2589k
Gwefan Cymru-Catalonia. Y Siswrn. Blwyddyn 1888. Daniel Owen (1836-1895)
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_080_y_siswrn_daniel_owen_1888_delwau_a_thestun_2589k.htm
0001z Yr
Hafan / Home Page
..........1864k
Y Fynedfa yn Gymraeg
.....................0009k Y Barthlen
...............................0960k Y Gyfeirddalen i Gywaith
Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
............................................2387k
Y Gyfeirddalen i’r llyfr hwn (Y Siswrn, Daniel Owen)
...........................................................y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia |
|
Mae’r sylwadau sydd wedi eu hychwanegu
gennym mewn llythrennau oren.
Our comments are added in orange type
Ar ffurf delwau y mae’r llyfr hwn. Mae’r tudalennau isod mewn lliw coch i’w
gweld hefyd ar ffurf teip HTML
000 / 001 / 003 / 005 / 006 / 007 / 008 / 009 / 010 / 011 / 012 / 013 / 014
/ 015 / 016 / 017 / 018 / 019 / 020 / 021 / 022 / 023 / 024 / 025 / 026 / 027 /
028 / 029 / 030 / 031 / 032 / 033 / 034 / 035 / 036 / 037 / 038 / 039 / 040 / 041 / 042 /
043 / 044 / 045 / 046 / 047 / 048 / 049 / 050 / 051 / 052 / 053 / 054 / 055 / 056
/ 057 / 058 / 059 / 060 / 061 / 062 / 063 / 064 / 065 / 066 / 067 / 068 / 069 /
070 / 071 / 072 / 073 / 074 / 075 / 076 / 077 / 078 / 079 / 080 / 081 / 082 /
083 / 084 / 085 / 086 / 087 / 088 / 089 / 090 / 091 / 092 / 093 / 094 / 095 /
096 / 097 / 098 / 099 / 100 / 101 / 102 / 103 / 104 / 105 / 106 / 107 / 108 /
109 / 110 / 111 / 112 / 113 / 114 / 115 / 116 / 117 / 118 / 119 / 120 / 121 /
122 / 123 / 124 / 125 / 126 / 127 / 128 / 129 / 130 / 131 / 132 / 133 / 134 /
135 / 136
________________________________________________
(delw 0864) (tudalen 0)
Argraffiad Cyntaf: J. Ll. Morris, Yr Wyddgrug, 18-
Ail Argraffiad: J. Ll. Morris, Yr Wyddgrug, 1888.
Trydydd Argraffiad: Gwasg y Brython, 1937.
Pedwerydd Argraffiad: Gwasg y Brython, 1939.
________________________________________________
(delw 0863) (tudalen 1)
Y SISWRN: SEF DETHOLION PRUDD A DYDDANOL, NEWYDD A HEN, O WEITHIAU DANIEL OWEN
(Awdwr “Rhys Lewis,” “Y Dreflan,” &c.)
Hwyl lawen gaiff teuluoedd — a mîn iawn
I ymwneyd â gwisgoedd;
Ni syfl gwerth na safle goedd
“Y SISWRN” yn oes oesoedd!
Neifion.
Lerpwl.
Yng Ngwasg y Brython.
Hugh Evans a’i Feibion, Cyf., 356/358/360 Stanley Road 1939
________________________________________________
(delw 0866) (tudalen 3)
AT Y DARLLENYDD.
Gyda chaniatad ein cymydog, Mr. Daniel Owen, yr ydym wedi anturio cyhoeddi y
gyfrol fechan hon o ddetholion o’i weithiau. Mae y croesaw gwresog a roddwyd
gan ein cyd-genedl i weithiau yr Awdwr, sef Y DREFLAN a RHYS LEWIS, yn peri i
ni obeithio na fydd Y SISWRN yn annerbyniol. Gwêl y cyfarwydd fod yma amryw o’r
detholion na fuont mewn argraff o’r blaen, ac eraill a ymddangosasant mewn
Cylchgronau na feddent ond dosbarth neillduol o ddarllenwyr, ac eraill a
gyhoeddwyd mewn cyfrol sydd allan o argraff er ys llawer o flynyddoedd. I’r
lliaws bydd yr oll yn newydd, ac i’r ychydig sydd yn cofio wyneb ambell ddernyn
hyderwn nad anhyfryd a fydd ail-gydnabyddiaeth.
Yr Wyddgrug.
Y Cyhoeddwr.
________________________________________________
(delw 0865) (tudalen 5)
AT Y DARLLENYDD
Wedi cyflwyno i’r Cyhoedd yr Ail Argraffiad o’r SISWRN, dymunwn gydnabod yn
ddiolchgar y derbyniad croesawgar a roddwyd i’r Argraffiad Cyntaf. Ein
crediniaeth fod llawer eto o’n cydgenedl a ddymunent feddu y llyfr, ond sydd
hyd yn hyn heb ei feddu, ydyw ein rheswm dros ymgymeryd a’r anturiaeth hon, a
hyderwn na siomir hi.
Y CYHOEDDWR.
________________________________________________
(delw 0867) (tudalen 6)
CYNNWYSIAD.
Yr Ysmygwr x9
Tiberias x34
Siarad a Siaradwyr x36
Beth sydd oreu x41
Ganig x42
Rhai o Fanteision Tlodi x44
Oriel x50
Y Bethma x53
Darlun x58
Yn y Capel x61
Mr. Jones y Shop a George Rhodric x66
Mr. Jones y Shop a William Thomas x72
William Thomas a’r dewis Blaenoriaid x80
________________________________________________
(delw 0868) (tudalen 7)
Y CYNNWYSIAD.
Dewis Blaenoriaid x88
Y Blaenoriaid newydd yn y Glorian x99
Y Parch. Richard Owen y Diwygiwr x107
Hiraethgan x108
Llythyr fy Nghefnder x116
Adgof x133
Ioan Jones, Rhuthyn x135
Englynion x136
________________________________________________
(delw 0869) (tudalen 9)
Yr Ysmygwr.
Pennod agoriadol i hanes anysgrifenedig.
Yr wyf yn meddwl, ond nid wyf yn sicr, mai y flwyddyn 1876 neu 1877 ydoedd. Y
gwaelaf yn y byd ydwyf am gofio dyddiau a blynyddau wedi yr elont heibio; ac
oherwydd fy mod yn ymwybodol o’r diffyg hwn, a rhag poeni y darllenydd gydag
anghysonderau, ni wnaf ond can lleied ag a allaf o gyfeiriadau at ddyddiadau,
gan nad ydynt ar y goreu ond pethau sychion, ac oddiar i ystyriaeth mai gwell i
ddyn diofal beidio bod yn fanwl. Am yr adroddaf y ffeithiau yn gywir pa bwys am y
dyddiad? Pethau amser ydyw dyddiadau, ond nid allwn ymysgwyd oddiwrth ffeithiau
bywyd hyd yn nod yn y byd a ddaw. Geidw rhai pobi ddydd-lyfr yn yr hwn y
croniclant eu teimladau, a’u gweithredoedd, a phrif ddygwyddiadau pob diwrnod
o’u
________________________________________________
(delw 0870) (tudalen 10)
bywyd. Os ydyw eu bywyd yn gyffelyb i’r eiddo fi ac i eiddo dynion yn
gyffredin, ac os ydynt yn onest gyda’r gwaith hwn, da fyddai ganddynt, mi
gredaf, gael hamdden cyn marw i’w losgi. Ond os ysgrifenu y maent bethau difyr
i’w darllen ganddynt hwy eu hunain a chan eu perthynasau ryw amser sydd i
ddyfod, yna rhagrithwyr ydynt, a chânt allan ryw dro fod llyfr coffadwriaeth
arall yn bod cwbl wahanol o ran ei fanylion. Ond yr wyf yn meddwl, fel y
dywedais, mai y flwyddyn 1876 ydoedd — tua chanol y cynhauaf ŷd. Yr oedd
wedi bod yn dymor poeth iawn, ac yr oedd rhai ffermwyr yn gallu dyrnu eu hŷdoedd
ar y maes cyn eu casglu i’w hŷdlanau. Mae ffaith fechan yn peri i mi gofio
hyn: Yr oedd cynrychiolydd y Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor wedi anfon
gair at y pen blaenor yma y byddai efe yn dyfod i’n hardal ar y diwrnod a’r
diwrnod i ddadleu hawliau y Gymdeithas; ac yr oedd y pen blaenor yntau, yn ei
dro, — yr hwn oedd ffermwr cyfrifol — wedi anfon gair yn ol i ddyweyd y byddai
raid i’r cynrychiolydd oedi ei ymweliad oherwydd fod cyhoeddiad yr engine ddyrnu yn ein hardal ar y diwrnod
hwnw; yr hwn drefniant a hysbyswyd yn ei amser priod i’r frawdoliaeth ac a
dderbyniodd gymeradwyaeth ddyladwy. Yr oeddwn yn feistr arnaf fy hun, fel y
dywedir; hyny ydyw, gallwn fyned oddicartref heb ofyn cenad neb, ac aros cyhyd
ag y mynwn heb golledu neb ond fy hunan. Nid oedd genyf na meistr na
gwraig i ofyn caniatad ganddynt. A hon
________________________________________________
(delw 0871) (tudalen 11)
oedd rhagorfraint benaf fy mywyd — rhyddid. Nid oedd genyf ddim at fy
nghynaliaeth ond a ennillwn gyda fy neng ewin — nid oeddwn yn anghenus — ac nid
oedd genyf ond ychydig wrth gefn. Pa fodd bynag, un bore, cefais ddrychfeddwl
newydd, sef nad oeddwn lawn can iached ag y dylaswn fod. Yr wyf yn lled sicr
erbyn hyn mai drychfeddwl ydoedd,
oblegid dygai gydag ef fwy o bleser nag o ofid, a theimlwn braidd yn falch
ohono, fel y gwna bardd o linell newydd, bert. Yn wir effeithiodd arnaf mor
fawr nes fy nwyn i’r penderfyniad fy mod yn haeddu gŵyl, neu holiday, yr hwn beth mai ychydig, fel y
tybiwn i, oedd yn ei haeddu, ac mai y rhai oedd yn ei haeddu leiaf oedd yn cael
mwyaf ohono. Oddiar yr egwyddor pwyth rhag llaw a arbed naw, a rhag i mi
waethygu, tybiais mai goreu po gyntaf yr awn oddicartref. Ni chymerodd i mi
prin bum’ mynyd i benderfynu ar y lle yr awn i dreulio fy ngŵyl, ac
awgrymodd Llandrindod ei hun i mi ar unwaith. Gan mor gyflym y daeth y lle i fy
meddwl, yr wyf erbyn hyn braidd yn tybied fy mod wedi penderfynu ar y lle cyn
darganfod nad oeddwn mor iach ag y dymunaswn fod. Ni fuaswn erioed o’r blaen yn
Llandrindod, ac eto, wedi darllen fwy nag unwaith y “Tridiau” a’r “Tridiau
Eto,” gan Glan Alun, teimlwn raddau o gydnabyddiaeth â’r lle. Cychwynais i’m
taith, a phan oeddwn ar fy ffordd i’r orsaf yn myned heibio yr Hendre Fawr,
gwelwn fod yr engine ddyrnu wedi dyfod yn ffyddlon i’w chyhoeddiad.
Yn wir yr oedd hi wrthi
________________________________________________
(delw 0872) (tudalen 12)
er’s meityn yn drystfawr ac ysglyfaethus, a’i holwynion yn troelli yn gyflym,
a’i hagerdd a’i mŵg yn esgyn i’r awyr, ac amryw wŷr o’i deutu heb gôb
na gwasgod —rhai yn taflu yr ysgubau i’w chrombil, eraill yn pentyru y gwellt,
ac eraill yn cylymu cêg y sachau, a phawb yn ymddangos càn brysured a iar a
deugyw, ac yn gwaeddi mor uchel wrth siarad fel ag yr oeddwn yn gallu eu deall
yn burion o’r ffordd. Gwelwn Ifan Wmphre, y pen blaenor, nid fel y byddai yn y
capel, sef yn araf-deg a hamddenol, ond wedi deffro o’i goryn i’w sawdl ac yn
llawn bywiogrwydd. Ymddangosai yr hen frawd i mi fel pe buasai yn argyhoeddedig
ped arosasai y gwr chwimwth a ddiwallai yr engine
gegrwth ond am un eiliad, y buasai y peiriant yn ddiymdroi yn ymosod yn ffyrnig
ac ysglyfaethus ar bob copa walltog o’r rhai oedd o’i ddeutu, os nad ar y tŷ,
ac ar y wraig a’r plant hefyd. Pan euthum yn ddigon pell oddiwrth sŵn y
peiriant i allu clywed fy myfyrdodau, meddyliwn mai nid peth dibwys, wedi’r
cwbl, oedd dyfodiad yr engine ddyrnu
i ardal, pe na buasai ond am y bywyd a’r egni a ddygai gyda hi, ac a gyfranai
i’r rhai oeddynt, ar brydiau eraill, yn hollol ddifraw. Ac eto nid allwn beidio
dychymygu am wyneb cynrychiolydd y Beibl Gym-deithas, — yr hwn oedd wr doniol a
thafodog, a’r sense of humour yn gryf
ynddo — y bore y derbyniodd efe y llythyr a gynwysai y “rheswm digonol” dros
iddo oedi ei ymweliad a’n hardal. Diammheu genyf iddo roddi i mewn ar unwafth,
yn ei feddwl, i resymoldeb
________________________________________________
(delw 0873) (tudalen 13)
y cais, ac iddo ganfod fod un engine
ddyrnu yn llawn ddigon yn ein hardal ar yr un diwrnod! Tybiwn hefyd mai y gair
uchaf yn meddwl Ifan Wmphre y diwrnod hwnw oedd, “Nid ar Feibl yn unig y bydd
fyw dyn.” Tarawyd fi gyda hyn gan y syniad — pe buasai ymweliad gwahanol
gynrychiolwyr galluog y Fam Gymdeithas yn cael edrych arno gyda’r fath
ddyddordeb, ac yn dylanwadu mor rymus ar bawb yn ein hardal ag a wnai dyfodiad
yr engine ddyrnu ar deulu yr Hendre
Fawr — mai nid deuddeg punt a fuasai swm ein casgliad blynyddol at y gymdeithas
ddigyffelyb hono.
Yr oeddwn wedi rhoi fy ngharbed ‘bag dan ofal hogyn, a’i anfon o fy mlaen i’r
orsaf — nid am fy mod yn rhy falch i’w gario fy hun, ond rhag i neb wybod fy
mod yn myned oddicartref ac iddynt holi a stilio i ba le yr awn. Canys gwyddwn
pan elai un diwraig neu ddiŵr i Landrindod fod tuedd mewn rhai pobl i
briodoli iddo neu iddi amcanion amgen na gwellhâu yr iechyd; er na fuasai raid
i mi ofni y priodolasid amcan felly i mi, gan fy mod, fel y tybiwn, yn un pur
annhebyg i wneyd argraff ddofn ar neb, neu o dderbyn argraff arosol gan neb.
Eto meddyliwn fod cadw safnau y trigolion yn ngheuad yn werth chwe’ cheiinog,
yr hwn swm a delais yn onest i’r hogyn, ac am yr hwn swm yr oedd efe yn dra
diolchgar, oblegid can gynted ag y derbyniodd efe y chwe’ cheiniog, poerodd
arno i’r dyben, gallwn feddwl, iddo lynu yn ei law, oherwydd nid oedd ganddo
boced gyfan ar ei helw, mi
________________________________________________
(delw 0874) (tudalen 14)
gymerwn fy llw. Yn wir telais fwy na hyny lawer gwaith drosodd yn ystod fy oes,
i gadw tafodau yn segur, a theimlaf y fynyd hon mai dyna yr investment goreu y gall dyn ei wneyd.
Yr oeddwn wedi prysuro yn gymaint i ddal y trên fel, pan gymerais fy eisteddle
yn y gerbydres, y teimlwn dipyn yn wasgedig a churedig fy nghalon, ac yr oedd
ynof duedd gref i orwedd. Nid anhyfryd genyf oedd teimlo felly, oblegid dyfnhai
fy argyhoeddiad nad oeddwn mor gryf ag oedd ddymunol, ac elai ymhell i dawelu
fy nghydwybod nad oeddwn yn myned oddicartref i wastraffu wythnos neu bythefnos
o amser gwerthfawr heb amcan teilwng. Wrth farnu yn dêg a diduedd yr wyf yn
cael fod dyn — hyny ydyw, yr wyf yn cael fy hunan — oblegid nid oes ynof awydd
pinio fy meiau fy hun wrth ddynion yn gyffredinol — yr wyf yn cael fy hun,
meddaf, yn chwareu llawer cast gyda fy nghydwybod. Rhaid i mi, a phob dyn gonest,
gydnabod mai hi ydyw y frenines, gŵg neu wên yr hon — gan nad pa mor
deyrngarol ydym —
________________________________________________
(delw 0875) (tudalen 15)
fod yn
ddiystyr o lais ei gydwybod. Ond nid cydwybod ydyw yr oll o ddyn: mae ganddo ei
ddymuniadau a’i dueddiadau, ac nid ydyw y rhai hyn bob amser yn cydgordio â
llais ei gydwybod. A phan ddygwyddo yr anghydgord hwn, y fath ystumiau a wna
dyn i geisio perswadio ei hun mai anghydgord naturiol, ys dywed y cantorion,
ydyw, neu discord o anghenrheidrwydd.
Er mwyn gwneyd fy hun yn eglur, — a pha ddyben ydyw ysgrifenu os nad ysgrifenir
yn eglur — a pha mor fynych y priodolir i ambell ysgrifenydd “ddyfnder” pryd
nad ydyw mewn llawer amgylchiad yn ddim amgen na niwl, ac fe ŵyr pawb fod
niwl, pa un bynag a’i naturiol a’i meddyliol, yn gamarweiniol, ac yn peri i’r
anghyfarwydd weithiau dybied ei fod yn canfod eidion, pryd mewn gwirionedd mai
llô fydd o flaen ei lygaid — ond er mwyn gwneyd fy hun yn eglur, fel y
dywedais, meddylier yn awr, er engraifft, am ddyn a’i gydwybod yn dyweyd wrtho
y dylai fyn’d i foddion gras — i’r cyfarfod gweddio, neu i’r Ysgol Sul, (os ydyw yr Ysgol Sul yn foddion gras,
oblegid tybia rhai dynion call y dyddiau hyn mai sefydliad i blant a phobl
dlodion ydyw, a chredant pe buasai Mr. Charles ar dir y rhai byw pryd y mae gan
Gymru dair o brif ysgolion, y gwelsai y ffolineb o anog pob dosbarth ac oedran
o bobl i ddyfod ynghyd i ddarllen y Beibl) ac fod ei dueddfryd yn
wrthwynebol hollol i hyny. Yn yr amgylchiad hwnw onid ydyw unrhyw esgus
gwirioneddol neu ddychymygol sydd yn ffafrio ei ddymuniad ac yn tueddu i
ddystewi ei gydwybod yn draderbyniol ganddo?
________________________________________________
(delw 0876) (tudalen 16)
Wel,
dyna oedd fy sefyllfa i pan oeddwn yn cychwyn i Landrindod. Dywedai fy
nghydwybod fy mod yn berffaith iach; a’r cwestiwn a ofynwn i mi fy hun oedd — a
oedd genyf hawl i dreulio nifer o ddyddiau oddicartref heb amcan uwch yn fy
ngolwg na mwynhâu fy hun? Ammheuwn fy hawl, a dechreuais chiwilio am amcan
uwch, ac, fel y dywedais, bu agos i mi berswadio fy hun nad oeddwn yn gryf o
ran fy iechyd. Ffansïwn fod y gydwybod yn ysgwyd ei phen arnaf. Ond pa beth a
wyddai hi am ystâd iechyd dyn? pethau moesol oedd ei phethau hi, ac wrth
ymyraeth a rhoi ei barn ar bwnc o iechyd yr oedd yn myned allan o’i
thiriogaeth. A chofiwn ddwy linell o hen gan, chwai i’r pwrpas —
Ac os na châf fwynhâu fy hun,
Waeth bod yn geffyl nag yn ddyn.
Heblaw hyny, pa raid oedd i mi fod yn well na fy nghymydogion? Yn sicr nid
oeddwn yn cymeryd arnaf fy mod yn well na hwy; a gwyddwn nad oedd y rhai a
adwaenwn i a arferent fyned i Landrindod yn blino eu hunain gyda chwestiynau
o’r fath. Y ffaith oedd mai y rhai iachaf, gwridocaf, a hoenusaf, a welwn i bob
amser yn myned yno. Dyna Mr. Jones, y Faenol Fawr, ffermwr bochgoch, cnodiog,
croen yr hwn a ymddangosai bob amser yn rhy fychan i’w gorff, a’r hwn na welid
un amser yn gwisgo menyg, am nad oedd yn bossibl cael y “size” — elai ef bob blwyddyn yn ddiffael i’r ffynonau. Dyna Mr.
Prydderch, y draper, pictiwr o iechyd — yn werth ei fframio
________________________________________________
(delw 0877) (tudalen 17)
unrhyw ddiwrnod — onid elai yntau yno? A dyna y ddwy Miss Davies, Rosemary
Cottage, y rhai nad oedd raid iddynt byth ofni orfod rhoddi cyfrif am waethio
yn rhy galed, a’r rhai pe gwyddai Mr. Evans yr hyn a wn i, sef eu bod ryw dro,
er’s talwm, wedi yfed rhyngddynt hanner potel o’r Quinine Bitters, na phetrusai wario can’ punt i gael eu darlun ar
ei advertisement, gan mor gwmpasog a
llyfndew ydynt! Os oes rhywrai yn ammheu am y rhai olaf, gadewch iddynt ofyn
i’r ci bach gwyn, blewog, sydd yn Rosemary Cottage, ac fe ddywed ef wrthynt,
a’i wallt yu ei lygaid, os nad ei ddagrau, fod yn gâs ganddo feddwl am dymor yr
haf, pryd y gadewir ef at drugaredd y forwyn, heb neb i’w nyrsio tra bydd ei
ddwy feistres yn Llandrindod. Meddyliais am lawer eraill cyffelyb na fyddai o
un dyben son am danynt yn y fan hon, tystiolaeth unfrydol y rhai, wedi iddynt
ddychwelyd gartref, a fyddai “eu bod wedi derbyn lles dirfawr ac wedi cael ail lease ar eu bywyd.”
Erbyn hyn yr oeddwn ar delerau da â mi fy hun, a fy myfyrdodau yn hyfryd.
Goleuais fy mhibell, ae oherwydd nad oedd neb ond mi fy hun yn y smoking compartment, ffurfiais bont
rhwng y ddwy fainc gyda fy nghoesau, ac arni y lledais fy mhapyrnewydd, ond ni
ddarllenais ddim ohono, eto tybiwn, os dygwyddai i mi gael cwmni, mai yr
argraff a wnai yr olwg arnaf a fyddai fy mod wedi ei ddarllen oll. Yr wyf yn
meddwl ei bod yn ffaith mai ychydig o’r rhai, cyffelyb i mi fy hun, nad ânt
oddicartref ond rhyw unwaith
________________________________________________
(delw 0878) (tudalen 18)
yn y flwyddyn, a allant fwynhâu newyddiadur yn y tren. Y mae ein “newyddion” yn yr
hyn a welwn oddi allan yn hytrach nag yn y newyddiadur. Ond yr ydym yn dymumo
ymddangos fel rhai arferol a theithio, ac yr ydym wedi cael allan mai yr arwydd
ydyw — y newyddiadur, a cbymeryd arnom ein bod wedi ymgolli ynddo. Y mae un
arwydd arall, sef bod yn hollol ddiystyr o bawb a phobpeth oddifewn ac
oddiallan, a ryw hanner cysgu a gofalu am ddeffro yn sydyn wrth ddyfod i station. Yr hwn a dalo sylw i’r
arwyddion hyn, ac a ofalo na wna yr argraff a’r neb ei fod yn feddw, a all gael
ei ystyried yn hen stager. Yr oeddwn
wedi dewis y smoking compartment nid
am fy mod mor hoff o ysmygu, fel y gŵyr pawb sydd yn fy adnabod, ond er
mwyn diogelu fy bun rhag merched a babanod yn eu breichiau, a rhag personiaid —
neu fel y dywed pobl Llandrindod, offeiriaid — yn enwedig yr rhai olaf; ac
hefyd fel protest yn erbyn
hymbygoliaeth. Oblegid mi a welais fwy nag un person, ac eraill, o ran hyny,
pan ddygwyddent ddyfod i compartment
a rhywun yn ysmygu ynddo, yn y fan yn dechreu crychu eu trwynau, fel pe buasent
yn cymeryd ffisig, yn pesychu, ac yn tagu, ac yn arddangos y fath wewyr o drueni
fel y tybid eu bod ar drengu, tra y gwyddwn o’r goreu eu bod, pan fyddent
gartref, yn byw ac yn bod mewn mŵg tybaco. Ceisient ymddangos eu bod yn
ffieiddio yr arferiiad ffol, ond yn fy ngolwg i oedd yn eu hadwaen, hymbygs
oeddynt. Na chamddealled neb fi. Mi wn fod llawer yn casâu.
________________________________________________
(delw 0879) (tudalen 19)
ysmygu ac nad allant oddef yr arogl, ac y mae ganddynt berffaith hawl i ddadgan
eu teimlad ac i amddiffyn eu hunain rhag y fath anghyfforddusrwydd: ond pe
buasai pob ysmygwr fel fi ni chlywsid neb yn cwyno, oblegid ni fedrais erioed
fwynhau mygyn os gwyddwn fod hyny yn blino rhywun. Bydded i bob ysmygwr roddi
esiampl dda i’r gwrthysmygwyr drwy ymwadu â’i fwyniant ei hun er mwyn
dedwyddwch eraill. Ond gyda golwg ar argyhoeddi y gwrthysmygwr fod gwir
fwyniant (daearol, wrth gwrs,) i’w gael yn y mŵg, mae hyny yn anobeithiol
— oherwydd — yn gyntaf, fod ei
ragfarn yn rhy gryf; yn ail, am nad
ydyw yn dyfod o fewn cylch ei brofiad; yn
drydydd ac yn olaf, am ei fod yn ammheus a ydyw y pwnc ynddo ei hun yn beth
i ymresymu yn ei gylch. Cymwysiad — bydded pob un
sicr yn ei feddwl ei hun.
Yr hyn a achlysurodd i mi wneyd y sylwadau uchod oedd hyn: wedi teithio am
hanner awr ar draws gwlad boblog, a phan safodd y trên gyntaf i gymeryd ei
wynt, daeth i mewn i’r un compartment
a mi wr corphol, a phibell yn ei ben, gan anadlu yn drwm trwy ei phroenau, fel
un yn cerdded yn ei gwsg a’i lygaid yn agored. Yr oedd efe mor drwsiadus ei
wisgiad a phe buasai yn myn’d i gael tynu ei lun. Yr oedd ei wallt a’i wiscars
can goched a gwasgod gwas gwrboneddig, a’i wyneb — yn enwedig ei drwyn — yn
tueddbenu at yr un lliw, yr hyn a barai i mi feddwl — yn gyfeiliornus, hwyrach
— nad y bibell oedd ei unig foeth. Cán gynted ag y cauodd efe y drws ac yr
________________________________________________
(delw 0880) (tudalen 20)
eisteddodd, dechreuodd siarad. Yr wyf
wedi sylwi fwy nag unwaith y gellir teithio yn y trên am ugain milldir gyda
chydymaith ansmygyddol, heb dori Cymraeg; ond ni welais erioed hyn yn dygwydd
mewn smoking compartment. Athromaeth
y peth, mi debygaf, ydyw hyn: mae y cydymaith ansmygyddol yn unknown quantity — nid oes dim rhyngom
ag ef i dori ar y dyeithrwch: pryd mai gweled cetyn yn nghilfin un ar y fainc
acw, a’r ymwybyddiaeth fod un gyffelyb yn ein cilfin ninau ar y fainc yma, yn
arwydd ac yn gyfaddefiad o frawdoliaeth, a’n bod yn un mewn un peth o leiaf, ac
yn arweiniad diseremoni i ymddyddau. Wel, wedi gwneyd sylw ar yr hin ac i minau
gydolygu ag ef, ebe fy nghydymaith, —
“Peth rhyfedd ryfeddol (nid oedd efe yn ofalus am siarad yn ramadegol mwy nag y
byddaf finau yn fynych) yn bod ni wedi ‘n gadel yn hunen, a nine mewn smoking compartment.”
“Mae y frawdoliaeth fygyddol yn brin bore heddyw,” atebais.
“Nid hyny oeddwn yn feddwl,” ebe fe, “ond synu **’roeddwn i fod y compartment
heb ei lenwi efo merched, achos mae nhw’n wastad yn stwffio’u hunen lle bydd
smocio.”
“Tybed?” ebe fi, “yr oeddwn bob amser yn meddwl mai fel amddiffyniad i ferched,
a rhiai cyffelyb, y gofalodd y Cwmni am le i ni, yr ysmygwyr, ar ein penau ein
hunain.”
“Digon
gwir, syr; ond y mae’r amcan wedi **’golli’n
________________________________________________
(delw 0881) (tudalen 21)
hollol.
Esgusodwch fi am ofyn dau beth i chi: — ydach chi wedi priodi? ac ydach chi’n
myn’d efo’r trên yn amal?”
“Nac ydwyf, y naill na’r llall,” atebais.
“Hir y prathoch chi felly,” ebe fe. “Cyn priodi mi fydde hon acw a fine yn
myn’d am dro, wyddoch, ac yn cymyd diwrnod o holiday ‘rwan ac yn y man; a mi fyddwn, wrth gwrs, yn smocio tipyn
weithie — nid rhw lawer, a sigârs fyddwn i yn smocio pan fydde hi efo fi. A
welsoch chi **’rioed mor ffond fydde hi o arogl y mwg, a mi fydda yn synu pa
wrth’nebiad oedd gan rai merched i ddyn fydde yn smocio. Ond toc ar ol i ni
briodi mi newidiodd my lady ei chân,
a — wel — . Hyny oeddwn i’n myn’d i ddeyd wrthoch chi — yr ydw i’n myn’d efo’r
trên i’r Mwythig unweth, ac weithie ddwyweth, bob wythnos; a fydda’i byth yn
myn’d i smoking compartment na ddaw
‘no ferched i mewn.”
“Pa fodd yr ydych yn rhoddi cyfrif am hyny? ai am eu bod yn hoffi mŵg
tybaco,” gofynais.
“Dim peryg!” ebe fe, “ond gwybod y mae nhw y bydd yn y smoking compartment ddynion, a mi aiff merched i bob man lle bydd
dynion, hyny ydi, merched ifinc a gwragedd gweddwon.”
“Yr ydych yn rhy galed arnynt,” ebe fi.
“Ydach chi’n arfer betio?” gofynodd fy nghydymaith, ac wedi i mi ateb yn
nacaol, ychwanegodd
“Ho, felly. Wel, does dim drwg mewn betio catied o dybaco?, Dyma ni rwan just a
chyrhaeda station Ruabon, ac os
rhowch chi ‘ch llaw allan gan ddal eich
________________________________________________
(delw 0882) (tudalen 22)
pibell
yn y golwg, ac os na ddaw yma ferch i mewn aton ni, mi fyddaf wedi colli’r
gatied. Treiwch chi.”
O ran cywreinrwydd gwneuthum felly; a chan sicred a’r byd wele ddynes ieuanc,
ac nid anmhrydferth, gweddus ei gwisgiad, yn agor y drws. Yr oedd hi mewn “du”
isel bris a ddynodai ei bod yn perthyn i’r dosbarth gweithiol a’i bod yn galaru
ar ol rhywun. Duw ŵyr pa faint o hyny sydd yn myned ymlaen yn y byd o hyd!
a phe gallai y “du “ y mae ambell un yn ei wisgo ddangos y duwch sydd yn ei
ysbryd, y gofid a’r hiraeth sydd yn ei galon, hwyrach y byddai llai o gynghori
a mwy o gydymdeimlo yn bod. Pan oedd y ferch yn yr act o agor y drws, gwaeddodd
fy nghyd-deithiwr —
“Wraig! rydan ni’n smocio yma!”
“Dim pŵs, yr odw i wedi hen arfer a hyni, ys gwn i,” ebe’r ferch, ac i
mewn a hi.
Wrth ei chwt daeth i mewn wr brethynog — ond fod y brethyn dipyn yn ddigotwm —
llaes ei gôb, a chantelog ei het. Gwisgai wasgod heb fotymau arni — yn y golwg
o leiaf — ac ymddangosai ei du blaen fel ffrynt pulpud pan fyddo y gweinidog
newydd farw, ond fod ar ei ffrynt ef — y gwr yr wyf yn son am dano — rai
ysmotiau a ddangosent nad oedd efe wedi camgymeryd y compartment. Edrychodd o’i gwmpas yn gyffelyb, fel y tybiwn i, i’r
modd yr edrychasai ar ei berchyll cyn cychwyn oddicartref, a gwthiodd ei
________________________________________________)
(delw 0883) (tudalen 23)
“Ac yr ydach chi wedi arfer â mŵg tybaco?” ebe fy nghyd-deithiwr,
fel apology wrth oleuo ei bibell ac
ail ddeohreu ysmygu.
“O odw, mwy nag y gwnai eto ys gwn i
prid,” ebe y wraig. .
“A
ydwyf i ddeall, wraig fach, eich bod wedi colli’ch gwr?” gofynodd fy
nghydymaith diseremoni.
“Odw,” ebe’r wraig, ac fel pe buasai yn falch o gael siarad ychwanegodd, —
“Odw, syweth! Dos ond wthnos pan gleddes e, ac anghofia i hyni rhawg. Dos nemor
gyda blwyddin er pan gwities i gartre, ond mi weles lywer tro ar fid ddar hyni!
I weini y dos i i’r lan o’r South, a thoc mi drewes
________________________________________________
(delw 0884) (tudalen 24)
am
hyni’n awr. Ron ni’n ffero’n buron i aros ti, a fu dou yriod fw dedwdd — heb
air na châs. Ond Duw sy’n rwlo! Toc gyda thrimis ar ol i’n brodi heb arna i
feddwl, fe frifws y ngwâs gwrion yn y gwath yn dòst. Dath arno e bywer o bwyse
nas gwn i sut, a’i sigo’n enbid. Anghofia i’r diwamod tra fw i biw! Pan weles
e’n dod i’r lan mewn cert, a dou o’r dynon ar i bws’n ei gynal, mi ffentes off,
a Duw a’m safodd rhag myn’d i mas o’m co! Rodd ei lefe’n tori nghalon, a mowr
odd y ngofid nad allwn shero’i bon.”
Yn y fan hon torodd argae teimladau y weddw ieuanc, a dechreuodd wylo yn hidl,
yr hyn a barodd i mi feddwl yn well ohoni, oblegid rhaid i mi ddyweyd fod ei
dull o adrodd ei hanes yn ymddangos i mi braidd yn “iach.” Siaradai yn gyflym,
accenai ei geiriau yn groew a hyglyw, fel un yn adrodd dernyn o blank verse. Ond deallais am y tro
cyntaf nad oedd teimlad gwir ofidus wedi ei gysylltu yn annatodol â thôn
hirllaes a throm fel yr eiddom ni, y Gogleddwyr, a gwelais mai gwahaniaeth
talaethiol yn unig a barai iddi hi ymddangos i mi yn iach ei hysbryd. Gwyddwn
fod fy nghydogleddwr yn teimlo yn gyffelyb i mi, ac i ni ein dau newid ein
syniad am y weddw yr un foment. Anghofiodd fy nghydymaith fygu, ac edrychodd
gyda llygaid llaith a thosturiol ar yr eneth, oblegid nid oedd hi, o ran
oedran, ond geneth. Edrychai y person fel pe buasai yn gwrando ar un yn
areithio ar Ddadgysylltiad, ac ni ddywedodd un ohonom air — arosem i ruthr ei
theimladau fyned drosodd. Yn y
________________________________________________
(delw 0885) (tudalen 25)
man, sychodd y ferch ei llygaid, ac wedi ocheneidio ddwywaith neu dair
ychwanegodd yn gyflym, —
“Rown
i’n estron, fel gwedes, ac ynte nemor well. Thynesi
mo nillad am thefnos gron, ond tendo, tendo, arno e ddidd a nos. Ond dodd hyni ddim,
waith dodd arna i gwsg na blinder, a fe odd yn dodde’n giwt na choeliech, a
digon gwâth i un fod ar i bŵs i sychu’r chwys oddar i ben. Fe wede
rhywbeth wrthw i o’r funid gynta na chiwrie, a fe fu fisodd lywer yn dihoeni
i’r dim ar weli, a nine’n dlowd. Rodd gen i, bid siwr, rou punodd wedi’u safo
at ddodren ti; ond toc yr oethon i gael chware teg iddo e, ac am ddim dos dim i
gael o gartre. Fe fu, serch hyni, rou cymdogon yn ffeind tuhwnt, nes iddynt
flino. Mae
pawb yn blino rhoi os na fydd cariad — fe ddala hwnw
byth. Fe nes y ngore ac eitha mhywer idde, a rodd canmil
mwy’n y nghalon. Ond rodd ei amser wedi dod i
ben, a Duw a fyne i hyni fod, a mi glous y mem yn gweud — lle llysio Duw na
thycie ffisig na phlaster, a phan fo’r Ne yn galw y rhaid i ddyn farw. Mi wn yn
serten fod e heddi’n well ei le, waith rodd e’n fachgen piwr, a fe wede gant o
dnode o’i go, a’i ofid mwya odd ei ofan fod e wedi ngharu i yn fwy na’i Brynwr.
Rodd
arno whant cael trengu er’s tro, waith rodd e’n rhy wan i ddal ei wendid, a
dodd prin ei lun mewn gweli. Rodd e’n pôni hefyd pan ffeindodd fod pob penny wedi myn’d, a’n bod ni’n biw ar
wyllys da’n cymdogon. Mi gedwes hyn oddiwrtho e cyd y medrwn, ond ffeindo nâth.
A phan
________________________________________________
(delw 0886) (tudalen 26)
ffeindws fod ni’n derbyn lusen plw dodd
‘Be sy fy machgen?’ be fine.
‘Be sy ar bobol y capel eisie yma’n nawr?’ be fe.
‘Dos dim ohonynt yma, machgen,’ be fine.
‘O ôs, maent o’r tu fas i’r ddôr yn canu’n brâf, chlywch chi monyn, Mary?’ be
fe, ac fe geuws ei lygaid fel i wrando’n well, ac fe drengws, a mi greda byth
taw canu’r Ne a glywe ngwas. Rodd arna i whant cael trengu gydag e, waith dodd
gen i ddim ar y ddaear wedi iddo e fyn’d i hido am dano. Dodd gen i beni i hela
llythyr i mem. Fe ddaru’r Plw ei gladdu, a rown i’u crigo fwy nag y coeliech
wrth weld ei goffin — rodd e’n wâl drosben — a mi goelia taw hen focs sebon odd
e, a mi gries nes own i’n sick. Siawns y gwelsoch y relieving officer yn station yn
moin tocyn i mi i’m hela gartre. Ac yno’n awr rw i’n mynd; ond ma nghalon gydag
e ‘n y fynwent yn mhlw Riwabon.”
“Ymhle y mae eich cartre, wraig fach?” gofynodd yr ysmygwr.
“Aberdar,” ebe hi.
“Oes gynoch chi deulu yno?” gofynodd eilwaith.
“Ma imi fem afiach a thlowd; ond **’dawn unweth yno mi fyddwn efo **’mhobol, a
ma pobol y South yn gnesach a mw cymdogol.”
________________________________________________
(delw 0887) (tudalen 27)
Edrychodd yr ysmygwr i wyneb y person, cystal a dyweyd — “rhowch gynghor neu
air o gysur i’r weddw ieuanc,” a chymerodd yntau yr awgrym, ac ebe fe,
“Mae o’n trugaredd mawr i chi bod chi’n ifanc a dim plant gynoch chi. Mi gellwch mynd i
lle ar unweth, a dene peth gore i chi gneyd mynd i service at once.”
“Wedi clywed cynghor y person, ebe yr ysmygwr, —
“Dydwi’n amme dim, wraig fach, nad ydach chi wedi dwad trwy lawer o helynt; ac
yr ydw i wedi sylwi, ac yn brofiadol o’r peth fy hun, y gellir priodoli y rhan
fwyaf, os nad yr oll, o helyntion y byd yma i’r ffaith fod pobol yn mynu
priodi. Dydw i yn gwbod am ddim da yn deillio i neb o’r priodi yma ond i’r
personiaid a’r pregethwyr — mae o’n rhan o’u hincwm nhw — yn enwedig y
personiaid, achos mi glywes fod rhai o’r pregethwyr yn gneyd y job am ddim. Ond bydae pawb yn gneyd
penderfyniad i beidio priodi mi fydde diwedd ar yr helyntion i gyd ymhen rhyw
drugain mlynedd — fe ai pawb i ffwrdd yn ddystaw ac yn llonydd, ac fe fydde’r
cwbl drosodd. Ond y mae yn debyg mai nid felly y bydd hi, a thra mae pawb — ond
ychydig o rai synwyrol — yn mynu priodi, **’does dim ond helyntion i’w dysgwyl
yn oes oesoedd. Cyn i mi briodi — a chymeryd geneth ddiarth i’w chadw, nad oedd
hi yn perthyn ddim byd i mi — yr oeddwn i yn berffaith hapus; ond ar ol gneyd y
job hono, wel, — dawch am danaf!
Ddiwmod **’y mhriodas mi gês ddigon o Eglwys am byth bythoedd.; ac felly dydw i
________________________________________________
(delw 0888) (tudalen 28)
ddim yn gweld fy hun yn gymwys i roi cynghor i chi yn eich helynt; ac ychydig
eraill a gewch chi yn barod i’ch cynghori os na cha nhw dâl am **’u gwaith. Mi
ddarllenes stori dda er’s talwm — mi cofies hi byth. Un tro yr oedd dau longwr
— yr unig ddau o’r criw oedd wedi’u safio pan aeth y llong i lawr yn y storm.,
Yr oedd y ddau rywfodd wedi llwyddo i gael cwch, ac yr oeddan nhw wedi bod am
rai dyddiau ar wyneb y dyfnder heb damed na llymed ac heb obaith am
waredigaeth. O’r diwedd fe feddyliodd y ddau fod hi yn y pen arnyn nhw, ac y
bydde raid iddyn nhw farw, ac entro i’r byd mawr tragwyddol, a fe aethon i
feddwl am **’u heneidie, fel y bydd raid i ni gyd ryw ddiwrnod, ddyliwn. Wel i chi, roedd y
ddau yn ddigon annuwiol, fel fine. Fedre **’run o’r ddau ddarllen, bydase gynyn
nhw lyfr i’w ddarllen, a fedre nhw na chanu na gweddio. A bre un o honyn nhw —
‘Jack, mae hi yn y pen arnom ni, a rhaid i ni neyd rhywbeth. Fedrwn ni na chanu
na gweddio, ond ni fedrwn neyd casgliad,’ a mi a’th efo’r het o gwmpas, a mi
deimlodd y ddau yn well o lawer ar ol gneyd y ‘ casgliad.’ Wel, wraig fach, yr
ydw inau yn teimlo yn debyg iawn iddyn nhw — dydio ddim yn fy line i i’ch cynghori, ond mi fedraf neyd
casgliad i chi.”
Gan gymeryd ei het a rhoi dau ddarn hanner coron ynddi, estynodd hi ataf fi a
chyfrenais inau rywbeth yn ol fy mhoced. Estynodd yr ysmygwr yr het drachefn at
y person, ond ysgydwodd y gwr eglwysig ei ben gan ddadgan fod ganddo ef ddigon
o le yn ei
________________________________________________
(delw 0889) (tudalen 29)
blwyf ei hun i gyfranu ei arian, ac nad oedd efe yn adnabod y wraig oedd
newydd adrodd ei hystori.
“Dowch,
dowch, peidiwch a bod yn galed, wr da,” ebe’r ysmygwr. “Yn gwneuthur daioni na
ddiffygwn.”
“Digon gwir,” ebe’r person, “ond mae isio edrach yn lle ac i pwy i gneyd
daioni.”
“Risciwch hi am y tro,” ebe’r ysmygwr. “Be wyddoch chi na yriff rhagluniaeth
briodas extra i chi am y weithred dda
hon? Ac y mae amser y degwm yn ymyl, chwi
wyddoch.”
“Na, fi dim rhoi dim.”
“Agorwch eich calon, frawd,” ebe’r ysmygwr yn daer. “Yr ydw i yn credu yn solet
yn yr olyniaeth. apostolaidd, a mi glywes fod pobpeth yn gyffredin ganddyn nhw.
A mi gewch chi gredit am y weithred
hyd yn nod bydae chi yn gneyd mistake;
ond am danaf fi dydw i yn dysgwyl dim, achos yr ydw i wedi fy gazettio mewn
gweithredoedd da er’s talwm.”
Gyda llawer o ymadroddion eraill, ac yn hollol hamddenol, y blinodd, y cribodd
ac y crafodd yr ysmygwr y gwr eglwysig, gan ddefnyddio rhai geiriau rhyfygus,
ac arfer hyfdra mawr, gyda’r canlyniad naturiol o chwerwi a brochi y person, yr
hwn, o’r diwedd, a waeddodd allan yn ffyrnig —
“Pa right sy gynoch chi i hymbygio
fi? chi ddim yn gwrboneddig.”
“Gwir
bob gair, syr,” ebe’r ysmygwr, gan danio i getyn, “fum i **’rioed yn
wrhoneddig, a fydda i byth
________________________________________________
(delw 0890) (tudalen 30)
chwaith.
Ffermwr tlawd ydw i, syr, a phrif amcan a diben **’y modolaeth i ydi talu degwm
— i hyny y crewyd fi a fy sort. Gwr boneddig wir! be bydae chi yn **’y ngweld i
gartre, syr, mewn clôs cord ac yn faw at benau **’y ngliniau? adwaenech chi
byth mona’ i! Twyllo pobol yr ydw i, wyddoch, efo’r dillad brethyn yma; achos
dydw i ddim wedi talu am danyn nhw, cofiwch. Mi fyddaf yn gneyd i’r teiliwr
rodio wrth ffydd a byw mewn gobaith, ac yn deyd wrth y siopwr a’r gôf am
gymeryd eu gwynt; ond bydawn i ddiwrnod ar ol heb dalu’r degwm fedrwn i ddim
cysgu yn **’y ngwely, syr, gan gnofeydd cydwybod! Y diwrnod o’r blaen, syr, yr
oeddwn i yn talu deunaw-punt-ar-hugain o ddegwm, a choeliech chi byth mor hapus
oeddwn i yn teimlo ar ol gneyd hyny! ‘Beti,’ meddwn i wrth hon acw, ‘wyt ti
ddim yn meddwl y mod i yn ddyn ods o liberal!
Be wyt ti yn son am dy swllt yn y mis
at yr achos! Dyma fi heddyw wedi talu agos i ddeugain punt i ddyn am bregethu’r
Efengyl na chlywes i **’rioed mono yn agor ei geg, ond pan oedd o yn claddu
fewyrth Ned — ond mi dales iddo am y job hono
ar ei phen ei hun. Son a wnaiff pobol am Râd Râs! Symol rhâd, os gwelwch chi’n
dda! ‘Wyddost ti be, Bet,’ meddwn i, ‘os na chawn ni fynd i’r nefoedd yn y
diwedd mi fydd yn
________________________________________________
(delw 0891) (tudalen 31)
go deidi. Ond prun bynag,’ meddwn i, ‘mae’r degwm wedi **‘i dalu — a mi gaiff y
Cymry, druain, Efengyl am dipyn eto, a chymered pawb eraill **’u siawns! Mae nghydwybod
i yn dawel,’ a mi gysges fel top y noswaith hono, syr.”
Cyrhaeddasom station — nid wyf yn cofio ei henw — a phrin y cafodd y trên
sefyll cyn i’r gwr eglwysig ruthro allan. Edrychodd yr ysmygwr ar ei ol: ac
wedi tynu ei ben i mewn a chyflwyno yr arian i’r weddw — yr hon, ar y dechreu,
oedd yn anmharod iawn i’w derbyn, ond wedi hyn a’u cymerodd yn ddiolchgar — ebe
fe —
“Mi wyddwn mai newid ei compartment yr
oedd y brawd. Yr ydw i yn nabod yr hen godger
yna cyn heddyw. Fe ddaru i’n cyfeilles yma pan soniodd hi am ‘gwrdd a chapel’
adamanteiddio olynwr yr apostolion mewn chwinciad! Wn i ddim be ydach chi, syr,
(gan fy anerch i) o ran eich crefydd, a dydio ddim llawer o bwys gen i. Ond a
wyddoch chi? feder y chaps yna
ganfod, na deall, na theimlo dim os na fyddant ar dop y clochdy. Y clochdy ydyw
eu harsyllfa eu deddf foesol, a’u hefengyl, a goreu po gyntaf y tynir y clochdy
i lawr, meddaf fi. Yr ydach chi yn dallt **’y meddwl i? Fel **’roeddwn i’n deyd
wrthoch chi — yr ydw i yn nabod y chap yna
cyn heddyw. Mae ganddo living yn Sir
Ddinbych, a hono yn un dda — rhy dda o’r hanner i’w groen o. Mae y gymydogaeth
wedi ei meddianu gan yr Ymneillduwyr, a’u capeli nhw yn llawn, ac y mae nhw yn
talu yn ewyllysgar
________________________________________________
(delw 0892) (tudalen 32)
i’w gweinidogion o’u pocedau eu hunain; ac yntau, y creadur druan! ar ol i’w
gloch o fod yn tincian yn ddigalon am chwarter awr, yn gorfod wyebu
cynnulleidfa anferth — agos gymaint a hono yr oedd Noah yn pregethu iddi yn yr
arch, adeg y diluw. Pan fydd o yn darllen y Deg Gorchymyn, bydae o yn **’u
rhanu nhw rhwng ei gynnulleidfa mi fyddai raid i rai o honyn nhw gymeryd mwy
nag un hyd yn nod bydae o yn cymeryd “Na ladrata” iddo fo ei hun. Tuag ugain
mynyd fydd hyd “y gwasanaeth.” “Yr hen bum’ munyd,” mae nhw yn **‘i alw fo —
achos dyna ydi hyd **’i bregeth o. Wyr o fwy am pulpit sweat nag a wyr pry’ copyn am y frech wen. Ei waith ar hyd
yr wythnos ydi dawnsio i’r Squire, a
cheisio creu rhagfarn yn erbyn ysgolfeistr y Board School, yr hwn, am chwarter y cyflog, sydd yn gneyd mwy o
waith mewn wythnos nag y mae ef yn ei neyd mewn blwyddyn. Bydae o yn gorfod byw
ar gynnyrch ei ymenydd fe lwge cyn pen yr wythnos — os na wnai ei floneg ei
gadw yn fyw dipyn yn hwy. Pa fath bobol, syr, ydach chi yn ein galw ni y Cymry? Slaves dienaid a diyni yr ydw i yn **’u
galw nhw yn dyodde y pla yma er’s oesoedd. Mi fyddaf yn synu na fasen ni er’s
talwm wedi codi fel un gwr i ymlid y lot ddiog hyn oddiar ein porfeydd! Maent
yn casau ein hiaith, ac wedi gneyd eu goreu i’n cael dan draed y Saeson, ac ar
yr un pryd y maent yn bwyta brasder ein gwlad a chynnyrch ein tiroedd — a ninau
a’n llaw wrth ein het iddynt am neyd hyny! Ond y mae
________________________________________________
(delw 0893) (tudalen 33)
dydd eu dial hwythau yn dod — dydi eu barnedigaeth nhw ddim yn hepian. Henffych
fore! Pan welaf ddydd y Dadgysylltiad — ac yr ydw i’n credu y gwelaf fi o — a
phan fydd raid i bawb fyw ar **‘i liwt ‘i hun, mi fyddaf yn barod i ddeyd ‘Yr
awr hon y gollyngi dy wâs’! Wel, dyma fi ymhen fy nhaith. Siwrnai dda i chwi, a
pheidiwch a synu os gwelwch chwi finau yn Llandrindod.”
Ni welais yr ysmygwr byth ond hyny. Dichon ei fod yn extreme man, ond er hyny yr oedd rhywbeth yn ddymunol ynddo. Bore
dranoeth yn Llandrindod, mi a yfais — fel ynfydion eraill oedd yno — wyth
gwydriad o iechyd da i’r ysmygwr, a hyny cyn brecwest.
________________________________________________
(delw 0894) (tudalen 34)
________________________________________________
(delw 0895) (tudalen 35)
________________________________________________
(delw 0896) (tudalen 36)
_____________________
(delw 0897) (tudalen 37)
_____________________
(delw 0898) (tudalen 38)
_____________________
(delw 0899) (tudalen 39)
_____________________
(delw 0900) (tudalen 40)
_____________________
(delw 0901) (tudalen 41)
_____________________
(delw 0902) (tudalen 42)
_____________________
(delw 0903) (tudalen 43)
_____________________
(delw 0904) (tudalen 44)
_____________________
(delw 0905) (tudalen 45)
_____________________
(delw 0906) (tudalen 46)
_____________________
(delw 0907) (tudalen 47)
_____________________
(delw 0909) (tudalen 48)
_____________________
(delw 0909) (tudalen 49)
_____________________
(delw 0910) (tudalen 50)
_____________________
(delw 0911) (tudalen 51)
_____________________
(delw 0912) (tudalen 52)
_____________________
(delw 0913) (tudalen 53)
_____________________
(delw 0914) (tudalen 54)
_____________________
(delw 0915) (tudalen 55)
_____________________
(delw 0916) (tudalen 56)
_____________________
(delw 0917) (tudalen 57)
_____________________
(delw 0918) (tudalen 58)
_____________________
(delw 0919) (tudalen 59)
_____________________
(delw 0920) (tudalen 60)
_____________________
(delw 0921) (tudalen 61)
_____________________
(delw 0922) (tudalen 62)
_____________________
(delw 0923) (tudalen 63)
_____________________
(delw 0924) (tudalen 64)
_____________________
(delw 0925) (tudalen 65)
_____________________
(delw 0926) (tudalen 66)
_____________________
(delw 0927) (tudalen 67)
_____________________
(delw 0928) (tudalen 68)
_____________________
(delw 0929) (tudalen 69)
_____________________
(delw 0930) (tudalen 70)
_____________________
(delw 0931) (tudalen 71)
_____________________
(delw 0932) (tudalen 72)
_____________________
(delw 0933) (tudalen 73)
_____________________
(delw 0934) (tudalen 74)
_____________________
(delw 0935) (tudalen 75)
_____________________
(delw 0936) (tudalen 76)
_____________________
(delw 0937) (tudalen 77)
_____________________
(delw 0938) (tudalen 78)
_____________________
(delw 0939) (tudalen 79)
_____________________
(delw 0940) (tudalen 80)
_____________________
(delw 0941) (tudalen 81)
_____________________
(delw 0942) (tudalen 82)
_____________________
(delw 0943) (tudalen 83)
_____________________
(delw 0944) (tudalen 84)
_____________________
(delw 0945) (tudalen 85)
_____________________
(delw 0946) (tudalen 86)
_____________________
(delw 0947) (tudalen 87)
_____________________
(delw 0948) (tudalen 88)
_____________________
(delw 0949) (tudalen 89)
_____________________
(delw 0950) (tudalen 90)
_____________________
(delw 0951) (tudalen 91)
_____________________
(delw 0952) (tudalen 92)
_____________________
(delw 0953) (tudalen 93)
_____________________
(delw 0954) (tudalen 94)
_____________________
(delw 0955) (tudalen 95)
_____________________
(delw 0956) (tudalen 96)
_____________________
(delw 0957) (tudalen 97)
_____________________
(delw 0958) (tudalen 98)
_____________________
(delw 0959) (tudalen 99)
_____________________
(delw 0960) (tudalen 100)
_____________________
(delw 0961) (tudalen 101)
_____________________
(delw 0962) (tudalen 102)
_____________________
(delw 0963) (tudalen 103)
_____________________
(delw 0964) (tudalen 104)
_____________________
(delw 0965) (tudalen 105)
_____________________
(delw 0966) (tudalen 106)
_____________________
(delw 0967) (tudalen 107)
_____________________
(delw 0968) (tudalen 108)
_____________________
(delw 0969) (tudalen 109)
_____________________
(delw 0970) (tudalen 110)
_____________________
(delw 0971) (tudalen 111)
_____________________
(delw 0972) (tudalen 112)
_____________________
(delw 0973) (tudalen 113)
_____________________
(delw 0974) (tudalen 114)
_____________________
(delw 0975) (tudalen 115)
_____________________
(delw 0976) (tudalen 116)
_____________________
(delw 0977) (tudalen 117)
_____________________
(delw 0978) (tudalen 118)
_____________________
(delw 0979) (tudalen 119)
_____________________
(delw 0980) (tudalen 120)
_____________________
(delw 0981) (tudalen 121)
_____________________
(delw 0982) (tudalen 122)
_____________________
(delw 0983) (tudalen 123)
_____________________
(delw 0984) (tudalen 124)
_____________________
(delw 0985) (tudalen 125)
_____________________
(delw 0986) (tudalen 126)
_____________________
(delw 0987) (tudalen 127)
_____________________
(delw 0988) (tudalen 128)
_____________________
(delw 0989) (tudalen 129)
_____________________
(delw 0990) (tudalen 130)
_____________________
(delw 0991) (tudalen 131)
_____________________
(delw 0992) (tudalen 132)
_____________________
(delw 0993) (tudalen 133)
_____________________
(delw 0994) (tudalen 134)
_____________________
???
_____________________
(delw 0996) (tudalen 136)
_____________________
DOLENNAU AR GYFER GWEDDILL Y GWEFAN HWN |