http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_vortaroy/geiriadur_catalaneg_cymraeg_LLOP_n_1144k.htm


0001z Tudalen Blaen / Pàgina principal

..........1863k Y Porth Cymraeg / La porta en gal·lès

....................0009k Y Gwegynllun / Mapa de la web

..............................1798k Geiriaduron / Diccionaris

........................................1794k Geiriaduron ar gyfer siaradwyr Cymraeg / Diccionaris per als gal·lesoparlants

..................................................0379k Mynegai i’r Geiriadur Catalaneg / Índex del diccionari català

............................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Geiriadur Cataloneg-Cymráeg
(ar gyfer siaradwyr Cymráeg)

Diccionari català-gal
·lès
(per gal
·lesoparlants)

 

O - OZÓ

 

 

Adolygiad diweddaraf
Darrera actualització

2005-02-06 :: 2005-03-22

 

  

 

 

O,o
1
y llythyren O (enw: o)

o
1
neu
2
o... o... ai... ai...
3 naill ai... ynteu..., naill ai... neu..., un ai... ynteu..., un ai... neu...
Per dignitat, per la llibertat del nostre poble ens hem d'aixecar. O som independents o morim.
Er mwyn urddas, er mwyn rhyddid ein pobl rhaid inni ymgodi. Naill ai yr ym ni’n annibynnol neu fe fyddwn ni’n marw

oasi
1
(anialwch) gwerddon
l’oasi y werddon

obac
1
cil haul
2
Ubacs cyfenw (ysytyr: teulu o le o'r enw Ubac)

obcecació
1
dallineb

o bé
1
neu

obediència
1
ufudd-dod

obedient
1
ufudd

obeir
1
ufuddháu

obelisc
1
óbelisg

obert
1
ar agor, agored

obertura
1
agoriad

obès
1
gordew

obesitat
1
gordrewdra

objecció
1
gwrthwynebiad
No té objeccions en admetre'l
Mae e’n ei gyfaddef yn agored, Mae e’n ei gyfaddef heb flewyn ar dafod (“nid oes ganddo wrthwynebiadau...”)


objectar
1
gwrthwynebu

objecte
1
gwrthrych
2
ser objecte de controvèrsia bod yn destun dadlau

objectiu
1
gwrthrychol

objectivitat
1
gwrthrychedd

objector
1
gwrthwynebydd

oblic
1
lletraws, ar osgo

oblidar
1
anghofio

oblidar-se
1
anghofio
2
cael ei anghofio
3
oblidar-se del tot de anghofio (rhywbeth) yn llwyr

obligació
1
gorfodaeth
tenir-hi obligació (de fer alguna cosa) bod rhaid iti (wneud rhywbeth)
tenir-hi obligació bod rhaid iti ei wneud
Saps que no hi tens cap obligació, que consti
Does dim rhaid iti ei wneud, cofia
2 dyletswydd
deixar les seves obligacions a mig mandat
(gwleidydd) rhoi’r gorau i’w ddyletswyddau ar hanner cyfnod y swydd
3
és obiglació de... mae rhaid...

obligar
1
gorfodi

obligatori
1
gorfodol

oblit
1
anghof

oboè
1
obo

obra
1
gwaith
2
gwaith = (celfyddyd) peintiad, cerflun, ayyb
3
(llenyddol) gwaith
4
gwaith trin ffordd
5
obres gwaith adeiladu
pis on es feien unes obres fflat lle yr oedd gwaith adeiladu yn cael ei wneud
“Durar més que les obres de la Seu” vol dir que quelcom es fa llarg o dura molt de temps.
Mae “Parháu mwy na gwaith adeiladu’r Gadeirlan” yn meddwl bod rhywbeth yn parháu am amser hir neu’n cymryd hydoedd (la Seu Vella “Yr Hen Gadeirlan” yw enw cadeirlan Lleida )
6
tro, cymwynas
7
llyfr

obra d'art
1
celfyddydwaith, gwaith celfyddyd

obrar
1
gweithio
2
(meddyginiaeth) cael effaith ar

obrellaunes
1
agorydd tuniau, peth agor tuniau

obrer
1
gweithiwr

obrer
1
(ansoddair) dosbarth gweithiol

obridor
1
y gellir ei agor

obrir
1
agor
2
(tap) agor

obrir foc contra
1
dechrau tanio ar

obrir les portes de bat a bat
1
agor y drysau ar led

obrir-se
1
ymagor
2
obrir-se pas gwthio’ch ffordd ymlaen, ymwthio ymlaen, ymwthio heibio

obscè
1
anweddus, aflednais

obscenitat
1
anlladrwydd

obscur
1
tywyll

obscuritat
1
tywyllwch

obsequi
1
anrheg

obsequiar
1
rhoi yn anrheg, anrhegu

observació
1
sylw

observador
1
sylwedydd

observar
1
sylwi
2
observar els preceptes ufuddháu i’r rheolau, cadw’r rheolau, cadw at y rheolau, ymddwyn yn ôl y rheolau

observatori
1
arsyllfan

obsès
1
obsesedig

obsessió
1
obsesiwn

obsessionar
1
obsesu, meddiannu

obsessionar-se
1
penwirioni ar, mwydro eich pen am
estar obsessionat per alguna cosa bod wedi penwirioni gan rywbeth

obstacle
1
rhwystr
no posar cap obstacle al fet que... ni + rhwystro neb rhag...
Als vagons del nou tren no es poden portar esquís ni tan sols cadires de rodes, però les autoritats ferroviàries no han posat cap obstacle al fet que hi viatgin armes de foc
Yng ngherbydau’r trên newydd ni cheir mynd â sgïau, na hyd yn oed cadeiriau olwyn, ond nid yw’r cwmni rheilffordd wedi rhwystro pobl rhag cario drylliau (“nid ydynt wedi dodi’r un rhwystr i’r ffaith fod arfau tân yn teithio yno”)
2
maen tramgwydd

obstaculitzar
1
rhwystro

obstant
1
no obstant = er gwaethaf

obstar
1
rhwystro
2
(berf heb wrthrych), bod yn rhwystr

obstetrícia
1
obstetreg

obstinació
1
ystyfnigrwydd

obstinar-se
1
bod yn ystyfnig, ystyfnigo, pencieiddio, stwbwrno
2
obstinar-se a / en mynnu (gwneud peth) o ystyfnigrwydd

obstinat
1
ystyfnig

obstrucció
1
rhwystr

obstruir
1
rhwystro

obtenció
1
caffaeliad

obtenir
1
cael, cael gafael yn

obturació
1
selio

obturar
1
(twll) selio plygio, cau, topio
2
llenwi (dant)

obtús
1
twp
2
pwl
3
(mathemateg) aflem (= yn fwy na ongl sgwâr)

obús
1
siel, llosgbel

obvers
1
blaem, ochr flaen, wyneb blaen

obvi
1
amlwg

oc
1
llengua d'oc = Occitan

oca
1
gwydd
2
enw gêm fwrdd

ocàs
1
machlud haul
2
cwymp (ffigurol)
entrar de ple en el seu ocàs dechrau mynd i lawr y rhiw ar gyflymder, cychwyn ar ei daith i lawr

ocasió
1
achlysur
2
en diverses ocasions (adferf) lawer gwaith
3
cyfle
L´ocasió fa el lladre (“y cyfle a wnaiff y lleidr”) Mae pob peth wrth lygad lleidr
4
en ocasió de ar achlysur
5
achos
6
bargen
7
en anteriors ocasions weithiau o’r blaen
8
aprofitar l'ocasió manteisio ar y cyfle
9
d'ocasió ail-law
10
en ocasió (d’alguna cosa)
ar achlysur (rhywbeth)
11
en una ocasió unwaith, un tro
 

ocasional
1
achlysurol
2
damweiniol

ocasionalment
1
yn achlysurol

ocasionar
1
achosi

occident
1
gorllewin

occidental
1
gorllewin, gorllewinol
a tots els països occidentals
ym mhob un o’r gwledydd gorllewinol

occidental
1
un o'r gorllewin, gorllewinwr

occità
1
Ocsitanaidd
2
Ocsitaneg

occità
1
Ocsitaniad
2
Ocsitaneg = iaith Ocsitania

occitana
1
Ocsitanes

Occitània
1
Ocsitania

oceà
1
eigion, cefnfor

Oceania
1
Oseania

oceànic
1
cefnforol

Oceja
1
trefgordd (l'Alta Cerdanya)

ocell
1
aderyn
ocell de presa adar ysglyfaethus
ocell marí aderyn môr
ocell rapaç adar ysglyfaethus
ocell rapinya adar ysglyfaethus
2
matar dos ocells d'un tret lladd dau aderyn ag un ergyd, lladd dau aderyn ag un garreg

ocellaire
1
ffansïwr adar

oci
1
hamdden
2
adloniant (sínema, theatr, ayyb)
3
amser rhydd

ociós
1
yn hamddena
2
diog, (De Cymru: pwdr) [difrïol]

ociositat
1
segura, segurdod
l'ociositat és la mare de tots els vicis (“segurdod yw mam pob drygioni”)

oclusió
1
(Ieithyddiaeth) achludiad
2
(Meddygaeth) tagiad

ocórrer
1
digwydd

octà
1
octan

octàgon
1
óctagon

octavilla
1
pamffled

octogenari
1
pedwar-ugeinmlwydd oed

octubre
1
mis Hydref
a l'octubre ym mis Hydref
2
a partir de l'octubre o fis Hydref ymláen

ocular
1
llygad, llygadol, ocwlar

oculista
1
optegydd

ocult
1
cudd, dirgel, cêl
2
cyfrin [gwyddor]
3
(diben) cudd

ocultar
1
cuddio, (De: cwato)

ocultar-se
1
cadw o'r golwg

ocultisme
1
cyfrinachgarwch, tawgarwch (= y gallu i gadw cyfrinach)
2
cyfrinachedd (= cyflwr o fod dan gêl)

ocupació
1
swydd
2
cyflogaeth
oficina d'ocupació canolfan gwaith
plena ocupació cyflogaeth lawn
3
meddiannu

ocupant
1
meddiannol

ocupant
1
meddiannwr

ocupar
1
meddiannu
2
byw mewn lle
3
bod gennych swydd
4
cadw’n brysur
5
(amser), defnyddio
6
bod mewn swydd

ocupar-se de
1
gofalu am
2
bod â'r cyfrifoldeb dros

ocupat
1
prysur (De: bishi)
2
ar waith (ty bach)
3
wedi ei meddiannu, wedi ei hawlio (sedd)

ocurrència
1
digwyddiad
2
ffraethineb

ocurrent
1
ffraeth

ocurria

oda
1
awdl

Odellói Vià
1
trefgordd (l'Alta Cerdanya)

Odèn
1
trefgordd (el Solsonès)

Odena
1
trefgordd (l'Anoia)

odi
1
casineb
odi visceral casineb dwfn
Aznar i el seu odi visceral contra tot el que és català Aznar (cyn arlywydd gwladwriaeth Castilia) a’i chasineb dwys tuag at (“yn erbyn”) popeth sydd yn Catalanaidd
crear odi entre (les persones) ennyn casineb rhwng (pobl)

El que fan es crear odi entre nosaltres Yr hyn y maent yn ei wneud yw ennyn casineb rhyngom

odiar
1
casáu

odiós
1
cas, atgas

odissea
1
Yr Oduseia
2
crwydradau

odontòleg
1
odontolegwr, odontolegwraig

odontologia
1
odontoleg = gwyddoniaeth adeiledd, datblygiad a chlefydau
dannedd
2
deintyddiaeth

oest
1
gorllewin (lle)
2
gorllewin (cyfeiriad)
3
gorllewin (gwynt)

oest
1
gorllewin
a l'oest de i’r gorllewin o

ofec
1
tagu
lleuger ofec de gola teimlad ysgafn o dagu (“tagu ysgafn y llwnc”)
2
diffyg anadl

ofegament
1
tagfa

ofegar
1
boddi
morir ofegat boddi (“marw wedi ei boddi”)
2
mogi, tagu
3
diffodd (tân)
4
mygu (ebychiad, cri)

ofegar-se
1
boddi
2
tagu
3
stiwio

ofegat
1
wedi boddi
2
(stafell) myglyd
3
(gwaedd) aneglur, distaw, myglyd
4
wedi ei stiwio

ofendre
1
tramgwyddo, digio
ofendre la vista bod yn ddolur llygad

ofendre's
1
bod wedi tramgwyddo (per = gan)

ofensa
1
sarhâd
2
tramgwydd

ofensiu
1
sarháus

ofensiva
1
ymosodiad
prendre l'ofensiva ymosod, ymgyrchu (“cymryd yr ymosodiad”)

oferiment
1
cynnig
2
offrwm

oferir
1
cynnig
2
cynnig pris am

oferir-se
1
cynnig ei hun
2
gwirfoddoli
3
(cyngerdd, etc) cael ei gynnal

oferta
1
cynnig
2
bargen
3
oferta de la setmana (arwydd mewn siop) cynnig yr wythnos
4
(ocsiwn) cynnig
5
cyflenwad
l'oferta i la demanda cyflenwad a galw, y cyflenwad a’r galw
hi ha més oferta que demanda mae’r cyflenwad yn fwy na’r galw
6
estar d'oferta bod yn gynnig arbennig, bod ar werth am bris gostyngol, bod yn rhad
Mireu, he trobat síndries d’oferta Edrychwch, yr wyf wedi dod o hyd i felonau dw^r yr oedd yn cael eu gwerthu’n rhad
en oferta ar gynnig, ar werth am bris isel
articles en oferta nwyddau ar werth am bris isel

ofertori
1
offrymiad

off
1
en off oddi ar lwyfan, ger-llwyfan

offset
1
offset

ofès
1
wedi eich tramgwyddo

ofici
1
swydd
home sens ofici ni benefici dyn da i ddim
2
gwasanaeth, moddion (eglwys)
ofici pels defunts gwasanaeth angladd
ofici diví oedfa, gwasanaeth, moddion
3
ser de l'ofici bod yn hen law
4
llythyr swyddogol

oficial
1
swyddogol

oficial
1
swyddog
2
crefftwr, crefftwraig
3
swyddog (milwrol)
4
clerc
5
(llong), swyddog

oficialitat
1
statws swyddogol
2
(byddin) swyddogion

oficialment
1
yn swyddogol

oficiar
1
gweinyddu (eglwys)

oficina
1
swyddfa = ystafell
2
swyddfa = fflat, adeilad

oficina d'ocupació
1
canolfan gwaith
2
hores d'oficina oriau'r swyddfa
3
oficina de col·locació canolfan gwaith
oficina d'informació swyfddfa wybodaeth
oficina d'objectes perduts swyddfa eiddo coll

oficinista
1
clerc

oficiós
1
answyddogol

ofrena
1
(eglwys) offrwm
2
offrwm
3
teyrnged
4
ofrena floral gosod blodeudorchau

ofrenar
1
offrymu

oftamòleg
1
offthamolegwr

oftamologia
1
offthamoleg = gwyddoniaeth y llygaid

ofuscar
1
dallu, taslo

Ogassa
1
trefgordd (el Ripollès)

ogre
1
cawr (= bwystfil o gawr)

oh!
1
o!
(syn)

oi?
1
onid e?

oi!
1
(ebychiad) syndod, poen

oi!
1
atgasedd
fer-li oi (a algú)
bod yn wrthun (gan rywun), bod yn atgas (gan rywun)
Se sap que aquest fatxe d’origen anglès va estudiar Magisteri però que no va acabar els estudis perquè això d'haver d'aprendre a parlar català li feia oi i era superior a les seves forces.
Gwyddir i’r Ffasgwr hwn genedigol o Loegr wneud cwrs hyfforddiant athro ond ni orffennod y cwrs am ei bod yn wrthun ganddo orfod dysgu siarad Catalaneg a bu tu hwnt i’w allu

oïda
1
clyw = synnwyr clywed
2
ser dur d'oïda bod yn drwm eich clyw
3
clyw = cyrraedd y glust

oient
1
gwrandawr
2
gwrandawr radio
3
myfyriwr heb gofrestru

oir
1
gwrando
2
oir missa gwrando ar yr offeren

oleoducte
1
lein bibau olew

Olèrdola
1
trefgordd (l'Alt Penedès)

Olesa de Montserrat
1
trefgordd (el Baix Llobregat)

Oleseta
1
trefgordd (el Garraf)

Oleta
1
trefgordd (el Conflent)

olfacció
1
arogleuo

olfacte
1
arogl = synnwyr arogleuo

oli
1
olew

2
(peintiad) olew
pintura a l'oli darlun olew

3
oli d'oliva olew olewydd
oli d'ametlla olew almon
ser de pa sucat amb oli bod yn ddiwerth (“bod yn fara wedi ei wlychu ag olew”)

4 estendre's com una taca d'oli ymestyn (“ymestyn fel staen olew”)
escampar-se com una taca d'oli ymestyn (“taenu fel staen olew”)

5
estar com una bassa d'oli bod fel llyn llefrith (“bod fel pwll olew”)
El mar estava com una bassa d’oli Roedd y môr fel llyn llefrith
spread

5
ser oli en un llum (“bod yn olew mewn golau”) bod yn ddidraffeth, rhedeg yn rhwydd
Si només tens com a font d'informació la premsa castellana és clar que el que et pots arribar a pensar és que tot és oli en un llum.
Os nad oes gennyt ti ond y wasg Gastileg fel ffynhonnell gwybodaeth mae’n amlwg fod yr hyn y gelli di ddod i gredu yw bod popeth yn rhedeg yn rhwydd



Oliana
1
trefgordd (l'Alt Urgell)

òliba
1
tylluan (De: gwdihŵ)

òliba vulgar
1
(Tyto alba) tylluan wen

oligarquia
1
oligarchiaeth = sustem politicaidd yn nwylo ychydig iawn o bobl

oligàrquic
1
oligarchiaidd = sustem politicaidd yn nwylo nifer fach iawn o bobl
La Guerra Civil és resultat de l’estat oligàrquic creat el 1844 (Avui 2004-02-15)
Y r oedd (“Y mae”) y Rhyfel Cartref o ganlyniad i’r wladwriaeth oligarchaidd a greuwyd yn 1844
La immigració és una arma efectiva pel poder oligàrquic: dividir el poble i jugar amb les sensibilitats.
Mae mewnfudo yn arf effeithiol i’r grym oloigarchiaidd: rhanu’r bobl a chwarae ar ei theimladau
 
oligofrènia
1
arafwch meddyliol

oligofrènic
1
ag arafwch meddyliol

oligofrènic
1
un araf ei feddwl, un araf eu meddwl

olimpíada
1
Olumpiad

olímpic
1
Olumpaidd

olímpicament
1
yn agored

Oliola
1
trefgordd (la Noguera)

oliós
1
olewaidd, oeliog

Olius
1
trefgordd (el Solsonès)

oliva
1
olif

Oliva
1
trefgordd (la Safor)

olivaire
1
gwerthwr olifau

olivarer
1
sydd yn tyfu olifau

Olivella
1
trefgordd (el Garraf)

Oliver
1
Ólifer

olivera
1
olewydden
mosca de l’olivera (Dacus oleae) (“cylionen yr olewydden”)

oliverer
1
yn ymwneud ag olewydd

olivó
1
olewendd wyllt

olla
1
sosben
2
stiw
3
bwyd, bwydo
l'olla i les sabates dels nens bwyd ac esgidiau ar gyfer y plant
4
fer bullir l'olla ennill digon i fyw (“gwneud i’r sosban ferwi”)
5
ser una olla de grills (“bod yn sosban o grics”) bod yn bandemoniwm
semblar una olla de grills (“bod yn debyg i sosban o grics”) bod yn bandemoniwm
Allò era una olla de grills Roedd pawb yn uchel ei gloch
Allò semblava una olla de grills Roedd pawb yn uchel ei gloch
6
capellà de missa i olla offeiriad heb hyfforddiant a heb cyfrifoldebau
7
ser de l'olla bod yn un o’r penaethiaid (“bod (yn perthyn i)’r sosban”)
8
no poder tirar cap tros a l'olla bod wedi methu mewn yn rhyw fenter (“ddim yn gallu bwrw yr un darn i’r sosban”)
9
treure faves d'olla (1) (ar ôl afiechyd) cael eich cefn atoch, adfer eich iechyd, adennill eich iechyd
(2) (ar ôl cyfnod o dlodi) cael ei draed odanoch / tanoch
10
pwll afon
11
cilfach fôr
12
sér una olla bod yn draed moch
13
estar fet un olla gwneud pethau twp

olla de pressió
1
sosban frys

ollada
1
sosbenaid

olla dels pobres
1
cegin gawl

ollal
1
pysgodlyn

ollaó
1
(wrth geffyl) ji!

oller
1
crochennydd
2
gwerthwr crochenwaith

l'Olleria
1
trefgordd (la Vall d'Albaida)

Olocau de Carraixet
1
trefgordd (el Camp de Túria)

Olocau del Rei
1
trefgordd (el Ports de Morella) Enw Castileg: Olocau del Rey

olor
1
gwynt, aroglau
2
fer bon olor bod gwynt da ar
olor de nou gwynt newydd-deb
3 fer olor d’ (alguna cosa) bod gwynt (rhywbeth) ar; (ffigurol) sawru o, bod â sawr (rhywbeth) ar
Tot allò que fa olor de català desperta, en l’Espanya profunda, el fervor en contra
Popeth sydd yn sawru o fod yn Gatalan yn achosi, yn nyfnderoedd Castilia, angerdd yn ei erbyn


olorar
1
gwyntio, arogli
2
ffroeni
2
synhwyro (ffigwrol)

olorós
1
persawrus

Olost
1
trefgordd (Osona)

Olot
1
trefgordd (la Garrotxa)

olotí
1
un o dref Olot

les Oluges
1
trefgordd (la Segarra)

Olvan
1
trefgordd (el Berguedà)

om
1
llwyfen
2 Oms cyfenw
3 Oms trefgordd (el Rosselló)

ombra
1
cysgod
fer ombra cysgodi
2 cysgod = dylanwad
El dictador va morir de vell i va deixar la seva ombra en la política que dura fins i tot avui.
Bu farw yr unben o henaint a gadodd ei gysgod ar wleidyddiaeth y wlad ac mae’n dal hyd heddiw hyd yn oed
3 y peth lleiaf un
No tens ni l’ombra d’una possibilitat
Does gen ti mo’r gobaith lleia / Nid oes gennyt y gobaith lleiaf (“nid oes gennyt hyd yn oed cysgod cyfle”)

ombrar
1
cysgodi

ombrat
1
cysgodol

ombreig
1
(celfyddyd) graddliwio

ombrejar
1
(celfyddyd) graddliwio

ombrel·la
1
cysgodlen

ombrer
1
cysgodol
2
(enw gwrywaidd) lle cysgodol

ombriu
1
tywyll

ombrívol
1
cysgodol

ombrós
1
cysgodol

omeda
1
llwyn llwyf

omega
1
omega

les Omellons
1
trefgordd (les Garrigues)

els Omells de na Gaia
1
trefgordd (l'Urgell)

ometre
1
hepgor

ominós
1
ofnadwy

omís
1
fer cas omís de anwybyddu

omissió
1
hepgoriad

òmnibus
1
tren òmnibus trân araf

omnipotència
1
hollalluogrwydd

omnipotent
1
hollalluog

omnipresència
1
hollbresonoldeb

omnipresent
1
hollbresonol

omnisciència
1
hollwybodaeth

omniscient
1
hollwybodol

omnívor
1
hollysor, sydd yn bwyta pob math o fwyd (cig, llysiau, trychfilod)

omòplat
1
palfais, asgwrn y balfais

omplir
1
llenwi, llanw
omplir fins a la bandera
(neaudd, awditoriwm) llenwi nes bod dan ei sang
2
omplir algú d’elogis canmol rhywun i’r cymylau, pentyrru clod ar rywun
 
Oms
1
trefgordd (el Rosselló)

on
1
ble? = ym mha le?
2
ble? = i ble
a on (Ynysoedd Catalonia: avon) (adf)

ona
1
ton

onada
1
ton
onada de fred cyfnod hir o dywydd oer
onada de calor poethdon, gwres mawr
Demà arribarà una onada de calor Bydd poethdon yfory

onanisme
1
onaniaeth

ONCE
1
(corff Castilaidd sydd yn codi arian ar gyfer y deillion)

oncle
1
ewythr (ewyrth; wncwl)
2
els oncles = yr ewythr a'r fodryb (ar lafar: els tiets)

oncologia
1
oncoleg – meddygaeth sydd yn ymwneud ag astudio tyfiannau

onda
1
ton
2
(gwallt) ton

Onda
1
trefgordd (la Plana Baixa)

ondar
1
(gwallt) tonni

Ondara
1
trefgordd (la Marina Alta)

ondat
1
tonnog
2
(papur) gwrymiog

ondejar
1
(baner) chwifio

òndia
1
(ebychiad o syndod)
Òndia, Carme, m'has espantat! Duw annwyl, Carme! Rhoddaist ti fraw i mi!

ondós
1
tonnog

ondulació
1
toniad, ymdoniad

ondulant
1
tonnog, tonnol
 
ondulatori
1
tonnog

oneig
1
toniad, ymdoniad

onejant
1
tonnog

onejar
1
tonni

onerós
1
beichus, llethol

ONG
1
Organització No-governamental corff aflywodraethol

oníric
1
breuddwydiol

onomàstic
1
enwau
índex onomàstic rhestr enwau

onomàstica
1
enwau personol
2
astudiaeth enwau personol
2
diwrnod enw

onomatopeia
1
onomatopeia

onomatopeic
1
onomatopêig

onsevulga
1
yn unrhyw le
2
dros bobman, ymhobman

Ontinyent
1
trefgordd (la Vall d'Albaida)

ONU
1
Y Cenhedloedd Unedig

onze
1
un ar ddeg, un-deg-un
l’onze de setembre
yr unfed ar ddeg o Fedi, diwrnod cenedlaethol Catalonia
Fa uns mesos li vaig parlar amb ell. Va ser l'onze en una barraqueta del Passeig Lluís Companys.
Siaradais i ag ef rai misoedd yn ôl. Yr unfed ar ddeg (o Fedi) oedd, mewn stondin ar Rodfa Lluís Companys.

onzè
1
unfed ar ddeg, un-deg-unfed

l’ Onze de Setembre
1
Yr Unfed o Fedi, Gwyl Genedlaethol Catalonia

opac
1
didraidd
2
tywyll (gwydr)
3 annealladwy

opacitat
1
anhydreiddedd

òpal
1
opal (m)

opció
1
dewis

opcional
1
dewisol
 
òpera
1
ópera

operable
1
operadwy, llawdriniadwy

operació
1
gweithrediad
2
(meddygaeth) triniaeth, triniaeth lawfeddygol, llawdriniaeth
3
sala d'operacions theatr llawdriniaeth
4
dêl

operador
1
gweithredwr

operar
1
gweithredu
2
(meddygaeth) trin
3
cyflawni

operari
1
gweithredwr
2
gweithiwr
3
gweithiwr llaw
4
aelod cynulleidfa

opereta
1
opereta (f)

operista
1
cyfansoddwr ópera

operístic
1
operaidd

opi
1
opiwm

opiata
1
opiad, cyffur cysgu

opim
1
toreithiol

opinable
1
dadleuol

opinant
1
sydd yn rhoi ei farn
2
siaradwr
3
pleidleisiwr

opinar
1
(bw) meddwl, bod o'r fan farn (fod), barnu (fod), mynegi barn (fod)
alguns opinen que no cal fer res mai rhai o’r farnnad oes rhaid gwneud dim
2
(berf heb wrthrych) meddwl = bod gan un farn farn ar ryw fater

opinant
1
siaradwr (mewn dadl)
2
pleidlesiwr

opinió
1
barn
la meva opinió és que... yn fy marn i...
La problema en la meva opinió no radica en això sinó... (El Punt 2004-01-23)
Nid hynny yw’r broblem yn fy marn i, ond yn hytrach...
canviar d'opinió
newid eich barn
fer-li canviar d'opinió (a algú) peri (i rywun) newid ei barn

opinió pública
1
barn y cyhoedd

Òpol
1
trefgordd (el Rosselló)

oportú
1
amserol, hwylus, ffafriol, manteisiol
2
el moment oportú yr adeg iawn, yr union adeg
en el moment oportú ar yr adeg iawn, ar yr union adeg
2
estar al lloc indicat en el moment oportú bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn

oportunisme
1
manteisiaeth, oportiwnistiaeth

oportunista
1
manteisiwr, oportiwnydd, Siôn llygad y cyfle

oportunitat
1
cyfle
Va ser una oportunitat desaprofitada
Bu’n gyfle nas manteiswyd arno, Bu’n gyfle a gollwyd

2
segona oportunitat ail gyfle
una segona oportunitat (de fer alguna cosa) ail gyfle (i wneud rhywbeth)
donar-li una segona oportunitat (a algú) rhoi ail gyfle (i rywun)
Té tot el dret de gaudir d’una segona oportunitat
Mae ganddo bob hawl i gael ail gyfle
Sempre hi ha una segona oportunitat Y mae bob amser ail gyfle
No sempre hi ha una segona oportunitat Ni cheir ail gyfle bob amser
Molt poques vegades a la vida pots tenir una segona oportunitat
Ceir ail gyfle mewn bywyd yn anaml iawn
oferir-li una segona oportunitat (a algú) cynnig ail gyfle i rywun
No mereix tothom una segona oportunitat?
Onid oes pawb yn haeddu ail gyfle?
Continua esperant una segona oportunitat? Mae e’n dal i aros am ail gyfle
He après que de vegades, la vida et dóna una segona oportunitat. Rwyf wedi dysgu bod bywyd weithiau yn rhoi ail gyfle

3
no tenir oportunitat de ni + gallu, ni + bod gennych gyfle i

4
una oportunitat perduda cyfle coll

oposable
1
cyferbynadwy

oposant
1
gwrthwynebol

oposar
1
gwrthwynebu

oposar-se
1
gwrthwynebu
2
oposar-se a
gwrthwynebu
3
oposar-se a gwrthod
4 oposar-se a herio

oposat
1
cyferbyn
en direcció oposada i’r cyfeiriad arall

oposició
1
gwrthwynebiad
2
gwrthblaid
3 oposicions arholiad(au) mynediad, arholiad(au) ar gyfer swydd yn y sector gweinyddol (awdurdod lleol, y wleidwriaeth)

guanyar unes oposicions llwyddo yn y fath arholiad(au)

opos gair sathredig am oposicions:
-Aquesta setmana fa exàmens
-Quins són?
-Suposo que deuen ser unes opos o quelcom així
-Mae e’n sefyll arholiadau yr wythnos ’ma
-Pa arholiadau?
-Rhaid mai arholiadau ar gyfer swydd yn y sector gweinyddol yn nhw, wedwn i

les taxes per oposicions del Departament d'Ensenyament de la Generalitat de Catalunya

y ffioedd ar gyfer sefyll arholiadau i gael swydd yn Adran Addysg Cyffredinfa (= Llywodraeth) Catalonia

després va fer oposicions per ser Professor de Secundària
wedin safodd arholiadau i fynd yn athro mewn ysgol uwchradd

Després d'uns quants anys, vaig fer oposicions i em vaig convertir en el primer funcionari de la meva família
Ar ôl rhai blynyddoedd sefais arholiadau ar gyfer y sector gweinyddol, a fi wedyn oedd yr un cyntaf yn fy nheulu i fynd yn weithiwr sector gweinyddol

Un dia vaig fer oposicions i ara sóc arquitecte funcionari de la Generalitat de Catalunya
Un diwrnod sefais arholidau ar gyfer y sector gweinyddol ac yn awr pensaer

fer oposicions al cos diplomàtic
sefyll arholiadau sector gweinyddol i ymuno â’r gwasanaeth diplomataidd

Prop de 17.000 aspirants fan les oposicions per a 2.000 places a Salut
Rhyw 17,000 o ymgeiswyr yn sefyll arholiadau ar gyfer 2000 swyddi gwag yn yr Adran Iechyd (= Adran Iechyd Llywodraeth Catalonia)

convocar oposicions cynnal arholiad mynediad
Després de catorze anys sense que l'Institut Català de la Salut convoqués oposicions per a zeladors i auxiliars administratius...
Ar ôl pedair blynedd ar ddeg heb i Adran Iechyd Llywodraeth Catalonia gynnal arholiadau mynediad i borthorion ysbyty a chynorthwyr gweinyddol...

opositor
1
ymgeisydd arholiad mynediad
Els temes de la nova edició del llibre estan adaptats a les darreres novetats legislatives, de manera que els opositors que optin per preparar-se amb els nostres llibres disposin d'una àmplia informació que els ajudi a superar amb èxit el procés selectiu.
Mae’r pynciau yn argraffiad newydd y llyfr yn cynnwys y newidiadau diweddaraf yn y gyfraith (“wedi eu cymhwyso at y newyddbethau deddfwriol diweddara”), ac felly y bydd gwybodaeth eang ar gael i ymgeiswyr sydd yn dewis paratói ar gyfer yr arholiad (“ymbaratói”) â’n llyfrau ninnau, a fydd yn eu cynorthwyo i lwyddo yn yr arholiad (“y broses ddewis”)

2 gwrthwynebwr
Volien reunir-se a l’Havana amb opositors al règim castrista
Yr oeddynt am gwrdd yn Hafana â gwrthwynebwyr i lywodraeth Castro

3
un o’r aelodau o’r gwrthbleidiau mewn llywodraeth
Sociòlegs, economistes, polítics (governants i opositors)
cymdeithasegwyr, economegwyr, gwleidyddion (rhai yn y llywodraeth neu yn y gwrthbleidiau)


opressió
1
gormes

opressiu
1
gormesol

opressor
1
gormeswr

opressor
1
(ansoddair) gormesol
aquest païs opressor que és diu espanya y gormeswr hwn o wlad o’r enw sbaen

oprimir
1
gormesu

oprobi
1
gwarth, cywilydd

oprobiós
1
gwarthus

optar
1
optar per dewis, penderfynnu
He optat per no dir res i continuar desparant la taula
Penderfynais ddweud dim a dal i glirio’r bwrdd

2
poder optar a (cwmnïau yn cynnig am waith) cael rhoi cynnig (ar gyfer contract)

optatiu
1
dewisol

òptic
1
optegol

òptic
1
optegydd

òptica
1
safbwynt
des d'una òptica nacionalista catalana o safbwynt cenedlaethol Catalanaidd

òptim
1
gorau

optimisme
1
optimistiaeth

optimista
1
óptimist

optimista
1
optimistaidd
mirar-s’ho pel cantó optimista edrych ar yr ochr olau i bethau, edrych ar yr ochr orau i bethau

opugnació
1
ymosodiad

opugnador
1
ymosodol

opugnar
1
ymosod

opulència
1
golud, cyfoeth

opulent
1
goludog, cyfoethog

Opus Dei
1
(mudiad ceidwadol o fewn yr Eglwys Gatholig) (Lladin: ‘gwaith Duw’)

opuscle
1
llyfryn
2
pamffledyn

oquer
1
bugail gwyddau
(oca = gwydd)

or
1
aur
pagar una cosa a preu d’or talu crocbris am rywbeth (“talu am rywbeth am bris aur”)

fer-se la barba d’or (de...) gwneud eich ffortiwn, gwneud arian mawr, gwneud pentwr o arian (o...) (“gwneud i’ch hunan farf aur”)

anar cosit d’or bod yn werth ffortiwn, bod yn graig o arian (“mynd wedi gwnïo ag aur”)

No és d’or tot el que lluu Nid aur popeth melyn (“dyw e ddim o aur popeth sydd yn disgleirio”)

ros com un fil d’or eurwallt (“golau fel edefyn aur”)

per tot l’or del món am bris yn y byd, am ffortiwn, am bensiwn (“am holl aur y byd”)
No ho faria per tot l’or del món Wnawn i mohoni am bensiwn

ora
1
awel
2
tywydd teg

oració
1
araith
2 gweddi
resar les oracions gweddïo, dweud eich pader (“gweddïo y gweddïau”)
Au, resa les oracions i al llit que es tard
Dere, dywed dy bader a cher i’r gwely am ei bod yn hwyr
3 l’oració dominical y pader (“gweddi’r Sul”)
estar en oració
bod ar weddi, bod mewn gweddi
fer oració gweddïo
3 cymal, brawddeg
parts de l’oració rhannau ymadrodd

oracle
1
oracl

orador
1
areithiwr
2
pregethwr

oradura
1
gwallgofrwydd

oral
1
llafar
exàmen oral arholiad llafar
S'haurà de passar un exàmen oral de coneixements davant un tribunal
Bydd rhaid llwyddo mewn arholiad llafar (“arholiad llafar gwybodaeth”) o flaen panel

comunicació oral i escrita
cyfathrebu lafar ac ysgrifenedig

expressió oral
mynegiant llafar

orangutan
1
orangwtán
El ximpanzé, el goril.la i l'orangutan, són els nostres parents més propers dins tot el món dels éssers vius
Y tshimpanzî, y gorila a’r orangwtan yw ein perthnasau mwyaf agos yn holl fyd y bodau byw

orant
1
gweddïol
2
(eg) rhywun sydd yn gweddïo, gweddïwr

orar
1
gweddïo (a = i, per = ar gyfer)
la imatge d’un frare orant dins una cova llun o frawd yn gweddïo mewn ogof

orat
1
gwallgof

orat
1
(enw) dyn gwallgof
Infant i orat diu la veritat. Mae plentyn a dyn gwallgof yn dweud y gwir.

oratge
1
gwynt, awel
La tardor ha donat pas als primers oratges de l’hivern
Mae’r hydref wedi rhoi ffordd i wyntoedd cyntaf y gaeaf
TARDDIAD: Lladin gwerinol *auraticu < aura = gwynt

oratori
1
rhethregol, areithyddol

oratori
1
oratorio
2
óratori, betws, capel preifat

orb
1
dall

Orba
1
trefgordd (la Marina Alta)

orbar
1
dwyn rhywbeth oddi ar rywun, amddifadu rhywun o rywbeth

orbe
1
sffêr
2
byd

òrbita
1
cylchdro, rhod, orbit
posar en òrbita rhoi mewn orbit
fora d’òrbita aruthrol
Aquest home té unes ansies de poder fora d'òrbita
Mae gan y dyn hwn ryw chwant aruthrol am rym
2
cylch dylanwad
3
twll llygad

orbital
1
cylchdröol

orbitari
1
(nerf) creuol

orc
1
(tywydd) ofnadwy

orca
1
morfil danheddog

Orcades
1
Ynysoedd Erch

ordalia
1
diheurbrawf

orde
1
urdd (grefyddol)
orde religiós urdd grefyddol
orde militar urdd filwrol

ordenable
1
trefnadwy, y gellir ei drefnu

ordenació
1
trefn
2
trefnu (gweithred)
3
(Cristnogaeth) ordeiniad
4
(taliadau) cynllun

ordenada
1
(Mahemateg) mesuryn

ordenadament
1
yn drefnus

ordenador
1
trefnwr

ordenança
1
is-ddeddf

ordenança
1
negeseuydd

ordenand
1
(Cristnogaeth) ordinand, ymgeisydd am urddau

ordenar
1
trefnu, rhoi trefn ar
2
(Cristnogaeth) ordeinio

ordenar-se
1
(Cristnogaeth) ymuno â’r offeiriadaeth

ordi
1
haidd, barlys

ordiar
1
cae haidd, cae barlys

ordidor
1
(plot) plotiwr

ordinador
1
cyfrifiadur, 'compiwter'

ordinal
1
trefnol

ordinari
1
cyffredin
la gent ordinària y werin, y bobl gyffredin
2
arferol
3
cyfredol
4
(treuliau), dyddiol

ordinari
1
treuliau dyddiol cadw ty^
2
negeseuydd
3
d'ordinari = fel arfer

ordinàriament
1
fel arfer

Ordino
1
trefgordd (Andorra)

ordir
1
(defnydd) ystofi
2
plotio

Ordis
1
trefgordd (l'Alt Empordà)

ordre
1
trefn
2
ordre alfabètic trefn y wyddor
3
posar en ordre rhoi trefn ar
4
posar en ordre cymennu
5
ordre públic law and order
6
mantenir l'ordre cadw trefn
7
gorchymyn
donar una ordre rhoi gorchymyn
estar a les ordres (d’algú) bod dan orchymyn rhywun
per ordre de la policia castellana dan orchymyn yr heddlu Castilaidd
complir un ordre ufuddháu gorchymyn
fer-li complir un ordre (a algú) gwneud (i rywun) ufuddháu gorchymyn
 

8
gwrit

oreig
1
awel

orejar
1
awyru

orejar-se
1
cael awyr iach

orella
1
clust
una estirada d’orelles cael pryd o dafod (“cael tyniad clustiau”)
2
clyw
3
cantel, asgell
4
bufar: Li deuen bufar les orelles
Rhaid bod ei glustiau ef yn llosgi
5
cau: parlar a cau d'orella sibrwd(:
6
donar orella a gwrando ar
7
dreçar les orelles moeli’ch clustiau, codi’ch clustiau, gwneud clust fel hwch mewn haidd
8
dur: ser dur d'orella bod yn drwm eich clyw
9
dur: tenir l'orella dura bod yn drwm eich clyw
10
ensenyar l'orella bradychu’ch hun

11
ensenyar les orelles dangos ei hun
La crisi econòmica ha ensenyat les orelles
Mae’r argyfwng ariannol wedi ei ddangos ei hun

12
entrar: Li entra per un orella i li surt per l'altra Aiff i mewn trwy un glust ac allan trwy’r llall
13
estirar-li les orelles tynnu clustiau rhywun

14
marxant: fer orelles de marxant cymryd arnoch nad ych chi’n clwyed (“gwneud clustiau un sy’n ymadael”)

15
paret: les parets tenen orelles (“mae gan y waliau / y gwelydd glustiau”) mae gan welydd glustiau
16
parlar a cau d'orella sibrwd (“siarad yn ffau clust”)
17
prestar orella a gwrando ar
18
sentir: no hi sent d'aquesta orella mae’n fyddar yn y glust ’na
19
tancar les orelles a les queixes peidio â gwrando ar gwynion
20
tenir l'orella dura bod yn drwm eich clust
21
tenir orella bod gennych glust dda / glust fain
22
clust cwpan
23
veure's les orelles teimlo’n well ar ôl salwch (“bod yn weladwy y clustiau”)
24
escoltar amb totes les seves orelles
bod yn glustiau i gyd (“gwrando amb ei glustiau i gyd”)
25 veure les orelles del llop
(“gweld clustiau’r blaidd”) gweld trwy’r guddwisg; gweld yr arwyddion amlwg cyntaf
Tot i els avisos reiterats hem hagut de veure les orelles del llop per adonar-nos que l’extrema dreta a Catalunya és ben viva
Er gwaetha’r rhybuddion dro ar ôl tro bu rhaid gweld yr arwyddion amlwg cyntaf i sylweddoli fod y de eithafol yn fyw ac iach yng Nghatalonia


Orellà
1
trefgordd (el Conflent)

orellada
1
cerydd

orellassa
1
clust mawr
Va acaronar-li a l’ase l'estel blanc que brilla entre les seves orellasses
Fe fwythodd seren wen ddisglair yr asyn (“y seren wen sydd yn disgleirio”) rhwng ei glustiau mawr

orellut
1
clustog = â chlustiau mawr

oremus
1
gweddi
perdre l'oremus (“colli’r weddi”)
..a/ colli’ch limpin
..b/ colli hunanreolaeth

Amb l'edat ha perdut l'oremus
Wrth iddo fynd yn hen mae wedi colli reolaeth arno fe ei hun (= mae e’n dechrau gwneud pethau yn groes i’w gymeriad)

oreneta
1
gwennol

oreneta de mar
1
morwennol

orenga
1
oregano

orfandat
1
amddifadrwydd, amddefedi; = bod heb rieni

orfe
1
amddifad
2
(ffigwrol) diamddiffyn
sentir-se orfe teimlo eich bod wedi eich gadael ar y clwt (“teimlo’n ammddifad”)
Em preocupa que tants lectors d’aquest diari se senten orfes amb el nou govern (Avui 2004-01-04)
Mae’n boendod imi fod cymaint o ddarllenwyr y papur newydd hwn yn teimlo eu bod wedi eu gadael ar y clwt yn achos y llywodraeth newydd (sydd gennym yng Nghatalonia)

orfe
1
bachgen amddifad
2
òrfena
merch amddifad

orfebre
1
eurych = un sy'n gweithio aur

orfebreria
1
gwaith eurych

orfenat
1
amddifaty

orfenesa
1
amddifedi, amddifadrwydd
2
diymadferthedd

orfeó
1
côr, cymdeithas gorawl

orfeonista
1
aelod cymdeithas gorawl

òrgan
1
organ
2
cyfrwng

orgànic
1
organig
2 (Y Gyfraith) sylfaenol, un perthyn i’r corff o gyfreithiau mwyaf hanfodol wrth lywodraethu
llei orgànica deddf sylfaenol
2
cynhenid, craidd; sydd yn aelod craidd mewn dosbarth o bobl

orgànicament
1
yn organig

organigrama
1
díagram ystrwythur
2
hierarchaeth corff gweinyddol, masnachol, etc; y swyddi, neu’r bobl sydd yn dal y swyddi, yn rhyw gorff / cwmni / gweinyddiaeth
Aparentment, alguns partits es creuen amb el dret de negociar l’organigrama sencer de les emissores de la Generalitat (Avui 2004-01-13)
Yn ôl pob golwg, mae rhai pleidiau yn meddwl bod ganddynt hawl i drafod (= er mwyn newid) swyddi pawb (“yr hierachaeth i gyd”) yng ngorsafoedd radio a theledu y Gyffredinfa (Senedd Catalonia)
3
siart sydd yn dangos hierarchaeth corff gweinyddol, masnachol, etc

organisme
1
(bywydeg) organedd
2
cymdeithas, corff

organista
1
organydd

organitzable
1
trefnadwy

organització
1
cymdeithas, corff

organitzador
1
sy'n trefnu

organitzador
1
trefnydd

organitzar
1
trefnu
2
cynnal
3
dechrau (busnes)

organitzar-se
1
ymdrefnu
2
setlo i lawr

organitzat
1
wedi ei drefnu

Organyà
1
trefgordd (l'Alt Urgell)
A Organyà, bon bestiar (Dywediad) Yn Organyà, gwartheg da

orgasme
1
dirgynhyriad = orgasm, pwynt mwyaf dwys mewn gweithred rhywiol, â iasau o bleser eithafol, a thafliad semen gan y gwryw

orgia
1
cywestach, trythyllwest

orgue
1
organ
orgue electrònic organ drydan
2
no estar per orgues ni + bod mewn hwyl cellwair

orgue de maneta
1
organ dro, organ faril

orgue de gats
1
cyfarfod cecrus

orgull
1
balchder
2
traha

orgullar
1
llenwi â balchder

orgullar-se
1
teimlo yn falch

orgullós
1
balch
2
estar orgullós de bod yn falch o
3
trahaus

orient
1
Dwyrain
Orient Llunyà = Dwyrain Pell
Orient Extrem = Dwyrain Pell
Orient Mitja = Dwyrain Canol
Orient Pròxim = Dwyrain Agos
2
gwynt o'r dwyrain
3
cyfrinfa fasonaidd

orientació
1
safle
2
cyfeiriad
3
hyfforddiant (person)
orientació professional cyngor gyrfaol
4
donar una clara orientació dangos yn glir ("rhoi cyfeiriad eglur")
Les recents manifestacions de Fraga també ens donen una clara orientació de com anirien les coses si per xamba - Déu faci que no! - guanyessin els partits antivascos
Mae'r datganiadau diweddar a wnaeth Fraga hefyd yn dangos yn glir inni sut y bydd arnom os digwydd trwy ddamwain - Duw a'n gwaredo rhag hynny - i'r pleidiau gwrth-Fasgaidd ennill / i’r pleidiau sydd yn elyniaethus i bobl gynhenid Gwlad y Basg ennill

orientador
1
sy'n rhoi ar ben y ffordd

oriental
1
dwyreiniol

orientar
1
cyfeirio
2
rhoi i wynebu
ser orientat vers el sud-est wynebu’r de-ddwyrain
3
hyfforddi

orientar-se
1
wynebu
2
ymgyfeirio, eich cyfeirio eich hun
3
penderfynu gwneud rhywbeth

orifici
1
twll
2
twll tin

oriflama
1
penwn, stribyn

origen
1
tarddiad
a l'origen ar y cychwyn
2
y fan lle y cynhyrchir rhywbeth
denominació d'origen enw’r lle a gynhyrchir gwin, caws, ac yn y blaen

original
1
gwreiddiol
2
rhyfedd

original
1
llawysgrif wreiddiol
2
cymeriad, “cymêr”

originalitat
1
gwreiddioldeb
2
rhyfeddod, hynodrwydd

originar
1
rhoi cychwyn i
2
achosi

originar-se
1
deillio o

originari
1
genedigol
2
ser originari de
(person) bod yn enedigol o (rywle), bod yn frodor o (rywle), bod yn un o (rywle); (peth) bod â’i wreiddiau
-De quin país és originari l’actor Seán Connery? -D’Escòcia
O ba wlad y mae’r actor Seán Connery yn enedigol? O’r Alban
-De quin país és originari el golf? -D’Escòcia
Ym mha wlad bu tarddiad golff? Yr Alban

originàriament
1
yn wreiddiol

originat
1
originat per wedi ei achosi gan
malalties originades pel plom clefydau wedi eu hachosi gan blwm

orina
1
wrin

orinador
1
troethfa, lle piso, lle pi-pi

orinal
1
pot dan y gwely, pot piso, siambr

orinar
1
troethi, piso, gwneud dŵr

orins
1
wrin

oriol
1
(aderyn) euryn (Oriolus oriolus)
Per l'abril, l'oriol ha de venir, i si no venia, les cireres no madurarien (Dywediad)Ym mis Ebrill rhaid i’r euryn ddod; os na ddaeth, ni fyddai’r ceirios yn aeddfedu”

Oriola
1
trefgordd (el Baix Segura)
Enw Castileg: Orihuela

oripell
1
tinsel

Orís
1
trefgordd (Osona)

Oristà
1
trefgordd (Osona)

oriünd de
1
genedigol o
JB, oriünd de Barcelona... JB, sydd yn enedigol o Farselona

orla
1
ymylwe

orlar
1
addurno ag ymylwe

ormeig
1
paratoad
2
harnais
3
(Morwriaeth) rigin
4
ormeigs offer, ger

ormejar
1
paratói
2
harneisio
2
rigio (llong)

ornament
1
addurn

ornamentació
1
addurniad

ornamental
1
addurniadol

ornamentar
1
addurno

orni
1
fer l’orni cymryd arnoch nad ych chi’n deall
Jo no’m faig mai l’orni Dw i byth yn ffugio nad wyf i’n deall
-Jesucrist va dir, qui estigui lliure de pecat que tiri la primera pedra...
-Jo no llanço pedres contra res, molt menys contra persones.
-No facis l'orni. Llençar pedres no és més que una metàfora en el sentit de que vosaltres els polítics es llençaran "pedres" verbals...
-Fe ddywedodd Iesu Grist - yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg...
-Dw i ddim yn taflu cerrig at ddim, yn enwedig (na fyddwn i’n eu taflu) at bobl
-Paid â chymryd arnat nad wyt ti’n deall. Dim ond métaffor yw “taflu cerrig” yn yr ystyr eich bod chi’r gwleidyddion yn taflu “cerrig” geiriol...


ornitòleg
1
adareg

ornitologia
1
adaregol

orgrafia
1
orograffeg

oros
1
cerdün Sbaeneg â llun un neu fwy o ddarnau aur

Orpesa
1
trefgordd (la Plana Alta)

Orpí
1
trefgordd (l'Anoia)

orquestra
1
cerddorfa

orquestració
1
sgorio

orquestral
1
cerddorfaol

orquestrar
1
sgorio, trefnu

orquídia
1
tegeirian

orri
1
siop gaws
anar una cosa en orris mynd i’r gwellt (“mynd yn siopau caws”)

Òrrius
1
trefgordd (el Maresme)

ortiga
1
danhadlen

ortigall
1
(lle) danhadlog

ortodòncia
1
orthodonteg

ortodox
1
uniongred

ortodòxia
1
uniongrededd

ortografia
1
orgraff
fer faltes d'ortografia gwneud camgymeriadau sillafu

ortogràfic
1
orgraffyddol

ortopèdia
1
orthopedeg

ortopèdic
1
orthopedeg

l’ Orxa
1
trefgordd (el Comtat)

orxata
1
(diod wedi ei gwneud o “tshwffa”)

orxater
1
gwerthwr “orshata”

orxateria
1
siop “orxata”

Orxeta
1
trefgordd (la Marina Baixa)

os
1
asgwrn

ós
1
arth
os negre arth ddu
anar fins a un punt de la costa on és molt probable que poguem observar els ossos negres en estat salvatge
mynd i ryw le ar y glannau lle y mae’n debyg iawn y gallwn gwylio’r eirth duon yn eu cynefin
os polar / ossos polars arth wen, eirth gwynion; arth y Gogledd

osca
1
rhigol, tolc

oscar
1
tolcio

oscil·lació
1
pendiliad

oscil·lador
1
pendiliol

oscil·lant
1
pendiliol

oscil·lar
1
pendilio

oscil·lògraf
1
osgílograff

Os de Balaguer
1
trefgordd (la Noguera)

o sigui que
1
mewn geiriau eraill; felly

Oslo
1
Oslo

osmosi
1
osmosis

Osona
1
comarca (Gogledd Catalonia)

Osor
1
trefgordd (la Selva)

ossa
1
arthes
l’Ossa Major yr Arth Fawr

ossat
1
asgyrnog

ossada
1
esgyrn, sgerbwd

ossera
1
esgyrndy

osset
1
arth fach
els tres ossets y tair arth fach

osset
1
(gêm) dandis

ossi
1
esgyrnog

ossificació
1
asgwrneiddiad

ossificar
1
asgwrneiddio

Ossó de Sió
1
trefgordd (l'Urgell)

ostatge
1
gwystl
Itàlia es planteja pagar un rescat pels seus ostatges
Mae’r Eidal yn ystyried talu pridwerth am ei gwystlon

ostensible
1
amlwg, agored

ostensiblement
1
yn agored

ostensori
1
(Cristnogaeth) afrlladfa, monstrans

ostentació
1
rhodres, rhwysg
2
rhodresa, ymorchestu
3
fer ostentació (d’alguna cosa) gwneud sioe (o rywbeth), ymffrostio yn rhywbeth
...polítics i gent de negocis que no llegeixen mai cap llibre. I que en fan ostentació.
...gwleidyddion a busneswyr sydd byth yn darllen llyfr. Ac yn ymffrostio yn y ffaith.

ostentar
1
dangos
2
gwneud sioe o

ostentós
1
rhodresgar, rhwysgfawr
Si Jesucrist pogués veure l'espectacle tan ostentós d'aquests dies .... crec que ell mateix s'avergonyiria de l'esglèsia que té
(Angladd y Pab Cátholig, 2005-04-09) Pe buasai Iesu Grist yn gweld y sioe mor rwysgfawr y dyddiau yma... rw i’n credu y byddai arno yntau gywilydd o’r eglwys sydd ganddo

ostentósament
1
yn rhodresgar

osteòpata
1
meddyg esgyrn, osteopath

osteopatia
1
meddygaeth esgyrn, osteopatheg

ostiari
1
(Eglwys Gatholig) porthor
2
porthor

ostra
1
wystrysen
2
ostra perlera
wystrysen berlog
3
Ostres! (ebychiad o syndod) Duw mawr! ayyb

ostracisme
1
diarddeliad

ostrer
1
(ansoddair) wystrys

ostrera
1
gwely wystrys

ostrogot
1
Óstrogoth

-ot
1
olddodiad mwyhaol
animalot
anifail mawr

OTAN
1
NATO

Otel·lo
1
Othelo

otitis
1
poen clust

otologia
1
clustyddiaeth, clusteg

otorinolaringòleg
1
(ansoddair) otorhinolarungoleg
2
(enw) otorhinolarungolegwr (arbenigwr clust, trwyn a gwddf, arbenigwr ar anhwylderau’r clustiau neu’r trwyn neu’r gwddf)
(eb) otorinolaringòloga otorhinolarungolegwraig (arbenigwraig clust, trwyn a gwddf, arbenigwraig ar anhwylderau’r clustiau neu’r trwyn neu’r gwddf)
 
otorinolaringologia
1
otorhinolarungoleg (gw clust, trwyn a gwddf)
(El doctor J.M. Montserrat Viladiu) va un metge important i una de les figures destacades de l’otorinolaringologia catalana i de l’Hospital de Sant Pau tant en l’aspecte científic com en el vessant humà del tracte amb els pacients (Avui 2004-02-08)
Yr oedd y Meddyg J.M. Montserrat Viladiu yn feddyg pwysig ac un o’r bobl amlwg mewn otorhinolarungoleg yng Nghatlonia ac yn Ysbyty Sant Pawl, ar yr ochr wyddonol fel ar yr ochr ddynol sef yn ei berthynas â’r cleifion

Otos
1
trefgordd (la Vall d'Albaida)

ou
1
wy
No és bo ficar tots els ous al mateix cistell
Thâl hi ddim dodi’ch wyau i gyd yn yr un fasged
(“Nid yw’n dda dodi’r wyau i gyd yn yr un fasged”)

ou de xocolata wy siocled
2
ple com un ou dan ei sang (“llawn fel wy”)

ouera
1
cwpan wy, “ecob”
 
ovació
1
cymeradwyaeth

ovalat
1
hirgrwn

ovari
1
wyfa

ovella
1
dafad
2 l’interés dels llops per les ovelles (“diddordeb y bleiddiaid yn y defaid”) diddordeb mewn rhywun nad yw er ei les yntau ond er eich lles eich hun
Des de quan el PP ha tingut interés en el català de València? L'unic interés que hi ha tingut es el mateix que el dels llops per les ovelles
Ers pryd y mae gan y PP (plaid asgell dde Gastilaidd a gwrth-Gatalanaidd) ddiddordeb yn y Falenseg? (tafodiaith Gatalaneg a siaredir yng Ngwlad Falensia). Yr unig ddiddordeb sydd wedi bod ganddi yw’r un sydd gan fleiddiaid mewn defaid


oví
1
(ansoddair) dafadaidd, defeidiog
Els ramats ovins també tenen la seva importància a Prats de Lluçanès, encara que no tanta com en altres municipis veïns
Mae diadelloedd o ddefaid yn bwysig hefyd yn Prats de Lluçanès, er nad cymaint ag yn y pentrefi o’i chwmpas

2 (enw) dafad
Els principals productes dels ovins són la carn, la llet (i els seus derivats: formatge, brossat..) i la llana
Y prif gynhyrchion a geir gan ddefaid yw cig, llaeth (a’r deilliadau - caws, ceulfraen / caws colfran) a gwlân
Els
principals afectats per aquesta malaltia són els bovins, ovins, caprins i porcins
Yr anifeiliad (“y rhai”) sydd yn cael y clefyd hwn yn anad dim yw buchod, defaid, geifr a moch

explotacions amb ramaderia (dividides en set tipus: bovins, ovins, cabrum, porcins, equins, aviram, conilles)
ffermydd ag anifeiliaid (wedi eu rhannu yn saith o fathau: gwartheg, defaid, geifr, moch, ceffylau, dodefnod, cwningod)

òvids
1
defaid

oviducte
1
wyffos, wybib

ovípar
1
dodwyol, ofiparol

ovni

1
gwrthrych ehedog anhysbys

òvul
1
wy, ofwm

ovulació
1
ofyliad, bwrw wy

òxid
1
ocsid

oxidant
1
ocsidydd
2
(ansoddair) ocsidol

oxidació
1
ocsidiad

oxidar
1
ocsideiddio

oxigen
1
ócsigen

oxigenació
1
ocsigeniad

oxigenat
1
ocsigenedig

oxigenar
1
ocsigenu

ozó
1
ozon

 
 




 
Adolygiad diweddaraf - darrera actualització - 2001 05 06 :: 2003-11-02 :: 2003-12-15 :: 2004-01-05 :: 2005-03-22

 


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yuu àa(r) zïting ø peij fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website