http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_vortaroy/geiriadur_catalaneg_cymraeg_LLOP_estoc_1739k.htm


0001z Tudalen Blaen / Pàgina principal

..........1863k Y Porth Cymraeg / La porta en gal·lès

....................0009k Y Gwegynllun / Mapa de la web

..............................1798k Geiriaduron / Diccionaris

........................................1794k Geiriaduron ar gyfer siaradwyr Cymraeg / Diccionaris per als gal·lesoparlants

..................................................0379k Mynegai i’r Geiriadur Catalaneg / Índex del diccionari català

............................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Geiriadur Cataloneg-Cymráeg
(ar gyfer siaradwyr Cymráeg)

Diccionari català-gal
·lès
(per gal
·lesoparlants)

 

ESTOC-ESVORAR

 

 

Adolygiad diweddaraf
Darrera actualització

2005-02-06 : 2005-05-16

 

  

 

 

..1 estoc
1
cleddyf main, meingledd

..2 estoc
1
stoc

estoc matalàs (Masnach) stoc clustogi, casgliad o nwyddau a gedwir wrth gefn rhag bod prinder sydyn o nwyddau o’r fath ar y farchnad neu fod galw annisgwyl amdanynt

estocada
1
cleddyfod
2
clwyf (gan feingledd)

estocafix

1
ysgadenyn sych heb ei halltu

estocàstic

1
stocastig, a benderfynir ar hap


Estocolm
1
Stockholm

Estoer
1
trefgordd (el Conflent)

estofa
1
defnydd
2
defnydd = (person) gallu cudd, adnoddau, ansawdd yn rhywun (i fod yn arweinydd, yn athro, ayyb)
3
ansawdd
de bona estofa o ansawdd da
de mala estofa o ansawdd gwael
4
brethyn (yn Rosselló, rhan uchaf Gogledd Catalonia)

estofar
1
stiwio (cig)
carn estofada cig wedi ei stiwio

estofat
1
stiw

estoic
1
(ansoddair) stoicaidd

estoic
1
stoiciad, stoices

estoicament
1
stoicaidd
Totes aquestes coses
vam aguantar estoicament
Fe gwrthsafon ni’r holl bethau hyn yn stoicaidd

estoïcisme
1
stoïciaeth = athroniaeth y Stoïciaid
2
ymagweddiad stoïcaidd, sef dangos hunanreolaeth fawr mewn trallod

estoig
1
bocs bach, blwch bach, ces bach
estoig de fusta blwch bach pren
estoig de tela ces bach brethyn

estol
1
(môr)
sgwadron
2
grŵp
un estöl d'àngels cwmni o angylion

estola
1
stola = sgarff hirgul a wisgir gan offeiriad mewn gwasanaeth
besar l’estola cusanu’r stola

estòlid
1
annoeth, gwirion, twp

estòlidament
1
yn annoeth, yn wirion

estoma
1
stoma (botaneg)

estomac
1
crasfa

estómac
1
stumog, bol, bola, cylla
dolor d’estómac poen yn y bol, bola tost
mal d’estómac poen yn y bol, poen yn y stumog, poen yn y cylla, bola tost
2
tenir l’estómac als peus llewygu o eisiau bwyd ("bod gennych y stumog wrth y traed")
3
tenir un estómac d’estruç bod gennych gylla cryf, stumog gref (“bod gennych gylla estrys”)

4 dymuniad, chwant, awydd

cal tenir molt estómac (per fer alguna cosa) rhaid bod ag awydd mawr arnoch (i wneud rhywbeth)

.

estomacal
1
stumog (cymhwysair)
trastorn estomacal anhwylder ar y stumog, cam-hwyl ar y stumog
2
da ar gyfer y stumog neu’r treuliad
licor estomocal diod dreuliol
3
(enw gwrywaidd) moddion at ddifyg treuliad

estomacar
1
curo, pwno (person) yn rhacs

2 taro, dyrnu, dyrnodio, bwrw, wado, pwyo, colbio

estomacar-se entre ells wado’i gilydd
Ahir a Elx aquesta púrria es van estomacar entre ells (2004-11-23)

Ddoe a Elx (Gwlad Falensia) dyma’r gwehilion hyn yn wado’i gilydd / aeth yn daro rhwng y gwehilion hyn


estomatis
1
stomatis, llid y genau


estona
1
cyfnod, sbel (ar lafar, hefyd y Gastileb "rato" [ra-tu])
2
a estones o bryd i’w gilydd
3
a estones perdudes pan fydd gen i dipyn o amser (“mewn cyfnodau colledig”)

Llegeixo a estones perdudes Rwyf yn darllen yn ystod f’oriau segur
4
passar una estona agradable cael amser da, cael hwyl dda, cael mwynhâd
passar una mala estona
bod yn galed arnoch, bod yn arw arnoch, bod yn fain arnoch, cael amser helbulus, ei chael hi
fer-li passar una mala estona (a algú) ei rhoi hi’n arw i rywun, peri i rywun ddioddef
5
matar l’estona difyrru’r amser, bwrw’r amser, treulio’r amser (“lladd y cyfnod”)
6
passar l’estona difyrru’r amser, bwrw’r amser, treulio’r amser
7
tenir-ne per estona / per una estona bod gennych lawer i’w wneud o hyd (“bod gennych ohoni am gyfnod”)

-Quan acabaràs de redactar l’informe?

-Ui, encara en tinc per una estona
-Pryd byddi di’n gorffen yr adroddiad?

-Duw annwyl, mae gennyf lawer i’w wneud o hyd

8 una estona (adferf) am dipyn
Apaga la televisió i xerrem una estona! Diffodd y teledu a gad i ni sgwrsio am dipyn
9
anar a estones (person) bod yn oriog

estonada
1
a estonades o bryd i’w gilydd


Estònia
1
Estonia

estonià
1
Estonaidd
2
(ansoddair) Estoneg

estonià
1
Estoniad
2
(ewn gwrywaidd) Estoneg

estoniana
1
Estones

estopa
1
carth
2
ocwm = ffeibrau o hen raffau wedi eu cymysgu â thar i selio rhychau rhwng planciau cil llong

Estopanyà
1
trefgordd (la Baixa Ribagorça)

estopejar
1
llenwi ac ocwm

estopenc
1
meddal fel carth

estopeta
1
lliain caws, mwslin

estora
1
lliain, defnydd wedi ei weithio o lin amrwd 
2
cwrten, darn o’r defnydd hwn a roir dros ffenestr 

estora
1
mat drws ( o wellt neu o frwyn)
l’estora de l’entrada y mat drws
2
mat

estorac
1
storacs (= resin o’r goeden Styrax officinalis a ddefnyddid ar un adeg fel arogldarth, ac a ddefnyddir i wneud persawr a meddyginiaethau)



estorar

1
rhoi matiau (“estores”) (dros y llawr), carpedu (’r llawr)

estòrcer
1
dianc

estordidament
1
yn ddifeddwl, yn esgeulus

estordir
1
hurtio

estordit
1
penchwiban, penwan, hurt

estorer
1
matiwr, gwneuthurwr matiau
2
matiwr, gwerthwr matiau

estoret
1
gwyntyll dân, ffan dân (o laswellt esparto)

estoreta
1
mat drws

estorlit
1
(enw safonol: torlit) (Burhinus oedicnemus) rhedwr y moelydd

estormia
1
clustog crwn llawn gwellt


estornell
1
drudwen (Sturnus vulgaris)

estornell rosat (Sturnus roseus) drudwen wridog

2 penchwiban, person penchwiban


estossar
1
curo


estossec
1
peswch

estossegar
1
peswch
Si el gat estossega, assenyala canvi de temps

Os pesycha’r gath mae’n arwydd bod y tywydd yn newid


estossinar
1
curo 

estotar
1
torri pig ystên  

 

 

estotjar
1
rhoi (rhywbeth) mewn blwch
2
rhoi (rhywbeth) o’r neilltu


 

estovada
1
curfa, cweir


estovalles
1
(= tovalles) lliain bwrdd

estovament

1 meddalu

2 trueni


estovar
1
meddalu

posar a estovar la roba rhoi’r dillad / dodi’r dillad yng ngwlych cyn eu golchi

2 cyffwrdd, cyhyrfu (teimladau)
3
curo yn rhacs

 

estovar-se
1
meddalu

Amb la calor es va estovar la xocolata Aeth y siocled yn feddal oherwydd y gwres

2 cael eich cyffwrdd, cael eich cyhyrfu
3
curo’ch gilydd


estràbic
1
llygatgroes

estrabisme
1
(Meddygaeth) llygatgroester


estrabullat
1
gwallgof

estrada
1
platfform
2
esgynllawr, llwyfan

estrafer
1
dynwared
2
newid (golwg) (llais)

estrafet
1
(llais, ysgrifen) wedi ei newid (i guddio’r nodweddiadau adnabyddadwy)
2
(person) afluniaidd

ser un espantall estrafet bod yn fwgan brain afluniaidd (mewn disgrifiad sarhaus o rywun)

estrafolari
1
rhyfedd

2 (dillad) anniben

estrafolla

1 twyllwr

 

estrafolleria

1 twyll


estrall
1
hafog

estrambòtic
1
òd, rhyfedd
2
ecsentrig

estranger (ansoddair)
1
tramor
ministre d'afers estrangers gweinidog materion tramor
a l'estranger
dramor

2 estron = yn perthyn i wlad arall

Per a mi Madrid és una ciutat estrangera com una altra
I mi, dinas estron yw Madrid, yr un fath ag unrhyw arall


estranger
1
dieithryn, estron
2
tir tramor
3
a l'estranger dramor
4
ser a l'estranger bod allan o’r wlad
5
anar a l'estranger mynd dramor

estrangeria
1
statws estron, statws cyfriethiol un sydd yn estron mewn gwleidwriaeth 

estrangular
1
llindagu
2
tagu (injin)

estrany
1
allanol, o’r tu allan
2
rhyfedd, òd = heb fod yn arferol
Que estrany! (ebychiad) Dyna ryfedd!
3
semblar estrany que.. ymddangos yn rhyfedd bod..

Encara que sembli una mica estranya, és un peix

Er ei fod yn ymddangos dipyn yn od, pysgodyn yw
4
fer-li estrany que synnu fod..
5
tramor (gwlad)

estranyar
1
alltudio
2
synnu

no + ser d’estranyar que ni + bod rhyfedd fod...
No és d 'estranyar que no estigui gens satisfet Nid oes rhyfedd yn y byd nad yw yn fodlon


2
enstranyar-li (a algú) synnu (rhywun)

Es com sempre un comentari verinós, però be ja no ens estranya res de tu.

Rhyw sylw gwenwynig yw e fel bob amser, ond dyna, hynna sydd i'w ddisgwyl gen ti 
No m'estranya gens Dw i ddim yn synnu o gwbl

estranyar-se
1
synnu = cael ei synnu; bod yn syn

estranyat
1
syn, wedi ei synnu
mirar-se estranyats = edrych yn syn ar ei gilydd

estranyesa
1
syndod
2
anesmwythder

3 odrwydd, hynodrwydd

estraperlada
1
gweithred smyglo

estraperlista
1
smyglwr

estraperlo
1
marchnad ddu

es traspasa
1
gwerthir, mae ar werth
Es traspassa bar a la Font del Gat Bar ar werth yn Font del Gat

estrassa
1
rhecsyn
2
paper d’estrassa papur llwyd

estrat
1
haen
2
dosbarth (cymdeithas)

estratagema
1
ystryw, dichell

estràteg
1
strategydd

estratègia
1
strategaeth, cynllun;

respondre a una estratègia bod yn rhan o strategaeth / o gynllun

estratègic
1
strategol


estragètica, estragètiques
1
strategol

estratificació
1
haeniad

estratificar
1
haenu

estratosfera
1
strátosffêr

estratus
1
(Meteoroleg) stratws, haen-gwmwl

estrebada
1
plwc, tyniad , cipiad, bachiad
l'estrebada a la bossa cipio bàg llaw
2
a estrebades (adf) fesul hwb, o hwb hwb, o hwrdd i hwrdd, yn herciog

estrebar

1
(berf â gwrthrych) tynnu allan
2
(berf heb wrthrych) tynnu allan
3
(berf heb wrthrych) gwneud eich gorau glas

estregina
1
gwe corryn (Cataloneg Uwchfynyddol) [teranyina yn Gataloneg safonol]

estrella
1
seren
2
seren = gwr neu wraig o fri ym myd adloniant
3
néixer en bona estrella cael ei eni/ei geni o dan seren lwcus
4
tenir mala estrella bod yn anlwcus
5
veure les estrelles gweld y sêr

6 estrella independentista seren ar fersiwn o faner Catalonia sy’n dangos bod y faner yn cynrychioli Catalonia nid fel y mae ar hyn o bryn o dan ormes Castilia ond Catalonia rydd ac annibynnol ymhlíth cenhedloedd eraill y byd)

una bandera amb l’estrella independentista baner â’r seren annibyniaethol

estrella de mar
1
seren fôr

estrellar
1
gorchuddio â sêr

estrellat
1
serog
2
ar ffurf seren

estremiment
1
(person) cryndod (gan ofn)
2
(person) ias (o gyffro)
3
pwl o grynu
4
rhusiad = symudiad sydyn neu naid fach oherwydd dychryn

estremir
1
crynu (ffenestr, wal, etc)

estremir-se
1
crynu (ffenestr, wal, etc)
2
crynu (gan ofn, gan oerfel, gan nwyd)
3
rhusio = rhoi
naid fach oherwydd dychryn

estrena
1
bedyddiad = defnyddiad am y tro cyntaf
2
perfformiad cyntaf,
3
llyfr cyntaf (rhyw awdur)
4
dangosiad cyntaf (ffilm)
5
ymddangosiad cyntaf (person)
6
(Masnach) (mewn marchnad, ayyb) gwerthu’r peth cyntaf i rywun, cael cwsmer cyntaf y diwrnod
7
tip = cilddwrn
8
anrheg Nadolig
9
anrheg Calan Ionawr

estrenar
1
bedyddio = defnyddio am y tro cyntaf
2
perfformio am y tro cyntaf (drama)
3
gwisgo am y tro cyntaf (dillad), cael defnyddio am y tro cyntaf
4
dangos am y tro cyntaf (ffilm, rhaglen deledu)
5
dadorchuddio, rhoi ar waith am y tro cyntaf
6
rhoi cilddwrn
7
gwerthu’r eitem cyntaf...

 

8 rhoi o flaen y cyhoedd am y tro cyntaf (wrth sôn am benodiad rhywun sydd yn cymeryd lle rhywun arall)

Lleida estrena nou alcalde aquesta setmana després de la marxa d’Antoni Siurana al govern de la Generalitat

Bydd gan ddinas Lleida faer newydd yr wythnos hon ar ôl i Antoni Suirana (= y cyn-faer) ymuno â llywodraeth y Gyffredinfa (= Senedd Catalonia)

(“bydd Lleida yn rhoi maer newydd o flaen y cyhoedd am y tro cyntaf...”)

 

9 acabat d’estrenar newydd

En el govern acabat d’estrenar yn y llywodraeth newydd, y llywodraeth sydd newydd gychwyn ar ei gwaith 

estrenar-se
1
cael ei berfformio/ei pherfformio am y tro cyntaf, etc
2
cael ei ddangos, cael ei dangos am y tro cyntaf (rhaglen teledu)
3
ymddangos fel... am y tro cyntaf

estrènyer
1
meinháu (dillad)
2
tynháu (gwregys)
3
gwasgu (esgid)
4
tynháu (cwlwm)
5
cleinsio (dannedd)
6
cau yn dynn (dwrn)
7
ysgwyd llaw
Li va estrènyer la mà Ysgydwodd ei law (“iddo fe ysgydwodd y llaw”)
8
cofleidio (person)
9
llymháu (gwarchae)
10
rhoi pwysau ar (cystadleuwr, gelyn, cydymgeisydd)
11
cryfháu (cysylltiad)
Estrènyer els llaços entre Gal·les i Catalunya
Cryfháu'r cysylltiadau rhwng Cymru a Chatalonia
12
symud yn nes at ei gilydd (personau)
13
mynd yn gulach
14
mynd yn dynnach
15
culháu

estrènyer-se
1
symud yn nes at ei gilydd

2 tynháu
Sentia com la seva figa s'estrenyia a la meva cigala

Yr oeddwn yn teimlo fel ei gwain oedd yn thynháu am fy mhidyn


estrep
1
gwarthol
2
gris (cerbyd)
3
cynhaliaeth
4
perdre els estreps

..1/ colli eich pen

..2/ mynd yn wallgof
5
tenir el peu als estreps
bod wedi cychwyn yn dda

(“bod gennych y troed yn y gwartholau”)

estrèpit
1
twrw = sŵn mawr
2
sense estrèpits yn ddi-séremoni

estrepitós
1
uchel eich cloch (person)
2
swnllyd, stwrllyd (parti)
3
byddarol
ovació estrepitosa cymeradwyaeth fyddarol
fracàs estrepitòs methiant llwyr

estrès
1
straen (meddyliol)

estret
1
tynn (dillad)
2
(dilledyn)
venir-li estret (a algú) bod yn dynn (am rywun)
3
cyfyng, cul

via estreta (rheilffordd) lled cul

un antic ferrocarril de via estreta hen rheilffordd fach, hen rheilffordd led cul
4
clòs, agos (perthynas)
5
clòs, agos (cysylltiad)

estret
1
culfor

l'Estret de Dover Culfor Dofer, le Pas de Calais

estreta
1
ysgwyd llaw
estreta de mans ysgwyd llaw

Una estreta de mans amb una persona que té la mà suada no és una experiència agradable
Dyw ysgwyd llaw â rhwyun â llaw chwyslyd ddim yn brofiad dymunol


estretament
1
yn dynn

ser estretament vinculat a bod â chystylliad agos â

Tota la comarca de la Llitera és estretament vinculada a Catalunya

Mae sir la Llitera i gyd â chystylliad agos â Chatalonia

estretir
1
culháu

estretor
1
culni
2
diffyg lle
3
llymder (moes)
4
cynildeb
5
passar estretors bod o dan y dr

estri
1
twlsyn, offeryn
2
estris
eiddo
3
estris cyfarpar
4
estris de pescar gêr pysgota
5
estris de terrissa llestri pridd (plât, cwpan)
6
estris domèstics eiddo’r cartref

estria
1
rhigol, rhych
2
rhigoliad

estriar
1
rhigoli, rhychu = gwneud rhigol neu rych yn rhywbeth
estriar la corda mynd yn rhy bell (“gwneud rhigol yn y rhaff”)

estribord
1
ochr dde (llong)
(wrth edrych tua blaen y llong)

estricnina
1
strucnin

estricte
1
llym

estridència
1
uchelseinedd

estrident
1
uchel ei sain

estridor
1
uchelseinedd

estrip
1
rhwyg

estripar
1
rhwygo, torri (papur, lliain)
2
diberfeddu (anifail)

estriptis
1
stripio, strip-bryfocio 
un club d’estriptis
clwb stripio

estrofa
1
pennill

estroncar
1
torri ar (chwerthin)
2
torri llif, atal rhag llifo allan (gwaed)

estroncar-se
1
mynd yn sychu (nant)
2
sychu, peidio (sgwrs)
3
dod i ben (cyflenwad)

estronci
1
strontiwm

estropellar
1
difetha

estruç
1
estrys

estructura
1
strwythur

estructurar
1
adeiladu
2
trefnu

estuari
1
genau afon

Estubeny
1
trefgordd (la Costera)

estuc
1
stwco
2
plaster

estudi
1
astudiaeth = traethawd
2
stiwdio
3
ceginlofft
4
efrydfa (ar lafar: stydi)
5
addysg : estudis
6
estudis dysg
estudis superiors addysg bellaf
fer els seus estudis a... cael eich ei addysg yn..
de molts estudis dysgedig
7
pwnc = pwnc mewn cwrs academaidd
8
ysgol = lle astudio
mestre d'estudi schoolmaster

a estudi yn yr ysgol; i’r ysgol
Has parlat d’això a estudi? Wyt ti wedi siarad am hynny yn yr ysgol?
anar a estudi mynd i’r ysgol
dur la mainada a estudi
mynd â’r plant i’r ysgol
9
archwiliad = profion meddygol
10
astudiaeth = ymchwil

un ampli estudi astudiaeth eang

11 fugir d'estudi mynd o gwmpas (mater sgwrs), peidio â mynd i’r graidd y mater
12
estar en estudi bod dan ystyriaeth

estudiant
1
myfyriwr (ar lafar: stiwdent)

estudianta
1
myfyrwraig (ar lafar: stiwdent)

estudiantil
1
myfyriwr, myfyrwyr (cymhwysair)

estudiar
1
astudio
2
archwilio

estudiar-se a
1
ymdrechu i wneud peth

estudiós
1
myfyrgar

estudiós
1
un myfyrgar, un fyfyrgar
2
ysgolháig
una trobada d'estudiosos cyfarfod ysgolheigion

estuf
1
ymchwyddiad
2
hunan-dyb, hunafodlonrwydd
3
rhyfyg

estufa
1
stof
2
gwresogydd

estufar
1
(gwlân) cedenu, codi ceden ar
2
hofio (pridd)
3
(gwely) ysgwyd

estufar-se
1
ymchwyddo (gan falchder)
2
mynd yn sbwnglyd
3
mynd yn gedenog

estult
1
ffôl

estultícia
1
ffolineb

estupefacció
1
syndod, syfrdandod, pensyfrdandod, hurtni

estupefaent
ansoddair
1
syfrdannol, hurtiol,
2
(effaith cyffur) llesgaol, marweiddiol
3
(enw gwrywaidd) cyffur

estupend
1
hyfryd, ardderchog

estúpid
1
dwl

M'estas dient estúpid? Wyt ti’n gweud mod i’n dwp?

estupidesa
1
twpdra = prinder deallusrwydd

És possible que existeixi tanta estupidesa en un sol individu, és a dir, tu?

Ydi’n bosibl fod cymaint o dwpdra yn bodoli mewn un unigolyn, hynny yw, ynot ti?
2
ffolineb = gweithred ffôl

3 dwli, lol, lol botes maip

Això que dius és una estupidesa Siarad dwli wyt ti (“mae’r hyn yr wyt ti’n ddweud yn ddwli”)

estupor
1
syrthni (meddygaeth)
2
syfrdandod

esturió
1
(pysgodyn) stwrsiwn, styrsiwn

esvaïda
1
(Rhyfel) ffoedigaeth, gorchfygiad, curfa

esvair
1
cael gwared ar
2
anesmwytho
3
egluro

esvair-se
1
diflannu
2
teimlo yn wan iawn ?bod yn wachul
3
marw (sŵn)

esvalot
1
mwstwr
2
reiet

esvalotat
1
stwrllyd

esvalotar
1
tarddu
2
(berf heb wrthrych), cadw reiat

esvalotar-se
1
cyffrói
2
cadw reiat

esvanir-se
1
diflannu
2
gwanychu
3
(person) llewygu

esvarar
1
(Deheubarth Catalonia) [relliscar yn Gataloneg safonol]

esvàstica
1
swástica

esvelt
1
gosgeiddig, lluniaidd
2
tenau

esveltesa
1
gosgeiddrwydd
2
teneuwch

es ven
1
ar werth, fe werthir...

esventar
1
chwythu i ffwrdd
2
taflu i’r gwynt
3
datguddio

esventrar
1
diberfeddu (anifail) (pysgodyn) (aderyn)
2
torri yn ddeilchion (trwy daflu peth yn erbyn peth arall)
3
torri (drws) i lawr
4
torri (wal) i lawr, chwalu (wal), bylchu (wal), dymchwel (wal)

esverar
1
arswydo = gyrru ofn ar

esverar-se
1
arswydo = cael ofn
2
cyffrói = cael eich cyffrói

esverat
1
wedi’ch brawychu; (adferf) mewn ofn
Les merles van fugir esverades
Hedfanodd y mwyalchod i ffwrdd mewn ofn
2
estar esverat bod wedi’ch brawychu
3
quedar esverat bod wedi’ch brawychu

esvoranc
1
agorfa
2
adwy (mewn wal)
3
twll (mewn dillad)

4 twll yn y ddaear (ar ol i’r wyneb suddo - i hen lofa, i ogof danddaearol, ayyb)

esvorar
1
cymryd rhan o ochr neu ran o arwyneb peth
 
 


 

Adolygiad diweddaraf - darrera actualització 15 05 2002 :: 2003-10-28 :: 2003-12-07 :: 2004-01-13 :: 2005-02-07  :: 2005-03-09

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA"
(= Gal·les-Catalunya)
Weørr am ai? Yuu ørr vízïting ø peij frøm dhø "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
 
CYMRU-CATALONIA

DIWEDD / FI