kimkat3805k Y Waunwaelod. Emwnt Matho. Y Darian. 1919. Tafodiaith Morgannwg (Caerffili) (Dialecte de Morgannwg / Glamorgan dialect) (Y Wenhwyseg).

23-04-2023



 .....

Gweler hefyd / Vegeu tambe / See also:

.....

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..
 
 
 
 
 
 
 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We
 
Y Waunwaelod.
Emwnt Matho. Y Darian. 1919.


 


 

 

Map

Description automatically generated
(delwedd 7282)


Shape, circle

Description automatically generated https://translate.google.com/

(Cymraeg, catala, English, euskara, Gaidhlig, Gaeilge, Frysk, Deutsch, Nederlands, français, galego, etc)

26-12-1918

13-02-1919 B0764

20-02-1919

27-02-1919 B0761

20-03-1919 J7832


llythrennau duon = testun wedi ei gywiro

llythrennau gwyrddion = testun heb ei gywiro

 

 

Text

Description automatically generated

(delwedd J7831a) (26 Rhagfyr 1918)

26-12-1918

 

Y Darian. 26 Rhagfyr 1918.

Y Waen Waelod, Mynydd Caerffili.

Mr. Gol. Ma'n rhaid i finna weud fel na, sbo, er nad wy'n ych nabod chi, na chithe'n y nabod inne. Ond ta pwyn i chi, rych chi'n gallu trafod y DARIAN yn ddeche digynnig. Oddar y'ch chi wedi citcho yndi ma hi wedi gwella cinog ar ginog. Rwyn prynu'r DARIAN oddar y startws hi, a fe alla i weud. Fuws hi ariod cystal a ma hi'n awr, a fe ddylsech chi o bawb gal gwybod hynny. Wel, bendith arnoch chi, weda i, a Iwc dda i'r DARIAN.

Wel, Mr. Gol., yr hyn gynhyrfws dicyn arna i i sgrifennu lein neu dwy i'r DARIAN yr wsnoth hyn odd darllen pishyn Herbert Kenvyn oddar Twyn y Gwcw, Mynydd Caerffili. Myn- ydd Caerffili! On te fe wrth i groesi e o Dongwynlais i Gaerffili yr a'th Christmas Evans i gyfamod a Duw'r Nefodd; ac onte fe am "fynydd bach Caerffili" y gwelws Tanymarian, wrth gofio am gyfamod Christmas fawr a Duw, petai e'n mynd i addoli rhwun heblaw Duw, taw mynydd bach Caerffili fydde hwnnw? A dyma finne'n awr yn sgrifennu'r ticyn hyn o ymyl y Waen Waelod, lle y ganwd ac y magwd Dafydd Williams, y dyn mawr hwnnw startws y “Royal Literary Fund," a bagad o bethach erill. Weda i ddim rhagor na hynna am Dafydd Williams, wath ma Dr. Thomas, Y. H., Caerffili, wedi gweud popeth yn "Pebyll Seion," llyfyr o hanes Ymneilltuaeth Caerffili, a'r Cylch. Ac i Dr. Thomas, he'd y mae tre Caerffili'n ddyledus am y gof golofn hardd sydd ym Mharc Caerffili i Dafydd Williams. Wrth ddarllen pishyn H.K. fe deimles ymhunan yn twymo drwyddw’i gyd, a myntwn i wrth yr hen fenw ma, odd ar y pryd yn cymysgu'r ddwy owns fenyn a'r hannar pownd margarine, y'n lwans ni'n dou am yr wsnoth, “Shuan, ferch, ishta lawr, a gad yr

 

 

Qr code

Description automatically generated

(delwedd J7831b) (26 Rhagfyr 1918)

 

hen sâm trucs yn y man na, waith ma'r rhyfel wedi cwpla, a diolch i'r Arglwydd am hynny, nawr heb fod yn hir fe allwn ddishgwl mas am gal ambail bownd o fenyn mynydd Caerffili 'da Mrs. Harris, y Garwa, gwrando arna i'n darllen y pishyn ma." A fe darllenes e nes yr odd yr hen fenw'n llefen, ond fe ddylswn weud fod Shuan wastod yn byw yn lled agos i'r dwr. Fe weda wrthoch pwy yw H. Kenvyn. Kenfin odd i steil e slawer dydd, ond sbo gen i i fod e'n timlo y dyle fe bolisho ticyn arno fe ar ol bod off yn gweld y byd. Dyna pwy yw e i chi, mab Sam Kenfin o'r Warren. Rwy'n cofio'i da'cu, Twmi Kenfin, yn ddyn ifanc yn dod i Gaerffili o Fryste. Ro'dd na ddynon decha yn dod o Fryste slawer dydd, ac nid rhw rapscaliwns fel sy'n dod nawr. Fe gas Twmi waith yn Tirgibbwn, ac yn waff wetny fe briodws sha merch fach lan fidir o'r Rhytri. Fe dda'th hi a'i llytnyr alotath 'da hi o'r Rhytri i'r Watford, a fe ddercheuws Twmi dynnu sha'r capal, a fe ddileitws i ddod sha'r Ysgol Sul, a fi odd i athraw e. Mhen ticyn derbynwd e'n aelod gan Mr. Davies, odd yn wnitog yn y Watford a Glandwr y pyrt hwnnw. A wharre teg iddo fe, fe sticws i ddyscu Cymrag nes odd hi'n bleser i glwed e ar waith yn y Cwrdde Gweddi, yn enwedig y Cwrdde Gweddi odd obothtu'r tai, a rodd galwad mawr arno fe mewn Cwrdde Diolchgarwch ymhob Capal yng Ngaerffili. A Chymrag odd pob eclws odd ma. Rodd Twmi yn un da desprad ar i linie, ac ar i dra'd, he'd. Mae pishyn H.K. wedi cwnni shew o hen bethach i'm meddwl i am hen Gwrdde Gweddi a hen weddiwrs Caerffili, ac os ych chi'n fo'lon, Mr. Gol., fe hala i dicyn am rai o honyn nhw i DARIAN, fel bwy'n gallu, os gnewch chi wella ticyn ar y mhishis i, a thicyn o orffennol y lle yn gyffredinol he'd. A fe licwn i'n fidir petai H.K. yn hala hanes Cwrdde'r Cymreigyddion, wa'th ma Dafydd Rogers yn gweud wrtho i u bod nhw'n cal cwrdde piwr digynnig. Odd e'n gweud na chlws i shwd beth ariod. yn i fywyd a gwnitog y Seison, Van Road, a gwnitog y Twyn, - Mr. Pryce Evans, a Mr. J. N. Jones y galws e nhw — yn dadla ar "Pa un a'i montish neu anfontish yw enwadaeth?" "Shwd o'n nhw'n dadla, Dafydd?" myntwn i. "Battle of the Marne odd hi a'r fencos i," mynte Dafydd. Fe licwn i'n fidir ta fe'n sgrifennu'n weddol gyson i'r DARIAN, wath 'dwy ddim yn gallu mynd i'r cwrdde sha Chaerffili nawr oddar ma'r rwmitis yn y nghymale i, a ma Herbert yn gallu sgrifennu'n iawn, 'blecid ro'dd e'n dileito lot miwn steddfota pan odd e'u grwt yn gwitho da fi yn Tymelyn cyn iddo fe fynd off. EMWNT MATTHO. 

 

 

A black and white photo of a document

Description automatically generated with low confidence 

20-02-1919

Y Darian. 20 Chwefror 1919.

Y Waunwaelod, Caerffili.

Syr, — Sguswch fi, wir, 'blegid wyddwn i ddim ych bod chi'n "syr" nes i fi weld fod Herbert Kenfyn yn ych galw chi. Fe wyddwn ych bod chi yn itha tilwng i fod yn "syr"—yn fwy tilwng na sopyn sy'n gwishgo'r enw 'blegid rych chi yn gwsneuthu'ch cenedl yn ol wyllys Duw, a rwy'n onfi nag ych chi ddim yn neud ffortun, he'd, gyda'r jobyn; ond ta beth am hynny, wadwch bant, 'blegid rych chi yn olynieth y gwir wlatgarwyr, ac os byddwch chi byw am dicyn, a gobitho y byddwch chi, wa'th fe allwn ni sparo lot yn well na chi, sy'n neud shew byd mwy o fwstwr, fe gewch chi weld y DARIAN yn allu desbrad yn y South 'ma, ac yn y South y ma' timlo pyls Cymru. Down i ddim wedi meddwl hala dim i'r DARIAN yr wsnoth hyn nes i fi ddarllen pishyn dwetha H.K. Ma' 'na un neu ddou o bethach yn i bishyn e ddyle ga'l sylw Cymregyddion Ca'rffili, a falle, he'd, Cymregyddion llefydd erill. Ma' H.K. yn rong wrth weud nad o's ond y cwpwl ma' fe wedi enwi yn pyrnu'r DARIAN. Fe wn i am bothtu 20 yn i phyrnu hi bob wsnoth, a ma peth o'r credit yn dod i Emunt Matho am denyn nhw, a fe glwa i swn tra'd rhacor yn mynd i'w hordro hi. Cwnnwch chi'ch calon, "syr," os w i yn nabod H.K., a wi'n dishgwI y mod i, chaiff Cymregyddion Ca'rffili ddim llonydd nes y byddan nhw'n pyrnu'r DARIAN bob jac. Ma na rai ishws wedi towli i ngwmed i mod i'n ca'l yn nhalu am gisho scwto ticyn ar y DARIAN, a bod H.K. yn un o'r cwmpni, ond celw'dd i gyd yw e, 'blegid do's dim yn dod miwn i'n ty ni, ond y nwarnod gwaith ag iddyn' nhw gal gwbod y cwbwl, do's 'da fi ddim rhyntw i a'r wyrcws ond mochyn, a chwpwl o ffowls, a dou glwb, a Shuan, a'r Rhagluniaeth fowr, a dyna ddigon, on'te fe, "syr"? A do's 'da H.K. ddim shars yn y cwmpni, 'blegid fe wedws wrtho i pwy ddwetydd fod bylc i arian e mas ar iws miwn cornd bif yn y Merica. Ma' R.K. yn abal, do's dim dowt, a fe glwes i hanner gair i fod e'n mynd i roi cino fowr i'r Cymregyddion acha nos Gwyl Dewi, o fla'n cwrdd Llaethferch, a'i fod e'n mynd i roi i lun yn i musquash cot i bob eulod, ond fod yn rhaid 'i bob eulod fod yn pyrnu'r DARIAN yn regilar, a dod a'r copi am yr wsnoth 'dag o sba'r gino, a he' d, ych bod chithe, syr, i ga'l ych gwawdd. Dyna glwes i, a Ifan Griffis sy'n i weud e obothtu'r dre.

Yr odd 'na un peth arall ymhishyn H.K. ag own ni am weud gair arno fe. Fe wedws yn bod ni wedi ca'l drama yn y Gymdithas pwy nos, a rodd e yn i chamolws hi, a chamolws e ddim gomrod, 'blegid fe nath pob un i waith yn ffamws. Fe wedws, os sylwoch chi, fod y pyrgethwrs a'r deconied, a fe’u henws nhw, yn rhoi'u bendith ar y ddrama, ac fe dowlws hint u

  

 

 

Text, letter

Description automatically generated

(delwedd J7639b) (20 Chwefror 1919)

 

bod nhw yn bendithio'r Thietar Sisnag wrth gamol y ddrama Gymrag. Rwy'n nabod Henry John flynydde cyn iddo fe symud o Llys Fân, a fiws o ariod miwn Thietar, a dyw e ddim yn meddwl mynd, ac am Ifan Griffis, yr hen biwritan cryf, fe ele fe i gadw'r White Lion cyn rhoi i fendith i'r Thietar Sisneg. Yr hyn o'dd y pyrgethwrs a'r deconied sharadws yn y cwrdd yn i weud o'dd fod y ddrama Gymrag yn foddion i gwnnu chwaeth y bob! at bethach Cymrag, a thynnu mas dalent, a dysgu hanes a bywyd yn gwlad ni. A phwy ddwetydd, fe drows Mr. Pryce Ifans i miwn, a fe yfws ddisgled o de 'da ni. Ma fe’n amal o bothti'r mynydd ma, a rodd 'dag e gi du mowr.

"Beth yw'r ci 'ma sy' 'da chi, Mr. Ifans?"

"Ci Mr. Jones, y Twyn," mynte fe . "Gida fi mynnyth fod.”

Ond ma'r cymdocon yn gweud taw a'r shâr ma'r ci gida nhw'u dou, a'i fod e wedi bod yn ange i lawer gwiningen. Ond dyna own i am weud fod Mr. Ifans wedi diall y pyrgethwrs, a rodd e' yn un o honyn' nhw, a'r deconied, yr un fath; a finne. Sdim o ni ishe y Thiettar Sisneg I fywyd Cymru, wath ma' 'na ryw dawch afiach obothtu 'ddi sy'n gwenwyno bywyd gore; a be siwr yw e, sdim o ni'n moin  y teipo gymeriad tebyg i'r actor Seisnig. Fe wedws Clement Scott, a Thietar critic o'dd e, fod bywyd y Thietar, or top i'r gwilod, yn bwdwr, a ro’dd e’n gwbod am beth o'dd e'n whilia. Dyn dishefwn ni! Meddyliwch am Ifan Griffis yn rhoi a fendith ar y Thietar wrth  gamol y ddrama Gymrag! Do's ganto fe ddim mwy o gewc ar Thietar nag sy gan gath a'r fwstard, nagos wir. Ifan Griffis, er ych bod chi dicyn bach yn henach na fi, yto cymwch chi gyngor ’da fi, pidwch chi a llyncu popeth ma’ H.K. yn I weud, 'blegid er i fod e’n fachan piwr, ma’ ’na lot o Ianci dwdl noshiwns yn i ben e. Sticwch chi i bwsho'r DARIAN a'r bobol Ca'rffili, a fe na inne ngore o bothtu’r mynydd 'ma. A Dafydd Rogers, fe ellech chi neud lot mwy nag ych chi'n neu[d] nawr. Mwstrwch, y dyn!

EMWNT MATHO.

 

 

 

 

…..

 

xxxxx

Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ
/ ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/
Y WENHWYSWEG:
ɛ̄ ǣ æ

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː ɪ / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː ʊ / ə / ʌ /
 ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
 ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / y Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ ɔʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị U+1ECB ị
U+1ECC Ọ U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †
« »

 
DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

 
Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
 …..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[ ]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/
sion-prys_359_waunwaelod_y-darian_3805k.htm

---------------------------------------
Creuwyd: 08-03-2023
Adolygiad diweddaraf : 08-03-2023
Delweddau:

Ffynhonell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Newyddiaduron Arlein.
---------------------------------------

Freefind.
---
Archwiliwch y wefan hon
Cerqueu aquest web
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
Estructura del web

SITE STRUCTURE
---
Beth sydd yn newydd?
Que hi ha de nou?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymweld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pagina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yuu äa-r viziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Websait


Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Edrychiadau ar y tudalennau / Vistes de les pagines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter
Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadistiques / View Our Stats