http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_vortaroy/geiriadur_catalaneg_cymraeg_LLOP_es_1620k.htm


0001z Tudalen Blaen / Pàgina principal

..........1863k Y Porth Cymraeg / La porta en gal·lès

....................0009k Y Gwegynllun / Mapa de la web

..............................1798k Geiriaduron / Diccionaris

........................................1794k Geiriaduron ar gyfer siaradwyr Cymraeg / Diccionaris per als gal·lesoparlants

..................................................0379k Mynegai i’r Geiriadur Catalaneg / Índex del diccionari català

............................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Geiriadur Cataloneg-Cymráeg
(ar gyfer siaradwyr Cymráeg)

Diccionari català-gal
·lès
(per gal
·lesoparlants)

 

ES-ESOTÈRIC

 

 

Adolygiad diweddaraf
Darrera actualització

2005-02-06 : 2005-05-16

 

  



 

 

  
es
1
(rhagenw amhersonol) (se, s’, ‘s) -ir
rentar = golchi
es renta golchir

llogar rhentu, hurio, gosod
es lloga (fflat, etc) ar osod
es ven fe werthir, mae ar werth
no se sap ni wyddys

(rhagenw atblygol) (se, s’, ‘s) eich hun, ym-
rentar-se = ymolchi
trencar-se el braç torri eich braich

2
(rhagenw cilyddol) eich gilydd
fer-se petons cusanu eich gilydd
parlar-se siarad â’ch gilydd
ajudar-se helpu’ch gilydd

es
1
y, yr (y fannod) (o flaen enw gwrywaidd)
..1/ Ynysoedd Catalonia,
..2/ rhan o arfordir Gogledd Catalonia
Cataloneg safonol: [el]

és a dir
1
hynny yw (Gogledd Cymru: hynny ‘di)

Esaú
1
Esau

esbaconar
1
diberfeddu, tynnu perfedd, gwagio

esbadellar-se
1
blodeuo
2
ymagor (blodyn)

esbadiar
1
datgorddedu, dadnyddu
2
rhannu

esbadocar-se
1
(ffrwythin) ymagor

esbafar-se
1
colli calon

esbajocar
1
(pys), ‘sbinio’

esbalaïdor
1
syfrdanol

esbalaiment
1
syndod
2
braw

esbalair
1
synnu, syfrdanu
2
brawychu, gyrru ofn ar, (Gal·les del Sud: hala ofn ar)

esbalair-se
1
synnu = bod yn syn, syfrdanu
2
cael ofn, brawychu

esbalaït
1
syn, wedi’ch synnu, syfrdan, wedi’ch syfrdanu


esbaldida
1
rinsiad; fel arfer [= esbandida yn yr iaith safonol]

esbaldir
1
rinsio

esbaldrec
1
toriad

esbaldregada
1
dadfail
2
cwymp, dychweliad

esbaldregar-se
1
cwympo i mewn

esbadrat
1
rwbel, shwrwd

esbaltiment
1
dryswch, penbleth
2
syndod

esbaltir
1
syfrdanu (ag ergydion)
2
byddaru
3
pensyfrdanu (â diod, â chyffur)
4
penfeddwi

esbancar
1
clirio (tir)

esbandida
1
rinsiad

esbandir
1
rinsio
esbandir la roba rinsio’r dillad
esbandir els plats rinsio’r llestri
esbandir-li els cabells rinsio gwallt (rhywun)

esbandir-se
1
rinsio eich dwylo
2
cael gwared ar
3
rhoi (rhyw gyfrifoldeb) i rhywun arall
4
(gwallt) mynd yn anniben, mynd yn flêr

esbandit
1
wedi ei rinsio
2
(gwallt) anniben, aflêr, blêr

esbardellar
1
torri’n ddeilchion
esbardellar la porta a cops de destral torri’r drws yn ddeilchion ag ergydion bwyell

esbargir
1
gwasgaru
2
chwalu

esbargir-se
1
cael hwyl
2
ymlacio

esbarjo
1
egwyl (ysgol)
2
difyrrwch
3
ymlacio

esbarriar
1
gwasgaru

esbart
1
cwmni theatr
2
praidd, haid (gwartheg, defaid)
3
haid
4
bagad
5
esbart dansaire cwmni dawns
(neu esbart cwmni dawns)

esbarzer
1
drain
2
llwyn drain

esbatanar
1
agor led y pen
esbatanat wedi ei agor led y pen

esbatec
1
(adenydd aderyn) ysgytwad , curiad

esbategar
1
(adenydd aderyn) ysgwyd, curo

esbatre
1
cael gwared o

esbatussar-se
1
ymgiprys, ymladd

esberla
1
sglodyn

esberlar
1
hollti
T’esberlo el cap Fe fwrwa i di yn dy wyneb (“holltaf dy ben”)
2 chwalu
La seves declaracions estan esberlant qualsevol sentiment d´unitat i confraternització entre catalans, valencians i illencs.
Mae ei ddatganiadau yn chwalu unrhyw ymdeimlad o undod a chyfeillach rhwng Catalaniaid, Falensiaid ac Ynyswyr (= trigolion yr Ynysoedd Balearig)
3
esberlar-se
cracio, dadfeilio
Carmel és
un munt d´edificis sobre un turó que trontollen i que s´esberlen
Pentwr o adeiladau ar ben bryn yw Carmel, y rhai sydd yn gwegian ac yn cracio

esbaixar
1
rhoi i ogwyddo
2
gogwyddo, bod ar ogwydd

esbiaixat
1
ar ogwydd
2
unochrog, rhagfarnllyd

és ben clar
1
mae’n amlwg

esberlar-se
1
torri yn deilchion

esbirro
1
llofrudd hur
2
cwnstabl, beili

esblaimar-se
1
gwelwi

esblanqueir-se
1
colli lliw

esbocinar
1
rhwygo yn gatiau
2
torri yn deilchion

esbojarrat
1
gwyllt, gwallgof

esbombar
1
cyhoeddi
No he esbombat cap dada de ningú. No he parlat de ningú en concret.
Dw i ddim wedi cyhoeddi’r un ffaith am neb. Dw i ddim wedi siarad am neb yn arbennig

esbombar-se
1
cael ei gyhoeddi / ei chyhoeddi

esborifat
1
= esborrifat

esborrador
1
dwster bwrdd du, rwber bwrdd du

esborrany
1
braslun, drafft cyntaf

esborrar
1
diléu = rwbio allan
2
diléu = croesi allan
3 diddymu

esborrar-se
1
cael ei ddiléu, cael ei diléu, cael ei rwbio allan

esborrifar-se
1
cael ei anhrefnu (gwallt)

esborronador
1
arswydus


esborronar
1
arswydo

esbós
1
sgetsh
2
braslun
faig un esbós (wrth roi enghreifftiau) rw i’n rhoi i chi syniad bras

esbossar
1
sgetsho

esbotifarrar
1
hollti

esbotzar
1
torri yn deilchion
2
malu (rhywbeth), torri (rhywbeth) (i’w agor)
M´han esbotzat l´armari Maent wedi malu fy nghwpwrdd


esbrancar
1
tynnu’r canghennau, torri’r canghennau

esbravar-se
1
mynd yn fflat (diod)
una beguda esbravadaga diod fflat
2
ymlacio

esbrinar
1
darganfod

esbronc
1
prostestiad
2
pryd o dafod
3
rhybudd

esbroncada
1
protest (gweiddi gwrthwynebiad)
2
pryd o dafod

esbroncar
1
gweiddi i brotestio
2
dweud y drefn wrth

esbrossar
1
clirio (prysglyn)

esbrotar
1
pori
2
clirio (prysglyn)

esbrotar
1
dymchwel, chwalu
Els veïns
lluiten contra la voracitat de promotors i especuladors urbanístics que volen esbucar les antiges cases per fer-hi un bloc d’apartaments per vendre als alemanys
Mae’r pobl leol yn brwydro yn erbyn barusrwydd adeiladwyr a hapfuddsoddwyr yn y ddinas sydd yn ymofyn chwalu’r hen dai i godi (“i wneud”) yn eu lle floc o fflatiau i’w werthu i’r Almaenwyr

esbudellador
1
diberfeddwr
2 llarpiwr
Jack l'Esbudellador Jack y Llarpiwr

esbudellar
1
diberfeddu



esbufegar
1
anadlu, dyhéu
2
gwichian
3
pwffian

esbufec
1
dyhead = anadliad byr
2
(anadliad) gwich
3
pwff

esbullar
1
anhrefnu (gwallt)

esbutxar
1
gwastraffu, afradu

esca
1
golosged, poethfel
2
ysbardun, ysgogiad
3
achos

escabellar
1
anhrefnu (gwallt)

escabetx
1
saws = saws finegr ac olew olewydd

escabetxar
1
rhoi mewn saws
2
gorchuddio â saws
3
lladd, rhoi diwedd ar

escabrós
1
garw (tir)
2
peryglus
3
anweddus
4
(jôc) anweddus, coch
5
[film] anweddus, pornograffig
6
(arwyneb) anwastad
7
(problem) anodd

escac i mat
1
(gwyddbwyll) cau!

escacs
1
gwyddbwyll
un home molt aficionat als escacs chwaraewr gwyddbwyll brwd

escadusser
1
gweddw = digymar
2
yn weddill

escafandre
1
siwt plymio, cyfarpar plymio

escagarrinar-se
1
(ar lafa) cael llond tin o ofn

escaient
1
gweddus

escaig
1
tipyn bach yn ychwanegol

escaiola
1
hadau ar gyfer adar
2
(meddygaeth) plaster

escaire
1
sgwaryn (= offeryn saer, etc)
2
braced

escala
1
grisiau, rhes o grisiau
2
ysgol
3
graddfa = safon mesur
l’escala de Richter graddfa Richter
El sisme, de 6,3 graus a l’escala de Richter, arrasa la ciutat històrica de Bam i tota la seva àrea (Punt 2003-12-27)
Mae’r daeargryn, yn 6.3 gradd ar raddfa Richter, wedi llwyr ddinistrio tref hanesyddol Bam a’r holl ardal o’i chwmpas
4
graddfa = maint cymharol
a petit escala ar raddfa fach
a gran escala ar raddfa fawr
5
grisiau bloc o fflatiau
els veins de l’escala pobl sydd yn byw yn yr un bloc o fflatiau (“cymdogion y grisiau”)

l’ Escala
1
trefgordd (l’Alt Empordà)

escala de mà
1
grisiau plyg

escala mecànica
1
grisiau symudol

escala d’incendis
1
grisiau tân, dihangfa dân

escalada
1
dringfa, esgynfa
2
cnydd, codiad

escalador
1
dringwr

escalafó
1
graddfa
2
tabl
3
rhestr cyflogau

escalar
1
dringo
2
dringo (ffigurol)

les Escaldes-Engordany
1
trefgordd (Andorra)

escaldar
1
llosgi, sgaldio
Gat escaldat de l’aigua freda fuig Cas gan gath y ci a’i bratho (“Ffoa cath wedi ei llosgi o’r dŵr oer”)
Si ERC no juga molt fort en pot sortir molt escaldada (wrth aros penderfyniad llywodraeth Castilia all fod yn niweidiol i Gatalonia) Os na saif ERC yn gadarn (Esquerra Republicana de Catalunya, plaid genedlaethol asgell chwith) fe all ddod ohoni’n wael
2
rhwbio

escaldar-se
1
cael eich llosgi, cael eich sgaldio

escàlem
1
rhwyfbin = pin i ddal rhwyf cwch

escalemera
1
gafael rhwyf, dalfa rhwyf, clo rhwyf,

escaleta
1
ysgol fach
2
hwb (= help i ddringo dan ddal coes rhywun)
fer-li l’escaleta rhoi hwb i (rywun)

escalf
1
gwres
2
gwres = hoffter

escalfabraguetes
1
pryfocwraig (“un syn twymo’r falog / un syn twymo’r copish”)

escalfador
1
gwresog

escalfador
1
gwresogydd

escalfament
1
gwresogiad
2
(chwaraeon) gwresogiad i lacio’r cyhyrau

escalfapanxes
1
lle tân, aelwyd

escalfar
1
gwresio, gwreso = rhoi gwres allan
El sol avui no escalfa does dim gwres yn yr haul heddiw
2
cynhesu, twymo = gwneud yn gynnes
3
gwresogi, cynhesu = peri sêl neu frwdfrydedd
4
rhoi crasfa

Si no calla, l’escalfaré
Os na chaeiff ei ben, fe gaiff e grasfa gen i

escalfar
1
ennyn (emosiwn)

escalfar-se
1
ennill gwres, ymdwymo, gwresogi = twymo ei hun
Vine a escalfar-te davant el foc Dere i dwymo a flaen y tân
2
cael eu ysgogi
3
poethi (dadl)
La discussió es va escalfar poethodd y ddadl

escalfor
1
gwres, cynhesrwydd, twymdra
2
gwres = naws zêl neu frwdfrydedd
3
gwresogrwydd
4
brwdaniaeth, arddeliad, angerdd

escalinata
1
grisiau allanol

escalivada
1
bwyd wedi ei goginio ar farwor (pupurau, winwns, tomatos, tatws, wylysiau)

escalivar
1
coginio ar farwor
escalivar pebrots coginio pupurau ar farwor
pebrot vermell escalivat pupur coch wedi ei goginio ar farwor
2
ceryddu’n llym

escaló
1
= esglaó

escalonar
1
(oriau, gwyliau) darwahanu (ar lafar: stagro)
2
grisweddu
3
rhoi mwy o le rhwng
4
gosod gan adael mwy o le rhwng
5
terasu (tir)

escalpel
1
fflaim

escama
1
cennyn (ar groen pysgodyn)

escamar
1
digennu = tynnu cen pysgod

escamarlà
1
(Nephrops) cimwch Norwy

escamot
1
bagad
2
(milwriaeth) uned, sgwad
3
praidd (anifeiliad)

escamotejar
1
peri i ddiflanu

escampada
1
gwasgorion

escampadissa
1
gwasgaru, gwasgariad
fer una escampadissa de morts gwneud lladdfa (“gwneud gwasgariad o feirw”)

escampall
1
= escampadissa

escampar
1
gwasgaru, taenu
2
colli (hylif)
3
colli (dagrau)
4
colli (gwaed)
5
rhoi ar led (newydd, si)

escampar-se
1
taenu
2
escampar-se la veu que bod si ar led fod

escampat
1
gwasgaredig,

escampillar
1
gwasgaru (Catalonia Uwchfynyddol) (Cataloneg Canolog: escampar)

escandalitzar
1
cywilyddio, ysgytio

escandalitzar-se
1
cael eich ysgytio (de = gan), cael eich brawychu
S’escandalitzava amb aquella revista catalana, deia que si al seu país (el Perú) algú hagués gosat escriure o d’aquella manera, l’haurien matat
Yr oedd wedi ei ysgytio gan y cylchgrawn Catalaneg hwnnw, roedd yn dweud yn ei wlad yntau (Periw) petái rhywun wedi beiddio ysgrifennu yn y ffordd honno, fe fuasen nhw wedi ei ladd

escandall
1
samplo
2
chwilio, stilo, archwiliad
3
fer escandall samplo

enscandalós
1
gwarthus
2
swnllyd
3
(trosedd) enbyd, dibryd, difrifol

escandinau
1
Llychlynaidd

Escandinàvia
1
Llychlyn

escàndol
1
sgandal
2
cythrwfl, ffrae

escantellar
1
torri cornel oddi ar, hacio, naddu

escantonar
1
= escantellar


escanyagats
(“a lindaga gathod”)
1
(Prunus spinosa) eirinen ddu fach, eirinen berth
Fel arfer:
aranyó. Hefyd aranyoner, prunyoner, arç negre.

escanyallops
(“a lindaga fleiddiaid”)
1 (Aconitum napellus) cwcwll y mynach


escanyanens
(“a lindaga blant”)
1
llofrudd plant

escanyapobres
(“a lindaga dlodion”)
1
usuriwr, usurwraig

escanyar
1
llindagu
2
culháu
3
gwasgu

escanyavelles
(“a lindaga hen wragedd”)
1 (Rosa canina) rhosyn coch gwyllt
2 ( Polygonum aviculare) canclwm

escanyolit
1
gwan, nychlyd

escapada
1
dihangfa, ffo
2
ymweliad byr
3
torri trwodd (chwaraeon)
4
fer una escapada gwneud taith fer (gwyliau)
5 diferiad, gollyngiad
perquè no hi pugui haver cap escapada de gas
er mwyn sicrhau na fydd nwy’n colli (“bod gollyngiad nwy”)

escapar
1
dianc, rhedeg i bant
2
escapar-li dianc oddi wrth (rywun)
3
deixar escapar algú
gadael i (rywun) ddianc
4
deixar escapar un sospir ochneidio, gollwng ochenaid
5
deixar escapar l’ocasió colli cyfle
6
escapar-li de la mà
dianc o afael (rhywun)

escapar-se
1
dianc
2 (bws, trên) mynd cyn i chi gyrraedd
Corre, que s’ens escapa! (bws, trên) Rheda, neu collwn ni fe! (“rheda, am ei fod yn dianc rhagon ni”)

3 dianc, ffoi (o’r carchar)
Així doncs, i segurament amb l'ajut del carceller, es va poder escapar canviant-se el vestit amb un amic que l’estava visitant
Felly, ac yn sicr iawn â chymorth y ceidwad carchar, gan newid ei wisg â honno oedd gan ffrind oedd yn ymweld ag ef

4 dianc, ffoi (o gaetsh)

5 dianc, ffoi (rhag gelyn, ymosodwr, rhywbeth bygythiol)
La seva família es va poder escapar arran de l’arribada dels nazis.
Llwyddod ei deulu i ddianc yn sgil dyfodiad y Natsïaid

El Pere es va poder escapar cames ajudeu-me, deixant sol en Marc al jardí del veí
Llwyddodd Pedr i ddianc nerth ei draed, gan adael Marc ar ei ben ei hun yng ngardd y cymydog

El van detenir quan una prostituta es va poder escapar d'ell i denunciar-lo a la policia
Fe’i restiwyd pan aeth putain, a gafodd ddianc rhagddo, at yr heddlu i’w gyhuddo

6
escapar-se de les mans (d’algú) dianc o afael (rhywun)

escapadís
1
sydd yn dianc yn rhwydd
fer escapadís (algú) helpu (rhwyun) i ddianc


escapatòria
1
esgus

escapça
1
dienyddiad

escapçar
1
torri pen = dienyddio
2
torri pen (planhigyn)
arbres descapçats per jardiners destralers coed wedi y mae eu pennau wedu eu torri ymaith gan arddwyr trwsgl
3
torri (cardiau) (pac)

escapolir-se
1
cael dianc

escàpula
1
pont yr ysgwydd

escaquista
1
chwaraewr gwyddbwyll

escarabat
1
chwilen

2 escarabat del rellotge de la mort (Xestobium rufovillosum) chwilen angau, ticbryf, pryf corff (mae’r chwilen wryw, wedi tyllu i bren, yn curo ei ben yn erbyn y pren i ddenu chwilen fenyw. I rai ofergoelus arwydd marw yn y teulu neu’r gymdogaeth yw’r curo hwn)


escarafalls
1
ffwdan, ffws, ffys
fer escarafalls gwneud stŵr (ynghylch rhywbeth), creu stŵr (ynghylch rhywbeth), codi helynt (ynghylch rhywbeth)
No feu escarafalls Peidiwch a chodi helynt (yn ei gylch)

escaramussa
1
ysgarmes

escarapel·la
1
bathodyn
2
cocêd
3
rozét

escarceller
1
ceidwad carchar
Hefyd: carceller

escardalenc
1
tenau

escarit
1
noeth
2 diaddurn

escarlata
enw
1
sgarled

escarlata
ansoddair
1
sgarled

escarlatina
1
sgarlatina, eirosglwyf

escarment
1
dysgu gwers
2
profiad

escarmentar
1
dysgu gwers i rywun = cosbi

escarmentar-se
1
dysgu gwers = cael eich cosbi

escarni
1
gwawd

escarnir
1
gwneud sbort am ben (un), gwawdio
2
dynwared

escarola
1
endif, ysgallen y meirch

Escaró
1
trefgordd (el Conflent)

escarpat
1
serth

escapra
1
cyn, gaing

escarransit
1
cybyddlyd, mên
2
gwan, nychlyd
3
eiddil, tila

escarrassar-se
1
llafurio, gweithio yn galed
2
ymdrechu
JP és un polític que s’escarrassa ridículament i sense èxit per mantenir l’esperit del Ciscu viu
Mae JP yn wleidydd sydd yn ymdrechu’n chwerthinllyd ac yn aflwyddiannus i gadw’n fyw ysbryd Ciscu (= yr unben Castilaidd Franco)

escartejar
1
troi (tudalennau)

escartejar
1
cymysgu (cardiau)

escarxofa
1
= carxofa

escàs
1
prin
2
(person) cynnil
3
(gwelededd) isel
4
(cyflenwad) diffygiol, annigonol
5
(arian, etc) prin
L’aigua és un bé escàs – no la malgastis
Mae dŵr yn adnodd prin – paid â’i wastraffu
6
(cynulleidfa) bach
7
(dogn) bach
8
dibwys
d’escassa consideració ysgafn, bychan, o fawr bwys
Els danys materials van ser d’escassa consideració Ni achoswyd fawr o ddifrod
9
anar escàs de diners bod yn brin o arian

escassejar
1
bod yn brin
2
cynilo, gorgynilo, tolo / tolio

escata
1
cennen (pysgodyn)
2
fflochen

escatar
1
digennu (pysgodyn)
2
crafu

escatimar
1
cynilo, tocio
sense escatimar despeses heb arbed unrhyw gost
2
rhoi o’ch anfodd

escatiment
1
darganfyddiad
2
tociad (Botaneg)

escatir
1
tocio
2
darganfod

escatologia
1
diwethafiaeth, eschatoleg; rhan o ddiwynyddiaeth yn ymwneud â diwedd y byd

escatalògic
1
diwethafiaethol

escaure
1
gweddu
escaure-li a algú gweddu i rywun
escaure-li malament a algú ddim yn gweddu i rywun
Aquella corbata t’escau Mae’r dei ‘na’n mynd yn dda i chi, yn gweddu i chi

Els de CiU això de la comèdia sempre us ha escaigut
Chi bobl plaid CiU, sioe gómedi ych chi wedi bod erióed
(“i chi bobl y blaid CiU mae cómedi erioed wedi gweddu”)

escaure’s
1
digwydd
Si s’escau Petái achos, Petái hynny’n digwydd

escena
1
golygfa
2
llwyfan (theatr)
posar (alguna cosa) en escena llwyfannu (rhywbeth)
3
golygfa (theatr)
4
golygféydd, set (theatr)

escenari
1
golygfa (theatr)
2
golygféydd, set (theatr)
3
lleoliad
4
sefyllfa

escenificar
1
(drama) perfformio

escenografia
1
senograffeg

escèptic
1
amheugar

escèptic
1
amheuwr, amheuwraig

escepticisme
1
ameugarwch

escissó
1
rhaniad
2
trychiad (meddygaeth)

esclafar
1
gwasgu, mathru
2
agor (wyau, cnau)
3
maeddu (gelyn)
4 difetha
Va esclafar un cotxe que m’havia robat Difethodd gar yr oedd wedi ei ddwyn oddi arnaf fi


esclafar-se
1
cael ei thorri/ei dorri
2
cael ei mathru/ei fathru
3
(mewn dadl) llorio (rhywun)

esclafir
1
torri yn glatsh
2
cracio
3
creinsio
4
esclafir a riure torri i chwerthin

esclafit
1
clatsh (sŵn)
2
crac (sŵn)
3
clec (gwn)

esclar
1
wrth gwrs (ar ddiwedd brawddeg)

esclarir
1
(gwallt) datrys, datblethu
2
datrys problem

esclarissat
1
(gwallt) wedi mynd yn denau
2
(brethyn) wedi treulio
3
(prysglwyn) tenau

esclat
1
ffrwydrad
2
(rhyfel) (gwrthryfel) cychwyn
3
(llosgfynydd) echdoriad
4
(taran) twrf
5
(ffenestr) (gwydr) toriad yn ddeilchion, toriad yn wydrach

esclatar
1
ffrwydro
2
torri allan
Va tenir la mala sort d’arribar a la capital anglesa pocs dies abans que esclatés la Segona Guerra Mundial
Yn anffodus cyrhaeddodd brifddinas Lloegr ychydig ddyddiau cyn i’r Ail Ryfel Byd dorri allan
3
esclatar a torri i
4
ymagor (blodyn)

esclau
1
caethwas, slaf
«La marca de l’esclau és parlar la llengua del seu senyor» (Tàcit).
Arwydd y caethwas yw siarad iaith ei feistr (Tegid)

esclavatge
1
caethwasanaeth

esclavitud
1
caethwasanaeth

esclavitzar
1
caethiwo

esclerosi
1
sglerosis

escleròtic
1
sglerotic

escletxa
1
hollt
2 hollt = man wan yn rhengoedd y gelyn
Ens cal ser intel·ligents i aprofitar qualsevol escletxa que se'ns presenti
Rhaid i ni fod yn beniog a manteisio ar unrhyw hollt sydd yn ymddangos i ni

esclop
1
clocsyn

escó
1
mainc
2
sedd (senedd)

escocès
1
Albanaidd, Sgotaidd
2
Gaeleg

escocès
1
Sgotyn, Albanwr
2
Gaeleg

escocesa
1
Albanes, Sgotes

Escòcia
1
yr Alban, Sgotland

escodrinyar
1
archwilio

escofir
1
(Rosselló): estar escofit = bod heb arian

escola
1
ysgol
2
ysgol (athrawiaeth)
3
fer escola bod i un ddilynwyr
4
fer escola bod i un ymwaredwyr
5
l’escola pública ysgolion gwladol, addysg wladol
en l’escöla pública yn yr ysgolion gwladol

escolà
1
myfyriwr, disgybl
Com l’escolà de Quart, sempre corrents, i sempre fa tard (Dywediad, Gwlad Falensia) “Fel y disgybl ym mhentre Quart, bob amser ar ffrwst a bob amser yn hwyr”

2
gwas yr allor
3
bachgen clyfer, dyn doeth
4
(pysgodyn) (Molva macrophthalma) honos Sbaen

Escola Pia
1
Escola Pia urdd grefyddol a sefydlwyd gab Josëp Calassans i roi addysg i fechgyn

escolàpi
1
(ansoddair) yn perthyn i’r Escöla Pia
2
(enw) disgybl mewn Escöla Pia

escolar (enw gwrywaidd)
1
bachgen ysgol, merch ysgol
2
escolars = disgyblion, plant ysgol

escolar (ansoddair)
1
ysgol (cymhwysair)
2
edat escolar oedran ysgol

escolar (berf)
1
gwacáu
2
(hylif) lllifo i ffwrdd

escolaritat
1
addysg
escolaritat obligotària addysg orfodol

escolarització
1
addysg
 

escolar-se
1
(cynhwysydd) colli, gollwng
2
(gwaed) gollwng
3
(person) mynd fel iâr i gori, sleifio i ffwrdd
4
(amser) mynd heibio (yn ddiarwybod i un)

escolàstic
1
sgolastigaidd
2
athrofaol

escollir
1
dewis (gwneud peth)
Hem escollit viure aquí Rym ni wedi dewis byw yma
2
dewis (person/peth)
M’han escollit!
Yr wyf wedi cael fy newis! Maen nhw wedi ‘y newis i!
3
escollir a l’atzar dewis ar hap
4
dewis (gwneud peth)

escolopendra
1
cantroed

escolta
1
gwrando
2
clustfeinio, clustfeiniad
3
geid

escolta
1
sgowt

escoltar
1
gwrando ar

escoltisme
1
sgowtio
La Federació Catalana d’Escoltisme i Guiatge Ffederasiwn Sgowtiaid a Geidiau Catalonia

escombra
1
ysgub, ysgubell

escombrar
1
ysgub
2
estar escombrat cael ei ddinistrio, cael ei ddiffeithio

escombraria
1
(ansoddair) sothach
programa escombraria rhaglen sothach

escombraries
1
ysbwriel
Prohibit buidar escombraries Dim sbwriel

escombraire
1
dyn sbwriel

escomesa
1
ymosodiad
2
cyrch
3
ymgymeriad

escometre
1
escometre (algú)
..a/ ymosod (ar rywun), cyrchu (at rywun)
..b/ mynd at rywun (i’w gyfarch, i siarad ag ef)
2 cychwyn
escometre una empresa cychwyn busnes

escopeta
1
gwn haels, dryll pelets
2
escopeta d’aire comprimit gwn awyr, dryll awyr
escopeta de caça dryll pelets hela, dryll hela
3
disparar-li un tret d’escopeta a algú saethu rhywun yn farw â gwn haels

escopidora
1
poerlestr

escopinada
1
poeryn

escopinya
1
cragen o’r rhywogaeth Venus; cragen fylchog, cragen Berffro

escopir
1
(berf heb wrthrych) poeri
No escupis a terra Paid â phoeri ar y llawr
escopir-li a la cara (d’algú) poeri yn wyneb (rhywun)
2
(berf â gwrthrych) poeri
escopir sang poeri gwaed
3
(berf â gwrthrych) (ffigurol) poeri
escupir insults gollwng enllibion
4
escopir-li a la cara d’algú
..1/ poeri i wyneb un
..2/ trin rhywun yn ddirmygus


escorball
1
hefyd: corball de roca (Corvina nigra) môr-frithyll du
Temps de cireres, temps d’escorballs. (Dywediad) Tymor ceirios, tymor môr-frithyllod duon

escorbut
1
y llwg, y clefri poeth, y sgyrfi

escorç
1
(celfyddyd) rhagfyriad

Escorca
1
trefgordd (Mallorca)

escorça
1
rhusgl
2
(ffigurol) golwg
3
(Y Ddaear) escorça terrestre crofen allanol

escorcoll
1
archwilio, archwiliad

escorcollar
1
archwilio = edrych ym mhocedi un
2
archwilio = holi ynglŷn â rhyw fater

escòria
1
sorod, slàg
2
(ffigurol) gwehilion

escorialles
1
sorod, slàg

escorpí
1
sgorpion
2
(astroleg) sgorpion

escorredor
1
(cwlwm) llac
2
bwrdd diferu

escorredora
1
hidl, gogr (gogor)

escorredís
1
llithrig, anodd i ddal gafael ynddo

escorreplats
1
rac platiau

escórrer
1
(platiau) traenio
2
(dillad) gwasgu (yn sych)
3
(dilledyn gwlân) dadwneud

escórrer-se
1
(platiau) traenio
2
(dilledyn gwlân) dadwneud
3
cael orgasm
Quan ahir vaig veure aquell diputat del PP parlant del dictador Franco m’ho va semblar que trempava i s’escorria
Ddoe pan welais i’r aelod seneddol PP yna yn siarad am yr unben Franco cefais yr argraff iddo gael codiad a chael orgasm

escorrialles
1
gwaddod
2
gweddillion
3
diferion

escorta
1
gosgordd

escortar
1
hebrwng

escorxador
1
(anifeiliad), blingwr
2
rhusglwr
3
lladd-dy

escorxadora
1
(anifeiliad), blingwraig
2
rhusglwraig

escorxar
1
(anifeiliad), blingo
2
rhusglo

escorxar el gat
1
(“blingo’r gath”) ar ôl meddwi, cysgu i gael gwared o ben mawr, cysgu i gael sobri / bwrw’ch meddwdod

escot
1
(gwisg) gwddf isel

escota
1
(môr) llen

escotat
1
(gwisg) gwddf isel

escotilla
1
(môr) hatsh

escotilló
1
(môr) hatsh pen ôl llong
2
drws llawr (theatr)

escreix
1
llawnder
2
gormodedd
3
amb escreix
yn helaeth

escriba
1
clerc, ysgrifydd

escridassada
1
gweiddi, hwtian

escridassar
1
gweiddi bw ar
2
sgrechian ar

escriptor
1
llenor (o ddyn), awdur (o ddyn)

escriptora
1
llenor (o wraig), awdur (o wraig), awdures

escriptori
1
desg
2
swyddfa
 
escriptura
1
ysgrifen
2
ysgrifennu = gweithred
3
escriptura cursiva
4
escriptura fonètica
5
llawysgrifen
6
(la) Sagrada Escriptura yr Ysgrythur Lân
7
gweithred (cyfraith)
8
escriptura de propietat gweithred eiddo
9
escriptura de traspàs trawsgludiad , trosglwyddiad

escripturar
1
(Y Gyfraith) llunio (dogfen)
2 escripturar (alguna cosa) cofnodi (rhywbeth), rhoi (rhywbeth) ar ddu a gwyn
El 12 de març de 1992 va ser escripturat l’augment de capital de la Societat
fins a deu millions de pessetes
Ar y deuddegfed o fis Mawrth 1992 cafodd cynnydd cyfalaf y cwmni hyd at ddeng miliwn o besetas ei gofnodi
 
escrit
1
ysgrifenedig

escrit
1
ysgrifen
2
dogfen
3
llythyr
4
per escrit mewn ysgrifen
5
acord per escrit cytundeb ysgrifenedig
6
escrits gweithiau = gwaith llenyddol

escriure
1
ysgrifennu
2
ysgrifennu = sillafu
3
llenora
4
escriure a màquina teipio
5
escriure a ma ysgrifennu â llaw
6
escriure’s amb ysgrifennu â (llythyren) (wrth sillafu)
Com s’escriu? Sut mae ei ysgrifennu? Sut mae ei sillafu?
S’escriu amb b baixa Fe’i sillefir â “b”

escrivà
1
clerc llys
2
sgrifellwr
3
Escrivà = cyfenw (ceir hefyd y camsillafiad Escribà)

escrivania
1
notari
2
notariaeth = swydd notari
2
llestr inc

escrivent
1
copïwr, ysgrifell
2
clerc

escròfula
1
(Meddygaeth) sgroffwla, manwynau, clefyd y brenin

escrostonar
1
naddu = torri ac offeryn miniog fel cyn

escrostonar-se
1
cael ei naddu
2
fflochi, dod yn rhydd ar ffurf ewinedd (paent)

escrot
1
ceillgwd, sgrotwm

escrú
1
caled

escruixidor
1
syfrdannol

escruixir
1
ysgwyd
2
torri
3
rhwygo

escruixir-se
1
cael eich ysgwyd
2
crynu (de = o)

escrúpol
1
sgrwpl = pwys ugain gronyn
2
gronyn, mymryn, rhan fach iawn
3
degwyddor, cydwybod, petruster (= petruster moesol)

no tenir cap escrupol bod yn ddiegwyddor, bod yn anegwyddorol, bod yn ddigydwybod
Aquesta gent no tenen cap escrupol i ja és hora que es retirin i jubilin
Rhai diegwyddor yw’r bobl hyn, ac mae’n hen bryd iddynt adael eu swyddi ac ymddeol
4
falta d’escrúpols diffyg egwyddor, diffyg cydwybod
5
no fer-li escrúpol de gwneud peth yn ddibetrus

escrupolós
1
gochelgar
2
manwl

escrutador
1
treiddiol

escrutador
1
swyddog etholiad

escrutar
1
archwilio
2
escrutar vots cyfrif pleidleisiau

escrutini
1
archwiliad
2
cyfrif (pleidleisiau)
3
fer l’escrutini cyfrif y pleidleisiau

escuar
1
torri cynffon

escudella
1
powlen, basn
2
stiw

escudeller
1
crochennydd; gwerthwr crochenwaith (powliau, platiau, cwpanau, etc)
Carrer dels Ecudellers Heol y Crochenwyr (heol yng nghanol Barcelona)

escuder
1
yswain = un sydd yn cario tarian marchog
2
gwesyn
3
cyfenw: Escuder (hefyd y camsillafiad Escudé]

escull
1
rîff, carreg yn y môr
2
magl, perygl cudd (ffigurol)

escullar-se
1
(llong) taro ar lawr

escullera
1
morwal, torglawdd

esculpir
1
cerflunio
2
ysgythru

escultor
1
cerflunydd

escultura
1
cerflun
2
escultura sobre fusta cerflun pren

escuma
1
ewyn
2
ewyn (cwrw)
3
ewyn (sebon)
4
escuma de la societat gwehilion y gymdeithas
5
escuma de mar morewyn (= defnydd cleiog gwyn)

escumadora
1
sgimer

escumar
1
sgimio, tynnu’r ewyn
2
potsio (wy)

escumejar
1
ewynnu

escumós
1
ewynnog
2
vi escumós gwin byrlymog

escurabutxaques
1
pigwr pocedi
2
màquina escurabutxaques peiriant unfraich

escuradents
1
pic dannedd, deintbig = erfyn bychan at ryddháu gweddillion bwyd
rhwng y dannedd

escuralles
1
sgwrion

escurapeus
1
crafell esgidiau

escurar
1
sgwrio, rhwbio nes bod yn lân (sosban)
2
golchi (ffigurol) (iaith sathredig) = glanháu nes bod dim ar ôl
3
carthu (sianel)
4
glanháu (shimnai)
5
gwacáu (potel)
6
dihysbyddu

escurar-se
1
glanháu â deintbig (dannedd)
2
glanháu (ewinedd)
3
carthu (llwnc)

escurat
1
wedi ei garthu/ei charthu
2
estar escurat
bod heb yr un senten goch
bod heb yr un ddimai goch y delyn
bod heb gragen i ymgrafu
bod heb yr un ffado
bod heb yr un ffaden beni

La Generalitat escurada
(pennawd yn El Punt 2004-01-10)
Y Gyffredinfa (Senedd Catalonia) heb gragen i ymgrafu (ar ôl gorwario)

escuraungles
1
glanheuwr ewinedd

escura-xemeneies
1
swîp, glanheuwr shimneiau

escurçar
1
byrháu
2
crebachu, lleiháu

escurçó
1
gwiber
2
adyn (ffigurol) = person drwg
3
llengua d’escorçó tafod gwenwynog

escut
1
tarian
2
ysgwyd arfau
3
escwdo (= arian Pórtiwgal cyn mabwysiadu’r iwro 1 Ionawr 2002)
4
escut d’armes arfbais, pais arfau
5
nawdd, lloches (ffigurol)

esdentegat
1
diddannedd

esdernegar
1
torri yn ddeilchion

esdevenidor
1
dyfodol


esdevenidor
1
dyfodol
l’esdevenidor de la nostra nació dyfodol ein cenedl (Avui 2004-01-26)
en l’esdevenidor
yn y dyfodol
L´actual desídia dels catalanoparlants, la manca d´arrelament de tanta gent castellanoparlant i la massiva nova immigració poden formar un còctel letal per a l´esdevenidor de la llengua (Vilaweb Fòrum 2005-03-21)
Fe allai difaterwch y siaradwyr Cataloneg ar hyn o bryd, diffyg gwreiddiad cymaint o bobl sydd yn siarad Castileg, a’r mewnlifiad newydd enfawr ffurfio coctel marwol i ddyfodol yr iaith
2
gobaith, disgwyliad
 

esdeveniment
1
digwyddiad

esdevenir
1
dod yn..., mynd yn...
2
cyrraedd yn ddirybudd (mewn lle)
3
digwydd

esdrúixol
1
rhagobennol

esfera
1
sffêr
2
maes (ffigurol)
3
glob
4
wyneb (cloc)
5
dosbarth = haen mewn cymdeithas
6
esfera d’acció amrediad, sgôp
7
amb forma d’esfera ar lun sffêr

esfereir
1
hala ofn ar, arswydo

esfereir-se
1
ofn yn dod ar un, arswydo

esfèric
1
sfferig

esfetgegar-se
1
blino yn lân

esfilagarsar
1
tynnu edau o

esfilagarsar-se
1
rhaflo, treulio

esfínter
1
sffincter

esfinx
1
sffincs

esfondrar
1
suddo
2
dymchwel, tynnu i lawr

esfondrar-se
1
cwympo i lawr

esforç
1
ymdrech
haver de fer esforços per caminar ei chael hi’n anodd i gerdded (“bod rheidrwydd iddo wneud ymdrechion i gerdded”)
2
ysbryd, nerth
3
yn ddi-ymdrech
 

esforçar
1
atgyfnerthu

esforçar-se
1
ymdrechu
2
ymrói i
3
esforçar-se més ceisio gwneud yn well

esforçat
1
cryf

esfullar
1
tynnu dail, tynnu petalau

esfullar-se
1
colli dail, bwrw dail

esfumar
1
meddalu

esfumar-se
1
diflannu
Cada dia que passa les possibilitats de guanyar les properes eleccions per CiU augmenten, mentre que les dels socialistes sesfumen
Ddydd ar ôl dydd mae mwy a mwy o bosibiliadau i CiU ennill yr etholiadau nesaf, tra bod rhai’r Sosialwyr yn diflannu

esgargamellar-se
1
gwaeddu nes bod yn gryg

esgarip
1
ysgrech
sentir l’esgarip creixent d’una frenada
clwyed gwichian cynyddol rhyw frêcs (“breciad”)
fer un esgarip rhoi sgrech

El gos blanc va fer un esgarip Fe roes y ci gwyn sgrech
2 ysgrech (sŵn aderyn)
L’òliba va fer un esgarip de por Rhoes y dylluan sgrech o ofn
3 sŵn sialc ar fwrdd du sy’n cod dincod ar ddannedd rhywun
l’esgarip horripilant del guix del profe rascant la pissarra
gwichian / crafu / sgriffian ofnadwy’r sialc yr athro ar hyd wyneb y bwrdd du (“yn crafu y bwrdd du”)


esgarrapada
1
crafiad
esgarrapada
de gat crafiad cath
Ja sabeu quin mal que fa, una esgarrapada de gat!
Rych chi’n gwybod pa mor ddolurus y mae crafiad cath

2
amb esgarrapada yn gyflym iawn
He sopat amb esgarrapada Rw i wedi cael swper ar frys

esgarrapar
1
crafu
Aquest tremp esgarrapa el paper Mae’r nìb hwn yn crafu’r papur
Els esbarzers arrencaven la meva roba i esgarrapaven els meus braços
Roedd y mieri yn cydio yn fy nillad ac yn crafu fy mreichiau

2
(iâr) crafu

3
crafu (arian) (mewn ffordd anghyfreithlon)
4 (gitâr) canu a gwneud amherseinedd
5 dwyn
El PP mira d’esgarrapar l’espai electoral de CiU
Mae’r blaid PP yn bwriadu dwyn pleidleiswyr oddi ar CiU (“dwyn y lle etholiadol”)

esgarriacries
1
difethwr hwyl

esgarriar
1
camarwain

esgarriar-se
1
colli ffordd, mynd ar goll
2
mynd ar gyfeiliorn


esgarriat
1
colledig, coll, sydd wedi mynd ar goll
ovella esgarriada dafad golledig

esgarrifança
1
cryniad
2
causar-li esgarrifances (a algú) hala cryndod (ar rywun)

esgarrifar
1
hala ofn ar, gyrru ofn ar, brawychu
2
brawychu [syniad]

esgarrifar-se
1
arswydo
Us esgarrifaríeu si veiéssiu els edificis d’aquell carrer
Fe fyddech yn arswydo petáech yn gweld [cyflwr] yr adeiladau yn y stryd honno
2
crynu

esgarrifor
1
braw, ofn

esgarrifós
1
echrydus

esgarrinxada
1
crafiad

esgarrinxar
1
crafu

esgarrinxar-se
1
cael ei grafu/ei chrafu

esglai
1
braw, dychryn
2
cael braw

esglaiar
1
brawychu, gyrru braw ar

esglaiar-se
1
brawychu = bod ag ofn

esglaó
1
gris = math o shilff neu garreg i roi’r troed arni wrth esgyn
2
troedle = wyneb llorweddol gris
3
gris = gradd esgyniad (mewn gyrfa), gradd dyrchafiad
TARDDIAD: [graó = gris, o dan ddylanwad escaló = gris]

església
1
eglwys
rellotge desglésia cloc eglwys
2
església triomfant eglwys orfoddelus = y meirw yn y Nefoedd, aelodau o’r eglwys nefol (yr eglwys sydd yn fuddugolaethus yn y Nefoedd)
3
casar-se per l’església priodi mewn eglwys (cf casar-se pel civil priodi mewn swyddfa gofrestru)
4
anar a l’església mynd i’r eglwys
5
església anglicana eglwys Anglicanaidd
6
església catòlica eglwys Gatholig

esglesiola
1
esglesiola annexa = capel anwes

esgotament
1
dihysbyddiad
2
lludded, gorlludded

esgotar
1
dihysbyddu
2
gwacáu
3
traenio
4
blino

esgotar-se
1
cael ei ddihysbyddu/ei dihysbyddu
2
cael ei wacáu/ei gwacáu
3
cael ei draenio/ei thraenio
4
blino
5 (tocyn aml-daith) darfod, dod i derfyn, diweddu, terfynu, goffen, dod i ben
Títol esgotat Mae’r tocyn wedi darfod

esgrafiar
1
ysgriennu graffiti ar

esgranar
1
dyrnu (yd)
2
casglu (grwanwin)
3
sbinio (pys)

esgrima
1
ffensio = chwarae ymladd â chlefyddau

esgrimador
1
ffensiwr, ffenswraig = un sy’n chwarae ymladd â chlefyddau

esgrimir
1
ysgwyd, chwifio (cleddyf)
2
chwarae ymladd â chleddyfau
3
defnyddio (dadl, ymresymiad)
Estic en total desacord amb l’argument esgrimit per Esquerra Republicana de Catalunya per justificar el pacte que han fet amb el PSC-PSOE i amb ICV-EuiA
Nid wyf yn cytuno o gwbl â’r ddadl a ddefnyddiwyd gan blaid Esquerra Republicana de Catalunya i gyfiawnháu’r cytundeb a wnaethpwyd ganddynt â’r pleidiau PSC-PSOE ac ICV-EUiA
L’argument esgrimit amb més frequència és que...
Y ddadl a ddefnyddir ran amlaf yw fod...

esgrogueïment
1
melynder, gwelwder


esgroguir-se
1
gwelwi, mynd yn welw


esguard
1
golwg
2
ystyriaeth

esguardar
1
edrych ar
2
ystyried

esguerrar
1
efryddu, anffurfio, llurgunio, anharddu
2
andwyo, gwastraffu
Sant Vicenç mullat, tot el vi esguerrat Os bwrwiff law ddydd Sant Finsent, caiff y grawnwin eu handwyo (“(dydd) Sant Finsent gwlyb, y gwin i gyd wedi ei andwyo”)
esguerrar-li la festa a algú difetha ar hwyl rhywun, torri ar hwyl rhywun
3 cawlio, bwnglera, poitsio, potsiach
El que el metge esgerra, ho tapa la terra (“yr hyn y mae’r meddyg yn ei fwnglera, mae’r ddaear yn ei orchuddio”) Os gwnâ meddyg gamgymeriad wrth drin claf ac y mae hwnnw’n marw, mae’n anodd profi taw bai’r meddyg yw’r farwolaeth.

esguerrat
1
wedi ei andwyo/ei handwyo
2
wedi ei anffurfio/ei hanffurfio
3
methedig

esguerrat
1
crupl, un methedig (gwraig: esguerrada)

esguerro
1
gwastraff
2
methiant

és hora de
1
mae’n bryd

Eslida
1
trefgordd (la Plana Baixa)

eslip
1
trôns (Gal·les del Nord), drafers (Gal·les del Sud)

esllanguir-se
1
teneuo, mynd yn denau

esllanguit
1
tenau

esllavissament
1
tirlithriad

esllavissar-se
1
soddi (tir)
2
llithrio (tir)

es lloga pis
1
fflat ar osod

eslògan
1
slogan

eslora
1
hyd

eslovac
ansoddair
1
Slofacaidd
2
Slofaceg (iaith)

eslovac
1
Slofaciad

eslovaca
1
Slofaces

Eslovàquia
1
Slofacia

eslovè
1
Slofenaidd
2
Slofeneg (iaith)

eslovè
1 Slofeniad
eslovena Slofenes
 
Slofeneg
(eb)
1
Slofeneg (iaith)

eslovena

1
Slofenes

Eslovènia
1
Slofenia

esma
1
rheddf
2 synnwyr, rhwswm
perdre l’esma colli synnwyr cyfeiriad
2
meistrolaeth, sgìl, gallu
3 arfer
4
egni
no tenir esma de fer res ni + bod gennych awydd (i wneud rhywbeth)

esmalt
1
enamel

esmaltar
1
enamlio
2
addurno yn lliwgar

esmaperdut
1
ar ddisberod
votants esmaperduts pleidleiswyr ar ddisberod (= heb wybod ar gyfer pa ymgeisydd y byddant yn bwrw eu pleidlais)

esmena
1
cywiriad
2
gwelliant (y Gyfraith)
3
repariad, trwsiad

esmenar
1
cywiro (camgymeriad)
2
gwelliannu??
3
reparo, trin
4
adolygu = (peth ysgrifenedig, argraffedig) cywiro, diwygio)
5
diwygio = newid er gwell /y gyfraith/
6
archwilio = (tribiwnlys) ystyried dyfarniad llys isradd

esmenar-se
1
troi dalen newydd
2
esmenar-se d’un vici rhoi’r gorau i ryw wyd, i ryw fai, i ryw ddrygfoes

esment
1
gwybodaeth
2
gofal
3
sôn
4
fer esment de sôn am, cyfeirio at

esmentar
1
sôn am, cyfeirio at

esmentat
1
dan sylw

esmerçar
1
buddsoddi
2
gwario

esmolador
1
esmolador de dalla stric

esmicolar
1
torri yn ddeilchion

esmolar
1
hogi, moli, rhoi awch ar, rhoi min ar, llifo
2
(ffigurol) hogi, moli, rhoi awch ar, rhoi min ar
2
stricio
esmolar la dalla amb esmolador
stricio’r bladur (“hogi’r bladur â hogfaen”)

esmolat
1
wedi ei hogi, miniog
2
lledlwm, bratiog, carpiog (dillad)

esmolet
1
hogwr cyllyll
2
un effro, un siarp

esmorteir
1
lleddfu, marweiddio
2
meddalu
3
mygydu

esmorzar
1
cael brecwast
2
brecwast

esmunyir
1
llithro (peth trwy)

esmunyir-se
1
llithro, sleifio, ymlusgo
Va veure com la vida s’esmunyia del cos de l’animal
Fe welodd fel oedd bywyd yn llithro o gorff yr anifail
S’esmunyia el gat per sota la cadira
Yr oedd y gath yn sleifio o dan y gadair
El peix tenia la pell tan llefiscosa que se m’esmunyia entre els dits.
Yr oedd croen y pysgodyn mor slic (“roedd y pysgodyn yn meddu ar y croen mor lithrog”) fel y llithrodd rhwng fy mysedd
Va veure una serp que s’esmunyia rere un ametller
Gwelodd sarff oedd yn ymlusgo tu ôl i goed almwn
2
gwasgu ei hun (trwy rywbeth)


esmussar
1
pylu, gwneud yn bwl
2
pylu, gwneud yn bwl (ffigurol)

esnifar
1
ffroenu

esnob
1
snòb

esòfag
1
sefnig, llwnc, oesoffagws (Anatomeg)

Esop
1
Aesop

esotèric
1
esoterig



 

Adolygiad diweddaraf - darrera actualització 15 05 2002  :: 2003-10-28 :: 2004-01-13 :: 2005-02-07  :: 2005-03-09

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA"
(= Gal·les-Catalunya)
Weørr am ai? Yuu ørr vízïting ø peij frøm dhø "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
 
CYMRU-CATALONIA

DIWEDD / FI