1480k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l'any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.

http://www.kimkat.org/
amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_jwdas_65_1480k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn

 


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
The Wales-Catalonia Website


Cywaith Siôn Prys
(Casgliad o Destunau yn Gymraeg)

El projecte Siôn Prys
(Col
·lecció de textos en gal·lès)


Y Beibl Cysegr-lân :
(65) Jwdas

(delw 7294)



 1481ke This page with an English translation - Judas / 1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version

····· 

EPISTOL CYFFEDINOL JWDAS YR APOSTOL


1:1 Jwdas, gwasanaethwr Iesu Grist, a brawd lago, at y rhai a sancteiddiwyd gan Dduw Dad, ac a gadwyd yn Iesu Grist, ac a alwyd:

1:2 Trugaredd i chwi, a thangnefedd, a chariad, a luosoger.

1:3 Anwylyd, pan roddais bob diwydrwydd ar ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth gyffredinol, anghenraid oedd i mi ysgrifennu atoch gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a rodded unwaith i'r saint.

1:4 Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i mewn, y rhai a ragordeiniwyd er ys talm i'r farnedigaeth hon; annuwiolion, yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu'r unig Arglwydd Dduw, a'n Harglwydd lesu Grist.

1:5 Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffau chwi, gan eich bod unwaith yn gwybod hyn; i'r Arglwydd, wedi iddo waredu'r bobl o dir yr Aifft, ddistrywio eilwaith y rhai ni chredasant.

1:6 Yr angylion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch, i farn y dydd mawr.

1:7 Megis y mae Sodom a Gomorra, a'r dinasoedd o'u hamgylch mewn cyffelyb fodd a hwynt, wedi puteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol.

1:8 Yr un ffunud hefyd y mae'r breuddwydwyr hyn yn halogi'r cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu'r rhai sydd mewn awdurdod.

1:9 Eithr Michael yr archangel, pan oedd efe, wrth ymddadlau a diafol, yn ymresymu ynghylch corff Moses, ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr Arglwydd dydi.

1:10 Eithr y rhai hyn sydd yn cablu'r pethau nis gwyddant: a pha bethau bynnag y maent yn anianol, fel anifeiliaid direswm, yn eu gwybod, yn y rhai hynny ymlygru y maent.

1:11 Gwae hwynt-hwy! oblegid hwy a gerddasant yn ffordd Cain, ac a'u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam, ac a'u difethwyd yng ngwrthddywediad Core.

1:12 Y rhai hyn sydd frychau yn eich cariad-wleddoedd chwi, yn cydwledda â chwi, yn ddi-ofn yn eu pesgi eu hunain: cymylau di-ddwfr ydynt, a gylcharweinir gan wyntoedd; prennau diflanedig heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio;

1:13 Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; ser gwibiog, i'r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd.

1:14 Ac Enoch hefyd, y seithfed o Adda, a broffwydodd am y rhai hyn, gan ddywedyd, Wele, y mae'r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o'i saint,

1:15 I wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr argyhoeddi'r holl rai annuwiol ohonynt am holl weithredoedd eu hannuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol, ac am yr holl eiriau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid yn ei erbyn ef.

1:16 Y rhai hyn sydd rwgnachwyr, tuchanwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain; ac y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig, yn mawrygu wynebau dynion er mwyn budd.

1:17 Eithr chwi, O rai annwyl, cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd lesu Grist;

1:18 Ddywedyd ohonynt i chwi, y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain.

1:19 Y rhai hyn yw'r rhai sydd yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Ysbryd ganddynt.

1:20 Eithr chwychwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddio yn yr Ysbryd Glân,

1:21 Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol.

1:22 A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor:

1:23 Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o'r tân; gan gasau hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd.

1:24 Eithr i'r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp, a'ch gosod gerbron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd,

1:25 I'r unig ddoeth Dduw, ein Hiachawdwr ni, y byddo gogoniant a mawredd, gallu ac awdurdod, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.


 

DIWEDD

 

_____________________________________

Adolygiad diweddaraf: 2004-02-10, 2005-10-15

 

Sumbolau arbennig: ŷŵ

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwych ar fy ystadegau