2615k Gweddi Gyntaf Jessica. Hesba Stretton.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_086_y_dduwioleg_1873_2666k.htm

Yr Hafan

..........
1863k Y Fynedfa yn Gymraeg

....................
0009k Y Barthlen

..
............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai

........................................y dudalen hon


(delw 0003)


Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya


Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)

_______________________________________


Y Dduwioleg
1873
Remsen, New York State


(delw 0285)

 

 

 

 

 

 

 

 



(delw A0003)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



 

 

(delw A0003)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 1)


Y DDUWIOLEDIG (Y DDWY BENNOD GYNTAF.)

GAN ROBERT EVANS, (TROGWY,) REMSEN, N. Y.

UTICA, N. Y. *
T. J, GRIFFITHS, ARGRAFFYDD, EXCHANGE BUILDINGS.
1873


 

(delw A0004)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 3)

AT Y DARLLENWYR.

ANWYL DARLLENWYR
Wedi adrodd rhanau o’r DDUWIOLEG ganoedd o weithiau yn yr Hen Wlad, ac ugeiniau o weithiau yn y wlad hon; wele ddwy bennod o honi yn cael eu cyflwyno i’ch sylw trwy yr argraff-wasg.

Cyfansoddiad yn ymwneyd â chrefydd yn gyfan-gwbl yw hwn – athrawiawethau a phynciau crefydd - profedigaethau a buddugoliaethau crefydd, &c.; ac o herwydd hyny osgoir pob ymgais at ehediadau aruchel barddoniaeth, oddigerth ynychydig mewn dwy bennod; ac felly defnyddir yr iaith fwyaf priodol wrth ymdrin â phethau crefydd.

Bwriedir rhodddi rhanau eraill o honi allan os ceir cefnogaeth ddigionaol i’r anturiaeth hon.

Gyda dymuniad ar fod i’r ddwy bennod hyn fod o fendith i chwi oll, y gorphwys, anwyl ddarllenydd,


Yr eiddoch yn Nghrist,


ROBERT EVANS
Remsen, N.Y.


 

 (delw A0005)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 5)

Y DDUWIOLEG.

PENNOD I.

Cyfarchiad i Genad Hedd - Ei bregeth i’r byd, a’i alwad arno i dderbyn Iachawdwriaeth - Eu hesgusodion rhag gwneyd - CENAD HEDD yn eu hateb - Llawer yn ymhyfhau i bechu yn erbyn Duw - Un yn gweled ei gyflwr colledig - Ei deimlad trallodus - Ei weddi afaelgar - Ei lais gorfoleddus pan wêl obaith am faddeuant - Satan yn dyfod ato ac yn editw iddo ei bechodau - Ei hyder ffyddiog yntau yn haeddedigaethau y gwaed - Satan yn ceisio ei berswadio i beidio dangos hyny i neb - Satan yn ffoi pan glyw ei benderfyniad diysgog i arddel Iesu yn gyhoeddus - CENAD HEDD ar nos Sabbath yn cynyg drachefn Iachawdwriauth i’w wrandawyr, ac yn anog rhai a deimlant awydd arddel Iesu i aros yn ol - Llawer yn gwneyd - Yn adrodd eu teimladau a’u penderfyniadau - Yr Eglwys wrth glywed y naill ar ol y llall, yn canu Haleliwia - Wrth eu gweled, mae hen wr duwiol yn codi ar ei draed i ganmol ei Geidwad - Gorfoledd yn tori allan - A phan ar y ffordd yn myned adref, mae gorfoledd brwd drachefn yn tori allan - Wedi dystewi o hwnw, clywid rhyw berson unigol, yn y meusydd draw, yn canmol y gwaed.

HAWDDAMOR fo i Genad Hedd! Ei draed
A saif yn weddaidd ar fynyddau teg -
Ei ddull yn hardd, a’i wedd yn swynol sydd,
A’i lais arianaidd a ladrata’r glust
Wrth glir gyhoeddi cenadwri’r nef.
Llefara gyda dwysder wrth y byd:-

·····“Fy nghyd-drafaelwyr i’r bytholfyd mawr;
Fy ngenau a agoraf, ac yn glir
Yn enw Duw cyhoeddaf yn eich clyw
Y gwir - y gwir i gyd - dim ond y gwir.
Pechasoch, Och! yn hyf yn erbyn
Duw - Anufuddasoch i’w orchymynion
Ef - Ei gywir ddeddf sathrasoch dan eich traed,
Gan ddiystyru ei rybuddion da;


 

(delw A0006)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 6)

Gan hyny llwyr gollasoch hawl i’r nef
A theg yr enillasoch uffern dân.
Colledig ydych, a cholledig byth
O ran a ellwch chwi eich hunan wneyd.
Y ddedfryd a gyhoeddwyd gan y Nef
Uwchben yr Iuddew fel y cenedl-ddyn,
Ac fel eu gilydd pawb haeddasant fod
Yn ngherwyn fawr digofaint Arglwydd Ior.
Ond er mai hyny yw yr erchyll ffaith,
Nid wyf yn sefyll heddyw ger eich bron
I drist bregethu dialeddau’r Nef;
Ond meddaf heddyw yr hyfrydol waith
I draethu’n glir a dadgan yn eich clyw
Anfeidrol ras, a hen drugaredd Ior,
Gynlluniodd drefn i gadw teulu’r llawr,
Cyn crogi haul, na lloer, na ser y nen,
Na gosod sail ein byd is-loerawg hwn.
Ac yn nghyflawnder amser arfaeth Nef,
Mab Duw o’i ras a ddaeth i’n natur ni.
Daeth Ef o Wynfa lân i’r ddaiar hon:
Yn lle cael pob gogoniant, cael pob gwawd,-
Yn lle cael mawl a pharch, yn cael sarhad,-
Yn lle cael cyfoeth, cael tylodi du,
Heb ganddo le i roi ei ben i lawr,-
Yn lle coronau’r nef, cael coron ddrain,-
Yn lle cael byw, yn marw ar y groes.
Ond pobpeth wnaeth fe’i gwnaeth dros ddynolryw:
Y griddfan trist, a gwaedlyd chwys yr ardd,
Y goron ddrain, a gwawdus ddirmyg dyn,
Y fflangell g’lymog, a’r collfarniad erch,
Yr hoelion dur, a marw mawr y groes,
Y bedd a’r codi – OLL ER ACHUB DYN.
Goddefodd ddialeddau deddf y nef,
Ac erchyll drymder cleddyf mawr yr Ior.


 

 

Thus you completely lost (the) right to heaven

And you fairly won hellfire.

You are lost, and lost for ever

As regards what you yourself can do.

The verdict was issued by heaven

On the Jew as the Gentile

And indiscriminately everyone deserved to be

In the vast cauldron of wrath of the Lord God

But though that is the terrible fact

I am not standing before you today

To sadly preach the retribution of Heaven

But I speak today (of) the pleasant work

To orate clearly and announce in your hearing

Immortal grace, and the long-standing foregiveness of God

Who planned the order to keep the family below (“of the ground”)

Before (ever) suspending (the) sun, or (the) moon, (or)the stars of the firmament,

Or lay the basis of this our world below the moon.

And in the fullness of the time of the plan of Heaven,

The Son of God because of his grace came to our nature.

He came from holy Paradise to this earth.

Instead of receiving every (display of) glory, he received every (display of) mockery,

Instead of receiving praise and respect, he received insult(s),

Instead of receiving wealth, he received dire (“black”) poverty,

Without any place to lay down his head.

Instead of the crowns of heaven, he received a crown of thorns.

Instead of being allowed to live, he died on the cross.

But everything that he did, he did for humanity.

The sad moaning, and the bloody sweat of the garden,

The crown of thorns, and the mocking scorn of Man,

The knotted whip, and the frightful condemnation,

The steel nails, and the great dying on the cross,

The tomb and the arising (from it) – ALL TO SAVE MANKIND.

He suffered the retributions of the law of heaven,

And the terrible heaviness of the great sword of God.

(delw A0007)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 7)

Ond, haleliwia! yn ei ingoedd trwm
Dolefodd nes adseinio’r cread mawr,
“GORPHENWYD.” A gorphenwyd pobpeth oll
I achub dyn. Yn awr mewn hyder hyf
Gwahoddaf chwi, ar sail awdurdod Duw,
I ddod yn mlaen i gael maddeuol ras,
A’ch golchi’n wyn yn ffynon goch y groes.
O deuwch ddynion anwyl - de’wch yn awr.
Pawb o bob oed - pawb o bob gradd a lliw –
Pawb o bob cyflwr - pawb sy’n fyw trwy’r byd,
Heb ddim gwahaniaeth, croesaw yma gewch.
Mae’r wledd yn barod, ac mae’r gwinoedd da
A’r pasgedigion breision ar y bwrdd;
Gan hyny deuwch bawb yn ddiymdroi;
Ac os na ddowch, dywedwch im’ paham.
Ond yn lle dod i brofi blas y wledd,
Ymesgusodi o un fryd y maent,
Gaa herio difrif daerni CENAD HEDD,
A dwyn rhyw esgusodion dros eu gwaith
Yn gwrthod cyaygiadau Duw yn Nghrist:
A’u hesgusodion draethent hwy ar g’oedd;
A phawb a’r esuns cryfaf allant gael;
Ond CENAD HEDD a saif i’w hateb oil.

Y DYN IEUANC.
Mi hoffwn ddod at grefydd,
·····Ond nid yn moreu f oes;
Mae arnaf eisiau gweled
·····Arferion byd a’i foes.
Yr hen sydd i grefydda,
·····A’r ieuainc, yn ddiau,
Tra’n ieuanc i ymofyn
·····Pleserau i’w mwynhau.


Bur, hallelujah! In his great

(delw A0008)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 8)

CENAD HEDD.
Na, gwrando, gyfaill ieuanc,
·····Air genyf fi, dros Dduw;
A wyt yn hollol hysbys
·····Y gweli fory’n fyw?
Ac os nad wyt yn gwybod,
·····Myn grefydd yn ddioed;
Cofleidio da’n rhy fuan
·····Ni ddarfu neb erioed.

PEDWAR YN CODI AC YN CANU.
·····Mae d’esgus ar lawr,
·····Gan hyny yn awr,
At grefydd yn ufudd a ddoi di?

BEIWR PROFFESWYR CREFYDD.
Mi hoffwn ddod at grefydd;
·····Ond gwelaf fod y rhai
Sydd yn proffesu crefydd
·····Yn waeth, a mwy eu bai;
Yr ydwyf fi can gystal
·····A neb o honynt hwy;
Gan hyny ofer siarad
·····Am les crefydda mwy.

CENAD HEDD.
A chaniatau fod beiau
·····Crefyddwyr yn ddiri’,
A elli dybied, gyfaill,
·····Y ceidw hyny di?
Na, paid a siomi’th hunan,
·····Os ydwyt am y nef,
Rhaid iti ddilyn Iesu,
·····A chredu ynddo Ef.


 

 

THE MESSENGER OF PEACE

No, listen, young friend,

to my words (“listen [to] a word from me”),  about God

Are you really sure (“are you fully informed”)

that you will live to see (“you will see tomorrow alive?)

If you do not know,

insist on having religion without delay.

Embracing (what is) good too soon

Nobody ever did

 

FOUR STAND UP AND SING

Your excuse has been cast down (“is on the ground”)

so now

will you come obediently to religion?

 

ONE WHO FINDS FAULT WITH THOSE WHO PROFESS RELIGION

I’d like to come to religion

but I see that those

who profess religion

are worse, and have more failings (“are greater their fault”)

I am very bit as good (“a hundred times as good”)

as any one of them

so there is no point in talking

any more about the benefit of practising religion

 

THE MESSENGER OF PEACE

Allowing that the failings

of religious people are innumerable

can you suppose, friend

that that will support your argument? (“that that will keep you”)

No, do not disappoint yourself,

if you want (to go) to heaven

You must follow Jesus

and believe in Him

 

(delw A0009)