0928k ‘Ni’n Doi’, sef Hanes Ysmala Dai a Shoni yn y Rhyfel. Gan Glynfab. 1918. “Pishyn o waith Mynyddog, w i’n gretu oodd y pishyn ganas i nawr. Ma fa’n iitha pert, a yn atab y mwwfmants yn well na allwn i ddishgrifio. Os yw y pishyn yn goparplêt, a jail ‘i fod am ‘i brinto fa yn y papra...”

http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_testunau/sion_prys_082_ap_mwydyn_1900_2590k.htm

Yr Hafan

..........1863k Y Fynedfa yn Gymraeg

....................0009k Y Barthlen

..............................0960k Cywaith Siôn Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai

........................................y dudalen hon


(delw 0003)


Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya


Cywaith Siôn Prys (Casgliad o Destunau yn Gymraeg)
El projecte Siôn Prys (Col·lecció de textos en gal·lès)


Cadair ap Mwydyn
Hen Fyfyriwr
Geninen. 1900. Tudalennau 60-63


(delw 0285)


Testun yn iaith y de-ddwyrain

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 5413) (tudalen 60)


CADAIR AP MWYDYN
Golygfa - YSTAFELL DAU GYD-FYFYRIWR


NED FFAGWR: (yn dysgu Groeg) Twpto, twpteis, twptei; twpteton, twpt—

AP MWYDYN: (yn cyfansoddi ar gyfer Eisteddfod Bwch-y-cyrn): Twptithe hefyd, Ffagwr.
Pwy sy'n mynd i farddoni, a tithe a dy "dwpto," byth a hefyd, fel dyn yn swddanu? (= swrddanu, syfrdanu: be delirious) I ti bron mynd mor dwp a “twpto."

NED FFAGWR: Cera oddna, Ap Mwydyn. Pwy farddoni alli di neyd ? I ti'n cynnyg ac yn cynnyg am ryw hen "gader a thwll" fach, os blwyddyn; ond wela' i ddim argol daw hi byth. Pryd ma dy dro di, bachan ? Ond dyna, di ti ddim yn dod yn ddigon agos i weyd dy fod ti'n ail ore; ac iti'n gwbod fod pob un o'r chwech cynte yn cleimo cymint â hynny. Jaca'i làn, jaca'i làn. Fe dâl y ffordd yn well o lwer i ti i stico at beth mor sych a "twpto" nâ mynd i gystadlu gyda Gwilym Meudwy, a beirdd o safon!

AP MWYDYN: Mae o'r gore i ti, Ffagwr, weyd tho i am bido barddoni. I ti wedi treio dy ore - shwd ore ag ôdd e: — ac, yn wir, rôdd yn flin gen i dy weld ti’n cownto dy fysedd i gâl dy fesur wyth a saith a gròt yn iawn, ac yn poeni am orie i wilo am eire fel “cawl” a “mawl”, a "phanasen" ac “asen” i odli. Mi glywes rywun yn gweyd wrth stiwdent unwaith i fod e wedi spwylo colier da wrth fynd yn bregethwr; a fe fydde'n well i tithe, Ned Ffagwr, bido gnevd bardd gwâl o Ffagwr mor ardderchog. Ond rwy i wedi sylwi ar y rheiny sy wedi ffili gnevd beirdd, ac wedi credu'u bod nhw'n dipyn o scolers, **'u bod nhw'n cisho perswado'u hunen a phawb erill ma rhyw hâff-cracs anwybodus yw'r beirdd i gyd.

NED FFAGWR: Dwy i ddim yn meddwl, ta beth, ma rhai anwybodus yw’r beirdd. Wy i 'n gweld ffugenwe cyd â mraich i gyd â nhw, a phishis o Latin, a Greek, a German uwchben **'u pryddeste nhw. Ma'n rhaid **’u bod nhw'n wybodus, achos **'dôs dim geiriaduron i weyd popeth i gâl.

AP MWYDYN: A pheth arall i ti: os na fydd y'n beirdd ni wedi câl llawer o ddiwylliant, ma nhw'n mynnu gweld tipyn o’r byd i neyd fyny am hynny,

NED FFAGWR: Eitha gwir, Ap: eitha gwir. A ma gyda ni hanes'u tithienhw, sy wedi dod yn llyfre safonol.

AP MWYDYN.: Os, ôs. A ma beirdd yn gallu gweld pethe na wêl pobol erill.

NED FFAGWR: Eitha gwir. Ond Ap, os iti'n mynd i gwpla'r pishin yna sy gent ti nawr, a'i neyd e gyd dy
hunan, iti'n ffwl, a gweyd stori blaen tho ti. Nid felna ma cystadlu'r dyddie hyn. Gofyn i Watcyn Wyn am dy helpu di iddi gwpla fe, a gofyn i ryw frawd yn yr un winidogeth iddi ysgrifennu fe mas iti. Dyna fel ma nhw'n ennill cadire a chorone, y dyddie hyn, medde nhw.

AP MWYDYN: Fe gewn weld, Ned, os joint companies yw hi; ond de fe: a pheth da yw rhoi "help llaw" i frawd, onte? A ma'r apostol yn gweyd tho ni am ddwyn beichie'n gilydd, os wy'n cofio adnod y gyfillach yn iawn.

NED FFAGWR: Odi, odi: ma e'n gweyd rhywbeth felna yn yr hen gyfieithad, a wy inne yn i gefnogi fe.

AP MWYDYN: Wel, os wyt ti'n i gefnogi fe, wy’n shiwr fod Paul yn falch — yn enwedig heddy, pan ma nhw’n gweyd nag odd a ddim mor shiwr o'i fater, wedi'r cyfan. Ond gad i ni fyad ati ddi eto Nawr, os ôs rhaid i ti weyd y "twpto" na, gwêd e'n ddishtaw. Mi â inne **’mlân mor ddishtaw a galla'i â'r gân o glod ma, hefyd. (Yn ddistaw): Ble **'rown i, hefyd, O ie —

... "Dyn uwchnaturiol, gwyrth i'r oesoedd oedd,
.....Dyn llawn o'r nef "...

NED FFAGWR: Etwpsa, Etwpsas, Etwpse. Ma'n rhaid i fi'u dysgu nhw i gyd, er y mod i'n gwbod na ddwa'i ddim yn gamster arnyn nhw byth, a finne nawr yn — wel, dros bump-ar-hugen. Pam na fydde'n haddysg ni ar linelle gwell ? Am yr help roith y tipyn Greek nâf fi i fi, mi allai heddy gâl y cwbl, a mwy o lawer, wedi **'i weyd mewn llyfre Sisneg gan specialists. Ond yw peth fel hyn yn ofnadw?

AP MWYDYN: (yn ail-adrodd, gan fethu gorphen y llinell):

.... “Dyn llawn o'r nef, o’r nef"...

Gad dy stwr, bachan; gad i fi gâl gweld os galla'i gwpla'r lein **’ma—

.... “Dyn llawn o'r nef"...

NED FFAGWR: Bachan, bachan, dyna gòp i gwpla honna! Alle ti ddim i gweyd hi fel hyn?

..."Dyn llawn o'r nef, ac uffern, yn eu tro."

Etwptomen, etwptou, etwpte.

[Curo wrth y ffenestr.]

Pwy sy na nawr, fachan? Wy'n ffili’n deg a diall fel ma'n ffenest ni'n dala. Ma'n câl i thapo a'i thapo, o wech o'r gloch soi’n ddiddeg, bob nos yn regilar! Cer i'r drws, Ap.

[Wedi iddo fynd]

Harri Gneyd Dim sy **’na nawr, wy'n shiwr. Pam na rosiff e gatre i neyd dim, yn lle dod ar hyd dai bechgyn erill, iddi helpu nhwate i neyd dim. Ond dyna — ini gyd am argyhoeddi rhyrai ma’n ffordd ni o fyw sy ore.

[Harri yn dod i fewn]

Wel, Harri, shwd ma'r gwaith yn dod yn mlân, fachan? Weles i di 'riôd yn cwyno. I ti'n well na'r rhan fwya ohonnon ni fanna. Ma'n rhaid dy fod ti’n gallu gwitho'n gloi anghyffredin. Shwd i ti'n gneyd, Harri?

HARRI GNEYD DIM: Dim o dy snaps di, Ffagwr. Dyna lle i ti â dy Greek, a dy Greek yn ddigon i droi ar stymog dyn, byth a hefyd.

NED FFAGWR: Pam na rosi di gartre, ynte, bachan? ne fynd i Ie sy'n taro dy stymog di'n well ?

HARRI GNEYD DIM: 'Wel, mi weda’i tho ti, Ffagwr: ma gen i genhadaeth bwysig yn y lle ma. Wy i'n teimlo ma **'gwaith i yn y lle ma yw cadw bechgyn o dy short

 

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 5414) (tudalen 61)

 

 

di rhag cyflawni hunan-Iaddiad. A dyna lle wy I’n mynd bob nos yn rownd i'r bechgyn wy'n weld welwa yn yr ysgol yn y dydd; — ag wyt ti ddim yn credu fod gen i waith pwysig? Ap, ma llwer o sôn y dyddie hyn am ddynon â neges gyda nhw, ag wy i'n credu fod dynon call y'n dyddie ni wedi ffindio neges i Iwer dyn ar ol iddo fe farw; ag wrth gwrs, am bethe fel hyn ma'r dynon mwya'n câl **’u talu. Wel, w i'n teimlo cyn i fi farw fod neges gen i; ag os byddi di am neyd papyr i Gymmrodorion Llunden arna' i, dyna'r penawd i ti: "Neges Dyn Segur."  Ond dyma rywrai'n dod i boeni'r Ffagwr

eto.

 

[Wil Pregethwr a Dai Gwitho'n Gynnar yn dod i fewn.]

 

AP MWYDYN: Wel. boys, ddethoch chi o'r gymanfa'? Shwd gymanfa gesoch chi ?

 

WIL PREGETHWR : Ardderchog, bachan.

 

DAI GWITHO’N GYNNAR: Strokes ofnadwy, boys. Ma Wil ma yn i chapso **’i y. nawr. Stim shwd beth  i neb sefyll làn ar i ol e. Fe nath iddi nhw i gydsefyll ar **’u trâd, y ddo — do obrysur (o brysur = really, truly, indeed).

 

NED FFAAGWR: [O'r neilldu]: Pan rois e'r emyn mas, sposo.

 

DAI GWITHO’N GYNNAR: Fe bregethodd am dri chwarter awr solid. 

 

AP MWYDYN: Do fe, Wil ? Os do fe, rôdd ishe clymu dy ben di’n dost. Pwy reswm 'sy miwn peth felna? A phwy waretêg ôdd i'r bachan ôdd ar dy ol di? A pheth.

arall, os credi di fi, **’'dyw pobol ddim yn moin mwy nâ haner awr o bregeth man pella gan stiwdent.

 

DAI GWITHO’N GYNNAR: Sêt ti'n clywed pregeth Wil, nid dyna beth wedet ti, wy'n shiwr. Wil, gwêd gwpwl o dy strokes tho fe.

 

AP MWYDYN: Well iti bido, Wil, ne fe gai di clywed nhw am y mish nesa yn eco yn yr ysgol bob dydd. I ti ddim yn cofio am y ferch ifanc  wedi dod i'r cyfeillach “achos fod Mary wedi dod," — fel ôdd y stori yn tyfu o ddydd i ddydd, nes iddi ddod yn “fechgyn ifenc ar y galeri, pam i chwi wedi dôd **’ma  heno — achos fod Mari yma?” Well i ti bido, Wil; stim sy’n well ne'n wâth nâ  strokes i neyd sport ohonynw.

 

WIL PREGETHWR: Weda’i ddim ohonni nhw, te. Ond nid y pregethu ôdd y peth, y ddô, boys. Y sport geson ni yn y lle ôn ni’n aros ôdd y peth. Provoco'n gilydd, a thynnu’n pregethe'n gate, lle clywe'r hen ddyn a'r hen fenyw; a gweyd hen scetshis doniol am hen bregethwyr, heb ddim ond lliw’r gwir arny nhw. Dôdd yr hen ddynon ddim wedi meddwl yriod fod stiwdents mor ddoniol.

 

AP MWYDYN: Dyna hi! ôn i'n  meddwl ma pethe felna fydde gyda chi i adrodd, y sèt. Ma'r chwara ŷch ch'n (sic) neyd â phregethe'ch gilydd yn gneyd mwy o ddrwg i chi nag ych chi'n feddwl. A ma'r sport i ni'n neyd yn y trêns wrth roi hanes y Sul, lle clywo pob short o ddynon, ac wrth dynnu pregethwyr da i lawr, yn gwneyd mwy o ddrwg o lwer nag itha fŵs yn y Cross Inn, alla **’i weyd tho chi. Boys, ma'n rhaid i ni fod yn fwy gofalus.

 

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 5415) (tudalen 62)

 

Free Image Hosting at www.ImageShack.us

(delw 5416) (tudalen 63)
_______________________________________________________


Sumbolau arbennig: ŷ ŵ

Diweddariad diwethaf 2006-11-17

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website


CYMRU-CATALONIA

fel ma-nw’n weud ar y cwta (??rails??) cân)

DIWEDD / FI / END 

hit counter script
Edrychwch ar fy Ystadegau / Mireu les estadístiques / View My Stats