2012-08-30
15.00


 

7898b_gwefan_logo_CYM-CAT_120613
(delwedd 7898b)


7001_kimkat0001c6998_kimkat0001_hafan
saeth-draffig_120607_i-lawr_BACH
6998_kimkat2001k6998_kimkat2001k_arweinlen
saeth-draffig_120607_i-lawr_BACH
6998_kimkat0960k6998_kimkat0960k_sion-prys
saeth-draffig_120607_i-lawr_BACH
6998_kimkat_GWAG6998_kimkat_tudalen-hwn

7375_map_cymru_rhedynfre_090204



 
 
 ...
 
Y FARW WEDI EI CHYFODI YN FYW: 1845
 
 
(Arysgrifiad)
C.? L.? Parry 
 
Y farw wedi ei chodi yn fyw
Atebydd
Anerchiad
Beth ydyw yr Efengyl
Beth yw Mormoniaeth
Y Glorian
Gau Brophwydi
a(u) Hamcan
Cwcw y Don
Amddiffyniad y Saint
Adolygiad
 
 
(Clawr) 
 
Y FARW WEDI EI CHYFODI YN FYW: 
NEU'R HEN GREFYDD NEWYDD
TRAETHAWD YN DANGOS ANGHYFNEWIDIOLDEB TEYRNAS DDUW
GAN CAPT. D. JONES.
 
"CANYS MYFI YWR ARGLWYDD NI'M NEWIDIR," &C.  Malachi. 
 
"A rhai yn wir a osododd DUW yn yr eglwys; 
yn gyntaf APOSTOLION, yn ail PROPHWYDI, yn drydydd athrawon, 
yna GWYRTHIAU: wedi hynny doniau I IACHAU, 
cynorthwyau, llywodraethau, RHYWOGAETHAU TAFODAU."  Paul. 
 
"Eithr pe bai i ni, neu i Angel o'r nef Efengylu i chwi amgen, 
na'r hyn Efengylasom i chwi bydded ANATHEMA."  Paul etto. 
 
"Ac efe (Crist) a esgynodd i'r uchelder 
ac a roddes roddion i ddynion." 
 
"Ac EFE a roddes rai yn APOSTOLION, 
a rhai yn BROPHWYDI," &c.  Paul fyth, 
 
"Dymunaf ar bob Cymro a wl y traethodyn hwn ei ddarllen yn
bwyllog a diduedd, ai farnu (nid cyn ond wedi ei gymharu)
wrth y Gyfraith a'r dystiolaeth, wrth yr hon y bernir ni
oll cyn hir; ond ni foddlonaf, i Dduwinyddion y byd eistedd
mewn barn arnaf, am na osodwyd hwy yn farnwyr."  Yr awdwr. 
 
"Profwch bob peth, a deliwch yr hyn sydd dda."  medd Paul. 
 
"Y neb a attebo beth CYN EI GLYWED, 
ffolineb a chywilydd fydd iddo."  Solomon. 
 
TRAETHAWD, Rhif 1af.
 
GWRECSAM
ARGRAFFWYD GAN WILLIAM BAYLEY, HEOL-ESTYN. 
1845.
 
-
 
[Tudalen] iii
 
RHAGYMADRODD. 
 
Un o wrthrychau godidoccaf y bŷd, ie, prif addurn y 
greadigaeth, yw, Meddwl annibynol, rhodd y nef yw hon 
i ddynion, a'r hynottaf o'i holl roddion: yr hwn ni feiddia 
feddwl drosto ei hun, nid yw ddynol, a'r hwn nad ymddwyn 
yn gyferbyniol, iw'r rhagrithiwr gwaethaf o'r hl 
ddynol! Ychydig, mewn cydmariaeth sydd yn meddu ar 
yr anian auraidd hon, am nad ydynt yn gwybod ei 
gwerth; ond yr wyf fi, er yr unig UN o hl Gomer ar a 
welais yn y wlad) yn honi fy hawl, nid yn unig i gredu, ond 
hefyd i amlygu yr athrawiaeth a osodir allan yn y traethawd 
hwn, e mae'n ddyledswydd arbenig arnaf gyhoeddi'r 
hyn a gredaf yn wirioneddau dwyfol; ped esgeuluswn hyny 
ni byddwn ddieuog ger bron fy marnwr. GWIRIONEDD yw'm 
cleddyf, a gŵn, mae'r, HWN YDWYF. Sy'n cynal fy neheulaw: 
ei waith Ef yw, am hyny nid ofnaf beth a wnl dyn i 
mi! 
 
EI AIR EF, yw'r unig reol anffaeledig a hyny heb 
un esponiad ffaeledig arno." A dymunaf ar y darllenydd, 
gydmaru, yn onest, a diduedd y pethau hyn, (nid wrth 
Gyffes yr hn dadau,) ond wrth y Gyfraith ar dystiolaeth, 
oni ddywedant yn l y gair hwn, hynny sydd am nad oes 
oleuni ynddynt. Pa un a ydyw y pethau hyn felly? Sydd 
holiad pwysig iawn, ac a ddylai gael ei atteb, nid wedi ond 
cyn eu cymbaru a'r drych cywir; canys y neb a attebo beth 
cyn ei glywed ffolineb a chywilydd fydd iddo." medd Sol. 
Dywed Paul, "Profwch pob peth, deliwch yr hyn sydd 
dda," Na fydded i neb ddyfod i benderfyniad byrbwyll am 
yr athrawiaeth hon, o herwydd ei bod yn ymddangos yn 
newydd a dieithr, canys yr hynaf un o bob athrawiaeth yw; 
a sicr yw na bydd ddieithr i neb yn yr ail-fyd, os bydd yn 
hwn. 
 
 
[Tudalen] iv
 
Cyfrifaf yr hwn a'i prawf yn anysgrythyrol, (mewn 
yspryd addas,) yn ffrund penaf, e yn wladgarwr d; a 
rhwymaf fy hun i alw y cyfeiliornad yn ol, (wedi ei BROFI 
felly, y Bibl yn unig, fel mae'n ysgrifenedig, yn rheol) yn 
y modd mwyaf cyhoeddus. Ond, o'r ochr arall, os condemnia 
neb ef cyn ei chwilio, gan roddi rhwystrau ar ei 
ffordd, efe a brawf ei hun yn annoeth ac annheg, yn 
wrthwynebwr y gwirionedd; ie yn elyn yw genedl ei hun; 
a bydded Solomon yn farnwr arno. 
 
Na farner yr athrawiaeth hon yn l yr ystoriau disail, 
a'r mil ond un o chwedlau celwyddog, sydd eisoes wedi 
gorlifo'r wlad yn erbyn yr enw hwn; canys gallaf brofi 
pob un a glywais etto, yn gelwyddog a disail; a rhoddi 
hollol foddlonrwydd i bob dyn, a addef un math o brawf. 
 
Ni wna un dyn egwyddorol feio ar fy iaith, os nad yw 
mor ramadegol; oherwydd na fuom ymhlith Cymry nemawr 
er yn fachgen; ond wedi bod er's dros ddeunaw mlynedd, 
bron o hyd, ymysg iethoedd ereill, lle na chlyw'n air o 
honi; yn enwedig am y saith mlynedd diweddaf, ni 
swniodd un Cymro dyrtyr fwyn fy ngwlad am awr yn fy 
nglyst; ac ni allai dim llai na chariad at fy ngwlad, a 
dymuniad mawr i'm cyd-genedl gael y gwir; ie fel y mae 
yn yr Iesu, fy nghymell, dan y fath anfanteision; i gynyg 
iddynt yr egwyddorion hyn, gan wybod eu bod yn 
wahanol i bob athrawiaeth sydd yn y wlad! Ond gwell 
genyf anturio ar fy nyledswydd, ar gost pob peth, hyd yn 
nod enw da (yr hwn a gyfrifaf yn well nac aur coeth lawer) 
ie, os bydd raid rhoddi bywyd hefyd yn offrwm gwirfoddol 
dros y gwirionedd, nac anturio ar gost cydwybod effro 
i ŵyddfod ei hawdwr, i gyfarfod un Cymro, wedi celu y 
pethau hyn oddiwrtho!! 
 
Gwrecsam, Ebtill 4, 1845 
 
 

[Tudalen] 1

 

AMDDIFFINIAD Y SAINT

VERSUS

CYHUDDIADAU THOMAS JONES, MERTHYR,

AC EREILL.

 

ANWYL DDARLLENYDD,- Ysgrifenwyd yr amddiffyniad canlynol ar

y dysgwyliad iddo gael ymddangos yn y Bedyddiwr. Aethom ag ef

i'w swyddfa ef yn Nghaerdyf yn bwrpasol, cynnygiasom ef i'r

Golygydd hwnw a fu ddigon rhydd i gyhoeddi y cam-gyhuddiadau erchyll

hyny, a phob peth dirmygus arall arnom fel enwad, sef yr hwn a

ymffrostia fod ei Fedyddiwr ef yn gyhoeddiad rhydd i bawb amddiffyn

eu cymmeriadau. Erfyniasom yn daer a gostyngedig am gael clirio

ein hunain o'r baw ysgeler a ddwbiodd arnom yn ddiachos; ond, fel

arferol, yr atebiad a gawsom ganddo oedd gomeddiad digywilydd! Do,

druan, brawychodd; glasodd, cochodd, duodd, gwelwodd, brochodd,

ac ymgynddeiriogodd, heb un achos ond cynhyrfiadau maleisus cydwybod

euog, nes y siglai ei liniau a'i holl gorff yn waeth n'r eiddo

Belsassar gynt. Ac yn ngwyneb pob taerineb, rheswm, a chyfiawnder

nid oedd fater beth, gwaeth-waeth yr ysgyrnygai ei ddannedd, y

malai ewin, ac yr haerai ychwaneg o gyhuddiadau disail ac enwau

drwg arnom, e, yn ein gwynebau! Cyhuddai y Saint o fod wedi

dweyd na chafodd yr William Hughes hwnw a dorodd ei glun gynnorthwy

gan blwyf Merthyr, a thrwy hyny ddarfod iddynt fforffetio

eu geirwiredd; ac o ganlyniad, na chaent amddiffyn eu hunain yn y

Bedyddiwr. Dywedasom y gellid profi y dynion duwiolaf a fu yn y

byd erioed yn gelwyddog yn ol y resymeg yna, sef credu camgyhuddiad

gelyn proffesedig, a gwrthod gwrando ar yr ochr arall. Heriasom

ef i brofi y cyhuddiad gwarthus hwnw arnom fel enwad, neu hyd y

nod i brofi fod cymmaint ag un o'r Saint erioed wedi dweyd y fath

beth hyny. O, yr oedd fod rhyw Edward Lewis, o'r Coed-duon,

wedi ysgrifenu hyny i'r Bedyddiwr yn ddigon o brawf iddo ef, ebe efe.

Dywedasom nad oedd y gwr hwnw wedi profi ei eirwiredd yn ddigonol

i ni ei gredu. Ac os gall y gwr hwnw brofi fod rhai o'r Saint wedi

dweyd na chafodd W. Hughes gynnorthwy gan blwyf Merthyr, cyhoedded

eu henwau i'r byd, a thystion o hyny; yna galwn y cyfryw

i gyfrif, canys yr ydym ni wedi holi llawer, a methu cael un a

ddywedodd hyny. A phe dywedasai rhyw un, dau, neu dri hyny yn eu

hanwybodaeth, a fuasai hyny yn profi yn agos i fil o bobl yn

gelwyddog? A ydym ni, wrth brofi eich gohebwyr erlidgar chwi yn

gelwyddog mor eglur, yn profi drwy hyny fod holl Fedyddwyr Cymru

yn gelwyddog? Ydym, yn ol eich rhesymeg chwi eich hunan!

 

Dywedasom fod tystiolaeth Wm. Hughes am y peth hwnw wedi ei

hysgrifenu, a'i geirwiredd wedi ei ardystio gan lawer o lygad-dystion,

ei bod wedi ei hanfon iddo ef, ei fod wedi cyfaddef iddo ei derbyn, ac

wedi gwrthod ei chyhoeddi yn y Bedyddiwr hyd heddyw! fod y

dystiolaeth hno wedi ei chyhoeddi i'r byd ar y pryd hyny, yn yr hon

yr addefa Wm, Hughes ei hun ddarfod iddo gael cynnorthwy gan

 

[Tudalen] 2

 

blwyf Merthyr, yr hyn a brofa yn amlwg nad y Saint a ddywedodd

erioed na chafodd gymhorth gan y plwyf.

 

Mae brad a dichell y ddyfais wyrgam hno i'w weled yn amlwg.

Dyben gelynion y gwirionedd yn llunio y cyhuddiad hwnw ydyw,

ceisio profi y Saint yn gelwyddog mewn un peth, fel na choelier fod

Wm. Hughes wedi tori ei glun na chael iechyd! A rhyfedd fel y

llwyddant yn eu dyfais enllibus. Sylwer ar eu prawf a'u sophistry

gystrawiog! Rhyw Edward Lewis yn dweyd fod [rhyw un, dau, ynte

tri, tybied, ni welodd yn dda i ddweyd, ond] y Seintiau yn y Coed-

duon yn dweyd na chafodd Wm. Hughes gymhorth gan blwyf Merthyr,

a'r "Quick yn Dwr" celwyddog hwnw yn gwneyd i'r relieving

officer ddweyd ei fod wedi cael. A dyma brawf, medd golygydd y

Bedyddiwr, na thorodd y dyn ei glun, ac na chafodd iechyd!! Pa

brawf yw hyn? Beth a wyddai y relieving officer hwnw a dorodd y

dyn ei goes? Pa un ai efe, ynte y "Quick yn Dwr," a ysgrifenodd

hyny? Mae'r ddau yr un lleferydd, chwaeth, a dyben. Cywilyddied

y dichellwyr ynfyd wrth y fath dwyll-resymeg faleisus! Ond dyma

yr oreu a allant ddyfeisio yn erbyn y Saint; a gwell ganddynt hyn,

nag addef y gwir a chydnabod gallu Duw yn y peth hwnw. Pe

dywedasai un o'r Saint na chafodd ddim gan y plwyf, pa fodd yn enw

rheswm y dichon hyny brofi enwad cyfan o bobl yn gelwyddog? A

phaham y gwrthodai y golygydd rhagfarnllyd hwn iddynt le i amddiffyn

eu cam? Atebwn, mai oherwydd y rhagwelai ei hun yn ei liw

priodol drwy hyny, sef yn erlidiwr creulon, ac yn athrodwr parhaus.

Meddyliai gadw ei ddarllenwyr dan ei bawenau, a chadw y Saint yn

y baw a ddwbiodd efe arnynt! Beth ychwaneg a allai wneyd? Beth

ychwaneg a allasem ninnau wneyd? Cynnygiasom iddo ddigonedd

o brofion o'u dieuogrwydd, ac yn ngwyneb y cyfan pranciai

oddiamgylch fel dyn gwyllt, gan waeddi, "Pw! pw! pw! twyll, twyll

i gyd." Ni fynai glywed dim genym, nac edrych ar ein hysgrif.

"Ni wnaf fi ddim chwi" ebe efe; ac ymaith ag ef i'w dwll mewn

tymherau drwg, gan slamo y drws ar ei ol! I, Gymry, dyma ymddygiad

golygydd y Bedyddiwr crefyddol hwn, er ei holl ymffrost o "ryddid."

Rhyddid un-ochrog iawn yw hyn e, rhyddid iddo ef gamgyhuddo a fyno,

a rhyddid i ninnau oddef y cyfan yn ddiamddiffyn o'i ran ef. Diolchwn

am ryddid y wasg a'r gwirionedd i'n hamddiffyn, a gwnawn yr iawn

ddefnydd o honynt hefyd, er ei waethaf ef a'i blaid enllibus. Drwg

genym fod i ni ddim a wnelom ag yntau; ei fai ef ydyw hyny. Ond

cymmaint a hyn wrtho fod yn rhy ddiweddar iddo waeddi, "Ni wnaf

fi ddim chwi," yn awr, wedi bod yn ein difenwi a chyhoeddi pob

math o gableddau arnom am flynyddau. Mor gynted ag y dechreuwn

ni ymolchi, tafl y cawg i lawr, a chan genfigenu gwaedda, "Ni wnaf

fi ddim a chwi:" ac mor gynted ag y cynllunia rhai o'i gynffonwyr

ryw ystori ddigon drwg a chelwyddog i foddio ei chwaeth ef, allan a

hi yn y Bedyddiwr fel seren wibiog, ac efallai enw rhyw barchedig yn

gynffon iddi, fel ei chreder yn hawddach gan y werin; ac yn y fan

y dechreuwn amddiffyn, dianc fel y cadno i'w dwll, ben ol yn mlaenaf,

a than ysgyrnygu ei ddannedd oddiyno, gwaedda, "Ni wnaf fi ddim

chwi!" Beth yw hyn ond dweyd y deil efe ein pen dan ei gesail

tra gallo, ac y gwahodda bob Parch. Mr. Davies o Ddowlais, Parch.

 

[Tudalen] 3

 

Mr. Tobit ger y Bont, Parch. T. ab Ieuan, Parch. D. Williams

o Abercanaid, Thomas Jones o Merthyr, Quick yn Dwr anwireddus, Meiriadog

afresymol, pob mad-dog a chowards cyfarthlyd ereill drwy'r dywysogaeth,

i'n taro yn ein talcen, ac yr helpa yntau gyda ei saethau brwyn

bob cyfleu a gaffo. Mae yn ffiaidd genym fod rhaid i ni ddifwyno

ein dwylaw i drin y fath gadno drewedig, ac ni buasem ychwaith oni

bai fod yn ddyledus i'w ddarllenwyr gael ei weled gerfydd ei gynffon

o flaen eu gwynebau, fel y gwelont fath un ydyw, a deall pa fodd i'w

goelio ef a'i Fedyddiwr enllibus o hyn allan. Darllener a ganlyn i

ddechreu, a cheir ychwaneg o sawyr ei ymgnofa etto, fel y gallo pawb

ffurfio ei farn ei hun am liw a llun ei galon ef.

 

WILLIAM PHILLIPS,

WILLIAM HENSHAW,

THOMAS PUGH.

 

[Copi o'r ysgrif at Olygydd y BEDYDDIWR.]

MR. GOLYGYDD, Dyledus i chwi, i'r cyhoedd, i'n cymmeriadau ein

hunain, ac yn enwedig i'r grefydd yr ymddibynwn arni am fywyd

tragwyddol, yw amddiffyn ein hunain yn ngwyneb y cam-gyhuddiadau

gwarthus a ddygir yn ein herbyn gan ddyn o'r enw Thomas Jones,

Merthyr, ac a welir yn rhifyn Hydref o'r Bedyddiwr.

 

1. Cyhudda ni o arferyd enwau rhyw "Ahiram a Joseph Smith wrth

fendithio," yr hyn sydd hollol ddisail, mewn gwirionedd.

 

2. "Y cnt feddiannu eu lleoedd yn Nauvoo," &c. Nid yw hyn felly

ychwaith; ond yr hyn a gredwn mewn perthynas i'r "ymfudiad i'r

America," yw yr hyn a geir yn yr ysgrythyrau santaidd; a gwyr y gwr

uchod na addawyd dim meddiant i ni, nac iddo yntau, yn Nauvoo, nac

yn un man nodedig arall ar y cyfandir.

 

3. "Hysbysem (ebe efe) ein bod yn gweled Iesu Grist mewn whiskers

cochion," &c. Mae y cyhuddiad hwn heb liw na llun iddo, mewn

gwirionedd, cyn belled ag y mae a wnelo y Saint ag ef. Pa beth a allai

efe fod wedi ei haeru yn debyg i hyny, nis gwyddom ni, ac nid ydym yn

atebol drosto.

 

4. Mewn perthynas i'r ddyfais echryslon ein cyhudda o honi, sef, ein

bod wedi ffugio cael dadguddiad, yn cyhuddo y llywydd cyntaf o fod yn

ddrwg gyda gwraig gwr arall, fel y caffai dyn arall ei swydd ef, &c.

Ei wefusau ei hun sydd yn ei fwrw yn euog, fel y canlyn "Barnasom y

gwnai yr olaf yn well," ebe efe. Ac ar yr anadliad nesaf, dywed "Fod

yr olaf yn cael ei ystyried yn brif-lywydd" eisoes! Afreidiol manylu,

oherwydd y mae'r celwydd hwn yn ddigon amlwg. Ond, mewn sobrwydd y

dywedwn, fod y cyhuddiad hwn, ie, bob gair o hono, wedi cael

ei brofi yn hollol anwireddus mewn arholiad manwl a fu yma ar y peth

o flaen cannoedd, pa rai a dystiant hyny hefyd. Profwyd na chafodd y

fath ddyfais ryfygus ac annuwiol fodoliaeth, ond yn unig yn ei galon

genfigenus ef ei hun. Haera fod ereill wedi cyduno ag ef yn hyny.

Erioed o'r blaen ni ddywedodd fod ond un; ac er cael pob annogaeth

genym i brofi hyny yn yr arholiad manwl a fu arno ef, methodd brofi

fod cymmaint ag un o honom yn gwybod dim am y fath gabledd ysgeler.

A rhyfedd, os gwir y cyhuddiad, na ddarfu i'r Thomas Jones hwn

ynganu gair am y fath beth am lawer o fisoedd wedi yr amser y dywed

iddo gymmeryd lle!

 

[Tudalen] 4

 

Nid oedd eisieu y fath ddyfais, nac un ddyfais arall, i ateb y dyben y

sonia am dano, oherwydd nad oedd dyfodiad y llywydd olaf i'r wlad hon

yn effeithio dim mewn un dull ar yr hwn oedd yn blaenori yma o'r

blaen. Ac "No object in view, no design." Pe dywedai y gwr uchod

y gwir, gwyr yn dda na welodd gyhuddiad yn cael ei dderbyn yn erbyn

neb o honom, ond gan lygad-dystion. Am ei waith yn haeru ei fod

wedi clywed un o honom yn haeru ddarfod iddo gael dadguddiadau na

chaniata gweddeidd-dra iddo eu gosod o flaen y cyhoedd, na fydded i

chwi, Syr, na neb arall, ei goelio. A thybiwn, pe yr adwaenech chwi y

gwr hwn, fel ei hadwaenir yma yn ei gartref, na chawsai un o'i

haeriadau ymddangos yn eich colofnau, h. y., os oes genych ryw barch

i'ch cyhoeddiad. Nid ydym yn chwennych duo cymmeriad y gwr hwn mewn

un modd, ond carasem yn fawr ei adael yn llaw Duw cyfiawn. Dyoddef

fel llofrudd neu leidr a fyddai bod yn ddystaw yn hwy, yn ngwyneb y

fath gyhuddiadau. Onid yw efe wedi ein gorfodi i ddod allan fel hyn,

i'w ddangos ef yn ei liw priodol, fel y dealloch chwi a'ch darllenwyr

gymmeriad yr unig dyst a saif i fyny yn erbyn tystiolaeth cannoedd o

Gymry, i'w darostwng hwy, a'r oll sy'n werth byw erddo (pe gwir ei

haeriadau), islaw dynoliaeth. Ond mewn gwirionedd, Syr, nid yw ei

gyhuddiadau ef i'n herbyn yn ddim amgen nag effeithiau gwenwynig ei

galon ddialgar ei hun, a hyny wedi iddo gael ei esgymuno o'n heglwys

ni, ac wedi ei brofi yn euog o bechodau llawer mwy ysgeler nag y

dymunem enwi. Ceisiodd ddod yn ol amryw weithiau; ie, byd y nod wedi

i'w ysgrif gyntaf ymddangos yn y Bedyddiwr, dywedodd, y byddai yn dda

ganddo ddod yn ol i'n heglwys ni. Y mae cannoedd a dystiant iddynt ei

glywed yn dweyd, ar ol iddo gael ei dori allan, "nad oes gan neb arall

y wir grefydd ond ein heglwys ni." Er hyny, yr oedd ei ymddygiad

anfoesol ac anedifeiriol yn parhau yn gyfryw, fel, pan safai i fyny o

flaen ein heglwys i geisio ei le yn ein plith, na chodai cymmaint ag

un, o yn agos i dri chant o aelodau, ei law o'i blaid!!

Haerai y pryd hyny nad oedd efe wedi traethu y cyhuddiadau uchod wrth

y Bedyddwyr, pan y gwyddem ei fod wedi gwneyd hyny eisoes. Pan welodd

na chaffai dderbyniad, ymollyngodd i'r fath nwydau drwg, nes bygwth ar

gyhoedd y mynai ddial arnom rywfodd, ac y cyhoeddai bob peth a allai

yn ein herbyn yn y Bedyddiwr, &c, yr hyn a brofodd i bawb nad oedd efe

yn wir edifeiriol am ei bechodau blaenorol; ac o ganlyniad, ni

chaniatai ein rheolau eglwysig iddo ef, na neb arall o'r cyfryw,

aelodaeth yn ein plith. Aeth y dyn hwn mor afreolus, nes gorfod i'r

swyddwyr ei droi allan o un cwrdd cyn y diwedd. Wedi ei wrthod genym

ni, cynnygiodd ei hun i'r Bedyddwyr drachefn; ond clywsom ddarfod

iddynt hwythau ei wrthod mewn mwy nag un eglwys, ac y bygythiai eu

haelodau ymadael yn hytrach na chyfranogi gyda'r fath ddyn. Ac yn

ddiweddaf oll, cyssegrwyd ef dwfr santaidd y Pabyddion. Bedyddiodd

ei blentyn gyda hwy, a haera yn awr mai ganddynt hwy yn unig y mae y

wir grefydd! Paham yr ystyria eich gohebydd groes-haeriadau gelyn

proffesedig ac esgymunedig fel hwn yn deilwng o le mewn cyhoeddiad

crefyddol, yn hytrach na thystiolaeth wirach cannoedd o gymmydogion,

yn hollol groes iddo? Gwyddai efe o'r goreu fod y tyst dialgar hwn yn

cael ei ystyried gan ei frodyr ef yn rhy ddrwg i gael dyfod i'w plith

hwynt; ac etto yn ddigon cywir i gondemnio enwad o ddynion ereill? A

fyddai y fath dyst yn ddigonol yn erbyn ei enwad ef, neu yn erbyn rhyw

eglwys

 

[Tudalen] 5

 

arall, heblaw y Saint, tybied? Na fyddai yn ddiau, ddim mwy nag

oedd tystiolaeth Judas Iscariot yn erbyn yr enwad y perthynai yntau

iddo. Pa ddyn rhesymol a ddysgwylia glywed llawer o wir gan ddyn

esgymunedig, digon drwg i addef ei fod wedi rhyfela yn wirfoddol am

dros dair blynedd yn erbyn Duw a chydwybod?

 

Pe gwir fyddai haeriadau y dyn hwn, na dim o'r cyffelyb, am ein

crefydd, ai tybied y glynai dros hanner miliwn o bobl resymol yr oes

oleu hon wrthi dan bob gwawd ac erlidigaethau, a'r rhan fwyaf o honynt

wedi bod gydag enwadau ereill cyn hyny? Pe twyll a fyddai genym,

ai tybied, mewn difrif, yr erlidiai y twyllwyr hyn ni mor arw?

Unwaith etto tystiwn, mewn gwirionedd, nad yw y broffes fawr a wna y

gwr uchod am ei gydwybodolrwydd i "ddadguddio twyll," &c, namyn

rhagrith digywilydd, er cael gan ereill ei gredu, a'i unig ddyben ydyw

dial ar y rhai na allant gyd-ddwyn yn hwy 'i ddrygioni. Cawsom lawer

o drafferth er pan y daeth atom, i geisio ganddo rodio yn ffyrdd

cyfiawnder; ond o'r diwedd gorfu arnom ei dori maes, a dyma efe wedi

dangos pwy ydyw, mai "cyhuddwr y brodyr," wedi troi yn "angel y

goleuni." Gwir yw y gair a ddywed "Dyn drwg o drysor drwg y galon a

ddwg allan bethau drwg."

 

Gan fod eich cyhoeddiad yn ddigon rhydd i'r cyhuddiadau gwarthus

hyny, hyderwn yn fawr y bydd yn ddigon rhydd i dderbyn hyn o

amddiffyniad hefyd. Gallasem roddi i chwi lawer ychwaneg o enwau

dynion cymmeradwy, ond gobeithiwn y boddlona yr hyn a ganlyn yn

bresennol, yn ngwyneb UN tyst! Samuel Morris, John Phillips, David

John, William Morgan, Daniel Williams, David Rees, Thomas Rees, Thomas

Smith, Morgan Morgans, Howell Williams, David Jones, Jenkin

Hughes, Joseph Davies, Edward Edwards, William Hughes, Hugh

Jones, Jenkyn Thomas, John Griffiths, Timothy Wosley.

 

Yn ychwanegol at yr hyn a ddywedwyd, wele dystiolaeth William

Henshaw ei hunan! "Gan mai myfi yw y llywydd cyntaf hwnw y

cyfeiria Thomas Jones ato, dyledus yw hysbysu mai anwireddau

hollol yw yr hyn a ddywed. Ni ddarfu Capt. D. Jones erioed geisio

fy swydd i. Nid yw ei swydd ef yn effieithio dim ar fy nyledswyddau

i; ac yna ni bu neb o'r Saint yn euog o ddyfeisio y cabledd ofnadwy

y sonia Thomas Jones am dano, ond efe ei hun. Buasai meddwl am

y fath ryfyg yn ein llanw ag arswyd a braw."

 

Yr eiddoch, &c.,

 

WILLIAM PHILLIPS,

WILLIAM HENSHAW,

THOMAS PUGH.

 

Gwel y darllenydd bellach nad yw tystiolaeth y Thomas Jones

esgymunedig hwn yn deliwng o'i ymddiried ef, oherwydd ei fod yn dweyd

gormod i fod yn wir, ac yn ei groes-ddweyd ei hun. Mewn rhifyn

blaenorol o'r Bedyddiwr, galwai y dyn hwn y Saint yn dwyllwyr, &c.

Haerai mai ffug oedd y doniau ysbrydol a broffesant, a dyry enghraifft

o lefaru mewn tafodau dyeithr, a'r cyfieithiad, &c, "er profi twyll y

Seintiau." Ac wedi y cwbl, onid profi ein gwirionedd y mae efe yn

anwrthwynebadwy i bob dyn rhesymol? Sicr iawn; canys addefa ein gelyn

proffesedig hwn ein bod yn llefaru thafodau, cyfieithu, &c., ac o

ganlyniad, ein bod yn efelychu yr eglwys apostolaidd, yn ein proffes o

leiaf.

 

[Tudalen] 6

 

Yr oeddynt hwy yn dweyd, "Deisyfwch ddoniau ysbrydol;" dyma addefiad

ein bod ni yn gwneyd felly etto. "Byddwch awyddus i brophwydo,

ac na waherddwch i lefaru thafodau dyeithr," ebe Paul; addefa

Thomas Jones ein bod ni yn gwneyd hyny. Etto "Yr hwn sydd yn

llefaru thafod dyeithr, gweddied ar iddo allu cyfieithu," oedd y

gorchymyn apostolaidd; ac wele ein gelyn penaf yn tystiolaethu fod y

Saint yn gwneyd felly. Ai tybied nad yw hwn yn dyst digon diduedd

gan hyd y nod Olygydd y Bedyddiwr ei goelio? Yr ydym ni yn pregethu

i'r byd, ac yn proffesu ein hunain ein bod yn mwynhau y doniau

ysbrydol hyny yn ein heglwysi. Mae y byd yn ammau, ein gelynion yn

gwadu; ond o'r diwedd, dyma iddynt dystiolaeth ddigon cryf, debygem

ni, ein bod yn credu ein bod yn mwynhau y doniau; a phwy a wyr yn

well na'r rhai a brofasant y rhoddion nefol wrth y cannoedd? Pe bai

Thomas Jones mor gyfrwys gwadu nad oeddym yn honi mwynhau y

doniau yn yr eglwys, yna, cyn belled ag y credasid ei air, llwyddasai

yn ei amcan annuwiol. Ond y mae yn rhy ddiweddar i hyny yn awr, canys

y mae wedi addef ein bod yn eu harferyd. Mae'n wir fod Thomas Jones

yn haeru mai ffug yw y doniau, ond y mae mor wir hyny hefyd na

chynnyg efe un math o brawf o hyny; na wna, mewn un dull, ond ei air

ef yn unig: a pheth yw ei haeriad ef yn ngwyneb cannoedd a wyddant

yn well? A ddichon rhywun rhesymol gredu y gwnai cannoedd o rai a

fuant yn bregethwyr doniol, yn ddiaconiaid ffyddlon, ac yn aelodau

parchus gyda'r gwahanol enwadau ereill, barhau i ffugio doniau

ysbrydol am flynyddau, mewn undeb a chariad, heb gael un budd, na thl,

na lles trwy hyny? O na, y mae y fath beth yn anmhosibl; a'r neb a

haera hyn, a haera ar yr un anadliad, mai ffug oedd yr arferiad o'r un

doniau yn yr un fath achosion gan saint y dyddiau gynt. Deistiaeth

proffesedig yw y naill wadiad yn ogystal 'r llall.

 

CIPOLWG AR Y DAVID WILLIAMS O ABERCANAID HWNW, SYDD A'l

FYS MOR DDWFN YN Y FRYWES HALLT HON.

 

Dyma y dyn hwnw a gyhoeddodd ffrwyth ei ymenydd cymmysglyd, a'i

enllib cas, yn erbyn y Saint, mewn traethodyn bychan yn ddiweddar;

a dyma y dyn a bwyswyd mor deg yn ei glorian ei hun, ac a gafwyd

yn brin o reswm, ysgrythyr, a gwirionedd; ac y profwyd ef yn ddeist

athrodus trwy ei lyfryn. Ac yn nesaf peth, yn lle canlyn yn y blaen

mewn brwydr deg drwy yr argraffwasg ar ol dechreu, dialai yn mhob

modd a allai o'r tu ol i'r berth. Nid ydym yn sicrhau mai efe a

berswadiodd un o'i aelodau i droi yr holl Saint o'u gwaith a'u tai,

ar yr addefiad mai o herwydd eu crefydd yn unig y gwneid hyny. Ond hyn

a ddywedwn. Os nad efe oedd yr achos cynhyrfiol o'r erlidigaath

gywilyddus, a'r creulondeb digyffelyb hwnw, nad y David Williams hwn

a rwystrodd un o'i braidd i wneyd hyny. Onid yw efe yn proffesu

bod yn fugail ar braidd yr Iesu addfwyn? Ond cynddaredd blaidd

yw hyn yn hytrach. Dywed y Bibl i ni mai "wrth eu ffrwythau yr

adnabyddwch hwynt." Hefyd, yr hwn a ddywedo Duw yn rhwydd

wrth y neb a wnelo y fath beth sydd yn gyfranog o'i weithredoedd

drwg ef. Dywedir hefyd, "Na ddialwch;" ond y mae dial yn felys

gan hwn. Yn nesaf peth, clywir ef yn y tafarndai ar nos Sadyrnau

yn cymhenu y Saint, yn mhlith meddwon, tyngwyr, a rhegwyr. Cofus

 

[Tudalen] 7

 

genym y ddiareb, mai "adar o'r un lliw a ehedant i'r un lle." Clywsom

fod rhyw bregethwr erlidgar wedi methu cadw ei draed dano, ac

yn mha le y cafodd ei hun, neu y cafwyd ef gan ereill, debygech chwi,

wrth ddychwelyd o bregethu ar nos Sul, ond mewn pwll hwyad! Nid

ydym ni yn dweyd pwy oedd y truan anffodus hwnw. Ond gwyddom

mai David Williams, o Abercanaid, yw y gohebydd a ffurfiodd, a

ofynodd, a ysgrifenodd, ac a anfonodd atebion y Thomas Jones hwnw i'r

Bedyddiwr, ac a ddymunai i'w ddarllenwyr goelio ei dystiolaeth unigol

ef, yn erbyn yr holl Saint a'u crefydd. Ond clywch beth yw barn

David Williams ei hun am eirwiredd a chymmeriad y Thomas Jones

hwnw. Y mae tystion ddarfod iddynt ei glywed yn dweyd mai dyn

drwg a chelwyddog oedd y tyst hwnw, nad oedd ei air yn werth dim

yn ei olwg ef, a bod ei holl aelodau ef wedi gwrthod derbyn Thomas

Jones yn aelod o'u heglwys hwynt; ac etto, dysgwylia i'r wlad gredu

ei dystiolaeth yn erbyn y Saint. Ddarllenwyr y Bedyddiwr, beth

meddwch chwi am hwn? Bydded rhyngoch chwi ag ef. Yn nesaf,

dangoswn y benbleth gelwyddog a wauodd y ddau bartner hyn, a'r

modd y crogant eu gilydd yn yr un rhaff. Yn ei ragymadrodd i'w

holwyddoreg, yn rhifyn Hydref o'r Bedyddiwr, dywed David Williams

wrth y golygydd "Ni therfynwyd yr ymddyddan [efo T. Jones] ar

hyny [sef yr hyn a ddaeth allan yn y rhifyn blaenorol], eithr aethom

rhag ein blaen." Ai "rhag eu blaen" gyda'r hanes a geir yn rhifyn

Hydref? Beth arall a ddichon gyfeirio ato? Ac os felly, paham y

gofyna yr un D. Williams i T. Jones, yn yr ymddyddan hwnw "A

ydych yn aros yn yr un penderfyniad yn bresennol [sylwer, a pha

bryd?] ag yr oeddych pan y buom yn ymddyddan ar y mater hwn o'r

blaen?" Beth! Oni ddywedodd y fynyd o'r blaen, na therfynwyd yr

ymddyddan y pryd hyny? Oni ddywed fod ganddo bedwar o dystion

crefyddol, fod yr holl ymddyddan, sef yr hyn oedd yn y rhifyn

blaenorol, a'r un dan sylw, wedi cymmeryd lle ar yr un "prydnawn

gwaith," yn yr un Capel y Bedyddwyr? Ie, dyna ddywed David Williams.

Ond sylwer fel yr haera y Thomas Jones hwn yn hollol groes iddo!

Dywed mai rhyw amser arall y bu yr ymddyddan olaf hwn, a'i fod

yntau yn parhau yn yr un penderfyniad gwrol, sef i gablu plant Duw,

ag yr oedd y tro blaenorol. Pa un o'r ddau a goelir? Anmhosibl

coelio y ddau. Ond ni choelia neb rhesymol yr un o honynt, debygwn i.

Goreu iddo ef po leiaf a fo ganddo o dystion fel hyn, onide?

canys tystion i'w erbyn ei hun yw y rhai hyn. Pwy fyddai mor ffol

dysgwyl clywed gwirionedd gan y fath gyfeillion hynaws a'r rhai hyn?

Gwr cloff yw'r celwydd. Unwaith etto, am y David Williams hwn,

dywed nad oedd yn meddwl y Saint yn werth sylw pellach, oddieithr

i'r "Meiriadog" hwnw ofyn i Thomas Jones, trwy gyfrwng y Bedyddiwr,

a oedd efe wedi addef wrth Robert Evans mai celwyddau a ysgrifenodd

efe ar y Saint, a bod yn edifar ganddo. Ac yna, pwy a welwn

yn neidio i'r bwlch, gan na allai gael gan Thomas Jones wadu hyny

yn awr, ond y David Williams hwn, fel teigr yn yspo ei fantais i

grafangu ei ysglyfaeth; a'r modd y gwna i atebion blaenorol Thomas

Jones i wneyd y tro yn awr, ac i brofi Robert Evans yn gelwyddog, ac

i gadw yr argraffiadau cyntaf ar feddwl y wlad, ydyw, cyfnewid ei

gwestiwn cyntaf, fel pe buasai yn ei ofyn wedi i gwestiwn Meiriadog

 

[Tudalen] 8

 

ddod i maes, ac fel y buasai yr ateb hwnw yn ateb i Meiriadog hefyd.

Dyma ei gweithio hi yn drwsgl, onide? Profasom eisoes fel yr

ymgrogodd yn ei rwyd ei hun, trwy addef yn ei ragymadrodd fod yr

atebion diweddaf wedi eu rhoddi cyn i T. Jones wadu. Ond y mae yn

amlwg mai private at ei bartner anwyl, sef y golygydd, oedd y

rhagymadrodd, ac iddo yntau, naill ai yn ei frys, neu ryw ffwdan

anffortunus arall, ei ollwng allan.

 

Gresyn, er lles eu hachos hwynt, na fuasai y ddau fradwr yn deall

eu gilydd yn well. Gofaled Goliath y cledrwyr o Abercanaid anfon

ei secrets gwenwynig i'w gyfaill ar eu pen eu hun y tro nesaf, rhag ei

gywilydd. Ond pa fodd y gallai ei ohebiaeth ef fod yn atebiad Thomas

Jones i Meiriadog, oddieithr ei fod yn brophwyd, ac ateb cwestiynau

cyn eu gofyn? Ond, er gweled ychwaneg o'r fusiness gywilyddus a garia

y pregethwr hwn a'i Judas cyflogedig yn mlaen, mor sly

debygasent hwy a'r cwn lladd-defaid, darllener a ganlyn, a chaiff

y new member o'r sanhedrim hon, sef Meiriadog, ei dynu drwy'r felin

etto ar ei ben ei'hun, a gweled ei fod wedi dechreu gwaeth job na'r

frad hono ynghylch lladrata corff Crist o'r bedd, a'i fod mewn gwaeth

cwmni na'r celwyddwyr hyny.

 

ROBERT EVANS YN ERBYN MEIRIADOG.

 

"Yr ydym ni yn tystio ddarfod i ni glywed Thomas Jones yn dweyd

wrth Robert Evans y dywediadau hyny a anfonodd Meiriadog i'r

Bedyddiwr, a chlywsom Thomas Jones yn dweyd llawer ychwaneg ar

y pryd, ac i'r un pwrpas. Gofynodd Robert Evans i Thomas Jones

dair gwaith drosodd, yn ngwydd dros ugain o ddynion, gan mwyaf

o'r byd, y cwestiynau hyny ac ereill, a chafodd yr atebion hyny.

Cyfaddefodd Thomas Jones mai anwireddau yw y cyhuddiadau hyny a

gyhoeddwyd yn y Bedyddiwr yn erbyn y Saint. Cwestiwn gan Robert Evans

'A ydych chwi, Thomas Jones, yn cyfaddef yn ngwydd y

dorf hon fod yn edifar genych achosi i hyny fyned i'r Bedyddiwr?

Ateb gan Thomas Jones 'Y mae yn edifar genyf, ac ni feddyliais y

caent ymddangos yno.' Cwestiwn gan Robert Evans 'A ydych

chwi yn caniatau i mi ddefnyddio eich enw er eu galw yn ol?' Ateb

gan Thomas Jones 'Ydwyf, a dywedwch fy mod i yn dweyd mai

anwireddau ydynt.' Gwelsom Robert Evans yn ysgrifenu rhai o

atebion Thomas Jones yn ei ddydd-lyfr yn y fan, yn ein gwydd ni oll;

ac felly y gwyddom mai gwir yw yr hyn a ddywedodd Robert Evans

wrth Meiriadog am y mater hwn."

 

HOWEL PHILIPS,

EDWARD OWENS,

BENJAMIN JONES,

THOMAS JOHN,

JOHN ROBERTS,

HOPKIN MATHEWS,

DANIEL WILLIAMS,

JENKYN THOMAS.

 

 

ARGRAFFWYD GAN JOHN JONES, RHYDYBONT.

 

 

Fersiwn wedi ei chywiro or testun a geir yn:
http://www.archive.org/details/amddiffyniadysai01jone# 

 

______________________________________________

sion_prys_095_y-farw-wedi-ei-chodi-yn-fyw_1845_2914k_120830_15-00


Adolygiad diweddaraf: 2011-02-15 23.48;

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA" (Cymreg)
On sc?
Esteu visitant una pgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Galles-Catalunya) (catal)
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website (English)
Weə-r m ai? Yu a-r vziting ə peij frm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəluniə) Wbsait (ngglish)

 
Archwiliwch y wefan hon
---
Adeiladwaith y wefan
---
Gwaith cynnal a chadw
 
Cysylltwch ni trwyr llyfr ymwelwyr
6998_kimkat0860k
 
CYMRU-CATALONIA

Free counter and web stats