Gwefan Cymru-Catalonia:
La Web de Gal·les i Catalunya
 

CYNNWYS Y TUDALEN HWN:

Murmuron Tawe / Parch D. G. Jones (Pontardawe) / 1913

baneri http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_089_murmuron_tawe_2788k.htm


LLWYBR:

Yr Hafan 0001 kimkat0001

Cynhwyslen Cywaith Siôn Prys 0960k kimkat0690k
y tudalen hwn


CHWILIWCH Y WEFAN HON

 

 (delwedd 7375)

Pe buasai dolen gyswllt ar gyfer tudalen arall yn y wefan hon yn methu am ryw reswm,

gellir dod o hyd i’r tudalen trwy gyfrwng Google. Teipiwch kimkat ac wedyn rhif y tudalen –

er enghraifft, ar gyfer dolen gyswllt 1276k, rhowch kimkat1276k

 

 

 

Gellir gweld y llyfr yn ei gyfanrwydd ar YOUTUBE:

http://www.youtube.com/watch?v=KuuJPPAToic

-------------------------
(tudalen 0)

Yr eiddoch yn gywir,
D. G. JONES.

-------------------------
(tudalen 2)

MURMURON TAWE
GAN Y PARCH. D. G. JQNES
PONTARDAWE

PRIS SWLLT

ABERDAR:

W, WILCOX; ARGRAFFYDD, BTC., HEOL CAEBliYDD.
1913

-------------------------
(tudalen 3)

RHAGYMADRODD.

PRINDER darnau adroddiadol i bobl ieuainc a phlant sydd yn cyfrif am ymddangosiad y llyfr hwn. Parotowyd ef ar gyfer Cyfarfodydd Dirwestol ac Adloniadol ein cymydogaethau. With ei barotoi, ni cheisiwyd dringo i uchelderau barddoniaeth, a choethder clasurol; dewiswyd yn hytrach aros gyda’r syml a’r naturiol a’r agos ar wastadedd synwyr cyffredin. Rhoddwyd ychydig doddeidiau ac eglynion i mewn i lanw bylchau.

YR AWDWR

-------------------------
(tudalen 4)

Y FELLTEN.

LLAWN o wg hyll yw y nen,
Ac ni welir cain heulwen:
Brasgama dibris gwmwl
Y daran ddewr drwy ne’ ddwl;
Nwydwyllt gan drydan ydyw,
Cawr cad-gamlan anian yw.
Yna mellten ymwylltia
O’i fwa ef, ac hyf â
Ar ei thaith mewn nerth weithian.
Wele hi’n dod a’i phlu’n dân;
Ei harddwch sy’n fyw urddas.
Y cymoedd a’r glynoedd glas
A lenwir a’i goleuni
O gaer y Nef; a gyrr ni
O flaen gwae, yn flin a gwan,
O’r golwg is rhyw geulan,
Yn y fan hon cawn ffyddlon ffau
Ond tawel iawn yw’n telynau.

Yn ddigllon wrth ddrygioni
Llefara’i holl leufer hi:
Cryned y cewri annuw,
Ar fellten ’rwy’n darllen Duw.

Y fflam danbaid naid o’r nen
I dorri balchder derwen;

-------------------------
(tudalen 5)

Esgyrn cedyrn y coedydd.
Uchelion rai, chwal yn rhydd;
Dewr wedd y gedrwydden
A dyn i lwch o dan len;
Diorchest, y dywarchen
Yrr yn wyllt i awyr nen;
Adeilad gref hudolus
Nid yw i hon onid us;
Palasau a llysau llon,
Tyr eu muriau tra mawrion:
Enwog waith coed a meini
I lwyr warth faluria hi;
A chan ei cherth nerth yn wir,
Y graig arw agorir;
Ni all barn eistedd arni,
Gyda nerth y gwawdia ni.

‘Rol fflam dân, y daran dyr
I ruo yn yr awyr;
A yw’r byd yn awr ar ben?
A yrir y ddaearen
I daro’i hun i drueni?
Ai i ryw nos teflir ni
Yn filoedd dan adfeilion
Dihedd a hyll bydoedd Ion?
Yn y cynhwrf hwn canaf,
Llywio ei nerth mae llaw Nef;
Cliria nen, clywir yn awr

-------------------------
(tudalen 6)

O gyntedd y wig, gantawr
O liw du, â hudol dôn
A ymlifa mal afon,
Yn diolch am wrandawiad
I’r nefol a’r dwyfol Dad.

___________________
Doctor Parry.

CARUAIDD arwr, angel cerddorol,
Un yn taraw y tannau naturiol;
Ei olud goreu oedd fflam wladgarol
Oleuai ei enaid mawr, ymlynol;
Am Parry bydd loes oesol, — pery sain
Ei awen firain yn frwd anfarwol.


___________________
Y Meistr a’r Gwas.

YSTYR a gwel feistr a gwas, — hael arwyr,
Pileri cymdeithas;
Beunydd gwn mai byw’n ddi-gas
Yw eu harddwch, a’u hurddas.

Eu buddiant ydyw boddio — en gilydd
O galon, ac uno
I droi ing i dir ango’,
A darnio brad drwy ein bro.

-------------------------
(tudalen 7)

PLENTYN Y MEDDWYN.

EI dad sydd yn gwario ei arian yn llwyr
Rhwng muriau y dafarn o foreu hyd hwyr;
Afrada ei enaid, a sarna ei hun,
Dirywia’n anifail anhebyg i ddyn.
Ei gariad at blentyn ei fynwes a rodd
Ar allor ei flysiau di-reol, o’i fodd;
Ac heddyw dyhiryn sychedig yw ef
Yn teithio i ddistryw o olwg y nef.

Mae’r plentyn heb ’sgidiau, na dillad, na bwyd,
Ei esgyrn heb gysgod, a’i wyneb yn llwyd;
Pan ddaw ei dad adref o’r dafarn fel llew,
Y bychan a yrir i’r gawod a’r rhew;
A threulia y noson dan lewyrch y lloer,
A brigau rhyw goeden, a’i galon yn oer:
Ac yno gweddia ar Dduw yn y nef
Am achub y meddwyn a’i taflodd o’i dref.

Na fydded i ni sydd a’n dillad yn glyd,
A’n cartref y goreu a geir yn y byd,
Ddirmygu y plentyn anffodus a thlawd,
Yn nyfnder ei angen y mae i ni’n frawd.
Rhown iddo ein cariad, a’n cymhorth yn rhydd,
Yn dirion awn rhyngddo a’i boenau bob dydd;
Pwy wyr na cha’r meddwyn sy’n dad iddo ef
Ei achub, a’i sobri, gan Dad yn y nef.

-------------------------
(tudalen 8)

CYSGU’N Y CWRDD.

LLE hyfryd iawn, gyfeillion
........Yw y cwrdd,
Mae gwleddoedd mynydd Seion
........Yn y cwrdd,
Ond y mae rhai yn cysgu
Tra paro y pregethu,
Ac ambell un yn chwyrnu
 ........Yn y cwrdd.

Arferiad drwg yw cysgu
........Yn y cwrdd,
Nid iawn troi sêt yn wely
........Yn y cwrdd,
Peth hynod annaturiol,
A gwrthun, ac annuwiol,
Yw peidio gwrando’n siriol
Am iachawdwriaeth ddwyfol
........Yn y cwrdd.

Fe glywais i am rywun
........Yn y cwrdd,
Yn cysgu fel rhyw blocyn
........Yn y cwrdd,
A dechreu wnaeth freuddwydio,
A galw ar ei Weno,
A gwaeddi am ei ginio,
........Yn y cwrdd.

-------------------------
(tudalen 9)

Fe glywais am unarall
........Yn y cwrdd,
Yn bloeddio fel rhyw anghall
........Yn y cwrdd;
Mewn cwsg yr oedd yn credu
Fod arthes yn ei drechu,
A bwyta’i gnawd i fynny,
........Yn y cwrdd.

Gyfeillion, byddwch effro
........Yn y cwrdd,
A pheidiwch a breuddwydio
........Yn y cwrdd;
Mae pethau llawn dwyfoldeb,
Ac adsain tragwyddoldeb,
Yn hawlio difrifoldeb
........Yn y cwrdd.

___________________

Evan Evans, Gelligweirdy.

I’R cwrdd trwy eira cerddai, — ar ystorm
Er ei ’stwr ni sylwai:
Trwy ddwr a thân Evan ai,
Yr hen flaenor ni flinai.

___________________

Victoria.

GYWIR, ddiguro hedd gares, — banon
Benaf oesau hanes;
Tirion ei llaw, Victoria’n lies,
Y firain anwyl frenhines.

-------------------------
(tudalen 10)

CARIO’R BAICH.

’ROEDD geneth fach o’r enw Jane
Yn myned adref gyda gwên,
Ac ar ei chefn flinedig un
Nas gallai symmud llaw na chlun.
Wrth ddringo’r rhiw o waelod cwm
Yr oedd y baich yn hynod drwm,
Ond nid oedd hi yn teimlo dim,
Ei brawd oedd ef, a cherddai’n chwim.

’Roedd ef yn gymmaint corn a hi,
Rhyw flwydd oedd rhwng y bychain cu;
Ac ar ei chefn yr ai ag ef
Heb gwyno dim, na chodi llef;
Dywedodd rhywun wrthi’n awr,
“Fy ngeneth hoff, mae’r baich yn fawr,”
Atebodd hithau’n iach a llon,
“Nid ydyw’n drwm, fy mrawd yw John,”

Gall cariad gario beichiau trwrn
I ben y bryn, o waelod cwm,
A chanu’n ddifyr ar y daith,
A llawenychu yn y gwaith;
I ddynion llawn o gariad byw,
Nid trymion yw gorch’mynion Duw,
Grymusa cariad goes a braich,
D’wed Haleliwia dan y baich.

-------------------------
(tudalen 11)

HELPU’R GWAN.

’ROEDD gwraig oedrannus, dlawd, ddi-ffrynd
Yn groes i’r heol eisieu rnyn’d,
Cerbydau buain oedd yn llu
Yn gwau trwy’u gilydd ar bob tu,
Ac anhawdd iawn i un mor wan
Oedd mentro symmud dim o’r fan,
Ond bachgen bychan roes ei law
I’w helpu hi i’r ochr draw.

’Rol derbyn cusan gan y wraig,
Daeth Tom yn ol mor gryf a’r graig,
A llawen oedd ei galon iach
Am iddo helpu’r ddynes fach,
Ond chwerthin wnaeth ei gyfaill ef,
A’i wawdio’n hyf, a chodi’i lef.
A Tom atebodd gyda grym,
Mae hona’n fam i rywun, Jim.

Pan welwch fachgen bychan, tlawd,
Yn welw’i wedd, a noeth ei gnawd,
Achubwch ef rhag pob rhyw gam
Mae yntau’n fachgen i ryw fam;
Os gwelwch ddynes eisiau llaw
I’w helpu trwy’r peryglon draw,
Tarianwch hi rhag pob rhyw loes,
Mae hithau’n fam i rywun, boys.

-------------------------
(tudalen 12)

Y PŴD


Mae torf o ddoluriau i’w cael yn y byd,
Nis gallaf gael amser i’w henwi i gyd;
Y ddanodd ofnadwy a boena y plant,
Lumbago sy’n elyn pechadur a sant,
Consumption wna berson yn welw a main,
Rheumatic sydd debyg i orwedd ar ddrain,
Ond dyma yw’r dolur a elwir y pŵd —
Rhyw berson yn suddo o’r golwg i’w gwd;

Chwi welsoch y draenog yn nghongl yr ardd,
Creadar diniwed a hynod o hardd;
Ond pan aethoch ato, fe guddiodd ei big
Tu ol i’w fidogau, fel pe bae mewn dig;
Mae’r gwr sydd yn pwdu yn debyg i’r bach,
Yn tynu ei wyneb i mewn i ryw sach;
Dystawrwydd deyrnasa, ni chlywir ei lef,
Mae’r brawd wedi pwdu wrth ddaear a nef,

Gofynwch i’r person, “Sut ydwyt ti, wr?”
Ni cheir un atebiad o’r cwdyn, rwy’n siwr,
Dywedwch, “Mae’r tywydd yn hynod o oer,
A rhewi wnaiff heno, mor oleu yw’r lloer,”
Ni chyfyd y pwdwr ei olwg i’r nen,
O’i enau ni chlywir canmoliaeth na sen,
Mae wedi dystewi o’r golwg mewn cwd,
Un rhyfedd ofnadwy yw dolur y pŵd.

-------------------------
(tudalen 13)

Gyfeillion, na sylwch ar blentyn mor fawr,
Gadewch ef yn llonydd, a’i wyneb i lawr;
Diolchwch i’r Arglwydd ei fod yn ddi-rym,
Dangoswch i’r pwdwr nad ydyw yn ddim;
Ymlaen yn egniol symudwch heb goll,
A bendith y nefoedd a ddaw arnoch oil;
’Mhen tipyn daw’r afiach i’r goleu o’i gŵd,
Fel yna mae gwella hen ddolur y pŵd.

___________________
Cythraul y Canu.

HWN wna gynnen o ganu, — a rhwyga
Diriogaeth yr Iesu;
Gwladdwn ar ddydd ei gladdu,
Uthrol dalp o gythraul du.

___________________
Watcyn Wyn.

UN oedd ddiwenwyn, ein Watcyn ddoniol,
Hawddgar ei enaid, o ffyrdd gwerinol,
Athraw gwir addien, pregethwr gwreiddiol,
Odiai’n soniarus, awdlai’n synwyrol.
Darlithiai mor ddyddorol: — yn ein llys,
Ei dalent erys, delyn naturiol.

-------------------------
(tudalen 14)

PARCH. D. LLOYD JONES, M.A.

MI welais fyw dorfeydd o flaen,
Y gwr a safai’n ddi-ystaen
Ar lwyfan y Gymanfa fawr,
Yn dweyd yn glir am doriad gwawr
Yr Iachawdwriaeth ar ein byd,
A Gwaed y Groes i’n golchi i gyd.
Goleuni tragwyddoldeb gwyn
Dywynnai arno y pryd hyn;
A chredais i mai Cerub glân
O fryniau’r cof, a’i fron yn dân,
A safai ymhlith dynion Duw
I groew ddweyd am “ffordd i fyw.”

Pan roddai floedd, y miloedd hyn
Gan awel o Galfaria fryn,
Ysgydwent fel rhyw goedwig fawr
Mewn byw fwynhad; disgynnai i lawr
Ogoniant nef yn ddiluw gwyn
I foddi’n llwyr y cwm a’r bryn.
Yn nheimlad pawb fe safodd amser,
Ymgollodd mewn tragwyddol leufer.

Ddyn pur ei eiriau, o ddawn perorol,
Glan bregethwr, llefarwr llifeiriol;
A’i sain, heb aberth, swynai y bobol,
Y werin yfent ei eiriau nefol;
Un o enaid eneiniol, — dan wlith gras,
Grewyd yn addas gawr diwinyddol.

-------------------------
(tudalen 15)

Ein cawr ’rol oes o fawredd, — a d’wedyd
.....Y didwyll wirionedd,
Aeth adref i dangnefedd,
Uwchlaw y byd, a chlai bedd.

Hoff angel cariad hen wlad ei dadau
A gerdd y fynwent, yn llawn griddfanau;
Corff y pregethwr gan Awdwr rhodau
Yma a wylir tra fflamia heuliau, —
Aeth yr enaid at thronau — nefol lys,
Ei lwch a erys am loewach oriau.

___________________

Clod.

LLEWYRCH wynebau’r lluoedd — ydyw clod,
Clir ganmoliaeth pobloedd;
Ateb llon calon y c’oedd
I iaith rhadau’n gweithredoedd.

___________________

Cerflun Tom Ellis.

WELE hardd gerflun Ellis fwyn hunodd.
O’i ol y werin yn ddwys alarodd:
Bu lyw i gedyrn, a’u bobl a gododd
Hwn yn goffa i’w yrfa o wirfodd,:
Gwir ddelw’r gwr a garodd — ei wlad gain,
Goleuai Brydain, Gwalia briododd.

-------------------------
(tudalen 16)

Y WRAIG ANNIBEN.

UN hynod anniben yw Mari, gwraig Shôn,
Am dani trwy’r ardal mae llawer o sôn,
Nid ydyw yn credu rhyw lawer mewn dwr,
Edrycha ar sebon fel gelyn ’rwy’n siwr,
Mae’i gwyneb mor ddued ag aden y frân,
Fel pe bae hi’n byw y tucefn i’r tân,
Ond hollol gysurus yw’r ddynes o hyd.
A choelia mai hi ydyw lili y byd.

Mae’r caws a’r ymenyn trwy’r dydd ar y bwrdd,
Trafferthus yw’r gorchwyl o’u cario i ffwrdd,
Mae llestri y frecwast a’r ginio i gyd
Mewn heddwch a’u gilydd yn trigo yng nghyd.
Os golchir hwy heddyw, bydd ddamwain go fawr,
Mae Mari er’s oriau yn eistedd i lawr
Yn hynod gysurus ar garreg y drws,
A’i gwyneb yn edrych yn rhyfedd o dlws.

Mae gwe’ y pryf copyn bron llanw ei phlas,
Ei symmud ef ymaith f’ai’n weithred ddi-ras;
Fe ddylai y coryn gael llonydd i fyw,
Mae yntau’n greadur a waethpwyd gan Dduw;
Creulondeb f’ai tynu ei fywyd i ben,
A digid drwy hyny hoff Arglwydd y nen;
Mae Mari mor dirion, yn galon i gyd,
Ni chaiff y pryf copyn byth bron ei llid.
-------------------------
(tudalen 17)

Ond pe bae y ddynes yn gloewi ei gwedd,
A gwneuthur ei chartref yn fangre o hedd,
Ni chiliai ei phriod i dafarn y Pant,
Arosai ar aelwyd ynghanol ei blant.
Ac elai a’i deulu bach allan am dro,
I weled prydferthion dihafal y fro.
Gofidus cyhoeddi mai dyma y gwir —
Gall gwragedd anniben wneyd meddwon o’u gwyr.

___________________

Cartref.

TAWELAF loches teulu, — ei furiau
.....Fwriant ’storm o’r neilldu;
...Asgell yr Ior di-gysgu
...Yw hanfod nef cartref cu.

___________________

Y Morgrugyn.


RHOWCH foliant i’r trychfilyn, — y diwyd,
.....Hoew, gall forgrugyn:
...Athraw da a doeth i’r dyn,
...A diwygiwr diogyn.

___________________

Y Glaswellt.

BYWIOL a hardd bali Ion, — dihalog
Wisg dolydd teleidion:
Toi y llawr mae’r glaswellt hon,
Braf odiaeth borfa eidion.

-------------------------
(tudalen 18)

GWAITH Y DDIODI

AETH Evan i’r dafarn i yfed
...At frodyr trwyn-gochion y fro,
Gwaghaodd y peintiau’n ddiarbed,
...A meddwodd a chollodd ei go’.
Ac wrth fyned adref ei hunan,
...Fe grwydrodd i reilffordd y cwm,
Ac yno gorweddodd y truan,
...A chysgodd am oriau yn drwm,

Ond trên a ddaeth heibio yn sydyn,
...Ac Evan a gollodd ei goes.
Ni wyddai’r cysgadur o feddwyn
...Ple’r ydoedd, nac ystyr ei loes.
Ond clywodd cymydog e’n gwaeddi,
...Bron colli ei fywyd yn llwyr,
A rhedodd mewn dycrhyn i’w noddi
...Yn nyfnder a chaddug yr hwyr.

Fe gludwyd y meddwyn truenus
...Mewn cerbyd i ’sbytty y dre’,

Ni feddai y bachgen anffodus
...Un syniad beth ydoedd y lle.
Ond sobrodd o’r diwedd, a gwelodd
...Ei gyflwr yn gyflawn a chlir;
Yn ungoes gruddfanodd ac wylodd,
...A digiodd wrth dafarn y bîr.

-------------------------
(tudalen 19)

Mae Evan uwchben ei ffyn baglau
...Yn araeth ddirwestol ddi-ail;
Condemnia y dafarn a’i drygau,
...A hawlia ei chwalu i’w sail.
Pan dyfwn i fyny, fy ffryndiau,
...Fe roddwn “y fasnach” ar dân,
A chilia trueni a phoenau,
...Daw rhagor o gysur a chan.

___________________

Ceridwen Beynon.

Y garadwy Geridwen — a hwyliodd
.....I balas ei Pherchen:
...Mae hi yn fyw mewn nef wen,
...Uwchlaw ing a chlwy’ angen.

___________________

Dall yr Hydref.

GAN nos rewol a’i dolef, — gwywedig
.....Ydynt, a di-dangnef;
...Ar li’ gryrn yr awel gref,
...Rhaiadra dail yr Hydref.

___________________

Esiampl.

AR y gair mae’n rhagori — yn ei swydd,
.....Esiampl ni all dewi;
...Egwyddor yn ymgorffori,
...Cynllun i oes, canllaw i ni.

-------------------------
(tudalen 20)

HELYNT STOP TAP.

’ROEDD Tomos yn yfed yn nhafarn y Graig
Yn lle bod ar aelwyd yn nghwmni ei wraig,
Wrth dori ei syched cai fwyniant ddi-ball,
Ei enaid oedd ddedwydd, a’i fyd yn ddi-wall.
A phan ddaeth y funyd i adael y lle
Gwrthododd fyn’d allan i heol y dre’.
Pa synwyr oedd cefnu a’i syched mor fawr?
“Rhowch i mi beint arall,” medd Tomos fel cawr.

Ni chafodd beint arall er taered ei gri,
’Roedd yno heddgeidwad yn ymyl y ty;
A gwas y llywodraeth yn araf a ddaeth
I symmud yr yfwr sychedig a ffraeth;
Ond Tomos gynhyrfodd, a phoethodd fel ffwrn,
Ymwylltiodd fel bwysfil, a chododd ei ddwrn
I daro ei elyn yn ymyl ei gap
Am iddo’i droi allan ar amser stop tap.

Ond gwas y llywodraeth a dynodd i mâs
Y pastwn ofnadwy na luniwyd gan ras;
A Tomos gadd ergyd ar ochr ei ben
Nes iddo wel’d myrddiwn o ser yn y nen;
Ac yna fe syrthiodd fel cwdyn i lawr,
A chollodd ei hunan hyd doriad y wawr; ;
Pan gofiodd pwy ydoedd fe deimlodd yn chwai,
Ei glopa chwyddedig oedd gymmaint a dau.

-------------------------
(tudalen 21)

Aeth Tomos i feddwl yn sobr a sỳn,
A gwelodd ei gyflwr mewn goleu glan, gwyn;
Ffieiddiodd ei enaid y dafarn yn wir,
A rhyfel gyhoeddodd yn erbyn y bîr.
“Nid gwrthod myn’d allan o’r dafarn yw’r drwg,
Ond myned i mewn,” meddai Tomos mewn gŵg,
A heddyw, ni hidia’r diwestwr ddim rap

Pa bryd daw heddgeidwad, nac amser stop tap.

___________________

Y Gydwybod.

Y farn fanol gynrychiola, — â thân
.....A thwrf Duw condemnia;
...O hon y daw Jehenna
...Ynfyd wr, a nef y da.

___________________

Awgrym.

Hebddo wyf d’lawd a chibddall, — y gair bach
.....Egyr borth fy neall;
...Hwn dyr o enaid arall,
...Goreu em cu, awgrym call,

___________________

Y Gragen.

GRAGEN gain, gywrain i gyd, — ar feusydd
.....Ffurfiau isaf bywyd;
...Clyd drigfan rhag clwy’ drygfyd,
...Bwthyn bach gwan bethau’n byd.

-------------------------
(tudalen 22)

EISIEU BOD YN DDYN.

’ROEDD awydd yn William am ddyfod yn ddyn,
A theimlai fod dyddiau bachgendod yn flin;
Fe chwiliai ei gernau am egin ei flew,
A da ganddo’u gweled er nad oe’nt yn dew.
Dyheai ei galon am ryddid a nerth,
A bywyd di-gadwyn, ardderchog ei werth;
A chredodd mae’r llwybr i ddyfod yn fawr,
Oedd yfed a meddwi’n y dafarn fel cawr.

Dechreuodd ddiota er mwyn bod yn ddyn,
A geiriau anweddus a ddoi dros ei fin;
Yn fuan, daeth meddwi’n gynefin i’r llanc,
A gwariodd y geiniog oedd ganddo yn y banc,
A gwelir ein William bob noson y pai
Yn myn’d yn sigledig i’w gartref rhwng dau;
Mae’n methu a sefyll ar goesau ei hun,
Ond dyna ei lwybr i ddyfod yn ddyn.

Mae William, y meddwyn, yn rhegu ei fam,
A rhoi ambell ergyd i’r druan, ddi-nam,
Fe’i gyrodd hi allan ryw noson o’r ty,
A gorwedd wnaeth wedyn ar aelwyd fel ci.
Mae’n glod i John Heidden, ’does undyn a’i gwad,
Ond melldith i’w ardal, a gwarth i’r holl wlad;
Wrth droi i’r gyfeddach er mwyn bod yn ddyn,
Y bachgen addawol a ddamniodd ei hun.

-------------------------
(tudalen 23)

EMYN PRIODAS.

I DY bresenoldeb grasol,
...Arglwydd tyner, gad i’n ddod;
Yn ngoleuni’th gariad dwyfol
...Y dymunem fyw, a bod.
Glan belydrau dy Shecina —
...Arwydd dy foddlonrwydd mawr,
Ar y ddeuddyn ieuanc yma:
...Fyddo’n llif yn dod i lawr.

Dan dy aden ddwyfol, dirion,
...Boed eu cartref yn y byd;
Rhag cynddaredd stormydd mawrion
...Cadw hwynt mewn noddfa glyd.
Dyro iddynt law Rhagluniaeth
...Ddoeth, i’w harwain ar eu taith;
Cynhal hwynt yn dy wasanaeth,
...Tywallt fendith ar eu gwaith.


Cyssegredig fyddo’u bywyd
...I’th ogoniant, Ior y nef;
Rho dy ddelw ar eu hysbryd,
...Tro dy glustiau at eu llef;
Wedi oes o garu’r Iesu,
...Wedi cofio dyn a Duw,
Dyro iddynt ymddyrchafu
...Attat i dragwyddol fyw.

-------------------------
(tudalen 24)

“NI PHALLA EF.”

EUOGRWYDD y byd sydd yn drwm,
...A chalon dynoliaeth yn friw,
Mae pechod yn sarnu yr oes,
...A herio sancteiddrwydd fy Nuw.
Ond dyfod i fyny mae’r da,
...Mae’n cerdded yn enw y Ne’,
Daw diwedd ar ormes y drwg,
...Diolchwn,” Ni phalla Efe.”

Mae uffern yn symmud trwy’n gwlad,
...A lluoedd ar lawr dan ei thraed;
Di-ystyr yw hi o bob ing,
...Ymhoffa mewn ochain a gwaed;
Ond udgyrn byddinoedd yr Oen
...A glywir o’r ddaear i’r Ne’,
Mae nerthoedd yr Ior ar y maes,
...Diolchwn, “Ni phalla Efe.”

Mae ffydd yn rhagweled yr awr
...Y tynir y rhyfel i ben;
Sancteiddrwydd yn llanw pob gwlad,
...Ac engyl yn canu uwch ben;
Yr Iesu yn frenhin pob man,
...A chariad yn addurn pob lle;
O brysied y boreu di-ail,
...Diolchwn, “Ni phalla Efe.”

-------------------------
(tudalen 25)

MAWL I GRIST.

YN Methlem disgynaist fy Nuw
...I groesi anialwch y byd;
Ti chwysaist yn ingoedd yr ardd,
...Calfaria enillodd dy fryd;
Cyfodaist o’r bedd yn y graig,
...Esgynaist i orsedd y Nef,
Teyrnasi yn rhinwedd dy waed,
...Eirioli yn dyner dy lef.

Cerubiaid a blygant o’th flaen,
...Seraphiaid ymgrymant i Ti;
Y saint yn y nefoedd sydd oll
...Ar dân yn eu moliant i’th fri;
’Rym ninau yn anial y byd
...Yn rhoi i Ti’n calon yn awr,
O derbyn hi’n rhinwedd dy glwy’,
...A thywallt dy fendith i lawr.

Pan gollwn ein llygredd yn llwyr,
...Pan gefnwn ar ofid y byd,
Ein telyn fydd burach ei sain
...A synnwn y nefoedd i gyd;
Am i Ti roi’th einioes i lawr
...I godi y marw yn fyw,
Cei anthem dragwyddol o glod,
...Fy Iesu, Fy Mhrynwr, Fy Nuw.

-------------------------
(tudalen 26)

Y WLAD BELL.

Y WLAD bell, dyma’r dlawd bau
Wna anhydyn eneidiau
Iddynt eu hunain heddyw
Yn Ganaan o fan i fyw;
Tir odiaeth, cartre hudol,
Yw yn awr, heb wae yn ol;
Rhyddid, a phob arwyddion
O fwyn hedd, geir y fan hon;
Enllib yw son am gibau
Y fro hon, ga’i dyfrhau
Gan y gloewon afonydd
O lwyddiant redant yn rhydd
Ar i lawr, dros yr aur lwch,
I foroedd o ddifyrwch;
I wyr ieuainc direol,
Eden yw, heb dan o’i hoi.

Eir i hon dros glawdd rhinwedd,
A thrwy neidio heibio hedd;
Wele, llanc, gan ddisgwyl llwydd,
A wir red i waradwydd;
Ffarwelia a phur aelwyd
Yn dra hawdd dan nawdd ei nwyd;
Dros galon mam y cama

-------------------------
(tudalen 27)

Ar ei hynt i wlad yr Ha’;
Llama y gwr llwm a gau
Yn nwydwyllt dros adnodau
I weled teg heolydd,
Golud yr oes, a gwlad rydd.

Wedi rhoi taith drwy y tir,
Y dall yn awr ddidwyllir;
Blas sur sydd ar bleserau
Anghyfreithlon gweigion, gau;
Cwterydd yw’r afonydd fu
Yn ddawnus yn ei ddenu;
Aur y lle ni cheir o’r llaid,
A’r hanes a wyr enaid;
Derbyn newyn a’i waeau
A ga’r ffol yn yr hagr ffau;
Byw fỳn ar gibau y fall,
Try i ing rol tro anghall;
Wedi’r hau, a byw i’r drwg,
Gwelir yn dod i’r golwg
Gnwd o warth, a gwenau dyn
Wir giliant fel rhag gelyn
Oddiwrtho ef, hawdd werthodd
Ei wyn-fyd yno o’i fodd.
Iddo rhyw drom siom y sydd,
Caled yw byd cywilydd.

-------------------------
(tudalen 28)

Yn y wlad annuwiol, wyllt,
Lle y gyra llu gorwyllt
Tua’r dinystr adwaenwn,
Un di-barch dan enaid-bwn
A ymhola am aelwyd,
Golud di-boen, a gwlad bwyd,
A chusan Tad, a chysur,
A swn can, heb seiniau cur;
O ryw enbyd dlawd ranbarth,
Eto, ’e gwyd, uwch brat gwarth,
Ei lef grynedig i’r lan,
I gynyg am hen Ganaan;
Daioni ei dlawd enaid,
Nid yw yn llwyr dan y llaid;
Wrth gynghor ei natur orau
Ei hiraeth gwyd uwch nerth y gau;
Er buchedd o fawr bechu,
Uthrol dalp o gythraul du
Nid ydyw; ond daw i adael
Gwag firi ei gwmni gwael;
Y wlad bell nid yw’r bellaf,
Euro ei nos mae gwawr Naf.
O’r ffyrdd hyll ceir ffordd allan
I wyn glod, ac enw glan;
Edifeirwch glodforaf,
’R annuwiol yn ol at Naf
Arweinia yn wronawl, —
Daw a’r gwr i dir y gwawl.

-------------------------
(tudalen 29)

Di-ildio, dros y doldir,
Fel rhyw lanc ieuanc ac îr,
Rhed Tad yn ei gariad tyn
I’w dda arbed, a’i dderbyn.
Hyfrydle ga’r afradlon
O’r wlad erch dan gronglwyd Ion;
Yn y bri a’r lloni braf
Brwd uned y brawd hynaf.

___________________

Athan Fardd.

CYWIR oedd Athan, y cawraidd ddoethwr,
Un hyawdl, gwrol, cenedlgarwr;
Cadernid creig oedd yn y Cymreigiwr
Anwyl ei wyneb, taniol awenwr;
Ysgydwai, llosgai wawdiwr — ei iaith lân,
Dyn o bur anian, adwaena’i Brynwr.

___________________

Mel.

MELUSDER, bob dyferyn, — ydyw mêl,
.....Dyma olud blodyn;
...Try ei glod ar dafod dyn
...Yn ogoniant i’n gwenyn.

-------------------------
(tudalen 30)

GWYLIAU’R HAF.

Y MAE’R gwyliau wedi dechreu,
Dyma’n wir yr amser goreu;
Cauwyd drysau yr ysgoldy,
Mae y whistle wedi tewi,
A’r athrawon wedi cefnu,
.....Hwrê! Hwrê !

Rhowd y llyfrau yn y cwpbwrdd,
Nid oes eisiau ’nawr eu cyffwrdd;
Rhoddwyd ffarwel i Algebra,
A’r holl dylwyth poenus yna,
Braidd na chanwn Haleliwia,
.....Hwrê! Hwrê;

’Ffwrdd yr awn ar hyd y meusydd,
Cerddwn lanau yr afonydd;
Daliwn bysgod yr aberoedd,
O! na byddai’r mis yn fisoedd,
Dyma wall na’r mil biynyddoedd,
.....Hwrê! Hwrê !

Mae yr adar yn ymloni,
Ac mae’r cwn yn treio gwaeddi;
Cànt ein cwmni yn y caeau,
Wrth ein bodd rym ni a hwythau,
Dyma fendigedig ddyddiau,
.....Hwrê! Hwrê!

-------------------------
(tudalen 31)

Y mae mam yn dechreu siarad
Am fy mod yn tori’m dillad,
Ond caf ddillad newydd eto,
Y mae nhad yn dal i weithio,
Ac yn enill faint a fynno,
.....Hwrê! Hwrê!

Ar ol gorphen dyddiau’r pleser
Byddwn yn gyflymach lawer;
Dringwn eto ffyn yr ysgol,
Awn i fyny oll yn unol,
Deuwn yn ddysgedig, bobol,
.....Hwrê! Hwrê!

___________________

Y Gwlith.

ANRHEG nos, gwynfyd rhosyn, — yw y gwlith
....Glân a esmwyth ddisgyn
...I fendithio bro a bryn,
....A llesau pob llysieuyn.

___________________

Fy Nhad.

GWR o enaid gwerinol, — i’w ardal,
....Awdurdod glofaol;
...Dewr o nerth, di-droi-yn-ol;
Un o ben annibynol.

-------------------------
(tudalen 32)

DILYN GWYR MAWR.

MAE swynion angfayffredin
...Mewn gwyr mawr,
Mae pawb yn ceisio dilyn
...Y gwyr mawr,
Y mae y crydd a’r teiliwr,
Y gweithiwr tin a’r glowr,
A’r ’ffeiriad a’r pregethwr,
Er cymmaint yw eu mwstwr,
Yn dilyn yn un pentwr
...Y gwyr mawr,
Mae pob rhyw ddyn yn gredwr
...Mewn gwyr mawr.

Dilyna tlodion lwybrau
...Y gwyr mawr,
Rhont arian ar geffylau,
...Fel gwyr mawr. 
I redegfsydd y Derby
Hwy ant yn rheglyd gwmni,
Gan holi a phryderu,
A’u synwyr wedi drysu,
...Fel gwyr mawr,
Mae’n rhaid cael efelychu
...Y gwyr mawr.

-------------------------
(tudalen 33)

Mae ambell un yn cablu
...Y gwyr mawr;
Ond dilyn mae er hyny
...Y gwyr mawr;
A phe bae ganddo arian
Fe godai yntau, druan,
Ei balas helaeth eirian
Yn nghanol coedwig lydan,
...Fel gwyr mawr;
Mae yn y bachgen anian
....Y gwyr mawr.

Peth hyfryd yw cyfarfod
...A gwyr mawr;
A phlygu yn ddiddarfod
...I wyr mawr;
Os nad y’m ni yn parchu
Y dyn a gadd ei eni
Ar lethrau moelion tlodi,
Ond sydd yn dda, er hyny
Yr ydym yn dyrchafu
...Y gwyr mawr;
A rhuthrwn i addoli
...Y gwyr mawr.

Diolchwn am gael gweled
...Y gwyr mawr;
A pharchwn yn ddiarbed
...Y gwyr mawr;

-------------------------
(tudalen 34)

Os sangwn ar ein gilydd,
Os tlodion ydym beunydd,
Na foed i ni, rhag c’wilydd,
Ddiddymu yn ein broydd
...Y gwyr mawr;
Dilynwn yn dragywydd
...Y gwyr mawr.

___________________

Yr Alcanwr.

YN ei grys bach, mewn gwres y bydd — hoenus
.....Alcanwr byw beunydd;
...Rhyw wych was sydd yn arch-chwysydd
...Weithia ar dân wyth awr y dydd.

___________________

Colofn Glan Geirionydd.

ENWOG wr uniawn, ein Glan Geirionydd,
Dyn oedd a hoffwyd, a’i glod ni ddiffydd,
Pa wr mwy anwyl na’n per emynydd
Puraf ei anian, a’n prif awenydd?
Ei golofn ni ddwed gelwydd. — mewn gwlad wen,
Triga ei awen mewn parch tragywydd.

-------------------------
(tudalen 35)

FFYNHON GELLIONEN.

HEN ffynhon y ffynhonau, -- fwyn ei llif,
.....Fu’n lladd pob clefydau:
...A gwaith ffol pobol ein pau
...Ydyw gwrthod ei gwyrthiau,

Llawenydd Gellionen — y bu hi,
.....Heb ei hail dan wybren;
...Afiach frodyr, wyr di-wên,
...Yfwch ei dwr fel hufen.

Y gweiniaid, deuwch yn ganoedd, — i hoew
.....Awel y mynyddoedd;
...Codwch a’ch llaw gawg ar g’oedd
...O win dyr o’r dyfnderoedd.

Fyddin y ddiod feddwol, — hen yfwyr
.....Anafus a thrwynol;
...At y dwr pur, naturiol,
...Dewch yn awr, da chwi, yn ol.

Tra sych, ’rol tori syched, — yw y gwr
.....Ga eich trwyth i’w yfed;
...Da fir iach yw’r dwfr red
...Ar ro aur ar i waered.

Dewch o’r bron i Gellionen, — i fri
.....O frad Syr John Heidden;
...Uwch y byd chwi gewch iach ben,
...A hwylus fwynhau heulwen.

-------------------------
(tudalen 36)

___________________

AR LAN YR AFON.

EFRYDIOL, difyr rodiaf — lan afon
.....Lon nwyfus brydferthaf;
...O ymyl Ner, moli wnaf,
...Ac o enaid y canaf.

Canaf yn nghanol ceinion — anian dderch
.....Lawn o Dduw wrth afon;
...Yr hwylus îr awelon
...Ogleisiant Ha’r Wynfa hon.

Y Wynfa hon lona f’enaid, — i mi
.....Môr o swyn bendigaid
...Ydyw byw chwareu di-baid
...Difyr baradwys defaid.

Y defaid a’r wyn dofion — a welant
.....O geulan yr afon
...Eu lluniau oll yn llawnion
...Yn y dwr sydd heb un don.

Heb un dòn, ond aflonydd — ydyw hi
.....Ar daith rhwng y glenydd;
...Yr haul, enwog arlunydd,
...Yn y dwr wna lun y dydd.

Llun y dydd, bronydd, a bryniau, — a geir
.....Yn gain a difrychau;
...Oriel lawn o ddarluniau
...Yn y fan hon wnaf fwynhau.

-------------------------
(tudalen 37)

Mwynhau wyf emyn nefol — hael afon
.....Lifa heibio’n siriol;
...Ei seiniau da yw swyn dô1
...Er ei hawen ddireol.

Direol, hudol odiaeth — yw y pysg,
.....Pwy mor lawn o afiaeth?
...Aelodau mud, erlid maeth
...Wna y teulu’n eu talaeth.

Yn eu talaeth ar hynt hwyliog — yr ânt
.....Rhag drwg fardd anenwog;
...Brithyllod mân, glân o glog,
...Seirianant yn serenog.

Serenog fel asur anian — yw y llu
.....Llon mewn afon burlan,
...Eu gwylio gaf ar geulan,
...O frawdol lwyth hyfryd-lân.

Hyfryd-lân, di-afradloniad, — yw côr
.....Cain y llwyni telaid;
...Edn hoew diniwaid,
...Ar ei hwyl syn wrando raid.

Gwrando raid ar lef frefol — anifail
.....O’i nefoedd borfaol;
...Ei waedd iach ysgydwa ddol,
...O fro odiaeth hyfrydol.

-------------------------
(tudalen 38)

GYMRU ANWYL.

GYMRU anwyl, gwlad y bryniau,
.....Gwyn f’o dy ddydd;
Clywaf sŵn dy fân raiadrau
.....Mewn awel rydd;
Mae dy wyneb oll yn hawddgar
A cherddorion yw dy adar,
Cyssegredig yw dy ddaear,
.....Gwlad iach y ffydd.

Gymru anwyl, gwlad y bryniau
.....Mawr yw dy fri;
Cryd athrylith lana’r oesau
.....Sydd ynot ti;
Wyt ffynhonell fy llawenydd,
Ni’th anghofiaf yn dragywydd,
Adgof grwydra attat beunydd
.....Dros donau’r lli’.

Gymru anwyl, gwlad y bryniau,
.....Tir meib y gân;
Taena engyl dros dy feddau
.....Eu hedyn glân;
Ambrose Lloyd a Doctor Parri,
leuan Gwyllt, a llu o gewri,
Yn dy ddaear sydd yn tewi
.....Wedi’r hwyl a’r tân.

-------------------------
(tudalen 39)

Gymru anwyl, gwlad y bryniau,
.....Gwlad fach a mawr;
Adsain englyn sy’n dy greigiau
.....Bob dydd ac awr;
Ynot huna dy Nicander,
A’th Galedfryn cryf awenber,
Gyda llwch dy Islwyn tyner,
.....Nes tyr y wawr.

Gymru anwyl, gwlad y bryniau,
.....Clir f’o dy gân;
Goleu’r nef a loewo’th lwybrau,
.....Boed fyw dy dân;
Dal dy afael yn dy angel,
Dringa’n uwch o hyd i’r awel,
Eistedd ar yr uchaf oriel
.....A’th wisg yn lân

 ___________________

Pelydryn.

AUR linell o dêr oleuni — o haul
.....Wyt, belydryn gwisgi;
...Saeth hudol, syth ehedi
...I eigion nos, i’w gwân hi.

-------------------------
(tudalen 40)

GALAR.

DYW enynol boen enaid
I wr yw, a’i odde’ raid;
Gan aredig, gwna rodiaw
Yn y fron sy’ lawn o fraw;
Yn y galon y’i gwelir,
A’i waith ef yw trin ei thir;
Ysbryd a wna’n ddiasbri,
A di-nerth gwna’n bywyd ni;
Ochain a wnawn o’i achos,
Dros y nef daeth dyrus nos.

O alar, pwy nas gwelodd
Wyneb hwn heb ei wahodd?
Daw’n ddi-floedd, di-gyhoeddiad,
I ein ty heb ganiatad;
Er nad oes iddo roesaw
I enaid dyn, yno daw;
Rhyfedd ei fod ’artrefol
A neb yn gyru i’w nol;
Er siomiant, erys yma,
Taro i fedd ein hedd wna.

Am ei dylwyth mud holaf,
Eu henwi a’u nodi wnaf;
Tad yr oll oedd datod draw
Yn Eden, wedi’n hudaw,

-------------------------
(tudalen 41)

Gadwyn serch a gydiai’n siwr
Eneidiau wrth Greawdwr,
A chododd amgylchiadau
Blin o hyn i’n herbyn, a’u
Hanes yw ein poeni
Hyd ein hoes, a’n gwawdio ni;
Angau, a’i erchyll ingoedd,
A beddau llawn, gawn ar g’oedd;
Wele hanes ei linach,
Poena y byw, dipyn bach.

Er trwy’r byd i gyd heb gâr,
Nid gelyn ydyw galar;
Egyr yn ddwys ei gwysau
Yn fy mron i fy mawrhau;
Daear galed wir gilia,
Hael i ddyn yw ei law dda;
A’i oreu had ar ei hol,
Dyfod mae’r Hauwr dwyfol,
I lawr y teifl e’ i’r tir,
A’i loches a fwyn wlychir
Gan wlith-wlaw gras bras, a bro
Wir anwyl Ior yw hono.
Daw engyl byd diangen,
Loew wyr Naf, ardalwyr Nen —
Ffraeth rai hoff, at ffrwyth yr hau,
A’i hanes ânt â gwenau
I’w tir llon, at Ior eu llyw;
A dywedant, “da ydyw.”

-------------------------
(tudalen 42)

Nid gelyn ydyw galar,
Efe, gwn, yw’m penaf gâr;
Er nychu’m hoen a’m poeni,
Y loes fawr wna les i fi;
I làn, nwyfus, Ion nefoedd
Oreu y gwawl, af ar g’oedd;
Yno ceir trigfanau cu
A di-alar, iach, deulu.

___________________

Y Glowr.

HYF un dyr drwy’r dyfnderau, — fe ŵyr hwn
.....Gyfrinach eigionau;
...Du arwr, glowr yn glau
...Yng nghwr ing heria angau.

___________________

Yr Urdd Iforaidd.

BYW uno fo pob enaid — i enill
Cynydd i’n hurdd delaid;
Ymgodwn, byddwn heb baid,
Hyd farw’n frwd Iforiaid.

-------------------------
(tudalen 43)

I’R CWRDD MEWN PRYD.

CHWI, foneddigion, deuwch
...Mewn pryd i foddion gras;
Mae bod ar ol, chwi gofiwch,
...Yn hen arferiad câs;
Os nad y’ch oll yn fyddar,
...Gwrandewch, fy mrodyr gwiw,
...Mae dyfod yn ddiweddar
...Yn gam â Seion Duw.

Pe byddai cwrdd y borau
...Yn dechreu am un-ar-ddeg,
Diweddar fyddai rhywrai
...Sy’n perthyn i’r rhyw deg;
Fe’u gwelid hwy yn cerdded
...I mewn yn iach, a llon,
Er mwyn i bawb gael gweled
...Eu dillad newydd spon.

Mae’r haul yn dechreu’n brydlon
...Bob boreu ar ei waith;
Mae llanw’r môr yn gyson
....I’r eiliad ar y traeth;
Mewn pryd bu farw Iesu!
...Dros weiniaid daear lawr,
I’r cwrdd dewch i addoli
...Mewn pryd yn dyrfa fawr.

-------------------------
(tudalen 44)

DWED Y GWIR.

NIS gall celwydd sefyll llawer
...Ar ei waelod yn y byd,
Rhaid cael celwydd arall ato’i
...Bwyso arno am ryw hyd;
Rhagor o gelwyddau ddeuant
...At y ddau sy’n crynu’n fawr,
Ond fe syrthiant gyda’u gilydd, —
...Rhaid i gelwydd ddod i lawr.

Saif gwirionedd wrtho’i hunan
...Ar ei draed, heb ofni dim;
Nid yw’n crynu yn y cyhoedd,
...Heria’r stormydd mwya’u grym,
Ni raid iddo gael gwirionedd
...Arall ato, er mwyn byw;
Gwrando, blentyn, paid ag ofni,
...Dwed y gwir yn enw Duw.

Gelli weithiau gael dy demtio
...I ddweyd stori na fo’n iawn;
Rhywbeth ynot gais dy dwyllo
...A gwobrwyon mawrion, llawn;
Tro i ffwrdd rhag pob temtasiwn,
...Gwylia’th galon tra fo’t byw;
Gwrando, blentyn, paid ag ofni,
...Dwed y gwir yn enw Duw.

-------------------------
(tudalen 45)

Mae yr Iesu yn dy glywed
...Di yn siarad yn mhob man;
Mae’n dy wylio yn ofalus,
...Gydag Ef nid ydwyt wan;
Os dywedi di anwiredd,
...Clwyf i’r Ceidwad tyner yw;
Gwrando, blentyn, paid ag ofni,
...Dwed y gwir yn enw Duw.

Penderfyniad Plentyn.

PAN fyddaf wedi tyfu
...I fyny’n fachgen mawr,
Ac enill arian fel y gro,
...A theimlo fel rhyw gawr,
Ni welir fi yn meddwl
...A rhegu, nos y pai,
Ond fe ddilynaf Iesu Grist,
...A chwmni’r sanctaidd rai.

___________________Colli Mam.

Os gweli di blentyn a gollodd ei fam,
Bydd iddo yn darian, saf rhyngddo a cham;
Feallai ceir dithau ryw ddydd yn ddi-hedd,
Ac isel dy galon, a’th fam yn y bedd.

-------------------------
(tudalen 46)

PWY GOLLODD EI BEN?

FE feddwodd ffermwr mewn rhyw ffair,
...A rhowd ef ar ei ebol
I fyned adref gyda’r hwyr,
...Am hyn diolchai’n rasol;
O’r diwedd daeth at glwyd y ty,
...A gwaeddodd, “Shan, tyr’d yma,
Mae’r poni wedi colli’i ben,
...Wel dyma dro ysmala.”

Y wraig, a’r gwas, a’r forwyn ddaeth
...A chanwyll yno’n union
I weled ceffyi heb ei ben,
...A dyn o glwb y meddwon;
Y meistr ar y cyfrwy oedd
...A’i wyneb at y gynffon,
Efe oedd wedi colli’i ben,
...Nid Jack, yr ebol gwirion.

Mae llawer un yn gwneuthur ffwl
...O’i enaid yn y dafarn;
Yn is na’r un anifail ä
...Yn nghwmni’r ddiod gadarn;
Gwrandewch gyfeillion hoff a mwyn,
...Ar hyn o air yrwan,
Pan gaiff y ddiod ddod i mewn,
...Fe gilia’r synwyr allan.

-------------------------
(tudalen 47)

DYN A MWNCI .

MAE rhai yn dweyd fod mwnci
...Yn gallu dod yn ddyn,
Ond anhawdd credu’r stori,
...Ei gwadu ’rwyf fy hun,
Am ddolen goll bu chwilio
...Drwy hen goedwigoedd tew,
Ond ofer oedd y crwydro,
...Ni chafwyd gwr y blew.

Maec rhai yn dweyd fod mwnci
...I ni yn agos frawd,
Ond ein bod yn rhagori
...Rhyw ’chydig ar y tlawd;
Gwell genyf gredu’r Beibl
...Fy mod ar ddelw Duw,
Ac y caf ganddo deitl
...I’w etifeddiaeth wiw.

Mae rhai yn dweyd fod mwnci
...Yn gallu dod yn ddyn,
Ond pwy a all eu credu?
...Mae’r syniad mor ddi-lun.
Pe byddent yn cyhoeddi
...Fod meddwi yn y ffair Y
Yn gwneuthur dyn yn fwnci,
... Fe’u credwn hwy bob gair.

-------------------------
(tudalen 48)

YR HEN GOUNT
.

CHWI glywsoch oll, gyfeillion,
...Am hen gount;
Mae lliaws mawr o ddynion
...Dros hen gount;
Mae yn y byd er’s tipyn,
Mae’n henach peth nag undyn,
Ond ni wanycha ronyn,
Mae bywyd anghyffredin
...Mewn hen gount.

Mae’r siopwyr oll yn rhegu
...Yr hen gount;
Ond byw ymlaen er hyny
...Mae hen gount;
A phe bai’n son am farw
Fe wylai llu yn arw
Mewn helynt hynod chwerw,
A chedwid byd o dwrw
...Am hen gount.

Fe brynir llu o bethau
...Ar hen gount;
Ceir blouses, a bonetau,
...Ar hen gount;

-------------------------
(tudalen 49)

Fe brynir skirts a sgidiau,
Y costumes a’r sidanau,
A bangles a rhibanau,
A thyrfa fawr o nwyddau
...Ar hen gount.

Fe brynir blawd a thorthau
...Ar hen gount;
Ysgadan, ac afalau,
...Ar hen gount;
Os teimlir chwant gabitshen,
A bacwn, a phytaten,
A vinegar, a halsn,
A thrap i ddal llygoden,
Fe geir yr oll sy’n angen
...Ar hen gount.

Mae merched lu yn credu
...Mewn hen gount;
Cànt ddillad at briodi
...Ar hen gount;
Pan ddaw eu gwyr i wybod
Bydd yno helynt hynod,
A mwstwr yn ddi-ddarfod,
Un drwg i greu anghydfod
...Yw hen gount.

-------------------------
(tudalen 50)

Mae’n amser i ni saethu
...Yr hen gount;
A byw yn lân a theidi
...Heb hen gount;
Chwi ferched hoff a phurlan,
Gwnewch dalu i lawr mewn arian
Am bopeth brynwch ’rwan,
Na fydded ynoch anian
...Yr hen gount.

Chwi, fechgyn, mynwch wragedd
...Heb hen gount;
Na roddwch ddim trugaredd
...I hen gount;
Os gwnewch ei oddef flwyddyn,
Ni welwch byth ei derfyn,
Cynydda bob yn dipyn,
A’ch bywyd aiff yn ddychryn,
A bedd cyn hir wna’ch derbyn
...Mewn hen gount.

Hwrê i arian parod,
...Nid hen gount,
A chefner byth ar ddifrod
...Yr hen gount;
Os nad wy’n gallu talu
Am siwt o ddillad ’leni,
Fe dreiaf shiffto hebddi,
Mil gwell i mi yw hyny,
...Na hen gount.

-------------------------
(tudalen 51)

Gobeithio caf fy nghladdu
...Heb hen gount;
Peth hyfryd iawn fydd codi
...Heb hen gount;
Mae llawer heddyw’n gorwedd
Yn ddistaw mewn tangnefedd
A godant yn y diwedd
...Mewn hen gount.

___________________

Y Darn Tair.

Y darn enwog dry’n heini, — un têr cain,
Tair ceiniog gynnwysi;
O’m gwydd mor hawdd ymguddi,
Yn yrnyl dim wele di.

___________________

Dechreu Gweithio.

’RWYT wedi dechreu gweithio
...Ac enill arian mawr;
Ymgadw di, fy machgen hoff,
...Rhag bachau’r gelyn ’nawr,
Aeth llawer un yn ’sglyfaeth
...I ddrwg yr adeg hon.
Rho le i gynghor tad a mam,
...A Christ, o dan dy fron.

-------------------------
(tudalen 52)

DYWEDWCH AMEN.

MAE gwrando’n ystwrllyd yn dipyn o fai,
A dyna arferiad cyffredin rhyw rai,
Ni chlyw y pregethwr ei udgorn ei hun
Gan uthr floeddiadau rhyw flaenor o ddyn;
Ond cofiwch fod gwrando fel darnau o goed
Yn beth na fwriadodd y nefoedd erioed,
A dyma fy nghyngor, ’rol tipyn o sen,
Na fyddwch amharod i ddwedyd Amen.

Pan fyddo’r pregethwr yn symmud dros riw,
Rhowch ysgwydd wrth olwyn yn enw eich Duw,
A help i’r gwasanaeth i fyn’d ar ei daith,
A theflwch eich enaid i ganol y gwaith.
I ddynion heb farw na’u claddu yn llawn,
Llonyddwch y fynwent nid ydyw’n beth iawn;
Os ydych yn derbyn Efengyl y Nen,
Dywedwch o galon yn hwylus, Amen.

’R’ym ni y plant bychain yn hoffi’r Un Gwyn
Fu farw dan hoelion ar Galfari fryn,
Paham r’ych chwi ddynion mor drymaidd euch gwedd
Wrth wrando’r Efengyl gyfoethog o hedd?
A ydych yn cofio am ingoedd yr Ardd?
A glywsoch fflangellu “y cefn oedd mor hardd?”
Ac onid yw’r Iesu yn eiriol uwchben?
Dihunwch, grefyddwyr, a d’wedwch Amen.

-------------------------
(tudalen 53)

DAWNSIO.

YN herwydd ei lygredd dychrynllyd ei sawr,
Pregethodd y tadau’r arferiad i lawr;
O’r diwedd fe’i gyrwyd o’r dafarn i mâs
Am nad oedd yn deilwng o leoedd diras,
Ond heddyw i gylchoedd crefyddol y daw
Yn sanctaidd ei osgo, a hynod ddi-fraw;
’Rol bod yn ddibarch, ac afradlon, yn hir,
Mae’r ddawns am aelodi yn Seion, yn wir.

Mae bechgyn a merched am ddilyn gwyr mawr,
Drwy ddawnsio a dawnsio hyd doriad y wawr;
A gwelir gwr priod tra ysgafn ei glop
A’i fraich am ryw eneth yn troi fel y top’.
Yn enw gweddeidd-dra a chrefydd y groes
Fe yrwyd y dawnsio o olwg yr oes;
Ond heddyw dychwela, yn barchus ei liw,
I hawlio aelodaeth yn eglwys fy Nuw.

Os yw y gwyr mawr am ei gadw i’r lan
Pob llwyddiant fo iddynt, rai ysgafn a gwan;
Ond pam aiff y werin i ddilyn eu drwg
A phoeni gweddeidd-dra, a thynu ei wg?
Gan sefyll yn wrol yn ymyl y groes
Cyhoeddwn y dawnsio yn elyn i foes,
Tra byddo sancteiddrwydd a chrefydd yn fyw,
Na chaffed aelodaeth yn Eglwys fy Nuw.

-------------------------
(tudalen 54)

Y BOREU.

O FOREU llawn o fawredd,
Enw Ior wyna ei wedd;
Ei dirion wawr dery nos, —
Bwria hi draw heb aros;
Yr haul mawr a’i li’ mirain
Mewn gwynfyd gyfyd yn gain;
Y mae Sol mewn gorfoledd,
A du nos ni adwaen hedd;
Gelynol yw’r goleuni
O’i orsedd aur i’w swydd hi;
Ni cha ffau dan gangau gwŷdd,
Erlidia hi drwy wledydd.

Hedegog lu coedwigoedd
Ddi-hunant, ganant ar g’oedd;
Hardd, fywiog, gôr y borau
A’i seiniau per, yw swyn pau;
I’r Wynfa mewn bri enfyn
Oreu gerdd i’r Crewr gwyn;
Aderyn du dery hen dôn
Ei dylwyth; daw awelon
Yma yn llu mwyn a llon
I gu wrandaw’r gywreindon.

Wedi’r nos fu’n duo’r nen,
Ar laswellt ceir elusen
Bur y gwlith, yn ei bri glân,
Yn lloni holl lu anian;
Y daoedd corniog diwyd

-------------------------
(tudalen 55)

I fwyniant godant i gyd;
Blysiant am ddydd o bleser,
A saig sy’n gymysg a sêr.

Y forwynig ddiddig, dda,
Yn wisgi iawn esgyna
I’r fron deg, a’i gwartheg hi
A ymdynant am dani;
Ei hewyllys ddeallant,
Ac ar ei hoi cywir ant;
Ardderchog faeth, llaeth yn lli’,
Roddant yn ddifyr iddi.

Dan ei groes, rhydd claf roesaw
I loew drem yr haul draw;
Balmau y borau mor bur
Ddaliant i ladd ei ddolur;
Ar ei wyneb, eur-wenau
Oriau gwell sy’n dechreu gwau.

Allan i’w waith yn llawn nwyf,
O galon yn iach, gwelwyf
Lu o weision dewrion da
Yn myned er mwyn manna;
Deffro mae bryn a dyffryn,
Hwylia i daith ful a dyn;
Bywyd hoew byd ieuanc
Wna y lleddf mor llon a llanc;
O foreu llawn o fawredd
Enw Ior wyna ei wedd.

-------------------------
(tudalen 56)

TALU Y SlOP.

MAE llawer mewn dyled o hyd ac o hyd,
A ledgers masnachwyr i’w herbyn i gyd,
Hwy wisgant fel mawrion, a bwytant yn fras,
A cheisiant ymddangos fel pobol y Plas.
Mae celfi ardderchog yn llenwi eu tai,
Ond pwy yw eu perchen? yw cwestiwn rhyw rai,
Ymbwyllwch, gyfeillion, mae’n amser dweyd stop,
Cynilwch ychydig, a thalwch y siop.

Y mae anonestrwydd ar gynydd yn awr,
A’r awydd am bleser yn hynod o fawr;
Dilynir cerbydau holl fwyniant y byd,
A rhedir i ddyled ofnadwy ’run pryd;
Tae deng mil o bunnau yn llaw ambell un
Ni byddent yn ddigon i gynhal ei hun,
Ti fachgen trwsiadus, na fydd y fath ffop,
Ond parcha dy hunan trwy dalu y siop.

Mae ambell i eneth olygus a glân
Mewn dyled o’r golwg — un ryfedd yw Shân,
Mae bod fel brenhines yn bechod go fawr,
Gan nad yw am sidan yn talu i lawr;
Ei hanes sy’n hysbys drwy’r ardal o’r bron,
Does neb a brioda y ddynes fach hon;
O eneth, paid rhoddi’r fath bluf ar dy glop,
Gwaradwydd yw hyny neb dalu y siop.

-------------------------
(tudalen 57)

CAMSYNIED Y MEDDWYN.

TRA’n ceisio myn’d adref ar noson oer ddamp,
Fe safodd y meddwyn yn ymyl post lamp,
Ac wrth weled goleu’n tywynnu uwchben
Aeth ati o ddifrif i alw ar Gwen,
Ond nid oedd hi’n clywed bloeddiadau ei gwr,
Am hyny y meddwyn ddechreuodd wneyd stŵr,
A synnu na ddeuai ei Weno i’r drws
I dderbyn ei.phriod caredig a thlws.

“Mae Gwen yn y gwely yn cysgu,” medd ef,
A chododd yn uchel a thrystfawr ei lef, —
“Fy ngeneth, p’am cysgu a minnau’n y gwlaw
Bron rhynu gan anwyd, mor oer yw fy llaw;
Mae’r llusern yn ffenestr y ’stafell yn glir,
A rhyfedd dy fod di yn gorwedd mor hir,
Cyn clywed dy briod yn curo y drws,
Paid bod mor ddifater o ddyn ar y bŵs.”

O’r diwedd gorweddodd y meddwyn i lawr,
A chysgodd yn esmwyth am dri chwarter awr;
Daeth heibio heddgeidwad, a gofyn a wnaeth,
“Beth wyt yn wneyd yma, ar noson mor laith?”
Atebodd y meddwyn, “Mae Gweno, fy ngwraig,
Yn methu fy nghlywed, mae’n cysgu fel craig.”
Hebryngwyd y meddwyn i’w gartref yn syn,
A thalodd “y goron a’r costau am hyn.”

-------------------------
(tudalen 58)

Y BACHGEN DEWR.

FE’i magwyd ef yn dyner
...Ar aelwyd bur ddinam;
’Roedd ynddo gryfder hoew’i dad,
...A swyn ei anwyl fam;
Pan glywodd am y danchwa
...Yn nwfn y ddaear, draw,
Disgynodd ef i’r Sodom erch
...A’i fywyd yn ei law.

Y nwy ymgasglodd eilwaith,
...A ffrwydrodd gyda nerth,
A chollodd yntau’i fywyd hoflT
...O dan y creigiau certh;
Yr olaf un a gafwyd
...O’r dinystr oedd ein brawd,
Am mai efe oedd bella’n mlaen::
...Yn noddi’r gweithwyr tlawd.

Mae hiraeth yn ei gartref
...Am dano nos a dydd;
Ac uwch ei anwyl dad a’i fam
...Y croga cwmwl prudd;
Ond Duw a sych eu dagrau
...A thywel tyner cain —
Wrth achub eraill marw wnaeth
...Fel Gwr y Goron Ddrain.

-------------------------
(tudalen 59)


Y PERERIN CREFYDDOL.

DECHREUODD fel Bedyddiwr,
...Ac nid oedd arno fai;
Arhosodd am ryw flwyddyn gron
...Yn mysg y tanllyd rai.
At y Wesleyaid nerthol
...Yn nesaf aeth y gwr,
A safodd yno bymtheg mis
...Cyn dechreu cadw stŵr.

Yn nesaf, at y ’Senters
...Yr aeth, bererin blin,
Ond buan digiodd wrth y rhai’n,
...A d’wedodd wrtho’i hun,
Af at y Methodistiaid,
...Yr enwad parchus mawr,
Ond ciliodd oddiyno’n chwim
...Cyn iddo eistedd ’lawr.

Rhodd dro am Blant yr Arglwydd
...Am eu bod hwy mor gall,
Ond credodd cyn pedwar mis
...Eu bod yn hanner dall;
Ac aeth i Eglwys Loeger
...Am urddas mawr a chlod,
Ond heddyw ar y comin mae,
...Lle dylai’r Ismael fod.

-------------------------
(tudalen 60)

OCSHWN EVAN SHON.

HYSBYSWYD y plwyfolion am Ocshwn Evan Shôn,
Parwydydd, drysau, pontydd, am dani oedd yn sôn,
A gyrwyd at y Brewer am bedair cascen fawr
O gwrw coch i’w ranu er gwneyd y llwfr yn gawr,
Ac hefyd jar o wisci i wella’r cwrw cryf,
A’i wneuthur yn effeithiol i fagu prynwyr hyf.
Fe ddaeth y cwrw’n brydlon, a’r wisci at y ty,
A rhoddwyd hwy o’r neilldu mewn congl dywell, ddu.

Yn awr, gwrandewch yn ddistaw, yr hanes rof ar gân
Am Ocshwn Glanyrafon o fewn i Walia lân.
Ymledodd gwawr y boreu yn siriol dros y tir,
A’r haul ymgododd hefyd mewn glan ogoniant gwir,
Ac Evan Shon fendithiodd Ragluniaeth am ei gwaith
Yn rhoddi tywydd hyfryd heb ddim cawodydd llaith.
Daeth pedwar cant o ffermwyr, a labrwyr, yno’n nghyd,
Ac ambell grydd a theiliwr i geisio gwella’i fyd;
Ac aml un sychedig, o’r cyrau pellaf draw,
A gerddodd yno’n flysig, heb arian yn ei law;
Yr Ocshwner gyhoeddodd delerau clir y sêl,
Ac allan daeth y ddiod i godi hwyl a zêl,
Ni wyddai neb o honynt fod wisci yn y bîr,
Ac yfodd llu yn helaeth o’r hylif afiach, sur.

-------------------------
(tudalen 61)

Gofynodd yr Arwerthwr,
“Faint am yr asyn hwn?”
A gwaeddodd gwr Ty-ucha’,
“Mae’n werth rhyw ddegpunt, gwn,
Ond gwaeddodd gwr y Berllan
“Rhof ddegpunt arall, frawd,”
A chafodd ef ar unwaith,
Ymlonodd yn ei ffawd.

Fe ddygwyd caseg henaidd
I’r cylch yn awr heb oed,
A chredodd gwr Twyn Heulwen
Nad oedd ond teirblwydd oed,
A gwaeddodd, “deugain sovren
Am yr eboles chwim,”
A chafodd yr hen sgerbwd
Nas gallai weithio dim.

Awd ati i werthu whilber,
A chredodd gwr Pen-pant
Mai carriage prydferth ydoedd
I gludo gwraig a phlant.
Cynygiodd ugain sovren
Am dani there and then,
A rhoddwyd hi ar enw
Yr hurtyn gwag ei ben.

-------------------------
(tudalen 62)

Bu yno brynu, a gwerthu, a’r cwrw’n gwneyd ei waith, 
A phawb yn teimlo’n sicr fod ganddo chwech neu saith
O filoedd glân o bunnau yn manciau mawr y wlad,
Ac na ddylasai brynu y nwyddau yn rhy rad;
Gall dynion mor gyfoethog hawdd fforddio bod yn hael,
Ac actio’n anrhydeddus, a byw uwch popeth gwael;
Ond druain o’r creduriaid, a’u harian oll, a’u bost,
Codasant foreu dranoeth a’u pennau’n ddigon tost,
A gwelsant eu ffolineb, ond rhy ddiweddar, wir,
Rhaid talu am yr eboles a’r carriage cyn bo hir.

Seiniwch y pledge, gyfeillion,
A chedwch eich pennau’n glir;
Torwch y jar a’r wisci,
A holltwch y cascis bîr;
Byddwch yn sobr, gyfeillion,
Dirwestwyr o’r brig i’r bôn,
A chofiwch yr hanes rhyfedd
Am Ocshwn Evan Shôn.

___________________

Llawysgrif Eifionydd.

TRAMWYA’R wlad ar bob adeg, — rhyfedd
.....’Sgrifen gwr di-floneg;
...Uthr yw, melldith a rheg,
...Llun adar hyll yn ’hedeg.

-------------------------
(tudalen 63)

YR ADYN MEDDW.

PAlD gwario dy arian ar gwrw,
...A’u heisiau i gynal dy blant;
Yn esgyrn dy deulu, ddyn meddw,
...Mae newyn yn gosod ei ddant;
Yr ydwyt yn cario y torthau
...Sydd eisiau’n dy gartref yn awr,
I’w rhoddi ar fyrddau tafarnau,
...O feddwyn, mae’th bechod yn fawr.

Fe wyddost fod angen esgidiau
...Ar Tomos, a Mary, a Jane,
Dy briod a welodd sidanau
...Sy’n awr yn ei charpiau’n ddi-wên;
Mae’th galon fel carreg ’rwyn coelio,
...Aeth cariad o honi yn llwyr,’
O feddwyn, yr ydwyt yn damnio
...Dy hunan, y nefoedd a’i gwyr.

Mi welais dy briod ddiniwaid
...Pan ydoedd yn eneth ddi-nam,
Addewaist wrth enill ei henaid,
...Ei chadw, a’i noddi rhag cam;
Dywedaist, ’rwyn cofio’r diwrnod,
...Y byddet yn dŵr iddi hi,
Ond toraist y sanctaidd gyfammod,
...O feddwyn, wyt waelach na chi.

-------------------------
(tudalen 64)

MARI HOPKIN.

AR waelod y mynydd ’roedd Mari yn byw
Mewn bwthyn diaddurn yng nghysgod ei Duw;
Ffordd gul amgylchiadau a deithiodd trwy’r byd,
Ffordd gul iachawdwriaeth a gerddodd o hyd;
Ni wenodd y ddaear yn ngwyneb y fam,
Ond haul yr efengyl roes oleu i’w cham,
Cyrhaeddodd ogoniant, a’i phwys ar yr Iawn,
A’r Beibl y credodd ei eiriau yn llawn.

Hawdd iawn i’r cyfoethog yn mhethau y byd
Gyhoeddi Rhagluniaeth yn berffaith o hyd;
Ond mewn amgylchiadau fai’n gwasgu yn dyn
Ni byddent mor barod i dd’wedyd fel hyn.
’Roedd Mari’n anwyl o Rhagluniaeth a’i llaw,
Ac am ei thynerwch diolchodd heb daw,
Ac os gwelodd arni i ’storm yn ei hoes,
Esboniodd y cwbl yn ymyl y Groes.

A’i ffydd yn ddiysgog, a gloew ei bryd,
Y cerddodd i oedfa Gwaredwr y byd;
Pa le mae ei llaw-ffon, a’r lantern fach lan?
Bydd coffa am danynt yn Nefoedd y Gân;
Ffarwel, Mad Hopkin, ’rwyt ti yn y nef
Yn para i addoli yn hwylus dy lef;
O na ddeuai deuparth o’th ysbryd i lawr
I danio crefyddwyr ein cymoedd yn awr.

-------------------------
(tudalen 65)

CLOD I SHAN.

’ROEDD Deio yn treulio’i nosweithiau
...Yn nhafarn y pentref o hyd,
Gan adael ei wraig yn y bwthyn
...Yn unig a thlodaidd ei byd;
Yn sydyn, un noson, hi gododd,
...Ac aeth at yr yfwr di-ball,
Eisteddodd yn nghanol y meddwon
...Gan edrych yn siriol a chall.

Yn union, hi glywodd ei Deio
...Yn galw am lasiad o fîr,
A galw wnaeth hithau am lasiad
...O’r gwlybwr afiachus a sur,
“Rhowch i mi un arall,” medd Deio,
...”I minnau un arall,” medd Shân,
A llanwyd y llestri i’r ymyl
...Gan rywun o wyneb lliw tân.

Ond methu ei yfed wnaeth Deio
...Er talu am dano i lawr,
A chododd i adael y dafarn
...Gan deimlo’i gywilydd yn fawr,
A’i ddilyn o hirbell wnaeth hithau
...I’r bwthyn bach syml a glân,
Ac heddyw, dirwestwr yw Deio
...Yn diolch i’r nefoedd am Shân.

-------------------------
(tudalen 66)

TYNU DYN I LAWR.

OS gwelir chwi’n codi, gyfeillion,
...Cais llawer eich tynu i lawr,
Arferiad y byd ydyw hyny,
...Ond na ddigalonwch yn fawr;
Ewch rhagoch, a dringwch i fyny
...O afael cenfigen yn llwyr;
Gadewch iddi rincian ei danedd
...Mewn gofid o foreu hyd hwyr.

Os gwelir chwi’n codi, gyfeillion,
...Fe geisir gafaelu’n eich traed,
A’ch tynu yn ol i’r gwaelodion;
...I’ch sarnu, a thywallt eich gwaed;
Ond daliwch i ddringo yn wrol,
...Na sylwch ar giwaid y pant;
’Mhen tipyn, bydd melldith cenfigen!
Yn disgyn ar bennau ei phlant.

Os gwelir chwi’n driugo, gyfeillion,
...Bydd llu am eich tynu i lawr,
Ond ’rol i chwi fyned o’u gafael,
...A sefyll ar fynydd sydd fawr,
Dechreuant eich canmol yn union,
...A gwaeddant “Hwrê” bob yr un,
Gelyniaeth eu calon dry’n foliant,
...Mor uchel, mor isel yw dyn!

-------------------------
(tudalen 67)

WYTH TRENED O SOVROD.

A WYDDOCH chwi, blant, faint o arian a’n ofer
Yn Nghymru, Iwerddon, Ysgotland a Lloeger,
Wrth brynu diodydd i greu mwy o syched,
A gyru y miloedd i yfed ac yfed?
Can’ miliwn a thri’gain o bunnau bob blwyddyn
A werir yn gyfain ar fasnach y gwenwyn,
Mae’r meddwl bach dynol yn methu cwmpasu
Y gwastraff ofnadwy, a’i ddirfawr drueni.

Wyth tynell o bwysau yw miliwn o sovrod,
Os nad y’ch yn credu, gofynwch i’r clercod
Sy’n gweithio yn galed bob dydd yn y banciau,
A chwi a gewch wybod mai gwir yw fy ngeiriau,
Pe bae’ch chwi am gludo holl sovrod y cwrw
I dref Abertawe, heb wneuthur fawr twrw,
Mi fyddai’n rhaid i chwi, blant anwyl ein pabell,
Gael cant a thriugain o dryciau wyth tynell.

A rhoi ugain wagen wrth gynffon pob engin,
Wyth trên fyddai hyny, ac onid yw’n ddychryn? —
Wyth trened o sovrod yn dilyn eu gilydd,
A’r engins yn ochain wrth fyned trwy’n brôydd —
Wyth trened o sovrod yn dweyd am yr yfed
A’r meddwi disynwyr, ofnadwy, di-arbed —
Wyth trened o sovrod yn hyglyw gyhoeddi
Fod yma’n dygyfor erch for o drueni.

-------------------------
(tudalen 68)

CAU’R DAFARN.

PE cauid y dafarn, gyfeillion,
...Fe gauid y pawnshops yn llwyr;
Ni welid y llu truenusion
...Byth mwyach yn myn’d gyda’r hwyr,
Gan gario eu dillad a’u celfi,
...At Iddew trachwantus a llym;
Darfydded y dafarn, a’r meddwi,
...Fe dderfydd y pawnshops yn chwim.

Pe cauid y dafarn, gyfeillion,
...Fe gauid y workhouse ’run ryd;
Ni byddai ei eisiau ar ddynion
...’Rol sobri, a gwella eu byd;
Wrth sychu ffynhonau trueni,
...Fe sychir y ffrydiau yn llwyr;
Os na cheir y boreu i feddwi,
...Ni chaiff yr un workhouse yr hwyr.

Pe cauid y dafarn, gyfeillion,
...Fe gauid carcharau y wlad;
Hwy fyddent yn segur a gweigion
...’Rol colli y ddiod a’i brad,
Ac onid yw’n werth i’n ymdrechu
...I symmud y felldith o’r byd,
A thynu dan seiliau trueni
... A siomi pyrth uffern i gyd?

-------------------------
(tudalen 69)

Pe cauid y dafarn, gyfeillion,
...Fe dynid llys ysgar i ffwrdd,
Ei lywydd ai’n segur yn union,
...T’ae sobrwydd yn frenhin pob bwrdd;
Pe cauid llond gwlad o dafarnau —
...Tae’r fasnach yn chwilfriw ar lawr,
Arbedid y brwnt ddatguddiadau
...A lygrant gymdeithas yn awr.

Ymlaen ewch yn wrol, ddirwestwyr,
...Mae nerthoedd y nefoedd o’ch plaid,
Dadweiniwch gleddyfau, fy mrodyr,
...Encilio rhag gelyn ni raid;
Ymlaen ewch a’r trymion fagnelau
...A thaniwch ar gestyll y brad,
Os uffern fydd lawn o ofidiau,
...Llawenydd a leinw fy ngwiad.

___________________

Phrenologist.

CHWILIWR pen, pwyswr ymenydd, — hanes
.....Cudd enaid a edrydd;
...Ein talent a’i heolydd
...Wêl a’i ddawn mewn gloew ddydd.

___________________

Ioan Alaw.

IOAN ALAW’r anwylyn, — yn ein cylch
.....Bu’n ben-cerdd ac emyn;
...Hunodd ef, organ o ddyn,
...Da i’w waelod, di-elyn.

-------------------------
(tudalen 70)

CODI SAIS.

GAN Mari a Tomas mae bachgen bach glân,
Ond nid yw yn dysgu hen iaith Gwlad y Gân,
Nid mam a ddyweda, ond mother o hyd,
Nid nhad glywir ganddo, ond father bob pryd,
A thybiai’i rieni y bydd yn fwy dyn
Wrth ddilyn y Saeson na’i genedl ei hun,
Ac felly hwy ddysgant y mebyn yn awr
I siarad iaith Lloegr er mwyn dod yn fawr.

Mae iaith yr hen Gymry mor arw ei gwedd,
Rhyw eiriau clogyrnog dychrynllyd a fedd,
Mae “ech” yn arswydol o boenus i’r llwnc,
A seinio yr “er” sydd yn dipyn o bwnc;
Mae Harold mor dyner, ac esgyrn ei geg
Yn llawer rhy egwan i wneyd chwareuteg
A geiriau hil Gomer; eu dweyd sydd yn drais,
Am hyny fe’i codir yn sbrigyn o Sais.

Pan dd’wed wrth ei dad, “I want some more bread,”
Pan dd’wed wrth ei fam, “I am going to bed,”
Hwy gredant ei fod yn ddysgedig yn wir,
Ac y bydd ymhen tipyn yn Farchog y Sir;
Siaradant am dano wrth fychan a mawr,
A soniant am wyrthiau ardderchog y cawr;
A chodant yn uchel a bostfawr eu llais
Gan ddisgwyl gogoniant drwy godi y Sais.

-------------------------
(tudalen 71)

Cymerwch fy nghyngor, rieni di-nôd,
Na fyddwch ddifyrwch i bawb is y rhod;
Bu dda gan frenhinoedd lefaru ein hiaith,
Gorchfygodd elyniaeth ar byd ei holl daith;
A gwelodd ddaearu gormeswyr ein gwlad,
Marchogodd yn wrol i deml a châd;
Mawrygwch iaith Gwalia sy’n drech na phob trais,
A chodwch y bachgen yn Gymro, nid Sais.

___________________

Ben Bowen.

GWR ieuanc oedd wir grewr, — a anwyd
.....Yn freiniol feddyliwr;
...Fe erys yn fyw arwr
...Tra awyr, tân, tra rhed dwr.

___________________

Pregethwr Methodist.

DYSTAW y d’wed ei destyn, — a pheswch
.....Tra phwysig yn canlyn;
...Maith ydyw y Methodyn,
...Ara’ deg yw motto’r dyn.

-------------------------
(tudalen 72)

SUDDIAD Y TITANIC.

O BORTHLADD Southampton cychwynodd mewn bri
Dan wisgo gogoniant brenhines y lli’;
Edrychai’r Titanic fel dinas fawr, gain,
Cerddoriaeth ei seindorf oedd felus ei sain;
Y teithwyr ffarwelient a’u ffryndiau yn llon
A gobaith freuddwydiai yn nyfnder pob bron.
Yn nwrn yr Anfeidrol yr hunai y gwynt,
Croesawai yr eigion y llong ar ei hynt;
Y tonau ostyngent eu pennau i lawr
Wrth weled y ddinas ardderchog ei gwawr;
Ni welwyd ei hafal ar ddyfnder y môr,
Trech oedd nag elfenau holl gread yr Ior.

Yn groes i’r Atlantic symudai mewn hedd,
A’r lluoedd ymfudwyr yn llawen eu gwedd;
’Roedd dawnsio, a chanu, a gwledda di-ball,
O fewn ei ’stafelloedd ysblenydd di-wall;
Rhaid gwneyd y daith gyntaf yn enwog drwy’r byd,
A churo holl longau yr eigion i gyd.

Dibrisiwyd y rhybudd a gaed fod ymlaen
Elynion ofnadwy o’r Gogledd ar daen —
Gelynion a nofient yn dawel ar aig, —
Gelynion fel darnau tragwyddol o graig.

-------------------------
(tudalen 73)

Ymlaen ai’r Titanic yn gyflym ar hynt
Heb ofni na rhewfryn na thonau na gwynt;
’Roedd hi’n ansuddadwy, yn herio pob brad,
Yn gyru peryglon o’i golwg yn rhad;
Ac onid oedd gwyddor yn ’dywedyd yn hy’
Nad oedd y Titanic ond meistres y lli’?

Ond och! dacw rewfryn a’i nerthoedd i gyd
Yn taro y falchaf o longau y byd;
Agorodd ei hystlys, diddymodd ei gwerth,
A llammodd y tonau i mewn yn ei nerth,
A chrynai’r Titanic fel deilen ar bren,
Tra’r lloer yn ei phruddder yn edrych o’r nen.

......Gollyngwyd y cychod i gyd
......Dros ochrau’r Titanic i lawr;
......Chwiorydd, a bychain y cryd,
......Oedd ynddynt ar eigion mor fawr;
......A brodyr o rwyfwyr di-wall
......A’u noddent yn ngoleu y ser;
......Tra’r seindorf yn canu’n ddi-ball
......Eu nodau calonog a phêr.

Yn sydyn, codi wnaeth y llong yn syth,
Ac ar ei phen i’r eigion aeth i lawr,
A channoedd o drueiniaid yn ei chol,
A mil ymdrechent ar y dyfnder du,

-------------------------
(tudalen 74)

Ac angau yn eu claddu wrth y cant
Mewn beddrod, dan wanegau’r werydd mawr,
Y tlodion a’r cyfoethog yn y dwfn,
A phob gwahaniaeth rhyngddynt nid oedd mwy.

“Byddwch Brydeinwyr,” medd Cadben Smith,
Buont Brydeinwyr, a’u clod fydd byth;
’Wthiwyd ’run ddynes o’i chyfle i fyw,
’Fathrwyd mo urddas na dyn na Duw,
Dewr y safasant heb gyffro dim,
Dewr y boddasant mewn môr a’i rym;
Canodd y seindorf yn mhorth y bedd
Emyn y nefoedd yn llawn o hedd,
A thra b’o byw dynoliaeth cofia hi, —
“Yn nes i Ti, fy Nuw, yn nes i Ti.”

___________________

Toll y Tori.

Y DIWYD weithiwr, deall — di dy les,
.....Dod i lawr wyr cibddall;
...I ddyn y bwthyn, heb ball,
...Hyll ingoedd rydd toll anghall

-------------------------
(tudalen 75)

YR HEN WEINIDOG.

PREGETHODD yr Efengyl dan lygaid tanbaid Duw,
Cyhoeddodd Iawn Calfaria a gras yr Iesu gwiw;
Fe’i gwelais dan eneiniad, fel angel uwch y llu,
A’r ddaear wedi dianc yn llwyr o’m golwg i.

’Roedd gras ar ei wefusau, a’i galon fawr ar dân,
A gweddnewidiad prydferth nefolai’i wyneb glân;
Cyfodai’i law i fyny, cyfeiriai at y Groes,
Dangosai waed yr Aberth i olchi beiau oes.

Nid “duwinyddiaeth newydd” na sonia am y gwaed,
Gynygiai i bechadur i’w godi ar ei draed,
Ond hen ddysgeidiaeth iachus gwroniaid dyddiau gynt,
Sy’n gwybod am yr anadl oddiwrth y pedwar gwynt.

Ni ch’oeddodd d’lawd amheuon uwchben gwamalrwydd gwlad,
Ac ni fychanodd haeddiant anfeidrol Fab y Tad;
Nid carreg yn lle bara gynygiai ei i’r sant,
“Hen ŷd y wlad” a falai i’w r’oi yn fwyd i’r plant.

Hiraetha ein pwlpudau am sain ei udgorn clir,
Ac wyla’n Cymanfaoedd am dano drwy y tir;
Ei lef a aeth yn eisiau rhwng creigiau’r anial maith,
Do, collwyd y gweinidog, ond llwydda Duw ei waith.

-------------------------
(tudalen 76)

OEDFA ADFYD.

I ADAR mân y gân i gyd,
Rhydd eira oedfa adfyd;
Ant mewn braw rhag y gawod, —
Rhai i berth i dreio bod
Yn dawel mewn chwyrn dywydd,
A byw’n iach hyd decach dydd, —
Rhai o blith y difyr blant
I goedwig a ehedant
I ryw ddedwydd freuddwydio
Am foreu o haf i’r lom fro.
Diaros, gan bryderu,
I’w dy glân, dan geulan gu,
Y dryw bach a dry ei big
I ddioddef yn ddiddig;
Yna tyn aderyn tô
Dry i fwynder rhyw fondo;
Crea helynt, cweryla —
Brwydro’n wyllt a brodyr wna,
Ar darawiad i’r heol
O’i dy â nerth daw yn ol,
A brysia at y briwsion
Mewn eiliad â llygad llon;
Er y gwynt a’r eira ga
Un yw hwn na newyna.

-------------------------
(tudalen 77)

Wedi’r ystorm a’i gormes, — daw adar
.....Er d’wedyd eu hanes,
...A cheisio groeso a gwres,
...A’u cân at letty cynhes.

Y robyn a’i arabedd — a erys
.....Wrth ddor y wraig lanwedd;
...A’i fain lais gofyna wledd,
...A’r gwirion gaiff drugaredd.

A’i dirion dôn, aderyn du — a ddaw
.....Yn ddof, bron llewygu, —
...Mewn cryndod am gardod gu
...I wylied porth y teulu.

Deulu anwyl, bur delynau — y maes
.....Rhowch i mi’ch caniadau
...Wrth fy mhorth, a chewch dorthau
...Iach Llwynon i’ch llawenhau.

___________________

John Jones, Talysarn.

HWN waeddodd wirioneddau — y Cadw
.....Nes ysgydwyd creigiau;
...Mae yn hawdd i’n mynyddau — ddweyd beges
...A mawredd hanes cawr y myrddiynau.

-------------------------
(tudalen 78)

OWEN DAFYDD, CWMGRENIG.

AWEN, rhaid it’ ganu’n rhydd
Fawl enwog hen felinydd;
Un cywir, dewr, fu’n creu dydd
Yn ei lanerch fwyn lonydd;
Y duwiol wr, diau haul oedd,
Goleuai’i enaid y glynoedd;
Ar ei ol gogoniant drig,
Ac mae graen ar Gwmgrenig.

Hwnt, yno, cornant anwyl
Fu ar rod yn fawr ei hwyl,
Canai dôn i’r bardd cyn dydd,
A’r miwsig lanwai’r meusydd;
Ymlonai y melinydd
Wrth ei gwel’d rhwng perthi gwydd
Yn nwydus, ddifyr neidio
A gwir drwst mawn garw dro;
Hola hi am hael Owen,
Hen was gwar yn ei wisg wen.

Ei hen felin wnai falu
Yn dra llon ydau i’r llu,
Yn ysgyrion wasgarwyd, 
Ar y llawr mae’r muriau llwyd.

Mewn cân hardd mae’r bardd yn byw
Yn ei wlad, anwyl ydyw;

-------------------------
(tudalen 79)

Ei awen ef wnai yfed
O fywyd ysbryd a bed
Awyr gwlad dros berlau’r gwlith
I heolydd athrylith:
Awen bur, anghlasurol, —
Awen fyw, heb unrhyw ol
Athenaidd ar ei thannau,
A lonai bobl ei hen bau.
Awen gu dan swyn y Gair
Ag Anghrist ni wnai gynghrair;
Hi gloddiodd dari gelwyddau
Uthr, gwyllt, yr athraw gau;
Ac ar y garnedd heddyw
Mae ei thêr faner yn fyw.

Hen ddiwinydd awenol
O gref ffydd, fu’n gyru ffol
Wadwyr ei Grist ar edyn,
A’u camwedd, o’r cymoedd hyn.
Diolchai am Gyfammod
Iach, a’r Iawn sydd uwch y rhod;
Gwleddai ar Ber-arglwyddiaeth
Ddiorfod, a’r Duwdod aeth
I annwn ein trueni, —
A siom a nos drosom ni;
Iddo byw wnaeth yn ddi-baid,
Gras Hwn oedd gwres ei enaid.

-------------------------
(tudalen 79)

Mae yn ei fedd, ond myn fyw,
Brwd odiaeth ysbryd ydyw;
A’i anadl rhwng ein bryniau
Lwydda y gwir, ladd y gau.

Rhyw foreu braf, Owen Dafydd,
I awyr Ior gwyd yn rhydd;
A hyf lef, tyr dwyfol lais
Wahanlen Ystradgynlais.

 Lle y claddwyd ef.

___________________

Yn y Dwymyn.

POETH fy mhen, berwai f’ymenydd, — a rhodiai
.....Ysbrydion dig’wilydd
...Yn y fro yn nifer rhydd
...O fileiniaid aflonydd.

Cedyrn gor-hyll yn codi — a welais
.....Yn niwl fy nhrueni;
...Gelynion pob goleuni
...Yno oedd im’ poeni i.

-------------------------
(tudalen 81)

YMAITH AG EF
.

 “YMAITH ag Ef” oddiar wyneb y ddaear.
Mae hwn yn dywedyd yn erbyn Cesar;
“Ymaith ag Ef “ y tu hwnt i fodolaeth,
Mae’n gablwr y Duwdod, bechadur anhywaeth;
Fe’i magwyd ef acw, yn nhir Galilea,
Lle ni chododd proffwyd yn llaw y Gorucha’;
Cableddau ewyniant bob dydd ar ei wefus,
O’i galon y llifa honiadau arswydus,
Disgwyliwn Fessia brenhinol i’r ddaear,
Nid ydyw yr Iesu ond twyllwr anhygar;
“Ymaith ag Ef.” y terfysgwr di-urddas,
Y chwalwr di-g’wilydd, sy’n llunio galanas
Yn ngwiad yr hen genedl etholwyd yn gynhar
I fod yn offeryn yr Arglwydd digymhar
I sarnu fel sothach bob math o genhedloedd,
A’u gyru i ddistryw fel us o flaen gwyntoedd,
“Ymaith ag Ef,” mae un arall yn dyfod,
Messia milwrol, nid honwr gwael, dinod;
Yn enw breuddwydion ein tadau ardderchog
Croeshoelier yr Iesu, y bradwr llwm euog.

Fel hyn y llefa’r canoedd
...Ger bron paganaidd ddyn,
A chryna’i galon ef o’i fewn,
...Ac ofna’i lais ei hun,

-------------------------
(tudalen 82)

Cynddaredd sydd o’i gwmpas,
...A’i swn fel storm ar fôr,
Ni wyr fod Duw ei Hun o’i flaen,
...Ac yntau ger bron Ior.

Mae’r nef yn wylo’n hidl,
...Angylion oll yn brudd,
Wrth glywed cenedl Duw ei Hun
...Yn cablu toriad dydd;
Mae Arwr tragwyddoldeb,
...Y Meichiau mawr, di-wall,
Fel darn o balmant o dan draed
...Ysbrydion brwnt y fall.

“Ymaith ag Ef!” y mae rheswm yn wylo,
“Ymaith ag Ef!” mae cyfiawnder yn udo,
“Ymaith ag Ef!” mae y creigiau yn ochain,
“Ymaith ag Ef!” y mae natur yn ubain,
Cysgodau’r hen oesau alarant yn uchel,
Ysprydion prophwydi dd’ont heibio’n yr awel,
Ond swn eu tystiolaeth yn ymyl y sylwedd
Ni chywir gan Israel mewn môr o gynddaredd;
“Ymaith ag Ef,” mae y croesbren yn barod,
Ac uffern i’r mynydd yn myn’d i’w gyfarfod,
Satanaid ymlonant, ymddawnsia ellyllon,
A gwaeddant i’w erbyn trwy gegau Iddewon,
“Ymaith ag Ef!” Aeth, a threngodd yn ufudd,
Mae Israel yn dawel, a’r wlad gafodd lonydd.

-------------------------
(tudalen 83)

“Ymaith aeth,” dychwelodd eilwaith
...Gyda boreu’r trydydd dydd;
Torodd holl gadwynau’r fagddu,
...Cerdda’r wlad yn ngolwg ffydd;
Byw ar gelwydd y mae’r Iddew,
...Crwydra’r byd o oes i oes,
“Ymaith aeth “ o wlad ei dadau,
...Digiodd Dduw gerllaw y Groes.

___________________

Cofia’n Gwlad.

IOR, i Walia rho wylwyr, — a hoffus
.....Seraffaidd bregethwyr;
...’Rol ardderchog enwog wyr
...Mae gwae yma a gwewyr.

Rho sereiff o wyr i siarad — a ni
.....Am y nef a’i chariad;
...Engyl glwys yn ngolwg gwlad,
...Nid dynion wnaed i enwad.

Carwn hynt ein cornentydd, — mae eisieu
.....Miwsig ffrwd y mynydd;
...Dyro ddyfnion afonydd
...Per eu dawn tra paro dydd.

Cu aros mae Duw’r cewri, — daw eraill
.....Frwd arwyr i’n lloni;
Rhai glanach na’r goleuni,
O! Awdwr Nef, dyro i ni.

-------------------------
(tudalen 84)

CADW’R ENAID A’R BYWYD.

ACHUBWYD enaid lleidr
...Yn ing ei olaf awr;
Pentewyn ydoedd dynodd Crist
...O fflam y colli mawr;
Mawrygwn gariad dwyfol,
...A’r wyrth ardderchog hon,
Mae’r lleidr heddyw yn y nef,
...Yn canu’n iach ei fron.

Ond Timotheus achubwyd
...Yn foreu ar ei ddydd,
Yn swn cynghorion aelwyd lan
...Fe’i magwyd yn y ffydd;
Pregethodd waed Calfaria,
...Ac aeth i’r nef yn gain,
Ei fywyd ar ei hyd a roes
...I Wr y goron ddrain,

Fe gadwyd enaid lleidr
...Ar ymyl bythol dan,
Ond cadwyd bywyd Timotheus
...Yn llaw’r Ysgrythyr Lân;
Gadewch i Grist eich arwain
...Yn mysg peryglon gant,
Nid digon cadw’r enaid mawr,

...Rhaid cadw’r bywyd, blant.

-------------------------
(tudalen 85)

CYNHWYSIAD

 
TUDALEN


DARLUN
Gwyneb-Ddalen ...1
Rhagymadrodd ...3
Y Fellten ...4
Doctor Parri ...6
Y Meistr a’r Gwas ...6
Plentyn y Meddwyn ...7
Cysgu’n y Cwrdd ...8
Evan Evans, Gelligweirdy ...9
Victoria ...9
Cario’r Baich ...10
Helpu’r Gwan ...11
Y Pŵd ...12
Cythraul y Canu ...13
Watcyn Wyn ...13
Parch. D. Lloyd Jones M.A. ...14
Clod ...15
Cerflun Tom Ellis ...15
Y Wraig Anniben ...16
Cartref ...17
Y Morgrugyn ...17
Y Glaswellt ...17
Gwaith y Ddiod ...18
Ceridwen Beynon ...19
Dail yr Hydref ...19
Esiampl ...19
Helynt Stop Tap ...20
Y Gydwybod ...21
Awgrym ...21

-------------------------
(tudalen 86)

TUDALEN
Y Gragen ...21
Eisieu bod yn Ddyn ...22
Emyn Priodas ...23
“Ni phalla Efe” ...24
Mawl i Grist ...33
Y Wlad Bell ...26
Athan Fardd ...29
Mel ...29
Gwyliau’r Haf ...30
Y Gwlith ...31
Fy Nhad ...31
Dilyn Gwyr Mawr ...33
Yr Alcanwr ...34
Colofo Glan Geirionydd ...34
Ffynhon Gellionen ...35
Ar Lan yr Afon ...36
Gymru Anwyl ...38
Pelydryn ...39
Galar ...40
Y Glowr ...42
Yr Urdd Iforaidd ...42
I’r Cwrdd mewd pryd ...43
D’wed y Gwir ...44
Penderfyniad Plentyn ...43
Colli Mam ...43
Pwy Gollodd ei Ben? ...46
Dyn a Mwnci ...47
Yr Hen Gount ...48
Y Darn Tair ...31
Dechreu Gweithio ...51
Dywedwch Amen ...52
Dawnsio ...53
Y Boreu ...54

-------------------------
(tudalen 87)


TUDALEN
Talu y Siop ...56
Camsyniad y Meddwyn ...57
Y Bachgen Dewr ...58
Y Pererin Crefyddol ...59
Ocshwn Evan Shon ...60
Llawysgrif Eifionydd ...62
Yr Adyn Meddw ...63
Mari Hopkin ...64
Clod i Shan ...65
Tynu Dyn i Law ...66
Wyth Trened o Sovrod ...67
Cau’r Dafarn ...68
Phrenologist ...69
Ioan Alaw ...69
Codi Sais ...70
Ben Bowen ...71
Pregethwr Methodist ...71
Suddiad y Titanic ...72
Toll y Tori ...74
Yr Hen Weinidog ...75
Oedfa Adfyd ...76
John Jones, Talysarn ...77
Owen Dafydd, Cwmgrenig ...28
Yn y Dwymyn ...80
Ymaith ag Ef ...81
Cof a’n Gwlad ...83
Cadw’r Enaid a’r Bywyd ...84


-------------------------
(tudalen 88)

W. WILCOX
ARGRAFFYDD
ABERDAR



 

______________________________________________

 

Adolygiad diweddaraf: 2011-02-12 11.50;

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA" (Cymráeg)
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya) (català)
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website (English)
Weə-r àm ai? Yùu àa-r víziting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait (Íngglish)

 

Archwiliwch y wefan hon 
---
Adeiladwaith y wefan 
---
Gwaith cynnal a chadw

 

Cysylltwch â ni trwy’r llyfr ymwelwyr: YMWELFA

 

CYMRU-CATALONIA


Free counter and web stats