1874k Gwefan Cymru-Catalonia. "Enwau Cymreig". Dwy ysgrif fer fawr ei phwys o Seren Gomer, 1823. Maent yn apelio at rieni Cymry i roi enwau Cymraeg ar eu plant yn lle enwau Saesneg. Mr. Gomer, - Gan fod y Cymry yn ymhoffi cymaint yn eu hiaith a’u cenedl, pa beth all fod yr achos eu bod yn myned at ieithoedd ereill i ymofyn am eu henwau priodol?

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_010_enwau_cymreig_cymro_1823_0953k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina

0003j_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Dyma ran o Adran 11 yn y wefan hon, sef
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Enwau Cymraeg.
Awdur: Ieuan Ddu o Lan Tawy

Ysgrif fer o Seren Gomer 1823. Gweler hefyd 0953k ‘Enwau Cymreig’ gan Cymro). Mae’n debyg bod y rhai hyn yn gyfrifol i raddau helaeth am y defnydd cynyddol o enwau Cymraeg ar blant oddi ar ryw 1825. ‘Cymro’ a ‘Ieuan Ddu o Lan Tawy’ oedd yr awduron.

 

0275g_delw_map_cymru_a_chatalonia_llanidloes

Adolygiadau diweddaraf:
14 07 2000

 

0093j_cylch_baner_uda 1875ke English translation - Welsh Names

 

Ein sylwadau mewn teip oren.

 O ryw 1825 ymláen gwelir ambell i enw Cymraeg o dras Celtaidd yn cael ei roi ar blant Cymry. Yr oedd yr arfer yn sicr ddigon wedi ei hysbarduno gan y ddwy ysgrif fer a ganlyn a ymddangosodd yn y flwyddyn 1823 yn Seren Gomer, o waith ‘Cymro’ a ‘Ieuan Ddu o Lan Tawy’, o dan y teitl ‘Enwau Cymreig’.

Seren Gomer 1823
ENWAU CYMREIG

______________


"Odid Cymro, tro treiglais,
Nad aeth, ysywaeth, yn Sais!"

"Mi welaf, er ys dyddiau,
Ar rai o Gymry, feiau:
Sef, troi yn Saeson - atgas waith!-
A gwadu iaith eu mamau."

Mr. GOMER, - Yr achos penaf i mi eich blino yn bresenawl yw yr arferiad gwrthun lleddfol sydd gan y Cymry, o alw enwau Seisnig, &c., àr eu plant. Ymhyfrydant drigolion pob gwlad, ond Cymru, i osod enwau eu gwlad eu hunain àr eu plant.
Gwelwn fel y bostia y Ffrancod yn eu De, y Gwyddelod yn eu Fitz, ac eu O, ac y Celyddoniaid eu Mac; ond, pa le y canfyddir y gwladgarwch hyny yn y Cymry? Os dygwydda fod ar un o honynt yr enw Ap, ymwrthodant âg ef yn ddioed, os gallant: neu os bydd rhyw amgylchiadau nas gallant ymwrthodu âg ef àr unwaith, y maent mor wylaidd fel y tröant AB OWEN i Bowen, AP HARRI i Parri, ac AP HUW i Pugh, &c. yn union, fel pe buasai yn waradwydd oc y mwyaf i wisgo rhyw hen enw Cymreig. Ai canmoladwy hyn? Gadawaf iddynt ateb drostynt eu hunain.

Ond y cynhyrfiad penaf idd y llinellau hyn ydyw - nad ydynt yn gosod enwau cyntaf Cymreig àr eu plant. Eu rheswm pènaf, ysgatfydd, yw, am nad yw eu cymdogion yn gwneuthur felly: ond dylent gofiaw yr hên ddiareb wiw Gymreig, mai "Deuparth gwaith yw dechreu". Er anffured y Cymry, nid wyf am eu cyfrif mor ddrelaidd ag i feddwl eu bod yn tybied yr enwau Sacsonaidd, Hebreaidd, &c., yn harddach nog yr enwau Cymreig, ond ei fod yn gyfrifiadwy idd y rheswm a roddwyd uchod; ond gobeithiaf yn awr y gwellâant {sic} yr hyn drachefn, màl y gwnaethant mewn rhai pethau oddiar gyfodiad eich SEREN gain. A chàn y rhoddaf isod gofrestr da o enwau Cymreig gwych ar fenywaid a gwrrywaid, ni bydd ganddynt yr esgus nad oeddynt yn gwybod am neb enwau Cymreig; a chan fod yn rhaid idd y rhianod gael y flaenoriaeth, dechreuaf efo hwynt: -


ENWAU MENYWAIDD CYMREIG
Anan
Angharad
Arddun
Aregwedd
Ceinwen
Canna
Ceinfron
Creidylad
Cwylog
Cyridwen
Diar (? - NODYN - copi ffoto a wneuthum ugain mlynedd yn ôl sydd gennyf. Mae staen inc dros yr enw!)
Dolgar
Dwynwen
Dyfyr
Edwen
Efelino
Eigyr
Eluned
Elen
Elgen
Eleri
Eurddyl
Eneiliau
Enid
Esyllt
Eurgain
Euronwy
Fflur
Gwladus
Garwen
Gwenddolen
Gwenhwyfar
Gwen
Gwenfron
Gwenllian
Gwèno
Indeg
Madryn
Morfudd
Mechell
Meisyr
Myfanwy
Nefed
Non
Nyf
Olwen
Perwyr
Penarwen
Rhiannon
Rhelemon
Rhyell
Tegïwg
Tefrïan
Tegwedd
Tudfyl
Ystrawel

Yn awr, gofynaf i ddarllenwyr diduedd y SEREN, onid oes yma enwau llawn hardded ag y rhai Seisnig, &c.? Pa le y cânt harddach enwau nag Anan (yr hwn sydd gystal ag Ann, neu Hannah un amser), Angharad, Aregwedd, Gwladus, Olwen, Gwenhwyfar, Eluned, Tefrian {sic}, &c.?
Onid ydynt lawer gwell no Cati, Saly, Beti, Sianw, Nani, &c.? Ond yn awr af yn mlaen at yr enwau gwrrywaidd; ac hyderaf y medraf ddangos i bob meddwl diragfarn, fod genym wir enwau Cymreig berted ag a geir mewn un iaith yn y byd, ond ymarfer â hwy.


Adebon
Afan
Afaon
Anamwd
Aneurin
Arthur
Beli
Benlli
Bleddyn
Brochwel
Brychan
Cadell
Catwg
Cadrod
Cadwaladr
Cadwallon
Cadwgan
Caradog
Caswallon
Cynedda
Cynan
Cynddelw
Cynfelyn
Cystenyn
Dewi
Ednyfed
Ednywain
Efrog
Einion
Emrys
Geraint
Goronwy
Gruffydd
Gutyn
Gwalchmai
Gwgan
Gwrgan
Gwrtheyrn
Hu neu Huw
Hywel

Idris
Idwal
Iestyn
Ifan
Ifor
Illtyd
Iolo
Iorwerth
Lleirwg
Llyr
Llywarch
Llewelyn
Madog
Meurig
Merddin
Meredydd
Morgan
Owain
Padrig
Rhiwallon
Rhodri
Rhydderch
Talhaiarn
Taliesin
Tudur

Digoned hy`na er cynllun y tro hwn. Os nad oes digon yma er boddiaw pawb, os dymunol fydd, gallaf eu hanrhegu â chymaint a hyny eto o enwau gwych a weddant yn eithaf da idd yr oes waraidd hon. Ac, wrth ddybenu, da iawn genyf fynegu i fy mrodyr fod yr arfer wedi dechreu; y mae genym eisoes un neu ddau o yr enw Aneurin, Taliesin, &c. Gw`n am ddau yn Morganwg o’r enw TALIESIN. Gan hyderu weled {sic} gwelliant yn hyn, y gorphwysa
IEUAN DDU O LAN TAWY.

O.Y. Och o fi! Mr. Gomer, beth a wnaf! gadewais y rhan mwyaf pwysig o fy ngwaith heb ei gyflawni! Do, yn wir: anghofiais annerch y Rhywogaeth Hawddgar, gan ddaer ddymuno eu cydweithrediad â mi, ar y pwnc hwn; canys, diau yw pan ymosodant hwy o brysur at orchwyl, y llwyddant, o fic i ddiflastod a Dic Sion Dafiaeth eu gwyr!
"Gwylaidd [a pha beth a lwydda yn debyg i Wylder?] ydyw beynywaid - hen Walia,
Ni welodd fy llygaid
Eu heilydd! - "

"Call, medrus, gweddus, ac addwyn -
y’nt hwy
Neud teg maent yn ymddwyn!"

"Gwell hwyr na hwyrach;" am hyny, wrth ddiweddu, dywedaf, Rianod! cynnorthwywch fi! amddiffynwch eich iaith ac eich gwlad! ïe, a pherchwch eich plant, trwy roddi iddynt enwau gwroniaid a doethion Cymru gynt! Os mynwch, g`wn y llwyddwch; eithr os bydd rhai o eich meistri mor gorgïaidd a nacáu eich cais i chwi, ar ol gwneuthur eich goreu, na ofidiwch, eithr ymgysurwch, trwy feddwl i chwi wneuthur eich dyledswydd, er ichwi fethu yn eich amcan.

___________________________________________

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA