Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. La Bíblia en gal·lès de l'any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. 2613ke Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_sant_marc_41_2613ke.htm sion_prys_003_beibl_apocrypha_doethineb_salomon_72_2683ke

0001 Yr Hafan / Home Page

or via Google: #kimkat0001

..........
2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in English to this website

          or via Google: #kimkat2659e

....................0010e Y Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English

                    or via Google: #kimkat0010e

...........................................0977e Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh texts on this website - contents page  

                                           or via Google: #kimkat0977e

...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page

                                                                   or via Google: #kimkat1284e

............................................................................................y tudalen hwn
/ this page


..

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les

The Wales-Catalonia Website
 
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

Y Beibl Cysegr-lân: Yr Apocrypha
(xx) xxxx
(yn Gymraeg ac yn Saesneg)

 

The Holy Bible: The Apocrypha
(xx) xxxx  (in Welsh and English)

 


(delw 7310)

Adolygiadau diweddaraf - latest updates. 2009-01-25

 



 

 2612k Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig (Efengyl Sant Marc)

····· 


PENNOD 1

@@  Chapter 1

%%1:1 Cerwch gyfiawnder, y rhai ydych yn barnu'r ddaear: ystyriwch yr Arglwydd mewn daioni, a cheisiwch ef mewn puredd calon.

@@ 1:1 Love righteousness, ye that be judges of the earth: think of the Lord with a good (heart,) and in simplicity of heart seek him.

%%1:2 Oblegid efe a geir gan y rhai ni themtiant ef; ac a ymddengys i'r rhai ni anghredant iddo.

@@ 1:2 For he will be found of them that tempt him not; and sheweth himself unto such as do not distrust him.

%%1:3 Canys meddyliau trofaus a ddidolant oddi wrth Dduw; eithr rhinwedd brofedig a gerydda'r ynfydion.

@@ 1:3 For froward thoughts separate from God: and his power, when it is tried, reproveth the unwise.

%%1:4 Oherwydd nid a doethineb i enaid drygionus; ac ni chyfanhedda hi mewn corff caeth i bechod.

@@ 1:4 For into a malicious soul wisdom shall not enter; nor dwell in the body that is subject unto sin.

%%1:5 Oblegid sanctaidd ysbryd addysg a ffy oddi wrth dwyll, ac a ymedy a meddyiiau angall, ac a gystuddir lle y delo anwiredd.

@@ 1:5 For the holy spirit of discipline will flee deceit, and remove from thoughts that are without understanding, and will not abide when unrighteousness cometh in.

%%1:6 Canys ysbryd yn caru dyn yw doethineb, ac ni weryd hi yr hwn a gablo a'i wefusau: oblegid Duw sydd dyst o'i arennau ef, ac yn wir olygydd ei galon ef, ac yn gwrando ei ymadroddion ef.

@@ 1:6 For wisdom is a loving spirit; and will not acquit a blasphemer of his words: for God is witness of his reins, and a true beholder of his heart, and a hearer of his tongue.

%%1:7 Oblegid Ysbryd yr Arglwydd a lanwodd y byd: a'r hwn sydd yn cynnal pob peth biau adnabod lleferydd;

@@ 1:7 For the Spirit of the Lord filleth the world: and that which containeth all things hath knowledge of the voice.

%%1:8 Am hynny ni chaiff yr hwn a ddywedo bethau anghyfiawn lechu; ac nid a'r farn a gosbo heibio iddo ef.

@@ 1:8 Therefore he that speaketh unrighteous things cannot be hid: neither shall vengeance, when it punisheth, pass by him.

%%1:9 Oblegid fe fydd ymofyn yng nghynghorion yr annuwiol; a'r Arglwydd a gaiff glywed ei eiriau ef, i gosbi ei anwireddau ef.

@@ 1:9 For inquisition shall be made into the counsels of the ungodly: and the sound of his words shall come unto the Lord for the manifestation of his wicked deeds.

%%1:10 Canys clust eiddigus sydd yn clywed y cwbl; ac ni bydd sŵn grwgnach yn guddiedig.

@@ 1:10 For the ear of jealousy heareth all things: and the noise of murmurings is not hid.

%%1:11 Ymgedwch gan hynny rhag grwgnach di-fudd; ac arbedwch enllibio a'ch tafod: oherwydd nid a ymadrodd dirgel yn ofer; a'r genau a ddywedo gelwydd sydd yn lladd yr enaid.

@@ 1:11 Therefore beware of murmuring, which is unprofitable; and refrain your tongue from backbiting: for there is no word so secret, that shall go for nought: and the mouth that belieth slayeth the soul.

%%1:12 Na cheisiwch farwolaeth yn amryfusedd eich einioes; ac na thynnwch arnoch ddinistr a gweithredoedd eich dwylo:

@@ 1:12 Seek not death in the error of your life: and pull not upon yourselves destruction with the works of your hands.

%%1:13 Oblegid ni wnaeth Duw farwolaeth; ac nid digrif ganddo ddinistr y byw;

@@ 1:13 For God made not death: neither hath he pleasure in the destruction of the living.

%%1:14 Canys efe a wnaeth bob peth i fod; a chenedlaethau'r byd yn iachol, heb fod meddyginiaeth ddinistriol ynddynt, na brenhiniaeth uffern ar y ddaear.

@@ 1:14 For he created all things, that they might have their being: and the generations of the world were healthful; and there is no poison of destruction in them, nor the kingdom of death upon the earth:

%%1:15 Anfarwol hefyd yw cyfiawnder.

@@ 1:15 (For righteousness is immortal:)

%%1:16 Eithr rhai annuwiol a'i cyrchasant hi a'u dwylo, ac a'u hymadrodd: gaa dybied ei bod hi yn garedig y dihoenasant hwy, a hwy a wnaethant gyfamod a hi, am eu bod yn haeddu bod yn gyfranogion ohoni.

@@ 1:16 But ungodly men with their works and words called it to them: for when they thought to have it their friend, they consumed to nought, and made a covenant with it, because they are worthy to take part with it.

%%PENNOD 2

@@  Chapter 2

%%2:1 OBLEGID yr annuwiol a ddywedant ynddynt eu nun, gan feddwl, ond nid yn uniawn, Ber a blin yw ein hoes ni: yn niwedd dyn nid oes meddyginiaeth, ac ni adnabuwyd neb a ddychwelodd o uffern.

@@ 2:1 For the ungodly said, reasoning with themselves, but not aright, Our life is short and tedious, and in the death of a man there is no remedy: neither was there any man known to have returned from the grave.

%%2:2 Canys si ddamwain y ganwyd ni, ac wedi hyn ni byddwn ni rawy na phe na buasem: oblegid mwg yw'r fifun yn ein ffroenau ni, a gwreichionen yw'r ymadrodd yn dyfod o symudiad y galon;

@@ 2:2 For we are born at all adventure: and we shall be hereafter as though we had never been: for the breath in our nostrils is as smoke, and a little spark in the moving of our heart:

%%2:3 Pan ddiffodder honno, yr a'r corff yn lludw, a'n hanadl a wasgerir fel awyr denau;

@@ 2:3 Which being extinguished, our body shall be turned into ashes, and our spirit shall vanish as the soft air,

%%2:4 A'n henw nj a anghofir mewn amser, fel na chofio neb ein gweithredoedd; a'n heinioes niaxxx â fel ôl niwl, ac a wasgerir fel cwmwl, yr hwn a ymlidio pelydr yr haul, a'r hwn y byddo ei wres ef drwm wrtho.

@@ 2:4 And our name shall be forgotten in time, and no man shall have our works in remembrance, and our life shall pass away as the trace of a cloud, and shall be dispersed as a mist, that is driven away with the beams of the sun, and overcome with the heat thereof.

%%2:5 Canys ein hamser ni sydd fel mynediad cysgod; ac nid oes dychweliad ar ein diwedd: canys efe a seliwyd, ac nid oes neb yn dychwelyd.

@@ 2:5 For our time is a very shadow that passeth away; and after our end there is no returning: for it is fast sealed, so that no man cometh again.

%%2:6 Deuwch gan hynny, mwynhawn y da sydd, ac arferwn yn brysur yr hyn a feddwn, megis mewn ieuenctid.

@@ 2:6 Come on therefore, let us enjoy the good things that are present: and let us speedily use the creatures like as in youth.

%%2:7 Ymlanwn a gwin gwerthfawr, ac ag ennaint: ac na adawn i flodau'r amser fyned heibio i ni.

@@ 2:7 Let us fill ourselves with costly wine and ointments: and let no flower of the spring pass by us:

%%2:8 Gwisgwn goron o flodau rhos, cyn eu gwywo.

@@ 2:8 Let us crown ourselves with rosebuds, before they be withered:

%%2:9 Na fydded neb ohonom ni heb ei ran o ddifyrrwch; gadawn ym mhob man arwyddion o'n llawenydd: oblegid hyn yw ein rhan ni, a dyma ein dogn ni.

@@ 2:9 Let none of us go without his part of our voluptuousness: let us leave tokens of our joyfulness in every place: for this is our portion, and our lot is this.

%%2:10 Gorthrymwn y tlawd cyfiawn, nac arbedwn y weddw, ac na pharchwn hirhoedlog benllwydni yr hynafgwr.

@@ 2:10 Let us oppress the poor righteous man, let us not spare the widow, nor reverence the ancient gray hairs of the aged.

%%2:11 Bydded ein cryfder ni yn lle cyfraith gyfiawn: canys gwendid a geryddir fel peth di-fudd.

@@ 2:11 Let our strength be the law of justice: for that which is feeble is found to be nothing worth.

%%2:12 Cynllwynwn gan hynny i'r cyfiawn, am ei fod ef yn anfuddiol i ni: y mae efe hefyd yn erbyn ein gwaith ni, ac yn edliw y pechodau sydd yn erbyn y gyfraith, ac yn cyhoeddi er gogan i ni y pechodau sydd yn erbyn ein haddysg ni.

@@ 2:12 Therefore let us lie in wait for the righteous; because he is not for our turn, and he is clean contrary to our doings: he upbraideth us with our offending the law, and objecteth to our infamy the transgressings of our education.

%%2:13 Y mae efe yn ymhonni fod ganddo wybodaeth o Dduw, ac yn ei alw ei him yn blentyn i'r Arglwydd.

@@ 2:13 He professeth to have the knowledge of God: and he calleth himself the child of the Lord.

%%2:14 Efe a wnaed i argyhoeddi ein meddyliau ni.

@@ 2:14 He was made to reprove our thoughts.

%%2:15 Tnvrn gennym ei weled ef; am fod ei fuchedd ef yn annhebyg i'r eiddo eraill, a bod ei ffyrdd ef ar ddull arall.

@@ 2:15 He is grievous unto us even to behold: for his life is not like other men's, his ways are of another fashion.

%%2:16 Y mae efe yn ein cyfrif ni yn blant o ordderch, ac yn ymgadw rhag ein ffordd ni, megis rhag peth aflan; y mae efe yn cyfrif diwedd y rhai cyfiawn yn ddedwydd, ac yn ymhonni fod Duw yn dad iddo.

@@ 2:16 We are esteemed of him as counterfeits: he abstaineth from our ways as from filthiness: he pronounceth the end of the just to be blessed, and maketh his boast that God is his father.

%%2:17 Edrychwn ai gwir ei eiriau ef, a mynnwn wybod yn sicr beth a fydd ei ddiwedd ef.

@@ 2:17 Let us see if his words be true: and let us prove what shall happen in the end of him.

%%2:18 Oblegid os mab Duw yw'r cyfiawn, efe a'i derbyn ef, ac a'i gwared ef o ddwylo ei wrthwynebwyr.

@@ 2:18 For if the just man be the son of God, he will help him, and deliver him from the hand of his enemies.

%%2:19 Holwn ef yn amharchus ac yn gystuddiol, fel y caffom wybod ei addfwynder ef, a phrofi ei ddioddefgarwch ef.

@@ 2:19 Let us examine him with despitefulness and torture, that we may know his meekness, and prove his patience.

%%2:20 Barnwn ef i farwolaeth waradwyddus: oblegid fe a synnir arno, medd efe.

@@ 2:20 Let us condemn him with a shameful death: for by his own saying he shall be respected.

%%2:21 Hyn a feddyliasant hwy, a hwy a gamgymerasant: oblegid eu drygioni a'u dallodd hwynt.

@@ 2:21 Such things they did imagine, and were deceived: for their own wickedness hath blinded them.

%%2:22 Ac ni wybuant hwy ddirgeledigaethau Duw, ac ni obeithiasant am wobr cyfiawnder, ac nid ystyriasant wobr yr eneidiau difeius.

@@ 2:22 As for the mysteries of God, they kn ew them not: neither hoped they for the wages of righteousness, nor discerned a reward for blameless souls.

%%2:23 Oblegid Duw a greodd ddyn i fod yn anllygredig, ac a'i gwnaeth ef yn ddelw ei lun ei hun.

@@ 2:23 For God created man to be immortal, and made him to be an image of his own eternity.

%%2:24 A thrwy genfigen y cythraul y daeth marwolaeth i'r byd: a'r rhai sydd ar ei du ef a'i profant ef.

@@ 2:24 Nevertheless through envy of the devil came death into the world: and they that do hold of his side do find it.

%%PENNOD 3

@@  Chapter 3

%%3:1 EITHR y mae eneidiau y rhai cyfiawn yn llaw Dduw; ac ni chyffwrdd cystudd a hwynt.

@@ 3:1 But the souls of the righteous are in the hand of God, and there shall no torment touch them.

%%3:2 Y rhai angall oedd yn tybied eu bod hwy yn meirw; a drwg y cyfrifid eu diwedd hwynt,

@@ 3:2 In the sight of the unwise they seemed to die: and their departure is taken for misery,

%%3:3 A'u mynediad oddi wrthym ni yn ddinistr: eithr y maent hwy mewn heddwch.

@@ 3:3 And their going from us to be utter destruction: but they are in peace.

%%3:4 Oblegid er eu cystuddio hwy yng ngolwg dynion, y mae eu gobaith hwy yn llawn tragwyddoldeb.

@@ 3:4 For though they be punished in the sight of men, yet is their hope full of immortality.

%%3:5 A lle y ceryddwyd hwy ychydig, hwy a g&nt lawer o fudd: oblegid Duw a'u profodd hwynt, ac a'u cafodd yn addas iddo ei hun.

@@ 3:5 And having been a little chastised, they shall be greatly rewarded: for God proved them, and found them worthy for himself.

%%3:6 Efe a'u profodd hwynt fel aur yn y ffwrn, ac a'u derbyniodd fel aberth llosg.

@@ 3:6 As gold in the furnace hath he tried them, and received them as a burnt offering.

%%3:7 Ac yn amser eu gofwy hwy a ddisgleiriant, ac a redant i mewn ac allan, fel gwreichion mewn sofl.

@@ 3:7 And in the time of their visitation they shall shine, and run to and fro like sparks among the stubble.

%%3:8 Hwy a farnant genhedloedd, ac a lywodraethant bobloedd; a'u Harglwydd hwy a deyrnasa byth.

@@ 3:8 They shall judge the nations, and have dominion over the people, and their Lord shall reign for ever.

%%3:9 Y rhai a ymddiriedant ynddo ef a ddeallant y gwirionedd; a'r rhai ffyddlon mewn cariad a arhosant gydag ef: oblegid gras a thrugaredd sydd i'w saint ef, ac efe a ofala dros ei etholedigion.

@@ 3:9 They that put their trust in him shall understand the truth: and such as be faithful in love shall abide with him: for grace and mercy is to his saints, and he hath care for his elect.

%%3:10 Eithr yr annuwiol, fel y meddyliasant, a gtat gosbedigaeth, y rhai a ddiystyrasant y cyfiawn, ac a wrthodasant yr Arglwydd.

@@ 3:10 But the ungodly shall be punished according to their own imaginations, which have neglected the righteous, and forsaken the Lord.

%%3:11 Canys annedwydd yw yr hwn a ddiystyro ddoethineb ac addysg, ac ofer yw eu gobaith: eu llafur hefyd a fydd diffrwyth, a'u gwaith yn ddi-fudd.

@@ 3:11 For whoso despiseth wisdom and nurture, he is miserable, and their hope is vain, their labours unfruitful, and their works unprofitable:

%%3:12 Eu gwragedd sydd yn angall, a'u pknt yn ddrygionus.

@@ 3:12 Their wives are foolish, and their children wicked:

%%3:13 Melltigedig yw eu hepil hwynt: canys dedwydd yw'r amhlantadwy ddihalogedig, yr hon nid adnabu wely mewn pechod: hi a gaiff ffrwyth pan ymweler a°r eneidiau:

@@ 3:13 Their offspring is cursed. Wherefore blessed is the barren that is undefiled, which hath not known the sinful bed: she shall have fruit in the visitation of souls.

%%3:14 A dedwydd yw y disbaidd, yr hwn ni wnaeth anwiredd a'i ddwylo, ac ni feddyliodd ddrygioni yn erbyn yr Arglwydd: canys iddo ef y rhoddir dewisol rad ffydd, a'r rhan gymeradwyaf gan ei feddwl, yn nheml yr Arglwydd.

@@ 3:14 And blessed is the eunuch, which with his hands hath wrought no iniquity, nor imagined wicked things against God: for unto him shall be given the special gift of faith, and an inheritance in the temple of the Lord more acceptable to his mind.

%%3:15 Canys gogoneddus yw ffrwyth poen dda; a gwreiddyn doethineb ni ddiflanna byth.

@@ 3:15 For glorious is the fruit of good labours: and the root of wisdom shall never fall away.

%%3:16 Eithr plant y godinebus a fyddant amherffaith; a'r had o wely anwir a ddiflanna;

@@ 3:16 As for the children of adulterers, they shall not come to their perfection, and the seed of an unrighteous bed shall be rooted out.

%%3:17 Oblegid os hirhoedlog fyddant, ni wneir dim cyfrif ohonynt: a'u henaint fydd amharchus yn y diwedd.

@@ 3:17 For though they live long, yet shall they be nothing regarded: and their last age shall be without honour.

%%3:18 Eithr os yn fuan y diweddir hwynt, ni chânt obaith na chysur yn nydd ymweliad:

@@ 3:18 Or, if they die quickly, they have no hope, neither comfort in the day of trial.

%%3:19 Oblegid ofnadwy yw diwedd y genhedlaeth anghyfiawn.

@@ 3:19 For horrible is the end of the unrighteous generation.

%%PENNOD 4

@@  Chapter 4

%%4:1 Well yw bod heb blant, a bod gennym rinwedd: oblegid anfarwol yw y coffa amdani, a hysbys i Dduw a dynion yw hi.

@@ 4:1 Better it is to have no children, and to have virtue: for the memorial thereof is immortal: because it is known with God, and with men.

%%4:2 Hwy a'i dilynant hi pan fyddo presennol, ac a'i dymunant hi pan elo ymaith; y mae hi yn gorfoleddu, wedi ei choroni byth; wedi ennill y mae wrth ymdrechu am ddihalogedig wobrau.

@@ 4:2 When it is present, men take example at it; and when it is gone, they desire it: it weareth a crown, and triumpheth for ever, having gotten the victory, striving for undefiled rewards.

%%4:3 Eithr tylwythog dyrfa'r annuwiol ni bydd fuddiol; ni ddwfn wreiddia chwaith yr hon sydd yn dyfod o blanhigion bastardaidd, ac ni esyd sylfaen sicr;

@@ 4:3 But the multiplying brood of the ungodly shall not thrive, nor take deep rooting from bastard slips, nor lay any fast foundation.

%%4:4 Oblegid er iddynt dyfu dros amser yn wrysg; gwynt a'u symud hwynt, gan eu bod yn tyfu yn weiniaid, a'u diwreiddio gan nerth y gwyntoedd.

@@ 4:4 For though they flourish in branches for a time; yet standing not last, they shall be shaken with the wind, and through the force of winds they shall be rooted out.

%%4:5 Yr amherffaith ganghennau a dorrir ymaith, a'u ffrwyth hwynt a fydd di-fudd, heb fod yn aeddfed i'w fwyta, nac yn gymwys i ddim.

@@ 4:5 The imperfect branches shall be broken off, their fruit unprofitable, not ripe to eat, yea, meet for nothing.

%%4:6 Oherwydd y plant a genhedler yn y gwely annheilwng sy dystion o anwiredd yn erbyn eu rbieni, pan holer hwynt.

@@ 4:6 For children begotten of unlawful beds are witnesses of wickedness against their parents in their trial.

%%4:7 Eithr os diweddir y cyfiawn yn gynnar, efe a fydd mewn esmwythdra er hynny.

@@ 4:7 But though the righteous be prevented with death, yet shall he be in rest.

%%4:8 Oherwydd nid yr hirhoedlog yw'r henaint parchedig, na'r hon a fesurir wrth rifedi blynyddoedd:

@@ 4:8 For honourable age is not that which standeth in length of time, nor that is measured by number of years.

%%4:9 Eithr doethineb sy benllwydni i ddynion; a henaint oedrannus yw buchedd ddihalog.

@@ 4:9 But wisdom is the gray hair unto men, and an unspotted life is old age.

%%4:10 Efe a ryngodd fodd i Dduw, ac a hoffwyd ganddo: ac efe, yn byw ymysg pechaduriaid, a fudwyd ymaith.

@@ 4:10 He pleased God, and was beloved of him: so that living among sinners he was translated.

%%4:11 Efe a gipiwyd ymaith rhag i ddrygioni newidio ei feddwl ef, neu i dwyll dwyllo ei enaid ef.

@@ 4:11 Yea speedily was he taken away, lest that wickedness should alter his understanding, or deceit beguile his soul.

%%4:12 Oblegid hudoliaeth oferedd a dywylla bethau da; ac anwadalwch chwant a symud feddwl difalais.

@@ 4:12 For the bewitching of naughtiness doth obscure things that are honest; and the wandering of concupiscence doth undermine the simple mind.

%%4:13 Efe, wedi ei ddiweddu yn fuan, a gyflawnodd hir amser;

@@ 4:13 He, being made perfect in a short time, fulfilled a long time:

%%4:14 Canys cu oedd ei enaid ef gan yr Arglwydd: am hynny yr aeth efe ar frys o fysg drygioni.

@@ 4:14 For his soul pleased the Lord: therefore hasted he to take him away from among the wicked.

%%4:15 Y mae'r bobl ya gweled hyn, ac heb ddeall nac ystyried fod gras a thrugaredd i'w saint ef, ac ymgeledd i'w etholedigion.

@@ 4:15 This the people saw, and understood it not, neither laid they up this in their minds, That his grace and mercy is with his saints, and that he hath respect unto his chosen.

%%4:16 Pan fyddo'r cyfiawn marw, y mae efe yn rhoddi barn yn erbyn y rhai annuwiol byw; felly y mae yr ieuenctid a ddiweddir yn fuan, yn erbyn hirhoedlog henaint yr anghyfiawn:

@@ 4:16 Thus the righteous that is dead shall condemn the ungodly which are living; and youth that is soon perfected the many years and old age of the unrighteous.

%%4:17 Oblegid hwy a gam weled diwedd y doeth, ac ni feddyliant beth a amcanasant iddo, ac i ba beth y cadwodd yr Arglwydd ef yn ddiogel.

@@ 4:17 For they shall see the end of the wise, and shall not understand what God in his counsel hath decreed of him, and to what end the Lord hath set him in safety.

%%4:18 Hwy a'i gwelant ef, ac a'i diystyrant: eithr yr Arglwydd a'u gwatwar hwynt, a hwy a fyddant yn gelain amharchedig, ac yn waradwyddus ymysg y meirw byth.

@@ 4:18 They shall see him, and despise him; but God shall laugh them to scorn: and they shall hereafter be a vile carcase, and a reproach among the dead for evermore.

%%4:19 Canys efe a'u ddryllia hwynt i lawr yn ddi-drwst, ac a'u sigl hwynt o'r sylfaen, a hwy a anrheithir hyd yr eithaf, ac a fyddant mewn gofid; a'u coffadwriaeth hwynt a dderfydd.

@@ 4:19 For he shall rend them, and cast them down headlong, that they shall be speechless; and he shall shake them from the foundation; and they shall be utterly laid waste, and be in sorrow; and their memorial shall perish.

%%4:20 Hwy a ddeuant yn ofnus trwy feddwl am eu pechodau; a'u hanwireddau a'u ceryddant hwy o flaen eu hwynebau.

@@ 4:20 And when they cast up the accounts of their sins, they shall come with fear: and their own iniquities shall convince them to their face.

%%PENNOD 5

@@  Chapter 5

%%5:1 YNA y saif y cyfiawn mewn hyder mawr o flaen ei orthrymwyr, a'r rhai a ddiystyrasant ei lafur ef.

@@ 5:1 Then shall the righteous man stand in great boldness before the face of such as have afflicted him, and made no account of his labours.

%%5:2 Pan welantj hwy a gythryblir ag ofn aruthr; a syn fydd ganddynt ei iachawdwriaeth ryfedd ef.

@@ 5:2 When they see it, they shall be troubled with terrible fear, and shall be amazed at the strangeness of his salvation, so far beyond all that they looked for.

%%5:3 A hwy a ddywedant ynddynt eu hun yn edifeiriol; a chan gyfyngder meddwl yr ocheneidiant, ac y dywedant, Dyma'r hwn yr oeddem ni gynt yn ei watwar, ac yn ei ddyfalu yn waradwyddus.

@@ 5:3 And they repenting and groaning for anguish of spirit shall say within themselves, This was he, whom we had sometimes in derision, and a proverb of reproach:

%%5:4 Nyni ffyliaid a feddyliasom fod ei fuchedd ef ya ynfydrwydd, a'i ddiwedd yn amharchus.

@@ 5:4 We fools accounted his life madness, and his end to be without honour:

%%5:5 Pa fodd y cyfrifwyd ef ymhlith meibion Duw, ac y mae ei ran ef ymysg y saint!

@@ 5:5 How is he numbered among the children of God, and his lot is among the saints!

%%5:6 Nyni gan hynny a gyfeiliornasom allan o ffordd y gwiricnedd, ac ni thywynnodd llewyrch cyfiawnder i ni, ac ni chododd haul cyfiawnder arnom.

@@ 5:6 Therefore have we erred from the way of truth, and the light of righteousness hath not shined unto us, and the sun of righteousness rose not upon us.

%%5:7 Nyni a lanwyd o ffyrdd anwiredd a distryw, ac a rodiasom trwy anialwch anhyffordd; eithr nid adnabuom ni ffordd yr Arglwydd.

@@ 5:7 We wearied ourselves in the way of wickedness and destruction: yea, we have gone through deserts, where there lay no way: but as for the way of the Lord, we have not known it.

%%5:8 Pa fudd sydd i ni o falchder? a pha les a wnaeth golud a ffrost i ni?

@@ 5:8 What hath pride profited us? or what good hath riches with our vaunting brought us?

%%5:9 Y pethau hynny oll a aethant ym. aith fel cysgodj ac fel cennad yn rhedeg;

@@ 5:9 All those things are passed away like a shadow, and as a post that hasted by;

%%5:10 Fel llong yn myned trwy'r dwfr tonnog, yr hon ni ellir caffael ei hôl, wedi iddi fyned heibio, na'r llwybr yr aeth hi trwy'r tonnau;

@@ 5:10 And as a ship that passeth over the waves of the water, which when it is gone by, the trace thereof cannot be found, neither the pathway of the keel in the waves;

%%5:11 Neu megis na cheir arwydd mynediad yr aderyn a ehedo trwy'r awyr, eithr dyrnod yr esgyll ar y gwynt tenau, yr hwn a gurir ac a rennir trwy nerth egniol, gan guro'r adenydd,a â trwodd, ac yno nid oes dim arwydd pa le yr aeth efe;

@@ 5:11 Or as when a bird hath flown through the air, there is no token of her way to be found, but the light air being beaten with the stroke of her wings and parted with the violent noise and motion of them, is passed through, and therein afterwards no sign where she went is to be found;

%%5:12 Neu fel pan saether saeth at nod, yr awyr wedi ei rhannu a ddychwel yn y fan i'w lle, fel na wydder pa ffordd yr aeth hi:

@@ 5:12 Or like as when an arrow is shot at a mark, it parteth the air, which immediately cometh together again, so that a man cannot know where it went through:

%%5:13 Felly ninnau, pan y'n ganwyd, a ddechreuasom bwyso at ein diwedd; ac ni allasom ddangos dim arwydd rhinwedd dda, eithr yn ein drygioni y darfuom ni.

@@ 5:13 Even so we in like manner, as soon as we were born, began to draw to our end, and had no sign of virtue to shew; but were consumed in our own wickedness.

%%5:14 Oblegid fel llwch, yr hwn a arwain y gwynt, ac fel ewyn tenau, yr hwn a yrr y dymestl, ac fel y mwg a wasgerir gan wynt, neu fel cof am ymdeithydd dros un diwrnod, yr a gobaith yr annuwiol ymaith.

@@ 5:14 For the hope of the ungodly is like dust that is blown away with the wind; like a thin froth that is driven away with the storm; like as the smoke which is dispersed here and there with a tempest, and passeth away as the remembrance of a guest that tarrieth but a day.

%%5:15 Eithr y mae y cyfiawn yn byw byth; a chyda'r Arglwydd y mae eu gwobr hwyntj a chan y Goruchaf y mae gofal amdanynt hwy.

@@ 5:15 But the righteous live for evermore; their reward also is with the Lord, and the care of them is with the most High.

%%5:16 Am hynny y cant hwy ar law yr Arglwydd deyrnas hardd, a choron deg; oblegid efe a'u gorchuddia hwynt a'i ddeheulaw, ac a'u hamddiffyn a'i fraich.

@@ 5:16 Therefore shall they receive a glorious kingdom, and a beautiful crown from the Lord's hand: for with his right hand shall he cover them, and with his arm shall he protect them.

%%5:17 Efe a gymer ei eiddigedd yn lle pob arfogaeth, ac a arfoga'r creaduriaid i ddial ar y gelynion.

@@ 5:17 He shall take to him his jealousy for complete armour, and make the creature his weapon for the revenge of his enemies.

%%5:18 Efe a wisg gyfiawnder yn ddwyfronneg, ac a wisg farnedigaeth ddiragrith yn lle helm.

@@ 5:18 He shall put on righteousness as a breastplate, and true judgment instead of an helmet.

%%5:19 Efe a gymer sancteiddrwydd yn darian, yr hwn ni ellir ei orchfygu.

@@ 5:19 He shall take holiness for an invincible shield.

%%5:20 Efe a hoga ei ddicter tost yn gleddyf; a'r byd a ryfela gydag ef yn erbyn ffyliaid.

@@ 5:20 His severe wrath shall he sharpen for a sword, and the world shall fight with him against the unwise.

%%5:21 Byllt y mellt a ânt yn union, ac a gyrchant at y nod, megis o anelog fwa'r cymylau.

@@ 5:21 Then shall the right aiming thunderbolts go abroad; and from the clouds, as from a well drawn bow, shall they fly to the mark.

%%5:22 A chan ei ddigofaint ef, yr hwn sydd yn arfer o daflu meini, y bwrir cenllysg yn llawn llid; dwfr y môr a lidia wrthynt hwy, a'r afonydd a lifant yn dost:

@@ 5:22 And hailstones full of wrath shall be cast as out of a stone bow, and the water of the sea shall rage against them, and the floods shall cruelly drown them.

%%5:23 Gwynt nerthol a saif yn eu herbyn, ac a'u nithia hwynt ymaith fel trowynt: ie, anwiredd a ddifwyna'r holl dir, a drygioni a ddinistria eisteddfeydd y cedyrn.

@@ 5:23 Yea, a mighty wind shall stand up against them, and like a storm shall blow them away: thus iniquity shall lay waste the whole earth, and ill dealing shall overthrow the thrones of the mighty.

%%PENNOD 6

@@  Chapter 6

%%6:1 GWRANDEWCH gan hynny, O v3" frenhinoedd, a deellwch; O farnwyr eithafoedd y ddaear, cymerwch ddysg.

@@ 6:1 Hear therefore, O ye kings, and understand; learn, ye that be judges of the ends of the earth.

%%6:2 Rhoddwch glust, lywodraethwyr y dyrfa; a'r rhai ydych feilchion o liaws cenhedloedd.

@@ 6:2 Give ear, ye that rule the people, and glory in the multitude of nations.

%%6:3 Oblegid y cryfder a gawsoch chwi gan yr Arglwydd, a'r gallu gan y Goruchaf, yr hwn a ymofyn am eich gweithredoedd chwi, ac a chwilia allan eich cynghorion.

@@ 6:3 For power is given you of the Lord, and sovereignty from the Highest, who shall try your works, and search out your counsels.

%%6:4 Am i chwi yn weinidogion o'i frenhiniaeth ef, na farnasoch yn uniawn, ac na chadwasoch y gyfraith, ac na rodiasoch yn ôl ewyllys Duw,

@@ 6:4 Because, being ministers of his kingdom, ye have not judged aright, nor kept the law, nor walked after the counsel of God;

%%6:5 Yn aruthr ac yn ebrwydd y daw efe atoch chwi: oherwydd barn dost fydd i'r llywodraethwyr.

@@ 6:5 Horribly and speedily shall he come upon you: for a sharp judgment shall be to them that be in high places.

%%6:6 Y lleiaf a ddichon gael maddeuant ya drugarog; a'r cedyrn a gystuddir yn gadarn.

@@ 6:6 For mercy will soon pardon the meanest: but mighty men shall be mightily tormented.

%%6:7 Oblegid yr hwn sydd Arglwydd ar bawb, nid ystyr wyneb, ac ni ofna fawredd: canys efe a wnaeth y mawr a'r bychan, ac a ofala yr un modd am bawb:

@@ 6:7 For he which is Lord over all shall fear no man's person, neither shall he stand in awe of any man's greatness: for he hath made the small and great, and careth for all alike.

%%6:8 Ond ar y cedyrn y daw hawl gadarn.

@@ 6:8 But a sore trial shall come upon the mighty.

%%6:9 Wrthych chwi am hynny, frenhinoedd, y mae fy ngeiriau i, fel y dysgoch ddoethineb heb ballu. to Oblegid y rhai a gadwant y pethau sanctaidd yn sanctaidd, a sancteiddir; a'r rhai a'u dysgasant hwy a gânt beth i'w ateb drostynt eu hunain.

@@ 6:9 Unto you therefore, O kings, do I speak, that ye may learn wisdom, and not fall away.

%%6:11 Chwenychwch gan hynny fy ngeiriau i; dymunwch hwynt, a chwi a fyddwch ddysgedig.

@@ 6:11 For they that keep holiness holily shall be judged holy: and they that have learned such things shall find what to answer.

%%6:12 Doethineb sy ddisglair, ac ni dderfydd: hawdd y canfyddir hi gan y rhai a'i hoffant, a hawdd y ceir hi gan y rhai a'i ceisiant.

@@ 6:12 Wherefore set your affection upon my words; desire them, and ye shall be instructed.

%%6:13 Y mae hi yn myned i gyfarfbd y rhai a'i chwenychant, fel yr adwaener hi yn gyntaf.

@@ 6:13 Wisdom is glorious, and never fadeth away: yea, she is easily seen of them that love her, and found of such as seek her.

%%6:14 Nid rhaid poen i'r hwn a gyfodo'n fore amdani hi: oblegid efe a'i caiff hi yn eistedd wrth ei ddrysau.

@@ 6:14 She preventeth them that desire her, in making herself first known unto them.

%%6:15 Canys perfceithrwydd synnwyr yw meddwl amdani hi, a'r hwn a wylio amdani hi, a fydd ddiofal yn ebrwydd.

@@ 6:15 Whoso seeketh her early shall have no great travail: for he shall find her sitting at his doors.

%%6:16 Oblegid y raae hi yn myned o amgylch, dan geisio y rhai sy deilwng ohoni; y mae hi yn ymddangos yn llawen iddynt hwy ar y llwybrau, ac yn cyfarfod a hwynt ar bob meddwl.

@@ 6:16 To think therefore upon her is perfection of wisdom: and whoso watcheth for her shall quickly be without care.

%%6:17 Ei dechreuad hi yw gwir chwant i addysg; a gofal addysg yw cariad;

@@ 6:17 For she goeth about seeking such as are worthy of her, sheweth herself favourably unto them in the ways, and meeteth them in every thought.

%%6:18 A chariad yw ceidwad ei chyfreithiau hi: a sicrwydd o anllygredigaeth yw gwrando ar y gyfraith.

@@ 6:18 For the very true beginning of her is the desire of discipline; and the care of discipline is love;

%%6:19 Anllygredigaeth hefyd sydd yn peri bod yn agos i Dduw:

@@ 6:19 And love is the keeping of her laws; and the giving heed unto her laws is the assurance of incorruption;

%%6:20 Oblegid hynny, chwant doethineb sydd yn dwyn i'r deyrnas.

@@ 6:20 And incorruption maketh us near unto God:

%%6:21 Am hynny, O frenhinoedd y bobl, os melys gennych orseddfeinciau a theyrnwiail, anrhydeddwch ddoethineb, fel y teyrnasoch byth.

@@ 6:21 Therefore the desire of wisdom bringeth to a kingdom.

%%6:22 Eithr beth yw doethineb, a pha fodd y gwnaed hi, mi a fynegaf i chwi, ac ni chuddiaf ddirgeledigaethau rhagoch: eithr o ddechreuad ei genedigaeth yr olrheiniaf hi, ac y gosodaf ei gwybodaeth hi yn amlwg, ac nid af fi dros y gwirionedd.

@@ 6:22 If your delight be then in thrones and sceptres, O ye kings of the people, honour wisdom, that ye may reign for evermore.

%%6:23 Ac ni chydymdeithiaf fi a chenfigen ddihoenedig, oblegid ni bydd y cyfryw un yn gyfrannog o ddoethineb.

@@ 6:23 As for wisdom, what she is, and how she came up, I will tell you, and will not hide mysteries from you: but will seek her out from the beginning of her nativity, and bring the knowledge of her into light, and will not pass over the truth.

%%6:24 Iachawdwriaeth y byd yw llawer o ddoethion; ac ateg y bobl yw brenin call.

@@ 6:24 Neither will I go with consuming envy; for such a man shall have no fellowship with wisdom.

%%6:25 Am hynny cymerwch addysg trwy fy ngeiriau i, a chwi a gewch fudd.

@@ 6:25 But the multitude of the wise is the welfare of the world: and a wise king is the upholding of the people.

%%PENNOD 7

@@  Receive therefore instruction through my words, and it shall do you good.

%%7:1 DYN marwol ydwyf finnau, un fodd a phawb eraUl, ac yn dyfod o hiliogaeth yr hwn a luniwyd gyntaf o'r ddaear;

@@ 7:1 Chapter 7

%%7:2 Ac yng nghroth fy mam y'm lluniwyd yn gnawdj o fewn amser deng mis, gan geulo o had gŵr mewn gwaed, ac o drythyllwch yn dyfod ynghyd a chwsg.

@@ 7:2 I myself also am a mortal man, like to all, and the offspring of him that was first made of the earth,

%%7:3 A phan y'm ganwyd, mi a dynnais ataf yr awyr cyffredin i ni, ac a syrthiais ar y ddaear, yr hon sydd o'r un naturiaeth; yn wylofain y rhoddais i y llais cyntaf, fel pawb eraill.

@@ 7:3 And in my mother's womb was fashioned to be flesh in the time of ten months, being compacted in blood, of the seed of man, and the pleasure that came with sleep.

%%7:4 Mewn cawiau, a thrwy ofal, y'm magwyd.

@@ 7:4 And when I was born, I drew in the common air, and fell upon the earth, which is of like nature, and the first voice which I uttered was crying, as all others do.

%%7:5 Ni chafodd un brenin amgen dechreuad i'w enedigaeth.

@@ 7:5 I was nursed in swaddling clothes, and that with cares.

%%7:6 Un fath ddyfodiad i lywyd sydd i bawb, ac un fath fynediad allan.

@@ 7:6 For there is no king that had any other beginning of birth.

%%7:7 Am hynny mi a weddïais, ac fe a roddwyd i mi ddeall; mi a waeddais, ac fe ddaeth ysbryd doethineb ataf.

@@ 7:7 For all men have one entrance into life, and the like going out.

%%7:8 Mi a'i cyfrifais hi yn well na theyrnwiail ac na gorseddfeydd: ac ni chyfrifais olud yn ddim wrth gyffelybiaeth iddi,

@@ 7:8 Wherefore I prayed, and understanding was given me: I called upon God, and the spirit of wisdom came to me.

%%7:9 Ni chyffelybais i faen gwerthfawr iddi hi: canys greyenyn bychan yw pob aur yn ei golwg hi, ac fel clai y cyfrifir arian o'i blaen hi.

@@ 7:9 I preferred her before sceptres and thrones, and esteemed riches nothing in comparison of her.

%%7:10 Mi a'i hoffais hi yn fwy nag iechyd, ac na thegwch; ac mi a arfaethais ei chael hi yn lle goleuni: oblegid ni fachluda'r llewyrch a ddaw ohoni hi.

@@ 7:10 Neither compared I unto her any precious stone, because all gold in respect of her is as a little sand, and silver shall be counted as clay before her.

%%7:11 Pob daioni a ddaeth i mi gyda hi, a golud annifeiriol yn ei dwylo hi.

@@ 7:11 I loved her above health and beauty, and chose to have her instead of light: for the light that cometh from her never goeth out.

%%7:12 Ac mi a lawenychais am bob un, am fod doethineb yn eu blaenori hwynt: ond ni wyddwn i mai hi oedd eu mam hwynt.

@@ 7:12 All good things together came to me with her, and innumerable riches in her hands.

%%7:13 Yn ddidwyll y dysgais, ac yn ddigenfigen yr ydwyf yn cyfrannu, heb gelu ei golud hi.

@@ 7:13 And I rejoiced in them all, because wisdom goeth before them: and I knew not that she was the mother of them.

%%7:14 Diball drysor yw hi i ddynion: pwy bynnag a'i harfero, y maent hwy yn ymgyfeillach a Duw, gan fod yn ganmoladwy trwy'r doniau a gaer trwy addysg.

@@ 7:14 I learned diligently, and do communicate her liberally: I do not hide her riches.

%%7:15 Duw a roddes i mi ddywedyd yn

@@ 7:15 For she is a treasure unto men that never faileth: which they that use become the friends of God, being commended for the gifts that come from learning.

%%7:61 fy meddwl, a meddwl yn addas am y pethau a roddwyd: oblegid efe yw pob un o'r ddau, awdur doethineb) a chyfarwyddwr y doethion.

@@ 7:61 God hath granted me to speak as I would, and to conceive as is meet for the things that are given me: because it is he that leadeth unto wisdom, and directeth the wise.

%%7:16 Yr ydym ni a'n geiriau yn ei law ef: felly y mae pob deall, a gwybodaeth gwaith.

@@ 7:16 For in his hand are both we and our words; all wisdom also, and knowledge of workmanship.

%%7:17 Canys efe a roddes i mi wybodaeth ddigelwydd am y pethau sydd, i wybod cyfansoddiad y byd, a grym yr elf ennau;

@@ 7:17 For he hath given me certain knowledge of the things that are, namely, to know how the world was made, and the operation of the elements:

%%7:18 Dechrau, diwedd, a chanol amserau; newid moddion yr haul, a chyfnewid tymhorau;

@@ 7:18 The beginning, ending, and midst of the times: the alterations of the turning of the sun, and the change of seasons:

%%7:19 Amgylchiad y flwyddyn, a gosodiad y sSr;

@@ 7:19 The circuits of years, and the positions of stars:

%%7:20 Naturiaethau anifeiiiaid, llid bwystfilod, nerth gwyntoedd, ac ymresymau dynion, rhagoriaeth planhigioo, a rhinweddau gwraidd;

@@ 7:20 The natures of living creatures, and the furies of wild beasts: the violence of winds, and the reasonings of men: the diversities of plants and the virtues of roots:

%%7:21 Beth bynnag sydd, nac yn ddirgel, nac yn amlwg, mi a'i gwn.

@@ 7:21 And all such things as are either secret or manifest, them I know.

%%7:22 Oblegid doethineb, yr hon a wnaeth y cwbl, a'm dysgodd i: oherwydd y mae ynddi hi ysbryd deallgar, sanctaidd, unig, amryw, tenau, cyflym, disglair, dihalog, eglurj annioddefadwy, yn horn daioni, yn llym, heb aim ei atal, yn barod i wneuthur daioni,

@@ 7:22 For wisdom, which is the worker of all things, taught me: for in her is an understanding spirit holy, one only, manifold, subtil, lively, clear, undefiled, plain, not subject to hurt, loving the thing that is good quick, which cannot be letted, ready to do good,

%%7:23 Yn cam dyn, yn ddianwadal, yn sicr, yn ddiofal, yn hollalluog, yn edrych am bob peth, ac yn myned trwy bob ysbryd deallgar, pur, ac o'r teneuaf.

@@ 7:23 Kind to man, steadfast, sure, free from care, having all power, overseeing all things, and going through all understanding, pure, and most subtil, spirits.

%%7:24 Bywiocach yw doethineb na dim bywiog; hia â ac a dreiddia trwy bob peth, oherwydd ei phured.

@@ 7:24 For wisdom is more moving than any motion: she passeth and goeth through all things by reason of her pureness.

%%7:25 Canys angerdd gallu Duw yw hi, a ffrwd bur oddi wrth ogoniant yr Hollalluog: am hynny ni syrth dim halogedig iddi hi.

@@ 7:25 For she is the breath of the power of God, and a pure influence flowing from the glory of the Almighty: therefore can no defiled thing fall into her.

%%7:26 Canys disgleirdeb y goleuni tragwyddol yw hi, difrycheulyd ddrych gweithrediad Duw, a delw ei ddaioni ef.

@@ 7:26 For she is the brightness of the everlasting light, the unspotted mirror of the power of God, and the image of his goodness.

%%7:27 Er nad yw hi ond un, hi a ddichon bob dim; ac yn aros ynddi ei hun y mae hi yn adnewyddu pob dim; a thrwy'r oesoedd yn disgyn i'r eneidiau sanctaidd, y mae hi yn eu gwneuthur yn garedigion ac yn broffwydi i Dc^uw;

@@ 7:27 And being but one, she can do all things: and remaining in herself, she maketh all things new: and in all ages entering into holy souls, she maketh them friends of God, and prophets.

%%7:28 Oblegid nid hoff gan Dduw neb, ond yr hwn a gyfanheddo gyda doethineb:

@@ 7:28 For God loveth none but him that dwelleth with wisdom.

%%7:29 Oblegid y mae hi yn decach na'r haul, ac yn uwch na gosodiad y sir; os cystedlir hi a'r goleuni, gorau y ceir hi;

@@ 7:29 For she is more beautiful than the sun, and above all the order of stars: being compared with the light, she is found before it.

%%7:30 Canys y nos a ddaw ar ei ôl ef, ond ni orchfyga drygioni mo ddoethineb.

@@ 7:30 For after this cometh night: but vice shall not prevail against wisdom.

%%PENNOD 8

@@  Chapter 8

%%8:1 Y mae hi'n cyrhaeddyd o gŵr bwygilydd yn rymusol; ac yn cyfleu pob peth yn fuddiol.

@@ 8:1 Wisdom reacheth from one end to another mightily: and sweetly doth she order all things.

%%8:2 Hon a gerais i, ac a geisiais o'm hieuenctid, ac a geisiais ei phriodi yn ddyweddi i mi: canys cu oedd gennyf ei thegwch hi.

@@ 8:2 I loved her, and sought her out from my youth, I desired to make her my spouse, and I was a lover of her beauty.

%%8:3 Y mae hi yn gwneuthur ei bonedd yn ogoneddus trwy gytal gyda Duw: ac Arglwydd pob peth a'i hoffodd hi.

@@ 8:3 In that she is conversant with God, she magnifieth her nobility: yea, the Lord of all things himself loved her.

%%8:4 Canys athro yw hi ar athrawiaeth Dduw, ac un yn dewis ei weithredoedd ef.

@@ 8:4 For she is privy to the mysteries of the knowledge of God, and a lover of his works.

%%8:5 Os meddiant dymunol yn y bywyd hwn yw cyfoeth, beth gyfoethocach na doethineb, yr hon sydd yn gwneuthur pob peth?

@@ 8:5 If riches be a possession to be desired in this life; what is richer than wisdom, that worketh all things?

%%8:6 Ac os doethineb a weithreda, pa un o'r pethau sydd a wna yn well na hi?

@@ 8:6 And if prudence work; who of all that are is a more cunning workman than she?

%%8:7 Os cyfiawnder a hoffa neb, rhinweddau da yw ei llafur hi: canys y rnae hi yn dysgu sobreiddrwydd a synnwyr, cyfiawnder a gwroldeb; na pha rai nid oes dim mwy ei fudd i ddynion yn eu bywyd.

@@ 8:7 And if a man love righteousness her labours are virtues: for she teacheth temperance and prudence, justice and fortitude: which are such things, as en can have nothing more profitable in their life.

%%8:8 O chwennych neb gael sicrwydd gwybodaeth lawer, hi a ŵyr y pethau gynt, ac a ddychymyg yn uniawn y pethau a fyddant: y mae hi yn gwybod dichellion geiriau, ac yn medru dirnad cwestiynau caled, ac yn gwybod yr arwyddion a'r rhyfeddodau, a'r hyn a ddamwain mewn tymor ac amser, cyn eu dyfod.

@@ 8:8 If a man desire much experience, she knoweth things of old, and conjectureth aright what is to come: she knoweth the subtilties of speeches, and can expound dark sentences: she foreseeth signs and wonders, and the events of seasons and times.

%%8:9 Am hynny yr arfaethais ddwyn hon i gytal a mi, gan wybod y cynghorai hi i mi bethau da, ac y'm diddanai mewn gofal a thristwch.

@@ 8:9 Therefore I purposed to take her to me to live with me, knowing that she would be a counsellor of good things, and a comfort in cares and grief.

%%8:10 Er ei mwyn hi y caf fi barch yn y dyrfa, ac anrhydedd gan henuriaid, er fy mod i yn ieuanc.

@@ 8:10 For her sake I shall have estimation among the multitude, and honour with the elders, though I be young.

%%8:11 Myfi a geir yn barod fy synnwyr mewn barn, ac a fyddaf ryfedd yng ngolwg gwŷr mawr.

@@ 8:11 I shall be found of a quick conceit in judgment, and shall be admired in the sight of great men.

%%8:12 Hwy a arhosant arnaf tra y tawyf, ac a wrandawant tra llefarwyf, ac a osodant eu dwylo ar eu geneuau, os myfi a draethaf lawer.

@@ 8:12 When I hold my tongue, they shall bide my leisure, and when I speak, they shall give good ear unto me: if I talk much, they shall lay their hands upon their mouth.

%%8:13 Trwyddi hi y caf fi dragwyddoldeb, ac y gadawaf goffadwriaeth tragwyddol i'r rhai a fyddant ar fy ôl;

@@ 8:13 Moreover by the means of her I shall obtain immortality, and leave behind me an everlasting memorial to them that come after me.

%%8:14 Y llywodraethaf fi y bobl, ac y darostyngir y cenhedloedd i mi.

@@ 8:14 I shall set the people in order, and the nations shall be subject unto me.

%%8:15 Gorthrymwyr aruthrol a'm hofnant i, pan glywont sôn amdanaf fi; ymysg y gwerin y'm gwelir i yn dda, ac yn y rhyfel yn gryf.

@@ 8:15 Horrible tyrants shall be afraid, when they do but hear of me; I shall be found good among the multitude, and valiant in war.

%%8:16 Pan elwyf i'm tŷ, mi a gydorffwysaf gyda hi: oblegid nid oes chwerwder wrth gytal a hi, na blinder wrth fyw gyda hi, ond llawenydd a gorfoledd.

@@ 8:16 After I am come into mine house, I will repose myself with her: for her conversation hath no bitterness; and to live with her hath no sorrow, but mirth and joy.

%%8:17 Wrth feddwl hyn ynof fy hun, ac wrth gofio yn fy nghalon mai yng ngharennydd doethineb y mae tragwyddoldeb,

@@ 8:17 Now when I considered these things in myself, and pondered them in my heart, how that to be allied unto wisdom is immortality;

%%8:18 A bod hyfrydwch daionus yn ei chyfeillach hi, a golud diball yn ilafur ei dwylo, a bod synnwyr o ymarfer ag ymddiddan a hi, a bod parch wrth fod yn gyfrannog o'i hyraadroddion, mi a geisiais o amgylch pa fodd y cawn hi ataf,

@@ 8:18 And great pleasure it is to have her friendship; and in the works of her hands are infinite riches; and in the exercise of conference with her, prudence; and in talking with her, a good report; I went about seeking how to take her to me.

%%8:19 Yr oeddwn i yn fachgen o athrylith dda, ac a gawswn ysbrydoliaeth dda;

@@ 8:19 For I was a witty child, and had a good spirit.

%%8:20 le, yn hytrach, a myfi yn dda, myfi a ddeuthum i gorff dihalog.

@@ 8:20 Yea rather, being good, I came into a body undefiled.

%%8:21 Ond pan wybum na chawn hi, oni roddai Duw hi, ac mai synnwyr oedd gwybod rhodd pwy oedd hi, mi a ddeuthum at Dduw, ac a ymbiliais, ac a ddywedais o'm holl galon,

@@ 8:21 Nevertheless, when I perceived that I could not otherwise obtain her, except God gave her me; and that was a point of wisdom also to know whose gift she was; I prayed unto the Lord, and besought him, and with my whole heart I said,

%%PENNOD 9

@@  Chapter 9

%%9:1 O DDUW y tadau, ac Arglwydd y dragaredd, yr hwn a wnaethost bob peth a'th air,

@@ 9:1 O God of my fathers, and Lord of mercy, who hast made all things with thy word,

%%9:2 A thrwy dy ddoethineb a osodaist ddyn i lywodraethu ar y creaduriaid a wnaethost,

@@ 9:2 And ordained man through thy wisdom, that he should have dominion over the creatures which thou hast made,

%%9:3 Ac i lywodraethu'r byd yn uniawn ac yn gyfiawn, ac i roddi barn a meddwl uniawn;

@@ 9:3 And order the world according to equity and righteousness, and execute judgment with an upright heart:

%%9:4 Dod di i mi ddoethineb, yr hon sydd yn eistedd wrth dy orseddfainc di, ac na wrthod fi o blith dy blant.

@@ 9:4 Give me wisdom, that sitteth by thy throne; and reject me not from among thy children:

%%9:5 Canys myfi dy was, a mab dy lawforwyn, ydwyf ddyn llesg, ac o amser byr, ac yn llai mewn deall barnedigaeth a chyfraith.

@@ 9:5 For I thy servant and son of thine handmaid am a feeble person, and of a short time, and too young for the understanding of judgment and laws.

%%9:6 Oblegid yr hwn sy berffeithiaf ymysg meibion dynion, a gyfrifir yn ddi-ddim, os ymaith y bydd y doethineb sydd oddi wrthyt ti.

@@ 9:6 For though a man be never so perfect among the children of men, yet if thy wisdom be not with him, he shall be nothing regarded.

%%9:7 Ti a'm dewisaist i yn frenin ar y bobl, ac yn farnwr ar dy feibion a'th fetched.

@@ 9:7 Thou hast chosen me to be a king of thy people, and a judge of thy sons and daughters:

%%9:8 Ti a ddywedaist am adeiladu teml ar dy fynydd sanctaidd, ac allor yn ninas dy breswylfod, sef portreiad y tabernacl sanctaidd, yr hwn a ddarperaist ti o'r dechreuad.

@@ 9:8 Thou hast commanded me to build a temple upon thy holy mount, and an altar in the city wherein thou dwellest, a resemblance of the holy tabernacle, which thou hast prepared from the beginning.

%%9:9 A chyda thi yr oedd doethineb, yr hon a adwaenai dy weithredoedd di, ac oedd bresennol pan wnaethost ti y byd, ac a ŵyr beth sydd yn rhyngu bodd yn dy olwg, a pheth sydd uniawn wrth dy orchmynion di.

@@ 9:9 And wisdom was with thee: which knoweth thy works, and was present when thou madest the world, and knew what was acceptable in thy sight, and right in thy commandments.

%%9:10 Anfon hi o'th nefoedd sanctaidd, a gyr hi o orseddfainc dy ogoniant, fel y cymero hi boen yn bresennol gyda mi, ac y gwypwyf fi beth sy fodlon gennyt.

@@ 9:10 O send her out of thy holy heavens, and from the throne of thy glory, that being present she may labour with me, that I may know what is pleasing unto thee.

%%9:11 Canys y mae hi yn gwybod ac yn deall pob peth: a hi a'm harwain i yn fy ngweithredoedd yn sobr, ac a'm ceidw i yn ei gogoniant.

@@ 9:11 For she knoweth and understandeth all things, and she shall lead me soberly in my doings, and preserve me in her power.

%%9:12 Felly y bydd fy ngweithredoedd i yn gymeradwy, ac y barnaf fi dy bobl yn gyfiawn, ac y byddaf addas i orseddfainc fy nhad.

@@ 9:12 So shall my works be acceptable, and then shall I judge thy people righteously, and be worthy to sit in my father's seat.

%%9:13 Canys pa ddyn a ŵyr gyfrinach Duw? a phwy a feddwl beth a ewyllysia Duw?

@@ 9:13 For what man is he that can know the counsel of God? or who can think what the will of the Lord is?

%%9:14 Oblegid ofnus yw meddyliau dynion marwol, ac ansicr yw ein hamcanion ni.

@@ 9:14 For the thoughts of mortal men are miserable, and our devices are but uncertain.

%%9:15 Canys y corff llygredig sydd yn drwm i'r enaid, a'r breswylfod ddaearol sydd yn faich i'r meddwl, yr hwn sydd yn gofalu am lawer o bethau.

@@ 9:15 For the corruptible body presseth down the soul, and the earthy tabernacle weigheth down the mind that museth upon many things.

%%9:16 A phrin y medrwn ni iawn ddeall y pethau sy ar y ddaear, a thrwy boen yr ydym ni yn cael y pethau sydd yn ein dwylo: eithr pwy a olrhain allan y pethau sydd yn y nefoedd?

@@ 9:16 And hardly do we guess aright at things that are upon earth, and with labour do we find the things that are before us: but the things that are in heaven who hath searched out?

%%9:17 le, pwy a ŵyr dy gyfrinach di, oddieithr i ti roddi doethineb, ac anfon dy Ysbryd sanctaidd o'r uchelder?

@@ 9:17 And thy counsel who hath known, except thou give wisdom, and send thy Holy Spirit from above?

%%9:18 Felly yr uniawnwyd ffyrdd y rhai sydd ar y ddaear, ac y dysgwyd i ddynion y pethau a'th fodlonant di; a thrwy ddoethineb y cadwyd hwynt.

@@ 9:18 For so the ways of them which lived on the earth were reformed, and men were taught the things that are pleasing unto thee, and were saved through wisdom.

%%PENNOD 10

@@  Chapter 10

%%º10:1 HON a gadwodd y cyntaf a luniwyd, tad y byd, yr hwn a grewyd yn unig, ac a'i gwaredodd ef o'i fai,

@@ 10:1 She preserved the first formed father of the world, that was created alone, and brought him out of his fall,

%%º10:2 Ac a roddes iddo ef nerth i lywodraethu pob peth.

@@ 10:2 And gave him power to rule all things.

%%º10:3 A phan ymadawodd yr anghyfiawn a hi yn ei ddicter, efe a fethodd trwy lid i ladd ei frawd:

@@ 10:3 But when the unrighteous went away from her in his anger, he perished also in the fury wherewith he murdered his brother.

%%º10:4 Er mwyn yr hwn y boddwyd y ddaear: eithr doethineb drachefn a'i cadwodd hi, gan lywio'r cyfiawn ag ychydig bren.

@@ 10:4 For whose cause the earth being drowned with the flood, wisdom again preserved it, and directed the course of the righteous in a piece of wood of small value.

%%º10:5 Hi hefyd, yng nghytundeb y cenhedloedd cymysgadwy mewn drygioni, a adnabu'r cyfiawn, ac a'i cadwodd ef yn ddifai i Dduw, ie, yn ei fawr gariad i'w fab, hi a'i cadwodd ef yn gryf.

@@ 10:5 Moreover, the nations in their wicked conspiracy being confounded, she found out the righteous, and preserved him blameless unto God, and kept him strong against his tender compassion toward his son.

%%º10:6 Hi a waredodd y cyfiawn oddi wrth yr annuwiol colledig, pan ffodd efe rhag y tân a ddisgynnodd ar y pum dinas;

@@ 10:6 When the ungodly perished, she delivered the righteous man, who fled from the fire which fell down upon the five cities.

%%º10:7 Am yr hwn ddrygioni y mae y diffeithdir myglyd, a'r planwydd yn ffrwytho heb aeddfedu byth, yn dystiolaeth: felly y mae y golofn halen yn sefyll yn goffadwriaeth am yr enaid anghredadun.

@@ 10:7 Of whose wickedness even to this day the waste land that smoketh is a testimony, and plants bearing fruit that never come to ripeness: and a standing pillar of salt is a monument of an unbelieving soul.

%%º10:8 Oblegid y rhai a ddiystyrasant ddoethineb, ni chawsant yn unig y niwed hyn, sef bod heb wybod pethau da, eithr hwy a adawsant goffadwriaeth i'r byd o'u ffolineb; ac ni allent lechu yn y pethau a wnaethant ar fai.

@@ 10:8 For regarding not wisdom, they gat not only this hurt, that they knew not the things which were good; but also left behind them to the world a memorial of their foolishness: so that in the things wherein they offended they could not so much as be hid.

%%º10:9 Eithr y rhai a'i parchent hi, a waredodd doethineb o boenau.

@@ 10:9 Rut wisdom delivered from pain those that attended upon her.

%%º10:10 Mewn llwybrau uniawn yr arweiniodd hi y cyfiawn, yr hwn oedd yn ffbi rhag digofaint ei frawd; hi a ddangosodd iddo ef deyrnas Dduw, ac a roddes iddo ef wybodaeth am bethau sanctaidd; hi a'i cyfoethogodd ef yn ei lafur, ac a gynyddodd ffrwyth ei boen ef.

@@ 10:10 When the righteous fled from his brother's wrath she guided him in right paths, shewed him the kingdom of God, and gave him knowledge of holy things, made him rich in his travels, and multiplied the fruit of his labours.

%%º10:11 Wrth gybydd-dod y rhai oedd drech nag ef, yr oedd hi gerllaw, ac a'i cyfoethogodd ef.

@@ 10:11 In the covetousness of such as oppressed him she stood by him, and made him rich.

%%º10:12 Hi a'i cadwodd ef rhag ei elynion, ac a'i diofalodd ef oddi wrth ei gynEwynwyr; ac mewn ymdrech cryf hi a roddes y maes iddo ef, fel y gallai efe wybod fod duwioldeb yn gryfach na dim.

@@ 10:12 She defended him from his enemies, and kept him safe from those that lay in wait, and in a sore conflict she gave him the victory; that he might know that goodness is stronger than all.

%%º10:13 Ni adawodd hi y cyfiawn, yr hwn a werthwyd, eithr hi a'i hachubodd ef rhag pechod, ac a aeth i waered gydag ef i'r carchar.

@@ 10:13 When the righteous was sold, she forsook him not, but delivered him from sin: she went down with him into the pit,

%%º10:14 Ie, ni adawodd hi ef yn ei rwymau, hyd oni ddygodd hi iddo ef deyrnwialen y frenhiniaeth, a llywodraeth ar ei orthrymwyr: hi a ddangosodd fod y rhai oedd yn beio arno ef, yn gelwyddog, ac a roddes iddo ef ogoniant tragwyddol.

@@ 10:14 And left him not in bonds, till she brought him the sceptre of the kingdom, and power against those that oppressed him: as for them that had accused him, she shewed them to be liars, and gave him perpetual glory.

%%º10:15 Hon a waredodd y bobl sanctaidd a'r had difai oddi wrth y genedl a'u gorthrymai hwynt.

@@ 10:15 She delivered the righteous people and blameless seed from the nation that oppressed them.

%%º10:16 Hi a aeth i mewn i enaid gwas yr Arglwydd, ac a safodd yn erbyn brenhinoedd ofnadwy, gan wneuthur rhyfeddodau a gwyrthiau.

@@ 10:16 She entered into the soul of the servant of the Lord, and withstood dreadful kings in wonders and signs;

%%º10:17 Hi a roddes i'r rhai cyfiawn wobr sancteiddrwydd eu llafur; hi a'u harweiniodd hwynt mewn ffordd ryfedd, ac oedd yn orchudd iddynt y dydd, ac yn fflam o sêr y nos.

@@ 10:17 Rendered to the righteous a reward of their labours, guided them in a marvellous way, and was unto them for a cover by day, and a light of stars in the night season;

%%º10:18 Hi a'u dug hwy trwy'r mor coch, ac a'u harweiniodd hwy trwy ddwfr mawr:

@@ 10:18 Brought them through the Red sea, and led them through much water:

%%º10:19 A hi a foddodd eu gelynion hwynt, ac a'u dug hwynt i fyny o waelod y dyfnder.

@@ 10:19 But she drowned their enemies, and cast them up out of the bottom of the deep.

%%º10:20 Am hynny y rhai cyfiawn a ysbeiliasant y rhai annuwiol, ac a ddatganasant dy enw sanctaidd di, O Arglwydd, ac a glodforasant o unfryd dy law orchfygus di.

@@ 10:20 Therefore the righteous spoiled the ungodly, and praised thy holy name, O Lord, and magnified with one accord thine hand, that fought for them.

%%º10:21 Oblegid doethineb a agorodd enau y rhai mudion, ac a osododd dafodau plant by chain yn ymadroddus.

@@ 10:21 For wisdom opened the mouth of the dumb, and made the tongues of them that cannot speak eloquent.

%%PENNOD 11

@@  Chapter 11

%%11:1 TJI a gyfarwyddodd eu gweithredoedd •*• •*hwynt yn llaw y proffwyd sanctaidd.

@@ 11:1 She prospered their works in the hand of the holy prophet.

%%11:2 Hwy a ymdeithiasant trwy'r diffeithwch anghyfanheddol, ac a osodasant eu pebyll mewn lleoedd anhyffordd.

@@ 11:2 They went through the wilderness that was not inhabited, and pitched tents in places where there lay no way.

%%11:3 Hwy a safasant yn erbyn y rhai a ryfelent i'w herbyn, ac a ddialasant ar eu gelynion.

@@ 11:3 They stood against their enemies, and were avenged of their adversaries.

%%11:4 Daeth syched arnynt, a hwy a alwasant arnat ti, ac fe a roddwyd iddynt ddwfr o'r graig serth, a meddyginiaeth rhag syched o'r maen caled.

@@ 11:4 When they were thirsty, they called upon thee, and water was given them out of the flinty rock, and their thirst was quenched out of the hard stone.

%%11:5 Canys trwy'r pethau y cystuddiwyd eu gelynion hwynt, trwy'r un pethau y cawsant hwy les, pan oedd eisiau arnynt.

@@ 11:5 For by what things their enemies were punished, by the same they in their need were benefited.

%%11:6 Yn lle ffynnon o afon redegog, wedi ei chythryblu a gwaed llychlyd,

@@ 11:6 For instead of of a perpetual running river troubled with foul blood,

%%11:7 Yn gerydd am y gorchymyn i ladd y plant, y rhoddaist ti iddynt hwy amlder o ddwfr trwy fodd heb ei obeithio;

@@ 11:7 For a manifest reproof of that commandment, whereby the infants were slain, thou gavest unto them abundance of water by a means which they hoped not for:

%%11:8 Gan ddangos trwy'r syched oedd yr amser hwnnw, pa fodd y cystuddiesit ti y gwrthwynebwyr.

@@ 11:8 Declaring by that thirst then how thou hadst punished their adversaries.

%%11:9 Oblegid pan demtiwyd hwy, er eu ceryddu yn drugarog, hwy a wybuant pa fodd y dialeddwyd ar y rhai annuwiol, y rhai a farnwyd mewn digofaint.

@@ 11:9 For when they were tried albeit but in mercy chastised, they knew how the ungodly were judged in wrath and tormented, thirsting in another manner than the just.

%%11:10 Canys y rhai hyn a brofaist ti fel tad, gan eu rhybuddio; a'r lleill a holaist ti fel brenin tost, gan eu condemnio:

@@ 11:10 For these thou didst admonish and try, as a father: but the other, as a severe king, thou didst condemn and punish.

%%11:11 Y rhai, pa un bynnag ai yn absennol, ai yn bresennol, a gystuddiwyd yr un modd.

@@ 11:11 Whether they were absent or present, they were vexed alike.

%%11:12 Oblegid tristwch a gofid dauddyblyg a ddaeth arnynt hwy, wrth gofio pethau a aethai heibio.

@@ 11:12 For a double grief came upon them, and a groaning for the remembrance of things past.

%%11:13 Canys pan glywsant hwy wrth eu cystudd eu hun, gael ohonynt fudd, hwy a feddyliasant am yr Arglwydd.

@@ 11:13 For when they heard by their own punishments the other to be benefited, they had some feeling of the Lord.

%%11:14 Oblegid yr hwn a wrthodasent hwy yn watwarus, wedi ei fwrw allan gynt wrth daflu allan y plant newyddeni, hwnnw a fu ryfedd ganddynt hwy yn niwedd y pethau a ddigwyddasant, gan fod arnynt syched amgen nag ar y rhai cyfiawn.

@@ 11:14 For whom they respected with scorn, when he was long before thrown out at the casting forth of the infants, him in the end, when they saw what came to pass, they admired.

%%11:15 Am anneallgar ddychmygion eu hanghyfiawnder hwynt, trwy y rhai 97wedi eu twyllo yr addolasant ymlusgiaid anrhesymol a bwystfllod gwael, yr anfonaist lawer o anifeiliaid heb reswrn i ddial arnynt hwy;

@@ 11:15 But for the foolish devices of their wickedness, wherewith being deceived they worshipped serpents void of reason, and vile beasts, thou didst send a multitude of unreasonable beasts upon them for vengeance;

%%11:16 Pel y gallent hwy wybod mai trwy'r pethau y pecha neb, trwy'r un pethau hefyd y cosbir ef.

@@ 11:16 That they might know, that wherewithal a man sinneth, by the same also shall he be punished.

%%11:17 Oblegid ni rwystrwyd dy law di, yr hon sydd hollalluog, ac a wnaeth y byd o afluniaidd ddefnydd, fel na allasai anfon arnynt hwy lawer o eirth a llewod hy,

@@ 11:17 For thy Almighty hand, that made the world of matter without form, wanted not means to send among them a multitude of bears or fierce lions,

%%11:18 Neu anifeiliaid dieithr llawn o ddig, wedi eu newydd greu, yn anadlu tarth tanllyd, neu dwrf mwg, yr hwn a dry y gwynt neu wreichion aruthrol o'u llygaid fel mellt;

@@ 11:18 Or unknown wild beasts, full of rage, newly created, breathing out either a fiery vapour, or filthy scents of scattered smoke, or shooting horrible sparkles out of their eyes:

%%11:19 Y thai ni allai eu niwed hwynt yn unig eu dinistrio hwy, eithr eu golwg erchyll hwynt hefyd eu difetha hwy ar unwaith.

@@ 11:19 Whereof not only the harm might dispatch them at once, but also the terrible sight utterly destroy them.

%%11:20 Heb y rhai hyn hefyd trwy un awel y gallasent hwy syrthio, wrth gael eu hymlid gan ddialedd, a'u gwasgaru trwy ysbryd dy nerth di: eithr tydi a drefnaist bob peth wrth fesur, a rhif, a phwys.

@@ 11:20 Yea, and without these might they have fallen down with one blast, being persecuted of vengeance, and scattered abroad through the breath of thy power: but thou hast ordered all things in measure and number and weight.

%%11:21 Canys bob amser yr ydwyt ti yn gallu llawer; a phwy a wrthwyneba nerth dy fraich di?

@@ 11:21 For thou canst shew thy great strength at all times when thou wilt; and who may withstand the power of thine arm?

%%11:22 Oblegid megis tipyn allan o gloriannau yw'r holl fyd yn dy olwg di, ac megis defnyn o wh'th y bore, yr hwn a ddisgyn ar y ddaear.

@@ 11:22 For the whole world before thee is as a little grain of the balance, yea, as a drop of the morning dew that falleth down upon the earth.

%%11:23 Ond yr ydwyt ti yn trugarhau wrth bob peth: oblegid ti a elli bob dim; ac yr ydwyt heb gymryd arnat weled pechodau dynion, fel yr edifarhaent hwy.

@@ 11:23 But thou hast mercy upon all; for thou canst do all things, and winkest at the sins of men, because they should amend.

%%11:24 Y mae yn hoff gennyt ti bob peth a'r y sydd, ac nid ffiaidd gennyt ddim a'r a wnaethost: ie, ni wnaethit ti ddim pe buasai gas gennyt ef.

@@ 11:24 For thou lovest all the things that are, and abhorrest nothing which thou hast made: for never wouldest thou have made any thing, if thou hadst hated it.

%%11:25 A pha fodd y parhasai dim, oni buasai dy ewyllys di? neu y cadwesid, heb ei alw gennyt ti?

@@ 11:25 And how could any thing have endured, if it had not been thy will? or been preserved, if not called by thee?

%%11:26 Ond yr ydwyt ti yn arbed pob peth: oblegid yr eiddot ti ydynt hwy, O Arglwydd, yr hwn sydd yn caru eneidiau.

@@ 11:26 But thou sparest all: for they are thine, O Lord, thou lover of souls.

%%PENNOD 12

@@  Chapter 12

%%12:1 CANYS y mae dy Ysbryd anllygredig di ym mhob peth.

@@ 12:1 For thine incorruptible Spirit is in all things.

%%12:2 Am hynny yr wyt ti yn ceryddu bob ychydig ac ychydig, y rhai a droseddant, ac yn eu rhybuddio trwy alw i'w cof hwynt y pethau y pechasant ynddynt, fel yr ymadawent a'u drygioni, ac y credent ynot ti, O Arglwydd.

@@ 12:2 Therefore chastenest thou them by little and little that offend, and warnest them by putting them in remembrance wherein they have offended, that leaving their wickedness they may believe on thee, O Lord.

%%12:3 Canys dy ewyllys di oedd trwy ddwylo ein tadau ni ddifetha hen breswylwyr y tir sanctaidd,

@@ 12:3 For it was thy will to destroy by the hands of our fathers both those old inhabitants of thy holy land,

%%12:4 Y rhai oedd gas gennyt ti, oherwydd atgasaf weithredoedd swynion, ac aberthau annuwiol,

@@ 12:4 Whom thou hatedst for doing most odious works of witchcrafts, and wicked sacrifices;

%%12:5 Ac anhrugarog leiddiaid y plant hynny hefyd, a bwytawyr perfedd cnawd dynion, a'u gwleddau gwaedlyd,

@@ 12:5 And also those merciless murderers of children, and devourers of man's flesh, and the feasts of blood,

%%12:6 Gyda'u hoffeiriaid o ganol eu gwehilion eilunaddolaidd, a'r tadau y rhai a laddodd a'u dwylo eu hun eneidiau digarad;

@@ 12:6 With their priests out of the midst of their idolatrous crew, and the parents, that killed with their own hands souls destitute of help:

%%12:7 Fel y gallai'r wlad sy guaf gennyt ti gael plant Duw i'w chyfanheddu yn addas.

@@ 12:7 That the land, which thou esteemedst above all other, might receive a worthy colony of God's children.

%%12:8 Eithr ti a arbedaist y rhai hyn megis dynion, ac a anfonaist gacwn o flaen dy lu, i'w goresgyn hwy bob ychydig ac ychydig.

@@ 12:8 Nevertheless even those thou sparedst as men, and didst send wasps, forerunners of thine host, to destroy them by little and little.

%%12:9 Nid oherwydd na allasit ti ddarostwng yr annuwiol i'r rhai cyfiawn trwy ryfel, neu eu difetha hwy ar unwaith trwy fwystfilod creulon, neu air caled;

@@ 12:9 Not that thou wast unable to bring the ungodly under the hand of the righteous in battle, or to destroy them at once with cruel beasts, or with one rough word:

%%12:10 Eithr gan farnu o fesur ychydig ac ychydig, ti a roddaist le i edifeirwch, pan nad oedd anhysbys i ti fod eu cenhedlaeth hwynt yn ddrygionus, a'u drygioni yn anianol, ac na newidiai eu meddwl hwynt byth:

@@ 12:10 But executing thy judgments upon them by little and little, thou gavest them place of repentance, not being ignorant that they were a naughty generation, and that their malice was bred in them, and that their cogitation would never be changed.

%%12:11 Canys hiliogaeth felltigedig oeddynt hwy o'r dechreuad: ond ni roddaist ti ddiogelwch iddynt am y pethau y pechent hwy ynddynt, er ofn neb.

@@ 12:11 For it was a cursed seed from the beginning; neither didst thou for fear of any man give them pardon for those things wherein they sinned.

%%12:12 Oblegid pwy a ddywed, Beth a wnaethost ti? neu pwy a wrthwyneba dy farn di? pwy a gwyna rhagot ti am y cenhedloedd a ddifethwyd, y rhai a wnaethost ti? neu pwy a ddaw i sefyll i'th erbyn, i ddial dros ddynion anghyfiawn?

@@ 12:12 For who shall say, What hast thou done? or who shall withstand thy judgment? or who shall accuse thee for the nations that perish, whom thou made? or who shall come to stand against thee, to be revenged for the unrighteous men?

%%12:13 Nid oes Duw ond tydi yn gofalu am bob peth, i ddangos nad wyt yn bamu yn anghyfiawn.

@@ 12:13 For neither is there any God but thou that careth for all, to whom thou mightest shew that thy judgment is not unright.

%%12:14 Nid oes na brenin na theyrn a ddichon osod ei wyneb yn dy erbyn di, am y rhai a gosbaist ti.

@@ 12:14 Neither shall king or tyrant be able to set his face against thee for any whom thou hast punished.

%%12:15 Am dy fod yn gyfiawn, yr ydwyt ti yn trefnu pob peth yn gyfiawn, gan gyfrif yn beth arnherthynol i'th allu di roddi barn yn erbyn yr hwn ni ddylai ei gosbi.

@@ 12:15 Forsomuch then as thou art righteous thyself, thou orderest all things righteously: thinking it not agreeable with thy power to condemn him that hath not deserved to be punished.

%%12:16 Oblegid dechreuad cyfiawnder yw dy nerth di; a'th fod di yn Arglwydd ar bob peth, sydd yn peri i ti arbed pob peth.

@@ 12:16 For thy power is the beginning of righteousness, and because thou art the Lord of all, it maketh thee to be gracious unto all.

%%12:17 Pan ni chredir dy fod di o berffaith allu, yr wyt ti yn dangos dy nerth; ac ymhlith y rhai a'i hedwyn yr wyt yn amlygu eu hyder hwynt.

@@ 12:17 For when men will not believe that thou art of a full power, thou shewest thy strength, and among them that know it thou makest their boldness manifest.

%%12:18 Yn gyfiawn yr wyt ti yn barnu, gan feistroli dy allu; a thrwy lawer o arbed yr wyt ti yn ein llywodraethu ni: oblegid y mae gennyt ti allu pan fynnech.

@@ 12:18 But thou, mastering thy power, judgest with equity, and orderest us with great favour: for thou mayest use power when thou wilt.

%%12:19 A thi a ddysgaist dy bobl wrth y cyfryw weithredoedd, fod yn rhaid i'r cyfiawn fod yn gu ganddo ddyn: a thi a wnaethost dy blant yn dda eu gobaith, oherwydd i ti roddi edifeirwch am bechodau.

@@ 12:19 But by such works hast thou taught thy people that the just man should be merciful, and hast made thy children to be of a good hope that thou givest repentance for sins.

%%12:20 Canys os mor ystyriol y cystuddiaist ti elynion dy blant, y rhai a ddylent farwolaeth, gan roddi amser a modd i newidio oddi wrth ddrygioni,

@@ 12:20 For if thou didst punish the enemies of thy children, and the condemned to death, with such deliberation, giving them time and place, whereby they might be delivered from their malice:

%%12:21 A pha ofal y bernaist ti dy blant dy hun, i rieni pa rai y rhoddaist ti lwon ac amodau o addewidion da?

@@ 12:21 With how great circumspection didst thou judge thine own sons, unto whose fathers thou hast sworn, and made covenants of good promises?

%%12:22 Am hynny lle yr wyt ti yn ein ceryddu ni, yr ydwyt yn ffrewyllu ein gelynion ni yn ddengmil mwy; fel pan farnom ni> y gallom feddwl am dy ddaioni di; a phan y'n barner, ddisgwyl am drugaredd.

@@ 12:22 Therefore, whereas thou dost chasten us, thou scourgest our enemies a thousand times more, to the intent that, when we judge, we should carefully think of thy goodness, and when we ourselves are judged, we should look for mercy.

%%12:23 Am yr hwn beth y rhoddaist ti ddialedd ar y rhai a fuant fyw'n anghyfiawn mewn buchedd angall, trwy eu ffiaidd weithredoedd eu hun.

@@ 12:23 Wherefore, whereas men have lived dissolutely and unrighteously, thou hast tormented them with their own abominations.

%%12:24 Canys hwy a gyfeiliornasant yn ffordd cyfeiliorni ymhell, gan gymryd y rhai oedd amharchus ymysg anifeiliaid eu gelynion yn lle duwiau, wedi eu twyllo fel plant angall.

@@ 12:24 For they went astray very far in the ways of error, and held them for gods, which even among the beasts of their enemies were despised, being deceived, as children of no understanding.

%%12:25 Am hynny yr anfonaist ti iddynt hwy, megis i blant direswm, dy farnedigaeth i'w gwatwar.

@@ 12:25 Therefore unto them, as to children without the use of reason, thou didst send a judgment to mock them.

%%12:26 Y rhai ni chymerant rybudd trwy'r gwatwarus gerydd hyn, a gânt brofi addas farnedigaeth Duw.

@@ 12:26 But they that would not be reformed by that correction, wherein he dallied with them, shall feel a judgment worthy of God.

%%12:27 Canys wele, oblegid y rhai yr oeddynt hwy yn grwgnach wrth ddioddef drostynt, sef dros y rhai a dybiasent hwy eu bod yn dduwiau, pan welsant eu cosbi yn y rhai hynny, hwy a gydnabuant mai gwir Dduw oedd yr hwn a wadasent hwy o'r blaen eu bod yn ei adnabod: ac am hynny y daeth dygn ddamnedigaeth arnynt.

@@ 12:27 For, look, for what things they grudged, when they were punished, that is, for them whom they thought to be gods; [now] being punished in them, when they saw it, they acknowledged him to be the true God, whom before they denied to know: and therefore came extreme damnation upon them.

%%PENNOD 13

@@  Chapter 13

%%13:1 OFER yn ddiau o naturiaeth yw'r dynion oll sydd heb adnabod Duw, heb fedru adnabod yr hwn sydd, wrth y pethau da a welir, ac ni adnabuant y gweithydd wrth ystyried y gwaith:

@@ 13:1 Surely vain are all men by nature, who are ignorant of God, and could not out of the good things that are seen know him that is: neither by considering the works did they acknowledge the workmaster;

%%13:2 Eithr hwy a dybiasant mai'r tân neu'r gwynt, neu'r awyr buan, neu gylch y sêr, neu ddwfr chwyrn, neu oleuadau'r nefoedd, oeddynt dduwiau yn llywodraethu'r byd.

@@ 13:2 But deemed either fire, or wind, or the swift air, or the circle of the stars, or the violent water, or the lights of heaven, to be the gods which govern the world.

%%13:3 Os am fod yn hyfryd ganddynt degwch y rhai hyn, y cymerasant hwynt yn dduwiau; gwybyddant pa faint gwell yw eu Harglwydd hwynt: oblegid yr hwn sydd o naturiaeth yn Awdur tegwch, a'u creodd hwynt.

@@ 13:3 With whose beauty if they being delighted took them to be gods; let them know how much better the Lord of them is: for the first author of beauty hath created them.

%%13:4 Os eu gallu a'u gweithrediad sydd ryfedd ganddynt, ystyriant pa faint mwy yw gallu yr hwn a'u gwnaeth hwynt.

@@ 13:4 But if they were astonished at their power and virtue, let them understand by them, how much mightier he is that made them.

%%13:5 Wrth faint a thegwch y pethau a grewyd, wrth eu cyffelybu, y gwelir yr hwn a'u gwnaeth hwynt.

@@ 13:5 For by the greatness and beauty of the creatures proportionably the maker of them is seen.

%%13:6 Er hynny yn hyn y mae bai y rhai hyn yn llai: canys y maent hwy mewn amryfus ond odid yn ceisio Duw, ac yn ewyllysio ei gael ef;

@@ 13:6 But yet for this they are the less to be blamed: for they peradventure err, seeking God, and desirous to find him.

%%13:7 Oblegid y maent hwy, trwy drin ei waith ef, yn chwilio yn ddyfal, ac yn coelio eu golwg; o achos bod y pethau a welir yn deg.

@@ 13:7 For being conversant in his works they search him diligently, and believe their sight: because the things are beautiful that are seen.

%%13:8 Ac eto nid ydynt hwy esgusodol:

@@ 13:8 Howbeit neither are they to be pardoned.

%%13:9 Oblegid os gallent wybod cymaint a medru amcanu at y byd, paham na chawsant hwy yn gynt Arglwydd y pethau hyn?

@@ 13:9 For if they were able to know so much, that they could aim at the world; how did they not sooner find out the Lord thereof?

%%13:10 Eithr annedwydd ydynt hwy, a'u gobaith sy mewn pethau meirw, y rhai a alwasant waith dwylo dynion yn dduwiau, sef aur ac arian, pethau wedi eu dychymyg trwy gelfyddyd, a lluniau anifeiliaid, neu garreg ddi-fudd o waith hen law.

@@ 13:10 But miserable are they, and in dead things is their hope, who call them gods, which are the works of men's hands, gold and silver, to shew art in, and resemblances of beasts, or a stone good for nothing, the work of an ancient hand.

%%13:11 Ac yn awr saer pren, wedi iddo lifio pren i'r gwaith, a thynnu o amgylch ei holl risgl ef yn gelfydd, a'i weithio yn gyfarwydd, a gwneuthur llestr buddiol i wasanaethu i fywyd dyn;

@@ 13:11 Now a carpenter that felleth timber, after he hath sawn down a tree meet for the purpose, and taken off all the bark skilfully round about, and hath wrought it handsomely, and made a vessel thereof fit for the service of man's life;

%%13:12 Ac ymlenwi, wedi iddo dreulio ysglodion ei waith yn arlwyo ei fwyd;

@@ 13:12 And after spending the refuse of his work to dress his meat, hath filled himself;

%%13:13 Ac yn cymryd yr hyn a fwrid ymaith ohonynt yn bren ystwyrgam di-fudd i ddim, eithr yn llawn cnapiau, a'i cerfiodd yn ofalus pan gaffai ennyd, ac a'i lluniodd with gyfarwyddyd ei ddeall, ac a'i gwnaeth ar lun dyn,

@@ 13:13 And taking the very refuse among those which served to no use, being a crooked piece of wood, and full of knots, hath carved it diligently, when he had nothing else to do, and formed it by the skill of his understanding, and fashioned it to the image of a man;

%%13:14 Neu a'i gwnaeth yn debyg i anifail gwael, gan ei amliwio & choch, a'i beintio a lliw, a pheintio pob gwrthuni ynddoj

@@ 13:14 Or made it like some vile beast, laying it over with vermilion, and with paint colouring it red, and covering every spot therein;

%%13:15 Wedi iddo wneuthur iddo le addas, a'i gosododd wrth bared, ac a'i sicrhaodd a haearn;

@@ 13:15 And when he had made a convenient room for it, set it in a wall, and made it fast with iron:

%%13:16 Efe a ofalodd ymlaen llaw rhag iddo syrthio; gan wybod na allai efe help iddo ei hun: oblegid delw yw efe, ac yn rhaid iddo wrth help:

@@ 13:16 For he provided for it that it might not fall, knowing that it was unable to help itself; for it is an image, and hath need of help:

%%13:17 Yna efe a weddïa am ei dda, am ddyweddi iddo ei hun, ac am blant, heb arno gywilydd lefaru wrth y marw.

@@ 13:17 Then maketh he prayer for his goods, for his wife and children, and is not ashamed to speak to that which hath no life.

%%13:18 Y mae efe yn galw ar y gwan am iechyd; yn gofyn hoedl gan y marw; yn ymbil am help gan yr hwn ni ŵyr ddim; ac am ei daith yn gweddïo ar yr hwn ni all gerdded cam;

@@ 13:18 For health he calleth upon that which is weak: for life prayeth to that which is dead; for aid humbly beseecheth that which hath least means to help: and for a good journey he asketh of that which cannot set a foot forward:

%%13:19 Ac am elw, a gwaith, a dedwyddwch llaw, yn gofyn llwyddiant gan yr hwn sy ddirymaf i wneuthur dim.

@@ 13:19 And for gaining and getting, and for good success of his hands, asketh ability to do of him, that is most unable to do any thing.

%%PENNOD 14

@@  Chapter 14

%%14:1 •yRACHEFN, pan fyddo un yn ymbaratoi i fordwyo, ac ar fyned tr donnau geirwon, efe a waedda ar br pydrach na'r llong a fyddo yn ei ddv ef:

@@ 14:1 Again, one preparing himself to sail, and about to pass through the raging waves, calleth upon a piece of wood more rotten than the vessel that carrieth him.

%%14:2 Oblegid chwant i elw a ddychmygasai honno, a thrwy ei gelfyddyd gwnaeth y gweithiwr hi.

@@ 14:2 For verily desire of gain devised that, and the workman built it by his skill.

%%14:3 Eithr dy ragluniaeth di, O Dad, sydd yn ei llywodraethu: oblegid ti a roddaist ffordd yn y môr, a llwybr diogel yn y tonnau;

@@ 14:3 But thy providence, O Father, governeth it: for thou hast made a way in the sea, and a safe path in the waves;

%%14:4 Gan ddangos y gelli di achub rhag pob peth, ie, ped elai dyn i'r mor heb gelfyddyd.

@@ 14:4 Shewing that thou canst save from all danger: yea, though a man went to sea without art.

%%14:5 Eto ti a fynni na byddo gweithredoedd dy ddoethineb yn segur: am hynny yr ymddiried dynion i dipyn o bren am eu heinioes, a chan dreiddio trwy'r garw fôr mewn llestr gwan, ydynt gadwedig.

@@ 14:5 Nevertheless thou wouldest not that the works of thy wisdom should be idle, and therefore do men commit their lives to a small piece of wood, and passing the rough sea in a weak vessel are saved.

%%14:6 Ac yn y dechreuad pan ddifethwyd y cewri beilchion, gobaith y byd, trwy ffoi i long, a adawodd i'r byd had genedigaeth, wedi ei llywodraethu a'th law di.

@@ 14:6 For in the old time also, when the proud giants perished, the hope of the world governed by thy hand escaped in a weak vessel, and left to all ages a seed of generation.

%%14:7 Canys bendigedig yw'r pren trwy yr hwn y daw cyfiawnder:

@@ 14:7 For blessed is the wood whereby righteousness cometh.

%%14:8 Eithr melltigedig yw'r hyn a wnaed 4 llaw, a'r hwn a'i gwnaeth: hwn am iddo ei weithio ef; a hwnnw, am ei alw ef yn dduw, ac yntau yn llygredig.

@@ 14:8 But that which is made with hands is cursed, as well it, as he that made it: he, because he made it; and it, because, being corruptible, it was called god.

%%14:9 Yr annuwiol a'i annuwioldeb ydynt mor gas gan Dduw bob un â’i gilydd:

@@ 14:9 For the ungodly and his ungodliness are both alike hateful unto God.

%%14:10 Oherwydd yr hyn a wnaed, ynghyd a'r hwn a'i gwnaeth, a gosbir.

@@ 14:10 For that which is made shall be punished together with him that made it.

%%14:11 Am hynny y bydd ymweliad ar eilunod y Cenhedloedd; am eu gwneuthur hwy ymysg creaduriaid Duw yn meidd-dra, ac yn dramgwydd i eneidiau dynion, ac yn fagl i draed y rhai angall.

@@ 14:11 Therefore even upon the idols of the Gentiles shall there be a visitation: because in the creature of God they are become an abomination, and stumblingblocks to the souls of men, and a snare to the feet of the unwise.

%%14:12 Canys dechreuad godineb ysbrydol oedd ddychmygu eilunod, a'u caffaeliad hwy oedd lygredigaeth buchedd.

@@ 14:12 For the devising of idols was the beginning of spiritual fornication, and the invention of them the corruption of life.

%%14:13 Oblegid o'r dechreuad nid oeddynt hwy, ac ni byddant yn dragywydd chwaith.

@@ 14:13 For neither were they from the beginning, neither shall they be for ever.

%%14:14 Trwy ofer ffrost dynion y daethant i'r byd; ac am hynny y bydd eu diwedd ar fyrder.

@@ 14:14 For by the vain glory of men they entered into the world, and therefore shall they come shortly to an end.

%%14:15 Y tad yn gystuddiol trwy anamserol alar am ei fab, yr hwn a ddygwyd ymaith yn gynnar, gwedi gwneuthur iddo ef ddelw, yn awr a'i haddolodd megis yn dduw, yr hwn oedd y pryd hwnnw yn ddyn marw, ac a roddes i'r rhai oedd dano seremoniau ac aberthau.

@@ 14:15 For a father afflicted with untimely mourning, when he hath made an image of his child soon taken away, now honoured him as a god, which was then a dead man, and delivered to those that were under him ceremonies and sacrifices.

%%14:16 Yna y cadwyd, yn lle cyfraith, yr annuwiol ddefod, yr hon a gryfhasai mewn amser; ac wrth orchymyn teyrniaid yr addolwyd delwau cerfiedig:

@@ 14:16 Thus in process of time an ungodly custom grown strong was kept as a law, and graven images were worshipped by the commandments of kings.

%%14:17 Y rhai ni allai dynion eu hanrhydeddu yn eu gŵydd, am eu bod yn trigo ymhell, hwy a gymerasant lun eu gwedd hwynt o bell, ac a wnaethant hynod ddelw brenin, yr hwn a anrhydeddent, er mwyn trwy eu dyfalwch hwn wenieithio iddo ef oedd absennol, fel pe bai bresennol.

@@ 14:17 Whom men could not honour in presence, because they dwelt far off, they took the counterfeit of his visage from far, and made an express image of a king whom they honoured, to the end that by this their forwardness they might flatter him that was absent, as if he were present.

%%14:18 A chwant y crefftwr i gael anrhydedd, a anogodd yr annysgedig i addoli fwyfwy.

@@ 14:18 Also the singular diligence of the artificer did help to set forward the ignorant to more superstition.

%%14:19 Oblegid efe ond odid yn ewyllysio rhyglyddu bodd llywydd, a ymegniiodd trwy ei gelfyddyd i osod y llun i'r gorau.

@@ 14:19 For he, peradventure willing to please one in authority, forced all his skill to make the resemblance of the best fashion.

%%14:20 A'r gwerin, wedi eu denu trwy degwch y gwaith, a gyfrifent yna yn dduw, yr hwn ychydig o'r blaen a berchid fel dyn.

@@ 14:20 And so the multitude, allured by the grace of the work, took him now for a god, which a little before was but honoured.

%%14:21 A hyn a fu yn achlysur i dwyllo'r byd: oherwydd dynion yn gwasanaethu mewn drygfyd a than drahauster, a roddasant i gerrig a phrennau yr Enw anghyfrannog.

@@ 14:21 And this was an occasion to deceive the world: for men, serving either calamity or tyranny, did ascribe unto stones and stocks the incommunicable name.

%%14:22 Wedi hynny nid oedd ddigon cyfeiliorni ynghylch adnabod Duw, eithr lle yr oeddynt yn byw ym mawr ryfel anwybodaeth, y mawr ddrygau hynny a alwent hwy yn heddwch.

@@ 14:22 Moreover this was not enough for them, that they erred in the knowledge of God; but whereas they lived in the great war of ignorance, those so great plagues called they peace.

%%14:23 Oblegid tra oeddynt hwy yn lladd eu plant mewn aberthau, ac yn arfer dirgeledigaethau cuddiedig, neu yn gwneuthur ynfyd gyfeddach o seremoniau dieithr,

@@ 14:23 For whilst they slew their children in sacrifices, or used secret ceremonies, or made revellings of strange rites;

%%14:24 Ni chadwent hwy na'u buchedd na'u priodas yn lân: y naill a laddai'r llall mewn cynllwyn, neu ai gofidiai trwy odineb.

@@ 14:24 They kept neither lives nor marriages any longer undefiled: but either one slew another traiterously, or grieved him by adultery.

%%14:25 Pob peth oedd yn gymysglyd, gwaed a chelanedd, lladrad a thwyll, llygredigaeth, anffyddlondeb, terfysg, anudon,

@@ 14:25 So that there reigned in all men without exception blood, manslaughter, theft, and dissimulation, corruption, unfaithfulness, tumults, perjury,

%%14:26 Aflonyddwch i'r rhai da, angof am gymwynas, halogedigaeth eneidiau, cyfnewid genedigaethau, anllywodraeth mewn priodasau, godineb, ac anlladrwydd.

@@ 14:26 Disquieting of good men, forgetfulness of good turns, defiling of souls, changing of kind, disorder in marriages, adultery, and shameless uncleanness.

%%14:27 Oblegid addoliad eilunod, y rhai ni ddylid eu henwi, yw dechrau, ac achos, a diwedd, pob drygioni.

@@ 14:27 For the worshipping of idols not to be named is the beginning, the cause, and the end, of all evil.

%%14:28 Canys tra fyddont hwy yn llawenj y maent hwy naill ai yn ynfydu, ai yn proffwydo celwydd, ai yn byw yn anghyfiawn, ai yn tyngu anudon yn hawdd.

@@ 14:28 For either they are mad when they be merry, or prophesy lies, or live unjustly, or else lightly forswear themselves.

%%14:29 Oblegid tra ydynt hwy yn coelio i eilunod meirw, er iddynt dyngu yn ddrwg, nid ydynt yn disgwyl dialedd.

@@ 14:29 For insomuch as their trust is in idols, which have no life; though they swear falsely, yet they look not to be hurt.

%%14:30 Eithr fe ddaw iddynt hwy yr hyn sy gyfiawn am y ddau, sef am feddwl am Dduw ar fai, gan lynu wrth eilunod; a thyngu yn anghyfiawn ac yn dwyllodrus, gan ddirmygu sancteiddrwydd.

@@ 14:30 Howbeit for both causes shall they be justly punished: both because they thought not well of God, giving heed unto idols, and also unjustly swore in deceit, despising holiness.

%%14:31 Oblegid nid gallu y rhai y tyngir iddynt, eithr iawn gosb pechaduriaid, a ddaw byth ar drosedd y rhai anghyfiawn.

@@ 14:31 For it is not the power of them by whom they swear: but it is the just vengeance of sinners, that punisheth always the offence of the ungodly.

%%PENNOD 15

@@  Chapter 15

%%15:1 "CITHR tydi, ein Duw, ydwyt dda-•»-< ionus a geirwir; yn hirymarhous, ac mewn trugaredd yn llywodraethu pob peth.

@@ 15:1 But thou, O God, art gracious and true, longsuffering, and in mercy ordering all things,

%%15:2 Oblegid os pechwn ni, eiddot ti ydym ni, y rhai a wyddom dy gryfder: ond ni phechwn ni, a ninnau yn gwybod ein cyfrif yn eiddot ti.

@@ 15:2 For if we sin, we are thine, knowing thy power: but we will not sin, knowing that we are counted thine.

%%15:3 Canys cyfiawnder cyflawn yw dy adnabod di, a gwreiddyn tragwyddoldeb yw gwybod dy nerth.

@@ 15:3 For to know thee is perfect righteousness: yea, to know thy power is the root of immortality.

%%15:4 Canys ni thwyllodd drwggelfyddus ddychymyg dyn mohonom ni, na chysgod portreiadau poen ddiffrwyth, llun wedi ei fritho ag amryw liwiau;

@@ 15:4 For neither did the mischievous invention of men deceive us, nor an image spotted with divers colours, the painter's fruitless labour;

%%15:5 Golwg y rhai sydd yn peri chwant i'r rhai angall: ac felly y maent yn chwennych llun delw farw ddianadl.

@@ 15:5 The sight whereof enticeth fools to lust after it, and so they desire the form of a dead image, that hath no breath.

%%15:6 Rhai yn hoffi pethau drygionus, ac yn haeddu'r fath bethau i goelio iddynt, yw y rhai a'u gwnant, y rhai a'u chwenychant, y rhai a'u gwasanaethant.

@@ 15:6 Both they that make them, they that desire them, and they that worship them, are lovers of evil things, and are worthy to have such things to trust upon.

%%15:7 Canys y crochenydd hefyd a dylina bridd meddal, ac a lunia yn boenus bob llestr i'n gwasanaeth ni; o'r un clai y llunia efe rai llestri i wasanaethu mewn gwaith glân, a rhai yr un modd i'r gwrthwyneb: i ba beth y gwasanaetha pob un o'r ddau fath hyn, y crochenydd ei nun sy farnwr.

@@ 15:7 For the potter, tempering soft earth, fashioneth every vessel with much labour for our service: yea, of the same clay he maketh both the vessels that serve for clean uses, and likewise also all such as serve to the contrary: but what is the use of either sort, the potter himself is the judge.

%%15:8 Ac o'r un clai, trwy ddrygionus been, y llunia efe dduw ofer, yr hwn a wnaethid ei hun o'r ddaear ychydig o'r blaen, ac ychydig wedi axxx a i'r hon y cymerwyd ef ohoni, pan ofynner yr einioes a fenthyciwyd iddo.

@@ 15:8 And employing his labours lewdly, he maketh a vain god of the same clay, even he which a little before was made of earth himself, and within a little while after returneth to the same, out when his life which was lent him shall be demanded.

%%15:9 Nid am ei fod ef yn cymryd poen, nac am fod ei hoedl ef yn fer, y mae ei ofal ef, eithr y mae efe yn ymryson a gofaint aur ac arian, ac yn dynwared y gofaint pres; ac y mae efe yn cyfrif yn anrhydedd iddo fod yn llunio pethau gau.

@@ 15:9 Notwithstanding his care is, not that he shall have much labour, nor that his life is short: but striveth to excel goldsmiths and silversmiths, and endeavoureth to do like the workers in brass, and counteth it his glory to make counterfeit things.

%%15:10 Lludw yw ei galon ef, ei obaith hefyd sydd waelach na'r ddaear, a'i fywyd yn fwy amharchus na'r clai;

@@ 15:10 His heart is ashes, his hope is more vile than earth, and his life of less value than clay:

%%15:11 Am nad adwaenai efe yr hwn a'i gwnaeth, a'r hwn a roddes enaid grymiol iddo ef, ac a anadlodd ysbryd bywiol ynddo.

@@ 15:11 Forasmuch as he knew not his Maker, and him that inspired into him an active soul, and breathed in a living spirit.

%%15:12 Eithr cyfrif y maent hwy mai chwarae yw ein heinioes ni, ac mai marsiandïaeth i elwa yw ein bywyd; oblegid rhaid, meddant, yw elwa o ba le bynnag, hyd yn oed o ddrygioni.

@@ 15:12 But they counted our life a pastime, and our time here a market for gain: for, say they, we must be getting every way, though it be by evil means.

%%15:13 Canys hwn yn anad neb a ŵyr ei fod yn pechu, yr hwn sydd yn gwneuthur breuon lestri a delwau o ddefnydd daearol.

@@ 15:13 For this man, that of earthly matter maketh brittle vessels and graven images, knoweth himself to offend above all others.

%%15:14 A holl elynion dy bob! di y rhai a arglwyddiaethant arnynt, ydynt o'r fath ffolaf, ac yn anhapusach na phlant bychain;

@@ 15:14 And all the enemies of thy people, that hold them in subjection, are most foolish, and are more miserable than very babes.

%%15:15 Oherwydd iddynt dybied bod holl eilunod y cenhedloedd yn dduwiau; i'r rhai nid oes na llygaid yn gwasanaethu i weled, na ffroenau i dynnu'r awyr atynt na chlustiau i glywed, na bysedd dwylo i deimlo, a'u traed hwy sy ddiog i gerdded.

@@ 15:15 For they counted all the idols of the heathen to be gods: which neither have the use of eyes to see, nor noses to draw breath, nor ears to hear, nor fingers of hands to handle; and as for their feet, they are slow to go.

%%15:16 Oblegid dyn a'u gwnaeth hwynt, a'r hwn nid oes ganddo ond benthyg ysbryd a'u lluniodd hwynt; eithr ni ddichon un dyn wneuthur duw tebyg iddo ei hun:

@@ 15:16 For man made them, and he that borrowed his own spirit fashioned them: but no man can make a god like unto himself.

%%15:17 Canys efe yn farwol a weithia beth marw a dwylo anwir: gwell yw efe ei hun na'r pethau y mae efe yn eu haddoli; oblegid efe a fu fyw unwaith, a hwythau ni buant erioed.

@@ 15:17 For being mortal, he worketh a dead thing with wicked hands: for he himself is better than the things which he worshippeth: whereas he lived once, but they never.

%%15:18 Y maent hwy yn addoli'r anifeiliaid casaf: oblegid wrth eu cydgyffelybu, y mae rhai yn waeth nag eraill.

@@ 15:18 Yea, they worshipped those beasts also that are most hateful: for being compared together, some are worse than others.

%%15:19 Nid ydynt mor deg ag anifeiliaid eraill i'w dymuno: canys methodd ganddynt gael na chlod gan Dduw, na'i fendith ef.

@@ 15:19 Neither are they beautiful, so much as to be desired in respect of beasts: but they went without the praise of God and his blessing.

%%PENNOD 16

@@  Chapter 16

%%16:1 AM hynny y cosbwyd hwynt ft'r •**• cyffelyb, fel yr haeddent, ac y dialeddwyd hwynt a lliaws o anifeiliaid.

@@ 16:1 Therefore by the like were they punished worthily, and by the multitude of beasts tormented.

%%16:2 Yn lle yr hwn ddialedd y gwnaethost ti ddaioni i'th bobl dy hun, i ba rai, i godi eu chwant hwynt, paratoaist soflieir yn ymborth o flas dieithr:

@@ 16:2 Instead of which punishment, dealing graciously with thine own people, thou preparedst for them meat of a strange taste, even quails to stir up their appetite:

%%16:3 Fel y byddai iddynt hwy, yn chwennych ymborth, ddigaru'r peth oedd anghenraid ei chwennych, oherwydd golwg anhawddgar yr anifeiliaid a anfonesid i'w mysg; ac y gwneid y rhai hyn, wedi eu bod dros ychydig ennyd mewn eisiau, yn gyfranogion o archwaeth newydd.

@@ 16:3 To the end that they, desiring food, might for the ugly sight of the beasts sent among them lothe even that, which they must needs desire; but these, suffering penury for a short space, might be made partakers of a strange taste.

%%16:4 Oblegid yr oedd yn rhaid i angen, yr hwn ni ellid ei ochel, ddyfod ar y rhai hynny a arferasant drahauster: eithr i'r rhai hyn, digon oedd yn unig ddangos pa fodd y rhoed dialedd ar eu gelynion.

@@ 16:4 For it was requisite, that upon them exercising tyranny should come penury, which they could not avoid: but to these it should only be shewed how their enemies were tormented.

%%16:5 Canys pan ddaeth creulon lid bwystfilod ar y rhai hyn, a'u difetha hwynt & brathiadau seirff dolennog,

@@ 16:5 For when the horrible fierceness of beasts came upon these, and they perished with the stings of crooked serpents, thy wrath endured not for ever:

%%16:6 Nid hyd y diwedd yr arhodd dy ddigofaint di: eithr i'w rhybuddio y blinwyd hwynt ychydig o ennyd, gan gael arwydd iachawdwriaeth, i beri iddynt feddwl am orchymyn dy gyfraith di;

@@ 16:6 But they were troubled for a small season, that they might be admonished, having a sign of salvation, to put them in remembrance of the commandment of thy law.

%%16:7 Obkgid yr hwn a drodd at yr arwydd hwnnw a iachawyd, nid gan yr hwn a welid, eithr gennyt ti, lachawdwr pob peth.

@@ 16:7 For he that turned himself toward it was not saved by the thing that he saw, but by thee, that art the Saviour of all.

%%16:8 A thrwy hyn y gwnaethost ti i'n gelynion gredu mai tydi yw'r hwn sydd yn achub o bob drwg;

@@ 16:8 And in this thou madest thine enemies confess, that it is thou who deliverest from all evil:

%%16:9 Y rhai a laddodd brath locustiaid a chacwn; ac ni chaed meddyginiaeth iddynt: oblegid hwy a haeddent eu cosbi a'r cyfryw.

@@ 16:9 For them the bitings of grasshoppers and flies killed, neither was there found any remedy for their life: for they were worthy to be punished by such.

%%16:10 Ond ni wnâi dannedd dreigiau gwenwynig niwed i'th blant di: oblegid dy drugaredd di a ddeuai yn erbyn hynny, ac a'u hiachai hwynt.

@@ 16:10 But thy sons not the very teeth of venomous dragons overcame: for thy mercy was ever by them, and healed them.

%%16:11 Canys i feddwl am dy ymadroddion di y brathwyd hwynt; a hwy yn ebrwydd a iachawyd, fel, heb syrthio mewn dwfn angof, y cofient yn wastad dy ddaioni di.

@@ 16:11 For they were pricked, that they should remember thy words; and were quickly saved, that not falling into deep forgetfulness, they might be continually mindful of thy goodness.

%%16:12 Oblegid nid llysieuyn nac eli a'u hiachaodd hwynt, eithr dy air di, O Arglwydd, yr hwn sydd yn iacháu pob dim.

@@ 16:12 For it was neither herb, nor mollifying plaister, that restored them to health: but thy word, O Lord, which healeth all things.

%%16:13 Oherwydd y mae i ti feddiant ar einioes ac angau; ac yr ydwyt ti yn dwyn i waered hyd byrth uffern, ac yn dwyn i fyny drachefn.

@@ 16:13 For thou hast power of life and death: thou leadest to the gates of hell, and bringest up again.

%%16:14 A dyn yn ei ddrygioni a ladd: a phan elo'r ysbryd allan, ni ddychwel efe; ac ni ddaw yn ei ôl yr enaid a gymerer i fyny.

@@ 16:14 A man indeed killeth through his malice: and the spirit, when it is gone forth, returneth not; neither the soul received up cometh again.

%%16:15 Eithr amhosibl yw dianc rhag dy law di.

@@ 16:15 But it is not possible to escape thine hand.

%%16:16 Oblegid annuwiolion, y rhai sydd yn gwadu eu bod yn dy adnabod di, a ffrewyllwyd o nerth dy fraich di, gan gael eu herlid a rhyfeddol law a chenllysg, ac a chafodau heb allu eu gochelyd; a hwy a ddifethwyd â thân.

@@ 16:16 For the ungodly, that denied to know thee, were scourged by the strength of thine arm: with strange rains, hails, and showers, were they persecuted, that they could not avoid, and through fire were they consumed.

%%16:17 A'r hyn sy ryfeddaf, y tân oedd yn gweithio fwyfwy yn y dwfr, yr hwn sydd yn diffoddi pob peth: canys y mae'r byd yn ymladd dros y rhai cyfiawn.

@@ 16:17 For, which is most to be wondered at, the fire had more force in the water, that quencheth all things: for the world fighteth for the righteous.

%%16:18 Canys weithiau fe fyddai lai y fflam, fel na losgai hi'r anifeiliaid a anfonesid yn erbyn y rhai annuwiol; eithr trwy weled, hwy a allent wybod eu hunain mai trwy farn Duw yr erlidid hwynt.

@@ 16:18 For sometime the flame was mitigated, that it might not burn up the beasts that were sent against the ungodly; but themselves might see and perceive that they were persecuted with the judgment of God.

%%16:19 Ac weithiau efe a losgai ymysg y dwfr, yn fwy nag y gallai tân, i ddifetha ffrwyth tir anghyfiawn.

@@ 16:19 And at another time it burneth even in the midst of water above the power of fire, that it might destroy the fruits of an unjust land.

%%16:20 Yn lle hynny a bwyd angylion y porthaist ti dy bobl dy hun; a thi a ddanfonaist iddynt hwy fara parod o'r nefoedd yn ddi-boen, yr hwn a wasanaethai i bob hyfrydwch ac i bob archwaeth yn gymwys.

@@ 16:20 Instead whereof thou feddest thine own people with angels' food, and didst send them from heaven bread prepared without their labour, able to content every man's delight, and agreeing to every taste.

%%16:21 Canys dy ymborth di oedd yn dangos dy felystra i'th blant, ac yn gwasanaethu chwant y bwytawr, ac yn ymdymheru wrth fodd pob un.

@@ 16:21 For thy sustenance declared thy sweetness unto thy children, and serving to the appetite of the eater, tempered itself to every man's liking.

%%16:22 Yr eira hefyd a'r iâ oedd yn dioddef y tân, ac heb doddi: fel y gallent hwy wybod mai'r tân, yr hwn oedd yn ffaglu yn y cenllysg, ac yn llewyrchu yn y glaw, oedd yn difetha ffrwyth y gelynion.

@@ 16:22 But snow and ice endured the fire, and melted not, that they might know that fire burning in the hail, and sparkling in the rain, did destroy the fruits of the enemies.

%%16:23 Hwn hefyd, fel y cai y rhai cyfiawn eu cynnal, a ollyngodd ei allu dros gof.

@@ 16:23 But this again did even forget his own strength, that the righteous might be nourished.

%%16:24 Oblegid y creadur, yr hwn sydd yn dy wasanaethu di, yr hwn a wnaethost bob peth, a anelir i beri cosbedigaeth ar yr anghyfiawn, ac a ddadanelir i wneuthur daioni i'r rhai a ymddiriedant ynot ti.

@@ 16:24 For the creature that serveth thee, who art the Maker increaseth his strength against the unrighteous for their punishment, and abateth his strength for the benefit of such as put their trust in thee.

%%16:25 Am hynny efe yna yn ymrithio i bob peth, a wasanaethai dy ras di, yr hwn sydd yn maethu pob peth wrth ewyllys y rhai anghenus:

@@ 16:25 Therefore even then was it altered into all fashions, and was obedient to thy grace, that nourisheth all things, according to the desire of them that had need:

%%16:26 Fel y dysgo dy blant y rhai sydd hoff gennyt ti, O Arglwydd, nad cynnyrch ffrwyth sydd yn porthi dyn, eithr mai dy air di sydd yn cadw y rhai a gredant ynot.

@@ 16:26 That thy children, O Lord, whom thou lovest, might know, that it is not the growing of fruits that nourisheth man: but that it is thy word, which preserveth them that put their trust in thee.

%%16:27 Oblegid y peth ni ddifethodd y tân, wedi ei dwymo ychydig gan belydr yr haul, a feiriolodd yn ebrwydd;

@@ 16:27 For that which was not destroyed of the fire, being warmed with a little sunbeam, soon melted away:

%%16:28 Fel y byddai hysbys y dylid achub blaen yr haul i roddi diolch i ti, a gweddïo arnat ti ar doriad y dydd.

@@ 16:28 That it might be known, that we must prevent the sun to give thee thanks, and at the dayspring pray unto thee.

%%16:29 Oblegid gobaith yr anniolchgar a dawdd ymaith fel llwydrew'r gaeaf, ac a red ymaith fel dwfr di-fudd. @@ 16:29 For the hope of the unthankful shall melt away as the winter's hoar frost, and shall run away as unprofitable water. %%

@@   

%%PENNOD 17

@@  Chapter 17

%%17:1 DY farnedigaethau di sydd fawr, ac ni ellir eu traethu: am hynny yr aeth y rhai annysgedig ar gyfeiliorn.

@@ 17:1 For great are thy judgments, and cannot be expressed: therefore unnurtured souls have erred.

%%17:2 Oblegid y rhai anwir yn arncanu gorthrymu'r genedl sanctaidd, wedi eu gwarchae yn eu tai yn garcharorion tywyllwch, a'u llyffetheirio a rhwymau hirnos, a orweddasant yno, yn ffoaduriaid oddi wrth y rhagluniaeth dragwyddol.

 

@@ 17:2 For when unrighteous men thought to oppress the holy nation; they being shut up in their houses, the prisoners of darkness, and fettered with the bonds of a long night, lay [there] exiled from the eternal providence.

%%17:3 Canys pan dybiasant hwy lechu mewn cuddiedig bechodau, dan dywyll orchudd angof, hwy a wasgarwyd, wedi eu dychrynu yn aruthrol, a'u trallodi gan weledigaethau dieithr.

@@ 17:3 For while they supposed to lie hid in their secret sins, they were scattered under a dark veil of forgetfulness, being horribly astonished, and troubled with [strange] apparitions.

%%17:4 Canys ni allai'r gilfach a'u daliai hwynt eu cadw yn ddiofn: eithr yr oedd twrf yn swnio o'u hamgylch, yr hwn oedd yn eu blino hwynt, a gweledigaethau pruddaidd ag wyneb sarrug yn ymddangos iddynt.

@@ 17:4 For neither might the corner that held them keep them from fear: but noises [as of waters] falling down sounded about them, and sad visions appeared unto them with heavy countenances.

%%17:5 Nid oed dim gallu gan y tân i lewyrchu: ac ni allai ddisglair lewyrch y sêr oleuo'r nos erchyll honno.

@@ 17:5 No power of the fire might give them light: neither could the bright flames of the stars endure to lighten that horrible night.

%%17:6 Eithr tân yn unig yn cynnau ohono ei hun, yn ofnadwy iawn, a ymddangosodd iddynt; wedi eu dychrynu hwynt &'i weledigaeth honno ni welid, hwy a dybiasant fod y pethau a welid yn waeth.

@@ 17:6 Only there appeared unto them a fire kindled of itself, very dreadful: for being much terrified, they thought the things which they saw to be worse than the sight they saw not.

%%17:7 Felly y bwriwyd i lawr oferedd celfyddyd hudoliaeth, a'r gwaradwyddus gerydd a gafodd y rhai a wnaent ffrost o'u doethineb.

@@ 17:7 As for the illusions of art magick, they were put down, and their vaunting in wisdom was reproved with disgrace.

%%17:8 Oblegid y rhai a addawsant yrru ymaith ofn a blinder oddi wrth enaid llesg, a aethant yn llesg eu hun rhag ofn yr hwn y gellid chwerthin am ei ben.

@@ 17:8 For they, that promised to drive away terrors and troubles from a sick soul, were sick themselves of fear, worthy to be laughed at.

%%17:9 Oherwydd er nad oedd dim erchyll yn eu hofni hwynt; er hynny wedi eu dychrynu wrth fynediad bwystfilod heibio, a chwibaniad seirff,

@@ 17:9 For though no terrible thing did fear them; yet being scared with beasts that passed by, and hissing of serpents,

%%17:10 Buant feirw o ofn, gan omedd edrych ar yr awyr, yr hwn nid oedd le i'w ochelyd.

@@ 17:10 They died for fear, denying that they saw the air, which could of no side be avoided.

%%17:11 Canys peth ofnus yw drygioni, wedi rhoddi barn i'w erbyn wrth ei dystiolaeth ei hun; a'r gydwybod yn gwasgu arno sydd yn darogan pethau blin yn wastadol.

@@ 17:11 For wickedness, condemned by her own witness, is very timorous, and being pressed with conscience, always forecasteth grievous things.

%%17:12 Canys nid yw ofn ddim, ond bradychu yr help a gaffer gan reswm.

@@ 17:12 For fear is nothing else but a betraying of the succours which reason offereth.

%%17:13 A'r disgwyliad oddi fewn yn llai, a gyfrif yr anwybodaeth yn fwy na'r achos yr hwn sydd yn peri blinder.

@@ 17:13 And the expectation from within, being less, counteth the ignorance more than the cause which bringeth the torment.

%%17:14 Eithr hwynt yn cysgu yr un hun y noson honno, yr hon ni ellid yn ddiau ei dioddef, ac a ddaethai arnynt o waelodion uffern anocheladwy,

@@ 17:14 But they sleeping the same sleep that night, which was indeed intolerable, and which came upon them out of the bottoms of inevitable hell,

%%17:15 Weithiau a flinid a gweledigaethau rhyfedd, ac weithiau a lewygent gan ball calon: canys ofn disymwth, ac heb edrych amdano, a ddaeth arnynt.

@@ 17:15 Were partly vexed with monstrous apparitions, and partly fainted, their heart failing them: for a sudden fear, and not looked for, came upon them.

%%17:16 Felly pwy bynnag a syrthiai yno, efe a gedwid, ac a gaeid mewn carchar heb haearn.

@@ 17:16 So then whosoever there fell down was straitly kept, shut up in a prison without iron bars,

%%17:17 Canys pa un bynnag ai llafurwr fyddai un, neu fugail, neu un yn gwneuthur y gwaith sydd yn y diffeithwch, pan ddelid ef, efe a ddioddefai yr angen nis gellid ei ochelyd: oblegid ag un gadwyn tywyllwch y rhwymid hwynt oll.

@@ 17:17 For whether he were husbandman, or shepherd, or a labourer in the field, he was overtaken, and endured that necessity, which could not be avoided: for they were all bound with one chain of darkness.

%%17:18 Pa un bynnag ai gwynt chwiban, ai hyfrydaidd sain adar ymysg y canghennau tewion, ai cysain dwfr yn cerdded yn chwyrn,

@@ 17:18 Whether it were a whistling wind, or a melodious noise of birds among the spreading branches, or a pleasing fall of water running violently,

%%17:19 Ai sŵn erchyll creigiau a fwrid i lawr, ai rhedfa anifeiliaid yn moelystota heb eu gweled, ai llais creulon bwystifilod rhuadwy, ai carreg lefain yn datseinio o ogofeydd y mynyddoedd; y pethau hyn a'u dychrynai hwy, fel y llewygent.

@@ 17:19 Or a terrible sound of stones cast down, or a running that could not be seen of skipping beasts, or a roaring voice of most savage wild beasts, or a rebounding echo from the hollow mountains; these things made them to swoon for fear.

%%17:20 Canys yr holl fyd a oleuid yn olau ddisglair, ac ni rwystrid neb yn eu gwaith:

@@ 17:20 For the whole world shined with clear light, and none were hindered in their labour:

%%17:21 Yn unig arnynt hwy y daethai nos drom, cyffelybrwydd i'r tywyllwch a ddeuai arnynt; eithr yr oeddynt iddynt eu hunain yn flinach na'r tywyllwch.

@@ 17:21 Over them only was spread an heavy night, an image of that darkness which should afterward receive them: but yet were they unto themselves more grievous than the darkness.

%%PENNOD 18

@@  Chapter 18

%%18:1 EITHR i'th saint di yr oedd goleuni o'r mwyaf: llais y rhai yr oeddynt hwy yn eu clywed, ond nid oeddynt yn gweled eu gwedd hwynt; a hwy a'u cyfrifasant hwynt yn ddedwydd, am na ddioddefasent hwythau yr un pethau.

@@ 18:1 Nevertheless thy saints had a very great light, whose voice they hearing, and not seeing their shape, because they also had not suffered the same things, they counted them happy.

%%18:2 Rhoddasant hefyd iddynt ddiolch am na wnaethent niwed, wedi cael cam o'r blaen; a dymunasant faddeuant am fod yn elynion iddynt.

@@ 18:2 But for that they did not hurt them now, of whom they had been wronged before, they thanked them, and besought them pardon for that they had been enemies.

%%18:3 Yn lle hynny y rhoddaist iddynt hwy golofn o dan poeth, i flaenori yn y daith anhysbys, ac i fod yn haul diniwed i'r ymdaith barchedig.

@@ 18:3 Instead whereof thou gavest them a burning pillar of fire, both to be a guide of the unknown journey, and an harmless sun to entertain them honourably.

%%18:4 Yr oeddynt hwy yn ddiau yn haeddu bod heb oleuni, a'u carcharu mewn tywyllwch, y rhai a gadwasant dy blant di yng ngharchar5 trwy y rhai yr oedd anllygredig oleuni'r gyfraith i'w roddi i'r byd.

@@ 18:4 For they were worthy to be deprived of light and imprisoned in darkness, who had kept thy sons shut up, by whom the uncorrupt light of the law was to be given unto the world.

%%18:5 Pan amcanasent hwy ladd rhai bychain y saint, yna trwy un plentyn, yr hwn a fwriesid allan, ac a gadwesid i'w ceryddu hwynt, y cymeraist ymaith lawer o'u plant hwy, ac a'u difethaist hwynt ar unwaith yn y dwfr cryf.

@@ 18:5 And when they had determined to slay the babes of the saints, one child being cast forth, and saved, to reprove them, thou tookest away the multitude of their children, and destroyedst them altogether in a mighty water.

%%18:6 Bin tadau ni a gawsant wybodaeth am y nos honno o'r blaen; fel y byddent lawen, am eu bod yn gwybod yn ddiogel i ba lwon y credasent:

@@ 18:6 Of that night were our fathers certified afore, that assuredly knowing unto what oaths they had given credence, they might afterwards be of good cheer.

%%18:7 Felly y derbyniodd dy bobl di iachawdwriaeth y rhai cyfiawn, a dinistr y gelynion.

@@ 18:7 So of thy people was accepted both the salvation of the righteous, and destruction of the enemies.

%%18:8 Canys megis y cosbaist ti ein gwrthwynebwyr, trwy'r un peth y rhoddaist anrhydedd i ni, y rhai a alwesit ti.

@@ 18:8 For wherewith thou didst punish our adversaries, by the same thou didst glorify us, whom thou hadst called.

%%18:9 Canys sanctaidd blant y rhai daionus a aberthasant yn ddirgel, ac a osodasant gyfraith dduwiol yn gytun; ar fod y rhai sanctaidd yr un modd yn gyfranogion o dda a drwg, a'u tadau yn awr yn canu o'r blaen ganiadau mawl.

@@ 18:9 For the righteous children of good men did sacrifice secretly, and with one consent made a holy law, that the saints should be like partakers of the same good and evil, the fathers now singing out the songs of praise.

%%18:10 Eithr anghyson waedd y gelynion a ddatseiniodd o'r tu arall; a gresynol nad oedd yn cerdded am blant y galerid amdanynt.

@@ 18:10 But on the other side there sounded an ill according cry of the enemies, and a lamentable noise was carried abroad for children that were bewailed.

%%18:11 A'r un fath ddialedd y cosbid y gwas a'r meistr; yr un pethau yr oedd y gwreng a'r brenin yn eu dioddef.

@@ 18:11 The master and the servant were punished after one manner; and like as the king, so suffered the common person.

%%18:12 Rhai aneirif oedd ganddynt hwy oll, wedi meirw ar unwaith o'r un farwolaeth, fel nad oedd digon o rai byw i'w claddu hwynt: canys mewn un foment y difethwyd eu hiliogaeth anrhydeddusaf hwy.

@@ 18:12 So they all together had innumerable dead with one kind of death; neither were the living sufficient to bury them: for in one moment the noblest offspring of them was destroyed.

%%18:13 Canys lle na chredent ddim oherwydd y swynion; pan ddifethwyd y cyntaf-anedig, y cyffesasant mai plant Duw oedd y bobl hyn.

@@ 18:13 For whereas they would not believe any thing by reason of the enchantments; upon the destruction of the firstborn, they acknowledged this people to be the sons of God.

%%18:14 Oherwydd pan oedd pob peth mewn distawrwydd tawel, a'r nos yng nghanol ei gyrfa fuan,

@@ 18:14 For while all things were in quiet silence, and that night was in the midst of her swift course,

%%18:15 Dy hollalluog air di a neidiodd o'r nef o'th orseddfa frenhinol, i ganol y wlad ddinistriol, fel rhyfelwr ffrom,

@@ 18:15 Thine Almighty word leaped down from heaven out of thy royal throne, as a fierce man of war into the midst of a land of destruction,

%%18:16 Gan arwain dy orchymyn diragrith di yn lle cleddyf llym, yr hwn a safodd, ac a lanwodd bob peth a marwolaeth, ac oedd yn cyffwrdd a'r nefoedd, er ei ddisgyn i'r ddaear.

@@ 18:16 And brought thine unfeigned commandment as a sharp sword, and standing up filled all things with death; and it touched the heaven, but it stood upon the earth.

%%18:17 Yna gweledigaethau breuddwydion aruthrol a'u blinasant hwy yn ddisymwth, a'r ofn nid oeddynt yn ei ddisgwyl a ddaeth arnynt.

@@ 18:17 Then suddenly visions of horrible dreams troubled them sore, and terrors came upon them unlooked for.

%%18:18 Ac wedi bwrw un i lawr yma, ac arall acw, yn hanner marw, hwy a fynegasant am ba achos yr oeddynt yn marw.

@@ 18:18 And one thrown here, and another there, half dead, shewed the cause of his death.

%%18:19 Oblegid y breuddwydion, y rhai oedd yn eu blino hwynt, a raghysbysasent hyn, fel na ddifethid hwynt heb wybod paham yr oeddynt yn dioddef niwed.

@@ 18:19 For the dreams that troubled them did foreshew this, lest they should perish, and not know why they were afflicted.

%%18:20 Cyffyrddodd profedigaeth angau weithiau a'r rhai cyfiawn hefyd, a bu dinistr ar y dyrfa yn y diffeithwch: ond ni hir barhaodd y dicter;

@@ 18:20 Yea, the tasting of death touched the righteous also, and there was a destruction of the multitude in the wilderness: but the wrath endured not long.

%%18:21 Oblegid y gŵr difai a'u diffynnodd hwynt ar frys, gan arwain arfau ei swydd ei hun, sef gweddi, a iawn o arogl-darth, ac a safodd yn erbyn y xxllid, ac a ddi-bennodd y cystudd, gan ddangos mai dy was di oedd efe.

@@ 18:21 For then the blameless man made haste, and stood forth to defend them; and bringing the shield of his proper ministry, even prayer, and the propitiation of incense, set himself against the wrath, and so brought the calamity to an end, declaring that he was thy servant.

%%18:22 Ac efe a orchfygodd y dinistrydd, nid o gryfder corff, na thrwy waith arfau; eithr a gair y darostyngodd efe yr hwn oedd yn cystuddio, gan goffau llw a chyfamod y tadau.

@@ 18:22 So he overcame the destroyer, not with strength of body, nor force of arms, but with a word subdued him that punished, alleging the oaths and covenants made with the fathers.

%%18:23 Canys pan oedd y meirw yn syrthio ar ei gilydd yn dyrrau, efe a safodd yn y canol, ac a dorrodd y dicter, ac a rannodd y ffordd oedd yn myned at y byw.

@@ 18:23 For when the dead were now fallen down by heaps one upon another, standing between, he stayed the wrath, and parted the way to the living.

%%18:24 Oblegid yn y wisg laes yr oedd yr harddwch oll, a gogoniant y tadau yng ngherfiad y pedair rhes o feini, a'th fawredd dithau yn y goron am ei ben ef.

@@ 18:24 For in the long garment was the whole world, and in the four rows of the stones was the glory of the fathers graven, and thy Majesty upon the daidem of his head.

%%18:25 I'r thai hy y rhoddes y dinistrydd le, ac a'u hofnodd hwynt: canys digon oedd yn unig brofi ohonynt y dicter.

@@ 18:25 Unto these the destroyer gave place, and was afraid of them: for it was enough that they only tasted of the wrath.

%%PENNOD 19

@@  Chapter 19

%%19:1 EITHR dicter didrugaredd a barhaodd hyd y diwedd i'r annuwiolion: oblegid efe a wyddai o'r blaen yr hyn a wnaent hwy;

@@ 19:1 As for the ungodly, wrath came upon them without mercy unto the end: for he knew before what they would do;

%%19:2 Sef wedi iddynt roddi cennad iddynt i fyned ymaith, a'u gyrru hwy ar frys, y byddai edifar ganddynt, ac yr erlidient hwynt;

@@ 19:2 How that having given them leave to depart, and sent them hastily away, they would repent and pursue them.

%%19:3 Canys pan oeddynt yn galaru ac yn wylofain with feddau'r meirw, hwy a ddychmygasant feddwl ynfyd arall; a'r rhai a yrasent allan dan ymbil a hwynt a erlidiasant hwy megis rhai yn ffoi.

@@ 19:3 For whilst they were yet mourning and making lamentation at the graves of the dead, they added another foolish device, and pursued them as fugitives, whom they had intreated to be gone.

%%19:4 Oblegid y dynged a haeddent a'u harweiniodd hwynt i'r diwedd hwn, ac a wnaeth iddynt anghofio y pethau a ddigwyddasent eisoes, fel y cyflawnent hwy y gosbedigaeth oedd yn ôl i'w dialedd hwy:

@@ 19:4 For the destiny, whereof they were worthy, drew them unto this end, and made them forget the things that had already happened, that they might fulfil the punishment which was wanting to their torments:

%%19:5 Ac fel y cai dy bobl di fyned trwy ffordd ryfedd, ac y caent hwythau farwolaeth ddieithr:

@@ 19:5 And that thy people might pass a wonderful way: but they might find a strange death.

%%19:6 Oblegid pob creadur yn ei ryw ei hun a luniwyd drachefn o newydd, i wasanaethu'r gorchmynion priodol a roddwyd iddynt, fel y cedwid by Want di ya ddiniwed.

@@ 19:6 For the whole creature in his proper kind was fashioned again anew, serving the peculiar commandments that were given unto them, that thy children might be kept without hurt:

%%19:7 Y cwmwl a gysgododd dros y gwersyll; a lle y buasai dwfr o'r blaen, y gwelid tir sych, ie, yn y môr coch yr oedd ffordd ddi-rwystr, a maes yn dwyn gwelltglas yn y ffrwd chwyrn;

@@ 19:7 As namely, a cloud shadowing the camp; and where water stood before, dry land appeared; and out of the Red sea a way without impediment; and out of the violent stream a green field:

%%19:8 Trwy yr hon yr aeth yr holl genedl a amddiffynnodd dy law di, gan weled gwyrthiau rhyfedd.

@@ 19:8 Wherethrough all the people went that were defended with thy hand, seeing thy marvellous strange wonders.

%%19:9 Fel meirch y porthasid hwynt, ac fel wyn y llament hwy, gan dy foliannu di, O Arglwydd, eu Gwaredydd.

@@ 19:9 For they went at large like horses, and leaped like lambs, praising thee, O Lord, who hadst delivered them.

%%19:10 Oblegid hwy a gofient eto y pethau a ddigwyddasai tra'r oeddynt yn ymdaith yn y wlad ddieithr; y modd yn lle epiliaeth anifeiliaid y dygasai'r ddaear allan wybed, ac y dygasai yr afon allan lawer o lyffaint yn lle pysgod.

@@ 19:10 For they were yet mindful of the things that were done while they sojourned in the strange land, how the ground brought forth flies instead of cattle, and how the river cast up a multitude of frogs instead of fishes.

%%19:11 Eithr wedi hynny hwy a welsant epiledd newydd o adar, pan ddygwyd hwynt trwy flys i ddymuno bwyd danteithiol:

@@ 19:11 But afterwards they saw a new generation of fowls, when, being led with their appetite, they asked delicate meats.

%%19:12 Oblegid soflieir a ddaeth i fyny o'r môr, yn ddiddanwch iddynt hwy.

@@ 19:12 For quails came up unto them from the sea for their contentment.

%%19:13 Ac ar y pechaduriaid y daeth dialedd, nid heb wyrthiau o'r blaen, trwy egni taranau: oherwydd yr oeddynt hwy yn haeddu dioddef am eu hanwiredd; oblegid yr oeddynt yn dwyn dygngas i ddieithriaid.

@@ 19:13 And punishments came upon the sinners not without former signs by the force of thunders: for they suffered justly according to their own wickedness, insomuch as they used a more hard and hateful behaviour toward strangers.

%%19:14 Canys y Sodomiaid ni dderbynient y rhai nid adwaenent, pan ddaethant: eithr y rhai hyn a gaethiwasant y dieithriaid a wnaethai iddynt ddaioni.

@@ 19:14 For the Sodomites did not receive those, whom they knew not when they came: but these brought friends into bondage, that had well deserved of them.

%%19:15 Ac nid hynny yn unig, eithr ysgatfydd fe a edrychir peth ar y rhai hynny, am iddynt drin dieithriaid yn anghyweithas.

@@ 19:15 And not only so, but peradventure some respect shall be had of those, because they used strangers not friendly:

%%19:16 Eithr y rhai hyn wedi eu derbyn hwynt yn llawen, a gystuddiasant a phoenau aruthrol, y rhai oedd yn awr gyfranogion o'r un gyfraith.

@@ 19:16 But these very grievously afflicted them, whom they had received with feastings, and were already made partakers of the same laws with them.

%%19:17 A'r rhai hyn a drawyd a dallineb, fel y trawsid y rhai hynny wrth ddrws y cyfiawn, pan geisiodd pob un y ffordd i'w ddrws ei hun, wedi eu hamgylchu a thywyllwch anferthol.

@@ 19:17 Therefore even with blindness were these stricken, as those were at the doors of the righteous man: when, being compassed about with horrible great darkness, every one sought the passage of his own doors.

%%19:18 Oblegid yr elfennau a newidiwyd ohonynt eu hunain yn gyson, fel y newidia sain cynghanedd mewn saltring, enw y don, er bod y sŵn yn aros bob amser, megis y gellir ystyried wrth edrych yn graff ar y pethau a wnaed.

@@ 19:18 For the elements were changed in themselves by a kind of harmony, like as in a psaltery notes change the name of the tune, and yet are always sounds; which may well be perceived by the sight of the things that have been done.

%%19:19 Canys y pethau daearol a droed yn bethau o'r dwfr, a phethau nofiadwy a gerddasant ar y ddaear.

@@ 19:19 For earthly things were turned into watery, and the things, that before swam in the water, now went upon the ground.

%%19:20 y tân oedd nerthol yn y dwfr, wedi gollwng dros gof ei rinwedd ei hun; a'r dwfr a anghofiasai ei naturiaeth i ddiffoddi.

@@ 19:20 The fire had power in the water, forgetting his own virtue: and the water forgat his own quenching nature.

%%19:21 Yn y gwrthwyneb, ni wnaeth y fflam nac i gnawd yr anifeiliaid llygradwy, y rhai a rodient ynddo, nac i'r anrhydeddaist ym mhob dim, O Ar ymborth nefol, ddarfod, er ei fod fel ift glwydd: ac ni ddiystyraist hwynt; ond tawddadwy o rywogaeth i doddi. bod gyda hwynt bob amser, ac ym

@@ 19:21 On the other side, the flames wasted not the flesh of the corruptible living things, though they walked therein; neither melted they the icy kind of heavenly meat that was of nature apt to melt.

%%19:22 Canys dy bobl a fawrygaist ac a mhob lle.

@@ 19:22 For in all things, O Lord, thou didst magnify thy people, and glorify them, neither didst thou lightly regard them: but didst assist them in every time and place. .






 

 

__________________________________________________________________________

 

Adolygiadau diweddaraf - latest updates.  2009-01-25

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

Edrychwych ar fy ystadegau / View My Stats