http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_vortaroy/geiriadur_catalaneg_cymraeg_LLOP_cu_1111k.htm


0001z Tudalen Blaen / Pàgina principal

..........1863k Y Porth Cymraeg / La porta en gal·lès

....................0009k Y Gwegynllun / Mapa de la web

..............................1798k Geiriaduron / Diccionaris

........................................1794k Geiriaduron ar gyfer siaradwyr Cymraeg / Diccionaris per als gal·lesoparlants

..................................................0379k Mynegai i’r Geiriadur Catalaneg / Índex del diccionari català

............................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Geiriadur Cataloneg-Cymráeg
(ar gyfer siaradwyr Cymráeg)

Diccionari català-gal
·lès
(per gal
·lesoparlants)

 

CU - CUTIS

 

 

Adolygiad diweddaraf
Darrera actualització

2005-02-06 :: 2005-03-27 : 2005-05-09
 

 

  
····· 

·····

cu
LLUOSOG cus
1
ciw = enw’r llythyren Q

cua
LLUOSOG cues
1
cwt, cynffon = estyniad asgwrn y cefn
2
cwt, cynffon, ciw = llinell o bobl
posar-se a cua mynd i’r gynffon
a la cua
yn y gwt; ar y gwaleod (mewn rheng)
3
cynffon wallt
4
godre gwisg, cwt gwisg, cyffon gwisg
5
mirar de cua d’ull edrych o gil y llygad
6
amb la cua entre cames â’ch cwt rhwng eich coesau
7
deixar cua bod iddi ganlyniadau

8
girar cua ei throi hi, mynd ymáith
9 la cua de fum d’un avió llwybr anwedd awyren

cuablanc
1
gwyn eich cynffon
oreneta cuablanca gwennol y fargod

cuada
1
symudiad cynffon

cuallarg
1
hir eich cynffon

cua-roja
1
coch eich cynffon

cuat
1
â chynffon
2
hir eich cynffon

cub
1
ciwb

Cuba
1
Ciwba, Cwba

cubà enw
FFURFIAU LLUOSOG A BENYWAIDD cubans; cubana,cubanes
1
Ciwbiad, Cwbiad, Ciwbes, Cwbes

cubà ansoddair
FFURFIAU LLUOSOG A BENYWAIDD cubans; cubana, cubanes
1
Ciwbaidd, Cwbaidd

cubata enw
FFURF LUOSOG cubates
1
rym a chôc
Beu cubates al cap de setmana Mae e’n yfed rym a chôc ar y penwythnos


cubell
1
bìn
2
cubell de les escombraries bìn ‘sbwriel

Cubelles
1
trefgordd (el Garraf)

Cubells
1
trefgordd (la Noguera)

cubeta
1
bwlb thermomedr

cúbic
1
ciwbig

cubicar
1
(mathemateg) ciwbio
2
(moduro) (wrth sôn am faint y modur)
Aquest model cubica 1.500cc Mae ganddo fodur 1,500 séntimedr ciwbig

cubisme
1
(celf) ciwbaeth

cubista

1
ciwbydd
2
ansoddair ciwbyddol

cúbit
1
wlna

cubital
1
Anatomeg elinol

cuboide
1
ciwboid

cuc
LLUOSOG cucs
1
llyngyren
2
matar el cuc cael tamaid i aros pryd ("lladd y llyngyren")
3
cuc solitari llyngyren ruban ("llyngyren unigol")
4
cuc de seda pryf sidan
5
cuc intestinal llyngyren
6
cuc de terra mwydyn
7
tenir cucs bod wedi dychryn ar eich hyd, bod arnoch ofn trwy eich tin, bod gennych lond bola o ofn, bod gennych lawn croen o ofn ("bod gennych lyngyr")

cuca
LLUOSOG cuques
1
abwydyn
2
chwilen
2
morta la cuca, mort el verí ("marw’r llyngyren, marw’r gwenwyn") (wrth sôn am gael gwared o wreiddyn y drwg, cael gwared o’r hyn sydd yn achosi’r problemau i roi pen arnynt)

cuca de llum
1
magïen

cucala
1
brân

cucanya
LLUOSOG cucanyes
1
polyn seimllyd

cucat
1
llawn llyngyr

cucavela
1
tin-dros-ben; tros-ben

cucleig
1
crawc

cucós
1
llawn llyngyr

cucurell
1
top; (pen) corun

cucurull
1
côn
2
cwcwll pigfain

cucurulla
1
cwcwll pigfain

cucurutxo
1
cornet

cucut
1
cog, cwcw

cuejar
1
ysgwyd cynffon

cuell
1
calaf

cuer
1
olaf

cuera
1
(ceffyl) tindres, crwper

cuereta
1
sigl-i-gwt, siglen
cuereta groga siglen felen
cuereta torrentera siglen lwyd

cueta
1
sigl-i-gwt, siglen

cuetó
1
siglen felen

cuguç
1
cwcwallt
2 (sarhâd) cuguç! yr hen ddiawl iti! y cythraul iti! yr uffen iti! yr hen elach iti!
Si IB3 es fés només en català, el 80% de la televisió que es veu a les illes seria en castellà. Ara, si es fa en "bilingüe", el 90% serà en castellà. És aquest el bilingüisme que vols tu, eh? cuguç!
Os gwneir IB3 (teledu’r Ynysoedd Baelarig) yn uniaith Gatalaneg, pedwar ugain y cant o’r rhaglenni a welir yn yr ynysoedd fydd yn Gastileg. Ond os y’u gwneir yn ddwyieithog, yna deg a phedwar ugain y cant fydd yn Gastileg. Ai hwn yw’r dwyieithrwydd yr wyt ti’n ei ymofyn, y cythraul iti?

cugúcia
1
godineb
2
(Hanes) dirwy i’w thalu i’r arglwydd ffiwdal gan wraig odinebus

cugul
1
calon winwnsyn

cugula
1
ceirch gwylltion

cuïc
1
mosgito

cuidar
1
bod ar fin (gwbneud rhywbeth)
2
gofalu am

cuidat
1
trefnus

cuina
LLUOSOG cuines
1
cegin
2
cwcer
3
coginio, cogyddiaeth
4
cuina catalana coginio Catalanaidd
5
fer la cuina coginio
6
bateria de cuina sosbenni a phadelli

cuinar
1
coginio

cuinat
1
stiw
fer-li un molt bo cuinat (a algú) gwneud pryd da iawn (ar gyfer rhywun)
2
fer-li un mal cuinat (a algú) gwneud tro gwael â

cuiner
FFURFIAU LLUOSOG A BENYWAIDD cuiners; cuinera, cuineres
1
coginydd, cwc
 
cuir
[també: cuiro]
1
lledr
2
cuir cabellut croen y pen

cuirassa
1
arfwisg

cuirassar
1
llurigog

cuirassat
1
arfogedig, arfog, arfwisgedig
Les víctimes mortals pertanyien a la primera divisió cuirassada
Roedd y rhai a fu farw yn perthyn i’r adran arfogedig gyntaf

cuireter
1
crwynwr, fyrriwr

cuiro
vegeu cuir

cuit

1
wedi ei bobi/ei phobi
2
(ffigurol) wedi diflasu, wedi blino

cuit
1
mig (chwarae mig)

cuita
1
pobi, coginio
2
hast, cyflymdra, sbid
a cuita-corrents nerth eich coesau, ar sbid

cuitar
1
brysio, prysuro, hasto
cuita! brysiwch
cuitar el pas mynd yn gyflymach

cuitós
1
cyflym

cuixa
LLUOSOG cuixes
1
morddwyd
dret de cuixa droit de seigneur, hawl yr arglwydd
2
coes (hwyaden, iâr, mochyn)

cuixal
1
coes trwser

cuixera
1
gobennydd

cuixot
1
coes trwser
2
(ham) coesgen

cul
LLUOSOG culs
1
tin, pen ôl
culet (ffurf fachigol) tin, pen ôl
caure de cul disgyn ar eich tin
2 twll tin
3 gwaelod cynhwysydd
el cul del got gwaelod y gwydryn
el cul d’una ampolla gwaelod y potel
el cul d’un cove gwaelod basged
el cul d’un cossi gwaelod twbyn golchi
el cul del sac
gwaelod y sach
 
4
ser cul i merda bod yn wastad gyda ei gilydd ("bod yn din a chachu")

5
el cul d’en Jaumet un aflonydd, un na all bod yn llonydd (“tin Siemsyn”)

rhan o’r dywediad “el cul d’en Jaumet, que no sap seure ni estar dret” (“tin Siemsyn, sydd ddim yn gwybod sut mae eistedd na sefyll”)

semblar el cul d’en Jaumet bod yn aflonydd iawn, bod yn winglyd iawn (“ymddangos fel tin Siemsyn”)

ser el cul d’en Jaumet (“bod yn din Siemsyn”)

De fet, sóc el cul den Jaumet, em bellugo contínuament
Mewn gwirionydd un aflonydd wyf fi, rw i’n symud o hyd ac o hyd

ser com el cul d’en Jaumet (“bod fel tin Siemsyn”)

És com el cul d’en Jaumet, no pot estar ni assegut, ni dret.
(“Mae fel tin Siemsyn, all e ddim bod ar ei eistedd, nac ar ei sefyll”)

És com el cul d’en Jaumet, que no pot estar ni quiet ni dret .
(“Mae fel tin Siemsyn, am na all e ddim bod ni yn llonydd, nac ar ei sefyll”)

M’agrada molt l’esport i des de petita, he estat sempre com el ‘cul d’en Jaumet’
Rw i’n hoffi sbort a er pan oeddwn yn fach rw i wedi bod yn un aflonydd
 
6
tenir-ne el cul pelat bod yn hen law, bod gan un gryn brofiad ("bod gennych din wedi ei ddigroeni")
el cul pelat d’escriure i dirigir revistes de barri Mae ganddo gryn brofiad o ysgrifennu papurau bro ac ysgrifennu ar eu cyfer
7
quedar amb el cul enlaire cael ei ddal yn din-noeth, cael eich dal ar y gamfa, cael eich dal yn troi clos
8
ensenyar el culet dangos eich tin; tynnu’ch trowser / codi’ch gwisg, ayyb i ddangos eich tin
9 prendre per cul cael eich sodomeiddio (“cymeryd trwy’r din / trwy’r pen ôl”)
Vés a prendre pel cul! Cer i grafu (Cer i gael eich sodomeiddio. “cer â chymryd trwy’r din”)

donar-li pel cul (a algú) sodomeiddio (rhywun) (“rhoi trwy’r din / trwy’r pen ôl”); trin (rhywun) yn wael, sathru (rhywun)
Que et donin pel cul! Cer i grafu (Gad iddyn dy sodomeiddio, “bydded iddynt roi i ti trwy’r din”)

De bondat ens en sobra, prou que ens donguin pel cul
Rhai hynaws iawn y^n ni / y mae mwy na digon o hynawsedd gennym, dyna ddigon o’n sathru ni (“digon y maent yn ei roi i ni trwy’r din”)

En un altre moment de l’interrogatori un dels policies em va començar a descordar els pantalons i em va amenaçar
de "donar-me pel cul"

Dro arall yn ystod yr holiad dechreuodd un o’r heddlu agor fy nhrywsus a bygwth fy sodomeiddio

10 fer pam pam al cul rhoi chwip din (“gwneud bang bang i’r din / ar y din”)
Si no fas bondat et poden fer pam pam al cul
Os nad wyt ti’n ymddwyn fe allan nhw roi chwip din i ti
Li he de fer pam pam al cul al Pere.
Rhaid i mi roi chwip din i Pedr
Els hi hauriem de fer pam pam al culet!
Fe ddylen ni roi chwip din iddyn nhw!
11 (fel gair anweddus)
El nen ja sap dir caca, cul i moc (“Bellach mae’r plentyn yn gwybod dweud cachu, tin a baw trwyn”)
(Ymadrodd a ddywedir wrth i
rywun sarháu neu ddifenwi gwrthwynebwr mewn dadl â geiriau brwnt, yn lle rhesymu)

12 el cul de món twll o le, lle anghysbell, lle diarffordd, lle di-nôd ("tin y byd")

ser el cul del món bod yng nghanol unlle

Madrid és el cul de món Yng nghanol unlle mae Madrid

Amb la independència Catalunya passarà de ser el cul del món a ser part d’Europa
Ag annibyniaeth bydd Catalonia yn peidio â bod yn lle di-nôd a daw yn rhan o Ewrop

Som el cul del món, perduts entre les muntanyes!
Ryn ni nghanol unlle, ar goll ymysg y mynyddoedd!

No em dona la gana de morir en aquest cul de món sol
Ni wyf am farw ar fy mhen fy hun yn y twll o le ‘ma
13 anar de cul bod gan un ar y mwyaf o waith
14 tocar-li el cul (a algú) rhoi chwip din (i rywun) (“cyffwrdd â thin rhywun”)
15 perdre el cul
(per algú) / (per alguna cosa) / (per fer alguna cosa) mopio’ch pen (ar rywbeth) (ar rywun) (ar wneud rhywbeth) (“colli’r din i rywbeth”)

no perdre el cul (per fer alguna cosa) bod yn lled ddifater ynglyn â (gwneud rhywbeth)
M’agrada anar al Nou Camp, però no perdo el cul per veure un partit a la tele
Rw i’n hoffi mynd i Stadiwm y Nou Camp, ond rw i’n lled ddifater ynglyn â gweld gêm ar y teledu

Cula
1
trefgordd (l’Alt Maestrat)

culada
1
chwip din

culata
1
(gwn, dryll) bôn
sortir el tret per la culata ôl-danio, tanio’n ôl
sortir-li el tret per la culata cael y gwaeth ohoni (“y saethiad yn dod maas iddo trwy’r bôn)
El tret li ha sortit per la culata Mae e wedi cael y gwaeth ohoni, Mae’r cynllun wedi mynd o chwith arno
El tret li sortirà per la culata Bydd y cynllun yn mynd o chwith arno
El pit de la cantant va ser visionat per la tele en directe per tot el món.
Desafortunadament per ella, el tret li va sortir per la culata, es va organitzar una campanya puritana en contra d'ella que va aturar les vendes del disc.
Cafodd bron y gantores ei gweld yn fyw ar y teledu dros y byd. Gwaetha’r modd fe aeth y cynllun o chwith arni. Cafodd ymgyrch piwritanaidd ei drefnu yn ei herbyn a ataliodd werthiant y disg.
2
(car) pen silindr
3
pen ôl, crwper
tall de la culata stecen ffolen, stecen grwper


culatada
1
curfa â bôn reiffl
2
(reiffl, etc) adlam, gwrthnaid

culatxo
1
cewyn, clwtyn

cul-blanc
1
(ansoddair) gwyn eich pen-ôl

(enw gwrywaidd)
2
gwennol y bondo
3
cul-blanc de ribera gwennol y glennydd

cul-de-sac
LLUOSOG culs de sac
1
ffordd ddall

culejar
1
wiglo’ch pen-ôl

culer
1
cefnogwr Clwb Pêl-droed Barcelona
Els pericos tenim més implantat l'ús social de català que els culers
Mae defnydd y Gatalaneg yn fwy cadarn gennym ni y “pericos” (cefnogwyr tîm pêl-droed “Espanyol”) na’r “culers” (cefnogwyr tîm pêl-droed Barcelona)


culinari
LLUOSOG culinaria
1
ceginol

culler
1
lletwad

cullera
LLUOSOG culleres
1
llwy

Cullera

1
trefgordd (la Ribera Baixa)

cullerada

1
llwyaid
posar-hi cullerada
ymyrryd ("dodi yno lwyaid")
ficar-hi cullerada ymyrryd ("dodi yno lwyaid")
Disculpa’m per posar-hi cullerada Maddau i mi am ymyrryd (yn y sgwrs)

cullerer

1
saer llwyau
2 drôr llwyau

cullereta
LLUOSOG culleretes
1
llwy de
2
penbwl

cullerot
1
llwy fwrdd
2
llwy weini
3 (Gwlad Falensia) penbwl

culminació
1
anterth, diwedd

culminant
1
uchaf
2
neilltuol, arbennig

culminar
1
cyrraedd ei anterth, diweddu

culot
1
tin mawr
2
culots "culottes", trywsus bach merch

culpa
LLUOSOG culpes
1
bai
2
donar-li (a algú) la culpa (d’alguna cosa) rhoi’r bai ar (am rywbeth)
Serà divertidissim veure com li donen la culpa a en Jordi
Fe fydd yn ddigri iawn gweld sut y byddan nhw’n beio Jordi [amdano]
3
per culpa de oherwydd
4
ser culpa (d’algú) bod + y bai ar (rywun)
La culpa no és de ningú Does dim bai ar neb
ser culpa seva
bod + y bai arno fe
És culpa meva Arnaf fi mae’r bai
La culpa és meva Arnaf fi mae’r bai
5
tenir la culpa (de) bod ar fai (am), bod y bai am (beth) ar (un)
En tot això no té cap culpa Nid oes ganddo yr un bai am hynny
Aquesta sentència demostra que els familiars no ven tenir cap culpa que el cas prescrigués
Mae’r dyfarniad hwn yn dangos nad ar y teulu oedd y bai am i’r achos gael ei ddiléu (gan na chwblhawyd mohono mewn pryd)

culpabilitat
1
euogrwydd

culpable
LLUOSOG culpables
1
euog
2
ar fai
Qui és culpable que el president anés trompa i no sabés ni el què es deia?
Bai pwy yw e bod yr arlywydd yn mynd o gwmpas yn feddw ac heb wybod hyd yn oed yr hyn y mae’n ei ddweud?
3
beius

culpable
LLUOSOG culpables
1
cyhuddiedig
2
drwgweithredwr

culpar
1
rhoi’r bai ar
2
condemnio

culte
FFURFIAU LLUOSOG A BENYWAIDD cultes; culta, cultes
1
dywylliedig

culte
LLUOSOG cultes
1
addoli, addoliad
2
moddion gras (eglwys)
3
cwlt
retre culte a talu teyrnged i

cultisme
LLUOSOG cultismes
1
gair dysgedig

cultiu
LLUOSOG cultius
1
amaethu, amaethiad
2
(bioleg) meithrin

cultivable
LLUOSOG cultivables
1
amaethadwy, triniadwy

cultivador
LLUOSOG cultivadors
1
ffermwr

cultivar
1
(tir) trin
2
(cnwd) trin
3
(cof) hyfforddi
4
(cyfeillgarwch) meithrin

cultura
LLUOSOG cultures
1
diwylliant
ser de poca cultura bod yn anwybodus, bod heb fawr o addysg
2
addysg
3
coethder

cultural
LLUOSOG culturals
1
diwylliannol
2
addysgol

culturalment
1
yn ddiwylliannol
2
yn addysgol

culturisme
1
magu cyhyrau

culturista
LLUOSOG culturistes
1
magwr cyhyrau

cúmel
1
cwmel

cúmul
LLUOSOG cúmuls
1
pentwe
2
croniad
3
(= maint) pentwr, llawer

cumulatiu
FFURFIAU LLUOSOG A BENYWAIDD cumulatius; cumulativa, cumulatives
1
cronnus

cúmulus
1
cwmwlus [ku-mu-lus]

cuneïforme
LLUOSOG cuneïformes
1
cunffurf

cuneta
LLUOSOG cunetes
1
clawdd
2
(traffordd) llain galed
3
gwar, ymyl, min, ochr, llain (heol)

Cunit
1
trefgordd (el Baix Penedès)

cuny
LLUOSOG cunys
1
cun, gaing
2
plocyn, sgotsh, sbrag

cunyada
LLUOSOG cunyades
1
chwaer yng nghyfraith

cunyat
LLUOSOG cunyats
1
brawd yng nghyfraith

cuot
LLUOSOG cuots
1
tin y nyth

cup
LLUOSOG cups
1
gwasg win (peiriant)
2
gwasg win (adeilad)
3
celwrn
4
camlas felin

cupatge
LLUOSOG cupatges
1
cymysgu

cupè
LLUOSOG cupès
1
coupé

cupiditat
1
gwanc

Cupido
1
Ciwpid

cuplet
LLUOSOG cuplets
1
cân theatr fiwsig

cupó
LLUOSOG cupons
1
cwpon

cúpric
FFURFIAU LLUOSOG A BENYWAIDD cúprics; cúprica, cúpriques
1
(Cemeg) cwprig

cuprífer
FFURFIAU LLUOSOG A BENYWAIDD cuprífers; cuprífera, cupríferes
1
coporddwyn, yn dwyn copor

cuprita
1
cwprit

cúpula
LLUOSOG cúpules
1
cópula
2
plisgyn, cibyn
2
arweinyddiaeth = llywyddiaeth, rhai sydd yn arwain plaid wleidyddol

cuquella
LLUOSOG cuquelles
1
cwcw

cuquelló
LLUOSOG cuquellons
1
cwcw

cura
LLUOSOG cures
1
gofal
2
treatment
3
iachâd, gwellhâd
4
no tenir cura de
bod yn esgeulus â, esgeleuso
no té cura de les seves sabates nid yw’n edrych ar ôl ei sgitshe
5
(iechyd) tenir cura bod iddi iachâd, y gellir eu iacháu
6
tenir cura de (ar lafar y mae y Gastileb cuidar yn lled gyffredin yn lle’r ymadrodd Catalaneg)

curaçao

1
cwrasáo

curació
LLUOSOG curacions
1
triniaeth
2
iechyd iachâd

curador
FFURFIAU LLUOSOG A BENYWAIDD curadors, curadora, curadores
1
ceidwad

curadoria
1
ceidwadaeth

curandero
FFURFIAU LLUOSOG A BENYWAIDD curanderos; curandera, curanderes
1
cwac

curanta
1
ffurf lafar ar quaranta = deugain

curar
1
bod yn ofalus â
2
meddwl, amcanu
3
iacháu
4
trin (clwyf)

curar-se de
1
gofalu am
2
cymryd gofal o, ymorol am
3
cymeryd sylw o, dal sylw ar

curare
1
ciwrare

curat
1
curad, ciwrat
2
curadiaeth

curatiu
FFURFIAU LLUOSOG A BENYWAIDD curatius; curativa, curatives
1
iachusol

curculiònid
LLUOSOG curculiònids
1
gwiddonyn

curculla
LLUOSOG curculles
1
cragen

cúrcuma
1
cwrcwma [kur-ku-ma]
 
curd
FFURFIAU LLUOSOG A BENYWAIDD curds; curda, curdes
1
Cwrdaidd
2
Cwrdeg = iaith

curd
LLUOSOG curds
1
Cwrd
2
Cwrdeg = iaith

curda
LLUOSOG curdes
1
Cwrdes

curenya
LLUOSOG curenyes
1
car gwn

cúria
1
(Crefydd) Llys y Pab
2
(Y Gyfraith) Y Bar

curial
LLUOSOG curials
1
(cymhwysair) y llys
2
moesgar

curialitat
1
moesgarwch

curiós
FFURFIAU LLUOSOG A BENYWAIDD curiosos; curiosa, curioses
1
chwilfrydig
2
anarferol
3
brwdfrydig
4
busneslyd
5
glân
6
od

curiosament
1
fel mae hi ryfeddaf, rhyfedd yw dweud

curiositat
LLUOSOG curiositats
1
chwilfrydedd
despertar la curiositat de
ennyn chwilfrydedd (rhywun)
2
Tinc una curiositat Mae arnaf awydd gwybod rhywbeth
He sentit curiositat aviam què deia Yr oeddwn yn awyddus i wybod beth a ddywedai (“rwyf i wedi ymglywed awydd gwybod ys gwn i yr hyn a ddywedai”)
3
destlusrwydd
4
busnesgarwch
5
cywreinbeth
6
atyniadau, golygféydd
7
tenir curiositat de saber bod awydd gwybod ar


curós
FFURFIAU LLUOSOG A BENYWAIDD curosos; curosa, curoses
1
gofalus, carcus
2
curós de = gofalus o

curosament
1
gofalus

curra
LLUOSOG curres
1
maen melin


currada
1
(Castileb) darn o waith (Castileg “currar” = gweithio)
Ostia santa, quina currada, no? (wrth longyfarch rhywun sydd wedi paratói rhyw fap, er enghraifft) Duw mawr, dyna ddarn da o waith, ynte fe?

currar
1
(Castileb) gweithio’n galed (Castileg “currar” = gweithio)
Està molt currada la web Dany, et felicito! Mae ôl gwaith mawr ar dy wefan, Dany. Llongyfarchiadau

cúrria
LLUOSOG cúrries
1
pwli

curricà
LLUOSOG curricans
1
lein bysgota

currículum
1
braslun gyrfa
2
tenir cúrriculum bod gan rywun hir brofiad

curs
LLUOSOG cursos
1
cwrs = llwybr
deixar que les coses segueixin el seu curs gadael i bethau ddilyn ei hynt, gadael i bethau fod, gadael llonydd i bethau

2
cwrs = cynllun astudio
3
pwnc
4
blwyddyn academaidd (addysg)
5
cyfnod
en el curs de la vida yn ystod eich bywyd

6
donar curs a la seva indignació bwrw eich llid
7 curs legal arian cyfreithlon

La pesseta va ser la moneda castellana de curs legal fins al 31 de desembre de 2001
Roedd y peseta yn arian cyfreithlon Castilia tan 31 Rhagfyr 2001

La moneda de curs legal al Marroc és el dirham, que es divideix en 100 cèntims
Y dirham yw arian cyfreithlon Moroco. Fe’i rhennir yn gant o sentimau.
moneda de curs legal darn arian cyfreithlon
tenir curs legal bod yn arian cyfreithlon
L’euro ja curs legal a 12 dels 15 països de la Unió, tots excepte el Regne Unit, Suècia i Dinamarca
Mae’r iwro yn arian cyfreithlon erbyn hyn mewn deuddeg o’r pymtheg o wledydd yr Undeb, pob un ond y Deyrnas Unedig, Sweden a Denmarc
deixarà de tenir curs legal peidio â bod yn
arian cyfreithlon, colli gwerth fel arian
no tenir curs legal heb fod yn arian cyfreithlon
Aquestes monedes ja no tenen curs legal Dyw’r darnau arian hyn ddim yn arian cyfreithlon bellach

cursa
LLUOSOG curses
1
ras
2
cursa de cavalls ras geffylau
3
cursa d’obstacles ras rwystrau
4
cursa de braus ymladd teirw

cursar
1
(cais, ceisiadau) trin
2
astudio (pwnc)
3
mynd i ddosbarthiadau, mynychu (cwrs)

cursi
LLUOSOG cursis
1
(person) ymhongar
2
(ymddygiad) ymhongar
3
(person mewn dillad crand) rhodresgar

cursi
LLUOSOG cursis
1
person ymhongar; un lartsh (Gogledd Cymru)

cursileria
1
ymhongarwch
2
rhodres, ymffrost

cursiu
LLUOSOG cursius; cursiva, cursives
1
rhedol
escriptura cursiva llawysgrifen
2
(llythrennau) italaidd, italig
en cursiva / en lletra cursiva mewn llythrennau italaidd
Cf en negreta mewn print du
en rodona mewn print Rhufeinig

cursiva
1
llythrennau italaidd, llythrennau italig

cursor
LLUOSOG cursors
1
(rhan o beiriant) sleid

curt
FFURFIAU LLUOSOG A BENYWAIDD curts; curta, curtes
1
byr
Per fer-ho el més curt possible, la meva opinió volía donar a entendre que...
A bod cyn fyrred ag y bo modd, yn fy marn innau...
per dir-ho curt i ras
yn gryno (“er mwyn ei ddweud yn fyr ac yn fyr-ei-flew”)
2 byr (amser)
3
byr (pellter)
4
byr = annigonol
curt de diners
prin o arian
anar curt (d’alguna cosa)
bod yn brin (o rywbeth)
anar curt de diners
bod yn fyr o arian
-Pensava que al País Valencià anaven curts d’aigua. -No, si en tenen molta!
-Yr oeddwn in meddwl eu bod yn brìn o ddw^r yng Gwlad Falensia acw. -Nag yn, mae llawer ganddynt.
fer curt (d’alguna cosa)
mynd yn brin (o rywbeth)
En cas que fem curt de líquid, ho mullarem amb brou (Wrth goginio) Os awn ni’n brin o hylif, fe’i gwlychwn ag isgell
5
twp
6
pantalons curts trowsus bach

7
bé i curt yn gryno
8
curt circuit cylched bwt
9
curt de cames byr eich coesau, byrgoes
curt de braços byr eich breichiau
10
ser curt de gambals bod yn hanner pan (“byr ei ledrau gwarthol”)
11
curt d’enteniment hanner pan (“byr ei ddeall”)
12
curt de vista byr ei golwg


curt
1
yn fyr
2
tallar curt
torri’n fyr

curull
FFURFIAU LLUOSOG A BENYWAIDD curulls; curulla, curalles
1
llawn, gorlawn

curvatura
LLUOSOG curvatures
1
crymedd

cúspide
LLUOSOG cúspides
1
copa
2
(Geometreg) cwsb

custòdia
1
gwarchodaeth

custodiar
1
gwarchod, diogelu
2
amddiffyn

cutani
1
croen (cymhwysair), sydd yn perthyn i’r croen
2
croen (cymhwysair), sydd yn effeithio ar y croen

cutícula
1
glasgroen

cutis
1
croen
2
croen y wyneb

cutre
1
(Castileb) fwlgaraidd
 
 
 
Adolygiad diweddaraf - darrera actualització 23 05 2001:: 2004-01-11 :: 2004-01-20 :: 2005-03-08

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu ø(r) vízïting ø peij fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

CATALONIA-CYMRU

FI / DIWEDD