1488k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.

http://www.kimkat.org/
amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_exodus_02_1488k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn  Gymraeg
          neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
                    neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
                              neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
                                            neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn

 


..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
The Wales-Catalonia Website


Cywaith Siôn Prys
(Casgliad o Destunau yn Gymraeg)

El projecte Siôn Prys
(Col
·lecció de textos en gal·lès)


Y Beibl Cysegr-lân :
(2) Exodus


(delw 6540)



 1489ke This page with an English translation - Exodus (1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)

 

PENNOD 1
1:1 Dyma yn awr enwau meibion Israel, y rhai a ddaethant i'r Aifft: gyda Jacob y ddaethant, bob un a'i deulu.

1:2 Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda,

1:3 Issachar, Sabulon, a Benjamin,

1:4 Dan, a Nafftali, Gad, ac Aser.

1:5 A’r holl eneidiau a ddaethant allan o gorff Jacob oedd ddeng enaid a thrigain: a Joseff oedd yn yr Aifft.

1:6 A Joseff a fu farw, a'i holl frodyr, a'r holl genhedlaeth honno.

1:7 A phlant Israel a hiliasant ac a gynyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth, a'r wlad a lanwyd ohonynt.

1:8 Yna y cyfododd brenin newydd yn yr Aifft, yr hwn nid adnabuasai mo Joseff.

1:9 Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl, Wele bobl plant Israel yn amlach, ac yn gryfach, na nyni.

1:10 Deuwch, gwnawn yn gall â hwynt, rhag amlhau ohonynt, a bod, pan ddigwyddo rhyfel, ymgysylltu ohonynt â’n caseion, a rhyfela i'n herbyn, a myned i fyny o'r wlad.

1:11 Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid gwaith, i'w gorthrymu a'u beichiau; a hwy a adeiladasant i Pharo ddinasoedd trysorau, sef Pithom a Raamses.

1:12 Ond fel y gorthryment hwynt, felly yr amlhaent, ac y cynyddent: a drwg oedd ganddynt oherwydd plant Israel.

1:13 A'r Eifftiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed.

1:14 A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy'r gwasanaeth caled, mewn clai, ac mewn priddfaen, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; a'u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo oedd galed.

1:15 A brenin yr Aifft a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebreesau; o ba rai enw un oedd Sipra, ac enw yr ail Pua:

1:16 Ac efe a ddywedodd. Pan fyddoch fydwragedd i'r Hebreesau, a gweled ohonoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw.

1:17 Er hynny y bydwragedd a ofnasant DDUW, ac ni wnaethant yn ôl yr hyn a ddywedasai brenin yr Aifft wrthynt, eithr cadwasant y bechgyn yn fyw.

1:18 Am hynny brenin yr Aifft a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw?

1:19 A'r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharo, Am nad yw yr Hebreesau fel yr Eifftesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig atynt.

1:20 Am hynny y bu DUW dda wrth y bydwragedd: a'r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn.

1:21 Ac oherwydd i'r bydwragedd ofni DUW, yntau a wnaeth dai iddynt hwythau.

1:22 A Pharo a orchmynnodd i'w holl bobi, gan ddywedyd, Pob mab a'r a enir, bwriwch ef i'r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.


PENNOD 2


2:1 Yna gŵr o dŷ Lefi a aeth, ac a briododd ferch i Lefi.

2:2 A'r wraig a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab: a phan welodd hi mai tlws ydoedd efe, hi a'i cuddiodd ef dri mis.

2:3 A phan na allai hi ei guddio ef yn hwy, hi a gymerodd gawell iddo ef o lafrwyn, ac a ddwbiodd hwnnw â chlai ac â phyg; ac a osododd y bachgen ynddo, ac a'i rhoddodd ymysg yr hesg ar fin yr afon.

2:4 A'i chwaer ef a safodd o bell, i gael gwybod beth a wneid iddo ef.

2:5 A merch Pharo a ddaeth i waered i'r afon i ymolchi, (a'i llancesau oedd yn rhodio gerllaw yr afon;) a hi a ganfu'r cawell yng nghanol yr hesg, ac a anfonodd ei llawforwyn i'w gyrchu ef.

2:6 Ac wedi iddi ei agoryd, hi a ganfu'r bachgen; ac wele y plentyn yn wylo: a hi a dosturiodd wrtho, ac a ddywedodd, Un o blant yr Hebreaid yw hwn.

2:7 Yna ei chwaer ef a ddywedodd wrth ferch Pharo, A af fi i alw atat famaeth o'r Hebreesau, fel y mago hi y bachgen i ti?

2:8 A merch Pharo a ddywedodd wrthi, Dos. A'r llances a aeth ac a alwodd fam y bachgen.

2:9 A dywedodd merch Pharo wrthi, Dwg ymaith y bachgen hwn, a maga ef i mi, a minnau a roddaf i ti dy gyflog. A'r wraig a gymerodd y bachgen, ac a'i magodd.

2:10 Pan aeth y bachgen yn fawr, hi a'i dug ef i ferch Pharo; ac efe a fu iddi yn fab: a hi a alwodd ei enw ef Moses, Oherwydd (eb hi) o'r dwfr y tynnais ef.

2:11 A bu yn y dyddiau hynny, pan aeth Moses yn fawr, fyned ohono allan at ei frodyr, ac edrych ar eu beichiau hwynt, a gweled Eifftwr yn taro Hebrëwr, un o'i frodyr.

2:12 Ac efe a edrychodd yma ac acw; a phan welodd nad oedd yno neb, efe a laddodd yr Eifftiad, ac a'i cuddiodd yn y tywod.

2:13 Ac efe a aeth allan yr ail ddydd, ac wele ddau Hebrëwr yn ymryson: ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd ar y cam, Paham y trewi dy gyfaill?

2:14 A dywedodd yntau, Pwy a'th osododd di yn bennaeth ac yn frawdwr arnom ni? ai meddwl yr wyt ti fy lladd i, megis y lleddaist yr Eifftiad? A Moses a ofnodd, ac a ddywedodd, Diau y gwyddir y peth hyn.

2:15 Pan glybu Pharo y peth hyn, efe a geisiodd ladd Moses: ond Moses a ffodd rhag Pharo, ac a arhosodd yn nhir Midian; ac a eisteddodd wrth bydew.

2:16 Ac i offeiriad Midian yr ydoedd saith o ferched: a'r rhai hynny a ddaethant ac a dynasant ddwfr, ac a lanwasant y cafnau i ddyfrhau defaid eu tad.

2:17 Ond y bugeiliaid a ddaethant ac a'u tyrasant ymaith; yna y cododd Moses, ac a'u cynorthwyodd hwynt, ac a ddyfrhaodd eu praidd hwynt.

2:18 Yna y daethant at Reuel eu tad: ac efe a ddywedodd, Paham y daethoch heddiw cyn gynted?

2:19 A hwy a ddywedasant, Eifftwr a'n hachubodd ni o law y bugeiliaid; a chan dynnu a dynnodd ddwfr hefyd i ni, ac a ddyfrhaodd y praidd.

2:20 Ac efe a ddywedodd wrth ei ferched, Pa le y mae efe? paham y gollyngasoch ymaith y gŵr? Gelwch arno, a bwytaed fara.

2:21 A bu Moses fodlon i drigo gyda'r gŵr: ac yntau a roddodd Seffora ei ferch i Moses.

2:22 A hi a esgcredd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Gersom: Oherwydd dieithr (eb efe) a fûm i mewn gwlad deieithr.

2:23 Ac yn ôl dyddiau lawer, bu farw brenin yr Aifft; a phlant Israel a ucheneidiasant oblegid y caethiwed, ac ac a waeddasant; a'u gwaedd hwynt a ddyrchafodd at DDUW, oblegid y caethiwed.

2:24 A DUW a glybu eu huchenaid hwynt, a DUW a gofiodd ei gyfamod ag Abraham, ag Isaac, ac â Jacob.

2:25 A DUW a edrychodd ar blant Israel, DUW hefyd a gydnabu â hwynt.


PENNOD 3


3:1 A Moses oedd yn hugeilio defaid Jethro ei chwegrwn, offeiriad Midian: ac efe a yrrodd y praidd o'r tu cefn i'r anialwch, ac a ddaeth i fynydd DUW, Horeb.

3:2 Ac angel yr ARGLWYDD a ymddangdsodd iddo mewn fflam dân o ganol perth: ac efe a edrychodd, ac wele y berth yn llosgi yn dân, a'r berth heb ei difa.

3:3 A dywedodd Moses, Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw'r berth wedi llosgi.

3:4 Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod efe yn troi i edrych, DUW a alwodd arno o ganol y berth, ac a ddywedodd, Moses, Moses, A dywedodd yntau, Wele fi.

3:5 Ac efe a ddywedodd, Na nesâ yma: diosg dy esgidiau oddi am dy draed; oherwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear sanctaidd.

3:6 Ac efe a ddywedodd, Myfi yw DUW dy dad, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob. A Moses a guddiodd ei wyneb; oblegid ofni yr ydoedd edryeh ar DDUW.

3:7 A dywedodd yr ARGLWYDD, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aifft, a'u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau.

3:8 A mi a ddisgynnais i'w gwaredu hwy o law yr Eifftiaid, ac i'w dwyn o'r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid.

3:9 Ac yn awr wele, gwaedd meibion Israel a ddaeth ataf fi; a hefyd mi a welais y gorthrymder a'r hwn y gorthrymodd yr Eifftiaid hwynt.

3:10 Tyred gan hynny yn awr, a mi a'th anfonaf at Pharo; fel y dygech fy mhobl, plant Israel, allan o'r Aifft.

3:11 A dywedodd Moses wrth DDUW, Pwy ydwyf fi, fel yr awn i at Pharo, ac y dygwn blant Israel allan o'r Aifft?

3:12 Dywedodd yntau, Diau y byddaf gyda thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a'th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o'r Aifft, chwi a wasanaethwch DDUW ar y mynydd hwn.

3:13 A dywedodd Moses wrth DDUW, Wele, pan ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, DUW eich tadau a'm hanfonodd atoch; os dywedant wrthyf, Beth yw ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt?

3:14 A DUW a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel, YDWYF a'm hanfonodd atoch.

3:15 A DUW a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; ARGLWYDD DDUW eich tadau, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob, a'm hanfonodd atoch: dyma fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.

3:16 Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, ARGLWYDD DDUW eich tadau, DUW Abraham, Isaac, a Jacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd. Gan ymweled yr ymwelais a chwi, a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft.

3:17 A dywedais, Mi a'ch dygaf chwi i fyny o adfyd yr Aifft, i wlad y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl.

3:18 A hwy a wrandawant ar dy lais; a thi a ddeui, ti a henuriaid Israel, at frenin yr Aifft, a dywedwch wrtho, ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid a gyfarfu â ni; ac yn awr gad i ni fyned, atolwg, daith tri diwrnod i'r anialwch, fel yr aberthom i'r ARGLWYDD ein DUW.

3:19 A mi a wn na edy brenin yr Aifft i chwi fyned, ond mewn llaw gadarn.

3:20 Am hynny mi a estynnaf fy llaw, ac a drawaf yr Aifft a'm holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a'ch gollwng chwi ymaith.

3:21 A rhoddaf hawddgarwch i'r bobl hyn yng ngolwg yr Eifftiaid: a bydd, pan eloch, nad eloch yn waglaw;

3:22 Ond pob gwraig a fenthycia gan ei chymdoges, a chan yr hon fyddo yn cytal â hi, ddodrefn arian, a dodrefn aur, a gwisgoedd: a chwi a'u gosodwch hwynt am eich meibion ac am eich merched; ac a ysbeiliwch yr Eifftiaid.


PENNOD 4


4:1 A Moses a atebodd, ac a ddywedodd, Eto, wele, ni chredant i mi, ac ni wrandawant ar fy llais; ond dywedant, Nid ymddangosodd yr ARGLWYDD i ti.

4:2 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Beth sydd yn dy law? Dywedodd yntau, Gwialen.

4:3 Ac efe a ddywedodd, Tafl hi ar y ddaear. Ac efe a'i taflodd hi ar y ddaear; a hi a aeth yn sarff: a Moses a giliodd rhagddi.

4:4 Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law, ac ymafael yn ei llosgwrn hi. (Ac efe a estynnodd ei law, ac a ymaflodd ynddi; a hi a aeth yn wialen yn ei law ef:)

4:5 Fel y credant ymddangos i ti o ARGLWYDD DDUW eu tadau, DUW Abraham, DUW Isaac, a DUW Jacob.

4:6 A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho drachefn, Dod yn awr dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes: a phan dynnodd efe hi allan, wele ei law ef yn wahanglwyfol fel yr eira.

4:7 Ac efe a ddywedodd, Dod eilwaith dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd eilwaith ei law yn ei fynwes, ac a'i tynnodd hi allan o'i fynwes; ac wele, hi a droesai fel ei gnawd arall ef.

4:8 A bydd, oni chredant i ti, ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf, eto y credant i lais yr ail arwydd.

4:9 A bydd, oni chredant hefyd i'r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, ti a gymeri o ddwfr yr afon ac a'i tywellti ar y sychdir; a bydd y dyfroedd a gymerech o'r afon yn waed ar y tir sych.

4:10 A dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, O fy Arglwydd, ni bûm ŵr ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf.

4:11 A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr ARGLWYDD?

4:12 Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyda'th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych.

4:13 Dywedodd yntau, O fy Arglwydd, danfon, atolwg, gyda'r hwn a ddanfonych.

4:14 Ac enynnodd digofaint yr ARGLWYDD yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i'th cyfarfod; a phan y'th welo, efe a lawenycha yn ei galon.

4:15 Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyda'th enau di, a chyda'i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch.

4:16 A llefared yntau trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti, a thithau a fyddi yn lle DUW iddo yntau.

4:17 Cymer hefyd y wialen hon yn dy law, yr hon y gwnei wyrthiau â hi.

4:18 A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gad i mi fyned, atolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aifft, a gweled a ydynt eto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch.

4:19 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses ym Midian, Dos, dychwel i'r Aifft; oherwydd bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes.

4:10 A Moses a gymerth ei wraig, a'i feibion, ac a'u gosododd hwynt ar asyn, ac a ddychwelodd i wlad yr Aifft: cymerodd Moses hefyd wialen DUW yn ei law.

4:11 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i'r Aifft, gwêl i ti wneuthur gerbron Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl.

4:12 A dywed wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Fy mab i, sef fy nghyntaf-anedig, yw Israel.

4:23 A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y'm gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf-anedig.

4:24 A bu, ar y ffordd yn y llety, gyfarfod o'r ARGLWYDD ag ef, a cheisio ei ladd ef.

4:25 Ond Seffora a gymerth gyllell lem, ac a dorrodd ddienwaediad ei mab, ac a'i bwriodd i gyffwrdd â'i draed ef; ac a ddywedodd, Diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi.

4:26 A'r ARGLWYDD a beidiodd ag ef: yna y dywedodd hi, Priod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.

4:27 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, Dos i gyfarfod â Moses i'r anialwch. Ac efe a aeth, ac a gyfarfu ag ef ym mynydd DUW, ac a'i cusanodd ef.

4:28 A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau yr ARGLWYDD, yr hwn a'i hanfonasai ef, a'r arwyddion a orchmynasai efe iddo.

4:29 A Moses ac Aaron a aethant, ac a gynullasant holl henuriaid meibion Israel.

4:30 Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefarasai yr ARGLWYDD wrth Moses, ac a wnaeth yr arwyddion yng ngolwg y bobl.

4:31 A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o'r ARGLWYDD â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna hwy a ymgrymasant, ac a addolasant.


PENNOD 5


5:1 Ac wedi hynny, Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y cadwont ŵyl i mi yn yr anialwch.

5:2 A dywedodd Pharo, Pwy yw yr ARGLWYDD, fel y gwrandawn i ar ei lais, i ollwng Israel ymaith?
Yr ARGLWYDD nid adwaen, ac Israel ni ollyngaf.

5:3 A dywedasant hwythau, DUW yr Hebreaid a gyfarfu â ni: gad i ni fyned, atolwg, daith tridiau yn yr anialwch, ac aberthu i'r ARGLWYDD ein DUW; rhag iddo ein rhuthro a haint, neu â chleddyf.

5:4 A dywedodd brenin yr Aifft wrthynt, Moses ac Aaron, paham y perwch i'r bobl beidio a'u gwaith? ewch at eich beichiau.

5:5 Pharo hefyd a ddywedodd, Wele, pobl y wlad yn awr ydynt lawer, a pharasoch iddynt beidio â'u llwythau.

5:6 A gorchmynnodd Pharo, y dydd hwnnw, i'r rhai oedd feistriaid gwaith ar y bobl a'u swyddogion, gan ddywedyd,

5:7 Na roddwch mwyach wellt i'r bobl i wneuthur priddfeini, megis o'r blaen; elont a chasglant wellt iddynt eu hunain.

5:8 A rhifedi'r priddfeini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o'r blaen a roddwch arnynt; na leihewch o hynny! canys segur ydynt, am hynny y maent yn gweiddi, gan ddywedyd, Gad i ni fyned ac aberthu i'n DUW.

5:9 Trymhaer y gwaith ar y gwyr, a gweithiant ynddo; fel nad edrychant am eiriau ofer.

5:10 A meistriaid gwaith y bobl, a'u swyddogion, a aethant allan, ac a lefarasant wrth y bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Pharo, Ni roddaf wellt i chwi.

5:11 Ewch chwi, a cheisiwch i chwi wellt lle y caffoch; er hynny ni leiheir dim o'ch gwaith.

5:12 A'r bobl a ymwasgarodd trwy holl wlad yr Aifft, i gasglu sofl yn lle gwellt.

5:13 A'r meistriaid gwaith oedd yn eu prysuro, gan ddywedyd, Gorffennwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt.

5:14 A churwyd swyddogion meibion Israel, y rhai a osodasai meistriaid gwaith Pharo arnynt hwy, a dywedwyd, Paham na orffenasoch eich tasg, ar wneuthur priddfeini, ddoe a heddiw, megis cyn hynny?

5:15 Yna swyddogion meibion Israel a ddaethant ac a lefasant ar Pharo, gan ddywedyd, Paham y gwnei fel hyn a'th weision?

5:16 Gwellt ni roddir i'th weision; a Gwnewch briddfeini i ni, meddant: ac wele dy weision a gurwyd; a'th bobl di dy hun sydd ar y bai.

5:17 Ac efe a ddywedodd, Segur, segur ydych; am hynny yr ydych chwin yn dywedyd. Gad i ni fyned ac aberthu i'r ARGLWYDD.

5:18 Am hynny ewch yn awr, gweithiwch; ac ni roddir gwellt i chwi; eto chwi a roddwch yr un cyfrif o'r priddfeini.

5:19 A swyddogion meibion Israel a'u gwelent eu hun mewn lle drwg, pan ddywedid, Na leihewch ddim o'ch priddfeini, dogn dydd yn ei ddydd.

5:20 A chyfarfuant â Moses ac Aaron, yn sefyll ar eu ffordd, pan oeddynt yn dyfod allan oddi wrth Pharo:

5:21 A dywedasant wrthynt, Edryched yr ARGLWYDD arnoch chwi, a barned; am i chwi beri i'n sawyr ni ddrewi gerbron Pharo, a cherbron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i'n lladd ni.

5:22 A dychwelodd Moses at yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD, paham y drygaist y bobl hyn? i ba beth y'm hanfonaist?

5:23 Canys er pan ddeuthum at Pharo, i lefaru yn dy enw di, efe a ddrygodd y bobl hyn; a chan waredu ni waredaist dy bobl.


PENNOD 6


6:6 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth i Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharo: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyr efe hwynt o'i wlad.

6:2 DUW hefyd a lefarodd with Mose, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw JEHOFAH.

6:3 A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, dan enw DUW Hollalluog; ond erbyn fy enw JEHOFAH ni bum adnabyddus iddynt.

6:4 Hefyd mi a sicrheais fy nghyfamod a hwynt, am roddi iddynt wlad Canaan, sef gwlad eu hymdaith, yr hon yr ymdeithiasant ynddi.

6:5 A mi a glywais hefyd uchenaid plant Israel, y rhai y mae yr Eifftiaid yn eu caethiwo; a chofiais fy nghyfamod.

6:6 Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi yw yr ARGLWYDD; a myfi a'ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau y; Eifftiald, ac a'ch rhyddhaf o'u caethiwed hwynt; ac â’ch gwaredaf a braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion.

6:7 Hefyd mi a'ch cymerafyri bobl i mi, ac a fyddaf yn DDUW i chwi: a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn sydd yn eich dwya chwi allan oddi tan Iwythau yr Eifftiaid.

6:8 A mi a'ch dygaf chwi i'r wlad, am yr hon y tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a mi a'i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth: myfi yw yr ARGLWYDD.

6:9 A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra ysbryd, a chan gaethiwed caled.

6:10 A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

6:11 Dos i mewn; dywed wrth Pharo, brenin yr Aifft, am iddo ollwng meibion Israel allan o'i wlad.

6:12 A Moses a lefarodd gerbron yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Wele, plant Israel ni wrandawsant arnaf fi; a pha fodd y'm gwrandawai Pharo, a minnau yn ddienwaededig o wefusau?

6:13 A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses ac Aaron, ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel, ac at Pharo brenin yr Aifft, i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aifft.

6:14 Dyma eu pencenedl hwynt; meibion Reuben, y cyntaf-anedig i Israel: Hanoch, a Phalu, Hesron, a Charmi: dyma deuluoedd Reuben.

6:15 A meibion Simeon; Jemwel, a Jamin, Ohad, a Jachin, Sohar hefyd, a Saul mab y Ganaanëes; dyma deuluoedd Simeon.

6:16 Dyma hefyd enwau meibion Lefi, yn ôl eu cenedlaethau; Gerson, Cohath hefyd, Merari: a blynyddoedd oes Lefi oedd gant ac onid tair blynedd deugain.

6:17 Meibion Gerson; Libni, a Simi, yn ôl eu teuluoedd.

6:18 A meibion Cohath; Amram, ac Ishar, Hebron hefyd, ac Ussiel: a blynyddoedd oes Cohath oedd dair ar ddeg ar hugain a chan mlynedd.

6:19 Meibion Merari oedd Mahali a Must: dyma deuluoedd Lefi, yn ôl eu cenedlaethau.

6:20 Ac Amram a gymerodd Jochebed, ei fodryb chwaer ei dad, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Amram oedd onid tair deugain a chan mlynedd.

6:21 A meibion Ishar; Cora, a Neffeg, a Sicri.

6:22 A meibion Ussiel; Misael, ac Elsaffan, a Sithri.

6:23 Ac Aaron a gymerodd Eliseba, merch Aminadab, chwaer Nahason, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.

6:24 Meibion Cora hefyd; Assir, ac Elcana, ac Abiasaff: dyma deuluoedd y Corahiaid.

6:25 Ac Eleasar, mab Aaron, a gymerodd yn wraig iddo un o ferched Putiel; a hi a ymddûg iddo ef Phineas: dyma bennau cenedl y Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd.

6:26 Dyma Aaron a Moses, y rhai y dywedodd yr ARGLWYDD wrthynt, Dygwch feibion Israel allan o wlad yr Aifft, yn ôl eu lluoedd.

6:27 Dyma y rhai a lefarasant wrth Pharo, brenin yr Aifft, am ddwyn meibion Israel allan o'r Aifft: dyma y Moses ac Aaron hwnnw.

6:28 A bu, ar y dydd y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yn nhir yr Aifft,

6:29 Lefaru o'r ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd, Myfi yw yr ARGLWYDD: dywed wrth Pharo, brenin yr Aifft, yr hyn oill yr ydwyf fi yn ei ddywedyd wrthyt.

6:30 A dywedodd Moses gerbron yr ARGLWYDD, Wele fi yn ddienwaededig o wefusau; a pha fodd y gwrendy Pharo arnaf?


PENNOD 7


7:1 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Gwêl, mi a'th wneuthum yn dduw i Pharo: ac Aaron dy frawd fydd yn broffwyd i tithau.

7:2 Ti a leferi yr hyn oil a orchmynnwyf i ti; ac Aaron dy frawd a lefara wrth Pharo, ar iddo ollwng meibion Israel ymaith o'i wlad.

7:3 A minnau a galedaf galon Pharo, ac a amlhaf fy arwyddion a'm rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft.

7:4 Ond ni wrendy Pharo arnoch: yna y rhoddaf fy llaw ar yr Aifft; ac y dygaf allan fy lluoedd, fy mhobl, meibion Israel, o wlad yr Aifft, trwy farnedigaethau mawrion.

7:5 A'r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan estynnwyf fy llaw ar yr Aifft, a dwyn meibion Israel allan o'u mysg hwynt.

7:6 A gwnaeth Moses ac Aaron fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt; ie, felly y gwnaethant.

7:7 A Moses ydoedd fab pedwar ugain mlwydd, ac Aaron yn fab tair blwydd a phedwar ugain, pan lefarasant wrth Pharo.

7:8 A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

7:9 Pan lefaro Pharo wrthych, gan ddywedyd, Dangoswch gennych wyrthiau; yna y dywedi wrth Aaron, Cymer dy wialen, a bwrw hi gerbron Pharo; a hi a â yn sarff.

7:10 A Moses ac Aaron a aethant i mewn at Pharo, ac a wnaethant felly, megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD: ac Aaron a fwriodd ei wialen gerbron Pharo, a cherbron ei weision; a hi a aeth yn sarff.

7:11 A Pharo hefyd a alwodd am y doethion, a'r hudolion: a hwythau hefyd, sef swynwyr yr Aitft, a wnaethant felly trwy eu swynion.

7:12 Canys bwriasant bob un ei wialen; a hwy a aethant yn seirff: ond gwialen Aaron a lyncodd eu gwiail hwynt.

7:13 A chalon Pharo a galedodd, fel na wrandawai arnynt hwy; megis y llefarasai yr ARGLWYDD.

7:14 A dywedodd yr ARGLWYDD with Moses, Caledodd calon Pharo; gwrthododd ollwng y bobl ymaith.

7:15 Dos at Pharo yn fore: wele efe a ddaw allan i'r dwfr; saf dithau ar lan yr afon erbyn ei ddyfod ef; a chymer yn dy law y wialen a drodd yn sarff.

7:16 A dywed wrtho ef, ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid a'm hanfonodd atat, i ddywedyd, Gollwng ymaith fy mhobi, fel y'm gwasanaethont yn yr anialwch: ac wele, hyd yn hyn, ni wrandewit.

7:17 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Wrth hyn y cei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: wele, myfi â'r wialen sydd yn fy llaw a drawaf y dyfroedd sydd yn yr afon, fel y troer hwynt yn waed.

7:18 A'r pysg sydd yn yr afon a fyddant feirw, a'r afon a ddrewa; a bydd blin gan yr Eifftiaid yfed dwfr o'r afon.

7:19 Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Cymer dy wialen, ac estyn dy law ar ddyfroedd yr Aifft, ar eu ffrydiau, ar eu hafonydd, ac ar eu pyllau, ac ar eu holl lynnau dyfroedd, fel y byddont yn waed; a bydd gwaed trwy holl wlad yr Aifft, yn eu llestri coed a cherrig hefyd.

7:20 A Moses ac Aaron a wnaethant fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD: ac efe a gododd ei wialen, ac a drawodd y dyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon, yng ngŵydd Pharo, ac yng ngŵydd ei weision; a'r holl ddyfroedd y rhai oeddynt yn yr afon a drowyd yn waed.

7:21 A'r pysgod, y rhai oeddynt yn yr afon, a fuant feirw; a'r afon a ddrewodd, ac ni allai yr Eifftiaid yfed dwfr o'r afon; a gwaed oedd trwy holl wlad yr Aifft.

7:22 A swynwyr yr Aifft a wnaethant y cyffelyb trwy eu swynion: a chaledodd calon Pharo, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr ARGLWYDD.

7:23 A Pharo a drodd ac a aeth i'w dŷ, ac ni osododd hyn at ei galon.

7:24 A'r holl Eifftiaid a gloddiasant oddi amgylch yr afon am ddwfr i'w yfed, canys ni allent yfed o ddwfr yr afon.

7:25 A chyflawnwyd saith o ddyddiau, wedi i'r ARGLWYDD daro'r afon.


PENNOD 8


8:1 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos at Pharo, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.

8:2 Ac os gwrthodi eu gollwng, wele, mi a drawaf dy holl derfynau di a llyffaint.

8:3 A'r afon a heigia lyffaint, y rhai a ddringant, ac a ddeuant i'th dyâ, ac i ystafell dy orweddle, ac ar dy wely, ac i dŷ dy weision, ac ar dy bobl, ac i'th ffyrnau, ac ar dy fwyd gweddill.

8:4 A'r llyffaint a ddringant arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dy holl weision.

8:5 Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy law â'th wialen ar y ffrydiau, ar yr afonydd, ac ar y llynnoedd; a gwna i lyffaint ddyfod i fyny ar hyd tir yr Aifft.

8:6 Ac Aaron a estynnodd ei law ar ddyfroedd yr Aifft; a'r llyffaint a ddaethant i fyny, ac a orchuddiasant dir yr Aifft.

8:7 A'r swynwyr a wnaethant yr un modd, trwy eu swynion; ac a ddygasant i fyny lyffaint ar wlad yr Aifft.

8:8 Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Gweddïwch ar yr ARGLWYDD, ar iddo dynnu'r llyffaint ymaith oddi wrthyf fi, ac oddi wrth fy mhobl; a mi a ollyngaf ymaith y bobl, fel yr aberthont i'r ARGLWYDD.

8:9 A Moses a ddywedodd wrth Pharo, Cymer ogoniant arnaf fi; Pa amser y gweddïaf trosot, a thros dy weision, a thros dy bobl, am ddifa'r llyffaint oddi wrthyt, ac o'th dai, a'u gadael yn unig yn yr afon?

8:10 Ac efe a ddywedodd, Yfory. A dywedodd yntau. Yn ôl dy air y bydd; (fel y gwypech nad oes neb fel yr ARGLWYDD ein DUW ni.

8:11 A'r llyffaint a ymadawant â thi, ac â’th dai, ac â'th weision, ac â'th bobl; yn unig yn yr afon y gadewir hwynt.

8:12 A Moses ac Aaron a aethant allan oddi wrth Pharo.
A Moses a lefodd ar ARGLWYDD, o achos y llyffaint y rhai a ddygasai efe ar Pharo.

8:13 A'r ARGLWYDD a wnaeth yn ôl gair Moses; a'r llyffaint a fuant feirw o'r tai, o’r pentrefydd, ac o'r meysydd.

8:14 A chasglasant hwynt yn bentyrrau; fel y drewodd y wlad.

8:15 Pan welodd Pharo fod seibiant iddo, efe a galedodd ei galon, ac ni wrandawodd arnynt; megis y llefarasai yr ARGLWYDD.

8:16 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy wialen, a tharo lwch y ddaear, fel y byddo yn llau trwy holl wlad yr Aifft.

8:17 Ac felly y gwnaethant: canys Aaron a estynnodd ei law â'i wialen, ac a drawodd lwch y ddaear; ac efe a aeth yn llau ar ddyn ac ar anifail: holl lwch y tir oedd yn llau trwy holl wlad yr Aifft.

8:18 A'r swynwyr a wnaethant felly, trwy eu swynion, i ddwyn llau allan; ond ni allasant: felly y bu'r llau ar ddyn ac ar anifail.

8:19 Yna y swynwyr a ddywedasant wrth Pharo, Bys DUW yw hyn: a chaledwyd calon Pharo, ac ni wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr ARGLWYDD.

8:20 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo; wele, efe a ddaw allan i'r dwfr: yna dywed wrtho, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.

8:21 Oherwydd, os ti ni ollyngi fy mhobl, wele fi yn gollwng arnat ti, ac ar dy weision, ac ar dy bobl, ac i'th dai, gymysgbla: a thai'r Eifftiaid a lenwir o'r gymysgbla, a'r ddaear hefyd yr hon y maent arni.

8:22 A'r dydd hwnnw y neilltuaf fi wlad Gosen, yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo'r gymysgbla yno; fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD yng nghanol y ddaear.

8:23 A mi a osodaf wahan rhwng fy mhobl i a'th bobl di: yfory y bydd yr arwydd hwn.

8:24 A'r ARGLWYDD a wnaeth felly; a daeth cymysgbla drom i dŷ Pharo, ac i dai ei weision, ac i holl wlad yr Aifft; a llygrwyd y wlad gan y gymysgbla.

8:25 A Pharo a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, aberthwch i'ch DUW yn y wlad.

8:26 A dywedodd Moses, Nid cymwys gwneuthur felly; oblegid nyni a aberthwn i’r ARGLWYDD ein DUW ffieiddbeth yr Eifftiaid: wele, os aberthwn ffieiddbeth yr Eifftiaid yng ngŵydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni?

8:27 Taith tridiau yr awn i'r anialwch, a nyni a aberthwn i'r ARGLWYDD ein DUW, megis y dywedo efe wrthym ni.

8:28 A dywedodd Pharo, Mi a'ch gollyngaf chwi, fel yr aberthoch i'r ARGLWYDD eich DUW yn yr anialwch; ond nac ewch ymhell: gweddïwch trosof fi.

8:29 A dywedodd Moses, Wele, myfi a af allan oddi wrthyt, ac a weddïaf ar yr ARGLWYDD, ar gilio'r gymysgbla oddi wrth Pharo, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobi, yfory: ond na thwylled Pharo mwyach, heb ollwng ymaith y bobl, i aberthu i'r ARGLWYDD.

8:30 A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD.

8:31 A gwnaeth yr ARGLWYDD yn ôl gair Moses: a'r gymysgbla a dynnodd efe ymaith oddi wrth Pharo, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl; ni adawyd un.

8:32 A Pharo a galedodd ei galon y waith honno hefyd, ac ni ollyngodd ymaith y bobl.


PENNOD 9


9:1 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos i mewn at Pharo, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobi, fel y'm gwasanaethont.

9:2 Oblegid, os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith, ac atal ohonot hwynt eto,

9:3 Wele, llaw yr ARGLWYDD fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynnod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn.

9:4 A'r ARGLWYDD a neilltua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Eifftiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a'r sydd eiddo meibion Israel.

9:5 A gosododd yr ARGLWYDD amser nodedig, gan ddywedyd, Yfory y gwna'r ARGLWYDD y peth hyn yn y wlad.

9:6 A'r ARGLWYDD a wnaeth y peth hynny drannoeth: a bu feirw holl anifeiliad yr Eifftiaid; ond o amfeiliaid meibion Israel ni bu farw un.

9:7 A Pharoa anfonodd, ac wele, ni buasai farw un o anifeiliaid Israel: a chalon Pharo a galedwyd, ac ni ollyngodd y bobl.

9:8 A dywedodd yr ARGLWYDQ wrth Moses ac wrth Aaron, Cymerwch i chwi lonaid eich llaw o ludw ffwrn, a thaened Moses ef tua'r nefoedd yng ngŵydd Pharo:

9:9 Ac efe fydd yn llwch ar holl dir yr Aifft; ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinorog, trwy holl wlad yr Aifft.

9:10 A hwy a gymerasant ludw y ffwrn, ac a safasant gerbron Pharo: a Moses a’i taenodd tua'r nefoedd; ac efe a aeth yn gornwyd llinorog ar ddyn ac ar anifail.

9:11 A'r swynwyr ni allent sefyll gerbron Moses, gan y cornwyd; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Eifftiaid.

9:12 A'r ARGLWYDD a galedodd galon Pharo, fel na wrandawai arnynt; megis y llefarasai'r ARGLWYDD wrth Moses.

9:13 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid; Gollwng fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.

9:14 Canys y waith hon yr anfonaf fy holl blâu ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear.

9:15 Oherwydd yn awr, mi a estynnaf fy llaw, ac a'th drawaf di a'th bobl i haint y nodau; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear.

9:16 Ac yn ddiau er mwyn hyn y'th gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy'r holl ddaear.

9:17 A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl eto, heb eu gollwng hwynt ymaith?

9:18 Wele, mi a lawiaf ynghylch yr amser yma yfory genllysg trymion iawn; y rhai ni bu eu bath yn yr Aifft, o'r dydd y sylfaenwyd hi, hyd yr awr hon.

9:19 Anfon gan hynny yn awr, casgl dy anifeiliaid, a phob dim a'r y sydd i ti yn y maes: phob dyn ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis dyger i dŷ, y disgyn y cenllysg arnynt, a byddant feirw.

9:20 Yr hwn a ofnodd air yr ARGLWYDD o weision Pharb, a yrrodd ei weision a'i anifeiliaid i dai;

9:21 A'r hwn nid ystyriodd. air yr ARGLWYDD, a adawodd ei weision a'i anifeiliaid yn y maes.

9:22 A'r ARGLWYDD a ddywedddd wrth Moses, Estyn dy law tua'r nefoedd, fel y byddo cenllysg yn holl wlad yr Aifft, ar ddyn ac ar anifail, ac ar holl lysiau y maes, o fewn tir yr Aifft.

9:23 A Moses a estynnodd ei wialen tua'r nefoedd: a'r ARGLWYDD a roddodd daranau a chenllysg, a'r tân a gerddodd ar hyd y ddaear; a chafododd yr ARGLWYDD genllysg ar dir yr Aifft.

9:24 Felly yr ydoedd cenllysg, a thân yn ymgymryd yng nghanol y cenllysg, yn flin iawn, yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aifft, er pan ydoedd yn genhedlaeth.

9:25 A'r cenllysg a gurodd, trwy holl wlad yr Aifft, gwbl a'r oedd yn y maes, yn ddyn ac yn anifail: y cenllysg hefyd a gurodd holl lysiau y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes.

9:26 Yn unig yng ngwlad Gosen, yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi, nid oedd dim cenllysg.

9:27 A Pharo a anfonodd, ac a alwodd ar Moses ac Aaron, ac a ddywedodd wrthynt, Pechais y waith hon; yr ARGLWYDD sydd gyfiawn, a minnau a'm pobl yn annuwiol.

9:28 Gweddïwch ar yr ARGLWTOD (canys digon yw hyn) na byddo taranau DUW na chenllysg; a mi a'ch gollyngaf, ac ni arhoswch yn hwy.

9:29 A dywedodd Moses wrtho, Pan elwyf allan o'r ddinas mi a ledaf fy nwylo ,at yr ARGLWYDD: a'r taranau a beidiant, a’r cenllysg ni bydd mwy, fel y gwypych mai yr ARGLWYDD biau y ddaear.

9:30 Ond mi a wn nad wyt ti eto, na'th weision, yn ofni wyneb yr ARGLWYDD DDUW.

9:31 A'r llin a’r haidd a gurwyd, canys yr haidd oedd wedi hedeg, a’r llin wedi hadu:

9:32 A'r gwenith a'r rhyg ni churwyd; oherwydd diweddar oeddynt hwy.

9:33 A Moses a aeth oddi wrth Pharo allan o'r ddinas, ac a ledodd ei ddwylo ar yr ARGLWYDD; a'r taranau a'r cenllysg a beidiasant, ac ni thywalltwyd glaw ar y ddaear.

9:34 A phan welodd Pharo beidio o'r glaw, a'r cenllysg, a'r taranau, efe a chwanegodd bechu; ac a galedodd ei galon, efe a'i weision.

9:35 A chaledwyd calon Pharo, ac ni ollyngai efe feibion Israel ymaith, megis y llefarasai yr ARGLWYDD trwy law Moses.


PENNOD 10


10:1 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos at Pharo: oherwydd mi a galedais ei galon ef, a chalon ei weision; fel y dangoswn fy arwyddion hyn yn ei ŵydd ef:

10:2 Ac fel y mynegit wrth dy fab, a mab dy fab, yr hyn a wneuthum yn yr Aifft; a'm harwyddion a wneuthum yn eu plith hwynt; ac y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.

10:3 A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharo, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.

10:4 Oherwydd os ti a wrthodi ollwng fy mhobl, wele, yfory y dygaf locustiaid i'th fro,

10:5 A hwynt-hwy a orchuddiant wyneb y ddaear, fel na allo un weled y ddaear; a hwy a ysant y gweddill a adawyd i chwi yn ddihangol gan y cenllysg, difant hefyd bob pren a fyddo yn blaguro i chwi yn y maes.

10:6 Llanwant hefyd dy dai di, a thai dy holl weision, a thai yr holl Eifftiaid, y rhai ni welodd dy dadau, na thadau dy dadau, er y dydd y buont ar y ddaear hyd y dydd hwn. Yna efe a drodd, ac a aeth allan oddi wrth Pharo.

10:7 A gweision Pharo a ddywedasant wrtho, Pa hyd y bydd hwn yn fagl i ni? gollwng ymaith y gwŷr, fel y gwasanaethont yr ARGLWYDD eu DUW: Oni wyddost ti eto ddifetha'r Aifft?

10:8 A dychwelwyd Moses ac Aaron at Pharo: ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, gwasanaethwch yr ARGLWYDD eich DUW: ond pa rai sydd yn myned?

10:9 A Moses a ddywedodd, A'n llanciau, ac â'n hynafgwyr, yr awn ni; a'n meibion hefyd, ac â'n merched, â'n defaid, ac â'n gwartheg, yr awn ni: oblegid rhaid i ni gadw gŵyl i'r ARGLWYDD.

10:10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr un modd y byddo'r ARGLWYDD gyda chwi, ag y gollyngaf chwi, a'ch rhai bach: gwelwch, mai ar ddrwg y mae eich bryd.

10:11 Nid felly; ewch yn awr, y gwŷr, a gwasanaethwch yr ARGLWYDD: canys hyn yr oeddech yn ei geisio. Felly hwy a yrrwyd allan o wydd Pharo.

10:12 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Estyn dy law ar wlad yr Aifft am locustiaid, fel y delont i fyny ar dir yr Aifft; ac y bwytaont holl lysiau y ddaear, sef y cwbl a'r a adawodd y cenllysg.

10:13 A Moses a estynnodd ei wialen ar dir yr Aifft: a'r ARGLWYDD a ddug ddwyreinwynt ar y tir yr holl ddiwrnod hwnnw, a'r holl nos honno; a phan ddaeth y bore, gwynt y dwyrain a ddug locustiaid.

10:14 A'r locustiaid a aethant i fyny dros holl wlad yr Aifft, ac a arosasant ym mhob ardal i'r Aifft: blin iawn oeddynt; ni bu'r fath locustiaid o'u blaen hwynt, ac ar eu hôl ni bydd y cyffelyb.

10:15 Canys toesant wyneb yr holl dir, a thywyllodd y wlad; a hwy a ysasant holl lysiau y ddaear, a holl ffrwythau y coed, yr hyn a weddillasai y cenllysg: ac ni adawyd dim gwyrddlesni ar goed, nac ar lysiau y maes, o fewn holl wlad yr Aifft.

10:16 Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron ar frys; ac a ddywedodd, Pechais yn erbyn yr ARGLWYDD eich DUW, ac yn eich erbyn chwithau. unig.

10:17 Ac yn awr maddau, atolwg, fy mhechod y waith hon yn unig, a gweddïwch ar yr ARGLWYDD eich DUW, ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig.

10:18 A Moses a aeth allan oddi wrth Pharo, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD.

10:19 A'r ARGLWYDD a drodd wynt gorllewin cryf iawn, ac efe a gymerodd ymaith y locustiaid, ac a'u bwriodd hwynt i'r môr coch: ni adawyd un locust o fewn holl derfynau yr Aifft.

10:20 Er hynny caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo, fel na ollyngai efe feibion Israel ymaith.

10:21 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Estyn dy law tua'r nefoedd,, fel y byddo tywyllwch ar dir yr Aifft, tywyllwch a aller ei deimlo.

10:22 A Moses a estynnodd ei law tua'r nefoedd: a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft dri diwrnod.

10:23 Ni welai neb ei gilydd, ac ni chododd neb o'i le dri diwrnod: ond yr ydoedd goleuni i holl feibion Israel yn eu trigfannau.

10:24 A galwodd Pharo am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Ewch, gwasanaethwch yr ARGLWYDD; arhoed eich defaid, a'ch gwartheg yn unig; aed eich rhai bach hefyd gyda chwi. |

10:25 A dywedodd Moses, Ti a roddi hefyd yn ein dwylo ebyrth a phoeth-offrymau, fel yr aberthom i'r ARGLWYDD ein DUW.

10:26 Aed ein hanifeiliaid hefyd gyda ni; ni adewir ewin yn ôl: oblegid ohonynt y cymerwn i wasanaethu yr ARGLWYDD ein DUW : ac nis gwyddom â pha beth y gwasanaethwn yr ARGLWYDD, hyd oni ddelom yno.

10:27 Ond yr ARGLWYDD a galedodd galon Pharo, ac ni fynnai eu gollwng hwynt.

10:28 A dywedodd Pharo wrtho. Dos oddi wrthyf, gwylia arnat rhag gweled fy wyneb mwy: oblegid y dydd y gwelych fy wyneb, y byddi farw.

10:29 A dywedodd Moses, Uniawn y dywedaist, ni welaf dy wyneb mwy.


PENNOD 11


11:1 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Un pla eto a ddygaf ar Pharo, ac ar yr Aifft; wedi hynny efe a’ch gollwng chwi oddi yma: pan y'ch gollyngo, gan wthio efe a'ch gwthia chwi oddi yma yn gwbl.

11:2 Dywed yn awr lle y clywo y bobl; a benthycied pob gŵr gan ei gymydog, a phob gwraig gan ei chymdoges, ddodrefn arian, a dodrefn aur.

11:3 A'r ARGLWYDD a roddodd i'r bobl ffafr yng ngolwg yr Eifftiaid: ac yr oedd Moses yn ŵr mawr iawn yng ngwlad yr Aifft, yng ngolwg gweision Pharo, ac yng ngolwg y bobl.

11:4 Moses hefyd a ddywedodd, Fel hyn y llefarodd yr ARGLWYDD; Ynghylch hanner nos yr af fi allan i ganol yr Aifft.

11:5 A phob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft a fydd marw, o gyntaf-anedig Pharo, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrn-gadair, hyd gyntaf-anedig y wasanaethferch sydd ar ôl y felin; a phob cyntaf-anedig o anifail.

11:6 A bydd gweiddi mawr trwy holl wlad yr Aifft, yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb.

11:7 Ond yn erbyn neb o blant Israel ni symud ci ei dafod, ar ddyn nac anifail; fel y gwypoch fod yr ARGLWYDD yn gwneuthur rhagor rhwng yr Eifftiaid ac Israel.

11:8 A'th holl weision hyn a ddeuant i waered ataf fi, ac a ymgrymant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a'r holl bobl sydd ar dy ôl; ac wedi hynny yr af fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharo mewn dicllonedd llidiog.

11:9 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Ni wrendy Pharo arnoch; fel yr amlhaer fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft.

11:10 A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn gerbron Pharo: a'r ARGLWYDD a galedodd galon Pharo, fel na ollyngai efe feibion Israel allan o'i wlad.


PENNOD 12


12:1 Yr ARGLWYDD hefyd a lefarodd wrth Moses ac Aaron yn nhir yr Aifft, gan ddywedyd,

12:2 Y mis hwn fydd i chwi yn ddechreuad y misoedd: cyntaf fydd i chwi o fisoedd y flwyddyn.

12:3 Lleferwch wrth holl gynulleidfa Israel, gan ddywedyd, Ar y degfed dydd o'r mis hwn cymerant iddynt bob un oen, yn ôl teulu eu tadau, sef oen dros bob teulu.

12:4 Ond os y teulu fydd ry fychan i'r oen, efe a'i gymydog nesaf i'w dŷ a'i cymer, wrth y rhifedi o ddynion; pob un yn ôl ei fwyta a gyfrifwch at yr oen.

12:5 Bydded yr oen gennych yn berffaith-gwbl, yn wryw, ac yn llwdn biwydd: o'r defaid, neu o'r geifr, y cymerwch ef.

12:6 A bydded yng nghadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis hwn: a lladded holl dyrfa cynulleidfa Israel ef yn y cyfnos.

12:7 A chymerant o'r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlysbost, ac ar gapan drws y tai y bwytânt ef ynddynt.

12:8 A'r cig a fwytânt y nos honno, wedi ei rostio wrth dân, a bara croyw; gyda dail surion y bwytânt ef.

12:9 Na fwytewch ohono yn amrwd, na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr, eithr wedi ei rostio wrth dân; ei ben gyda'i draed a'i ymysgaroedd.

12:10 Ac na weddillwch ddim ohono hyd y bore: a'r hyn fydd yng ngweddill ohono erbyn y bore, llosgwch yn tân.

12:11 Ac fel hyn y bwytewch ef; wedi gwregysu eich lwynau, a'ch esgidiau am eich traed, a'ch ffyn yn eich dwylo: bwytewch ef ar ffrwst; Pasg yr ARGLWYDD ydyw efe.

12:12 Oherwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aifft y nos hon, ac a drawaf bob cyntaf-anedig o fewn tir yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aifft: myfi yw yr ARGLWYDD.

12:13 A'r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr af heibio i chwi, ac ni bydd pla dinistriol arnoch chwi, pan drawyf dir yr Aifft.

12:14: A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a'i cedwch ef yn ŵyl i'r ARGLWYDD trwy eich cenedlaethau: Cedwch ef yn ŵyl trwy ddeddf dragwyddol.

12:15 Saith niwrnod y bwytewch fara croyw, y dydd cyntaf y bwriwch surdoes allan o'ch tai; oherwydd pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd o'r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith oddi wrth Israel.

12:l6 Ar y dydd cyntaf hefyd y bydd i chwi gymanfa sanctaidd, a chymanfa sanctaidd ar y seithfed dydd: dim gwaith ni wneir ynddynt, onid yr hyn a fwyty pob dyn, hynny yn unig a ellwch ei wneuthur.

12:17 Cedwch hefyd ŵyl y bara croyw; oherwydd o fewn corff y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yr Aifft: am hynny cedwch y dydd hwn yn eich cenedlaethau, trwy dddeddf dragwyddol.

12:18 Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd at ddeg o'r mis yn yr hwyr, y bwytewch fara croyw, hyd yr unfed dydd ar hugain o'r mis yn yr hwyr.

12:19 Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnag a fwytao fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymaith o gynulleidfa Israel, yn gystal y dieithr a’r priodor.

12:20 Na fwytewch ddim lefeinllyd: bwytewch fara croyw yn eich holl drigfannau,

12:21 A galwodd Moses am holl henuriaid Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Tynnwch a chymerwch i chwi oen yn ôl eich teuluoedd, a lleddwch y Pasg.

12:22 A chymerwch dusw o isop, a throchwch ef yn y gwaed a fyddo yn y cawg, a rhoddwch ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, o'r gwaed a fyddo yn y cawg; ac nac aed neb ohonoch allan o ddrws ei dŷ hyd y bore.

12:23 Oherwydd yr ARGLWYDD a dramwya i daro'r Eifltiaid: a phan welo efe y gwaed ar gapan y drws, ac ar y ddau ystlysbost, yna yr ARGLWYDD a â heibio i'r drws, ac ni ad i'r dinistrydd ddyfod i mewn i'ch tai chwi i ddinistrio,

12:24 A chwi a gedwch y peth hyn yn ddeddf i ti, ac i'th feibion yn dragywydd.

12:25 A phan ddeloch i'r wlad a rydd yr ARGLWYDD i chwi, megis yr addawodd, yna cedwch y gwasanaeth hwn.

12:26 A bydd, pan ddywedo eich meibion wrthych, Pa wasanaeth yw hwn gennych?

12:27. Yna y dywedwch, Aberth Pasg yr ARGLWYDD ydyw, yr hwn a aeth heibio i dai meibion Israel yn yr Aifft, pan drawodd efe yr Eifftiaid, ac yr achubodd ein tai ni. Yna yr ymgrymodd y bobl, ac yr addolasant.

12:28 A meibion Israel a aethant ymaith, ac a wnaethant megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, felly y gwnaethant.

12:29 Ac ar hanner nos y trawodd y ARGLWYDD bob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf-anedig Pharo yr hwn a eisteddai ar ei frenhinfainc, hyd gyntaf-anedig y gaethes oedd yn,y carchardy; a phob cyntaf-anedig i anifail.

12:30 A Pharo a gyfododd liw nos, efe a'i holl weision, a'r holl Eifftiaid; ac yr oedd gweiddi mawr yn yr Aifft: oblegid nid oedd dŷ a'r nad ydoedd un marw ynddo.

12:31 Ac efe a alwodd ar Moses ac Aaron liw nos, ac a ddywedodd, Codwchh, ewch allan o fysg fy mhobl, chwi a meibion Israel hefyd; ac ewch, a gwasanaethwch yr ARGLWYDD, fel y dywedasoch.

12:32 Cymerwch eich defaid, a'ch gwartheg hefyd, fel y dywedasoch, ac ewch ymaith, a bendithiwch finnau.

12:33 A'r Eifftiaid a fuant daerion ar y bobl, gan eu gyrru ar ffrwst allan o'r wlad; oblegid dywedasant, Dynion meirw ydym ni oll.

12:34 A'r bobl a gymerodd eu toes cyn ei lefeinio, a'u toes oedd wedi ei rwymo yn eu dillad ar eu hysgwyddau.

12:35 A meibion Israel a wnaethant yn ôl gair Moses; ac a fenthydasant gan yr Eifftiaid dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd

12:36 A'r ARGLWYDD a roddasai i'r bobl hawddgarwch yng ngolwg yr Eifftiaid, fel yr echwynasant iddynt: a hwy a ysbeiliasant yr Eifftiaid.

12:37 A meibion Israel a aethant o Rameses i Succoth, ynghylch chwe chan mil o wŷr traed, heblaw plant.

12:38 A phobl gymysg lawer a aethant i fyny hefyd gyda hwynt; defaid hefyd a gwartheg, sef da lawer iawn.

12:39 A hwy a bobasant y toes a ddygasant allan o'r Aifft yn deisennau croyw; oherwydd yr oedd heb ei lefeinio: canys gwthiasid hwynt o'r Aifft, ac ni allasant aros, ac ni pharatoesent iddynt eu hun luniaeth.

12:40 A phreswyliad meibion Israel, tra y y trigasant yn yr Aifft, oedd ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd.

12:41 Ac ymhen y deng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd, ie, o fewn corff y dydd hwnnw, yr aeth holl luoedd yr ARGLWYDD allan o wlad yr Aifft.

12:42 Nos yw hon i'w chadw i'r ARGLWYDD, ar yr hon y dygwyd hwynt allan o wlad yr Aifft: nos yr ARGLWYDD yw hon, i holl feibion Israel i'w chadw trwy eil hoesoedd.

12:43 Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses ac Aaron, Dyma ddeddf y Pasg: na fwytaed neb dieithr ohono.

12:44 Ond pob gwasanaethwr wedi ei brynu am arian, gwedi yr enwaedych ef, a fwyty ohono.

12:45 Yr alltud, a'r gwas cyflog, ni chaiff fwyta ohono.

12:46 Mewn un tŷ y bwyteir ef: na ddwg ddim o'r cig allan o'r tŷ, ac na thorrwch asgwrn ohono.

12:47 Holl gynulleidfa Israel a wnânt hynny.

12:48 A phan arhoso dieithr gyda thi, ac ewyllysio cadw Pasg i'r ARGLWYDD, i enwaeder ei holl wrywiaid ef, ac yna nesaed i wneuthur hynny; a bydded fel yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwytaed neb dienwaededig ohono.

12:49 Yr un gyfraith fydd i'r priodor, ac i'r dieithr a arhoso yn eich mysg.

12:50 Yna holl feibion Israel a wnaethant fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron; felly y gwnaethant.

12:51 Ac o fewn corff y dydd hwnnw y dug yr ARGLWYDD feibion Israel o wlad yr Aifft, yn ôl eu lluoedd.


PENNOD 13


1 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Cysegra i mi bob cyntaf-anedig, sef beth bynnag a agoro y groth ymysg meibion Israel, o ddyn ac anifail: eiddof fi yw.

3 A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o'r Aifft, o dŷ y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr ARGLWYDD chwi oddi yno: am hynny na fwytaer bara lefeinllyd.

4 Heddiw yr ydych chwi yn myned allan, ar y mis Abib.

5 A phan ddygo'r ARGLWYDD di i wlad y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid, yr hen a dyngodd efe wrth dy dadau y rhoddai efe i ti, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl; yna y gwnei y gwasanaeth yma ar y mis hwn.

6 Saith niwrnod y bwytei fara croyw; ac ar y seithfed dydd y bydd gŵyl i'r ARGLWYDD.

7 Bara croyw a fwyteir saith niwrnod: ac na weler bara lefeinllyd gyda thi; ac na weler gennyt surdoes o fewn dy holl derfynau.

8 A mynega i'th fab y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Oherwydd yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD i mi pan ddeuthum allan o'r Aifft, y gwneir hyn.

9 A bydded i ti yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid; fel y byddo cyfraith yr ARGLWYDD yn dy enau: oherwydd â llaw gadarn y dug yr ARGLWYDD dydi allan o'r Aifft.

10 Am hynny cadw y ddeddf hon, yn ei hamser nodedig, o flwyddyn i flwyddyn.

11 A phan ddygo yr ARGLWYDD di i wlad y Canaaneaid, megis y tyngodd efe wrthyt, ac wrth dy dadau, a'i rhoddi i ti,

12 Yna y neilltu i'r ARGLWYDD bob cyntaf-anedig: a phob cyntaf i anifail a fyddo eiddot ti, y gwrywiaid eiddo yr ARGLWYDD fyddant.

13 A phob cyntaf i asyn a bryni di ag oen; ac oni phryni di ef, yna torfynygla ef: a phob dyn cyntaf-anedig o'th feibion a bryni di hefyd.

14 A phan ofynno dy fab ar ôl hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr ARGLWYDD ni allan o'r Aifft, o dŷ y caethiwed.

15 A phan oedd anodd gan Pharo ein gollwng ni, y lladdodd yr ARGLWYDD bob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf-anedig anifail: am hynny yr ydwyf yn aberthu i'r ARGLWYDD bob gwryw a agoro y groth; ond pob cyntaf-anedig o'm meibion a brynaf.

16 A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn rhactalau rhwng dy lygaid: canys a llaw gadarn y dug yr ARGLWYDD ni allan o'r Aifft.

17 A phan ollyngodd Pharo y bobl, nid arweiniodd yr ARGLWYDD hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd DUW, Rhag i'r bobl edifarhau pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft.

18 Ond DUW a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch: ac yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aifft.

19 A Moses a gymerodd esgyrn Joseff gydag ef: oherwydd efe a wnaethai i feibion Israel dyngu trwy lw, gan ddywedyd, DUW a ymwêl â chwi yn ddiau; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyda chwi.

20 A hwy a aethant o Succoth; ac a wersyllasant yn Etham, yng nghwr yr anialwch.

21 A'r ARGLWYDD oedd yn myned o'u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i'w harwain ar y ffordd; a'r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt; fel y gallent fyned ddydd a nos.

22 Ni thynnodd efe ymaith y golofn niwl y dydd, na'r golofn dân y nos, o flaen y bobl.


PENNOD 14


14:1 A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

14:2 Dywed wrth feibion Israel, am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a'r môr, o flaen Baal-Seffon: ar ei chyfer y gwersyllwch wrthi y môr.

14:3 Canys dywed Pharo am feibion Israel, Rhwystrwyd hwynt yn y tir; caeodd yr anialwch arnynt.

14:4 A mi a galedaf galon Pharo, fel yr erlidio ar eu hôl hwynt: felly y'm gogoneddir ar Pharo, a'i holl fyddin; a'r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Ac felly y gwnaethant.

14:5 A mynegwyd i frenin yr Aifft, fod y bobl yn ffoi: yna y trodd calon Pharo a'i weisionyn erbyn y bobl; a dywedasant, Beth yw hyn a wnaethom, pan ollyngasom Israel o'n gwasanaethu? |

14:6 Ac efe a daclodd ei gerbyd, ac a gymerodd ei bobl gydag ef.

14:7 A chymerodd chwe chant o ddewis gerbydau, a holl gerbydau yr Aifft, a chapteiniaid ar bob un ohonynt.

14:8 A'r ARGLWYDD a galedasai galon Pharo brenin yr Aifft, ac efe a ymlidiodd ar ôl meibion Israel: ond yr oedd meibion Israel yn myned allan â llaw uchel.

14:9 A'r Eifftiaid a ymlidiasant ar eu hôl hwynt, sef holl feirch a cherbydau Pharo, a'i wŷr meirch, a'i fyddin, ac a'u goddiweddasant yn gwersyllu wrth y môr, gerllaw Pihahiroth, o flaen Baal-seffon.

14:10 A phan nesaodd Pharo, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Eifftiaid yn dyfod ar eu hôl; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr ARGLWYDD.

14:11 A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o'r Aifft?

14:12 Onid dyma y peth a lefarasom wrthyt yn yr nAifft, gan ddywedyd, Paid â ni, fel y gwasanaethom yr Eifftiaid? canys gwell fuasai i ni wasanaethu'r Eifftiaid, na marw yn yr anialwch.

14:13 A Moses a ddywedodd wrth y bobl, Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr ARGLWYDD, yr hwn a wna efe i chwi heddiw; oblegid yr Eifftiaid y rhai a welsoch chwi heddiw, ni chewch eu gweled byth ond hynny.

14:14 Yr ARGLWYDD a ymladd drosoch; am hynny tewch chwi â sôn.

14:15 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Paham y gweiddi arnaf? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt.

14:16 A chyfod dithau dy wialen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych.

14:17 Wele, fi, ie myfi a galedaf galon yr Eifftiaid, fel y delont ar eu hôl hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharo, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar eu farchogion. . .

14:18 A'r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan y'm gogoneddir ar Pharo, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion.

14:19 Ac angel DUW, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symudodd, ac a aeth o'u hôl hwynt; a'r golofn niwl a aeth ymaith o'u tu blaen hwynt, ac a safodd o'u hôl hwynt.

14:20 Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i'r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos.

14:21 A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a'r ARGLWYDD a yrrodd y môr yn ei ol, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.

14:22 A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a'r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o'r tu deau, ac o'r tu aswy.

14:23 A'r Eifftiaid a erlidiasant, ac a ddaethant ar eu hôl hwynt; sef holl feirch Pharo, a'i gerbydau, a'r farchogion, i ganol y môr.

14:24 Ac ar yr wyliadwriaeth fore yr ARGLWYDD a edrychodd ar fyddin yr Eifftiaid trwy'r golofn dân a'r cwmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Eifftiaid.

14:25 Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Eifftiaid, Ffown oddi wrth Israel; oblegid yr ARGLWYDD sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Eifftiaid.

14:26 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law ar y môr; fel y dychwelo'r dyfroedd ar yr Eifftiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion.

14:27 A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a dychwelodd y môr cyn y bore i'w nerth; a'r Eifftiaid a ffoesant yn ei erbyn ef: a'r ARGLWYDD a ddymchwelodd yr Eifftiaid yng nghanol y môr.

14:28 A'r dyfroedd a ddychwelasant, ac a orchuddiasant gerbydau, a marchogion: a holl fyddin Pharo, y rhai a ddaethant ar eu hôl hwynt i'r môr: ni adawyd ohonynt gymaint ag un.

14:29 Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych yng nghanol y môr: a'r dyfroedd oedd yn fur iddynt, ar y llaw ddeau, ac ar y llaw aswy.

14:30 Felly yr ARGLWYDD a achubodd Israel y dydd hwnnw o law yr Eifftiaid: a gwelodd Israel yr Eifftiaid yn feirw ar fin y môr.

14:31 A gwelodd Israel y grymuster mawr a wnaeth yr ARGLWYDD yn erbyn yr Eifftiaid: a'r bobl a ofnasant yr ARGLWYDD, ac a gredasant i'r ARGLWYDD ac i'w was ef Moses.


PENNOD 15


15:1 Yna y canodd Moses a meibion Israel y gân hon i'r ARGLWYDD, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Canaf i'r ARGLWYDD; canys gwnaeth yn rhagorol iawn: taflodd y march a'i farchog i'r môr.

15:2 Fy nerth a'm cân yw yr ARGLWYDD; ac y mae efe yn iachawdwriaeth i mi: efe yw fy Nuw, efe a ogoneddaf fi; DUW fy nhad, a mi a'i dyrchafaf ef.

15:3 Yr ARGLWYDD sydd ryfelwr: yr ARGLWYDD yw ei enw.

15:4 Efe a daflodd gerbydau Pharo a'i fyddin yn y môr: ei gapteiniaid dewisol a foddwyd yn y môr coch.

15:5 Y dyfnderau a'u toesant hwy; disgynasant i'r gwaelod fel carreg.

15:6 Dy ddeheulaw, ARGLWYDD, sydd ardderchog o nerth; a'th ddeheulaw, ARGLWYDD, a ddrylliodd y gelyn.

15:7 Ym mawredd dy ardderchowgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i'th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist allan, ac efe a'u hysodd hwynt fel sofl.

15:8 Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd ynghyd: y ffrydiau a safasant fel pentwr; y dyfnderau a geulasant yng nghanol y môr.

15:9 Y gelyn a ddywedodd, Mi a erlidiaf, mi a oddiweddaf, mi a rannaf yr ysbail; caf fy ngwynfyd arnynt; tynnaf fy nghleddyf, fy llaw a'u difetha hwynt.

15:10 Ti a chwythaist â'th wynt; y môr a'u todd hwynt: soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion.

15:11 Pwy sydd debyg i ti, O ARGLWYDD, ymhlith y duwiau? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sancteiddrwydd, yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau?

15:12 Estynnaist dy ddeheulaw; llyncodd y ddaear hwynt.

15:13 Arweiniaist yn dy drugaredd y bobl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist hwynt i anheddle dy sancteiddrwydd.

15:14 Y bobloedd a glywant, ac a ofnant: dolur a ddeil breswylwyr Palesteina.

15:15 Yna y synna ar ddugiaid Edom: cedyrn hyrddod Moab, dychryn a'u deil hwynt: holl breswylwyr Canaan a doddant ymaith.

15:16 Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o'th bobl di, ARGLWYDD, nes myned o'r bobl a enillaist ti trwodd.

15:17 Ti a'u dygi hwynt i mewn, ac a'u plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost, O ARGLWYDD, yn anheddle i ti, y cysegr, ARGLWYDD, a gadarnhaodd dy ddwylo.

15:18 Yr ARGLWYDD a deyrnasa byth ac yn dragwydd.

15:19 Oherwydd meirch Pharo, a'i gerbydau, a'i farchogion, a aethant i'r môr, a'r ARGLWYDD a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt: ond meibion Israel a aethant ar dir sych yng nghanol y môr.

15:20 A Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, a gymerodd dympan yn ei llaw, a'r holl wragedd a aethant allan ar ei hôl hi, â thympanau ac a dawnsiau.

15:21 A dywedodd Miriam wrthynt, Cenwch i'r ARGLWYDD; canys gwnaeth yn ardderchog; bwriodd y march a'r marchog i'r môr.

15:22 Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch; ac aethant allan i anialwch Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.

15:23 A phan ddaethant i Mara, ni allent yfed dyfroedd Mara, am eu bod yn chwerwon: oherwydd hynny y gelwir ei henw hi Mara.

15:24 A'r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, Beth a yfwn ni?

15:25 Ac efe a waeddodd ar yr ARGLWYDD ; a'r ARGLWYDD a ddangosodd iddo ef bren; ac efe a'i bwriodd i'r dyfroedd, a'r dyfroedd a bereiddiasant: yno y gwnaeth efe ddeddf a chyfraith, ac yno y profodd efe hwynt,

15:26 Ac a ddywedodd, Os gan wrando y gwrandewi ar lais yr ARGLWYDD dy DDUW, ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef, a rhoddi clust i'w orchmynion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef; ni roddaf arnat un o'r clefydau a roddai ar yr Eifftiaid; oherwydd myfi yw yr ARGLWYDD dy iachawdwr di.

15:27 A daethant i Elim; ac yno yr oedd deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thrigain: a hwy a wersyllasant yno wrth y dyfroedd.


PENNOD 16


16:1 A hwy a symudasant o Elim; a holl gynulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin, yr hwn sydd rhwng Elim a Sinai, at y pymthegfed dydd o'r ail fis, wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aifft.

16:2 A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron, yn yr anialwch.

16:3 A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw trwy law yr ARGLWYDD yng ngwlad yr Aifft, pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwyta bara ein gwala: ond chwi a'n dygasoch ni allan i'r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn.

16:4 Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Wele, mi a lawiaf arnoch fara o'r nefoedd: a'r bobl a ânt allan, ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnânt.

16:5 Ond ar y chweched dydd y darparant yr hyn a ddygant i mewn; a hynny fydd dau cymaint ag a gasglant beunydd.

16:6 A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel, Yn yr hwyr y cewch wybod mai yr ARGLWYDD a'ch dug chwi allan o wlad yr Aifft.

16:7 Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr ARGLWYDD; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr ARGLWYDD: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i'n herbyn?

16:8 Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr ARGLWYDD i chwi yn yr hwyr gig i'w fwyta, a'r bore fara eich gwala; am glywed o'r ARGLWYDD eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: oherwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, ond yn erbyn yr ARGLWYDD.

16:9 A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Dywed wrth holl gynulleidfa meibion Israel, Deuwch yn nes gerbron yr ARGLWYDD: oherwydd efe a glywodd eich tuchan chwi.

16:10 Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynulleidfa meibion Israel, yna yr edrychasant tua'r anialwch; ac wele, gogoniant yr ARGLWYDD a ymddangosodd yn y cwmwl.

16:11 A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

16:12 Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr cewch fwyta cig, a'r bore y'ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai Imyfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi.

16:13 Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant, ac a orchuddiasant y wersyllfa; a'r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll.

16:14 A phan gododd y gaenen wlith, wele ar hyd wyneb yr anialwch dipynnau crynion cyn faned â'r llwydrew ar y ddaear.

16:15 Pan welodd meibion Israel hynny, hwy a ddywedasant wrth ei gllydd, Manna yw: canys ni wyddent beth ydoedd. A dywedodd Moses wrthynt, Hwn yw y bara a roddodd yr ARGLWYDD i chwi i'w fwyta.

16:16 Hyn yw y peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD; Cesglwch ohono bob un yn ôl ei fwyta: omer i bob un yn ôl rhifedi eich eneidiau; cymerwch bob un i'r rhai fyddant yn ei bebyll.

16:17 A meibion Israel a wnaethant felly; ac a gasglasant, rhai fwy, a rhai lai.

16:18 A phan fesurasant wrth yr omeri nid oedd gweddill i'r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisiau ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ôl el fwyta.

16:19 A dywedodd Moses wrthynt, Na weddilled neb ddim ohono hyd y bore.

16:20 Er hynny ni wrandawsant ar Moses, ond gado a wnaeth rhai ohono hyd y bore; ac efe a fagodd bryfed, ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt.

16:21 A hwy a'i casglasant ef bob bore, pob un yn ôl ei fwyta: a phan wresogai yr haul, efe a doddai.

16:51 Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymaiht o fara, dau omer i un: a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses.

16:23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr ARGLWYDD; Yfory y mae gorffwysfa Saboth sanctaidd i'r ARGLWYDD: pobwch heddiw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a'r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore.

16:24 A hwy a'i cadwasant hyd y bore, fel y gorchmynasai Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd pryf ynddo.

16:25 A dywedodd Moses, Bwytewch hwn heddiw; oblegid Saboth yw heddiw i'r ARGLWYDD: ni chewch hwn yn y maes heddiw.

16:26 Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef; ond ar y seithfed dydd, yr hwn yw y Saboth, ni bydd efe.

16:27 Eto rhai o'r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd, i gasglu; ond ni chawsant ddim.

16:28 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchmynion a'm cyfreithiau?

16:29 Gwelwch mai yr ARGLWYDD a roddodd i chwi y Saboth; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o'i le y seithfed dydd.

16:30 Felly y bobl a orffwysasant y seithfed dydd.

16:31 A thŷ Israel, a alwasant ei enw ef Manna: ac yr oedd efe fel had coriander, yn wyn, a'i flas fel afrllad o fêl.

16:32 A Moses a ddywedodd, Dyma y peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD; Llanw omer ohono, i'w gadw i'ch cenedlaethau; fel y gwelont y bara y porthais chwi ag ef yn yr anialwch, pan y'ch dygais allan o wlad yr Aifft.

16:33 A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Cymer grochan, a dod ynddo lonaid omer o'r manna, a gosod ef gerbron yr ARGLWYDD yng nghadw i'ch cenedlaethau.

16:34 Megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth.

16:35 A meibion Israel a fwytasant y manna ddeugain mlynedd, nes eu dyfod i dir cyfanheddol: manna a fwytasant nes eu dyfod i gwr gwlad Canaan.

16:36 A'r omer ydoedd ddegfed ran effa.


PENNOD 17


17:1 A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin, wrth eu teithiau, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD, ac a wersyllasant yn Reffidim: ac nid oedd dwfr i'r bobl i yfed.

17:2 Am hynny y bobl a ymgynenasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi?
Paham y temtiwch yr ARGLWYDD?

17:3 A'r bobl a sychedodd yno am ddwfr; a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses, ac a ddywedodd, Paham y peraist i ni ddyfod i fyny o'r Aifft, i'n lladd ni, a'n plant, a'n hanifeiliaid, à syched?

17:4 A Moses a lefodd ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Beth a wnaf i'r bobl hyn? ar ben ychydig eto hwy a'm llabyddiant i.

17:5 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cerdda o flaen y bobl, a chymer gyda thi o henuriaid Israel: cymer hefyd dy wialen yn dy law, yr hon y trewaist yr afon a hi, a cherdda.

17:6 Wele, mi a safaf o'th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan ohoni, fel y gallo'r bobl yfed.
A Moses a wnaeth felly yng ngolwg henuriaid Israel.

17:7 Ac efe a alwodd enw y lle Massa, a Meriba; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio'r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A ydyw yr ARGLWYDD yn ein plith, ai nid yw?

17:8 Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd ag Israel yn Reffidim.

17:9 A dywedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd ag Amalec: yfory mi a safaf ar ben y bryn, â gwialen DUW yn fy llaw.

17:10 Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd ag Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fyny i ben y bryn.

17:11 A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf.

17:12 A dwylo Moses oedd drymion; a hwy a gymerasant faen, ac a'i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynaliasant ei ddwylo ef, un ar y naill du, a'r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylo ef sythion nes machludo yr haul.

17:13 A Josua a orchfygodd Amalec a'i bobl â min y cleddyf.

17:14 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua: canys gan ddileu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd.

17:15 A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH-Nissi.

17:16 Canys efe a ddywedodd, Oherwydd tyngu o'r ARGLWYDD, y bydd i'r ARGLWYDD ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.


PENNOD 18


18:1 Pan glywodd Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai DUW i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o'r ARGLWYDD Israel allan o'r Aifft;

18:2 Yna Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd Seffora gwraig Moses, (wedi ei hebrwng hi yn ei hô1,)

18:3 A'i dau fab hi; o ba rai enw un oedd Gersom: oblegid efe a ddywedasai, Dieithr fûm mewn gwlad estronol.

18:4 Ac enw y llall oedd Elieser: oherwydd DUW fy nhad oedd gynhorthwy i mi (eb efe), ac a'm hachubodd rhag cleddyf Pharo.

18:5 A Jethro, chwegrwn Moses, a ddaeth â’i feibion a'i wraig at Moses i'r anialwch, lle yr ydoedd efe yn gwersyllu gerllaw mynydd DUW.

18:6 Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Myfi Jethro, dy chwegrwn di, sydd yn dyfod atat ti, a'th wraig a'i dau fab gyda hi.

18:7 A Moses a aeth allan i gyfarfod â'i chwegrwn; ac a ymgrymodd, ac a'i cusanodd; a chyfarchasant well bob un i’w gilydd: a daethant i'r babell.

18:8 A Moses a fynegodd i'w chwegrwn yr hyn oil a wnaethai yr ARGLWYDD i Pharo ac i'r Eifftiaid, er mwyn Israel; a'r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o'r ARGLWYDD hwynt.

18:9 A llawenychodd Jethro oherwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Israel; yr hwn a waredasai efe o law yr Eifftiaid.

18:10 A dywedodd Jethro, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn a'ch gwaredodd o law yr Eifftiaid, ac o law Pharo; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Eifftiaid.

18:11 Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr ARGLWYDD na'r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch ohono, yr oedd efe yn uwch na hwynt.

18:12 A Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd boethoffrwm ac ebyrth i DDUW: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwyta bara gyda chwegrwn Moses, gerbron DUW.

18:13 ^ A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu'r bobl: a safodd y bobl gerbron Moses, o'r bore hyd yr hwyr.

18:14 A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oil yr ydoedd efe yn ei wneuthur i'r bobl, efe a ddywedodd. Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i'r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o'r bore hyd yr hwyr?

18:15 A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod ataf i ymgynghori a DUW.

18:16 Pan fyddo iddynt achos, ataf fi y deuant; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a'i gilydd, ac yn hysbysu deddfau DUW a'i gyfreithiau.

18:17 A dywedodd chwegrwn Moses wrtho, Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur.

18:18 Tydi a lwyr ddiffygi, a'r bobl yma hefyd y rhai sydd gyda thi: canys rhy drwm yw'r peth i ti; ni elli ei wneuthur ef dy hun.

18:19 Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a'th gynghoraf di, a bydd DUW gyda thi: Bydd di dros y bobl gerbron DUW, a dwg eu hachosion at DDUW.

18:20 Dysg hefyd iddynt y deddfau a'r cyfreithiau; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a'r gweithredoedd a wnânt.

18:21 Ac edrych dithau allan o'r holl bobl am wŷr nerthol, yn ofni, DUW, gwŷr geirwir, yn casau cybydd-dod; a gosod y rhai hyn arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.

18:22 A barnant hwy y bobl bob amser: ond dygant bob peth mawr atat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr ysgafnhei arnat dy hun,a hwynt-hwy a ddygant y baich gyda thi.

18:23 Os y peth hyn a wnei, a'i orchymyn o DDUW i ti; yna ti a elli barhau, a'r holl bobl hyn a ddeuant i'w lle mewn heddwch.

18:24 A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe.

18:25 A Moses a ddewisodd wŷr grymus allan o holl Israel, ac a'u rhoddodd hwynt yn benaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.

18:26 A hwy a farnasant y bobl bob amser: y pethau caled a ddygent at Moses, a phob peth bychan a farnent hwy eu hunain.

18:27 A Moses a ollyngodd ymaith ei chwegrwn; ac efe a aeth adref i'w wlad.


PENNOD 19


19:1 Yn y trydydd mis, wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft, y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai.

19:2 Canys hwy a aethant o Reffidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai, gwersyllasant hefyd yn yr anialwch: ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd.

19:3 A Moses a aeth i fyny at DDUW: a'r ARGLWYDD a alwodd arno ef o'r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel;

19:4 Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i'r Eifftiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y'ch dygais ataf fi fy hun.

19:5 Yn awr, gan hynny, os gan wrando y gwrandewch ar fy llais, a chadw fy nghyfamod, chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys eiddof fi yr holl ddaear.

19:6 A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma'r geiriau a leferi di wrth feibion Israel.

19:7 A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ae a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchmynasai yr ARGLWYDD iddo.

19:8 A'r holl bobl a gydatebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr ARGLWYDD. A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr ARGLWYDD.

19:9 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf atat mewn cwmwl tew, fel y clywo'r bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i'r ARGLWYDD.

19:10 Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddiw ac yfory; a golchant eu dillad,

19:11 A byddant barod erbyn y trydydd dydd: oherwydd y trydydd dydd y disgyn yr ARGLWYDD yng ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai.

19:12 A gosod derfyn i'r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fyny i'r mynydd, neu gyfrwrdd â'i gwr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â'r mynydd a leddir yn farw.

19:13 Na chyffyrdded llaw ag ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano'r utgorn yn hirllaes, deuant i'r mynydd.

19:14 A Moses a ddisgynnodd o’r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad.

19:15 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; nac ewch yn agos at eich gwragedd.

19:16 A'r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmwl tew ar y mynydd, a llais yr utgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll.

19:17 A Moses a ddug y bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod â DUW; a hwy a safasant yng ngodre'r mynydd.

19:18 A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, oherwydd disgyn o'r ARGLWYDD arno mewn tân: a'i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a'r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr.

19:19 Pan ydoedd llais yr utgorn yn hir, ac yn cryfhau fwyfwy, Moses a lefarodd; a DUW a atebodd mewn llais.

19:20 A'r ARGLWYDD a ddisgynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr ARGLWYDD Moses i ben y mynydd; a Moses a aeth i fyny.

19:21 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos i waered, gorchymyn i'r bobl; rhag iddynt ruthro at yr ARGLWYDD i hyltremu, a chwympo llawer ohonynt.

19:22 Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nesânt at yr ARGLWYDD; rhag i'r ARGLWYDD ruthro arnynt.

19:23 A dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, Ni ddichon y bobl ddyfod i fyny i fynydd Sinai; oblegid ti a dystiolaethaist wrthym, gan ddywedyd, Gosod derfyn ynghylch y mynydd, a sancteiddia ef.

19:24 A^r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fyny, ac Aaron gyda thi; ond na ruthred yr offeiriaid a'r bobl, i ddyfod i fyny at yr ARGLWYDD; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy.

19:25 Yna yr aeth Moses i waered at y bobl, ac a ddywededd wrthynt.


PENNOD 20


20:1 A DUW a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd,

20:2 Myfi yw yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a'th ddug di allan o Wlad yr Aifft, o dŷy caethiwed.

20:3 Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.

20:4 Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a'r y sydd yn y ddaear isod, nac a'r sydd yn y dwfr tan y ddaear.

20:5 Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr ARGLWYDD dy DDUW, wyf DDUW eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt;

20:6 Ac yn gwneufhur trugaredd i filoedd o’r rhai a'm carant, ac a gadwant fy ngorchmynion.

20:7 Na chymer enw yr ARGLWYDD dy DDUW yn ofer: canys nid dieuog gan yr ARGLWYDD yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.

20:8 Cofia y dydd Saboth, i'w sancteiddio ef.

20:9 Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dyhollwaith:

20:10 Ond y seithfed dydd yw Saboth yr ARGLWYDD dy DDUW: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wasanaethwr, na'th wasanaeth-ferch, na'th anifail, na'th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth:

20:11 Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, y môr, a'r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr ARGLWYDD y dydd Saboth, ac a'i sancteiddiodd ef.

20:12 Anrhydedda dy dad a'th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti.

20:13 Na ladd.

20:14 Na wna odineb.

20:15 Na ladrata.

20:16 Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dygymydog.

20:17 Na chwennych dŷ dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na'i wasanaethwr, na'i wasanaethferch, na'i ych, na'i asyn, na dim a'r sydd eiddo dy gymydog.

20:18 A'r holl bobl a welsant y taranau, a'r mellt, a sain yr utgorn, a'r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell.

20:19 A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandawn: ond na lefared DUW wrthym, rhag i ni farw.

20:20 A dywedodd Moses wrth y bobl, Nac ofnwch; oherwydd i'ch profi chwi y daeth DUW, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech.

20:21 A safodd y bobl o hirbell; a nesaodd Mosss i'r tywyllwch, lle yr ydoedd DUW.

20:22 A'r ARGLWYDD a ddywededd wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel, Chwi a welsoch mai o'r nefoedd y lleferais wrthych.

20:23 Na wnewch gyda mi dduwiau arian, ac na wnewch i chwi dduwiau aur.

20:24 Gwna i mi allor bridd, ac abertha arni dy boethebyrth a'th offrymau hedd, dy ddefaid, a'th eidionau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o'm henw, y deuaf atat, ac y'th fendithiaf.

20:25 Ond os gwnei i mi allor gerrig, na wna hi o gerrig nadd: pan gotech dy forthwyl arni, ti a'i halogaist hi.

20:26 Ac na ddos i fyny ar hyd grisiau i'm hallor; fel nad amlyger dy noethni wrthi.


PENNOD 21


21:1 Dyma y barnedigaethau a osodi di ger eu bron hwynt.

21:2 Os pryni was o Hebread, gwasanaethed chwe blynedd; a'r seithfed y caiff yn rhad fyned ymaith yn rhydd.

21:3 Os ar ei ben ei hun y daeth, ar ei ben ei hun y caiff fyned allan: os perchen gwraig fydd efe, aed ei wraig allan gydag ef.

21:4 Os ei feistr a rydd wraig iddo, a hi yn planta iddo feibion, neu ferched; y wraig a'i phlant fydd eiddo ei meistr, ac aed efe allan ar ei ben ei hun.

21:5 Ac os gwas gan ddywedyd a ddywed, Hoff gennyf fi fy meistr, fy ngwraig, a'm plant, nid af fi allan yn rhydd:

21:6 Yna dyged ei feistr ef at y barnwyr; a dyged ef at y ddôr, neu at yr orsin: a thylled ei feistr ei glust ef â mynawyd; ac efe a'i gwasanaetha ef byth.

21:7 Ac os gwerth gŵr ei ferch yn forwyn gaeth, ni chaiff hi fyned allan fel yr êl y gweision caeth allan.

21:8 Os heb ryglyddu bodd yng ngolwg ei meistr y bydd hi, yr hwn a'i cymerodd hi yn ddyweddi; yna gadawed ei had-brynu hi: ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddieithr, wedi iddo ef ei thwyllo hi.

21:9 Ac os i'w fab y dyweddïodd efe hi, gwnaed iddi yn ôl deddf y merched.

21:10 Ac os arall a brioda efe, na wnaed yn llai ei hymborth, ei dillad, na'i dyled priodas.

21:11 Ac os y tri hyn nis gwna efe iddi; yna aed hi allan yn rhad heb arian.

21:12 Rhodder i farwolaeth y neb a drawo ŵr, fel y byddo marw.

21:13 Ond yr hwn ni chynllwynodd, ond rhoddi o DDUW ef yn ei law ef, mi a osodaf i ti fan lle y caffo ffoi.

21:14 Ond os daw dyn yn rhyfygus ar ei gymydog, i'w ladd ef trwy dwyll; cymer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor.

21:15 Y neb a drawo ei dad, neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.

21:16 Yr hwn a ladratao ddyn, ac a'i gwertho, neu os ceir ef yn ei law ef, rhodder ef i farwolaeth.

21:17 Rhodder i farwolaeth yr hwn a felltithio ei dad, neu ei fam.

21:18 A phan ymrysono dynion, a tharo o'r naill y llall â charreg, neu â dwrn, ac efe heb farw, ond gorfod iddo orwedd;

21:19 Os cyfyd efe, a rhodio allan wrth ei ffon; yna y trawydd a fydd dihangol: yn unig rhodded ei golled am ei waith, a chan feddyginiaethu meddyginiaethed ef.

21:20 Ac os tery un ei wasanaethwr, neu ei wasanaethferch, â gwialen, fel y byddo farw dan ei law ef; gan ddial dialer arno.

21:21 Ond os erys ddiwrnod, neu ddau ddiwrnod, na ddialer arno; canys gwerth ei arian ei hun ydoedd efe.

21:22 Ac os ymrafaelia dynion, a tharo ohonynt wraig feichiog, fel yr êl ei beichiogi oddi wrthi, ac heb fod marwolaeth: gan gosbi cosber ef, fel y gosodo gŵr y wraig arno, a rhodded hynny trwy farnwyr.

21:23 Ac os marwolaeth fydd; rhodder einioes am einioes,

21:24 Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,

21:25 Llosg am losg, archoll am archoll, a chlais am glais.

21:26 Os tery un lygad ei wasanaethwr, neu lygad ei wasanaethferch, fel y llygro ef; gollynged ef yn rhydd am ei lygad:

21:27 Ac os tyr efe ymaith ddant ei wasanaethwr, neu ddant ei wasanaethferch; gollynged ef yn rhydd am ei ddant.

21:28 Ac os ych a gornia ŵr neu wraig, fel y byddo farw: gan labyddio llabyddier yr ych, ac na fwytaer ei gig ef; ac aed perchen yr ych yn rhydd.

21:29 Ond os yr ych oedd yn cornio o'r blaen, a hynny trwy dystion wedi ei hysbysu i'w berchennog; ac efe heb ei gadw ef, ond lladd ohono ŵr neu wraig: yr ych a labyddir, a'i berchennog a roddir i farwolaeth hefyd.

21:30 Os iawn a roddir arno, rhodded werth am ei einioes, yn ôl yr hyn oll a osoder arno.

21:31 Os mab a gornia efe, neu ferch a gornia efe; gwneler iddo yn ôl y farnedigaeth hon.

21:32 Ond os gwasanaethwr neu wasanaethferch a gornia yr ych; rhodded i'w pcrchennog ddeg sicl ar hugain o arian, a llabyddier yr ych.

21:33 Ac os egyr gŵr bydew, neu os cloddia un bydew, ac heb gau arno; a syrthio yno ych, neu asyn;

21:34 Perchen y pydew a dâl amdanynt: arian a dâl efe i'w perchennog; a'r anifail marw a fydd iddo yntau.

21:35 Ac os ych gŵr a dery ych ei gymydog, fel y byddo efe farw; yna gwerthant yr ych byw, a rhannant ei werth ef, a'r ych marw a rannant hefyd.

21:36 Neu os gwybuwyd ei fod ef yn ych hwyliog o'r blaen, a'i berchennog heb ei gadw ef; gan dalu taled ych am ych, a bydded y marw yn eiddo ef.


PENNOD 22

22:1 Os lladrata un ych neu ddafad, a'i ladd, neu ei werthu; taled bum ych am ych, a phedair dafad am ddafad.

22:2 Os ceir lleidr yn torri tŷ, a'i daro fel y byddo farw; na choller gwaed amdano.

22:3 Os bydd yr haul wedi codi arno, coller gwaed amdano; efe a ddyly gwbl dalu: oni bydd dim ganddo, gwerther ef am ei ladrad.

22:4 0s gan gael y ceir yn ei law ef y lladrad yn fyw, o eidion, neu asyn, neu ddafad; taled yn ddwbl.

22:5 Os pawr un faes, neu winllan, a gyrru ei anifail i bori maes un arall; taled o’r hyn gorau yn ei faes ei hun, ac o'r hyn gorau yn ei winllan ei hun.

22:6 Os tân a dyr allan, ac a gaiff afael mewn drain, fel y difaer das o ŷd, neu ŷd ar ei droed, neu faes; cwbl daled yr hwn a gyneuodd y tân.

22:7 Os rhydd un i'w gymydog arian, neu ddodrefn i gadw, a'i ladrata o dŷ y gŵr; os y lleidr a geir, taled yn ddwbl:

22:8 Os y lleidr ni cheir, dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu, a estynnodd efe ei law ar dda ei gymydog.

22:9 Am bob math ar gamwedd, am eidion, am asyn, am ddafad, am ddilledyn, ac am bob peth a gollo yr hwn a ddywedo arall ei fod yn eiddo: deued achos y ddau gerbron y barnwyr; a'r hwn y barno'r swyddogion yn ei erbyn, taled i'w gymydog yn ddwbl.

22:10 Os rhydd un asyn, neu eidion, neu ddafad, neu un anifail, at ei gymydog i gadw, a marw ohono, neu ei friwo, neu ei yrru ymaith heb neb yn gweled:

22:11 Bydded llw yr ARGLWYDD rhyngddynt ill dau, na roddes efe ei law at dda ei gymydog; a chymered ei berchennog hynny, ac na wnaed y llall iawn.

22:12 Ac os gan ladrata y lladrateir ef oddi wrtho; gwnaed iawn i'w berchennog.

22:13 Os gan ysglyfaethu yr ysglyfaethir ef; dyged ef yn dystiolaeth, ac na dialed am yr hwn a ysglyfaethwyd.

22:14 Ond os benthycia un gan ei gymydog ddim, a'i friwo, neu ei farw, heb fod ei berchennog gydag ef, gan dalu taled.

22:15 Os ei berchennog fydd gydag ef, na thaled: os llog yw efe, am ei log y daeth.

22:16 Ac os huda un forwyn yr hon ni ddyweddïwyd, a gorwedd gyda hi; gan gynysgaeddu cynysgaedded hi yn wraig iddo ei hun.

22:17 Os ei thad a lwyr wrthyd ei rhoddi hi iddo taled arian yn ôl gwaddol morynion.

22:18 Na chaffed hudoles fyw.

22:19 Llwyr rodder i farwolaeth bob un a orweddo gydag anifail.

22:20 Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i'r ARGLWYDD yn unig.

22:21 Na orthryma, ac na flina y dieithr: canys dieithriaid fuoch chwithau yn nhir yrAifft.

22:22 Na chystuddiwch un weddw, nac amddifad.

22:23 Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gweiddi ohonynt ddim arnaf; mi a lwyr wrandawaf eu gwaedd hwynt;

22:24 A'm digofaint a ennyn, a mi a'ch lladdaf â'r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon, a'ch plant yn amddifaid.

22:25 Os echwynni arian i'ni pobl sydd dlawd yn dy ymyl, na fydd fel ocrwr iddynt: na ddod usuriaeth arnynt.

22:26 Os cymeri ddilledyn dy gymydog ar wystl, dyro ef adref iddo erbyn machludo haul:

22:27 Oherwydd hynny yn unig sydd i'w roddi arno ef; hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef; mewn pa beth y gorwedd?
A bydd, os gwaedda efe arnaf, i mi wrando; canys trugarog ydwyf fi.

22:28 Na chabla'r swyddogion; ac na felltithia bennaeth dy bobl.

22:29 Nac oeda dalu y cyntaf o'th ffrwythau aeddfed, ac o'th bethau gwlybion: dod i mi y cyntaf-anedig o'th feibion.

22:30 Felly y gwnei am dy eidion, ac am dy ddafad; saith niwrnod y bydd gyda'i fam, a^r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.

22:31 A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi: ac na fwytewch gig wedi ei ysglyfaethu yn y maes; teflwch ef i'r ci.


PENNOD 23


23:1 Na chyfod enllib; na ddod dy law gyda'r annuwiol i fod yn dyst anwir.

23:2 Na ddilyn liaws i wneuthur drwg; ac nac ateb mewn ymrafael, gan bwyso yn ôl llaweroedd, i wyro barn.

23:3 Na pharcha'r tlawd chwaith yn ei ymrafael.

23:4 Os cyfarfyddi ag eidion dy elyn, neu a'i asyn, yn myned ar gyfrgoll; dychwel ef adref iddo.

23:5 Os gweli asyn yr hwn a'th gasa yn gorwedd dan ei bwn; a beidi â'i gynorthwyo? gan gynorthwyo cyhorthwya gydag ef.

23:6 Na ŵyra farn dy dlawd yn ei ymrafael.

23:7 Ymgadw ymhell oddi wrth gam fater: na ladd chwaith na'r gwirion na'r cyfiawn: canys ni chyfiawnhaf fi yr annuwiol.

23:8 Na dderbyn wobr: canys gwobr a ddalla y rhai sydd yn gweled, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.

23:9 Na orthryma'r dieithr: chwi a wyddoch galon y dieithr; oherwydd chwi a fuoch ddieithriaid yn nhir yr Aifft.

23:10 Chwe blyhedd yr heui dy dir, ac y cesgli ei ffrwyth:

23:11 A'r seithfed paid ag ef, a gad ef yn llonydd; fel y caffo tlodion dy bobl fwyta: a bwytaed bwystfil y maes eu gweddill hwynt. Felly y gwnei am dy winllan, ac am dy olewydden.

23:12 Chwe diwrnod y gwnei dy waith; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: fel y caffo dy ych a'th asyn lonyddwch, ac y cymero mab dy forwyn gaeth, a'r dieithr ddyn, ei anadl ato.

23:13 Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthych: na chofiwch ehw duwiau eraill; na chlywer hynny o'th enau.

23:14 Tair gwaith yn y flwyddyh y cedwi ŵyl i mi.

23:15 Gŵyl y bara crdyw a gedwi: saith niwrnod y bwytei fara croyw, fel y gorchmynnais i ti, ar yr amser gosodedig o fis Abib: canys ynddo y daethost allan o'r Aifrt: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw:

23:16 A gŵyl cyhhaeaf blaenffrwyth dy lafur, yr hwn a heuaist yn y maes; a gŵyl y cynnull yn niwedd y flwyddyn, pan gynullech dy lafur o'r maes.

23:17 Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron fy ARGLWYDD dy DDUW.

23:18 Nac abertha waed fy aberth gyda bara lefeinllyd, ac nac arhoed braster fy aberth dros nos hyd y bore.

23:19 Dwg i dŷ'r ARGLWYDD dy DDUW y cyntaf o flaenffrwyth dy dir. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.

23:20 Wele fi yn anfon angel o'th flaen i'th gadw ar y ffordd, ac i'th arwain i'r man a baratoais.

23:21 Gwylia rhagddo, a gwrando at ei lais ef; na chyffroa ef: canys ni ddioddef eich anwiredd: oblegid y mae fy enw ynddo ef.

23:22 Os gan wrando y gwrandewi ar ei lais ef, a gwneuthur y cwbl a lefarwyf; mi a fyddaf elyn i'th elynion, ac a wrthwynebaf dy wrthwynebwyr.

23:23 Oherwydd fy angel a â o'th flaen di, ac a'th ddwg di i mewn at yr Ameriaid, a'r Hethiaid, a'r Pheresiaid, a'r Canaaneaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid; a mi a'u difethaf hwynt.

23:24 Nac ymgryma i'w duwiau hwynt, ac na wasanaetha hwynt, ac na wna yn ôl eu gweithredoedd hwynt; ond llwyr ddinistria hwynt, dryllia eu delwau hwynt yn gandryll.

23:25 A chwi a wasanaethwch yr ARGLWYDD eich DUW, ac efe a fendithia dy fara, a*th ddwfr; a mi a dynnaf ymaith bob clefyd o'th fysg.

23:26 Ni bydd yn dy dir di ddim yn erthylu, na heb hilio: mi a gyflawnaf rifedi dy ddyddiau.

23:27 Mi a anfonaf fy arswyd o'th flaen, ac a ddifethaf yr holl bobl y deui atynt, ac a wnaf i'th holl elynion droi eu gwarrau atat.

23:28 A mi a anfonaf gacwn o'th flaen, a hwy a yrrant yr Hefiaid, a'r Canaaneaid, a'r Hethiaid, allan o'th flaen di.

23:29 Ni yrraf hwynt allan o'th flaen di mewn un flwyddyn; rhag bod y wlad yn anghyfannedd, ac i fwystfilod y maes amlhau yn dy erbyn di.

23:30 O fesur ychydig ac ychydig y gyrraf hwynt allan o'th flaen di, nes i ti gynyddu ac etifeddu'r tir.

23:31 A gosodaf dy derfyn o'r môr coch hyd fôr y Philistiaid, ac o'r diffeithwch hyd yr afon; canys mi a roddaf yn eich meddiant breswylwyr y tir; a thi a'u gyrri hwynt allan o'th flaen.

23:32 Na wna amod â hwynt, nac â’u duwiau.

23:33 Na ad iddynt drigo yn dy wlad; rhag iddynt beri i ti bechu i'm herbyn: canys os gwasanaethi di eu duwiau hwynt, diau y bydd hynny yn dramgwydd i ti.


PENNOD 24


24:1 Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fyny at yr ARGLWYDD, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a'r deg a thrigain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell.

24:2 Ac aed Moses ei hun at yr ARGLWYDD; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fyny gydag ef.

24:3 A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i'r bobl holl eiriau yr ARGLWYDD, a'r holl farnedigaethau. Ac atebodd yr holl bobl yn unair, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD.

24:4 A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr ARGLWYDD; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor islaw y mynydd, a deuddeg colofn, yn ôl deuddeg llwyth Israel.

24:5 Ac efe a anfonodd lanciau meibion Israel; a hwy a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i'r ARGLWYDD.

24:6 A chymerodd Moses hanner y gwaed, ac a'i gosododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor.

24:7 Ac efe a gymerth lyfr y cyfamod, ac a'i darllenodd lle y clywai'r bobl. A dywedasant, Ni a wnawn, ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr ARGLWYDD.

24:8 A chymerodd Moses y gwaed, ac a'i taenellodd ar y bobl; ac a ddywedodd, Wele waed y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr ARGLWYDD â chwi, yn ôl yr holl eiriau hyn.

24:9 Yna yr aeth Moses i fyny, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel.

24:10 A gwelsant DDUW Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saffir, ac fel corff y nefoedd o ddisgleirder.

24:11 Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant DDUW, a bwytasant ac yfasant.

24:12 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Tyred i fyny ataf i'r mynydd, a bydd yno: a mi a roddafi ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchmynion, y rhai a ysgrifennais, i'w dysgu hwynt.

24:13 A chododd Moses, a Josua ei weinidog; ac aeth Moses i fyny i fynydd DUW.

24:14 Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni
atoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyda chwi; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo, deued atynt hwy.

24:15 A Moses a aeth i fyny i'r mynydd; a chwmwl a orchuddiodd y mynydd.

24:16 A gogoniant yr arglwydd a arhodd ar fynydd Sinai, a'r cwmwl a'i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmwl.

24:17 A'r golwg ar ogoniant yr arglwydd oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd, yng ngolwg meibion Israel.

24:18 A Moses a aeth i ganol y cwmwl, ac a aeth i fyny i'r mynydd: a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.



PENNOD 25


25:1 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

25:2 Dywed wrth feibion Israel, am ddwyn ohonynt i mi offrwm: gan bob gŵr ewyllysgar ei galon y cymerwch fy offrwm.

25:3 A dyma yr offrwm a gymerwch ganddynt; aur, ac arian, a phres,

25:4 A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr,

25:5 A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,

25:6 Olew i'r goleuni, llysieuau i olew yr ennaint, ac i'r perarogl-darth,

25:7 Meini onics, a meini i'w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg.

25:8 A gwnânt i mi gysegr; fel y gallwyf drigo yn eu mysg hwynt.

25:9 Yn ôl holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodrefn y rhai yr ydwyf yn eu dangos i ti, felly y gwnewch.

25:10 A gwnânt arch o goed Sittim, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.

25:11 A gwisg hi ag aur coeth; o fewn ac oddi allan y gwisgi hi: a gwna arni goron o aur o amgylch.

25:12 Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur, a dod ar ei phedair congl; dwy fodrwy ar un ystlys iddi, a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi.

25:13 A gwna drosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur.

25:14 A gosod y trosolion trwy'r modrwyau gan ystlys yr arch, i ddwyn yr arch arnynt.

25:15 Ym modrwyau yr arch y bydd y trosolion; na symuder hwynt oddi wrthi.

25:16 A dod yn yr arch y dystiolaeth a roddaf i ti.

25:17 A gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled.

25:18 A gwna ddau geriwb o aur; o gyfanwaith morthwyl y gwnei hwynt, yn nau gwr y drugareddfa.

25:19 Un ceriwb a wnei yn y naill ben, a'r ceriwb arall yn y pen arall: o'r drugareddfa ar ei dau ben hi y gwnewch y ceriwbiaid.

25:20 A bydded y ceriwbiaid yn lledu eu hesgyll i fyny, gan orchuddio'r drugareddfa â'u hesgyll, a'u hwynebau bob un at ei gilydd: tua'r drugareddfa y bydd wynebau y ceriwbiaid.

25:21 A dod y drugareddfa i fyny ar yr arch, ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti.

25:22 A mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa, oddi rhwng y ddau geriwb y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth, yr holl bethau a orchmynnwyf wrthyt i feibion Israel.

25:23 A gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.

25:24 A gosod aur coeth drosto, a gwna iddo goron o aur o amgylch.

25:25 A gwna iddo wregys o led llaw o amgylch, a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch.

25:26 A gwna iddo bedair modrwy o aur, a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fyddant ar ei bedwar troed.

25:27 Ar gyfer cylch y bydd y modrwyau, yn lleoedd i'r trosolion i ddwyn y bwrdd.

25:28 A gwna y trosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur, fel y dyger y bwrdd arnynt.

25:29 A gwna ei ddysglau ef, a’i lwyau, a’i gaeadau, a'i ffiolau, y rhai y tywelltir â hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt.

25:30 A dod ar y bwrdd y bara dangos gerbron fy wyneb yn wastadol.

25:31 Gwna hefyd ganhwyllbren: o aur pur yn gyfanwaith y gwneir y canhwyllbren; ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a'i flodau, a fyddant o'r un.

25:32 A bydd chwe chainc yn dyfod allan o'i ystlysau; tair cainc o'r canhwyllbren o un tu, a thair cainc o'r canhwyllbren o'r tu arall.

25:33 Tair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: felly ar y chwe chainc a fyddo yn dyfod allan o'r canhwyllbren.

25:34 Ac yn y canhwyllbren y bydd pedair padell ar waith almonau, a'u cnapiau a'u blodau.

25:35 A bydd cnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, yn ôl y chwe chainc a ddeuant o'r canhwyllbren.

25:36 Eu cnapiau a'u ceinciau a fyddant o'r un: y cwbl fydd aur coeth o un cyfanwaith morthwyl.

25:37 A thi a wnei ei saith lusern ef, ac a oleui ei lusernau ef, fel y goleuo efe ar gyfer ei wyneb.

25:38 A bydded ei efeiliau a'i gafnau o aur coeth.

25:39 O dalent o aur coeth y gwnei ef, a'r holl lestri hyn.

25:40 Ond gwêl wneuthur yn ôl eu portreiad hwynt, a ddangoswyd i ti yn y mynydd.


PENNOD 26


26:1 Y Tabernacl hefyd a wnei di o ddeg llen o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: yn geriwbiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt.

26:2 Hyd un llen fydd wyth gufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd: yr un mesur a fydd i'r holl lenni.

26:3 Pum llen a fyddant ynglŷn bob un wrth ei gilydd; a phum llen eraill a fyddant ynglŷn wrth ei gilydd.

26:4 A gwna ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar y cwr, yn y cydiad; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llen arall, yn yr ail gydiad.

26:5 Deg dolen a deugain a wnei di i un llen, a deg dolen a deugain a wnei ar gwr y llen a fyddo yn yr ail gydiad: y dolennau a dderbyniant bob un ei gilydd.

26:6 Gwna hefyd ddeg bach a deugain o aur, a chydia â'r bachau y llenni bob un wrth ei gilydd, fel y byddo yn un tabernacl.

26:7 A gwna lenni o flew geifr, i fod yn babell-len ar y tabernacl: un llen ar ddeg a wnei.

26:8 Hyd un llen fydd deg cufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd; a'r un mesur fydd i'r un llen ar ddeg.

26:9 A chydia bum llen wrthynt eu hun, a chwe llen wrthynt eu hun; a dybla'r chweched len ar gyfer wyneb y babell-len.

26:10 A gwna ddeg dolen a deugain ar ymyl y naill len, ar y cwr, yn y cydiad cyntaf; a deg dolen a deugain ar ymyl y llen arall, yn yr ail gydiad.

26:11 A gwna ddeg bach a deugain o bres; a dod y bachau yn y dolennau, a chlyma'r babell-len, fel y byddo yn un.

26:12 A'r gweddill a fyddo dros ben o lenni'r babell-len, sef yr hanner llen weddill, a fydd yng ngweddill ar du cefn y tabernacl;

26:13 Fel y byddo o'r gweddill gufydd o'r naill du, a chufydd o'r tu arall, o hyd y babell-len: bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl, o'r tu yma ac o'r tu acw, i'w orchuddio.

26:14 A gwna do i'r babell-len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.

26:15 A gwna i'r tabernacl ystyllod o goed Sittim, yn eu sefyll.

26:16 Deg cufydd fydd hyd ystyllen, a chufydd a hanner cufydd fydd lled pob ystyllen.

26:17 Bydded dau dyno i un bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bob un ar gyfer ei gilydd: felly y gwnei am holl fyrddau'r tabernacl.

26:18 A gwna ystyllod i'r tabernacl, ugain ystyllen o'r tu deau tua'r deau.

26:19 A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen; dwy fortais dan un ystyllen i'w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i'w dau dyno.

26:20 A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, ugain ystyllen,

26:21 A deugain mortais o arian; dwy for-tais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

26:22 Hefyd i ystlys y tabernacl, o du'r gorllewin, y gwnei chwech ystyllen.

26:23 A dwy ystyllen a wnei i gonglau^r tabernacl, yn y ddau ystlys.

26:24 A byddant wedi eu cysylitu oddi tanodd; byddant hefyd wedi eu cydgydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i'r ddwy gongl y byddant.

26:25 A byddant yn wyth ystyllen, a'u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg, dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

26:26 Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i ystyllod un ystlys i'r tabernacl,

26:27 A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod ystlys y tabernacl i'r ddau ystlys tua'r gorllewin.

26:28 A'r bar canol yng nghanol yr ystyllod, a gyrraedd o gwr i gwr.

26:29 Gosod hefyd aur dros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau trwyddynt: gwisg y barrau hefyd ag aur.

26:30 A chyfod y taberanacl wrth ei bortreiad, yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

26:31 A gwna wahanlen o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnei hi.

26:32 A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur, a'u pennau o aur, ar bedair mortals arian.

26:33 A dod y wahanlen wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a'r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cysegr a'r cysegr sancteiddiolaf.

26:34 Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiolaf.

26:35 A gosod y bwrdd o'r tu allan i'r wahanlen, a'r canhwyllbren gyferbyn â'r bwrdd ar y tu deau i'r tabernacl: a dod y bwrdd ar du'r gogledd.

26:36 A gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wnïadwaith.

26:37 A gwna i'r gaeadlen bum colofn of goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur, a'u pennau fydd o aur: a bwrw iddynt bum mortais bres.


PENNOD 27


27:1 Gwna hefyd allor o goed Sittim, o bum cufydd o hyd, a phum cufydd o led: yn bedeirongl y bydd yr allor, a'i huchder o dri chufydd.

27:2 A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o'r un y bydd ei chyrn; a gwisg hi â phres.

27:3 Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a'i rhawiau, a'i chawgiau, a'i chigweiniau, a'i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres.

27:4 A gwna iddi alch o bres, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl.

27:5 A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo'r rhwyd hyd hanner yr allor.

27:6 A gwna drosolion i'r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres.

27:7 A dod ei throsolion trwy'r modrwyau; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor, i'w dwyn hi.

27:8 Gwna hi ag ystyllod yn gau: fel y dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnânt hi.

27:9 A gwna gynteddfa'r tabernacl ar y tu deau, tua'r deau: llenni'r cynteddfa a fyddant liain main cyfrodedd, o gan Cufydd o hyd, i un ystlys.

27:10 A'i hugain colofn, a'u hugain mortais, fydd o bres: pennau y colofnau, a'u cylchau, fydd o arian.

27:11 Felly o du'r gogledd ar hyd, y bydd llenni o gan cufydd o hyd, a'u hugain colofn, a'u hugain mortais, o bres; a phennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian.

27:12 Ac i led y cynteddfa, o du'r gorllewin, y bydd llenni o ddeg cufydd a deugain: eu colofnau fyddant ddeg, a'u morteisiau yn ddeg.

27:11 A lled y cynteddfa, tua'r dwyrain, o godiad haul, a fydd ddeg cufydd a deugain.

27:14 Y llenni o'r naill du a fyddant bymtheg cufydd; eu colofnau yn dair, a'u morteisiau yn dair.

27:15 Ac i'r ail du y bydd pymtheg llen; eu tair colofn, a'u tair mortais.

27:16 Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o Wniadwaith; eu pedair colofn, a'u pedair mortais.

27:17 Holl golofnau'r cynteddfa o amgylch a gylchir ag arian; a'u pennau yn arian, a’u morteisiau yn bres.

27:18 Hyd y cynteddfa fydd gan cufydd, a'i led yn ddeg a deugain o bob tu; a phum cufydd o uchder o liain main cyfrodedd, a'u morteisiau o bres.

27:19 Holl lestri'r tabernacl yn eu holl wasanaeth, a'i holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa, fyddant o bres.

27:10 A gorchymyn dithau i feibion Israel ddwyn ohonynt atat bur olew yr olewydden coethedig, yn oleuni, i beri i'r lamp losgi yn wastad.

27:11 Ym mhabell y cyfarfod, o'r tu allan i r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna Aaron a'i feibion hwnnw, o'r hwyr hyd y bore, gerbron yr ARGLWYDD: deddf dragwyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.


PENNOD 28


28:1 A chymer Aaron dy frawd atat, a'i feibion gydag ef, o blith meibion Israel, i offeiriadu i mi; sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar, meibion Aaron.

28:2 Gwna hefyd wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, er gogoniant a harddwch.

28:3 A dywed wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i ag ysbryd doethineb, am wneuthur ohonynt ddillad Aaron i'w sancteiddio ef, i offeiriadu i mi.

28:4 A dyma y gwisgoedd a wnânt. Dwyfronneg, ac effod, mantell hefyd, a phais o waith edau a nodwydd, meitr, a gwregys: felly y gwnânt wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac i'w feibion, i offeiriadu i mi.

28:5 Cymerant gan hynny aur, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main.

28:6 A gwnânt yr effod o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith cywraint.

28:7 Dwy ysgwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwr; ac felly y cydir hi ynghyd.

28:8 A gwregys cywraint ei effod ef yr hwn fydd arni, fydd o'r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ysgarlad hefyd, a lliain main cyfrodedd.

28:9 Cymer hefyd ddau faen onics, a nadd ynddynt enwau meibion Israel:

28:10 Chwech o'u henwau ar un maen, a'r chwech enw arall ar yr ail faen, yn ôl eu genedigaeth.

28:11 A gwaith naddwr mewn maen, fel naddiadau sêl, y neddi di y ddau faen, ag enwau meibion Israel: gwna hwynt i boglynnau o aur o'u hamgylch.

28:12 A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel. Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt gerbron yr ARGLWYDD ar ei ddwy ysgwydd, yn goffadwriaeth.

28:13 Gwna hefyd foglynnau aur;

28:14 A dwy gadwyn o aur coeth yn eu pennau: o blethwaith y gwnei hwynt; a dod y cadwynau plethedig ynglyn wrth y boglynnau.

28:15 Gwna hefyd ddwyfronneg barnedigaeth, o waith cywraint; ar waith yr effod y gwnei hi: o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, y gwnei hi.

28:16 Pedeirongl fydd hi yn ddau ddyblyg; yn rhychwant ei hyd, ac yn rhychwant ei lled.

28:17 Llanw hi yn llawn o feini, sef pedair rhes o feini: un rhes fydd sardius, a thopas, a smaragdus: hyn fydd y rhes gyntaf.

28:18 A'r ail res fydd carbuncl, saffir, ac adamant.

28:19 A'r drydedd res fydd lygur, ac acat, ac amethyst.

28:20 Y bedwaredd res fydd beryl, ac onics, a iasbis: byddant wedi eu gosod mewn aur yn eu lleoedd.

28:21 A'r meini fyddant ag enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ôl eu henwau hwynt; o naddiad sêl, bob un wrth ei enw y byddant, yn ôl y deuddeg llwyth.

28:22 A gwna ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith, o aur coeth.

28:23 Gwna hefyd ar y ddwyfronneg ddwy fodrwy o aur, a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwr y ddwyfronneg.

28:24 A dod y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy'r ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg.

28:25 A'r ddau ben arall i'r ddwy gadwyn blethedig dod ynglŷn wrth y ddau foglyn, a dod ar ysgwyddau yr effod o'r tu blaen.

28:26 Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur, a gosod hwynt ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod o'r tu mewn.

28:27 A gwna ddwy fodrwy o aur, a dod hwynt ar ddau ystlys yr effod oddi tanodd, tua'i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod.

28:28 A'r ddwyfronneg a rwymant â'u modrwyau wrth fodrwyau yr effod a llinyn o sidan glas, fel y byddo oddi ar wregys yr effod, fel na ddatoder y ddwyfronneg oddi wrth yr effod.

28:29 A dyged Aaron, yn nwyfronneg y farnedigaeth, enwau meibion Israel ar ei galon, pan ddelo i'r cysegr, yn goffadwriaeth gerbron yr ARGLWYDD yn wastadol.

28:30 A dod ar ddwyfronneg y farnedigaeth, yr Urim a'r Thummim; a byddant ar galon Aaron pan elo i mewn gerbron yr ARGLWYDD: ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon, gerbron yr ARGLWYDD, yn wastadol.

28:31 Gwna hefyd fantell yr effod oll o sidan glas.

28:32 A bydd twll yn ei phen uchaf hi, ar ei chanol: gwrym o waith gwehydd o amgylch y twll, megis twll llurig, fydd iddi, rhag rhwygo.

28:33 A gwna ar ei godre hi bomgranadau o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ar ei godre o amgylch, a chlych o aur rhyngddynt o amgylch.

28:34 Cloch aur a phomgranad, a chloch aur a phomgranad, ar odre'r fantell o amgylch.

28:35 A hi a fydd am Aaron wrth weini: a cheir clywed ei sŵn ef pan ddelo i'r cysegr, gerbron yr ARGLWYDD, a phan elo allan; fel na byddo farw.

28:36 Gwna hefyd ddalen o aur coeth; a nadd arni, fel naddiadau sel, SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD.

28:37 A gosod hi wrth linyn o sidan glas, a bydded ar y meitr: o'r tu blaen i'r meitr y bydd.

28:38 A hi a fydd ar dalcen Aaron, fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gysegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd: ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef, fel y byddo iddynt ffafr gerbron yr ARGLWYDD.

28:39 Gweithia ag edau a nodwydd y bais o liain main, a gwna feitr o liain main; a'r gwregys a wnei o wniadwaith.

28:40 I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau; gwna hefyd iddynt gapiau, er gogoniant a harddwch.

28:41 A gwisg hwynt am Aaron dy frawd, a'i feibion gydag ef: ac eneinia hwynt, cysegra hwynt hefyd, a sancteiddia hwynt, i offeiriadu i mi.

28:42 Gwna hefyd iddynt lodrau lliain i guddio eu cnawd noeth: o'r lwynau hyd y morddwydydd y byddant.

28:43 A byddant am Aaron, ac am ei feibion, pan ddelont i mewn i babell y cyfarfod, neu pan ddelont yn agos at yr allor i weini yn y cysegr: fel na ddygont anwiredd, a marw. Hyn fydd deddf dragwyddol iddo ef, ac i'w had ar ei ôl.


PENNOD 29


29:1 Dyma hefyd yr hyn a wnei di iddynt i'w cysegru hwynt, i offeiriadu i mi. Cymer un bustach ieuanc, a dau hwrdd perffeithgwbl,

29:2 A bara croyw, a theisennau croyw wedi eu cymysgu ag olew, ac afrllad croyw wedi eu hiro ag olew: o beilliaid gwenith y gwnei hwynt.

29:3 A dod hwynt mewn un cawell, a dwg hwynt yn y cawell, gyda'r bustach a’r ddau hwrdd.

29:4 Dwg hefyd Aaron a'i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.

29:5 A chymer y gwisgoedd, a gwisg am Arron y bais, a mantell yr effod, a'r effod hefyd, a'r ddwyfronneg; a gwregysa ef â gwregys yr effod.

29:6 A gosod y meitr ar ei ben ef, a dod y goron gysegredig ar y meitr.

29:7 Yna y cymeri olew yr eneiniad, ac y tywellti ar ei ben ef, ac yr eneini ef.

29:8 A dwg ei feibion ef, a gwisg beisiau amdanynt.

29:9 A gwregysa hwynt â gwregysau, sef Aaron a'i feibion, a gwisg hwynt â chapiau: a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragwyddol: a thi a gysegri Arron a'i feibion.

29:10 A phâr ddwyn y bustach gerbron pabell y cyfarfod; a rhodded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben y bustach.

29:11 A lladd y bustach gerbron yr ARGLWYDD, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

29:12 A chymer o waed y bustach, a dod ar gyrn yr allor â'th fys; a thywallt yr holl waed arall wrth droed yr allor.

29:13 Cymer hefyd yr holl fraster a fydd yn gorchuddio'r perfedd, a'r rhwyden a fyddo ar yr afu, a'r ddwy aren, a'r braster a fyddo arnynt, a llosg ar yr allor.

29:14 Ond cig y bustach, a'i groen, a'i fiswail, a losgi mewn tân, o'r tu allan i'r gwersyll: aberth dros bechod yw. '

29:5 Cymer hefyd un hwrdd; a gosoded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.

29:16 A lladd yr hwrdd; a chymer ei waed ef, a thaenella ar yr allor o amgylch.

29:17 A thor yr hwrdd yn ddarnau; a golch ei berfedd, a'i draed, a dod hwynt ynghyd â'i ddarnau, ac â'i ben.

29:18 A llosg yr hwrdd i gyd ar yr allor: poethoffrwm i'r ARGLWYDD yw: arogl peraidd, aberth tanllyd i'r ARGLWYDD yw.

29:19 A chymer yr ail hwrdd; a rhodded Aaron a'i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.

29:20 Yna lladd yr hwrdd, a chymer o'i waed, a dod ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar gwr isaf clust ddeau ei feibion, ac ar fawd eu llaw ddeau hwynt, ac ar fawd eu troed deau hwynt; a thaenella'r gwaed arall ar yr allor o amgylch.

29:21 A chymer o'r gwaed a fyddo ar yr allor, ac o olew yr eneiniad, a thaenella ar Aaron, ac ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion gydag ef: felly sanctaidd fydd efe a'i wisgoedd, ei feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion gydag ef.

29:22 Cymer hefyd o'r hwrdd, y gwêr a'r gloren, a'r gwêr sydd yn gorchuddio'r perfedd, a rhwyden yr afu, a'r ddwy aren, a'r gwêr sydd arnynt, a'r ysgwyddog ddeau; canys hwrdd cysegriad yw:

29:23 Ac un dorth o fara, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen o gawell y bara croyw, yr hwn sydd gerbron yr ARGLWYDD.

29:24 A dod y cwbl yn nwylo Aaron, ac yn nwylo ei feibion: a chyhwfana hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.

29:25 A chymer hwynt o'u dwylo, a llosg ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd gerbron yr ARGLWYDD: aberth tanllyd i'r ARGLWYDD yw.

29:26 Cymer hefyd barwyden hwrdd y cysegriad yr hwn fyddo dros Aaron, a chyhwfana hi yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD; a'th ran di fydd.

29:27 A sancteiddia barwyden yr offrwm cyhwfan, ac ysgwyddog yr offrwm dyrchafael, yr hon a gyhwfanwyd, a'r hon a ddyrchafwyd, o hwrdd y cysegriad, o'r hwn a fyddo dros Aaron, ac o'r hwn a fyddo dros ei feibion.

29:28 Ac eiddo Aaron a'i feibion fydd trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel: canys offrwm dyrchafael yw; ac offrwm dyrchafael a fydd oddi wrth feibion Israel o'u haberthau hedd, sef eu hoffrwm dyrchafael i'r ARGLWYDD.

29:29 A dillad sanctaidd Aaron a fyddant i'w feibion ar ei ôl ef, i'w heneinio ynddynt, ac i'w cysegru ynddynt.

29:30 Yr hwn o'i feibion ef a fyddo offeiriad yn ei le ef, a'u gwisg hwynt saith niwrnod, pan ddelo i babell y cyfarfod i weini yn y cysegr.

29:31 A chymer hwrdd y cysegriad, a berwa ei gig yn y lle sanctaidd.

29:32 A bwytaed Aaron a'i feibion gig yr hwrdd, a'r bara yr hwn fydd yn y cawell, with ddrws pabell y cyfarfod.

29:33 A hwy a fwytant y pethau hyn y gwnaed y cymod â hwynt, i'w cysegru hwynt ac i'w sancteiddio: ond y dieithr ni chaiff eu bwyta; canys cysegredig ydynt.

29:34 Ac os gweddillir o gig y cysegriad, neu o'r bara, hyd y bore, yna ti a losgi'r gweddill a thân: ni cheir ei fwyta, oblegid cysegredig yw.

29:35 A gwna fel hyn i Aaron, ac i'w feibion, yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti: saith niwrnod y cysegri hwynt.

29:36 A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth dros bechod, er cymod: a glanha yr allor, wedi i ti wneuthur cymod drosti, ac eneinia hi, i'w chysegru.

29:37 Saith niwrnod y gwnei gymod dros yr allor, ac y sancteiddi hi: felly yr allor fydd sanctaidd: pob peth a gyffyrddo â'r allor, a sancteiddir.

29:38 A dyma yr hyn a offrymi ar yr allor. Dau oen blwyddiaid, bob dydd yn wastadol.

29:39 Yr oen cyntaf a offrymi di y bore; a'r ail pen a offrymi di yn y cyfnos.

29:40 A chyda'r naill oen ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu a phedwaredd ran hin o olew coethedig: a phedwaredd ran hin o win, yn ddiod-offrwm,

29:41 A'r oen arall a offrymi di yn y cyfnos, ac a wnei iddo yr un modd ag i fwyd-offrwm y bore, ac i'w ddiod-offrwrn, i fod yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r ARGLWYDD:

29:42 Yn boethoffrwm gwastadol trwy eich oesoedd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr ARGLWYDD; lle y cyfarfyddaf â chwi, i lefaru wrthyt yno.

29:43 Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf â meibion Israel; ac efe a sancteiddir trwy fy ngogoniant.

29:44 A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a'r allor; ac Aaron a'i feibion a sancteiddiaf, i offeiriadu i mi.

29:45 A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac a fyddaf yn DDUW iddynt.

29:46 A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW, yr hwn a'u dygais hwynt allan o dir yr Aifft, fel y trigwn yi eu plith hwynt; myfi yw yr ARGLWYDD eu DUW.


PENNOD 30


30:1 Gwna hefyd allor i arogldarthu arogl-darth: o goed Sittim y gwnei di hi.

30:2 Yn gufydd ei hyd, ac yn gufydd ei lled, (pedeirongl fydd hi,) ac yn ddau gufydd ei huchder: ei chyrn fyddant o'r un.

30:3 A gwisg hi ag aur coeth, ei chefn a’i hystlysau o amgylch, a'i chyrn: a gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch.

30:4 A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tan ei choron, wrth ei dwy gongl; ar ei dau ystlys y gwnei hwynt; fel y byddant i wisgo am drosolion, i'w dwyn hi arnynt.

30:5 A'r trosolion a wnei di o goed Sittim a gwisg hwynt ag aur.

30:6 A gosod hi o flaen y wahanlen sydd wrth arch y dystiolaeth; o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â thi.

30:7 Ac arogldarthed Aaron arni arogl-darth llysieuog bob bore: pan daclo efe lampau, yr arogldartha efe.

30:8 A phan oleuo Aaron y lampau yn y cyfnos, arogldarthed arni arogl-darth gwastadol gerbron yr ARGLWYDD, trwy eich cenedlaethau.

30:9 Nac offrymwch arni arogl-darth dieithr, na phoethoffrwm, na bwyd-offrwm; ac na thywelltwch ddiod-offrwm arni.

30:10 A gwnaed Aaron gymod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn, â gwaed pech-aberth y cymod: unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymod arni trwy eich cenedlaethau; sancteiddiolaf i'r ARGLWYDD yw hi.

30:11 A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

30:12 Pan rifech feibion Israel, dan eu rhifedi; yna rhoddant bob un iawn am ei einioes i'r ARGLWYDD, pan rifer hwynt: fel na byddo pla yn eu plith, pan rifer hwynt.

30:13 Hyn a ddyry pob un a elo dan rif. Hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr: ugain gera yw y sicl: hanner sicl fydd yn offrwm i’r ARGLWYDD.

30:14 Pob un a elo dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod, a rydd offrwm i'r ARGLWYDD.

30:15 Ni rydd y cyfoethog fwy, ac ni rydd y tlawd lai, na hanner sicl, wrth roddi offrwm i'r ARGLWYDD, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.

30:16 A chymer yr arian cymod gan feibion Israel, a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel gerbron yr ARGLWYDD, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.

30:17 A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

30:18 Gwna noe bres, a'i throed o bres, i ymolchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a'r allor: a dod ynddi ddwfr.

30:19 A golched Aaron a'i feibion ohoni eu dwylo a'u traed.

30:20 Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant â dwfr, fel na byddont feirw; neu pan ddelont wrth yr allor i weini, gan arogldarthu aberth tanllyd i'r ARGLWYDD.

30:11 Golchant eu dwylo a'u traed, fel na byddont feirw: a bydded hyn iddynt yn ddeddf dragwyddol, iddo ef, ac i'w had, trwy eu cenedlaethau.

30:22 Yr ARGLWYDD hefyd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

30:23 Cymer i ti ddewis lysiau, o'r myrr pur, bwys pum can sicl, a hanner hynny o'r sinamon peraidd, sef pwys deucant a deg a deugain o siclau, ac o'r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau;

30:24 Ac o'r casia pwys pum cant o siclau, yn ôl sicl y cysegr; a hin o olew olewydden.

30:25 A gwna ef yn olew eneiniad sanctaidd, yn ennaint cymysgadwy o waith yr apothecari: olew eneiniad sanctaidd fydd efe.

30:26 Ac eneinia ag ef babell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth,

30:27 Y bwrdd hefyd a'i holl lestri, a'r canhwyllbren a'i holl lestri, ac allor yr arogl-darth.

30:28 Ac allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed.

30:29 A chysegra hwynt, fel y byddant yn sancteiddiolaf: pob peth a gyffyrddo â hwynt, a fydd sanctaidd.

30:30 Eneinia hefyd Aaron a'i feibion, a chysegra hwynt, i offeiriadu i mi.

30:31 A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Olew eneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi, trwy eich cenedlaethau.

30:32 Nac eneinier ag ef gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych.

30:33 Pwy bynnag a gymysgo ei fath, a'r hwn a roddo ohono ef ar ddyn dieithr, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

30:34 Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Cymer i ti lysiau peraidd, sef stacte, ac onycha, a galbanum; y llysiau hyn, a thus pur; yr un faint o bob un.

30:35 A gwna ef yn arogl-darth aroglber o waith yr apothecari, wedi ei gyd-dymheru, yn bur ac yn sanctaidd.

30:36 Gan guro cur yn fân beth ohono, a dod ohono ef gerbron y dystiolaeth o fewn pabell y cyfarfod, lle y cyfarfyddaf â thi: sancteiddiolaf fydd efe i chwi.

30:37 A'r arogl-darth a wnelech, na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef: bydded geonyt yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.

30:38 Pwy bynnag a wnêl ei fath ef, i arogli ohono, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.


PENNOD 31


31:1 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

31:2 Gwêl, mi a elwais wrth ei enw ar Besaleel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda;

31:3 Ac a'i llenwais ef ag ysbryd DUW, mewn doethineb, ac mewn deall, ac mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhob rhyw waith,

31:4 I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,

31:5 Ac mewn cyfarwyddyd, i osod meini, ac mewn saerniaeth pren, i weithio ym mhob gwaith.

31:6 Ac wele, mi a roddais gydag ef Aholiab fab Achisamach, o lwyth Dan: ac yng nghalon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchmynnais wrthyt.

31:7 Pabell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, a'r drugareddfa yr hon sydd arni, a holl lestri y babell,

31:8 A'r bwrdd a'i lestri, a'r canhwyllbren pur a'i holl lestri, ac allor yr arogl-darth,

31:9 Ac allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed,

31:10 A gwisgoedd y weinidogaeth, a'r gwisgoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt,

31:11 Ac olew yr eneiniad, a'r arogl-darth peraidd i'r cysegr; a wnânt yn ôl yr hyn oll a orchmynnais wrthyt.

31:12 A'r ARGLWYDD a lefarodd with Moses gan ddywedyd,

31:13 Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Diau y cedwch fy Sabothau: canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau, trwy eich cenedlaethau; i wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, sydd yn eich sancteiddio.

31:14 Am hynny cedwch y Saboth; oblegid sanctaidd yw i chwi: llwyr redder i farwolaeth yr hwn a'i halogo ef, oherwydd pwy bynnag a wnelo waith arno, torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl.

31:15 Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd y mae Saboth gorffwystra sanctaidd i'r ARGLWYDD: pwy bynnag a wnelo waith y seithfed dydd, llwyr rodder ef i farwolaeth.

31:16 Am hynny cadwed meibion Israel y Saboth, gan gynnal Saboth trwy eu cenedlaethau, yn gyfamod tragwyddol.

31:17 Rhyngof fi a meibion Israel, y mae yn arwydd tragwyddol, mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD nefoedd a'r ddaear; ac mai ar y seithfed dydd y peidiodd, ac y gorffwysodd efe.

31:18 Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orffen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifennu â bys DUW.


PENNOD 32


32:1 Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o'r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o'n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a'n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono.

32:2 A dywedodd Aaron wrthynt, Tynnwch y clustlysau aur sydd wrth glustiau eich gwragedd, a'ch meibion, a'ch merched, a dygwch ataf fi.

32:3 A'r holl bobl a dynasant y clustlysau aur oedd wrth eu clustiau, ac a'u dygasant at Aaron.

32:4 Ac efe a'u cymerodd o'u dwylo, ac a'i lluniodd â chŷn, ac a'i gwnaeth yn llo tawdd: a hwy a ddywedasant, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a'th ddug di i fyny o wlad yr Aifft.

32:5 A phan ei gwelodd Aaron, efe a adeiladodd allor ger ei fron ef: ac Aaron a gyhoeddodd, ac a ddywedodd, Y mae gŵyl i'r ARGLWYDD yfory.

32:6 A hwy a godasant yn fore drannoeth ac a offrymasant boethoffrymau, ac a ddygasant aberthau hedd: a'r bobl a eisteddasant i fwyta ac i yfed, ac a godant i fyny i chwarae.

32:7 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cerdda, dos i waered: canys ymlygrodd dy bobl a ddygaist i fyny o dir yr Aifft.

32:8 Buan y ciliasant o'r ffordd a orchmynnais iddynt: gwnaethant iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a'th ddygasnt i fyny o wlad yr Aifft.

32:9 Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt.

32:10 Am hynny yn awr gad i mi lonydd, fel yr enynno fy llid yn eu herbyn, ac y difethwyf hwynt: a mi a'th wnaf di yn genhedlaeth fawr.

32:11 A Moses a ymbiliodd gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ddywedodd, Paham, ARGLWYDD, yr enynna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aifft, trwy nerth mawr, a llaw gadarn?

32:12 Paham y caiff yr Eifftiaid lefaru, gan ddywedyd, Mewn malais y dygodd efe hwynt allan, i'w lladd yn y mynyddoedd, ac i'w difetha oddi ar wyneb y ddaear? Tro oddi with angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennyt y drwg a amcenaist i'th bobl.

32:13 Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt. Mi a amlhaf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i'ch had chwi, a hwy a'i hetifeddant byth.

32:14 Ac edifarhaodd ar yr ARGLWYDD am y drwg a ddywedasai efe y gwnâi i'w bobl.

32:15 A Moses a drodd, ac a ddaeth i waered o'r mynydd, a dwy lech y dystiolaeth yn ei law: y llechau a ysgrifenasid o'u dau du, hwy a ysgrifenasid o bob tu.

32:16 A'r llechau hynny oedd o waith DUW: yr ysgrifen hefyd oedd ysgrifen DUW yn ysgrifenedig ar y llechau.

32:17 A phan glywodd Josua sŵn y bobl yn bloeddio, efe a ddywedodd wrth Moses, Y mae sŵn rhyfel yn y gwersyll.

32:18 Yntau a ddywedodd, Nid llais bloeddio am oruchafiaeth, ac nid llais gweiddi am golli'r maes; ond sŵn canu a glywaf fi.

32:18 A bu, wedi dyfod ohono yn agos i’r gwersyll, iddo weled y llo a'r dawnsiau: ac enynnodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o'i ddwylo ac a'u torodd hwynt islaw y mynydd.

32:20 Ac efe a gymerodd y llo a wnaethent hwy, ac a'i llosgodd  thân, ac a'i malodd yn llwch, ac a'i taenodd ar wyneb y dwfr, ac a'i rhoddes i'w yfed i feibion Israel.

32:21 A dywedodd Moses wrth Aaron, Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, pan ddygaist arnynt bechod mor fawr?

32:22 A dywedodd Aaron, Nac enynned digofaint fy arglwydd: ti a adwaenost y bobl, mai ar ddrwg y maent.

32:23 Canys dywedasant wrthyf, Gwna i ni dduwiau i fyned o'n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a'n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono.

32:24 A dywedais wrthynt, I'r neb y mae aur, tynnwch ef: a hwy a'i rhoddasant i mi: a mi a'i bwriais yn tân, a daeth y llo hwn allan.

32:25 A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth, (canys Aaron a'u noethasai hwynt, i'w gwaradwyddo ymysg eu gelynion;)

32:26 Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll, ac a ddywedodd, Pwy sydd ar du'r ARGLWYDD? deued ataf fi. A holl feibion Lefi a ymgasglasant ato ef.

32:27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun, ac ewch, cyniweiriwch o borth i borth trwy'r gwersyll, a lleddwch bob un ei frawd, a phob un ei gyfaill, a phob un ei gymydog.

32:28 A meibion Lefi a wnaethant yn ôl gair Moses: a chwympodd o'r bobl y dydd hwnnw ynghylch tair mil o wŷr.

32:29 Canys dywedasai Moses, Cysegrwch eich llaw heddiw i'r ARGLWYDD, bob un ar ei fab, ac ar ei frawd, fel y rhodder heddiw i chwi fendith.

32:30 A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl, Chwi a bechasoch bechod mawr: ac yn awr mi a af i fyny at yr ARGLWYDD; ond odid mi a wnaf gymod dros eich pechod chwi.

32:31 A Moses a ddychwelodd at yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Och! pechodd y bobl hyn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur.

32:32 Ac yn awr, os maddeui eu pechod; ac os amgen, dilea fi, atolwg, allan o'th lyfr a ysgrifennaist.

32:33 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Pwy bynnag a bechodd i'm herbyn, hwnnw a ddileaf allan o'm llyfr.

32:34 Am hynny dos yn awr, arwain y bobl i'r lle a ddywedais wrthyt: wele, fy angel a â o'th flaen di: a'r dydd yr ymwelwyf, yr ymwelaf â hwynt am eu pechod.

32:35 A'r ARGLWYDD a drawodd y bobl, am iddynt wneuthur y llo a wnaethai Aaron.
 

PENNOD 33


33:1 A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Cerdda, dos i fyny oddi yma, ti a'r bobl a ddygaist i fyny o wlad yr Aifft, i'r wlad am yr hon y tyngais wrth Abraham, Isaac, a Jacob, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddaf hi.

33:2 A mi a anfonaf angel o'th flaen di, ac a yrraf allan y Canaanead, yr Amoriad, a'r Hethiad, y Pheresiad, yr Hefiad, a'r Jebusiad:

33:3 I wlad yn llifeirio o laeth â mel: oherwydd nid af fi i fyny yn dy blith; oblegid pobl wargaled wyt: rhag i mi dy ddifa ar y ffordd.

33:4 A phan glywodd y bobl y drwg chwedl hwn, galaru a wnaethant: ac ni wisgodd neb ei harddwisg amdano.

33:5 Oblegid yr ARGLWYDD a ddywedasai wrth Moses, Dywed wrth feibion Israel, pobl wargaled ydych chwi; yn ddisymwth y deuaf i fyny i'th ganol di, ac y'th ddifethaf; am hynny yn awr diosg dy harddwisg oddi amdanat, fel y gwypwyf beth a wnelwyf i ti.

33:6 A meibion Israel a ddiosgasant eu harddwisg wrth fynydd Horeb.

33:7 A Moses a gymerodd y babell, ac a'i lledodd o'r tu allan i'r gwersyll, ymhell oddi wrth y gwersyll; ac a'i galwodd, Pabell y cyfarfod; a phob un a geisiai yr ARGLWYDD, a âi allan i babell y cyfarfod, yr hon ydoedd o'r tu allan i'r gwersyll.

33:8 A phan aeth Moses i'r babell, yr holl bobl a godasant, ac a safasant bob un ar ddrws ei babell; ac a edrychasant ar ôl Moses, nes ei ddyfod i'r babell.

33:9 A phan aeth Moses i'r babell, y disgynnodd colofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell: a'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses.

33:10 A gwelodd yr holl bobl golofn y cwmwl yn sefyll wrth ddrws y babell: a’r holl bobl a gododd, ac a addolasant bob un wrth ddrws ei babell.

33:11 A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefarai gŵr wrth ei gyfaill. Ac efe a ddychwelod i'r gwersyll: ond y llanc Josua, mab Nun, ei weinidog ef, ni syflodd o'r babell.

33:12 A Moses a ddywedodd wrth yr ARGLWYDD, Gwêl, ti a ddywedi wrthyf, Dwg y bobl yma i fyny; ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyda mi: a thi a ddywedaist. Mi a'th adwaen wrth dy enw, a chefaist hefyd ffafr yn fy ngolwg.

33:13 Yn awr gan hynny, o chefais ffafr yn dy olwg, hysbysa i mi dy ffordd, atolwg, fel y'th adwaenwyf, ac fel y caffwyf ffafr yn dy olwg: gwêl hefyd mai dy bobl di yw y genedl hon.

33:14 Yntau a ddywedodd, Fy wyneb a gaiff fyned gyda thi, a rhoddaf orffwystr i ti.

33:15 Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid â dy wyneb gyda ni, nac arwain ni i fya oddi yma.

33:16 Canys pa fodd y gwyddir yma gael ohonof fi ffafr yn dy olwg, mi a'th bobl? onid trwy fyned ohonot ti gyda ni? Felly myfi a'th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear.

33:17 A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Gwnaf hefyd y peth hyn a leferaist: oblegid ti a gefaist ffafr yn fy ngolwg, a mi a'th adwaen wrth dy enw.

33:18 Yntau a ddywedodd, Dangos i mi, atolwg, dy ogoniant.

33:19 Ac efe a ddywedodd, Gwnaf i'm holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb, a chyhoeddaf enw yr ARGLWYDD o'th flaen di: a mi a drugarhaf wrth yr hwn y cymerwyf drugaredd arno, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.

33:20 Ac efe a ddywedodd, Ni elli weled fy wyneb: canys ni'm gwêl dyn, a byw.

33:21 Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd, Wele fan yn fy ymyl, lle y cei sefyll ar graig.

33:22 A thra yr elo fy ngogoniant heibio, mi a’th osodaf o fewn agen yn y graig; a mi a’th orchuddiaf â'm llaw, nes i mi fyned heibio.

33:23 Yna y tynnaf ymaith fy llaw, a'm tu cefn a gei di ei weled: ond ni welir fy wyneb.


PENNOD 34


34:1 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Nadd i ti ddwy o lechau cerrig, fel y rhai cyntaf: a mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist.

34:2 A bydd barod erbyn y bore; a thyred i fyny yn fore i fynydd Sinai, a saf i mi yno ar ben y mynydd.

34:3 Ond na ddeued neb i fyny gyda thi, ac na weler neb ar yr holl fynydd: na phored hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn.

34:4 Ac efe a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fath y rhai cyntaf: a Moses a gyfododd yn fore, ac a aeth i fynydd Sinai, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD iddo; ac a gymerodd yn ei law y ddwy lech garreg.

34:5 A'r ARGLWYDD a ddisgynnodd mewn cwmwl, ac a safodd gydag ef yno, ac a gyhoeddodd enw yr ARGLWYDD.

34:6 A'r ARGLWYDD a aeth heibio o'i flaen ef, ac a lefodd JEHOFAH, JEHOFAH, y DUW trugarog a graslon, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd;

34:7 Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddau anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl ag anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth.

34:5 A Moses a frysiodd, ac a ymgrymodd tua'r llawr, ac a addolodd;

34:9 Ac a ddywedodd, Os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, O Arglwydd, eled fy Arglwydd, atolwg, yn ein plith ni, (canys pobl wargaled yw,) a maddau ein hanwiredd, a'n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti.

34:10 Yntau a ddywedodd, Wele fi yn gwneuthur cyfamod yng ngŵydd dy holl bobl: gwnaf ryfeddodau, y rhai ni wnaed yn yr holl ddaear, nac yn yr holl genhedloedd; a'r holl bobl yr wyt ti yn eu mysg a gant weled gwaith yr ARGLWYDD: canys ofnadwy yw yr hyn a wnaf â thi.

34:11 Cadw yr hyn a orchmynnais i ti heddiw: wele, mi a yrraf allan o'th flaen di yr Amoriad, a'r Canaanead, a'r Hethiad, a'r Pheresiad, yr Hefiad hefyd, a'r Jebusiad.

34:12 A chadw arnat, rhag gwneuthur cyfamod â phreswylwyr y wlad yr wyt yn myned iddi; rhag eu bod yn fagi yn dy blith.

34:13 Eithr dinistriwch eu hallorau hwynt, drylliwch eu delwau hwynt, a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt.

34:14 Canys ni chei ymgrymu i dduw arall: oblegid yr ARGLWYDD, Eiddigus yw ei enw; DUW eiddigus yw efe;

34:15 Rhag i ti wneuthur cyfamod â phreswylwyr y tir; ac iddynt buteinio ar ôl eu duwiau, ac aberthu i'w duwiau, a'th alw di, ac i tithau fwyta o'u haberth;

34:16 A chymryd ohonot o'u merched i'th feibion; a phuteinio o'u merched ar ôl eu duwiau hwynt, a gwneuthur i'th feibion di buteinio ar ôl eu duwiau hwynt.

34:17 Na wna i ti dduwiau tawdd.

34:18 Cadw ŵyl y bara croyw: saith niwrnod y bwytei fara croyw, fel y gorchmynnais i ti, ar yr amser ym mis Abib: oblegid ym mis Abib y daethost allan o'r Aifft.

34:19 Eiddof fi yw pob peth a agoro y groth; a phob gwryw cyntaf o'th anifeiliaid, yn eidionau, ac yn ddefaid.

34:20 Ond y cyntaf i asyn a bryni di ag oen; ac oni phryni, tor ei wddf: pryn hefyd bob cyntaf-anedig o'th feibion: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw.

34:21 Chwe diwrnod y gweithi; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: yn amser aredig, ac yn y cynhaeaf, y gorffwysi.

34:22 Cadw i ti hefyd ŵyl yr wythnosau, o flaenffrwyth y cynhaeaf gwenith, a gŵyl y cynnull, ar ddiwedd y flwyddyn.

34:23 Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr ARGLWYDD DDUW, DUW Israel.

34:24 Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o'th flaen di, ac a helaethaf dy derfynau di: ac ni chwennych neb dy dir di, pan elych i fyny i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, dair gwaith yn y flwyddyn.

34:25 Nac offryma waed fy aberth gyda bara lefeinllyd; ac nac arhoed aberth gŵyl y Pasg dros nos hyd y bore.

34:26 Dwg y gorau o flaenffrwyth dy dir i dŷ yr ARGLWYDD dy DDUW. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.

34:27 Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna i ti y geiriau hyn: oblegid yn ôl y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod â thi, ac ag Israel.

34:28 Ac efe a fu yno gyda'r ARGLWYDD ddeugain niwrnod a deugain nos, ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr: ac efe a ysgrifennodd ar y llechau eiriau'r cyfamod, sef y deg gair.

34:29 fl A phan ddaeth Moses i waered o fynydd Sinai, a dwy lech y dystiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i waered o'r mynydd, ni wyddai Moses i groen ei wyneb ddisgleirio wrth lefaru ohono ef wrtho.

34:30 A phan welodd Aaron a holl feibion Israel Moses, wele, yr oedd croen ei wyneb ef yn disgleirio; a hwy a ofnasant nesau ato ef.

34:31 A Moses a alwodd arnynt. Ac Aaron a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddychwelasant ato ef: a Moses a lefarodd wrthynt hwy.

34:32 Ac wedi hynny nesaodd holl feibion Israel: ac efe a orchmynnodd iddynt yr hyn oll a lefarasai yr ARGLWYDD ym mynydd Sinai.

34:33 Ac nes darfod i Moses lefaru wrthynt, efe a roddes len gudd ar ei wyneb.

34:34 A phan ddelai Moses gerbron yr ARGLWYDD i lefaru wrtho, efe a dynnai ymaith y llen gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddelai efe allan, y llefarai wrth feibion Israel yr hyn a orchmynnid iddo.

34:35 A meibion Israel a welsant wyneb Moses, fod croen wyneb Moses yn disgleirio: a Moses a roddodd drachefn y llen gudd ar ei wyneb, hyd oni ddelai lefaru wrth DDUW.


PENNOD 35


35:1 Casglodd Moses hefyd holl gynulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt, Dyma'r pethau a orchmynnod yr ARGLWYDD eu gwneuthur.

35:2 Chwe diwrnod y gwneir gwaith; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd sanctaidd, Saboth gorffwys i'r ARGLWYDD: llwyr rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno.

35:3 Na chyneuwch dân yn eich holl anheddau ar y dydd Saboth.

35:4 A Moses a lefarodd wrth holl gynulleidfa meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

35:5 Cymerwch o'ch plith offrwrn yr ARGLWYDD: pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn offrwm i'r ARGLWYDD, aur, ac arian, a phres,

35:6 A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr,

35:7 A chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim,

35:8 Ac olew i'r goleuni, a llysiau i olew yr ennaint, ac i'r arogl-darth peraidd,

35:9 A meini onics, a meini i'w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg.

35:10 A phob doeth ei galon yn eich plith, deuant a gweithiant yr hyn oll a orchmynnodd yr ARGLWYDD;

35:11 Y tabernacl, ei babell-len a'i do, ei fachau a'i ystyllod, ei farrau, ei golofnau, a'i forteisiau,

35:12 Yr arch, a'i throsolion, y drugareddfa, a'r wahanlen, yr hon a'i gorchuddia,

35:13 Y bwrdd, a'i drosolion, a'i holl lestri, a'r bara dangos,

35:14 A chanhwyllbren y goleuni, a'i offer; a'i lampau, ac olew y goleuni,

35:15 Ac allor yr arogl-darth, a'i throsolion ac olew yr eneiniad, a'r arogl-darth peraidd, a chaeadlen y drws i fyned i'r tabernacl,

35:16 Allor y poethof&wm a'i halch bres, a’i throsolion, a'i holl lestri, y noe a'i throed,

35:17 Llenni'r cynteddfa, ei golofnau, a'i forteisiau, caeadlen porth y cynteddfa,

35:18 Hoeclion y tabernacl, a hoelion y cynteddfa, a'u rhaffau hwynt,

35:19 A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt.

35:20 A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi gerbron Moses.

35:11 A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei vthryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i'r ARGLWYDD, tuag at waith pabell y cyfarfod, a thuag at ei holl wasanaeth hi, a thuag at y gwisgoedd sanctaidd.

35:22 A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a'r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlustlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur, a phob gŵr a'r a offrymodd offrwm, a offrymodd aur i'r ARGLWYDD.

35:23 A phob un a'r y caed gydag ef sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a'u dygasant.

35:24 Fob un a'r a offrymodd offrwm o arian a phres, a ddygasant offrwm i'r ARGLWYDD: a phob un a'r y caed gydag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a'i dygasant.

35:25 A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â'i dwylo; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main.

35:26 A'r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr.

35:27 A'r penaethiaid a ddygasant feini onics, a meini i'w gosod ar yr effod, ac ar y ddwyfronneg;

35:28 A llysiau, ac olew i'r goleuni, ac i olew yr ennaint, 'ae i'r arogl-darth peraidd.

35:29 Holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymu tuag at yr holl waith a orchmynasai'r ARGLWYDD trwy law Moses ei wneuthur, a ddygasant i'r ARGLWYDD offrwm ewyllysgar.

35:30 A dywedodd Moses wrth feibion Israel, Gwelwch, galwodd yr ARGLWYDD erbyn ei enw, Besaleel, fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda:

35:31 Ac a'i llanwodd ef ag ysbryd DUW, mewn cyfarwyddyd, mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith;

35:32 I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,

35:33 Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith cywraint.

35:34 Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddysgu eraill; efe, ac Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan.

35:35 Efe a'u llanwodd hwynt â doethineb calon, i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith, a gwaith edau a nodwydd, mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main, ac i wau, gan wneuthur pob gwaith, a dychmygu cywreinrwydd.


PENNOD 36


36:1 Yna y gweithiodd Besaleel ac Aholïab, a phob gwr doeth o galon, y rhai y rhoddasai yr ARGLWYDD gyfarwyddyd a deall ynddynt, i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cysegr, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD.

36:2 A Moses a alwodd Besaleel ac Aholiab, a phob gŵr celfydd, y rhoddasai yr ARGLWYDD gyfarwyddyd iddo; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesáu at y gwaith i'w weithio ef.

36:3 A chymerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cysegr, i'w weithio ef. A hwy a ddygasant ato ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore.

36:4 A'r holl rai celfydd, a'r oedd yn gweithio holl waith y cysegr, a ddaethant bob un oddi wrth ei waith, yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur.

36:5 A llefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Y mae'r bobl yn dwyn mwy na digon er gwasanaeth i'r gwaith a orchmynnodd yr ARGLWYDD ei wneuthur.

36:6 A Moses a roes orchymyn; a hwy a barasant gyhoeddi trwy'r gwersyll, gan ddywedyd, Na wnaed na gŵr na gwraig waith mwy tuag at offrwm y cysegr. Felly yr ataliwyd y bobl rhag dwyn mwy.

36:7 Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i'r holl waith i'w wneuthur, a gweddill.

36:8 A'r holl rai celfydd, o'r rhai oedd yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddeg llen o liain main cyfrodedd, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaethant hwynt.

36:9 Hyd un llen oedd wyth gufydd ar hugain; a lled un llen pedwar cufydd: yr un mesur oedd i'r holl lenni.

36:10 Ac efe a gydiodd bum llen wrth ei gilydd; ac a gydiodd y pum llen erall wrth ei gilydd.

36:11 Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar ei chwr eithaf yn y cydiad: felly y gwnaeth efe ar ymyl llen arall, yng nghydiad yr ail.

36:12 Deg dolen a deugain a wnaeth efe ar un llen, a deg dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwr eithaf i'r llen ydoedd yng nghydiad yr ail: y dolennau oedd yn dal y naill len wrth y llall.

36:13 Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau aur, ac a gydiodd y naill len wrth y llall â'r bachau; fel y byddai yn un tabernacl.

36:14 Efe a wnaeth hefyd lenni o flew geifr, i fod yn babell-len ar y tabernacl: yn un llen ar ddeg y gwnaeth efe hwynt.

36:15 Hyd un llen oedd ddeg cufydd ar hugain, a lled un llen oedd bedwar cufydd: a'r un mesur oedd i'r un llen ar ddeg.

36:16 Ac efe a gydiodd bum llen wrthynt eu hunain, a chwe llen wrthynt eu hunain.

36:17 Efe a wnaeth hefyd ddeg dolen a deugain ar ymyl eithaf y llen yn y cydiad; a deg dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llen yng nghydiad yr ail.

36:18 Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau pres, i gydio y babell-len i fod yn un.

36:19 Ac efe a wnaeth do i'r babell-len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.

36:20 Ac efe a wnaeth ystyllod i'r tabernacl o goed Sittim, yn eu sefyll.

36:21 Deg cufydd oedd hyd ystyllen; a chufydd a hanner cufydd lled pob ystyllen.

36:22 Dau dyno oedd i'r un ystyllen, wedi eu gosod mewn trefn, y naill ar gyfer y llall: felly y gwnaeth efe i holl ystyllod y tabernacl.

36:23 Ac efe a wnaeth ystyllod i'r tabernacl; ugain ystyllen i'r tu deau, tua'r deau.

36:24 A deugain mortais arian a wnaeth efe dan yr ugain ystyllen: dwy fortais dan un ystyllen i'w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i'w dau dyno.

36:25 Ac i all ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, efe a wnaeth ugain ystyllen,

36:26 A'u deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

36:27 Ac i ystlysau'r tabernacl, tua'r gorllewin, y gwnaeth efe chwech ystyllel

36:28 A dwy ystyllen a wnaeth efe yng nghonglau'r tabernacl i'r ddau ystlys.

36:29 Ac yr oeddynt wedi eu cydio oddi tanodd; ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl.

36:30 Ac yr oedd wyth ystyllen; a'u morteisiau oedd un ar bymtheg o forteisiau arian: dwy fortais dan bob ystyllen.

36:31 Ac efe a wnaeth farrau o goed Sittim: pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl,

36:32 A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod y tabernacl i'r ystlysau o du'r gorllewin.

36:33 Ac efe a wnaeth y bar canol i gyrhaeddyd trwy'r ystyllod o gwr i gwr.

36:34 Ac efe a osododd aur dros yr ystyllod, ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur, i fyned am y barrau; ac a wisgodd y barrau ag aur.

36:35 Ac efe a wnaeth wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaeth efe hi.

36:36 Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur; a'u pennau oedd o aur: ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian.

36:37 Ac efe a wnaeth gaeadlen i ddrws y tabernacl o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith edau a nodwydd;

36:38 A'i phum colofn, a'u pennau; ac a oreurodd eu pennau hwynt, a'u cylchau, ag aur: ond eu pum mortais oedd o bres.


PENNOD 37


37:1 Abesaleel a wnaeth yr arch o goed Sittim; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder.

37:2 Ac a'i gwisgodd hi ag aur pur o fewn, ac oddi allan; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.

37:3 Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl: sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall.

37:4 Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur.

37:5 Ac a osododd y trosolion trwy'r modrwyau ar ystlysau yr arch, i ddwyn yr arch.

37:6 Ac efe a wnaeth y drugareddfa o aur coeth; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled.

37:7 Ac efe a wnaeth ddau geriwb aur: o un dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt, ar ddau ben y drugareddfa;

37:8 Un ceriwb ar y pen o'r tu yma, a cheriwb arall ar y pen o'r tu arall: o'r drugareddfa y gwnaeth efe y ceriwbiaid, ar ei dau ben hi.

37:8 A'r ceriwbiaid oeddynt, gan ledu esgÿll tuag i fyny, a'u hesgyll yn gorchuddio'r drugareddfa, a'u hwynebau bob un at ei gilydd: wynebau'r ceriwbiaid oedd tuag at y drugareddfa.

37:10 Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder.

37:11 Ac a osododd aur pur drosto, ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch.

37:12 Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o led llaw; ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch.

37:13 Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai oedd yn ei bedwar troed.

37:14 Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau, yn lle i'r trosolion i ddwyn y bwrdd.

37:15 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd.

37:16 Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd, ei ddysglau ef, a'i lwyau, a'i ffiolau, a'i gaeadau i gau a hwynt, o aur pur.

37:17 Ac efe a wnaeth ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a'i flodau, oedd o'r un.

37:18 A chwech o geinciau yn myned allan o'i ystlysau: tair cainc o'r canhwyllbren o un ystlys, a thair cainc o'r canhwyllbren o'r ystlys arall.

37:19 Tair padell ar waith almonau, cnap a blodeuyn oedd ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn, ar gainc arall: yr un modd yr oedd ar y chwe chainc, y rhai oedd yn dyfod allan o'r canhwyllbren.

37:20 Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau, ei gnapiau a'i flodau.

37:21 A chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono; yn ôl y chwe chainc oedd yn dyfod allan ohono.

37:22 Eu cnapiau a'u ceinciau oedd o'r un: y cwbl ohono ydoedd un dryll cyfan o aur coeth.

37:23 Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef, a'i efelliau, a'i gafnau, o aur pur.

37:24 O dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef, a'i holl lestri. :

37:25 Gwnaeth hefyd allor yr arogl-darth o goed Sittim: o gufydd ei hyd, a chufydd ei lled, yn bedeirongl: ac o ddau gufydd ei huchder: ei chyrn oedd o'r un.

37:26 Ac efe a'i gwisgodd hi ag aur coeth, ei chaead, a'i hystlysau o amgylch, a'i chyrn; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.

37:27 Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tan ei choron, i fyned am drosolion i'w dwyn arnynt.

37:28 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a'u gwisgodd hwynt ag aur.

37:29 Ac efe a wnaeth olew yr eneiniad sanctaidd, a'r arogl-darth llysieuog pur, o waith yr apothecari.


PENNOD 38


38:1 Ac efe a wnaeth allor y poethoffrwm o goed Sittim: o bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei lled, yn bedeirongl, ac yn dri chufydd ei huchder.

38:2 Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl: ei chyrn hi oedd o'r un, ac efe a'i gwisgodd hi â phres.

38:3 Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor, y crochanau, a'r rhawiau, a'r cawgiau, a'r cigweiniau, a'r pedyll tân: ei holl lestri hi a wnaeth efe o bres.

38:4 Ac efe a wnaeth i'r allor alch bres, ar waith rhwyd, dan ei chwmpas oddi tanodd hyd ei hanner hi.

38:5 Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwr yr alch bres, i fyned am drosolion.

38:6 Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim y ac a'u gwisgodd hwynt â phres.

38:7 Ac efe a dynnodd y trosolion trwy'r modrwyau ar ystlysau yr allor, i'w dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi ag ystyllod.

38:8 Ac efe a wnaeth noe bres, a'i throed o bres, o ddrychau gwragedd, y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod.

38:9 Ac efe a wnaeth y cynteddfa: ar yr ystlys deau, tua'r deau, llenni'r cynteddfa oedd o liain main cyfrodedd, o gan cufydd:

38:10 A'u hugain colofn, ac a'u hugain mortais, o bres: a phennau'r colofhau a'u cylchau, o arian yr oeddynt.

38:11 Ac ar du'r gogledd, y llenni oedd gan cufydd; eu hugain colofn, a'u hugain mortais, o bres: a phennau'r colofnau a'u cylchau o arian. |

38:12 Ac o du'r gorllewin, llenni o ddeg cufydd a deugain: eu deg colofn, a'u deg mortais, a phennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian.

38:13 Ac i du'r dwyrain tua'r dwyrain yr oedd llenni o ddeg cufydd a deugain.

38:14 Llenni o bymtheg cufydd a wnaeth efe o'r naill du i'r porth; eu tair colofn, a'u tair mortais,

38:15 Ac efe a wnaeth ar yr ail ystlys, oddeutu drws porth y cynteddfa, lenni o bymtheg cufydd; eu tair colofn, a'u tair mortais.

38:16 Holl lenni'r cynteddfa o amgylch a wnaeth efe o liain main cyfrodedd.

38:17 A morteisiau'r colofnau, oedd o bres; pennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian; a gwisg eu pennau, o arian, a holl golofnau'r cynteddfa oedd wedi eu cylchu ag arian.

38:18 A chaeadlen drws y cynteddfa ydoedd waith edau a nodwydd o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd; ac yn ugain cufydd o hyd, a'i huchder o'i lled yn bum cufydd, ar gyfer llenni'r cynteddfa.

38:19 Eu pedair colofn hefyd, a'u pedair mortais, oedd o bres; a'u pennau o arian; gwisg eu pennau hefyd a'u cylchau oedd arian.

38:20 A holl hoelion y tabernacl, a'r cynteddfa oddi amgylch, oedd bres. (

38:21 Dyma gyfrif perthynasau y tabernacl, sef tabernacl y dystiolaeth, y rhai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses, wasanaeth y Lefiaid, trwy law Ithamar, mab Aaron yr offeiriad.

38:22 A Besaleel, mab Uri, mab Hur, o lwyth Jwda, a wnaeth yr hyn oll a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.

38:23 A chydag ef yr ydoedd Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan, saer cywraint, a gwniedydd mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main.

38:24 Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith, sef yn holl waith y cysegr, sef aur yr offrwm, ydoedd naw talent ar hugain, a saith gan sicl a deg ar hugain, yn ôl sicl y cysegr.

38:25 Ac arian y rhai a gyfrifwyd o'r gynulleidfa, oedd gan talent, a mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, yn ôl sicl y cysegr.

38:26 Beca am bob pen; sef hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr, am bob un a elai heibio dan rif, o fab ugeinmiwydd ac uchod: sef am chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain.

38:27 Ac o'r can talent arian y bwriwyd morteisiau'r cysegr, a morteisiau'r wahanlen; can mortais o'r can talent, talent i bob mortais.

38:28 Ac o'r mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, y gwnaeth efe bennau'r colofnau; ac y gwisgodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt.

38:29 A phres yr offrwm oedd ddeg talent a thrigain, a dwy fil a phedwar cant o siclau.

38:30 Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod, a'r allor bres, a'r alch bres yr hon oedd iddi, a holl lestri'r allor;

38:31 A morteisiau'r cynteddfa o amgylch, a morteisiau porth y cynteddfa, a holl hoelion y tabernacl, a holl hoelion y cynteddfa o amgylch.


PENNOD 39


39:1 Ac o'r sidan glas, a'r porffor, a'r ysgarlad, y gwnaethant wisgoedd gweinidogaeth, i weini yn y cysegr: gwnaethant y gwisgoedd sanctaidd i Aaron; fel y gorchmynasai'r ARGLWYDD wrth Moses.

39:2 Ac efe a wnaeth yr effod o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd.

39:3 A gyrasant yr aur yn ddalennau teneuon, ac a'i torasant yn edafedd, i weithio yn y sidan glas, ac yn y porffor, ac yn yr ysgarlad, ac yn y lliain main, yn waith cywraint.

39:4 Ysgwyddau a wnaethant iddi yn cydio: wrth ei dau gwr y cydiwyd hi.

39:5 A gwregys cywraint ei effod ef, yr hwn oedd arni, ydoedd o'r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: megis y gorchmynasai'r ARGLWYDD wrth Moses.

39:6 A hwy a weithiasant feini onics wedi eu gosod mewn boglynnau aur, wedi eu naddu â naddiadau sêl, ag enwau meibion Israel ynddynt.

39:7 A gosododd hwynt ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.

39:8 Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronneg o waith cywraint, ar waith yr effod; o aur, sidan glas, porffor hefyd, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd.

39:9 Pedeirongl ydoedd; yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwyfronneg: o rychwant ei hyd, a rhychwant ei lled, yn ddau ddyblyg.

39:10 A gosodasant ynddi bedair rhes o feini: rhes o sardius, topas, a smaragdus, ydoedd y rhes gyntaf.

39:11 A'r ail res oedd, carbuncl, saffir, ac adamant.

39:12 A'r drydedd res ydoedd, lygur, acat, ac amethyst.

39:13 A'r bedwaredd res ydoedd, beryl, onics, a iasbis; wedi eu hamgylchu mewn boglynnau aur yn eu lleoedd.

39:14 A'r meini oedd yn ôl enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ôl eu henwau hwynt; pob un wrth ei enw oeddynt, o naddiadau sêl, yn ôl y deuddeg llwyth.

39:15 A hwy a wnaethant ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith o aur pur.

39:16 A gwnaethant ddau foglyn aur, a dwy fodrwy o aur; ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwr y ddwyfronneg.

39:17 A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy'r ddwy fodrwy ar gyrrau'r ddwyfronneg.

39:18 A deupen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant ynglŷn yn y ddau foglyn; ac a'u gosodasant ar ysgwyddau yr effod, o'r tu blaen.

39:19 Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur, ac a'u gosodasant ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod, o'r tu mewn.

39:20 A hwy a wnaethant ddwy fodrwy aur, ac a'u gosodasant ar ddau ystlys yr effod, oddi tanodd tua'i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod.

39:21 Rhwymasant hefyd y ddwyfronneg, erbyn ei modrwyau, wrth fodrwyau yr effod, a llinyn o sidan glas, i fod oddi ar wregys yr effod, fel na ddatodid y ddwyfronneg oddi wrth yr effod, megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

39:22 Ac efe a wnaeth fantell yr effod i gyd o sidan glas, yn weadwaith.

39:23 A thwll y fantell oedd yn ei chanol, fel twll llurig, a gwrym o amgylch y twll, rhag ei rhwygo.

39:24 A gwnaethant ar odre'r fantell bomgranadau, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, a lliain cyfrodedd.

39:25 Gwnaethant hefyd glych o aur pur, ac a roddasant y clych rhwng y pomgranadau, ar odre'r fantell, o amgylch, ymysg y pomgranadau,

39:26 Cloch a phomgranad, a chloch a phomgranad, ar odre'r fantell o amgylch, i weini ynddynt: megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

39:27 A hwy a wnaethant beisiau o liain main, o weadwaith, i Aaron ac i'w feibion.

39:28 A meitr o liain main, a chapiau hardd o liain main, a llodrau lliain o liain main cyfrodedd,

39:29 A gwregys o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, o waith edau a nodwydd; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

39:30 Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pur, ac a ysgrifenasant arni ysgrifen, fel naddiad sêl: SANCTEIDDRWYDD I'R ARGLWYDD.

39:31 A rhoddasant wrthi linyn o sidan glas, i'w dal hi i fyny ar y meitr, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

39:32 Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses felly y gwnaethant.

39:33 Dygasant hefyd y tabernacl at Moses, y babell a'i holl ddodrefn, ei bachau, ei hystyllod, ei barrau, a'i cholofnau, a'i morteisiau,

39:34 A'r to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a'r to o grwyn daearfoch, a'r llen wahan yr hon oedd yn gorchuddio;

39:35 Arch y dystiolaeth, a'i throsolion, a'r drugareddfa; '

39:36 Y bwrdd hefyd, a'i holl lestri, a'r bara dangos;

39:37 Y canhwyllbren pur, a'i lampau, a'r lampau i'w gosod mewn trefn, ei holl lestri, ac olew i'r goleuni;

39:38 A'r allor aur, ac olew yr eneiniad, a'r arogl-darth llysieuog, a chaeadle drws y babell;

39:39 Yr allor bres, a'r alch bres yr hon oedd iddi, ei throsolion, a'i holl lestri; y noe a'i throed;

39:40 Llenni'r cynteddfa, ei golofnau, a’i forteisiau, a chaeadlen porth y cynteddfa, ei rhaffau, a'i hoelion, a holl ddodrefn gwasanaeth y tabernacl, sef pabell cyfarfod;

39:41 Gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef i offeiriadu.

39:42 Yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel yr holl waith.

39:43 A Moses a edrychodd ar yr holl waith; ac wele, hwy a'i gwnaethant megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD, felly y gwnaethent: a Moses a'u bendithiodd hwynt.


PENNOD 40


40:1 A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Mose gan ddywedyd,

40:2 Yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y cyfodi y tabernacl, pabell y cyfarfod.

40:3 A gosod yno arch y dystiolaeth; a gorchuddia'r arch â'r wahanlen.

40:4 Dwg i mewn hefyd y bwrdd, a threfna ef yn drefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyllbren, a goleua ei lampau ef.

40:5 Gosod hefyd allor aur yr arogl-darth gerbron arch y dystiolaeth; a gosod gaeadlen drws y tabernacl.

40:6 Dod hefyd allor y poethoffwrm o flaen drws tabernacl pabell y cyfarfod.

40:7 Dod hefyd y noe rhwng pabell y yfarfod a'r allor, a dod ynddi ddwfr.

40:8 A gosod hefyd y cynteddfa oddi amgylch; a dod gaeadlen ar borth y cynteddfa.

40:9 A chymer olew yr eneiniad, ac eneinia'r tabernacl, a'r hyn oll sydd ynddo, a chysegra ef a'i holl lestri; a sanctaidd fydd.

40:10 Eneinia hefyd allor y poethoffrwm, a'i holl lestri; a'r allor a gysegri: a hi a fydd yn allor sancteiddiolaf.

40:11 Eneinia y noe a'i throed, a sancteiddia hi.

40:12 A dwg Aaron a'i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.

40:13 A gwisg am Aaron y gwisgoedd sanctaidd; ac eneinia ef, a sancteiddia ef, i offeiriadu i mi.

40:14 Dwg hefyd ei feibion ef, a gwisg hwynt â pheisiau.

40:15 Ac eneinia hwynt, roegis yr eneiniaist eu tad hwynt, i offeiriadu i mi: felly bydd eu heneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragwyddol, trwy eu cenedlaethau.

40:16 Felly Moses a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo; felly y gwnaeth efe.

40:17 Felly yn y mis cyntaf o'r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o'r flais, y codwyd y tabernacl.

40:18 A Moses a gododd y tabernacl, ac a sicrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fyny ei ystyllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau;

40:19 Ac a ledodd y babell-len ar y tabernacl, ac a osododd do'r babell-len arni oddi arnodd; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

40:20 Cymerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugareddfa i fyny ar yr arch.

40:21 Ac efe a ddug yr arch i'r tabernacl, ac a osododd y wahanlen orchudd, i orchuddio arch y dystiolaeth; megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

40:22 Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod, ar ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, o'r tu allan i'r wahanlen.

40:23 Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, gerbron yr ARGLWYDD; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

40:24 Ac efe a osododd y canhwyllbren o fewn pabell y cyfarfod, ar gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du'r deau.

40:25 Ac efe a oleuodd y lampau gerbron yr ARGLWYDD; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

40:26 Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahanlen.

40:27 Ac a arogldarthodd arni arogl-darth peraidd; megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

40:28 Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl.

40:29 Ac efe a osododd allor y poethoffrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrymodd arni boeth-offrwm a bwyd-offrwm; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

40:30 Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi.

40:31 A Moses, ac Aaron, a'i feibion, a olchasant yno eu dwylo a'u traed.

40:32 Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesaent at yr allor, yr ymolchent; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

40:33 Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a'r allor, ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.

40:34 Yna cwmwl a orchuddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr ARGLWYDD a lanwodd y tabernacl.

40:35 Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod; am fod y cwmwl yn aros arni, a gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl.

40:36 A phan gyfodai'r cwmwl oddi ar y tabernacl, y cychwynnai meibion Israel i'w holl deithiau.

40:37 Ac oni chyfodai'r cwmwl, yna ni chychwynnent hwy hyd y dydd y cyfodai.

40:38 Canys cwmwl yr ARGLWYDD ydoedd ar y tabernacl y dydd, a thân ydoedd arno y nos, yng ngolwg holl dŷ Israel, yn eu holl deithiau hwynt.


 
DIWEDD 

_____________________________________________________________

Adolygiadau diweddaraf: 2004-02-10, 2005-10-15

Sumbolau arbennig: ŷŵ

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA

 

 

 

Edrychwych ar fy ystadegau