0979k Gwefan Cymru-Catalonia.. Erthygl am gantref Cymraeg a aeth i feddiant Lloegr yn sgil y Ddeddf Uno yn 1536. Dyma ni mewn ardal hynod ddyddorol; ar un llaw y mae glwad fras donnog Ewias, a fu mewn un adeg o’i hanes yn dreftadaeth tywysogion Brycheiniog. Pum milltir i’r gorllewin y saif Abbey Dore, hen fynachlog o gryn fri yn y canol oseau a lanwai le mawr yn hanes crefyddol pobl y cyffindiroedd hyn.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_009_eirinwg_0979k.htm

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

..............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

Eirinwg

A. Morris
Cymru 1915
Tudalennau 25-32
 

 

(delwedd 7295)

Adolygiadau diweddaraf:
Dydd Iau 27 07 2000, 2005-09-06 (mân gywiriadau yn y testun)

 

Ry^n ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol 

·····

EIRINWG
A. Morris
Cymru 1915
Tudalennau 25-32


I. LLE MAE,
II. CYMRU FECHAN YN LLOEGR,
III. Y SCUDAMORES,
IV. BEDD OWEN GLYNDWR

_______________

1. LLE MAE
Gyda thoriad y Gwanwyn, pan bydd natur yn dechreu adfywio o’i chwsg gaeafol, a llawenydd yn dawnsio ac yn clecian ym mrigau y coed ac yng nghysgod y perthi a’r cloddiau, y mae nwyfiant adnewyddol yn ennyn ein brwdfrydedd ac yn ein cymell i roddi tro i lanerchau sydd dipyn yn ddieithr i ni, ond sydd yn enwog ar lechres hanes. Y mae Gwent yn ei hanes a’i thraddodiadau wedi bod yn un o’n dewisol efyrdiaethau am flynyddau lawer, ond pell ydym o ddihysbyddu dyfnder cyfoeth ei hanes. Yr ydym o dro i gilydd wedi mentro blino darllenwyr CYMRU â gwahanol agweddau o’r elfennau hynny a’i gwnaeth yn enwog ar lechres hanesyddiaeth. Os byddant ymharous wrthym y tro hwn cymerwn hwynt am seibiant y tuallan i gyffiniau Gwent, i’r wlad sydd yn ffinio a hi tua’r gogledd, ac ar hyn o bryd yn rhan o sir Henffordd. Hwy deimlant, fel yr ydym ni ein hunain wedi teimlo, fod cysylltiad agos yn bod rhwng rhannau helaeth o’r sir honno â Chymru. Y mae hanes a thraddodiadau y rhandiroedd deheuol a gorllewinol o’r sir yn anwahanol gysylltiedig â hanes Cymru yn yr oesau a fu, ac yn werth gwneud tipyn o sylw o honynt, am eu cysylltiad â gwron ein cenedl, Owain Glyndwr.

Un pen bore oer a rhewllyd ym mis Mawrth cawsom ein hunain wedi disgyn yng ngorsaf Pontrilas, rhwng y Fenni a Henffordd, ac o fewn rhyw chwarter milltir i gyffiniau gogleddol Gwent. Yr afon Monnow sydd yn gwahanu y ddwy sir , a chymer dro i’r de-ddwyrain ger Pontrilas ar ei ffordd tua’r Wy fawreddog ugain milltir ymhellach. Y mae Pontrilas a’i enw nodweddiadol Gymraeg yn wybyddus iawn i’r rhai arferant dramwy o’r Deheudir i’r Gogledd y ffordd hon, Ac i arweinwyr ein cenedl mewn addysg a chrefydd, gwleidyddiaeth phob math o gwestiynau y bydd dadleu yn eu cylch, ac y bydd anghenrhaid i gyfarfod a gwŷr y Gogledd yn yr Amwythig, y mae yn enw cynefin iawn, ac yn arwydd iddynt eu bod yn dychwelyd i Gymru ar ol bod am dro yn y goror Seisnig.

Bu erw’r Pontrilas yn dipyn o ddryswch i ni ar lawer tro, ac y mae fellyn yn awr, a llawer gwaith y bum yn pendrymu uwch ei ben am ei ystyr a’i ddehongliad. Weithiau yn y tren byddem yng nghwmni un mwy doeth a chyfarwydd na’r cyffredin, ac ambell waith fe fynn un roddi ystyr yn enw yn pont y tri chlais, gan gyfeirio at y tair nant fach, - Y Worm, Y Dore, a’r Dulais - sydd yn uno eu dyfroedd gerllaw y pentref, cyn arllwys o honynt i’r Monnow. Yr oedd cywreinrwydd y dehongliad, ac hefyd ffurf wrywaidd {sic} y rhagenw yn peri i ni ameu cywirdeb y dehongliad, ac felly rhaid am y tro oedd boddloni ei adael yn llonydd, hyd nes y caem amser cyfaddas i chwilio i mewn i’w darddiad.

Gan fod Pontrilas yn y rhandir o sir Henffordd a adnabyddir wrth yr enw Ewias Harold, troisom i lyfr y Domesday, a chawsom yn y llyfr dyddorol hwnnw mai enw y lle o dan y Normaniaid oedd Elwiston, ac yn ol parch. A. T. Bannister, M.A., yr hwn sydd wedi ysgrifennu hanes Ewias Harold, ceir yr enw yng ngofnodion Mynachdy Ewias o’r ddeuddegfed ganrif a gedwir ar hyn o bryd yn llyfrgell yr Eglwys Gadeiriol yn Henffordd, yn Heliston. Y mae y teithwyr a’r hynafiaethydd o fri John Leland yn ei Itinerary, o’r unfed ganrif ar bymtheg, yn ei alw yn Ailston Bridge.
Fel y canlyn yr ysgrifenna, - “From Hereford to Worme Bridge 6 miles, thence to Ailston Bridge, 2 miles, &c.”

Yn ddiweddarach yn yr unfed ganrif ar ddeg ceir yr enw gyntaf yn Gymraeg, a hynny mewn cysllytiad a theulu y Baskervilles yn ol y llawysgrifau sydd yn yr Eglwys Gadeiriol. Dyma un dyfyniad, - “Thomas Baskerville lives at Pontrilas.” Canfyddir felly fod y ffurf Elwis yn y Domesday wedi ei golli, ond da pe gellid myned yn ol i adeg cynharach i gael gwybod yr enw cyn i’r ton gael ei gyplysu ag ef.

Pan y casglai Mr. Bannister ddefnyddiau ei hanes Ewias bu mewn gohebiaeth a Mr. Egerton Phillimore ynghylch tarddiad a dehongliad yr enw; a dywedai ef mai y ffurf Gymreig ar Heliston yw Trehelas neu heilas a’r bont yn Pont.tref-heilas, ac felly yn ol pob tebyg y llygriad i Pontrilas, os yw dehongliad Mr. Phillimore yn gywir. Dyma hanes llu o enwau Cymreig y goror lle mae cyffelyb lygriad wedi cymeryd lle, nes anwybyddu i’r eithaf eu haniad Cymreig, yn fwy nag enw y lle hwn.

Ond ym Mhontrilas yr ydym gyda gwynt y gogledd-ddwyrain yn chwythu arnom yn oer ac yn finiog, nes peri i ni dynnu ein hugan yn dynn am danom. Gadawn bellach yr enw i rai mwy dysgedig. Feallai y ceir eglurhad gwell wrth ei godi fel hyn i sylw.

Dyma ni mewn ardal hynod ddyddorol; ar un llaw y mae glwad fras donnog Ewias, a fu mewn un adeg o’i hanes yn dreftadaeth tywysogion Brycheiniog. Pum milltir i’r gorllewin y saif Abbey Dore, hen fynachlog o gryn fri yn y canol oseau a lanwai le mawr yn hanes crefyddol pobl y cyffindiroedd hyn. Ar y llaw arall, yn ymestyn tua’r dwyrain, y mae gwlad eamg Archenfield neu Erging, fel y gelwir hi yng ngoniclau y Saeson, ond a adnabyddir gan y Cymry fel Eirinwg. Dyma randir, er ei bod ar yr ochr Seisneig i Glawdd Offa, a hawliai gysylltiad agos a hanes a helyntion Cymru am oesau lawer. Bu yn elfen ymryson parhaus rwng y Cymry a’r cenhedloedd a ddaethant i Brydain o amser y Rhufeiniaid hyd y bynthegfed ganrif. Hawlia Archenfield, enw yr hon a dardd o’r enw Lladin Ariconium, a adnabyddir fel un o orsafoedd mwyaf pwysig y Rhufeiniaid yn y goror, ein sylw yn arbennig yr adeg yma am ei gysylltiad agos ag Owen Glyndwr. Yma ac yn Ewias y preswyliai tair o’i ferched oedd yn briod a thri o Arglwyddi y Goror. Hefyd, yn ol y traddodiadau, yma y treuliodd flynyddau olaf ei fywyd mewn neillduedd gyda’i ferched.

Y mae enw Cymraeg, sef Eirinwg, yn enw a’i lond o ystyr, oblegid dug i’r meddwl y syniad ei fod yn wlad dda a ffrwythlon. Y mae hyn yn nodwedd arbennig ynddi heddyw fel yn y dyddiau gynt, oblegid ceir ynddi heddyw fel yn y dyddiau gynt, oblegid ceir ynddi berllannau toreithiog o goed afalau, gelleig (pears), a cheirios, ac y mae mewn ystyr amaethyddol yn wlad gyfoethog mewn cnydau o ydau a gweirdd-lysiau, nad oes mo’u helaethach yn y siroedd. Amgylchir y rhandir ar y gogledd a’r dwyrain gan gwrs afon Wy o Henffordd hyd o fewn ryw ddwy filltir i Drefynwy, tra mae’r dehau, o’r lle olaf hyd Pontrilas yn ffinio a Gwent gyda’r afon Monnow yn eu gwahanu. Y mae y rheilffordd o Bontrilas i Henffordd ar y terfynau gorllewinol.

Yn ein dyddiau ni fe adnabyddir rhannau o sir Benfro fel “Lloegr Fach yng Nghymru” oherwydd ei nodweddion Seisneg, am yr hyn y mae gan hanes rywbeth i’w ddweyd. Yn Eirinwg fe geir y gwrthwyneb i hyn, sef “Cymru fach yn Lloegr,” gydag arferion Cymreig a nodweddion brodorol cynhenid ein cenedl wedi goroesi bywyd iaith lafaredig Gwalia wen.

Rhaid i ni fynd yn ol ganrifoedd lawer i gael eglurhad a goleuni ar hyn, ac wedi myned yn ol i’r oesau pell nid yw llechres hanes yn mynegi ond ychydig o ffeithiau i egluro sut y bu. Y mae hanes Eirinwg, gydag arferion a nodweddion cymeriad ei phobl, er hynny yn fynegiant di-droi yn ol i ni fod brodorion y wlad hon mor Gymreigaidd yn eu dull o fyw ag ydyw pobl rhannau mwyaf Cymreigaidd Gwyllt Walia heddyw, er nad yw yr iaith Gymraeg i’w chlywed ond ar ambell dro siawns yn y rhandir.

Y mae hanesyddiaeth eglwysig, enwau y plwyfi a’r eglwysi, yr ardaloedd a’r pentrefi, y bryniau a’r nentydd, yr amaethdai a’r bythynod, oll, gydag onid ychydig eithriadau, yn nodweddiadol Gymreig, neu yn llygriad o’r ffurff gwreiddiol {sic}. Pan y troir i’r deddf-lyfrau lleol a gedwir yn Domesday, ac yn hen law ysgrifau llyfrgell yr Eglwys Gadeiriol yn Henffordd, ni ganfyddwn amlygiadau digamsyniol fod pobl Eirinwg yn cael eu llywodraethu yn ol deddfau hollol wahanol i’r hyn a geir yn yr ardaloedd Seisnig cylchynnol, o amser Offa ymlaen a heibio y gorchfygiad Normanaidd.


II. CYMRU FECHAN YN LLOEGR.
Mewn hanesiaeth eglwysig y mae Eirinwg neu Archenfield, yn grefyddol felly, o darddiad hollol Gymreig. Y mae yn gyfoethog yn nhraddodiadau yr hen seintiau Prydeinig o’r bumed ganrif a’r chweched. Ceir fod yr eglwysi hynaf wedi eu cysegru i Ddewi, Dyfrig, Cadog,
Haran, Canna, &c. A dyma enwau rhai o’r eglwysi, - Little Dewchurch (y ffurf Seisnigaidd ar Eglwys Ddewi Fach), St. Devereux (yn ôl pob tebyg St. Dyfrig), Llanharran, Llanithog, Llandinabo, Llangarren, Llangunnock (Llancynog {sic}); tra mae enwau pentrefi y rhandir fel y canlyn, - Trelasdu, Traddow, Treessey, Trewaugh, Trevanion, Treaddaw {sic: wedi ei gynnwys ddwywaith}, Trevadoc, Penrhos, Pengelly, Cwmcraig, Rhydycar, Cwm Madoc, Pencraig, Altwen, Altybough (Allt y Bwch), a Penallt, gydag amryw rai eraill yn wasgaredig drwy hyd a lled y wlad o’r Wy o’r Monnow {sic: = Mynwy}.

Y mae Eirinwg yn wlad frodorol un o’r rhai mwyaf enwog o’r Seintiau Cymreig, sef Dyfrig Sant. Yma y ceir Madle, neu fel y sillebir ef heddyw Madley, mangre ei enedigaeth, a Henllan, neu yn ôl ei sillebiaeth presennol Hentland, yr ardal lle y sefydlodd y sant ei goleg neu gôr cyntaf, o fewn pum milltir i dref Ross ym mhlwyf Llanfrother, a’r mangre lle y bu fyw am saith mlynedd, yn llywyddu ei goleg, lle dylifoddd ato, yn ôl yr hen draddodiadau, y miloedd o fynachod ieuainc o bob rhan o Brydain. Heb fod ymhell o fangre ei enedigaeth y mae Mochros, neu fel y gelwir ef yn awr, Moccas, sef y llecyn lle y sefydlodd Dyfrig ei ail gôr yn Ynys Efrddil. Nid yw hwn nepell o Monnington, cartref
Elizabeth, un o ferched Glyndwr. Oddiyma y dyrchafwyd ef i fod yn Esgob Llandâf, ac yn ôl yr hen groniclau yr oedd yr oll o Eirinwg a rhannau o Ewias yn yr esgobaeth Gymreig am ganrifoedd ar ol y gorchfygiad Normanaidd. Cawn yn y flwyddyn 915 fod y “Llu Du,” ar ol anrheithio Gwent a Morgannwg, wedi ymweled ag Eirinwg, gan ddifrodi y ffordd a gerddent. Fe ddywed yr hen ysgrifau wrthym iddynt gymeryd Cyfeiliawc, Esgob Llandâf, yn garcharor y tro yma, pan oedd ar ymweliad a’r rhannau pellenig hyn o’i esgobaeth, ac y rhyddhawyd ef drwy dalu y swm o ddeugain punt. Dyddorol hefyd yw sylwi fod y rhandir o dan y tywysogion Cymreig yn un o saith cartref Morgannwg, pan yr estynai llywodraeth tywysogion Morgannwg o afon Nedd dros holl gyfanrwydd Gwent hyd at afon Wy yng nghanolbarth sir Henffordd.

Pan y troir i gof-restriadau tudalennau y Domesday o dan yr enw Archenfield, fe geir cronicl pur gryno o arferion a hawl cyfreithiol breintiedig iddynt i bobl y wlad hon. Y mae yr arferion hyn yn sefyll yn arbennig, megis ar eu pennau eu hunain, fel hawliau breintiedig cenedl neu bobl hollol wahanol i’r Saeson. Dynodir poblogaeth y wlad mewn ffordd arbennig fel cenedl y Cymry, ac iddynt hawliau, ac iddynt hynafiaeth yn eu nodweddu. Credwn, ag eithrio un neu ddau o gyfeiriadau at Went o dan y pennawd Caerloyw, mai dyma yr unig gyfeiriad sydd yn Domesday at Ddeheudir Cymru, obledig yn nydd Gwïlym y Concweriwr y gwnaed yr archwiliad, gan ei gofrestru mewn llyfr. Ar ol ei ddydd ef y dechreuodd y barwniaid Normanaidd ysbeilio oddiarnom y rhannau brasaf o’n gwlad.

Dyma ychydig o freintiau a ganiatawyd i bobl Eirinwg yn ôl y Domesday, -

“Yn Archenefelde y mae i’r brenin ddwy eglwys,a cy mae gan yr offeiriaid hawl brenhinol i gario cenawdwri a gorchymyn y brenion ddwy waith bob wythnos. Pan bydd i offeiriad farw telir i’r brenin ugain swllt yn ôl defod.

“Os bydd i Gymro ladrata caethwas neu gaethferch, ceffyl, ych neu fuwch, a’i gael yn euog, rhaid iddo ddychwel yr hyn a ladratawyd a thalu 20/- o ddirwy. AM ladrata dafad neu ysgub o rawn gofynnir iddo dalu 2/- o ddirwy.

“Os bydd i Gymro ladd un o daiogiaid (vassals) y brenin, gofynnir iddo dalu i’r brenin 20/- am y llofruddiedig, a 100/- o ddirwy. Os bydd iddo ladd caethwas unryw uchelwr rhaid iddo dalu 10/- i’r uchelwr.

“Os bydd i Gymro ladd un o’i gydgenedl, yr oedd hawl gan berthynasau y llofruddiedig i ddyfod ynghyd i anrheithio y llofrudd a’i gyfneseifiaid, gan losgi ei dy a’i holl feddiannau hyd ganol dydd y diwrnod y cleddid y llofruddiedig. O’r anrhaith yr oedd y brenin a hawl i’r drydedd ran.

“Yr hwn a osodai dy ar dân, ac os ceid ef yn euog, byddai raid i’r dyn amddiffyn ei hun gyda deugain o wyr. Os byddai yn analluog i wneud hyn gorfodid ef i dalu 20/- i’r brenin.

“Pwy bynnag a guddiai rhag treth y swm arbennig o fêl, sef sextary (h.y. peint a hanner) rhaid oedd ei ddirwyo i bum sextary am bob un, os y byddai ei dir yn alluog i gynhyrchu y fath swm.

“ Os byddai i Gymro anufuddhau i fyned gyda’r Uchel Sirydd i Gymru ar unrhyw fater o bwys dirwyid ef i dalu i’r brenin y swm o 2/.- neu ych. A phwy bynnag a absolenai ei hun o senedd neu bwyllgor y sir dirwyid ef yn y cyffelyb swm.

“Pan y deuai y brenin a’i luoedd drwy Eirinwg gyda’r amcan o ymosod ar Gymru, yr oedd hawl freintiedig ganddynt i gymeryd eu lle yn rhengoedd blaenaf y fyddin wrth fynd; a hwy a ffurfient y rhengoedd olaf pan yn dychwelyd.”

Diwedda y gyfres o gyfreithiau hyn gyda’r geiriau canlynol, - “Dyma arferion y Cymry yn amser y Brenin Iorwerth yn Archenefelde.” Iorwerth y Conffeswr a feddylir yn yr ymadrodd uchod.

Mewn nodiad yn y Testa de Nevill, sef y Nevilles, arglwyddi y Fenni, ni gawn fod “Urchenefeld in Walia” yn dadliedig oddiwrth y brenin “in sergeantary” gan drefedigaeth o Gymry, oeddynt wedi arfer byw o dan custom Urchenefleld. Gorfodid hwynt, medd yr ysgrif hon, pan fyddai galw, i ddarpar i’r brenin 50 o wyr i’w wasanaethu am bymtheng niwrnod ar eu traul ei hun, pan yr ymwelai y brenin a Chymru. Os gofynnid am eu gwasanaeth am ysbaid hwy, yr oedd y brenin i ddarpar ar gyfer eu hangenrheidiau. Pan y gofynnid am eu gwasanaeth milwrol yn Lloegr, disgwylid iddynt wneud hyn am ddiwrnod a noson ar eu traul eu hun, ond unrhyw amser tros hynny, ar draul y brenin. Hefyd disgwylid iddynt dalu i’r brenin dreth o 19 o farciau yn flynddol.

Felly, yn ôl yr uchod, gwelir mai cyfreithiau arbennig i bobl Eirinwg fel Cymry, yw yr uchod, ac y mae yn dra sicr fod rhyw rheswm neillduol am hyn, wedi dyfod i lawr o amser mwy boreuol yn hanes y rhandir. Dyddorol yw sylwi mewn nodiad yn y “Pipe Rolls” yn nheyrnasiad Harri yr Ail, fod hysbysiad swyddogol y sir hon, bob amser yn darllen “Herefordshire in
Wales.”


III. Y SCUDAMORES
Rhaid myned yn ôl i amser Offa, brenin y Mers, ym mlynyddau olaf yr wythfed ganrif, am yr ymrwygiad a gymerodd le i wahanau Cymry Eirinwg oddiwrth eu cyd-genedl yng Nghymru. Pan adeiladodd Offa ei glawdd terfyn drwy y goror yn ol y Saxon Chronicle, fe unwyd Eirinwg neu Archfield â Mersia, ac yn hytrach na gyrru Cymry y rhandir dros y Clawdd fe ganiatawyd iddynt aros yn nhreftadaeth ei hynafiaid. Paham y goddefwyd hyn sydd yn dywyll iawn i ni yn awr, ond y mae serch hynny yn ffaith anwadadwy fel y dengys y cyfeiriadau a wnaed mewn ysgrifau blaenorol. Y mae hen gof-lyfrau y cyfnod hwnnww oddieithr y Saxon Chronicle yn ddistaw am hyn, ac ni roddir ganddynt ddim goleuni ar y mater, rhagor na’r crynhoad o freintiau a ddyfynwyd o’r Domesday, ac yr oedd i’r rhai hynny hawliau cyfreithiol gwlad erbyn amser y Normaniaid.

Gallwn er hynny dynnu ar ein dychymyg, er mai nid croniclo hanes y byddem wrth wneud hyn, ac ni fydd iddo y rhithyn lleiaf o awdurdod na phwys. Nid heb reswm da feallai y canfyddai Offa a’i gynghorwyr, rinweddau a chymwysterau arbennig ym mhobl Eirinwg a allent brofi o gryn fantais i deyrnas y Mers, yn y cyfnod pan yr adeiladodd ei Glawdd. Cribddeiliawr oedd Offa, ac yr eodd mewn perygl parhaus rhag traha chwannog ei gydymgeiswyr yn y mân-deyrnasodd eraill oeddynt yn ei glychynu, rhai yn arbennig fel
Wessex, Bernicia, a Deira. Am hynny wedi adeiladu y Clawdd, da oedd cael y Cymry gororol hyn i wylied y rhan hono a wynebai ar eu treftadaeth hwy, fel na byddai eu cydgenedl eu hunain o Went yn peri trafferth i’r Mers.

Tybed mai rhyw deimlad tebyg i hyn a orfyddai gyda Chymry Eirinwg i aros yma er iddi fod o dan lywodraeth Offa a’r Mers, yn hytrach na chroesi y Clawdd i Gymru? Y mae’n bosibl feallai iddynt mewn munud o ansefydlogrwydd ac ofn, wrth weled y galluoedd a wasgai ar y gororau, droi yn anffyddlwn i’w gydgenedl, gan foddloni bod yn gymynwyr coed a gwehynwyr dwfr i’r Mersiaid a ddaeth ar ein gwarthaf. Y mae hyn yn bur sicr gennym, iddynt fod mewn meddiant o’r llanerchau hyn o hiliogaeth i hiliogaeth am ganrifoedd lawer, a phan y daeth y barwniaid Normanaidd i grafangu drostynt eu hunain ein tiriogaethau, i bob ymddangosiad fe gafodd y Cymry yn Eiriwg lonyddwch i fyw yma, ganddynt hwy fel y cawsant gan y Mersiaid. Profodd y bobl yn ffyddlawn iddynt fel y dengys eu cyfreithiau yn y Domesday, yn caniatau iddynt ragorfreintiau arbennig, gwahanol i’r hyn a fwynheid gan y Saeson eu hunain.

Y mae yn amlwg i’r cyfarwydd, pan y gwnaeth Glyndwr ei ruthrgyrchoedd difaol drwy y gororau a Deheudir Cymru yn y bymthegfed Ganrif, fod y traddodiadau am ysbryd hunan-les pobl Eirinwg wedi eu trosglwyddo i lawr drwy y canrifoedd i’r amser hwnnw, oblegid fe geir i’n gwron a’i wyr anrheithio mwy ar y rhandir hwn nag hyd yn oed y rhandiroedd mwyaf Seisnigaidd yn y cyffindiroedd. Yr unig lecynnau a arbedwyd gan ei gynddaredd oedd y rhai a feddiennid gan wyr ei ferched; ac yr oedd i Glyndwr atyniad mawr i’r lleoedd hyn mewn adegau tawel a heddychlawn, megis mewn adegau o ystormydd ac erledigaeth.

Dyma ni o’r diwedd yng nghysgod parc coediog ac eang Kentchurch gyda’i draddodiadau dyddorol am Owen Glyndwr. Fe saif y llys yn y de-orllewin o randir Eirinwg ar yr afon Monnow o fewn tair milltir i Bontrilas. Dyma hen gartref y Scudamores. I hwn y priododd Alicia, ail ferch Glyndwr, yn y flwyddyn 1395. Enw ei gwr oedd Syr John Scudamore, yr hwn a hannai o’r ychydig deuluoedd Normanaidd a fuont yn achles i ddyheadau a gobeithion ein cenedl. Saith milltir i’r gogledd-orleewin yn Ewias Harold y mae Monnington Court, lle bu Margaret, ferch ieuengaf Glyndwr, yn byw; yr oedd hi yn briod a Syr Roger Monnington; tra ‘roedd Janet, un o’i ferched eraill yn briod a Syr John Croft, un arall o ysweiniaid sir Henffordd. Felly nid yw yn rhyfedd fod i Glyndwr atyniad cryf i’r ardaloedd hyn, ac iddo dreulio ei flynyddau yma pan wedi cilio o olwg y cyhoedd. Ceir llawer o draddodiadau amdano yma, ac nid yw yn rhyfedd fod Sion Cent ac yntau, mewn oesau diweddarach, wedi eu camgymeryd y naill am y llall. Yr oedd y ddau yn ddynion dysgedig, wedi eu haddysgu yn Rhydychen; ac yr oedd eu gwybodaeth, i bobl syml ddiddysg ac anwybodus yr ardal, ym mlynyddau tywyll y bymthegfed ganrif, yn ddewiniaeth noeth.

Y mae Kentchurch Court yn adeilad pur eang a chadarn, ond braidd yn wasgarog. Gwelir fod iddo ragfuriau cyfylchog (crenelated parapets), a ffenestri cymhorthedig (mullioned), ond, ag eithrio y twr pedronglog yn un pen i’r adeilad elwir yn Tŵr Glyndwr, ni ymddengys, yn allanol felly, yn hyn na’r ddeunawfed ganrif. Y mae mewn sefyllfa neillduedig iawn sydd yn llawn tlysineb, ac yn cael ei gylchynu ar bob tu, oddieithr yr un i gyfeiriad y Monnow, a bryniau serth ac uchel. Y mae mynydd y Garway yn wynebu ffrynt y plas, gyda’r parc coediog yn ymestyn i fyny i’w goryn, lle y gwelir y ceirw yn yrroedd lliosog yn prancio drwy y coed. Ymestyn y parc i lawer at y Monnow am dros filltir o bellder, gan gymeryd i mewn y cwbl o’r gwastadedd o bont Grosmont hyd at y plas. yn fynediad i’r parc ceir porth mawr caerog tra uchel, sydd yn arwydd i’r ymwelydd fod y llys yn un o gryn fri. Fe saif y porth gerllaw pont Sion Cent fel ei gelwir, oherwydd y traddodiad yn cysylltu y gŵr hwwnw a’i gwneuthuriad gyntaf. Dywedir iddo fyned i gynghrair a’r diafol i’w haeiladu, a chytunodd yr un drwg i wneud hyn ar yr amod fod corff ax enoad Sion i fod yn eiddo iddo ar ol ei farw, os cleddid ef y tu fewn neu y tuallan i’r eglwys. Gwyddis fel y bu y doethawr yn gyfrwysach na’r un drwg yn ei farwolaeth, oblegid archodd i’w gorff gael ei gladdu o dan fur yr eglwys, un rhan o hono y tu fewn a’r rhan arall y tu alklan i’r mur. Y mae y bont yn un bwa ac yn ymestyn dros gafnbwll dwfn drwy yr hwn y rhed y Monnow yn afon gref lifeiriol., ac y mae yn bur sicr fod eisieu rhywneth heblaw celfyddyd i’w hadeiladu o gerrig mewn un noson, fel y dywed yr hen draddodiad y gwnawd. Ond y mae y bont bresennol o wneuthuriad diweddar.

Y tu fewn i’r parc, ac o fewn chwarter milltir i’r plas, fe saif eglwys Kentchurch. Y mae hon yn adeilad pur newydd. Troisom i mewn i’r fynwent i ddarllen yr argraffiadau ar y cerrig beddau; a’r hyn a’n synnai oedd, ac feallai na ddylai fod yn syndod, pan ystyriwn mai o haniad Cymreig yr oedd yr ardalwyr, fod tri o bob pedwar o’r enwau ar y llechau yn enwau Cymraeg. Dyma rai ohonynt, - Richard Preese, Llanhithog; Richard Nicholas, y Gamddwr; teuluoedd lawer o Prossers, Prices, a Davieses; dau neu dri o deuluoedd o Watkins, a Pughiaid, heblaw cynrychiolaeth unigol o Richards, Powell, a Parry. Ychydig iawn o enwau personol Seisnig a welid yn yr oll o’r gladdfa.

Ond i ddychwelyd at hanes y Scudamores. Ar ol gorchfygiad Normanaidd fe roddwyd i Sent Scudamore, medd yr hanes, Sancta Kyna, yr ardal a gysegrwyd i goffadwriaethSant Canna, un o blant lliosog Brychan Brycheiniog, ac fe alwyd yr eglwys yn Keynechurch- “Ecclesia de Sancta Keyna,” neu “Keynamchurche” fel y dywed Llyfr Llandâf a Choflyfrau Mynachlog St. Pedr, Caerloew. Y mae yr enw wedio dyfod atom ni fel Kentchurch. A co’r diwrnod yr ymsefydlodd Sent Scudamore yma, y mae wedi bod ym meddiant y teulu yn ddifwlch hyd y dyddiau presennol. Arwydd y teulu yw Scutum Amoris Divini (tarian y cariad dwyfol) ; a dyna, mae’n debyg yw haniad yr enw Scudamorw. Y mae ei pherchennog presennol, y Milwriad Lucas Scudamore, yn bedwerydd ar hugain yn y llinach etifeddol o’r perchennog Normanaidd.

Cawn fod y teulu hwn wedi bod mewn cydymdeimlad a delfrydau y Cymry am genhedlaethau cyn i Alicia briodi a Syr John. Danghoswyd gwir gydymdeimlad a hwy yn eu herledigaethau a’u profedigaethau o amser Iorwerth y Cyntaf hyd adeg Harri IV. Ymddengys hefyd i’r undeb teuluol rhwng y Scudamores a Glyndwr fod yr elfen llawer o helbul i’r blaenaf. Buont er hynny yn ffyddlon i’r cysylltiad a wnaed, ac hefyd rhoisant lawer o gynorthwy yn gyhoeddus ac yn gudd i gynlluniau ac ymdrechion ein gwron pybyr. Yn 1409, medd hanesydd y teulu, fe gymerwyd Syr Philip Scudamore, un o bleidwyr cynhesaf Glyndwr, yn garcharor. Danfonwyd ef i Lundain, a dioddefodd farwolaeth trwy dorri ei ben.

Fe anwyd i Syr John a’i briod Alicia amryw o blant, yr oll yn fechgyn oddieithr un ferch o’r enw Caterine, yr hon a briododd Syr Thomas Cavendish, sylfaenydd hen deulu y Devonshires ym mhendefigaeth Prydain Fawr. Y mae teulu Duc Devonshire wedi cofleidio arfeb y Scudamores yn ffurf tair gwarthol, y rhai sydd yn dynodi fod Catherine, eu mham, yn etifeddes. Bu hi farw yn
1489, a chladdwyd ei chorff yn eglwys St. Botolph’s, Aldersgate.

Yn Rhyfeloedd y Rhosynau pleidia y Scudamores ochr ty
Lancaster, yr hwn oedd mewn meddiant yr amser yma o holl rannau gigleddol Gwent, a chestyll Grosmont a Threfynwy yn bencadlysoedd. Ym mrwydr Mortimer’s Cross yn 1461 cymerwyd Syr John a’i dri mab, Harri, James a Gwilym, yn garcharorion, a rhoddwyd y pedwar i farwolaeth. Dyna, mae’n debyg y rheswm i Catherine, y ferch, ddyfod yn etifeddes y teulu fel y soniwyd uchod.

Fel prawf o ffyddlondeb a serch y teulu tuag at y traddodiadau Cymreig, y mae ar gof a chadw yn yr hen ysgrifau a berthyn i’r sir fod pob amaethwr a thyddynwr, yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a dechreu y bymthegfed yn Gymro yn y rhan o’r wlad a ddelid gan y teulu. Ac un ffaith nodedig arall a groniclir yw fod holl hysbysiadau brenhinol, ac hefyd rhai arglwyddi y goror, yn Eirinwg ac hefyd yn Ewias Harold, yn cael eu cyhoeddi yn y Gymráeg ac yn Saesneg; ac fel na fyddai iddynt fyned ar goll cyfieithid hwy gsn fynachod Abbey Dore i’r Lladin i’w cadw yng ngoflyfrau (cartulary) y Fynachlog.

 
IV. BEDD OWEN GLYNDWR
Gwnaeth Owen Glyndwr y cyntaf o’i ruthriadau difaol drwy sir Henffordd a’r Deheubarth ym Mai, 1402, ar ol brwydr Pilleth. Wedi llosgi a dinistrio pob peth o werth, fel nad oedd braidd ddim arall o unrhyw bwys i ennyn llid
arno yn y cwmpasoedd, gwnaeth ei ffordd fel llif difaol i gyfeiriad Gwent a Morgannwg, gan ddifwyno holl gadarn leoedd Arglwyddi y Goror yn ei lwybr.

Ym mis Awst o’r flwyddyn honno fe ymwelodd y brenin Harri IV a Henffordd, ac yn ôl yr hanes yr oedd wedi llwyddo i gasglu byddin o gan mil o wyr i ganlyn ar ôl Glyndwr. Ond ofer fu ei ymgais i geisio ei ddilyn, am fod y wlad mewn cyflwr difrifol. Ysgubid hi â llifeiriant dyfroedd ac âg ystormydd echryslawn na welwyd erioed mo’u cyffelyb yn hanes y wlad. Yn ol barn a dychymyg y trigolion, ar wahan oddiwrth yr hyn a ddywedir wrthym gan y bardd Seisnig, gallu dewinol a chyfriniol y Cymro galluog ei hun fu yn elfen i ddylanwadu ar alluoedd Natur i ymladd drosto, fel y galwai “ysbrydion o’r dyfnder obry” at ei wasanaeth.

Fe geir i Glyndwr wneud ail ymweliad ddifrodol drwy yr un tiriogaetahu yn haf y flwyddyn 1403. Anrhiethiodd sir Henffordd a’r Deheubarth fel o’r blaen, nes oedd yr holl wlad mewn dygn drueni. Parodd cyflwrdifrifol y wlad a’i thrigolion i wyr blaenaf Henffordd ddanfon deiseb at y brenin yn atolygu
arno ddyfod i’w cynorthwyo. Arwyddwyd y ddeiseb gan, “Your humble lieges, the sheriffs, knights, esquires, and commons of your county of Hereford.” Yn ychwanegol at hyn fe ysgrifennodd Archddiacon Henffordd lythyr cyfrinachol at ei fawrhydi yn yr hwn y dywed, -

“Os na ddeuwch yn eich person eich hun, ni cheir yma un math o foneddwr o ddylanwad a fydd yn foddlon aros yn eich sir ddywededig Henffordd. Er mwyn achubiaeth ac iechyd eich sir peidiwch ymddibynnu ar neb fel rhaglaw. Ysgrifennwyd yn Henffordd gyda brys mawr.”

Mewn canlyniad i’r ceisiadau uchod, fe benodwyd y Tywysog Harri o Drefynwy, yn Rhaglaw y Goror (Lieutenant of the Marshes.) Nid oedd Harri ond hogyn pedair ar ddeg oed, ac am y chwech neu saith mlynedd dilynol, cafodd y cyfle i gael ei addysgu yn y gelfyddyd o ryfela yn erbyn un o’r capteniaid galluocaf a chadofyddion cyflymaf sydd gennym mewn hanes, ac yn erbyn gallu milwrol y Cymry oedd wedi deffro yn angerddol gan gyflymder symudiadau Glyndwr. Profeodd hwn yr addysgiaeth oreu i’r tywysog ieuanc, ac fe fu o werth amhrisiadwy iddo yn ei ymgyrch ar y Cyfandir, a goronwyd a’i oruchafiaeth yn
Agincourt. Gwnaeth y tywysog ieuanc ei brif bencadlys weithiau yn yr Amwythig, ond fynychaf yn Henfordd ac yn Grosmont gerllaw Kentchurch. Gorchfygwyd Hotspur, cydweithredydd Glyndwr yn erbyn y brenin, gerllaw i’r Amwythig, yn ddiarwybod i’n gwron tra ‘roedd ef yng Nghaerfyrddin. Brysiodd Glyndwr tua’r gogledd, a chyrhaeddodd Lanllieni. Yma cyfarfoddodd â gwyr blaenaf sir Henffordd, y rhai mewn onabaith am gynorthwy y brenin, a fu yn dda ganddynt ddyfod i delerau heddychlawn ag ef, trwy dalu iddo swm mawr o arian.

Yn union wedi ymadawiad Glyndwr, fe ddaeth y brenin a’i fyddin eilwaith i Henffordd. Buont yn y ddinas am amryw ddyddiau mewn petrusgar beth oedd oreu i’w wneud. Oddiyma aethant i Gaerfyrddin i chwilio am Glyndwr, ond fel arfer nid oedd i’w gael. Dychwelodd y brenin a’i lu i Henffordd cyn pen pedwar diwrnod, heb weled na chlywed siw na miw am ei elyn cyflym ac effro. Ond yr oedd Glyndwr a’i wyr ar y pryd yn gwasgu yn drwm ac yn talu y pwyth i warchñu castell Caerdydd, a hynny cyn i’r brenin allu ddychwelyd i Henffordd.

Yn 1404 cawn i’r Archddiacon Kingston ysgrifennu yr ail waith at y brenin gan ddweyd, -

“The Welsh rebels in great numbers have entered Archenfield, and there have burnt houses, killed the inhabitants, taken prisoners, and ravaged the country to the unsupportable damage of the country. We pray our Sovereign Lord that he will come in his royal person, otherwise we shall be utterly destroyed, which God forbid. And for God’s sake remember that honourable and valiant man Lord Abergavenny, who is on the very point of destruction. Written in haste at
Hereford, June 10th.

Mewn pythefnos ar ol hyn fe ysgrifenna y Tywysog Harri lythyr pryderus at ei dad, yn yr hwn y dywed fod y Cymry wedi gwneud ymosodiad ar sir Henffordd, ac wedi dinistrio a llosgi y wlad yn ddidrugaredd, a’i fod ef ei hun yn casglu ei luoedd i estyn ymwared i ddinas Henffordd, ond ei fod mewn anhawster i gadw ei filwyr oherwydd prinder tâl a lluniaeth. Pa un a gafwyd moddion “tâl a lluniaeth” sydd amheus, onf hyn a wyddys, na ddaeth dim ymwared i’r wlad na’i phobol helbelus am fisoedd lawer ar ol hyn.

Yn gynnar yn y flwyddyn 1405 yr oedd Owen ym Morgannwg, ac ym Mhant y Wennol gerllaw Pontfaen cymerodd brwydr galed le rhyngddo ef a byddin y brenin. Parhaodd y frwydr am ddeunaw awr medd yr hanes, a chafodd Owen a’i wyr oruchafiaeth lethol ar ei gelynion. Clywodd Owen fod y Tywysog Harri wedi casglu ei luoedd i Grosmont. Danfonodd Rhys Gethin gydag wyth mil o’i wŷr i’w yrru oddiyno. Cyrhaeddwyd Grosmont ar ol anrheithio y Fenni a’i chastell, a llwyddwyd i ddinistrio y cwbl yno ond y castell Normanaidd. Ymddengys fod y castell a’i warchlu wedi llwyddo i wrthsefyll pob ymosodiad o eiddo Rhys i’w ddarostwng, ac am hynny aeth yn ei flaen dros y Monow i Eirinwg, gan fwrw ei laid ar y rhandir aml-anrheithedig hwn. Dychwelodd eilwaith tua’r dehau a chroesodd y Monnow drachefn. Daeth y Tywysog Harri i’w gyfarfod gyda gwarchlu castell Grosmont ac adgyfnerthion oedd wedi ei dwyn o Henffordd. Bu brwydr boeth rhyngddynt ar y llechwedd a elwir heddyw “King’s Field,” gerllaw Grosmont. Trechwyd Rhys, a chwympodd o’i wyr wyth cant o ryfelwyr. Dyma’r atalfa gyntaf at ymgais lwyddiannus Glyndwr, ac yr oedd yn ergyd drom iddo. Ond yr oedd un drymach i ddod yn y dyddiau nesaf, ar fynydd Pwllmelyn ym Mrycheiniog, lle y lladwyd Tudur ei frawd, ac y bu llawenydd drwy holl Loegr yn y meddwl mai Glyndwr ei hun oedd wedi syrthio. Yn fuan argyhoeddwyd y wlad mai nid ein gwron oedd wedi syrthio, oblegid nid oedd wedi cymeryd y rhan leiaf yn un o’r ddwy ymgyrch. Yr oedd ef mewn rhan arall o’r wlad ar y pryd, ond yr oedd y newydd trwm o orchfygiad ei luoedd yn ofid calon iddo, ac ni chlywir llawer mwyach am dano yn y cyffindiroedd. Y gwir yw, fe ddechreuodd ei ganlynwyr ei adael a chollasant, medd yr hanes, yr ymdiried oedd ganddynt ynddo yn flaenorol.

Er i’r brenin, amser ar ol hyn, gynnyg iddo faddeuant, fel y gwyddis, ni dderbyniodd y cynnyg. Ymneillduodd o olwg y cyhoedd, ac yn ol y farn gyffredin i’r cymydogaethau hyn yn y goror y daeth i ddibennu ei ddyddiau, yn nhawelwch Kentchurch a Monnington, lle y preswyliai dwy o’i ferched. Y mae pobl Monnington yn hawlio ei fedd yma, a chyda dwfn barch dangoshant faen syml gerllaw drws yr eglwys, sydd, meddent hwy, yn ddangosheg o’r lle y gorwedd ein gwron. Nid oes, hyd yn oed law anghelfydd wedi cerfio un lluthyren ar y garreg seml, ond anhawdd peidio tnnu ein het a sefyll am ychydig gerllaw y fangre dawel, o barch hyd yn oed i’r hen draddodiad sydd yn gosod y fath fri ar yr ardal. Er mai estroniaid i ni fel cenedl yw pobl y lle, eto y maent yn ei theimlo yr anrhydedd mwyaf fod un o feibion enwocaf Cymru Fu yn ol y traddodiadau wedi ei gladdu yn nhawelwch eu hardal ymhell o swn dwndwr y byd a’i helyntion.

Dywedir amdano ym Monnington a Kentchurch y byddai Glyndwr yn arferol o ddieithrio ei hun, ac y gwelid ef yn rhodio yn hamddenol weithiau mewn diwyg fel bugail defaid neu weithiwr cyffredin. Adeg arall gwelid ef yn fyfyrgar ac yn absen meddwl heb sylwi ar neb. Ac ar brydiau eraill ymddanghosai fel swynwr neu ddewin, gan wneud sylw o bob peth. Yr oedd ei fywyd yn llawn dirgelwch ac yn anesboniadwy i gydoeswyr yn y lleodd hyn, medd y traddodiadau. Dyna paham, mae’n debyg, mewn oes diweddarach y cyslltir ef a Sion Cent, ac y priodolir iddo ef y swyngyfaredd a nodwedd am hanes y bardd. Y tebyg yw eu bod yn gydoeswr a bod cydymdeimlad y bardd ag ymgais ein gwron. Credwn fod un o’i gywyddau yn cyfeirio yn arbennig at hyn, sef, “Gobeithio’r Goreu i’r Cymry,” lle y diwedda pob cymal a’r llinell “Gobeithiaw a ddaw ydd wyf.” Feallai iddo gael ei ysgrifennu pan oedd obaith i Owen lwyddo. Dyma un ran o hono,-

“Penna nasiwn, gwn, gwmpas,
Erioed fuom ni, o ras,
A heddyw y’ch dyhuddir,
Ar drai, hen na thai na thir!
Awr ba awr Gymru fawr fu,
Disgwyl yr ŷm, a dysgu;
Dydd bwy gilydd y gwelwyf,
Gobeithiaw a ddaw ydd wyf!”

Casnewydd.

A. MORRIS.


·····



Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats