1769k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.

http://www.kimkat.org/
amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_ioan3_64_1769k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn

 


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
The Wales-Catalonia Website


Cywaith Siôn Prys
(Casgliad o Destunau yn Gymraeg)

El projecte Siôn Prys
(Col
·lecció de textos en gal·lès)


Y Beibl Cysegr-lân :
(62) Epistol Cyntaf Cyffredinol Ioan yr Apostol

(delw 6540)


Diweddariad diwethaf
2004-02-10, 2005-10-15



 1770ke This page with an English translation - Third Epistle of John the Apostle / 1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version

····· 

TRYDYDD EPISTOL CYFFREDINOL IOAN YR APOSTOL

PENNOD 1
1:1  Yr henuriad at yr annwyl Gaius, yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd.

1:2 Yr anwylyd, yr ydwyf yn bennaf dim yn dymuno dy fod yn llwyddo ac yn iach, fel y mae dy enaid yn llwyddo.

1:3 Canys mi a lawenychais yn fawr, pan ddaeth y brodyr, a thystiolaethu am dy wirionedd di, megis ag yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd.

1:4 Mwy llawenydd na hyn nid oes gennyf, sef cael clywed bod fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd.

1:5 Yr anwylyd, yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur tuag at y brodyr, a thuag at ddieithriaid;

1:6 Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di gerbron yr eglwys: y rhai os hebryngi fel y gweddai i Dduw, da y gwnei.

1:7 Canys er mwyn ei enw yr aethant allan, heb gymryd dim gan y Cenhedloedd.

1:8 Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyfryw rai, fel y byddom gyd-gynorthwy-wyr i’r gwirionedd.

1:9 Mi a ysgrifennais at yr eglwys: eithr Diotreffes, yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim ohonom.

1:10 Oherwydd hyn, os deuaf, mi a ddygaf ar gof ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag siarad i’n herbyn a geiriau drygionus: ac heb fod yn fodlon ar hynny, nid yw efe ei nun yn derbyn y brodyr, a’r rhai sydd yn ewyllysio, y mae yn eu gwahardd, ac yn eu bwrw allan o’r eglwys.

1:11 Anwylyd, na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda. Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni, o Dduw y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw.

1:12 Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun: a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu, a chwi a wyddoch fod ein tystiolaeth ni yn wir.

1:13 Yr oedd gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu, ond nid wyf yn chwennych ysgrifennu ag inc a phin atat ti:

1:14 Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb.

1:15 Tangnefedd i ti. Y mae’r cyfeillion i’th annerch. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau.

 

DIWEDD

 

Sumbolau arbennig: ŷŵ

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA

Edrychwych ar fy ystadegau