kimkat1247k Gwefan Cymru-Catalonia. Ysgrifau ar y Wenhwyseg, iaith y
De-ddwyrain. “Y Wenhwyseg” ydoedd testyn y Cymrodorion nos Wener diweddaf,
a’r darlithydd ydoedd Mr. W. Bryn Davies, Barri, arolygydd ysgolion.
0001z Yr
Hafan
..........1863k Y Fynedfa yn Gymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
............................1796k Y Gymraeg
.....................................0934k Y Wenhwyseg - Y Tudalen
Mynegeiol
.................................................y tudalen hwn
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
Adolygiad
diweddaraf 01 11 2001 |
...
xxxx
Aquesta pàgina en català
xxxx
This page in English
Tarian y Gweithiwr, 11 Rhagfyr 1913, tudalen 7
“Y Wenhwyseg” ydoedd testyn y Cymrodorion nos
Wener diweddaf, a’r darlithydd ydoedd Mr. W. Bryn Davies, Barri, arolygydd
ysgolion. Eglurodd Mr. Davies mai y Wenhwyseg ydoedd iaith Shir Forganwg a Shir
Fwnwa.” Yr oedd y Gymraeg, meddai, yn cynwys pedair o gangen-ieithoedd: Y
Wyneddeg, sef iaith Arfon, Môn a Meirion; y Bowyseg, yn Maldwyn, Dinbych a
Flflint; y Ddyfedeg, iaith Penfro, Myrddin a Cheredigion, a’r Wenhwyseg a
siaredid yn Morganwg, Mynwy a Brycheiniog. O’r pedair y Wenhwyseg ydoedd y
fwyaf pwysig am mai yn Ngwent y ceid y boblogaeth fwyaf, ac yr oedd yma hefyd
gydgynulliad mawr o o bobl o bob rhan o Gymru. Hefyd, yr oedd llenyddiaeth
henaf y genedl yn iaith Gwent, megys y
Mabinogion a Llyfr Du Caerfyrddin. Siaradai Cymro Morganwg yn uchel, yn gyflym
ac mewn llais clochaidd. Yr oedd Cymreig y Gogledd rywsut wedi mynd yn iaith
llenyddiaeth, ac mewn llyfrau esgeulusid y Ddyfedeg a’r Wenhwyseg. Mynai y
darlithydd fod y gair “tadcu” yn dlysach na “thaid,” a “ty cwrdd” yn well gair na
“chapel.” Yr oedd geiriau y Wenhwyseg ydoedd
ystwythder sain. Iaith y glust ydoedd. Dywedai y diweddar Barch.
Glanffrwd Thomas mai y Wenhwyseg ydoedd y debycaf i’r Eidalaeg o bob iaith. Yn
Mro Morganwg ceid cryn lawer o “palatalisation,” neu safneiddio llythyren, sef
“cadw” yn myned yn “giadw,” “cawl” yn myned yn “giawl.” Tuedd y Wenhwyseg
ydoedd gadael allan yr ch, megys yn “whare,” “whilo,” “whythu.” etc. Hefyd yr
oedd tuedd i galedu y b yn p, megys gwpod, apal, trwpl, etc., a throi y d yn t
yn yr un fel. Terfyniad cyffredin yn Ngwent ydoedd ‘ws,’ megys dechreuws, curws, etc. Cyhuddwyd y gwr
o Went o adael allan yr h. Ond chwareu teg iddo, fel ad-daliad, dodai hi i mewn
lle nad oedd ei hangen. Nodwedd arall o’r Wenhwyseg ydoedd anwybyddu yr w,
megys “glad” yn lle “gwlad,” a “glaw” yn lle “gwlaw”. Cymharodd y siaradwr
briod-ddulliau y Gogledd a’r De yn lled helaeth. Rhoddodd restr faith o eiriau
yr oedd iddynt wahanol ystyr yn Ngwynedd ac yn Ngwent. Darllenodd ran a Genesis
yn nhafodieithoedd gwahanol Penfro, Morganwg ac Arfon. Rhoddodd hefyd
ddarlleniad o “ysgwrs” yn iaith y
Felinheli, Sir Gaernarfon, lle y treuliodd y darlithydd un-ar-ddeg o flwyddi.
Yr oedd yr ymddiddan hwn yn nodweddadol arbenig o dafodiaith Arfon.
Dywedai Mr. Davies fod llawer o eiriau yn
Morganawg a Mynwy nad oeddynt hyd yn hyn wedi ymddangos mewn du a gwyn. Yr oedd
efe wedi gwneyd casgliad o lawer o eiriau Bro Morganwg nad oeddynt erioed wedi
bod mewn argraff, a buasai yn gymwynas gyffelyb a geiriau gwerin ardal Aberdâr.
Ar hyny gwahoddwyd ymdriniaeth gan y llywydd, y
Parch. W. Davies, M.A.
Y Parch. D. Bassett
oedd y siaradwr cyntaf. Sylwodd efe ar y gwahaniaeth rhwng iaith gwaelod
Ceredigion ag iaith Morganwg.
Mr. D. Timothy Davies, B.A., a roddodd siamplau
o dafodiaith cymydogaeth Ceinewydd.
Mr. Ben Davies a roddodd eglurhad ar frawddeg a
glywid yn Mhentyrch, “Os na ddwan nhw fe ddwan, ond os dwan nhw ddwan nhw
ddim.”
Mr. J. Griffiths a roddodd ychydig engreifftiau
pellach o iaith-ddulliau Sir Aberteifi.
Mr. J. Davies (Iwan Goch) yntau a ddyfynodd
engreifftiau tarawiadol o Gymraeg Lacharn. Cynigiodd efe ddiolch i’r siaradwr.
Mrs. Basset a ddywedai ei bod hi yn hanu o’r un
ardal a Mr. Bryn Davies, ac yn adwaen un o’r cymeriadau y soniodd am danynt. Yr
oedd amryw o eiriau arbeing gwerin Aberteifi yn ddyddorol, a byddai y gwaith o
gasglu y cyfryw yn fuddiol iawn.
Y Cynghorwr George Powell a ddywedodd fod pobl
Sir Frycheiniog yn edrycli i lawr ar bob tafodiaitlh arall ond yr eiddynt hwy.
Cyfeiriodd yntau at iaith Ceinewydd, o’r hwn le y dychwelodd yn ysgafnach
o boced os yn drymach o gorph.
(Chwethin).
Mrs. (Parch.) John Morgan a grybwyllodd amryw
eiriau o weriniaith Sir Gaer.
Ab Hevin a fynai fod ambell i air car a
gymeradwyid gan Mr. Davies wedi dod o’r Seisnig, megys egr o’r gair Seisnig
“eager.’. Y Parch R. Williams a awgrymodd mai buddiol fyddai defnyddio y
geiriau a grybwyllwyd i olrhain hanes a nodweddion yr hen Gymry a’u harferent.
Y llywydd a sicrhai y gallai y cwrdd hwn fod o
fudd mawr ond defnyddio araeth Mr. Davies i’r iawn bwrpas. Ceid adeiladaeth
oddiwrth athroniaeth geiriau gwerin a llafar gwlad.
Talwyd diolch brwd i’r darlithydd a hawdd deall
fod awydd mawr am ei glywed eilwaith.
(DIWEDD)
·····
www.kimkat.org/amryw/1_testunau/testunau_326_iaith_bro_gwent_1913_1247k.htm
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld
ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA” (Cymráeg)
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web
“CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya) (català)
Where am I? You
are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website (English)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) víziting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait
(Íngglish)
CYMRU-CATALONIA