneud
pentref yno. Cyn hyny nid oedd dim i’w gael mewn ffurf fasnachol, ond pethau
fferm, heb fyned yn mhell am danynt. Penderfynodd Mr. Evan Prichard godi
gweithfa wlan i wau gwlanen, melin i falu yd. Tynodd allan gynllun o weithiau
newydd, a threfnodd fod peiriant y gwaith gwlan i droi olwynion y felin.
Dechreuodd gyda gwneud camlas i ddyfod a dwfr afon Elwy, yr hon a
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2473) (tudalen 49)
|
(x49) dardd yn Nghaer y Gelyn, i lifo ddigon uchel i ddisgyn
i droi olwynon y weithfa wlan wrth waelod Twynyton.
Yr oedd y gamlas yn bedwar cant o latheni o hyd, tua saith llathen o led, a
phump o ddyfnder. Y mae llawer tro ar fyd wedi dygwydd er pan y byddem yn
grots gwledig yn nofio ar ei ddwfr grisialaidd. Llawer un o’n hen gyfoedion
wedi myned i’r wlad bellenig, o’r hon nis gall na chloch nac udgorn eu cyrchu
yn ol! Y maent yn cysgu hun drom, o’r hon nis dihunir hwynt gan floedd
medelwyr, caniad ceiliog, na thwit gwenol ar foreu haf.
Yr oedd hefyd yn perthyn i’r drefn, dri llyn, a gelwir hwynt Pond y Factory,
Pond y Felin, a’r Pond Newydd, yr hwn a dderbyniai y dwfr a rhedai {sic} o nant Caerysgol. Cariwyd allan yr holl
orchwyl i berffeithrwydd mewn ychdig amser, a bu y draul o’i gwneud yn
filoedd o bunau. Nid wyf yn coelio i Mr. Evan Pritchard dderbyn am ei
anturiaeth hyd yn nod llog ar yr arian a wariodd ar y gwaith, ond bu o werth
mawr i’r ardalwyr yn gyffredinol, ac, fel y dywedyd mewn llith flaenorol,
daeth pentref y Ton yn un o’r lleoedd mwyaf cyfleus yn Morganwg.
Isaac James oedd y melinydd cyntaf yr wyf yn ei gofio yno. Yr wyf yn credu
mai efe oedd y cyntaf oll yno. Beth bynag, bu yno hyd ei fedd. Yr oedd pawb
yn adnabod Isaac o’r felin yn mhell ac agos; nid cymaint am ei ddawn a’i
dalant {sic = a’i dalent}, ond nid oedd
ychwaith yn amddifad o hyny, ond o herwydd ei grefydd. Yr oedd pawb yn
adnabod Isaac; nid oedd na dyn na dynes yn yr holl wlad o amgylch nad oedd yn
talu gwrogaeth iddo. Mi glywais lawer yn fy amser yn rhoddi gair da, a rhai
ereill yn rhoddi gair drwg i’r un personau, ond ni chlywais neb erioed yn
rhoddi gair drwg i Isaac. Yr oedd wedi cyrhaedd y fath sefyllfa o barch yn
mhlith y Methodistiaid ac ereill er nad oedd ond dyn cyffredin mewn
gwybodaeth, fel yr oedd yn rhaid i Isaac siarad yn mhob cwrdd misol a
chymanfa. Yr oedd Isaac yn un o’r cyntaf gyda phob mudiad a fyddai o dueddiad
i wella moesau dynion. Pan gychwynodd
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2474) (tudalen 50)
|
(x50) yr achos dirwestol, dyna Isaac yn ei bleidio a’i holl
nerth. Byddai yn myned i’r gwyliau dirwestol, ac yn eu cefnogi yn mhob modd.
Yr oedd un tro mewn gwyl ddirwestol yn Mhontyfon, ac yn cerdded gyda’r
orymdaith. Fe glywodd Mr. Elias Bassett, o Lanilltyd, am hyny. Yr oedd Mr.
Bassett yn gyfreithwr enwog, ac yn foneddwr enwog selog gyda’r Methodistiaid
yn Morganwg, ac yn sefyll megis un o’r colofnau mwyaf cedyrn o dan yr achos.
Mewn cwrdd misol ar ol hyny wele Mr. Bassett yn codi ar ei draed, ac yn gofyn
i Isaac James,
“Onid oeddech chwi yn yr wyl y dydd o’r blaen yn Mhontyfon?”
“Oeddwn,” atebai yntau.
“A oedd arno chwi ddim ofn, Isaac, i gerdded trwy y dref yn canu ac yn dilyn
banerau?”
Yr ateb oedd,
“Mr. Bassett, nid wyf yn gwneud dim gydag achos yr Arglwydd nad wyf yn ei
wneud mewn ofn a dychryn, gan ofni nad wyf yn ei wneud yn iawn.”
Nis gallodd Mr. Bassett ofyn un
gair yn mhellach iddo. Y mae yn gof genyf, pan oeddwn yn hogyn, glywed Isaac
yn cynghori yn y Society, ac yn dweud ei fod y boreu hwnw wedi ofni wrth
basio heibio i gafn y felin, rhag bod yn debyg iddo. Yr oedd yr hen gafn yn
ddefnyddiol i gario y dwfr i droi y felin, ond ei fod yn pydru wrth wneud
hyny. “O!” meddai, “y mae perygl rhag fy mod inau yr un fath ar ol ceisio
gwella ereill i mi gael fy hun yn anghymeradwy yn y diwedd.” Cafodd Isaac ei
gymeryd ymaith mewn tangnefedd. Heddwch i lwch yr hen Gristion cynhes a
thyner.
Rees Evans oedd yn cadw y Factory. Brodor o Sir Gaerfyrddin oedd efe. Yr oedd
yn frawd i’r Parch. Thomas Evans, gweinidog yr Undodwÿr yn Aberdar.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2475) (tudalen 51)
|
(x51)
●
RHAN 18
4-06 Llith VI
RHYS EVANS Y GWEHYDD - EI DEULU A’I WEITHWYR - DIRGELWCH ATHRAWIAETH Y DRINDOD
- YR HEN BOBL YN METHU EI DEALL
Terfynais y llith flaenorol gyda hanes yr hybarch a’r anwyl Isaac
James, o’r Felin. Am Rhys Evans, o’r Factory, a’i deulu, a’i werthwyr y cawn son am
danynt yn y llith hwn. Genedigol o swydd Gaerfyrddin oedd Rhys Evans, ac yr
oedd yn frawd i’r diweddar Barchedig T. Evans, gweinidog i’r Undodwÿr yn
Aberdar. Yr oeddynt yn ewyrthod i Mrs. Williams, o’r Gethin, yn yr un lle.
Dyn lled fychan o gorpholaeth oed, yn un hynod o luniaidd, ac ysgafn ar ei
draed. Yr oedd yn ddarllenwr mawr a manwl, ac yr oedd o ran cof yn dra
nodedig. Yr oedd o ran cymeriad moesol tuhwnt i amheuaeth, ac fe’i perchid yn
fawr gan bawb, yn wreng a bonedd. “Edrychai,” fel y dywedir, “pawb i fyny arno.” Cyrchodd Mari,
ei wraig, wlaneni a brethynau i farchnad Llantrisant, ac i un Pontypridd
wed’yn am flynyddoedd. Ac yr oedd pob peth a werthai o’r ansawdd oreu. Y mae
fy nghof yr eiliad hon yn dwyn yn ol i’r meddwl ddarlun o Mari yn marchogaeth
y gaseg goch fawr tua’r farchnad. Tynai y gaseg goch fy sylw yn aml pan
oeddwn yn grotyn. Sylwn arni yn aml yn pori ar dwyn y
Factory. Byddai hi weithiau yn dianc o’r crofft i heol y pentre, a byddai ei
phresenoldeb ar yr heol yn creu ofn a dychryn yn mhlith mamau plant. Rhedai y
mamau ar ol eu plant, ac ysgrechent, a’r hen gaseg goch, hithau, fel yn
mwynhau y dychryn a gynyrchai ei phresenolddeb ar yr heol, a neidiai fel
oenig, a gwnelai ffroeni a gweryru nes yr oedd pob benyw yn ei galw “y garan
gas.” Y mae “cnacau” difyr yn aml mewn hen gesyg, yn gystal ag mewn hen
geffylau. Nis gwn yn iawn pa un ai yr hen
gaseg neu Mari, ei meistres, a fethodd gyntaf a myned tua’r farchnadfa, ond
buont eu dwy fyw yn hen. Fel yr awgrymwyd yn barod,
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2476) (tudalen 52)
|
(x52) Undodwr oedd Rhys Evans o ran ei grefydd, ac Undodwyr
hefyd oedd ei blant. Yr oedd y teulu oll yn hynod dalentog, ond y mwyaf
athrylithgar o’r plant oedd Thomas, Joseph ac Edmund. Aeth Thomas ymaith i’r
America pan oedd yn nghylch pump ar hugain oed, a bu yno yn beirianydd ar ryw
gledrffordd. Yn mhen tri deg a phump o flynyddoedd daeth i’w feddwl yr hoffai
unwaith eto weled yr “Hen Wlad” ac ardal boreuddydd bywyd Tonyrefail. Bu ar y
Ton heb ddweud wrth neb pwy ydoedd, ac yr oedd 35 o flynyddoedd wedi cyfnewid
ei wedd yntau, fel nad oedd neb yno yn adnabod ei ymddangosiad. Buasai yn
hoff iawn gan ei gyfoedion ag oedd yn aros ar Donyrefail ei weled a’i
roesawu. Ond aeth at hen fangre ei rhieni {sic =
ei rieni}; wylodd yn ddiau yno wrth gofio y dyddiau gynt, ac yna
ymadawodd yn ddystaw heb ddywedyd wrth neb pwy ydoedd. Ond tua milldir allan
o’r pentref, ar ochr heol esgynedig, galwodd yn y Tydu gyda Mari Smith, a
dywedodd wrthi pwy ydoedd. Yna aeth ymaith, a’r peth nesaf a glywsom am dano
oedd fod ein hen gyfaill Twm wedi huno yn yr angau yn yr Unol Dalaethau. Pan
wasgarodd y teulu, aeth Joseph ac Edmund i Aberdar, lle y buont yn preswylio
am rai blynyddoedd. Aeth Joseph hefyd tua’r America, a bu farw yno
yn gydmarol ieuanc. Yr oedd Rhys Evans yn cadw llawer o weithwyr, tuag ugain
o rifedi. Byddai Dafydd Shams y Panwr, o’r Bettws (un o hil John Bradford,
Ieuan Tir Iarll), yn galw gyda Rhys Evans bob wythnos, pan ar ei ffordd tua
marchnad Llantrisant. Dyna lle y
cynelid marchnad y parthau hyny o Forganwg y dyddiau hyny. Yr oedd marchnad
Pontypridd heb gychwyn y pryd dan sylw. Yr oedd Dafydd Siams {sic; Shams yn rhannau eraill o’r testun} y
Panwr yn hynod hoff o chwedl a chymdeithas. Arosai nos Wener, pen pob
pythefnos, gyda Rhys Evans nes oedd hi tua naw o’r gloch y nos, yna ymadawai ar
ei geffyl, yr hwn a gariai hefyd fwndel mawr o frethynau. Yn araf y teithiai
y ceffyl ar hyd y ffordd fynyddig, heibio hen gartref fy nhadcu a’m mamgu –
Tynywaun, Hendreforgan, yna drwy afon Crug-las,
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2477) (tudalen 53)
|
(x53) drwy Glynogwy
(Glynogwr), a thrwy bentref henafol Melin Evan Ddu, a’r Don Ithel Ddu, yn
agos i hen gartref Ithel, brenhin Morganwg. Yna elai y Panwr ffraeth dros
Bontrithwen, a dringai Fynydd Llangeinor, a chyrhaedda {sic, = a chyrhaeddai}
Pandy y Bettws tua chanol nos. Yr oedd Dafydd Shams y Pabwr, yntau hefyd yn
“Sosin,” fel y gelwid Undodwr y pryd hwnw. Yn awr a phryd arall gwahoddai
Dafydd Shams fechgyn Tonyrefail i ymweled a’r Bettws i glywed Mr. Jones,
Penybont, yn pregethu Undodiaeth. Yr oedd Mr. Jones yn wr dysgedig, efe oedd
gweinidog y Sosiniaid yn nghapel yr enwad wrth odreu heol y Castell Newydd,
Penybont. I’r capel hwnw y cyrchai Mr. Walter Coffin, perchenog gwaith y
Ddinas, Cwm Rhondda, a’i deulu. Ac yr oedd gan yr enwad gapel bychan yn y
Bettws wedi ei waddoli gan rhywun {sic, dim
treiglad; = gan rywun}. Byddai yn ddyddorol cael gwybod a oedd
cysylltiad rhwng hen deulu y Bradfords a’r capel hwnw.
Ar un boreu Sul hafaidd, tua diwedd mis Mai, gwelwyd saith o ieuenctyd y Ton
yn cychwyn (tua chwech o’r gloch) tua’r Bettws. Eu henwau oeddynt, Dafydd
Evans, yn awr o’r Docks, Caerdydd, mab yr Hybarch W. Evans; “Dewi Harran” {Dewi
Haran, ffugenw David Evans, 1812-1885; bu’n aelod o “Glic y Bont”, carfan o
feirdd o ardal Pont-tÿ-pridd}; W. James (“Bili o’r Felin”); William Treharne;
Thomas Edwards, Caercurlais Isaf {sic},
wedyn o Gaerlam {sic = Gae’r-lan}; Tomos y
Gwehydd; a Twm, mab Llywelyn. Cyrhaeddasom Dy’n y Bettws, magwyrydd Dafydd
Shams, erbyn naw o’r gloch. Nid oedd Dafydd yn gwybod dim ein bod yn ei canfod,
agorodd ei lygaid led y pen, yna bloeddiodd gan ddywedyd, “Mari, y mae yma
dorf o gyfeillion wedi dyfod o Donyrefail i’n gweled, ac y mae yn ofynol
iddynt gael boreufwyd.” Yna aeth o’n blaen i’r ty, a ninau ar ei ol. “Mari,”
ebe ef, “nid oes dadl yn y byd nad rhagluniaieth a barodd i mi brynu y leg
cig llo yna yn Benybont neithiwr.” Yna aeth yn y blaen i adrodd wrthym hanes
y leg cig llo. “Yr oeddwn neithiwr,” ebe ef, “yn y Ship, Penybont, a daeth
Wil Shon, o Dy’n y Clwtyn, Llanharran, i mewn. “Dafydd Shams,” ebe fe, “ y
mae genyf
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2478) (tudalen 54)
|
(x54) leg o gig heb ei gwerthu, ac y mae yn farchnad
ddrwg iawn. Prynwch da ch’i, y leg gen’i.” “Pa faint yw ei phwysau hi, Wil Shon?”
“Tri phwys ar ddeg a haner,” oedd ei ateb. “Gwrando, Wil,” ebwn inau, “byddai
Mari yn siwr o fy nghyru allan o’r ty am fy mod yn prynu aelod o gig mor fawr
ag yna.” Ebe Wil, “Chwi a’i cewch hi am dair a dimeu y pwys.” “Gwelais,” ebe
Dafydd Shams wrthym (yr oeddym yn awr yn ddiwyd gyda’r boreufwyd), “na fuasai
hi ddim yn dyfod i lawer o arian, a phrynais hi.” Yna dywedodd, “Y mae yn yr
ardd datws ag y gelwir “Cochion Cynar” arnyn nhw, ond y mae yn ofynol eu
cloddio allan, a dydd Sul yw hi! Ond nid ydwyf yn credu y byddai yn bechod eu
cloddio allan er taw dydd Sul ydyw hi, canys y mae yn amlwg fod yr Un Mawr am
i ni gael ei ffrythau yn eu blas goreu.”
Aethom erbyn unarddeg o’r gloch tua’r capel, a chawsom y gweinidog yno.
Dywedodd ef fod yn teimlo yn ddedwydd gweled cymaint o wrandawyr wedi dyfod
yn ngyd. Oni fuasai i ni fod yno, ni fuasai y gynulleidfa ond Dafydd Shams
a’r wraig oedd yn glanhau y capel. Esgynodd Mr. Jones i’r pwlpud, a rhoddodd
allan air i ganu. Yr oedd bechgyn Tonyrefail yn gantorion go lew. Wedi’r
canu, aeth Mr. Jones i weddi, yna, cyn cymeryd ei destyn, anerchodd y
dyeithriaid, gan ddywedyd ei fod yn debyg ein bod wedi dyfod i’r Bettws y
Sabboth hwnw er mwyn gwrando athrawiaeth yr Undodoiaid. “Darllenaf destyn,”
ebai ef, “a gwnaf sylwadau arno mor eglur ag y
medraf.” Yna darllenodd y ddwyfed adnod ar bymtheg o’r benod gyntaf of {sic} epistol cyntaf St. Pedr. “Os ydych yn galw
ar y Tad, yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ol gweithred pob un,
ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad.” Cawsom yn ei bregeth lawer
iawn o sylwadau da gwerth eu cofio. Ond rhywfodd nid oedd yr athrawiaeth yn
cael mymryn o ddylanwad arnom.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2479) (tudalen 55)
|
(x55)
●
RHAN 19
4-07 Llith VII.
MR. ROBERT THOMAS O’R GLYN – CHWARAEON DIGRIF – CYMERIADAU HYNOD HELYNT
PANTRYTHYN FACH – TWM SHAMS RHYS YN CYMERYD MEDDIANT O HONO – Y MWSTWR YN
NGLYN A’I DROI ALLAN
Addewais yn fy llith diweddaf roddi ychydig o hanes Mr. Robert
Thomas, o’r Glyn, yn yr ardal. Saif y Glyn, fel y gelwir yr amaethdy lle y
preswylai Mr. Robert Thomas, i’r dwyrain o Donyrefail, a thua milldir o’r
pentref. Y mae yn sefyll ar lechwedd ysgafn, a’i wyneb tua Chwm Castella, ac
yn y pellder saif, megis ar glogwyn rhwng bryniau, dref henafol Llantrisant –
hen dref bwysig yn yr hen amseroedd yn hanes amgylchiadau Morganwg.
Yr oedd Mr. Robert Thomas, a’i dadau o’i flaen, yn berchenog ar dir y Glyn; ac
yn yr hen amaethdy ar y tyddyn y preswylai efe a’i wraig, eu mab a’u merch.
Cadwai efe wyth neu ddeg o weision a morwynion. Enw ei wraig oedd Jenet.
Enwau ei plant oedd William a Ffryswydd. Priododd William a Miss Rebecca
Smith (chwaer Mri. W. a T. Smith, o Twynycae, yn agos i Lanharan). Yr oedd
Miss Rebecca Smith yn ddynes brydweddol, serchog, a llawn o fwyneidd-dra. Yr
oedd yn bleser mawr bob amser ymweled a’r Glyn yn eu dyddiau hwy. Eu mab hwy
yw Mr. William Thomas, Rhiwgarn Fawr; a’u merched oedd y diweddar Mrs. Henry
Naunton Davies, Cymmer, a Mrs. Lewis Davies, Gellywion.
Priododd Miss Ffryswydd Thomas (yr hon oedd ddiarebol am ei phwyll a’i synwyr
cyffredin) a Mr. Gruffydd Evans, “Benbwch,” fel y gelwir y lle ar lafar
gwlad. Codasant deulu mawr, ac y mae amryw o honynt yn fyw heddyw.
Yr oedd Mr. Robert Thomas a’i wraig yn aelodau crefyddol gyda’r Annibynwyr yn
y Cymmer, a byddai llawer o weinidogion yr enwad parchus hwnnw yn cael llety,
yn awr ac yn y man, yn y Glyn. Yn mhlith ereill, lletyai yno yn achlysurol y
Parch.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2480) (tudalen 56)
|
(x56) Dl. Gryffydd, Castellnedd; y Parch. Philip
Gryffydd, yr Alltwen; “Rhys y Glun Bren,” ac ereill. Yr oedd y bobl dda hyny
yn hoff iawn o deulu y Glyn, a byddent yn aml yn adrodd yn y Glyn eu
helyntion pan ar eu teithiau. Byddai y Parch. Dl. Gryffydd yn adrodd hanesion
digri weithiau. Yr oedd ef wedi ei urddo yn weinidog pan yn ieuanc, ac heb
briodi. Daeth i’w feddwl mai dymunol fyddai cael cydmar bywyd. Pan oedd y
meddwl hwn yn ymhel ag ef, dygwyddodd un nawn ei fod yn rhodio glan y mor,
ger Abertawe. Cyfarfyddodd a lodesi ieuainc, a chyfarchodd un o honynt ef
wrth ei enw, a dywedodd wrtho ei fod ef wedi bod yn nhy ei mam a’i thad, sef
yr Aber, Llanfabon. Pan oeddent fel hyn yn siarad, aeth y merched ereill yn
eu blaen, ac yn mhen tipyn rhoddodd y gwr parchedig ei fraich i’r ferch
ieuanc, ac aethant ar ol y lleill. Cerddasant yn ol a blaen ar hyd y traeth,
pan, yn anffodus, pwy a’u cyfarfyddodd ond rhai aelodau y capel lle yr oedd
ef yn weinidog. Yr oedd y pryd hwnw yn cael edrych arno yn drosedd, i
weinidog yr efengyl ymhoffi yn y rhyw deg; a chyn fod y gweinidog yn ol yn
Nghastellnedd yr oedd y newydd allan ei fod wedi ei weled yn rhodiana gyda
merch ar lan y mor, yn agos i Abertawe. Edrychai yr henaduriaid arno yn
gilwgus, a chodai yr hen wragedd wyn eu llygaid i’r golwg! Mae yn lled debyg
mai un o’r hen draddodiadau Pabyddol oedd y rhagfarn hwn yn erbyn i weinidog
gyfeillachu a merch. Gwyr pawb na cha un o offeiriaid Eglwys Rhufain briodi o
gwbl. Ar y Sabbath canlynol pregethodd Dl. Griffiths yn ei gapel ei hun ar y
testyn am yr Iesu yn ymddyddan a’r wraig o Samaria, iddo ofyn i’r wraig am
ddwfr i’w yfed; y wraig yn gwrthod o herwydd mai Iuddew ydoedd efe, a
hithau’n Samariad. Yr oedd y dysgyblion wedi myned i’r pentref i brynu bwyd,
ond pan ddychwelasant bu ryfedd ganddynt ei fod yn ymddyddan a gwraig. “Yr
ydych yn camsynied yn sicr – ymddyddan a gwraig?” meddai Mr. Griffiths.
“Oedd, yn wir, dyna ddywed yr ysgrythyr. O!’r nefoedd anwyl, ni feiddia neb
siarad hyd yn oed a ’merch ieuanc’ yma!” Yr oedd y cellwair yn disgyn
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2481) (tudalen 57)
|
(x57) ar yr aelodau fel tan; a’r gwrandawyr hyny oeddynt
yn gwybod yr hanes yn chwerthin allan. Ond priododd Dl. Gryffydd a Miss
Thomas, a bu eu cyfarfodydd yn fendithiol i’r ddau.
Nid oedd llawer yn gallu darllen yr yr amser hwnw (70 mlynedd yn ol), ac, yn
wir, nid oedd ond ychydig o lyfrau yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg. Yr oedd
“Seren Gomer” yn dyfod allan yn fisol, ond nid oedd un papyr newydd Cymraeg
yn cael ei gyhoeddi yn holl Gymru y pryd hwnw. Yn wir, nid oedd ond ychydig o
bapyrau Seisnig yn dod allan. Yr wyf yn cofio fod Mr. Harris, Trefarug; Mr.
Howells, Rhiwfelen; a Mr. Williams, Garthgraban, yn derbyn y “Cambrian”
rhyngddynt.
Ar
nosweithiau hirion yn y gauaf byddai pobl yn chwareu rhyw gampau digrif yn y
Glyn, fel mewn ardaloedd ereill yn y wlad. Byddent weithiau yn chwareu “Bwbach
Darllen”; ereill a chwareuent ar y “stol gandno.” {sic
= ganddo}Ambell waith chwareuent yn y Glyn yr hyn a elwid “Trick.” Yr
oedd bob amser yn y Glyn, fel oedd yn Tylcha, gymeriadau hynod. Yno yr oedd
Beni Tiler, Daniel Price, Dafydd y cigydd, &c. Un noson, a’r lleuad yn
arianu y wlad, penderfynwyd chwareu Trick. Math o ddaroganu pwy a fyddai gwyr
neu wragedd y cyfeillion oedd y Trick yma. Y noson hono, yn yr ardd y
chwareuid y Trick, ac yr oedd Mrs. Thomas, y feistres, heb yn wybod i Ben
Tiler, wedi gwisgo yn debyg fel y gwnelai hen Shan Persondy, ac yn ymguddio
tucefn i lwyn tew yn yr ardd. Hen ferch oedd Shan Persondy ar ymweliad a’r
lle lawer gwaith yn y flwyddyn i wneud bara ceirch; gwisgai wn gwlanen, byr,
a het wellt gyffredin ar ei phen. Dyma’r dull yr ymddangosai Mrs. Thomas y
tucefn i’r llwyn, a gwyddai y lleill ond Beni druan ei bod hi yno. Yr oedd y
parti i fod yn saith o nifer i redeg saith gwaith o amgylch yr ardd. Byddent
yn adrodd y geiriau canlynol: -
“Dyma’r gyllell, dyma’r wain,
P’le mae’r ferch sy’n ceisio ’rhain?”
Ar y seithfed tro, wele Shan Persondy (Mrs. R. Thomas) yn
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2482) (tudalen 58)
|
(x58) rhuthro allan o’r tucefn i’r llwyn, ac yn
cymeryd y gyllell a’r wain o law Beni ddiniwed! Bu Beni bron llewygu yn y
fan, gan redeg llefai, “O, phriodai dd’ h {sic; mae’n debÿg dd’ hi ddylai
fod, hynny yw, ddi} byth! Hen Shan yw hi! Na ’bur’! (byth).” Yr oedd Ben yn
drwm iawn ei glyw. Codai ei ddwylaw yn awr, a dywedai am Shan, “Na wna i, mae
Duw yn gwybod! Phrioda i hi ’bur’ (byth)!” Yr oedd Beni yn un o’r “Hen Gorph”
ar y Ton; ond, fel y dywedodd y Parch. Joseph Thomas, Carno, am Pedr wedi
iddo regu, mai heb anghofio iaith pysgodwyr glan mor Galilea yr oedd efe!
Felly Beni hefyd, pan gynhyrfai yn ddirfawr deuai iaith yr Aipht yn ol iddo
yn eithaf naturiol.
Bu Beni yn isel iawn ei ysbryd o herwydd ofn y deuai Shan i’w ran, a gorfu ar
Mrs. Thomas ddywedyd y cwbl wrtho. Ysgafnhodd hyny ysbryd Beni yn union.
Flynyddoedd lawer yn ol yr oedd yn byw yn Gwrt Golomen, ger Tondu, hen
gyfreithiwr o’r enw Mr. Rhys. Yr oedd yn gyfoethog iawn, a bu farw heb na
gwraig na phlant, ac heb wneud ei ewyllys. Aeth yn frwd yn nghylch ei
feddianau. Hawliai Mr. Robert Thomas (a hyny yn gywir) mai efe oedd ei
etifedd. Ond hawliai un Dafydd Terry mai efe oedd y gwir etifedd. Aeth yn
gyfraith, ac wedi hir gyfreithio, a thraul fawr, rhoddwyd y farn o blaid Mr.
Robert Thomas, a rhoddwyd rhai o dystion Dafydd Terry yn ngharchar am dyngu
celwydd. Aeth rhai o’r tystion wed’yn yn wallgof o herwydd cnofeydd cydwybod
yn nghylch eu gwaith anfad. Ond ychydig fu elw Mr. Robert Thomas; yr oedd
gwyr y “quills” wedi llyncu bron y cwbl ond yr enwyn! Cafodd yr etifedd hwnw.
Cof genyf pan oeddwn yn laslanc, i genad ddyfod un prydnawn i’r pentref a
chais oddiwrth Mr. Robert Thomas am gymorth; yr oedd un Twm Shams Rhys wedi
cymeryd meddiant trwy drais o Bantrythyn Fach, un o’r ffermydd ger Pencoed
Llanylid {sic}. Tua dau o’r gloch boreu
dranoeth, yr oedd tua haner cant o honom wedi ymgynull ar “Groesheolycapel,”
islaw y Glyn. Yr oedd pastwn yn llaw bob un o honom, ac yr oedd pob calon yn
llawn brwdfrydedd dros “Ropart o’r
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2483) (tudalen 59)
|
(x59) Glyn” ac yn penderfynu troi Twm Shams Rhys a’i
fyddin o ddynion a chwn allan! Ffwrdd a ni wrth oleuni y ser tua Llantrisant.
Cyrhaeddasom gyda thoriad dydd. Yno ymunodd a ni gatrwad gref o’r “Black
Army,” a chyrhaeddasom Bontyfon erbyn amser boreufwyd. Cawsom foreufwyd yn y
Tennis Court yno. Ar y pryd yr oedd ymladdwr hynod iawn o’r enw Wil Charles
yn byw yn Casnewydd, a llawer o son am dano. Yr oedd yn ein plith “Shon, o
Dafarn y Cymmer.” Yr oedd yn ddyn lluniaidd, a’i ysgwyddau yn llydain iawn.
Dodwyd i {sic = y} si allan mai Wil
Charles oedd Shon. Aeth y son fod Wil Charles gyda ni fel tan gwyllt drwy y
dref, a phan y cychwynasom drwy y dref tua chyfeiriad y Filldir Aur, ar ein
ffordd tua maes ein gorchwyl, yr oedd holl bobl y dref ar eu drysau yn ceisio
canfod Wil Charles. “Dyco fe!” meddai pawb, gan gyfeirio at Shon, yr hwn oedd
yn fachgen eithaf heddychol ei anian, er ei fod yn un cadarn o gorph. Troisom
i lawr ar ein de, ac ar gae Pantrhythin tyngodd Mr. Redwood, cyfreithiwr, ni
yn chwech ugain o nifer yn geisbwliaid, a gosodwyd ruban gwyn am fraich pob
un. Yna dynesodd Mr. Redwood at ddrws Pantrhythyn Fach, a gofynodd i’r rhai
o’r tu fewn i agor y drws, ond nid oedd un atebiad. O’r diwedd bloeddiodd,
“Bring the iron bar here,” a chyda hyny wele “Dafydd Prhys Bach,” {sic} o’r Wig, yn rhuthro tuag at y drws, a’r
golofn haiarn yn ei ddwylaw. Ond, cyn iddo daro a dechreu y frwydr, agorwyd y
drws, a daeth allan Twm Shams Rhys, ac ereill, a’u cwn. Bloeddiodd Shon (o
hyd yn nghymeriad “Wil Charles”): “Gadewch i mi gael gafael yn war fawr Twm
Shams Rhys!” Dychrynodd yr oll o’r lleill a ddaethant allan; cymerwyd hwynt
yn garchorion, a chawsant eu cymeryd i Gaerdydd i’r carchar. Cawsant wed’yn
eu dedfrydu i fisoedd o garchariad.
Bu Mr. Robert Thomas farw yn ddisymwth yn nhy Mrs. Alice Powell, yn “Hen
Gastell”, Penybont-ar-Ogwy, a chladdwyd ef yn Llantrisant, ar y diwrnod y
coronwyd ein Grasusaf Frenhines Victoria, yn 1837.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2484) (tudalen 60)
|
(x60)
●
RHAN 20
4-08 Llith
VIII.
“DIC O’R COTTISH”- CANWYLLAU CYRPH - Y SOSINIAID - RASMUS A’R HELBUL -
FAIRFIELD - MR. DANIEL OWEN
Yn fy
llith flaenorol addewias roddi hanes rhai o weithwyr y diweddar Rees Evans.
Yr oedd ganddo lawer o nyddwyr a gwehyddion, fel y dywedais o’r blaen. Un o’r
rhai cyntaf wyf yn ei gofio oedd Mr. Thomas Anthony, tad Mr. H. Anthony,
Y.H., Caerffili. Dyn bob modfedd o hono oedd Mr. Anthony. Yr oedd wedi ei
greu yn wr bonheddig; yr oedd pawb – bach a mawr – yn ei barchu. Yr oedd yn
un o’r dynion harddaf a welais erioed, ac yn cadw ei hunan yn hynod o lanwedd
bob amser. Fel rheol, nid oedd y gwehyddion yn enillwyr mawr, ond safiodd y
gwr da hwn, trwy ei ddiwydrwydd a’i gynildeb, lawer o arian. Yr oedd yn frawd
i Mr. Anthony y Panwr, ac yn berthynas agos i Mr. Anthony, Flower-de-leus. Ar
ol i Mr. Harry Anthony farw, cafodd yn agos y cwbl o’i eiddo ar ei ol, a
daeth yn bur gyfoethog. Priododd a merch John Williams, ffarmwr yn ymyl
Caerffili – merch ieuanc hynod o brydweddol – a throdd allan yn uniad
rhagorol. Yr wyf yn ei chofio yn dda yn cadw y farchnad am lawer o
flynyddoedd yn Mhontypridd i werthu gwlanenni. Yr oedd ei hymddangosiad
boneddigaidd, yn nghyd a’r gwlanenni oedd yn werthu {sic,
= eu gwerthu}, yn tynu sylw pawb. Gellir dweyd am dani fel y dywedodd
Lemuel frenin yn y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo: “Hi a gais wlan a
llin, ac a’i gweithia a’i dwylaw yn ewyllysgar. Tebyg yw hi i long
marsiandwr, hi a ddwg ei hymborth o bell. Hi a gyfyd liw nos, ac a rydd fwyd
i’w thylwyth a dogn i’w llancesau. Hi a feddwl am faes, ac a’i pryn ef. Hi a
weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg oedd sidan a phorphor. Hynod oedd ei
gwr hi yn y pyrth.” Mi wn nad oes neb yn fyw a ddywed fod hyn yn ormodiaith
am Mrs. Anthony. Dylaswn ddewyd mai brodor o’r Bettws, ger Penybontarogwr,
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2485) (tudalen 61)
|
(x61) oedd ei thad, a brawd i’r diweddar Isaac
Williams, Tynybryn, Tonyrefail. Maent oll wedi myned i fro distawrwydd er’s
llawer o flynyddoedd.
Dyna un arall o weithwyr Rees Evans oedd Mr. Hopkin Morgan, o Langriwynau,
Sir Fynwy {= Llangrwyne, ger Crucywel}. Yr
oedd Mr. Morgan yn lenor gwych. Bu yn myned i Eisteddfod y Fenni am lawer
blwyddyn. Priododd a Miss Mary Thomas, o Donyrefail, ac yr oeddynt y par
mwyaf golygus a ellid weled. Daeth Mr. Morgan i sylw mawr gydag Arglwydd ac
Arglwyddes Llanover. Cymerodd Factory Llangriwynau, Llanover, a bu fyw yno
hyd ei fedd. Daeth i sylw mawr gyda’r gwyr mawrion oedd yn ymweled a
Llanover, ac yr oedd y gwlaneni a wneud ganddo yn cael eu hanfon i
foneddigion pell ac agos. Yr oedd Mr. Morgan yn aelod gyda’r Annibynwyr yn y
Cymmer, ond nid oeddym yn edrych arno fel yn “orthodox.” Yr oeddem yn tueddu
i feddwl fod credo ei feistr wedi dylanwadu arno; yr oedd yn lled wan yn ei
gredo ar ddwyfoldeb person Crist.
Cawsom lawer iawn o ddifyrwch lawer tro wrth ei glywed yn holi Dic o’r
Cottish am ganwyllau cyrff ac ysbrydion. Byddai Dic yn cwrdd a thrafferthion
pwysig wrth ddod adre’ yn y nos. Byddai mewn angladdau yn fynych yn cael ei
wasgu’n drwm. Yr oedd ganddo lawer i’w ddweyd am Groesol Rhiwfelau {sic; = Rhiwfelan / Rhiwfelen}, a Gwaunypant. Yr
oedd yn dweyd mai lleoedd ofnadwy oedd y rhai hyn am ysbrydion. Yr wyf yn
cofio yn dda fy mod yn sefyll ar Dwyn y Ton ar noswaith dywyll, ac amryw o’r
gwehyddion gyda ni. Dyna Dic yn tynu ein sylw at ganwyll gorff yn dod
oddiwrth Groesol Tynybryn tua’r Waunrhydd. Yr oedd Dic yn sicrhau mai arwydd
fod angladd i ddyfod y ffordd hono yn sydyn ydoedd. Ond dygwyddodd i Hopkin
Morgan chwerthin cyn i Dic ddybenu. Digiodd drwyddo, a dywedodd nad oeddynt
hwy, y Sosiniaid, a thylwyth Rees Evans, ddim yn credu mewn Duw na diawl, ond
eu hunain. Ac yn y cythrwfl, fe ddiffoddodd y ganwyll. A wyddoch chi pwy oedd
y ganwyll? Dim ond Abram Lloyd
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2486) (tudalen 62)
|
(x62) o Gelli’rhaidd, yn dyfod
at Bili Dafydd, y Bwtsiwr, a defaid mewn panierau, a chanwyll a “lantern” i’w
oleuo.
Byddai Dic yn dywed llawer wrthym am ysbrydion Garthgraban Fawr. Yr Humphreys
oedd perchenogion y lle, ac yr oeddynt yn byw yno am lawer o flynyddoedd.
Dygwyddodd fod ganddynt was o’r enw Rasmws. Yr oedd yn ofergoelwr mawr; yr
oedd yn credu yn gryf mewn ysbrydion. Byddai yn gorfod myned tua Llantrisant
i’r Post yn hwyr weithiau, ac ar negeseuon ereill. Ond yr oedd yn arfer cwrdd
ag ysbrydion bron yn wastad. Byddai ci mawr yn ei ddilyn a’r ci yn troi yn
darw; yn y diwedd byddai y perthi ar dan bob ochr iddo, a deuai adref yn
chwys mawr ac ar fin marw. Pan y byddai y meistr o dre byddai Rasmws yn ofni
yn ddirfawr. Byddai ganddo ddryll yn ei ystafell wrth ochr ei wely. Un
noswaith yr oedd yn clywed swn dychrynllyd y tuallan. (Mae Garthgraban Fawr
yn ymyl y Coedmawr, ac yr oedd Rasmws yn fwy ofnus yn herwydd hyny; byddai yn
credu bod yr ysbrydion yn myned i’r goedig {sic;
= i’r goedwig} y dydd ac yn dychwelyd y nos). Ond noswaith ofnadwy
oedd y noswaith y saethodd drwy y ffenestr. Pan gododd boreu dranoeth cafodd
chwech o’r “turkeys” wedi eu lladd, a deallodd mai hwy oedd yr ysbrydion y
noswaith hono, oblegyd wedi iddo saethu bu yno dawelwch mawr. Aeth y
perchnogion i fyw i Loegr. Yr oeddynt wedi blino ar ddywediadau Rasmws a’r
cymydogion am yr ysbrydion; yr oedd dychryn ar bobl i fyn’d heibio wrth oleu
dydd.
Cymerodd Mr. Williams, o’r Gadlys, Aberdar, at y le, a daeth ef a Mrs.
Williams i fyw yno. Fe darfodd Mr. Williams yr ysprydion drwg; chlywyd dim am
danynt mwyach. Tad y Parch. D. Watkin Williams, Fairfield, oedd Mr. Williams,
o’r Gadlys. Yn Aberdar y gwnaeth ei gyfoeth. Fe ddywedir ei fod yn deall
marchnad yr arian yn dda. Byddai ganddo rai yn gwylied yr Exchange bron bob
amser drosto. Fe ddywedir iddo wneud haner can’ mil o bunau yn y ffordd hon.
Yr oedd ei fab, Mr. Williams, Fairfield, yn Cambridge am flynyddau wedi i’w
dad ddyfod i Garthgraban, a byddai y gwr boneddig
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2487) (tudalen 63)
|
(x63) ieuanc yn dyfod adref yn awr ac yn y man i weled
ei dad a’i fam. Yr oeddem bob amser yn ei roesawu pan y deuai. Byddai y pryd
hyny yn galw i weled y cymydogion, ac yr oedd yn ein sirioli yn fawr. Byddai
Mr. Williams yn cadw gwas iddo ei hunan. Yr wyf yn cofio Dic Butler, o
Glynogwr, gydag ef. Byddai Dic yn gwneud ei hun yn ffwl yn fynych, os nad
oedd felly mewn gwirionedd. Ond ’doedd arno ef ddim ofn ysbrydion, beth
bynag. Os byddwn byw, bydd genym lawer i’w ddweyd am Mr. Williams eto.
Dyn ieuanc arall wyf yn ei gofio yn gweithio i Rees Evans oedd Mr. Daniel
Owen, Ash Hall. Fe ddywedir nad ydoedd yn rhyw lawer o grefftwr pan ddaeth o
Lanharran {sic} i Donyrefail. Gallai
weithio a’r wenol fach, ond cyn ymadael a’r Ton fe ddysgodd ar y Fly Wheel, a
daeth i wae stripes traws a shawls. Yr oedd Mr. Owen y pryd hwnw yn dangos ei
fod yn feddianol ar dalent. Byddai weithiau yn cynyg at farddoni. Pan
ymadawodd a Thonyrefail, fe ddywedir iddo wneud englyn, a dyma fo –
“Ni ddof i’r Ton ond hyny,
I geisio gwae na chlymu:
Waith dyna rhai sy’n mynd a’r crop
Yw gwyr y siop a’r dwldu.”
Yr oedd Mr. Owen y pryd hyny yn dechreu cael blas ar arian. Fe ddaeth wedi
hyny i Bontypridd. Bu yn gweithio am flynyddoedd yn ffactri Heolyfelin, yn
Mhontypridd.
Mae yma enwogion ereill wedi bod ar ol Mr. Owen. Dyna lle bu Mr. James byw, a
dyma’r lle y bu farw. Efe ydoedd awdwr enwog “Hen Wlad fy Nhadau.” Fe fydd ei
enw mewn cof am ganoedd o flynyddau.
Fe briododd Mr. Owen a Miss Jones, merch y Parch. Ll. Jones, gweinidog yr
Annibynwyr yn Sardis, Pontypridd. Y mae y briodas wedi bod yn un hapus dros
ben. Fe ddywedir fod y foneddiges wedi cael synwyr a phwyll ei hybarch dad.
Aeth Mr. Owen yn gydmarol ieuanc i Awstralia; gwnaeth
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2488) (tudalen 64)
|
(x64) gyfoeth mawr yno.
[ÔL-NODYN: Bu farw
Mehefin 5, 1896. Ganwyd ef Mai 22, 1829].
Mae erbyn hyn yn un o ustusiaid heddwch Sir Forganwg. Beth wyf yn siarad; y
mae ei enw yn adnabyddus trwy yr holl wlad. Byddai hanes ei fywyd, wedi ei
gyfansoddi ganddo ei hun, yn dderbyniol ac yn llesiol.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2489) (tudalen 65)
|
(x65)
●
RHAN 21
4-09 Llith IX.
PROFFWYD Y BETTWS – DAFYDD SHAMS – CYFARFODYDD DIRWEST GYNT – UNDODWYR Y TON
Bu Dafydd Shams, y Panwr, ger y Bettws, fyw hyd yn ddiweddar ac yr
oedd pan derfynodd ei daith ddaearol yn un o warcheidwaid y tlodion yn
Mhenybont. Cyfarfyddem yn awr ac yn y man yn Mhenybont, a choffai yn aml,
gyda llawneydd, am y boreu hwnw, dros haner cant o flynyddoedd yn ol, pan
ymwelwyd a’i fagwyrydd clyd, ger y Betws, gan dorf o fechgyn Tonyrefail.
Terfynodd ei yrfa hirfaith yn cael ei barchu gan wreng a boneddig. Dywedir
wrthyf fod rhyw ddirgelwch yn nglyn ag hanes dyfodiad y Bradfords, o ba rai
yr hanodd Dafydd Shams i’r Bettws, lawer o flynyddoedd yn ol. Dywedir eu bod
o linach Saesneg, bendefigaidd, a’u bod wedi gorfod ffoi o Loegr yn amser
“Mari Waedlyd,” o herwydd eu Protestaniaeth; a dywedir fod eu cofnodiad
llinachol ar un o’r muriau tufewn i Eglwys y Bettws. Ond dyna, yn ol arfer
hen bobl, yr wyf yn dueddol i grwydro yn fy ymadroddion. I ddychwelyd. Yr
oedd Dafydd Shams yn ddirwestwr selog iawn. Yn y dyddiau hyny cynaliai y
dirwestwyr gyfarfodydd mawrion ar nawn Suliau ar y gwastadedd rhwng “Ystafell
Arawn” a’r Dinas Isaf ar Graig y Ddinas, heb fod yn mhell o’r heol fawr o’r
Cymmer i Lantrisant. Dafydd Shams fyddai yn aml yn llywydd y cyfarfodydd
hyny. Rhyw gyfnod rhyfeddol oedd hwnw yn hanes Morganwg. Yr oedd yn hynod am
yr yni meddyliol a ddynodai agwedd y Cymry yn gyffredinol ac yn yr ardaloedd
amgylchynol. Byddai areithio tanllyd ac hyawdl o dan “Ystafell Arawn” am tua
dwy awr. Yno yr areithiai “Lewis Machine,” “Shon Llwynsaer,” John Isaac
Evans, Dafydd, mab y Parch. William Evans, &c. Yn wir, yr wyf yn haner
coelio i myfi fy hunan ddywedyd tipyn yno fwy nag unwaith. Yn yr wythnos
ganlynol byddai Dr. Evan Davies, tad y Dr. H. Naunton Davies,
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2490) (tudalen 66)
|
(x66) Cymmer, yn beirniadu ein sylwadau yn areithiau y
Sabbath blaenorol. Byddai ysgrifenu ar hyny, ac nid oedd fawr o son am ddim
arall. Yr oedd adran ddirwestol gref yn y Ddinas, ac un arall ar Donyrefail.
Yr oedd gan bob adran ei baner sidan fawr iawn, a byddai yn cael ei chario
gan rywun cadarn o flaen yr adran, pan fyddai ar y “march,” fel y dywedir yn
awr. Yr oedd y banerydd a dolen ledr lydan am ei ysgwyddau, a gorweddai i
lawr dros ei fynwes. Wrth odreu y ddolen ledr yr oedd crai i dderbyn blaen y
polyn hir, ar ben pa un y byddai y pren croes wrth yr hwn y crogai faner fawr
lydan. Yr wyf yn cofio fod mesen felen fawr ar ben y polyn, ac un ar flaen
pob pen i’r pren croes, baner “y Ton.” Cedwid y polyn yn ofalus ar ben rhes o
binau haiarn tuag at ddal hetiau o fewn capel y Methodistiaid yn y lle.
Am Rhys Evans, o’r Factory, er ei fod yn Undodwr, ni wnelai byth wthio ei
syniadau Sosinaidd ar ereill; ond byddai bob amser yn barod i roddi benthyg
ei lyfrau. Mi gefais i, fel ereill, fenthyg ganddo waith Dr. Priestly;
Esboniad ar y Testament Newydd, gan Besham; a Thraethodau Jones, Gelli Onen.
Ond nid wyf wedi cael lle i ddeall i neb o feibion Ysgol Sul y Ton gael ei
henill at y ffydd Undodaidd, ond Jenkin Evans, wed’yn ysgrifenydd gwaith glo
y Ddinas am lawer o flynyddoedd. Bu ef farw ychydig o flynyddoedd yn ol yn
Mlaenllechau, lle yr oedd yn llenwi swydd gyfrifol. Dyn talentog ac
ymresymwr, fel y dywedai Morgan Rowland, o’r Ddinas, oedd Siencyn Evan. Bydd
genyf ragor eto i’w ddywedyd am y cyfaill anwyl hwn. Ymwelai Dr. Evan Davies
a thy Rhys Evans yn aml. Yr oedd amryw o Undodwyr tuag ardal Fforest y Garth,
sef ardal a elwid hefyd Ffrwd Amos, ond sydd wedi ei chyfnewid, wedi
canrifoedd, i Penygraig. Enw ffol iawn ar wastadedd, onide? Yn mhlith yr
Undodwyr yno cawn Bili, mab Beti Llewelyn o’r Cwrt, Daniel Thomas, wedi hyny
arolygydd gwaith Mr. Walter Coffin a’i Gyf., &c. Ond yr oedd yno fechgyn
lawer yn ddarllenwyr mawr, ac yn aros yn y ffydd Drindodaidd. Gellir enwi yn
mhlith ereill,
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2491) (tudalen 67)
|
(x67) T. Thomas Morgan (tad “Morien,”
ac hefyd tad y Parch. T. T: Morgan, ficer Chertsey, Windsor), Morgan Rowland,
Rowland Rowland, Rowland, mab Thomas Rowland; Ishmael Williams, “Sam y
crydd,” William Froster, &c.
Yr oedd Llywelyn, o’r Cwrt, yn llawn o dalent, a’i arabedd yn ffraethbert bob
amser. Ond ambell dro cyfarfyddai a’i debyg. Yr wyf yn cofio un noson fod un
Siencyn William a Llewelyn, o’r Cwrt, yn dadleu. Yr oedd Llewelyn yn siarad
am yr Un mwyaf fel pe gwyddai bob peth yn ei gylch. Yn mhlith pethau ereill,
dywedodd Llewelyn, “Gwn am un peth, Siencyn, ac y gellwch chwi ei wneuthur
lawn cystal a’r Un Mawr.” “Beth yw hyny?” gofynai Siencyn. “Gellwch,” ebe
Llewelyn, “rifo pedwar gystal ag yntau.” “Charwn i ddim cystadlu ag ef,” ebe
Siencyn mewn llais cras, “rhag ofyn {sic, = ofn}
iddo’m atal ar y tri!” Byddai dawn ac arabedd Llewelyn, o’r Cwrt, yn
ddifyrwch mawr yn aml i’r diweddar feddyg, Dr. Evan Davies. Byddai yn cadw
Llewelyn gydag ef am fisoedd ar y tro. Dywedodd Dr. H. Naunton Davies wrthyf
yn ddiweddar mai un o’r pethau mwyaf effeithiol a glybu yn ei oes oedd clywed
Llewelyn, ychydig o amser cyn ei farwolaeth, yn coffa y geiriau rhyfeddol, “O
Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddiwrthyf; er hyny, nid fy ewyllys
i, ond yr eiddot, ti a wneler.” “O na allwn yn awr,” ebe Llewelyn, “ddywedyd
fel llefarodd yr Un Mawr hwnw o bentref gwledig Nazareth! Peth ofnadwy yw bod
yn gorfod marw yn nghanol dymuniad am gael byw!”
Bu farw Thomas Morgan, ysgrifenydd yr adgofion uchod, Chwefror 7, 1890.
Claddwyd ef ger Capel Tonyrefail, yn yr un bedd a’i wraig gyntaf, ei anwyl
“Rebecca Caerlan,” ar y 13eg o’r un mis. Y mae yn huno yn nghanol ei hen
gyfeillion a’i gydnabod yno.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2492) (tudalen 68)
|
(x68)
FFOTO: Owen Morgan (“Morien”) 1899
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2493) (tudalen 69)
|
(x69)
(5) ENWAU LLEOL O
AMGYLCH TONYREFAIL.
GAN OWEN MORGAN (“MORIEN”).
●
RHAN 22
5-1 - PALASDY Y COLLENA
Dywed Mr. Geo. T. Clark, fod teulu Prichard, neu ap Richard, yn
hanu o Einion ap Collwyn, neu Cellwyn, mab Arglwydd Ceredigion a’r Dywysoges
Nest, unig ferch Iestyn ap Gwrgan, brenhin Morganwg, A.D.1093; a’u bod yn
meddiannu rhan o’r etifeddiaeth a ddisgynodd i ran Einion a Nest pan ranodd
Fitzhamon Morganwg rhwng ei bleidwyr. Yr oedd Einion a Nest yn byw yn
Nghastell Llantrisant. Y mae yn dra thebygol iddynt wneyd cartref llai
milwrol eu natur iddynt eu hunain yn y lle hwn, a’i alw yn Cellwynfa, ac mai
llygriad o’r enw hwnw yw yr enw Collena. Ystyr yr enw Cellwynfa yw Dirgelfa
Baradwysaidd {!!!}. Y mae eglwys fechan ac
Ioan Fedyddiwr yn Noddydd Sant iddi, ar etifeddiaeth y Collena. Dichon mai yn
y capel hwn, a elwir “Capel Bach,” yr addolai Einion a Nest yn eu henaint.
Mae y prif {sic; = brif} heol i’r Collena
o’r heol fawr ychydig i fyny o’r “Capel bach.” Y mae y fywoliaeth eglwysig
hon yn mraint y teulu hyd heddyw.
● RHAN 23
5-2 - PANT Y BRAD
Mae y lle hwn, bychan o ran rif y preswylwyr, tua milldir o bentref
poblogaidd Tonyrefail, ar y brif heol, yn nghyfeiriad Llantrisant. Enw mwyaf
henafol y lle yw y Pistyll Du, enw wedi ei roddi iddo oherwydd lliw y dwfr
sy’n llifo oddiar fawn cyfagos. Ond y mae y lle yn adnabyddus hefyd wrth yr
enw Pant y Brad oddiar Tachwedd {sic; dim
treiglad} 1326, pan ddaliwyd yn
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2494) (tudalen 70)
|
(x70) y fan hono Edward II, a elwir Edward o
Gaernarfon, o herwydd ei eni yno, Ebrill 25, 1284. Priododd ef y Dywysoges
Isabella, merch Phillip IV, brenhin Ffrainc, Ionawr 28, 1308. Esgynodd orsedd
Lloegr Gorphenaf 8, 1307. Rhwng ei briodas a’r flwyddyn 1326 yr oedd ei
frenhines wedi gorhoffi un Syr Roger Mortimer. Yr oedd yr holl farwniaid ond
Arglwydd Arundel wedi digio yn enfawr wrtho, o herwydd ei fod yn dangos
llawer o ffaffriaeth, yn gyntaf, i Piers Gavaston, yr hwn yn y diwedd a
laddasant; yn ail, Syr Hugh de le Spenser, mab Syr Hugh de le Spenser, Iarll
Wynchester a Llyw Castell Britstown, yn awr Bristol. Yr oedd Arglwydd Gilbert
de Clare, Arglwydd Morganwg a Chaerloyw, wedi ei ladd yn mrwydr Banawg Burn
(Scotland), Mehefin 25, 1314. Yr oedd ar ei ol dair Chwaer {sic, â llythyren fawr} – yr Arglwyddes Eleanor,
yr Arglwyddes Margaret, a’r Arglwyddes Elizabeth. Yr oedd Syr Hugh de le
Spenser yn Uchel Ystafellydd i’r brenhin. Rhoddodd Edward II yr Arglwyddes
Eleanor yn wraig i Syr Hugh de le Spenser. Iddi hi y rhoddasid etifeddiaeth
ei brawd yn Morganwg a Gwent, ac fel hyny daeth Syr Hugh yn Arglwydd Morganwg
a Gwent. Yr oedd Isabella, y frenhines, a Syr Roger Mortimer o hyd yn rhy
gyfeillgar a’u gilydd, ac yn hyderu cael y brenhin rywfodd o’r ffordd. Un o’r
dichellion oedd chwerwi y barwniaid yn ei erbyn. Yn 1321 torodd gwrthryfel
allan yn ei erbyn. Yr oedd y frenhines ar ymweliad a Ffrainc, yn nghyd a’i
mab, ar ol hyny Edward III, yr hwn oedd ar y pryd o dan bedair-ar-ddeg oed,
ac yn hollol o dan ddylanwad ei fam a Syr Roger Mortimer. Ymadawasant a
Paris, a Medi 25, 1326, glaniasant mewn man unig ar draethau Prydain, rhwng
Orford a Harwich, ar etifeddiaeth Thomas, Iarll Norfolk, un o frodyr Edward
II. Thomas oedd y cyntaf i roesawu Isabella ar ol ei glaniad. Yr oedd Iarll
Kent, brawd arall i’r brenhin, ei gwr, wedi cyd-deithio a hi o Baris; yr oedd
gyda hi hefyd ei mab (Edward III), Syr Roger Mortimer, a thua thair mil o
filwyr estronol a’u cadbeniaid. Lledaenodd y newydd
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2495) (tudalen 71)
|
(x71) am ei glaniad ac aeth Iarll Leicester a’i lu i’w
chyfarfod, ac unasant a’i byddin. Hefyd aeth Esgobion Ely, Lincoln, a
Hereford ati hi. Apeliodd Edward II at Lundain i ddyfod i’w gynorthwyo, ond
yr oedd y surdoes wedi gwrthweithio ei ddylanwad, a ffodd ef a Spenser ac
Arundel i Bristol at yr hen Spenser, yr hwn oedd yn naw deg oed. Aeth y
fyddin ar ffrwst ar eu hol. Rhoddodd y gwarchodlu yno yr hen Spenser i’r
frenhines. Crogwyd a darnwyd ef, a rhoddwyd ei gnawd i gwn. Diangodd y
brenhin, Spenser, ac Arundel, a Baldcoc yr Arglwydd Gangellydd i Gaer Loyw, a
chyrhaeddasant Fonachlog Castell Nedd. Aeth Syr Hugh de le Spenser i ddarpar
Castell San Nghenydd (Caer Philip Basset) i dderbyn Edward II. Yna cawn y
brenhin yno, ond yr oedd y frenhines a’i lluoedd ar ei ol, gan ddyfod trwy
Gaerloyw. Yr oedd Edward II yn Nghaer Phili’ o Hydref 30 i Tachwedd 4, 1326.
Ymosododd byddin y frenhines ar y lle trwy dan a rhuthr, ond diangodd y
brenhin a’i dri cyfaill {sic; = dri chyfaill}.
Collasant ei gilydd yn y ffoedigaeth; ond cyrhaeddodd Edward II Gelli’r
Llenor. Dywed hanes ei fod er mwyn diogelwch wedi gwisgo fel Cymro gwledig;
ymddengys y medrai siarad y Gymraeg oedd “Mari o Gaernarfon” wedi ei dysgu
iddo yn Nhre Iorwerth, ar draethau Môn, yr ochr arall i’r Menai o Gastell
Caernarfon, yr hwn oedd yn cael ei adeiladu ar y pryd. Cyrhaeddodd Fonachlog
Margam Tachwedd 4, yn y nos, fel yr ymddengys, wedi iddo ffoi o Gaerphili ar
yr un diwrnod. Digon tebyg iddo ffoi o Margam i Gelli Lenor, Llangynwyd, o
herwydd bod y mynyddoedd yn fwy diogel iddo na’r mynachdai. Ar Tachwedd {sic; = ar Dachwedd} 19, 1326, yr oedd yn ol yn
Moncahlog Nedd. Mae yn debyg mai y canlyn sydd gywir: - Gwnaeth y goreu o’i
draed o Gaerphili, a chyrhaeddodd Margam. Bu yn ol a blaen o Tachwedd 4 hyd y
16, rhwng y monachlogydd a enwyd, gan orphwys bob nos yn Gelli’r Llenor. Cawn
ef yn rhoddi i fyny sel yr orsedd i law Syr William Blount yn Nhre Mynwy,
Tachwedd 20, 1326. Felly cawn iddo gael ei ddal yn Mhant
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2496) (tudalen 72)
|
(x72) y Brad rhwng Tachwedd 16 a’r 20, 1326. Rhwng
Tachwedd 4 a’r 16 cafodd y brenhin a Syr Hugh de le Spenser, y Cangellydd
Baldcoc a Iarll Arundel eu gilydd. Yr oedd y Frenhines a’i byddin wedi
teithio o Gaerphili i Henffordd. Daeth hyny yn hysbys i’r brenhin, a anfonodd
Abbot Nedd at hi {sic = ati hi} i ofyn am
amodau ar ei ran. Yn y cyfamser yr oedd Iarll Leicester, Syr Samuel Riding,
Sir William de la Zouch, a Chymro o’r enw Rhys ap Hywel (offeiriad) yn tramwy
yn ddirgelaidd yn Morganwg i’w ddal. Trwy ryw foddion daeth y rhai hyny i
wybod fod y brenhin i groesi y mynyddoedd i Ystradyfodwg, a myned oddiyno i
Gastell Llantrisant. Dywedir mai un o fonachod Pen Rhys, oedd yr arweinydd o
Gwm Nedd. Dywedir mae’r {sic; = mai’r}
mynach oedd wedi mynegu y drefn i’r ysbiwyr. Yn agos i Bant y Brad y mae yr
heol yn troi yn sydyn i’r de yn ei rhediad o’r Rhondda. Ymddengys fod y
gelynion tudraw i’r tro, ac felly o olwg y brenhin a’i osgordd pan yn teithio
tuag atynt. Yn ddisymwyth cafodd Edward II ei hun yn y fagl! Pan oedd y
gelynion a’u mintai o filwyr yn ymdrechu sicrhau y brenhin, llwyddodd
Spenser, yr Arglwydd Gangelydd Baldcoc, a Iarll Arundel garlamu, fel
ymddengys, a ffoi ar hyd yr heol nes cyrhaedd Gwaun y Pant, ac yna i’r ddau
olaf fyned i lawr i ddyffryn yr Elwy; ond daliwyd y ddau ar Heol Wrgan, yn
agos i Dwyn Ysguborau, o dan Lantrisant. Am Syr Hugh, aeth ef a’r {sic, = ar} garlam i lawr ar ei aswy i Heol
Melin Trefeirig, a chyrhaeddodd Waen Maesgwyn, a elwir Gwaun “Miskin.” Yma
gorddiweddwyd {sic} ef gan Syr Samuel
Riding trwy garlamu yn heinif, medd yr hanes. Amcan amlwg Syr Hugh oedd
cyrhaedd ei gastell ar Dwyn Llantrisant, a diogelu ei hun ynddo. Seiliaf yr
hyn a ddywedir am y ddalfa yn Mhant y Brad, ar Waun Maesgwyn, ac Heol Wrgan,
ar hyn y dywedir gan Rice Meyrick, yn ei lyfr a elwir “A Book of Glamorgan
Antiquities,” a ysgrifenodd yn y flwyddyn 1578, a thraddodiad lleol. Gosodwyd
Syr Hugh de le Spenser i farwolaeth yn Henffordd, a’r brenhin yn Nghastell
Berkeley, yn y dull mwyaf alaethus!
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2497) (tudalen 73)
|
(x73) Rhai blynyddoedd ar ol hyny crogwyd Syr Roger
Mortimer a Syr Samuel Riding yn Llundain, ac alltudiodd Edward III ei fam
gythreulig i gastell yn swydd Efrog, lle y bu hi byw wyth ar hugain o
flynyddoedd mewn heddwch a mwynhad. Pan agorwyd ei hewyllys cafwyd ynddi y
cais am “osod ei chalon i mewn yn arch (‘coffin’) Syr Roger Mortimer.”
Adferwyd etifeddiaeth Syr Hugh de le Spenser a’r Arglwyddes Eleanor i’w mab.
Yr oedd yr un enw a’i dad a’i daid. Efe oedd Pencadben byddin Deheudir Cymru
(12,000) o dan y “Black Prince” yn mrwydr Cressy (Gorphenaf 10, 1346). Chwech
mis ar ol hyny rhoddodd charter i wroniaid Llantrisant.
● RHAN 24
5-3 - CWM “CASTELLA”
Dyna fel yr enwir y cwm yn awr, ond ei enw hen oedd Cwm Cas Dyle,
sef yr heol serth, a chynt diarebol am ei thyle a’i gerwinder, hyd
Bencoedcae. Bu dyddiau pan yr oedd llawer yn ymddibynu ar gadw yr heolydd yn
Nghymru fel byddai yn anhawdd i’r goresgynwyr lladronaidd i ddyfod o hyd i’r
Cymry a’u meddiannau yn mhlith y mynyddoedd.
● RHAN 25
5-4 - TY CWRDD Y QUAKERS
Yn 1688 yr oedd John Bevan yn berchenog ar etifeddiaeth Trefeirig.
Aeth yn Quaker, ac ymfudodd i Pennsylvania yn nghwmni William Penn, fel yr
ymddengys. Tua’r flwyddyn 1701 dychwelodd gartref, gan lanio yn Hull, Lloegr.
Gadawodd ferch o’r enw Barabara yn Pennsylvania, ac y mae ei disgynyddion yno
yn awr yn parhau yn Quakers ac yn bobl gyfoethog. Yr oedd ef yn desgyn o
Thomas ab Evan Prichard, Collena. Ymddengys mai y John Bevan uchod a gododd
“Dy Cwrdd y Quakers.” Cawn iddo gymeryd ei garcharu yn Nghaerdydd am ballu
talu degwm i Rheithior {sic - didreiglad}
Llantrisant. Mae coffadwriaeth am y teulu ar ochr allanol Eglwys Llantrisant.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2498) (tudalen 74)
|
(x74)
●
RHAN 26
5-5 – TYLCHA
Hwn sydd enw ar bedair fferm yn agos i Donyrefail; ei ffurf
wreiddiol oedd Talchan. Enw Syro Phoenisaidd ydyw {!!!},
ac felly y mae ar y ffermydd oddiar yn mhell cyn Cred. Y mae dau air yn yr
enw – Tal (Arglwydd) Chan (yr haul) – Dominus Sol.
● RHAN 27
5-6 - GELLI “SEREN”
Nid oes amheuaeth nad ffurf cywir {sic; heb dreiglad}yr enw yw Gelli’r Sarn.
● RHAN 28
5-7 - TWYN TRAETHAWG
Twyn yn agos i ba un y mae Nant Gelli’r Haidd yn lledu, megis Traeth
Bychan.
● RHAN 29
5-8 - Y RHIW
Gelwir y tyddyn ar yr enw hwn o herwydd y rhiw y rhaid mynd ar
hyd-ddo i groesi y mynydd i Lan Arawn (!!!)
(Llanharan).
● RHAN 30
5-9 - LLANILID
Tyddyn wedi ei roddi mewn rhyw gyfnod pell yn ol i Eglwys Llan
Ilid, un o’r cenhadon Cristionogol a ddaeth o Rhufain {sic – dim treiglad} gyda Bran Fendigaid i Forganwg yn y
flwyddyn 60 O.C.
● RHAN 31
5-10 - “CAECWRLAS”
Ffurf gywir yr enw hwn yw Cae’r Corlais; Corlais yw enw y nant a
lifa heibio troed y tyddyn i’r Elwy, ger Tonyrefail. Hen enw Cymraeg am
ddafad yw cor; ceir ef yn aros yn yr enw cor-nant a cor-gi {!!!}, ac yn cor-lan. Ystyr yr enw Cae’r Corlais
yw Cae Llais Defaid {!!!}.
● RHAN 32
5-11 - CAERLAN
Hynny yw, cae ar le uchel.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2499) (tudalen 75)
|
(x75)
● RHAN 33
5-12 - GELLI GRON
Lle wedi ei enwi felly o herwydd ei safle fronnog rhwng yr Elwy a’r
Corlais.
● RHAN 34
5-13 - “CILELI”
Ei ffurf gywir yw Cil yr Elwy, hyny yw, Cilfach ar Afon Elwy.
● RHAN 35
5-14 - ELWY
Hen enw yn arwyddo dwfr yn llifo yn araf.
● RHAN 36
5-15 - TREBANAWG
Cartrefle yn nghanol nifer o fanau mynyddig.
● RHAN 37
5-16 - RHIW Y GARN
Ar ben y mynydd i’r dwyrain y mae carnedd fawr o gerrig. Tebygol ei
bod wedi ei chodi i fod yn bwynt codiad yr haul boreu Mawrth 25 a Medi 25 i’r
gwylwyr ar Fynydd y Din Aes {!!!}.
Disgwylient am dano ar ben ael y mynydd, ger ystafell Arawn. Arawn oedd yn
gyssegredig yn yr hen amseroedd. Hen aeb – “Hir yw’r nos – aros Arawn.”
● RHAN 38
5-17 - TREBOETH
Treboeth Gwynion. Y mae yr enw yn perthyn i chwedl grefyddol y
Derwyddon am Gwyion Bach yn ffoi o Bontypridd trwy Fwlch Gwynion, yn awr
“Bwlch Gwyn,” o flaen y dduwies Cariadwen. Rhan oedd hyny o redfa grefyddol
ddramataidd.
● RHAN 39
5-18 - HEOL “RHIW WINDER”
Y dull cywir o’r enw yw Heol Rhiw Gwynion Dro. Tebygol yw fod y
“Rhacad” ar yr heol yn golygu “Rhegedfa” ar y “troi” tua Treboeth.
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2500) (tudalen 76)
|
(x76)
●
RHAN 40
5-19 - Y WAUN RYDD
Enw yw hwn ar y Waun fawr sy’n llenwi y gwastadedd o dan
Donyrefail. Ceir ef yn ysgrifenedig Gwaun y Rhythedd, ond tebygol mai lle
rhydd, mal cymle, oedd gynt, ac mai hyny a olygai yr enw.
● RHAN 41
5-20 - CAE’R YSGOL
Yma yn ddiau yr oedd ysgol gynt. Cydmerir lle cyfranu addysg i
ffyn ysgol {!!!}. O’r enw Cymraeg hwn y tardd
yr enw Seisnig “‘sgool,” yn awr “school.” {!!!}Felly
ceir Dic Shon Dafydd yn siarad Cymraeg yn ddiarwybod iddo ei hun.
● RHAN 42
5-21 - Y TRAN
Enw yw hwn ar dyddyn ychydig i’r gorllewin o Donyrefail. Ysytyr yr
enw yma yw lled, neu estyniad o dir. {!!!}.
Fel am estyniad dydd, ceir ef yn y gair “trannoeth,” {!!!}
neu estyniad dydd, gwaith yr haul. Yn y tyddyn hwn y preswyliai yn y chwarter
cyntaf o’r ganrif hon un a elwid Charles o’r Tran (Charles Davies). Yr oedd
yn fasnachwr mawr mewn anifeiliaid, a’i enw yn hysbys trwy Gymru. Ei gyrchfa
benaf yn Lloegr oedd Northampton. Un o’i yriedyddion (“drovers”) oedd Shon
Dafydd, a adnabyddid yn gyffedinol wrth yr enw.
● RHAN 43
5-22 - “SHON Y BREECHES COCH”
Dywedir na fedrai Shon gyfrif ugain, ond pan yn gyru cant o
ddefaid neu o eidionau Cymru o’i flaen, os elai un o honynt o’r fintai,
canfyddai hyny ar unwaith, ac yna ymwylltiai a llefai nes dyfod o hyd i’r
colledig. Yr oedd yr ysgrifenydd yn gyfarwydd a Shon Dafydd yn ei henaint.
Cariodd ar ei ysgwyddau lawer o hetiau a boneti newyddion i ferched a
gwragedd y Ton o Bontypridd. Efe oedd y carydd llythyrau o’r Bont cyn bod
llythyrdy gan y Llywodraeth ar Donyrefail, a thelid ceiniog iddo am bob
llythyr; efe hefyd a ddelai a
|
|
|
|
|
|
|
▼
(delw 2501) (tudalen 77)
|
(x77) phapurau newyddion i’r lle. Yr oedd yn arferiad
gwahodd Shon Dafydd i giniaw a the ar y Sabbath, ac yr oedd yn “visitor” bob
Sul yn rhyw dy neu gilydd. Er mai gwan ei gyrhaeddiadau meddyliol oedd Shon Dafydd,
yr oedd yn ddyn cywir, a gellir dywedyd uwchben ei fedd, “Yma y gorwedd llwch
un na wnaeth gam a neb erioed!” Dywedir ei fod pan yn
|