3703k Gwefan Cymru-Catalonia: Enwau lleoedd. Nodiadau ac Ymholiadau. Blwyddyn 2021. Dwy fil ac un ar hugain.



20-03-2022 
 


 


 

 

 

baneri
.. 




Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Nodiadau ac Ymholiadau
wedi eu hanfon at y Fforwm ar Enwau Lleoedd

Blwyddyn 2021

Dwy fil ac un ar hugain


a-7000_kimkat1356k 
Beth sy’n newydd yn y wefan hon?


Map

Description automatically generated
(delwedd 0457)

.....

 
Chart, icon

Description automatically generated 3701c Aquesta pàgina en català –  “Toponímia - punts i consultes”
A close-up of a flag

Description automatically generated with low confidence 3701e This page in English (Notes and queries on Place Names). 


.....

 

CYNNWYS:

30 Rhagfyr 2021 SAESNEG ER / AR

 

 

30 Rhagfyr 2021

Iain Ó hAnnaidh

SAESNEG ER / AR

Mae tueddiad wedi bod yn y Saesneg oddi ar gyfnod yr Hen Saesneg, ac enwedig oddi ar ddiwedd y cyfnod Saesneg Canol (?tua 1550), i “er” fynd yn “ar” mewn sawl gair: [er] > [ar] > [a:r] > [a:].

Er enghraifft,

1/ Hen Saesneg “steorra” ( = seren), Saesneg Canol “sterre”, Saesneg Cyfoes “star” [star > sta:r > sta:]

2/ Hen Saesneg “heorot” ( = carw) > Saesneg Canol “hert” > Saesneg “hart” [hart > ha:rt > ha:t]

3/ Hen Saesneg “herebeorg” ( = noddfa; llety; yn llythrennol “lloches i fyddin”; “here” = byddin, “beorg” = cysgodfan) > Saesneg Canol “herberwe” > Saesneg Cyfoes “harbour” ( = noddfa; porthladd cysgodol). (Ac o hyn, yn Gymraeg “harbwr”).

4/ Hen Saesneg “steorfan” [ˈsteorvɑn] ( = marw) > Saesneg Canol “sterven” > Saesneg Cyfoes “starve” ( = marw o newyn; bron trengi o eisiau bwyd; hefyd marw o oerfel, rhewi, sythu, rhynnu) (ac felly Cymraeg y Gogledd “starfio” = rhewi, sythu, rhynnu).

5/ Hen Saesneg “cheorl” [ʧeorl] ( = dyn rhydd o’r rheng isaf) > Saesneg Canol “churl” > Saesneg Cyfoes “churl” ( = llabwst, dwblbyn, un anfoesgar); ond hefyd Saesneg Canol “cherl”. Hen Saesneg “ceorla-tun” ( = tref y gwy^r rhydd) > Saesneg Canol “Cherlton” > Saesneg Cyfoes “Charlton” (Sawl enghraifft yn Lloegr fel enw ar bentref; hefyd yn gyfenw).

Rhwng 1354 a 1357, bu Humphrey de Cherlton yn ganghellor ar Brifysgol Rhydychen; Lewis de Charleton oedd enw ei frawd, a fu’n Esgob Henffordd.

6/ Y mae dau bentref yn Swydd Amwythig o’r enw Marton, ond Merton fu’r enw ganrifoedd yn ôl, o’r Hen Saesneg “mere” (fel yn Saesneg Cyfoes) ( = llyn) + “tūn” ( = tref). Dros y ffin ger y Trallwng y mae un ohonynt, ac wrth Eglwysau Basa / Baschurch y mae’r llall. (Yn od o beth y mae’r un enw ar y ddau lyn sydd wrth wraidd enwau’r pentrefi, sef “Marton Pool”).

7/Yn Swydd Gaer y mae pentref o’r enw Warford – rhyd y gored; Hen Saesneg “were” ( = cored) > Saesneg Canol “were” > Saesneg Cyfoes “weir”. Sef Werford gynt > Warford [‘warfərd] > [wo:fəd].

Y mae ambell air â’r ddwy ffurf – “er” (erbyn hyn [ɜ:]), ac “ar” [a:]:

1/ Hermitage, a’r cyfenw Armitage

2/ Merchant, a’r cyfenw Marchant

3/ Serve ( = gwasanaethu, gweini), a’r ffurf dafodieithol Saesneg “sarve” (yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, ceid “sarfo” yng Nghymraeg Sir Fynwy – “sarfa di itha reit”; a cheir “syrfo” hefyd yn y Gymraeg)

4/ University, a “univarsity” (ac felly “varsity” ar gyfer prifysgolion Rhydychen a Chaer-grawnt; ac yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, enw ar gyfer clwb chwaraeon prifysgol)

5/ Berkhamsted [ˈbɜːkəmstɛd], Swydd Hertford, Lloegr (ar fap o Swydd Hertford gan Joan Blaeu 1659: “Barkhamsted”)

Y mae rhai enghreifftiau hefyd lle y mae’r orgraff wedi cadw’r “er” er gwaetha’r ynganiad diweddarach “ar” [a:]:

1/ Derby, a’r cyfenw ac enw Darby (ond gan yr Americanwyr, Derby = [ˈdɜ:rbi])

2/ Y cyfenw Kerr [ka:], a sillefir hefyd yn “Carr”

3/ Sergeant, ac fel cyfenw Sargeant

4/ Clerk, ac fel cyfenw ac enw Clark (ond gan yr Americanwyr, clerk = [klə :k])

5/ Hertford, ond hefyd gynt Hartford (“A new improved map of Hartfordshire from the best surveys and intelligences...” gan Emanuel Bowen, Llundain (fl. 1714 - 67))

6/ “Person” ( = unigolyn), ond “parson” ( = offeiriad)

7/ Berkshire [ˈbɑːrkʃə], yn yr unfed ganrif ar bymtheg ceid hefyd “Barkeshire”; fel cyfenw, “Barkshire”.

8/ Berkeley [ˈbɑːkli] tref fechan yn Swydd Gaerloyw. Fel cyfenw, Berkeley [ˈbɑːkli], Barkley [ˈbɑːkli]. George Berkeley [ˈbɑːkli < ˈbɑːrkli], neu “Bishop Berkeley”, athronydd Eingl-Wyddelig (1685 –1753).

O enw George Berkeley daw’r enw “Berkeley” ar ddinas yn California, ond [‘bɜ:kli] (ynganiad yn ôl y sillafiad, mae’n debyg) yw yng nghegau’r Americanwyr.

Ceir yn y Gymraeg eiriau a fabwysiadwyd cyn i’r newid hwn ddigwydd. Felly

1/ Clerc [klerk], o’r Saesneg “clerk”, gynt [klerk], yn awr [kla:k]

2/ Person [person] ( = offeiriad), o’r Saesneg “person”, gynt [‘persən], yn awr [pa:sən]

3/ Fferm [ferm], o’r Saesneg Canol “ferm” [ferm], yn awr “farm” [fa:m]. Ceir “ffarm” hefyd yn y Gymraeg – benthyciad diweddarach na “fferm”.

4/ Berem < berm o’r Saesneg Canol “berm”; dyma air y De. Yn y Gogledd burum < burm, o’r Hen Saesneg “beorma”. Yn Saesneg Cyfoes “barm” ( = burum wedi'i ffurfio ar diodydd brag wrth iddynt eplesu. Hefyd yn nhafodiaith Swydd Gaerhirfryn ceir “barm cake” ( = rhôl fara meddal, a fflat a chrwn ei ffurf)).

5/ O’r ffurf Saesneg Canol “herberwe” ayyb (Saesneg Cyfoes: harbour) ceir “herber” yn y Gymraeg (Geiriadur Prifysgol Cymru: “gardd lysiau neu flodau, deildy...; lloches, cysgod”; “Digwydd fel elfen mewn enwau lleoedd e.e. Yr Herber ger Llangynog, sir Drefaldwyn, a Penyrherber nid nepell o Gastellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin.”

Rhai sylwadau ar enwau lleoedd Cymraeg yn Lloegr a rhai Saesneg yng Nghymru â'r "ar";

1/ Tarvin, Swydd Gaer. “Tarvin, Welsh terfyn "boundary", appears in splendid isolation as a Celtic name five miles east of Chester, and clearly takes its name from the stream on which it stands. Cheshire Place Names. Simeon Potter. 15-05-1954. The Historic Society of Lancashire & Cheshire. Vol 106 (1954).

2/ Hergest. Mae’r enw yn gyfarwydd wrth gwrs oherwydd y llawysgrif hynafol a enwir yn Lyfr Coch Hergest. Fe’i hysgrifennwyd tua 1382-1410. Daeth i feddiant teulu Fychaniaid Plas Hergest, ger Ceintun / Kington yn Swydd Henffordd. Yn Saesneg yn anad dim [ˈhɜ:rgest] a geir heddiw (ynganiad yn ôl yr orgraff?), ond hefyd yn lleol “Hargist” [ˈha:gist] yw / oedd yr enw (yn ôl “A Pronouncing Dictionary of English Place-Names including standard local and archaic variants”. Klaus Forster. 1981).

3/ Marford. Pentref yn yr hen Sir Fflint i’r gogledd-ddwyrain o Wrecsam. Dywed A. N. Palmer, “A History of Ancient Tenures of Land in North Wales...”, 1910, tudalen 235:

“The earliest existing court books in the charge of the steward (beginning in 1729) show no distinction between the customs of Merford (now always spelled and pronounced "Marford") and Hoseley, and those of an ordinary English copyhold manor.

Ac ar dudalen 183: “Merford, now always spelled and pronounced "Marford," but formerly always written "Merford." and doubtless so pronounced. "Merford" is become "Marford," just as "Merton" (Lancashire), "Merbury" (Cheshire), and "Merpol" (Derbyshire), are become "Marton," "Marbury," and "Marple" respectively. But in all the English place-names just mentioned "mer" is known to have stood for "mere," a lake. "Merford" would mean therefore the mere-ford, or the ford of the mere; and though the site of a mere is not now traceable, the township (and especially that area of low-lying ground adjoining which probably once formed part of it) may well have contained a mere. On the other hand, the first syllable of the name Merford may refer to "mere" in its meaning of a limit or boundary. "Merffordd" is the form occasionally occurring for "Merford" in the collections of seventeenth century genealogists, who were fond of arbitrarily altering all place-names ending in "-ford " into corresponding names ending in "-ffordd," thus giving them a Welsh appearance. "Merford" continued to be so spelled in the township rate-books until 1804.”

4/ Y mae yn Swydd Henffordd bentref o’r enw Llanwarne, sef Llan-wern. Dyma enghraifft arall o “er” > “ar”. Yn ôl “The BBC Pronouncing Dictionary of British Names”. G. E. Pointon. 1983 [ɬænˈwɔrn] yw’r ynganiad, er bod hyn yn annhebyg; efallai taw [lænˈwo:n] yw’r ynganiad mewn gwirionedd, neu [ˈlænwo:n] gyda symudiad yr acen yn y Saesneg, fel CaerDYDD/ CARdiff.

Enw crwner Swydd Henffordd yn 1862 oedd Nicholas Lanwarne ac y mae’n debyg taw [ˈlænwo:n] yw hwn. Teitl map y degwm am blwyf Llanwarne yn 1840 yw “Tithe Map of Lanwarne (parish), Herefordshire” - hynny yw, “lan-“ yn hytrach na “llan-“.

5/ Ai dyma’r rheswm am “ar” yn yr enw Saesneg ar Gaerfyrddin? Sef Carmerthen > Carmarthen. E.e. “Whitehall the 15th day of July, 1634... To our loving freinds ye Mayor of the Burrough & County of Carmerthen..." (Yn "When Charles the First was King", Carmarthen Journal, 26 Mawrth 1909)

6/ Ai dyna’r “ar” yn “Cardigan”? Ceredigion, a rhyw ddatblygiad megis ?CerDIGion > ?CERdigion > CARdig...

7/ Y Bermo. Ai Cymraeg “Bermáwdd” [ˈbermaʊð] > Saesneg “Bermáwth” [ˈbermaʊθ] > “Barmawth” [ˈbarmaʊθ] > “Barmouth” [ˈba:məθ] yn esboniad ar y ffurf Saesneg? A chyd-ddigwyddiad yw bod yr elfennau Saesneg “bar” a “mouth” i’w gweld yn yr enw? Gweler Y Cymmrodor, Vol. XXXVIII. 1927. Merioneth Notes. T. P. ELLIS, I.C.S. (retired), M.A., F.R.Hist.S.:

“These maps are of some interest also with regard to the name ‘Barmouth’. Some years ago a note appeared in "Byegones” to the effect that in 1768 the web-merchants of the neighbourhood met in conclave and decided on changing the existing name of ‘Abermawe’ to Barmouth, as more pronounceable than the original. The story is ben trovato, but inaccurate. The map of 1578 contains the name ‘Barmouth’. The change probably occurred about the time of Henry VII's activities.”

8/ Yn Swydd Gaer, ar bwys yr Holt dros Afon Dyfrdwy, y mae Farndon, sef “fern” ( = rhedyn) + “don” ( = bryn). O hyn mae’n debyg gwnaethpwyd enw Cymraeg rai canrifoedd yn ôl, sef “Rhedynfre” (rhedyn + bre = bryn).

Ond yn ôl “Cheshire Place Names” (Simeon Potter) eto: “But many villages with English names now bear alternative Welsh names of identical or similar meaning, and clearly one name is a translation or adaptation of the other. Which is a translation of which ? Is Welsh Rhedynfre "fern hill", for example, a later rendering of Farndon, OE Fearndun, first recorded in Old English Chronicle D under the year 924?”

Map

Description automatically generated

(delwedd J6280)

.....

Iain Ó hAnnaidh: Darland, yn yr Orsedd, ger Wrecsam - tybed ai “Derland” oedd hwn? (Saesneg Canol “dere”, “der”, ayyb = anifail; carw) + (land = tir, ystâd) < Hen Saesneg “dēor” ( = anifail, carw ).

Mae lle o’r un enw yn Swydd Gaint. Yn ôl y “Dictionary of American Family Names”, 2013, Gwasg Prifysgol Rhydychen, o’r lle hwn yng Nghaint y daw’r cyfenw Darland, sef “carw” + “tir, ystâd”,

https://britishlistedbuildings.co.uk/300001554-darland-hall-rossett?fbclid=IwAR34qVhicexvubXMFH4MsZVh8tpfNYdM4iCEW_aZPAzx_x87y4Cw1PEXJlw#.Yjd-YurMLcuRichard Morgan

.....

Richard Morgan: My recorded spellings are late: Darland 1675 and 1681. An historian of Wrexham or Gresford may be able to help. I don't have any of Alfred Neobard Palmer's publications on the Wrexham area. They're always worth checking

James Dowden: Mae nodwedd arall yn gwthio hyn yn Saesneg. Wrth i'r iaith golli "r" ar ôl llafariad byr, y tueddiad oedd i /er/, /ir/, a /ur/ hanesyddol i gyd fynd yn /ɜː/ (fel y mae o hyd mewn Saesneg safonol). Am y gallai uno tri llafariad fel hyn fod yn ddryslyd iawn, fe godid gorgywiro /er/ yn /ɑː/.

.....

18 Rhagfyr 2021

Elfed R Williams: Cors Ymryson, Ger Bryn Du, Ynys Mon

Cymharer yr enw Saesneg “Debatable Land” wrth y ffin rhwng yr Alban a Lloegr; sef y tir rhwng afonydd Esk a Sark, ardal a hawlid gan yr Alban ac a hawlid hefyd gan Loegr, ac sydd bellach yn rhan o'r Alban.

http://www.borderreivers.co.uk/Bord.../Debateable%20Land.htm

 

. .....

 

.....

 

.....

 

.....

 

.....

 

.....

 

 

.....

 

 

Sumbolau:


a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRON: ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
BREF: ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236:  B5237: B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISOD: i̯, u̯

CROMFACHAU:
  deiamwnt

ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
£

ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
wikipedia, scriptsource. org

https://en.wiktionary.org/wiki/ǣ
---------------------------------------
Y TUDALEN HWN:
www.kimkat.org/amryw/1_enwau/enwau_lleoedd_cymru_fforwm_2021_3703k.htm
---------------------------------------
Creuwyd: 25-03-2022
Adolygiad diweddaraf:
25 03 2022
Delweddau: 
Ffynhonnell: 
---------------------------------------

Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

counter
Edrychwch ar yr Ystadegau / Mireu les estadístiques / See Our Stats ENWAU