Y Beibl Cysger-Ln (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bblia en galls de lany 1620. Text electrnic. Dhə Bibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition. 2684k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Galles i Catalunya : Wales-Catalonia Website.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_baruch_ac_epistol_jeremi_74_2684k.htm

0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001

..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k

....................
0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k

..............................
0960k Cywaith Sin Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k

........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620
neu trwy Google: #kimkat1281k

.............................................................y tudalen hwn


(delw 0003)

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr
..

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Galles


Y Beibl Cysegr-ln (1620): Yr Apocrypha

 

(74) Baruch ac Epistol Jeremi




(delw 7321)

Adolygiadau diweddaraf: 2009-01-31

 

 

2685ke This page with an English version (1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)


PENNOD 1
1:1 Dyma hefyd eiriau'r llyfr a sgrifennodd Baruch mab Nereias, fab Maaseias, fab Sedeceias, fab Asadeias, fab Chelcias, yn Babilon,

1:2 Yn y bumed flwyddyn, ar y seithfed dydd o'r mis, yr amser yr enillodd y Caldeaid Jerwsalem, ac y llosgasant hi thn.

1:3 A Baruch a ddarllenodd eiriau'r llyfr hwn lle y clywai Jechoneias mab Joachim brenhin Jwda, a lle y clywai'r holl bobl, y rhai a ddaethai i wrando'r llyfr,

1:4 A lle y clywai'r holl gedyrn, a holl feibion y brenin, a lle y clywai'r henuriaid, a lle y clywai'r holl bobl, o'r lleiaf hyd y mwyaf, y rhai oll oedd yn trigo yn Babilon, wrth afon Sud.

1:5 A hwy a wylasant, ac a ymprydiasant, ac a weddasant, gerbron yr Arglwydd.

1:6 Hwy a gasglasant arian hefyd yn l gallu pawb,

1:7 Ac a'i hanfonasant i Jerwsalem at Joachim yr offeiriad fab Chelcias, fab Salom, ac at yr holl offeiriaid eraill, ac at yr holl bobl a geffid gyda hwynt yn Jerwsalem,

1:8 Y pryd hynny pan dderbyniodd efe lestri tŷr Arglwydd, y rhai a ddygasid o'r deml, i'w dwyn drachefn i wlad Jwda, y degfed dydd o fis Sifan, sef llestri arian, y rhai a wnaethai Sedeceias mab Joseias brenin Jwda;

1:9 Wedi caethgludo o Nabuchodonosor brenin Babilon Jechoneias, a'r tywysogion, a'r carcharorion, a'r cedyrn, a phobl y wlad, o Jerwsalem, a'u dwyn hwynt i Babilon.

1:10 A hwy a ddywedasant, Wele, ni a anfonasom atoch chwi arian; prynwch chwithau 'r arian offrymau poeth, ac aberthau dros bechod, ac arogl-darth; a darperwch fwydoffrwn, ac offrymwch ar allor yr Arglwydd ein Duw ni;

1:11 A gweddwch dros hoedl Nabuchodonosor brenin Babilon, a thros hoedl Balthasar ei fab ef, ar fod eu dyddiau hwynt ar y ddaear fel dyddiau'r nefoedd;

1:12 Ac ar roddi o'r Arglwydd i ni nerth, a goleuo ohono ef ein llygaid ni, fel y byddom byw dan gysgod Nabuchodonosor brenin Babilon, a than gysgod Balthasar ei fab ef, ac y gwasanaethom hwy lawer o ddyddiau, ac y caffom ffafr yn eu golwg hwynt.

1:13 Gweddwch hefyd drosom ni at yr Arglwydd ein Duw: oherwydd ni a bechasom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw, ac ni throdd ei lid a'i ddig ef oddi wrthym ni eto.

1:14 Darllenwch hefyd y llyfr yma a anfonasom ni atoch, i'w draethu yn nhŷr Arglwydd ar ddyddiau gwylion ac ar ddyddiau uchel;

1:15 A dywedwch, Yr Arglwydd ein Duw ni sydd gyfiawn, i ninnau y perthyn gwarthrudd golau, fel y mae heddiw, i ddynion Jwda, ac i drigolion Jerwsalem,

1:16 Ac i'n brenhinoedd, ac i'n tywysogion, ac i'n hoffeiriaid, ac i'n proffwydi, ac i'n tadau:

1:17 Canys ni a bechasom gerbron yr Arglwydd ein Duw,

1:18 Ac a anghredasom iddo ef, ac ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ei orchmynion ef, y rhai a roddes efe o'n blaen ni.

1:19 Er y dydd y dug yr Arglwydd ein tadau o dir yr Aifft hyd y dydd hwn, ni a fuom anufudd i'r Arglwydd ein Duw, ac a fuom esgeulus, heb wrando ar ei lais ef.

1:20 Am hynny y glynodd drwg wrthym ni, a'r felltith a ordeiniodd yr Arglwydd wrth Moses ei was, y dydd y dug yr Arglwydd ein tadau allan o dir yr Aifft, i roddi i ni dir yn llifeirio o laeth a mel, fel y gwelir heddiw.

1:21 Ond ni wrandawsom ni ar lais yr Arglwydd ein Duw, yn l holl eiriau'r proffwydi a anfonodd efe atom:

1:22 Eithr ni a rodiasom bob un wrth feddwl ei galon ddrygionus ei hun, gan wasanaethu duwiau dieithr, a gwneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd ein Duw.

PENNOD 2
2:1 Am hynny y cyflawnodd yr Arglwydd ei air a lefarodd efe yn ein herbyn ni, ac yn erbyn ein barnwyr, y rhai a farnent Israel, ac yn erbyn ein brenhinoedd, ac yn erbyn ein tywysogion, ac yn erbyn gwŷr Israel a Jwda;

2:2 Gan ddwyn arnom ni ddrygfyd mawr, y fath ni bu dan y nefoedd oll, fel y mae yn Jerwsalem, yn l yr hyn a sgrifennwyd yng nghyfraith Moses,

2:3 Y bwyti dyn gnawd ei fab ei hun, a chnawd ei ferch ei hun.

2:4 Efe a'u rhoddes hwynt hefyd i fod dan law yr holl deyrnasoedd sydd o'n hamgylch ni, i fod yn waradwyddus ac yn anghyfannedd ymysg yr holl bobloedd sydd o'n hamgylch, lle y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt.

2:5 Felly y'n dygwyd ni i waered, ac nid i fyny, am bechu ohonom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw, heb wrando ar ei lais ef.

2:6 Ein Harglwydd Dduw ni sydd gyfiawn: i ninnau ac i'n tadau y perthyn gwarthrudd golau, fel y gwelir heddiw:

2:7 Canys yr holl ddrygau hyn a ddaeth arnom ni, y rhai a draethodd yr Arglwydd yn ein herbyn.

2:8 Ac ni weddasom ni gerbron yr Arglwydd, ar droi o bob un oddi wrth feddyliau eu calon ddrygionus.

2:9 Am hynny y gwyliodd yr Arglwydd arnom ni am ddrygfyd, ac a'i dug arnom: oblegid cyfiawn yw'r Arglwydd yn ei holl weithredoedd, y rhai a orchmynnodd efe i ni.

2:10 Ond ni wrandawsom ni ar ei lais ef, i rodio yn ei orchmynion ef, y rhai a roddes efe o'n blaen ni.

2:11 Ac yn awr, O Arglwydd Dduvw Israel, yr hwn a ddygaist dy bobl allan o dir yr AifFt trwy law gadarn, trwy arwyddion a rhyfeddodau, a thrwy allu mawr a braich estynedig, ac a wnaethost i ti enw, fel y gwelir heddiw;

2:12 O ein Harglwydd Dduw, nyni a bechasom, a fuom annuwiol, ac a wnaethom yn anghyfiawn yn dy holl ordeiniadau di.

2:13 Troer, atolwg, dy lid oddi wrthym: oherwydd ychydig a adawed ohonom ni ymysg y cenhedloedd lle y gwasgeraist ni.

2:14 Gwrando, Arglwydd, ein gweddi a'n deisyf, a rhyddha ni er dy fwyn dy hun, a gwna i ni gael ffafr yng ngolwg y rhai a'n caethgludasant:

2:15 Fel y gwypo'r holl ddaear mai ti yw yr Arglwydd ein Duw ni, oherwydd mai dy enw di a elwir ar Israel a'i genedl.

2:16 Edrych i lawr, Arglwydd, o'th dŷ sanctaidd, a meddwl amdanom: gostwng dy glust, O Arglwydd, a gwrando.

2:17 Agor dy lygaid, a gwl: oherwydd nid y meirw yn y bedd, y rhai y dygwyd eu heneidiau allan o'u cyrff, a roddant na gogoniant na chyfiawnder i'r Arglwydd:

2:18 Eithr yr enaid, yr hwn sydd athrist iawn, yr hwn sydd yn cerdded yn grwm ac yn llesg, a'r llygaid palledig, a'r enaid newynog, a roddant ogoniant a chyfiawnder i ti, O Arglwydd.

2:19 Oblegid hynny nid am gyfiawnder ein tadau a'n brenhinoedd yr ydym yn tywallt ein gweddi ger dy fron di, ein Harglwydd Dduw.

2:20 Canys tydi a anfonaist dy lid a'th ddigofaint arnom ni, fel y dywedaist trwy law dy weision y proffwydi, gan ddywedyd,

2:21 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gostyngwch eich ysgwyddau, a'ch gwarrau, a gwasanaethwch frenin Babilon, a chwi a gewch aros yn y wlad yr hon a roddais i'ch tadau chwi.

2:22 Ac oni wrandewch ar lais yr Arglwydd, i wasanaethu brenin Babilon,

2:23 Mi a ddygaf ymaith o ddinasoedd Jwda, ac allan o Jerwsalem, lais gorfoledd a llais llawenydd, llais priodfab a llais priodferch; a'r holl wlad a fydd anghyfannedd heb drigolion.

2:24 Ond ni wrandawsom ni ar dy lais di, i wasanaethu brenin Babilon: am hynny y cyflawnaist ti dy eiriau, y rhai a leferaist trwy weinidogaeth dy weision y proffwydi, sef y dygid esgyrn ein brenhinoedd ac esgyrn ein tadau o'u lle.

2:25 Ac wele, hwy a daflwyd allan i wres y dydd, ac i rew y nos, ac a fuant feirw mewn gofid mawr trwy newyn, a chleddyf, a haint y nodau.

2:26 Gosodaist hefyd y tŷ lle y gelwid ar dy enw, fel y gwelir ef heddiw, am ddrygioni tŷ Israel a thŷ Jwda.

2:27 A thi a wnaethost ni, O Arglwydd ein Duw, yn l dy holl larieidd-dra, ac yn l dy fawr drugaredd oll,

2:28 Fel y lleferaist trwy dy was Moses, y dydd y gorchmynnaist iddo ysgrifennu dy gyfraith di, o flaen meibion Israel, gan ddywedyd,

2:29 Oni wrandewch chwi ar fy llais, y dyrfa fawr luosog hon a droir yn ddiau yn ychydig ymysg y cenhedloedd lle y gwasgaraf fi hwynt.

2:30 Oblegid mi a wyddwn na wrandawent hwy arnaf fi; oblegid pobl wargaled ydynt hwy: eithr yn y tir lle y caethgludir hwynt y meddyliant amdanynt eu hun,

2:31 Ac y gwybyddant mai myfi yw eu Harglwydd Dduw hwynt: a mi a roddaf iddynt galon a chlustiau i wrando.

2:32 Yna y'm moliannant i yn y wlad lle y caethgludir hwynt, ac y cofiant fy enw,

2:33 Ac y troant oddi wrth eu gwar galed a'u drwg weithredoedd: oblegid mi a gofiaf ffordd eu tadau, y rhai a bechasant yng ngŵydd yr Arglwydd.

2:34 Felly y dygaf hwy drachefn i'r tir, yr hwn trwy lw a addewais i i'w tadau hwynt, i Abraham, i Isaac, ac'i Jacob; a hwy a'i meddiannant: a mi a'u hamlhaf hwynt, ac nis lleiheir hwynt.

2:35 A mi a wnaf hwynt gyfamod tragwyddol, y byddaf fi yn Dduw iddynt hwy, a hwythau a fyddant yn bobl i mi: ac ni symudaf mwyach fy mhobl Israel o'r tir a roddais iddynt.

PENNOD 3
3:1 O Arglwydd hollalluog, Duw Israel, y mae'r enaid sydd mewn ing, a'r ysbryd cystuddiol, yn llefain arnat ti.

3:2 Clyw, Arglwydd, a thrugarha; oblegid Duw trugarog ydwyt ti: cymer drugaredd, oblegid nyni a bechasom i'th erbyn.

3:3 Oherwydd yr ydwyt ti yn aros byth, a derfydd amdanom ninnau yn llwyr.

3:4 O Arglwydd hollalluog, Duw Israel, gwrando ar weddau'r Israeliaid meirw, a'u meibion hwynt, y rhai a bechasant i'th erbyn, ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd eu Duw: am ba achos y glynodd y drygau hyn wrthym ni.

3:5 Na chofia anwireddau ein tadau: eithr cofia dy allu a'th enw dy hun y pryd hyn.

3:6 Oherwydd tydi yw ein Harglwydd Dduw; a thydi, O Arglwydd, a foliannwn ni.

3:7 Oblegid er mwyn hyn y rhoddaist ti dy ofn yn ein calonnau ni, sef er mwyn galw ohonom ar dy enw, a'th foliannu yn ein caethiwed: oblegid ni a gofiasom holl anwiredd ein tadau, y rhai a bechasant ger dy fron di.

3:8 Wele ni eto yn ein caethiwed, lle y gwasgeraist ti nyni yn waradwydd, ac yn felltith, ac i fod dan dreth, yn l holl anwireddau ein tadau, y rhai a giliasant oddi wrth yr Arglwydd ein Duw ni.

3:9 Clyw, O Israel, orchmynion y bywyd; gwrando, i gael gwybod doethineb.

3:10 Paham, Israel, yr ydwyt ti yn nhir dy elynion? yr heneiddiaist mewn gwlad ddieithr? ac y'th halogwyd gan y meirw?

3:11 Paham y'th gyfrifwyd gyda'r rhai a aethant i'r bedd?

3:12 Tydi a adewaist ffynnon doethineb.

3:13 Pe rhodiesit ti yn ffordd Duw, ti a drigesit mewn heddwch byth.

3:14 Dysg pa le y mae doethineb, pa le y mae grymustra, pa le y mae deall; i gael gwybod hefyd pa le y mae hir hoedl, ac einioes, pa le y mae goleuni llygaid, a thangnefedd.

3:15 Pwy a gafodd ei lle hi? a phwy a aeth i mewn i'w thrysorau hi?

3:16 Pa le y mae tywysogion y cenhedloedd, a llywodraethwyr yr anifeiliaid sydd ar y ddaear,

3:17 Y rhai oedd yn chwarae ag adar y nefoedd, ac yn tyrru arian ac aur, yn yr hwn yr ymddiried dynion, ac ni wnaent ddiben ar geisio?

3:18 Canys y rhai a fathent arian, a hynny mor ofalus, a'u gwaith yn anchwiliadwy,

3:19 Hwy a ddiflanasant, ac a ddisgynasant i'r bedd; a rhai eraill a gododd yn eu lle hwynt.

3:20 Yn ieuainc y gwelsant hwy oleuni, ac a drigasant ar y ddaear: ond nid adnabuant hwy ffordd gwybodaeth.

3:21 Ei llwybrau hi ni ddeallasant chwaith, ac nid ymafaelasant ynddi: pell oedd eu plant oddi ar y ffordd honno.

3:22 Ni chlywyd sn amdani hi yn Canaan, ac ni welwyd hi yn Theman.

3:23 Yr Agareniaid, y rhai sydd yn ceisio deall ar y ddaear, a marchnadwyr Meran a Theman, dychmygwyr chwedlau, ac yn ceisio deall; ond nid adwaenai un o'r rhai hyn ffordd doethineb, ac ni chofiasant ei llwybrau hi.

3:24 O Israel, mor fawr yw tŷ Dduw! ac mor helaeth yw lle ei feddiant ef!

3:25 Mawr yw efe, ac nid oes diwedd iddo: uchel yw efe, ac anfeidrol.

3:26 Yna yr oedd y cewri enwog gynt, y rhai oedd yn gorffol, ac yn medru rhyfela.

3:27 Nid y rhai hynny a ddewisodd Duw, ac ni roddes iddynt ffordd gwybodaeth.

3:28 Eithr difethwyd hwy, am nad oedd ganddynt ddoethineb; a thrwy eu hynfydrwydd y methasant hwy.

3:29 Pwy a ddringodd i'r nefoedd, ac a'i cymerodd hi, ac a'i dug i waered o'r cymylau?

3:30 Pwy a aeth dros y mr, ac a'i cafodd hi, ac a'i dug hi am aur o'r gorau?

3:31 Nid oes neb yn adnabod ei ffordd hi, nac yn ystyried ei llwybr.

3:32 Ond yr hwn a ŵyr bob peth a'i hedwyn hi, a thrwy ei ddoethineb a'i cafodd hi: yr hwn a ddarparodd y ddaear dros amser tragwyddol, a'i llanwodd hi ag anifeiliaid pedwarcarnol:

3:33 Yr hwn sydd yn anfon goleuni allan, ac fe a ; yn ei alw ef yn ei l, ac yntau yn ufuddhau mewn ofn.

3:34 Y sr a oleuasant yn eu gwyliadwriaethau yn llawen: efe a'u galwodd hwynt, a hwy a ddywedasant, Dyma ni; goleuasant yn llawen i'r hwn a'u gwnaeth hwynt.

3:35 Dyma ein Duw ni; na chyffelyber neb arall iddo ef.

3:36 Efe a gafodd allan bob ffordd gwybodaeth; ac a'i rhoddes hi i Jacob ei was, ac i Israel ei anwylyd.

3:37 Wedi hyn yr ymddangosodd efe ar y ddaear, ac y trigodd ymysg dynion.

PENNOD 4
4:1 Dyma lyfr gorchmynion Duw, a'r gyfraith a bery byth: y rhai oll a'i cadwant hi a ddeuant i fywyd, a'r rhai a'i gadawant hi a fyddant feirw.

4:2 Dychwel Jacob, ac ymafael ynddi hi: rhodia mewn goleuni wrth ei llewyrch hi.

4:3 Na ddod dy ogoniant i arall, na'r pethau buddiol i genedl ddieithr.

4:4 Gwyn ein byd ni, Israel, am fod yn hysbys i ni y pethau a ryglyddant fodd i Dduw.

4:5 O fy mhobl, coffadwriaeth Israel, cymer gysur.

4:6 Chwi a werthwyd i'r cenhedloedd, nid i'ch difetha; ond oherwydd i chwi annog Duw i ddig y rhoddwyd chwi i'r gelynion.

4:7 Oherwydd chwi a ddigiasoch yr hwn a'ch gwnaeth, gan offrymu i gythreuliaid, ac nid i Dduw.

4:8 Anghofiasoch Dduw tragwyddol, yr hwn a'ch cenhedlodd chwi: a'ch mamaeth Jerwsalem a wnaethoch yn drist.

4:9 Oblegid hi a welodd y dig oedd yn dyfod arnoch chwi, ac a ddywedodd, Gwrandewch, cymdogion Seion; dygodd Duw arnaf fi dristwch mawr;

4:10 Oherwydd mi a welais gaethiwed fy meibion a'm merched, yr hon a ddug y tragwyddol Dduw arnynt hwy.

4:11 Canys yn llawen y megais i hwynt: eithr trwy wylofain a thristwch y danfonais hwynt ymaith.

4:12 Na lawenyched neb o'm plegid i, yr hon ydwyf weddw, ac a wrthododd llawer: anghyfannedd ydwyf fi o achos pechodau fy mhlant, am gilio ohonynt hwy oddi wrth gyfraith Dduw.

4:13 Nid adnabuant hwy ei gyfiawnder ef, ac ni rodiasant yn ffyrdd gorchmynion Duw, ac ni sathrasant lwybrau dysg yn ei gyfiawnder ef.

4:14 Deued cymdogion Seion, cofiwch gaethiwed fy meibion a'm merched, yr hon a ddug y tragwyddol Dduw arnynt hwy.

4:15 Oherwydd efe a ddug yn eu herbyn hwynt genedl o bell, cenedl ddigywilydd, ac estronieithus; y rhai ni pharchent yr hen, ac ni thosturient wrth y dyn bach;

4:16 Ac a ddygasant ymaith anwylblant y weddw, ac a wnaethant yr unig yn amddifad heb ferched.

4:17 A pha help a allaf fi i chwi?

4:18 Oblegid yr hwn a ddug adfyd arnoch a'ch gwared chwi o law eich gelynion.

4:19 Ymaith chwi, ymaith chwi, fy mhlant, oblegid fo'm gadawyd i yn anghyfannedd.

4:20 Mi a ddiosgais wisg tangnefedd, ac a wisgais sachliain fy ngweddi: tra fyddwyf fi byw y llefaf ar Dduw tragwyddol.

4:21 Cymerwch gysur, blant: llefwch ar yr Arglwydd; ac efe a'ch gwared chwi oddi wrth gadernid a dwylo eich gelynion:

4:22 Oherwydd y mae gennyf fi obaith yn y Tragwyddol o'ch iachawdwriaeth chwi, ac fe ddaeth i mi lawenydd oddi wrth yr hwn sydd Sanctaidd, oherwydd y drugaredd yr hon a ddaw i chwi yn fuan gan ein tragwyddol Iachawdwr ni.

4:23 Oblegid trwy dristwch ac wylofain y danfonais chwi allan: eithr Duw a'ch rhydd chwi i mi drachefn trwy lawenydd a hyfrydwch byth.

4:24 Megis yn awr y gwelodd cymdogion Seion eich caethiwed chwi; felly ar fyrder y gwelant eich iachawdwriaeth chwi oddi wrth eich Duw, yr hon a ddaw i chwi trwy ogoniant mawr a disgleirdeb y Tragwyddol.

4:25 O fy mhlant, cymerwch yn ddioddefgar y dicter a ddaeth arnoch oddi wrth Dduw: oherwydd y gelyn a'th erlidiodd di; eithr ar fyrder ti a gei weled ei ddinistr ef, ac a sethri ar ei wddf ef.

4:26 Fy anwylyd a aethant ar hyd ffyrdd geirwon; hwy a dducpwyd ymaith fel praidd, yr hwn a sglyfaethai gelynion.

4:27 Cymerwch gysur, fy mhlant, a gelwch ar Dduw: oblegid y mae yr hwn a ddug y pethau hyn arnoch chwi yn meddwl amdanoch.

4:28 Megis y bu eich meddwl chwi ar gyfeiliorni oddi wrth Dduw, felly, gan i chwi droi, bydded yn ddeg mwy ar ei geisio ef.

4:29 Oblegid yr hwn a ddug y drygau hyn arnoch, a ddwg i chwi gyda'ch iachawdwriaeth, lawenydd tragwyddol.

4:30 Cymer gysur, Jerwsalem; y mae yr hwn a'th enwodd di yn dy gysuro.

4:31 Gwae y rhai a wnaethant niwed i ti, ac a fu lawen ganddynt dy gwymp!

4:32 Gwae y dinasoedd y gwnaeth dy blant wasanaeth iddynt! gwae yr hon a gymerodd dy feibion di!

4:33 Oblegid megis y mae yn llawen ganddi dy gwymp di, ac yn hyfryd ganddi dy dramgwydd; felly y bydd hi athrist oblegid ei hanghyfanhedd-dra ei hun:

4:34 Canys mi a dorraf ymaith lawenydd ei lliaws mawr hi, a'i ffrost a fydd yn dristwch.

4:35 Oherwydd tn a ddaw arni hi dros hir ddyddiau, oddi wrth Dduw tragwyddol; a chythreuliaid a breswyliant ynddi amser mawr.

4:36 Edrych, O Jerwsalem, tua'r dwyrain, a gwl yr hyfrydwch sydd yn dyfod i ti gan Dduw.

4:37 Wele, y mae dy feibion, y rhai a anfonaist ymaith, yn dyfod; y maent hwy yn dyfod wedi eu casglu o'r dwyrain hyd y gorllewin, trwy air yr hwn sydd Sanctaidd, gan lawenychu yng ngogoniant Duw.

PENNOD 5
5:1 O Jerwsalem, diosg wisg dy alar a'th dristwch, a gwisg harddwch y gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn dragywydd.

5:2 Gwisg amdanat wisg ddauddyblyg y cyfiawnder sydd o Dduw, a gosod ar dy ben goron gogoniant y Tragwyddol;

5:3 Oblegid Duw a ddengys dy ddisgleirdeb di i bob cenedl dan y nefoedd.

5:4 Canys Duw a eilw dy enw di byth, Heddwch cyfiawnder, a Gogoniant duwioldeb.

5:5 Cyfod, Jerwsalem, a saf yn uchel, ac edrych tua'r dwyrain, a gwl dy blant wedi eu casglu o fachludiad haul hyd ei godiad, trwy air yr hwn sydd Sanctaidd, ac yn llawen yng nghoffadwriaeth Duw.

5:6 Ar eu traed yr aethant hwy oddi wrthyt ti, a'u gelynion a'u dygasant ymaith; eithr Duw a'u dwg hwynt atat ti, wedi eu dyrchafu mewn gogoniant, fel meibion y frenhiniaeth.

5:7 Oblegid Duw a ordeiniodd ostwng pob mynydd uchel, a'r bryniau tragwyddol, a llenwi'r pantoedd i wastatu y ddaear, fel y gallo Israel rodio'n ddiogel yng ngogoniant Duw.

5:8 Y coedydd a phob pren aroglber a fuant gysgod i Israel wrth orchymyn Duw.

5:9 Oherwydd Duw a arwain Israel yn llawen yng ngoleuni ei ogoniant, ynghyd 'r drugaredd, a'r cyfiawnder, yr hwn sydd oddi wrtho ef.

PENNOD 6
6:1 Oblegid y pechodau a wnaethoch chwi gerbron Duw, y dwg Nabuchodonosor brenin Babilon chwi'n garcharorion i Babilon.

6:3 Felly pan ddeloch chwi i Babilon, chwi a fyddwch yno flynyddoedd lawer, ac amser hir, hyd saith o genedlaethau: wedi hynny mi a'ch dygaf allan oddi yno mewn heddwch.

6:4 Yna y gwelwch yn Babilon dduwiau arian, ac aur, a phrennau, y rhai a ddygir ar ysgwyddau, ac a yrrant ofn ar y cenhedloedd.

6:5 Gwyliwch chwithau rhag bod yn debyg i'r dieithriaid, ac ofni ohonoch chwithau hwynt, pan weloch chwi'r cenhedloedd yn eu haddoli hwynt o'u blaen ac o'u hl.

6:6 Dywedwch chwithau yn eich meddwl, Tydi, O Arglwydd, sydd raid i ni ei addoli.

6:7 Canys fy angel i a fydd gyda chwi, a minnau a ymorolaf am eich eneidiau chwi.

6:8 Y saer a drwsiodd eu tafod hwynt, hwythau wedi eu goreuro, a'u gorchuddio ag arian; er hynny pethau gau ydynt, ac ni allant lefaru.

6:9 Hwy a gymerant aur, ac a'i gweithiant, megis i lances yn hofii gwychder, yn goronau ar bennau eu duwiau.

6:10 Ac weithiau y dwg yr offeiriaid aur ac arian oddi ar eu duwiau, ac a'u treuliant arnynt eu hunain.

6:11 Rhoddant hefyd ohonynt hwy i'r puteiniaid cyhoedd ac a'u trwsiant, hwynt mewn gwisgoedd megis dynion, sef y duwiau o arian, ac aur, a phrennau.

6:12 Eto ni allant ymachub oddi wrth rwd a phryfed, er eu gwisgo a phorffor.

6:13 Hwy a sychant eu hwyneb hwy, oblegid y llwch yn y tŷ yr hwn fydd yn fawr arnynt.

6:14 Gan un ohonynt y bydd teyrnwialen, fel gŵr yn barnu gwlad: ond ni ddichon efe ladd yr hwn a becho yn ei erbyn.

6:15 Gan arall y bydd cleddyf, neu fwyall, yn ei law ddeau; er hynny ni ddichon efe ei wared ei hun rhag rhyfel neu ladron.

6:16 Wrth hyn amlwg yw nad ydynt hwy dduwiau: am hynny nac ofnwch hwynt.

6:17 Oherwydd megis y mae llestr dyn, wedi ei dorri, heb dalu dim; felly y mae eu duwiau hwynt: wedi eu gosod hwynt mewn tai, traed y rhai a ddl i mewn a leinw eu llygaid hwynt o lwch.

6:18 Ac megis y caeir y cynteddoedd ar yr hwn a wnelo yn erbyn y brenin, megis ar un wedi ei fwrw i farwolaeth; felly y mae'r offeiriaid yn cadw eu temlau hwynt dorau, throsolion, ac chloeau, rhag i ladron eu hysbeilio hwynt.

6:19 Hwy a osodant ganhwyllau o'u blaen hwynt, fwy nag o'u blaen eu hunain, ac ni allant hwy weled un ohonynt.

6:20 Y maent hwy fel un o drawstiau'r deml; ac eto yr ydys yn dywedyd fod y seirff, y rhai sy'n dyfod o'r ddaear, yn cnoi eu calonnau hwynt : ac wrth eu bwyta hwynt a'u gwisgoedd, ni wyddant oddi wrtho.

6:21 Y mae eu hwynebau hwynt wedi duo gan y mwg o'r deml.

6:22 Yr ystlumod, a'r gwenoliaid, a'r adar eraill, a ehedant ar eu cyrff a'u pennau hwynt, felly y cathod hefyd.

6:23 Wrth hyn y bydd hysbys i chwi nad duwiau ydynt: nac ofnwch chwithau hwynt.

6:24 Oblegid yr aur sydd amdanynt, yn harddwch iddynt, oni sych rhyw un y rhwd, ni ddisgleiria: a phan doddwyd hwynt, ni wybuant oddi wrth hynny.

6:25 Am bob gwerth y prynir hwy, y rhai nid oes anadl ynddynt.

6:26 Hwy, o eisiau traed, a ddygir ar ysgwyddau: felly y maent hwy yn dangos i ddynion eu gwaelder.

6:27 Mae yn gywilydd gan y rhai a'u gwasanaethant hwy; oblegid os syrth un ohonynt hwy un amser i lawr, ni chyfyd efe ohono ei hun; ac os gesyd un ef yn ei union sefyll, ni syfl efe ohono ei hun; ac os gogwydda, ni all efe ymuniawni: eithr y maent yn rhoi rhoddion o'u blaen hwy megis i rai meirw.

6:28 Y mae eu hoffeiriaid yn gwerthu eu haberthau hwynt, ac yn eu camarfer: felly y mae eu gwragedd yn rhoddi i gadw mewn halen beth ohonynt, heb roddi dim i'r tlawd a'r gwan.

6:29 Y mae y rhai misglwyfus, a'r rhai etifyddog, yn cyffwrdd 'u haberthau hwynt: gwybyddwch wrth hynny nad duwiau ydynt; ac nac ofnwch hwynt.

6:30 Pa fodd gan hynny y gelwir hwynt yn dduwiau? ai am fod y gwragedd yn gosod offrymau o flaen y duwiau arian, ac aur, a phrennau?

6:31 Y mae yr offeiriaid yn eistedd yn eu temlau hwynt, a'u gwisgoedd wedi eu rhwygo, 'u pennau, ac 'u barfau wedi eu heillio, ac yn benoethion.

6:32 Y maent hwy yn rhuo ac yn gweiddi o flaen eu duwiau, fel rhai yng ngwledd y marw.

6:33 Y mae'r offeiriaid yn cymryd o'u gwisgoedd hwynt, ac yn dilladu eu gwragedd a'u plant.

6:34 Os da os drwg a gnt hwy, ni allant hwy dalu'r pwyth: ni allant na gwneuthur brenin, na'i ddiswyddo.

6:35 Yr un modd ni allant roddi na chyfoeth nac arian: os adduneda un adduned heb ei thalu, nis gofynnant hwy.

6:36 Ni allant waredu dyn oddi wrth angau, nac achub y gwan rhag y cadarn.

6:37 Ni allant roddi ei olwg i'r dall drachefn, ac ni allant waredu y dyn a fyddo mewn angen.

6:38 Ni ddangosant hwy drugaredd i'r weddw, ac ni wnnt ddaioni i'r amddifad.

6:39 Fel y cerrig o'r mynydd ydyw eu duwiau pren hwynt, wedi eu goreuro a'u hariannu: y rhai a'u haddolant hwynt a waradwyddir.

6:40 Pa fodd gan hynny y meddylir neu y dywedir eu bod hwy yn dduwiau, a'r Caldeaid eu hunain yn eu dibrisio?

6:41 Y rhai, pan welont un heb fedru dywedyd, a'i dygant ef at Bel, ac a ddeisyfant beri iddo ef lefaru, fel pe gallai efe lefaru ei hun.

6:42 Ac er deall hyn, ni fedrant beidio hwynt: am nad oes ganddynt synnwyr.

6:43 Y gwragedd, wedi eu gwregysu rheffynnau, a eisteddant yn yr heolydd yn llosgi eisin yn lle arogl-darth; os tynnir un ohonynt hwy gan ryw un yn myned heibio, a gorwedd ohoni gydag ef, hi a edliwia i'w chymdoges na thybiwyd yn gystal o honno ag ohoni hi, ac na thynnwyd ei rheffyn hithau.

6:44 Gau yw yr hyn oll a wnaed yn eu mysg hwy: pa fodd gan hynny y meddylir neu y dywedir mai duwiau ydynt?

6:45 Seiri a gofaint aur a'u gwnaethant hwy: ni allant fod yn ddim, ond a fynno y crefftwr iddynt fod.

6:46 Ni bydd hirhoedlog y rhai a'u gwnaethant hwy: pa fodd ynteu y bydd y pethau a wnelo y rhai hynny yn dduwiau?

6:47 Gadawsant gelwyddau a gwaradwydd i'r rhai a ddeuant ar eu hl hwy:

6:48 Canys pan ddelo rhyfel neu ddrygau arnynt, yna y meddwl yr offeiriaid rhyngddynt a hwy eu hunain, pa le yr ymguddiant gyda hwy.

6:49 Pa fodd gan hynny na ddeellir nad ydynt hwy dduwiau, y rhai nid ymachubant eu hunain rhag rhyfel a drygau?

6:50 Gan mai prennau ydynt, ac aur ac arian wedi eu gosod arnynt, hysbys fydd o hyn allan mai ffug ydynt;

6:51 Ac amlwg fydd i'r holl genhedloedd a'r brenhinoedd nad duwiau ydynt hwy, eithr gwaith dwylo dynion, heb ddim o waith Duw ynddynt.

6:52 Pwy gan hynny ni ŵyr nad ydynt hwy dduwiau?

6:53 Ni osodant hwy frenin ar wlad, a glaw ni roddant i ddynion.

6:54 Nid ydynt hwy yn medru barnu materion: ni allant achub rhag cam, mor wan ydynt hwy: canys y maent fel brain rhwng nef a daear.

6:55 Pan ddamweinio tan yn nheml y duwiau o goed, neu o aur, neu o arian wedi ei osod arnynt, yna eu hoffeiriaid hwynt a ffoant ac a ddihangant; hwythau a losgant fel y trawstiau yn eu hanerau.

6:56 Ni wrthwynebant hwy frenin neu elynion: pa fodd gan hynny y gellir tybied neu ddywedyd mai duwiau ydynt?

6:57 Y duwiau o brennau, ac wedi gosod arian ac aur arnynt, ni allant ddianc gan na lladron na gwilliaid.

6:58 Rhai cryfion a ddygant yr aur, a'r arian, a'r gwisgoedd, y rhai a fyddant amdanynt hwy; ac wedi eu cael, a nt ymaith: ac ni allant hwy help iddynt eu hunain.

6:59 Felly gwell yw bod yn frenin yn dangos ei gadernid, neu yn llestr buddiol mewn tŷ i'r peth yr arfero ei berchennog ef, nag yn un o'r gau dduwiau; neu yn ddr ar dŷ, yn cadw y pethau a fyddant ynddo, nag yn un o'r cyfryw gau dduwiau; neu yn golofn bren mewn brenhindy, na bod yn un o'r gau dduwiau.

6:60 Canys yr haul, a'r sr, a hwythau yn ddisglair, a'u hanfon i wneuthur lles, ydynt yn ufudd:

6:61
Felly y mae'r fellten yn hawdd ei gweled, pan ymddangoso hi; ac yn yr un modd y gwynt a chwyth ym mhob gwlad;

6:62 A phan orchmynno Duw i'r cymylau fyned dros yr holl fyd, hwy a gyflawnant y gorchymyn;

6:63 Pan anfoner y tn oddi uchod i anrheithio mynyddoedd a choedydd, efe a wna'r gorchymyn: ond y rhai hyn nid ydynt debyg i'r rhai hynny, nac mewn pryd, nac mewn gallu.

6:64 Am hynny ni ellir na meddwl na dywedyd eu bod hwy yn dduwiau, gan na allant na rhoddi barn na gwneuthur lles i ddynion.

6:65 Gan eich bod yn awr yn gwybod nad ydynt hwy dduwiau, nac ofnwch hwynt:

6:66 Oblegid ni allant hwy na dywedyd, na melltithio na bendithio brenhinoedd;

6:67 Ac ni allant ddangos arwyddion yn y nefoedd ymysg y cenhedloedd, na thywynnu fel yr haul, na llewyrchu fel y lleuad.

6:68 Y mae'r anifeiliaid, y rhai a ffoant i ddiddos i gael achles iddynt eu hunain, yn well na'r rhai hyn.

6:69 Felly nid yw amlwg i ni trwy fodd yn y byd eu bod hwy yn dduwiau: am hynny nac ofnwch hwynt.

6:70 Megis mewn gardd lysiau nid yw yr hudwg yn cadw dim; felly y mae eu duwiau hwynt o brennau, ac o aur, ac o arian wedi ei osod arnynt.

6:71 Eu duwiau hwynt o brennau, ac o aur, ac o arian wedi ei osod arnynt, ydynt fel ysbyddaden mewn perllan, ar yr hon y disgyn pob aderyn, ac yn debyg i un marw wedi ei fwrw mewn tywyllwch.

6:72 Wrth y porffor a'r gwychder sydd yn pydru amdanynt hwy, y gellwch chwi wybod nad ydynt hwy dduwiau: hwythau o'r diwedd a ysir, ac a fyddant yn waradwydd yn y wlad.

6:73 Am hynny gwell yw'r gŵr cyfiawn nad oes ganddo ddelwau: oblegid pell fydd efe oddi wrth waradwydd.

 

DIWEDD

Adolygiadau diweddaraf: 2009-01-31

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ ə

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sc? Esteu visitant una pgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Galles-Catalunya)
Weə(r) m ai? Yu a(r) vzting ə peij frm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəluniə) Wb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA

 

 

Edrychwch ar fy ystadegau