kimkat0215k Y Lleoliadur. Rhymni. Tref rhwng Merthyrtudful a Thredegar.

21-05-2017

 

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm

● ● ● kimkat1956k Y Lleoliadur – Mynegai www.kimkat.org/amryw/1_lleoliadur/lleoliadur_cyfeirddalen_1956k.htm

● ● ● ●  kimkat0215k Y tudalen hwn

 

(delwedd 0003)

Gwefan Cymru-Catalonia

La Web de Gal·les i Catalunya

 

 

Y Lleoliadur

 

Rhymni

 


a-7000_kimkat1356k

Beth sy’n newydd yn y wefan hon?

 

Y Llyfr Ymwelwyr / El Llibre de Visitants / The Guestbook:

http://pub5.bravenet.com/guestbook/391211408/

 

(delwedd 7375)

 

 

.....

 

0080j_cylch_baner_catalonia  xxxx  Aquesta pàgina en català 


0093j_cylch_baner_uda xxxx This page in English 

 

 

 

 

(delwedd 5635)

 

 

 

 


None
(delwedd 5633)

Y Gwladgarwr. 16 Gorffennaf 1859.

 

EISTEDDFOD RYMNI,

 

Yr hon a gynaliwyd ar dyddiau Mawrth a Mercher, y 5ed a’r 6ed o  Orphenaf, dan nawdd y  Gwir Iforiaid.

 

Llywydd, y Parch T. Price, Aberdar; Beirniaid – y farddoniaeth, y Parch. R. Ellis, 'Cynddelw,' Sirhowy;  y Treithodau, y Parch. W. Roberts, 'Nefydd,' Blaenau Gwent; y Gerddoriaeth, Mr. J. Roberts, ‘Ieuan Gwyllt,' Aberdar; Telynor, T. Llywelyn, 'Llywelyn Alaw,' Aberdar. Cafwyd lle cyfleus ac eang i gynal yr Eisteddfod, ac mae canmoliaeth yn ddyledus i'r Pwyllgor Llywodraetbol am eu hymdrech yn gwneyd pob peth yn ddymunol i’r  gwyddfodolion.

 

Miss Harries, Tredegar, a daflodd y difyrwch gyntaf i’r bwrdd, trwy ganu ton gyda'r delyn. Yna cawsom araith gan R. Ellis, Sirhowy;  dywedodd ei fod yn gobeithio na fyddai grwgnachwyr ar ol yr Eisteddfod hon, onide fod ganddo  Englyn  i'w gyru i'r Andras – Dyma fe;

 

GEFFAIL gwir a gafael gas, - i yru 

Llenorion i'r Andras,

I newydd le, o'r neuadd las,

Foel weis eiddig fel Suddas.

 

Tôn yn nesaf ar y delyn.

 

Beirniadaeth y Ddau Englyn i E. Evans, Pensrau, [??] Gwent. Deuddeg o gystadleuwyr. Buddugol, R. Williams, Llanrwst.

 

Adroddiadol ‘Pan oedd fy Mam yn fyw,' i ferched dan 12 oed. Dwyn cystadlu. Cydfuddogol, Mary Ann Baker, Rymni, a Mary Robert, Llechryd.

 

"Can yn darlunio teimladau gwr sobr o herwydd fod ei wraig yn defnyddio trwynlwch ac yn meddwi, - 3 yn cystadlu. Buddugol, Mr. John Evans, Blaenau.

 

Cerddoraieth. - Cynhaneddiad ‘Pant corlan yr yddyn,' [sic; ?y tyddyn] - 12 o  gyfansoddiadau. Buddugol, Mr. E. Evans.

 

'Y penillion goreu o glod i Bwyllgor yr Ysgoldy Brytanaidd.’  Buddugol, Abram John.

 

Ton gyda'r Delyn.

 

'Penillion i Ysgoldy Cenedlaethol Rymni,’ - un cyfansoddiad, a chafodd y wobr, sef Mr. John Evans.

 

Canu gyda'r Delyn, - 3 yn cystadlu. Goreu, Mr. Silas Evans, Aberdar.

 

Y CWRDD HWYROL. -  Anerchiad difyfyr gan  H. James  (Gwerfyl), Aberdar. Yna awd yn mlaen.

 

Beirniadaeth – ‘Traethawd ar y fantais ddeilliedig i Gymdeithasau Dyngarol Rymni o gynal y cyfrinfaoedd yn yr ysgoldy Brytanaidd,’ - 3 yn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhwng Mri. David Lloyd, Bryn, Caernarfon, a David Griffiths, Printer, Holywell.

 

Ton gyda'r Delyn.

 

Adrodd, 'Pa beth yw Dyn' gan  fechgyn dan 12 oed, -  un ymgeisiwr, a chafodd ei wobrwyo, sef Mr. W. Jones, Pontlotyn.

 

'Canu unrhyw ddeuawd Cymraeg,’ - 3 dosbarth yn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhyngddynt, sef Miss Forey,  Merthyr, Miss Price, Rymni, a Mrs. Kruger, Merthyr.

 

'Traethawd ar ddyledswydd y Meistri i ofalu am bethau angenrheidiol i'r gweithwyr at eu gwaith,’ - un ymgeisydd. sef Mr. Thos. Jones, a chafodd y wobr.

 

Ton gyda'r Delyn gan G. ab Ioan, Dowlais.

 

'Traethawd yn rhoi yr hanes goreu o gwm Rymni, - 2 gyfansoddiad. Rhanwyd y wobr rhwng Gwilym  Craig y Tyle a Dewi Glan Taf.

 

'Mawlgerdd i Foneddigesau Rymni, - 2 yn cystadlu. Goreu, Mr. Thos. Henry, Tonmawr, Castellnedd.

 

‘Can o glod i Mr. John Kinsey, o  Forthwylfa Rymni, -  un ymgeisydd, a chafodd ei wobrwyo, sef D. Glan Taf.

 

Yna cawsom ein difyru gan gyfeillion yn canu ‘The Village Choristers.'

 

‘Marwnad i'r brawd Iforaidd W. James,' -  un ymgeisydd, a chafodd y wobr, sef G. ab Ioan, Dowlais.

 

Ton ar y Delyn.

 

Pedwar yn canu cylchdon (catch), -  dwy blaid yn cystadlu, S. Evans a'i gyfeillion, a D. H. Thomas a'i gyfeillion. Rhanwyd y wobr rhyngddynt.

 

Ton ar y Delyn gan Isaac Benjamin.

 

Terfynwyd y cyfarfod hwyrol trwy i Mr. S. Evans ganu ‘Hob y dery Daudo [sic; = Dando].

 

Dechreuwyd bore dydd Mercher trwy orymdaith. Yna deuwyd yn un fyddin gref i'r lle rhagbarotoedig.

 

Dechreuoedd am 10. – Ton ar y Delyn. Anerchiad gan y llywydd. Can gan G. ab Ioan gyda’r Delyn. Yna gan Ifor Cwmgwys.

 

Beirniadaeth "Traethawd yn desgrifio y dull o fyw,' -  2 yn cystadlu. Buddugol, Mr. T. R Watkins, Blaenau.

 

‘Englynion ar Lenyddiaeth y Bibl,' – 4 cyfansoddiad. Cydfuddugol, Ifor Cymgwys, a Gwerfyl, Aberdar. 

 

Canu – ‘Unrhyw gan Gymraeg’, - 3 yn cystadlu. Buddugol, Miss Forey, Merthyr.

 

‘Can ar y fraint o fod Iforiaeth o fewn ein gafael, - 3 yn  cystadlu. Buddugol, Mr. J. R. Perkins, Rymni.

 

Cerddoriaeth. - Canig (glee) Dirwestol, - 4 yn cystadlu. Buddugol, ‘Elyrchion.'

 

(I'w gorphen yn y nesaf.)

 

 


None
(delwedd 5634)

Y Gwladgawr. 23 Gorfennaf 1859.

 

EISTEDDFOD RYMNI.

 

Yr hon a gynaliwyd ar dyddiaa [sic] Mawrth a Mercher, y 5ed a'r 6ed o Orphenaf, dan nawdd y Gwir Iforiaid. (Parhad.)

 

Cystadlu. - Adrodd ‘Cwyn Caradoc o flaen Cesar.' Goreu, Mri. W. Jones a T. Thomas, Pontlotyn, Rymni.

 

‘Y Dadganor goreu o unrhyw gan Cymreig (heb y Delyn), - 16 yn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhwng Mri. S. Evans a D. H. Thomas.

 

Beirniadaeth 'Ar y fantais o wrteithio gwyneb y ddaear,' - un cyfansoddiad. Dim teilyngdod.

 

Canu ‘Gorphenwyd,' i gor unrhyw gynulleidfa, dim dros 25, - 2 gor yn cystadlu.

 

Cwrdd 2 o'r gloeh, anerchiad gan y Llywydd.

 

Beirniadaeth 'Traethawd ar sefyllfa wladol, lenyddol, ac eglwysig cenedl y Cymry, o ymadawiad y Rhufeiniaid o'r ynys hon, yn B.A., 409, hyd wneyd clawdd Offa yn B.A. 477, a chyfyngiad y genedl i'w therfynau presenol yn Nghymru,' - 3 yn cystadlu. Buddugol, Mr. J. Morgan, Llundain.

 

Ton ar y Delyn.

 

Araeth ar Fuddioldeb Iforiaeth,' 10 mynyd i'w thraddodi, - 3 yn cystadlu. Buddugol, Mr. J, Williams, Nantyglo.

 

'Canu unrhyw don roddedig ar y pryd,’ - 2 ddosbarth yn cystadlu. Buddugol, Mr. D. Jones, & Co., Aberystwyth, Ceredigion.

 

Beirniadaeth ‘Marwnad Mr. B. Davies,'  - 2 yn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhyngddynt, sef D. Glan Taf, a G. ab Ioan.

 

Beirniadaeth ‘Marwnad i Mrs. Martha Edwards, Rymni - 3 yn cystadlu. Goreu, G. ab Ioan.

 

Beirniadaeth yr ‘Awdl ar fywyd a gorchestion y Brenin Arthur,' - 2 gyfansoddiad. Rhanwyd y wobr rhyngddynt, sef Mr. Aneurin Jones, Gelligroes, Mynwy, a Ellis Roberts, Gogleddwr.

 

Cystadleuaeth adrodd 'Bywyd yr Unig,' -2 yn cystadlu. Rhanwyd y wobr rhwng Miss Elizabeth Evans, Rymni, a Mary Roberts, Llechryd.

 

Cystadleuaeth gerddorol (cor perthynol i unrhyw gynulleidfa), i ganu Carol Nadolig, allan o'r Ceinion, gan O. Alaw; - 2 gor yn cystadlu. Buddugol, Cor Penuel.

 

Cwrdd 6, ton ar y Delyn. Anerchiad Cynddelw. Yna dernyn difyrus gan Mr. S. Evans (Cynon). A phan y terfynodd, gwnaeth Gwerfyl englyn difyfyr iddo. A dyma fe –

 

CYNON sydd wedi canu- 'n rhagorol,

A swynol i'n synu;

Erfyniaf fe'i galwaf yn gu - a mad

O hawl dda fwriad, i'n hail ddifyru.

 

Beirniadaeth Cerddorawl. 'Canig (glee) ar y ddau benill cyntaf o ‘Mis Mai,’’ - 2 yn cystadlu. Buddugol, Mr. W. Williams.

 

Anrhegwyd ni a'r Deuawd 'O Lovely Peace,' gan Mrs. Kruger a Miss Forey, Merthyr.

 

Beirniadaeth 'Marwnad yn Gymraeg a Saesonaeg i Mrs. Andrew Buchan, Rymni,' - 3 chyfansoddiad. Buddugol, D. Glan Taf.

 

Cystadleuaeth 'Canu unrhyw Ddeuawd Cymraeg.' Goreu, Mr. D. H. Thomas, a'i gyfaill.

 

Cystadleuaeth adrodd 'Diwedd y Byd.' Goreu, Mri. R. Davies a J. Thomas.

 

Cystadleuaeth i ferched ganu gyda'r Delyn, yn ol dull Gwent a Morganwg.' Goreu, Miss Forey, Merthyr.

 

Beirniadaeth ‘Marwnad Mrs. Jemimah Morgan, Rymni, - 2 yn cystadlu, Goreu, G. ab Ioan.

 

Beirniadaeth 'Traethawd ar y posiblrwydd i Fasnachwyr Rymni gau eu Masnachdai am 7 o'r gloch y prydnawn,' -  3 chyfansoddiad - anheilwng o wobr.

 

Cystadleuaeth canu, 'Ardderchogrwydd pob Gogoniant,' - cor cymysg, cynwysedig o ddim llai na 30ain o rifedi. Rhanwyd y wobr rhwng Cor Dirwestol Dowlais a Cor Dirwestol Rymni.

 

Beirniadaeth ‘Traethawd ar y Sabbath,' - 8 yn cystadlu. Buddugol, S. G. Phillips, cenadwr cartrefol y Bedyddwyr yn Morganwg, a H. James, Aberdar.

 

Beirniadaeth ‘Englynion difyfyr i'r Llywydd,' - 6 yn cystadlu. Goreu, Mr. Aneirin Jones.

 

Canu gyda'r Delyn yn ol dull y Deheudir. Goreu, Mr D. H. Thomas.

 

Terfynwyd trwy ganu ‘Duw gadwo'r Frenines.'

 

GOHEBYDD.

 

 


None
(delwedd 5636)

 

 

Y Gwladgawr. 23 Gorfennaf 1859.

 

EISTEDDFOD RYMNI.

 

Llawenydd ar gynydd a gawn - o godi

Dysgeidiaeth yn ffyddlawn:

Daeth i'n mysg blant dysg a dawn,

A helaeth feibion trylawn.

 

Siaradwn a noddwn ein iaith - y mae hawl

I’w moli uwch uniaith;

Da a gwiw ydyw y gwaith

O gynal yr hen geiniaith.

 

Aberdar.

GWERFYL.                                                                                                                                                      

Ar amnaid yn y Rymni - yr awen

Fo'n rhywiog delori;

Yn ei hanian a'i hyni

Heddyw er nerth boddhaer ni.

 

Wele frawd o uchel fri - gwir deilwng

Ag aur Dalent. gwedi

I'r gadair ga'dd ei godi,

A llen hardd yn Llyw i ni.

 

Y iaith ar olwyn athrylith - arllwysa

Er llesiant a bendith,

I gwnu egin gwenith

Doniau ein plant yn ein plith.

 

Aed rhago eto heb atal - yn llon

I weini lles i'r ardal:

Dofydd a rydd i'r dyfa1,

Dyno hyd oes ei iawn dâl.

 

IFOR CWMGWYS.

 

 

Sumbolau:  ā ǣ ē ī ō ū ȳ w̄ W̄

 / ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː /

ɥ  / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /

ә ʌ ŵ ŷ ẃ ŵŷ ẃỳ  ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẁ Ẁ ẃ ẅ Ẁ £

---------------------------------------

Y TUDALEN HWN /THIS PAGE / AQUESTA PÀGINA:

www.kimkat.org/amryw/1_lleoliadur/lleoliadur_rhymni_0215k.htm

Ffynhonnell:

Creuwyd / Created / Creada: 21-06-2017

Adolygiadau diweddaraf / Latest updates / Darreres actualitzacions: 21-06-2017

Delweddau / Imatges / Images:

 

Freefind.
Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait