http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_vortaroy/geiriadur_catalaneg_cymraeg_LLOP_t_1165k.htm


0001z Tudalen Blaen / Pàgina principal

..........1863k Y Porth Cymraeg / La porta en gal·lès

....................0009k Y Gwegynllun / Mapa de la web

..............................1798k Geiriaduron / Diccionaris

........................................1794k Geiriaduron ar gyfer siaradwyr Cymraeg / Diccionaris per als gal·lesoparlants

..................................................0379k Mynegai i’r Geiriadur Catalaneg / Índex del diccionari català

............................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Geiriadur Cataloneg-Cymráeg
(ar gyfer siaradwyr Cymráeg)

Diccionari català-gal
·lès
(per gal
·lesoparlants)

 

t - Taxus baccata

 

 

Adolygiad diweddaraf
Darrera actualització

2005-02-06 :: 2005-03-27 : 2005-05-09

 

  

 



 


····· 

 

T,t
1
y llythyren t (enw: te)

t’
1
ti

’t
1
ti
Aixeca’t Cwyd, Coda

ta
1
dy
ta mare dy fam
2 Obri la porta a la peresa i entrarà a ta casa la pobresa (“Agorwch y drws i ddiogi a tlodi a ddaw i mewn i’th dŷ”) (Ni ddylid bod yn ddiog. Gwaith caled biau hi bob amser)

taba
1
asgwrn y migwrn / y ffêr / y swrn
2
sgwrsio
3
agafar la taba cael sgwrs fach
4
donar la taba bod uchaf eich cloch mewn sgwrs, rheoli’r sgwrs, llywio’r sgwrs, bod flaenaf yn y sgwrs
5
joc de la taba dandis
fer el joc de la taba chwarae dandis

tabac
1
baco, tybaco
2
deunydd ysmygu
3
Tens tabac? Oes gen ti sigarét?
4
Se m'ha acabat el tabac Does gen i ddim sigaréts ar ôl
5
deixar el tabac rhoi’r gorau i ysmygu
6
planhigyn tybaco
7
tabac ros baco Firjinia


tabacaire
1
gwerthwr tybaco

tabal
1
drwm
Se m'ha posat el cap com un tabal Mae gen i ben tost ofnadwy (“mae’r pen wedi rhoi ei hun imi fel drwm”)


tabala
1
drwm bas

tabalejar
1
cadw mwstwr

tabalet
1
drwm bach sydd yn cyfeulio’r “flabiol” (math ar ffliwt) a’r “dolçaina” (math ar ffliwt)
Enw ysgol feithrin yn mataró.
La visita de Josep Bargalló començarà a les 12 hores del migdia a la seu de l'Escola Bressol "El Tabalet"
Dechrau ymweliad JB am hanner dydd ym mhrif swyddfa Ysgol Feithrin “El Tabalet”

tabalot
1
penchwiban, hurtyn, hurten

tabaquer
1
tybaco, baco (cymhwysair)

tabaquer
1
gwerthwr tybaco

tabaquera
1
pwrs baco
2
cas sigaréts

tabaqueria
1
siop faco, siop dybaco

tabard
1
tabar, tabard (dilledyn byr marchog ac arno ei arfau a wisgid dros yr arfwisg neu gan herald)
2
siaced saethu

tabarra
1
sgwrs hir anniddorol
donar la tabarra siarad ar hyd ac ar led, siarad yn hirfaith
donar-li la tabarra (a algú) diflasu rhywun drwy siarad ar hyd ac ar led

Estic obsessionat per aquest tema i si no vols que et doni la tabarra deixa de llegir.
Yr mae’r peth yma yn obsesiwn gennyf ac os na wyt eisiau i mi siarad yn hirfaith amdano iti, paid â darllen rhagor.

No paren de donar la tabarra amb
dietes, roba, cotxes, diners i el sexe
Maent yn siarad yn hirfaith am ddietau, dillad, ceir, arian a rhyw

fotre-li la tavarra (a algú) amb (alguna cosa)
siarad yn hirfaith (â rhywun) am (rywbeth), dweud yn hirfaith (wrth rywun) am (rywbeth)
Ja n'estic tip de que Maragall ens foti la tavarra amb “L'espanya nació de nacions” i convencre els espanyols de lo bon minyons que som
Yr wyf wedi cael llond fy mol ar Maragall yn dweud yn hirfiath wrthym am “Castilia, cenedl sydd yn cyfuniad o genhedloedd”, ac am y fath weision da yr ŷn ni

2
sgwrs hir i berswadio, sgwrs hir i ddwyn perswâd, swnian, achwyn. cwyno

donar la tabarra swnian, achwyn, conan, ceintach

Simplement us volia dir que no és fàcil incloure informacions d'aquests esports a les televisions i que moltes vegades si surt alguna cosa és gràcies a la "tabarra" que donem el X.B. i jo...
Yr unig beth yr wyf am ddweud wrthych yw dyw hi ddim yn hawdd cynnwys gwybodaeth o’r chwaraeon hyn ar y sianeli teledu ac yn aml os oes rhywbeth mae’n hi’n ganlyniad i gwynion XB a fi

Era un home molt tossut: va donar la tabarra a tothom amb la seva teoria fins que va aconseguir que un empresari una mica babau li comprés l’invent
Dyn ystyfnig dros ben oedd: siaradodd ar hyd ac ar led am ei ddamcaniaeth, nes cael i ryw ddyn busnes oedd braidd yn hurt brynu’r dyfais ganddo

3 fotre la tabarra amb rhoi llon pen i rywun

Jo ja fa dos anys que foto la tabarra amb els catalans del barri perquè col·laborin una mica per fer un boicot de l’empresa
Rwyf yn rhoi llond pen i Gatalaniaid y gymdogaeth ers dwy flynedd hon i gael iddynt gydweithio dipyn bach i wneud boicot o’r cwmni

4
un sy’n siarad gormod

tabernacle
1
tabernacl

tabola
1
carŵs, sbri
2
fer tabola mynd ar sbri, bod ar sbri
3
fer tabola cadw stŵr, cadw mwstwr

tabolejar
1
mynd ar sbri, 'joio
Tabolejam tot el dia, feim soroll de gent alegre, diversió es la nostra vida.
Ryn ni ar y sbri trwy’r dydd, ryn ni’n codi stŵr fel pobl lawen (“codwn stŵr y bobl lawen”) cael hwyl yw ein ffordd o fyw (“yw ein bywyd”)

tabú
1
tabŵ
La malaltia de la sida segueix sent actualment un tema tabú
Mae’r clefyd AIDS yn dal i fod yn bwnc tabŵ ar hyn o bryd
La tortura a les casernes de la Guàrdia Civil espanyola continua sent un tabú
Mae’r arteithio yn marics y Gard Sifil (Castilaidd) yn dal i fod yn dabŵ

tabular
1
tablaidd

tabular
1
tablu

tac
1
pèg
2
plwg
3
cyn, gaing, lletem
4
(gwn) ffon wthio, pren gwthio
5
(biliards) ciw, ffon filiards

taca
1
staen
2
smotyn
3
Això ja passa de taca d'oli Mae hynna’n ormod, Mae hynna tu hwnt, Rych chi wedi mynd dros ben llestri
3
smwtsh
4
(ar y croen) clais
5
(ar y cymeriad) brycheuyn, gwarth
6
smotyn haul

tacar
1
staenio
2
smwtsho
3
pardduo., difwyno, baeddu (enw da)

tacar-se
1
mynd yn frwnt, mynd yn fudr, budro

tacat de sang
1
â gwaed arnoch, ag olion gwaed

tàcit
1
heb ei ysgrifennu
El mitjans de comunicacions van fer un acord tàcit, no escrit, de no parlar del tema dels amants del rei d’Espanya
Fe wnaeth y cyfryngau torfol gytundeb tawel, heb ei ysgrifennu, i beidio â siarad am gariadon brenin Sbaen

2
heb ei ddweud, mud, tawel
un acord tàcit cytundeb tawel

3
digrybwyll

tàcitament
1
yn dawel

taciturn
1
distaw
2
surbwch

taciturnitat
1
tawedogrwydd

taco
1
(Castilegaeth) blwydd
El problema d’ella és que ja trenta-cinc tacos
Ei phroblem hithau yw ei bod yn bymtheg ar hugain oed erbyn hyn

2 taco
= brechdan Mecsicanaidd neu “Tex-Mex” fel bwyd archwaeth ar ddechrau pryd o fwyd, neu fel tamaid i aros pryd. Fe’u gwneir â tortilas meddal indrawn, â tortilas indrawn wedi eu plygu, neu â tortilas blawd poeth. Fel arfer cig sbeislyd yw’r llenwad. Gair o Gastileg Mécsico “pryd ysgafn”, o’r gair “taco” = “plwg, wadin”

Han descobert que la cuina mexicana ens pot oferir alguna cosa més que tacos i entxilades
Maent wedi darganfod fod cuisine Mécsico yn fwy na (“yn gallu cynnig i ni rhywbeth mwy na”) tacos ac entshiladas

tacó
1
curfa
donar-li un tacó rhoi curfa i rywun
2
sawdl
tacons vells i gastats sodlau hen ac wedi treulio
Què ocorre quan s'usen tacons alts? Beth sy’n digwydd pan ddefnyddir sodlau uchel?
sabates punxegudes amb tacons d’agulla esgidiau blaenllym â sodlau pigfain
 
tacòmetre
1
cloc cyflymder, spidomedr

tacte
1
cyffyrddiad, cyffwrdd (synnwyr)
ser suau al tacte bod yn feddal, bod yn esmwyth
2
cyffyrddiad (gweithred)
3
teimlad (wrth gyffwrdd)
M'agrada el tacte d'aquesta roba Mae’n dda gennyf deimlad y dillad hwn
4
tact, tringarwch, doethineb

tàctic
1
tactegol

tàctic
1
tactegwr

tàctica
1
tacteg
Es una tàctica ben coneguda la seva; fer que dos barrallin i el tercer s'ho mira satisfet.
Tacteg dra hysbys sydd ganddo - peri i ddau ffraeo a’r trydydd wrth ei fodd wrth edrych ar y cyfan

tàctil
1
cyffyrddol

tafanejar
1
chwilota mewn, ymyrryd â
2
sbïo ar

tafaner
1
busneslyd, ymyrgar

tafaner
1
hen drwyn

tafaneria
1
chwilfrydedd, holgarwch
2
busnesgarwch
3
ymyrgarwch

tafetà
1
táfeta

tafia
1
rwm

tafona
1
melin olew

tafur
1
gamblwr
2
(cardiau) twyllwr

tafurejar
1
(cardiau) twyllo

tafureria
1
(cardiau) twyllo

Tagamanent
1
trefgordd (el Vallès Oriental)

tagarí
1
(Moslem a ganiateid iddo fyw o dan reolaeth Gristnogol)

tailandès
1
Taiad, un o Wlad y Tai
2
Tai, iaith Gwlad y Tai

tailandès
1
o Wlad Tai
2
Tai, iaith Gwlad y Tai
3
Tai, yn perthyn i Wlad y Tai

Tailàndia
1
Gwlad y Tai

tal
1
cyfryw, felly
un tal home dyn felly
2
y fath
en tal lloc yn y lle a’r lle
3
(yn lle enw rhywun)
el senyor tal pwy ’na
4
tal dia com avui flynyddoedd yn ôl ar yr un dyddiad
5
tal com yn union fel
6
per tal de er mwyn
7
per tal que er mwyn
8
el tal hwn
el tal Garcia y Mr. Garcia hwn

tala
1
cwympo, cwympiad (prennau)
2
dinistr, chwalfa

talaia
1
gwylfa
2
gwylfa (= gweithred)
3
gwyliwr

talaiot
1
[adeiladwaith megalithig yn Ynysoedd Catalonia]

Talamanca
1
trefgordd (el Bages)
Mura, Talamanca i Rocafort, tres pobles de mala mort (dywediad o dref Terrassa)
Am dwll o le pob un - pentrefi Mura, Talamanca a Rocafort

talar
1
cwympo (prennau)
2
dinistrio

talar
1
(berf â gwrthrych), cwympo (coeden)
2
difetha

Talarn
1
trefgordd (el Pallars Jussà)

Talau
1
trefgordd (el Conflent)

Talavera
1
trefgordd (la Segarra)

talc
1
talc
2
podwrr talc, talcwm

tal com
1
yn union fel

taleia
1
obsesiwn

talent
1
dawn
2
gallu

talentós
1
talentog, dawnus

Tales
1
trefgordd (la Plana Baixa)

TALGO
1
trên ecsbrés. Enw Castileg : “Tren Articulado Ligero Goicoechea-Oriol”

tal i com
1
yn union fel

talió
1
ad-daledigaeth
la llei del talió deddf llygad am lygad

talismà
1
swynogl , talismon

tall
1
torri
2
toriad, cwt
3
awch, min
tall d'espasa min cleddyf, awch cleddyf
caure a tall d'espasa cael eich lladd â’r cleddyf
matar (algú) a tall d'espasa lladd (rhywun) â’r cleddyf
morir (algú) a tall d'espasa lladd (rhywun) â’r cleddyf
passar (algú) a tall d'espasa lladd â’r cleddyf
4
tafell (caws, cig)
5
cig (mewn stiw)
6
pysgodyn (mewn stiw)
a tall de fel..., yn null...
És una mica complicat passar el riu per les pedres que sobresurten. Les pedres no es belluguen però les han de passar a tall de funàmbul.
Y mae braidd yn anodd croesi’r afon ar y cerrig sydd yn ymwthio o’r dŵr . Dyw’r cerrig ddim yn symud ond rhaid mynd drostynt fel cerddwr ar raff

talla
1
toriad
2
cerflun (pren)
3
engrafiad
4
taldra
5
maint (dilledyn)
6
treth
7
tocio
8 (Castileb) no donar la talla ni + bod yn ddigon abl (i wneud rhyw swydd), ni + bod yn ddigon abl (i wneud rhyw swydd)ni + bod yn gymwys (i ryw swydd), ni + bod yn addas (i ryw swydd)
Va estudiar per frare però no donava la talla Astudiodd i fod yn fynach ond nid oedd yn ddigon galluog i’w wneud

tallabarder
1
bilwg

tallada
1
toriad
2
toriad (= dull torri)
3
toriad (gwallt)
fer-se una tallada de cabells cael torri ei wallt
4
sleisen, tafell
5 tallada de corrent toriad trydan

 

(la) Tallada d'Empordà
1
trefgordd (el Baix Empordà)

tallador
1
cymynwr, torrwr coed
2
chwarelwr
3
cigydd, bwtshwr
4
(offeryn), torrwr
5
teiliwr
6
plocyn torri

tallaferro
1
cyn caled, gaing galed

tallafoc
1
strimyn atal tân = darn cul o dir sydd wedi ei glirio i atal tân coedwig rhag ymestyn
Netejaven les voreres de la carretera perque fes de tallafoc
Roedden nhw’n lanháu ochrau’r heol er mwyn iddi weithredu fel strimyn atal tân

tallagespa
1
peiriant torri lawnt, peiriant torri glaswellt
Minitractor tallagespa tractor mini torri glaswellt
tallagespa elèctric peiriant torri lawnt trydanol
Aquelles pedres petites dificulten la feina de la màquina tallagespa
Mae’r cerrig bach hynny yn ei gwneud yn anodd i’r peiriant torri lawnt weithio (“gwneud gwaith [rhywbeth] yn anodd”)
màquines tallagespa peiriannau torri lawnt


tallant
1
llym
Un ganivet consisteix en una fulla tallant unit a un manec de fusta o altre material

Mae cyllell yn offeryn â llafn llym wedi ei gyfuno â charn pren neu ryw ddefnydd arall

tallant
1
bwyell hollti, cyllell hollti
2
llafn miniog

tallantar
1
cerfio
2
ceflunio, cerfio , naddu
3
engrafu, engrafio

tallapapers
1
cyllell bapur

tallaplomes
1
cyllell boced

tallar
1
torri
2
torri (coeden)
3
cau (cau heol ar ôl damwain, ayyb)
L’accident va obligar a tallar els tres carrils de la via i va ocasionar llargues cues en els dos sentits de la marxa (El Punt 2004-01-15)
Yn sgil y ddamwain bu rhaid cau tair o lonydd y ffordd, a bu chynffonnau hir (o gerbydau) o’r herwydd yn y ddau gyfeiriad
4
ser el qui talla el bacallà bod y ceiliog ar ben y domen (“bod yr un sydd yn torri’r ysgadenyn”)
5 tallar-li (a algú) la respiració mynd â gwynt (rhywun)

tallar-se
1
ceulo

tallaret
1
telor

tallarina
1
nwdl

tallat
1
toriedig, wedi ei dorri
2
tallat a l'antiga o’r hen deip, o’r oes o’r blaen
3
ben tallat
wedi ei wneud yn dda
4
ben tallat (person) cymesur

tallat
1
coffi = paned fach o goffi gwyn

tal·là-tal·lera
1
mwy neu lai

tallent
1
(offeryn, arf) miniog

taller
1
gweithdy
2
(artist) stiwdio
3
(cynhadledd) gweithdy
4
taller de reparacions cyweirfa
5
rhan ffatri
tallers gràfics gwaith argraffu

tallet
1
tafell fach, sleisen fach

tal·li
1
thaliwm

tallista
1
cerfiwr
2
cerflunydd
3
engrafwr, ysgythrwr

tal·lus
1
thalws

talment
1
mewn modd fel hyn
2
yn union

Talmud
1
Talmwd

talmúdic
1
Talmwdaidd

taló
1
sawdl
taló d'Aquil·les sawdl Achil, man gwan
2
(esgid) sawdl
3
portar talons gwisgo sodlau uchel
4
siec
taló barrat siec wedi ei chroesi

talonari
1
llyfr sieciau

talòs
1
hanner pan

talòs
1
un hanner pan

talp
1
gwadd, twrch daear
2
gwadd = ysbïwr

talpera
1
twmpath gwadd

talpejar
1
ymbalfalu

Talteüll
1
trefgordd (el Rosselló)

talús
1
llechwedd

tamarinde
1
pren támarind

Tamarit de Llitera
1
trefgordd (la Llitera)

tamariu
1
grugwydden, grucbren

també
1
hefyd
jo també finnau hefyd, fi hefyd
ell també yntau hefyd, fe hefyd
2
com també a... hefyd

tambor
1
drum
2
tumpan y glust, drwm y glust, pilen y glust

tamboret
1
stôl

tamborí
1
drwm bach

tamborinada
1
storm ffyrnig â tharanau, gwyntoedd cryfion, a glaw

tamborinar
1
(glaw) pitran, pitran-patran, pigo; (cesair) clecian

tamborinejar
1
drymio / drymian (eich bysedd)

tamboriner
1
drymiwr

Tàmesi
1
Tafwys

tamís
1
gogr

tamisar
1
gwagru

tampó
1
plwg
2
tampon
3
pàd inc
4 cylchfa ragod zona tampó
La regió (d’Aquitània) representava una zona tampó entre el Regne de França i els territoris de propietat anglesa (Avui 2004-01-18)
Mae rhanbarth Acwitania yn cynrychioli cylchfa ragod rhwng Teyrnas Ffrainc a’r tiriogaethau o eiddo’r Saeson

tamponar
1
plygio

tampoc
1
chwaith, hefyd (= chwaith)
2
na
ni A tampoc B na A na B
3
ar ôl rhagenw
tu tampoc ti chwaith

tan
1
fel
2
mor
és tan alt com tu mae ef cyn daled â thi
3
tan... que... mor... fel...
tan bon punt cyn gynted (ag iddo wneud peth)

tanasi
1
ffŵl

tanc
1
tanc

tanca
1
hysbysfwrdd, bwrdd hysbysu
tanca publicitària hysbysfwrdd, bwrdd hysbysu
Tarragona prohibeix les tanques publicitàries
Bydd Tarragona yn gwahardd hysbyrddau
L'Ajuntament de Tarragona ha decidit prohibir les tanques de publicitat instal·lades dins el terme municipal de la ciutat (Vilaweb 2005-03-14)
Mae Cyngor Dinas Tarragona wedi penderfynu gwahardd yr hysbyrddau wedi eu gosod o fewn ffiniau’r ddinas

2
ffens
3
wal
4
clwyd, giât
5
palisâd
6
bollten (drws)
7
ffasnydd
8
clo
9
clesbyn

tancada
1
(protest) eistedd i mewn

tancador
1
clesbyn

tancament
1
cau
Manifestació contra el tancament de la fàbrica de Philips a la Garriga (El Punt 2004-01-22)
Gwrthdystiad yn erbyn cau ffatri Philips yn (= ym mhentref) La Garriga
tancament patronal = (anghytfod rhwng cyflogwr â’r gweithwyr) cloi drysau, cloi allan, cload allan
2 (cyfarfod) terfyniad, diwedd
discurs de tancament araith derfynol, araith terfyn cynhadledd

tancar
1
cau
a porta tancada yn y dirgel, tu ôl i ddrysau caeëdig
La reunió es va celebrar a porta tancada Cynhaliwyd y cyfarfod yn y dirgel
2 (siop) cau = (peidio â gwerthu)
El govern obligarà el petit comerç que obre els diumenges a tancar a la tarda
Bydd y llywodraeth yn gorfodi’r siopau bach sydd yn agor ddydd Sul i gau yn y prynháwn

Tanca bé els ulls Cae dy lygaid yn dynn

3
blocio
4
diffodd
5
cloi
6
cau = rhoi pen ar

tancar amb clau
1
cloi
2
rhoi dan glo

tancar edició
1
rhoi'r paupr yn ei wely

tancat
1
ar gau, wedi cau
2
(busnes) wedi cau = wedi ei ddiweddu
3
wedi ei flocio, wedi ei blocio
4
wedi diffodd
5
wedi ei gloi/ei chloi
6
yn y carchar

tancat amb clau
1
wedi ei gloi / ei chloi

tancat
1
clos

tancat (ansoddair)
1
ar gau


tanda
1
shifft
2
tro
demanar tanda gofyn pwy yw'r olaf yn y gwt / yn y ciw
demanar tanda per entrar
gofyn am docyn rhifedig i gael mynd i mewn (= aros yn y gwt i fynd i mewn)
esparar tanda aros yn y gwt / yn y ciw, aros eich tro

número de tanda
tocyn rhifedig
S’ha d’agafar número de tanda per a la inscripció
Mae rhaid cymeryd tocyn rhifedig ar gyfer cofrestru (= aros yn y gwt i gofrestru)

3
cwrs
4
cyfres
 


tàndem
1
tandem
2
pâr, deuawd

tanga
1
cordyn G

tangible
1
cyffyrddadwy

tanmateix
1
yn ôl y disgwyl
2
serch hynny

tanoca
1
twp

tanoca
1
twpsyn, twpsen

tan sols
1
yn unig
2
ni tan sols ddim hyd yn oed

tant
1
cymaint o
2
tant A... com B... A a B fel ei gilydd
3
no fa tant ychydig yn ôl
4
i tant! (adf) wrth gwrs!
5
felly
6 tant és yr un peth yw, does dim gwahaniaeth, man a man yw hi
dins o fora, tant és yn y tŷ neu tu faas i’r tŷ, yr un peth yw

tant de bo
1
o na bai...
2 gobeithio
Tant de bo estiguis be de salut Gobeithio dy fod yn holliach
Tant de bo m'equivoqui. Gobeithio nad wyf yn iawn, gobeithio fy mod yn camgymeryd
 
tantes vegades
1
sawl gwaith

tant que
1
hyd yn oed os ...

tants com sigui possible
1
cymaint ag y bo modd

tants de
1
(Ynysoedd Catalonia) cymaint o


tantsemfotisme
1
difaterwch
Crec que el tansemfotisme i la passivitat dels catalans han estat el que ens ha portat a la situació actual
Rw i’n meddwl taw difaterwch a goddefolrwydd y Catalaniaid yw’r hyn sydd wedi dod â ni i’r sefyllfa bresennol
TARDDIAD:
Tant se’m fot = dw i’n malio dim ynddo, + -isme

tantsemfotista
1
rhywun ag agwedd gwbl ddifater
Dels tantsemenfotistes, la veritat és que tant se m’en fot.

Am y rhai ag
agwedd gwbl ddifater, a dweud y gwir dw i’n malio dim ynddynt

tant i tants
1
cymaint
Si som tants i tants, hi hauríem de poder fer alguna cosa Os oes cymaint ohonom, byddai’n bosibl inni wneud rhywbeth


tant si vols com si no vols
1
o’ch bodd neu o’ch anfodd

tants i tants
1
llawer
tants i tants quilòmetres de sorra
llawer o gilomedrau o dywod

tap
1
plwg
2
corcyn

tapa
1
clawr
2
(llyfr) clawr
3
gorchudd

tapadora
1
clawr
2
gorchudd

tapaforats
1
peth i lanw bwlch

tapar
1
gorchuddio
El que el metge esgerra, ho tapa la terra (“yr hyn y mae’r meddyg yn ei fwnglera, mae’r ddaear yn ei orchuddio”) Os gwnâ meddyg gamgymeriad wrth drin claf ac y mae hwnnw’n marw, mae’n anodd profi taw bai’r meddyg yw’r farwolaeth.
2
clorio, rhoi clawr ar
3
corcio
4
plygio
5
blocio
6
lapio
7
cuddio
8
tapar-se la cara cuddio’r wyneb
El detingut entrava als establiments armat i amb la cara tapada
Elai’r dyn a ddaliwyd i mewn i’r siopau ag arf yn ei law a’i wyneb wedi ei orchuddio
9
Bona nit, i tapa't Nos da, “a lapia dy hun” (hynny yw, bydd yn gynnes yn dy wely)

tapet
1
gorchudd = gorchudd bach bwrdd

tàpia
1
wal fwd
2
wal ardd
3
wal ffin
4
sord com una tàpia byddar bost (“byddar del wal”)
ser sord com una tàpia bod yn fyddar bost

tapís
1
tápestri, brithlen

tapisser
1
clustogwr, gorchuddiwr dodrefn

tapisseria
1
clustogwaith
2
clustogwaith, polstri (car)

taques
1
ffurf luosog ar taca (= staen)

taquigrafia
1
llaw-fer

taquilla
1
swyddfa docynnau
comprar una entrada a les taquilles
2
ffenestr docynnau
3
tocynfa (theatr, sínema)

taquiller
1
(ffilm) y mae mynd mawr arni; poblogaidd

taquiller
1
clerc tocynnau

tara
1
pwysau gweili, pwysgoll, cymhwysgoll = pwysau cynhwysydd nwyddau megis
bocs neu sach, y mae rhaid eu tynnu ymaith o swm y pwysau crynswth i gael gwybod pwysau’r nwyddau
2
nam
Tens la tara greu de no tenir sentit de l'humor - fes-t'ho mirar
Mae gennyt nam difrifol sef nad oes gennyt synnwyr digrifwch - gwna rywbeth yn ei gylch


Taradell
1
trefgordd (Osona)

taral·lejar
1
hymian

taral·lirot
1
un sydd ddim i’w gymryd o ddifri, un da i ddim
Aquí a Catalunya, si qualsevol polític, se li hagués acudit parlar amb el to prepotent d'aquest neci taral·lirot feixista, tindríem la premsa castellana de dretes demanant caps i reclamant boicots al “pa amb tomàquet”
Yma yng Nghatalonia, petái unrhyw wleidydd wedi meddwl siarad yn y dull trahaús sydd yn nodweddiadol o’r Ffasgwr twp a da i ddim hwn, byddai’r wasg Gastilaidd asgell-dde yn gwaeddu am gosb ac yn gofyn am foicotiau o’r “bara a thomato” (= y Catalaniad)


tarambana
1
(Castileb) hurtyn, ynfytyn, twpsyn
La jugada és clara (espero que no ho aconsegueixin al País Basc), és convèncer que això del nacionalisme es un somni romantic passat de moda, i que ja ni ha prou de fer el tarambana (Fòrum Vilaweb 2005-04-14)
Mae’r dacteg yn amlwg (a gobeithio na fyddan nhw ddim yn llwyddo yng Ngwlad y Basg), sef argyhoeddi fod cenedlaetholdeb yn freuddwyd rhamantus hen-ffasiwn, a’i bod yn hen bryd bellach beidio â bod yn hurtod.


tarannà
1
personaliaeth, cymeriad, anian
És un home de tarannà obert Y mae’n ddyn agored ei gymeriad
homes de tarannà similar dynion o’r un anian

2 natur
He esperat des de fa molts anys un canvi de tarannà en la nostra política
Yr wyf wedi aros ers blynyddoedd am newid yn natur ein gwleidyddiaeth

taràntula
1
tarántwla

tarar
1
tynnu ymaith pwysau cynhwysydd nwyddau megis bocs neu sach o swm y pwysau crynswth i gael gwybod pwysau’r nwyddau
2
difetha

tarat
1
amherffaith, a nam arnoch
2 (eg) Ets un tarat Mae coll arnat, Twpsyn wyt ti


Tàrbena
1
trefgordd (la Marina Baixa)
http://www.cederaitana.com/ie_val/tarbena.htm


tard
1
diweddar, hwyr
2 arribar tard cyrraedd yn hwyr
Les cartes arriben fins a deu dies tard a la regió metropilitana de Barcelona
Mae’r llythyrau’n cyrraedd hyd at ddeng ddiwrnod yn hwyr yn ardal fetropolitanaidd Barcelona

arribar tard a casa cyrraedd adre yn hwyr
Treballen tots dos i arriben tard a casa Mae’r ddau yn gweithio ac y maen nhw’n cyrraedd adre yn hwyr

Han fet coses, però en algunes de les més importants han actuat tard i malament.
Maent wedi gwneud pethau, ond yn achos rhai o’r pethau mwyaf pwysig, maent wedi gweithredu’n hwyr ac wedi gwneud yn ddrwg.

3
fer tard bod yn hwyr
Afanya't, que farem tard Brysia, neu fe fyddwn ni’n hwyr
Afanya't!
Que no ho veus, que farem tard? Brysia! Weli di ddim y byddwn ni’n hwyr?
Corre Joan, que farem tard Brysia Iwan, neu fe fyddwn ni’n hwyr
Si no ens apressem farem tard Os na frysiwn ni, fe fyddwn ni’n hwyr
Afanyeu-vos que ja toquen les batallades i farem tard a missa Brysiwch, mae’r clychau’n cabu a byddwn ni’n hwyr yn yr offeren
Sempre fas tard. Ja n´estic fart, cada dia igual. Rwyt ti’n hwyr bob tro. Rwy i wedi cael llond bola, bob dydd mae hi’r un peth.
Com és que sempre fas tard? Pam wyt ti’n hwyr bob amser?
Arribo a l’oficina a temps i no faig tard
Rwy’n cyrraedd y swyddfa mewn amser, dwy i ddim y hwyr

3 tard o d’hora (qv)


tard
1
noswaith, hwyr
2
cap al tard (adf) gyda'r nos

tarda
1
noswaith
2
prynháwn, pnawn = diwedd y pnawn
Bona tarda Pnawn da

tardà
1
araf (person)

2
hwyr
Val més l'any tardà que l'era sense gra Gwell cynhaeaf hwyr (“y flwyddyn hwyr”) na thlawrn / na llawr dyrnu heb rawn

3
diweddar
el Renaixement tardà y Dadeni diweddar

tardança
1
hwyredd, hwyrder. hwyrni, diweddarwch

tardanies
1
ffrwythau hwyr

tardar
1
bod yn hwyr
2
bod yn hir wrth, cymryd (amser)
Quant tardarà a fer-ho? Faint o amser gymeriff i’w wneud?
El segon gol, el de la victòria, va tardar a arribar Yr oedd yr ail gôl, yr un fuddugoliaethus, yn hir iawn yn cyrraedd

tard o d'hora
1
yn hwyr neu'n hwyrach
Espero que tard o d'hora siguin castigats Rwy’n gobeithio y cân nhw eu cosbi’n hwyr neu'n hwyrach

tardor
1
hydref

tardorenc
1
hydrefol

Tarerac
1
trefgordd (el Conflent)

Targasona
1
trefgordd (l'Alta Cerdanya)

targeta
1
carden, cerdyn
2
cerdyn ymweliad
3
targeta de pagament cerdyn talu (Visa, etc)

tarifa
1
pris
2
pris (taith)

tarima
1
platfform

tarja
1
cerdyn

taronger
1
pren orenau

tarongerar
1
llwyn prennau orennau
 
taronja
1
oren
suc de taronja sudd oren

ulls com unes taronges llygaid wedi eu hagor led y pen, wedi eu hagor yn fawr (“llygaid fel orennau”)

taronjada
1
sudd oren

tarot
1
tarot (cardiau ar gyfer dweud ffortiwn)

tarota
1
trwyn mawr

tarquim
1
llaid

Tarragona
1
trefgordd (el Tarragonès)

(el) Tarragonès
1
comarca (Gogledd Catalonia)

tarragoní
1
un o Tarragona

tarràs
1
jar â ddwy dolen iddi

Tàrrega
1
trefgordd (l'Urgell)

Tarrés
1
trefgordd (les Garrigues)

Tarroja de Segarra
1
trefgordd (la Segarra)

tars
1
Tarsang, tarsws, mwnwgl troed, migwrn troed, cefn troed

tartà
1
tartan

tartamut
1
ceciog, ac atal dweud arnoch, ceclyd

tartana
1
cart (wedi ei dynnu gan ych, ceffyl), cert (wedi ei thynnu gan ych, ceffyl)

tartaner
1
gyrrwr cart, gyrrwr cert

tàrtar
1
Tartar

tarter
1
pridd sydd wedi cwympo
2
sgri

tasca
1
tasg, gorchwyl
a tasca jòb a chwpla, ar dasg, ar fesur

tascó
1
cun, gaing

tasconar
1
geingio

tassa
1
cwpan

tassada
1
cwpanaid, dysglaid

tasser
1
shilff (at blatiau)

tassó
1
cwpan
2
gwydryn

tast
1
blas
fer el tast blasu
2
cynnig
a tast ar brawf

tastador
1
blaswr

tastanejar
1
igam-ogamu, mynd yn igam-ogam, gwegian

tastaolletes
1
un sydd yn rhoi’r gorau i ryw dasg yn hawdd iawn
2
diletánt

tastar
1
blasu, profi
2 cael blas (o rywbeth)
Aquests fins i tot han tastat la presó perquè van creuar la ratlla

Cafodd y rhain hyd yn oed flas o garchar amb iddynt fynd yn rhy bell (“croesi’r llinell”)

tastet
1
blasu, blasiad; profi, profiad
2
fer el tastet blasu

tatuar
1
tatŵ

tatuatge
1
tatŵ
2
rhoi tatŵ i

tatx
1
(ffrwythyn) tafell i gael ei brofi

tatxa
1
styden

tatxar
1
torri tafell i gael profi (ffrwythyn)

tatxonar
1
rhoi stydiau ar

tatxós
1
diffygiol

taujà
1
josgyn

taujana
1
joscen

taül
1
anfadyn, un drwg

taula
1
bwrdd
2
desparar la taula clirio'r bwrdd
3
parar la taula gosod y bwrdd
4
taula rodona bord gron
celebrar una taula rodona sobre l’economia valenciana
cynnal bord gron am ecónomi Falensia
5
fer taula rasa gosod y bwrdd, dechrau o'r newydd, dechrau â llechen lân
6
tenir (un tema) sobre la taula bod gennych (rhyw bwnc) i ddelio ag e (“bod gennych rywbeth ar y bwrdd”)

DESPARAR
desparar la taula
clirio'r bwrdd

FER
fer taula rasa
gosod y bwrdd, dechrau o'r newydd, dechrau â llechen lân

PARAR
parar la taula
gosod y bwrdd

RAS
fer taula rasa
gosod y bwrdd, dechrau o'r newydd, dechrau â llechen lân
 
RODÓ

taula rodona
bord gron

SOBRE
tenir (un tema) sobre la taula
bod gennych (rhyw bwnc) i ddelio ag e

taulada
1
cwmni o gwmpas bwrdd
2
bwrdd llawn o bobl

tauladora
1
og

taulaplom
1
(adeiladu) plymen

taulat
1
llawr planciau
2
stondin
3
llwyfan

taulejar
1
bod wrth y bwrdd (yn bwyta ac yfed)

taulell
1
cownter (siop)
2
mainc weithio

tauler
1
plencyn, astell
2
panel offer

tauler d'anuncis
1
hysbysfwrdd

tauler d'escacs
1
bwrdd gwyddbwyll

tauleta
1
bwrdd bach

tauleta de nit
1
bwrdd erchwyn gwely

tauló
1
plencyn, astell
2
trawst

taumaturg
1
gwneuthurwr gwyrthiau

taumaturg
1
gwyrthiol, gwyrthwneuthuriol, sy’n gwneud gwyrthiau, hudol, o waith dewin
frase taumaturga

Taure
1
y Tarw

taurí
1
tarw (cymhwysair), teirw (cymhwysair)
2
ymladd teirw (cymhwysair),

Taurinyà
1
trefgordd (el Conflent)

tauró
1
morgi

taüt
1
arch, coffin

tau-tau
1
go lew

tautologia
1
ailadrodd, ailadroddiad, tawtoleg

tautològic
1
ailadroddol, ailadroddus, tawtolegol

tàvec
1
cleren llwyd, pryf llwyd

tàvega
1
daeargell, daeardy, dwnsiwn

tavella
1
masgl

taverna
1
tafarn

taverner
1
tafarnwr

Tavernes Blanques
1
trefgordd (l'Horta)

Tavernes de Valdigna
1
trefgordd (la Safor)

Tavèrnoles
1
trefgordd (Osona)

Tavertet
1
trefgordd (Osona)

taxa
1
pris = pris sefydlog
2
pris = pris safonol
3 tâl (am rywbeth)

taxable
1
trethadwy

taxació
1
asesiad

taxador
1
aseswr

taxar
1
pennu pris
2
rheoleiddio, rheoli

taxatiu
1
cyfyngedig
2
pendant

taxativament
1
mewn ystyr gyfyngedig

taxi
1
tacsi

taxidèrmia
1
tácsidermi

taxidermista
1
tacsidermydd

taxímetre
1
cloc taxi, tácsimedr

taxista
1
gyrrwr tacsi

taxista
1
gyrwraig dacsi

taxonomia
1
dosbarthiad, tacsónomi

taxonomista
1
dosbarthwr, tacsonomydd

Taxus baccata
1
teix ywen
Al teix (Taxus baccata), de verdor fosca i severa, se'l tem perquè és tòxic tot ell menys els fruits - la carn vermella de l'aril no és tòxica
Mae ofn yr ywen (Taxus baccata), â’i gwyrddni tywyll a llym, am ei bod yn wenwynig drwyddi draw ar wahân i’r ffrwythau - nid yw cnawd coch yr aeronen yn wenwynig

 

 

····

Adolygiad diweddaraf - darrera actualització - 01 06 2001 :: 2003-12-04 :: 2004-01-26 :: 2004-11-09  ::  2004-11-30


Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yuu àa(r) zïting ø peij fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA