2479e Proverbs and sayings collected by
Gwernyfed in the Merthyrtudful area. Published in four parts in ‘Y Geninen’
between 1894» and 1895. “I don’t want
anybody to think that only the good people of Merthyr use these proverbial
sayings. We must bear in mind that the inhabitants of this town are made up of
people who have come from all over Wales.”
http://www.kimkat.org/amryw/13_diarhebion_merthyr_1895_2479e.htm
0001z Y Tudalen Blaen / The Home page
..........1864e Y Porth Saesneg / The Gateway
Page in English
...................0010e Y Gwegynllun /
Map of the Website
...................................1257e Y Gyfeirddalen Ddiarhebion - Welsh
Proverbs: Main Page
......................................................y
tudalen hwn
|
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
|
····
Yr ym wedi copďo rhestr ‘Gwernyfed’ a gyhoeddwyd mewn
pedair rhan yn “Y Geninen” rhwng 1894» a 1897.
We have copied the list made by Gwernyfed published in four parts in
t”Y genien” between 1894» and 1897
(1) Yr ym wedi
diweddaru’r orgraff, a rhoi’r diarhebion yn nhrefn y wyddor - yn y rhestr
wreiddiol nid oedd fawr o siâp ar y drefn.
We have modernised the spelling, and put the proverbs in alphabetical
order - in the original list was only loosely in order
(2) Yr ym hefyd
wedi cynnwys y geiriau yr oedd yr awdur wedi ei rhoi yn anghyflawn er
lledneisrwydd - piso, tin, rhech (yn lle p__, t__, rh___ ).
We have also included the words which the author had only suggested by
means of initials out of decency
(3) Ceir ein
sylwadau a chyfieithiadau mewn teip oren
Our observations and translations are in orange type
(4) Nid ydym wedi
mynd ati i gyfieithu’r cwbl - dim amser gennym i’w wneud - byddem ni’n
ychwanegu cyfieithiadau o bryd i’w gilydd. Dywediadau Saesneg rhwng cromfachau
pen saeth < Like attracts like>
We haven’t attempted to do a full translation of the list - we don’t
have the time to do it - but we’ll add the odd translation or comment from time
to time. English sayings in arrowhead brackets < Like attracts like>
RHYBUDD - efallai
fod ambell i wall teipio nad ydym wedi dod o hyd iddo eto!
WARNING! there may be a couple of typing errors that we have overlooked
‘Diarhebion Lleol neu ddywediadau ystrybedol a
glywir yn Merthyr a’r cylchoedd cyfagos.’ Gan Gwernyfed.
“Y Geninen”
(1) Cyfrol 12» 1894» t259-260
(2) Cyf 13» 1895» t222
(3) Cyf 13» 1895» t???
(4) Cyf 15» 1897» t24.
Nid wyf am i
neb feddwl mai pobl dda Merthyr yn unig a ddefnyddiant y dywediadau diarebol
hyn. Rhaid i ni gofio fod trigolion y dref hon yn cael eu gwneyd i fyny o bobl
wedi dyfod yma o bob ardal o Gymru.
“I don’t want anybody to think that only the good
people of Merthyr use these proverbial sayings. We must bear in mind that the
inhabitants of this town are made up of people who have come from all over
Ac wrth
wrando ac ymddiddan o ddydd i ddydd â’r bobl hyn y cesglais y gofres hon: gan
obeithio y bydd hyn o orchwyl o’m heiddo yn symbyliad i eraill wneyd yr un fath
yn eu hardaloedd hwythau, fel y cadwer drwy hynny yn fyw hen ddywediadau
ystrydebol y genedl Gymreig. Merthyr. “Gwernyfed”.
1»
A boero i ddannedd y gwynt sy’n poeri i’w wyneb ei hun
2» Achub chwannen a cholli croen buwch
3» Achub wy poeth o dân
4» Aeth ei eiddo rhwng seiri a phorthmyn
5» Afrwydd pob gorchwyl ar y cyntaf (“(it is)
difficult every task at the beginning”), a task is always hard at the
beginning, <Getting started is always difficult>
6»
Ag arian y prynir popeth - ond gair da
7» A gollir heddiw ni cheir yfory
8» Agosaf i’r asgwrn melusaf y cig
9» Agosaf y diawl pan siaredir amdano
10» Â’i fys ym mhob brywes
11» Â’i fys yng nghawl pob un
12» Allan o ddyled allan o berygl (“out of debt,
out of danger”)
13» All neb fyw ar garu a chusana (“nobody can live
on loving and kissing”) <you can’t live
on kissing, you can’t live off kisses alone>
14» All neb gario’i dylwyth ar ei gefn
15» All ungwr ond a allo (“one man
can only do what he might be able to do”) <You can only do what you can> <You can't do more than what you can>
16» Allwedd pob cist yw cwrw (“(it is) (the) key
(of) every chest that-is beer”) <Drunkenness
reveals what soberness conceals.> <In vino, veritas>
17» Amcan llygad a gwaith llaw
18» Amcan llygad a gwaith pen bys
19» Amcan Shors am bwys o wlân / ac amcan Shân wrth gribo
20» Amser yw’r esboniwr gorau
21» Anhawdd {=
anodd} plygu hen bren
22» Anhawdd {= anodd}
tynnu cnacau o hen geffyl
23» Annoeth pobun nes gwypo (“unwise
everybody until they know”) everyone is ignorant until they
know otherwise
24» Ar drot byth a hefyd (“at
a trot constantly”) <always on the go>
25» Ar ôl yfed, syched sydd (“after
drinking, (it is) thirst that-there-is”) Drinking makes you thirsty.
26» Ar rod a charhant = ar drot byth a hefyd
27» A wnel dwyll a dwyllir
28» Bargen yw bargen, serch colli
29» Beth yw bron o flaen brenin?
30» Bid cam bid cymwys - tae fater am hynny bid p’un i
chi
31» Blas y cyw ar y cawl
= ni ddygir dyn oddiar ei dylwyth
32» Blewyn heddiw o groen
y ci a’m cnodd y ddoe
33» Breuddwydio am haf sych Nadolig, a chael dydd Sul
yr hwch yn yr haf
34» Briwydd bychain wnânt dân gynta, ond rhai mawrion
a ddiffodda
35» Bwyta bwyd o ben dyn arall
36» Bwyta llygoden cyn ei dal
37» Bwyta’r cyw cyn ei fagu
38» Byd a fynno, ta beth = bid p’un i chi
39» Byw mewn gobaith am abwy
40» Cadw cŵn a chyfarth fy hun, ai e?
41» Cadw heddiw fel bo gennyt yfory
42» Cadw’th dafod rhwng y ddanedd {= ddannedd}
43» Cael neu golli,
mentra
44» Call pob ffôl tra tawo
45» Calon dyn yn ei bwrs
46» Calon dyn yn ei logell caseg wen a phioden
47» Can {= cyn}
daered â’r twrch
48» Can {= cyn}
haeled â llyffan ar y pridd
49» Cân di bennill fwyn i’th nain / Fe gân dy nain i
tithe
50» Caws o fola ci
51» Cel da yw cel benthyg
52» Cenfigen a fynn ei
thâl
53» Cenfigen a fynn ei
wobr
54» Cenfigen a fynn le i
ddial
55» Chwannog i’w fara,
ond diog i’w hela
56» Chwarae teg, serch chwarae am ddim chwilio bai a
hela brychau
57» Chwarae teg i’r diawl
58» Clecwn sy’n holi, a ffyliaid sy’n gweud
59» Cneuen goeg sy galeta
60» Cnůl newyn, llaethdy
gwag
61» Codi crach a thrafod crawn
62» Cos di fi, mi gosa innau dithau (you scratch me, I for my part will
scratch you for your part) <you scratch my back and I’ll scratch yours>,
do a favour for me and I’ll do one for you in return
63» Cuwch cwd a ffetan
64» Cwympo i’r pot a’r saem
65» Cymaint ei gariad â’r iâr at yr halen (“(it is”) so much his love as the hen for salt”) (hens
do not like salt - if hens are fed grit in the form of crushed oyster shells,
for example, they need to be cleaned of saltor they won’t eat it)
66» Cymydog agos sy’n well na brawd ymhéll
67» Cynnau cannwyll i chwynu
68» Cynt twymiff y gwaed na’r dŵr
69» Cyrchu dŵr dros afon (“carry
water across a river”) said of a pointless task, <to carry coals to
Newcastle>
70» Cysgu ci cigydd
71» Cysgu hun ci cigydd
72» Cystal ag aur = as good as guinea gold
73» Dagrau sych gynta dal at y gwir, petái’r wybr yn
cwympo
74» Dal cannwyll i gyfarwydd
75» Dal golau i gath lygota
76» Dall pob anghelfydd
77» Dall pob anghyfarwydd
78» Dall yw cariad i bob anaf
79» Dal mochyn gerfydd ei gwt
80» Dal y gwynt a saethu’r lleuad
81» Dal y gwynt mewn sachau
82» Dal ych gerfydd ei gorn
83» Daw, fe ddaw yn haf ar y ci coch; a thywydd teg i
galchwr
84» Daw dial, daw. Wedws dial delse
85» Dechrau da yw hanner
y gwaith
86» Dial y felin, dial ei
fola
87» Dianaf hagr i gariad
88» Diddrwg pob drwg heb gerydd (“not bad every bad act until its reprimanding”) failure to act in the face of evil is
simply to condone evil.
89» Dieithr pob llwybr nes ei gerdded
90» Digon sy digon
91» Digon yw digon - a hwnnw am ddim
92» Dim mor sicr ag angeu {=
angau}
93» Dodi draen yn ei nyth ei hun
94» Dodi ei dafod rhwng y
maen a’r min
95» Dodi ei fys rhwng y
tewyn a’r tân
96» Dodi ei het ar yr hoel
97» Dod tua thre ac un llaw’n wag, a’r llall heb ddim
98» Dod yn ei hôl fel ceiniog ddrwg
99» Does byth flino ar gčl benthyg
100» Does colled i neb nad oes ennill i rywun
101» Does dim am ddim
102» Does dim am ddim, na dim llawer am ddimai
103» Does dim o ddim, a dim heb dreio
104» Does dim toll ar gleber
105» Does doll ar dafod menyw
106» Does gan y ci ond ei groen
107» Does gan y ci ond ei gwt
108» Does gofid neb fel ’ngofid i
109» Does dim toll ar gleber menyw
110» Does neb yn dlawd nes a’n dlawd o ddyn
111» Does neb yn rhy hen i ddysgu
112» Does ond y gwir a ddal dŵr
113» Does unman fel cartre’
114» Dros ei ben a’i glustiau mewn gofid
115» Dwfr dwfn gerdd yn dawel
116» Dwl bwrw, dwl marw
117» Dwl geni, dwl drengu
118» Dyled ar bawb, dyled ar neb; gwaith ar bawb,
gwaith ar neb
119» Dyna blufyn yn ei gap
120» Dyna blufyn yn ei gwpan
121» Dyna blufyn yn ei het ef
122» Dyna damaid i ti - tag wrth ei lyncu (“here’s a bit for you - choke when you swallow it”)
123» Dyna ddyn a’i galon yn ei ddwrn
124» Dyna ddyn a’i galon yn ei law
125» Dyna gelwydd glân golau
126» Dyna gneuen i ti - tor hi, os medra dyna wir fel
yr houl
127» Dysgu cath i lygota
128» Dysgu cath i yfed llaeth (“teaching
a cat to drink milk”)
129» Dysgu cath i yfed llefrith (“teaching a cat to drink buttermilk”)
130» Dysgu crychydd i bysgota (“teaching
a heron to fish”)
131» Dysgu crychydd i lyncu llyswen (“teaching a heron to swallow an eel”)
132» Dysgu cŵn i fwyta caws (“teaching dogs to eat cheese”)
133» Dysgu ei famgu i odro’r hwyaid (“teaching his grandmother to milk ducks”)
134» Dysgu gwiwer i gneua (“teaching
a squirrel to gather nuts”)
135» Dysgu hen geiliog i ganu (“teaching
an old cock / rooster to sing”)
136» Dysgu hwyaid i nofio (“teaching
ducks to swim”)
137» Dysgu llwynog i ladd gwyddau (“teaching the fox to kill geese”)
138» Dysgu moch i yfed maidd (“teaching
pigs to eat whey”)
139» Dysgu’r dryw fach i nythu
140» Dysgu’r gath i grafu a’i llygaid yngháu
141» Dysgu’r pader i’r gath
142» Dysgu’r wennol i nythu (“teaching
the swallow to nest”)
143» Dystawa’i {=
distawa’i} dafod, llyma’i dan
144» Dyw afal o berllan arall byth yn sur
145» Dyw amser ddim yn aros - {time
waits for no man}
146» Dyw cig llwdn lladrad byth yn drewi
147» Dyw e ddim gwerth halen mewn bwdran
148» Dywedyd wrth y wal nes bo’r pared yn clywed =
teimlo
149» Dyw pob ci sy’n cyfarth ddim yn cnoi
150» Ei fola’n rhyfeddu ble mae ei ddannedd
151» Ei le i bob peth - a phob peth yn ei le
152» Ei le yn well na’i gwmpeini
153» Ei lygaid yn fwy na’i fola
154» Eli penelin - a bôn yr ysgwydd
155» Esmwyth cwsg cawl erfyn, Dai! Esmwythach cwsg
cawl dŵr, Shoni!
156» Ewyllys a bâr allu (“will
causes ability”) <Where there’s a will there’s a way>
157» Fe aeth y llygoden goch drosto
158» Fe aeth yr hwch trwy’r siop
xxxx Fe ddaeth y gath o’r cwd
159» Fe ddaw’r ferch i fagu’r fam
160» Fe ddistrywiodd un waith can
161» Fe ddodws ei draed ynddi
162» Fe ddywed gelwydd fel ci yn trotian
163» Fe doriff cyn plygu
164» Fe dwyllodd y bola’r llygaid = ei lygaid yn fwy
na’i fola
165» Fe ellir cael tôn
fwyn ar delyn lapre
166» Fu mwy o golled na
hynyna {= hynna} yn Llundain cyn brecwast
167» Fe ellir rhoi ergyd
cwmws o hen fwa
168» Fe fynn y gân a’r
geiniog
169» Fe fynn y geiniog
a’r geiniogwerth
170» Fe grogws ei hunan
o’r diwedd
171» Fel ceiliog ar ei domen ei hun
172» Fel ci ar wair
173» Fel ci yn dal clęr
174» Fel clochydd yn wastad mewn eisiau
175» Fel crychydd yn hol llif
176» Fel giâr am ei chywion
177» Fel giâr ar y glaw
178» Fel hwyaden ar
ddŵr
179» Fel llwdwn diarddel
180» Fel y dŵr
gyda’r afon
181» Fel y dydd yn hwyr
182» Fe wyr ba ochr i’r
bara mae’r ’menyn
183» Fe wyr fod
gwahaniaeth rhwng cael ei arwain a chael ei lusgo
184» Fe wyr hen ddafad o ble daw storom
185» Fe wyr hen ddafad y
fan y mae porfa
186» Ffola’ ffôl, na fyn wybod
187» Ffôl pob call hyd nes dysgo
188» Ffôl pob tlawd
189» Ffôl yn unpeth, ffôl ym mhopeth
190» Ffynnon hesb, buarth gwag
191» Gall derwen dorri
192» Gall pob clapgi gyfarth
193» Galw’r plwyf i glywed y gwcw
194» Glaw yw glaw, pe ond diferyn
195» Gofid a drycin / A ddônt heb eu mofyn
196» Goleuo cath i laethdy
197» Gorau arfer - daioni
198» Gorau gair - gair da
199» Gorau gair - gair yn ei bryd
200» Gorau i gyd po gyntaf
201» Gorau moes - gwyleidd-dra
202» Gorfod pob gorfod - gorfod marw
203» Gormod chwerthin a dynn ddagrau
204» Gormod o gynfas am rot
205» Gwaethaf arfer arfer ddrwg
206» Gwaith menyw heb ei derfyn
207» Gwaith y nos, y dydd
a’i dengys
208» Gwared da ar ei ôl
ef
209» Gwas i was = chwibanwr
210» Gwas y baw =
chwibanwr
211» Gwed y gwir - doed
fel y delo
212» Gwed y gwir nes
cocho’r cythraul
213» Gwell a blygo nag a
dorro
214» Gwell blaidd dan
lwyn na chi ar dwyn
215» Gwell camsyniad na cham sengyd
216» Gwell canmol ci drwg na rhoi cic iddo
217» Gwell canmol ci na’i
gicio
218» Gwell cerydd câr na gwęn gelyn
219» Gwell cerydd henddyn na gwers ynfytyn
220» Gwell chwerthin na llefain
221» Gwell cloff o’i gynnal na chelgi mewn ymrafael
222» Gwell corddi na cherdded
223» Gwell gan un filltir
o ffordd na modfedd o waith
224» Gwell gwâl wellt cartref na gwâl blyf oddicartref
225» Gwell gweled na chlywed
226» Gwell heddiw na ’fory
227» Gwell i’r duwiol ei farw na’i eni
228» Gwell iechyd na chyfoeth
229» Gwell morwyn o’i chyfarch
230» Gwell plygu am bin na phlygu am ddim
231» Gwell pob crefft o’i arfer
232» Gwell pob gwas o’i ganmol
233» Gwell un a ddaw rywbryd nag un na ddaw byth
234» Gwell ychydig o dda na llawer o ddrwg
235» Gwerthu’r fuwch i brynu tarw
236» Gwerthu da i brynu drwg
237» Gwir yw gwir, ac fe ddal dŵr
238» Gwir yw’r hen ddihareb hynod / Anodd rhyngu bodd
bedlemod
239» Gwisgo’r bais a’r britshus
240» Gwisgo dillad dyn
marw
241» Gwisgo esgidiau dyn
marw
242» Gwneud mynydd o dympath pridd gwadd
243» Gwneud y gorau o’r gwaethaf
244» Gwrthod rhodd, dirmygu y rhoddwr
245» Gwyn pob man cyn myned iddo
246» Hael glwth ar dorth gŵr arall
247» Hai gel gerddo nes cwympo
248» Hai gel gerddo nes ffaelo
249» Hai gel gerddo nes metho
250» Hai y ci a gerddo - da was, ond a gyfartho
251» Hala’r maen i’r wal
252» Hala rhwng y ci a’i
gwt
253» Hanner addo yw pallu cyn ceisio
254» Hanner ie - cystal â na (“half
a yes - as good as a no”), a forced “yes” is really a “no”
255» Hawddach cofio na dysgu
256» Hawddach dal y celwyddog na’r cloff (“(it is) easier catching the lying (person) than the
lame (person)”). Compare the Catalan saying “s‘enganxa abans un mentider que un
coix” “a liar is caught before a lame
man”)
257» Hawddach gweud na gwneud (“(it
is) easier saying than doing”) <Easier said than done>
258» Hawddach tynnu lawr nag adeiladu (“(it is) epulling down than building”) <It is easier to pull down than to build
up>
259» Hawdda hael - hael addo
260» Hawdd cneifio dafad grebi
261» Hawdd codi castell yn yr awyr
262» Hawdd cynilo lle bo
prinder
263» Hawdd eillio pen moel
264» Hawdd gofyn i roddwr llawen
265» Hawdd iawn yw siarad
266» Hawdd twyllo didwyll
267» Haws cwympo na chodi
268» Heb ewyllys, heb allu
269» Henach henach ffolach ffolach
270» Hiraf y dydd, byrraf
y nos
271» Hir pob aros, ond byr pob difyrrwch
272» Hir pob ffordd, nes ei hadwaen
273» Hir wyneb wna hwyr wanu
274» Ho ho - mab ei dad
i’r dim
275» Hoi! dyna drefn yr
iâr ddu / Dodwy allan, a thonni yn y ty / Hoi! hoi! dyna drefn yr iâr wen /
Tonni’n y ty, a dodwy ar y pren
276» Hollti blew - a phigo brychau
277» Hollti blewyn yn bedwar
278» Hwch yn mynd i Lundain - hwch yn dod adref
279» I’r cwm rhed y cerrig, felly arian i foneddig
280» I’r pant y rhed y
dŵr
281» Iach cilgi drannoeth
282» Ie, busnes leuog yn wir
283» I’r cwm rhed y cerrig / Felly arian i fonheddig {“foneddig” in the original text}
284» Iro tin taeog â
bloneg
285» Iro tin taeog â
gwddi
286» Iro tin taeog â
rhawn
287» Llac ei afael, ffraeth ei chwedlau
288» Lladd chwannen â gordd
289» Llawer gwir da ei
gelu, serch cnoi tafod
290» Llawna’i boc,
gwaca’i ben
291» Lle bynnag y mae
mwg, agos yw tân
292» Lleidr a ddal leidr
293» Lleidr yw llety
294» Llosgi bysedd yng nghawl dyn arall
295» Llwyth gwas diog = hir dafodog
296» Llygad segur węl wall
297» Llyma’i fin, llyma’i
din
298» Llyma’i gyllell, llyma’i gaws
299» Llyma llwm, popty gwag
300» Llyncu llyffan
301» Llyncu polyn
302» Mab a dwng ei dad; ie, mab ei dad
303» Mae amser i siarad yn ogystal â thewi
304» Mae arogl afal sur yn well na’i flas
305» Mae bwdel ar bob llwybr (“there
is a puddle on every path”). You are bound to meet with difficulties in life.
Not every road is equally smooth. Life
is an obstacle course.
306» Mae cariad yn ddall i bob anaf
307» Mae cenol ar bopeth
308» Mae clustiau gan gloddiau, a llygaid gan gerrig
309» Mae dafad ddu ym mhob praidd
310» Mae dechrau i bob peth
311» Mae digon o faint mewn buwch i ddal sgwarnog
312» Mae dincod ar ei ddannedd His teeth are on edge
313» Mae dod i blentyn, ond mynd i ddyn
314» Mae dod i bob peth, ond i hen ddyn
315» Mae drain yn pigo
316» Mae dwy ffordd i’r felin, ac un i’r clochdy
317» Mae dwy ochr i’r ddalen (“there
are two sides to the page”) There are two
sides to every story
318» Mae ei dro i bob peth
319» Mae fel y mwdwl o
dew
320» Mae gweud yn dda, ond mae gwneud yn well
321» Mae hen esgid yn hoffi saim cystal ag un newydd
322» Mae hen gadno am ei hela
323» Mae hyd ’no’d mwydyn yn teimlo
324» Mae i bob celwydd ei gymar
325» Mae i bob llanw ei drai
326» Mae i falchder ei gwymp
327» Mae llawer ffordd i ladd ci heb ei dagu â ’menyn
328» Mae llawer ffordd i’r ffair
329» Mae llawer gair yn drymach na gordd
330» Mae llawer hen cystal â newydd
331» Mae mwydyn yn
gwingo, os damsengir ef
332» Mae mwy nag unffordd
i’r eglwys
333» Mae ‘na’ hael cystal
ag ‘ie’ anfoddog
334» Mae newid gwaith
cystal â gorffwys
335» Mae newid gwaith cystal â hwe {= hoe}
336» Mae parch pob dyn ar ei law ei hun
337» Mae pawb â’i gofid
338» Mae pawb yn adwaen
sŵn ei gloch ei
339» Mae pob aderyn yn
hoff o’i gerdd ei hun, ebe’r frân
340» Mae pob gwaith yn galed i ddiog
341» Mae pob hwrdd yn ’nabod ei resfa
342» Mae pob margen gymell yn drewi
343» Mae pob peth wrth lygad lleidr
344» Mae pob peth yn dda yn ei dymor
345» Mae pob tipyn yn help, ebe’r dryw wrth biso i’r
môr
346» Mae’r carc yn well na’r cof
347» Mae’r esgid yn
gwasgu
348» Mae rhyw ddraen ym mhob nyth (“there’s a thorn in every nest”) Everybody has some
niggling problem
349» Mae un celwydd yn gweiddi am un arall (“one lie shouts out for another one”) One lie leads to
another
350» Mae yfory’n ymhell
351» Mae yn cynyddu fel cyw yr ŵydd
352» Mae yn ddigon ffein i ’ffeirad
353» Mam ddigerydd wnaiff ferch benrhydd
354» Man y man, Sianco, ebe Shân. Waeth baw na bwdel
355» Marchogaeth cel marw = riding a dead horse
356» Margen oedi, margen golli
357» Melysach afal o’i ddwyn (“sweeter
(an) apple as a result of its stealing”) stolen apples are sweeter.
358» Melys ag e, ond melysach bod hebddo
359» Melys gwin o gafn arall (“(it
is) sweet (that is) wine from (the) trough (of) another (person)”) Stolen wine is sweeter.
360» Melys pob gweithred wrth ei gwneud
361» Melys rhodd mewn angen (“(it
is) sweet (that is) a gift (when you are ) in need”)
362» Mi wn hyd ei goes; ni raid iddo fygwth
363» Mor amled â gwiddon mewn cosyn (“as abundant as mites in a cheese”)
364» Mor anwadal â cheiliog gwynt (“as changeable as a weather vane”)
365» Mor chwim â’r wenci
366» Mor dawel â dau o’r gloch
367» Mor dawel â’r tes
368» Mor dawel â thes mis Mai
369» Mor ddauwynebog â cheiliog gwynt
370» Mor ddeche â ’deryn ar ei nyth
371» Mor ddibarch â’r blaidd
372» Mor ddiddiolch ag i’r ci am cario’i gw
373» Mor ddifater a broga melyn bach
374» Mor ddifrifol â phe’n dweud ei bader
375» Mor ddigartre â chath rhwng deudy
376» Mor ddigyffro â malwoden
377» Mor ddiles â chennin Pedr
378» Mor ddiles ag arian cybydd
379» Mor ddiles â mes i eifr
380» Mor ddilewyrch â thân gwidw
381» Mor ddiniwed â’r oen bach (“as innocent as a little lamb”)
382» Mor ddiog â rhod y felin
383» Mor ddistaw â’r bedd {=
“ddystaw” in the original text}
384» Mor ddiwyd â morgrug
385» Mor ddued â’r frân
386» Mor ddued â’r inc (“as
black as the ink”) As black as ink
387» Mor ddued â’r parddu (“as
black as the soot”) As black as soot
388» Mor ddwl â chi yn cyfarth y lleuad
389» Mor ddyfal â lleuen mewn crachen
390» Mor ddyled â’i lun (“as
daft as his picture”)
391» Mor debyg â dau lwydyn y to (“as alike as two house sparrows” llwydyn y to is
literally “little-grey-one (of) the roof”)
392» Mor debyg â dwy bysen (“as
alike as two peas”)
393» Mor debyg â dwy ffäen {=
ffeuen}
394» Mor denau â rhaca (“as
thin as a rake”)
395» Mor denau â sgiled
396» Mor dew â hwch melinydd
397» Mor dew â iâr ddu yn ei thalcen
398» Mor dew â merched Shôn Grîn
399» Mor dew â sached {=
sachaid} o wlân
400» Mor dewed â’r wadd (“as
plump as the mole”)
401» Mor dlawd â gwas y
clochydd
402» Mor dlawd â llygoden eglwys
403» Mor drim â’r dryw
404» Mor dwp â mochyn
405» Mor dwt â’r dryw
406» Mor dwymed â’r toes yn codi
407» Mor falch ag alarch ar lyn
408» Mor falch â Jew ar ei focs
409» Mor fân ag eirin duon bach
410» Mor farw â hoelen mewn drws
411» Mor feined â milgi yn ei gwt
412» Mor ffoled â’i gysgod
413» Mor ffyddlon â cholomen i’w chell (“as faithful as a dove to its nest-hole (in a dovecot)”)
414» Mor ffyddlon â gwas y gwcw
415» Mor frefog â’r blaidd
416» Mor fud â delbren (=
delwbren)
417» Mor fud â delw
418» Mor fwyn â gweniaith putain
419» Mor fysnesu {sic, =
fusnesus} â baili {= beili} mewn
sesiwn
420» Mor fywiog â’r brithyll yn y crych
421» Mor gloff â chelwydd ar ei faglau
422» Mor gopa stanc â’r ci
423» Mor gyflym â hydd
424» Mor gyfoethog â chath mewn llaethdy
425» Mor gymwynasgar â’r hwch at ei bwyd
426» Mor gymwys â’r saeth (“as
straight as the arrow”) as straight as a die
427» Mor gynnil â llyffan’ ar ei grail
428» Mor hapus â chywion mewn caws
429» Mor helbelus â giâr yn gori
430» Mor hurt â chi mewn ffair
431» Mor hyll â’r diawl (“as
ugly as the devil”)
432» Mor iached â’r gloch
433» Mor laned â’r lamp
434» Mor laned â phin mewn papur
435» Mor llawen â’r dydd yn hir
436» Mor llawen â’r gog
437» Mor llawn â chwch gwenyn
438» Mor llefog â llaethgi am ei fam (“as noisy as a suckling puppy for its mother”)
439» Mor lleuog â’r ddallhuan {=
ddylluan}
440» Mor llonydd â chorff marw
441» Mor llonydd â llygoden
o dan bawen cath
442» Mor llwm â llygoden
443» Mor llym â nodwydd (“as
sharp as a needle”)
444» Mor naturiol â dŵr i bysg
445» Mor naturiol â dŵr mewn afon (“as natural as water in a river”)
446» Mor oer ag aelwyd cybydd (“as
cold as a miser’s hearth”)
447» Mor oer â thraed hwyaid
448» Mor oer â thrwyn y
ci
449» Mor oered â’r clempyn
450» Mor oered â’r iâ (“as
cold as the ice”) As cold as ice
451» Mor ofnus â chath wrth bysgota
452» Mor olau â’r houl
453» Mor onest â’r geirchen (gyrchen) (“as honest as the oat grain”) As honest as the day is
long
454» Mor rhagrithiol â charnfradwr
455» Mor sarrug â chorgi
456» Mor serchus â’r gŵr cwta
457» Mor serchus â chi ar
dewyn o dân
458» Mor sicir {= sicr} ag amen y clochydd
459» Mor sicr â’r nant i’r afon
460» Mor sionc â cheiliog ar bolyn
461» Mor siriol â hirddydd haf
462» Mor sobor â phe uwch bedd ei fam-gu
463» Mor stwrllyd â giâr am uncyw
464» Mor sured â’r dringol
465» Mor sychedig â rhod y felin
466» Mor uchel â’r houl = cuwch â’r houl
467» Mor uchel â’r houl = cuwch â’r houl
468» Mor ufudd â’r werthyd i’r sidell
469» Mor wag â phwrs putain
470» Mor wamal â dryw mewn perth
471» Mor wanned ag ewyn dŵr
472» Mor wir â’r deial
473» Mor wir â’r Efengyl
474» Mor wired â’m geni
475» Mor wisgi â’r wennol
476» Mor wyned â’r eira
477» Morwyn gŵr mawr a hwch melinydd
478» Mor ysgafn â’r wennol
479» Mor ysgafn â phlufyn
480» Mwy o rym nag o synnwyr (“more
of strength than of sense”)
481» Mynych addo, mynych angof
482» Mynych fenter, aml golled
483» Na ddeffro’r ci sy’n cysgu (“don’t wake the dog which is sleeping”)
484» Na farn ddannedd cel benthyg (“don’t judge the teeth of a borrowed horse”)
485» Na feia garnau cel
benthyg
486» Na hydera ar bydew gŵr arall
487» Naw bywyd cath
488» Neidio o drwnc y domen i gornel y berllan
489» Nes crys na phais
490» Nes penelin na garddwrn
491» Ni bu gwall arf yn llaw ddeche
492» Ni cheir y melys heb y chwerw
493» Nid ag us y delir brain (“(it
is) not with chaff that are-caught crows”, you can’t catch crows with chaff)
494» Nid colled colli yr hyn ni chawd (“(it is) not a loss losing what was never obtained”)
You can't lose something
if you never had it in the first place
495» Ni ddal buddai ond ei llond
496» Ni ddal un peth ond ei lond
497» Ni ddaw du byth yn wyn mewn dŵr brwnt
498» Ni ddaw i’r rhyd nac i’r bont
499» Ni ddaw planed tair ceiniog byth yn rôt
500» Nid digon heb warged (“it
is) not enough without leftovers”) Leftovers are a sign of sufficiency
501» Ni ddigonws ond a weddillws
502» Nid diog diogyn at ei fwyd
503» Ni ddygir oddiar
leidr
504» Ni ddysg neb yn iou
(= ieuancach)
505» Nid gwiw disgwyl i blentyn fod yn ddyn
506» Nid gwiw tolio pan fo gwaelod y sach yn y golwg (“(it is) not seemly saving when (the) bottom of the sack
is in sight”)
507» Nid hawdd cael cyfaill wedi unwaith ei golli (“it is) not easy to get a friend once after losing him”)
508» Nid oes dim mor sicr ag angau (“(it is) not anything as certain as death”) Nothing is more certain than death
509» Nid oes dim o ddim
510» Nid oes neb yn rhy hen i ddysgu
511» Nid wrth ei wisg y mae ’nabod y dyn
512» Nid yw call yn gall bob amser
513» Nid yw harddwch ond trwch croen (“beauty is not but (the) thickness (of) skin”) Beauty is
only skin-deep
514» Nid yw neidr byth yn cyfarth
515» Ni ellwch dynnu
gwaed o garreg
516» Ni enillws na
threiws
517» Ni erys amser na
llifeiriant
518» Ni fagws yn llwyr
ond a fagws yr ŵyr
519» Ni fu’r llanw heb y
trai
520» Ni fu colled i neb na fu ennill i rywun
521» Ni fu digonedd heb wargedion (“there wasn’t
sufficiency without leftovers”) only when you see there are leftovers do you
know that people have had their fill
522» Ni fu i ddydd drwg ei nos dda (“there wasn’t to a bad day its good night”) a day that
begins badly will end badly
523» Ni fynn mochyn ond ei ddigon
524» Ni gawn haf melyn bach gŵyl Mihangel yn
ddiddiol i’r ci
525» Ni phall min yn llaw gywrain
526» Ni raid i’r lwcus ond ei eni
xxxx ni waeth baw na bwdel
527» Ni thynir dyn oddiar ei dylwyth
528» Ni wnaeth neb drwg i arall, ar na waeth fwy iddo
ei hun
529» O bared i bost
530» O biler i bost
531» Ofer agor llygad dyn
marw
532» Ofer ceisio cario
dwfr men gogor
533» O gael y gair run
man cael y ffair
534» O gornel i’w gilydd
535» O gorn i garn
536» O hirddrwg bydd mawrddrwg
537» Ola’r gwt i geued y gât
538» O’r top i’r to
539» Os am fochyn da mynnwch weled yr hwch a’i magodd
540» Os am wybod eich hap a’ch hanes / Nacëwch
gymwynas i’ch cymdoges
541» Pa ennill sy o nithio baw
542» Parcha dy bilyn, fe barcha dy bilyn dithau (“respect your clothing, your clothing will respect you”)
543» Parchu’r cybydd er mwyn ei bwrs
544» Pawb a dynant at ei tebyg
545» Pawb drostynt ei hun, a Duw trosom i gyd
546» Peidiwch gwisgo’r cap os nad yw’n ffitio
547» Peidiwch plethu hwip i hwipo’ch
548» Peidiwch rhifo’r cywion cyn eu deor (“don’t count the chickens before their hatching”)
549» Peidiwch rhifo’r cywion cyn eu gori (“don’t count the chickens before their incubating”)
550» Peidiwch ymhél ag ysgall (“don’t
interfere with thistles”)
551» Penwyni yw anhap henaint (“white hair is the
misfortune of old age”)
552» Petái a pytyse {=
petasai}, byddai pob peth o’r gorau
553» Peth hawdd yw priodi - ond anodd byw yn y byd
554» Plant a hen bobl ddywed y gwir (“children and old people tell the ruth”)
555» Plant yw plant, gwnewch a fynnoch â hwy
556» Plyfyn {= plufyn}
at liw’r dwr
557» Pob tebyg a gwrdd. - Nod dafad a hwrdd
558» Pobun at ei grefft, ebe’r hwch wrth durio (“everyone to his craft, said the sow while rooting”)
559» Poeri ar ei bilyn ei hun (ei billedyn / ei dillad
/ ei ddilledyn)
560» Po mwyaf y llanw
mwyaf y trai
561» Popeth newydd dedwydd da
562» Portha’r bol, fe
bortha’r bol y cefn
563» Putain ddywed putain gynta
564» Pwrs gwag a wna wyneb cul
565» Rhaid canmol y bont a’m cariws (“(there is) necessity (of) praising the bridge which carried me”)
566» Rhaid canmol y cel a’m cariodd (“(there is) necessity (of) praising the horse which
carried me”)
567» Rhaid crogi cost lle bo cariad (“(there is) necessity (of) hanging (a) cost where there
is love”)
568» Rhaid godde’ bil bach, serch cael dy blyfio yn
fyw
569» Rhaid talu’r glwyd, serch eisiau bwyd (“(there is) necessity (of) paying the (turnpike) gate,
in spite of hunger / in spite of want (of) food”)
570» Rhowch i leidr ddigon o raff, fe grogiff ei hun (“give a thief enough rope, he will hang himself”)
571» Rhwng bys a bawd
572» Rhwng llaw a llawes
573» Rhwng seiri a phorthmyn
574» Rhwng y ddwy stôl,
heb un
575» Rhwng y ddwy stôl
i’r llawr
576» Rhwng y gŵr
cwta a gwas y diawl
577» Rhwng ymyl ac ochr
578» Rhwng y tân a’r tewyn
579» Rhwydd pob cyfarwydd
580» Rhy anodd celu cariad
581» Rhy anodd colli hen arfer
582» Rhyw agor am lawer, a chauad am ddim
583» Rhyw bilo wyau, o
hyd ac o hyd
584» Rhyw ddrwg yn ei lawes (“some
bad thing in his sleeve”) a dirty trick up his sleeve
585» Rhyw drai a llanw, byth a hefyd
586» Rhyw ergyd a chilio
587» Rhyw goch gam, o hyd; rhyw rech groes beunydd
588» Rhyw hela’r plwy i ddal llygoden
589» Rhyw hing hang, byth ac yn dragwydd
590» Rhyw rech groes ar bob peth
591» Rhyw Siôn yr un sut.
Heb fod yn well nac yn waeth.
592» Rhyw Wil naw-crefft, heb un grefft
593» Rhyw ymyl ac ochr
594» Saf ar dy sawdl
595» Sala arfer, direidi
596» Sefyll ar ei sodlau
597» Sefyll yn ei olau ei hun
598» Siŵr yw siŵr, edrych eto
599» Syfďen ym mola hwch fagu
600» Syn, dal dy dafod; mae’r pared yn clywed (“beware, hold your tongue; the wall is listening”)
(synnu = to be surprised; in Morgannwg, also =
beware, be careful, take heed) Mind
what you're saying now - walls have ears.
601» Sythu’r cefn i bortha’r bola
602» Tad distaw a wna fab difraw
603» Taenu gwely drain
604» Taflu sbrat i ddala macrell (“to throw a sprat to catch a mackerel”) using a small
amount of something to make a big gain
605» Tagu’r ffynnon yw blingo’r praidd
606» Talu’n rhy ddrud am ei ddysg
607» Talu’n rhy ddrud am ei grwth
608» Taro’r fargen ar ei law
609» Taro’r hoel ar ei
chlopa
610» Taw di, taw dithau, ebe’r atsain
611» Tawed a dawo, ni thaw atsain
612» Taw piau hi’n wir -
adre cyn nos, ynte
613» Tebyg a dynn tebyg (“like
draws like”) <Like attracts
like>
614» Tebyg i ddyn fydd ei lwdwn
615» Teg i bawb ei haeddiant
616» Teg i’r diawl ei haeddiant
617» Teg yw treio, cael
neu beidio
618» Torri bedd i gladdu gofid
619» Torri clust gair da
620» Torri ffon i guro ei hunan
621» Torri ’i drwyn i ddial ei dalcen
622» Torri ’i goes i achub ei esgid
623» Torri ’i llaw i achub ei bys
624» Torri’r gôt yn ôl y brethyn (“cut the coat according to the cloth”)
625» Trech dau nag un;
trech tri na’r diawl
626» Trech metel na maint (“mettle
/ courage is stronger than size”)
627» Trueni gwneud cam â’r cythraul
628» Trwy deg neu trwy dwyll = bodd neu anfodd
629» Twt baw; ni wnawd y byd ddim ar unwaith
630» Tynnu baw o lygad chwannen
631» Tynnu carrai o groen ych benthyg
632» Tynnu hoel o’i bedol ei hun
633» Tynnu’r goes ola ym mlaena
634» Uchela’i dras, isela’i dro (“the higher his lineage, the lower his trick”)
635» Uchela’i drem, isela’i dric
636» Un gair yn gystal â chant
637» Un gernod arbeda lawer cerydd
638» Un llaw yn wag a’r llall heb ddim
639» Un troed yn y bedd
a’r llall ar y tir = “Ymyl banc brinc”
640» Unwaith yn ddyn a dwywaith yn blentyn
641» Un wennol ni wna wanwyn
642» Wedi canu - am ei gael yn ôl byth
643» Wedi estyn ei goes
644» Wedi gwadu ei grefft i ddilyn seguryd
645» Wedi ’i ddal yn ei drap ei hun (“caught in his own trap”)
646» Wedi llosgi ei le
647» Wedi rhoi fyny yr ysbryd (“given
up the ghost”) = died
648» Wedi tonni yn ei nyth
649» Wedi torri cwt ar ei
din
650» Wrth ymdrafod â drain ceir brathiad
651» Y calla i dewi
652» Y cam cynta yw y cam
gorau
653» Ych benthyg a fwyty’n llwyr
654» Ychydig o flawd a llawer o us
655» Ychydig sy’n perthyn i ddyn tlawd
656» Y clebryn mwya yw’r gweithiwr lleia
657» Y cyntaf i’r felin sydd i falu
658» Yf ddwfr o’th bydew dy hun
659» Yfed dwfr o ffynnon fenthyg
660» Yfed mčth o fotel wag
661» Y felin a fâl a fynn ddŵr
662» Y fuwch ar ôl y llo fo’n brefu fwya’ / Dyna’r
fuwch fydd gyflo gynta
663» Ymladd â’i fara chaws ei hun
664» Ymyl banc brinc
665» Yn arllwys ei gwd
666» Yn awr neu byth now
or never
667» Yn drewi dros naw perth (“stinking
over nine hedgebanks”, stinking from nine hedgebanks away) stinking to high
heaven
668» Yn drewi fel ffwlbart
669» Yn drewi fel y gingron
670» Yn edrych mor llon â llyffan
671» Yn estyn bys ar ôl pawb (“extending
a finger after everybody”) pointing the finger at and accusing everybody but himself.
672» Yn ffeindio beiau ar bawb (“finding faults on everybody”) finding fault with everbody
673» Yng ngenau’r sach mae cynilo (“(it is) in (the) mouth (of) the sack (that) there is
saving”, saving means using sparingly from the very moment you begin using (the
flour, etc) in a sack
674» Yng ngenau’r sach mae tolio
675» Yn gorn cân gan wlad a gorwlad
676» Yn gweled beiau pawb ond ei
677» Y “Nhw” - gwy^r gwlad How
678» Y “Ni”. / Pwy ych
chi? / O! y fi a’r gath!
679» Y “Ni” ebe gwy^r
Pen-tyrch
680» Yn llefain fel blaidd
681» Yn marw mewn mwg
682» Yn mesur llathen pawb wrth ei lathen ei hun
683» Yn uchaf ar ei ystumog
684» Yn wastad ar ôl, fel gwas y gwcw (“always behind, like the dragonfly”) (gwas y cwcw
literally “(the) servant (of) the cuckoo”)
685» Yn well am arall nag amdano ei hun
686» Yr asyn a fref a fyt leia
687» Yr hyn ddywed pawb, mae’n sicr o fod yn wir (“that which everybody says, it’s bound to be true”) No
smoke without fire
688» Yr oedd yno wledd a bedydd
689» Yr oedd yno wledd, a bedydd, a gwylmabsant yr iâr
690» Yr oen yn dysgu i’r ddafad i bori
691» Yr ysgol ore yn yr hollfyd / I ddysgu dyn yw
ysgol adfyd (“the best school in the whole world to
teach a person is ‘ysgol adfyd’ “(the) school (of) adversity”, the school of
hard knocks)
692» Y sawl sydd â pheth ganddo sy’n cael (“the person who is with an
amount with him receices”) whoever already has something gets more, <To he
who has it shall be given(and to he who has not it shall be taken away even
that which he has)>
693» Ysgafn pob cynefin
(“light every habitual thing”) <What is familiar is easy.>
DIWEDD / END
·····
Adolygiadau diweddaraf:
10» 10» 2000
·····
Sumbolau
arbennig: ŷ ŵ
Ble’r
wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pŕgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weř(r) ŕm ai? Yůu ŕa(r) vízďting ř peij frňm dhř “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katřlóuniř) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website