Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. 2368k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_jeremeia_24_2368k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn


 (delw 0003)

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

 

 

Y Beibl Cysegr-lân : (24) Jeremeia

 

(delw 7282)


xxxx (ddim ar gael eto) Y tudalen hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

 

(Sganiad heb ei gywiro yw hwn, ac felly yn frith o wallau. Cyn hir gobeithio cawn ni gyfle i roi trefn arno)

(This is a scan which has not been corrected yet. There are many errors in the text)

 

1-14 wedi eu cywiro 2009-01-14


LLYFR Y PROFFWYD JEREMEIA


PENNOD 1

1:1 Geiriau Jeremeia mab Hilceia, o’r offeiriaid y rhai oedd yn Anathoth,  o fewn tir Benjamin:

1:2 Yr hwn y daeth gair yr ARGLWYDD ato, yn nyddiau Joseia mab Amon brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o’i deyrnasiad ef.

1:3 Ac fe ddaeth yn nyddiau Jehoiacim Blab Joseia brenin Jwda, nes darfod un flynedd ar ddeg i Sedeceia mab Joseia brenin Jwda, hyd ddygiad Jerwsalem i gaethiwed yn y pumed mis.

1:4 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

1:5 Cyn i mi dy lunio di yn y groth, mi a’th adnabûm; a chyn dy ddyfod o’r groth, y sancteiddiais di; a mi a’th roddais yn broffwyd i’r cenhedloedd.

1:6 Yna y dywedais, O Arglwydd DDUW, wele, ni fedraf ymadrodd; canys bachgen ydwyf fi.

1:7 Ond yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Na ddywed, Bachgen ydwyf fi: canys ti a ei at y rhai oll y’th anfonwyf, a’r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi.

1:8 Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: Canys yr ydwyf fi gyda thi i’th waredu, medd yr ARGLWYDD.

1:9 Yna yr estynnodd yr ARGLWYDD ei law, ac a gyffyrddodd â’m genau. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di.

1:10 Gwêl, heddiw y’th osodais ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddistrywio, i adeiladu, ac i blannu.

1:11 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Jeremeia, beth a weli di? Minnau a ddywedais, Gwialen almon a welaf fi.

1:12 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Da y gwelaist; canys mi a brysuraf fy ngair i’w gyflawni.

1:13 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf yr ail waith, gan ddywedyd, Beth a weli di? A mi a ddywedais. Mi a welaf grochan berwedig, a’i wyneb tua’r gogledd.

1:14 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, O’r gogledd y tyr drwg allan ar holl drigolion y tir.

1:15 Canys wele, myfi a alwaf holl deuluoedd teyrnasoedd y gogledd, medd yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant, ac a osodant bob un ei orseddfainc wrth ddrws porth Jerwsalem, ac yn erbyn ei muriau oll o amgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda.

1:16 A mi a draethaf fy marnedigaethau yn eu herbyn, am holl anwiredd y rhai a’m gadawsant, ac a arogl-darthasant i dduwiau eraill, ac a addolasant weithredoedd eu dwylo eu hunain.

1:17 Am hynny gwregysa dy lwynau, a chyfod, a dywed wrthynt yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti: na arswyda eu hwynebau, rhag i mi dy ddistrywio di ger eu bron hwynt.

1:18 Canys wele, heddiw yr ydwyf yn dy roddi di yn ddinas gaerog, ac yn golofn haearn, ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda, yn erbyn ei thywysogion, yn erbyn ei hoffeiriaid, ac yn erbyn pobl y tir.

1:19 Ymladdant hefyd yn dy erbyn, ond ni’th orchfygant: canys myfi sydd gyda thi i’th ymwared, medd yr ARGLWYDD.

PENNOD 2

2:1
A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd,

2:2 Cerdda, a llefa yng nghlustiau Jerw­salem, gan ddywedyd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD. Cofiais di, caredigrwydd dy ieuenctid, a serch dy ddyweddi, pan y’m canlynaist yn y diffeithwch, mewn tir ni heuwyd.

2:3 Israel ydoedd sancteiddrwydd i’r ARGLWYDD, a blaenffrwyth ei gnwd ef: pawb oll a’r a’i bwytao, a bechant; drwg a ddigwydd iddynt, medd yr ARGLWYDD.

2:4 Gwrandewch air yr ARGLWYDD, tŷ Jacob, a holl deuluoedd tŷ Israel.

2:5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pa anwiredd a gafodd eich tadau chwi ynof fi, gan iddynt ymbellhau oddi wrthyf, a rhodio ar ôl oferedd, a myned yn ofer?

2:6 Ac ni ddywedant, Pa le y mae yr AR­GLWYDD a’n dug ni i fyny o dir yr Aifft; a’n harweiniodd trwy yr anialwch; trwy dir diffaith, a phyllau; trwy dir sychder, a chysgod angau; trwy dir nid aeth gŵr trwyddo, ac ni thrigodd dyn ynddo?

2:7 Dygais chwi hefyd i wlad gnydfawr, i fwyta ei ffrwyth a’i daioni: eithr pan ddaethoch i mewn, halogasoch fy nhir i, a gwnaethoch fy etifeddiaeth i yn ffieidd-dra.

2:8 Yr offeiriaid ni ddywedasant, Pa le y mae yr ARGLWYDD? a’r rhai sydd yn trin y gyfraith nid adnabuant fi: y bugeiliaid hefyd a droseddasant i’m herbyn, a’r proffwydi a broffwydasant yn enw Baal, ac a aethant ar ôl y pethau ni wnaent lesâd.

2:9 Oblegid hyn, mi a ddadleuaf a chwi eto, medd yr ARGLWYDD; ie, dadleuaf â meibion eich meibion chwi.

2:10 Canys ewch dros ynysoedd Chittim, ac edrychwch; a danfonwch i Cedar, ac ystyriwch yn ddiwyd, ac edrychwch a fu y cyfryw beth.

2:11 A newidiodd un genedl eu duwiau, a hwy heb fod yn dduwiau? eithr fy mhobl i a newidiodd eu gogoniant am yr hyn ni wna lesâd.

2:12 O chwi nefoedd, synnwch wrth hyn, ac ofnwch yn aruthrol, a byddwch anghyfannedd iawn, medd yr ARGLWYDD.

 

2:13 Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl; hwy a’m gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau, ie, pydewau wedi eu torri, ni ddaliant ddwfr.

2:14 Ai gwas ydyw Israel? ai gwas a anwyd yn tŷ yw efe? paham yr ysbeiliwyd ef?

2:15  Y llewod ieuainc a ruasant arno, ac a leisiasant; a’i dir ef a osodasant yn anrhaith, a’i ddinasoedd a losgwyd heb drigiannydd.

2:16 Meibion Noff hefyd a Thahapanes a dorasant dy gorun di.

2:17 Onid tydi a beraist hyn i ti dy hun, am wrthod ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, pan ydoedd efe yn dy arwain ar hyd y ffordd?

2:18 A’r awr hon, beth sydd i ti a wnelych yn ffordd yr Aifft, i yfed dwfr Nilus? a pheth sydd i ti yn ffordd Asyria, i yfed dwfr yr afon?

2:19 Dy ddrygioni dy hun a’th gosba di, a’th wrthdro a’th gerydda: gwybydd dithau a gwêl, mai drwg a chwerw ydyw gwrthod ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, ac nad ydyw fy ofn i ynot ti, medd Ar­glwydd DDUW y lluoedd.

2:20 Oblegid er ys talm mi a dorrais dy iau di, ac a ddrylliais dy rwymau; a thi a ddywedaist, Ni throseddaf; er hynny ti a wibiaist, gan buteinio ar bob bryn uchel, a than bob pren deiliog.

2:21 Eto myfi a’th blanaswn yn bêr winwydden, o’r iawn had oll: pa fodd gan hynny y’th drowyd i mi yn blanhigyn afrywiog gwinwydden ddieithr?

2:22 Canys pe byddai i ti ymolchi â nitr, a chymryd i ti lawer o sebon; eto nodwyd dy anwiredd ger fy mron i, medd yr Ar­glwydd DDUW.

2:23 Pa fodd y dywedi, Ni halogwyd fi, ac nid euthum ar ôl Baalim? Edrych dy ffordd yn y glyn, gwybydd beth a wnaethost; camel buan ydwyt yn amgylchu ei ffyrdd.

2:24 Asen wyllt wedi ei chynefino â’r anialwch, wrth ddymuniad ei chalon yn yfed gwynt, wrth ei hachlysur pwy a’i try ymaith? pawb a’r a’i ceisiant hi, nid ymflinant; yn ei mis y cânt hi.

2:25 Cadw dy droed rhag noethni, a’th geg rhag syched. Tithau a ddywedaist, Nid oes obaith. Nac oes: canys cerais ddieithriaid, ac ar eu hôl hwynt yr af fi.

2:26 Megis y cywilyddia lleidr pan ddalier ef, felly y cywilyddia tŷ Israel, hwynt-hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, a’u hoffeiriaid, a’u proffwydi;

2:27 Y rhai a ddywedant wrth bren, Tydi yw fy nhad; ac wrth garreg, Ti a’m cenhedlaist. Canys hwy a droesant ataf wegil, ac nid wyneb: ond yn amser eu hadfyd y dywedant, Cyfod, a chadw ni.

2:28 Eithr pa le y mae dy dduwiau, y rhai a wnaethost i ti? codant, os gallant dy gadw yn amser dy adfyd: canys wrth rifedi dy ddinasoedd y mae dy dduwiau di, O Jwda.

2:29 Paham yr ymddadleuwch â mi? chwi oll a droseddasoch i’m herbyn, medd yr ARGLWYDD.

2:30 Yn ofer y trewais eich plant chwi, ni dderbyniasant gerydd: eich cleddyf eich hun a ddifaodd eich proffwydi, megis llew yn distrywio.

2:31 O genhedlaeth, gwelwch air yr ARGLWYDD: A fûm i yn anialwch i Israel? yn dir tywyllwch? paham y dywed fy mhobl, Arglwyddi ydym ni, ni ddeuwn ni mwy atat ti?

2:32 A anghofia morwyn ei harddwisg? neu y briodasferch ei thlysau? eto fy mhobl i a’m hanghofiasant ddyddiau aneirif.

2:33 Paham yr wyt ti yn cyweirio dy ffordd i geisio cariad? am hynny hefyd y dysgaist dy ffyrdd i rai drygionus.

2:34 Hefyd yn dy odre di y cafwyd gwaed eneidiau y tlodion diniwed; nid wrth chwilio y cefais hyn, eithr ar y rhai hyn oll.

2:35 Eto ti a ddywedi. Am fy mod yn ddiniwed, yn ddiau y try ei lid ef oddi wrthyf. Wele, dadleuaf â thi, am ddywedyd ohonot, Ni phechais.

2:36 Paham y gwibi di gymaint i newidio dy ffordd? canys ti a waradwyddir oherwydd yr Aifft, fel y’th waradwyddwyd oherwydd Asyria.

2:37 Hefyd ti a ddeui allan oddi wrtho, a’th ddwylo ar dy ben: oblegid yr AR­GLWYDD a wrthododd dy hyder di, ac ni lwyddi ynddynt.

PENNOD 3

3:1
Hwy a ddywedant, O gyr gŵr ei wraig ymaith, a myned ohoni oddi wrtho ef, ac iddi fod yn eiddo gŵr arall, a ddychwel efe ati hi mwyach? oni
lwyr halogir y tir hwnnw? ond ti a buteiniaist gyda chyfeillion lawer; eto dychwel ataf fi, medd yr ARGLWYDD.

3:2 Dyrchafa dy lygaid i’r lleoedd uchel, ac edrych pa le ni phuteiniaist. Ti a eisteddaist ar y ffyrdd iddynt hwy, megis Arabiad yn yr anialwch; ac a halogaist y tir a’th buteindra, ac a’th ddrygioni.

3:3 Am hynny yr ataliwyd y cafodydd, ac ni bu glaw diweddar; a thalcen puteinwraig oedd i ti; gwrthodaist gywilyddio.

3:4 Oni lefi di arnaf fi o hyn allan, Fy nhad, ti yw tywysog fy ieuenctid?
.

3:5 A ddeil efe ei ddig byth? a’i ceidw yn dragywydd? Wele, dywedaist a gwnaethost yr hyn oedd ddrwg hyd y gellaist.

3:6 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf yn amser Joseia y brenin, A welaist ti hyn a wnaeth Israel wrthnysig? Hi a aeth i bob mynydd uchel, a than bob pren deiliog, ac a buteiniodd yno.

3:7 A mi a ddywedais, wedi iddi wneuthur hyn i gyd, Dychwel ataf fi. Ond ni ddychwelodd. A Jwda ei chwaer anffyddlon hi a welodd hynny.

3:8 A gwelais yn dda, am yr achosion oll y puteiniodd Israel wrthnysig, ollwng ohonof hi ymaith, ac a roddais iddi ei llythyr ysgar: er hyn ni ofnodd Jwda ei chwaer anffyddlon; eithr aeth a phuteiniodd hithau hefyd.

3:9 A chan ysgafnder ei phuteindra yr halogodd hi y tir; canys gyda’r maen a’r pren y puteiniodd hi.

3:10 Ac er hyn oll hefyd ni ddychwelodd Jwda ei chwaer anffyddlon ataf fi â’i holl galon, eithr mewn rhagrith, medd yr ARGLWYDD.

3:11 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Israel wrthnysig a’i cyfiawnhaodd ei hun rhagor Jwda anffyddlon.

3:12 Cerdda, a chyhoedda y geiriau hyn tua’r gogledd, a dywed, Ti Israel wrthnysig, dychwel, medd yr ARGLWYDD, ac ni adawaf i’m llid syrthio arnoch: canys trugarog ydwyf fi, medd yr AR­GLWYDD, ni ddaliaf lid yn dragywydd.

3:13 Yn unig cydnebydd dy anwiredd, droseddu ohonot yn erbyn yr ARGLWYDD dy DDUW, a gwasgaru ohonot dy ffyrdd i ddieithriaid dan bob pren deiliog, ac ni wrandawech ar fy llef, medd yr AR­GLWYDD
.

3:14 Trowch, chwi blant gwrthnysig, medd yr ARGLWYDD; canys myfi a’ch priodais chwi: a mi a’ch cymeraf chwi, un o ddinas, a dau o deulu, ac a’ch dygaf chwi i Seion:

3:15 Ac a roddaf i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, y rhai a’ch porthant chwi a gwybodaeth, ac a deall.

3:16 Ac wedi darfod i chwi amlhau a chynyddu ar y ddaear, yn y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD, ni ddywed­ant mwy. Arch cyfamod yr ARGLWYDD; ac ni feddwl calon amdani, ac ni chofir hi; nid ymwelant â hi chwaith, ac ni wneir hynny mwy.

3:17 Yn yr amser hwnnw y galwant Jerwsalem yn orseddfa yr ARGLWYDD; ac y cesglir ati yr holl genhedloedd, at enw yr ARGLWYDD, i Jerwsalem: ac ni rodiant mwy yn ôl cildynrwydd eu calon ddrygionus.

3:18 Yn y dyddiau hynny y rhodia tŷ Jwda gyda thŷ Israel, a hwy a ddeuant ynghyd, o dir y gogledd, i’r tir a roddais i yn etifeddiaeth i’ch tadau chwi.

3:19 Ond mi a ddywedais. Pa fodd y’th osodaf ymhlith y plant, ac y rhoddaf i ti dir dymunol, sef etifeddiaeth ardderchog lluoedd y cenhedloedd? ac a ddywedais, Ti a elwi arnaf fi, Fy nhad, ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl i.

3:20 Yn ddiau fel yr anffyddlona gwraig oddi wrth ei chyfaill; felly, tŷ Israel, y buoch anffyddlon i mi, medd yr ARGLWYDD .

3:21 Llef a glywyd yn y mannau uchel, wylofain a dymuniadau meibion Israeli: canys gwyrasant eu ffordd, ac anghofiasant yr ARGLWYDD eu Duw.

3:22 Ymchwelwch, feibion gwrthnysig, a mi a iachâf eich gwrthnysigrwydd chwi. Wele ni yn dyfod atat ti; oblegid ti yw yr ARGLWYDD ein Duw.

3:23 Diau fod yn ofer ymddiried am help o’r bryniau, ac o liaws y mynyddoedd: diau fod iachawdwriaeth Israel yn yr ARGLWYDD ein Duw ni.

3:24 Canys gwarth a ysodd lafur ein tadau o’n hieuenctid; eu defaid a’u gwartheg, eu meibion a’u merched.

3:25 Gorwedd yr ydym yn ein cywilydd, a’n gwarth a’n todd ni: canys yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw y pechasom, nyni a’n tadau, o’n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr ARGLWYDD ein Duw.

PENNOD 4

4:1
Israel, os dychweli, dychwel ataf fi, medd yr ARGLWYDD: hefyd os rhoi heibio dy ffieidd-dra oddi ger fy mron, yna ni’th symudir.

4:2 A thi a dyngi, Byw yw yr ARGLWYDD, mewn gwirionedd, mewn barn, ac mewn cyfiawnder: a’r cenhedloedd a ymfendithiant ynddo; ie, ynddo ef yr ymglodforant.

4:3 Canys fel hyn y dywed yr AR­GLWYDD wrth wŷr Jwda, ac wrth Jerw­salem: Braenerwch i chwi fraenar, ac na heuwch mewn drain.

4:4 Ymenwaedwch i’r ARGLWYDD, a rhoddwch heibio ddienwaediad eich calon, chwi gwŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem: rhag i’m digofaint ddyfod allan fel tân, a llosgi fel na byddo diffoddydd, oherwydd drygioni eich amcanion.

4:5 Mynegwch yn Jwda, a chyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch, Utgenwch utgorn yn y tir: gwaeddwch, ymgesglwch, a dywedwch, Ymgynullwch, ac awn i’r dinasoedd caerog.

4:6 Codwch faner tua Seion; ffowch, ac na sefwch; canys mi a ddygaf ddrwg o’r gogledd, a dinistr mawr.

4:7 Y llew a ddaeth i fyny o’i loches, a difethwr y Cenhedloedd a gychwynnodd, ac a aeth allan o’i drigle, i wneuthur dy dir yn orwag; a’th ddinasoedd a ddinistrir heb drigiannydd.

4:8 Am hyn ymwregyswch â lliain sach; galerwch ac udwch: canys angerdd llid yr ARGLWYDD ni throes oddi wrthym ni.

4:9 Ac yn y dydd hwnnw, medd yr AR­GLWYDD, y derfydd am galon y brenin, ac am galon y penaethiaid: yr offeiriaid hefyd a synnant, a’r proffwydi a ryfeddant.

4:10 Yno y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, yn sicr gan dwyllo ti a dwyllaist y bobl yma a Jerwsalem, gan ddywedyd, Bydd heddwch i chwi; ac eto fe ddaeth y cleddyf hyd at yr enaid.

4:11 Yn yr amser hwnnw y dywedir wrth y bobl hyn, ac wrth Jerwsalem, Gwynt sych yr uchel leoedd yn y diffeithwch tua merch fy mhobl, nid i nithio, ac nid i buro;

4:12 Gwynt llawn o’r lleoedd hynny a ddaw ataf fi: weithian hefyd myfi a draethaf farn yn eu herbyn hwy.

4:13 Wele, megis cymylau y daw i fyny, a’i gerbydau megis corwynt: ei feirch sydd ysgafnach na’r eryrod. Gwae nyni! Canys ni a anrheithiwyd.

4:14 O Jerwsalem, golch dy galon oddi wrth ddrygioni, fel y byddech gadwedig: pa hyd y lletyi o’th fewn goeg amcanion?

4:15 Canys llef sydd yn mynegi allan o Dan, ac yn cyhoeddi cystudd allan o fynydd Effraim.

4:16 Coffewch i’r cenhedloedd, wele, cyhoeddwch yn erbyn Jerwsalem, ddyfod gwylwyr o wlad bell, a llefaru yn erbyn dinasoedd Jwda.

4:17 Megis ceidwaid maes y maent o amgylch yn ei herbyn; am iddi fy niclloni, medd yr ARGLWYDD.

4:18 Dy ffordd di a’th amcanion a wnaethant hyn i ti: dyma dy ddrygioni di, am ei fod yn chwerw, am ei fod yn cyrhaeddyd hyd at dy galon di.

4:19 Fy mol, fy mol; gofidus wyf o barwydennau fy nghalon; mae fy nghalon yn terfysgu ynof: ni allaf dewi, am i ti glywed sain yr utgorn, O fy enaid, a gwaedd rhyfel.

4:20 Dinistr ar ddinistr a gyhoeddwyd; canys yr holl dir a anrheithiwyd: yn ddisymwth y distrywiwyd fy lluestai i, a’m cortenni yn ddiatreg.

4:21 Pa hyd y gwelaf faner, ac y clywaf sain yr utgorn?

4:22 Canys y mae fy mhobl i yn ynfyd heb fy adnabod i, meibion angall ydynt, ac nid deallgar hwynt: y maent yn synhwyrol i wneuthur drwg, eithr gwneuthur da ni fedrant.

4:23 Mi a edrychais ar y ddaear, ac wele, afluniaidd a gwag oedd; ac ar y nefoedd, a goleuni nid oedd ganddynt.

4:24 Mi a edrychais ar y mynyddoedd, ac wele, yr oeddynt yn crynu; a’r holi fryniau a ymysgydwent.

4:35 Mi a edrychais, ac wele, nid oedd dyn, a holl adar y nefoedd a giliasent.

4:26 Mi a edrychais, ac wele y doldir yn anialwch, a’i holl ddinasoedd a ddistrywiasid o flaen yr ARGLWYDD, gan lidiowgrwydd ei ddicter ef.

4:27 Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Y tir oll fydd diffeithwch: ac eto ni wnaf ddiben.

4:28 Am hynny y galara y ddaear, ac y tywylla y nefoedd oddi uchod: oherwydd dywedyd ohonof fi. Mi a’i bwriedais, ac ni bydd edifar gennyf, ac ni throaf oddi wrtho.

4:29 Rhag trwst y gwŷr meirch a’r saethyddion y ffy yr holl ddinas; hwy ânt i’r drysni, ac a ddringant ar y creigiau: yr holl ddinasoedd a adewir, ac heb neb a drigo ynddynt.

4:30 A thithau yr anrheithiedig, beth a wnei? Er ymwisgo ohonot ag ysgarlad, er i ti ymdrwsio â thlysau aur, er i ti liwio dy wyneb â lliwiau, yn ofer y’th wnei dy hun yn deg; dy gariadau a’th ddirmygant, ac a geisiant dy einioes.

4:31 Canys clywais lef megis gwraig yn esgor, cyfyngder fel benyw yn esgor ar ei hetifedd cyntaf, llef merch Seion yn ochain, ac yn lledu ei dwylo, gan ddywedyd, Gwae fi yr awr hon! oblegid diffygiodd fy enaid gan leiddiaid.

PENNOD 5

5:1
Rhedwch yma a thraw ar hyd heolydd Jerwsalem, ac edrychwch yr awr hon, mynnwch wybod hefyd, a cheisiwch yn ei heolydd hi, o chewch ŵr, a oes a wnei farn, a gais wirionedd, a myfi a’i harbedaf hi.

5:2 Ac er dywedyd ohonynt, Byw yw yr ARGLWYDD, eto yn gelwyddog y tyngant.

5:3 O ARGLWYDD, onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di? ti a’u trewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd: hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig, gwrthodasant ddychwelyd.

5:4 A mi a ddywedais, Yn sicr tlodion ydyw y rhai hyn, ynfydion ydynt: canys nid adwaenant ffordd yr ARGLWYDD, na barn eu Duw.

5:5 Mi a af rhagof at y gwŷr mawr, ac a ymddiddanaf â hwynt; canys hwy a-wybuant ffordd yr ARGLWYDD, a barn eu Duw: eithr y rhai hyn a gyd-dorasant yr iau, ac a ddrylliasant y rhwymau.

5:6 Oblegid hyn llew o’r coed a’u tery hwy, blaidd o’r anialwch a’u distrywia hwy, llewpard a wylia ar eu dinasoedd hwy: pawb a’r a ddêl allan ohonynt a rwygir: canys eu camweddau a amlhasant   eu gwrthdrofeydd a chwanegasant.

5:7 Pa fodd y’th arbedwn am hyn? dy blant a’m gadawsant i, ac a dyngasant i’r rhai nid ydynt dduwiau: a phan ddiwellais hwynr, gwnaethant odineb, ac a heidiasant i dŷ y butain.

5:8 Oeddynt fel meirch porthiannus y bore, gweryrent bob un ar wraig ei gymydog.

5:9 Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr ARGLWYDD: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?

5:10 Dringwch ar ei muriau hi, a distrywiwch, ond na orffennwch yn llwyr: tynnwch ymaith ei murganllawiau hi: canys nid eiddo’r ARGLWYDD ydynt.

5:11 Oblegid tŷ Israel a thŷ Jwda a wnaethant yn anffyddlon iawn â mi, medd yr ARGLWYDD.

5:12 Celwyddog fu.mt yn erbyn yr AR­GLWYDD, a dywedasant, Nid efe yw; ac ni ddaw drygfyd arnom, ac ni welwn gleddyf na newyn:

5:13 A’r proffwydi a fuant fel gwynt, a’r gair nid yw ynddynt: fel hyn y gwneir iddynt hwy.

5:14 Am hynny fel hyn y dywed AR­GLWYDD DDUW y lluoedd, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, wele fi yn rhoddi fy ngeiriau yn dy enau di yn dân, a’r bobl hyn yn gynnud, ac efe a’u difa hwynt.

5:15 Wele, mi a ddygaf arnoch chwi, tŷ Israel, genedl o bell, medd yr ARGLWYDD; cenedl nerthol ydyw, cenedl a fu er ys talm, cenedl ni wyddost ei hiaith, aco ni ddeelli beth a ddywedant.

5:16 Ei chawell saethau hi sydd fel bedd agored, cedyrn ydynt oll.

5:17 A hi a fwyty dy gynhaeaf di, a’th fara, yr hwn a gawsai dy feibion di a’th ferched ei fwyta: hi a fwyty dy ddefaid di a’th wartheg; hi a fwyty dy winwydd a’th  ffigyswydd: dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt, a dioda hi â’r cleddyf  .

5:18 Ac er hyn, yn y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD, ni wnaf fi gwbl ben â chwi.

5:19 A bydd pan ddywedoch, Paham y gwna yr ARGLWYDD ein Duw hyn oll i ni? ddywedyd ohonot tithau wrthynt, Megis y gwrthodasoch fi, ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tir eich hun; felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tir ni byddo eiddo chwi.

5:20 Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, a chyhoeddwch hyn yn Jwda, gan ddy­wedyd,

5:21 Gwrando hyn yn awr, ti bobl ynfyd ac heb ddeall; y rhai y mae llygaid iddynt, ac ni welant; a chlustiau iddynt, ac ni chlywant:

5:22 Onid ofnwch chwi fi? medd yr ARGLWYDD: oni chrynwch rhag fy mron, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i’r môr trwy ddeddf dragwyddol, fel nad elo dros hwnnw; er i’r tonnau ymgyrchu, eto ni thycia iddynt; er iddynt derfysgu, eto ni ddeuant dros hwnnw?

5:23 Eithr i’r bobl hyn y mae calon wrthnysig ac anufuddgar: hwynt-hwy a giliasant, ac a aethant ymaith.

5:24 Ac ni ddywedant yn eu calon, Ofnwn weithian yr ARGLWYDD ein Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r glaw cynnar a’r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf.

5:25 Eich anwireddau chwi a droes heibio y rhai hyn, a’ch pechodau chwi a ataliasant ddaioni oddi wrthych.

5:26 Canys ymysg fy mhobl y ceir anwiriaid, y rhai a wyliant megis un yn gosod maglau: gosodant offer dinistr, dynion a ddaliant.

 

5:27 Fel cawell yn llawn o adar, felly y mae eu tai hwynt yn llawn o dwyll: am hynny y cynyddasant, ac yr ymgyfoethogasant.

5:28 Tewychasant, disgleiriasant, aethant hefyd tu hwnt i weithredoedd y drygionus; ni farnant farn yr amddifad, eto ffynasant; ac ni farnant farn yr anghenus.

5:29 Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr ARGLWYDD; oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl a hon?

5:30 Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir:

5:31 Y proffwydi a broffwydant gelwydd, yr offeiriaid hefyd a lywodraethant trwy eu gwaith hwynt; a’m pobl a hoffant hynny: eto beth a wnewch yn niwedd hyn?

PENNOD 6

6:1
Ymgynullwch i ffoi, meibion Benjamin, o ganol Jerwsalem, ac yn Tecoa utgenwch utgom; a chodwch ffagl yn Beth-haccerem: canys drwg a welir o’r gogledd, a dinistr mawr.

6:2 Cyffelybais ferch Seion i wraig deg foethus. .

6:3 Ati hi y daw y bugeiliaid â’u diadellau: yn ei herbyn hi o amgylch y gosodant eu pebyll; porant bob un yn ei le.

6:4 Paratowch ryfel yn ei herbyn hi; codwch, ac awn i fyny ar hanner dydd. Gwae ni! oherwydd ciliodd y dydd, canys cysgodau yr hwyr a ymestynasant.:

6:5 Codwch, ac awn i fyny o hyd nos, a distrywiwn ei phalasau hi.

6:6 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Torrwch goed, a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem. Dyma y ddinas sydd i ymweled â  hi, gorthrymder yw hi oll o’i mewn.

6:7 Megis y gwna ffynnon i’w dwfr darddu allan, felly y mae hi yn bwrw allan ei drygioni: trais ac ysbail a glywir ynddi; gofid a dyrnodiau sydd yn wastad ger fy mron.

6:8 Cymer addysg, O Jerwsalem, rhag i’m henaid i ymado oddi wrthyt; rhag i mi dy osod di yn anrhaith, yn dir anghyf-aniieddol.

6:9 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Gan loffa y lloffant weddill Israel fel gwinwydden; tro dy law yn ei hôl, megis casglydd grawnwin i’r basgedau.

6:10 Wrth bwy y dywedaf fi, a phwy a rybuddiaf, fel y clywant? Wele, eu clusthwy sydd ddienwaededig, ac ni allant wrando: wele, dinnygus ganddynt air yr ARGLWYDD; nid oes ganddynt ewyllys iddo.

6:11 Am hynny yr ydwyf fi yn llawn o lid yr ARGLWYDD, bhnais yn ymatal: tywallt-af ef ar y plant yn yr heol, ac ar gynull-eidfa y gwŷr ieuainc hefyd: canys y gŵr a’r wraig a ddelir, yr henwr a’r llawn o ddyddiau.

6:12 A’u tai a ddigwyddant i eraill, eu meysydd a’u gwragedd hefyd: canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad, medd yr ARGLWYDD.

6:13 Oblegid o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd  dod: ac o’r proffwyd hyd yr offeiriad, pob un sydd yn gwneuthur ffalster.

6:14 A hwy a iachasant friw merch fy mhobl i yn esmwyth, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; er nad oedd heddwch.

6:15 A ydoedd arnynt hwy gywilydd pan wnelent ffieidd-dra? nid ydoedd arnynt hwy ddim cywilydd, ac ni fedrent wrido: am hynny y cwympant ymysg y rhai a gwympant, yn yr amser yr ymwelwyf â hwynt y cwympant, medd yr ARGLWYDD.

6:16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sefwch ar y ffyrdd, ac edrychwch, a gofynnwch am yr hen lwybrau, lle mae ffordd dda, a rhodiwch ynddi; a chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau. Ond hwy a ddywedasant, Ni rodiwn ni ynddi.

6:17 A mi a osodais wylwyr arnoch chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ar sain yr utgorn. Hwythau a ddywedasant, Ni wrandawn ni ddim.

6:18 Am hynny clywch, genhedloedd: a thi gynulleidfa, gwybydd pa bethau sydd yn eu plith hwynt.

6:19 Gwrando, tydi y ddaear; wele fi yn dwyn drygfyd ar y bobl hyn, sef ffrwyth eu meddyliau eu hunain; am na wrandawsant ar fy ngeiriau, na’m cyfraith, eithr gwrthodasant hi.

6:20 I ba beth y daw i mi thus o Seba, a chalamus peraidd o wlad bell? eich poethoffrymau nid ydynt gymeradwy, ac nid melys eich aberthau gennyf.

6:21 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn rhoddi tramgwyddiadau i’r bobl hyn, fel y tramgwyddo wrthynt y tadau a’r meibion ynghyd; cymydog a’i gyfaill a ddifethir.

6:22 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele bobl yn dyfod o dir y gogledd, a chenedl fawr a gyfyd o ystlysau y ddaear.

6:23 Yn y bwa a’r waywffon yr ymaflant; creulon ydynt, ac ni chymerant drugaredd: eu llais a rua megis y môr, ac ar feirch y marchogant yn daclus, megis gwŷr i ryfel yn dy erbyn di, merch Seion.

6:24 Clywsom sôn amdanynt; ein dwylo a laesasant, blinder a’n daliodd, fel gofid gwraig yn esgor.

6:25 Na ddos allan i’r maes, ac na rodia ar hyd y ffordd: canys cleddyf y gelyn ac arswyd sydd oddi amgylch.

6:26  Merch fy mhobl, ymwregysa â sachliain, ac ymdroa yn y lludw; gwna i ti gwynfan a galar tost, megis am unig fab: canys y distrywiwr a ddaw yn ddisymwth arnom ni.

6:27 Mi a’th roddais di yn dŵr ac yn gadernid ymysg fy mhobl, i wybod ac i brofi eu ffordd hwy.

6:28 Cyndyn o’r fath gyndynnaf ydynt oll, yn rhodio ag enllib; efydd a haearn ynt; llygru y maent hwy oll.

6:29 Llosgodd y fegin; gan dân y darfu y plwm; yn ofer y toddodd y toddydd: canys ni thynnwyd y rhai drygionus ymaith.

6:30 Yn arian gwrthodedig y galwant hwynt; am wrthod o’r ARGLWYDD hwynt.

PENNOD 7

7:1
Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddy­wedyd, 

7:2 Saf di ym mhorth tŷ  yr ARGLWYDD, a chyhoedda y gair hwn yno, a dywed, Gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi holl Jwda, y rhai a ddeuwch i mewn trwy y pyrth hyn i addoli yr ARGLWYDD.

7:3 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Gwellhewch eich ffyrdd, a’ch gweithredoedd; ac mi a wnaf i chwi drigo yn y man yma. 

7:4 Nac ymddiriedwch mewn geiriau celwyddog, gan ddywedyd, Teml yr ARGLWYDD, teml yr ARGLWYDD, teml yr ARGLWYDD ydynt.

7:5 Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd; os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a’i gymydog;

7:6 Ac ni orthrymwch y dieithr, yr amddi­fad, a’r weddw; ac ni thywelltwch waed gwirion yn y fan hon; ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr, i’ch niwed eich hun;

7:7 Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon, yn y tir a roddais i’ch tadau chwi, yn oes oesoedd.

7:8 Wele chwi yn ymddiried mewn geiriau celwyddog ni wnânt les.

7:9 Ai yn lladrata, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogl-darthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch;

7:10 Y deuwch ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn, yr hwn y gelwir fy enw i arno, ac y dywedwch, Rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd-dra hyn oll?

7:11 Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma, ar yr hwn y gelwir fy enw i, gerbron eich llygaid? wele, minnau a welais hyn, medd yr ARGLWYDD.

7:12 Eithr, atolwg, ewch i’m lle, yr hwn a fu yn Seilo, lle y gosodais fy enw ar y cyntaf, ac edrychwch beth a wneuthum i hwnnw, oherwydd anwiredd fy mhobl Israel.

7:13 Ac yn awr, am wneuthur ohonoch yr holl weithredoedd hyn, medd yr ARGLWYDD, minnau a leferais wrthych, gan godi yn fore, a llefaru, eto ni chlywsoch; a gelwais arnoch, ond nid atebasoch:

7:14 Am hynny y gwnaf i’r tŷ hwn y gelwir fy enw arno, yr hwn yr ydych yn ymddiried ynddo, ac i’r lle a roddais i chwi ac i’ch tadau, megis y gwneuthum i Seilo.

 

7:15 A mi a’ch taflaf allan o’m golwg, fel y teflais eich holl frodyr, sef holl had Effraim.

7:16 Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na ddyrchafa waedd na gweddi drostynt, ac nac eiriol arnaf: canys ni’th wrandawaf.

7:17 Oni weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur yn ninasoedd Jwda, ac yn  heolydd Jerwsalem? 

7:18 Y plant sydd yn casglu cynnud, a’r tadau yn cynnau tân., a’r gwragedd yn tylino toes, i wneuthur teisennau .i frenhines y nef, ac i dywallt diod-offrymau i dduwiau dieithr, i’m digio i.

7:19 Ai fi y maent hwy yn ei ddigio? medd yr ARGLWYDD: ai hwynt eu hun, er cywilydd i’w hwynebau eu hun?

7:20 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele, fy llid a’m digofaint a dywelltir ar y man yma, ar ddyn ac ar anifail, ar goed y maes, ac ar ffrwyth y ddaear; ac efe a lysg, ac nis diffoddir.

7:21 Fel hyn  y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Rhoddwch eich poethoffrymau at eich aberthau, a bwytewch gig.

7:22 Canys ni ddywedais i wrth eich tadau, ac ni orchmynnais iddynt, y dydd y dygais hwynt o dir yr Aifft, am boethoffrymau neu aberthau:

7:23 Eithr y peth hyn a orchmynnais iddynt, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a mi a fyddaf  DDUW i chwi, a chwithau fyddwch yn bobl i minnau; a rhodiwch yn yr holl ffyrdd a orchmyn­nais i chwi, fel y byddo yn ddaionus i chwi.

7:24 Eithr ni wrandawsant, ac ni ostyngasant eu clust, ond rhodiasant yn ôl cynghorion a childynrwydd eu calon ddrygionus, ac aethant yn ôl, ac nid ymlaen.

7:25 O’r dydd y daeth eich tadau chwi allan o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn, mi a ddanfonais atoch fy holl wasanaethwyr y proffwydi, bob dydd’gan foregofli, ac anfon:
 

7:26 Er hynny ni wrandawsant arnaf fi, ac ni ostyngasant eu dust, eithr  caledasant eu gwarrau; gwnaethant yn waeth na’u tadau.

7:27 Am hynny ti a ddywedi y geiriau hyn oll wrthynt; ond ni wrandawant arnat: gelwi hefyd arnynt; ond nid atebant di.

7:28 Eithr ti a ddywedi wrthynt, Dyma genedl ni wrendy ar lais yr ARGLWYDD ei Duw, ac ni dderbyn gerydd: darfu am y gwirionedd, a thorrwyd hi ymaith o’u genau hwynt.

7:29 Cneifia dy wallt, O Jerwsalem, a bwrw i ffordd; a chyfod gwynfan ar y lleoedd uchel: canys yr ARGLWYDD a fwriodd i ffordd ac a wrthododd genhedlaeth ei ddigofaint.

7:30 Canys meibion Jwda a wnaethant ddrwg yn fy ngolwg, medd yr ARGLWYDD: gosodasant eu ffieidd-dra yn y tŷ yr hwn y gelwir fy enw arno, i’w halogi ef.

7:31 A hwy a adeiladasant uchelfeydd Toffet, yr hon sydd yng nglyn mab Hinnom, i losgi eu meibion a’u merched yn tân, yr hyn ni orchmynnais, ac ni feddyliodd fy nghalon.

7:32 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, na elwir hi mwy Toffet, na glyn mab Hinnoin, namyn glyn lladdedigaeth; canys claddant o fewn Toffet, nes bod eisiau lle.

7:33 A bydd celanedd y bobl hyn yn fwyd i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear, ac ni bydd a’u tarfo.

7:34 Yna y gwnaf i lais llawenydd, a llais digrifwch, llais priodfab, a llais priodferch, ddarfod allan o ddinasoedd Jwda, ac o heolydd Jerwsalem; canys yn anrhaith y bydd y wlad.

PENNOD 8

8:1
Yn yr amser hwnnw, medd yr AR­GLWYDD, y dygant hwy esgyrn brenhinoedd Jwda, ac esgyrn ei dywysogion, ac esgyrn yr offeiriaid, ac esgyrn y proffwydi, ac esgyrn trigolion Jerw­salem, allan o’u beddau.

8:2 A hwy a’u taenant o flaen yr haul, ac o flaen y lleuad, a holl lu y nefoedd y rhai a garasant hwy, a’r rhai a wasanaethasant, a’r rhai y rhodiasant ar eu hôl, a’r rhai a geisiasant, a’r rhai a addolasant: ni chesglir hwynt, ac nis cleddir; yn domen ar wyneb y ddaear y byddant.

8:3 Ac angau a ddewisir o flaen bywyd gan yr holl weddillion a adewir o’r teulu drwg hwn, y rhai a adewir yn y lleoedd oll y gyrrais i hwynt yno, medd ARGLWYDD y lluoedd.

8:4 Ti a ddywedi wrthynt hefyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; A gwympant hwy, ac ni chodant? a dry efe ymaith, ac oni ddychwel?

8:5 Paham y ciliodd pobl Jerwsalem yma yn eu hôl ag encil tragwyddol? glynasant mewn twyll, gwrthodasant ddychwelyd;.

8:6 Mi a wrandewais ac a glywais, ond ni ddywedent yn iawn: nid edifarhaodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, Beth a wneuthum i? pob un oedd yn troi i’w yrfa, megis march yn rhuthro i’r frwydr.

8:7 Ie, y ciconia yn yr awyr a edwyn ei dymhorau; y durtur hefyd, a’r aran, a’r wennol, a gadwant amser eu dyfodiad; eithr fy mhobl i ni wyddant farn yr AR­GLWYDD.

8:8 Pa fodd y dywedwch, Doethion ydym ni, a chyfraith yr ARGLWYDD sydd gyda ni? wele, yn ddiau ofer y gwnaeth hi; ofer yw pin yr ysgrifenyddion.:

8:9 Y doethion a waradwyddwyd, a ddychrynwyd, ac a ddaliwyd: wele   gwrthodasant air yr ARGLWYDD; a pha ddoethineb sydd ynddynt?

8:10 Am hynny y rhoddaf eu gwragedd hwynt i eraill, a’u meysydd i’r rhai a’u meddianno: canys o’r lleiaf hyd y mwyaf, pob un sydd yn ymroi i gybydd-dod; o’r proffwyd hyd at yr offeiriad, pawb sydd yn gwneuthur ffalster.

8:11 Iachasant hefyd archoll merch fy mhobl yn ysgafn, gan ddywedyd, Heddwch, heddwch; pryd nad oedd heddwch.

8:12 A fu gywilydd arnynt hwy pan wnaethant ffieidd-dra? na fu ddim cywilydd arnynt, ac ni fedrasant wrido: am hynny y syrthiant ymysg y rhai a syrthiant: yn amser eu hymweliad y syrthiant, medd yr ARGLWYDD. 

8:13 Gan ddifa y difaf hwynt, medd yr ARGLWYDD; ni bydd grawnwin ar y winwydden, na ffigys ar y ffigysbren, a’r ddeilen a syrth; a’r hyn a roddais iddynt a ymedy â hwynt.

8:14 Paham yr ydym ni yn aros? ymgesglwch ynghyd, ac awn i’r dinasoedd cedyrn, a distawn yno: canys yr AR­GLWYDD ein Duw a’n gostegodd, ac a roes i ni ddwfr bustl  i’w yfed, oherwydd pechu ohonom yn erbyn yr ARGLWYDD.

8:15 Disgwyl yr oeddem am heddwch, eto ni ddaeth daioni; am amser meddyginiaeth, ac wele ddychryn.

8:16 O Dan y clywir ffroeniad ei feirch ef; gan lais gweryriad ei gedyrn ef y crynodd yr holl ddaear: canys hwy a ddaethant, ac a fwytasant y tir, ac oll a oedd ynddo; y ddinas a’r rhai sydd yn trigo ynddi.

8:17 Canys wele, mi a ddanfonaf seirff, asbiaid i’ch mysg, y rhai nid oes swyn rhagddynt: a hwy a’ch brathant chwi,  medd yr ARGLWYDD.

8:18   Pan ymgysurwn yn erbyn gofid,. fy nghalon sydd yn gofidio ynof.

8:19 Wele lais gwaedd merch fy mhobl, oblegid y rhai o wlad bell: Onid ydyw yr ARGLWYDD yn Seion? onid yw ei brenin hi ynddi? paham y’m digiasant a’u delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr?

8:20 Y cynhaeaf a aeth heibio, darfu yr haf, ac nid ydym ni gadwedig.

8:21 Am friw merch fy mhobl y’m briwyd i: galerais; daliodd synder fi.

8:22 Onid oes driagl yn Gilead? onid oes yno ffisigwr? paham na wellha iechyd merch fy mhobl?

PENNOD 9
 
9:1
O na bai fy mhen yn ddyfroedd, a’m llygaid yn ffynnon o ddagrau, fel yr wylwn ddydd a nos am laddedigion merch fy mhobl!

9:2 O na byddai i mi yn yr anialwch lety fforddolion, fel y gadawn fy mhobl, ac yr elwn oddi wrthynt! canys hwynt oll ydynt odinebus, a chymanfa anffyddloniaid.

9:3 A hwy a anelasant eu tafod fel eu bwa i gelwydd; ac nid at wirionedd yr ymgryfhasant ar y ddaear: canys aethant o ddrwg i ddrwg, ac nid adnabuant fi, medd yr ARGLWYDD.


9:4 Gochelwch bawb ei gymydog, ac na choelied neb ei frawd: canys pob brawd gan ddisodli a ddisodla, a phob cymydog a rodia yn dwyllodrus.

9:5 Pob un hefyd a dwylla ei gymydog, a’r gwir nis dywedant: hwy a ddysgasant eu tafodau i ddywedyd celwydd, ymfliniasant yn gwneuthur anwiredd.

9:6 Dy drigfan sydd yng nghanol twyll: oherwydd twyll y gwrthodasant fy adnabod i, medd yr ARGLWYDD.

9:7 Am hynny fel hyn y dywed AR­GLWYDD y lluoedd; Wele fi yn eu toddi hwynt, ac yn eu profi hwynt; canys pa wedd y gwnaf oherwydd merch fy mhobl?

9:8 Saeth lem yw eu tafod hwy, yn dywedyd twyll: â’i enau y traetha un heddwch with ei gymydog, eithr o’i fewn y gesyd gynllwyn iddo.

9:9 Onid ymwelaf â hwynt am hyn? medd yr ARGLWYDD: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?

9:10 Dros y mynyddoedd y codaf wylofain a chwynfan, a galar dros lanerchau yr anialwch; am eu llosgi hwynt, fel na thramwyo neb trwyddynt, ac na chlywir llais ysgrubliaid: adar y nefoedd a’r anifeiliaid hefyd a giliasant, aethant ymaith.

9:11 A mi a wnaf Jerwsalem yn garneddau   ac yn drigfan dreigiau; a dinasoedd Jwda a wnaf yn ddiffeithwch heb breswylydd.

9:12 Pa ŵr sydd ddoeth a ddeall hyn? a phwy y traethodd genau yr ARGLWYDD wrtho, fel y mynego paham y darfu am y tir, ac y llosgwyd fel anialwch heb gyniweirydd?

9:13 A dywedodd yr ARGLWYDD, Am wrthod ohonynt fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eu bron hwynt, ac na wrandawsant ar fy llef, na rhodio ynddi,

9:14 Eithr myned yn ôl cyndynrwydd eu calon eu hun, ac yn ôl Baalim, yr hyn a ddysgodd eu tadau iddynt:

9:15 Am hynny fel hyn y dywed AR­GLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Wele, mi a’u bwydaf hwynt, y bobl hyn, â wermod, ac a’u diodaf hwynt â dwfr bustl.

9:16 Gwasgaraf hwynt hefyd ymysg cenhedloedd nid adnabuant hwy na’u tadau: a mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf, hyd oni ddifethwyf hwynt.

9:17 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Edrychwch, a gelwch am alarwragedd i ddyfod, a danfonwch am y rhai cyfarwydd, i beri iddynt ddyfod,

 

9:18 A brysio, a chodi cwynfan amdanom ni, fel y gollyngo ein llygaid ni ddagrau, ac y difero ein hamrantau ni ddwfr.

9:19 Canys llais cwynfan a glybuwyd o Seion, Pa wedd y’n hanrheithiwyd! Ni a lwyr waradwyddwyd; oherwydd i ni adael y tir, oherwydd i’n trigfannau ein bwrw ni allan.

9:20 Eto gwrandewch air yr ARGLWYDD, O wragedd, a derbynied eich clust air ei enau ef; dysgwch hefyd gwynfan i’ch merched, a galar bob un i’w gilydd.

9:21 Oherwydd dringodd angau i’n ffenestri, ac efe a ddaeth i’n palasau, i ddistrywio y rhai bychain oddi allan, a’r gwŷr ieuainc o’r heolydd.

9:22 Dywed, Fel hyn y dywed yr AR­GLWYDD, Celaneddau dynion a syrthiant megis tom ar wyneb y maes, ac megis y dyrnaid ar ôl y medelwr, ac ni chynnull neb hwynt.

9:23  Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, ac nac ymffrostied y cryfyn ei gryfder, ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth;

9:24 Eithr y neb a ymffrostio, ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall, ac yn fy adnabod i, mai myfi yw yr ARGLWYDD a wna drugaredd, barn, a chyfiawnder, yn y ddaear: oherwydd yn y rhai hynny yr ymhyfrydais, medd yr ARGLWYDD.

9:25 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan ymwelwyf â phob enwaededig ynghyd â’r rhai dienwaededig;

9:26 A’r Aifft, ac â Jwda, ac ag Edom, ac â meibion Ammon, ac â Moab, ac â’r rhai oll sydd yn y cyrrau eithaf, a’r rhai a drigant yn yr anialwch: canys yr holl genhedloedd hyn sydd ddienwaededig, a holl dŷ Israel sydd â chalon ddienwaededig.

 


PENNOD 10

10:1 Gwrandewch y gair a ddywed yr ARGLWYDD wrthych chwi, tŷ Israel:


10:2  Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Na ddysgwch ffordd y cenhedloedd, ac nac ofnwch arwyddion y nefoedd: canys y cenhedloedd a’u hofnant hwy.


10:3  Canys   deddfau   y   bobloedd   sydd oferedd: oherwydd cymyna un bren o’r coed, gwaithllaw y saer, â bwyell.


10:4  Ag arian ac ag aur yr harddant ef; â hoelion ac â morthwylion y sicrhânt ef, fel na syflo.


10:5  Megis palmwydden, syth ydynt hwy, ac ni lefarant: y mae yn rhaid eu dwyn hwy, am na allant gerdded.  Nac ofnwch hwynt; canys ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes ynddynt.


10:6  Yn gymaint ag nad oes neb fel tydi, ARGLWYDD: mawr wyt, a mawr yw dy enw mewn cadernid.


10:7  Pwy ni’th ofna di, Brenin y cenhedloedd? canys i ti y gweddai: oherwydd ymysg holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd hwy, nid oes neb fel tydi.


10:8  Eithr cydynfydasant ac amhwyllasant: athrawiaeth oferedd yw cyff.


10:9  Arian wedi ei yrru yn ddalennau a ddygir o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y celfydd, a dwylo’r toddydd: sidan glas a phorffor yw eu gwisg hwy;  gwaith y celfydd ŷnt oll.


10:10  Eithr yr ARGLWYDD ydyw y gwir DDUW, efe yw y Duw byw, a’r Brenin tragwyddol:  rhag  ei  lid ef y cryna y ddaear, a’r cenhedloedd ni allant ddioddef ei soriant ef.


10:11  Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau   ni   wnaethant   y   nefoedd   a’r ddaear, difethir hwynt o’r ddaear, ac oddi tan y nefoedd.


10:12  Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, efe a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a estynnodd y nefoedd trwy ei synnwyr.


10:13  Pan roddo efe ei lais, y bydd twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac efe a wna i’r tarth ddyrchafu o eithafoedd y ddaear: efe a wna fellt gyda’r glaw, ac a ddwg y gwynt allan o’i drysorau.


10:14  Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth; gwaradwyddwyd  pob  toddydd  trwy  y ddelw gerfiedig:  canys  celwydd yw ei ddelw dawdd, ac nid oes anadl ynddynt.


10:15  Oferedd ŷnt, a gwaith cyfeiliorni: yn amser eu gofwy y difethir hwynt.


10:16  Nid fel y rhai hyn yw rhan Jacob: canys lluniwr pob peth yw efe, ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef. ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw.


10:17  Casgl o’r tir dy farsiandiaeth, yr hon wyt yn trigo yn yr amddiffynfa.


10:18  Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn taflu trigolion y tir y waith hon, a chyfyngaf arnynt, fel y caffont felly.


10:19  Gwae fi am fy mriw! dolurus yw fy archoll: ond mi a ddywedais, Yn ddiau dyma ofid, a mi a’i dygaf.


10:20  Fy mhabell i a anrheithiwyd, a’m rhaffau oll a dorrwyd; fy mhlant a aethant oddi wrthyf, ac nid ydynt: nid oes mwy a ledo fy mhabell, nac a gyfyd fy llenni.


10:21  Canys y bugeiliaid a ynfydasant, ac ni cheisiasant yr ARGLWYDD: am hynny ni lwyddant; a defaid eu porfa hwy oll a wasgerir.


10:22  Wele, trwst y sôn a ddaeth, a chynnwrf mawr o dir y gogledd, i osod dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch, ac yn drigfan dreigiau.


10:23  Gwn, ARGLWYDD, nad eiddo dyn ei ffordd: nid ar law gŵr a rodio y mae llywodraethu ei gerddediad.


10:24  Cosba   fi,   ARGLWYDD,   eto   mewn barn; nid yn dy lid, rhag i ti fy ngwneuthur yn ddiddim.


10:25  Tywallt dy lid ar y cenhedloedd y rhai ni’th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant  ar  dy  enw:  canys  bwytasant Jacob, ie, bwytasant ef, difasant ef hefyd, ac anrheithiasant ei gyfannedd.

 
PENNOD 11


11:1 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

11:2 Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn, a dywedwch wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem;

11:3 Dywed hefyd wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel: Melltigedig fyddo y gŵr ni wrendy ar eiriau y cyfamod hwn,

11:4 Yr hwn a orchmynnais i’ch tadau chwi y dydd y dygais hwynt o wlad yr Aifft, o’r ffwrn haearn, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a gwnewch hwynt, yn ôl yr hyn oll a orchmynnwyf i chwi; felly chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW i chwithau:

11:5 Fel y gallwyf gwblhau y llw a dyngais wrth eich tadau, ar roddi iddynt dir yn llifeirio o laeth a mêl, megis y mae heddiw. Yna yr atebais, ac y dywedais, O AR­GLWYDD, felly y byddo.

11:6 Yna yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cyhoedda y geiriau hyn oll yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerw­salem, gan ddywedyd, Gwrandewch eir­iau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt.

11:7 Canys gan dystiolaethu y tystiolaethais wrth eich tadau, y dydd y dygais hwynt i fyny o dir yr Aifft, hyd y dydd hwn, trwy godi yn fore, a thystiolaethu, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llais.

11:8 Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, eithr rhodiasant bawb yn ôl cyndynrwydd eu calon ddrygionus: am hynny y dygaf arnynt holl eiriau y cyfamod hwn, yr hwn a orchmynnais iddynt ei wneuthur, ond ni wnaethant.

11:9 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cydfradwriaeth a gafwyd yng ngwŷr Jwda, ac ymysg trigolion Jerwsalem,

11:10 Troesant at anwiredd eu tadau gynt, y rhai a wrthodasant wrando fy ngeiriau: a hwy a aethant ar ôl duwiau dieithr i’w gwasanaethu hwy: tŷ Jwda a thŷ Israel a dorasant fy nghyfamod yr hwn a wneuthum â’u tadau hwynt.

11:11 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn dwyn drwg arnynt, yr hwn nis gallant fyned oddi wrtho: yna y gwaeddant arnaf, ac ni wrandawaf hwynt.:

11:12 Yna dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem a ânt, ac a waeddant ar y duwiau yr arogl-darthant iddynt: ond gan waredu ni allant eu gwared hwynt yn amser eu drygfyd.
 

11:13 Canys yn ôl rhifedi dy ddinasoedd yr oedd dy dduwiau, O Jwda, ac yn ôl rhifedi heolydd Jerwsalem y gosodasoch allorau i’r peth gwaradwyddus hwnnw, ie, allorau i fwgdarthu i Baal.

11:14 Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na chyfod waedd neu weddi drostynt: canys ni wrandawaf yr amser y gwaeddant arnaf oherwydd eu drygfyd.

11:15 Beth a wna fy annwyl yn fy nhy^, gan iddi wneuthur ysgelerder lawer? a’r cig cysegredig a aeth ymaith oddi wrthyt: pan wnelit ddrygioni, yna y llawenychit.

11:16 Olewydden ddeiliog deg, o ffrwyth prydferth, y galwodd yr ARGLWYDD dy enw: trwy drwst cynnwrf mawr y cyneuodd tan ynddi, a’i changhennau a dorrwyd.

11:17 Canys ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn a’th blannodd, a draethodd ddrwg yn dy erbyn, oherwydd drygioni tŷ Israel a thŷ Jwda, y rhai a wnaethant yn eu herbyn eu hun, i’m digio i, trwy fwgdarthu i Baal. 

11:18 A’r ARGLWYDD a hysbysodd i mi, a mi a’i gwn; yna y dangosaist i mi eu gweithredoedd hwy.

11:19 A minnau oeddwn fel oen neu fustach a ddygid i’w ladd; ac ni wyddwn fwriadu ohonynt fwriadau yn fy erbyn i, gan ddywedyd, Distrywiwn y pren ynghyd â’i ffrwyth, a difethwn ef o dir y rhai byw, fel na chofier ei enw ef mwy.

11:20 Eithr, O ARGLWYDD y lluoedd, barnwr cyfiawnder, a chwiliwr yr arennau a’r galon, gwelwyf dy ddialedd arnynt; canys i ti y datguddiais fy nghwyn.

 

11:21 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am wŷr Anathoth, y rhai a geisiant dy einioes, gan ddywedyd, Na phroffwyda yn enw yr ARGLWYDD, rhag dy farw trwy ein dwylo ni:

11:22 Am hynny fel hyn y dywed AR­GLWYDD y lluoedd; Wele fi yn ymweled â hwynt: y gwŷr ieuainc a fyddant feirw trwy’r cleddyf, a’u meibion a’u merched a fyddant feirw o newyn.

11:23 Ac ni bydd gweddill ohonynt; canys mi a ddygaf ddrygfyd ar wŷr Anathoth, sef blwyddyn eu gofwy. 

 

 

 
.

PENNOD 12

12:1
Cyfiawn wyt, ARGLWYDD, pan ddadleuwyf â thi: er hynny ymresymaf â thi am dy farnedigaethau: Paham y llwydda ffordd yr anwir, ac y ffynna yr anffyddloniaid oll?

12:2 Plennaist hwy, ie, gwreiddiasant, cynyddant, ie, dygant ffrwyth; agos wyt yn eu genau, a phell oddi wrth eu harennau.

12:3 Ond ti, ARGLWYDD, a’m hadwaenost i; ti a’m gwelaist, ac a brofaist fy nghalon tuag atat; tyn allan hwynt megis defaid i’r lladdfa, a pharatoa hwynt erbyn dydd y lladdfa.

12:4 Pa hyd y galara y tir, ac y gwywa gwellt yr holl faes, oblegid drygioni y rhai sydd yn trigo ynddo? methodd yr anifeiliaid a’r adar, oblegid iddynt ddy­wedyd, Ni wêl efe ein diwedd ni.

12:5 O rhedaist ti gyda’r gwŷr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdrewi â’r meirch? ac os blinasant di mewn tir heddychlon, yn yr hwn yr ymddiriedaist, yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Iorddonen?

12:6 Canys dy frodyr, a thŷ dy dad, ie, y rhai hynny a wnaethant yn anffyddlon â thi; hwynt-hwy hefyd a waeddasant yn groch ar dy ôl: na choelia hwy, er iddynt ddywedyd geiriau teg wrthyt.

12:7 Gadewais fy nhŷ, gadewais fy etifeddiaeth; mi a roddais anwylyd fy enaid yn llaw ei gelynion.

12:8 Fy etifeddiaeth sydd i mi megis llew yn y coed, rhuo y mae i’m herbyn; am hynny caseais hi.

12:9 Y mae fy etifeddiaeth i mi fel aderyn brith; y mae yr adar o amgylch yn ei herbyn hi: deuwch, ymgasglwch, holl fwystfilod y maes, deuwch i ddifa.

12:10 Bugeiliaid lawer a ddistrywiasant fy ngwinllan; sathrasant fy rhandir, fy rhandir dirion a wnaethant yn ddiffeithwch anrheithiol.

12:11 Gwnaethant hi yn anrhaith, ac wedi ei hanrheithio y galara hi wrthyf: y tir i gyd a anrheithiwyd, am nad oes neb yn ei gymryd at ei galon.

 

12:12 Anrheithwyr a ddaethant ar yr holl fryniau trwy’r anialwch: canys cleddyf yr ARGLWYDD a ddifetha o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: nid oes heddwch i un cnawd. 

 

12:13 Heuasant wenith, ond hwy a fedant ddrain; ymboenasant, ond ni thycia iddynt; a hwy a gywilyddiant am eich ffrwythydd chwi, oherwydd llid digofaint yr ARGLWYDD.


12:14 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD yn erbyn fy holl gymdogion drwg, y rhai sydd yn cyffwrdd â’r etifeddiaeth a berais i’m pobl Israel ei hetifeddu, Wele, mi a’u tynnaf hwy allan o’u tir, ac a dynnaf  dŷ Jwda o’u mysg hwynt.


12:15 Ac wedi i mi eu tynnu hwynt allan, mi a ddychwelaf ac a drugarhaf wrthynt; a dygaf hwynt drachefn bob un i’w eti­feddiaeth, a phob un i’w dir.

12:16 Ac os gan ddysgu y dysgant ffyrdd fy mhobl, i dyngu i’m henw, Byw yw yr ARGLWYDD, (megis y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal,) yna yr adeiledir hwy yng nghanol fy mhobl.

 

12:17 Eithr oni wrandawant, yna gan ddiwreiddio y diwreiddiaf fi y genedl hon, a chan ddifetha myfi a’i dinistriaf hi, medd yr ARGLWYDD.

 

 

PENNOD 13

13:1
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrthyf, Dos a chais i ti wregys lliain, a dod ef am dy lwynau, ac na ddod ef mewn dwfr.

13:2 Felly y ceisiais wregys yn ôl gair yr ARGLWYDD, ac a’i dodais am fy llwynau.

13:3 A daeth gair yr ARGLWYDD ataf eilwaith, gan ddywedyd,

13:4 Cymer y gwregys a gefaist, ac sydd am dy lwynau, a chyfod, dos i Ewffrates, a chuddia ef mewn twll o’r graig.

13:5 Felly mi a euthum, ac a’i cuddiais ef yn Ewffrates, megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD i mi.

13:6 Ac ar ôl dyddiau lawer y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cyfod, dos i Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys a orchmynnais i ti ei guddio yno.



 

13:7 Yna yr euthum i Ewffrates, ac a gloddiais, ac a gymerais y gwregys o’r man lle y cuddiaswn ef: ac wele, pydrasai y gwregys, ac nid oedd efe dda i ddim.

13:8 A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

13:9 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Felly y gwnaf i falchder Jwda, a mawr falchder Jerwsalem bydru.

13:10 Y bobl ddrygionus hyn, y rhai a wrthodant wrando fy ngeiriau i, y rhai a rodiant yng nghyndynrwydd eu calon, ac a ânt ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymostwng iddynt, a fyddant fel y gwregys yma, yr hwn nid yw dda i ddim.

13:11 Canys megis ag yr ymwasg gwregys am lwynau gŵr, felly y gwneuthum i holl dy^ Israel a holl dy^  Jwda lynu wrthyf,   medd yr ARGLWYDD, i fod i mi yn bobl, ac yn enw, ac yn foliant, ac yn ogoniant: ond ni wrandawent.

13:12 Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma: Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Pob costrel a lenwir â gwin. A dywedant wrthyt ti, Oni wyddom ni yn sicr y llenwir pob costrel â gwin?

13:13 Yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn llenwi holl drigolion y tir hwn, ie, y brenhinoedd sydd yn eistedd yn lle Dafydd ar ei orseddfainc ef, yr offeiriaid hefyd, a’r proffwydi, a holl breswylwyr Jerwsalem, a meddwdod.

13:14 Trawaf hwy y naill wrth y llall, y tadau a’r meibion ynghyd, medd yr AR­GLWYDD: nid arbedaf, ac ni thrugarhaf, ac ni resynaf, ond eu difetha hwynt.

13:15 Clywch, a gwrandewch; na falchiwch: canys yr ARGLWYDD a lefarodd.

13:16 Rhoddwch ogoniant i’r ARGLWYDD eich Duw, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni, iddo ef ei droi yn gysgod angau, a’i wneuthur yn dywyllwch.

13:17 Ond oni wrandewch chwi hyn, fy enaid a wyla mewn lleoedd dirgel am eich balchder; a’m llygaid gan wylo a wylant, ac a ollyngant ddagrau, o achos dwyn diadell yr ARGLWYDD i gaethiwed.
 

13:18 Dywed wrth y brenin a’r frenhines, Ymostyngwch, eisteddwch i lawr: canys disgynnodd eich pendefigaeth, sef coron eich anrhydedd.

13:19 Dinasoedd y deau a gaeir, ac ni bydd a’u hagoro; Jwda i gyd a gaethgludir, yn llwyr y dygir hi i gaethiwed.

13:20 Codwch i fyny eich llygaid, a gwelwch y rhai sydd yn dyfod o’r gogledd: pa le y mae y ddiadell a roddwyd i ti, sef dy ddiadell brydferth?

13:21 Beth a ddywedi pan ymwelo â thi? canys ti a’u dysgaist hwynt yn dywysogion, ac yn ben arnat: oni oddiwedd gofidiau di megis gwraig yn esgor?

13:22  Ac o dywedi yn dy galon, Paham y digwydd hyn i mi? oherwydd amlder dy anwiredd y noethwyd dy odre, ac y dinoethwyd dy sodlau.

13:23 A newidia yr Ethiopiad ei groen  neu y llewpard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneuthur da, y rhai a gynefinwyd a gwneuthur drwg.

13:24 Am hynny y chwalaf hwynt megis sofl yn myned ymaith gyda gwynt y diffeithwch.

13:25 Dyma dy gyfran di, y rhan a fesurais i ti, medd yr ARGLWYDD; am i ti fy anghofio i, ac ymddiried mewn celwydd.

13:26 Am hynny y dinoethais innau dy odre di dros dy wyneb, fel yr amlyger dy warth.

13:27 Gwelais dy odineb a’th weryriad, brynti dy buteindra a’th ffieidd-dra ar y bryniau yn y meysydd. Gwae di, Jerw­salem! a ymlanhei di? pa bryd bellach?

PENNOD 14

14:1
GAIR yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia o achos y drudaniaeth.

14:2 Galara Jwda, a’i phyrth a lesgant; y maent yn ddu hyd lawr, a gwaedd Jerw­salem a ddyrchafodd i fyny.

14:3 A’u boneddigion a hebryngasant eu rhai bychain i’r dwfr: daethant i’r ffosydd, ni chawsant ddwfr; dychwelasant â’u llestri yn weigion: cywilyddio a gwladeiddio a wnaethant, a chuddio eu pennau.

14:4 Oblegid agennu o’r ddaear, am nad oedd glaw ar y ddaear, cywilyddiodd y llafurwyr, cuddiasant eu pennau.

14:5 Ie, yr ewig hefyd a lydnodd yn y maes, ac a’i gadawodd, am nad oedd gwellt.

14:6 A’r asynnod gwylltion a safasant yn y lleoedd uchel; yfasant wynt fel dreigiau: eu llygaid hwy a ballasant, am nad oedd gwellt.

14:7 O ARGLWYDD, er i’n hanwireddau dystiolaethu i’n herbyn, gwna di er mwyn dy enw: canys aml yw ein cildynrwydd ni; pechasom i’th erbyn.

14:8 Gobaith Israel, a’i geidwad yn amser adfyd, paham y byddi megis pererin yn y tir, ac fel ymdeithydd yn troi i letya dros noswaith?

14:9 Paham y byddi megis gŵr wedi synnu? fel gŵr cadarn heb allu achub? eto yr ydwyt yn ein mysg ni, ARGLWYDD, a’th enw di a elwir arnom: na ad ni.

14:10 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn, Fel hyn yr hoffasant hwy grwydro, ac ni ataliasant eu traed: am hynny nis myn yr ARGLWYDD hwy; yr awr hon y cofia efe eu hanwiredd hwy, ac a ymwêl â’u pechodau.

14:11 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Na weddïa dros y bobl hyn am ddaioni.

14:12 Pan ymprydiant, ni wrandawaf eu gwaedd hwynt; a phan offrymant boethoffrwm a bwyd-offrwm, ni byddaf, bodlon iddynt: ond â’r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, y difaf hwynt.

14:13 Yna y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, wele, mae y proffwydi yn dywedyd wrthynt, Ni welwch chwi gleddyf, ac ni ddaw newyn atoch; eithr mi a roddaf heddwch sicr i chwi yn y lle yma.

14:14 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Y proffwydi sydd yn proffwydo celwyddau yn fy enw i; nid anfonais hwy, ni orchmynnais iddynt chwaith, ac ni leferais wrthynt: gau weledigaeth, a dewiniaeth, a choegedd, a thwyll eu calon eu hun, y maent hwy yn eu proff­wydo i chwi.

14:15 Am hynny fel hyn y dywed yr AR­GLWYDD am y proffwydi sydd yn proff­wydo yn fy enw i, a minnau heb eu hanfon hwynt, eto hwy a ddywedant, Cleddyf a newyn ni bydd yn y tir hwn; Trwy gleddyf a newyn y difethir y proff­wydi hynny.

14:16 A’r bobl y rhai y maent yn proff­wydo iddynt, a fyddant wedi eu taflu allan yn heolydd Jerwsalem, oherwydd y newyn a’r cleddyf; ac ni bydd neb i’w claddu, hwynt-hwy, na’u gwragedd, na’u meibion, na’u merched: canys mi a dywalltaf arnynt eu drygioni.

14:17 Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma, Difered fy llygaid i ddagrau nos a dydd, ac na pheidiant: canys a briw mawr y briwyd y wyry merch fy mhobl, ac a phia tost iawn.

14:18 Os af fi allan i’r maes, wele rai wedi eu lladd â’r cleddyf; ac o deuaf i mewn i’r ddinas, wele rai llesg o newyn: canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd sydd yn amgylchu i dir nid adwaenant.

14:19 Gan wrthod a wrthodaist ti Jwda? neu a ffieiddiodd dy enaid di Seion? paham y trewaist ni, ac nad oes i ni feddyginiaeth? disgwyliasom am hedd­wch, ac nid oes daioni; ac am amser  iachâd, ac wele flinder.

14:20 Yr ydym yn cydnabod, ARGLWYDD, ein camwedd, ac anwiredd ein tadau; oblegid ni a bechasom yn dy erbyn di.

14:21 Na ffieiddia ni, er mwyn dy enw, ac na fwrw i lawr orseddfa dy ogoniant; cofia, na thor dy gyfamod â ni.

14:22 A oes neb ymhlith oferedd y cenhedloedd a wna iddi lawio? neu a rydd y nefoedd gawodau? Onid ti yw efe, O ARGLWYDD ein Duw ni? am hynny arnat ti y disgwyliwn ni: canys ti a wnaethost y pethau hyn oll.

 


PENNOD 15

º1
A DYWEDODD yr ARGLWYDD wrthyf, Pe safai Moses a Samuel ger fy mron, eto ni byddai fy serch ar y bobl yma; bwrw hwy allan o’m golwg, ac elont ymaith.; a Ac os dywedant wrthyt, I ba le yr

awn? tithau a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Y sawl sydd i angau, i angau; a’r sawl i’r cleddyf, i’r cleddyf; a’r sawl i’r newyn, i’r newyn; a’r sawl i gaethiwed, i gaethiwed.

º3 A mi a osodaf arnynt bedwar rhywogaeth, medd yr ARGLWYDD: y cleddyf, i ladd; a’r cwn, i larpio; ac adar y nefoedd, ac anifeiliaid y ddaear, i ysu ac i ddifa.

º4 Ac a’u rhoddaf hwynt i’w symudo i holl deyrnasoedd y ddaear; herwydd Manasse mab Heseceia brenin Jwda; am yr hyn a wnaeth efe yn Jerwsakm.

º5 Canys pwy a drugarha wrthyt ti, O Jerwsalem? a phwy a gwyna i ti? a phwy a dry i ymofyn pa fodd yr wyt ti?

º6 Tia’rngadewaist, medd yr ARGLWYDD, ac a aethost yn ôl: am hynny yr estynnaf fy llaw yn dy erbyn di, ac a’th ddifethaf; myfi a flinais yn edifarhau.

º7 A mi a’u chwalaf hwynt a gwyntyll ym mhyrth y wlad: diblantaf, difethaf fy mhobl, gan na ddychwelant oddi wrth eu ffyrdd.

º8 Eu gweddwon a amlhasant i mi tu hwnt i dywod y roor: dygais arnynt yn erbyn mam y gwŷr ieuainc, anrheithiwr ganol dydd; perais iddo syrthio yn ddisymwth arni hi; a dychryn ar y ddinas.

º9 Yr hon a blantodd saith, a lesgaodd: ei henaid hi a lesmeiriodd, ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd; hi a gywilyddiodd, ac a waradwyddwyd; a rhoddaf y gweddillion ohonynt i’r cleddyf yng ngŵydd eu gelynion, medd yr AR­GLWYDD.

º10 Gwae fi, fy mam, ymddwyn ohonot fi yn ŵr ymryson ac yn ŵr cynnen i’r holl ddaear! ni logais, ac ni logwyd i mi; eto pawb ohonynt sydd yn fy melltithio i.

º11Yr ARGLWYDD a ddywedodd, Yn ddiau bydd dy weddill di mewn daioni; yn ddiau gwnaf i’r gelyn fod yn dda wrthyt; yn amser adfyd ac yn amser cystudd.

º12 A dyr haearn yr haearn o’r gogledd, a’’r dur?

º13 Dy gyfoeth a’th drysorau a roddaf yn ysbail, nid am werth, ond oblegid dy holl bechodau, trwy dy holl derfynau.

"14 Gwnaf i ti fyned hefyd gyda’th elyrt- ion i dir nid adwaenost: canys’tan a enynnodd yn fy nigofaint, arnoch y llysg.

º15 Ti a wyddost, ARGLWYDD; cofia fi, ac ymwêl â mi, a dial drosofar fy erhdwyr; na ddwg fi ymaith yn dy hirymaros: gwybydd ddwyn ohonof waradwydd er dy fwyn di.

º16 Dy eiriau a gaed, a mi a’u bwyteais hwynt; ac yr oedd dy air di i mi yn llawenydd ac yn hyfrydwch fy nghalon: canys dy enw di a alwyd arnaf fi, O ARGLWYDD DDUW y lluoedd.

º17 Nid eisteddais yng nghymanfa y gwatwarwyr, ac nid ymhyfrydais: eistedd­ais fy hunan oherwydd dy law di; canys ti a’m llenwaist i o lid.

º18 Paham y mae fy nolur i yn dragwyddol? a’m pla yn anaele, fel na ellir ei iacháu? a fyddi di i mi megis celwyddog, neu fel dyfroedd a ballant?

º19 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os dychweli, yna y’th ddygaf eilwaith, a thi a sefi ger fy mron; os tynni ymaith y gwerthfawr oddi wrth y gwael, byddi fel fy ngenau i: dychwelant hwy atat ti, ond na ddychwel di atynt hwy.

º20 Gwnaf di hefyd i’r bobl yma yn fagwyr efydd gadarn; a hwy a ryfelant yn dy erbyn di, eithr ni’th orchfygant: canys yr ydwyf fi gyda thi, i’th achub ac i’th wared, medd yr ARGLWYDD.

º21 A mi a’th waredaf di o law y rhai drygionus, ac a’th ryddhaf di o law yr ofnadwy.

PENNOD 16

º1
GAIR yr ARGLWYDD a dflaeth hefyd ataf fi, gan ddywedyd,

º2 Na chymer i ti wraig, ac na fydded i ti feibion na merched, yn y lle hwn.

º3 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y meibion ac am y merched a anwyd yn y lle hwn, ac am eu mamau a’u dug hwynt, ac am eu tadau a’u cenhedlodd hwynt yn y wlad hon;

º4 O angau nychlyd y byddant feirw: ni alerir amdanynt, ac nis cleddir hwynt: byddant fel tail ar wyneb y ddaear, a darfyddant trwy y cleddyf, a thrwy newyn; a’u celaneddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.

º5 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Na ddos i dŷ y galar, ac na ddos i alaru, ac na chwyna iddynt: canys myfi a gymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn, medd yr ARGLWYDD, seftrugaredd a thosturi.

º6 A byddant feirw yn y wlad hon, fawr a bychan: ni chleddir hwynt, ac ni alerir amdanynt; nid ymdorrir ac nid ymfoelir drostynt.

º7 Ni rannant iddynt fwyd mewn galar, i roi cysur iddynt am y marw; ac ni pharant iddynt yfed o ffiol cysur, am eu tad, neu am eu mam.

º8 Na ddos i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwynt i fwyta ac i yfed.

º9 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, ddarfod o’r lle hwn, o flaen eich llygaid, ac yn eich dyddiau chwi.

º10 A phan ddangosech i’r bobl yma yr holl eiriau byn,?c iddynt hwythau ddywedyd wrthyt. Am ba beth y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl fawr ddrwg hyn i’n herbyn ni? neu. Pa beth yw ein hanwiredd? neu, Beth yw ein pechod a bechasom yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?

º11 Yna y dywedi wrthynt, Oherwydd i’ch tadau fy ngadael i, medd yr ARGLWYDD, a myned ar ôl duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt, a’m gwrthod i, a bod heb gadw fy nghyfraith;

º12 A chwithau a wnaethoch yn waeth na’ch tadau, canys wele chwi yn rhodio bob un yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg, heb wrando arnaf;

º13 Am hynny mi a’ch taflaf chwi o’r tir hwn, i wlad nid adwaenoch chwi na’ch tadau; ac yno y gwasanaethwch dduwiau dieithr ddydd a nos, lle ni ddangosaf i chwi ifafr.

º14  Gan hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pryd na ddywedir mwyach, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o dir
yr Aifft:

º15 Eithr, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd, ac o’r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w gwlad a roddais i’w tadau.

º16 Wele fi yn anfon am bysgodwyr lawer, medd yr ARGLWYDD, a hwy a’u pysgotant hwy; ac wedi hynny mi a anfonaf am helwyr lawer, a hwy a’u heliant hwynt oddi ar bob mynydd, ac, oddi ar bob bryn, ac o ogofeydd y creigiau.

º17 Canys y mae fy ngolwg ar eu hôl} ffyrdd hwynt: nid ydynt guddiedig o’m gŵydd i, ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedig oddi ar gyfer fy llygaid.

º18 Ac yn gyntaf myfi a dalaf yn ddwbl am eu hanwiredd a’u pechod hwynt; am iddynt halogi fy nhir a’u ffiaidd gelanedd, ie, a’u ffieidd-dra y llanwasant fy eti-feddiaeth.

º19 O ARGLWYDD, fy nerth a’m cadernid, a’m noddfa yn nydd blinder; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear, ac a ddywedant, Diau mai celwydd a ddarfu i’n tadau ni ei etifeddu, oferedd, a phethau heb les ynddynt.

º20 A wna dyn dduwiau iddo ei hun, a hwythau heb fod yn dduwiau?

º21 Am hynny wele, mi a wnaf iddynt wybod y waith hon, dangosaf iddynt fy llaw a’m grym: a chant wybod mai yr ARGLWYDD yw fy enw.

PENNOD 17

º1
PECHOD Jwda a ysgrifennwyd a phin o haearn, ag ewin o adamant y cerfiwyd ef ar lech eu calon, ac ar gyrn eich allorau;

º2 Gan fod eu meibion yn cofio eu hall-orau a’u llwyni wrth y pren deiliog ar y bryniau uchel.

º3 O fy mynydd yn y maes, dy olud a’th holl drysorau di a roddaf yn anrhaith, a’th uchelfeydd i bechod, trwy dy holl derfynau.

º4 Ti a adewir hefyd dy hunan, heb dy etifeddiaelh a roddais i ti; a mi a wnafi ti wasanaethu dy elynion mewn tir ni,dxxxx adwaenost: canys cyneuasoch dân yn fy nig, yr hwn a lysg byth.

º5  Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Melltigedig fyddo y gŵr a hydero mewn dyn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, a’r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr AR­GLWYDD.

º6 Canys efe a fydd fel y grug yn y diffeithwch, ac ni wel pan ddêl daioni; eithr efe a gyfanhedda boethfannau yn yr anialwch, mewn tir hallt ac anghyf-anheddol.

º7 Bendigedig yw y gŵr a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, ac y byddo yr AR­GLWYDD yn hyder iddo. - 8 Canys efe a fydd megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd, ac a estyn ei wraidd wrth yr afon, ac ni ŵyr oddi wrth ddyfod gwres; ei ddeilen fydd ir, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid a ffrwytho.

º9 Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a’i hedwyn?

º10 Myfi yr ARGLWYDD sydd yn chwilio’r galon, yn profi’r arennau, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd.

º11 Fel petris yn eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd.

º12 Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o’r dechreuad, yw lle ein cysegr ni.

º13 O ARGLWYDD, gobaith Israel, y rhai oll a’th wrthodant a waradwyddir, ysgrif-ennir yn y ddaear y rhai a giliant oddi wrthyf, am iddynt adael yr ARGLWYDD, ffynnon y dyfroedd byw.

º14 lacha fi, O ARGLWYDD, a mi a iacheir; achub fi, a mi a achubir: canys tydi yw fy moliant.

º15 Wele hwynt yn dywedyd wrthyf, Pa le y mae gair yr ARGLWYDD? deued bellach.

º16 Ond myfi ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di: ac ni ddymunais y dydd blin, ti a’i gwyddost: yr oedd yr hyn a ddaeth o’m gwefusau yn uniawn ger dy fron di.

º17 Na fydd yn ddychryn i mi; ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd.

º18 Gwaradwydder fy erlidwyr, ac na’m gwaradwydder i; brawycher hwynt, ac na’m brawycher i: dwg arnynt ddydd drwg, a dryllia hwynt a drylliad dauddyb-
lyg.

º19 Fel hyn y dywedodd yr AR­GLWYDD wrthyf, Cerdda, a safym mhorth meibion y bobl, trwy yr hwn yr a brenhinoedd Jwda i mewn, a thrwy yr hwn y deuant allan, ac yn holl byrth Jerwsalem;

º20 A dywed wrthynt, Gwrandewch air yr ARGLWYDD, brenhinoedd Jwda, a holl Jwda, a holl breswylwyr Jerwsalem, y rhai a ddeuwch trwy y pyrth hyn:

º21 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Disgwyliwch ar eich eneidiau, ac na ddygwch faich ar y dydd Saboth, ac na ddygwch ef i mewn trwy byrth Jerw­salem;

º22 Ac na ddygwch faich allan o’ch tai ar y dydd Saboth, ac na wnewch ddim gwaith; eithr sancteiddiwch y dydd Saboth, fel y gorchmynnais i’ch tadau.

º23 Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu dust; eithr caledasant eu gwarrau rhag gwrando, a rhag derbyn addysg.

º24 Er hynny os dyfal wrandewch arnaf, medd yr ARGLWYDD, heb ddwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth, find sancteiddio y dydd Saboth, heb wneuthur dim gwaith arno:

º25 Yna y daw trwy byrth y ddinas hon, frenhinoedd a thywysogion yn eistedd ar orsedd Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, hwy a’u tywysogion, gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerw­salem; a’r ddinas hon a gyfanheddir byth.

º26 Ac o ddinasoedd Jwda, ac o amgylchoedd Jerwsalem, ac o wlad Benjamin, ac o’r gwastadedd, ac o’r mynydd, ac o’r deau, y daw rhai yn dwyn poethoffrymau, ac aberthau, a bwyd-offrymau, a thus, ac yn dwyn aberthau moliant i dŷ yr ARGLWYDD.

º27 Ond os chwi ni wrendy arnaf, i sancteiddio y dydd Saboth, heb ddwyn baich, wrth ddyfod i byrth Jerwsalem, ar y dydd Saboth: yna mi a gyneuaf dân yn ei phyrth hi, ac efe a ysa balasau Jerw­salem, ac nis diffoddir.

PENNOD 18

º1
 GAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia * oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

º2 Cyfod, a dos i waered i dŷ y crochenydd, ac yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau.

º3 Yna mi a euthum i waered i dŷ y crochenydd, ac wele ef yn gwneuthur ei waith ar droellau.

º4 A’r llestr yr hwn yr oedd efe yn ei wneuthur o glai, a ddifwynwyd yn Itew y crochenydd; felly efe a’i gwnaeth ef drachefn yn llestr arali, fel y gwelodd y crochenydd yn dda ei wneuthur ef.

º5 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

º6 Oni allaf fi, fel y crochenydd hwn, wneuthur i chwi, tŷ Israel? medd yr AR­GLWYDD. Wele, megis ag y mae y clai yn llaw y crochenydd, felly yr ydych chwithau yn fy llaw i, tŷ Israel.

º7 Pa bryd bynnag y dywedwyf am ddiwreiddio, a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu ftenhiniaeth;

º8 Os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddi wrth ei drygioni, myfi a edifarhaf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi.

º9 A pha bryd bynnag y dywedwyf am adeiladu, ac am blannu cenedl neu frenhiniaeth;

º10 Os hi a wna ddrygioni yn fy ngolwg, heb wrando ar fy llais, minnau a edifarhaf am y daioni a’r hwn y dywedais y gwnawn les iddi.

º11 Yn awr gan hynny, atolwg, dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, gan ddywedyd. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn llunio drwg i’ch erbyn, ac yn dychmygu dychymyg i’ch erbyn: dychwelwch yr awr hon bob un o’i ffordd ddrwg, a gwnewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd yn dda.

º12 Hwythau a ddywedasant, Nid oes obaith; ond ar ôl ein dychmygion ein hunain yr awn, a gwnawn bob un amcan ei ddrwg galon ei hun.

º13 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Gofynnwch, atolwg, ymysg y cenhedloedd, pwy a glywodd y cyfryw bethau? Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn.

º14 A wrthyd dyn eira Libanus, yr hwn sydd yn dyfod o graig y macs? neu a wrthodir y dyfroedd oerion rhedegog sydd yn dyfod o le arall?

º15 Oherwydd i’m pobl fy anghofio i, hwy a arogl-darthasant i wagedd, ac a wnaethant iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, allan o’r hen lwybrau, i gerdded llwybrau ffordd ddisathr;

º16 I wneuthur eu tir yn anghyfannedd, ac yn chwibaniad byth: pob un a elb heibio iddo a synna, ac a ysgwyd ei ben.

º17 Megis a gwynt y dwyrain y chwalaf hwynt o flaen y gelyn; fy ngwegil ac nid fy wyneb a ddangosaf iddynt yn amser eu dialedd.

º18 Yna y dywedasant, Deuwch, a dychmygwn ddychmygion yn erbyn Jeremeia; canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad, na chyngor gan y doeth, na’r gair gan y proffwyd: deuwch, trawn ef a’r tafod, ac nac ystyriwn yr un o’i eiriau ef.

º19 Ystyria di wrthyf, O ARGLWYDD, a chlyw lais y rhai sydd yn ymryson â mi.

º20 A delir drwg dros dda? canys cloddiasant ffos i’m henaid: cofia i mi sefyll ger dy fron di i ddywedyd daioni drostynt, ac i droi dy ddig oddi wrthynt.

º21 Am hynny dyro eu plant hwy i fyny i’r newyn, a thywallt eu gwaed hwynt trwy nerth y cleddyf; a bydded eu gwragedd heb eu plant, ac yn weddwon; lladder hefyd eu gwŷr yn feirw, a thrawer eu gwŷr ieuainc â’r cleddyf   yn y rhyfel.

º22 Clywer eu gwaedd o’u tai, pan ddygech fyddin arnynt yn ddisymwth; canys cloddiasant ffos i’m dal, a chuddiasant faglau i’m traed.

º23 Tithau, O ARGLWYDD, a wyddost eu holl gyngor hwynt i’m herbyn i’m lladd i: na faddau eu hanwiredd, ac na ddilea eu pechodau o’th wydd; eithr byddant dramgwyddedig ger dy fron; gwna hyn iddynt yn amser dy ddigofaint.

PENNOD 19

º1
FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD; DOS, a chais ysten bridd y crochfinydd, a chymer o henuriaid y bobl ac o henuriaid yr offeiriaid,

º2 A dos allan i ddyffryn mab Hinnom, yr hwn sydd wrth ddrws porth y dwyrain  a chyhoedda yno y geiriau a ddywedwyf wrthyt;

º3 A dywed, Brenhinoedd Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem, clywch air yr ARGLWYDD: Fcl hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Wele fi yn dwyn ar y lle hwn ddrwg, yr hwn pwy bynnag a’i clywo, ei glustiau a ferwinant.

º4 Am iddynt fy ngwrthod i, a dieithrio y lle hwn, ac arogl-darthu ynddo i dduwiau dieithr, y rhai nid adwaenent hwy, na’u tadau, na brenhinoedd Jwda, a llenwi ohonynt y lle hwn o waed gwirioniaid;

º5 Adeiladasant hefyd uchelfeydd Baal, i losgi eu meibion â thân yn boethoffrymau i Baal, yr hyn ni orchmynnais, ac ni ddywedais, ac ni feddyliodd fy nghalon:

º6 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr AK&LWYDD, pryd na elwir y ac hwn mwyach Toffet, na Dyffryn mab Hinnom, ond Dyffryn y lladdfa.

º7 A mi a wnaf yn ofer gyngor Jwda a Jerwsalem yn y lle hwn, a pharaf iddynt syrthio gan y cleddyf o flaen eu gelynion, a thrwy law y rhai a geisiant eu heinioes hwy: rhoddaf hefyd eu celaneddau hwynt yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.

º8 A mi a wnaf y ddinas hon yn anghyfannedd, ac yn maidd, pob un a elo heibio iddi a synna ac a chwibana, oherwydd ei holl ddialeddau hi.

º9 A mi a baraf iddynt fwyta cnawd eu meibion, a chnawd eu merched, bwytant hefyd bob un gnawd ei gyfaill, yn y gwarchae a’r cyfyngder, a’r hwn y cyfynga eu gelynion, a’r rhai sydd yn ceisio eu heinioes, arnynt.

º10 Yna y tornxxx yr ysten yng ngŵydd y gwŷr a cl gyda thi,

º11 Ac y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWTOD y lluoedd; Yn y modd hwn y drylliaf y bobl hyn, a’r ddinas hon, fel y dryllia un lestr pridd, yr hwn ni ellir ei gyfannu mwyach; ac yn Toffet y cleddir hwynt, o eisiau lle i gladdu.

º12 Fel hyn y gwnaf i’r lle hwn, medd yr ARGLWYDD, ac i’r rhai sydd yn trig& ynddo; a mi a wnaf y ddinas hon megis Toffet.

º13 A thai Jerwsalem, a thai brenhin­oedd Jwda, a fyddaot halogedig fel mangre Toffet: oherwydd yr holl dai y rhai yr arogl-darthasant ar eu pennau i holl lu y nefoedd, ac y tywalltasant ddioA-offrymau i dduwiau dieithr.

º14 Yna y daeth Jeremeia o Toffet, lle yr anfonasai yr ARGLWYDD ef i broffwydo, ac a safodd yng nghyntedd tŷ yr AR­GLWYDD, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl,

º15 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefydd, yr holl ddrygau a leferais i’w herbyn, am galedu ohonynt eu gwarrau, rhag gwrando fy ngeiriau.

PENNOD 20

º1
PAN glybu Pasur mab Immer yr offeiriad, yr hwn oedd yn ben-llywodraethwr yn nhŷ yr ARGLWYDD, i Jeremeia broffwydo y geiriau hyn;

º2 Yna Pasur a drawodd Jeremeia y proffwyd, ac a’i rhoddodd ef yn y carchar ‘oedd yn y porth uchaf i Benjamin, yr hwn oedd wrth dŷ yr ARGLWYDD.

º3 A thrannoeth, Pasur a ddug Jeremeia allan o’r carchar. Yna Jeremeia a ddy­wedodd wrtho ef, Ni alwbdd yr ARGLWYDD dy enw di Pasur, ond Magormissabib.

º4 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun, ac i’r rhai oll a’th garant; a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion, a’th lygaid di yn gweled: rhoddaf hefyd holl Jwda yn llaw brenin Babilon, ac efe a’u caethgludd hwynt i Babilon, ac a’u lladd hwynt â’r cleddyf  .

º5 Rhoddaf hefyd holl olud y ddinas hon, a’i holl lafur, a phob dim a’r y sydd werth fawr ganddi, a holl drysorau brenhin­oedd Jwda a roddaf fi yn llaw eu gelyntion, y rhai a’u hanrheithiant hwynt, ac a’u cymerant, ac a’u dygant i Babilon.

º6 A thithau, Pasur, a phawb a’r sydd yn trigo yn dy dŷ, a ewch i gaethiwed; a thi a ddeui i Babilon, ac yno y byddi farw, ac yno y’th gleddir, ti, a’r rhai oll a’th garant, y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog.

º7 O ARGLWYDD, ti a’m hudaist, a mi a hudwyd: cryfach oeddit na mi, a gorchfvgaist: yr ydwyf yn watwargerdd ar hydy dydd, pob un sydd yn fy ngwatwar,

º8 Canys er pan leferais, mi a waeddais, trais ac anrhaith a lefais; am fod gair yr ARGLWYDD yn waradwydd ac yn watwar­gerdd i mi beunydd.

º9 Yna y dywedais, Ni soniaf amdano efi, ac ni lefaraf yn ei enw ef mwyach: ond ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn fy esgyrn, a mi a flinais yn ymatal, ac ni allwn beidio.

º10 Canys clywais ogaa llawer, dychryn o amgylch: Mynegwch, meddant, a ninnau a’i mynegwn: pob dyn heddychol a mi oedd yn disgwyl i mi gloffi, gan ddy* wedyd, Ysgatfydd efe a hudir, a ni a’i gorchfygwn ef, ac a ymddialwn arno.

º11 Ond yr ARGLWYDD oedd gyda mi fel un cadarn ofnadwy: am hynny fy erlidwyr a dramgwyddant, ac ni orchfygant; gwaradwyddir hwynt yn ddirfawr, canys ni lwyddant: nid anghofir eu gwarth tragwyddol byth.

º12 Ond tydi, ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn wyt yn profi y cyfiawn, yn gweled yr arennau a’r galon, gad i mi weled dy ddialedd arnynt: canys i ti y datguddiais fy nghwyn.,

º13 Cenwch i’r ARGLWYDD, moliennwch yr ARGLWYDD: canys etc a achubodd enaid y tlawd o law y drygionus.

º14 Melltigedig fyddo y dydd y’m ganwyd arno: na fendiger y dydd y’m hesgorodd fy mam.

º15 Melltigedig fyddo y gŵr a fynegodd i’m tad, gan ddywedyd, Ganwyd i ti blentyn gwryw; gan ei lawenychu ef yn fawr.

º16 A bydded y gŵr hwnnw ftfl y dinasoedd a ymchwelodd yr ARGLWYDD, ac ni bu edifar ganddo: a chaffed efe glywed gwaedd y bore, a bloedd bryd hanner dydd:

º17 Am na laddodd fi wrth ddyfod o’r groth; neu na buasai fy mam yn fedd i mi, a’i chroth yn feichiog arnaf byth.

º18 Paham y deuthum i allan o’r groth, i weled poen a gofid, fel y darfyddai fy nyddiau mewn gwarth?

PENNOD 21

º1
Y GAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, pan anfonedd y brenin Sedeceia ato ef Pasur mab Melcheia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, gan ddywedyd,

º2 Ymofyn, atolwg, a’r ARGLWYDD drosom ni, (canys y mae Nebuchodonosor brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn ni,) i edrych a wna yr ARGLWYDD a ni yn ôl ei holl ryfeddodau, fel yr elo efe i fyny oddi wrthym ni.

º3  Yna y dywedodd Jeremeia wrthynt   Fel hyn y dywedwch wrth Sedeceia,

º4 Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Wele fi yn troi yn eu hôl yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo, y rhai yr ydych yn ymladd â hwynt yn erbya. brenin Babilon, ac yn erbyn y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch o’r tu allan i’r gaer, a mi a’u casglaf hwynt i ganol y ddinas hon.

º5 A mi fy hun a ryfelaf i’ch erbyn â llaw estynedig, ac a braich gref, mewn. soriant, a llid, a digofaint mawr.

º6 Trawaf hefyd drigolion y ddinas hem, yn ddyn, ac yn anifail: byddant feirw o haint mawr.

º7 Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i weision, a’r bobl, a’r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: ac efe a’u tery hwynt â min y cleddyf; lu thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymer drugaredd.





º8 Ac with y bobl hyn y dywedi. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn rhoddi ger eich bron ffordd einioes, a ffordd angau.

º9 Yr hwn a drigo yn y ddinas hon a leddir gan y cleddyf, a chan y newyn, a chan yr haint; ond y neb a elo allan, ac a gilio at y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch, a fydd byw, a’i einioes fydd yn ysglyfaeth iddo.

º10 Canys mi a osodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg, ac nid er * da, medd yr ARGLWYDD: yn llaw brenin Babilon y rhoddir hi, ac efe a’i llysg hi ‘a than.

º11 Ac am dy brenin Jwda, dywed, Gwrandewch air yr ARGLWYDD.

º12 O dŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Bernwch uniondeb y bore, ac achubwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr, rhag i’m llid dorri allan fel tân, a llosgi fel na allo neb ei ddiffodd, oherwydd drygioni eich gweithredoedd.

º13 Wele fi yn dy erbyn, yr hon wyt yn preswylio y dyffryn, a chraig y gwastadedd, medd yr ARGLWYDD; y rhai a ddywedwch, Pwy a ddaw i waered i’n herbyn? neu, Pwy a ddaw i’n hanheddau?

º14 Ond mi a ymwelaf â chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd, medd yr ARGLWYDD; a mi a gyneuaf dân yn ei choedwig, ac efe a ysa bob dim o’i hamgylch hi.

PENNOD 22

º1
FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD, DOS di i waered i dŷ brenin Jwda, a llefara yno y gair hwn;

º2 A dywed, Gwrando air yr ARGLWYDD; frenin Jwda, yr hwn wyt yn eistedd ar frenhinfainc Dafydd, ti, a’th weision, a’th bobl y rhai sydd yn dyfod i mewn trwy y pyrth hyn:

º3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Gwnewch farn a chyfiawnder, a gwaredwch y gorthrymedig o law y gorthrym­wr: na wnewch gam, ac na threisiwcn y dieithr, yr amddifad, na’r weddw, ai. na thywelltwch waed gwirion yn y lle hwn.

º4 Canys os gan wneuthur y gwnewch y peth hyn, daw trwy byrth y t  hwn frenhinoedd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, efe, a’i weision, a’i bobl.

º5 Eithr oni wrandewch y geiriau hyn, i mi fy him y tyngaf, medd yr ARGLWYDD, y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd.

º6 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am dy brenin Jwda; Gilead wyt i mi, a phen Libanus: eto yn ddiau mi a’th wnaf yn ddiffeithwch, ac yn ddinasoedd anghyfanheddol.

º7 Paratoaf hefyd i’th erbyn anrheithiwyr, pob un a’i arfau: a hwy a dorrant dy ddewis gedrwydd, ac a’u bwriant i’r tân.

º8 A chenhedloedd lawer a ânt heblaw y ddinas hon, ac a ddywedant bob un wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth yr AR­GLWYDD fel hyn i’r ddinas fawr hon?

º9 ‘Yna yr atebant. Am iddynt ymwrthod â chyfamod yr ARGLWYDD eu Duw, ac addoli duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt.

º10 Nac wylwch dros y marw, ac na ymofidiwch amdano, ond gan wylo wyl­wch am yr hwn sydd yn myned ymaith’: canys ni ddychwel mwyach, ac ni wel wlad ei enedigaeth.

º11 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Salum mab Joseia brenin Jwda, yr hwn a deymasodd yn lle Joseia ei dad; yr hwn a aeth allan o’r lle hwn; Ni ddy­chwel efe yno mwyach.

º12 Eithr yn y lle y caethgludasant ef iddo, yno y bydd efe farw; ac ni we! efe y wlad hon mwyach.

º13 Gwae yr hwn a adeilado ei d  trwy anghyfiawnder, a’i ystafellau trwy gam; gan beri i’w gymydog ei wasanaethu yn rhad, ac heb roddi iddo am ei waith:

º14 Yr hwn a ddywed. Mi a adeiladaf i mi dy eang, ac ystafellau helaeth; ac a nadd iddo ffenestri, a llofft o gedrwydd, wedi ei lliwio a fermilion.

º15 A gei di deyrnasu, am i ti ymgau mewn cedrwydd? oni fwytaodd ac oni yfodd dy dad, ac oni wnaeth efe farn a chyfiawnder, ac yna y bu dda iddo?

º16 Efe a farnodd gwyn y tlawd a’r

anghenus; yna y llwyddodd: onid fy adnabod i oedd hyn? medd yr ARGLWYDD,’

º17 Er hynny dy lygaid di a’th galon nid ydynt ond ar dy gybydd-dod, ac ar’ dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais, a chain.

º18 Am hynny fel hyn y dywed yr AR­GLWYDD am Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, Ni alarant amdano, gan ddywedyd, O fy mrawd! neu, O fy chwaer! ni alarant amdano ef, gan ddywedyd, O i6r! neu, O ei ogoniant ef!   ,

º19 A chladdedigaeth asyn y cleddir ef, wedi ei lusgo a’i daflu tu hwnt i byrth’ Jerwsalem. ‘

º20 Dring i Libanus, a gwaedda; cyfod dy lef yn Basan, a bloeddia o’r bylchau: canys dinistriwyd y rhai oll a’th garant.

º21 Dywedais wrthyt pan oedd esmwyth arnat; tithau a ddywedaist, Ni wrandawaf. Dyma dy arfer o’th ieuenctid, na wrandewaist ar fy llais.

º22 A gwynt a ysa dy holl fugeiliaid, a’th gariadau a ânt i gaethiwed: yna y’th gywilyddir, ac y’th waradwyddir am dy holl ddrygioni.

º23 Ti yr hon wyt yn trigo yn Libanus, yn nythu yn y cedrwydd, mor hawddgar fyddi pan ddelo gwewyr arnat, fel cnofeydd gwraig yn esgor!

º24 Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD, pe byddai Coneia mab Jehoiacim brenin Jwda yn fodrwy ar fy neheulaw, diau y tynnwn di oddi yno:

º25 A mi a’th roddaf di yn llaw y rhai sydd yn ceisio dy einioes, ac yn llaw y rhai y mae arnat ofn eu hwynebau, sef i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law y Caldeaid.

º26 Bwriaf dithau hefyd, a’th fam a’th esgorodd, i wlad ddieithr, yr hon ni’ch ganwyd ynddi, ac yno y byddwch farw.

º27 Ond i’r wlad y bydd arnynt hiraeth am ddychwelyd iddi, ni ddychwelant yno.

º28 Ai delw ddirmygus ddrylliedig yw y gŵr hwn Coneia? ai llestr yw heb hoffter ynddo? paham y bwriwyd hwynt ymaith, efe a’i had, ac y taflwyd hwynt i wlad nid adwaenant?

º29 O ddaear, ddaear, ddaear, gwrando air yr ARGLWYDD.

º30 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Ysgrifennwch y gŵr hwn yn ddi-blant, gŵr ni ffynna yn ei ddyddiau: canys ni ffynna o’i had efun a eisteddo ar orseddfa Dafydd, nac a lywodraetho mwyach yn Jwda.

PENNOD 23

º1
GWAE y bugeiliaid sydd yn difetha ac yn gwasgaru defaid fy mhorfa! medd yr ARGLWYDD.

º2 Am hynny fel hyn y dywed AR­GLWYDD DDUW Israel yn erbyn y bugeil­iaid sydd yn bugeilio fy mhobl; Chwi a wasgarasoch fy nefaid, ac a’u hymlidiasoch, ac nid ymwelsoch â hwynt: wele fi yn ymweled â  chwi, am ddrygioni eich gweithredoedd, medd yr ARGLWYDD.

º3 A mi a gasglaf weddill fy nefaid o’r holl wiedydd lle y gyrrais hwynt, a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w corlannau; yna yr amlhant xxxx  ac y chwanegant.

º4 Gosodaf hefyd arnynt fugeiliaid, y rhai a’u bugeilia hwynt; ac nid ofnant mwyach, ac ni ddychrynant, ac ni byddant yn eisiau, medd yr ARGLWYDD.

º5  Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y cyfodaf i Dafydd Flaguryn cyfiawn, a Brenin a deyrnasa ac a lwydda, ac a wna fam a chyfiawnder ar y ddaear.’

º6 Yn ei ddyddiau ef yr achubir Jwda, ac Israel a breswylia yn ddiogel: a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef, YR ARGLWYDD EIN CYFIAWNDER.

º7 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pryd na ddywedant mwyach, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o wlad yr Aifft:

º8 Eithr, Byw yw yr ARGLWYDD, yr hwn a ddug i fyny, ac a dywysodd had tŷ Israel o dir y gogledd, ac o bob gwlad lle y gyraswn i hwynt; a hwy a gant aros yn eu gwlad eu hun.

º9  Oherwydd y proffwydi y torrodd fy nghalon ynof, fy holl esgyrn a grynant: yr ydwyf fel un meddw, ac fel un wedi i win ei orchfygu; oherwydd yr ARGLWYDD, ac oherwydd geiriau ei sancteiddrwydd ef.





º10 Canys llawn yw y ddaear o odinebwyr: canys oherwydd llwon y gofidiodd y ddaear, ac y sycfaodd tirion leoedd yr anialwch; a’u helynt sydd ddrwg, a’u cadernid nid yw uniawn.

º11 Canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd a ragrithiasant: yn fy nhŷ hefyd y cefais eu drygioni hwynt, medd yr ARGLWYDD.

º12 Am hynny y bydd eu ffordd yn llithrig iddynt yn y tywyllwch; gyrrir hwynt rhagddynt, a syrthiant ynddi: canys myfi a ddygaf arnynt ddrygfyd, sef blwyddyn eu gofwy, medd yr ARGLWYDD.

º13 Ar broffwydi Samaria y gwelais hefyd beth diflas: proffwydasant yn Baal, a hudasant fy mhobl Israel.

º14 Ac ar broffwydi Jerwsalem y gwelais beth erchyll: torri priodas, a rhodio mewn celwydd: cynorthwyant hefyd ddwylo y drygionus, fel na ddychwel neb oddi wrth ei ddrygioni: y mae y rhai hyn oll i mi fel Sodom, a’i thrigolion fel Gomorra.

º15 Am hynny fel hyn y dywed AR­GLWYDD y lluoedd am y proffwydi, Wele, mi a’u bwydaf hwynt a’r wermod, ac a’u diodaf hwynt a dwfr bust!: canys oddi wrth broffwydi Jerwsalem yr aeth lledrith allan i’r holl dir.

º16 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Na wrandewch ar eiriau y proffwydi sydd yn proffwydo i chwi: y maent yn eich gwneuthur yn ofer: gweiedigaeth eu calon eu hunain a lefarant, ac nid o enau yr ARGLWYDD.

º17 Gan ddywedyd y dywedant wrth fy nirmygwyr, Yr ARGLWYDD a ddywedodd, Bydd i chwi heddwch; ac wrth bob un sydd yn rhodio wrth amcan ei galon ei hun y dywedant, Ni ddaw arnoch niwed.

º18 Canys pwy a safodd yng nghyfrinach yr ARGLWYDD, ac a welodd ac a glywodd ei air ef? pwy hefyd a ddaliodd ar ei air ef, ac a’i gwrandawodd?

º19 Wele, corwynt yr ARGLWYDD a aeth allan mewn llidiowgrwydd, sef corwynt angerddol a syrth ar ben y drygionus.

º20 Digofaint yr ARGLWYDD ni ddychwel, nes iddo wneuthur, a nes iddo gwblhau
meddwl ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hynny yn eglur.

º21 Ni hebryngais i y proffwydi hyn, eto hwy a redasant; ni leferais wrthynt, er hynny hwy a broffwydasant.

º22 A phe safasent yn fy nghyngor, a phe traethasent fy ngeiriau i’m pobl; yna y gwnaethent iddynt ddychwelyd q’u ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eu gweithredoedd.

º23 Ai Duw o agos ydwyf fi, medd yr ARGLWYDD, ac nid Duw o bell?

º24 A lecha un mewn dirgel leoedd, fel nas gwelwyf fi ef? medd yr ARGLWYDD: onid ydwyf fi yn llenwi y nefoedd a’r ddaear? medd yr ARGLWYDD.

º25 Mi a glywais beth a ddywedodd y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd yn fy enw, gan ddywedyd, Breuddwydiais, breuddwydiais.

º26 Pa hyd y bydd hyn yng nghalon y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd? ie, proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain ydynt.

º27 Y rhai sydd yn meddwl peri i’m pobl anghofio fy enw ttwy eu breuddwydion a fynegant bob un i’w gymydog; fel yr anghofiodd eu tadau fy enw, er mwyn Baal.

º28 Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged freuddwyd; a’r hwn y mae ganddo fy ngair, llefared fy ngair mewn gwirionedd: beth yw yr us wrth y gwenith? medd yr ARGLWYDD.

º29 Onid yw fy ngair i megis tan? medd yr ARGLWYDD; ac fel gordd yn dryllio’r graig?

º30 Am hynny wele fi yn ‘erbyn y proff­wydi, medd yr ARGLWYDD, y rhai sydd yn lladrata fy ngeiriau, bob un oddi ar ei gymydog.

º31 Wele fi yn erbyn y proffwydi, medd yr ARGLWYDD, y rhai a lymhant eu tafodau, ac a ddywedant, Efe a ddywed­odd.

º32 Wele fi yn erbyn y rhai a broffwydant freuddwydion celwyddog, medd yr ARGLWYDD, ac a’u mynegant, ac a hudant fy mhobl a’u celwyddau, ac a’u gwagedd, a mi heb eu gyrru hwynt, ac heb orchy-  xxxx fflyn tddynt: aan hynny ni wnânt ddim lles i’r bobl hyn, medd yr ARGLWYDD.

º33 A phan ofynno y bobl hyn, neu y proffwyd, neu yr offeiriad, i ti, gan ddywedyd, Beth yw baich yr ARGLWYDD? yna y dywedi wrthynt. Pa faich? eich gwrthod a wnaf, medd yr ARGLWYDD.

º34 A’r proffwyd, a’r offeiriad, a’r bobl, y rhai a ddywedo, Baich yr ARGLWYDD, myfi a ymwelaf a’r gŵr hwnnw, ac a’i dŷ.

º35 Fel hyn y dywedwch bob un wrth ei gymydog, a phob un wrth ei frawd, Beth a atebodd yr ARGLWYDD? a pha beth a lefarodd yr ARGLWYDD?

º36 Ond am faich yr ARGLWYDD na wnewch goffa mwyach; canys baich i bawb fydd ei air ei hun: oherwydd chwy-chwi a wyrasoch eiriau y Duw byw, ARGLWYDD y lluoedd, ein Duw ni.

º37 Fel hyn y dywedi wrth y proffwyd, Pa ateb a roddodd yr ARGLWYDD i ti?’a pha beth a lefarodd yr ARGLWYDD?

º38 Ond gan eich bod yn dywedyd, Baich, yr ARGLWYDD; am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, Baich yr ARGLWYDD, a mi wedi anfon atoch, gan ddywedyd, Na ddywedwch, Baich yr ARGLWYDD:

º39 Am hynny wele, myfi a’ch llwyr anghofiaf chwi, ac mi a’ch gadawaf chwi;  a’r ddinas yr hon a roddais i chwi ac i’ch tadau, ac a’ch bwriaf allan o’m golwg.

º40 A mi a roddaf arnoch warthrudd tragwyddol, a gwaradwydd tragywydd, yr hwn nid anghofir.

PENNOD 24

º1
"VR ARGLWYDD a ddangosodd i mi, ac
— wele ddau gawell o ffigys wedi eu gosod ar gyfer tcml yr ARGLWYDD, wedi i Nebuchodonosor brenin Babilon gaethgludo Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a thywysogion Jwda, gyda’r seiri a’r gofaint o Jerwsalem, a’u dwyn i Babilon.

º2 Un cawell oedd o ffigys da iawn, fel ffigys yr aeddfediad cyntaf: a’r cawell arall oedd o ffigys drwg iawn, y rhai ni ellid eu bwyta rhag eu dryced.

º3 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyl, Belh a weli di, Jeremeia? A mi a ddyweilais, Ffigys: y ffigys da, yn dda iawn; a’r rhai drwg, yn ddrwg iawn, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced.

º4  Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

º5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, Fel y ffigys da hyn, felly y cydnabyddaf fi gaethglud Jwda, y rhai a anfonais O’r lle hwn i wlad y Caldeaid er daioni.

º6 Canys mi a osodaf fy ngolwg arnynt er daioni, ac a’u dygaf drachefn i’r wlad hon, ac a’u hadeiladaf hwynt, ac ni thynnaf i lawr; plannaf hefyd hwynt, ap nis diwreiddiaf.

º7 Rhoddaf hefyd iddynt galon i’m hadnabod, mai yr ARGLWYDD ydwyf fi: a, hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwy: canys hwy-a droant ataf fi a’u holl galon.

º8 Ac fel y ffigys drwg, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced, (diau fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,) felly y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i benaethiaid, a gweddill Jerwsalem, y rhai a weddillwyd yn y wlad hon, a’r rhai sydd yn trigo yn nhir yr Aifft:

º9 Ie, rhoddaf hwynt i’w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, er drwg iddynt, i fod yn waradwydd ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith, ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt.

º10 A mi a anfonaf arnynt y cleddyf, newyn, a haint, nes eu darfod oddi ar y ddaear yr hon a roddais iddynt ac i’w tadau.

PENNOD 25

º1
‘V GAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia * am holl bobl Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, hon oedd y flwyddyn gyntaf i Nebuchodonosor brenin Babilon;

º2 Yr hwn a lefarodd y proffwyd Jeremeia wrth holl bobl Jwda, ac wrth holl breswylwyr Jcrwhalem, gan ddy­wedyd,

º3 Er y drydedd flwyddyn ar ddeg i Joseia mab Amon brenin Jwda, hyd y




dydd hwn, hortao yw y drydedd flwyddyn ar hugain, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, ac mi a ddywedais wrthych, gan foregodi a llefaru, ond ni wrandawsoch.

º4 A’r ARGLWYDD a anfonodd atoch chwi ei holl weision y proffwydi, gan foregodi a’u hanfon; ond ni wrandawsoch, ac ni ogwyddasoch eich clusti glywed.

º5 Hwy a ddywedent, Dychwelwch yr awr hon bob un oddi wrth ei ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eich gweithredoedd; a thrigwch yn y tir a roddodd yr ARGLWYDD i chwi ac i’ch tadau, byth ac yn dragywydd:

º6 Ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, I’w gwasanaethu, ac i ymgrymu iddynt; ac na lidiwch fi a gweithredoedd eich dwylo, ac ni wnaf niwed i chwi.

º7 Er hynny ni wrandawsoch arnaf, medd yr ARGLWYDD, fel y digiech fi a gweithred­oedd eich dwylo, er drwg i chwi eich hunain.

º8 Am hynny fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau,

º9 Wele, mi a anfonaf ac a gymeraf holl deuluoedd y gogledd, medd yr AR­GLWYDD, a Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a’u dygaf hwynt yn erbyn y wlad hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; difrodaf hwynt hefyd, a gosodaf hwynt yn syndod, ac yn chwibaniad, ac yn anrhaith tragwyddol.

º10 Paraf hefyd i lais hyfrydwch, ac i lais llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, i sŵn y meini melinau, ac i lewyrch y canhwyllau, ballu ganddynt.

º11 A’r holl dir hwn fydd yn ddiffeithwch, ac yn syndod: a’r cenhedloedd hyn a wasanaethant frenin Babilon ddeng mlynedd a thrigain.

º12 A phan gyflawner deng mlynedd a thrigain, myfi a ymwelaf a brenin Babilon, ac a’r genedl honno, medd yr ARGLWYDD, am eu hanwiredd, ac a gwlad y Caldeaid; a mi a’i gwnaf hi yn anghyfannedd tragwyddol.

º13 Dygaf hefyd ar y wlad honno fy holl
eiriau, y rhai a lefarais i yn ei herbyn, sef cwbl ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn; yr hyn a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd.

º14 Canys cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddynt hwythau: a mi a dalaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd, ac yn ôl gwaith eu dwylo eu him.

º15 Canys fel hyn y dywed yr AR­GLWYDD, Duw Israel, wrthyf fi, Cymer ffiol win y digofaint yma o’m llaw, a dod hi i’w hyfed i’r holl genhedloedd y rhai yr wyf yn dy anfon atynt.

º16 A hwy a yfant, ac a frawy chant, ac a wallgofant, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonaf yn eu plith.

º17 Yna mi a gymerais y ffiol o law yr ARGLWYDD, ac a’i rhoddais i’w hyfed i’r holl genhedloedd y rhai yr anfonasai yr ARGLWYDD fi atynt:

º18 I Jerwsalem, ac i ddinasoedd Jwda, ac i’w brenhinoedd, ac i’w thywysogion: i’w gwneuthur hwynt yn ddiffeithwch, yn syndod, yn chwibaniad, ac yn felltith, fel y mae heddiw;

º19 I Pharo brenin yr Aifft, ac i’w weision, ac i’w dywysogion, ac i’w holl bobl;

º20 Ac i’r holl bobl gymysg, ac i holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac i Ascalon, ac Assa, ac Ecron, a gweddill Asdod,

º21 I Edom, a Moab, ameibionAmmon;

º22 I holl frenhinoedd Tyrus hefyd, ac d holl frenhinoedd Sidon, ac i frenhinoedd yr ynysoedd y rhai sydd dros y môr;

º23 I Dedan, a Thema, a Bus; ac i bawb o’r cyrrau eithaf;

º24 Ac i holl frenhinoedd Arabia, ac i holl frenhinoedd y bobl gymysg, y rhai sydd yn trigo yn yr anialwch;

º25 Ac i holl frenhinoedd Simri, ac i holl frenhinoedd Elam, ac i holl frenhinoedd y Mediaid;

º26 Ac i holl frenhinoedd y gogledd, agos a phell, bob un gyda’i gilydd; ac i holl deymasoedd y byd, y rhai sydd ar wyneb y ddaear: a brenin Sesach a yf ar eu hôl hwynt.

º27 A thi a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Yfwch a meddwch, a chwydwch, a syrthiwch, ac na chyfodwch, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonwyf i’ch plith.

º28 Ac os gwrthodant dderbyn y ffiol o’th law di i yfed, yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Diau yr yfwch:

º29 Canys wele fi yn dechrau drygu y ddinas y gelwir fy enw arni, ac a ddihenfewchchwiynddigerydd? Na ddihengwcn; canys yr ydwyf fi yn galw am gleddyf ar holl drigolion y ddaear, medd ARGLWYDD y lluoedd.

º30 Am hynny proffwyda yn eu herbyn yr holl eiriau hyn, a dywed wrthynt, Yr ARGLWYDD oddi uchod a rua, ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd; gan ruo y rhua efe ar ei drigle, bloedd, fel rhai yn sathru grawnwin, a rydd efe yn erbyn holl breswylwyr y ddaear.

º31 Daw twrf hyd eithafoedd y ddaear; canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a’r cenhedloedd: efe a ymddadlau a phob cnawd, y drygionus a ddyry efe i’r cleddyf, medd yr ARGLWYDD.

º32 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Wele ddrwg yn myned allan o genedl at genedl, a chorwynt mawr yn cyfodi o ystlysau y ddaear.

º33 A lladdedigion yr ARGLWYDD a fyddant y dwthwn hwnnw o’r naill gŵr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: ni alerir drostynt, ac nis cesglir, ac nis cleddir hwynt; fel tomen y byddant ar wyneb y ddaear.

º34 Udwch, fugeiliaid, a gwaeddwch; ac ymdreiglwch mewn lludw, chwi flaenoriaid y praidd: canys cyflawnwyd dyddiau eich lladdedigaeth a’ch gwasgarfa; a chwi a syrthiwch fel llestr dymunol.

º35 Metha gan y bugeiliaid ffoi, a chan flaenoriaid y praidd ddianc.

º36 Clywir llef gwaedd y bugeiliaid, ac udfa blaenoriaid y praidd: canys yr ARGLWYDD a anrheithiodd eu porfa hwynt.

º37 A’r anheddau heddychlon a ddryllir, gan lid digofaint yr ARGLWYDD.

º38 Efe a wrthododd ei loches, fel cenau llew: canys y mae eu tir yn anghyf­annedd, gan lid y gorthrymwr, a chan lid ei ddigofaint ef.

PENNOD 26

º1
YN nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

º2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Saf yng nghyntedd tŷ yr ARGLWYDD, a llefara wrth holl ddinasoedd Jwda, y rhai a ddêl i addoli i dŷ yr ARGLWYDD, yr holl eiriau a orchmynnwyf i ti eu llefaru wrthynt; na atal air:

º3 I edrych a wrandawant, ac a ddychwelant bob un o’i ffordd ddrwg; fel yr edifarhawyf finnau am y drwg a amcenais ei wneuthur iddynt, am ddrygioni eu gweithredoedd.

º4 A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oni wrandewch arnaf i rodio yn fy nghyfraith, yr hon a roddais-ger eich bron,

º5 I wrando ar eiriau fy ngweision y proffwydi, y rhai a anfonais atoch, gan godi yn fore, ac anfon, ond ni wrandaw­soch chwi;

º6 Yna y gwnaf y t  hwn fel Seilo, a’r ddinas hon a wnaf yn felltith i holl genhedloedd y ddaear.

º7 Yr offeiriaid hefyd, a’r proffwydi, a’r holl bobl a glywsant Jeremeia yn llefaru y geiriau hyn yn nhŷ yr ARGLWYDD.

º8 A phan ddarfu i Jeremeia lefaru yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD ei ddywedyd wrth yr holl bobl; yna yr offeiriaid, a’r proffwydi, a’r holl bobl a’i daliasant ef, gan ddywedyd, Ti a fyddi farw yn ddiau.

º9 Paham y proffwydaist yn enw yr AR­GLWYDD, gan ddywedyd. Fel Seilo y bydd y tŷ hwn, a’r ddinas hon a wneiryn anghyf­annedd heb breswyliwr? Felly ymgasglodd yr holl bobl yn erbyn Jeremeia yn nhŷ yr ARGLWYDD.

º10 Pan glybu tywysogion Jwda y geiriau hyn, yna hwy a ddaethant i fyny o dŷ y brenin i dŷ yr ARGLWYDD, ac a eisteddasant ar ddrws porth newydd tŷ yl ARGLWYDD.
 



 

º11 Yna yr offeiriaid a’r:proffwydi a lefarasant wrth y tywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddywedyd. Barn marwolaeth sydd ddyledus i’r gŵr hwn: canys
efe a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, megis y clywsoch a’ch clustiau.

º12 Yna y llefarodd Jeremeia wrth yr holl dywysogion, ac wrth yr holl bobl, 3gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a’m hanftmodd i broffwydo yn erbyn y tŷ hwn, ac yn erbyn y ddinas bon, yr holl eiriau a glywsoch.


 13 Gan hynny gwellhewch yn awr eich ffyrdd a’ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw; ac fe a edifarha yr ARGLWYDD am y drwg a lefarodd efe i’ch erbyn.

º14 Ac amdanaf fi, wele fi yn eich dwylo.; gwnewch i mi fel y gweloch yn dda ac yip. uniawn.;

º15 Ond gwybyddwch yn sicr, os chwi a’m lladd, eich bod yn dwyn gwaed gwirion arnoch eich hunain, ac ar y ddinas hon, ac ar ei thrigolion: canys mewn gwirioneddyr ARGLWYDD a’m hanfonodd atoch i lefaru, lle y clywech, yr holl eiriau hyn.

º16 Yna y tywysogion, a’r holl bobl, a ddywedasant wrth yr offeiriaid a’r proffwydi, Ni haeddai y gŵr hwn farn marwolaeth: canys yn enw yr AR­GLWYDD ein Duw y llefarodd efe wrthym.

º17 Yna rhai o henuriaid y wlad a godasant, ac a lefarasant wrth holl gynulleidfa y bobl, gan ddywedyd,

º18 Micha y Morasthiad oedd yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, ac efe a lefarodd wrth holl bobl Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed AR­GLWYDD y lluoedd; Seion a erddir fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ yn uchelfeydd i goed.

º19 A roddodd Heseceia brenin Jwda, a holl Jwda, efi farwolaeth? oni ofnodd efe yr ARGLWYDD, ac oni weddïodd efe gerbron yr ARGI.WYDD, fel yr edifarhaodd yr ARGLWYDD am y drwg a draethasai efe yn eu herbyn? Fel hyn y gwnaem ddrwg mawr yn erbyn ein heneidiau.

º20 Ac yr oedd hefyd ŵr yn proffwydo yn enw yr ARGLWYDD, Ureia mab Semaia, o Ciriath-jearim, yr hwn a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, ac yn erbyn y wlad hon, yn ôl holl eiriau Jeremeia.

º21 A phan glywodd y brenin Jehoiacim, ifl’i holl gedyrn, a’r holl dywysogion, ei eiriau ef, y brenin a geisiodd ei ladd ef: ond pan glywodd Ureia, efe a ofnodd, ac a ffodd, ac a aeth i’r Aifft.

º22  A’r brenin Jehoiacim a anfonodd  wŷr i’r Aifft, sef Einathan mab Achbor, a .gwŷr gydag ef i’r Aifft:


º23 A hwy a gyrchasant Ureia allan o’r Aifft, ac a’i dygasant ef at y brenin Jehoiacim, yr hwn a’i lladdodd ef â’r cleddyf  , ac a fwriodd ei gelain ef i feddau y cyffredin.

º24 Eithr llaw Ahicam mab Saffan oedd gyda Jeremeia, fel na roddwyd ef i law y..bobl i’w ladd.

PENNOD 27

º1
YN nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

º2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wthyf, Gwna i ni rwymau a gefynnau  a dod hwynt am dy wddf; .

º3 Ac anfon hwynt at frenin Edom, ac at frenin Moab, ac at frenin meibion Ammon, ac at frenin Tyrus, ac at frenin Sidon, yn llaw y cenhadau a ddelo i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda;

º4 A gorchymyn iddynt ddywedyd wrth eu harglwyddi, Fel hyn y dywed AR­GLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Fel hyn y dywedwch wrth eich arglwyddi;

º5 Myfi a wneuthum y ddaear, y dyn a’r anifail sydd ar wyneb y ddaear, a’m grym mawr, ac a’m braich estynedig, ac a’u rhoddais hwynt i’r neb y gwelais yn dda.

º6 Ac yn awr mi a roddais yr holl diroedd hyn yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes i’w wasanaethu ef.

º7 A’r holl genhedloedd a’i gwnsanaethant ef, a’i fab, a mab ei fab, nes dyfod gwir amser ei wlad ef, yna cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddo ef.
 

º8 Ond y genedl a’r deyrnas nis gwasanaetho ef, sef Nebuchodonosor brenin Babilon, a’r rhai ni roddant eu gwddf dan iau brenin Babilon; â’r cleddyf  , ac â newyn, ac â haint, yr ymwelaf â’r genedl honno, medd yr ARGLWYDD, nes i mi eu difetha hwynt trwy ei law ef.

º9 Am hynny na wrandewch ar eich proffwydi, nac ar eich dewiniaid, nac A eich breuddwydwyr, nac ar eich hudolion, nac ar eich swynyddion, y rhai sydd yn llefaru wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon:

º10 Canys celwydd y mae y rhai hyn yn ei broffwydo i chwi, i’ch gyrru chwi ymhell o’ch gwlad, ac fel y bwriwn chwi ymaith, ac y methoch.

º11 Ond y genedl a roddo ei gwddf dan iau brenin Babilon, ac a’i gwasanaetho ef, y rhai hynny a adawaf fi yn eu gwlad eu hun, medd yr ARGLWYDD; a hwy a’i llafuriant hi, ac a drigant ynddi.

º12 Ac mi a leferais wrth Sedeceia brenin Jwda yn ôl yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, Rhoddwch eich gwarrau dan iau brenin Babilon, a gwasanaethwch ef a’i bobl, fel y byddoch byw.

º13 Paham y byddwch feirw, ti a’th bobl, trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, fel y dywedodd yr ARGLWYDD yn erbyn y genedl ni wasanaethai frenin Babilon?

º14 Am hynny na wrandewch ar eiriau y proffwydi y rhai a lefarant wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon: canys y maent yn proff­wydo celwydd i chwi.

º15 Oherwydd nid myfi a’u hanfonodd hwynt, medd yr ARGLWYDD; er hynny hwy a broffwydant yn fy enw ar gelwydd, fel y gyrrwn chwi ymaith, ac y darfyddai amdanoch chwi, a’r proffwydi sydd yn proffwydo i chwi.

º16 Myfi a leferais hefyd wrth yr offeir­iaid, a’r holl bobl hyn, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Na wrandewch ar eiriau eich proffwydi, y rhai sydd yn proffwydo i chwi, gan ddy­wedyd., Wele, llestri tŷ yr ARGLWYDD a ddygir yn eu hôl o Babilon bellach ar frys; canys celwydd y maent yn ei. broffwydo i chwi.

º1:7 Na wrandewch arnynt; gwasan­aethwch chwi frenin Babilon, a byddwch fyw: paham y byddai y ddinas hon yn ddiffeithwch? . ..

º18 Ond os proffwydi ydynt hwy, ac od ydyw gair yr ARGLWYDD gyda hwynt, eiriolant yr awr hon ar ARGLWYDD y lluoedd, nad elo y llestri a adawyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhŷ brenin. Jwda, ac yn Jerwsalem, i Babilon.

º19 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, am y colofnau, ac am y môr, ac am yr ystolion, ac am y rhan arall o’r llestri a adawyd yn y ddinas hon,

º20 Y rhai ni ddug Nebsichodonosor brenin Babilon ymaith, pan gaethgludodd efe Jechoneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, o Jerwsalem i Babilon, a holl bendefigion Jwda a Jerwsalem;

º21 Ie, fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, am y llestri a ada­wyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhŷ brenin Jwda a Jerwsalem;

º22 Hwy a ddygir i Babilon, ac yno y byddant hyd y dydd yr ymwelwyf â hwynt, medd yr ARGLWYDD: yna y dygaf hwynt i fyoy, ac y dychwelaf hwynt i’r lle hwn.

PENNOD 28

º1
AC yn y flwyddyn honno, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn, ar y pumed mis, y llefarodd Hananeia mab Asur y profiwyd, yr hwn oedd o Gibeon, wrthyf fi yn nhŷ yr ARGLWYDD, yng ngŵydd yr offeiriaid a’r holl bobl, gan ddywedyd,

º2 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Myfi a dorrais iau brenin Babilon.

º3 O fewn ysbaid dwy flynedd myfi a ddygaf drachefn i’r lle hwn holl lestri tŷ yr ARGLWYDD, y rhai a gymerth Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith o’r lle hwn, ac a’u dug i Babilon; ddygaf Jechoneia mab fel y gwasanaethont Nebuchodonosor n Jwda, a holl eaethelud brenin Babilon, a hwy a’i gwasanaethant ef: mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes iddo ef.

 



 

º15  Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, Gwrando yn awr, Hananeia; Ni anfonodd yr ARGLWYDD mohonot ti; ond yr wyt yn peri i’r bobl hyn ymddiried mewn celwydd.

º16 Am hynny fel hyn y dywed yr AR­GLWYDD, Wele, mi a’th fwriaf di oddi ar wyneb y ddaear: o fewn y flwyddyn hon y byddi farw, oherwydd i ti ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.

º17 Felly Hananeia y proffwyd a fu farw y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.

PENNOD 29

º1
DYMA eiriau y llythyr a anfonodd Jeremeia y proffwyd o Jerwsalem at weddill henuriaid y gaethglud, ac at yr offeiriaid, ac at y proffwydi, ac at yr holl bobl y rhai a gaethgludasai Nebuchodo­nosor o Jerwsalem i Babiloa;

º2 (Wedi myned Jechoneia y brenin, a’r frenhines, a’r ystafellyddion, tywysogion Jwda a Jerwsalem, a’r seiri a’r gofaint, allan o Jerwsalem,)

º3 Yn llaw Elasa mab Saffan, a Gemareia mab Hiloeia, y rhai a anfonodd Sedeceia brenin Jwda at Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, gan ddywedyd,

º4 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, wrth.yr holl gaeth­glud, yr hon a berais ei chaethgludo o Jerwsalem i Babilon;

º5 Adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddynt; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.;

º6 Cymerwch wragedd, ac enillwch feibion a merched; a chymerwch wragedd i’ch meibion, a rhoddwch eich merched i wŷr, fel yr esgoront ar feibion a merched, ac yr amlhaoch chwi yno, ac na leihaoch.

º7 Ceisiwch hefyd heddwch y ddinas yr hon y’ch caethgludais iddi, a gweddiwch ar yr ARGLWYDD drosti hi; canys yn ei

º4 Ac mi 3  _, „_ w   w** c€ mau Jehoiacim brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda, y rhai a aethant i Babilon, drachefn i’r lle hwn, medd yr ARGLWYDD; canys mi a dorraf iau brenin Babilon.

º5 Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, yng ngŵydd yr offeiriaid, ac yng ngŵydd yr holl bobl, y rhai oedd yn sefyll yn nhŷ yr ARGLWYDD;

º6 Ie, y proffwyd Jeremeia a ddywedodd, Amen, poed felly y gwnelo yr ARGLWYDU: yr ARGLWYDD a gyflawno dy eiriau di, y rhai a broffwydaist, am ddwyn drachefn lestri tŷ yr ARGLWYDD, a’r holl gaethglud, o Babilon i’r lle hwn.

º7 Eto, gwrando di yr awr hon y gair yma, yr hwn a lefaraf fi lle y clywech di a lle clywo yr holl bobl;

º8 Y proffwydi y rhai a fuant o’m blaen i, ac o’th flaen dithau erioed, a broffwydasant yn erbyn gwledydd lawer, ac yn erbyn teyrnasoedd mawrion, am ryfel, ac am ddrygfyd, ac am haint.

º9 Y proffwyd a broffwydo am heddwch, pan ddêl gair y proffwyd i ben; yr adnabyddir y proffwyd, mai yr ARGLWYDD a’i hanfonodd ef mewn gwirionedd.

º10 Yna Hananeia y proffwyd a gymerodd y gefyn oddi am wddf Jere­meia y proffwyd, ac a’i torrodd ef.

º11 A Hananeia a lefarodd yng ngŵydd yr holl bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y modd hyn y torraf fi iau Nebuchodonosor brenin Babilon o fewn ysbaid dwy flynedd oddi ar war pob cenedl.
A Jeremeia y proff­wyd a aeth i ffordd.

º12 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia y proffwyd, wedi i Hananeia y proffwyd dorri y gefyn oddi am wddf y proffwyd Jeremeia, gan ddywedyd,

º13 DOS di, a dywed i Hananeia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Gefynnau pren a dorraist ti; ond ti a wnei yn eu lle hwynt efynnau o haearn.

º14 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Rhoddaf iau o haearn ar war yr holl renhedloedd hyn, heddwch hi y bydd heddwch i chwithau.

º8 Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Na thwylled eich proffwydi y rhai sydd yn eich mysg chwi mohonoch, na’ch dewiniaid; ac na wrandewch ar eich breuddwydion y rhai yr ydych chwi yn peri eu breuddwydio:

º9 Canys y maent hwy yn proffwydo i chwi ar gelwydd yn fy enw i; ni anfonais’ i mohonynt, medd yr ARGLWYDD.

º10 Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pan gyflawner yn Babilon   ddeng mlynedd a thrigain, yr ymwelaf a chwi, ac a gyflawnaf a chwi fy ngair. daionus, trwy eich dwyn chwi drachefn i’r lle hwn.

º11 Oblegid myfi a wn y meddyliau yr wyf fi yn eu meddwl amdanoch chwi, medd yr ARGLWYDD, meddyliau heddwch ac nid niwed, i roddi i chwi y diwedd yr. ydych chwi yn ei ddisgwyl.

º12 Yna y gelwch chwi arnaf, ac yr ewch, ac y gweddiwch arnaf fi, a minnau. a’ch gwrandawaf.

º13 Ceisiwch fi hefyd, a chwi a’m cewch, pan y’m ceisioch a’ch holl galon.

º14 A mi a adawaf i chwi fy nghael, medd yr ARGLWYDD, a mi a ddychwelafi eich caethiwed, ac a’ch casglaf chwi o’r holl genhedloedd, ac o’r holl leoedd y rhai; y’ch gyrrais iddynt, medd yr ARGLWYDD; a mi a’ch dygaf chwi drachefn i’r lle y perais eich caethgludo chwi allan ohono.

º15 Oherwydd i chwi ddywedyd, Yr ARGLWYDD a gyfododd broffwydi i ni yn Babilon;,

º16 Gwybyddwch mai fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y brenin sydd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, ac am yr holl bobl sydd yn trigo yn y ddinas hon, ac am eich brodyr y rhai nid aethant allan gyda chwi i gaethglud;,

º17 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Wele fi yn anfon arnynt y cleddyf, a newyn, a haint, a mi a’u gwnaf hwynt fel y ffigys bryntion, y rhai ni ellir eu bwyta, rhag eu dryced.

º18 A mi a’u herlidiaf hwynt â’r cleddyf  , a newyn, ac a haint; ac mi a’u rhoddat hwynt i’w symud i holl deymasoedd y ddaear, yn felltith, ac yn chwithdra, ac yn chwibaniad, ac yn warth, ymysg yr holl genhedloedd lle y gyrrais i hwynt;

º19 Am na wrandawsant ar fy ngeiriau, medd yr ARGLWYDD, y rhai a anfonais i atynt gyda’m gweision y proffwydi, gan gyfodi yn fore, a’u hanfon; ond ni wrandawech, medd yr ARGLWYDD.

º20 Gan hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi oll o’r gaethglud a anfonais o Jerwsalem i Babilon:

º21 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, am Ahab mab Colaia, ac am Sedeceia mab Maaseia, y rhai sydd yn proffwydo celwydd i chwi yn fy enw i; Wele, myfi a’u rhoddaf hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a’u lladd hwynt yng ngŵydd eich llygaid chwi.

º22 A holl gaethglud Jwda, yr hon sydd yn Babilon, a gymerant y rheg hon oddi" wrthynt hwy, gan ddywedyd, Gwneled yr ARGLWYDD dydi fel Sedeceia ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon wrth y tân;

º23 Am iddynt wneuthur ysgelerder yn Israel, a gwneuthur godineb gyda gwragedd eu cymdogion, a llefaru ohonynt eiriau celwyddog yn fy enw i, y rhai nl orchmynnais iddynt; a minnau yn gwybod, ac yn dyst, medd yr ARGLWYDD.

º24 Ac wrth Semaia y Nehelamiad y lleferi, gan ddywedyd,

º25 Fel hyn y llefarodd ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, ArtS i ti anfon yn dy enw dy hun lythyrau at yr holl bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, ac at yr holl offeiriaid, gan ddywedyd,

º26 Yr ARGLWYDD a’th osododd di yn: offeiriad yn lle Jehoiada yr offeiriad, i fod yn olygwr yn nhŷ yr ARGLWYDD, ar bob gŵr gorffwyllog, ac yn cymryd arno broffwydo, i’w roddi ef mewn carchar, a chyffion:;’’

º27 Ac yn awr paham na cheryddaist ti Jeremeia o Anathoth, yr hwn sydd yn proffwydo i chwi?



yl amonoaa atom ni i Babilon, gan ddywedyd, Hir fydd y caethiwed hwn: adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddym; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.

º29 A Seffaneia yr offeiriad a ddarilenodd y llythyr hwn lle y clywodd Jeremeia y proffwyd.

º30 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd, ...

º31 Anfon at yr holl gaethglud, gan ddy­wedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Semaia y Nehelamiad; Oherwydd i Semaia broffwydo i chwi, a minnau heb ei anfon ef, a pheri ohono i chwi ymddiried mewn celwydd:

º32 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele mi a ymwelaf a Semaia y Nehelamiad, ac a’i had ef: ni bydd iddo un a drigo ymysg y bobl hyn, ac ni chaiff efe weled y daioni a wnaf fi i’m pobl, medd yl ARGLWYDD; am iddo ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.:

º28 Canys am hynny yr anfonodd atom ni 8 Canys y dydd hwnnw, medd AR-i Babilon, gan ddywedyd, Hir fydd y GLWYDD y lluoedd, y torraf fi ei iau ef TOoth..—! ‘ - o  y yg,. 3 g ddrylliaf dy
rwymau, ac ni chaiff dieithriaid wneuthur iddo ef eu gwasanaethu hwynt mwyach.

º9 Eithr hwy a wasanaethant yr AR­GLWYDD eu Duw, a Dafydd eu brenin, yr hwn a godaf fi iddynt.

º10 Ac nac ofna di, O fy ngwas Jacob, medd yr ARGLWYDD; ac na frawycha di, O Israel: canys wele, mi a’th achubaf di o bell, a’th had o dir eu caethiwed, a Jacob addychwel, ac a orffwys, ac a gaifflonydd, ac ni bydd a’i dychryno.

º11 Canys yr ydwyf fi gyda thi, medd yr ARGLWYDD, i’th achub di: er i mi wneuthur pen am yr holl genhedloedd lle y’th wasgerais, eto ni wnaf ben amdanat ti; eithr mi a’th geryddaf di mewn barn, ac ni’th adawaf yn gwbl ddigerydd.

º12 Oblegid fel hyn y dywed yr AR­GLWYDD, Anafus yw dy ysictod, a dolurus yw dy archoll.

º13 Nid oes a ddadleuo dy gwyn, fel y’th  ‘ iachaer; nid oes feddyginiaeth iechyd i ti. "y GAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia

º14 Dy holl gariadau a’th anghofiasant: * oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddy ai cheisiant mohonot ti; canys mi a’th nr   rA drewais a dymod gelyn, sef a chosbedigaeth y creulon, am amlder dy anwiredd: oblegid dy bechodau a amlhasant.

º15 Paham y bloeddi am dy ysictod? anafus yw dy ddolur, gan amlder dy anwiredd: oherwydd amlhau o’th bech­odau y gwneuthum hyn i ti.

º16 Am hynny y rhai oll a’th ysant a ysir; a chwbl o’th holl elynion a ânt i gaethiwed; a’th anrheithwyr di a fyddant yn anrhaith, a’th holl ysbeilwyr a roddaf fi yn ysbail.

º17 Canys myfi a roddaf iechyd i ti, ac a’th iachâf di o’th friwiau, medd yr ARGLWYDD; oblegid hwy a’th alwasant di, Yr hon a yrrwyd ymaith, gan ddywedyd, Dyma Seion, yr hon nid oes neb yn ei cheisio.

º18 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a ddychwelaf gaethiwed
pebvll Tflrnh a  o,w,——— 

PENNOD 30

º1
1 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, gan ddy­wedyd,

º3 Fel hyn y llefarodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, gan ddywedyd, Ysgrifenna i ti yr holl eiriau a leferais i wrthyt mewn llyfr.

º3 Canys wele y ddyddiau yn dyfod medd yr ARGLWYDD, i mi ddychwelyd caethiwed fy mhobl Israel a Jwda, medd yr ARGLWYDD: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’r wlad a roddais i’w tadau, a hwy a’i meddiannant hi. . ‘

º4 Dyma hefyd y geiriau a lefarodd.’yr ARGLWYDD am Israel, ac am Jwda:

º5 Oherwydd fel hyn y dywed yr AR­GLWYDD; Llef dychryn a glywsom m, ofn, ac nid heddwch.

º6 Gofynnwch yr awr hon, ac edrychwch a esgora gwryw; paham yr ydwyf fi yn gweled pob gŵr a’i ddwylo ar ei lwynau; fel gwraig wrth esgor, ac y rrowyd yr holl wynebau yn lesni?

º7 Och! canys mawr yw y dydd hwn, heb gyffelyb iddo; amser blinder yw hwo i Jacob; ond efe a waredir ohono.

pebyll Jacob, ac a gymeraf drugaredd ar ei anheddau ef; a’r ddinas a adeiledir ar-ei charnedd, a’r llys a erys yn ôl ei arfer.

º19 A moliant xxxx a a, allan ohonynt, a llais rhai yn gorfoleddu: a mi a’u hamlhaf hwynt, ac ni byddant anami; a mi a’u hanrhydeddaf hwynt, ac ni byddant wael.

º20 Eu meibion hefyd fydd megis cynt, a’u cynulleidfa a sicrheir ger fy mron; a mi a ymwelaf a’u holl orthrymwyr hwynt.

º21 A’u pendefigion fydd ohonynt ei   hun, a’u liywiawdwr a ddaw allan o’u mysg eu hun; a mi a baraf iddo nesau, ac efe a ddaw ataf: canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i hesau ataf fi? medd yr ARGLWYDD.

º22 A chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW i chwithau.

º23 Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn myned allan mewn dicter, corwynt parhaus; ar ben annuwiolion yr erys.

º24 Ni ddychwel digofaint llidiog yr ARGLWYDD, nes iddo ei wneuthur, ac nes iddo gyflawni meddyliau ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hyn. . .

PENNOD 31

º1
YR amser hwnnw, medd yr AR­GLWYDD, y byddaf DDUW i holl deuluoedd Israel; a hwythau a fyddant bobl i mi.

º2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y bobl y rhai a weddillwyd gan y cleddyf, a gafodd ffafr yn yr anialwch, pan euthum i beri llonyddwch iddo ef, sef i Israel.

º3 Er ys talm yr ymddangosodd yr AR­GLWYDD i mi, gan ddywedyd, A chariad tragwyddol y’th gerais: am hynny tynnaig di a thrugaredd.

º4 Myfi a’th adeiladaf eto, a thi a adeil­edir, O forwyn Israel: ymdrwsi eto a’th dympanau, ac a ei allan gyda’r chwaraeyddion dawns.

º5 Ti a blenni eto winllannoedd ym mynyddoedd Samaria: y planwyr a blannant, ac a’u mwynhânt yn gynredin.

º6 Canys daw y dydd y llefa y gwylwyr ym mynydd Enraim, Codwch, ac awn i fyny i Seion at yr ARGLWYDD ein Duw.

º7 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Cenwch orfoledd i Jacob, a chrechwenwch ymhlith rhai pennaf y cenhedloedd  cyhoeddwch, molwch, a dywedwch, O
ARGLWYDD, cadw dy bobli gweddill Israel. ;

º8 Wele, mi a’u harweiniaf hwynt o dir y gogledd, ac a’u casglaf hwynt o ystlysau y ddaear, y dall a’r cloff, y feichiog a’r hon sydd yn esgor, ar unwaith gyda hwynt: cynulleidfa fawr a ddychwelant yma.

º9 Mewn wylofain y deuant, ac mewn tosturiaethau y dygaf hwynt: gwnaf; iddynt rodio wrth ffrydiau dyfroedd tmewn ffordd union yr hon ni thripiant ynddi: oblegid myfi sydd dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntaf-anedig.

º10 Gwrandewch air yr ARGLWYDD, O genhedloedd, a mynegwch yn yr ynysoedd o bell, a dywedwch, Yr hwn a was-; garodd Israel, a’i casgl ef; ac a’i ceidw fel bugail ei braidd.

º11 Oherwydd yr ARGLWYDD a waredodd Jacob, ac a’i hachubodd ef o law yr hwn oedd drech nag ef.

º12 Am hynny y deuant, ac y canant yn uchelder Seion; a hwy a redant at ddaioni yr ARGLWYDD, am wenith, ac am win, ac am olew, ac am epil y defaid a’r gwartheg: a’u henaid fydd fel gardd ddyfradwy; ac ni ofidiant mwyach.

º13 Yna y llawenycha y forwyn yn y dawns, a’r gwŷr ieuainc a’r hynafgwyr ynghyd: canys myfi a droaf eu galar yn llawenydd, ac a’u diddanaf hwynt, ac a’u llawenychaf o’u tristwch.

º14 A mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid a braster, a’m pobl a ddigonir a’m daioni, medd yr ARGLWYDD.

º15 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Llef a glywyd yn Rama, cwynfan ac wylofain chwerw; Rahel yn wylo am ei meibion, ni fynnai ei chysuro am. ei meibion, oherwydd nad oeddynt.

º16 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Atal dy lef rhag wylo, a’th lygaid rhag dagrau: canys y mae tâl i’th laftir, medd yr ARGLWYDD; a hwy a ddychwelant o dir y gelyn.

º17 Ac y mae gobaith yn dy ddiwedd, medd yr ARGLWYDD, y dychwel dy blant i’w bro eu hun.,:

º18 Gan glywed y clywais Efiraim yn tf6s cwynfan fel hyn; Cosbaist fi, a mi a gosbwyd, fel llo heb ei gynefino â’r iad: dychwel di fi, a mi a ddychwelir, oblegid ti yw yr ARGLWYDD fy Nuw.
 





º19 Yn ddiau wedi i mi ddychwelyd, mi a edifarheais; ac wedi i mi wybod, mi a drewais fy morddwyd: myfi a gywilyddiwyd, ac a waradwyddwyd hefyd, am i mi ddwyn gwarth fy ieuenctid.

º20 Ai mab hoff gennyf yw Effraim? ai plentyn hyfrydwch yw? canys er pan leferais i yn ei erbyn ef, gan gofio y cofiaf ef eto: am hynny fy mherfedd a ruant amdano ef; gan drugarhau y trugarhaf wrtho ef, medd yr ARGLWYDD.

º21 Cyfod i ti arwyddion ffordd, gosod i ti garneddau uchel: gosod dy galon tua’r briffordd, y ffordd yr aethost: dy­chwel, forwyn Israel, dychwel i’th ddinasoedd hyn.

º22 Pa hyd yr ymgrwydri, O ferch wrthnysig? oblegid yr ARGLWYDD a greodd beth newydd ar y ddaear; Benyw a amgylcha ŵr.

º23 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Dywedant eto y gair hwn yng ngwlad Jwda, ac yn ei dinasoedd, pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt, Yr ARGLWYDD a’th fendithio, trigfa cyfiawnder, mynydd sancteiddrwydd.

º24 Yna arddwyr a bugeiliaid a breswyliant ynddi hi Jwda, ac yn ei holl ddinasoedd ynghyd.

º25 Oherwydd yr enaid diffygiol a ddigonais, a phob enaid trist a lenwais.

º26 Ar hyn y deffroais, ac yr edrychais, a melys oedd fy hun gennyf.

º27 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda a had dyn ac a had anifail.

º28 Ac megis y gwyliais arnynt i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, ac i ddinistrio, ac i ddifetha, ac i ddrygu; felly y gwyliaf arnynt i adeiladu ac i blannu, medd yr ARGLWYDD.

º29 Yn y dyddiau hynny ni ddywedant mwyach, Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod.

º30 Ond pob un a fydd farw yn ei anwiredd ei hun: pob un a’r a fwytaxxxxawn-win surion, ar ei ddannedd ef y hydd dincod.

 

º31  Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y gwnaf gyfamod newydd. a thŷ Israel, ac a thŷ Jwda:

º32 Nid fel y cyfamod a wneuthum a’u tadau hwynt ar y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i’w dwyn allan o dir yr Aifft; yr hwn fy nghyfamod a ddarfu iddynt hwy ei ddiddymu, er fy mod i yn briod iddynt, medd yr ARGLWYDD.

º33 Ond dyma y cyfamod a wnaf fi a thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD; Myfi a roddaf fy nghyfraith o’u mewn hwynt, ac a’i hysgrifennaf hi yn eu calonnau hwynt; a mi a fyddaf iddynt hwy yn DDUW, a hwythau a fyddant yn bobl i mi.

º34 Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnabyddwch yr ARGLWYDDS oherwydd hwynt-hwy oll o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt a’m hadnabyddant, medd yr ARGLWYDD; oblegid mi a faddeuaf eu hanwiredd, a’u pechod ni chofiaf mwyach.

º35 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn rhoddi yr haul yn oleuni dydd, defodau y lloer a’r sêr yn oleuni nos, yr hwn sydd yn rhwygo y môr paa ruo ei donnau; ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw:

º36 Os cilia y defodau hynny o’m gŵydd’ i, medd yr ARGLWYDD, yna had Israel a baid a bod yn genedl ger fy mron i yn dragywydd.

º37 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Os gellir mesur y nefoedd oddi uchod, a chwilio sylfeini y ddaear hyd isod, minnau hefyd a wrthodaf holl had Israel, am yr hyn oll a wnaethant hwy, medd yr ARGLWYDD.

º38 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, yr adeiledir y ddinas i’r ARGLWYDD, o dwr Hananeel hyd berth y gongl.

º39 A’r llinyn mesur a â allan eto ar ei gyfer ef, ar fryn Gareb, ac a amgylcha hyd Goath.  ; . ‘

º40 A holl ddyffryn y celaneddau, a’r lludw, &’r holl feysydd, hyd afon Cidron, hyd gongl porth y meirch tua’r dwyrain, a fyAd sanctaidd i’r ARGLWYDD; nis diwreiddir, ac nis dinistrir mwyach byth.
/

PENNOD 32

º1
~V GAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia   oddi wrth yr ARGLWYDD yn y ddegfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, honno oedd y ddeunawfed flwyddyn i Nebu
chodonosor.

º2 Canys y pryd hwnnw yr oedd llm brenin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem: a Jeremeia y proffwyd ydoedd wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, yr hwn oedd yn nh  brenin Jwda.

º3 Canys Sedeceia brenin Jwda a gaeasai arno ef, gan ddywedyd, Paham y proffwydi, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, mi a roddaf y ddinas hon yn llaw brenin Babilon, ac efe a’i hennill hi;

º4 Ac ni ddianc Sedeceia brenin Jwda o law y Caldeaid, ond efe a roddir yn ddiau yn llaw brenin Babilon, ac efe a ymddiddan âg ef enau yng ngenau, a’i lygaid ef a edrychant yn ei lygaid yntau;

º5 Ac efe a arwain Sedeceia i Babilon, ac yno y bydd efe hyd oni ymwelwyf fi ag ef, medd yr ARGLWYDD: er i chwi ymladd a’r Caldeaid, ni lwyddwch.

º6 A Jeremeia a lefarodd, Gair yr AR­GLWYDD a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd,

º7 Wele Hanameel mab Salum dy ewythr yn dyfod atat, gan ddywedyd, Pryn i ti fy maes, yr hwn sydd yn Anathoth: oblegid i ti y mae cyfiawnder, y pryniad i’w brynu ef.

º8 Felly Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad a ddaeth ataf fi i gyntedd y carchardy, yn ôl gair yr ARGLWYDD, ac a; ddywedodd wrthyf, Pryn, atolwg, fy maes sydd yn Anathoth yn nhir Ben­jamin: canys i ti y mae cyfiawnder yr’ etifeddiaeth, ac i ti y perthyn ei ollwng;1 pryn ef i ti. Yna y gwybûm mai gair yr ARGLWYDD oedd hwn.,
 
º9 A mi a brynais y maes oedd yn Ana­thoth gan Hanamesi mab fy ewythr frawd fy nhad, ac a bwysais iddo yr arian, saith sicl a deg darn o arian.
 

º10 A mi a ysgrifennais hyn mewn llyfr, ac a’i seliais; cymerais hefyd dystion, a phwysais yr arian mewn cloriaimau.

º11 Yna mi a gymerais lyfr y pryniad, sef yr hwn oedd wedi ei selio wrth gyfraith a (lefod, a’r hwn oedd yn agored.

º12 A mi a roddais lyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, mab Maaseia, yng ngŵydd Hanameel mab fy ewythr, ac yng ngŵydd y tystion a ysgrifenasent lyfr y prynedigaeth, yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y carchardy.

º13 A mi a orchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwynt, gan ddywedyd,

º14 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Cymer y llyfrau hyn, sef y llyfr hwn o’r pryniad yr hwn sydd seliedig, a’r llyfr agored hwn, a dod hwynt mewn llestr pridd, fel y parhaont ddyddiau lawer.

º15 Oherwydd fel hyn y dywed AR­GLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Tai, a meysydd, a gwinllannoedd, a feddiennir eto yn y wlad hon.

º16 Ac wedi i mi roddi llyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, myfi a weddïais ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

º17 O ARGLWYDD DDUW, wele, ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear, a’thi fawr allu ac a’th fraich estynedig; nid oes dim rhy anodd i ti.

º18 Yr wyt yn gwneuthur trugaredd i filoedd, ac yn talu anwireddau y tadau i fynwes eu meibion ar eu hôl hwynt: y Duw mawr, cadarn, ARGLWYDD y, lluoedd yw ei enw;;

º19 Mawr mewn cyngor, a galluog ar weithred; canys y mae dy lygaid yn agored ar holl ffyrdd meibion dynion, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl; ffrwyth ei weithredoedd;

º20 Yr hwn a osodaist arwyddion a rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft hyd y dydd hwn, ac yn Israel, ac ymysg dynion eraill; ac a wnaethost i ti enw,, megis heddiw;

º21 Ac a ddygaist dy bobl Israel allan
o dir yr Aifft, ag arwyddion, ac a rhyfedd" 32 Am holl ddrygioni meibion Israel a
odau, ac a llaw gref, ac a braich estynedigy meibion Jwda, v rhai o „,„*<ac ag ofn mawr;   o   . r   fulfil, ac a rhyfeddodau, ac a llaw gref, ac a braich estynedig,  ac ag ofn mawr; ..

º22 Ac a roddaist iddynt y wlad yma, yr hon a dyngaist wrth eu tadau y rhoddit iddynt, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
 

º23 A hwy a ddaethant i mewn, ac a’i meddianasant hi; ond ni wrandawsant ar dy lais, ac ni rodiasant yn dy gyfraith: ni wnaethant ddim o’r hyn oll a orchmynnaist iddynt ei wneuthur: am hynny y peraist i’r holl niwed hyn ddigwydd iddynt.

º24 Wele, peiriannau ergydion a ddaeth ar y ddinas i’w goresgyn hi; a’r ddinas a roddir i law y Caldeaid, y rhai sydd yn ymladd yn ei herbyn, oherwydd y cleddyf, a’r newyn, a’r haint: a’r hyn a ddywedaist ti, a gwblhawyd; ac wele, ti a’i gweli.

º25 A thi a ddywedaist wrthyf, O ARGLWYDD DDUW, Pryn i ti y maes ag arian, a chymer dystion: gan fod y ddinas wedi ei rhoddi i law y Caldeaid. ‘

º26  Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd,

º27 Wele, myfi yw yr ARGLWYDD, DOTV pob cnawd: a oes dim rhy anodd i mi?

º28 Am hynny fel hyn y dywed yr AR­GLWYDD; Wele fi yn rhoddi y ddinas hon yn llaw y Caldeaid, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a’i hennill hi.

º29 A’r Caldeaid, y rhai a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, a ddeuant ac a ffaglant y ddinas hon â thân, ac a’i llosgant hi, a’r tai y rhai yr arogl-darthasant’ ar eu pennau i Baal, ac y tywalltasant’ ddiod-offrwm i dduwiau dieithr, i’m digio i.
 

º30 Oblegid meibion Israel, a meibion Jwda, oeddynt yn gwneuthur yn unig yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i o’u" mebyd: oherwydd meibion Israel oeddynt yn unig yn fy niclloni i a gweithredoedd eu dwylo, medd yr ARGLWYDD.

º31 Canys i’m digofaint, ac i’m llid, y bu y ddinas hon i mi, er y dydd yr adeiladasant hi hyd y dydd hwn, i beri ei symud oddi gerbron fy wyneb: „ —

º32  "icioion Israel a meibion Jwda, y rhai a wnaethant i’m digio i, hwynt-hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, a’u proffwydi,. a gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem..

º33 Er i mi eu dysgu, gan foregodi i roddi addysg iddynt, eto ni wrandawsant i gymryd athrawiaeth; eithr troesant ataf fi eu gwarrau, ac nid eu hwynebau:

º34 Eithr gosodasant eu ffieidd-dra yn y tŷ y gelwir fy enw arno, i’w halogi ef.

º35 A hwy a adeiladasant uchelfeydd Baal, y rhai sydd yn nyffryn mab Hinnom, i wneuthur i’w meibion a’u merched fyned trwy y tân i Moloch, yr hyn ni orchmynnais iddynt, ac ni feddyliodd fy nghalon iddynt wneuthur y ffieidd-dra hyn, i beri i Jwda bechu.
 

º36 Ac yn awr am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD., Duw Israel, am y ddinas hon, am yr hon y dywedwch chwi, Rhoddir hi i law brenin Babilon, trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint;

º37 Wele, myfi a’u cynullaf hwynt o’r faoll diroedd, y rhai yn fy nig a’m llid a’m sonant mawr y gyrrais hwynt iddynt; ac a’u dygaf yn eu hôl i’r lle hwn, ac a wnaf iddynt breswylio yn ddiogel.

º38 A hwy a fyddant yn bobl i mi, .a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwy-thau. .,

º39 A mi a roddaf iddynt un galon ac’ un rfordd, i’m hofni byth, er lles iddynt ac i’w meibion ar eu hôl.

º40 A mi a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol, na throaf oddi wrthynt, heb, wneuthur lles iddynt; a mi a osodaf fy
ofn yn eu calonnau, fel na chiliont o’ddi wrthyf.

º41 Ie, mi a lawenychaf ynddynt, gan wneuthur lles iddynt, a mi a’u plannaf hwynt yn y tir hwn yn sicr, a’m holl galon, ac a’m holl enaid.

º42 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Megis y dygais i ar y bobl hyn yr holl xxxx fawr ddrwg hyn, felly y dygaf ni arnynt yr holl ddaioni a addewais iddynt.

º43 A meysydd a feddiennir yn y wlad. yma, am yr hon yr ydych chwi yn dywedyd, Anghyfannedd yw hi, heb ddyn ! nac anifai 1; yn llawy Caldeaiit y rhoddwyd
hi. ‘ A.; f’.;

º44 Meysydd a brynant am arian, ac a ysgrifennant mewn llyfrau, ac a’u seliant, ac a gymerant dystion yn nhir Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, ac yn ninasoedd y mynyddoedd, ac yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, medd yr ARGLWYDD. .:’,.;

PENNOD 33

º1
GAIR yr ARGLWYDD hefyd a ddaeth A Jeremeia yr ail waith, ac efe eto yn garcharor yng nghyntedd y carchardy, gan ddywedyd,; .;

º2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD ys hwn a’i gwnaeth, yr ARGLWYDD yr ten a’i lluniodd i’w sicrhau, yr ARGLWYDD yw eienw:

º3 Galw arnaf, a mi a’th atebaf, ac a ddangosafi ti bethau mawrion, a chedyrn, y rhai nis gwyddost.

º4 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, am dai y ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y rhai a ddinistriwyd a pheiriannau rhyfel, ac a chleddyf;

º5 Y maent yn dyfod i ymladd a’r Caldeaid, ond i’w llenwi a chelanedd dynion, y rhai a leddais yn fy llid a’m digofaint, ac am i mi guddio fy wyneb Oddi wrth y ddinas hon am eu holl ddrygioni hwynf.

º6 Wele, myfl a ddygaf iddi hi iechyd a meddyginiaeth, a mi a’u meddyginiaethaf hwynt, ac a ddatguddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd,

º7 A mi a ddychwelaf gaethiwed Jwda, a chaethiwed Israel, a mi a’u hadeiladaf hwynt megis yn y dechreuad.

º8 A mi a’u puraf hwynt oddi wrth eu holl anwiredd a bechasant i’m herbyn; a mi a faddeuaf iddynt eu holl bechodau trwy y rhai y pechasant i’m herbyn, a thrwy y rhai y troseddasant yn fy erbyn.

º9 A hyn fydd i mi yn cnw llawenydd, yn glod ac yn ogoniani, o llaen holl genhedloedd y ddaear, y rhai a glywant yr
holl ddaioni yr ydwyf fi yn ei wneuthur iddynt: a hwythau a ofnant ac a grynant am yr holl ddaioni a’r holl lwyddiant yr ydwyf fi yn eu gwneuthur i’r ddinas hon.

º10 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Clywir eto yn y lle hwn, (am yr hwn y dywedwch, Anialwch yw efe, heb ddyn ac heb anifail, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, y rhai a wnaed yn anghyfannedd, heb ddyn, ac heb breswylwr, ac heb anifail,)

º11 Llef gorfoledd a llef llawenydd, l).e;f y priodfab a llef y briodferch, llef rhai yn dywedyd, Molwch ARGLWYDD y lluoedd; oherwydd daionus yw yr ARGLWYDD, oblegid ei drugaredd a bery yn dragywydd; llef rhai yn dwyn offrwm moliant i dŷ yr ARGLWYDD: canys mi a ddychwelaf gaethiwed y wlad, megis yn y dechreuad, medd yr ARGLWYDD.

º12 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Bydd eto yn y lle yma, yr hwn sydd anghyfanheddol heb ddyn ac heb anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, drigfa bugeiliaid yn corlannu y praidd.

º13 Yn ninasoedd y mynydd, yn ninas? oedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau, ac yng ngwlad Benjamin, ac yn amgylch­oedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, yr a defaid eto, dan law yr hwn sydd yn eu rhifo, medd yr ARGLWYDD.

º14 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, fel y cyflawnwyf y peth daionus a addewais i dŷ Israel, ac i dŷ Jwda.

 15 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, y paraf i Flaguryn cyfiawnder flaguro i Dafydd; ac efe a wna fam a chyfiawnder yn y tir.

º16 Yn y dyddiau hynny Jwda a waredir, a Jerwsalem a breswylia yn ddiogel; 4 hwn yw yr enw y gelwir ef, Yr ARGLWYDD ein cyfiawnder.

º17 Canys fel hyn y dywed yr AR­GLWYDD, Ni phalla i Dafydd ŵr yn eistedd ar frenhinfainc tŷ Israel.

º18 Ac ni phalla i’r offeiriaid y Lefiaid ŵr ger fy mron i, i offrymu poethoffrwm, ac i offrymu bwyd-offrwrn, ac i wneuthur aberth, yn dragywydd.

º19 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd,

º20 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os gellwch ddiddymu fy nghyfamod â’r dydd, a’m cyfamod â’r nos, ac na byddo dydd a nos yn eu hamser;

º21 Yna y diddymir fy nghyfamod â Dafydd fy ngwas, na byddo iddo fab yn teyrnasu ar ei deyrngadair ef, ac a’r Lefiaid yr offeiriaid fy ngweinidogion.

º22 Megis na ellir cyfrif llu y nefoedd, ac na ellir mesur tywod y môr; felly myfi a amlhaf had Dafydd fy ngwas, a’r Lefiaid y rhai sydd yn gweini i mi.

º23 Hefyd, gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd,

º24 Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru, gan ddywedyd, Y ddau deulu a ddewisodd yr ARGLWYDD, efe a’u gwrthododd hwynt? felly y dirmygasant fy mhobl, fel nad ydynt mwyach yn genedl yn eu golwg hwynt.

º25 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os fy nghyfamod â’r dydd ac a’r nos ni saif, ac oni osodais i ddefodau y nefoedd a’r ddaear:

º26 Yna had Jacob a Dafydd fy ngwas a wrthodaf fi, fel na chymerwyf o’i had ef lywodraethwyr ar had Abraham, Isaac, a Jacob: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, ac a drugarhaf wrthynt.

PENNOD 34

º1
Y GAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, pan oedd Nebuchodonosor brenin Babilon, a’i holl lu, a holl deyrnasoedd y ddaear y rhai oedd dan lywodraeth ei law ef, a’r holl bobloedd, yn rhyfela yn erbyn Jerw­salem, ac yn erbyn ei holl ddinasoedd hi, gan ddywedyd,

º2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel; DOS, a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn rhoddi y ddinas hon i law brenin Babilon, ac efe a’i llysg hi â thân:

º3 Ac ni ddihengi dithau o’i law ef, canys diau y’th ddelir, ac y’th roddir i’w law ef; a’th lygaid di a gant weled
llygaid brenin Babilon, a’i enau ef a ymddiddan â’th enau di, a thithau a ei i Babilon.

º4 Er hynny, O Sedeceia brenin Jwda, gwrando air yr ARGLWYDD; Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD amdanat ti, Ni byddi di farw trwy y cleddyf:

º5 Mewn heddwch y byddi farw: a hwy a losgant beraroglau i ti, fel y llosgwyd i’th dadau, y brenhinoedd gynt, y rhai a fu o’th flaen di: a hwy a alarant amdanat ti, gan ddywedyd, O arglwydd! canys myfi a ddywedais y gair, medd yr ARGLWYDD.

º6 Yna Jeremeia y proffwyd a lefarodd wrth Sedeceia brenin Jwda yr holl eiriau hyn yn Jerwsalem,

º7 Pan oedd llu brenin Babilon yn thyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda y rhai a adawsid, yn erbyn Lachis, ac yn erbyn Aseca: canys y dinasoedd caerog hyn a adawsid o ddinasoedd Jwda.

º8 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, wedi i’r brenin Sedeceia wneuthur cyfamod â’r holl bobl oedd yn Jerwsalem, am gyhoeddi iddynt ryddid;

º9 I ollwng o bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai fyddent Hebread neu Hebrees, yn rhyddion; ac na cheisiai neb wasanaeth ganddynt, sef gan ei frawd o Iddew.

º10 A phan glybu yr holl benaethiaid, a’r holl bobl y rhai a aethent i’r cyfamod, am ollwng o bob un ei wasanaethwr a phob un ei wasanaethferch yn rhyddion, fel na cheisient wasanaeth ganddynt mwyach, yna hwy a wrandawsant, ac a’u gollyngasant ymaith.

º11 Ond wedi hynny yr edifarhaodd arnynt, a hwy a ddygasant yn eu hôl eu gweision a’u morynion, y rhai a ollyngasent yn rhyddion, ac a’u caethiwasant hwy yn weision ac yn forynion.

º12 Am hynny y daeth gair yr AR­GLWYDD at Jeremeia oddi wrth yr AR­GLWYDD, gan ddywedyd,

º13 Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Mi a wneuthum gyfamod â’ch tadau chwi, y dydd y dygais hwynt allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed, gan ddy­wedyd,

º14 Ymhen saith mlynedd gollyngwch bob un ei frawd o Hebread, yr hwn a werthwyd i ti, ac a’th wasanaethodd chwe blynedd; gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt: ond ni wrandawodd eich tadau arnaf, ac ni ogwyddasant eu clustiau.

º15 A chwithau a gymerasech edifeirwch heddiw, ac a wnaethech yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg, am gyhoeddi rhyddid bob un i’w gymydog; a chwisa wnaethech gyfamod yn fy ngŵydd i, yn y tŷ y gelwir fy enw arno:

º16 Ond chwi a ddychwelasoch, ac a halogasoch fy enw, ac a ddygasoch yn eu hôl bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai a ollyngasech yn rhyddion wrth eu hewyllys eu hun; caethiwasoch hwynt hefyd i fod yn weision ac yn forynion i chwi.

º17 Am hynny fel hyn y dywed yr AR­GLWYDD, Ni wrandawsoch arnaf fi, gan gyhoeddi rhyddid bob un i’w frawd, a phob un i’w gymydog: wele fi yn cyhoeddi i’ch erbyn, medd yr ARGLWYDD, ryddid i’r cleddyf, i’r haint, ac i’r newyn, ac mi a wnaf eich symud chwi i holl deyrnasoedd y ddaear.

º18 A mi a roddaf y dynion a droseddodd fy nghyfamod, y rhai ni chwblhasant eiriau y cyfamod a wnaethant ger fy mron, wedi iddynt fyned rhwng rhannau y llo, yr hwn a holltasent yn ddau;

º19 Tywysogion Jwda, a thywysogion Jerwsalem, yr ystafellyddion, a’r offeiriaid, a holl bobl y wlad y rhai a aethant rhwng rhannau y llo;

º20 Ie, mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: a’u celain fydd yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.

º21 A mi a roddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i dywysogion, i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon, y rhai a aethant i fyny oddi wrthych.

º22 Wele, mi a orchmynnaf, medd yr ARGLWYDD, ac a wnaf iddynt droi yn ôl at y ddinas hon, a hwy a ryfelant yn ei herbyn hi, ac a’i goresgynnant hi, ac a’i llosgant hi â thân: ac mi a wnaf ddinas­oedd Jwda yn anghyfannedd heb breswylydd.

PENNOD 35

º1
YGAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenhin Jwda, gan ddywedyd,

º2 DOS di i dŷ y Rechabiaid, a llefara wrthynt, a phar iddynt ddyfod i dŷ yr ARGLWYDD, i un o’r ystafelloedd, a dod iddynt win i’w yfed.

º3 Yna myfi a gymerais Jaasaneia, mab Jeremeia, mab Habasineia, a’i frodyr, a’i holl feibion, a holl deulu y Rechabiaid;

º4 A mi a’u dygais hwynt i dŷ yr AR­GLWYDD, i ystafell meibion Hanan mab Igdaleia, gŵr i DDUW, yr hon oedd wrth ystafell y tywysogion, yr hon sydd goruwch ystafell Maaseia mab Salum, ceidwad y drws.

º5 A mi a roddais gerbron meibion tŷ y Rechabiaid ffiolau yn llawn o win, a chwpanau, a mi a ddywedais wrthynt, Yfwch win.

º6 Ond hwy a ddywedasant, Nid yfwn ni ddim gwin: oherwydd Jonadab mab Rechab ein tad a roddodd i ni orchymyn, gan ddywedyd, Nac yfwch win, na chwy-chwi na’ch plant, yn dragywydd:

º7 Na adeiledwch dŷ, ac na heuwch had, ac na phlennwch winllan, ac na fydded gennych chwi: ond mewn pebyll y preswyliwch eich holl ddyddiau: fel y byddoch chwi fyw ddyddiau lawer ar wyneb y ddaear, lle yr ydych yn ddieithriaid.

º8 A nyni a wrandawsom ar lais Jonadab mab Rechab ein tad, am bob peth a orchmynnodd efe i ni; nad yfem ni win ein holl ddyddiau, nyni, ein gwragedd, ein meibion, a’n merched;

º9 Ac nad adeiladem i ni dai i’w preswylio; ac nid oes gennym na gwinllan, na macs, na had:

º10 Eithr trigo a wnaethom mewn pebyll, a gwrando, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Jonadab ein tad i ni.

º11 Offd pan ddaeth’ Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny i’r wlad, nyni a ddywedasom, Deuwch, ac awn i Jerwsalem, rhag llu y Caldeaid, a rhag llu yr Asyriaid: ac yn Jerwsalem yr ydym ni yn preswylio.

º12 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd,

º13 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; DOS, a dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, Oni chymerwch chwi addysg i wrando ar fy ngeiriau? medd yr AR­GLWYDD.

º14 Geiriau Jonadab mab Rechab, y rhai a orchmynnodd efe i’w feibion, nad yfent win, a gyflawnwyd: canys nid yfant hwy win hyd y dydd hwn; ond hwy a wrandawant ar orchymyn eu tad: a minnau a ddywedais wrthych chwi, gan godi yn fore, a llefaru, ond ni wrandawsoch arnaf.

º15 Myfi a anfonais hefyd atoch chwi fy holl weision y proffwydi, gan godi yn fore, ac anfon, gan ddywedyd, Dychwelwch yn awr bawb oddi wrth ei ffordd ddrwg, a gwellhewch eich gweithredoedd, ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt; a chwi a drigwch yn y wlad yr hon a roddais i chwi ac i’ch tadau: ond ni ogwyddasoch eich clustiau, a’C ni wrandawsoch arnaf.

º16 Gan i feibion Jonadab mab Rechab gyflawni gorchymyn eu tad, yr hwn a orchmynnodd efe iddynt; ond y bobl yma ni wrandawsant arnaf fi:

º17 Am hynny fel hyn y dywed AR­GLWYDD DDUW y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar Jwda, ac ar holl drigolion Jerwsalem, yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn: oherwydd i mi ddywedyd wrthynt, ond ni wrandawsant; a galw arnynt, ond nid atebasant.

º18 A Jeremeia a ddywedodd wrth dylwyth y Rechabiaid, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, Oherwydd i chwi wrando ar orchymyn Jonadab eich tad, a chadw ei holl orchmynion ef, a gwneuthur yn ôl yr hyfi oll a orchmynnodd efe i chwi:

º19 Am hynny fel hyff y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Ni phalla i Jonadab mab Rechab ŵr i sefyll ger fy mron i yn dragywydd.

PENNOD 36

º1
A  yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn oddi wrth yr AR­GLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd,

º2 Cymer i ti blyg llyfr, ac ysgrifenna ynddo yr holl eiriau a leferais i wrthyt yn trbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, ac yn erbyn yr holl genhedloedd, o’r dydd y lleferais i wrthyt ti, er dyddiau Joseia hyd y dydd hwn.

º3 Fe allai pan glywo tŷ Jwda yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn amcanu ei wneuthur iddynt, y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus, fel y maddeuwyf eu hanwiredd a’u pechod.

º4 Yna Jeremeia a alwodd Baruch mab Nereia; a Baruch a ysgrifennodd o enau Jeremeia holl eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a lefarasai efe wrtho, mewn plyg llyfr.

º5 A Jeremeia a orchmynnodd i Baruch, gan ddywedyd, Caewyd arnaf fi, ni allaf fi fyned i dŷ yr ARGLWYDD.

º6 Am hynny dos di, a darllen o’r llyfr a ysgrifennaist o’m genau, eiriau yr ARGLWYDD, lle y clywo y bobl, yn nhŷ yr ARGLWYDD, ar y dydd ympryd; a lle y Slywo holl Jwda hefyd, y rhai a ddelont o’u dinasoedd, y darileni di hwynt.

 

º7 Fe allai y daw eu gweddi hwynt gerbron yr ARGLWYDD, ac y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus: canys mawr yw y llid a’r digofaint a draethodd yf APGLWYDD yn erbyn y bobl hyn.

º8 Felly Baruch mab Nereia a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jeremeia y proffwyd iddo, gan ddarllen o’r llyfr eiriau yr ARGLWYDD yn nhŷ yr AR­GLWYDD.

º9 Ac yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, ar y nawfed mis, y cyhoeddasant ympryd gerbron yr ARGLWYDD, i’r holl bobl yn Jerwsalem, ac i’r holl bobl a ddaethent o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem.

º10 Yna Baruch a ddarllenodd o’r llyfr eiriau Jeremeia, yn nhŷ yr ARGLWYDD, yn ystafell Gemareia mab Saffan ye ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf, wrth ddrws porth newydd tŷ yr ARGLWYDD, lle y clybu yr holl bobl.

º11 Pan glybu Michaia mab Gemareia, mab Saffan, holl eiriau yr ARGLWYDD allan o’r llyfr, i a Yna efe a aeth i waered i dŷ y brenin-i ystafell yr ysgrifennydd: ac wele, yr holl dywysogion oedd yno yn eistedd; sef Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia mab Semaia, ac Einathan mab Achbor, a Gemareia mab Saffan, a Sedeceia mab Hananeia, a’r holl dywysogion.

º13 A Michaia a fynegodd iddynt yr holl eiriau a glywsai efe pan ddarllenasaii Baruch y llyfr lle y clybu y bobl.

º14 Yna yr holl dywysogion a anfonasant Jehudi mab Nethaneia, mab Selemeia, mab Cusi, at Baruch, gan ddy­wedyd, Cymer yn dy law y llyfr y dar  nenaist allan ohono lle y clybu y bobl, a-thyred. Felly Baruch mab Nereia a gymerodd y llyfr yn ei law, ac a ddaeth atynt.

º15 A hwy a ddywedasant wrtho, Eistedd yn awr, a darllen ef lle y clywom. ni. Felly Baruch a’i darilenodd lle y clywsant hwy.

º16 A pban glywsant yr holl eiriau, hwy a ofnasant bawb gyda’i gilydd; a hwy a’ ddywedasant wrth Baruch, Gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i’r brenin.

º17 A hwy a ofynasant i Baruch, gan ddywedyd, Mynega i ni yn awr. Pa fodd yr ysgrifennaist ti yr holl eiriau hyn o’i enau ef?

º18 Yna Baruch a ddywedodd wrthynt, Efe a draethodd yr holl eiriau hyn wrthyf fi a’i enau, a minnau a’u hysgnfennais hwynt yn y llyfr ag inc.

º19 Yna y tywy&ogion a ddywedasant wrth Baruch, DOS ac ymguddia, ti a Jeremeia; ac na wyped neb pa le y byddoch chwi.

º20 A hwy a aethant at y brenin i’r cyntedd, (ond hwy a gadwasant y llyfr yn ystafell Elisama yr ysgnfcnnydd,) ac
a fynegasant yr holl eiriau lle y clybu y brenin.

º21 A’r brenin a anfonodd Jehudi i gyrchu y llyfr. Ac efe a’i dug ef <y ystafell Elisama yr ysgrifennydd.
A Jehudi a’i darilenodd lle y clybu y brenin, a lle y clybu yr holl dywysogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin.

º22 A’r brenin oedd yn eistedd yn y gaeafdy, yn y nawfed mis, â thân wedi ei gynnau ger ei fron.

º23 A phan ddarllenasai Jehudi dair dalen neu bedair, yna efe a’i torrodd â chyllell ysgrifennydd, ac a’i bwriodd i’r tân oedd yn yr aelwyd, nes darfod o’r holl lyfr gan y tân oedd ar yr aelwyd.

º24 Eto nid ofnasant, ac ni rwygasant eu dillad, na’r brenin, nac yr un o’i weision y rhai a glywsant yr holl eiriau hyn.

º25 Eto Einathan, a Delaia, a Gemareia, a ymbiliasant a’r brenin na losgai efe y llyfr; ond ni wrandawai efe arnynt.

º26 Ond y brenin a orchmynnodd i Jerahmeel mab Hammelech, a Seraia mab Asriel, a Selemeia mab Abdiel, ddala Baruch yr ysgrifennydd, a Jeremeia y proffwyd: ond yr ARGLWYDD a’u cuddiodd hwynt.

º27 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, (wedi i’r brenin losgi y llyfr, a’r geiriau a ysgrifenasai Baruch o enau Jeremeia,) gan ddywedyd,

º28 Cymer i ti eto lyfr arall, ac ysgrifenna arno yr holl eiriau cyntaf y rhai oedd yn y llyfr cyntaf, yr hwn a losgodd Jehoiacim brenin Jwda:

º29 A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ti a losgaist y llyfr hwn, gan ddywedyd; Paham yr ysgrifennaist ynddo, gan ddy­wedyd, Diau y daw brenin Babilon, ac a anrheithia y wlad hon; ac efe a wna i ddyn ac i anifail ddarfod ohoni?

º30 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim brenin Jwda; Ni bydd iddo ef a eisteddo ar frenhmfainc Dafydd: a’i gelain ef a fwrir allan i wres y dydd, ac i rcw y nos.

º31 A mi a ymwelaf ag ef, ac a’i had, ac a’i weision, am eu hanwiredd, a mi a




ddygaf arnynt hwy, ac ar drigolion Jerwsalem, ac ar wŷr Jwda, yr holl ddrwg a leferais i’w herbyn, ond ni wrandawsant.

º32 Yna Jeremeia a gymerth lyfr arall, ac a’i rhoddodd at Baruch mab Nereia yr ysgrifennydd; ac efe a ysgrifennodd ynddo o enau Jeremeia holl eiriau y llyfr a losgasai Jehoiacim brenin Jwda yn tân: a chwanegwyd atynt eto eiriau lawer, fel hwythau.

PENNOD 37

º1
AR brenin Sedeceia mab Joseia a deyrnasodd yn lle Coneia mab Jehoiacim, yr hwn a wnaeth Nebuchodonosor brenin Babilon yn frenin yng ngwlad Jwda.

º2 Ond ni wrandawodd efe, na’i weision na phobl y tir, ar eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a draethodd efe trwy law Jeremeia y proffwyd.

º3 A’r brenin Sedeceia a anfonodd Jehucal mab Selemeia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, at Jeremeia y proff­wyd, gan ddywedyd, Gweddïa, atolwg, drosom ni ar yr ARGLWYDD ein Duw.

º4 A Jeremeia oedd yn myned i mewn ac allan ymysg y bobl: canys ni roddasent hwy ef eto yn y carchardy.

º5 A llu Pharo a ddaethai allan o’r Aifft: a phan glybu y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem sôn amdanynt, hwy a aethant ymaith oddi wrth Jerwsalem.

º6 Yna gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd,

º7 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel; Fel hyn y dywedwch chwi wrth frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi ataf fi i ymofyn a mi; Wele, llu Pharo, yr hwn a ddaeth allan yn gynhorthwy i chwi, a ddychwel i’w wlad ei hun, i’r Aifft.

º8 A’r Caldeaid a ddychwelant, ac a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, ac .a’i henillant, ac a’i llosgant â thân. .’’

º9 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Na thwyllwch eich hunain, gan ddywedyd, Diau yr a y Caldeaid oddi wrthym ni: oblegid md ânt hwy.

º10 Canys pe trawech chwi holl lu y.
Caldeaid y rhai sydd yn rhyfela i’ch erbyn; fel na weddillid ohonynt ond gwŷr archolledig, eto hwy a gyfodent bob un yn ei babell, ac a losgent y ddinas hon â thân.

º11 A phan aeth llu y Caldeaid ymaith oddi wrth Jerwsalem, rhag llu Pharo,

º12 Yna Jeremeia a aeth allan o Jerw­salem, i fyned i wlad Benjamin, i ymlithro oddi yno yng nghanol y bobl.

º13 A phan oedd efe ym mhorth Ben­jamin, yr oedd yno ben-swyddog, a’i enw ef oedd Ireia, mab Selemeia, mab Hananeia; ac efe a ddaliodd Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, Cilio at y Caldeaid yr wyt ti.

º14 Yna y dywedodd Jeremeia, Nid gwir; nid ydwyf fi yn cilio at y Caldeaid. Ond ni wrandawai efe arno: felly Ireia a ymaflodd yn Jeremeia, ac a’i dygodd ef at y tywysogion.

º15 Am hynny y tywysogion a ddigiasant wrth Jeremeia, ac a’i trawsant, ac a’i rhoddasant yn y carchardy yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd: oherwydd hwnnw a wnaethent hwy yn garchardy.

º16 Pan ddaeth Jeremeia i’r daeardy, ac i’r cabanau, ac wedi i Jeremeia aros yno ddyddiau lawer;

º17 Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a’i cymerodd ef allan: a’r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dy ei hun, ac a ddywedodd, A oes gair oddi wrth yr ARGLWYDD?
A dywedodd Jerem­eia, Oes; canys tydi (eb efe) a roddir yn llaw brenin Babilon.

º18 Jeremeia hefyd a ddywedodd wrth y brenin Sedeceia, Pa bechod a wneuthum i i’th erbyn di, neu yn erbyn dy weision, neu yn erbyn y bobl hyn, pan y’m rhoddasoch yn y carchardy?

º19 Pa le y mae eich proffwydi a broffwydasant i chwi, gan ddywedyd, Ni ddaw brenin Babilon i’ch erbyn, nac yn erbyn y wlad hon?

º20 Ac yn awr gwrando, atolwg, O fy arglwydd frenin: atolwg, deued fy ngweddi ger dy fron; fel na pharech i mi ddychwelyd i dŷ Jonathan yr ysgrifen­nydd, rhag fy marw yno.

º2i Yna y brenin Sedeceia a orchmynnodd iddynt hwy roddi Jeremeia yng nghyntedd y carchardy, a rhoddi iddo ef deisen o fara beunydd o heol y pobyddion, nes darfod yr holl tara yn y ddinas. Felly Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.

PENNOD 38

º1

"VNA Seffatia mab Mattan, a Gedaleia

º1 mab Pasur, a Jucal mab Selemeia, a Phasur mab Malcheia, a glywsant y geinau a draethasai Jeremeia wrth yr holl bobl, gan ddywedyd,

º2 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Yr hwn a arhoso yn y ddinas hon, a fydd farw trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint: ond y neb a elo allan at y Caldeaid, a fydd byw; canys ei einioes fydd yn ysglyfaeth iddo, a byw fydd.

º3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y ddinas hon a roddir yn ddiau yn llaw llu brenin Babilon, yr hwn a’i hennill hi.

º4 Yna y tywysogion a ddywedasant wrth y brenin, Rhodder, atolwg, y gŵr hwn i farwolaeth: oblegid fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo’r rhyfelwyr a adawyd yn y ddinas hon, a dwylo’r holl bobl, wrth ddywedyd wrthynt yn ôl y geiriau hyn: oherwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisio llwyddiant i’r bobl hyn, ond niwed.

º5 A’r brenin Sedeceia a ddywedodd, Wele ef yn eich llaw chwi: canys nid yw y brenin ŵr a ddichon ddim yn eich erbyn chwi.

º6 Yna hwy a gymerasant Jeremeia, ac a’i bwriasant ef i ddaeardy Malcheia mab Hammelech, yr hwn oedd yng nghyntedd y carchardy: a hwy a ollyngasant Jeremeia i waered wrth raffau. Ac nid oedd dwfr yn y daeardy, ond torn: felly Jeremeia a lynodd yn y dom.

º7  A phan glybu Ebedmelech yr Ethiopiad, un o’r ystafellyddion yr hwn oedd yn nhŷ y brenin, iddynt hwy roddi Jeremeia yn y daeardy, (a’r brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin,)

º8 Ebedmelech a aeth allan o dŷ y brenin, ac a lefarodd wrth y brenin, gan ddywedyd,

º9 O fy arglwydd frenin, drwg y gwnaeth y gwŷr hyn yng nghwbl ag a wnaethant i Jeremeia y proffwyd, yr hwn a fwriasant hwy i’r daeardy; ac efe a fydd farw o newyn yn y fan lle y mae, oherwydd nid oes bara mwyach yn y ddinas.

º10 Yna y brenin a orchmynnodd i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Cymer oddi yma ddengwr ar hugaift gyda thi, a chyfod Jeremeia y proffwyd o’r daeardy cyn ei farw.

º11 Felly Ebedmelech a gymerodd y gwŷr gydag ef, ac a aeth i dŷ y brenin dan y trysordy, ac a gymerodd oddi yno hen garpiau, a hen bwdr fratiau, ac a’u gollyngodd i waered at Jeremeia i’r daeardy wrth raffau.

º12 Ac Ebedmelech yr Ethiopiad a ddywedodd wrth Jeremeia, Gosod yn awr yr hen garpiau a’r pwdr fratiau hyn dan dy geseiliau oddi tan y rhaffau. a Jeremeia a wnaeth felly.

º13 Felly hwy a dynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, ac a’i codasant ef o’r daeardy; a Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.

º14 Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a gymerodd Jeremeia y proffwyd ato i’r trydydd cyntedd, yr hwn sydd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a’r brenin a ddywed­odd wrth Jeremeia, Mi a ofynnaf i ti beth: na chela ddim oddi wrthyf fi.

º15 A Jeremeia a ddywedodd wrth Sedeceia, Os mynegaf i ti, oni roddi di fi i farwolaeth? ac os rhoddaf i ti gyngor, oni wrandewi di arnaf?

º16 Felly y brenin Sedeceia a dyngodd wrth Jeremeia yn gyfrinachol, gan ddy­wedyd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth i ni yr enaid hwn, ni roddaf fi di i farwolaeth, ac ni roddaf di yn llaw y gwŷr hyn sydd yn ceisio dy einioes.

º17 Yna y dywedodd Jeremeia wrth Sedeceia, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw y lluoedd, Duw Israel; Os gan fyned yr ei di allan at dywysogion brenin Babilon, yna y bydd dy enaid fyw, ac ni losgir y ddinas hon â thân; a thithau a fyddi fyw, ti a’th deulu.

º18 Ond onid ei di allan at dywysogion

brenin Babilon, yna y ddina  hon a roddir i law y Caldeaid, a hwy a’i llosgant hi â thân, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt.

º19 A’r brenin Sedeceia a ddywedodd wrth Jeremeia, Yr ydwyf fi yn ofni yr Iddewon a giliasant at y Caldeaid, rhag iddynt hwy fy rhoddi i yn eu llaw hwynt, ac i’r rhai hynny fy ngwatwar.

º20 A Jeremeia a ddywedodd, Ni roddant ddim: gwrando, atolwg, ar lais ye ARGLWYDD, yr hwn yr ydwyf fi yn ei draethu i ti; felly y bydd yn dda i ti, a’th enaid a fydd byw. !

º21 Ond os gwrthodi fyned allan, dyrna y gair a ddangosodd yr ARGLWYDD i mi:

º22 Ac wele, yr holl wragedd, y rhai 9 adawyd yn nhŷ brenin Jwda, a ddygir allan at dywysogion brenin Babiion; a hwy a ddywedant, Dy gyfeillion a’th hudasant, ac a’th orchfygasant; dy draed a lynasant yn y dom, a hwythau a droesant yn eu hôl.

º23 Felly hwy a ddygant allan dy holl wragedd a’th blant at y Caldeaid, ac ni ddihengi dithau o’u llaw hwynt; canys a llaw brenin Babilon y’th ddelir; a’r ddinas hon a losgi â thân.

º24 Yna y dywedodd Sedeceia wrth Jeremeia, Na chaffed neb wybod y geiriau hyn, ac ni’th roddir i farwolaeth.

º25 Ond os y tywysogion a glywant i mi ymddiddan â thi, ac os deuant atat ti, a dywedyd wrthyt, Mynega yn awr i iri beth a draethaist ti wrth y brenin; na chela oddi wrthym ni, ac ni roddwn ni mohonot ti i farwolaeth; a pha beth a draethodd y brenin wrthyt tithau:

º26 Yna dywed wrthynt, Myfi a weddïais yn ostyngedig gerbron y brenin, na yrrai efe fi drachefn i dŷ Jonathan, i farw yno.

º27 Yna yr holl dywysogion a ddaethant at Jeremeia, ac a’i holasant ef: ac efe a fynegodd iddynt yn ôl yr holl eiriau hyn, y rhai a orchmynasai y brenin: felly hwy a beidiasant ag ymddiddan âg ef, canys ni chafwyd clywed y peth.

º28 A Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carehardy byd y dydd yr enillwyd
Jerwsalem; ac yno oedd efe pass. eiri.Uwyd Jerwsalem.

PENNOD 39

º1
YN y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, ar y degfed mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilan, a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a warchaeasant arni.

º2 Yn yr unfed fiwyddyn ar ddeg ~\ Sedeceia, yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd o’r mis, y torrwyd y ddinas*

º3 A holl dywysogion brenin Babilon a ddaethant i mewn, ac a eisteddasant yn y porth canol, sefNergal-sareser, Samgar-nebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergat-sareser, Rabmag, a holl dywysogion eraill brenin Babilon.

º4 A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hwynt, a’r holl ryfelwyr, hwy a ffoesant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nos, trwy ffordd gardd y brenin, i’r porth rhwng y ddau fur: ac efe a aeth allan tua’r anialwch.

º5 A llu y Caldeaid a erlidiasant ar eu hôl hwynt, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, ac a’i daliasanc ef, ac a’i dygasant at Nebuchodonosor brenin Babilon, i Ribia yng ngwlad Hamath; lle y rhoddodd efe fam arno.

º6 Yna brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yn Ribia o flaen ei lygaid ef: brenin Babilon hefyd a laddodd holl bendefigion Jwda.

º7 Ac efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymodd ef a chadwynau i’w ddwyn i Babilon.

º8 A’r Caldeaid a losgasant dy y brenin a thai y bobl, â thân; a hwy a ddrylliasant furiau Jerwsalem.

º9 Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas, a’r encilwyr y rhai a giliasent ato ef, ynghyd â gweddill y bobl y rhai a adawsid.

º10 A Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd o diodion y bobl, y rhai nid oedd dim ganddynt, yng ngwlad Jwda; ac efe a roddodd iddynt winllannoedd a meysydd y pryd hwnnw.

º11 A Nebuchodonosor brenin Babi­lon a roddodd orchymyn am Jeremeia i Nebusaradan pennaeth y milwyr, gan ddywedyd,

º12 Cymer ef, a bwrw olwg arno, ac na wna iddo ddim niwed; ond megis y dywedo efe wrthyt ti, felly gwna iddo.

º13 Felly Nebusaradan pennaeth y mSwyr a anfonodd, Nebusasban hefyd, Rabsaris, a Nergal-sareser, Rabmag, a holl benaethiaid brenin Babilon; i
º14 Ie, hwy a anfonasant, ac a gymerasant Jeremeia o gyntedd y carchardy, ac a’i rhoddasant ef at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, i’w ddwyn adref: felly efe a drigodd ymysg y bobl.

º15  A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia, pan oedd efe wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, gan ddywedyd,

º16 DOS, a dywed i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a barafi’m geiriau ddyfod yn erbyn y ddinas hon er niwed, ac nid er lles, a hwy a gwblheir o flaen dy wyneb y dwthwn hwnnw.

º17 Ond myfi a’th waredaf di y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, ac ni’th roddir yn llaw y dynion yr ydwyt ti yn ofni rhagddynt.

º18 Canys gan achub mi a’th achubaf, ac ni syrthi trwy y cleddyf, eithr bydd dy einioes yn ysglyfaeth i ti, am i ti ymddiried ynof fi, medd yr ARGLWYDD.

PENNOD 40

º1
YGAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, wedi i Nebusaradan pennaeth y milwyr ei ollwng ef yn rhydd o Rama, wedi iddo ei gymryd ef, ac yntau yn rhwym mewn cadwyni ymysg holl gaethglud Jerwsalem a Jwda, y rhai a gaethgludasid i Babilon.

º2 A phennaeth y milwyr a gymerodd Jeremeia, ac a ddywedodd wrtho, Yr ARGLWYDD dy DDUW a lefarodd y drwg yma yn erbyn y lle hwn.

º3 A’r ARGLWYDD a’i dug i ben, ac a wnaeth megis y llefarodd: am i chwi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac na
wrandawsoch ar ei lais ef, am hynny y daeth y peth hyn i chwi.

º4 Ac yn awr wele, mi a’th ryddheais di heddiw o’r cadwynau oedd am dy ddwylo: os da gennyt ti ddyfod gyda mi i Babilon, tyred, a myfi a fyddaf da wrthyt: ond os drwg y gweli ddyfod gyda mi i Babilon, paid; wele yr holl dir o’th flaen di: i’r fan y byddo da a bodlon gennyt fyned, yno dos.

º5 Ac yn awr, ac efe eto heb ddychwelyd, efe a ddywedodd, Dychwel at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, yr hwn a osododd brenin Babilon ar ddinasoedd Jwda, ac aros gydag ef ymhlith y bobl: neu dos lle y gwelych di yn dda fyned. Felly pennaeth y milwyr a roddodd iddo ef luniaeth a rhodd, ac a’i gollyngodd ef ymaith.

º6 Yna yr aeth Jeremeia at Gedaleia mab Ahicam i Mispa, ac a arhosodd gydag ef ymysg y bobl a adawsid yn y wlad.

º7 A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ar hyd y wlad, hwynt-hwy a’u gwyr, i frenin Babilon osod Gedaleia mab Ahicam ar y wlad, ac iddo roddi dan ei law ef wŷr, a gwragedd, a phlant, ac o diodion y wlad, o’r rhai ni chaethgludasid i Babilon;

º8 Yna hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa, sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan a Jonathan meibion Carea, a Seraia mab Tanhumeth, a meibion Effai y Netoffathiad, a Jesaneia mab Maachathiad, hwynt-hwy a’u gwŷr.

º9 A Gedaleia mab Ahicam mab Saffan a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwyr, gan ddywedyd, Nac ofnwch wasanaethu y Caldeaid: trigwch yn y wlad, a gwasanaethwch frenin Babilon, felly y bydd daioni i chwi.

º10 Amdanaf finnau, wele, mi a drigaf ym Mispa, i wasanaethu y Caldeaid, y rhai a ddeuant atom ni: chwithau, cesglwch win, a ffrwythydd haf, ac olew, a dodwch hwynt yn eich llestri, a thngwch yn eich dinasoedd, y rhai yr ydych yn eu meddiannu.

º11 A phan glybu yr holl Iddewon y Thai oedd ym Moab, ac ymysg meibien

Ammon, ac yn Edom, ac yn yr holl wiedydd, i frenin Babilon adael gweddill o Jwda, a gosod Gedaleia mab Ahicam mab Saffan yn llywydd arnynt hwy;

º12 Yna yr holl Iddewon a ddychwelasant o’r holl leoedd lle y gyrasid hwynt, ac a ddaethant i wlad Jwda at Gedaleia i Mispa, ac a gasglasant win o ffrwythydd haf lawer iawn.

º13 Johanan hefyd mab Carea, a holl dywysogion y lluoedd y rhai oedd ar hyd y wlad, a ddaethant at Gedaleia i Mispa, ‘

º14 Ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti yn hysbys i Baalis, brenin meibion Ammon, anfon Ismael mab Nethaneia i’th ladd di? Ond ni chredodd Gedaleia mab Ahicam iddynt hwy.

º15 Yna Johanan mab Carea a ddywedodd wrth Gedaleia ym Mispa yn gyfrinachol, gan ddywedyd. Gad i mi fyned, atolwg, a mi a laddaf Ismael mab Neth­aneia, ac ni chaiff neb wybod: paham y lladdai efe di, fel y gwasgerid yr holl Iddewon y rhai a ymgasglasant atat ti, ac y darfyddai am y gweddill yn Jwda?

º16 Ond Gedaleia mab Ahicam a ddywedodd wrth Johanan mab Carea, Na wna y peth hyn: canys celwydd yr ydwyt ti yn ei ddywedyd am Ismael.

PENNOD 41

º1
A  yn y seithfed mis daeth Ismael mab Nethaneia mab Elisama o’r had brenhinol, a phendefigion y brenin, sef dengwr gydag ef, at Gedaleia mab Ahicam i Mispa: a hwy a fwytasant yno fara ynghyd ym Mispa.

º2 Ac Ismael mab Nethaneia a gyfododd, efe a’r dengwr oedd gydag ef, ac a drawsant Gedaleia mab Ahicam mab Saffan â’r cleddyf  , ac a’i lladdasant ef, yr hwn a osodasai brenin Babilon yn llywydd ar y wlad.

º3 Ismael hefyd a laddodd yr holl Iddewon oedd gydag ef, sef gyda Gedal­eia, ym Mispa, a’r Caldeaid y rhai a gafwyd yno, y rhyfelwyr.

º4 A’r ail ddydd wedi iddo ef ladd Gedaleia, heb neb yn gwybod,

º5 Yna y daeth gwŷr o Sichem, o
Seilo, ac o Samaria, sef pedwar ugeinwr, wedi eillio eu barfau, a rhwygo eu dillad, ac ymdorri, ag offrymau ac a thus yn eu dwylo, i’w dwyn i dŷ yr ARGLWYDD.

º6 Ac Ismael mab Nethaneia a aeth allan o Mispa i’w cyfarfod hwynt, gan gerdded rhagddo, ac wylo; a phan gyfarfu efe â hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch at Gedaleia mab Ahicam.

º7 A phan ddaethant hwy i ganol y ddinas, yna Ismael mab Nethaneia a’u lladdodd hwynt, ac a’u bwriodd i ganol y pydew, efe a’r gwŷr oedd gydag ef.

º8 Ond dengwr a gafwyd yn eu mysg hwynt, y rhai a ddywedasant wrth Ismael, Na ladd ni: oblegid y mae gennym ni drysor yn y maes, o wenith, ac o haidd, ac o olew, ac o fêl. Felly efe a beidiodd, ac ni laddodd hwynt ymysg eu brodyr.

º9 A’r pydew i’r hwn y bwriodd Ismael holl gelaneddau y gwŷr a laddasai efe er mwyn Gedaleia, yw yr hwn a wnaethai y brenin Asa, rhag ofn Baasa brenin Israel: hwnnw a ddarfu i Ismael mab Nethaneia ei lenwi a’r rhai a laddasid.

º10 Yna Ismael a gaethgludodd ho}! weddill y bobl y rhai oedd ym Mispa, sef merched y brenin, a’r holl bobl y rhai a adawsid ym Mispa, ar y rhai y gosodasai Nebusaradan pennaeth y milwyr Geda  leia mab Ahicam yn llywydd: ac Ismael mab Nethaneia a’u caethgludodd hwynt, ac a ymadawodd i fyned drosodd ay feibion Ammon.

º11 Ond pan glybu Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, yr holl ddrwg a wnaethai Ismael mab Nethaneia;

º12 Yna hwy a gymerasant eu holl wŷr, ac a aethant i ymladd ag Ismael mab Nethaneia, ac a’i cawsant ef wrth y dyfroedd mawrion y rhai sydd yn Gibeon.

º13 A phan welodd yr holl bobl, y rhai oedd gydag Ismael, Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, yna hwy a lawenychasant.

º14 Felly yr holl bobl, y rhai a gaethgludasai Ismael ymaith o Mispa, a droesant ac a ddychwelasant, ac a aethant at Johanan mab Carea.

º15 Ond Ismael mab Nethaneia a ddihangodd, ynghyd ag wythnyn, oddi gan Johanan, ac a aeth at feibion Ammon.

º16 Yna Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, a gymerasant holl weddill y bobl, y rhai a ddygasai efe yn eu hôl oddi ar Ismael mab Nethaneia, o Mispa, (wedi iddo ef ladd Gedaleia mab Ahicam,) sef cedyrn ryfelwyr, a’r gwragedd, a’r plant, a’r ystafellyddion, y rhai a ddygasai efe. o Gibeon.

º17 A hwy a aethant oddi yno, ac a eisteddasant yn nhrigfa Chimham, yn agos at Bethlehem, i fyned i’r Aifft,

º18 Rhag y Caldeaid: oherwydd eu bod yn eu hofni hwynt, am i Ismael mab Nethaneia ladd Gedaleia mab Ahicam, yr hwn a roddasai brenin Babilon yn llywydd yn y wlad.

PENNOD 42

º1
FELLY holl dywysogion y llu, a Johanan mab Carea, a Jesaneia mab Hosaia, a’r holl bobl, o fychan hyd fawr, a nesasant,

º2 Ac a ddywedasant wrth Jeremeia y proffwyd, Atolwg, gwrando ein deisyfiad ni, a gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD dy DDUW, sef dros yr holl weddill hyn; (canys nyni a adawyd o lawer yn ychydig, fel y mae dy lygaid yn ein gweled ni;)

º3 Fel y dangoso yr ARGLWYDD dy DDUW i ni y ffordd y mae i ni rodio ynddi, a’r peth a wnelom.

º4 Yna Jeremeia y proffwyd a ddy­wedodd wrthynt, Myfi a’ch clywais chwi; wele, mi a weddïaf ar yr ARGLWYDD eich Duw yn ôl eich geiriau chwi, a pheth bynnag a ddywedo yr ARGLWYDD amdanoch, myfi a’i mynegaf i chwi: nid ataliaf ddim oddi wrthych.

º5 A hwy a ddywedasant wrth Jeremeia, Yr ARGLWYDD fyddo dyst cywir a ffyddlon rhyngom ni, onis gwnawn yn ôl pob gair a anfono yr ARGLWYDD dy DDUW gyda thi atom ni.

º6 Os da neu os drwg fydd, ar lais yr ARGLWYDD ein Duw, yr hwn yr ydym ni yn dy anfon ato, y gwrandawn ni; fel y byddo da i ni, pan wrandawom ar lais yr ARGLWYDD ein Duw.

º7 Ac ymhen y deng niwrnod y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia.

º8 Yna efe a alwodd ar Johanan mab Carea, ac ar holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, ac ar yr holl bobl o fychan hyd fawr,

º9 Ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr hwn yr anfonasoch fi ato i roddi i lawr eich gweddïau ger ei fron ef;

º10 Os trigwch chwi yn wastad yn y wlad hon, myfi a’ch adeiladaf chwi, ac nis tynnaf i lawr, myfi a’ch plannaf chwi, ac nis diwreiddiaf: oblegid y mae yn edifar gennyf am y drwg a wneuthum i chwi.

º11 Nac oinwch rhag brenin Babilon, yr hwn y mae arnoch ei ofn; nac ofnwch ef, medd yr ARGLWYDD: canys myfi a fyddaf gyda chwi i’ch achub, ac i’ch gwaredu chwi o’i law ef.

º12 A mi a roddaf i chwi drugaredd, fel y trugarhao efe wrthych, ac y dygo chwi drachefn i’ch gwlad eich hun.

º13 Ond os dywedwch, Ni thrigwn ni yn y wlad hon, heb wrando ar lais yr ARGLWYDD eich Duw,

º14 Gan ddywedyd, Nage: ond i wlad yr Ain’r yr awn ni, lle ni welwn ryfel, ac ni chlywn sain utgorn, ac ni bydd arnom newyn bara, ac yno y trigwn ni:

º15 Am hynny, O gweddill Jwda, gwrandewch yn awr air yr ARGLWYDD Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Os chwi gan osod a osodwch eich wynebau i fyned i’r Aifft, ac a ewch i ymdeithio yno,

º16 Yna y bydd i’r cleddyf, yr hwn yr ydych yn ei ofni, eich goddiwes chwi yno yn nhir yr Aifft; a’r newyn yr hwn yr ydych yn gofalu rhagddo, a’ch dilyn chwi yn yr Aifft; ac yno y byddwch feirw.

º17 Felly y bydd i’r holl wŷr a osodasant eu hwynebau i fyned i’r Aifft, i aros yno, hwy a leddir â’r cleddyf  , â newyn, ac a haint: ac ni bydd un ohonynt yng ngweddill, neu yn ddihangol, gan y dialedd a ddygaf fi arnynt.

º18 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y r
Iluoedd, Duw Israel; Megis y tywalltwyd fy llid a’m digofaint ar breswylwyr Jerwsalem; felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau, pan ddeloch i’r Aifft: a chwi a fyddwch yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth, ac ni chewch weled y lle hwn mwyach.



 

º19 O??? gweddill Jwda, yr ARGLWYDD a ddywedodd amdanoch, Nac ewch i’r Aifft: gwybyddwch yn hysbys i mi eich rhybuddio chwi heddiw.

º20 Canys rhagrithiasoch yn eich calonnau, wrth fy anfon i at yr ARGLWYDD eich Duw, gan ddywedyd, Gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD ein Duw, a mynega i ni yn ôl yr hyn oll a ddywedo yr ARGLWYDD ein Duw, a nyni a’i gwnawn.

º21 A mi a’i mynegais i chwi heddiw, ond ni wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD eich Duw, nac ar ddim oll a’r y danfoffodd efe fi atoch o’i blegid.

º22 Ac yn awr gwybyddwch yn hysbys, mai trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint, y byddwch chwi feirw yn y lle yr ydych yn ewyllysio myned i ymdeithio ynddo.

PENNOD 43

º1
A PHAN ddarfu i Jeremeia lefaru wrth yr holl bobl holl eiriau yr AR­GLWYDD eu Duw, am y rhai yr anfonasai yr ARGLWYDD eu Duw ef atynt, sef yr holl eiriau hyn:,

º2 Yna y llefarodd Asareia mab Hosaia, a Johanan mab Carea, a’r holl ddynion beilchion, gan ddywedyd wrth Jeremeia, Celwydd yr wyt ti yn ei ddywedyd; ni anfonodd yr ARGLWYDD ein Duw ni mohonot ti i ddywedyd, Nac ewch i’r Aifft i ymdeithio yno.

º3 Eithr Baruch mab Nereia a’th anogodd di i’n herbyn ni, i gael ein rhoddi ni yn llaw y Caldeaid, i’n lladd, ac i’n caethgludo i Babilon.

º4 Ond ni wrandawodd Johanan mab Carea, na holl dywysogion y llu, na’r holl bobl, ar lais yr ARGLWYDD, i drigo yn nhir Jwda:

º5 Eithr Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu, a ddygasant ymaith holl weddill Jwda, y rhai a ddychwelasant oddi wrth yr holl genhedloedd lle y gyrasid hwynt, i aros yng ngwlad Jwda;

º6 Yn wŷr, a gwragedd, a phlant, a merched y brenin, a phob enaid a’r a adawsai Nebusaradan pennaeth y milwyr gyda Gedaleia mab Ahicam mab Saffan, y proffwyd Jeremeia hefyd, a Baruch mab Nereia.

º7 Felly hwy a ddaethant i wlad yr Aifft: canys ni wrandawsant ar lais yr ARGLWYDD; fel hyn y daethant i Tapanhes.

º8 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia yn Tapanhes, gan ddywedyd,

º9 Cymer yn dy law gerrig mawrion, a chuddia hwynt yn y clai yn yr odyn briddfaen, yr hon sydd yn nrws tŷ Pharo, yn Tapanhes, yng ngolwg gwŷr Jwda;

º10 A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a anfonaf, ac a gymeraf Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, ac a osodaf ei frenhinfainc ef ar y cerrig hyn y rhai a guddiais, ac efe a daena ei frenhinol babell arnynt,

º11 A phan ddelo, efe a dery wlad yr Aifft; y rhai sydd i angau, ag angau; a’r rhai sydd i gaethiwed, a chaethiwed; a’r rhai sydd i’r cleddyf, â’r cleddyf  .

º12 A mi a gyneuaf dân yn nhai duwiau yr Aifft, ac efe a’u llysg hwynt, ac a*u caethgluda hwynt; ac efe a ymwisg a gwlad yr Aifft fel y gwisg bugail ei ddillad: ac efe a â allan oddi yno mewn heddwch.

º13 Ac efe a dyr ddelwau tŷ yr haul, yr hwn sydd yng ngwlad yr Aifft; ac efe a lysg dai duwiau yr Aifft â thân.

PENNOD 44

º1
Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia, am yr holl Iddewon y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft, ac yn preswylio ym Migdol, ac yn Tapanhes, ac yn Noff, ac yng ngwlad Pathros, gan ddywedyd

º2 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y myfi a osodaf fy wyneb yn eich erbyn
Iluoedd, Duw Israel; Chwi a welsoch yr holl ddrwg a ddygais i ar Jerwsalem, ac ar holl ddinasoedd Jwda; ac wele hwy heddiw yn anghyfannedd, ac heb breswylydd ynddynt:

º3 O achos eu drygioni yr hwn a wnaethant i’m digio i, gan fyned i arogl-darthu, ac i wasanaethu duwiau dieithr, y rhai nid adwaenent, na hwy, na chwithau, na’ch tadau.

º4 Er i mi anfon atoch fy holl weision y proffwydi, gan foregodi, ac anfon, i ddy­wedyd, Na wnewch, atolwg, y ffieiddb’eth hyn, yr hwn sydd gas gennyf fi:

º5 Eto ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu dust, i ddychwelyd oddi wrth eu drygioni, fel nad arogl-darthent i dduwiau dieithr.

º6 Am hynny y tywalltwyd fy llid a’m digofaint, ac y llosgodd efe yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem; ac y: maent hwy yn anghyfannedd, ac ynl ddiffeithwch, fel y gwelir heddiw.

º7 Ac yn awr fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW y lluoedd, Duw Israel; Paham y gwnewch y mawr ddrwg hwn yn erbyn eich eneidiau, i dorri ymaith oddi wrthych ŵr a gwraig, plentyn, a’r hwn sydd yn sugno, allan o Jwda, fel na adawer i chwr weddill?

º8 Gan fy nigio i a gweithredoedd eich dwylo, gan arogl-darthu i dduwiau dieithr yng ngwlad yr Aifft, yr hon yr aethoch i aros ynddi, i’ch difetha eich hunain, ac i fod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear. ‘\

º9 A anghofiasoch chwi ddrygioni eich tadau, a drygioni brenhinoedd Jwda, a drygioni eu gwragedd hwynt, a’ch dryg­ioni eich hunain, a drygioni eich gwrag­edd, y rhai a wnaethant hwy yng ngwlad Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem?

º10 Nid ydynt wedi ymostwng hyd y dydd hwn, ac nid ofnasant, ni rodiasant chwaith yn fy nghyfraith, nac yn fy neddfau, y rhai a roddais i o’ch blaen chwi, ac o flaen eich tadau.

º11 Am hynny fel hyn y dywed A’R’ GLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wele,

chwi er niwed, ac i ddifetha holl Jwda.

º12 A mi a gymeraf weddill Jwda, y rhai a osodasant eu hwynebau i fyned i wlad yr Aifft i aros yno, a hwy a ddifethir oll; yng ngwlad yr Aifft y syrthiant: trwy y cleddyf a thrwy newyn y difethir hwynt: o fychan hyd fawr, trwy y cleddyf a: thrwy newyn y byddant feirw: a hwy;a fyddant yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth.

º13 Canys myfi a ymwelaf a thrigolion gwlad yr Aifft, fel yr ymwelais a Jerw­salem, a chleddyf, a newyn, ac a haint:

º14 Fel na byddo un a ddihango, nac a adawer o weddill Jwda, y rhai a aethant i ymdeithio yno i wlad yr Aifft, i ddy­chwelyd i wlad Jwda, yr hon y mae eu hewyllys ar ddychwelyd i aros ynddi; canys ni ddychwel ond y rhai a ddihangant.

º15 Yna yr holl wŷr y rhai a wyddent i’w gwragedd arogl-darthu i dduwiau dieithr, a’r holl wragedd y rhai oedd yn sefyll yno, cynulleidfa fawr, yr holl bobl y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft, yn Pathros, a atebasant Jeremeia, gan ddywedyd, x6 Am y gair a leferaist ti wrthym ni yn enw yr ARGLWYDD, ni wrandawn ni arnat.

º17 Ond gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a’r a ddelo allan o’n genau, gan arogl-darthu i frenhines y nefoedd, a thywalll iddi hi ddiodydd-offrwm, megis y gwnaethom, nyni a’n tadau, ein brenhin. oedd a’n tywysogion, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem.: canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara, ac yn dda, ac heb weled drwg.

º18 Ond er pan beidiasom ag arogl darthu i frenhines y nefoedd, ac a thywallt’ diod-offrwm iddi hi, bu arnom eisiau pob dim: trwy gleddyf hefyd a thrwy newyn y darfuom ni.

º19 A phan oeddem ni yn arogl-darthu i frenhines y nefoedd, ac yn tywallt diod-offrwm iddi; ai heb ein gwŷr y gwnaethom,ni iddi hi deisennau i’w haddoli hi, ac y tywalltasom ddiod-offrwm iddi? i. -.. .

º20 Yna Jeremeia a ddywedodA,’wnafa f

yr holl bobl, wrth y gwŷr, ac wrth y gwragedd, ac wrth yr holl bobl a’i hatebasant ef felly, gan ddywedyd,

º21 Oni chofiodd yr ARGLWYDD yr arogl-darth a arogl-darthasoch chwi yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, chwychwi a’ch tadau, eich brenhinoedd a’ch tywysogion, a phobl y wlad? ac oni ddaeth yn ei feddwl ef?

º22 Fel na allai yr ARGLWYDD gyd-ddwyn yn hwy, o achos drygioni eich gweithredoedd, a chan y ffiaidd bethau a wnaethech: am hynny yr aeth eich tir yn anghyfannedd, ac yn syndod, ac yn felltith, heb breswylydd, megis y gwelir y dydd hwn.

º23 Oherwydd i chwi arogl-darthu, ac am i chwi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac na wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD, ac na rodiasoch yn ei gyfraith ef, nac yn ei ddeddfau, nac yn ei dystiolaethau; am hynny y digwyddodd i chwi yr aflwydd hwn fel y gwelir heddiw.

º24 A Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl, ac wrth yr holl wragedd, Gwrandewch air yr ARGLWYDD, holl Jwda y rhai ydych yng ngwlad yr Aifft.

º25 Fel hyn y llefarodd ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Chwychwi a’ch gwragedd a lefarasoch a’ch genau, ac a gyflawnasoch a’ch dwylo, gan ddywedyd, Gan dalu ni a dalwn ein haddunedau y rhai a addunasom, am arogl-darthu i frenhines y nefoedd, ac am dywallt diod-offrwm iddi; llwyr y cwblhewch eich addunedau, a llwyr y telwch yr hyn a addunedasoch.

º26 Am hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, holl Jwda y rhai sydd yn, aros yng ngwlad yr Aifft; Wele, myfi a dyngais i’m henw mawr, medd yr ARGLWYDD, na elwir fy enw i mwyach, o fewn holl wlad yr Aifft yng ngenau un gŵr o Jwda, gan ddywedyd, Byw yw yr ARGLWYDD DDUW.

º27 Wele, mi a wyhaf arnynt hwy er niwed, ac nid er daioni: a holl wŷr Jwda   y rhai sydd yng ngwlad yr Aifft, a ddifethir â’r cleddyf  , ac â newyn, hyd oni ddarfyddont.

º28 A’r rhai a ddihangant gan y cleddyf, ac a ddychwelant o wlad yr Aifft i wlad Jwda, fyddant ychydig o nifer: a holl weddill Jwda, y rhai a aethant i wlad yr Aifft i aros yno, a gant wybod gair pwy a saif, ai yr eiddof fi, ai yr eiddynt hwy.

º29 A hyn fydd yn arwydd i chwi, medd yr ARGLWYDD, sef yr ymwelaf a chwi yn y lle hwn, fel y gwypoch y saif fy ngeiriau i’ch erbyn chwi er niwed.

º30 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, myfi a roddaf Pharo-hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio ei einioes ef, fel y, rhoddais i Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon ei elyn, a’r hwn oedd yn ceisio ei einioes.

PENNOD 45

º1
XT’ GAIR yr hwn a lefarodd Jeremeia y « proffwyd wrth Baruch mab Nereia, pan ysgrifenasai efe y geiriau hyn o enau Jeremeia mewn llyfr, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, gan ddywedyd,

º2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrthyt ti, Baruch;

º3 Tydi a ddywedaist, Gwae fi yn awr! canys yr ARGLWYDD a chwanegodd dristwch ar fy ngofid; myfi a ddiffygiais yn fy ochain, ac nid wyf yn cael gorffwystra.

º4 Fel hyn y dywedi wrtho ef, Yr ARGLWYDD a ddywed fel hyn; Wele, myfi a ddistrywiaf yr hyn a adeiledais, a mi a ddiwreiddiaf yr hyn a blennais, nid’ amgen yr holl wlad hon.

º5 Ac a geisi di fawredd i ti dy hun? Na chais: canys wele, myfi a ddygaf ddrwg ar bob cnawd, medd yr ARGLWYDD: ond mi a roddaf i ti dy einioes yn ysglyfaeth ym mha le bynnag yr elych di.

PENNOD 46

º1
GAIR yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd, yn erbyn y Cenhedloedd,

º2 Yn erbyn yr Aifft, yn erbyn llu Pharo-necho brenin yr Aifft, yr hwn oedd wrth afon Ewffrates yn Carchemis, yr hwn a ddarfu i Nebuchodonosor brenin

Babilon ei daro, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda.

º3 Teclwch y darian a’r astalch, a nesewch i ryfel.

º4 Cenglwch y meirch, ac ewch arnynt, farchogion; sefwch yn eich helmau, gloywch y gwaywffyn, gwisgwch y llurigau.

º5 Paham y gwelais hwynt yn ddychrynedig, wedi cilio yn eu hôl, a’u cedyrn wedi eu curo i lawr, a ffoi ar ffrwst, ac heb edrych yn eu hôl? dychryn sydd o amgylch, medd yr ARGLWYDD.

º6 Na chaed y buan ffoi, na’r cadarn ddianc; tua’r gogledd, gerllaw afan Ewffrates, y tripiant, ac y syrthiant.

º7 Pwy yw hwn sydd yn ymgodi fel afon, a’i ddyfroedd yn dygyfor fel yr afonydd?

º8 Yr Aifft sydd fel afon yn ymgodi, a’i dyfroedd sydd yn dygyfor fel yr afonyddi: a hi a ddywed. Mi a af i fyny, ac a orchuddiaf y ddaear; myfi a ddifethaf y ddinas, a’r rhai sydd yn trigo ynddi.

º9 O feirch, deuwch i fyny; a chwithau gerbydau, ymgynddeiriogwch; a deuwch allan y cedyrn; yr Ethiopiaid, a’r Libiaid, y rhai sydd yn dwyn tarian; a’r Lydiaid, y rhai sydd yn teimlo ac yn anelu bwa.

º10 Canys dydd ARGLWYDD DDUW y lluoedd yw hwn, dydd dial, fel yr ymddialo efe ar ei elynion: â’r cleddyf   a ysa, ac a ddigonir, ac a feddwir xxx â’u gwaed hwynt: canys aberth sydd i ARGLWYDD DDUW y lluoedd yn nhir y gogledd wrth afon Ewffrates.

º11 O forwyn, merch yr Aifft, dos i fyny i Gilead, a chymer driagi: yn ofer yr arferi lawer o feddyginiaethau; canys ni bydd iachâd i ti.

º12 Y cenhedloedd a glywsant dy waradwydd, a’th waedd a lanwodd y wlad; canys cadarn wrth gcidarn a dramgwyddodd, a hwy ill dau a gydsyrthi- xxx ihant.

º13 Y gair yr hwn a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Jeremeia y proffwyd, y deuai Nebuchodonosor bremn Babilon-, ac y trawai wlad yr Aifft.

º14 Mynegwch yn yr Aifft, cyhoeddwch ym Migdol, hysbyswch yn Noff, ac yn Tapanhes: dywedwch, Saf, a bydd barod, oblegid y cleddyf a ysa dy amgylchoedd.
 

º15 Paham y syrthiodd dy rai cryfion? ni safasant, am i’r ARGLWYDD eu gwthio hwynt.

º16 Efe a wnaeth i lawer syrthio, ie, pawb a syrthiodd ar ei gilydd; a hwy a ddywedasant, Cyfodwch, a dychwelwn at ein pobl, i wlad ein genedigaeth, rhag cleddyf y gorthrymwr.

º17 Yno y gwaeddasant, Pharo brenin yr Aifft nid yw ond trwst; aeth dros yr amser nodedig.

º18 Fel mai byw fi, medd y Brenin, enw yr hwn yw ARGLWYDD y lluoedd, cyn sicred a bod Tabor yn y mynyddoedd, a Channel yn y môr, efe a ddaw.

º19 O ferch drigiannol yr Aifft, gwna i ti offer caethglud; canys Noff a fydd ang-hyfannedd, ac a ddifethir heb breswylydd.

º20 Yr Aifft sydd anner brydferth, y mae dinistr yn dyfod: o’r gogledd y mae yn dyfod.

º21 Ei gwŷr cyflog hefyd sydd o’i mewn hi fel lloi pasgedig: canys hwythau hefyd a droesant eu hwynebau, ac a gydffoesant; ac ni safasant, oherwydd dydd eu gofid, ac amser eu gofwy a ddaethai arnynt.

º22 Ei llais hi a â allan fel sarff: canys a llu yr ânt hwy, ac a bwyeill y deuant yn ei herbyn hi, fel cymynwyr coed.

º23 Hwy a gymynant i lawr ei choed hi, medd yr ARGLWYDD, er na ellir ei chwilio: canys amiach fyddant na’r ceiliogod rhedyn, ac heb nfedi arnynt.

º24 Merch yr Aifft a gywilyddir; hi a roddir yn llaw pobl y gogledd.

º25 ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel-, sydd yn dywedyd, Wele, myfi a ymwelaf a lliaws No, ac a Pharo, ac a’r Aifft, ac a’i duwiau hi, ac a’i brenhinoedd, sef a Pharo, ac a’r rhai sydd yn ymddiried ynddo;

º26 A mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac yn llaw ei weision ef; ac wedi hynny hi a gyfanheddir megis y dyddiau gynt, medd yr ARGLWYDD.

º27?! Ond nac ofna di, O fy ngwas                ?acob; a thithau Israel, na ddychryna; canys wele, myfi a’th gadwaf di o bell, a’th had o wlad eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a fydd es-mwyth arno, ac heb neb a’i dychryno.



º28 O fy ngwas Jacob, nac ofna, medd yr ARGLWYDD; canys yr ydwyf fi gyda thi; canys mi a wnaf ddiben ar yr holl genhedloedd y rhai y’th fwriais atynt; ond ni wnaf fi ddiben arnat ti; eithr mi a’th gosbaf di mewn barn, ac ni’th dorraf ymaith yn llwyr.

PENNOD 47

º1
GAIR yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa.

º2 Fel hynydywedyr ARGLWYDD; Wele, dyfroedd a gyfodant o’r gogledd, ac a fyddant fel afon lifeiriol, a hwy a lifant dros y wlad, a’r hyn sydd ynddi; y ddinas, a’r rhai sydd yn aros ynddi; yna y dynion a waeddant, a holl breswylwyr y wlad a udant.

º3 Rhag sŵn twrfcarnau ei feirch cryfion, rhag trwst ei gerbydau, a thrwst ei olwynion ef, y tadau nid edrychant yn ôl ar eu plant, gan wendid dwylo:

º4 O achos y dydd sydd yn dyfod i ddistrywio yr holl Philistiaid, ac i ddinistrio o Tyrus a Sidon bob cynorthwywr ag y sydd yng ngweddill: oblegid yr ARGLWYDD a ddinistria y Philistiaid, gweddill ynys Cafftor.

º5 Moeini a ddaeth ar Gasa, torrwyd ymaith Ascalon, gyda’r rhan arall o’u dyffrynnoedd hwynt: pa hyd yr ymrwygi di?

º6 O cleddyf yr ARGLWYDD, pa hyd m lonyddi? dychwel i’th wain, gorffwys a bydd ddistaw.

º7 Pa fodd y llonydda efe, gan i’r AR­GLWYDD ei orchymyn ef yn erbyn Ascalon, ac yn erbyn glan y môr? yno y gosododd ef.

PENNOD 48

º1
FEL hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, yn erbyn Moab; Gwae Nebo! canys hi a anrheithiwyd: gwaradwyddwyd Ciriathaim, ac enillwyd hi; Misgab a waradwyddwyd, ac a ddychrynwyd.
 

º2 Ni bydd ymffrost Moab mwy: yn Hesbon hwy a ddychmygasant ddrwg i’w herbyn hi: Deuwch, dinistriwn hi i lawr, fel na byddo yn genedl. Tithau, Madmen, a dorrir i lawr, y cleddyf a’th erlid.

º3 Llefyn gweiddi a glywir o Horonaim; finrhaith, a dinistr mawr.

º4 Moab a ddistrywiwyd; gwnaeth ei rhai bychain glywed gwaedd.

º5 Canys yn rhiw Luhith, galar a â i fyny mewn wylofain, ac yng ngoriwaered Horonaim y gelynion a glywsant waedd dinistr.

º6 Ffowch, achubwch eich einioes; a ‘byddwch fel y grug yn yr anialwch.

º7 Oherwydd am i ti ymddiried yn dy weithredoedd a’th drysorau dy hun, tithau a ddelir: Cemos hefyd a â allan i gaethiwed, a’i offeiriaid a’i dywysogion ynghyd.

º8 A’r anrheithiwr a ddaw i bob dinas, ac ni ddianc un ddinas: eithr derfydd am y dyffryn, a’r gwastad a ddifwynir, megis y dywedodd yr ARGLWYDD.

º9 Rhoddwch adenydd i Moab, fel yr ehedo ac yr elo ymaith; canys ei dinasoedd hi a fyddant anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt.

º10 Melltigedig fyddo yr hwn a wnelo waith yr ARGLWYDD yn dwyllodrus, a melltigedig fyddo yr hwn a atalio ei gleddyf oddi wrth waed.

º11 Moab a fu esmwyth arni er ei hieuenctid, a hi a orffwysodd ar ei gwa-ddod, ac ni thywalltwyd- hi o lestr i lestr, ac nid aeth hi i gaethiwed: am hynny y safodd ei bias arni, ac ni newidiodd ei harogl.

º12 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan anfonwyf fudwyr, y rhai a’i mudant hi, ac a wacant ei llestri hi, ac a ddrylliant eu costrelau.

º13 A Moab a gywilyddia oblegid Cemos, fel y cywilyddiodd tŷ Israel oblegid Bethel eu hyder hwynt.

º14 Pa fodd y dywedwefa chwi, Cedyrn ydym ni, a gwŷr nerthol i ryfel?

º15 Moab a anrheithiwyd, ac a aeth i fyny o’i dinasoedd, a’i dewis wŷr ieuainc a ddisgynasant i’r lladdfa, medd y Brenin, a’i enw ARGLWYDD y lluoedd.

º16 Agos yw dinistr Moab i ddyfod, a’i dialedd hi sydd yn brysio yn ffest.

º17 Alaethwch drosti hi, y rhai ydych o’i hamgylch; a phawb a’r a edwyn ei henw hi, dywedwch, Pa fodd y torrwyd y ffon gref, a’r wialen hardd!

º18 O breswylferch Dibon, disgyn o’th ogoniant, ac eistedd mewn syched; cahys anrheithiwr Moab a ddaw i’th erbyn, ac a ddinistria dy amddiffynfeydd.

º19 Preswylferch Aroer, saf ar y fford<l   a gwylia; gofyn i’r hwn a fyddo yn ffoi, ac i’r hwn a ddihango, a dywed, Beth a ddarfu?

º20 Gwaradwyddwyd Moab, canys hi a ddinistriwyd: udwch, a gwaeddwch; mynegwch yn Arnon anrheithio Moab;

º21 A barn a ddaw ar y tir gwastad, ar Holon, ac ar Jahasa, ac ar Meffaath,

º22 Ac ar Dibon, ac ar Nebo, ac ar Bethdiblathaim,

º23 Ac ar Ciriathaim, ac ar Bethgamul, ac ar Bethmeon.

º24 Ac ar Cerioth, ac ar Bosra, ac ar holl ddinasoedd gwlad Moab, ymhell ac ytt agos.

º25 Corn Moab a ysgythrwyd, a’i braich hi a dorrwyd, medd yr ARGLWYDD.

º26 Meddwwch hi, oblegid hi a ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD: ie, Moab a ymdrybaedda yn ei chwydfa; am hynny y bydd hi hefyd yn watwargerdd.

º27 Ac oni bu Israel yn watwargerdd i ti? a gafwyd ef ymysg lladron? canys er pan soniaist amdano, yr ymgynhyrfaist.

º28 Trigolion Moab, gadewch y dinas­oedd, ac arhoswch yn y graig, a byddwch megis colomcn yr hon a nytha yn yr ystlysau ar fin y twil.

º29 Nyni a glywbom falchder Moab, (y mae hi yn falch lawn,) ei huchder, ei rhyfyg, a’i hymchwydd, ac uchder ei chalon.

º30 Myfi a adwaen ei llid hi, medd yr ARGLWYDD; ond nid fclly y bydd; ei chelwyddau hi ni wnânt felly.

º31 Am hynny yr udaf fi dros Moab, ac y gwaeddaf dros holl Moab: fy nghalon a riddfana dros wŷr Cir-heres.

º32 Myfi a wylaf drosot ti, gwinwydden Sibma, ag wylofain Jaser; dy gangau a aethant dros y môr, hyd fôr Jaser y cyrhaeddant: yr anrheithiwr a ruthrodd ar dy firwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf gwin.

º33 A dygir ymaith lawenydd a gorfole44 o’r doldir, ac o wlad Moab, a mi a wnaf i’r gwin ddarfod o’r cafnau: ni sathr neb trwy floddest; eu bloddest ni bydd bloddest.

º34 O floedd Hesbon hyd Eleale, a hyd Jahas, y llefasant, o Soar hyd Horonaim, fel anner deirblwydd: canys dyfroedd Nimrim a fyddant anghyfannedd.

º35 Mi a wnaf hefyd ballu ym Moab, medd yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn offrymu mewn uchelfeydd, a’r hwn sydd yn arogl-darthu i’w dduwiau.

º36 Am hynny y lleisia fy nghalon am Moab fel pibellau, ac am wŷr Cir-heres y lleisia fy nghalon fel pibellau; oblegid darfod y golud a gasglodd.

º37 Oblegid pob pen a fydd moel, a phob barf a dorrir; ar bob llaw y bydd rhwygiadau, ac am y llwynau, sachliain.

º38 Ar holl bennau tai Moab, a’i heolydd oll, y bydd alaeth: oblegid myfi a dorraf Moab fel llestr heb hoffter ynddo, medd yr ARGLWYDD.

º39 Hwy a udant, gan ddywedyd. Pa fodd y bwriwyd hi i lawr! pa fodd y trodd Moab ei gwar trwy gywilydd! Felly Moab a fydd yn watwargerdd, ac yn ddychryn i bawb o’i hamgylch.

º40 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, efe a eheda fel eryr, ac a leda ei, adenydd dros Moab.

º41 Y dinasoedd a oresgynnir, a’r amddinynfeydd a enillir, a chalon cedyrn Moab fydd y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor.

º42 A Moab a ddifethir o fod yn bobl, am iddi ymfawrygu yn erbyn yr AR­GLWYDD.

º43 Ofn, a ffoSg a magi a ddaw ama ti, trigiannol Moab, medd yr A-RGLWMgg),. /

º44 Y neb a ffy rhag yr ofn, a syrth yn y fibs; a’r hwn a gyfyd o’r ffos, a ddelir yn y fagi: canys myfi a ddygaf arni, sef ar Moab, flwyddyn eu hymweliad, medd yr ARGLWYDD.

º45 Yng nghysgod Hesbon y safodd y rhai a ffoesant rhag y cadernid: eithr tân a ddaw allan o Hesbon, a fflam o ganol Sihon, ac a ysa gongl Moab, a chorun y meibion trystfawr.

º46 Gwae di, Moab! darfu am bobl Cemos: canys cymerwyd ymaith dy feibion yn gaethion, a’th ferched yn gaethion.

º47 Eto myfi a ddychwelaf gaethiwed Moab yn y dyddiau diwethaf, medd yr ARGLWYDD.
Hyd yma y mae barn Moab.

PENNOD 49

º1
AM feibion Ammon, fel hyn y dywed -lx yr ARGLWYDD; Onid oes meibion i Israel? onid oes etifedd iddo? paham y mae eu brenin hwynt yn etifeddu Gad, a’i bobl yn aros yn ei ddinasoedd ef? ‘

º2 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan wnelwyf glywed trwst rhyfel yn Rabba meibion Ammon, a hi a fydd yn garnedd anghyfanheddol, a’i merched hi a losgir â thân: yna Israel a feddianna y rhai a’i meddianasant ef, medd yr ARGLWYDD.

º3 Uda, Hesbon, am anrheithio Ai: gwaeddwch, chwi ferched Rabba, ymwre-gyswch mewn sachliain; alaethwch, a gwibiwch gan y gwrychoedd: oblegid eu brenin a â i gaethiwed, ei offeiriaid a’i benaethiaid ynghyd.

º4 Paham yr ymffrosti di yn y dynrynnoedd? llifodd dy ddyffryn di ymaith, O ferch wrthnysig, yr hon a ymddiriedodfl yn ei thrysorau, gan ddywedyd, Pwy a ddaw ataf fi?

º5 Wele, myfi a ddygaf arswyd arnat ti, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd, rhag pawb o’th amgylch: a chwi a yrrir allan bob un o’i flaen, ac ni bydd a gasglo y crwydrad.

º6 Ac wedi hynny myfi a ddychwelaf gaethiwed meibion Ammon, medd yr ARGLWYDD.

º7 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd am Edom; Onid oes doethineb mwy yn Teman? a fethodd cyngor gan y rhai deallgar? a fethodd eu doethineb hwynt?

º8 Ffowch, trowch eich cefnau, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Dedan: canys mi a ddygaf ddinistr Esau arno, amser ei ofwy.

º9 Pe delai cynaeafwyr gwin atat ti, oni weddillent hwy loffion grawn? pe lladron liw nos, hwy a anrheithient nes cael digon.

º10 Ond myfi a ddinoethais Esau, ac a ddatguddiais ei lochesau ef, fel na allo lechu: ei had ef a ddifethwyd, a’i frodyr a’i gymdogion, ac nid yw efe.

º11 Gad dy amddifaid, myfi a’u cadwaf hwynt yn fyw, ac ymddirieded dy.wedd-won ynof fi.

º12 Canys fel hyn y dywed yr AR­GLWYDD, Wele, y rhai nid oedd eu barn i yfed o’r ffiol, gan yfed a yfasant, ac a ddihengi di yn ddigerydd? na ddihengi; eithr tithau a yfi yn sicr.

º13 Canys i mi fy hun y tyngais, medd yr ARGLWYDD, mai yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch, ac yn felltith, y bydd Bosra; a’i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch tragwyddol.

º14 Myfi a glywais chwedl oddi wrth yr ARGLWYDD) bod cennad wedi ei anfon at y cenhedloedd, yn dywedyd, Ymgesglwch;, a deuwch yn ei herbyn hi, a chyfodwch i’r rhyfel.

º15 Oherwydd wele, myfi a’th wnaf di yn fychan ymysg y cenhedloedd, ac yn wael ymhlith dynion.

º16 Dy erwindeb a’th dwyllodd, a balchder dy galon, ti yr hon ydwyt yn aros yng nghromlechydd y_ graig, ac yn meddiannu uchelder y bryn: er i ti osod dy nyth cyn uched â’r eryr, myfi a wnaf i ti ddisgyn oddi yno, medd yr ARGLWYDD.

º17 Edom hefyd a fydd yn anghyfannedd: pawb a’r a elo heibio iddi a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi.

º18 Fel yn ninistr Sodom a Gomorra, a’i chymdogesau, medd yr ARGLWYDD; ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi.

º19 Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen, i drigfa y cadarn; eithr mi a wnaf iddo redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol, a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o’m blaen i?

º20 Am hynny gwrandewch gyngor yr ARGLWYDD, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Edom, a’i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau y rhai lleiaf o’r praidd a’u llusgant hwy; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt.

º21 Gan lef eu cwymp hwynt y cryn y ddaear: llais eu gwaedd hwynt a glybuwyd yn y môr coch.

º22 Wele, fel eryr y daw i fyny, ac efe a eheda ac a leda ei adenydd dros Bosra: yna y bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor.

º23 Am Damascus. Hamath ac Arpad a waradwyddwyd; oherwydd hwy a glywsant chwedl drwg; llesmeiriasant; y mae gofal ar y môr heb fedru gorffwys.

º24 Damascus a lesgaodd, ac a ymdry i ffoi, ond dychryn a’i goddiweddodd hi; gwasgfa a phoenau a’i daliodd hi fel gwraig yn esgor. ‘.’

º25 Pa fodd na adewir dinas moliant, caer fy llawenydd?

º26 Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd, a’r holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd AR­GLWYDD y lluoedd.

º27 A mi a gyneuaf dân ym mur Damas­cus, ac efe a ddifa lysoedd Bcnhadad.

º28 Am Cedar, ac am deyrnasoedd Hasor, y rhai a ddinistria Nebuchodunosor brenin Babilon, fel hyn y dywed yr AR­GLWYDD; Cyfodwch, ewch i fyny yn erbyn Cedar, ac anrheithiwch feibion y dwyrain.

º29 Eu lluestai a’u diadellau a gymerant ymaith; eu llenni, a’u holl lestri, a’u camelod, a gymerant iddynt eu hunain; a hwy a floeddiant arnynt, Y mae ofn o amgylch.

º30 Ffowch, ciliwch ymhell, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Hasor, medd yr ARGLWYDD: oherwy4d, Nebuchodonosor brenin Babilon a gymerodd gyngor yn eich erbyn chwi, ac a fwriadodd fwriad yn eich erbyn chwi.

º31 Cyfodwch, ac ewch i fyny at y genedl oludog, yr hon sydd yn trigo yn ddiofal’a medd yr ARGLWYDD, heb ddorau na barrau iddi; wrthynt eu hunain y maent yn trigo.

º32 A’u camelod a fydd yn anrhaith, a’u minteioedd anifeiliaid yn ysbail, a mi a wasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd yn y conglau eithaf; a myfi a ddygaf o bob ystlys iddi eu dinistr hwynt, medd yr ARGLWYDD.

º33 Hasor hefyd fydd yn drigfa dreigiau, ac yn anghyfannedd byth: ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi.

º34 Gair yr ARGLWYDD yr hwn EI ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, gan ddywedyd,

º35 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd: Wele fi yn torri bwa Elam, eu cadernid pennaf hwynt.

º36 A mi a ddygaf ar Elam bedwar gwynt o bedwar eithaf y nefoedd, a mi a’u gwasgaraf hwynt tua’r holl wyntoedd hyn; ac ni bydd cenedl at yr hon ni ddelo rhai o grwydraid Elam.

º37 Canys mi a yrraf ar Elam ofn eu gelynion, a’r rhai a geisiant eu heinioes; a myfi a ddygaf arnynt aflwydd, sef angerdd fy nigofaint, medd yr ARGLWYDD; a mi a anfonaf y cleddyf ar eu hôl, nes i mi eu difetha hwynt.

º38 A mi a osodaf fy nheyrngadair yn Elam, a mi a ddifethaf oddi yno y brenin a’r tywysogion, medd yr ARGLWYDD.

º39 Ond yn y dyddiau diwethaf, myfi a ddychwelaf gaethiwed Elam, medd yr ARGLWYDD.

PENNOD 50

º1
YGAIR a lefarodd yr ARGLWYDD yn erbyn Babilon, ac yn erbyn gwlad y Caldeaid, trwy Jeremeia y proffwyd.
 

º2 Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch, a chodwch arwydd; cyhoeddwch, na chelwch: dywedwch,



Goresgynnwyd Babilon, gw aradwyddwyfl Bel, drylliwyd Merodach: ei heilunod a gywilyddiwyd, a’i delwau a ddrylliwyd.

º3 Canys o’r gogledd y daw cenedl yn ei herbyn hi, yr hon a wna ei gwlad hi yn anghyfannedd, fel na byddo preswylydd ynddi: yn ddyn ac yn anifail y mudant, ac y ciliant ymaith.

º4 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, meibion Israel a ddeuant, hwy a meibion Jwda ynghyd, dan gerdded ac wyle yr ant, ac y ceisiant yr ARGLWYDD eu Duw.

º5 Hwy a ofynnant y ffordd i Seion, tuag yno y bydd eu hwynebau hwynt: Deuwch, meddant, a glynwn wrth yr ARGLWYDD, trwy gyfamod tragwyddol yr hwn nid anghofir.

º6 Fy mhobl a fu fel praidd colledigs eu bugeiliaid a’u gyrasant hwy ar gyfeiliorn, ar y mynyddoedd y troesant hwynt ymaith: aethant o fynydd i fryn, anghofiasant eu gorweddfa.

º7 Pawb a’r a’u cawsant a’u difasant, a’u gelynion a ddywedasant, Ni wnaethom ni ar fai; canys hwy a bechasant yn erbyn yr ARGLWYDD, trigle cyfiawnder; sef yr ARGLWYDD, gobaith eu tadau.

º8 Ciliwch o ganol Babilon, ac ewch allan o wlad y Caldeaid; a byddwch fel bychod o flaen y praidd.

º9 Oherwydd wele, myfi a gyfodaf ac a ddygaf i fyny yn erbyn Babilon gynull.. eidfa cenhedloedd mawrion o dir y gogledd: a hwy a ymfyddinant yn ei herbyn, oddi yno y goresgynnir hi: eu saethau fydd fel saethau cadarn cyfar1-wydd; ni ddychwelant yn ofer. ‘

º10 A Chaldea fydd yn ysbail: pawb a’r a’i hysbeiliant hi a ddigonir, medd yr ARGLWYDD.

º11 Am i chwi fod yn llawen, am i chwi fod yn hyfryd, chwi fathrwyr fy etifeddiaeth, am i chwi frasau fel anner mewn glaswellt, a beichio fel teirw;

º12 Eich main a gywilyddir yn ddirfawr, a’r hon a’ch ymddûg a waradwyddir: wele, yr olafo’r cenhedloedd yn anialweh, yn grastir, ac yn ddiffeithwch.

º13 Oherwydd i digofaint, yr ARSIJWYDD nis preswylir hi, eithr hi a fydd i gyd yn anghyfannedd: pawb a êl heibio i Babiloo a synna, ac a chwibana am ei holl ddial" eddau hi.

º14 Ymfyddinwch yn erbyn Babilon o amgylch; yr holl berchen bwâu, saethwch ati, nac arbedwch saethau: oblegid hi a bechodd yn erbyn yr ARGLWYDD.

º15 Bloeddiwch yn ei herbyn hi o amgylch; hi a roddes ei llaw: ei sylfeini hi a syrthiasant, ei muriau a fwriwyd i lawr; oherwydd dial yr ARGLWYDD yw hyn: dielwch arni: fel y gwnaeth, gwnewch iddi.

º16 Torrwch ymaith yr heuwr o Babilon, a’r hwn a ddalio gryman ar amser cynhaeaf: rhag cleddyf y gorthrymwr J troant bob un at ei bobl ei hun, ac y ffoant bob un i’w wlad.

º17  Fel dafad ar wasgar yw Israel, llewod a’i hymlidiasant ymaith: brenin Asyria yn gyntaf a’i hysodd, a’r Nebu-chodonosor yma brenin Babilon yn olaf a’i diesgyrnodd.

º18 Am hynny fel hyn y dywed AR­GLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Wek, myfi a ymwelaf a brenin Babilon, ac al wlad, fel yr ymwelais a brenin Asyria.

º19 A mi a ddychwelaf Israel i’w drigfa, ac efe a bawr ar Carmel a Basan; ac ar fynydd Effraim a Gilead y digonir ei enaid ef.

º20 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechodau Jwda, ond nis ceir hwynt: canys myfi a faddeuaf i’r rhai a weddillwyf.

º21 DOS i fyny yn erbyn gwlad Merathaim, ie, yn ei herbyn hi, ac yn erbyn tngolion Pecod: anrheithia di a difroda ar eu hôl hwynt, medd yr ARGLWYDD, a gwna yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti.

º22 Trwst rhyfel sydd yn y wlad, a dinistr mawr.

º23 Pa fodd y drylliwyd ac y torrwyd gordd yr holl ddaear! pa fodd yr aetfa Babilon yn ddiffeithwch ymysg y cen­hedloedd !

º24 Myfi a osodais fagi i ti, a thithau Babilon a ddaliwyd, a heb wybod i ti: ti a gafwyd ac a ddaliwyd, oherwydd i ti ymryson yn erbyn yr ARGLWYDD.

º25 Yr ARGLWYDD a agorodd ei drysor, ac a ddug allan arfau ei ddigofaint: canys gwaith ARGLWYDD DDUW y lluoedd yw hyn yng ngwlad y Caldeaid.

º26 Deuwch yn ei herbyn o’r cwr eithaf, agorwch ei hysguboriau hi, dyrnwch hi fel pentwr ŷd, a llwyr ddinistriwch hi: na fydded gweddill ohoni.

º27 Lleddwch ei holl fustych hi; disgyrt-nant i’r lladdfa: gwae hwynt! canys en dydd a ddaeth, ac amser eu hymweliad.

º28 Llef y rhai a ffoant ac a ddihangant o wlad Babilon, i ddangos yn Seion ddial yr ARGLWYDD ein Duw ni, dial ei deml ef.

º29 Gelwch y saethyddion ynghyd yn erbyn Babilon; y perchen bwâu oll, gwersyllwch i’w herbyn hi o amgylch; na chaffed neb ddianc ohoni: telwch iddi yn ôl ei gweithred; ac yn ôl yr hyn oll a wnaeth hi, gwnewch iddi: oherwydd hi a fu falch yn erbyn yr ARGLWYDD, yn erbyn Sanct Israel.

º30 Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd hi; a’i holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd yr AR­GLWYDD.

º31 Wele fi yn dy erbyn di, O falch, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd: oherwydd dy ddydd a ddaeth, yr amser yr ymwelwyf athi.

º32 A’r balch a dramgwydda ac a syrth, ac ni bydd a’i cyfodo: a mi a gyneuaf dân yn ei ddinasoedd, ac efe a ddifa ei holl amgylchoedd ef.

º33 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Meibion Israel a meibion Jwda a orthrymwyd ynghyd; a phawb a’r a’u caethiwodd hwynt a’u daliasant yn dynn, ac a wrthodasant eu gollwng hwy ymaith.

º34 Eu Gwaredwr sydd gryf; AR­GLWYDD y lluoedd yw ei enw; efe a lwyr ddadlau eu dadi hwynt, i beri llonydd i’r wlad, ac allonyddwch i breswylwyr Babilon.

º35 Cleddyf sydd ar y Caldeaid, medd yr ARGLWYDD, ac ar drigolion Babilon, ac ar ei thywysogion, ac ar ei doethion.
 

º36 Cleddyf sydd ar y celwyddog, <a hwy a ynfydant: cleddyf sydd ar ei chedyrn, a hwy a ddychrynant.

º37 Cleddyf sydd ar ei meirch, ac ar i cherbydau, ac ar yr holl werin sydd yn ei chanol hi; a hwy a fyddant fel gwragedd: cleddyf sydd ar ei thrysorau; a hwy a ysbeilir.

º38 Sychder sydd ar ei dyfroedd hi, a hwy a sychant: oherwydd gwlad delwau cerfiedig yw hi, ac mewn eilunod y maent yn ynfydu.

º39 Am hynny anifeiliaid gwylltion yr anialweh, a chathod, a arhosant yno, a chywion yr estrys a drigant ynddi: ac ni phreswylir hi mwyach byth; ac nis cyf-anheddir hi o genhedlaeth i genhedlaeth,

º40 Fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorra, a’i chymdogesau, medd yr ARGLWYDD; felly ni phreswylia neb yno, ac ni erys mab dyn ynddi.

º41 Wele, pobl a ddaw o’r gogledd, a chenedl fawr, a brenhinoedd lawer a godir o eithafoedd y ddaear.

º42 Y bwa a’r waywffon a ddaliant; creulon ydynt, ac ni thosturiant: eu llef fel môr a rua, ac ar feirch y marchogant yn daclus i’th erbyn di, merch Babilon, fel gŵr i ryfel.

º43 Brenin Babilon a glywodd sôn amdanynt, a’i ddwylo ef a lesgasant: gwasgfa a’i daliodd ef, a gwewyr fel gwraig wrth esgor.

º44 Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen i drigfa y cadarn: eithr mi a wnaf iddo ef redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi yr amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o’m blaen i?

º45 Am hynny gwrandewch chwi gyngor yr ARGLWYDD, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Babilon, a’i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn gwlad y Caldeaid: yn ddiau y rhai lleiaf o’r praidd a’u llusgant hwy, xxx yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt.





º46 Gan drwst goresgyniad Babilon y cynhyrfa y ddaear, ac y clywir y waedd ymysg y cenhedloedd.

PENNOD 51

º1
FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, myfi a godaf wynt dinistriol yn erbyn Babilon, ac yn erbyn y rhai sydd yn trigo yng nghanol y rhai a godant yn fy erbyn i;

º2 A mi a anfonaf i Babilon nithwyr, a hwy a’i nithiant hi, ac a wacant ei thir hi, pherwydd hwy a fyddant yn ei herbyn hi o. amgylch ar ddydd blinder.

º3 Yn erbyn yr hwn a anelo, aneled y saethydd ei fwa, ac yn erbyn yr hwn sydd yn ymddyrchafu yn ei lurig; nac arbedwch ei gwŷr ieuainc, difrodwch ei holl lu hi.

º4 Felly y rhai lladdedig a syrthiant yng ngwlad y Caldeaid, a’r rhai a drywanwyd yn ei heolydd hi.

º5 Canys Israel ni adawyd, na Jwda, gan ei DDUW, gan ARGLWYDD y lluoedd: er bod eu gwlad hwynt yn llawn o gamwedd yn erbyn Sanct yr Israel.

º6 Ffowch o ganol Babilon, ac achubwch bawb ei enaid ei him: na adewch eich difetha yn ei hanwiredd hi: oblegid amser dial yw hwn i’r ARGLWYDD; efe a dal y pwyth iddi hi.

º7 Ffiol aur oedd Babilon yn llaw yr ARGLWYDD, yn meddwi pob gwlad: yr holl genhedloedd a yfasant o’i gwin hi; am hynny y cenhedloedd a ynfydasant.

º8 Yn ddisymwth y syrthiodd Babilon, ac y drylliwyd hi: udwch drosti, cymerwch driagi i’w dolur hi, i edrych a iachâ hi.

º9 Nyni a iachasom Babilon, ond nid aeth hi yn iach: gadewch hi, ac awn bawb i’w wlad: canys ei barn a gyrraedd i’r nefoedd, ac a ddyrchafwyd hyd yr wybrau.

º10 Yr ARGLWYDD a ddug allan ein cyfiawnder ni: deuwch, a thraethwn yn Seion waith yr ARGLWYDD ein Duw.

º11 Gloywch y saethau; cesglwch y tarianau: yr ARGLWYDD a gyfododd ysbryd brenhinoedd Media: oblegid y mae ei fwriad ef yn erbyn Babilon, i’w dinistrio hi; canys dial yr ARG&WYDD yw hyn, dial ei deml ef.,: .,_

º12 Dyrchefwch faner ar furiau Babilon; cadarnhewch yr wyliadwriaeth; gosodwch i fyny y gwylwyr; darperwch y cynllwynwyr; canys yr ARGLWYDD a fwriadodd, ac efe a wnaeth hefyd yr hyn a lefarodd yn erbyn trigolion Babilon.

º13 Tydi yr hon ydwyt yn aros ar ddyfroedd lawer, yn aml dy drysorau, dy ddiwedd di a ddaeth, sef mesur dy gybydd-dod.

º14 ARGLWYDD y lluoedd a dyngodd iddo ei hun, gan ddywedyd, Diau y’th lanwaf a dynion megis a lindys; a hwy a ganant floddest i’th erbyn.

º15 Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, ac a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a daenodd y nefoedd trwy ei ddeall.

º16 Pan roddo efe ei lef, y mae twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac y mae efe yn codi y niwioedd o eithaf y ddaear: ac efe sydd yn gwneuthur y mellt gyda’r glaw, ac yn dwyn y gwynt allan o’i drysorau.

º17 Ynfyd yw pob dyn o wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd gan y ddelw gerfiedig: canys celwyddog yw ei ddelw dawdd, ac nid oes chwythad ynddynt.

º18 Oferedd ydynt, gwaith cyfeiliorni: yn amser eu hymweliad y difethir hwynt.

º19 Nid fel y rhai hyn, eithr Lluniwr y cwbl oll, yw rhan Jacob; ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef: ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw ef.

º20 Ti wyt forthwyl i mi, ac arfau rhyfel: canys a thi y drylliaf y cenhedloedd, ac a thi y dinistriaf deyrnasoedd;:

º21 A thi hefyd y gwasgaraf y march a.’r marchwr; ac a thi y drylliaf y cerbyd a’i farchog;

º22 A thi y drylliaf fi ŵr a gwraig; ac a thi y drylliaf hen ac ieuanc; ac a thi y drylliaf y gŵr ieuanc a’r forwyn;

º23 A thi hefyd y drylliaf fi y bugail a’i braidd; ac â thi y drylliaf yr arddwr a’i iau ychen; ac a thi y drylliaf y tywysogion a’r penaethiaid.

º24 A mi a dalaf i Babilon, ac i holl breswylwyr Caldea, eu holl ddrwg a wnaethant yn Seion, yn eich golwg chwi, medd yr ARGLWYDD.

º25 Wele A i’th erbyn di, O fynydd dinistriol, yr hwn wyt yn dinistrio yr holl ddaear, medd yr ARGLWYDD; a myfi a estynnaf fy llaw arnat, ac a’th dreiglaf di i lawr o’r creigiau, ac a’th wnaf di yn fynydd llosg.

º26 Ac ni chymerant ohonot faen congi, na sylfaen; ond diffeithwch tragwyddol a fyddi di, medd yr ARGLWYDD.

º27 Dyrchefwch faner yn y tir; lleisiwch utgorn ymysg y cenhedloedd; darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi; gelwch ynghyd deyrnasoedd Ararat, Minni, ac Aschenas, yn ei herbyn hi; gosodwch dywysog yn ei herbyn hi; gwnewch i feirch ddyfod i fyny cyn amied â’r lindys. blewog.

º28 Darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi, gyda brenhinoedd Media, a’i thywysogion, a’i holl benaethiaid, a holl wlad ei lywodraeth ef.

º29 Y ddaear hefyd a gryna ac a ofidia; oblegid fe gyflawnir bwriadau yr AR­GLWYDD yn erbyn Babilon, i wneuthur gwlad Babilon yn anghyfannedd heb drigiannol ynddi.

º30 Cedyrn Babilon a beidiasant ag ymladd, ac y maent hwy yn aros o fewn eu hamddiffynfeydd: pallodd eu nerth hwynt; aethant yn wrageddos: ei hanheddau hi a losgwyd, a’i barrau a dorrwyd.

º31 Rhedegwr a red i gyfarfod ârhedegwr, a chennad i gyfarfod âchennad, i fynegi i frenin Babilon oresgyn ei ddinas ef o’i chwr,

º32 Ac ennill y rhydau, a llosgi ohonynt y cyrs â thân, a synnu ar y rhyfelwyr.

º33 Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Mcrch Babilon sydd fel llawr dyrnu; amser ei dyrnu hi a ddaeth: ac ar fyrdcr y daw amser cynhaeaf iddi.

º34 Nebuchodonosor brenin Babilon a’m hysodd, ac a’m hysigodd i; efe a’m gwnaeth fel llestr gwag; efe a’m llyncodd fel draig, ac a lanwodd ei t’ol o’m dant-eithion; efe a’m bwriodd i allan.

º35 Y cam a wnaed i mi ac i’m cnawd, a ddelo ar Babilon, medd preswylferch Seion; a’m gwaed i ar drigolion Caldea, medd Jerwsalem.

º36 Am hynny fel hyn y dywed yr AR­GLWYDD; Wele, myfi a ddadleuaf dy ddadi di, ac a ddialaf drosot ti; a mi a ddihysbyddaf ei môr hi, ac’ a sychaf ei ffynhonnau hi. ... "

º37 A bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa dreigiau, yn syndra, ac yn cHwib-aniad, heb breswylyd’d. "

º38 Cydruant fel llewod; bloeddiant fel cenawon llewod. ‘

º39 Yn eu gwres hwynt y gosodaf wieddoedd iddynt, a mi a’u meddwaf hwynt, fel y llawenychont, ac y cysgont. hun dragwyddol, ac na ddenront, medd yr ARGLWYDD.

º40 Myfi a’u dygaf hwynt i waered fel ŵyn i’r lladdfa, fel hyrddod a bychod.

º41 Pa fodd y goresgynnwyd Sesach! pa fodd yr enillwyd gogoniant yr holl ddaear! pa fodd yr aeth Babilon yn syndod ymysg y cenhedloedd!

º42 Y môr a ddaeth i fyny ar Babilon: hi a orchuddiwyd ag amlder ei donnau ef.

º43 Ei dinasoedd hi a aethant yn anghyf­annedd, yn grastir, ac yn ddiffeithwch; gwlad ni thrig un gŵr ynddi, ac ni thramwya mab dyn trwyddi.

º44 A mi a ymwelaf a Bel yn Babilon, a mi a dynnaf o’i safn ef yr hyn a lyncodd; a’r cenhedloedd ni ddylifant ato mwyach; ie, mur Babilon a syrth.

º45 Deuwch allan o’i chanol, O fy mhobl, ac achubwch bob un ei enaid rhag llid digofaint yr ARGLWYDD,

º46 A rhag llwfrhau eich calonnau, ac ofni rhag y chwedl a glywir yn y wlad: a’r naill flwyddyn y daw chwedl newydd, ac ar ôl hynny chwedl newydd y flwyddyn arall; a thrais yn y wlad, llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr.

º47 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod yr ymwelwyf a delwau Babilon; a’i holl wlad hi a waradwyddir, a’i holl rai lladdedig hi a syrthiant yn ei chanol.

º48 Yna y nefoedd a’r ddaear, a’r hyn oll sydd ynddynt, a ganant oherwydd Babilon: oblegid o’r gogledd y daw yr anrheithwyr ati, medd yr ARGLWYDD.

º49 Fel y gwnaeth Babilon i’r rhai lladdedig o Israel syrthio, felly yn Babilon y syrth lladdedigion yr holl ddaear.

 

º50 Y rhai a ddian&hasoch gan y cleddyf, ewch ymaith; na sefwch: cofiwch yr ARGLWYDD o bell, a deued Jerwsalem yn "ich cof chwi.

º51 Gwaradwyddwyd ni, am i ni glywed cabledd: gwarth a orchuddiodd ein bwynebau; canys daeth estroniaid i gysegroedd tŷ yr ARGLWYDD.

º52 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan ymwelwyf fi s, i delwau hi; a thrwy ei holl wlad hi yr .ircholledig a riddfan.

º53 Er i Babilon ddyrchafu i’r nefoedd, W er iddi gadarnhau ei hamddiffynfa yn uchel; eto anrheithwyr a ddaw ati oddi frrthyf fi, medd yr ARGLWYDD.

º54 Sain gwaedd a glywir o Babilon, a dinistr mawr o wlad y Caldeaid.

º55 Oherwydd yr ARGLWYDD a anrheithjodd Babilon, ac a ddinistriodd y mawrair allan ohoni hi, er rhuo o’l thonnau fel dyfroedd lawer, a rhoddi twrf eu Itef hwynt.

º56 Canys yr anrheithiwr a ddaeth yn ei herbyn hi, sef yn erbyn Babilon, a’i chedym hi a ddaliwyd; eu bwa a dorrwyd: canys ARGLWYDD DDUW y gwobr a obrwya yn sicr.

º57 A myfi a feddwaf ei thywysogion hi, a’i doethion, ei phenaethiaid, a’i swyddogion, a’i chedym: a hwy a gysgant hun dragwyddol, ac ni ddeffroant, medd y Brenin, enw yr hwn yw ARGLWYDD y lluoedd.

º58 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Gan ddryllio y dryllir llydain furiau Babilon, a’i huchel byrth a losgir â thân; a’r bobl a ymboenant mewn oferedd, a’r cenhedloedd mewn tân, a hwy a ddiffygiant.

º59 Y gair yr hwn a orchmynnodd Jeremeia y proffwyd i Seraia mab Nereia, mab Maaseia, pan oedd efe yn myned gyda Sedeceia brenin Jwda i Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad ef. A Seraia oedd dywysog llonydd.

º60 Felly Jeremeia a ysgrifennodd yr holl aflwydd oedd ar. ddyfod yn erbyn Babilon, mewn un llyfr; sef yr holl eiriau a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon.
 

º61 A Jeremeia a ddywedodd wrth Seraia, Pan ddelych i Babilon, a gweled, a darllen yr holl eiriau hyn;

º62 Yna dywed, O ARGLWYDD, ti a leferaist yn erbyn y lle hwn, am ei ddinistrio, fel na byddai ynddo breswylydd, na dyn nac anifail, eithr ei fod yn anghyfannedd tragwyddol.

º63 A phan ddarfyddo i ti ddarllen y llyfr hwn, rhwym faen wrtho, a bwrw ef i ganol Ewffrates;

º64 A dywed, Fel hyn y soddir Babilon, ac ni chyfyd hi, gan y drwg a ddygaf fi ami: a hwy a ddiffygiant.
Hyd hyn y mae geiriau Jeremeia.

PENNOD 52

º1
MAB un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu; ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna.

º2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Jehoiacim.

º3 Oherwydd gan ddigofaint yr AR­GLWYDD y bu, yn Jerwsalem ac yn Jwda, hyd oni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg, wrthryfela o Sedeceia yn erbyn brenin Babilon.

º4 Ac yn y nawfed flwyddyn o’i deyrn­asiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllasant yn ei herbyn hi, ac a adeiladasant gyferbyn â hi amddiffynfa o amgylch ogylch.

º5 Felly y ddinas a fu yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia.

º6 Yn y pedwerydd mis, yn y nawfed dydd o’r mis, y newyn a drymhaodd yn y ddinas, fel nad oedd bara i bobl y wlad.

º7 Yna y torrwyd y ddinas; a’r holl ryfelwyr a ffoesant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nos, ar hyd ffordd y porth rhwng y ddau fur, yr hwn oedd wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch,) a hwy a aethant ar hyd ffordd y rhos.

 

º8 Ond llu y Caldeaid a ymBdiasant ar ôl y brenin, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, a’i holl lu ef a wasgarwyd oddi wrtho.

º9 Yna hwy a ddaliasant y brenin, ac a’i dygasant ef at frenin Babilon i Ribia yng ngwlad Hamath; ac efe a roddodd farn arno ef.

º10 A brenin Babilon a laddodd feibioo Sedeceia yng ngŵydd ei lygaid ef: efe a laddodd hefyd holl dywysogion Jwda yn Ribla.

º11 Yna efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymodd ef a chadwyni: a brenin Babilon a’i harweiniodd ef i Babilon, ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy hyd ddydd ei farwolaeth.

º12 Ac yn y pumed mis, ar y degfed dydd o’r mis, (hon oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r brenin Nebu­chodonosor brenin Babilon,) y daeth Nebusaradan pennaeth y milwyr, yr hwn a safai gerbron brenin Babilon, i Jerwsalem;

º13 Ac efe a losgodd d  yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin; a holl dai Jerwsalem, a pho’o tŷ mawr, a losgodd efe â thân.

º14 A holl lu y Caldeaid y rhai oedd gyda phennaeth y milwyr, a ddrylliasant holl furiau Jerwsalem o amgylch.

º15 Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd rai o’r bobl wael, a’r gweddill o’r bobl a adawsid yn y ddinas, a’r ffoaduriaid a giliasent at frenin Babilon, a’r gweddill o’r bobl.

 

º16 Ond Nebusaradan pennaeth y mil­wyr a adawodd rai o diodion y wlad yn winllanwyr ac yn arddwyr.

º17 A’r Caldeaid a ddrylliasant y colofnau pres y rhai oedd yn nhŷ yr AR­GLWYDD, a’r ystolion, a’r môr pres yr hwn oedd yn nhŷ yr ARGLWYDD; a hwy a ddygasant eu holl bres hwynt i Babilon.

º18 A hwy a ddygasant ymaith y croch-anau, a’r rhawiau, a’r saltringau, a’r, cawgiau, a’r thuserau, a’r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt.

º19 A’r ffiolau, a’r pedyll tân, a’r cawg­iau, a’r crochanau, a’r canwyllbrennau, a’r thuserau, a’r cwpanau, y rhai oedd o aur yn aur, a’r rhai oedd o arian yn anan, a gymerodd pennaeth y milwyr ymaith.

º20 Y ddwy golofn, un mor, a deuddeg o ychen pres, y rhai oedd dan yr ystolion. y rhai a wnaethai y brenin Solomon, yn nhŷ yr ARGLWYDD: nid oedd pwys ar bres yr holl lestri hyn.

º21 Ac am y colofnau, deunaw cufydd oedd uchder un golofn, a llinyn o ddeu-ddeg cufydd oedd yn ei hamgylchu: a’i thewder yn bedair modfedd; ac yn gau,;a’ oedd.,g

º22 A chnap pres oedd arni, a phum cufydd oedd uchder un cnap; a rhwyd-waith a phomgranadau ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac fel hyn yr oedd yr ail golofn a’i phomgranadau.

º23 A’r pomgranadau oeddynt, onid s pedwar, cant ar ystlys: yr holl bom-granadau ar y rhwydwaith o amgylch oedd gant.

º24 A phennaeth y milwyr a gymerodd Seraia yr archoffeiriad, a Seffaneia yy ail offeiriad, a’r tri oedd yn cadw y drwa.

º25 Ac efe a gymerodd o’r ddinas ystaf-. ellydd, yr hwn oedd swyddog ar y rhyfelwyr; a seithwyr o weision pennafy brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas; a phen-ysgrifennydd y llu, yr hwn a fyddai yn byddino pobl y wlad; a thri ugeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yng nghanot y ddinas.

º26 A Nebusaradan pennaeth y milwyr a gymerodd y rhai hyn, ac a aeth â hwynt i Ribla, at frenin Babilon.

º27 A brenin Babilon a’u trawodd hwynt, ac a’u lladdodd hwynt yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Fel hyn y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun.

º28 Dyma y bobl a gaethgludodd, Nebuchodonosor yn y seithfed flwyddyn, tair mil a thri ar hugain o Iddewon.

º29 Yn y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor efe a gaethgludodd o Jerwsalem wyth gant a deuddeg ar hugain o ddynion.

º30 Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nebuchodonosor, Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd saith gant a phump a deugain o Iddewon: yr holl ddynion hyn oedd bedair mil a chwe chant.




 
º31 Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain wedi caethgludo Jehoiachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y pumed dydd ar hugain o’r mis, Efil-merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad, a ddyr-chafodd ben Jehoiachin brenin Jwda, ac a’i dug ef allan o’r carchardy;

º32 Ac a ddywedodd yn deg wrtho, ac a osododd ei frenhinfainc ef uwchlaw gorseddfeinciau y brenhinoedd, y rhai oedd gydag ef yn Babilon.

º33 Ac efe a newidiodd ei garcharwisg ef: ac efe a fwytaodd fara ger ei fron ef yn wastad, holl ddyddiau ei einioes.

º34 Ac am ei luniaeth ef, lluniaeth gwastadol a roddwyd iddo gan frenin Babilon, dogn dydd yn ei ddydd, hyd ddydd ei farwolaeth, holl ddyddiau ei einioes.

 

_____________

DIWEDD


Adolygiad diweddaraf / Darrera actualització / Latest update  2006-09-04

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ  ə

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats