2613k
Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia
Website. Y
Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en
gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620
Holy Bible in Welsh. Online Edition.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_corinthiaid2_47_2613k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
|
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
|
xxxx (ddim ar gael eto) Y tudalen hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
(Sganiad heb ei gywiro yw hwn, ac felly yn
frith o wallau. Cyn hir gobeithio cawn ni gyfle i roi trefn
(This is a scan which has not been corrected
yet. There are many errors in the text)
AIL EPISTOL PAUL YR APOSTOL AT Y
CORINTHIAID
ºPENNOD 1
º1 PAUL, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a’r brawd Timotheus,
at eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, gyda’r holl seintiau y rhai sydd yn
holl Achaia:
º2 Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu
Grist.
º3 Bendigedig fyddo Duw, a Thad eiq Harglwydd ni Iesu Grist, Tad y tru
gareddau, a Duw pob diddanwch;
º4 Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau
ddiddanu’r rhai sydd mewn dim gorthrymder, trwy’r diddanwch a’r hwn y’n
diddenir ni ein hunain gan Dduw.
º5 Oblegid fel y mae dioddefiadau Crist yn amlhau ynom ni; felly trwy Grist y
mae ein diddanwch ni hefyd yn aailhau.
º6 A pha un bynnag ai ein gorthrymu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i
chwi y mae, yr hon a weithir trwy ymaros dan yr un dioddefiadau, y rhai yr ydym
ninnau yn eu dioddef; ai ein diddanu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i
chwi y mae hynny.
º7 Ac y mae ein gobaith yn sicr amdanoch; gan i ni wybod, mai megis yr ydych yn
gyfranogion o’r dioddefiadau, felly y byddwch hefyd o’r diddanwch.
º8 Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein cystudd a ddaeth i ni
yn Asia, bwyso arnom yn ddirfawr uwchbcn ein gallu, hyd onid oeddem yn amau
cael byw hefyd.
º9 Eithr ni a gawsom ynom ein hunain farn angau, fel na byddai i ni ymddiried
ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi’r meirw;
º10 Yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angau, ac sydd yn
ein gwaredu; yn r hwn yr ydym yn
gobeithio y gwared ni hefyd rhag llaw: i
º11 A chwithau hefyd yn cydweithin drosom mewn gweddi, fel, am y rhoddiad a
rodded i ni oherwydd llawer, y rhodder diolch gan lawer drosom.
º12 Canys ein gorfoledd ni yw hyn, set’ tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn
symlrwydd, a phurdeb duwiol, nid mewn doethineb cnawdol, ond trwy ras Duw, yr
ymddygasom yn y byd, ond yn hytrach tuag atoch chwi.
º13 Canys nid ydym yn ysgrifennu amgen bethau atoch nag yr ydych yn eu darilen,
neu yn eu cydnabod, ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch hyd y diwedd hefyd;
º14 Megis y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau
yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu.
º15 Ac yn yr hyder hwn yr oeddwn yn ewyllysio dyfod atoch o’r blaen, fel y
caff-tch ail ras;
º16 A myned heb eich llaw chwi i Facedonia, a dyfod drachefn o Facedonia atoch,
a chael fy hebrwng gennych i jwdea.
º17 Gan hynny, pan oeddwn yn bwriadu hyn, a arferais i ysgafnder? neu y pethau
yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ôl y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y byddai gyda
mi, ie, ie, a nage, nage?
º18 Eithr ffyddlon yw Duw, a’n hymadrodd ni wrthych chwi ni bu ie, a nage.
º19 Canys Mab Duw, Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, sef
gennyf fi, a Silfanus, a Thimo-theus, nid ydoedd ie, a nage, eithr ynddo ef ie
ydoedd.
º20 Oblegid holl addewidion Duw ynddo ef ydynt ie, ac ynddo ef amen, er
gogoniant i Dduw trwom ni.
º21 A’r hwn sydd yn ein cadamhau ni gyda chwi yng Nghrist, ac a’n
heneiniodd ni, yw Duw:
º22 Yr hwn hefyd a’n seliodd, ac a roes ernes yr Ysbryd yn ein calonnatt.
º23 Ac yr wyf fi yn galw Duw yn dyst ar fy enaid, mai er eich arbed ‘chwi na
ddeuthum cto i Gorinth.
º24 Nid am ein bod yn arglwyddiaetha ar eich ffydd chwi, ond yr ydym yn
gydweithwyr i’ch llawenydd: oblegid trwy ffydd yr ydych yn sefyll.
ºPENNOD 2
º1 EITHR mi a fernais hyn ynof fy hunan, na ddelwn drachefn mewn tristwch:
atoch.
º2 Oblegid os myfi a’ch tristaf chwi, pwy yw’r hwn a’m llawenha i, ond yr hwn a
dristawyd gennyf fi?
º3 Ac mi a ysgrifennais hyn yma atoch, fel, pan ddelwn, na chawn dristwch oddi
wrth y rhai y dylwn lawenhau; gan hyderu amdanoch oll, fod fy llawenydd i yn
llawenydd i chwi oll.
º4 Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon, yr ysgrifennais atoch dagrau
lawer, nid fel y’ch tristeid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf
yn helaethach tuag atoch chwi.
º5 Ac os gwnaeth neb dristau, ni wnaeth efe i mi dristau, ond o ran; rhag i mi
bwyso arnoch chwi oll.
º6 Digon i’r cyfryw ddyn y cerydd yma, a ddaeth oddi wrth laweroedd.
º7 Yn gymaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn hytrach faddau iddo, a’i
ddiddanu; rhag llyncu’r cyfryw gan ormod tristwch.
º8 Am hynny yr ydwyf yn atolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag ato ef.
º9 Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn brawf ohonoch, a
ydych ufudd ym mhob peth.
º10 I’r hwn yr ydych yn maddau dim iddo, yr wyf finnau: canys os maddeuais
ddim, i’r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yng ngolwg Crist;
º11 Fel na’n siomer gan Satan: canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef.
º12 Eithr gwedi i mi ddyfod i. Dioas,i bregethu efengyl Crist, ac wedi agoryd i
mi ddrws gan yr Arglwydd, -
º13 Ni chefais lonydd yn fy ysbryd» an na chefais Titus fy mrawd: eithr gan
ganu’n iach iddynt, mi a euthum ymaith i Facedonia.
º14 Ond i Dduw y byddo’r diotch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni
oruchafiaeth yng Nghrist, ac sydd yn eglurhau; arogledd ei wybodaeth trwom ni
yro mhob lle.
º15 Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig:
º16 I’r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth; ac i’r lleill, yn arogt
bywyd i fywyd: a phwy sydd ddigonol i’r pethau hyn?
º17 Canys nid ydym ni, megis llawer, yn gwneuthur masnach o air Duw: eithr
megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yng ngwydd Duw yr ydym yn llefaru yng
Nghrist.
ºPENNOD 3
º1 Adechrau yr ydym drachefn ein canmol ein hunain? ai rhaid i ni, megis i
rai, wrth lythyrau canmotiaeth atoch chwi, neu rai canmoliaeth oddi wrthych
chwi?
º2 Ein llythyr ni ydych chwi yn ysg-rifenedig yn ein calonnau, yr hwn a
ddeellir ac a ddarllenir gan bob dyn:
º3 Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych, wedi ei weini gennym ni, wedi ei
ysgrifennu nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw; nid mewn llechau cerrig, eithr
mewn llechau cnawdol y galon.
º4 A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist ar Dduw:
º5 Nid oherwydd ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain i feddwl dim megis ohonom
ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw;
º6 Yr hwn hefyd a’n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y testament newydd; nid
i’r llythyren, ond i’r ysbryd: canys y mae’r llythyren yn lladd, ond yr ysbryd
sydd yn bywhau.
º7 Ac os bu gweinidogaeth angau, mewn llythrennau wedi eu hargraffu ar gerrig,
mewn gogoniant, fel na allai plant yr Israel edrych yn graff ar wyneb Moses,
gan ogoniant ei wynepryd, yr hwn ogoniant a ddilewyd;
º8 Pa fodd yn hytrach na bydd gweinidogaeth yr Ysbryd mewn gogoniant?
º9 Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant, mwy o lawer y mae
gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant.
º10 Canys hefyd ni ogoneddwyd’yr hyn a ogoneddwyd yn y rhan hon, oherwydd y
gogoniant tra rhagorol.
º11 Oblegid os bu yr hyn a ddileid yn ogoneddus, mwy o lawer y bydd yr hyn sydd
yn aros yn ogoneddus
º12 Am hynny gan fod gennym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr:
º13 Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei wyneb, fel nad edrychai plant
Israel vn graff ar ddiwedd yr hyn a ddileid.
º14 Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt: canys hyd y dydd heddiw y mae’r un
gorchudd, wrth ddarllen yn yr hen dest-ament, yn aros heb ei ddatguddio; yr
hw-n yng Nghrist a ddileir. : : ‘
º15 Eithr hyd y dydd heddiw, pan ddarllenir Moses, y mae’r gorchudd ar eu ealon
hwynt. ;
º16 Ond pan ymchwelo at yr Arglwyddy tynnir ymaith y gorchudd.: ;
º17 Eithr yr Arglwydd yw’r Ysbryd: a lle mae Ysbryd yr Arglwydd, yao y mae
rhyddid.
º18 Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis
mewn drych, a newidir i’r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd
yr Arglwydd.
ºPENNOD 4
º1 AM hynny gan fod i ni y weinidogaeth
º1A hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu;
º2 Eithr ni a ymwrthodasoffl a chuddiiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn
cyftwystra, na thrin gair Duw yn dwyllodrus, eithr trwy eglurhad y gwirionedd
yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw.
.’.;
º3 Ac os cuddiedig yw ein hefengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn
guddiedig:
º4 Yn y rhai y dallodd duw’r byd hwn feddyliau y rhai di-gred, fel na thywynnai
iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw.
º5 Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd; a
ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu.
º6 Canys Duw, yr hwn a orchmynnodd i’r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn
a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn
wyneb Iesu Grist.
º7 Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y byddai
godid-owgrwydd y gallu o Dduw, ac nid ohonom ni.
º8 Ym mhob peth yr ym yn gystuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng
gyngor, ond nid yn ddiobaith;
º9 Yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr adael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr
heb ein difetha;
º10 Gan gylcharwain yn y corff bob amser farweiddiad yr Arglwydd Iesu, fel yr
eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corff ni.
º11 Canys yr ydys yn ein rhoddi ni, y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth
er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.
º12 Felly y mae angau yn gweithio ynom ni, ac einioes ynoch chwithau. ISA chan fod gennym yr un ysbryd ffydd,
yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd, Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau
hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru;
º14 Gan wybod y bydd i’r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau
hefyd trwy Iesu, a’n gosod gerbron gyda chwi.
º15 Canys pob peth sydd er eich mwyn chwi, fel y byddo i ras wedi amlhau, trwy
ddiolchgarwch llaweroedd, ymhelaethu i ogoniant Duw.
º16 Oherwydd paham nid ydym yn pallu; eithr er llygru ein dyn oddi allan, er
hynny y dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd.
º17 Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol yn gweithredu
tragwyddol bwys gogoniant i ni;
º18 Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir:
canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd
dragwyddol.
ºPENNOD 5
º1 Canys ni a wyddom, os ein daear ôl »—’ dŷ o’r babell hon a
ddatodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol
yn y nefoedd.
º2 Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisgo a’n
tŷ sydd o’r nef:
º3 Os hefyd wedi ein gwisgo, nidiya noethion y’n ceir.
º4 Canys ninnau hefyd y rhai ym yn y babell hon ydym yn ocheneidio, yn
llwythog: yn yr hyn nid ym yn chwennych ein diosg, ond ein harwisgo, fel y
llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd.
º5 A’r hwn a’n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni
ernes yr Ysbryd.
º6 Am hynny yr ydym yn hyderus bob amser, ac yn gwybod, tra ydym yn gartrefol
yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd:
º7 Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg.
º8 Ond yr ydym yn hy, ac yn gweled yn dda yn hytrach fod oddi cartref o’r
corff, a chartrcfu gyda’r Arglwydd.
º9 Am hynny hefyd yr ydym yn ymorchestu, pa un bynnag ai garlref y byddom, ai
oddi cartref, ein hod yn gymeradwy ganddo ef.
º10 Canys rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist; fel y derby nio pob
un y pethau a wnaethpwyd yn y corff, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da
ai drwg.
º11 A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion:
eithr i Dduw y’n gwnaed yn hysbys; ac yr ydwyf yn gobeifhio ddarfod ein
gwneuthur yn hysbys yn eich cydwybodau chwithau hefyd.
º12 Canys nid ydym yn ein canmol ein hunain drachefn wrthych, ond yn rhoddi i
chwi achlysur gorfoledd o’n plegid nii fel y caffoch beth i ateb yn erbyn y
rhai sydd yn gorfoleddu yn y golwg, ac nid yn y galon.
º13 Canys pa un bynnag ai amhwyllo yr ydym, i Dduw yr ydym; ai yn ein pwyll yr
ydym, i chwi yr ydym.
º14 Canys y mae cariad Crist yn ein cymell ni, gan farnu ohonom hyn; os bu un
farw dros bawb, yna meirw oedd pawb;
º15 Ac efe a fu farw dros bawb, fel na byddai i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu
hunain, ond i’r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.
º16 Am hynny nyni o hyn allan nid adwaenom neb yn ôl y cnawd: ac os buom hefyd
yn adnabod Crist yn ôl y; cnawd, eto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach.
º17 Gan hynny od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr henbethau
a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd.
º18 A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a’n cymododd ni ag ef ei hun trwy Iesu
Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth 5; cymod;
º19 Sef, bod Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu
pechodau; ac wedi gosod ynom ni air y cymod.
º20 Am hynny yr ydym ni yn genhadau dros Grist, megis pe byddai Duw yn deisyf
arnoch trwom ni: yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymodcr chwi a Duw.
º21 Canys yr hwn nid adnabu bechod, a wn.icth efi; yn bechod drosom ni; fel y’n
gwnclid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.
ºPENNOD 6
º1 A NINNAU, gan gydweithio, ydym yn atolwg i chwi, na dderbynioch ras Duw
yn ofer:
º2 (Canys y mae efe yn dywedyd, i!33
Mewn amser cymeradwy y’th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y’th
gynorthwyais: wele, yn awr yr amser cymeradwy; wele, yn awr ddydd yr
iachawdwriaeth.)
º3 Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, fel na feier ar y weinidogaeth:;4
Eithr gan ein dangos ein hunain ym inhob peth fel gweinidogion Duw, mewn
amynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau,
º5 Mewn gwialenodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn poenau, mewn
gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau,;
º6 Mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hirymaros, mewn tiriondeb, yn yr Ysbryd
Glân, mewn cariad diragrith,
º7 Yng ngair y gwirionedd, yn nerth Duw, trwy arfau cyfiawnder ar ddeau ac ar
aswy,
º8 Trwy barch ac amarch, trwy anghlod a chlod: megis twyllwyr, ac er hynny yn
eirwir;
º9 Megis anadnabyddus, ac er hynny yn adnabyddus; megis yn rneirw, ac wele, byw
ydym; megis wedi ein ceryddu, a heb ein lladd;
º10 Megis wedi ein tristau, ond yn wastad yn llawen; megis yn diodion, ond yn
cyfoethogi llawer; megis heb ddim gennym, ond eto yn meddiannu pob peth.
º11 Ein genau ni a agorwyd wrthych chwi, O Gorinthiaid, ein calon ni a
ehangwyd.
º12 Ni chyfyngwyd amoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich yffl-ysgaroedd
eich hunain. \
º13 Ond am yr un tal, (yr ydwyf yn dywedyd megis wrth fy mhlant,) ehanger\
chwithau hefyd.
º14 Na ieuer chwi yn anghymharus gyda’r rhai di-gred; canys pa gyfeillach sydd
rhwng cyfiawnder acanghyfiawnder? a pha gymundeb rhwng goleuni a thy-wyllwch?
º15 A pha gysondeb sydd rhwng Crist a;- Belial? neu pa ran sydd i gredadun gydag
anghredadun?
º16 A pha gydfod sydd rhwng teflil
Duw ac eilunod? canys teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywedodd Duw, Mi
a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a
hwy a fyddant yn bobl i mi.
º17 Oherwydd paham deuwch allan o’u canol hwy, ac ymddidolwch, medd yr
Arglwydd, ac na chynyrddwch a dim aflan; ac mi a’ch derbyniaf chwi, l8 Ac a
fyddaf yn Dad i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd
yr Arglwydd Hollalluog.
ºPENNOD 7
º1 AM hynny gan fod gennym yr addew-xx idion hyn, anwylyd,
ymlanhawn oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd, gan berffeithio
sancteiddrwydd yn ofn Duw.
º2 Derbyniwch ni. Ni wnaethom gam i neb; ni lygrasom neb; nid ysbeiliasom
neb.
º3 Nid i’ch condemnio yr wyf yn dywedyd: canys mi a ddywedais o’r blaen eich
bod chwi yn ein calonnau ni, i farw ac i fyw gyda chwi.
º4 Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych. Y mae gennyf orfoledd mawr o’ch
plegid chwi: yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra chyflawn o lawenydd yn ein
holl orthrymder.
º5 Canys wedi ein dyfod ni i Facedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd;
eithr ym mhob peth cystuddiedig fuom: oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn
ofnau.
º6 Eithr Duw, yr hwn sydd yn diddanu y rhai cystuddiedig, a’n diddanodd ni wrth
ddyfodiad Titus.
º7 Ac nid yn unig wrth ei ddyfodiad ef, ond hefyd wrth y diddanwch a’r hwn y
diddanwyd ef ynoch chwi, pan fynegodd efe i ni eich awyddfryd chwi, eich galar chwi,
eich sêl tuag ataf fi; fel y llawenheais i yn fwy.
º8 Canys er i mi eich tristau chwi mewn llythyr, nid yw editar gennyf, er bod
yn edifar gennyf; canys yr wyf yn gweled dristau o’r llythyr hwnnw chwi, er nad
oedd ond dros amser..
º9 Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristau chwi, ond am eich tristau i
edifeirwch: canys tristau a wnaethocb yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim
oddi wrthym ni.
º10 Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth ni bydd
edifeirwch ohoni: eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau.
º11 Canys wele hyn yma, eich tristau chwi yn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a
weithiodd ynoch, ie, pa amddiffyn, ie, pa soriant, ie, pa ofn, ie, pa
awyddfryd, ie, pa sêl, ie, pa ddial! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur
yn y peth hwn.
º12 Oherwydd paham, er ysgrifennu ohonof atoch, nid ysgrifennais o’i blegid ef
a wnaethai’r cam, nac oblegid yr hwn a gawsai gam, ond er mwyn bod yn eglur i
chwi ein gofal drosoch gerbron Duw.
º13 Am hynny nyni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi: a mwy o lawer y buom
lawen am lawenydd Titus, oblegid esmwythau ar ei ysbryd ef gennych chwi oll.
º14 Oblegid os bostiais ddim wrtho ef amdanoch, ni’m cywilyddiwyd: eithr megis
y dywedasom wrthych bob dim mewn gwirionedd, felly hefyd gwirionedd oedd ein
host ni, yr hwn a fu wrth Titus.
º15 Ac y mae ei ymysgaroedd ef yn helaethach tuag atoch, wrth gofio ohono eich
ufudd-dod chwi oll, pa fodd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef.
º16 Am hynny llawen wyf, am fod i mi hyder arnoch ym mhob dim.
ºPENNOD 8
º1 Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn
eglwysi Macedonia;
º2 Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy a’u dwfn
diodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy.
º3 Oblegid yn ôl eu gallu, yr wyf fi yn dyst, ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt
yn ewyllysgar ohonynt w hunain;
º4 Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y rhodd, a
chymdeithas gweinidogaeth y saint.
º5 A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a’u rhoddasant
eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw:
º6 Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o’r blaen, felly hefyd
orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd.
º7 Eithr fel yr ydych ym mhob peth yh helaeth, mewn ffydd, a gair, a
gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni; edrychwch ar fod
ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth.
º8 Nid trwy orchymyn yr ydwyf yn dywedyd, ond oblegid diwydrwydd rhai eraill, a
chan brofi gwirionedd eich cariad chwi.
º9 Canys chwi a adwaenoch ras em Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau’m
gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei
diodi ef.
º10 Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn: canys hyn sydd dda i chwi, y rhai a’
ragddechreuasoch, nid yn unig wneuthur, ond hefyd ewyllysio er y llynedd.
º11 Ac yn awr gorffennwch wneuthur hefyd; fel megis ag yr oedd y parodrwydd i
ewyllysio, felly y byddo i gwblhau hefyd o’r hyn sydd gennych.
º12 Canys os bydd parodrwydd meddwl o’r blaen, yn ôl yr hyn sydd gan un, y mae
yn gymeradwy, nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo.
º13 Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill, a chystudd i chwithau;
º14 Eithr o gymhwystra: y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu cu
diffyg hwy, fel y byddo eu hdaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau;
fel y byddo cymhwystra:
º15 Megis y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo
weddill; ac a gasglodd ychydig, nid oedd arno eisiau.
º16 Eithr i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch
yng nghalon Titus.
º17 Oblegid yn wir efe a dderbyniodd y dymuniad; a chan fod yn fwy diwyd, a
aeth atoch o’i wirfodd ei hun.
º18 Ni a anfonasom hefyd gydag ef y brawd, yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl
trwy’r holl eglwysi;
º19 Ac nid hynny yn unig, eithr hefyd a:ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdaith
& ni a’r gras hwn, yr hwn a wasanaethir gennym er gogoniant i’r Arglwydd ei
hun, ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi:
º20 Gan ochelyd hyn, rhag i neb feio iarnom yn yr helaethrwydd yma, yr hwn a
wasanaethir gennym:
º21 Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau nest, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd,
ond hefyd yng ngolwg dynion.
º23 Ac ni a anfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o
bethau, lawer gwaith, ei fod ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y
iBiawr yrnddiried y sydd gennyf ynoch.
º23 Os gofynnir am Titus, fy nghyd-ymaith yw, a chydweithydd tuag atoch .chwi,
neu am ein brodyr, cenhadau’r .eglwysi ydynt, a gogoniant Crist.
º24 Am hynny dangoswch iddynt hwy hysbysrwydd o’ch cariad, ac o’n host tdnnau
amdanoch chwi, yng ngolwg yr eglwysi.
.
ºPENNOD 9
º1 CANYS tuag at am y weinidogaeth i’r saint, afraid yw i mi ysgrifennu
atoch:
º2Oherwydd mi a adwaen barodrwydd eich meddwl chwi, yr hwn yr ydwyf yn ei
fostio wrth y Macedoniaid amdanoch chwi, fod Achaia wedi ymbaratoi er y
llynedd; a’r sêl a ddaeth oddi wrthych chwi a anogodd lawer iawn.
º3 A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bost ni amdanoch chwi yn ofer
yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbaratoi:
º4 Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyda mi, a’ch cael chwi yn ninharod, bod i
ni, (ni ddywedaf, chwi,) gael cywilydd yn y fost hydetus.yma.
º5 Mi a dybiais gan hynny yn angen-rheidiol atolygu i’r brodyr, ar iddynt ‘ddyfod
o’r blaen atoch, a rhagddarparu eich bendith chwi yr hon a fynegwyd; fel y
byddo parod megis bendith, ac nid "megis o gybydd-dra.
º6 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn
brin; a’r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fed hefyd yn helaeth.
º7 Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded; nid yn
athrist, neu trwy gymell: canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.
º8 Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi; fel y
byddoch chwi ym mhob peth, bob amser, a chennych bob digonoldeb yn helaeth i
bob gweithred dda:
º9 (Megis yr ysgrifennwyd, Efe a wasgarodd; rhoddodd i’r tlodion: ei gyfiawnder
ef sydd yn aros yn dra-gywydd.
º10 A’r hwn sydd yn rhoddi had i’r heuwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac
amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder;)
º11 Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio
trwom ni ddiolch i Dduw.
º12 Canys y mae gweinidogaeth y swydd toon, nid yn unig yn cyflawni diffygion y
Saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy ami roddi diolch i Dduw;
º13 Gan eu bod, trwy brofiad y weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw oherwydd
darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist, ac oherwydd haelioni eich cyfraniad
iddynt hwy, ac i bawb;
º14 A thrwy eu gweddi hwythau dros-O’eh chwi, y rhai ydynt yn hiraethu amdanoch
chwi, am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch.
º15 Ac i Dduw y byddo’r diolch am ei ddawn anhraethol.
ºPENNOD 10
º1 A MYFI Paul wyf fy hun yn atolwg i chwi, er addfwynder a hynawsedd
Crist, yr hwn yn brescnnol wyf wael yn
eich plith, ond yn absennol ydwyf yn by arnoch.
º2 Ac yr ydwyf yn dymuno na byddwyf yn bresennol yn hy a’r hyder yr wyf yn
meddwl bod tuag at rai, y sydd yn ein cyfrif ni megis rhai yn rhodio yn ôl y
cnawd.
º3 Canys er ein bod ni yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ôl y
cnawd:
º4 (Canys arfau ein milwriaeth ni hid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Ddirtv i
fwrw cestyll i’r llawr;)
º5 Gan fwrw dychmygion i lawr, a phob uchder a’r sydd yn ymgodi yn erbyn
gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist;
º6 Ac yn barod gennym ddial ar bob anufudd-dod, pan gyflawner eich ufudd-dod
chwi.
º7 Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg? Os yrnddiried neb ynddo ei
hun, ei fod ef yn eiddo Crist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, megis ag y
mae efe yn eiddo Crist, felly ein bod ninnau hefyd yn eiddo Crist.
º8 Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr
Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinistr chwi, ni’m cywilyddid:
º9 Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau.
º10 Oblegid y llythyrau yn wir (meddant) sydd drymion a chryfion; eitht
presenoldeb y corff sydd wan, a’r ymadrodd yn ddirmygus. "
º11 Y cyfryw un meddylied hyn, mai y fath ydym ni ar air trwy lythyrau yn
absennol, yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred yn bresennol.
º12 Canys nid ym ni yn beiddio ein cystadlu, neu ein cyffelybu ein hunain i rai
sydd yn eu canmol eu hunain: eithr hwynt-hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt cu
hunain, a’u cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain, nid ydynt yn deall. -
º13 Eithr ni fostiwn ni hyd at bethau allan o’n mesur, ond yn ôl mesur y rheol
a rannodd Duw i ni, mesur i gyrhaeddy4 hyd atoch chwi hefyd.
º14 Canys nid ydym, megis rhai neb gyrhaeddyd hyd atoch chwi, yn ymestya allan
tu hwnt i’n mesur; canys h»yd atoch chwi hefyd y daethom ag efengyl Crist:
º15 Nid gan fostio hyd at bethau allan. o’n mesur, yn llafur rhai eraill; eithr
gan obeithio, pan gynyddo eich ffydd chwi, gael ynoch chwi ein mawrygu yn ôl
ein rheol yn ehelaeth,
º16 I bregethu’r efengyl tu hwnt i chwi; ac nid i fostio yn rheol un arall am
bethau parod eisoes.
º17 Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.
º18 Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun, sydd gymeradwy; ond yr hwn y
mae’r Arglwydd yn ei ganmol. ‘
ºPENNOD 11 .
º1 NA ehyd-ddygech a myfi ychydig yn fy ffolineb; eithr hefyd cyd-ddygwch a
myfi.
º2 Canys eiddigus wyf trosoch ag eidd" igedd duwiol: canys mi a’ch
dyweddiais chwi i un gŵr, i’ch rhoddi chwi megis morwyn bur i Grist.
º3 Ond y mae amaf ofn, rhag mewn modd yn y byd, megis y twyllodd y sarff Efa
trwy ei chyfrwystra, felly bod eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrth y
symlrwydd sydd yng Nghrist.
º4 Canys yn wir os ydyw’r hwn sydd yn dyfod yn pregethu Iesu arall yr hwn ni
phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn ysbryd arall yr hwn nis derbyniasoch,
neu efengyl arall yr hon ni dderbyniasoch, teg y cyd-ddygech ag ef.
º5 Canys yr ydwyf yn meddwl na bum i ddim yn ôl i’r apostolion pennaf.
º6 Ac os ydwyf hefyd yn anghyfarwydd ar ymadrodd, eto nid wyf felly mewn
gwybodaeth; eithr yn eich plith chwi nyni a eglurhawyd yn hollol ym mhob
dim.
º7 A wneuthum i fai wrth fy ngostwng fy hun, fel y dyrchefid chwi, oblegid
pregethu ohonof i chwi efengyl Duw yn rhad?
º8 Eglwysi eraill a ysbeiliais, gan gymryd cyflog ganddynt hwy, i’ch gwasanaethu (mewn ffolineb yr
wyf yn dywedyd,) by wyf finnau hefyd.
º22 Ai Hebreaid ydynt hwy? felly finnau: ai Israeliaid ydynt hwy? felly finnau:
ai had Abraham ydynt hwy? felly finnau.
º23 Ai gweinidogion Crist ydynt hwy? {yr ydwyf yn dywedyd yn ffol,) mwy wyf fi;
mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialenodiau dros fesur, mewn carcharau yn
amlach, mewn marwolaethar yn fynych.
º24 Gan yr Iddewon bumwaith y detbyniais ddeugain gwialennod ond un.
º25 Tair gwaith y’m curwyd a gwiail; unwaith y’m llabyddiwyd; teirgwaith y
torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bum yn y dyfnfor;
º26 Mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon llifddyfroedd; ym mheryglon lladron;
ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y cenhedloedd; ym
mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym
mheryglon ymhlith brodyr gau:
º27 Mewn llafur a lludded; mewn anhunedd yn fynych; mewn newyn a syched; mewn
ymprydiau yn fynych; mewn annwyd a noethni.
º28 Heblaw’r pethau sydd yn digwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf
beunydd, y gofal dros yr holl eglwysi.
º29 Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan? pwy a dramgwyddir, nad wyf finnau yn
llosgi?
º30 Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i’m
gwendid.
º31 Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes
oesoedd, a w^yr nad wyf yn dywedyd celwydd.
º32 Yn Namascus, y llywydd dan Aretus y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid,
gan ewyllysio fy nal i:
º33 A thrwy ffenestt mewn basged y’m gollyngwyd ar hyd y mur, ac y dihengais
o’i ddwylo ef. chwi.
º9 A phan oeddwn yn bresennol gyda chwi, ac arnaf eisiau, ni ormesais ar neb:
canys fy eisiau i a gyflawnodd y brodyr a ddaethant o Facedonia: ac ym mhob dim
y’m cedwais fy hun heb bwyso arnoch, ac aii a ymgadwaf.
º10 Fel y mae gwirionedd Crist ynof, nid argaeir yr ymffrost hwn yn fy erbyn
yng ngwiedydd Achaia.
º11 Paham? ai am nad wyf yn eich cam chwi? Duw a’i gw yr.
º12 Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, a wnaf hefyd; fel y torrwyf ymaith
achlysur oddi wrth y rhai sydd yn ewyll-ysio cael achlysur; fel yn yr hyn y maent
yn ymffrostio, y ceir hwynt megis ninnau hefyd.
º13 Canys y cyfryw gau apostolion sydd weithwyr twyllodrus, wedi ymrithio yn
apostolion i Grist.
º14 Ac nid rhyfedd: canys y mae
Satan yntau yn ymrithio yn angel goleuni.
º15 Gan hynny nid mawr yw, er ymrithio ei weinidogion ef fel gweinidogion
cyfiawnder; y rhai y bydd eu diwedd yn ôl eu gweithredoedd.
º16 Trachefn meddaf, Na thybied neb fy mod i yn ffol: os amgen, eto derbyn-iwch
fi fel ffol, fel y gallwyf finnau hefyd ymffrostio ychydig.
º17 Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd,
eithr megis mewn ffolineb, yn hyn o fost hyderus.
º18 Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd.
º19 Canys yr ydych yn goddef fryliaid yn llawen, gan fod rich hunain yn
syn-hwyrol.
º20 Canys yr ydych yn goddef, os bydd un i’ch caethiwo, os bydd un i’ch llwyr
fwyta, os bydd un yn cymryd gennych, OS bydd un yn ymddyrchafu, os bydd un yn
eich taro chwi ar eich wyneb.
º21 Am amarch yr ydwyf yn dywedyd, megis pe buasem ni weiniaid: eithr ym mha
beth bynnag y mae neb yn hy,
ºPENNOD 12
º1 YMFFROSTIO yn ddiau nid yw fuddiol i mi: canys myfi a ddeuaf at
weledigaethau a datguddiedigaethau’r Arglwydd.
º2 Mi a adwaenwn ddyn yng Nghrist er ys rhagor i bedair blynedd ar ddeg, (pa un
ai yn y corff, ni wn; ai allan o’r corff, ni wn i: Duw a wyr;) y cyfryw un a
gipiwyd i fyny hyd y drydedd nef,
º3 Ac mi a adwaenwn y cyfryw ddyn, (pa un ai yn y corff, ai allan o’r corff ni
wn i: Duw a wyr;)
º4 Ei gipio ef i fyny i baradwys, ac iddo glywed geiriau anhraethadwy, y rhai
nid yw gyfreithlon i ddyn eu hadrodd.
º
º6 Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni byddafffol; canys mi a ddywedafy gwir:
eithr yr wyfyn arbed, rhag i neb wneuthur cyfrif ohonof fi uwchlaw y mae yn
gweled fy mod, neu yn ei glywed gennyf.
º7 Ac fel na’m tra-dyrchafer gan odidowg-rwydd y datguddiedigaethau, rhoddwyd i
mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, i’m ccrnodio, fel na’m tra-dyrchefid.
º
º9 Ac etc a ddywedodd wrthyf, Digon i ti fy ngras i: canys fy nerth i a
berffeithir mewn gwendid. Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hytrach
yn tŷ ngwendid, fel y preswylio nerth Criht ynof fi.
º10 Am hynny yr wyf yn fodlon mewn gwendid, mewn amarch, mewn anghenion, mewn
erlidiau, mewn cyfyngderau, er mwyn Crist: canys pan wyf wan, yna yr wyf
gadarn.
º11 Mi a euthum yn ffol wrth ymffrostio; chwychwi a’m gyrasoch: canys myfi a
ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi: canys ni bum i ddim yn ôl i’r
apostolion pennaf, er nad ydwyf fi ddim.
º12 Arwyddion apostol yn wir a weithredwyd yn eich plith chwi, triewn pob amynedd, mewn arwyddion, a rhyfeddodau, a
gweithredoedd nerthol.
º13 Canys beth yw’r hyn y buoch chwi yn ôl amdano, mwy na’r eglwysi eraiB,
oddieithr am na bum i fy hun ormesol arnoch? maddeuwch i mi hyn o gam.
º14 Wele, y drydedd waith yr wyf fi yn barod i ddyfod atoch; ac ni byddaf
ormesol arnoch: canys nid ydwyf yn ceisio yr eiddoch chwi, ond chwychwi: canys
ni ddylai’r plant gasglu trysor i’r rhieni, ond y rhieni i’r plant.
º15 A myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf, ac a ymdreuliaf, dros eich eneidiau
chwi, er fy mod yn eich cam yn helaethach, ac yn cael fy ngharu yn brinnach.
º16 Eithr bid, ni phwysais i amoch: ond, gan fod yn gyfrwys, mi a’ch deliais
chwi trwy ddichell.
º17 A wneuthum i elw ohonoch chwi trwy neb o’r rhai a ddanfonais atoch?
º18 Mi a ddeisyfais ar Titus, a chydag ef mi a anfonais frawd. A elwodd Titus
ddim arnoch? onid yn yr un ysbryd y rhodiasom? onid yn yr un llwybrau?
º19 Drachefn, a ydych chwi yn tybied mai ymesgusodi yr ydym wrthych? gerbron
Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru; a phob peth, anwylyd, er adeiladaeth i
chwi.
º20 Canys ofni yr wyf, rhag, pan ddel-wyf, na’ch caffwyf yn gyfryw rai ag a
fynnwn, a’m cael innau i chwithau yn gyfryw ag nis mynnech: rhag bod
cyn-hennau, cenfigennau, llidiau, ymrysonau, goganau, hustyngau, ymchwyddiadau,
anghydfyddiaethau:
º21 Rhag pan ddelwyf drachefn, fod i’m Duw fy narostwng yn eich plith, ac i mi
ddwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eisoes, ac nid edifarhasant am yr
aflendid, a’r godineb., a’r anlladrwydd a wnaethant.
ºPENNOD 13
º1 Y DRYDEDD waith hon yr ydwyf yn dyfod atoch. Yng ngenau dau neu dri o
dystion y bydd safadwy pob gair.
º2 Rhagddywedais i chwi, ac yr ydwyf yn rhagddywedyd fel pe bawn yn bresennol yr ail waith, ac yn
absennol yr awron yr ydwyf yn ysgrifennu at y rhai a bechasant eisoes, ac at y
lleill i gyd, os deuaf drachefn, nad arbedaf:;
º3 Gan eich bod yn ceisio profiad o Grist, yr hwn sydd yn llefaru ynof, yr hwn
tuag atoch chwi nid yw wan, eithr sydd nerthol ynoch chwi.
º4 Canys er ei groeshoelio ef o ran gwendid, eto byw ydyw trwy nerth Duw: canys
ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo , ef, eithr byw fyddwn gydag ef trwy nerth Duw
tuag atoch chwi.
º5 Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd; holwch eich hunain. Onid
ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Iesu Grist ynoch, oddieithr i chwi
fod yn anghymeradwy?
º6 Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymeradwy.
º7 Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg; nid fel yr
yrnddangosom ni yn gymeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er bod
ohonom ni megis rhai anghymeradwy.
º8 Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y
gwirionedd, ond dros y gwirionedd.
º9 Canys llawen ydym pan fyddom ni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion: a hyn
hefyd yr ydym yn ei ddymuno, sef eich perffeithrwydd chwi.
º10 Am hynny rnyfi yn absennol ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn, fel pan
fyddwyf bresennol nad arferwyf doster, yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i
mi er adeilad, ac nid er dinistr.
º11 Bellach, frodyr, byddwch wych. Byddwch berffaith, diddaner chwi,
syn-iwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw’r cariad a’r heddwch a fydd gyda
chwi.
º12 Anerchwch eich gilydd & chusan sanctaidd. Y mae’r holl saint yn eich;
annerch chwi.
º13 Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân,
a fyddo gyda chwi oll. Amen.
Yr ail at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi ym
_____________
DIWEDD
Adolygiad diweddaraf / Darrera
actualització / Latest update
2006-09-04
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ
Ble’r
wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
“CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA
Edrychwch
ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats