3702k Gwefan Cymru-Catalonia: Enwau lleoedd. Nodiadau ac Ymholiadau. Blwyddyn 2022. Dwy fil a dau ar hugain.


20-03-2022 
 


 


 

 

baneri
.. 




Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Nodiadau ac Ymholiadau
wedi eu hanfon at y Fforwm ar Enwau Lleoedd

Blwyddyn 2022

Dwy fil a dau ar hugain


a-7000_kimkat1356k 
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?


Map

Description automatically generated
(delwedd 0457)

.....

 
Chart, icon

Description automatically generated (no disponible)
A close-up of a flag

Description automatically generated with low confidence (not available) 


 

CYNNWYS:

10 Mai 2022 HEN ENWAU CAERAU A THREFYDD YM MHRYDAIN

9 Mai 2022 “GWYNEDD” MEWN YSTYR EHANGACH?

8 Mai 2022 LLANGEFNI, 1859.

7 Mai 2022 Sylwadau ar y gair “ARGAE” yn 1874.

6 Mai 2022 ALCAN AC ALCAN

5 Mai 2022 ENW LLE RHITHIOL – “ALCANIA”

27 Ebrill 2022 AR BWYS TREFYNWY

22 Ebrill 2022 ROSVA /ˈrɔzva/ GAIR CERNYWEG SYDD YN ADDASIAD O AIR CYMRAEG

30 Mawrth 2022 ADYN YNTEU ODYN?

28 Mawrth 2022 ADYN YNTEU ODYN?

28 Mawrth 2022 Bwlch-llan

25 Mawrth 2022 Pencroesoped, Gwent

20 Mawrth 2022 Betws

16 Mawrth 2022 Getws, Iocws

16 Mawrth 2022 Enwau Caerdydd (Cardiff Records, Volume V, Chapter VII. SCHEDULE OF PLACE-NAMES, John Hobson-Matthews (1858-1914.) Tudalennau 333-445)

14 Mawrth 2022 Clybiau Tai (rhes y Clwb, Club Row)

14 Mawrth 2022 Glan Egwy (Seren Gomer. Cyfrol XX. Rhif 259. Ebrill 1837)

11 Mawrth 2022 Dinas y Llyn Heli, Utah

10 Mawrth 2022 Enwau Lleoedd Y Swistir

08 Mawrth 2022 Llysenwau Neu Arallenwau Ar Bentrefi / Trefi / Dinasoedd / Ardaloedd Cymru

5 March 2022 "Key to English Place Names" o dan nawdd Prifysgol Nottingham.

4 Mawrth 2022 Enwau Heolydd Yn Gernyweg.  Eglos Heyl (Phillack), Cernyw.

4 Mawrth 2022 Enwau Lleoedd Cernyw  yn Gernyweg  Akademi Kernewek (Academi'r Gernyweg).

8 Chwefror 2022 Copa (Y Mynydd Du. Y Copa. 439 metr.)

3 Chwefror 2022 Hwyaid

2 Chwefror 2022 Porth-Fedd / Portmead, Abertawe

1 Chwefror 2022 Plas Ibod

29 Ionawr 2022 Afon Sirhywi / “Howy"

27 Ionawr 2022 SIRHYWI – TARDDIAD YR ENW YN ÔL HEN DRIGOLION Y CWM. 1862.

 

 

 

.....

 

.....

 

.....

 

.....

 

.....

 

.....

 

.....

 

.....

 

.....

 

.....

 

.....

 

 

.....

10 Mai 2022

HEN ENWAU CAERAU A THREFYDD YM MHRYDAIN

 

Peth y deuthum ar ei draws yn “Eurgrawn Mon” Mehefin 1825 yw’r rhestr hon.

 

Ffrwyth dychymyg yw llawer o’r enwau hyn, buaswn yn meddwl, ac ambell un wedi eu priodoli at y dref anghywir (“Caer Lwydcoed” ar gyfer Lincoln, yn lle Litchfield).

 

Ond un clodwiw yw bwriad yr awdur – “er hyfforddi ieuenctyd mewn Hanesyddiaeth Gymreig”.

Eurgrawn Mon, neu Drysorfa Hanesyddol. / Rhif 6. / 30, Mehefin, 1825. / Gwerth 4½c. (Tudalen 143)

Tudalennau 141-142

 

Hên Enwau Caerau a Threfydd yn Mhrydain, er hyfforddi ieuenctyd mewn Hanesyddìaeth Gymrelg.

 

Enwau Cymreìg. / Enwau Saesonig.

Caer Alclud, Alclwyd, neu Arclud. Dunbritton or Dunbarton. .
Caer Andred, Adredecester, in Kent.
Caer Baddon, Bath.
Caer Baladr, neu Gaerseptwn, Shaftesbury.
Caer Bladdon, Malmesbury.
Caer Caredog, Caerseferws, Caersallog, Salisbury.
Caer Caradoc, yn Sir y Mwythig.
Caer Cari, Caerfyddau, Chichester.
Caer Cori, Cirencester.
Caer Dorin, neu Dawri, Dorchester.
Caer Dyf, neu Daf, Cardiff.
Caer Efrog, York.
Caer Gaint, Canterbury.
Caer Grawnt, Cambridge.
Caer Gwair, Caerwythelin, Caer Cyhelin,Warwick..
Caer LeirCaerlerion, Leircster or Leicester.
Caer Lew, Holt,
Caer Leyl, Caerlualid, Caercidall, Carlisie.
Caer Ludd, London.
Caer Lwydcoed, Lindecolyn or Lincoln.
Caer Lleon ar Ddyfrdwy, Caer, Chester.
Caer Lleon ar WysgCaerlleon, Caerleon.
Caer Malet, Camalet, Yng wlad yr Haf.
Caer MunìcipGwernlan, Verulam.
Caer Odor yn Nant Baddon, Bristol.
Caer Peris, Portchester.
Caer Seiont, Caer yn Arfon Carnarvon.
Caer WyrangonCaerfrangon, Worcester.
Caer Went, Cas’gwent, Chepstow.
Caer Wynt, Winchester.
Caer WysgCaerpenuchelgoed, Exeter.
Caer AlunHwlffordd, Haverford-west.
Caer Dugoll, Pengwern, y Mwythig, Shrewsbury.
Caer Gyffin, Aberconwy, Conway.
Caer Ffawydd, Ferleg, Henffordd, Hereford.
Caer Basa, Caermembyr, Rhydychain,Oxford.
Caer Collwyn, Twrbronwen, Harlech.
Caer Colun, Colchester.
Caer Dawn, Doncaster.
Caer LuddDinas-Beli, Tro-Newydd London
Caer LawnCaerweryddCaer-Lun, Lancaster.
Caer Urnach, Wroxeter.
Caer Pont-isel-coed, Ilchester.
Caer Gawn, Emrys. Stonehenge.
Caer Dwrgwyr, Dorsetshire.
Caer Dyfnant, Devonshire.
Ferleg, Eirinwg, Glewiswng, Erging, Ergengl, Erinwch, Ereinwyr, Herefordshire
Dinas-Eiddin, Dinas y Morwynion, Edinburgh.
Ynys-Afallon, Glastonbury.
Ynys-WydrinDinwydir, Widrington.
Ynys-GŵyddYnys-Wy'thYnys- WeithGwy-Wth, a Gwy-Waith, Isle of Wight
Diganwy, Din-Gynwy, yn agos i Gonwy.
DinefwrDinas-fawr, y Dref Newydd, Newton,
Y Cantraf-Coch, the Forest of Dean.
Erin, Ywerddon, Ireland.
Mor Werydd, the Irish Channel.
Mor Udd George's Channel.
Dyfed, Sir Benfro.


No photo description available.


.....

9 Mai 2022


“GWYNEDD” MEWN YSTYR EHANGACH?


A fu “Gwynedd” yn gyfystyr â “Gogledd Cymru” yn ei chrynswth ddwy ganrif yn ôl?
…..
Eurgrawn Mon, neu Drysorfa Hanesyddol. / Rhif 6. / 30, Mehefin, 1825. / Gwerth 4½c. (Tudalen 143)
.....
Marchnadoedd.


Prys Yd yn Swyddi Gwynedd am yr wythnos yn terfynu Mehefin 25 1825, wrth y Pegaid. (London Quarter)


Gwenith. / Haidd. / Ceirch.
Mon 55s. i 59 / 38s.i 40 / 19s. i 22
Arfon 60s. i 62 / 36s. i 40 / 22s. i 25
Dinbych 62s. i 67 / 35s. i 39 / 22s. i 24
Fflint 65s. i 68 / 35s. i 39 / 20s. i 25
Meirion 65s. i 68 / 35s. i 39 / 20s. i 22
Trefaldwyn 68s. i 67 / 35s. i 39 / 20s. i 22

May be an image of text

  .....

8 Mai 2022

LLANGEFNI, 1859.

 

Rhai o enwau lleoedd Llangefni y mae sôn amdanynt yn “Adgofion am Llangefni [sic]” gan “Un a wyddai gynt am y lle”. (Seren Gomer. Rhif 528. Cyf. XLII. Medi 1859. Tudalennau 392-395.)


Caeronw
Capel Ebenezer (Capel Cil Dwrn)
Capel Uchaf
Craig y Forwyllt

y Cwt (?)
y Fron
yr Hall
Lôn Glanhwfa
y Lôn Las
Merddyn Hafod
y Nant
Neuadd y Dref
y Stryd Fain
Stryd y Cae
Stryd y Felin

 

Hefyd: (Casnewydd ar Wysg) Friar's Field, (Merthyr Tudful) China.

 

Diddorol gweld mai “Cymmru” yw sillafiad yr awdur am “Gymru”.

 

ADGOFION AM LLANGEFNI [sic].

 

Peth naturiol iawn i ddyn yn mhen ugeiniau o flynyddoedd ei fywyd yw rhoddi tro i'r man hwnw a elwir ganddo yn wlad ei enedigaeth; ac yn enwedig i'r man hwnw o'r wlad lle y ffurfiwyd y berthynas agos ac anwylaidd rhyngddo ag un y mae yn hoffi etto ei harddel a'i galw yn fam. Y man lle y dechreuodd wylo, ac a dechreuodd chwerthin a llawenhau. Y man, er fod yr ystyriaeth yn boenus, lle y dechreuodd bechu; a'r man hefyd lle y cafodd olwg ar y gwaed "sy'n tynu ymaith bechodau y byd." Y lle y bu yn chwareu gyda y plant, ac wedi hyny yn addoli gyda y saint. Os oedd yn anhawdd i'r Iuddew annghofio Jerusalem, y mae yn anhawdd i ddyn annghofìo man ei enedigaeth a'i ddygiad i fyny. Ie, peth llawn o swyn i'r meddwl yn awr yw cerdded yr hen lwybrau, dringo yr hen fryniau, pysgota yn yr hen afonydd, chwilio am nythod yr hen adar sydd wedi meirw, casglu y mwyar a'r eirin moch ar yr hen berthi, a llawer peth arall sydd wedi myned heibio am byth.

 

Llangefni, lle genedigol yr ysgrifenydd, sydd bentref neu dref fechan yn ngwlad Mon, tua saith milltir o bont Menai, yr hon a adeiladwyd yn y flwyddyn l835, a'r hon sydd yn cydio Mon wrth Arfon. Ac y mae y gofÿniad yn naturiol yn ymrithio i'r meddwd, "Pa le y mae miloedd o'r rhai a gerddasant y bont ryfeddol hono oddiar ddydd ei hagoriad?"

 

Pe byddai o ryw ddyddordeb i roddi darluniad o Langefni, gallem ei wneyd mewn ychydig eiriau. Y mae y dref yn sefyll mewn pant, fel nas gellwch ei gweled wrth ddyfod o bont Menai neu o Gaergybi, nes y byddoch yn hollol yn ei hymyl. Mae yn cynnwys un heol faith, yr hon yw y brif heol, ac yn cyrhaedd o Graig-y-Forwyllt hyd y "Capel uchaf" bron, yr hwn yw capel y Methodistiaid Calfinaidd. Wedi hyny, mae "Stryd y Felin," a elwir felly am fod melin yn y pen draw iddi; ac o hono y mae heol fach arall yn myned ar y llaw chwith a elwir y "Stryd fain," yr hon sydd mor gul fel nad gwiw meddwl am fyned a cherbyd ar hyd-ddi, oddieithr cerbyd cwn, a hwnw o'r dimensions culaf. Dyna Friar's Field y Casnewydd, neu China Merthyr. A gwelais yn ddiweddar hanes am witch enwog wedi cyfodi oddiyno, yr hon trwy ei swyn-gyfaredd oedd wedi cael cryn ddylanwad ar rai o benfeddalion ynys Mon.

 

Mae hefyd yn y dref y "Lon Las," (Blue street), Lon Glanhwfa, a Stryd y cae, a elwir felly am fod cae yn y pen draw iddi. Yn nghanol y dref y mae dernyn ysgwar o dir, lle yr arferir cynnal y farchnad; ac yn y pen pellaf iddo y mae Neuadd y Dref, yr hwn yn yr amser gynt oedd yn adeilad o bwys mawr, canys yr oedd y rhan isaf o hono yn gwasanaethu fel ty marchnad. Yno yr (393) oedd y cigyddion, ac yno y gwerthid llafur. Ac yn y llofft uwch ben yr oedd y National School, yr unig ysgol o bwys yn y lle y pryd hwnw. Gelwid yr adeilad i gyd yr Hall, a "Hughes yr Hall" y gelwid yr ysgolfeistr. Yr oedd Hughes yn cael ei gyfrif yn ysgolaig da, ac efe mewn gwirionedd oedd oracl y dref mewn dysgeidiaeth. Os buasai ar rywun eisieu ysgrifenu llythyr mwy trefnus nag arfer, nid oedd neb mor addas â Hughes yr Hall i'w ysgrifenu; a chydag ef y cefais i gymmaint o ysgol ag a gefais pan yn blentyn. Ac er fy mod yn barod i fyned i'm llw, pe byddai achos, i mi gael ambell i fflangell ganddo â'r cane yn groes i'm bysedd yn hollol heb ei haeddu; etto y mae genyf lawer o barch i'm hen ysgolfeistr. Yr wyf yn cofio yn dda i mi unwaith gael fy nanfon i'r Nant, fel y gelwid y lle, i dori gwiail cyll, i guro y plant, a chadw yr ysgol mewn trefn; ac wedi dychwelyd yn ol, wedi aros yn rhy hir yn ol barn y meistr, y fi oedd y cyntaf i gael profì blâs un o'r gwiail. Ond y mae wedi cael maddeuant llwyr genyf er ys llawer blwyddyn. Nid oedd yr hen eglwys yn Llangefni, pan oeddwn i yn blentyn, ond un fechan, distadl yr olwg. Yn ei hymyl safai hen Ywen ardderchog, yr hon, fel cannoedd fu yn edrych arni, sydd er ys llawer blwyddyn wedi ei thori i lawr. Mae yr hen eglwys hefyd wedi ei thynu i lawr, ac un arall mwy addurnol wedi ei hadeiladu er ys amryw flynyddoedd. Yn ymyl yr eglwys y mae persondy yn sefyll ar fryn uchel uwchben y dref. Ýno yr oedd Williams y person yn byw pan oeddwn i yn blentyn, ac am lawer o flynyddoedd ar ol hyny. Yr oedd Williams yn ddyn tal, teneu, ac aristocrataidd yr olwg, yn cerdded yn syth ac arafaidd, a'i ffon yn ei law. Efe, heblaw bod yn berson, oedd hefyd yn Ynad yr Heddwch, o flaen yr hwn yr oedd ymrafaelion a throseddau y dref yn cael eu profì. Wedi i ddyn feddwi yn y ffair, neu gyflawni rhyw drosedd arall, y peth cyntaf a wneid ag ef oedd ei ddwyn o flaen y person, a'r person yn fynych a'i danfonai i garchar. Ac yr oedd cymmaint o ofn y person yn y gymmydogaeth â phe buasai yr ysbryd drwg ei hun. Etto yr oedd, am a wn i, yn ddigon diniwed. Ond yr wyf yn sicr nad oedd un amser berygl iddo, fel pregethwr, i "yr yr afonydd ar dân." Yr oedd yno hen berson arall yn byw yn y gymmydogaeth, yr hwn y mae genyf frith cof am dano. Gelwid ef yn gyffredin "Yr Hen Berson Pin," ond nid oedd yn gwasanaethu yn fy amser i. Er na bum i erioed yn eglwyswr, ac nad wyf yn meddwl curo wrth ddrws neb am Holy Orders, hyd y nod pe cawn deithio byth ar ol hyny mewn Express Train, ac yn y First Glass; etto addefwyf fod yr hen adgofion am yr hen eglwys, yr Ywen dewfrig, a'r fonwent, lle yr arferem fyned ar ambell brydnawn têg yr haf i ddarllen yr enwau ar y ceryg beddau, yn rhai cynhes ac anhawdd gollwng gafael ynddynt. Ac y mae rhywbeth i blentyn yn swynol yn ning clong cloch fach y llan, ac wedi dyfod yn ddyn mae yna ryw bethau ag y gallwn eu galw yn weddillion ei blentyndod yn aros. Ar yr hen ffordd i Gaergybi, tua chwarter milltir o'r dref, y mae capel y Bedyddwyr, yr hwn a elwir Ebenezer, ond yr enw cyffredin wrth yr hwn yr oedd yn cael ei alw oedd "Capel Cil Dwrn." O ba le y tarddodd y fath enw nis gwn; ond y mae yn ddigon gwir mai i Gil Dwrn y dywedid fod y bobl yn myned ar y Sabbath. Yn Nghil Dwrn yr oeddynt yn addoli, o Gil Dwrn yr oeddynt yn dyfod wedi i'r cwrdd ddybenu, ac yn Nghil Dwrn yr oedd Chiistmas Evans, y dyn rhyfedd hwnw, yn gwasanaethu dros amryw flynyddoedd; ac, ddarllenydd, cred neu beidio, yn Nghil Dwrn y cafodd yr ysgrifenydd ei fedyddio! Yn monwent y capel hwnw gellwch weled bedd Catherine Evans, gwraig gyntaf yr enwog Christmas Evans, am yr hon nid oes genyf ond ychydig iawn o gof. Mor bell ag y cofiwyf, dynes fer, wledig yr olwg, a lled stout, fel y dywedir yn y Deheudir, oedd Catherine Evans, neu Gady, fel y gelwid hi gan Christmas.

 

Y mae hen gapel Ebenezer i mi y dydd hwn yn llawn o ryw swynion melus a rhyfeddol. Yno y'm dygai fy mam, pan yn blentyn, bob Sabbath; yno y disgynodd ar fy nghlustiau gyntaf o eneuau gweision Duw, y newyddion da am Geidwad i bechadur; yno y dechreuais deimlo tuedd i ddilyn yr Oen, ac y bum yn ddeiliad y teimladau mwyaf dedwydd; yno y bum yn ddysgybl ac yn athraw yn yr Ysgol Sabbathol, ac yno, tua 27 o flynyddoedd yn ol, y cefais y fraint, yn nghyd ag amryw ereill o ddynion ieuainc, o wneyd arddeliad cyhoeddus o'r Gwar- (394) edwr. Yr oedd y diwrnod yn oer rhyfeddol, yn nyfnder y gauaf. Ac yn yr hen fedyddfa yn y capel, safai y gweinidog a minau yn y dwfr; ac er nad oedd y gweinidog hwnw yn brophwyd, nac yn cymmeryd arno ei fod, etto dywedai, gan gydio yn fy llaw, ei fod ef yn credu fod gan yr Arglwydd rywbeth i mi i'w wneyd yn fy nydd dros ei enw. Y mae genyf barch dwfn i goffadwriaeth amryw o'r hen frodyr oeddynt yn aelodau yno y pryd hwnw; amryw o honynt sydd wedi croesi i dy eu Tad, ac ereill o honynt ydynt yn tynu yn agos iawn i rydiau yr afon. Un o'r rhai ffyddlonaf yno oedd dyn o'r enw W. Owen, dilledydd wrth ei alwedigaeth, ac yn byw tua dwy filltir oddiwrth y capel. Ond er fod ganddo ffordd bell, nid oedd neb yn fwy cysson nag ef yn ei le dair gwaith bob Sabbath. Yr oedd yn ddyn mawr gyda'r Ysgol Sul, ac yn ddyn cyflawn yn y cwbl. Yr oedd y plant a'r dynion ieuainc yn ei garu, ac yn edrych ato fel tad iddynt oll. Efe oedd prif lywydd ac arolygwr yr Ysgol. Yr oedd yn ddyn gwir grefyddol, ac yn weddiwr bron heb ei fath. Yn fynych iawn rhoddid ef i ddechreu y cwrdd nos Sabbath o flaen y pregethwr; ac yr oedd y bobl yn cael cymmaint o hwyl i glywed W. Owen yn gweddio ag a gaent hyd y nod wrth glywed pregethwr da yn pregethu.

Arolygwyr, ac athrawon yr ysgol, a'r gweddiwyr yn ein heglwysi, cofiwch, ie, cofiwch eich bod yn awr yn cario dylanwad ar y plant o'ch amgylch ag fydd yn peri iddynt gofio yn fywiog am danoch yn mhen ugeiniau o flynyddoedd! Gweddiwr doniol a gwresog oedd John Hughes, Caeronw, a chawn hwyl yn wastad wrth ei wrando. Nid rhyw grystyn sych ydoedd, digon i ddiflasu enaid dyn drwyddo.

 

R. Williams, Merddyn Hafod, oedd blaenor y gân; ond y mae ei ddyddiau yntau bron ar ben gyda y gorchwyl hwnw, ac nid hir y bydd cyn myned i wlad arall i ganu—

"Cân am farwol glwy',
Na chlywir diwedd arni mwy"

Y mae adeg yr hwyliau mawr wedi dybenu yn Mon, a thrwy Gymmru hefyd, er ys blynyddau; os nad oes rhywbeth yn y cynhyrfiadau presenol yn tebygu i hyny. Clywais am rai mewn rhyw gapel bach ar gyffiniau sir Gaer wedi cael rhyw hwyliau anarferol yn ddiweddar; a'i bod hi wedi myned yn neidio gwyllt yno, ac i un brawd deimlo cymmaint o ryw ysbryd myned, ac o elasticity wedi ei berchenogi, nes iddo neidio yn llyfn ac yn llythyrenol dros ben y sêt fawr. Ond y mae genyf fi gof am gyffroadau nerthol yn Ebenezer; gwaeddai y bobl yn uwch nâ'r pregethwr, "haleluia" a "bendigedig." Ac yr wyf yn cofio yn neillduol ani un wraig, yr hon ar brydiau a deimlai y tân yn ennyn i'r fath raddau, nes y byddai swn ei diolch a'i moliannu yn boddi y cwbl. Nid yw Mon erioed wedi bod yn enwog gyda golwg ar weinidogaeth sefydlog, oddieithr ychydig eithriadau; ac y mae y trigoüon wedi bod yn hynod mewn ysfa am glywed dyeithriaid. Yr oedd cyhoeddi dyn dyeithr i bregethu, yn enwedig gwr dyeithr o'r Deheudir, yn disgyn ar eu clustiau fel y beroriaeth felusaf. Mewn amser pan oedd y weinidogaeth deithiol mewn arferiad a bri, dygwyddai rhai pregethwyr enwog ymweled â Mon o'r Deheudir, megis S. Breese, Simon James, a'r cyffelyb; a meddylid mor uchel am danynt, a cheid cymmaint o hwyliau wrth eu gwrandaw, fel y meddylid bron fod pawb o'r Deheudir yn rhagori. Yr oedd dyfod o'r Deheudir yn ddigon o bassport i boblogrwydd. Fel y dywedais, nid yw Mon wedi cael ond ychydig o weinidogion sefydlog o nemawr o enwogrwydd. Cafodd, ac y mae ganddi etto, rai o'r rhai rhagoraf. Yr oedd yn y sir pan oeddwn i yn blentyn, amryw o hen bregethwyr, y rhai nad oeddynt wedi cael ond y peth nesaf i ddim o fanteision, ac heb fod yn hynod mewn cyfrifoldeb fel pregethwyr, etto yn ddynion da a defnyddiol. Mae yn anwyl genyf am eu coffadwriaeth. Un o honynt oedd Richard Jones, neu fel y gelwid ef gan rai, "Dic y Cwt." Ac ystyried ei sefyllfa fel gweithiwr, yr oedd yn bregethwr da a derbyniol; ond yr oedd yn bur hoff o ddewis testunau dyrus, megis y gareg ac arni saith o lygaid, a'r cyffelyb. John Michael, mor bell ag y cofiwyf, oedd stiff a lled sychlyd. John Owen, y gwehydd, a bregethai yn fywiog, a meddiannai gryn lawer o'r dawn. Yr wyf yn cofio rhai o'i destunau oddiar pan oeddwn yn blentyn. W. Roberts, Brynsiencyn, a gyfrifid yn bregethwr da; ond y cof mwyaf sydd genyf fi am dano yw ei fod yn hen wr (395) tew, ac yn chwysu llawer wrth bregethu. Dyna Robert Owen hefyd o Langefni, yr oedd yntau, ac ystyried ei amgylchíadau, yn ei gweithio hi yn lled dda fel pregethwr. Yr oedd yn hen wr da a duwiol, a gwnaeth lawer o les yn ei ddydd.

 

Yr wyf yn cofio y byddai cael cyhoeddiad un fel Morgan o Gaergybi, yn foethyn annghyffredin. Mae Mr. Morgan wedi sefyll yn uchel yn Mon am lawer o flynyddau, fel pregethwr galluog a thalentog; ac yr wyf yn cofio yn awr am y pleser a gawn yn wastad wrth ei wrandaw. A chofiwyf hefyd am dano yn y ty wrth y capel, ar gais rhai o'r ieuenctyd, yn canu Cwymp Babilon, nes peri i mi ar y pryd feddwl yn uchel iawn am dano fel un ag yr oedd swyn rhyfeddol yn ei ganu; ac y mae Mr. Morgan yn ganwr rhagorol, neu os ydych yn amrnheu, gofynwch i H. W. Hughes, Liverpool. Medr ef ganu fel Mr. Morgan, cystal ag y gall un clochydd ddynwared offeiriad. Dyna Williams, Amlwch, a'i gorff tal, ei wynebpryd siriol, a'i anerchiadau caruaidd, y mae yntau yn uchel fel meddyliwr, a phregethwr tra galluog. Yr wyf yn cofio ei glywed ef droion yn Llangefni, ac yn cofio ei dad yno unwaith, yn ordeiniad W. Jones, yr hwn a alwai Arthur Jones, Bangor, yn watch fach, yn dyfod i Langefni ar ol y cloch mawr, sef Christmas Evans. Bum yn y gyfeillach am ychydig yn amser Mr. Jones, a myfi y pryd hyny tua 12 oed; ond methais a dal y brofedigaeth o gael fy ngwawdio gan y plant a arferent chwareu â mi, a bum ar dir gwrthgiliad am tua dwy neu dair blynedd.

 

Yr oedd y Capel Uchaf, fel y gelwid ef, sef capel y Methodistiaid, yn un o enwogrwydd mawr tua 30 mlynedd yn ol. Yr oedd y Methodistiaid y pryd hwnw yn lluosog a chyfrifol yn Llangefni. Arferai John Elias bregethu yno yn fynych ar yr wythnos, oblegyd yr oedd yn byw yn y Fron, gerllaw y dref, lle y bu yr hen Berson Pin yn byw o'i flaen. Byddwn yn myned i wrando J. Elias yn awr ac yn y man; ond yr oeddwn yn rhy ieuanc y pryd hwnw i allu gwneyd llawer o'i bregethau. Yr wyf yn cofio ei fod yn ddyn tal, teneu, tywyu, ac esgyrnog, o edrychiad sobr, ac o hynodrwydd ystum wrth bregethu. Yr wyf yn cofio ei glywed unwaith yn pregethu ar ymffrostio yn y groes; ond nid wyf yn cofio dim a ddywedodd, heblaw un sylw, sef nad oedd "dim mwy o rinwedd yn mhren y groes ei hunan, nag oedd mewn hen bost llidiart." A dywedai hyny gan bwyntio â'i fys mewn modd hynod iawn. Er fod J. Elias yn hynod ei boblogrwydd yn Nghymmru, ac yn ddiau yn un o brif bregethwyr ei oes, etto nid oedd, os wyf yn cofío yn iawn, yn hynod mewn cyfrifiaeth fel dyn poblogaidd yn Llangefni. Nis gellir yn hawdd, efallai, rhoddi cyfrif am hyny, heblaw ar y tir y dywedai yr Iesu, nad oedd prophwyd heb anrhydedd ond yn ei wlad ei hun. Yr oedd gan J. Elias chwaer o gryn hynodrwyrdd yn byw yn Llangefni, o'r enw Catherine Elias, yr hon oedd yn briod ag un o'r enw John Hughes. Ie, ddarllenydd, arferiad Mon ys llawer dydd oedd peidio galw y wraig ar ol enw y gwr — Catherine Elias oedd enw gwraig John Hughes. Adwaenai pawb wraig Hugh Hughes, fel Elin Parry; ond pe gofynid am Elin Hughes, nid oedd neb yn ei hadnabod. Dichon fod pethau wedi newid llawer erbyn hyn. Ond yr hyn yr oedd Catherine Elias yn hynod ynddo oedd fel gweddiwraig. Pan ddygwyddai i John Hughes fyned oddicartref, byddai Catherine Elias, ei wraig, yn darllen a gweddio yn y teulu yn ei le. Ac O! y fath weddio! Yr oedd ganddi lais cryf a threiddgar, y fath gyflawnder o eiriau, a'r fath dwymnder ysbryd, nes yr oedd yn syndod ei chlywed. Gollyngai ei llais allan gyda y fath nerth, nes tynu lluaws o bobl o amgylch y drws i wrando arni. Clywais rai gwragedd ereill yn gweddio, ond neb yn debyg i Catherine Elias.

Mae fy llythyr eisoes wedi myned yn rhy faith i'r darllenydd, yr hwn nad yw yn teimlo cymmaint o interest yn Llangefni â mi, ac am hyny yr wyf ar hyn yn terfynu.

Un a wyddai gynt am y lle.

No photo description available.

 

.....

7 Mai 2022

 

Sylwadau ar y gair “ARGAE” yn 1874.

…..

Bye-gones Relating to Wales and the Border Counties. 21 lonawr 1874.
ARGY — AN EMBANKMENT. — Is this a Shropshireism, and what is it derived from? H.B.


…..


Bye-gones Relating to Wales and the Border Counties. 4 Chwefror 1874.
ARGY — AN EMBANKMENT. — (Jan. 21, 1874). Perhaps this extract from Salopia Antiqua (page 306) will give H.B. the information he requires. "Argy, s. an embankment betwixt Melverley and Llanymynech, which was constructed as a protection against the overflowings of the Severn. It has not, however, always this effect, as a considerable quantity of back water deluges the country in a flood, owing to a want of fall in the bed of the river. This embankment is five feet wide across the top, and varies from ten to twenty feet in height above the average level of the meadows on the water side. We have picked up this very appropriate name from the C. Brit. Ardwy, government, protection.



Gad ardwy rhad, er Duw rhi,
Rhwyv'ar dwvyr rh'ov â Dyvi.
D. ap Gwilym. R. E. D.


…..


From the above extract it appears that the term was not one in general use in Shropshire, but rather a proper name applied to a particular embankment. But in the neighbourhood of Lianidloes, where it is pronounced ARGA it is generally applied to the artificial wooden dams erected to "pound" up the water for the use of the various mills and factories. The word is Welsh and is thus explained in the latest edition of Dr Owen Pughe's Dictionary. "ARGAE, au s. f. (Ar-cae). An inclosure; a fence; a dam; a lock in a river; a restriction." TORFAEN.


…..


Argae is Welsh for any embankment or barrier thrown across a river or a piece of land. Argae melin, a mill-weir. J.C.H.


…..

Bye-gones Relating to Wales and the Border Counties. 11 Chwefror 1874.
ARGY (Feb. 4, I874). — Probably this is a corruption of the Welsh word "Argae," which is defined by Dr. Owen Pughe as "an inclosure; a fence; a dam; or lock in a river." There is an embankment locally called "The Argy Bank," on the north side the river Severn, commencing near Pool Quay, and following the course of the river for some miles in the direction of Llanymynech, which has for its object the "damming" out from the adjacent lands the water of the Severn on high floods. As there is no Welsh spoken in that district at present, does not the name suggest considerable age to the earth work? It occurs to me there are several names of places in that district which are now so disguised, that those who attached them to the places they represent would scarcely recognize them were they on the land of the living—for example, Trowen (for Trewern), The Mices (for Y Maesydd), The Teskyn (for Rhyd-esgyn). HERMES.


…..


Bye-gones Relating to Wales and the Border Counties. 25 Chwefror 1874.
ARGY (Feb. 11, 1874). — This Argy runs through the township of Gungrog Fawr, in the parish of Pool, and is kept in repair by a rate levied (by what authority I know not) upon the landowners of the district, under the name of an “Argae rate." The name Gungrog is a corrupted name, and appears to have been originally a word of three syllables, and to have been variously spelt. The earliest orthography of the name is in the Mabinogion (vol. ii., p. 396), where it appears as "Argyngroeg." "As soon as sleep had come upon his eyes it seemed to him [Rhonabwy] that he was journeying with his companions across the plains of Argyngroeg, and he thought he went toward Rhyd y Groes on the Severn." (The Dream of Rhonabwy.) The word " Argy" seems very much like the two first syllables of " Argyngroeg." The last syllable, "groeg," we can scarcely doubt is the word "grog," which in the Litany, in the Welsh edition of the Prayer Book, is used in the Welsh for cross. In other ancient documents Gungrog takes other forms; for instance, "Hergyngroyk," in the will of Griffin ap Weununwen, dated 6 Edw. I., 1277-8 (Mont[gomery]. Coll[ections]., vol. i., p. 39); and "Argengeroyd " in an Inquisitio post mortem, dated 10th Jan., 1311 (Mont. Coll., vol. i., p. 48). Will any Welsh philologist favour as with his opinion whether the first two syllables of the name, in its early trisyllabic form, is likely to be derived from the word "Argy," or "Argae," an embankment? Z.


…..


Bye-gones Relating to Wales and the Border Counties. 25 Mawrth 1874.
ARGY (Feb. 25, 1874). — I think "Z" is in error in saying that "this Argy," referring to the one I called attention to, "passes through the township of Gungrog Fawr." The Argy I was calling attention to commences on the north-east side of a hedge which bounds the cow pasture (on the north-east) of Mr Edward Jones. the Bank, Pool Quay, and follows that hedge for a certain distance. then crosses into a field in the occupation of Mr Davies, of Crowther's Hall, and it then is such a well known earth-work in the district as to require no further defining. The footpath goes along the top of it, at points, for miles down the Severn valley. It is possible the Argy "Z" refers to may be in some way connected with the other financially; for that also is, I believe, kept in repair by a rate; and I think, unless my memory serves me falsely, that this rate was provided for when the commons in that district were enclosed. If "Z" could obtain a sight of the Act under which the commons in that district were enclosed, I think he would see the source and the origin of the rate. It was scarcely worth while correcting "Z," but I thought it might at some future date, perhaps, lead to error. HERMES.


…..

Dyma ystyr y gair yn ôl y Welsh-English Dictionary o waith Thomas Richards. 1753.: Argae, a fence to keep water in its own channel, or in mill-dams, a lock in a river, a water-gate.

…..

Fel hyn y mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn sôn am “argae”:

argae [ar + cae]. eg.b. ll. argaeau, argaeoedd, argaeon...

Gwrthglawdd a godir dros afon, &c., i ffurfio cronfa ddw^r neu i atal llifogydd, cored, trosfa, fflodiart, llifddor; arglawdd, gwrthglawdd, rhagfur; atalfa, rhwystr, llestair.... dam, weir, floodgate, sluice, lock; embankment, bulwark, barrier, obstruction, hindrance...


Ar lafar, 'argae' 'dam', 'rhoid argae ar draws yr afon' (Welsh Vocabulary of the Bangor District, Fines-Clinton, 1913); 'arga' 'ffens neu rwystr arall i anifeiliaid, rhag iddynt groesi nant', 'Odd arga gin Ddyffryn Isia' ryddyn' nw a Tyn y Wern... i rwystro'r cradurι̯id rog mynd o un tir i'r næll,' (Tafodiaith Nantgarw, Ceinwen Thomas, 1993) (eb. ll. argaea).

 

Digwydd fel enw lle,

Argae, plwyf Saint Andras, Morgannwg;

 

ac fel elfen mewn enwau lleoedd, e.e.

Argae'r Felin Newydd, plwyf Llanrhaear-ym-Mochnant, Sir Ddinbych,

Rhydargaeau, plwyf Llanllawddog, sir Gaerfyrddin

 

May be an image of text that says "H Border Counties. Bye-gones REPLIES. Llanymynech Wales Border Countie 20 Cilomedrau hooos J6454"

 

Richard Morgan

Argae (Saint Andras), Argae (Aberriw), Rhydargaeau (Llanllawddog), Belan Argae (Llanllugan), Maes yr Argae (Pennant Melangell)

 

Rhian Williams

Yr Argae...ar yr afon Efyrnwy, Dolanog, Maldwyn.

 

Alwyn Hughes

Belanargae, Llanllugan. Gogledd Maldwyn.

 

John Owen

Penrargae. Gwalchmai. Môn.

 

.....

6 Mai 2022

ALCAN AC ALCAN

…..

A minnau’n chwilio am enghreifftiau o’r gair “alcan” mewn enwau heolydd cefais hyd i heol newydd (2014?) o’r enw “Alcan Grove” yn y Tŷ-du, Casnewydd, Gwent.

 

Nid nepell o “Alcan Grove” (sef gan medr o bellter fel yr hed y frân) bu safle Gwaith Hoelion y Castell gynt (“Castle Nail Works” ar fap yr Arolwg Ordnans chwe modfedd i’r filltir a gyhoeddwyd rywbryd rhwng 1888-1913). (Wedi ei enwi ar ôl olion hen gastell Normanaidd y Tŷ-du yr oedd y gwaith hoelion).

 

Ar safle’r gwaith hwnnw, ar fap blaenorol, bu gwaith alcan (“Tin Works” ar argraffiad cyntaf map yr Arolwg Ordnans pum modfedd ar hugain i’r filltir 1883).

Felly hawdd oedd meddwl mai’r gwaith alcan fu’r rheswm dros yr enw ar yr heol bengaead honno dafliad carreg ohono.

 

…..

 

Ond ar ôl ymchwilio ymhellach sylweddoli a wneuthum nad y gair Cymraeg “alcan” sydd yma, ond enw’r cwmni aliwminiwm a’i wreiddiau yng Nghanada a fu’n rhoi gwaith i gannoedd yn y cylch hwnnw nes iddo gau yn 2009 a’r ffatri gael ei dymchwel yn llwyr yn 2011.

Cwmni mwyngloddio a cynhyrchu alwminiwm oedd Alcan. Fe'i sefydlwyd yng Nghanada yn 1902 fel y "Northern Aluminium Company", ac fe’i hailenwyd yn "Aluminium Company of Canada" yn 1925.

 

Yn 1939 sefydlwyd gan y cwmni ffatri yn y Tŷ-du, ger Casnewydd, Sir Fynwy, i ateb yr angen cynyddol am ddeunydd rhyfel.

 

Ym 1958 ehangwyd y safle hwnnw yn y pentref. Newidiwyd yr enw eto ym 1966, ac "Alcan Aluminium" oedd o hynny ymlaen. Cywasgiad o enw 1925 yw hyn, sef AL[uminium Company of] CAN[ada] > ALCAN.

 

O’r flwyddyn 2005 ymlaen “Novelis” fu’r enw newydd ar y rhan o’r cwmni oedd yn y Tŷ-du.

 

…..

 

Mae sôn am sut y dewisiwyd yr enw “Alcan Grove / Rhodfa Alcan” yn y South Wales Argus, 31 Hydref 2014.

 

(Cyfieithiad o ran o’r adroddiad, a mân addasiadau):

 

DISGYBLION YN ENWI HEOLYDD MEWN YSTAD DAI NEWYDD.

 

Mae disgyblion Ysgol Basaleg wedi bod yn helpu dodi enwau ar heolydd ystad dai newydd Parc y Jiwbilî (Jubilee Park) yn y Tŷ-du. Gofynnwyd i ddisgyblion blynyddoedd saith ac wyth ystyried daearyddiaeth a hanes y safle, ac i wneud ymchwil a meddwl am eu profiadau eu hunain o’r lle er mwyn taro ar enwau i roi ar yr heolydd newydd. Gofynnwyd iddynt hefyd siarad â'u rhieni a'u mam-guod a’u tad-cuod i glywed eu hatgofion am y safle.

 

Yna bu trafodaeth ar yr awgrymiadau gan banel a fu’n cynnwys disgyblion yr ysgol, Mr Batten (dirprwy bennaeth Ysgol Basaleg), Mr Picken (cadeirydd Cymdeithas Hanes y Tŷ-du) a Stephen Bowen (dirprwy gadeirydd Cyngor Cymuned y Tŷ-du). Dewisiwyd deg o enwau ar gyfer Rhan Un o’r datblygiad tai.

Dyma’r enwau a ddewisiwyd ar yr heolydd a’r rheswm dros yr awgrymiadau: [NODYN: ar ôl pob enw yn yr adroddiad yn Saesneg dodwyd y ffurf Gymraeg ar yr enw. Gan nad yw car Google wedi mentro i mewn i’r stâd dai hon eto ac felly nid oes lluniau o’r heolydd ar Google StreetView, nid oes modd gwybod, heb fod yn y fan a’r lle, a yw’r enwau Cymraeg i’w gweld ar arwyddion yr heolydd).

 

1] Alcan Grove / Rhodfa Alcan - i adlewyrchu defnydd blaenorol y safle [NODYN: Hynny yw, bu ffatri Alcan yma.]

 

2] Aluminium Close / Clos Alwminiwm - cynhyrchwyd alwminiwm ar y safle.

 

3] Carnegie Close / Clos Carnegie – yn cyfeirio at y Llyfrgell Carnegie yn y Tŷ-du a adeiladwyd gydag arian a roddwyd gan y dyn busnes a dyngarwr Andrew Carnegie, Americanwr a anwyd yn yr Alban.

 

4] Copper Grove / Clos Copr – bu melinau rholio copr ar y safle yn ystod y 18fed ganrif.

 

5] Ebbw Close / Clos Ebwy - mae Afon Ebwy yn llifo yn agos i'r safle.

 

6] Hurricane Way / Heol Hurricane - cynhyrchwyd yma fetel ar gyfer awyrennau'r Ail Ryfel Byd.

 

7] Novelis Road / Heol Novelis - enw'r cwmni hyd ddiwedd oes y ffactri. [NODYN: Cwmni deilliedig (“spin-off”) oedd Novelis o gwmni Alcan Inc. Fe’i hymgorfforwyd yn 2005. Prynwyd Novelis gan Ddiwydiannau Hindalco o’r India am $6 biliwn yn 2007. Caewyd y gwaith yn 2009. Yn 2010 cyhoeddwyd y byddai Hindalco yn trosglwyddo'r holl offer allweddol o ffatri Novelis y Tŷ-du i’w safle yn nhref Hirakud yn nhalaith Odisha yn Nwyrain India.]

8] Obama Grove / Rhodfa Obama - i goffau ymweliad yr Arlywydd Obama â'r ardal [NODYN: Yn 2014 daeth Arlywydd UDA Barack Obama, yng nghwmni Prif Weinidog y wladwriaeth Seisneg David Cameron, i’r Tŷ-du i ymweld ag Ysgol Gynradd Mount Pleasant am ddeugain munud pan gynhaliwyd Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd. Yn ôl gwefan Saesneg Newyddion y BBC (De-ddwyrain Cymru) (1 Medi 2015), mewn llythyr oddi wrth Lysgenhadaeth UDA yn Llundain, dywedodd y Llysgennad y dymunai yr Arlywydd Obama longyfarch cymuned y Tŷ-du ar agor lle chwarae newydd ar y Cae Lles (“Welfare Field”), a’i fod yn arbennig o falch o glywed bod plant y pentref wedi enwi heol newydd ar ei ôl yntau.]

 

9] Spitfire Road / Heol Spitfire - cynhyrchwyd metel ar gyfer awyrennau'r Ail Ryfel Byd yma.

 

10] Welsh Oak Way / Ffordd y Dderwen - man cyfarfod y Siartwyr oedd Tafarn y “Welsh Oak” [NODYN: Fe'i dinistrwyd mewn tân bwriadol 10 Awst 2020].

Mae adroddiad y South Wales Argus yn ychwanegu bod bron i 1,000 o gartrefi yn cael eu hadeiladu ar hen safle y ffatri dros gyfnod o 12 mlynedd (hyd 2026).

May be an image of map

 

.....

5 Mai 2022

ENW LLE RHITHIOL – “ALCANIA”

 

……

 

1/ ALCANIA

 

(Wedi ei gyfieithu): O’r gair Cymraeg ‘alcan’ neu ‘alcam’ y daw ‘alcania’, gair a fathwyd flynyddoedd yn ôl gan y diweddar Lewis Afan, yr arweinydd undeb llafur amryddawn, i ddynodi’r wlad lle cynhyrchid tunplat. Byr Hanes am Alcan a'r Fasnach Dunplat. J. E. Samuel. Casnewydd. 1924.

 

(Saesneg gwreiddiol: Tin is known in Welsh as ‘alcan’ or ‘alcam, hence ‘alcania’, a word coined many years ago by the late versatile trade union leader Lewis Afan to denote the country where tinplates were manufactured. A Short History of Tin and the Tinplate Trade. J. E. Samuel. Casnewydd. 1924.)

 

……

 

2/ LLEOLIAD “ALCANIA”: ARDAL Y GWEITHIAU ALCAN

 

(Wedi ei gyfieithu): Mae rhaniad daearyddol gweithiau alcan De Cymru yn ddiddorol. Dengys map Minchinton o leoliad y gweithiau, 1700-1956, raniad rhwng y dwyrain a’r gorllewin. Yn anad dim, yng nghymoedd Sir Fynwy o’r Bryn-mawr yn y gogledd i Gasnewydd ar yr arfordir yr oedd y rhai dwyreiniol. Yn nyffrynnoedd yr afonydd a’r y llain arfordirol rhwng Port Talbot a Chasllwchwr oedd y rhai gorllewinol. Nid oedd ond ychydig o weithiau alcan yng Nghanolbarth Morgannwg, megis ym Machen, Melingruffudd, Aberdâr, Maesteg (Llwydarth) ac wrth gwrs Llantrisant [ym Mhont-y-clun heddiw] lle ceid gwaith yr Elái. Gwneuthuriad Alcan ym Mhont-y-clun 1872-1960. Edgeley Thomas. Mawrth 2018. Cymdeithas Hanes Lleol Llantrisant a’r Cylch.

 

(Testun gwreiddiol: The geographical split of works in South Wales is interesting. Minchinton’s map of the location of tinplate works, 1700-1956; shows an east/west split. Those in the east were mainly in the Monmouthshire valleys from Brynmawr in the north to Newport on the coast and in the west in the river valleys and coastal belt between Port Talbot and Loughor, Central Glamorgan had few works but there were those at Machen, Melin Griffith, Aberdare, Maesteg (Llwydarth) and of course Llantrisant [in present day Pontyclun] where the Ely works was situated. The Making of Tinplate in Pontyclun 1872-1960. Edgeley Thomas. March 2018. Llantrisant and District Local History Society.

 

https://staging-pontyclun.darkgreen.media/wp-content/uploads/2020/05/History-of-the-making-of-tinplate-in-Pontyclun-1872-1960.pdf?fbclid=IwAR3NEqyonziPIlf07g5qOGhdB5lQyE0pitXVO0UVuseXAM7de6hyviSRBjY

 

……

 

3/ TARDDIAD Y GAIR ALCAN

 

Yng Ngeiradur Prifysgol Cymru, o dan y prifair “alcam, alcan” ceir y diffiniad “tun (metal)”, a dywed fod ALCAM yn tarddu o’r Saesneg Canol “ALKAMI”.

 

O edrych mewn geiriaduron eraill, gwelir taw “alcemi”, “alcemeg” ( = rhagflaenydd cemeg yn yr Oesoedd Canol a geisiau ddarganfod dulliau o drosi metelau cyffredin yn aur) yw ystyr y gair Saesneg Canol “alkami”, sef yn Saesneg Cyfoes ALCHEMY.

 

Daw ALKAMI o’r Hen Ffrangeg alquemie < Lladin Canoloesol alchymia < Arabeg al-kīmiyā', sef y fannod Arabeg al + kīmiyā' < Hen Roeg khēmia(= y grefft o drawsffurfio metalau) (ond mae hefyd gynigion eraill gan wahanol eiriaduron ar gyfer tarddiad y gair Groeg).

 

Ym Meibl 1620 “alcam” yw’r ffurf, ond yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd y ffurf “alcan” wedi ei ddisodli (awgrymir taw dylanwad y gair “can” (gwyn) fu achos hyn, sef lliw’r metal). Hynny yw, mewn ysgrifau o’r cofnod. Tebygwn mae [tɪn] (tun / tin / tinn) oedd y ffurf lafar, fel heddiw.

 

……

 

4/ ENGHREIFFTIAU O'R ENW "ALCANIA"

 

Tarian y Gweithiwr. 21 Gorffennaf 1904. YR ALCANWYR. GAN AP ALCAN. Y Fasnach yn Arafu. Yn ystod y mis diweddaf mae y Fasnach Alcan wedi arafu cryn lawer. Ofnid rhai misoedd yn ol ar ddechreu y rhyfel presenol mai arafu llawer wnai y fasnach, am fod marchnadoedd dwyreiniol yn gwaeli mewn trafnidaeth, o herwydd yr amgylchiadau cylchynol. Beth bynag, ar yr amser hwnw sonmwyd y doethion mwyaf yn Ngorllewin a Dwyrain Alcania o'r ochr oreu, canys cynyddu wnaeth y galw, a deffroi yn llesol wnaeth pob cwr alcanaidd. “Too many cooks spoil the broth " sydd yn hen ddywediad syml and eithaf gwir, a gellir yn rhwydd briodoli y dywediad at y man undebau ac adranau sydd yn Alcania? Yn lle un neu ddau arweinydd fel gynt, y maent ym bresenol, cydrhwng rhaglawiaid a phobpeth, yn agosach i ddwsin, a phob arweinydd adranol yn ceisio fordd ei hun.

 

……

 

South Wales Daily News. 16 lonawr 1893. (O’i gyfieithu): Y FASNACH ALCAN. MELINWYR DE CYMRU A'U BEIRNIAID. Yr unig wahaniaeth a welaf rhwng ein Cymdeithas ni ac Undeb Alcanwyr De Cymru, Mynwy, a Swydd Gaerloyw yw ein bod yn dosbarthu i'r rhai yr ydym yn meddwl yn ei haeddu, a'r Undebwyr yn anfon eu harian at eu swyddogion i'w ddosbarthu. Nid oes angen imi roi’r rheswm yn y fan hyn pam yr ydym yn gweithredu’n wahanol i eraill, gan ei bod yn hysbys ledled Alcania fod melinwyr De Cymru wedi’u haberthu er mwyn cadw swyddogion nad oedd ganddynt unrhyw hyder ynddynt. P. WILLIAMS, Ysgrifenydd, Cymdeithas Melinwyr Deheudir Cymru.

 

(Testun gwreiddiol: South Wales Daily News. 16 lonawr 1893. THE TIN-PLATE TRADE. SOUTH WALES MILLMEN AND THEIR CRITICS. The only difference I see between our Association and the South Wales, Monmouthshire, and Gloucestershire Tin-platers' Union is that we distribute to whom we think proper, and the Unionists send their money to their officials to distribute. I need not give the reason here why we act differently to others, as it is well known ihroughout Alcania that the South Wales millmen were sacrificed in order to retain officials in whom they had no confidence. P. WILLIAMS, Secretary, South Wales Millmen's Association.)

 

……

 

5/ SYLWADAU AR Y GAIR "ALCAN" YNG NGEIRIADUR CYMRAEG-SAESNEG D. SILVAN EVANS 1887.

Er diddordeb, dyma sylwadau D. Silvan Evans ar y gair.

 

…..

 

Alcam, Alcan, sm. [according to some, from L. orichalcium or aurichalcum, a kind of brass; according to others, from alchemy or alchymy (old forms, alkamy, alkamye, alcamy, alknamy, alcanamy, alcomy, and other variants), ‘a certain mixed metal, which having the appearance of gold, was yet mainly composed of brass,’ sometimes called ‘alchemy gold:’ cf. ‘Paradise Lost,’ ii. 516; ‘Promptorum Parvulorum,’ 9. Unless alcam or alcan originally meant orichalcum, as explained by Davies, and not tin, the word is probably of native origin (al-+ can), denoting white metal, which is characteristic of tin, but not of orichalcum or alchemy] tin. Alcan, ystaen. — O.V.

 

Mi a ddychwelaf fy llaw arnat, ac a lân buraf dy sothach, ac a dynaf ymaith dy holl alcam. Esa. i. 25 (cf. Num, xxxi. 22).

Trwy enw Arglwydd Dduw yr holl ddaiar… y cesglaist ti aur fel alcam, ac y ceffaist arian cyn amled a’r plwm. Eccl. xlvii. 18.

Pres, ac alcam, a haiarn, a phlwm, ydynt oll yng nghanol y pair. Esec. xxii. 18 (cf. xxvii. 12)

 

Dylai ei gwpan sacramentaidd fod o aur neu arian, gwydr neu alcan, ac nid o bridd. — Brutus: Brutusiana, 408.

 

I am not able to trace the word in either shape further back than the second half of the 16th century. Alcan is the form in Davies, s.v., but in the Latin-Welsh part he explains orichaleum by ‘lattwm, coppr,’ and stannum by ‘plwmm gwyn, ystaen,’ and so after him (1707); alcan in Thomas Jones (1688), alcam in Rhydderch (1725) and W. Evans (1771), alcan or alcam in Th. Richards (1753), alcam and alcan in Walters (1794) and Dr. W. Richards (1798); but alcam in Morgan and Parry, and all subsequent editions of the Welsh Scriptures. The word finds no place in Salesbury. In the dictionaries here enumerated we see the influence of the Bible translators on the one hand, and that of Dr. Davies on the other. Pughe, it will be seen, is not to be charged, as he often is, with having forged alcan out of alcam, whatever may be the origin of the word. It is unknown in the other Celtic dialects. The orubimnit (gl. auricalcum) of the Oxford Codex (Zeuss, G.C. 1061) may possibly be intended for what we would now write aur y mynydd, mountain gold, a name which it may have obtained from its yellow colour, assisted by the confusion, existing in Latin itself, between aurichalcum (from aurum) and orichalcum (from oros). In some borrowed words the Welsh has a tendency to change final n into m; as, saffrwm (E. saffron); rheswm (E. reason Fr. raison; L. ration-em); patrwm (E. pattern); ofrwm (L.L. offerenda; M.E. offeren). Cf. Zeuss, G.C. 821, 822.

 

…..

 

Alcanaid, a. done, plaited, covered, or coated with tin; tinned; made of tin.

 

Hefyd, efe [y meddyg] a ddylai gyda llaw ei bwysau a’i dafolau a’i holl fesurau llyn a gwlyb yn ariannaid neu yn alcanaid, gan yr un pwyll. Meddygon Myddfai, 297.

 

Y Brenin Arthur a ddodes ddosparth y Ford Gron, a gweithredoedd moliannus ei marchogion, ar ddalenau (estyill) efyddaid ac alcanaid yn el dair priflys.—Barddas, i, 160.

May be an illustration

 

 

.....

27 Ebrill 2022

 

AR BWYS TREFYNWY

 

The Folk-speech of Monmouth and the Neigbourhood. John Hobson Matthews. Archaeologia Cambrensis. Cyfrol 13. 1913. Tudalen 169.

 

(O’i drosi o’r Saesneg) ENWAU LLEOEDD CYMRAEG.

 

Er nad yw’r Gymraeg yn iaith frodorol yn nhref Trefynwy ers o leiaf ddau gan mlynedd, goroesodd hyd gyfnod llawer diweddarach yn y plwyfi gorllewinol cyfagos, ac yn ddiau dyna’r rheswm fod yr enwau Cymraeg lleol yn cael eu hynganu’n weddol gywir. Mae'r hen Glawdd-du yn Uwch Mynwy yn dal i gael ei alw'n “Cloudy”.

 

Ychydig flynyddau yn ol bu hen w^r Cymraeg ei iaith o sir Fynwy yn gweithio i Mr. J. A. Bradney, o Dal-y-coed (hanesydd ei sir frodorol). Dywedodd yn Gymraeg wrth y boneddwr hwnw am y llwybr a gymerai wrth yrru gwartheg i Gaerloyw.

Y ffordd, meddai, oedd “Trwy Landdingad a Llanwarw, tua Threfynwy; ac wedi hyny trwy’r Rhosan i Gaerloyw”.

Y mae'n beth hynod fod gwerinwr o sir Fynwy, er mai’r Gymraeg oedd ei famiaith, wedi cadw mor gywir yr enwau Cymraeg hynafol ar blwyfi bychain, ac enwau trefi’r Rhosan a Chaerloyw.

 

(Y testun gwreiddiol): WELSH PLACE NAMES.

 

Although the Welsh language has not been the vernacular of Monmouth town for at least two hundred years, its much later survival in the adjacent western parishes is doubtless the reason that the local Welsh place names are pronounced with a fair degree of correctness. The ancient Clawdd-du, the Black Dike, at Over Monnow, is still called “Cloudy”.

 

Not many years ago, an old Welsh-speaking native of Monmouthshire, who worked for Mr. J. A. Bradney, of Tal-y-coed (the historian of his county), told that gentleman in Welsh, by what route he used to drive cattle to Gloucester.

 

The road, he said, was “Trwy Landdingad a Llanwarw, tua Threfynwy; ac wedi hyny trwy y Rhosan i Gaerloew” – through Dingastow and Wonastow, towards Monmouth; and after that through Ross to Gloucester.


It is remarkable that a Monmouthshire peasant, even though Welsh was his mother-tongue, should have preserved so accurately the obsolescent Welsh names of small parishes and of the towns of Ross and Gloucester.

May be an image of map and text

.....

22 Ebrill 2022

ROSVA /ˈrɔzva/ – GAIR CERNYWEG SYDD YN ADDASIAD O AIR CYMRAEG

Dyma air mewn Cernyweg Adfywiedig a fathwyd gan yr ysgolhaig o Gymro Robert Morton Nance (1873–1959) ac fu’n geffyl blaen yn adfywiad yr iaith Gernyweg. Fe’i ganwyd yng Nghaerdydd, ond rhai o Gernyw oedd ei rieni, a’i dad yn hanu o dref Lannwedhenek / Padstow.

Yn ei lyfryn “Celtic Words in Cornish Dialect” (1923) y mae ganddo atodiad o’r enw “Glossary of Celtic Words in Cornish Dialect. In Use since 1800. Gathered from books and from living speech”. Yn y geirgrawn hwnnw ceir ganddo:

“ Rousy-vounder. A scoundrel, literally, "lane-stroller". “

Hynny yw, gwelodd sail Gernyweg i’r ymadrodd hwn (“rosyer an vownder” fyddai “rhodiwr y lôn” yn Gernyweg, er nad yw “rosyer” i’w gael yng nghorpws yr iaith hanesyddol).

O hyn , mae’n tybio berf “rosia” (erbyn hyn fe’i sillefir “rosya”), ac yn ei chymharu â’r gair Cymraeg "rhodio".

“ [Rosia] , W[elsh]. rhodio, rhodian,to stroll, to gad, and vounder, a lane. “

-----

Yng Ngeiriadur Kernewek Kemmyn (Cernyweg Cyffredin), gan Ken George, 2000, ceir

“ Rosva... promenade, avenue.”

Ychwanega’r geiradurwr nad yw “rosva” (yr un modd â “rosya”) i’w gael yn y corpws a’i fod i’w weld am y tro cyntaf yng Ngeiriadur Cernyweg-Saesneg Morton Nance (a gyhoeddwyd yn 1938).

“Frequency in the historical corpus: 0. First appears in Extension No 1 to Nance’s Dictionary.”

Dynwariad o’r gair Cymraeg “rhodfa” yw hwn, heb os nac onibai. Yng nghyflwyniad geiriadur Ken George, nodir bod sawl gair mewn Cernyweg Adfywiedig yn addasiad o air Cymraeg. Ac fel enghraifft o hyn amlygir “rosva”.

Gall ambell air fod, yn ôl a ddywedir, yn
“a new word based on... Welsh, e.g. rosva (promenade, road’, cf Welsh rhodfa.”
-----

RHODFA YN Y GYMRAEG

Yn ôl GPC gwelir y gair am y tro cyntaf yng Ngramadeg Cymraeg Gruffydd Robert 1567.

Fe’i diffinnir yng Ngeiriadur y Brifysgol fel “lle neu lwybr ar gyfer rhodio, llwybr, promenâd, teras, coedlan, lôn goed... place or path for walking, walk, walkway, path, parade, promenade, terrace.”

“Rhod-“ yw’r gwreiddyn, o’r ferf “rhodio” ( = cerdded, crwydro), a “rhodio” ei hun wedi ei seilio ar y gair “rhod” ( = olwyn, wîlsen).
_____

CAMDDEALL UNION YSTYR “ROSVA”

Wrth gyfieithu enwau Saesneg ar heolydd i’r Gernyweg fe’i defynyddir yn anad dim fel gair cyfystyr â’r Saesneg “drive”.

Y rheswm dros hyn, mae’n debyg, yw i’r gair gael ei gamddehongli, fel petai’n “ros” ( = rhod, olwyn) yn lle “ros-“ (gwreiddyn y ferf “rosya”), a’r olddodiad “-va”, a dyna’r esboniad a geir yn yr adroddiad isaf o’r flwyddyn 2014 (sef “Cyrraedd carreg filltir wrth i’r milfed arwydd heol yn yr iaith Gernywig gael ei osod”)

_______

Falmouth Packet. 11 Chwefror 2014.

Milestone reached as 1,000th Cornish language street sign is installed

‘Marina Drive’ / ‘Rosva Vorek’ was put up in Looe on January 29 [2014]. "Rosva" is the Cornish word for a "drive". It is made up of "ros" the word for wheel, and "-va" a suffix meaning "place", so literally "Wheel-place". "Mor" is the word for "sea" in Cornish whilst "-ek" is an adjectival suffix, so "morek" literally means "sea-like".

https://www.falmouthpacket.co.uk/news/11001378.milestone-reached-as-1000th-cornish-language-street-sign-is-installed/?fbclid=IwAR1tycGei49QXrG-j_2cNl6mETr-82qgjkncaXFGq_5BjwjuGQReLIsjsLs

_______

Mae dros 160 o heolydd â’r elfen “rosva” yn y rhestr o ffurfiau Cernyweg ar gyfer enwau heolydd Cernryweg ar wefan yr Akademi Kernewek (Panel Enwau Lleoedd).. O dipyn i beth fe’u gwelir yn rhan nodweddiadol o strydlun Cernyw yn ôl y disgwyl.

Dyma rai ohonynt yn y rhestr, o drefi a phentrefi led-led Cernyw:

Rosva Vryghan Brychan Drive

Rosva Vesen Acorn Drive

Rosva Vabon Cupid Drive

Rosva Dherowdir Oaklands Drive

Rosva an Evellyon Gemini Drive

Rosva an Vragva Malthouse Drive

Rosva Du Maurier Du Maurier Drive (Daphne du Maurier 1907—1989, yr awdures o Saesnes, a symudodd i fyw i Gernyw o Lundain, a bu farw yno).

Rosva an Kastel Castle Drive

-------

Ar gyfer “avenue” defnyddir “rosva las” /ˈrɔzva ˈla:z/ ( = “rhodfa las” yn Gymraeg)

Rosva Las Park Uhel Highfield Avenue

Rosva Las Karasek Craddock Avenue

Rosva Las Derow Oak Avenue

Rosva Las Arwennek Arwennack Avenue

Rosva Las an Eglos Church Avenue

-----

Gwelir felly sut y mae gair sy’n cyfeirio yn y bôn at droedio wedi mynd i feddwl “lle i deithio mewn cerbyd” ar hyd a lled gwlad Cernyw!



Milestone reached as 1,000th Cornish language street sign is installed

.....

30 Mawrth 2022

ADYN YNTEU ODYN?

 

Geiriadur Prifysgol Cymru:
adyn
(1) truan, person truenus neu anffodus;
(2) person ysgeler, dihyryn, cnaf

 

Yn ôl “Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol - CBHC (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)” y mae / yr oedd adynod ym mhob cwr bron o Gymru, a chlwster bach ohonynt yn Sir Frycheiniog.

 

Yr wyf yn amau taw “odyn” sydd yma mewn gwirionedd yn y rhan fwya o’r enwau isod, wedi ei gamysgrifennu ar restrau’r neu fapiau’r pennu degwm yn 1841.

 

Neu hyd yn oed “rhedyn” sydd yma - er nad yw’r ffurf “rhadyn” yn bodoli hyd y gwn i (“radenn” a glywir yn Llydaweg, ond does a wnelo hynny ddim â'r peth!). "Rhedyn" wedi ei gamysgrifennu yn "rhadyn" (radyn, 'r adyn) yw esboniad arall felly.

Ond mae posiblrwydd arall - bod yr enwau’n cyfeirio at drueniaid neu ddihirod wedi’r cwbl (gair â naws lenyddol iddo erbyn hyn - ond ar lafar gynt o bosibl) . Os gwir hynny, sut mae esbonio’r enwau hyn?

 

PARC YR ADYN:
Park yr adyn SN 36592 23603. Plwyf: Llannewydd, Caerfyrddin 1841

 

CLOS YR ADYN:
Close'r Adyn SO 11136 28159. Plwyf: Llanfihangel Tal-y-llyn, Brycheiniog 1841

 

CAE’R ADYN:
Cae'r adyn SH 27339 34445. Plwyf: Tudweiliog, Caernarfon 1841
Cae rhadyn SJ 24079 39122. Plwyf: Glyntraean, Dinbych 1841
Caer Adin SN 58427 28752. Plwyf: Llanfynydd, Caerfyrddin 1841
Cae'r adyn SN 58292 55986. Plwyf: Gartheli, Ceredigion 1841
Cae Yr Adyn SN 99257 33442. Plwyf: Y Batel, Brycheiniog 1841
Cae yr adyn SO 05382 14124. Plwyf: Llanddeti, Brycheiniog 1841
Cae Radyn SO 05534 26796. Plwyf: Aberhonddu Dewi Sant Allanol, Brycheiniog 1841

 

CAE....
Cae ty adyn y dincer SH 50170 60183. Plwyf: Waunfawr, Caernarfon 1841


PONT YR ADYN:
Pont Radin SJ 12666 19771. Plwyf: Llanfyllin, Trefaldwyn 1898-1908.


May be a cartoon of one or more people and text

.....

28 Mawrth 2022


CAE STAR


Yn ôl y “Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol - CBHC (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)” y mae ym mhlwyf Llan-gwm, Sir Fynwy gae o’r enw “Cae Star” SO 45203 01911 (neu o leiaf yr oedd yno gae a enwyd felly yn 1841)


Ai enw ceffyl yw hwn o bosibl? Smotyn gwyn ar dalcen ceffyl yw “star” yn Saesneg - ar ffurf seren neu yn ddi-ffurf – ac y mae gennyf ryw syniad bod ambell geffyl yn Lloegr yn dwyn yr enw hwn am fod ganddo farc gwyn o’r fath hon ar ei dalcen.


Ni wn a oedd yn arfer cyffredin i roi enw Saesneg ar geffylau yn y rhan honno o Gymru.


Os felly, ac enw ceffyl yw, a oes enghreifftiau eraill o gaeau wedi eu dynodi felly, wedi eu henwi ar ôl ceffyl?



Recognize Horse Facial Markings Such as Blazes, Stars and Snips


THESPRUCEPETS.COM
Recognize Horse Facial Markings Such as Blazes, Stars and Snips


.....

28 Mawrth 2022

BWLCH-LLAN

Pan fûm yn byw yn Aberystwyth yr oedd enw’r pentre hwn yn adnabyddus dros ben am dyna oedd arallenw’r hanesydd John Davies (1938-2015) - sef John Bwlch-llan (neu yn syml Bwlch-llan).

Ond sut y dywedir yr enw? I mi nid [bʊlxˡ ɬan] a glywid, ond Bwl’-llan [bʊlˡ ɬan]. All rhywun gadarnhau hyn?

Graphical user interface, text

Description automatically generated
.....
Gwyn Jones: Bwch-llan o'i fwyta, weden i.
.....
Alun Hughes Williams: John Bwlch-Llan. "Wel, dewch â stori" fyddai ei gyfarchiad rheolaidd yn y Cwps erstalwm.

 

.....

25 Mawrth 2022

PENCROESOPED, Gwent

Dafydd Roberts: Pencroesoped?? Pen groes Oped. Oped?

Parthed yr ‘h’ yn y ffurf “Hoped” 1750 a roddwyd gan Richard Morgan – ai un wreiddiol yw? Ac wedi ei gollwng – un o deithi tafodiaith Gwent a Morgannwg, felly “hoped” > “oped”.

Ynteu wedi ei hychwanegu (“oped” > “hoped”) am y meddylid fod rhyw ‘h’ wreiddiol (nad oedd yno yn y lle cyntaf) wedi ei hepgor?

Dyma rai ffurfiau diweddar o’r enw. Y ffurfiau amb “cros”, “cross” yn nes at y ffurf lafar, buaswn yn meddwl (croes > crôs yn y De).

Gwefan Hanes Lleol y Goetre:
http://www.goytrelocalhistory.org.uk/baptisms-1801-1850/

Yn yr adran am fedyddiadau 1801-1850:

(Blwyddyn / Dydd / Mis / Cyfenw / Enw’r Plentyn / Enw’r Tad / Gwaith y Tad / Enw’r Fam / Lle)

1813 8 11 Richards William William Navigator Temperance Croesopped
1814 7 17 Thomas Caroline William Farmer Mary Nr Pencroesopped
1818 3 25 Lloyd Martha William Labourer Mary Nr Cross-Robert
1817 4 20 Lewis Elizabeth John Labourer Margaret Pencroesopped
1817 4 20 Lewis Thomas John Labourer Margaret Pencroesopped
1819 4 1 Rosser Ann John Miller Ann Pencrosoped
1820 11 26 Lewis Susannah James Hooper Jane Crosoped
1821 2 4 Rosser Elizabeth John Miller Ann Pencroesoped
1822 10 29 Rosser John John Miller Ann Pencroesped [sic]
1822 1 31 Griffiths Margaret William Labourer Mary Nr. Crosoped
1835 12 20 Pruet Mary Richard Mason Martha Croesobed, Goytre
1838 1 19 Tuffley Hannah William Labourer Anna Mariah Crossoped
1839 6 20 Jeremiah / Jones Margaret (base daughter]) william Jeremiah Colier Mariah Jones Crosopped
1841 8 1 Jeremeiah Maria Benm. Charcoal burner Maria Crosopped
…..
Pontypool Free Press and Herald of the Hills 26 Mehefin 1895
Pape, Thomas Brinkley, aged 68, of Pengroesoped, Goytre, 30 years a stationmaster, Nantyderry

Free Press of Monmouthshire 8 Mehefin 1931
James, John, aged 68. Pencroesoped. Goytre, son Clifford, daughter Irene, leaves a wife.
…..
Mae “Kelly's Directory of Monmouthshire, 1901” yn mynnu taw “groes” yw, yn lle “croes”, fel yn y papur newydd uchod yn 1895:

GOYTREY including NANTYDERRY, PENPERLLENNY and PENGROESOPED:

Prys Rev. John (Calvinistic Methodist), Pengroesoped
Crump Henry, farmer, Pengroesoped
Davies Thomas, farmer, Kiln farm, Pengroesoped
Jones Evan, farmer, Tyifor farm, Pengroesoped
Pape Keziah (Mrs.), shopkeeper, Pengroesoped
…..
Pe buasai yma “R(h)obert” (wrth gwrs, nid oes yr un sicrwydd taw “Robert” sydd yma, er gwaethaf y ffurfiau â “Robert” yn 1813 a 1818), gellid efallai esbonio “oped” fel y canlyn:

1/ Robert > Robet, sef colli [r] o flaen [t,d] megis
Edward > Edwart > Edwat
Ritshard > Ritshart > Ritshat
mwstard > mwstad

2/ Robet > Robed, sef [t] derfynol > [d]
(megis Saesneg > Cymraeg
bucket > bwced,
bullet > bullet,
curate > curad,
packet > paced,
pocket > poced,
jacket > siaced, ayyb

3/ Robed > Roped (Calediad yn y Wenhwyseg: [b] > [p])

4/ Croes Robed > Croes Obed
Gollwng yr [r] wrth feddwl mai’r fannod yw, megis
Glanyrafon > Glanrafon > Glanafon,
Glanyraber > Glanraber > Glanaber,
Pen-yr-allt > Pen-rallt > Pen-allt.

Disgwylid i [a] yn y sillaf olaf yn lle [e] (“opad”), nodweddiadol o’r Wenhwyseg fel o’r Wyndodeg. Ond efallai na cheid y nodwedd hon tua’r ffin. Serch hynny, yn 1905:

Y Goleuad 4 Awst 1905. James. Gorph. 25, yn fferm Pencroesopad, Goetre, Sir Fynwy, yn 43 mlwydd oed, Mr. Morgan James. Mab ieuangaf ydoedd yr ymadawedig i'r diweddar Mr. John James, o Camer Fawr, Tregaron, a chynt o Pengareg Fawr, Llanilar, Sir Aberteifi. Yr Arglwydd a ddyddano ei berthynasau galarus.

Diddorol gweld bod “Croes Robert Wood” 16km i’r dwyrain o Bengroesoped, wrth bentref Tryleg.

Efallai taw dylanwad yr enw hwn yw’r rheswm dros “Robert” yn 1813 a 1818.

May be an image of map and text
.....
Mae hefyd cyfenw Saesneg Hobbett (cymharer Hobbett Road, Chingford, Llundain; Hobbett's Wood, Welwyn, Swydd Hertford). Ac hefyd yr enw cyffredin "hobbett" = basged, yn anad dim un fach a wnaed o wellt
.....
Geiriadur Prifysgol Cymru:

HOBAID
hob + -aid; tebyg mai cyfaddasiad o'r gair Cymraeg yw'r Saesneg tafodieithol hobbet.
Llond hob, mesur sych (gan amlaf) a'i faint yn amrywio o ardal i ardal, llestr yn dal y cyfryw fesur. Hobbet, hoop (measure), bushel.

Unfed ganrif ar bymtheg: hobaid Llundain. London hoop or hobbet.
1861. Hobaid o Hilion. Name of a Welsh air (literally a hobbet of seeds or fragments).
1896. Hobaid o Hoelion. Name of a Welsh air (literally a hobbet of nails).

HOB
Mesur sych amrywiol ei faintioli; llestr yn dal y cyfryw fesur....

(Saesneg Canol a Saesneg Diweddar hope 'hoop, a measure of corn, &c., of varying capacity')

Geiriadur Thomas Richards, 1753: hôb, and hobaid, a peck of corn or meal in Glamorganshire....


.....


.....

20 Mawrth 2022

 

Iain Ó hAnnaidh

YSTYR Y GAIR BETWS, YN ÔL YSGRIFAU O 1854 A 1863

(1) NOTES ABOUT THE PARISH OF PENTREVOELAS AND ITS VICINITY.

The Cambrian. Alban Arthan ( = cyhydnos yr hydref). 1854. Cyfrol 1. Tudalennau 341-342.

The ancient name of the parish, namely, Tir yr Abad (abbot's land), was derived from the grant, before alluded to, by Llewelyn ap Iorweth to the Cistercian monks of Conway.*

*Thus Tre'r Abad, a township near Mostyn, once belonging to Basingwerk Abbey; Hafod yr Abad, in Yale, a pasturage of the Abbey of Valle Crucis. Perhaps Bettws — that crux criticorum of Welsh etymologists — may be a corruption of Abbatia or Abbot-house. So Hospitium makes Yspytty. These several derivations of the word Bettws have been, from time to time, suggested: Bedw-faes, Birch-plain; Bedhouse; Baithouse, as affording accommodation for man and beast; Beatus; Beadhouse, adopted by Mr. Pennant and Professor Rees. "My objection to Beadhouse is, that it is an English name; neither can I apprehend why a Chapel should be called a Beadhouse any more in Wales than elsewhere."—Edward Llwyd. That the termination ws means house is highly probable; thus, Arianws, Ioccws, Hendrefeinws, names of ancient residences.

It is said that the name was not applied to parish churches before the taxation of Pope Nicholas, about 1292, whence it has been supposed that Bettwses are identical with Crusadean Preceptories. But inasmuch as monastic institutions existed long before the formation of parishes, might not Bettwses, according to general acceptation, have been outposts, with oratories attached, maintained by the monasteries in unfrequented places? Llwyn y Bettws, on Llwydfawr mountain, and Bettws fawr, near Llanystymdwy, were both upon, or adjacent to estates belonging to the Abbey of Conway. "O fryn i fettws" was a proverb implying that the Bettwses lay in sheltered spots near mountain thoroughfares.

 

A picture containing text, newspaper, screenshot

Description automatically generated

(delwedd J6428)

(2) YSTYR Y GAIR BETTWS.

Y Brython. Alban Eilir ( = cyhydnos y gwanwyn) 1863. Rhif 40. Tudalennau 136-7.

Y mae yn werth ymchwilio i darddiad y gair hwn, yn gymmaint a bod lluaws o Eglwysi yng Nghymru yn dwyn yr enw; a bydd yn gynnorthwy i wybod ei ystyr, os gellir cael allan wreiddiol sefydliad yr Eglwysi hyny ag sydd yn dwyn yr enw Bettws.

Ymddengys mai o'r gair Seisoneg Bead-house, (house of prayer), neu Dy gweddi, y mae yn tarddu; yn cael ei ddefnyddio bob amser am le o addoliad, ac yn dygwydd yn aml yng Nghymru. Y mae yn deilwng o ymchwiliad pa amser y dechreuwyd arfer yr enw, a phwy a'i mabwysiadodd gyntaf. Y mae'r enw Bettws, yn gyssylltiedig âg enwau amryw o Saint a Thywysogion, ar amryw blwyfydd yn y Deheubarth, megys, Bettws Bledrys, Bettws Ifan, &c.; ac eto yn hen Lyfr Llandaf (Liber Landavensis), yr hwn a gynnwys hanes y gwaddoliadau boreuaf, ac a gofnoda sylfaeniad rhan fawr o'r Eglwysi plwyfol, nid yw y gair Bettws yn ymddangos mewn un amgylchiad, yr hyn sydd brawf amlwg nad arferid y gair yn adegau boreuaf yr Eglwys, a bod yn rhaid cyfeirio at y canoloesoedd i gael eglurhad ar ei darddiad. Y mae Llyfr Teilo yn diweddu tua'r flwyddyn 1130; a gellir dyfod i'r penderfyniad yn deg nad adeiladwyd Eglwysi o dan yr enw Bead-houses cyn yr amser hwn; er fod y rhan fwyaf o honynt, yn y Deheubarth, yn gyflwynedig i Dewi Sant. Mae'r gair Bettws yn cael ei arfer gyntaf yn amser Trethiad y Bywioliaethau, drwy orchymyn y Pab Nicolas, tua'r flwyddyn 1292. Yr oedd yr adeg flaenorol i hyn yn hynod o herwydd y cynhyrfiad a fu trwy Ewrob gan Rhyfeloedd y Groes; a gellid tybied i'r Bead-houses, yn gystal â'r Hospitia neu Ysbyttai, gael eu sefydlu i ryw ddybenion mewn cyssylltiad â'r symmudiad hwnw; naill ai er casglu cyllid, neu er cynnyrchu golygiadau bydol a chrefyddol rhai o'r Urddau Eglwys filwraidd ag ydoedd yn cael eu cadw ar y pryd. Yn absennoldeb prawf sicr o'r ffaith, nis gellir ond gwneyd casgliadad oddi wrth hanes y cyfnod hwnw, yng nghyd a'r tystiolaethau sydd ar gael am sefydliad a diddymiad gwahanol Urddau y Marchogion a ddefnyddid yn y Rhyfel Sanctaidd (fel ei gelwid.) Y mae yn ffaith gredadwy fod Marchogion Ysbyttai St. Ioan o Ierusalem wedi syifaenu amryw sefydliadau o'r natur yma; megys Ysbytty Ifan, er cyfleusdra i bererinion yng Nghymru, olion o ba un sydd eto i'w gweled ger llaw Eglwys Penmorfa, ac ym Mhentref Trawsfynydd. Mewn erlyniad o Quo Waranto, a anfonwyd allan gan Drysorlys Caernarfon yn y flwyddyn 1370, yn erbyn Prior yr Urddau ag ydoedd yn trigo y pryd hyny yn Lloegr; mae yn ymddangos fod meddiannau a rhagorfreintiau yr urdd hwn yn dra helaeth, ac o natur orthrymus yng Nghymru; yn gymmaint felly, fel yr oedd treth o un geiniog yn cael ei chodi oddi ar bob ty ag y byddai eu heiddo yn werth 10s. Yr oedd dylanwad yr Ysbyttwyr yng Nghymru, wedi ei gael drwy gydsyniad y Tywysogion, (er nad oes hanes bennodol am hyny) yr hyn a gymmerodd le, yn ol pob tebyg, ar ol cennadaeth yr Archesgob Baldwin, pan y daeth gyntaf gyda Giraldus i bregethu Rhyfel y Groes, yn y flwyddyn 1188.

Y mae yn ffaith ag y gellir ei phrofì, fod yr Ysbyttwyr, yn gystal a Marchogion y Deml, yn adeiladu addysgdai ar ddull Eglwysi, y rhai oeddynt yn ateb y ddau ddyben o fod yn breswylfa i'r Marchogion Ysbrydol, ac yn lleoedd i gynnal gwasanaeth ac addysgiaeth grefyddol o dan lumanau y gwahanol Urddau; a gellir yn rhesymol chwanegu, eu defnyddid yn lleoedd i dderbyn y trethi a'r cyfroddion. Y mae yn werth i ymchwilio iddo, pa mor bell y mae y Capelau ag sydd yn dwyn yr enw Bettws, yn ateb i'r desgrifiad a roddir o Ysbyttai'r Croesawdwyr. Mae rhai o honynt, o leiaf, yn cael eu defnyddio yn bresennol yn dai annedd. Rhoddwn enghreifftiau o rai o honynt, a gall y rhestr hon, a gymmerwyd o Ddarlunen y Llywodraeth o'r rhai sydd eto'n aros, fod yn foddion i gael ychwaneg o amlygrwydd ar y pwnc, a thueddu ereill i'w chwilio yn fanylach. Y mae Ynys Fon yn cynnwys y rhai canlyno: — Bettws Trefdraeth, yng Nghwmmwd Malldraeth; Bettws y Grog, a elwir yn awr Ceirchiog; Bettws Scerryn, yr hwn nis gellais sicrhau pa un ydyw, os nad yr un ag Isgellog, ger Rhosbeirio, yn agos i'r lle mae Pen y Fynwent; Bettws Bwlchydw, ger Dyryslwyn a Mynydd Paris.

Sir Gaernarfon a gynnwys — Bettws Garmon a Bettws y Coed; Bettws Gwernrhiw, ger llaw Porthordy Glyn Llifon, o ba un y mae olion eto yn weledig. At y rhai y gellid chwanegu y Capel a adeiladwyd gan Ysbytwyr St. Ioan, ger llaw Eglwys Gadeiriol Bangor, ac yn perthyn i Ficeriaid Bangor, yr hwn a chwalwyd tua deng mlynedd ar hugain yn ol, ac y gwerthwyd y tir lle safai!! Bettws, neu Treflys, yn Eifionydd, perthynol i Bersonoliaeth Cruccaith;* Bettws, Tyddyn yn Eifionydd, yn perthyn i Esgobaeth Bangor, ar yr hwn y mae Eglwys fechan yn cael ei chyfanneddu yn awr gan lafurwr!** Y mae'r adeilad eto yn dwyn holl arwyddion Addysgdy y Croesawdwyr; yn meddu ffenestr ddwyreiniol, a Changhelî, yng nghyda mynwent, yr hon a ddefnyddir yn awr yn ardd. Bernir iddo unwaith fod yn Gapel teuluaidd i'r Fychaniaid o Talhenbont neu'r Plas Hen. Hyderaf y bydd i ryw hynafiaethwr roddi ychwaneg o oleu ar hyn yma. GWYRFAIENSIS.

O.Y. Ef allai fod "Yspytwyr" yn tarddu o'r gair Expaderes, neu bersonau addas i wisgo y Poderis, sef Casog, neu Hugan Wen, yng nghyd a chroes goch ar ei chefn, a'i gwyneb; yr hyn oedd gwisg Marchogion y Deml. Y mae darn helaeth o dir ger llaw yr Eifl a elwir Gwynis, a berthynai i'r Urdd hon ar y pryd; ac yn cynnwys pedair o Hafottai, tenantiaid pa rai a elwid 'Gwŷr St. Ioan Spodos,' neu Yspoderwyr, oddi wrth wisg yr Urdd, sef y groes, neu'r arwydd.

*Mae yn debyg mai Capel perthynol i Bron y Foel, sef hen Lys y Gest, ydoedd Treflys yn yr amser gynt. Y mae y Gangell yn cael ei galw eto yn 'Gapel Bron y Foel,' ac ychydig erwau o erwau o dir wedi ei adael oddi wrth wahanol dyddynod at adgyweirio y rhan arall o'r adeilad.

**Saif hon ym Mhlwyf Llanystumdwy, i'r gorllewin tua milltir a hanner o'r pentref.

 

A page of a book

Description automatically generated with low confidence

(delwedd J6427d)

 

.....

16 Mawrth 2022

GETWS, IOCWS

Meirion MacIntyre Huws i Anita Myfanwy:  a ‘Iocws’, Llŷn, o ‘yokehouse

Iain Ó hAnnaidh: Ni wn beth yw "yoke house" os nad "gwedd" yw'r ystyr, sef, yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, bâr neu ragor (o geffylau neu o ychen) dan yr iau. Mae ty^ o'r un enw yn Lloegr, yn nhre Stroud, Swydd Gaerloyw.

https://docs.planning.org.uk/.../QNL.../d4r4on7e1qui5yp4.pdf

 

 

.....

16 Mawrth 2022

Iain Ó hAnnaidh

ENWAU CAERDYDD

Mae dros 1000 o enwau o Gaerdydd a’r cyffiniau mewn rhestr o eiddo John Hobson-Matthews (Mab Cernyw) a gyhoeddwyd yn 1905 yng Nghofnodion Caerdydd, sef:

Cardiff Records, Volume V, Chapter VII. SCHEDULE OF PLACE-NAMES, John Hobson-Matthews (1858-1914.) Tudalennau 333-445.

Tudalen vi: "The Schedule of Place-names will, I trust, be found instructive. It will not, however, have fulfilled its author's hopes unless it leads to the perpetuation of interesting Welsh appellations in the nomenclature of new streets, and to the tardy but welcome restoration of "Crockherbtown" and its congeners."

Tudalen 333: "It is probable, however, that (apart from the laudable practice of giving native titles to modern villa residences) there has been no new creation of Welsh place-names in the Cardiff district for nearly a hundred years past. It must even be said that a gradual but steady transformation of Welsh into English place-names has during that period been proceeding. As examples of a very general practice, I may refer to Derwen Deg, which is now always called Fairoak; Cae Syr Dafydd, commonly termed Sir David's Field; and the numerous farms whose Welsh names of Ty Coch, Ty Gwyn and Ty Mavvr, are far less seldom heard than their English translations, Red House, White House, and Great House."

Dyma’r enwau heb yr esboniadau (ambell wall gennyf wrth eu copïo o bosibl):

ABBOT'S LAND, ADAM'S CROFT, ADAMSDOWN, ALLEN'S BANK, ALLT-GRABAN, ALLT-Y-DYDWYLL, ALYCE HILL, ANNES PEWTERER'S LANDS, ANNEYSWARTH, ANNOTSHAM, ANNY BUTCHORS HYNGE, ANTHAM, APPULDORE, ARCADE, ARGOED-Y-WLAD, ARLES, ARMOURY, ATLAS FARM, BACK LANE, BACK STREET, BACKS, BAKER'S ROW, BALCROFT, BALDAM-BACH, BANK, BARBER'S CROFT, BARNWELL, BARROSA COTTAGE, BARRY LANE, BARRY'S-CROFT, BARWE, BAWDALINE ACRE, BEDCROFT, BEDD-Y-CI-DU, BEGANSLEY, BEGANSTON, BEHIND-THE-WALLS, BEILI, BERLLAN, BERTH-LLWYDD, BERTON, BIBASGL, BISKEDAR'S HOUSE, BLACK BENCH, BLACK POOL, BLACKFRIARS, BLACKHALL, BLACKSTAKES, BLACKWEIR, BLAEN-BUALLE, BLANCH GATE, BLANKMINSTER, BLIND LANE, BLUE HOUSE, BOOT CROFT, BORING MILL, BOTTLEWOOD, BRADESTREM, BRADLEY'S BUILDINGS, BRENDON, BRIDGE HOUSE, BRIDGE STREET, BRINDER LANE, BROAD STREET, BROADWAY, BRODESLYME, BRO-MISCYN, BRONAU, BROTH LANE, BROVEY, BRU-NANT, BRYN WELL, BRYN-CARADOG, BRYNHILL-FAWR, BRYN-HYFRYD, BRYN-Y-GYNEN, BULLCROFT, BULLCROFT BROOK, BULL-RING, BULWARKS, BUTE STREET, BWLCH-Y-GWYNT, CABARN-PLWCA, CADAIR-WEN, CAE CEFN, CAE SIAWNSLER, CAEAU-ERWON, CAEAU-GWYNION, CAE-BUDR, CAE-BUTTON, CAE-CARADOG, CAE-CASTELL, CAE-CENOL, CAE-CIBWR, CAE-CLAWDY, CAE-CYNRIC, CAE-DAFYDD-MELAN, CAE-DYRYSIOG, CAE-FFYRLING, CAE-GARW, CAE-GLAS, CAE-GWALCHMAI, CAE-IS-Y-GWELYDD, CAE-LLWYD, CAE-MARL, CAE-MURCH, CAE-PAEN, CAE-PICA, CAE-PLWCYN, CAE'R BONT, CAE'R CASTELL, CAE'R PWLL, CAE'R VID VOL, CAE'R YRFA, CAERAU, CAE'R-BERLLAN, CAER-GLYN-TAF, CAE'R-HANER, CAER-WEN, CAE-SION-BACH, CAE-SION-FERCH-IFAN-BACH, CAE-SION-MEURIG J, CAE-SYR-DAFYDD, CAE-TIR-CLOI, CAE-TIR-HYWEL, CAE-TWC, CAE-Y-DINTWR, CAE-Y-GROES, CAE-Y-GROES-LLWYD, CAE-Y-LLETHR, CAE-YN-Y-GARTH, CAE-Y-PARC, CAE-YR-YSGUBOR, CALF ROCK, CAMP STREET, CANONS' FARM, CANTON, CANTON CROSS, CAPEL-LLANILLTERN, CAPEL-Y-CELYN, CARDIFF, CARDIFF ARMS PARK, CARDIFF BRIDGE, CARDIFF GREEN, CARDIFF GROUNDS, CARDIFF SPIT, CAREG-PICA, CARN-CYNLAS, CARVER'S HOUSE, CASTAN, CASTELLAU, CASTELL-COCH, CASTELL-MORGRAIG, CASTELL-Y-MYNEICH, CASTELL-Y-WY, CASTLE BAILEY, CASTLE ROAD, CASTLEFIELD, CATHAYS, CATHAYS GRANGE, CATHEDRAL ROAD, CAWSY-CRIBYN, CEFN-BYCHAN, CEFN-CARNAU, CEFN-COED, CEFN-COLSTON, CEFN-MABLI, CEFN-ON, CEFN-POETH, CEFN-TRE-BAEN, CEFN-Y-GWYNDON, CEFN-Y-WRACH, CELYN, CELYN-BACH, CHAIR, CHAPEL FARM, CHURCH STREET, CHWECH-ERW-ISLAW-Y-CAWSY, CIBWR, CIDER CELLAR, CIL-ELY, CIL-YNYS, CLAT-CELYNOG, CLAWDD-HELIG, CLAWDD-Y-CWNSTABL, CLERK'S HOUSE, CLIP-COCH, CLUN, COCK HILL, COCK'S TOWER, COED-BACH, COEDCA-DARREN, COED-CAE, COED-CAE-GWYDDAU, COED-CATI-ROSSER, COED-CREIGIAIDD, COED-FFRANC, COEDGAE'R-POSET, COED-GROES, COED-HOEL, COED-MAWR, COED-SION-HYWEL, COED-Y-CAEAU, COED-Y-CAPEL, COED-Y-CHWAER, COED-Y-CLORIAN, COED-Y-COCSI, COED-Y-CWAREL, COED-Y-CYMDDA, COED-Y-DDYLLUAN, COED-Y-FRENHINES, COED-Y-GORES, COED-Y-MILWR, COED-Y-PARLMENT, COED-YR-HEN-WR, COED-YSTOFER, COG, COGAN, COGAN DINGLE, COGAN DOWN, COGAN HALL, COGAN PILL, COOPER'S FIELDS, COPPET LANE, COQUEMAREL, CORFHAM, CORNEL-Y-WAUN, CORNER HOUSE, CORNERS-WELL, CORWG, COSMESTON, COSTINSTON, COSTYN, COURESMEDE, COURT COLMAN ROW, COURT FURLONG, COW CLOSE, COWBRIDGE ROAD, COWMEAD, CRAG, CRAIG-CIBBWR, CRAIG-ELEN, CRAIG-LLANISHEN, CRAIG-MAES-Y-GWYNT, CRAIG-WILYM, CRAIG-Y-CASTELL, CRAIG-Y-LLWYN, CRAIG-Y-MOEL, CREIGAU, CROES-FAEN, CROES-WEN, CROFFT-CASTELL-Y-GWIBLU, CROFFT-EGINYN, CROFFT-Y-FFYNON, CROKERBTON, CROSHAM, CROSS COTTAGE, CROSS STREET, CRWYS ROAD, CRWYS-BYCHAN, CRWYS-MAWR, CRYSTAL COVERT, CULVER HOUSE, CUTLER-ACRE, CUT-THROATS, CWM, CWM-CAER-ELEY, CWM-CEDWYN, CWM-NOFYDD, CWM-Y-FWYALCHEN, CWRT, CWRT-BACH, CWRT-TRE-GAREG, CWRT-Y-FIL, CYFARCHFA, CYMDDA-BACH, CYNDDA, DAIRY WELL, DAME COURT, DANIEL'S HOOKS, DAU-GAE-Y-GELLI, DEANFIELD, DEAN'S FARM, DELTA PLACE, DERI, DERWEN-DDU, DINAS-POWYS, DOBBIN PITS, DOBBINPITS FARM, DOBBINPITS ROAD, DOBSTREET, DOGOWYLDESCROFT, DOLWERN, DOWNTON, DRAENEN-PEN-Y-GRAIG, DRYING HAYS, DUC, DUKE STREET, DULAS, DUMBALLS, DUMBALLS ROAD, DWY-ERW-A-HANER-GENOL, DWY-ERW-COED, DWY-ERW-DONEG, DWY-ERW-SYR-HARI, DWY-ERW-Y BYRIEUWYSAU, DWY-ERW-Y-BWLKY, DWY-ERW-Y-GARN FACH, DWY-ERW-Y-PISTYLL, DWY-ERW-Y-WAUN-GRON, DYFFRYN, EARL'S HILL, EAST FURLONG, EAST STREET, EAST WEIR, EASTERN HOLLOWS, EFAIL-Y-CASTELL, EFAIL-Y-DOWST, EGLWYSILAN SAINT ILAN, ELM STREET, ELROSE, ELY, ELY COMMON FARM, ELY COURT, ELY FARM, ELY FOREST, ELY GREEN, ELY RISE, ENORMORE, EROW WENSAN', ERW-BANT, ERW-DARLAND, ERW-DEILO, ERW-DUON, ERW-HYWEL-Y-COES, ERW-MAES-Y-DRE, ERW-PEN-Y-SARN, ERW'R-AFALLEN, ERW'R-BEAM, ERW'R-CLOCHDY, ERW'R-DELYN, ERW'R-GROES, ERW'R-PENTRE-CAE-GWYN, ERW'R-POND, ERW'R-WAUN-Y-CYMDDA, ERW'R-YSCOLHAIG, ERW-WEN, ERW-YR-APOTHECARY, ESTHAWE, EVANS' COURT, EXTENT-LAND, FACTORY WOOD, FAIRFIELD, FAIROAK, FAIRWATER, FELIN FAWR, FFOLDEYES TENEMENT, FFOREST, FFOREST MAVON ELYE, FFOREST-GOCH, FFOREST-ISAF, FFYNON-BREN, FFYNON-DEILO, FFYNON-FEDW, FFYNON-HOBA, FFYNON-LLANDENIS, FFYNON-WEN, FISHDOWN, FISHER'S BRIDGE, FIVE ACRES, FLAT HOLM, FLAT-HOLM SHELF, FLORIN, FOES-LASE-VACH, FOUR ELMS LANE, FRESHMOOR, FROG LANE, FULFORD HENGE, GABALFA, GALLOWS FIELDS, GALLOWS PIT, GALLOWS YARD, GARDD-Y-CRUG, GARTH, GARTH COURT, GASCOIN, GELLI, GELLI-GRON, GILFACH-WEN, GLAMORGAN, GLAN-ELY, GLAN-Y-NANT, GLAN-YR-AFON, GLASSPOOL, GLOUCESTER, GLYN, GLYN-TAF, GOBBINS' MILL, GOCKET, GOETRE, GOFER-Y-MARCHOG, GOLATE, GOLDEN LION COURT, GOLDENHOOK, GOLDSLAND, GOOSE ACRE, GOOSELEAS, GORSLON, GORSWG, GOVOA, GOWER, GOWT, GRACE'S HOUSE, GRAIG, GRAIG-FACH, GRANGE DE MORE, GRANGETOWN, GREAT FRIARS' CLOSE, GREAT HOSTRY, GREAT WESTERN APPROACH, GREAT WESTERN LANE, GREEN LANE, GREENMEADOW, GREENMEADOW COURT, GREENSAYS, GREENWARD, GREENWAY, GREYFRIARS, GRIFFIN'S FARM, GRIFFITHSMOOR, GROES-LLWYD, GROES-WEN, GUILDHALL, GWAELOD-Y-GARTH, GWAUN-DYLLGOED, GWAUN-FEIBION-SION, GWAUN-GALED, GWAUN-MAELOG, GWAUN-SION-HYWEL, GWAUN-SYR-HARI, GWAUN-TRE-ODA, GWAUN-Y-CEFN-COED, GWAUN-Y-GWAYW-COCH, GWAUN-Y-PENTRAHAND, GWAUN-Y-PWLL, GWELYDD-COCHION, GWELYDD-GWYNION, GWENT, GWENTLLWG, GWERN-GWLADYS, GWERN-LLEWELYN-GOCH, HAMS, HANER-CNAP, HANER-FACH, HANNEREG, HARP-ACRE, HAYES, HAYES STILE, HAYWARD'S PLOT, HAYWOOD, HEATH, HEATH THE GREAT, HEATH THE LITTLE, HEATHLANDS, HEAVES, HEN MEADOWS, HENDRE, HENDRE-DENY, HEOL HOISCYN, HEOL-COSTIN, HEOL-DON, HEOL-GOED, HEOL-HIR, HEOL-ISAF, HEOL-RHIW'R-CYRPH, HEOL-WILYM, HEOL-Y-CAWL, HEOL-Y-CEFN-COED, HEOL-Y-PARC, HERMITAGE, HEYN, HIEN TOR, HIGH CORNER HOUSE, HIGH CROSS, HIGH STREET, HIGHLANDS, HIGHMEAD, HILL-UCHAF, HOLLYBUSH, HOLMEAD, HOLMS, HORSE-FAIR, HUNGRY HILL, ISLAND, ISLWYN, JOHN SAUNDERS' HOUSE, JONES' PILL, KEMEYS, KYNGOT, LAMBY MOOR, LAMBY MOOR, LANCROSS, LANCROSS, LANCROSS WOOD, LANCROSS WOOD, LANDMEAD, LANDMEAD, LANDORE COURT, LANDORE COURT, LANGBY, LANGBY, LANRUMNEY, LANRUMNEY, LAVERNOCK, LAVERNOCK, LAZARHOUSE, LAZARHOUSE, LECKWITH, LECKWITH, LECKWITH BOTTOM, LECKWITH BOTTOM, LECKWITH TOP, LECKWITH TOP, LEWIS STREET, LEWIS STREET, LINCHES, LINCHES, LISVANE, LISVANE, LITTLE BRIDEWELL, LITTLE BRIDEWELL, LITTLE CROFT, LITTLE CROFT, LITTLE HILL, LITTLE HILL, LITTLE PARK, LITTLE PARK, LITTLE TREDEGAR, LITTLE TREDEGAR, LITTLE TROY, LITTLE TROY, LITTLEHAM, LITTLEHAM, LLANDAFF, LLANDAFF, LLANDAFF, LLANDAFF COMMON, LLANDAFF COMMON, LLANDAFF COURT, LLANDAFF COURT, LLANDAFF FIELDS, LLANDAFF FIELDS, LLANDAFF FORD, LLANDAFF FORD, LLANDAFF GREEN, LLANDAFF GREEN, LLANDAFF HOUSE, LLANDAFF HOUSE, LLANDAFF THE TREASURER'S MANOR OF, LLANDAFF YARD, LLANDAFF YARD, LLANDOUGH, LLANDOUGH, LLANEDERN, LLANEDERN, LLANFAIR, LLANFAIR, LLANFAIR-FACH, LLANFAIR-FACH, LLANFEDW, LLANFEDW, LLANFORDA, LLANFORDA, LLANGATWG, LLANGATWG, LLANISHEN, LLANISHEN, LLANMAES, LLANMAES, LLANTRISANT, LLANTRISANT, LLAN-Y-WRAICH, LLAN-Y-WRAICH, LLEST-OWEN, LLEST-OWEN, LLOYD'S COURT, LLOYD'S COURT, LLWYD-COED, LLWYD-COED, LLWYN-CELYN, LLWYN-CELYN, LLWYN-CRWN, LLWYN-CRWN, LLWYN-CYNFYN, LLWYN-CYNFYN, LLWYN-DA-DDU, LLWYN-DA-DDU, LLWYN-FWYALCH, LLWYN-FWYALCH, LLWYN-IOLE, LLWYN-IOLE, LLWYN-MALLT, LLWYN-MALLT, LLWYN-Y-BRAIN, LLWYN-Y-BRAIN, LLWYN-Y-GRANT, LLWYN-Y-GRANT, LLWYN-Y-PIA, LLWYN-Y-PIA, LLWYN-YR-EOS, LLWYN-YR-EOS, LLYN-FRAITH, LLYN-FRAITH, LLYS-DU, LLYS-DU, LLYS-TAL-Y-BONT, LLYS-TAL-Y-BONT, LONG CLOSE, LONG CLOSE, LONG DIKE, LONG DIKE, LONGCROSS, LONGCROSS, LORD'S HENGE, LORD'S HENGE, LOWER LAYER, MACKENZIE SHOAL, MAELOC'S LODERS, MAELOG, MAELOG'S FEE, MAENDY, MAERDY, MAES-TRE-WERN, MAES-Y-BRYN, MAES-Y-DRE, MAES-Y-FELIN, MAES-Y-LLECH, MAES-YR-EGLWYS, MAES-Y-SAESON, MALLOCK'S HOLD, MARGERY'S LAND, MATTHEWS' BUILDINGS, MELIN GRUFFYDD, MELIN-FACH, MELINGRIFFITH, MERCHES, MERRY HILL, MEWESLESE', MIDDLE PINNAM, MIDDLE ROW, MIDDLEWEIR, MILKMAID'S BRIDGE, MILL LANE, MILL STREET, MILL-GATE, MILL-LAND, MILLPARROCK, MILLSMEAD, MILLSTREAM, MISCYN, MON' PUPIT, MONK-STONE, MONMOUTHSHIRE, MOOR GATE, MOOR HENGE, MOREWLESE, MORFA-BACH, MORGAN'S FARM, MORGANSTOWN, MORGANWG, MOUNT, MUCHEL HETH, MYNACHDY, MYNACHLOG, NABBS, NAILOR'S SHOP, NANT-CEDWYN, NANT-DRAENOG, NANT-GARW, NANT-GWAEDLYD, NANT-LLEICI, NANT-MAWR, NANT-Y-CYMER, NANT-Y-GABAL, NANT-Y-MYNYDD, NANT-YR-ARIAN, NANT-YR-EGLWYS, NEKE, NETHER FURLONG, NETHERHAM, NEW DITCH, NEW MILL, NEW PATCH, NEW TOWN, NEWCROFT, NEWMEAD, NEWPORT ROAD, NEWTON, NEW-WALL, NEW-WEIR, NISHTON, NORTH STREET, NORTHLANDS, OLD BAKEHOUSE, OLD CEMETERY, OLD GAS WORKS, OLD NICK'S HOUSE, OLD SEA LOCK, OLD SKIN HOUSE, OLD WORKHOUSE, OLDCROFT, ORAMY, ORCHARD STREET, ORCHARDS, OUR LADY'S SERVICE, OVER LAYLAND, OVERHAM, PANDY, PANT-BACH, PANTEG, PANT-GLAS, PANT-MAWR, PANT-Y-CORED, PANT-Y-CRAPPULL, PANT-Y-GWYNDON, PANT-Y-MARL, PANT-YR-YSGAWEN, PANT-YSCOFAN, PARADISE PLACE, PARC, PARC-COED-MARCHAN, PARC-Y-GOFER, PARISH, PATCH, PAVEMENT STREET, PAYN'S CROSS, PEDAIR-ERW-SANT-FFAGAN, PEDAIR-ERW-TWC, PEDAIR-ERW-Y-DRAIN-DUON, PENARTH, PENARTH LOWER, PENARTH ROAD, PENCOED, PEN-DWY-ALLT, PEN-DYWYLL, PENGAM, PEN-HEOL-LLEWELYN-MAERWR, PENHEVED, PENHILL, PENLLWYN, PENPENTRE, PENRETH', PEN-RHIW-MYNEICH, PENSARN, PENSISLI, PENNSYLVANIA, PENTREBAEN, PENTWYN, PENTYRCH, PEN-Y-BONT, PEN-Y-GARN, PEN-Y-GROES, PEN-Y-LAN, PENYLAUNETTS RASEWORTH, PEN-Y-PIL, PEN-YR-HEOL, PEN-Y-RHIW, PEN-Y-WAUN, PETTY CALLIS, PHILOG, PIER HEAD, PILGOT-FAWR, PILL, PLAS-MAWR, PLAS-NEWYDD, PLAS-TURTON, PLAS-TURTON COTTAGE, PLAS-Y-LLAN, PLWCA LANE, PLWCA-HALOG, PLYMOUTH STREET, PLYMOUTH WOOD, POINMER MARY BOOSH, PONT-CANNA, PONT-DDU, PONT-EVAN-QUINT, PONT-LLEUCU, PONT-MELON, PONT-Y-CELYN, PONT-Y-PRENAU, POOL MEAD, POOR-FOLK'S HOUSE, POOR'S RELIEF, PORRIDGE LANE, PORTE ALLENS LONDS, PORTESLOND, PORTFIELD, PORTMANMOOR, PORTWAY, POST HOUSE, POTTESMOR, PRICHARD'S COURT, PRIEST'S WEIR, PRIMAVESI, PRIOR'S GRANGE, PULKEY, PUM-ERW, PWLL-CANAU, PWLL-COCH, PWLL-HALOG, PWLL-HELYG, PWLL-MAWR, PWLL-MORYS, PWLL-TRO, PWLL-Y-STAPSE, PWLL-Y-WENOL, RADYR, RADYR CHAIN, RANIE SPIT, RED CROFT, RED FURLONG, RED HOUSES V, REES' COURT, REVESACRE, RHIWBINAU, RHIW-FELEN, RHIWPERA, RHIW-SAESON, RHOS, RHYD-LEUFER, RHYD-LYDAN, RHYD-WAEDLYD, RHYD-Y-BILLWHE, RHYDYBYTHER', RHYD-Y-FFAGLE, RHYD-Y-MIN-COCH, RHYD-Y-PENAU, RHYD-Y-SARN, RHYD-Y-TYWOD, RHYMNY, RIDGE HENGE, RIDGELAND, RISING SUN COURT, ROATH, ROATH BRIDGE, ROATH COURT, ROATH DOGFIELD, ROATH GREEN, ROATH HOUSE, ROATH KEYNSHAM, ROATH MILL, ROATH PARK, ROATH-TEWKESBURY, ROBERT'S, ROBERTSCROFT, ROGERSHOOKS, ROGERSMOOR, ROGGER, ROKE'S LAND, ROSISTON, ROSTOG, ROTHEMANLEZ, ROTHES-MORE, ROUNDBUSH ROCKS, ROWLANDS' BUILDINGS, RUDDER, RUMNEY, RUMNEY COURT, RUMNEY POTTERY, RUNNING CAMP, RUSHAM MEAD, RUSHPLOT, RYLAND, SAINT DAVID STREET, SAINT FAGAN'S, SAINT JOHN STREET, SAINT MARY STREET, SAINT MARY STREET, SAINT MELLON'S, SAINT'S WELL, SAITH-ERW-CLAWR-Y-MORFA, SAITH-ERW'R-GLWYD, SAITH-ERW-Y-DEON, SALT MARSH, SAMMELISWERE', SARN-Y-CAUNANT, SEA FURLONG, SEA-LAND, SENDALL HILL, SENGHENYDD, SEVOURNEHYLL, SHEPERD'S HALL, SHIREHALL, SHOTTESCROFT, SHRIMP HOUSE, SILENT POOL, SKALLEHOUSE', SMALE CLOSE, SMALLMEAD, SMALLWALL, SMITH STREET, SOKESHAY, SOPHIA GARDENS, SOUDREY, SOURLAND, SOUTH LAYLAND, SOUTHGATE FIELD, SPIREMEAD, SPITAL, SPITAL CLOSE, SPITAL LANE, SPLOT, SPODOMESLONDE, SPOUDERE, SPRING COTTAGE, SPRING GARDENS, STAIRS, STEEP HOLM, STELFOX, STEPASIDE, STOCKLAND, STOGESCROFT, STONE BRIDGE, ST-Y-NYLL, SUDCROFT, SUMMERHOUSE GARDEN, SUNDERLAND BRIDGE, SUTTON, SWELDON, TADEMOR, TAFF, TAFF MEAD, TAFFS WELL, TAI-COCHION, TAI-MAWR, TAIR-ERW-GEY, TAIR-ERW-HEOL-Y-COED, TAIR-ERW-MELYN, TAIR-ERW-PENFAIN, TAIR-ERW-WALL, TAIR-ERW-YSTOCYN, TAI-TY-COCH, TAN RIVER, TEMPERANCE TOWN, TEN ACRES, TENANT'S MEAD, THOMAS, THORN HILL, THREE QUARTER'S, THYNOG FAWR, TINKWOOD, TIR-BACH, TIR-BERTH-Y-LAN, TIR-CALAD, TIR-CALANMAI, TIR-CEFN-COLSTIN, TIR-CEFN-Y-GELYNEN, TIR-CRWN, TIR-DAIO-WIL, TIRECROFT, TIR-ELBOD, TIREVEYNE, TIR-GELYNOG, TIR-GOLEU, TIR-GRONO-Y-LLYGAD, TIR-GRUFFYDD-GAM, TIR-GRUFFYDD-GIBWN, TIR-HWNT, TIR-HYWEL, TIR-IARLL, TIR-MEURIC-Y-BONAU, TIR-MORGAN-HEN, TIR-NEWYDD, TIR-PENLLYN, TIR-PEN-Y-GARN, TIR-SUSAN, TIR-WINCH, TIR-Y-BEILI, TIR-Y-BLEWYN, TIR-Y-CEILIOG, TIR-Y-COED, TIR-Y-COES, TIR-Y-CUTLER, TIR-Y-CWNINGEN, TIR-Y-FFORDD-LAS, TIR-Y-MAERDY, TIR-Y-MAES-MAWR, TIR-Y-MUD, TIR-Y-POLYN, TIR-Y-SAITH-ERW, TIR-Y-TON-LLWYD, TIR-Y-TY-GWYN, TIR-Y-WAUN-LLWYD, TIR-Y-WHIT, TIR-Y-WIL, TOM JOHN'S HOUSE, TON-GWYNLAS, TON-MAWR, TON-YR-YWEN, TORCOTEFELD, TORECOTESHOKES, TOWN HOUSE, TOWN MILLS, TOWNFIELD, TRANE', TREASURER'S ACRES, TREDELERCH, TREFEURIG, TREGOCHES, TREGYRNOG, TREODA, TRERAIG, TREVENNETH, TREWERN, TRI-CHWARTER-CAERDYDD, TRINITY BREWYN, TRINITY STREET, TRISTYPE, TROCKER'S ACRE, TROWBRIDGE BACH, TUCK'S LANDS, TUMBLING CLOSE, TUMP, TUNNEL, TWYN-Y-GLISON, TY-BAL, TY-CELYN-GENOL, TY-CLYD, TY-COCH, TY-COLY, TY-CRWCA, TY-CRWM, TY-DRAW, TY-DU, TY-FRY, TY-GWYN, TY-GWYRDD, TYLE-MORUS, TYLLGOED, TY-LLWYD, TY-MAWR, TY-MELYN, TY'N-Y-BERLLAN, TY'N-Y-CAE, TY'N-Y-CAEAU, TY'N-Y-COED, TY'N-Y-FFYNON, TY'N-Y-FRO, TY'N-Y-NANT, TY'N-Y-WAUN, TY'N-Y-WERN, TY-PANT-YR-YWEN, TY-PICA, TY-PROSSER, TYR COIDEGAN, TYR CWMBERCH, TY'R-BONT, TY-RHOS-LLWYN, TY-TO-MAEN, TY-TO-MAWR, TY-Y-CAPEL, TY-Y-CWN, TY-Y-CYW, TY-YN-Y-PARC, TY-YN-Y-PWLL, TY-YN-YR ARDD, TY-YR-YNYS, UNION BUILDINGS, VELINDRE, VIA JULIA MARITIMA, VICARAGE GARDEN, VICARAGE STREET, VICTORIA PLACE, WALSCHMENHULL', WARDROBE LEAS, WARTH, WASTE LANE, WATERHALL, WATERLANE, WATERLEADER, WATERLEADER'S CROFT, WATTRELL, WAUN-FAWR, WAUN-GRON, WAUN-WYLLT, WEAVER'S COT, WEBCROFT, WEDAL, WEDAL-ISAF, WEDAL-UCHAF, WEIGH HOUSE, WEIR COTTAGES, WERNE GROVE, WERN-GOCH, WERYNGTROWES, WEST MOOR, WEST STREET, WEST WHARF, WESTERWEIR, WESTEWHITNOKE, WESTFURLONG, WESTGATE STREET, WESTHAWE, WHARTON STREET, WHITCHURCH, WHIT-CLOSE, WHITE FARM, WHITE FRIARS, WHITE MOOR, WHITEHALL, WHITEHOUSE, WHITLA COURT, WHITLE BATCH, WHITMOOR LANE, WILDERNESS WELL, WOLVES, WOMANBY, WOOD, WOODLANDS, WOODVILLE, WORDSWORTH AVENUE, WORKING STREET, WYNNEWAY, WYSAM, YELLOW WELLS, YNYS-CEDWYN, YNYS-GAU, YNYS-WYLLYS, YNYS-YR-YSGALLEN-FRAITH, YNYS-Y-WERN, YSGUBOR-FACH, YSGUBOR-FAWR, YSGUBOR-Y-BWRTWE, YSTAFELL-Y-CWN, ZEAL,

https://archive.org/details/cardiffrecordsbe05card

 

 

.....

14 Mawrth 2022

Iain Ó hAnnaidh

CLYBIAU TAI

Yn y De y mae ambell restr o dai, neu heol, o’r ddeunawfed ganrif wedi ei henwi ar ôl “clwb”. A ydynt yn cyfeirio at dai a godwyd gan glybiau adeiladu (neu, ar lafar, clybiau tai)?
.....

Ceir enghraifft o sefydlu clwb tai ar dudalen “Gwasanaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf” yn sôn am yr oes a fu yn ardal y sir.

Cwm-parc: “Cwblhawyd Cwmdare Street ym 1867 a'r rhan fwyaf o Parc Street y flwyddyn ganlynol. Aed ati i ffurfio menter clwb adeiladu lleol, a chyn hir roedd Tallis Street, Barrett Street a Vicarage Row wedi'u hadeiladu. Enwyd Tallis Street ar ôl Mr A.S. Tallis, rheolwr Glofa Dare, a Barrett Street ar ôl meddyg lleol uchel ei barch a hanodd o'r Alban yn wreiddiol.”

http://webapps.rctcbc.gov.uk/.../welsh/rhondda/cwmparc.html

(Gyda llaw, rhaid i’r Gwefeistr dwtio tipyn ar bennawd y tudalen hwnnw – y darn olaf yn gyfieithiad peiriant heb ei gywiro, gan fod "Our Past" wedi mynd yn “ 'N Heibio i “ o’i drosi o’r Saesneg, yn lle "Ein Gorffennol" / “Ers Talwm” / “Yr Oes a Fu” ayyb).
.....

Ceir yr enwau canlynol â’r elfen “club” ynddynt:

(Yn ddiamau y bu enw Cymraeg arnynt oll ar un adeg. Mae dwy o’r heolydd hyn ag enw Cymraeg arnynt yn ogystal â'r enw Saesneg (neu o leiaf ar yr arwydd heol – mae rhai heb yr un arwydd heol i'w weld ar luniau Google Golwg-ar-heolydd). Cyfieithiadau o’r enw Saesneg y maent debygwn i.)
.....

CLUB ROW
1/ Y Blaenau (Blaenau Gwent) (Clwb Row / Rhes y Clwb ar yr arwydd heol).
2/ Clydach (Sir Fynwy, wrth y Fenni),
3/ Abersychan (Torfaen),
4/ Yr Ystrad (yng Nglyn Rhondda)
5/ Bu un ar un adeg hefyd yng Nglynebwy (Blaenau Gwent).

.....

CLUB STREET
Aberdâr

.....

CLUB ROAD
Pont-y-pŵl

.....

CLUB LANE
1/ Ystradgynlais
2/ Ceir “Lôn y Clwb / Club Lane” (yn ôl yr arwydd heol) tu faes i Lanfair ym Muallt, yn y wlad, ond nid yw’n eglur at beth y mae’n cyfeirio. Nid oes, er enghraifft, clwb golff yma. (Ceir yn y dre ei hunan “Golf Club Lane”, wrth ochr y clwb golff!)

.....

Efallai fod yma gysylltiad â’r enwau caeau canlynol (nid wyf yn gwybod at beth y mae “club” / “clwb” yn cyfeirio yn yr achosion hyn)

(O Goflein – Enwau Lloedd Hanesyddol)

Cae Club SN 56642 69189. Llanrhystud Mefenydd, Ceredigion. 1841.

Cae Club SJ 16608 17292. Meifod, Sir Drefalwyn. 1841.

Cae Club Issa SN 51479 44780, Cae club ucha SN 51545 44852 Llanwenog, Ceredigion. 1841.

Club Pope (enw ar gae). SO 23172 63429. Kinnerton, Salford & Badland, Sir Faesyfed. 1841.

Club Ruin (enw ar gae) SS 54712 89819. Llanilltud Gw^yr, Morgannwg. 1841.

Erw Club SS 81560 81969. Cynffig, Morgannwg. 1841.

Clwb Coch (enw ar gae) SH 88588 27122. Llanuwchllyn, Meirionnydd. 1841.

Clwb eithin (enw ar gae) SH 36966 34554. Deneio, Sir Gaernarfon. 1841.

Clwb Ellis Morris (enw ar gae) SH 88771 27326. Llanuwchllyn, Meirionnydd. 1841.

Clwb yn rhos (enw ar gae) SH 88676 27137. Llanuwchllyn, Meirionnydd. 1841.

.....

Hefyd:

Tŷ'r-clwb SH 58195 59716. Llanberis, Sir Gaernarfon. 1898-11

A picture containing diagram

Description automatically generated

(delwedd J6420)

.....

14 Mawrth 2022

Iain Ó hAnnaidh

GLAN EGWY

Yn 1837 halodd Dic Glan Egwy gwestiwn at olygydd Seren Gomer. Ble mae’r afon hon?

.....

Seren Gomer. Cyfrol XX. Rhif 259. Ebrill 1837.

GOFYNIADAU

(16.) MR. G0MER,—Byddaf ddiolchgar am gael gwybod, trwy gyfrwug eich SEREN geinwych, genych chwi, neu ryw un odd eich Gohebwyr athrylithgar, pa faint a bwysai gwallt Absalom bob blwyddyn, a hyny yn ol ein pwysau ni?

Glan Egwy. DIC GLAN EGWY.

Text, letter

Description automatically generated
(delwedd J6421)


 

.....

11 Mawrth 2022

Iain Ó hAnnaidh

DINAS Y LLYN HELI

Yn 1850 cyhoeddwyd ym Merthyr Tudful y "Cyfarwyddiadau i'r Ymfudwr tua Dinas y Llyn Halen", sef Salt Lake City y Mormoniaid.

Yn 1868, mewn llythyr at "Y Brython", cwynodd "Cymro Uniaith" mai Cymraeg gwallus oedd yr ymadrodd  “llyn halen”.

Yng Ngeiriadur yr Academi (Bruce Griffiths, Dafydd Glyn Jones 1996) "Dinas y Llyn Heli" yw'r enw – fel y mynnai Cymro Uniaith.

.....

Y Brython. 25 Mehefin 1868. Tudalen 6.

Gohebiaethau.

(AT OLYGYDD Y BRYTHON.)

SYR:—Byth oddi ar pan yr ymsefydlodd y Mormoniaid yn Utah; yr wyf wedi clywed llawer o son yn y papurau Cymreig, am ryw lyn o enw y Llyn Halen; neu, fel ei gelwir weithiau, Llyn yr Halen: ac y mae’r fath enw wedi peri i mi ddryswch nid ychydig lawer gwaith. Yr wyf yn methu yn deg â dyfeisio tebyg i beth yw llyn halen. Yr wyf yn deall amcan pa fath beth yw salt lake, a pha beth yw salt sea, a pha beth yw salt water; ond nis medraf yn fy myw ddychymmygu pa sut beth yw llyn halen ein hysgrifenwyr.

Yn enw synwyr cyffredin, ac anghyffredin hefyd, pa beth sydd wedi llygattynu ein cyfieithwyr yn yr “oes olau hon?” Pa ham nas cyfieithent fel y cyfieithai pobl yr oesoedd tywyll a aethant heibio, ac yna ni a’u deallem? Os yw yr halen wedi troi yn llyn, pa fodd y mae efe yn halen? Canys nid halen mwyach yw’r gair Cymraeg am dano, ond heli. Efelly, môr heli, neu fôr hallt, yw salt sea, ac nid môr halen: ac oni bai fod ein cyfieithwyr wedi hanner pendroni gan “oleuni" tra ysblennydd yr oes, hwy a ddeallent mai llyn heli, neu ynte llyn hallt, yw yr ymadrodd Cymreig priodol am salt lake, pa un bynag ai yn Utah ai mewn fan arall y byddo. Y mae mor anghyweddol ag ansawdd y Gymraeg ddywedyd fod y Mormoniaid yn preswylio ar lan y Llyn Halen, a phe dywedid fod gwraig Lot wedi ei throi yn golofn heli.

Yr eiddoch, &c.

CYMRO UNIAITH

Map

Description automatically generated

(delwedd J4616)

.....

10 Mawrth 2022

ENWAU LLEOEDD Y SWISTIR

Dyma wefan hwylus ar gyfer enwau lleoedd yn y Swistir – yn Almaeneg a Ffrangeg (ond heb fersiwn yn yr Eidaleg na’r Románsh – y ddwy iaith swyddogol arall yn y Swistir).

ortsnamen.ch Das Portal der schweizerischen Ostsnamenforschung

toponyms.ch Le portail des recherches toponymiques en Suisse

(h.y. Enwau Lleoedd – Gwefan Ymchwilio Enwau Lleoedd yn y Swistir)

I bob enw y mae map, y ffurf swyddogol, y ffurf ar lafar, yr ynganiad, y math o le (pentref, tref, dinas, ayyb), y lleoliad, yr ysytyr, a sylwadau ar yr ystyr ac elfennau’r enw.

https://search.ortsnamen.ch/de/record/802004551/?fbclid=IwAR26ZoKMc15bDDRKADw14Jxj-xsP45IuXGyEBOKKVsolzhAuoPkAlsRuuEo

 

.....

08 Mawrth 2022

LLYSENWAU NEU ARALLENWAU AR BENTREFI / TREFI / DINASOEDD / ARDALOEDD CYMRU

Y mae ar ambell dre neu ddinas yma a thraw yn yr hen fyd hwn lysenw neu arallenw.

.....
Er enghraifft, Berlin - Spree-Athenneu Spreeathen (Athen ar Spree, sef afon Berlin) yn yr ail ganrif ar bymtheg. Die Hauptstadt (y brifddinas) yw’r enw arferol erbyn heddiw.


.....
Paris: la Ville Lumière (tref y golau). Un esboniad yw i system o oleuo cyhoeddus gael ei roi mewn gweithrediad yn y 1830au, yn enwedig yn y rhan fasnachol. Soniodd y Saeson am the “City of Lights” yn eu papurau newydd a chylchgronau, a’r Ffrancod yn cyfieithu’r enw hwn i’r Ffrangreg.


.....
Efrog Newydd: The Big Apple. (Y wicipedia Saesneg (o’i drosi): “Cafodd yr Afal Mawr ei boblogeiddio fel enw ar Ddinas Efrog Newydd gan John J. Fitz Gerald mewn nifer o erthyglau rasio ceffylau ganddo yn y New York Morning Telegraph yn y 1920au.)


.....
Caeredin: Auld Reekie yn Sgoteg (auld = hen, reekie (ansoddair) = myglyd). Enw ar yr hen dref yn y ddeunawfed ganrif. Mae’n cyfeirio at y “lum reek” (mwg o’r simneiau fu’n gorwedd ar y ddinas).


.....
Hefyd, Athens of the North (am ei bod yn brif dref Ymoleuo'r Alban, ac hefyd o achos pensaerniaeth glasurol y Dre Newydd, yn y ddeunawfed ganrif)


.....
Llundain: The Smoke (o fwg y tai a’r ffatrïoedd).


.....
Rhufain: La Città Eterna (Y Ddinas Dragwyddol). Hanes Cymru. Cyfrol I. Awdur: O. M. Edwards. Pennod Iii. Y Rhufeiniaid. “Yr oedd Rhufain ei hun mewn perygl, a chyn hir syrthiodd y ddinas dragwyddol o flaen Alaric.”


.....

Yng Nghanolbarth Lloegr: The Black Country. (O’r wicipedia Cymraeg: ) “Mae'r Wlad Ddu yn rhanbarth o Orllewin Canolbarth Lloegr, gorllewin Birmingham,ac mae'n aml yn cyfeirio at bob un o'r bwrdeistrefi Metropolitan, sef Dudley, Sandwell, Walsall a Wolverhampton, neu rai o'r bwrdeistrefi hyn... Mae'n debyg fod yr enw yn deillio o'r huddygl a ddeuai o ddiwydiannau trwm yr ardal, er bod y sêm lo 30 troedfedd o drwch (10 metr) sy'n agos i'r wyneb yn darddiad posibl arall.”

.....
Wedi imi chwilio am lysenwau neu arallenwau ar bentrefi / trefi / dinasoedd / ardaloedd Cymru, yr wyf wedi cael hyd i ryw ddyrnaid ohonynt (rhai yn hysbys, a rhai heb fod yn gyffredin).



Dyma’r rhestr gennyf: Mam Cymru, Gwlad y Medra, Athen Cymru, Tre’r Cryddion, Tre’r Cofis, Caledfryn, Paradwys Cymru, Dinas Dewi, Tre Myrddin, Tresamwn, Dinas y Jacs, Y Pentra, Gardd Cymru, Cymru Fach yn Lloegr, Lloegr Fach yng Nghymru, Plwyf Mair.

.....
Môn Mam Cymru. Cnydau tir bras Môn yn gynhaliaeth i Gymry’r tir mawr dros Afon Menai.

Gwlad y Medra. Ai “medraf” = “gallaf (ei wneud)” yw hwn?. A’r ystyr “Gwlad y rhai medrus neu alluog” iddo?

.....
Athen Môn, Tre’r Cryddion = Llannerch-y-medd.

“Dyna oedd natur y Llan a adwaenid fe 'Athen Mon' yn ystod ei hoes euraidd a barodd o Oes y Tywysogion hyd at y 1920au. Roedd yn enwog am ei diwylliant yn ogystal a'i chryddion ac fe'i hadwaenid hefyd fel 'Tre'r Cryddion' gyda thros bedwar cant ohonynt yn dilyn ei crefft ar yr yn pryd.” Blog “Geiriau”. Heddwyn Jones, Awstralia. 19 Hydref 2011.

.....

Tre’r Cofis = Caernarfon. (e.e. yn nheitl llyfr T. Meirion Hughes, “Hanesion Tre'r Cofis.”Y Lolfa. 2013). Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, o’r Saesneg sathredig “cove” y daw = llanc, bachgen, creadur, mêt. (O’r wefan dictionary.com (o’i drosi): “Nodwyd am y tro cyntaf 1560–70; tarddiad ansicr, efallai o’r iaith Romani “kova” = creadur, peth, person”.) Ai’r olddodiad bachigol “-i” sydd ar gwt y gair “cove” (gynt [ko:v] yn y Saesneg, ond erbyn hyn [koʊv]) – megis Mo|rus > Moi, Ow|en > Owi, ayyb?)

.....
Athen Cymru Aberystwyth.

Y Cymro 10 Chwefror 1915: “Ymddangosodd yn eich rhifyn diweddaf lythyr gan un yn dwyn yr enw 'Gwladgarwr' yn beio awdurdodau Aberystwyth am benodi tramoriaid yn athrawon yn y gwahanol adranau o'r Ysgol Gerddorol newydd. ...os tueddir [myfyrwiwr] gan wladgarwch, a'r gred fod y Delyn gystal, beth bynnag, a'r un offeryn ddysgir yn Athen Cymru yna rhaid iddo fynd dros Glawdd Offa i rywle.”

.....
Athen Cymru Bangor

Y Llan 22 Ebrill 1910 “Er's pan ysgrifais o'r blaen y mae penaeth nweydd wedi ei benodi yn Warden Hostel Bangor, a siaredir yn uchel iawn am ei gymwysderau. Y mae yn ddiameu yn fantais cael dyn o ddysg uwchraddol yn Athen Cymru.”

.....
Caledfryn. Hen enw ar fryn y castell yn Ninbych, mae’n debyg. Ffugenw William Williams (1801-69) oedd Caledfryn, a anwyd ym Mrynyffynnon, Sir Ddinbych. Gweinidog yn y Groes-wen (Caerffili) am ddeugain mlynedd. Mae heol yng Nghaerffili wedi ei henwi ar ei ôl.
.....
Paradwys Cymru. 
Neu o leiaf dyna’r ddisgrifiad a geir yn arwyddair Sir Powys – “Powys Paradwys Cymru”Ni wn a yw’n hy^n na’r flwyddyn 1984, pan y’i mabwysiadwyd.
.....
Dinas Dewi


“Pererindod i gofio pererindod Gwyn Griffiths. Roedd naws pererinion i'r dyrfa fach ddaeth i gyfarfod Siân Swinton wrth borth Eglwys Gadeiriol Tyddewi am hanner dydd, dydd Gwener, Awst 27 (?2011). Gwahanol iawn i'r llu twristiaid penwythnos gŵyl banc oedd yn crwydro o amgylch Dinas Dewi.”

https:// www. bbc. co. uk/ cymru/deorllewin/bywyd_bro/pages/pererindod. shtml


.....
Tre Myrddin (Tref Myrddin, Dinas Myrddin): 
Caerfyrddin


Y Tyst. 2 Hydref 1896. “CAERFYRDDIN. Mewn cyfarfod o weinidogion tref Myrddin a'r cylch, a gynaliwyd yr wythnos ddiweidaf, o dan lywyddiaeth y Parch Cadvan Jones, Priordy, cyflwynwyd yr anerchiad canlynol i'r Parch. J. D. Jones, Elim, fel arwydd o barch ac edmygedd ohono fel gweinidog da i Iesu Grist ar ei waith yn ymadael o'u plith i gymeryd gofal yr eglwys yn Abercanaid, Merthyr.....

Y Llan. 14 Ionawr 1898. ...David Jenkins yn ymadael o'r lle am Gaerfyrddin i swyddfa'r Journal... a dymuniad yr Ysgol Sul ydyw iddo gael hir oes a lle cysurus yn nghwmni 'Myrddinfab' ac ereill o gewri yr Eglwys Gymreig yn ninas Myrddin. Gofalwch am dano, fechgyn tre' Myrddin meithrinwch ef


...

Y Tyst a'r Dydd. 26 Gorffennaf 1889. “Os oedd pobl tref Myrddin yn ei hoffi ai iawn oedd ei symud ymaith oddiwrthynt?”

.....
Tresamwn 
Enw cellweirus ar Aberdâr.

Aberdare Leader. 4 Mai 1918. Lord Tresamwn ( = Arglwydd Aberdâr).

Tarian y Gweithiwr. 28 Gorffennaf 1910. “priotas ar bwys Tresamwn”.
.....
Dinas y Jacs 
Abertawe

https: //www. bbc.co.uk/cymru/adloniant/teledu/0326.shtml 2003 “Dywedodd... ei fod wedi hen arfer â chryts ifanc dinas y Jacs yn ymhél â chanabis”

https:// llyfrlloffion. blogspot.com/ 31-07-2006 “Mae'n debyg fydda'i lawr yng nghyffuniau dinas y 'Jacks' o nos Iau ymlaen”.



Dinas y Jacks”. Cliw croesair. Ebrill 2020. Y Bigwn. (Papur bro tref Dinbych)

.....
Y Pentra. 
Yr enw gynt ar dref Merthyr Tudful yn y pentrefi cylchynnol.


.....
Gardd Cymru. 
Bro Morgannwg.

Cardiff Times. 17 Rhagfyr. 1898. Welsh Tit-bits. Cadrawd. “The bard contrasts in this poem the bleak mountains of North Wales with the rich Vale of Glamorgan, proverbially called the Garden of Wales.”

Glamorgan Gazette. 4 Mai 1894.
Bro Morganwg
Morganwg fro, gardd Cymru ydwyt ti...
O fangre fras; ail yw i Eden gain



Hanes Morganwg. Dafydd Morganwg. 1874.
O fan hyfryd, ar fin Hafren, - bro bras,
Bro o fri, ail Eden;
Bri a haedda'n Bro addien, -
Hon yw Gardd Morganwg Wen. - D.M. ( = Dafydd Morganwg?)



Morgannwg yn ei chrynswth yw “Gardd Cyrmu” yn ôl y bardd hwn:
Gwinllan y Bardd gan y Diweddar Barch. Daniel Evans, B.D. (Daniel Ddu o Geredigion). 1872.
Morganwg. Ar fesur Triban Morganwg.
Gardd Cymru yw Morganwg
A'i ffrwythau pêr yn amlwg....”


.....
Lloegr Fach yng Nghymru. De Sir Benfro, yr “Anglia Transwalliana” yn ôl yr hynafiaethydd o Sais William Camden (1551 – 1623), neu “Little England Beyond Wales” yn Saesneg.



.....
Cymru Fach yn Lloegr. Euas ac Ergin yn Swydd Henffordd, Lloegr. (O leiaf dyna’r enw a ddefnyddir gan A. Morris yn ei erthygl “Eirinwg”, Cymru 1915. Tudalennau 25-32. “Yn ein dyddiau ni fe adnabyddir rhannau o sir Benfro fel “Lloegr Fach yng Nghymru” oherwydd ei nodweddion Seisneg, am yr hyn y mae gan hanes rywbeth i’w ddweyd. Yn Eirinwg fe geir y gwrthwyneb i hyn, sef “Cymru Fach yn Lloegr,” gydag arferion Cymreig a nodweddion brodorol cynhenid ein cenedl wedi goroesi bywyd iaith lafaredig Gwalia wen.” (Yn yr ysgrif hon ceir hefyd y ffurf “Cymru Fechan yn Lloegr”).


.....
Plwyf Mair. Caerdydd, neu o leiaf hen blwyf canol y ddinas.



https:// stmaryscf10 .com Wedi’i hadeiladu ym 1843, mae Eglwys Fair yn cymryd lle hen Eglwys [Fair] y Priordy o’r 1100au.



Cardiff Records: Cyfrol 5. 1905. John Hobson Matthews (Mab Cernyw) (1858 - 1914). (O’r Saesneg: ) Heol Eglwys Fair. Hon, yngly^n â’r Heol Fawr, yw prif stryd tref Caerdydd o hyd, fel y bu ers cyn cof; er yn y blynyddoedd diweddar mae llanw masnach wedi symud peth o'i bwysigrwydd i Heol y Frenhines. Mae'n cymryd ei henw o brif eglwys blwyf y Santes Fair, sydd wedi diflannu ers tro. Y mae’r safle ar ochr orllewinol y stryd hon.

https://museum.wales/.../Lleisiau-coll-Cymraeg-Caerdydd/

Map

Description automatically generated

(delwedd J6411)

.....

Margaret Buckingham Jones: Tre’r Twrcs. Sef Llanelli

.....

5 March 2022

Iain Ó hAnnaidh

Gwefan ddefnyddiol ar gyfer enwau lleoedd Lloegr yw "Key to English Place Names" o dan nawdd Prifysgol Nottingham.

Yma a thraw gwelir enwau ac iddynt elfennau o'r Frythoneg neu Gymraeg Cynnar.

.....

Er enghraifft,

Brill, Swydd Buckingham

Elements and their meanings:

breg (Primitive Welsh) A hill.

hyll (Anglian) A hill, a natural eminence or elevated piece of ground.

.....

Churton by Farndon, Swydd Gaer:

'Church farm/settlement' by Farndon. No church is known to have existed here, hence the suggestion that the first element is derived from an Old English *cyrc, a metathesised form of Primitive Welsh crug, 'hill'.

Elements and their meanings:

cirice (Old English) A church.

crūg (Primitive Welsh) A hill, a mound, a tumulus.

tūn (Old English) An enclosure; a farmstead; a village; an estate.

.....

Crick, Swydd Northampton

Probably, 'cliff'.

Elements and their meanings

creig (Primitive Welsh) A rock, a cliff.

crūc (Old English) A hill, a barrow, a mound.

http://kepn.nottingham.ac.uk/

 

. .....

4 Mawrth 2022

 

Ian Ó hAnnaidh

ENWAU HEOLYDD YN GERNYWEG

Dyma arwydd wrth y fynedfa i ystâd o dai yn Eglos Heyl (Phillack), Cernyw.

Erbyn hyn, ers 2009, y mae orgraff safonol (nad yw wrth fodd pawb, rhaid dweud) a’r ffurfiau ar yr arwydd yn wahanol i’r hyn a geir heddiw yn swyddogol.

.....

(Wicipedia: Ffordd o sillafu'r iaith Gernyweg yw'r Ffurf Ysgrifenedig Safonol (Cernyweg: Furv Skrifys Savonek), a grëwyd er mwyn "darparu orgraff dderbyniol, gynhwysol a niwtral i gyrff cyhoeddus a'r system addysg". Roedd hyn yn ganlyniad i broses a gychwynnwyd drwy greu corff cyhoeddus o'r enw “The Cornish Language Partnership” (Keskowethyans an Taves Kernewek / Partneriaeth yr Iaith Gernyweg), a welai angen cytuno ar un dull sillafu safonol er mwyn rhoi terfyn ar anghytundeb y gorffennol ynglŷn â'r orgraff, sicrhau cyllid oddi wrth y llywodraeth a chynyddu defnydd y Gernyweg yng Nghernyw. Daeth y cytundeb i fodolaeth wedi degawdau o drafod ar ba orgraff ddylid defnyddio ar gyfer yr iaith yn sgîl adfywiad yr iaith yn yr 20g.

Cytunwyd ar y ffurf newydd fis Mai 2008 ar ôl dwy flynedd o drafod ac roedd wedi'i dylanwadu gan y systemau sillafau blaenorol. Roedd y bwrdd trafod yn cynnwys aelodau o bob prif gymdeithas iaith Gernyweg: Kesva an Taves Kernewek (Bwrdd yr Iaith Gernyweg), Kowethas an Yeth Kernewek (Cymdeithas yr Iaith Gernyweg), Agan Tavas (Ein Tafod) a Cussel an Tavas Kernuak (Cyngor y Tafod Cernyweg), ac fe dderbyniodd fewnbwn gan arbenigwyr ac academyddion o Ewrop a'r Unol Daleithiau. Golygai'r cytundeb i'r Gernyweg gael ei derbyn a'i hariannu'n swyddogol, gyda chefnogaeth oddi wrth llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd.

Ym Mehefin 2009, pleidleisiodd Gorsedd Cernyw â mwyafrif mawr dros dderbyn y Ffurf Ysgrifenedig Safonol.)

Dyma’r enwau ar yr arwydd a’u hystyron hyd y gwelaf innau: (Ffurfiau gwneud yw’r mwyaf, mae’n debyg. Efallai fod un neu ddau yn rhai traddodiadol).

.....

Amal an Avon [ˡa·mal ən ˡa·vɔn]. Cymraeg: Ymyl yr Afon (sef “Penpol Creek”)

.....

Forth an Ula (Safonol: Fordh an Oula) [fɔrð ən ˡu·la]. Cymraeg: Ffordd y Dylluan

.....

Forth an Streth (Safonol: Fordh an Stredh [fɔrð ən ˡstre:ð].). Cymraeg: Ffordd y Nant. (O bosibl yr un gair ag “ystrad” yn y Gymraeg yn ôl Ken George, An Gerlyver Meur, sef Y Geiriadur Mawr, 2020). Enw yn cyfeirio eto at “Penpol Creek”, debyg iawn.

.....

Forth an Tewennow (Safonol: Fordh an Tewennow [fɔrð ən teˡwɛn:ɔw]). Cymraeg: Ffordd y Twyni Tywod / Tywodfryniau]. Cyfateb i'r Gymraeg *tywynau y mae "tewennow". (Mae lle yma o’r enw The Towans neu Phillack Towans gerllaw, a dyna’r esboniad ar enw’r heol, yn debyg iawn).

.....

Forth an Tre (Y mae yma gamgymeriad – y treiglad meddal yn eisiau) (Safonol: Fordh an Dre [fɔrð ən ˡdre:]). Cymraeg: Ffordd y Dre.

.....

Gwel Tek [gwe:l ˡte:k]). Cymraeg: Maes Teg / Llain Deg. Yn ôl Oliver Padell (Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn Adran Eingl-Sacsonaidd, Norseg a Cheltaidd Prifysgol Caergrawnt ac Athro Gwadd Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr; awdur “Cornish Place Names” 1988) mae “gwel” yn cyfateb o bosibl i’r Gymraeg “gwäell” (hynny yw”gwäell, gwaell; (De Cymru) gwâll). = sgiwer; llafn hirfain o fetel a ddefnyddir wrth rostio cig). “Llain cul o dir” fyddai’r ystyr mewn enwau lleoedd ar y cychwyn.

.....

Chy an Dowr (Safonol: Chi an Dowr neu Chi’n Dowr [ʧi: ən ˡdɔʊr, ʧi:n ˡdɔʊr]). Cymraeg: Tŷ’r dŵr (hynny yw, wrth “Penpol Creek”).

.....

Gwarth an Dre. Ni wn yn union beth yw’r enw hwn ond yr wyf yn amau bod yma gamraniad a “Gwartha’n Dre” sydd yma < Gwartha an Dre < Gwarthav an Dre. Felly - Safonol: Gwartha’n Dre [gwarθan ˡdre:]. Cymraeg: Pen y Dre. Yn nhref Hellys / Helston y ceir yr un enw ar heol yno hefyd, mewn ffurf rannol Seisnigedig - Gwarth-an-Drea. “Lle uchaf, pen, top” yw gwartha / gwarthav; yr un gair yn Gymraeg (gwartha / gwarthaf) a’r un ystyr. Yn ôl GPC y mae yn Sir Fynwy, yn Llan-gwm Isaf, le o’r enw Gwartha-cwm (Gwartha’r-cwm, a’r fannod wedi ei gollwng?)

.....

Gweal Gollas (Safonol: Gwel an Gollas / Gwel Gollas [gwe:l ən ˡgɔl:as, gwe:l ˡgɔl:as]). Cymraeg: Maes y Llwyn Cyll / Llain y Llwyn Cyll. Y gair “gwel” mewn gwisg Saesneg yw “gweal”.

A picture containing map

Description automatically generated
(delwedd J6408)

Map o'r ystâd o dai yn Eglos Heyl / Phillack


Shape, arrow

Description automatically generated
(delwedd J6409d)

. .....

4 Mawrth 2022

Iain Ó hAnnaidh

Gwefan ddiddorol yw honno o eiddo'r Akademi Kernewek (Academi'r Gernyweg).

Akademi Kernewek yw omgemeryansek rag towlennans an korpus a Gernewek, yn y vysk desedha savonow rag an yeth, displegya an gerlyver ha gwruthyl hwithrans. Akademi Kernewek a'n jeves Bord ha peswar panel, gans kettep panel lown arbennek.

(O’i drosi) Mae Akademi Kernewek yn gyfrifol am gynllunio corpws ar gyfer y Gernyweg, gan gynnwys gosod safonau ar gyfer yr iaith, datblygu’r geiriadur a chynnal ymchwil. Mae gan Akademi Kernewek Fwrdd ac iddo bedwar panel, a phob panel yn gyfrifol am faes gwaith allweddol.

https://www.akademikernewek.org.uk/place-names/glossary/A?fbclid=IwAR1ie6AQ7IO-0_c-iAr7PaEzSE61SCN4czgrwBu0Y4MNukS8T0Wb3vj_mDw

 

. .....

8 Chwefror 2022

Alan Richards: Arwydd newydd ar y Mynydd Du lle nad oedd un o'r blaen. Wast o arian a hollol ddiangen! (Y Mynydd Du. The Black Mountain. Y copa. The summit. 439 metr / metres.)

.....

Iain Ó hAnnaidh: Ar wahân i'r ffaith nad copa mo'r lle hwnnw, onid "y gopa" (enw benywaidd) a ddylai fod?

E.e. (1) Y Gopa ger Pontarddulais;

(2) Coed y Gopa / Llysygopa / Tanygopa, Abergele;

(3) Penygopa SH 22319 31717 Botwnnog, Sir Gaernarfon;

(4) ( Y ) Gopa Isaf SN 71910 59950 Caron-is-clawdd, Ceredigion,

Ayyb

.....

Gwen Jones-Edwards: Mae yn air all fod unai yn fenywaidd neu’n wrywaidd. ‘Y copa’ sydd yn naturiol i mi.

 

. .....

3 Chwefror 2022

ain Ó hAnnaidh

HWYAID

Ar wefan "Coflein – Enwau Lleoedd" gwelir sawl enghraifft o enwau â’r elfen “hwyaid” ynddynt.

Er enghraifft (ag amrywiaeth o sillafiadau iddynt – cyplysnodau, ffurfiau heb y fannod, ayyb):

Bryn yr Hwyaid

SH 63699 62471 (Llandygái, Sir Gaernarfon)

Ffos yr Hwyaid

SN 86912 38205 (Llandeilo'r-fân, Sir Frycheiniog);

SN 82958 27762 (Traean-glas, Sir Frycheiniog),

SN 68930 30912 (Llansadwrn, Caerfyrddin)

Gelli’r Hwyaid

SN 55034 08771 (Llan-non, Sir Gaerfyrddin)

Gwern yr Hwyaid

SO 14501 40699 (Bochrwyd, Maesyfed),

SJ 01891 41853 (“Wern hwyaid”) (Llandderfel, Meirionnydd)

Maes yr Hwyaid

ST 03638 75348 (Llanddunwyd, Morgannwg).

Nant yr Hwyaid

SS 82881 94954. (Glyncorrwg, Morgannwg).

Pwll yr Hwyaid

SS 80373 83293 (Port Talbot, Morgannwg),

SS 63100 96727 (Abertawe, Morgannwg),

SN 29843 50585 (Penbryn, Ceredigion),

SH 43979 66211 (Llangeinwen, Môn),

ST 16639 88912 (Bedwas, Sir Fynwy),

SH 10982 20862 Ynys Enlli (enw ar bwll yn y môr)

.....a sawl un arall

Tafarn yr Hwyaid

SH 40455 89930 (Carreg-lefn, Môn).

------

Yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, gwelir "HWYAD, lluosog HWYAID.

Ar lafar yn y Gogledd yn y ffurf CHWIADAN, lluosog CHWIAD (Welsh Vocabulary of the Bangor District 331);

Hefyd CHW(I)ADEN, CHW(I)ADYN, 'ceiliog hwyad', lluosog CHWID."

-----

Tybed ai Gwern yr Hwyaid arall sydd yma ym mhlwyf Ceri, Sir Drefaldwyn:

Gwern-y-chwid SO 16280 91374

(Fel y gwelir yn y rhestr uchod, ym Mochrwyd yn Sir Faesyfed, y mae’r un enw - os “hwyaid” yw “chwid” - ond mewn Cymraeg safonol ("Gwern-hwyaid"); ac un arall yn Sir Feirionnydd ("Wern hwyaid", enw cae)).

Peth lled anarferol yw gweld ffurfiau llafar mewn enw - y ffurf safonol biau hi fel rheol. "Hwyaid" a welir led-led Cymru. Ai "chwid" ( = hwyaid) sydd yma, ynte rhyw elfen arall? "Chwŷd"/ "chwydu"?

Map

Description automatically generated

(delwedd J6396)

Eluned Besent: Y canolbarth ydi hwn! - chwid fyddwn i'n ei ddweud ym Mhennal er ysgrifennu hwyaid. Yn rhyfedd iawn, roeddwn yn ysgrifennu am ras hwyaid y pentref ar gyfer y papur bro a digwydd dweud hynny wrth rhywun a dyma'r person yn deud wrtha i - cofia hwyaid ydi'r gair!!!!!

 

. . .....

1 Chwefror 2022

Alan Thomas: Oes rhywun yn y grŵp hwn yn gwybod beth yw ystyr IBOD sydd yn yr enw Plas Ibod ochrau Rhuddlan/Trefnant?  Mae yna Ddôl Ibod hefyd yn Llanelwy a Bryn Ibod ochrau Y Waun. Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn nodi EBOD fel baw ceffylau

.....

Iain Ó hAnnaidh: Rhyw enw neu gyfenw Saesneg (neu Ffrangeg) oedd wedi crwydro i ardal Rhuddlan / Llanelwy / Y Waun?

Ar wefan hel achau Ffrengig ceir sôn am:

-----

Jacques IBOT (HIBAUT, HIBAUD)

Né le 19 mai 1734 - Donzère, Drôme (Rhône-Alpes) FRANCE

Décédé le 7 juillet 1790 - St Martin, Arles (Bouches-du-Rhône) FRANCE, à l'âge de 56 ans.

(Ocsitania mewn gwirionedd!)

-----

Neu efallai IBBOT, fel yn y cyfenw Saesneg IBBOTSON. Yn ôl y “Dictionary of American Family Names" (2013. Gwasg Prifysgol Rhydychen), enw mamol (“metroymic”) yw IBBOTSON, o’r enw benywol IBBOT mewn Saesneg Canol, ffurf fachigol ar ISABEL.

(Ni wiw, wrth gwrs, roi esboniadau ar enwau heb weld y ffurfiau cynharach! Cynigion i ennyn trafodoaeth yw’r rhain, a’u bod yn bell ohoni yn sicr ddigon)..

 

. .....

2 Chwefror 2022

 

PORTH-FEDD?

Yn ôl y wicipedia Saesneg "Portmead (or Port Mead) (Welsh: Porthfedd [pɔrθˈveːð]) is a suburban district of Swansea, Wales..."

Ydy'r enw Cymraeg hwn yn un dilys?

Map

Description automatically generated

(dewlwdd J6395)

Richard Morgan: Recorded as Portman Meade 1432, Portmead 1650 and 1764. Portman 'townsman, burgess' and 'merchant' (> Welsh porthmon) later port 'market-town, borough' + English mead 'meadow belonging to a burgess'. Perhaps an area where Swansea burgesses pastured the… See more

Gwyn Jones: Portmead was the meadowland outside the little town where the portreeve (or mayor) and the town burgesses had rights of pasture. meddai erthygl dan enw Nino Williams ar Wales Online. Dim byd tebyg ar y mapiau degwm na'r 6" cynta.

Gethin While: Oes ‘na hen fap ag enwau ffermydd ayyb yn y rhan yna o Abertawe alliff cynnig cefndir?

 

.....

29 Ionawr 2022

Iain Ó hAnnaidh

AFON “HOWY"

Fel y gwyddys y mae tueddiad i'r sillaf ragobennol gael ei gostwng mewn sawl gair:

Nadolig > Dolig, eisteddfod > steddfod, ewyllys > wyllys, ayyb.

Ai dyna'r esboniad ar yr enw "Howy" sydd ar glawr yng nghyffiniau Afon Sirhywi?

Ni wn ai "Sirhowy" (yn lle “Sirhywi”) oedd y ffurf arferol yng Nghymraeg gorllewin Gwent pan aeth enw'r afon yn enw ar y Gwaith Haearn (“Sirhowy Iron Works”), ond os talfyriad yw “Howy”, o "Syrhowy" y daeth.

Yr wyf wedi cael hyd i "Howy" yma a thraw ar y rhyngrwyd (ond heb weld "Hywi" ar wahân i drosiad i’r Gymraeg o enw heol, gweler isod).

1878:  Mewn cerdd - “ar lan yr Howy” ( = ar lan Sirhywi)

Cardiff Times. 19 Hydref 1878.

“FY NUW SYDD GYDA MI.”

Ar dir dieithr trigo ’rwyf

Ar lan yr Howy werdd,

Yr adar mân yn pincio sy’

Eu myrdd o dànau cerdd....

GWYTHERIN. Board School, Ynysddu.

1885:  Mewn ffugenw:

Tarian y Gweithiwr. 31 Rhagfyr 1885.

MORIAH, RHYMNI. Cynaliwyd eisteddod a chyngerdd yn y lle uchod dydd Nadolig diweddaf.... Beirniaid – y canu, Mr William Jones (Gwilym Howy), Sirhowy;.....

1901:  Mewn ffugenw:

Tarian y Gweithiwr. 30 Mai 1901.

SIRHOWY. Noson Gyda’r Delyn. —Nos Iau, Mai 16, 1901, treuliwyd noson ddifyr a gwir adeiladol yn nghapel yr Annibynwyr yn y lle uchod yn nghwmni Watcyn Wyn, Eos Dar, a Tom Bryant, a chynulleidfa o amryw ganoedd o bobl siriol a hawddgar... Cafwyd cyfarfod hapus dros ben. Nid rhyfedd genym weled y tri hyn yma yn fuan eto. Pob llwydd iddynt, meddaf fi — BEN HOWY.                      

1902: Mewn adroddiad am ddigwyddiad trist yn Nhredegar:

Tarian y Gweithiwr. 4 Rhagfyr 1902.

Syrthiodd plentyn o’r enw Blodwen Morris i’r afon Howy yn Nhredegar, dydd Gwener, a boddodd. Cariodd y dwfr yr un fechan am bellder o ryw dair milltir.

1919: Mewn ffugenw.

Y Gwylieidydd Newydd. 17 Medi 1919. Tredegar. Y nos Saboth diweddaf yn Awst oedd yr olaf i’r Parch. H. P. Atkins, yn y lle uchod... Gadawodd Mr a Mrs Atkins lawer o gyfeillion yn Tredegar, ac ymadawsant gyda dymuniadau da. GER YR HOWY.

At hyn, y mae tair enghraifft o’r enw mewn enwau heolydd.

1/ “Howy Road”, Y Rasau, Blaenau Gwent.

2/ “Glanhowy Street”, Y Sgwrfa, Tredegar. Ar Fapiau Google (Lluniau Heolydd) gwelir bod arwydd ddwyieithog erbyn hyn ar ben yr heol, ac arni  “Glanhowy Street – Stryd Glanhywl” (sic – “l” ar y diwedd yn lle “i”).

Gwelir felly yma yr enw “Glanhywi” fel ffurf safonol ar “Glanhowy”.

Y mae yma hefyd ysgol gynradd o'r enw "Glanhowy".

3/ “Glanhowy Road”,  Wyllie, wrth y Coed-duon, Caerffili.

Yn ddiamau y mae enghreifftiau eraill o’r talfyriad ar “Syrhowy” i’w cael, os dyna yw’r ffurf dan sylw.

Map

Description automatically generated

(delwedd J6374h)

.....

Iain Ó hAnnaidh: Tarian y Gweithiwr. 26 Mehefin 1891.

“...bedyddiwyd ef yn afon Howy”

MARWOLAETH JOHN NICHOLS, TREDEGAR.

Gorchwyl gofidus yw cofnodi marwolaeth yr hen frawd ffyddlon John Nichols, yr hwn a fu farw wedi cystudd byr ar y 27ain o Ebrill, yn 74 mlwydd oed. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1817 yn Cydweli, gerllaw Caerfyrddin, o'r hwn le y symudodd gyda'i rieni i fynyddoedd Mynwy pan nad oedd etto ond plentyn ieuanc. Treuliodd ein brawd y rhan olaf a'r rhan fwyaf o'i oes yn Nhredegar, lle yr ennillodd enw da a pharch diffuant gan bawb a'i adwaenai, pa un bynag ai cydweithwyr, cydfrodyr crefyddol, ai cyd-drefwyr. Cyrhaeddasai yr oedran o 43 mlwydd oed cyn iddo broffesu crefydd, pryd y bedyddiwyd ef yn afon Howy, Tredegar, ar yr 21ain o Ebrill, 1860, gan yr anfarwol Cynddelw.....

Text

Description automatically generated

(delwedd J6388)

.....

Iain Ó hAnnaidh:

Stryd Glanhywi, Y Sgwrfa, Tredegar (ar wahân i'r gwall wrth ddodi'r enw Cymraeg ("hywl" yn lle "hywi"), onid yw "heol" yn well cyfieithiad yn y De o'r gair “street”?

A picture containing website

Description automatically generated

(delwedd J6375)

.....

27 Ionawr 2022


SIRHYWI – TARDDIAD YR ENW YN ÔL HEN DRIGOLION Y CWM. 1862.


--------------------------


“Mi dreuliais lawer diwrnod,
Ar lan Sirhowy wiwglod,
I dynu cnau ar frigau'r fro, —
A thwyllo y brythilod.”


Enw yr Afon. — Rhydd yr hên drigolion hanes digrif iawn am darddiad yr enw Sirhowy — a thyma fe, “Pan oedd y Cymry a'r Saeson mewn rhyfel a'u gilydd daeth y Cymry pan oeddynt ar eu hencil (retreat) hyd at Ffynon y Dug (Duke's Well) idd y dyben o ddibuddedu eu hunain, ac i dori eu syched. Ond pan welodd y Dug, eu Pencadben, y gelynion yn agoshau, gwaeddai allan, nerth ei ben, ‘Pwy o honoch sydd yn barod i wynebu'r gelynion - wele hwynt yn d'od?’ Ac atebai un o’r milwyr, ‘Syr 'wy i,' un arall atebai ‘Syr 'wy i,' nes iddi fyned yn ‘Syr 'wy i,' trwy yr holl fyddin. Y’mlaen a hwy, law a chalon yn erbyn y gelyn, gan ladd ar y de a'r aswy, nes oedd eu saethau yn cymylu’r awyr, ac enill y fuddugoliaeth yn llwyr ar y gelynion” A mynodd y Dug, meddant hwy, alw yr afon yn ‘Syr 'wy i ' byth wedi hyn. Er fod rhyw ddigrifwch i’w weled yn y traddodiad hwn o eiddo'r cyndrigolion — gwelir yn amlwg nad ydyw ddim namyn na ffugchwedl (romance).


Cynyg ar iawn ystyr i’r enw. — Meddyliwyf mai gair cyfansawdd yw Sirhowy, o sir, gwreiddyn y gair siriol, a gwyneu wy, sef hên air Gymraeg am ddwfr, neu ddyfroedd. Felly ystyr y gair yw siriolddw’r, neu ddyfroedd dymunol i sirioli'r meddwl. Felly ceidw yr afon yr enw priodol hwn iddi ei hun hyd nes y llyncir hi i fyny gan yr afon Ebw. Ond saif Glyn Sirhowy yn gôf golofn o'i henw tra tywyno haul ar fryniau Gwalia hên.


--------------------------


HANES TREDEGAR O DDECHREUAD Y GWAITH HAIARN HYD YR AMSER PRESENNOL

Buddugol yn Eisteddfod Cymrodorion Tredegar am y flwyddyn 1862.
GAN DAVID MORRIS, (EIDDIL GWENT) B.B.D.
TREDEGAR: ARGRAFFWYD GAN J. THOMAS, HEOL-YR-EGLWYS. 1868.
Tudalennau 9-10


--------------------------


Sirhywi [sɪrˈhəwɪ] (?) yw ffurf safonol enw’r afon. Nid oes ‘h’ yn y Wenhwyseg, felly rhyw ffurf ar “Sir’ywi” [sɪˈrəwɪ] sy’n sail i’r tarddiad gwerinol uchod. Mae’r esboniad yn awgrymu taw “Syrwi” [səˈrʊɪ] yw.

(At hyn, mae rhaid newid pwyslais gwaedd y milwyr, o'r goben i'r sillaf olaf, i’r esboniad daro deuddeg - “Syr, yr wyf FI! (yn barod)” > “Syr, w I!” [ˈsər ʊˈi:])


....................


(Afon sydd yn llifo trwy hen siroedd Brycheiniog a Mynwy yw Sirhywi, yn codi ar Fynydd Llangynidr yn yr hen Sir Frycheiniog. Mae’r afon yn cerdded tua 18 milltir i'r de-ddwyrain, heibio i Dredegar, Argoed, a Mynyddyislwyn cyn ymarllwys yn Afon Ebwy dri chwarter milltir uwchben Rhisga.


Yn 1797, codwyd ffwrnais newydd yn rhan uchaf Glyn Sirhywi, heb fod yn bell o’r afon, gan Samuel Homfray a rhoddwyd arni yr enw "Sirhowy Ironworks". Aeth ‘Sirhowy’ wedyn yn enw ar y tai a godwyd wrth ochr y gwaith haearn. Rhan o Dredegar yw’r pentre erbyn hyn, 0.83 milltir i’r gogledd-ddwyrain o ganol y dre honno.)


May be an image of map and text


.....

 

.....

 

.....

 

.....

 

.....

 

.....

 

 

Sumbolau:


a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRON: ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
BREF: ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236:  B5237: B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISOD: i̯, u̯

CROMFACHAU:
  deiamwnt

ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
£

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org

https://en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: 
www.kimkat.org/amryw/1_enwau/enwau_lleoedd_cymru_fforwm_2022_3702k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: ??
Adolygiad diweddaraf:
25 03 2022
Delweddau: 
Ffynhonnell: 
---------------------------------------

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

counter
Edrychwch ar yr Ystadegau / Mireu les estadístiques / See Our Stats ENWAU