Y Beibl Cysger-Ln (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bblia en galls de lany 1620. Text electrnic. Dhə Bibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. 2688k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Galles i Catalunya : Wales-Catalonia Website.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_histori_susanna_76_2688k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Sin Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn


(delw 0003)
..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Galles


Y Beibl Cysegr-ln (1620): Yr Apocrypha

 

(76) Histori Susanna




(delw 7314)

Adolygiadau diweddaraf: 2009-01-28

 

2689ke This page with an English version (1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version) (Susanna)

 

 

HISTORI SUSANNA

 

Wedi ei neilltuo oddi wrth ddechrau DANIEL, oherwydd nad ydyw yn yr Hebraeg, megis nad yw'r Histori am Bel a'r Ddraig HISTORI SUSANNA

1 Yr oedd gŵr yn preswylio yn Babilon a'i enw Joacim.

2 Ac efe a briododd wraig a'i henw Susanna, merch Chelcias, yr hon oedd ln iawn, ac yn ofni'r Arglwydd.

3 Ei rhieni hefyd oedd gyfiawn, ac a ddysgasent eu merch yn l cyfraith Moses.

4 A Joacim oedd gyfoethog iawn; ac iddo ef yr oedd gardd deg yn gyfagos i'w dŷ: at yr hwn yr ymgynullai'r Iddewon; am ei fod ef yn anrhydeddusach na neb arall.

5 A'r flwyddyn honno y rhoddwyd dau henuriad o'r bobl yn farnwyr, am y rhai y dywedodd yr Arglwydd mai o Babilon y daeth yr anwiredd, oddi wrth y barnwyr hynaf, y rhai a gymerent arnynt lywodraethu'r bobl.

6 Y rhai hyn oedd yn aros yn nhŷ Joacim: ac atynt y tramwyai pawb oll a'r a ymgyfreithient.

7 A phan elai'r bobl ymaith ganol dydd, y byddai Susanna yn myned i rodio i ardd ei gŵr.

8 A'r ddau henuriad a'i gwelent hi beunydd yn myned i mewn, ac yn rhodio: ac yr oeddynt mewn chwant iddi hi.

9 A hwy a wyrdroesant eu meddwl eu hun, ac a ostyngasant eu llygaid fel na allent edrych tua'r nefoedd, na chofio cyfiawn farnedigaethau.

10 Ac er eu bod ill deuoedd yn glwyfus o'i chariad hi, eto ni ddangosai'r naill y gofid oedd arno i'r llall:

11 Oherwydd bod yn waradwydd ganddynt ddangos eu bod mewn chwant i'w chorff hi.

12 A beunydd y disgwylient yn ddyfal am ei gweled hi.

13 A'r naill a ddywedodd wrth y llall, Awn yn awr adref; oblegid y mae hi yn bryd cinio.

14 Yna'r aethant allan, ac a ymadawsant y naill oddi wrth y llall: ac er hynny troi a wnaethant eilchwyl, a dyfod i'r un man; ac wedi ymofyn 'i gilydd yr achos, cyffesu a wnaethant bob un i'w gilydd eu chwant, ac yn unfryd llunio amser y gallent ei chael hi ei hunan.

15 Ac fel yr oeddynt yn disgwyl amser cyfaddas, Susanna a aeth i mewn fel yr arferai o'r blaen, a dwy forwyn yn unig gyda hi, ar fedr ymolchi yn yr ardd; canys brwd oedd yr hin.

16 Nid oedd neb yno ond y ddau henuriad, y rhai a ymguddiasent, ac oeddynt yn ei disgwyl hi.

17 A hi a ddywedodd wrth ei morynion Dygwch i mi olew, a sebon, a chaewch ddrysau'r ardd, fel y gallwyf ymolchi.

18 A'r morynion a wnaethant fel yr archasai hi: ac wedi iddynt gau drysau'r ardd, hwy a aethant allan i ddrws dirgel, i gyrchu'r pethau a archasid iddynt: eithr ni welsant mo'r henuriaid, o achos eu bod wedi ymguddio.

19 Ac fe ddarfu, wedi i'r morynion fyned allan, i'r ddau henuriad godi, a rhedeg ati hi, a dywedyd,

20 Wele ddrysau'r ardd yn gaead, fel na all neb ein gweled: yr ydym ni ein deuoedd mewn chwant i ti; cytuna nyni, a gorwedd gyda ni.

21 Os tydi ni wnei hynny, nyni a dystiolaethwn yn dy erbyn, fod gŵr ieuanc gyda thi, ac anfon ohonot y morynion ymaith oddi wrthyt am hynny.

22 Yna'r ochneidiodd Susanna, gan ddywedyd, Yr ydwyf fi mewn cyfyngdra o'r ddeutu: os y peth hwn a wnaf fi, marwolaeth yw i mi: os minnau nis gwnaf, ni allaf ddianc o'ch dwylo chwi.

23 Eto mae yn ddewisach gennyf fi syrthio yn eich dwylo chwi heb ei wneuthur, na phechu gerbron yr Arglwydd.

24 A Susanna a ddolefodd llef uchel. Felly y llefodd y ddau henuriad yn ei herbyn hi.

25 A'r naill a redodd, ac a agorodd ddrysau'r ardd.

26 Pan glybu tylwyth y tŷ y llefain yn yr ardd, myned a wnaethant i mewn i'r drws dirgel, i edrych beth a ddarfuasai iddi hi.

27 Eithr wedi i'r henuriaid ddywedyd eu chwedl, cywilyddio yn ddirfawr a wnaeth y gweision: oherwydd ni buasai'r fath air i Susanna o'r blaen.

28 A thrannoeth, pan ddaeth y bobl i dŷ Joacim ei gŵr hi, y ddau henuriad hefyd a ddaethant yno, yn llawn drwg feddwl i Susanna, ar ei rhoi hi i'w marwolaeth.

29 A hwy a ddywedasant yng ngwydd y bobl, Danfonwch am Susanna ferch Chelcias, gwraig Joacim. A hwy a ddanfonasant amdani hi.

30 Hithau a ddaeth, a'i rhieni, a'i phlant a'i holl geraint.

31 Susanna oedd dyner, a phrydferth ei gwedd.

32 A'r rhai anwir hyn a barasant ddinoethi ei hwyneb hi, canys yr oedd gorchudd arno, fel y gallent borthi eu chwant 'i thegwch hi.

33 Yna yr wylodd cynifer un ag oedd yn ei chylch hi, a'r rhai oll a'i hadwaenent.

34 A'r ddau henuriad a safasant i fyny yng nghanol y bobl, ac a roddasant eu dwylo ar ei phen hi.

35 A hithau yn wylo, a edrychodd i fyny tua'r nefoedd, am fod ei chalon hi a'i goglyd ar yr Arglwydd.

36 A'r henuriaid a ddywedasant, Pan oeddem ni yn rhodio ein hunain yn yr ardd, y daeth hi dwy lawforwyn i mewn; a hi a gaeodd ddrysau yr ardd, ac a anfonodd y morynion ymaith.

37 Yna y daeth gŵr ieuanc ati, yr hwn oedd yno yn ymguddio, ac a orweddodd gyda hi.

38 A ninnau yng nghongl yr ardd pan welsom y cyfryw anwiredd, a redasom atynt.

39 A phan welsom fel yr oeddynt ynghyd, ni allasom ei ddala ef, am ei fod yn gryfach na ni; eithr efe a agorodd y drws, ac a ddihangodd.

40 Eithr gwedi i ni ddala hon, ni a'i holasom hi, pwy oedd y gŵr ieuanc hwnnw; ac ni ddangosai hi i ni: a hyn yr ydym ni yn ei dystiolaethu.

41 A'r gynulleidfa a'u credodd hwynt, megis henuriaid a barnwyr y bobl: ac felly hwy a'i barnasant hi i farwolaeth.

42 Yna Susanna a lefodd llef uchel, gan ddywedyd, O Dduw tragwyddol, i'r hwn y mae pob dirgelwch yn hysbys, a'r hwn a wyddost bob peth cyn ei ddigwydd;

43 Ti a wyddost gamdystiolaethu ohonynt yn fy erbyn: ac yn awr y mae yn rhaid i mi farw, er na wneuthum i'm hoes y pethau y mae'r gwŷr hyn wedi eu drwg ddychymyg i'm herbyn.

44 A'r Arglwydd a wrandawodd ar ei llef hi.

45 Ac wrth fyned hi i'w marwolaeth, yr Arglwydd a gyffrdd ysbryd sanctaidd llencyn ieuanc, a'i enw Daniel;

46 Yr hwn a lefodd yn uchel, Gwirion wyf fi oddi wrth waed y wraig hon.

47 A'r holl bobl a droesant ato ef, ac a ddywedasant, Beth yw'r ymadrodd hwn a ddywedaist ti?

48 Ac efe a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd, O Israeliaid, a ydych chwi mor ansynhwyrol gadael yn euog ferch o Israel, heb lwyr chwilio a gwybod y gwirionedd?

49 Trowch eilchwyl i'r frawdle: canys tystiolaethu a wnaethant gelwydd yn ei herbyn hi.

50 A'r holl bobl a droesant ar ffrwst: a'r hynafgwyr a ddywedasant wrtho, Tyred, eistedd yn ein plith, a dangos i ni, gan i Dduw roddi i ti fraint henuriad.

51 A Daniel a ddywedodd wrthynt, Neilltuwch hwy oddi wrth ei gilydd ymhell, a mi a'u holaf hwynt,

52 A phan ddarfu neilltuo'r naill oddi wrth y llall, efe a alwodd un ohonynt, ac a ddywedodd wrtho, O dydi hen mewn drygioni, yr awr hon y daeth dy bechodau yn dy erbyn, y rhai a wnaethost o'r blaen,

53 A'th gamfarnau a fernaist, yn gadael yn euog y gwirion, ac yn rhyddhau'r anwir; lle y dywedodd yr Arglwydd, Na ladd y gwirion a'r cyfiawn.

54 Felly yn awr, os gwelaist ti hon, dangos dan ba ryw bren y gwelaist ti hwy ynghyd? Yna'r atebodd yntau, Dan lentyscbren.

55 A Daniel a ddywedodd, Gwych y dywedaist gelwydd yn erbyn dy ben dy hun; canys angel yr Arglwydd a dderbyniodd farn Duw i'th wahanu di yn ddau.

56 Yna wedi troi hwnnw heibio, efe a barodd ddyfod 'r llall, ac a ddywedodd wrtho, O hiliogaeth Canaan, ac nid Jwda, tegwch a'th dwyllodd di, a chwant a lygrodd dy galon.

57 Fel hyn y gwnaethoch chwi merched Israel, y rhai rhag ofn a gytunasant chwi: eithr merch Jwda nid arhoai eich anwiredd chwi.

58 Felly dywed i mi, Dan ba ryw bren y deliaist ti hwynt ynghyd? Ac efe a atebodd, Dan brinwydden.

59 A Daniel a ddywedodd wrtho, Gwych y dywedaist tithau hefyd gelwydd yn erbyn dy ben dy hun: canys y mae angel yr Arglwydd yn aros 'r cleddyf ganddo, i'th dorri di yn dy hanner, ac i'ch difetha chwi eich deuoedd.

60 Yna y llefodd yr holl gynulleidfa llef uchel, gan foli'r Arglwydd yr hwn a wared y sawl a ymddiriedo ynddo ef.

61
A hwy a godasant yn erbyn y ddau henuriad; canys Daniel a'u daliasai hwynt ar eu geiriau eu hunain yn euog o gamdystiolaeth;

62 A hwy a wnaethant iddynt y modd yr amcanasent hwy wneuthur ar gam a'u cymydog, ac a'u rhoddasant i'w marwolaeth, yn l cyfraith Moses. Felly y gwaredwyd y gwaed gwirion y dydd hwnnw.

63 Yna Chelcias a'i wraig a glodforasant Dduw dros eu merch Susanna, gyda Joacim ei gŵr hi, a'r holl genedl, am na chawsid ynddi ddim anonestrwydd.

64 Ac o'r dydd hwnnw allan yr oedd Daniel mewn parch mawr ymhlith y bobl.

 

DIWEDD

Adolygiadau diweddaraf: 2009-01-28

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Galles-Catalunya)
Weə(r) m ai? Yu a(r) vzting ə peij frm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəluniə) Wb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwch ar fy ystadegau