Geiriau Canolbarth Morgannwg - Tarian y Gweithiwr, 1899. Ofer edrÿch mewn geiriadur am ystyron lluaws o eiriau lleol. Mae yn wir fod y rhan fwÿaf o honÿnt yn cael eu croniclo yn drefnus rhwng ei gloriau, ond mae yr ystyron a roir iddÿnt ar lafar gwlad mewn gwahanol leoedd yn wahanol i'r hÿn a osodir ar eu cyfer yn y geiriadur.  2674 k Gwefan Cymru-Catalonia.

 

http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_geirfa_tarian_y_gweithiwr_1899_2674k.htm

0001z Yr Hafan

..........
2657k Y Fynedfa yn Gymraeg

....................
0009k Y Barthlen

............................1796k Y Gymraeg

.....................................0934k Y Wenhwyseg - Y Tudalen Mynegeiol

.................................................y tudalen hwn
       


(delw 0003)





 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

 
Y Wenhwyseg (tafodiaith y de-ddwyrain)

Geiriau Lleol Canolbarth Morgannwg

 

(1) Tarian y Gweithiwr, 23 Mawrth 1899 - Llith gan Wmffra Huws

(2) Tarian y Gweithiwr, 13 Ebrill 1899 - Rhan o sylwadau Llwÿdmor

(3) Tarian y Gweithiwr, 4 Mai 1899 - Sylwadau W. Morgan

 


(delw 0327)

Adolygiad diweddaraf 14 06 2000 : 2004-02-28

...

 xxxx
Aquesta pàgina en català

 xxxx
This page in English

 

Orgaff wreiddiol, ar wahän i “ÿ” (= i, ii) yn lle “y”

(1) Tarian y Gweithiwr, Mawrth 23, 1899
O'r Gadair Wellt
Geiriau Lleol

Ofer edrÿch mewn geiriadur am ystyron lluaws o eiriau lleol. Mae yn wir fod y rhan fwÿaf o honÿnt yn cael eu croniclo yn drefnus rhwng ei gloriau, ond mae yr ystyron a roir iddÿnt ar lafar gwlad mewn gwahanol leoedd yn wahanol i'r hÿn a osodir ar eu cyfer yn y geiriadur. Yn y sylwadau canlynol, bÿdd i mi gadw yn nghanolbarth Morganwg, er y dichon y gellid cymhwÿso yr un ystyron i'r geiriau lleol a nodir, mewn rhanau o siroedd ereill. Fe sylwa y darllenÿdd fod rhai ohonÿnt yn ymddangos fel geiriau wedi eu benthyca o'r Saesneg; ond y maent wedi gwreiddio ar dafodau pobl canol Morganwg, fel nad gwiw eu cyfrif mwÿach yn ddim amgen na geiriau perthynol i Genedl y Cymrÿ. Awn yn mlaen yn ol llythyrenau y Wÿddor, er mwÿn trefn.

Dyna y gair 'Aethus.' Ystÿr eithriadol hwn ÿw - llymdost, dolorus, poenus. Ond nid dyna yr ystÿr a roir iddo genÿmni yng nghanolbarth Morganwg. Dywedwn ni - Mae yn ddrwg aethus, Mae yn dda aethus, Mae yn oer aethus, ac Mae yn dwÿm aethus. Dywedai un o'n prif feirdd pan yn canu ar briodas cyfaill iddo, -

'Rwÿf finau yn dechreu dod,
Yn aethus am enethod.'

'Beili' sÿdd air wedi ei gyplysu yn anwahanadwÿ a swÿddog perthynol i'r Llÿs Sirol. Ond geilw amaethwÿr a phreswÿlwÿr anedd dai gwledig y lle agored o flaen y tÿ yn Beili. Ceir ef hefÿd mewn enwau lleoedd, megis y Beili Glas yn rhandir y Rhigos.

'Brig' sÿdd air cynefin i bawb, ond defnyddir ef yn aml heblaw mewn cysylltiad a choedÿdd. Onid yndÿm yn dywedÿd - Yn mrig yr hwÿr, Yn mrig y nos, &c.

'Cas.' Yr ydÿm yn defnyddio y gair yn aml o'i ystÿr wreiddiol. Yn ol y gieriadur, mae yn perthÿn yn agos i lid a malais, ond ystÿr arall a roir iddo genÿm ni fynychaf. Dÿn cas ddywedwn am ddÿn salw, ci cas a fyddo yn rhÿ barod i wneud defnÿdd o'i ddanedd. Ci cas y galwai pobl canolbarth Morganwg y creadur hwnw y canodd Tudno amdano, -

Goludog yn ein gwlad gu - feddai gÿnt
Ufudd gi i chwyrnu
Chwerwÿn blach, yn ddychrÿn bu
I drueiniaid ar rynu.

Cyfarthodd, brathodd mewn bri - tros ei feistr
Oes faith; yna wedi
Iddo fyned, nadd-feini
Yn ei barc sÿ'n coffa'r ci.

Ys! trenga y meistr anghall - yn wrthddrÿch
Oes o warthrudd diball!
Ac yna, fel gwÿddfa, gall
Bÿdd cerig bedd ci arall.

Onid ydÿm hefÿd yn clywed yn aml am hen ffordd gas, ac mor aml a hynÿ ei bod yn bwrw glaw yn gas.

'Cripan' sÿdd air haner Saesneg meddai rhai - o'r gair creeping. Boed a fyno am hynÿ, mae pob plentÿn Cymreig wedi cynefion ag ef cÿn eu bod yn bum' mlwÿdd oed. Ac onid oes genÿm ddiareb fel hÿn:
-'Rhaid ÿw cripian cÿn cerdded.'

'Carn' - Carnedd ddywedir yn y golgedd - Carnedd Llywelÿn. Yr ydÿm ni yn defnyddio y gair i ddynodi pethau ereill - carn bilwg, carn ceffÿl, &c. Golyga 'to the hilt' y Sais 'hyd y carn' y Cymro. Dyna sut yr aeth hi yn gymysgfa ar y cyfieithÿdd yn 'Y Sesiwn yn Nghymru.' Yr ydÿch yn cofio Galnygors, -

'Gallwch alw carn lleidr
Yn hilt of a thief.'

Yr ydÿm yn dweÿd carn cyllell, carn myniawd, &c., ond coes morthwÿl. 'Leg of a hammer,' yn ol cyfiethÿdd bol y clawdd.

'Cetÿn.' Nid ydÿm yn meddwl am ysmygu wrth ddefnyddio y gair hwn, er i'r fardd ganu :-

Mygÿn o'r cetÿn cwta
Wna o un oes ddwÿoes dda.

Defnyddiwn ef fel yn gyfystÿr a llawer - mae yn getÿn gwell; mae yn mhellach o getÿn; nid ÿw John wedi bod yma er's cetÿn; mae yn bÿw getÿn o ffordd oddiyma; yr oedd cetÿn rhyngddo ag enill y gadair, &c.

'Delwi.' Nid oes un cysylltiad rhwng hwn a'r gair delw, yn ol yr arferir ef genÿm ni. Defnyddir ef megÿs yn gyfystÿr a phendrymu - mope y Sais. Ceir rhai yn ddigon annynol i ddweÿd fod y bardd yn delwi pan yn cau ei lygaid i chwilio am feddylddrychau.

'Dyfal.' Ystÿr eiriadurol hwn ÿw diwÿd - parhaus. Ond yr ydÿm ni wedi cynefino a'r gair mewn ystÿr arall. Gofynwn yn aml, Pa le buot ti mor ddyfal? pan fyddo rhÿwun wedi bod yn lled hir ae neges. Un dyfal tost ÿw Sion y Crÿdd pan yn dyfod a'r esgidiau yn mhen mis wedi yr amser addawedig.

'Dan ei oleu' sÿdd fynegiad adnabyddus genÿm am berson trancedig - o adeg ei farw hÿd ei gladdedigaeth. Diau fod y mynegiad hwn wedi aros oddiar y cyfnod pabyddol - pan yr arferid cadw gloeu yn ystafell y marw. Bu hynÿ yn arferiad lled gyffredinol yn fy nghof i, a diau nad ydÿw wedi llwÿr ddarfod yn mhlith pobl heb fodyn talu gwrogaeth i'r hen frawd o Rufain.

Mewn cysylltiad a hwn daw y gair 'Gwilad' - gwÿlio, dan sÿlw. 'Gwilad' y gelwir y gwasanaeth o wÿlio y claf yn ystod y nos. 'Gwilad daera' sÿdd beth adnabyddus yn mhlith helwÿr llwÿnogol Cwm Rhondda - Cyneu tanau, a chadw twrw i gadw y llwÿnogod o'u ffauau - eu lleodd dÿogel yn mhlith y creigiau.

'Grabin.' Talfyriad ÿw hwn o ysgrabin. Mae cathod yn ysgrabin; ond cybyddion sÿdd yn grabin yr 'hen fÿd' - fel y dywedir - atÿnt eu hunain.

'Gwirion.' Defnyddir hwn genÿm yn lle y gair diniwed.
Dÿn gwirion ddywedwn am un na wna ddrwg i neb. Yn y Gogleddd golygas un heb fod yn ei synwÿrau.

'Hŷff' sÿdd air amserol yn mis Mawrth fel rheol. Golyga lwchfeÿdd o eira - wedi ei chwythu oddiar y twÿni i0r cysgod. Hyffo y gelwir yr ystorm - y gwÿnt yn gyru yr eira yn gawodÿdd dallol.

'Hercÿd' a ddefnyddiwn fynychaf yn lle y gair estÿn neu gyrchu. Cera i hercÿd y DARIAN i mi. Mae yn hercÿd y 'llusg' yn rhÿ bell yn yr englÿn; 'O New York yn ei hercÿd' - Pedrog yn enill cadair Llanelli pan oedd yn glanio yn Efrog Newÿdd.

'Llychedan' y geilw gwÿr Morganwg y fellten. Mae yn llychid odnadwÿ, meddir, pan y byddo yn melltenu.

'Llechwan' y gelwir careg gymharol drwchus, ac yn meddu crÿn hÿd a lled - digoni guddio llawr ystafell, neu ddarn o gae. Llechwan hefÿd y gelwir y teclÿn haiarn a osodir ar y tân i grasu teisen.
Yr oedd mewn bri mawr er's llawer dÿdd i wneud bara gwenith, haidd a cheirch. Ar hwn y crasir 'bara llechwan' a 'bara prwmlÿd,' os ydÿch yn gwÿbos rhÿwbeth am danÿnt, Ychydig sÿdd yn defnyddio y 'llechwan' i grasu dim yn ardaloedd y gweithfeÿdd.

'Lluo' ÿw gair Morganwg am llyfu. Dywedir yn aml fod y gwartheg yn lluo y preseb, pan y byddont wedi cael gwledd flasus.

'Post.' Mae y gair hwn yr un fath yn y ddwÿ iaith. Nis gwn a oes enw arall yn rhÿwle arno neu beidio. Yr ydÿm yn hongian clwÿd ar bost, ac yn cylymu eidion wrth bost. Post ydÿw, os bÿdd yn haiarn, a phost hefÿd pan ydÿw yn gareg neu bren. Ni ddywedwn am ambell ddÿn - ei fod yn sefÿll fel post - heb ddweÿd dim wrth neb.

'Plico.' O pluck y Sais, feallai. Ond yr ydÿm yn defnyddio y gair am amrÿw o oruchwÿliaethau - plico am bluo - plico gwÿddau; plico blew cernau - plant a men {sic} - sÿdd yn gwneud hynÿ.

'Pica' sÿdd gyfystÿr a blaenllÿm - blaen pica i'r big ar gyllell. Weithiau defnyddir y gair mewn ystÿr ddiarebol - trwÿn pica, tafod pica - am dafod tipÿn yn bigog.

'Peltan' sÿdd air gyffredin genÿm am ergÿd o ddwrn neu gareg - ar flaen trwÿn neu ar gorphwÿs bwÿstfil.

'Pentÿs' ÿw  yr enw am dipÿn o dô uwchben drws ty neu ysgubor - i gadw y diferion i ffwrdd. Nid oedd 'shutes' wedi eu dyfeisio yn oes y pentÿs.

'Scwd.' Dyna ein gair ni am raiadr. Nid oedd hen frodorion Morganwg yn gwÿbod beth oedd rhaiadr cÿn darllen englynion Dewi Wÿn o Eifion.

'Sopÿn' ddywedwn ni am lawer o rÿwbeth - nid ÿw wahaniaeth yn y bÿd beth. Sopÿn o arian, sopÿn o lo, a sopÿn o felldith.

'Taren' ÿw ein gair ni am graig y Gogledd - tarenÿdd am greigiau.

'Trysa' y gelwir taranau - lluosog; trwst, tarann - unigol.

'Taplan' sÿdd lechwen heb ddyfod i'w chyflawn faintioli - cyfystÿr a slab y Sais.

'Tyla' y gelwir tir serth - ochr mynÿdd, neu lwÿbr tua chodiad tir. Ceir y gair yn enwau amaethdai yn mhob ardal yn Morganwg - Tyla Robert yn Aberdar, Tyla Fforest, a Tyla Du yn y Rhondda, &c.

'Twmpÿn' ÿw ein gair am twmpath - twmpÿn o bridd y wadd, twmpÿn morgrug, &c. Dyna i chwi ychydig o eiriau lleol i gnoi cil arnÿnt hÿd nes cawn roi tro dros y maes hwn rÿw dro eto.

Yr eiddoch,
Wmffra Huws.

______________________________________________________

(2) Tarian y Gweithiwr, 13 Ebrill 1899 - Rhan o sylwadau Llwÿdmor

(Mae'r rhan gyntaf o'r llungopi ar goll gennÿm. Llith arall gan Wmffra Huws ÿw hwn yn cynnwÿs sylwadau Llwÿdmor).

'Cetÿn.' Trais ar reswm ydÿw defnyddio hwn i ddim ond tipÿn - diminutive. Cetÿn o bibell, ddylid dweÿd, ond gadawir 'o bibell' allan, o herwÿdd nas gall 'cetÿn' feddwl dim ond peth bychan i dynu mwg o hono. O lestr fel hÿn -

Ieuan o Fon a wna fwg
Nes hollol fygu Sallwg

'Dewli'. Yr wÿf yn ystyried fod cysylltiad agos rhwng y gair hwn a delw - o herwÿdd fod y person a ddesgrifiwch fel 'yn cau ei lygaid i chwilio am feddylddrychau,' yn sicr o edrÿch fel delw.

'Dyfal.' I'r cyfystÿr a'r gair Saesoneg tardy.

'Dan ei oleu.' Hefÿd, mae'r arferiad Pabyddol, yr hwn sÿdd, trwÿ drugaredd, yn diflanu o'r tir, o gadw gwÿlnos yn nhÿ y trancedig y noson cÿn y cynhebrwng yn perthÿn i'r un peth.

'Grabin.' Llygriad o scraping.

'Gwirion,' &c.

'Hŷff' Ystad o natur ddrwg y gwÿnt pan mae yn huff.


'Hercÿd.' Nid ÿw hwn yn gyffredin yn y Gogledd.

'Llychedan.' Flash- fflacio, o'r gair yna mae yn dod, buaswn yn meddwl.

'Llechwan.' O llechen, slate, dim cystylltiad {sic} a llechu, ond pan y mae yn feddfaen.

'Lluo.' Nid ÿw hwn yn arferedig o'r Deheudir.

'Post.' Hefÿd Post Office.

'Plico.' Gogledd, plicio. Yno yn meddwl peeling, plicio afal, plicio nionÿn. Ni ddywedir yno bÿth plicio gwÿdd, ond plicio wÿ.

'Pica' O pike a spike.

'Peltan.' O pelt, pelting.

'Pentÿs.' Defnyddir hefÿd am y lle y dodir y ceffylau i'w pedoli o dan yr un to ag efail y gof.

'Scwd.' Scout a send. {??}

'Sopÿn.' Ffurf arall, ond gwrthgyferbyniol a cetÿn. Yn ddiddadl, peth wedi ei drwÿtho, neu ei lenwi, peth wedi cael ei wneud yn sop.

'Taren' a 'Trysa.' Fel y clip ar yr haul - anweledig yn y Gogledd.

'Taplan.' Eto dyeithr.

'Twmpÿn.' Small tump, fellÿ, tumulus, tumuli, yr enwau unigol a lluosog a roddir i'r mounds Rhufeinig.

Gall eich rhestr fod yn addysgiadol a buddiol i efrydwÿr geiriau fel hÿn, ac hwÿrach nad anfuddiol fÿdd trem felhÿn ar y gwahaniaeth a wneir yn nhwahanol ranau o'r Dywysogaeth o'r geiriau. Mae yn sicr fod amrÿw o eiriau yn y Gogledd na chlywir mo honÿnt yn y de, a llawer hefÿd yn y De sÿdd yn anadnabyddus yn y Gogledd.'

Diolch i Llwÿdmor am ei nodiadau. Dichon y gwna nodion cyffelÿb pan ddeuaf allan a rhestr arall.

Yr eiddoch,
Wmffra Huws.

______________________________________________________

(3) Tarian y Gweithiwr, 4 Mai 1899 - Sylwadau W. Morgan

GEIRIAU LLEOL

MR: GOL., - Gwn y canitewch gongl fechan i mi daflu hatling i drysorfa y 'geiriau lleol.' Darllenais gynyrchion Wmffra Huws gyda dyddordeb mawr. Yn y DARIAN ddiweddaf, y mae Llwÿdmor yn dwÿn allan feddwl dieithr ac estronol i'r gair 'Beili.' Yr wÿf wedi ymgyfarwÿddo a'r gair yna er's dros ddeugain mlynedd, ac eglurhad Wmffra yn sicr sÿdd (i'm tÿb i) gywiraf a naturiolaf.

Yr wÿf am gdarnhau y cyfrÿw dÿb gyfrwng penill o farddoniaeth. Dyma fe: -

'Y gwr o Gelliwrgan, os byddi bÿw ac iach,
Dos fora y dÿdd byra i ddrws y 'Beili' bach,
Os clir y bÿdd yr wÿbr heb gwmwl yn un man
Rhwng dau gwar Coedca'r Gelli daw'r heulwen pur i'r lan.'

Gan i mi fod yn gwasanaethu yn Gelliwrgan pan yn fachgenÿn ddeunaw oed - deugain mlynedd yn ol - yr wÿf yn medru dwÿn tystiolaeth i'r ffaith achlysurodd cyfansoddiad y penill. Gadawer i mi fynegi gair am y partion - y cyfansoddwr 'ar hwn y canwÿd iddo. Yr awdwr oedd Siencÿn o dafarn Eglwÿs Wyno, a'r llall oedd Siencÿn Gelliwrgan. Yr oedd yr olaf yn hoffi myned i gymdeithas lon y teiliwr i 'dafarn yr eglwÿs,' ac ar un o'r adegau hynÿ y cyfansoddwÿd y penill.

Yr oedd drws hen amaethdÿ Gelliwrgan yn agor i ddarn o dondir ysgwar, a mur isel o'i amgÿlch cyfaddas i'r merched osod ystyciau, &c., i sychu yn ngwres haul y bore. Dyna'r ysmotÿn y cyfeirir ato yn y penill, a gellir gwireddu ffaith fawr y penill ar unrhÿw adeg y 'dÿdd byra' o'r flwÿddÿn oddigerth fod llaw reidrwÿdd wedi symud y 'Beili bach'.

Fellÿ, y mae eglurhad Llwÿdmor mai y swÿddog 'Bum Beili' (Bailiff) roddodd fod i'r enw yn ddamcaniaeth annhebÿg, a dweÿd y lleiaf.

Y mae ei eglurhad o'r gair Pentÿs yn llai athronyddol fÿth. Pwÿ welodd bentÿs 'dan yr un to ag efail y gof.' Ai nid ychwanegiad at yr adeilad ydoedd. a'i do droedfedd yn is na tho yr efail? Sut y gallasai peth fellÿ fod dan yr un to? Heblaw hynÿ, onid oes canoedd o anedd-dai yn y wlad, a phentÿs bychan o flaen y drws, ac ond ychydig uwch na'r drws - prin troedfedd, a sut mae darpariaeth fellÿ dan yr 'un to'? Y mae i'r enw ystÿr yn ôl Gweirÿdd ab Rhÿs.

Drwÿ eich caniatad, syr, taflaf ddau air i'r drysorfa ddyddorol hon. Y blaenaf ÿw, Ffacsa. 'Mam, mam,' meddai'r ferch, 'ma nhw yn dod oo'r cwrdd yn ffacsa.' Beth gebÿst, wÿs, ÿw gwreiddÿn hwn?

Eto, 'Hendid.' Meddai y gwr o'r Monachdÿ, un diwrnod, wrth Evan o'r Felin, 'Prÿd y byddi yn barod i fi ddod i grasu?' 'Wel, fe fÿdd hendid y gwr o'r Duallt yn fit {sic} i ddod oddiar yr odÿn y forÿ, a gellwch ddod a'ch 'hendid' dranoeth.'

Cofion fÿrdd,
Workington
W. MORGAN (Adi)

 

DIWEDD

·····
Sumbolau arbennig: ŷ ŵ 

Ble’r wyf i?
Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA