http://www.racocatala.com/catalunyacymru/amrwy/1_vortaroy/geiriadur_lakota_cymraeg_CEFFYL_ffonoleg_1916k.htm

Y Tudalen Blaen / Pàgina principal

..........1863k Y Porth Cymraeg / La porta en gal·lès

....................0009k Y Gwegynllun / Mapa de la web

..............................1798k Geiriaduron / Diccionaris

........................................1794k Geiriaduron ar gyfer siaradwyr Cymraeg / Diccionaris per als gal·lesoparlants

..................................................1913k Mynegai i'r Geiriadur Lakota / Índex del diccionari lakota

................................................................ y tudalen hwn / aquesta pàgina


..













 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Geiriadur Lakota-Cymráeg
Diccionari lakota-gal
·lès


GEIRGRAWN LAKOTA-CYMRAEG
YR ORGRAFF


Adolygiad diweddaraf
Darrera actualització
20 12 2000
2005-02-01
 

  

Mae nifer o orgraffau Lakota yn bod.

Er enghraifft, m
ae un a ddefnyddir gan Gywaith Lakhota Prifysgol Colorado yn y llÿfr "Beginning Lakhota" (1976);

ac un arall yn "Everyday Lakota - An English-Sioux Dictionary for Beginners". (Lakota Pob Dÿdd - Geiriadur Lakota-Saesneg ar gyfer Dechreuwÿr) Golygyddion: Joseph S. Karol, Stephen L. Rozman, Ph.D. / St. Francis, South Dakota, USA / The Rosebud Educational Society (Cymdeithas Addysgol Rosebud) / 1971, ailadolygiad 1974.


Mae dwÿ ograff 'gul' yn bod, ond y mae tueddiad i ddefnyddio orgraffau 'llydan'. Nid ÿ'r rhai hÿn yn cyfleu cymaint o wÿbodaeth ffonetig ond ar llaw arall maent yn symlach ac yn fwy hwÿlus i'w darllen ac i'w hysgrifennu i'r sawl sÿdd yn fwÿ cyfarwÿdd â'r Saesneg. Mae ganddÿnt y nodweddion hÿn:


(1) hepgorir y marciau diacritig, hynnÿ ÿw
(i) hanner cÿlch dyrchafedig â'i enau tua'r dde, sÿdd yn dynodi'r sain 'h';


(ii) hanner cÿlch dyrchafedig â'i enau tua'r chwith, sÿdd yn dynodi'r stop glotol;


(iii) 's' â hatshec uwch ei phen, hynnÿ ÿw, 'v' fach, sÿdd yn dynodi'r sain 'sh' fel yn y Gymraeg 'siop';


(iv) llythyren 'h' â dot uwch ei phen, a 'g' uwch ei phen (seiniau tebÿg i'r Gymraeg sÿch, bach)


(v) acen ddyrchafedig i ddynodi'r sillaf y mae arni'r pwÿslais
 
(2) yn aml defnyddir sumbolau orgraffyddol sÿdd yn cyfateb i rai Saesneg
(i) e.e., cynrychiola'r llythyren 'c' yn Lakota y sain 'tsh' yn Gymraeg (patsh); mae rhÿwrai yn ei hysgrifennu ar ffurf 'ch'


(ii) Dynoda'r llythyren s â hatshec uwch ei phen (v fach) y sain s; ond fe'i gwelir yn aml ar ffurf 'sh' (defnyddir yr 's' blaen ar gyfer y sain [s]).


(iii) Mae trwÿnoli ar dair o'r pum llafariad. Fe rÿdd yr orgraffau cul 'n' â chwt fach ar ei choes dde ar ôl y llafiad i'w thrwÿnoli. Yn yr orgaffau llydan fe ysgrifennir y llafariaid trwÿnol hÿn yn yr un modd â'r llafariad di-drwÿnoli (a, i, u); neu fe roir llythyren 'n' (ond gall hÿn beri dryswch am fod yr 'n' yn bodoli fel llythyren annibynnol a seinir [n].


(v) Ceir sain 'h' ar ôl rhai cytseiniaid, a dodir yr hanner cÿlch dyrchafedig â'i enau tua'r dde i'w dynodi'r sain hwn. Yn yr orgraffau llydan nid oes yr un sumbol ar gyfer yr 'h' (e.e. Lakota); neu fe'i dynodir â llythyren 'H' (e.e. LakHota)


(vi) mae hefÿd stop glotol mewn rhai geiriau. Mae Geiriadur Cymdeithas Addysgol Rosebud yn defnyddio'r hanner cÿlch dyrchafedig â'i enau tua'r chwith; mae yng nghwrs iaith Prifysgol Colorada sumbol tebÿg i ofynnod.

Ni ddynodir y stop glotol mewn orgraffau llydan.


Mae'r marciau diacritig yn anodd i'w cynnwÿs mewn sgript ASCII neu HTML.

Yn y rhestr o eiriau Lakota (Lak'hóta) yr ÿm yn defnyddio ffurfiau ar yr orgraffau cul wedi eu cyfaddasu fymrÿn, sef y sumbolau isod. Ond gellir eu hadnabod yn ddidrafferth yn yr orgraffau dewisach gan y Lakotas eu hunain.


Mae 29 o gytseiniaid ac 8 o lafariaid (a, i , e, o, u, a'r trwÿnolion añ, iñ, uñ)

p

t

ch

k

-

pH

tH

chH

kH

-

p¿

t¿

ch¿

k¿

-

b

-

-

g

-

-

s

sh

kh

h

-

s¿

sh¿

kh¿

-

-

z

zh

gh

-

w

l

y

-

-

m

n

-

-

-

 

Yn nhrefn y wÿddor:

RHIF Y GRAFFEM

Y GRAFFEM

SAIN GYFATEBOL YN Y GYMRAEG

ENGHRAIFFT

NODIADAU

01

a, á

fel yr 'a' fer yn y Gymraeg - llan

shápa = du

(1)

02

añ, áñ

a drwÿnol

chañ = pren

(1) (2)

03

b

fel yn y Gymraeg

blézela = clir

 

04

ch

fel 'tsh' yn y Gymraeg

wanákhcha = blodeuÿn

 

05

ch¿

'tsh' + stop glotol

 

 

06

chH

'tsh' + anadliad

 

(3)

07

e, é

fel yr 'e' fer yn y Gymraeg - llem

chéya = llefain

(1)

08

g

fel yn y Gymraeg

gleshká = brith

 

09

gh

fel y 'ch' Gymraeg yn ddwfn yn y gwddf

mágha = maes

 

10

h

fel yn y Gymraeg

hogáñ = pysgodÿn

 

11

i, í

fel yr 'i fer yn y Gymraeg - Bìl

mni = dwr

(1)

12

iñ, íñ

i drwÿnol

ichíñ = oherwÿdd

(1) (2)

13

k

fel y 'c' yn y Gymraeg

okó = rhwng

 

14

k¿

'k' + stop glotol

 

 

15

kH

'k' + anadliad

wíkH = rhaff

(3)

16

kh

fel 'ch' yn y Gymraeg

khóta = llwÿd

 

17

kh¿

'ch' + stop glotol

 

 

18

l

fel yn y Gymraeg

khlakhlá = cloch

 

19

m

fel yn y Gymraeg

mnitHa = boddi

 

20

n

fel yn y Gymraeg

oná = tân prêri

 

21

o, ó

fel yn y Gymraeg

pHo = niwl

(1)

22

p

fel yn y Gymraeg

napsú = bÿs

 

23

p¿

'p' + stop glotol

 

 

24

pH

'p' + anadliad

pHéji = glaswellt

(3)

25

s

fel yn y Gymraeg

ska = gwÿn

 

26

s¿

's' + stop glotol

 

 

27

sh

fel yn y Gymraeg 'siop'

shishóka = robin goch (Americanaidd)

 

28

sh¿

'sh' + stop glotol

 

 

29

t

fel yn y Gymraeg

táñka = mawr

 

30

t¿

't' + stop glotol

 

 

31

tH

't' + anadliad

tHípi = tÿ

(3)

32

u, ú

fel yw w lafariad fer yn y Gymraeg - cwm

chañkú = llwÿbr

(1)

33

uñ, úñ

w drwÿnol

shúñka = ci

(1) (2)

34

w

fel y gytsain 'w' yn y Gymraeg - gwÿn

wákpala = nant

 

35

y

fel yr i-gytsain yn y Gymraeg - bryniau

wíyaka = plufÿn

 

36

z

fel yn y Gymraeg - zinc

máza = metal

 

37

zh

fel yn y Ffrangeg 'rouge' ('zh')

zhícha = cyfoethog

 

 

GWEFANNAU ERAILL

http://www.lakotaoyate.com/welcome.html

(1) Lakota Oyate "To defend and preserve Lakota culture from exploitation."
Y gwir moel am gyflwr bÿw truenus y genedl Lakota y dyddiau hÿn

(2) "Welcome to Spirit's Place" http://www.enter.net/~drutzler/intro.htm
"So yeah, I am Native American. Lakota actually. I do "Indian stuff", but I am a human being first and foremost. I created this set of pages for many reasons. First, to help keep Native information easily available for all... The Lakota Language Page will be updated monthly with a new subject. This month's lesson: "Animals". Check it out for basic grammar and phonetics. There is no charge for these lessons, no club to join or anything else to "buy". This is for you, the curious, the seeking and the informed"

(3) "Introduction to Lakota" http://207.254.63.58/language1.htm

 

(4)

http://airos.org.html AIROS (American Indian Radio On Satellite) Radio Cenhedloedd Cyntaf América

http://airos.org/grid.html Programme Schedule for AIROS Amserlen y rhaglenni ·····

http://www.lakotaoyate.com/welcome.html

Lakota Oyate "To defend and preserve Lakota culture from exploitation."
Y gwir moel am gyflwr bÿw truenus y genedl Lakota yn y flwÿddÿn 2000

0855
Rhestr o gynnwÿs y llÿfr 'History of the Welsh in
Minnesota...' (Hanes Cymrÿ Minnesota)
·····
0859
y Cymrÿ yn erbÿn y Sioux a'r Winnebagos - gwrthryfel 1862

 0893 Rhestr o eiriau o'tr iaith Lakota . Siaredir yr iaith Lakota (Dakot-Nakota) gan rÿw 6,000 o bobl yng Ngorllewin Canol yr Unol Daleithiau. Lle mae'l' yn iaith uy Lakotas ceir 'd' yn y dafodiaith Dakota, ac 'n' yn y dafodiaith 'Nakota'. Rhan ÿ'r wirfa hon o'r adran yn ein gwefan sÿdd yn ymwneud â'r Cymrÿ a sefydlodd sir y Ddaear Las yn Nhalaith Minnesota
·····

Ble'r wÿf i? Yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina of the Web "CYMRU-CATALONIA" (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
Weørr àm ai? Yuu ààrr vízïting ø peij fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait