http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_vortaroy/geiriadur_catalaneg_cymraeg_LLOP_po_1688k.htm


0001z Tudalen Blaen / Pàgina principal

..........1863k Y Porth Cymraeg / La porta en gal·lès

....................0009k Y Gwegynllun / Mapa de la web

..............................1798k Geiriaduron / Diccionaris

........................................1794k Geiriaduron ar gyfer siaradwyr Cymraeg / Diccionaris per als gal·lesoparlants

..................................................0379k Mynegai i’r Geiriadur Catalaneg / Índex del diccionari català

............................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Geiriadur Cataloneg-Cymráeg
(ar gyfer siaradwyr Cymráeg)

Diccionari català-gal
·lès
(per gal
·lesoparlants)

 

POAGRE - PPCC

 

 

Adolygiad diweddaraf
Darrera actualització

2005-02-06 :: 2005-03-22 ::  2005-05-03

 

  

 





 

 

poagre
1
(llid bysedd y traed) y droedwst = cymalwst yn y troed; y gymalwst, y gewynnwst, y gowt
La crisi típica del pacient amb gota és l'atac d'artritis aguda gotosa (poagre), que consisteix en la inflamació brusca de la primera articulació del dit
Anhwylder arferol y claf sy’n dioddef o’r gymalwst yw pwl o arthritis llym cymalystaidd (“poagre”), hynny yw, llid sydyn cymal cyntaf y bys

inflors de poagre chwyddau’r gymalwst

És vell i té els peus molt consentits amb inflors de poagre
Mae e’n hen ac y mae ei draed yn chwyddau i gyd o achos y gowt (“yn friwiedig iawn â chwyddau’r gymalwst”)

poal
1
pwced (Cataloneg y Deheubarth) ( Cataloneg yr Ynysoedd)
[Cataloneg y Dywysogaeth: galleda]

el Poal
1
trefgordd (el Pla d'Urgell)

la Pobla
1
trefgordd (Mallorca)

població
1
poblogaeth
Quina és la població totalde la U.E.?
Faint yw poblogaeth yr Undeb Ewropeaidd?

2
pentref
3
tref
A quina població catalana se celebra la Patum? Berga
Ym mha dref yng Nghatalonia y dethlir y “Patum”? Berga
4
dinas
5
plannu coed
6
població civil sifilwyr

Pobla d'Arenós

1
trefgordd (l'Alt Millars)

la Pobla de Benifassa
1
trefgordd (el Baix Maestrat)

la Pobla de Claramunt
1
trefgordd (l'Anoia)

la Pobla de Cérvoles
1
trefgordd (les Garrigues)

Pobla de Farnals
1
trefgordd (l'Horta)

la Pobla de Lillet
1
trefgordd (el Berguedà)

la Pobla de Massaluca
1
trefgordd (la Terra Alta)

la Pobla de Montornès
1
trefgordd (el Tarragonès)

la Pobla de Màfumet
1
trefgordd (el Tarragonès)

la Pobla de Roda
1
trefgordd (la Baixa Ribagorça)

la Pobla de Sant Miquel
1
trefgordd (el Racó d'Ademús)

la Pobla de Segur
1
trefgordd (el Pallars Jussà)

la Pobla de Vallbona
1
trefgordd (el Camp de Túria)

la Pobla del Duc
1
trefgordd (la Vall d'Albaida)

la Pobla Llarga
1
trefgordd (la Ribera Alta)

poblament
1
poblogi

poblar
1
poblogi
2
plannu (coed)
3
stocio (pysgod)

poblat
1
pentref
2
tref
3
lle cyfanedd

la Poblatornesa?
1
trefgordd (la Plana Alta)

poble
1
pobl (= cenedl)
2
pentref, tref
al centre del poble
yng nghanol y pentref / y dref
3
el poble y werin

el Poblenou de Benitatxell
1
trefgordd (la Marina Baixa)

poblet
1
pentref, tref

pobletà
1
gwledig, pentre bach, tre fach

pobletà
1
pentrefwr

Pobleta de la Granadella
1
trefgordd (les Garrigues)

Poboleda
1
trefgordd (el Priorat)

pobre
1
tlawd
pobre com Job cyn dloded â llygoden eglwys
2
tlawd (ffigurol)
3
ychydig, dim

pobre
1
un tlawd, tlotyn
2
pobre! druan! (De-ddwyrain: pwr-dáb)
Pobres de nosaltres amb municpals com vostè. Drueniaid ohonon ni â heddweision (= heddweision cyngor y ddinas) fel chi.

3
els pobres
y tlawd, y tlodion

pobresa
1
tlodi 
viure per sota del llindar de la pobresa
byw mewn tlodi, byw’n dlawd (“byw o dan drothwy tlodi”)
2 Obri la porta a la peresa i entrarà a ta casa la pobresa (“Agorwch y drws i ddiogi a tlodi a ddaw i mewn i’th dy^”) (Ni ddylid bod yn ddiog. Gwaith caled biau hi bob amser)
2
diffyg

pobreta
1
druan fach

pobrissó
1
truan bach

poc
1
fawr o, fawr iawn o, dim llawer o
2
rhai
3
poc temps fawr o amser
4
fa pocs dies rai dyddiau yn ôl
5
en pocs dies ymhen rhai dyddiau
6 i ffurfio ymadrodd sydd yn gyfwerth ag ansoddair negyddol ei ystyr neu naws yn Gymraeg
poc madur anaeddfed
poc profund bas


poc
1
ddim rhyw lawer, ychydig o weithiau, ddim llawr, fawr iawn
2
poc útil heb fod yn ddefnyddiol

poc
ffurff fachigynol: poquet
1
tipyn bach
2
tipyn bach o amser
3
dim ond ychydig bach, ychydig yn unig, fawr iawn
prometre molt i atényer poc (“addo llawer a chyrraedd ychydig”) addo môr a mynydd, addo llawer mwy nag y gellir ei roi mewn gwirionedd
4
a poc a poc o dipyn i beth / a poquet a poquet o dipyn i beth
A poc a poc! Gan bwyll!
5
poc o molt mwy neu lai
6
entre poc i massa dyw e ddim o bwys
7
un poc tipyn bach
8
poc més o menys mwy neu lai
9
poc després ar ôl tipyn
10 que no és poc sydd yn gryn dipyn (“nad yw’n beth bach”)
A casa nostra hi ha molta gent, de totes edats, orígens i condicions, que han decidit destinar totes les seves energies a preservar tot el que encara ens queda i a recuperar tot el que ens han pres, que no és poc!
Yn ein gwlad (“yn ein cartref”) y mae llawer o bobl, o bob oedran, o bob haniad o ac o bob cyflwr sydd wedi penderfynnu rhoi eu hegni i gyd at gadw popeth sydd yn dal i fod gennym, ac i ennill yn ôl yr hyn y maent wedi cymeryd oddi arnom, sydd yn gryn dipyn

poca cosa
1
ddim llawer

poca cosa més
1
dim arall

poca-pena
1
un digywilydd, un haerllug
Ha marxat amb el poca-pena d’en Miquel 
Mae he wedi mynd i ffwrdd â’r Miquel digywilydd yna

poca-solta
1
un ffwndrus, un penchwiban
2
un gwallgo', ffŵl

poca-soltada
1
nonsens

poca-traça
1
un trwsgl, un drwsgl

poca-vergonya
1
un digywilydd, un ddigywilydd

poc ença poc enllà
1
mwy neu lai
pels volts del Nadal poc ença poc enllà tua Nadolig (“o gwmpas Nadolig mwy neu lai”)

poció
1
trwyth

poc o molt
1
mwy neu lai

poda
1
tocio
2
tymor tocio

podall
1
bilwg

podar

1
tocio, trimio

poder

1
grym
aconseguir el poder ennill grym
El poder suposa responsibilitat grym a ddwg gyfrifoldeb
estar al poder
bod mewn grym 
estar assedegat de poder bod yn sychedu am rym
2
gallu
3
nerth, cryder
4
awdurdod
5 llywodraeth
ERC (Esquerra Republicana de Catalunya) fa por al poder de Madrid
Mae ERC (Chwith Genedlaethol Catalonia) yn hala ofn ar y llywodraeth yn Madrid
treure (algú) del poder gwneud (i rywun) golli grym, gorthfygu llywodraeth (rhywun)
S'ha de fer pressió més que mai i treure el PP del poder
Rhaid rhoi mwy fyth o bwysau arnynt a gwneud i’r PP golli grym

6
els tres poders de l’estat
tri grym yr wladwriaeth (hynny yw, y gangen ddeddfwriol, sydd yn gwneud y deddfau; y gangen weithredol, sydd yn gofalu bod y gyfraith yn cael ei pharchu; a’r gangen farnol, sydd yn dehongli’r gyfraith)

el quart poder
y pedwerydd grym, y cyfryngau torfol

Els mitjans de communicació tenen un poder tan fort que hi ha gent que s'atrevit a qualificar-lo com el quart poder
Mae gan y cyfryngau torfol rym tan gryf fel y mae rhai yn mynnu ei alw’r “pedwerydd grym”

Es parla de la premsa com a quart poder
Dywedir fod y wasg yn “bedwerydd grym”

poder
1
gallu, medru (galluogrwydd)
Amb aquesta gent no es pot ni parlar Mae’n gwbl amhosibl siarad â’r bobl ’ma

poderós
1
grymus, nerthol
l'home més poderós del món y dyn grymusaf yn y byd
2
cryf

poderosament

1
yn nerthol, yn rymus

poder veure
1
no poder veure ddim yn gallu dioddef, casáu

podi
1
podiwm
2 podiwm enillwyr gystadleuaeth, ras, ayyb
al graó més alt del podi  (“ar ris uchaf y podiwm”)
els catalans amb més possibilitats de pujar al podi són...
y Catalaniad sydd yn fwyaf tebygol o ennill yw... (“â’r mwyaf o bosiblrwyddau o ddringo ar y podiwm...”)
També
en categoria femenina, E.H. ha obtingut el tercer lloc al podi final
Yng nghátegori’r merched eto, mae E.H. wedi cymryd y trydydd lle (“wedi cael y trydydd lle ar y podiwm terfynol”)

podria

1
gallai
L'economia no podria funcionar si hagués d'atendre tots els capricis individuals.
Ni allai’r économi weithio pe buasai rhaid iddo foddháu mympwyon pob unigolyn

podridura

1
pydredd, llygredd
2
llygredd (ffigurol)

podrir

1
pydru
2
(berf heb wrthrych) pydru

podrit

1
pwdr, pydredig

podrit

1
rhan bwdr (o beth)

poema

1
cerdd

poemari

1
llyfr barddoniaeth

poesia

1
barddoniaeth
2
cerdd = darn o farddoniaeth

poeta

1
bardd, prydydd

poetastre

1
bardd talcen slip

poetessa

1
bardd o wraig

poètic

1
barddonol

poètica

1
barddoniaeth = y grefft

pogrom

1
pogrom

pogués

1
gallai
Si jo pogués el faria demà mateix
Pe gallwn, byddwn yn ei wneud yfory

pointsètia

1
poinsetia (Euphorbia pulcherrima), blodyn Nadolig
He trucat a la floristeria perquè em reservin una poinsètia.
Rwy i wedi galw’r siop flodau iddynt gadw pointsetia i mi

poques

1
ychydig (plural de poc)

pol

1
polyn

polaina

1
coeswisg

polar

1
pegynol = yn perthyn i begynau’r Ddaear, neu i’r ardaoloedd Arctig neu Antarctig
cercle polar
cylch pegynol 

polaritat

1
polaredd, pegynedd  

polarització

1
polareiddiad

polaritzar

1
polaru, polareiddio

polca

1
polca

polèmic

1
dadleuol

polèmica

1
dadlau, ffrae
2
dadleuaeth

polemista

1
dadleuydd

polemitzar

1
dadlau

polenta

1
polenta = uwd india-corn

poli

1
(ar lafar) heddwas
És un poli infiltrat
Ymdreiddiwr o heddwas yw e
intercanviar posicions com el poli bo i el poli dolent newid lle fel yr heddwas da a’r heddwas drwg


policia

1
heddlu
2
heddwraig, plismones

policia

1
plismon, plisman, heddwas
policia local heddwas lleol
policia municipal heddwas trefol, heddwas a gyflogir gan gyngor tref
policia nacional (gwladwriaeth Sbaen) ‘heddwas cenedlaethol’, heddwas Castilia

policíac

1
heddlu
novel·la policíaca nofel dditectif

policial

1
heddlu
A Catalunya hi ha un dèficit policial Yng Nghatalonia nid oes digon o heddlu

policlínica

1
ysbyty cyffredinol

policonreu

1
ffermio cymysg

policrom

1
aml-liwiog

polidesa

1
taclusrwydd, destllusrwydd
2
glanweithdra
3
coethder

polidor

1
(ansoddair) sydd yn caboli
2
(enw) cabolwr
máquina polidora peiriant sandio

políedre

1
(ffurf lafar: poliedre) poluhedron

poliester

1
poluester

poliesportiu
1
“aml-chwaraeon”
pavelló poliesportiu canolfan chwaraeon
La cursa de fons començarà a les nou del matí davant del pavelló poliesportiu de Can Noguera
Bydd y râs redeg yn dechrau am naw y bore o flaen y canolfan chwaraeon Can Noguera

polifonia

1
póluffoni, amlseiniaeth
El naixement de la polifonia: del cant gregorià al renaixement
Geni póluffoni: o’r alm-dôn Gregoraidd i’r Dadeni Dysg

2 de polifonia poluffonig
De Calaix és un trio de polifonia vocal femenina creat el 2001 a l'Alt Empordà
Mae De Calaix yn driawd poluffonig lleisiau merched a sefydlwyd yn 2001 yn l'Alt Empordà

polifònic

1
amlseiniol, poluffonig

poligàmia

1
amlwreicaeth

poliglot

1
amlieithog

poliglot

1
amlieithydd

polígon

1
pólugon
2
polígon industrial ystâd ddiwydiannol

poliment

1
(gweithred) caboli
2
llewyrch, sglein, gloywder

polímer

1
pólumer

polinomi

1
polunomial

Polinyà de la Ribera

1
trefgordd (la Ribera Baixa) 

Polinyà del Vallès

1
trefgordd (el Vallès Occidental)

poliol

1
= poliol d’aigua (Mentha pulegium) llysiau’r gwaed
una infusió
de menta i poliol te mintys â llysiau’r gwaed

poliomelitis

1
poliomuelitis

pòlip

1
polup (meddygaeth)
2
polup (swoleg)

polir

1
caboli, cwyro
2
caboli, gloywi (ffigurol)
polir l’assaig caboli’r traethawd
2
polir (algú) coethi (rhywun), diwyllio (rhywun); = gwneud rhywun yn goeth ei ymddygiad
4
lladrata (ffigurol)

polir-se

1
gwastraffu (arian)
2 gwerthu
3 dihysbyddu, gwario
polir-se els estalvis dihysbyddu`ch cynilon, gawrio’ch cynilon
M'he polit el que tenia estalviat Rw i wedi gwario popeth yr oedd wrth gefn gyda fi

 

polisíl·lab

1
lluosill

polisíl·lab

1
gair lluosill

polisportiu

1
neuadd chwaraeon, canolfan chwareuon

pòlissa

1
pólisi (yswiriant)
2
stamp cyllidol
3
contract, cytundeb

polissó

1
teithiwr cudd (ar fwrdd llong, awyren)

polit

1
trefnus
2
pert, nêt

politècnic

1
politechnig

politècnic

1
coleg polutechnig

politeisme
1
amldduwiaeth

politeista

1
amldduwiad

polític
enw
1
gwleidydd

polític

1
gwleidyddol
dret polític cyfraith gyfansoddiadol
2
(perthnasau) -yng-nghyfraith
família política teulu yng nghyfraith

política

1
pólisi
2
gwleidyddiaeth
fer política be political
3
gwleiddydd (gwraig)

politicòleg
1
gwyddonydd gwleidyddiaeth

politicologia

1
gwyddor gwleidyddiaeth

politització

1
gwleidyddoliad, gwleidyddoli

polititzar

1
gwleidyddoli

politja

1
troell, pwli

polivalent

1
amryfalent

poll

1
cyw, cywennen

poll
1
lleuen
ull de poll corn = caleden neu dewychiad ar groen
trepitjar-li (a algú) l’ull de poll sathru ar gyrn rhywun, sengi ar gyrn rhywun, tynnu blewyn o drwyn rhywun
tocar-li (a algú) l’ull de poll sathru ar gyrn rhywun, sengi ar gyrn rhywun, tynnu blewyn o drwyn rhywun, brifo rhywun i’r byw
Aquesta reacció fora de lloc  vol dir que els hem tocat l'ull de poll.
Mae’r ymateb hollol ddireswm hwn yn awgrymu ein bod wedi sengi ar eu cyrn nhw (= wedi eu bwrw yn eu gwendid)

polla

1
iâr fach
2 (Castileb) pidyn
xupada de polla calsugniad
Ves a Madrid a xupar la polla als teus amos espanyols
Cer i Madrid i galsugno dy feistri Castilaidd

pollada

1
nythaid, deoriad, hatsiaid 
Durant el mes d’agost en una visita a aquesta zona es trobà a terra sota el niu del mussols banyuts un dels tres polls mort, tractant-se de l’exemplar més petit de la pollada
Yn ystod mis Awst, yn ystod ymweliad â’r ardal hon, fe ddaethpwyd o hyd, ar lawr o dan nyth y tylluanod corniog, i gorff un o’r tri chyw (“un o’r tri chyw wedi marw”), sef yr un lleiaf o’r nythaid

pollancre

1
poplysen

pollastre

1
cyw iâr
2
cig cyw iâr

polleguera

1
(drws) colyn
sortir de polleguera colli ei limpyn (“mynd oddi ar y colyn”)
Que passin coses i que els espanyolistes surtin de polleguera!
(sôn am wrthdystiadau o blaid timau cenedlaethol i Gatalonia) Bydded i bethau ddigwydd a bydded i’r Castilgarwyr golli’u limpyn!
fer-lo sortir de polleguera codi gwrychyn un, gwylltio
treure (algú) de polleguera gwylltio rhywun (“tynnu oddi ar y colyn”)
Em treu de polleguera que diguin allò de diuen
Mae yn fy ngwylltio eu bod y dweud yr hyn y maent yn ei ddweud

pol·len

1
paill, manflawd, bara gwenyn

Pollença

1
trefgordd (Mallorca) 

pollera

1
cwb ieir, cwt ieir

polleria

1
siop ddodefnod, siop ffowls

Pollestres

1
trefgordd (el Rosselló) 

pollet

1
cyw iâr, cywennen

pollí

1
asyn ifanc, asen ifanc
exposició de cavalls i pollins sioe geffylau ac asynnod (asynnod ifanc)

pol·linització

1
peilliad  peilliadau; peillio

pollós

1
lleuog
2
brwnt, truenus

pol·lució

1
llygredd

polo

1
polo

polonès

1
Pwylaidd
2
Pwyleg

polonès

1
Pwyliad
2
Pwyleg

polonesa

1
Pwyles

Polònia

1
Gwlad Pwyl

Polop

1
trefgordd (la Marina Baixa) 

polpa

1
mwydion

polpós

1
mwydionog

pols

1
curiad (cylchrediad gwaed)
prendre-li el pols a algú teimlo curiad rhywun
2
arfais (anatomeg)

pols

1
lluwch, llwch
fer-li la pols a algú cael y blaen ar rywun

polsada

1
pinsiad
una polsada de sal pinsiad o halen

polsar

1
teimlo curiad un
2
tynnu (cordyn gitâr, ffidl)
3
profi (rhywun), ceisio gwybod gwir farn rhywun

polsegós

1
llychlyd

polseguera

1
cwmwl llwch

polsera

1
brasled

rellotge de polsera watsh arddwrn

2
gorchudd rhag casglu lluwch

polsim

1
manlwch, llwch mân

polsós

1
llychlyd

poltre

1
ebol
poltra eboles
2
ceffyl naid (chwaraeon)

poltró

1
diog (De-ddwyrain: pwdr)

poltrona

1
cadair esmwyth
2 cadair esmwyth fel sumbol o swydd yn y llywodraeth a gamddefnyddir er hunanfawrhâd, lle clyd, “clydfan”
El que vol és aconseguir una poltrona al preu que sigui
Yr hyn y mae yn ymofyn ei wneud yw cael “clydfan” gostied a gosto

Per salvar la seva poltrona va canviar de partit I gadw ei “glydfan” ymaelododd â phlaid arall

poltroneria

1
diogi

pólvora

1
powdr gwn
ser viu com la pólvrea deall yn chwim
ser una pólvrea bod gan rywun dymer ddrwg

polvorera

1
blwch powdr wyneb

pólvores

1
powdr wyneb

polvorí

1
stordy powdr gwn

polvoritzador

1
malurydd
2
chwistrellydd (at hylif)

polvoritzar

1
malu yn llwch, malurio
2
chwistrellu

polzada

1
modfedd

polze

1
bys bawd

pom

1
nobyn
2
bwnshyn (blodau)

poma

1
afal
suc de poma sudd afal
guardar-se una poma per a la set rhoi arian o’r neilltu (“cadw i chi’ch hun afal ar gyfer syched”)

pomada

1
eli (meddygaeth)

pomell

1
bwnshyn (o flodau)

pomer

1
pren afalau
2 Pomers cyfenw

pomera

1
= pomer pren afalau
2 Pomera
cyfenw

pompa

1
rhwysg
2
séremoni
3
pompes fúnebres angladd
una empresa de pompes fúnebres (Avui 2004-01-26) cwmni trefnu angladdau
4
trefnwr angladdau

Pompeia

1
Pompei

Pompeu

1
(enw bedydd)

pompill

1
pen ôl, tin (Cataloneg Uwchfynyddol)

pompó

1
pompon

pompós

1
rhwysgfawr, rhodresgar, llond eich esgidiau

pòmul

1
gên

poncell

1
gwrwyf

poncella

1
morwyn, gwrwyf
2
blaguryn

poncellar

1
blaguro, egino

ponderable

1
swmpus
2
canmoladwy

ponderació

1
mesur a phwyso

ponderador

1
sy’n sadio, sy’n sefydlogi

ponderar

1
ystyried, considro, mesur a phwyso

ponderat

1
wedi ei fesur (peth)
2
doeth
3
sàd, wedi ei sefydlogi

ponderós

1
trwm
2
pwysig

pòndol

1
cadw tŷ

pondre

1
(aderyn) gosod (wy)

pondre's

1
machlud (haul)

ponedor

1
sy'n dodwy wyau
2
(eg) bocs nythu, deorfa

ponència

1
adroddiad (a gyflwynir ar gyfer cael trafodaeth arno)

ponent

1
gorllewinol

ponent
1
gorllewin
De ponent, ni vent ni gent (Dywediad, Gwlad Falensia) O’r Gorllewin, na gwynt na phobl (hynny yw, mae popeth a ddaw o’r tu hwnt i ffin orllewinol Gwlad Falensia yn ddrwg)
De ponent, res de bo, ni el vent O’r Gorllewin, dim byd da, hyd yn oed y gwynt

ponent

1
darlithydd = un sydd yn rhoi darlith, darllen papur
2
ynad (un sydd yn rhoi adroddiad i lys er mwyn cael penderfyniad terfynol)

ponentada

1
gwynt cryf o’r gorllewin

ponentí

1
gorllewinol

poni

1
poni, merlyn

pont
1
pont
Pont del Diable enw pont a Manresa i mewn lleoedd eraill (“pont y gŵr drwg”) 
2
(llong) pont lywio

Catalunya Nord: <punt>

pontatge

1
toll bont, toll i groesi pont

Pont d'Armentera

1
trefgordd (l'Alt Camp) 
http://ca.wikipedia.org/wiki/El_Pont_d%27Armentera Gwefan Wikipedia

http://www.pontdarmentera.altanet.org/ Gwefan Cyngor y Pentref


el Pont de Claverol

1
trefgordd (el Pallars Jussà) 

Pont de Molins

1
trefgordd (l'Alt Empordà) 

la Pont de Montanyana

1
trefgordd (l'Alta Ribagorça) 

el Pont de Suert

1
trefgordd (l'Alta Ribagorça) 
http://pontsuert.ddl.net/


Pontellà

1
trefgordd (el Rosselló) 

pontet

1
(fiolin) crib; brân; pont

pontífex

1
pontiff, archesgobol

pontifical

1
archesgobol

pontificar

1
offeiriadu

pontificat

1
pabaeth
2
teyrnasiad (cyfnod teyrnasiad pab)

pontifici

1
archesgobol

pontó

1
pontŵn

Pontons

1
trefgordd (l'Alt Penedès) 

Pontós

1
trefgordd (l'Alt Empordà) 

Ponts

1
trefgordd (la Noguera) 
A Ponts pocs de bons (Dywediad) Yn Ponts dim llawer o bobl dda

ponx

1
pwnsh

pop

1
(cerddoriaeth) pop

pop

1
óctopws

popa

1
pen ôl llong
anar vent en proa mynd â’r gwynt o’r tu ôl; bod lawc gennych
de popa a proa o’r pen ôl i’r pen blaen
2
bron
3
pwrs buwch, cadair buwch
A la Vall de Meià, poques popes i molt gra (Dywediad) Yn Vall de Meià, ychydig o gadeiriau buwch a llawer o rawn

popliti

1
cameddol

popliti

1
camedd y gar

popular

1
poblogaidd
2
gwerinol (yn perthyn i'r werin) cân werin
canço popular
3
gwerinol (yn perthyn i iaith y werin)
4
yn perthyn i’r Partido Popular (plaid asgell-dde Gastilaidd sydd yn etifedd gwleidyddiaeth yr unben Franciso Franco)
la política popular pólisi y Partido Popular
els populars (enw) aelodau seneddol y Partido Popular, cefnogwyr y Partido Popular
5
(pris) rhesymol
preus molt populars prisiau fforddiadwy, prisiau isel
6
yn perthyn i’r bobol yn hytrach i’r awdurddodau
iniciativa popular prosiect wedi ei gychwyn gan wirfoddolwyr neu ymgyrchwyr

popularitat

1
poblogeiddrwydd

popularitzar

1
poplogeiddio

popularment

1
yn boblogaidd

populatxer

1
rhad, cwrs, coman

populatxo

1
nasiwn

populisme

1
poblyddiaeth

populós

1
poblog

pòquer

1
pocer

poquesa

1
bychander, bychandra
2
peth diwerth

por

1
ofn
agafar por cael ofn
tenir por (de fer alguna cosa) ofni (gwneud), bod ag ofn (gwneud)
que fa por sy'n hala ofn ar ddyn, sy'n gyrru ofn ar ddyn
no tenir gens de por (d’alguna cosa)
bod dim ofn (rhywbeth) arnoch

Per què hi ha tant pocs  cotxes amb el CAT sobre la E?
La gent té molta por per la multa
Pam y mae cynlleied o geir â’r CAT dros yr E? Mae ofn mawr cael dirwy ar bobl (“mae ofn mawr y ddirwy”)

2 fer-li por gyrru ofn ar, hala ofn ar; ofni
Els fa por que hi pugui haver una alternativa independentista amb capacitat de gestionar la cosa pública, perquè aleshores els nostres anys dins d'Espanya estaran comptats
Maent yn ofni’r ffaith y gellir bodoli plaid arall, un sydd yn arddel annibyniaeth, sydd yn alluog i weinyddu’r cyrff cyhoeddus, oherwydd os felly bydd ein blynyddoedd o fewn gwladwriaeth Castilia yn dod i ben

fer-li una por terrible (a algú) hala ofn mawr (ar rywun)
Si això és l'ideologia del teu partit em feu una por terrible.
Os hynny yw ideoleg / syniadaeth dy blaid di rych chi’n hala ofn mawr arna i

3 per por a represàlies rhag ofn dial
Els habitants del carrer es neguen a parlar del crim per por a represàlies.
Mae trigolion yr heol yn gwrthod siarad am y llofruddiaeth rhag ofn dial

poques vegades

1
yn anaml, fawr iawn

poquet
1
tipyn bach
Gweler poc

porc

1
mochyn
2
(sarhâd) mochyn
3
porc senglar baedd gwyllt
4
porc marí llamhidydd, morhwch, Sambedyddiwr (“mochyn môr”)
5
porc espí ballasg (“mochyn draenen”)
6
dir-li el nom de porc (a algú) difrïo (rhywun), difenwi (rhywun) (“dweud enw ‘mochyn’ i rywun”)

porc

1
brwnt, budr, ffiaidd

porca

1
hwch

porcada

1
cenfaint o foch
2
tro gwael

porcell

1
porchell
2 Porcell cyfenw
Baltasar Porcell enw llenor Maliorcaidd


porcellana

1
porslen, tsheini

porcellaner

1
gwneuthurwr porslen
2 gwerthwr porslen

porcellera

1
cwt moch

porc espí

1
ballasg

porcí

1
mochaidd, mochyn (cymhwysair), moch (cymhwysair)
2 (enw) mochyn
porcins moch

explotacions amb ramaderia (dividides en set tipus: bovins, ovins, cabrum, porcins, equins, aviram, conilles)
ffermydd ag anifeiliaid (wedi eu rhannu yn saith o fathau:  gwartheg, defaid, geifr, moch, ceffylau, dodefnod, cwningod)

porció

1
darn

porc senglar

1
baedd gwyllt

porfidia

1
dyfalbarhâd
2
ystyfnigrwydd

porfidiejar

1
mynnu

porfidiós

1
ystyfnig

porgar

1
rhidyllio

porgueres

1
eisin = plisg allanol y grawn y^d a dynnir ymaith

pornografia

1
pornógraffi

pornogràfic

1
pornograffaidd, pornograffig

porós

1
mandyllog
terra porosa pridd mandyllog
una superficie porosa arwyneb mandyllog
Aquest paper és molt porós i absorbent Mae’r papur hwn yn fandyllog iawn ac yn amsugnol dros ben

porositat

1
mandylledd, mandyllogrwydd
la porositat del terreny
mandylledd y tir
la porositat del sòl mandylledd y pridd
una porositat elevada mandylledd uchel

porpra

1
porffor
de color porpra porffor ei liw
Les flors del freixe són petites i de color porpra
Mae blodau’r onnen yn borffor eu lliw ac yn fach
El Tamarisc és un arbust o petit arbre caducifoli que arriba als 4 m. d´alçada, amb branques porpres o brunes obscures
Mae’r grugben Balcanaidd (Tamarix anglica Webb) yn llwyn neu yn bren bach deilgwymp sydd yn cyrraedd 4 medr o uchder, ag iddi ganghennau porffor neu frown tywyll

porquejar

1
(berf â gwrthrych) bwnglera
2
(berf heb wrthrych) chwarae cast brwnt ar, chwarae cast budr ar

Porqueres

1
trefgordd (el Gironès) 

porqueria

1
bryntni, budreddi
2
ffieidd-dra = agwedd gas
3
sothach = rhywbeth diwerth
Menjar ràpid no significa, necessàriament, menjar porqueria.
Dyw bwyd cyflym ddim yn gyfystyr â bwyd sothach o anghenrhaid
Jo no menjaria aquesta porqueria ni de conya
Fyddwn i ddim yn buta’r sothach yma ar gyfrif yn y byd


porra
1
pastwn
ves a la porra cer i grafu

porrada

1
pastyniad, ergyd a phastwn
2
cennin berwedig

porradell

1
cenhinen wyllt

porrat

1
(Gwlad Falensia) ffair ddanteithion
El mort al forat, i el viu al porrat (“y marw yn y twll, a’r byw yn y ffair”) ??Rhaid mwynháu am fod bywyd yn fyr

porrer

1
byrllysgwr (un sydd yn dwyn byrllysg, sef ffon sydd yn sumbol awdurdod)

Porrera

1
trefgordd (el Priorat) 

Porreres

1
trefgordd (Mallorca) 

porro

1
cenhinen
2
joint (sigaren mariwana)
Ella volia fumar-se un porro
Roedd hi’n ymofyn smoco

porró

1
[jwg gwydr at win ag iddo sbowt hir]
2
mesur hylif (0.941m)

port

1
porth, porthladd
2
dur a bon port gwneud llwyddiant o, dwyn rhywbeth i ben yn llwyddiannus
3
bwlch
4
osgo
5
ports tâl cludo
ports de transport
tâl cludo
pagar els ports de transport talu am y cludiant
Si voleu que us enviem el DVD per correu, haureu de pagar els ports de transport.
Os yr ych chi’n ymofyn i ni anfon y DVD atoch trwy’r post, bydd rhaid i chi dalu am y cludiant

porta

1
drws
a la porta de casa seva wrth ddrws ffrynt ei gartref
entrar per la porta del darrere a mynd i mewn trwy’r drws cefn; sleifio i mewn
va entrar al partit per la porta del darrere ymaelododd â’r blaid dan din

obrir la porta agor y drws
Obri la porta a la peresa i entrarà a ta casa la pobresa
(“Agorwch y drws i ddiogi a tlodi a ddaw i mewn i’th dy^”) (Ni ddylid bod yn ddiog. Gwaith caled biau hi bob amser)

tancar la porta cau’r drws

2
clwyd, gât, iet
3
mynedfa
4
gôl
gol a pròpia porta gôl yn ych erbyn eich hun, gôl a wneir gan aelod o dîm o blaid y tîm gwrthwynebol drwy gicio’r bêl i’w gôl ei hun
5 a porta tancada yn y dirgel, tu ôl i ddrysau caeëdig
La reunió es va celebrar a porta tancada Cynhaliwyd y cyfarfod yn y dirgel
 

6
pixaportes (“[y sawl sydd yn] piso [o flaen y] drysau”) bachgen sydd yn caru â merch (yr enw yn cyfeirio at gi sydd yn piso o flaen drws lle y mae wedi clywed arogl gast)

Porta

1
trefgordd (l'Alta Cerdanya) 

porta d'entrada

1
drws ffrynt

portaequipatges

1
(car) cist

porta principal

1
prif fynedfa

portaavions

1
llong awyrennau

portabandera

1
banerwr

portable

1
cludadwy

portabombeta

1
daliadur bwlbiau

portacigarretes

1
câs sigaréts

portada

1
clawr (llyfr)
2
(newyddiadur) tudalen blaen

portador

1
sydd yn dwyn / cario

portador

1
cludwr
2
(siec) pagar al portador talu daliwr y siec

portadora

1
twbyn

portaequipatges

1
(tren) shilff fagiau
2
(beic) cludwr (lle dros yr olwyn gefn i gario pethau)
3
(car) cist

portal

1
mynedfa (bloc o fflatiau)
2 porth dinas
el portal de l’Àngel enw heol yng nghanol Barcelona (“porth yr angel”)
3 prif ddrws adeilad (yn enwedig os yw e’n fwy na’r lleill)

portalada

1
porth cofadail

portalatge

1
(Hanes) toll a delid wrth fynd trwy borth tref gaerog

portaler

1
(Hanes) un oedd yn codi y doll a delid wrth fynd trwy borth tref gaerog
2
dryswr palas, un sydd yn agor a chau drws palas

portelera

1
portwll (ffenestr gron yn ochr llong)

portalàmpades

1
rhoden fellt

portaló

1
mynedfa llong

portamonedes

1
pwrs

portar

1
cario
2
mynd â
3
dod â
portar-li mala sort (a algú) dod â lwc ddrwg (i rywun)
4
portar maldecaps bod yn broblem
5
(llwybr, heol) arwain i
6
gwisgo
7
gosod (carreg sylfaen)
8
portar (algú) davant de la justícia rhoi cwrt ar (rywun)
(“dod â rhywun ger bron y cyfiawnder”)
9 (barf, gwallt) bod gennych
portar la barba rasa bod gennych farf wedi ei dorri’n fyr
Portava els cabells llargs Roedd ganddo wallt hir

portar-ho a la sang
rhywbeth yn rhedeg yn y gwaed gyda rhywun (“ei gario yn y gwaed”)
Són lladres i mentiders. Ho porteu a la sang. Son mala gent. Lladron a celwyddgwn yn  nhw. Mae’n rhedeg yn y gwaed gyda nhw. Pobl ddrwg y^n nhw.

berf heb wrthrych
10 dwyn
Una cosa porta a l’altra
Mae un peth yn arwain at beth arall (wrth siarad am yr  amodau sydd eisiau i gyrraedd rhyw amcan - rhaid eu gweld fel dilyniad camau)
Una mentida porta a una altra mentida Mae i bob celwydd ei gymar
(“mae un celwydd yn dwyn i gelwydd arall”)

portar a dins

1
bod o fewn (nodwedd cudd rhywun)

portar al cap

1
meddwl

portar a pensar

1
gwneud i un feddwl

portar a terme

1
cyflawni 

portar mal giny

1
bod yn arwydd ddrwg

portar mass enllà

1
mynd â rhywbeth i’r eithaf

portar plom a l'ala
1

portar pressa

1
bod ar frys

portar-se

1
ymddwyn
2
(bod mewn cyflwr iechyd) Es porta bé ara Mae’n iawn nawr

portàtil

1
cludadwy

portavent

1
peipen awyr

portaveu

1
llefarydd

portaviandes

1
bocs bwyd

Portbou

1
trefgordd (l'Alt Empordà) 

Port de la Selva

1
trefgordd (l'Alt Empordà) 

portell

1
adwy, bwlch

Portell de Morella

1
trefgordd (el Ports de Morella) 

portella

1
drws = drws bach
2
drws = drws car

la Portella

1
trefgordd (la Noguera) 

Portellada

1
trefgordd (el Matarranya) 

portent

1
peth hynod

portentós

1
hynod

porter

1
gofalwr bloc o fflatiau
2
gôl-geidwad

portera

1
gofalwraig bloc o fflatiau
2
gwraig gofalwr

porteria

1
desg gofalwr bloc o fflatiau
2
gòl (lle ar gae pêl-droed)

pòrtic

1
pórtico

porticó

1
caead (ffenestr)

pòrtland

1
sment Portland

porto-riqueny

1
(enw) Pwertoriciad (mf) Pwertoriciaid
2
(ansoddair) Pwertoricaidd

(els) Ports

1
comarca (Deheubarth Gwledydd Catalonia)

portuari

1
porth

Portugal

1
Pórtiwgal

portugués
(ansoddair)
1
Portiwgalaidd, (iaith) Portiwgaleg

(enw)
2
(iaith) Portiwgaleg
3
(persona) Portiwgaliad 

Portvendres

1
trefgordd (el Rosselló) 

Portè

1
trefgordd (l'Alta Cerdanya) 

Portús

1
trefgordd (el Vallespir ) 

poruc

1
ofnus, hawdd eich dychryn
La gent catalana és covarda i poruga
Mae’r Catalaniaid yn llyfrgwn ac yn hawdd eu dychryn

porus

1
mandwll

porxada

1
arcêd

porxo

1
portsh 

posa

1
ystum
2
agwedd

posada

1
rhoi, dodi
posada en marxa cychwyn
la posada de la primera pedra (d’un edifici) gosod carreg sylfaen (rhyw adeilad) 

posador

1
sydd yn sefydlu
2
(enw) gwestywr

posar

1
rhoi, dodi
2
rhoi (dillad)
3
rhoi = arllwys
4
cyfieithu, trosi
posar-lo en gal·lès trosi i'r Gymráeg

5 (blwyddi) posar-li més (“gosod mwy i...”)
Tinc 17 anys... encara que hi hagi molta gent que em posi mes.
Rwy’n ddwy ar hugain oed - er bod llawer yn meddwl fy mod yn hy^n

6 dweud fel esiampl
Jo crec que Catalunya arribarà a la independència més prest que tard. Posem en 10 anys?
Rwy i’n meddwl y caiff Catalonia ei hannibyniaeth (“cyrhaedda i’r annibyniaeth”) gynt yn hytrach na hwyrach. Ymhén deng mlynedd, er enghraifft. (“gosodwn ddeng mlynedd?”)

posem per cas er enghraifft (“rhoddwn ar gyfer achos”)

7 posar-li-ho més difícil (a algú) gwneud rhywbeth yn anos i rywun
Cada vegada m'ho posen més difícil Maent yn ei gwneud yn anos anos i mi

Altres:

AL DIA
posar (alguna cosa) al dia
diweddaru (rhywbeth) = ymgorffori y newidadau hyd at heddiw 

A TERRA
posar (alguna cosa) a terra
rhoi (rhywbeth) ar lawr 

BARRERES
posar barreres (a algù)
rhwystro rhywun (“dodi rhwystrau i rywun”)

CARA
posar cara de ràbia
edrych yn wyllt

CONTROL
posar un cert control (a alguna cosa) 
rheoli (rhywbeth) i ryw raddau

CRIT
posar el crit al cel
gwneud cythraul o dwrw (“rhoi y bloedd i’r nefoedd”)

DIA
> al dia


DIT
posar el dit a la llaga
rhoi’ch bys ar friw, bwrw rhywun yn ei wendid (“rhoi’r bys yn y briw”)
posar el dit al forat taro'r hoelen ar ei phen, ei tharo-hi ar ei chlopa ["rhoi'r bys yn y twll"]

EN LLIBERTAT
posar (algú) en llibertat
gollwng (rhywun) yn rhydd

EN RELLEU
posar (alguna cosa) en relleu
dangos pwysigrwydd (rhywbeth)

EN SERVEI
posar (alguna cosa) en servei
darparu (rhywbeth)

FI
posar fi (a alguna cosa)
rhoi pen (ar rywbeth)

FRENÈTIC
posar (algú) frenètic
hala (rhywun) yn benwan

GENOLL
posar un genoll a terra

..a/ disgyn ar ben-glin
..b/ posar un genoll a terra (davant algú) ymostwng (o flaen rhywun)

LLIBERTAT
> en llibertat


posar la mà al foc
mynd ar eich llw, tyngu ar eich gair, dweud ar eich peth mawr, tystio i wirionedd (rhywbeth) (“dodi’r llaw yn y tân”)

Hi posaria la ma al foc Fe awn i ar fy llw (mai felly y bu)
Per cert, el partit nacionalista castellà, Tierra Comunera no va ser fundat per un immigrant castellà resident a Sabadell? Hi posaria la ma al foc.
Gyda llaw, oni sefydlwyd Plaid Genedlaethol Castilia, Tierra Comunera, gan fewnfudwr o Gastiliad oedd yn byw a Sabadell? Fe awn i ar fy llw mai felly y bu.

No hi posaria la al foc, però... Awn i ddim ar fy llw, ond...
No hi posaria la al foc, però diria que en aixo té ell la rao perquè coneix bastant aquella empresa
Awn i ddim ar fy llw, ond fe ddywedwn taw yn hyn o beth fe sy’n iawn am ei fod yn nabod y cwmni ’na’n lled dda

Posaria la al foc que és mentida; sabem perfectament com són els del PP
Awn i ar fy llw taw celwydd yw e; ry^n ni’n gwybod yn burion sut mae pobl y PP (plaid asgell dde Castilia)

MULTA
posar-li una multa (a algú)
codi dirwy (ar rywun)
 
 
PEDRA
no posar-se pedres al fetge
bod yn ddidaro

RELLEU
> en relleu

SERVEI
> en servei

TELEVISIÓ
posar la tele
rhoi’r teli ymláen

TERRA
> a terra

ULL
posar-li (a algú) un ull de vellut
rhoi llygad du (i rywun) (“llygad melfed”)

 
 

posar-se

1
dod yn
2
rhoi (amdanoch) (ddillad, ddilledyn)
Els menuts es posen les disfresses Mae’r plant yn rhoi eu dillad ffansi
Posa't el que vulguis! Rho amdanat yr hyn a fynnot!
3
posar-se a (rv) dechrau (gwneud)
4
posar-se (a l'aparell) mynd at y ffôn
Digui-li que s'hi posa Dywedwch wrthi am fynd at y ffôn


posar-se com un energumen

1
mynd yn benwan

posar-se de la seva banda
1
cefnogi, sefyll o’ch plaid

posar-se bo

1
gwella

posar-se de cua

1
mynd i'r gwt, mynd i'r gynffon, mynd i'r ciw

posar-se de genolls
1
disgyn ar eich pen-gliniau

posar-se vermell

1
gwrido, mynd yn goch

posar-se violent

1
colli’ch tymer
 
 

posat

1
wedi ei ddodi
2
posats a fer Os awn ni ati i wneud rhywbeth am y sefyllfa
3
posats a dir a dweud y gwirionedd

posat

1
ystum

posició

1
safle
2
posicions
safbwynt, barn
La meves posicions són conegudes Mae fy safbwynt innau yn hybsys i bawb
3
agwedd, safbwynt
4
position, attitude, standpoint

posicionament

1
rhoi mewn cyflwr neu le

pòsit

1
gwaelodion
2
gwely
3
olion

positiu

1
pósitif
2
llwyddiannus

positivament

1
yn bósitif

positivisme

1
positifiaeth

positivista

1
positifydd

positró

1
pósitron

positura

1
ymddaliad, osgo, ystum

posposar

1
rhoi ar ôl

posseïdor

1
sydd biau

posseïdor

1
perchennog

posseir

1
perchen ar
2 cael rheolaeth ar, rheoli
veure els combats de mascles per pòsseir les femelles del ramat.
gweld brwydrau’r gwrywod i reoli benywod y praidd

possessió

1
meddiant
2
(tiriogaeth) prendre possessió de meddiannu    
A l’any 1918 França va prendre possessió d'Alsàcia i Lorena 
Yn y flwyddyn 1918 meddiannodd Ffrainc Elsass a Löthringen
3 prendre possessió d’un càrrec meddiannu swyddogaeth
celebrar la presa de possessió del líder socialista del càrrec de president de la Generalitat 
dathlu urddo’r arweinydd Sosialaidd yn bennaeth ar y Gyffredinfa

possessiu

1
meddiannol

possessionar

1
meddiannu

possibilitar

1
gwneud yn bosibl

possibilitat

1
posibilrwydd
2
hi ha la possibilitat que (+ berf yn y modd dibynnol)
bod yn bosibl i
A la pàgina web els alumnes posen la seva fitxa personal. A més, hi ha la possibilitat que algú hi posi el seu currículum
Ar y tudalen gwe mae’r myfyrwyr yn rhoi ei manylion personol (“cerdyn ffeil personol”). Yn ogystal â hyn, mae’n bosibl i rhywun roi braslun ei yrfa
3
la possibilitat o no que (+ berf yn y modd dibynnol) a... ai peidio
L’enquesta té com a tema la possibilitat o no que Convergència i Unió guanyi les pròximes eleccions del mes de mar
Mae’r arolwg yn ynwneud a`r pwnc a enilla Convergència i Unió ai peidio yr etholidadau nesaf ym mis Mawrth
4
no tenir possibilitat de nid oes iddo obaith i
5
cyfle
No tens ni l’ombra d’una possibilitat
Does gen ti’r gobaith  lleia / Nid oes gennyt y gobaith lleiaf (“nid oes gennyt hyd yn oed cysgod cyfle”)  

possible

1
posibl
el màxim nombre possible de cymaint ag sy’n bosibl o 

possible

1
yr hyn sydd yn bosibl
fer el possible gwneud eich gorau glas
Espero que CiU i ERC façin el possible perquè el nou Estatut sorti lo menys provincià que es pogui
Gobeithio fod pleidiau CiU ac ERC yn gwneud eu gorau glas er mwyn i’r Ystatud newydd (ar hunanlywodraeth Catalonia), hyd ag y mae modd, beidio trin Catalonia fel rhanbarth (“yn dod allan y lleiaf taleithiol / rhanbarthol”)


possessionar
1
meddiannu

possibilitar
1
gwneud yn bosibl

possibilitat
1
posibilrwydd
2
hi ha la possibilitat que (+ berf yn y modd dibynnol)
bod yn bosibl i
A la pàgina web els alumnes posen la seva fitxa personal. A més, hi ha la possibilitat que algú hi posi el seu currículum
Ar y tudalen gwe mae’r myfyrwyr yn rhoi ei manylion personol (“cerdyn ffeil personol”). Yn ogystal â hyn, mae’n bosibl i rhywun roi braslun ei yrfa
3
la possibilitat o no que (+ berf yn y modd dibynnol) a... ai peidio
L’enquesta té com a tema la possibilitat o no que Convergència i Unió guanyi les pròximes eleccions del mes de març
Mae’r arolwg yn ynwneud â’r pwnc a enilla Convergència i Unió ai peidio yr etholiadau nesaf ym mis Mawrth
4
no tenir possibilitat de (fer alguna cosa) nid oes gan rywun obaith (i wneud rhywbeth)
5
cyfle

possible
1
posibl

possible
1
yr hyn sydd yn bosibl

post
1
astell, planc
post de planxa bwrdd smwddio
post del pit sternwm, asgwrn y frest

post-
1
rhagddodiad = yn sgil, ar ôl; postelectoral, etc

posta
1
gosod
2
(wy) dodwy
3
bet
4
(cerbyd) cerbyd post, coetsh fawr, y mêl, y mâl
5
cuddfan
6
swyddfa bost
7
a posta del sol ar fachlud haul
(pondre’s machludo)

postada
1
shilfoedd

postal
1
post
targeta postal ac hefyd postal ar ei ben ei hun – cerdyn post
paquet postal parsel

postal
1
cedryn post (= tarjeta postal)

postam
1
estyll, planciau

postdata
1
ôl-nodyn

postdatar
1
ôl-ddyddio

post de planxar
1
bwrdd smwddio

pòster
1
poster

postelectoral
1
ar ôl yr etholiad, ar ôl yr etholiadau

postergar
1
gohirio

posterior
1
diweddarach

posterioritat
1
olafiaeth
2
amb posterioritat wedyn, yn sgil hynny

posteriorment
1
yn ddiweddarach

posteritat
1
yr oesoedd i ddod

posterma
1
casgliad, crawniad, pws

postermejar
1
crawni, gori

posterma
1
fflaim

postgraduat
1
ôl-raddedigyn

postgrau
1
gradd bellach

postguerra
1
y cyfnod ar ôl y rhyfel
2
en la postguerra (ychdig) ar ôl y rhyfel

postil·la
1
sylw, nodyn, ôl-nodyn
Encara una altra postil·la sobre l’afer:... Ac mae gennyf sylw pellach i’w wneud  ar y fater: 

postil·lar
1
ychwanegu nodion / nodiadau

postilló
1
rhagfarchog

postís
1
gosod, dodi
barba postissa barf ddodi

postís
1
gwallt gosod, gwallt dodi

post mortem
1
post-mortem

postoperatori
1
ôl-driniaethol

postoperatori
1
gwellhâd, adferiad (âr ol llawdriniaeth)

postor
1
(Castiliad) cynigiwr

postrar
1
= prostrar

postrem
1
olaf

postremitat
1
pen eithaf
2
diwedd, munudau olaf

postres
1
pwdin, melusfwyd = trydydd cwrs pryd o fwyd

postulació
1
ymgeisyddiaeth

postulant
1
ymgeisiol

postular
1
gofyn am
2
(swydd) ceisio am...
3
(cardota) casglu

postulat
1
gosodiad

pòstum
1
ar ôl marwolaeth

postura
1
(pris) cynnig
2
postures ymddygiad cilwenog, ymddygiad mindlws

posturer
1
cilwenog, mindlws

pot
1
pot
2
jar
el pot de la confitura gwraidd, craidd, hanfod

pota
1
(anifail) coes
2
(cath, etc) pawen
3
(ceffyl, etc) carn
4
coes dodrefnyn
5
estirar la pöta estyn y goes, marw
6
ficar la pöta
rhoi ei throed ynddi
7
caure de quatre potes cwympo
8
ensenyar la pota ymddangos yn eich gwir liwiau

potable
1
yfadwy
aigua potable dŵr yfed

potada
1
cic
2
ôl troed

potassa
1
potash, golchludw

potassi
1
potasiwm

potàssic
1
potasig

potatge
1
potes
2
potes = anhrefn

potència
1
cryfder, nerth
2
(rhyw) nerth
3
les potències de les tenebres  grymoedd y fall, grymoedd y tywyllwch (“grymoedd y tywyllwch”)   
4 no tenir potència sexual bod heb allu rhywiol, bod yn analluog
5 gwlad nerthol
La Xina és una potència mundial capriciós i massa impredictible
Mae Tsheina’n rym byd-eang mwympwyol a rhy anrhagweladwy

potencial
1
dichonol, posibl
2
(Gramadeg) amodol

potencial
1
dichonoldeb

potenciar
1
grymuso
2
rhoi cychwyn i

potent
1
nerthol, cryf

potentat
1
teyrn
2
teicŵn  teicwniaid

potestat
1
awdurdod grym
La Generalitat  reclama a l’Estat la potestat d’expedir i retirar els carnets de conduir (El Punt 2004-01-17)
Y Gyffredinfa (llywodraeth Catalonia) yn hawlio gan y Wladwriaeth y grym i roi allan ac i ddirymu trwyddedau gyrru

potestatiu
1
dewisol, yn ôl dewis

pòtil
1
casgen

potinejar
1
byseddu (rhywbeth)
2
piltran, stwna, cyboli (Sud) potsian
3 siarad (iaith) yn garbwl
El noruec, no el parlo bé; només el potinejo
Dw i ddim yn siarad Norwyeg yn dda; dim ond ei siarad yn garbwl a wna i

potiner
1
ffwrdd-â-hi, rywsut-rywfodd
Hom no pot jugar amb qüestions sensibles de manera potinera i inoportuna (Avui 2004-01-26)
Ni ellir chwarae mewn modd ffwrdd-â-hi ac anamserol â materion  tringar

potiner
1
gweithiwr ffwrdd-â-hi

potinera
1
gweithwraig ffwrdd-â-hi

potinga
1
diod, trwyth

poti-poti
1
blith-draphlith

pòtol
1
trempyn

potollar
1
cicio

Potries
1
trefgordd (la Safor) 

pot ser
1
No pot ser que ni ddylai

potser
1
efallai
2
que potser... ydy... efallai?

pou
1
(dw^r) pydew
2
(olew) pydew
3
pou miner pwll glo
4 pou de ciència hen ben, ’sglaig, gwyddoniadur ar ddwy droed (“pydew o wybodaeth”)
(Ar ôl i rywun ddatgan rhyw wybodaeth astrus) Vostè és un pou de ciència Gwyddoniadur ar ddwy droed ych chi

pouar
1
tynnu (dŵr), codi (dŵr)

pouater
1
cloddiwr ffynhonau

pou mort
1
carthbwll

PP
1
el Partit Popular enw Cataloneg de el Partido Popular, plaid wleidyddol Gastilaidd o’r asgell dde eithafol, etifedd ideolegol yr unben Franco

PPCC
1
Els Països Catalans Y Gwledydd Cataloneg
 

 


 

 

Adolygiad diweddaraf - darrera actualització - 2001 05 06 :: 2003-11-02 :: 2003-12-15 :: 2004-01-05 :: 2005-02-11

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
Weø(r) àm ai? Yuu àa(r) zïting ø peij fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait

     

CYMRU-CATALONIA