kimkat0218k Shoni o’r Pant. Un o Enwogion Aberdar. Awdur: Ifan Bryndu. O “Bapur Pawb”, Caernarfon. Blwyddyn: 1900. "Dyna le ffamws, yntefa Shoni?" sibrydai Ianto gan wenu; "bachan ma hwn yn well na first-class y Taff Vale, ond yw a?"

10-09-2019

kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org
kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
kimkat0960k Mynegai i’r testunau Cymraeg yn y wefan hon www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
kimkat0218k Y tudalen hwn

0003_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..

 

 

 


Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les

 

Shoni o’r Pant. Un o Enwogion Aberdar.

Awdur: Ifan Bryndu.
Papur Pawb. 1900.


 

 


(delwedd 7282)

 .....

GWELER HEFYD BRIF DUDALEN ADRAN Y WENHWYSEG YN Y WEFAN HON – TAFODIAITH HANESYDDOL DE-DDWYRAIN CYMRU

MIREU TAMBË LA PÀGINA PRINCIPAL DE LA SECCIÓ DE GWENTIÀ YN AQUEST LLOC WEB – EL DIALECTE TRADICIONAL DEL SUD-EST DE GAL·LES

SEE ALSO THE MAIN PAGE OF THE GWENTIAN SECTION IN THIS WEBSITE – THE TRADITIONAL DIALECT OF WELSH IN THE SOUTH-EAST OF WALES

www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_0934k.htm

 

 

.....

 

 

Ar ffurf tudalen FDG = FFORMAT DOGFEN GLUDADWY / PORTABLE DOCUMENT FORMAT = PDF:

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_117_sioni-or-pant_0218k_PDF_3263k.pdf

 

 

....

10 Mawrth 1900
PENNOD I. PWY, AC O BA LE?
PENNOD II. YR EXCURSION I GAERDYDD.
Delweddau F7602-F7608
.....
17 Mawrth 1900
PENNOD III. YR EXCURSION ETO.
Delweddau F7609-F7614
.....
24 Mawrth 1900
PENNOD IV. HELYNT YR HEDDLYS.
Delweddau F7615-F7621
.....
31 Mawrth 1900
PENNOD V. CINIO FAWR SHONI.
PENNOD VI. Y BWCAS.
Delweddau F7622-F7629
.....
7 Ebrill 1900 7626
PENNOD VI. (Parhad)
PENNOD VII. TAITH I LUNDAIN.
Delweddau F7630-F7636
.....
14 Ebrill 1900
PENNOD VIII. Y GINIO YN LLUNDAIN.
PENNOD IX. MYN'D I WEL'D BETSY.
Delweddau F7637-F7644
.....
21 Ebrill 1900
PENNOD X. CYRDDAU'R COFFEE TAVERN.
PENNOD XI. YMWELIAD MR HENRY RICHARD
Delweddau F7645-F7654
.....
28 Ebrill 1900
PENNOD XII. TAITH SHONI I SWITZERLAND.
Delweddau F7656-F7665
.....
5 Mai 1900
PENNOD XIV. CAN SIMON PHYLIP.
PENNOD XV. TAITH I'R GOGLEDD.
Delweddau F7667-F7671
.....
12 Mai 1900
PENNOD XVI. DIWEDDGLO
Delweddau F7676-F7681
…..

 

 

F7602_shoni-o-r-pant_10-mawrth-1900_01_pennod-i.jpg

(delwedd F7602) (
10 Mawrth 1900)

Papur Pawb. 10 Mawrth 1900.

SHONI OR PANT: (UN O ENWOGION ABERDAR.)

PENNOD 1. - PWY, AC O BA LE?

Mae yn hollol briodol i gyplysu y gair "enwog" gydag enw Shoni o'r Pant. Rhaid addef na fu yn aelod Seneddol, nac yn aelod cynghor piwylol erioed, o ran hyny. Os nad wyf yn camsynied, yr unig anrhydedd a ddaeth i'w ran yn y cyfeiriad hwnw oedd, i Shoni gael ei ddewis yn un o ddeuddeg i fyned at Mr Rollins, perchenog y lofa, lle y gweithiai, i geisio codiad cyflog; a thro arall yn un o un ar bymtheg i dynu cerbyd Mr Rollins, drwy ystrydoedd y pentre', pan ddychwelodd y boneddwr hwnw o'i daith yn yr America.

Dyna'r ddau ddigwyddiad pwysig yn hanes Shoni fel cynnrychiolydd ei gydweithwyr. Gyda llaw, cofier mai haliar ydoedd, ac mai cynnrychioli haliars yr oedd yn yr amgylchiadau uchod.

Ond beth yw gwaith haliar? Wel, hala, wrth gwrs Y syniad: Ddim yn gwybod beth yw haliar! "Haliar" yw "haulier" y Sais y dyn sy'n gyru'r ceffylau sy'n llusgo y trams yn y glofeydd

Y peth nesaf a ofynir fydd: "Beth yw pwll glo?" Digon tebyg na wyddai neb, y tuallan i blwyf Aberdar, pwy oedd ein gwrthddrych, a pha beth a wnaeth. Y mae yn enwog, er hyny, ac erys yn enwog tra y bydd un o'i hen gyfeillion uwchben y dywarchen.

Beth yw enwogrwydd? Onid seren yn syrthio? Fflachio yn dlos am foment, ac yna diflanu o'r golwg am byth. Y mae ambell un yn llosgi ac yn goleuo yn hwy na'r llall, ond lludw fyddant oll yn y diwedd.

Wel yr oedd Shoni o'r Pant yn enwog. Nid oedd blentyn trwy y plwyf poblog, na dyn na dynes braidd, nad oeddynt yn adnabod ein gwrthddrych. Os oedd rhyw gynnulliad mwy na'i gilydd, yn unrhyw fan, gellid penderfynu y byddai Shoni yno. N'id oedd o bwys beth fyddai natur y cyfarfod; pa un ai gorymdaith clwb, cymanfa ganu, ymladdfa, cyfarfod pregethu, "mass-meeting" o weithwyr, Punch and Judy, ffrae gwragedd, neu arwerthfa, ac yn neillduol excursion. Yr oedd Shoni wrth ei fodd pan glywai am excursion.

Yn mhob cynnulliad gellid bod yn sicr o weled Shoni yn bresennol. Ac eithrio cyfarfodydd crefyddol, efe fyddai bywyd y lle. Nid oedd yn y plwyf un tebyg iddo am roddi hwyl i siaradwr. Yr oedd ei "Clywch, clywch," "Ffamws," a "Da iawn, bachan," &c., yn sicr o danio calon yr areithiwr mwyaf safndrwm. Pwy all anghofio gwen foddhaus y diweddar Mr Henry Richard, A.S., ar y llwyfan, yn nhy y farchnad, yn Aberdar, yn traethu ar wleidyddiaeth, pan oedd Shoni yn gwaeddi yn awr ac eilwaith "Well done, Mr Richats, go on." Yr oedd y bachan o'r Pant, fel y galwai ei hun weithiau, wrth fodd ei galon adeg yr etholiad, a chwynai yn fynych na fuasem yn cael etholiadau blynyddol.

Cofier, nad derbyn yr athrawiaeth hono wnaeth oddiwrth Radicaliaid Lloegr nac oddiwrth y Chartists gynt chwaith. Yr oedd y syniad yn wreiddiol hollol iddo. Credai o galon mewn etholiad blynyddol. Ychydig iawn o olwg oedd ganddo ar y cynghorau plwyfol, dosparthol a sirol. Methodd yn lan a deall y rhai hyn. Tystiai nad oedd ynddynt ddim daioni, neu y buasai ychydig mwy o fwstwr adeg yr etholiad.

Dylasid nodi mai enw gwreiddiol Shoni oedd John Thomas, ac iddo gael ei eni yn y Pant, gerllaw Dowlais. Symudodd y teulu i Aberdar pan oedd Shoni tua dwyflwydd oed. Bu y tad farw yn fuan ar ol hyn, gan adael ei deulu bychan

 

 

F7603_shoni-o-r-pant_10-mawrth-1900_02_pennod-i.jpg

(delwedd F7603) (
10 Mawrth 1900)



o ddau fab a merch, yn ngofal ei weddw. John oedd yr ieuengaf o'r plant.

Yr oedd y fam yn greadures ddigon diddrwg, ac nid oedd yn credu mewn curo ei phlant i foddio neb. Yr oedd hyn yn un o erthyglau mwyaf pendant ei chredo. Erthygl arall a gredai oedd, mai ganddi hi yr oedd y plant glanaf, goreu, a mwyaf deallgar yn Aberdar. Tystiodd hyny lawer gwaith, ac nid oedd digon o dalent yn y byd i'w darbwyllo i gredu dim yn amgen. Chwareu teg i Mrs Thomas!

Wrth gwrs, yr oedd y plant eu hunain o'r un farn a'u mam. Nid oedd John yn rhyw hoff iawn o'r ysgol ddyddiol. Pan ddeuai swyddog y plwyf i ymholi yn ei gylch, tystiai Mrs Thomas mai selni oedd yr achos fod y meddyg yn barnu fod ei ymenydd yn ormod i'w gorph, ac felly ei fod yn cael cur mawr yn ei ben, &c.. Yr unig adegau y byddai clefydau y llanc yn ymosod arno oedd tua naw o'r gloch yn y bore, a dau yn y prydnawn. Yr oedd yn galed i edrych ar ei wyneb yr adegau hyn, gan fel yr ymnyddai gan y boen. Wrth gwrs, nid yr un fath boen a ddioddefai bob amser. Weithiau cai y ddannodd, bryd arall, brathiadau yn ei goes, neu rywle arall. Ychydig o amser y parhai yr ymosodiad.

I wneyd 'stori faith yn fyr: tyfodd y bacbgen yn ddyn; diflanodd yr enw John Thomas, ac adnabyddid Shoni fel "Shoni o'r Pant," gan bawb ond ei fam. Priododd y brawd a'r chwaer, ac aeth y fam i fyw at ei merch, a Shoni gyda hi, wrth gwrs.

Tuedd Shoni oedd gwamalrwydd gydag ambell i beth. Mewn rhai pethau, ar y llaw arall, yr oedd, ys dywedai "fel y Bank of England." I fanylu ychydig, er mwyn deall ei anianawd, gellid dyweyd fod yna dri o bethau yr oedd bob amser yn barod am danynt, ac yn disgwyl wrthynt, a dyma hwy: Cinio, "excursion," ac etholiad cyffredinol. Deuai sefydlogrwydd i'r golwg ynddo mewn un peth arall. Yr oedd yn rhaid iddo bob amser gael ei ffordd ei hun.

Mewn pethau ereill, rhaid cyfaddef ei fod yn hynod wamal. Am dymhor, ysmociai yn feunyddiol; ond yn sydyn ac annisgwyliadwy, lluchiai ei getyn o dan y tan, a dyna derfyn ar ysmocio am rai misoedd. Yr un modd gydag yfed: Weithiau gwelid ef ar y spri am fis cyfan; ac yna troai yn ddirwestwr selog, ond distaw, am dymhor maith. Ni fyddai Shoni byth yn cyhoeddi ar benau y tai ei fod yn llwyrymwrthodwr, ac yn cymhell ereill i fod felly. Yr unig arwydd a geid fyddai ei weled yn dod gartref yn gynnar ddydd Sadwrn, yn estyn swm o arian i'w fam, yn talu ei chwaer, ac yn myned i'w wely yn syth ar ol ymolchi, neu ynte yn myned trosodd i Ferthyr neu Dowlais, i weled ei berthynasau.

Golyga hyn, wrth gwrs, nad oedd circus na dim o'r fath ar gae Ynyscynon y noswaith hono.

Yn ystod y tymhorau dirwestol hyn, nid peth dyeithr fyddai gweled Shoni yn y capel ac yn ymaelodi yno. Gyda hyn prynai siwt neu ddwy o ddillad newydd. Newidiai y cadach sidan a wisgai yn gwlwm tyn am ei wddf, gan arddangos coler a chrys gwyn glan. Yr adeg yma, clywid aml i un yn ei anerch fel "John" unwaith eto, ac edrychai ei hen gyfeillion braidd yn swil arno. Rhaid dyweyd am dano ei fod yn grefyddwr gonest iawn, cyhyd ag y byddai yn proffesu; a pheth arall ddylid ddyweyd yn ei ffafr yw, nad oedd ei grefydd byth yn ei wneyd yn fursenllyd, swrth, a sur.

Rhaid fod ei afu yn hollol iach, oblegid ni welid cwmwl byth ar ei wedd. Am ei gylla, cafwyd profion ddegau o weithiau fod hwnw yn berffaith; derbyniai bobpeth a osodid i fewn ynddo yn ddirwgnach. Un waith y mae yn hysbys iddo fethu bwyta yr hyn a osodwyd o’I flaen, a chrybwyllir am hyny eto.

Arfer bywgraphwyr gwyr enwog bob amser

 

 

F7604_shoni-o-r-pant_10-mawrth-1900_03_pennod-i_pennod-ii.jpg

(delwedd F7604) (
10 Mawrth 1900)

yw traethu yr hyn sydd dda am eu gwrthddrychau. Yn hyn o beth caraswn ganlyn esiampl y goreuon a gosod Shoni yn ei ddillad goreu o flaen y cyhoedd. Addefais fod yna adegau anhyfryd i'w hadrodd yn ei hanes, ond fel y gwneir gydag enwogion ereill, felly y gwneir gyda Shoni, cedwir y llen dros y drwg, a thraethir am y gwrhydri a'r pethau dyddorol a wnaeth.

Druan ohono, ychydig feddyliodd erioed y buasai undyn byw yn ymgymeryd a'r gwaith o groniclo ei hanes a'i gyflwyno i lawr i'r oesau a ddel.

Fel y nodwyd, hoff beth gan Shoni o'r Pant gael myned gydag "excursion."
Nid oedd o bwys i ba le: cael "excursion" oedd y peth.

Yn ystod un haf, yr oedd arddangosfa fawr yn Nghaerdydd. Trefnwyd gwibdaith o Aberdar yno, a digwyddodd fod Shoni yn ddirwestwr er's tua chwe' mis y pryd hwnw, ac, wrth gwrs, nid oedd yn fyr o arian-neu o "docyns," fel y dywedai.
Yn offis y gwaith y gwerthid ticedi yr "excursion"; ac, fel arfer, Shoni oedd y cyntaf i sicrhau un. Yr oedd wrth ei fodd, ac yn llawn disgwyliad. Dydd Gwener, wedi dod o'r gwaith ac ymolchi, bu yn brysur iawn yn shopa. Rhaid oedd cael esgidiau elastic sides newyddion, tie amryliw, het jim crow, a ffon. Ni chafodd Shoni erioed unrhyw gariad at ymbrelo. Ffon fynai Shoni; "clatshan o ffon y gall dyn gitsho ynddi," ys arferai ddyweyd. Aeth i'r gwely yn bur gynar nos Wener, ond deffrodd yn hynod fore dranoeth.

Yr oedd y dydd hir-ddisgwyliedig wedi gwawrio ac wele y gwr enwog, "y Bachan o'r Pant," yn cyfeirio ei gamrau tua'r stesion - y cyntaf i dori ar ddistawrwydd y fan. Yn mhen amser, gwelid y tyrfaoedd yn dylifo yno o bob cyfeiriad: o Gwmbach ac Abernant, y Gadlys ac Heolyfelin, Aberaman a Threcynon. Cyn pen ychydig, gwelid y bobl yn tyru i gyd i'r un cyfeiriad; gwelid dau neu dri o heddgeidwaid yn hollti eu ffordd trwy y bobl; clywid llais dolefus gwraig yn rhwygo yr awyr. Beth oedd wedi digwydd?

PENNOD II.—YR EXCURSION I GAERDYDD.

"Cliriwch o'r ffordd," bloeddiai yr heddgeidwad, tra y Ilusgid rhyw hen wr bychan, penwyn, trwy ganol y dorf oddiar y platfform. "Be' sy'n bod?" "Pwy yw a'?" "Beth 'nath a?" &c., oedd yr holiadau a wnaed, ac nid oedd modd cael atebiad ar unwaith. Yn mhen amser esboniwyd yr holl helynt fel hyn: Mocyn o'r Allt oedd wedi meddwi.

"Wedi meddwi mor fore a hyn?" "Dos dim shwd beth gwaeddai'r dyrfa.

"Mae'n wir fod yr "excursion" yn cychwyn tua wyth o'r gloch y bore, ond gofalai tafarnwyr Aberdar ddlal mantais trwy agor eu tai tua chwech o'r gloch er galluogi y teithwyr, druain, i dori eu syched cyn myned i Gaerdydd. Cofier, mai profedigaeth lem i'r tafarnwyr oedd pob "excursion."

Onid oedd bron eu holl gwsmeriaid yn myned am y diwrnod oddicartref; ac felly, os byddai yfed o gwbl, elw i dafarnwyr Caerdydd fyddai hyny? Am y tro, yr oedd yr holl weithwyr wedi cael eu tal ar nos Wener, a byddai bron pob un wedi ceisio cynnilo y diwrnod hwnw ar gyfer y "trip" dranoeth.

Syrthio i'r trap hwn wnaeth Mocyn o'r Allt. Cododd yn fore dydd Sadwrn, a chan fod syched arno aeth i'r "Jolly Lion" i gael glasiad. Fel y dywedai Shoni yn fynych, "hen ddwlbyn yw Mocyn os bydd wedi cael glasiad," ac felly y profodd y tro hwn.
Llyncai un gwydriad ar ol y llall, nes yr oedd ei goesau mor

 

 

F7605_shoni-o-r-pant_10-mawrth-1900_04_pennod-ii.jpg
(delwedd F7605) (
10 Mawrth 1900)


ystwyth a chwip, ei lygaid fel dau lygad ysgadenyn coch (yr hyn o'i gyfieithu yw "penog" coch), a'i holl gorph yn ysgwyd fel pendil cloc. Golygfa ddyeithriol oedd gweled Mocyn, druan, yn cael ei arwain gan ei ddau fachgen i fyned gyda'r excursion tua Chaerdydd! Fel peth coch i darw felly cot las yr heddgeidwad i Mocyn. Can gynted ag y gwelodd y "policeman" wrth yr orsaf, dechreuodd dafodi ac enllibio gwas y gyfraith. Edrychai hwnw yn Ileban digon llonydd, ac ni fynai aflonyddu dim ar Mocyn, druan, ond yn lle dofi llid y meddwyn gyrodd difaterwch y “policeman" ef yn ffyrnicach. Lluchiodd ei het i'r llawr a dechreuodd ymosod ar y cawr yn y got las.

Dyn bychan, eiddil, oediranus oedd Mocyn, a digon tawel pan yn sobr, ond wedi iddo yfed ychydig, yr oedd yn "ddwlbyn" parod. Byddai bob amser yn tuchan ac yn carthu gan asthma parhaus, ond o dan didylanwad Syr John Heidden, teimlai ei fod yn gryf o nerth ac ofnadwy mewn rhyfel. Yn y dymher hono yr ymosododd ar yr heddgeidwad. Llawer gwaith y bu y llanciau yn y pentref yn herio Mocyn i ymladd pan fyddai wedi meddwi, ac yna yn cydio yn ei het ef ei hun, ac yn ei guro a hi hyd nes y byddai yn methu symud o ddiffyg anadl. Rhwng dau "boliceman" yr ymdieithiodd Morgan allan o'r orsaf i'r "lock-up," er fod ganiddo docyn yn ei logell i fyned tua Chaerdydd.

Pan welodd ei anwyl briod, Pegi, ei gwr yn y ddalfa, rhoddodd ysgrech didolefus, annaearol ond tawelodd yn bur fuan pan welodd ei fod yn ddyogel yn nwylaw gwyr y gyfraith. Gwyddai yn dda ei fod yn fwy dyogel a didrafferth yno nag a fyddai yn nhref Caerdydd. Ond teimlai Pegi mai ei dyledswydd oedd ysgrechian fel y gwnaeth, o dan yr amgylchiadau.

Un lled ysmala oedd Pegi. Adroddir am dani ei bod un diwrnod yn cael pryd o gawl (potes) yn nhy cymydoges iddi, ac fod rhyw lanc wedi dwyn y newydd trist fod Mocyn wedi cyfarfod a damwain yn y gwaith, ac i Pegi ateb a dywedyd: "Aroswch dipyn bach nes bo fi wedi cwpla y cawl yma, ac wetyn fe roia i ysgrech, nes bo'r ty yma'n shiglo."

Ar ol i Mocyn fyned i'w gell, nid hir y bu y dorf cyn cymeryd eu heisteddleoedd. Gofalodd Shoni: o'r Pant fel arfer am gael eistedd wrth y ffenestr. Yr oedd y golygfeydd ar y daith yn hanner y peth ganddo, ac nid oedd neb yn yr adran yr eisteddai ynddi mor hysbys yn enwau y lleoedd a'r rhyfeddodau a welid o Aberdar i Gaerdydd. Mewn gwirionedd, gwaith Shoni gydol y daith oedd esbonio pethau i'w gymdeithion llai gwybodus.

Teimlai Shoni yn falch o'r ragoriaeth hon. Yr oedd ganddo stoc neillduol ac anghyfnewidiol o hanesion i'w hadrodd.

Wedi dod i dueddau Mountain Ash, dangosai balasdy Arglwydd Aberdar, ac yna y man lle lladdodd Bob Cae y dyn anffodus hwnw. Yn nghylch Abercynon a Chilfynydd, traethai yn benaf am y danchwa yn y lle olaf. Yn nhueddau Pontypridd, yr oedd mewn "clover" ys dywedai. Yr oedd yn rhaid rhoddi hanes y bont fwaog fawr dros y Taf, y "gareg shiglo" ar y comin, a llu o bethau ereill. Rhaid addef fod agos cymaint o ddychymyg ag oedd o wirionedd yn adroddiadau Shoni; ond nid oedd hyny o gymaint pwys, gan fod yr oll yn cael ei dderbyn yn hollol foddlon gan y cwmni.

Yn Trefforest, yr oedd y stori yn hynod ddyddorol, oherwydd ystranciau rhyfeddol y diweddar Dr Price, y Derwydd hynod. Wrth gwrs, yr oedd Shoni yno y diwrnod y llosgwyd corph y doctor; a medrai ddyweyd yr oll o'r hanes a mwy yn ddiau.

Dylasid fod wedi nodi y digwyddiad dyddorol

 

 

F7606_shoni-o-r-pant_10-mawrth-1900_05_pennod-ii.jpg

(delwedd F7606) (
10 Mawrth 1900)

gymerodd le yn Mhontypridd. Arosodd y tren am ychydig yno. Mynai William Davies, partner Shoni, fyned allan i brynu sigar, ac, efallai, i wlychu ei big yn ddirgelaidd. Yr oedd Shoni wedi ei rybuddio yn ddifrifol o'i berygl os a'i allan, ond myned a fynai Wil. Cyn gynted ag yr aeth allan, cauwyd a. chlowyd y drws; chwibanodd y swyddog, a

"Chwibanodd y peiriant yn gryf ac yn groch,

Fel gwichiad soniarus pum' ugain o foch,"

a ffwrdd a hwy tua Chaerdydd. Pan glywodd Wil hyn, allan ag ef, ond, yn rhy hwyr. Ceisiodd ruthro at ddrws un o'r cerbydau, ond cydiwyd yn ei goler gan swyddog cryf. Tra yr oedd Wil druan yn y ddalfa, ar ol, gyda, cigar rhwng ei fysedd, a'i wyneb yn gymysgfa annarluniadwy o siomedigaeth a gwylltineb, y cyfan welai oedd y tren yn myned heibio iddo yn gyflym, a phob ffenestr yn llawn o chwerthinwyr iachus. Yn ben ar y cwbl yr oedd Wil wedi gadael ei het ar ol yn y tren. O'r fan hono i Gaerdydd, dau brif bwnc oedd gan Shoni i draethu arnynt, ac eithrio hanes Dr Price, sef y pwys o beidio myned allan o'r tren o gwbl, os byddis yn myned gydag "excursion," hyd nes cyrhaedd pen y daith, a'r ffolineb i fechgyn fyned a'u cariadon gydag "excursion."

Cydolygai y cwmni yn llawn gyda’r "Bachan o'r Pant" ar y pen cyntaf, oblegid nid oedd yno yr awdurdod cyffelyb iddo yn y matter. Gwyddai trwy brofiad beth oedd colli y tren, a chael ei adael yn ddigon unitg mewn tref ddyeithr diros nos gan iddo adael y tren am ychydig eiliadau. Pwy fedrai wrthwynebu profiad felly?

Ar y pen arall, bu dadl frwd. Yn yr un ystafell a Shoni, yr oedd o leiaf un gwr ieuanc wedi dod a'i "wedjen" gydag ef, a chymerodld hono Shoni i fyny yn y modd mwyaf di-drugaredd. Rhywbeth fel a ganlyn oedd y ddadl a fu rhyngddynt.

Miss Spruce: Otich clii ddini yn cretu y gall bachgan enjoyio i hunan yn well gita'i wedjan nag wrtho'i hunan am ddwarnod fel hyn?

Shoni: Enjoyio yn wir! Pwy enjoyio all a os bydd rywun yn llusgo wrth i gwt a trw'r dydd?

Miss Spruce: Fi wn i beth sy'n ych trwplo chi. ac yn gneud i chi wilia fel'na, 'rhen foy. Ffaelu cal neb i ddod gita chi, ontefa? A phwy ferch fysa yn dod gyda shwd sgrwbyn?

Shoni: Pwy ferch? Fe alswn gal hannar cant o nhw, dim ond wislan, ond 'dw i ddiin yn cretu miwn talu costa plant dynion ereill.

Muss Spruce: Fe wyddwn i taw yn rhy fen i dalu dros ferch ifanc eich [sic] = [i] chi, yr hen beth sych. Fe fydd yn werth i'ch gwel'd chi yn Caerdydd nawr just, wrthoch chi'ch hunan, fel rhyw "wandering jew:" Fe fysa'n well gen i fyn'd gita dyn heb ddim crys ar i gefan na mynd nag un mor stingy a chi.

Shoni: Rhai iawn i chi torched am wilia.; a rhai iawn i hala arian dynon erill hefyd; phidwch chi meddwl y gallwch chi ddala hen dderyn gyd a'ch gwyneba neis.

Ar hyn, trodd Shoni at gariad Miss Spruce, a gofynodd iddo yn syml faint o amser oedd er pan oeddynt yn gyfeillion mor hoff.

"Tua thair wythnos," medda hwnw yn ddigon diniwed.

"O'n ni'n meddwl wir," meddai Shoni, gan grechwenu yn faleisus a chellweirus.

"Pa'm oich chi yn meddwi hyny," gofynai Miss Spruce, mewn llais dipyn yn uchel.

"Fi weta chi," meddai Shoni, dipyn yn ddifrifol erbyn hyn. "I chi, y merched yma, yn lled glefar gwpwl o wthnosa cyn pob 'excursion.'

"Beth i ni yn neyd mas o le i chi, gwetwch?"

 

 

F7607_shoni-o-r-pant_10-mawrth-1900_06_pennod-ii.jpg

(delwedd F7607) (
10 Mawrth 1900)



holai Miss Spruce, a'i gwaed yn ei gwyneb erbyn hyn, fel pe buasai am gael cydio yn ngwar Shoni druan. Ond yr oeddi ein harwr wedi ei frathu gan yr ensyniad, maiÍ yn rhy gybyddlyd i dalu yr oedd, ac atebodd yn hynod fuan:

"D'ych chi ddiin yn gallu gwneyd dim i fi, ond fi weta chi beth i chi yn neyd i'r boys ifanc dibrofiad yma. I chi yn gofalu ca'l gafal yndi nhw gwpl o wthnosa o flan yr excursion, er mwyn iddo nhw ga'I talu am dicket i chi a'ch treto chi trw'r dydd, ac 'wed'yn, bant a nhw os cewch chi rywun mwy at y'ch tast."

Erbyn hyn, yr oedd y train yn Ngorsaf Caerdydd, a da iawn hyny, oblegid yr oedd' Miss Spruce wedi cynddeiriogi at y Bachan o'r Pant.

Gallai llawer un fod yn barod i feio ein gwron am siarad mor bigog a Miss Spruce; ac felly, er mwyn ei enw da, y mae yn ddyledus arnom i esbonio ei ymddygiad y tro hwn. Nid ydym heb gofio fod rhai o'i elynion, ac yn neillduol teulu Miss Spruce wedi enllibio llawer arno yn herwydd y ffrae a nodwyd. Mynent ei fod wedi ymosod yn annheihyng o foneddwr ar ferch ieuanc yn nghwmni ei sponer, sef ei chariad. Daliwn ninnau na fu erioed anrhydeddusach gwr na Shoni o'r Pant.

Mewn adeg o gyfyngder, efe oedd y cyntaf a'i law yn ei logell, os byddai arian ynddi, ac os byddai yn wag yr un modd, o ran hyny. Os byddai eisieu cymwynas o ryw fath yn y byd, nid 'oedd yn Aberdar neb parotach na Shoni o'r Pant.

Ond sut y gellir esbonio ei ymddygiad at Miss Spruce y tro a nodwyd. Y mae yn ddigon rhwydd; a chredwn y byddwn trwy hyny yn dod a mwy o urddas y gwr enwog i'r golwg. Yn awr, beth bynag oedd Shoni, yr oedd yn drwmpyn o'r iawn rhyw. Nid oedd gwell trwmpyn na Shoni yn shir Forganwg. Hyny yw, yr oedd, fel y dywed y Sais, yn "jolly good fellow" bob modfedd ohono. Os byddai ganddo gyfaill, ni fyddai perygl iddo ei adael byth yn y ffos.
Glynai wrtho drwy y tew a'r teneu, y tan a'r dwfr. Byddai yn well ganddo ei hun gael dyrnod neu gam nag i'w gyfaill gael dioddef. Gwariai y ddimai olaf, a chollai y dyferyn olaf o waed er mwyn helpu ei gyfaill.

Ond beth sydd a fyno hyny a Miss Spruce?

Wel, fel hyn. Yr oedd Dai Bach, y gof, ai Shoni yn hen bartners am flynyddau.
Lle roedd un 'roedd y llall. Mewn da neu ddrwg, yr oedd y ddau gyda'u gilydd. Un adeg, ryw flwyddyn neu ddwy cyn excursion Caerdydd, yr oedd Dai y Gof a Miss Spruce wedi dechreu caru tipyn. Fel digwyddodd pethau, yr oedd "excursion," yn myned i Bortthcawl, yn mhen ryw ychydig wythnosau wedi iddynt ddechreu caru, ac fel bachgen ffyddlon i'w gariad a thrwmpyn hefyd, aeth Dai a Miss Spruce gyda'u gilydd. Felly, bu raid i Shoni chwilio am gwmni arall, neu fyned ei hunan. Yr oedd Dai yn teimlo dros Shoni, a dywedodd hyny wrth ei gariad, Miss Spruce. Cynllunodd hi ffordd allan o'r trybini yn bur fuan, a chyflwynodd gyfeilles iddi i sylw Shoni. Derbyniwyd y trefniant. Am unwaith yn ei fywyd, wele Shoni yn cymeryd ei gariad gydag ef gyda'r tren.

Fel dau drwmpyn iawn, wrth gwrs, Dai a Shoni oedd yn codi y tocynau, yn talu am ginio a phethau cyffelyb. Heblaw hyn, yr oedd Miss Spruce a'i chyfeilles yn hynod hoff o edrych i ffenestri y shopiau, yn neillduol lle yr oedd addurniadau a gwisgoedd. Diwedd y peth oedd eu bod fwy nag unwaith yn myned i fewn i ofyn pris hyn a'r llall, ac yn dod, ac yn dy weyd wrth y bechgyn rywbeth fel hyn:

"Dafydd, dyna brooch pert, a dim ond hanner coron yw ei bris.
Ma' fa yn siwr o fod yn un da." Neu,

 

 

F7608_shoni-o-r-pant_10-mawrth-1900_07_pennod-ii

(delwedd F7608) (10 Mawrth 1900)



"John, i chi'n lico'r ear-rings yna. Ma nhw yn gweyd taw doiswllt i nhw."

Diwedd y peth fu, yn naturiol i'r ddwy lances siriol, ddengar, gael aml i anrheg gan y llanciau anrhydeddus, a lloiaidd. Ond tua phedwar o'r gloch, digwyddodd peth chwerw iawn i brofiaid Dai a Shoni. Ar ol iddynt fod yn gwario eu harian ar y ddwy hoeden drwy'r dydd, collasant hwy yn hollol ddisymwth.

Deallodd y merched nad oedd yn debygol y cawsent ychwaneg o anrhegion gan y ddau sponer newydd, a dywedasant wrthynt am aros yn y lle a'r lle am ychydig, y deuent yn ol yn union. Arosodd Dai a Shoni yno am dros awr o amser; ond ni chawsant olwg ar eu cariadon anffyddlon, hyd nes cyrhaedd yr orsaf y noson hono i wneyd am gartref. A dyna lle yr oeddynt, a dau fachgen ieuanc, hoew arall gyda hwy

Nis gallodd Shoni anghofio y tro hwnw hyd ei fedd, a dyna oedd yn cyfrif am ei chwerwder hynod pan yn siarad a Miss Spruce. Dyna, hefyd, oedd yn peri iddi hithau deimlo mor anghyfforddus o dan y fflangell.

Fel y nodwyd, un siriol, llawen, oedd ein gwron fel rheol, ond taenai y cymylau dros ei wyneb pan feddyliai am dric Miss Spruce a'i chyfeilles arno ef a Dai Bach, y gof. Cofier, hefyd, mai teimlo yn benaf yr oedd ef nid drosbo ei hun, ond dras ei gyfaill, oblegid gwyddai fod Dai druan, wedi pendroni ar swynion Miss Spruce, a'i fod o ddifrif, fel carwr, mewn canlyniad. Yr oedd Dai, ihefyd, wedi bod yn caru am daiir wythnos. Am Shoni, yr oedd ei galon ef yn ddigon iach a chyfan. Fodd bynag, nid peth rhwydd fyddai i unrhyw ferch ieuanc ar ol hyn allu perswadio Shoni i dalu ei thren a'i chostau gydag un "excursion."

Elai yn yfflon, weithiau wrth feddwl am y noswaith fythgofiaidwy hono pan ddychwelodd Dai ac yntau yn ol i Aberdar heb eu cariadon, a hwythau wedi bod yn swagro cymaint wrth fyned y boreu hwnw. Onid oedd pawb yn eu poeni wrth ddod gartref? "B'le ma' dy wedjan di, Shoni?" meddai un ar ol y llall.

Dyna siarad y gwaith dranoeth yn y man lle gweithiai Shoni. Ac i wneyd pethau yn waeth, yr oedd Miss Spruce a'i chyfeilles wedi bod yn ddiwyd yn taenu argriaphiad gwahanol o'r hanes, ac yn chwerthin am benau y ddau ddiniwed gwrthodedig.

Tystiai fod arian Dia a Shoni wedi darfod, a'u bod yn gwrthod myned i weled y shows a'r waxworks, ac nid oedd modd cael bwyd gyda hwy, a llu o bethau disail ereill. Dyna yn syml yr esboniad ar eiriau pigog Shoni a Miss Spruce.

Ond beth am Shoni yn Nghaerdydd? Pennod bwysig yn ei hanes yw hon. Awd i lawr y grisiau o'r platnorm yn Nghaerdydd. Yr oedd y lle yn llawn o bobl. Brysiodd Shoni trwy eu canol, ac allan ag ef i lawr yr heol, hyd yn Queen-street. Gwelodd y train-car yn dod.

Neidiodd tua 20 neu 30 o'r boys i fyny, a Shoni yn eu plith. Bloeddiodd y swyddog fod y lle yn llawn, a cheisiodd dynu Shoni i lawr. Gwyddai Shoni sut i barchu policeman, ond pwy oedd hwn? Cydiodd Shoni yn ngholer y swyddog, at bu yn bur ffyniig rhyngddynt. Ar hyn, dyma ddau heddgeidwad o Saeson swrth yn mlaen, ac yn cydio yn ein harwr. C'auodd y dorf am danynt.

Yr oedd Shoni yn hoff ddyn gan foys Aberdar, ac ni fynent er dim ei adael yn y ddalfa. Cydiai tri neu bedwar ohonynt yn yr heddgeidwiadd, a bu yn ymdrech boeth am ychydig amser. (I'w barhau.)




 

 

F7609_shoni-o-r-pant_17-mawrth-1900_01_pennod-iii.jpg
(delwedd F7609) (17 Mawrth 1900)

Papur Pawb. 17 Mawrth 1900.

PENNOD III.—YR EXCURSION ETO
.

Welsoch chwi erioed y bobl adeg excursion yn dod allan o'r train yn Nghaerdydd?
Os naddo, y mae un o'r golygfeydd mwyal dyddorol a rhamatus yn eich aros.

Nid yw gweled y Niagara, neu olwyn iawr Earl's Court, neu y Zoological Gardens, yn Llundain, neu ymladdfeydd tanllyd Gerddi Belle Vue, yn Manchester, yn ddim ati.

Pwy sydd ddigonol i'r gwaith o'i ddesgrifio? Y mae Jack Tar yn ddigon digrifol a bywiog pan gyrhaedda y lan wedi mordaith faith, ond nid yw i'w gymharu a Shoni Hoi a'i gyfeillion. A phwy allai feio yr un ohonynt, y morwr a'r glowr?

Ystyrier pa fodd y treulia y glowr ei ddyddiau. Cyfyd o flaen y wawr, a bydd yn nghrombil y ddaear wrth ei waith cyn bydd hanner y byd wedi troi yn ei wely. Yno, ddydd ar ol dydd, yn y tawch a'r mwrllwch a'r tywyllwch Aiphtaidd, yn nghanol myrdd o beryglon anweledig y treulia ei ddyddiau.

Yn ystod misoedd y gauaf, bydd yr haul wedi gostwng cyn i Shoni and Co. gael eu codi o’r dyfnderoedd lle y gweithiant, a'r canlyniad yw nad ydynt am lawer o fisoedd yn cael gweled goleuni haul o gwbl ag eithrio awr neu ddwy prydnawn Sadwrn a thrwy dydd Sul.

Y glowr yn unig wyr ystyr y gair dydd Sul (Sun Day), oblegid dyna'r unig ddydd o'r wythnos am hydoedd y ca weled yr haul. Heblaw hyn y mae cylch bywyd y glowr yn hynod gyfyngedig yn ei oriau hamddenol.
Ni thal iddo nemawr byth fyned y tuallan i gylch sain yr hooter.

Pa ryfedd fod Shoni, druan, yn hoff o excursion? A pha ryfedd ei fod yn ysgafn ei droed a'i galon pan yn cae diwrnod o ryddid perffaith? Dim gwaith, ac yn ddigon pell o glyw yr hooter drwy y dydd! O, ddiwrnod dedwydd, dedwydd, gwyn!

"Fire away, boys, dewch i ni gael ticyn o sport heddi gyda'n giddyl."

Cofier nad yw boys Aberdar yn credu mewn teithio yn unoedd a deuoedd. Dim danger, wir! Myn'd yn llon'd hewl gyda'u gilydd fynant hwy a gwae i'r sawl a geisio wneyd cam ag un ohonynt.

Ond son yr oeddym am yr olygfa wrth ddod o'r tren yn Nghaerdydd. Yma gwelir Dafydd Thomas, diacon parchus Elim, a Marged ei wraig ar ei fraich yn clynhercian goreu y gallant. Y mae y ddau yn dioddef yn erwin oddiwrth y rheumatic, ond ni fuasent yn dychymygu am aros gartref ar y fath ddiwrnod. Yn gwthio yn eu herbyn yn y dorf, wele Twm yr Hewlwr, yr hwn sydd eisoes wedi cael dyferyn yn ormod. Bu yn y Lion cyn dod o Aberdar, a gwelwyd ef fwy nag unwaith yn codi potel fechan at ei geg yn y tren.

Yn dyn ar sodlau Twm dacw Martha, ei wraig, a dau blentyn bychan. Y mae Martha yn bloeddio nerth ei llais, "Tomos, Tomos, citshwch yn un o'r plant yma, newch chi. Hy, na naiff, yr hen ffwlbyn dwl."

Yr oedd yn amlwg fod Twm yn ceisio dianc oddiar ffordd Martha a'r plant, er mwyn cael llonydd am y diwrnod. Ond, druan ohono, methu wnaeth y tro hwn.

Edrychwch acw, mor ddymunol yw yr olwg ar Dafydd Hywel, a'r wraig, a'i blant. Y mae Dafydd yn ddirwestwr cyson, selog, ac yn meddwl y byd o "Polly ni," chwedl yntau.


 

 

 

F7610_shoni-o-r-pant_17-mawrth-1900_02_pennod-iii.jpg
(delwedd F7610) (17 Mawrth 1900)

Y mae pob un ohonynt yn ei "ddillad dydd Sul," a rhai ohonynt wedi cael esgidiau a dillad newydd. Y mae yn rhaid i Dafydd a Polly aros ychydig i drefnu pethau cyn cychwyn i'r dref. Gofala Polly am y babi chwe' mis oed, wrth gwrs; dacw Dafydd Hywel ei hun yn cario Caradog James, llencyn trwm, cryf, teirblwydd oed, fedrai gerdded yn iawn ei hun. Am y trefniadau ereill, mynegwyd hwy fel y canlyn yn derfynol gan Dafydd ei hun, er fod Polly yn taflu llawer gair i fewn: "Nawr, John Llewelyn, citsha di yn law dy war fach, a phaid a'i gillwng hi, cofia di; Dora Myfanwy, citsha di yn ffast yn llaw John Llewelyn, a dewch y'ch doi gyta ni, ne i chi yn siwr o fyn'd i golli."

Edrychai y plant yn synllyd ddigon a glynent yn dyn yn eu gilydd ac wrth eu rhieni.

Yn y fan acw wele ddau fach dlws, yn edrych dipyn yn swil ar eu gilydd. Carwyr ydynt, y maent yn hoff iawn o'u gilydd er's llawer dydd bellach, ond dyma'r tro cyntaf iddynt wneyd math o broffes gyhoeddus o hyn. Edrychent braidd yn swil, er fod yn hawdd canfod fod y ddau yn ymdangos dipyn yn falch o'u cyflwr. Yr oedd Edward yn cario sunshade Miss Lewis, tra yn ei llaw hithau yr oedd satchel fechan gafodd gan Edward yn anrheg erbyn yr excursion.

Ond pwy all ddesgrifio yr olygfa? Onid oedd pob unigolyn yn gyfrol o ddyddorion? Wrth eu gweled yn gwau trwy eu gilydd, yn bloeddio y naill ar y llall, yn holi eu gilydd am y ffordd I’r farchnad ar exhibition, yn gwthio, yn llusgo, ac yn tuchan, y gwragedd gan mwyaf yn llawn helynt gyda’r plant, gyda'r umbrellas, a gyda'r basged! bychain a bwyd oedd ganddynt; anhawdd gwybod i ba beth y gellid eu cymharu i forgrug mewn twmpath, i gyndron mewn caws, l wenyn mewn cwch, ynte i beth?

O, bu bron i ni anghofio son am y saloon carriage, a’i gynnwys. Wedi i'r dorf fyned allan gan mwyaf, dacw'r urddasolion yn gwneyd eu hymddangosiad. Ni fyddai yr excursion yn gyflawn heb wyr y saloon. Yr oedd Mr Rollins y manager, chwareu teg iddo, yn gwneyd pwynt o fyned gyda’i weithwyr i'r excursion; a phwy oedd gyda ef ond Mrs Rollins a Miss Rollins; Edward Hughes a William Williams, y ddau gaffer, dau neu dri o firemen; Sam, mishtir halliars; Mr Brown y cashier, a rhai o'r clercod, a'r Parch J. Cynon Jones, gweinidog y Capel Isha.

Ond sut cafodd y gweinidog fyned i'r saloon? Wel, aelod yn Capel Isha yw Mr Brown, y cashier; ac heblaw hyny yr oedd Mr Cynon Jones yn hynod boblogaidd gyda'r gweithwyr. Yr oedd yn fachgen llathraidd, llawen, doniol, ac yn hoff o gwmni boys Aberdar. Fel arweinydd Eisteddfod, nid oedd ei gyffelyb yn y cwm.

Hefyd, hen lwynog ysmala oedd Mr Jones. Edrychai yn mlaen at yr excursion gyda chymaint o hwyl a Shoni o'r Pant ei hun. Tystiai yn awr ac eilwaith, wrth ei gyfeillion mynwesol, nad oedd concert na chymanfa ychwaith yn ddim at excursion. Mewn gair, llawer o wag oedd Mr Cynon Jones. A chofier, er cymaint oedd yn nghwmni y gweithwyr ni chlywid un ohonynt byth yn cyfeirio ato ond fel Mr Jones. Nid oedd berygl i neb ddod yn rhy agos ato er mor galon-agored ydoedd.

Rhoddwyd "three cheers" i Mr, Mrs, a Miss Rollins, ac yna i Mr Cynon Jones, bob un ar ei ben ei hun; yna "Three cheers" i'r gaffers a'r clercod. Bloeddiai pob un ei oreu, oddiwrth y baban ar y fron at Dafydd Thomas a Marged, druan, er gwaethaf y rheumatic; chwifiai y gwyr eu ffyn, y gwragedd eu umbrellas, y llanciau eu capiau, a'r llancesi teg eu cadachau gwynion,





 

 

 

F7611_shoni-o-r-pant_17-mawrth-1900_03_pennod-iii.jpg
(delwedd F7611) (17 Mawrth 1900)

Ar hyn y gwnawd y rhuthr a nodwyd yn y bennod flaenorol am y tram-car. Ceisiodd Shoni o'r Pant fyned i'r tram gydag ereill, fel y dangoswyd eisoes, a'r canlyniad fu i'r ddau heddgeidwad gymeryd at ei gorpws. Cyn pen eiliad yr oedd dau wr y gyfraith ar eu hyd ar lawr. Gwingiai Shoni am gael rhyddid o'u crafangau. Fel ergyd mellten yr oedd dwsin neu ugain o'r bechgyn glanaf yn gwasgu ar gymalau y ddau Sais. Dacw Shoni yn rhydd, ac yn rhedeg i ganol y dorf i guddio. Can gynted y cafodd yr heddgeidwaid hewl glir i ffwrdd a hwy gan floeddio am help a chwythu yn y chwibanogl hyny fedrent.

Gyda hyn, dyma Mr Cynon Jones i'r lle, wedi holi gair neu ddau deallodd sefyllfa pethau i'r dim. "Fechgyn," meddai. "Un gair bach. Peidied neb ohonoch a siarad gair o Saesneg pan ddaw yr heddgeidwaid yn ol. Cofiwch. Siaradwch faint fynoch o Gymraeg. Peth arall, peidied un ohonoch a symud o'r fan yma am beth amser."

Gyda hyn, daeth dau neu dri at Mr Jones, gan ddywedyd, "Ma'n 'well i ni gwatto Shoni o'r Pant, syr; ne ma' nhw yn siwr o'i bico fa ma's. Ma nhw wedi rappo'i got a yn ddoi bishyn."

"Gadewch chwi John Thomas i fi," atebad Mr Jones, ac i ffwrdd ag ef at Shoni. Gwelodd yr olwg resynus oedd ar ein harwr, yr hwn oedd yn crynu bob modfedd ohono.

Yr oedd gan Mr Cynon Jones got uchaf ysgafn ar ei fraich.

"Gwisgwch y got yma, John," meddai, "ac ewch i'r Coffee Tavern yma, a dywedwch wrtho Mr a Mrs Williams mai fi sydd wedi eich danfon, a bydd pobpeth yn iawn. Rhai o Aberdar ydy' nhw."

Aeth Shoni i fewn i'r Coffee Tavern. Dywedodd ei helynt, a dywedodd mai Mr Cynon Jones 'a'i danfonodd. Cafodd ymolchi. Gosododd Mrs Williams goler tan am ei wddf a glanhaodd ei ddillad, a dechreuodd yntau deimlo yn fwy tawel a chartrefol yno.

Yn y cyfamser, daeth y ddau heddgeidwad yn ol gyda mintai o ddeg neu ddeuddeg ereill gyda hwy, yn cael eu blaenori gan y rhingyll. Dechreuodd y sergeant holi yn awdurdodol, a gwthiai y rhai oedd gydag ef trwy y bobl, fel pe i chwilio am rywun, ond Cymraeg a dim ond Cymraeg oedd yn disgyn ar eu clustiiau. Edrychai y sergeant yn lloiaidd ac yn ddigofus bob yn ail.

"Where is that drunken fellow?" meddai yn awdurdodol.

"Beth mae a'n wfeyd, boys?" oedd yr atebiad.

Yno y buwyd am beth amser; y bobl yn siarad ac yn bloeddio ar eu gilydd yn Gymraeg, ac yn gwneyd gwawd direidus o wyr y cotiau gleision mewn iaith anhysbys iddynt, a'r olaf yn edrych ar y dorf yn ddirmygus a bygythiol.

Na; yr oedd yno un heddgeidwad tal, hardd yr olwg, oedd fel pe yn chwerthin yn ei lawes gydol y twrw. Yr oedd Mr Cynon Jones wedi sylwi arno er's tro. Nid oedd mor arw a'r lleill pan yn gweithio ei ffordd trwy y dorf. Craffai hytrach yn fanwl hefyd ar hwn ac ar y llall, ond ni ynganai nemawr i air. Beth oedd yn cyfrif am hyn, tybed?

Ar hyn, aeth Mr Cynon Jones a Mr Rollins yn mlaen at y sergeant i esbonio pethau, ond ni fynai y gwr mawr hwnw ei lonyddu ar ychydig. Holwyd y rhai a welsant y ffrwgwd, a thystiai pawb fod "Shoni o'r Pant" mor sobor a'r judge," ac mai ar y driver a'r ddau heddgeidwad yr oedd y bai i gyd. Gofalai Mr Jones mai yn Gymraeg yr oedd y tystion yn siarad, ac, wrth gwrs, gofalai pa fodd i osod pethau yn gywir o flaen y sergeant siomedig a digllon.



 ,

 

 

F7612_shoni-o-r-pant_17-mawrth-1900_04_pennod-iii.jpg
(delwedd F7612) (17 Mawrth 1900)



"But where is the fellow?" meddai y swyddog.

"Gwyddoch chwi, fechgyn, pa le mae John Thomas?" goiynai Mr Jones.

"Na wyddon ni, yn wir, Mr Jones, fe aeth o'r golwg fel yspryd i rywle."

"Y maent yn dyweyd," ebai Cynon Jones, wrth y gwr glas, "nas gwyddant pa le y mae y dyn."

Ar hyn, trodd y sergeant ymaith, ac wele yr heddgeidwad tal hwnw, yn dod at ochr Mr Jones, ac yn sibrwd yn ei glust, "Cynon, wyt ti ddim yn fy nabod i, fachan?"

Agorodd Mr Jones ei lygaid, ac edrychodd dros y ddwylath oedd o'i flaen o goryn ei het hyd flaen ei esgid.
O'r diwedid, meddai, gyda syndod: "Wel, Ned, o b'le dethot ti yma?"

Bu rhaid tori y stori yn fyr iawn. Swm yr oll oedd fod Ned, y policeman tal, ei hun yn un o foys Aberdar, — yr oedd yn gefnder i Mr Cynon Jones. Gadawodd y lofa rai blynyddau cyn hyny, teithiodd yn Affrica, a daeth yn ol, a chymerodd swydd heddgeidwad yn heddlu Caerdydd. Profodd awyr iach Affrica a'r gwaith ysgafn yn Nghaerdydd yn fwy llesol i'w iechyd na'r llwch a'r tawch yn y lofa. Yr oedd Ned, fel ei gefnder, yn llawn direidi a donioldeb, a thystdodd ganwaith wed'yn iddo gael hwyl anarferol y boreu hwn wrth syllu ar wynebau ei hen gyfeillion o Aberdar, ac yn neillduol wrth eu clywed oll yn pallu siarad Saesneig.

Rheswm da oedd ganddio dros dori ei stori yn fyr. Yr adeg hono, rhuthrai y dorf yn sydyn i un cyfeiriad. Wrth eu bod ill dau yn tori trwy y bobl gyda’u gilydd, ebai Ned yn nghlust Mr Jones: "Bachan, ma' nhw wedi i ddala fa. Taw ni marw, 'rhen Shoni o'r Pant yw a. Paid di son, Cynon, bo fi yn gwbod Gymra'g, no fe fydd y sergeant yma yn gneyd lle twym i fi."

Ie, yn wir, dyma oedd wedi digwydd. "Shoni o'r Pant," druan, oedd yn y ddalfa, a'r handcuffs am ei ddwylaw, a chot Iwyd Mr Cynon Jones am ei gefn. Yr oedd yn ffodus fod Mr Jones yno ar y pryd, oblegid amlwg oedd fod cyfeillion Shoni wedi chwerwi trwyddynt, a gweld arwyddion eu bod yn meddwl gwneyd ymgais arall i'w ryddhau.

"Hold on, fechgyn," meddai, "byddwch yn llonydd yn awr, fe fydd John yn eithaf rhydd yn mhen ychydig amser."

Gyda, hyn, trodd at y sergeant, a gofynodd iddo beth fwriadai wneyd a'i garcharor.

"Myned ag ef i'r llys yn union," atebai y swyddiog. "Y mae'r ynadon yn eistedd yn awr."

"Da dawn," meddai Cynon Jones, "byddwn yno mewn pryd i'¡ch cyfarfod."

Ond sut y daethpwyd i wybod fod Shoni, druan, wedi dianc i'r Coffee Tavern? Dyna'r cwestiwn oedd yn dyrysu pob un. Barnai rhai mai rhyw detective mewn dillad plaen oedd yn nghafnol y dorf yn ei wylied. Tadogai ereill y datganfyddiad i fedr a chyfrwysdra yr heddgeidwad.
Yr oedd pob un a'i opiniwn ei hun ar y dirgelwch. Yn mhen ychydig amser, fe gawyd allan yr esboniad cywir. Pwy oedd wrth y drws pan redodd Shoni i'r Coffee Tlavern. ond Miss Spruce. Yr oedd wedi llawenhau wrth weled Shoni, druan, ym ngafaelion y ddau heddgeidwad ar lawr. Ni allai faddeu iddo am yr hyn a ddywedodd wrthi yn y tren. Siomodd ar y cyntaf wrth ei weled yn dianc, ac achubodd y cyfle cyntaf i ddyweyd wrth un o'r fintai heddgeidwad, yn mha le yr oedd Shoni yn ymguddio. Rhedodd yr heddgeidwad yn syth i'r Coffee Tavern. Chwiliodd yr ystafelloedd bwyta heb weled neb, yna aeth i'r gegin. Yr oeddi Shoni, fel y nodwyd, wedi dechreu tawelu, ond pan welodd y gwr a'r got las



 

 

 

F7613_shoni-o-r-pant_17-mawrth-1900_05_pennod-iii.jpg
(delwedd F7613) (17 Mawrth 1900)

gwnaeth naid am y drws, ond yn rhy ddiweddar. Mewn eliad, yr oedd yn y ddalfa, a'r haiarn am ei arddyrnau. Pe buasai yn ddigon call i fod yn ddistaw ac yn llonydd, ni fuasai y policeman yn meddwl mai efe oedd y ffoadur, gan gymaint y cyfnewidiad oedd ynddo, cydrhwng coler Mr Williams a chot Mr Cynon, Jones.

Fodd bynag, gellir dyweyd mai gwaith Miss Spruce oedd gosod Shoni yn y ddalfa bore hwnw. Chwareu teg hefyd i Twm Llewelyn, y gwr ieuanc oedd yn nghwmni y ferch ieuanc hon. Can gynted ag y deallodd mai hi oedd wedi bradychu Shoni i ddwylaw ei elynion, anerchodd hi yn y geiriau canlynol: - "Tyrncot oedd dy dad, a thyrncot wyt tithau. Cer obothdy dy fusnes, neu di. Ddewa i ddim cam pellach gyda ti." Gyda'r geiriau hyn gadawyd Miss Spruce yn unig, ac aeth Twm i wneyd ei oreu gyda'r boys ereill i gael Shoni yn rhydd.

Cytunai pawb fod Shoni wedi cael cam creulon, ac nad oedd amser i'w golli er mwyn sicrhau chwareu teg iddo yn y prawf.

"Do's dim piwrach bachan yn Ngwm ‘Berdar na Shoni o'r Pant," meddai un.

"Shoni!" meddai un arall, "fysa Shoni ddim yn gneud drwg i 'wanan, heb son am i ddyn."

"Nawr boys," meddai y trydydd, oedd ychydig yn fwy ymarferol na'r lleill, "os yw Shoni i gal 'wara teg, rhaid i ni gal cyfrithwr iddo fa, ag w i yn cinig bod ni yn gneud casgliad nawr.”

"Right you are; dyna fe, bachan. Cer di a 'dy het rownd, Wil," meddai Jim y Cantwr.

Nid oedd eisieu eilio, a chefnogi, a siarad ychwaneg. Yr oedd tair neu bedair o hetiau yn cael eu dwyn oddiamgylch ar unwaith. Clywid tine iach yr arian gwynion yn disgyn iddynt. Nid rhyw gasgliad coch, trwm, fel casgliad cwrdd mawr, lle ceir y pres cochion yn gwrido dros y sawl fu yn eu taflu yn llechwraidd i'r blwch, oedd yno; ond casgliad o dros bum' punt a hwnw yn wyn i gyd.

"'Nawr, boys," meddai yr un gwr ymarferol eto, "w i yn cinig y'n bod ni yn gofyn i Mr Jones, y gweinidog, fyn'd i wilo am gyfreithwr, a bod Sam, Mishtir Haliars, i fyn'd gita fa."

"Right you are; dyna fe bachan. Ffamws. Fire away, boys," atebai Jim y Cantwr. "Cofiwch chi raid i ni gael y cyfreithwr gora yn Cardydd at y job hyn."

Cyflwynwyd yr arian i Mr Cynon Jones, yr hwn, gyda y Sam a nodwyd, a aeth i weled Mr Rollins, a Mr Brown. Barnai yn ddoeth ymgynghori a hwy cyn myned gam yn mhellach. Teimlent oll yn selog ar y mater. Taflodd Mr Rollins sofren i'r drysorfa, a chafwyd ychwaneg gan y swyddogion ereill. Cyfeiriodd Mr Rollins hwy at gyfreithiwr o allu a medr, yr hwn oedd gyfaill iddo ef.

Ar ol hyn aeth Mr Brown, Sam, Mishtir Haliars, a Mr Cynon Jones, yn syth i swyddfa Mr Trevor, y cyfreithiwr.
Yr oeddynt wedi gofalu yn mlaen llaw i ofyn gan nifer o dystion oedd ganddynt beidio myned yn mhell. Yr oedd yr holl ffeithiau ar flaenau bysedd Mr Trevor, cyn pen ychydig amser. Gyda llaw, bachgen o Aberdar oedd Mr Trefor hefyd, ond ei fod yn Nghaerdydd er's llawer blwyddyn bellach, heblaw hyny, efe oedd cyfreithiwr y cwmni, o dan ba un y gweithiai gwyr yr excursion, y rhan fwyaf i gyd. Yr oedd y gorchwyl felly wrth fodd ei galon.

"Diwrnod difrifol fydd hwn i Shoni druan," meddai Mr Trefor, “os na allwn ei gael yn rhydd, ond gwawn sic] [= gwnawn] ein goreu."

"Ie, yn wir, Mr Trefor," atebai Cynon Jones "ac i minnau hefyd, oblegid fy nghot i sydd am John druan." "

Eich cot chwi, Mr Jones, sut hyny?" holai y cyfreithiwr.




.

 

 

F7614_shoni-o-r-pant_17-mawrth-1900_06_pennod-iii.jpg
(delwedd F7614) (17 Mawrth 1900)

 Adroddwyd yr hanes, ac edrychodd Mr Trefor yn lled ddifrifol gan ddywedyd: "Gobeithio, Mr Jones, na chewch chwi eich cyhuddo o gynnorthwyo y carcharor. Buasai yn gyhuddiad difrifol yn eich erbyn."

Gwelwodd yr efengylwr ac edrychodd yn syn am enyd. "Yna," meddai o'r diwedd, "Na feindiwch, daw pobpeth yn iawn, cewch weled."

Yr oedd yn hanner awr wedi deg, ac yn amser i'r llys agor. Dylifai cannoedd yno gyda'u gilydd nes llanw y lle. Methai swyddogion y Ilys ddeall beth oedd yn bod. Wedi aros ychydig galwyd achos Shoni o'r Pant yn mlaen.

"John Thomas, charged with being drunk and assaulting the police," ebai clerc y llys. Safai y "Bachan o'r Pant" yn grynedig a gwelw, gydag heddgeidwad cryf wrth ei ochr - neb llai na Ned, cefnder Cynon Jones. Wrth ddod i fyny o'r gell ag ef, sibrydodd Ned air o Gvmraeg yn nghlust Shoni. "Shoni," meddai, "wyt ti ddim yn cofio Ned bach o'r Waen, mab Thomas Lloyd?"

Bu agos i Shoni lefain allan gan lawenydd pan glywodd y Gymraeg yn dyfod allan mor gynhes o enau yr heddgeidwad.

"Napod a? own gydy 'i yn wir. Bachan ond bu a yn dryso gita fi yn yr heading gwinws, pan own i yn hela Bowler."

"Wel, fi yw hwnw," meddai Lloyd, yr heddgeidwad, yr hwn yn mhellach a anerchodd Shoni fel hyn: "Rhaid i ni beidio wilia racor nawr. Cwna dy galon, fe ddewi yn rhydd i wala os nad w i yn camsynad. A chofia hyn, Shoni, paid ti a wilia gair o Saesneg yn y court. Wilia di Gymrag ag fe fydd pobpeth yn all right."

Cododd hyn lawer ar galon Shoni, eto i gyd edrychai, ys dywedai Sam, "fel scythan wedi ei saethu."

Gyda bod y prawf yn dechreu, cododd Mr Trefor ar ei draed, a dywedodd ei fod ef yno yn amddiffyn y carcharor.

Synodd Shoni pan glywodd hyn, ac nis gallai ddeall y peth. Synodd y sergeant hefyd, a gwelwodd ef a'r heddgeidwaid o dystion oedd ganddo.

Dacw y sergeant yn ymaflyd yn y Beibl, ac yn cymeryd ei lw, ac yn dechreu rhoddi ei dystiolaeth. Yr oedd yr ystafell yn orlawn, ac yn y rhengau blaenaf yr oedd Mr Cynon Jones, a swyddogion y gwaith, a phrif ffryndiau Shoni. Yn nes yn ol yr oedd y gwragedd a'r plant. Gellid clywed curiadau calon pob un bron yr oedd pawb ar flaenau eu traed, a phawb yn dal eu hanadl, ac yn clustfeinio, er cael clywed tystiolaeth y sergeant yn erbyn Shoni. (I'w barhau.)

xxxxxxxxxx


 

 

F7615_shoni-o-r-pant_24-mawrth-1900_01_pennod-iv.jpg

(delwedd F7015) (24 Mawrth 1900)


24 Mawrth 1900

SHONI O'R PANT: (UN O ENWOGION ABERDAR)

PENNOD IV.—HELYNT YR HEDDLYS.

Wel, sergeant, beth sydd genych I’w ddyweyd yn yr achos hwn," ebai y llys.

"Daeth dau heddgeidwad ataf boreu heddyw, syr," meddai, "gan fy hysbysu fod dyn meddw ac afreolus wedi ymosod arnynt yn ddiachos, ac wedi iddynt gydio ynddo, fod nifer fawr o wyr ieuainc wedi ymosod arnynt, gan ryddhau y carcharor o'u gafaelion. Brysiais yno gyda mintai o swyddogion ereill, a llwyddasom i gael o hyd i'r carcharor, yr hwn oedd yn cuddio mewn Coffee Tavern cyfagos."

Wedi hyn cymerodd Mr Trevor y sergeant mewn Ilaw, a chroesholodd ef yn fanwl, er mawr ddifyrwch y llys, ac yn wir, dechreuodd Shoni ei hun loni tipyn, yr adeg hono hefyd.

Mewn atebiad i ofyniadau Mr Trefor cyfaddefodd y sergeant nad oedd efe wedi gweled y carcharor, hyd nes ei weled a'r handcuffs am ei ddwylaw; fod Shoni wedi actio yn hollol dawel a boneddigaidd, ac nad oedd wedi cynnyg cilio, yn ei olwg ef. Bu raid iddo dystio hefyd fod y carcharor yn edrych yn Ian ac yn daclus pan ddaliwyd ef, ac nad oedd arwyddion diod arno, yr adeg hono.

Yn nesaf, galwyd y ddau heddgeidwaid, fu yn yr helbul yn mlaen, un ar ol y llall, i adrodd eu 'stori hwythau. Ceisiodd un ohonynt osod lliw go gryf ar yr hanes, er mwyn dwyn cosp ar y carcharor, ac er mwyn eu cyfiawnhau hwy eu hunain yn y fargen. Ond, er eu gofid, gwelent nad oedd modd profi fod Shoni wedi meddwi.

Cafwyd cryn hwyl gan un o'r tystion hyn o dan groesholiad Mr Trefor; oblegid datganodd yr heddgeidwaid nas gallai fyned ar ei lw mai Shoni oedd y gwr fu yn ymosod arno. Yr oedd y cyfnewidiad yn ngwisg y carcharor wedi drysu y tyst, ac nis gallai fod yn sicr mai y creadur gwelw, tawel, oedd o flaen y Ilys oedd y gwr ffyrnig oedd yn ngafael a choler y driver ar y tram, y boreu 'hwnw.

Rhywfodd nid oeddys wedi sicrhau y llanc hwnw fel tyst, ac, felly, gwanychwyd yr achos yn erbyn y bachan o'r Pant, yn fawr iawn.

Wedi gwrando ar y tystion oedd yn erbyn y carcharor, cododd Mr Trefor ar ei draed ac anerchodd y llys, yn ffafr y cyhuddedig. Rhoddodd fraslun o'i amddiffyniad mewn byr eiriau. Yr oedd swm ei araeth rywbeth fel y canlyn — "Yr wyf yn teimlo, syr, nad oes eisieu i mi i ddyweyd ond ychydig iawn o eiriau. Y mae yn hollol glir fod y cyhuddiadau difrifol a niweidiol, a ddygwyd yma heddyw yn erbyn y carcharor, wedi i'r [sic] [= 0] syrthio i'r llawr bob un, a'u bod yn hollol ddisail. Dyma gyhuddiad ei fod yn feddw heb un math o dystiolaeth gadarnhaol! Cyhuddir ef o ymosod ar yr heddgeidwaid, ac nid oes un ohonynt yn sicr mai y gwr sydd ger eich bron yn awr yw yr hwn a welsant gerllaw y tram boreu heddyw! Y mae y fath beth yn chwerthinllyd i'r pen, eich anrhydedd, oni buasai am y ffaith fod cymeriad y boneddwr sydd ger eich bron yn y glorian. Dyma foneddwr parchus, nad oes gan un dyn air i'w ddyweyd am dano, ar ei brawf am feddwdod ac ymosodiad creulawn ar ddau o swyddogion heddlu tref Caerdydd! Y syniad, eich mawrhydi, fod gwr eiddil, gwanllyd yr olwg, fel y cyhuddedig wedi ymosod ar ddau swyddog cryf fel y ddau dyst fu ger eich bron!! Os yw eich mawrhydi yn barnu fod yn ddoeth myned a'r achos yn mlaen yn mhellach, bydd genyf tua phedwar ar ugain o dystion i'w galw i ddwyn tystiolaeth ger eich bron.

 

 

F7616_shoni-o-r-pant_24-mawrth-1900_02_pennod-iv.jpg

(delwedd F7016) (24 Mawrth 1900)


Yn eu plith y mae gweinidog yr efengyl all dystiolaethu fod y cyhuddedig yn ddirwestwr selog a ffyddlon. Ie, eich mawrhydi, yn llwyrymwrthodwr oddiwrth bethau meddwol! Y mae genyf hefyd i alw swyddogion y gwaith lle y gweithia y cyhuddedig, yn ogystal a lluaws o gymydogion y cyhuddedig, y rhai, eich mawrhydi, oeddynt yn dystion o'r hyn gymerodd le heddyw bore. Ond pe cymerai y fainc fy nghynghor i, buasech yn taflu yr achos allan, ac yn rhyddhau y cyhuddedig ar unwaith; oblegid o fewn fy holl brofiad, ni chefais achos mor ddisail yn cael ei gyflwyno i sylw y llys. Caraswn gael gwybod dymuniad eich anrhydedd yn y mater, oblegid yr wyf yn berffaith barod i fyned yn mlaen a'r achos."

"Mr Trefor," ebai y prif ynad, "nid ydym yn tybio fod eisieu i chwi fyned i'r drafferth o alw eich tystion. Y mae yn amlwg fod yna ryw gamsyniad dybryd yn rhywle. Y mae yn ddrwg genym fod Mr John Thomas wedi ei osod i'r drafferth a'r gofid o ymddangos ger ein bron yma heddyw.
Ond, y mae yn gadael y llys heb ysmotyn ar ei gymeriad. Eto i gyd, carem i'r cyhoedd gofio fod gan yr heddgeidwaid waith pwysig i'w gyflawni, a'u bod yn hawlio pob help tra yn ymdrechu cadw yr heddwch. John Thomas, yr ydych yn rhydd."

 Ar hyn clywid bonllef ar ol bonllef, y fath ni chlybuwyd o'r blaen, yn llanw y llys. "Three cheers" i Mr Trefor, boys; "three cheers i Shoni o'r Pant, eto, boys," &c. Ceisiodd swyddogion y llys eu goreu i gael distawrwydd er cael myned yn mlaen a'r achos nesaf, ond yn gwbl ofer; yr oedd un "Hwre" yn canlyn y llall, nes bod yr holl neuadd yn diaspedain.

Bu rhaid gohirio gwaith y gyfraith hyd nes i bob copa walltog o foys Aberdar fyned allan, ac yn wir am beth amser wedi hyny, oblegid bloeddio "hwre" yr oeddynt yn ddidaw ar ganol yr heol.
Bu rhaid attal llawer o gerbydau, ac nis gallai y dyeithriaid ddychymygu beth oedd yn bod.

Yr oedd yn wledd i glywed y bechgyn yma yn ail fyned trwy y treial. Yr oedd Mr Trefor wedi myned yn arwr di-ail gan bob un ohonynt. "Bachan," meddai un, "dyna'u mishtir nhw yw Mr Trefor." Ebai un arall: "Clywast ti a yn cauad pen y bobby mawr yna? Bachan, odd a wedi myn'd yn fud right."

"B'le ma' Shoni?" gofynai un.

"Pwy Shoni?" meddai un arall.

"Wel, am Shoni o'r Pant, wth gwrs b'le mae a?"

"Dyco fe, gita Sam, Mishtir Haliar," llefai dau neu dri, "gadewch i ni gario fa trwy'r dre' boys."

"Right you are, fire away boys," meddai Jim y Cantwr, a dacw ddeg neu ddeuddeg o fechgyn cryfion yn cydio gafael yn Shoni gan ei godi ar eu hysgwyddau, a'i gludio fel buddugoliaethwr, trwy rai o brif strydoedd Caerdydd. Nid oeddynt wedi cyrhaeddyd Duke-street, cyn i'r rhai o'r merched eu dal, gan orfodi iddynt aros am ychydig a gosod Shoni ar lawr. Cyn pen pum' mynyd yr oedd ein harwr yn rhubanau drosto i gyd; a golygfa werth ei gweled oedd hono, pan oedd tua hanner dwsin o ferched a gwragedd ieuainc yn addurno Shoni!

Edrychai yntau mor falch a thywysog yn eu plith. I fyny a'r arwr eto ar ysgwyddau ei gyfeillion, ac i ffwrdd a'r orymdaith dan ganu a bloeddio. Weithiau, cenid darnau o "Ymdaith Gwyr Harlech," yna y "Marselleise," ac ar ol hyny, "See the Conquering Hero Comes." Yr oedd yr olaf yn hynod effeithiol. A chofier, fe fedr glowyr Aberdar ganu. Onid yno yr oedd Cor Caradog, a Chor Gwilym Cynon ar ol hyny? Ac os oedd pob tafod yn pallu siarad dim ond Cymraeg yn y boreu, gyda'r sergeant hwnw, yr

 

 

F7617_shoni-o-r-pant_24-mawrth-1900_03_pennod-iv.jpg

(delwedd F7017) (24 Mawrth 1900)



oeddynt yn canu yn yr iaith fain mor rhigl a Sims Reeves, tra yr oeddynt yn cario Shoni i fyny trwy Queen-street, ac at yr exhibition.

Daeth Mr Cynon Jones i'r golwg gyda Sam Mishdir Haliars, pan yr oedd Shoni a'i geffylau yn cyrhaedd y parc, lle y cynnelid yr arddangosfa fawr. I lawr a Shoni. Casglwyd cynghor i wrando beth oedd gan Mr Jones i ddweyd wrthynt. Ond gyda fod y gweinidog yn gweled Shoni, dechreuodd chwerthin; a chwerthin wnaeth, heb atlu attal am hir amser, chwerthinwr heb ei fath oedd Cynon Jones unwaith y dechreuai, ac yr oedd wedi ymollwng iddi y tro hwn. Yn fuan, unodd Shoni i chwerthin gydag ef, ac unodd ereill yn ogystal, nes yr oedd wedi myned yn ddifrifol ar rai ohonynt cyn y diwedd.

Ond darfu ffit chwerthin, ac erbyn cael allan yr achos, dyna ydoedd gweled y rhubanau amryliw yn addurno cot y pregethwr, am gefn Shoni. Pan ddeallodd y bechgyn awd i holi am got y Bachan o'r Pant. Danfonwyd un i'w chyrchu i'r Coffee Tavern, at Mr Williams. Ond yr oedd y dilledyn yn ddarnau, a gwelwyd nad oedd yn werth ei chymeryd oddiyno. Mynegwyd cyflwr pethau i'r cwmni. Erbyn hyn, yr oedd Mr Jones a Sam yn rhoddi mynegiad am yr arian a ymddiriedwyd iddynt. Rywbeth fel y canlyn oedd anerchiad Cynon Jones: "Wel, fechgyn, yr ydym wedi dod trwy bethau yn bur lwyddiannus heddyw. Y mae yn dda genyf weled John Thomas yn rhydd gyda ni eto, ond ychydig feddyliais cyn dod oddicartref y buasai fy nghot i yn cael gweled y tufewn i un o cells llys Caerdydd, ac yn neillduol y cawsai ei haddurno yn y fath fodd ag y gwelir hi yn awr (hear, hear). Wel, am yn arian bellach ynte. Fe gafodd Samuel a minnau bum' punt a choron gyd chwi boreu heddyw. Yn ychwanegol at hyny, rhoddodd Mr Rollins sofren i ni (uchel gymeradwyaeth). Ar ol 'hyny, fe gawsom gryn dipyn gan Mr Brown a'r swyddogion ereill, fel y mae yr oll a dderbyniwyd tua wyth bunt a chweigan (uchel a maith gymeradwyaeth).

“Hold on, Mr Jones; wara teg, boys," bloeddiai Sam Mishtir Haliars. "'Dyw Mr Jones ddim wedi gweud wrtho chi fod e i hunan wedi roi wigan" (three cheers i Mr Jones, boys).

"Gadewch i mi orphen y mynegiad fechgyn. Dyna ni wedi derbyn wyth punt a chweigain, ac y mae yn dda genyf eich hysbysu fod Mr Trevor wedi actio fel boneddwr gyda ni heddyw (Wel done, Mr Trevor). Gofynais iddo beth oedd yn ofyn am ei lafur gwerthfawr, yn dod a John Thomas yn rhydd. Yr ateb gefais oedd: gan mai bechgyn o Aberdar ydych nad oedd yn codi dim o gwbl (cymeradwyaeth fyddarol). Wel, bellach, fechgyn, pa beth gawn wneud a'r arian yma?"

"Ma' rhaid i Shoni o'r Pant gael cot, syr,” ebai Twm Llewelyn, "ag w i yn cinig yn bod ni yn hercyd un iddo fa nawr."

"Fire away; right you are, bant a'r cart, ar unwaith ta, boys"; ac felly y bu. Cafwyd cot yn iawn i Shoni, a chafodd Mr Jones ei got yntau heb y rhubanau, wrth gwrs.

Ond, chwareu teg i Sam Mishtir Haliars; er ei fod yn lled safndrwm fel areithiwr, yr oedd ganddo galon yn iawn. Yn y gwaith pan yn gyru yr haliars a'r ceffylau, medrai lefaru a bloeddio faint fyd fynai. Yr oedd wedi syrthio mewn cariad rhyfedd a Mr Cynon Jones,y diwrnod hwnw. Cymerodd, yr ymgom ganlynol le rhwng Sam a Shoni a'r lleill o'r cwmni aeth i brynu y got.

"Ond dyw Mr Jones, y gweinidog, yn fachan piwr?" ebai Sam.

"Do's dim gwell dyn yn Nghymru na Mr Jones," oedd yr ateb.

"Fe fyswm ni yn depyg o fod yn ddigon

 

 

F7618_shoni-o-r-pant_24-mawrth-1900_04_pennod-iv.jpg

(delwedd F7018) (24 Mawrth 1900)

sownd heno, on' bai Mr Jones," meddai. Shoni, gan godi ei ysgwyddau fel pe mewn arswyd.

"Fi dy greta di wir, Shoni," meddai Sam, "a gwyddoch chi beth, fechgyn? Do's dim o'ch hannar chi yn gwpod beth ma'r gwr-byneddig yma wedi neud yn y fusnes hyn heddi." Fe aethai Mr Rollins i weud shwd odd petha; a dyna fel ceson ni wypod am Mr Trevor. Ag wetyn, fe wetws wrth Mr Trevor fod Mr Rollins wedi hala ni ato fe. Wrth gwrs, fe fysa Mr Trevor yn nido ar i ben i'r tan dros Mr Rollins achos taw fe yw cyfreithiwr y'n cwmpni ni, wyt ti'n gweld. Dyna ffordd gnath e'r gwaith am ddim."

"Ond bachan o 'Berdar yw Mr Trevor hefyd, Sam," awgrymai Twm Llewelyn, "ag odd e yn lico'r jobyn."

"Wel odd, wrth gwrs, do's dim dowt. Ond bachan Mr Jones, y gweinidog, wetws bobpeth wrtho fa! Pan o'n ni miwn gita nhw, odd Mr Jones yn gwneud yn enwa ni i gyd wrtho fa, ag yn gwneud shwd fachgan da yw Shoni. Pan odd Mr Jones yn gweud pethach felna, yr odd Mr Trevor yn u 'sgrifenu nhw lawr, a dim ond darllen rheiny mas nath Mr Trevor yn y cwrt."

"Pam odd a yn gweud wrtho ni gyd am bido wilia Saesneg wni?" gofynai Shoni.

"Bachan," meddai Sam, "ond taw yn lle bod y plismyn a'u sort yn deall beth o'n ni weud w'. Bysa nhw yn gwpod pobpeth odd yn ca [sic] [= cal] i weud pryd hyny, fysa yna lawar mwy o fwstwr nag sydd wedi bod."

"Wy i yn cinig," meddai Twm Llewelyn, "bod ni yn rhoi present i Mr Jones o ffon splendid. Beth i chi'n weud, boys?"

“Fire away; bant a'r cart; rigt [sic] [= right] you are, myn asgwm i. Ffamos, Twm," hanner floeddai y cantwr.

"Gan bwyll, dicyn bach," meddai Sam, "ottich chi yn meddwl y bysa Mr Jones yn folon' cymryd peth fel'ny nawr? Dim perygl! Ma'r gwr byneddig wedi roi wigan i hunan o beth sy' gita ni. Gryndwch, boys: W i yn meddwl taw y peth gora i ni yw wilia gita'r rest o'r boys cyn hala'r arian hyn."

"Beth newn ni a'r arian sy' gita ni ta?" gofynai Twm Llewelyn. "Ottich chi ddim yn folon roi dim i Mr Jones?"

"Beth wetas ti?" holai Sam Mishtir Haliars yn groch ac yn sarug; "Ddim. yn folon? Yn folon, ottw, ond fe fysa arno i gwilydd roi pishyn o hen ffon fach i wr byneddig fel Mr Jones. A chofia di taw pregethwr yw a."

Amlwg oedd erbyn hyn fod rhyw gynllun yn bryweddu yn mhen y Mishtir Haliars, ac amlwg oedd hefyd mai gaffer yw gaffer hyd yn nod ar ddiwrnod excursion.

"Gryndwch nawr, boys," ebai Sam, gan duchan, a charthu, o'r diwedd,, "dyma nginig i, ta beth: Nawr, wedi talu am got i Shoni, fe fydd yna lot o docyns yn spar, ag w i yn cinig ca'l cino gita'n gilydd, fel cino clwb."

"Right you are; fire away; first-class; well done, Sam, just y peth, bachan. Gadewch i ni gael eitha spri cyn cwpla y fusnas hyn," ebai Jim.

"Spri! y ffwl!" rhuai Sam Mishdir Halisars, "ond yw Mr Jones i ga'l dod gita ni, ag wyt ti yn gwpod nag' yw e' ddim yn ifad?"

Aeth Jim i'w gragen ar unwaith, oblegid rhaid cyfaddef mai brawd lled sychedig oedd y cantwr ar adegau.

"Gryndwch yto," meddai Sam "fe fyswn i yn licio gneyd clasgiad i roi rwpath o werth i Mr Jones. Ond, cofiwch chi, dos dim un o chi i acor ych pen am y peth nawr, ne fe fydd hyny yn distriwa'r cawl. I'ch chi'n cliwad, boys?' gofynai Sam, gan gau ei ddwrn ai gwasgu ei ddannedd.

 

 

F7619_shoni-o-r-pant_24-mawrth-1900_05_pennod-iv.jpg

(delwedd F7019) (24 Mawrth 1900)

Gwelwyd rhyfeddodau lawer yn yr arddangosfa y diwrmod hwnw, a dyddorol oedd sylwi fel yr oedd pob un wedi cymeryd ffansi at ryw un peth neillduiol. Synai y rhan fwyaf, er hyny, fod yno can lleied i'w gweled. Treuliodd Mr Cynon Jones a Mr Rollins gryn dipyn o amser yn syllu ar y darluniau oedd mewn un ystafell eang. Cawsiant, hefyd, hwyl yn craffu ac yn beirniadu rhai o'r cerfluniau gwerthfawr a ddangosid mewn ystafell arall. Pan safent o flaen cerflun Groegaidd mawr yn edmygu ac yn canmol, daeth nifer o fechgyn 'Berdar heibio, a chwarddasant dros y lle.

"Beth ma' hwnw dda, Sam?" meddai Dai Dowlais, gan gyfeirio ei fys at y cerflun.

"Wel, llun dyn yw a, bachan," meddai Sam yn swrth.

"Wel, ie, wrth gwrs," atebai Dai, dipyn yn wawdlyd: "W i yn gwpod taw nid llun ceffyl yw a. W i yn gwpod taw ryw short o ddyn yw a. Ond beth ma fa dda yn borcyn fel yna, ys gwn i?"

"Wel, am bachan, ond taw, i neyd y lle i ddisgwl yn bert w," meddai un arall.

"Hwna yn gneyd y lle yn bert!” chwarddad Dai.

"Ie, wrth gwrs. Wyt ti ddim yn cofio, fel oedd Mr Davies, Shop y Tepot, wedi gwneyd i ffenast Nadolig ddweddaf? O'dd gyda fa lot o linia dynon o bob shap wedi ca'l 'i gneyd o losin a shwgir."

"Pa'm, boys; shwgir yw hwna?" holai Dad.

"Wrth gwrs," atebai Sam, "ac fe fyddan yn 'i dorri fa lan, ac yn 'i werthu fa i'r plant ar y diwedd. Own ni ddim yn meddwl bo ti mor ddwl o'r blaen, Dai."

Yr hyn aeth a mwyaf o sylw Sam oedd gweled y merched yn pacio tybaco ac yn gwneyd cigars. Synai yn fawr at gyflymdra eu bysedd, taclusrwydd y peiriant, a chywirdeb y pwyso.

Buont yn hir iawn yn dyfalu uwchben un gwrthddrych. Barnai un mai, darn o haiarn i ddal drws yn agored ydoedd; mynai un arall mai un o bwysi cloriannau mawr y gwaith ydoedd. Er cael gwybodaeth fanylach, dyma ddau neu dri ohonynt yn cydio yn y peth, ac yn dechreu ei droi oddiamgylch, ac ar hyn, rhedodd un o swyddogion yr exhibition atynt i'w rhwystro, ac i alw eu sylw at y ffaiith mai shell oedd y gwrthddrych hynod a ddefnyddid mewn rhyfel, a dywedodd fod ffrwydriad un o'r pelenau hyn yn ddigon i ladd hanner cant o ddynion. Edrychasant ar eu gilydd mewn arswyd, a chiliasant o'r lle yn bur fuan.

Un o'r pethau nesaf a ddenasant eu sylw oedd cynllun (model) o bwll glo, a'r peiriannau a'r celfi cysylltiedig. Cawsant hwyl anarferol ar hyn. Gwaith rhwydd iddynt oedd ffeindio beiau, a chwarddasant yn iach uwchben llawer o ddiffygion y cynllun.

Ar ol teithio trwy y lle am beth amser, daeth arnynt chwant bwyd. Awd i ystafell fwyta a gwnawd holiadau. Cyfeiriwyd hwy i ystafell yn nes i fewn. Digwyddodd tua deg fod yn y cwmni yr adeg hon. Ystafell ardderchog lleiniau gwynion a glan, llwyau a ffyrch arian, napcyns wedi eu plygu yn gelfydd, a phlanhigion gwyrddion yn y ffenestri. Yr oedd y lle fel ystafell ginio Lord Aberdar, meddai Jim y Cantwr, ac yr oedd Jim yn gwybod, cofier, oblegid yr oedd yn un o'r cor fu yn cadw cyngherdd i'w arglwyddiaeth ychydig yn ol.

Sam Mishdir Haliars, wrth gwrs, oedd yn gorchymyn y bwyd, ac yn trefnu beth i’w gael, gan mwyaf. Yr oedd dau neu dri o'r cwmni braidd yn anfoddlon myned i fewn i'r ystafell hardd yma ar y dechreu, ond rhag bod yn wrthddrychau gwawd y lleill, i fewn a hwy. I fewn yn fuan, hefyd, y daeth y bwyd. Ac yr oedd

 

 

F7620_shoni-o-r-pant_24-mawrth-1900_06_pennod-iv.jpg

(delwedd F7020) (24 Mawrth 1900)


yno fwyd! Te a thri neu bedwar o ffowls yn oer, pob math o deisenod, pickles, &c. Yr oedd yn werth gweled llygaid rhai o'r boys pan ddygid y bwyd i fewn, ac yn werth i wrando arnynt wedi i'r gwasanaethyddion fyned allan! Yr oeddynt yn siarad, yn chwerthin, ac yn dynwared ieir yn clochdar, a cheiliogod yn canu, nes y gallech dybio eich bod yn nghanol ffair fawr.

Wedi cael distawrwydd, trefnwyd i ddechreu carfio. Nid oedd un ohonynt wedi arfer a'r gorchwyl hwnw. Chwerthin mawr, felly, oedd yn canlyn gwrthodiad y naill ar ol y llall i ymgymeryd a'r gwaith. O'r diwedd, gwnawd cynnyg, a gwnawd yr adar yn ddarnau; ond O! ysprydion llwynogod ni fu erioed y fath garfio Llwyddwyd i gael y coesau i ffwrdd yn weddol daclus, and wed'yn, ---! Wyth coes oedd gan y pedwar cyw, ac wedi rhoddi allan y coesau, ceisiwyd am yr adenydd, ond nis gallent yn eu byw eu dadgymalu. Ddiwedd y peth fu i Sam Mishdir Haliars luchio y ffowlyn oedd ganddo ef yn gyfan (ond y
coesau) ar b!at Twm Llywelyn, gan ddywedyd:

"Cymar a i gyd, Twm; alla i ddim tori racor bant."

Yn anffodus, yn yr ymdrech I dori y ffowlyn y pen arall i'r bwrdd, slipiodd llaw Jim y Cantwr, a syrthiodd y ddwpler (dysgl) a'r cyw i'r llawr, ac wrth geisio eu hachub, tarawodd Dai Dowlais y gwydr tal oedd yn dal y blodeu ar ganol y bwrdd, nes bod hwnw yn yfflon ulw. Mewn gair, yr oedd wedi myned yn ddrwg yno. Daeth y foneddiges oedd a gofal y lle i fewn, gan siarad yn llym, ac edrych yn ofnadwy o sarug. Wedi yr anffodion a nodwyd, ac wrth weled gwyneb sobr a ddigllon y manageress, dechreuodd y boys chwerthin yn ddireol. Un ag asgwrn rhwng ei fysedd, a'r llall a darn o fara 'menyn, un a chyllell, a’r llall a chwpainaid o de, a'r oll yn chwerthin fel ffyliaid, ac yn methu symud oddiar eu cadeiriau. Felly y buont am gryn chwarter awr, pan y tawelwyd am ychydig, ac y ceisiwyd bwyta tipyn.

Gyda hyn, i fewn a'r manageress eto, gan ofyn ganddynt glirio allan gynted ag y gallent, fod arni eisieu glanhau y lle i'w wneyd yn addas i ddynion unwaith eto. Ar hyn, dechreuwyd chwerthin drachefn yn fwy direol nag erioed.

"Wel," meddai, o’r diwedd, "os nad ewch allan eich hunain, bydd yn rhaid i mi alw policeman i'ch gosod allan."

"Dyma ragor o waith i Mr Trevor," meddai un. "Lock-up heno ytto, Shoni," ebai y llall.

Canlynwyd hyn eto gan chwerthin dilywodraeth, a thra yr oedd y cwmni yn y diwyg digrifol hwnw, wele glamp o heddgeidwad mawr, golygus, yn gwneyd ei ymddangosiad yn nrws yr ystafell, yn cael ei ganlyn gan y foneddiges a nodwyd.

Methai yr heddgeidwad ddeall pethau. Daeth i fewn yn arwrol a chaled yr olwg arno; ond cyn pen hanner mynyd llarieiddiodd a chyfnewidiodd ei wedd.

Am y bechgyn, pan welsant y swyddog yn y drws, daeth dychryn drostynt i gyd, yn neillduol Shoni o'r Pant, ac un neu ddau arall. Ond cyn pen ychydig eiliadau, torasant allan i chwerthin fel gwallgofiaid, a chwarddodd y policeman, gyda hwy. Cododd Shoni o'r Pant i fyny ac aeth at y swyddog gan gydio yn ei law a syrthiodd ar ei fynwes, gan chwerthin dros y lle.

Edrychai y wraig fel buwch wedi ei saethu: safai ei llygaid yn ei phen, ac yr oedd yn fud hollol, heb wybod beth i'w wneyd nesaf. Y tu ol iddi yr oedd dwy neu dair o lancesi ieuainc y ty, un fynyd yn synllyd hollol a'r fynyd nesaf yn chwerthin allan.

 

 

F7621_shoni-o-r-pant_24-mawrth-1900_07_pennod-iv.jpg

(delwedd F7021) (24 Mawrth 1900)

Pan gafwyd tawelwch esboniwyd y cyfan i'r heddgeidwad. A phwy feddyliwch oedd hwnw? Neb llai na Ned Lloyd, o'r Waen, un o Foys 'Berdar.

Ni chawd trefn ar fwyta ar ol hyn, ond, ar gais Ned Lloyd, cliriwyd allan yn bur fuan ar ol clirio y biliau, ac nid oes eisiau dyweyd mai nid biliau ysgafn gafwyd y tro hwnw.
Bu rhaid talu am y llestri a'r addurniadau a dorwyd, ac am rai pethau ereill a anafwyd. Er fod gan y rhan fwyaf o'r cwmni arian, pocedau go ysgeifn oedd gan rhai hyny nad oeddynt yn rhyw foddIon iawn i fyned i'r fath le hardd yr olwg.

Yr oedd yn y parc lawer o bethau i dynu sylw a thocyns, megis y shooting-saloons, hit-my-legs, round-she-goes, a llu o bethau ereill. Dewisai rhai y dull hwn a rhai y dull arall o wario eu hamser a'u harian, hyd nes daeth yr adeg i ddychwelyd tua'r station.

Dyma eto olygfa i'w chofio! Y mae y train yn y station yn barod i gychwyn. Clywir y swyddogion yn bloeddio ac yn cau y drysau. Dacw wr a gwraig yn rhuthro gyda dau neu dri o blant i fyny y platform. Y mae ganddynt bob math o deganau: ceffyl pren, chwip, pel, dol, basged fechan, a pharseli dirifedi. Agorant ddrws un cerbyd, ond y mae yn rhy lawn, ceisiant am un arall, ond nis gallant ei agor. Treiant y trydydd, ond rhwystrir hwy i fyned i mewn gan y rhai sydd yno eisoes. Gwthiant i fewn er hyny gan lawenhau eu bod wedi ei ddal. Dacw eto Maria Ty Talcen a Thomas, ei gwr, yn feddw caib ar ei braich yn ceisio lle.

Y mae yn amser cychwyn ond dod y maent yn ffrwd o hyd: llawer mewn diod, a phawb yn lluddedig. O'r diwedd, dyna bawb yn ddyogel, chwibanodd y swyddog, a chwibanodd y peiriant, ac i ffwrdd ag ef a'i gynffon hir gan duchan a phwffian. "Hold on, hold on, dacw ereill eto yn dod. Rhedant fel yr hydd, dros y platform. Dacw un yn llwyddo i agor y drws ac i fewn ag ef i'r train symudol yn nghanol bygythion y swyddogion. Am y lleill, druain, nid oes ganddynt ond canu, "Mi gollais y tren."

Druain ohonynt. Mi wrantaf nad oes gan yr un ohonynt arian i dalu lodgings, er fod yn rhaid treulio) y noswaith yn Nghaerdydd. Llawer un sydd wedi cerdded gartref o Gaerdydd nos Sadwrn a dydd Sul oherwydd colli y train adeg yr excursion.

Ond pa le mae Twm yr Hewlwr? Yr ydych yn cofio fod Twm wedi "cael gormod" yn bur foreu.  Yr oedd Twm wedi sicrhau llety y noson hono yn un o'r tai mwyaf yn Nghaerdydd. Cafwyd ef tua hanner dydd wedi meddwi ac wedi gorwedd yn yr Arcade. Druan o Martha, nid oedd ganddi y syniad lleiaf pa le yr oedd er tua deg o'r gloch, a mawr oedd ei gofid yn y station pan welodd nad oedd efe yno erbyn amser y train. Yn un peth yr oedd excursion tickets Martha a'r plant yn mhoced Twm. Gellid adrodd cyfrolau am y daith hono o Gaerdydd i Aberdar fel yr oedd pob cerbyd yn llawn o deithwyr blinedig, llwythog o deganau; mewn un man yn cysgu ar draws eu gilydd, mewn man arall yn canu dros y lle. Dyddorol fuasai cael adrodd helynt casglu y tocynau ar derfyn y daith fel yr oedd yn rhaid troi pob poced allan gan ambell i un; fel yr oedd yn rhaid i un arall aros am y gwr neu wraig cyn y ceid pasio, ac fel yr oedd llawer mewn gofid oherwydd colli eu tocynau. Cystal, er hyny, yw gadael pethau yn y fan yna, oblegid daeth Shoni o'r Pant gartref yn ddyogel ac yn sobr, ac yn fwy "enwog" nag erioed. Yr oedd y daith i Shoni yn un i'w chofio, ac nid yw yn debygol iddo byth anghofio y llu cymwynaswyr a gyfarfu y diwrnod hwnw.

Dylasid fod wedi nodi fod penderfyniad wedi ei basio gan Sam a Shoni, a Jim y Cantwr, a Twm Llewelyn, fod "mitting" yn cael ei alw ar ben y pwll nos Lun er ysytried beth i'w wneyd a'r arian oedd yn nwylaw Sam Mishdir Haliars.

Bydd yn rhaid gohirio hanes y cyfarfod, y wledd, y canu, a'r ddamwain drist a ddigwyddodd i Shoni o'r Pant, hyd y bennod nesaf. (I'w barhau.)

 

 

F7622_shoni-o-r-pant_30-mawrth-1900_01_pennod-v.jpg
(delwedd F7622) (30 Mawrth 1900)

Papur Pawb. 31 Mawrth 1900.

SHONI OR PANT: (UN O ENWOGION ABERDAR.)

PENNOD V. CINIO FAWR SHONI.

Yr oedd y tyrn ar ben am dri o'r gloch ddydd Llun, ac er gwaethaf bygythion Sam Mishdir Haliars, aeth y stori ar led am y ffest oedd i fod ar yr arian a gasglwyd i gael Shoni yn rhydd o afaelion gwyr y gyfraith. Yn ol pob tebygolrwydd, nid oedd Sam ei hun wedi bod yn hollol ddistaw ar y mater.

Yr oedd yno gryn nifer yn bresennol. Gosodwyd Sam yn gadeirydd, er nad oedd ganddo le i eistedd o gwbl, ac ni wyddai o ran hyny beth oedd gan gadeirydd i'w wneyd. Mishdir Haliars oedd Sam bob modfedd ohono, ac yn ei ddillad gwaith ac yn nghanol y boys yr oedd yn iawn. Siaradai fel pe ar y partin-dwbwl, ac yn nghanol y ceffylau a'r drams.

"Gryndwch, boys," meddai Sam, "w i yn cretu taw y peth gora newn ni a'r arian hyn yw ca’l cino gita'n gilydd. Beth ych chi yn weyd, boys?"

"W i yn meddwl yr un peth," meddai un ar ol y llall.

"Wel, dyna fe ta," ebai Sam. "Shwd cewn hi ddi?"

"Yn b'le ma hi i fod?" gofynai un.

"Yn Long Room y Lion, ma'n depyg," atebai Jim y Cantwr.

"Nace'r ffwl!” bloeddiai Sam yn gynhyrfus.

"Wyt ti yn meddwl y byse Mr Jones, y gweinidog, yn dod atom ni I dy tafarn? W i wedi gweud wrthot ti o'r blan."

"W i yn cinig," meddai Twm Llywelyn, "bod ni yn gofyn i Mr Davies, y Coffee Tavern, os gnaiff e' gino i ni, ac os cewn ni fentig 'i Long Room e'.”

"W i'n eilio," llefai dau neu dri gyda'u gilydd.

"Lan a'ch dwylo gittach gilydd, ta, boys," gorchymynai Sam, gan ddyweyd y buasai ef yn myned i siarad a Mr Davies am y bwyd. Ni ddychmygai Sam fod eisieu pwyllgor at y fath beth.

"Pryd ma'r ffest i fod, boys," gofynai y cadeirydd eto.

"W i yn cinig nos Satwn nesa',” meddai Twm, oblegid efe oedd yn cynnyg y cyfan.

"Right you are; fire away; nos Satwn yw'r nosweth ora o bob nosweth," ebai Jim y Cantwr.

"Wel, dyna fe," meddai y cadeirydd, "dyna bobpeth wedi ca'l ei setlo; dewch chi i dy Mr Davies, y Coffee Tavern, erbyn wech ar gloch nos Sadwrn, ac fe fydd y cawl a'r pwdin yn barod. Ond, hold on, ma un peth arall isha'i setlo. Shwd ma i i fod obothdy Mr Jones, y gwinidog, boys?"

"Wei, cei di, Sam, i wilia gita. fi a gwed wrtho fa am ddod, os yw a yn folon dod aton ni."

"Nid dyna'r peth, otich chi yn folon roi dyw bresant iddo fa nos Satwn? I'ch chi yn gwpod beth nath a dydd Satwn diwedda, ac i'ch chi yn gwpod taw nid dyna'r tro cynta iddo fa'n helpu ni pan fydda ni miwn trwpwl."

"W i'yn cinig bod ni yn gneyd clasgad i roi rwpath iddo a," ebai Twm.

"Pawb sy'n folon," meddai y cadeirydd, "i godi 'i law lan."

Codwyd pob llaw ar unwaith.

"Ond, boys," gofynai Dai Dowlais, "otti i ddim yn well i gatal hi ys bo'i nos Satwn pay, achos os dim arian dydd Satwn nesa?"

"Gwetwch chi heno," atebai y cadeirydd, "faint i chi yn myn'd i roi, a fe roia I fentig cymaint a hyny i chi, am fythewnos. Neiff hyny y tro?"

Felly y bu. Daeth pob un a'i addewid yn


 

 

F7623_shoni-o-r-pant_30-mawrth-1900_02_pennod-v.jpg
(delwedd F7623) (30 Mawrth 1900)

mlaen ar y diwedd. Daeth y peth i glustiau y gaffers, y firemen, a'r clarcod. Casglwyd tua thair punt. Erbyn hyn, yr oedd Sam mewn dyryswch. Ni wyddai yn y byd beth i'w brynu fyddai yn ateb pregethwr. Yr oedd Mr Brown wedi ei gynghori i geisio llyfrau, ond beth wyddai Sam druan am lyfrau?

n y cyfamser, aeth i weled Mr Jones i ofyn a fyddai cystal a dod i'w cyfarfod nos Sadwrn. Dywedodd eu bod yn penderfynu cael cinio gyda'u gilydd o'r arian hyny oedd yn ngweddill. Ni ynghanodd air am yr anrheg i Mr Jones. Yr oedd! hono i ddod yn hollol annisgwyliadwy. Onid oedd yn ddealledig ar y gwaith nad oedd neb i glebran am y peth?

"Yn mha le y bydd y cinio, Samuel?" holai Mr Jones.

"Yn y Long Room, syr," oedd yr ateb.

"Nis gallaf yn dda ddyfod i ginio mewn Long Room ty tafarn, -Samuel," ebai y gweinidog.

"Nid miwn ty tafarn, syr, ond Coffee Tavern, Mr Davies," meddai Sam yn frysiog.

"O, wel, gadewch i mi wel'd. Noswaith go chwithig i mi yw nos Sadwrn," dadleuai y gweinidog.

"Pwy nosweth arall fysa yn ych taro chi, syr? O'n ni meddwl y bysa lot o'r bechgyn yn gwitho'r nos bob nosweth arall, ag e fysan yn lico i chi ddod, syr," ebai Sam.

"O'r goreu, Samuel," atebai Mr Jones. "Mi ddeuaf, ond cofiwch hyn, os gwelwch yn dda, y carwn ni weled pob un yno yn weddus. Hanner gair yn ddigon i chwi."

"Fe ofala i am hyny, syr," atebai y Mishdir Haliars, ac allan ag ef, gan wasgu ar Mr Jones i fod yno erbyn yr amser.

Edrychodd Sam yn syn ar y llyfrau yn myfyrgell y pregethwr. Nid oedd erioed wedi gweled cynifer gyda'u gilydd o'r blaen. Yr oeddynt yn dyrau ar y llawr, ar hyd y bwrdd, y cadeiriau, a'r cypbyrddau, mewn annhrefn mawr. Wrth weled y fath stoc ohonynt, daeth Sam i'r farn mai ychydig wyddai Mr Brown am y gweinidog, neu ni buasai yn son am roddi ychwaneg o lyfrau iddo. Tarawodd syniad hapus iawn ef, er hyny. Casglodd ychydig ychwaneg o arian, ac aeth i siop gelfi, a phrynodd bookcase braf, a thalodd am dano. Ni ddywedodd i bwy yr oedd. Ni chafodd neb byth wed'yn glywed pa faint a gostiodd, ac ni wyddai undyn byw beth oedd i gael ei gyflwyno i Mr Jones hyd mes i adeg y cyflwyno ddod; os, yn wir, na chlywodd Shoni o'r Pant. Barna rhai fod Shoni wedi cael awgrym.

Daeth y noson apwyntiedig. Yr oedd y gweinidog yno, Mr Brown y cashier, y gaffers, a llawer o'r boys. Pob un wedi gwisgo mewn style, a phob un mor sobr a'r judge. Mr Brown oedd y prif garfiwr, ae efe oedd llywydd y wledd a llywydd y cyfarfod gynnaliwyd yn ol llaw.

Yr oedd Shoni o'r Pant wrth ei fodd y nos Sadwrn hwn, a pha fodd oedd yn bosibl iddo beidio bod? Yr oedd y cinio yn un o'r goreuon, hyny yw, yr oedd yno ddigon ohoni, a'r oll yn fwyd sylweddol. Dyna'r cyfarfod, hefyd, yn llawn hwyl a chanu, a digrifwch diniwed. Yn ben ar y cyfan "Cinio fawr Shoni o'r Pant" ydoedd Shoni oedd arwr y dydd.

Buwyd yn ffodus dros ben mewn cadeirydd, oblegid nid oedd yn Aberdar un mor gyfarwydd a Mr Brown, mewn trefnu gwleddoedd a chyfarfodydd cymdeithasol; ond nid gwaith rhwydd oedd ganddo yn "nghinio Shoni o'r Pant," oblegid yr oedd gan ereill eu cynlluniau, a'r rhai hyny yn bur wreiddioil weithiau.

Ar ol cuddio hyny o roast beef a phwdin ag oedd bosibl (a chuddiwyd llawer iawn mewn ychydig amser), ebai y cadeirydd:


 

 

F7624_shoni-o-r-pant_30-mawrth-1900_03_pennod-v.jpg
(delwedd F7624) (30 Mawrth 1900)

"Nawr, foneddigion, ma hi yn i ni yfed y toast."

"Ha, haI" chwarddad Wil Dol. "Byta tost i ni, syr, nid i ifad a."

"Silence," gwaeddai y cadeirydd, "meddwl oeddwn i ei bod yn amser i ni yfed lwc dda i 'Shoni o'r Pant,' ac ereill."

"Right you are, syr; fire away; bachan piwr yw Shoni, myn asgwrn i; go on, Mr Brown."

"Hoi, Jim, gwaeddai y Mishdir Haliars, yn groch eto yn awdurdodol, "wyt ti yn cauad dy ben, bachan? Gad i Mr Brown fyn'd yn mlan fel bo fe yn lioo. Fe yw'r gaffer yma heno."

Bu distawrwydd am ychydig ar ol hyn, a chododd Mr Brown ar ei draed, a gwnaeth araeth fer a phwrpasol iawn. Canmolodd Shoni i'r cymylau. Gosododd bwys ar y ffaith fod Shoni yn ddirwestwr ac eto nad oedd yn sych ac yn swrth; mewn gair, fod Shoni o'r Bant gystal trwmpyn a neb yn Aberdar.

Derbyniwyd yr araeth gyda chymeradwyaeth, ac yfwyd iechyd da i Shoni yn galonog a hwyliog dros ben.

"Yfed!" Ie, yfed. Paham? Gwrandewch y stori.

Tystioddi Wil Dal y dylai Shoni dalu ffwtin am yr anrhydedd a osodwyd arno y noson hono, ac unodd ereill gyda Wil wasgu ar Shoni.

"All right. Gna i, ar mecws i," meddad Shoni yn ddigon parod. "Ond cofiwch chi, boys, dw i ddim yn myn'd i dalu am gwrw na dim o'r short i chi. Sam, beth wyt ti yn weyd?"

"Fi weta ti, Shoni," ebai Sam; "cer a gofyn i Mr Davies ddod lan yma. Ma fe yn gwpod beth sydd gita fe yn y ty, a cer at Mr Jones, ma fe yn gwpod beth sydd ora ar yn lles ni yn awr."

Bant a Shoni i gyrchu gwr y Coffee Tavern, ac yn union ar ben y grisiau, yr oedd Shoni, Mr Jones, a Mr Davies, wrthi yn pwyllgora gymaint fedrent. Diwedd y peth, penderfynwyd fod Shoni i dalu am gwpanaid o goffi i bob un o'r cwmni; ac a choffi yr yfwyd y llwnc-destynau i gyd, ac ni welwyd cwmni mwy llawen a phrydferth.

Galwyd ar Shoni i ateb y llwncdestyn, ond druan ohono, yr oedd yn fud. Codai ryw lwmp yn ei wddf gan attal ef dafod. Rhuthrai myrdd o bethau trwy ei feddwl: yr helynt gyda'r police, y carchar, Mr Trevor, cot Mr Jones, y rhubanau, caredigrwydd ei gydweithwyr, y wledd wnawd er ei fwyn, a llu o bethau ereill. Treiodd siarad, ond torodd allan i wylo fel plentyn, ac eisteddodd i lawr gan guddio ei wyneb yn ei ddwylaw celyd. Dylanwadodd hyn yn rhyfedd ar yr holl gwmni syrthiodd distawrwydd ar bawb, a lledai gwen swynol dros bob wyneb, ac yn wir nid ychydig oedd nifer y gruddiau a wlychwyd a dagrau yno hefyd. Golygfa hynod oedd gweled y glowyr cryfion a chelyd yn y cyflwr a nodwyd. Dagrau llawenydd, onid ydynt yn debyg i gawod o wlaw yn mis Ebrill, gyda phob defnyn gloew glan yn dal darlun tlws o'r haul yn ei fynwes.

Am ychydig amser y parodd yr osteg uchod cyn i bawb dori allan i chwerthin yn iachus fel mewn atebiad i ofyniad Wil Dal: "Hai, boys, os anglodd i fod yma heno?"

"Chwi welwch," ebai Mr Brown, "na wna Shoni byth bregethwr na 'ffeiriad, ta beth, ac mae'n depig taw gwell yw myn'd yn mla'n at y peth nesaf.

"Gadewch i ni ga'l can gida Shoni, Mr Brown. W i yn gwpod y gall a ganu fel ffliwt. Dera mla'n Shoni," cymhellai Sam.

"O'r goreu," ebai y cadeirydd, "rwy' yn galw am gan, John Thomas."

Erbyn hyn, yr oedd gofid Shoni wedi cilio, ac yr oedd mor llawen a'r un o'r cwmni, a chododd at yr alwad, gan ofyn:


 

 

F7625_shoni-o-r-pant_30-mawrth-1900_04_pennod-v
(delwedd F7625) (30 Mawrth 1900)



"Beth ca' i ganu, boys? Myn asgwrn i, dw i ddim yn cretu y galla i gofio dim byd heno."

"Cana 'Gan y Goliars,' Shoni," ebai Twm Llywelyn, "fi elli ganu hono yn net."

Cafwyd distawrwydd; safai Shoni wrth ochr y cadeirydd, a dechreuodd:

"Fi alla gwto'n gwmws,
Fi alla gwto'n gam,
Fi alla holo dano,
A llanw petar dram
Ond ripo top a thori pwcins,
Dyna'r gwaith i nillid tocins."


Wedi canu y pennill cyntaf, nis gallai yn ei fyw fyned gam yn mhellach. Ceisiodd aml i un ei helpu, ond yn gwbl ofer: nid oedd goleuni yn dyfod. Ar hyn, galwodd un o'r cwmni am "Gan y Fochriw."

Ceisiodd Shoni eto:

"Fi etho i'r Fochriw i bregethu,
Ceso roeso genddynt hwy,
Sgaden heilltion wedi eu berwi,—
Nid af byth i'r Fochriw mwy.”

Aeth yn "Dwm taw" arno drachefn, a gwrthododd yn deg wneyd cynnyg arall. Ar hyn, galwyd ar Jim y Cantwr yn mlaen. Yr oedd Jim i'w glywed yn carthu ei wddf ers tro, ac am garthu gwddf, yr oedd Jim i fyny a chantorion goreu y wlad. Fel gwir gerddor, yr oedd tipyn o cymhell ar y cantwr, ac ar ol addaw canu, yr oedd yn cymeryd cryn amser i fod yn barod. Pan geid Jim, er hyny, nid cantwr cyffredin ydoedd.

"Wn i ddim beth i ganu,” ebai Jim.

"Gad i ni ga'l 'Can y Cwn Hela,' Jim” (hear, hear).

Yn ei hwyliau goreu, canodd y cantwr fel y canlyn ar y don "Mel Wefus": -

"Pob rhyw berchen awen fywiog,
Doed, prydydded gan gordeddog,
Glod i helygwn godidog,
Edwards lanwych o Fodleiniog;
Cwn rhagorol, gwrol, gorau
Ar y ddaear y'nt, yn ddiau,
Eu swn a glywch fel cyson glychau,
Diwael hoenus, neu delynau,
Rhwng y bronydd fry a'r bryniau,
Gan eu lleisiau cain lluosog,
Hynod odiaeth a godidog,
Yn nglyw eu dyddan si gordeddog,
Ger y Llan, fe saif y llwynog,
Hogyn llwyyd yn ddigon llidiog.

Nid oes na gwal na pherth i'w gweled,
Nac unrhyw fan a'u rhwystra i fyned;
Cwm nag afon, creigiau hefyd,
Luddia'r cwn, y gwir rwy'n dd’wedyd;
Nid oes pryfyn hoenyn hynod,
Dae'r foch cethin, na choed-gathod,
Fiwlbert, dyfrgwn, na draenogod,
Hyllion egron na llwynogod,
Na wnant ddarnio ar un ddyrnod;
Ac er mor rhwydd y rhed yr hyddod,
Hoew agwfidd a'r ewigod,
Yn eu hardal ddyfal ddefod,
Ni bydd eu gyrfa cyn eu gorfod,
Ond ver! ie llai na dwy awr barod.

Gwn nad oes amgenach cene'l
Mewn da urddas gwedi'i harddel,
Yn cyd-daro, pob rhyw droiau,
Ar wiw gynnydd fel organau,
Pob parodol ddoniol brydydd,
Deuwch, canwn gyda'n cynnydd,
Pan mae dae'r ac adar coedydd,
Miwsig, coed, a dwr, a chreigydd,


 

 

F7626_shoni-o-r-pant_30-mawrth-1900_05_pennod-v_pennod-vi.jpg
(delwedd F7626) (30 Mawrth 1900)



Bawb ag awen yn ei gywydd.
Clywai'r goedwig gyda thwrw,
Lawen hael yn hela'n loew,
A'r gareg acen'r ochr acw,
Yn bloeddio "Hoi, see-ho," yn groew,
Dilyn Warrior, hyd ei farw.
Brasher hy', fel prysur awel,
Adawai'r cynnydd, a'r chwe' cene'l,
Fe ddilynai'r llwynog pynod,
Yn ddi-wyrni ddau ddiwrnod,
Countess, Venus hwylus, Jailor,
Darling, Music, Frolic, Miller,
Saywell, Truly, Lightfoot, Ruler,

Juno, Foswell, Topper, Piper,
Comely, Lovely, Lady, Tuner,

Ringwood rymus, gyda Rowman,
Collier danbaid, Fairmaid, Forman,
Freeman heini, Lily loewlan,
Cene'l eurgoeth fel yr organ,
Yn eu hwyliau, golau gwiwla
n.

Hir oes fwyn i Edwards barchus,
O Fodleiniog, enwog hoenus,
Byr yw'm dawn tuagat ei ganmol,
Hanner yr hyn mae'n haeddiannol;
Er maint o gwn sydd wedi 'henwi,
Drwy y siroedd a’u cyhoeddi,
Ar fawledig wir faledi,
Rhai'n air gamrau yw blodeu Cymru,
Cwn Bodleiniog enwog heini,
Tra bo gwen ar awen rywiog.
Hwyliau llawn, a hela Llwynog,
Drwy holl Frydain gywrain gaerog,
Pery clod i gwn Bodleiniog
Pur-wych hynod a'u perchenog."

Eisteddodd y cantwr yn nghanol banllefau o gymeradwyaeth a churo dwylaw. Cydrhwng llais swynol Jim, a, swynion can yr hen fardd Gwilym Grawerth, nid oedd dim i'w ddisgwyl ond dadganiad gwir dderbyniol.

Yr oedd Shoni o'r Pant a phump neu chwech ereill yn eistedd ar fainc symudol yn ymyl y bwrdd, tra yr oedd Jim yn canu; ond gyda diwedd y gan, neidiodd tri neu bedwar o'r lleill i fyny i roddi cheers; cododd un pen i'r fainc, ac i lawr a Shoni i'r llawr gydag un arall ar ei ben, a disgynodd y fainc yn ol gyda thrwst fel ergyd o fagnel. Am fynyd, tarawyd pawb a syndod, ond pan welwyd Shoni yn fyw ac yn iach, ni chynnyrchodd y ddalmwain ddim gwiaeth na thipyn o chwerthin iachus a digrifwch diniwed.

"Yn nesaf," ebai y cadeirydd, "y mae genym orchwyl dyddorol iawn. Yn wir, yr wyf fi yn cyfaddef fod y peth nesaf yma yn surprise fawr a hynod bleserus i mi, ac nid oes genyf ronyn o ddowt na fyddwch i gyd yn synu fel finnau. Yr wyf yn awr yn galw ar Samuel yma i'ch hysbysu pa beth ydyw."

Cododd Sam Mishdir Haliars ar ei draed, a chychwynodd tua chornel yr ystafell, gan waeddi:

"Shoni, dere mla'n, bachan; beth ti’n ishta mana. fel gwdihw? Wyt ti'n gwpod na alla i ddim 'i drafod a minnau."

Edrychai yr holl gwmni yn syn, gan geisio dychymygu beth oedd i fod nesaf.

Yr oedd symudiadau nesaf Shoni a Sam yn peru mwy e ddyryswch byth iddynt.

PENNOD VI.— Y BWCAS.

Yr oedd y ddau yn gafael a darn braf o ddodrefn ty, ac yn dechreu ei lusgo i ganol yr ystafell.

"Gam bwyll, Shoni," llefai y Mishddr Haliars yn awdurdodol. "Hoi Jim, dera' yma, bachan, i roi cwnad bach. Nawr boys, gydta'n gilydd."

"Wel, ar necws i, ble chi'n mynd a'r cas-an-drors yna, boys," holai Wil Dal.


 

 

F7627_shoni-o-r-pant_30-mawrth-1900_06_pennod-vi.jpg
(delwedd F7627) (30 Mawrth 1900)

 ,
"Fe gei di wpod yn ddicon cynar," atebai Sam; ac yna, gan droi at y Cadeirydd, ebai, "dyna fe, Mr Brown, ryntoch chi a'ch busnes nawr; dyna fi wedi cwpla gytag e."

"Na, na, Sam," ebai y Cadeirydd eta gyda gwen ddigrifol ar ei wyneb, "y mae yn rhaid i hwi wneyd araeth a chyflwyno'r peth yma i Mr Jones."

Agorodd y gweinidog ei lygaid mewn syndod, pan glywodd ei enw yn cael ei grybwyll yn y fath gysylltiad. A dweyd y gwir yn ddistaw bach, yr oedd y Parch Cynon Jones wedi bod yn llygadu y book-case er's cryn amser, ac yr oeddi myfyrdodau ei galon wedi bod rywbeth ar y llinell ganlynol: "Yn wir mai hwnacw yn book-case tlws a defnyddiol. Y mae yn rhyfedd fod Mr Davies yn ei gadw yn yr ystafell hon, ac yn neillduol yn ei gadw yn wag fel yna. Fe fuasai yn dda genyf pe gallasem fforddio cael un tebyg iddo i gadw fy llyfrau, &c."

"Gneud araeth!" ebai Sam, "i chi'n gwpod, Mr Brown, nad w i ddim yn gallu."

"Treia di, Sam, ti elli wneud, mwy nag wyt yn feddwl," ebai y Cadeirydd, yn gymhellgar.

"Ond beth sy' i weud.ta?"

"Wel dywed tipyn o hanes y fusnes; i bwy mae'r book-case, a pham yr ydych yn ei roddi, a phwy sy' yn ei roi," atebai Mr Brown.

"Wel, fi weta chi ta," dechreuai Sam, "i chi’n gwpod fod Mr Jones yma gita ni yn Caerdydd yn y scyrshon, ag i chi'n gwpod beth nath a i helpu i gal Shoni o'r Pant yn rhydd. Wel, i chi gwpod i fod a'n gneud i ora gita ni o hyd. Pan odd y streic, ichi gwpod i fod e yn gneud i ora y pryd hyny, i gal bwyd i'n plant bach ni. Wel, odd doi ne dri o ni yn wilia gita'n gilydd y dylsa ni roi rwpath iddo fa, odd Dai Bara Chaws yn mo'in roi cansan a chlopa pert iddo fa, ond own ni'n ffaelu gwel'd fod isha pethach felny ar bregethwr. Wel, fi etho at Mr Brown, ac fe wetws e wrtho ni am roi lot o lyfra iddo fa; ond pan etho i dy Mr Jones i ofyn iddo fa ddod i gal cino yma heno, fi welas bod gita fa shaw o lyfra, a taw lol odd meddwl am roi racor iddo fa; ac fe welas nag odd dim shap ar i lyfra fa, achos o'n nhw o bothdy'r lle i gyd, yn y cwbwrt, a  dros y llawr felsa cwmp wedî dod yn gwmws. Wetyn, fe etho i'r shop gelfi i brynu hwna iddo fa. Wel, nawr boys, ottw i wedi gneud yn right?"

"Do, do, itha right," gwaeddai llawer yn nghyd.

"Wel, dyna fa ta; a dyna fi yn gatal y celficyn i chi nawr, Mr Jones," ebai Sam.

Yn ystod araeth hyawdl Sam, deallodd pob un hanes y book-case, ac yr oedd pawb mewn hwyl anarferol. Edrychai Cynon Jones yn syneddg, fel pe yn methu gwybod beth i wneud o bethau, ond gwenai pan ddywedai Sam fod ganddo lawn digon o lyfrau, a'u bod o gwmpas y lle fel pe fuasai "cwmp" yno.

Galwyd ar y gweinidog i ateb ar dderbyniad y rhodd, ac yr oedd yn amlwg ei fod mewn penbleth, agos gymaint a Shoni o'r Pant ychydig cyn hyny; ond aeth yn mlaen rywbeth fel y canlyn: -

“Mr Cadeirydd. Ychydig amser yn ol, yr oeddwn yn cael hwyl wrth weled ein cyfail [sic] [= cyfaill] John Thomas yn methu siarad, gan mor llawn o ddiolchgarwch yr oedd ei galon: ond dyma finnau bron yn yr un cyflwr. Dywedodd Samuel ddim wrtho i am yr anrheg werthfawr yma wrth fy ngwahodd yma (uchel gymeradwyaeth, a "Well done, Sam"). Hefyd, wn i yn y byd beth wyf wedi wneyd fel ac i'ch cymhell i roddi i mi beth mor werthfawr. Nid wyf wedi gwneyd dim o gwbl ond fy nyledswydd, a gallaf eich sicrhau eich bod yn gwneyd llawer iawn gormod i mi am hyny. Fel y dywedodd Samuel, y mae fy llyfrau yn hollol ddidrefn, ond pan ddaw ef acw nesaf, bydd golwg bur wahanol ar bethau; ond sut mae ei gael gartref, nis gwn.


 

  


 

 

F7628_shoni-o-r-pant_30-mawrth-1900_07_pennod-vi.jpg
(delwedd F7628) (30 Mawrth 1900)

"Pidwch hito am hyny, Mr Jones," ebai Wil Dal, "fe ewn ni a fe yco, on gnewn ni, boys?"

"Gnewn, gnewn, miwn bothdy jiffad," meddai tri neu bedwar o leisiau ar unwaith.

Cyn pen chwinciad, yr oedd tua hanner dwsin o gwmpas y book-case, a'r oll yn gweithio wrth reolaeth y Mishdir Ha1iars. Estynwyd dwy neu dair o allweddau i Mr Jones; gorchymynwyd i ddau o fechgyn cryfion gymeryd ymaith ddarn uchaf y book-case; cydiodd dau arall yn y darn isaf, ac i ffwrdd a hwy gyda dau arall yn canlyn i helpu, a Sam yn canlyn fel un mewn awdurdod ar y cyfan.

Nid oes eisieu myned dros syndod gwraig y ty pan welodd y book-case; ei gwaith yn tystio fod y bechgyn yn camsynied y ty; yr hwyl a gafodd pan glywodd y stori; a'i ymdrech i gael y dodrefnyn i ystafell lawn y pregethwr. Gwell fydd prysuro yn ol i'r cyfarfod; oblegid ychydig drefn fu yno hyd nes i Sam a'i gwmni ddychwelyd.

Erbyn hyn, yr oedd Shoni wedi dyfod ato ei hun, ac yr oedd wedi awgrymu wrth y Cadeirydd na fuasai yn anfoddlon i ganu tipyn, pe deuai galw am hyny.

"Wel, foneddligion," ebai Mr Brown, "rwy'n credu, mai teg fyddai galw ar John Thomas yn awr i roi can i ni eto; beth i chwi yn feddwl?"

"Right you are; fire away, Shoni," canai Wil y Cantwr.

Cyn pen eiliad, yr oedd Shoni yn ymyl y Cadeirydd a'i geg a'i galon yn barod at y gwaith.

"Beth sy' well i fi ganu nawr ta?" holai y Bachan o'r Pant.

"Cana un o'r reina ffeilast ti o'r blan," awgrymai Wil Dal.

"Nana myn asgwrn i," atebai Shoni.

"Can Gwyr Llanwynno, Shoni,” meddai Sam.

Ar hyn, dyma'r gan yn dechreu —,

"Ryw dro i Rustic Sports 'Byrdar
Ath Ciat yng Whar a finna;
A welsoch chi na neb a'ch. tras
Oriod shwd ras ceffyla.

Ni welson Fforistars y lle
Bob un ar giefan cieffyl,
Yn waco mywn prosesiwn smart
Gyrhaeddai gwartar milltir.

Pob un a chwafars ar ei shol,
A dysprad olwg smala,
A chloca o bob lliw'n y byd
I gyrhadd hyd y garra.

Ath Ciat a finnau lawr i'r Waun

Sy' rhwn y traun a'r afon
A rhyfedd iawn gynnifar short
O sport odd gan y dynon.

Brawd Twm y gyfrath gas y Prize

Am rytag nice digynnig;
Mae'i ben fel plufun — coesa dellt,
A rhyta'n felltigetig.

Ma'n rhaid cial cloppa gweddol wag,
Neu ffrwyth y brag i'r brigyn,
Cyn daw un dyn I  gia'n ddiras
I rytag rhas yn borcyn.

Odd yn y cia hen bawlan fawr,
A'i phen i lawr i'r ddaear,
Ac ar ei thop, a golwg lan,
Odd slaban o leg weddar.

Yr odd y leg i'w rhoi i'r sawl
A'i i ben y bawlan gynta;
A lle myn'd 'nol heb shar o'r spri,
Yn wir, fi drias ina.

Fi eitho lan ryw betar llath.
Fel ciath i ben y scripor;


 

 

F7629_shoni-o-r-pant_30-mawrth-1900_08_pennod-vi.jpg
(delwedd F7629) (30 Mawrth 1900)

 

Ac er byddecu ngora glas,
Fi ffaelas a myn'd rhacor.

A chlywsoch chi shwd beth oriod!
Ma'n depig fod y polyn
Yn dew o saim, fel clwas i,
Er mwyn gneyd spri o'r bechgyn.

Fi spwylas. drywsis newydd fflam
Ges gen fy mam yn bresant;
Ni ddringaf eto, sicir yw,
Pe byddwn byw hyd ddoicant.

Ond pam na bysa'r ioncyn cam
Of alai am y polyn,
Yn gwetyd un fod saim disawr
O'r top i'r llawr bob tipyn.

Hen giasig wina Wil y Giath
Odd giasig ath a'r cwpan;
A bachan bach Twm Rhydycau
Fyrchganws ar i chiefan.

Er iddi fwrw lot o law
Odd yno shaw o ferchid
Trw'r dydd yn dilyn crots y dre
O bothdy'r lle fel defid.”

(I'w barhau.)

 


 

 

F7630_shoni-o-r-pant_07-ebrill-1900_01_pennod-vi.jpg
(delwedd F7630) (7 Ebrill 1900)

Papur Pawb 7 Ebrill 1900

PENNOD VI.—(Parhad)

Shoni o’r Pant: (Un o Enwogion Aberdar)

Gan Ifan Bryndu.

Pennod VI. (Parhad.)

Canlynwyd y gan gan uchel gymeradwyaeth i Shoni o'r Pant, yr hwn oedd wedi
maddeu iddo ei liun cyn hyn, am iddo dori i lawr ar y ddwy gan a gynnyddodd yn flaenorol.

Erbyn hyn, yr oedd yn bryd tori i fyny, ond teimlai pob un yn ofidus fod y cyfarfod yn tynu at y terfyn.

"Wel, tawn i marw, boys," gwaeddai Wil Dal," fe licswn i gal cwrdd fel hyn yto. Be' chi'n weud boys?"

"Right you are, fire away; w i yn folon," atebai Jim y Cantwr.

"Ondi allwn ni ddim cal cino a rhoi cas-an-drors yn bresants bob Satwn," meddai Jacko Tynewydd.

"Gryndwch ar hwnco!” llefai y Mishdir Haliars, "gadewch i ni gal gwpod beth yw barn Mr  Jones. Ottich chi yn folon dod yma ytto atton ni, Mr Jones?"

“Ond cofiwch, fechgyn, bod gwaith y Sul o flaen Mr Jones, ac mai anodd yw iddo spario nos Satwrn o hyd," ebai y Cadeirydd.

"Ma gwaith dydd Sul o'n blan ninnau hefyd, Mr Cadeirydd, ag ma isha i ni feddwl am hyny," dadleuai Twm Llewelyn. "Be chi'n weud, Mr Jones?" gofynai Sam.

Teimla Cynon Jones fod cyfle ardderchog yn ymgynnig iddo, ond yr oedd wedi dyfod braidd yn sydyn. Cododd er hyny ar ei draed, a siaradodd i'r perwyl a ganlyn: —

"Mr Cadeirydd a boneddigion. Y mae yn dda gan fy ngalon ein bod wedi cael y fath gyfarfod hapus yma. heno, ac yr wyf yn wir awyddus am gael un arall tebyg iddo, ac eithrio, wrth gwrs, un peth ynddo (cymeradwyaeth). Fel y dywedodd ein cyfaill o'r Tynewydd, nis gallwn gael book-cases a chiniawau yn fynych, ond os nad wyf yn camsynied, yr ydym wedi mwynhau ein hunain yn rhagorol, ar wahan i'r pethau hyn (hear, hear). Nid wyf heb deimlo mai problem fawr Aberdar yw, sut i dreulio nos Sadwrn; ac yn awr, teimlaf ein bod ni heno, wedi cael ffordd i benderfynu y pwnc (cymeradwyaeth uchel). Y mae yn dda genyf eich bod o'r un farn a mi ar hyn. Ac os cydsyniwch, deuwn yma nos Satwrn nesaf eto, gyda chaniattad Mr Davies, gwr y ty" (hear, hear).

"Ffamws, syr, ffamws, Mr Jones," ebai Sam, "ond  ottich chi yn folon dod hefyd?"

"Deuaf yn galonog, Samuel; ond cofiwch hyn. Y mae y tafarndai yn agored, yn awr, ond charwn i ddim eich gweled chwi yn myned i'r un ohonynt heno," ebai y pregethwr.

"Eitha right, syr, w i yn promisho pido myn'd ta beth. Be chi'n weud, boys?" gofynai Wil DaJ.

"W i yn cinig," ebai Twm Llewelyn, nag os dim un o ni yn myn'd i ifad heno, ond bod ni yn myn'd yn straight sha thre."

"Peth arall," ebai y gweinidog. "Fe ddaeth pob un ohonoch yma heno yn hardd a gweddus yr olwg arno. A ydych yn foddlon gwneyd yr un modd wythnos i heno?"

"Ottin, ottin," oedd yr ateb parod o bob genau.

"W i yn cinig hwna yto, Mr Cadeirydd," ebai Twm.

Pasiwyd y cyfan yn unfrydol hollol. Nid oedd neb yn y lle yn dychmygu am welliant na dim o'r cyfryw bethau. Buasai edrychiad Sam Mishdir Haliars yn ddigon i wywo nerth

 

 

F7631_shoni-o-r-pant_07-ebrill-1900_02_pennod-vi_pennod-vii.jpg
(delwedd F7631) (7 Ebrill 1900)



unrhyw welliant neu wrthwynebiad y noson hono. Aeth y cwmni gartref, bob un yn sobr, yn Ilawen, ac wrth ei fodd. Methai gwragedd a mamau llawer ohonynt ddyfalu beth oedd yn bod, wrth eu gweled yn dyfod gartref mor gynar, ac mor hapus yr olwg arnynt. A phan adroddwyd yr hanes, yr oedd llawer o fendithio ar enw Cynon Jones y noson hono.

Cyn terfynu y cyfarfod, yr oeddis wedi diolch i'r Cadeirydd, ac i'w gilydd, ac i Mr Davies; wedi canu "Hen Wlad fy Nhadau," gyda'u gilydd, ac wedi trefnu cael cyfarfod arall.

Nid teg, er hyny, yw cadw yn ol hanes teithiau Shoni o'r Pant, er mwyn adrodd am y cyfarfodydd dyddorol a gafwyd ar ol hyn, felly, yn y benod nesaf, rhoddir ychydig o hanes taith gyntaf ein harwr i brif-dinnas ein gwlad. Ar ol adrodd ychydig o hanes y "Bachan o'r Pant" yn Llundain, ac efallai yn Ffrainc a Gogledd Cymru, rhoddir ychydig yn ychwaneg o helynt cyfarfodydd nos Sadwrn boys Aberdar.

Taith fythgofus oedd y daith i Lundain, ac nid rhyfedd, erbyn ystyried, fod y llanc ieuanc o'r Pant wedi cyfarfod a chyfarfod a chynnifer o brofedigaethau yno, ond rhaid ymattal y tra hwn.

PENNOD VII.—TAITH I LUNDAIN.

Yr oedd Shoni o'r Pant un cyfnod, wedi bod yn ddirwestwr selog am amser maith. Daeth y syniad i'w ben y carasai weled Llundain. Nid oedd gobaith am hyny, wrth gwrs, i'n gwron, ond trwy fod yn ddirwestwr; felly, dirwest am dani. Os oedd Llundain i fod o gwbl i Shoni, rhaid fyddai iddo gael poced lawn. Ni roddai ddiolch am fyned yno a dim ond digon i dalu am fwyd a llety. Yr oedd yn ormod o ddyn o gryn dipyn i beth felly. A dyweyd y gwir, yr oedd llawer o'r boneddwr yn y Bachan o'r Pant pan gawsai chwareu teg.

Datganwyd y bwriad o fyned i Lundain am dro, yn nglyw rhai cyfeillion, a diwedd y peth fu i Ianto Caeglas gyduno a Shoni i fyned i'r brifddinas. Hen lwmp lloiaidd oedd Ianto, heb fod oddicartref ond ychydig neu ddim erioed, ond yr oedd ganddo gred ddiderfyn yn Shoni. Onid oedd y gwr o'r Pant wedi bod yn Nghaerdydd, yn Abertawe, Castellnedd, Merthyr, Pontypridd, ac hyd yn nod yn Mhorthcawl? Onid oedd wedi clywed Shoni, lawer gwaith, yn darlunio pa le i newid trains wrth fyned i'r lleoedd hyn? Onid oedd Shoni yn hyddysg yn y cook shops goreu, ac yn gwybod prisoedd y tocynau a'r bwydydd yn mhob un ohonynt? A pha beth arall oedd yn eisieu tybed? Dyna mewn siarad Saesneg eto: os oedd Ianto heb fedru fawr o'r iaith fain ei hun, yr oedd ganddo berffaith hyder yn ngallu Shoni o'r Pant yn y cyfeiriad hwnw.

Nid oes eisieu myned dros y darpariadau a wnawd ar gyfer y daith yn fanwl. Digon fydd dyweyd fod ganddynt bob o bar o esgidiau newydd; coleri gwynion newyddion, cadachau sidan amryliw newyddion am eu gyddfau; stoc dda o dybaco Ffranklyn, a digon o arian i allu mwynhau y daith.

Bu cryn siarad rhwng Shoni o'r Pant a'r Parch Cynon Jones am y daith i Lundain; ac wrth gyfarwyddyd y gweinidog, bu y ddau Gymro ieuanc yn hynod ffodus i gael llety gyda Chymro hawddgar a chynhes yn y ddinas fawr. Ac wrth gyfarwyddyd yr un boneddwr, yr oedd Shoni a Ianto yn gofalu dyweyd wrth wr y ty i ba le y bwriadent fyned bob dydd a pha bryd y buasent yn dychwelyd.

Cychwynasant fel gwroniaid dewrion anturiaethus o Aberdar tua saith o'r gloch nos Sadwrn, gan fwriadu bod yn Llundain boreu ddydd Sul. Wythnos oeddynt i gael i ffwrdd, ac yr oedd yn rhaid cael clywed Spurgeon. Aeth pobpeth yn iawn. Yr oeddynt yn mwynhau


 

 

 

 

F7632_shoni-o-r-pant_07-ebrill-1900_03_pennod-vii.PNG
(delwedd F7632) (7 Ebrill 1900)

y daith yn rhagorol. Newidiasant y trains dro neu ddau.

"Wyt ti'n gwel'd, Ianto," ebai Shoni, "mor biwr ma trains y nos yma yn trafeili. Dyw nhw ddim yn stopo yn yr hen stations bach yma, ond bant a nhw o hyd."

"Wel, ie, allwn ni feddwl," atebai Ianto, "ond ma raid fod Llundan yn mell ofnadw, Shoni?"

"O, otti, wrth gwrs, ond watsha di dicyn bach, fe fyddwn yno miwn bothdy wincad nawr. Dyco fe w i yn meddwl," ebai Shoni, gan agor y ffenestr a gwthio ei ben allan i'r tywyllwch.

"Ianto, bachan," gwaeddai Shoni mewn syndod,"dishgwl yma, ma raid fod Llundain yn lle mawr dychrynllyd."

Yr oeddynt wedi gweled goleuadau lawer tra yn tynu i fewn i'r orsaf wedi hir deithio. Arafodd a safodd y train, a gwaeddai y swyddog yn uchel: 
"All change, here."

"Dyna fe i pawb i ddod mas, Ianto; dyw a ddim yn mwdjid yn mhellach na hyn. Dilyn di fi, yn lle bod ni yn colli'n gilydd," gorchymynai Shoni.

"Fi ddewa i wrth dy gwt di; cer di mlan. Ond b'le ewn ni nawr, Shoni? Doi o'r gloch y bora yw hi."

"O, paid a hito am hyny; ma nhw lawr trwy'r nos yn y lle yna i ni myn'd i lodjo. Fe ofyna i i hwnco am ddangos y ffordd i ni nawr," ebai Shoni, gan droi at un o swyddogion y rheilffordd, a dangos darn o bapur iddo, a gofyn yn ei Saesneg goreu "Sut mae mynd i'r cyfeiriad yma."

"Granville-crescent, London!" ebai y swyddog yn syn;"yr ydych yn Shrewsbury! O ba le yr ydych yn dyfod? Gadewch i mi weled eich tocyn."

Yr oedd golwg hurt ar y teithwyr pan glywsant, eu bod wedi camsynied y train; y buasai yn rhaid iddynt aros yno tan y boreu, ac fod yn agos cymaint o ffordd ganddynt eto i Lundain a phan gychwynasant oddicartref. Yr oedd Ianto a'i geg a'i lygaid yn agored led y pen, a Shoni druan yn ddistaw a swrth.

Yn y waiting-room y treuliodd y ddau eu hamser y noson hono. Yn fore tranoeth, cychwynwyd hwy i sylw a gofal y guard, a chyrdaeddasant [sic] y brifddinas rywbryd yn y prydnawn. Wedi llawer o holi, a cherdded ofer, cafwyd o hyd i Granville-crescent. Dangosasant y llythyr cymeradwyaeth a gawsant gan Mr Cynon Jones, i wr y llety, ac yr oeddynt gartref gyda Mr a Mrs Hughes, ac un neu ddau ereill o Gymru, yn bur fuan. Ond ychydig o siarad oedd yn yr un o'r ddau. Eu heisieu mwyaf oedd eisieu cysgu.

"Mae yn well i chwi fyned i'r gwely am ychydig, fechgyn," awgrymai Mr Hughes.

"I ni mo'yn clywad Spurgeon gynta' Mr Hughes; odd Mr Jones, y gweinidog, yn gweyd i fod a wrth bwys ty chi," ebai y Bachan o'r Pant.

"O ydyw, yn yr ymyl; ond gellwch gael rhyw ddwy awr o orphwys a byddai hyny ya well nag i chwi gysgu yn y capel," dadleuai Mr Hughes.

"Ia, Shoni; gad i ni fyn'd i'r gwely am spel fach, ta beth," ebai Ianto.

Ffwrdd a hwy i'r gwely, gan feddwl codi a myned i'r Tabernacl erbyn chwech.
 Cysgodd y ddau yn braf. Yr oedd yn werth gweled (a chlywed) y ddau. Cysgent fel dau blentyn mawr, heb feddwl na breuddwydio am eu hoff gartref yn mryniau Cymru, nac am y miliynau a heigient o'u cwmpas yn mhrifddinas y byd. Do, cysgasant yn iawn hyd - dri o'r gloch boreu dydd Llun!

Deffrodd Shoni; wedi cofio yn mha le yr oedd, edrychodd ar ei watch a dechreuodd ysgwyd y labwystyn tew oedd yn parhau i chwyrnu wrth ei ochr.

"Wyddost ti beth, Ianto," cwynfanai Shoni, "fe fydd arno i gwilydd gweud wrth Mr Jones, y gwinidog, bo fi wedi cysgu yn lle myn'd i glywad


 

 

F7633_shoni-o-r-pant_07-ebrill-1900_04_pennod-vii.PNG
(delwedd F7633) (7 Ebrill 1900)

 

Spurgeon. Achos odd a wedi'm sharso i i fyn'd iddi glywad a y peth cynta'. Ond ni gewn wel'd i dy-cwrdd a yto."

"Cai dy ben nawr, a gad ni ga'l cysgu tipyn bach yto, achos wyt ti'n gwpod bo fi wedi gweithio tyrn extra nos Wener yn lliwcho gyta Wil Dal," tuchanai Ianto, gan ddechreu chwyrnu drachefn.

Chysgodd Shoni yr un Ilygedyn ar ol hyn y boreu hwnw. Rhwng chwech a saith gosododd derfyn ar chwyrnu croch ei gydymaith ac i lawr a hwy. Pan ddeallodd Mr Hughes siom Shoni o'r Pant, am iddo golli pregeth Spurgeon, dywedodd wrtho fod y pregethwr enwog i’w glywed ar nos lau, ac hefyd y ceid cyfle i'w glywed drachefn mewn cyfarfod cyhoeddus yn ffafr Dadgysyiltiad yn y Tabernacl yr wythnos hono, yn yr hwn y byddai Mr Henry Richard, A.S., yn bresennol. Gosododd hyn y Bachan o'r Pant ar ei droed. Yr oedd mewn hwyl gorfoleddu wrth feddwl gweled Mr Henry Richard yn Llundain. Oblegid, heblaw ei syniadau uchel am yr A.S. dros Aberdar, awgrymai enw a gwyneb yr hen wladgarwr hwnw ferw yr etholiad i Shoni.

Nis gallwn obeithio rhoddi holl fanylion y dyddiau hyn yn nglyn a'r ddau Gymro o Aberdar; felly o angenrheidrwydd bydd yn rhaid dethol gan adael bylchau yma ac acw.

Gan fod cynnifer o wyr mawr yn byw yn y ddinas a hwythau yn bwriadu ymweled a rhai o'r lleoedd pwysicaf oedd ynddi, y peth mawr cyntaf i hawlio eu sylw oedd eillio eu barf. 

"Hoi, Ianto,"ebai Shoni, "dyma fi yn myn'd i wilo am farbwr. Fe fydda i nol erbyn i ti gwpla dy frecwast." 

I ffwrdd a Shoni, nis gallodd weled polyn barbwr yn un man; ond gan gofio cynghor Cynon Jones, i holi policeman pan mewn dyryswch, cafwyd o hyd i'r gwr a'r ellyn. Fel gwr o fusnes gofynodd y Bachan o'r Pant y pris am y gwaith.

"Dwy geiniog am eillio yn unig," atebai y barbwr, yn yr iaith fain, wrth gwrs.

"All right," ebai Shoni.

Ychydig amser gymerwyd at yr oruchwyliaeth ac edrychai ein cyfaill mor ieuanc ac mor fresh ag erioed. Aeth yn ol at Ianto, yr hwn a benderfynodd yn bur fuan i dalu ymweliad a'r un barbwr. Tystiodd Ianto y mynai gael tori ei wallt yn ogystal gan fod ganddo gystal cyfle. Dangosodd Shoni y shop iddo. Gofynodd Ianto am gael tori ei wallt ac eillio ei farf. Cymerwyd ef i ystafell wych, lle yr oedd nifer fawr
o dan driniaeth dwylaw celfydd, cyflym, cryn nifer o weithwyr.

"Crop, sir?" gofynai llanc llathraidd, gan gyfeirio a'i fys at gadair gerllaw.

"Iss, sir," atebai Ianto, gan godi ac eistedd yn y gadair.

Cymerwyd ymaith y cnwd tew, crych, oddiar ei ben yn bur fuan. Symudwyd ef i gadair arall, a daeth bachgenyn bychan yn mlaen gan rwbio y trwyth sebon yn egniol dros ei wyneb canlynwyd hwnw gan y gwr a'r ellyn. Ychydig o amser fu hwnw yn gwneyd i'r gwyneb llyfndew, coch, ddisgleirio fel y lleuad.

Tua'r adeg yma yr oedd y rhan fwyaf o'r cwsmeriaid wedi clirio allan, a gellid gweled dau neu dri o'r barfwyr yn sibrwd ac yn chwerthin yn nghongl yr ystafell. Yna, dacw un ohonynt yn troi at Ianto ac yn gofyn iddo yn serchog dros ben: —

"Brush and singe your hair, sir?"

"Iss, please, sir," atebai Ianto, gan farnu eu bod yn hynod garedig a chymwynasgar.

Daeth y sebonwr bychan yn mlaen; golchodd wyneb y bachan o Aberdar, gan osod ychydig bowdwr peraroglus esmwyth dros ei en a’i gyfarwyddo i'r gadair yr eisteddodd arni gyntaf. Erbyn i Ianto eistedd, cymhwyswyd at ei ben, fath o ysgubell droellog arw, yr hon oedd yn troi wrth ryw olwyn uwchben. Syna


 

 

F7634_shoni-o-r-pant_07-ebrill-1900_05_pennod-vii.PNG
(delwedd F7634) (7 Ebrill 1900)

at garedigrwydd a medr y cwmni. Wedi llyfni ychydig ar y gwallt, gofynwyd iddo os carai gael "singe."

"Eh?" gofynai Ianto, gyda cheg a llygaid agored. "Garech chwi gael llosgi ychydig ar y blew bychain ymaith? gofynai y barfwr eilwaith.

"Iss, please, sir," oedd yr ateb.

Erbyn hyn, yr oedd y cyfaill yn dechreu llawenhau yn ei galon, ei fod wedi curo Shoni o'r Pant o ddigon yn barod.

Cymhwyswyd y fflam dyner at y man-flew a ddiangasant rhag y siswrn.

Shampoo, sir?" holai y barfwr.

"What?" tuchanai Ianto.

"Garech chwi gael golchi ychydig ar eich pen, syr?" gofynai y crefftwr.

"Iss, please, sir," oedd yr ateb a gafodd eto.

Cymerwyd Ianto i ochr yr ystafell; gosodwyd llian gwyn arall drosto, a cheisiwyd ganddo blygu uwchben cawg bychan. Trowyd y dwfr oer a chynhes i'r cawg, ac O!'r mwynhad gafodd ein cyfaill pan yr oeddis yn seboni, yn rhwbio ac yn golchi ei ben.

Ar yr adeg yma, daeth Shoni i chwilio am ei bartner. Methai ddeall pa le yr oedd cyhyd. Taflodd y Bachan o'r Pant ei olwg drwy yr ystafell, ond nis gallodd weled neb, ond y gwr oedd yn ymolchi fan draw. Cymerodd yn ganiataol mai un o'r barfwyr oedd hwnw, yn gosod ei hun mewn trfen [sic] [= trefn], ond fod un o'r lleill yn ei gynnorthwyo. Dychwelodd felly i'w lety mewn pryder am Ianto.

Gorphenwyd yr ymolchi a'r sychu, ac ebai y barfwr "curl you moustache, syr?"

"Eh?" eto.

"Gaf fi droi ychydig ar eich moustache, syr, fel hyn?" gofynai gwr yr ellyn eilwaith. gan droi dolen ar flaen ei drwynflew a'i fys main.

"Iss, please, sir," ebai mab y Caeglas.

Eisteddwyd eto, ac wedi cynhesu yr haiarn cwrlio, dygwyd ef at gymydogaeth trwyn ein cyfaill. Teimlai braidd yn ofnus o'r oruchwyliaeth hon, ac anesmwythai yn y gadair. O'r diwedd, llwyddwyd i wneyd cylch neu gwrlyn, fel sydd ar gynffon marlet un ochr i drwyn Ianto; ond wrth dynu yr haiarn poeth i ffwrdd, cyffyrddodd a chroen noeth y Cymro, yr hwn a neidiodd ar ei draed gan floeddio nerth ei safn: "Beth wt ti yn neud, y mwlsyn hurt?"

Ni fynai eistedd ar ol hyn, ond cydiodd yn frysiog yn ei het a'i gansen, a gofynodd yn ffyrnig: "How much," gan estyn chwe' cheiniog i'r barfwr synedig.

"Dydi hyn ddim yn ddigon," ebai y Sais yn sarug, a gorchymynodd y llanc ddod a'r bil i'r cwsmer digofus.

Tra yr oedd Ianto yn rhwbio y man a seriwyd gan yr haiarn poeth, yn ymnyddu gan y losgfa, ac yn ceisio edrych arno ei hun yn y drych mawr oedd yno, rhoddwyd y bil iddo gyda'r geiriau: "Pedwar swllt a thair ceiniog, syr, os gwelwch yn dda?"

"What?" bloeddiai Ianto yn synllyd a gwyllt. "Pedair a thair, syr."

Aeth y bachan o Gaeglas yn fud hollol. Ond sut yr oedd dod ohoni?
Darllenodd y llanc iddo fanylion y bil; ac, wrth gwrs, yr oedd y cyfan wedi ei gario allan. Yn ol cyfrif y Cymro, dwy geiniog oedd am eillio, a thair am dori gwallt; dyna bum' ceiniog. Ond gwarchod ni: pedwar a thair! Diwedd y peth fu iddo orfod talu yn llawn, ac ar ol hyn, rhedodd am ei fywyd i chwilio am Shoni. Canfyddodd yr olaf o'r diwedd yn sefyll fel lord ar drothwy y llety.

"Shoni, hoi; Shoni bachan," gwaeddai Ianto pan tua chan' llath oddiwrth y ty, "wyt ti'n gwpod beth gwnws a arno i am shavo a thori ngwallt i?

Clywodd ein gwron lais ei gydymaith, a barnodd ei fod yn i adnabod; eto yr oedd rhyw

 

 

F7635_shoni-o-r-pant_07-ebrill-1900_06_pennod-vii.png

(delwedd F7635) (7 Ebrill 1900)
 

ddyeithrwch rhyfedd yn mab y Caeglas, yr hyn oedd yn peru amheuaeth pwy ydoedd. Wedi iddo ddyfod yn nes, yr oedd yn amlwg mai Ianto ydoedd. Cwynai yn erwin ar y cam a gafodd, a thynodd ei het i ddangos ei ben i Shoni. Ymollyngodd hwnw i chwerthin pan glywodd yr hanes, ac nis gallai yn ei fyw edrych ar Ianto heb fyned i ffitiau bron. Dyna lle safai yr olaf gyda gwyneb sur, gofidus; ei wallt wedi ei dori i ffwrdd i gyd fel pe buasai wedi bod yn y carchar, ei wyneb yn disgleirio; un ochr i'w foustache yn cwrlio fel eiddo y diweddar Arglwydd Randolph Churchill, a'r ochr arall yn hogian yn llipa, fel cynffon ei wedi ei chwipio.

Pan aethpwyd i'r ty, denodd y gwyneb rhyfedd a’r chwerthiniadau di-attal sylw Mr a Mrs Hughes, y morwynion, a'r lletywyr ereill. Ond pan gafwyd hanes sut y bu pethau, a'r pris a dalwyd, yr oedd yn Granville Crescent fwy o hwyl nag a fu yno flynyddoedd cyn hyny.

"Wel, bachan," ebai Shoni, "ond buo i yno yn dishgwl am dano ti; ag odd yno neb ond y barbwrs. Ag odd un o nhw yn ymolch o dan y tap."

"Bachan," dolefai Ianto, "ond taw fi odd gita nhw yn y twbin pryd hyny. On ni yn dy glwad di yn wislan wrth ddod miwn, ond alswn i ddim acor y men w. W i yn vecso na fyswn ni yn rhoi clowtan i'r boy coch hyny, achos, nawr w i yn gweld taw werthin am y men i odd a o hyd."

"Ond bachan diain; beth oit ti yn talu cymint a yna iddo fa? Dwy ginog dalas i." meddai Shoni.

"Ond gwetast ti, taw dyna odd a yn gwni am shafo, ag own i ddim yn meddwl bysa fa yn cwni mwy na thair arall am gropio 'ngwallt i," atebai'r llall.

"On 'run twp, shwd ag wyt ti," ebai y bachan o'r Pant yn wyllt; "cofia ofyn pris pobpeth cyn gofyn am dano fa, o hyn i mas, yn Llundan."

Wedi cael ychydig dawelwch meddwl, a cheisio cael gwell trefn ar y moustache a nodwyd, aeth y ddau deithwyr i weled golygfeydd y lle. Yn Trafalgar Square, tynai cofadail Nelson ei sylw yn fawr. Buasai yn werth gweled ceg Ianto pan yr oedd ei gyfaill yn dyweyd wrtho pwy oedd Nelson, a pha beth a wnaeth.

Caffai y ddau hwyl anarferol hefyd ar y busses a'r trams, ond ei syniad oedd mai "gwyr mawr" oedd pawb a deithient ynddynt. Felly, yn ystod y dyddiau cyntaf, ni ddaeth i'w meddwl am fyned iddynt.

Un diwrnod, penderfynasant fyned i weled waxwork Madame Tussaud. Gofynwyd i'r policeman ar y ffordd.

"Ewch gyda'r tram yma," meddai gwas y gyfraith, "y mae yn pasio heibio ymyl y lle.

"Beth yw y pris," holai Shoni.

"Dwy geiniog," oedd yr ateb.

"Dyna le ffamws, yntefa Shoni?" sibrydai Ianto gan wenu; "bachan ma hwn yn well na first-class y Taff Vale, ond yw a?"

"Otti, ond ysgwn i fod y bobl yna'n gweud y gwir?" awgrymai Shoni braidd yn bryderus.

Taenodd cwmwl o amheuaeth dros wyneb y llall. Ar hyn, daeth y swyddog i gasglu yr arian. Cymerodd ddwy geiniog gan bob un, ac addawodd attal y cerbyd wrth y lle a nodwyd. Symudodd hyn faich oddiar galon y ddau. Tystient y mynent aml i ride gyda'r cerbydau hyn o hyn allan, a chytunent fod y pris yn hynod o isel.

Cyrhaeddwyd y fan; disgynodd y ddau deithiwr, ac yn syth a hwy at ddrws y waxwork.

"Faint sy' am fynd miwn, Shoni?" ebai Ianto.

"Wn i ddim, fe ofyna i'r shepyn yco nawr" atebai y llall gan groesi at heddgeidwad a safai yn syth yn ymyl y drws.

Ni wnaeth yr heddgeidwad gymint a throi ei


 

 

F7636_shoni-o-r-pant_07-ebrill-1900_07_pennod-vii.png
(delwedd F7636) (7 Ebrill 1900)

lygaid i edrych arnynt, ond syllu yn syth yn ei' gyfer.

"Gofyn yn uwch, ma raid fod a yn drwm i glwad," ebai Ianto.

Gan godi ei lais yn uwch, cyffyrddodd Shoni a braich y gwr a'r got las, gan wthio ychydig arno. Er syndod i'r ddau, bu agos i'r heddgeidwad syrthio yn gyfan i'r llawr. Rhedodd rhyw iasau oerion drwy ein cyfeillion pan ddeallasant mai a delw yr oeddynt wedi bod yn siarad. Wrth droi i ffwrdd a dechreu dringo y grisiau, chwarddent yn braf am y tro, a thystient mai gwaith anhawdd fuasai eu twyllo hwy o hyn allan.

Wedi cyrhaedd pan [sic; = pen] y grisiau, gwelsant ddelw arall, yn yr agwedd o fod yn darllen ac yn eistedd ar fainc o'r neilldu.

"Weli di hwnco," ebai Ianto, yn gall dros ben, gan gyfeirio ei fys at yr hwn oedd ar y fainc: "Un 'run peth a'r chap wrth y drws yw e hefyd."

"Wel ia," atebai Shoni,"waxwork yw pobpeth sy' miwn yma. Dera mlan i gal i weld a, Ianto."

Aethant yn mlaen at y gwrthrych, a chan nad oedd un dyn byw yn y golwg, cydiodd y Bachan o'r Pant yn nhrwyn y "ddelw," gan ddywedyd yn uchel: "Edrych ar i hen lygad trofa [sic; = tro fa], Ianto."

Ond cyn pen chwinciad, dyma ddwrn y ddelw i fyny, ac yn disgyn ar fon trwyn Shoni, nes yr oedd a'i draed yn yr awyr.

Mi'ch dyga i chwi i insultio eich gwell y ffyliaid hanner call, ac i son am "lygad-tro bobl," ebai y "ddelw," mewn Cymraeg pur; ac ar hyn, gollyngodd i Shoni a Ianto o'r newydd.

Tynodd yr helynt lu o bobl i'r lle. (I’w barhau.)


 

 

F7637_shoni-o-r-pant_14-ebrill-1900_01_pennod-viii.jpg
(delwedd F7637) (14 Ebrill 1900)

14 Ebrill 1900

SHONI O’R PANT: (UN O ENWOGION ABERDAR.)

Gan IFAN BRYNDU.

PENNOD VIII.—Y GINIO YN LLUNDAIN.

Yr oedd dychryn wedi dal Shoni ac Ianto, pan welsant y "ddelw gwyr" yn symud, ac yn neillduol yn symud mor sydyn a gyda'r fath dymher wyllt. Oblegid cyn cael amser i ffoi yr oedd Ianto yn mesur ei hyd ar lawr yn ymyl ei gyd-deithiwr, a'r "ddelw" a'r "llygad-tro" yn cicio fel mwlsyn gwyllt mewn ffair.

Dylifodd y bobl yno, ac ymaflwyd yn dyn yn y creadur cynhyrfus yn bur fuan, a dechreuwyd holi achos y terfysg. Ar hyn, cododd Shoni ac Ianto oddiar y llawr, ac ebai y cyntaf: "Gad i ni gwau hi, Ianto, ne i ni siwr o ddodi i hobl ytto," ac i ffwrdd a'r ddau nerth eu traed i lawr y grisiau, ac allan i'r heol, a chymerasant y tram cyntaf i'r Granville Cresent.

Adroddiasant yr holl helynt i Mr a Mrs Hughes, y rhai a chwarddent nes siglo.

"Ond pa fodd ddyn oedd yr un y buoch yn cydio yn ei drwyn, Mr Thomas?" gofynai Mrs Hughes.

"Dyn a gwallt coch a llygad-tro gitta fa, a chot ola," atebai Shoni.

"Ai Cymro ydoedd, tua hanner cant oed?" holai gwraig y ty yn mhellach.

"Wel, am ia. Pam?" atebai y llall yn ddychrynedig.

"Gellwch benderfynu mai Mr Howells ydyw, yr hwn ddaeth yma heddyw o Ddowlais. Yr ydym yn ei dddsgwyl i fewn bob mynyd," ebai Mrs Hughes.

Edrychodd boys Aberdar yn syn y naill ar y llall, a gwibiai heddgeidwaid, celloedd, carcharau a phethau o'r fath yn gyflym o flaen meddwl Shoni. Beth ddeuai ohonynt?

Ar hyn, dyma Mr Howells i fewn, ac yn dechreu adrodd i Mr a Mrs Hughes, fel yr oedd! wedi cael ei insultio gan ryw ddau fredych o Gymry ieuanc. Wrth gwrs, yr oedd Shoni ac Ianto mewn ystafell arall yn awr, yn crynu fel y ddalen. O'r braidd y gallodd Mrs Hughes ddal gwyneb syth. Holwyd Mr Howells yn fanwl, a cheisiwyd dofi ei lid. Pan awgrymwyd iddo y tebygolrwydd i'r ddau wr ieuainc, yn eu diniweidrwydd ei gamsynied am "ddelw-gwyr," dechreuodd chwerthin ychydig ond nis gallai faddeu iddynt am ddau beth: am gydio yn ei drwyn, yr hwn gyda llaw oedd gryn dipyn yn fwy na thrwynau yn gyffredin; ac, yn ail, am gyfeirio at ei "lygad-tro." Yr oedd yr olaf yn gyffyrddiad a man gwan y gwr o Ddowlais. Teimlai, er hyny, lawer o gysur yn y ffaith fod y ddau "horswn diog" wedi cael profi blas ei ddyrnau a'i draed ef.

Gydag athrylitih anffaeledfrg gwraig gall, llwyddodd. Mrs Hughes i ddod a'r dyn o Ddowlais a'r bechgyn o Aberdar at eu gilydd, yn mhen ychydig. Wedi cael eglurhad ar bethau, ac i ofn a swildod cyntaf y llanciau basio, daeth y tri yn ffryndiau cynhes.

Busnes oedd yn galw ar Mr Howells, ac adroddai fel y byddai yn myned o gwmpas, ac yn galw yn yr hotels goreu am ginio - fod cinio ardderchog i'w chael yn y rhan fwyaf ohonynt am hanner coron. Yr oedd swyn gan y geiriau: "Cinio ardderchog" i Shoni, fel y gwyddis; ac yn wir, yn y peth hwn, nid oedd ei gyfaill fymryn yn ol iddo. Heblaw hyn, yr oedd y ddau wedi methu bwyta o gwbl bron er pan ddaethant i Lundain. Nid oherwydd prinder bwyd, cofier, ond oherwydd fod cymaint o

 

 

F7638_shoni-o-r-pant_14-ebrill-1900_02_pennod-viii.jpg
(delwedd F7638) (14 Ebrill 1900)

addurniadau o gwmpas y bwrdd, ac ar fod y cig a'r  bara a phobpeth yn cael eu tori mor deneu.

"Ianto, bachan," ebai Shoni un bore, "Fe fyswn i yn lico cal oino dda am unwath, ta beth. W i ffaelu diall beth ma nhw yn tori y cig mor dena. Dos dim shwd beth cal llond pen o gwbl."

"Wel, ie," rhochiai Ianto, "A'r bara ed. Pwy all lanw 'i fola felna? W i yn lico cal sleishan o gig idon, 'a chwlffyn o fara, a llond plat o datws a grafi. Dyna beth yw cino. Ne bysa ni yn cal pob o fasined o gawl, yntefe Shoni?"

"Myn asgwrni, ni fynwn ni gino 'eddi, ta beth. Wyt ti yn folon dod i un o'r hotels mawr yna, i ni gal cino gwr byneddig am unwaith, Ianto?" atebai Shoni.

"Diawch, ottw; well i ti ofyn i Mr Howells yto o bothdy I pris nhw, a ffordd ma gofyn," ebai y bachan o Caeglas.

"Fi settla i betha felny yn ffamws," atebai ein gwron.

Aeth Shoni yn dawel at y cyfaill o Ddowlais, gan ei holi yn fanwl am y prisoedd, y dull, a'r manylion yn nghylch, yr hotels, a theimlai ei fod yn berffaith hyddysg yn y cyfan. Teithiasant lawer y bore hwnw. Buont yn sefyll i syllu trwy ddrysau a ffenestri rhai o brif westai y ddinas, ond mynai Shoni y buasai yn well ceisio am le gwell o hyd. Y gwir am dani, teimlai ein gwron braidd yn grynedig wrth weled y tai mawrion, y boneddwyr pwysig a aent i fewn ac allan, a'r gweision yn eu lifrau yn symud yn gyflym heibio eu gilydd oddifewn.

"Wel, Shoni, bachan," grwgnachai Ianto, "fi fyddwn wedi starfo fel hyn. Os nag wyt ti yn mynd i gal cino fel oit ti yn gweud, ma'n well i mi gal cwpwl o ffagots ne rhwpath."

"Dere miwn yma, ta," ebai y Bachan o'r Pant yn wrol, gan arwain ei gyfaill i fyny y grisiau, ac i fewn i'r Royal Alexandra Hotel. Canlynodd y llall yn ddistaw, er fod ei geg led y pen yn agored.

"Dinner for two," ebai Shoni yn hyf  mewn atebiad i ofyniad y swyddog moesgar a safai o'i flaen mewn crys gwyn a chot ddu "gwtws fain."

Arweiniwyd y ddau i ystafell eang, wedi ei dodrefnu yn gostus, ac wedi ei addurno yn ysplenydd. Edrychai y ddau o'u cwmpas fel— rhaid addef, fel dau lo. Ar hyn, wele weinydd arall yn dyfodi atynt, wedi ei wisgo fel y llall, ac yn gosod cerdyn addurnedig ger eu bron, heb ddweyd yr un gair, ac i ffwrdd ag ef i ochr arall yr ystafell.

"Beth yw y ticat yna dda, Shoni?" holai Ianto.

"Rhyw "Billy Fire" ne rwpath yw a," atebai y Bachan o'r Pant, yn gall dros ben, gan blygu y Bill of Fare yn ei ddwylaw.

"Dinner, please," gwaeddai Shoni yn uchel, ac ar hyn, daeth y gweinydd tuagatynt, gan ofyn yn foesgar ac yn Seisnig:

"Beth gymerwch, foneddigion."

"What you got?" holai Shoni.

"Roast beef, mutton, veal, chicken," atebai y llall.

"Got soup," gofynai ein gwron.

"Yes, sir," atebai y llall, "ox-tail and others."

"Beth fynwn ni, Ianto?" ebai Shoni. "Wyt ti'n gweld. Beef yw cig idon; mutton yw cig gweddar; a chig llo a phorc yw y ddau arall, a soup yw cawl wyt ti'n gweld. Beth sa ni yn cal cawl gynta, a thatws a chig wetyn, Ianto?"

"Dyn fe, yn ffamws," atebai y llall, "ond pwy gig gewn ni?"

"Soup," ebai y Bachan o'r Pant, wrth y dyn a'r crys gwyn, ac yna, gofynodd os oedd  ganddynt rhyw gig arall yno.

"O, yes," ebai y llall gyda llygaid a gwefus gellweirus, "We have some kippered herrings."

"Cuppyderis" yw y cig arall sy gita nhw;

 

 

F7639_shoni-o-r-pant_14-ebrill-1900_03_pennod-viii.jpg
(delwedd F7639) (14 Ebrill 1900)

dera i ni gal hwnw," cymhellai Shoni, "ma rhaid fod hwnw yn dda. Achos wyt ti'n gweld, fe allwn ni gal dicon o'r cig arall yna yn Aberdar."

Cuppyderis, please," ebai drachefn wrth y gwas.

Aeth y waiter i ffwrdd gan chwerthin yn iachus wedi myned o olwg y ddau Gymro, a daeth dau neu dri o rai tebyg iddo gan roddi tro drwy yn ystafell, ac esgus trin y byrddau neu agor mwy ar y ffenestri. Wrth gwrs cael golwg ar Shoni ac Ianto oedd eu hamcan.

Yn fuan daeith y soup gyda. chauad arianlliw disglaer arno. O, fel yr oedd ei arogl hyfryd yn adfywio ysprydoedd lluddedig disgwylgar y ddau deithiwr newynog. Gosododd y gweinydd y ddau blat dwfn o'u blaenau, a dywedodd wrthynt am ganu y gloch pan fyddent yn barod. Symudodd hefyd y pypyr a'r halen yn nes atynt, ac aeth allan.

O, mor awchus y cydiodd, y ddau yn y cawl gan ddechreu ymosod ynddo.

"Ma fa'n dda. ebai Ianto, gyda'i geg yn llawn, "ond pam na bysa nhw yn i dclota miwn basin, ag yn doti mwy o bypyr ynddo?"

"Dyma ddicon o bypyr yn y peth yna: dod beth dy hunan," atebai y llall.

Cymerodd Ianto y botel, a gwasgarodd y llychion  poethion dros y plat, a cheisiodd orphen y cawl; ond, druan ohono; dechreuodd disian a thisian, a daeth y dagrau mawrion i'w lygaid, a thrwy y cyfan yr oedd yn chwerthin dros ei wyneb i gyd. Yr oedd wedi gosod  gormod o bypyr ar ei fwyd ac edrychai yn ddigrifol dros ben. Penderfynodd yfed yr oll. Nid oedd ganddo amynedd i godi y cawl bob yn dipyn a'r llwy, ond cododd y plat at ei enau, ac yfodd ef, fel pei buasai yn yfed o gwpan. O gylch ei geg yr oedd yn gawl i gyd, ac yr oedd dwy ffrwd fechan yn llifo i lawr, un bob ochr dros ei wasgod i gyd! Y mae yn dda nad oedd y waiter i fewn y pryd  hwnw.

Teimlai ein harwr gywilydd i'w sodlau, wrth weled ei gyfaill yn gwneyd y fath anifail ohono ei hun, ac ni fu yn brin o ddyweyd hyny chwaith. Yr oedd Shoni yn fyw i'r ffaith y buasai ystranciau rhyfedd Ianto yn cymylu anrhydedd y ddau, ac meddai:

"Wel, am Ianto bachan w, beth ti'n neud shwd fwlsyn o dy hunan? Wyt ti felsa ti miwn twlc mochyn yn byta mas o gafan!”

Tra yn brysur sychu ei geg, ei lygaid, a'i wasgod, tuchanai Ianto nad oedd wedi cael hanner digon o'r cawl, a cheisiai gan y llall alw am y gweddill o'r ginio. Yr oeddynt mewn ychydig gwell trefn pan ganwyd y gloch, ac y cliriwyd y platiau i ffwrdd, and [sic] [= ond] gwnaeth y waiter wyneb difrifol pan welodd gyflwr y llian gwyn oedd ar y bwrdd, ond taenodd gwen dros ei wyneb pan welodd wasgod Ianto.

"Bachan," ebai mab y Caeglas, "W i yn mo'yn cal golwg ar y cig yna, ma fa yn hir, Shoni."

"Fe ddaw yn gwmws. Gad ni aros dicyn bach," ebai y llall.

Yr oedd dannedd y ddau yn rhedeg o ddwfr, ac nid oedd y soup ond wedi rhoddi awch iddynt at fwyd. Wedi aros braidd yn hir, dacw y waiter yn dyfod gyda llwyth trwm yn ei ddwylaw. Gosododd ef i lawr wrth ben y bwrdd gerllaw; yna dygodd y platiau gyda'r cauad disglaer ar bob un, a gosododd hwy yn barchus  gerbron y ddau wron o Aberdar, gan ddywedyd wrthynt y deuai yn ol a'r gweddil o'r danteithion yn union. I ffwrdd ag ef.

Llosgai ein cyfeillion gan awydd gwybod beth oedd dan y ddau gauad. Gwelent yr ager cynhes yn codi allan, a cheisient eu goreu arogli y bwyd. O'r diwedd, ebai Shoni:

"Ianto, ma'r boy yna wedi mynd i dynu

 

 

F7640_shoni-o-r-pant_14-ebrill-1900_04_pennod-viii.jpg
(delwedd F7640) (14 Ebrill 1900)

tatws, heb son am i berwi nhw allwn i feddwl. Myn brain i, os na ddaw a miwn bothdy shiffad, fe fydda i yn etrych beth sydd yn stemo gan yr en glawr yma."

"Go on, Shoni; cwn a lan," sibrydai y llall. Wedi clustfeinio a chlywad neb yn dod, cydiodd y Bachan o'r Pant yn y clawr, a chododd ef i fyny yn araf, gan, ddisgwyl gweled defnydd gwledd odditano. Pan welodd beth oedd yno, cododd ei ddwylaw i fyny, a'r clawr yn un ohonynt, a dolefodd allan mewn siomedigaeth a thristwch chwerw:

"Ianto, Ianto, bachan, diawch; sgadan yw rhain Dyma dro! Dyma dro!"

Brysiodd mab y Caeglas i edrych beth oedd ganddo yntau, ac, fel ei gyfaill, cododd yntau ei ddwylaw i fyny mewn syndod, a gwaeddodd:

"Wel, sgadan sy gen inna ed. Myn asgwrn i, Shoni, fi fwra  i ben y boy yna bant. Am beth gofynast ti iddo fa, gwed?"

Ar hyn, dyma'r waiter i fewn, ac wrth weled y ddau wr dyeithr yn sefyll i fyny, yn edrych yn wyllt a chynhyrfus, gyda'r cloriau arian yn eu dwylaw dyrchafedig, cafodd y dyn fraw, ac ymholodd beth oedd yn bod. Gan nad oedd modd cael trefn rheswm gan y ddau Gymro, y rhai oeddynt yn ei drin yn enbyd, mewn iaith hollol ddyeithr iddo, galwodd ar ddau o'I gydweision i fewn. Ceisiodd un ohonynt siarad Germanaeg, a'r llall Ffrancaeg a Shoni, ond i ddim pwrpas. Tystiai Ianto ar ol hyny na chlywodd y fath frygawthan disynwyr erioed a'r tro hwnw.

Diwedd y peth fu i'r ddau Gymro orfod ymadael yn bur ddiseremoni heb brofi y ginio, ond nid heb dalu am dano, cofier.

"How much?" gofynai Shoni yn sarug.

"Saith a chwech yr un," ebai y Sais fu yn gweini arnynt.

"Clwost ti, Ianto?" ebai ei gyfaill, "ma nhw yn mofyn pymtheg swllt, gita ni: saith a wech yr un! Beth newn ni, bachan. Ma arno i ddicon o want roi pob o glowtan iddo nhw a'i hecan i sha ty Mr Hughes."

Ar hyn, wele wr tal mewn lifrau yn dod i'r golwg, ac un arall yn ei ganlyn. Penderfynodd hyn y cwestiwn, talwyd y bil, ac allan a'r ddau deithiwr helbulus i ganol yr heol.

Edrychai y ddau am y mwyaf trallodus, ond yr oedd Ianto Caeglas wedi chwerwi yn echrydus.

"Shoni," meddai, "bothdy flewyn odd rynto i a doti 'nwrn trw fola'i chap yna! Bachan w, di'n i ddim mynd i attal ryw dacla felna i'n damshal ni dan drad, oti ni?"

"Wel, nag in, wrth gwrs; ond wyt ti gweld pe bysan ni yn roi clatshan i un o rena, fe fysa pump neu wech falla, yn citsho yndo ni," atebai ein gwron; "pe bysan ni yn i cal nhw i Aberdar, fe nelsa ni net a nhw."

"Bachan w," ebai mab y Caeglas, "wyt ti cofio fel o nhw yn y'n scwto a'n hwpo ni obothdy'r lle! Bach fi alswn wado'r tri yna minan. Fe fyswn i wedi roi cledsan i'r en un bach yna ed on' bai i'r boy mawr hyny ddod miwn. Ond beth newn ni am fwyd, Shoni?"

"Nawr wy i'n cofio. Fe wetws Marcad Tydraw wrtho i am gofio am fyn'd i weld Betsy i merch i. Wyt ti'n napod Betsy, briotws gita'r bachan hyny - Reynolds odd i enw fo. Odd a'n glarc yn yr office?" ebai Shoni.

"O, otw, otw," ateba.i Ianto.

"Dyna fe, ni ewn ni nawr iddi gweld hi ag i'n ni yn siwr o gael tamed o fwyd gyda hi; achos merch fach, biwr digynnig odd Betsy  Odd hi a fi yn yr ysgol gita'n gilydd."

Ar hyn, i ffwrdd a'r ddau, yn ol yr address oedd yn mhoced Shoni, ac wrth gyfarwydyd [sic] yr heddgeidwaid, a gyda'r trams i chwilio am Betsy, merch Marcad Tydraw, yr hyn o'i

 

 

F7641_shoni-o-r-pant_14-ebrill-1900_05_pennod-ix.jpg
(delwedd F7641) (14 Ebrill 1900)

gyfieithu yw Mrs Reynolds. Ond taith helbulus fu hon eto.

PENNOD IX .- MYN'D I WEL'D BETSY.

Yn mhen amser cyrhaeddasant y ty.

"Bachan ty gwr byneddig yw hwn, alswn i feddwl. Wni otti'r drecshons yn iawn, Ianto?" gofynai Shoni, gyda phryder.

"Pwy rows a i ti?" holai y llall.

"On taw Wil Tydraw i hunan, brawd Betsy," ebai ein harwr, yn fyfyrgar. "Own ni ddim yn meddwl fod hi'n byw mewn ty mor fawr a hwn."

"Falla taw morwn yw i," awgrymai Ianto.

"Cau dy ben. Shwd wyt ti mor dwp? Ond gwetas i bod hi wedi prioti gyda Mr Reynolds," hanner waeddai y bachan o'r Pant.

Y gwir am dani yr oedd ein cyfeillion ill dau mewn tymher bur ddrwg. Cydrhwng eisieu bwyd a'r helbulon mawrion a gyfarfyddasant a hwynt, nid oeddynt mewn cywair i chwareu gyda hwynt. Yn ben ar hyn oll yr oeddynt wedi meddwl am ginio gyda Mrs Reynolds, ond pan welsant y ty mawr lle yr oedd hi yn byw syrthiodd ofn arnynt.

"Cnoca'r drws, bachan," ebai Ianto, yn ddiamynedd.

Ymwrolodd Shoni, a churodd yn drwm a'i ffon. Daeth un o'r morwynion at y drws ar unwaith, ac edrychai braidd yn ofnus ar y ddau Gymro gyda'u ffyn. Yr oedd y ferch yn hynod drwsiadus a glanwaith, gyda ffedog llien ac ysnoden wen ar ei gwallt. I lygaid Shoni ymddangosai yn hynod debyg i Mrs Reynolds, ac, yn wir, credodd mai hi ydoedd, a theimlai ar unwaith yn hynod gartrefol a chynhes.

"Shwd i chi, Betsy?" ebai ein gwron hyf, "ottich chi ddim yn y napod i? Shoni o'r Pant, ferch, o 'Berdar, a Ianto Caeglas yw e."

Tra dywedai hyn ymwthiai i fewn i'r neuadd, a daliai ei ddeheulaw allan gan gynnyg ysgwyd dwylaw a'r ferch ieuanc. Ond ciliai y llances rhagddo, fel pe am fywyd.

"Bachan, nid Betsy yw ona," meddai Ianto, "ma'n well i ti ddod mas i stepin y drws, Shoni.”

Yr oedd y ferch wedi myned i fewn i'r ty, ac yn fuan dychwelodd gyda chreadur o ddyn mawr cryf, yr hwn a aeth at y ddau deithiwr gan ofyn eu neges, mewn ton awdurdodol.

"Want to see Mrs Reynolds, sir," ebai Shoni.

"Eich cerdyn, os gwelwch yn dda," ebai y dyn, yr hwn oedd yn gweini fel coachman y teulu.

"Pwy gerdyn?" gofynai Shoni, yn synllyd.

"Your address, sir," ebai y Sais, yn swrth a chwta.

"O, dyma fe, syr," meddai y Bachan o'r Pant, gan estyn iddo address Mrs Reynolds, yr hwn oedd wedi ei ysgrifenu iddo gan Wil, ei brawd.

Gwenodd y coachman pan edrychodd ar y papur, yr hwn oedd wedi ei blygu yn fanwl, ac wedi casglu cryn dipyn o lwch yn mhoced ein cyfaill. Sibrydodd ychydig eiriau yn nghlust y forwyn, yr hon a'i cymhellodd i fewn i ystafell gerllaw, ac a ofynodd eu henwau.

Yr oedd golwg ddigrifol ar Shoni ac Ianto yn y drawing-room. Codai y carped hyd ei syrnau. Yr oedd y celfi o'r fath oreu; gorchuddid y muriau gan oil paintings drudfawr, ac ar y fantell, uwchben y lle tan, safai drych mawr ac ardderchog. O'r braidd y meiddiai y ddau anadlu ac ni ddaeth i'w meddwl i eistedd yn y fath Ie. Am beth amser edrychent yn y drych a nodwyd.

Yn fuan, wele foneddiges dal, deg yr olwg, yn gwneyd ei hymdangosiad ac yn peri iddynt eistedd. Suddodd y ddau i'r cadeiriau, gan ddal eu hetiau a'u ffyn yn eu dwylaw, ac

 

 

F7642_shoni-o-r-pant_14-ebrill-1900_06_pennod-ix.jpg
(delwedd F7642) (14 Ebrill 1900)

edrychent yn hynod anghyfforddus. Gofynwyd iddynt yn Saesneg beth oedd eu neges.

"Want to see Mrs Reynolds, mum," ebai ein harwr, mewn llais go grynedig.

"A ydych yn adnabod Mrs Reynolds?" holai y foneddiges, yn yr iaith fain eto.

"Iss, mum," ebai Shoni. "She is from Aberdar."

Chwarddodd y foneddiges allan yn iachus, a dywedodd mewn Cymraeg glan, gloyw "Wel, John, wyt ti ddim yn fy adnabod i heddyw, dywed?"

"Chi yw Betsy? Wel ia tawn i marw! Shwd ich chi, gwetwch?" meddai Bachan y Pant, yn rhigl, gan neidio ar ei draed.

"Pwy yw y cyfaill yma sydd gyda chwi, John?" holai Mrs Reynolds.

"Ianto, bachan Pegi Caeglas, ich chi'n gwpod," oedd yn ateb.

Wedi holi hynt ei mam a'r cyfeillion yn yr hen gartref, gofynodd y foneddiges, pa bryd y cawsent fwyd.

"I ni wedi cael dim oddar brecwast," meddai Shoni, "ond dyferyn bach o gawl."

Chwarddodd Mrs Reynolds at hyn a gwasgodd fotwm bychan yn y wal. Yn sydyn wele'r forwyn eto wrth y drws; ac, ebai y feistres wrthi:

"Rhowch dipyn o fwyd i'r ddau foneddwr yma yn y gegin."

I ffwrdd a'r boys o Aberdar i'r gegin ar ol y forwyn, ond cyn iddynt fyned gofalodd Mrs Reynolds ddyweyd gair yn nghlust Shoni i'r perwyl canlynol:

"John, gofynwch chi am beth fynwch chi i fwyta ac i yfed, ond gofalwch beidio siarad gair gyda'r morwynion yna am Aberdar. Ac os byddant yn eich holi, gofalwch beidio eu hateb."

"All right, Mrs Reynolds, fe newn ni o'r gora a nhw," sicrhai Shoni.

I fewn i'r gegin a hwy, ac at y bwrdd mawr gwyn. Teimlai y ddau deithiwr blin yn fwy cartrefol yno nag yn y drawing-room; ac nid oeddynt heb sylwi fod y morwynion yn hynod foesgar iddynt hefyd.

Arlwywyd y bwrdd o'u blaenau a chawsant ginio ardderchog o gig eidion, a thatws, a bresych, a phwdin. Cynnygiwyd cwrw iddynt i'w yfed, ond gwrthododd ein gwron o'r Pant dros y ddau. Taflodd Ianto, er hyny, hen lygad ar Shoni y pryd hwnw ond, pan oedd Shoni yn ddirwestwr nid oedd yn yfed pethau meddwol, hyd yn nod yn y dirgel. "Good templar ne lond bola i fi," ys dywedai yn fynych.



[Miriam-Webster: Good Templar: a member of a secret society organized in the 19th century for the promotion of total abstinence from the use of alcoholic beverages]

"Shoni, bachan," ebai Ianto, yn gwynfanus, "ma raid i ni gal rwpath i ifad; w i just a thacu, ta beth."

"O'r gora, fi fynwn de," atebai y llall, a chan droi at y ferch ieuanc fu yn gweini arnynt, ebai "Tea, please."

Edrychai y morwynion yn syn ar eu gilydd wrth weled y ddau yn clirio y bwyd gyda'r fath gyflymdra, ond nid oeddynt yn osgoi gwrthod yr hyn a geisient. Trwy y cwbl yr oedd y ddau Gymro gwladgarol yn siarad y cyfan yn Gymraeg. Ceisiodd y merched eu tynu i siarad dro neu ddau, ond y cyfan a gawsent mewn atebiad i'w holiadau am y tywydd, y bwyd, a strydoedd Llundain oedd "Iss" neu "No."

Daeth y te i'r bwrdd ac ychydig deisen gydag ef, a llwyddodd y ddau i guddio toraeth o hwnw drachefn.

"Bachan, Ianto; dyma beth yw cinio gwr byneddig, yntefa? Ma hon cystal a ffest clwb ne swper Mr Davies, y Coffi Tavern," ebai Shoni, yn llawen.

"Oti, myn asgwrn i," meddai y llall, gan lyfu ei weflau a gofyn "Wni os rwpath i dalu?"

"Beth ti'n wilia'r, ioncyn dwl! Wyt ti'n cretu taw miwn cookshop wyt ti, gwed?"

 

 

F7643_shoni-o-r-pant_14-ebrill-1900_07_pennod-ix.jpg
(delwedd F7643) (14 Ebrill 1900)

llefai y gwr o'r Pant, "ond fe weta ti beth newn ni os joini di?"

Beth?"

"Fi rown bob o swllt i'r petar morwm yma."

"W i ddicon boddon," ebai Ianto.

"Wel mas a nhw ta," ebai Shoni, gan estyn y sylltau i'r merched.

Ni wyddai y morwynion beth i wneyd ohonynt erbyn hyn, a diolchasant yn gynhes iawn ac yn hynod foesgar.

Yr oedd Shoni yn llygadu yn rhyfedd ar un o'r pedair: lances benddu, lygad-ddu, gyda chryn dipyn o ddireidi yn amlwg yn nghil ei llygaid ac yn nghornel ei gwefus. A dyweyd y gwir, nid oes sicrwydd na ddarfu i'r Bachan o'r Pant wincio arni fwy nag unwaith, a thystiai Ianto ar ol hyn fod y ferch hono beunydd yn tendio ar Shoni a'i bod yn gwrido yn barhaus pan edrychai ein harwr tuagati.

Tua'r amser yr oeddynt yn gorphen, canodd y gloch a rhedodd y lances benddu i'w hateb. Daeth yn ol gan ddywedyd fod y boneddigion i fyned i'r drawing-room, os oeddynt wedi gorphen.

Teimlai ein cyfeillion yn foddlon i ymadael erbyn hyn, a buasai yn well gan Shoni yn neillduol, gael aros yn y gegin. Yr oedd myned i'r ystafell orwych arall fel myned i garchar bron yn ei olwg. Heblaw hyn, nis gallai dynu ei lygaid oddiar y ferch a nodwyd. Ond rhaid oedd myned, oblegid yr oedd yr un gloch yn canu eto yn fwy ystwrllyd nag o'r blaen.

Cododd y ddau ac aethant allan ar ol y llances, ond wedi cyrhaedd y passage, gosododd y Bachan o'r Pant ei freichiau am ganol y feinir a gwasgodd hi yn dyn at ei fynwes a phlanodd gusan melus, mawr, ar ei gwefusau cochion. Nid oedd hithau ychwaith yn amlygu unrhyw anfoddlonrwydd i'r gwaith. Yr oedd Ianto yn cerdded o'r tu ol, a gwelai Mrs Reynolds draw o'i flaen. Ceisiodd ddyweyd wrth Shoni, ond yr oedd hwnw yn hollol fyddar i bobpeth. Ar hyn gwelodd y ferch ei meistres yn yr ymyl, ac ymysgydwodd yn rhydd gan ddychwelyd i'r gegin yn gythryblus ei hyspryd ac yn disgwyl Mrs Reynolds ar ei hol bob mynyd.

Am Shoni, nid oedd ganddo air i'w ddyweyd, ond canlynodd ef a'i gyfaill i'r drawing-room ar ol gwraig y ty. Ni chymerodd hithau arni fod dim o'i le wedi digwydd. Holodd yn mhellach am yr hen gymydogion ac am syniadau y bechgyn am Lundain, datganodd ei gofid fod Mr Reynolds oddicartref, a rhoddodd sypyn bychan iddynt fyned gartref i'w mam.

O'r diwedd daeth amser ffarwelio, ac allan ac i ffwrdd a boys Aberdar fel dau gawr wedi adnewyddu eu nerth. Mawr oedd eu siarad am dy Betsy, am y cinio ardderchog, ac am y merched yn y gegin. Gofidiai ein gwron rhag i'r ferch lygad-ddu gael ei throi ymaith, a thystiai y mynai gael ei gweled ar ol hyny.

Rhwng cromfachau, ni waeth dyweyd i Shoni ar ol hyn, werthu Ianto un noswaith, trwy ei adael yn y ty wrtho ei hun, gan fyned bob cam i'r heol lle yr oedd Mrs Reynolds yn byw. Nid eisieu gweled Mrs Reynolds yr oedd arno, wrth gwrs. Wedi aros rhai oriau tua chan' llath i ffwrdd a chadw ei lygaid yn gyson ar y ty, gwelodd ferch ieuanc yn dyfod allan. Llamodd ei galon o'i fewn. "Dycco hi," ebai wrtho'i hunan. Ond siomwyd ef yn hyn, er hyny; un o'r morwynion ereill ydoedd. Aeth ati yn syth ac holodd os oedd y ferch lygad-ddu wedi bod o dan ddysgyblaeth.

"Dim o gwbl," oedd yr ateb. "Dewch lawr i'r ty; mae'r teulu allan ac yr ydym yn eu disgwyl yn ol heno."

"Dim, thank you," atebai y Bachan o'r Pant, oblegid ofnai fyned i fewn, rhag cael ei ddal yn ddiarwybod eto. Awgrymodd mai ei unig awydd oedd cael gwybod sut oedd pethau yn sefyll.

Cymhellai y llall yn daer, ond i ddim pwrpas,

 

 

F7644_shoni-o-r-pant_14-ebrill-1900_01_pennod-ix.jpg

(delwedd F7644) (14 Ebrill 1900)

12 — PAPUR PAWB, Ebrill 14, 1900.

ar hyn dywedodd y buasai Lucy yn anfoddlon iddo fyned i ffwrdd heb iddi gael ei weled, ac i ffwrdd a hi i gyrchu Lucy.

"Lucy," sibrydai Shoni wrtho'i hun, "dyna enw bach pert; Lucy, Lucy."

Dacw Lucy yn gwneyd ei hymddangosiad, ac yn nghysgod coeden gerllaw, cafodd ein cyfaill gusan melts arall heb un ymdrech o gwbl.

Dyna ddigon ar y pen yna; oblegid nid arferiad bywgraphwyr dynion mawrion ac enwog, yw dyweud llawer ar y pwynt cysegredig uchod. Digon yw dywedyd fod Ianto wediholi llawer parthed absennoldeb Shoni ac mai ychydig gafodd wybod.

(I'w barhau.)

 

 

F7645_shoni-o-r-pant_21_ebrill-1900_01_pennod-ix.jpg
(delwedd F7645) (21 Ebrill 1900)

SHONI O’R PANT

(UN O ENWOGION ABERDAR.)

Gan IFAN BRYNDU.

PENNOD IX. (Parhad.)

Ond, i ddychwelyd, sut y cyrhaeddodd |y ddau dy Mr Hughes y noswaith y buont yn gwledda yn nhy Mrs Reynolds?

Teimlai y ddau, fel y nodwyd, yn ysgafn galon ac iach. Yr oedd y cylla llawn a'r croesaw iach a gawsant (a'r olwg ar Lucy i Shoni) wedi gosod y ddau ar eu huchelfanau. Yr oedd helbulon y boreu yn yr hotel hono, bron wedi eu llwyr anghofio ganddynt.

"On, bachan," ebai Ianto, "ma gita ni sopyn o ffordd i fyn'd sha thre'; well i ni fyn'd gita'r tram."

"Ma nhw mor llawnd w, a ma nhw yn damshal ar dy drad ti o hyd. Der i ni fyn'd gita'r un bach yna," atebai cariad Lucy, ac i ffwrdd a'r ddau at y cab stand.

"Dera mlan, Ianto," meddai, gan fyned i fewn i un o'r cerbydau.

"I b'le, foneddigion?" gofynai y gyrwr.

"Granville Crescent," llefai Shoni, ac ymaith a hwy drwy strydoedd llawnion Llundain, fel y fellten.

"Ma hyn shaw yn well na'r hen rai mawr yna, ond dyw a, Ianto?" sibrydai Shoni, "achos gweldi; dyw hwn ddim yn stoppo o hyd, a dos neb yn dod miwn i'n poeni ni."

"O, oti, bachan, ma hwn gystal a carriage Fothergill," atebai Ianto, yn fawreddog.

"Os gen ti newid, Ianto? Dos gen i ddim llai na swllt. I ni fal i dalu fa. Fe fydd yn rot rynto ni," meddai y Bachan o'r Pant.

"Os, os, dyma nhw," atebai y llall, gan roi y pedair ceiniog i Shoni, yr hwn, wrth gwrs, oedd yn talu pobpeth.

Yn mlien ychydig cyrhaeddwyd pen y daith. Neidiodd y cerbydwr i lawr oddiar ei sedd ac agorodd y drws. Allan a'r ddau foneddwr yn urddasol ddigon, ac estynodd ein harwr y rot i'r gyrwr, yn ddigon diffwdan, a dechreuodd droi i ffwrdd.

"Beth yw hyn?" gwaeddai y gyrwr.

"Y tal," ebai Shoni, yn swrth.

"Y tal, yn wir," llefai y llall. "A ydych yn credu mai ffwl ydwyf?"

"Faint ydych yn geisio?" gofynai Shoni, drachefn.

"Saith swllt, sef tri a chwech yr un," gwaeddai y gyrwr, gan gyfeirio a'i fys at y prisoedd argraphedig ar ochr y cerbyd.

Tystiodd ein harwr mai dwy geiniog arferai dalu am fyned gyda'r tram; ond nid oedd dim yn tycio, ac yr oedd y gyrwr yn dechreu meddwl mai ei wawdio yr oeddynt, a bygythiodd alw policeman. Parodd hyn i'r ddau welwi a chrynu.

"Bachan w, mae a'n mofyn saith swllt gita ni," ebai Shoni.

"Dos dim shwd beth," atebai Ianto, yn ddifrifol, "mae a'n meddwl bod ti isha prynu'r ceffyl a'r trap i gyd."

Ar hyn daeth Mrs Hughes i'r golwg. Talwyd y gyrwr yn bur fuan; a thystiodd y ddau Gymro mai dyna'r tro diweddaf iddynt hwy fyned i "hen garafan y boy yna," ys dywedent.

Ni wnawn drafferthu adrodd yn bresennol am y cyfarfyddiad hapus rhwng Shoni a Mr Henry Richard, A.S., yn y brif-ddinas; am yr ymweliad a Thy'r Cyffredin; am gyfarfodydd Mr Spurgeon, a llu o bethau dyddorol ereill a gymerodd le yr wythnos hono. Efallai y cawn gyfle i draethu arnynt eto, rywbryd.

 

 

F7646_shoni-o-r-pant_21_ebrill-1900_02_pennod-ix_pennod-x.jpg
(delwedd F7646) (21 Ebrill 1900)

O'r diwedd, daeth y diwrnod i ddychwelyd. Awyddai y ddau gyfaill am gael golwg ar "Sweet 'Byrdar," unwaith eto. Yr oeddynt wedi setlo y cyfrifon gyda Mrs Hughes. Tra yr oedd cwpanaid o de yn cael ei drefnu iddynt, allan a hwy i rodio ychydig ar hyd ochr yr ystryd.

"Edrych yna, Shoni," ebai Ianto, gan gyfeirio at fotwm gwyn yn y wal; "ma hwn 'run peth a hwnw odd Betsy yn doti i bys arno fa" a gyda hyn gwthiodd y botwm yn gryf, heb dynu ei fys i ffwrdd am beth amser.

Agorwyd drws cyfagos, ac ymddangosodd dyn bychan, pennoeth, gan ofyn, yn sarug a gwyllt, pa beth oedd arnynt eisieu. Gwthio'r botwm yr oedd Ianto o hyd, hyd nes i'r dyn bychan gydio yn ei fraich a gofyn iddo eto beth oedd yn wneyd.

Neidiodd Ianto Caeglas erbyn hyn. Ni fedrai Shoni ddeall beth oedd yn bod, oblegid nid oedd wedi sylwi ar yr hyn a wnaeth ei gyfaill. Ar hyn dacw heddgeidwad yn dod i’r golwg, a dechreuodd y dyn bychan waeddi, "Police, Police," nerth ei geg, a chymerodd y ddau deithiwr at eu traed, gan redeg hyny fedrent i gyfeiriad eu llety. Wrth eu gweled hwy yn rhedeg a chlywed ysgrechiadau y llall, carlamodd y gwr a'r got las nerth ei garnau i’r un cyfeiriad. Creodd hyn gryn gynhwrf a dechreuodd llawer ereill redeg ar ol Shoni ac Ianto.

PENNOD X. CYRDDAU'R COFFEE TAVERN.

Erbyn i'r ddau ffoadur gyrhaedd y ty, yr oedd eu gwynt yn eu dyrnau, a'u calonau yn eu gyddfau. Edrychent fel y galchen. Gyda'u bod yn cyrhaedd y ty, i fewn a'r heddgeidwad ar eu holau, gyda'r dyn bychan pennoeth yn ei ganlyn. Methai Mr a Mrs Hughes ddyfalu beth oedd yn bod. Ond y peth cyntaf a wnaeth Mrs Hughes oedd cau drws y ffrynt ac attal pawb i fewn, ond y swyddog a'r dyn bychan.

Tyngai yr olaf mai cymeriadau peryglus oedd Shoni ac Ianto, ac mai yspio o gwmpas y tai y dydd, er mwyn cael tori i fewn iddynt y nos yr oeddynt.

Rhoddodd Mr a Mrs Hughes y cymeriad uchaf i'r ddau, ac wedi eu holi sut y bu pethau, ceisiwyd tawelu y creadur bychan gwyllt a nodwyd.

Gwelwyd Mr Hughes yn wincio, fwy nag unwaith, ar yr heddgeidwad, yna, gofynodd yr olaf: "Ar ba gyhuddiad yr ydych am i mi gymeryd y dynion yma i fyny, oblegid nis gallaf eu cymeryd ar fy nghyfrifoldeb fy hun."

"Cofiwch hyn," ebai Mr Hughes, "y byddwn yn hawlio iawn oddiarnoch, os byddwch yn taflu unrhyw anfri ar y boneddigion hyn."

Tynodd y dyn bychan ei gyrn ato yn rhyfedd, ac aeth ymaith gan siarad rhyngddo ag ef ei hun yn ddidaw.

Wedi iddo fyned, eisteddodd yr heddgeidwad i lawr a chwarddodd allan yn iachus; yna, ebai mewn Cymraeg pur, fel sydd yn Aberdar: "Wel, Shoni bachan; shwd wyt ti? A shwd wyt ti, Ianto? Pwy fysa'n meddwl am wel'd y Bachan o'r Pant a'r Bachan o Caeglas yn y man hyn?"

"Bili Lloyd, myn asgwrn i!" bloeddiai y ddau yn un llais, gan gystadlu am law yr heddgeidwad.

Cafwyd ymgom ddifyr ar ol hyn: Yr heddgeidwad yn holi am yr hen gyfeillion, am ei dad, ac am Ned, ei frawd, oedd yn Nghaerdydd, ac yn dyweyd wrth Shoni ac Ianto y gallent ddiolch mai efe oedd yno, neu y buasent yr adeg hono mewn lodgings pur wahanol.

Yr oedd amser y train yn dynesu, ac allan a'r heddgeidwad a'r ddau gyfaill gyda'u gilydd; a chredai llawer ei fod wedi eu cymeryd i'r ddalfa. Aeth Bili Lloyd a hwy, a gosododd hwy yn y train am Ddeheudir Cymru, a chyrhaeddodd y

 

 

F7647_shoni-o-r-pant_21_ebrill-1900_03_pennod-x.jpg
(delwedd F7647) (21 Ebrill 1900)

ddau yn ddyogel i'w hen gartref, ac at eu hoff gyfeillion.

Mawr yr hwyl a gai Shoni yn adrodd yr hanes am y dyddiau fu yn Llundain, ac am yr hyn a welodd ac a glywodd. Cadwai o'r golwg er hyny bob cyfeiriad at un peth, er mai hwnw oedd beunydd uchaf ar ei galon a'i feddwl.

Nid hir y bu chwaith cyn trefnu ar gyfer taith arall; a phenderfynodd na chawsai Ianto na neb o'i fath gyd-deithio gydag ef y tro hwnw. Nid awydd gweled rhyfeddodau Llundain oedd arno ychwaith. Credai yn ddiysgog a theimlai yn ddigon boddlon, ei fod wedi gweled pobpeth oedd yn werth ei weled yn y brif-ddinas.

Wedi ymgynghori a Mr Cynon Jones, gwawriodd goleuni ar bethau. Yr oedd Shoni wedi clywed yn nhy Mr Hughes, yn Llundain, fod minteiodd yn myned, yn awr ac eilwaith, am excursion i Switzerland ac i Itali. Holodd y gweinidog yn fanwl am y peth, ac er i hwnw geisio dyweyd mai pregethwyr ac offeiriaid gan mwyaf oedd yn myned felly, nid oedd dim yn tycio.

Holai y Bachan o'r Pant yn fanwl hefyd os oedd rhaid myned trwy Lundain, wrth fyned ac wrth ddychwelyd. Sicrhawyd ef mai felly yr oedd, a phenderfynodd yntau ar unwaith ynddo ei hun, na chawsai dim ond angeu ei rwystro i uno gydag un o'r cwmnioedd nesaf fyddai yn cychwyn tua Switzerland. Yr oedd wedi bwrw y draul, wrth gwrs, a gwyddai y gallasai ei chyfarfod yn ddigon didrafferth.

Rhyfedd y cyfnewidiad oedd wedi dyfod dros ein cyfaill ar ol y daith gyntaf i Lundain. Yr oedd yn fwy llawen nag erioed, ac yn canu yn ddidaw. Yn y ty, yn y gwaith, ac ar yr heol, yr oedd fel y delyn. Nis gallai y teulu er hyny ddyfalu beth oedd y llythyrau a ddeuent iddo rhyw ddwywaith yr wythnos, a'r sypynau papur ysgrifenu a ddygai yntau i'r ty yn barhaus. Deffrowyd chwilfrydedd y gwragedd yn fawr, ond yn gwbl ofer; yr oedd ein harwr mor gadarn a'r graig, mor ddistaw a'r bedd, ac mor ffalst a'r cadno.

Yr oeddys wedi sylwi fod Shoni yn myned i dalu sylw mawr i'w wisg, a'i wallt, a'i foustache hefyd. Gwelid ef yn fynych yn gwenu arno ei hun yn y drych, yn cwrlio ei drwynflew, ac yn iro ei wallt yn fwy nag erioed. Peth arall a dynodd sylw oedd fod Shoni beunydd yn ceisio siarad Saesneg ar bob cyfle a gawsai. Yn ddieithriad anerchai y plant yn yr iaith fain ac unwaith, dechreuodd barablu Saesneg a'i fam! Trodd yr hen wraig ato, un diwrnod, ac ebai yn Ilym:

"John, y corgi drwg wyt ti'n gneud sport am y mhen i, gwed? Wyt ti wedi hyrto ar Sasneg ar ol i ti fod yn Llundain. Be sy arnot ti?"

Ychydig wyddai yr hen fam beth oedd yn nghalon ei hanwyl John, y pryd hwnw; a theg yw dyweyd mai yn hollol ddiarwybod iddo yr anerchodd ei fam yn iaith Victoria.

Parhai yr oedd y cyfarfodydd nos Sadwrn yn Nghoffee Tavern Mr Davies, o hyd, ac os dim yr oeddynt yn enill nerth. Mae'n wir fod rhai o'r rhai mwyaf diymenydd o'r cwmni wedi gwrthgilio, ond yr oedd ereill wedi dyfod i gymeryd eu lle. Arweinwyr penaf y cyfarfodydd trwy'r amser oedd Cynon Jones, Mr Brown, a Sam Mishdir Haliars. Cynnelid y cyfarfodydd bob nos Sadwrn. Ceid areithio, adrodd, canu, ac adrodd ystraeon, a dygid y cyfan yn mlaen yn yr yspryd mwyaf llawen a chalonog.

Ambell i noswaith gwahoddid telynwr a'i delyn yno, a cheid canu gyda'r delyn. Crwth fyddai yr offeryn ar noson arall, tra ambell dro yr ymwelid a'r lle gan rai o brif gantorion yr ardal, y rhai a ddeuent yno yn rhydd ac yn rhad ar gais y cwmni.

 

 

F7648_shoni-o-r-pant_21_ebrill-1900_04_pennod-x.jpg
(delwedd F7648) (21 Ebrill 1900)

Dylid nodi fod gan Mr Cynon Jones law helaeth yn y gwaith o drefnu y pethau hyn. Yr oedd y gweinidog wedi ei synu a'i lawenhau yn fawr gan lwyddiant y gwaith. Teimlai Mr Davies, perchenog y ty, yn hynod lawen nid yn gymaint ar yr elw a gawsai, er ei fod yn gwerthu llawer o deisenod, sandwiches, te, coffi, a glwybyroedd dirwestol, yn ystod y cyfarfodydd hyn. Ei lawenydd penaf oedd, fod cynifer o wyr ieuainc hawddgar, a da, yn cael eu cadw o'r tafarndai ar nos Sadwrn.

Druain o lawer o weithwyr Morganwg ar nos Sadwrn. Y maent wedi eu rhyddhau o'r gwaith wedi ymolchi a gwisgo yn daclus; wedi talu eu biliau, a chanddynt gryn dipyn o arian yn ngweddill yn eu llogellau, Beth gant wneyd o'u hamser? I ba le y cant fyned i dreulio awr ddifyr, ac i fwynhau rhyddid? Paham nad arosant gartref i ddarllen ychydig? Nos Sadwrn! nos Sadwrn! Aros gartref i ddarllen nos Sadwrn!!

Dim ond y dyn o'r lleuad, neu ebwch pendew o berfeddion gwlad ddyeithr fuasai yn meddwl am y fath beth Wedi bod yn nyfnder y ddaear ar hyd yr wythnos, yn nghanol ei beryglon a'i ddyledswyddau trymion, ychydig o hwyl aros yn y ty sydd ar unrhyw lowr. Heblaw hyny, os oes bod cymdeithasgar yn rhywle, y glowr yw hwnw. Y mae cwmni fel anadl einioes iddo. Gwell ganddo farw na byw heb gwmni.

Pa ryfedd felly ei fod yn cael ei ddenu ar ei ben gan swynion y dafarn? Yno ceir y delyn a'r ddawns; y caneuon digrif a'r cwmni difyr yno ceir tan braf a goleuni disglaer yn mhob congl. Heb yn wybod iddo y mae o dan ddylanwad y gyfaredd farwol, ac nid oes ganddo le arall i droi iddo.

Ond yr oedd cyfarfodydd y Coffee Tavern yn troi allan yn llwyddiant perffaith. Yn mhlith rhai o'r aelodau mwyaf selog, ceid rhai a adnabyddid fel "meddwon penbwl" ychydig cyn hyny. Er hyny, ni chawsant redeg eu cwrs yn ddiwrthwynebiad. Taenwyd rhai chwedlau maleisus am danynt. Ceisiwyd beio y caneuon a ddadgenid; ceisiwyd taflu anfri ar Mr Cynon Jones, am ei fod yn beiddio treulio ei nos Sadyrnau "yn y fath gwmni," ac am ei fod yn cefnogi canu gyda'r delyn a'r crwth, a phethau cyffelyb. Ceisiodd ereill ddyweyd fod pethau meddwol yn cael eu gwerthu yno yn ddirgelaidd. Mewn gair, yr oedd y gwrthwynebiad yn tarddu o ddau le pur nodweddiadol: oddiwrth ychydig Phariseaid crefyddol, hirwyntog, ac wrth y tafarnwyr oedd wedi colli rhai o'u cwsmeriaid goreu.

Gwnaeth y feirniadaeth lem a'r gwrthwynebiad maleisus hwn les dirfawr. Mewn un cyfarfod siaradodd Mr Cynon Jones rywbeth i'r perwyl a ganlyn :—

"Yr ydych yn gweled gyfeillion, fod llygaid lawer yn ein gwylio; ac fod yn bwysig i ni fod yn ofalus. Peidiwch meddwl am wadu y cyhuddiadau a ddygir i'n herbyn, a pheidiwch trafferthu i ddadlu gyda'r sawl sydd yn ein cyhuddo o wneyd hyn a'r llall."

"Ond, ma nhw yn trio damajo'ch caritor chi, syr," llefai Sam Mishdir Haliars yn ddigofus.

"Gadewch chwi rhyngof fi a hwy, Samuel," atebai Cynon Jones, "y mae genyf gynllun pur eifeithiol i'w cyfarfod, os cytunwch a mi."

"Beth yw a, Mr Cadeirydd?" holai Twm Llewelyn.

"Gad dy fwstwr, Twm; cerwch chi 'mlan, Mr Jones," ebai Sam.

"Wel, hyn:" parhai Cynon Jones, "y maent yn ein cyhuddo o ddefnyddio iaith anweddus.

"Os neb yn gweyd bo chi yn recu, syr, os a?" holai Wil Dal.

"Os ydynt yn cyhuddo y cwmni hwn," ebai y gweinidog, "y maent yn fy nghyhuddo innau, oblegid yr wyf yma gyda chwi yn barhaus, ac y

 

 

F7649_shoni-o-r-pant_21_ebrill-1900_05_pennod-x.jpg
(delwedd F7649) (21 Ebrill 1900)

mae yn rhaid i mi sefyll neu syrthio gyda chwithau (cymeradwyaeth uchel). Ond hyn oeddwn am ddyweyd: Os cawn uno gyda'n gilydd i beidio byth defnyddio iaith anweddus, gallwn rhoddi her i'n enllibwyr a gadael iddynt i ddialedd eu cenfigen eu hunain (clywch, clywch). Peth arall y carwn i ni wneyd yw talu ychydig sylw i'n cartrefi, ac i'n gwragedd, a'n plant, a'n mamau. Trwy fod yn dyner, yn garedig, ac yn ystyriol tuagatynt hwy, gallwn wneyd ein hunain yn fwy dedwydd. Yr ateb goreu fedrwn roddi i'r rhai sydd yn ein difenwi yw eu cyfeirio at ein cartrefi dedwydd, a'u gorfodi i weled y cyfnewidiad ynom ni ein hunain (cymeradwyaeth)."

Wedi peth siarad, cydunodd yr holl gwmni i gydsynio a chais y Cadeirydd (oblegid Cynon Jones oedd yn y gadair y noson hono).

Teimlai rhai o flaenoriaid eglwys Mr Jones anfoddlonrwydd i'r mudiad, oherwydd yr oeddynt wedi gorfod gwrandaw ar gynifer o hen ystraeon am gyfarfodydd y Coffee Tavern. Penodwyd dau i siarad gydag ef ar ran y diaconiaid, ac aethant ato nos Wener, a chawsant ef yn ei fyfyrgell, newydd orphen ei bregethau erbyn y Sul.

Bu yno lawer o duchan a charthu, a churo o gwmpas y llwyn, cyn dod at y pwynt. Methai y gweinidog yn lan a deall beth oedd gan y ddau ddiacon. Yr oedd yn amlwg iddo mai nid ymweliad cyffredin oedd hwn o'u heiddio. O'r diwedd, meddai:

"A oes rywbeth neillduol wedi eich dwyn yma, heno, frodyr, oblegid yr ydych dipyn yn wahanol i arfer?"

"Fi weta chi, Mr Jones," ebai yr ieuengaf o'r ddau; "ma William Hywel a finna wedi ca'l y'n hala i wilia gita chi, bothdy'r cwrdda yna yn y Coffee Tavern."

"O, yn wir; mae yn dda genyf eich bod wedi dod," ebai y gweinidog, "oblegid bydd yn fantais i ni gael siarad a'n gilydd ar y mater.

"Dyna o'in ni yn feddwl, Mr Jones," ebai William Hywel.

"Ond," ebai Cynon Jones, "beth yn fwyaf neillduol oedd eich neges yma heno?"

"Wel," atebai Hugh Dafydd, "meddwl gofyn i chi am bido myn'd iddi nhw oin ni."

"Ond paham?" gofynai y gweinidog, braidd yn sydyn.

Adroddwyd y straeon a nodwyd fel eu rheswm dros ddod at Mr Jones, ac atebodd yntau gan ddywedyd: "Frodyr anwyl, peidiwch credu pob celwydd a glywch. Yn hytrach, edrychwch ar y ffeithiau. Beth yw y gwir am y cyfarfodydd hyn? Gallaf ddangos i chwi ddegau y gwyddoch am danynt fel meddwon a chablwyr cyhoeddus, nad oeddynt yn gofalu dim am eu gwragedd a'u plant, nac am danynt eu hunain, yn gyrph nac eneidiau. Y maent yn awr yn sobr, ac yn weddaidd eu hiaith, yn gofalu am eu gwaith, ac yn barchus a thyner tuagat eu teuluoedd."

"Ie, ond i'ch chi'n canu pob short o bethach, ag yn ca'l telyn a chrwth, yr un peth ag sydd yn y tafarna," dadleuai Hugh Dafydd.

"Wel, yn sicr, os dylai rhywun fwynhau swn y delyn a'r crwth, hen offerynau cenedlaethol y Cymry gynt, Cymry glan, sobr, a cherddgar, ddylasent gael y pleser," atebai Cynon Jones; "ac am y caneuon wel, yr wyf am i chwi ddyfod yno gyda mi nos yfory, i gael gweled a chlywed drosoch eich hunain."

Edrychai y ddau ddiacon yn syn, heb wybod beth i'w feddwl na'i ddyweyd. Ond cyn ymadael, addawasant fyned gyda'r gweinidog a gwnaethant addewid hefyd i beidio yngan gair am eu bwriad wrth undyn byw.

Nos Sadwrn a ddaeth; ac ar lawer ystyr, yr oedd y cyfarfod y noson hono yn un arbenig. Yr oedd y cynnulliad yn fwy nag arferol. Amlwg oedd fod rywbeth yn yr awyr. Synodd pawb i weled y ddau ddiacon yn eistedd yn ymyl y gweinidog. Edrychai y ddau fel dau lwynog,

 

 

F7650_shoni-o-r-pant_21_ebrill-1900_06_pennod-x_pennod-xi.jpg
(delwedd F7650) (21 Ebrill 1900)

 wedi eu dal. Taflent olwg yma a golwg acw, a cheisient guddio tipyn o'r golwg eu hunain, fel pe yn anfoddlon i gael eu gweled.

Ond, yn sydyn, cododd pawb ar eu traed, gan floeddio "Hwre," nes bod yr ystafell yn diaspedain. Nid oedd modd rhoddi taw ar y bloeddio, am hir amser. Cododd y ddau ddiacon ar eu traed mewn arswyd gan ofyn y naill wrth y llall: "Beth sy'n bod? Dyma hi; rialtwch, a dim ond rialtwch."

Ond cyn iddynt orphen y frawddeg, gwelsant foneddwr bychan, hardd yr olwg, yn gweithio ei ffordd trwy y dorf, ac yn dynesu atynt hwy a'r gweinidog. Nid cynt y gwelsant ef nag oedd William Hywel a Hugh Dafydd yn chwifio eu hetiau ac yn bloeddio fel dau grotyn. Yr oedd Shoni o'r Pant yn ei elfen, ac ar ei uchelfanau. Edrychai y boneddwr a nodwyd wrth ei fodd; ysgydwai law gyda phob un, ac yn neillduol gyda'r gweinidog, y ddau ddiacon a Shoni o'r Pant.

A phwy dybiwch oedd y boneddwr penwyn?

PENNOD XI. — YMWELIAD MR HENRY RICHARD.

Neb llai na'r aelod anrhydeddus dros Ferthyr ac Aberdar, Henry Richard, Ysw!

Cyn i Mr Richard gael eistedd, a thra yr oedd pawb ar eu traed yn bloeddio "Hwre," "Three cheers i Mr Richard," a "Henry Richard for ever," gwnaeth boneddwr arall ei ymddangosiad. Yr oedd yr ail ymwelydd yn farfog ac yn wyn, a gwisgai ei wyneb hardd wen lawen, foddhaus.

Nid cynt y gwelwyd ef nag yr ail-enynodd y gorfoledd a'r hwyl, ac y casglai pob un eto i ysgwyd llaw gydag yntau. Dyrchafwyd yr "Hwre" o'r newydd.

"Three cheers i Mr Davies, Maesyffynnon, boys," bloeddiai Shoni o'r Pant, gan ysgwyd llaw y boneddwr haelfrydig a pharchus hwnw. Yr oedd Mr Davies yn ffafryn cyffredinol gyda gweithwyr Aberdar. Gwrthododd gymeryd ei ethol fel aelod Seneddol ei hun, and nid yn fuan yr anghofia trigolion y dyffryn y ffaith mai efe ddygodd Mr Henry Richard i'w sylw, ac a fu yn un o'i gefnogwyr penaf.

Ond pa fodd y daeth y boneddwyr uchod i wybod am gyfarfodydd y Coffee Tavern? Pwy oedd wedi eu gwahodd yno? Nid oedd yn amser etholiad, ac nid oedd undyn wedi clywed gair o son eu bod yn bwriadu dyfod. Yr oedd Shorn or Pant wedi dechreu meddwl fod rhyw gamsynied yn bod, ac mai yn y Temperance Hall yr oedd y cyfarfod i gael ei gynnal y noson hono. Ond nid oedd eisieu aroos yn hir am eglurhad: dacw Cynon Jones ar ei draed, ac yn anerch y cyfarfod, gan ddywedyd:

"Foneddigion, yr ydych yn gweled fod genym ymwelwyr urddasol ac anwyl genym yn ein plith heno (clywch, clywch; "Three cheers i Mr Richard a Mr Davies"). Efallai, y dylaswn i egluro pethau i chwi, neu byddaf, rwy'n ofni, o dan gerydd llym genych, am eu gwahodd yma, heb yn wybod i ichwi (chwerthin mawr, a "Three cheers i Mr Cynon Jones"). Fel hyn y bu: Clywais fod Mr Henry Richard, ein haelod Seneddol enwog a gwladgarol, — (clywch, clywch), —  yn  bwriadu talu ymweliad a'r ardal, ond nad oedd yn cynllunio cynnal un math o gyfatrod cyhoeddus. Tybiais mai doeth fuasai ei gael yma i draddodi anerchiad i ni heno. Dywedais wrtho am ddewis ei faes i siarad arno, ond nad oeddem yn gwasgu arno draethu ar bolitics. Cydsyniodd ein cryfaill ar unwaith, wedi iddo ddeall natur ein cyfarfodydd (clywch, clywch). Bernais yn ddoeth beidio dyweyd dim am y peth, rhag i chwi basio penderfyniad yn gwrthod ei dderbyn, neu rywbeth felly ("O, ho!” a chwerthin mawr). Ac, wrth gwrs, gwyddwn nad oedd ond un dyn yn Aberdar i gymeryd y gadair pan

 

 

F7651_shoni-o-r-pant_21_ebrill-1900_07_pennod-xi.jpg
(delwedd F7651) (21 Ebrill 1900)



fyddai Mr Richard yn siarad, ac felly gofynais i Mr Davies, Maesyffynnon, ddod gydag ef (uchel gymeradwyaeth). A gyda hyn, yr wyf yn cynnyg fod  Mr Davies i gymeryd y gadair yma heno."

"W inna yn eilio," gwaeddai Twm Llywelyn," ac heb ofyn, wele bob llaw i fyny, a phob ceg yn tywallt allan fanllefau o gymeradwyaeth.

Cynllun o gadeirydd oedd Mr Davies. Gwyddai yn dda sut i ymguddio ac i ddwyn ereill i'r amlwg. Wrth ei ochr, yr oedd y gweinidog yn ei gyfarwyddo gyda'r rhaglen.

"Y peth cyntaf ar y rhaglen," ebai y cadeirydd, "yw can gan Eos y Wig."

Daeth yr "Eos" yn mlaen, a chanodd yn ei ddull swynol ei hun y gan adnabyddus, "Myfanwy," a chafodd "encore" gynhes. Teg yw nodi, er fod yr "Eos" yn fynych yn cael pedair a. phum' punt am noswaith, iddo roddi ei wasanaeth yma yn rhad.

"Y peth nesaf," meddai Mr Davies, "yw anerchiad gan y Cadeirydd; ond yr wyf fi yn ddigon hen ac yn ddigon call i wybod erbyn hyn, os bydd eosiaid, a llewod, ac aelodau Seneddol o gwmpas, mai gwell yw i rai fel fi fod yn ddistaw."

"Go on, Mr Davies," gwaeddai hanner dwsan gyda'u gilydd, oblegid yr oedd y cadeirydd yn  siaradwr llithrig, a deallai ei bobl i'r dim.

Datganodd ei lawenydd wrth weled y fath gwmni, a chan gyfeirio ei fys at ei gyfaill anrhydeddus, ebai: "Yn awr, y mae yn bleser genyf alw ar y gwr a'r tafod arian sydd yn ein plith i anerch y senedd."

Cododd yr aelod Seneddol ar ei draed, gan wenu, yn nghanol llifeiriant o gymeradwyaeth, a dechreuodd, gan ddywedyd: "Mr Cadeirydd, a boneddigion, a chydwladwyr hoff, - Llawenydd calon i mi yw cael bod yma heno. Pan yn  dyfod at fy anwyl gyfaill sydd yn y gadair, i dreulio ychydig amser, meddwl yr oeddwn am gael ychydig seibiant; ond pwy fedr wrthsefyll taerineb y brawd Mr Cynon Jones yma? (clywch, clywch). Heblaw hyny, ar ol wythnosau  o lafur caled yn mhlith y Saeson, yr oedd yn fwynhad i mi gael cyfarfod a Chymry twymngalon a chyfeillion mor gynhes ag sydd yma heno. Dyna'r hen Gymraeg anwyl hefyd: nid oes neb ohonoch yn gwybod pa mor hoff yr wyf o hon. "Iaith fain" yw y Saesneg wedi'r cwbl, ond am hen iaith fy mam:

"Mae mil o leisiau melusion,

Mal y mel yn mola. hon"

(cymeradiw'yaeth mawr).

Aeth y boneddwr yn mlaen gan draddodi un o'i areithiau goreu ar faterion cenedlaethol Cymreig, - gwerth cymeriad iawn ddefnyddio oriau hamddenol, a phethau cyffelyb a thrwy gydol ei anerchiad, cadwodd y cwmni ar flaenau ei fysedd, fel y tystiolaethai y gymeradwyaetha gawsai.

"Y peth nesaf," ebai y Cadeirydd, gan chwerthin, "yw canu 'Can Cwn Hela,' gan John Thomas."

"Nana i, ddim heno, ta beth," ebai Shoni, gan wrido a chywilyddio.

"Well i ti bido heno, Shoni," sibrydai Twm Llywelyn yn ei glust. "Nawr, John, dewch yn mlaen," cymhellai y Cadeirydd.

"Well gen i bido heno, syr; o'n ni ddim yn gwpod bysa, chi'ch doi yma pan o'n ni'n addo canu," tystiai ein gwron.

"Dewch, gyfaill, canwch," ychwanegai Mr Henry Richard; "dyma fi wedi ufuddhau, ac yr wyf yn awyddus iawn i glywed y 'Gan Cwn Hela.' Nid wyf wedi clywed un er's blynyddau."

 

 

F7652_shoni-o-r-pant_21_ebrill-1900_08_pennod-xi.jpg
(delwedd F7652) (21 Ebrill 1900)

Cododd hyn galon Shoni o'r Pant, ac yn mlaen ag ef at ymyl y cadeirydd. Yr oedd braidd yn swil a chrynedig ar y cyntaf, ond wrth weled Mr Richard a'r Cadeirydd yn mwynhau cystal, yr oedd y Bachan o'r Pant, cyn pen ychydig eiliadau, fel llong yn ei llawn hwyliau, yn rolio allan y gan a ganlyn: - 

"Helwyr parchus, hwylus hylon,
Carwyr helgwn, cywir gwiwlon,
Dewch i wrando hynod hanes, 
Hanes gywir, hela cynhes;
Fel yr oeddwn ar ben bora,
Hyfryd hinon yn rhodiana,
Wrth fy mhleser manol mwyna',
Clywn i hwylus lais corn hela,
Yn adseinio bronydd Gwalia;
Mi edrychais yno o'm deutu,
Gwelwn wr o fonedd mwyngu,
Perkins fwyn oedd hwn a'i enwi,
Gyda'i helwyr hynod heini,
'N galw'r cwn i hela'r cedni.

Thomas Davies, hwylus heliwr,
Bywiog gywrain, wir wladgarwr;
Thomas Miller, heliwr heini
Parod purion, William Parri,
Morgan Morgans, gerddwr diflin,
Lewis Morgans, Thomas Hopkin,
Edmund Abra'm, William Bowin,
Ben Parks wych, a Lewis Siencyn,
Yn galw'r cene'l fel y canlyn:—
Tyred Mopsy, Ruler, Ranter,
Dashwood, Beauty, Bowman, Driver,
Doxy, Dainty, Comely, Gambler,
Study, Tidy, Forman, Gamester,
Virgin, Lovely, Bridley, Player.

Swinger, Famous, Tapstee, Countess,
How! now [sic] [= How! how!] arno'n eithaf ernes,
Pob rhyw heliwr yno'n fywiog,
A'r cwn llunient ol y llwynog,
Yn Nghraig y Ddlinas, Mopsy dd'wedai,
Yn ei hiaith trwy rym ei ffroenau,
'Llwyr ddilynwn, cwnwn genau,'
Dyma'i eglur wir aroglau,
'Ar ei ol, mae yma'n rhywle;’
Wrth Llanilltyd Fardre dewfrig,
'N llwyr i gyd aed dros y goedwig,
Bro a bryniau, caerau cerig,
Fel clych bywiol foesol fiwsig,
Clywid swn llu cydseiniedig.

Cerddai'r llwynog cedog cadarn,
Trwy Bentyrch a Chapel Llanstarn,
Trwy Saint Georis, cofus cyfan,
'N anniffygiol a Saint Ffagan,
Ac oddiyno i Landdiddan,
Trwy Waunfo, yn fywiog fuan,
Dinas Powys, hwylus wiwlan,
Ac yno am ei fywyd egwan,
Clywid ef yn oeraidd gwynfan;
Oddiyno tua'r Barry,
Anferth gur hyd at Borth Ceri,
Lle 'roedd swn y cwn yn canu,
Fel telynau diwael heini,
Ac yno'n union gwnaed ei ranu.

D'wedai'r Llwynog cyn ei farw,
'Mrodyr, cym'rwch rybudd croew,
Na ddowch fyth o flaen cwn Merthyr
A chryf helwyr Perkins gywir,
Onide ni fydd eich bywyd
I bara yno ond ber enyd,
Pe gwnaech gyrhaedd cyrau gweryd,
Nentydd, llynoedd, dyfroedd difryd,
Rhag eu hing ni ehewch ddiengyd;
Ro'wn i'n hen a hoew hylon,
Troediwn goed a chreigiau geirwon,
Ac aberoedd llynoedd llawnion,
Ond rwy'n gorfod yma'r awrhon,
'Mado'n deg a'm bywyd tirion.'

 

 

F7653_shoni-o-r-pant_21_ebrill-1900_09_pennod-xi.jpg
(delwedd F7653) (21 Ebrill 1900)

Pwy all dewi heb ganu'n gynnar,
Glod i'r cwn a'u perchen hygar,
Pan mae'r llwynog dewraf, druan,
Yn canu clod wrth farw 'i hunan, 
Pan mae'r nentydd yn cydgordio,
A'r afonydd yn adseinio,
A'r holl greigiau'n cynnar echo,
O fawl heb ludded, ac yn bloeddio,
'N hy' er oernych, 'How! How!' arno,
Helwyr hwylus ar eu holau,
'N troedio'n heinyf dros y bryniau,
Dros grogedig ddyrys greigiau,
Gwledydd, perthi, cwmoedd, cloddiau,
Dwr, afonydd, daear fanau.


Er mor heinyf cerdd y Carw, 
Ar fyr enyd gwnant e'n farw,
Ac er hoewed rhed yr ewig,
Bydd y daith yn fer adwythig;
Ni cha'r Wenci, 'r Dyfrgi dewrgo's,
Na'r Draenogod chwareu'n agos,
Ffwlbert cas, na Choed-gath du-nos,
Na'r hen Fele'n hirymaros

Lle bo'r cwn, heb golli'u heinioes;
Os bydd Ceneu'n rhyw gym'dogaeth
Yn eich blino a.'i aml weniaith,
Heb oed i Perkins rhowch wybodaeth,
Fe ddaw'r cwn a'i helwyr helaeth,
Rho'nt e'n hylwyr i farwolaetth."

Terfynodd Shoni ei gan, fel y gwnaeth yr aelod Seneddol ei araeth, yn nghanol banllefau o gymeradwyaeth. Nid oedd neb yn y cwmni yn clapio ac yn bloeddio ei gymeradwyaeth yn fwy cynhes na’r Cadeirydd a Mr Henry Richard.

"Yn wir," ebai Mr Richard, "yr wyf wedi gwrando ar Sims Reeves a Madame Patti, ond ni ches erioed fwy o fwynhad nag a gefais yn y fan yma heno, Mr Cadeirydd. Oes yna gan arall rywbeth tebyg iddi ar y rhaglen eto?"

Tra yn dyweyd hyn, cydiodd yr aelod Seneddol yn llaw Shoni o'r Pant, a gwnaeth iddo eistedd rhyngddo ef a'r cadeirydd.

"Na," ebai Mr Davies, "nid wyf yn gweled fod yma gan arall heno."

"Wel, yn wir," atebai yr aelod Seneddol, "buaswn yn gofyn i John yma ganu eto, oni buasai fod y gan mor faith iddo."

"Fe ganiff Jim y Cantwr, syr," llefai y Mishdir Haliars, o ben arall yr ystafell.

Ar yr alwad o'r gadair, yn mlaen a'r Cantwr, gan garthu, a rhwbio, a thaclu, a thiwnio ei geg. Yr oedd Jim yn rhy hen i gynnyg iddynt "Gan Cwn Hela" arall, ac ebai yn nghlust y cadeirydd, "Cadwen o dribanau Morganwg, syr."

Yr oedd Jim yn eithriadol o grynedig ac ofnus. Yn un peth, yr oedd y Bachan o'r Pant wedi tynu y ty i lawr; a pheth arall, yr oedd Jim ac anwyd trwm arno. Wrth gwrs, ni feiddiai anufuddhau i Sam a'r Cadeirydd. Dechreuodd ganu:

"Cant o deirw cyrn-dwp,
Pob dau yn ymladd dwp-dwp,
A minnau'n sefyll rhwng y rhain,
Fi allswn lefain iwb-wb."

Wedi canu y pennill cyntaf, distawodd yn sydyn, a dywedodd, gan welwi a gwrido bob yn ail: "Alla i ddim canu heno."

Ceisiwyd ganddo ail gynnyg, ond gwrchododd yn bendant. Cymerodd Mr Henry Richard ef i eistedd gerllaw iddo, a dywedodd wrtho y carasai yn fawr gael clywed yr oll o'r "gadwen," ei fod yn gobeithio cael dod i'r cyfarfodydd hyn rywdro eto, ac am i'r Cantwr beidio digaloni er dim.

"Yn nesaf, ni gawn y cyfrifon arianol gan y trysorydd," ebai y Cadeirydd.

Cododd Sam Mishdir Haliars, ac anerchodd y cyfarfod fel y canlyn: —

"Mishdir Cadeirydd —Yr unig gownt sy' genyf

 

 

F7654_shoni-o-r-pant_21_ebrill-1900_10_pennod-xi.jpg
(delwedd F7654) (21 Ebrill 1900)

fi yw, fod gen i nawr bymthag punt a wigan a. hanner coron mewn llaw, a bod isha pum' punt a. saith a wech yto, cyn cewn ni'r piana yna, os nag i chi yn 'i foin a ar en gownt."

Ar hyn, gwelwyd Cynon Jones (y cadeirydd) a Mr Henry Richard yn sibrwd rywbeth yn gyfrinachol yn nghlustiau eu gilydd.

"W i yn cinig," ebai Twm Llywelyn, "bod ni yn ca'l clasgad nawr." Yr oedd Twm wedi awgrymu wrth gyfaill gerllaw mai adeg iawn i wneyd y casgliad ydoedd, gan fod y ddau foneddwr yn bresennol; ond cyn i neb gael cyfle i eilio y cynnygiad, cododd Cynon Jones ar ei draed, a dywedodd:

"Na, fymwn ni yr un casgliad heno. Y mae y ddau foneddwr sydd wedi ein hanrhydeddu a’u presennoldeb a'u geiriau caredig yma heno, mewn brys i ymadael. Yr wyf fi, felly, yn dymuno cynnyig pleidlais gynhes o ddiolchgarwch iddynt am ddyfod yma, ac am eu help sylweddol."

Eiliwyd y cynnygiad gan Hugh Dafydd, ac ymadawodd y ddau yn nghanol banllefau y cwmni. Teg yw nodi mai allan trwy ddrws y cefn yr aethant, oblegid aeth y son allan fod Mr Henry Richard yn y lle, a chasglodd tyrfa o gylch y drws, a cheisient fyned i'r Long-room. Ond nid pawb gawsai fyned i'r cyfarfodydd hyn. Gofalodd Mr Davies, gwr y ty, gau y drws a arweiniai i'r Long-room. Felly, pan ymadawodd yr aelod anrhydeddus, nid oedd y dorf "ddim callach" o fod wedi aros o'r tuallan.

"Yn awr," ebai Cynon Jones., "yr wyf at fy rhyddid i wneyd hysbysiad o ddyddordeb i chwi, ac yna, efallai, y byddwch yn deall paham yr atteliais wneyd casgliad yma heno. (Distawrwydd a disgwyliad astud.) Wedi i Samuel, ein trysorydd, roddi y cyfrifon arianol, pryd y dywedodd fod eisieu ——.”

"Pum' punt a saith a wech, syr," ebai Sam.

"Wedi i'r ddau foneddwr sydd newydd fyned allan glywed hyn, gosodasant chwech punt yn fy llaw, gyda gorchymyn pendant nad oeddwn i ddyweyd gair am danynt hyd nes iddynt hwy fyned allan (cymeradwyaeth a hwyl fawr). Heblaw hyn, y mae Mr Davies wedi addaw rhoddi cadair at wasanaeth chwareuydd y piano newydd, os bydd John Thomas a James yma, yn foddlon myned i Maesyffynnon i'w chyrchu oddiyno, nos Lun nesaf. Hefyd, y maent yn addaw nifer dda o lyfrau at ein gwasanaeth yma. Ond, cawn glywed am y rhai hyny eto" (clywch. clywch).

Fel y nodwyd, yr oedd y Bachan o'r Pant yn awr a'i fryd ar fyned am wibdaith i Switzerland. Erbyn hyn, un o brif ragoriaethau Switzerland oedd fod yn rhaid myned trwy Lundain wrth fyned yno, ac wrth ddychwelyd oddiyno drachefn. Ond ar wahan i hyny, taith hynod oedd hon yn hanes Shoni o'r Pant: taith lawn o'r rhamantus a'r dyddorol, fel y ceir dangos yn y man. Do, aeth Shoni, yr haliar adnabyddus o Aberdar, i berfeddion Cyfandir Ewrop, a gwelodd a chlywodd fwy na llawer yno. (I'w barhau.)


 

 

F7656_shoni-o-r-pant_28-ebrill-1900_01_pennod-xii
(delwedd F7656) (28 Ebrill 1900)


Papur Pawb. 28 Ebrill 1900.

SHONI O'R PANT:

(UN O ENWOGION ABERDAR.)

Gan IFAN BRYNDU.

PENNOD XII.—TAITH SHONI I SWITZERLAND.

Ni sibrydodd Shoni air wrth undyn, ond y gweinidog, am ei fwriad i fyned am daith mor bell. Fel rheol, arferai ein harwr ddyweyd wrth bawb i ba le yr oedd yn myned, a pha fath leoedd a phethau fwriadai weled. Y tro hwn, dim. Peidied neb a meddwl fod ei natur yn fwy crebachlyd ac anghynhes nag arfer. Na, na: yr oedd mor llawen a'r gog, ac yn llawn ysmaldod a bywiogrwydd. Yn unig, cadwai ei gyfrinach ei hun. Braidd yn swil y teimlai ar adegau yn nghwmni Ianto Caeglas, oblegid hoffai yr olaf daflu rhyw awgrymiadau go gellweirus a dywedyd —

"Shwd ma'r hen wedjan fach benddu hyny yn Llundan, wni nawr, Shoni?"

Dro neu ddau mewn cwmni hefyd, cyfeiriodd Ianto at y cusanu hyny pan ddaeth Mrs Reynolds i'r golwg. Gwridai y Bachan o'r Pant yn awr ac eilwaith, ond y fynyd nesaf, pasiai y cyfan heibio, a chwarddai yn ei lawes, a dywedai wrtho ei hun:—"Beth pe bysa Ianto yn gwpod, beth basws y nosweth hyny y gadewas i fa yn y ty wrtho'i hunan? Dyw a'n gwpod dim am Lucy, yto, fel ma'r lwc."

Yr oedd Mr Cynon Jones ei hun wedi bod ar y cyfandir gydag un o gwmniau Dr Lunn; a mawr fel y bu yn cynghori y Bachan o'r Pant cyn i'r olaf gychwyn i'r daith. Heblaw hyn, yr oedd cyfaill i'r gweinidog yn myned gyda'r un parti a Shoni, a threfnwyd eu cyflwyno y naill i'r llall.

Methai Cynon Jones ddyfalu i ba beth yr oedd ein harwr yn myned i Lundain ddeuddydd cyn pryd. Wrth gwrs, gwyddai Shoni ei fusnes ei hun yn iawn. Cyrhaeddodd y brifddinas, ac aeth yn syth i Granville-crescent, a chafodd groesaw helaeth gan Mr a Mrs Hughes. Ychydig arosodd cyn myned allan y noson hono, ond gwnaeth ei ffordd yn syth i gyfeiriad ty Mrs Reynolds.

Yr oedd yn cerdded yn gyflym ar hyd y palmant, yr ochr arall i'r ystryd, gan droi ei lygaid o hyd at y ty. Yn union dacw guro ar ffenestr y llofft, a dacw law wen y lances benddu yn taflu cusan iddo. Safodd y Bachan o'r Pant fel delw am fynyd, gan wrido at ei glustiau, a syllu yn syth ar y ty. Gyda hyny gwelodd rywun a adwaenai yn ffenestr y drawing-room, ac i ffwrdd ag ef nerth ei draed, gan gadw ei wyneb draw. Ond, druan ohono, yr oedd Mrs Reynolds wedi ei adnabod, a gellid ei gweled yn edrych ar ei ol dan chwerthin. Cyn pen chwinciad llygad, canfyddai Lucy, wedi gwisgo, yn prysur fyned i lawr y grisiau gyda basged fechan ar ei braich, ac yn brasgamu i'r un cyfeiriad a'r Bachan o'r Pant.

"O! felly, mae pethau yn myned yn mlaen," ebai Mrs Reynolds, wrthi ei hun.

Nid ydym yn bwriadu ceisio darlunio cyfarfyddiad Shoni a Lucy y tro hwn. Digon yw dyweyd ei fod fod mor bwysig ac mor felus a dyddorol, ag oedd cyfarfyddiad Livingstone a Stanley, neu Wellington a Blucher, i'r enwogion hyny.

Wedi y cyfarchiadau cynhes cyntaf, ac holi hynt y naill y llall, a llongyfarch eu gilydd am nad oedd neb yn gwybod eu cyfrinach, penderfynasant fyned am walk trwy Hyde Park. Credai Shoni fod yna fwy o hwyl a blas ar garu tipyn yn swil ac yn ddirgelaidd, nag yn y dull presaidd presennol, pan y bydd pob glaslanc pymtheg oed, difarf, yn myned a'i gariad at ei

 

 

F7657_shoni-o-r-pant_28-ebrill-1900_02_pennod-xii
(delwedd F7657) (28 Ebrill 1900)

.

fam! Yr oedd ein harwr yn bur sicr hefyd ei fod wedi dianc rhag llygaid Mrs Reynolds, ond druan ohono, yr oedd Betsy yn rhy gyflym o lawer iddo.

Tra yr oedd y myfyrdodau a'r ymddyddanion hyn yn cymeryd lle, pwy ddaeth i'w cyfarfod, gan sefyll yn stond o'u blaenau, a chwerthin, a chodi ei ddwylaw, ond Bili Lloyd, yr heddgeidwad!

"Beth yw hyn?" gofynai Bili yn synedig a digrifol. "Wel, wel, dyma hi!”

"Beth sydd yn bod, Mr Lloyd?" gofynai Lucy yn swil ac yn gwrido.

"Pa le cawsoch o hyd i'r llanc yma, Lucy?" atebai y swyddog yn gellweirus.

"Yn Aberdar, wrth gwrs, lle ceir y dynion da i gyd," ebai y lances benddu.

Yr oedd Shoni yn wenau ac yn wrid i gyd, ac ysgydwodd law yn iachus gyda Bili Lloyd.

"Ond sut yn enw pobpeth i chi'n napod y'ch gilydd cystal?" holai ei gyfaill.

Erbyn cael pethau allan, byddai Bili Lloyd yn fynych yn galw yn nhy Betsy Reynolds, a mawr yr hwyl a geid wrth fyned dros hen helyntion y dyddiau gynt yn "Sweet 'Byrdar." Wrth gwrs, yr oedd yn adnabod y morwynion yn iawn, a chafodd Bili aml i swper flasus yno, pan ar ei daith y nos yn y rhanbarth hono.

Diwedd y peth fu, ffarwelio a'r heddgeidwad, ac yn lle myned trwy y parc, awd i weled Mrs Lloyd, ar gais Bili, a chafwyd croesaw cynhes yno drachefn. Merch o Aberdar oedd Mrs Lloyd, a chwaer i Sam Mishdir Haliars. Erbyn edrych i bethau yn mhellach yr oedd Lucy wedi arfaethu galw gyda Mrs Lloyd ag anrheg fechan i'r baban bythefnos oed oedd ganddi. Hyny, ac ychydig ddanteithion i Mrs Lloyd oedd ganddi yn y basged oedd yn ei llaw.

Yr oedd yn rhaid iddi gael magu y babi, wrth gwrs.

"Dear me! dyna bwysau sydd ynddo; teimlwch ef, John," meddai Lucy, gan osod y bychan yn nwylaw y Bachan o'r Pant.

Edrychai ein gwron yn swil dros ben, yn neillduol pan oedd y ddwy yn canmol ei ddeheurwydd yn dal y plentyn.

Dyna ddigon eto ar hanes ein gwron a Lucy i'r cyfeiriad yna; ac i'r sawl sydd am holi a gwybod ychwaneg nag a dybiwn yn briodol draethu iddynt, dywedwn yn ngeiriau y diweddar Ishmael Jones, Rhosllanerchrugog:- "Myn'd i garpet bag dyn ydi peth fel yna, ffrindie."

Daeth yr adeg i gychwyn tua Switzerland. Yr oedd y cwmni yn un hapus dros ben, àc wedi ei wneyd i fyny o offeiriaid a phregethwyr o bob enwad. Rhai o'r Werddon a'r Ysgotland; un o'r America, tri o Gymru, heblaw Shoni o'r Pant, a'r gweddill o Loegr.
Yr oedd pob un mewn dillad gwyliau o bob lliw a llun. O ran y wisg ni fuasai undyn yn meddwl fod yno bregethwr nag offeiriad yn y fintai. Edrychai y Bachan o'r Pant mor debyg i offeiriad ag un ohonynt, ac yr oedd yn llawer mwy myfyrgar yr olwg arno yn sicr.

Chwareu teg i Lucy, yr oedd hi wedi taflu ei llygad bychan, cyflym dros ein harwr, ac a'i bysedd meinion wedi taclu tipyn o gylch ei wddf a'i arddyrnau ef.
Rhoddodd iddo gadach sidan tlws, wedi ei berarogli yn helaeth. Gosododd hefyd botel fechan o scent yn ei logell a chyfarwyddodd ef pa fodd i'w ddefnyddio i bwrpas. Yr oedd Shoni yn gymaint swell a'r un yn y cwmni. Heblaw hyn, un o gynghorion penaf Cynon Jones oedd ar i'r cyfaill ofalu peidio bod yn rhy barod i siarad yn y cwmni. Yr oedd i siarad faint fynai gyda'r Parch Hirben Hughes, cyfaill Cynon Jones. Profodd y Cymry ereill oedd yn y fintai yn fechgyn rhagorol, ac yr oedd y Bachan o'r Pant gartref yn eu cwmni llawen. Un peth oedd yn blino Shoni oedd yr hyn a

 

 

F7658_shoni-o-r-pant_28-ebrill-1900_03_pennod-xii
(delwedd F7658) (28 Ebrill 1900)




adroddodd Lucy wrtho am y bwydydd yn Ffrainc. Yr oedd wedi dyweyd wrtho, cyn iddo gychwyn, fod y Ffrancod yn hoff iawn o fwyta malwod, brogaod a draenogod. Ar y cyntaf nis gallai gredu y fath beth, ond pan daerodd Lucy mai felly yr oedd, nid oedd dim i'w wneyd ond credu. Troai coluddion ein gwron o'i fewn wrth feddwl am y peth, a thystiai y buasai ar ei wyliadwriaeth cyhyd ag y byddai ei draed ar diroedd yr estron.

Cychwynodd y llong yn hwylus a llawen. Teimlai y gwron o Aberdar nad oedd gwaith Columbus yn darganfod America yn ddim at ei waith ef yn gwynebu yr eigion am y "cyfandir pell” —am Ewrop! Nid oedd smartiach dyn yn rhodio y bwrdd. O!'r hwyl a gafodd wrth fyned i lawr y Dafwys, a gweled yr adeiladau mawrion yn cael eu gadael ar ol. Yr oedd newydd gael pryd da o fwyd cyn cychwyn, a theimlai mor iach a'r cricyn.

Nid oedd y llong wedi hwylio ryw lawer allan o'r afon cyn i Shoni deimlo ei ben yn myned yn ysgafn, a'i draed yn ansicr. Gwelodd Mr Hirben Hughes ei fod yn welw a gwasgedig iawn yr olwg arno, ac holodd os oedd yn wael ei iechyd.

"O, nagw i ddim yn dost, thenciw, Mr Hughes, ond fod tipyn o hurtwch yn 'y mhen i," atebai Shoni, gan geisio gwenu tipyn, a chwerthin y peth i ffwrdd.

Gwaeth-waeth yr oedd yn myn'd. Symudodd oddiwrth Mr Hughes, ac aeth i lawr i'r saloon; ond nid oedd dim yn tycio. Gallasai dystio fod y llong yn troi, wyneb-i-fyny-i-waered. Yr oedd ei ben yn curio, ei lygaid yn llanw, ei gluniau yn ei ollwng, a theimlai ei du-fewn fel pe ar fyned yn ddarnau. Lle gwael oedd y saloon i ddyn yn nghyflwr ein harwr y foment hono. Wrth gwrs, gwyddai Shoni beth oedd yn bod yn iawn. Yr oedd wedi clywed llawer o chwerthin am ben clefyd y mor. Rheidodd nerth draed i fyny i fwrdd y llestr, a gyda ei fod yno, gwelodd y Parch Hirben Hughes a golwg ofnadwy arno, yn gorwedd ar fainc gerllaw, ac yn ysgafnhau ei lwyth yn egniol. Bu yr olygfa yn ormod, i'r Bachan o'r Pant, a rhuthrodd at ochr y llong, gan efelychu y gwr parchedig.

Son am och'neidio! Braidd na ddywedwn fod gruddfanau ac ocheneidiau Hirben Hughes a Shoni o'r Pant yn ysgwyd yr holl lestr. Un fynyd, teimlai y blaenaf fod yr eigion yn agor i'w dderbyn, a theimlai bron yn foddlon myned i lawr y foment hono. Yna cofiodd am Lucy, a daeth chwant byw drachefn. Y fynyd nesaf, teimlai fel pe yn cael ei gludo, yn nghrafangau eryr mawr, trwy yr uchelion, uwchben y gwagder mawr! Oddifewn, teimlai fel pe buasai wedi llyncu dwsin o danbelenau, ac fod y rhai hyny yn ffrwydro un ar ol y llall yn ei gylla! Ymladdodd yn ddewr yn erbyn yr ymosodiadau ffyrnig hyn, ond yn y diwedd, syrthiodd yn swp ar lawr, fel un wedi ei lwyr orchfygu. Er hyny, wrth weled y Parch Hirben Hughes yn ei ymyl, ac yn yr unrhyw gyflwr, nis gallodd lai na gwenu; ond gwen ddiflas dros ben ydoedd. Tynodd ei gadach allan i sychu ei lygaid, a thynodd yn ddiarwybod iddo ei hun ddogn o berarotri Lucy i'w ffroenau; llonodd a dadebrodd hyny ef yn fawr.

Cyrhaeddwyd y lan arall yn ddyogel, ac nid hir y bu ein gwron cyn cael cwpanaid o de, ymolchi, ac adenill ei nerth a'i fywiogrwydd cyntefig. Fel y dywedai wrth Mr Hughes: "Peth net yw dishgled o de i rywun tost, yntefa, Mr Hughes?"

"Ie, yn wir, Mr Thomas. Ond peth difrifol yw clefyd y mor, onite?" atebai Hirben Hughes, gan grynu ac arswydo wrth feddwl am y fordaith. "Un drychrynllyd yw a, Mr Hughes. O'n

 

 

F7659_shoni-o-r-pant_28-ebrill-1900_04_pennod-xii
(delwedd F7659) (28 Ebrill 1900)




ni'n meddwl os na fysa Ffrainc yn dod waff, y byswn i yn y swmp cyn 'i gwel'd i, ta beth," ebai Shoni.

Yma, eto, rhaid dethol a gadael, oblegid ni wiw meddwl adrodd holl hanes y daith. Yn ngwyneb hyn, ni thalwn fawr sylw i amseriaeth pethau, ond ceisiwn i gyfleu gerbron ychydig bethau a wasanaethant er dwyn teithi meddyliol a chymeriadol Shoni o'r Pant i'r golwg. Yn y cwmni urddasol yr oedd ynddo. adnabyddid ef fel "Mr Thomas, of Aberdare," ond i ni eto, "Shoni o'r Pant" ydyw o hyd. Dim perygl i'r Bachan o’r Pant ymfalchio fel ag i anghofio ei hen gyfeillion, a gwadu yr hen enw. Yr oedd yn ormod o foneddwr i hyn.

Yn fuan wedi iddo lanio yn Ffrainc, digwyddodd un peth allasai fod yn brofedigaeth chwerw iddo, oni buasai am gyfrwysdra Griff y Teiliwr yn Aberdar. Aeth y cwmni gyda'u gilydd i westy uwchraddol, ac yno y buont beth amser, yn cael eu cyflwyno y naill i'r llall, yn ysmocio, ac yn cael te gyda'u gilydd. Aeth pobpeth yn mlaen yn hapus a dymunol, ond wedi gorphen te, a phan oedd Shoni yn symud oddiwrth y bwrdd, clywyd ysgrech oerllyd yn llanw yr ystafell. Dychrynwyd pawb drwy'r lle, ac nis gallai neb ddyfalu beth oedd yn bod am beth amser. Erbyn edrych, syniwyd pawb gan un o'r golygfeydd rhyfeddaf!

Yr oedd y dyn a eisteddai yn ymyl Shoni a'i wyneb yn cochi ac yn gwelwi bob yn ail. Ymddangosai mewn poenau dirdynol, ac yr oedd ei law yn llogell cot ein harwr! Yr oedd y dyn mewn dychryn, ac edrychiai pob un yn surllyd, ond Shoni. Yr oedd y Bachan o'r Pant yn chwerthin yn iachus. Gwthiodd Mr Hirben Hughes yn mlaen gan ofyn:

"Beth yw hyn, Mr Thomas?”

"Gofynwch iddo fe," atebai y llall yn ddireidus.

Tynodd yr ysgrech wr y gwesty yno, yr hwn, pan welodd fod rhywbeth o'i Ie, a alwodd heddgeidwad i fewn.

"Tynwch eich llaw allan o logell y boneddwr yna," ebai yr heddgeidwad.

"Ie, go on," ebai Shoni, gan chwerthin, "tynwch hi allan."

Edrychai perchen y llaw fel ellyll ar ein harwr, a rhoddodd oernad arall pan gydiodd yr heddgeidwad yn ei law, gan geisio ei phlycio allan.

Esboniodd Shoni bethau yn bur fuan i'r cwmni synedig. Yr oedd y stori fel y canlyn:— Pan aeth ein harwr at Griff y Teiliwr i geisio cot newydd erbyn y daith, awgrymodd iddo mai cot deithio oedd eisieu arno, ac am iddo ei gwneyd yn y ffasiwn ddiweddaraf.
Holodd y teiliwr i ba le y bwriadai y Bachan o'r Pant fyned. Fel y nodwyd, ni ddywedwyd y gyfrinach, ond awgrymodd Shoni y carasai gael y pocedi yn ddyogeI rhag iddo syrthio i ddwylaw sharpers a pickpockets.

Ceir llawer i istori dda yn mhlith y glowyr am sharpers trefydd Lloegr, ac nid heb beth o ofn y gwehelyth hwnw y gwynebodd ein gwron tua'r Cyfandir.
Ar y llaw arall, teiliwr cyfrwys a chelfydd oedd Griff. Mawr yr hwyl fu rhwng y ddau pan yn cynllunio pocedi y got newydd. Yn ol marchog y nodwydd, yr oedd y pilyn newydd fel y canlyn:— Y pocedi oll o'r tufewn, gyda shams y tuallan. Ond y boced ddehau, ac agoriad iddi o'r tufewn ac o'r tuallan. Yr oedd y fynedfa allanol i'r boced wedi ei ffitio yn ofalus ac yn ddirgelaidd, a thua dwsin o fachau pysgota. Felly, er y gallai Shoni daflu ei arian i fewn y ffordd hono, nid oedd yn bosibi gwthio y llaw i fewn a'i thynu allan drachefn heb i'r bachau gydio gafael!

Wedi ymuno a’r cwmni yn Llundain, ac am ran o'r daith ar ol hyny, arferiad Shoni pan yn

 

 

 

F7660_shoni-o-r-pant_28-ebrill-1900_05_pennod-xii
(delwedd F7660) (28 Ebrill 1900)


prynu rhywbeth oedd taflu y newid trwy boced allanol y got. Yr oedd wedi sylwi fod un boneddwr yn hynod barchus ohono, ac yn hynod siaradus. Cynnygiodd ddyferyn o frandi iddo unwaith o botel fechan oedd ganddo; ond, wrth gwrs, yr oedd ein harwr yn ddirwestwr — yn ddirwestwr gonest felly, a dyna ddigon.

Yn y gwesty drachefn, yr un boneddwr oedd ei gymydog agosaf wrth lle y bwrdd. Wedi y cythrwfl a nodwyd, bu rhaid tynu cot Shoni oddiam dano, a thori y boced allan, yr hyn a wnaed yn nghanol chwerthin mawr yr holl gwmni. Edrychai yr adyn anffodus oedd yn y ddalfa fel llew mewn rhwyd. Cyn gynted ag y tynwyd y bach pysgota olaf o'i gnawd, tarawodd yr heddgeidwad i'r llawr, a neidiodd tua'r drws. Ond yr oedd llygad y Bachan o'r Pant arno, a chyn iddo gael myned ddecllath oddiwrth y gwesty, gwelwyd y ddau yn y gafael a'u gilydd, ac yn rholio ar lawr. Mewn fflachiad, gwelwyd llaw y dyhiryn yn codi i fyny ddagr finiog, ac yn ei anelu at galon y Cymro dewrgalon.

PENNOD XII. - PARHAD O'R DAITH
.

Ond nid cynt y cafodd ei chodi nag y tarawyd y llaw a ffon drom oedd yn llaw Mr Hirben Hughes, nes oedd y ddagr wedi ei lluchio latheni o'r fan.

Rhegai a chlafoerai ac ymwingai y lleidr gyda ffyrnigrwydd teigr, ond yr oedd Shoni yn gafael yn ei wddf erbyn hyn, fel nas gallai symud llaw na throed, heb glywed ei anadl yn pallu, a'i lygaid yn tywyllu. Erbyn hyn, yr oedd yr heddgeidwad wedi dyfod ato ei hun. Ar ol cyrchu y ddagr a'i rhoi y ngofal gwr y gwesty am ychydig, gosododd addurniadau o haiarn am ddwylaw cryfion y carcharor oedd ar lawr, ac yna dechreuodd ymholi pwy ydoedd.

Cafwyd allan fod dau neu dri o'r cwmni wedi colli eu watches, ac un wedi colli swm o arian; a chafwyd yr oll ar y gwr oedd yn y ddalfa. Yr oedd y creadur wedi dyfod gyda'r cwmni yn enw clerigwr parchus, wedi gwylio symudiadau pob un, ac wedi dal ar ei gyfle. Gwelodd Shoni yn taflu yr arian oedd yn ei ddwylaw yn awr ac yn y man i boced ei got, a chymerodd yn ganiataol mai gwaith rhwydd oedd eu cael allan. Druan ohono; ychydig feddyliodd am gael ei ddal a bachau pysgota.

Ar ol hyn, y Bachan o'r Pant oedd arwr y parti. Synai pawb at ei dalent yn cynllunio y fath logell, a synent at ei gyflymder, a'i gryfder corphorol, a'i fedr yn llorio yr yspeiliwr. Ond, da oedd i Shoni am ffon Hirben Hughes! Rhedai iasau trwy bob un wrth gofio am fflachiad y gyllell hono, ac am ergyd effeithiol ac amserol y gweinidog Cymreig. Buasai ein gwron yn gorwedd, yn ddigon oer, yn naear estronol Ffrainc er's blynyddau bellach, pe buasai ei gyfaill eiliad yn hwy cyn dyfod ato. Dychryna Shoni ei hun ar ol hyn wrth feddwl am y tro ond ar y pryd, nid oedd ofn o gwbl yn agos ato. Ond, yr hen lelo; y peth cyntaf a wnaeth wedi myned i'r ty, ar ol hyn, oedd tynu allan ddarlun bychan o boced ei frest, a rhoddi cusan iddo, a dyweyd wrth y cerdyn "Beth wyt ti'n feddwl am y tro yna, Lucy?"

Ymholwyd a Mr Hirben Hughes pwy a pha beth oedd ein gwron, ac wrth gwrs, dywedodd yntau hyny o wir a wyddai. "Felly," ebai rhyw greadur balch a phenwag wrth glywed adrodd y stori, "cafodd yr haliar ei droi ymaith, ac attaliwyd ef i deithio yn mhellach gyda chwmni mor urddasol." Dim o'r fath. Buasai yn anhawdd adrodd yr holl arwyddion o barch a ddangoswyd gan bawb ohonynt i'r Bachan o'r Pant. Cystadleuent a'u gilydd am gael talu drosto, yma ac acw, ac am gael eistedd agosaf ato wrth y bwrdd. Dyna

 

 

F7661_shoni-o-r-pant_28-ebrill-1900_06_pennod-xii

(delwedd F7661) (28 Ebrill 1900)


hefyd y ffon eboni a'r pen arian gafodd ganddynt: onid yw yr argraph sydd' ar hono yn ddigon o brawf o deimladau da y cwmni oll at ein harwr?

Yn fuan wedi cyrhaedd Geneva, ymranodd y cwmni un diwrnod yn wahanol finteioedd. Penderfynodd un mintai geisio mordaith ar y llyn gerllaw. Ymlwybrodd un arall tua'r mynyddoedd, tra y penderfynodd y Parch Hirben Hughes roddi y diwrnod gydag ereill i gael golwg ar rai o brif hynafiaetliau dinas enwog John Calfin.

Am ryw reswm neu gilydd, ychydig iawn o hynafiaethydd oedd Shoni o'r Pant. Y prif achos yn ddiddadl, fel yr awgrymai oedd: "Dim delight." Digwyddai fod yna wr ieuanc arall yn y cwmni, a farnai y gwnai taith trwy y wlad fwy o les iddo nag edrych ar hen greiriau o lyfrau a darluniau, a chadeiriau ac adeiladau, a phethau felly. Bachan ffein, a phregethwr melus oedd y Parch Isafon Lewis, ond nid oedd yn rhyw iach iawn. Penderfynodd ef a Shoni, fyned ill dau am dro i'r wlad, a chyfeiriasant eu camrau tua glanau y Rhone enwog.

O, mor ddymunol oedd y daith. Cerddent wrth eu pleser a daethant yn gyfeillion mynwesol. Y ffaith am dani, er mai haliar a phregethwr oedd yno, bron nad oeddynt yn barod fel Jonathan a Dafydd. Cafwyd ymgom felus iawn, ac yno, ar lan y Rhone, ac yn swn clasurol ei murmuron, y bu y Bachan o'r Pant yn adrodd hanes Cynon Jones a chyfarfodydd nos Sadwrn y Coffee Tavern, wrth y gweinidog ieuanc. Adroddodd iddo, pa fodd y dechreuwyd y cyfarfodydd hyn; am y bookcase roddwyd i Cynon Jones, am ymweliad Mri Henry Richard, A.S. a Davies, Maesyffynnon, ac am y mwynhad gafodd yr olaf ar y "Gan Cwn Hela."

"Beth yw hono, Mr Thomas?" holai Isafon.

"Can o glod i Gwn Hela Mr Perkins, syr, a waith Grawerth," atebai Shoni.

"Pwy oedd yn ei chanu?" holai y llall yn mhellach.

"O, fi, syr," ebai ein gwron yn gynhes.

Awyddai Mr Lewis yn fawr gael clywed y gan, a chyn pen ychydig, yr oedd Shoni yn ei chanu iddo mewn hwyl, nes oedd bryniau Switzerland yn adseinio. Dyna'r unig dro y mae genym hanes am dano i "Gan Gwn Hela" Gymreig gael ei chanu ar gyfandir Ewrop.

Suddai Isafon i fudandod trwm bob ryw ychydig o hyd, ac yna, dechreuai holi yn ddiball yn nghylch y cyfarfodydd nos Sadwrn.

"Dear me; dear me," meddai, "yn union y peth sydd eisieu. Dear me, dear me. Tybed na fedrem ni eu cario allan yn Ffestiniog?"

Yn mlaen a hwy o hyd, wrth eu pleser; Isafon, yn gwahodd, a Shoni yn addaw yn ddiffael, talu ymweliad a Ffestiniog yr haf canlynol. Trefnwyd hefyd fod ein harwr i ganu yno, os byddai y gweinidog wedi llwyddo i gychwyn y cyfarfodydd nos Sadwrn.

"Y mae yn well i ni ddychwelyd Mr Thomas, neu byddwn yn hwyr i ginio," awgrymai y gweinidog.

"Otti ma'n well i ni fyn'd nol, syr. Ond dyw'r amsar yn mynd waff?" atebai Shoni. ac yn ol a hwy.

Yn union daethant at groesffordd. Mynai Isafon droi ar y dlde, ond barnai ei gyfaill mai yn syth yn y blaen y dylid myned. Wrth gwrs, ar y dde y troisant, oblegid ni fuasai y Bachan o'r Pant yn dychymygu 'dala her' a phregethwr.

Yn mlaen a hwy gan ymgomio yn ddifyr. O'r diwedd, trodd Shoni at ei gydymaith. ac ebai:—

"Mr Lewis, i ni siwr o fod wedi colli'r ffordd. Welas i ddim o hwna o'r blaen. I'ch chi'n gweld y ty mawr yna?"

"Dear me, Mr Thomas; beth wnawn ni? Y mae yn rhaid fod genym filldiroedd i gerdded i

 

 

F7662_shoni-o-r-pant_28-ebrill-1900_07_pennod-xii

(delwedd F7662) (28 Ebrill 1900)


Geneva. Tybed fod yma drain gerllaw," ebai Isafon.

"Well i fi fyn'd i ofyn i hwnco?" gofynai Shoni gan gyfeirio at cldyn a safai ar ddrws shop gerllaw.

"Ie, gwnewch," atebai y llall dan wenu.

I ffordd a'r Bachan o'r Pant; ac ebai yn Saesneg, "Yn mha le mae y station yma?"

Edrychodd y dyn yn ddieitliriol arno, gan barablu rywbeth yn rhigl na fedrai y Cymro neyd rych na gwellt ohono. Cofiodd Shoni yn sydyn pa Ie yr ydoedd, a phan edrychodd o'i ol, gwelai Isafon yn chwerthin allan ei oreu glas. Nis gallodd ein gwron lai nag ymuno gydag ef.

Yn anffodus, nid oedd Isafon yn gwybod gair o iaith y wlad, ond daeth i fyny at y dyn a nodwyd, a cheisiodd trwy arwyddion a rhyfeddodau," ei wneyd i ddeall eu ymholiad, ond nid oedd dim yn tycio. O'r diwedd, gwnaeth amnaid ar y Swisiad i ddyfod ato i ganol yr heol, ac yna ymaflodd mewn careg fechan gan geisio tynu allan agerberiant a rheilffordd ar y llawr. Erbyn hyn yr oedd holl blant y pentre wedi tyru yno, a mawr yr hwyl a gafwyd wrth weled y ddau Gymro yn ymgrymu ar yr heol, ac un ohonynt yn tynu lluniau yn y llwch. Llwyddwyd i agor deall y gwr dyeithr, yr hwn a dynodd ei oriadur allan, ac a gyfeiriodd a'i fys fod yn rhaid aros tair awr arall cyn y gellid cael train.

Trwy arwyddion eto, cafwyd ar ddeall fod tua chwe' milldir rhyngddynt a'r didinas o’r fan hono. Cydunodd y ddau Gymro mai doeth oedd iddynt eistedd ychydig a chael lluniaeth, a chymerodd y siopwr hwy i fewn i'w dy ei hun.

"Beth gewn ni, Mr Lewis?" holai y bachan o Aberdar, yn bryderus braidd.

"Mae yn debyg y bydd yn rhaid bwyta beth gawn ni, Mr Thomas," ebai y llall.

Ceisiodd y siopwr eu holi pa beth a fynent, trwy yr unrhyw gyfryngau. Ar hyn tynodd Isafon Lewis ddarn o bapur o'i boced, a gwnaeth lun mochyn arno, gan ei ddangos i'r boneddwr, ac ar hyn cydiodd Shoni yn y papur, gan osod ei fys mewn man neillduol ar y mochyn, a gwaeddai allan "Ham, Ham."

Chwarddodd pob un ohonynt yn iachus, ondt ysgydwai y siopwr ei ben, yn gystal a dyweyd: "Dim i gael."

Ar hyn, gwahoddodd y ddau Gymro i'r shop i gael eu dewis.
Gwelsant salmon yno mewn tins.

"A ydych yn hoff o salmon, Mr Thomas?" holai y gweinidog.

"Ottw yn ffamws, thenciw, Mr Lewis. Fe naiff y tro yn net," atebai ei gyfaill.

Te, brechdan, a salmon felly am dani; ac eisteddodd y ddau deithiwr yn amyneddgar am y bwyd. Taclwyd y bwyd yn drefnus, a gweinid arnynt gan foneddiges ieuanc lanbryd. Yn union, yr oedd y cyfan yn barod, ac amneidiwyd ar ein cyfeillion i ddynesu at y bwrdd. Edrychai Shoni yn gilwgus iawn ar yr hyn oedd wedi ei dywallt i'r ddysgl oedd ar y bwrdd. Wedi gofyn bendith a chodi cig y pysgodyn i Shoni, dechreuodd Isafon fwyta yn awchus.

"Beth yw hwn sydd yn y ddwpler yna, Mr Lewis? Nid salmon yw a," ebai Shoni.

"Nage, gan feddwl, yn wir," atebai y Hall. "Dear me. Ie, salmon oeddem wedi geisio, 'onite? Mae'n rhaid eu bod wedi camsynied dau din, a dod a lobster i ni yn ei Ie. Dear me. A ydych yn hoffi lobster, Mr Thomas, neu ni geisiwn salmon eto? Dywedwch y gair."

"O, ottw, thenciw, Mr Lewis; fi na i yn biwr os taw lobster yw a," ebai Shoni. Yr oedd Shoni wedi clywed lawer o ganmol ar lobsters gan Sam Mishdir Haliars, ond nid oedd erioed wedi eu profi; ac erbyn cael golwg ar yr hyn oedd ger ei fron, cofiodd am eiriau Lucy

 

 

F7663_shoni-o-r-pant_28-ebrill-1900_08_pennod-xii

(delwedd F7663) (28 Ebrill 1900)


am y pethau yr arferai y Ffrancod fwyta. Ar yr un pryd yr oedd chwant bwyd rhyfedd arno. Ymdaflodd i'r gorchwyl o fwyta o ddifrif, a gofalai Isafon Lewis fod digon o lobster ar blat ein harwr.

Yn sydyn dacw y Bachan o'r Pant yn codi oddiwrth y bwrdd, ac yn tynu at y lle tan gynted ag oedd posibl, ac yn dechreu gwneyd yr un fath a phan oedd clefyd y mor arno!

Cafodd y gweinidog fraw a neidiodd i gydio yn ei gyfaill, gan holi:

"Beth sydd yn bod, Mr Thomas?"

"Oh, w i'n dost," cwynfanai Shoni, gan ail ymroddi i gael gwaredigaeth oddiwrth y lobster.

Mewn eiliad yr oedd yr holl deulu yno, mewn arswyd, a phob un yn siarad ac yn brygawthan y pethau mwyaf dyeithr.

Cyrchwyd dwfr i'r claf, ac ymolchwyd ei wyneb a'i ddwylaw. Glanhawyd y lle yn fuan, a gosodwyd y Bachan o'r Pant i orwedd ar esmwythfainc yn yr ystafell. Ond mawr oedd gofid Isafon Lewis, oblegid ofnai rhag fod rhyw glefyd wedi ymaflyd yn ei anwyl gyfaill. Daeth Shoni i'w liw a'i le yn bur fuan, ac wedi cwpanaid o de ffres a sleishen o ham cartref danteithiol, yr oedd Shoni fel ceffyl. Chwareu teg i wraig y ty pan ddeallodd fod ein harwr wedi awgrymu y carasai gael gorlwyth o ham, ni fu yn dawel cyn danfon allan at gymydoges iddi, i ofyn am ychydig i'r foreigner ieuanc oedd yn sal.

Pan welodd Shoni yn gwella. mor fuan, holodd Isafon ef yn bur fanwl, beth oedd achos y salwch. Ceisiodd y Bachan o'r Pant osgoi y gofyniadau, ond ni fynai y gweinidog ei wrthod.

"Wel, a gweud y gwir i chi, Mr Lewis," ebai Shoni, gan chwerthin, "own ni wedi clywad bod nhw yn byta malwod a brogaid a phetha felly, yn Ffrainc, ag own ni'n meddwl wrth i golwg nhw taw rwpath felly odd ar y mlat i. Ag fe geso rwpath soft yn y men odd 'run peth a malwotan yn gwmws."

Chwarddodd Isafon yn iachus pan ddeallodd bethau, ac ebai: "Ond rhaid i chwi gofio mai yn Switzerland yr ydych yn awr, Mr Thomas, ac nid yn Ffrainc.”

Synodd y teulu weled y claf yn gwella mor fuan. Gyda hyn yr oedd yn amser myned i ddal y tren. Gofalodd Shoni beidio bod yn brin gyda'r teulu. Ni wnaeth gymaint a gofyn y pris, ond gosododd ddarn sylweddol o aur yn nwrn gwraig y ty, a darn llai yn llaw y ferch fu yn gweini arno. Ni fynai ychwaith dderbyn dim gan ei gyfaill, Isafon Lewis. Ymaith a'r ddau tua'r orsaf yn cael eu harwain gan wr y ty. Ni chawsant aros yn hir, ac felly cyrhaeddasant Geneva yn bur fuan.

Fel pob taith arall, daeth y wibdaith i Switzerland i ben, a dychwelodd y Bachan o'r Pant i Aberdar. Wrth gwrs, trwy Lundain y daeth ac nid bychan y croesaw gafodd yno. Y peth cyntaf gafodd o enau Lucy, a hyny mewn Cymraeg llawn oedd,

"Wel, shwd wyt ti, Jack bach?"

Synai ein gwron glywed y llances benddu yn siarad yn iaith Adda. Un bychan er hyny oedd geiriadur Cymreig Lucy hyd yn hyn, a buan y cyrhaeddodd ben y tenyn. Mawr y pleser gafodd ein gwron wrth glywed Mrs Lloyd, gwraig Bili, yr heddgeidwad, yn adrodd hanes Lucy fel yr oedd yno bob moment gawsai, yn ceisio dysgu geiriau a brawddegau Cymreig. Yr oedd gan Lucy lais canu pur swynol, ac ni thawai Shoni heb iddi ganu "Hen wlad fy nhadau," gydag ef.

Yn ol fel y gallem gasglu, yr oedd Lucy yn canu yr hen gerdd genedlaethol Gymreig, mewn dull tebyg iawn i'r hwn y canwyd hi gan Arglwydd Salisbury unwaith.
Y mae y darllenydd, yn ddiau, yn cofio am Arglwydd Salisbury

 

 

F7664_shoni-o-r-pant_28-ebrill-1900_09_pennod-xii
(delwedd F7664) (28 Ebrill 1900)


a'r enwog Dafydd Dafis, gwr Claudia, yn cyd-deithio i gymanfa fawr wleidyddol Caerdydd; ac hefyd fel yr oedd Arglwydd Salisbury yn ymarfer ar y daith fel y gallai ganu "Hen wlad fy nhadau" yn y cyfarfod mawr yn Nghaerdydd. Os myn rywun weled yr argraphiad diwygiedig hwn o'r gan, onid yw yn ganfyddadwy yn y gwaith gorchestol hwnw, "Hunangofiant Dafydd Davis?”

Er gwaethaf Lucy a phobpeth, teimlai Shoni yn falch o gael golwg ar "Sweet 'Byrdar" unwaith yn ychwaneg. Tra yr oedd y tren yn gadael Abercynon, neu y Basin, fel yr adnabyddid y lle yn y dyddiau hyfryd gynt, gellid clywed ein harwr yn canu dros y lle:

"Caf lath yn Ynyscynon,
A dwr yn Manc-yr-afon,
A diod yn mentra Aberdar –
Lle gora gar fy nghalon."

Ychydig allodd eistedd nes cyrhaedd ei hoff gartref; oblegid edrych allan drwy y ffenestr y bu bob cam o'r ffordd, gan gyfarch pob bryn a dol, a thy a thwlc a welai, a chan ddrachtio yr awelon oeddynt fel balm i'w galon. Yr oedd cymaint o ddigwyddiadau wedi cymeryd lle yn ystod y daith i'r Cyfandir ac yn ol, fel ag y gallai ein harwr dybio fod o leiaf flwyddyn er pan yr aeth o Aberdar.

Ni chollodd ddim amser cyn ceisio y Parch Cynon Jones, ac yno y bu yn myfyrgell y gweinidog am oriau yn adrodd hanes y daith. Chwarddai Cynon Jones dros y lle wrth glywed am yr hwyl a'r mwynhad a gafodd ein harwr.

"Ond," ebai Cynon Jones. "Beth yw yr holl scent yma sydd gyda chwi, John? Fyddwch chwi ddim yn arfer defnyddio peth fel hyn."

Gwridodd y Bachan o'r Pant at ei ddau glust, ac atebai yn swil, ond gan geisio ymddangos yn ddifater: "O cal poteled fach yn Llundain netho i, er mwyn cael bod yn debyg i'r gwyr mawr erill, odd yn y cwmpini, syr."

Edrychodd y gweinidog i fyw Ilygad ein harwr, am eiliad, a theimlai Shoni fel pe buasai yn darllen ei feddwl ac yn gwybod holl hanes y botel scent. Cymhellai ei gydwybod ef i ddyweyd yr hanes a pheidio twyllo ei gyfaill, fel yr oedd yn gwneyd; ond daeth pwnc y cyfarfod nos Sadwrn nesaf i fyny, ac ebai Cynon Jones:

"Cofiwch, John, y byddwn yn disgwyl i chi roddi adroddiad o hanes eich taith ar y Cyfandir, nos Sadwrn nesaf. Ni fydd eisieu i chwi ddyweyd hanes y botel scent a'r bobol a welsoch yn Llundain," parhai, gan wenu.

"Wni oti a'n gwpod rwpath?" myfyriai Shoni rhyngddo ag ef ei hun "mae a yn towli hen snaps lled od, ta beth."

"O, na, Mr Jones; fi garca i bido gneud hyny, achos alla i byth gwni ar y nhrad i wilia miwn lle felna," atebai ein gwron.

"Fe fyddwch ar y programme; felly byddwch yn barod," ebai y gweinidog, ac aeth yn mlaen gan ddywedyd: "Y mae genym raglen ardderchog erbyn nos Sadwrn nesaf."

"Beth sydd i fod, Mr Jones?" holai ein gwron.

"Byddwch chwi yno mewn pryd, John, a chewch weled. Yr wyf yn disgwyl dyeithriaid yno; rhai y bydd yn dda gan bawb eu gweled ac heblaw hyny, y mae genyf ddefnydd cyfarfod ardderchog yn ein plith ein hunain," atebai yr esgob.

Wrth i Shoni ymadael estynodd sypyn i Mr Jones, gan ddywedyd: "Hwrwch hwna, Mr Jones, yn bresant; fe fyswn yn lico i chi gal rwpath gwell; ond w i wedi dod ag e o Lundan, achos odd Mr Isafon Lewis yn gwed y bysa chi yn i lico fa."

"Beth ydyw, John? Aroswch," ebai y gweinidog, gan agor y pecyn yn gyliym, a dyweyd wrth ganfod y gyfrol hardd:

"Wel, diolch yn fawr i chwi. Dyma gyfrol yr wyf wedi bod yn

 

 

F7665_shoni-o-r-pant_28-ebrill-1900_10_pennod-xii

(delwedd F7665) (28 Ebrill 1900)


awyddus am dani, er pan ddaeth allan, chwe' mis yn ol. Aroswch fynyd."

Rhedodd Cynon Jones i'w fyfyrgell mor ysgafndroed ac ysgafn galon ar plentyn pum' mlwydd oed; cydiodd mewn cyfrol fechan hardd oddiar yr astell; lapiodd hi mewn papyr ac aeth a hi at y drws, gan ei hestyn i Shoni, a dywedyd: "John bach, fedra i ddim diolch digon i chwi am feddwl am danaf, ac am y fath anrheg werthfawr. Cymerwch hon, a danfonwch hi i Miss Lucy, a chofiwch ii ati."

Gyda hyn ysgydwodd y gweinidog law ein harwr yn gynhes a throdd ar y sowdl i'r ty gan gau y drws.

Safodd y Bachan o'r Pant yn stond ar y palmant, gan agor ei lygaid led y pen, a, gofyn iddo ei hun: "Wel, tawni marw shwd ma hwna wedi dod i wpod am Lucy? Own ni'n meddwl wrth i snaps a! Ma gwraig Bili Lloyd siwr o fod wedi clecan arno ni wrth Sam i brawd, ne rywun!”

Gyda hyn cychwynodd chwerthin wrtho ei hun, oblegid yn ei galon, teimlai yn hynod falch fod Mr Jones yn gwybod am Lucy.

Yn nesaf rhoddwn fynegiad o'r cyfarfod nos Sadwrn, yn yr hwn y cyfarfyddwn ag aml i hen gyfaill ac y ceir surprises dyddorol. (I'w barhau.)


 

 

F7667_shoni-o-r-pant_05-mai-1900_01_pennod-xiv

(delwedd F7667) (5 Mai 1900)

5 Mai 1900

(UN O ENWOGION ABERDAR.)
Gan IFAN BRYNDU.

PENNOD XIV. CAN SIMON PHYLIP.

Nos Sadwrn a ddaeth, ac yr oedd y Long Room yn llawn. Naill iai am fod Shoni wedi bod yn taenu y stori, neu ynte am fod y pwyllgor yn arfer dod a phethau newyddion yn annisgwyliadwy i'r bwrdd yn barhaus, yr oedd y si ar led fod tebygolrwydd am hwyl arbenig y noson homo. Yr oedd ymweliad Mr Henry Richard a'r cwmni wedi bod yn foddion i'w dyrchafu yn ngolwg y bobl, ac i dynu llawer i'r cyfarfodydd.

Ar y dechreu, nid oedd neb na dim neillduol i'w ganfod, ac i bob golwg, pan gymerodd Mr Cynon Jones y gadair, gellid disgwyl mai cyfarfod fflat a chyffredm fyddai yno.

Wedi y gan agoriadol, cafwyd anerchiad byr gan y Cadeirydd, yr hwn a ddywedodd fod yn dda ganddo weled "John Thomas" wedi dychwelyd o'i daith yn Switzerland, a'i fod ef yn tewi er mwyn rhoddi cyfle i'n harwr i adrodd hanes ei daith. Derbyniwyd hyn gyda chymeradwyaeth calonog. Ond bu rhaid hanner gario y Bachan o'r Pant at y bwrdd, cyn iddo ymfoddloni. O'r diwedd, dechreuodd ar y gwaith, gan ddyweyd, "Mishdir Cadeirydd." Ond pa Ie y cawsai ddechreu, ni wyddai yn ei fyw; oblegid, er ceisio dyfalu llawer, ni fedrai gael pen na chynffon i ddechreu.

Ebai Cynon Jones wrtho: "Gadewch Llundain a'i phobl ar ol, a dywedwch sut fordaith gawsoch chwi o Loegr i Ffrainc."

Taflodd Shoni lygad chwith at y gweinidog, oblegid gwyddai beth a olygai wrth "bobl Llundain," ond dechreuodd ein harwr draethu ei stori gyda rhwyddineb a blas. Distawodd, er hyny, wedi adrodd hanes y fordaith.

"Ond sut y bu hi gyda'r lleidr hwnw?" holai Cynon Jones, gan dynu y Bachan o'r Pant allan.

Adroddodd Shoni yr hanes hwnw drachefn, gydag awch; ac felly y cafwyd yr oll ganddo, o dipyn i beth. Amlygodd em harwr lawer o elfenau y gwir areithiwr, oblegid Ilwyddodd i gadw pob un i wrando yn astud arno. Ar adegau, methai yn lan a deall pa fodd yr oedd Cynon Jones yn gwybod am rai o'r troion a awgrymai, er cadw Shoni yn myn'd, canys nid oedd ef ei hun wedi dyweyd gair am danynt wrth y pregethwr. Er engraipht, dyna hanes y lobsters; buasai yn well gan y Bachan o'r Pant beidio dyweyd dim am y peth. Terfynwyd yr adroddiad yn nghanol cymeradwyaeth galonog, a thystiodd llawer un y carasai yntau roddi tro i'r Cyfandir.

"Yn awr, y mae yn bleser genyf," ebai y Cadeirydd, "i alw ar y telynorion yn mlaen at eu gwaith."

Ar y gair, gwelwyd pedwar o wyr, dau ieuanc, un canol oed, ac un hen wr dall, — yn dynesu at ymyl y cadeirydd, a thynwyd allan o'r gornel bedair o delynau, oeddynt wedi eu cuddio yn ofalus hyd y foment hono, a darn mawr o gynfas.

Agorai y gwyddfodolion'eu llygaid led y pen, fel pe yn ymhoIi, “O ba le y daeth y gwyr hyn?" Braidd na thybiai rai ohonynt mai ryw "ddyn hysbys" oedd y cadeirydd a'i fod yn gallu gorchymyn i fyny o’r dyfnder du ysprydion i wneyd yr hyn a orchymynai efe iddynt. Wrth graffu, gwelwyd mai hen gyfeillion adnabyddus oedd y telynorion ill pedwar. Yr oedd yr hen wr dall


 

 

F7668_shoni-o-r-pant_05-mai-1900_02_pennod-xiv

(delwedd F7668) (5 Mai 1900)

 
a'r gwallt cyrliog, gwyn, yn hen ffafryn ganddynt er cyn cof bron. Ond sut y daeth y pedwar gyda'u gilydd i'r Coffee Tavern y noson hono?

Cafwyd esboniad tua diwedd y cyfarfod. Yn eu hymddanion wythnosol, deallodd y "pwyllgor," hyny yw, y Parch Cynon Jones a Sam Mishdir Haliars, mai dymunol fyddai cael nooswaith gyda'r telynau.

"A oes yma delynorion gerllaw, Samuel?" holai y gweinidog.

"Os, sopyn, syr; ma 'na, bedwar ne' bump o'r Cap Ian i Hirwan," atebai Sam.

Wedi holi sut yr oeddynt yn byw, a pha le y cartrefent, a phethau felly, gwelodd Cynon Jones fod pethau yn goleuo.

Wrth fyned a'r delyn o dafarn i dafarn y byddai rhai o'r telynorion hyn yn enill bywoliaeth. Gwahoddid hwy gan y tafarnwr, yr hwn a estynai iddynt ddeuswllt neu hanner coron. Eisteddent yn nghanol y gyfeddach, gan yfed a chwareu y delyn, ac yna gwneid casgliad iddynt gan y cwmni. Weithiau, caent bymtheg swllt neu bunt ar nos Sadwrn; ond, y rhan fynychaf, byddent yn rhy feddw i symud, ac heb geiniog ar eu helw erbyn cyrhaedd gartref.

Penderfynodd y "pwyllgor" a nodwyd wneyd stroke ohoni, a chyflogwyd pob telynor posibl, fel na chlywid swn telyn yn un dafarn yn y Cwm y nos Sadwrn hwnw. Yr oedd cwmni y Coffee Tavern wrth eu bodd yn swn y tanau. A phedair o delynau yn cydchwareu! Ymddangosai y telynorion, hefyd, wrth eu bodd, ae edrychent yn sobr ac yn hardd. Nid peth hawdd fydd anghofio yr olwg ar yr hen delynor dall. Ymddangosai fel pe buasai ryw ysprydoliaeth wedi disgyn arno, tra y disgynai deigryn tryloew o'i lygaid tywyll dros ei ruddiau heirdd.

Son am guro dwylaw a bloeddio encore, dylasech glywed y pethau hyn ar ol i'r telynau orphen!

"Ni gawn encore," ebai y Cadeirydd, "ond y mae genyf un peth arall gyntaf, sef araeth arall ar y daith i Switzerland, ac yn awr, y mae yn bleser genyf alw ar y Parch Isafon Lewis, Ffestiniog, i anerch y cyfarfod."

Yr oedd Shoni o'r Pant yn methu credu ei glustiau, ond pan welodd Mr Lewis yn dyfod yn mlaen, ni wyddai beth i'w ddyweyd. Gydrhwng llawenydd wrth weled ei hen gyfaill, a chywilydd wrth gofio yr hyn fu yn ddyweyd am y daith a nodwyd, safai fel post am hanner mynyd, ac yna yn mlaen ag ef, gan ysgwyd llaw ag Isafon hyd fon braich, a dyweyd yn druanllyd: "Too bad, Mr Jones; too bad, Mr Lewis; ar mecws i, ma' hyn yn wa'th n too bad."

Wrth gwrs, nid oedd y cwmni yn deall helbul Shoni, a phan esboniwyd pethau iddynt gan Isafon Lewis, mawr y difyrwch a gafwyd.

Yn ei anerchiad, hysbysodd y pregethwr ieuanc o Ffestiniog sut y daeth yno. Yr oedd stori y Bachan o'r Pant am gyfarfodydd nos Sadwrn wedi dal cymaint arno, fel nas gallai orphwys heb gael dyfod i un ohionynt. Cafodd gyfle i ddod am Sul i Aberdar; ac, wrth gwrs, ceisiodd am Mr Cynon Jones ar unwaith. Medrai Isafon adrodd stori gyda'r goreu, ac yr oedd hanes dal y lleidr, y lobsters, ac helyntion ereill y daith, yn cael perffaith chwareu teg ganddo. Gofalodd ddwyn allan ran Shoni o'r Pant yn mhobpeth, gyda gofal a theilyngdod fel yr oedd ein harwr yn gymaint o ffafryn a nod llygad gan bawb, ag oedd y noson y cynnaliwyd wledd hono er ei fwyn. Terfynodd isafon Lewis ei araeth yntau, fel y lleill, yn nghanol cymeradwyaeth uchel, gan ddatgan y carasai yn fawr glywed can neu ddwy cyn ymadael.

"O, chwi gewch," ebai "y Cadeirydd, "ond rhaid i mi gadw fy ngair, a galw am y telynau unwaith eto."

 

 

 

F7669_shoni-o-r-pant_05-mai-1900_03_pennod-xiv

delwedd F7669) (5 Mai 1900)



Yr oedd peroriaeth y telynorion yn fwy swynol nag erioed, a phob un oedd yn bresennol wrth ei fodd.

"Y mae yn bleser gienyf yn awr," ebai Cynon Jones, "alw ar Simon Phyiip i roi i ni gan yn nhafodiaith gwyr sir Benfro ar 'Wreca.'”

Clamp o ddyn bochgoch, mawr, braf, gyda llais main, gwanaidd, oedd Simon, yr hwn a ddaeth yn mlaen ar unwaith, ac a ganodd gyda chyfeiliad yr hen delynor dall y gan ganlynol: —

"Hen ddin trichwantus wedd Twm Rhys,
A chrac ambeidus hefid;
Os croesid rhwbeth arno fe,
Fe drawe in 'i finid.

Wi'n cofio'n bur ion, ‘slawer didd,
In aniser llong Porthmilgan,
Pan wedd i mi yn arw show,
A'r gwrec in llenwi'r cifan.

A phan wedd casgis lon'd i mor,
In llawn o'r licwrs crifa, «
I Twm a fi, fel pawb o'n bath,
Fin'd lawr i'r tra'th i wreca.

Ni welsom jar ma's in i mor,
In ochor i don dori,
A stidiodd Twm ddim, druan wr,
Nad licwr wedd indi.

Fe redodd ma's heb bwslo dim,
Jwst hid at 'i geseile,
A'r tone mowron uwch 'i ben
Yn tori fel minidde.

Fe gas i drawo gida’r jar
Is wedd 'i war e'n crwmi,
A lawr fe a'th o don i don
Is wedd e' bron a poddi.

Fe gododd whap fach ar 'i dra'd,
A'r twad lon'd 'i liged,
A miwn ag e' a.r ol 'i jar,
Heb feindio’i war un tamed.

Fe ddari 'dala hi'n bur gwic,
Fe sticodd dini'r corcyn-
Agore 'i ben — idriche fri,
A lawr a hi bob dropin.

Ond 'n union fach, mi gwelswn e'
Yn gwneyd rhiw linie imbed,
A'n hwdi rwbeth fini fri,
Is wedd e'n ddi bob tamed.

Fe gang-gymerodd i'r hen Dwm,
Nid gin, na rwm, na brandy!
Na gwin, na phorter, diod fain,
Na dim, ond - ink wedd indi!

Mi wherthes i is o'wn i'n wan
Am ben 'rhen garan wancus;
A ginted gwelodd inte hyn,
Fe a'th yn grac ambeidus.

Fe dowlodd i'r hen jar i'r llawr,
A'i natur fowr e' 'i fini,
Ac ar ing ol fe a'th in gwici
I roi i fi gic, neu'i nghrasi.

Mi rhoies inne nhra’d in tir,
A bant a fi'n bur heini';
A dina'r cwbwl gesin i
Wrth wreca i prid hini.

Ond wrth wel'd trichwant i'r hen ddin,
Mi benderfynes pwrni,
Na phrofwn bith in drop o ddim
Ond dwr; a sana'i wedi."


 

 

F7670_shoni-o-r-pant_05-mai-1900_04_pennod-xiv

(delwedd F7670) (5 Mai 1900)



"Ardderchog," ebai Isafon Lewis, gan guro ei ddwylaw.

"Well done, Simon Shir Benfro, ffamws bachan," ebai ereill.

Gwaeddai llawer "Encore," end fel yr oedd yn digwydd, dyna'r unig gan a wyddai Simon, ac nid oedd yn credu mewn canu yr un peth ddwywaith.

"Na, na," meddai yr hen Iwynog, yn ei lais main, "os od ihi (?odd hi) wedi mind in weddol fach i tro cinta, ma'n well pido spwylol pethe. Beth mae e'n weud, Mistir Jones?"

"Eithaf da, Mr Phylip," ebai Cynon Jones, gan alw ar y peth nesaf, a dywedyd:

"Yn awr, y mae yn bleser genyf i alw ar Mr Ramwna Graglioni Deradw i roddi can i ni. Cyn i'r boneddwr ganu, dylaswn ddyweyd ei fod braidd yn swil, ac nad yw yn foddlon sefyll ar y platform yma; felly, gobeithiaf y gwnewch gydymdeimlo gydag ef. Y mae wedi teithio dros dair fil o fillddroedd i ddod yma, ai dyma'r tro cyntaf iddo ymddangos gerbron cynnulleidfa yn Nghymru. Dylaswn didyweyd hefyd mai nid dyn gwyn ydyw, a'i fod yn hollol ddall a, byddflr, ac nid yw wedi profi tamaid o fwyd er's o leiaf dri diwrnod."

O'r olwg 'oedd ar y cwmni pan glywsant y desgrifiad uchod. Chwarddai rhai, edrychai ereill yn synllyd, hurt. Ar wyneb Isafon Lewis dawnsiai gwen gymysgedig o ddigrifw;ch ac anghrediniaeth, fel pe yn gofyn iddo ei hun

"Beth, yn enw y Brenhin George sydd ganddo yn awr?"

"Mr Deradw, yr ydym yn aros am danoch, os gwelwch yn dda," ebai y Cadeirydd, a gyda hyn clywid llais gwanaddd, pell, yn canu yn swynol ac yn felus. Dechreuodd pawb glustfeinio ac edrych ar eu gilydd. Hytrach, yn aneglur yr oedd y geiriau ar adegau, ond yr oedd y nodau yn berffaith.
Ni fu erioed y fath ddistawrwydd a'r fath gywreinrwydd ag a arddangosid yn y Long Room y noson hono. Wrth derfynu, cododd y canwr ei lais, a therfynodd yn nerthol ac yn orchfygol. Yr oedd y curo dwylaw a'r bloeddio encore yn fyddarol, tra yr oedd pawb ar flaenau eu traed yn ceisio gweled y cantwr. Mynent fod y swn yn llifo dros ben cadair y cadeirydd, ond nid oedd dim na neb i'w weled.

"Wel, os rhaid cael encore," ebai Cynon Jones, "gwell fydd gofyn i Mr Deradw ganu i ni "Hen Wlad fy Nhadau" yn Gymraeg, oblegid nid yw bwys yn y byd ganddo pa un o ieithoedd mawrion Ewrop ac America. Bydd y cyfarfod drosodd ar ol cael y gan genedlaethol, a bydd yn bleser genyf eich cyflwyno, bob yn un ac un, ar y ddwedd, I Mr Deradw."

Gyda syndod a llawenydd y derbyniwyd y geiriau hyn eto; ond gyda bod y cadeirydd yn galw ar enw y boneddwr, yr oedd pob un yn ddistaw fel y bedd. O'r un lle ag o'r blaen, clywid nodau a geiriau yr hen ganig anwyl yn rholio aJlan, yn llawn ac yn wresog, fel pe buasai Eos Morlais yn ei chanu ac er fod pawb yn uno. yn galonog yn y cydgan, yr oedd llais Mr Deradw yn codi yn glir yn uwch na'r cyfan.

Terfynwyd hyn eto, ond nid oedd son gan neb am ymadael. Gwthiai pob un yn mlaen at y cadeirydd, a phan welodd Cynon Jones ei bod yn myned yn galed arno, ebai:

"Nawr, Samuel, codwch Mr Deradw i ben y bwrdd."

Ar hyn, daeth Sam Mishdir Haliars o'r tu ol i'r I’r gadair, a gosododd beiriant bychan, hardd, ar y bwrdd, gan ddywedyd yn chwerthingar:

"Wel, dyna fe, boys."

"Ond b'le mae’r cantiwr?" holai Shoni o'r Pant.

"Wel, dyna fe, bachan," atebai Sam.

Ni fynai y cwmni gredu llai na bod Sam a’r

  

 

 

F7671_shoni-o-r-pant_05-mai-1900_05_pennod-xiv_pennod-xv

(delwedd F7671) (5 Mai 1900)

Cadeirydd yn eu twyllo, hyd nes i'r blaenaf, ar gais Cynon Jones, osod y peiriant canu i ganu can arall iddynt, ac iddo wedi hyny droi yn beiriant siarad a thraddodi anerchiad iddynt.

Pan welwyd trwy bethau, mawr fu y llawenydd a'r canmol, a chadwyd y cadeirydd yno braidd yn hwyr y noson hono, yn ceisio egluro egwyddor y peiriant bychan.

Aeth Shoni o'r Pant i hebrwng Isafon Lewis i'w lety, a gwnaeth drefniadau gydag ef am ei ymweliad a'r Gogledd. Yr oedd y gweinidog ieuanc o Ffestiniog wedi dotio ar y cyfarfod, a mynai gael gan y Bachan o'r Pant fyned i weithio i Ffestiniog, er mwyn cael helpu i gael rhai tebyg iddynt yno.

"Mi ddewa i felco am dro, Mr Lewis," atebai ein harwr, "ond 'Sweet 'Byrdar' i fi cyd a bydda i, ta beth. I chi'n gwel'd: haliar w i. Fi alla i hala ceffyl, a thrafod drams, a sprags, a barwcs, a shackles, a phetha felna, gitag undyn; a fydda i ddim shiffad — ddim wincad — yn cwni dram i'r rails, os bydd 'no le; ond wn i ddim byd am y gwaith sy' gita chi lan yco."

Ymadawyd ar y ddealltwriaeth fod Shoni o'r Pant i gyfeirio ei wyneb tua'Gogledd Cymru yn mhen ychydig amser. Yn ol ei ffyddlondeb arferol i'w air, cyflawnwyd yr addewid i'r tipyn, a chafwyd taith ramantus a dyddorol dros ben, fel y cawn ddangos yn y man.

PENNOD XV.—TAITH I'R GOGLEDD.

Gwawriodd y boreu i'r Bachan o'r Pant fyned i'w daith tua Gogledd Cymru. Anturiaeth fechan iawn oedd hon yn ei olwg. Onid oedd Isafon Lewis yn ei aros yn Ffestiniog? Ac onid oedd yntau wedi bod dros y mor a thros gyfandir Ewrop cyn hyny? Yn naturiol, ychydig oedd ei bryder, ac ychydig o ymgynghori fu rhyngddo a'i gyfaill, Cynon Jones, ar y mater. Teimlai braidd yn falchaidd, ynddo ei hun ac awgrymodd y Bachan o'r Pant i John Thomas fwy nag unwaith, mai "rhai lled dwp yw'r Northmyn yna," ac y buasai efe yn "dangos twtsh ne ddoi iddi nhw," cyn dychwelyd. Fel gyda Iwl Caisar gynt, felly, bwriadai ein harwr "ddyfod, gweled, a choncro." Ond gwaethaf y modd, nid felly y bu yn hollol y tro hwn.

Pan aeth i drain y Gogledd yn Mhontypool-road, syrthiodd i gwmni difyr dros ben. Yr oedd yn yr ystafell hen wr a hen wraig, yn ymddangos yn anwyl a phatriarchaidd; par ieuanc serchog, siriol, fel pe ar gychwyn i'w mis mel; dau ddyn canol oed, trwsiadus, siaradus a dynes welw, wanaidd yr olwg, a chanddi faban tua mis oed. Credodd Shoni fod y cwmni oll yn berthynasau, neu yn gyfeillion adnabyddus o leiaf; oblegid yr oeddynt oll yn siarad trwyddi-draw, am bersonau adnabyddus i'r oll ohonynt. Yr oedd un o'r gwyr canol oed hefyd yn siarad, ac yn talu cryn sylw i'r baban, a chymerodd ein harwr yn ganiataol ei fod yn dad iddo. Yn bur fuan tynwyd y Bachan o'r Pant i fewn i'r ymddyddan, a daeth pob un i ddyweyd wrth bob un arall, i ba le yr oedd yn myned ac o ba le yr oedd yn dyfod.

Yn Abergavenni, disgynodd y par hynafol a nodwyd, ac, hefyd, un o'r gwyr canol oed. Cyrhaeddwyd Henffordd, a disgynodd y cwpl ieuanc a'r gwr canol oed arall. Erbyn hyn nid oedd neb ond Shoni, a'r wraig, a'r baban, yn yr adran hono. Tra yr oedd y train yn aros, cerddodd ein harwr yn ol ac yn mlaen ar hyd y platfform, yna dychwelodd ac eisteddodd yn ei le.

"Wnewch chwi ddal y baban yma am fynyd, os gwelwch yn dda, syr? Y mae arnaf eisieu ychydig lefrith iddo," ebai y wraig yn foesgar ac yn Seisnig.

Fel gwir foneddwr, cydiodd y Bachan o'r Pant yn y bychan yn dyner ac yn ofalus, ac aeth y wraig allan gan gau y drws ar ei hol.

 

 

 

F7672_shoni-o-r-pant_05-mai-1900_06_pennod-xv

(delwedd F7672) (5 Mai 1900)

"Bysa Lucy ddim ond ca'l pip arno i nawr, fe fysa'n werthin fel gnath hi pan gitshas i yn mabi bach Bili Lloyd," ebai Shoni wrtho'i hun.

Ond cyn pen eiliad, chwythodd y swyddog ei chwibanogl, ac er ei syndod a'i ddychryn, clywodd y teithiwr y train yn cychwyn linc-lonc allan o'r orsaf! Ceisiodd floeddio, ond yr oedd y ffenestri wedi eu codi. Rhedodd at y ffenestr, ond yn ei wylltineb aeth i'r ochr bellaf oddiwrth y platform. Pan welodd nas gallai dynu sylw, eisteddodd i lawr, gan edrych yn synllyd ac yn fud ar y tlws, diniwed oedd yn cysgu yn dawel yn ei freichiau.

"Wel, dyma hi'n ddecha o'r diwadd," ebai pan ddaeth ato ei hun; "beth sy' well i fi neud ag e, wni?"

Tra yr oedd y train yn chwyrnellu yn y blaen, cynhesodd calon Shoni at y baban, a siaradodd lawer ag ef, er fod y bychan yn cysgu yn'braf o hyd. Ond nis gallai yn ei fyw ddyfalu beth i'w wneyd ag ef. Yr oedd wedi clywed am famau yn taflu allan eu plant, tra yr oedd y gerbydres yn symud, a chrynodd mewn arswyd drosto wrth gofio a meddwl am y fath beth. Gellid gweled ei ddyrnau a'i wefusau yn cau yn dyn yr adeg hono, a rhuthrai ei lygad pan ddywedai wrtho'i hun eto:— "Shwd gall undyn neyd drwg i beth bach fel hyn? Fe ddylsa unrhyw ddyn ne fenyw ga'l i shibedo am neyd los i fabi bach. Gobitho na naiff a ddim di'no. Fe weta i wrth y guard am dano fa, yn y station nesa'. Ond beth, os na chymeran nhw fa? Fydd a ddim iws i fi fyn'd ag e i Ffestiniog.
Wel, os na chymeran nhw fa, fi a i nol ag e i 'Byrdar."

Ar hyn crynodd ein gwron drosto, oblegid rhoddodd y bychan sgrech wanaidd, a chwareuai ei wefusau, fel pe yn galw am y deth.

"Yr argol anwl! Beth na i nawr?" ebai Shoni, gan chwilio y basged fechan oedd ar y set yn ei ymyl. Yr oedd y bychan yn gyru iddi yn iawn erbyn hyn, er gwaethaf holl lwlian, ac ysgwyd a sio y Bachan o'r Pant.
Er ei lawenydd, cafodd o hyd i botel sugno, ac ychydig o lefrith ynddi. Tynodd y botel allan; gosododd hi yn ngenau y dadganwr bychan, a mawr oedd ei lawenydd pan gafwyd gosteg, ac y gwelwyd gwen o foddlonrwydd yn lledu dros y gwyneb bychan, glan. Ond ychwanegodd y tawelwch at ei helbul, oblegid ail-ddechreuodd feddwl pa beth i wneyd a'r plentyn.

Er ei fawr lawenydd, yr oeddynt yn arafu yn ngorsaf yr Amwythig. Penderfynodd ein gwron fyned yn syth at y guard, ond cyn iddo gael amseri droi bron, wele heddgeidwad, y station-master, gwraig mewn ffedog wen, a dyn cymharol ieuanc, yn dyfod ato.

"Beth yw y baban yma sydd genych?" holai yr heddgeidwad.

Edrychodd Shoni yn ddyeithr arno, ond pan welodd y pedwar yn gwenu-chwerthin, daeth ato ei hun, ac ebai yn llon, "O, fi wela'ch bod chi'n gwpod gystal a fina'.”

"Ydym, mae'n debyg," ebai yr heddgeidwad, gan gyfeirio at y dyn a nodwyd, a dywedyd: "Dyma dad y plentyn," yr hwn, erbyn hyn, oedd yn cydio yn ei drysor o law Shoni.

"Diolch o galon i chwi, syr, am ofalu am dano," ebai y tad gyda deigryn o lawenydd yn ei lygad.

Erbyn hyn teimlai y Bachan o'r Pant hiraeth ar ol y bychan yr oedd wedi syllu cymaint i'w wyneb hardd ar hyd y ffordd, a, braidd na theimlai fod ganddo ryw gymaint o hawl iddo. Pan welodd y plentyn, er hyny, yn mreichiau y tad, a hwnw yn ei gyflwyno i ddwylaw ei chwaer, yr hon oedd gydag ef, teimlodd fod yna faich o gyfrifoldeb wech myned oddiar ei ysgwyddau. Difyr oedd clywed y cwmni yn adrodd sut y bu pethau. Shoni yn dyweyd am y fam yn myned allan yn Henffordd, a'r lleill yn dyweyd am y


 

 

F7673_shoni-o-r-pant_05-mai-1900_07_pennod-xv

(delwedd F7673) (5 Mai 1900)

frysneges oedd wedi dyfod yno, yn gorchymyn iddynt gyfarfod y train, ac yn rhoddi desgrifiad o Shoni. Mawr yr hwyl a gafwyd hefyd pan ddeallwyd mai hen lanc oedd ein harwr, ac am ei waith yn arswydo wrth glywed y plentyn yn crio, ac yn rhoddi y botel iddo.

"Wna i ddim cynnyg arian i chwi, syr, am eich caredigrwydd mawr, ond byddwch cystal a derbyn hwn, yn rhodd genyf," ebai y tad yn ddiolchgar, gan estyn i'n harwr y medal aur bychan oedd wrth ei gadwen.

Diolchodd Shoni yn gynhes am y rhodd, a gosododd hanner sofren yn llaw y tad, gan orchymyn iddo brynu bonet ac esgidiau i'r bychan, pan fyddai yn barod am danynt. Nid oedd digon o arian yn y cread i brynu medal Shoni ar ol hyn. Ond yr oedd yn rhaid myned eto.

Cyn i'r train ail-gychwyn, gelwid yn uchel ar bawb i ddangos eu tocynau. "Tickets, tickets," a glywid drwy y lle. Daeth gwr i fewn a gofynodd am docyn y Bachan o'r Pant, yr hwn a'i estynodd yn ddinacad a difeddwl. Cymerodd y dyn y tocyn ac i ffwrdd ag ef. Cofiodd Shoni mai tocyn i Fangor oedd ganddo, ac y byddai ei eisieu weddill y daith. Rhuthrodd i'r ffenestr i alw y dyn yn ol, ac i'w hysbysu nad oedd y tocyn i gael ei roddi i fyny yn yr Amwythig. Nid oedd golwg am y dyn yn un man! Gyda hyn dyma swyddog mewn cot las a botymau gloewon yn dod at y drws, gan ddal gefail fechan, tebyg i siswrn, yn ei law, a gofyn am docyn.

"Rwy i wedi rhoi y ticket," ebai Shoni.

"Naddo, naddo; dowch ar unwaith," ebai y dyn, yn ddiamynedd.

"Do, yn wir, y fynyd yma," tystiodd ein harwr, yn gynhyrfus.

"I bwy? 'Does neb ond y fi i fod yn y pen hwn i'r train; felly dim o'ch lol chwi. Policeman, dowch yma," ebai y swyddog, yn groes ac yn benderfynol.

Daeth yr heddgeidwad, a synai weled y bachgen fu mor ofalus o'r baban, yn y fath helynt. Tra yr oedd efe yn sefyll gyda'r Bachan o'r Pant, aeth y casglwr tocynau yn ei flaen trwy y cerbydau ereill. Mynai yr heddgeidwad i'n cyfaill edrych ei logellau, ond taerai hwnw ei fod wedi rhoi ei docyn ac mai ofer fyddai chwilio.

"Fyddwch chwi ddim gwaeth o chwilio tipyn eto; dewch da fachgen; fedra i ddim bod yn gas wrthoch yn awr," ebai gwas y Llywodraeth, yn garedig.

Toddodd hyn galon ein gwron, ac ystwythodd ei ewyllys. Dechreuodd chwilio ei logellau, ac er ei syndod, cafodd o hyd i’r tocyn. Nis gallai gredu ei fysedd na'i lygaid. Chwarddodd yr heddgeidwad, a chydiodd yn y tocyn ac aeth ag ef at y casglydd, yr hwn a'i tociodd ac a'i rhoddodd yn ol gan ddywedyd:

"Dowch yn ol yma yn union, mae y dyn yma yn awr yn ceisio fy ngwneyd i."

Rhoddwyd y tocyn yn ol i Shoni, yr hwn oedd fel un wedi ei syfrdanu, oblegid yr oedd yn barod i dyngu ei fod wedi rhoddi dau docyn i fyny. Aeth yr heddgeidwad yn ol ac ebai y casglwr tocynau wrtho:

"Y mae y dyn yma wedi rhoddi y tocyn hwn i mi: "Aberdare to Cardiff," a cheisio dyweyd ei fod yn meddwl mai hwn gafodd yn Henffordd heddyw! Beth sydd ar y bobl? Yr ydym eisoes chwarter awr yn ddiweddar, a chawn ni mo'r train yma i ffwrdd heddyw fel hyn. Yr wyf yn rhoddi y dyn yma i fyny i chwi, fel un yn ceisio twyllo y cwmni."

Cymerwyd y dyn i'r ddalfa ac i ffwrdd a'r train hebddo. Erbyn hyn, yr oedd y teithwyr yn llanw y ffenestri, ac yn eu plith y Bachan o'r Pant, yr hwn, pan welodd pwy oedd y carcharor, a neidiodd, gan ddywedyd:

"Ar mecws i! dyna'r boy gas y nicat i gynta! Shwd ma hyn yn bod?"


 

 

F7674_shoni-o-r-pant_05-mai-1900_08_pennod-xv

(delwedd F7674) (5 Mai 1900)

Gwelodd y llall Shoni, yr un adeg, a gwylltiodd yn. ofnadwy. Ysgyrnygai ei ddannedd, codai ei ddwrn yn fygythiol, a gwnaeth ruthr am ein harwr, ond yr oedd yr heddgeidwad yn gafael yn rhy dyn yn ei goler iddo allu ymryddhau. Methai y bobl ddeall ei gynddaredd at Shoni, a cheisiai aml i un wthio ei ben allan gan holi beth oedd yr achos.

Yr oedd ein cyfaill yn teithio wrtho ei hun erbyn hyn, ac wedi synfyfyrio yn hir, ebai o'r diwedd: "O, ho! fel na iefa, machan i? Paid ti becso dim. Nawr w i yn diall pethach. Meddwl dwcid y nicat i oit ti, fe wela, a gatal i finna fyn'd i'r cook-shop lle wyt ti myn'd nawr! Ond beth odd y ticat roias i iddo fa? Ond buo'i yn lwcus?"

Gyda hyn edrychodd Shoni ar ei docyn, a darllenodd ef yn ofalus arswydai wrth feddwl y gallasai y foment hono fod yn y ddalfa, a hyny yn mhell oddicartref, heb gar na chyfaill yn agos!

Yr oedd y cnaf a ddaliwyd wedi ffugio mai efe oedd y casglwr tocynau; wedi rhuthro i fewn a chymeryd tocyn ein harwr, ac wedi esgeuluso edrych ar y tocyn a gafodd. Ar yr un pryd, yr oedd y bachgen o Aberdar wedi bod mewn cymaint o ffwdan gyda r baban, ac wedi teimlo yn ei logell, gan estyn y tocyn cyntaf ddaeth i'w law. Trwy ryw ffawd rhoddodd hen docyn, "Aberdar i Gaerdydd." Wrth gwrs, fel un oedd yn teithio llawer ceid hen docynau beunydd yn mhocedi y Bachan o'r Pant. Trwy gydol y gweddill o'r daith y tocyn a'r medal gafodd bron yr oll o'i sylw.

Yn Rhiwabon cafodd gwmni ar y daith. Daeth dau Gymro cynhes, canol-oed, i fewn i'r cerbyd, ac aeth yn ymgom felus ar unwaith. Cydrhwng Cymraeg fflipant Shoni, a Chymraeg llydan y Gogleddwyr, nid gormod yw dyweyd fod gagendor fawr wedi ei gosod. Ac, yn wir, nid rhyw lawer o dramwy fu drosti ychwaith, oblegid yr oedd y Gwyneddigion mor werinol a'r Deheuwyr bob tipyn.

"Ydan ni yn mynad i Gaer," ebai un o'r Gogleddwyr.

"B'le ma hyny?" holai Shoni.

"Wel yn Shir Gaer, fan yma," ebai y llall.

"Yn Shir Gar! Yn y South ma Shir Gar; i chi myn'd o with w!” ebai y Bachan o'r Pant, yn gyflym.

"Na, na; yn tydi hi yn ymyl. Yn Lloegr mae Shir Gaer, yn siwr i chi," dadleuai y llall.

Chwarddai Shoni at anwybodaeth y dyn, ond goleuwyd ef gan y llall, yr hwn a ddywedodd mai i Gaerlleon yr oeddynt yn myned ac nid i Shir Gaerfyrddin, ac yna chwarddodd y tri yn Gymreig ac yn iachus.

"Beth yw hwnco, gwetwch?” gofynai y Deheuwr.

"Be' di 'hwnco'! Wyt ti'n i ddallt o, dywad?" ebai un o'r Gogleddwyr wrth y llall.

"Fedra i wneyd na berfa na throfa ohono fo rwan," oedd yr ateb, ac edrychai y tri ar eu gilydd fel lloi am beth amser.

Dangosodd Shoni y medal iddynt, a cheisiodd ddyweyd y stori am y baban. Yr oedd ein cyfaill mewn hwyl yn adrodd ac yn chwerthin, tra ei gyd-deithwyr yn gwrando fel dau Stoic. Wrth eu gweled felly, ofnodd y Bachan o'r Pant ei fod wedi dyweyd rhywbeth o'i le a'u bod wedi digio. Cofier, yr oedd croen Shoni mor deneu ag eiddo yr un chwanen, ac hawdd iawn oedd ei siomi.

"Ottich chi wedi pwti ne wedi dicio wrtho i am rwpath?" ebai wrthynt, gan edrych yn fyw eu llygaid.

"Digio! Nac ydan yn siwr i chi. Methu'ch dallt chi'n lan ulw 'rydan ni," atebent hwythau.

"Bechgyn budur i chi'r Northmen yma, ta beth," ebai'r gwr o'r South.

"Budr? Budr, ddedsoch chi? Ydach chi'n deud yn bod ni'n fudr?" ebai yr ieuengaf o'r


 

 

F7675_shoni-o-r-pant_05-mai-1900_09_pennod-xv

(delwedd F7675) (5 Mai 1900)



ddau Ogleddwr, gan godi ar ei draed ac edrych yn ffyrnig.

Siomodd Shoni ychydig, obleid deallodd fod rhywbeth o'i le, ac meddai: "Gwed own ni w, y'ch bod chi yn wila yn od.

"Od? Ond tydach chitha yn od, ddylwn i," atebai y llall, gan dawelu i lawr ychydig.

Ar ol hyn teyrnasodd distawrwydd ar y tri am beth amser ond yr oedd dal dig yn beth na fedrai y Bachan o'r Pant wneyd. Hefyd, pan fyddai dyryswch yn ymgodi pwy mor fuan a'n cyfaill i gynllunio ffordd i'w symud? Tarawodd ar gynllun effeithiol y tro hwn. Anerchodd ei gyd-deithwyr yn yr iaith fain, a thrwy fod un ohonynt yn Sais pur dda, deuwyd i ddealltwriaeth yn bur fuan. Esboniwyd ymaith y geiriau dyeithr ar y dechreu a daethant yn hynod gyfeillgar. Yr oedd y ddau Ogleddwr yn adnabod Cynon Jones ac Isafon Lewis yn dda, ac, wrth gwrs, yr oedd y Deheuwr felly a chanddo ddigon o destynau siarad.

Cyrhaeddwyd gorsaf Rhyl, ac aeth Shoni allan, i gerdded ychydig, yn ol ac yn mlaen, nes byddai y tren yn cychwyn, oblegid yr oedd wedi hen flino ar y daith. Ond yn ddiarwybod iddo, cychwynodd y tren. Am eiliad nis gallai gofio yn mha le yr oedd ei gerbyd; yr eiliad nesaf dacw ef yn rhedeg, yn neidio, ac yn ymaflyd yn y dwrs. Yr oedd un o'r swyddogion wedi gorchymyn iddo beidio, ac ymaflodd un ohonynt yn ei goler gan geisio ei dynu i ffwrdd; ond glynu yr oedd Shoni a'r bobl yn y tren ac ar y platform yn dal eu hanadl mewn dychryn. (I'w barhau.)


 

 

F7677_shoni-o-r-pant_12-mai-1900_01_pennod-xvi

(delwedd F7677) (12 Mai 1900)

12 Mai 1900

XVI SHONI O'R PANT: (UN O ENWOGION ABERDAR.) Gan IF AN BRYNDU.

PENNOD XVI. - DIWEDDGLO

Wrth weled nad oedd Shoni yn argoeli gollwng ei afael, ac fod y train yn prysur adael y platfform, gollyngodd y swyddog Shoni, ac i fewn a'n harwr i'r cerbyd, fel un wedi enill buddugoliaeth. Cafodd, er hyny, fraw rhyfedd, a churai ei galon yn gyflym, tra yr oedd y chwys yn llifo drosto. Ond sut y byddai pan arosai y train? Dyna’r cwestiwn oedd yn dechreu pwyso ar ei feddwl erbyn hyn.

Ni safodd mwyach hyd nes cyrhaedd Llandudno Junction, lle yr oedd ein gwron i ddisgyn, a lle y disgwyliai gyfarfod a Mr Isafon Lewis.
Gyda bod y train yn aros, i lawr ag ef, ac allan i ganol y bobl. Yn mhen eiliad, wele heddgeidwad ac un arall yn chwilio trwy bob cerbyd.

"I hwn yr aeth i fewn, rwy'n sicr," ebai y guard, gan dafiu golwg i blith y bohl, lle yr oedd Shoni yn ysgwyd llaw yn gynhes gyda'r Parch Isafon. Lewis.

"Yr ydych yn sicr o fod yn camsynied," ebai y policeman, "oblegid yr oeddwn i yn sefyll yn y fan yma, ac ni ddaeth neb allan oddiyma, ond boneddwr a chot oleu am dano, a spectol ar ei lygaid."

"Nage, nage, nid hwnw ydyw; rhaid ei fod wedi dianc rhwng ein dwylaw. Rwy'n sicr mai creadur cyflym, cryf ydyw. Beth pe buasech yn ei weled yn neidio ar y train yn Rhyl, ac yn ysgwyd y llanc hwnw i ffwrdd! Yr oedd tie goch ganddo. Byddiaf yn sicr o'i adnabod," ebai y guard.

"Dewch ma's ar unwaith odd'yma, Mr Lewis," sibrydai Shoni wrth ei gyfaill y peth cyntaf.


"Wel, John bach, beth sydd yn bod? Wyddoch chi, fuaswn i byth yn eich adnabod. Beth yw y spectol yna sydd genych, a pha le mae eich tie?" holai y gweinidog.

Cyn gynted ag yr aethant y tuallan i'r dorf, adroddodd ein gwron ei brofedigaethau. Yn Rhyl, cap teithio bychan oedd ar ei ben. Pan ddeallodd y byddent yn debyg o fod yn chwilio am dano, gosododd hwnw yn ei logell, a gwisgodd ei het. Tynodd y tie goch oddiam ei wddf, a gosododd ef gyda'r cap, a gwisgodd y got oleu ysgafn oedd ganddo. Yn olaf, cofiodd fod Cynon Jones wedi gofyn ganddo ddod a gwydrau gleision Isafon Lewis gydag ef, a gyda hyny gosododd hwy ar ei lygaid.
Yr oedd Isafon wedi eu gadael ar ol yn Aberdar.

Yr oedd y Bachan o'r Pant wedi ei Iwyr gyfnewid. Beth ddywedai Lucy, neu Sam Mishdir Haliars, neu Cynon Jones, pe cawsent weled ein harwr a spectol las ar ei lygaid? Chwarddodd Mr Lewis allan pan ddeallodd sut yr oedd pethau yn sefyll; ond bu Shoni yn bur hir cyn boddloni tynu y gwydrau, a phallodd yn lan a gwisgo lle y tie goch ar ol hyny, cyhyd ag y bu yn y Gogledd.

Yr oedd golwg lwynogaidd ar Shoni pan yn myned i'r train am Ffestiniog. Teimlai fel buasai pob swyddog neu heddgeidwad ddeuai yn agos ato, ar fedr ei gipio ef ymaith. Edrychai yn hynod amheus ar y casglwr tocynau. Er hyny, sugnai lawer o gysur o gymdeithas Mr Isafon Lewis.

Cyrhaeddwyd Ffestiniog heb lawer o helynt, ond fod y gweinidog wedi chwerthin nes bod ei ochrau yn boenus, wrth glywed hanes helyntion Shoni; ac yn neillduol am ei waith yn rhoddi y




 

 

F7678_shoni-o-r-pant_12-mai-1900_02_pennod-xvi

(delwedd F7678) (12 Mai 1900)

botel i’r baban. Rhyngoch chwi a minnau, yr oedd iaith
a brwdaniaeth Shoni yn elfen bwysig yn nifyrwch Isafon Lewis.

"O," meddai wrtho'i hun, "sut bydd hi pan fydd fy nghyfaill yn adrodd ei hanes wrth bobl Ffestiniog, bron yn union?"

Cyflwynwyd y boneddwr o'r Deheudir i wraig y ty lle lletyai Mr Lewis, yr hon oedd yn wreigan fechan, serchog, lanwaith, a siaradus dros ben.

"Ydach chi yn o iach, syr?" gofynai Mrs Peters.

"Ottw net, thenciw; shwd i chi?" ateibai Shoni.

"Be' ddeudodd o, Mistar Lewis?" holai y wraig.

"O, dyweyd ei fod yn iach, ac yn gofyn am eich iechyd chwithau, Mrs Peters," ebai y gweinidog.

"O, ydw, syr; diolch i'r Tad gora, ynte; ydw, ond fod y riwmitis a'r brontitis wrtha’i ar adega, ynte. Be' gym'wch chi i fwyta, Mr Lewis?" holai Mrs Peters.

"Wn i ddim; beth sydd genych, Mrs Peters?" atebai Isafon, a chan droi at ei gyfaill, meddai yn gellweirus: "Garech chwi gael lobster, Mr Thomas?"

"Gadewch i yn y man 'na, nawr, Mr Lewis; ne fi fydda i yn siwr o ga'l 'y merfedd nol yto," ebai y Bachan o'r Pant, gan gofio am y pryd o fwyd bythgofiadwy hwnw yn Switzerland.

"Tipyn o ham cartre', ynte?" holai y gweinidog, igyda gwen ddireidus.

"la, dyna fe'n ffamws," oedd yr ateb parod.

"Be' fynwch chi efo fo: te, coca, ynte coffi, rwan?" holai y wraig yn mhellach.

"Dishgled o de,” meddai Shoni.

"O'r goreu, dishgled o de, Mrs Peters, a golwyth o ham," ebai Isafon.

Agorodd y wraig fach ei dau lygad led y pen gan ddyweyd, wrth fyned at ei merch i'r gegin: "Jane, mae’r llanc diarth yna eisho disglad o de!
Glywast ti ffashwn beth oriod? Be' na i, dywad? Dos geni 'run ddysgl i osod te ynthi ar f'elw. Pa'm na neith cwpan y tro iddo, dywad? Sut bydda nhw yn gneud te yn y South ene, dywad?"

Galwyd y gweinidog i'r gegin, ac ebai gwraig y ty yn llawn ffwdan: "Fath ddysgl ydach chi eisho, Mr Lewis?"

"Mrs Peters bach, dysgl fyddan' nhw yn galw cwpan yn y South.
Am gael cwpanaid o de y mae o," esboniai Isafon.

"Glywsoch chi fath. gabolfa 'rioed? Ond dysgl ydi dysgl, a chwpan ydi cwpan! Be' ma nhw yn 'i bonsho tua'r South acw, Mr Lewis? Os mynan' nhw alw cwpan yn ddysgl, pa enw sydd gynyn nhw ar ddysgl, deudwch?" ebai Mrs Peters yn rhigl ac yn ddoniol.

Methai Isafon a chofio, ond pan ddygwyd y bwyd i fewn, gofynodd i Shoni, yn nghlyw Mrs Peters, fel y canlyn:

"Mr Thomas, beth fyddwch chwi yn alw y Ilestr yma a'r golwyth ham arno?"

"Golwyth?" ebai y Bachan o’r Pant, yn syn: "'beth yw hwnw, Mr Lewis?"

"Wel, beth fyddwch chi yn ddyweyd am gig wedi ei dori fel yna?" gofynai Isafon, gan gyfeirio at y cig.

"Sleishan o ham, wrth gwrs, dyna beth yw a yn Gymraeg," atebai Shoni gan wenu.

"Beth yw hon, ynte?" holai y gweinidog.

"Wel, am dwplar yw i w, syr" meddai ein gwron, gan synu at anwybodaeth y gwr dysgedig.

Mawr y difyrwch gafodd Mrs Peters am ben Shoni, a mawr yr hwyl gafodd yntau am ben gwraig y ty.

"Ma hi yn boddran ac yn potshach fel Frenchman, ag w i yn diall dim byd ma hi yn weud," obai ein gwron.


 

 

F7679_shoni-o-r-pant_12-mai-1900_03_pennod-xvi

(delwedd F7679) (12 Mai 1900)

"Be' andros sy' gynof fo, yn tydi o fel Gwyddal. Sut na bysa potbol y South ene yn dysgu siarad Cymraeg, deudwch, Mr Lewis?" holai Mrs Peters.

Cydrhwng y ddwy blaid, yr oedd Isafon mewn lle doniol. Yr oedd rhyw gamddealltwriaeth yn codi, ac angen am dano yntau i wastadhau pethau, ac i gyfieithu rhwng gwraig y ty a'r ymwelydd newydd. Ond un diwrnod, aeth pethau yn bur ddrwg. Cyfarfyddodd Shoni Mrs Peters rhyw ganllath oddiwrth y ty, ac ebai hi: "Wyddoch chi lle mae Mr Lewis?"

"Mae a yn nhre’,”atebai Shoni.

"Mr Lewis, yn y dref? Mae galwad amdano ar unwaith. Tybad lle caf fi o hyd iddo?" ebai hithau yn syn, ac yn ol a hi i lawr yr ystryd.

Yn mhen amser dychwelodd, a chafodd y gweinidog gartref.

"Fuoch chi yn y dre', Mr Lewis?" gofynai yn llym.

"Na, fu'm i ddim o'r ty, Mrs Peters. Pa'm?" atebai y gweinidog.

"Ydi'r gwr diarth yma yn fy ngwawdio fi, dedwch? Och yn 'i galon o. Y fynyd yma, dedodd o y' ch bod chi yn y dre',” ebai hithau yn gynhyrfus.

"Ddywedsoch chwi, Mr Thomas, mod i wedi myned i'r dref?" gofynai Isafon i Shoni.

"Naddo i, yn y wir i, Mr Lewis. Fi wetas y'ch bod chi yn y ty,” atebai y llall.

"Taw a dy glwdda," ebai Mrs Peters, yn boeth, pan ddeallodd fod Shoni yn gwadu.

Cafodd Isafon Lewis lawer o waith cyflafareddu ar ol y tro hwn, ac nid oedd Shoni heb fod ag ychydig o ofn Mrs Peters byth er hyny.

Dyna'r tro hwnw y cafodd wningen wedi ei berwi yn botes i'w ginio, yr oedd yn rhy ofnus i egluro y camsynied dybryd a wnaeth.

Wedi bod yn teithio allan trwy y boreu, daeth ein gwron a'r gweinidog i ginio, a theimlai y ddau awch at fwyd. Gwyddis am Shoni nad oedd dyn yn y wlad fedrai fwynhau pryd o fwyd yn well nag ef. Ac os oedd Mrs Peters yn rhagori mewn rhywbeth neillduol, rhagorai fel cogyddes. Nid oedd well bwrdd yn Mlaenau Ffestiniog, na bwyd mwy blasus ychwaith.

Rhoddwyd yn helaeth i Shoni o'r wningen, a'r stew, a'r tatws, oeddynt wedi eu malu, a'u ystwytho ag ymenyn. Yr oedd yn bleser gweled y Bachan o'r Pant yn cuddio y bwyd. Pan yr oedd ar orphen, gydag ond ychydig gig ar y plat, gofynodd Mrs Peters iddo, os carai gael ychwaneg o'r hash. Credodd ein cyfaill mai cynnyg tatws iddo yr ydoedd, a dywedodd y buasai yn cymeryd ychydig ohonynt. Er ei syndod, hanner llanwodd y wraig fechan ei blat a chig a photes! Ni wyddai Shoni beth i'w ddyweyd na'i wneyd. Yr oedd wedi bwyta yn helaeth yn barod, a charasai orphen ar hyny. Ond ofnai yn ei galon ddeffroi llid Mrs Peters eto. Nid oedd dim am dani ond cymeryd ychwaneg o datws, ac ailymosod ar y gwaith o fwyta. Ar ol hyny, dyna'r pwdin reis, druan o'n cyfaill, hiraethai am Aberdar trwy ei galon erbyn hyn.

Ond fel pob gofid arall, daeth hwnw eto i ben, gan roddi lle i lawenydd.

Yr oedd yn mwriad y Bachan o'r Pant gael golwg ar y Wyddfa, a chytunodd Isafon Lewis, ac yntau, a mab amaethdy y Llwyngwyn, fyned i'w phen gyda'u gilydd. Cyn cychwyn, gwahoddlwyd y gweinidog a'i gyfaill i gael cwpanaid o de i Lwyngwyn. Can fod Mr Lewis yn bwriadu galw i weled rhai o'i gleifion wrth fyned, cerddodd Shoni ran o'r ffordd ei hun. Er mwyn bod yn sicr, ymofynodd a gwreigan a gyfarfyddodd:

"Shwd ma myn'd i dy Mr Morris, Llwyngwyn, ys gwelwch yn dda?"

"Llwyngwyn, syr? Ewch i fyny efo'r gwrych acw; trowch ar y ddeche, dros y gafna; mae’r


 

 

F7680_shoni-o-r-pant_12-mai-1900_04_pennod-xvi

(delwedd F7680) (12 Mai 1900)

ty yn y llwyn fan acw," atebai hithau yn gyflym.

"Beth i'ch chi'n foddran, fenyw?" gofynai ein harwr yn hurt. "Ty yn y llwyn! Nid wilo am nythod atar w i!"

"Welwch chi'r gwrych acw, syr?" ebai y ddynes eilwaith, yn awyddus i'w gyfarwyddo. "Na wela i, na mochyn chwaith," atebai Shoni yn swrth, a gyda hyny dechreuodd ar ei hoff gynllun a syrthio yn ol ar y Saesneg, ond ych ydig fedrai y llall ar yr iaith hono; felly, gorfu iddynt ymadael heb fod fawr callach ill dau. Er ei gysur, gwelodd ein harwr ei gyfaill yn dod i fyny y ffordd, ac yna gwyddai fod y cyfan yn iawn. Ond ceisiodd adrodd am anwybodaeth yr hon fu yn ceisio ei gyfeirio.

"O'dd hi'n gofyn," ebai Shoni, "os own i yn gwel'd rhyw wrych, ac am i n fyn'd dros ben cafan, a bod y ty yn y llwyn! Glywsoch chi shwd glebar ariod? O'wn ni'n wilo am dwlc mochyn ne rwpath."

"Ho, ho, Mr Thomas bach," esboniai Isafon, gan guro a'i ffon, "dyma beth yw gwrych yn y Gogledd yma - perth."

"Beth yw cafan, 'ta?" holai y Deheuwr yn llawn cywreinrwydd.

"Dyma hi; camfa, neu gafna, fel y dywed rhai pobl. Beth fyddwch chwi yn galw peth fel hyn yn y South, Mr Thomas?" atebai y gweinidog.

"Wel, sticil, wrth gwrs," oedd geiriau parod y Bachan a'r Pant, yr hwn a synai fod neb yn meddwl galw dim arall ar y fath beth.

Cyrhaeddwyd y Llwyngwyn, a phasiwyd y prydnawn yn ddedwydd yno. Gyda llaw, dydd Sadwrn ydoedd, a'r noson hono, yr oedd y cyntaf o gyngherddau nos Sadwrn Isafon Lewis i gael ei gynnal. Nid bychan oedd y disgwyliad wrth y "canwr enwog o Aberdar" yn mhlith pobl Blaenau Ffestiniog, oblegid yr oedd Isafon wedi rhwystro Shoni i ganu o gwbl mewn cwmni yno, ac eithro ychydig ar "ganeuon cwn hela" yn y ty, i glyw Mrs Peters, a Jane, ac yntau. Ni wyddai y wraig fechan beth i wneyd o'r cantwr diarth weithiau, tystiai ei fod wedi gwirioni, ac y dylid ei gymeryd yn syth i Ddinbych bryd arall, hanner farna ei fod yn un o ddynion mwyaf dawnus y byd, ond ei bod hi "yn mishio yn lan ulw gyrbibion a dallt yr un gair a ddeuai o'i safn o."

Aeth Isafon a Shoni i'r cyfarfod. Yr oedd yno ystafell eang, brydferth, a chwmni parchus, trwsiadus. Teimlodd y Bachan o’r Pant yn bur fuan fod yr awyr yn drymaidd ac yn fygythiol iddo ef. "O," ochneidiai ynddo ei hun, "na all'swn i drwpo doi gwrdd, a bod gyda'r boys yn 'Berdar, yn lle yn yr hen ddwnjwn tywyll hyn." Gellir gweled mai braidd yn isel yspryd oedd ein harwr.

Dechreuodd y gyngherdd, ac aeth pethau yn mlaen yn ddigon deheuig ar un olwg; ond o'r tu arall, yr oedd pobpeth o'i le.
Bobol y capeli oedd yno i gyd, ac nid pobol y tafarnau. Yr oedd y cyfan yn cael ei ddwyn yn mlaen yn ol y drefn fanylaf. Er fod yno gantorion ac adroddwyr da, a chlapio ac encore digon ffasiynol, nid oedd yno ddim o'r peth hwnw a eilw y Ffrancwr yn abandon—y bywyd nwyfus, ysmala, direidus, diniwed hwnw sydd a'i holl annhrefn yn drefn i gyd yn y diwedd. Yr oedd yw rhy debyg i gyngherddau cyffredin ereill. Ys dywedai Shoni: "Yr odd pob un yn llawn starch i gyd, fel'sa pawb o'dd yno yn 'wyr mawr' i gyd."

Galwyd ar y Bachan o'r Pant i ganu. Pan ddaeth i'r llwyfan, gofynodd y chwareuwr iddo os oedd ganddo ddau gopi.

“Doi?” ebi Shoni, “nag os gen i ddim un.”

"Fedra i ddim chwareu i chwi heb gopi," ebai’r pianydd.

“Dos dim isha i chi wara i fi," ebai y Bachan


 

 

F7681_shoni-o-r-pant_12-mai-1900_05_pennod-xvi
(delwedd F7681) (12 Mai 1900)

o'r Pant, gan ymollwng i'r "Gan o Glod i Helgwn Bedlinog." Edrychai y chwareuwr a'r cerddorion ereill oedd yno yn ddigrifol ac yn wawdus ar eu gilydd, wrth wrando ar nodau rhyfedd ac iaith rhyfeddach Shoni. Ymollyngodd ereill i chwerthin ac i chwerthin yn ddireol a dilywodraeth. Daliodd Shoni ati fel cawr, nes o'r diwedd i'w lais gael ei lwyr foddi gan y chwerthin, ac nas gallai neb ddyweyd ei fod yn canu o gwbl, oni buasai fod ei geg yn symud o hyd. Trwy y cyfan, edrychai mor ddifrifol a delw bren. O'r diwedd, aeth y bobl i waeddi allan, ac i ledorwedd ar drawsiau eu gilydd; a throdd Shoni olwg drist at Mr Isafon Lewis, y cadeirydd. Er ei drallod, yr oedd hwnw yn ymnyddu yn y gadair, yn gwasgu ei ddwylaw ar ei ochrau, gyda’r dagrau yn rhedeg dros ei ruddiau yn ddiattal. Aeth ein harwr at y cadeirydd, a gofynodd yn hollol ddifrifol:

"Beth sydd ora i fi neud, Mr Lewis, canu bant ne stoppo?"

"O, ho ho! ha, ha, ha; ha, ha, ha,! O, ho, ho!" oedd yr unig ateb allodd y cadeirydd roi iddo; ac ar hyny, trodd Shoni yn drist ac yn siomedig, gan eistedd ar y gadair, wrth ochr y cadeirydd, fel delw. Yno y bu am beth amser yn syllu ar y gynnulleidfa, a'r gynnulleidfa arno yntau.

Methwyd gwneyd dim yn mhellach yn y cyngherdd y noson hono, a chychwynodd Shoni i dy Mrs Peters wrtho ei hun, mewn tymher hytrach yn ddrwg. Nid peth bychan i ddyn o safle ac enwogrwydd y Bachan o'r Pant yn Aberdar gael y fath dderbyniad yn Mlaenau Ffestiniog. Mae'n wir nad oedd Shoni wedi astudio fawr ar gerddoriaeth fel gwyddor nac fel celfyddyd, ond am "Gan Cwn Hela," yr oedd i fyny unrhyw ddiwrnod a hyd yn nod Jim y Cantwr ei hun.

Canlynwyd ein cyfaill allan gan y Parch Isafon Lewis. Cerddasant i'r ty heb siarad gair, ond wedi myned i fewn, syrthiodd y gweinidog ar yr esmwythfainc, ac ymollyngodd i chwerthin yn ddireol o'r newydd. Wrth edrych arno, cododd tymher Shoni, ac ebai yn fygythiol:

"Beth sydd arnoch chi'r ffwl? Oti'ch chi’n werthin am 'y mhen i, gwetwch?"

Sobrodd hyn ychydig ar Isafon, a cheisiodd ddwyn ein harwr i well hwyl, ond gydag ychydig iawn o lwyddiant.

Gyda hyn, clywid curo ar y drws, agorwyd ef, a chafwyd fod yno frysneges i Mr John Thomas, yn ei hysbysu fod Sam Mishdir Haliars yn wael ei iechyd, ac fod eisieu i'r Bachan o'r Pant fyned gartref ar unwaith i gymeryd ei le fel Mishdir Haliars, hyd nes y byddai wedi gwella.

Er fod yn ofidus ganddo glywed am Sam, yr oedd y newydd yn felusach na'r mel i'w galon. Hiraethai am "Sweet 'Byrdar" er's dyddiau, ond wedi'r methiant ofnadwy yn y cyngherdd, goreu po gyntaf ganddo y cawsai droi ei gefn ar y Gogledd.

Er cymaint y ceisiodd y gweinidog ganddo aros hyd ddydd Mawrth, fel y gallont fyned i ben y Wyddfa, a gweled y lleoedd cylchynol, nid oedd dim yn tycio. Wedi gwneyd yn anrhydeddus tuagat Mrs Peters a Jane, cychwynodd boreu Sul mewn cerbyd i gyfarfod y train, fel y gallasai gyrhaedd Aberdar yn gynnar ddydd Llun.

Nid yw y pennodau hyn ond ychydig o ddigwyddiadau o lawer yn hanes ein gwrthddrych. Gwaith rhwydd fuasai ysgrifenu cyfrol drwchus am dano. Hyderwn, er hyny, y gweina yr uchod i roddi i'r byd syniad cymharol gywir am berson ac hanes y gwr rhyfedd hwn. Felly, am y tro, cymerwn eich cenad, gan daflu ar drugareddi y dysgedig hyn o hanes bywyd a theithiau yr enwog Shoni o'r Pant. [DIWEDD.]

 
.....
 
Sumbolau:

a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRONː ā Ā / ǣ Ǣ / ē Ē /
ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /
MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIGː Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIGː Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISODː A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREFː ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236ː  B5237ː B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISODː i̯, u̯
CROMFACHAUː
  deiamwnt
A’I PHEN I LAWRː , ә, ɐ (u+0250) httpsː //text-symbols.com/upside-down/

ˈ ɑ ɑˑ aˑ aː / æ æː / e eˑeː / ɛ ɛː / ɪ iˑ iː / ɔ oˑ oː / ʊ uˑ uː / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˈ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / £
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẃ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ Hungarumlautː
A̋ a̋

U+1EA0 Ạ   U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ   U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị   U+1ECB ị
U+1ECC Ọ   U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ   U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ   U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ   U+1EF5 ỵ
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith
δ δ £ gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £ U+2020 †

« »

DAGGER
wikipedia, scriptsource. org

httpsː []//en.wiktionary.org/wiki/ǣ

Hwngarwmlawtː A̋ a̋
gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ
…..
…..
ʌ ag acen ddyrchafedig / ʌ with acute accentː ʌ́

Ə́ ə́

Shwa ag acen ddyrchafedig / Schwa with acute

…..
…..
wikipedia,
scriptsource.[]org
httpsː//[]en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------
Y TUDALEN HWN: www. []kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_117_sioni-or-pant_0218k.html
---------------------------------------
Creuwyd: 28-06-2017

Adolygiad diweddaraf: 10-09-2019, 28-06-2017
Ffynhonnell: Newyddiaduron Arlein Llyfrgell Genedlaethol Cymru

________________________

1/ Papur Pawb. 10 Mawrth 1900. Rhannau I, II.
http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3592356/3592364
.....
2/ Papur Pawb. 17 Mawrth 1900. Rhan III.
http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3592373/3592381
.....
3/ Papur Pawb 24 Mawrth 1900. Rhan IV
http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/359239O/35924O1
.....
4/ Papur Pawb. 31 Mawrth 1900. Rhannau V, VI.
http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/35924O7/3592415
.....
5/ Papur Pawb. 7 Ebrill 1900. Rhannau VII, VIII.
http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3592424/3592435
.....
6/ Papur Pawb. 14 Ebrill 1900. Rhannau VIII, IX.
http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3592441/359245O
.....
7/ Papur Pawb. 21 Ebrill 1900. Rhannau X, XI.
http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3592458/3592468
.....
8/ Papur Pawb. 28 Ebrill 1900. Rhannau XII, XIII.
http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3592475/3592485
.....
9/ Papur Pawb. 5 Mai 1900. Rhannau XIV, XV.
http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3592492/35925OO
.....
10/ Papur Pawb. 12 Mai 1900. Rhan XVI.
http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/35925O9/3592515

---------------------------------------

Freefind.

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
---
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE

Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?

 

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I?
You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait


Adran y Wenhwyseg / Secció del dialecte de Gwent / Gwentian Welsh
Gwelediadau ar y tudalennau / Vistes de les pàgines / Page Views
Web Analytics Made Easy -
StatCounter

Edrychwch ar ein Hystadegau / Mireu les nostres Estadístiques / View Our Stats