2615k Gweddi Gyntaf Jessica. Hesba Stretton.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_086_y_dduwioleg_1873_2666k.htm

Yr Hafan

..........
1863k Y Fynedfa yn Gymraeg

....................
0009k Y Barthlen

..
............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai

........................................y dudalen hon


(delw 0003)


Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya


Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lčs)

_______________________________________


Y Dduwioleg
1873
Remsen, New York State


(delw 0285)

 

 

 

 

 

 

 

 



(delw A0003)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



 

 

(delw A0003)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 1)


Y DDUWIOLEDIG (Y DDWY BENNOD GYNTAF.)

GAN ROBERT EVANS, (TROGWY,) REMSEN, N. Y.

UTICA, N. Y. *
T. J, GRIFFITHS, ARGRAFFYDD, EXCHANGE BUILDINGS.
1873


 

(delw A0004)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 3)

AT Y DARLLENWYR.

ANWYL DARLLENWYR
Wedi adrodd rhanau o’r DDUWIOLEG ganoedd o weithiau yn yr Hen Wlad, ac ugeiniau o weithiau yn y wlad hon; wele ddwy bennod o honi yn cael eu cyflwyno i’ch sylw trwy yr argraff-wasg.

Cyfansoddiad yn ymwneyd â chrefydd yn gyfan-gwbl yw hwn – athrawiawethau a phynciau crefydd - profedigaethau a buddugoliaethau crefydd, &c.; ac o herwydd hyny osgoir pob ymgais at ehediadau aruchel barddoniaeth, oddigerth ynychydig mewn dwy bennod; ac felly defnyddir yr iaith fwyaf priodol wrth ymdrin â phethau crefydd.

Bwriedir rhodddi rhanau eraill o honi allan os ceir cefnogaeth ddigionaol i’r anturiaeth hon.

Gyda dymuniad ar fod i’r ddwy bennod hyn fod o fendith i chwi oll, y gorphwys, anwyl ddarllenydd,


Yr eiddoch yn Nghrist,


ROBERT EVANS
Remsen, N.Y.


 

 (delw A0005)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 5)

Y DDUWIOLEG.

PENNOD I.

Cyfarchiad i Genad Hedd - Ei bregeth i’r byd, a’i alwad arno i dderbyn Iachawdwriaeth - Eu hesgusodion rhag gwneyd - CENAD HEDD yn eu hateb - Llawer yn ymhyfhau i bechu yn erbyn Duw - Un yn gweled ei gyflwr colledig - Ei deimlad trallodus - Ei weddi afaelgar - Ei lais gorfoleddus pan węl obaith am faddeuant - Satan yn dyfod ato ac yn editw iddo ei bechodau - Ei hyder ffyddiog yntau yn haeddedigaethau y gwaed - Satan yn ceisio ei berswadio i beidio dangos hyny i neb - Satan yn ffoi pan glyw ei benderfyniad diysgog i arddel Iesu yn gyhoeddus - CENAD HEDD ar nos Sabbath yn cynyg drachefn Iachawdwriauth i’w wrandawyr, ac yn anog rhai a deimlant awydd arddel Iesu i aros yn ol - Llawer yn gwneyd - Yn adrodd eu teimladau a’u penderfyniadau - Yr Eglwys wrth glywed y naill ar ol y llall, yn canu Haleliwia - Wrth eu gweled, mae hen wr duwiol yn codi ar ei draed i ganmol ei Geidwad - Gorfoledd yn tori allan - A phan ar y ffordd yn myned adref, mae gorfoledd brwd drachefn yn tori allan - Wedi dystewi o hwnw, clywid rhyw berson unigol, yn y meusydd draw, yn canmol y gwaed.

HAWDDAMOR fo i Genad Hedd! Ei draed
A saif yn weddaidd ar fynyddau teg -
Ei ddull yn hardd, a’i wedd yn swynol sydd,
A’i lais arianaidd a ladrata’r glust
Wrth glir gyhoeddi cenadwri’r nef.
Llefara gyda dwysder wrth y byd:-

·····“Fy nghyd-drafaelwyr i’r bytholfyd mawr;
Fy ngenau a agoraf, ac yn glir
Yn enw Duw cyhoeddaf yn eich clyw
Y gwir - y gwir i gyd - dim ond y gwir.
Pechasoch, Och! yn hyf yn erbyn
Duw - Anufuddasoch i’w orchymynion
Ef - Ei gywir ddeddf sathrasoch dan eich traed,
Gan ddiystyru ei rybuddion da;


 

(delw A0006)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 6)

Gan hyny llwyr gollasoch hawl i’r nef
A theg yr enillasoch uffern dân.
Colledig ydych, a cholledig byth
O ran a ellwch chwi eich hunan wneyd.
Y ddedfryd a gyhoeddwyd gan y Nef
Uwchben yr Iuddew fel y cenedl-ddyn,
Ac fel eu gilydd pawb haeddasant fod
Yn ngherwyn fawr digofaint Arglwydd Ior.
Ond er mai hyny yw yr erchyll ffaith,
Nid wyf yn sefyll heddyw ger eich bron
I drist bregethu dialeddau’r Nef;
Ond meddaf heddyw yr hyfrydol waith
I draethu’n glir a dadgan yn eich clyw
Anfeidrol ras, a hen drugaredd Ior,
Gynlluniodd drefn i gadw teulu’r llawr,
Cyn crogi haul, na lloer, na ser y nen,
Na gosod sail ein byd is-loerawg hwn.
Ac yn nghyflawnder amser arfaeth Nef,
Mab Duw o’i ras a ddaeth i’n natur ni.
Daeth Ef o Wynfa lân i’r ddaiar hon:
Yn lle cael pob gogoniant, cael pob gwawd,-
Yn lle cael mawl a pharch, yn cael sarhad,-
Yn lle cael cyfoeth, cael tylodi du,
Heb ganddo le i roi ei ben i lawr,-
Yn lle coronau’r nef, cael coron ddrain,-
Yn lle cael byw, yn marw ar y groes.
Ond pobpeth wnaeth fe’i gwnaeth dros ddynolryw:
Y griddfan trist, a gwaedlyd chwys yr ardd,
Y goron ddrain, a gwawdus ddirmyg dyn,
Y fflangell g’lymog, a’r collfarniad erch,
Yr hoelion dur, a marw mawr y groes,
Y bedd a’r codi – OLL ER ACHUB DYN.
Goddefodd ddialeddau deddf y nef,
Ac erchyll drymder cleddyf mawr yr Ior.


 

 

Thus you completely lost (the) right to heaven

And you fairly won hellfire.

You are lost, and lost for ever

As regards what you yourself can do.

The verdict was issued by heaven

On the Jew as the Gentile

And indiscriminately everyone deserved to be

In the vast cauldron of wrath of the Lord God

But though that is the terrible fact

I am not standing before you today

To sadly preach the retribution of Heaven

But I speak today (of) the pleasant work

To orate clearly and announce in your hearing

Immortal grace, and the long-standing foregiveness of God

Who planned the order to keep the family below (“of the ground”)

Before (ever) suspending (the) sun, or (the) moon, (or)the stars of the firmament,

Or lay the basis of this our world below the moon.

And in the fullness of the time of the plan of Heaven,

The Son of God because of his grace came to our nature.

He came from holy Paradise to this earth.

Instead of receiving every (display of) glory, he received every (display of) mockery,

Instead of receiving praise and respect, he received insult(s),

Instead of receiving wealth, he received dire (“black”) poverty,

Without any place to lay down his head.

Instead of the crowns of heaven, he received a crown of thorns.

Instead of being allowed to live, he died on the cross.

But everything that he did, he did for humanity.

The sad moaning, and the bloody sweat of the garden,

The crown of thorns, and the mocking scorn of Man,

The knotted whip, and the frightful condemnation,

The steel nails, and the great dying on the cross,

The tomb and the arising (from it) – ALL TO SAVE MANKIND.

He suffered the retributions of the law of heaven,

And the terrible heaviness of the great sword of God.

(delw A0007)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 7)

Ond, haleliwia! yn ei ingoedd trwm
Dolefodd nes adseinio’r cread mawr,
“GORPHENWYD.” A gorphenwyd pobpeth oll
I achub dyn. Yn awr mewn hyder hyf
Gwahoddaf chwi, ar sail awdurdod Duw,
I ddod yn mlaen i gael maddeuol ras,
A’ch golchi’n wyn yn ffynon goch y groes.
O deuwch ddynion anwyl - de’wch yn awr.
Pawb o bob oed - pawb o bob gradd a lliw –
Pawb o bob cyflwr - pawb sy’n fyw trwy’r byd,
Heb ddim gwahaniaeth, croesaw yma gewch.
Mae’r wledd yn barod, ac mae’r gwinoedd da
A’r pasgedigion breision ar y bwrdd;
Gan hyny deuwch bawb yn ddiymdroi;
Ac os na ddowch, dywedwch im’ paham.
Ond yn lle dod i brofi blas y wledd,
Ymesgusodi o un fryd y maent,
Gaa herio difrif daerni CENAD HEDD,
A dwyn rhyw esgusodion dros eu gwaith
Yn gwrthod cyaygiadau Duw yn Nghrist:
A’u hesgusodion draethent hwy ar g’oedd;
A phawb a’r esuns cryfaf allant gael;
Ond CENAD HEDD a saif i’w hateb oil.

Y DYN IEUANC.
Mi hoffwn ddod at grefydd,
·····Ond nid yn moreu f oes;
Mae arnaf eisiau gweled
·····Arferion byd a’i foes.
Yr hen sydd i grefydda,
·····A’r ieuainc, yn ddiau,
Tra’n ieuanc i ymofyn
·····Pleserau i’w mwynhau.


Bur, hallelujah! In his great

(delw A0008)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 8)

CENAD HEDD.
Na, gwrando, gyfaill ieuanc,
·····Air genyf fi, dros Dduw;
A wyt yn hollol hysbys
·····Y gweli fory’n fyw?
Ac os nad wyt yn gwybod,
·····Myn grefydd yn ddioed;
Cofleidio da’n rhy fuan
·····Ni ddarfu neb erioed.

PEDWAR YN CODI AC YN CANU.
·····Mae d’esgus ar lawr,
·····Gan hyny yn awr,
At grefydd yn ufudd a ddoi di?

BEIWR PROFFESWYR CREFYDD.
Mi hoffwn ddod at grefydd;
·····Ond gwelaf fod y rhai
Sydd yn proffesu crefydd
·····Yn waeth, a mwy eu bai;
Yr ydwyf fi can gystal
·····A neb o honynt hwy;
Gan hyny ofer siarad
·····Am les crefydda mwy.

CENAD HEDD.
A chaniatau fod beiau
·····Crefyddwyr yn ddiri’,
A elli dybied, gyfaill,
·····Y ceidw hyny di?
Na, paid a siomi’th hunan,
·····Os ydwyt am y nef,
Rhaid iti ddilyn Iesu,
·····A chredu ynddo Ef.


 

 

THE MESSENGER OF PEACE

No, listen, young friend,

to my words (“listen [to] a word from me”),  about God

Are you really sure (“are you fully informed”)

that you will live to see (“you will see tomorrow alive?)

If you do not know,

insist on having religion without delay.

Embracing (what is) good too soon

Nobody ever did

 

FOUR STAND UP AND SING

Your excuse has been cast down (“is on the ground”)

so now

will you come obediently to religion?

 

ONE WHO FINDS FAULT WITH THOSE WHO PROFESS RELIGION

I’d like to come to religion

but I see that those

who profess religion

are worse, and have more failings (“are greater their fault”)

I am very bit as good (“a hundred times as good”)

as any one of them

so there is no point in talking

any more about the benefit of practising religion

 

THE MESSENGER OF PEACE

Allowing that the failings

of religious people are innumerable

can you suppose, friend

that that will support your argument? (“that that will keep you”)

No, do not disappoint yourself,

if you want (to go) to heaven

You must follow Jesus

and believe in Him

 

(delw A0009)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 9)

Y PEDWAR YN CANU.
·····Mae d’ esgus ar lawr, &c.

UN NAD YW YN HOFF O HWN A HWN.
Mi hoffwn ddod at grefydd;
·····Ond da y gwyddys, gwn,
Nad ydwyf fi un amser
·····Yn hoff o hwn a hwn:
Pe byddai hwn yn marw,
·····Neu fyned draw o’r fro,
Mi ddeuwn inau wed’yn
·····At grefydd boed a fo.

CENAD HEDD.
I fod yn gyson, gyfaill,
·····Yn hyn a thi dy hun,
Ni ddylet uno mynyd
·····I fyw’r un byd a’r dyn;
Ond gyda hwn ymuni
·····Am bethau bychain byd;
Na fydd yn groes am grefydd,
·····Y penaf peth i gyd.

Y PEDWAR YN CANU.
·····Mae d’ esgus ar lawr, &c.

UN SYDD AM YMGYMWYSO CYN DOD.
Mi hoffwn ddod at grefydd;
·····Ond rhaid i mi cyn troi
Fod wrthi mewn diwydrwydd
·····Yn dyfal barotoi;
Rhaid imi lwyr gyfnewid
·····Fy null yn awr o fyw,
Ac yna byddaf gymwys
·····I droi i eglwys Dduw.


 

THE FOUR WHO SING

Your excuse has been cast down (“is on the ground”)

 

SOMEONE WHO DOES NOT LIKE SO AND SO (A CERTAIN PERSON)

I would like to come to religion

but it is well known, I know

that I do not like at any time

so and so

If he were to die

or move out of the area (“go yonder from the district”)

I would come afterwards

to religion, be what may

 

THE MESSENGER OF PEACE

To be consistent, friend,

with yourself in this,

you ought not to join for one minute

to live (in) the same world as the man

But with this man you will join

for the little things of the world

Do not be contrary about religion

the most important thing of all (“the main thing of all”)

 

THE FOUR WHO SING

Your excuse has been cast down (“is on the ground”)

 

ONE WHO WANTS TO SET HIMSELF STRAIGHT BEFORE COMING

I would like to come to religion

but I must before turning (towards it)

be busy and assiduous (“at it in assiduousness”)

busily preparing

I must completely change

My stule of life now

And then I shall be suitable

to turn to the church of God

(delw A0010)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 10)

CENAD HEDD:
Am feddu ar gymwysder,
·····Na ddyro mwy dy fryd,
Ni ddeui byth yn gymwys
·····Tra yma yn y byd.
Tafl d’enaid ar yr Aberth
·····Taw son am barotoi –
Yn unig cred yn Iesu
·····Fel yr wyt, a phaid ymdroi.

Y PEDWAR YN CANU.
·····Mae d’ esgus ar lawr, &c.

DYSGWYLIWR AM ADEG FWY CYFLEUS.
Mi hoffwn ddod at grefydd;
·····Ond dyma yw y gwir,
Yr wyf yn dysgwyl adeg
·····Fwy cymwys cyn bo hir.
Y mae y weinidogaeth
·····I mi yn eiriau byw,
Ac ofni byddaf farw
·····Heb fod yn eglwys Dduw.

CENAD HEDD.
Mae miloedd, gyfaill anwyl,
·····Ddysgwyliodd, fel tydi,
Am adeg fwy cyfaddas
·····I droi at Iesu cu;
Ond byth ni ddaeth yr adeg,
·····Maent heddyw yn y tân;
Yn nawr yw’r adeg gymwys,
·····Gan hyny tyr’d yn mlaen.

Y PEDWAR YN CANU.
·····Mae d’esgus ar lawr, &c.


 

 

THE MESSENGER OF PEACE

About having suitablilty

Do not think of it any more (“do not give more your mind”)

You will never be suitable

while here in this world

Cast your soul onto the sacrifice

Speak no more of (“silence the mention of”) preparing

Just believe in Jesus

as you do, and do not dither

 

THE FOUR WHO SING

Your excuse has been cast down (“is on the ground”)

 

ONE WHO AWAITS A MORE CONVENIENT TIME

(“PERIOD”)

I would like to come to religion

But this is the truth

I am waitng for a time

(which is) more suitable before long

The ministry is

to me living words

and (I am) afraid I shall die

without being in the church of God.

 

THE MESSENGER OF PEACE

There are thousands, dear friend,

who waited, like you,

for a more suitable time,

to turn to beloved Jesus

But the time never came

They are today in the fire

NOW is the right time

So come along.

 

THE FOUR WHO SING

Your excuse has been cast down (“is on the ground”)

(delw A0011)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 11)

ANOBEITHIWR.
Mi hoffwn ddod at grefydd;
·····Ond, Och! mae genyf fi
Bechodau fel y tywod,
·····Neu wallt fy mhen mewn rhi’;
Ni welaf unrhyw obaith
·····I mi, bechadur trist,
Gael croesaw gan yr eglwys,
·····Na rhan yn Iesu Grist.

CENAD HEDD.
Na, paid ag anobeithio
·····Er cymaint yw dy fai,
I faddeu mai parodrwydd
·····Yr Iesu yn ddidrai.
Maddeus dy holl feiau,
·····Dy olchi wna yn lân,
A’r eglwys a’th dderbynia
·····A gorfoleddus gân.

Y PEDWAR YN CANU.
·····Mae d’ esgus ar lawr, &c.

DILYNWR CWMNI DRWG.
Mi hoffwn ddod at grefydd,
·····Ond fod yn rhaid i mi
Pe deuwn, lwyr ymadael
·····A’m holl gyfeillion cu;
A gwell i mi na’u gadael
·····Yw sefyll megys dyn,
Na dod yn awr at grefydd,
·····A bod ar ben fy hun.

CENAD HEDD.
Na, gwell yw rhoddi ffarwel,
·····Er myn’d dan wawd a gwg,


 

(delw A0012)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 12)


Na myned i drueni
·····O herwydd cwmni drwg.
A phe cofleidiet grefydd
·····Caet gwmni saint a Duw,
A myned yn y diwedd
·····I’r nefol wlad i fyw.

Y PEDWAR YN CANU.
·····Mae d’ esgus ar lawr, &c.

Y CYFOETHOG.
Mi hoffwn ddod at grefydd;
·····Ond ‘r awn yn destyn gwawd
Gan lawer, pe yr unwn
·····Ag eglwys mor dylawd.
Pan yn my mryd gael crefydd,
·····Daw colli bri fy ngradd,
A cholli clod cyfeillion,
·····Fel angeu i fy lladd.

CENAD HEDD.
Os meddi dai a thiroedd,
·····Os meddi goffrau llawn,
Yr ydwyt, os heb grefydd,
·····Yn dlawd a thruan iawn.
Ni feddi ddim i farw,
·····Na dim i’r byd a ddaw;
O gyfaill, myn y cyfoeth
·····A ddaw i’r ochr draw.

Y PEDWAR YN CANU.
·····Mae d’ esgus ar lawr, &c.

Y TLAWD.
Mi hoffwn ddod at grefydd;
·····Ond ‘r wyf yn rhy dylawd,


 

(delw A0013)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 13)


Ni sylwai neb o’r eglwys
·····Byth arnaf megys brawd;
Ac ni dderbynia lesti
·····Angenus fel myfi,
Rhy dlawd wyf fi i feddu
·····Trysorau Calfari.

CENAD HEDD.
Os wyt yn dlawd, fy nghyfaill,
·····Mae holl drysorau’r groes
Yn eiddo i dylodion
·····Pob gwlad a phob rhyw oes.
Mae’r gwaed, y gras, a’r maddeu
·····Y beiau mawr eu rhi’,
A holl drysorau’r nefoedd
·····I gyd am ddim i ti.

Y PEDWAR YN CANU.
·····Mae d’ esgus ar lawr, &c.

Y GWRTHGILIWR.
Mi hoffwn ddod at grefydd;
·····Ond aethum i yn ffol,
Gwrandewais ar dwyll pechod,
·····A throais yn fy ol.
Yr ydwyf yn wrthgiliwr,
·····A’r Iesu dan fy nhraed,
Ac wedi barnu’n aflan
·····Rinweddau pur ei waed.

CENAD HEDD.
Os ydwyt yn wrthgiliwr,
·····Mae rhinwedd gwaed y groes
A’i rin i olchi’n hollol
·····Wrthgiliad mawr dy oes;


 

(delw A0014)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 14)


Gan hyny gad dy bechod,
·····A thyred yn dy ol,
Cei groesaw gan yr Iesu,
·····A lloches yn ei gôl.

Y PEDWAR YN CANU.
·····Mae d’ esgus ar lawr, &c.

OFNWR RHAGRITH.
Mi hoffwn ddod at grefydd;
·····Ond ofni yr wyf fi
Na byddwn i ddim amgen
·····Na rhyw ragrithiwr du.
Cas gan fy enaid ragrith,
·····A ffiaidd genyf dwyll;
Gan hyny gwell cymeryd
·····Cyn dod, ychydig bwyll.

CENAD HEDD.
Yr wyt yn iawn wrth ofni
·····Bod yn rhagrithiwr cas;
Un cam sydd eisiau eto -
·····Awyddu am gael gras.
Parha i ofni rhagrith,
·····Ond na foed hyn am awr
·····Dy atal i broffesu
Yn gywir Iesu mawr.

Y PEDWAR YN CANU.
·····Mae d’ esgus ar lawr, &c.

OFNWR I ALLU PARA.
Mi hoffwn ddod at grefydd;
·····Ond ofni’r wyf o hyd
Nad allwn i ddim para
·····Heb droi yn ol i’r byd;


 

 

So stop sinning (“leave your sin”)

And come back

You will be welcomed by Jesus (“you will get a welcome with Jesus”)

And refuge in his bosom.

 

THE FOUR (WHO) SING.

(delw A0015)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 15)


Mae’r ofn bod yn wrthgiliwr
·····Yn rhoddi imi glwyf;
Gwell genyf na gwrthgilio
·····Yw aros fel yr wyf.

CENAD HEDD.
Gwir yw mai y gwrthgiliwr
·····Yw ‘r nodwedd duaf sy’,
Mae wedi ail-groeshoelio
·····Yr anwyl Iesu cu;
Ond na foed hyn i’th gadw
·····Yn ol mewn pryder prudd,
Cei gymorth wrth yr achos,
·····A nerth yn ol y dydd.

Y PEDWAR YN CANU.
·····Mae d’ esgus ar lawr, &c.

DYSGWYLIWR AM FWY O DDYLANWADAU YR YSBRYD.
Mi hoffwn ddod at grefydd;
·····Ond rhaid i mi gael mwy
O ddylanwadau’r Ysbryd
·····Cyn gallaf dori trwy;
Rhyfygus i’r eithafion
·····Arddelwi Iesu gwiw
Heb deimlo anorchfygol
·····Effeithiau Ysbryd Duw.

CENAD HEDD.
Na son am “anorchfygol,”
·····A rhywbeth mwy ei bwys;
Ti gefaist ar dy feddwl
·····Do, ganwaith deimlad dwys;
Na ladd y teimlad yna,
·····Gwaith pur yr Ysbryd yw,


 

(delw A0016)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us





(Tudalen 16)


Ond mâg ef - mae yn ddigon
·····I’th gadw byth yn fyw.

Y PEDWAR YN CANU.
·····Mae d’ esgus ar lawr, &c.

YR UN SYDD AM GREFYDD AR WELY ANGAU.
Mi hofiwn ddod at grefydd;
·····Ond, (dweyd yn ddystaw bach,)
Nid wyf yn meddwl dyfod
·····Tra caffwyf fod yn iach, -
Caf grefydd fel y cafodd
·····Y lleidr ar y groes,
Pa angen ymdrafferthu
·····Gan hyny trwy fy oes?

CENAD HEDD..
Beth, gyfaill, pe dygwyddai
·····I ti, fel llawer un,
Heb foment byr cyn marw
·····I barotoi dy nun?
A phe caet hir afiechyd,
·····Beth wyddost cei dy bwyll?
Gan hyny tyred heddyw -
·····Myn grefydd bur, ddi-dwyll.

Y PEDWAR YN CANU.
·····Mae d’ esgus ar lawr, &c.

YR HEN.
Mi hoffwn ddod at grefydd:
·····Ond, ond yr wyf yn hen,
A phechod wedi’m twyllo
·····A’i hudoliaethus węn;
Yn awr ni feddaf wyneb
·····Fel hyn ar lan y bedd,


 

(delw A0017)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us





(Tudalen 17)


I ddod a throi at Iesu,
·····Gan ddysgwyl cael ei wedd.

CENAD HEDD.
Er i ti gyrhaedd henaint,
·····Na, ro dy fryd i lawr,
Mae gras yr Iesu’n ddigon
·····I’th achub di yn awr;
Ac er it’ bechu’n galed,
·····Hyd nes mae’th wallt yn wyn,
Mae modd i’th olchi eto
·····Yn ffynon pen y bryn.

Y PEDWAR YN CANU.
·····Mae d’ esgus ar lawr, &c.

CENAD HEDD.
Yn awr, fy hoff eneidiau,
·····Dygaswch oll yn mlaen
Yr esgusodion cryfaf
·····Dros fyned tua’r tân;
Ond wrth i mi eu hateb,
·····Ni saif o honynt ddarn;
Och! beth raid fydd eich tynged
·····Yn nhanllyd brawf y farn?

Ymlecha colledigaeth
·····Drag’wyddol, yn ddi-au,
I chwi, eneidiau anwyl,
·····Dan eich esgusion gau;
Nac ymddiriedwch ynddynt -
·····Na phwyswch arnynt mwy:
Ond ffowch yn awr am fywyd
·····At Grist a’i farwol glwy’. Mae’r ofn bod yn wrthgiliwr
·····Yn rhoddi imi glwyf;
Gwell genyf na gwrthgilio
·····Yw aros fel yr wyf.

CENAD HEDD.
Gwir yw mai y gwrthgiliwr
·····Yw’r nodwedd duaf sy’,
Mae wedi ail-groeslioelio
·····Yr anwyl Iesu cu;
Ond na foed hyn i’th gadw
·····Yn ol mewn pryder prudd,
Cei gymorth wrth yr achos,
·····A nerth yn ol y dydd.

To come and turn to Jesus,

Hoping to

(delw A0018)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us





(Tudalen 18)


YR HOLL EGLWYS.
·····Pob gradd a phob oed,
·····Do’wch heddyw’n ddioed,
I wleddoedd efengyl. A ddowch chwi?

Dystawodd Cenad Hedd; ond mae ei lais
Fel swn cloch arian yn parhau yn hir
Ar glyboedd cydwybodau dynol ryw.
Ond, Och! canfyddir rhai, fel Pharaoh gynt,
Yn ymhyfhau, ac ymgaledu’n fwy
(Yn groes i lais cydwybod oddi fewn)
Mewn rhyfyg erchyll, ac ymfrwydro cryf
Yn erbyn Duw a dylanwadau’i ras,
Gan ymfalchio yn en beiau du,
A gwrthod golud anchwyliadwy Crist,
Gan sugno marw byth o angau’r groes.
Ond nid ei holl wrandawyr sydd fel hyn;
Mae llais rhyw un yn treiddio oddi draw,
Ei gyfiwr damniol yn ei olwg sydd:-

·····”Pechadur melldigedig
·····A halogedig wyf,
Llawn ydwyf o aflendid,
Ac erchyll yw fy nghlwyf;
Yn ngwyneb deddf y nefoedd,
A’r orsedd gyfiawn fry,
Colledig wyf a damniol,
Heb obaith o un tu.
Rhyfeddod yw fy ngwelod
Yn awr ar dir y byw,
A minau wedi pechu
Mor fawr yn erbyn Duw.
Yn gyfiawn yr haeddais
Fy nghau o’r nefoedd lân.


 

(delw A0019)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us





(Tudalen 19)

A’m rhwymo yn nghadwynau
·····Trag’wyddol uffern dân.
Pechodau mawr fy mywyd
·····A bwysant arnai’n drwm,
Euogrwydd fy nghydwybod
·····Sydd fel mynyddau plwm;
Ni welaf ond anobaith
·····I ba le bynag ‘r af;
Arswydus! damniol ydwyf,
·····P’le trof, a beth a wnaf?
Taranau trystfawr Sinai
·····A ruant yn fy nghlyw,
Nad oes i mi, bechadur,
·····Un gobaith i gael byw.
Mi glywais am yr Aberth
·····A roed ar Galfari.
Ond tywyll iawn yw yno
·····Ar f’enaid damniol i.
O! tybed fod trugaredd
····· I ddamniol fel myfi?
O! tybed fod maddeuant
·····I feiau sydd heb ri’?
O! tybed caf fi fywyd
·····Yn angan pen y Bryn?
O! tybed golchir f’enaid
·····Yn ngwaed y groes yn wyn?
I b’le yr af i draethu
·····Fy nhor-galonus gwyn?
A oes rhyw un a allai
·····Yn rhyw le gyd-ymddwyn?
Yr wyf yn wrthodedig
·····Dan wg golygon Duw.
Ac uffern fel yn agor
·····Ei safn i’m llyncu’n fyw!”


 

(delw A0020)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us





(Tudalen 20)


Ar hyn ei ddagrau claer yn llif a dd’ont
Ar hyd ei rudiau gwelw, ac y mae
Yn dystaw fyned ar ben ei hun,
Ac yno plyg o flaen gorseddfainc gras,
A chwyd ei olwg gau ddyrchafu ‘i lef: -

Arddangos i mi, Arglwydd,
·····Fy mhechod yn ei liw,
Fel mae yn damnio f’eanid
·····A chodi’n erbyn Duw;
A dyro gyda hyny
·····Wir olwg ar yr Iawn
A roed er mwyn ei faddeu
·····Gau Iesu un prydnawn.
Pe heb gael gwel’d fy mhechod,
·····Ni welwn werth y gwaed,
Nac angen am yr aberth,
·····Na’r cymod mawr a wnaed:
A phe bawn ond yn unig
·····Cael gweled drwg fy mai,
Fe’m sethrid i drueni
·····Anobaith yn ddiau.
Gael gweled drwg fy mhechod.
·····A mawredd beiau f’oes,
A chanfod ar eu cyfer
·····Anfeidrol Iawn y groes,
Mi lefwn am faddeuant,
·····A dim ond profi’i flas,
Er wylo am fy meiau,
·····Fe ganwn am y gras.”

Mae yn gweddio!
O olygtfa hardd!
Ymdywallt mae ei galon ger bron Duw.
Yr hwn y dydd o’r blaen oedd wawdiwr hyf –

 

(delw A0021)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us





(Tudalen 21)


Bytheiriwr llwon - canwr maswedd brwnt –
Hen chwythwr bygythiadau erchyll cas -
Dirmygwr Duw - cashäwr pob peth da -
A welir heddyw yn gweddio’n ddwys.
Mae’r blaidd yn troi yn fwyn – y llew yn oen,
A’r annghredadyn sydd yn GRSTION gwir.
·····Ymgyfyd, a chanfyddir ar ei wedd
Fod rhyw ddyeithrawl deimlad dan ei fron;
Mae’r deigryn gyda’r llonder ar ei rudd,
Mae’n brudd a siriol megys bob yn ail.
Ei ben a blyg, ond medd hawddgarol węn;
I wybod achos hyn gwrandewch ei lais: -

“Er haeddu, O Arglwydd, fy ngosod
·····Yn uffern, mewn ingoedd a loes,
Canfyddaf wawr gobaith yn tori
·····Am fywyd, yn marw y groes.
Gogoniant i oesoedd diddarfod!
·····Mae modd i bechadur gael byw,
A modd gwneyd pentew yn annheilwng
·····Yn gymwys i fyned at Dduw.
Ni cha na rhifedi i fy mhechod,
·····Na’i fawredd echrydus ychwaith,
Fy atal rhag ymbil maddeuant
·····Gan Iesu – mae’n hoffi y gwaith.
Pa beth yw dileu fy mhechodau,
·····Neu faddeu holl feiau fy oes,
I waedlyd chwys gardd Gethsemane,
·····Neu farw golidus y groes?
Meddyliwyf nad ofnaf ddim mwyach,
Ac mae anobeithiaf byth mwy,
I ofyn am faddeu fy mhechod
Trwy haeddiant anfeidrol ei glwy’,
Er maddeu gadawodd y nefoedd,

 

(delw A0022)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us





(Tudalen 22)


·····Er maddeu y daeth yn dylawd,
Er maddeu traddododd ei hunan
·····I farw ar groesbren mewn gwawd.
Er meddu ar feiau afrifed,
·····Fy enaid yr awrhon a wyr
Fod Iesu, y Ceidwad, yn barod
·····I’w maddeu yn rhad ac yn llwyr.
Gan hyny, er gwaethaf amheuaeth,
·····Sy’n ceisio fy sathru i’r llawr,
Anturiaf wynebu at Iesu,
·····I ofyn maddenant, yn awr.
Er bod fy mhechodau fel ‘sgarlad,
·····Mi ddeuaf fel eira yn lân,
A’m trosedd can goched a’r porphor,
·····Gaf ddyfod yn wyn fel y gwlan.
Mae rhinwedd hen ffynon Calfaria,
·····A’i phurdeb yn para hyd hyn,
Gall olchi aflendid fy nghalon,
·····Er canu miliynau yn wyn.
Gan hyny mewn hyder diysgog
····· Yn haeddiant mawr Aberth y groes,
Dyrchafaf fy llef tua’r nefoedd,
·····Am faddeu holl feiau fy oes.
Ac felly er gollwng y dagrau
·····Mewn gofid o herwydd fy mai,
’R wyn ‘n canu’r un moment wrth feddwl
·····Fod haeddiant y gwaed yn parhau.”

Ond Satan sydd yn sisial yn ei glust,
Ganedliw iddo feiau mawr ei oess,
A cheisiau hau amheuaeth dan ei fron
O anfeidroldeb rhinwedd iawn y groes: -
····· “Ai nid tydi a welais dydd o’r blaen
Yn meddwi, ac yn tyngu, gyda hwyl,


 

(delw A0023)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us





 (Tudalen 23)


A gwawdio Duw, a gwatwar plant y nef,
Gan ymdrabaeddu yn y llwch a’r llaid?
Ai nid tydi a glöai glust yn dyn
Rhag gwrando llais efengyl yn dy wa’dd?
Ai nid tydi wrthododd, flwyddi maith,
Holl gynygiadau iachawdwriaeth gras?
Nid elli wadu hyn - mae hyn yn wir;
A chan ei fod yn wir, rhaid fod dy glwyf
O lawer yn rhy ddrwg i gael iachâd;
Ac er mor gryfyw gallu gras, nid all
Dy godi di i fyny byth o’r llaid;
A rhy luosog yw dy feiau du
I ras anfeidrol Duw i’w maddeu hwy;
Ac am dy liw, y mae mor dddu nad all
Holl rinwedd gwaed y groes ei wneyd yn wyn.”
·····Ond gorfod ffoi o’i wydd mae’r twyllwr du
Pan glyw ei lais hyderus yn y gwaed.

“Nesâf yn awr mewn ffydd yn nes
·····At Iesu Grist a’i groes,
Gan ofyn am faddeuant llawn
·····Trwy haeddiant angau loes.
Er dued calon feddaf fi,
·····Y gwaed fel gwlan a’i try,
Ac er mor ddwfn, mae gras fy Nuw
·····I’m codi ‘n ddigon cry’.
Drwg yw fy nghlwyf, mawr yw fy mai,
·····Ond clwyfau Iesu Grist
A wella’m clwyf, ac a’m iachâ
·····Oddiwrth fy meiau trist;
Pe pwysai arnaf feiau’r byd,
Fu, sydd, neu eto ddaw,
At Iawn y groes yn hyf nesâwn,
Heb ddychryn, ofn, na braw.


 

(delw A0024)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us





(Tudalen 24)

Gwir, Satan, a ddywedi, mai
·····Pechadur mawr wyf fi,
Ond mwy yw haeddiant mawr y gwaed
·····A gaed ar Galfari.”

Ond Satan ddeuai eilwaith, ac yn awr
Ymddengys megys angel Daw o’r nef;
Mae’n fwynaidd iawn, a’i iaith yn deg a llefn.
O! fel y sieryd a’r fath deimlad dwys: -
“Haeddiannol yw yr Iesu o dy serch,
O herwydd iddo farw yn dy le;
Ond os wyt ddoeth, paid ymdrafferthu dim,
I wneyd rhyw ymddangosiad ffol i’r byd;
Rhyw hunanoldeb fyddai gwneuthur hyn.
Fe elli di grefydda’n eithaf da
O fewn dy dy; a chadw dan dy fron
Dy hun, heb ddangos dim i neb y serch
A feddi at Iachawdwr mawr y byd;
O herwydd os arddeli ef ar g’oedd,
Ti wnei dy hun yn destyn gwawd y byd;
A hollol annghysurus fyddai hyn.”
Ond Satan eilwaith ffy pan glyw ei lais: -

“Fy mhenderfyniad ydyw
·····I arddel Iesu Grist,
Ar g’oedd, trwy fyrdd o rwystrau.
·····A gorthrymderau trist,-
Trwy wg y byd, a’i węnau,
·····Cysegraf fi fy oes
I wasanaethu Iesu
·····Fu farw ar y groes.
Trwy gyfoeth a thylodi,
·····Trwy newyn a thrwy haint,
Canlynaf fy Ngwaredwr.
·····Yn ol esiamplau’r saint;


 

(delw A0025)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 25)

Trwy hawddfyd a thrwy adfyd,
·····Trwy annghlod a thrwy glod,
Llwyr ddilyn Iesu anwyl
·····Fy ngwaith gaiff bellach fod.
O, Arglwydd, boed fy nghalon
·····O gariad Crist yn llawn,
Fel byddwyf ffyddlawn iddo,
·····Gan ei broffesu’n iawn;
A byth m chym’raf dramgwydd,
·····I’m d’rysu gyda’i waith,
A byth na fydded imi
·····Dramgwyddo neb ychwaith.”

Ar hwyr Dydd Duw mae Cenad Hedd yn clir
Gyhoeddi Iachawdwriaeth, trwy y gwaed,
A difrif wahodd ei wrandawyr oll:-
·····“Derbyniwch yn galonog gyda ffydd,
Drysorau mawrion anchwiliadwy gras,
A safed pawb a deimlant awydd gwneyd
Arddeliad clir o’r Ceidwad mawr, ar ol.”
·····Ac erbyn rhanu’r gynulleidfa’n ddwy,
’Roedd Satan wedi colli llawer iawn, -
Ei filwyr dewraf gefnant arno’n awr,
Gan uno gyda byddin hardd yr Oen.
A Chenad Hedd ofynai i bob un
Safasai’n ol, ac wrth eu henwau, pa
Beth oedd eu bryd wrth droi i eglwys Dduw;
Ac ar ol gorphen dweyd o’r naill a’r llall
I Genad Hedd eu dwfn deimladau dwys,
A’u penderfyniad cryf i fyw yn well,
Yr eglwys seinia Haleliwia pęr.
O, sylwer ar yr olwg swynol hon!


 

(delw A0026)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

   

 



(Tudalen 26)

“WILLIAM”
·····’R wyf wedi digio Duw,
Ac wedi hod yn ddrwg,
·····A mawr ryfeddod yw
Na buaswn dan ei wg;
Ond meddwl ‘rwyf, er myn’d yn mhell,
Am droi, a cheisio byw yn well.

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.

Cam-dreuliais flwyddi f’oes,
·····A dyddiau’m bywyd brau,
Gallaswn yn ddiloes
·····Gofleidio pechod gau;
Och! aethum gydag ef yn mhell,
Ond gwadaf ef, gan fyw yn well.

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.

“MARY DAVIES.”
Meddyliais gael yn gry’
·····Ddifyrwch hore oes;
Ond, Och! yn siomiant du,
·····A chwerw iawn y troes;
Gan hyny trof, er myn’d yn mhell,
At Iesu hoff, gan fyw yn well.

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.

“THOMAS.” /
Afradlon iawn fum i,
·····Gadewais dy fy Nhad,
A chwiliais gyda chri
·····Ym mhob man am fwynhad;


 

(delw A0027)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 27)


Ond poen a ge’s, er myn’d yn mhell;
Gan hyny trof i fyw yn well.

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.

“WILLIAM ROBERTS.”
Mi sethrais ddydd y Nef
O dan fy aflan draed,
Ac o blaid uffern gref
Yn brwydro’u gryf fe’m caed;
Ond er im’ gael fy hudo’n mhell,
Bwriadaf droi i fyw yn well.

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.
.
“ELIZA ROBERTS.”
Crefyddwyr a gasâwn,
·····Duwiolion gaent fy ngwg;
Y diras a fawrhawn -
·····Dilynwn gwmni drwg;
A myned a wnaethum, Och! yn mhell,
Ond trof, a cheisiaf fyw yn well.

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.

“JOHN.”
Cymerwn enw Duw
·····Yn ofer yn fy iaith,
Yr oeddwn fel yn byw
·····I Satan ac i’w waith;
Ond trof yn awr, er myn’d yn mhell,
A cheisiaf bellach fyw yn well.

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.


 

(delw A0028)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 28)

“CATHARINE”
Dirmygwn ddagrau mam,
·····A gwawdiwn weddi tad,
A phechu wnawn bob cam,
·····Gan suddo mewn sarhad;
Trafaeliais i ddyryswch pell,
Ond trof; a cheisiaf fyw yn well.

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.

“HUGH MORRIS.”
Rhyw esgusodion gau
·····A ffurfiwn gyda blas,
Er ceisio cyfiawnhau
·····Fy hun rhag derbyn gras;
Ond mawl i Dduw! er myn’d yn mheil,
Mae modd cael troi i fyw yn well.

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.

“RICHARD EVANS.”
Yn erbyn Duw a’i dy
·····Yr oedd fy arfau’n llyni, .
Ac ymladd wnawn yn hy’,
·····Ac heb ofalu dim;
Ond mae fy mryd, er myn’d yn mhell,
I droi a cheisio byw yn well.

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.

“DOROTHY OWENS.”
Didaro y gwrandawn,
·····Am bleser nefoedd lân


 

(delw A0029)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 29)


A diystyru wnawn
·····Y son am uffern dân;
Ac felly rhedais i yn mhell,
Ond trof yn awr i fyw yn well,

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.


“PHEBE OWENS”
Er clywed am fy mai,
·····A’i ganlyniadau erch,
Fy rhyfyg oedd heb drai,
·····A phechod ga’i fy serch;
Ond diolch byth, er myn’d yn mhell,
Mae modd cael troi i fyw yn well.

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.

“JOHN JONES.”
Llafuriais gyda gwęn
·····O blaid fy ngelyn mawr,
Hyd nes yr wyf yn hen,
·····A beth a wnaf yn awr?
Ni lwfrhaf, er myn’d yn mhell,
·····Ond trof, a cheisiaf fyw yn well.

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.

“ROBERT HUGHES”.
Fy nagrau sydd yn lli’,
·····A’m calon sydd yn drist.
Am fod cyhyd mor gry’
·····Yn gwrthod Iesu Grist;
Obd beth a wnaf, er myn’d yn mhell,
Ond troi, a cheisio byw yn well.

 

 

(delw A0030)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 30)

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.

“SETH ROWLANDS.”
Diystyr oeddwn i
·····O ingoedd mawr yr urdd
O angau Calfari,
·····A’r hyn o hono dardd;
Ond Iesu cu! er myn’d yn mhell,
Dy garu wnaf, a byw yn well.

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.

“OWEN LEWIS.”
Dyrchafaf Iesu mwy,
·····Rhyfeddaf at ei ddawn,
Mawrygaf byth ei glwy’,
·····A phwysaf ar ei Iawn;
A thrwy yr Iawn, er myn’d yn mhell,
Mae modd cael troi, a byw yn well.

YR EGLWYS.
Haleliwia. Amen.

CENAD HEDD.
Boed i chwi nerth i fyw
·····Yn well, yn well o hyd,
Gan rodio gyda Duw,
·····A charu Iesu drud;
Ac felly, er trafaelio’n mhell,
Cewch ddedwydd fyw mewn gwlad sydd well.
Haleliwia. Amen.

A’r eglwys eto, braidd, heb ddod i ben
Ei pheraidd gân, cyfodai rhyw hen frawd.


 

 

(delw A0031)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 31)


Yr hwn oedd gam ei gefn, a gwyn ei wallt,
A’i lais yn crynu o dan flwyddi hir;
Ond eto gwelir ei deimladau dwys;
Ei eiriau dd’ont o waelod, dwfn ei fron;
Mae yn ei elfen pan yn traethu am
Anwyldeb Crist, a’i ras at deulu’r llawr;
A thra siaradai ef, diolchai’r lleill: -

“O, Iesu, Iesu anwyl,
·····Anwylach wyt na’r byd,
Anwylach na’r trysorau,
·····A’r perlau heirdd i gyd;
Anwylach nag angylion
·····Goranwyl nefoedd wen,
Mil myrdd anwylach ydwyt
·····Na dim trwy’r ddae’r a’r nen.
Wyt anwyl yn dy berson,
·····Ac anwyl yn dy iaith,
Ac anwyl yn dy natur,
·····Ac anwyl yn dy waith;
Mae pobpeth berthyn i ti
·····Yn anwyl, Iesu mwyn,
Fel mae fy holl serchiadau
·····Ar d’ol yn cael eu dwyn:
Rhaid mai anwylach ydwyt
·····Na neb trwy’r nef na’r llawr,
I allu llon groesawu
·····Fath bechaduriaid mawr. (O diolch.)
Mae hen drueniaid duon,
·····Ac aflan, brwnt eu llun,
Yn cael derbyniad siriol
Yn mynwes Mab y dyn.


 

(delw A0032)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 32)


Ar hyn, fel rhuthr, eu gorfoledd draidd
O’u bronau twymnion, hyd nes mae y fro,
Gan nerth eu llais yn diaspedain trwy;
A’r hen bererin hoff yn myn’d yn fud: -

“Am fod yn fyw y fynyd hon,
·····Diolch byth, diolch byth,
Ac am ein bod yn Nghymru lon,
·····Diolch byth, diolch byth;
Gallasem nii, fel eraill sydd,
·····Fod mewn tywylhwch dudew prudd,
Ond gwawriodd arnom ni y dydd,
Diolch byth, diolch byth.

Am roddion da Rhagluniaeth wiw,
·····Diolch byth, diolch byth;
Ond mwy am eiriau anwyl Duw,
·····Diolch byth, diolch byth;
Mae myrdd yn derbyn rhoddion ri’,
Na wyddant ddim am Iesu cu,
Ond nid yw felly arnom ni,
·····Diolch byth, diolch byth.

Ein bod ni yma, fawr a mân,
·····Diolch byth., diolch byth,
Dau ddylanwadau’r Ysbryd Glan,
·····Diolch byth, diolch byth;
Trwy haeddiant aberth Calfari,
Effeithiau Dwyfol oddi fry,
Yn awr a deimlir genym m;
Diolch byth, diolch byth.

Daeth Iesu Grist i wisgo cnawd,
·····Diolch byth, diolch byth;
Ac mae am fod i ni yn Frawd,
·····Diolch byth, diolch byth;

 

 


 

(delw A0033)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 !



(Tudalen 33)
Canfyddwn Ef ar Galfari,
Mewn loesion trwm a chwerw gri
Yn gweithio trefn i’n cadw ni
·····Diolch byth, diolch byth,

Cawn trwyddo Ef faddeuant llawn
·····Diolch byth, diolch byth;
Anfeidrol ddigon yw yr Iawn,
·····Diolch byth, diolch byth;
Digonol yw y drefn a wnaed,
Diddarfod ydyw rhin y gwaed,
Yn wyn y’n gwneir o’n pen i’n traed,
·····Diolch byth, diolch byth.

Er bod yn rhwym, cawn ddod yn rhydd,
·····Diolch byth, diolch byth,
Enillodd Iesu mawr y dydd,
·····Diolch byth, diolch byth;
Yn mrwydr byth-gofiadwy’r Bryn,
Y “Cadarn” roed mewn cadwyn dyn;
Ond daeth i ni ryddhad trwy hyn,
·····Diolch byth, diolch byth.

Ceir noddfa, yn ei glwyfau Ef,
·····Diolch byth, diolch byth,
I bawb sy’n fyw o dan y nef,
·····Diolch byth; diolch byth;
Ac wele ni yn awr yn troi,
Am fywyd enaid ’r y’m yn ffoi,
I ni mae’r noddfa wedi’i rhoi,
·····Diolch byth, diolch byth.
Mae modd ein hachub ni yn awr,
·····Diolch byth, diolch byth,
Er bod yn bechaduriaid mawr,
·····Diolch byth, diolch byth;


We see him on Calvary

In deep pain and a bitter cry

creating an order in which we can be saved (“making an order to keep us”)

A thousand thanks, a thousand thanks.

 

Through him we shall have full foregiveness

A thousand thanks, a thousand thanks.

The atonement is quite immortal

A thousand thanks, a thousand thanks.

The order that was made is sufficient

The virtue of his blood is endless

We shall be made pure (“white”) from head to toe (“from our head to our feet”)

A thousand thanks, a thousand thanks.

 

Altough we are bound, we shall be able to get free

A thousand thanks, a thousand thanks.

Great Jesus won the day

A thousand thanks, a thousand thanks.

In the never to be forgotten battle of the Hill

The “Strong One” was places in a tight chain

But liberaton came to us through this

A thousand thanks, a thousand thanks.

 

A sanctuary is to be had in His wounds

A thousand thanks, a thousand thanks.

To everybody living under heaven

A thousand thanks, a thousand thanks.

See us now turning,

we are fleeing for the life (of the) soul

The sanctuary has been given to us

A thousand thanks, a thousand thanks.

There is a way to save us now

A thousand thanks, a thousand thanks.

Although we are great sinners

A thousand thanks, a thousand thanks.

 

(delw A0034)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 34)


Yn wyn fel gwlan yn awr y ceir
Manasseh ddu, a’r aflan Fair,
Saul o Tarsus - gwir yw’r gair,
·····Diolch byth, diolch byth.

Nid rhaid dim digaloni mwy,
·····Diolch byth, diolch byth,
Cawn iechyd cyflawn trwy ei glwy’,
·····Diolch byth, diolch byth;
O, syndod mawr sydd dan y nen!
Gwellheir hen glwyfau traed a phen,
Trwy gleisiau’r hwn fu ar y pren,
·····Diolch byth, diolch byth.

Er bod yn noeth, mae gwisg i’w chael,
·····Diolch byth, diolch byth,
Er bod yn dlawd, mae Crist yn hael,
·····Diolch byth, diolch byth;
Cawn ef yn fara i’n cryfhau,
Yn ddyfroedd bywiol i’n bywhau,
Yn gyfoeth perffaith, i barhau,
·····Diolch byth, diolch byth.

Mae’r Oen fu farw ar y pren,
·····Diolch byth, diolch byth,
·····I lwyr feddiannu îs y nen,
Diolch byth, diolch byth;
Y bobloedd a’r tylwythau’i gyd
Ymrestrant yn y man yn nghyd,
Dan faner goch Iachawdwr byd,
·····Diolch byth, diolch byth.

O, Iesu anwyl, ti gaiff fod,
·····Diolch byth, diolch byth,
Yn bob peth imi îs y rhod,
·····Diolch byth, diolch byth;


 

 

As white as wool now are to be had

Black Manessah (= the first-born son of Joseph) and the defiled Mary

Saul of Tarsus – it is true

A thousand thanks, a thousand thanks.

 

There is no need to lose heart any more

A thousand thanks, a thousand thanks.

We shall have complete health through his wound

A thousand thanks, a thousand thanks.

Oh, there is a great surprise under the roof

old wounds of (the) feet and (the) head shall be cured

through the bruises of the one who was on the tree

A thousand thanks, a thousand thanks.

 

Though nakčd, a garment is to be had

A thousand thanks, thousand thanks

Though poor, Christ is generous

A thousand thanks, thousand thanks

We find him as bread to strengthen us

As waters of life to enliven us

As perfect wealth, to continue

A thousand thanks, thousand thanks

 

The Lamb who died on the tree

A thousand thanks, thousand thanks

To completely own under the roof

A thousand thanks, thousand thanks

all the peoples and the families

They will enlist presently together

under the red flag of the Redeemer of the world

A thousand thanks, thousand thanks

 

O, dear Jesus, you will become

A thousand thanks, thousand thanks

Everything under the celestial dome (“under the wheel”) for me

A thousand thanks, thousand thanks

(delw A0035)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 35)


Cawn iachawdwriaeth trwot ti,
A than ein traed cawn uffern ddu,
A meddiant byth o’r nefoedd fry,
·····Diolch byth, diolch byth.

I’r Tad, cynllunydd doeth y drefn,
·····Diolch byth, diolch byth.
I’r Mab, ei gweithydd mawr, drachefn,
·····Diolch byth, diolch byth.
I’r Ysbryd Santaidd, heb wahan,
Fel dygydd cryf y drefn yn mlaen,
Trwy achub dyn rhag uffern dân,
·····Diolch byth, diolch byth.

Ar ol dystewi o’r gorfoledd hwn
Yn nhy yr Arglwydd, tröa pawb o’r dorf
I’w cartrefleoedd gydag hwyliog hoen
Ond ar y ffordd wrth gyd-ymdeithio’n mlaen
Dan siarad am ymweliad Ysbryd Duw,
A’r hyn a deimlwyd yn nghynteddau Iôr,
Fe lefodd rhywun allan gyda nerth,
Fel mae hi yn orfoledd byw drachefn:-

“O! diolch iti, Arglwydd,
·····Fod modd fy ngwneyd yn wyn,
A’m cuddio yn y noddfa
·····Wnaed ar Golgotha fryn;
Yr Iesu yn ei gariad
·····Aeth i’m deddfle i,
Ac er my mwyn, ei fywyd
·····A roes ar Galfari.
Mi glywais lais a’m cododd
·····Mewn gobaith ar fy nhraed,
Yn dweyd, Bydd fyw, bechadur,
Sy’n gorwedd yn dy waed.


 

We shall have Redemption through you

And under our feet we shall have black Hell

And perpetual ownership of the heavens above

A thousand thanks, thousand thanks

 

To the father, the wise planner of the order

A thousand thanks, thousand thanks

to the Son, his great agent, again

A thousand thanks, thousand thanks

to the Holy Spirit, without exception,

As the strong one taking forward the order

through saving man from hellfire

A thousand thanks, thousand thanks

 

After this glorification quietens down

in the house of the Lord, everyone turns from the crowd

To their homes with cheerful gladness

But on the way as they journey together

Speaking of the visitation of the Spirit of God

And of what they felt in the entrance chambers of the Lord

Somebody shouted out with a loud cry (“with strength”)

That it is a joy to live again

 

Oh, thank you: Lord

that there is  a way to make me pure (“white”)

and to hide me in the refuge

which was made on the hill of Golgotha

Jesus in his love

Went to my place of judgement (= place before God as a sinner awaiting God’s justice)

And for my skae, his life

he gave on Calvary.

I heard a voice which lifted me

in hope onto my feet

saying, live, sinner,

who lies in your blood.

(delw A0036)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 36)
Cyfiawnder a gusana
·····Yr hen golledig un,
Yn y boddlonrwydd gafodd
·····Yn angau Mab y dyn.
Cyfiawnder a Thrugaredd
·····Gyhoeddant gyda bri,
Fod bywyd i bechadur
·····Yn angau Calfari;
Marwolaeth droed yn fywyd
·····Gan Iesu ar y groes, -
Gogoniant byth! a diolch,
·····Caed bywyd trwy ei loes!
Anrhydedd a gogoniant
·····Fo byth i’r Iesu gwiw,
Am fod ei angau rhyfedd
·····Yn fywyd dynol ryw.
O! deuwn oll, farwolion,
·····I roddi ar ei ben
Goronau fyrdd, a seiniwn
·····Ei foliant byth. Amen.

Ac wedi iddynt hwy ddystewi oll,
Fe dreiddia llais rhyw un o’r meusydd draw
Ar edyn yr awelon, ac y mae
Efe yn anwybodol o fod neb
Yn gwrandaw arno’n canmol gwaed y groes;
Mae’n canu gyda blas; ond bob yn ail
Mae’n gorfoleddu mewn nefolaidd hwyl: -

 ····· “Y gwaed
Ar ben Calfaria gynt a gaed,
A’m gwna yn wyn o’m pen i’m traed
Er golchi miloedd myrdd diri’,
Ei rinwedd eto nid yw’n llai,
Didrai yw rhin gwaed Iesu cu.


 

Justive kisses

the long-time lost individual

in the satisfaction he got

in the death of the Son of Man

Justice and Mercy

announce with renown

that there is a life for a sinner

in the death on Calvary

Death was turned into life

by Jesus on the cross

Glory for every! and thanks

that life was had through his torment.

Honour and glory

may there be always to wonderful Jesus

because his wondrous death

is life to mankind.

Og, let us all come, mortals,

to place on his head,

myraid crowns, and let us sound

his priase for ever. Amen.

 

And after they all became silent,

the  voice of somebody from the fields yonder calls out  (“penetrates”)

On the wings of the winds, and he is

unaware that anybody

is listening to him praising the blood of the cross;

he sings with gusto, and every now and then

he rejoices with heavenly emotion:

 

The blood

that there was once on the top of Calvary

makes me pure from head to toe (“white from my head to my feet”)

In spite of washing thousands of countless myriads

The virtue of the blood of dear Jesus does not ebb away

(delw A0037)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
 



(Tudalen 37)

O, diolch byth am waed! am waed y groes;
O, bobl anwyl! diolch am y gwaed!
Mi ganaf am y gwaed tra byddwyf byw;
A’r gwaed fydd pwnc fy nghân os caf y nef.
O! dyma waed yr hen gyfamod gynt,
A wnaed rhwng Tri yn Un i achub dyn.
Gogoniant byth, fy Iesu, am dy waed!

··········Fe wna
·····Rhinweddol waed fy Iesu da
·····Fy llwyr wellhau oddiwrth bob pla;
·····Gwellhawyd rhai mor ddrwg a mi,
·····Maent heddyw’n iach a hollol lân,
·····A’u peraidd gân am Galfari.

Dy waed, O Iesu anwyl, welaf fi
Yn llifo draw yn Gethsemane ardd: -
O’th ben fe ddaeth trwy bigau’r goron ddrain -
Daeth o dy gefn dan artaith fflangell drom,
Ac o dy draed a’th ddwylaw ar y groes.
O, diolch! Diolch! Diolch am y gwaed!
Er golchi miloedd, mae y gwaed yr un .
O, Iesu anwyl!
Diolch am dy waed!

·····Mor ddu
Fy lliw wyf fi, fy Iesu cu,
’D oes ond dy waed yn wyn a’i try;
Hen ffynon goch Calfaria fryn,
Er dued ydwyf fi, a’m gwna
Yn gan fel gwlan neu eira gwyn!”


 

 

O, a thousand thanks for the blood! the blood of the cross,

O, my goodness! (“dear people!”). Thanks for the blood!

I shall sing of the blood while I live,

And the blood shall be the theme of my song if I go to heaven (“if I get the heaven”)

Glory for ever, my Jesus, for your blood!

 

The virtuous blood of my good Jesus

Will completely cure me of every plague;

People as bad as me have been cured,

They are today healthy and completely pure,

And their sweet song (is) of Calvary.

 

Your blood, oh dear Jesus, I see

flowing yonder in Gethsamane garden.

From your head it came from the pricks of the crown of thorns

It came from your back under the torture of the heavy whip,

and from your feet and your hands on the cross.

O, thanks! Thanks! Thanks for the blood.

Though washing thousands, your blood is the same.

 

So black

am I in colour, my dear Jesus,

Only your blood will turn it white.

The old red spring on Calvary hill,

though I am so black, will make me

white like wool or the white snow.

(delw A0038 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 38)

PENNOD II
Satan yn dyfod at y dychweledigion ieuainc i geisio ganddynt ymffrostio o’u henwad, ac yn enwedig o’r teimladau a brofasant - Rhai yn cael eu hudo ganddo – Y Cristion yn y gyfeillach gyntaf ar ol hyn yn ymffrostio yn y Groes – Cenad Hedd yn calonogi yr eglwys wrth draethu am lwyddiant sicr yr Efengyl – Brawd ieuanc yn adrodd ei feddyliau am yr Efengyl – Awydd hen frawd am i’r Efengyl lwyddo - Hen chwaer yn llefain allan am i’r Efengyl fyned dros y byd - Brawd arall yn adrodd ei ddymuniad - Gorfoledd un arall wrth feddwl am y dyddiau braf oedd i wawrio ar y ddaiar – Yr eglwys ar flaenau ei thraed wrih feddwl am lwyddiant sicr yr
Efengyl – Tri o frodyr yn myned i’r Ysgol Sabbothol dan ymddyddan am hyn - Un o honynt yn adrodd ei deimlad am Gymru o herwydd fod yno gymaint o bechu - Yn penderfynu anerch y plant a ddeuant i’r Ysgol - Yr anerchiad – Penderfyniad y plant wedi ei glywed - Un arall yn anerch y bobl ieuaiuc - Penderfyniad amryw o honynt i fyw yn dduwiol - Y trydydd yn anerch y rhieni yn ddwys a difrifol - Wedi dod o’r
 Ysgol, y mae bachgen oddeutu pymtheg oed yn ymneillduo i lwyn o goed, ac yn ei ddagrau a’i alar yn arllwys ei deimladau o herwydd fod ei rhieni yn annuwiol - Y tri brawd yn goddiweddyd Jane y Fron wrth ddyfod o’r Ysgol, a hithau yn adrodd ei theimladau fod ei rhieni duwiol wedi marw - Mam dduwiol yn adrodd ei gofid dwys fod ei phlant yn annuwiol - Gofld mam arall o herwydd marw ei bachgen yn annuwiol – Tad a mam, wedi myned adref, yn ymddyddan a’u gilydd yn nghylch eu plant.

Ac wedi myned adref o Dy Dduw,
Mewn hwyl nefolaidd am yr hyn a gaed,
Mae Satan yn llechwraidd iawn yn dod,
A cheisia wlawio iâ, enhuddo’r tân,
A rhewi’r teimlad brwd o dan y fron.

·····Sisiala’n gyfrwys: - “Caniateir i gnawd
I ymfalchio gronyn bach yn awr.
Eich henwad chwi yw’r enwad goren sydd;
Try mwy o’r haner atoch chwi na neb ;
Mae ynddo rywbeth hawlia fendith Duw;
Mae’n well na holl enwadau’r byd i gyd –
Eich enwad chwi feddianna’r ddaiar oll.
Ac am eich capel yn yr ardal hon,
Mae’n rhaid cael capel newydd – hwnw’n fawr


 

(delw A0039)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us
 



(Tudalen 39)


Fel gallech ddweyd wrth bawb, hewb ostwng pen,
Edrychwch ar ein capel newydd ni.
·····Ac am y teimlad, a brofasoch chwi,
Mae’n brawf i mi eich bod yn dduwiol iawn;
Ni theimlodd neb annuwiol fel chwychwi.
Mae’n anhawdd i chwi beidio bostio peth
Yn nghryfder, llwyddiant, parch eich enwad mawr;
Ond yn enwedig o’r teimladai byw,
A’ch troes fel hyn i arddel Iesu Grist,
A’ch gwnaeth yn fabwysiedig blant i Dduw.”
·····Och! gwrendy rhai ar ei gyfrwys-ddrwg iaith,
Ac anferth chwyddant gan ryw hunan brwnt,
A balchder chwyddawg, bostfawr, fel y maent
Yn araf droi mor oer a thalpiau rhew.
Ond yn nghyfeillach eglwys Dduw y mae
Yn codi, ’r hwn gyfenwir genym mwy,
Trwy’r caniad hwn, yn GRISTION, ar ei draed,
A gwelid megys difrifoldeb byw,
A dwysder fel yn sefyll ar ei rudd;
A chyda nefol hwyl, mewn llais difloesg
Ymffrostio wna yn Iesu Grist a’i groes:-

“Croes fy Iesu yw fy ymffrost,
·····Yma gwelaf ddyfnder mawr;
Ei ryfeddol ddarostyngiad
·····Yn mhlith dynion ar y llawr.
Dyma Fe! fy enaid, edrych,
·····Gwel, mae yn dy ddeddfle di,
Wrth ei fodd yn goddef augau,
·····Angau rhyfedd Calfari.

Croes fy Iesu yw fy ymffrost,
·····Hi fel haul arddengys Dduw,
Mewn eglurdeb heb un cwmwl
·····I olygon dynol ryw;


 

(delw A0040)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 40)


Ei gyfiawnder a’i drugaredd
·····Welaf yma yn gytun,
Yn cariadus ymgofleidio
·····Wrth wneyd ffordd i gadw dyn.

Croes fy Iesu yw fy ymffrost -
·····Fel esbonydd eglur iawn
Ar eithafion echryslonrwydd
·····Pechod a’i haeddianau llawn;
Gwelaf trwyddi mai fy haeddiant
·····Ydoedd bod yn uffern dân;
Ond canfyddaf hefyd trwyddi
·····Nef i mi; a’r groes yn gân.

Croes fy Iesu yw fy ymffrost -
Gwelaf ynddi fywyd im’,
Gwelaf ynddi north i ymladd
A’m gelynion yn eu grym;
Gwelaf ynddi fodd i faddeu,
Meddyginiaeth er iachâd;
Gwelaf yn ei ffynon waedlyd
Fodd i’r aflan gael glanhad.

Croes fy Iesu yw fy ymffrost -
Fel at dynydd llwyr fy mryd
Oddiar bethau gwael y ddaiar,
Ar sylweddau’r bythol fyd;
Trwyddi canaf fuddugoliaeth,
Trwyddi mynaf ddod yn rhydd,
Trwyddi conc’raf angau cadarn,
Trwyddi caf y nef ryw ddydd.

Croes fy Iesu yw fy ymffrost -
Trwyddi cefais i fy stâd,
Nid allesid byth ei phrynu
Ond gan Grist a’i werthfawr waed.


 

(delw A0041)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 41)


Bostied daiar yn ei pherlau
·····Dynion yn eu henwau hwy;
Byth ymffrostiaf fi yn Iesu,
·····Yn ei groes a’i farwol glwy’.”

Ar ol i’r Cristion orphen ar ei gân,
Cyfodai Cenad Hedd, a chyda grym
Lleferai am y llwyddiant mawr a gaed,
Ac am y cynydd mawr oedd braidd, gerllaw,
Er calonogi Seion yn ei Duw: -

“Mae yr Oen - yn awr eistedda
·····Ar orseddfainc fawr y nef -
Wedi penderfynu mynu
·····Llwyr feddiannu daiar gref;
Er mai egwan yw ei fyddin,
·····Eto byddin yw a ladd,
Gyda’i Chadben mawr galluog,
·····Ei elynion o bob gradd.
Daw yr amser, daw yn fuan,
·····Caiff y ddaiar ddyddiau braf -
Haul Cyfiawnder gyfnewidia
·····Auaf oer yn gynes haf;
Dau ddylanwad cryf yr Ysbryd
·····Llygredigaeth oesau ffy,
Yr anialwch a flodeua,
·····Anial byd yn Eden fry.
Daw y dydd pan bydd hawddgarwch
·····A phrydferthwch yn ein byd,
Holl weithredoedd y tywyllwch
·····Wedi llwyr ddiflanu’i gyd;
Gras deyrnasa i santeiddrwydd
·····Dros derfynau daiar faith,
Duw folienir mewn lledneisrwydd,
·····C’rist ddyrchefir yn mhob iaith.


 

(delw A0042)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 42)
Teulu Seion, calonogwch,
·····Diwyd weithiwch ddydd a nos,
Buddugoliaeth sydd o’ch blaenau
·····Ar y byd trwy waed y groes;
Gwaethaf daiar, gwaethaf uffern,
·····Brenin Seion fydd yn ben;
Ar bob cwys o’r greadigaeth,
·····Trwy y ddaiar fawr a’r nen.
Haleliwia fo’n adseinio
·····Trwy holl gonglau daiar las,
Aglwydd [sic] Dduw y lluoedd cadarn
·····A deyrnasa trwy ei ras.
Ofergoelion sy’n llewygu,
·····Gau-grefyddau sydd yn ffoi,
Gyda hyny gwelir miloedd
·····At yr Arglwydd Dduw yn troi.
Cofia, Seion bydd dy Frenin
·····I roi Satan dan dy draed;
Yna rhinwedd a santeiddrwydd
·····A flagura trwy dy wlad;
Clywir hefyd gyd-chwarenuad
·····Ar hoff dannau gwaed y groes
Moli bellach a rhyfeddu
·····Dyfnder cariad angau loes.”

“Wel, haleluia byth a fo i’r Oen!
Mi ganaf iddo - gwnaf tra byddwyf byw,”
Medd rhyw hen frawd, yr hwn na theimlai, braidd.
Ei draed yn cyffwrdd ar y ddaiar, gan
Lawenydd clywed am y dyddiau braf
A wawria ar y ddaiar yn y man,
Pan lwyr feddiana Iesu wledydd byd.
Ar hyn gwediai ac ymbilia’n daer: -


 

(delw A0043)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 43)

“Aed son am Iesu da,
Gwellhäwr pob rhyw bla,
·····Trwy’r ddaiar gron;
I bob mau dan y nef,
Aed yr Efengyl gref,
I ddweyd am dauo Ef;
·····I bawb yn llon.

Na fydded yr un dyn,
O unrhyw liw na llun,
·····Heb ddod yn mlaen;
Yr Ethiopiaid du,
A’r pell baganiaid, lu,
Fo’n dod at Iesu cu,
·····I’w gwneyd yn lân.

Mae rhinwedd yn ei waed
Wna bawb, o’i ben i’w draed,
·····Yn wyn fel gwlan;
Prysura’r dydd, O Dduw,
Pan ddaw holl ddynol ryw,
A’u cred yn Iesu gwiw,
·····Trwy’r byd yn lŕn.”

“Nid allaf ddal yn hwy,” medd rhyw hen chwaer
“Mi waeddaf finau,” -

“Mwy fyddo’r son am Iesu Grist,
Ei fywyd hardd, a’i angau trist,
A thrwy y byd, O! boed yn ben
Yr Hwn fu farw ar y pren.
Aed yr Efengyl gadarn, gref,
Hyd at bob dyn o dan y nef;
Na fydded cwr o’r ddaiar gron
Heb glywed llais dymunol hon;
Breninoedd a gwyr mawr y byd


 

(delw A0044)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 44)


Fo’n plygu ger ei fron i gyd.
O! Arglwydd, clyw fy ngweddi i,
Dyrchafer Crist trwy’r byd i fri.”

“Amen! Amen! Amen!” cydlefai pawb;
“Ac Amen eto,” meddai rhyw hen frawd;
“Awyddu’r wyf am ddweyd ar ol fy chwaer

Aed geiriau gras - Efengyl bur ein Duw,
A’i hyfryd lais i glustiau pob dyn byw;
Dadseinier am rinwedelol waed y groes,
A gŕna’n wyn droseddwyr dua’r oes.
Yr Iuddew doed i gredu’a Iesu’n awr,
Ei fod yn Dduw, a’i ddod o’r nef i lawr;
A’r Negro du, yn nghyda’r pagan pell,
A ddelo at yr Iesu, ‘r Meddyg gwell.
Breninoedd byd, a’u breninesau hardd,
Fo’n dod, O! Dduw, i weithio yn dy ardd;
A’r aur a’r arian fyddo’n cael eu troi
I weithio gwaith yr Hwn sydd yn eu rhoi.”

“O! diolch a gogoniant byth,” medd un,
Yn nghwr draw’r capel, gyda hwyliog lais: -

“Dyddiau anwyl sydd i wawrio,
·····Yn ol addewidion Duw,
Pan bydd breniniaethau’r ddaiar,
·····Oll yn eiddo Iesu gwiw;
··········Haleliwia!
·····Hyfryd fydd y dyddiau hyn.

Pob gau-grefydd wedi cwympo
·····Dan olwynion cerbyd gras,
Iesu’u unig yn teyrnasu
Dros holl wyneb daiar las;
··········A banerau
·····Gras a welir ar bob bryn.


 

(delw A0045 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 45)

Ni wneir mwyach dduw yn unman
·····I’w addoli ar y llawr,
Ac ni chodir yr un enw
·····Ond yr eiddo Iesu mawr
··········Iesu’n unig
·····Gaiff y clod trwy’r ddaiar gron.”

A llawer fu y siarad, ddyddiau maith
Am y cyfarfod hwn yn eglwys Dduw;
Gorfoledd lanwai bawb wrth feddwl am
Yr adeg ddedwydd byddai teulu’r byd
I gyd yn dod i garu Iesu hoff,
A’r angel yn udgana yn y nef, -
“Aeth holl deyrnasoedd byd yn eiddo Crist.”
·····A’r Sul canlynol fe ganfyddir tri
Brawd yn cyfeirio tua’r Ysgol, gan
Ymddyddan am yr amser dedwydd iawn
Oedd gan eu Duw i wawrio ar y byd,
Nes oeddynt, braidd, a gwaeddi ar y ffordd,
Hosanna! Haleliwia i’n Duw ni;
Ond yn y man dywedai un yn ddwys: -
“O! frodyr anwyl, fy ngwir ewyllys i,
A’m gweddi sydd ar Dduw dros Gymru lân.
O! na b’ai mwy o Gymry’n troi at Grist!
O! na b’ai pechod yn diflanu’n llwyr
O’n plith fel gwlad, a Chymry’n dod mor bur
A’r meiliau oedd o flaen yr allor gynt.
Ac wrth weddio dros y pagan pell,
A llawenhau wrth feddwl am y dydd
Y teifl ei dduwiau mud i’r slym a’r wadd.
O! nac annghofiwn Gymru! hen wlad hoff
Ein genedigaeth. Hefyd, dyna wlad
Ddyrchafwyd uchaf o un wlad tan haul -
Gwlad Beiblau fyrdd – gwlaf breintiau rif y dail.


 

(delw A0046)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 46)


A gwlad y drwygiadau mawrion gynt,
Ond er hyn oll, sydd fawr ei beiau du.
A gwlad mae miloedd, o bob gradd ac oed,
Yn cyflym redeg tuag uffern dân.
O! beth a wnawn? A’i gadael Gwalia hen
Heb geisio mewn un modd am ei gwellhau?
Na; pell bo hyny o’n meddyliau oll.
Cyd-lefwn drosti tua’r nef yn daer -
Anogwn bawb i gredu yn y Mab -
Ymdrechwn oll ein goreu ar ei rhan;
A phan yn meddwl am y pethau hyn,
Fy mrodyr hoff, meddyliais am y plant;
Ac wrth arsylwi mi ganfyddaf fod
Angherddol awydd gan cin gelyn du
I’w cael yn filwyr iddo ef, o’u cryd:
Ond gwers ragorol rydd i ni yn hyn,
Pa rai sydd mor ddiofal am y plant
Ag yw yr estrys am ei chywion bach.
Yn wir, rhaid edrych mwy ar ol y plant, -
Y rhai sydd blant yn awr fydd yn y man
Yn bobl ieuainc, ac yn nerth ein gwlad.
Yn awr maent hwy yn gosod sylfaen oes,
Ac os y sylfaen fydd heb fod yn iawn,
Nid all yr adail fod ond adail wael.
Maent hwy yn awr yn hau, ac os cânt fyw,
Rhaid medi, yn y fuchedd hon, yr hyn
A heuir, bydded ef yn yd neu’n chwyn.
O! beth pe cawswn i, yn blentyn bach,
Fy nysgu yn athrawiaeth geiriau Duw,
Buaswn yn wahanol i’r peth wyf
Yn awr. Yr wyf yn teimlo colled fawr
O hyn; a gwn y teimlaf golled byth;
Gan hyny, penderfynol wyf, yn nerth
Fy Nuw, i siarad heddyw wrth y plant.


 

(delw A0047)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 47)


A ddaw i’r Ysgol; canys ni wn i
Pa un a ffyn a’i hyn, neu’n acw wna;
Ac O! fy Nuw, rho nerth i ddweyd yn iawn.”
·····Ac yn yr Ysgol sieryd wrth y plant: -

“Fy mhlant, ‘rwyf yn gobeithio
·····Y byddwch chwi i gyd
Yn blant fo’n ofni’r Arglwydd
·····Trwy’ch bywyd yn y byd;
Ymdrechwch am y goreu
·····Yn moreu’ch oes i fyw
Yn dduwiol a rhinweddol,
·····Ac agos iawn at Dduw.
A mynwch ddysgu darllen,
·····Yn gywir iawn bob gair;
O!’r pleser a’r hyfrydwch
·····Mewn darllen da a geir!
Chwi gewch trwy ddysgu darllen
·····Hanesion plant y ne’,
A hanes Iesu anwyl
·····Yn marw yn eich lle.
Gochelwch byth gymeryd
·····Yn ofer enw Duw,
Gochelwch am eich bywyd
·····I dori’r Sabboth gwiw;
Boed i chwi fod yn ufudd
·····I air eich tad a’ch mam,
Ac mi ddywedwch gelwydd,
·····Na wnewch i neb ddim cam.
Ac nac arferwch lwon,
·····Na geiriau ffiaidd iaith,
Ac na wnewch byth gyfeillach
·····A’r plant sydd ddrwg eu gwaith;
A’r ddiod sydd yn meddwi
·····Na phrofwch byth ei blas,



 

(delw A0048)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 48)

Osgowch bob rhith drygioni.
·····A llefwch am gael gras.
Fy anwyl blant, daw ungau,
·····Ac arnoch rhydd ei gledd,
A’ch prydferth gorff a roddir
·····Cyn hir yn ngwaelod bedd.
Yn awr, fy mhlant, dywedwch,
·····Pa un ai uffern dân
Ddewisech wedi marw
·····Ai ynte’r nefoedd lân?
Os uffern, nid rhaid ichwi
·····Ond pechu’n erbyn Duw,
Can wired ag y pechwch,
·····Cewch uffern byth i fyw:
Ond os y nef ddewisech,
·····Yn blant rhinweddol de’wch,
Gan garu Iesu anwyl,
·····A’r nef heb os a gewch.

A chofiwch ddyfod Iesu,
·····Er bod yn Fab i Dduw,
O’r nefoedd fry i farw,
·····Er mwyn i chwi gael byw;
Tywalltodd waed ei galon,
·····Er golchi plant yn wyn;
Gan hyn dewiswch nefoedd -
·····Ffowch rhag y tanllyd lyn.
Fy mhlant, O mynwch Iesu
·····Yn rhan y fynyd hon,
A cherwch Ef uwch pobpeth
·····A fedd y ddaiar gron;
A chofiwch yn wastadol
·····Os chwi a fydd yn ddrwg.
Fod Duw yn edrych arnoch
O’r nefoedd gyda gwg.”


 

(delw A0049)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 49)
A’r holl blant da wrandawant hyn yn ddwys,
A llawen wnant y penderfyniad hwn: -

“Byth ni chymeraf enw Duw
·····Yn ofer yn fy iaith;
Mae’n digio Duw, a chospi wna
·····Y plant a wnant fath waith.
Ni welir chwaith mo honwyf fi
·····Yn tori’r Sabboth gwiw,
Trwy chwareu arno yn lle dod
·····I gyd-addoli Duw.

I’m hanwyl dad a mam yn rhwydd,
·····A llon yr ufuddhaf;
A’r plant ddywedant, ‘Na, na i,’
·····Cyfeillach byth ni wnaf.
Lladrata dim o eiddo neb
·····Ni wnaf tra byddwyf byw;
Y lleidr gaiff ei lwyr gasâu
·····Gan ddynion a chan Dduw.
Llefaru’r gwir i bawb wnaf
·····Doed imi’r hyn a ddel;
Dywedyd celwydd byth ni wnaf;
·····A beiaf bawb a wnel.
Ni roddaf fi fy ngenau, chwaith,
·····I adrodd llwon cas;
Mae’n resyn clywed plant yn dweyd
·····Fath eiriau drwg, diras.

A thrwy fy oes nid yfaf ddafn
·····O’r hyn sy’n meddwi dyn;
Y meddwyn ffiaidd, mae yn warth
·····I’w wlad, ac ef ei hun.
Byth, byth ni welir mo’nof fi
Yn dilyn cwmni drwg;



 

(delw A0050)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 


(Tudalen 50)
Ar blant annuwiol edrych Duw
·····O’r nefoedel gyda gwg.

Gweddďaf hefyel dros y plant
·····Sy’n tori deddfau Duw,
Am iddynt ddod i’w ofni Ef,
·····A charu Iesu gwiw.
O! Arglwydd, nertha fi i fyw
·····Yn dduwiol trwy fy oes.
Gan garu Iesu fu’n fy lle,
·····Yn trengu ar y groes.”

Un arall gyfyd, a chyfarcha’n ddwys
Ieuenctyd hawddgar ydoedd ger ei fron: -

·····“Ieuenctyd anwyl, gwn
·····Pa beth yw bod fel chwi,
·····Heb deimlo poen un pwn,
·····Yn hoew yn fy mri;
Ond gwelwch ‘mod i erbyn hyn,
A’m cefn yn gam, a’m gwallt yn wyn.

·····Yr ydwyf yn mhrydnawn
·····Fy oes a’m bywyd brau,
·····A gwelais lawer iawn
·····O bethau gwir a gau;
Ond tystia pobpeth yn gytun,
Fod ofni Duw yn lles i ddyn.

·····Gwrandewch, ieuenctyd cu,
·····Ar un ddymuna’ch lles,
·····Ar un a’ch câr yn gry’,
·····A chyda serchog wres;
‘Rwyf yn eich caru chwi bob nn
Can gymaint llawn a mi fy hun.


 

(delw A0051)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 51)


·····Ieuenctyd gwych eich gwedd
·····De’wch at yr Iesu gwiw,
·····Cyn gorfod myn’d i’r bedd,
·····A’ch dwyn o blith y byw;
Derbynnwch heddyw olud gras,
Ac na wrandewch ar bechod cas.

·····O! deuwch, rhowch eich oes
·····Yn awr i Iesu Grist,
·····Fu eroch ar y groes
·····Yn goddef angau trist;
Ni bydd edifar genych wneyd,
Mor wir a’m bod yn awr yn dweyd.

·····Na fyddwch fyw yn hwv
·····Ar dir y gelyn du,
·····A rho’wch eich hunain mwy
·····I ofal Iesu eu;
Galluog ydyw ef i’ch dwyn
Trwy groesau’r byd i’r nefoedd fwyn.”

Ar hyn mae amryw o’r ieuenctyd hoff,
Wrth wranclaw ar anerchiad dwys y brawd,
Yn penderfynu troi a dilyn Crist,
Gan frwydro’n gryf yn erbyn pechod cas: -

·····“Yr ydym ni yn troi
·····Yn awr at Iesu drud,
·····A gwae i ni erioed
·····Ei wrthod Ef cyhyd;
Am wrthod Iesu hyd yn awr,
Ein calon sydd mewn gofid mawr.

·····Oddiwrth gwmpeini drwg
·····Ymgilio’n llwyr a wnawn;


 

(delw A0052)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 52)
 
Er myned dan eu gwg,
Gwęn Duw’n lle hyny gawn;
A gwell yw gwyneb Duw i ni
Na phe caem węn y byd a’i fri.

·····Gweddiwn yn ddibaid
·····Dros ein cyfoedion cu,
·····A thros ein tad a’n mam,
·····Ar iddynt ddod i’r Ty;
Ac er mor wael ein gweddi ni,
Fe wrendy Duw yn rhwydd ein cri.

·····A dilyn Iesu wnawn
·····Trwy’n hoes o hyn i maes,
·····Mewn gobaith cryf y cawn
·····Ein nerthu gan ei ras;
O Iesu cu! yr wyt yn werth
I ni dy ddlilyn a’n holl nerth.

·····Yn mlaen er gwaetha’r fall,
·····Ni ddeuwn heddyw’n llu,
·····A brwydrwn yn ddi ball
·····Yn erbyn pechod du;
A chyda chymorth gras ein Duw,
I bechod mwy ni byddwn byw.

·····Ni ddigalonwn mwy,
·····Ond awn yn mlaen o hyd,
·····Er derbyn llawer clwy’
·····Gan Satan, cnawd a byd;
Mae nerth i’w gael yn ol y dydd,
A gras yn gymorth parod sydd.”

Ar ol hwn, yn araf, gwelid brawd
Yn codi ar ei draed, a chyda phwyll
Fe sieryd, er holl gryndod mawr ei lais;



 

(delw A0053)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 53)

 

Ac wedi sylwi gyda theimlad brwd,
“Pa mor ddymunol fyddai gwel’d y plant
Yn dod, a throi bob un yn blentyn da;
Ac hefyd, mor ddymunol fyddai gwel’d
Ieuenctyd prydferth - harddwch mawr ein bro,
Yn troi i fyw yn dda, gan garu Crist;
Mewn dagrau claer, a chyda theimlad cryf,
Cyfarchai y RHIENI oedd o’i flaen: -

“Meddaf air, rieni anwyl,
·····Uniongyrchol atoch chwi,
Ac hyderaf caf wrandawiad
·····Astud, er mai gwael wyf fi;
Pwysig ydyw eich sefyllfa,
·····Meddwch gyfrifoldeb dwys,
Dysgu’ch plant a’u dwyn i fyny,
·····Orphwys arnoch yn ei bwys.

Na feddyliwch mai rhai eraill _
·····Sydd i ddwyn yn mlaen y gwaith,
Mae y dyb annghywir yma
·····Wedi gwneuthur drygan maith.
CHWI, RHIENI - chwi osodwyd
·····Benaf gan yr Arglwydd Dduw,
I’w hyfforddi yn ei eiriau,
·····A’u haddysgu modd i fyw.

Hoffus genym yw eu gweled
·····Yma yn yr ysgol hon;
Ond os esgeulusir gartref,
·····Cofiwch, collir wythnos gron.
Beth yw awr nen ddwy y Sabboth
·····I gael wythnos ar ei hyd?
Enill awr a cholli wythnos
·····Ddylai ddwyn i’ch gwyneb wrid

 

(delw A0054)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 54)

Codwch ati yn ddifrifol,
·····Hoff rieni, yn eich lle,
Pe ond er eich mwyn eich hunain,
·····Dysgwch hwy yn ffordd y ne’:
At eich gwaith, rieni anwyl,
·····Cofiwch werth eneidiau’ch plant;
At eich gwaith - mae Duw yn galw
·····Trwy ei gymelliadau gant.

Dadau anwyl, byddwch dduwiol,
·····Dyfal wyliwch ar eich iaith, -
Gwyliwch ar eich hymddygiadau,
·····Gwyliwch hefyd ar eich gwaith.
Sylwa’r plant yn fanwl arnoch,
·····Ceisiant wneuthur fel eu tad;
O! esiamplau da o’u blaenau,
·····Felly gwnwwch i’ch plant lesâd.

Fumau anwyl! byddwch chwithau
·····Yn rhai duwiol iawn eich moes,
Manwl ddysgwch eich anwyliaid
·····Yn ofn Duw yn moreu’u hoes;
Taer weddiwch ar i’r Arglwydd
·····Achub eu heneidiau drud,
Gan eu cadw rhag drygioni,
·····Gan eu harwain trwy y byd.

Erchyll meddwl am gynifer
·····O rieni drwg sy’n bod,
Na theimlasant dros eneidiau
·····Gwerthfawr iawn eu plant
Gadael iddynt, fel yr estrys,
·····Ffwrdd a hwy i’r byd yn wan,
Heb un cyngor i’w cyfnerthu,
·····Heb un weddi ar eu rhan.


 

(delw A0055)

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 55)

Ond gobeithiaf bethau amgen
·····Am rieni yma sydd,
Yr addysgwch gyda gweddi
·····Eich amwyliaid hoff hob dydd;
Codwch ati - gwnewch eich goreu -
·····Dysgwch hwy pa fodd i fyw,
Dysgwch hwy i garu Iesu,
·····Megwch hwy yn blant i Dduw.”

A rhyw fachgenyn o gylch pymtheg oed,
Ar ol dod allan, ymneilltua i
Lwyn coed gerllaw, ac ar ryw fryncyn craig
Oedd yno, eistedd wna ei hun yn drist,
A’i ruddiau wlychai gyda’i ddagrau heillt,
A chyda chalon ddrylliog arllwys wna
Ei deimlad trwm a’i ddwys ofidiau prudd,
Am mai annuwiol yw ei dad a’i fam: -

“Mae genyf rieni annuwiol,
·····Yr hyn sydd yn ofid i mi;
Mae meddwl am hyny yn tynu
·····Fy nagrau i redeg yn lli’;
Mae gweled plant eraill yn meddu
·····Rhieni crefyddol a da,
A minau’n amddifad o hyny,
·····Yn gwneuthur fy nghalon yn gla’.

Diolchaf fod rhywnn yn meddu
·····Gwell tad a gwell mam na myfi;
Yr awydd na b’ai genyf finau
·····Yw’r achos o’m galar a’m cri;
Nid ellir adferu fy ngholled,
Na gwella y mwed a?r cam,
·····A gefais o feddu rhieni
Annuwiol; yn dad ac yn fam.


 

(delw A0056)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 56)

Arferant eu genau i dyngu,
·····Yn lle i weddio ar Dduw;
Yn lle y molianu dymunol,
·····Y llwon a ddeuant i’m clyw;
Bytheirio rhegfeydd yn lle darllen,
·····A sathru ei Sabboth hoff Ef;
A meddwi heb wrido a welais,
·····Gan wawdio rhybuddion y nef.

‘D oes eisiau i neb wrth anwylach
·····O’i fachgen, nag ydyw fy nhad;
Ond profais ei fywyd annuwiol
·····Yn niwed, ac nid yn lleshad;
A rhwydd dros fy mam y goddefwn
·····Bob cyni, caledi a chlwy’;
Ond gweled y ddau yn annuwiol
·····Sy’n hollti fy nghalon yn ddwy.
Ni chefais na chyngor na rhybudd
·····Erioed gan fy nhad na fy mam;
Yn hytrach na’m hanog i rinwedd,
·····At ddrwg y gwnant hyny’n ddinain.
Yr ydwyf yn cofio pan dyngwn,
·····Y byddent yn gwenu mewn bri;
Ond wedi ymuno a’r eglwys,
Nid ydynt ‘r un fath gyda mi.

Ond eto ymdrechaf fy ngoreu,
·····Dan bob rhyw anfantais a chroes,
Trwy gymorth, i ddal gyda chrefydd,
·····Ac ymddwyn yn dduwiol trwy f’oes;
Parhaf i weddio, fel gallai
·····Bachgenyn sydd wedi cael cam,
Ar Dduw i dosturio yn fuan,
·····Ac achub fy nhad a fy mam.


 

(delw A0057)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 57)

O! cymer drugaredd, fy Iesu,
·····Ar enaid anfarwol fy nhad;
Boed iddo cyn many gael teimlo
·····Rhinweddau iachâol dy waed;
Ac achub fy mam, fy mam anwyl!
·····Cyn iddi ymsuddo yn îs,
A maddeu ei dirfawr bechodau,
·····Ac achub el henaid ar frys.”

A’r tri brawd yn dychwelyd yn eu hol
O’r ysgol, maent yn goddiweddu Jane,
Y Fron - genethig fach amddifad iawn,
Heb dad na mam - a gofynasant, beth
A feddyliasai o’r hyn draethwyd yn
Yr ysgol heddyw? Hithau, yn y fan,
Mewn dagrau claer. a’u prudd atebai hwy: -

“Yr ydych yn gwybod, gyfeillion,
·····Mai geneth amddifad wyf fi;
Ni feddaf ar dad i’m dyddanu,
·····Na mam i mi adrodd fy nghi;
Fy nhad er’s blynyddau a gollais,
·····A’m mam o gylch blwyddyn yn ol;
A dagrau pruddglwyfus genethig
·····Amddifad, ni fernwch yn ffol.

Ni feddaf berthynas yn unman,
·····Ond Isaac bach anwyl, fy mrawd,
A chalon ei chwaer a archollir,
·····Ei weled mor garpiog a thlawd;
Wrth weled fy nhad yn ei wyneb,
·····Agorir anchollion fy nghlwyf,
A’m dagrau a lifant ei weled,
·····Ow! druan, yn byw ar y plwyf.


 

(delw A0058)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 58)

Fy ngholled sy’n anadferadwy –
·····’Roedd genyf dad duwiol a mam,
Eu hymdrech gwastadol a fyddai
·····Ein magu i’r Arglwydd heb nam;
Mae genyf ryw adgof fel breuddwyd
·····O lafur fy nhad gyda mi,
Yn ceisio fy nwyn i adnabod,
·····Ac adrodd yn glir yr AB.

Ymdrechgar iawn oeddynt i’m dysgu
·····I ddarllen yn gywir Air Duw;
A dwys a difrifol dywedent
·····Pa fodd i mi ymddwyn a byw;
A gwelais y dagrau tryloewon
·····Yn gwlychu hoff ruddiau fy nhad,
Pan byddai yn erfyn i’r nefoedd
·····Ein cadw rhag niwed a brad.

A chofio yr ydwyf mewn dagrau
·····Am awydd a phryder fy mam,
Am i mi fucheddu yn dduwiol,
·····A rhodio i’r Iesu hob cam;
Ond druan o honwyf fi heddyw,
·····Fy nghalon sy’n drom ac yn brudd;
Yr ydwyf yn eneth amddifad,
·····A’m tad a fy mam yn y pridd.

Ni chaf yr un cyngor na rhyrndd
·····Gan dad na mam anwyl byth mwy;
Os oeddynt yn dlawd, y mae colli
·····Rhieni crefyddol yn glwy’.
Ni welaf eu tebyg byth mwyach
·····Yn unman yn mhlith dynol ryw;
Rhoi darlun o ddolur fy nghalon,
·····Nid allaf yn wir yn fy myw.

 

 

(delw A0059)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us
 



(Tudalen 59)

Ond eto, trwy gymorth yr Arglwydd,
·····Ni thoraf fy nghalon yn ffol,
Ond caraf fy ngoreu ar Iesu,
·····Fel hwythau, ac âf ar eu hol;
Caf uno â hwy yn y nefoedd,
·····I ganmol yr Iesu ein Duw;
A diolch yn nghanol fy ngofid,
Mae Tad yr amddifad yn fyw.”

Yn mlaen ychydig, goddiweddant fam;
Yr hon oedd mewn helbulon gyda’i phlant,
Pa rai yn groes i’w dwys gynghorion hi,
A ânt yn mlaen mewn annuwioldeb hyll,
Gan hyf ymogoneddu yn eu gwarth,
A thori deddfau cywir Duw, mewn bost,
A gwrthod fel ynfydion olud gras,
A’r hon a arllwys iddynt ei theimladau prudd: -

“Yr ydwyf mewn poenau bob dydd a phob nos;
Yr ydwyf bron suddo dan drymder y groes;
Plant drwg ac annuwiol a bwysant mor drwm,
Ar galon main egwan a mynydd o blwm.

Mae’r tonau yn uchel, a’r gwyntoedd yn gryf,
A minau ni feddaf ond gwendid y pryf;
Yr ydwyf yn teimlo fy hun yn llesghau,
A gofid ar ofid sydd yn fy ngwanhau.

Fy nghalon sy’n hollti, a’m dagrau yn lli’,
Cwynfanus iawn ydwyf, a chwerw fy nghri;
Yn groes yr holl groesau yw hyn yn ddinam,
I fechgyn annuwiol yr ydwyf yn fam.

Canfyddaf blant eraill yn ufudd a da,
Pan mae fy mhlant inau i’r ardal yn bla;
Mae hyn yn archolli fy nheimlad bob cam,
Fy mod I i fechgyn annuwiol yn fam.


 

(delw A0060)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us
 



(Tudalen 60)

Ceryddais yn onest, ond addfwyn fy llais
Cynghorais yn dyner, Ond gwawdiant fy nghais.
Ac felly yr ydwyf yn suddo, o ham
Fy mod I i fechgyn annuwiol yn fam.

Yn meddwi a rhegu, a gwneuthur pob bai
Fy mechgyn I welir mewn rhyfyg didrai;
Llon redant i bechod yn hoenus eu llam,
I fechgyn annuwiol yr ydwyf yn fam!

Ond eto, er gwaethed a chymaint eu drwg,
Nid allaf trwy’r cyfan roi arnynt fy ngwg;
Eu caru yr ydwyf er iddynt wneyd cam,
Trwy fyw yn annuwiol a phoeni eu mam.

O! Iesu fy Ngheidwad, bydd di o fy mhlaid -
Bydd i mi yn gymorth bob amser wrth raid;
A gwaeddaf trwy’r cyfan, O! achub fy mhlant,
A gwared fy mechgyn sy’n dilyn eu chwant.

Dyddana fy nghalon, cysura fy mron,
A dal fi i fyny er gwaethaf pob ton;
A bydded i’r tonau fy ngweithio i’m lle,
A dwyn fy meddyliau yn fwy ar y ne’,”

Ar hyn mam arall, cefn yr hon oedd gam,
Ei bochau’n grych, ei gwallt yn wyn fel llin:
A’i llygaid fel yn sefyll yn ei phen,
Cau annhraethadwy boen ei mynwes brudd,
O herwydd claddu ei hunigol fab
Yn ddyn annuwiol - a ddywedai’n brudd,
A’i dagrau yn rhaiadru ar ei gwisg: -

·····“Y mae dy ofid ti yn awr,
·····Fy chwaer, yn fawr neilltuol;
Ond dim i’m gofid i, er’s pan
·····Y cleddais fab annuwiol.


 

(delw A0061)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 61)
Mae bechgyn drwg yn boen yn fyw
Ond beth yw hyny, bobol,
O’u gwel’d yn myn’d o dir y byw
Heb Dduw, ac yn annuwiol!

O! ‘machgen anwyl, anwyl, cu,
·····’R wyf braidd a drysu’n hollol.
Wrth feddwl iddo ef mewn braw
·····I farw yn annuwiol!
Er i mi geisio dweyd yn glir
·····Fod Iesu yn dosturiol;
O’i olwg! pan ddywedai’n syn –
·····’Rwy’n marw yn annuwiol!

Er dweyd, fel gallwn i, fod Duw
·····Yn cadw’r edifeiriol,
Dywedai’n brudd gan godi’i law,
·····’Rwy’n marw yn annuwiol!

Er ceisio eilwaith ddweyd fod Crist
·····I enaid trist yn rasol,
Yr ateb gefais ydoedd hyn -
·····’Rwy’n marw yn annuwiol!

Er dweyd am waed yr Oen a’i rin,
·····I olchi dyn yn hollol,
Dywedai wrthyf gan droi draw -
·····’Rwy’n marw yn annuwiol!

Er dweyd am addewidion Duw
·····I’r byw a’r anhaeddianol,
Atebai gydag ingol fraw -
·····’Rwy’n marw yn annuwiol!

A chyda’r geiriau ingawl hyn -
·····’Rwy’n marw yn annuwiol!


 

(delw A0062)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 62)

Ei air diweddaf oedd - fy mam!
·····Annuwiol! Damniol! Damniol!
··········Wel! Wel!”

Ar ol hyn fe glywid tad a mam
Yn dwys ymddyddau wedi dod i dref,
Yn nghylch a glywsent yn yr Ysgol Sul,
A’u dyledswydau at eu teulu bach: -

Y TAD.
Rhaid im’ addef gyda galar
·····I mi fod hyd hyn ar fai.
Gyda golwg ar fy nyled
·····Bwysig at fy anwyl rai;
Nid wyf wedi lawn weithredu
·····Atynt megys dylai tad;
Nid wyf wedi bod i’w henaid
·····O un bendith na lleshad.

Y FAM.
Yr wyf finau felly hefyd,
·····Er im’ wisgo enw mam;
Gyda dagrau heillt dywedaf,
·····Gwnaethum i’w heneidiau gam;
Ceisiwn wneyd eu cyrff yn lanwaith
·····Ond fy nghalon sydd yn friw,
Esgeulusais eu heneidiau,
·····’Roed im’ gofal gan ein Duw.

Y TAD.
Yn ddiofal iawn y treuliais
·····I fy nyddiau gyda hwy;
Gofal rhag i’w cyrff gael niwed -
·····Rhoi fy hun i’w henaid glwy’,
O! Fel yr adroddai’r bachgen,
·····Gyna fy ben eiriau drwg;


 

(delw A0063)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 



(Tudalen 63)

Difrif bod yn dad annuwiol!
·····Niwed mawr i’r plant a ddwg.

Y FAM.
Difrif bod yn dad annuwiol,
·····Mwy difrifol bod yn fam
A ymddygo yn annuwiol,
·····Am y gall wneyd mwy o gam.
O! fy mhlant, ni hoffwn iddynt
·····Dderbyn niwed gan un dyn!
Ond, ai tyred y cânt niwed
·····Enaid, gan eu mam ei hun!

Y TAD.
Och! yn fawr y camgymerais -
·····Tybied byddwn i mor gul,
Fod yn ddigon llawn i’w hanfon
·····I’w haddysgu ar y Sul;
Esgeuluso’r gwaith fy hunan,
·····Colli wythnos gron o ddysg,
Gadael eraill i’w haddysgu,
·····Er mai fi oedd yn eu mysg.

Y FAM.
Nid wyf finau wedi gwylio
·····Haner digon lawer gwaith;
Gwneuthur pechod yn eu golwg,
·····Arfer siarad aflan iaith;
Ni addysgais iddynt rinwedd,
·····Dysgais hwy i fod yn ddrwg;
Rhoddais hwy ar ffordd a’u harwain,
·····Och! o dan y Dwyfol wg.

Y TAD.
Nid yn unig nad hyfforddais
·····Hwy i gadw deddfau Duw,


 

(delw A0064)

 Free Image Hosting at www.ImageShack.us

 


(Tudalen 64)

Mae fy muchedd wedi dysgu
·····Iddynt i annuwiol fyw!
Arglwydd maddeu ein colliadau,
·····A’n ffaeleddau mawr ein dau;
Dyro gymorth gyda hyny
·····I’w cyflwyno iti’n glau.

Y TAD A’R FAM.
Gwnawn ein dan ein goreu mwyach,
·····Dygwn hwy i fyny’n dda;
Os ein helpu gawn gan eraill,
·····Diolch wnawn i bawb a wna;
Dysgwn iddynt ofni’r Arglwydd,
·····A’u cyflwyno wnawn i Dduw,
A thrwy ras esiamplau roddwn
·····Ger eu bron i dduwiol fyw.





 

 

 

Sumbolau arbennig: ŷ ŵ

Diweddariad diwethaf 2007-01-30

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pŕgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weər äm ai? Yuu äär vízďting ə peij fröm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA

DIWEDD / FI / END 

hit counter script

Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats