16-04-2017  Hanes Tredegar o Ddechreuad y Gwaith Haiarn hyd yr Amser Presennol. Blwyddyn 1868.

 

kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org

kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm

kimkat0960k Mynegai ifr testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm

kimkat0928k Y tudalen hwn

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les 
The Wales-Catalonia Website

Hanes Tredegar o Ddechreuad y Gwaith Haiarn hyd yr Amser Presennol

 

Gan David Morris (Eiddil Gwent, B.B.D.)

Tredegar. 1868.

Adolygiad diweddaraf: 17-04-2017, 23-05-2016

·····

 

 

 


(delwedd 4907)

(CLAWR)


 

 

 

HANES TREDEGAR
O DDECHREUAD Y GWAITH HAIARN
HYD YR

AMSER PRESENNOL

Buddugol yn Eisteddfod Cymrodorion Tredegar am y fwyddyn 1862

AT YR HYN YR YCHWANEGWYD 


Braslun o Hanes
Pontgwaithyrhaiarn 


 

YNHGYD A 
CHAN O GLOD I GLYN [sic] SlRHOWY,


 

Ac amryw Ganeuon ar wahanol Destynau.


GAN

DAVID MORRIS, 

(EIDDIL GWENT) B.B.D. 


TREDEGAR: 
ARGRAFFWYD GAN J. THOMAS, HEOL-YR-EGLWYS. 
1868.


(delwedd 4908)

(x01x)


 

 

 

 

 

 

HANES TREDEGAR
O DDECHREUAD Y GWAITH HAIARN
HYD YR AMSER PRESENNOL

Buddugol yn Eisteddfod Cymrodorion Tredegar am y fwyddyn 1862 

AT YR HYN YR YCHWANEGWYD 

Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn 

YNHGYD A 

CHAN O GLOD I GLYN [sic] SlRHOWY, &c. 

GAN DAVID MORRIS, 

(EIDDIL GWENT) B.B.D. 





TREDEGAR: ARGRAFFWYD GAN J. THOMAS, HEOL-YR-EGLWYS. 
1868.
 



(delwedd 4909)

(x03x)
To W. Bevan, Esq., Ash Vale: 

The following performance is with all humility dedicated to you, as a token of respect, for the readiness with which you condescended to become the Patron of this Work. This manuel [sic] History of Tredegar — though small, has been attended with much labour and research; and a great deal of interesting information has been kindly supplied by friends. The aim of the writer has been to give in a small compass, a collection of useful and entertaining matters, and as a sketch it is hoped it will be found sufficiently extensive for the generality of readers. 

Sept. 24th, 1868. D.M. 

Englynion i'r Llyfr. 

Eiddil Gwent ar ei ddail gwyn, — rydd hanes 
Rhwydd hynod o'n dyffryn; — 
I fawrhau y llyfr hyn — de'wch yn glau, 
Nid o wael efrau y gwnawd ei lyfryn. 

Llona ei holl ddarllenwyr, — a garant 
Gwir ragorol synwyr; — 
Doed y rhawg awenawg wyr — 
I lefain am ei lyfyr. 

Sirhowy. E. DAVIES (Gwentwyson.) 


 






(delwedd 4910)

(x05x)

 

 

 

HANES TREDEGAR 
PEN. I — RHAGLITH IfR HANES. 

NID gwaith hawdd, ond anhawdd dros ben, yw ysgrifenu hanesyn cywir, cryno, a chyflawn am gDdechreuad a chynydd Gwaith Haiarn Tredegar,h am fod rhwystrau anorfod, braidd, ar y ffordd, fel nas gall yr hanesydd mwyaf manylgraff, bron, eu gorchfygu, — o herwydd a ganlyn. Gwyr pawb ac sydd yn gwybod ychydig neu ddim am y Gyfreithfeydd Haiarn, os bydd Ffwrnes wedi bod ugain neu ddegarugain o flynyddau dan Flast, fel y dywedir, ei bod yn ei thynu i lawr i'r dyben i roi Aelwyd newydd ynddi. Yn y cyfamser tynant i lawr y Tawdd-ddyddiad (Casting-date) oedd ar enau y Ffwrnes, gan ei daflu ifr malurion (rubbish), a gosod yn ei le ar enau yr Aelwyd newydd dawdd-ddyddiad arall, sef o'r flwyddyn y gosodwyd yr Aelwyd ddiweddaf i mewn. Er engrhaifft [sic]. Cefais ar fy meddwl yn ddiweddar i dalu ymweliad a hen Ffwrnesi yn Ngwaith Haiarn Tredegar, lle bum yn ymdwymo wrth eu gwres, a chysgodi rhag llawer cafod oer o dan eu magwyrydd, erfs mwy na 40 mlynedd ol. Gan mai fy unig neges oedd cael allan oedran yr hên Ffwrnesi, cyfeiriais fy nghamrau tuag at yr hen Ffwrnes, Rhif 3ydd, No. 3, yr hon oedd, feddyliwn, tua 60 mlwydd oed. Ond, cefais fy siomi yn fawr, pan welais ar enau yr hen Ffwrnes y dyddiad hwn — 1861. Wel, meddwn wrth y toddwr, founder, yr hwn oedd gerllaw imi, gMae yr hen Ffwrnes dros 60ain mlynedd yn ieuengach nac oeddwn i yn meddwl ei bod.h gOh meddaifr Toddwr, gyr ydys wedi bod yn gosod Aelwyd newydd ynddi.h gPa le maefr hen Aelwyd y'nghyda'r dyddiad date?h gOh atebai'r toddwr, gmaent y'mysg y malurion, rubbish, yna yn rhywle:h — felly yr holl hen Ffwrnesi eraill namyn Rhif 5ed, No. 5, yfnghyda'r pedair Ffwrnes a elwir Cubilos. Gwelir yn amlwg 




(delwedd 4911)

 
(x06x)

oddiwrth hyn, a phethau eraill a allesid eu henwi, fod yn ofynol ifr hanesydd wedi byw flynyddau meithion yn y lle — a'i fod wedi ymgyfeillachu llawer iawn a'r hen drigolion — cyn y gall dynu ymaith y mwswn sydd wedi tyfu ar hynafiaeth Gwaith Haiarn Tredegar. Ar hyd y tir hwn yr ymlwybraf, gan gadw mewn golwg hynafiaeth Tredegar yn brif-nod ifm hymchwiliadau. 

Ni bydd imi, am y tro hwn, gyfyngu fy hun at goethder iaith nac orgraff, namyn traethu fy llen mewn iaith sathredig a dealladwy — gllafar gwlad.h Nid am nad yw'r iaith Gymraeg yn ddigon cyfoethog i roi tri gair am bob un ifr Saesonaeg; ond am fod y Saesonaeg wedi bod mor aflwyddianus a rhoddi enwau mor ddiystyr a dienaid ar bethau perthynol i'r Gweithfeydd Haiarn, fel nad ydynt yn rhoddi y meddylddrych lleiaf am y weithred na'r gweithydd. Gan nad oes a fyno y Testyn ag ystadegau masnachol na chrefyddol, ymateliais oddiwrth hyny, gan ddilyn fy nhestyn wedi imi gael gafael arno — Medi 30ain, 1862. 



PENNOD II. 

HANES DECHREUAD A CHYNNYDD GWAITH HAIARN TREDEGAR. 

Glyn Sirhowy — Braslun neu ddesgrifiad o hono, 

Cynhwysiad — Glyn Sirhowy — yr Afon — Traddodiad yfmysg yr hen drigolion am darddiad ei henw — Cynyg ar roddi iawn ystyr i'r enw — Ei Beirdd. 

Glyn Sirhowy, - lle saif Gwaith Haiarn Tredegar ynddo, sydd tua 16eg milldir o hyd; yn cael ei amgylchynu a chadwyn o fryniau talgribog, — o du y Dwyrain gan Mynyddislwyn, ac o du y Gorllewin gan blwyf Bedwellty, — yn hytrach plwyf St. Sanan; yn herwydd mai St. Sanan yw enw yr Eglwys. Nid yw Glyn Sirhowy ond cul iawn yn ei ddechreuad, ond tua phum' milldir islaw Tredegar dechreua ymagor ac 




(delwedd 4912)


(x07x)

ymledaenu, nes ffurfio ei hun yn un ofr dyffrynoedd harddaf a pharadwyseiddiaf ac y sydd rhwng bryniau uchel Gwent a Morganvrg. Ac ar lechwedd y bryniau hyn, ie, hyd yn nod ar eu penan hefyd, - gwelir tyddyndai heirdd a phalasau gorwychion, — yn cael eu hamgylchynu a meusydd toraethog a ffrwythlawn. Tua mis Medi, swynir meddwl yr edrychydd yn fawr, wrth weled y medelwyrf ar [sic] medelesau, yn gatrodau rheolaidd yn torri lawr cynyrch y tir, — ac ar ben pob grwn yn yfed iechyd da i'r hwsmon - a rhâd Duw ar y tir — yn ol defod ac arfer yr hên Wentwysiaid. Ac os try yr edrychydd ei lygaid at odreuon y glyn, cyferchir ef gan y rhosyn, y tiwlyn, y lili, y myrtwydd, y box, a'r gwynwydd, nes peri iddo dori allan mewn hwyl nefolaidd gan daro tant ar yr hên bennillion a gyfansoddodd y Hardd wrth weled ei gydgenedl, y Cymry, yn myned — mintai ar ol mintai, tua gwlad y Gorllewin, sef America: — 

gHoff genyf am hên wlad fy nhadau, —

Ei gelltydd, ei bronydd a'i bryniau;

A'r gweinwydd mwyn llon, addurnant ei bron,

A'i heirddion wiw-lwysion Halasau. 

Y Cymro, er morio'r Amerig, —

Dros donau i'r llanw pellenig,

Hiraethu a wna — a'i galon fydd gla —

Am Walia fwyneiddia fynyddig. 

fE genir am randir yr India, —

Gan ganmol dewisol wlad Asia;

(Boed iddynt eu clod) mae trysor yn bod —

Diddarfod dan waelod hên Walia. 

Afon Sirhowy. — Dywed yr enwog Drayton yn y *Polyolbion: — gNid oes prin aber yn Morganwg na Gwent nag ydyw yn dwyn ei thrâs at groth ffrwythlawn Brycheiniog.h 

g
*For almost not a brook in Morganwg or Gwent, But from her fruitful womb fetch her high descent. 




(delwedd 4913)

 
(x08x)

Felly Afon Sirhowy, sydd yn tarddu allan o welyau tywod a chalchfaen Brycheiniog. Dechreua yr afon hon, sef Sirhowy, daenu ei gwely o fewn i dair milldir i Dredegar, sef wrth y lle a adnabyddir wrth yr enw Ffynon y Dug (Duke's Well). Er nad yw ond eiddil a gwanaidd yn nechreu ei thaith, fel braidd y dichon orchuddio hyd yn nod twmpath y wadd, — na myned ychwaith dros gareg fechan heb ymddoleni o'i hamgylch wrth geisio gweithio ei ffordd ymlaen ifw thaith. Ond derbynia ifw mynwes lawer nant ar ei thaith, yn enwedig ffynon Sion Sieffrey, yr hon sydd yn arllwys ei ffrydiau iddi fel rheieidr nerthol. Ac ar ôl cyrhaedd Blaen y Cwm, ceir nentydd ereill yn talu eu teyrnged iddi; — yn awr â yn ei blaen fel cawres gan dorchi ei llewisau — a dangos ei breichiau gwynion, fel pe b'ai am roddi her i bob rhwystrau, a osodid ar ei ffordd, ifw lluddias ar ei thaith. Ar ol iddi fel hyn adnewyddu ei nherth, a theithio tua thair milldir o ffordd, dechreua weinyddu ei chymwynasau, trwy fwydo chwythbeirianau Gwaith Haiarn Sirhowy, — ynghyda rhol-beirnianau [sic] a chwyth-beirnianau [sic] perthynol i Waith Haiarn Tredegar. Yna â yn ei blaen gan adnewyddu ei nherth o hyd. Mae'r afon fnawr yn cael ychydig seibiant — yn dechreu canu un o'r peroriaethau melusaf, fel merch soniarus, â llais toddedig, yn sio y baban i gysgu; — mae'r holl goedydd a'r llysiau yn talu parch iddi. Mae'r gwŷdd yn tyfu o amgylch ei thraed, y myrtwydd yn gwarogi yn ddistaw ger ei bron, y lili, er yn wylaidd, fel morwyn bur yn sirioli ac yn chwerthin arni; fel nas gall calon fawr, gynes, ac enynol y bardd na darfelyddion mwyaf cyfoethog eu crebwyll, osod allan mewn mawlgerdd y filfed ran o'i theilyngdod fel cyfrwng cynhaliaeth dros naw mil o drigolion. A gellir dywedyd am dani, mewn cysylltiad a'r Glyn — gGwlad yr hon y mae ei cheryg yn haiarn.h (Deuter. 8 b. 9 ad.) Mae afon Sirhowy wedi, ac yn bod, yn enwog am ei brythillod, fel y canodd rhyw hên brydydd o'r Glyn dribanau iddi — 






(delwedd 4914)

 
(x09x) 

gMi dreuliais lawer diwrnod, 
Ar lan Sirhowy wiwglod, 
I dynu cnau ar frigau'r fro, — 
A thwyllo y brythilod.h 

Ar lan yr afon hon y ganwyd a magwyd yr enwog D. Rees Stephen — a rhwng ei chorlenydd meillionog y cyfansoddodd ei epistol cyntaf erioed, yn yr iaith Gymraeg, yr hwn sydd ifw weled y dydd heddyw yn gSeren Gomerh pan oedd o dan olygiad ein hanwyl, anwyl GOMER. Ar lan yr afon hon y treuliodd Mr. J. Jones, Gellygroes, hên ddisgybl i IOLO MORGANWG, ac Aneiryn Jones, ei fab, (Aneiryn Fardd) y rhan fwyaf o'u dyddiau. Hefyd y byth gofiadwy David James, Cwm Corwg (Dewi ap Iago), yn'ghyda'i frodyr, Ieuan ap Iago a Thomas ap Iago, — 

A degau o lon-feirdd digoll, 
A Brychan fâd, eu tad hwynt oll. 

O ie, bum bron ac anghofio yr hen Eiddil Gwent, yr hwn sydd wedi treulio y rhan fwyaf o'i ddyddiau ar lan Sirhowy. A meddyliwyf mai nid anmhriodol fyddai gosod y Bardd Cynddelw yn rhestr beirdd Glyn Sirhowy, — canys y mae ef wedi treulio llawer blwyddyn bellach yn Sirhowy, ac yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd yn nyfroedd tryloew yr afon hon. 

Enw yr Afon. — Rhydd yr hên drigolion hanes digrif iawn am darddiad yr enw Sirhowy — a thyma fe, gPan oedd y Cymry a'r Saeson mewn rhyfel a'u gilydd daeth y Cymry pan oeddynt ar eu hencil (retreat) hyd at Ffynon y Dng (Duke's Well) idd y dyben o ddibuddedu eu hunain, ac i dori eu syched. Ond pan welodd y Dug, eu Pencadben, y gelynion yn agoshau, gwaeddai allan, nerth ei ben, ePwy o honoch sydd yn barod i wynebu'r gelynion - wele hwynt yn d'od?f Ac atebai un or milwyr, eSyr 'wy i,' un arall atebai eSyr 'wy i,' nes iddi fyned yn eSyr 'wy i,' trwy yr holl fyddin. Yfmlaen a hwy, law a chalon yn erbyn y gelyn, gan ladd ar y de a'r aswy, nes oedd eu saethau yn cymylufr awyr, ac enill y fuddugoliaeth yn llwyr ar 






(delwedd 4915)

 (x10x) 

y gelynionh A mynodd y Dug, meddant hwy, alw yr afon yn eSyr 'wy i ' byth wedi hyn. Er fod rhyw ddigrifwch ifw weled yn y traddodiad hwn o eiddo'r cyndrigolion — gwelir yn amlwg nad ydyw ddim namyn na ffugchwedl (romance). 

Cynyg ar iawn ystyr ifr enw. — Meddyliwyf mai gair cyfansawdd yw Sirhowy, o sir, gwreiddyn y gair siriol, a gwyneu wy, sef hên air Gymraeg am ddwfr, neu ddyfroedd. Felly ystyr y gair yw siriolddwfr, neu ddyfroedd dymunol i sirioli'r meddwl. Felly ceidw yr afon yr enw priodol hwn iddi ei hun hyd nes y llyncir hi i fyny gan yr afon Ebw. Ond saif Glyn Sirhowy yn gôf golofn o'i henw tra tywyno haul ar fryniau Gwalia hên. Wel, hwyrach y cwynir arnaf am ymdroi fel hyn cyn dyfod at fy nhestyn; ond, meddyliwyf fod cysylltiad anwahanadwy rhwng y Glyn — a'r Afon — a Hanes Dechreuad a Chynnydd Gwaith Haiarn Tredegar. Hefyd, barnwyf byddai rhoi hanes noeth am Weithfa Haiarn Tredegar, heb fyned yn amgylchiadol ifr testyn, ond hanesyn sychlyd ac annyddorol dros ben 



PENNOD III — TREDEGAR. 

Tredegar sydd dref boblogaidd iawn, yn cynhwys 9,776 drigolion. 
Ei phellder o Lundain yw 156, trwy y Feni; o Gaerdydd, 32; o'r Feni, 12; o Gasnewydd, 24; ac o Ferthyr. 8 o milldiroedd. Cafodd Tredegar ei henw oddiwrth Tredegar Fawr, sef enw y palas neu drigle yr hên Forganiaid, y rhai oeddynt ddisgynyddion o Cadifor Mawr, ap Collwyn; — a pherchenogion y tir lle saif Tredegar arno. Rhoddir llawer iawn o ystyrion ifr gair Tredegar. Y mysg eraill geilw rhai ef Tri-deg-erw, a mynant, er bodd ac anfodd, mai dyna ywfr iawn ystyr o'r enw. Ond pan ystyriom mai yr hên air Gymraeg am Ddaear neu Daear, yw Ar, ac os digymalwn y gair Tredegar — fel hyn, Tre Deg Ar, gwelwn yn amlwg mai iawn ystyr yr enw yw Tre-daear-deg. Mae llawer iawn o balasai yr hên foneddigion 




(delwedd 4916)

 (x11x)

Cymreig, y'Nghymru, yn myned dan yr enw Tre — fel Trenewydd, palas yr anrhydeddus Arglwydd Dinevor - hefyd Tregoib, palas ardderchog Mr. Hughes, ger Llandeilo Fawr, - a llawer o balasau ereill a allesid eu henwi. 



Pen. IV. DECHREUAD GWAITH HAIARN TREDEGAR 

Wedi i Mr. Munkas, mewn cysylltiad a Mr. Fothergill, gael addewid am afaelrwym (lease) ar y man lle saif Gwaith Haiarn Tredegar arno, yn ffodus iawn, daeth Mr. Humphrey, Penydaren, i mewn i fod yn rhanfeddianydd o Weithfa Tredegar. 
A chan fod Mr. Humphrey yn frawdynghyfraith i Sir CHARLES MORGAN, TREDEGAR FAWR, llwyddasant i gael gafaelrwym (lease) ar y fan ddewisedig ganddynt. Ond wedi iddynt daflu golwg gyffredinol ar y lle, fel man cyfleus i adeiladu Gweithfa Haiarn, siomwyd hwy yn fawr, canys yr oedd rhyw fân diroedd mewn cysylltiad ar man dewisedig, yn eiddo i un Paul Harri, yr hwn oedd yn byw y pryd hwnw mewn amaethdy bychan, gerllaw y lle mae ystablau Tredegar yn nawr. Yfngwyneb hyn nid oedd dim yw wneyd ond ceisio denu yr hen wr i werthu ei afaelrwym,lease. Ond yr oedd yr hen Paul yn parhau i nachâu o hyd, nes ofr diwedd ifr masiwn, yr hwn oedd yn adeiladu y Ffwrnesi, i ddenu yr hen wr ar y cruse, fel y dywedir. Ac yn llechwraidd fel hyn llwyddodd arno i werthu ei hawlfraint ofr tir, hwyrach ag oedd wedi bod am ganoedd o flynyddoedd yn meddiant ei deulu, — a hyny am ryw swm fechan o arian ar lawr, ynghydag wyth swllt yr wythnos tra byw!! Ond nid efe ywfr unig Esau yfmhlith y Cymry, a werthadd ei enedigaeth fraint am un saig o fwyd. Wedi cael pob peth i gyd-daro fel hyn, awd ymlaen afr gorchwyl o adeiladu. Adeiladwyd y tair Ffwrnes gyntaf rhwng y flwyddyn 1800 a 1801, ond ni ddechreuwyd eu gosod dan Flast cyn y flwyddyn 1802.Cadarnheir 




(delwedd 4917)

 (x12x)

ni yn hyn, pan ystyriom nad oedd holl drigolion plwyf Bedwellty yn y flwyddyn 1801 ond 619. 
Gwel Pigot's Directory am y flwyddyn 1831, tudalen 665. Ac yn y flwyddyn 1811, y'mhen naw mlynedd wedi i Waith Tredegar gael ei ddechreu yr oedd trigolion plwyf Bedwellty yn 4,590, ac yn y flwyddyn 1821 jn 6,384, eto yn 1831 yr oedd rhif y trigolion yn 10,037, a bernir fod yr hanereg, moiety, yn perthyn i Dredegar. Gwel yr un llyfr, sef Pigot's Directory, a'r un tudalen. Mae yn ddiamheuol fod yn rhwyddach adeiladu wyth ffwrnes mewn blwyddyn yn awr nag adeiladu tair ffwrnes yn Nhredegar driugain mlynedd yn ol. Yn ngwyneb pob anfanteision, ie, anfanteision ofr mwyaf, yr adeiladodd Cymdeithion, Company, Tredegar, y gwaith sydd yn awr yn destyn ein hymchwiliadau. Yr oedd celfyddyd y pryd hwnw y'mhell iawn yn ol, at beth yw hi 'nawr yn ein dyddiau ni. Yn yr amser hwnw, driugain mlynedd yn ol, yr oedd cymaint o draul ar y Cwm'ni am gludo un Chwyth-beiriant, Blast Engine, o Fonachlog Castelnledd [sic] i Dredegar, ac yw gwerth y peiriant yr amser presenol. Canys, am nad oedd Tollffyrdd, turnpike, yr amser hwnw, o Feni na Merthyr ychwaith i Dredegar, gorfu iddynt dalu am gludo'r horse-head, prif ysgogydd y peiriant, o'r Fonachlog i Gasnewydd, ac o Gasnewydd i'r Feni, ac ofr Feni, dros y mynydd, i Dredegar. Ac wrth ystyried mai un cymal ofr peiriant oedd hwn, a bod y cymalau eraill ar ol, gwelwn ar unwaith fod traul aruthrol arnynt pan yn adeiladu y Gwaith ar y cyntaf rhagor yn awr. Heb law hyn, yr oedd anhawsderau eraill ar y ffordd, sef dyfrlynoedd i fwydo'r Peirianau, a chledrffyrdd i gludo'r mwn a'r glo tua'r ffwrnesi. Yn herwydd hyn buont yn ymboeni am rhyw amser, gan wneuthur y goreu o'r gwaethaf. Cloddiasant ddyfrlyn bychan, y'nghyda man gwteri, idd y dyben o fwydo y llyn, pond. Wel, yr oedd hyny yn ateb o'r goreu yn y gauaf, ond pan ddeua'r [sic] haf nid oedd o fawr werth — canys yr oeddynt yn gorfod talu am gario dwfr i'r llyn, 






(delwedd 4918)

(x13x)

yr hwn a alwent yn Cawnel. Ond trodd y rhôd er daioni i filoedd heblawfr Cwmpeini trwy iddynt, mewn cysylltiad a Chwmpeini Sirhowy, gael caniatad gan y Duke of Beaufort i wneyd dyfrffos trwy ei dir ef: — hefyd i wneyd gored tuag at droi dwfr yr afon ier ddyfrffos, feeder, at wasanaeth Sirhowy a Thredegar. Dyma'r tro cyntaf a gafodd yr afon i weinydau ei chymwynasau di-dor ac anmhrisiadwy. Dyma'r amser hefyd y gwnawd y llyn a elwir Pownd y Gwaith. 



PENNOD V. YR ADEILADYDD, AC EREILL. 

Adeiladydd Ffwrnesi Gwaith Haiarn Tredegar ydoedd Rees Davies, tad J. Davies, yr hwn sydd yn byw yn awr yn Rumni, a llysdad ifr enwog D. Rees Stephens. Yr oedd Mr. Davies, pan ymgymerodd i adeiladu Ffwrnesi Tredegar, yn byw yn Llangynidr. Ond wedi dechreu ar y gwaith, nid hir y bu cyn symud i Dredegar. A mwy na thebyg mai efe a adeiladodd y ty^ cyntaf yn Nhredegar, sef ei dy^ ei hun, yr hwn sydd y'ngodreu Heol yr Haiarn, Iron Street, yn yr hwn hefyd y bu ef farw. Yr oedd Mr. Davies yn un oedd yn caru pawb a phawb yn ei garu yntau. 

Yr un a dorodd fan y Ffwrnesi oedd Mr Abram Richard, tad Mrs. Bees, gweddw y niweddar [sic] William Bees, ofr Moulderfs Arms, Sirhowy. Digwyddodd pan oedd Abram Richard yn tyni y tir i lawr ifr dyben o gael lle ifr sylfaen, i ran o'r tir syrthio arno a'i anafu yn dost, a theimlodd oddiwrtho tra fu byw. Wedi adeiadu [sic] y Ffwrnesi — gosod i fyny y Peirianau — a phob peth — mewn trefn i'w gosod ar Flast — nid oedd neb yn eu plith yn gwybod dim am y gelfyddyd o doddi haiarn, fel bu gorfod ar Gwmpeini Tredegar anfon at Gwmpeini Sirhowy i fegian arnynt i anfon toddwr, founder, iddynt yr hyn a wnawd gyda'r ewyllysgarwch mwyaf, (canys yr 






(delwedd 4919)

 (x14x)  



oedd Mr. Atkins, un o Gwmpeini penaf Gwaith Sirhowy, yn frawd y'nghyfraith i Mr. Munkas.) Enw'r gwr a anfonasant oedd Lawrence Hughes, founder, yr hwn a dreuliodd weddill ei ddyddiau yn Nhredegar — a gwnaeth lawer o les trwy ddysgu eraill. Goruchwyliwr y Ffwrnesi oedd William Jones, yr hwn a adnabyddid wrth yr enw Wil Sion y Gof, Prif Oruchwyliwr, Manager, oedd Mr. Richard Fothergill, afr Talwr, Cashier, oedd Mr. Roland Fothergil [sic]. Y pwyswr cyntaf oedd Mr. Henry Jones, tad Mr. Richard Jones, Tredegar. Yr ysgrifenyddion yn swyddfa'r gwaith oeddynt Mr. Hunter, tad y diweddar Samuel Hunter, Chwegfaelwr,Grocer, Tredegar, a Mr. Morgan Rees, tad Mr. John Rees, Crydd, Tredegar, a Mr. Stephen Ells. Wel, dyna'r oll a ellir ar y pen hwn. 



PENNOD VI. 

CYNNYDD Y GWAITH. 

Yn y flwyddyn 1806 adeiliadwyd y Ffwrnes rhif 4 No. 4. Ac yn y flwyddyn 1807 adeiladwyd y pudling Mae yn naturiol ddigon gofyn yn y man hyn, beth oeddynt yn ei wneuthur o'r metel yn ystod pum mlynedd o amser? Gellir ateb — eu bod yn ei werthu, fel yr oedd Gwmpeini Peny-y-cae [sic] a Sirhowy, a'i gludo ar gefnau'r mulod i Weithfeydd Haiarn Merthyr, canys yn yr amser hwnw nid oedd un ffordd o Dredegar i Ferthyr, namyn ffordd geffyl neu droedffordd. Y ffordd i Ferthyr y pryd hwnw oedd heibio i Balasdy^ Mr. Theophilus Jones, lle mae W. Bevan, Ysw., yn byw yn awr, a thrwy Rasa Brynoer a Phantywaun. Yr oedd olion rhyw hen ffordd ifw gweled o Bantywaun yn myned heibio Nantybwch a thros Dwyn y Duke — afi chyfeiriad tuafr Feni. Galwai yr hen drigolion hi, gY ffordd Rufeinig.h Ond y mae yn fwy na thebyg mae fforth [sic] y Porthmon, Drover, oedd hon yn yr amser gynt. Ond rhag crwydro fel hyn, awn at y testy[n.] 





 


(delwedd 4920)

 (x15x)

Wedi gorphen o honynt y llecheirnfa, pudling, [sic] yr oedd mor anhawdd iddynt gael gweithwyr oedd yn deall ei gweithio ag oeddynt i gael toddwr, founder, i weithio y Ffwrnesi. 
Ond i gyflawni y diffyg hwn, anfonodd Mr. Humphrey, Penydaren, ryw nifer o hen weithwyr i Dredegar i ddechreu y puddling, ac i ddysgu ereill. Yn eu piith yr oedd Thomas Hughets David Morris,* a James Matthews, tad Mr. Matthews, yr hwn fufn brif arolygydd y Felin Newydd. Dyma'r amser, sef yn 1807 y dechreuodd Cwmpeini Tredegar wneyd haiarn yn barod ifr farchnad; a llwyddasant i gael cymeradwyaeth nid bychan yn y marchnadoedd haiarn, a hyn oedd prif achos ei gynydd graddol. Wedi i weithfa haiarn Tredegar fel hyn wneyd ei hun yn gyhoeddus ifr byd masnachol, daeth galwad anghyffredin am ei haiarn, fel y bu gorfod arnynt brynu metel am rai blynyddau o waith haiarn Rumni. Mae'r ysgrifenydd yn cofio am hyn, — sef fod un Thomas Davies yn cludo metel mewn men pedair olwyn o Rumni i Dredegar, a hyny am rai blynyddau. Ond y peth mwyaf ei bwys mewn cysylltiad a llwyddiant a chynnydd y gwaith oedd, nad oedd ffordd o Dredegar i Gasnewydd, idd y dyben o drosforu'r haiarn. Am hyny anfonasant ddeiseb ifr Senedd i gael cledrffordd o Dredegar i Gasnewydd, a llwyddasant yn eu hamcan. Ar ol hyn awd y'nghyd a gwneyd y ffordd am dymor, temporary, ond bu rai blynyddau cyn dyfod i'r perffeithrwydd y mae ynddi fnawr. Un ofr rhai cyntaf a gludodd haiarn ar hyd y gledrffordd newydd hon oedd Morgan Saunders, — afr un cyntaf a dorodd y telpyn glo (yr hwn oedd o faintioli anferth, yn pwyso tua dwy dynell) oedd George Williams — maent eill dau yn y bedd er's llawer blwyddyn. Tua'r amser hwn, sef 1812, y gwnawd y llyn sydd yn myned dan yr enw gPownd y Brynbach.h Ac idd y dyben o rhwyddhau [sic] masnach mynodd y Cwmpeini geiniogau gopr wedi eu bathi, ac arnynt gTredegar Company, One 



*Tad yr hanesydd. 






(delwedd 4921)

 (x16x)  

Penny Token, 1812.h Gwelwn yn amlwg, wedi ifr Cwmpeini gael pob peth i gyd-daro, yr oedd y gwaith yn myned yfmlaen yn hwylus, ac yn cynyddu. 
Yn y ffwyddyn 1817 adeiladwyd rhif 5ed. No. 5, a helaethwyd y balling a'r pudling [sic]. Ar yr olwg hyn gellir dywedyd am Dredegar fel y dywedai Gildad wrth Job gynt. gEr fod dy ddechreuad yn fechan, eto dy gynnydd a fydd yn ddirfawr.h 

Y pryd hwn yr oedd Mr. Forman, Penydaren a Mr. Thompson, Llundain, yn rhanog yn y gwaith,yn ffurfio y Cwmpeini cryfaf ar y llinell haiarn, iron line. Yr oedd Mr. Thompson yn cael ei ystyried yn un o'r dynion cyfoethocaf yn y Deyrnas, hefyd yn un o'r marchnatawyr goreu yn y farchnadfa Haiarn. Tua 18 mlynedd yn ol, daeth i dalu ymweliad a Thredegar, a chafodd ei daro yn glaf, — a bu farw mewn ychydig ddyddiau, er colled, nid bychan, i Waith Haiarn Tredegar. Yn y flwyddyn 1834 adeiladwyd melin haiarn newydd, yr hon a elwir y Guide-mill. Yr oedd y Gwaith pryd hyn yn myned yfmlaen yn hwylns a llwyddianus iawn, fel bu gorfod ar y Cwmpeini adeiladu un o'r melinau haiarn mwyaf ar y llinell haiarn — yn cynwys pedair melin, neu bedwar par o roliau, rolls. Dyma ni fnawr wedi dilyn y Gwaith o'i ddechreu i'w ddiwedd, namyn yr ogwyddffodd,incline, a wnawd yn amser y bythgofiadwy Mr. Davies, yr hon sydd yn dwyn i mewn i'r Cwmpeini tua £500 yn y flwyddyn, Ond bu farw y dyngarwr enwog hwn; ond bydd ei enw yn uchel ac anrhydeddus o genedlaeth i genedlaeth. 



ADFEDDYLIADAU. 

Y Mwnwyr afr Glowyr. Pan ddechreuwyd gwaith haiarn Tredegar, yr oeddynt yn codi mwn at y gwaith trwy glirio ymaith wyneb y tir i'r dyfnder ag oedd y mwn yn gorwedd yn y tir, yr hwn a alwent hwy patch. Nid oedd y cyfeir-ogofau,levels, yn bodoli yn yr amser 






(delwedd 4922)

 (x17x)

hwn, oherwydd fod y mwn y pryd hyny ifw gael mor agos i wyneb y tir — ond ni fuwyd yn hir cyn gweled yr angenrheidrwydd o Gyfeirogofau, Levels. Yr oedd Mr. Theophilus Jones, pan yn fyw, yn un o'r meistri level henaf, — a threuliodd y rhan fwyaf ofi ddyddiau fel y prif arolygydd tanddaearawl Tredegar. Enwau y mwn a godir yn ngwaith Tredegar ydynt — y wythien goch, y wythien lâs, y wythien dlawd, pin Siencin, pin garw. Enwaufr glo — hen lo, gloyn tan, cilwych, llathed, trichwarter, gloyn llathed, gloyn mawr heled, bedelog, glo engine, glo bach, &c. Y cyfeirogofau (levels) cyntaf oedd level Brynbach, level y brewhouse, alevel y yard. Ac er cymaint o fwn a glo a godwyd o ddechreuad y gwaith hyd yn awr mae digon o hono y'ngrombil y ddaear am ganoedd o flynyddau eto. Er y clywir dynion yn siarad fel hyn weithiau: gdear anwyl, beth ddaw o'r tai a meddianau y dynion sydd a hwy fnol i'r gweithfeydd ddarfod?h Ond bydd y gweithfeydd haiarn yn bodoli rhwng bryniau Gwalia hen pan bydd wyrion, ie, orwyrion y plant sydd y'nawr wedi meirw. 
Dywed yr enwog Ddaearegwr, Mr. Llewelyn, Pontypool, y pery cae glo Cymru ei weithio am saith cant o flynyddau eto. A dywed un gwr galluog arall — fod digon o lo y'Nghymru ei hunan i ddiwallu y deyrnas hon am ddwy neu dair mil o flynyddau. Am hyny na ddigaloned neb y'ngwyneb hyn, 

Fe ddaw Rhaglaniaeth lawn a'i thoraeth iach, helaeth yn ei chol,

Er bod mewn prinder, cawn fyw mewn llawnder, maefr amser goreu fol. 

Prif arolygyddion y gwaith yfnawr yw Mr. Reed a Mr. Bevan. Ond mwy na thebyg yw fod holl ofalon y gwaith — tan y ddaear ac ar y ddaear — yn pwyso yn drwm ar ysgwyddau Mr. W. Bevan, Ash Vale-house. Wedi myned o honom fel hyn dros fanylion gwaith haiarn Tredegar — mae un peth sydd yn teilyngu ein sylw manylaf, sef Samuel Homphrey, Yswain, yr hwn fu yn brif arolygydd ar waith haiarn Tredegar am 48 o flynyddoedd, iddo ef yn unig mae y Cwmpeini yn ddyledus am lwyddiant a chynydd gwaith haiarn Tredegar. 










(delwedd 4923)

 (x18x)  

Yn ei amser ef yr adeiladwyd yr holl waith ofr flwyddyn 1817 hyd at amseriad y Felyn Newydd, yn 1849. Ar ei ysgwyddau ef, fel prif arolygydd, y gorweddau holl bwysau a gofalon y gwaith; a gallwn sicrhau hyn — na fu un gwaith haiarn ar fynyddau Cymru yn myned y'mlaen yn fwy hwylus a rheolaidd na gwaith haiarn Tredegar, o dan olygiad Samuel Homphrey, Ysw. Hwyrach y beiir arnaf am beidio tynu ystadegau ofr haiarn a wnawd trwyfr holl amser y'ngwaith haiarn Tredegar. Wel, nid gwaith anhawdd fyddai hyny, ond cael gwybod pa faint o amser y buont yn segur. Ond fel y maent yfnawr mewn gwaith, a gadael eu bod yn gwneuthur 80 tynell yr wythnos, byddai hyny i naw ffwrnes yn 37,440 yn y flwyddyn. 

Bydded i'r darllenydd manylgraff gofio, fy mod yn cyfrif amser S. Homphrey, Ysw., o'r amser y daeth i fod yn brif arolygydd gwaith haiarn Tredegar, hyd yr amser y gwerthodd ef ei hawl ac yr ymneillduodd o fod yn rhanfeddianydd yn y gwaith. 

Wele fi wedi rhoddi braslun o hanes gwaith haiarn Tredegar — fel drws agored i'r neb a fyno ymhelaethu arno. — Byddwch wych. 






(delwedd 4924)

 (x19x)

Dengys y Daflen hon sefyllfa Gwaith Haiarn Tredegar o'r flwyddyn 1821 hyd y flwyddyn 1862. 

Ffwrnesi Gwynt (Blast Furnaces) Blwyddyn 1821 5 Blwyddyn 1862 9 Cynnydd 4 

Chwyth-beirianau (Blast-engines) Blwyddyn 1821 1 Blwyddyn 1862 5 Cynnydd 4 

Rhol-beirianau (Rolling-engines) Blwyddyn 1821 1 Blwyddyn 1862 4 Cynnydd 3 

Locomotives (Peirianau hunan-symudiadol) Blwyddyn 1821 Dim Blwyddyn 1862 7 Cynnydd 7 

Ffwrnesi pudling Blwyddyn 1821 11 Blwyddyn 1862 71 Cynnydd 60 

Balling furnaces Blwyddyn 1821 10 Blwyddyn 1862 40 Cynnydd 30 

Balance pits Blwyddyn 1821 1 Blwyddyn 1862 9 Cynnydd 8 

Cokeing furnaces Blwyddyn 1821 Dim Blwyddyn 1862 60 Cynnydd 60 

Heblaw pedair o beirianau mawrion sydd yn codi y dwfr ofr pyllau yfnghydafr man beirianau sydd o amgylch y gwaith. 

Y Ffwrnesi a'u Dyddiadau. Rhif 1, 2, afr 3, a adeiladwyd yn y blynyddau 1800 a 1801; rhif 4 a adeiladwyd yn y flwyddyn 1806; rhif 5 yn 1817. Dyna yw dyddiadau yr hen ffwrnesi. 

Y Pedair Cubilo. 

Adeiladwyd y ddwy gyntaf yn y flwyddyn 1840; adeiladwyd y ddwy arall yn y blynyddau 1853 a 1856. 

Rhif Trigolion Tredegar yn ol yr hanereg (moiety,) o drigolion y plwyf — yn 1801 oedd 619; yn 1811 4,590; yn 1821, 6.382; yn 1831, 10,637. Rhif trigolion Tredegar ar ben ei hun — yn 1851 oedd 8,305; yn 1862, sefy flwyddyn hon, 9,776. 

Cofier mae hyd y flwyddyn 1862 maefr hanes yn cyrhaedd.


(delwedd 4925)

 (x20x)



BRASLUN O HANES PONTGWAITHYRHAIARN. 



PONT-GWAITH-YR-HAIARN sydd rhyw fath o bentref bychau a dinod, ar lan afon Sirhowy, o ddeutu tair milldir a haner goris Tredegar. Cafodd yr enw hwn arno oddiwrth y ffwrnes a fu yno yn toddi haiarn flynyddoedd meithion yn ol — a saif yr enw hwn ar y lle, hwyrach, tra b'o afon Sirhowy yn golchi traed clogwyni Manmoel, a gwae fyddai i ên y gwr a gynygai newid yr enw hwn a gysegrodd yr hen ffwrnes arno, gan Arglwyddes Hall, Llanover, (Gwenynen Gwent,) am mai yr Arglwyddes yw perchenog y lle; hefyd ei sel a'i brwdfrydedd dros gadw i fyny yr enwau Cymreig sydd ar lefydd y'Nghymru. Haner canf mlynedd yn ol, sef yn y flwyddyn 1818, y telais ymweliad gyntaf a Phont-gwaith-yr-haiarn. Y pryd hyny nid oedd achos ifr hynafiaethydd mwyaf manylgraff, betruso am funud yn ei feddwl am fodolaeth hen ffwrnes Pont-gwaith-yr-haiarn, canys yr oedd y tyrau duon o farwor cinders, oedd yn ei amgylchynu yn brawf digonol dros fodolaeth ac hynafiaeth yr hen ffwrnes hon. Ac er fod y tyrau duon o farwor oedd yn ei amgylchynu wedi ei gordoi a glaswellt, a'r hen ffwrnes hefyd wedi chuddio bron gan ddanadl — ac fel un wedi ei llwyr esgeuluso gan fys traddodiad — a'i dibrisio gan hanesyddiaeth — eto mae hi fel un am hawlio ei bod mor hen, os nid yn hynach, nag un o hen ffwrnesi Cymru: — megys ffwrnes Pont-y-gwaith, yn mhlwyf Merthyr, ffwrnes Pontyrhun, ffwrnes Cwmywernlas, ffwrnes Melin y Cwrt a hen ffwrnes Caerphily. Yn ystod yr haner can' mlynedd a dreuliais yn y lle hwn, sef Tredegar, diamau imi fod ddegau o weithiau yn Mhont-gwaith-yr-haiarn, a phob tro yn holi y trigolion o berthynas i BONT gwaith-yr-haiarn; ond byddai yr 






(delwedd 4926)

 (x21x)

un peth imi ofyn i ddyn y lleuad a gofyn iddynt hwy, canys yr ateb oedd, gNi wyddom ni ddim.h Ond pa ryfedd oedd, canys dyfodiaid oeddynt oll, a hen drigolion cyntefig y lle wedi meirw — heb adael ar eu hol gymaint ag un traddodiad, namyn enw y lle, sef Pont-gwaith-yr-haiarn. Tua 37ain yn ol mesurais yr hen ffwrnes, a chefais ei bod yn mesur tua 40 troedfedd o amgylchedd, circumference, afi thryfesur,diameter, yn ddeg troedfedd a thair modfedd. Ond bum yn talu ymweliad yn ddiweddar afr hen ffwrnes, ac er fy siomedigaeth, nid oedd namyn 30 troedfedd o amgylchedd, afi thryfesur yn ddeg troedfedd. Hwyrach y gellir priodoli hyn i'r dirywiad a wnaeth amser arni yn ystod y 37 mlynedd sydd wedi myned heibio, — am ei bod yn awr yn gydwastad afr ddaear, ie, dair troedfedd, neu ragor yn is yn awr na phan gwelais hi gyntaf. 

Ond wedi ymdroi fel hyn amgylch ogylch yr hen ffwrnes, rhaid imi bellach arwain y darllenydd at y ffeithiau sydd yn profi, yn ddiymwad, fodolaeth Pont-gwaith-yr-haiarn. 

gA wado hyn aed a hi, 
A gwaded ifr haul godi.h 

Tua dwy flynedd ar bymtheg ar ugain yn ol, aethym i le a elwir Llaniddel i weithio wrth fy ngelfyddyd, a a phwy gyfarfyddais yno ond Mr. Rees Davies, mab Mr. Rees Davies, yr hwn a adeiladodd ffwrnesi Tredegar, rif y cyntaf hyd rhif y bumed. Yr oedd Mr. Davies wedi bod yn Ffrainc am rai blynyddau yn cadw gwaith haiarn. Ond wedi ifr chwyldroad yn Ffrainc ddechreu, dychwelodd yn ol i Gymru yn foneddwr cyfoethog a chymmeradwy dros ben — a chymerodd at dawdd-dy, foundry, Llaniddel. Un diwrnod cyfarfyddais a Mr. Davies, a dywedodd wrthyf ei fod, ofr diwedd, wedi cael allan hanes Pont-gwaith-yr-haiarn ifr manylion. Gyda phwy Syr, atebais inau. Gyda Mrs. Thomas — hen foneddiges ag sydd wedi cael ei chaethiwo gan henaint rhwng echwynion ei gwely — yn y ty ag sydd wrth ochr y foundry, Mae'r 










(delwedd 4927)

 (x22x)

foneddiges hon yn famgu i Mr. John Thomas, Pontymeistr, gynt — ond yn awr yn Ffrainc. A dywedodd Mr. Thomas wrthyf, pan oeddwn yn Ffrainc, mai ei dylwyth ef a ddechreuodd Pont-gwaith-yr-haiarn, — a dyma ei eiriau oll wedi eu gwireddu gan ei famgu ga dos dithau at Mrs. Thomas, a diau y bydd iddi roi yr un manylion i ti fel ag y cefais inau hwynt — canys y mae ei chof yn lled dda wrth ystyried fod ei hoedran yn bedwar ugain a phump o flynyddau. — Oes hir onite ddarllenydd? 

Parodd y newydd hwn rhyw anesmwythder yn fy meddwl — ac anesmwyth y bufm hefyd, nes imi weithio'm ffordd i gael ychydig o ymgom a'r hen wraig barchus hon. Craffed y darllenydd ar yr ymddiddanion a fu rhyngom, canys nid oes genyf ddim, ond a ddywedodd hi wrthyf, fel sylfaen dros fodoliaeth ac hynafiaeth Pont-gwaith-yr-haiarn — a gobeithiaf fod hyny yn ddigon i undyn mewn pwyll a synwyr, pan yr ystyrio o enau pwy y daeth allan. 

Yr Ymddiddan. — Wedi talu moes-gyfarchiad ifr hen foneddiges, dywedais wrthi — gMae yn debyg Mrs. Thomas eich bod chwi yn cofio ffwrnes Pont-gwaith-yr-haiarn yn gweithio?h gYdwyf, fmachgen i — yno oedd fy nhad yn gweithio pan ganwyd fi — yno oedd tylwyth fy ngwr wedi hyny yn gweithio.h gPa le yr oeddynt yn cael glo Mrs. Thomas?h gNid glo oeddynt yn ddefnyddio y pryd hyny, ond cols coed; yr oedd y llywodraeth yn erbyn llosgi glo y pryd hyny, am ei fod, meddent hwy, yn gwenwyno yr awyr.h gBeth oedd ganddynt yn chwythu'r tan y pryd hyny Mrs. Thomash gO, meginau.h gA fu eich tylwyth yn byw yn Mhont-gwaith-yr-haiarn?h Naddo; ond yr oeddynt yn lletya yno, ac yn cyrchu tre bob nos Sadwrn, i Dwyn-yr-odyn, Merthyr; a phan ddelai dydd Llun, cymerent lwybr llygad oddiyno i Bont-gwaith-yr- haiarn.h A wyddoch chwi Mrs. Thomas yn mha le yr oeddynt yn cael mwn tu agat wneyd haiarn?h gYn nghymydogaeth y Bont yr oeddynt yn ei gael, ond nis 




(delwedd 4928)

(x23x)

 

 

gwn yn mha le yno.h gPa un a'i [sic] Cymry neu ynte Seison oedd y meistri?h gCymry meddent hwy oeddynt, ond Cymry o Ffrainc oeddynt; dau foneddwr heb eu bath oeddynt hefyd — coffa da am danynt.h gMae yn wir Mrs. Thomas i fod cenedl o Gymry yn gwladychu yn Ffrainc er ys deuddeg cant o flynyddau, y rhai a alwn ni yn Llydawiaid. gWel dyna nhwy.h gWel, beth a ddaeth ofr boneddion hyn?h gWel, aethant i dir eu gwlad, sef Ffrainc, ond er hyny, buom yn cael llythyrau oddiwrthynt am rai blynyddau, canys yr oedd fy nylwyth i — sef y Thomasiaid, Twynyrodyn, Merthyr, yn ddynion cymeradwy iawn yn eu golwg — a'u meibion hwy a ddenasant John, fy wyr, o Bontmeistr i Ffrainc i gadw gwaith haiarn — a dyna lle mae ef y dydd heddyw.h gBeth oedd eich oedran y pryd hyny?h gWel, gallwn fod o ddeg i ddeuddeg mlwydd oed.h gBeth yw eich oedran yn awr?h gWel, yr wyf yn bedwar ugain a phump.h Amlwg yw pe byddai yr hen foneddiges hon yn fyw yn awr, y byddai yn chwech ugain ac wyth mlwydd oed. Wel, dyna i chwi sylwedd yr ymddiddanion a fu rhyngof afr hen foneddiges oedranus hon o berthynas i Bont-gwaith-yr-haiarn; a phe buaswn heb euchroniclo yr amser hwnw, diamau genyf, y buasai hanes Pont-gwaith-yr-haiarn wedi ei golli yn llwyr, hwyrach am byth. Yn y man hyn, teg yw hysbysu'r darllenydd — y gall yr ysgrifenydd ei gyfeirio os bydd galw, at wyrion, orwyrion, a goresgynyddion yr hen foneddiges hon, a hyny heb fyned 10 milldir o ffordd. 

Y casgliad naturiol oddiwrth yr uchodion, yw, i'r Llydawiaid ddyfod drosodd i Gymru at eu cydgenedl, yn amser y rhyfel boeth oedd rhwng Lloegr, Ffrainc, a Spaen, yn nheyrnasiad Sior yr ail, ac iddynt, wedifr heddwch a wnawd yn y flwyddyn 1748, yn nheyrnasiad yr un brenin fyned (o fewn i ddwy neu dair blynedd,) yn ol i Lydaw, yn Ffrainc. A chasgliad naturiol arall yw, iddynt adeiladu ffwrnes Pont-gwaith-yr-haiarn tua'r flwyddyn 1738 neu 1739. 
Yn amser y brenin 




(delwedd 4929)

 (x24x)

Iago yr oedd holl ffwrnesi y deyrnas hon yn 300 mewn rhifedi; ac yn y 40 flwyddyn o deyrniasiad Sior yr ail lleihawyd hwy i 59, ac yr oedd Pont-gwaith-yr-haiarn yn un o honynt. 

fR hen ffwrnes gadarnwych ail huan oleuwych, 
Amliwiaist yr entrych yn fynych gan fwg; 
Er lles - trwy hanesion o lawr dy
falurion,
Cawd dyfnion ddirgelion i'r golwg. 

This manuel [sic] history of Tredegar and Pont-gwaith- yr-haiarn will soon appear in English, by Mr. David Hughes, Manchester House. 






(delwedd 4930)

(x25x)



CAN  
O GLOD I GLYN [sic] SIRHOWY. 

Ton.-  gBelislefs March.h 

Dewch brydyddion mwynion manol, 
Urddasol raddol ryw, -  
I ganu clod i Glyn [sic] Sirhowy, 
Man tawel  —  arail yw; 
Rhwng ei meusydd —  dolydd deiliog, 
Meillionog, enwog un, 
fE glywir peraidd lais yr Eos, 
Ar Llinos hardd ei llun; 
Y Gôg fwyn serchog sydd, 
Trwy'r fro tra dalio'r dydd. 
Yn canu'n beraidd hwyr a borau, 
Eur odlau ar gangau'r gwydd. 
Wrth wrando'i swynol lwysol leisiau, 
A'i mhelys odlau hi, 
Fe ddaw allan bob blinderon 
O nghalon union i; —  
Mae rhai mewn uchel gri, 
Yn gwaeddi gMon i mi;h —  
Yn nglyn Sirhowy bloeddiwn ninau 
Pob rhyw bleserau sydd. 
Yn mhlith yr ie'nctid mwyn serchiadol 
Hyfrydol ddenol ddawn, 
Boddi'r gofid mewn llawenfyd, 
Hoen hyfryd yno wnawn. 

O mor laned yma 'leni, 
I'n lloni ar bob llaw, 
Gwelir llwyni  —  gerddi gwyrddion, 
Ar lwysion droion draw; 
Pur a llawnion yw'r perllanau 
O flodau afalau fyrdd, 
Hi'n gu lonwych yw blodau'r glynoedd 



  






(delwedd 4931)

(x26x) 

Ar g'oedd mewn gwisgoedd gwyrdd. 
Heb law  —  mae yma lu, 
O ddynion ceinion cu —  
Ffermwyr, mwnwyr, glowyr glewion, 
Serchoglon ffraethlon ffri. 
Pwyfn fwy ffyddlon o blaid Union 
 
Na'r dynion haelion hyn, 
O wiwbryd dwysdeg heb un dibrisdod 
Pur glod tra pâr y glyn. 
Gan fod fath ddynion mâd, 
Fel hyn y'nglyn o'ngwlad, 
 fRwy'n gallu'n dawel lwyr anghofio 
Hen fwthyn gwyn fy nhad;  —  
A bwrw'm hiraeth —  araeth wrol. 
Mewn gwlad estronol glyd, 
Gan gael yn llonwedd bob tangnefedd 
Ymgeledd hedd o hyd. 

fE fu blynyddau nad oedd ond llwybrau 
Trwyfr caeau i fyn'd i'r calch, 
Y nos wrth groesi rhai mor geimion 
Bu gwirion lawer gwalch   
 
I'r mab mwyneiddgu fdoedd ffordd i dramwy
At Sianu morwyn Sion, 
Yn amser geua, gan rew ac eira, 
Ow, dyna oedd ei dôn  —  
gFfarwel fy anwyl Sian, 
Fwyn wisgi lwysgi lân, 
fDoes genyf obaith mwy dy weled 
Nes toddofr eira man. 
fNol estyniad dydd, fy nghariad. 
Mi wnaf yn ddiwad ddod, 
I gael eto mwyn gyfrinach 
Yn nhafarn bach y co'd.h 
Ond fnawr na fyddwn brudd —  
Ofr diwedd daeth y dydd  —  
 
 Cyfeiriad at yr Union oedd gan y gweithwyr 35 mlynedd yn ol.
 Gwr carn.



(delwedd 4932)

(x27x)



Cerbydau haiarn cadarn cydwedd, 
Weis hoew-wedd yma sydd, 
Yn teithio'n gyflym hylym hylon, 
Heb lwybrau ceimion cul; 
Mae gobaith weithian caiff Wil Sion Ifan
Weled Siwsan bob dydd Sul. 



Can o glod i

MR: THOMAS ELLIS,

Y PERIANYDD ENWOG,

Yr hwn a osododd i fynu Felin Newydd Gwaith Haiarn Tiedegar. 

Deuwch feirddion ceinion cenwch, 
A rhoddwch er mawrhad, 
Glod i ELLIS  hwylus haelaf, 
A'r glewaf ddyn trwy'n gwlad; 
Mae e'n haeddu cael ei barchu, 
Afi godi  fleni'r lan, 
I sylw'r glewion ddysgedigion,  —  
Rhai mwynion yn mhob man. 
Nid oes, ni welwyd chwaith, 
Trwy Gymru fwyngu faith, 
Un ail iddo fel peirianwr,  —  
Mae'n gampwr ar y gwaith; 
fDoes achos anfon i wlad y Seison, 
I 'mofyn estron mwy, 
Trafn bod rhwng bryniau Gymru loniach 
Un taerach nag ynt hwy.  
De'wch fwnwyr, glowyr glân, 
Mewn llonwres gynes gân; 
Chwithau weithwyr, hoenwyr heini, 
Sy'n tynu o flaen y tân, 
I daenu'n serchus felus foliant 
Drwy haeddiant draw i hwn, 
Am ei wych ystig heirdd orchestion,  —  
Sai'n goron iddo, gwn. 






(delwedd 4933)

(x28x)

Melin haiarn, un gadarn gododd, 
Ni welodd neb o'i hail; 
Sai'n destun moliant i'r Cymro gloyw, 
Tra'r bedw yn dwyn dail; 
Rhoes hon mor gadarn ar gflofnau haiarn. 
Hi saif tra darn o'r tir; 
Yn fywioliaeth lan i filoedd 
O'n tiroedd  —  oesoedd hir. 
Dewch 'nawr o fawr i fan, 
Trwy'r gwres a thes y tan, 
A mawl diderfyn fel un dyrfa, 
I'r lwys olygfa lan; 
Cawn wel'd y rhodau ar eu pegynau, 
Yn gyru y rholiau ar hynt, 
Trwy rym angerddol y periant nerthol, 
Fel gwenol yn y gwynt 
Er bost ac ymffrost Ffrainc, 
A Lloegr yn y gainc, 
Ni ro'wn y purlwys Gymro purlan 
Yn fwynlan ar y fainc; 
Fe bia'r belt  —  rho'wn am ei ganol, 
Was siriol, ac aed son 
Am yr adeilad fawr glodadwy, 
O Fynwy draw i Fon. 

Tra byddo mês ar goed y meusydd, 
Lliw dydd, a lleuad wen, 
A thra b'o seren yn dysgleirio, 
Gan nofio fry'n y nen, 
Bydd enw ELLIS fel peirianwr. 
A noddwr gweithiwr gwan, 
Fel mêl ar danaufr telynorion 
Rhai mwynion yn mhob man. 
Rhofwn  dair-llef fonllef fawr, 
Nes siglo seiliaufr llawr, 
O blaid ein ELLIS, blodeuyn hylon 
O'r Brython wiwlon wawr; 
Pob parch a chariad iddofn wastad 






(delwedd 4934)

(x29x)

Da fwriad hyd ei fedd; 
Boed iddo'n siriol, fnol taith ddaearol,
Dragwyddol lwysol wledd.
Cyn hir e dyr y wawr, 
Cawn, weithwyr, fach a mawr, 
A fu'n ymboeni dan lwyth caledi, 
Ein lloni ar y llawr; 
E ddaw rhagluniaeth lawn a'i thoraeth, 
Iach helaeth yn ei cho'l; 
Er bod mewn prinder, cawn fyw mewn llawnder,
Maefr amser goreu fnol! 

To S. Homfray, Esq., Bedwellty House, 
and his Family. 

May Bedwellty House be decked 
With the leaves of ever-green; 
And from age to age protected 
By that bounteous hand unseen; 
May they prosper like the willow 
Tree upon the river side; 
And crown'd beyond the rocks and billows 
With a never ebbing tide. 

Whilst the lark on Cambria's mountains 
In his winged charriot flies, 
Beyond the heath and chrystal fountains, 
To bliss  —  in radiance of the skies —  
Ivor's race so long may flourish 
In virtue, as in time of yore; 
Their names be blessed —  the Mill accomplish —
The brightest scene on Britain's shore!



 










(delwedd 4935)

(x30x)

Can' Mlynedd i fNawr. 



O deffro fy awen o ddyffryn cysgadrwydd, 
Lle buost yn llechu, rho weled dy wawr; 
Y tafod sy'n fawr yn dy anerch mor hylwydd, 
A drig mewn dystawrwydd, can' mlynedd i fnawr. 

Can' mlynedd i fnawr, froedd rhai o fy nheidau —  
Yn wridgoch ei gruddiau, eur lwythau ar lawr; 
Ond heddyw yn gorphwys yn dawel mewn beddau, 
eR un modd byddaf finau can' mlynedd i fnawr. 

Rhyw fyd cymysgedig yw'r byd ag wyf ynddo  —  
Weithiau yn llawen ac weithiau yn drist; 
Weithiau mewn gwisgoedd sidanaidd yn rhodio, 
Ac weithiau'n newynog heb geiniogfn y gist. 

Weithiau rhwng tonau a chreigiau echryslon, 
Bryd arall rhwng meillion, rhai gwyrddion eu gwawr; 
Fel hyn frwyf yn teithio, rhaid cofio, i'r ceufedd,  —  
Lle byddaf yn gorwedd can' mlynedd i fnawr. 

Pe rhoddid holl berlau yr India ddwyreiniol, 
A chyfoeth gwlad Affric  —  Americ  —  i mi; 
A chael breniniaethu ar bawb ofr hil ddynol, 
Ar orsedd eirianol wiw freiniol o fri; 

A rhodio'r dinasoedd mewn cerbyd o arian, 
A phawb i ymostwng i mi byd y llawr; 
gGwagedd o wageddh  —  a fyddent, y cyfan, 
Gadawent fufn unig canf mlynedd i fnawr. 

Dos di, y credadyn, ar dy bererindon,  —  
Er cwrdd a bwystfilod a llewod y llawr;  —  
Ymwroled dy galon, cryfhaed dy ysbryd  —  
Cei fil gwell cyfeillion can' mlynedd i fnawr. 



 





(delwedd 4936)

(x31x)



Can' mlynedd i 'nawr dy ffydd droir yn olwg  —  
A'th obaith, sy'n wanllyd, yn hyfryd fwynhad;
Can' mlynedd i fnawr cei weled yn amlwg, 
Yr hyn mewn addewid a roddodd y Tad. 

Cei sefyll yn wrol ar fryniau Caersalem,  —  
Cei goron i'th ben, a thelyn i'th law; 
Rhy faith fyddai enwi'r dedwyddwch anrhaethol 
A fydd yn dy feddiant can' mlynedd i fnawr. 

NADOLIG CRIST
Neshawn, mae'n llawn bryd, o ddafryd y ddwy fron,  
At breseb yr y^ch, mewn ceinwych amcanion; 
Duw-dyn mewn cadachau ar liniau'r un lanaf, 
O gariad at ddynion, ei alon, a welaf.  —  
Lawr o'i dragwyddawl le breiniawl, i brynu 
I ddynion rhyddhad, doeth wysiad, daeth Iesu; 
Gogoniant cyd-ganwn trwy dwthwn tra dethawl, 
Cawd medddyg i'r clwyfus anafus  —  un nefawl. 
Rhyfeddod gwel'd brenin pur iesin mown preseb - 
Iselder annhraethawl  —  daeth unol doethineb. 
Seion bydd lawen —  cun addien, can iddo, 
T
wr cadarn yw Arglwydd dwys-hylwydd dy Silo. 

Er rhyddhau, do rhoddwyd iawn  —  dwys a chur, 
fDoes achos am ail-iawn; 
Yn gyfaill Duw, cein-Dduw, cawn 
Yr annuw, drwy yr un-iawn. 








(delwedd 4937)

(x32x)

Rhagoroldeb Heddwch ar Rhyfel [sic]. 

O heddwch, o heddwch, ffynonell cysuron, 
Gogoniant teyrnasoedd, ac addurn pob gwlad; 
Canol-bwynt dedwyddwch pawb, nef a da'rolion 
Erioed ni lechwynwyd ei gwisgoedd a gwa'd. 
Eisteddai fel mychdeyrn ar orsedd y cread, 
A than ei 'mherodraeth bedryfen y byd; 
Amwisgafi holl ddeiliaid a mentyll o gariad, 
A ch'lymai y nefoedd a'r ddaear y'nghyd. 
Pryd hyn 'roedd dynoliaeth'n gyd stad afr angylion, 
Mewn perffaith ddedwyddwch yn nofio mewn hedd, 
Ond heddyw dan warthrudd heb orsedd na choron, 
Yn saethnod ifr magnel, y bicell, a'r cledd. 

Awn draw i'r cyfandir ar wibdaith fyfyriol, 
A gwnawn ei lechweddau yn orsaf ifn traed, 
Cawn wel'd y torlanau  —  a manau dymunol 
Oedd gynt mewn gwyrddlesni, yn gochion gan waed. 
Swn meirch yn gweryru i ryfel sydd yno, 
Taran-lais y magnel, clyndarddiad y cledd, 
A dynion anafus mewn coochwaed [sic] yn nofio, 
Y'nghenllif y soriant  —  yn borthiant i'r bedd. 
Terchioni'r deyrnwialen, dymchwelyd gorseddau, 
Anrheithio dinasoedd —  a'u gosod ar dân  —  
Gan sawyr y pylor, a swn y magnelau —  
fDoes edyn trwy'r goedwig yn cynyg rhoi can. 

Tyr'd bellach, ffawenydd, adenydd y doniau, 
Gad wersyll y dial  —  dir anial i rhai'n; 
Gwell sain can a moliant, na swn y magnelau, 
O fewn i dir Brydain hardd gywrain werdd gain; 
Lle nad oes un llew nag arth yn y goedwig, 
Na blaidd yn atalfa ar rodfa yr wyn, 
Ond dewrwych frodorion rhwng llwyni caeadfrig, 
'N ymuno a'r ednod, telynau y llwyn, 
I ganu plygeingerdd o fawl idd eu crefydd, 
Ar lenydd meillionog  —  afonyda o bedd; 
A thestyn eu hanthem yw gmoliant tragyfyth 
I Dduw am arbediad rhag clwyfiad y cledd.h 






 





(delwedd 4938)

(x33x) 

Holl ddeiliaid heddychol oddiar eu gwybyddiaeth 
Mae Duw sy'n teyrnasu ar bawb is y nen, 
Nid ofnant dymestloedd, ond credant trwy'r arfaeth,  
Dwg llywydd y cread bob bwriad i ben. 
Efe sy'n teyrnasu, dwys-gryned y bobloedd, 
Calonau breninoedd y'nt oll yn ei law; 
Efe dfwallta'r phiol  —  ond hwnw afi llanwodd, 
Gaiff yfed ohoni, er dychryn a braw. 
Prif gysur holl ddeiliaid llywodraeth heddychol 
Yw edrych a syllu ar bethau fel hyn; 
Gan wybod y byddant yn nhywalltiad y phiol 
Mor ddiogel a Lot, draw ar lechwedd y bryn. 

BWRDWN I'R GAN. 

Dan aden Duw Iôn b'o'n tirion Victoria, 
A'i Hiesufn dywysog  —  ei deiliaid frun wedd; 
Dyger pawb is y rhod, fnol gorfod eu gyrfa 
Y'myd y gorthrymder —  i lawnder y wledd. 


GAIR O GYNGHOR

Os yw y byd yn cicio. 
Paid byth a bod mor ffol,  
A rhoi y goreu iddo  —  
Rho iddo gic yn ol; 
Rho gwff am gwff a chic am gic, 
Ni phery'r ymdrech fawr, 
A thal efn dda am bob hen dric, 
Gan gadw'i ben i lawr. 

 fDyw'r byd i mi ond tegan —  
Yn llawn o ffwdan ffol, 
Os caf beth ganddo heddyw, 
Fe'i mhyn e foru fnol; 
Pob tamaid bach a gefais  —  
Oedd gan rhagluniaeth Ior, —   
Caf eto, os bydd angen,- —  
Mae'i fsten yn llawn o stor. 






(delwedd 4939)

(x34x) 

PENNILLON AR DDOETHINEB, 

Doethineb —  mawr yw'th enw, 
Tydi sy'u llanw'r llawr; 
Dy waith sydd yn y nefoedd, 
Ac yn y moroedd mawr;  —  
Pob rhyw lysieuyn lliwgar, 
Trwy'r ddaear lwysgar laith, 
Haul, lloer, a sêr syfn datgan, 
Dy burlan wiwlan waith. 

Rho'ist wen-wisg hardd i'r lili, 
Sy'n tyfu'n mysg y coed, 
Ni wisgwyd Solfmon frenin 
Mewn harddach gwisg erioed; 
A mur o ddrain o'i chwmpas, 
Iawn bwrpas, addas yw;  
Pob peth o'th waith, mae [sic] ddilys, 
Sydd fy^s a ddengys Dduw. 

'Rhoet ti, yn nhragwyddoldeb 
Cyn llunio gwyneb llawr, 
A chyn rho'i bod serchoglan 
I'r huan wiwlan wawr; 
Yn ffurfio ffordd gyfreithlawn, 
A chyfiawn i iachau, 
Doluriau cas gwenwynig 
Yr holl syrthiedig rai. 

fE genir it' ogoniant, 
Y'ngwlad y mwyniant maith, 
Am godi dyn i fynu,
A'i dynu i ben ei daith, 
A glanio'n llaw rhagluniaeth, 
Tu fewn i'r dalaeth der, 
Tragywydd ddedwydd adail. 
Afi sail uwch caeraufr sêr.





(delwedd 4940)

(x35x)

ANERCHIAD

CYFLWYNEDIG I
MR. D. MORRIS
(Eiddil Gwent) 
Ar ei 70ain mlwydd oed. 



O Eiddil Gwent talentog, 
Yr hynaws anwyl fardd, 
A'i awen wir odidog, 
Afi blodau'n ber a hardd: 
Daeth drosto hwyrddydd bywyd, 
Gauafol henaint du, 
Daeth dyddiau blin a'i fferawl hin, 
I loesu fi fynwes gu. 

Mae'r dyn oedd gynt mewn nwyfiant 
fNawr dan drallodus len, 
A lifrau  —  blodau henaint, 
Yn brydferth ar ei ben; 
Mae'r cof yn ymbleseru 
Ar hafaidd droion gynt, 
Pan ar ei rawd dan wenau ffawd, 
A difyr ar ei hynt. 

Mae'r llygaid yn bur graffus, 
A'r teimlad sydd yn fyw, 
Y meddwl sy'n ramantus, 
A gwych yw'r cof a'r clyw; 
A môr o chwedlau difyr, 
Ifn boddio draetha'n dêr, 
A'n maethu gawn a melus rawn —  
Yr awen ffrwythlawn bêr. 



  





 
(delwedd 4941)

(x36x)

Anadlodd gwych ganiadau, 
Sy'n fywyd drwy y wlad; 
Llenoriaeth mwys wybodau, 
Fu'n denu'i dalent mad; 
O gelloedd cudd henafiaeth, 
Cawn geinion ganddo ef, 
Gwresoga'n llon ein gwladgar fron, 
A hanes lawn o'n tref. 

Er henaint du a'i dolur, 
I nychu'i dyner fron, 
Boed iddo balm gwir gysur, 
Dan bob adfydus dón, 
Ei hwyrol ddydd fo'n hyfryd, 
Fel huan llawn o hedd, 
Dan iesin wawr yn myn'd i lawr, 
Ifr tywyll distaw fedd.

Tredegar. S. THOMAS (Gwgan Gwent. 


Argraffwyd gan J. Thomas, Tredegar.

 

 

 

Adolygiad diweddaraf: 17-04-2017, 24-05-2016 

Sumbolau:  ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ  / ð ɬ ŋ ʃ ʧ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ ẁ

---------------------------------------

Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_012_hanes-tredegar-1868_0082k.htm

---------------------------------------

Creuwyd: 24-05-2016 

Adolygiad diweddaraf : 24-05-2016 

Delweddau: 

---------------------------------------

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


 
Archwiliwch y wefan hon 
--- 
Adeiladwaith y wefan 
--- 
Gwaith cynnal a chadw
 


6998_kimkat0860k Cysylltwch â ni trwyfr llyfr ymwelwyr 
 
CYMRU-CATALONIA

Free counter and web stats