http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_vortaroy/geiriadur_catalaneg_cymraeg_LLOP_bi_1710k.htm

 
0001z Tudalen Blaen / Pàgina principal

..........1863k Y Porth Cymraeg / La porta en gal·lès

....................0009k Y Gwegynllun / Mapa de la web

..............................1798k Geiriaduron / Diccionaris

........................................1794k Geiriaduron ar gyfer siaradwyr Cymraeg / Diccionaris per als gal·lesoparlants

..................................................0379k Mynegai i’r Geiriadur Catalaneg / Índex del diccionari català

............................................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..

 

 

 

 

 

 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Geiriadur Cataloneg-Cymráeg
(ar gyfer siaradwyr Cymráeg)

Diccionari català-gal
·lès
(per gal
·lesoparlants)

 

BIAIX-BLUF

 

 

Adolygiad diweddaraf
Darrera actualització

2005-02-01 :: 2005-03-31 :: 2005-04-14
 



 
 
biaix
1
goleddf
2
befel
3
al biaix
ar oleddf
4
de biaix ar oleddf
5
treure els biaixos cael deupen llinyn ynghyd

bianual
1
hanner-blynyddol

Biar
1
trefgordd (l’Alcoià)

biberó
1
potel fabi = potel fwydo i fabi

Bíblia
1
Beibl
la Sagrada Bíblia y Beibl Cysegr-Lân

bibliòfil
1
llyfrbryf, llyfrgarwr, carwr llyfrau, llengarwr

bibliografia
1
llyfryddiaeth

biblioteca
1
llyfrgell
2
shilffoedd llyfrau

biblioteca
1
fan lyfrgell
2
biblioteca pública llyfrgell gyhoeddus
3
rata de biblioteca llyfrbryf

bibliotecari
1
llyfrgellydd
2
bibliotecària llyfrgellyddes

bicarbonat
1
bicarbonad
2
bicarbonat de sodi bicarbonad soda

bíceps
1
cyhyryn deuben

bici
1
(gair anffurfiol < bicicleta) beic

bicicleta
1
beisicl

bicicleta de cursa
1
beic rasio

bicoca
1
(Castilineb) segurswydd, swydd nad oes iddi ddyletswyddau

bicolor
1
deuliw

Bicorb
1
trefgordd (la Canal de Navarrés)
Castileg: Bicorp

bidell
1
rhingyll prifysgol = swyddog mewn prifysgol

bident
1
fforch wair
2
fforc garfio cig

bidet
1
bidet

bidó
1
drwm (olew)

biela
1
rhoden gyswllt

biennal
1
dwyflynyddol

biennal
1
arddangosfa ddwyflynyddol

bifi
1
gwefustew

bífid
1
holltog = (deilen) wedi ei rhannu yn ddwy labed

bifocal
1
deuffocal

bifurcació
1
fforch (llwybr, heol)
haver-hi una bifurcació (llwybr) fforchio’n ddwy, ymrannu
2
cyffordd (rheilffordd)

bifurcar-se
1
fforchio, fforchi

bifurcat
1
fforchog

biga
1
trawst
bigues de ciment trawstiau concrid
És mes facil veure una palleta en l'ull d'un altre, que una biga en el propi
Mae’n haws gweld y brycheuyn sydd yn llygad rhywun arall na’r trawst sydd yn dy lygad dy hun

bigàmia
1
dwywreigiaeth

bigarrat
1
brithliw, amliwiog, amryliw
2
brith (anifail)
3
yn frith o
un corriol bigarrat de flors esponeroses llwybr yn frith o flodau’n dynn yn ei gilydd

Bigastre
1
trefgordd (el Baix Segura) Castileg Bigastro

bigoti
1
mwstásh
2
bigotis (cath) cernflew

Bigues
1
trefgordd (el Vallès Oriental)

bijuteria
1
gemwaith dynwared

bilabial
1
dwywefusol

bilateral
1
dwyochrog

biliar
1
bustlog = yn perthyn i fustl gweler bilis
2
càlcul biliar carreg fustl = gwrthrych bach sydd yn tyfu weithiau yng nghoden y bustl a’i dynnir trwy lawfeddygaeth

bilingüe
1
dwyieithog

bilingüisme
1
dwyieithrwydd, dwyieithedd

bilió
1
biliwn = miliwn o filiynau

bilis
1
bustl
regirar-li la bilis
hala rhywun un yn grac / yn benwan (“troi’r bustl i rywun, troi ei fustl”)

billar
1
biliards

bimensual
1
hanner-misol

bimestral
1
deufisol

binari
1
deuaidd

Binelleta
1
trefgordd (el Comtat)

Binissalem
1
trefgordd (Mallorca)

binocles
1
deulygadur

binomi
1
binomial = ymadrodd mathemategol deuderm (e.e. 3x + 2y)
2
cyfuniad
El fòrum sobre la “Cultura de la pau”, organitzat per “Farmacèutics per la pau”, va servir per posar de manifest que la pau i la salut són un binomi inseparable.
Roedd y fforwm ar “Hyrwyddo Heddwch” a drefnwyd gan “Fferyllwyr dros Heddwch” yn fodd i ddangos fod heddwch ac iechyd yn gyfuniad anwahanadwy

binomi
1
binomaidd (mathemateg)

biodegradable
1
biodyraddiol = y gellir ei dorri yn ei elfennau sylfaenol gan facteria
deixalla no biodegradable ysbwriel sy ddim yn fiodyraddiol

biogràf
1
cofiannydd, bywgraffydd

biografia
1
cofiant, bywgraffiad
2
hanes

biogràfic
1
cofiannol, bywgraffiadol

biòleg
1
biolegydd

biologia
1
bioleg, bywydeg

biòpsia
1
biopsi = sampl meinwe

bioquímic
1
biocemegydd

bioquímic
1
biocemegol

bioquímica
1
biocemeg

Biosca
1
trefgordd (la Segarra)

biosfera
1
biosffer

bípede
1
deudroed, dwydroed

birmà
1
Burmaidd
2
Burmeg

birmà
1
Burmiad
2
Burmeg

birmana
1
Burmes

Birmània
1
Burma

bis
1
ddwywaith
2
rhifau tai = "A"

bis
1
eto!

bis
1
encôr
2
macrell

bisbal
1
esgobol
2
(enwau lleoedd) o’r Lladin “episcopale” = (lle’r) esgob

la Bisbal de Falset
1
trefgordd (el Priorat)

el Bisbal del Penedès
1
trefgordd (el Baix Penedès)

Bisbal d’Empordà
1
trefgordd (el Baix Empordà)
Empordà o’r Lladin “emporitanus” = yn perthyn i Empúries

bisbe
1
esgob
2
(teitl) el bisbe (+ cyfenw)
el Bisbe Ferrer, etc Yr Esgob Ferrer
3
(math o selsigen - un fer, dew)
4
fer un bisbe
gwneud peth (ee estyn at blât wrth y bwrdd)
neu dweud peth ar sgwrs ar yr un pryd a rhywun arall

Biscaia
1
Biskaia = talaith yng Ngwlad y Basg

bisectriu
1
dwyrannydd

bisell
1
befel = arwyneb sydd yn cwrdd ag arall gan ffurfio ongl nad yw’n ongl sgwâr

bisetmanal
1
hanner-wythnosol

bisexual
1
deuryw, deurywiog

bisó
1
bual

Bissaürri
1
trefgordd (l’Alta Ribagorça)

bistec
1
stêcen

bisturí
1
fflaim = cyllell llawfeddyg, ag iddi lafn main

bit
1
dìd = DIgid Deuaidd (cyfrifiadur)

bitàcola
1
blwch cwmpas

bitlla
1
ceilysen

bitllet
1
tocyn (bws, trên, awyren)
2
bitllet d’anada tocyn sengl
bitllet simple tocyn sengl
bitllet d’anar i tornar tocyn dwyffordd
pagar el bitllet prynu tocyn

bitllet
1
papur (arian) (bitllet de mil = papur mil o besetas)
2
tocyn (lotri)

bitlletaire
1
gwerthwr tocynnau lotri

bitllo-bitllo
1
ag arian parod, ar law
pagar (alguna cosa) bitllo-bitllo talu (am rywbeth) ar law, talu (am rywbeth) ag arian parod, talu arian parod (am rywbeth), talu (am rywbeth) yn y fan a’r lle


bitxo
1
pupur tshili

Biure d’Empordà
1
trefgordd (l’Alt Empordà)

bivac
1
bifwac = gwersyll dros dro i filwyr, ddringwyr mynyddoedd

bivalència
1
deufalensi

bixest
1
llam, naid (any bixest = blwyddyn naid)

Bizanci
1
Buzantiwm = dinas hynafol ar ochr Ewrop y Bósfforws
- wedi ei sefydlu tua 660CC, wedi ei hailadeiladu yn 330AD gan
Konstantin (Cystennin) (wedi ei hailenwi yn Konstantinopolis = Caercystennin); o 1930, Istanbul (Istanbwl)

bizantí
1
Buzantaidd

bla, blana
1
meddal

bla
1
bla bla rwtsh ratsh
Que després els socialistes diguin que volen un estat plurinacional i bla bla és pur màrqueting
Y ffaith wedyn bod y sosialwyr yn dweud eu bod yn ymofyn gwladwriaeth amlgendlaethol a rwtsh ratsh yn eiriau ofer yn unig

blanament
1
yn feddal

bladar
1
cae gwenith
(blat = gwenith)

blanc
1
gwyn
blanc i negre du a gwyn (“gwyn a du”)
pel·lícula en blanc i negre ffilm ddu a gwyn (“ffilm mewn gwyn a du”)

dir que el negre és blanc
dweud fod du yn wyn, mynnu bod du yn wyn
Vostè el que no pot dir és que el blanc és negre i el negre és blanc
Yr hyn na ellwch chi ei ddweud yw bod gwyn yn ddu a du yn wyn

fer veure el negre blanc
mynnu bod du yn wyn (“gwneud [i rywun] weld du yn wyn”)
Els estalinistes sempre han fet veure el negre blanc, i el quadrat rodó
Mae’r Stalinwyr wedi mynnu erioed bod du yn wyn, a bod sgwâr yn grwn


2
gwag

blanc
1
gwyn
2
targed
Erem un blanc perfecte per a les metralladores Yr oeddwn ni’n darged perffaeth i’r peiriandryllwyr
3
lle gwag (ar ffurflen)
No hauríem d'estalviar-nos les crítiques. Ja has pogut veure que el meu blanc preferit son els botiflers del Partit Popular
Ddylen ni ddim fod yn gynnil ein beirniadaethau. Fel rwyt ti wedi cael gweld, fy hoff darged innau yw’r bradwyr o Gatalaniaid yn y Partit Popular (Plaid y Bobl, plaid Gastilaidd adain dde eithafol)
4
passar la nit en blanc nid + cysgu chwinciad gydol y nos
Va despertar amb la impressió d’haver passat la nit en blanc.
Fe ddeffrôdd dan dybio (“â’r argraff”) nad oedd wedi cysgu chwinciad gydol y nos

Blanca
1
enw merch (= Gwen)

Blancafort
1
trefgordd (la Conca de Barberà)

Blancaneus
1
Gwyneira / Eira Wen = arwres chwedl
Blancaneus i els set nans Eira Wen a’r Saith Corrach

blanc i negre
1
du a gwyn

Blanes
1
trefgordd (la Selva)

blanquejar
1
gwynnu
2
cannu, diliwio
3
bod yn wyn

blanqueria
1
trin lledr
2
crwynfa, tanerdy

blanquinós
1
gwynnaidd

blasfem
1
cableddus

blasfemador
1
cablwr, cablwraig

blasfemar

1
cablu

blasfèmia
1
cabledd

blasmable
1
anghymeradwy

blasmar
1
ceryddu, anghymeradwyo, condemnio,
2
beio, rhoi’r bai ar

blasme
1
cerydd, anghymeradwyaeth

blasó
1
arfbais

blat
1
gwenith (Triticum aestivum / Triticum vulgare)
una garba de blat ysgub wenith

No diguis blat que no sigui al sac i ben lligat (“peidiwch â dweud gwenith pan nad yw yn y
sach a honno wedi ei chlymu yn dynn”)
Mae aml lwyth wedi troi yn y porth,
Ni ddylid cyfrif y cywion yn eu cibau,
Ni ddylid crio’r fedel cyn y cynhaeaf

blat bojal gwenith barfog (Triticum turgidum)
blat dur gwenith caled (Triticum durum)


blat de moro
1
(“blat + Mwriad”) india-corn, indrawn, corn yr India, corn melys, maiz

blat negre
1
gwenith du

blau  [blau]
1
glas

blau
1
clais

blau cel
1
glas wybren

balu marí
1
glas llynges = glas tywyll, lliw unffurf y llynges

blauet
1
penlas yr ŷd (blodyn)
2
glas y dorlan (aderyn)

blaver
1
Falensiad asgell-dde sydd yn mynnu bod yr iaith Gatalaneg yng Ngelad Falensia yn aiaith annibynnol, o darddiad gwahanol i’r iaith Gatalaneg, a bod trigolion Tywysogaeth Catalonia â’u bryd am feddiannu Gwlad Falensia

ble
1
pabwyr, wic
2
cudyn (gwallt)

bleda
1
gorfetys (beta vulgaris [cicla])
2
gwraig dwp, merch dwp

bleix
1
dyheuad = anadliad cyflym

bleixar
1
dyhéu = anadlu yn gyflym

blenda
1
blend = math o fwn zinc

blindar
1
arflafnu = (cerbyd) amddiffyn rhag ffrwydriadau, bwledu

blindat
1
durblat (cymhwysair)
El seu somni és que les forces armades arribin a Barcelona en convois blindats i que baixin per la Diagonal
Eu breuddwyd yw bod y lluoedd arfog yn cyrraedd Barcelona mewn minteioedd cerbydau durblat ac yn mynd i lawr yr Heol Letraws

blindat
1
cerbyd durblat

bloc
1
plocyn, bloc (carreg, maen)
2
bloc de pisos bloc fflatiau
bloc d'apartaments bloc fflatiau
bloc d’habitatges bloc fflatiau
3
cyfres
un bloc de propostes cyfres o gynigion
4
bloc de notes pàd nodiadau
5
bloc de dibuixos pàd braslunio
6
bloc de cases bloc o dai
7
clymblaid

blonda
1
les wen

bloqueig
1
gwarchae
2
(Meddygaeth) atalfa

bloquejar
1
gwarchae
2
(Meddygaeth) atal
3
(peiriant) cau, tagu, blocio
4
(car) aros
5
(benthyciad) rhewi
6
cau
Una cadena bloquejava l'entrada Roedd cadwyn yn cau’r fynedfa, Roedd cadwyn o flaen y fynedfa

bluf
1
blyff

 
Adolygiadau diweddaraf - darreres actualitzacions
09 10 2002 :: 28 10 2002 :: 2003-12-09 :: 2003-12-30 :: 2004-01-10 :: 2005-02-03

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weørr am ai? Yuu ørr vízïting ø peij frøm dhø "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

0001
y tudalen blaen
pàgina principal