kimkat3020k Gwas O War Llandeilo. Nofel yn nhafodiaith parthau Llandeilo gan yr awdur Cynwal a ymddangosodd mewn rhannau yn y newyddiadur Papur Pawb, Hydref 1897-Ionawr 1898.

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_102_gwas-o-war-llandeilo_1897_3020k.htm

kimkat0001 Home Page / Yr Hafan. www.kimkat.org
kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg. www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
kimkat0960k Rhestr ofr Testunau Cymraeg yn y Wefan Hon. kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_mynegai_0960k.htm
Y tudalen hwn


..







 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
 
Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

Gwas O War Llandeilo
Awdur: Cynwal

Fersiwn mewn print electronaidd o
nofel yn nhafodiaith Llandeilo a ymddangosodd mewn pymtheg o rannau yn y newyddiadur Papur Pawb (1897, 1898)
 

 


(delwedd 0729)

...

 

(delwedd 4229) Cliciwch ar y ddolen-gyswllt isod i dddlwythofr nofel yn ei diwyg gwreiddiol ar ffurf fformat dogfen gludadwy (FDG, neu PDF yn ôl y blaenlythreniad Saesneg)

www.kimkat.org/amryw/1_testunau/170307_gwas-o-war-llandeilo_PDF_170315_22-20.pdf

...

 

(delwedd 4421) Hysbyseb yn y Cardiff Times am gynnwys Papur Pawb.

Mae sôn am eWas o War Llandeilof (a fyddai yn ymddangos yr wythnos ganlynol.)

 

....

 

 

Rŷn ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol

Rhan I / Pethau Amgylchiadol / 16 Hydref 1897
Rhan II / Amgylchiadau Teuluaidd / 23 Hydref 1897
Rhan III / Dechrau Ar Fy Ngwasanaeth / 30 Hydref 1897
Rhan IV / Y Frecwast Gyntaf / 6 Tachwedd 1897
Rhan V / Gweithred Anghyfreithlon / 13 Tachwedd 1897
Rhan VI / Mishtir A Mishtres / 20 Tachwedd 1897
Rhan VII / Yr Euog Yn Ffol / 27 Tachwedd 1897
Rhan VIII / Troi Dalen Newydd / 4 Rhagfyr 1897
Rhan IX / Mewn Twymyn / 11 Rhagfyr 1897
Rhan X / Y Gwas Newyf / 18 Rhagfyr 1897
Rhan XI / Gofidie Caru / 25 Rhagfyr 1897
Rhan XII / Dafyf A Mari / 1 Ionawr 1898
Rhan XIII / Yn Was Priodas / 8 Ionawr 1898
Rhan XIV / Crasfa! / 15 Ionawr 1898
Rhan XV / Gadel Y fLad Am Y Gweithe / 22 Ionawr 1898

(delwedd 4289)

............................
Papur Pawb / 16 Hydref 1897.

GWAS O WAR LLANDEILO. I. PETHAU AMGYLCHIADOL.

Anwil Mishtir Golygydd, - Yr odw i yn caul difershwn fowr, ac adeladeth fowr iown hefyd, wrth ddarllen eich papur, achan, yn enwedig wrth ddarllen haneson dynon sy wedi scyrfenu 'u hanes 'u hunen, fel bydde Shoni Hoi, Silly Bili, afr crwt hyny'n gneud, widdoch.

Yr odw i yn clowed swn y gwirionedd yn eu haneson nhwy. Ond pwy ryfedd!, achan! Y nhwy eu hunen oudd yn gwbod beth oudde nhwy, a nhwy oudd yn scyrfenu, ac felly, achan, nhwy 'u hunen allse scyrfenu ore. Eto, yr odw i yn credu hyn hefyd, achan, y dyle pob dyn scyrfenu 'i hanes 'i hunan I rhwy papur, er mwyn i ddynon erill mwn gwledydd erill gaul gwbod shwt rai y'n nhwy, yn lle bod dynoni erill yn gorffod gneud hyny wedi iddyn nhwy farw, ac wrth neud, yn scyrfenu lot o gelwidde rhy ddynjerus iddi credu.

Wrth styried pethe felna, a phethe erill, yr odw i wedi penderfynu scyrfenu hanes 'y mowyd yn hunan, achan, afi hala fe i chi, i chi gaul i gouddi e' yn "Papur Pawb," os byddwch chi gystlad a gneud hyny.

Wel, ta pun ne' couddwch chi e' ne beido, achan, yr w i wedi penderfynu 'i scyrfenu ef; ac fe gewch chi wel'd eto y bydd efn hanes go daliedd erbyn dibeno i ag ac ef, ac fe fydd ddigon o ddynon erill yn falch iddi gaul e iddi papure nhwy.

Wel, beth byna am hyny, yr odw ifn rhoi'r cynyg cynta arno i chi, achan, ta beth, achos yr w i'n ych gwel'd chi wedi rhoi cefnogeth fowr i'r rhai sy wedi scyrfenu hanes 'u bowyd o mla'n i, ac achos yr w i n credu na fyddwch chi ddim yn ots i fine, all dyn taliedd byth fod yn annhaliedd, widdoch.

Dyna fi nawr wedi gneud digon o ragymadrod [sic] gwela i felly, dyma fi'n mynfd i ddechre gweud wrthoch chi pwy a pheth odw i, ynte? Ganwyd fi ar y ddouddegfed o Fowrth yn y flwyddyn _________. Wel, na weda i ddim pwy flwyddyn, achan, lle bod chifn fi gouddi e'; ta chifn 'i gouddi e', wyddoch, mi fyddefr merched yn dwad i wbod y'n oudran ifn gowir, a dw i ddim am iddyn' nhwy gaul gwbod hyny, achos dw i ddim wedi priodi eto.

Dodw i ddim yn gwadu a gweud celwidde am yfn oudran, fel maufn nhwy yn iwso gneud, trwy weud ta ugen y'n nhwy pan bo nhwy'n ddeg ar ugen, o ta pump ar ugen y'n nhwy pan bo nhwy'm ddougen.

Na, achan, mau'n well gen i beidio gweud celwidde am yfn oudran, na myn'd i olchi rhwy lot fowr o gelwidde beiti ddo. Wel, yn Bryngwndwn Bach, bid fyno, y ganed a magedi fi, nes own ifn grwt diogel. Lle bach i gadw dwy fuwch yw Bryngwndwn Bach, syfn ffinio a Bryngwndwn Mowr, ar lan Towy, o w'ar Landeilo, ac yn caul ei gadw er cyn cof gen i gen Nwncwl John a Nanti Liza.

Mau Bryngwndwn Mowr yn fferem fowr iawn, yn ddigon o le i gadw dounaw buwch o wartheg, a pobpeth arall yn atebol i hyny. Mau rhai hen bobol ffor' hyn yn gweud fod Bryngwndwn Bach wedi bod, ys blynydde mowr iawn yn ol, yn agos cwmint o le a Bryngwndwn Mowr, ond i fishtir y tir ddodi tir Bryngwndwn Bach bron i gyd at Bryngwndwn Mowr, o ddialedd at y dyn oudd yni byw yno'r amser hyny, am na byse fe yn voto dros iddi fishtir gaul myn'd i'r Senedd.

Wel, dwn i ddim pun ne wir ne gelwidd yw 'yna, achan; fi glowed e' netho i, ac roudd e' wedi digwidd flynydde mowr iawn cyn 'y ngeni i, os yw ef gwir.

Ta pun ne gwir ne gelwidd yw e', achan, fi weda i hyn – roudd bai mowr sobor ar y ffarmwr hyny na fyse fe yn voto dros 'i fishtir gaul myn'd i'r Senedd, a fynte'n caul byw miwn fferem felyn o dano. Oudd e' ddim, medde chi?

Oudd weda i, a dw ifn hidio dim ffeuen pwy ddigio wrtho i am 'ny.

Wel, ys gwedes i gyne, mau blynydde mowr iawn odd'ar hyny, ac mau'r ffarmwr a'r mishtir hyny wedi myn'd i ffordd yr holl ddeuar ych dou, afu plant ar 'u gol nhwy hefyd.

Un ferch oudd gen y mishtir hyny, medd nhwy, ac fe1 briododd hono a gwr bonheddig mowr o Louger o'r enw Scweier Langraber; mab iddi nhwy, mau'n debyg yw'r scweier presennol. Gwr bonheddig neis yw e' hefyd; dyw efn busneso dim yn fusnes y deiladon at all; mau e'n gadel rhwng 'i stiwart a nhwy, mau ef wrth 'i ddeleit stil gyda' i gwn hela, ne i gyffyle rhasis, ne yn pysgota: a dyw ef nemor byth iddi wel'd ond gyda rhwybeth felna.

O! ie, wirione, gwr bonheddig reual short yw'r scweier. Amser own i'n was yn Bryngwndwn Mowr, yr odw i'n cofio iddo ddowod yno unweth i hela; ac wedi iddo fe gered dros y tir i gyd, fe ddoeth i'r ty gyda Mishtir Lewis i gaul tamed o fwyd; ac wrth fadel, fe roddodd bobo gysani mishtres, Miss Maggie a Miss Jane, a phobo swllt i Master Willie, a Master Tom, a fe ysgydwodd law a mishtir, a chododd ef ddim yn y rhent hefyd wed'yn ar ol hyny.

Dyna chi, nid pob un neise 'yna, achan. Wel, i ddowad yn nes gadre eto, fel y gwedes i o'r blafn, yn Bryngwndwn Bach y ganed ac y maged fi; ond fe fu amgylchiade fy nghenedigeth yn ddirgelwch i mi, am flynydde mowr, ac felly cafnt fod i chithe, achan, am y presennol. Magwyd fi gan Nwncwl John a Nanti Liza, ac yr ouddwn wedi tyfu fynyfn grwt diogel cyn i fi wbod dim nad data a mam ouddent; ond data a mami w i'n galw nhwy eto stil, widdoch, achos arfer.

Pan yn grwt beiti sath mlwydd oud ces i wbod gynta pwy oudd mami, ond ches i ddim gwbod amser wed'yn pwy oudd data; a phob tro byswn i'n gofyn i nanti pwy oudd ef, yr ateb gewn i fydde, "Rhwun digon drwg yw e, a rhwun na chaiff e' ddim marw fel dyn arall yw e' hefyd." Fydde dim iws i fi holi dim rhagor na hyna byth, achos roudd hi'n myn'd yn grac ma's o natur wrth son am dano.

Fe fu farw fy mami dreuan ar 'y ngenedigeth i, a dyna ffor' ces i 'y magu gen nwncwl a nanti.

Yr oedd mami a nanti yn ddwy whar. Yr oedd Nwncwl John wed'yn yn gender iddi nhwy; yr oudden nhwy yn blant y ddou – mami a nanti 'yn ferched i John Jones, a nwncwl, ynte, yn fab i Thomas Jones.

Fy enw bedydd i yw John Jones; fi geso i y'n nodi felny i gaul bod, run enw a nacu data a mami, widdoch.

Yr oeddwn i slower dydd yn falch sobor ar yr enw hefyd, oblegid rown i'n y ngwel'd i run enw a nacu a nwncwl, John Jones, Jones y Lion, Jones Ca'r Defed, Jones y fffeirad, a Jones gweinidog Capel Ca' Pant, ac amryw erill o ddynon mowr allwn i enwi.

Yr oeddwn i'n credu, flynydde mowr yn ol, mod i'n lwcus iawn fod shwd enw wedi ddodi arna i; ne, yn hytrach, fod rhwy lwc fowr yn dilyn yr enw yna, ac mai dyna'r achos fod cwmint yn galw'u hunen yn John Jones. Dw i ddim yn credu pethe felna nawr, a dw i hefyd ddim yn folon ta John Jones mau neb yn y ngalw i; gwell gen i i bobun 'y ngalw i wrth y'n llysenw, Shoni Bryngwndwn, achos mau dou John Jones yn yr un ty a fi, sef nwncwl afi fab, widdoch. Oni byse i fi gaul myn'd yn was at Mr Lewis, i Bryngwndwn Mowr, fi fyswn i erbyn hyn ddim yn gwbod pwy fyswn i, a fyse neb arall yn gwbo dim hefyd, a fi fyse hynyfn beth sobor iawn.

(Ifw barhau.)

Papur Pawb / 23 Hydref 1897.

GWAS O WAR LLANDEILO. II. AMGYLCHIADAU TEULUAIDD.

Anwil Mishtir 'Golygydd, - Mau gen i ddiolch mowr iawn i chi, achan, am gymryd at gouddifn hanes i yn ych papur. Yr own ifn credu ofr dechre y gneise chi, a dyna shwt own i yn 'i hala fe i chi'n gynta.

Nawr, gan i chi fod mor daliedd ata i, fi dreia ine ngore i fod yn daliedd atoch chithe.

Fe dreia i hala penod i chi erbyn pob wythnos hyd nes dibeno i 'r hanes i gyd; ond os ffeula i, rw i am i chi baso heibo i fi, achos, wedi ffeulu bydda i oblegid amgylchiade.

I ddowad at yr hanes eto, amser galed iawn weles i wrth y magu; ond dodw i'n achwyn dim am hyny, serch hyny; achos, fi geso i shar deg ofr byd gwan oudd ar Nwmcwl a Nanti.

Byd gwan oudd arnyn nhwy, achos, roudd ganddyn nhwy bac mowr o blant i hunen; roudd ganddyn nhwy wyth, a fine, dyna naw.

Labrwr ameuthyddol oudd Nwncwl wrth i grefft, ac o ddouddeg i bymtheg swllt yr wythnos enille fe fwya, ond yn amser y c'nuafe, roudd e'n enill rhwybeth yn rhagor wrth weitho ar y c'nuafe.

Ond gadewch i fod e'n enill punt yr wythnos yn yr amser hyny, byd gwan fyse hyny wedyn rhwng un ar ddeg o deulu. Y gwir am dani, achan, nid ar gyflog Nwncwl i gyd roudden ni byw.

Roudd Nanti, hefyd, yn enill llower yn y flwyddyn trwy wei sane ifr ffarmwrs oudd o beiti.

Heblaw hyny, achan, roudd gwragedd ffarmwrs y gymdogeth yn danfon 'u morwnon nawr ag ylchweth a rhywbeth bach yn 'u ffedoge i Nanti'n barhaus.

Fi ddeise un folle a chosyn bach, un arall a swmpyn da o flawd cyrch, i ni gaul gneuthir shican bwdran, un arall wedyn a swmpyn o fenyn, ne dipyn o gig moch, ne rhywbeth o'r ardd na fyse gyda ni iddi gaul.

Felny roun ni'n shiffto 'n oilyn bach i gaul digon o bethe i ddodi yn y'n bolie stil.

Eto, roudd gwragedd y ffarmwrs hyn yn hala moyn Nanti weithe i helpu tipyn arnyn nhwy gyda'r peth hyn a'r peth arall; a phob tro y bydde hifn myn'd felny roudd hi'n siwr o gaul rhwy ddillade bach i ddowad nol yn i ffedog genti i ni stil - dillade ar ol 'u plant nhwy widdoch. Roudd hi weithe'n caul ambell i hen bilyn hamswn i'r byd.

Gweles hi un tro, hefyd, yn caul hen got fowr hyfrydol i Nwncwl, gen gwr Nant-yr-Allt.

Hen got galwe fe hi, nid hen got mohoni, cot newy' dim pin gwaeth oudd hi, wedi mynfd rhy fach iddo fe oudd hi, oblegid roudd e'n [sic] wedi myn'd bron rhy dew i gyffro; ond ys oudd hi fach iddo fe, roudd hi'n ddigon o faint i Nwncwl a Nanti gyda'u gily'.

Nid pethe felna gele hi fynycha, dillade i ni, fel plant, gele hi bron stil.

Weithe fi fydde rheiny yn y'n ffitio ni'n o lew, a phrydie erill fi fydden lower gormod; ond trwy nadi oudd Nanti yn ddim llower o wnyddes, ac yn gwybod dim am ffashwn bwc, roun nifn gorfod gwishigo'r dillade hyny i ben fel roudd Nantifn fu caul nhwy.

Felny, roudd golwg ddigri sobor arno ni weithe; ond brydie erill ni fydden yn dryched yn o daliedd.

Fel roudd y fywolieth, felly, hefyd, roudd y gwishgad; os na cheiso i, wrth y magu, ddillade cran, nol ffashwn y trefy' mowr, fi geiso i ddigon o ddillade, a digon o ffashwn ynddi nhwy i nghadw i gynhes; ac toudd hynyfn llawn ddigon i grwt bach fel y fi yn caul 'i fagu yn y 'lad.

Dalla i ddim rhico, fel mau Rhys Lewis yn rhico yn 'i lyfyr, y mod i wedi caul kolej a dysgeidieth fowr eto.

Roudd Nwncwl a Nanti'n rhy glawd i dalu am denyn nhwy i fi nafu plant fu hunen; a doudden nhwy hefyd ddim yn credu miwn llower o ddysgeidieth; oblegid, medde nhwy, fod y Beibl yn gweud yn bendant fod gormod o ddysgeidieth yn gyru dyn yn ynfyd.

Dyna'r achos, medde nhwy, oudd fod Dr Wmffres yn gwadu'r Beibl. Roudd e wedi caul gormod o ddysgeidieth nes roudd e'n ynfyd, ac roudd e'n gwadu'r Bebl.

Felna, achan, trwy drugaredd, cheiso i ddim gormod o ddysgeidieth; dim ond tipyn o Ysgol Sul yn Capel Ca Pant, i ddysgu darllen y Beibl; ac roudd hyny'n ddigon; oblegid, rown i yn wyth mlwydd oud yn gallu darllen y Meibl fel ffeirad.

Wedi i fi fyn'd yn was i Bryngwndwn Mowr y dysges i scyrfenu. Miss Maggie Lewis nysgodd i gynta i dori'r llythrene; a hi roddodd slat a phensil i fi at'ny; a hi wedyn ddouth a phen ag inc a phapur i fi gaul scyrfenu llythyre caru ati hi; a dyma shwt dysges i scyrfenu.

Allse Nwncwl a Nanti ddysgu dim arna i, doudden nhwy ddim yn gallu scyrfenu dim fu hunen. Rouuden nhwy'n bruon heb hyny, serch hyny; trwy i Nwncwl fod mor gall a rhoi'r llywodreth a'r drafodeth i gyd i Nanti. Roudd Nanti'n gallu cofio pethe bron fel congcordians. Nanti felny oudd y mishtir, widdoch.

Hen lwdwn gwirion -udd Nwncwl. Pan bydde Nanti yn cadw styrc ag e weithe am hyn a'r nail, yr oll wede fe nol wrthi am hyny fydde: - Dyna, dyna, los; dyna, ti wedi brawlau [sic; = brawlan] digon nawr, gad dy styrcs, a gad lonydd i fi."

Wedyn fi fydde Nantifn wherthin yn 'i llowes, ac yn 'i gadel hi. Felny own nhwyfn byw stil.

Dyna fi wedi myn'd i gered eto, achan. Wel, i gaul dowad nes gatre eto, pan own i beiti wyth mlwydd oud, roudd amryw o'r cymdogion yn gweud wrth Nanti a Nwncwl, yn gystlad ag wrtho ifn hunan, y dylswn i ddechreu gneuthur rhwybeth i enill y mywolieth.

Ond yr ateb gele nhwy gen Nanti stil fydde: - gDyn helpofr pwr ffelo bach, beth ar wineb y ddeuar all e neud, scwn i, na wn i wirione anwil i."

Roudd un yn awgrymu gallswn i wneyd hyn, ac arall yn awgrymu gallswn i wneud arall, a phawb bron yn awgrymu dylswn i neud rhywbeth.

Rouddwn i'n hunan hefyd yn credu i bod hi'n rhywyr bryd i fi ddechreu gneud rhywbeth, ond beth allswn i neud, a phwy roise hyny i fi iddi neud, oudd y cwestiwne mowr oudd nawr yn y nhrwblo i.

Un bore, pan own i'n penddyfalad am beitifr pethe yna, pwy drowse miwn i'r ty ond Mr Lewis, Bryngwndwn Mowr! Yr ouddwn i ar y pryd yn eiste ar genol y porth, a chyda'i fod e'n y drws, roudd e'n y ngwelfd i wap. "John, achan,h medde fe wrtho i, "wyt tifn credu dy fod di'n ddigon o ddyn i darfu 'brain? Os wytti, mau gen i waith i ti?h

"Y brenin mowr!" meddei Nanti, cyn i fi gaul cyfle i weud dim, "Nag yw, Mr Lewis bach, nag yw wirione, waeth fi sythiff yn gordyn, gwnaiff wirione anwil i, Mr Lewis bach!h

(Ifw barhau.)


Papur Pawb / 30 Hydref 1897.


GWAS O WAR LLANDEILO. III. DECHRAU AR FY NGWASANAETH.

Anwil Mishtir Golygydd, - Yr odych chi'n cofio, achan, gyda hanes Mr Lewis, Bryngwndwn Mowr, yn cynyg lle i fi wasfneuthu dano, own ifn dibenu'r wythnos wetha? Wel, roudd Nwncwl a Nanti, fel se nhwy o dan rhwy dipyn o orfodeth i dalu gwarogeth i Mr Lewis ar lower cyfri.

Yr oudd Nwncwl yn caul gweitho llower iawn gyda nhwy; dyna un cyfri, ac mau'r un yna'n ddigon heb i fi enw rhagor.

Wedi i Nanti geisho gen mishtir ddowad mlan i ishte lawr (yr hyn wrthododd e neud). "Drychwch mor llwm man e," medde hi, "mau'r towydd yn our iawn, a dous geno fe ddim ffit i fyn'd dros; fe sythiff gwnaiff wirione.h

"Os mau dyna gyd sy'n 'i ddior e 'i ddowad oco, fi 'na 'i fyny'n bruon?h medde Mishtir Lewis.

"Beth wedi di am hyna, John, medde Nanti, gan droi ata i, galli neud e?'

"Galla," atebes ine. Wedi fi weud yna, feidde Nanti ddim gweud wedyn, na cheidi ddim myn'd yn 'i glyw e, er oured oudd y towydd; ond awn i'n nabod yn bruon wrthi nad oedd hi ddim yn folon iawn; oblegid roudd hi'n ffrind fowr i fi er mwyn mami, dreuan.

Dan yr amgylchiade, doudd gen Nanti ddim i neud ond gweud: - gWel, dyna Mr Lewis, trwy fod efn dewish dowad atoch chi, does gen i ond diolch yn fowr i chi am roi lle iddo; rych chi'n garedig iawn wrtho ni stil."

"Tewch son, lo's, peidwch sharad," medde fe dan wherthin, "cofiwch halafr crwt oco fyny, a fdewch arna i am 'i gyflog e."

"O! gnaf, gnaf, Mishtir Lewis bach," medde Nanti, "rw i'n y gwel'd chi'n daliedd iawn stil."

Roudd Lewis wedi myn'd gyda "Bore da" cyn iddi ddibenu sharad.


Wedi iddo fyn'd, "Dyna,h medde Nanti wrtho i, "chuse ti ddim llongh gyda nhwy, fi fyddan yn folon nawr, gwela i; ond dyn. dy helpo di nghrwt bach i; mau'r towydd yn our iawn i ti, weldi."

Ar iddi weud yna, dyma hifn ishte yn nghader fNwncwl ac yn dryched i'r tan am lot fowr o amser; roudd hi'n gneud hyny stil pan fydde rhwybeth yn 'i thrwblo hi. Wrth 'i gwel'd hi felny, peidwch a becso felna, mami; fe wedodd Mishtir Lewis yr hale fe ddigon o ddillade i fi lle bo fi'n sythu, ond wedodd e, mami?.

Atebodd hi ddim, roudd hi fel se hi wedi myn'd i ffeulu gwel'd, clowed, na theimlo dim.

Miwn spel fowr, dyma hi'n codi ac yn gweud wrth rhwun oudd yn y shimle: - "O ie, ie, hi sy wrth hyn eto!h

"Pwy yw hi, mami?h ofynes i. "Nan," medde hi, fel un newy ddihuno. Pwy yw hi? Pwy, holi wyt ti, grwt, medde hi'n grac iawn, cera beiti dy fusnes a phaid holi; gei di wbod yn ddigon cynar fi ranta. Holes i ddim rhagor am yn lle 'i hala hi i gadw styre.

Wel, os oudd hi becso rown ifn falch iawn y mod ifn caul myn'd ar y ngwasaneth er na wyddwn i ddim ar bwy gyflog.

Douddwn i'n hidio naws am y gyflog, caul myn'd i was'neuthu rhwyle oudd y moint i; fi wyddwn y ceiswn i gyflog wedyn.

Tyse pob un fel y fi, fydde dim streics yn bod, fel sy gyda nhwy yn y gweithe, yn shir Forganwg a shir Garnarfon, widdoch. Fi fydde pob un wedyn yn caul 'i dalu nol fel bo'i fishtir yn welfd e wedi gweitho; a fi fydde hynyfn beth neis iawn, gwela i.

Beth bena, fi geiso i gyflog nobl; hyny yw, fi cafodd Nanti hi; ond wedodd hi riod wrtho i faint oudd hi, serch hyny.

Dyna fi wedi myn'd i gered eto, achan, nid dylswn i ddim son am gyflog cyn dechre gwasneuthu. Bid fyno, fi fuodd Mishtir Lewis gystlad a'i air; oblegid, fe halodd 'i lodes forwn a phac o ddillade sha'n ty nifr nosweth hyny.

Wedi'r lodes forwn gyredd y'n ty ni, fi safodd yn y drws; a chyn i neb arall gaul amser i weud dim dyma hi'n gweud: - gMau mishtir wedi'u hala i a'r pethe sy'n y pac 'ma i John bach."


Nid a mai fi oudd yr ieua (er y mod i'n iou na nghender), oudd hi'n galw John bach arna i; John bach galwe hi nghender, hefyd; galw hyny oudd hi gaul dangos 'i hi'n ffrind i fi.

"Well den! Wel den, wir! dowch miwn' Mari fach, a dodwch y'ch pac lowr, a dowch i dwymo," medde Nanti; "mau Mishtir Lewis yn iwso bod yn garedig stil; dyn neis yw Mishtir Lewis?"

"O! ie, dyn nobl yw mishtir," atebe Mari tra'n cymeryd y gader a gynygid iddi.

"Ie," a mynyw nobl yw Misis Lewis, hefyd?" ychwanege Nanti.

"O! ie, menyw nobl yw mishtres hefyd," ail adrodde Mari, fel un ag ofon gweud nag e fe.

Ofon peido gweud dim am Misis Lewis oudd ar Nanti, hefyd, gallswn feddwl.

Pe tyse hi'n gallu ymddiried yn Mari, a Mari yndi hithe rw i'n credu y gneise nhwy i glust whith Misis Lewis i dwymo'n o lew rhynti nhwyfch dwy.

Wedi iddyn nhwy bledo spel fowr am hyn a'r nall, fe wedodd Mari i bod hi bownd o fyn'd ne byse 'i mishtres yn grac a dyma nhwy ngafel ag agor y pac. Y peth cynta ddouth mas ofr [sic; = ofr pac] oudd Hat-bob-cam ar ol Misis Lewis ne if mham, wn i ddim pun.

Mau'r Hate-pob-cam hyny oudd slower dydd ddim ym y ffashwn nawr, ond y nhwy oudd yn y ffashwn i gyd gen fenywod miwn oud, ffor hyn, amser own i'n grwt. Bid fyno, wedi i Mari a Nanti dynu'r hat mas ofr pac: gDere yma John bach,h medd Nanti wrtho i, "gaul ffito'r hat 'ma," a chyda dweud yna, roudd hi'n dodifr hat ar y mhen i. "Dyna," medde hi wedyn wrth Nwncwl, "be chifn feddw am dano, John?h

gO! nobl iawn, nobl iawn wir, mau e'n dryched yndi fel Clochdy Carfyrddin," medde ynte; a dyma nhwy i gyd trwy'r ty yn wherthin am y mhen i nes oudd y ty'n crynu gyd; a wrth i gwel'd nhwy'n y nghymryd i'n sport felny, fi lefes i y dwr yn hile, a than y ford etho i bwdu. Pan welodd Nanti fi'n llefen, dyma hi'n cymryd yr hat ymeth, ac yn tynu i llaw dros y mhen i, ac yn gweud: - gCera o fnafr ffwl bach jocan oudd data, paid a llefen, mau'r hat yna'n dy daro di i'r lliwchyn, ne fyse Mishtir Lewis ddim yn f hala hi i ti, weldi."

"Ie, jocan own i," medde Nwncwl, "paid di llefen, hat nobl yw'r hat, gei di welfd y bydd hi o wasaneth mowr eto, ac fi ddowi di iddi lico hi hefyd."

Proffwyddiaeth oudd y geirie yna a ddouth i ben hefyd cyn pen fowr o amser; oblegid fe fu'r hat hono yn rhwy fath o storows i fi wedi hyny, fel cewch chi wbod gen i eto.

Wel, y pethe nesa douth allan o'r pac oudd crys glanen fraith a chrafed fowr; yna, cot a gwasgod lwyd o frethyn gwaith ty a brytesh penlin o padent corde melyn, ac yn ola oll, par o glocse o wath Dafy'r gwas, pena nath e'r dwarnod hyny.

Cheisio nhwy ddim gen i ffitio'r rheiny. Bore dronoth rown i ar y llowr yn fore iawn heb gysgu ond ychydig. Yr own i trwy gydol y nos bron, yn meddwl am y spor [sic; = sport] geise'r gwasanethfynon yn Bryngwndwn Mowr am y mhen i yn yfn shiwt newy'; ac erbyn y bore rown i wedi penderfynu peidio fi gwishgo hi; ond gorfu arna i ei gwishgo hi wedyn ne beido mynd at y ngwasaneth o gwbl; roudd yn well gen i hyny na thowli ngwasaneth o'n llaw wedi i fi gaul e.

Ar ol preswado lot arna i, mai dim ond cyd a parse'r towydd our oudd eishe i fi wishgo'r dillade hyny, fi gwishges nhwy, rhwng bodd ag anfodd; ac rown i gyda phip y dydd ar gene Bryngwndwn Mowr yn fwbach bran, symudol.

(Ifw barhau.)

 

Papur Pawb / 6 Tachwedd 1897.


GWAS O WAR LLANDEILO. IV.Y FRECWAST GYNTAF.

Roudd Nanti a Nwncwl yn diall y towydd yn llower iawn gwell na fi, achan; oblegid, roudd hi'n sobor o our hyd nes i'r houl godi a thwymo tipyn.

Rouddwn ifn cydnabod yn mhell cyn hyny mai nhwy oudd yn iawn o beitifr dillade; ac rouddwn i'n teimlo dylswn i ddiolch iddyn nhwy am neud i fi i dodi nhwy fyny; obelgid, sythu neiswn i hebddyn, wirione fach i.

Maufr brain o war Landeilo yn rhai riol heurllug, ta shwd mau nhwy gyda chi yn y North oco.

Mau nhwy'n gneud sport o fwbachod meirw ffor hyn stil.

Y bwbach marw gore, ys gellir'i gaul e, yw un ohonyn nhwy hunen wedi lladd a'i dodi i hongiad, ar ben polyn wrth 'i chous, ar genol y ca; mau hyny'n hala ofon sobor arnyn nhwy; ag mau hyny ylchweth yn 'u cadw nhwy ymeth.

Ond nid peth riol hawdd yw caul gafel ar un ohonyn nhwy i gaul fi dodi hi felny; oblegid maufn nhwy'n rhai sobor o gyfrws; mor gyfrws, fel na cheiff dyn fynd a dryll o fiwn canfllath iddyn.

Fe fuodd mishtir afr dryll dri dwarnod ar 'u gol nhwy, a Dafi'r, gwas pena, un dwarnod arall; ond fi fyse gystlad iddyn nhwy bob tamed aros gatre, oblegid, laddson nhwy ddim un fran.

Roudd y brain yn u watcho nhwy yn mhob cyfeiriad gymeren nhwy; ag wedi yr elent nhwy i un ca fi fydde'r brain yn codifr llafur ofr ddeuar miwn ca arall.

Dyna, maufn debyg, achan, gynhyrfodd mishtir i nghyflogi i; ag mau hyna'n gwirio'r hen wheddel hefyd, sef, nad ous drwg i neb nag yw e'n ddioni i rhwun.

Bid fyno, fi ges i nghyflogi i darfu'r bran, a'u cadw rhog codfr yd o'r ddeuar cyn cele fe amser i egino; oblegid i mishtir ffeulu caul un o honyn nhwy i neud y gwasaneth hyny yn y'n lle i.

Wel, fi nes i ngore las, yn yr amser bues i yn bugeilio'r had yn y ddeuar, ond gwaith el dyfol oudd e wirione fach i; oblegid, fe wnauth y brain eu gore nhwynte hefyd iddi gaul e oddno.

O dipyn i dipyn fe ddouth yr yde i egino, ac fel roudd e'n egino, roudd e'n caul llonyf gen y brain ac fel roudd e'n caul llonyf gen y 'bran, roudd y ngwasaneth bwbachol ine'n dibenu; ond dyna wi'n mynd o flan y'n stori.

Wedi i fi fod yn yr ourni ar hyd ceue Bryngwndwn ar ol y brain rai orie y bore hyny, fe ddouth golwad arno i ddowad i gaul brecwast i'r ty.

Pan gyrheuddes i hyd y clos, fe ddouth mishtir i'r drws, i ngwahodd i miwn i'r gegin fowr at y gwasaneth'ynon; roudden nhwy i gyd wedi cyredd yno o mlan i; ond pan welson nhwy fi'n dowad miwn, dyma nhwy i gyd, am y cynta, yn gweud wrtho i, am ddowad mlan at y tan i dwymo; ag roun nhwy i gyd yn ddierth o serchog i fi yno.

Wedi nghlowed i'n dowad iwn [sic: = miwn] i'r gegin fowr, dyma mishtres a'r plant yn dowad ofr gegin fach yno hefyd i gaul y ngweld i, mau'n debyg, wauth wedi iddyn nhwy ddryched yn syn a sych arna i spel fowr, fe euthon nol wedyn heb weud dim byd.

Rouddwn i'n shei iawn ag yn rofyn bob eiliad i clowed nhwy gyd ynofn tori o wherthin am y mhen i; ond neuthon nhwy ddim, ddangoson nhwy fowr wedi i fi fyn'd at y tan, eu bod nhwy yn y ngweld i; Mari oudd y cynta wedodd air wrtho i wedyn.

"Ar ol i ti, John bach, dwymo digon dere at y ford i ti gaul bwyd, maufr bwyd yn barod."

Rhag i fi fod yn un rhwystyr iddyn, fi eis ine fel y gwedodd hi ar unweth, a dyma Mari yn y nangos i i eishte yn ochor Betsi'r forwn fach, yr hon oudd run ochor i'r ford a hi.

Yr ochor arall i'r ford, ar y'n cyfer, roudd Dafy'r gwas pena; hen lanc oudd Dafy, beiti ddouddeg ne bomtheg ar ugen, ond, wedi byw'n safin trwy i ous, ag am hyny, roudd pawb yn gweud fod hen goden fowr gydag e'n rhwyle.

Yn ishte nesa at Dafy, roudd Bili Morgan, yr ail was; bachgen ifance o ddouaw i ugen oud oudd e, ond roudd e'n un melldithiol o hercog a chragwrus, ond pouni Dafy'r, gwas pena, oudd i bleser mwya fe.

Roudd Dafy wedi cwmpo miwn cariad a Mari, ac wedi cynyg 'i phriod [sic; = phriodi] hefyd; ond wedi caul 'i wrthod genti, am 'i bod hi wedi cwmpo miwn cariad a Bili Morgan; ond wedodd hi mo hyny wrth Dafy.

Yn ochor Bili wedfyn fe ishtedde Dafy'r gwas bach, crwt oudd e beiti bomtheg oud, doudd dim byd yn otsol yndo fe ond 'i fod e'n dipyn o hen glapgi.

Dyna shwd' rai oudd y gwrwod.

Roudd Mari'n globen o ferch fowr harti bron yn ddigon o ddwy, yn llawn o natur dda stil, ac yn barod i neud pobpeth wede pawb wrthi bob amser.

Hen grancen fach oudd Betsi, dipyn yn iouach i golwg na Mari; ond doudd neb yn gwbod faint oudd oudran un o'r ddwy.

Rouddwn i'n credu fod Mari'n bump ar ugen man lleia, ag fod Betsi o beitifr ugen; ond fe widdwn un peth yn bruon, sef, mai Betsi oudd y forwn bena miwn gwirione, er mai Mari oudd hi miwn enw.

Bid fyno, wedi i ni ishtefn gomfforddus o beiti'r ford, dyma Dafy'r gwas pena'n codi i ofyn "Bendith;" roudd e'n gneud hyny stil. Wedi i Dafy godi, dyma Bili yn gneud i ddwrn ar Mari i fod yn ddishtaw, felse hi'n cadw lot o styre; a dyma gwineb Mari'n dechre ymliwio gen y drafferth oudd hi yn gaul i beidio wherthin mas am ben Bili gragwrus a'i gleme rhogrithiol.

Fel hyn oudd hi'n ymliwiofn fwy-fwy, roudd ynte'n gneud cleme arni fwy-fwy a'i ddwrn a'i wineb i fod yn weddus.

Cyn bod y ddyledswydd ar ben roudd gwineb Mari wedi myn'd yn bob short o liwie; a phan ddouth Dafy at yr "Amen," hi fostodd gyda bloudd o "Ha, ha, ha,h nes oudd yr holl dy yn clindarddad.

Gyda bod Marifn dechre werthin, dyma Bili'n neidio o'i le ati; ag yn cudio o dan ei cheseile, gyda'r esgus o'i dala hi rhog iddi gwmpo i'r llawr; ond miwn giwirione, achan, gydafr amcan o'i choglis hi, gaul iddi wherthin mwy, roudd e'n gneud hyny.

A chlowsoch chi rioud fath styre nauth hi; roudd mishtir yn gweud wedyn, iddo 'i chlowed hi'n gneud pedwar llais ar ddeg.

Roudd mishtir a mishtres ar y gryd wrth 'u brecwast, yn y gegin fach. Pan ddeuthon nhwy i ddryched beth oudd y mater yno, roudd Billi yn i le wrth y ford a i gwineb o'r golwg yn 'i ffedog.

(I'w barhau.)


Papur Pawb / 13 Tachwedd 1897.


GWAS O WAR LLANDEILO. V. GWEITHRED ANGHYFREITHLON.

Pan ddouth mishtir a mishtres ifr golwg, roudd Bili yn hyfed 'i gawl, gan ddryched mor seriws a tyse fe ddim yn gwbod fod dim wedi digwidd. Roudd Dafy ono, ynte wedi dechra hefyd, ond gyda golwg ddynsherus o gas.

Roudd Dafy'r gwas bach, a Betsi, a finne heb ddechre; roudden nifn tri felse ni miwn rhwy soc, ac ddim yn gwbod dim owrtho ni'n hunen.

gHowyr! howyr!!h medde mishtir, pan ddouth e' ato ni, gbeth yw'r styre 'na y'ch chi'n gadw fma, howyr?"

Wedi ffeulu caul ateb, dyma fefn gofyn ylchwath, "Beth yw'r styre 'ma, howyr?"

"Mari gafodd bwl o ientyd," oudd ateb Bili.

Ar hyny, dyma Mari'n codi ac yn myn'd ma's i'r clos, rhag byse raid idd hi glapian dim ar Bili; roudd hi'n ormod o ffrind iddo i wneyd hyny arno.

"Beth nest ti iddi, gwas yr andros,h gofyne mishtir wed'yn, gan droi at Bili yn grac.

"Nes i ddim iddi, ne gofynwch chi iddi,h oedd yr ateb.

gO! naddo, fi ranta," medde mishtir yn wawdlyd, gan droi yn 'i ol at fi frecwast, a dweud wrtho'i hunan, gFi ddo i wbod eto."

Ar hyny, roudd Bili'n dryched ar Dafy'r gwas bach, ag fel yn gweud, "Fe wedi di Dafy wrtho."

Gan na ddigwiddodd dim neillduol arall, fe ddouth y brecwast i ben yn bur glou; ac yna fe outh pobun at 'i orchwyl hyd nes galwyd arno ni nghyd i gino.

Roudd y brecwast yn gynnwsedig o gawl ail-dwym, bara barlish, a chaw1 Cymru; hyny yw, dyna oudd brecwast y gwasaneth ynon stil.

Roudd brecwast mishtir a mishtres afr plant yn cynnws gwell pethe; roudd 'u brecwast nhwy yn fynych yn cynnws ham a wye, bara gwenith gwyn, a choffi; a phan byse fe blauma gyda nhwy, roudd efn cynnws bara gwyn wedi dosto, a menyn arno, a choffi.

Roudd y gino wedfyn yn gwahaniethufn fowr iawn.

Roudd mishtir a mishtres yn bwyta u cino yn y parlwr stil; ac os dele Mr Jones, y gweinidog, ar 'i dro 'no (ag roudd e'n dowad yn fynych), dyna lle bydden nhwy yn bwyta 'u prydnwnbryd hefyd; a phob tro dele fe yno felny, fe fydde gyda nhwy darten ne gramwythe gyda the yno.

Ond son am gino owfn i nawr, achan. Cig gwedder, ne gig eidon, ne borc wedi bobi, fedde gyda nhwy fynycha.

Weithie bydde genddyn ffowlyn, ne hwyaden, ne wydd, me dwrcyn; ond rown i'n sylwi, bob tro bydde un o'r tri ola gyda nhwy, roudden nhwy yn gwadd Mr Jones, y gweinidog, i gino yno stil, oblegid roudd e wedi gweud rhwy dro wrthyn nhwy 'i fod e'n ffond o damed o rhwybeth felny a pheth arall, roudd mishtir yn ddiacon pwysig yn Capel Capant. Doudd y'n cino ni fel gwasanethynon ddim cystlad, roudd yn gynnwsedig miwn basned o gawl ail-dwym eto, tafell o fara barlish, tamed o ystlys mochyn, a chwpwl o dato, a llymed o lastwr llath ne enwyn i olchi'r rheina lawr.

Ein prydnawnbryd eto fydde, tato ag enwyn, a, chaws, ne shican bwdran a llath. Ein swper wed'yn fydde, tafell o fara barlish a chaws, a basned o lath glas ne faidd.

Yr unig newid i hyna gele ni yn yr wythnos fydde pryd o de a bara gwenith gwyn a menyn arno, bob prydnawn dyf Sul. Rouddwn i'n gweud gormod wrth weud ta cawl ail-dwym gele ni i gino bob dydd, oblegid roudden nifn caul cawl ffresh i gino bob dy' Llun a dydd Iau. Roudden nhwy gwneud llond y badell bres o gawl ddwyweth yr wythnos, sef dy' LLun a dydd Iau.

Roudd y cawl nelen nhwy dy' Llun yn para hyd ddydd Iau, a'r un nelen nhwy ddyd Iau yn para hyd ddy' Llun; ne rown nhwy'n gneud iddo bara felny trwy ddodi dwr am 'i ben e' gaul ystyn fi gouse. Wel, bid fyno, wedi i ni ddibenu a'n brecwast y bore hyny, fe auth Dafy'r gwas pena tua'r sgubor i ddyrnu, a Dafy'r gwas bach tua'r stabal a'r beidi i garthu dan y nylfiled, a Bili i blygu perth un ofr ceue lle yr own i'n tarfu'r brain. Dipyn cyn cino, yr ouddwn i wedi myn'd at 'i ochor y berth i gaul spel, a sharad chydig a Bili, ond doudden ni ddim run ochr i'r clawdd fel lwcodd hi i fi. Tra roun ni scwrso afn gilydd, dyma mishtir yn dowad am y'n traws ni yn ddiswmwth iawn, ond trwy fod y clawdd yn un ychel, welodd e' ddim ona i, ac fe gwrcwdies i lowr rhog iddo nghlowed i'n myn'd ymeth.

Dowad yno i roi haram i Bili am helynt y bore roudd e, oblegid gyda'i fod e'n cyredd, dyma fe'n dechre trwy weud, "William?"

"Nan," medde Bili.

"Ous dim cwily' arnat ti, achan?"

"Am beth?h gofyne Bili.

"Am beth, yn siwr! Rwyt ti'n gwbod am beth yn bruon, yr un annuwiol fel ag wyt ti. Rwyt ti'n cellwer a phethe da, ac fe ddowi di i gaul dy grogi os na ddiwygi di, gei wel'd eto."

Pan ddibenodd mishtir lefaru'r geire yna, fe wherthodd Bili am 'i ben e'; ond os do fe, fe halodd hyny mishtir yn ddynsherus o grac; a dyma fe'n codi laish, ac yn myn'd i hwyl fowr i weud hanes a ffortshwn Bili, dreian.

Ffortshwn glawd oudd e'n roi i Bili; ond dodw i ddim yn cofio cwarter yr hyn wedodd e ond yr w i'n cofio iddo weud mai'r pwll diweulod fydde lle Bili'n syden fach, ac bydde iddo fe hala Bili ymeth clyngeua, rhog iddo dynu' barn ar y lle.

Chafodd mishtir ddim ofr tir iddo'i hunan i gyd, bid fyno; fe fynodd Bil fod am yr hem ag e; fe ddangosodd iddo 'i fod ynte'n gwbod rhywbeth hefyd, a'r diwedd fu, i mishtir adel iddo, a myn'd sha'r ty.

Fe ddouth galwad yn glou iawn arno ninne i fyn'd ar ol e' i gaul cino. Roudd y gino wedi 'i dodi ar y ford yn barod, ac fe ishteddson ninne i'w bwyta, fel y gneuthon ni yn bore, a gofynodd Dafy, fel gwnauth ef yn y bore, am fendith arni; ac wedi iddo ddibenu, ni hyfson y'n cawle miwn rhywfath o ddishtawrwdd ffyrnig.

Roudd Mari gyda ni ar gino, ond roudd hifn och'neido, nawr ac ylchweth, ac yn colli dagre, a'r rheiny, fel oun nhwy'n dowad, yn cwmpo oddi ar 'i gruddie hi i'r cawl; ond doun nhwy'n newid dim ar 'i flas e'n lled debyg, ne fe fyse hi'n nabod.

Roudd mishtres wedi bod wrth Mari fel y buodd mishtir wrth Bili.

Bid fyno, fe auth y gino drosodd, a llower cino, heb ddim ond hyny am hyny, hyd nes douth hi'n amser dechre ar y cneua gwair.

"Wel, fy mechgyn a merched i," medde mishtir, wedi cino un dwarnod, "mau'r gwair yn eifed, maufr cneua wedi dowad am y'n traws ni, dewch i ni gaul y pladurie'n barod erbyn foru.h

Fel y gorchymynwyd felly gwnaed; yr pladudie [sic] erbyn dranouth, a thranouth a ddouth; ond roudd Bili wedi myn'd! Wedi tori ar fi wasaneth, a chilo ta shir Forganwg i'r gweithie glo.

(Ifw barhau.)

 

Papur Pawb / 20 Tachwedd 1897.


GWAS O WAR LLANDEILO. VI. MISHTIR A MISHTRES.

Pechod mowr iawn, yn ngolwg y ffermwrs, yn Shirgar, yw tori oddar wasaneth.

Dim ond dou bechod yn 'u golwg nhwy sy'n fwy nag e, lladrata nifiled a lladd dyn yw'r rheiny.

Pan ddiallodd mishtir fod Bili wedi myn'd i gered, fe auth yn ddynsherus o grac; roudd e fel dyn a cholled arno'n towli ag yn tasgu, rhegu a phobpeth; welsoch chi, achan, shwd gleme ar ddyn ariod ag oudd arno fe.

Wrth 'i wel'd e felny mor grac, ag ofon byse fe, yn y picil hyny, yn gneud rhwy ledwhithdod, fe auth mishtres ato gan ddodi 'i llaw ar i fraich e gaul treio caul rhwy berswad arno; ond gyda fi bod hi'n gneud hyny, roudd e'n towli 'i llaw hi ymeth whiw oddiwrtho, gan weud yn ffyrnig "Cerwch ona, los, cerwch beiti'ch busnes, los, pwy pwy, fusnesa ych chi?"

Doudd mishtir ddim yn iwso bod yn ryff wrth mishtres, ac am hyny, fe gafodd hi shoc fowr iawn; ond nid un i gymeryd rhwy lot fowr o bethe rhyff oudd hi.

Na, na, wedi iddo fe dowli 'i llaw hi ymeth a'i ha1a hi gylch 'i busines, dyma hi'n sefyll yn stand stil o'i flan e, ac yn dryched yn i wineb e a'i llyged yn g'rychoni tan.

Wedi dryched am spel fowr arno felny, dyma hi, gan daro'i throud yn erbyn y barth, yn gofyn iddo miwn rhwy ddull mowreddog iawn:- "Dafy Lewis, odi chi'n gwbod pwy odw i? Os nad ych chi, fi weda i wrtho chi."

"Wel, gwedwch te," medde ynte, miwn ton oudd yn dangos 'i e'n dechre dylofi chydig o dan drychiad hi.

"Unig ferch Dafis, Talyrhiw, Dafy Lewis."

"Hym," medde ynte'n wawdlyd. "Ie, hymwch chi faint fynoch chi, Dafy Lewis, dyna pwy odw i," medde hithe gan chwanegu.

"Ie, a dyma'r parch odw ifn gaul gyda chi, rhog ych cwilyf chi."

"Rouddech chifn addo pethe gwell na hyn amser oudh chi'n dowad i Dalyrhiw i gadw cwmpfni i fi slower dy'; rych chi wedi anghofio hyny nawr. O! odych, odych, rhai da i anghofio peth ych chi fel nashwn.

"Dyna'r amser douth ych tata chi oco at yn nhata i i rytydda drosoch chi am dano i, fe wedodd y byse fe'n rhoi dou cant o byne gyda chi y bore byse ni'n priodi, ond fe anghofiodd neud hyny. O! do, do, fe wedodd hefyd y byse fe'n dodi douddeg buwch o wartheg i chi ar Bryngwndwn erbyn y byse ni yn dowad i fyw yma, ag fe wnauth hyny a rhai oudd e wedi brynu ar hen gownt miwn ocshwne, a chithe, Dafy, yn feiche iddo am danynt.

"Fine wedyn yn gorfod talu am danynt o arian y ngwaddol, lle bo chi'n caul myn'd i Jail Carfyrddin.

"Dyna fforf ych chi wedi delo a fi. Dyna shwd barch odw i wedi gaul gyda chi, a be se data'n gwbod?

"Mau data'n cadw'r fferem fwya ar lan Towy; ac mau geno fe gannoudd o byne yn y banc; a fi allswn me, tyswn ifn peido grondo ar ych whele [sic; = wheddle?] chi, fod nawr yn wraig i bregethwr ne ffeirad. Fe fuodd digon o honyn nhwy'n shiglo llaw a fi, a phob un ohonyn nhwy bron yn coglis torr yn llaw i a'i fys bach, wrth neud hyny, fel arwdd i fi fod geno fe rhwybeth i weud wrtho i, tyse fe'n caul grouso.

"Dei anwil! fi fues yn ffolach nafn llun, do, mau'r Mowredd yn i wbod e."

Roudd mishtres yn gweud y frawddeg ola 'na dan wylo, a chyda 'i bod hi'n dibenu gweud, roudd yn ishte glwmp ar gader oudd gerllaw iddi, ac yn cuddio'i gwineb a'i dwylaw fel mau ffeiradon yn gneud yn Eglws Louger.

Roudd mishtir cyn iddi hi ddibenu'r areth wedi llwyr ddylofi, ac yn dryched fel un wedi caul rhwy ofon mowr sobor; a phan ddouth e ato fi hunan dipyn ar ol iddi hi ishte, fe gadiodd yn 'i hat a mas ag e; oblegid fe widde fe'n bruon am dani nad oudd hi ond megis dechre tyse fe'n haros i rondo arni.

Peidwch chi meddwl, achan, mai dyna shwd oudd hi (stil rhwng mishtir a mishtres; na, na, roudden nhwy'n byw bowyd mor gariadus a chysurus a neb yn y 'gledydd, a thowli pobpeth at 'u gily, widdoch.

Roudd hi'n dyner iawn wrtho fe weithe; nawr fi adrodda i am un tro i chi gaul gwel'd pwy mo'r dyner oudd hi iddo.

Roudd gen Mishtir Lewis whar - hen ferch weddw - yn byw miwn fferem fach, beiti filltir a hanner o Bryngwndwn.

Un dwarnod, pan oudd hifn bwydo'r ffowls, fe gwmpodd lawr yn farw ar y clos, miwn ffit o apoplexy – dyna oudd Dr Wmffres yn wedd oudd fi dolur hi - a'r prydnawn hyny, fe ddouth cymydog iddi afr newy' i Bryngwndwn i mishtres. Roudd mishtres, ar y cynta 'n ffeulu diall shwd gwede hi am fi whar wrth mishtir, rhog iddo fynte gaul ffit hefyd; ond wedi penddyfalad tipyn, dyma hi'n myn'd ato i'r gegin fowr, lle roudd e'n darllen "Taith y Pererin" wrth y tan.

Wedi iddi fyn'd iddi ochor e, dyma hi'n tynu'i llaw dros 'i ben e ddwyweth ac yn gweud: - "Peidws e, bach, a chwmryd ofon, peidws cwmryd ofon, bach, mau'i whar fach e wedi caul anhap bach."

eChas e, bach, ddim ofon, do fe?h gofyne hi gan dynu'i llaw wedyn dros fi ben e deirgwaith.

"Beth gafodd hi?" atebodd e.

"Peidws e, bach, a chwmryd ofon," medde hi dan gamol i 'ben e deirgwaith arall, mau 'i whar fach e wedi caul ffit; chas e, bach, ddim ofon, do fe?"

"Wedi caul ffit?" gofyne fe bron yn wyllt.

"Ie," oudd yr ateb dan gamol o hyd, "mau 'i whar fach e - peidws e, bach, a chwmryd ofon - mau 'i whar fach e wedi - ous dim o fe, bach, yn caul ofon odi e? - mau 'i whar fach e wedi ma- marw."

"Ho! wel, wel," medde, ynte dan bwyso'i ben ar dorr i law, "mau wedi marw?h

Yr unig ateb roddodd hi iddo oudd, tynu i llaw dros fi ben e rhwy ddwsen a hanner o weithe, ac yna gofyn iddo: - gChas e, bach, ddim ofon wi'n gobeitho, do fe bach?h

Gan na 'chafodd hi 'run ateb ganddo, dyma hi'n chwanegu: - "Dews e, bach, peidws e a thori 'i galon fach, fi 'na i ddished fach o de iddo fe a chramwythen fach gyda hi, ac fe gaiff wedyn fyn'd iddi wely bach, gaul iddo wella."

Gan ei adel hi auth yn awr i neud fel y gwedodd hi.

Os oudd mishtres weithe yn llym, roudd hi'n dyner hefyd, ac os oudd mishtir weithe dipyn yn grac 'i natur roudd e'n ddigon call stil i roi'r gore i mishtres, a thrwy hyny, rown nhwy, a chwmryd pobpeth i styrieth, yn byw yn od o daliedd, fel gwedes i o'r bla'n.

Bid fyno, rhaid 'u gadel nhwy ar hyna; ac yr w i'n began y pardwn chi, achan, hefyd, am y mod wedi aros mor hir gyda nhwy; ag rw i'n addo i chi nawr nad a i ddim gered gyda nhwy eto.

(Ifw barhau.)

 

Papur Pawb / 27 Tachwedd 1897.


GWAS O WAR LLANDEILO. VII. YR EUOG YN FFOI.


Fe nauth Bili trwy gilo ymeth felny yn adeg y c'neua golled fowr sobor i mishtir; ond dim mwy nag oudd Bili'n ddymuno.

Doudd gen Bili harin i mishtir na mishtir ddim harin chwaith iddo ynte. Roudden nhwy bicyn ynghopyn stil, oblegid, medde mishtir, roudd Bilifn ngafel a rhwy gragwri byth a hefyd.

Roudd Bili ono ynte'n gweud i bod hi'n boun bowyd arno i fyw 'no, fod mishtir yn 'i ben e'n rown am ddim o ddimws y ddeuar; afi fod e yn gweud lower gwaith yr wthnos wrtho ta dim ond hyd glyngoua byse fe yno.

I goul [sic; = ¿gaul] bod am yr hem a mishtir fe benderfynodd Bili ei gwanddi hi adeg y cneua gwair, yr adeg bydde ei eishe fe fwya ar mishtir, a'i gwanddi, fel gwedes i o'r blan, achan, nauth e hefyd.

Ond fel mau'r hen wheddel yn gweud, dous golled i neb nad ous enill i rhwyfn, fe fuodd y golled o madowiad Bili yn enill i fi; fe geiso i dyrchafiad miwn posishwn yn gystlad ag miwn cyflog. Fe ail drefnwd y rhenc, fe gafodd Dafy'r gwas bach ei neud yn ail yn y gwasaneth, ac miwn canlyniad fi ddois ine miwn am le Dafy gyda chodiad yn fy nghyflog. Gyda'r codiad yna miwn posishwn a chyflog, fe ddeutho hefyd i gaul byw a bod yno fel un o'r gwasaneth'ynon erill, yn lle myn'd bob nos, fel o'r blan, tua chadre at Nwncwl a Nanti.

Fe ddeutho i a Dafy trwy cyfnewidiad i fod yn gywely i'n gily' ac ar lofft y beudy uwch y da own ni'n cysgu'r nos.

Roudd Dafy yn eulod yn Capel Capant, ac wrth 'i wel'd e n fachgen mor daliedd yn y golwg, yn [sic; = yno?] ac obeiti'r ty, fe allsech chi, achan, feddwl ei fod e'n fachgen sobor o duwiol [sic; = dduwiol]; ond roudd e'n gallu rhegu a phethe'n bruon pan na byse neb o hyd clyw ond fi ag ynte.

Roudd e mor ddefoshwnol a Phab, serch hyny; ac roudd e'n cadw ddyledswydd stil fel se fe mor dduwiol a Sant Antwn. Roudd e'n troi at yr Arglwydd y peth cynta'n y boreu; ac fe fydde'n troifr peth dwetha'r nos cyn myn'd i'r gwely wed'yn. Yna, gyda y bydde fe'n dibenu gweud 'i ddyledswydd, fe fydde yn neidio fel cwrcath ata i i'r gwely i nysgu i ffor oudd i fi ddwgwd gwsberus hwn, fale'r nall, &c., &c., nol fel bysefr ffriwts yn 'i tymore.

Fe ddeutho i o dan i ddysgeidieth e yn riol gamster miwn chydig flynydde ar ddygyd ffriwts o erddi dynon - gystlad ag oudd e'i hunan cyn iddo fe gaul i neud yn ail was.

Wedi iddo fe gaul i neud yn ail was, doudd geno fe ddim amser na chyfle iddi dygyd nhwy fel roudd geno fe, pan oudd efn was bach ond roudd e bown o'u caul nhwy stil, a fi oudd bown o ddowad a nhwy iddo hefyd.

Roudd gen i, fel gwas bach, ddigon o gyfle stil i ddwgyd holl ffriwts y lad i gyd; oblegid fi oudd yn caul myn'd ar negesuon dros y mishtir yma ac oco nawr ac ylchweth.

Am amser rouddwn i'n gallu dwgyd amser y ngwasaneth pan ceiswn i gyfle i ddwyn ffriwts rhwyfn; ac rouddwn i'n gallu golchi celwidde hefyd wrth mishtir am yr amser hyny, trwy weud mod i wedi caul y nhowli fel hyn ac fel arall.

Gan mai fi hefyd oudd yn hol a hebrwn y gwartheg fore a hwyr, rouddwn i'n caul digon o gyfle i ddwgyd yn ddyddiol; ac rown i'n gneud hyny hefyd fynycha yn dymorefr ffriwts am beiti beder blynedd.

Yr ouddwn yn ystod yr amser hyn wedi dowad yn sobor o ffrins a Miss Maggie, roudd hithe yn lico ffriwts hefyd, ac rown i'n ei [sic; = eu] dwyn nhwy iddi hi o gariad ati, ac roudd hithe yn y nysgu i i scyrfenu amfny, heb wybod i neb.

Doudd hi ddim yn y ngorfodi i ddowad a ffriwts iddi hi fel Dafy', eu cymryd nhwy gen i oudd hi am y mod i'n rhoi nhwy iddi.

Fe ddysgse hi fi i scyrfenu am ddim, medde hi, roudd hi'n ffrind i fi, oblegid i fi rhwy dro, roi cot i Rhys, y Pandy, am 'i mhela hi wrth ddowad o'r ysgol.

Roudd hi pryd hyny yn credu am dano i, oblegid i fi roi cot i Rhys, ta fi fyse fr wmladdwr gore trwy'r holl ledydd tyswn i'n deleito miwn wmladd; ond nid yw hi'n credu hyny nawr.

Rown ni'n dou yn ffrins mowr pryd hyny, bid fyno, ac rown i'n dowad a rhywbeth o rhwyle iddi stil; ond fe ddouth diwedd ar hyny.

Un nos Sul, yn amser cneua llafur, y bedwerydd flwyddyn o ngwasaneth i yn Bryngwndwn Mowr, fe ddouth Dafy i'r gwely fel arfer ata i, a chyn 'i fod e wedi gorwedd yn iawn: "Jac bach," medde fe, "dyna lot o 'irin a phlymins weles i heddi yn ardd hen Nansy'r Cwnsheri, roun nhwyfn dryched mor neis! O! roun nhwy mor neis 'i golwg i dymu dwr o ddannedd dodi! Herci di lon'd dy hat ohonyn nhwy foru cyn codo'r hen Nansy, Jac bach?"

Roudd hyny nawr i fi ys blynydde, widdoch, fel rhan o ngwasaneth; ac rown i'n gwel'd fod hyny hefyd yn rhoi cyfle i fi gaul cwpwl o blymins i Miss Maggie yn y fargen ac, hefyd, fo widdwn na fyse dim iws i fi weud, na; am hyny, fi atebes iddo, Herca i."

"Gore wir," medde fe, "herc nhwy 'te wrth hol y gwartheg iddi godro bore foru; ac os gofyniff mishtir i ti lle buost cyd, gwed ta'r gwartheg oudd wedi myn'd yn grous i Dowy, fe dy grediff di'n union, oblegid maufn nhwy'n myn'd weithe widdot ac mau ynte'n gwbod hyny."

Hen fenyw fowr dew oudd Nansy'r Cwnsheri, oudd yn byw miwn ty bach to cawn ar lan Towy, beiti hanner milltir obry o Bryngwndwn.

Roudd hi'n gallu gwella'r clefyd melyn, ac hefyd clefyd y galon ar fechgyn a merched fyse wedi colli'u cariade trwy gwnsheri; am hyny roudd hi'n caul 'i galw yn Nansy'r Cwnsheri.

Rw i'n 'i chofio hi unweth yn dowad i Bryngwndwn i gwnsheri'r clefyd melyn oddar Mari, ac fe wellodd Mari bob dydd wed'yn.

Bid fyno, bore dy' Llun a ddouth, ac fel own i'n wso myn'd stil, fi eis i i hol y gwartheg i gaul eu godro, ac i hol llon'd yn hat o 'irin a phlymins yr hen Nansy cyn hyny. Pan gyreiddes i yno roudd hi yn yr ardd yn tori rhwy lyse at neud meddyginieth i ladd llyngyr ne rhywbeth. Wedi rofyn a rofyn wrthi am yn agos i awr, hi auth i'r ty o'r diwedd, ac fe eis ine i'r ardd, ac fe lanwes yn hat bron o'u hirin a'i phlymins hi, ac ymeth a fi a'r hat ar y mhen, fel own i'n gneud stil.

Nawr fi eis i ddryched am y gwartheg, ond diar a godio, achan, roudd rhwyn wedi myn'd a nhwy tua gadre; rown i'n gwel'd hol 'u traud nhwy wedi myn'd, ac fi deudes ine fyn'd gaul 'u dala cyn y byse nhwy yn cyredd y clos, ond roudden nhwy ar y clos, mau debyg [sic; = maufn debyg], cyn i fi ddowad o ardd yr hen Nansy.

Rown i, erbyn mod yn cyredd y clos, wedi slafio'n hunan nes own i'n whys mowr; a chyda mod i'n cyredd yno, dyma mishtir yn dowad ata i a'i ffon yn 'i law a golwg ddynsherus o grac arno.

"John," medde fe, "ble buot ti, heddi, achan?h

Fe atebes ine iddo fel y dysgodd Dafy fi i neud nosweth cynt.

"O! dy gelwy' mowr di," medde fe, gan chwanegu, "mau whant arna i dori'r ffon 'ma ar dy gefen di, a ous?" Gyda hyny, roudd y ffon y nhwrnu trwy'r ar, ac yn taro'n hat i whiw oddair y mhen i, nes oudd yr 'irin a'r plymins yn dishgyn yn gawod ar y clos. Pan welodd e hyny, fe safodd yn standstil miwn syndod. Pryd hyny, fe geis ine gyfle iddi gwanddi hi tua chadre at Nanti.

(I'w barhau.)


Papur Pawb / 4 Rhagfyr 1897.


GWAS O WAR LLANDEILO. VIII. TROI DALEN NEWYDD.

Jawcst, achan, peth sobor iawn yw cydwybod euog, maufn hala rhwy ofon mowr iawn ar ddyn, a dyna'r achos fod pob dyn euog yn ffoi heb 'i herlid.

Rown i'n euog o ddwyn, ac wedi nal gen mishtir; roudd e'n evidence ar y ngwddwg i, ac rown i'n 'i gwel'd hi ar ben arna i, rown i'n y ngwel'd i'n caul myn'd i'r jail, ac fi ges i ofon mowr dierth - yr ofon mwya ges i arioud.

Pan gyrheuddes i adre, roudd golwg sobor o ddierth arna, i, ac fe fuodd Nanti bron cwmpo miwn ffit wrth y ngweld i.

"John bach, O! machgen mowr i," medde hi, gan daro'i dwylaw yn 'u gily'. "O! gwed wrtho i be sy'n bod?"

"Mae digon," wedes i, gan dori i lefen.

"Beth sy'n bod? Beth wyt ti wedi gaul? Beth wyt ti wedi neud? B'le mau dy hat di?h oudd y gofyniade nesa, ond cyn i fi ddwad i allufu hateb nhwy, roudd Mishtir yn y drws yn gofyn:

"Odi John wedi dowad yma?h

"Odi, Mishtir Lewis bach, dowch miwn, be sy'n bod?h oudd ateb Nanti.

"O! dim niwed mowr, dim ond mod i wedi dowad iddi drics e," atebe ynte, gan ddowad miwn i'r ty yr un pryd, a'r hat a'i chynws o dan 'i gesel.

Yna adroddodd i Nanti ei fod e er's meityn yn drwgdybio'r esguson mynych roddwn i am yr amser a gollwn wrth neud negeseuon, nad oun nhwy ond carn o gelwidde yn caul 'u golchi ar 'u gily'; ac iddo ddowad ar y ngol y bore hyny gyda'r amcan o gaul ma's beth oedd y gwirione, a shwd llwyddodd e yn hyny.

Pan ddibenodd mishtir weud 'i stori fe gododd Nanti ei dwylaw miwn dychryn, gan droi ata i a gweud:

"Rhog dy gwily' di, John! Cato pawb, ti ddowi i gaul dy grogi, wirione fach i, mae dy olwg di'n gweud dy fod di'n gilti! A phwy dy ddysgodd di i ddwyn? Nid y fi a dy data dy ddysgodd di, fi a i yn ddife ar hyna; gwed, grwt, be sy gen ti i weud trosot ti d'hunan?"

Roudd llaish Nanti wrth ofyn y cwestiwn yna yn gweud wrtho i, mai gwell oudd i fi ateb rhywbeth ar unweth, ne dderbyn y consequens o beido yn o glou. Felly, fi atebes iddi dan lefen a chrynu gyda'r gair "Dafy'.h

Yna bu dishtawrwdd am dipyn; y cynta i sharad wed'yn oudd mishtir.

"Ho!" medde fef "Dafy', aie. Dafy'r bachgen sifil, gonest, crefyddol, a santedd yn dysgu lledrad, aie?"

"Eu cyredd nhwy 'te i Dafy, out ti?" gofyne Nanti yn fwy tawel, dan bointo'i bys at y plymins oudd yn yr hat o dan gesel mishtir.

"Ie," oedd fy ateb.

"Dyna," medde hi, "gwed di'r gwirione i gyd, wrtho i a Mishtir Lewis, ffor buodd hi; a chwedyn gei di fod yn rhydd am y tro hyn ond i ti addo peidio gneud hyn byth eto, gnei di?"

Gan fod telere Nantifn rhai riol hawdd, fi atebes iddi, "Gnaf." Yna, fi wedes yr oll a chyfan am ormes a strance Dafy, ond dim wedes i am y fasnach oudd rhyngo i a Miss Maggie; roun i'n ormod o ffrind iddi hi iddi hala hi gaul styre am ddim.

"Dyna," medde mishtir, "gei di fod yn rhydd tro hyn, ond chei di ddim gwishgo dim rhagor ar y hat yma, ffeinda di rhwybeth arall a dere oes ar y ngof; mau haram yn aros Dafy nawr fach," medde fe, gan ddryched ar Nanti.

"Wirione, mau efn fi heuddi, fe ddyle – h Wedodd Nanti ddim rhagor, roudd mishtir wedi myn'd o glyw a'r hat a'i chynws ganddo, ac ni weles mohoni mwy.

Fe fuodd hireth mowr arna i ar i gol hi am hir amser, roudd shwd hyd yndi at gadw pethe, a chymint o bethe stil gen ine iddi cadw; ond gan i fi newid yn ffordd o fyw, fe ddouth llai o'i hishe arna 'i na fuodd.

Bid fyno, cheiso i ddim myn'd yn glou ar ol mishtir fel roudd e am; fe gadwodd Nanti fi gadre i gaul brecwast gyda hi, er mwyn iddi hi, mau'n debyg, gaul pregethu tipyn ar y mhechode i a Dafy; ac hefyd i gaul cynghori tipyn arna i i fyw yn fwy taliedd o hyny mas, rhog i fi fyn'd i fwy o hobl.

Pan gyrheuddes i nol i Bryngwdwn mowr [sic; = Mowr], roudd mishtir a'r gwasanethynon wedi brecwasta, ac wedi myn'd mas at 'u gwaith i fedi'r ca gwenith; ac roudd pobpeth beiti'r ty yn eitha dishtaw, fel roudd e'n iwso bod stil.

Gan nad oudd neb iddi gwel'd beiti'r ty, fi eis miwn i'r ty at mistres gaul clawed pwy orders oudd genti i fi, ac fe nghlowodd ifn dowad, ac fe ddouth i'r drws i nghwrdda i, ac medde hi:

"Ddois ti do fe, yr horswn bach drwg? Os cest ti frecwast, cera iddi helpu nhwy ar y gwenith." "Do," atebes ine, gan fyn'd ymeth yn eitha shei, ond wrth fyn'd, rown i'n 'i chlowed hi'n gwneud [sic; = gweud] wrth 'i hunan:

"Dyna debyg iddi data yw e hefyd."

Roudd mishtir pan gyrheuddes i i'r ca yn medi'r gwenith am bowyd gyda'r gwasanethyuon, a phan welodd e i'n dowad i'r ca, fe weuddodd arna i i ddowad i rwymo ar 'i ol e; a rhwymo ar 'i ol e bues i trwy'r dy' y dwarnod hyny.

Roudd mishtir yn gweithio ar y cnuafe stil, ond dim llower gyda hyny.

Wrth ddilyn mishtir, rown i nawr ac ylchwath yn towli ambell i lygad at Dafy 'r ail was, widdoch; gaul gwel'd shwd oudd e'n dryched; ac rown i'n nabod yn buron [sic; = bruon] wrth 'i olwg e, 'i fod e wedi caul haram y bore hyny; oblegid roudd e yn dryched mor gas arna i, a tyswn i yn gi canddirog; ond feudde fe ddim gweud na gneud dim lle clowe ne wele mishtir.

Y nosweth hyny, wrth fyn'd i'r gwely, yn lle troi at yr. Arglwydd fel roudd e'n iwso gneud stil, fe drodd Dafy ata i, ac fe ngalwodd i'n bob enw cas allse fe ffeindo; ac fe'n rhegodd i, ac fe fwgwthodd y'n lladd i a phobpeth, achan.

Fi gredes i 'i fod e'n myn'd i neud hyny hefyd, ac fi rhoies screch fowr, a dyna shwd ces i lony' gento; wedodd o ddim wrtho i nag wrth yr Arglwydd wrth fyn'd i'r gwely cyd y buodd e wedfyn yn was yn Bryngwndwn.

Bid fyno, cyn i ni adel y ca'r dwarnod hyny, roudd hi'n ole louad, a phan oun ni beiti adel, fe ddouth Miss Maggie i'r ca ato ni i weud wrth 'i thad fod 'i mami'n gweud wrtho am 'i gadel hi, os nad oedd e am weitho dydd a nos?

"Cer di nol, fe ddown ni nawr," atebodd ynte.

"Na," medde hi, "os odych chi'n folon, fi helpa i John i rwymo'r hyn sy ar ol," a dyma hi yn dowad ata i i nghelpu [sic; = nhelpu] (roudd hi a fi'r un oudran).

"Wel," medde fe, "gwna fel y mynot ti, dyma fi'n myn'd;" ac medde fe wrth y rhai erill, "Dowch nawr, ddynion, 'dewch hi am heno."

Roudd pawb yno wedi blino, ac yn barod i roi fyny ar y gair, ac felly y gneuthant hefyd, gan ddilyn mishtir shafr ty.

g'Dewch iddyn nhwy fyn'd yn gynta," medde Miss Maggie yn 'y nghlust i yn ddishtaw, "fe ewn i ar gol nhwy."

gGore,h meddwn i, gan ddal i rwymofn mlafn nes i'r ola o'r gwasanethynon fyn'd mas o'r ca o'n golwg. Yna ni shteddsom yn dou ar ein gorchwl, a bu dishtawrwdd yno am dipyn bach.

Yna gofynodd i fi, "Wedsoch ddim wrth data beiti fi bore heddi, do fe?"

"Naddo," atebes ine.

"Fe wedsoch ar Dafy, ond do fe?"

"Do," oudd fy ateb.

"Wel, ffor na wedsoch chi arna i te?h gofyne hi.

"Rown i'n ormod o ffrind i chi, i weud dim am danoch chi," atebes i.

"Odych chi'n ffiind i fi te?" gofyne hi wed'yn, felse hi ddim yn 'y nghredu i.

"Odw, nghariad i ych chi," wedes i, gan ddodi mraich am 'i gwddwg hi, a rhoi slab mowr o gysan iddi clowse chi e o wish b'le.

(Ifw barhau.)


Papur Pawb / 11 Rhagfyr 1897.


GWAS O WAR LLANDEILO. IX. MEWN TWYMYN.

Gyda'n hanes i a Maggie ar y gwenith o'wn i'n dibenufr wythnos wetha.

Wel, wedi i fi ddodi mraich am 'i gwddwg hi, a rhoi'r cysan mowr hyny iddi, "For shem, John," medde hi, felse hi hanner crac 'ma; ac yna, fe gododd ac fe rhedodd sha'r ty o mla'n i, i weud wrth i mami, own i'n feddwl.

Fe redes i spel o'r ffordd ar 'i gol hi, goul [sic; = gaul] treio genti sefyll i sharad a fi; ond er mwedd a mwedd arni neyd hyny, safodd hi ddim.

Diach arroud [sic; = arioud], achan, 'rown ifn ngwel'd i nawr miwn haffeth newy', a widdwn ar ben bowyd beth nelswn i, pfun ne myn'd ar i gol hi sha'r ty, ne myn'd gadre at nwncwl a nanti; wedi conseti[?]th [consetieth?] tipyn, fi benderfynes fyn'd sha'r ty ar 'i gol hi, bid fyno, gan feddwl, falle na wede hi ddim beiti fi.

Pan gyrheuddes ifr ty, roudd mishtres wedi par'toi y swper yn barod ar y ford, a'r gwasanethynon yn 'u llefydd yn aros i Dafy'r gwas pena ofyn am y fendith; ac roudd ynte ar 'i draud yn golchi arni am fowyd. Wedi iddo ddibenu, fe gymeres inne'n lle gyda nhwy; ac yna, fi neis 'y ngore i fyn'd trwy'n shar miwn chydig amser, gaul myn'd i rhywle o'r golwg, rhog i mishtir ne mishtres ddowad yno i gadw styre a fi lle clowse'r gwasanethynon.

Fues i ddim fowr o dro wth y swper; wed'yn, fi eis ma's, ac i'r 'sgubor i orphws tipyn ar y gwellt oudd 'no.

Cyn hir, fi glown swn troud ysgon rhwyn yn dowad yno ato i, a phwy oudd hi, erbyn spio, ond Miss Maggie 'i hunan. Wedi ngweld ifn myn'd miwn, ac wedi dowad ar 'y yn ngol i yr oudd.

"Beth y'ch chi, John, yn moyn fan hyn?h medde hi, yn ddishtaw, gan ishte yn y gwellt ar mwys i.

"Myn'd i rhwyle'n lle bo fi'n caul styre, odw i," meddwn i, a'n llaish i'n crynu.

Fe gredodd hi mod i'n llefen, ac medde hi, "Na hidiwch naws; wedes i ddim am gyne wrth data na mami, na neb."

"Wedes inne ddim wrth neb, hefyd,h atebes ifn lled swta; ac yna bur chydig ddishtawrwdd.

"Rou'ch chi'n gweud ar y ca' gyne," medde hi miwn cetyn, yn grynedig, "fod chi'n ffrind i fi, a ta fi oudd y'ch cariad chi?h

Gan nad oudd fowr dialldwrieth rhyno ni eto, chydig o ymddiriedeth oudd hefyd; ac am hyny, yn lle ateb 'i chwestiwn hi ar unweth, fe ofynes inne iddi hi,

"Odych chifn ffrind i fi, 'te?"

"Odw,h medde hi, gan nesu'n nes ata i, a gweud yn 'y nghlust i, "ond mau mami'n gweud ta gwraig i bregethwr fydda i."

"Gwraig i bregethwr fyddwch chi, hefyd; pregethwr odw i i fod," meddwn i, gan gadio yndi, a rhoi lot fowr o gysane iddi, a wedodd hi ddim nawr wrtho i am beido; roudd hi felse hi miwn rhwy soc, ac rofwn inne, ran hyny, hefyd.

Bid fyno, roun ni'n diall y'n gily'n bruon erbyn hyn, ac ni euthon i gynlluno ffor oudd dowad o beiti bethe. Tra oudd hi yn dowad a phethe scyrfenu i fi o Landeilo tro nesa bydde hi'n myn'd yno gyda'i thata; ac ar ol i fi ddysgu scyrfenu, ro'wn i ddechre pregethu; yna fe fyswn yn caul colege ar gost yr enwad, ac wed'yn yn caul eglws, ac yna'n priodi, ac yn --.

Wel, cyn i ni ddibenu'r cynllun, fe glowen swn troud ar y clos yn nesu tuagato ni.

"Cwatwch," medde hi, gan neido ar 'u thraud, a dechre towli gwellt droso i. Gyda hyny bron, fe glown laish mishtir yn gweud,

"Maggie fach, beth wyt ti'n neyd fan hyn mor hwyr a hyn, blentyn? Dere i'r ty," a hithe yn ateb, "Crynhoi'r gwellt 'ma, lle bod en sarn ar hyd y lle," ac yna y ddou yn myn'd ymeth.

Wedi'r ddihangfa gyfyn' yna, fe godes i miwn tipyn o ngwal, gaul i gwanddi hi sha'r gwely yn llawn o gariad a dishgler obeithon. Ond nid i gysgu - i gynllunio, ac i feddwl am yr hyn a ddigwiddodd yn ystod y dydd, ac am y nyfodol gole i a Maggie; yna, fe ddouth Dafy, fel y gwedes i'r wythnos wetha, ata i i'r gwely; a rhwng y cwbwl, roudd hi bron yn ddy gole glan arna i cyn i fi gysgu dim llygedyn.

Pan cysges [sic; = pan gysges] i wed'yn, fi fryddwydes mod i a Miss Maggie gyda'n gilyf yn y 'sgubor, a mod ifn gwel'd Dafy'n dowad ato ni a phladur gento i'n lladd nifn dou; yna, fi ddihunes, ac rofwn i'n sobor o sal. Roudd yn bryd codi. Roudd Dafy wedi codi, ac wedi gwishgo am dano yn barod i gochwyn ma's at 'i wasaneth. Roudd e' yn meddwl 'y ngadel i gysgu mlafn, er mwyn i fi gaul styre am hyny gen mishtir; un sobor dierth oudd mishtir am y bore.

Wedi gwel'd Dafy, a diall 'i drice, fi godes inne ond rofwn i mor feddw bron a whilber, roudd 'y mhen i hefyd bron a hollti gen y boun oudd ynddo.

Fe auth Dafydd ma's yn glou, heb weyd gair wrth neb; fi eis inne ar 'i ol e' mor gynted galles i wishgo, er mwyn cyredd y gwartheg iddi godro ond pob cam ag ofwn i'n roi, rofwn i'n 'y nghlowed i'n myn'd yn salach, salach, o hyd.

Pan ddois i a'r gwartheg 'nol, roudd Mairi a Beti a'u stwcane gyda nhwy ar y clos, yn aros am danaf gaul godro.

Ro'wn i, erbyn hyn, yn sal tu hwnt, ac fe nabyddodd Mari hyny yn go glou, ac fe'n halodd i i'r ty at y tan, i fi, medde hi, gaul gwella; ond wellodd hyny ddim arna i, bid fyno.

Rhwng naw a deg ar gloch, fe ddouth nanti yno i'n 'hol i sha gadre; a chadre ar 'i chefen hi miwn shol ces i fyn'd, mau'n debyg, ond dw i'n cofio fowr am hyny nawr.

Dyw gwyr y 'lad, widdoch, yn talu dim un doctor fel gwyr y gweithe; felny, doudd dim un doctor yn y lle, ond Doctor Wmffres, ond doctor y plwyf oudd hwnw. Yn lle moyn hwnw ata i, fe nauth nanti, wedi nodi yn y gwely, jwged o de meint i fi; ond ddois i ddim yn well ar ol i hyfed e.

Yna, fe halodd moyn yr hen Nansi, yr hon, pan welodd hi fi, a wedodd nad oudd dim i neyd a nolur i ond 'i gwnsheri e'; ac os ffeule hyny, byswn i farw ac roudd pawb yn credu 'i bod hifn y gweud calon y gwir.

Bid fyno, fe auth hi ngafel afr cwnsheri ar unweth. I neyd hyny, roudd yn rhaid iddi neyd torth o fara yn llawn o bine drain, a'i chrasu hi yn 'y ngolwg i; ac wed'yn, ei chladdu, yn rhwyle heb yn wbod i fi; ac fel bydde'r dorth yn pwdru, medde hi, y byswn inne'n gwella.

Mau'n rhaid taw e, hefyd, fues i'n hir odieth cyn gwella. Wel, bid fyno am hyny, fe auth yr hanes am y cwnsheri, bore dranoeth, i gluste mishtir; a phan clowodd e' hyny, fe auth yn bowdwer gwyllt; doudd e' ddim yn credu miwn cwnsheri a phethe felny, oblegid roudd e' wedi bod yn darllen rhwy "Seren Gomer.h

Fe ddiallodd wrth yr hanes, serch hyny, mod i miwn picil drwg; a ffwrdd ag e' i moyn Doctor Wmffres i ngwel'd i ar 'i gost 'i hunan. Fe ddouth y doctor, hefyd, ar 'i ol e'n go glou ond wedi iddo ngwel'd i, fe shiglodd i ben, ac fe wedodd 'y mod i yn y brain fever. Nid oudd geno fe ddim yn y byd i neyd a fi, ac nad oudd gen i ond chydig o amser i fyw a phe byswn i'n caul byw, na fyswn i ddim ond dwlbyn hanner call.

Do, achan, fe wedodd felna; ond gweyd 'i gelwidde nauth e, ac fe gododd wheigen felen hefyd ar mishtir am danyn nhwy. Wel, os na ddois i yn ddigon clefer i bregethu, fe ddois i yn ddigon clefer i neuthur pob gwaith fferem, ac i labro am flynydde wedi hyny, miwn gwaith glo yn shir Forganwg.

(I'w barhau.)


Papur Pawb / 18 Rhagfyr 1897.


GWAS O WAR LLANDEILO. X. Y GWAS NEWYf.

Anwil Mishtir Golygydd, - Fe wedodd y doctor cyn madel, bid fyno, fod un peth allse nhwy neud i fi, y peth gore, a'r unig beth allse nhwy neud; hyny oudd, cadw mhen i'n our gyda chlwtyn wedi 'lychu miwn dwr our yn fynych; y byse hyny falle'n dylofi peth ar y dwymyn hyd nes celswn i dro arni, ac os gallswn i ddala hyd hyny, gallswn i wella.

Roudd pawb yn gwbod hyny, diolch iddo fe. Roudd pawb yn gwbod, tyswn i ond gallu dala'r dwymyn nes byse'r dorth hyny gladdodd yr hen Nansy yn y ddeuar yn dechre pwdru, y byswn i wed'yn, yn gwella gan bwyll, fel y bydde'r dorth yn darfod yn y ddeuar.

Wel, bid fyno, fe fues i yn agos i bythewnos cyn caul tro ar y dwymyn; ac wythnos ne bythewnos arall wed'yn cyn mod i'n diall dim oddiwrtho i'n hunan.

Fe fues i, ys gwedodd Nanti, yn agos i ange, ac yn wmladd yn galed iawn hefyd ag e am y mowyd; ond dw i'n cofio fowr iawn nawr am y batl, serch hyny.

Bid fyno, wedi i fi gaul tro ar y dwymyn fe ddechreues i wella; ac o dipyn i beth fe ddoutho i godi i'r 11awr, ac i bican tipyn o'r mouthe oudd hon a'r nall yn ddowad i fi.

Roudd pobun yn g'ruedd iawn i fi, ac yn falch iawn hefyd y mod i'n argoli gwella.

Fues ifn hir iawn cyn gwella, serch hyny. Fe hales i fishodd i wella, oblegid ddois i ddim yn ffit i ail ddechre ar y ngwasaneth cyn dechre'r flwyddyn. Pan eis i nol at y ngwasaneth dechre'r flwyddyn, roudd tipyn o newid, wedi cymryd lle yno. Roudd Dafy, yr ail was, widdoch, wedi madel oddno oddar c'lynfgeua, a gwas arall yno yn 'i le fe.

Bachgen ifanc, beiti ddounaw oud, o'r enw Jagob Hiws, wedi 'i eni a'i fagu o war Landyfri oudd e.

Mau darllen am Hiw's blyd pils yn y'n hala i gofio am dano fe stil; ond nid yr un Hiws oudd e, a Hiws y pils, serch hyny. Doudd e'n deleito dim miwn gneud pils ac eli a rhwy fflwcs felny; er, fe allse fe'u gneud nhwy'n bruon tyse fe'n trio oblegid roudd e'n un sobor o daliedd i neud pishis o ganu a barddonieth.

Tyse fe'n caul llony' gen mishtir neise fo ddim pwythyn a'i ddeg ewin ond gweitho can'uon a'i ddwycous ar ben y pentan. Roudd e' pan byse fe yn myn'd y 'ngafel a rhwy gragwri felny, yn y ty, yn codi ei gouse i ben y pentan stil; a phan fyse mishtir yn 'i wel'd e'n gneud hyny, "Nawr, Jagob," medde fe, "dere, dere, gad yr hen fflwcs yna ar ol; d'yn nhwy'n ateb dim byd yn lle gwitho, weld di." Ond wauth beth yn y byd wede mishtir myn'd y ngafel a nhwy nele Jagob bob tro cele fe gyfle stil.

Roudd e'n gnuthur pishis o ganu am bobpeth bron, yn enwedig am rhwy ddou fydde'n caru, ne ddou fydde wedi ffreuo afu gily' ag wmladd; ac am bobpeth 'te fydde wedi digwidd yn lletwith trwy'r holl 'ledydd ffor hyn.

Fe nauth bishin mowr o ganu un tro am gariade Mari a Betsifn tori'r gambo acha nosweth.

Tyswn i'n gallu cofiofr canu hyny, fe fyswn i'n fi scyrfenu i chi, achan, nawr fe fyse'n ddigon o bregeth i chi; ond dw i ddim yn i gofio fe; cof clawd sy gen i oddar bues i yn y dwymyn.

Roudd faint fyne' nhwy o gariade gen Mari a Betsi; roun nhwy yn dowad beiti'r ty weithe yn ddrofe mowr; doudd e dim byd i chi rifo ugen ne ddeg ar ugen ohonyn nhwy yno.

Pan byse nhwy yn dowad yn ddrofe mowr felny, doudd neb ohonyn nhwy yn caul ty; oblegid fe fyse'r rhai fyse mas yn siwr o nuthur rhwy gragwri ne gadw rhwy styre i gaul y rhai fyse wedi caul ty mas.

Mas byse raid iddyn nhwy fyned hefyd, wauth roudd mishtir yn myn'd yn ddynsherus o grac os clywse fe rhwy styre beitifr ty.

Pan fyse rhywrai yn cadw styre weithe, roudd mishtir yn codi o'r gwely, ac yn mynfd a'r dryll mas ar hol nhwy, ac weithe yn seuthu hefyd ond chlowes i ddim son 'i fod e wedi lladd neb arioud, serch hyny.

Wel, bid fyno; un nosweth fe ddouth gariade'r ddwy llodes yno o bob cwr o'r ddeuar ar wn i; roun nhwy fel angladd beiti'r ty, a phob un yn 'i dro yn treio caul agoriad; ond fuon nhwy naws gwell, chas neb e'.

Wedi iddyn nhwy feulu felny gyd, fe ethon at y gambo oudd yn mhen draw'r clos a dwy shafft yn pwyso ar y clawdd, i gadw cwrdd i gaul styried pwy gragwri neise nhwy, lled debyg.

Fe auth cwmint a weddw yn y gambo iddi ar unweth, ond trwy nad oudd digon o le ynddi iddyn nhwy gyd fe ishteddodd y rhai erill (ac roun nhwy lot fowr), ar y ddwy shafft, ond os do fe, fe glowen ddwy gradj fowr y ddwy shafft yn tori, a nhwynte yn disgyn i'r llowr dab; a chyda 'i bod nhwy ar llowr, roudd y rhai oudd yn y gambo'n caul 'u tipo ar 'u pene nhwy fel carted o goud oil.

Dei anwil! achan, dyna lle roudd pystylad wed'yn i gaul treio dowad yn rhydd o u gilyf genti nhwy; difershwn oudd fu gwel'd nhwy.

Roudd pob un fel roudd en llwyddo i gaul fi hunan yn rhydd, yn 'i gwanddi hi ymeth am i fowyd; ac roudd hi'n llawn bryd hefyd; oblegid fe fyse mishtir yn siwr o nuthur rhwy ledwithdod tyse fefn caul gafel yn un ohonyn nhwy pan ddouth e mas afr dryll i ddishgwl beth oudd y styre oun nhwy wedi gadw yno.

Roudd Jagob a fi yn gwel'd y cyfan ofr dechre, ac roun ni'n nabod y rhan fwya ohonyn nhwy.

Roudd Mari, a Betsi, yn 'u nabod nhwy hefyd; ond chafodd mishtir, na neb arall, yn Bryngwndwn, wbod byth pwy oun nhwy, er fod mishtir yn cynnyg pum' punt am gaul gwbod hyny.

Roudd mishtir yn credu mai gweithred o ddialedd a malesh oudd tori'r gambo; ond fe widdwn i a Jagob mai anhap teg a digri, ond colledus oudd; ac fel hyny cymerodd Jagob e i neud y canu arno.

Fe fuodd son fowr iawn am y canu hyny gen bobun; ac roudd pobun yn lico'i glowed e ac fe fuodd raid i Jagob 'i ganu e un tro a'r lofft y White Horse, Landeilo.

Un felna oudd Jagob. Doudd e'n prisho dim pryd delse hi'n na ddyf, na phryd else hi'n nos. Gweitho canuon oudd i holl ddeleit e stil.

(Ifw barhau.)


Papur Pawb / 25 Rhagfyr 1897.

GWAS O WAR LLANDEILO. XI. GOFIDIE CARU.

Fe faddeuwch chi i fi, achan, am fynfd i gered gyda hanes Jagob yr wythnos wetha.

Roudd yn annodd i fi beido gweud dim am Jagob; oblegid, fe oudd y nghywely i yn lle Dafy', widdoch; ac am hyny, rown ni fel dou frawd gyda phobpeth ond gyda barddonieth. Merlid a barddonieth oudd 'i bechod mowr e.

Wel, i gaul dowad nol eto at y'n hanes y'n hunan, fel gwedes i o'r blan, fe ddechreues ar y ngwasaneth dechre'r flwyddyn ac roudd pawb yn falch sobor mod i wedi dowad i allu gneud fyny, ond neb yn fwy balch na Miss Maggie. Y peth cynta ges i neud i ddechre, oudd myn'd i garthu'r beudy a chyda mod i'm dechre ar y job fe ddouth hi yno am i i weud pwy mor falch oudd hi mod i wedi gwella; a'i bod hi wedi bod bron tori chalon yr amser bues i'n sal wrth feddwl pwy mor sal own; ac y byse hi wedi dowad i spio'n hynt i droion oni byse bod 'i mhami yn grous.

"Rown i'n erfyn ych gwel'd chi'n dowad not neb," meddwn i; "ac rown i'n credu, wedifch gwel'd chi'n ddim yn dowad, ych bod chi wedifn anghofio i am byth."

"Dim peryg!" medde hi bron yn grac, gffor' shem, John.h "Lychcoch," medde hi wed'yn, gan dynu copy scyrfenu, poteled o inc, a phenholder mas ofi phoced a dryched yn seriws arna; "fi wedi 'ch anghofio chi iefe?h

gBegan pardwn, cariad, wi'n ych credu chi nawr,h meddwn i, gan ddodi mraich am 'i gwddwg hi a rhoi slab mowr o gysan ar 'i boch hi; ac roudd hi'n dryched wrth 'i bodd nawr, ac fe roddodd y pethe i fi gaul 'i cwato nhwy o'r golwg. Roddodd hi mo nhwy fyned yn rhy glou chwauth; oblegid, cyn i fi gaul amser i roi diolch na dim iddi am danyn nhwy, roun nifn clowed swn troud rhwyfn ar y clos.

Gyda hyny, roudd Miss Maggie yn y ngadel i yn right ddiseremoni; a chyn mod i wedi caul amser i stwffo'r pethe scyrfenu i frest y ngrys yn iawn; rown i'n clowed llaish mishtres yn gofyn "Ous dim cywily' arna ti los? Mynfd i sharad a'r gwasanethynon yn y tai mas fel rhwy gati fachgen oco, iefe? Beth ta'r 'lad yn gwybod? Beth wede dynon? Hach y fifn siwr! Cera i'r ty yna neud di [sic; = nei di], rhog dy gwily' di; dir cato ni'n bryd! Yna down hi'n dowad at ddrws y beudy; a chyn gallsech chi rhifo deg, roudd hi'n sefyll ynddo a golwg sobor o grac arni hefyd; ond rown ifn 'mroi i ngwaith gwmint allswn i."

Wedi dryched arna i fyned, "John," medd hi.

"Nan,h atebes ine.

"Wyt ti'n credu 'i fod e'n beth taliedd i ti dynu Maggie ata ti fel hyn i'r tai mas? Wyt ti'n credu fod rhwy lwmgi fel ti yn ffit i sharad gyda merch i? Mau merch i wedi caul cwnad risbactabl. Mau merch i wedi caul ysgol i fod yn ledi, beth na ches di, ac na chiei di byth, hefyd, a thi sy'n myn'd i dori charitor hi iefe? Un na wyr e ddim pwy yw e yn myn'd i dori caritor merch i ddynon gwmerodd drugaredd arno lle byse fe'n starfo aie? Gad di fi ych gwelfd chi gydach gily' eto, dyna gyd wi'n mofyn! Dir cato ni! Weles i ddim peth fel hyn yn y'n amser i!"

"Fuodd dim drwg rhynto i a Miss Maggie," meddwn i, yn wirion fach.

"Dim drwgyn yn siwrh medde hi, "dim drwg yn siwr! dous dim na drwg na da i fod rhynto chi tra bo i byw, fi a i'n ddife i ti am hyny; a meinda di na wela i ddim hefyd sy gore i ti."

Roudd hi wedi myn'd yn rhy grac i weud dim rhagor; ac, felly, fe ngadawodd i, gan fynfd nol i'r ty a golwg ddynsherus arni; ac yn wirione' fach i, achan, un ddynsherus oudd hi hefyd.

Wedi brecwast yn y bore digwidd y pethe yna. Amser brecwast dechreues i y bore hyny; ond fyse dim whithryn o ots gen i heddi tyswn i heb ddechre yno eto; oblegid fe fuodd 'i danodieth a'u bwgwthion bron tori ngahlon i'n ddwy; a nes i ddim gwerth dime o waith trwy dy' na bwyta gwerth dime o fwyd. Ches i ddim gwel'd Miss Maggie hefyd wedyn y dwarnod hyny; a thronouth pan gwedes i hi, ddryche hi ddim arna i mwy na'i ehato [sic] ac roudd hyny'n tori nghalon i'n wauth wedfyn.

Rown i yn fi charu yn driw. Ond a oudd hi yn y ngaru i? A oudd 'i mam wedi troi fi chalon hi oddwrtho i [?]

Shwd oudd dowad i wbod ffor oudd pethefn sefyll?

Rhwy gwestiwne felna oudd nawr yn y mlino i ddydd a nos; a dyna lle rown i'n penddyfalad am rhwy ffordd i gaul gwbod; ond pwy allse roi gwbod ond i hunan?

Roudd hifn cadw bant oddwrtho i, a phan byse ni dowad i gwrdd a'n gily', doudd hi ddim yn dryched ata i o gwbwl; ond dryched ne beido, myn'd yn ffrindach, ffirindach iddi, a'i gwel'd hi'n lanach , lanach, own i o hyd, a phara i scemo shwd oudd caul cyfle i sharad a hi.

Wauth scemo na pheido, doudd dim un cyfle iddi gaul. Roudd pob scem yn myn'd yn ofer. Yr unig beth wyddes i neud oudd gneud yn hunan yn dene a digalon. Rouddwn wedi myn'd bron mor dene a chrychydd,!L a bron mor ddigalon a dafad; ac roudd pawb yn credu mod i'n deicleino, a phawb bron yn dryched arna i gyda rhwy dosturi. Amser riol anifyr ges i y geua hyny. Yr unig difershwn ges i yndo fe o gwbwl oudd clowed Jagob yn adrodd i farddonieth; roudd e weithe yn ddigon i hala ceffyl i wherthin, gen mor smala odd e a dyna os dim dowt y nghadwodd ifn fyw.

Fe basodd y geua ac Ebrill gydag e, bid fyno, cyn i fi a Miss Maggie gaul yr un cyfle i sharad un gair ofr neilldu; roudd mishtres wedi meindo am hyny.

Ond fe ddouth Mai, a chydag e, fe ddouth ffair G'lame, Landeilo; ac roudd hi'n ffashwn gyda mishtir a mishtres stil i fyn'd bob blwyddyn i'r ffair glame; ac felly yr ethon nhwy y flwyddyn hyny hefyd.

Roun ni'r gwasaneth'ynon dwarnod y ffair yn gorfod myn'd i'r ca erfin i hwnu'r erfin; ac ni geso'n [sic; = geson] ddwarnod pouth sobor i neud hyny hefyd.

Roudd hi'n bouth iawn yn y pyrnawn, beiti dou a thri o'r gloch felna; ac roun nifn hwsu'n dyferu yno; a phob un yn achwyn fod syched arno.

"Jac bach," medde Dafy'r, gwas pena', wrtho i, "cera ifr ty, gofyn i Miss Maggie am lymed o lastwn i ni, gwed y'n bod ni bron llwgu ofi ishe fe."

Dafy' oudd' y mishtir pan byse mishtir a mishtres ymeth; am hyny, fi es ar unweth; ac rown ifn falch i gaul myn'd hefyd.

(Ifw barhau.)


Papur Pawb / 1 Ionawr 1898.


GWAS O WAR LLANDEILO. XII. DAFYf A MARI.

Roudd caul myn'd i'r ty dros y gwasanethynon ar neges y dwarnod hyn yn golygu rhoi cyfle i fi gaul sharad a Miss Maggie, a dyna shwd ofwn i mor falch o gaul myn'd drostyn nhwy.

Dim ond hi hunan oudd gadre y dwarnod hyn. Roudd Masters Tom a Willie yn yr ysgol yn Landyfri ys mishodd, a Miss Jane yn ysgol y 'ffeirad, yn y pentre, fel roudd hifn iwso bod stil; ac fel gwiddoch, roudd 'i thata afi mami yn Ffair Glame Landeilo.

Bid fyno, pan eis i shafr ty, fe ddouth Miss Maggie i nghwrdda i i'r drws; a phan welodd hi mai fi oudd yno, yn lle bod yn hawgar ac yn gruedd, fe dylse hi fod i fi, fel gwiddoch, 'i gwineb hi fel y tan, ac fe drodd nol i'r ty heb weud un gair, felse hi wedi caul rhwy ofon dierth.

Wel, ofon ne beidio, fe ges i shomedigeth fowr sobor, fyno; ac fe fuodd agos i fi anghofio beth oudd y neges i yno, a throi ymeth; ond miwn ar ol fi gol hi eis i.

Wedi clowed yfn neges i, fe auth i'r gell ar unweth, ac fe ddouth a jwged fowr o lauth ma's genti miwn tipyn, gan 'i dodi ar y ford o mlafn i; ond yn lle myn'd a'r jwg i'r ca' yn glou, fel dylswn i, fe safes i fel rhwy geitwch oco i ddryched arni am spel fowr.

Rhyw hyrtwch arna i oudd ef, achan, ond fe ddouth i ateb diben, serch hyny, oblegid fe wherthodd Miss Maggie arna i, ac fe ofynodd beth oudd y mater arna i; a phryd hyny ceso i le i afllws 'y nghwdyn. Roudd cwded bach diogel iddi a'llws gen i hefyd, ond a i ddim dros y stori hyny gyd nawr.

Roudd hifn riol driw i fi stil, a'r achos 'i bod hi'n peidio dryched arna i oudd, fod 'i mami afi llyged ar 'i hol hi. Bod 'i mami yn fy nghyfri i fel rhwy ran o stoc y fferem, a byse fe'n gwily' mowr ifr tylwith iddi gwel'd hi'n dryched dim arna i byth, medde hi; ond fe sicrodd i fi, os na cheise hi ddryched arna i, na ddrychse hi ddim ar neb arall, tyse nhwy'n cynnyg mab i fffeiraid iddi.

Wedi caul sicrwdd felna, 'i bod hi'n driw, a ifn afn bod i gario'r garwrieth mla'n yn ddirgeledd yn y dyfodol; ni madewson afn gily' yn od o daliedd, ac ro'wn ifn myn'd nol i'r ca erfin wrth 'y modd.

Peth digon rhwydd yw cynllunio rhwybeth, ond peth anodd yw fi gario fe ma's wedfyn. Bid fyno, dyna fel y buodd hi gydafr garwrieth.

Roudd mishtres yn cadw gwiladlwrieth mor fanol arno ni, fel nad oudd un shawn [sic; = shawns] i ni gaul sharad gair, weithe, am fish ne ddou; ond roun ni'n mynu gwenu, ne roi winc, ar y'n gilyf heibo rhwy gornel stil, serch hyny, ond dyna gyd tra byse hi gadre.

Anfynych yr ele hi, o gadre, ac felly anfynych y cele ni gyfle i sharad gair; ond roudd hi weithe'n myn'd, ac roun ninnefn gneud yn bruon pryd hyny.

Tra'r own ni'n byw fel hyn, roudd y dyddie, yr wythnose, y mishodd, a'r blynydde'n paso; hyny yw, fe basodd tair blynedd heb i ddim mwy hynod na hyna ddigwidd yn y'n hanes i. Nawr, fe gym'rodd cyfnewidiad le yn y gwasaneth, a dyma shwd y bu.

Un diwrnod, fe safodd Dafy'r gwas pena wedi cino ar y'n hol ni i sharad rhwybeth a mishtir; ond beth fuodd y sharad fu rhyntyn nhwy, ddois i byth i wbod.

We1, y nosweth hyny, fyno, roudd student ofr Bala yn pregethu yn Capel Capant, ac yn clasgu at y colege; ond auth ddim o mishtir i'r cwrdd; roudd e, medde fe, yn teimlo'n anhwylus, ac am hyny auth mishtres ddim hefyd, na Betsi.

Dwn i ddim a oudd rhwy ddialltwrieth rhyntyn nhwy ne beido; ddim ond Dafy' a Jagob, a Mari a finne, auth i'r cwrdd o Bryngwndwn Mowr y nosweth hyny.

Wel, fe geson ni bregeth dda odieth gen y student, ond ta pregeth o waith Charles o'r Bala, oudd hi, tyse hi wauth o hyny.

Wedi i'r cwrdd ddibenu, roudd lot o gryts yn weitan i Jagob a finne ddowad ma's; ac yn lle myn'd gadre'n glou, roudd yn rhaid cwmfryd mwgyn gaul gweud storie a chaul clowed Jagob yn gweitho barddonieth; ac roudd e' yn gneud pishis grand ifr cryts fel yr owel.

Pharodd y mwgyn ddim yn hir, oblegid roudd yn rhaid i ni fod gadre erbyn naw, ne fod heb swper.

Roudd yn naw arna i a Jagob yn cyredd Bryngwndwn, ac roudd y swper ar y ford. Gyda'u bod ni tufiwn i'r drws, dyma mishtir yn codi o'i gader wrth y tan, ac yn gweud wrth Dafy' a Betsi (dim ond y nhwy'ch dou ouddno (sic; = oudd fno),

"Dewch at y ford nawr, te," ac roudd rhwy wen gragwrus ar 'i wineb e' a Betsi; ond roudd Dafyf yn dryched mor seriws a tyse fe wedi colli fi bwrs a'i arian.

Bid fyno, fe ofynodd mishtir am y fendith yn lle Dafy', ac wedi iddo ddibenu, fe auth e' nol iddi gader i smoco, ac fe ddechreuson ninne olchi ar y shican bwdran oudd o'n blaune; ond cyn i ni ddibenu, fe ddouth mishtres ato ni ofr parlwr.

"Shwd mau yna nawr?" gofyne Mishtir.

"O!h oudd ateb mishtres, "mau'n benwan yn 'i chroun, ac yn sterics gwyllt; ac mau yn gweud mai dim ond hyd glangeua y bydd hi gyda ni."

"O ie, ne lai na hyny,h medde fe, gan ddryched yn gragwrus tuagat Dafyf; ond doudd Dafy' ddim yn cwm'ryd arno wel'd, na chlowed, na diall dim.

Tendo golchi ar y bwdran yn y bla'n nauth Dafyf, gan ddryched mor gas arno, a thyse fefn de wermwnt llwyd, ne de ffa'r gors; ac wedi iddo ddibenu, fe gadiodd yn 'i hat, a ma's eg [sic; = ag] e' tua'r wely i orphws heb weud gair.

Gan i Dafy' fyn'd, rhaid oudd i finne a Jacob fyn'd hefyd;, oblegid roudd shampl Dafy' yn caul 'i styried geno ni stil yn orchymyn, a myn'd neuthon ni heb gaul gwbod dim beth oudd y mater a'r Mari.

Dronouth fe gafodd Jagob gyfle i sharad a Betsi, yr hon oudd wedi caul yr holl stori gen Mari 'i hunan. I stori oudd hyn: Wedi Mari ddowad ma's o'r cwrdd rol bod yn grondo'r student yn pregethu, fe fwrodd Dafy' yn hochor i gaul dowad gyda hi gadre, ac wedi cered spel o'r ffordd, fe ofynodd iddi:

"Glowsoch chi, Mari, fod gwr Penyweun yn myn'd i roi'r lle fyny?h

"Naddo i, wirione',h atebodd hithe; "odi e', te?"

"Odi," medde fe, gan ychwanegu, "dyna lle ganed a maged fi nes o'wn i'n grwt diogel, ac fe licwn i fyn'd i fyw 'no eto, Mari."

"Leicech chi?" gofyne hi.

"Licwn i," medde fe, gan chwanegu eto, "rw i wedi penderfynu setlo am y lle yn gwmws i fi gaul priodi, a sefydlu lawr; rw i'n ych caru chi arioud - .h

"Cerwch ona chi,'rhen ffwl; dw i ddim yn moyn i chi ngharu i," medde hi yn grac, dan neido dwylath odd wrtho.

gMari fach," medde fe'n dowel, dan dreio gadio gafel yn 'i braich hi, "rhoswch i fi gaul sharad a chi los.h

Wrth fi wel'd e'n treio cadio gafel yndi, fe gafodd Mari ofon fod drwg yn 'i lawes e', ac fe weuddodd "Jwbwb!" nes oudd y lle'n eco, ac fe rhedodd gadre o'i fla'n e' am 'i bowyd. Erbyn iddi gyredd y ty, roudd 'i gwynt hi yn ei dwrn hi, a nauth hi ddim ond cyredd y parlwr cyn cwmpofn rheng ar y soffa.


(Ifw barhau.)

Papur Pawb / 8 Ionawr 1898.

GWAS O WAR LLANDEILO. XIII. YN WAS PRIODAS.

Anwil Mistir Golygydd, - Helynt sobor o ddynsherus oudd dechre carwrieth Dafy. Welodd e ddim golwg arni wedifr nosweth buodd e'n sharad a hi wrth ddowad o'r cwrdd, am yr wythnos hyny; roudd hi'n cadw o'r golwg gyda mishtres yn y gegin fach.

Roudd hin grac sobor iawn wrtho fe am ddyddie, ac roudd hifn gweud pethe drwg scandalos am dano fe hefyd; heblaw fi alw fe'n hen ffwl, afr hen labwst hurt, &c., ond roudd e, serch hyny, yn caul 'i amddiffyn yn glen stil gen mishtir, ne mishtres, a hyny hefyd gyda chamolieth fowr.

Un dwarnod, wedi blino grondo arni'n rhedeg dros Dafy, fe wedodd mishtir wrthi am iwso'i sens a styried beth oudd gyda hi mhvnllaw miwn amser, rhog ceise achos eto i difaru.

Roudd Dafy, medde fe, wedi bod yn 'i wasaneth e am flynydde mowr, ac roudd e wedi gaul e'n fachgen da, sifil, a thaliedd iawn stil; ac mai dyna, oudd 'i garitor e gen bawb ond genti hi.

Roudd e'n ddiacon yn y capel hefyd; ac nid honer fach i fachgen o was fferem, oudd caul 'i ddewis yn fleunor i ishte dan y pilpud, pan oudd dynon fel gwr yr Allt Ddu, a gwyr ofr ffermwrs mowr erill, yn gorfod ishte nol miwn seti bach.

"Na, na, Mari fach," medde fe wed'yn, "ac rwyt ti nawr wel'd di, yn powri ar bilyn da, y bydd yn dda gen ti eto 'i gaul e, falle; fi wn i hyn, bid fyno, fe fydde'n dda gen garne o ferched gaul yr honer o fod yn wraig Penyweun.h

"Dous mona i'n i moyn honer e," medde hi'n grac, "Ta pun e wyt yn i moyn hi, ne beido, paid di ngadel i dy glowed di'n rhedeg Dafy i lawr felna eto sy gore i ti," medde fe'n ffyrnig sobor; "ac ar hyny roudd e'n myn'd mas yn rhy grac i sharad rhagor."

Llefen nauth Mari fwyafr dwarnod hyny wedyn; oblegid, medde hi, bod pawb yn 'i herbyn hi.

Dy' Gwener buodd y pethe yna, Erbyn dy' Sadwrn roudd Mari wedi dylofi llower iawn. Roudd mishtres wedi bod wrthi, ac wedi caul tro arni, ac wedi caul genti gwmryd pethe i styrieth; fel erbyn nos Sadwn roudd hifn dryched yn od o gweiet.

Dy' Sul, bid fyno, roudd hi a Dafy yn y parlwr, ar de gyda mishtir a mishtres; ac rown i'n 'i chlowed hi weithe, yn spongo wherthin fi chalon hi, fel gnele hi stil, pan byse hi wrth 'i bodd, ac yn flowed rhwy'n yn gweud rhwy jocen fach. Tebyg ta mishtir (un cragwrus iawn oudd e stil am rhyw jocen fach), tebyg ta fe oudd yn 'i phrofoco hi, mai r "wraig o Benyweun" fyse 'i henw gen bawb yn od o glou; roudd hi'n lico hyny yn bruon, ta pun ne oudd hi'n lico Dafy ne beido.

Os byddwch chi, byth, achan, eishe talu parch a gwarogeth fowr i ffermwr, ne wraig ffermwr, o war Landeilo; peidwch chi a'u galw nhwy yn Mr hwn a hwn, ne Mishtres hon a hon; galwch chi e y gwr o'r lle bo fe'n byw yndo, a hithe y wraig ofr lle bo hithe'n byw yndo. Mau hyny iddyn nhwy fel teitle arnyn nhwy; ne, run fath a tha chifn galw, Lord Drenewy' a Ladi Drenewy' ar 'Lord a Lady Drenewy'.

Felna, achan, doudd dior yn y byd fod Marifn wherthin wrth glowed mishtir yn gweud maufr wraig o Benyweun fyse 'i henw hi gen bobun yn od o glou.

Roudd Mari nawr wrth fi bodd, ond doudd Betsi ddim felly; roudd hi'n dryched mor dddiflas a thyse hi wedi caul baw yn i dannedd; a phob tro byse hifn clywed Mari yn wherthin yn y parlwr, "Clowch hi nawr' mau fel nhwy [sic; = rhwy] hen afar wanw'n oco."

Dous dim amheueth na nauth Betsifi gore gyda Mari yn erbyn Dafy; a dous dim amheueth hefyd na licse hi fod y wraig ddyfodol o Benyweun; er 'i bod hi'n gweud, nad else hi ddim gyda Dafy, tyse un pen yn our a'r nall yn arian iddo.

Cenfigenu oudd Betsi fod Mari yn myn'd o'i blan hi.

Wel, bid fyno, fe auth Dafy afr mishtir gyda e, un dwarnod, yn glou iawn wedyn, at wr Penyweun i setlo ag e am y stoc, a phobpeth fel yr oun nhwy ar y tir; lle byse ishe i hwnw neud ocshwn pan byse fefn madel, ac fe ddouthon i gyd-ddialltwrieth daliedd yn od o glou.

Roudd yr hen wr afr hen wraig oudd nawr yn Penyweun yn reteiro; ac roudd e, nol y cytundeb nauth e a Dafy', i glirio mas pan deise Dafy' afi wraig miwn; ac roudd Dafy' i' dalu iddo am hyny, ddou cant a hanner o byne.

Y peth nesa oudd caul cydsyniad y stiwart, ac fe lwyddodd mishtir idd'i gaul e, gan iddo fe fyn'd iddi moyn yn lle Dafy'.

Beiti fish cyn Clyngeua digwiddodd y pethe hyn; a bore dy' ffair Clyngeua, roudd priodas yn starto mas o Bryngwndwn Mowr tua Landeilo; mishtir a gwr Penyweun yn fleuna, Dafy' a Mari wedyn, yna Jagob a morwn Penyweun, ac yn ola, Miss Maggie a fine.

Dymuniad Mari oudd y nghaul i a Miss Maggie yn y briodas; fe gafodd fi rhwng bodd ag anfodd, ond fe gollodd barch mishtres wrth hyny, fe ddylse hi fod yn gwybod fod rhagor rhwng seren a seren miwn gogoniant.

Fyse raid i mishtres byth y'n scorno i, rown i'n dryched mor daliedd yn y briodas a neb, fyno; rown i miwn shiwt newy' o frethyn gwaith ty hyfrydol sefse ar 'i ochor, a doudd dim gwell na hyny gen mishtir 'i hunan. Fe gyreuddson ni i Landeilo yn lled fore, bid fyno; ond roudd ugeine wedi cyredd yno o'n blan ni; a dyna lle'r own nhwy ar hyd yr hewlydd, rhai yn ceisho prynu a gwerthu 'nifiled, ac erill yn ceisho cytuno am weishon a morwnon.

Ffair gytuno, yn bena, yw ffair Glyngeua; a dyna shwd mau hifn ffair mor fore. Wedi i ni gyredd hyd y Coder Arms, roudd yn rhaid ni gyd droi miwn fan hyny gen mishtir; ac wedi myn'd miwn fe auth mishtir oddwrtho ni at wraig y ty i ordro cwart o ginhot, medde fe (?)

Fe ddouth y ginhot, bid fyno; ac wedi hyfed hwnw, fe'i starson hi shafr Eglws, ac roudd y 'ffeirad yno yn y'n dishgwil.

Wedi dodi Dafyf a Mari yn right yn 'i llefydd, fe ddechreuodd y 'ffeirad ar 'i wasaneth; ac fe ddechreuson nhwynte'ch dou grynu; a chrynu am y gore neuthon nhwy cyd a pharodd, y gwasaneth; ac rown i, ar y pryd, yn credu fod hyny yn un rhan ohono.

Wedi i mishtir roi Dafy' a gwr Penyweun, i roi Mari, ac i nhwynte ateb pobpeth ofonodd e fe gouddodd 'u bod nhwyfn wr ac yn wraig, &c., ac wed'yn roudd yn rhaid iddyn nhwy fi ddilyn e ifr festri gaul seino'u henwe wrth lyfr bod nhwy'n briod. Allse dim un o nhwy scyrfenu; ac yn lle scyrfenu'u henwe, rown nhwy'n dodi lawr ar y llyfyr bob [sic; = bobo?] gris grous; ond wrth neud hyny, fe gafodd Mari lewyg, fel y buodd, raid 'i chario hi mas i gaul owyr; a dyna ddibenodd y gwasaneth priodasol Dafy' a Mari.

Wedi Mari ddowad ati'i hunan, ni euthon i gered tipyn ar hyd y dre, gaul gwel'd y ffair; ac erbyn hyn, roudd gwyr y gweithe wedi dowad yno'n lleibe mowr gyda'r trein. Y show wedi 'i hagor, y band yn whare, a'r showman ar y stadj yn, bwyta ocwm, ac yn hyfed oll, a mwg mowr yn dowad mas o'i ben a'i trwyn a'i gluste fe. Fe aroson ni spel fowr i ddryched arno gaul gwelfd a fydde fe'n fflamo; ond wedi blino dishgwil yn ofer, "He,h medde mishtir, "mau nhwy'n glefer hefyd! Hen dacle fel hyn sy'n rhobo dynon o'u harian yn y trefi mowr. Dowch i ni gaul myn'd nol i'r Coder gaul pobo lwnsh, mau nhwy siwr o fod yn eu dishgwil nawr, gweda i."

(Ifw barhau.)

 

Papur Pawb / 15 Ionawr 1898.


GWAS O WAR LLANDEILO. XIV. CRASFA!

Anwil Mishtir Golygydd, I dori'r stori'n fyr, fe euthon nol i'r Coder gyda mishtir i gaul pobo lwnsh fel y gwedodd e; ond fuon ni ddim fowr o dro yno, oblegid roun ni nol yn Bryngwndwn erbyn cino.

Roudd y parti priodas ar gino i gyd yn y parlwr, ond fi a Jagob; gorfod i ni'n dou newid y'n dillad, a chwmryd yn cino arferol yn y gegin fowr; ac wed'yn fyn'd i beiti'r nifiled.

Miwn wythnos wedfyn roudd Dafy a Mari yn llanw'r teitle, "Y gwr a'r wraig o Benyweun,h gan adel Jagob a finne yn was pena ac ail was Bryngwndwn Mowr. Roudd Dafy wedi cyredd i boint, ac roudd e'n ddedwidd, ac roudd Mari, os nad wedi 'i gyredd e, yn ddedwidd hefyd, ac felly'r wifn 'u gadel. Fe lanwyd y bwlche nauth y briodas yn y gwasanethynon rhwyshap, gan mishtir, trwy dynu Master Tom a Miss dame ofr ysgol.

Fe dygwyd Master William o'r ysgol yr un pryd hefyd; ond caul myn'd yn asistant miwn shop ddraperi yn Landeilo nauth e; ac yno gweles i e ddwetha.

Bid fyno, fe auth pobpeth yn 'i flan eto yn oilyn am flynydde, heb i ddim a sylwedd gwmryd lle yn y'n hanes i; ond un dwarnod, miwn beiti dair blynedd wedifr degwidddiade yna, fa ofynodd Miss Maggie i fi wrth odro, fi a hithe oudd yn godro fynycha nawr:

"Odych chi, John, yn myn'd sha ffair Gwyl Barna dy' Llun?h

"Odych chi'n mynd 'te?" oudd yr ateb.

"Odw," medde hi miwn rhwy ddull ymddiriedol.

"Wel, odw inne hefyd te," meddwn inne, yn falch dierth i bod hi wedi awgrymu licse hi gaul y nghwmpni.

"Shwd newch chi os clwith mami ych bod chi'n myn'd ifr ffair, cha i ddim mynfd yno genti?'

"O! fi na ifn bruon," meddwn i, "fe gewch chi ei chochwyn hi'n gynta cyn gofyna i i'ch tada am gaul myn'd; a chyn bo fe wedi caul amser i weud wrth y'ch mami, fe fydda i wedi newid ac ar hanner y ffordd i Landeilo."

Yr unig ateb i hyna oudd drychiad serchog a pheg ei bod hi'n folon.

Tua phrydnawn dy' Iou, buodd y sharad yna, gwela i.

Erbyn bore dy Llun, roudd y whant myn'd i'r ffair wedi dwblu a threblu lower gwaith drosodd arna i; fel yr own i yn benderfynol o fyn'd i'r ffair, doued a ddelo.

Bore dy Llun, bid, fyno, dyma Miss Maggie yn 'i chochwin hi sha'r ffair yn shirew o grand; ac heblaw hyny, r'own i'n 'i gwelfd hi'n un sobor o lan - glanach na neb weles i cynt na chwedyn.

Roudd hi nawr beiti ddounaw oud, ac yn 'i phreim, yn joiant fowr o ferch.

Roudd dim ond dryched arni yn ddiogon i hala dyn pren i neido mas o'i sgidie; a phwy ryfedd, achan, mod i a chwmint o whant myn'd i'r fair i ffair yn gwmpni iddi? Pan oudd hifn myn'd, fe ddouth mishtres iddi hebrwn hi hyd glwyd y clos, gaul 'i sharso hi beido cwmpnia a neb ond rhwyfn fel un o fechgyn Glantowy ne rhwy fferem fowr arall. Wedi iddi hi fynfd nol i'r ty, fe ddouth mishtir mas gaul myn'd am dro fel arfer dros y tir; ac rown i'n ei ddishgwil e'n fowr iawn; ac fe eis i gwrdd a ge.

"Mishtir," meddwn i, "dewch i fi fyn'd i'r ffair heddi, fues i ddim yn ffair Gwyl Barna arioud?"

"Beth wyt ti'n moyn 'no? Dous 'no ddim i ti wel'd 'no heddi'n ots nag arfer, ond fod 'no fwy o wyr y gweithe nag arfer; ond falle, ta dy wado di neiff y rheiny,h oudd yr ateb.

"O!" meddwn i, "fe na i o'r gore a nhw os gwedith un o nhwy ddim wrtho fi gwasga i e nas bo'i faidd e 'mas."

"Gore, gore, te; cera di, a rhyngo ti a nhwy te; ond cofia ddowad nol yn gynnar i ti gaul myn'd bore bach foru shashar Chilfrychen i moyn calch."

Rown i miwn cwarter awr wed'yn yn ei gwadnu hi tua ffair Gwyl Barna, yn deidi fy nillad, yn smart y'n nhrewad, a 1lawen 'y nghalon.

Rown i miwn byr amser yn Landeilo, ac wrth ddowad i lawr dros hewl y ceffyle oco, widdoch; fe welwn show fowr ar y scwar o flan y Victoria, a thrwp mowr o ddynon ofi blan hi, yn dryched ar y showman yn tynu llond pasged o wye mas o wishcers rhwy hen ddyn. Roudd Misa Maggie yn un ofr rhai oudd yn dryched arno; ac felny cheis i ddim trafferth iddi ffeindio hi mas; ac roudd hifn falch dierth i ngwelfd i wedi dowad ar 'i gol hi.

"John," medde hi yn syn a serchog, "shwd cesoch chi ddwad?"

"Na hidiwch nawr," meddwn i, dan glosio iddi hochor hi, "dowad oudd y point mwyaf."

"Ie," medde hi dan wenu, "ond fe liciswn i tyse chi wedi dowad yn gynt, i chi giaul gwelfd y showman yn tynu'r wye o wishgers yr hen ddyn 'no, roudd e'n grand sobor."

"Ni fynwn wel'd be sy gydag e nawr te," meddwn i, "dowch miwn." A miwn euthon ni; ond cheiso ni welfd fawr fno. Roudd efn gneud mwy o show mas ar y stadj nag oudd o'n neud miwn; doudd hi ddim ond whare Pwnsh and Judy.

Wedi dowad mas o'r show ni euthon beiti'r dre gaul gwel'd beth welse ni; a chyn hir, fe ddeuthon at dent photographer; ac wedi dryched spel ar y llunie oudd ganto tu fas ar 'i dent, mi euthon miwn i gaul tynu'n llunie gydafn gilyf.

Wedi caul y llunie a thalu am danyn nhwy, rown i'n teimlo'i bod hi erbyn hyn yn rhowyr bryd i ni gaul pobo lymed o rhwybeth i hyfed; ac oddno euthon ni, ac i'r Black Lion.

Doudd yno ddim lle ar y llawr i ni, roudd gwyr y gweithe yno'n llon'd y lle; ond roudd digon o le ar y llofft, meddefr forwn, ond digon prin o le oudd yno wed'yn.

Roudd gwyr y gweithe bron llanw'r lle hyny hefyd. Roudd rhai o nhwy a chariade gyda nhwy, ac erill heb ddim. Bid fyno, wedi caul lle i ddodi'n hunen lawr, i gaul bod fel rhwyun arall yno, fe alwes am beint o ddiod i fi a glased o win i Miss Maggie, ond cyn i ni gaul amser iddi hyfed nhwy, dyma un hen bewc bach yn gofyn i Miss Maggie:

gGweddw ne briod ywfch gwr chi, mod i mor ewn a gofyu?"

"Wel, dyna gownt ne beidio," medde hi wrtho i, ac fe wharddodd am' 'i ben e.

"Dyw hi ddim ots i chi, achan, pun; meidia [sic; = meindia?] fusnes dy hunan," meddwn i wrtho.

"Beth wyt ti'n whilia, rhen Jag, myn di whirat fach?" gofyne fe.

"Dere di'n agos yma," wedes i wrtho, "fi dy wasga i di nes bo dy faidd di ma's.h

"Meinda dy lycad te," medde fe, a chyda hyny, roudd e'n y mwrw i ar y'n llygad de nes own ifn gwel'd y tan mwya weles i arioud; a chyn i fi ddiall beth oudd wedi digwidd yn iawn, roudd e wedifn ffliwian i nes own i yn waud ac yn anialwch i gyd.

Roudd y cwbwl drosodd miwn mynyd, ac ynte yn myn'd, ond wrth fyn'd,

"Dyna, rhen Jag," medd fe, "os bydd isha cwpwl arnat ti yto rhwpryd, hal di moyn i."

Roudd y lle wedi mynfd trwy gily no, a'r mynwod yn screchen, "Hwbwb, Murder."

Pan agores i un llygad (roudd y nall yn tchoc) roudd Miss Maggie yn sefyll gerllaw i fi mor wyned a'r galchen; ac yn dryched arna i gyda chwmint o scorn a tyse fi mami yno yn 'i lle hi.

"O! rhen lwdwn. Cerwch! cerwch!h medde hi. "Gadel i hen bilcyn felnafch wado chi? Cerwch! cerwch! o ngolwg i byth!h

Roudd hifn mynfd gyda'r gair byth, a dyna'r olwg wetha byth geis i arni.

(I'w barhau.)


Papur Pawb / 22 Ionawr 1898.


GWAS O WAR LLANDEILO. XV. GADEL Y 'LAD AM Y GWEITHE.


Dei, dei, achan, pan bo i'n cofio am y ffair Gwyl Barna hyny, rw i'n myn'd yn sal ddierth! A phwy ryfedd? Fe geiso i shwd shomedigeth sobor. Rown i wedi pino nhynged am y nyfodol ar yr hyn 'nelswn i y dwarnod hyny.


Yn fyr, rown i wedi meddwl sharad a Miss Maggie am beiti dori fyny ein carwrieth ddirgel gyda phriodas, ac yn fawr yn hyder y cawswn i hi yn folon; ac roudd pobpeth hyd nes i ni fyn'd miwn i'r Black Lion yn gweyd wrtho i mod i'n hyderu gyda holl sicrwdd gobeth.


Ond beth dal sharad, achan? Nid fel rown i'n meddwl roudd pethe i fod; roudd yn rhaid i fi fel pobun arall ar y ddeuar yma, dderbyn a byw yn ol y blaned oudd i fi.


Rown i, ac rw i eto hefyd, ran hyny, yn anfolon mai dyna shwd blaned oudd i fi fod.


Fe fuodd raid i fi'r dwarnod hyn, pid [sic; = bid] fyno, odde caul yn wado gen un allswn i wasgu e nes byse fe mor fflat a thene a thorth geirch, tyswn i'n caul gafel yndo; ond fe gym'rodd ofol na cheiso i ddim.


Rhwng pobpeth, rown i bron a thori nghalon, ac mor hurt fel na wyddwn i ddim beth own i'n neyd na pheth ddylswn i neyd, ac felny bues i nes i'r tafarnwr gydio yn y mraich i gaul myn'd a fi i'r back i ymolch; ac i ymolch gydag e yr eis. Ond dw i'n cofio fowr ddim arall ddigwiddodd y dwarnod hyny wed'yn, heblaw i fi gyredd nol i Bryngwndwn Mowr wedi iddi dwlli'n nos.


Roudd Jagob ar y clos yn y nishgwil, ac roudd e'n llawn cydymdeimlad; ond diwedd 'i stori e oudd fod mishtir am y ngwel'd i yn y ty.


Doudd fowr whant arna i fyn'd ato, ond rhwng bodd ac anfodd, miwn ato yr eis. Doudd dim o ofon e arnai, widdoch; oblegid roudd e'n od o daliedd a charuedd stil; ond roudd i hofon hi arna i, a dyna oudd yn y nior i fyn'd i'r ty.


Pan eis i miwn i'r gegin fowr, fel own iwso gneyd stil, roudd mishtir a mishtres yn y parlwr, ond wedi iddyn nhwy gaul gwbod mod i wedi cyredd, dyma nhw'n dowad ata i.


"John, achan," medde fe, pan welodd e fi, "fe fyse'n well i ti rondo arna i, weld di, lower iawn na myn'd i'r ffair, ond dyna, diolch i'r mowredd dy fod di'n fyw."


"Yn fyw siwr!h medde hi yn ddynsherus o grac, "fyse dim withryn o ots tyse fe'n caul 'i ladd a na fyse? Beth oudd e'n ddishgwil gaul am scwto 'i gwmpni ar 'i well? Dial Duw arno oudd hi, a ie?"


Dyna'r pwff cynta o'i hareth fflamog hi, tyse hi yn 'i gadel hi ar hyna, fe fyswn yn madde iddi'n glou, ond gan na nauth, faddeua i byth iddi.


Yn ystod 'i hareth fe narluniodd i fel rhwyfath o greadur rhwng mochyn a mwnci, rhwy fil o filltiroudd ishlaw iddi hi a'i merch miwn pob ystyr.


Danododd i fi hefyd bethe nad ouddwn i na neb o nhylwth yn euog ohonyn nhwy ac i ddibenu ei dial, a'i dirmyg arna i, fe dynodd y'n llun i mas o'i phoced (wn i ddim shwd roudd hi wedi dwad o hyd iddo),


"Ac," medde hi, gan dala'r llun o mlan i "y ti'r labwst dwl yn tynu dy lun gyda y' merch i, aie? Gweli di e? Ta p'un ne weli di e ne beido, weli di ddim ohono fe ragor."


Gyda'r gair roudd y llun ar y tan a hithe'n dodi throud arno, ac yn wherthin fel rhwy hen eirish oco, ac wed'yn yn gweyd wrtho i,


"Gad di i fi glowed dy fod di'n sharad a merch i eto, fi na i run peth a tithe."


"Dyna, dyna, los," medde mishtir yn erfyniol, "dewch hi nawr wir, 'dewch hi nawr wir; a tamed o swper iddo i fi gaul sharad ----g


"Dw i ddim yn 'i moyn e," meddwn i'n sosi, dan fyn'd mas a'u gadel nhwy yno.


Fe dreiodd mishtir gaul gen i aros, ond myn'd nes i yn llawn o ddigofaint wherw a phenderfyniad i ddial arnyn nhwy gyd yno y cyfle cynta geiswn i neud hyny.


Bore dronouth, gyda phip y dydd, fe ddouth mishtir i alw arna i i fi gaul myn'd i moyn calch sha Cilyrychen, ac i roi arian i fi gaul talu am dano. Dyna oudd 'i fusnes e a fi'r nosweth cynt tyswn i'n aros i rondo arno.


Fe godes i ar 'i gaish e, bid fyno, ac fe ddodes y gaseg, Dol, yn y cart, a Bocser o'i blan hi'n barod i gochwyn yn glou; pryd hyny fe ddouth mishtir ata i eto i'n moyn i'r ty gaul tamed o frecwast cyn myn'd, ond fi wedes i wrtho nag own i ddim yn 'i moyn e.


"Dere," medde fe, "i ti gaul tamed i fyn'd geno ti 'te.h


"Dw i'n moyn dim," atebes i'n etha shosi.


"Dei anwil, achan!" medde fe'n grac, "ous dim o ti gaul myn'd i'r calch heb fwyd o yma, aros."


Gyda'r gair "aros" yna, roudd e'n myn'd i'r ty, yna yn dowad mas a thorth lechwan haidd a thoc o gaws Cymru gydag e i fi, gan weyd, "Rhaid i ti, John, gwm'ryd yr rhai'n gyda ti."


"Wel," meddwn i, "os ous rhaid, dodwch nhwy yn y cart."


"Rhaid," medde fe yn swta, gan ddodi'r dorth a'r caws yn y cart, ac yna myn'd nol i'r ty.


Nawr fe redodd point mowr o ddial arnyn nhwy i mhen i - point gwreddiol - a phoint oudd e hefyd, y buodd sharad a wherthin mowr iawn am 'i ben e trwy'r holl ardaloedd i gyd; ac nawr, mau son am dano yn y gweithe, yn shir Forganwg. Wel, bid fyno, wedi i mishtir fyn'd i'r ty, i gaul cario mhoint mas, fe gyreuddes ine forthwil a houlen o ben wal fflat y sgubor, ac fe houles y caws a'r bara - un ar y nall ar ddrws y cart; a dyna lle ceiso nhwy fod hyd nes i mishtir eu cwm'ryd nhwy ymeth y nosweth hyny, wedi i fi ddowad nol o'r calch, fel dwedir.


Pan welodd mishtir beth own i wedi neyd a nhwy, fe wedodd mod i'n pechu yn erbyn Rhaglunieth a byse'n well i fi fadel o 'no cyn byswn i'n tynu barn ar y mhen ac ar y lle.


Rown i'n falch o'r cynnyg, yn rhy falch iddi adel e fyn'd heibo; fel'ny, fe adewes bobpeth fel roudd er ar y gair, ac ymeth a fi i lofft y beudy, lle rown i'n cysgu, i gyredd y nillad; ac miwn hanner awr wed'yn, rown i gyda Nanti yn Bryngwndwn Bach yn allwis y nghwdyn ffor' buodd hi arna i gyd.


Fe fues yno bythefnos cyfan. Erbyn hyny, roudd olion y drinieth geis i yn y ffair wedi gwella'n oilyn; ac rown i wedi gneyd y meddwl fyny i fyn'd i'r gweithe; ac ar ben hyny o amser, yno yr eis. Roudd Nanti, yn ystod hyna o adeg, wedi gweyd carne o bethe dynsherus am mishtres a'i thylwith, &c., ond pethe oun nhwy nad ous gen i harin i feddw am danyn nhwy weuthach iddi scyrfenu nhwy.


Fe wedodd un peth, bid fyno, fuodd yn flinder diogel i fi ar y pryd; hyny yw, fe wedodd fod gen mishtras [sic] frawd, ac fod y brawd hwnw wedi dodi'r gostegion mas i briod mam dreian; ond iddo, miwn canlyniad i rhwy gelwidde o eiddo mishtres, ffoi tua rhwyle dros y moroudd yn mhen draw'r byd, o'r enw Catarogws, bore'r briodas. A dyna, mau'n debyg, fuodd yn achos o ange i mami, dreian.


Wel, i adel pethe felna, pan gochwynes i a mhac o war Landeilo am y gweithe, yn amcan i wrth gochwyn oudd treio caul gwaith yn un o batches ne waith harn y Gwter Fowr; ond yno, fe gwrddes a Dafy, hen was Bryngwndwn, widdoch, ar yr hewl yn feddw ac yn moyn yn nhreio i, ac fe farnes i 'i fod e ne fi yn ddigon yno, a chychwynes hi eto tua gwaith y Cyfyng. Rown i is ar hewl y Graigarw (Ystalyfera) cyn nos, ac yma fe gwrddes a ffrynd - hen was Bryngwndwn eto - a neb llai na'm hen ffrynd Bili Morgans gynt. Roudd e'n briod ac yn byw yn y lle, a chydag e ceis i lodgin, ac efe fu gyda'r gaffer yn moyn gwaith i fi'n y gwaith harn lle bues i wed'yn am flynydde mowr.


Mae gwyr y gweithe yn ddynion od o daliedd ar y cyfan. Y peth mwya gen i yn 'u herbyn ar y cyntaf 'u bod nhwy yn myn'd gormod o sport ar y ngost i.


Fe adrodda i un scetshen fach i chi nawr shwd oun nhwy gneyd a fi pan ddois ffor hyn gynta.


Pan ddois i a mhac o'r "Gwter Fowr" (Brynamman nawr) i'r Graigarw gynta, fe alwes am beint o ddiod miwn tafarn yn nhop Cwmtwrch o'r enw y George; roudd yno lon'd y ty, bron, yn hyfed 'i chalon hi, a'r tafarnwr yn craco jocs yno gyda nhwy.


Wedi i'r forwn ddwad a'r peint i fi, ac i finne dalu iddi am dano, ac yfed o tracht ohono; dyma'r tafarnwr yn gofyn i fi:


"Dyn ar 'i drafel ie fe?"


"Ie," meddwn i.


"O b'le, mod i mor ewn a gofyn?"


"O war Landeilo," meddwn i eto yn ddifeddwl-drwg am dano.


Roudd pawb yno erbyn hyn yn grondo arno ni'n dou.


"Hy," medde fe eto, "mau gwar Llandeilo yna yn rhwym o fod yn un fowr iawn. Mau ugeine'n dod o'no bob blwyddyn."


"Odi," meddwn i, "mau o Landeilo i Langadog."


"Dethoch chi'n gwmws o'no heddi?" "Do," atebes i, heb feddwl 'i fod e am neyd un sport yn y byd.


"Wel," medde fe yn seriws iawn, "yr ych chi wedi camu shew ar y ffordd yn rhywle te?" Yn dilyn hyna dyma "Ha, ha, ha," gen yr hyfwyr nes oudd y ty'n crynu i gyd.


Gneyd sport ohono i roudd, oblegid mod i'n wargam; wedi diall hyny, fe godes y mhac ac ymeth a fi, fel rw i'n gneyd a chithe nawr.

 

JOHN JONES.

 



www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_102_gwas-o-war-llandeilo_1897_3020k.htm

Simbolau arbennig : ŵ ŷ


Adolygiadau diweddaraf: 15-03-2017


Blefr wyf i? Yr ych chifn ymwéld ag un o dudalennaufr Gwefan gCYMRU-CATALONIAh
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web gCYMRU-CATALONIAh (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø gCYMRU-CATALONIAh (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the gCYMRU-CATALONIAh (= Wales-Catalonia) Website


CYMRU-CATALONIA


[1] 
[2] [3] Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats

 


 [1]HTML: <noscript>

 [2]HTML: </noscript>

 [3]End of StatCounter Code