1247k Gwefan Cymru-Catalonia. Ysgrifau ar y Wenhwyseg, iaith y De-ddwyrain. “Y Wenhwyseg” ydoedd testyn y Cymrodorion nos Wener diweddaf, a’r darlithydd ydoedd Mr. W. Bryn Davies, Barri, arolygydd ysgolion.

http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_iaith_bro_gwent_1913_1247k.htm

0001z Yr Hafan

..........1863k Y Fynedfa yn Gymraeg


....................0009k Y Gwegynllun

............................1796k Y Gymraeg

.....................................0934k Y Wenhwyseg - Y Tudalen Mynegeiol

.................................................y tudalen hwn
                       

 


..





 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

IAITH BRO GWENT (1913)


Adolygiad diweddaraf 01 11 2001

...

 

  xxxx
Aquesta pàgina en català

 xxxx
This page in English

 

 

 

1) Iaith Bro Gwent

Tarian y Gweithiwr, 11 Rhagfyr 1913, tudalen 7

 

“Y Wenhwyseg” ydoedd testyn y Cymrodorion nos Wener diweddaf, a’r darlithydd ydoedd Mr. W. Bryn Davies, Barri, arolygydd ysgolion. Eglurodd Mr. Davies mai y Wenhwyseg ydoedd iaith Shir Forganwg a Shir Fwnwa.” Yr oedd y Gymraeg, meddai, yn cynwys pedair o gangen-ieithoedd: Y Wyneddeg, sef iaith Arfon, Môn a Meirion; y Bowyseg, yn Maldwyn, Dinbych a Flflint; y Ddyfedeg, iaith Penfro, Myrddin a Cheredigion, a’r Wenhwyseg a siaredid yn Morganwg, Mynwy a Brycheiniog. O’r pedair y Wenhwyseg ydoedd y fwyaf pwysig am mai yn Ngwent y ceid y boblogaeth fwyaf, ac yr oedd yma hefyd gydgynulliad mawr o o bobl o bob rhan o Gymru. Hefyd, yr oedd llenyddiaeth henaf y genedl yn iaith Gwent,  megys y Mabinogion a Llyfr Du Caerfyrddin. Siaradai Cymro Morganwg yn uchel, yn gyflym ac mewn llais clochaidd. Yr oedd Cymreig y Gogledd rywsut wedi mynd yn iaith llenyddiaeth, ac mewn llyfrau esgeulusid y Ddyfedeg a’r Wenhwyseg. Mynai y darlithydd fod y gair “tadcu” yn dlysach na “thaid,” a “ty cwrdd” yn well gair na “chapel.” Yr oedd geiriau y Wenhwyseg ydoedd ystwythder sain. Iaith y glust ydoedd. Dywedai y diweddar Barch. Glanffrwd Thomas mai y Wenhwyseg ydoedd y debycaf i’r Eidalaeg o bob iaith. Yn Mro Morganwg ceid cryn lawer o “palatalisation,” neu safneiddio llythyren, sef “cadw” yn myned yn “giadw,” “cawl” yn myned yn “giawl.” Tuedd y Wenhwyseg ydoedd gadael allan yr ch, megys yn “whare,” “whilo,” “whythu.” etc. Hefyd yr oedd tuedd i galedu y b yn p, megys gwpod, apal, trwpl, etc., a throi y d yn t yn yr un fel. Terfyniad cyffredin yn Ngwent ydoedd ‘ws,’  megys dechreuws, curws, etc. Cyhuddwyd y gwr o Went o adael allan yr h. Ond chwareu teg iddo, fel ad-daliad, dodai hi i mewn lle nad oedd ei hangen. Nodwedd arall o’r Wenhwyseg ydoedd anwybyddu yr w, megys “glad” yn lle “gwlad,” a “glaw” yn lle “gwlaw”. Cymharodd y siaradwr briod-ddulliau y Gogledd a’r De yn lled helaeth. Rhoddodd restr faith o eiriau yr oedd iddynt wahanol ystyr yn Ngwynedd ac yn Ngwent. Darllenodd ran a Genesis yn nhafodieithoedd gwahanol Penfro, Morganwg ac Arfon. Rhoddodd hefyd ddarlleniad  o “ysgwrs” yn iaith y Felinheli, Sir Gaernarfon, lle y treuliodd y darlithydd un-ar-ddeg o flwyddi. Yr oedd yr ymddiddan hwn yn nodweddadol arbenig o dafodiaith Arfon.

 

Dywedai Mr. Davies fod llawer o eiriau yn Morganawg a Mynwy nad oeddynt hyd yn hyn wedi ymddangos mewn du a gwyn. Yr oedd efe wedi gwneyd casgliad o lawer o eiriau Bro Morganwg nad oeddynt erioed wedi bod mewn argraff, a buasai yn gymwynas gyffelyb a geiriau gwerin ardal Aberdâr.

 

Ar hyny gwahoddwyd ymdriniaeth gan y llywydd, y Parch. W. Davies, M.A.

 

Y Parch. D. Bassett oedd y siaradwr cyntaf. Sylwodd efe ar y gwahaniaeth rhwng iaith gwaelod Ceredigion ag iaith Morganwg.

 

Mr. D. Timothy Davies, B.A., a roddodd siamplau o dafodiaith cymydogaeth Ceinewydd.

 

Mr. Ben Davies a roddodd eglurhad ar frawddeg a glywid yn Mhentyrch, “Os na ddwan nhw fe ddwan, ond os dwan nhw ddwan nhw ddim.”

 

Mr. J. Griffiths a roddodd ychydig engreifftiau pellach o iaith-ddulliau Sir Aberteifi.

 

Mr. J. Davies (Iwan Goch) yntau a ddyfynodd engreifftiau tarawiadol o Gymraeg Lacharn. Cynigiodd efe ddiolch i’r siaradwr.

 

Mrs. Basset a ddywedai ei bod hi yn hanu o’r un ardal a Mr. Bryn Davies, ac yn adwaen un o’r cymeriadau y soniodd am danynt. Yr oedd amryw o eiriau arbeing gwerin Aberteifi yn ddyddorol, a byddai y gwaith o gasglu y cyfryw yn fuddiol iawn.

 

Y Cynghorwr George Powell a ddywedodd fod pobl Sir Frycheiniog yn edrycli i lawr ar bob tafodiaitlh arall ond yr eiddynt hwy. Cyfeiriodd yntau at iaith Ceinewydd, o’r hwn le y dychwelodd yn ysgafnach o  boced os yn drymach o gorph. (Chwethin).

 

Mrs. (Parch.) John Morgan a grybwyllodd amryw eiriau o weriniaith Sir Gaer.

 

Ab Hevin a fynai fod ambell i air car a gymeradwyid gan Mr. Davies wedi dod o’r Seisnig, megys egr o’r gair Seisnig “eager.’. Y Parch R. Williams a awgrymodd mai buddiol fyddai defnyddio y geiriau a grybwyllwyd i olrhain hanes a nodweddion yr hen Gymry a’u harferent.

 

Y llywydd a sicrhai y gallai y cwrdd hwn fod o fudd mawr ond defnyddio araeth Mr. Davies i’r iawn bwrpas. Ceid adeiladaeth oddiwrth athroniaeth geiriau gwerin a llafar gwlad.

 

Talwyd diolch brwd i’r darlithydd a hawdd deall fod awydd mawr am ei glywed eilwaith.

 

(DIWEDD)

 

 ·····
 
 

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA” (Cymráeg)
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya) (català)
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website (English)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) víziting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait (Íngglish)

CYMRU-CATALONIA
 

 

 

 

 

 

 

:yes'>