Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. La Bíblia en gal·lès de l'any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. 2613ke Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_tobit_69_2703ke

0001 Yr Hafan / Home Page

or via Google: #kimkat0001

..........
2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in English to this website

          or via Google: #kimkat2659e

....................0010e Y Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English

                    or via Google: #kimkat0010e

...........................................0977e Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh texts on this website - contents page  

                                           or via Google: #kimkat0977e

...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page

                                                                   or via Google: #kimkat1284e

............................................................................................y tudalen hwn
/ this page


..

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les

The Wales-Catalonia Website
 
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

Y Beibl Cysegr-lân: Yr Apocrypha
(xx) xxxx
(yn Gymraeg ac yn Saesneg)

 

The Holy Bible: The Apocrypha
(xx) xxxx  (in Welsh and English)

 


(delw 7310)

Adolygiadau diweddaraf - latest updates. 2009-01-25

 



 

 2612k Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig (Efengyl Sant Marc)

····· 


PENNOD 1

&& PENNOD i
 

%%  

&& 1:1 TLYFR ymadroddion Tobit fab Tobiel A-* fab Ananiel, fab Aduel, fab Gabael, o hil Asael, o lwyth Neffthali;
 

%% 1:1 The book of the words of Tobit, son of Tobiel, the son of Ananiel, the son of Aduel, the son of Gabael, of the seed of Asael, of the tribe of Nephthali;

&& 1:2 Yr hwn yn amser Enemessar brenin yr Asyriaid a gaethgludwyd o Thisbe, yr hon sydd o'r tu deau i'r ddinas a elwir yn briodol Neffthali yn Galilea, goruwch Aser.
 

%% 1:2 Who in the time of Enemessar king of the Assyrians was led captive out of Thisbe, which is at the right hand of that city, which is called properly Nephthali in Galilee above Aser.

&& 1:3 Myfi Tobit a rodiais holl ddyddiau fy hoedl yn fTyrdd gwirionedd a chyfiawnder, ac a wneuthum elusennau lawer i'm brodyr, ac i'm cenedl, y rhai a aethant gyda mi i wlad yr Asyriaid, sef i Ninefe.
 

%% 1:3 I Tobit have walked all the days of my life in the ways of truth and justice, and I did many almsdeeds to my brethren, and my nation, who came with me to Nineve, into the land of the Assyrians.

&& 1:4 A phan oeddwn i yn fy ngwlad fy hun yn nhir Israel, a mi eto yn ieuanc, cwbl o lwyth Neffthali fy nhad a giliodd oddi wrth dy Jerwsalem, yr hwn a ddewisasid o holl lwythau Israel, megis y gallai'r holl lwythau aberthu yno, lle yr oedd term trigfa'r Goruchaf wedi ei chysegru a'i hadeiladu yn dragwyddol.
 

%% 1:4 And when I was in mine own country, in the land of Israel being but young, all the tribe of Nephthali my father fell from the house of Jerusalem, which was chosen out of all the tribes of Israel, that all the tribes should sacrifice there, where the temple of the habitation of the most High was consecrated and built for all ages.

&& 1:5 A'r holl lwythau y rhai a gydgiliasant, a thŷ fy nhad innau Neffthali, a offrymasant i'r anner Baal:
 

%% 1:5 Now all the tribes which together revolted, and the house of my father Nephthali, sacrificed unto the heifer Baal.

&& 1:6 Eithr myfi fy hunan, yn ôl yr ordinhad tragwyddol a orchmynasid i holl Israel, a euthum yn fynych i Jerwsalem ar y gwyliau nodedig, gan ddwyn gyda mi gynffrwyth a degwm cynnydd yr anifeiliaid, a'r cyngnaif, y rhai a roddais i i'r offeiriaid, sef meibion Aaron, y rhai oedd yn gweini wrth yr allor.
 

%% 1:6 But I alone went often to Jerusalem at the feasts, as it was ordained unto all the people of Israel by an everlasting decree, having the firstfruits and tenths of increase, with that which was first shorn; and them gave I at the altar to the priests the children of Aaron.

&& 1:7 Y degwm cyntaf mi a'i rhoddais i feibion Aaron, y rhai oedd weinidogion yn Jerwsalem: yr ail degwm mi a'i gwerthais, ac a euthum, ac a'i gweriais yn Jerwsalem bob blwyddyn:
 

%% 1:7 The first tenth part of all increase I gave to the sons of Aaron, who ministered at Jerusalem: another tenth part I sold away, and went, and spent it every year at Jerusalem:

&& 1:8 A'r trydydd mi a'i rhoddais i'r sawl y gweddai, megis y gorchmynasai Debora mam fy nhad i mi: canys gadawsid fi yn amddifad o'm tad.
 

%% 1:8 And the third I gave unto them to whom it was meet, as Debora my father's mother had commanded me, because I was left an orphan by my father.

&& 1:9 Wedi i mi ddyfod mewn oedran gŵr, mi a briodais Anna, gwraig o dylwyth fy nhad, ac a enillais ohoni hi Tobeias.
 

%% 1:9 Furthermore, when I was come to the age of a man, I married Anna of mine own kindred, and of her I begat Tobias.

&& 1:10 A phan y'n caethgludwyd yn garcharorion i Ninefe, fy holl frodyr, ac eraill o'm cenedl, a fwytasant fara'r cenhedloedd:
 

%% 1:10 And when we were carried away captives to Nineve, all my brethren and those that were of my kindred did eat of the bread of the Gentiles.

&& 1:11 Er hynny myfi a'm cedwais fy hun heb fwyta;
 

%% 1:11 But I kept myself from eating;

&& 1:12 Am fy mod yn meddwl am Dduw o wir ewyllys fy nghalon.
 

%% 1:12 Because I remembered God with all my heart.

&& 1:13 A'r Goruchaf a roddes i mi rTafr a hawddgarwch gerbron Enemessar, fel y bum oruchwyiiwr iddo.
 

%% 1:13 And the most High gave me grace and favour before Enemessar, so that I was his purveyor.

&& 1:14 Felly mi a euthum i Media, ac a adewais ddeg talent o arian yn llaw Gabael brawd Gabrias, yn Rages dinas ym Media.
 

%% 1:14 And I went into Media, and left in trust with Gabael, the brother of Gabrias, at Rages a city of Media ten talents of silver.

&& 1:15 Ac wedi marw Enemessar, Sennacherib ei fab a deyrnasodd yn ei le ef; yr hwn y rhwystrodd ei fTyrdd, fel na ellais i mwy ymdaith i dir Media.
 

%% 1:15 Now when Enemessar was dead, Sennacherib his son reigned in his stead; whose estate was troubled, that I could not go into Media.

&& 1:16 Eithr yn nyddiau Enemessar mi a wneuthum lawer o elusennau i'm brodyr, ac a roddais fy mara i'r newynog,
 

%% 1:16 And in the time of Enemessar I gave many alms to my brethren, and gave my bread to the hungry,

&& 1:17 A'm dillad i'r noethion: ac os gwelwn neb o'm cenedl wedi ei ladd, a'i fwrw ynghylch muriau Ninefe, mi a'i claddwn ef.
 

%% 1:17 And my clothes to the naked: and if I saw any of my nation dead, or cast about the walls of Nineve, I buried him.

&& 1:18 Ac os lladdai Sennacherib y brenin, wrth ddyfod ar fToi o Jwdea yr un, mi a'i claddwn ef yn ddirgel: canys llawer a laddodd efe yn ei wyn: a phan geisiai'r brenin y cyrff, ni byddent i'w cael.
 

%% 1:18 And if the king Sennacherib had slain any, when he was come, and fled from Judea, I buried them privily; for in his wrath he killed many; but the bodies were not found, when they were sought for of the king.

&& 1:19 Yna aeth un o'r Ninefeaid, ac a ddangosodd i'r brenin fy mod i yn eu claddu hwynt, a minnau a ymguddiais; a phan wybum fod yn fy ngheisio i'm lladd, mi a giliais ymaith rhag ofn.
 

%% 1:19 And when one of the Ninevites went and complained of me to the king, that I buried them, and hid myself; understanding that I was sought for to be put to death, I withdrew myself for fear.

&& 1:20 Yna y ducpwyd fy holl dda byd; ac ni adawyd i mi ddim, ond Anna fy ngwraig a Thobeias fy mab.
 

%% 1:20 Then all my goods were forcibly taken away, neither was there any thing left me, beside my wife Anna and my son Tobias.

&& 1:21 A chyn pen pymtheng niwrnod a deugain, dau o'i feibion a'i lladdasant ef, ac a ffoesant i fynyddoedd Ararath: a Sarchedonus ei fab a deyrnasodd yn ei le ef; ac a osodes Achiacarus fab Anael fy mrawd yn olygwr ar holl gyfrifon ei dad, ac ar ei holl oruchwyliaeth.
 

%% 1:21 And there passed not five and fifty days, before two of his sons killed him, and they fled into the mountains of Ararath; and Sarchedonus his son reigned in his stead; who appointed over his father's accounts, and over all his affairs, Achiacharus my brother Anael's son.

&& 1:22 Ac Achiacarus a eiriolodd drosof fi, oni chafais ddyfod adref i Ninefe: canys gosodasai Sarchedonus Achiacarus yn nesaf iddo ei hun; ac yr oedd efe yn drulliad, a seinedydd, goruchwyliwr, a chyfrifydd iddo: ac yr oedd efe yn nai fab brawd i minnau.
 

%% 1:22 And Achiacharus intreating for me, I returned to Nineve. Now Achiacharus was cupbearer, and keeper of the signet, and steward, and overseer of the accounts: and Sarchedonus appointed him next unto him: and he was my brother's son.

&& PENNOD 2
 

%%  

&& 2:1 VyTEDI i mi ddyfod adref i'm tŷ fy VV hun, a rhoddi i mi Anna fy ngwraig, a Thobeias fy mabj ar wyl y Pentecost, yr hon yw uchel wyl y saith wythnos, y gwnaethpwyd i mi ginio mawr.
 

%% 2:1 Now when I was come home again, and my wife Anna was restored unto me, with my son Tobias, in the feast of Pentecost, which is the holy feast of the seven weeks, there was a good dinner prepared me, in the which I sat down to eat.

&& 2:2 Eithr pan eisteddais i fwyta, a gweled amlder o fwyd, mi a ddywedais with fy mab, Dos, a chyrch pa ddyn tlawd bynnag a gaffech o'n brodyr ni, ac sydd yn meddwl am yr Arglwydd; ac wele, mi a arhosaf amdanat.
 

%% 2:2 And when I saw abundance of meat, I said to my son, Go and bring what poor man soever thou shalt find out of our brethren, who is mindful of the Lord; and, lo, I tarry for thee.

&& 2:3 Eithr efe a ddaeth drachefn, ac a ddywedodd wrthyf, Fy nhad, y mae un o'n cenedl ni wedi ei dagu, a'i fwrw allan i'r heol.
 

%% 2:3 But he came again, and said, Father, one of our nation is strangled, and is cast out in the marketplace.

&& 2:4 Yna cyn profi dim bwyd, mi a neidiais ar fy nhraed, ac a'i dugum ef i dŷ, nes machludo haul.
 

%% 2:4 Then before I had tasted of any meat, I started up, and took him up into a room until the going down of the sun.

&& 2:5 Ac wedi dychwelyd ohonof, mi a ymolchais, ac a fwyteais fy mara yn athrist;
 

%% 2:5 Then I returned, and washed myself, and ate my meat in heaviness,

&& 2:6 Gan feddwl am broffwydoliaeth Amos, y modd y dywedasai efe, Eich uchel wyliau a droir yn alar, a'ch llawenydd oll yn gwynfan.
 

%% 2:6 Remembering that prophecy of Amos, as he said, Your feasts shall be turned into mourning, and all your mirth into lamentation.

&& 2:7 A mi a wylais. A phan fachludodd yr haul, mi a euthum, ac a wneuthum fedd, ac a'i cleddais ef.
 

%% 2:7 Therefore I wept: and after the going down of the sun I went and made a grave, and buried him.

&& 2:8 A'm cymdogion a'm gwatwarent, gan ddywedyd, Onid ofna hwn eto ei angau? am y peth yma y ffodd efe unwaith; ac wele, y mae efe eilchwyl yn claddu'r meirw.
 

%% 2:8 But my neighbours mocked me, and said, This man is not yet afraid to be put to death for this matter: who fled away; and yet, lo, he burieth the dead again.

&& 2:9 Ac ar y nos honno mi a ddychwelais o gladdu, ac a gysgais, wedi ymhalogi, wrth bared y neuadd, yn wynebnoeth;
 

%% 2:9 The same night also I returned from the burial, and slept by the wall of my courtyard, being polluted and my face was uncovered:

&& 2:10 Heb wybod fod adar y to yn aros yn y fagwyr, y rhai a fwriasant dail twym yn fy llygaid, fel yr oeddynt yn agored; ac felly y daeth y rhuchen ar fy llygaid: ac er fy myned at feddygon, ni wnaethant i mi ddim lles. Ac Achiacarus a'm porthodd i hyd onid euthum i Elymais.
 

%% 2:10 And I knew not that there were sparrows in the wall, and mine eyes being open, the sparrows muted warm dung into mine eyes, and a whiteness came in mine eyes: and I went to the physicians, but they helped me not: moreover Achiacharus did nourish me, until I went into Elymais.

&& 2:11 Ac Anna fy ngwraig a weithiai mewn nydd-dai gwragedd.
 

%% 2:11 And my wife Anna did take women's works to do.

&& 2:12 A phan aeth hi a'r gwaith adref i'r perchenogion, hwy a dalasant iddi ei chyflog, gan roddi myn yn ychwaneg:
 

%% 2:12 And when she had sent them home to the owners, they paid her wages, and gave her also besides a kid.

&& 2:13 Yr hwn, pan ddaeth i'm t£ i, a ddechreuodd frefu; yna y gofynnais iddi, O ba le y daeth y mynnyn? ai lladrad yw efe? dod ef eilchwyl i'w berchenogion: canys nid cyfreithlon yw bwyta lladrad.
 

%% 2:13 And when it was in my house, and began to cry, I said unto her, From whence is this kid? is it not stolen? render it to the owners; for it is not lawful to eat any thing that is stolen.

&& 2:14 A hithau a ddywedodd, Ei roi ef a wnaethpwyd i mi gyda'm cyflog. Eto nid oeddwn i yn ei chredu, ond erchi ei roddi ef i'w berchenogion; ac yr oedd yn waradwydd gennyf drosti: eithr hi a'm hatebodd, gan ddywedyd, Mae dy elusennau di, a'th gyfiawnderau? wele, y maent amlwg oll gyda thi.
 

%% 2:14 But she replied upon me, It was given for a gift more than the wages. Howbeit I did not believe her, but bade her render it to the owners: and I was abashed at her. But she replied upon me, Where are thine alms and thy righteous deeds? behold, thou and all thy works are known.

&& PENNOD 3
 

%%  

&& 3:1 YNA yr wylais yn athrist, ac a weddïais mewn gorthrymder, gan ddywedyd,
 

%% 3:1 Then I being grieved did weep, and in my sorrow prayed, saying,

&& 3:2 Cyfiawn wyt, O Arglwydd, a chwbl o'th weithredoedd a'th ffyrdd oll ydynt drugaredd a gwirionedd; dy farn hefyd a roddi yn uniawn ac yn gyfiawn yn dragywydd.
 

%% 3:2 O Lord, thou art just, and all thy works and all thy ways are mercy and truth, and thou judgest truly and justly for ever.

&& 3:3 Cofia fi, ac edrych arnaf, ac na ddial arnaf am fy mhechodau, nac am fy anwybodaeth, nac am yr eiddo fy hynafiaid, y rhai a bechasant ger dy fron di.
 

%% 3:3 Remember me, and look on me, punish me not for my sins and ignorances, and the sins of mg fathers, who have sinned before thee:

&& 3:4 O achos nad ufuddhaent i'th orch-mynion, am hynny ti a'n rhoddaist ni yn ysbail, ac i gaethiwed, ac i angau, ac yn ddihareb waradwyddus i'r rhai oll y'n gwasgarwyd yn eu plith.
 

%% 3:4 For they obeyed not thy commandments: wherefore thou hast delivered us for a spoil, and unto captivity, and unto death, and for a proverb of reproach to all the nations among whom we are dispersed.

&& 3:5 Ac yn awr llawer a chyfiawn yw dy farnedigaethau: gwna â myfi yn ôl fy mhechodau, a phechodau fy hynafiaid; am na chadwasom dy orchmynion, ac na rodiasom yn y gwirionedd ger dy fron di.
 

%% 3:5 And now thy judgments are many and true: deal with me according to my sins and my fathers': because we have not kept thy commandments, neither have walked in truth before thee.

&& 3:6 Yr awr hon gan hynny gwna â myfi y peth a fyddo cymwys yn dy olwg di: psir gymryd fy ysbryd oddi wrthyf, fel y'm datoder, ac yr elwyf yn ddaear: canys gwell i mi farw na byw, o achos y gwaith anwir a glywais, a'r mawr dristwch sydd arnaf: am hynny par fy ngollwng yn rhydd o'r cyfyngder yma, i fyned i le tragwyddol: na thro dy wynepryd oddi wrthyf.
 

%% 3:6 Now therefore deal with me as seemeth best unto thee, and command my spirit to be taken from me, that I may be dissolved, and become earth: for it is profitable for me to die rather than to live, because I have heard false reproaches, and have much sorrow: command therefore that I may now be delivered out of this distress, and go into the everlasting place: turn not thy face away from me.

&& 3:7 A'r un dydd fe a ddigwyddodd i Sara merch Raguel yn Ecbatane, dinas ym Media, gael ei gwaradwyddo gan forynion ei thad;
 

%% 3:7 It came to pass the same day, that in Ecbatane a city of Media Sara the daughter of Raguel was also reproached by her father's maids;

&& 3:8 Sef ei rhoi hi i saith o wyr, ac i Asmodeus yr ysbryd drwg eu lladd hwynt, cyn bod iddynt a wnaent a hi yn ôl arfer gwragedd. Oni wyddost ti, meddent, dagu ohonot ti dy wyr? bu saith o wŷr i ti hyd yn hyn, ac ni'th gyfenwyd yn ôl yr un ohonynt.
 

%% 3:8 Because that she had been married to seven husbands, whom Asmodeus the evil spirit had killed, before they had lain with her. Dost thou not know, said they, that thou hast strangled thine husbands? thou hast had already seven husbands, neither wast thou named after any of them.

&& 3:9 Paham y'n curi ni amdanynt? os meirw ydynt, dos ganddynt, na welom byth ohonot na mab na merch.
 

%% 3:9 Wherefore dost thou beat us for them? if they be dead, go thy ways after them, let us never see of thee either son or daughter.

&& 3:10 A phan glybu hi y pethau hynny, tristáu yn ddirfawr a wnaeth, fel y meddyliodd ymdagu: ac eto hi a ddywedodd, Un ferch fy nhad ydwyf; os gwnaf fi hyn, cywilyddus fydd ganddo ef, a'i henaint a ddygaf i'r bedd mewn gorthrymder.
 

%% 3:10 Whe she heard these things, she was very sorrowful, so that she thought to have strangled herself; and she said, I am the only daughter of my father, and if I do this, it shall be a reproach unto him, and I shall bring his old age with sorrow unto the grave.

&& 3:11 Ac yna hi a weddïodd tua'r ffenestr, gan ddywedyd, Bendigaid wyt ti, O Arglwydd fy Nuw, a bendigaid yw enw sanctaidd dy ogoniant, ac anrhydeddus byth bythoedd; molianned dy holl weithredoedd dydi yn dragywydd.
 

%% 3:11 Then she prayed toward the window, and said, Blessed art thou, O Lord my God, and thine holy and glorious name is blessed and honourable for ever: let all thy works praise thee for ever.

&& 3:12 Ac yr awron, O Arglwydd, y cyfeiriaf fy llygaid a'm hwyneb atat,
 

%% 3:12 And now, O Lord, I set I mine eyes and my face toward thee,

&& 3:13 Gan ddeisyf fy ngollwng yn rhydd oddi ar y ddaear, fel na chlywyf waradwydd mwyach.
 

%% 3:13 And say, Take me out of the earth, that I may hear no more the reproach.

&& 3:14 Ti a wyddost, Arglwydd, fy mod yn lân oddi wrth bob pechod gyda gŵr,
 

%% 3:14 Thou knowest, Lord, that I am pure from all sin with man,

&& 3:15 Ac na halogais fy enw, nac enw fy nhad, yn nhir fy nghaethiwed. Un ferch wyf i'm tad, ac nid oes ganddo blentyn i fod yn etifedd iddo; nac un câr agos, na mab iddo yn fyw, fel y cadwn fy hun yn wraig iddo: ac wedi marw seithwr i mi, i ba beth y byddwn i byw? eithr oni rynga bodd i ti fy lladd, par edrych arnaf, a thrugarhau wrthyf, fel na chlywyf waradwydd mwyach.
 

%% 3:15 And that I never polluted my name, nor the name of my father, in the land of my captivity: I am the only daughter of my father, neither hath he any child to be his heir, neither any near kinsman, nor any son of his alive, to whom I may keep myself for a wife: my seven husbands are already dead; and why should I live? but if it please not thee that I should die, command some regard to be had of me, and pity taken of me, that I hear no more reproach.

&& 3:16 A'u gweddïau hwy ill dau a wrandawyd gerbron gogoniant y Duw mawr.
 

%% 3:16 So the prayers of them both were heard before the majesty of the great God.

&& 3:17 A Raffael a anfoned i iacháu'r ddau, sef i dynnu'r rhuchen oddi ar lygaid Tobit, ac i roddi Sara merch Raguel yn wraig i Tobeias mab Tobit, ac i rwymo Asmodeus yr ysbryd drwg; o achos bod yn perthynu i Tobeias o gyfiawnder ei chael hi. Yn y cyfamser hwnnw y dychwelodd Tobit, ac yr aeth efe i'w dŷ; a Sara merch Raguel a ddisgynnodd o'i stafell.
 

%% 3:17 And Raphael was sent to heal them both, that is, to scale away the whiteness of Tobit's eyes, and to give Sara the daughter of Raguel for a wife to Tobias the son of Tobit; and to bind Asmodeus the evil spirit; because she belonged to Tobias by right of inheritance. The selfsame time came Tobit home, and entered into his house, and Sara the daughter of Raguel came down from her upper chamber.

&& PENNOD 4
 

%%  

&& 4:1 YN y dydd hwnnw y meddyliodd Tobit am yr arian a roddasai efe at Gabael yn Rages, dinas ym Media,
 

%% 4:1 In that day Tobit remembered the money which he had committed to Gabael in Rages of Media,

&& 4:2 Ac a ddywedodd wrtho ei hun, Mi a ddeisyfais farw: eithr paham nad ydwyf yn galw am Tobeias fy mab, fel y gallwyf ei gynghori ef cyn fy marw?
 

%% 4:2 And said with himself, I have wished for death; wherefore do I not call for my son Tobias that I may signify to him of the money before I die?

&& 4:3 Ac wedi iddo alw amdano ef, y dywedodd, Fy mab, pan fyddwyf marw, cladd di fi; ac na ddiystyra dy fam, eithr anfhydedda hi holl ddyddiau dy einioes, a gwna'r peth a ryngo bodd iddi, ac na thristâ hi.
 

%% 4:3 And when he had called him, he said, My son, when I am dead, bury me; and despise not thy mother, but honour her all the days of thy life, and do that which shall please her, and grieve her not.

&& 4:4 Cofia, fy mab, ei bod hi mewn llawer o beryglon, tra fuost yn ei bru hi: a phan fyddo hi marw, cladd hi gyda myfi yn yr un bedd.
 

%% 4:4 Remember, my son, that she saw many dangers for thee, when thou wast in her womb: and when she is dead, bury her by me in one grave.

&& 4:5 Fy mab, meddwl am yr Arglwydd ein Duw ni yn dy holl ddyddiau; ac na ddod dy fryd ar bechu, na thorri ei orchmynion ef: gwna gyfiawnder tra fyddych byw, ac na rodia yn ffyrdd an wiredd.
 

%% 4:5 My son, be mindful of the Lord our God all thy days, and let not thy will be set to sin, or to transgress his commandments: do uprightly all thy life long, and follow not the ways of unrighteousness.

&& 4:6 Canys os dilyni wirionedd, dy holl weithredoedd a lwyddant i ti, ac i bawb a'r a wnêl gyfiawnder.
 

%% 4:6 For if thou deal truly, thy doings shall prosperously succeed to thee, and to all them that live justly.

&& 4:7 Dod elusen o'r peth a fyddo gennyt; ac na chenfigenned dy lygad wrth 4:57 roddi elusen; ac na thro dy wyneb oddi wrth neb tlawd, ac ni thry wyneb Duw oddi wrthyt tithau.
 

%% 4:74:57 Give alms of thy substance; and when thou givest alms, let not thine eye be envious, neither turn thy face from any poor, and the face of God shall not be turned away from thee.

&& 4:8 Fel y byddo gennyt yr amlder, dod ohono elusen; os ychydig fydd gennyt, o ychydig nac arswyda roi elusen:
 

%% 4:8 If thou hast abundance give alms accordingly: if thou have but a little, be not afraid to give according to that little:

&& 4:9 Canys felly y trysori i ti dy hun wobr daionus erbyn dydd yr anghenraid:
 

%% 4:9 For thou layest up a good treasure for thyself against the day of necessity.

&& 4:10 Oblegid elusen a wared rhag angau, ac a lestair ddyfod i'r tywyllwch.
 

%% 4:10 Because that alms do deliver from death, and suffereth not to come into darkness.

&& 4:11 Oherwydd ced ddaionus yw elus-enni i bawb a'r a'i gwnel, gerbron y Goruchaf.
 

%% 4:11 For alms is a good gift unto all that give it in the sight of the most High.

&& 4:12 Fy mab, gochel bob godineb: ac yn bennaf cymer wraig o dylwyth dy hynafiaid; ac na chymer estrones, yr hon aid ydyw o lwyth dy dad: canys plant y proffwydi ydym ni, Noe, Abraham, Isaac, a Jacob: eintadau o'r dechreuad, cofia fy mab, iddynt oll briodi gwragedd o'u cenedl eu hun; a hwy a fuant ddedwydd yn eu plant, a'u hil a etifedda'r ddaear.
 

%% 4:12 Beware of all whoredom, my son, and chiefly take a wife of the seed of thy fathers, and take not a strange woman to wife, which is not of thy father's tribe: for we are the children of the prophets, Noe, Abraham, Isaac, and Jacob: remember, my son, that our fathers from the beginning, even that they all married wives of their own kindred, and were blessed in their children, and their seed shall inherit the land.

&& 4:13 Ac yr awron, fy mab, câr dy frodyr, ac na fydded diystyr gennyt yn dy galon dy dylwyth, meibion a merched dy bob!, i gymryd i ti wraig ohonynt: canys o ddiystyrwch y daw dinistr a dirfawr gythrwfl, ac o drahaustra y daw prinder a mawr eisiau: oherwydd trahaustra yw mam newyn.
 

%% 4:13 Now therefore, my son, love thy brethren, and despise not in thy heart thy brethren, the sons and daughters of thy people, in not taking a wife of them: for in pride is destruction and much trouble, and in lewdness is decay and great want: for lewdness is the mother of famine.

&& 4:14 Nac atal gyda thi gyflog neb a'r a wnaeth dy waith, eithr tâl iddo yn ebrwydd: ac os gwasanaethi di Dduw, ti a gei daledigaeth: edrych arnat dy hun, fy mab, yn dy holl weithredoedd, a bydd ddiesgeulus ym mhob tro a wnelych.
 

%% 4:14 Let not the wages of any man, which hath wrought for thee, tarry with thee, but give him it out of hand: for if thou serve God, he will also repay thee: be circumspect my son, in all things thou doest, and be wise in all thy conversation.

&& 4:15 Y peth sy gas gennyt dy hun, na wna i arall. Nac yf win hyd feddwdod, ac na fyn feddwdod gyda thi i ymdaith.
 

%% 4:15 Do that to no man which thou hatest: drink not wine to make thee drunken: neither let drunkenness go with thee in thy journey.

&& 4:16 Dod o'th fara i'r newynog, ac o'th ddillad i'r noeth: ac yn ôl dy amlder dod elusen, ac na fydd lygadgenfigennus wrth roi elusenni.
 

%% 4:16 Give of thy bread to the hungry, and of thy garments to them that are naked; and according to thine abundance give alms: and let not thine eye be envious, when thou givest alms.

&& 4:17 Bydd helaeth o'th fara ar fedd y cyfiawn, ac na ddod ddim i'r pechaduriaid.
 

%% 4:17 Pour out thy bread on the burial of the just, but give nothing to the wicked.

&& 4:18 Gofyn gyngor i bob un synhwyrol, ac na wrthod un cyngor buddiol.
 

%% 4:18 Ask counsel of all that are wise, and despise not any counsel that is profitable.

&& 4:19 Mola'r Arglwydd dy Dduw bob amser, a deisyf arno uniawni dy ffyrdd a chwbl o'th lwybrau, a gwneuthur dy amcanion yn llwyddiannus: canys ni fedr pob cenedl roddi cyngor: eithr yr Arglwydd ei hun sydd yn rhoddi pob daioni, ac efe a ddarostwng y neb a fynno, fel y mynno. Yr awron gan hynny, fy mab, cadw i'th gof fy ngorch-mynion, ac na ddileer hwynt o'th feddwl.
 

%% 4:19 Bless the Lord thy God alway, and desire of him that thy ways may be directed, and that all thy paths and counsels may prosper: for every nation hath not counsel; but the Lord himself giveth all good things, and he humbleth whom he will, as he will; now therefore, my son, remember my commandments, neither let them be put out of thy mind.

&& 4:20 Ac yn awr yr ydwyf yn dangos i ti, adael ohonof fi ddeg talent o arian gyda Gabael mab Gabrias yn Rages, dinas ym Media.
 

%% 4:20 And now I signify this to they that I committed ten talents to Gabael the son of Gabrias at Rages in Media.

&& 4:21 Ac nac ofna, fy mab, o ran ein myned ni mewn tlodi: y mae i ti lawer, od ofni di Dduw, a gochelyd pechod, a gwneuthur y peth a fyddo cymeradwy yn ei olwg ef.
 

%% 4:21 And fear not, my son, that we are made poor: for thou hast much wealth, if thou fear God, and depart from all sin, and do that which is pleasing in his sight.

&& PENNOD 5
 

%%  

&& 5:1 Yna  yr atebodd Tobeias, ac y dywedodd, Fy nhad, y cwbl oll a orchmynnaist i mi, mi a'i gwnaf:
 

%% 5:1 Tobias then answered and said, Father, I will do all things which thou hast commanded me:

&& 5:2 Eithr pa fodd y gallaf fi gael yr arian, a minnau heb ei adnabod ef?
 

%% 5:2 But how can I receive the money, seeing I know him not?

&& 5:3 Yntau a roddes iddo yr ysgrifenlaw, ac a ddywedodd wrtho, Cais i ti ryw un, yr hwn, tra fyddwyf fi yn y byd, a elo gyda thydi, a myfi a dalaf gyflog iddo ef: a dos, a derbyn yr arian.
 

%% 5:3 Then he gave him the handwriting, and said unto him, Seek thee a man which may go with thee, whiles I yet live, and I will give him wages: and go and receive the money.

&& 5:4 Ac efe a aeth i geisio un gydag ef, ac a gafodd Raffael, yr hwn oedd angel.
 

%% 5:4 Therefore when he went to seek a man, he found Raphael that was an angel.

&& 5:5 Ac efe nis gwyddai. Ac efe a ddywedodd wrtho, A elli di fyned gyda mi i Rages? ac a adwaenost ti y lleoedd hynny yn dda?
 

%% 5:5 But he knew not; and he said unto him, Canst thou go with me to Rages? and knowest thou those places well?

&& 5:6 A'r angel a ddywedodd wrtho, Mi a af gyda thydi, ac mi a adwaen y ffordd yn dda; canys mi a fûm yn aros gyda'n brawd Gabael.
 

%% 5:6 To whom the angel said, I will go with thee, and I know the way well: for I have lodged with our brother Gabael.

&& 5:7 Yna Tobeias a ddywedodd wrtho, Aros fi oni ddywedwyf i'm tad.
 

%% 5:7 Then Tobias said unto him, Tarry for me, till I tell my father.

&& 5:8 Ac efe a ddywedodd wrtho, Dos, ac na thrig. Ac efe a aeth i mewn, ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, mi a gefais un i fyned gyda mi. Yna y dywedodd yntau, Galw ef ataf fi, modd y gallwyf wybod o ba lwyth y mae efe, a hefyd a ydyw efe yn ffyddlon i fyned gyda thi.
 

%% 5:8 Then he said unto him, Go and tarry not. So he went in and said to his father, Behold, I have found one which will go with me. Then he said, Call him unto me, that I may know of what tribe he is, and whether he be a trusty man to go with thee.

&& 5:9 Ac efe a alwodd arno, ac yntau a ddaeth i mewn: ac yna y cyfarchasant ei gilydd.
 

%% 5:9 So he called him, and he came in, and they saluted one another.

&& 5:10 A Thobit a ddywedodd wrtho, Fy mrawd, dangos i mi o ba lwyth a theulu yr wyt yn dyfod.
 

%% 5:10 Then Tobit said unto him, Brother, shew me of what tribe and family thou art.

&& 5:11 Ac yntau a ddywedodd wrtho, Ai llwyth neu deulu yr wyt yn ei geisio, ai cyfiogddyn i fyned gyda'th fab? A Thobit a'i hatebodd ef, Mi a ewyllysiwn, fy mrawd, gael gwybod dy genedl a'th enw di.
 

%% 5:11 To whom he said, Dost thou seek for a tribe or family, or an hired man to go with thy son? Then Tobit said unto him, I would know, brother, thy kindred and name.

&& 5:12 Yntau a ddywedodd, Asareias ydwyf fi, fab Ananeias fawr, ac o'th frodyr di.
 

%% 5:12 Then he said, I am Azarias, the son of Ananias the great, and of thy brethren.

&& 5:13 Yna y dywedodd Tobit, Croeso wrthyt, fy mrawd: na ddigia wrthyf am i mi geisio gwybod y llwyth a'r teulu y daethost ohonynt: canys, fy mrawd, yr wyt ti o dylwyth onest a da: p achos mi a adwaen Ananeias a Jonathas, meibion Samaias fawr; fel yr oeddem yn myned ynghyd i Jerwsalem i addoli, gan ddwyn gyda ni y cynffrwyth, a degwm cynnydd yr anifeiliaid; hwy ni throseddasant yn arnryfusedd ein brodyr ni: yr wyt ti o wreiddyn da, fy mrawd.
 

%% 5:13 Then Tobit said, Thou art welcome, brother; be not now angry with me, because I have enquired to know thy tribe and thy family; for thou art my brother, of an honest and good stock: for I know Ananias and Jonathas, sons of that great Samaias, as we went together to Jerusalem to worship, and offered the firstborn, and the tenths of the fruits; and they were not seduced with the error of our brethren: my brother, thou art of a good stock.

&& 5:14 Ond dywed i mi, pa gyflog a roddaf i ti? a fynni di ddrachmon beunydd, a chyfreidiau fel i'm mab fy hun?
 

%% 5:14 But tell me, what wages shall I give thee? wilt thou a drachm a day, and things necessary, as to mine own son?

&& 5:15 A hefyd mi a chwanegaf at y cyflog, os dychwelwch drachefn yn iach.
 

%% 5:15 Yea, moreover, if ye return safe, I will add something to thy wages.

&& 5:16 Ac felly y cytunasant. Yna y dywedodd efe wrth Tobeias, Ymdrwsia i'r daith; a rhwydd hynt i chwi. Ac wedi i'r mab baratoi pob peth i'r daith, y dywedodd ei dad wrtho, Dos gyda'r gŵr hwn, a Duw, yr hwn sydd a'i drigfa yn y nef, a lwyddo eich ffordd chwi, ac eled angel Duw gyda chwi. Yna yr aethant yrcaith ill dau, a chi'r llanc gyda hwynt.
 

%% 5:16 So they were well pleased. Then said he to Tobias, Prepare thyself for the journey, and God send you a good journey. And when his son had prepared all things far the journey, his father said, Go thou with this man, and God, which dwelleth in heaven, prosper your journey, and the angel of God keep you company. So they went forth both, and the young man's dog with them.

&& 5:17 Eithr Anna ei fam ef a wylodd, gan ddywedyd wrth Tobit, Paham yr anfonaist ymaith ein mab? onid efe yw ffon eia llaw ni, i fyned i mewn ac allan ger ein bronnau?
 

%% 5:17 But Anna his mother wept, and said to Tobit, Why hast thou sent away our son? is he not the staff of our hand, in going in and out before us?

&& 5:18 Na fydd chwannog i chwanegu arian at arian, ond bydded fel sorod wrth ein plentyn:
 

%% 5:18 Be not greedy to add money to money: but let it be as refuse in respect of our child.

&& 5:19 Oherwydd yr hyn a roddes yr Arglwydd i ni i fyw, hynny sy ddigon i ni.
 

%% 5:19 For that which the Lord hath given us to live with doth suffice us.

&& 5:20 A Thobit a ddywedodd wrthi, Na chymer ofal, fy chwaer; efe a ddaw yn ei ôl yn iach lawen, a'th lygaid di a'i gwelant ef.
 

%% 5:20 Then said Tobit to her, Take no care, my sister; he shall return in safety, and thine eyes shall see him.

&& 5:21 Canys yr angel daionus sydd yn cydymdaith ag ef; a'i ffordd ef a lwydda, ac efe a ddaw eilchwyl yn iach lawen.
 

%% 5:21 For the good angel will keep him company, and his journey shall be prosperous, and he shall return safe.

&& 5:22 Yna hi a beidiodd ag wylo.
 

%% 5:22 Then she made an end of weeping.

&& PENNOD 6
 

%%  

&& 6:1 A^. fel yr oeddynt yn ymdaith, hwy a ddaethant yn yr hwyr i ymyl afon Tigris, ac a arosasant yno.
 

%% 6:1 And as they went on their journey, they came in the evening to the river Tigris, and they lodged there.

&& 6:2 A'r llanc a aeth i waered i ymolchi, a physgodyn a neidiodd o'r afon, ac a fynasai ei lyncu ef.
 

%% 6:2 And when the young man went down to wash himself, a fish leaped out of the river, and would have devoured him.

&& 6:3 Eithr yr angel a ddywedodd wrtho, Cymer afael yn y pysgodyn. A'r llanc a ddaliodd y pysgodyn, ac a'i tynnodd i'r tir.
 

%% 6:3 Then the angel said unto him, Take the fish. And the young man laid hold of the fish, and drew it to land.

&& 6:4 A'r angel a ddywedodd wrtho, Agor y pysgodyn, a chymer y galon, a'r afu, a'r bustl, a chadw hwynt yn ddiesgeulus.
 

%% 6:4 To whom the angel said, Open the fish, and take the heart and the liver and the gall, and put them up safely.

&& 6:5 A'r llanc a wnaeth y modd yr archasai'r angel iddo. Ac wedi iddynt rostio'r pysgodyn, hwy a'i bwytasant, ac a aethant rhagddynt ill dau, oni ddaethant yn gyfagos i Ecbatane.
 

%% 6:5 So the young man did as the angel commanded him; and when they had roasted the fish, they did eat it: then they both went on their way, till they drew near to Ecbatane.

&& 6:6 A'r lianc a ddywedodd wrth yr angel, Fy mrawd Asareias, i ba beth y mae calon, ac afu, a bustl y pysgodyn, yn dda?
 

%% 6:6 Then the young man said to the angel, Brother Azarias, to what use is the heart and the liver and the gal of the fish?

&& 6:7 Yntau a ddywedodd wrtho, Am y galon a'r afu, o bydd i gythraul neu ysbryd drwg flino neb, rhaid yw gwneuthur mwg ohonynt gerbron y gŵr hwnnw, neu'r wraig honno, ac nis blinir ef mwyach.
 

%% 6:7 And he said unto him, Touching the heart and the liver, if a devil or an evil spirit trouble any, we must make a smoke thereof before the man or the woman, and the party shall be no more vexed.

&& 6:8 Ac am y bustl, da yw i iro ag ef y dyn a fyddo a rhuchen ar ei lygaid, ac efe a iacheir.
 

%% 6:8 As for the gall, it is good to anoint a man that hath whiteness in his eyes, and he shall be healed.

&& 6:9 A phan ddaethant yn gyfagos i Rages, yt angel a ddywedodd wrth y llanc,
 

%% 6:9 And when they were come near to Rages,

&& 6:10 Fy mrawd, heddiw y lletywn ni gyda Raguel, yr hwn sy gâr i ti: ac y mae iddo ef un unig ferch a elwir Sara; mi a ddywedaf amdani, sef am ei rhoddi i ti yn wraig:
 

%% 6:10 The angel said to the young man, Brother, to day we shall lodge with Raguel, who is thy cousin; he also hath one only daughter, named Sara; I will speak for her, that she may be given thee for a wife.

&& 6:11 Canys i ti y mae ei hetifeddiaeth hi yn perthyn, a thydi yn unig sydd o'i chenedl hi.
 

%% 6:11 For to thee doth the right of her appertain, seeing thou only art of her kindred.

&& 6:12 Ac y mae hi yn llances lân, synhwyrol. Yn awr gan hynny gwrando fi, a mi a ymddiddanaf a'i thad hi; a phan ddychwelom ni o Rages y gwnawn y neithior: o achos mi a wn na all Raguel ei rhoddi hi i neb arall yn ôl cyfraith Moses, heb fod yn euog o angau; am fod cyfiawnder yr etifeddiaeth yn perthyn i ti o flaen neb arall.
 

%% 6:12 And the maid is fair and wise: now therefore hear me, and I will speak to her father; and when we return from Rages we will celebrate the marriage: for I know that Raguel cannot marry her to another according to the law of Moses, but he shall be guilty of death, because the right of inheritance doth rather appertain to thee than to any other.

&& 6:13 Yna y dywedodd y llanc wrth yr angel, Fy mrawd Asareias, mi a glywais roi'r llances hon i saith o wyr, a marw ohonynt cymain un yn yr ystafell briodas.
 

%% 6:13 Then the young man answered the angel, I have heard, brother Azarias that this maid hath been given to seven men, who all died in the marriage chamber.

&& 6:14 Ac yr awron myfi yw unig blentyn fy nhad: ac yr ydwyf yn ofni, od awn i mewn ati hi, y derfydd amdanaf, fel am y rhai o'r blaen; am fod cythraul yn ei charu hi, yr hwn nid yw yn gwneuthur niwed ond i'r rhai sydd yn dyfod ati hi: ac am hynny yr wyf yn ofni rhag fy marw, a dwyn einioes fy nhad a'm mam mewn tristwch i'w beddau; canys mab arall nid oes iddynt i'w claddu.
 

%% 6:14 And now I am the only son of my father, and I am afraid, lest if I go in unto her, I die, as the other before: for a wicked spirit loveth her, which hurteth no body, but those which come unto her; wherefore I also fear lest I die, and bring my father's and my mother's life because of me to the grave with sorrow: for they have no other son to bury them.

&& 6:15 A'r angel a ddywedodd wrtho, Onid cof gennyt eiriau dy dad, pan orchmynnodd i ti gymryd gwraig o'th genedl dy hun? ac felly yr awron gwrando, fy mrawd; a chymer hi yn wraig i ti, ac nac arswyda mo'r cythraul: canys y nos heno y rhoddir hi i ti yn wraig.
 

%% 6:15 Then the angel said unto him, Dost thou not remember the precepts which thy father gave thee, that thou shouldest marry a wife of thine own kindred? wherefore hear me, O my brother; for she shall be given thee to wife; and make thou no reckoning of the evil spirit; for this same night shall she be given thee in marriage.

&& 6:16 Eithr pan ddelych i'r ystafell briodas, cymer farwydos y peraroglau, a dod beth o galon y pysgodyn ac o'r afu arnynt, a gwna fyctarth:
 

%% 6:16 And when thou shalt come into the marriage chamber, thou shalt take the ashes of perfume, and shalt lay upon them some of the heart and liver of the fish, and shalt make a smoke with it:

&& 6:17 A'r ysbryd a glyw'r arogl hwnnw, ac a fry ymaith, ac ni ddychwel byth drachefn: eithr pan ddelych ati hi, 6:60 codwch eich dau, a gelwch ar y trugarog Dduw, ac efe a'ch gweryd chwi, ac a dosturia wrthych: nac ofna; oherwydd i ti y darparwyd hi o'r dech-reuad, a thi a'i gwaredi hi, a hi a ddaw gyda thi: ac, yn fy nhyb i, ti a gei blant ohoni. A phan glybu Tobeias y pethau hyn, efe a rodd ei serch ami, a'i galon ef a lynodd yn ddirfawr wrthi hi.
 

%% 6:176:60 And the devil shall smell it, and flee away, and never come again any more: but when thou shalt come to her, rise up both of you, and pray to God which is merciful, who will have pity on you, and save you: fear not, for she is appointed unto thee from the beginning; and thou shalt preserve her, and she shall go with thee. Moreover I suppose that she shall bear thee children. Now when Tobias had heard these things, he loved her, and his heart was effectually joined to her.

&& PENNOD 7
 

%%  

&& 7:1 A PHAN ddaethant i Ecbatane, hwy a aethant i dŷ Raguel: a Sara a gyfarfu a hwynt, ac a gyfarchodd iddynt, a hwythau iddi hithau; a hi a'u dug hwynt i'r ty.
 

%% 7:1 And when they were come to Ecbatane, they came to the house of Raguel, and Sara met them: and after they had saluted one another, she brought them into the house.

&& 7:2 Yna y dywedodd Raguel wrth Edna ei wraig, Mor debyg yw'r gŵr ieuanc yma i'm cefnder Tobit!
 

%% 7:2 Then said Raguel to Edna his wife, How like is this young man to Tobit my cousin!

&& 7:3 A Raguel a ofynnodd iddynt, O ba le yr ydych, fy mrodyr? Yna y dywedasant wrtho, O feibion Neffthali, y rhai sy gaethion yn Ninefe.
 

%% 7:3 And Raguel asked them, From whence are ye, brethren? To whom they said, We are of the sons of Nephthalim, which are captives in Nineve.

&& 7:4 Yna y dywedodd efe wrthynt, A adwaenoch chwi Tobit ein brawd? A hwythau a atebasant, Adwaenom. Yna y dywedodd yntau wrthynt, A ydyw efe yn iach?
 

%% 7:4 Then he said to them, Do ye know Tobit our kinsman? And they said, We know him. Then said he, Is he in good health?

&& 7:5 A hwy a ddywedasant, Y mae efe yn fyw ac yn iach. A Thobeias a ddywedodd, Fy nhad i yw efe.
 

%% 7:5 And they said, He is both alive, and in good health: and Tobias said, He is my father.

&& 7:6 Yna Raguel a neidiodd i fyny, ac a'i cusanodd ef, ac a wylodd,
 

%% 7:6 Then Raguel leaped up, and kissed him, and wept,

&& 7:7 Ac a'i bendithiodd ef, gan ddywedyd wrtho, Yr wyt ti yn fab i ŵr onest, ac i ŵr da. Eithr pan glybu efe fyned Tobit yn ddall, tristáu a wnaeth, ac wylo.
 

%% 7:7 And blessed him, and said unto him, Thou art the son of an honest and good man. But when he had heard that Tobit was blind, he was sorrowful, and wept.

&& 7:8 Ac Edna ei wraig, a Sara ei ferch, a wylasant: ac wedi hynny eu croesawu hwy a wnaethant yn llawen, ac a laddasant faharen o'r defaid, ac a roddasant ger eu bronnau lawer o seigiau. Yna y dywedodd Tobeias wrth Rarfael, Fy mrawd Asareias, dywed am y pethau hynny a soniaist amdanynt ar y ffordd, fel y gallo'r peth ddyfod i ben.
 

%% 7:8 And likewise Edna his wife and Sara his daughter wept. Moreover they entertained them cheerfully; and after that they had killed a ram of the flock, they set store of meat on the table. Then said Tobias to Raphael, Brother Azarias, speak of those things of which thou didst talk in the way, and let this business be dispatched.

&& 7:9 Ac yntau a ddywedodd y chwedl wrth Raguel. A Raguel a ddywedodd wrth Tobeias, Bwyta ac yf, a gwna'n llawen.
 

%% 7:9 So he communicated the matter with Raguel: and Raguel said to Tobias, Eat and drink, and make merry:

&& 7:10 Gweddus ydyw i ti gael fy merch i yn briod: eto mi a ddangosaf i ti'r gwirionedd.
 

%% 7:10 For it is meet that thou shouldest marry my daughter: nevertheless I will declare unto thee the truth.

&& 7:11 Mi a roddais fy merch yn briod i saith o wyr, a'i nos yr aethant i mewn ati, y buant feirw: eithr bydd di yn awr yn llawen. A Thobeias a ddywedodd, Ni fwytaf fi ddim yma, nes i ni gytuno, a thyngu i'n gilydd.
 

%% 7:11 I have given my daughter in marriage te seven men, who died that night they came in unto her: nevertheless for the present be merry. But Tobias said, I will eat nothing here, till we agree and swear one to another.

&& 7:12 A Raguel a ddywedodd wrtho, Cymer dithau hi o hyn allan yn ôl y gyfraith; canys tras wyt iddi, a hithau i tithau: a'r trugarog Dduw a'ch llwyddo ym mhob peth.
 

%% 7:12 Raguel said, Then take her from henceforth according to the manner, for thou art her cousin, and she is thine, and the merciful God give you good success in all things.

&& 7:13 Ac efe a alwodd Sara ei ferch, a hi a ddaeth at ei thad; yna efe a'i cymerth hi erbyn ei llaw, ac a'i rhoddes yn wraig i Tobeias, gan ddywedyd, Wele, cymer hi yn ôl cyfraith Moses; a dwg hi ymaith at dy dad. Ac efe a'u bendithiodd hwynt.
 

%% 7:13 Then he called his daughter Sara, and she came to her father, and he took her by the hand, and gave her to be wife to Tobias, saying, Behold, take her after the law of Moses, and lead her away to thy father. And he blessed them;

&& 7:14 Ac wedi iddo alw Edna ei wraig, efe a gymerth lyfr, ac a sgrifennodd ysgrifen o'r amodau, ac a'i seliodd.
 

%% 7:14 And called Edna his wife, and took paper, and did write an instrument of covenants, and sealed it.

&& 7:15 Ac yna y dechreuasant fwyta.
 

%% 7:15 Then they began to eat.

&& 7:16 A Raguel a alwodd Edna ei wraig, ac a ddywedodd wrthi, Fy chwaer, trefn-a stafell arall, a dwg hi i mewn yno.
 

%% 7:16 After Raguel called his wife Edna, and said unto her, Sister, prepare another chamber, and bring her in thither.

&& 7:17 A hi a wnaeth fel y dywedodd efe, ac a'i dug hi i mewn i'r ystafell; a hithau a wylodd, a'i mam a dderbyniodd ddagrau ei merch, ac a ddywedodd wrthi,
 

%% 7:17 Which when she had done as he had bidden her, she brought her thither: and she wept, and she received the tears of her daughter, and said unto her,

&& 7:18 Cymer gysur, fy merch; rhodded Arglwydd nef a daear i ti lawenydd yn lle'r tristwch yma: bydd gysurus, fy merch.
 

%% 7:18 Be of good comfort, my daughter; the Lord of heaven and earth give thee joy for this thy sorrow: be of good comfort, my daughter.

&& PENNOD 8
 

%%  

&& 8:1 AC wedi iddynt swperu, hwy a •** ddygasant Tobeias i mewn ati hi;
 

%% 8:1 And when they had supped, they brought Tobias in unto her.

&& 8:2 Yr hwn wrth fyned a feddyliodd am eiriau Raffael, ac a gymerth farwydos yr aroglau, ac a roddes arnynt galon y pysgodyn, a'i afu, ac a wnaeth fwg ft hwynt.
 

%% 8:2 And as he went, he remembered the words of Raphael, and took the ashes of the perfumes, and put the heart and the liver of the fish thereupon, and made a smoke therewith.

&& 8:3 Pan aroglodd y cythraul yr arogl hwnnw, efe a ffodd i oruchafion yr Aifft: a'r angel a'i rhwymodd ef.
 

%% 8:3 The which smell when the evil spirit had smelled, he fled into the utmost parts of Egypt, and the angel bound him.

&& 8:4 Ac fel yr oeddynt ill dau wedi eu cau i mewn, Tobeias a gyfododd o'i wely, ac ddywedodd wrth Sara, Cyfod, fy chwaer, gweddïwn yr Arglwydd, ar iddo fod yn drugarog wrthym.
 

%% 8:4 And after that they were both shut in together, Tobias rose out of the bed, and said, Sister, arise, and let us pray that God would have pity on us.

&& 8:5 Yna y dechreuodd Tobeias ddywedydjxxx Bendigedig wyt ti, O Dduw ein tadau, a bendigaid yw dy enw sanctaidd gogoneddus yn dragwyddol: bendiged y nefoedd a'th greaduriaid oll dydi.
 

%% 8:5 Then began Tobias to say, Blessed art thou, O God of our fathers, and blessed is thy holy and glorious name for ever; let the heavens bless thee, and all thy creatures.

&& 8:6 Tydi a wnaethost Adda, ac a roddaist Efa ei wraig yn gymorth ac yn nerth iddo: ohonynt y daeth pob rhyw ddya: ti a ddywedaist, Nid da bod gŵr yn unig, gwnawn iddo gymorth cyffelyb iddo.
 

%% 8:6 Thou madest Adam, and gavest him Eve his wife for an helper and stay: of them came mankind: thou hast said, It is not good that man should be alone; let us make unto him an aid like unto himself.

&& 8:7 Ac yr awron, Arglwydd, nid er mwyn godineb yr wyf yn cymryd fy chwaer hon, eithr mewn uniawnfryd: yn drugarog gan hynny gwna i ni heneiddio ynghyd.
 

%% 8:7 And now, O Lord, I take not this my sister for lush but uprightly: therefore mercifully ordain that we may become aged together.

&& 8:8 A hi a ddywedodd gydag ef, Amen.
 

%% 8:8 And she said with him, Amen.

&& 8:9 Ac felly y cysgasant ill dau y nos honno. A phan gyfododd Raguel i fyny, efe a aeth, ac a gloddiodd fedd,
 

%% 8:9 So they slept both that night. And Raguel arose, and went and made a grave,

&& 8:10 Gan ddywedyd, Y mae arnaf ofn ei farw ef.
 

%% 8:10 Saying, I fear lest he also be dead.

&& 8:11 Ac wedi dyfod Raguel i'w dŷ,
 

%% 8:11 But when Raguel was come into his house,

&& 8:12 Efe a ddywedodd wrth Edna ei wraig, Anfon un o'r morynion i edrych ai byw efe: os amgen, fel y gallom ei gladdu ef heb wybod i neb.
 

%% 8:12 He said unto his wife Edna. Send one of the maids, and let her see whether he be alive: if he be not, that we may bury him, and no man know it.

&& 8:13 A'r forwyn a agorodd y drws, ac a aeth i mewn, ac a'u cafodd hwynt ill dau yn cysgu.
 

%% 8:13 So the maid opened the door, and went in, and found them both asleep,

&& 8:14 A phan ddaeth allan, hi a fynegodd iddynt ei fod ef yn fyw.
 

%% 8:14 And came forth, and told them that he was alive.

&& 8:15 Yna Raguel a foliannodd Dduw, gan ddywedyd, Bendigedig ydwyt ti, O Dduw, ft phob duwiol a sanctaidd fendith: bendiged dy saint dydi, a'th greaduriaid oll; a chwbl o'th angylion a'th etholedigion, molant di byth bythoedd.
 

%% 8:15 Then Raguel praised God, and said, O God, thou art worthy to be praised with all pure and holy praise; therefore let thy saints praise thee with all thy creatures; and let all thine angels and thine elect praise thee for ever.

&& 8:16 Bendigedig fych, O Arglwydd, am i ti fy llawenhau i, ac na ddaeth i mi fel yr oeddwn yn tybied; eithr ti a wnaethost i ni yn ôl dy fawr drugaredd.
 

%% 8:16 Thou art to be praised, for thou hast made me joyful; and that is not come to me which I suspected; but thou hast dealt with us according to thy great mercy.

&& 8:17 A bendigedig fyddych, am i ti drugarhau wrth ddau unig-anedig. Dangos iddynt drugaredd, O Arglwydd; diwedda eu bywyd mewn iechyd, gyda llawenydd a thrugaredd.
 

%% 8:17 Thou art to be praised because thou hast had mercy of two that were the only begotten children of their fathers: grant them mercy, O Lord, and finish their life in health with joy and mercy.

&& 8:18 Yna yr archodd Raguel i'w weision lenwi'r bedd.
 

%% 8:18 Then Raguel bade his servants to fill the grave.

&& 8:19 Ac efe a gadwodd y neithior bedwar diwrnod ar ddeg:
 

%% 8:19 And he kept the wedding feast fourteen days.

&& 8:20 Canys Raguel cyn cyflawni dyddiau'r neithior a ddywedasai wrtho, gan dyngu, nad ai efe ymaith nes darfod cyflawni dyddiau'r neithior, nid amgen pedwar diwrnod ar ddeg;
 

%% 8:20 For before the days of the marriage were finished, Raguel had said unto him by an oath, that he should not depart till the fourteen days of the marriage were expired;

&& 8:21 Ac yna y cai efe hanner ei dda ef, a dychwelyd yn iach at ei dad; ac y cai efe y rhan arall, pan fyddwyf fi a'm gwraig farw.
 

%% 8:21 And then he should take the half of his goods, and go in safety to his father; and should have the rest when I and my wife be dead.

&& PENNOD 9
 

%%  

&& 9:1 YNA Tobeias a alwodd Raffael, ac a ddywedodd wrtho,
 

%% 9:1 Then Tobias called Raphael, and said unto him,

&& 9:2 Fy mrawd Asareias, cymer gyda thi was a dau gamel, a dos i Rages dinas Media, at Gabael, a chyrch i mi yr arian, a dwg ef i'r neithior:
 

%% 9:2 Brother Azarias, take with thee a servant, and two camels, and go to Rages of Media to Gabael, and bring me the money, and bring him to the wedding.

&& 9:3 Canys tyngodd Raguel na chawn i ymadael.
 

%% 9:3 For Raguel hath sworn that I shall not depart.

&& 9:4 Eithr y mae fy nhad yn cyfrif y dyddiau; ac os trigaf fi yn hir, athrist iawn fydd ganddo.
 

%% 9:4 But my father counteth the days; and if I tarry long, he will be very sorry.

&& 9:5 A Raffael a aeth ymaith at Gabael, ac a roddes iddo yr ysgrifenlaw; ac yntau a ddug godau wedi eu selio, ac a'u rhoddes iddo.
 

%% 9:5 So Raphael went out, and lodged with Gabael, and gave him the handwriting: who brought forth bags which were sealed up, and gave them to him.

&& 9:6 A'r bore y cyfodasant, ac a ddaethant i'r neithior. A Thobeias a fendithiodd ei wraig.
 

%% 9:6 And early in the morning they went forth both together, and came to the wedding: and Tobias blessed his wife.

&& PENNOD 10
 

%%  

&& 10:1 A I dad ef Tobit a gyfrifai bob dydd. Ac wedi cyflawni dyddiau'r daith, a hwythau heb ddyfod adref,
 

%% 10:1 Now Tobit his father counted every day: and when the days of the journey were expired, and they came not,

&& 10:2 Yna y dywedodd Tobit, A siomwyd hwynt? ai marw a wnaeth Gabael, fel nad oes neb i roddi'r arian iddo?
 

%% 10:2 Then Tobit said, Are they detained? or is Gabael dead, and there is no man to give him the money?

&& 10:3 Ac efe a dristaodd yn ddirfawr.
 

%% 10:3 Therefore he was very sorry.

&& 10:4 A'i wraig a ddywedodd wrtho, Darfu am y bachgen: ac am ei fod ef yn aros cyhyd, hi a ddechreuodd alaru amdano, gan ddywedyd,
 

%% 10:4 Then his wife said unto him, My son is dead, seeing he stayeth long; and she began to wail him, and said,

&& 10:5 Nid oes gennyf ofal am ddim, fy mab, gan i mi dy ollwng di ymaith, llewyrch fy llygaid i.
 

%% 10:5 Now I care for nothing, my son, since I have let thee go, the light of mine eyes.

&& 10:6 Eithr Tobit a ddywedodd wrthi, Taw son, ac na ofala ddim; y mae efe yn iach lawen.
 

%% 10:6 To whom Tobit said, Hold thy peace, take no care, for he is safe.

&& 10:7 A hithau a ddywedodd wrtho, Taw a son, na huda fi; darfu am fy machgen i. A beunydd yr ai hi allan i'r ffordd yr aethent hwy: y dydd ni fwytâi hi mo'r bwyd, a'r nos ni pheidiai ag wylo am Tobeias ei mab: a hyn nes darfod pedwar diwrnod ar ddeg y neithior, y rhai y tyngasai Raguel y gorfyddai i Tobeias aros yno. Yna y dywedodd Tobeias wrth Raguel, Gollwng fi ymaith: canys nid yw fy nhad a'm mam yn edrych am fy ngweled byth.
 

%% 10:7 But she said, Hold thy peace, and deceive me not; my son is dead. And she went out every day into the way which they went, and did eat no meat on the daytime, and ceased not whole nights to bewail her son Tobias, until the fourteen days of the wedding were expired, which Raguel had sworn that he should spend there. Then Tobias said to Raguel, Let me go, for my father and my mother look no more to see me.

&& 10:8 A'i chwegrwn a ddywedodd wrtho, Aros gyda myfi, a mi a ddanfonaf rai a ddangoso dy helynt i'th dad.
 

%% 10:8 But his father in law said unto him, Tarry with me, and I will send to thy father, and they shall declare unto him how things go with thee.

&& 10:9 Eithr Tobeias a ddywedodd, Nage ddim; ond gollwng fi at fy nhad.
 

%% 10:9 But Tobias said, No; but let me go to my father.

&& 10:10 Yna y cyfododd Raguel i fyny, ac a roddes Sara ei wraig iddo, a hanner ei dda, sef gweision, ac anifeiliaid, a da bathol:
 

%% 10:10 Then Raguel arose, and gave him Sara his wife, and half his goods, servants, and cattle, and money:

&& 10:11 Ac wedi iddo eu bendithio, efe a'u I danfonodd ymaith, gan ddywedyd, O fy mhlant, Duw nef a'ch llwyddo.
 

%% 10:11 And he blessed them, and sent them away, saying, The God of heaven give you a prosperous journey, my children.

&& 10:12 Ac efe a ddywedodd wrth ei ferch, Anrhydedda dy chwegrwn a'th chwegr, canys hwynthwy bellach sy dad a mam i ti: gad i mi glywed gair da amdanat: ac efe a'i cusanodd hi. Edna hefyd a ddywedodd wrth Tobeias, Fy annwyl frawd, Arglwydd y nef a'th ddygo drachefn, ac a wnêl i mi weled dy blant di o'm merch Sara cyn fy marw, fel y j llawenychwyf gerbron yr Arglwydd: ac wele, yr ydwyf yn rhoddi fy merch i ti mewn ymddiried; na ofidia hi.
 

%% 10:12 And he said to his daughter, Honour thy father and thy mother in law, which are now thy parents, that I may hear good report of thee. And he kissed her. Edna also said to Tobias, The Lord of heaven restore thee, my dear brother, and grant that I may see thy children of my daughter Sara before I die, that I may rejoice before the Lord: behold, I commit my daughter unto thee of special trust; where are do not entreat her evil.

&& PENNOD 11
 

%%  

&& 11:1 xxx ôl hynny yr aeth Tobeias ymaith, gan foliannu Duw, o achos iddo lwyddo ei daith ef; ac efe a fendithiodd Raguel ac Edna ei wraig: ac yna efe a gerddodd rhagddo, oni ddaethant yn agos i Ninefe.
 

%% 11:1 After these things Tobias went his way, praising God that he had given him a prosperous journey, and blessed Raguel and Edna his wife, and went on his way till they drew near unto Nineve.

&& 11:2 Yna Raffael a ddywedodd wrth Tobeias, Ti a wyddost, fy mrawd, pa fodd y gadewaist dy dad.
 

%% 11:2 Then Raphael said to Tobias, Thou knowest, brother, how thou didst leave thy father:

&& 11:3 Brysiwn o flaen dy wraig, a threfnwn yty;
 

%% 11:3 Let us haste before thy wife, and prepare the house.

&& 11:4 A chymer yn dy law fustl y pysgodyn. Ac felly yr aethant; a'r ci a'u canlynodd hwynt.
 

%% 11:4 And take in thine hand the gall of the fish. So they went their way, and the dog went after them.

&& 11:5 Ac Anna oedd yn eistedd, ac yn disgwyl am ei mab ar y ffordd;
 

%% 11:5 Now Anna sat looking about toward the way for her son.

&& 11:6 Ac a'i hadnabu ef yn dyfod, ac a ddywedodd wrth ei dad ef, Wele dy fab di yn dyfod, a'r gŵr a aeth gydag ef.
 

%% 11:6 And when she espied him coming, she said to his father, Behold, thy son cometh, and the man that went with him.

&& 11:7 Yna y dywedodd Raffael, Mi a wn, Tobeias, yr egyr dy dad ei lygaid.
 

%% 11:7 Then said Raphael, I know, Tobias, that thy father will open his eyes.

&& 11:8 Am hynny ir di ei lygaid ef si'r bustl; a phan ferwinont, efe a'u rhwbia hwynt, ac fe syrth y rhuchen ymaith, ac efe a'th wêl di.
 

%% 11:8 Therefore anoint thou his eyes with the gall, and being pricked therewith, he shall rub, and the whiteness shall fall away, and he shall see thee.

&& 11:9 Yna y rhedodd Anna allan, a hi a syrthiodd ar wddf ei mab, gan ddywedyd wrtho, Mi a'th welais, fy mab, ac weithian bodlon ydwyf i farw. A hwy a wylasant ill dau.
 

%% 11:9 Then Anna ran forth, and fell upon the neck of her son, and said unto him, Seeing I have seen thee, my son, from henceforth I am content to die. And they wept both.

&& 11:10 Tobit hefyd a aeth allan tua'r drws, ac a dramgwyddodd; ond ei fab a redodd ato,
 

%% 11:10 Tobit also went forth toward the door, and stumbled: but his son ran unto him,

&& 11:11 Ac a ymaflodd yn ei dad, ac a daenellodd beth o'r bustl ar lygaid ei dad, gan ddywedyd, Bydd gysurus, fy nhad.
 

%% 11:11 And took hold of his father: and he strake of the gall on his fathers' eyes, saying, Be of good hope, my father.

&& 11:12 Ac wedi i'w lygaid ddechrau merwino, efe a'u dwys rwbiodd hwynt;
 

%% 11:12 And when his eyes began to smart, he rubbed them;

&& 11:13 A'r rhuchen a ddirisglodd ymaith oddi wrth giliau ei lygaid ef: ac wedi iddo weled ei fab, efe a syrthiodd ar ei wddf ef,
 

%% 11:13 And the whiteness pilled away from the corners of his eyes: and when he saw his son, he fell upon his neck.

&& 11:14 Ac a wylodd, gan ddywedyd, Bendigedig wyt, O Dduw, a bendigedig yw dy enw yn dragywydd, a'th holl ang-ylion sanctaidd sy fendigedig:
 

%% 11:14 And he wept, and said, Blessed art thou, O God, and blessed is thy name for ever; and blessed are all thine holy angels:

&& 11:15 Canys ti a'm ffrewyllaist, ac a dosturiaist wrthyf; wele fi yn gweled fy mab Tobeias. Yna yr aeth ei fab ef i mewn yn llawen, ac a ddangosodd i'w dad y mawr bethau a ddigwyddasai iddo ym Media.
 

%% 11:15 For thou hast scourged, and hast taken pity on me: for, behold, I see my son Tobias. And his son went in rejoicing, and told his father the great things that had happened to him in Media.

&& 11:16 Yna yr aeth Tobit allan i gyfarfod a'i waudd hyd ym mhorth Ninefe, gan ymlawenhau a moliannu Duw. A rhyfedd oedd gan y rhai oedd yn edrych arno ef yn cerdded, ei fod ef yn gweled.
 

%% 11:16 Then Tobit went out to meet his daughter in law at the gate of Nineve, rejoicing and praising God: and they which saw him go marvelled, because he had received his sight.

&& 11:17 A Thobit a gyffesodd yn eu gwydd hwynt oll, ddarfod i Dduw dosturio wrtho. Ac wedi iddo nesáu at Sara ei waudd, efe a'i bendithiodd hi, gan ddywedyd, Croeso wrthyt, fy merch: bendigaid fyddo Duw, yr hwn a'th ddug di atom ni, a bendigedig fyddo dy dad a'th fam. A llawenydd oedd ymysg ei holl frodyr ef, y rhai oedd yn Ninefe.
 

%% 11:17 But Tobias gave thanks before them, because God had mercy on him. And when he came near to Sara his daughter in law, he blessed her, saying, Thou art welcome, daughter: God be blessed, which hath brought thee unto us, and blessed be thy father and thy mother. And there was joy among all his brethren which were at Nineve.

&& 11:18 Ac Achiacarus a ddaeth yno, a Nasbas ei nai ef fab ei frawd.
 

%% 11:18 And Achiacharus, and Nasbas his brother's son, came:

&& 11:19 A neithior Tobeias a gadwyd a llawenydd mawr saith niwrnod.
 

%% 11:19 And Tobias' wedding was kept seven days with great joy.

&& PENNOD 12
 

%%  

&& 12:1 YNA y galwodd Tobit ei fab Tobeias, ac y dywedodd wrtho, Edrych, fy rnab, am ei gyflog i'r gŵr a aeth gyda thi: a rhaid ydyw ei chwanegu.
 

%% 12:1 Then Tobit called his son Tobias, and said unto him, My son, see that the man have his wages, which went with thee, and thou must give him more.

&& 12:2 A Thobeias a ddywedodd wrtho, Fy nhad, nid colled gennyf roi iddo ef hanner yr hyn a ddugum gyda mi:
 

%% 12:2 And Tobias said unto him, O father, it is no harm to me to give him half of those things which I have brought:

&& 12:3 Oherwydd efe a'm dug i adref i ti drachefn yn iach, ac a iachaodd fy ngwraig, ac a gyrchodd yr arian, ac a'th iachaodd dithau hefyd.
 

%% 12:3 For he hath brought me again to thee in safety, and made whole my wife, and brought me the money, and likewise healed thee.

&& 12:4 A'r hynafgwr a ddywedodd, Mae yn gyfiawn iddo eu cael.
 

%% 12:4 Then the old man said, It is due unto him.

&& 12:5 Yna y galwodd efe yr angel, ac a ddywedodd wrtho, Cymer hanner yr hyn oll a ddygasoch, a dos yn iach.
 

%% 12:5 So he called the angel, and he said unto him, Take half of all that ye have brought and go away in safety.

&& 12:6 Eithr efe wedi eu galw hwy ill dau o'r neilltu, a ddywedodd wrthynt, Diolchwch i Dduw, a moliennwch ef, a rhoddwch iddo ef fawr ogoniant; cyff-eswch ef yng ngŵydd pawb o'r rhai byw, am y pethau a wnaeth efe i chwi. Peth daionus yw diolch i'r Arglwydd, a mawrhau ei enw ef, gan adrodd gweith-redoedd Duw yn barchedig: ac na ddiogwch yn ei foliannu ef.
 

%% 12:6 ngŵydd Then he took them both apart, and said unto them, Bless God, praise him, and magnify him, and praise him for the things which he hath done unto you in the sight of all that live. It is good to praise God, and exalt his name, and honourably to shew forth the works of God; therefore be not slack to praise him.

&& 12:7 Cyfrinach y brenin sydd weddus ei chelu: ond gweithredoedd Duw sy ogoneddus eu cyhoeddi. Gwnewch ddaioni, ac ni'ch goddiwedd drwg.
 

%% 12:7 It is good to keep close the secret of a king, but it is honourable to reveal the works of God. Do that which is good, and no evil shall touch you.

&& 12:8 Daionus yw gweddi gydag ympryd, elusenni, a chyfiawnder. Gwell yw ychydig gyda chyfmwnder, na llawer gydag anghyfiawnder. Gwell yw rhoi elusennau na phentyrru aur:
 

%% 12:8 Prayer is good with fasting and alms and righteousness. A little with righteousness is better than much with unrighteousness. It is better to give alms than to lay up gold:

&& 12:9 Canys elusenni a wared rhag angau, ac a lanha bob pechod: y rhai a wnêl elusen a chyfiawnder, a gyflawnir a bywyd:
 

%% 12:9 For alms doth deliver from death, and shall purge away all sin. Those that exercise alms and righteousness shall be filled with life:

&& 12:10 Eithr pechaduriaid sy elynion i'w bywyd eu hunain.
 

%% 12:10 But they that sin are enemies to their own life.

&& 12:11 Ni chuddiaf ddim rhagoch. Mi a ddywedais mai da yw cadw cyfrinach brenin, a gogoneddus dangos gweith-redoedd Duw ar gyhoedd.
 

%% 12:11 Surely I will keep close nothing from you. For I said, It was good to keep close the secret of a king, but that it was honourable to reveal the works of God.

&& 12:12 Ac yr awron pan weddïaist ti a'th waudd Sara, myfi a ddugum gof am eich gweddïau gerbron y Sanctaidd. A phan oeddit yn claddu'r meirw, yr oeddwn i gyda thi hefyd.
 

%% 12:12 Now therefore, when thou didst pray, and Sara thy daughter in law, I did bring the remembrance of your prayers before the Holy One: and when thou didst bury the dead, I was with thee likewise.

&& 12:13 A phan nad oedaist godi a gadael dy ginio, i fyned i gladdu'r dyn marw, nid oedd dy weithred dda yn guddiedig rhagof: eithr yr oeddwn gyda thi.
 

%% 12:13 And when thou didst not delay to rise up, and leave thy dinner, to go and cover the dead, thy good deed was not hid from me: but I was with thee.

&& 12:14 Ac yr awron Duw a'm danfonodd i i'th iacháu di a'th waudd Sara.
 

%% 12:14 And now God hath sent me to heal thee and Sara thy daughter in law.

&& 12:15 Myfi yw Raffael, un o'r saith angel sanctaidd, y rhai sy'n dwyn i fyny weddïau'r rhai sanctaidd, ac sydd yn tramwy gerbron gogoniant yr hwn sydd Sanctaidd.
 

%% 12:15 I am Raphael, one of the seven holy angels, which present the prayers of the saints, and which go in and out before the glory of the Holy One.

&& 12:16 Yna y dychrynasant ill dau, a hwy a syrthiasant ar eu hwynebau: oblegid hwy a ofnasent.
 

%% 12:16 Then they were both troubled, and fell upon their faces: for they feared.

&& 12:17 Yna y dywedodd efe wrthynt, Nac ofnwch; canys bydd tangnefedd i chwi: eithr rhoddwch ddiolch i Dduw.
 

%% 12:17 But he said unto them, Fear not, for it shall go well with you; praise God therefore.

&& 12:18 Canys nid o'm caredigrwydd fy nun, eithr trwy ewyllys ein Duw ni, y deuthum: am hynny rhoddwch ddiolch iddo ef yn dragywydd.
 

%% 12:18 For not of any favour of mine, but by the will of our God I came; wherefore praise him for ever.

&& 12:19 Beunydd yr ymddangosais i chwi: eithr nid oeddwn yn bwyta nac yn yfed; namyn chwi a welech weledigaeth.
 

%% 12:19 All these days I did appear unto you; but I did neither eat nor drink, but ye did see a vision.

&& 12:20 Ac yr awron moliennwch Dduw; canys mi a esgynnaf at yr hwn a'm danfonodd: eithr ysgrifennwch yr hyn oll a wnaethpwyd mewn llyfr.
 

%% 12:20 Now therefore give God thanks: for I go up to him that sent me; but write all things which are done in a book.

&& 12:21 Yna y codasant i fyny, ac ni welsant ef mwy.
 

%% 12:21 And when they arose, they saw him no more.

&& 12:22 A chyffesu rhyfeddfawr weithredxxx
 

%% 12:22 Then they confessed the great and wonderful works of God, and how the angel of the Lord had appeared unto them.

&& 12:12, 13 oedd Duw a wnaethant, a'r modd ytj ymddangosasai angel yr Arglwydd iddynt.
 

%% 12:12  Then Tobit wrote a prayer of rejoicing, and said, Blessed be God that liveth for ever, and blessed be his kingdom.

&& PENNOD 13
 

%%  

&& 13:1 ATHOBIT a sgrifennodd weddi Q orfoledd, ac a ddywedodd, Bendigaid fyddo Duw, yr hwn sydd yn byw yn dragwyddol, a bendigedig fyddo ei deyrnas ef:
 

%% 13:1 For he doth scourge, and hath mercy: he leadeth down to hell, and bringeth up again: neither is there any that can avoid his hand.

&& 13:2 Canys efe sydd yn ffrewyllu, ac yn trugarhau; yn dwyn i uffern, ac yn dwyn i fyny eilchwyl: ac nid oes neb a all ddianc o'i law ef.
 

%% 13:2 Confess him before the Gentiles, ye children of Israel: for he hath scattered us among them.

&& 13:3 Clodforwch ef, meibion Israel, gerbron y cenhedloedd: canys efe a'n gwasgarodd ni yn eu plith hwynt.
 

%% 13:3 There declare his greatness, and extol him before all the living: for he is our Lord, and he is the God our Father for ever.

&& 13:4 Yno mynegwch ei fawredd, a dyrchefwch ef yng ngŵydd pawb sydd fyw: oherwydd efe yw ein Harglwydd ni, a Duw yw ein Tad ni byth bythoedd.
 

%% 13:4 And he will scourge us for our iniquities, and will have mercy again, and will gather us out of all nations, among whom he hath scattered us.

&& 13:5 Ac efe a'n cerydda ni am ein camweddau, ac a drugarha eilchwyl, ac a'n casgl ynghyd o fysg yr holl genhedloedd, ymhlith y rhai y'n gwasgarodd ni.
 

%% 13:5 If ye turn to him with your whole heart, and with your whole mind, and deal uprightly before him, then will he turn unto you, and will not hide his face from you. Therefore see what he will do with you, and confess him with your whole mouth, and praise the Lord of might, and extol the everlasting King. In the land of my captivity do I praise him, and declare his might and majesty to a sinful nation. O ye sinners, turn and do justice before him: who can tell if he will accept you, and have mercy on you?

&& 13:6 Os dychwelwch ato ef a'ch holl galon, ac a'ch holl feddwl, a gwneuthur yn uniawn ger ei fron ef, yna y dychwel yntau atoch chwi, ac ni chudd ei wyneb rhagoch, a chwi a gewch weled beth a wna efe i chwi: am hynny cyffeswch ef a'ch holl eriau, a moliennwch Arglwydd y gallu, dyrchefwch Frenin y tragwyddoldeb. Myfi a'i cyfFesaf ef yn nhir fy nghaethiwed, ac a fynegaf ei nerth a'i fawredd ef i genedl bechadurus. Trowch, bechaduriaid, a gwnewch gyfiawnder ger ei fron ef: pwy a ŵyr a fyn efe chwi, ac a wna efe drugaredd a chwi?
 

%% 13:6 I will extol my God, and my soul shall praise the King of heaven, and shall rejoice in his greatness.

&& 13:7 Clodforaf fy Nuw, a'm henaid a fawl Frenin y nefoedd, ac a lawenha yn ei fawredd ef.
 

%% 13:7 Let all men speak, and let all praise him for his righteousness.

&& 13:8 Llefared pob dyn, a moled yr Arglwydd am ei gyfiawnder.
 

%% 13:8 O Jerusalem, the holy city, he will scourge thee for thy children's works, and will have mercy again on the sons of the righteous.

&& 13:9 O Jerwsalem y ddinas sanctaidd, efe a'th ffrewylla di am weithredoedd dy blant, ac efe a dosturia eilchwyl wrth feibion y rhai cyfiawn. jo Molianna'r Arglwydd; oblegid da yw: a bendithia'r Brenin tragwyddol; fel yr adeilader drachem ei babell ef ynot mewn llawenydd: a llawenhaed efe dy gaethion, a chared ynot y trueiniaid yn oes oesoedd:
 

%% 13:9 Give praise to the Lord, for he is good: and praise the everlasting King, that his tabernacle may be builded in thee again with joy, and let him make joyful there in thee those that are captives, and love in thee for ever those that are miserable.

&& 13:11 Cenhedloedd lawer a ddeuant o bell at enw yr Arglwydd Dduw, a rhoddion yn eu dwylo, a rhoddion i Frenin y nefoedd. Yr holl genedlaethau a'th foliannant di, ac a roddant roddion gorfoledd,
 

%% 13:11 Many nations shall come from far to the name of the Lord God with gifts in their hands, even gifts to the King of heaven; all generations shall praise thee with great joy.

&& 13:12 Melltigedig yw pawb a'th gasânt, a bendigedig yw pawb a'th garant, yn dragywydd.
 

%% 13:12 Cursed are all they which hate thee, and blessed shall all be which love thee for ever.

&& 13:13 Bydd hyfryd a llawen am blant y rhai cyfiawn: canys hwy a gesglir ynghyd, ac a fendithiant Arglwydd y rhai cyfiawn.
 

%% 13:13 Rejoice and be glad for the children of the just: for they shall be gathered together, and shall bless the Lord of the just.

&& 13:14 Gwyn eu byd y rhai a'th garant di; canys hwy a lawenychant yn dy dangnefedd: gwyn eu byd y rhai a fuant athrist am dy holl ffrewyllau di; canys hwy a fyddant hyfryd o'th blegid, pan welont gwbl o'th ogoniant, ac a lawenychant yn dragywydd.
 

%% 13:14 O blessed are they which love thee, for they shall rejoice in thy peace: blessed are they which have been sorrowful for all thy scourges; for they shall rejoice for thee, when they have seen all thy glory, and shall be glad for ever.

&& 13:15 Moled fy enaid Dduw, y Brenin mawr.
 

%% 13:15 Let my soul bless God the great King.

&& 13:16 Oherwydd Jerwsalem a adeiledir a saffir, ac a smaragdus, ac a meini gwerth-fawr, dy furiau a'th ragfuriau ag aur coeth;
 

%% 13:16 For Jerusalem shall be built up with sapphires and emeralds, and precious stone: thy walls and towers and battlements with pure gold.

&& 13:17 A heolydd Jerwsalem a balmentir I meini beryl a charbuncl, ac a meini Offir.
 

%% 13:17 And the streets of Jerusalem shall be paved with beryl and carbuncle and stones of Ophir.

&& 13:18 A'i heolydd hi oll a lefant Hale-liwia, ac a'i molant ef, gan ddywedyd, Bendigaid fyddo Duw, yr hwn a'i dyrchafodd hi yn dragywydd.
 

%% 13:18 And all her streets shall say, Alleluia; and they shall praise him, saying, Blessed be God, which hath extolled it for ever.

&& PENNOD 14
 

%%  

&& 14:1 ATHOBIT a ddiweddodd ei gyffes.
 

%% 14:1 So Tobit made an end of praising God.

&& 14:2 Ac yr oedd efe namyn dwy trigain o flynyddoedd pan gollodd ei olwg; ac yn ôl wyth mlynedd y cafodd ef eilwaith. Ac efe a wnaeth elusennau; ac efe a gynyddodd yn ofn yr Arglwydd Dduw ac yn ei foliant ef.
 

%% 14:2 And he was eight and fifty years old when he lost his sight, which was restored to him after eight years: and he gave alms, and he increased in the fear of the Lord God, and praised him.

&& 14:3 Ac wedi ei fyned yn hen iawn, efe a alwodd ei fab, a chwe mab ei fab, ac a ddywedodd wrtho, Wele, fy mab, cymer dy blant; wele, mi a heneiddiais, ac ar ymado a'r byd hwn yr ydwyf.
 

%% 14:3 And when he was very aged he called his son, and the sons of his son, and said to him, My son, take thy children; for, behold, I am aged, and am ready to depart out of this life.

&& 14:4 Dos i Media, fy mab: o achos yr ydwyf yn credu pob peth a'r a ddywedodd Jonas y proffwyd ynghylch Ninefe; y distrywir hi, ac y bydd heddwch yn nhir Media yn hytrach dros amser, ac y gwasgerir ein brodyr ni ar hyd y gwledydd, allan o'r tir da, ac y diffeithir Jerwsalem; a theml yr Arglwydd, yr hon sydd ynddi, a ddiffeithir dros amser;
 

%% 14:4 Go into Media my son, for I surely believe those things which Jonas the prophet spake of Nineve, that it shall be overthrown; and that for a time peace shall rather be in Media; and that our brethren shall lie scattered in the earth from that good land: and Jerusalem shall be desolate, and the house of God in it shall be burned, and shall be desolate for a time;

&& 14:5 A thrachefn y trugarha Duw wrthynt, ac a'u dychwel hwynt i'r v/lad: yno yr adeiladant y deml, nid o fath y gyntaf, oni chyflawner amser yr oes honno: ac yn ôl hynny y dychwelant o bob man o'u caetbiwed, ac a adeiladant Jerwsalem yn anrhydeddus, a thŷ Dduw a adeiledir ynddi ag adeilad gogoneddus, yn holl oesoedd y byd, modd y dywedodd y proffwydi amdani.
 

%% 14:5 And that again God will have mercy on them, and bring them again into the land, where they shall build a temple, but not like to the first, until the time of that age be fulfilled; and afterward they shall return from all places of their captivity, and build up Jerusalem gloriously, and the house of God shall be built in it for ever with a glorious building, as the prophets have spoken thereof.

&& 14:6 A'r holl genhedloedd a wir ddychwelant i ofni'r Arglwydd Dduw, ac a gladdant eu delwau.
 

%% 14:6 And all nations shall turn, and fear the Lord God truly, and shall bury their idols.

&& 14:7 Yna y bendithia'r holl genhedloedd yr Arglwydd: a'i bobl ef a gyffesant Dduw, a'r Arglwydd a ddyrchaif ei bobl; a phawb a lawenychant a'r a garant yr Arglwydd Dduw mewn gwirionedd a chyfiawnder, gan wneuthur trugaredd a'n brodyr ni.
 

%% 14:7 So shall all nations praise the Lord, and his people shall confess God, and the Lord shall exalt his people; and all those which love the Lord God in truth and justice shall rejoice, shewing mercy to our brethren.

&& 14:8 Ac yn awr, fy mab, dos ymaith o Ninefe; oblegid diamau y daw y pethau a ddywedodd y proffwyd Jonas i ben.
 

%% 14:8 And now, my son, depart out of Nineve, because that those things which the prophet Jonas spake shall surely come to pass.

&& 14:9 Eithr cadw di'r ddeddf a'r gorch-mynion, a bydd elusengar a chyfiawn, fel y byddo rhwydd rhagot.
 

%% 14:9 But keep thou the law and the commandments, and shew thyself merciful and just, that it may go well with thee.

&& 14:10 Cladd fi yn weddaidd, a'th fam gyda mi; ac nac arhoswch mwy haeach yn Ninefe. Cofia, fy mab, beth a wnaeth Aman i Achiacarus, yr hwn a'i magodd ef, y modd yr arweiniodd efe ef o'r goleuni i'r tywyllwch, ac fel y gob-rwyodd efe ef drachefn: ac eto Achiacarus a ddihangodd; eithr efe a gafodd ei haeddedigaeth, ac a ddisgynnodd i'r tywyllwch. Manasses a wnaeth elusen, ac a ddihangodd o fagi yr angau a Osodasent iddo: eithr Aman a syrthiodd i'r fagi, a darfu amdano.
 

%% 14:10 And bury me decently, and thy mother with me; but tarry no longer at Nineve. Remember, my son, how Aman handled Achiacharus that brought him up, how out of light he brought him into darkness, and how he rewarded him again: yet Achiacharus was saved, but the other had his reward: for he went down into darkness. Manasses gave alms, and escaped the snares of death which they had set for him: but Aman fell into the snare, and perished.

&& 14:11 Ac yr awron, fy mhlentyn, ystyria beth a wna elusendod, a'r modd y gwared cyfiawnder. A phan ddjrwedodd efe'r pethau hyn, ei enaid ef a ballodd yn y gwely; acyr oedd efe yn gant a namyn dwy trigain mlwydd o oed. Ac efe a'i claddodd ef yn anrhydeddus.
 

%% 14:11 Wherefore now, my son, consider what alms doeth, and how righteousness doth deliver. When he had said these things, he gave up the ghost in the bed, being an hundred and eight and fifty years old; and he buried him honourably.

&& 14:12 A phan fu farw Anna ei fam ef, efe a'i claddodd hi gyda'i dad. Ac aeth Tobeias, efe a'i wraig, a'i Want, i Ecbatane, at Raguel ei chwegrwn.
 

%% 14:12 And when Anna his mother was dead, he buried her with his father. But Tobias departed with his wife and children to Ecbatane to Raguel his father in law,

&& 14:13 Ac efe a heneiddiodd mewn urddas, ac a gladdodd dad a mam ei wraig yn anrhydeddus, ac a berchenogodd eu da hwynt, gyda da Tobit ei dad:
 

%% 14:13 Where he became old with honour, and he buried his father and mother in law honourably, and he inherited their substance, and his father Tobit's.

&& 14:14 Ac a fu farw yn Ecbatane yng ngwlad Media, pan oedd gant a saith ar hugain o flwyddau o oed.
 

%% 14:14 And he died at Ecbatane in Media, being an hundred and seven and twenty years old.

&& 14:15 A chyn ei farw, efe a glybu ddinistrio Ninefe, yr hon a ddug Nabu-chodonosor ac Assuerus i gaethiwed: felly efe a lawenychodd cyn ei farw am Ninefe.

 
 

%% 14:15 But before he died he heard of the destruction of Nineve, which was taken by Nabuchodonosor and Assuerus: and before his death he rejoiced over Nineve. .

&&  

%%  

&&  

%%  

&&  

%%  




 

 

__________________________________________________________________________

 

Adolygiadau diweddaraf - latest updates.  2009-01-25

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

Edrychwych ar fy ystadegau / View My Stats