http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_070_plant_y_gorthrwm_01_1955k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0960k Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon)
........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina
|
|
Gwefan Cymru-Catalonia
|
Adolygiadau diweddaraf: |
Ein sylwadau ni mewn teip oren
Rŷn
ni wedi cadw at yr orgraff wreiddiol - ar wahân i ambell gambrintiad amlwg.
Dynodir y tudalennau felly (x20), (x21), ayyb,
Mae ŵ, ŷ, ’ i’w gweld yn y fersiwn hon - mae’n haws i’w teipio felly. Byddwn yn eu cywiro
unwaith y bydd y cwbl wedi ei deipio gennym.
Ar ôl
sganio’r testun, bu’n rhaid mynd ar hynt y llwyth o fân wallau - rŷn ni’n
meddwl i ni gael hyd iddynt i gyd, ond efallai bod ambell un heb ei weld
gennym.
DOLENNAU ALLANOL:
Catalog
Arlein. Papurau Gwyneth Vaughan. Yma y mae bywgraffiad bach o’r awdur.
Mae
sôn amdani hefyd yn http://www.aprheinallt.plus.com/gelli1.html
ACHAU TEULU JAMES TŶ ISAF,
NANT PERIS.
Yma hefyd y mae manylion am awdur
y nofel hon
http://yba.llgc.org.uk/AnaServer?ybawbo+481513+aview.anv+v=av&show=0&l=c
Y Bywgraffiadur Arlein, Llyfrgell
Genedlaethol Cymru

I OSMOND WILLIAMS, YSW., A.S.
MARCHOG SWYDD FEIRION
MAB ARWR EI GWERIN
IMPYN O GYFF SAETHON
A CHYFAILL RHYDDID
GYDA PHARCH AC EDMYGEDD YR AWDURES.
Bangor,
Ebrill, 1908.
“Llyw i Feirion a’i holl fawredd —
hefyd
.......Llyw hyfwyn i Wynedd;
Llyw’r ynys — a Llyw Rhinwedd,
.......Gwr i fyd — goreu a fedd.”
Llew Tegid.
____________________________________________________
PLANT Y GORTHRWM
Gan GWYNETH VAUGHAN
YNGHYDA RHAGYMADRODD GAN
Y PARCH. EVAN JONES, CAERNARFON
THE EDUCATIONAL PUBLISHING COMPANY
____________________________________________________
Rhagymadrodd
Ffug-hanes y gelwir yr hyn a ysgrifennir gyda chymaint o swyn a medrusrwydd
yn y gyfrol hon. Ond nid mor ffugiol. Adwaenwn yn dda rai o’r prif gymeriadau.
Y mae Syr Tudur Llwyd, Mr. Harris, Robert Gruffydd, William Williams, y
Pregethwr, a Mari, ei wraig, ac eraill, yn ddarluniau byw. Ac y mae helyntion
erchyll etholiad ofnadwy 1868 yn cael eu desgrifio i’r llythyren. Ychydig a wyr
yr oes hon am orthrymderau y dyddiau hynny, a’r dioddefiadau mawrion yr aeth y
Tadau trwyddynt i ennill rhagor-freintiau eu hetifeddion. Ond y mae Gwyneth
Vaughan, gyda dawn a theimiad awdures o’r cyrhaeddiadau uchaf, wedi eu gosod
allan mor eglur trwy eu darluniadau bywiog yn y llyfr hwn, fel ag i’n gosod o
dan ddyled genedlaethol iddi.
EVAN JONES.
CARNARVON, Mai 12, 1908.
At y Darllenydd
Ysgrifenwyd y stori hon gyda’r amcan o roddi i blant Oyrnru ryw
ddrychfeddwl am ddyddiau a fu, a’r rhiaint sydd a’u hanes megis wedi dianc i
dir anghof. Pur anaml y clywir yr un gair heddyw am frwydr fawr 1868, ac
ychydig o’n pobl ieuainc wyr ddim am dani; eto, y frwydr honno ymladdwyd mor
ddewr dros egwyddorion rhyddid benderfynodd dynged Cymru sydd, a gresyn i
aberth a dioddefaint ei merthyron gael eu hanghofio yn y mwynhad helaeth o’r
breintiau presennol. Ceisiais dynnu cwr y llen oddiar y mynedol draw, gan
obeithio gallu dwyn ieuenctyd fy ’ngwlad i
edmygu cymeriadau yr hen wroniaid — yn feibion ac yn ferched — nad ofnasant lid
y gelyn, ac i werthfawrogi eu genedigaeth-fraint, canys gwehelyth prifon ydynt.
Mae hanes ymdrechion Cymru ymhlaid y rhyddid uchaf, ymhob oes hyd yn hyn, mor
ardderchog, fel na raid i’w phlant gywilyddio o’i phlegyd, na gwadu eu hiaith,
eu gwlad, na’u cenedl.
Na thybied neb chwaith i mi arfer gormodedd wrth ddywedyd hanes y dioddefiadau;
yn hytrach bum yn brin, ac yn gynnil, lle y gallaswn ddywedyd llawer mwy. Mae
rhai cyfeillion eto’n aros sydd yn cofio, fel fy
GWYNETH
VAUGHAN. Ebrill, 1908.
Cynhwysiad (y penodau mewn pinc heb eu gwneud
eto)
|
PENNOD |
|
TUDALEN |
|
|
PROLOG |
x7 |
|
I |
GEFAIL Y GÔF |
x8 |
|
II |
LLANGYNAN |
x10 |
|
III |
YR HAFOD
OLEU |
x12 |
|
IV |
DIWRNOD TALU
RHENT |
x16 |
|
V |
DAN YR |
x22 |
|
VI |
GOLEUNI A GYFYD YN Y TYWYLLWCH |
x31 |
|
VII |
AGOS YW DYDD TERFYSG |
x37 |
|
VIII |
YNG NGHYSGOD Y PINWYDD |
x44 |
|
IX |
PENTREF Y CAPELI |
x47 |
|
X |
“DIHAREB A
GAIR DU” |
x54 |
|
XI |
ANGENRHEIDIAU’R
WERIN |
x58 |
|
XII |
CYSGODION Y DYFODOL |
x64 |
|
XIII |
Y CYFARFOD
GWEDDIO |
x68 |
|
XIV |
HOGI’R ARFAU |
x71 |
|
YMGUDDFA
RHAG Y GWYNT |
x81 |
|
|
XVI |
LLYFRAU
DYDDGU |
x84 |
|
XVII |
APOSTOL
RHYDDFRYDDIAETH CYMRU |
x88 |
|
XVII |
DYDD YR
ETHOLIAD |
x91 |
|
XIX |
Y FUDDUGOLIAETH |
x97 |
|
XX |
DECHREU
DRYGFYD |
x100 |
|
XXI |
CYRRAEDD
ADREF |
x109 |
|
XXII |
GLYN CYSGOD
ANGEU |
x115 |
|
XXIII |
CYSGOD ANGEU
YN FOREUDDYDD |
x124 |
|
XXIV |
GWEDDI
DYDDGU |
x128 |
|
XXV |
CARTREF
NEWYDD |
x130 |
|
XXVI |
WEDI EU GWISGO MEWN GYNAU GWYNION |
x135 |
|
XXVII |
NI CHLYWANT
LAIS Y GORTHRYMYDD |
x138 |
|
XXVII |
GOREU DUW I
DDYN — CYFEILLGARWCH |
x145 |
|
XXIX |
CYMUNDEB Y
SAINT |
x149 |
|
XXX |
CYN I’CH
CROCHANAU GLYWED Y MIERI |
x152 |
|
XXXI |
TROAD Y RHOD
|
x159 |
|
XXXII |
CADW NOSWYL |
x162 |
|
XXXIII |
EWYLLYS OLAF
SYR TUDUR LLWYD |
x166 |
|
XXXIV |
GOLEUNI YN
YR HWYR |
x168 |
|
|
EPILOG |
x175 |
(x7)
PLANT Y GORTHRWM
PROLOG.
Yr oedd hi yn nos, ond nid yn dywyll, canys gwelid ser yn dryfrith yn y
ffurfafen, a gorchuddid y ddaear gan lwydrew teneu, ysgafn, megis ôd unnos.
Addurnid y coed mewn gwisgoedd arianaidd gan yr un llwydrew oer, ond
prydferthach na breuddwydion beirdd. Dan gysgod y coed derw henafol, o gylch
plas bychan yng nghesail un o fryniau’r grug, cerddai dyn ieuanc yn ol ac
ymlaen yn araf, a synfyfyriol, heb deimlo oddiwrth oerfel yr hin, na
phrydferthwch rhamantus yr olygfa, nac un dylanwad allanol arall. Ambell waith
gollyngai ochenaid dromlwythog o’i fynwes, bryd arall sisialai wrtho ei hun,
yna codai ei olygon i fyny tua’r hen greigiau tragwyddol lle treuliodd oriau
lawer o’i ieuenctyd dedwydd, yn gwylied y gwylain gwynion yn ehedeg tua’r
mynyddoedd o flaen y gwlaw, yn saethu petris a’r hwyaid gwylltion, neu yn
pysgota brithylliaid yn eu nentydd. Clywai sibrwd y gwynt yn y dail gwywedig
wrth ei draed, a rhuad y môr oddi draw. “A fu, neu a oes, un man ar y ddaear yn debyg, tybed?” ebai, “a rhaid eu
gadael bob yr un. Mae olwynion ei gerbydau yn dynesu bob moment, ac yfory bydd
yn rhaid i mi roddi y cyfan i’w ofal ef, a chychwyn i ffwrdd. Biti, biti
na chawn i dreio cerdded yn ol troed fy nhad. A beth ddaw o’r bobl yma? Mae
llawer o honynt yn dechreu taflu eu hen syniadau i ffwrdd, a Thori rhonc yw
yntau. Beth fydd y diwedd?” a griddfannai y bachgen fel un ar ddarfod am dano.
Mor deneu yw clust cariad! Ni chlywid swn troed, eto wele’r dyn ieuanc yn
rhoddi llam tua’r gamdda ymhen pellaf y llwybr, a’r foment nesaf nid oedd efe
yn unig. Sibrydwyd dau enw ar yr awel, yna bu distawrwydd gorofid cydrhyngddynt
am ysbaid o amser. Ni fedd ing enaid iaith i’w draethu na geiriau i’w
ddisgrifio.
Ymhen ennyd safodd y ddau gerllaw tri o feini gwynion o dan gysgod un o’r derw,
y rhai yn nyddiau dedwydd plentyndod a alwent hwy y Trioedd. Ar y goeden hon,
heb fod nepell oddiwrth ei bon, cerfiasid llun calon, ac enwau y meini gwynion,
yr enwau roddwyd iddynt gan y ddeuddyn ieuanc a fwynhaent fyd mor wyn a’r
meini, wedi eu cerfio hefyd yng nghylch y galon.
“Meini ein cyfamod,” ebe’r llanc yn ddistaw.
“Gobaith, Amynedd, Cariad,” atebai’r eneth.
“Pa law anweledig fu yn (x8) arwain yr
eiddom ni i gerfio yr enwau fel yna, pan oedd ein bywyd mor ddigwmwl.”
“Cymylau a thywyllwch sydd o gylch yr orseddfainc, ond dywed Boba y bydd
goleuni yn yr hwyr.”
“Nid yn yr hwyr y mae arnaf fi eisieu goleuni, ond yn awr pan wyf yn ieuanc i’w
fwynhau. Beth a wna hen wr penfoel neu a gwallt gwyn a goleuni? Yn awr, a
minnau yn ieuanc.”
Ysgydwodd yr eneth ei phen, a sibrydodd megis wrthi ei hun,
“Amynedd, os am i’r meini bara yn wynion, rhaid i ninnau hefyd beidio gollwng
eu henwau dros gôf. Amynedd! Gobaith! Cariad! Mae yn hawdd caru, nid yw mor
hawdd gobeithio bob amser, ond mor anhawdd yw bod yn amyneddgar, ac eto bydd
Boba yn dweyd mai amynedd yw coron bywyd.” Ac edrychodd y fanon tua’r nef
serenog a’i hwyneb yn goleuo fel y wawrddydd ar ben y mynyddoedd.
Sibrydodd unwaith yn rhagor “Amynedd, gobaith, cariad;” estynodd ei llaw i’r
dyn ieuanc, a diflannodd mor sydyn ag y daeth ato. Safodd yntau yn bennoeth, ei
wallt yn wlyb gan ddefnynnau y nos, yn gwylied ei chamrau dros y bryn gerllaw.
Yna, wedi colli golwg arni, aeth i mewn i’r plas, ac i’r ystafell a alwai ei
dad y llyfrgell. Ond ystafell wag oedd hi y noson honno, gwag fel ei fywyd ef.
Yfory byddai yn eiddo arall, a’r arall hwnnw yn un nad ystyriai ef yn gymwys
i’r oruchwyliaeth.
PENNOD I
GEFAIL Y GÔF
“Dal di sylw Ned, mi fydd yma fwy o altrad na ddyliodd
’run o honon ni. ’Does ’na fawr o hono fo, ond mae o yna i gyd, hynny
sy’, weldi. D’ellai aros y dynion bach yma, mi neith dyn rwbeth o bob anifal
wyddost os bydd o dipin o faint, ma’n well gin i o’r hanner bedoli hanner dwsin
o gyffyla gwêdd nag un ferlan mynydd, a dydio ddim byd gin i weld ci mawr wrth
y sodla i, ond mi fyddai’n wardio rhag cŵn bach bob amsar; a fedar dyn
mawr ddim bod hanner gin fryntad, coelia di fi. Tafl lwyad o lo ar y tân yna, Wil. Cymar yn ara, fachgian; paid a chwythu,
fel tasa ti am gyflog, ne mi eith y tân allan,” a gafaelodd y gôf yn y fegin, a
dechreuodd chwythu yn bwyllog “wrth y notes” yn ol disgrifiad Wil, gwas y
Llechwedd.
Hoff gyrchfan y meibion ar ol cadw noswyl yn ardal Bro Cynan oedd gefail y gôf.
Llawer awr ddifyr ac eithaf adeiladol hefyd, chwareu teg iddynt, a dreuliwyd yn
yr hen efail gyda’r nos. Ambell waith am wythnos gyfan neu well byddai dadl
ddiwinyddol “ar y bwrdd,” a mawr yr helynt fu yno lawer tro cydrhwng Calfiniaid
hyddysg yn eu Cyffes Ffydd, ac Arminiaid selog dro seu daliadau hwythau.. A
hwyrach y taflai rhyw Fedyddiwr penboeth y cwch i’r dŵr, rhyw ddyrnaid o
honynt hwy a feddem yn yr ardal, ond gwnaent i fyny ddiffyg rhif yn eu gor-sel
i berswadio pawb mai hwy oedd yn iawn, ac nid oedd obaith i undyn weled nef os
na throchid ef dros ei ben a’i glustiau yn rhyw lyn neu afon yn y byd yma yn
gyntaf. Pur anaml y troai un Eglwyswr i fewn i’r Efail. Ychydig iawn o honynt
hwythau, hefyd, oedd yn y gymydogaeth. Ymneilltuwyr oedd y rhan fwyaf o’r
ffermwyr, a’u holl weinidogion, ac eithrio (x9)
gwas y person. Bryd arall, pynciau gwleidyddol gaent fwyaf o sylw. Derbyniai
Huw Huws y gôf bapur newydd wythnosol, a rhoddai hynny arbenigrwydd neilltuol
iddo. Fel rheol, ceid gwell hwyl gyda materion y wlad, os byddai Ned
Williams y Saer yn absennol. Ofnid siarad yn nghlyw Ned yng nghylch cwestiynau
pwysig, megis, pa un ai Disraeli ynte Gladstone oedd y dyn goreu; neu yr
anhegwch i ymneilltuwr dalu’r degwm, a gorthrwm y meistr tir estronol; sibrydid
yn ddistaw mai ei chwedlau am bawb a phopeth, ac nid ei ddeheurwydd fel
adeiladydd roddodd i Ned y swydd o arolygydd gwaith coed etifeddiaeth Plas
Dolau; ac yng ngeiriau Wil y Llechwedd, “chymra ’run
o honon ni mo’n llw na fasa’r hen Ned yn gwrando’r cwbwl, ac wedi rhoi llathen
ne ddwy hefyd at y stori, cin mynd i lawr i Blas Dola i dywallt i sach.” Fel
rheol, gwrandaw yn ddistaw byddai Ned, ond wedi i Huw’r gôf draethu ei lith, y
noson yr ysgrifennaf am dani, cododd Ned ei ben yn sydyn, a dywedodd,
“Wir, Huw, wn i ddim pam ’rwyt ti a dy gyrn
o dan Mistar o hyd. Mae o’n eitha gwr bynheddig o’n cwmpas ni, a ma’ mistras yn
ledi siort neisia, dynes dda ofnadwy ydi hi, mi fydd yn darllan ei chomon
prauar o hyd.”
“O, mi fyddi ditha’n siwr o fod y tu cleta i’r clawdd, Ned, sut drefn bynnag
fydd ar bobol erill. Tasa’r hen Nic yn dwad yma’n stiward, mi â’t ti o’i gwmpas
o’n eitha, a tasa rhywnn yn mesur y’ch cynffona chi’ch dau, hwyrach ma’ dy
gynffon di fasa’r hwya’, synwn i ddim;”
a gafaelodd y gôf mewn darn gwynias o haearn o ganol y tân gyda’i efail, a
gosododd ef ar yr engan. Yna dechreuodd ei guro â’r morthwyl oedd yn ei law
dde, nes y neidiai y gwreichion eirias fel cawod genllysg o’i gwmpas. Wedi i’r
oruchwyliaeth honno fynd drosodd, a’r haearn unwaith yn rhagor yn y tân, safodd
y gôf yn syth, ei ddwylaw yn gorffwys ar bennau ei gluniau, a chan fod ei lewys
wedi eu torchi at y penelinoedd, gwelid ei freichiau cryfion, gewynog, nad oedd
eu tebyg yn yr holl wlad.
“Wel, dyna i ti, Ned, well gin i i ’chdi fod
yn y bicil na fi. Fynwn i er y mywyd fod yn dy sgidia di. Diaist i, fachgian,
rhwng gwraig y Plas yn Llanrag, a dy wraig ditha’n Fatus, grogi neb wyr, wn i
ddim be nei di.”
A chwarddodd Huw yn galonnog. Yna chwanegodd,
“Ydi o’n wir bod yna gipars newydd yn dwad i edrach ar ol y giâm?”
“Ydi’ ’dwy’n meddwl. Mi glywais i Pitar yn
rhegi yn ofnadwy ddoe, am bod Mistar wedi deyd nad oedd o ddim yn ddigon i hun.
Mae Pitar wedi bod yn rhyw esgus o gipar er pan oedd o’n fachgian bach, a mae
o’n gimin o ddyn, mae Pitar yn meddwl ma’ fo pia bob coedan sy’ ar y stât, a
phob deryn, a wiwar, a sgyfarnog sy’ yn y coed hefyd am wn i. Ond dydi Pitar da
i ddim yn gipar, mae o’n ormod o ffrindia hefo’r ffarmwrs i gyd.”
“Ho, neith hi mor tro i’r cipars newydd fod yn ffrindia hefo’r hen dynantiaid,
neith hi! Wel, ma’r hen fyd yma yn newid, does dim os am dani hi. Debig cin i
bydd rhaid i ni edrach ar y’ch pryfad chi’n byta bwyd yn hanifeiliaid ni oddar
y tipin tir sy’ gynon ni, a byddwch chi’n disgwyl y rhent bob swllt. Wel Ned,
cymwch chi’ ofol i lawr acw, cymwch dipin yn ara’ fel tasa rwan, ma Mistar ar
mistar (x10) Mostyn, medda’r hen air, a ma’
mwy nag un Haman fab Hammedatha yr Agagiad wedi bod yn y byd yma cin hyn. Ned
bach, a waeth gin i ta ti yn mynd ar dy union at dy fistar i ddeyd wrtho fo y
bydda’n burion iddo fynta gofio hynny, dyna i ti. Ma’r henwlad yma wedi bod yn
gorfadd ar lawr ar wastad i chefn es peth ofnadwy o amsar, ond mae hi wedi rhoi
tro ar i hochor, a chodi ar i phenelin i sbio o’i chwmpas, a fydd hi ddim yn
hir iawn eto na neidith hi ar i thraed, a mi fydd yma lanast y dwrnod hwnnw.
Fydd Mrs. Harris acw yn darllan tipin o Feibil weithia, Ned, ’blaw y Common Prauar!”
“Mi gwelas i hi’n myn’d i’r Llan ddoe,” ebe Wil y Llechwedd; efe oedd yr unig
un o’r saith oedd yn bresennol na syfrdanwyd gan hyawdledd Huw Huws, “ac mi ’roedd hi mewn byd gynddeiriog yn codi i gown
sidan o’r baw, ac fel ’dwy byw ’roedd gini hi bais wen am dani. Welais i ’run ddynas arall yn f’oes yn gwisgo pais wen yn
nhrymdar y gaua’ fel yma.”
“Welist ti fawr, Wil, a ’chditha wedi bod yn
yr hen le yma ar hyd d’oes,” ebe Ned yn goeglyd.
“Dyma’r lle gora welast ti ’rioed, Ned, beth
bynnag, mi roeddat ti cin llymad a llygodan eglwys pan ddoist ti yma, mi prynsa
rhywun di’n nobl am rôt,” ebe hen arddwr Syr Tudur Llwyd;
“dyma’r lle clysa yng Nghymru, Ned, mi ddeudodd dynion mwy na fi hynny cin ’rwan.”
“Y cyw fegir yn uffern yn uffern y myn o fod,” ebe Ned Williams; nid brodor
oedd efe
.
“Tendiwch chi beidio gneud lle sy’ fel gardd yr Arglwydd yn uffern, Ned; rydan
ni ym Mro Cynan yma wedi byw yn gysurus eitha hefo’n gilydd, a ’does dim yn rhwystro i ni neud hynny yto
chwaith, ond i ni gael llonydd gan ryw giwad tebyg i ti ac arall. Ond mae yma
stwff na ddaru ’run o honoch chi, lads, feddwl os daw hi’n meulyd codwm
yma ryw ddiwrnod. ’Rwan, Ned, ma gin ti lond
dy gwd heno, os na fuo gin ti ’rioed o’r
blaen,” ac edrychodd y gôf ar Ned Williams a’i lygaid yn melltenu.
“ ’Dwn i ddim be rydach chi’n lluchio wipes
ata i heno, ma rhyw dempar od arnoch chi i gyd,” ac ymaith a Ned Williams tuag
adref.
“Ma nhw’n dechra gneud sgriws i lawr yna fechgyn, ond ma’r hen fro yn fatsh
iddyn nhw gna’n nhw beth y fynon nhw” ebe’r gôf.
PENNOD II
LLANGYNAN
Ymysg holl blwyfi Cymru nid oedd un a gynysgaeddwyd yn helaethach gan
natur na Llangynan. Credai ei drigolion na fu ei debyg. Meddai filltiroedd
lawer, o fynydd-dir yn borfa i’r defaid, mynydd-dir a blewyn glas blasus
ddigonedd
“Y neb na fyn weithio, na chaed fwyta chwaith.”
Ond y ffaith hynotaf oll ym mhlwyf Llangynan oedd nad ymddanghosai fod yn
bosibl i un peth fodoli yno o gwbl, rhaid fod dau cyn i fesur o lwyddiant
gydredeg a’r antur, boed ef y peth y bo. Dyfrheid y plwyf gan ddwy afon fawr a
ddechreuent eu gyrfa o ddau lyn yn y mynyddoedd. Perchenogid y plwyf gan ddau
feistr tir, ac yr oedd hyd yn oed y pentref wedi ei rannu yn ddau gan un o’r
afonydd. Yn y pentref ceid dwy siop, dwy efail heb fod nepell oddiwrth y
pentref, un y naill ochr, a’r ail yr ochr arall, a dau weithdy crydd, dwy
ffatri wlân, dau bandy, dau weithdy saer, dau dy gwehydd, dwy felin flawd, pob
un o’r ddwy a’i hafon ei hun at wasanaeth ei pheiriannau. A chan fod y plwyf
mor eang yr oedd dwy eglwys ynddo, un ymhob pen, a dau ddyn meddw ar gyfer dwy
dafarn. Ceisiodd meddyg unwaith dorri ar y rheol ac ymsefydiodd am ysbaid yn y
pentref, ond gorfu iddo yn iaith y bobl “gymeryd ei draed “ yn fuan iawn.
Mynnai rhai fod yr ardal mor iach ag oedd o hardd, ac nad oedd siawns i un
meddyg werthu hanner dwsin o boteli physig ynddi mewn blwyddyn; ond y farn
gyffredin oedd y buasai’r meddyg yn debycach o lwyddo pe gwelsid meddyg arall
yn ymsefydlu yr ochr gyferbyniol i’r pentref. Hynodrwydd y cyplau yma o
fasnachwyr a gweithwyr oedd na pherthynai yr un o honynt i’r un capel a’u
gilydd. Ceid fod un gôf yn Fethodist selog, un arall yn Wesleyad penderfynol;
un melinydd yn Fethodist ac un arall yn Fedyddiwr. Yr unig gwpl gyda’r un
daliadau crefyddol oedd y meistri tir, ond nid elai y rhai hynny i’r un fan i
addoli. Gwelid cerbyd bychan Syr Tudur Llwyd bob bore Sul yn dringo tua hen Eglwys
Llangynan, hanner ffordd i ben y bryniau, a’r un mor sicr byddai teulu Plas
Doiau yn cyrchu tua Llan Fair ymhen arall y plwyf, yn ymyl y môr. Gwir na
fyddai boneddigion Plas Dolau ond pur ychydig yn yr ardal, rhyw ddeufis yn yr
haf, ac ymaith a hwy i fwynhau eu hunain, a rhenti eu tenantiaid yn eu pocedi,
ond yn eu habsenoldeb y goruchwyliwr fyddai y gwr bonheddig na feiddiai neb ei
basio heb dynnu ei het iddo. Ar hyd tymor goruchwyliaeth Mr. Wyn bodolai y
berthynas fwyaf hapus cydrhwng y goruchwyliwr a’r holl bobl, ond ychydig amser
cyn yr adeg y dechreuodd yr helyntion yr ysgrifennaf am danynt, bu ef farw yn
dra sydyn, a chafodd y plwyf a phawb a drigai ynddo ar (x12)
etifeddiaeth Plas Dolau golled drom.
Yng nghanol arwyddion o alar digymysg a pharch dyfnaf yr ardal, rhoddwyd ei
weddillion i orwedd yn hen fynwent Llanfair. Gwnaed mwy nag un ymgais i gael ei
unig fab fel ei olynydd, ond mynnai y tirfeddiannydd ei fod yn rhy ieuanc a
dibrofiad, ac er mawr siom i’r ffermwyr yn ddiwahaniaeth, daeth dyn dieithr i’w
mysg, dyn gelynol i Ymneilltuaeth, gelynol i ryddid mewn unrhyw ffurf na fyddai
gydweddol â’i syniad ef am hawliau ei gyd-ddyn. Ni chyfeiliornai Ned Williams y
saer pan ddywedodd fod Mrs. Harris yn ddynes dda cyn belled ag y deallai hi
beth oedd ystyr y gair daioni, arferai gryn lawer o ddefosiwn grefyddol, ac m
fyddai mor gul a rhagfarnllyd ei meddwl a llawer yng nghylch pobl a
wahaniaethent oddiwrthi hi yn eu golygiadau crefyddol. Ni ddaeth erioed i’w
phen y gallai y fath beth fod a gwahaniaeth mewn golygiadau gwleidyddol
cyd-rhwng meistr tir a’i denant. A Mr. Harris a hithau safent yn gynrychiolaeth
dros y meistr yn ei absenoldeb. Nid heb achos y llefarodd Huw Huws y gôf eiriau
mor blaen wrth Ned Williams. Deallodd y bobl yn bur fuan y byddai chwyldroad
lled drwyadl oddiwrth yr hen drefn yn Mhlas Dolau. Gallai Huw Huws fod yn
annibynol, ar dir Syr Tudur Llwyd yr oedd ei efail ef, ac ni phoenai yr hen
fonheddwr ond pur ychydig yng nghylch sefyllfa gwlad nac eglwys. Treuliai lawer
iawn o’i amser ymysg ei bobl. Arferai ddweyd na feddai ddigon o gyfoeth i gadw
goruchwyliwr, ond y farn gyffredin oedd fod Syr Tudur yn hoffi gofalu am yr
eiddo, ac nas gallai ymddiried cysur ei denantiaid i undyn. Efe oedd y
pennaeth, ac yn ol ei syniad hen ffasiwn ef ystyriai Syr Tudur y gofynnid
cyfrif ganddo ryw ddydd os na chelai y rhai a ddibynent
“Fi gwel’d tipin go lew, a hi gwel’d petha fi dim gwel’d, ac felly hi a fi
gwel’d y cwbl,” ebe’r hen fonheddwr yn llon.
Yr hyn a synnai y bobl oedd mai merch i un o denantiaid Plas Dolau oedd
ffefret” Syr Tudur fel ei galwent hi. Ond mor dawel fu Llangynan hyd hynny, fel
nad oedd yno le i eiddigedd na chas na chwerylon, eithr trigfan ddigwmwl i bawb
gweithgar a gonest.
PENNOD III
YR HAFOD OLEU
Ychydig gyda milltir o bentref Llangynan ar un o lechweddau prydferthaf y
plwyf, yng nghysgod y mynyddoedd, y safai hen amaethdy mawr a elwid Hafod Oleu,
ac ni fu un anneddle erioed yn fwy cydweddol a’i enw, Hafod Oleu oedd mewn
gwirionedd. O godiad haul hyd ei fachludiad mwynhai yr Hafod ei wres a’i
belydrau. Wynebai y tŷ tua’r gorllewin, a throai ei gefn at y dwyrain, ac
er gwaethaf yr helaethrwydd o goed ffrwythau yn y berllan yr ochr ddeheuol i’r
Hafod, a’r derw a’r ffawydd (x13)
cyd-rhyngddo a gwynt y gogledd, mynnai yr haul dywynnu ar ryw ran o hono trwy
gydol y dydd. Ni orchymynnai y feistres chwaith i neb “dynnu’r blinds i
lawr” dros y ffenestri, rhag i’r haul beri i’w charpedau, a’i chyrtens, golli
eu lliwiau. Diben ffenestr i wraig yr Hafod oedd rhoddi goleuni i drigolion y
tŷ, ac nid i fod yn fath o arddanghosfa i’r bobl o’r tuallan, a’r unig
gyrtens feddai hi oedd y llian main canaid ddisgynnai yn blygion o ddau tu y
ffenestri ar y mur trwy y dydd ac a dynid yn orchudd drostynt pan daenai y nos
hefyd ei mantell hithau dros wyneb y ddaear. Am garpedau, ychydig iawn o ddim
ellid ei alw yn garped a welid yn Hafod Oleu, ceid ambell i groen blewog hardd
yma a thraw ar y lloriau o dderw du oeddynt mor ddisglair a’r gwydr gloew o dan
ein traed; a matiau o hesg plethedig gylch y drysau a thua’r mynedfeydd o’r
rhan oreu i’r ty hyd at ystafelloedd y gweinidogion. Eto, er ei fod mor anhebyg
i’r tai diweddar a ddodrefnir yn wych gan bobl yr oes bon os yn feddiannol ar
ychydig o dda bydol, hen gartref braf oedd Hafod Oleu, canys teyrnasai
dedwyddwch yno yn helaeth, ac nid oedd le i ddim ond tangnefedd o dan y
gronglwyd. Gofalai Robert Gruffydd am les tymorol ac ysbrydol ei holl deulu hyd
y gallai ef, ac nid oedd ei wraig yn llai ei hawydd am drefnu ffordd tylwyth ei
thŷ. Fel dyn duwiol iawn yr arferai yr ardalwyr son am Robert Gruffydd yr
Hafod bob amser, ac ni fyddai llaw Gwen Gruffydd un amser yn gauedig i neb pwy
bynnag a ddioddefai eisieu. Gwnaeth teulu yr Hafod Oleu ar hyd y blynyddoedd
lawer o’r gwaith y dylasai perchennog y Plas Dolau fod yn ei gyflawni yn
rhandir ei etifeddiaeth, felly nid oedd yn gymaint o syndod feallai fod Syr
Tudur Llwyd a Rhianon Gruffydd, merch hynaf yr Hafod, yn myned o gylch y plwyf
i chwilio am le i fod yn gyfiawn tuag at y bobl beth bynnag am drugarog.
Addysgwyd Rhianon yn llawer gwell nag un o ferched Cymru yn eu sefyllfa hi yr
adeg honno, addysg ym marn Robert Gruffydd oedd yr unig gynysgaeth nas gellid
dweyd am dani fod iddi adenydd i ehedeg ymaith, a chan fod Rhianon hithau yn
hoff o’i llyfrau, ni fu un anhawster i’w thad ei chael o’r un feddwl ag ef. Yn
wir, digon prin y mae’r gair hoff yn ddigon cryf i gyfleu i neb syniad priodol
am y serch angerddol a goleddai Rhianon at ei llyfrau. Pan yn beth fechan
cludai ei hychydig drysorau gyda hi i bob man, gwasgai hwy i’w mynwes, a
sibrydai eiriau wrthynt, tynnai ei llaw yn ysgafn ar hyd eu cloriau fel y gwna
ambell blentyn pan yn anwesu ci neu gath fach. Ymhen blynyddoedd wedi hynny,
clywyd Rhianon yn dweyd fod ei llyfrau yn ddarn o honi ei hun,
Breuddwydion Rhianon y galwai ei mam hwy, a breuddwydio yn fynych a wnai hi
ganol dydd goleu yn gystal ag yn y gwyllnos, ei llygaid bywiog yn edrych i’r
pellteroedd draw, ac yn gweled gweledigaethau nas gwyddai y rhai o’i chwmpas
ddim am danynt. Nid oedd un tebygrwydd cydrhwng Rhianon a’i chwaer mewn pryd a
gwedd, na chwaith yn eu nodweddion. Geneth dlos oedd Olwen fechan, ei gwallt yn
felynach na blodau’r banadl, ei dwyrudd a gwrid ysgafn megis lliw tyner rhosyn
yr haf yn gorffwys arnynt; ei gwefusau yn gochach na’r cwrel, a’i chroen yn wyn
fel yr alabaster canaid. Am y llygaid mawrion tywyll, a’u llond o deimiad, a’r
llais canu a delorai trwy yr hen Hafod Oleu o fore gwyn hyd nos, amhosibl i
ysgrifbin eu disgrifio hwy.
“Pe basa’r ddwy eneth yma heb weled i gilydd ’rioed,
heb son am fod yn ddwy chwaer; f’asa nhw ddim mwy anhebyg i’w gilydd, Rhobat
Gruffydd,” ebe hen wraig a drigai yn un o’r bythynod ar fferm yr amaethwr wrtho
ryw ddydd, “Ma Olwen fach mor glws, wir wn i ddim sut un ydi Rhianon o ran
golwg, felly, Rhobat Gruffydd. Mae mor dda gin i hi, ond debyg cin i na ddeuda
neb bod hi’n glws fel Olwen.”
“Mae Olwen yn bert, Rhobat Gruffydd,” ebe Syr Tudur Llwyd, “pan fi gweld hi fi
cofio am hen Fabinogi Cymru, ac am Olwen arall lle bynnag hi rhoi troed y
meillion gwyn yn tyfu, a fi meddwl blode yn pob man tan traed Olwen fach ni
hefyd, ond fi cael pwlie o ofn wir i hi mynd i’r nefoedd tan trwyne ni i gyd.
Hi fel angel, os angel clysach na rhyw creadur arall. Fi dim siwr fi ’rioed gweld run f’hunan. Ple ma Rhianon? fi
eisio hi dwad hefo mi i gweld Cadi William i Tyn’ffrwd, fi dim siwr os hen
ferch eisio glo ne fawn, ne ddillad at y gaea, a dim curo ar Rhianon g’weld be
pawb eisio.”
Dyna fyddai’r hanes ymhob man gan bawb, canmol Olwen fechan brydferth, ei
choledd yn dyner rhag i wyntoedd oerion byd chwythu arni, gofalu am ei lapio yn
amser eira, a rhwystro i wres yr haf ei gorflino, tra y rhedai Rhianon ar hyd y
bryniau yn bennoeth, ei chroen yn rhy dywyll i wres yr haul ei amharu, ei
gwallt glasddu yn chwifio yn yr awel megis cynifer o bibellau i awyr iach y
mynyddoedd redeg drwyddynt i’w chorff nwyfus, a’i llygaid — y llygaid na
feddyliodd neb erioed pa liw oeddynt, yn mwynhau prydferthwch Anian ymhob gwedd
arni.
Nid oedd undyn i’w feio, blodeuyn tlws a thyner oedd Olwen; carai Rhianon hi
fel ei henaid ei hun. Dywedai straeon wrth y llath, ac Olwen fyddai gwrones yr
oll. Ysgrifennai a chanai benhillion, fil a mwy yn swn y gwynt, ond mawl i
Olwen fyddent bob yr un. Breuddwydiai am ddyfodol yn fyd gwyn i gyd, a phwy
bynnag y mynnai ei hysbryd ieuanc i Ragluniaeth dda ofalu am danynt,
Chwarddodd ei gwr, “Wel, yn siwr hefyd, Gwen, rhyw athrawiaeth ’mheuthyn iawn ydi hona, (x15)
chlywes i ’rioed monoch chi yn edrych ar
hunan-aberth yn y goleu yna o’r blaen, a hwyrach pe cawsai Rhianon fam hunanol
yn siampal iddi, ond be nai’n siarad, Gwen fach, mae Rhianon a’i mam yn bur
debyg i’w gilydd, ac fel ma’ nhw mae goreu gen i’r ddwy. Am Olwen fach, rhaid
gofalu am dani hi; mae Olwen yn ddigon egwan.”
A dyna’r drefn fu ar bethau, er i freuddwydion ereill hefyd gymeryd eu lle
ymhen a chalon Rhianon yn. y man. Am bob gwas a morwyn ddeuent i’r Hafod,
swynid hwygan brydferthwch Olwen i’r fath raddau nes y byddent oll dan
ddylanwad ei gyfaredd. Yn yr haf plethai y
gweision gangau yr helyg yn esmwythfainc i gario Olwen i’r gweirgloddiau os
byddai’r hîn yn boeth, a theimlent fod ei gwên, a miwsig ei llais yn diolch
iddynt, yn ddigon o ad-daliad am bob trafferth.
Cyrchai y morwynion yr oll a allai Olwen fod mewn angen am dano at ei llaw cyn
gofyn o neb iddynt. Rhyfedd na fuasent wedi ei difetha â gormod o garedigrwydd.
Ond nid felly y bu. Mwy caruaidd y tyfai yr eneth y naill ddydd ar ol y llall.
Ni welwyd gwyneb Olwen erioed yn gwisgo gwg, ac ni chlywodd neb air anfwyn
oddiar ei gwefusau. Er mor anghymarol brydferth . oedd ei chorff ieuanc, nid
oedd ond adlewyrchiad gwan o’r hyn oedd yr enaid na fu yn breswylfod, i un
ysbryd ond ysbryd glân.
Ni feddai Robert a Gwen Gruffydd yr un mab, ond gan fod Hafod Oleu yn ymyl y
Plas Dolau, dim ond rhyw ddau led cae rhyngddynt, arferai genethod bach yr
Hafod a bachgen ieuanc Mr. Wyn chwareu llawer gyda’u gilydd yn nyddiau eu
plentyndod. Weithiau byddai llu o blant y pentref gyda hwy, ac ar yr adegau
hynny os byddai genethod yr Hafod mewn perygl o gael cam bachgen y Plas fyddai
yn gwneud rhan cyfathrachwr â hwy, ac yn gofalu am danynt. A bu Nisien Wyn yn
lle brawd iddynt; ac nid ychydig fu’r daioni a ddeilliodd i’r bachgen oddiwrth
y gymdeithas a’i harweiniodd yn ei ieuenctyd iraidd o dan ddylanwad cymeriadau
duwiol, unplyg fel eiddo Robert a Gwen Gruffydd. Bachgen amddifad oedd Nisien
Wyn heb fam i ofalu am dano. Pan agorodd ef ei lygaid gleision tywyll ar y byd,
cauodd ei fam ei hamrantau, heb allu gwneud dim dros ei hunig fachgen bach ond
ei enwi fel Rahel gynt.
“Gelwch ef Nisien,” ebe hi, “Nisien Wyn, mynnwn iddo fod yn fab tangnefedd, yn
bur, a didwyll, hyd nes y caf ei gofleidio yn y wlad na bydd marwolaeth yno.”
Ac er i amryw berthynasau geisio darbwyllo Mr. Wyn y byddai yn amgenach i’r
plentyn gael enw arall, ni chaent ganddo ef ond un atebiad, “Nisien fydd ei enw
ef.” A Nisien a fu.
PENNOD IV
DIWRNOD TALU RHENT
Heblaw yr Hafod Oleu, brithid plwyf mawr Llangynan â chryn nifer o amaethdai
ereill llawn cystal eu tir â’r Hafod; os nad oeddynt yn rhoddi cymaint o yd a
gwair, a gwahanol lysiau at gynhaliaeth dyn ac anifail, nid y tir ddylesid feio
o’r herwydd, ond y dull ei trinid. Gwyddai pawb fod yn bosibl i Dyddyn Dafydd
gnydio yn dda, ond gan y treuliai gwr y tŷ fwy o’i amser i grwydro yn ol
ac ymlaen i “gynffona” — yn ol dull ei gymydogion o siarad — o gwmpas
boneddigion, yn hela, ac yn ofera amser mewn gwahanol ddulliau na pherthynai i
un amaethwr ymyryd â hwy, byddai John Evans, druan, byth a hefyd yn methu cael
y ddeupen i’r llinyn ynghyd. Ond dysgodd ychydig o eiriau Saesneg, y rhai
fyddai’n destyn chwerthin yn y fro, a phan welai y plant ef, ond odid fawr na
ddechreuai y bechgyn mwyaf direidus ganu —
..........Yes and no, dyna fo,
..........Yes indeed, dyna fo’i gyd.
Ac aeth ei “tancie, tancie kindly,” yn boblogaidd iawn. Os teimiai rhywun ar ei
galon ddiolch yn lled wresog am ryw gymwynas, odid fawr na chlywid ef yn dweyd,
“Tancie, tancie kindly, tancie John Evans.” Diau fod rhyw chwilen ymhen y
teulu, canys meddienid chwaer John Evans gan yr un clefyd boneddigaidd. Dynes
bwysig iawn oedd hi, fwy anhwylus i’w thrin o lawer na’i brawd. Os digwyddai i
un o’i chymydogion ei galw wrth ei henw, yn ol y dull mwyaf cyffredin o gyfarch
gwragedd a merched ffermydd y dyddiau hynny, codai ei haeliau trymion i fyny,
edrychai ar y creadur anffodus o’i ben i’w draed, a hysbysai ef yn ei dull
mawreddog ei hun, “Mrs. Jenkins, Cefn Mawr, ydi fy enw i, a chofia ditha
hynny.” Hawliai y wraig hon barch pob creadur (x17)
ymhell ac yn agos, ac ni pharchai undyn ei hun os na fyddai yn dirfeddiannydd,
neu yn
Digon prin y cedwid cymaint o weision yn Cefn Mawr ar gyfer y gwaith ag a
ddylesid, ond cwynai y dynion fod yno brinder bwyd iddynt, er lleied eu rhif,
ac ni fu un chwedl erioed mor boblogaidd a’r hanes am y pen cwningen ddaeth
allan o barlwr Cefn Mawr, un dydd, yn ginio i dair o forwynion, pryd y collodd
Sian ei thymer ac yr aeth yn ol, y taflodd y pen a’r ddysgl a’r gwlych ar y
llawr o flaen wyneb ei meistres, a’r merched yr arferai Mrs. Jenkins eu galw yn
“ledis ifanc,” er fod eu hieuenctyd wedi ffarwelio â hwy er’s amser maith.
Modd bynnag, derbyniodd pob un ohonynt gyfran led helaeth o syniadau eu
gweinidogion am danynt gan
Er nad oedd ar etifeddiaeth Plas Dolau ddau denant mor ddiofal yng nghylch eu
ffermydd, a’r brawd a’r chwaer yma, eto talodd y cynffona iddynt yn rhagorol,
daethant yn fuan iawn wedi eu dyfodiad i’r Plas Dolau, yn gyfeillion i Mr. a
Mrs. Harris. Pan wedi yfed llymaid gyda digon ambell dro, clywid Ned Williams y
saer yn gwawdio “twrna” Cefn Mawr a John Evans, Tyddyn Dafydd, yn ddiarbed, gan
ail-adrodd dywediadau Mr. Harris am danynt, yng ngefail Huw Huws, “Stwffio’u
hunain ma’r ddau, ’does acw neb eisio gwel’d
yr un o honyn’ nhw. Ma Mistras yn ledi iawn, nid rhyw hen hopran o beth fel
twrna Cefn Mawr. ’Does ryfedd yn y byd bod i
gwr hi wedi marw, mi godsa tafod yr hen jâd yna dyciâu ar wenci.”
“Ma’ hi’n ddwrnod talu rhent acw fory, yn tydi hi, Ned? “ ebe Huw Huws y gô.
“Faswn i’n meddwl i bod hi. Ma mistar wedi penderfynu bod acw ginio
rhent siort noblia i fod, (x18) hefyd. Mae’r
plwm pwdin, boys, gimin a megin Huw ’ma ond
fod o’n grwn. Mi fuon yn i ferwi o
rownd y cloc medda nhw.”
“Well done, Ned, does dim curo ar gelwydd iawn pan fydd dyn o’i chwmpas
hi,” ebe garddwr Syr Tudur Llwyd.
Ond yr oedd Ned ar gefn ei geffyl o dan ddylanwad Syr John Heidden, ac nid oedd
ball ar ei hyawdledd.
“Mae acw lond pob man o gwrw hefyd, lads; mi fydd Rhobat Gmffydd, Hafod Ola’,
yn agor i lygad.
“Mi fasa’n fendith fawr tysa Mr. Haris acw yn myn’d i’r un fan a Mr. Wyn am
gyngor, medda i,” ebe Huw Huws.
“Wel, dydw i ’run o bobol y glasdwr.”
“Raid i ti byth ddeyd dy gredo wrth undyn, Ned William; ma dy lygad di yn rhy
debyg i lygad pennog i neb neud camgymeriad yn dy gylch di, druan. Rhowch i mi
un olwg ar lygad dyn, fydda’i fawr o dro yn deyd beth ydi ddiod o.”
“Os wyt ti’n meddwl bo’chdi’n broffwyd, ma’n siwr ddyn medri di ddeyd sut bydd
hi yn y Senedd yna. Mi fydda’n burion gin Mistras glywad fod yr hen Babydd yna
wedi ’i rwmo am fil o flynyddau.
“Am bwy ’rwyt ti’n siarad, Ned?” gofynnai
Huw Huws.
“Wel, am y dyn drwg yna; bedi enw fo? Neno’r Tad, bedi enw fo hefyd? “
“Disraeli ma’ Ned yn feddwl reit siwr,” ebe Wil y Llechwedd, gan wincio ar Huw
Huws.
“Disraeli? Na, ma mistras yn deyd ma Disraeli sy’n rhwystro’r dyn drwg yma i
losgi, ne ladd pawb sy’ heb fod yn Babydd.
“I be, neno’ rheswm, deudith o hanes Pabyddion wrthon ni, Ned?” gofynnai gwr y
Frongaled oedd wedi galw yn yr efail gyda’r nos i wrando a glywai ryw newydd
yno.
“Wel, i ni gyd fotio o ochr Mr. — Mr. — Tad anwyl be’ sy’ ar y ngho’i heno,
deudwch; fedra’i yn fy myw gofio enw hwn yto, a mistar yn son am dano fo wrtha
i lawer gwaith yn y dydd, Mr. — bedi enw’r gwr bynheddig? Da’i byth o’r fan ’ma, bedi enw’r marchog, y fo ydwi’n feddwl?”
“Mr. Tattenhall, ynte?”
“Debyg iawn, ma’ gin ti gô’ siort ora, Wil.”
“Mi fydda gwell trefn ar dy synwyra ditha tasa ti’n dysgu cau dy geg, Ned. Fel ’dwy byw, mi roethwn i bwyth yn f’un i hefo’r
nydwydd trwsio sacha, os na fasa hi’n byhafio, cyn ceutha dim ceg neyd ffwl o
hona i.”
“Wel, Ned Williams,” ebe gwr Frongaled, “mi ryda chi’n siwr o fod yn dallt
petha i’r dim, ’rydan ni’n gwybod i gyd
gimin o feddwl sy’ gin Mr. Harris, y Plas, o honoch chi: glywsoch chi i lawr
acw ryw son y bydd yma lecsiwn yn fuan?”
“Mi fydd y lecsiwn am yn penna ni cyn i ni feddwl, mi wn i hynny. Ma’ Mistar a
Mistras yn troi o gwmpas y dynion yn yr iard acw ac yn holi a stilio y’ch hanes
chi gyd. Y chi’r fotars felly. Mi fydda yma le ofnadwy yng Nghymru tasa’r
Pabydd yna’n cael i ffordd i hun. ’Roedd
Mistras yn deyd y bydda hi ’run fath ag yn
amser Mari Waedlyd arnom ni.” (x19)
Chwarddodd Huw Huws y gô’ yn galonnog, “Fel’na bydd merch yn deyd hanes y wlad,
ai e. Wel, hwyrach y gneith rhyw lyl-milol fel yna’r tro tua’r Plas Dolau, ond
dydi pobol Llangynan ddim yn ffyliaid i gyd, os oes yma amball un heb fod yn
llawn llathan.”
“Rhaid i bawb ar y stât acw fod ’run air a
Mistar, gewch chi glywad hynny fory hefyd. Mi rydw i’n gwbod fod Mistar am ddangos
ma fo ydi’r mistar yn lle bod yn rhyw frechdan o beth fel Mr. Wyn, na feiddia
fo ddangos i winadd i neb.”
Tarawodd Huw Huws ei forthwyl mawr ar yr engan, nes y crynnai y llawr oddi
tanynt.
“Ned Williams, ’rwyt ti yn cael d’alw ‘Mr.
Williams’ medda nhw i mi, gin ambell i ffŵl, ond os wyt ti’n meddwl bod
yma le o dan yr untô â mi i ddeyd gair bach am Mr.Wyn, tra bydd chwthiad yna’i, ’rwyt ti wedi misio, dyna i ti. ’Does yn Plas Dolau run o honoch chi’n ffit i
ddeyd i enw fo, heb son am ddatod cria’i sgidia fo.
’Roedd Mr. Wyn yn ddyn; ’dwyr neb be
ydach chi os na wyr y cythral. Mi
ddyla fo nabod i deulu’i hun.”
Edrychodd Ned William ar Huw Huws, a gwên wawdlyd ar ei wyneb, ac ebe fe,
“Falla bod dy sgwrsys di yn gneud y tro i Syr Tudur, Huw, ond fasa Mistar fawr
o dro yn newid dy dôn di. Mi fydd yr hen ffarmwrs yn ddigon swat fory ’dwy’n siwr. Nos dawch i chi gyd; ma rhaid
i mi bicio i lawr i edrach fedra’i roi help llaw hefo’r jobs.”
Ac ymaith a’r saer yn ddiymdroi.
“Dyn a helpo Ned,” ebe Huw Huws gan droi at y cwmni.
“Picio i lawr i chwilio am lasiad arall fasa’r gwir, ma’ arna’i ofn; na, dydw i
ddim yn broffwyd nac yn fab i un chwaith, raid i neb gael dau lygad i wel’d fod
Ned ar y goriwared er ma’ mynd i fyny mae o hyd yn hyn. Mi deimlith Rhobat
Gruffydd i’r byw gweld yr hen ddiodan wedi ynnill i lle yn i hol ar fwrdd y
rhent. Dwn i ddim sut gancar ma dynion heb wel’d nad ydi stwffio diod iddyn’
nhw yn ddim ond dull y gwyr mawr o’u cadw nhw ar lawr dan eu palfa nhw. ’Dawn ni chi, Morgan Jones, roethwn i ddim
lodgins i ’run dafn o’u cwrw nhw fory.”
“Ma glasiad o gwrw yn burion yn i le, Huw Huws.”
“Ydi, Morgan Jones, ’dwy’n ama dim, ond nid
yng nghrombil dyn ma’i le fo. A mi fydd yn gofyn i chi fod yn symol o gwmpas
ych petha hefo’r dyn bach tua’r Plas yna.”
Ni ddywedodd Huw Huws ond y gwir. Yr oedd yn ofynnol i’r ffermwyr oll fod o
gwmpas eu pethau y diwrnod talu rhent hwnnw. Rhedai Ned William yn ol ac ymlaen
gan wrando ar yr oll a glywai, a chynorthwyid ef yn y gwaith gan un o’r mân
chwedleuwyr o’r tu arall i’r traeth — dyn callach yn ei genhedlaeth na Ned
William, ac o gymaint a hynny yn waeth, a mwy peryglus. Arhosai y ffermwyr o
gwmpas yma a thraw bob yn dri neu bedwar yn ymgomio â’u gilydd hyd nes deuai eu
hadeg i fyned i bresenoldeb y goruchwyliwr, rhai o honynt yn ddigon
gwyneb-drist, pob dimai a feddent wedi eu crynhoi yn yr hen bwrs llian gwaith
cartref, wedi ei gylymu ag incil coch, a’r oll i fyned i’r meistr tir, yn
ad-daliad am gael gweithio yn galed fore a nawn a hwyr i wrteithio a gwella
eiddo y perchennog, tra y tenant, druan, yn gorfod byw yn galed ar fara haidd,
llaeth enwyn, (x20) ac uwd, a blawd ceirch.
Prin ddigon fyddai yr enllyn, a hynny geid ohono ymbell o fod yr hyn ddylasai.
Anhawdd disgrifio i bobl yr oes hon gymaint y caledi ym mywyd beunyddiol y
cewri moesol a fagwyd yng Nghymru gynt. Ni fuasent fawr haws o’r dannedd geir
gan y deintydd i dorri nac i gnoi y caws, a cheid mwy o flas yr halen na dim
arall yn yr ymenyn er mwyn ei gynilo. Ond er mor brin bynnag y fywioliaeth adref,
rhaid oedd cael y ffyrling eithaf i’r goruchwyliwr ddydd y rhent, neu gallai’r
canlyniadau fod yn andwyol, feallai chwe’ mis o rybudd i roddi lle i’w well.
Derbynid y rhent gan Mr. Harris mewn ystafell fechan wedi ei pharatoi yn
bwrpasol at y gwaith ganddo ef. Yn y llyfrgell yr arferent dalu i Mr. Wyn, ond
ni fynnai y goruchwyliwr newydd wneud un peth ar y ddaear yn debyg i’w
ragflaenydd, a buasai gweled esgidiau cryfion y ffermwyr, eu gwadnau yn llawn o
hoelion mawr, ar garped ei lyfrgell yn ymylu ar y pechod o gysegr-ysbeiliad i
Mr. Harris. Aent ato bob yn un; nid oedd yn yr ystafell, ond un gadair ar yr
hon yr eisteddai y bonheddwr ei hun un ochr i’r bwrdd. Safai y ffermwr yr ochr
arall, a thywalltai y twr o aur melynion y bu mewn cymaint o drafferth yn eu
casglu, o flaen Mr. Harris, a chyfrifai yntau hwynt yn ofalus, ac yna ysgubai
hwynt i’r dror oedd yn y bwrdd â’i law. Ond cyn cael gollyngdod ymaith a’i lyfr
rhent yn glir yn ei law, er eu mawr syndod, canys peth newydd oedd hyn yn eu
hanes, wele Mr. Harris yn edrych arnynt yn graff fel pe am ddarllen eu
heneidiau, ac yn dywedyd wrth bob un o honynt yr un geiriau megis pe yn rhoddi
iddynt oll fedydd Esgob y naill ar ol y llall, ac yn myned trwy yr un wers
uwchben yr oll heb dynnu ei lygaid oddiarnynt nes y deuai’r gair olaf dros ei
wefus.
“Y rhent yn llawn, ïe, popeth yn iawn, fel yna mae gwneud busnes. Newch chi
gofio bod y gwr bonheddig yn disgwyl y rhowch chi’ bob help i’w gamekeepers
newydd o sy’n d’wad yma o Loegr, ac nad oes yr un o honoch chi i gael lladd y
cwningod a’r sgyfarnogod yn rhagor. A newch chi ofalu na wna’r gweision a’r
cŵn acw,” — nid oedd un gwahaniaeth yn null Mr. Harris o siarad am y ddau
ddosbarth o greaduriaid — “ddim dychryn y pheasants. Adar bach ofnus iawn ydyn
nhw, a mae’n rhaid i chi’ rybuddio pawb yn ei cylch nhw.” Cadwai Mr. Harris
lyfr y rhent yn ei law er fod y ffermwr yn gafael ynddo hefyd.
“Mi fydd y gwr bonheddig yn disgwyl wrthoch chi i gyd gymeryd ei ochr ef yn y
lecsiwn fawr mae nhw’n ddeyd sy’ yn agos atom ni. Lecsiwn bwysig iawn fydd hon. ’Ryda’n ni, pobol Cymru yma, wedi arfer bod yn loyal i’r meistr tir, a hynny sy’n iawn,
a neith dim arall y tro i’r gwr bonheddig chwaith, y fo sy’n gwybod beth sydd
ora ar les y wlad, a mi ddeudith Mrs. Harris wrthoch chi i gyd sut ddyn ydi’r
Gladstone yna sy’n ceisio gneud Cymru a Lloegr mor babyddol ag ydi’r Werddon.
Ac am y John Bright yna sydd a son am dano fo, cwacer wedi gneud i ffortiwn ydi
o, fedd o ddim gwaed. Un o’r werin ydi o, a mae’r Sgrythyr yn deyd bod eisio
parchu rhai mewn awdurdod. Mae rhyw son fod y bobol isel yna sydd yn poeni’r
byd yn dwad a dyn drwg yn erbyn Mr. Tattenhall, mi fydda’n burion i chi i gyd
gofio fod y’ch meistr o (x21) ochr Mr.
Tattenhall. ’Rwan ewch i nol y cinio, y
cinio rhent goreu gawsoch chi’ erioed” ac o’r diwedd dyna’r llyfr yn llaw y
ffarmwr, a Mr. Harris yn barod i’r nesaf.
Golwg ddigon cythryblus oedd ar wynebau y rhan fwyaf o’r hen denantiaid pan yn
gadael yr ystafell fach, ac ni feddai y saig o fwyd oedd yn wledd mor amheuthyn
i’r mwyafrif mawr o honynt ddigon o allu i symud y cwmwl oddiar eu gwedd.
Deallodd yr oll eu bod wedi newid goruchwyliaeth, ac nid er gwell. Daeth Robert
Gruffydd yr Hafod Oleu i dalu’r rhent hefyd pan oedd y seremoni’n tynnu at y
terfyn, a dechreuodd Mr. Harris barablu yr un pethau wrtho yntau, ond torrodd
Robert Gruffydd ar y baldordd trwy ofyn “Oes yna ryw wahaniaeth i fod yn fy agreement i, Mr. Harris? Ches i ddiin
rhybudd fod dim yn wahanol i’r hyn sydd yn y cymeriad ar honno i fod.”
Trodd Mr. Harris ei lygaid oddiwrth wyneb cywir Robert Gruffydd, gollyngodd
lyfr y rhent a dywedodd,
“Yn siwr mae’r gwr bonheddig a chitha yn deall y’ch gilydd, Robert Gruffydd. Mi gewch ginio da, ewch ymlaen at y
bwrdd.”
“Diolch i chi Mr. Harris, ond rhaid i mi ofyn i Mrs. Harris fy esgusodi
i heddyw.”
“Beth! fyddwch chi ddim yn bwyta cinio rhent y gwr bonheddig, Robert Gruffydd?”
“Wel byddwn, mi fyddwn i’n arfer eistedd wrth y bwrdd hefo’r cwmni bob amser,
ond diolch i chi’ Mr. Harris, fedra’i ddim gneud hynny eleni.”
“Beth sydd yn galw am danoch chi’, dear
me, mi gewch ginio heb ymdroi. Y chi ydi’r ola’ ynte, mi ddo’i i fewn hefo
chi i’r wledd. Mi deimlith Mrs. Harris, a hitha wedi bod ar i gore yn paratoi.”
“Na, Mr. Harris, nid oes undyn byw neith y mherswadio i i eistedd wrth un bwrdd
i wledda os byddai’n gwybod fod yna gwrw ne ryw ddiod frag arall
“Dear me, dear me, Robert Gruffydd,
peidiwch a bod mor stiff am dro; mi fydd ych gweld chi’n myn’d adre heb ddim
cinio yn destyn siarad y wlad. Ac mi fydd yn chwithig iawn i Mrs. Harris. Mae
hi’n meddwl yn dda am danoch chi.”
“A mae gen inna barch mawr i Mrs. Harris, ormod o lawer i neyd dim yn groes i
nghydwybod er mwyn ei phlesio hi. Pan fydd bwrdd Plas Dolau yn glir oddiwrth
ddiod feddwol, Mr. Harris, fydd neb yn barotach na mi i gyfranogi o’r wledd,
hyd hynny mae’n rhaid i fy lle i fod yn wag. ’Dydi
fy lle gwag i o bwys yn y byd i chi, ond mae cadw cydwybod dda tuag at Dduw a
dyn yn bopeth i mi. ’Rydwi’n cofio yr adeg
pan fyddai mam, coffa da am dani, yn torri pennog yn dri rhwng i phlant bach,
ac yn torri ŵy yn i hanner, a mi fydda’n well gen i fyw ar y drydydd ran o
bennog, a hanner ŵy eto, (x22) Mr.
Harris, na rhoi fy nghydwybod o dan draed. Prynhawn da, syr, a diolch i chi a
Mrs. Harris yr un fath,” ac ymaith a Robert Gruffydd tua’r Hafod Oleu. Ffromodd
y goruchwyliwr yn aruthr; ymddanghosai hyn fel sarhad personol
“Pa fusnes sy i ffarmwrs o’i sort o sôn am gydwybod? Cydwybod wir! I gydwybod o
a’i debyg ydi gneud y peth fydda i’n ddeyd wrthyn nhw,
’dwy’n meddwl. Mae o am dynnu torch hefo mi, yn wir fydda’i fawr o dro
yn dangos iddo fo beth ydi cydwybod. Y fath impudence! Gwrthod bwyta
cinio yn y Plas am mod i’n leicio rhoi glasiad i’r dynion. A synnwn i ddim na
fydd Mrs. Harris yn i admirio fo chwaith, ma merched yn ddigon od, y rhai gore
o honyn nhw. Rhaid i mi setio gwr
mawr yr Hafod yna yn well na hyn.”‘
A cherddai Mr. Harris yn ol a blaen o’r naill gwr i’r llall o’r ystafell gan
siarad wrtho ei hun a thyngu llwon y danghosai efe pwy oedd y meistr i Robert
Gruffydd. Eto, yn nyfnder ei galon gwyddai ef ei fod wedi dod i gyfarfod â
chymeriad nas gallai bygythion na melldithion o un rhyw ei droi oddiar lwybrau
cyfiawnder, a’r wybodaeth yna gynddeiriogai y goruchwyliwr. Meddyliai ei fod yn
gweled yn wyneb yr holl ddynion wrth y bwrdd eu bod yn deall paham nad
eisteddai Robert Gruffydd gyda hwynt. A gwnaed pethau yn waeth fyth trwy i Mrs.
Harris, yr hon oedd yn cerdded o gwmpas y neuadd yn taflu golwg ar y gweinidogion yn gwasanaethu y
byrddau, er sicrhau i bawb gyflawnder o’r danteithion — ofyn, “Pa le mae Robert
Gruffydd, Hafod Oleu, mae lle wedi gadw yma wrth y pen iddo fo?” a methai y
foneddiges yn lân a deall fod yn bosibl i neb fyned ymaith heb giniawa, a thra
yr holai hi am y rheswm, tybiai Mr. Harris fod y ffermwyr yn edrych ar eu
gilydd.
“Rêl boy ydi Rhobat Gruffydd yr Hafod, dyna i chi,” ebe Evan Roberts, gwr
Tŷ Canol, yn yr efail y noson honno, “a mi rydw i’n cynnyg fod i ni gyd
listio dan i fanar o. Mi welis i’r hen ditw yna yn y Plas yn ceisio i droi o, a
fasa waeth iddo fo daflu’i het yn erbyn y gwynt ddim. Grym anwyl, mi ’roedd o o’i go’ hefyd. Mi chwerthis i nes oedd
f’ochra i’n brifo wrth fynd adra. Rêl boy, does dim dowt.”
“Wel, wyddwn i ddim beth fasa’n debyg o ddigwydd, Evan Roberts, ond mi wyddwn
gimin a hyn, na fasa rijmant o soldiars ddim yn gneud i Rhobat Gruffydd roi
cefnogaeth i’r hen ddiodan, a ron i’n bur siwr nad oedd stiwart bach y Plas
ddim yn mynd i goncro fo. Wel, dydi hi ond dechra yma yto “ ebe’r gôf.
PENNOD V
DAN YR
Ar dir Hafod Oleu, heb ond cwrt bychan cyd-rhyngddynt â’r ffordd fawr, safai
dau o fythynod gwynion, a tho gwellt arnynt. Nid oeddynt fwy na dau gan’ llath
oddiwrth eu gilydd, ac nid oedd un gwahaniaeth yn eu maintioli, na chwaith yn
eu muriau a’u ffenestri bychain. Bythynod distadl, heb un corn iddynt, oedd y
ddau, ac heb (x23) ddarpariaeth o fath yn y
byd ar gyfer tân, ond ei roddi ar lawr yn ol y dull hen ffasiwn; eto, canfyddai
hyd yn oed y dieithr ddyn, ar ei daith heibio y drysau, fod byd o wahaniaeth
rhwng y ddau fwthyn. Llenwid cwrt bychan un o honynt a blodau amryliw — blodau
ar gyfer pob tymor feddyliem ni, gan na fyddai gardd fach Boba byth heb wynebau
siriol y rhosyn coch, neu “fotwm gwr ifanc,” a “chot y melinydd,” a llawer
ereill rhy liosog i’w henwi, — y blodau prydferth welid yng ngerddi bach
bythynod Cymru. Un o bob tu’r adwy fach tyfai twmpath helaeth o hen wr, a rhosmari. Yr oedd pob llechen las yn lân oddiallan ac oddimewn, y
ford gron yn wen fel pren newydd ei ddirisgio, a dim cymaint a llwchyn i’w
weled ar na chwpbwrdd na thresel, ond y cyfan yn lân a thaclus — y tŷ
bychan prydferthaf allasai hen wraig dduwiol ei ddymuno, i dreulio nawnddydd
bywyd ynddo. Y tu cefn i’r bwthyn yr oedd gardd gyfoethog o goed gwsberis,
currans duon, cochion, a gwynion; mefus mawr yn wely taclus, yn un gornel iddi,
gwelyau ereill o riwbob a wynwyn, persli a chenin. Digon o faip a thatws,
ambell i res o ffa, a ffys, yma a thraw, yng nghyd a choed mafon yn tyfu ar hyd
ochr y cloddiau gylch yr ardd. Ac yn ei chanol y pren afalau harddaf yn yr
ardal, i’n tyb ni; feallai fod ei unigrwydd yno yn rhoddi mwy o arbenigrwydd
Galwai Syr Tudur Llwyd yn Tyn’rardd, ryw ddiwrnod ymhob wythnos, ac ni
ymadawodd oddiyno erioed heb adael swilt yn llaw Boba.
“Chi rhy hen i byta bara haidd, Boba, chi cael torth o bara gwyn wedi pobi yn
cetal, a fi dwad heibio i nol brechdan dena chi, i fi gweld hen wraig da fel
chi’n cael bara proper.”
A “bara proper” fyddai bara Boba
hefyd. Nid oedd un creadur trwy’r holl blwyf na fyddai brechdan o fara cetal
Tyn’rardd yn flasus-fwyd iddo. Gofalai Gwen Gruffydd anfon “printan” o ymenyn
iddi, ddigon, dros yr wythnos, a phan ysgydwai yr hen wreigan ei phen, gan
ddweyd nad oedd “peth felly ddim ffit”
y naill wythnos ar ol y llall, chwarddai Rhianon — y hi fel rheol fyddai
y negesydd — a dywedai, “Fase mam byth yn medru dechreu mynd i ben y corddiad
yn y llaeth na’r menyn, heb iddi hi ngweld i’n dwad a’r degwm yma’n gynta
Boba.”
“Y degwm,” fyddai enw Rhianon ar bob rhodd wythnosol o laeth ac ymenyn o’r
Hafod i’r hen wraig, a chofiai hi am dano llawn cystal a’i mam. Ac ni
chyfyngid haelioni yr Hafod i laeth ac ymenyn. Ambell ddiwrnod byddai y cawg
pren a’i lon’d o flawd ceirch ffres newydd ddod o’r felin, bryd arall ddarn o
asen fras, neu bwys o gig biff yn y fasged ar fraich Rhianon; ac ni fu pall ar
garedigrwydd y ffermwyr oll o’r bron i Boba. Weithiau bygythiai yr hen wraig
fyned i gadw siop, ond dywedai Olwen wrthi nad oedd un diben iddi lolian, y
buasai traed budron y cwsmeriaid yn ei phoeni i’w bedd cyn pen y pymthegnos, a’r diwedd fyddai
i’r hen wraig ollwng ei hosan ar ei glin a dweyd na wyddai hi beth oedd ei Thad
nefol yn weled mewn hen greadures hyll fel y hi i gymeryd gofal o honi, bod yn
bryd iddi fynd o’r golwg er’s talm.
Nid anaml y clywais hen wragedd yn disgrifio eu hunain fel pethau hyllion, pryd
mewn gwirionedd fod llawer un ohonynt yn myned yn harddach y naill ddydd ar ol
y llall, er fod y trwyn yn nesu at yr en. Mae heneiddio yn naturiol yn un o’r
golygfeydd prydferthaf geir ar ddynoliaeth, ac er fod deng mlynedd a thriugain
wedi gadael eu hol ar Boba, hen wraig lan yr olwg arni oedd hi. Nid oedd ar ei
hwyneb un marc wedi ei adael yno gan dymherau drwg, teimladau chwerwon, llid,
enllib, a llu (x26) ereill o’r pechodau,
arwyddion y rhai welir mor amlwg yn wyneb plant y tywyllwch. Bu bywyd Boba yn
fywyd teilwng, ac adlewyrchai glendid bywyd yn ei hwyneb wedi i’w gruddiau
rychu, a’i gwallt wynnu. Mynych y dywedai Robert Gruffydd am dani fod yn hawdd
gweled “y nod” yn nhalcen Boba.
Eithr na feddylied neb na fu i Boba fel i’r rhan fwyaf o blant y codwm, aml a
blin gystuddiau; collodd briod hoff a dau fachgen yr un dydd mewn
llongddrylliad, a’u llestr yng ngolwg y lan. Gadawyd hi yn unig heb un
berthynas yn ol y cnawd ar y ddaear, am a wyddai hi, ond ni chlywodd neb mo
Boba yn llefain un gair ynfyd yn erbyn y drefn. Ar hyd oes faith o drallodion,
pan bron a suddo yn y dymhestl, hoff air Boba fu, “Yr Arglwydd yw Efe.” Ac
ystyriai fod ganddi lawer o destynau diolch fod ei hanwyliaid bob yr un yn
ddiogel “yn y tŷ nid o waith llaw tragywyddol yn y nefoedd.”
“A dyma finnau yn fy hen ddyddiau yn morio ar eu hola nhw, ac mae’r gwynt yn
dawel iawn ar fy hen gwch bach i, a mor ddiolchgar y dylwn i fod yn fy henaint
fel hyn, a’r addewidion wedi eu cyflawni bron i gyd i mi. Efe sy’n gosod ‘yr
unig mewn teulu,’ welsoch chi ’rioed fel ma
hona’n fy ffitio i. ‘A bydd goleuni yn yr hwyr,’ dyna un arall, yn dydi hi’n
ola arna’ i os bu hi ar neb erioed yn y byd yma, ddyliwn i. Wel, does dim posib
iddi hi fod yn dywyll, yn nac oes, Rhobat Gruffydd, a’r Gair yn dweyd ‘Haul y
Cyfiawnder a gyfyd i chwi.’ Dyn a helpo’r bobol yma sy’n treio ymbalfalu’u
ffordd trw’r byd yma heb eu Tad nefol. Mi faswn i wedi troi a throsi a cholli y
llwybr fel hen ddafad grwydr, a mynd yn sownd yn y drain filoedd o weithia
onibai mod i’n gafal mor dỳn yn llaw fy Nhad, blant bach. A phan fyddwn i
ddim yn siwr o honi hi weithia yn swn y ddrycin a’r gwynt yn fy ysgwyd i nes
o’n i’n mynd i syrthio; wn i ddim be neuthwn i onibai i mi glywed llais fy Nhad
yn uwch na nhw bob un. ‘Ni’th roddaf i fyny ac ni’th lwyr adawaf chwaith,’ a
dyna fi ar y nhraed wedyn yn battlo hefo’r tywydd i gyd.”
Yn llwydni’r cyflychwyr ddiwrnod talu’r rhent, eisteddai Rhianon ar y stol dri
throed fechan yn ymyl hen gadair wellt Boba yn ail-adrodd iddi helyntion y
dydd.
“A ’does neb wyr beth i ddisgwyl nesa, Boba
bach, ond mi wyddon ni i gyd na thry nhad ar dde nac ar aswy i blesio Mr.
Harris na Mr. Dim-byd, boed y canlyniadau y peth y b’ont, os bydd o’n siwr ma o
fydd yn iawn. Mi fydd Syr Tudur yn deyd y bydd nhad yn
’i le bob amser hefyd.”
“Sut ma’r adnod honno yn y Salm, ngeneth i? ‘Efe a’m harwain ar hyd llwybrau
cyfiawnder er mwyn Ei enw,’ ynte, ddeudodd O, Rhianon? Fydd O ddim yn llai na’i
air. Mi fydd Rhobat Gruffydd yn bur siwr o fod yn cerdded ar hyd y llwybyr
iawn, ac felly mi fydd yr Arweinydd Mawr hefo fo bob cam o’r ffordd. Fo bia’r tân i gyd, a fydd O fawr o dro yn
gneud mur ohono fo o gwmpas i bobol. ‘A’r tew gymylau sydd eiddof Fi.’
Mr. Harris neu beidio, mi ’rydan ni’n ddigon
saff.”
“ ’Doedd Nisien Wyn ddim yn saff, eto ’roedd o’n fachgen da, Boba, Nisien ddylse fod ym
Mhlas Dolau. Mi fydd Syr Tudur yn deyd y gneutha fo’r tro yn iawn, ond Mr.
Harris sydd yno, ac mae o wedi troi pob man y gwrthwyneb allan. Mae pob cornel
yno o chwith i mi, a ddim hanner mor daclus. ’Rydw
i’n drysu’n lân wrth geisio iwsio fy rheswm at betha’r byd yma ’rwan, a ’does
fawr o amser pan o’n i heb wybod beth oedd poen,” ac ysgydwai Rhianon ieuanc ei
phen.
“Na, fedrwn ni ddim dallt y plania, ngeneth bach i, mwy nag y medra’r hen Jacob
stalwm ddallt pam roedd raid i Joseph i fab o fynd i’r Aifft, ond yr oedd o’i
lawr yn y plan, er bod yr hen Jacob yn methu gweld yn ddigon pell, bod Joseph i
gadw’n fyw bobol lawar iawn, dyna fel ma’r Beibil yn deyd. Mi wn i nad
oes yma ’run ohonom ni’n dallt pam bu raid
i’r gwr bynheddig ifanc orfod cychwyn o’i wlad a gneud lle i Mr. Harris, ond
ma’r plan yn ddigon sicr o fod yn iawn, Rhianon. A mi ddown ni i weld y rheswm
ryw ddiwrnod. Rhwbath digon digri i ni ydi darllen hanes plant
Gwenodd Rhianon.
“Mi na’n y tro fel yna, Boba. Misio gweld petha fel yna rydw i, eto mi fydda
i’n treio ’ngora, ond mae yma ryw helynt yn
fan hyn,” gan roddi ei llaw ar ei brest, “sy’n rhyfela yn erbyn trefniadau’r
byd yma, a mi fydd pob dim yn drysu mhen i.”
“Byddan mi wranta, ngeneth i, ond mi nei di’n symol, welis i neb fawr well na
Rhianon am droi’r cymyla rownd a chael hyd i’r awyr las sy’r ochor arall iddyn
nhw i gyd. Ac os ydi pawb yn ’u lle wrth
broffwydo fod amseroedd blinion o’n blaen ni yn Llangynan, mi fyddi di’n help i
bawb amser honno. Mi fyddi’n dal ymbarelo i gadw’n penna ni rhag y glaw, gei di
weld.”
“Taswn i’n fachgen, Boba, mi fase rhyw siawns i mi neud tipyn o les yn y wlad. Hwyrach
base Syr Tudur Llwyd yn fy helpu fi. i fyn’d yn Aelod Seneddol fy hun. Mi wn i
baswn i’n rhywun rywdro taswn i’n fachgen, ond dydw i da i ddim fel hyn. Mi wn
i fod Syr Tudur yn meddwl y gallswn i neud hylldod o les taswn i’n fachgen.”
“Felly wir, wel rhaid i mi adgoffa i Syr Tudur y tro nesa fod Deborah yn fwy
angenrheidiol o ddim rheswm yn y frwydr fawr yn erbyn yr hen Jabin na Barac. Yn
neno dyn, deutha Barac ddim i’r rhyfel hebddi hi, roedd
Neidiodd Rhianon ar ei thraed, “Mae’n dda i chi son am Elin, Boba, mi ddeydodd
mam wrtha i am droi i mewn i Ty’nffordd wrth fynd yn f’ol. ’Roedd Sian acw’n deyd bod hi wedi gweld Catrin
William yn llawn helbul yn ceisio golchi, ac Elin yn waeth ei threfn nag arfer,
wedi gwisgo rhyw ddillad rhyfedda am dani, ac yn cerdded yn ol ac ymlaen yn yr
ardd. Mae’n drueni ei gweled, ac er bod hi yn ddigon diberygl, eto fedra i yn y
myw beidio teimlo na ddylai Catrin William fod heb rywun heblaw hi ei
“Ma Catrin ddigon dilun ma’n siwr, ond mae tipyn o flerwch yn rhyw ail natur
iddi druan, fasa hi ddim yn hapus tasa petha’n dwt o’i chwmpas hi. Ond neith
Elin ddim niwad i’w mam, nid ffordd honno mae i dryswch hi wrth lwc. Mi
fyddai’n gofyn yn amal iddo Fo i chadw hi fel finna dan gysgod Ei adenydd, ac
wedi i mi roi Catrin dan yr
“Noswaith dda, Boba.”
“Noswaith dda, ngeneth i, mi nei di’r tro pan gei di wersi rwan ac yn y man.
Tipyn yn ddiamynedd bydd plant; ïe, dos i Ty’nffordd.”
Oddiwrth fwthyn prydferth Boba cyfeiriodd Rhianon ei chamrau tua Thyn’ffordd.
Er nad oedd ond megis ergyd carreg cyd-rhyngddynt, a bod y tŷ a’r ardd yn
union yr un faint, eu hadeiladaeth mor debyg i’w gilydd, eto ni fu dau dŷ
erioed mwy anhebyg. Yn lle blodau Boba gylch y drws, ni cheid ond bwcedi
llawnion o ddwfr budr yn gwarchod y rhiniog yn Nhyn’ffordd. Padell bobi a
thalpiau o does yn glynu ar hyd ei hochrau, a hanner llond honno o ddwfr hefyd.
Diau na ddysgodd Catrin William erioed y gelfyddyd o dylino, meddyliai Rhianon,
canys gwyddai hi y byddai ei mam yn disgwyl gweled y badell heb does na blawd
na dim arall ar hyd ei hochrau, na chwaith yn y gwaelod pan roddid y bara yn y
pobty. “Padell lan pobwraig fedrus,” ebe Gwen Gruffydd.
Oddifewn i’r bwthyn yr oedd popeth yn driph-draphlith, cader ar ben y ford
gron, mawn yn docyn ar ganol y llawr, y crochan uwd bychan wedi ei dynnu
oddiwrth ben y tan i oeri, a’r
“Bore da, Miss,” ebai hi, er fod yr haul wedi machlud a’r lleuad yn cymeryd ei
lle yn y ffurfafen.
“Nos ydi hi, Elin, rwan,” ebe Rhianon, “a mae hi’n hen bryd i ti fod yn y
tŷ yn hwylio i dy wely.”
“Ha, ha, ha, glywi di Miss, mam? I
ngwely, a finnau eisio mynd i’r ffair, y fi i’n ngwely! Y fi sydd i fod yn
frenhines yn y ffair, dyma’r goron a’r dillad a’r cwbwl yn barod. Bore da,
Miss, i chi. Ma Syr Tudur Llwyd newydd basio, rhaid i chi dendio, Miss, ne mi
fydda i wedi’ch rhedag chi.”
“Be sy matar ar yr eneth,” ebe Catrin William, gan wasgu ei dwylaw ynghyd gan
faint ei gofid, “Elin bach, Elin.”
“Be sy matar ar mam, a meddaf fi wrthi hi, duwc anwyl, meddaf fi, fasa chi ddim
yn falch o fyw ar ben y’ch digon, medda fi,” a rhoddodd yr eneth chwerthiniad
aflafar.
Yr oedd pawb yn yr ardal yn ddigon cynefin a chrwydriadau meddwl yr eneth
anffodus. Nid oedd un bonheddwr dibriod, o ba oed bynnag, na byddai Ehn wedi
cymeryd ffansi tuag ato ryw dro neu gilydd, ac ni wnai neb un sylw o honi.
Edrychodd Rhianon arni, gafaelodd yn ei braich ac arweiniodd hi i’r tŷ.
“Rwan, Elin,” ebe hi, heb dynnu ei llygad oddiarni, “tyn di y petha yna bob
un.”
Dechreuodd y druanes wylo.
“Peidiwch Miss Rhianon, peidiwch edrach arna i fel yna, mae arna i’ch ofn chi,
oes wir,” a dechreuai luchio y dail a’r blodau a thynnu’r cwilt a’r shawl, gan
ddal ei llaw ar ei llygaid.
“Ydi Miss yn edrach mam, ydi Miss yn mynd i ffwrdd, mam; mae hi yn
edrach arna i run fath yn union a tasa hi am y chwipio i mam.”
“Elin,” ebe Rhianon yn fwynaidd ei llais wedi iddi orchfygu ysbryd gorffwyllog
yr eneth, “fydda i ddim yn chwipio plant da, fydd neb ddim, a —”
“Ond dydw i ddim yn dda, un ddrwg iawn ydyw i, Miss. Mi fydd mam yn crio am mod
i mor ddrwg, a medda fi wrth mam, duwc anwyl medda fi, rydw i wedi blino byw
mewn baw, a mi a i i’r ffair meddaf fi.”
“Wyt ti ddim yn leicio baw?”
“Duwc anwyl, nac ydyw i, mae’r ardd yn lân, a mae well gin i yno nac yn y
tŷ.”
“Pam na wnei di lanhau’r tŷ Elin? Rwan gad i mi dy wel’d ti’n gneud lle
glân.”
Trodd ei golwg ar Catrin William a dywedodd, “Rwan, Catrin, tra bydd Elin yn
gneud lle glân hefo mi, mae’r uwd yn oeri yn y crochon, eisio’i fwyta, a
chithau’n barod iddo fo ynte? Rwan,
Elin, mi ddechreuwn ni fan yma, côd y mawn yna bob un a gad i mi dy weld yn
gneud tas fawn bach yn y gongl acw.”
Amser digon chwithig i ddechreu glanhau y bwthyn yng ngoleuni’r gannwyll frwyn
oedd hi, ond tybiai Rhianon mai digon o waith oedd y peth goreu i Elin, a dyna
lle bu’r ddwy, un yn dangos y gwaith a’r ffordd oreu i’w wneud, a’r llall wrthi
a’i holl egni yn chwys ac yn lludded yn ceisio ufuddhau i’r gorchymynion. A
Chatrin William yn eistedd yn swp yn ei gilydd yn (x29)
ei chadair dri throed ar yr aelwyd. Bu aml i ymgyrch cydrhwng Rhianon a’r eneth
wrth fyned drwy oruchwyliaeth y glanhau. Mynnai Elin daflu y dyfroedd ar garreg
y drws, ond rhaid oedd iddi eu danfon i’r ffos yr ochr arall i’r ffordd. A
buwyd am beth amser yn methu cydweled yng nghylch y sefyllfa mewn glanweithdra
y meddai padell bobi hawl i ymgyrraedd ati. Wedi i Elin weithio hyd at flinder
corff, peth hollol newydd yn hanes ei bywyd hi, cafodd seibiant a swper.
“Wel, Elin, mi gysgi di heno, a mi fydda i yma ben bore fory. Os wyt ti am le
glan rhaid i ti wneud o, i fewn ac allan yn lan dy hun, a mi dysga i di,” a
dyna Rhianon yn dechreu hwylio tuag adref.
Trodd Catrin William ei hwyneb oddiwrth y tân, “Miss Rhianon, fyddwch chi
fawr, fydda fo’n rhywbath gynoch chi gadw dyledswydd yma heno? Fuo yma ’run dd’ledswydd ’rioed
am wn i yn y tŷ yma, ddim er pen ydw i yma beth bynnag, a mae yma dy glân
heno cystal sy’ bosib iddo fod. Mi fasa’n burion gin i tasa chi’n gofyn bendith
Estynnodd Rhianon ei Beibl bychan o’i phoced, ni byddai byth yn symud hebddo i
un man, a darllennodd Salm; Elin yn edrych arni mewn syndod, ei llygaid a’i
geneu yn llydain agored.
“Duwc anwyl, ydach chi mynd i neud capel, miss, yma?”
Ond tawelodd mewn ufudd-dod i edrychiad Rhianon, a llusgodd ar ei gliniau yn y
dull rhyfeddaf ar ryw led ochr fel pe yn methu gwybod beth oedd meddwl y
seremoni honno, eto yn ceisio efelychu Miss a’i mam.
Gweddi seml, hawdd ei deall, oedd gweddi Rhianon dros Catrin William ac Elin,
eto
enaid tywyll yr eneth amgyffred dim o honi. Clywai Rhianon yn gofyn i rywun ei
rhoi hi dan gysgod Ei adenydd, a murmurai fod well ganddi hi yn ei gwely ei hun
nag wedi hel fel cyw iar dan adenydd yr un aderyn. A phan erfyniai Rhianon am i
rywun nas gwyddai hi pwy ddod i Ty’n-ffordd i aros gyda’i mam a hithau,
dywedodd yn uchel nad oedd yno le i neb arall yn y tŷ i aros, bod hi wedi
llosgi pren y gwely arall ar ol i’w thad beidio bod yno.
Ar hyn dyma Olwen Gruffydd yn agor y drws, wedi dod yno i chwilio am ei chwaer,
a gwelodd Elin hi. Gwaeddodd nerth ei phen,
“Dyma hi wedi dwad. Miss; y frenhines wedi dwad, a ’does
yma ddim lle ffit i beth mor glws a hi chwaith.” Yn ei chynhyrfiad
“Elin,” ebe hi, “Olwen ydi hon, Olwen wedi dod i weld ty glân wedi i ti lanhau.
Ysgwyd law ag Olwen, Elin.”
Daeth Elin ymlaen heb fod yn sicr eto beth oedd yr eneth dlos, ei gwallt yn
disgyn yn gawod euraidd dros ei gwisg o wlanen wen hardd, ond gwelai ei mam yn
siarad â hi, a chlywai Olwen yn canmol y tŷ wedi ei lanhau, a dynesodd
ati, rhoddodd ei llaw yn ofnus ar wallt Olwen, a sibrydai,
“Mae hi’n glws, duwc anwyl ma hi’n glws,” a thynnai ei llaw yn araf dros y
gwallt a’i swynai.
“Elin,” ebe Rhianon, “plant clws ydi plant da i gyd, mi fyddi ditha yn glws os
byddi di yn eneth dda.”
“Yn glws fel hon, Miss? Duwc anwyl!”
“Ie, Elin, yn glws fel Olwen. ’Rwan, Elin,
dos i dy wely i gysgu mewn munud, iti godi’n fore’ (x31)
erbyn d’own ni yma yn y bore.”
“Ddaw hon yma fory?”
“Daw, hefo mi. Cysga di heno.”
Dywedodd y genethod nos dda, ac wedi cyrraedd y ffordd, ebe Olwen,
“Wyt ti yn meddwl y dyle Elin fod yn rhydd, Rhianon. Ydi hi yn ddiogel?”
“Ydi, medda Boba, dan gysgod yr
Gafaelai Olwen yn dynnach ym mraich ei chwaer tra yr atebai “ Ameu, na fydda i.
Ameu beth? Mae popeth yn iawn, Iesu Grist yn y nefoedd, a ninnau yn nesu ato
bob dydd. Ameu beth, Rhianon?”
Ond ni ddywedodd Rhianon air; cofiodd gyngor Goethe, “Os oes gennych ryw
gymaint o ffydd, rhoddwch i mi beth ohono, ond cadwch eich amheuon i chwi eich
“Am beth ’rwyt ti yn meddwl, Rhianon?”
“Meddwl a oeddwn yn deilwng i weddio heno yn Ty’nffordd.”
“Mae pawb yn deilwng i weddio,”
ebe Olwen.
“O! ydynt, Olwen fach, gallwn oll weddio yn y dirgel ein hunain, a dweyd ein
holl hanes a cheisio dadrys y dyrysni yno yn unig, faint o honom ni sy’n
deilwng i weddio gyda a thros ereill sydd beth arall hollol. Ond fedrwn i ddim
gwrthod Catrin, a ’doedd yno neb arall i
n’eud yn fy lle i.”
PENNOD VI
GOLEUNI A GYFYD YN Y TYWYLLWCH
Bob bore yn rheolaidd am rai misoedd ymwelai naill ai Rhianon neu Olwen, ac
weithiau y ddwy, â hen fwthyn Ty’nffordd, a rhyfedd y chwyldroad a greodd eu
hymweliadau yno. Daeth Elin i deimlo fod y cyfrifoldeb o gadw’r tŷ yn lân
yn gorffwys arni hi, ac ymfalchiai ddangos i’r genethod fod y blodau yn tyfu
oddeutu’r drws, a’r bwcedi wedi eu troi ar eu hwynebau yn y gornel y foment y
gorffennai hi â hwy, yn lle dal y dwr budr fel cynt. A deuent hwythau a rhyw
rodd fechan, megis cwpan de, neu blat, iddi weithiau, nes bron ei gyrrui
berlewyg gan lawenydd. Unwaith daeth Olwen a drych bychan iddi, a mawr fu’r
mwynhad a gafodd yr eneth fel y rhan fwyaf o ferched Efa tra yn edrych ar ei
hwyneb yn y drych. Ond yr hyn a dynnai ei sylw tu hwnt i ddim arall oedd y
Beibl bychan a gariai Rhianon. Yn ei byw
Mawr fu helynt Olwen yn ceisio darbwyllo Elin mai anwiredd ddywedai
gweinidogion y ffermydd wrthi, ac er ymresymu mewn llawer dull a modd â hi,
parhau i ofni’r Beibl a wnai, ond rhyw ddiwrnod wedi i’r ddwy chwaer ymgynghori
â’u gilydd, awd a Beibl arall i Dy’nffordd a darlun o Moses yn ei gawell
llafrwyn ar fin yr afon ynddo, a merch Pharaoh yn sefyll yn edrych arno. Nid oedd
y darlun fawr o gampwaith, ond swynodd lygaid Elin er hynny, a holai yn fanwl
yng nghylch hanes y babi bach clws yna, a’r ledi neis yna yn ’i ymyl o, ac nid oedd unwaith yn ddigon i’w
ddweyd wrthi.
“Unwaith yto, Miss, ynte,” hanner dwsin o weithiau yn olynol cyn blino ar hanes
“y babi.” Wedi hynny daeth i gymeryd dyddordeb neilltuol ym mywyd Moses o flaen
Pharaoh, neu fel y dywedai hi, “pan oedd y babi wedi mynd yn llanc, ac yn gneud
ffwl o’r hen frenin hwnnw ynte, Miss.”
Wedi i hanes Moses ddechreu heneiddio, deuwyd o hyd i ddarluniau o’r Gwaredwr
ar wahanol adegau yn Ei fywyd, yn gyntaf pan yn faban gyda Mair Ei fam a’r
doethion yn Ei addoli. Yna yn y
briodas yn Cana, a byddai y gair priodas yn ddigon i beri i Elin druan deimlo
ar ben ei digon. Dyna y sefyllfa gyrhaeddai eithafnod dedwyddwch yn ol ei meddwl gwan hi, gan hynny
nid oedd eisieu rhagor i’w dyddori. Wedi edrych ar bob wyneb yn y darlun, a’u
cyffelybu i ryw rai o’i chydnabod, a holi yn eu cylch fil a mwy o gwestiynau
debygai y genethod, nas gallent hwy eu hateb, am fod ysbrydoliaeth wedi gweled
yn dda eu cadw yn ddirgelwch, trowyd at ddarlun arall, lle y danghosid yr
Arglwydd Iesu yn iachau y ferch “ddrwg ei hwyl gan gythraul.”
“Llun i ydi honna ynte, Miss “ ebe Elin. Ac nis gallai y genethod yngan
gair am foment, canys cynhyrfwyd hwy pan welsant fod y ferch i’r wraig o Ganaan
yn y darlun yn debyg iawn i Elin.
“Be ma’n llun i da yn fanna, Miss, deydwch?”
Ofnai Rhianon iddi wylltio, ond bu yr effaith yn hollol wahanol arni.
Ymddanghosai yn teimlo fod pobl wedi gwneud darlun o honi hi yn arwydd o barch
mawr iddi. Ond ceisiai adgofio pa bryd y bu hyn yn ei hanes, ac
“Be mae o’n ddeyd wrthai, Miss? Duwc anwyl, mi ro’wn i rwbath am wbod be mae
o’n ddeyd. A be ’rydw i’n edrach fel taswn
i’n cadw reiat fel yna hyd y llawr. Eisio i mi beidio sy arno Fo, tybad? Duwc anwyl, mam, ddaru mi edrach felna pan ro’s i gwrbitsh i
Sam, a medda (x33) fo wrtha i, medda fo ‘ ’Rwyt ti wedi llyncu cythral.’ Amsar honno daru
chi adal iddyn nhw dynnu’n llun i, mam, a fînna rhy brysur i gweld nhw, duwc
anwyl, taswn i’n gwbod i mi neud llygad main arnyn nhw, ynte. Ond be ma
hwna’n ddeyd wrtha i?”
Ymhen hir a hwyr, cafwyd gan Elin wrando ar hanes y ferch ddrwg ei hwyl, ac fel
y bu i’w mam ddod at yr Arglwydd Iesu i geisio iachad iddi. Cododd ei phen yn
sydyn, ac edrychodd ar Rhianon, a chan bwyntio a’i bys at Olwen, ebe hi, “Miss,
fel hi baswni’n leicio bod, neith O, pwy bynnag ydi O tasa chi’n gofyn iddo Fo ngeud i fel yna. ’Does yma ddim baw rwan yn tŷ ni, yn nag
oes? Be arall ’blaw glanhau sy eisio i mi
neud, lle bod y gibats yn chwerthin am y mhen i.”
Ond gwaith anodd iawn oedd esbonio i Elin fod Iachawdwr y byd yn amgen na rhyw
wr bonheddig urddasol, tebyg i Syr Tudur Llwyd, ond Ei fod yn ieuengach, ac
oblegid hynny yn harddach yn ei thyb hi. Unwaith gofynnodd i Olwen ai “Nisien
Wyn wedi tyfu locsyn” oedd, a bu hithau yn ceisio ganddi amgyffred am y nefoedd
lle byddai Elin ryw ddiwrnod yn iach, ac yn hardd. Danghosodd iddi y cymylau
gwynion yn yr awyr, a dywedai fod y nefoedd tu draw i’r rhai hynny. Ymdrechodd
roddi iddi ryw ddisgrifiad o’r gwahaniaeth cyd-rhwng y da a’r drwg yn y byd
yma, a’r fath le oedd yn aros y da ar derfyn y daith. Gwrandawai Elin yn astud
hyd nes i Olwen dewi, yna chwarddodd yn uchel.
“Mi wn i’n iawn, Miss, mae yn twll du byddan nhw’n rhoi pawb, mi roethon nhad
yno, mi gwelais i’r hen glochydd yn rhoi cerrig ar i ben o. A fano daru nhw roi
pawb sy’ wedi marw, yn y twll du, dyna i chi. Ac wedi’ i bawb fynd i ffwrdd mi
fydd y bolol yn mynd yno ac yn chwalu pob man a mynd a nhw i neud colciarth o
honyn nhw, dyna i chi. Mi glywas i nhad yn deyd wrth mam basa fo’n leicio gweld
y bwgan yn mynd a hi ar i gefn.”
“Ond cheiff y bolol mo blant da
Iesu Grist, Elin, ma Iesu Grist yn gryfach na fo.”
“Dwn i ddim sut ma hynny, Miss, f’aswn i byth yn gadal i neb y lladd i os baswn
i ddigon cry i rhwstro nhw, a mi glywas i’r dyn hwnnw dydd Sul, pan eis i hefo
chi i’r capal, yn deyd bod rhyw bobol wedi ladd O. Duwc anwyl, mi geuthan nhw
un gin i taswn i’n ddigon cry’ dwy’n siwr. Mi roethwn i gelpan iddyn nhw os na
chawswn i lonydd, dyna i chi, Miss.”
Digon prin y buasai Elin yn gallu
pasio arholiad mewn diwinyddiaeth o un math. Ei ffordd hi o setlo pob cwestiwn
fyddai rhoi celpan i bawb a aflonyddai ar ei heddwch.
Ocheneidiai Olwen mewn anobaith, wrth wrando geiriau yr “eneth wirion.”
Ond os oedd merched Hafod Oleu wedi methu dysgu cymaint a ddymunent arni, buont
yn alluog i’w dysgu i’w caru hwy gyda holl nerth ei chalon, ac un diwrnod
synnwyd Rhianon weled Elin yn ei chyfarfod yn dyfod tua’r Hafod Oleu, “i
chwilio am danoch chi, Miss. Mae arna i eisio i chi ddeyd wrth yr Iesu Grist
hwnnw b’aswn i’n leicio gwbod beth mae o’n ddeyd wrtha i. Fedra’i ddim byw heb
wbod yn hwy. Ac os gneith O fi fel Miss Olwen yna, wel duwc anwyl, rwan am dani
hi medda fi wrtho fo, medda fi.”
Ni wybu neb fawr o hanes (x34) cyfarfyddiad y ddwy eneth oeddynt mor anhebyg
i’w gilydd, un a’i meddwl tywyll cymysglyd, a’r llall yn uwch o’i hysgwyddau’i
fyny mewn gwybodaeth a diwylliant na’r rhan fwyaf o ferched Cymru yr adeg
honno, ond dechreuodd gyfnod newydd ym mywyd Elin, Ty’nffordd. Methodd Rhianon
ac Olwen, er ymdrechu eu goreu, ei dysgu i ddarllen. Nid oedd bosibl argraffu
hyd yn oed y llythyremiau ar ei chof gwan hi. Er hynny bu raid iddi gael Testament
bychan i’w gario gyda hi, a byddai golwg ryfeddol o ddigrif arni, weithiau, yn
cymeryd arni ei bod yn ei ddarllen. Ond os na chofiai Elin yr un lythyren, ar
lyfr, cofiai y cwbl a glywai yn well na’r cyffredin, a gwae y neb a droseddai
yn ei herbyn; cofiai y bai hyd nes y byddai wedi talu yn ol hyd adref i’r
troseddwr anffodus.
Ymhen ychydig oriau wedi i Rhianon ac Elin ymadael â’u gilydd, daeth y newydd
fel taranfollt i blwyf Llangynan fod y Llywodraeth wedi ei gorchfygu yn y
Senedd, ac fod y Prifweinidog — Benjamin Disraeli — wedi penderfynu apelio at y
wlad ar unwaith. Yn y siop a gedwid gan bregethwr Methodistaidd yn y pentref y
clywodd Robert Gruffydd, Hafod Oleu, y newydd, wedi iddo droi yno i ymofyn ei
bapur wythnosol.
“ ’Sgwn i sut lun fydd ar bethau tua’r Plas
Dolau, Robert Gruffydd?” ebe’r pregethwr.
“Fydd yno lun yn y byd, William Williams; mi fydd Mr. Harris yn fwy na llon’d
‘i ddillad, a mae o wedi bod ar gefn i geffyl, fel byddwn ni’n deyd, er’s pan
mae o yma ac wedi codi ofn i ddigio fo ar y rhan fwya’ o’r bobol. Ond mae y
cwestiwn sydd o flaen y wlad y tro yma yn apelio at galonnau Ymneilltuwyr, a
llawer o Eglwyswyr cydwybodol hefyd, ran hynny. Mi geith pob un ohonom ni ddangos sut rai y’m ni. Gobeithio
ein bod yn deilwng o’r hen dadau.”
“Pa ochor gymer Syr Tudur Llwyd, tybed?”
“Wel, Tori ydi Syr Tudur, a mi fotith i’r Tori reit siwr. Mae’r Toris yma fel
defaid; mi ddilynan y bugail aed ef y ffordd y myn; felly Syr Tudur, ond fydd o
ddim diccach wrth bobol ereill am fotio fel y gwela nhw’n dda.”
“Mae hyna’n rhywbeth. Y drwg yn Plas Dolau, Robert Gruffydd, ydi fod y dyn bach
yna yn rhoi’r fath le i gynffonwyr. Sut mae pethau cydrhyngoch chwi a Mr.
Harris, Robert Gruffydd, er helynt y diwrnod rhent hwnnw?
“Mae pethau’n ymddangos yn llawer gwell na’m disgwyliad i, ar y cyfan, ond ’rwy’n bur siwr nad ydi Mr. Harris ddim wedi
maddeu i mi er hynny. Mi fydd Mrs. Harris yn troi i fewn am sgwrs hefo meistres
acw yn lled fynych, ac yn gwahodd y genethod yn ol ac ymlaen tua’r Plas, ond
welsoch chi ’rioed fel bydd y ddwy yn
dechreu fel esgusion yn lle mynd.”
“Lle mae Nisien Wyn, ’rwan, Robert Gruffydd?
Gresyn fod y gwr bonheddig mor ffol a gneud y cyfnewidiad er ei fwyn ei hun, yn
gystal a’i denantiaid.”
“Wel, fedrwn ni ddim deall y drefn; mae’n golwg ni’n rhy fyr. Dyna ddeydais i
yn yr Hafod acw ryw ddydd, ac ’roedd Rhianon
yn deyd mod i ’run air a Boba. Hwyrach bod
ni’n dau yn camgymeryd, ond fedra’i ddim peidio meddwl rywsut, William
Williams, fod yna ryw blania yn yr arfaeth na wyddon ni ddim o’u hanes nhw ar y
mater yma, ne cawsai’r bachgen yna siawns i aros (x35)
adre. Lle mae o, ofynsoch du? Pan
glywson ni ddiwedda’, ’roedd o’n hwylio tua
gwlad machlud haul yn bur benderfynol mynnu llwyddo i neud rhywbeth yn ei
fywyd.”
“Bachgen nobl oedd Mr. Nisien, bonheddwr i’r carn.”
“Ie, William Williams, bachgen da fydd Nisien Wyn, ’rwy’n
meddwl, lle bynnag y bydd; mae Meistres a minna yn credu ei fod yn llestr
etholedig. ’Does yr un ohonom ni yn deall
sut, eto, ond mae rhyw baratoi bob amser, onid oes, ar y llestri etholedig yma,
a rhyw oruchwyliaeth ddigon anodd dygymod â hi ydi’r paratoi bob amser. Pan
mae’r Gwr ei
“Ie, Robert Gruffydd, ïe, gobeithio na fydd y pair ddim yn rhy boeth i neb y dyddiau
nesaf yma. Prin ’rydw i’n leicio edrych
ymlaen, mae’n dda bod y dyddiau wedi eu cuddio oddiwrth ein llygaid, nes y
deuant yn heddyw i ni i gyd.”
Ar hyn, dyma ddynes fechan bert yn dod o’r tŷ ac yn sefyll gan rwbio ei
dwylaw yng nghyd, yn ol arfer siopwyr tu ol i’r cownter.
“Be sy’n bod, William Williams?” Fel
yna y cyfarchai ei gwr yn wastadol. “Be sy’n bod? Mae Robert Gruffydd a
chithe’n edrych fel pe base’r byd ar ben, a’r bobol ar ddarfod. Fedra i ddim
dod i’r capel heno; rhaid i rywun ofalu am y siop.”
“Rhyw awr fyddwn ni yn y capel, Mary fach; a tasa’n ni’n cau’r drws yma am awr,
fyddai’r golled fawr o beth.”
“Felly’n wir, William Willams, hyna wyddoch chi am siop; yn wirionedd i, Robert
Gruffydd, mi fase William Williams wrth i fodd gweld y drws yng nghaead ar hyd
yr wythnos, ond sut mae dyn i fyw? Mae’r siop arall yna i fyny a phopeth mor
flaenllaw; mae’n anodd iawn i ni fyw yn y fan yma a bod wrthi hi’n gore glas.”
Un o frodorion sir
“Wel, Mary fach, os ydî’r lluchio’r cylchau yma wedi darfod mae arna’i flys
treio rhoi pwt o bregeth wrth ’i gilydd.”
Er yr holl helynt yn ceisio rhoddi’r pregethau wrth eu gilydd, ni chafodd neb
achos i gwyno o’u herwydd, oblegid pregethau tra rhagorol fyddai rhai William
Williams bob amser. Ac nid (x36)
oedd gwell areithiwr ar bynciau’r dydd i’w gael yn unman. Tipyn yn gyffrous yr
edrychai Mary Williams y nawnddydd hwnnw. Ni hoffai firi etholiadol.
“I bobol fel ni sy’n byw ar y wlad, Robert Gruffydd, doethineb ydi byw’n
heddychol hefo pawb. Mi fydda i’n deyd wrth William Williams, tawn i rywfaint
haws am beidio tynnu’r byddigions yma yn ’i
ben. Mae nhw’n talu am y cwbl i ni, ac mae Mrs. Harris Plas Dolau, wedi prynnu
llawer iawn yma. Fynnwn i er dim i digio hi, mae hi’n gwsmer da i ni. Glywes i
chi’n son am Mr. Wyn ifanc, ’rwan? Lle
deydsoch i fod o, Robert Gruffydd?”
“Wedi mynd yn rhyw fath o athraw a chydymaith i fab un o’r gwyr mawr yna mae
Nisien Wyn, Mary Williams. Bydd llawer tro ar fyd cyn y daw ef eto i Langynan.”
“Bydd, mi wranta, os daw o rywbryd. Ond
gan mai Mr. Harris sydd yma ’rwan ’does dim ond i ni neud y gore o hono fo. Dyna’r
ffordd galla i ni i gyd. Neno diar mi, mae’r Toria yn eitha am dalu beth
bynnag, a dwn i am ddim, gwell na hynny ar gyfer pobol syn ceisio cael tipyn o
fywioliaeth yn y byd yma.”
“Wel, mae hi’n tynnu at amser dechreu tua’r capel, fydda well i ni droi tuag
yno, tybed, Robert Gruffydd?” ac wedi iddynt fyned allan gyda’u gilydd,
ychwanegodd William Williams, “Pur ychydig wyr Mary am anghenion y wlad, Robert
Gruffydd, ond mae hi’n deall i’r dim beth sy’n eisieu i gadw tŷ wrth i
gilydd. Yn wir, wn i ddim sut lun fasa arna’i yn trin y siop hebddi hi. A mae
Mrs. Harris wedi bod yn prynnu yn lled helaeth hefo ni er’s tipyn ’rwan, ond mi wyddoch chi nad oedd Mary yn
cynrychioli neb ond hi ei
“Gwn yn eitha, William Williams,” a safodd Robert Gruffydd yn sydyn rhoddodd ei
law ar ysgwydd y pregethwr, ac ebe fe, “Mi wn i y byddwch chi a finna yn rhywle
yn ymyl yn gilydd pan fydd eisio dal y tân, a ma rhaid i ni fod. William bach,
neith hi mo’r tro i ni feddwl am ddim ond egwyddorion rhyddid y diwrnod hwnnw,
ac mae o yn ymyl i ni. Mae yma amryw byd o’n cwmpas ni yn rhyw gloffi rhwng dau
feddwl, a mae hi’n bwysig i ni sefyll yn ddiysgog, doed hi fel y delo. Mi wn i mod i wedi fy marcio, ac nad oes
un drugaredd i’w disgwyl o Blas Dolau. ’Rydw
i wedi pwyso’r cyfan yn y glorian. Feallai y bydd rhaid cefnu ar Hafod Oleu, hen
gartref fy nhadau cyn y diwedd; ond mae Gwen o’r un farn a mi. Rhaid cadw
cydwybod dda; fedra’i ddim byw yn gaethwas; dyn rhydd ydi’r enedigaeth fraint a
gefais i gan fy hynaûaid, ac fel dyn rhydd bydda i byw.”
“Mae’n anodd meddwl, Robert Gruffydd, y meiddia Mr. Harris erlid llawer arnoch
chi; ond ’rydw i fel chitha yn benderfynol o
ddangos fy ochor y tro yma, eto yn gobeithio fod oes y merthyron wedi mynd
heibio.”
Noson seiat y bu llawer o son am
dani fu’r noson honno. Ymwasgai y disgyblion yn agos iawn at eu gilydd, nid
oedd eisieu cymell neb i ddweyd gair o brofiad, ond yn hytrach ymddanghosai
pawb â rhyw adnod ar eu meddyliau, ac yn ddigon parod i roddi hynny o gysur
ellid dynnu o’r addewid i ereill. Ni fu un gair o son am y frwydr oedd yn eu
hymyl, eto, ceid profiadau ganddynt fel gan bobl yng nghanol tywydd mawr, a’r
cymylau eto yn llawn (x37) gwlaw uwch eu
pennau. Pan ddaeth yn amser diweddu’r cyfarfod, ni ofynnodd Robert Gruffydd yn
ol ei arfer i un o’r brodyr ddod ymiaen, ond gafaelodd yn y Llyfr Hymnau ei
hunan, daliodd ef yn ei law, ond nis agorodd y llyfr, a dechreuodd ledio’r
pennill hwn oddiar ei gof:—
.....Gwasgara’r tew gymyiau
........Oddiyma i dy fy Nhad;
.....Datguddia i mi beunydd
........Dy iachawdwriaeth rad;
.....A dywed air Dy hunan
........Wrth f’enaid clwyfus, trist,
.....Dy fod yn maddeu ‘meiau
........Yn haeddiant Iesu Grist.
Canwyd y pennill lawer gwaith drosodd, yna gweddiodd Robert Gruffydd. A
gweddi oedd ei weddi ef, nid dim arall: gweddi am nerth yn awr y brofedigaeth,
am ffydd Abraham, Moses, a Daniel: gweddi am arweiniad y cwmwl niwl y dydd, a’r
golofn dân y nos, ac am bresenoldeb y Diddanydd Mawr i roddi iddynt dangnefedd
mewn pob drycin — tangnefedd nas gwyr y byd ddim am dano. Yna adgofiodd mai “Yr
Arglwydd sydd yn teyrnasu,” ac mai Efe yn unig, a’u bod hwy yn ymddiried ynddo
Ef, ac yn credu yr hen addewid, “Goleuni a gyfyd yn y tywyllwch.” Cododd pawb
oddiar eu gliniau, megis wedi eu gwisgo â’r nerth o’r uchelder y gweddiodd
Robert Gruffydd mor daer am dano, ac er i’r wybren fyned yn dywyll iawn i lawer
o honynt cyn pen nemawr o ddyddiau, ni chollodd yr un o honynt yr olwg ar y
goleuni trwy’r cwbl, a gwybuant Ei fod Ef eto yn myned o flaen Ei bobl trwy y
Mor Coch, os byddai raid, ar hyd holl drofeydd yr anialwch, a thros yr
Iorddonen i wlad yr addewid.
Yr un noson, am ychydig funudau, gwelodd un o weision y Plas Dolau angel mewn
gwisgoedd gwynion, meddai ef, yn cerdded yn gyflym odditan y coed derw yn ymyl
y Plas, ac yna yn diflannu. Rhedodd ei hun allan o wynt, ac erbyn cyrraedd
cegin y gweinidogion,
PENNOD VII
AGOS YW DYDD TERFYSG
Dyddiau prysur, llawnion at yr ymylon o waith fu y dyddiau a’r wythnosau o
flaen Etholiad Cyffredinol 1868, trwy yr holl Deyrnas Gyfunol. Yng ngeiriau Huw
Huws y gôf, yn hen efail Llangynan, “dyddiau yr ‘ymaflyd codwm’ oeddynt
cydrhwng bonedd a gwerin, yn enwedig yng Nghymru. Hyd y fhvyddyn honno —er fod
y werin wedi dechreu ymysgwyd a gwingo tipyn o dan iau y caethiwed, digon i
ddangos ei bod yn meddu ar ryw fath o fywyd, pa mor ychydig bynnag — y
boneddigion reolent y cwbl oedd a wnelai â llywodraethiad y wlad. Un o honynt
hwy fyddai Marchog y sir; ni feddai neb arall ddigon o arian nac amser i
deilyngu yr anrhydedd. Ac ni feiddiai neb o’r werin bobl yngan gair yng nghylch
priodoldeb y dewisiad. (x38) Fe allai mai
ynfytyn heb un cymhwyster, ond ei bwrs, a etholid i’r swydd mewn ambell fan.
Bryd arall creadur digon hirben feallai, ond mor anfoesol ei gymeriad ac aflan
ei fuchedd fel nas haeddai barch neb yn unman. Pwy bynnag fyddai dewisddyn
bonedd y sir, nid oedd a wnelai y bobl ag ef. Wedi rhoddi eu pleidiais iddo a
moesgrymu yn isel o’i flaen ef a’i gyfeillion ddydd yr etholiad — darfyddai pob
perthynas cydrhyngddynt hwy ag ef, ac ni ddeuai i feddwl y dynion y gallai mân
bryfetach distadl a dinod fel hwy feddu un hawl i ofyn i’r gwr a’u cynrychiolai
yn Senedd eu gwlad i roddi cyfrif iddynt o’i oruchwyliaeth. Peidied neb a
meddwl fod ein hynafiaid yn llai eu hamgyffredion, yn fwy amddifad o alluoedd
meddyliol cryfion, na chwaith yn ddiffygiol mewn gwroldeb o’u cymharu â phobl
ein gwlad heddyw, canys nid felly yr esboniwn y sefyllfa oreu. Profodd ein
tadau i ni eu bod yn wroniaid na fuasai raid i na thywysog na llywydd gywilyddio
o’u plegid, yn awr yr ymgyrch. Ond peth araf yw datblygiad mewn cenedl yn
gystal ag yn mhopeth arall, ac oherwydd fod pob moment o’u hamser mor lawn o
waith i geisio trefnu eu ffyrdd a thalu i bawb yr eiddo, o’r meistr tir hyd at
yr hen wreigan a werthai’r burym i godi’r toes, nid rhyfedd fod yn anodd symud
yn frysiog iawn gyda phethau y tu allan i’w cartrefi. Modd bynnag, na fydded i
ni eu beio, eithr yn hytrach eu hefelychu yn y rhinweddau hynny yr oeddynt yn
anghydmarol uwch ynddynt nag yr ydym ni yn yr oes hon. Gallem ddysgu gwersi
oddiwrth eu bywyd diwyd a gonest, i fyw yn ol ein sefyllfa heb fod yn nyled neb
o ddim, gan ymddwyn rywbeth yn debyg yn ein hymarweddiad oddiallan i rai yn
proffesu crefydd a duwioldeb. A phan yn mesur ac yn pwyso gwybodaeth y tadau
a’r mamau, purion peth fyddai i ni gofio na fagwyd dewrion erioed mewn moethau,
mwy nag y tyf y grug mewn gardd. Nid ar esmwythfeinciau mewn parlyrau y bu fyw
yr hen ddewrion enwog a drigent gynt yng ngwlad y bryniau.
Yn nwylaw y boneddigion yr oedd y cyfan allesid ystyried o dan yr enw rhyw fath
o lywodraeth leoi, ac hefyd bob ffurf ar lywodraeth eglwysig a olygent
anrhydedd ar wahan i waith. Ni fu yr un bonheddwr erioed yn glochydd, gan y
byddai’r gwr hwnnw yn gorfod torri’r beddau â’i raw yn ogystal a chanu’r gloch
at blygain a gosper, heblaw darllen bob yn ail â’r person yn y Llan. Ac eithrio
y swyddi gofynnol i chwysu tra yn eu cyflawni, eiddo y mawrion oedd yr oll hyd
y flwyddyn nodedig yn hanes ein gwlad, pan “ddrylliwyd eu rhwymau hwynt, ac y
taflwyd eu rheffynnau oddiwrthym.” Mwynhai y bobl ryddid crefyddol i fesur lled
helaeth cyn hyn, er fod aml i reol a deddf gyda chladdu y marw, a mannau addoli
i’r byw, yn gwasgu yn ddigon caled arnynt, eto rhaid cydnabod fod brwydr fawr
rhyddid cydwybod i addoli eu Creawdwr yn y dull a’r man y mynnent, wedi ei
hymladd a’i hennill ymhell cyn i un gwr ddychmygu am y fath beth a rhyddid
dinesydd gwladol; ac nid yw y ffaith yn anheilwng o sylw diwygwyr gwladol
di-dduw y dyddiau olaf hyn. Wedi gwrando o honom ar lais yr Arglwydd, pa un
bynnag ai fel cenedl ynte yn bersonau unigol, y (x39)
mae yr addewid i ni y dychwel Efe ein caethiwed ac y gwna i ni farchogaeth ar
uchelder y ddaear; ond y bobl a anghofiant y Duw a’u lluniodd, cenedl ynfyd
ydynt, oddiwrth y rhai y cuddia yr Arglwydd Ei wyneb, ac y bydd tywyllwch yn eu
tir. Dyna’r paham yr enillodd ein tadau i ni yr holl freintiau sydd yn ein
meddiant heddyw, am eu bod yn credu yn ddiysgog fod y BreninTragwyddol Ei
“Be mae’r plant yn waeddi î. Mi rydd hynny amcan go lew i ni sut mae’r gwynt yn
troi.”
Aeth Mrs. Harris, Plas Dolau, yng nghwmni “Twrna Cefn Mawr,” i ymweled â holl
denantiaid y Plas Dolau, a’u hysbysu y fath amser pwysig oedd y presennol, yr
hyn a ddeallai y bobl gystal a’r ddwy ddynes yn eithaf. A phan geisai y
gwragedd egluro paham — am fod Mr. Gladstone yn Babydd mor benboeth, ac wedi
penderfynu difetha yr Eglwys Brotestanaidd yn yr Iwerddon, yn gyntaf, er mwyn y
Pabyddion, ac wedi hynny am dreio ei law yng Nghymru — cawsant wrandawiad
astud, er fod y dyn oddimewn yn y tenantiaid yn gwrthryfela yn erbyn y fath
anwireddau ac anwybodaeth, pa un bynnag ai ffug ynte rhywbeth arall oeddynt i’r
gwrageddos. Pa ryw farn feddai y pleidieiswyr ar y pwnc ni ddatguddiwyd iddynt,
a chan eu bod hwy yn traethu cymaint eu hunain, digon tebyg eu bod heb sylwi
fawr ar dderbyniad eu cenadwri, ac nid rhyfedd iddynt fyned yn ol a lloni calon
Mr. Harris trwy ddweyd “Fod y dynion yn all
right, pob un wedi eu derbyn hwy yn first
rate a gwrando arnynt yn hollol fel y dylsent.”
Ymhen tua deuddydd wedi hynny penderfynodd Mr. Harris (x40)
anfon Ned William a bonheddwr ieuanc o gyfreithiwr, nai iddo — ddaethai yno i
helpu ei ewythr yn ystod ymgyrch yr etholiad — am dro i gadarnhau y ffermwyr yn
y ffydd Doriaidd.
Wedi teithio o’r naill dy i’r llall, a Ned fawr haws i ddeall yr ymddiddanion
gan mor ofalus oedd y ffermwyr i gelu eu cyfrinach hyd y byddai’n bosibl,
daethant at ffermdy lle y preswyliai hen bererin yn tynnu tua chymydogaeth y
pedwar ugain mlynedd. Ond hen wr pur anystyriol oedd Sion Poole, a’i reg neu ei
lw yn wastad ar flaen ei dafod. Hen wr tal a golwg urddasol
Wrth weled Ned William a dyn dieithr yn nesu at y tŷ, aeth yr hen wr i’r
drws i’w cyfarfod, a’i ffon yn ei law yn ol ei arfer. Ni welodd neb erioed Sion
Poole yn unman heb ei ffon ond yn ei wely, a byddai o fewn cyrraedd gafael iddo
tra yn hwnnw.
“P’nawn da, Sion Poole,” ebe Ned, “ mae hi’n b’nawn braf.”
“Be’ ti’n ddeyd, Ned?” ebe Sion Poole. Dywedai Jane Poole, y ferch, y clywai ei
thad bopeth nad oedd eisieu iddo eu clywed yn eitha, ond y medrai fod yn fyddar
iawn os mynnai.
“Deyd bod hi’n braf ’roni, Sion Poole?”
gwaeddai Ned nerth esgyrn ei ben.
“Wel ydi, ond mi wn i hynny’n eitha; ddoi’st ti ddim ddwy filltir o ffordd i
ddeyd sut dywydd ydi hi wrtha i ddoi’st ti?” a chwarddodd yr hen wr yn
galonnog. “A phwy ydi hwn sy’ hefo chdi ? Mae o’n edrach yn gomplêt iawn fel
tasa fo néwydd ddwad allan o fanbox. Diaist i, wn i ddim p’run a
“Nai Mr. Harris, Plas Dola, ydi’r gwr bynheddig, Sion Poole!”
“Nain Mr. Harris y Plas iti wir, paid ti a dwad a dy siarad spâr i fan yma, os
myn di, ne mi rhoi di o flaen dy well yn gynt na dyliast ti ’rioed.”
“Nai,” llefai Ned yn uwch fyth. Chwarddodd Sion Poole a gofynodd,
“Wel, be sy arnoch chi’ch dau eisio yma, fydd yma neb yn dwad heb ryw neges;
hel at beth ’rydach chi’ch dau?”
“Mr. Harris sydd eisio gwybod ydi Mr. Tattanho’n siwr o’ch fôt chi, Sion
Poole!”
“Ho, Ho, ’ron i’n meddwl ma’r dwrnod polio
bydda pawb yn rhoi fôt.”
“Ia, ia, Sion Poole, ond ’roeddan ni’n dwad yma
i roi rhyw dipyn o gyfarwyddyd i chi sut i fotio.”
Cododd yr hen wr ei ffon uwch ben Ned a gwaeddodd yntau hefyd, “Duwc, duwc, dos
adra, dos adra gynta medri di, ’rydw i wedi
fotio cin d’eni di a’r nai yma pwy bynag ydi o.”
A throdd yr hen Sion Poole ar ei sawdl, ac i fewn i’r tŷ ag ef gan gau y
drws ar ei ol.
Rhoddodd y siwrnai at Sion Poole derfyn ar ymweliadau Ned William a’r ffermwyr
i ymholi yng nghylch eu pleidieisiau. Dyn ieuanc lled ddeallgar oedd nai Mr.
Harris, ac ni bu ond ychydig o gwmpas gyda’r saer heb amgyffred y sefyllfa yn
yr ardaloedd yn lled gywir. Y canlyniad oedd i Mr. Harris farnu yn ddoeth fyned
ei
Ond atebodd Syr Tudur ef yn bur gwta ei fod ef yng gwneud a allai i roddi cysur
allanol i’w denantiaid, a boed rhyngddynt hwy a’u cydwybodau yng nghylch yr hyn
a ddewisant gredu. “Fi pob math o pobol yn tenants i fi, rhai o honyn nhw’n
meddwl, Mr. Harris, nhw byth mynd i’r nefoedd os nhw peidio mynd yn syth trwy
llyn y felin gynta. Llyn wicket gate digon
digri, ond fi dim grumblo, nhw talu rhent — pob dime goch yn iawn. Fi lot o
Wesles hefyd, nhw credu nhw i fyny ac i lawr fel football un bob ’nail, lot o
gras heiddiw, dim tipyn bach fory, ond nhw i fyny bob dydd talu rhent, fi hitio
dim blewyn os nhw leicio rhyw games see saw felly, dim pwys i fi. A fi lot o
Methodists hefyd, nhw pobol wedi hethol pob un i’r nefoedd nhw meddwl, a fi
clywed pobol deyd nhw’n canu ara deg iawn, a symud ara deg, a dal pen yn cam,
ond nhw reit union yn cyfri rhent i fi a byth yn rhy slow na rhy hwyr, Mr. Harris. Fi gadael rhwng pobol o cydwybod a busnes eu hunain. Nhw fawr dim
arall yn property, nhw cael fo o’m
rhan i. Chitha pwer callach chi gneud fel fi. Fi helpu nhw, fi byth robio un o tenants fi o dim ar y ddaear. Fi
hidio fawr pwy yn M.P. chwaith, nhw dim use yn y byd yn Parliament, fi troi
fewn yno ambell dro a hanner nhw cysgu! Fi clywed rhywun deyd Twrna Cefn Mawr
eisio myn’d i neud trefn ar pawb yno a pob man, ond hynny gormod job i hen jâd
hefyd, hi dim cael fawr o drefn ar Cefn Mawr, dyn helpo hi. Hi dysgu trin fan
hono cynta, ynte?”
Ar hyn clywid carlamiad ceffyl arall yn dynesu, ac wele Rhianon yn troi’r
gornel ar gefn ei merlen a Syr Tudur Llwyd yn tynnu ei het ac yn ei chyfarch
gyda moesgarwch boneddigion yn yr hen amser tuag at y merched a barchent. Yna
trodd at Mr. Harris,
“Chi excusio fi bore yma, Miss Gruffydd dwad hefo mi am ride round, dim curo
arni hi am agor llygad fi. Fi galw hi eli llygad. Hi dallt pobl i’r dim a
ceffyl hefyd. Dyna i chi eiste yn saddle ynte Mr. Harris! Chi gofyn i Miss
Gruffydd os chi eisio gwbod pobpeth, hi deyd i chi, hi Encyclopaedia fi.”
A gwenodd Syr Tudur yn llawen ar Mr. Harris.
Ond ni ofynnodd y goruchwyliwr yr un cwestiwn, eithr ymaith ag ef gynted ag y
gallai, ei nai yn ei ddilyn, ac yn holi ei ewythr yng nghylch y feinwen alwasai
Syr Tudur Llwyd ei Encyclopaedia. Nid ymddanghosai Mr. Harris yn (x42) awyddus i ateb cwestiynau chwaith, canys ni
chymerai un sylw o ymadroddion y dyn ieuanc, marchogai ymlaen gan fwmian wrtho
ei hun. Ymhen ysbaid cododd ei ben yn sydyn ac edrychodd ar ei nai, ac ebe
wrtho yn sarug,
“Pwy ydi’r lady yna, ddaru chi ofyn Francis, wel, y cyngor gora fedra i roi i
chi ydi myn’d i ofyn i’r hen ffwl yna sydd wedi gwirioni i ben hefo hi, os oes
arnoch chi eisio gwybod.”
Gwasgodd Mr. Harris ei ddannedd wrth eu gilydd, yna megis wedi anghofîo fod neb
ond ei
“Mi dora’i dipyn ar i chrib hi cyn hir os ydi thad hi’n myn’d i gam bihafio.”
Ni chlywodd Mr. Harris na Francis Glyn y swn rhyfedd yr ochr arall i’r clawdd
gwrych, digon tebyg na fuasent yn dychmygu ei fod yn werth cymeryd sylw o hono
pes clywsent, eto i gyd fel y myn mân bethau bywyd gario y dylanwadau mwyaf
nerthol er gwae neu er gwynfyd a ninnau heb ystyried, felly y bu y waith bon.
Bychan feddyliodd Mr. Harris fod yr ychydig eiriau a lefarodd i’w ddilyn tra
byddai byw. Wedi iddynt gyrraedd adref i Blas Doiau, a rhoddi eu ceffylau i
ofal y gweision, ymneilltuodd y ddau fonheddwr i’w hystafelloedd i drwsio eu
hunain yn briodol erbyn yr awr ginio. Cinio cynnar am un o’r gloch fynnai Mr.
Harris oddigerth pan ymwelid â’r lle gan foneddigion y dymunai ef eu
hanrhydeddu hwy ar draul ei gysur ei hun. Nid ystyriai ei nai yn ddigon pwysig
i wneud un gwahaniaeth yn nhrefniadau arferol y tŷ er ei fwyn, felly erbyn
un o’r gloch disgwylid gweled y teulu yn gryno wrth y bwrdd y bore hwnnw. Ni bu
Francis Glyn yn ei ystafell prin ddeng munud. Efe fel rheol fyddai’r olaf i
ddod i mewn, heddyw efe oedd y cyntaf, a phan gyfarfyddodd ei fodryb yn y
neuadd, aeth ati yn chwareus, rhoddodd ei law drwy ei braich, dywedodd ei fod
yn meddwl ei fod yn hwyr, denodd Mrs. Harris am dro allan i’r ffrynt i aros yr
amser i ben ac heb yn wybod iddi cafodd gymaint o wybodaeth a feddai hi am Syr
Tudur Llwyd a merch Robert Gruffydd yr Hafod Oleu. Ac yn ystod yr ymddiddan
daeth son am Olwen, yr eneth a anwylid gymaint gan yr oll o’i pherthynasau a’i
chyfeillion. Yn ol arfer gwyr doethion, cadwodd Francis Glyn yr holl wybodaeth
iddo’i hun, ac ni soniwyd gair tra yn ciniawa am y cyfarfyddiad â Syr Tudur a
daflodd Mr. Harris gymaint oddiar ei echel, ond pan ddywedodd Mrs. Harris fod
Mrs. Jenkins, Cefn Mawr, yn barod i ddyfod i ganfasio gyda hi y nawnddydd
hwnnw, atebodd yntau yn swta, “Na, well i chi beidio mynd hefo hi i ’nunlle, cadwch hi yma a rhowch dê iddi hi a
chadwch ych clust yn agored i glywed beth fydd hi’n ddeyd, ond mi neith fwy o
ddrwg nag o les allan. ‘Twrna Cefn Mawr ‘ ydi henw hi ddyliwn i, a does neb yn
malio beth fydd hi yn ddeyd. Rhaid peidio i digio hi er hynny, a fedrwch chi
ddim plesio Mrs. Jenkins yn well na thrwy neyd tê iddi yn y Plas. Gair i gall,
dyna chi.” A chododd Mr. Harris. Dilynnodd ei nai ei esiampl.
“Oes eisieu i mi ddod i rywle’r prynhawn yma, fewyrth?”
“Waeth i mi fynd i Ddinbych dan un i chwilio am help Francis os na fedrwch chi
edrych ar ferched y lle yma heb holi a stilio yn i cylch nhw. Mae merched ymhob
tŷ yn yr ardal yma.”
(x43) “Oes mi wn, fewyrth, mae merched ymhob
ardal arall hefyd, ond fyddan nhw ddim i gyd yn mynd allan i farchogaeth gyda
Syr Tudur Llwyd. Mi feddyliais i mai rhyw berthynas iddo ef oedd Miss
Gruffydd. A digon prin ’rydw i’n meddwl y
dylech chi gymeryd sylw o’r peth f’ewyrth. Rydw i wedi gadael wyth ar hugain
oed, ac heb boeni dim ar fy mhen hyd yn hyn yng nghylch merched neb yn unman.
Siawns nad ellir fy nhrystio i yn symol mewn lle gwledig fel hyn.”
“Wel, o’r gore, feallai mai Syr Tudur oedd wedi netlo tipyn arna’i, Francis.
Sut bynnag mae’n rhaid i ni neud y dynion yma yn sâff i Mr. Tattenhall, aed Syr
Tudur a’i debyg i’w crogi. ’Rydw i wedi addo
wrth y Squire na fydd yma ddim fotes (sic, = fôts) i’r
un Whig na neb arall oddiar stâd Plas Dolau.”
“Ydych chwi ddim yn meddwl, fewyrth, fod yr addewid yna yn mynd yn rhy bell?
Fedrwch chi mwy na’r hen frenin hwnnw er’s llawer dydd ddim commandio’r môr i
droi yn ol, ac mae llanw Rhyddfrydiaeth wedi codi’n uchel iawn trwy’r wlad i
gyd, chymrwn i lawer am roi fy ngair i dros un rhanbarth ohoni. Mae dyddiau’r
unbennaeth ar ben trwy’r byd i fesur, ac nid yw ond cwestiwn o amser mewn gwirionedd
gweld y gwledydd o dan lywodraeth werinol.”
“Francis Glyn, raid i mi wrando ar fab fy unig chwaer yn traethu y fath
heresi?” Gwerin-lywodraeth? Beth nesaf, tybed? — y byd ar dân, a goreu po
gyntaf hefyd. Sut drefn fyddai ar y fath fyd? A beth ddeuai o honom ni ?”
“Wel, fewyrth, gwyddoch y ddihareb, ‘Turn about is fair play.’ Synnwn i ddim
nad oes llawer o’r
werin wedi gofyn cwestiwn tebyg er’s blynyddau. Beth ddaw o honyn nhw os ceiff
boneddigion y wlad yma barhau i’w gormesu am byth.”
“Gormesu, Francis, pwy sydd yn cael
eu gormesu? ’Does
’nelo’r werin â llywodraeth na dim arall, i hynny y crewyd y mawrion, eu
busnes ydi bod yn foddion ar ’u sefyllfa’u
hunain, llafurio tir y Squire yn dda, a thalu’r rhent am dano.”
“Hwyrach bod tipyn o wahaniaeth ym marn y werin bobl a chwithau, fewyrth, beth
ydyw llywodraethu gwlad yn iawn. Synnwn i ddim nad ydynt weithiau yn meddwl fod
eu sefyllfa hwy yn un lled bwysig yn y wlad, ac y byddai’n anodd i ni wneud
hebddynt, yn anos yn wir o gryn lawer nag iddynt hwy wneud hebddom ni, a chan
hynny fod ganddynt hawl i fanteisio ar gyfoeth y wlad i ryw fesur, yn gymaint a
bod ganddynt hwy fwy o law yn ei gynhyrchu na neb arall.”
“Francis, ’does bosib fod rhaid i mi
wrando arnoch chi yn troi holl sylfeini cymdeithas wyneb yn isa fel yna. Debyg
mai’r peth nesaf ddeydwch chi ydi fod o’n beth iawn datgysylltu’r Eglwys yn
Iwerddon ’run fath a
“Wel, fewyrth, ’rydych chwi ac arall yn
credu fod yr holl bobl yma, tlawd yn gystal a chyfoethog, yn meddu eneidiau, ’dydw (x44) i
ddim yn siwr o’r pwnc fy hun, ond os oes, os ydi’r Duw
’rydych chwi ac ereill yn credu ei fod — dydw i ddim yn siwr fy hun ai
yr un yw eich Duw chi a fy Nuw i, os oes gennyf un, ond os ydi’ch Duw chi wedi
trystio enaid i bob un o’i greaduriaid ’rydw
i’n rhyw led feddwl mai eiddo’r creadur ei hun yw ei enaid, ac yn sicr fe
ddylai fod at ei ryddid i addoli ei Dduw, y Duw y mae ef yn credu ynddo yn y
dull a’r man y mynno. Am Eglwys Cymru, lle mae hi? Eglwys Loegr yng Nghymru
feddwn ni heddyw, cofiwch, ac mae’r gwahaniaeth yn fawr iawn.”
“Francis Glyn, ’rydw i wedi synnu atoch chi,
faswn i byth yn credu fod yn bosibl i neb yn perthyn dafn o waed i mi fynd i’r
fath dir pell. Ddim yn siwr oes eneidiau gan bobl, ddim yn siwr oes Duw yn bod,
ac yn deyd na feddwn ni ’run Eglwys yng
Nghymru. Dear me, dear me,” a sychai
Mr. Harris y chwys a gynhyrchodd ei eiddigedd duwiol oddiar ei dalcen.
“Francis Glyn, ai Atheist ydi fy nai i, beth ddaw o honom ni cydrhwng Pabyddion
fel
“Mi ddylai dyn fel chi wybod yn eitha’, f’ewyrth, na wneiff taenu straeon
celwyddog yng nghylch pabyddiaeth Mr. Gladstone mo’r tro. Mae’r bobl yn gwybod
gwell pethau, ac yn chwerthin yn eu llewys am eich pen chwi a’ch gweision. Dydi
Gladstone ddim yn Babydd mwy nag yr ydwyf finnau yn Atheist. Dyn yn gweled
dipyn ym mhellach na’i drwyn ydi Mr. Gladstone, a mi fydd wedi dangos y
weledigaeth i ereill hefyd yn y man. Ac mor belled a mae fy nghred i’n mynd mae
yn ddigon i mi ddeyd mod i’n credu mewn dau beth yn gryf — cyfiawnder a
gwirionedd.”
Chwarddodd Mr. Harris yn goeglyd, ac ebe fe, “Cyfreithiwr geirwir, Francis ?”
“I (sic = Ie), f’ewyrth, gobeithio, ond
peidiwch a cholli’ch tymer wrth imi geisio rhoddi golwg i chwi ar yr ochor
arall. Mae dwy ochor i bob cwestiwn, onid oes?”
“Os na fedrwch chwi gadw eich syniadau hereticaidd i chwi eich hun, Francis,
well i chwi fynd a’ch dwy ochor i rywle o’r fan yma.
’Rydw i wedi tyngu myna’i ennill, dyna i chi.” Ysgydwodd Francis Glyn ei
ben.
PENNOD VIII
YNG NGHYSGOD Y PINWYDD
Tra y cynhyrfid trigolion tawel hen blwyf Llangynan nes eu cwbl
ddeffro o’u cysgadrwydd gan ymweliadau mynych y bonheddwr o Blas Dolau, ynghyda
rhyw wirfoddolwr Toriaidd o gyfaill yn llefaru beunydd aml eiriau esgymundod a
bygythion uwchben pawb ym mhob-man na chredent yn anffaeledigrwydd yr Iuddew -
Benjamin Disraeli, teithiai bachgen ieuanc glan yr olwg arno ymysg golygfeydd
mwyaf rhamantus natur ymhell o fro ei enedigaeth. Ond nid yn rhy bell i dderbyn
cenadwri fechan weithiau oddiwrth gyfeillion mebyd, a mawr y mwynhad a roddai
ambell lythyr neu bapur newydd o Gymru iddo pan ei goddiweddent ar ei daith. Yr
oedd Robert Gruffydd yr Hafod Oleu yn llygad ei le pan ddywedodd mai bachgen da
oedd Nisien Wyn, bachgen a defnydd dyn a wnai ei ol ar y byd ryw (x45) ddydd, os cynysgaeddid ef â bywyd ac iechyd.
Y nawnddydd yr ysgrifennaf am dano cerddai yn ol ac ymlaen yng ngodreu y
mynyddoedd cribog, mynyddoedd nas medd Cymru fechan eu tebyg er mor fynyddig yw
hi. Codai ei lygaid i fyny tuag atynt, gan edmygu eu cadernid oesol, eu huchter
megis yn dyrchafu tua’r nen, eu pennau gwynion yn colli o’r golwg yn yr eangder
mawr. Yna yn nes i lawr eu hochrau, ar y coed pinwydd ardderchog a dreulient eu
bywyd ym myd y cymylau yn tyfu i fyny uwchlaw pob coeden arall ar y silffoedd
creigiog mewn mannau nas aflonyddir arnynt gan neb o breswylwyr y ddaear.
Golygfa anghydmarol ei phrydferthwch oedd, ac nid rhyfedd i Nisien Wyn deimio
ei enaid yn gynhyrfus o’i fewn wrth syllu ar fawrion weithredoedd Duw yn Ei
greadigaeth. Eisteddodd y bonheddwr ieuanc i lawr mewn cornel neilituedig a
distaw, y mwsog gwyrdd yn esmwythfainc iddo yn agen y graig ysgythrog, a
thynnodd lythyr o’i boced, a darllennodd ef drosto lawer gwaith a murmurai
wrtho ei hun, “Yno y dylwn i fod yn sefyll wrth ochr y dynion, ond i beth, beth
allwn i, dyn a’m helpo, neyd wedi’r cwbwl? Mae Mr. Harris yn dechreu dangos ei
gilddannedd, feddyliwn, eisoes,” a darllennai air neu ddau yma a thraw yn y llythyr
wedi hynny, yna cododd ei olygon tua’r mynydd, megis, fel y Salmydd gynt, yn
disgwyl am gymorth oddiwrthynt hwy, a sibrydai wedi hynny wrtho ei hun, “Mae’r
hen fynyddoedd yn aros yr un trwy bob tywydd, a ninnau greaduriaid egwan y
naill genhedlaeth ar ol y llall yn dioddef wrth eu traed. Ai tybed yr aflonydda
Mr. Harris ar yr hen gerrig — cerrig ein cyfamod — mor wir oedd ei geiriau hi y
noson olaf honno, “Mae’n hawdd caru, nid yw mor hawdd gobeithio bob amser, mor
anhawdd yw bod yn arayneddgar eto amynedd yw coron bywyd. Ac mae’n anodd bod yn
amyneddgar, yn anodd iawn.”
“Nisien, Nisien, beth sydd wedi digwydd i chwi, yr ydym wedi eich colli er’s
amser,” a chyda llam wele fonheddwr ieuanc rywbeth yn debyg i’r un oed a Nisien
Wyn, neu feallai ychydig yn ieuengach, yn sefyll yn ei ymyl, ei bwys ar goeden.
“Beth” ebe eilwaith, “nid ydych yn mwynhau breuddwydio yn y fan yma yn well
na’r cwmni dyddorol o gylch y gwesty.”
“Dywed y gwr doeth fod amser i freuddwydio weithiau onid oes, Charlie, ac mae
ambell i olwg ar fawredd y mynyddoedd yma yn rhoddi i mi ryw fath o nerth wyf
mewn mawr angen am dano yn aml.”
“Nisien, yr wyf wedi sylwi fod llythyrau neu newyddion o Gymru yn effeithio yn
ddwys arnoch bob amser; a ydych mewn gwirionedd yn hiraethu am yr hen wlad fach
honno ymysg golygfeydd fel y rhai hyn?”
“Na, nid wyf yn hiraethu, Charlie, er fod popeth sydd yn anwyl i mi yno, yn
gorwedd yn ei daear neu yn byw ar ei bryniau;” trodd at ei gyfaill ieuanc ac
ychwanegodd, “dylwn ddweyd, ac eithrio eich cyfeiligarwch chwi, Charlie. Nid
gwaith hawdd i un bachgen ieuanc mor unig a mi ydyw darganfod y fath gydymaith
a disgybl o’ch bath chwi, a gwn hynny yn dda. Ond y gwir yw mae’r newyddion
oddi cartref heddyw yn peri llawer o boen i mi. Pendefig Rhyddfrydig eang ei
galon, a llydan ei (x46) syniadau yw eich
tad, ac nis gellwch chwi ddeall, yn wir ffurfio un drychfeddwl am ystranciau
maleisus Toriaeth tuag at weiniaid tlodion y wlad. Gwyddoch hanes bore fy oes
i, clywsoch fi lawer gwaith yn son am yr hen ardal hyfryd a’r bobl syml, rhai o
honynt yn bobl dduwiol iawn, a drigent yno. Erbyn heddyw mae’r fangre lonydd
wedi ei throi yn rhyw arena i ymladdau, rhai yn crynnu, ereill yn gryfion yn
dal breichiau y gweiniaid, ond tangnefedd wedi ei ymlid ymaith o’u mysg. A’r cyfan
am na fyn y dyn gafodd le fy nhad i neb gael rhyddid i farnu’n wahanol iddo
ef.”
“Dyna ddywed fy nhad yw un o erthyglau cred Toriaeth, llethu rhyddid barn a
llafar.”
“Un o ddynion rhogorol [sic = rhagorol] y ddaear
yw eich tad, Charlie, diau iddo ddweyd llawer o eiriau doethineb heblaw y rhai
yna, ond ni ddywedodd eu cywirach erioed, yr oll sydd gyferbyniol i ryddid,
dyna yw Toriaeth. Ond mae’r dyddiau yn ymyl pryd y cant ddeall mai dynion ydynt
ac nid Duw, ac fel mai byw fy enaid i, rhaid i mi helpu i ddysgu y wers honno
iddynt. Dynion ieuainc ydym ni ein dau heddyw, Charlie, a fedrwn ni wneud fawr
fwy na gloewi’n harfau, a dysgu y modd goreu a mwyaf effeithiol i’w trin, a
dyna raid i ni wneud bob dydd o’n hoes hyd nes y daw ein cyfle ninau i gymeryd
ein lle yn y fyddin.”
Tra y siaradai Nisien, taflodd yr haul ei belydrau gogoneddus ar y mynyddoedd
gwynion a’r pinwydd gwyrddion, gan lapio y ddeuddyn ieuainc yn ei oleuni fel
mantell drostynt.
Gwenodd Nisien, ei wyneb megis yn adlewyrchu gogoniant y cawr nefol uwchben.
“Gwelwch,” ebe ef, “dyma i ni yr hyn alwasai eich mam yn good omen, Charlie; goleuni yr haul yn bendithio’r llw o
ffyddlondeb i faner rhyddid. Byddai Gwen Gruffydd, gwraig dda yng Nghymru fu yn
fam i mi am nad oedd gennyf fy mam fy hunan,yn dweyd wrthyf am beidio deisyfu
fy einioes pan fyddwn i yn gweled ambell i ddiwrnod y disgwyliwn am dano yn hir
yn dod. ’Rwy bron a methu peidio gwneud
hynny heddyw; teimlaf gymaint o awydd bod a’m cleddyf yn fy Haw yn sefyll
gyda’r bobl fu mor garedig i mi yn nyddiau fy mhlentyndod. Ond,” ebai, mewn
llais isel tyner, “amynedd yw coron bywyd,” a rhaid i mi dreio credu hynny hyd
nes y daw’r awr a’r adeg, a minnau yn barod iddynt.”
“Nisien, Nisien,” ebe ei ddisgybl ieuanc yn chwareus, “nid yw y daliadau
rhyfelgar yna yn gydweddol a’ch enw chwi. Oni ddywedasoch mae ei ystyr yw, ‘mab
tangnefedd’?”
“Ie, ond rhaid ennill y tangnefedd goreu yn aml trwy frwydr galed, Charlie, os
am ddymchwelyd gormes rhaid trechu y gormeswr unwaith am byth. Ac, fel rheol,
ni ddeallant hwy - gorthrymwyr pobl fawr - fwy na’r rheiny y soniai fy hen
ffrynd Robert Gruffydd am danynt nad oedd ond synwyr pen pastwn yn bosibl
iddynt. Ac wedi hynny ceir tangnefedd parhaus.”
Bu distawrwydd cydrhyngddynt am rai munudau, o estynnodd Nisien ei law a
thynnodd flodyn bychan egwan o liw lilac, a dyfai wrth ei draed, ac ebe efe,
“Welwch chwi hwn, Charlie, dyma’r unig flodyn bychan sydd eto yn ddigon cryf i
dreiddio trwy’r eira (x47) yn uchder y
mynyddoedd yma, ddarfu chwi sylwi mor gryf, y fath nerth bywyd sydd yn y gloch
fechan, gwelsom un o honynt uwch ein pennau y dydd o’r blaen wedi i ni ddringo
mor uchel ag y meiddiai ein harweinydd fyned, a dyma gannoedd o honynt yn y
gornel neilltuedig yma eto, a gwelais fwy o honynt ddoe ymysg y blewyn glas
blasus ym mhorfeydd y defaid a’r gwartheg. Ar i fyny y mae popeth yn tyfu
onide? y fath egni i wneud eu gwaith hwy raid fod yn y blodau
bychain yma; mae ein dyled ni yn fwy, gofynnir mwy gennym.”
Edrychai unwaith eto tua’r nen, yna at y mynyddoedd.
“Charlie, byddai Robert Gruffydd yn dweyd fod coyfiawnder yr Arglwydd fel mynyddoedd
cedyrn, paham y mae Efe yn edrych o’i breswylfa yn y nefoedd ar anghyfiawnder
Ei greaduriaid egwan yn y byd yma?”
Trodd ei lygaid tua’r llechweddi, ar y rhai y tyfai y pinwydd, y coed hardd na
cheir eu tebyg, weithiau yn ffurfio coedwig heb nemawr goeden arall yn eu mysg;
dro arall un yma ac un acw yn neidio i fyny megis o ddannedd y graig, eu dail
yn cuddio nid yn unig eu brigau a’u canghenau, ond hefyd ysgythredd eu
cwmpasoedd. Y coed y rhaid eu hedmygu pan yn dywyll a thrist yn y cyfnos, pa
faint mwy pan wisg yr haul hwynt gyda’r fath ddisgleirdeb nes ymddangos i
lygaid dynol yn fynych fel pe byddent yn oleuni eu hunain? Rhoddodd Nisien Wyn
ei law ar ysgwydd ei gyfaill ieuanc, ymddanghosai ei wyneb wedi ei sirioli, ac
ebe fe, “ Charlie, yma unwaith eto, wele fi yn penderfynu trwy bob anhawsterau
fynnu gwneud a allaf fi i symud Toriaeth oddiar war fy mhobol. Tyst ydych chwi
i mi.” Disgleiriai y wyneb ieuanc hardd, ysgydwodd y ddeuddyn ieuainc ddwylaw,
a throisant eu cefnau ar y mynyddoedd ac aethant yn ol tua eu llety yn y
gwastadedd.
PENNOD IX
PENTREF Y CAPELI
Heb fod nepell oddiwrth hen eglwys Llangynan, oddiwrth yr hon y cafodd y
plwyf ei enw, yr oedd pentref bychan rhyfeddaf, a adnabyddid fel Pentre Bryn
Eiddig. Pa gysylltiad fu cydrhwng y fro a’r gwr hwnnw anfarwolwyd gan Ddafydd
Ab Gwilym, nid oes un gair ar gof a chadw i’n hysbysu, nac un garreg filltir yn
unman oddeutu’r cwmpasoedd i’n rhoddi ar ben y ffordd i olrhain yr hanes
chwaith. Yr unig wybodaeth yn ein cyrraedd yw mai dyna enw’r pentref bychan
tawel yng nghysgod y bryn, a’r llyn y dywedai’r plant na feddai yr un gwaelod,
yn llechu yng nghesail y graig ryw ganllath oddiwrtho. Dywed hen lên gwerin yr
ardal y bu i Eiddig a Morfudd ddod yno ar eu hynt ryw dro i ymweled â Phlas
Cynan, hen aneddle un o bendefigion Cymru Fu — nad yw heddyw ond ffermdy
cyffredin — ac fod prinder llety i’r fintai pobl a ddaethant gyda hwy yn y Plas
— i’r pendefig letya rhai ohonynt yn y tafarndy, yr hen Dy’n Llan, sydd wrth
borth y fynwent, ond fod eto rai yn aros heb obaith am gymaint a man i daenu’r
hesg arno dros y nos. Yn y benbleth edrychodd gwr y Plas o’i gwmpas, a sylwodd
ar y llecyn cysgodol yng ngodre’r bryn, a gorchymynnodd godi pebyll yno ar
gyfer y gweddill, yr hyn a wnaed ar y gair. Yr un (x48)
pryd bedyddiwyd y lle yn Bentref Bryn Eiddig, oherwydd mai i’w gymdeithion ef y
codwyd mannau i gartrefu ynddynt y tro cyntaf erioed ar y smotyn hwnnw. Faint
bynnag o sail sydd i’r chwedl, rhaid ei rhestru ymysg y rhai nas gallwn
obeithio mwy fod yn y goleu yn eu cylch, ac er mor ddyddorol yw olrhain hanes
enwau ein pentrefi i’r gorffennol draw, medd arni un o honynt gysylltiadau mwy
dyddorol a dynnant ddagrau gloewon o lygaid llawer Cymro a Chymraes a garant
ddilyn ymdrechion glew eu hynafiaid dros grefydd a rhyddid yng Ngwlad y
Bryniau. Un o’r pentrefi yna oedd
Pentref Bryn Eiddig. Nid oedd dim gwahaniaeth yn ei olwg allanol oddiwrth bentrefi
bychain prydferth ereill ganfyddid yma a thraw, mewn cornelau wrth draed y
mynyddoedd uchel, Tai bychain, cegin a siamber, a dim llofft iddynt, oedd y
mwyafrif. Ceid ambell un a darn o lofft un ochr iddo, a dau neu dri yn dai “dau
uchdwr” fel y gelwid y tai hynny feddent lofft dros yr holl dŷ. Ni
pherthynai i’r trigolion un peth a’u hynodent oddiwrth eu cymydogion yn y
pentrefi cylchynol chwaith. Preswyliai crydd yn un o’r tai; efe ofalai am
esgidiau a chlocsiau yr ardal, a medrai wneud bwtshias y llongwyr a bluchers y llafurwyr gystal a’r
crefftwyr goreu yn unrhyw wlad. Crydd heb ei ail oedd Sam yn ol barn ei
gwsmeriaid, ac efe ei
(x50)
na’r llall. Paratoi i fynd oddiyma i fyd gwell oedd syniad Morus Sion am y
bywyd sydd yr awrhon, beth allai fod ei syniad am nefoedd erys yn ddirgelwch;
ychydig iawn o nefoedd gafodd neb yn ei gymdeithas ef. Edrychai ar
chwerthin yn bechod ail i smocio, ac ni welid gwên byth ar ei wyneb ef.
Rhai fel yna oedd preswylwyr Pentref Bryn Eiddig, ac ni roddai eu gwahanol
nodweddion feallai un hynodrwydd i’w pentref allesid ystyried yn werth sylw.
Eto perthynai i’r lle arbenigrwydd neilltuol sef yr enwau ar y tai. Gelwid enw
ty Siani Morus, Capel Newydd, preswyliai Doli Rhobet yn y Capel Bach,
gweithiai’r saer yng Nghapel yr Allt, a phobid y wics yng Nghapel y Fawnog. Deuai esgidiau Sam o’r Capel Isa’, a disgyblai
Morus Sion y gymydogaeth o’r Capel Ucha’. Dyna synnai bawb ddigwyddai glywed rhyw gymaint o hanes Pentref Bryn
Eiddig mai capel oedd enw pob tŷ yno. Ac wedi olrhain yr hanes. hwnnw yn
ol deuent i ddeall fod pob un o’r tai bychain wedi bod ryw ddydd yn fan
gorffwys i Arch yr Arglwydd yn eu tro, wedi i bebyll unos pendefig Plas Cynan
fyned i ebargofiant.
Ni feddai neb ond Morus Sion bleidlais ymysg preswylwyr Pentref Bryn
Eiddig. Ni pherthynai yr un lathen o Eryn Eiddig i Sgweiar Plas Dolau chwaith,
eto ni fynnai Mr. Harris basio yr un bleidlais heb fyned i ddangos ei
ddyledswydd i’w pherchennog. Gan mai
ysgol y Llan oedd ar gwr y pentref, ei gam cyntaf fu trin achos Morus Sion
gyda’r ysgolfeistr. Ceisiodd hwnnw argyhoeddi Mr. Harris yng nghylch yr
annoethineb o ymyryd a Morus Sion “i agor ei lygaid.” Ond meddai y gwr o Blas
Dolau gryn lawer o’r cyndynrwydd a briodolir yn gyffredin i’r mul a’r mochyn.
Wedi iddo ef wneud ei feddwl i fyny, ni thyciai na chyngor na cherydd i’w droi
oddiar ei lwybr, ac yn unol a’r cymeriad hwnnw wele ef ryw ddydd pan oedd hi yn
hwyrhau, yn troi pen ei geffyi tua phentref y capeli i chwilio am Morus Sion, a
Mr. Tattenhall, yr ymgeisydd Toriaidd gydag ef, y ddau wedi blino, a’u tymherau
yn dechreu myned yn afrywiog yn ol arfer plant dynion pan yn lluddedig a
newynog.
Arferai Deborah ddweyd nad oedd dim trefn ar y dull y megid plant y saer — nad
oeddynt yn cysgu hanner digon, na chwaith yn deall blas y wialen fedw gymaint a
wnaethai ddaioni iddynt. Diamheu y cytunai mwyafrif trigolion y pentref â hi,
canys buasai cysur yr oill o honynt yn llawer helaethach pe gallasai Beti
Dafydd weled ei ffordd yn glir i hwylio ei phlant i’w hun a’u heddwch ychydig
yn gynarach, yn lle eu goddef i redeg o gwmpas yn llwydni’r cyflychwyr yn
dyfeisio cynlluniau i chwareu mân driciau a boenent y rhai oeddynt wedi hen
anghofio dyddiau eu plentyndod eu hunain. Ond gwaith lled ddifendith oedd
ceisio hyfforddi Beti Dafydd mewn taclusrwydd. Cytunai a’roll o’r cynghorion,
eto byddai y creaduriaid bychain yn gwibio o gwmpas nos drannoeth yn union yr
un fath; yn droednoeth, goesnoeth, ac ar hanner tynnu am danyn’ — yn union ’run fath a’r Sipsiwn yna yn cyflawni
gweithredoedd y tywyllwch,” ebai Deborah, yn ei ffordd hi o ddisgrifio dull y
plant yn difyrru eu hunain.
“A naw wfft iddyn’ nhw os (x51) bydd hi’n noson loergan lleuad. Ma
nhw fel petha wedi’u
gollwng o’r carchar yn union,” ebe Doli Rhobet, yr hon a gytunai a phob gair
leferid gan ei chyfeilles Deborah.
Nid oedd y lleuad wedi codi pan drodd y ddau fonheddwr eu hwynebau tua phentref
y capeli, ond gwelid aml i seren yn y nen; a da hynny, gan fod yn hawdd i bobl
anghyfarwydd â’r lle gamgymeryd yn y groesffordd, ac yn nhywyllwch y gwyllnos
fyned i’r llyn feddai’r cymeriad o fod yn ddiwaelod —”yn cyrraedd i lawr hyd yn
uffern” — ac nid i’r pentref bychan, tawel, nas aflonyddid arno un dydd mewn
blwyddyn gan neb ond plant Beti Dafydd. Mor ddistaw oedd y pentref, fel y
meddyliodd Mr. Harris fod yr holl drigolion wedi myned i orffwys, eto prin y
gallai gredu fod hynny yn bosibl, er iddo glywed rhai o hen bobl Llangynan yn
dweyd mai’r ffordd i fyw yn iawn oedd myned i glwydo
’run pryd a’r ieir, a chodi ’run
amser a’r ceiliog. Beth ond cwsg neu angeu allasai roddi cyfrif dros y fath
dawelwch yn y fangre lonydd? Nid oedd cymaint a goleu cannwyll frwyn i’w
weled trwy yr un o’r ffenestri.
Tra yr edrychai y boneddigion o’u deutu, clywent rywbeth tebyg i swn siarad heb
fod nepell oddiwrthynt, eto
“ ’Does yna neb yn Capel Ucha. Ma Morus Sion
a phawb yn y cyfarfod gweddi yn Capel Llwyd. Ma Meri Catrin Tomos wedi marw, a
ma pawb wedi mynd yno i ofyn i Iesu Grist neith o beidio ei thaflu hi i’r taân
mawr.”
Dyna esboniad y plentyn ar yr arferiad o gadw gwylnos; ac wedi aros am ennyd i
edrych oedd siawns cael ceiniog gan y “byddigions” am yr eglurhad, ymaith a
geneth fechan heibio iddynt, fel ysgyfarnog yn rhedeg i’w gwàl.
Bu tipyn o ymgynghori cydrhwng Mr. Harris a Mr. Tattenhall yng nghylch y cwrs
goreu i’w gymeryd. Teimlai y ddau yn newynog a sychedig, a mawr ddymunent fod
yn eistedd wrth y bwrdd ym Mhlas Dolau yn adfywio eu cyrff lluddedig gyda gwin
a’r danteithion o’r fath a garent. Eto, gan eu bod wedi trafferthu i ddyfod i
fyny i’r pentref, nis gallent ymfoddloni ar droi yn ol heb wneud eu neges, a
pheth dibwys iawn yng ngolwg y ddau oedd cyfarfod gweddio yr Ymneilltuwyr; ac
nid ystyrient fod aflonyddu ar greaduriaid anilythrennog ac anwybodus a
feiddient gyfarch y Goruchaf yn eu geiriau eu hunain, heb gymorth offeiriad na
Llyfr Gweddi, ond peth y meddent berffaith hawl, os dewisent, i’w wneud.
Ffolineb mawr, yn ol barn Mr. Harris, oedd pasio Deddf Goddefiad. Anghofiodd
ef, druan! mai angenrhaid fu ar ein seneddwyr i wneud hynny er eu gwaethaf.
Onis gellir olrhain yr holl ddeddfau a basiwyd yn y wlad o blaid y werin bobl
i’r un rheswm? Deddfau wedi mynnu eu cael ydynt; nid rhai wedi eu rhoddi o
wirfodd calon, er budd deiliaid y deyrnas.
Eithr yr oedd yr etholiad wrth y drws, a Mr. Harris a’i gyfeillion yn amcanu
bod yn wen deg tuag at bawb hyd nes y gorfodid hwy i droi y tu min at y rhai na
fynnent blygu iddynt; felly ystyriai y ddau (x52)
fonheddwr mai doethineb ynddynt fyddai parchu y cyfarfod gweddio, yn enwedig
gan mai gwylnos oedd, a’r bobl yr amser hwnnw yn meddwl cryn lawer o’r nesau at
Orsedd Gras y noson olaf y byddai cyrff eu rhai anwyl o dan gronglwyd eu
cartrefi cyn eu hebrwng i briddellau y dyffryn.
Cychwynnodd y ddau tua’r Capel Llwyd, bwthyn Catrin Tomos, merch yr hon a
fuasai farw, yn arwain eu ceffylau yn araf, gan obeithio, wedi cyrraedd, allu
anfon cenadwri at Morus Sion eu bod hwy allan yn disgwyl am dano.
Wedi dyfod at y tŷ, gwelsant ei fod yn orlawn o bobl, a rhywun yn gweddio
yn uchel iawn ar ei liniau yng nghanol y llawr. Ni chlywodd Mr. Tattenhall yn
ei fywyd son am y fath beth a hyn. Gwyddai amcan sut fath oedd yr Irish Wake, ond dyma rywbeth newydd a
thra gwahanol; ac er na ddeallai yr un gair o’r iaith a ddefnyddiai y gweddiwr,
eto ni fynnai i Mr. Harris fyned yn nes na’r ffordd tua’r bwthyn. Troisant en
hwynebau yn ol, gan benderfynu gadael Pentref Bryn Eiddig yn llonydd am y noson
honno, a myned tua Phlas Dolau i fwynhau eu swper, a cheisio dadflino goreu y
gallent.
Er eu syndod a’u braw, ni fedrent hwy na’u ceffylau ymryddhau o ganol rhyw
lyffetheiriau a’u hamgylchent. Yr oeddynt megis gwybed yng ngwe y pryf copyn;
waeth pa fodd y tynent hwy, tynnai rhywbeth arall yn groes. Dechreuodd yr anifeiliaid wylltio a chicio, fel
mae arfer ceffylau. Bloeddiodd Mr. Harris am help; rhegodd Mr.
Tattenhall eu ffolineb yn dod i’r fath bentref rheibiedig heb oleuni’r haul i’w
diogelu. Daeth amryw o’r bobl nesaf at y draws allan o’r Capel Llwyd i edrych
beth oedd yr helynt. A bu cynnwrf mawr, canys ni chiliasai ofergoeledd yn llwyr
o’r wlad, a meddyliodd rhai o’r bobl ddiniwed mai y diafol oedd yno yn ymladd
am enaid Meri, merch Catrin Tomos, a rhedasant yn eu holau i’r tŷ, eu hwynebau
wedi glasu gan ofn, a’u dannedd yn clecian yn eu gilydd. Yng ngoleu gwan y ser,
nis gallent weled yr ymgyrch yn y ffordd fawr; ond gan ei fod yn parhau, a’r
dwndwr a’r gwaeddi yn myned waeth-waeth, nes yr oedd cadw cyfarfod gweddio yn
hollol amhosibl, penderfynodd y rhai dewraf ymysg y meibion yr aent tua’r fan i
geisio deongli yr helynt, a goleuwyd yr hen lusern ddefnyddiai Catrin Tomos a
Meri i fyned a dod o’r capel ar nosweithiau tywyll.
Mynnai Morus Sion mai rhai o weision yr un drwg oedd yno, os nad efe ei hun;
pwy arall fuasai yn meiddio torri ar dawelwch yr wylnos ddylasai fod yn
gysegredig oherwydd galar hen fam wedi ei gadael yn unig.
“Ia,” meddai un o’r merched “ma’n siwr ma rhai o’r hen
Ond yr oedd y dynion a’r llusern wedi cychwyn, a haws dychmygu na disgrifio eu
syndod pan welsant ddau fonheddwr o safle mor uwchraddol a’r ymgeisydd
Seneddol, a Mr. Harris, Plas Dolau, yn ymdreiglo yn y llwch, wedi eu dal mewn
rhaffau neu rwydau, ym mron diffygio wrth geisio dod allan o’r fagl, a’r
ceffylau, hwythau (x53) mor analluog a’u
meistri i gael eu traed yn rhyddion. Ceisiwyd chwaneg o oleuni; rhedodd rhywun
i ymofyn sisyrnnau a chyllyll i dori y llinynnau, ac un arall i dŷ’r
ysgolfeistr, gan feddwl mai efe oedd y mwyaf cymwys i siarad a’r boneddigion yn
eu helbul. Wedi mawr drafferth, cafwyd hwy ar eu traed, ac arweiniwyd hwy i’r
Capel Bach, bwthyn Doli Rhobet, i’w hymgeleddu, tra y gofalai ereill am y
ceffylau, druain, oeddynt wedi brawychu ym mron hyd wallgofrwydd, ac yn
ymddangos yn hollol anghymwys i undyn feddwl am eu marchogaeth rhag y byddai
iddynt redeg i rywle a thaflu’r bonheddwyr i ochr y clawdd neu eu llusgo a’u
traed yn y gwrthaflau nes eu lladd. Beth ellid wneud? Ni chofiai neb mai
Toriaid oedd y ddeuddyn anffodus erbyn hyn, eithr cydgreaduriaid wedi eu maeddu
a’u bywydau mewn perygl.
Tra yr oeddid yn ceisio dyfalu pa un fyddai y dull goreu i’w helpu, wele’r
ysgolfeistr yno, a’i gwestiwn cyntaf ef oedd, “Pwy ddaru faglu’r byddigions? Mae
hi wedi mynd os na ellith dau wr bynheddig nobl fel hyn fynd trw’n pentref ni
gyda’r nos.”
Ond nid oedd gan neb yr un llewyrch o oleuni ar y pwnc i’w roddi iddo; yn yr
wylnos yr oedd y bobl pan glywsant am y ddamwain.
“Lle mae plant Capel yr Allt? synnwn i ddim nad oes
’nelo nhw rwbeth a’r gwaith,” ebe Sam y crydd.
“Ma nhw’n ddigon rhydd i bob drygioni, ma’n wir,” ebe Deborah yng nghlust Siani
Morus, “ond ma rheswm ar beth ellith plant drwg hefyd
’neud. Ddaru ti sylwi, Sian, fod yna gryn lwyth trol o raffa, heblaw
rhwyd bennog gimin ag un Wil Mike. Na, chwara teg, mi wn i cystal a neb beth
fedr plant Beti, Dafydd’ neud. Ond ’dydyn
nhw ddim i fyny a hyn chwaith,” ac ysgydwai Deborah ei phen.
“Pwy bynnag fu wrth y gwaith, mi fydd yn ’difar
i’w senna fo,” ebe’r clochydd; “mi geutha dyn ’i
seuthu gan y General am lai peth na hyn.”
“Rhaid dal y pry’ cyn son am dalu iddo fo Sam,” ebe Emrys Puw yn dawel.
“A duwc anwyl fedar Sam ddim gneud hynny,” a chwarddodd Elin yr eneth wirion.
“Yn ’doedd golwg arnyn’ nhw; dyna’r shou ora
welis i ’rioed. Hwyrach ma nid hwn ydi’r tro
ola’ syrthian’ nhw. ‘Duwc anwyl,’ medda fi wrth mam, ‘yn tydyn’ nhw’n llancia,’
pan oeddan nhw’n cychwyn. Pwy fasa’n meddwl ma nhw ydyn’ nhw’ rwan? “ A
chwarddodd Elin yn uchel unwaith ac eilwaith.
“Mae yma ryw wers i ni yn hyn i gyd,” ebe Morus Sion, yn ddifrifol. “Y neb sydd
yn sefyll, edryched na syrthio.”
Chwarddodd Elin yn uwch fyth. Nid oedd arni hi ddim ofn Morus Sion; trodd ato
yn sydyn, a dywedodd,
“Duwc anwyl, arnoch chi ma’r bai, Morus Sion. Chwilio am rwbath sy’ ginoch chi ’roeddan nhw. Debyg bod nhw’n meddwl fasan nhw
ddim yn medru dwyn ych petha chi heb i chi gweld nhw yn dydd, a mi ddaethon yn
y nos, y lladron diffath.”
“Taw, Elin, taw,” ebe Deborah yn ddistaw.
“Duwc anwyl, tewi i beth? A medda fi wrth mam,’Duwc anwyl, lladron ydi pawb
fydd yn dwyn; ac yn jêl ma’u lle nhw,’ medda fi. A ’does
gan Morus Sion ddim i spario; ma gin ŵr y Plas fwy o lawar. ‘Duwc anwyl,’
medda fi (x54) wrth mam, medda fi, ‘piti bod
o wedi priodi; mi fasa yno le iawn i mi dreio am dano fo; mi fasa’r hen leidr
yn cael amal i gwrbitsh gin i.’ Duwc anwyl, welsoch chi mor fudr oedd o?”
A chwarddodd Elin yn aflafar, nes adseinio’r bryniau.
Rywbryd cyn hanner nos, cyrhaeddodd y boneddigion Blas Dolau, ond yr oedd yr
archwaeth am fwyd a diod wedi ymadael er’s oriau. Heblaw a siaradwyd ymysg y
trigolion, ni chlybuwyd am yr helynt ym Mhentref y Capeli, a chafodd Morus Sion
wneud a fynnai a’i bleidlais o ran Mr. Tattenhall a gŵr y Plas.
PENNOD X
“DIHAREB A GAIR DU.”
Eisteddai Boba ar ei stol drithroed fechan o flaen y drws yn gwau hosan fel
arfer, ac yn mwynhau pelydrau haul Hydref a droai ddail y coed yn felyn fel efe
ei hun cyn canu ffarwel â hwy. Telorai y fwyalchen ar frig y pren helyg o flaen
y bwthyn, a chleciai gwiaill Boba i gadw amser i’w hoff aderyn. “Mae o mor
ffyddlon, mhlant i,” ebe hi wrth enethod Hafod Oleu, “fydd y deryn du pigfelyn
byth yn cymyd i ’denydd pan fydd yr ha’ yn
mynd i ffwrdd, fel y bydd y gog a’r wennol a’r rheina. Gras prin iawn yn y byd
yma ydi’r gras o fod yn driw welwch chi, a mi fydd yn dda gin i weld o mewn
deryn bach. Mi rydw i’n ffond iawn o Robin Goch am yr un rheswm, fydd
“Llai o ofn Boba, beth oedd Huw Huws yn feddwl? Fydd neb yn ofni mynd i’r
capel, Boba,” ebe Olwen.
“Rhyw amsar rhyfadd iawn yn yr ardal yma ydi hi Olwen fach, amser i’w gofio
fydd o mae arna’i ofn garw. A hwyrach mai meddwl am betha felna barodd i mi son
am ffyddlondeb y deryn du yma. Mae ar y bobl, druain, ofn i gilydd, does neb
wyr pwy dyr wddw’r naill y llall yn ’i gefn
rwan, fel ma gwaetha’r drefn.”
“Reit wir, Boba,” ebe Huw Huws y gô, yr hwn ddaethai yno heb i neb sylwi arno a
haearn cwic yr hen wraig yn ei law, “dyma fo, Boba, mi gwicith hwn y fordor dan
gamp. Ond son ’roeddach chi am y drefn sydd
yn yr ardal yma. Mae hi’n union fel tasa Satan wedi’i ollwng yn rhydd yma, a’r
rhan fwya’ o’r bobol yn bell iawn yn’i afael o hefyd. Ma ‘ngofyn i bawb fod yn
bur ofalus ne mi fydd rhyw adyn neu gilydd yn ’nelu
at ddwyn i damad o. Dyna i chi betha’r Siop Goch yna, does dim digoni ar ’u gwanc nhw, ma nhw’n ddigon drwg i gyd fel ma
nhw yno, ond mae John Tomos i hun yn crafangio’r cwbwl, a’i lygaid ar y slei i
weld beth sy’n hwylus iddo fo lyncu.”
(x55)”Mae o’n aelod eglwysig yn tydi o, es
tipyn, Huw?”
“O ydi, Boba, mi ddyliodd basa hi’n talu iddo fo fod, a rhoi gwedd go
respectabi fel byddwn ni’n dweyd ar y mesur byr a’r pwysa ysgafn, ac heblaw
hynny mae’n haws iddo fo draflyncu eiddo cymydogion tra bydd o’n cymyd arno fod
yn ots o dduwiol, wyddoch. Does fawr, wyddoch, er pan fedrodd o gael ffarm
Wmffra William i gyd iddo’i hun, er pan mae o’n cynffona i Mr. Harris, ac yr
oedd y tipyn tir sydd yn mynd hefo’r siop yn helaeth ddigon iddyn nhw. Mae rhai
o honom ni yn meddwl fod i lygad o ar damad arall o dir yto, ran hyny, cydrhyngo
fo a John
Evans, Tyddyn Dafydd, mi fydd yma olwg
od ar y lle yma a ’dwyr yr un o honyn nhw
ddim sut i ffarmio mwy na’r lloiau ma’ nhw’n geisio fagu, rhad yn ’u cylch.”
“Diar, diar, Huw bach, ma’n biti, bod yma bobol ddrwg yn y byd yma, a rywsut
fydda’ i ddim yn gweld llawer o fendith fy hun ar yr un o honyn nhw chwaith.”
Dododd yr hen wraig ei llaw deneu wedi caledu wrth weithio yn hwyr ac yn fore,
ar law ieuanc Rhianon, a dywedodd, “Fydd y ngeneth i ddim yn gweld ’run fath a fi bob amser chwaith. Mae hi’n misio
disgwyl awr y talu.”
“ ’Does ryfadd yn y byd, Boba,” ebe Huw
Huws, “digon ara’ deg mae’r hen olwyn fawr yn troi, yn enwedig yng ngolwg y
bobl ifanc, ond pan rydd hi dro mae hi’n gwasgu’r sorod fydd wedi crynhoi yn y
cocos, ac yn lluchio’r sothach fydd wedi ymguddio yn y llwyn. ’Rydach chi’n cofio’r hen air
...........Hwyr yr erys Duw cyn taro
...........Llwyr y dial pan y delo.
Mi ddeudais i wrth walch y Siop Goch yna ddoe na waeth iddo fo heb ledu i safn
ddim, na chaiff ynta ond i hyd a’i led yn y diwedd. Ond wir, Boba
wyddoch chi beth, mi fydd yn y mrifo i orfod credu fod yn bosib i bobol fod mor
ddrwg. Aelod eglwysig wir, ac yn chwennych eiddo’i gymydog, ac yn lladrata mor
ddigywilydd a phe tasa fo’n mynd i mhoced i.”
“Lladrata, Huw bach, well i ti gymryd yn ara machgen i.”
“Ia, Boba, lladrata ydi peidio talu’u harian i bobol; a’r lladrad gwaetha, yn
ol y marn i ydi cadw ei heiddo oddiar blant amddifaid. Wyddoch chi am blant
Hywal y Siop, wel mi adawodd i taid a’u nain geiniog fach ddel fasa’n dipyn o
help i’r plant yn eu cyfyngder cyn dwad i ennill arian eu hunain, ond fel ’dwy byw, mae John Tomos yn gomedd talu eu cyfran
i’r plant, yn ceisio taflu anfri ar goffadwriaeth eu rhieni trwy ddweyd na
adawsant ddigon o arian i gyflawni eu hewyllys, a phethau tebyg. Gŵyr pawb
ei fod yn dweud anwiredd noeth, ac mae rhai o honom ni yn gwbod ma arian tad y
plant sydd wedi cadw busnes John Tomos wrth i gilydd ddyddiau a fu. Ond wrth
lwc ’dwy’n meddwl fod o wedi taro wrth i
fatch hefyd y tro yma.”
“Wel, wel, ddylias i ‘rioed ma un fel yna oedd John Tomos” ebe Boba, ei gwedd
yn newid gan deimlad. “Mae’n rhaid fod dyn yn ddrwg iawn, ie, yn neilltuol o
ddrwg, i dwyllo plant amddifaid.”
“Mi ddeudais i wrtho fo basa arnai’i ofn gneud fy hun, a mi ro’s y ddwy adnod
honno o flaen i drwyn o, ‘Na ddos i feusydd yr amddifad: canys eu Gwaredwr
hwynt sydd nerthol; ac a amddiffyn eu cweryl hwynt yn dy erbyn di,’”
“Hen lyfr nobl ydi’r Diarhebion (x56), ie,
ie, a mi fydda i’n synnu sut bydd ar bobol beidio bod ag ofn arnyn nhw gymryd
yr enw rhagorol arnyn nhw, a gweithio gwaith y gelyn bob dydd o’u hoes. Yr efrau ymysg y gwenith o hyd, o hyd. Dyn
bydol iawn fyddwn i’n arfer feddwl oedd John Tomos, ond ddylias i rioed fod o
mor ddiegwyddor a chreulon.”
“Boba bach, tasa rhywun yn cynnyg grôt y pis i John am gyrff marw ’i rieni, fasa fo’n syndod yn y byd i mi i weld
o’n gneud am y fynwent a’i raw ar i gefn i dreio clensio’r fargian.”
“Huw, Huw,” sisialai Boba gan ysgwyd ei phen.
“Dydi Huw ddim ymhell o’i le, Boba,” ebe Rhianon, be fasech chi’n feddwl o ddyn
fuasai yn gomedd benthyg ceiniog i brynu llefrith i faban bach tri mis oed, yn
crio bron a llwgu, a’r creadur bach hwnnw yn nai i John Tomos ei hun? Mi wn i
fod hyna yn wir, mi glywes i fam yn deyd hynny dan wylo, ac ’roedd bonheddwr caredig wedi taflu sofren iddi
yn ei hangen, ac wedi rhegi John Tomos i’r cymylau, fel basa Huw yn deyd. Mae
yna dipyn o ddefaid duon wedi dod o’r Siop Goch, a gwae i neb ddod i gysylltiad
â nhw. Felly bydd mam yn deyd, a mi wyr pawb mor brin ei geiriau fydd hi, os na
fydd eisieu canmol tipyn arnon ni. ’Does dim
posib cael gan John Tomos neidio o ben y clawdd, medda nhad, i ddangos i ochor,
ac felly does dim modd dibynnu
Chwarddodd Huw Huws y gof yn iach. “John Tomos yn mynd i briodi! Wel, mi glywas
i rywun rywdro yn deyd tasa dyn yn lladd i wraig, ac yn cario’i phen hi tan i
gesail y basa rhyw ddynes yn siwr o fod yn ddigon gwirion i fentro i gymryd o
er y cwbwl. Braidd nad ydw’i run farn a fo wir. Mae meddwl am Jac Tomos yn
cymryd
“Well ‘i mi roi’r troed gora mlaen’” ebe Huw, ’swybod
ar y ddaear na fydd o wedi gweld i wyn ar rwbath os bydd o acw o mlaen i. Mae
o’n meddwl fod pawb yn lladron, a lleidar weiddith lleidar gynta wyddoch, a mi
fyddai’n leicio cadw ’ngolwg ar y bobol
ddrwgdybus yma os medra’i sut yn y byd.”
Ac ymaith a’r gof, a Boba yn ysgwyd ei phen eto
“Sgwni sut y trydd y lecsiwn?” ebe Rhianon yn fyfyrgar, “mae nhad yn bur
anesmwyth, mae (x57)
mor anodd deall gymaint o waith goleuo sydd ar y bobol. Mi es i ddoe i Foel y
Ci i edrych beth oedd eisieu neud i’r simdde dros Syr Tudur, ac yn ystod yr
ychydig ymddiddan â’r wraig, gofynnais iddi a oedd y gwr am fotio i Mr.
Edwards, fod pob un o denantiaid Syr Tudur yn rhydd i wneud fel y mynnent heb
ofn i gwg. Edrychodd y ddynes arnaf, a dywedodd yn erfyniol,
‘O, Miss Rhianon, peidiwch a gofyn iddo fo, peidiwch wir a gofyn iddo fo, does
arna’ i ddim eisio colli nhipin dodrefn. ’Does
gin i ddim llawer, mae’n wir, a dydyn nhw fawr o bethau fel mae’r byd yn mynd
ond y ni pia nhw, a ma nhw’n gwneud y tro i ni yn eitha.’
Edrychais arni yn ddigon hurt mae’n debyg, a gofynais beth oedd yn feddwl
colli’i dodrefn os fotiai ei gwr i Mr. Edwards.
‘Wel mi fuo Mrs. Harris y Plas a Twrna Cefn Mawr yma, a mi ddeudson os fotiai
Will i Mr. Edwards na fydda eiddo neb yn saff, bod yna ryw ddyn yn Llundain am
ddwyn eiddo’r Eglwys ac eiddo pawb,” a chwarddodd Rhianon yn llon.
Cododd Boba ei dwylaw tua’r nef, ac ebe hi:
“Bobol bach y fath anwybodaeth gresynus, mhlant i, mewn gwlad efengyl, fel
basa’ch tad yn deyd. Chlywas i rioed y fath beth. Diar, diar. Yn wir
mae’r twllwch yn fwy nag o’n i’n feddwl.”
“O, dydi hi ddim mor ddrwg a hyna ymhob man Boba. Ond mae rhai fel yna yn
ddigon i droi’r fantol, a dyna sy ar nhad ofn. Heblaw hynny mae rhai o weision
Mr. Harris yn gwylio camrau nhad i bob man, ac yn mynd ar i ol o i geisio
dadwneud y gwaith.”
“Oes, mi wn, ond mae hi’n ormod o job i’r un o honyn nhw neud dyn celwyddog o
Rhobat Gruffydd. Dydi caritor ych tad, ’nethod
bach, ddim at drugaredd neb ar y ddaear wrth lwc. Nac ydi, nac ydi. Peth mawr ydi medru sefyll i
fyny o flaen y wlad a herio undyn i ddangos sbotia duon arnom ni. Ie,
peth mawr a gwerthfawr iawn.”
“Beth barodd i chi ddeyd bod ar y bobol ofn mynd i’r capel, Boba?” gofynnai
Olwen, “mi dorrodd Huw ar yn sgwrs ni.”
“Wel, mhlant i, ma rhai o gynffonwyr y Plas Dola yna yn ffeindio’u ffordd i bob
man, ac yn glustia i gyd yn gwrando ar bob gair all rhywun ddeyd yn ochor
egwyddorion rhyddid, a fedar neb fod yn rhy wyliadwrus beth i ddeyd wrth i Dad
yn i gyfyngder, mhlant i. Fyddwn ni’n cofio am neb ond Fo a ninna amser honno.
Digon o waith y clywan nhw ddim am gyfarfod gweddi yn Tyn’rardd a mi gawn
lonydd fel yr hen ffyddloniaid stalwm mewn cornelau distaw heb yr un o sbiwyr
Mr. Harris i’n difrio ni. ’Newch chi gofio
diolch i’ch mam am y brintan mhlant i, ’does
dim diwedd ar i chofio hi am dana i. A dyma’r bowlan bach i chi i fynd adre.
Sut bynnag dywydd fydd hi arnom ni mae’n Tad wrth y llyw, a deiff yr un llong
byth yn dipia os bydd O i
“Mae Syr Tudur wedi peri iddyn nhw ddanfon llwyth o goed i chi Boba,” ebe
Rhianon, “mi berodd i mi ddeyd. Hwyrach ma aros adre hefo Olwen na’i heno yn
lle do’d yma i’r cyfarfod gweddi.”
“Ma nhw’n rhoi gormod o fwytha i mi, Boba “ ebe Olwen, “Ma mam a Rhianon yn
deyd (x58) fod awel y nos yn ddrwg i mi, yn
misoedd ola’r flwyddyn yma.”
“Mi fasa’n burion i deulu’r Plas yna tasa rhywun yn ‘u cadw nhwtha yn y tŷ
goelia i, treio cadw helynt Pentra Bryn Eiddig yn secret ma nhw ynte?”
“Helynt digon rhyfedd oedd hwnnw Boba, ynte, a fase nhw fawr haws a cheisio
dadrys y pwnc, ’does neb yn deall dim yn ei
gylch.”
“Nac oes, Rhianon, ond synnwn i ddim na ddaw rhagor o bethau anesboniadwy, mae
llawer ffordd eto i roi’r mur o dan yn amddiffyn i’r etholedigion rhag y
gelyn.”
PENNOD XI
ANGENRHEIDIAU’R WERIN
“Rhaid i ni fynd adre heibio’r felin, Olwen. Mae ar nhad eisio
gwybod pryd y bydd posib iddo fo gael silio, a mae mam wedi ordro gwerth swllt
o wynwyn. Wyt ti ddim yn rhy flin, wyt ti, Olwen fach?”
“Nag ydw i; mi fydd yn braf mynd am dro bach. Mae’r dail yn glws iawn, yn
enwedig dail y derw cyn iddynt ollwng eu gafael yn y coed. Mae’r flwyddyn yn
gwywo yn glws iawn yn tydi hi, Rhianon? Piti na fase pobol yn medru gwywo a
marw fel yr hen flwyddyn, ynte, Rhianon? Ond gall pobol obeithio am adgyfodiad
gwell hefyd.”
“Gallant, Olwen, ngeneth i, a gwanwyn na fydd darfod arno.”
“Mae’r pennill yn deyd —
.......Mae yno ryw dragwyddol haf
.......Na wywa byth mo’i flodau braf.
Rhaid fod yno haf, Rhianon. Ond fydd yno ddim diwedd blwyddyn a diwedd bywyd,”
atebai Olwen yn fyfyrgar.
“Rhianon, ddaru ti beidio cefnogi gormod ar Huw ’rwan,
pan oedd yn dwrdio John Thomas y Siop Goch?” ychwanegai.
“Do, Olwen; ddylaswn i ddeyd dim. Mi wyddwn i hynny’r foment y tewais i; ond
fel bydd mam yn deyd yn ddigon aml, pe bawn i yn cofio
’i geiriau hi, mai siarad gormod yw’r rheswm dros hanner gofidiau pobol,
yn enwedig merched. Rhaid i mi ddilyn dy esiampl di, Olwen, a siarad llai.”
“Na, mi fydda i’n leicio dy glywed di, Rhianon, ond fydda’ i ddim yn nabod
llais Rhianon ni os bydd hi’n deyd y drefn am rywun.
’Rydan ni gyd yn nabod y
llais pan fyddi di yn cymyd plaid y gwan.” Pwysai Olwen ar fraich ei chwaer yn
lled drwm, ac ymdaenai gwrid ysgafn dros ei hwyneb prydferth — y gwrid roddai
gymaint o bryder i’w mam a’i chwaer. Yn y man, daethant i olwg y
groesffordd arweinai at y felin. Er eu syndod, gwelsant fod yr hen groesffordd
dawel yn llawn o bobol, a rhywun yn sefyll ar ben y garreg farch, yn bennoeth,
ac yn siarad yn uchel wrth y gynulleidfa, gan ysgwyd ei freichiau ac estyn ei
fysedd at y bobl, wedi hynny eu tynnu trwy ei wallt; yna clecian ei ddwylaw
ynghyd i ategu ei eiriau; yna, gyda’r pwysleisiad cryfaf allai ei wddf roddi,
gwaeddai nerth ei ben ei syniadau ef yng nghylch y pwnc dan sylw.
“Beth ar y ddaear sy’n bod?” gofynnai Olwen mewn syndod. Chwarddodd Rhianon.”
Mae rhywun yn leicio clywed ’i lais ’i hun heblaw fi, ’ddyliwn i. Gawn (x59) ni fynd i wrando beth mae o’n ddeyd, Olwen?”
“ ’Does yna ddim un ferch, dim ond dynion i
gyd.”
“Gore i ni pan gynta’ i fynd yna, os felly mae hi, mae digon o eisio merched i
helpu’r dynion yma i drin tipyn ar betha. ’Na
nhw ddim mwy o gamdrefn, beth bynnag. Fedran nhw ddim yn ’u byw, ond mi allan neyd yn well.”
“O Rhianon, paid a deyd petha fel yna, ne mi gneith pawb di’n sport, a mi
galwan’ fy chwaer yn bopeth nad yw hi.”
Gwenodd Rhianon, ond ymlaen yr aeth tua’r groesffordd. Gwelwyd y genethod gan
Ned William y Saer, a daeth atynt yn wen o glust bwy gilydd.
“Mae cerbyd y Plas fan yma, a lle cyfforddus i chi a Miss Olwen eista yno fo,
Miss Gruffydd. Dowch chi ar f’ol i.”
“A chan y dymunai glywed yr araeth, ac hefyd fod lle cysurus i Olwen ym
mhob-man, y peth cyntaf y meddyliai Rhianon am dano, aeth am unwaith yn ei hoes
ar ol Ned William, ac wedi iddynt eistedd i lawr ar y clustogau, nid oedd yn
edifar ganddi.
“Areithiwr dan gamp ydi Mr. Jones, Miss Gruffydd; mae o wedi dwad yma o bell
ffordd i helpu Mr. Tattenho, achos na fedar o ddim siarad digon o Gymraeg ’i hun wrth y fotars. Mi gewch chi glywad o yn y
munud yn deyd wrth y dynion sut i fanigio i’r dim,” ebe Ned William yn ddistaw
wrthi, tra yn cau drws y cerbyd. A’r geiriau cyntaf a glywsant gan Mr. Jones,
ddaethai yno o bell ffordd i’w goleuo, oedd fel hyn:—
“A phwy ydi’r dyn yma sydd ar y maes yn erbyn bonheddwr o sane Mr. Tattenhall;
ie, pwy ydi o — pwy ddynion bach? Gofynnwch chi’r cwestiwn yna i chi’ch hunain,
fyddwch chi fawr o dro yn penderfynu rhoi’ch votes bob un i Mr. Tattenhall. Pwy ydi o — pwy? Wel, mab i ryw hen bregethwr fydda’n mynd a dwad ar hyd y
wlad yma ’stalwm i bregethu ym mhob-man ond
yn yr hen Eglwys gysegredig, a mae’r mab yma wedi hel arian. Sut y gnaeth o
hynny? Wel, wrth droi’i got. Ie, gneud arian wrth droi ’i got; dyna i chi sut ddyn ydi o. Fydd gŵr
bonheddig ddim yn troi ’i got.”
Ar hyn gwaeddai rhyw lais, “Beth am Disraeli?”
“Disraeli! Ie, Disraeli, y gŵr mwya’ yn y wlad heddyw wedi tynnu yn llewys ’i grys i amddiffyn hen Eglwys Cymru, ydi o!
Mae’r Librals yma am amddifadu y
Gwyddel tlawd o’i Eglwys, a lle cawsech chwi a minnau ryddid i addoli yma yng
Nghymru pe cauai drws ein Heglwys arnom?”
“Beth am y capeli?” gwaeddai y
llais eto.
xxxxxxxxxxx”Ie’r capeli, syr, y capeli. Fedrwch chi ddangos lle i ddyn
tlawd i mi yn y’ch capeli chi? Oes yna le i rywun na fedr o ddim talu am ’i le heblaw ar y fainc ar y llawr, wedi’i nodi,
druan, fel tlotyn gystal a nodwyd yr un ddafad erioed? Na, Eglwys ’i Blwy’ ydi’r unig le i’r tlawd — yr unig le y
gall dyn tlawd fynd i addoli ’i Greawdwr heb
i neb neyd cilwg
“Clywch, clywch.”
“Mae rhyw gyfaill yn gwaeddi ‘Clywch, clywch;’ ond, ddynion anwyl, mae hyn yn
beth ofnadwy (x60) i feddwl am dano, mor
ofnadwy” a thynnai yr areithiwr ei fysedd hirion drwy ei wallt nes yr
ymddanghosai fel un ar ddarfod am dano oherwydd dychrynfeydd ei ddrychfeddyliau.
“Mae hyn mor ofnadwy a phe buasai dyn meidrol yn taenu ser y nefoedd yn balmant
i’w draed. Mae hen Eglwys ein hynafiaid — pob carreg ynddi, pob pwt o bren sydd
ynddi, pob darn o wydr a phisin o blwm, ie pob cloch fedd hi, yn
gwaeddi; ie yn gwaeddi — ydych chi yn ’u
clywed nhw? — yn unllais arnom ni am i ni amddiffyn ei muriau hi, amddiffyn ei
heiddo hi, amddiffyn ’i chredo hi, amddiffyn
beddau ’i mynwentydd hi rhag i ddwylaw y
lleidr a’r gŵr annuwiol eu halogi ne’u trin yn annynol. Meddyliwch am y
peth. Mae rhai o honoch chi wedi’ch priodi ac wedi bedyddio’ch plant tufewn i’w
muriau hi. Mae’ch teuluoedd anwyl chi, rai o honynt, wedi eu claddu yn ’i mynwentydd hi. Ond dyna i chi beth ofnadwy —
amharchu cyrff y meirwon. Mae pawb yn cael llonydd wedi marw, sut greadur
bynnag fyddo, ond ’dydi’r bobol yma ddim yn
parchu’r meirwon — y meirwon!” gwaeddai ar uchaf ei lais.
Cododd Rhianon, canys canfyddodd fod gwyneb Olwen yn gwelwi yn sŵn y fath
ymadroddion. Agorwyd drws y cerbyd iddi gan Francis Glyn, nai Mr. Harris, y
Plas. Tynnodd ei het; ymgrymodd Rhianon ei phen. Aeth y dyn ieuanc gyda’r
genethod heibio i’r bobl, a chyn troi yn ol dywedodd: “Mae peth fel hyn yn
sarhad ar synwyr cyffredin. Mae’n ddrwg gennyf i chwi ei glywed, Miss Gruffydd.
Gwelwch fy mod yn eich adnabod. Cyfarfyddais chwi y dydd o’r blaen pan gyda fy
ewythr, Mr. Harris, Plas Dolau. Fy enw yw Francis Glyn, at eich gwasanaeth.”
“Fy chwaer, Olwen Gruffydd, sydd gyda mi, Mr. Glyn, ac nid yw hi yn alluog i
wrando ar bethau tebyg.” Gwenodd; y wên oleuai wyneb tywyll Rhianon. “Feallai
ein bod ni yn orofalus o’n blodeuyn, Mr. Glyn, ond mi fyddwn yn dymuno ei
chysgodi oddiwrth gymaint a allom. O’m rhan i, mi fuaswn i yn leicio clywed yr
oil sydd gan y dyn yna i ddweyd am danom.” Gwenodd wedi hynny, ac ychwanegodd —
“Un o’r Liberals yma ydw i, Mr. Glyn,
a chaniatau mod i’n meddu hawl i fod yn rhywbeth, a minnau wedi’m geni yn
ferch.”
“Camgymeriad mawr, pobl, ydi anufuddhau i’r Ysgrythyr. Mae’r Ysgrythyr Lân yn
ein dysgu i fod bob un yn foddlon ar y sefyllfa y’n ganwyd ynddi, ac nid i
geisio dymchwelyd pob math o drefn yn y wlad trwy ddyrysu llywodraeth, amharchu
deddfau, a phethau tebyg. Mae’r Ysgrythyr Lân yn ein dysgu i fod yn
ddarostyngedig i bawb sydd mewn awdurdod, ond mae dynion fel mab pregethwr wedi
troi ’i gôt yn dysgu’r werin i beidio parchu
neb. A mi ddeyda i chi ragor: ’does dim
posib cael gwaith os na bydd gŵr bonheddig ag arian i’w roi o ac i dalu am
dano. ’Does (x61)
dim posib cael ffarm os na fydd yna ŵr bonheddig yn meddu ffermydd i’w
gosod nhw i chi, a beth sy’n rhesymol i ni ddisgwyl oddiwrth y gwŷr mawr
os nad ydan ni’n foddlon i roi fôt iddyn’ nhw amball waith, pan ofynnant am
dani i ni; ïe, yn foesgar hefyd, nid fel pe basen ni yn gneud ffafr â nhw, yn
lle gneud y’n dyledswydd. Bobol anwyl, dydd drwg fydd hwnnw i’n gwlad ni pan
fydd y llywodraeth yn llaw dynion anghymwys, pan fydd yr upstarts yma wedi medru gneud pres a chipio’r awenau o ddwylaw yr old nobility. Ie, dydd drwg fydd hwnnw. ’Does dim posib cael un llun o drefn ar
lywodraeth gwlad heb rywrai wrth y llyw, ac mae’n bwysig iawn i ni pwy fydd fan
honno. Os am feistr, fechgyn, a ma’n rhaid i gael o, dowch i ni ŵr
bonheddig, o’r right stamp. Mi
ŵyr o be sy’ arnoch chi eisio yn iawn. Mae o’n gwybod fod glasiad o gwrw
yn beth sy arnoch chi eisio ar ol gweithio yn chwys a lludded, ac y mae yno
ddigon i gael yn y Red Lion, dim ond gofyn am dano; mae pwrs Mr. Tattenhall yn
bur ddwfn. Ie, os am feistr, a rhaid ’i gael
o, peidiwch byth a mynd yn agos at y tacla yma sy wedi codi. Cofiwch yr hen
air, “Gwybed gwyd oddiar faw hed ucha’;” ie, a nhw ydi’r meistri cleta.
Peidiwch chi a chymyd y’ch llygad-dynnu gan y Liberals yma, os ydach chi’n meddwl yr hidia nhw fwy am danoch chi
ne am ’u gwlad na’r hen fonheddwyr; peidwch
chi a choelio dim o’r fath. Bron i mi ddeyd ma chwech o un a hanner dwsin o’r
llall fydd hi.”
Chwarddodd cryn hanner dwsin yn uchel.
“Mi allwch chi chwerthin, my lads,
ond mi gewch chwi weld, os ewch chwi i’w crafanga nhw, ma’r meistri caleta
ydi’r jerry builders, y speculators, a’r retired tinkers. Dyma’r bobol neith yrru’r hen wlad yma i’r
gŵr drwg os rhown ni siawns iddyn’ nhw. Ma gŵr bonheddig yn ŵr
bonheddig; ydi, siwr, beth arall ydi o? Ond bedi rhein? Petha wedi troi ’u
cot. Mi tro’n chitha hefyd rownd ’u penna os
na thendiwch chi. Be sydd yn eisieu arnoch chi, ddynion? Digon o fwyd, digon o
ddillad, a thân a thŷ wrth ben. ’Does
dim eisieu rhagor na hyna ar neb; ond ewch chwi i ddwylo’r mob, mi gewch lai. Ychydig o’r hen nobility wrth y llyw, dyna neith drefn ar y wlad. Mae’r Ysgrythyr
Lân yn ein dysgu ni, pe tae ni’n gwrando ar y geiriau, mai felly mae petha i
fod. Peth ofnadwy ydi syrthio i ddwylaw’r mob;
gwareder ni rhagddynt. Beth ddaru nhw neyd? Troi cot?
“Ie. Lladd Brenin? Ie, croeshoelio Crist, a dewis y lleidr a’r llofrudd, bobol!
Ie, ie, ie, dair gwaith drosodd i chwi. Dyna’r log i chwi, a gwaith y mob
wedi ysgrifennu
Tra y cymerai Mr. Jones ei wynt ato wedi’r fath ymarllwysiad o hyawdledd, wele
ddyn mewn dillad (x62) gweithiwr cyffredin
yn dod ymlaen at y gareg farch ac yn amneidio â’i law ar y dynion am osteg, fod
ganddo yntau hefyd air i’w ddywedyd wrthynt. Dyn dieithr oedd, ac er nad oedd
ei ddillad yn rhagori ar yr eiddynt hwy, teimlodd y bobl ei fod yn rhywun a
fynnai ei wrando.
Edrychai Mr. Jones arno mewn syndod, trodd at y dynion a dywedodd, “Gormod o
beth ydyw hyn, my lads, torri ar
draws araith y dylech chwi ei chlywed “bob gair.” Ond yr oedd y gweithiwr yn
benderfynol, “Fydda i ddim yn hir, Mr. Jones o rywle ydi’ch enw chi ynte? Mae
rhaid i chi wrando arna i, yn hwyr neu hwyrach, felly waeth i chi roi’ch lle ar
y garreg yna i mi ac eistedd yn is i lawr am dipyn. Yn gyntaf oll rydw i’n
myndi ofyn cwestiwn ne ddau i chi, dyma fo: Sawl diwrnod o waith gonest ddaru
chi neud yn ych oes? Faint y dydd gawsoch chi am ych gwaith?” Trodd at y dynion
ddeallent yn dra rhagorol beth oedd llafur caled beunyddiol i drin y tir, a
chan gyfeirio at ddwylaw gwynion tewion Mr. Jones, dywedodd yn wawdlyd,
“Edrychwch ar i ddwylo fo, a fyddwch chi a finna fawr o dro heb weld na
ŵyr hwn ddim beth ydi gwaith na gweithio, ac mae o’n dwad yma i ddweyd
wrtho ni beth ydi angen y gweithiwr.” A chan estyn ei ddwylaw celyd at ei
gydlafurwyr ebe fe, “Welwch chi’r cyrn yma ar gledrau fy nwylo i, frodyr. Mi
wranta i bod gin bob un o honoch chitha gyrn a’u matshia nhw i’r dim. Does dim
eisio i neb lefaru yng nghylch i waith dim ond dangos y llaw, ynte, ddynion
bach, mae hi’n eitha tyst i ni bob un fel yr ydan ni’n sefyll yma. Edrychwch ar
ddwylo ffrind y gweithiwr. Mae’n nhw’n wyn, ac yn feddal, yn tydyn’ nhw Mr.
Jones, dest y peth i ysgwyd llaw hefo ladies
y Jones yma. A faint fyddwch chi’n gael am y gwaith? Fuoch chi rioed yn
gweithio am chwech-cheiniog y dydd ac yn byw ar hynny? Os do, mi wrandawn ni
arnoch chi, ond os naddo, wyddoch chi ddim am anghenion gweithwyr y’ch gwlad. A
shut up am dani hi, old boy. Anghenion y werin, gydwladwyr.
Na, nid glasiad o ddim i bendroni’r dyn a’i wneud yn ffwl diamddiffyn ar
drugaredd ei ormeswyr. Na, mae arnom bob enaid angen hynny o ymenydd roddwyd i
ni gan y’n Creawdwr i ymladd am y’n rhyddid y dyddiau yma. Nid gwerin feddw all
waeddi i unrhyw bwrpas, ‘Trech gwlad nag Arglwydd,’ frodyr. Nid gwerin feddw
all ymdrechu yn erbyn cynllwynion cyfeillion Mr. Jones, a hynny mae’r gweilch
yn wybod. Na, gwerin ar ei thraed, a’i synnwyr yn ei phen, a’i dwylaw heb
ddechreu crynnu, dyna’r werin sy’n mynd i ennill i rhyddid, daliwch chi sylw. A
mae Mr. Jones yn dweyd ma dyn wedi troi gôt ydi Mr. Edwards; wel nid pob un
sy’n alluog i ddangos lining i gôt
rwan, ac os ydi Mr. Edwards wedi troi gôt, yn myn’d yn Annibynwr yn lle yn
Fethodist, wel, fedrwch chi na minna wel’d yr un twll yn y tu chwith mwy na’r
tu de iddi hi. Ydi, mae Mr. Edwards yn fab i un o hen bregethwyr Methodist gora
Cymru, ac mi ddeyda i chi fwy, mae’r mab cystal dyn a’i dad. Ond nid brwydr
dros ddyn ydi hon, gydweithwyr; na, brwydr ydi hon dros egwyddorion; brwydr ydi
hon i roi hawl, i bob Cymro fod yn ddyn yn lle rhyw bel droed i
Ac yng nghanol bloeddiadau o gymeradwyaeth nas gallai y dynion er eu gwaethaf
ymatal gan gymaint eu teimladau, darfu yr araeth gan y dieithrddyn; ond ni
chododd Mr. Jones ar ei ol, a therfynnodd y cyfarfod a gwasgarodd y dorf, un
yma ac un acw, gan adael Mr. Jones a Ned William i gymeryd meddiant o’r cerbyd
i fyned yn ol tua’r Plas Dolau. Cerddodd Rhianon yn fyfyrgar yn ei blaen tua’r
felin i orffen ei negeseuau.
PENNOD XII
CYSGODION Y DYFODOL
Pan gyrhaeddodd Rhianon y felin, gwelai fod amryw o’r dynion fu yn gwrando ar y
groesffordd, yno o’i blaen yn eistedd ar y sachau blawd, ac yn beirniadu y ddau
areithiwr. Ni fuasai y melinydd yn y cyfarfod, canys amser prysur iawn yn yr
hen felinnau fyddai mis Tachwedd. Heidiai y ffermwyr yno gyda’u ceirch i silio
am y cyntaf, a thipyn o waith i’r melinydd oedd dal y ddysgl yn wastad, a
gofalu na thorrid yr hen arferiad, “y cyntaf i’r felin gaiff falu,” yr hyn a
ystyrid yn ddeddf anrhydeddus, er nad ysgrifennwyd hi ar ddalennau yr un llyfr
glas. Ond er fod amgylchiadau yn cadw John Meredydd rhag dangos ei ochr yn y
cyfarfodydd, gwyddai pawb fod ei galon ef yn ei lle, ac
(x68) Mi fasa’n dda gin y nghalon i tasa
Rhobat Gruffydd yr Hafod yno, ond mi ’roedd
Miss Gruffydd yno a mi neith hi’r tro.” Dyna’r geiriau a glywai Rhianon gan
Evan Roberts, Tŷ Canol, cyn iddo ddeall ei bod hi yn sefyll yn ei ymyl.
Chwarddodd pawb, a gwenodd Rhianon yn siriol.
“O’n, Evan Roberts, ’ro’ni yno a mae’n dda
iawn gen i hynny. Mi ddeydodd y ddau rai pethau y byddwn ni gyd yn cofio
amdanynt, gobeithio. Fydd raid i run o honoch chi glywed neb yn areithio eto
ddydd y polio, mi ddyle’ch llygaid chi fod yn ddigon agored ar ol heddyw.”
“Reit wir, Miss Gruffydd, ac ond i’r dynion iwsio’u sens, fel byddwn ni’n deyd,
mi ddylai araeth Mr. Jones fod yn fwy o help i Mr. Edwards nag i Mr.
Tattenhall, er ’doedd o fawr feddwl hynny
chwaith. Ond mi trodd y dyn diarth hwnnw bopeth o chwith pan gododd o, a mae
gin i ryw amcan fod y dyn ola yna yn nabod Mr. Jones. Glywsoch chi o’n peri
iddo fo fyn’d adra?”
“Wel, rhaid i minnau droi at adre, hefyd, ne mi fydd mam yn meddwl mod i ar
goll yn rhywle,” a dywedodd Rhianon ei neges, ac ymaith a hi.
Edrychodd y dynion ar ei hol, gan edmygu symudiadau y corff ieuanc, lluniaidd,
a’r camrau ysgafndroed, ac ebe un o honynt, “Biti fod cimin o wahaniaeth oed
cydrhyngthi hi a Syr Tudur; mi fasa’n reiol o beth i gweld hi’n fistras yn y
Friog, a ma rhai yn meddwl ma dyna fydd y diwedd fel y mae hi.”
“Lol ffol, coelio’r bobol a’u clep,” ebe John Meredydd; “mae’r sylw delir i
Miss Gruffydd gan bawb yn rhwym o wneud gelynion iddi, ond mae’i phen hi
wedi’eiosod yn eitha sad ar ei ’sgwydda,
wrth lwc.”
“Mae arna i fwy o ofn gweld rhywun arall heblaw Syr Tudur yn troi o’i chwmpas
hi wir. Welsoch chi’r dyn ifanc sy’n Mhlas Dolau, sy’n perthyn i Mr. ne Mrs.
Harris? os nad ydw i wedi camgymeryd, mi ’drychodd
arni hi heiddiw ’fwy nag unwaith, yn union
fel y byddwn ni’n edrach ar y merched fydd wedi’n llygad-dynnu ni.”
Tra y siaradai y dynion am dani, safai Rhianon yn ymyl clawdd perllan y felin,
wedi ei llygad-dynnu ei
“Fel yma bydd pobol yn rhyfela. Welwch chi’r falwen fawr yna, Miss Rhianon?
Owen Glyndwr ydi hona, a mae’r lot yna i gyd, o’i ochor o, ar (sic = a’r)
lot yna o ochor Brenin y Saeson.” Symudai yr ymlusgiaid wedi hynny mor ddeheuig
a didrafferth. “Pobol (x66) Ysgotland ydyn
nhw rwan, Miss Rhianon, a William Wallace, a Robert Bruce ydi’r rhai mawr a’r
cregyn clws yna, a ma nhwtha’n curo’r Saeson hefyd. Cyfnewidiad arall yn nhrefn
y malwod, a dyna Rhianon yn gwrando hanes Groeg, a rhyfel Caerdroia, lladd
Hector, a’r saeth yn sawdl Achiles, y cyfan mor ddestlus a chryno nes ei
gwneuthur yn fud mewn syndod.
“Rwan, Miss Rhianon, dyma nhw i gyd yn bregethwrs Wesla, fel yma bydd nhad yn
deud bydd pregethwrs Wesla a’u tai ar ’u
cefna’n symud i rywle newydd o hyd. Dacw nhw’n cychwyn.”
“Gymrwch chi weld y lecsiwn, Miss Rhianon? Dyma’r Toris i gyd yr ochor yma,
Librals ’rochor yna; a ma na fwy o lawer o
Librals, ond dydi Mr. Harris y Plas ddim yn gwbod chwaith ne mi fasa o’i go;”
ac ymhen ychydig eiliadau, trawsffurfiwyd y malwod yn bleidiau politicaidd, a
Dyddgu yn llefaru dros y naill blaid a’r llall yn hyawdl.
“A dyma briodas, Miss Rhianon,” a newidiwyd gorymdaith yr ymlusgiaid eto.
“Priodas chi a Syr Tudur,” ebe’r eneth yn ddiniwed, ond aeth wyneb Rhianon
Gruffydd fel y galchen. Dododd ei llaw ar law y plentyn, ac ebe hi, “Dyddgu,
rhaid i ti beidio gneud peth fel yna, ne cofia na fydda i ddim yn ffrindia hefo
ti.”
Edrychodd y plentyn arni yn syn.
“Ydach chi ddim yn leicio Syr Tudur, Miss Rhianon? Mi rydw i. Ma well gen i Syr
Tudur na neb ond nhad a mam, a Ted, a Llew; a ’roeddwn
i’n meddwl bod chi a pawb yn leicio Syr Tudur. Pa’m na fydd pobol ddim yn
leicio ni wedi i ni fynd yn hen, Miss Rhianon? Well gen i bobol hen; mae nhw’n
ffeindiach lawer, lawer; ydyn’ ma nhw, lot fawr. A mi fasa’n braf yn y Friog, ma yno le neis, fel
oedd gen y Frenhines Elizabeth. Mi fuo hi yn y Friog. Dyma hi; welsoch
chi hi?” A dechreuodd yr eneth dynu allan ei theganau o focs bychan pren oedd
wrth ei thraed.
“Hwn ydi’r Brenin Charles a phluen ar ei het, a dyma hi Mary Scotland, ac
Elizabeth, ac Anne Boleyn, a Henry VIII, a Jane Seymour, a Catherine Howard, a
Catherine Parr, ac Owen Tudur. A dyma’r hen Richard drwg hwnnw laddodd Edward
a’i frawd bach, a dyma Lady Jane Grey. Welwch chi lot sydd yma. Fasa chi’n
leicio gweld torri pen Lady Jane Grey, Miss Rhianon? Mi fedra’i dangos nhw i
gyd i chi’n union, fel ma Trysorfa’r
Plant yn deyd.”
Daeth y wên yn ol i wyneb Rhianon Gruffydd, a gafaelodd yn y teganau a
gynrychiolent y gwahanol urddasolion gan Ddyddgu fechan. Pennau delwau china bychain wedi torri oeddynt —
ambell i ben dyn, a chryn lawer o bennau merched. A chwareu teg i’r plentyn,
tebygent gymaint i’r darluniau oedd gennym o’r brenhinoedd ac ereill, fel y
meddai dipyn go lew o esgusion dros ei rhamantau yn eu cylch. Ond yr hyn a
synnai Rhianon oedd gwybodaeth helaeth y plentyn. Ymddanghosai yn deall y
sefyllfa boliticaidd fel pe wedi gweled pum’ deg o flwyddi yn lle un. Elai mor
rwydd dros hen hanes Cymru a phe buasai yn y fan a’r lle yn ei chyflawn
faintioli yn gwylied symudiadau bradwrus gorthrymwyr ei gwlad, Dywedai (x67) fel y byddai Ted ei brawd yn wylo am ei fod
yr un enw ag Edward I, ac mor falch oedd Llewelyn o’i enw ef. Cofiai i Rhianon
am gyflafan Morfa Rhuddlan, yna neidiai i rywle i son am y tylwyth teg; ond y
foment nesaf gwelai Rhianon hi yn hel ei theganau i’w bocs, ac yn dechreu pacio
y malwod mewn basged, a gwelltglas o’u cwmpas.
“Dacw Elin Ty’nffordd yn dwad; a mae hi mor wirion, mi ddyfethith y mhetha i i
gyd. Ma mam yn deyd ’does gini hi ddim help
bod hi ddim yn gall; ond mae arna i eisio mhetha, ne fedra i ddim chware dim.”
“Rhaid i mi brynu doli i ti, Dyddgu, i chware.”
“Na, chyma i ddim dolis; dda gen i ddim babis’ na dolis, na dim. Well gen i
ddarllen hanes pobol, a chware bod hefo nhw, a phetha felly. Fydda i ddim yn
leicio siglo cryd babis, a ’does arna i ddim
eisio gwnio. Fydda i ddim yn leicio gneud, — a fydda i ddim eisio clywed babis
yn crio. ’Does arna i eisio dim ond Trysorfa’r Plant, a’r Drysorfa Fawr, a Llenor, a Methodist, a Ceiniogiwerth, a Bardd Cwsg a Traethodydd,
a Hanes y Merthyron, - a phetha
felly. A Beibl neis a chas lledar coch iddo fo; nid dolis.”
“A malwod,” chwarddai Rihianon.
“Mynd trwy hanes llyfr ma’r malwod; ma nhw’n llai o drafferth na cymyd plant. ’Dydi
malwod ddim yn digio na dim.”
“Wel, o’r gore, Dyddgu, mi gofia i am lyfr pan ddo’i yma eto, ynte?”
Ac wedi ffarwelio a’r fechan cychwynnodd tuag adref unwaith yn rhagor; ond yr
oedd Elin yn disgwyl am dani, ac yn lle myned ymlaen i boeni Dyddgu, trodd yn
ol gyda Rhianon, ac ebe hi yn ddistaw wrth ymyl ei chlust, “‘Duwc anwyl, Miss,’
medda fi wrtha i fy hun, achos ’doedd yno
neb arall; ‘Duwc anwyl,’ medda fi, ‘yn dydi o’n glws; ma hwn yn’u curo nhw i
gyd.’ A mi ’drychas
A chyn i Rhianon gael amser i grynhoi ei meddyliau at eu gilydd ffwrdd ag Elin
tua’r felin, wedi cofio fod ei mam yn disgwyl am werth swilt o flawd. Cerddai
Rhiannon yn gyflym, gan fod y cyfarfod ar y groesffordd a chwareu Dyddgu wedi
cymeryd cryn lawer o’i hamser. Ac er ei gwaethaf crynnai ei chalon, a deuai y
gwrid ar ei dwyrudd oherwydd geiriau Elin. Meddai ryw fath o ymdeimlad distaw
yn ei mynwes pwy oedd mor hardd ag i ennyn edmygedd Elin dlawd, a bu bron a
neidio dros y clawdd a chroesi’r caeau i Hafod Oleu, yn lle myned ar hyd y
ffordd. Eto, ar hyd y ffordd yn ei blaen yr aeth, hyd at foncyff yr hen onen,
ar yr hon yr eisteddai Francis Glyn, yn dal papur newydd yn ei law fel pe yn ei
ddarllen, ond ei lygaid yn gwylio cerddediad Rhianon; a chyn iddi ei gyrraedd,
yr oedd ar ei draed yn ei chyfarch, yn holi yng nghylch diwedd y cyfarfod, ac
yn myned ymlaen tua Hafod Oleu gyda hi, fel pe hyny’r peth mwyaf naturiol ar y
ddaear iddo wneud. Wedi iddynt ddod i olwg y tŷ, dywedodd — “Mi garwn i
adnabod eich tad, Miss Gruffydd; tybed ei fod i mewn? Er fy mod (x68) i yn nai i Mr. Harris, Plas Dolau, ’rydw i am i chwi gredu na feddaf un gronyn o
gydymdeimlad â’i ddull o drin pobl heddyw. Yn wir, wn i ddim gyda pheth y mae
gen i gydymdeimlad. Wn i ddim yn iawn beth ydw i’n gredu, os ydw i’n credu mewn
rhywbeth; ond mae gen i ryw feddwl y byddai dod i adnabod eich tad yn well ar
fy lles i na dim arall.”
A beth allasai Rhianon wneud o dan yr amgylchiadau ond ei wahodd i fewn i’r
Hafod Oleu am y tro cyntaf?
PENNOD XIII
Y CYFARFOD GWEDDIO
Gan fod cryn bellter ffordd cydrhwng amryw o’r ffermdai a’r gwahanol
gapeli, dechreuid y moddion ganol yr wythnos am hanner awr wedi chwech yn y
gaeaf, yna byddai pawb adref yn gynnar i swpera yr anifeiliaid, ac i fwyta yr
uwd eu hunain cyn myned i orffwys dros y nos. Ond nid oedd bwthyn Boba cyn
belled iddynt dramwy tuag ato, a bodolai rhyw ddealltwriaeth distaw
cydrhyngddynt y gwnaethai y tro yn burion i’r cynulliad y noson honno fod am
saith o’r gloch. Ac yn brydlon bum munud cyn saith, wele bob un yn ei le yn
Ty’nrardd yn barod i ddechreu’r cyfarfod gweddi. Ni pharai helynt y gwisgo i
neb fod yn rhy hwyr yn dyfod i foddion gras ar noson waith, ychydig iawn o
wahaniaeth fyddai yn ymddanghosiad y meibion a’r merched, rhagor pan yn dilyn
eu goruchwylion ar hyd y dydd. Pobl yn gweithio oeddynt i gyd ac heb
ddychmygu fod gwaith gonest yn anfri ar undyn byw, a chan hynny heb wybod beth
ydoedd cywilydd o’i blegid, na chwaith dros y dillad cyffredin oeddynt yn
ddanghoseg led eglur o’u dull o fyw yn eu gwahanol safleoedd.
Daethai William Williams i fyny, a mynnai Robert Gruffydd iddo ef gymeryd
arweiniad y cyfarfod gweddio yn ei law.
“Wel, os byddwch chi i gyd yn symol ufudd, frodyr bach, mi wna inna ngore i fod
yn ddistaw, ynte; felly beth pe tae ni yn gofyn i Rhobat Gruffydd annerch yr
orsedd yn gynta, rwan.”
“Bydd hi fawr o newid i Boba nghlywed i, William Williams, mi fydda i yma yn
amlach na’r un o honoch chi.”
“Byddwch, byddwch, Rhobat Gruffydd,” ebai’r hen wraig yn ei chornel, “ond
rhoswch i mi ddeyd mod i eisio newid, ynte, William Williams; na, dowch chi
ymlaen rwan, mae gin i ryw siort o gred na ofynnwch chi am ddim na fydd O’n
barod i roi’r cwbwl i chi. Ac yn wirionedd i, pwy wyr yn well na chi, beth sy
arna i isio. A mi fase’n burion gin i’ch clywed chi’n darllen y Salm honno i mi
unwaith eto, a neith hi ddrwg yn y byd i neb sydd yma; mae’n eitha i ni gofio
fod Duw
“Dydw i ddim yn rhyw siwr iawn, gyfeillion bach, na fasa gwrando ar Boba heno,
yn fwy o help i ni i gyd na chlywed llais (x69)
neb un o honom,” ebe William Williams.
“O, na.” atebai Boba, “rydw i’n disgwyl i glywed O’n siarad yn ’i Air wrtha i, a mi fydda i’n meddwl mai yn y
cyfarfod gweddio y bydd O’n agos iawn ato ni. Ond os bydd rhyw air ar y meddwl
i, mi deydai o’n ddigon rhydd a dilol, gnaf neno dyn.”
Cymerodd Robert Gruffydd y Beibl, a dechreuodd ddarllen y Salm. Weithiau, ceid
ef yn taflu gair o eglurhad ar ambell i adnod, bryd arall Boba fyddai yn ategu
un o’r addewddion, a hawdd i’r gynulleidfa fechan oedd dweyd mai da iddynt hwy
oedd bod yno. Canwyd pennill orfoleddus hefyd, nid cwynfan yn y tristwch a
deimlai pawb ychydig oriau cyn hynny oedd mor agos atynt. Na, nid galaru
oherwydd terfysg gweithredwyr anwiredd a glywid yn y bwthyn, ond swn cân a
moliant fel tyrfa yn cadw gwyl. Digon anodd fuasai perswadio dieithrddyn nas
gwyddai ddim o’u hanes, mai pobl oeddynt a’r cleddyf megis yn hongian uwch eu
pennau wrth edef deneu iawn, ac na ddeallai yr un o honynt beth oedd yn eu
haros yng nghudd yn y dyfodol agos. Eto, dyma hwy yn seinio cân, y cwbl oll yn
anghof, ond fod yr Hwn a ddarpara i’r gigfran ei bwyd, ac a ofala am adar y to,
yn Dduw galluog i waredu mewn pob storm, fod yr holl dymhestloedd yn Ei law Ef,
ac i’r fath Dduw, gweddus yw mawl Ei bobl.
Wedi gorffen y pennill ymgrymodd pawb ar eu gliniau. Meddyliai pobl Cymru Fu
mai dyna yr agwedd weddus i weddio, a thybient fod llawer o adnodau y Beibl o’r
tu cefn i’w syniad am yr agwedd briodol honno ar eu cyrff pan yn erfyn am eu
bywyd.
Pa un ai diffyg ymdeimlad o’n hangenion, ynte ofn difwyno ein dillad yw ein
rheswm ni dros eistedd i weddio, y dyddiau olaf hyn, tybed? Ynte’r ddau yng
nghyd? Ond pobl mewn eisiau oedd yno ym mwthyn Boba. Pobl yn ofni gweled y
cymylau yn torri uwch eu pennau, ac i’r cenllif eu hysgubo hwynt ymaith. Pobl
heb un gobaith o un man ond allent gael o
Dduw yn Dad, a Thad yn Noddfa,
Noddfa yn Graig, a Chraig yn Dwr.
Ac er na fu i Robert Gruffydd na’r un o’r brodyr a’i dilynnodd, son gair am y
dydd treial oedd mor agos atynt, ac nas gallasai un o ysbiwyr Mr. Harris pe yno
yn fradychwr, yng nghanol y disgyblion, wneud defnydd o un gair, eto gwyddai y
Gwr oedd yn eistedd yng nghanol y moroedd, beth oedd yn eisieu arnynt cyn gofyn
o honynt Iddo. Ysgydwai yr hen wraig law a phob un o honynt wrth iddynt gychwyn
adref, ar derfyn yr addoliad, a hynod mor bwrpasol oedd ei gair i’r oll o
honynt.
“Cofia di, Evan bach,” ebe wrth wr y
Ty Canol, “nid eiddom ni y rhyfel. Duw pia y rhyfel ngwas i, a Fo ’nillith; mi wyddost ti hynny, heb i mi ddeyd wrthat
ti. Ac os yw Duw trosom, pwy all fod i’n herbyn? ’Rhoswch
i gyd am funud; Rhobat Gruffydd fyddwch chi ddim yn hir, newch chi ddarllen yr
unfed bennod ar ddeg o’r Hebreaid i ni cyn ymadael. Mi fydda’n burion i ni
glywad i gyd be’ mae’r Gair yn ddeyd ’nath
pobl trwy ffydd.”
Ac eisteddodd pawb i lawr unwaith yn rhagor.
“Ie, dyna hi,” ebe Boba, “gadewch i ni i gyd gofio honna, ynte, William
Williams? Dowch (x70) machgian i, rhowch y
fendith ymadawol i ni cyn i’r bobi yma gychwyn. Ydi hi ddim yn rhyw ots o
dywyll, ydi hi?”
Wedi i bawb gychwyn ond Robert a Gwen Gruffydd a William Williams, dechreuodd
Boba eu holi yn fanwl yng nghylch y sefyllfa, ac ebe hi wrthynt, “Raid i chi
ddim bod ofn sut y trydd y fantol, mhlant i, mi rydw’i fel Daniel, wedi cael
gweledigaeth yn sicr ddigon. Ond beth fydd ar ol hynny sydd yn fy mhoeni i. Sut
yr ymdery y bobl y ddrycin? Mi fydd yr Arglwydd i hun yno yng nghanol y tan,
rydw i’n siwr o hynny, ac ni chyll blewyn o ben yr un o honoch chi, ond feallai
y teflir y bechgyn i’r ffwrn i’w profi. Gobeithio na fydd dim eisio hynny, ond
dydw i ddim yn siwr.”
“Na, does yr un o honon’ ni’n siwr, Boba bach, o ddim, ond fod yr Arglwydd yn
teyrnasu, atebai William Williams, “a thra bydd Tad y plant yn cadw agoriad y
cwpbwrdd fydd ar yr un o honon ni eisieu bwyd.”
“Na fydd, na fydd, ond mi fydd yn dipyn o beth i ni dorri ar yr hen arferiad
o’i fyta fo yn ein ffordd y’n hunain, oni fydd?
“Neu heb fod yn yr un fan, ydech chi’n feddwl, ynte Boba? Synnwn i ddim nad
oedd yno ddigon o laeth a mêl yn Babilon, ond ’doedd
o ddim yr un flas a’r llaeth a’r mêl yng Ngwiad yr Addewid,” ebe Gwen Gruffydd,
ei llygaid serchog, yn llawnion o ddagrau, “ond fydd dim help, Boba, os bydd
Efe yn galw ar ambell i Abraham eto i ymadael â’i wlad.”
“Fydd hi ddim yn dywyll iawn yn unlle, ngeneth i, os byddwch chi a’r plant acw
yn gneud cartra i Rhobat Gruffydd, ond eto mirydw i’n gobeithio, ydw mi rydw i,
na wela i na neb arall mo’r dydd y byddwch chi’n cefnu ar Hafod Oleu, deulu
bach. Mi fydda hwnw’n fora tywyll iawn i’r ardal yma, o’i chwr, beth bynnag.
“Well, Boba, ’dawn ni ddim i gyfarfod
drygfyd yr un cam o’r ffordd,” ebe William Williams; “mi rydw innau yn ofni ac
yn crynu nid o’m hachos fy hun, yn feunyddiol, ac eto,
’rydw i yn rhyw ddirgel gredu y bydd yna ffordd i’r plant unwaith eto
trwy ganol y Mor Coch, yn droedsych; ac er i Pharo yrru yn gyflym ar eu hoi, na
ddigwydd iddynt ddim niwed. Fel yna rydych chi’n teimlo, ynte, Robert
Gruffydd?”
“Yn wir, William Williams, fedra i ddeyd dim ond mod i wedi rhoi fy
“A mae arna inna fwy o ofn y brofedigaeth i Robert; ac felly, Boba, mae pethau
yn ddigon cymysglyd yn tydyn nhw,” ebe Gwen Gruffydd.
“Raid i’r un o honoch chi ofni dim, blant bach, tra byddwch chi hefo’ch gilydd.
Bryd mae’r Lecsiwn?”
“Dydd Mawrth nesa, Boba.”
“Ac mae hi’n ddydd lau, ne nos Iau, tawn ni’n deyd yn fy lle. Ond mae un
Sabboth eto, a phedwar diwrnod cyfan eto wrth droed yr orsedd i eiriol. Digon llegach ydi Olwen, ynte Gwen
Gruffydd ?”
“Ie, fel yma bydd hi adeg cwympiad y dail bob blwyddyn rwan, ac mae’r cynhwrf
yma yn effeithio arni. Er ei mwyn hi, dymunwn iddo fyned drosodd er fy
holl ofnau. Chwarddodd lawer brynhawn heddyw, yn gwrando (x71) ar Rhianon yn deyd hanes geneth fach John
Meredydd a’i mintai o falwod, a gadewais i y ddwy yn brysur yn chwilio am
lyfrau i Dyddgu,” ac adroddodd Gwen Gruffydd hanes y plentyn i Boba.
“Fuo ’run plentyn erioed fel Dyddgu, Gwen
Gruffydd fach, a dwn i am ddim wnai fwy o les iddi nag i Rhianon ac Olwen gymyd
ati hi dipyn. Mae yna rywbeth yni hi na weles i yn fy holl fywyd ddim yn debyg
iddi hi. Mi fydd yn anodd iawn rhoi llinyn mesur pobol erill arni hi, mi neutha
well bachgian o beth aneiri, y drefn sy’ ar y byd ’rwan.
Ydi mae hi’n gwybod gormod o beth diwedd o’i hoed. A mi neith les i Olwen ran
hynny gael hwyl hefo’r plentyn. Mae’r eneth fach yna yn werth i studio wir. Mi
fydd yn dwad yma rwan ac yn y man, ac yn deyd hanesion am bobl wrtha i nad oes
dim posib fod creaduriaid tebyg wedi bod yn y byd yma erioed er rhyfedded ydi
o.”
“Wel, Gwen fach, rhaid i ni droi,” ebe Robert Gruffydd, wedi iddo ef a William
Williams orffen ychydig â Boba, ymaith a’r tri, ac er nad oedd y ffurfafen wedi
goleuo dim, eto teimlai eu hysbrydoedd hwy eu bod yn dod yn nes i allu
sylweddoli fod y breichiau tragwyddol yn eu cynnal, deued fel y delai arnynt.
PENNOD XIV
HOGI’R ARFAU
Dyddiau llawn o waith fu y tridiau o flaen y diwrnod mawr yn yr hen ardaloedd
tangnefeddus hyn. Ymddanghosai y trigolion yn byw yn llawer prysurach nag
arfer, ni chymerai yr un ohonynt hamdden i ymgomio a’u gilydd, ond pawb am y
cyntaf i fyned o gwmpas ei bethau y foment y byddai ei neges yn barod mewn siop
neu weithdy.
“Paid ti a fy holi, machgian i; mae’n ddigon buan i mi roi y fot ddydd Mawrth,”
ebe Sion William, Tynycoed, wrth Ned William y saer. Ceid Ned yn chwys ac yn
lludded yn gwibio yma a thraw bob awr o’r dydd a’r nos, heb unwaith laesu dwylaw
yn yr ymgyrch, er iddo gael ei ddal mewn cyffion gan y Pab, meddai ef. Mr.
Gladstone a’r Pab ddaliai Ned William yn gyfrifol am bob trychineb ddigwyddai
ar dir ac ar fôr y dyddiau hynny. Y gwir am yr helynt oedd, i rywun ar y ffordd
daflu rhaff am ei goesau, nes y bu i Ned syrthio ar ei hyd ar lawr, ac i’w
goesau gael eu cylymu yng nghyd gan rywun cryf ofnadwy yn ol ei ddisgrifiad ef,
a dyna lle y bu yn gorwedd dan waeddi a griddfan, un bob yn ail, hyd nes y
daeth Huw Huws y gof heibio; ac wedi ymbalfalu goreu gellid yn y tywyllwch,
cododd Ned yn rhydd o’i rwymau.
“Ffitiach i tithau neud dy waith yn y dydd, Ned,” ebe Huw Huws, “mae dy job di
yn siwr o dalu i ti o chwith ryw ddydd, gei di weld.”
Un arall oedd i’w gweled bron ym mhob-man ar unwaith oedd Elin, Tynyffordd.
Mawr oedd pryder ei mam yn ei chylch, ond er pan fu Rhianon yn dechreu ei dysgu
i gadw y tŷ a’i amgylchoedd yn lân, ni welwyd Elin mor anhawdd i’w chadw
mewn trefn, druan. Canlynnodd Ned William un diwrnod yn ddiflino hyd nes y
trodd ef ei wyneb tuag adref i swpera. Eisteddodd yn ei wylied (x71) yn dod allan, ac yn troi tua’r Plas Dolau, i
adrodd hanes y dydd wedi hynny. Drannoeth symudiadau Mr. Harris a Mr.
Tattenhall gafodd ei sylw arbennig. Aeth i’r Plas yn fore, cafodd gan Mrs. Harris
roddi iddi latheni o ruban glas. Gwisgodd hwnw am dani, a cherddodd y pentrefi
a’r ardal gan waeddi hanes y gwahanol gymeriadau ar uchaf ei llais. Yna canai y
rhigymau rhyfeddaf ar fesurau rhyfeddach fyth. Cyfarfyddodd Mrs. Jenkins, Cefn
Mawr, hi tua hanner dydd, a chyfarchodd Elin yn hynaws ryfeddol oherwydd ei bod
yn gwisgo y ruban Toriaidd, ond sbonciai a chanai Elin heb gymeryd arni ei bod
yn gweled y wraig uchelfrydig, ac nid rhyfedd i’w chân ffromi Mrs. Jenkins.
.....Mae Twrna Cefn Mawr,
.....Yn wraig fawr, fawr,
.....I thrwyn yn troi fyny,
.....A’i thraed ar lawr;
..........Welwch chi hi,
..........Tori ydi hi.
Ac ni chlywyd erioed seiniau mwy aflafar na’r nodau olaf waeddai Elin. Aeth
Mrs. Jenkins yn un swydd i Dynyffordd i rybuddio Catrin Williani am ofalu cadw
Elin yn y tŷ, ond ni chafodd ganddi un sicrwydd fod yn bosibl gwneud ei
chais, er hynny.
“Dydi o ddim iws i chi na neb arall weld bai arna i, Mrs. Jenkins. Mae’r
Hollalluog wedi gweld yn dda beidio rhoi fawr o synwyr ym mhen Elin, ond mi
nath i fyny am hynny trwy roi gormodadd o nerth yn i breichiau hi, a wath i mi
ddeyd carrag a thwll, na gofyn iddi hi neyd dim ond y peth fydd hi wedi gymyd
yn ei phen, druan. Mi fydda’n eitha gini tasa’r hen helynt yma drosodd; ma’r
hen ferw yma wedi troi ym mhen Elin a’i gneud hi’n anos i thrin nag oedd hi
cynt. Ond ’does gin i ddim help iddi hi.”
Y nesaf welodd Elin oedd John Evans, Tyddyn Dafydd, a gwaeddai ei chân tra yr
elai yntau heibio:
Mae’r gwair wedi llwydo
...Yn y dâs fach,
Ar yd i gyd yn benddu
...Yn y sach.
Tanciw, tanciw kindly, John Evans.
Mae John a Ned yn rhedeg y ras
Am y cyntaf o’r Plas,
Welwch chi nhw, a’u cynffona llaes;
...Tanciw, tanciw kindly, John Evans.
“Waeth ar wyneb y ddaear pwy mae yr eneth yn gyfarfod, ma’i chân hi’n barod i
bawb, William Williams; a’r gwaetha o’r cwbl ydi mae’r Toriaid yn siwr o’n dal
ni yn gyfrifol am i strancia hi. Wrth reswm, mi ŵyr pawb na chyfansoddodd
Elin ei
“Does dim ond gadael i Elin yrru’i cheffyi i’r fan y myn hi, Robert Gruffydd,
dydi hi ddim yn sownd yn i choryn, a hwyrach y bydd hi’n fwy o help nag mae neb
yn feddwl yn ’i ffordd i hun.”
Trodd y ddau eu pennau; yn ddiau, yr oedd Elin yn nes atynt (x73) nag y meddylient. Canai yr eneth, neu yn
hytrach, gwnai y swn a alwai hi yn ganu, a dilynnid hi gan dorf o blant, pob un
o’r rhai bychain yn uno yn y gydgan a’u holl egni:
..Bydd Mistar Edwards ar ben y pôl
..A Tattenho ymhell ar ol,
..A Harris y Plas, y cena diras,
..Wedi colli go, wedi colli le.
.....Hip, hip, hwre -
.....Harris y Plas wedi colli le.
Aeth yr orymdaith trwy’r pentref gyda’r gwyllnos, a’r Sadwrn oedd hi, a chan
hynny cyrchai cryn lawer o’r gweithwyr at eu gilydd y noson honno, gan y caent
oll ychydig o hamdden nawn Sadwrn i gyrchu eu dillad oddiwrth yr olchwraig, ac
efallai i baratoi ar gyfer y Sabboth trwy brynu rhyw goler, neu ffunen
angenrheidiol iddynt. Neu hwyrach mai ceiniogwerth o finceg, a geisiai un, tra
y gofalai y llall am ei dybaco wythnosol. Modd bynnag, boed y rhesymau y peth y
boent, cofiai pob un am ryw fath o esgus i gyrchu i’r pentref nos Sadwrn. A hon
oedd y nos Sadwrn olaf cyn y Lecsiwn, ac er ceisio bod yn ddistaw a
gwyliadwrus, yr oedd mynwesau y bobl yn wyr, gwragedd, a phlant megis ar dân,
a’r rhan fwyaf o honynt a’u ffroenau mor deneu a meirch rhyfel yn arogli’r
elfennau ofnadwy o bell cyn dyfod i faes y frwydr. I’r rhai hyn yr oedd
gorymdaith Elin a’i dilynwyr yn fwynhad, ac
.....Hip, hip, hwre
.....Harris y Plas wedi colli le.
Canys o bob newydd da i drigolion Llangynan, hwnnw fuasai y newydd goreu o
lawer iawn y dyddiau hynny. Pan oedd y canu ar yr uchelfannau, dyma Francis
Glyn yn dyfod trwy’r pentref. Dychrynodd y dynion, ac aethant yn fud. Nid felly
Elin. Cerddodd hi tuag ato a safodd o’i flaen.
“Wel Elen,” ebe yntau yn garedig.
“Rwan boys,” ebe hithau, “rwan, boys, Duwc anwyl, medda fi, medda fi, mi ganwn
ni ynte i?’
...Dyma ddyn hardd
O flaen llygad y bardd,
...Pen eith Harris o’i go,
...Mi cym’wn ni o,
.......Hip, hip, hwre
Fo, fo, mi cymwn ni o, mi neith o’r tro.
Neidiai a sbonciai Elin o ddifrif. Chwarddodd Francis Glyn o wir ewyllys calon,
a rhoddod ei law yn ei boced, tynnodd hanner coron o honni, a rhoddodd ef yn
llaw Elin, ac ymaith ag ef tua’r Plas Dolau, a bloeddiadau o
......Hip, hip
......Mi cymwn ni o hip, hip, hwre.
......Mi neith o’r tro.
yn ei ganlyn am ysbaid o amser. Pan yng nghwmni ei ewythr a’i ffrindiau y noson
honno swniai y canu yn ei glustiau. Wedi iddo fyned i’w wely
Rhodd dro neu ddau arall o gylch ei ystafell, ei holl gorff fel pe yn arddangos
grym ei benderfyniad. Yna aeth Francis Glyn i’w wely unwaith yn rhagor y noson
honno, nid i fod yn effro mwy, ond (x74) i
gysgu mor esmwyth a phlentyn, hyd nes y clywodd gloch fawr y Plas yn canu pawb
i godi fore drannoeth.
Disgwyliai Mrs. Harris i’w thylwyth oll, os yn eu cynefin iechyd, fod yn
brydlon wrth y bwrdd brecwast yn y parlwr, fel yn neuadd y gweinidogion. Wedi’r
brecwast, ymgasglai pawb at eu gilydd yn yr un lle i ymuno yn y weddi
deuluaidd. Nid oedd y Cymun cyn brecwast yn yr eglwys wedi dod i aflonyddu ar
yr addoliad yn y teulu gartref y pryd hwnnw yng Nghymru, a cheid allor i Dduw
ymhob cartref ag enw o grefydd
Eto, pan ddaeth yn amser cychwyn i’r Llan, nid oedd Francis Glyn i’w weled yn
unman; ac mewn atebiad i gwestiwn Mr. Harris yn ei gylch, dywedodd Mrs. Harris
fod Frank wedi myned i Langynan y bore hwnnw, yn lle i Lanfair, am y dymunai
weled drosto ei hun sefyllfa yr hen eglwys ar y bryniau.
“A mi fydd yno olwg braf iddo; bydd, siwr. Os gwêl o banner dwsin yno, a
chyfrif Syr Tudur ac yntau, mi fydd yn llawn cymaint ag ellir ddisgwyl; ac mae
syniadau’r llanc am fyd ac Eglwys ymhell o fod wrth
’y modd i fel y mae, heb iddo hel rhagor o wipes i daflu ata i.”
“Mae’n bosibi addoli lle na fydd ond dau neu dri, Mr. Harris,” ebe ei briod; a ’does yna ddim cynulleidfa helaeth yn Llanfair.”
“Addoli! Addoli ddeydsoch chwi? Mae arna i ddigon o ofn na ŵyr fy nai ddim
beth ydyw addoli. Y dydd o’r blaen, fe’m hysbysodd i na wyddai ef ddim oedd yna
Dduw yn bod ai peidio,” atebai Mr. Harris, yn ffromus.
“Dear me, dear me!” ebe Mrs. Harris.
“Dear me, poor fellow. Rhaid i mi geisio goleuo meddwl y bachgen.”
“Hy! Mae’r gŵr bonheddig yn meddwl mai ni sydd yn byw yn y tywyllwch. Mi leiciwn
i’n burion, beth bynnag, weld i gefn o yn yr ardal yma. Mi neith fwy o ddrwg nag o les.”
Yn y cyfamser, cerddai gwrthrych eu hymddiddan yn hamddenol tua Llangynan. Er
mai mis Tachwedd oedd, eto ceid lawer golwg addurnol wrth ddringo’r llechweddau.
Cofiai Francis Glyn ambell hanesyn dyddorol o lên gwerin ei wlad tra yn sefyll
ar rai o’r hen gilfachau yng nghysgod y creigiau. Gwyddai fod pobl Dduw wedi
gorfod trigo mewn ogofau tra yn dianc oddiar ffordd eu herlidwyr yn y fangre
honno cyn hynny. Yna pasiodd genethod yr Hafod Oleu ef ar eu ffordd i’r capel
yn y pentref - Olwen a’i heurwallt, megis pelydrau haul, yn goleuo pob man o’i
chwmpas; a Rhianon, fel arfer, yn gofalu am ei chwaer, rhag iddi megis daro ei
throed wrth garreg.
Wrth edrych yn y wyneb ieuanc tywyll, a chymaint o’r enaid pur yn dangos ei
Cyn iddo gyrraedd y Llan, goddiweddwyd ef gan Syr Tudur Llwyd, yn ei gerbyd, a
chyfarchodd yr hen fonheddwr ef yn llon.
“Fi balch ryfeddol gweld chi, Mr. Glyn, yn dwad i Llan bach fi. Rhaid fi
peidio dwyn Llan y gŵr mawr Cynan hefyd; ond fo ddim fawr o use i Llan heiddiw; fo wedi mynd a
gadael Llan i ni. Fydd yma fawr o
pobol yma, Mr. Glyn, ond dim curo ar y gwasanaeth. Person ni gneud point o ddarllen yn dda. Fo ddim llawer
o gwerth i bregethu; ond rhwbeth fo gwbod hynny, a dysgu darllen yn dda iawn:
darllen fel dyn call, nid fel troi machine.”
Ac yn fuan iawn deallodd Francis Glyn fod Syr Tudur Llwyd yn ei le.
Darllennwyd yr holl wasanaeth gyda’r fath deimlad a dwyster, nes y meddyliai y
dyn ieuanc na chlywodd yr hen Liturgy ardderchog
erioed fel y bore hwnnw. Ac nid ystyriai ef y bregeth fer am chwarter awr yn un
wael chwaith. Apeliai ei gwersi ymarferol fwy at ymennydd a chalon Francis Glyn
na phe buasai yr offeiriad yn gwaeddi a bloeddio dychrynfeydd, neu yn canu am y
nef uwch ei ben. Pregeth dyn call yr ystyriai efe hi; ac yn ddios, yr oedd yn
llawer gwell ei dylanwad ar ei feddwl ef, oedd mor gymysglyd ei gredo, nag y
gallasai un math arall fod.
Pan oeddynt yn cychwyn tuag adref, mynnai Syr Tudur i Francis Glyn fyned yn y
cerbyd gydag ef.
“Fi synnu dim pe chi leicio dydd Sul fi yn y Friog. Ni dydd Sul noble yno.”
Cyflwynodd ei gyfaill ieuanc i’r offeiriad.
“Fi dim gofyn i chi dwad hefo ni, Mr. Prys; ond chi dwad acw dydd lau wedi
lecsiwn fynd, a chi a Mr. Glyn ’nabod ych
gilydd.”
Pan gyrhaeddodd y cerbyd lidiardau y fynedfa at y tŷ, ni fynnai Syr Tudur
i Francis Glyn ddisgyn.
“Na, na,” a chwarddai yn galonog; “fi wedi dal llanc ifanc teidi bore yma; fi
dim gollwng gafael ohono fo ar chware bach. Cymrwch chi’r Friog, Mr. Glyn, am
cinio; first rate i chi.”
A rhaid addef nad oedd rhyw lawer o waith perswadio
Ni fu edifar gan ei nai droi ei wyneb tua’r hen blasdy prydferth a elwid y
Friog. Yr oedd boneddigeiddrwydd a moesgarwch yn anwahanol gysylltiedig â
bodolaeth Syr Tudur Llwyd, a theimlai pawb o dan ei gronglwyd ef yn berffaith
gartrefol ar unwaith
Wedi mwynhau ciniaw syml - canys byddai Syr Tudur yn gofalu am Sabboth i’w
weinidogion fel iddo ef ei hunan - aeth y ddau allan o ddeutu’r Plas; a
thraethai yr hen fonheddwr eangfrydig nes peri i’r gŵr ieuanc ofyn yn
sydyn iddo:
“Sut y gellwch chwi fôtio yr (x76) un ffordd
a fy ewythr, ddydd Mawrth, Syr Tudur, os fel yna yr ydych chwi yn deall
pethau?”
“Wel, wir; fi gofyn ’run peth i mi f’hun
sawl dwsin er’s dyddia’ Mr. Glyn. Fi chwerthin llawer iawn pan ddeydodd Miss
Gruffydd hanes ych areithiwr chi a troi côt, a hitha chwerthin hefyd pan fi
gofyn, tybed côt fi rhy hen i troi; a Miss Rhianon meddwl lining côt fi digon cyfa, Mr. Glyn, a hi siwr ddyn o ffeindio tylla
yn cot pawb, os bydd yno rai ar cael. Ond, heb gneud joke, fi meddwl waeth imi beidio tynnu’n croes â pobol. Os nhw wedi
meddwl, nhw cyn sicred a’r pader o ennill, gewch chi weld, Mr. Glyn. Fi clywed
plant yn gwaeddi ‘Mr. Edwards for ever’
ym mhob man - gwaeddi yn iawn. A rhywun dwad a rhoi pres i nhw am gwaeddi, ‘Mr. Tattenhall for ever.’ Eto, nhw dim
gneud sŵn mawr - ond gweiddi oer, heb galon. Fi deall yn difai sut mae’r
gwynt, Mr. Glyn. Fi meddwl weithia pobol yn iawn hefyd. Os nhw wedi’u hanfon
i’r byd yma heb nhw fawr eisio dwad yma, nhw ar ’i
rights demandio lle i byw yn iawn
yma. Nhw siwr bod rights nhw cystal a
rights Syr Tudur ne Mr. Harris. Fi
ddim deall y cwbwl fel yna bob amser, ond Miss Gruffydd, hi dangos i fi, a fi
deall hi i’r dim. Fi mynd i capel, hefyd - capel pawb sy yma, a pobol yn iawn
yn pob man; ond nhw dim eisio dwad i’r Eglwys; pobol Cymru wedi digio wrth
Eglwys, a hi deyd wrth fi nhw hir iawn mynd yn ffryndia.”
Gwenodd Francis Glyn, ac ebe efe:
“Eglwyswr y’m magwyd i, Syr Tudur - gyda’r Eglwys yng Nghymru; a bu’m yn meddwl
am flynyddoedd mai pobl ddrwg a diegwyddor oedd yr Ymneilltuwyr, yn cefnu ar yr
Eglwys oherwydd eu penrhyddid. Ond erbyn hyn, ’rwyf
fi yn meddwl fy mod yn y goleu am lawer o bethau oedd yn dywyll iawn i mi. Er’s
rhyw ddwy flynedd yn ol, mwy neu lai, mae gwedd newydd yn fy meddwl i ar
sefyllfa yr Eglwys yng Nghymru. A dyna’ [sic] pa’m y caiff Mr. Gladstone, o’m
rhan i, roddi perffaith ryddid i’r Gwyddel i addoli fel y mynno ei hun, heb
dalu yr un geiniog goch at un gyfundrefn fyn ei orthrymwyr Seisnig gadw at eu
gwasanaeth hwy. Os nad yw pobl yn temlio digon o ddyddordeb yn eu haddoldai a’u
gwasanaeth i gyfrannu digon ar eu cyfer, ymddengys i mi mai ychydig iawn ydyw
eu hymlyniad wrthynt.”
“Chi deud pwer o wir, Mr. Glyn - pwer o wir. Fi meddwl
’run fath. Os pobol hoffi crefydd, nhw rhoi at crefydd ddigon o arian i
cadw crefydd yn independent. Chi yn
ych lle, dim dowt. Ond beth chi’n feddwl o Eglwys Cymru, Mr. Glyn ? “
“Mae arnaf fi ofn, Syr Tudur, fod fy marn i am dani hi yn union fel barn y rhan
fwyaf o Gymry heddyw; hynny yw, mai diben ei bodolaeth yn ein mysg yw
Seisnigeiddio’r wlad. A dyna’r rheswm nad yw y Cymry gwladgarol yn ei charu.”
“Chi meddwl hyna, Mr. Glyn ? Chi deyd i fi pa’m. Miss Gruffydd, hi deyd ’run peth; a hi deyd pob person sensible, fo
deall i’r dim rhaid newid y sentiment yna.
Ond chi deyd rheswm da, Mr. Glyn.”
“Wel, Syr Tudur, mae’m cyfaill goreu i yn offeiriad mewn cornel o Gymru yma a
eilw efe yn ‘gesail y greadigaeth.’ Ond mae yno eglwys gadeiriol. Cymry yw’r
rhan liosocaf o lawer o’r (x77) preswylwyr.
Mae yno ychydig o Saeson, a rhai o’r Sais-Gymry mursenllyd yma.”
“O, fi deall; chi meddwl Dic-Shon-Dafits, a fi ’nabod
nhw’n iawn,” a chwarddai Syr Tudur.
“Ie, dyna hwy; ac yn yr ardal Gymreig yna ceir gwasanaeth yr eglwys gadeiriol
rywbeth yn debyg i hyn: Gwasanaeth Cymraeg yn y bore, am hanner awr wedi naw -
truenus iawn; dim ymgais of gwbl i’w wneud yn atdyniadol, dim ond rhedeg
drwyddo rywfodd. Y canu yn ddidrefn - neb yn ymddangos yn deall eu gilydd na’r
dôn: y cyfan yn wael iawn. Yna, am hanner awr wedi un-ar-ddeg, ceid y
gwasanaeth Seisnig. Yn hwnnw, wele yr organydd a’r côr yn eu gwisgoedd, y canu
yn cael sylw, y gwasanaeth drwyddo yn peri i mi feddwl mai yn un o eglwysi
cadeiriol Lloegr yr oeddwn. A deallais i mewn byr amser paham na châr y Cymro
ei Eglwys Sefydledig. Am y tro
cyntaf yn fy oes, aethum i gapel Ymneilltuol yn y ddinas fechan honno. Clywais
y Beibi yn Gymraeg - y canu mawl yn Gymraeg, a’r gynulleidfa wrth eu bodd yn
gwrando ar bregeth nad oeddwn i yn hidio fawr am dani - yn eu hiaith eu hunain.
Drannoeth, ceisiais siarad a hen ŵr a dorrai gerrig ar y ffordd fawr, ac
arweiniais i’r cwestiwn - ‘Paham mae yr Eglwys Gadeiriol mor wâg, a’r capel mor
lawn?’ ‘O,’ ebe yntau, ‘Eglwys Loegr - Eglwys y Saeson - ydyw hi. ’Does fynna nhw,
’run o honyn’ nhw, â’r Cymry. Dda ginin nhw mohono ni na’n hiaith, na
dim sy’n perthyn i ni. Cymry tlodion ydan’ ni - y lladron Saeson yna wedi dwyn
y cwbwl feddwn ni, ond y’n hiaith; ond ffryndiau’r lladron ydi’r Eglwyswrs yma
i gyd. Ond gormod o gamp iddyn’ nhw, er cystal lladron ydyn’ nhw, ydi dwyn y’n
hiaith ni hefyd. ’Aethum o gwmpas, a holais y bobl, a’r un stori
gefais gan bawb. Cefais fy archolli yn nhy fy ngharedigion, ac aethum adref
wedi colli fy nghred mewn crefydd, mewn byd arall, mewn popeth, am wn i. Aethum
i ameu, am na welwn y rhai arferwn i ystyried yn ddysgawdwyr crefyddol yn ddim
amgen na dynion yn gwneuthur y fasnach oreu allent hwy o Air Duw. Aethum i
feddwl nad oeddynt yn credu eu hunain, oherwydd eu hymddygiadau. Dyma fy
ewythr, Syr Tudur; mae wedi bod ar ei liniau heddyw y rhan fwyaf o’r amser er
pan gododd o’i wely; ond nid yw hynny yn un rhwystr iddo orthrymu y bobl yma a
cheisio eu rhwymo, gyrff ac eneidiau, wrth olwynion ei gerbyd ef. Ond dydd lau
diweddaf, daethum i adnabod teulu sydd wedi rhoddi i mi ryw ysgydwad nas gallaf
yn hawdd ei esbonio. Bum yn yr Hafod Oleu; ac er nad yw ond ffermdy cyffredin
rhoddwyd i mi ryw syniadau anghyffredin iawn yno. Ac yr wyf fel dyn mewn dwfr -
yn gwybod fod yna waelod yn rhywle, ond yn methu cael fy nhraed arno eto.”
Edrychodd Syr Tudur yn garedig arno.
“Chi wedi bod yn y tŷ gwell yn yr ardal yma, Mr. Glyn. Chi cael y goleu yn yr Hafod Oleu, reit siwr. Pawb
yno yn credu pob da. Fi meddwl purion chi a minna fyn’d i roi tro i
capel nhw heno. Fi gwell gweld dyn ifanc credu gormod na credu rhy fach; a fi
meddwl dyn heb parch i’r Duw Mawr, fo misio rhoi parch i dim yn y byd. Dim un
cwilydd i dyn ifanc, na dyn hen, troi côt, (x77)
os fo deall hwnnw’r tu iawn iddi, Mr. Glyn.”
Yna dywedodd Francis Glyn hanes Elin Ty’nyffordd wrth Syr Tudur, a’r effaith a
gafodd canu aflafar yr eneth wirion arno. Rywfodd teimlai y dyn ieuanc fel pe
yng nghymdeithas tadol un fyddai yn gyfaill iddo gyda’r hen fonheddwr caredig,
na fu gwell tir-feistr erioed yng Nghymru nag ef; a siaradai yn hollol
wyneb-agored ag ef.
“Hidiwch chi ddim byd am sut chi deall petha’r byd. Os chi deall nhw, dyna
popeth yn iawn. Ma yna adnod yn Beibl Cymraeg yn rhwle, Mr. Glyn; fi dim siwr
bod i’n cofio hi, ond fi gofyn i Miss Gruffydd p’un fi iawn ai peidio - Ffol
bethau wedi dewis i gneud sport o’r
pobl doeth. Fi meddwl Elin Ty’nffordd difai i dangos politics iawn i chi a finna, Mr. Glyn.”
Canlyniad yr ymweliad â’r Friog, a’r ymddiddan rhwng y boneddwyr, oedd i
gynulleidfa capel Noddfa weled Syr Tudur Llwyd a nai Mr. Harris, y Plas Dolau,
yn eistedd i lawr ryw bum’ munud cyn amser dechreu’r oedfa yn sêt y Friog, sêt
fechan, a lle i dri ynddi, a ddewisodd Syr Tudur pan adeiladwyd y capel ar ei
dir; a chynhyrfwyd y bobl gan yr olygfa. Gwasanaeth digon syml geid yn y capel
- y canu emyn, y darllen, a’r bregeth; ond symlrwydd y gwasanaeth, fe allai,
oedd ei atdyniad mwyaf i Francis Glyn. Ac wrth fyned yn ol tua’r Friog,
dywedodd rywbeth i’r perwyl hwnnw wrth Syr Tudur Llwyd.
“Ie, fi digon tebyg ar y pwnc yna, Mr. Glyn, a fi dim meddwl gwaeth, er hyny, o
pobol yn leicio lot o ceremonies. Os
nhw methu gweld na Creawdwr na Gwaredwr heb help petha hen daear yma, fi meddwl
nhw pur dall yn enaid, a fi pity mwy
na beio. Person deyd rhw dro wrth fi bod fo cymyd cnwlle gwêr i dangos Iesu
Grist yn Goleuni y Byd i pobl; ond fi meddwl fi gallu comprehendio Goleuni’r Byd yn well, Mr. Glyn, hefo llygad ysbrydol.
Fi beio dim ar neb, a nhw addoli fel nhw’n leicio; ond fi balch iawn Mr. Prys,
yn Llangynan, dim eisio cnwlle, na croes, na dim byd. Fo gwbod Eglwys a Beibil
a pobol yn gimin sy eisio i Efengylni. A fo gwbod bod croes i pawb yn byd yma,
lot fawr; dim eisio gneud rhai pren na aur i pobol cario. Nhw digon o waith
cario croes rywsut arall bob dydd. Fi clywed dyn da deyd, stalwm, Iesu Crist
mynd mwy i Synagog i addoli nag unlle arall, a fo deyd hefyd Synagog lle plaen
iawn - dim byd smart yn Synagog. Os
Iesu mawr leicio lle plaen, ni dim yn pell o’n lle, Mr. Glyn. Ond chi
gwbod, er hynny, Teml Jerusalem yn lle beautiful
iawn, a Fo mynd i honno hefyd, a Fo gneud lle glân yno. A fi rhyw meddwl
dyna pwnc i ni, Mr. Glyn - gneud yn gore ni i gneud byd glân, yn pob man. A ni
dim gneud hynny wrth rhoi bai ar bobl erill; ni gneud byd gwell os ni gwell yn
hun i ddechre, ynte? Fi leicio chi deyd i fi prun chi leicio - Mr. Prys, yn
Llangynan, bore heddyw, ne dyn yna yn capel, heno?”
“Yr oedd Mr. Prys yn fwy wrth fy modd i o lawer iawn, Syr Tudur. Mae’n well gennyf
fi wrando ar bregetb fel honno, a’n dysg ni i fyw yn rhinweddol, os cymerwn ei
gwersi, na’r math yna a glywsom heno o lawer iawn, meddaf eto. Fe allai fy mod
yn rhagfarnllyd, ond nid wyf yn (x79) hoffi.
y bloeddio a’r canu yn y pregethau.”
“Na, fi dim meddwl bod chi yn dim ond ifanc yn drysu hefo cwestiynau ma pawb yn
gofyn nhw, ac yn methu trefnu nhw’n iawn, Mr. Glyn; a chi cymyd cynghor fi, chi
peidio treio ffeindio dim allan. Os y Bod Mawr wedi cuddio petha, chi a finna
dim digon o ddynion i cael hyd i dim byd Fo wedi cuddio, Mr. Glyn., Fo cuddio,
neb dod o hyd nes Fo dangos nhw i ni ’i
Tynnodd Francis Glyn ei het heb yn wybod iddo ei hun, a bu distawrwydd am rai
munudau cydrhwng y ddau. Yna gofynnodd Syr Tudur i’w gyfaill ieuanc swpera
gydag ef.
“Fi leicio ni swpera yn Friog. Chi
hidio fawr, fi meddwl, bod wrth bwrdd hefo ewyrth chi heno. Mr. Harris, fo
holi, a chi gormod o ddyn i deyd anwiredd. Ni swpera yma, chi gorffen dydd Sul
heb quarrels. Fi ceisio cadw yn
sanctaidd y dydd Sabboth,’ Mr. Glyn, heb quarrels
na dim byd drwg. Os Mr. Harris dim eisio company
chi fory, a chi eisio gweld lecsiwn ni drosodd, fi deyd i chi drws y Friog yn
llydan yn agored i chi bob awr, a Syr Tudur Llwyd balch iawn gweld chi.”
Adnabyddai y nai yr ewythr; ac oblegid hynny, derbyniodd y gwahoddiad i swper,
a diolchodd i Syr Tudur am ei garedigrwydd ac am ei eiriau addfwyn.
“O, nid chi pawb sy’n y fight yn byd
yma, Mr. Glyn. Fi cofio pan fi yn fight
fawr. Mam fi, Lady Llwyd, hi dynes gwell yn y byd. Hi gofyn i mi neud promise iddi hi - peidio anghofio pob
dydd fi yn y byd yma i gneud hyny fi medru o gwaith Duw; fi steward, dim arall. A mam deyd fi dim
rasio ceffyl, na chware cards, na meddwi, ond fi treio helpu pobol dependio ar fi i byw yn glân a da. A hi
deyd fi cofio pob dynes mam, ne chwaer, ne merch i rywun, a fi cofio parchu
nhw. Fi’n arfer bod yn ufudd i mam fi, a fi mynnu ennill pob fight er mwyn hi. Ac wrth fi ufudd i mam
yn nefoedd, fi gobeithio fi cael hyd i Duw mam yno hefyd. A pan fi darfod â’r
hen ddaear yma, a mynd yno, fi medru deud fi cadw promise, gwaetha (x80) pawb. Fi
meddwl ambell dro Syr Tudur Llwyd somebody,
Mr. Glyn. Hynafiaid fi yn Cymru er’s miloedd o flwyddyn, a fi teimlo’n fawr.
Yna fi cofio am Fab Duw yn Mab saer, a fi gweld pobol tlodion yma perthyn nes i
Iesu Grist na ni, ‘r gentry. A fi
teimlo’n ffrindia mawr hefo pobol tlodion, a fi gneud gore fi iddyn’ nhw, a
Miss Gruffydd helpu fi. Hi deall sut i gneud pob peth.”
“Wel, fe ddylai Miss Gruffydd ddeall, ynte, nad ydych chwi ddim yn hanner Tori,
a’ch dysgu chwi i fotio yn iawn ddydd Mawrth, Syr Tudur.”
“Fi dim siwr, Mr. Glyn; fi dim hanner Liberal, chwaith. Fi credu yn cadw Eglwys
Plwy’. Fi mesur a pwyso, a fi dim am gadel i person bod at mercy pobol am bwyd fo a teulu. Anodd iawn i person deyd gwir
plaen, Mr. Glyn, os fo ofn digio pobol syn’ [sic] cadw fo. Na, fi dim am gneud
i ffwrdd ag Established Church; fi
eisio gneud hi’n gwell, a cryfach, a gwell established,
Mr. Glyn. Ac fel fi deyd i chwi, haws i fi gneud hynny wrth bod i fewn nag
allan. Fi fotio o ochor pobol tlawd i gneud nhw gwell; ond fi ceisio gneud
Eglwys gwell, nid lladd hi, os fi deall yn iawn. Fi dim claimio bod hi dim
tebyg i iawn, ond fi leico hi; a gwaith chwi a mi, Mr. Glyn ydi repairio hi, nid
’i thynnu hi i lawr.”
Canodd y ddau yn iach â’u gilydd wedi swpera, a throdd Francis Glyn ei gamrau
tua’r Plas Dolau, ac yr oedd hi yn nos ac yn dywyll. Ar ei ffordd, clywai Ned
William y Saer yn siarad yn uchel wrth rywun a alwai yn John; ond yr oedd hwnnw
yn fwy gochelgar. Eto, deallodd Francis Glyn fod yno ryw fath o dynnu
cynlluniau pa fodd i weithredu er eu budd hwy wedi i’r lecsiwn fyned drosodd.
“Raid iti, John, ddim ond bod a dy lygad yn dy ben, na fydd Hafod Ola yn siwr
ddyn ohonot ti cyn pen y flwyddyn. Mi wn i fod mistar wedi gneud llw na chaiff
Rhobat Gruffydd a’i ledis aros yno ddim ond hynny fydd raid i’w notis o; dyna i
ti.”
“ ’Roedd ’i
nai o yn capel ni heno, hefo Syr Tudur Llwyd,” ebe’r cyfaill.”
“Mr. Glyn? Wel, mi fydd mistar yn gynddeiriog. ’Dydi
ddim yn rhy dda gino fo’r g^r bynheddig ifanc yna; ’dydi
o ddim yn siwr o hono fo. Ond be neuthoch chi tua’r capel acw heno - rhywbath
fasa fo o ryw iws i mistar glywad?”
“Welast ti ’rioed lai. Fedrat ti na minna
afal mewn dim; ac yto, mi wyddan i gyd yn eitha mai at y lecsiwn roeddan nhw’n
cyfeirio pan ddaru Rhobat Gruffydd ddeyd tipyn ar yr adnod honno am i bawb
ymwroli. Mi siaradodd yn dda
ofnadwy. Felly bydd o bob amser; a mi ddeydodd beth oedd diwedd pobol oedd yn
aros hefo’u defaid a’u porfa, ac yn peidio helpu’r Arglwydd yn y rhyfel. Ac mi
ddeydodd fod yr Arglwydd wedi melltithio rhyw Feros am iddi hi beidio’i helpu
O. Ma’n siwr fod o’n meddwl am y lecsiwn - am beth arall? - achos dyna’r unig
ryfel sy’ ’nelo ’run
o honom ni â hi yn y wlad yma ’rwan.”
“O, ’does dim dowt, John am be arall ’roedd o’n siarad? ’Does
yna ddim arall i fod. Ond mi geith o dalu am hyn pan wêl o di n yr Hafod yna.”
Cyn iddo’n brin orffen llefaru, dyna wichian tebyg i oernad aderyn y corff.
(x81) “ ’Della
i aros nada ’rhen adar y cyrff yma o
gwmpas.”
“Twt, be neith yr adar i ti? Tasa arna i ofn swn adar, faswn i wedi
gneud fawr i helpu mistar.”
“Ond mi dalith yn iawn i ti, Ned. Rwyt ti wedi bod yn driw iddo fo.”
“Ydw, a mi fydd yn burion gin i wel’d sut dâl geith dyn fel fi. Mi fasai’n
werth iddo fo -”
Ond dyna’r gwichian eto, yn uwch, ac megis yn eu hymyl. Yna cawod o rywbeth: pa
un ai cenllysg ai dwfr, neu beth, ni wybu Francis Glyn, canys ni fu ef o dani;
ond clywai swn yn y tywyllwch, a’r ddeuddyn yn rhedeg ymaith, a’r gwichian yn
parhau; ond ni welai ddim yn y tywyllwch a’i gorchuddiai.
“Beth all fod?” ebe’r gŵr ieuanc; “mynnwn, pe yn bosibl, weled yr aderyn yna
a alwant yn aderyn y corff; ond waeth i mi fynd yn fy mlaen, a cheisio’m ffordd
tua’r Plas.”
Gwyddai Francis Glyn am y ddrychiolaeth y dywedai y gweinidogion a welid o dan
y derw, ond ni chredai ef yn eu hofergoeledd; a chan fod y llwybr arweiniai y ffordd
honno yn nes, anelodd am dano goreu y gallai. Ond pan yn ymyl y meini gwynion,
ysgubodd rhywbeth heibio iddo gyda chyflymder mellten, dybygai ef. Er ei holl
anghrediniaeth, eth [sic] iasau oerion o ofnau drwyddo, theimlai ei wallt yn
sefyll yn syth ar ei ben. Wedi cyrraedd i’r Plas; archodd i un o’r gweinidogion
ddweyd wrth ei fodryb ei fod wedi myned i’w ystafell; nas gallai ymuno â’r
cwmni y noson honno. Aeth ei fodryb i ymholi yn ei gylch; dywedodd yntau hanes
y dydd wrthi. Ysgydwodd Mrs. Harris ei phen yn ddifrifol.
Credai hi fod ysbrydion drwg yn ymweled â’r ardal, ond ceisiai ei nai ei
darbwyllo fod rhyw esboniad arall ar yr helyntion yn y plwyf.
“Wel, mae pawb yn parotoi ar gyfer drennydd, a mi fydd yma frwydr fawr. Gobeithio yr enillwn ni, yntê, Frank?”
Ond ni atebodd efe hi.
PENNOD XV
YMGUDDFA RHAG Y GWYNT
Y nos Sabboth hwnnw, wedi iddynt oll swpera, a gofalu am y gwartheg yn y
beudai, a’r ceffylau yn y stabl ymgynnullodd teulu Hafod Oleu at eu gilydd yn
ol eu harfer ar ddiwedd y dydd. Ar ben y bwrdd ceid yr hen Feibl teuluaidd, o’r
hwn y darllenid cyfran fore a hwyr bob dydd yn y flwyddyn. Ystyrid Beibl Hafod
Oleu yn haeddu mwy o barch na’i roddi ar dresel neu fwrdd yn fath o addurn dan antimaccassar. Beibl i’w ddarllen yn
wastadol oedd. Efe oedd Llyfr y Gyfraith, ac ynddo ef y ceisid meddyginiaeth
wrth raid i ysbrydoedd clwyfus. Mewn gair, Beibl Robert Gruffydd oedd oracl y
teulu, ac wrth gyfarwyddyd yr oracl hwnnw y trefnai efe ei dŷ a’i dylwyth.
“Ond myfi, mi a’m tyiwyth a wasanaethwn yr Arglwydd,” fu ei arwyddair trwy ei
fywyd, ac ni chai duwiau dieithr le i roddi eu troed i lawr o dan ei gronglwyd
ef.
Wedi iddynt oll eistedd yn drefnus yn eu lle, Olwen yn lled orwedd ar gader
fechan yn y gornel wrth y tân yn ymyl ei mam, agorwyd y Beibl, a dechreuodd
Robert Gruffydd ddarllen y ddeuddegfed bennod ar hugain yn Llyfr y Proffwyd
Esaiah.
Darllenodd hi yn araf a phwyllog drwyddi, ac yna trodd i’r Testament Newydd, a
darllenodd ddarnau yma ac acw o’r bregeth ar y mynydd. Wedi gorffen y darllen,
lediodd bennill iddynt, un o rai Anne Griffiths:
Mae bod yn fyw yn fawr ryfeddod
...Mewn ffwmeisiau sydd mor boeth;
Ond mwy rhyfeddod, wedi ’mhrofi,
...Y dof o’r cystudd fel aur coeth ;
Amser cannu diwrnod nithio,
...Eto’n dawel, heb ddim braw;
Y Gŵr sydd imi yn ymguddfa
...Sydd a’r wyntyll yn Ei law.
“Dyna nhw, deulu bach, ynte, mae’r addewidion i gyd o’n tu ni trwy bob tywydd
os byddwn ni ar lwybyr yn dyledswydd. Ie, ‘A gwr fydd megis yn ymguddfa rhag y
gwynt, ac yn lloches rhag y dymestl; megis afonydd mewn sychtir, megis cysgod
craig fawr mewn tir sychedig.’ Mae’r cwbl sydd yn eisieu arnom ni i gyd, deulu
bach, yn Ei addewid Ef.”
“Mi faswn i’n leicio, nhad,” ebe Olwen, “tase ni wedi dod at addewid yr adnodau
olaf, y llonyddwch a’r diogelwch hyd byth, ynte, mam?”
“Wel, mi ddown ni at yr addewid honno hefyd, Olwen fach, ac feallai, pwy wyr,
na fyddwn ni’n canu’n iach am dani hi, os byddwn ni wedi mynd trwy dir diffaeth
cyn dod o hyd iddi.”
“Darllenwch hi eto, nhad, os gwelwch yn dda.”
“A’m pobl a drig mewn preswylfa heddychlawn, ac mewn anneddau diogel, ac mewn
gorffwysfaoedd llonydd,” ebe Robert Gruffydd.
Cododd Olwen ei llygaid, ar hynny canfu Rhianon fod deigryn gloew yn rhedeg i
lawr ar hyd grudd ei chwaer, a theimlai Gwen Gruffydd ei geneth yn gafael yn
dynnach ynei Haw, ond ni ddywedodd neb air, ac ymgrymodd pawb wrth droed yr
Orsedd, a chyflwynodd Robert Gruffydd ei deulu a’i gymydogion i ofal yr Un oedd
yn abl i gadw pob un o honynt trwy y ddrycin fel yn y tywydd teg nes eu dwyn yn
ddiogel i’r hafan a ddymunent. Cyn iddo prin godi oddiar ei liniau, wele’r drws
cefn yn agor, a rhyw swn i’w glywed yng nghegin y gweinidogion, a chyn i Sian y
forwyn henaf gael ei thraed dani, dyna Elin Tynyffordd yn rhuthro i fewn ar
ffrwst.
“Ydach chi wedi gorffen darllan, Rhobat Gruffydd, r’on i wedi meddwl ych
clywad chi. Duwc anwyl, medda fi wrth mam, medda fi, mi a i i’r Hafod erbyn
amsar darllen. A duwc anwyl medda fi, rydw i’n hir ofnadwy yn mynd cyn glysad a
hi, medda fi,” gan gyfeirio ei bys at Olwen, “ A medda fi wrth man, medda fi,
rydw i’n mynd yn waeth bob dydd a medda hi wrtha i, dwn i ddim bedi’r matar
arnat ti, medda hi, a ma Twrna Cefn Mawr wedi bod yn tafodi mam, a duwc anwyl
medda fi be sy matar ar honno. A mi faswn i’n leicio bod fel hi, newch chi
ddarllan i mi Miss?” a thynnodd ei Thestament bychan o’i phoced. “Mi nes i le
glân acw, do wir, Miss, neithiwr wedi i mi ddwad adra ar ol bod yn canu, a duwc
anwyl, Miss, mi ganas i, medda fi, dyna bedi canu.”
Amneidiodd Rhianon ar Elin am ei dilyn hi, ac aeth y ddwy gyda’u gilydd i
ystafell fechan o’r neilitu, a darllenodd Rhianon bennod o hanes Iesu Grist yn
y geiriau syml fyddai raid eu harfer cyn y gallasai Elin druan ddeall yr un
gair. Wedi hynny dywedodd weddi yr Arglwydd gan wneud i Elin ei hadrodd ar ei
hol. Mor fuan ag y daeth yr Amen, dyna Elin ar ei thraed. “Rhaid i mi (x83) fynd rwan, mi fuo mi yn y capel, Miss, mi
welas i’r byddigions hefyd, a ma gin i lot o waith, a medda fi wrth mam, medda
fi, ddoi byth i ben os na chodai cyn codi cwn Caer. Sut gwn ydi cwn Caer, Miss
? Ma’n siwr bod nhw’n codi’n fora ofnadwy, achos mi fydda i ar y nhraed bob
dydd pan fydd hi’n dywyll bitsh.”
“Wel, rhaid i ti fynd i dy wely, ne fedri di ddim codi Elin,” ebe Rhianon ; “mi
ddo i dy ddanfon di adre yn gwmni i ti, ynte?”
Ar y ffordd ceisiodd Rhianon gan
Elin addo aros adref yn lle myned o gwmpas y bobl tua’r pentref.
“Well i ti beidio mynd, Elin, bach, a pheidio canu, dydi merched ddim yn
mynd yn agos atyn nhw.”
“Ma merchad ’rochor arall, ochor Harris y
Sgriw, Miss, ma Twrna Cefn Mawr a Mrs. Harris y Plas, a lot o ferchad diarth,”
ac ebe hi gan sefyll yn sydyn a sythu, “mi rydw inna o ochor Mistar Edwards, a
mi nawn ni’r tro, gewch chi weld pwy gurith. Dydw i ddim am droi nghefn ar
Mistar Edwards pan ddaw hi’n amsar dal i gôt o pan fydd o’n rhoi cwrbitsh i’r
dyn tal yna. Hei lwc, y gwaedith o’i drwyn o hefyd.”
“Hitiwch chi befo, mi rown ni gwrbitsh iddyn nhw y cofia nhw am dani hi.”
Wedi cyrraedd yn ol i’r Hafod Oleu ac eistedd wrth y tân, bu Rhianon yn ddistaw
am rai munudau nes i Olwen afael yn ei llaw a gofyn,
“Beth sy, Non? wyt ti’n cofio Rhianon? Dyna galwai Nisien di ynte?” Gwenodd yn dawel.
“Ydi Nisien ar y môr, nhad ? Biti
bod Mr. Wyn wedi marw ynte?. “
Gafaelodd Gwen Gruffydd yn llaw arall Olwen ac ebe hi-
“Mae’r proffwyd yn dweyd mai o flaen drygfyd y cymerir y cyfiawn ymaith Olwen,
mi fase’n anodd iawn i Mr. Wyn blesio’r meistr tir wrth gymryd ochor dyn fel
Mr. Tattenhall.”
“Beth oedd y rheswm, tybed, Robert, fod Syr Tudur a Mr. Glyn yn ’n capel ni heno? Mae’r dyn ifanc yna yn edrych a
mwy yn ei ben na’r cyffredin.”
“Wel, mi ddylai fod Gwen fach ac yntau yn gyfreithiwr;
ond synnwn i ddim nad oes yna stwff ’symol
yno fo; ond mae
Gwelwodd wyneb Olwen.
“Nhad,” ebe hi, “neith Mr. Harris ddim byd i chi, neith o?”
“Wel, Olwen fach, wn i ddim faint o eisieu’m coethi a’m puro sy arna i; ond os
na fydd Mr. Harris wedi derbyn awdurdod oddi uchod, all o neyd dim i ’run o honom ni.”
“Mi ddeudodd Margiad wrth Sian ddoe fod pobol yn deud y caem ni’n troi o’r
Hafod Oleu, nhad.”
“Wel, Olwen fach, pe tae hi yn dwad i hynny, ’does
yma ddim dinas barhaus i neb ar y ddaear (x84) yma.
Yn nhŷ ein Tad mae’n lle ni wedi ’i
baratoi, ngeneth i.”
Rhoddodd Olwen ei phen ar ysgwydd ei mam yn ddistaw. Ymhen ennyd, sibrydai
megis wrthi ei hun:
“O, fedrai ddim mynd oddma, ac odrych ar bobol ddieithr yn byw yma. Nhad bach,
newch chi ofyn i Iesu Grist neyd lle i Olwen, o Hafod Oleu, heb ymdroi yn unlle
ar y ffordd i. “
Taflai llygaid craff Rhianon gipdrem o’r naill at y llall, a gwelai mor fawr
oedd dioddefaint ei thad a’i mam; ac er fod saethau llymion yn gwânu ei henaid
hi yn aml wrth ganfod arwyddion o fynych wendid ei chwaer, eto gwenodd yn
siriol, ac ebe hi:
“Mae’n ddigon buan meddwl am ofidiau pan welwn ni gip arnynt yn y golwg. Olwen,
rhaid i ni gymryd y cyngor ro’s i i Elin-myn’d i’n cadw dros y nos. Rhaid i ni
fynd i ddanfon llyfrau Dyddgu iddi hi, a neith Boba ddim ond disgwyl nes awn ni
yno i ddeyd y bregeth wrthi hi. Piti, yntê, nhad, na fase gennym ni well
pregethwr i Mr. Glyn glywed. Synnwn i ddim na fase William Williams yn gneud y
tro yn well iddo fo na fawr neb.”
Erbyn hyn, adferasid tangnef edd i’w mynwesau, a buont yn aiarad am y bregeth;
a gobeithiai Robert Gruffydd y deuai’r bobl i’r cyfarfod nos drannoeth a
hwyliodd pawb i’w orffwysfan.
Ond er i’w chariad a’i doethineb leddfu poen ei rhai anwyl, bu Rhianon am oriau
lawer yn gwlychu ei gobenydd â dagrau dagrau o hiraeth a dagrau llawn o ofnau:
cysgodion y dyfodol megis yn ymwthio o flaen ei hwyneb, a’i chalon ieuanc
hithau yn crynnu mewn arswyd, gan mor ofnadwy oeddynt.
PENNOD XVI
LLYFRAU DYDDGU
Cododd Rhianon gyda’r wawr bore drannoeth, a chyn myned allan o’i hystafell
paciodd banner dwsin o lyfrau bychain gyda u gilydd yn barod i’w rhoddi i
Dyddgu. Yna cofiodd y dylasai ysgrifennu enw y plentyn arnynt, a datododd y
pecyn, ac mewn llawysgrif brydferth, wele DYDDGU MEREDYDD a’r dyddiad ar bob un
ohonynt y naill ar ol y llall. Wedi gorffen, paciodd hwy unwaith yn rhagor, ei
hwyneb yn gwenu drosto wrth feddwl am lawenydd Dyddgu fechan yn y man. Na foed
i undyn dybio fod y disgrifiad yna o wên Rhianon yn un anghywir, canys dyna yr
unig ffordd i roddi i bobl nas adnabuent hi ryw fath o syniad am y wyneb a’i
wenau. Byddai y llygaid, fel y gwefusau, y talcen, a’r gruddiau, ac hyd yn oed
yr en, yn goleuo ac yn cyfnewid megis darluniau wyneb y ffurfafen. Gwir nad
oedd hi yn dlos, fel ei chwaer, ond meddai wyneb Rhianon Gruffydd ryw fath o
degwch nas gallai tlysni cig a gwaed fyth ei roddi i’w perchennog.
Ond dyna sŵn traed y gwenidogion tua’r gegin, ac aeth Rhianon hefyd tuag
yno i drefnu gwaith bore Llun gyda hwy. Yr oedd arbed ei mam ymhob rhyw ddull
yn ymddangos yn brif amcan ei bodolaeth; a chan fod ei phen mor lawn o synwyr
ag oedd ei chalon o serch, bydd ai yr olwynion oll yn troi yn eu lleoedd
priodol, heb un yn neidio oddiar yr echel, erbyn y deuai Gwen Gruffydd o
ystafell Olwen at y bwrdd brecwast. Wrth erchwyn gwely Olwen y penliniai ei mam
i ddiolch am yr amddiffyn dros y nos; ond pur anaml y (x85)
deffroai yr eneth yn ystod yr ymweliad; gan fod symudiadau Gwen Gruffydd mor
ddistaw, a’i cherddediad mor ysgafndroed, ni aflonyddid ar y tawelwch deyrnasai
yno ganddi hi. Ond pan aeth i mewn y bore Llun hwnnw, gwelai fod llygaid Olwen
yn agored, a chwsg wedi gadael ei hamrantau. Gwenodd ar ei mam; cusanodd hithau
ei merch yn anwyl.
“Ddaru ngeneth i ddeffro yn fore iawn heddyw?” gofynnai.
“O, mam, mi freuddwydiais i, ac mi ’roedd
o’n freuddwyd neis, wrth y modd i. Debyg mai dyna p’am daru mi ddeffro pan
orffenodd o. ’Roeddwn i’n gweld Mr. Harris,
Plas Dolau, yn danfon notis i nhad i fyn’d odd’ma, a phawb yn crio, a finna yn
misio codi o ngwely, a Syr Tudur Llwyd yn ffeind iawn; a phan oedd popeth wedi
drysu, dyma Rhianon yma o rywle, ac yn deyd fod y cwbl yn iawn. Ac ’roedd pawb yn coelio Rhianon, a nhad yn sychu fy
llygaid i, ac yn deyd mod i’n mynd i fendio a chodi. Wedi hynny, collwyd Syr
Tudur Llwyd, a fedra neb ’i gael o yn unlle;
ond ’roeddwn i’n meddwl y gwyddwn i ym mhle
i chwilio, ac mi es i’r Friog, ond ’doedd
yno neb ond Rhianon yn yr ardd yn casglu blodau. Mi wyddwn i fel y carai Syr
Tudur y lili a’r rhos, a gofynnais i Rhianon am bwysi mawr o honynt - llon’d fy
ffedog. Wedi i mi eu cael, ni welwn Rhianon, na’r un o honoch chi, ond rhywun
dieithr iawn i mi, a gwisg wen laes am dano, fel nydd yn yr hen bictiwrs.
Gafael odd yn dỳn yn fy llaw, ac aeth a fi i ryw erddi, harddach o lawer
na gerddi’r Friog. O, mam, ’roedd yno le
braf, a llawer iawn o bobl wedi eu gwisgo ymhob lliw’r blodau; a gwelwn fy hun
yn cerdded ar hyd palmant o farmor gwyn, a pwy oedd yno yn fy nisgwyl ond Syr
Tudur Llwyd. ‘Dyma hi, fy Olwen fach, a llond ei ffedog o flodau,’ ebe fe; ac
edrychai mor siriol. ‘Rhaid i ni gadw’r blodau, Olwen, i roi croeso i’ch tad
a’ch mam. Bydd y ddau yma toc.’ ‘A
Rhianon,’ meddwn inna. ‘Rhianon lot o gwaith yn Cymru; hi aros tipyn yno; hi
dwad wedi gorffen y gwaith; hitha dim yn hir, Olwen fach.’ A dyna chi i gyd yn
dwad - Boba a phawb, a Nisien. Ac ymhen tipyn, dyna Mr. Glyn yno; a phan welodd
Syr Tudur o, mi gymerodd un o’m blodau gwynion i’w roi i Mr. Glyn; ’roedd o’n falch o’i wel’d o. A ’doedd arna i na neb eisio mynd i Hafod Oleu, nac
i unlle arall oddiyno. A ’doeddwn i ddim
wedi blino wrth gerdded a rhedeg yno chwaith. Ond be gwelsech chi wisg Rhianon,
mam. ’Roedd hi’n wyn fel eira, ac wedi ei
thrimio drosti hefo petha yn union fel dagra’ mawr, a phob un o’r rhei’ny yn
ddisglair fel y sêr. O! welais i ddim yn fy mywyd mor hardd a gloew a’r dagrau
ar ei dillad hi; ac eto, ’doedd neb yn crio
yno, ond pawb yn hapus i gyd. Yn ’doedd o’n
freuddwyd neis, mam? Mi faswn i’n meddwl mai lle fel hwnnw ydi’r nefoedd.”
Gwaith pur anodd i Gwen Gruffydd oedd parhau i wenu;
ond beth na all cariad wneud er mwyn ei rai anwyl? Ac ebe hi wrth ei merch-
“Oedd, ngeneth i; ’roedd o’n freuddwyd tlws
iawn; ond rhaid i ni wneud rhywbeth heblaw breuddwydio heddyw, Olwen. Mi fydd y bara a llefrith yma yn y munud,
ac mi fydd yn amser codi erbyn dyledswydd. ’Dwyt
ti (x86) ddim yn rhy flin i godi, wyt ti
Olwen? Mae hi’n edrych yn argoeli am ddiwrnod braf, a mae arnoch chi’ch dwy
eisio myn’d i’r felin, ac hefyd i roi tro am Boba, i ddeyd hanes y Sul wrthi
hi.”
“Oes, i ddanfon llyfrau i Dyddgu fach, ddigri’, yna;” a chwarddai Olwen yn llawen.
Ac felly y bu. Cychwynnodd y ddwy eneth tua’r felin, ond nid oedd Dyddgu yn y
tŷ. Wedi peth chwilio, deuwyd o hyd i’r fechan yn eistedd yn y ferfa yn yr
odyn, ei dau ben lin bron yn ymyl ei gên, a chyfrol o “Hanes Methodistiaid
Cymru” o’i blaen, yn darllen yn brysur.
Cododd ei llygaid o’r llyfr pan glybu sŵn traed yn ei hymyl; ac wedi deall
pwy oedd yno a beth oedd eu neges, neidiodd o’r ferfa, a safodd yn disgwyl, ei
llygaid gloewon yn perlio arnynt. Yn ychwanegol at becyn Rhianon, daethai Olwen
hefyd â llyfr i Dyddgu - un o’r llyfrau y darllenid llawer arnynt flynyddau yn
ol: “Aelwyd F’ewyrth Eobert,” sef “Caban F’ewyrth Tomos” Harriet Beecher Stowe,
wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg mewn dull tra deniadol gan Gwilym Hiraethog.
Ambell waith yn awr, clywir rhai, nad ydynt deilwng i ddatod carrai esgidiau
Hiraethog, yn bychanu y dull hwnnw; ond ni fu mwy o ddarllen ar nemawr lyfr nag
a fu ar yr hen “Aelwyd,” a bron nas gellid dweyd fod y llyfr yn ail i “Daith y
Pererin” yn serch y Cymry. Feallai mai gwaith pur anodd ydyw cyfleu i bobl yr
oes hon, sydd yng nghanol y fath gyflawnder o lyfrau, mor werthfawr oedd yr
ychydig yr adeg honno, a darllenid hwy drosodd lawer iawn o weithiau, nes y
byddent wedi myned yn hen gydnabod diddan a berchid yn fawr. Ond i ni gofio y
ffaith yna, rhydd help i ni ddeall fel y llamai calon Dyddgu fechan wrth
dderbyn ei llyfrau o ddwylaw genethod yr Hafod Oleu.
Wedi iddi ddiolch iddynt, ei llawenydd bron a thagu ei geiriau, cychwynnodd y
ddwy tua Thy’n-yr-Ardd; ond cyn iddynt fyned nepell oddiwrth y Felin, dyma
Dyddgu ar eu holau, yn rhedeg nerth ei thraed, a’i gwallt yn hofran yn y gwynt.
“Ydach chi’n mynd i’r lecsiwn ’fory, Miss
Rhianon?”
“Nag ydw’ i; beth ’na i yno, Dyddgu; fedra i
ddim fotio i neb?”
“Pam Miss Rhianon?”
“Fydd merched ddim yn fotio i
“Pwy sy’n rhwystro chi i fotio - chi a merched pob man? “
Gwenodd Rhianon, a dechreuodd feddwl mor briodol oedd y cwestiwn, cyn iddi
ateb: “Wel, y dynion, debyg gen i, Dyddgu. Y nhw sy’n deyd sut mae popeth i
fod.”
“P’am nhw, mwy na merched, Miss Rhianon? Fuo Iesu Grist yn rhoi awdurdod i’r
dynion i fod yn fistar ar bawb? Rhaid i mi wybod hyn?”
A syllai y plentyn ar lawr, fel pe wedi synnu at sefyllfa pethau yn y byd o’i
chwmpas. Yna cododd ei phen ac edrychodd ym myw llygaid Rhianon, ac ebe hi -
“Mae Jerry Jones, Tŷ Nant, ym myn’d i fotio, a mae nhad yn deyd dydi o
ddim yn agos yn gall, ond fod gino fo lot fawr o arian.
’Rydach chi’n reit gall, Miss Rhianon!’ Rydach chi’n gall iawn, iawn.
Mae nhad yn deyd bod chi’n gwybod lot fawr, a mae Syr Tudur Llwyd yn gwybod bod
chi’n gall. ’Does dim sens (x87) fod dyn heb fod yn reit gall yn fotio, a
chitha ddim, Miss Rhianon; a wn i ddim be sy’. Heblaw hynny,” a tharawodd
Dyddgu ei throed, ar y llawr. “ ’Does gin
ddim dyn ddim busnes i rwystro dim dynes. Be mae merched mor wirion, Miss
Rhianon? Chyma i ddim o’u lol nhw wedi i mi fynd yn fawr. Pwy ddyn sy’n
rhwystro chi, Miss Rhianon? “
Chwarddodd Olwen yn siriol, ond edrychai Dyddgu yn ffromus;
Addawodd Rhianon fyned, a holodd hynt y malwod.
“Fydd dyn y malwod ddim yn rhwystro i’w ddynes fynd yn ei blaen, beth bynnag,”
ebe Dyddgu. “Mae’r malwod yn mynd yn lot fawr daclus hefo’u gilydd.”
Ac ymaith â hi yn ol tua’r odyn, a’r genethod ieuainc yn edrych y naill ar y
llall yn ddistaw.
“Wel, mae hi yn greadures fach od,” ebe Olwen; “mi neith Dyddgu rywfaint o
sŵn yn y byd yma, os caiff fyw.”
“Ie, a’i magu yn iawn. Olwen, beth fyddai i ni ofyn iddi ddod i’r Hafod am awr
neu ddwy bob dydd? Mae arna i awydd treio dysgu Dyddgu. Mae’n resyn iddi hi gael ei hesgeuluso.”
“Ond mae hi’n mynd i’r ysgol. Mae John Meredydd, a’i mam hefyd, yn credu
mewn dysgu’r plant.”
“O, ydi, mae Dyddgu yn mynd i’r ysgol; ond mae arni eisieu manteision uwch na
rydd ysgol y pentref iddi. Mi ofynna’i iddi ddod, pe caem ni dipyn o dawelwch
ar ol helynt y lecsiwn yma.”
“O’r gore, Rhianon; mi gei di ddysgu traethodi a barddoni, a phethau felly,
iddi hi. Mi dysga inna hi i ganu’r
delyn, ynte? “
Tra y tynnai y genethod gynllun iau i addysgu a chaboli galluoedd Dyddgu, yr
oedd y plentyn yn eistedd yn y ferfa, yn gwneud a allai hi i ddiwyllio ei
(x88)
PENNOD XVII
APOSTOL RHYDDFRYDIAETH CYMRU
Yn y flwyddyn fythgofiadwy honno yn hanes Cymru, ymddanghosodd goleuad mawr yn
ei ffurfafen foesol hi; a thrwy drugaredd Rhagluniaeth dda, parha i oleuo a
gwresogi ei daear hyd heddyw, er i aml elyn broffwydo na fyddai gyrfa gyhoeddus
mor ddisglaer yn debyg o bara yn hir. Ond proffwydi Baal fuont, canys er
cymaint dylanwad areithyddiaeth y gŵr ieuanc a drwythodd ei wlad drwyddi a
dysgeidiaeth Ryddfrydol y pryd hwnnw, cynyddu fwy-fwy, ac nid lleihau, mae’r
dylanwad, fel y blodeua y pren almon ar ben yr areithiwr. Tyngai y Toriaid, pan
glywent y disgwylid ef i bregethu neu i areithio yn yr ardaloedd; a rheswm da
paham: ymlidiai anwybodaeth o’i flaen, fel yr ymlid yr haul y nos ymaith. Nid
gwiw dweyd yr hen ynfydrwydd nad oedd a wnelai gweinidogion y Gair a
gwleidyddiaeth, tra y meiddiai y dyn ieuanc rhyfedd hwnnw draddodi areithiau yn
llu oedd i egluro dyledswyddau dynion fel dinasyddion i’w gydwladwyr, a’u
hyfforddi mewn amser ac allan o amser pa fodd i ymddwyn tuag at eu breintiau
fel deiliaid o deyrnas ddaearol. A phan ddeuai y Sabboth, pregethai iddynt
efengyl yr enaid yn bur ac iach, mewn iaith brydferth a choeth. Deall odd y
bobl nad oedd efengyl i’r corff yn anghyson âg efengyl yr enaid, a heidiai y
rhai fu yn ei wrando ar y Sabboth yn dweyd hanes geni Bethlehem, y bywyd yn
Galilea, y chwysu yn yr Ardd, a’r marw dirmygedig dros bechadur; i’w glywed yn
tynnu’r gorchudd oddiar ddichellion gormeswyr y werin ddyddiau’r wythnos.
Ambell waith, troai Tori neu ddau i mewn i’w gyfarfodydd, ond buan y dihangent
o ffordd ei wawdiaeth lem, a’u cyrhaeddai hyd adref. Yna, yn ol arfer pobl heb
ddim i’w ddweyd yn erbyn goreuon daear, llunient gelwyddau wrth y llath amdano.
Chwarddai yntau, ei wyneb hardd heb un blewyn
Pan yn cerdded o’r Felin tuag adref, dyma y gŵr a gyfarfyddodd Rhianon ac
Olwen yn y groesffordd. Cyfeiriai yntau ei gamrau, fel hwythau tua’r Hafod
Oleu. Adnabyddent eu gilydd yn dda, gan mai yr Hafod oedd llety’r pregethwyr
ddeuai i Langynan; ac wedi cyfarch gwell y naill i’r llall, gofynnodd i’r
genethod pa fath drefn feddyliai eu tad oedd yn yr ardal ar gyfer drannoeth.
“Weithiau yn bur obeithiol, a weithiau yn ofni, mae nhad. Mae’r hyn a alwch
chwi, y politicians yma, yn sgriw, yn
mynd yn beryglus iawn tua’r Plas Dolau yma; ond mae o’n disgwyl llawer iawn
oddiwrth y cyfarfod heno.”
“Mae Rhianon yn meddwl bod yn biti na chawse hi helpu tipyn, ond bod hi’n
ddistaw ar y pwnc,” dywedai Olwen yn ddireidus.
Gwenodd y pregethwr, ac ebe ef, “Mi fase’n dda iawn i ni i gyd pe cawse ni help
hi, Miss Olwen?. Mae eisieu help pawb fory, ac mae llawer Jael yng Nghymru o’r
un ysbryd a gwraig Heber y Cenead.”
“Felly dydech chi ddim yn credu nad oes gan ferched yr un enaid,” ebe Olwen
drachefn, “Rhianon, dyma enw arall i’w roddi ar list Dyddgu.” Aeth Rhianon dros hanes y plentyn i’r pregethwr, ac
wedi iddi orffen, yn lle chwerthin fel yn ddiau y disgwyliai Olwen, beth
bynnag, iddo wneud, safodd eu cydymaith yn sydyn, ac ebe ef yn ddifrifol:
“Ie, ie; o enau plant bychain, ie, y daw doethineb yn aml, onide Miss
Gruffyddi. O, ie, rhowch chwi fy enw i ar list
Dyddgu; ’rydw i o ochr rhyddid o bob math,
os na fydd yn tueddu at benrhyddid; ond gyda phob dyledus barch i’m brodyr, ’rwy i wedi ffeindio er’s dyddiau a misoedd rai,
nad yw ymenydd y wlad ddim yn eiddo iddynt hwy i gyd. Rhaid i chwi faddeu i mi,
Miss Gruffydd, am ddweyd mai’r peth mae’r merched fwyaf ar ol ynddo yw balance. Gormod o’r teimladau yn rhedeg
o flaen y rheswm, ond mae cadw y merched heb ddim arweinydd ond eu teimladau yn
andwyol iddynt hwy ac i ninnau, canys rhaid i ni sefyll neu syrthio gyda’n
gilydd. Dyna eitha ysgrythyr i ddynion y wlad yma, gwerth iddynt feddwl am dano
hefyd. A rhaid i chwi, y merched, fel ninnau, weithio allan eich iachawdwriaeth
eich hunain. ’Does un ffordd arall i
gyrraedd y gamp.”
“Ond rhaid i chwi gofio fod y rhan fwyaf o ferched mor amddifad o addysg o
unrhyw ddefnydd iddynt, ac hyd nes y daw manteision addysg, ar ein cyfer ni,
druain, bydd ein hanwybodaeth fel plwmen wrth ein traed yn ein tynnu i lawr er
ein gwaethaf. Yn wir,” ychwanegai Rhianon, “mae’n hanwybodaeth ni yn fawr iawn.
Bu geneth i siopwr yma’r dydd o’r blaen, mae hi yn henach na mi o dipyn, ac
wedi bod am flwyddyn mewn rhyw ysgol yn Lloegr, a waeth i mi ddeyd, na ŵyr
hi ddim dan un, a darfod. A beth am y merched tua’r ffermdai yma, sydd llawn
mor alluog a’u brodyr, a dweyd y lleiaf, ond na ddaeth i galon un dyn i feddwl
am roddi iddynt addysg o fath yn y byd gwerth son am dano.”
Gwenodd y pregethwr yn siriol. “Pe ’ddyliwn i fod y mater wedi (x90) cael cryn dipyn o’ch sylw chwi, Miss
Gruffydd; a’r hyn sydd hedyn egwan yng nghalon un ferch ieuanc yng Nghymru
heddyw a dyf yn bren mawr yn y man, yn llawn o ddail a blodau, ac wedi hynny y
ffrwyth addfed yn pwyso’r brigau.”
“ ’Rydech chwi’n meddwl son am bwysigrwydd
addysg i’r werin heno; wnewch chwi faddeu i mi am ofyn i chwi ddeyd gair wrth
basio am ei bwysigrwydd i enethod fel i’r bechgyn? “
“Gwnaf, Miss Gruffydd, a chroeso; oes rhywbeth arall garech chwi i mi roddi
help llaw i’w hyrwyddo? “
“Nac oes, diolch yn fawr i chwi; bu’m yn hyf iawn yn gofyn yr hyn a wnes i
chwi, ond ’roeddwn i’n credu eich bod chwi’n
ddigon mawr i basio heibio i’m haerllugrwydd. Ychydig o ofn dynion fel chwi
fydd arnaf; y bobl na wyddant fawr ddim sydd yn anodd dygymod â hwy. Ryw fodd,
mae y rhai sydd wedi meddwl ychydig, a darllen llai, bob amser yn siwr iawn o’u
pwnc.”
“A fedrwn ni ddeyd dim wrth ddynion nas gallant gydymdeimlo â ni, chwaith -
dynion nas meddant un ddirnadaeth fel y gwana y sarhad ddodir arnom ni megis
picell lem,” ebe Olwen.
“Dylai mamau y wlad ofalu am fagu eu bechgyn o’u mabandod gyda syniadau teilwng
am eu mamau a’u chwiorydd,” ebe y pregethwr.
“O dylent,” ebe Rhianon; “ond, atolwg, pa fodd y gall mamau anwybodus,
gollasant bopeth a feddent trwy briodas, wneud un peth fel y dylent? Onid
gwaith anodd iawn yw i fachgen barchu ei fam pan nad yw mewn uwch sefyllfa na
chader neu fwrdd yn y tŷ, neu, os mynnwch, un o’r anifeiliaid oddiallan?”
Gwenodd eu cyfaill, ac ebe fe -
“Ie, ie. Wel, dewch chwi i’r cyfarfod heno; mi dreia i roi hwb ymlaen i’ch
achos chwi, Miss Gruffydd, a mi gewch chwithe fy helpu i yn awr ac eilwaith.”
Erbyn hyn, yr oeddynt wrth ddrws yr Hafod, a Robert Gruffydd yn dod i gyfarfod
y gŵr dieithr gyda dwylaw estynedig.
“Mi ges i gwmni’r merched bach yma, Robert Gruffydd, ac
’ryden ni wedi gwneud ymgais i roi’r hen fyd yma yn ei le, ein tri.”
“Mae arna i ofn y bydd o yn ’i ol cyn i chwi
gael amser i droi rownd.”
“Wel, ïe, ond nid ’n bai ni fydd hynny; mi
wnaethom ni’n gore,” a chwarddodd yn llon.
Yn ddiau, gwnaeth ei oreu yn y
cyfarfod y noson honno. Aeth Rhianon yno, ac Elin Ty’nffordd gyda hi, i glywed
y gŵr dieithr a ganmolid gymaint, a bu mewn digon o helbul yn cadw trefn
ar Elin druan, yr hon a fynnai ddechreu canu canmoliaeth yr areithiwr ar uchaf
ei llais.
Aeth Boba i’r Hafod Oleu i ysgwyd llaw â’r pregethwr, oedd yn wladweinydd
penigamp, er na fu yn eistedd ar seti St. Stephen.
“ ’Dydi bwys yn y byd i chi, syr, bedi barn
hen wreigan dlawd fel fi am betha, ac hwyrach ’dydw
i ddim yn iawn, chwaith; ond ’rydw i’n ych
gweld chi’n debyg aneiri i’r Apostol Pedar, welwch chi.
’Doedd yr hen Bedar yn hitio dim yn neb, ddim ond gneud stepia o bopeth
ddoi i’w gyfarfod o i dynnu ar i fyny. Ond hyn o’n i myn’d i ddeyd - ’rydw i’n credu fod y ddau hen anghenfil yna,
Trais a Gormes, yn mynd i gael cweir ’fory
na fydda nhw byth ’run fath ar ei hoi hi. Mi
fydd y frwydr yn un boeth iawn yng Ngwlad y (x91)
Bryniau yma, ac hwyrach y caiff llawer soldiar da i ni
’i glwyfo, beth bynnag am ’i ladd;
ond rhaid i ni beidio grwgnach, a deheulaw cyfiawnder yn barod i’n cynnal ni.”
Llanwyd llygaid y pregethwr â dagrau, ac ebe Robert Gruffydd-
‘ ’Fydd hi ddim yn ddrwg iawn arnom ni tra
bydd Boba yma i’n cysuro ni, ac i ddangos i ni y ffordd tua’r babell na thynnir
i lawr.”
“Na fydd, na fydd, Robert Gruffydd; fydd hi’n ddrwg ar neb yn dragywydd sy’n
ymddiried yn yr Un y mae Ei ffyrdd yn gyfiawn a chywir, tra ceisiwn ddilyn ol
Ei droed Ef.”
“Yn y llwybrau ceimion mae’r peryglon i gyd, ynteê, syr? Wel, nos dda; mi
fyddwn i gyd a’n gwynt yn yn gyddfa ’fory.
Nos dda, deulu bach,” ac aeth Boba yn ol, a Rhianon yn ei danfon tua’i bwthyn.
PENNOD XVIII
DYDD YR ETHOLIAD
O’r diwedd, wele’r bore wedi gwawrio y bu cymaint o baratoi ar ei gyfer - bore
y crynnai llawer calon egwan gan ofn ei ganlyniadau iddynt eu hunain, eu teulu
oedd, a’u cyfeillion; bore’r prawf a wnaeth aml i ffermwr yng Nghymru, oedd
ddigon dinod hyd hynny, yn “ddinas ar fryn nas gellir ei chuddio,” a llawer
ereill yn ferthyron i’r egwyddorion y bu i filoedd o’u blaen golli eu bywydau
drostynt - hen egwyddorion rhyddid y dinesydd gwladol, yng nghyd a’r rhyddid
gogoneddus ddylai fod yn eiddo i bob un o feibion a merched Duw: rhyddid i’w
addoli mewn gwylder a symlrwydd calon, heb unrhyw gyfrwng ond yr Hwn a osododd
Duw yn lawn. Credai yr hen Gymry y Beibl o’i gwr, a gwyddent fod yng Ngair y
Gwirionedd adnod fechan o’r tu cefn i’w syniad iach hwy am Dduw a’i addoliad -
“Canys un Duw sydd, ac un Cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu”
- eu hadnabyddiaeth o’u Tad Nefol trwy Ei Air, a’u cymdeithas ag Ef mewn gweddi
a nerthodd eu breichiau hwy yn nydd y frwydr, fel y gallent hwythau hefyd, trwy
ffydd, wynebu y tân, y dwfr, a’r llewod pan ddaeth yr awr.
Cododd pawb ymron cyn torri’r wawr yn hen blwyf a phentref cysglyd Llangynan,
wedi deffro yn fwy trwyadl nag y bu iddynt erioed o’r blaen, yng nghof neb oedd
yn fyw yno; a rhyw ferw rhyfedd trwy yr ardal, megis a glywir mewn cwch gwenyn
ar fore teg o haf, cyn i’r creaduriaid bychain hynny ledu eu hadenydd a heidio
o’u hen gartref, fyddai yn rhy lawn iddynt oll drigo yno, i chwilio am ryw fan
y caent ddigon o le i gasglu eu mêl ar gyfer y gaeaf.
Gwibiai Elin Ty’nffordd yn ol ac ymlaen yn brysurach nag un dyn, gallem
feddwi. Ni chanai nodyn y diwrnod hwnw, ac ni cheid “gair am geiniog” ganddi.
Taflai rhai o’r bechgyn direidus ambell i watwareg tuag ati, ond nid
ymddanghosai Elin yn clywed yr un o honynt. Pe buasai hi yn ymgeisydd Seneddol,
nis gallasai deimlo mwy o ddyddordeb yng ngweithrediadau yr oll o’i chwmpas, ac
er cymaint erfyniai ei mam arni aros adref, hwylio ei hun tua phentref y sir,
lle y gorfyddai i bawb fyned i roddi eu pleidleisiau, wnaeth Elin, cyn i undyn
o Langynan gyfeirio eu camrau tuag yno; a rhoddodd ryw fath o dro crwn
oddeutu’r Plas Dolau wrth basio. Pigodd ei phen i fewn i’r (x92) ystafell lle y cedwid tresi’r ceffylau, ac
aeth o amgylch y cerbydau i edrych oedd “siawns am lift,” ebe hi wrth un o’r
gweision. Ond cynghorodd hwnnw hi i beidio myned tua’r dref - y byddai yno
lawer iawn o bobl wedi meddwi.
“Fydda i ddim wedi meddwi,” ebe Elin; “ ’does
gini ’run fôt!”
“Ma rhwbath yn òd iawn yn Elin wirion yna,” ebe’r dyn wrth ei gydwas; “ma hi’n
dallt petha yn well na rhan fwya, os ydi hi heb fod yn llawn llathan.”
’Roedd
Dyddgu hefyd o gwmpas ei phethau yn gynnar, wedi bwyta ei brecwast, ac yn
trefnu gyda’i brodyr yng nghylch yr amser i ddyfod ag ymborth iddi hi a Bel.
Ystyriai Dyddgu fod ei help hi yn anhebgorol angenrheidiol y diwrnod hwnnw i
gadw trefn yn y plwyf.
Ac
rhaid oedd d’od o’i hystafell a hwylio tua Thy’n’rardd i edrych am Boba, ac i
wrando geiriau cysurlawn yr hen wraig yng nghylch yr helynt.
Am Rhianon,
Yn fuan wedi wyth y bore, dechreuodd y ffermwyr grynhoi yma ac acw yn dri a
phedwar i siarad â’u gilydd. Gwelid cerbydau o bob math, yn llwythog o bobl, yn
tynnu tua’r dref ar hyd y ffordd - llawer o honynt, yn ddiau, heb ddim yn galw
am danynt, eto yn cyrchu tua’r fangre i weled y “lecsiwn; “ ereill yn teimlo eu
pwysigrwydd fel dynion y bu pleidwyr y ddwy blaid yn erfyn arnynt am eu fôt er’s
wythnosau - boneddigesau a boneddigion, na thalent gymaint o sylw i’r werin
bobl ag a dalent i’w cŵn a’u ceffylau ar adeg arall, yn ymweled â hwy ac
yn ymgomio gyda hwynt yn rhydd, fel pe am unwaith yn eu hoes yn cofio mai plant
yr hen arddwr, Adda, oeddynt i gyd fel eu gilydd, er fod ei eiddo wedi ei rannu
mor anwastad cydrhwng ei blant. Mor fawr yw dylanwad y “lecsiwn” ar feddyliau a
chalonnau dynion, fel yr anghofia y brawd a’r chwaer o radd uchel mai megis
ffieiddbeth y cyfrifir y rhai o radd isel ar bob adeg arall; ond ddiwrnod y
lecsiwn, mae y fôt yn codi’r brawd gwael i’r un tir a’r boneddwr, ac nid
rhyfedd y mwynha’r werin y sefyllfa am yr ychydig amser y parha, hyd nes y
teflir hwy yn ol i’r un cyflwr anadnabyddus ag o’r blaen, pan fydd y moesgrymu
pen, a’r gwenau, oll ymysg y pethau a fu.
Yr hyn a dyn fwyaf o sylw pobl ystyriol, yng ngwyneb y ffeithiau yna, yw
dibrisdod cymaint o’r werin o’u breintiau. Gwerth aml (x93)
un o honynt y bleidlais sydd yn eiddo amhrisiadwy iddynt, am hanner peint o
gwrw i unrhyw ymgeisydd neu gynrychiolydd iddo, fydd yn ddigon llygredig i’w
phrynnu.
Ond cyrchai pobl o ymddygiadau tra gwahanol tua’r hen dref y bore hwnnw ym mis
Tachwedd - y rhan fwyaf o honynt â golwg luddedig arnynt, wedi cerdded
milltiroedd; ac er ei bod yn ddiwedd blwyddyn, eto yr oedd y tywydd ymhell o
fod yn oer, a’r dynion, druain, wedi gorfod tynnu eu cotiau mawr, y rhai a
garient ar eu breichiau. Dyma’r fintai, y foment y deuent i’r golwg, y gwyliai
Dyddgu eu holl symudiadau; hwy oeddynt wrthrychau arbennig ei gofal. Cauai
“Aelwyd F’ewyrth Robert,” er mor ddyddorol ydoedd yr hen lyfr, a gafaelai yn
ffrwyn Bel; a cherddai y ferlen yn union, gam ar ol cam, fel y dynion
lluddedig, gan fyned gyda hwy hyd at ben draw y coed, lle y llechai ceidwaid
helwriaeth Plas Dolau, a’u cerrig yn barod i labyddio’r dynion yn llechwraidd.
Ond, fel y rhagwelodd John Meredydd, ni luchiwyd yr un garreg tra y
cyd-deithiai Dyddgu a’r fintai yn ei cherbyd bychan. Dyn a berchid yn fawr yn
ei ardal oedd y melinydd, dyn y gwyddai pawb nas gellid yn hawdd gael y llaw
uchaf arno, a dyn yr oedd bron bawb yn yr ardal, ac eithrio ychydig iawn o
deuluoedd gweddol gefnog, yn ei ddyled am flawd gwenith, neu geirch i borthi eu
plant; felly, ni fynnai yr un o honynt ei ddigio, rhag ofn y canlyniadau.
Ar wahan i gymeriad rhagorol ei thad, meddai, Dyddgu hefyd ei ffryndiau. Nid
oedd yn yr holl ardaloedd anghenfil digon annynol i daflu carreg at Dyddgu,
meddai yr eneth ddylanwad oedd bron yn ddiderfyn arnynt oll, a buan yr aethai
yn rhyfel gartrefol ym myd y cipars pe buasai un o honynt yn ddigon ffol i
beryglu person bychan Dyddgu. Cludai y dynion hi yn fynych ar eu hysgwyddau pan
ddeuent tua’r felin, ac eisteddent ar garn yr hopran, heb gofio dim am amser,
yn gwrando ar y plentyn yn canu iddynt weithiau, bryd arall yn adrodd iddynt
hen ramantau Cymru Fu.
Ni wybu y minteioedd dynion y bu hi yn angel gwarcheidiol iddynt ar hyd y dydd,
fel yr elent ymlaen ac y deuent yn ol, beth oedd neges geneth mor ieuanc yn y
fangre honno canys aeth pob un o honynt i’w gynefin yn ol heb dderbyn dim
niwed, megis plant Israel gynt trwy’r Môr Coch. Ni chafodd y gelyn gyffwrdd a
hwy, am fod plentyn yn ei cherbyd yn cyd-fyned â hwy, a chydrhyngddynt a’r
cerrig.
Am ryw reswm neu gilydd, fe ddywedir fod y Rhyddfrydwyr yn arfer pleidleisio yn
fore, cyn gynted ag y gallant, ac aeth wynebau cyfeillion Mr. Tattenhall yn bur
wefllaes ymhell cyn hanner dydd, a dechreuodd Mr. Harris, Plas Dolau, ofni y
gallai y giwed gweithwyr, y meddai gormod ohonynt o lawer bleidleisiau, yn ol
ei farn ef, droi’r fantol yn erbyn y mawrion; ond llonnwyd ei galon pan ddaeth
tua dau ddwsin o Doriaid, y naill ar ol y llall, yn llefaru “Mr. Tattenhall” yn
ei ddull ei hun. Ac yna, daeth ychydig foneddigion a thirfeddianwyr, hwythau hefyd
yn dweyd “Mr. Tattenhall,” yn rhwysgfawr a rhodresgar, fel pe yn gofyn pwy
feiddiai ddweyd yn amgen. Wedi hynny, wele Ned William yn dod â hen ffermwr
tua’r lle. Dyn pur anllythrennog oedd yr hen frawd, (x94)
ac Ymneilltuwr i’r carn, ond yn eithaf tlawd ei amgylchiadau, ac yn ofni Mr.
Harris, Plas Dolau, fel y cashäi ei galon bopeth croes i’w ddaliadau crefyddol
ei hun. Tybiai Ned ei fod yn sicr o’r bleidlais yma, beth bynnag; ac ar
unwaith, dyna’r hen ffermwr yn sefyll yn grynedig “o flaen ei well.”
“I bwy ’rydych chi’n fotio, Sion Jones?”
gofynnai y gŵr mewn awdurdod.
“I’r Troednoeth yna, am wn i,” atebai yr hen ŵr. Yng nghanol banllefau o
chwerthin, ac ambell i reg, gwnaed byr waith a’r fath bleidlais gan y
Rhyddfrydwyr, ac aeth Sion Jones adref gan lawenhau yn ddistaw rhyngddo ag ef
ei hun, os bu iddo fyned yn destyn gwawd pobl, na ddarfu iddo helpu yr un Tori
i fyned i’r Senedd, beth bynnag. Pa un ai trwy amryfusedd anwybodaeth y
digwyddodd yr helynt, ynte Sion Jones oedd dipyn callach na’i uwchafiaid, nis
gŵyr neb hyd y dydd heddyw; ond y gred gyffredinol oedd mai dyn digon
hirben oedd Sion Jones.
Ychydig wedi hanner dydd, daeth Syr Tudur Llwyd, yn cael ei ddilyn gan William
Williams y Pregethwr a Robert Gruffydd, Hafod Oleu, ymlaen. Siriolodd wyneb Mr
Harris. Meddyliodd yn ddios ei fod yn myned i ennill, er gwaethaf fôts y
gweithwyr feddent dai eu hunain. Tybiodd ef fod Robert Gruffydd yn dechreu
gweled ei gamsyniad, os oedd wedi dyfod yng nghwmni Syr Tudur Llwyd.
Nesaodd yr hen fonheddwr ymlaen, safodd yn syth o flaen y swyddog, ac ebe fe
mewn llais clir, mwyn — “Henry Edwards.”
Neidiodd Mr. Harris ar ei draed, ei wyneb yn ddugoch gan gynddaredd; bloeddiodd
fod camgymeriad, a Syr Tudur Llwyd wedi ffwndro; ond ni thyciai ei
wallgofrwydd, na’i dymer ddrwg ddim, canys yr oedd y bleidlais yn berffaith
reolaidd ac mewn trefn, a Syr Tudur, yn ei ddull tawel a digynnwrf, yn edrych
yn anhebyg iawn i ddyn wedi ffwndro neu golli arno ei hun. Pleidleisiodd Robert
Gruffydd a William Willams yn yr un dull digyffro, ond ni ymddanghosai Mr.
Harris yn cymeryd un sylw o honynt, gan mor fawr y dylanwad arno, oherwydd fod
Syr Tudur Llwyd wedi troi yn fradwr i’w blaid, yn ol barn y gŵr o Blas
Dolau.
Tynnai y dynion eu hetiau i’r hen foneddwr wrth iddo fyned yn ol at ei gerbyd,
a theimlai yntau rywfodd ei fod yn fwy parchus nag erioed.
“Fi meddwl Robert Gruffydd, waeth i ni fynd adre. Fi teimlo’n gwell wedi i mi
neyd gore fi i yru Cymro i ddadlu hawlie Cymry, ynte? Fi meddwl Mr. Edwards dyn
da iawn, a fo trio byw golden rule. Fi credu fi wedi cael dose o
eli llygad i gweld yn glir, yntê?” ebe efe, ac aeth i’w gerbyd, a Robert
Gruffydd gydag ef.
Arhosodd William Williams o gwmpas am ychydig amser, er cael rhyw fath o
amcangyfrif pa fodd y safai y pleidiau hyd yr awr honno. Daeth Francis Glyn i
ysgwyd llaw âg ef yn null cyfeillgar y gŵr ieuanc, ac ymhen ychydig
funudau ymunodd John Meredydd â hwy, ei wyneb rhadlon yn bryderus yr olwg
“Mae’r arferiad yna yn un gywilyddus i’r eithaf,” ebe Francis Glyn. “
“Gobeithio, Mr. Glyn, na chollwch chi mo’ch gafael ar y gwirionedd yna. Mae
rhyw obaith distaw yn llechu yn fy mynwes i y daw’r dydd cyn pen rhyw hir iawn
y deffry cydwybodau’r bobl yn erbyn llwgrwobrwyaeth sydd yn darostwng pob un a
ymwnel â hi pa un bynnag ai’r rhoddwr ai’r derbyniwr fydd y dyn. Dylai ein
gwladweiniaeth allu codi uwchlaw ystrywiau o’r fath, a synnwn i ddim pe rhoem
ni hwb go lew i gael trefn ar bethau yn yr hen sir yma heddyw. ’Roedd cael Syr Tudur Llwyd o’n tu yn ardderchog; ’doedd dim posib i ddim wnaed eto fod mor
werthfawr i’n plaid ni.”
“Beth ddeydsoch chi, William Williams? gofynnodd y melinydd. Syr Tudur Llwyd! Ydi Syr Tudur wedi fotio hefo ni?”
“Ydi, mae o, John Bach; ac mae’r Toris — begio’ch pardwn, Mr. Glyn — wedi
ymgynddeiriogi, y rhan fwyaf o honynt,” a’r cwbl yn ofni ac yn crynnu, atebodd
William Williams.
Gwenodd Francis Glyn, ac ebe efe yn dawel, “Rhaid i chwi ddim begio
mhardwn i, Mr. Williams. Pe buasai gennyf fôt i roddi, aethai yn unionsyth ar
ol un Syr Tudur Llwyd. Mae hynny o Doriaeth fu erioed ynnof wedi ei ladd y
dyddiau olaf hyn. Os oes gennyf ychydig rinweddau yn fy natur yn gymysg â’m
haml ffaeleddau, mae fy awydd am i bawb gael chwareu teg yn un o honynt. Ac yr
wyf yn rhy hoff o’m rhyddid fy hun i amddifadu neb pwy bynnag o’u rhyddid
hwythau.”
“Da, machgen i; mi ddeil yr
egwyddorion yna dipyn o dywydd. Be ’ddyliech
chi, John?”
Ond yr oedd John wedi myned ymaith, ac yn gwibio cymaint ag Elin Ty’nffordd
trwy’r bobl; a chyn pen ychydig iawn o amser gwyddai pawb fod Syr Tudur Llwyd,
y Friog, wedi fotio i Henry Edwards, a dyna’r newydd cyntaf a glywai pob un
ymhell cyn dyfod yn agos i swyddogion yr etholiad. Wedi cyrraedd i’r fan honno,
dilynnodd y tenantiaid esiampl eu meistr yn ddieithriad. Gwaith anodd i amryw o
honynt fuasai tynnu’n groes i’r hen foneddwr, oedd mor ddwfn yn serch ei bobl,
er i’w cred fod yn wahanol i’r eiddo ef; ond y diwrnod rhyfedd hwnnw, wele’r
meistr a’u cydwybod hwythau ochr yn ochr, ac ni phetrusodd yr un o’r dynion.
“Mae’r Rhyddfrydwyr yn sicr o’r fuddugoliaeth heddyw, Mr. Williams,” ebe
Francis Glyn, pan gyfarfyddodd y ddau unwaith yn rhagor, tua thri o’r gloch y
prynhawn.
“ ’Rydw inna’n dechreu credu hynny hefyd,
Mr. Glyn. Bendith arno, hen general nobl fu Syr Tudur Llwyd i ni
heddyw.”
Cerddai y ddau yn ol ac ymlaen gyda’u gilydd er syndod i’r bobl adnabyddent un
fel pregethwr Ymneilltuol digon cyffredin ei amgylchiadau, yn dibynnu i raddau
pell ar ei siop yn y pentref; a’r llall fel y bargyfreithiwr ieuanc (x96) talentog oedd yn prysur ddringo’r ysgol, ac
oedd hefyd yn nai i Mr. Harris y Tori mawr o Blas Dolau, yr hwn a enillodd
iddo’i hun yr enw o Mr. Harris y sgriw!
“Fel yna mae’r gwyr mawr yma yn y Parliament hefyd, medda nhw, ffraeo’n ben-ben
yng nghylch materion y wlad, ac yn ffrindia penna’n breifat,” ebe Huw Huws y
gof.
Ond synnodd Huw pan glywodd fod Syr Tudur Llwyd wedi cefnu ar y blaid y bu yn
ffyddlon iddi bob tro cyn hyn. Yna chwarddodd y gof yn galonnog, “Diaisti
ddyliais i erioed yn y mywyd y doetha petha i hyn chwaith. Mi geith y
“Mr. Tattanho for ever, Huw,” gwaeddai Ned nerth ei ben, druan.
“Gwaedda’n uwch, Ned, fel y deydodd yr hen Elias wrth broffwydi Baal stalwm,
ond waeth i ti dewi ran hynny, mae hi’n too late, Ned bach. Henry
Edwards for ever lads.”
Amcanodd y saer oedd yn fath o stiward bach, droi ar ei sawdl heb gymeryd sylw
o’r gof, ond yn lle hynny dyna ef yn mesur ei hyd ar y llawr, ac Elin,
Ty’nffordd, yn bloeddio canu am y tro cyntaf y diwrnod hwnnw uwch ei ben,
..............Ned y gwr mawr
..............Wedi syrthio ar lawr,
..............I draed ar i fyny
..............A’i ben ar i lawr;
Welwch chi o, dyma fo.
Ned wedi meddwi ar gwrw Tattanho.
Rhegai Ned Williams tra y ceisiai ymsythu, ond dyblai a threblai Elin ei chân,
ac ymunodd amryw fechgyn direidus gyda hi. Deallodd Francis Glyn fod Elin mewn
perygl o fyned i helbul ei
“Dydw i ddim, wedi meddwi, ches i ddim cwrw, does gin i
’run fôt, a duwc anwyl medda fi syr, medda fi mae eisio fôt i gael cwrw
am ddim fel y ffwl yma.”
“Beth wyt ti yn ddeyd, siarad ti yn wahanol am dy well,” ebe un o’r dynion oedd
newydd roddi ei fôt yn gyfnewid am chwart o gwrw, ac yn barod i ymladd â phawb
ddeuai yn agos ato.
“Deyd,” ebe Elin, “deyd, duwc anwyl, rwan am dani hi medda fi, oes arnat ti
eisio cwrbitsh, dyma i ti bedi celpan ynte,” a chyda’r gair wele fraich gref yr
eneth yn ei osod yn gydwastad a’r llawr. Daeth Huw Huws, a William Williams
tua’r fan, a llwyddwyd i gael Elin, druan, o ganol y dorf y rhai oeddynt erbyn
hyn yn ymladd ac yn ffraeo â’u gilydd heb un rheswm ar y ddaear ond eu bod wedi
yfed i ormodedd.
Gweithiodd y Rhyddfrydwyr yn egniol i gael eu pleidwyr hwy i droi tuag adref
mor fuan ag oedd bosibl wedi rhoddi eu pleidleisiau, ond cafwyd trafferth fawr
i berswadio Elin nad oedd angen iddi hi sefyll wrth ochr Mr. Edwards i roddi
“cwrbitsh” i neb drosto, a digon tebyg na chawsid hi i droi cefn ar y dref,
onibai i Francis Glyn addaw “lift” os deuai gyda (x97)
hwynt, ac y byddai Miss Rhianon yn disgwyl am dani.
“Duwc anwyl, medda fi wrth mam, rhaid i mi neyd fel bydd Miss yn peri, dyna i
chi, ne dai byth yn glws, yn glws fel Miss Olwen.”
Gwelodd John Thomas y Siop goch, a dechreuodd ysgwyd ei phen
Yng ngrym eu trugaredd tuag at y greadures anffodus, cymerodd William Williams
a John Meredydd boen gyda hi er mwyn ei diogelwch; ac nid heb achos canys bu
terfysg mawr yn y dref y noson honno, ymladd hyd at waed cydrhwng y gloddestwyr
a gymerent esgus o ryw fath o firi i gyrchu at eu gilydd i feddwi ac
ymrafaelio. A bu helyntion dirfawr ereill oddeutu’r Plas Dolau, cerbyd Mr
Harris yn torri ei olwynion, ac ysbrydion mewn gwisgoedd gwynion yn gwibio o
gylch y derw mawr yn ymyl y plas. Dywedai Mr. Glyn mai dychmygu gweled
ysbrydion yr oeddynt, ond
PENNOD XIX
Y FUDDUGOLIAETH
Tra y dymchwelid cerbydau, yr ymleddid brwydrau dialw am danynt, ac y cwerylai
dynion oherwydd pynciau a chwestiynau nas deallai y mwyafrif y nesaf peth i
ddim yn eu cylch, eisteddai Robert Gruffydd a’r teulu yn gryno gyda’u gilydd ar
eu haelwyd dawel, heb eto glywed pwy oedd yr aelod seneddol newydd.
Daethai Boba hefyd yno ym mhryder ei hysbryd i ddisgwyl y genadwri, a rhoddodd
Gwen Gruffydd hi yn y gornel gynnes yn ymyl Olwen wrth y tan.
“Mae nhw’n bur hir, gobeithio fod petha’n symol tangnefeddus tua’r dre yna,”
ebe’r hen wraig.
Cododd Gwen Gruffydd, ac ebe hi, “Rhianon, mi awn ni i ben ucha’r cae bach, os
ydi Mr. Edwards wedi ennill mi gawn wel’d tân ar ben Carn Ednyfed; ’roedd y bechgyn yma’n deyd amser bwyd pump fod
yno gario coed lawer iawn, a chasgen o bitsh i ben y Garn gan rai o edmygwyr
Mr. Edwards, a’i weision oeddynt yn credu ei fod ef yn myned i ennill.” Ac aeth
Rhianon a’i mam allan, a chyn iddynt fod nemawr o funudau yn syllu tua’r
bryniau draw, wele fflam yn esgyn i fyny, ac yna goelcerth enfawr yn goleuo’r
byd o’i chwmpas megis pe buasai yr hen Garn ei
“Mae Mr. Edwards wedi ennill, Rhianon, a sut bynnag y bydd hi mae’n dda iawn
fod yr hen sir wedi taflu iau’r caethiwed oddi ar ei gwar,” ebe Gwen Gruffydd,
ei hwyneb yng ngoleuni’r ser yn ymddangos yn deg odiaeth yr olwg arno i’w
merch, ond ni ddywedodd Rhianon ddim, ond gwasgodd law ei mam, a rhedodd y ddwy
tua’r tyˆ i gario’r newydd.
“Mae’r goelcerth yn fflamio ar y Garn, Robert, mae’n rhaid fod Mr. Edwards wedi
ennill y frwydr.”
“Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd,” ebe Robert Gruffydd mewn llais yn crynnu
gan deimlad.
“Amen, mhlant i, amen,” ebe Boba, “mi leiciwn inna ofyn i’r hen fynyddoedd yma,
fel y proffwyd gynt, floeddio a chanu am y waredigaeth fawr hon.”
Ar hyn agorwyd y drws heb un cnoc
“Pwy sy’n cymyd enw fi ofer yn Hafod yma?” ebe llais yn eu hymyl, ac wele Syr
Tudur gyda hwy ei
Cyn i Rhianon allu ateb, cododd Boba, “Pan aeth Moses a meibion
“Nid Mari Waedlyd oedd hi, Boba,” ebe Dyddgu; nis gallai y fechan oddef
camgymeriadau yn ei hoff hanesion, “Mari, gwraig St. Clare, oedd honno, a
brenhines Lloegr oedd y llall.”
“Hwyrach wir, Dyddgu fach, ond dwy chwaer ddigon tebyg i’w gilydd oeddan nhw, a
mae pob un o honyn nhw wedi codi cywilydd i ngwyneb i mod i’n ddynes lawer
gwaith cyn hyn.”
Erbyn i Boba orffen, yr oedd Rhianon wedi estyn y Beibl a’i roddi o flaen
William Williams, a darllenodd yntau salm fechan orfoleddus o foliant i Dduw am
Ei drugaredd, ac wedi hynny penliniodd pawb ac offrymwyd gweddi fer o flaen yr
orsedd, un hanner ohoni yn ddiolch am y fuddugoliaeth, a’r hanner arall yn
erfyniadau taer am gysgod adenydd y Goruchaf yn y dyfodol ansicr ymlaen.
Wedi’r [sic = wedi i’r] addoliad fyned drosodd, cododd Syr Tudur Llwyd, ac ebe
efe, gyda’i wen garuaidd, “Wel fi cofio gweld lot o lecsiwn, ond fi meddwl hwn
dim tebyg i lecsiwns erill chwaith. Fi ’rioed
gweld cyfarfod gweddi ar ol lecsiwn o’r blaen.”
Aeth Rhianon gyda Syr Tudur at y drws. “Diolch i chwi Syr Tudur, fedra i ddim
deyd rhagor heno.”
“Chi deyd dim ond nos dda heno. Miss
Gruffydd, a chi deyd nos dda, fi tebyg iawn cael nos dda iawn.” Edrychodd ar y
wyneb ieuanc a phwys gofalon yn tremio
Rhoddodd Rhianon ei llaw yn llaw Syr Tudur Llwyd, ac ebe hi yn ddistaw, “Mae
arnai ofn dial Mr. Harris, Syr Tudur, er eu mwyn hwy,” gan droi drach ei chefn.
“Mi fedra i ddiodde popeth sydd raid i ni, ond fedr Olwen fach ddal dim, a dydw
i ddim yn rhy siwr all (x99) nhad a mam ddal
colli’u hen gartref os daw pethau i hynny, ond mi gofia i bob amser y galla i
ddod i’r Friog i ddeyd fy nghwyn.”
Llanwodd llygaid Syr Tudur, arferai Rhianon fod mor llon ac iach; ni feddai ei
natur yr un gronyn o’r hyn a elwir y dyddiau hyn yn pessimism. Meddyliai
y goreu am bawb, hyd nes y gorfyddai iddi gredu yn y gwrthwyneb, credai y goreu
yng nghylch y byd a’i bethau, mynnai fod dynolryw yn well ac nid yn waeth na
dychymyg eu cymydogion am danynt. Rhoddai ei hysbryd ieuanc nwyfus fywyd newydd
heb gymylau ynddo i bawb o’i chwmpas, ac yn fwy felly i Syr Tudur nag i neb
arall o’r tu allan i’r Hafod Oleu, felly nid rhyfedd iddo ef deimlo dygasedd i
waelodion ei enaid tuag at y dyn adnabyddid fel Harris y sgriw gan y bobl
ymhell ac yn agos.
“Ond,” ychwanegai Rhianon, “rhaid i mi beidio tristau heno, yn lle
llawenychu, fel y dylem oll. Nos
dda, Syr Tudur; nos dda.”
Safai Rhianon wrth y llidiart arweiniai i’r ffordd fawr am ennyd wedi i Syr
Tudur ei gadael, a chlywai sŵn traed yn dynesu, a rhywun yn sisial siarad.
Adnabu Rhianon lais Elin, ond nid oedd neb gyda hi, er ei bod megis yn ymgomio
yn brysur, ac wedi ei llyncu i fyny gymaint yn ei phwnc fel nas gwelodd fod
“Miss” yn ei hymyl.
“A medda fi wrtho fo, medda fi, ’dydi hi ond
dechra, machgian i. Mi clywa’s i o, a mi wn i fesur o, gwn, siwr, a mi geith o
wybod sut y bydda i’n gneud ’y nghownt. Elin
wirion, ia! Dyma roth o’n enw arna i, a mi wn i be ddeudodd o am Miss a phawb.
A medda fi, Duwc anwyl, medda fi; mi geith o gelpan y cofith o am dani hi, a’i
hen gatals o i gyd ’run fath. A mae rhaid i
mi ofyn i Miss be mae’r Iesu Grist yna yn feddwl o beth fel hyn, a medda mam
wrtha i ’Lle buost ti mor hir?’ a medda fi
wrth mam, medda fi, ’Be gwelsach chi Twrna
Cefn Mawr wedi rhwygo’i gown sidan, a John Evans wedi colli ’i het, a Ned y Saer a Jac y Siop yn myn’d adra o
chwith, a Tattanho a Harris y Sgriw wedi maeddu, a Mr. Edwards yn y goitsh fel
brenin.’ A medda fi wrth mam, ’Be sy matar
arnoch chi, faswn i ddim yn ’u gweld nhw
taswn i yn y ty yna. A dydw i ddim wedi meddwi. ’Does
gin i ’run fôt; ’does
gin y merchad ddim fôt, medda Dyddgu fach y felin, ond mi fyddwn ni i fyny â
nhw i gyd, Dyddgu fach a finna,” a gwnai yr eneth, druan, ryw sŵn rhyfedd,
ac yn ei blaen â hi. Yna trodd yn ol yn sydyn at ddrws cefn Hafod Oleu, ac i
fewn yn syth, nes dyfod o hyd i’r teulu.
“Hwre, Robert Gruffydd, hwre. Dyna
ma pawb yn ddeud yn y dre. A mi sefais i’n driw i Mistar Edwards, a mi welas
Harris y Plas, a dydi o ddim mor spriws ag oedd o yn y bora. Hwre,
hwre!” ac ymaith ag Elin nerth ei thraed tua Thy’nyffordd.
“Wel, Robert Gruffydd, mae’n rhaid i minnau hefyd droi tuag adre acw, ne mi
eith Mary yn anesmwyth iawn os clyw hi fod yna fwstwr o gwmpas y dre; a mae’r
hen wraig ’y mam acw, hefyd, mae hi’n bur
debyg i chi, Miss Gruffydd, yn methu deall yn iawn paham na fedd hi fôt.”
“Ydi hitha’n gall hefyd, William Williams?” gofynnai Dyddgu fechan, ei
llygaid yn gloewi.
Chwarddodd pawb, ac atebodd Gwen Gruffydd: “Ydi, mae hi, Dyddgu; mi (x100) fase’n burion i ni i gyd fod mor ddoeth a
Janet Williams.”
“Hwyrach fod yn eitha iddi hi fod heb yr un fôt.” ebe Robert Gruffydd; “ mae’i
thyddyn hi ar dir Plas Dolau.”
“Robert bach,” ebe Gwen Gruffydd, “os Plas Dolau bia’n tiroedd ni, rhaid i ni
beidio gollwng dros gof yr hen wirionedd mai ‘Eiddo yr Arglwydd y ddaear.’”
“Rhaid, rhaid; mae’r addewidion oll yn ‘Ie’ ac yn ‘Amen’ ynddo Ef. Wel, William
Williams, dyma bennod newydd yn hanes Cymru heddyw; diolch am dani.”
Ysgydwodd pawb ddwylaw â’u gilydd, a sibrydodd Dyddgu yng nghlust Boba, “Fel
yma bydda pobol Ysgotland, pobol y Cyfamod rheiny, a fel yma bydda pobol
Methodistiaid Cymru, yn rhedeg oddiar ffordd hen ddynion cas; ond nhw enillodd,
yntê Boba, a mi ddaru nhw guro am bod nhw’n iawn, yntê? A Cymry’n curo Saeson
heddyw, yntê? A mi fydda inna yn cael fôt, ac yn helpu’n well na gnes i heddiw, ’n bydda i Boba?”
“Na, Dyddgu, fedri di ddim gneud mwy na wnest ti heddyw,” ebe Olwen, yn
serchog; “mi wnaeth Dyddgu ’i goreu heddyw, ’n do, John Meredydd?”
Gwenodd y melinydd.
“O, do, Miss Olwen, mi wnaeth Dyddgu ’i rhan
hi i ryddhau Cymru.”
Aeth Dyddgu at Olwen, a chusanodd hi.
“Brysiwch fendio, Miss Olwea; mae yma lot o waith i ni, a finna mor fach.”
PENNOD
XX
DECHREU
DRYGFYD
Aeth rhai wythnosau heibio yn
lled dawel yn Llangynan, fel mewn llawer Llan arall trwy Gymru, er y bore byth
gofiadwy hwnnw yn 1868, pryd y cododd y bobl yn ddynion rhyddion am y tro
cyntaf yn eu hanes wedi i Edward I. eu bradychu. Bore rhyfedd oedd hwnnw, yr
hen air “Trech gwlad nag Arglwydd” wedi ei wirio i’r llythyren, a chadwynau
Toriaeth a’u dolennau yn gandryll, nad oedd modd eu hasio byth mwy. O Fau
Ceredigion hyd at Glawdd Offa, o lannau Môr y Werydd hyd gwr eithaf Gwyllt
Walia, adseiniai buddugoliaeth fel eco trwy ei chreigiau a’i mynyddoedd. Bore
gogoneddus oedd hwnnw yn hanes Cymru, a erys yn garreg filltir i’w phlant tra
bo Môn a môr o’i deutu.
Bron na neidiai y bobl gan lawenydd fod y maglau oll wedi eu taflu a hwythau yn
dechreu cerdded ymlaen i sylweddoli yr hen freuddwydion. Daeth enw
“Paid a phoeni, William bach, ’does dim
eisieu i mi farw dros fy machgen, mae’r Oen sydd yng nghanol yr Orseddfainc
wedi gneyd hynny i Hun. Dydw i ddim yn myned i ddeyd anwiredd, mae’n ofid i mi
bacio o’r hen gartref yma y bu’m i’n hapus iawn ynddo fo, ond mi fasa’r boen yn
llawer mwy i mi aros yma a chydwybod, y machgen i yn nwrn Mr. Harris. Mi na i’n
burion â’r dioddef yma, ond well i mi beidio meddwl am y llall. A fydd arna i
ddim eisio lle ond am dipyn bach mi fyddaf wrth ochor dy dad, yn fuan, fuan, yn
ol trefn amser, William bach. Paid di a chrio dros dy fam, William; ceisia di
ddiolch iddo Ef ei chyfrif yn deilwng. Nid pawb sydd yn cael y fraint o ddwyn y
groes yn Ei enw Ef.”
A digon tebyg fyddai sylwadau Janet Williams wrth ei chymydogion. Yn ddiau,
meddai yr hen chwaer oedd yn byw mor agos at ei Cheidwad dangnefedd nas gwyddai
goruchwyliwr y Plas Dolau ddim am dano. Y nesaf i’w daro oedd Robert Gruffydd,
Hafod Oleu, ac er nad oedd y teulu yn disgwyl dim yn amgen wedi i fraich
ddidrugaredd Mr. Harris gyrraedd Janet Williams, eto dyrnod drom iddynt oedd.
Olwen dlos, plentyn eu gofal tyner, oedd yn gwneud y ffwrn mor boeth i’w
rhiaint a’i chwaer. Yr oedd yn rhaid dweyd wrthi; ond pa fodd? — dyna y
cwestiwn ofynent y naill i’r llall; eto
“Robert,” ebe Gwen Gruffydd, “yr ydw i am ddal yn dyn trw’r cwbwl at fy adnod,
‘Yr Arglwydd sy’n teyrnasu.’ Pwy wyr beth sydd yn y plan? Gorfu i Abraham adael ’i wlad, a Joseph fynd (x102)
yn was i Pharo. O, Robert, mae’ch cartref chwi wedi bod yn aelwyd anwyl iawn i
mi, ond gadewch i ni ddysgu tewi, a pheidio dweyd dim yn ynfyd os gallwn ni.”
Ceisiodd Robert Gruffydd wenu, ond yr oedd dagrau yn ei lygaid, a swn wylofain
yn ei lais.
“Hi a wregysodd ei llwynau a nerth, ac a gryfha ei breichiau,’ dyna’r adnod
sydd hawsaf i’w chofio i mi heddyw, Gwen, ac mi allaf fynd yn fy mlaen a dweyd
‘Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg,’ on’d allai? Rhianon, mae dy fam yn dangos ei
gwerth i mi o ddifrif. Fy Olwen fach,” ebai, a’i ruddiau yn gwelwi.
“Beth am Olwen?” ebe yr eneth, a deuai i fewn atynt, ei hwyneb yn siriol, a’i
llais yn llon; yna canfu er ei gwaethaf fod rhywbeth o’i le, a gwelwodd ei
grudd. Aeth Rhianon ati, a rhoddodd ei braich am ei chwaer, ac ebe hi:
“Olwen, yn dydi’r enw’n glws, ac mae ei ystyr yn glysach, a mae arna’i eisio
gofyn i’n Holwen fach ni ddangos i nhad a mam y gall hi droi pob llwybr tywyll
yn oleu i’r ddau heddyw.” “Well i ti wybod ar unwaith Olwen, ngeneth i, fod Mr.
Harris wedi rhoi rhybudd i ni fynd o’r Hafod yma,” ebe ei mam yn dawel. Pwysai
Olwen yn drwm ar Rhianon, ond daliodd i wenu ar y rhai anwyl y gwyddai yr eneth
yn dda a ofnent ei thrallod hi yn fwy na’u hing eu hunain. “Bryd rhaid i ni
gychwyn, mam?” “Ddim am dipyn eto, Olwen, os bydd raid mynd, ’does wybod beth fydd cyn pen hanner blwyddyn,
mae ganddo Ef ddrws o ymwared, ngeneth i, ymhob tywydd; ac yn fynych mor agos
i awr y brofedigaeth a phan afaelodd Abraham yn y gyllell i aberthu Isaac,” ebe
ei thad.
“Hanner blwyddyn,”ebe Olwen, “hwyrach bydd hyny’u ddigon i ni drefnu pethau
ynte, nhad.”
Ofnai Rhianon i’w chwaer syrthio; clywai y bysedd meinion yn tynhau am ei llaw,
ac ebe hi, Mi rown ni’r ferlen yn y car gwellt bach, Olwen, a mi awn i ddeyd
wrth Janet Williams bod ninnau’n cael yr un fraint a hitha, ’rwan, ynte,” a thra y siaradai arweiniai yr
eneth allan o’r ystafell, ond nid i hwylio cerbyd na cheffyi, ond wedi myned o
wydd ei rhieni, cododd ei chwaer yn ei breichiau, a chariodd hi i fyny a
rhoddodd hi i orwedd ar ei gwely ei hunan. Ac nid un foment yn rhy fuan, canys
cyn i’w phen euraidd gyffwrdd y gobenydd, yr oedd Olwen yn hollol anymwybodol o
holl ofidiau’r byd. Sychai Rhianon y defnynau chwys oerion oddiar y wyneb oedd
mor welw, a rhedai y dagrau yn afonydd i lawr ei gruddiau ieuanc tra yr
estynnai bob cymorth posibl eu rhoddi i’r chwaer a garai mor fawr. Ni ddaeth
i’w meddwl unwaith alw ar ei mam. Y peth mwyaf naturiol ar y ddaear i Rhianon
oedd taflu ei hun i ganol yr adwy ymhob argyfwng. Sibrydai enw Olwen fel pe yn
ofni na welai eto ei chwaer yn gwenu yn ol arni, a gweddiai weddi ei Harglwydd
gyda holl nerth ei henaid, “Tro heibio y cwpan hwn oddiwrthyf;” ond nid allasai
Rhianon fyned ym mhellach — nid oedd hi wedi cyrraedd i’r sefyllfa y gallai
ddweyd, “Dy ewyllys Di a wneler.”
Ond nid oedd loesion byd helbulus drosodd eto i Olwen dyner. Agorodd ei llygaid
arno unwaith yn rhagor, eithr heb ganfod dim ond wyneb ei chwaer yn gwenu (x103) arni, fel pe buasai Mr. Harris, y Plas
Dolau, heb ei eni, ac heb gysgod un brofedigaeth i’w weled, nac un cwmwl tywyll
yn y ffurfafen iddynt hwy. A gwenodd Olwen yn ol; yna dechreuodd y dagrau
gasglu a cholli dros yr ymylon. Nid ofnai Rhianon y rhai hynny; gwyddai y
rhoddent help i symud y baich oddiar ysbryd ei chwaer, a sychodd hwy yn ddistaw
am rai munudau.
“Rhianon,” ebe’r eneth,” mae’n dda dy fod di yma hefo nhad a mam, wedi i mi
fyn’d i ffwrdd.”
“Ond ei di ddim i ffwrdd, Olwen; mi neith pawb ohonom ni’n burion, Olwen fach,
heb Hafod Oleu, ond i ni ymwroli, a phenderfynu dal y tywydd, ond feder nhad,
na mam, na finna ddim gneud heb Olwen.”
A gwenai Rhianon yn chwareus, er fod ei chalon ar dorri, ac ychwanegai —
“Mi fydd Nisien yma cyn hir ’rwan, ac yn
disgwyl gweled Olwen yn rhedeg i’w gyfarfod.” “Wyt ti yn meddwl y daw Nisien yn
ddigon buan, Non?” gan ddweyd yr enw arferai y bachgen chwareuai gyda hwy gynt
yn yr amser ymddanghosai mor bell yn ol wedi i drallod y presennol ymestyn
megis môr cydrhyngddynt ag oriau mebyd. “ ’Dydi
o ddim diben, Rhianon; well i ti beidio treio meddwl am fy nghadw i yma. Ond mi
fedri di helpu nhad a mam wedi i mi fynd i ffwrdd.” Estynnai ei llaw deneu,
fach, i’w chwaer. “Weli di mor fach ydi hi, Rhianon? Mae hi’n mynd yn llai o
hyd, a mi ŵyr Iesu Grist na waeth mynd â fi adref i’r wlad braf yna, na
fydd neb yn wylo yno. Wyt ti’n cofio clywed Mr. Morgan yn deyd, Non, y bydd y
deigryn olaf yn syrthio i’r Iorddonen, a dim ond canu wedyn? Ond mae arna i
eisieu gweled Nisien eto.”
“Mi gei di weld Nisien, Olwen, ac mi a inna i siarad hefo Syr Tudur Llwyd.
Feallai, pe gwelai ef y meistr tir ei hun drosom, na chai Mr. Harris ddial
arnom fel hyn.”
Siriolai wyneb Olwen, a chodai ar ei heistedd, a phwysai ar ei phenelin.
“Mi fasa’n dda iawn gan ’y nghalon i gael
myn’d i’r nefoedd yn syth o’r hen Hafod yma.”
“Mi ddeydodd fy chwaer wrtha i ryw dro na fydd hi byth yn ameu nad ydi popeth
er y goreu i ni. All fy Olwen i ddim credu heddyw fod mynd o’r Hafod, hefyd, yn
iawn, os bydd raid i ni gychwyn.”
“O’r goreu, Rhianon, mi dreia i; hwyrach y baswn i’n well onibai mod i’n sâl. A ’dydw i ddim yn sâl chwaith, ddim ond wedi blino.
Mi dreia i, Non, beidio brifo nhad a mam, yntê? A mi fydda inna yn iach cyn
hir.”
Diddanai y genethod ieuainc eu gilydd yn y dull yma hyd nes i’w mam ddyfod i
chwilio am danynt, a siriolodd ysbryd Gwen Gruffydd, a dechreuodd feddwl y
gallai fyw yn ddedwydd wedi gadael yr Hafod Oleu, tra y gwenai ei merched arni
trwy’r tywydd i gyd.
Pan glywodd y cymydogion y newydd, daethant yn lluoedd i gydymdeimlo â theulu
yr Hafod Oleu, ond parai eu tawelwch dedwydd syndod nid bychan i bawb a’u
gwelent. Colli cartref fel yr Hafod, fu yn gartref er’s cynifer o flynyddoedd i
hynafiaid Robert Gruffydd! — yr hen annedd gysurus na fu un teulu arall erioed
yn trigo ynddi, ond a adeiladwyd i un o’i hen deidiau yn y gorffennol draw — ac
eto y teulu yn ddistaw yn y fath brofedigaeth!
(x104) Amlhäi y rhybuddion i ymadael i holl denantiaid
y Plas Dolau, eithr nid oedd y ffermwyr yn gallu ffrwyno eu digllonedd fel
Robert Gruffydd. Dywedai gŵr Tŷ Canol fod dal fel Robert Gruffydd yn
hollol anaturiol.
“Gewch chi wel’d mod i yn fy lle hefyd, cyn hir. Synnwn i ddim nad ydi’r teulu
wedi’u taro mor drwm fel na fedran nhw ddim symud. O’m rhan i, mi fasa arna i
lai o ofn am danyn nhw pe tae nhw yn cadw tipyn o fwstwr.”
Dyna ofnai Boba hefyd, er y gwyddai yr hen wreigan yn well nag undyn mor
addfwyn eu hysbrydoedd yr oeddynt yn yr Hafod, oddigerth Rhianon. Ac feallai
mai ymddygiad Rhianon a synnodd Boba fwyaf, a phenderfynodd yr hen wraig geisio
deall y cyfnewidiad rhyfedd yn yr eneth. Llawer gwaith y bu Boba yn ceisio
tawelu ysbryd cythryblus Rhianon, pan fyddai yn anfoddog iawn oherwydd dull y
byd hwn, mewn llawer modd; ond o’r foment y daeth y rhybudd i law ei thad ni fu
Rhianon yn debyg iddi ei
Yn llwydni’r cyflychwyr, ym mhen tua phythefnos wedi’r diwrnod y daeth y
rhybudd i ymadael o’r Hafod, gofynnodd Gwen Gruffydd i Rhianon fyned i edrych
am Boba, gan nad oedd wedi ei gweled trwy’r dydd, ac ofnai y gallai fod yn
dioddef oddiwrth ryw anhwyldeb. Ond pan aeth Rhianon i Ty’n’rardd, ymddanghosai
Boba yn troi o gwmpas ei gwaith fel arfer; ac mewn atebiad i gwestiwn Rhianon,
dywedodd —
“Mi rydw i’n bur debyg, ngeneth i; ’does
fawr wahaniaeth cydrhwng y naill ddiwrnod a’r llall i mi ’rwan, ond ’rwy’n diolch
i’ch mam am ei gofal am dana i, er hynny. Mi ddylaswn wybod basa hi’n anesmwyth
heb i mi fyn’d i roi cownt am dana’ fy hun. Wedi bod yn rhyw ymdroi drwy’r dydd
hefo rhyw byncia go ddyrus a didrefn yr ydw i, ac mi roeddach chi i gyd acw yn ’y meddwl i gimin fel na ddaru mi ddim sylwi na
welodd neb fi, yn wir. ’Roeddwn i yn rhyw
siarad hefo chi i gyd yma trwy’r dydd, ac fel tase chi, bob un, yma yn gwmpeini
i mi; ond er i mi siarad llawer iawn, ches i fawr o drefn o esboniad ar ddim.
Sut mae pawb acw? Ydi Olwen yn dal y tywydd? Mi wyddwn i y byddai’ch traed chi
ar y Graig acw, ond ddaru mi ’rioed feddwl,
chwaith, y gallech orfoleddu mewn gorthrymderau (x105)
cystal, nac ymostwng i’r ewyllys fawr sydd wedi arwain Ei bobl i ddyfroedd mor
ddyfnion, ond diolch am nerth yn ol y dydd.” “Os oes eisieu i mi orfoleddu, neu
ymostwng, Boba, fedra i ddim, dyna i chi. Yr ydw i ymhell iawn oddiwrth bob un
o’r ddau. Grwgnach a gruddfan, a melltithio, am wn i, yw’r pethau fedraf fi
oreu ’rwan. A gwell gen i beidio clywed am
ewyllys fawr os y hi sy’n gyfrifol am roddi rhaff sydd yn nwylo dyn fel Mr.
Harris y Plas,” a disgleiriai llygaid Rhianon gan ddigllonedd, nes yr oeddynt
megis sêr yn y ffurfafen.
“Eto, mae pawb yn deyd fod Miss Gruffydd, yr Hafod, mor siriol ag erioed, a ’does dim golwg grwgnach ar wyneb ’y ngeneth i, llawer llai ôl melldithion.”
“O, Boba,” dolefai Rhianon, yr argae wedi torri er ei gwaethaf, “mae Olwen yn
gwywo bob dydd, a nhad a mam wedi torri eu calon, a’r unig beth fedra i neud
ydi peidio ’u blino nhw.”
“ ’Roeddwn i’n rhyw led feddwl mai dechre
dal yr ymbarelo ’roeddet ti, ngeneth i;
oeddwn, oeddwn; ond fedri di ddim ’i ddal o
mor union, Rhianon, os colli di dy ymddiried yn y Daioni Mawr. Mae troion bywyd
yn chwerwi rhai o honom ni, ac yn caledu y lleill, fynnwn i ddim i run o’r ddau
ddigwydd i ti, ond, yn hytrach, fod i droion yr arfaeth dy dynnu di yn nes at
yr Hwn sydd yn rhoi modd i ni ganu yn y nos.”
“Boba, lle mae y Daioni Mawr y
soniwch chi am dano? Sut y gwyddoch chi fod gofal dros neb o honom ni? Canu
yn y nos! Fedra i byth ganu eto; fedra i neud dim dim, ond treio’u
harbed nhw, a fedra i ddim gneud hynny chwaith.”
Ac wylodd Rhianon yn chwerw iawn, a Boba yn tynnu ei llaw dros y gwallt tywyll,
cyrliog, fel pe yn cysuro plentyn bach.
“ ’Doedd ryfedd yn y byd i Job felltithio
dydd ei enedigaeth, Boba; fedra i ddim rhesymu paham yr anfonir ni i’r byd i’n
poeni a’n gofidio — yn sport i ryw allu nas gwn i beth ydyw, yn wir.”
“Sôn am Job ’rwyt ti, Rhianon? Yna mi ddylet
ti orffen y stori, a chofio am ddiwedd yr hen batriarch. Yr oedd y diwedd i Job
yn well na’r dechreu, ngeneth i; ond anaml iawn y bydd yr un o honom ni yn
cofio hynny, yntê?”
“Y diwedd, Boba; wel, pwy wyr beth fydd y diwedd, ynte?”; “Oes dim gobaith,
Rhianon, wedi i Syr Tudur geisio gwel’d y mistar ’i
hun?”
“‘Does dim posib i Syr Tudur i’w weld o; mae o wedi mynd i ffwrdd i Dde
Ffrainc, ac mi fydd yno am dipyn eto.”
Yna dechreuodd wylo yn ddistaw wedi hynny. Ym mhen ysbaid, cododd ei phen.
“Rhaid i mi ddysgu ymddwyn yn well na hyn; neith hi mo’r tro i mi adael ffrwyn
i’m teimladau.”
“Neith hi mo’r tro i ti i sathru nhw o dan dy draed chwaith, Rhianon. Mae’n fwy
naturiol, ngeneth bach i, i ti grio tipyn weithia; mi fendi lawer, gei di
wei’d; a phaid ti a phoeni yn ceisio deall y drefn fawr. Fedri di ddim: ’does yr un ffordd i ddeall y Tad ond yng ngoleu
y Mab, Rhianon, a cheisia dithau nesu yn agos, agos, at yr Iesu. Mae O wedi
cyffwrdd y gwaelod ’i
“Gobeithio ei fod. Mae nhad wedi ysgrifennu ato i ddweyd ein hanes ni, ac mae
Olwen yn hiraethu am ei weled. Boba bach, oes olion crio ar fy wyneb? Rhaid i
mi ofalu rhag i neb weled hynny beth bynnag.”
“Paid ti a gwlychu gormod dy hun wrth ddal yr ymbarelo uwchben y lleill,
Rhianon. Cofia ddwad yma at dy hen Boba pan eith hi’n galed arnat ti; mi fedra
i gydymdeimlo, er na fedra i neud dim arall.”
Cododd Rhianon i gychwyn adref; ond cyn iddi orffen canu’n iach i Boba dros y
nos, clywodd y ddwy yr oernadau mwyaf torcalonus yn dyfod tua’r bwthyn, megis
ar adenydd y gwynt.
Edrychodd y ddwy ar eu gilydd, ac ebe Rhianon — “Mae’r sŵn i’w glywed yn y
coed, Boba.”
“Ydi, ’does bosib fod y cipars yna wedi dal
pobol yn ’u hen drapia. Dyn a’n helpo, mae
petha wedi newid yn Llangynan.”
Dyna, yn wir, ddwedai pawb y dyddiau hynny. Nid aeth un ardal wledig erioed
trwy gymaint o gyfnewidiadau a Llangynan mewn cyn lleied o amser, a thra y
cerddai Rhianon tua’i chartref — oedd yn fwy anwyl iddi nag erioed pan ystyriai
fod yr oriau yn cyflymu tua’r adeg y byddai raid cefnu arno, sibrydai wrthi ei
hun ddarn o adnod a ddysgasai ryw dro — “A’u tai hwynt a lenwir o ormeswyr, a’r
ellyllon a lamant yno.” Yna safodd cyn rhoddi ei llaw ar y llidiart i’w agor, a
gorffwysodd ei phen ar y post, ac ebe hi:
“O, lle mae Efe y sonia nhad a phawb yma gymaint am dano? Paham y mae yn Dduw
yn ymguddio, os ydyw yn Un sydd yn gofalu am Ei greaduriaid? Gwallt ein pen
wedi ei gyfrif, medda Iesu Grist.”
Gwasgai ei harleisiau cydrhwng ei dwylaw. “ ’Rydw
i bron a mynd i feddwl na wyddon ni ddim, ac i golli golwg ar bopeth yn y niwl
tywyll yma. ‘Hir oedi,’ ebe nhad; ’yn eich
amynedd y meddienwch eich eneidiau,’ ebe mam; ond fedra i ddim gweled y gofal
drosom ni.”
Cyn iddi orffen y frawddeg, wele law ar ei braich, ac Elin, yr eneth wirion, yn
sefyll o’i blaen, ei dwy glocsen wedi eu bachu wrth eu gilydd, ac yn hongian yn
un llaw iddi, a hithau yn droednoeth, goesnoeth, a’i hwyneb wedi ei wlychu â
dagrau mawr.
“Peidiwch a chrio, Miss, ne mi gorffena i nhw, bob un. Mi clywas i chi’n deyd i
fod O’n hir, a mi roeddwn inna wedi blino’n disgwyl
’i wel’d o’n styrio o gwmpas ’i
betha; a medda fi wrth mam, medda fi, ’Mi ro
i help llaw iddo Fo, pwy bynnag ydi O.’ ’Roedd
yna lot o ddynion yn gofyn iddo Fo ddwad yn ofnadwy yn y capel, ond chlywas i
mo sŵn i droed O’n dwad, a medda fi, ’Mi
dyna i nghlocsia,’ medda fi, ‘a rwan am dani hi,’ a mi ro i ddau dro am un yn
droednoeth; a medda fi wrth mam, medda fi, ’Cheith
Miss na neb ddim cam trw wbod i mi.’”
Ceisiodd Rhianon leddfu digllonedd Elin yn erbyn yr Un nad ymddanghosai yn
gwrando gweddiai ei bobl, a holodd hi yng nghylch y bloeddiadau yn y coed, ond
ni allai gael unrhyw eglurhad gan Elin. Yr unig atebiad roddai oedd:
“Os gofynith rhywun i chi, Miss, deydwch nag ydach chi ddim yn gwbod; a medda
mam wrtha i, ’Mae nhw’n siwr o fod yn
llonydd i ti wed’n,’ medda hi; (x107) a
medda fi wrth mam, ‘Mae’n well iddyn nhw, ne mi ro i gelpan iddyn nhw. Well
iddyn nhw beidio nhynnu fi yn ’u penna,’
medda fi.”
Ysgydwai Boba ei phen, ac mewn atebiad i Gwen Gruff ydd dywedodd:
“Wn i ddim, wir, beth sydd yn yr hen fro anwyl yma. Fedra i ddim bod yn siwr
oes ysbrydion yn tramwy o gwmpas yr hen ddaear yma ai peidio; ond dydi o ddim
diben beio pobol am gredu ynyn nhw, wir. Mi wyddoch, Gwen fach, fod y
disgyblion yn tybio mai drychiolaeth oedd Iesu Grist ryw dro, a rywsut ymhob
oes o’r byd mi gewch rai yn credu bod nhw, a rhai yn peidio. Mae yma betha nad
ydw i’n deall monyn nhw; a waeth i mi na neb arall heb, am wn i. Ychydig iawn
o’r drefn sydd yn yr amlwg, ac i ni weld y cwbl fedrwn ni. Mae’r Gair yn deyd
fod yr Arglwydd yn ysgythru ambell i le a dychryn; hwyrach mai dyna sydd yn
myned ymlaen hefo ni. Sut mae’r plant acw?” “Mae Olwen yn bur debyg — rhyw led
orwedd hanner ei hamser ar y clustogau o flaen y ffenestr, nes y bydd yr oerni
yn ei gyrru at y tân.”
Gwelwodd wyneb y fam, a gafaelodd yn llaw deneu yr hen fam arall a gollodd ei
rhai anwyl. Gwasgodd Boba hi yn dyner, ond heb ddweyd gair, ac ebe Gwen
Gruffydd, wedi munud o ddistawrwydd:
“Mae Olwen yn paratoi i’n
gadael ni, Boba, a ninnau yn methu yn lân a gollwng ein gafael ynddi.”
“A Rhianon, beth am dani hi?” gofynnai Boba. “Mae Rhianon ymhob man ar unwaith,
yn helpu pawb, ac yn ceisio cuddio maint ei gofid, a faint mae hi’n ddeall am
wendid Olwen, oddiwrth ei thad a minnau; ond mi fydda i’n gweld rwan ac yn y
man mor drwm ydi’r baich, fel mae hi bron syrthio dano fo. Ac mae Robert i’w
weld yn curio bob dydd, Boba.”
“A chwitha, Gwen Gruffydd?’
“Wel, Boba, rhaid i mi dreio dal i fyny goreu gallaf; mae’r brofedigaeth o
golli cartref wedi myn’d o’r golwg rywsut: ma colli Olwen yn gyrru pob colli
arall i’r cysgod.”
“Ydi, ydi, a does dim, Gwen Gruffydd, dim, ond y gred mai cael tragwyddol — nid
colli — Olwen feder liniaru’r gofid yna. Nid plentyn gaea’ ydi Olwen; un o
flodau’r haf ydi hi, a dyna’r pam mae Efe am fyn’d â hi i’w fynwes ei Hun, rhag
iddi orfod dioddef grym y gwyntoedd croes yn y byd yma. Rydw i ers talwm iawn
wedi d’od i ddeall na fedra hi ddim dal y tymhestloedd, a does dim modd i
hosgoi nhw os byddwn ni yma. Os medrwn ni, Gwen Gruffydd, gadewch i ni fod yn
foddlon i weled Olwen yn myned i’r wlad nad oes un gorthrymydd o’i mewn.”
“Mae hi yn llon iawn, ac yn cael mwy na mwy o gysur hefo geneth fach y felin.
Fase neb yn meddwl, wrth edrych ar y ddwy yn eistedd ac yn siarad, neu Dyddgu
yn darllen, fod y fath beth ag angeu a marwolaeth yn bod. Mae’r ddwy yn ddifyr
iawn, a Rhianon yn gofalu na fydd Olwen ddim yn blino gormod. Ac mai Syr Tudur
Llwyd a Mr. Glyn yn gofalu fod y lle acw yn llawn o flodau. Mae pawb yn
neilltuol o garedig i ni, a mae yma lawer i bobl ereill wedi eu rhybuddio i
fyned o’u cartrefi sy mor galed arnyn nhw ag ydi hi arnom ninnau, (x109) os nad gwaeth, fel na ddylem ni ddim
grwgnach. Mi fydd Janet Williams yn peri i mi deimlo yn aml mor bell ar i hol
hi yr ydw i. Chlywodd neb hi yn ceisio symud y groes oddiar ’i chefn ’i
hun.”
“Ydi, mae Sioned wedi dysgu beth i neud hefo’i chroesau. Mi glywes ryw
bregethwr yn pregethu yr ha’ dweutha am y croesau yma, a fedra i yn y myw
beidio cofio ’i sylwadau o. Dyn call iawn
ydi o, a mi bregethodd fel dyn call, er ’i
fod o dipyn yn ysmala. A mi ddeydodd o nad oedd pobol ddim yn rhyw ddeall yn
iawn beth oedd codi’r groes yn ’i feddwl.”
Cyn i Boba allu myned ymlaen, wele Rhianon yno i i chwilio am ei mam.
“Gorffenwch, Boba,” ebe’r eneth. “Y porthmon moch sydd yn y tŷ; ’does dim brys.”
“ ‘Wel,’ meddai’r pregethwr, ‘mae rhan fwya o bobol yn meddwl mai ystyr y gair
codi’r groes ydi gafael ymhob un ddon nhw o hyd iddi; ie, a chwilio am rai
fyddan nhw ddim yn wel’d yn eglur iawn, ac i fyny a nhw ar y cefn. Beth ddylem
ni wneud?’ gofynnai’r pregethwr. ‘Beth hefyd? Codi’r croesau, bid siwr. O ïe, os’n croesau ni fyddan nhw. I
beth? Wel, nid i neud pac o honyn nhw cyn uched a Thŵr Babel ar gefn dyn.
O, na; ’u taflu nhw dros ’n hysgwydd a ffwrdd â nhw, a bod yn barod i
godi’r nesa.’ Yn wir, mi ddaliodd ’i bregeth
o wrtha i, gwaetha i yn ’y ngên. Mae’n siwr
fod o yn ’i le, a mi fasa’n burion gin i
glywed y gŵr unwaith eto, pwy bynnag ydi o.”
Gwenodd Gwen Gruffydd, y wên dyner, garuaidd, a hoffai Rhianon weled ar wyneb
ei mam, ac ebe hi —
“Mi wn i pwy oedd o, Boba. Pregethwr Sentars ydi o, a Mr. James ydi enw o. Mi
ron innau yn ’i leicio fo hefyd.”
“Wel, cofiwch chi, mhlant i, — rydach chi’ch dwy yn ddigon ifanc i fod yn blant
i mi. — Blodau i gyd dyfith ar y croesau, heb ddim drain ond i ni codi nhw fel
yna. A mi fydd y cwbwl yn ola ryw ddydd, os ydi hi’n dywyll heiddiw. Bydd,
bydd.”
PENNOD XXI
CYRRAEDD ADREF
Digon tebyg oedd hanes pob sir trwy Gymru ar ol Etholiad 1868. Y merthyron yn
amlhau, trahâ a gormes y tirfeddianwyr a’u goruchwylwyr ar eu heithaf, a’r
offeiriaid a’u cyfeillion yn ymysgwyd oddiwrth eu difrawder, ac yn ymroi ati i
weithio, rhag, meddent hwy, i’r un dynged eu goddiweddyd a’r Eglwys a’r
Wladwriaeth yn yr lwerddon. Dechreuodd Cymry Anghydffurnol weithio hefyd.
Ystyrient hwy nad oedd Eglwys Loegr yng Nghymru yn Eglwys y genedl, mwy nag yn
yr Iwerddon, ond yn hytrach fod ei holl ddylanwad yr amseroedd hynny dros
Seisnigeiddio y Cymry, lladd eu hiaith a’u cenedlaetholdeb, a’u cadw o dan iau
orthrymus rhyw
Pwy all fesur gwerth eu haberth? Hen wroniaid a ddioddefasant mor fawr, a
gollasant bopeth. Heddwch i’w llwch. Er gwaethaf trais a chreulondeb, cysgant
yn dawel ym mynwentydd ein gwlad, ond erys eu coffadwriaeth yn fendigedig tra
bo clogwyn yn Eryri. Hwy a lafuriasant, hwy fu’n dioddef pwys y dydd a’r gwres.
Na ato Duw i’w plant fod yn anheilwng i edrych yn eu hwynebau ddydd a ddaw,
canys yn sicr er gwerth mawr y prynwyd rhyddid crefyddol a gwleidyddol Cymru
Sydd. |
I wlad yn dioddef, yn gwaedu dan ei harchollion, y daeth Nisien Wyn yn ol wedi
tramwy dros (x111) dir a mor gyda’i ddisgybl
ieuanc am fisoedd lawer. Cyrhaeddodd llythyr Robert Gruffydd ef yn rywle yn
Neheudir
“My boy, those evils must be remedied, but they must be remedied by Welshmen.
We can sympathize, we can encourage, (x112)
but the work must be your own. The redemption of a nation can only be accomplished
by her own children. And what a glorious work you have before you.”
Pan yn ymgomio yngnghyd fel yna y derbyniodd Nisien Wyn lythyr Robert Gruffydd.
“Gadael yr Hafod; Olwen yn wael.” Eisteddai Nisien fel dyn wedi ei syfrdanu.
Ceisiodd lefaru, ond glynai ei dafod wrth daflod ei enau. Anghofiodd nas gallai
neb ond efe ddarllen llythyr Cymraeg, a phwyntiodd ato. Rhoddodd ei ddwylaw ar
ei wyneb, ac ocheneidiodd fel un ar ddarfod am dano.
Ymhen ychydig daeth i ystyried pethau yn well, a cheisiodd egluro i’w
gyfeillion caredig gynnwys y llythyr o fro ei enedigaeth. Gwaith anodd i Nisien
Wyn oedd son llawer am hen gartref ei febyd heb fradychu ei serch tuag ato a’r
oll o’i gwmpas. Ac er nad oedd ef yn siaradus, nac yn hoffi dweyd ei
gyfrinachau yn ol arfer rhai dynion, yn ogystal a merched, eto buan iawn y
deallodd y pendefig a’i fab fod trallod Nisien yn un mwy na’r cyffredin, ac
wedi holi tipyn arno, penderfynwyd troi tuag adref yn ddiymdroi, gan obeithio y
gallent gyrraedd yno cyn i ragor o ofidiau ymgrynhoi i’w gyfarfod.
Distaw iawn fu y dyn ieuanc ar hyd y fordaith hir. Adnabyddai efe Robert
Gruffydd, Hafod Oleu, yn ddigon da i ddeall fod yno drallod mawr tu cefn i’r
llythyr, er iddo ysgrifennu yn brin am y cyfan. Ceisiai gysur o’r ffaith nad
oedd ei thad wedi dweyd fod Olwen mewn perygl, ac ni fynnai ei enaid yntau
goleddu y syniad. Ceisiai berswadio ei
“A ydyw hi yn dlos fel ei chwaer?” gofynnai ei ddisgybl.
Safodd Nisien yn sydyn, a gwenodd y wen gynhesaf fu ar ei wyneb ar ol derbyn
llythyr ei hen gyfaill.
“Rhianon,” ebe fe, “wel, yn wir, Charlie, fedra i ddim ateb eich cwestiwn chwi,
feddyliais i erioed am y peth, a wn i ar y ddaear sut wyneb fedd hi. Ond na,
nid yw hi fel Olwen. Mae’r ddwy yn anhebyg iawn. Mae’n rhaid nad yw hi yn hyll,
neu buaswn wedi sylwi. Hwyrach y galwech chwi hi yn hardd. Yn sicr,
“Dyna ddisgrifiad nad oes eisieu ei well, Nisien,” ebe tad ei gyfaill ieuanc.
“Ryw ddiwrnod gobeithiaf weled y feinwen yna. Byddai’r byd yma yn tynnu yn nes
at ddyfod i’w le pe ceid ynddo fwy o’i thebyg hi. Methu gollwng ein hunain yn
anghof na gadael i neb arall wneud hynny, chwaith, yw un o’n ffaeleddau ni,
bryfed man y ddaear yma.”
“Fy Arglwydd, nis gwyddwn eich bod yn clywed ein hymgom, lleferais yn union fel
y teimlwn wrth Charlie, rhyw siarad fy meddyliau yn uchel, ond nis gallaf byth
ddweyd yr hanner am y caredigrwydd a gefais yn eu ffordd syml hwy gan y teulu
sydd heddyw yn dioddef creulondeb olynydd fy nhad. Maent yn anwyl iawn i mi, bob un o honynt.”
“Bum i yn meddwl, Nisien, wedi i ni gyrraedd y lan, y gallaf fi wneud
rhywbeth dros eich cyfeillion. Yr wyf yn lled adnabyddus i Squire y Plas Dolau,
ac er nad ydym yn perthyn i’r un blaid boliticaidd, credaf pe gwyddai ef am yr
holl gamwri a wneir yn ei enw, ei fod yn ddigon o fonheddwr i fyrhau gallu ei
oruchwyliwr. Y rhan amlaf, y goruchwylwyr anheilwng yma sydd fwyaf i’w beio,
ond nis gellir mesur y camwedd o ddifrawder a (x114)
bar i ddynion yn meddu tiroedd fod yn ddiofal yng nghylch y bobl sydd yn
dibynnu arnynt hwy am eu cysur.”
“Dyna fel y sieryd Syr Tudur Llwyd, mae ef yn gofalu am bob dyn a dynes sydd yn
byw ar ei diroedd ef, a Rhianon yn ei helpu meddai ef.”
“Ac felly y dylai pob tir feddiannydd o egwyddor wneud.”
Gwrandawai ei fab, a chadwai y geiriau yn ei galon, ei fynwes yn chwyddo gan y
teimlad diolchgar fod ei dad yn ddyn allai anrhydeddu o wirfodd ei ewyllys ei
hun pe heb orchymyn i’r perwyl i’w gael yn unman. Yr oedd yno foneddigion
ereill ar y bwrdd ond tybiai Charlie nad oedd yno un o honynt gyfuwch â’i dad,
canys teithwyr er mwyn pleser a difyrrwch oeddynt hwy, tra y gwyddai y bachgen
fod diben uwchlaw hynny i bob taith i’w dad, ac na fyddai ei ymweliad âg un
wlad heb ddwyn ffrwyth mewn rhyw ddull neu gilydd.
Wedi i’w llestr gyrraedd tua hanner y ffordd, canfyddwyd ei bod yn gollwng dwfr
a bu raid iddynt droi i dueddau Sierra Leone yng Ngorllewinbarth Affrica i
gyweirio y llong cyn iddi ail ddechreu mordwyo, ac er cofio geiriau olaf Olwen,
a gwneud a allai ef i gadw meini eu cyfamod yn wynion, methai Nisien a bod yn
amyneddgar, a gwelai bob munud o’r dyddiau yn awr hir. Pwy na all gydymdeimlo
ag ef? Gwyr y rhan fwyaf o ddynolryw mor hir yw pob ymaros, a gallai y dyddiau
yma ar hyd y rhai
“Ie, dyna fy enw.”
“Dyma gerbyd y Friog, Syr, at eich gwasanaeth.”
“Ond nid i’r Friog yr wyf fi yn myned.”
“Syr, i’r Friog yn ol gyda chwi y cyfarwyddodd fy meistress fi, heb ymdroi,”
atebai’r gwas yn foesgar.
Edrychai Nisien yn syn, ond meddyliai fod rhyw drefniadau wedi eu gwneud gan
rywun er ei fwyn. Ac yr oedd yn rhaid pasio’r Hafod Oleu i fyned i’r Friog;
felly er mwyn prynnu yr amser, aeth i mewn i’r cerbyd, ceisiwyd ei baciau ac
ymaith a hwy.
Gan fod Hafod Oleu ar ben rhiw pur serth arafodd y gyrrwr y cerbyd, disgynnodd
Nisien Wyn ohono a cherddodd yn ei flaen ar garlam tua’r Hafod. Ond yr oedd y
lawnt o flaen y tŷ fel pe buasai bwystfilod gwylltion wedi bod yno yn codi
pob blodeuyn o’i le, ac yn sathru’r glaswellt fel ffordd. Ceisiai y bachgen
anadlu tra y gofynnai iddo ei
“O fy Nuw, yr wyf yn rhy hwyr, pa le mae Olwen, oes yma neb?” dolefai. Ond dyma
law ar ei fraich a throdd a gwelodd Boba yn ei ymyl.
“O, Boba, lle mae Olwen, ydyw hi ’n fyw? Lle mae pawb?”
“Ydyw mae Olwen yn fyw machgen i, er bod hi’n bur wan. Mi ofnas i y
mynnech chi droi i’r llon gartref yma, a mi ddeydais wrth Lady Llwyd y byddwn i
o gwmpas. Mae Olwen a phawb yn y Friog, Mr. Nisien.”
“Lady Llwyd, pwy ydi hi? Fyddai yno ’run
Lady.”
“Rhianon Gruffydd oedd ein henw ni ar Lady Llwyd, Mr. Nisien, a does neb yn
deall petha am wn i. Ond peidiwch chi a’i brifo hi.” “
“Rhianon, Lady Llwyd!” ebe fe, yna edrychodd ar yr hen wraig, “Rhoi
Cododd yr hen wraig ei ffedog at ei llygad, a neidiodd Nisien Wyn i gerbyd Lady
Llwyd.
PENNOD XXII
GLYN CYSGOD ANGEU
I ddeall y cyfnewidiadau yn hen fro dawel Llangynan, a drodd amaethdy prydferth
Hafod Oleu yn anghyfanedd, a’i diroedd mor ddidrefn ag anialwch i olwg Nisien
Wyn, rhaid arwain y darllenydd yn ol am rai wythnosau — wythnosau llawn o ofid
i’r hen drigolion fuont mor ddedwydd, er eu holl lafur caled, cyn hyn. Ar bob
tu ni chlywid ond yr un hanes: hwylio i gychwyn o’u cartrefi; rhai o’r ffermwyr
yn dechreu rhoddi eu heiddo oll ar werth, ereill yn ceisio chwilio am leoedd i
gludo eu dodrefn a’u da iddynt. Y gyntaf i weled ei stoc yn myned dan forthwyl
yr arwerthwr oedd Janet Williams, mam William Williams y Pregethwr; ac er y
gwyddai pawb yn eithaf mor fawr oedd y brofedigaeth i’r hen wraig o golli ei
haelwyd ei hun, arhosodd yn yr arwerthiant hyd y diwedd, ac wedi i’r cwbl
fyned, a’r dodrefn na fynnai ei mab eu gwerthu gael eu cludo i’w breswylfod ef
yn y pentref, clodd yr hen chwaer ardderchog y drws â’i llaw ei hun, a’i gwên
ar ei hwyneb, a rhoddodd yr agoriad i’w mab.
“Dyna fo, machgen i; dos di â hwnna i’r Plas Dolau. Methu gweddio, ‘O Dad,
maddeu iddynt’ yn iawn mae dy hen fam, eto, mi ddaw o dipyn i beth; ond mi rydw
i wedi medru deyd ‘Dy ewyllys Di a wneler’ er’s amser bellach.”
Rhoddodd William Williams help ei fraich i’w fam, ac felly yr arweiniodd hi
oddiwrth ddrws ei chartref hyd at ei dŷ ei hun, a llawer o’r trigolion yn
eu dilyn, am eu bod rywfodd yn methu peidio, a chyn cyrraedd y pentref
dechreuodd rhywun ganu yr hen bennill adnabyddus —
...Ni phery ddim yn hir
......Y ddu dymhestlog nos;
...Ni threfnwyd oesoedd maith
......I neb i gario’r groes:
...Mae’r hyfryd wawr sy’n codi draw
...Yn dweyd fod bore braf gerllaw.
A chanu a wnaeth pawb, er fod eu dagrau yn llifo i lawr ei gruddiau. Wedi dyfod
at Siop y Pregethwr, trodd Janet Williams ei hwyneb at ei hen gyfeillion, ac (x116) ebe hi wrthynt â llais crynedig, er fod ei
hwyneb yn siriol: “Mae’r ffwrn yn boeth, ffryndia bach; ydi, mae hi. Mae’r
treial yn ych aros chitha, fy hen gymydogion, lawer o honoch chi. Ond mae O
yma, ydi mae O; a gwyr rhyddion, ffrindia bach, sy’n rhodio yng nghanol y tân
eto, fel yn amser Nebuchodonosor. Ie, yn rhodio, cofiwch chi — nid ar ’u hyd ar lawr; ac mi fydd yna rywun yn siwr o
fod hefo’r gwŷr rhyddion eto. ‘A dull y pedwerydd sydd debyg i Fab y dyn.’
Fel yna, ynte William bach, mae pethau’n bod. Prynhawn da i chi bob un, a
diolch yn fawr i chi. Fedra i neyd dim ond gweddio drosoch chi i gyd. Na
fedra.”
“Dim ond gweddio ddeydsoch chi, Sioned William,” ebe Huw Huws y Gof, o rywle
yng nghanol y fintai. Fedar neb neyd mwy na hynny. Glywsoch chi ddim be
ddeydodd yr hen fardd hwnnw, coffa da am dano. ’Dydw
i ddim yn cofio’r pennill i gyd, ond dyma i chwi ddigon o ddarn o hono:
...Fe grynna uffern fawr,
......Pan wêl y sant eiddilaf
...Yn plygu glin i lawr.
Hen foi go anodd i neyd iddo fo grynnu ydi Satan; ac os ydi gweddi’n medru
gneud hynny, ’rydw i’n rhyw led gredu nad
oes dim gallu mwy ar y ddaear yma.”
“Ie, Huw bach; ie, ’dwyt ti ddim ymhell o
honi hi,” ebe’r hen wraig. “Wel, fyddwch chi a’ch achos ddim ar ol. Mi rho’i
chi yng ngofal y Gŵr yfodd y cwpan chwerw ’i
Ac aeth Janet Williams — neu Sioned William, fel y galwai’r hen frodorion hi —
i’r tŷ. A chwareu teg i Mary Williams, cafodd amser i adael y siop a’r
cwsmeriaid i fyned i groesawu ei mam-yng- nghyfraith, ac estyn y gadair
esmwythaf iddi yn y gornel yn ymyl y tan. Eisteddodd y fam a’i mab yno yn
ddistaw law yn llaw, eu calonnau yn rhy lawn o ing i siarad. Ym mhen ennyd,
cododd yr hen wraig ei llygaid, ac ebe hi —
“Mi allasai fod yn llawer gwaeth William bach. Mae yna rai fydd raid iddynt
ddioddef mwy dyn a’u helpo. A mae’n dipyn o beth fod cartre machgen i yn medru
agor y drws yn llydan i dy fam. Mi derbyniodd Mary fi yn ots, yn wir.”
“Mam bach, braint fawr i Mary a minna ydi meddu cartref i’ch derbyn chi iddo.
Diolch iddo am y fraint.”
“Sut mae petha yn yr Hafod Oleu, William?”
“Dim hanes lle yn unman eto, medda Robert Gruffydd. Mae’n edrych yn debyg y rhaid
gwerthu’r anifeiliaid i gyd. Wrth gwrs, mae’r teisi gwair a’r tyrra tatws, a
phopeth fel yna, i fyn’d yr wythnos nesaf.”
“A John Thomas, y Siop Goch, sydd
wedi cael y cymeriad?”
“Felly mae pobl yn dweyd o gwmpas. Mae hi’n dipyn o job, mam, peidio gofyn hen gwestiwn Habacuc — “Paham yr edrychi ar
yr anffyddloniaid, ac y tewi, i pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei
hun?”
“Ydi, William bach, ydi; ond y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd, ynte? Mae
geneth ieuanc yr Hafod Oleu yn wael iawn, hefyd.”
“ O, ydi, mae Olwen Gruffydd yn suddo yn bur gyflym, i bob golwg ddynol, ond yn
edrych yn brydferthach a mwy anwyl nag erioed, pe hynny yn bosibl. Druain o
honynt!
Pan ddaeth y newydd am yr orymdaith a hebryngodd Janet Williams o’i hen gartref
i dŷ (x117) ei mab yn sŵn cân a
moliant i glustiau Mrs. Harris, y Plas Dolau, meddiannwyd hi gan ofnau lu.
Estynnodd ei Beibl, a darllenodd y gorchymyn pendant y bu i Dduw ei roddi i
Moses ar ben y mynydd tanllyd, a chrynnai Mrs. Harris tra yn darllen geiriau y
gyfraith — “Na chystuddiwch un weddw, nac amddifaid.” Os oedd y weddw yn
wrthrych gofal arbennig y Duwdod, fel y bu iddo ddysgu, ei bobl pa fodd i
ymddwyn tuag ati, beth, ebe Mrs. Harris, fyddai y canlyniadau i’r rhai a
estynasant eu dwylaw i’w hysbeilio a’i chystuddio, a dechreuodd y foneddiges
ymofidio yn ei hysbryd am yr holl gamwri a wnelai ei phriod yn feunyddiol, a
sibrydwyd yn yr ardal iddi ddylanwadu cymaint ar Mr. Harris, fel y gadawyd John
Meredydd, y melinydd, heb ei rybuddio i ymadael. Ysgydwai John Meredydd ei ben,
a dywedai fod yn debycach ganddo ef fod Mr. Harris yn deall mai dyn pur anodd
dod o hyd iddo oedd melinydd da, yn deall y gwaith o falu haidd a gwenith, a’u
peillio wrth fodd y ffermwyr, yn gystal a silio’r ceirch heb adael yr eisin ar
ol yn y blawd, a gofalu fod yr holl lwch wedi ei droi o’r neilltu. Gwyddai John
Meredydd trwy brofiad beth oedd methu dyfod o hyd i felinydd at waith gwlad. Bu
lawer gwaith yn chwilio am help ar amseroedd prysur iawn, ac arferai ddweyd fod
chwilio am felinydd y peth tebycaf i chwilio am nodwydd ddur mewn tâs o wair. A
pha faint bynnag oedd a wnelai cydwybod Mrs. Harris a pherswadio ei gŵr i
beidio ymyryd â John Meredydd, diau fod y melinydd yn ei le fod a wnelai cadw
melinydd da ar y stâd gryn lawer yn fwy â’r pwnc.
Ar hyd y dyddiau trallodus hyn, cerddai Elin Ty’nffordd yn ol ac ymlaen, yn
ddistawach lawer nag yr arferai hi ymddwyn. Weithiau, byddai ar ei chodiad yn
yr Hafod Oleu, yn holi rhai o’r gweinidogion, “Sut mae Miss heddyw — Miss
glws?” Ac wedi cael ateb ei chwestiwn, ymaith â hi tuag adref. Wedi hynny,
byddai yn nhŷ Boba, yn holi yr hen wraig oedd “dyn y Siop yn mynd i fyw
i’r Hafod Oleu, ne i ble roedd pawb yn mynd.” Unwaith cyfarfyddodd Francis Glyn
yn myned i Hafod Oleu gyda phwysi o flodau, a safodd yn syn o’i flaen; yna
rhoddodd ei llaw ar ei hwyneb, a gofynnodd ddo, “ ’B’le
mae nefoedd?’ medda fi wrth mam, ‘ ’dwn i
ddim ’ble mae fan honno; a ’dydw i ddim yn myn’d
’run fath a Miss glws.” A thorrodd i wylo yn hidl.
Ceisiodd y bonheddwr ieuanc ei diddanu ond wylai Elin fel un na fynnai ei
chysuro, am fod rhywun wedi dweyd wrthi fod pawb yn myned o Hafod Oleu. “A
fedra i ddim byw heb Miss; y hi fydd yn ’y
nysgu i i fynd fel Miss glws.”
Trodd fel pe am fyned i’w ffordd; ond ymhen ychydig eiliadau, wele hi eilwaith
wrth ei ochr.
“ ’Rydach chi’n leicio Miss a phawb, a mae
Mr. Harris y Plas yn frwnt iawn wrthyn nhw. Newch chi helpu ni i dalu iddo fo?
Mae Dyddgu am helpu; mi neith hi lot, a mi geith o gelpan gin inna. ’Rydan
ni o ochor Miss; ydach chi?”
“O ydwyf, Elin, ’rydw inna o ochor Miss,”
atebai’r dyn ieuanc — ei galon yn ei eiriau.
“Ydi Miss yn gwbod bod chi o’i hochor hi, a chitha yn byw yn y Plas?
Ddaru chi ddeyd wrthi hi?”
“ ’Rwy’n meddwl y bod hi, (x118) Elin; ond na, ddwedais i ddim wrthi,
chwaith. Ac ’rwyf fi yn cychwyn i ffwrdd o’r
Plas prynhawn heddyw.”
“Duwc anwyl, syr. I b’le ’rydach chi’n
mynd?”
“Rhaid i mi fyn’d i ffwrdd, Elin, i weithio.”
“Y chi’n gweithio,” a chwarddodd Elin yn watwarus. “Be fedrwch chi neyd. ’Does dim golwg gweithio arnoch chi; a Duwc
anwyl, medda fi wrth mam, medda fi, rêl gŵr bynheddig ydi o.”
“Wel, ffarwel, Elin; mi ddof fi yn ol cyn hir iawn i edrych sut y bydd pawb
yma, a mi gofiaf am bresent i chwithau am fod yn eneth dda, ac yn gofalu am
Miss?”
“Lle mae Iesu Grist, Syr? Fedra i ddim dwad o hyd iddo Fo. Waeth i mi ble i
browla am dano Fo, mae O fel tasa Fo’n chwara mic ymguddiad hefo mi.” Ni feddai
Francis Glyn ddigon o oleuni yn ei enaid ei hun i allu rhoddi fawr o gymorth i
Elin i ddod o hyd i’r Gwaredwr a dybiai allasai wneud meistr ar Mr. Harris y
Plas, a chynghorodd hi i ofyn am dano i Syr Tudur Llwyd.
Cychwynnodd Elin tuag adref, ac aeth Francis Glyn yn ei flaen at Hafod Oleu;
ond cyn iddo fyned yn brin ganllath o’r ffordd, clywai lais Elin unwaith yn
rhagor. “Well i chi ddeyd wrth Miss bod chi o’i hochor hi cyn i chi fyn’d i
ffwrdd. Be tase hi’n mynd i’r nefoedd i ddanfon Miss glws. Newch chi ddeyd
wrthi hi ’rwan bod chi o’i hochor hi?
Cofiwch chi.”
Ac aeth y dyn ieuanc i’w ffordd yn sŵn y gair “Cofiwch” o enau Elin. A phe
gwybuasai Francis Glyn faint y gofid y bu raid iddo ef ei ddioddef am nad
ufuddhaodd i’r “Cofiwch” hwnnw, diau y buasai Rhianon Gruffydd wedi deall ei
fod ef “o ochor Miss.”
Ond wedi cyrraedd yr Hafod Oleu, yn ei fyw
“Ffarwel, Mr. Glyn, farwel. Mi fuoch yn garedig iawn i mi, ac y mae’n dda gan
bawb yma am danoch chi; dydi bod chi’n nai i Mr. Harris yn gneud un gwahaniaeth
yma. Dwn i ddim paham rydw i’n teimlo awydd i ddeyd wrthoch chi wrth ymadael
fel hyn, ond mi fydd yn dda iawn gan ’y
nghalon i ddeall bod chi wedi cael y goleu, Mr. Glyn.” Grynnai gwefusau Francis
Glyn, tra y dywedai.
“Gweddiwch drosof, Robert Gruffydd, mae’r niwl yn bur dew o’m cwmpas, ac mae’r
ffaith fod yr hyn alwch chwi yn Ragluniaeth yn goddef fy ewythr i drin pobl
dda, oeddynt yn ddedwydd nes y daeth ef yma, yn gwneud fy nhywyllwch yn fwy.
Fedraf fi ddim peidio ofni fod yna ryw gam-esbonio yn rhywle, ond ymbalfalu yr
wyf finnau hefyd, ac waeth i mi beidio ceisio deall, am wn i,” ac edrychodd tua
drws yr ystafell y daeth o honi.
“Ydi, Mr. Glyn, ydi, mae ein (x119) Holwen
dios ni, sydd mor anwyl i’n henaid, yn prysur hwylio tua’i chartref nefol,” ebe
Robert Gruffydd, gan dybied mai yr olygfa oeddynt newydd ymado â hi y meddyliai
Francis Glyn am dani. “Fedraf finnau, chwaith, ddim tewi fel y dymunwn i o dan
y ddyrnod yma. Mi fyddaf yn meddwl pe cawswn Gwen a’r genethod hefo mi na
fuasai troi cefn ar fy hen gartref fawr o beth; ond Efe sydd wrth y llyw, ac ni
wiw i ni rwgnach os yw Efe am fyned â fy mhlentyn i’w fynwes ei Hun, lle y bydd
cystudd a galar wedi ffoi oddiwrthi am byth. Ac Efe ŵyr oreu, pe y gallem
ni gredu, Mr. Glyn.
......O fryniau Caersalem ceir gweled
...........Holl daith yr anialwch i gyd.
A mi fydda i’n rhyw led feddwl, pan welwn ni’r daith i gyd, Mr. Glyn, y byddwn
ni yn ei gweled hi y
......Ffordd unionaf, er mor arw,
...........I’r ddinas gyfaneddol yw.
Gobeithio y cawn ni eich gweled yn yr Hafod Oleu yma unwaith eto, Mr. Glyn; ond
os na chawn ni yma, mae yna Hafod Oleu arall nas gall neb ddiffodd ei goleuni
hi yn dragywydd. ‘Ei goleuni hi yw yr Oen,’ ac mi wnewch y’ch goreu, oni wnewch
chwi, i rodio’r ffordd y mae ei phen draw hi wrth y pyrth o berlau. Byr, ysgafn
gystudd, wedi’r cwbl, ydyw hi yma, ond yno y tragwyddol bwys gogoniant. Ie,
ie.”
“Rydw i’n gobeithio bod yn ol cyn amser eich ymadael chwi, Mr. Gruffydd, os nad
ellir osgoi hynny. Mae’r caredigrwydd dderbyniais i yma wedi bod yn fawr iawn.
Cefais olwg newydd ar fyd yma, ac mae’m ffydd mewn dynolryw gryn lawer yn
amgenach na phan agorwyd y drws yma i mi y tro cyntaf. Gobeithio, erbyn y deuaf
yn ol, y byddaf yn fwy teilwng o’r ffafr ddymunaf ofyn i chwi.”
“Wel, os bydd rhywbeth ar fy llaw i wneud i chwi, gellwch fod yn sicr y bydd i
mi geisio, os gallaf, fod o ryw gymhorth i chwi, er nad wn i ddim sut heddyw.
Ond pe na chaem byth gyfarfod eto, peidiwch anghofio, machgen i, mae’r goleuni
yn bod p’run bynnag welwn ni o neu beidio.”
Ysgydwodd y ddau law yn garedig, ac felly yr ymadawsant.
“Mae’r brofedigaeth yn bur lem o’r ddeutu iddo,” ebe Francis Glyn wrtho ei hun,
“ond galwodd fi ‘machgen i’ am y tro cyntaf, Beth yw meddwl fy ewythr yn poeni
dynion fel hyn? Os ydyw pechod yn sicr o gospedigaeth, mor ofnadwy fydd
taledigaeth gweithredoedd fel hyn.”
Trodd ei wyneb tua’r felin i ganu’n iach â Dyddgu fechan; ond cyn dyfod o hyd
i’r plentyn, cyfarfyddodd ei thad, ac yn ol arfer pobl o siarad yng nghylch yr
hyn fydd nesaf at eu calon, dechreuodd Francis Glyn draethu ei gondemniad o’r
trallod dialw-am-dano oedd yn yr Hafod Oleu.
“Yn wir, Mr. Glyn, rydw i bron yn methu dal i edrych ar neb yno. Mae Robert
Gruffydd fel pe wedi torri ei galon, ac yn paratoi i ymadael â’r hen babell
bridd yma gynta meder o. Roedd William Williams yn dweyd y bore yma fod yno ryw
deimlad ymhob gair mae Robert Gruffydd yn siarad. Fuo mi ’rioed yn ’y mywyd yn y
fath le ag yn y seiat neithiwr. ’Roedd pob
un o honom ni’n crio fel plant yno, ond Robert Gruffydd
’i hun, ac mi roeddwn i’n cael rhyw olwg
“Beth am Miss Gruffydd, John Meredydd? Ydych chwi’n meddyl bod hi’n dal y
tywydd drwg yma?”
“Mi ddeil hi tra rhaid iddi hi, Mr. Glyn. Mae Miss Gruffydd wedi ’i gneud o well stwff na’r rhan fwya o honon ni.”
“Ydych chwi ddim yn meddwl fod Miss Gruffydd yn teimlo’r trallod gymaint?”
“Teimlo? Chewch chwi na finna ddim gwybod faint. Ond mi wn i sut un ydi hi er
pan oedd hi’n eneth fach. Teimlo? Na, fydd Rhianon Gruffydd ddim yn gwaeddi a
chrio; ond pe gwelech chi a finna’r galon fawr fedd yr eneth yna, mi gwelem
hi’n gwaedu, Mr. Glyn, ond chymer hi ddim amser i edrych ar ei briw ’i hun. Mae’i hunan-anghof hi yn rhy berffaith. Druan o honi! Ac ’roedd pawb yma mor ddedwydd cyn i Mr. Harris
ddwad yma. Dyma Dyddgu wedi clywed swn ych llais chi. Mi fydd yma alar mawr
wedi i chi gychwyn, yn siwr ddigon. Peidiwch a bod yn hir heb roi tro o’n
cwinpas ni; ’does yma neb yn yr hen ardal
yma na fyddai’n dda iawn ganddynt pe b’ai modd gwneud y cyfnewidiad y canodd
Elin Ty’ny-ffordd am dano i ni o flaen y lecsiwn. Rhaid i mi fyn’d tua’r felin
yna, rhag ofn i’r hopran fyn’d yn wag. Duw yn rhwydd i chi ar ych taith.”
Erbyn hyn, yr oedd llaw Dyddgu yn llaw ei chyfaill, a hithau yn siarad cymaint
fel nas gallai ef gael un gair i mewn; ond o’r diwedd gallodd roddi ar ddeall
iddi ei fod yn myned ymaith at ei waith. A synnai Dyddgu eto ei fod ef yn son
am weithio; ond er ceisio eu cuddio, rhedai y dagrau mawr ar hyd gruddiau y
fechan.
“Peidiwch a bod yn hir iawn, Mr. Glyn. Mae mam yn deyd bod ni yng nghanol yr
amserodd enbyd yr oedd yr Apostol Paul yn son am danyn nhw wrth Timotheus — ’rydw i wedi dysgu Timotheus i gyd, bob gair — a
mi fasa’n dda iawn gin i i chi beidio bod ymhell. Mae pawb yn son am ddrycin
ond y chi, Mr. Glyn, a mae pawb yn crio lot fawr, a fydda i ddim yn leicio
crio. A mae pobol yn deyd mai Mr. Harris, y Plas, sy’n gneud dryga. Piti na
fasa fo’n myn’d i ffwrdd yn ych lle chi, yntâ?”
“Dyddgu fach, mi leiciwn inna aros yma hefyd, er fod pawb yn crio; a dyma fy
enw i a’r lle rydw i’n myn’d iddo fo, ac mae arna i eisieu un llythyr bob
wythnos gan fy ffrynd fach yma, i ddweyd hanes pawb a phopeth wrthyf fi fydd
ymhell. Newch chwi gofio, Dyddgu?”
“Cofio? G’na. Fyddai ddim yn peidio cofio dim byd; mi ddeyda i bob dim —
bopeth.”
“A sut y bydd Boba, a Syr Tudur Llwyd, a phawb yn Hafod Oleu, ynte, Dyddgu?”
“O, ie, a Bel a phawb, a llew, a Ted — y cwbwl i gyd.”
“Ac mi fydd Dyddgu yn mynd i Hafod Oleu bob dydd?”
“Bydda, i helpu Miss Rhianon i dendio ar Miss Olwen. Mae Miss Olwen yn sâl — yn
sâl iawn, — a mae hi’n mynd i’r nefoedd; a mi ddeyda i wrthoch chi pan fydd (x121) hi’n cychwyn. Mi fydd hi yno o flaen pawb,
medda Huw Huws wrth Boba. A wydda Boba ddim pwy eutha gynta, medda hi. Ond mi
gewch chi wybod?”
Cusanodd Francis Glyn ruddiau yr eneth fechan, ac ymaith ag ef i gychwyn ar ei
daith. Ond bychan feddyliodd ef na neb arall yn y plwyf pwy fyddai’r cyntaf i
fyned i’r nefoedd oddiyno, neu digon prin yr ymadawsai Francis Glyn y diwrnod
hwnnw.
Yn fore drannoeth, gyda’r wawr cychwynnodd Robert Gruffydd, hefyd ar gefn ei
geffyl dros y mynydd. Clywsai fod yno fferm led helaeth wedi myned yn wag
oherwydd marwolaeth y penteulu, ryw ugain milltir o Langynan, a’r meistr tir yn
fonheddwr llai Toriaidd ei syniadau na’r mwyafrif, a phenderfynodd Robert
Gruffydd wneud cais am dani. Cafodd daith gysurus iawn tuag yno, ac ni siomwyd
ef yn y meistr tir chwaith. Bu ymgom led faith cydrhyngddynt, a chytunwyd yng
nghylch y pris, a’r amser i gymeryd meddiant, a threfnwyd fod y cytundeb
cyfreithiol i’w baratoi a’i anfon i Robert Gruffydd ar fyrder. Ac wedi gorffen
y drafodaeth, trodd Robert Gruffydd ei wyneb yn ol tuag adref, ei galon lawer
yn esmwythach na phan yn dechreu ei daith. Wedi cyrraedd i’r ucheldir ar ben y
mynydd, disgynnodd oddiar ei geffyl ac offrymodd weddi ddiolchgar i’w Dad Nefol
am Iddo baratoi man i gartrefu ynddo iddynt unwaith eto, gweddi o foliant am y
gofal y teimlai Robert Gruffydd a’i canlynai bob modfedd o daith yr anialwch er
gwaethaf grym y gelynion. Ond pan encyd o ffordd oddiwrth yr Hafod Oleu
dechreuodd y nef uwch ben dduo, a’r cymylau dywallt gwlaw mawr ar y ddaear.
Gwlychodd Robert Gruffydd at ei groen. Pan ddaeth at ddrws ei gartref, yr oedd
yn crynnu gan oerfel. Buan y daeth Gwen Gruffydd a’i ddillad sychion iddo at y
tân yn y gegin, ac ebe hi, “Mi gauwn y drysau yma, Robert, mi ofala i na ddaw
yma neb i fewn. Mae’n well i chwi newid o flaen y tân cynnes yma o lawer,
Robert bach, yn wir mae’r cryndod yma yn boenus iawn.”
”Mi fyddai’n burion, ngeneth i, wedi i mi gael gwared o’r dillad gwlybion yma;
un digon symol ydw i i ddal gwlychu erioed rywsut.”
Tynnodd Gwen Gruffydd yr esgidiau a’r hosanau ei hunan, yna rhwbiodd ei draed
a’i goesau gyda thywel sychion, wedi hynny tra bu efe yn gorffen ymwisgo, aeth
i dwymo llefrith iddo, ac ymhen tua hanner awr wedi iddo fwyta ac eistedd yn
ochr y tân i ddweyd hanes ei daith wrthynt, ymddanghosai Robert Gruffyddyn
union fel arfer; siaradai yn llawen fel yn y dyddiau cyn y trallodion, a
cheisiai bortreadu mor hapus fyddent yn eu cartref newydd.
“Sut drefn fydd ar y capel yma nhad hebddoch chwi?” gofynnai Olwen, dan wenu yn
chwareus.
“Mi fydd yma eitha trefn, Olwen fach, welest ti ’rioed
fel y llenwir y lleoedd gweigion, ngeneth i, a mae nhw wedi dysgu cerdded i
hunain yno i gyd, ac yn bur sad ar ’u traed
hefyd chwareu teg iddyn nhw. Mae’n pobol ni wedi dal y treial fel gwroniaid, yn
well nag y bu i mi erioed feddwl y gwnaent. Ond ‘Efe a rydd nerth a chadernid
i’w bobl,’ a phan ddaw’r cyfyngder, Efe eto yw yr Arglwydd a barthodd y mor pan
ruodd ei donnau. Dyna’r hanes, Olwen fach, ‘y nefoedd yn darfod fel mwg, y ddaear
yn heneiddio fel (x122) dilledyn, ei
phreswylwyr yn meirw ond Fy iachawdwriaeth I a fydd byth, a’m cyfiawnder ni
dderfydd.’ Ac felly ngeneth i, lle bynnag byddwn ni, mi fydd yr Arglwydd yng
nghanol Seion. Heddyw wrth groesi’r mynydd yna ’roedd
yr adnod honno ar fy meddwl i o hyd. ’Wele ar gledr fy nwylaw y’th argreffais;
dy furiau sydd ger Fy mron bob amser,’ ac roeddwn i’n teimlo yn euog iawn o’i
flaen Ef, deulu bach, oherwydd yr holl boen meddwl a’r gofid yng nghylch troi
o’r hen gartref yma. Mi ddylaswn i fod wedi ymddiried mwy yn y cof tragwyddol
am danaf.”
“Pa ddisgyblion eto, Robert, fu yn yr hen fyd yma na orfu i’w Harglwydd roddi
yr un esgus drostynt? Yr ysbryd yn ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan; ac
mae gofid oherwydd fod yn rhaid gadael yr hen gartref yn deimlad mor naturiol
fel na fyn’swn i er dim ych gweld chi hebddo, Robert bach.”
“Cas gwr na charo’r wlad a’i maco, ynte mam,” ebe Rhianon, “dyna egwyddor
ddifai i undyn, fel y dywedsai Boba, nhad.” “Ie debyg cin i, Rhianon. Wel,
dowch, gadewch i ni gael dyledswydd, i ni fyn’d i’n cadw, rydw i’n teimlo wedi
hario tipyn er fy ngwaetha.”
Estynnodd Rhianon y Beibl mawr, a galwodd ar y gweinidogion i fewn, ac agorodd
ei thad y cloriau. Wedi troi arni i ddalen darllenodd y drydedd Salm ar hugain,
ac wedi hynny y bedwaredd bennod ar ddeg yn Efengyl Ioan, a chauodd y Beibl.
“Beth fyddai i ni ganu pennill mhlant i rwan hefo’n gilydd. Rydan ni i gyd yn
cofio i’r Gwaredwr a’r disgyblion ganu emyn y noson olaf honno yn yr ardd. Mi
ganwn ninnau am unwaith eto.”
.....Melusach tŷ fy Nhad
..........Ar ol y storom gref;
......
..........Mae’n hawddach gado tref;
......O! hyfryd wel’d fydd yn y man
..........Pob bryn a ddringais i i’r lan.
Wedi canu’r pennill drosodd a dyblu’r ddwy linell olaf, gwenodd Robert Gruffydd
arnynt oll, ac ebe ef, “Fuo yma erioed well canu na heno, deulu bach. Mae llais
Olwen yn gliriach nag y clywais i o er’s talwm. Ond beth fydd y canu draw os ydi hi fel yma hefo ni. Ond ran hynny
mae pawb yn hoffi’r wlad fry a’r glanio draw ynddi hi. Ofn y glyn sydd arnom ni
i gyd, ynte? Ond raid i ni ddim, deulu bach, na raid, na raid. Ie, dim niwed yn
y glyn i’r un o’r plant, ac yna mynediad helaeth i mewn i’r llawer o drigfanau,
ynte? Gweddiwn.”
A’r fath weddi oedd honno! Ymhen blynyddoedd meithion cofiai pob un a adawyd am
dani. Nid rhyfedd i Olwen egwan afael yn dynnach yn llaw ei mam, a gofyn yn
ddistaw iddi edrych ar wyneb ei thad. Crynnai Rhianon gan deimlad, ac wylai y
gweinidogion bron yn ddieithriad. Ymddanghosai eu meistr fel Jacob yn
benderfynol o ddal ei afael hyd nes cael y fendith. Offrymwyd gweddiau taerion
lawer iawn oddiar yr aelwyd yn Hafod Oleu, ond dyma’r weddi nad a byth yn
anghof. Cododd Robert Gruffydd oddiar ei liniau, ei wedd wedi newid.
“Wn i ddim be’ sy’ ar mistar,” ebe’r hwsmon wrth ei gydweision; “mae’r olwg
(x123) “Mae Misa Olwen a mistar yn misio
cuddio fod nhw wedi torri ’u calon,” ebe
Sion, “a mi leiciwn i ddwad ar draws Harris, y Plas, yna yn y twllwch ar i ben
i hun. Ond ’does dim dichon cael y sgerbwd
allan wedi iddi hi ddechra twllu; mae arno fo ormod o ofn ysbryd Mr. Wyn sy’n
troi o gwmpas y Plas.”
“Na, Sion bach, mae Mr. Wyn yn ddigon tawel, dydi o’n aflonyddu dim ar neb,
cydwybod euog Mr. Harris sydd yn creu bwganod o’i gwmpas o ymhobman.”
Ar hyn wele’r drws cefn yn cilagor, ac Elin Ty’nffordd yn pigo ei phen i fewn.
“Sut mae Miss Olwen heno, Sion? Ydi hi’n well;“ a sychai yr eneth y dagrau mawr
a rodent i lawr ei gruddiau, ac ysgydwai ei chorff yn ol ac ymlaen. “Fuo Iesu
Grist hwnnw yma, Sion? Mae arna i eisio i weld’ O. Dwn i ddim lle
mae O, a mae arna i eisio Iddo Fo beidio ymdroi, achos
’does dim amsar. Dydw i ddim yn gwybod beth mae O’n ddeyd chwaith, Miss
sy’n gwybod.”
Clywodd Rhianon lais Elin, a daeth yno, a gofynnodd iddi:
“Sut ’rwyt ti heb fod yn dy wely, Elin?”
“O, Miss, peidiwch a dwrdio, a medda fi wrth mam, medda fi, Mi a i ofyn sut ma
Miss Glws, a medda fi, Welas i byth mo Iesu Grist yma, a medda mam, ‘Weli di
mono fo chwaith;’ ond mi ’rydw i’n gwel’d
Harris y Plas, Miss, bob dydd.”
Tynnodd ei llaw o dan ei shawl a
thusw o “hen wr“ ac ychydig o ddail bom ynddi.
“Newch chi roi rhein i Miss Glws, mae hogia da arnyn nhw.”
“Well i ti ddod i fewn a’u rhoi nhw i Olwen dy hun, Elin, cyn iddi fynd i’w
gwely.”
Camai Elin cyn ddistawed a llygoden ar ol Rhianon, ac aeth ymlaen at Olwen, a
rhoddodd y blodau ar ei glin. Gwenodd Olwen arni, a diolchodd iddi yn dyner.
Safodd Robert Gruffydd am foment ar garreg yr aelwyd, a gwenodd yntau hefyd ar
Elin, ac ebe efe yn ei ddull caredig wrthi:
“Da, ngeneth i, mae’n dda iawn gennyf fi a phawb yma dy weld ti yn eneth dda, Elin.”
“Welsoch chi Iesu Grist, Rhobat Gruffydd? Ddoethoch chi hyd-ddo Fo? A medda fi
wrth mam, Duwc anwyl, medda fi, wn i ddim b’le i chwilio am dano Fo chwaith.”
“Elin bach, mae Iesu Grist o’n cwmpas ni yn gofalu am danom ni bob dydd,
ymhobman, ac mae O’n clywed y gair hyll yna wyt ti yn ddeyd o hyd. Weli di hwn,
Elin? Dyma i ti chwe’ cheiniog a thwll yno fo i gadw yn bres poced. Treia di gofio peidio deyd geiriau hyll. Mae
Iesu Grist yn clywed y cwbwl i gyd.”
Edrychodd Elin ar Robert Gruffydd yn syn, a gwasgai y chwe’cheiniog yn ei llaw,
ac ebe hi,:
“Be sy matar arnoch chi, Rhobat Gruffydd? Ydach chi yn i weld O?. ’Dydw i ddim.”
“Mae nhad wedi blino, Elin, ac am hwylio i’w wely; well i titha fynd, hefyd,”
ebe Rhianon.
“Noswaith dda i ti, Elin; cofia fod yn eneth dda bob amser;” a chyn i neb gael
ei wynt ato, diflannodd Elin mor ddistaw ag y daeth i fewn.
“Wel, mhlant i, tangnefedd i chi’ch dwy dros y nos. Tangnefedd! Rhodd arbennig
yr Arglwydd Iesu, ynte? Tangnefedd!”
aeth Gwen Gruffydd atynt, a llefrith cynnes a llwyaid o fel (x124) ynddo mewn cwpan yn un llaw, a photel a
dwfr poeth yn y llall.
“ ’Rwan, Robert, gore po gyntaf i chwi
gynhesu yn eich gwely.”
Ond er yr holl ofal drosto er pan ddaeth adref yn ei ddillad gwlybion, ymhell cyn
iddi dorri’r wawr drannoeth, ceid teulu Hafod Oleu i gyd ar eu traed, a golwg
dychrynedig arnynt, ac un o’r gweision yn gyrru nerth carnau ei farch i chwilio
am y meddyg at erchwyn gwely y meistr a hoffent oll gymaint; ac yntau yn hollol
anymwybodol o’r oll o’i gwmpas, y meddwl clir a’r synwyr cryf yn aberth i wres
ei glefyd, a’i ddyrys’wch yn boenus i deimladau ei ’wraig
a’i ferch. Olwen yn unig, oedd eto heb ddeall fod “tywyllwch y glyn“ yn gordoi
pob cornel o’r Hafod Oleu.
PENNOD
XXIII
CYSGOD ANGEU YN FOREDDYDD
Am lawn tridiau, bu Robert Gruffydd yn ymladd â’i glefyd, neb ddeall dim
oedd yn myned ymlaen o’i gwmpas, a mawr fu’r drafferth i’w gadw yn ei wely. Yn
ei ddyryswch, gwaeddai am ei ddillad. Ar brydiau, tybiai ei wraig ei fod yn
meddwl ei fod yn garcharor gan Mr. Harris, yn y Plas Dolau; dro arall, erfyniai
arni hi adael iddo gael ei ddillad, er mwyn iddo roddi tro oddeutu’r fferm a’r
anifeiliaid; ac er ei galar, gwelai Gwen Gruffydd ef yn teimlo dillad y gwely,
a’u trin yn ol dull y cleifion pan yn dechreu rhydio’r afon. Nid oedd mwyach le
i obeithio yn ei mynwes hi — dim ond gweddio yn ei hing am nerth i weini
“ ’Dydw i fawr o iws, Rhianon, ond mi fedra
gadw cwmpeini i Olwen, a cheisio gwneud y mân betha iddi hi rhynga i a Dyddgu,
yn lle tynnu y morwynion yma oddiwrth’u gwaith, i Gwen Gruffydd a chitha gael
chware teg hefo’ch tad.”
Wylai Olwen yn barhaus, ei wylo distaw gwanaidd hi, a deallai yr hen wraig y
math hwnnw o alar. Y wen dangnefeddus ar wyneb Gwen Gruffydd, a’i thawelwch
pwyllog yn nyfnder y dyfroedd ystormus, a ofnai Boba, a chanlynai ei llygaid
symudiadau Rhianon yn ol ac ymlaen.
“Rhianon,” ebe hi un bore, pan ofalai y ferch ieuanc am yr oll i mewn ac allan
yng ngwaith y dydd. “Rhianon, sut mae ’y
ngeneth ’i hun ?”
“Y fi,Boba, y fi? Wn i ddim;
fedra i ddim ’u brifo nhw. Mi ddeudodd nhad
rhyw dro ’stalwm, pan oeddwn i’n eneth fach,
hwyrach byddwn i’n gorfod gofalu am mam, ac Olwen, pan fydde fo’n methu. Rydw
i’n treio; wn i ddim arall, Boba.”
Ocheneidiodd yr hen wraig yn ei chalon; gwelai ei bod ym mhresenoldeb galar rhy
ddwfn i ddagrau, ac aeth hithau yn fud o’i flaen.
Fore’r pedwerydd dydd, agorodd Robert Gruffydd ei lygaid, ac adnabyddodd
Rhianon. Gafaelodd yn ei llaw, pan estynnodd hi y gwpan a’r physig iddo, ac ebe
fe wrthi:
“Rhianon, rydw i’n gorfod ych gadael chi, ngeneth i, a
’does yma fawr o drefn, fel baswn i’n ddymuno; ond mae adnod dy fam yn
para ‘Yr Arglwydd sydd ym teyrnasu.’“
Ceisiodd gael ei wynt, ond yn ofer am rai eiliadau. Yna aeth ym mlaen —
“Rydw i’n gadael dy fam ac Olwen yn dy ofal di, Rhianon, ac mi gei help. Fy
nghysur i yn y fan yma, pan raid i mi ych gadael chi yn y tywydd mawr, ydyw ei
addewid Ef - ‘Gad dy amddifaid, Myfi a’u cadwaf hwynt yn fyw; ac ymddirieded dy
weddwon ynof Fi.’ Mi gei di help y Gŵr bia’r fraich Hollalluog, Rhianon.
Fydd Olwen fawr iawn ar fy ol i, a fydd hi ddim yn hir cyn y dowch chitha’ch
dwy, ac wedyn mi fyddwn yn deulu cyfan yn y wlad nad oes marwolaeth o’i mewn.”
Bu distawrwydd cydrhyngddynt am ychydig, a Rhianon yn gafael yn y llaw fu yn ei
harwain hyd yn hyn; yna ebe ei thad:
“Well i ti alw ar dy fam; mae hi a finna wedi bod yn hapus iawn, a mi leiciwn i
gael tipyn o hamdden i ganu ffarwel â hi cyn cychwyn. A mi fydda’n eitha gen i
wel’d Syr Tudur Llwyd am funud neu ddau; mi fydd o’n dipyn o gefn i chi. Mi
ŵyr o’n well sut i fod na neb arall.”
Cusanodd Rhianon dalcen ei thad yn dyner, ac ymaith â hi.
“Mam, mae nhad fel fo’i hun, ac yn gofyn am danoch chi,” ebe hi wrth Gwen
Gruffydd. “Mi fedra i neud y cwbwl
fan yma.”
Wedi hynny, anfonodd genadwri i’r Friog, a daeth Syr Tudur Llwyd i lawr ar
unwaith. Nis gallai Syr Tudur lefaru yr un gair; yr oedd yr ing enaid yn wyneb
ieuanc llon Rhianon yn ormod iddo i’w ddal, a digon cymysglyd oedd ei adgofion
am y bore hwnnw, ar wahan i’r ymdrafodaeth fu cydrhyngddo a Robert Gruffydd.
Pan yn troi o’r ystafell, bu ym mron a syrthio;
Aeth Boba gydag ef at lidiart yr ardd, ond cerddent yn ddistaw ochr yn
ochr. Trodd Syr Tudur ati:
“Boba, fi meddwl drws nefoedd agor i neb gwell erioed ond Iesu Grist, pan fo
myned yno. Ond fi gofalu cystal fi medru am pawb. Fi gneud llw i Duw, Boba; nhw
yn gofol fi tra fi byw.”
Ac ysgydwodd law a’r hen wraig “I selio ei lw, am wn i,” ebe Boba wedi hynny.
Yn yr ystafell, pan ymadawodd Syr Tudur Llwyd, gorweddai Robert Gruffydd yn
dawel ar y gobenydd, a gwen siriol ar ei wyneb.
“Mae popeth yn iawn, Gwen, ngeneth i — y cwbwl yn ’i
gneud hi’n hawdd i mi gychwyn. Dyma fi yn cael cadw noswyl yn yr hen Hafod
Oleu, yn lle rhoi mhen i lawr mewn tŷ dieithr, yntê? A choeliech chi ddim
mor dda ydyw hynny i mi. Feddyliaia i ddim mod i’n teimlo’r mynd i ffwrdd mor
fawr nes i mi ddeall nad oedd raid i mi symud i un man nes cael fy hun, gobeithio,
yn y tŷ nid o waith llaw. A dyma Syr Tudur Llwyd yn addo gofalu am danoch
chi bob un, a’r addewid fawr hefo mi — ’Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon
yw Duw yn Ei breswylfa sanctaidd.’ Mae popeth yn iawn,” sibrydai; “yr awyr yn
glir i fyny, a’r cwbwl mewn trefn i lawr, a brenin y dychryniadau yn llaw yr
Iesu. Neith o ddim niwed i mi, Gwen fach. Dyna hi, ynte: nid ofnaf niwed. Gwen,
newch chi’ch tair geisio peidio galaru gormod?”
Rhoddodd ei wraig garuaidd ei phen ar y gobennydd, ac ebe hi: (x128)
”O, Robert bach! rydw i’n methu gollwng ’y
ngafael, a ’fydda i ddim yn hir heb ych
dilyn chi — ac Olwen.”
“Ie, ac Olwen; mi fydd Olwen yno yn fuan, Gwen. Ond Rhianon, fy ngeneth, fy
nghyntaf-anedig, ar ei hysgwyddau hi y bydd y baich. Ond bydd bendith ei Thad
Nefol yn eiddo iddi, ac ewyllys da Preswylydd y Berth. Rhianon, Rhianon! ’Rydw i’n teimlo yr adnod honno, Gwen — ’Ni wel
Efe anwiredd yn Jacob, ac ni wel drawster yn
Daeth y ddwy yno — Olwen wedi ei hamgylchu gan fraich ei chwaer, ac yn pwyso yn
drwm arni. Trodd y tad ei olygon tuag atynt; ac er fod ei lygaid yn pylu yn
nhywyllwch y glyn, gwelodd y dagrau mawr yn rhedeg ar hyd gruddiau Olwen, a’r
tristwch dwfn yn wyneb Rhianon, er ei bod yn ymdrechu gwenu
“Byddi, Olwen fach, byddi — yn canu yr hen anthem, fydd yn newydd am
dragwyddoldeb, ’Teilwng yw’r Oen,’ ynte, mhlant i? Ond digon prin mae’r hen fyd
yma wedi haeddu ei alw yn ‘gystudd mawr:’ i ni, yntê, deulu bach? Mi fuo ni mor
hapus yma hefo’n gilydd; ’dwn i ar y ddaear
lle bu’r diodde.”
Teimlai Rhianon fod yn bosibl crynhoi dioddefaint oes faith i un awr
weithiau, ond
“‘Erbyn y bore,’ Efe, ‘a dry gysgod angeu yn foreuddydd,’ yntê? Peidiwch a dal
dig at Mr. Harris, mhlant i. Allsa fo neud dim i ni heb gennad y Meistr Mawr. A
mi fydd yn help i fy Olwen fach i wybod fod ’i
thad yn disgwyl am dani hi yr ochr draw.” Estynnodd ei law, a rhoddodd hi ar
ben euraidd ei ferch ieuengaf. “‘Anwylyd yr Arglwydd a drig mewn diogelwch
gydag Ef,’ Olwen fach. Ac mi fydd Rhianon yn gofalu am danoch chi, Gwen.”
Sychodd ei wraig y chwys oer oddiar ei dalcen, ac amneidiodd ar Rhianon i fyned
ag Olwen, allan o’r ystafell. Agorodd eu tad ei lygaid, a murmurai, “Prynhawn
da, mhlant i, erbyn y bore, ynte?’ Syrthiodd i gysgu wedi hynny, a bu yn ei
gwsg tawel am yn agos i hanner awr.
Gorweddai Olwen ar ei chlustogau yn ymyl y tân, Boba yn gweini arni, a Dyddgu
fechan yn estyn popeth i law Boba; a Rhianon yn trefnu y cyfan yn barod, fel na
cheid dim o le pan ddeuai yr alwad. Wedi hynny, aeth i fyny yn ddistaw at ei
thad a’i mam, ac eisteddodd ar stôl fechan mewn cornel neilltuedig o’u gwydd,
a’i llaw o dan ei phen. Ymhen ychydig, clywai lais ei thad yn dweyd mewn
geiriau eglur:
“‘Dy noddfa yw Duw tragwyddoldeb.’ Mi rydw i’n rhoi pob un o honoch chi i’w
ofal Ef, Gwen: yn ych ymddiried chi i honour
yr Hwn a’ch lluniodd — y Graig sydd uwch na mi, yntê, Gwen?”
“Ie, Robert, ie,” meddai Gwen Gruffydd yn floesg, ei geiriau yn crynnu.
Daeth Rhianon ymlaen, a gwelodd ei thad hi, ac ebe fe—
“Fedri di ganu pennill imi un waith eto, ngeneth i? Mi leiciwn i glywed dy lais
di yn canu i lawr yma. Mi ganasom ni
lawer, yn do?”
Grynhodd Rhianon ei nerth, ac ebe hi — ”Medraf, nhad bach; p’run fynnwch
chwi glywed?”
“‘Gorffenwyd’ Dafydd Jones yntê, ngeneth i?”
A dechreuodd Rhianon ganu, ei llais clir yn treiddio i bob congl yn nistawrwydd
Hafod Oleu. Faint oedd ei dioddefaint, pwy all fesur? Ond
...Pan hoeliwyd Iesu ar y pren,
.....Yr haul uwchben dywyllwyd;
...Ond wele, yn y t’wllwch mawr,
.....Daeth gwawr o’r gair ‘Gorffenwyd!’
...Pan y dechreuodd Crist dristau,
.....Telynau’r nef ostegwyd;
...Ond dyblodd cân y drydedd nef,
.....Pan lefodd Ef, ‘Gorffenwyd!’
...Troes cysgod angeu’n fore ddydd,
.....Ei stormydd a ostegwyd,
...Wrth gofio yn yr oriau blin
.....Am rin y gair ‘Gorffenwyd!’“
Ac yn sŵn y gair “Gorffenwyd!” ehedodd ysbryd cywir Robert Gruffydd,
Hafod Oleu, at y Gwaredwr a garodd yn ei fywyd pur, dilychwin. Bu farw, fel y
bu fyw, yn dawel a digyffro, yn ol yr Ysgrythyr: “Ni frysia’r hwn a gredo.”
Deallodd Rhianon ei bod yn eneth amddifad; ond arbed ei mam oedd y peth mwyaf
naturiol iddi hi, a thynnodd y llaw orffwysai yn nwylaw ei thad, a rhoddodd ei
breichiau am dani.
“Mam — mam bach — dowch hefo mi; mae nhad yn dechreu canu ‘cân Moses a chân yr
Oen.’”
Edrychodd ei mam arni hi, ac yna ar y corff hawddgar ar y gwely. Ceisiodd
ddweyd rhywbeth, ond methodd, a gwelodd Rhianon fod ei mam mewn llewyg yn ei
breichiau. Eto, ni fynnai hi waeddi am gymorth, rhag peri braw i’w chwaer. Ond
yr oedd help yn ymyl. Deuai William Williams i fyny’r grisiau, wedi aros am
foment yn y gwaelod i geisio rheoli ei deimladau, ac yn rhyfeddu at y nerth
rhyfedd alluogai Rhianon ieuanc i ganu y pennill wnai “gysgod angeu’n
foreuddydd” mewn gwirionedd i’w thad. Hyd nes dyfod i’r ystafell,
Trodd Rhianon at y gwely, a chauodd lygaid ei thad, a chusanodd ef lawer gwaith,
gan sibrwd: “ ’Rydw i’n cofio, nhad; cheith
mam ac Olwen ddim cam.”
Penliniodd wrth ymyl y marw, a gweddiodd Weddi yr Arglwydd. Yna aeth i lawr i
ofalu am Olwen a’i mam. Deallai Rhianon fod y nerth goruwchnaturiol a
gynhaliodd Gwen Gruffydd am bedwar diwrnod, heb gysgu munud na bwyta ond
ychydig iawn, wedi ymadael a hi y foment (x128)
yr aeth ei phriod o gyrraedd yr angen am iddi weinyddu iddo mwy, ac ofnai
Rhianon y canlyniadau, heb ystyried ei bod hi ei hunan yn yr un perygl.
PENNOD XXIV
GWEDDI DYDDGU
Diwrnod tywyll, du, ym mhlwyf Llangynan oedd y dydd y rhoddwyd yr hyn oedd
farwol o Robert Gruffydd, Hafod Oleu, i orwedd ym meddrod y teulu hyd y bore
mawr pan agorir y llyfrau, ac na fedd marwolaeth awdurdod mwyach. Efe oedd
merthyr cyntaf etholiad ’68, a phan daenwyd
y newydd pruddaidd drwy yr ardaloedd meddiannwyd y trigolion gan ofn a dychryn;
siaradent a’u gilydd mewn sibrydion, fel pe yn methu sylweddoli y braw disymwth
a ddaethai i’w mysg. Croesai aml un ohonynt dros gae cyfan allan o’r ffordd, a
neidiai ereill dros gloddiau a ffrydiau dyfroedd, rhag cyfarfod â “Harris y
Sgriw,” fel y galwent Mr. Harris, Plas Dolau. Ni fu i un gwahanglwyfus erioed
gael ei osgoi fwy gan y bobl a drigent o’i ddeutu na’r bonheddwr a gasheid
ganddynt oll yn ardal Llangynan fel achos eu holl brofedigaethau. Distaw iawn
oeddynt yn yr Hafod Oleu. Deuai y cymydogion o bob gradd tuag yno i ddangos eu
cydymdeimlad â’r teulu bychan adfydus a hoffid gymaint gan yr oll o honynt; ac
aent oddiyno yn fuan iawn i dywallt dagrau yn lli gyda’u gilydd, tra yn siarad
am yr olygfa na welwyd ei thebyg yn eu plith cyn hynny.
“Mae rhywbeth yn ’y nhagu i yno,” meddai’r
gof yn yr efail wrth y meibion a gyrchent yno gyda’r nos.
“Mae Boba yn eistedd un ochor i’r tân, a Gwen Gruffydd yr ochr arall, a’r eneth
anwyl yna ar ’i chlustoga,’ a’i llaw yn llaw ’i mam, a’r un o’r fair yn dweyd fawr ddim ar hyd
y dydd; a Miss Gruffydd yn mynd a dwad fel pe na bai bosibl iddi fod am foment
yn llonydd. O’r anwyl; dydw i ddim yn rhyw ots o deimladwy, fechgyn bach, ond
mae o’n fwy na fedra i neyd beidio crio wrth ’i
gweld hi,” ac wylai Huw Huws er ei waethaf. “Ac wedyn pan gofia i nad oes yna
ond tŷ o glai i’r addfwyn a’r hynaws Robert Gruffydd — dyn oedd mor
werthfawr yn ei ardal — rydw i’n colli’n lân arnaf fy hun, dyna i chwi. Ond mi
fyddaf yn ceisio cofio beth fuasai o ’i hun
yn ddweyd wrtha i, ond rhyw adnod felly sy’n glynu fwya yn y meddwl i drw’r
cwbl — ’Mi bia dial; mi a dalaf, medd yr Arglwydd.’”
Digon tebyg oedd yr hanes glywid gan bawb — yr ardal megis wedi ei gordoi â
thywyllwch, y bobl wedi gollwng yn anghof eu gofidiau eu hunain yn wyneb y
gofid a’r ing yn yr Hafod Oleu. A phan ddaeth y bore i dalu y gymwynas olaf i
Robert Gruffydd, ymgasglodd tyrfa oedd yng nghyd o bob cwr, yn feibion a merched
pob un o honynt a feddent ryw fath o ddillad duon wedi ymwisgo, ynddynt nes
rhoddi i’r orymdaith fawr, a gyrhaeddai lawn filltir o hyd, ryw olwg fwy
pruddaidd nag a welir yn aml hyd yn oed mewn cynhebrwng.
“Fi gweld lot o pobol yn bywyd fi, William Williams, ond fi erioed gweld dim
yn hollti calon fi tebyg i hyn,” ebe Syr Tudur Llwyd yn ddistaw.
“Ing na fedd iaith, galar nas gall dywallt dagrau, yw hwn; gwareder ni rhagddo,
Syr Tudur,” atebai y pregethwr a’i lais yn crynnu.
Ond wele Mr. Prys yn dechreu y gwasanaeth claddu, ei lais yntau hefyd yn crynnu
gan deimlad, a chafodd gweddillion Robert Gruffydd deyrnged o barch nas telir
yn aml i goffadwriaeth y marw, sef darlleniad y gwasanaeth ardderchog fel y
dylid ei ddarllen: nid rhedeg drosto mewn llais undonog, anaturiol, yn ol arfer
y mwyafrif, eithr rhoddi i bob gair ac adnod eu cenadwri oddiuchod fel balm ar
ddoluriau enaid y byw. Mae’n haws esgusodi dideimladrwydd yng nghyflawniad pob
rhan o wasanaeth y cysegr y gorfydd i ni wrando arnynt nag yng nghladdedigaeth
ein hanwyliaid, a deallai Mr. Prys hynny yndda. Bu gwasanaeth claddu Robert
Gruffydd yn foddion gras i aml un digon anstyriol y diwrnod hwnnw. A phan
ddaeth y munudau olaf wrth y bedd, gwelid llond mynwent o bobl yn cydalaru â’r
ferch ieuanc a benliniai i gymeryd yr olwg olaf ar arch ei thad.
“Fy nhad, fy nhad, ’rwy’n cofio yr addewid,
nhad.”
Wrth ei hymyl yr adeg honno safai Elin Ty’nffordd, ei wylofain uchel yn torri
ar y tawelwch; ond symudodd John Meredydd hi ymaith yn dyner, er y mynnai Elin
ddweyd wrth Robert Gruffydd y byddai hi “yn eneth dda, am iddo chwilio am Iesu
Grist yn y nefoedd a’i yrru O i’w helpu hi i dalu iddyn nhw gynta medra Fo.”
Trodd Rhianon ei phen, a chododd oddiar ei gliniau, a rhoddodd ei llaw i William
Williams, ac arweiniodd y pregethwr hi at y cerbyd o’r tu allan i’r mur. Yn
hwnnw eisteddai ei fam; a phan gymerodd Rhianon ei lle yn ei hymyl, rhoddodd yr
hen wraig ei braich am dani, gan ddywedyd —
...O, angeu, pa le mae dy
golyn?
.........O, uffern, ti gollaist y dydd.
“Ngeneth fach i, mae’ch tad heddyw yn mwynhau yr etifeddiaeth aniflanedig sydd
yng nghadw i bawb o’r plant.”
Eithr
(x130) “Mae Sian wedi hwylio te yn y gegin.
Dowch i fyny, Miss Rhianon.” Ac arweiniodd y plentyn hi i’w hystafell ei hun, a
helpodd hi i dynnu ei het. “Os gwnewch chi orwedd ar y gwely yma, mi ddo i â
thê i chi, Miss Rhianon.”
“Na, na, rhaid i mi fynd i ofalu am mam ac Olwen.”
“Well i chi beidio myn’d am dipyn bach,” a chyda chyfrwystra rhyfedd plentyn
ychwanegai — ”Mae’ch wyneb chi’n rhy wyn, Miss Rhianon; mi ’ddylian bod chi’n sâl. Mi ä i i nol tê i chi.”
“Dyddgu, mae arna i eisieu gweddio am nerth i ofalu am y ddwy; ac rydw i’n
methu, yn methu, Dyddgu; fedra i gofio yr un gair.”
Aeth Dyddgu ar ei gliniau, ac meddai hi yn symlrwydd ei chalon—
“Ein Tad yr Hwn wyt yn y nefoedd, ’rwyt Ti
wedi myned â thad Miss Rhianon atat Ti i’r nefoedd, a
’does yma neb yn gwybod beth ’na nhw.
Mae gin Ti lot o dad yn y nefoedd: nei Di roi un o honyn nhw i gymyd gofol o
bawb yma? Mi rydw i rhy fach, ne mi neuthwn i; ond mi rwyt Ti yn medru gneud
popeth. Mi gododd Iesu Grist lot o bobol wedi marw yn
’u hol yn fyw, a mi ddaru Fo grio Ei Hun hefo Mair a Martha; a nei Di
neud i rywun roi help i Miss Rhianon, achos mai merch ifanc ydi hi, a mae lot o
ddynion yn rhwystro dynes i neud dim yn y byd yma? Fedra nhw ddim dy rwystro Di
— neb yn unlle, na Satan na neb; a mi ddeyda i fy adnod rwan, cyn y seiat nos
yfory. Dyma hi — adnod fydda tad Miss Rhianon yn ddeyd cyn i Ti fyn’d â fo i
ffwrdd — ’Canys y mynyddoedd a giliant, a’r bryniau a symudant; eithr Fy
nhrugaredd ni chilia oddiwrthyt, a chyfamod Fy hedd ni syfl, medd yr Arglwydd
sydd yn trugarhau wrthynt.’ Os deydaist Ti honna, Arglwydd, mi rydw inna’n gofyn
i Ti gofio am Miss Rhianon. Dydi hi ddim yn hen — ddim ond cyn hyned ddwywaith
a mi, a deg ydw i. Mae yma lot fawr o bobol yn y byd yma, a mae gwaith edrych
ar ’u hol nhw i gyd; a mae mam yn deyd mai
Dy blant Di ydi pawb, a mae tad a mam yn edrych ar ol plant. A nei Di gofio am
Miss Rhianon? Mae hi’n torri’i
chalon.” Arhosodd am ennyd, a sibrydodd, “Tybed ga i ofyn iddo Fo dalu i
Mr. Harris! Na, well i mi beidio; mi geith gymyd ’i
amser i dalu iddo fo, ond iddo Fo edrych ar ol Miss Rhianon yrwan.” Yna aeth
ymlaen i adrodd hanner dwsin o adnodau a dybygai hi allent weinyddu cysur i
Rhianon, a gorffennodd gyda’r drydedd Salm ar hugain.
“Mi gewch chi weld y bydd Iesu Grist yn gofalu deyd wrth ’i Dad am danom ni. Miss Rhianon.” Adferodd symlrwydd y
plentyn dangnefedd i fynwes dromlwythog Rhianon, a chymerodd gwpanaid o dê gan
Dyddgu cyn myned o’i hystafell i weinyddu i’r ddwy adawsid eto’n ol yn
wrthrychau ei gofal hi, ac hefyd i gyfarfod y sefyllfa ddifrifol oedd yn ei
hymyl, sef hwylio ymlaen mor fuan ag y gallai yr ymadael o’u cartref.
PENNOD XXV
CARTREF NEWYDD
Ni chymerodd ond ychydig ddyddiau i Rhianon ddeall eu sefyllfa. Nid oedd y
tirfeddiannydd y bu i’w thad ei gyfarfod yn barod i (x131)
osod ei fferm i wraig weddw a dwy ferch ieuainc; a phe buasai, digon prin y
gallesid dyfod i delerau ag ef o dan yr amgylchiadau. Gwelai Rhianon y byddai
ei dwylaw hi yn ddigon llawn o waith yn gweini i’w mam a’i chwaer, fel nad oedd
un siawns iddi allu edrych ar ol fferm hefyd, a phenderfynodd mai’r peth goreu
oedd gwerthu cymaint a allent o bopeth, a throi’r cyfan yn arian, fel y gallai
hi ddarparu ar gyfer y cysuron oeddynt mor anhebgorol angenrheidiol i’w rhai
anwyl. Ymgynghorodd â Syr Tudur Llwyd, a chytunai yntau ei bod yn ei lle, er ei
fod yn canfod yr ing yn ei hwyneb wrth enwi y naill a’r llall o’u trysorau, fel
pethau y gellid eu hebgor. Yna edrychodd o’i chwmpas am ryw anneddle fechan i
drigo ynddo. Ond nid oedd un tŷ gwag yn unman yn Llangynan, ac
“Miss Rhianon,” ebe llais tyner y melinydd yn ei hymyl, “peidiwch a phoeni.
Eiff y rhein ddim ymhell. Mae Syr Tudur Llwyd wedi prynu’r ddau, ac i’r Friog
mae’r bachgen yn mynd â nhw rwan. Miss Gruffydd, ngeneth i, mae yma bawb yn
teimlo drosoch chi, ac rydan ni i gyd trwy’n gilydd wedi treio’n goreu i gadw’r
cwbl ’roedd Boba wedi rhoi rhyw amcan i ni
bod chi â’ch gafael ynddyn nhw.” Tynnodd Rhianon ei braich oddiam wddf y
ceffyl, ac estynnodd ei llaw i John Meredydd, ac ebe hi — “Ddowch chwi i mewn i
weld oes yma ryw ddodrefnyn garech chwi gael ymysg y pethau i gofio am nhad? ’Rydw i newydd orffen mynd trwy’r cwbl, a marcio
popeth sydd i fynd erbyn y daw’r arwerthwr yma i’w hedrych fory.” Ond
gorchfygwyd y melinydd caredig gan ei deimladau — ymddanghosai dioddefaint mor
ofnadwy yn y wyneb ieuanc. Ofnai John Meredydd na fyddai i un o’r teulu ddianc
o grafangau brenin y dychryniadau, a dywedodd y deuai yno ymhen tuag awr; ac
ymaith ag ef, ei ddagrau yn rhedeg — dagrau oeddynt yn arddanghosiad o’i
ddynoliaeth serchog. A cherddodd Rhianon Gruffydd ymlaen tua’r berllan,ac
oddeutu yr hen gornelau oeddynt mor anwyl, lle y chwareuent pan yn blant -
Nisien ac Olwen a hithau. Eisteddodd dan gysgod yr eiddew gwyrdd, lle y mynnai
yr ieir glwydo yn yr haf, ac y bu i aml i lwynog cyfrwys ladrata un o’u nifer
yn foreufwyd iddo ef a’i deulu. Dechreuodd hen adgofion am ddyddiau dedwydd
mebyd ymwthio o’i blaen, a hi a ocheneidiodd yn uchel, gan ddweyd geiriau y
Gwaredwr yn ddiarwybod iddi ei hun — ”Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist?” Ond
wele law ar ei hysgwydd. Neidiodd ar ei (x132)
thraed, a chanfu Syr Tudur Llwyd yn sefyll yn ei hymyl, ei wyneb yn welw gan
deimlad. Ceisiodd ddiolch iddo am brynnu’r ceffylau, a cheisiodd ymesgusodi a
beio ei
“Miss Gruffydd, Rhianon, fi dim medru byw a chi poeni fel hyn, fi cofio chi
geneth bach, a fi gwel’d chi tyfu yn fwy tebyg i mam fi na neb arall fi gwel’d
yn byd yma, a fi dymuno lawer iawn o gwaith fi dim ond yn ifanc. Fi ’rioed wedi gwel’d neb arall fi leicio rhoi yn
lle mam fi yn Lady Llwyd, ond fi gwel’d tri ugain blynedd ond un mis, a chi dim
ond gwel’d un ugain, a fi meddwl dim yn iawn i fi gofyn ichi do’d i’r Friog.
Ond chi poeni, Rhianon, fi gwbod chi poeni, a chi dim medru gneyd mam ac Olwen
fach ni yn hapus yn helyntion difri yma. Fi eisio helpu chi, a haws i fi helpu
chi Miss Gruffydd fel Lady Llwyd nac un ffordd arall. Fi addo i Robert Gruffydd
cadw golwg arnoch chi, fi am cadw addewid honno.”
Edrychodd Rhianon arno yn ddifrifol fel pe heb sylweddoli yr hyn a ddywedai; ac
feallai i Syr Tudur gamddeall ei hedrychiad, canys ebe fe mewn llais toddedig—
“O, fi gwybod yn iawn fi yn edrych yn hen iawn i geneth ifanc, Miss Rhianon,
ond fi dim ofn edrych yn wyneb chi, a deyd fi wedi ceisio byw fel mam fi deyd,
a chi byth dim c’wilydd gwisgo enw Lady Llwyd, fi cadw enw fi yn ffit, ie, i
Rhianon Gruffydd i gwisgo fo, a fi cadw chi fel cannwyll llygad tra fi byw. A
Friog yn barod i chi, a’ch mam ac Olwen fach.”
Llanwodd llygaid sychion Rhianon â dagrau am y tro cyntaf wedi i’w thrallod
mawr ddyfod i gydfyw â hi. Synnai hi at garedigrwydd, hunanymwadol Syr Tudur
Llwyd, a dechreuodd ddweyd hynny wrtho. “Na fi dim credit am ddim o’r fath, fi
hunanol iawn, fi gwbod chi; gneyd Friog gwell i mi na rioed o’r blaen, fi dim
piti na dim o’r fath, fi dim medru byw a chi diodde Miss Rhianon. Fi gofyn i
chi; dwad gartre i’r Friog,” ac estynnodd ei law iddi.
Safodd Rhianon yn synfyfyriol am foment neu ddwy. Ar un llaw gwelai ei mam ac
Olwen: yn nychu, a hithau heb do uwch eu pennau yn fuan. Chwareu teg iddi, ni
feddyliodd unwaith am dani ei hun, nid Rhianon, fuasai hi pe gallasai gofio ei
bodolaeth ei
Parodd y newydd draddodi llawer math o wahanol farnau yn yr ardal. Dywedai Mrs.
Jenkins, Cefn Mawr, fod “hen ffwl yn priodi geneth ieuanc er mwyn ei
phrydferthwch, a geneth ieuanc yn priodi hen ffwl er mwyn ei gyfoeth a’i
sefyllfa.” Mynnai ereill fod Rhianon wedi bod yn ddoeth yn gofalu am ennill y
fath gartref, ac nad oedd hyn yn ddim mwy nag a ddisgwyliai pawb fu yn sylwi ar
Syr Tudur a hithau yn marchogaeth o gwmpas yr ardal gyda’u gilydd. Nid oedd wiw
i undyn ddweyd y sylwadau yma yng nghlyw William Williams y pregethwr, na
chwaith o fewn cyrraedd braich Huw Huws y gof, a byddai John Meredydd yn troi
clust fyddar i bob cwsmer ddeuai i’r felin os crybwyllid enw Rhianon Gruffydd.
Ond Dyddgu fechan fyddai yn amddiffyn ei ffrynd, ac yn rhoddi taw ar bawb yn ei
ffordd ei hun. Ystyriai Dyddgu nad oedd neb i’w gymharu â Syr Tudur Llwyd ond
Francis Glyn, ac yr oedd yn mawr lawenhau. Yr oedd Dyddgu yn rhy ieuanc i
ystyried un peth yng nghlyn â’i hanes ond dyrchafiad Rhianon Gruffydd i fod yn
Lady Llwyd ac yn feistres y Friog, yr hen blasdy henafol a edmygai y fechan
gymaint, a thynnai fil a mwy o gynlluniau ar gyfer y dyfodol oedd yn eu haros
oll yng nghysgod Lady Llwyd. Safai Dyddgu y dyddiau hynny ar binacl uchaf
dedwyddwch. Gofynnodd Gwen Gruffydd lawer gwaith i’w merch a oedd hi yn sicr y
byddai yn hapus yn ei sefyllfa newydd, ond unig ateb Rhianon fyddai dweyd wrth
ei mam am baratoadau Syr Tudur er ei chysur hi ac Olwen. Ac anodd oedd canmol
gormod ar y gofal a gymerai i droi tair ystafell yn ei blas mor debyg ag oedd
bosibl i rai Olwen a’i mam yn yr Hafod Oleu. Cludwyd eu trysorau oll o’u blaen
fel pan symudodd y ddwy yno
Tra yr elai ar neges i’w mam i’r siop, cyfarfyddwyd hi gan Francis Glyn, yn
cerdded yn frysiog i fyny’r ffordd arweiniai tua Hafod Oleu. Deallodd Dyddgu
fod y dyn ieuanc heb wybod dim am ddigwyddiadau’r dydd er ei bod hi wedi
ysgrifennu’r oll iddo, a dechreuodd ei oleuo. Edrychodd yntau arni fel dyn
gorffwyllog, rhoddodd ei ddwylaw ar ei wyneb a llefodd, “O, fy Nuw, rhy hwyr,
rhy hwyr.”
Dychrynodd y plentyn fwy yn y prynhawn nag yn y bore, ac aeth ato a rhoddodd ei
phen bychan wrth ei ben ef yn ddistaw, a thynodd ei llaw dros ei ddwylaw yn ol,
ac ymlaen fel pe yn anwesu, ei chath ddu fach. Gwelai Dyddgu fod rhywbeth o le
ond
Neidiodd yntau ar ei draed yn gynhyrfus. “I’r Plas, Dyddgu. Lle rydw i am fyn’d? Na goreu i mi pan gyntaf i
fyn’d yn ddigon pell, Dyddgu fach.”
“Oes eisieu imi ysgrifennu eto, Mr. Glyn?”
“Ysgrifennu? O, ie, waeth p’run. Ie, hanes Dyddgu a’i gwersi, ynte. A well i
ngeneth fach i beidio dweyd wrth neb iddi hi fy ngweled i.”
“Dim wrth neb byth, Mr. Glyn?”
“Ie, Dyddgu, ïe,” ac ymaith ag ef ar garlam wyllt.
Syrthiodd wyneb Dyddgu ac ebe hi. “Chofiodd o ddim deyd goodbye wrtha i.”
Ond cadwodd yr hanes yn gyfrinach yn ei chalon ieuainc am lawer blwyddyn er
iddo ei gadael heb gofio am dani.
Effeithiodd y digwyddiadau rhyfedd yn fwy ar Mr Harris y Plas Dolau, nag ar neb
arall; ofnai ei gysgod ei hun, a thybiai fod ei fywyd mewn perygl bob awr
oddiwrth ryw elynion anweledig. Er hynny, cafodd John Thomas, y siop goch,
gymeriad Hafod Oleu, ac yr oedd yn dechreu (x135)
prynnu anifeiliaid a threfnu ar gyfer myned yno i fyw pan ddaeth Nisien Wyn yn
ol i’w hen ardal.
PENNOD XXVI
WEDI EU GWISGO MEWN GYNAU GWYNION
Ar y lawnt o flaen y Friog safa Rhianon yn barod i dderbyn Nisien Wyn, neidiodd
yntau o’r cerbyd a gafaelodd yn ei dwylaw, ond nis gallai ddweyd yr un gair
wrthi, yn unig edrychai arni a’i lygaid yn llawn wylofain. Methai y dyn ieuanc
ddeall y cyfnewidiad yn y wyneb arferai fod mor llon nes y galwent hi yn
heulwen Hafod Oleu. Gwelai ef rywun nas adnabu o’r blaen yn y foneddiges
ieuanc Lady Llwyd, a safai wrth ei ochr mewn galarwisgoedd duon, gan mor
anhebyg oedd i’r fanon serchog a dedwydd adwaenai ef gynt.
“Croesaw i’r Friog, Nisien,” ebe hi; “bydd Syr Tudur yma yn union, gwyddwn i y
carech fy ngweled i yn gyntaf.”
Cyffyrddodd Nisien ei llawes ddu yn ysgafn, “Beth yw’r du yma, Rhianon? Olwen?
Dywedodd Boba ei bod yn fyw a phawb yma. Lle mae’ch mam, a fy hen gyfaill
Robert Gruffydd?”
Pwyntiodd Rhianon ei bys tua’r nen, “Os oes yna nefoedd yn bod yn rhywle,
Nisien, yno mae nhad, ac mae mam yn mynd ato, fydd hi ddim yn hir yma eto. Fydd
yma neb yn fuan ond chwi a minnna, Nisien.”
“Ac Olwen?” sibrydai y dyn ieuanc yn ddistaw fel pe yn ofni y cwestiwn.
“Ie, Olwen, Olwen, bert ac anwyl, yn ’doedd
hi’n dlos, Nisien, er’s stalwm — oes mil o flynyddoedd er hynny, Nisien? Olwen ein Mabinogi ni, ynte? O Nisien,
Nisien, mi wnes i ngoreu, chafodd hi na mam ddim cam, ond dydi’r diwrnod olaf
ddim ymhell. Mae Olwen mron gorffen y daith, ac nid oes dim ond awydd cael un
olwg arnoch chwi yn ei chadw yn fyw. Oni bai am ofal caredig Syr Tudur,
buasem wedi ei cholli cyn hyn. Wnewch chwi gofio hynny bob amser, Nisien? Iddo
ef mae’n dyled ni fod mam ac Olwen mor gysurus. Dinas Noddfa rhag y dialydd
fu’r Friog i ni wedi i’r goleuni fyn’d yn dywyllwch yn yr Hafod Oleu,” a
chrynnai y gwefusau oeddynt ym mron mor welw a’i hwyneb. Cymerodd y bachgen,
oedd megis brawd iddi, ei dwylaw yr ail waith, a gwasgodd hwynt yng nghyd, tra
y treiglai y dagrau mawr ar hyd ei ruddiau. “Rhianon, Rhianon,” ebe fe, “er
pris y prynnwyd eu tangnefedd a’u cysur yn eu horiau olaf; fel y dwyfol y bu
eich serch tuag atynt; tra bo anadl ynof
Rhoddodd Rhianon ei llaw ar ei fraich, ac arweiniodd ef i’w hystafell ei hun,
lle yr ymneilltuai i adennill nerth i’w meddwl pan fyddai pwys gofalon a gofid
yn ei threchu. Ystafell brydferth, y bu Syr Tudur Llwyd yn ymdrafferthu ei
threfnu ymhob modd allai blesio Rhianon cyn iddi ddyfod i’r Friog — ystafell
allasai fod yn baradwys o ddedwyddwch tawel; ond taflai brenin y dychryniadau
ei gysgod tywyll dros bob cornel yn yr hen blasdy, tra y disgwylient ei weled
bob moment yn cymeryd meddiant o’u rhai anwyl. Yma y bu Rhianon yn (x136) gwneud a allai i leddfu galar Nisien cyn
iddo fyned i ystafell ei chwaer. Perswadiodd ef i gymeryd ychydig luniaeth, ond
methiant oedd hynny, er iddo wneud ei oreu. Yna aeth i baratoi Olwen. Er ei
dychryn, gwelai Olwen yn gorwedd ar yr esmwythfainc, ei mam yn sefyll yn ei
hymyl. Ac nid y codi o’r gwely oedd yr unig wahaniaeth, ond yr oedd wedi
ymwisgo mewn gwyn, a phwysi o flodau y geranium
ar ei mynwes. Mor swynol brydferth oedd — mor anodd credu fod ei thraed yn
oeri yn yr afon.
“Ydi Nisien yma? Oes dim drwg
gwisgo fel hyn, yn nag oes, Rhianon? Dyma’r dillad welodd Nisien am dana i y
noson olaf wrth y meini. O, mi leiciwn i, weld y meini umwaith eto, ond mi gaf
weled Nisien. A fydd nhad ddim yn disgwyl fy ngweld i mewn dillad duon, fydd o,
Rhianon. Gynau gwynion sydd yno, ynte, mam?” ebe’r llais mwyn, gwanaidd.”
“Ie, Olwen fach, ïe, wedi eu cannu yng ngwaed yr Oen, Olwen,” ebe ei mam.
“A’r palmwydd gwyrdd, ynte, mam? Syr Tudur dorrodd y blodau yma; mae o’n
garedig wrtha i.” Ac ebe Rhianon — “Na, ’does
dim drwg i ti wisgo dy ddillad gwynion, Olwen, ac mae’r blodau yn glws iawn, a
mi fydd Nisien yma hefo ni yn y munud ’rwan.”
“Rhianon,” ac aeth Lady Llwyd ar ei gliniau yn ymyl ei chwaer. “Rhianon, mae’r
dagrau mawr yn casglu ar dy ddillad di. Wyt ti’n cofio mreuddwyd i? ’Roedd o’n freuddwyd hapus. Bendith nef ar dy ben
di, Rhianon, fy chwaer. Chafodd neb chwaer fel fi, ’dwy’n
meddwi. Ryw ddiwrnod mi gei di wybod, Rhianon, pa mor fawr ydi fy nghariad i at
Nisien. Ryw ddiwrnod! A phan weli di Francis Glyn eto, nei di ddeyd wrtho fo
fod Olwen am iddo fo gredu fod Tad yn y nefoedd, a bod Iesu Grist yno, ac mai
rhyw baratoi sydd ar y ddaear yma. A mi leiciwn iddo fo wybod fod yn ddrwg
iawn gan Olwen ei bod hi wedi ’i rwystro fo
i gael rhywbeth oedd o am ofyn i nhad.”
Edrychai Rhianon yn syn ar ei chwaer, ofnai ei bod yn hanner ffwndro, ond ebe
Olwen—
“Na, Rhianon, paid ti a meddwl mod i’n salach, rydw i’n dal y codi yn eitha,
Rhianon; na fy chwaer, deall y cwbwl i gyd, ’rydw
i erbyn hyn yn y fan yma. Ond paid ti a chrio gormod ar fy ol i, cofia di y daw
goleuni yn yr hwyr. Meini gwynion ydi’r meini o hyd ynte, Rhianon, er gwaetha
pawb, a mi helpi di Nisien i’w cadw nhw felly yn nei di, Rhianon? A Dyddgu, mi
fydd Dyddgu, yn helpu pawb. Mae Rhianon yn gneud Dyddgu yn union fel hi ’i hun, yn tydi hi mam?” A thynnai ei llaw wen
deneu dros y gwallt du, ac wedi hynny ar hyd y wyneb gwelw.
“A mi rydw i wedi maddeu i Mr. Harris y Plas, a chofia di ddeyd wrth Elin
Tynffordd mod i wedi dod o hyd i Iesu Grist, Rhianon. Lle mae Syr Tudur? Mae
o’n garedig wrth bawb.”
Ceisiodd ei chwaer ei rhwystro i siarad, dywedai y byddai arni eisieu dweyd
llawer wrth Nisien pan ddeuai ef, ond atebai Olwen fod arni “ofn anghofio neb,
a cofia ddeyd wrth Boba mod i’n gwybod mai amynedd yw coron bywyd. Mae amynedd
yn goron ar ben Rhianon, yn tydi mam? Ust, ydi’r cerbyd yna?” a chododd ar ei
lled eistedd. Nis (x137) gwyddai hi efo fod Nisien yn y plas.
“Mi a i i’w gyfarfod, Olwen,” ebe Rhianon “ ond nid swn cerbyd oedd yna ’rwan, ydi fy Olwen i yn barod, a neith hi ddim
myn’d yn sal.” “Na, ’da i ddim yn
sal, Rhianon, mendio na i wrth weld Nisien; mendio ynte, mam fach,” ac aeth
Rhianon allan o’r ystafell. Ymhen ychydig eiliadau dyna Olwen yn codi yn sydyn
ar ei thraed, “Dyma fo, mam, dyma swn troed Nisien,” y foment nesaf yr oedd
Rhianon yn agor y drws a Nisien yn ei dilyn. Ymdaenodd gwrid coch ysgafn dros
wyneb Olwen, llamodd y dyn ieuanc i’w chyfarfod a’i freichiau yn agored, aeth
hithau i’w fynwes fel aderyn yn ehedeg i’w nyth. “Olwen, fy nghariad, fy un
anwyl,” ebe fe gan bentyrru geiriau anwesol wrthi y naill ar ol y llall.
“Nisien, Nisien,” sibrydai hithau,
“O, Nisien, mae’r meini’n wynion, Nisien. Amynedd Nisien; gobaith, ynte, a’n
cariad ni sydd mor fawr.”
Daliai Nisien ei anwylyd at ei galon, ei drallod, wrth weled ei gwedd
wedi cyfnewid cymaint, yn ei orchfygu. “Nisien, cofiwch Rhianon.” Bu yn ddistaw
wedi hynny ac yntau yn sibrwd serch i’w chlustiau.
“Nisien, gwell i Olwen ddod ar y clustogau mae yn rhy wan i fod ar ei thraed yn
hir,” ebe Rhianon.
“Dowch, Olwen, fy mhrydferth,” a gwnaeth ymgais i’w chario yn ol at ei
hesmwythfainc. Ond gwelodd ei hwyneb a rhoddodd lef. “O Rhianon, Olwen fy
nghariad, fy nhrysor mae hi wedi marw.”
Yr oedd Rhianon wrth ei ochr ar unwaith, “Rhowch hi i mi, Nisien, mewn llewyg y
mae,” ond tra y siaradai, gwyddai . Rhianon fod y cwbl drosodd, a’i chwaer hoff
wedi gado’r byd a’i boenau o’r tu ol iddi. Eithr rhaid oedd arbed ei mam rhag
sydynrwydd y ddyrnod. Daeth llef dorcalonus Nisien a Syr Tudur, ag un o’r
morwynion i’r ystafell. Amneidiodd Rhianon ar Syr Tudur i fyned a Nisien gydag
ef, ond taflai y dyn ieuanc ei
“Nisien,” ebe Rhianon, mewn llais penderfynol, “Rhaid i chwi fyned oddiyma am
ychydig, mi gewch weld Olwen eto cyn hir, ewch hefo Syr Tudur.” Ac felly y
cafwyd ef allan heb wybod yn sicr fod ysbryd pur Olwen ieuanc wedi dychwelyd at
Dduw yr hwn a’i rhoes.
Gofal Rhianon erbyn hyn oedd ei mam, a rhoes ei braich am dani yn dyner.
“Rhianon,” ac edrychai yn myw llygaid ei merch, “mi fedra’ i ddal, ngeneth i;
ydi Olwen wedi mynd at ei thad?”
“Ydi, mam fach, ydi; mae ein Olwen dlos ni wedi myned i’r cartref na thry neb
hi byth o honno, mam fach.”
Gwenodd Gwen Gruffydd, ei hysbryd addfwyn, tawel, yn ei chadw rhag gwrthryfela
yn y dymhestl, ac ebe hi —
“O, Rhianon, mi ’rydw i’n gweld ei thad yn
cyfarfod Olwen, a’r fath groeso mae hi’n gael. O, Rhianon, mae’r oll yn dda i
Olwen. Drosot ti mae nghalon i’n gwaedu. Fy merch anwyl, fydd mor fuan heb yr
un o honom ni.”
Ac yn nyfnder y galar o’i chwmpas, yr hyn a synnai bawb oedd mai “Rhianon,
Rhianon,” oedd cri gwastadol y fam garuaidd.
(x138) Anfonodd Lady Llwyd am Boba, a thra
bu hi a’i dwylaw ei hun yn paratoi corff hawddgar ei chwaer, ac yn ei wisgo yn
y gwisgoedd gwynion a garai Olwen, eisteddai Boba gyda Gwen Gruffydd yn gwrando
arni yn sibrwd yn ddistaw, un bob yn ail, enwau ei hanwyliaid, a gwyddai yr hen
wraig trwy brofiad y fath alar yw galar mam ymhob sefyllfa— galar nas medd neb
ond y Duw a roddodd galon mam ym mynwes merch un dirnadaeth am ei faint.
Am Nisien Wyn, yr oedd ei lefain ef yn galonrwygol, ac wylai Syr Tudur Llwyd
fel plentyn.
“Mae’n dda bod Meistres yn medru cadw ’i
phen, ne mi fasa yma le,” oedd sylw un o’r morwynion, “ond mi fydda’n eitha ’i gweld hi yn crio tipyn; mi neutha les iddi hi.
Mae ’i hwyneb hi yn
’y nychryn i.”
Ond yr oedd gofid arall yn prysur ddynesu. Anadlodd Gwen Gruffydd ei hanadl
olaf ym mreichiau ei merch ar doriad y wawr dranoeth, a gorweddai gweddillion y
fam serchog wrth ochr ei Holwen ieuanc, wedi ei gwisgo mewn gwyn hefyd, canys
cofiodd Rhianon eiriau ei mam y diwrnod cynt, pan fu i Olwen eu gadael, yn
nghylch y gynau gwynion. Effeithiodd yr ail ddyrnod yn andwyol ar Rhianon.
Ymddangosai ei nerth wedi ymadael â hi, oherwydd nad oedd angen ar ei rhai
anwyl am ei gwasanaeth mwy. Talai ymweliadau mynych â’r ystafell lle y
gorffwysai ei mam a’i chwaer hyd y dydd y cludid hwy i dŷ eu hir gartref,
a siaradai wrthynt yn serchog. Yna byddai yn galw ar ei thad, ac yn son am ei
haddewid. Aeth pryder Syr Tudur yn fawr iawn, ac ofnai “Boba fod y dioddefaint
wedi ei guddio ganddi yn ormodol, a deallai Boba mai gofid, gofid cudd.”
PENNOD XXVII
NI CHLYWANT LAIS Y GORTHRYMYDD
Ond daeth ymwared i feddwl terfysglyd Rhianon mewn ffordd na ddisgwyliodd neb.
Eisteddai hi y rhan fwyaf o’i hamser, pan na fyddai yn ymweled â’r ystafell lle
y gorweddai y babell bridd i’w mam a’i chwaer, yn ei hystafell neilltuol ei
hun. Deuai Boba yno yn awr ac eilwaith i gael cipolwg arni: ond ni thyciai un
ymgais i’w chalonogi. Byddai Nisien Wyn yn dyfod ati, yn gorwedd wrth ei
thraed, ac yn gorffwyso ei ben ar ei gliniau, a hithau yn tynnu ei bysedd yn ol
ac ym mlaen trwy ei wallt, ond y naill fel y llall mewn trallod rhy ddwfn i
allu cysuro eu gilydd. Deuai Syr Tudur yno hefyd, ei wyneb caredig yn brudd gan
ofid drosti. Ofnai ddweyd geiriau wrthi, rhag iddo beri i’w galar fwy o ddrwg
nag o les; eto, mynnai pe yn bosibl, ei chysgodi rhag holl dymhestloedd byd. Ac
hyd y bore olaf cyn symud ei mam a’i chwaer gyda’u gilydd at ochr ei thad,
hanner orweddai Rhianon mewn rhyw fath o lesmair, yn ddiystyr o’r oll o’i
chwmpas. Tua deg o’r gloch, cododd a cherddodd yn ol ac ymlaen yn yr ystafell,
a chyfrifai yr oriau y byddent o dan yr un gronglwyd a hi.
“Yna,” ebe, mewn math o sibrwd ddistaw, “mi fyddaf fy hun am byth.” Sibrydai
eilwaith, “Am byth, am byth.”
Yna tybygai ei bod yn clywed (x139) swn
wylofain oddiallan, yn agos i’w ffenestr.
“Mae pawb yn wylo, fy mam anwyl — Olwen, fy chwaer; ond fi sydd yn unig, heb
neb am byth, am byth: nhad a mam ac Olwen wedi ngadael i am byth.” Ond aeth y
wylo yn fwy-fwy, ac yr oedd mor naturiol i Lady Llwyd ag a fyddai i Rhianon
Gruffydd bob amser feddwl am ereill hyd yn oed pan yng nghanol môr o ofid ei
hun. Aeth at y ffenestr agorai i’r lawnt, ac aeth allan trwyddi, gan edrych o’i
deutu. Ni fu raid iddi chwilio yn hir, h canys gwelai Elin Ty’nffordd “yr eneth
wirion” ar ei hyd ar y llawr yng nghysgod llwyn bedw a dyfai yn ffrynt y plas.
Bu aml i arddwr yn ceisio dylanwadu ar Syr Tudur Llwyd i symud y llwyn a rhoddi
coed tramor harddach, yn eu tyb hwy, yn ei le; ond hoffai Syr Tudur ei gartref
a’i amgylchedd henafol, ac ni fynnai son am ddiwreiddio’r bedw, eithr planodd
rosynau o’i amgylch, a rhoddodd eisteddle yn ei gysgod, fel erbyn y dydd yr
aeth i ddewis ystafell i’w wraig ieuanc, nid oedd smotyn prydferthach ar lawnt
y plas na’r fan y safai’r llwyn bedw, a dyna’r paham y trowyd yr ystafell ar ei
gyfer yn gysegr i Rhianon ar ei dyfodiad i’r Friog.
“Elin, Elin,” ebe hi, gan blygu ar ei gliniau, a rhoddi ei llaw ar ysgwydd yr
eneth dlawd; “Elin, pa’m ’rwyt ti yn crio
fel yma, Elin?”
Adnabu hithau lais Rhianon, a dechreuodd wylo yn fwy-fwy, tra y danghosai bwysi
o lygad y dydd cyntaf y tymor iddi.
“Chai ddim gwel’d Miss Glws a’i mam; ma nhw wedi marw, ‘Ma pawb wedi marw ym
mhob man, medda fi wrth mam, a mi geith ynta farw hefyd, medda fi. A mae’r
bloda yma ’run fath a Miss Glws — yn aur ac
yn wyn; a ’ro’n i am i rhoi nhw iddi hi, ond
chai ddim gin y dyn yna sy’n y Plas yn gneud gwaith dynes.”
Ym mhen ychydig, daeth Rhianon i ddeall fod y bwtler wedi gomedd i Elin gael
myned i mewn, a bod trallod y greadures, druan, yn fwy am ei bod yn methu cael
gweled “Miss Glws a’i mam.”
Cymerodd Rhianon hi gerfydd ei llaw, ac arweiniodd hi i mewn i’w hystafell.
Cerddai Elin fel pe yn ofni rhoddi ei thraed ar lawr; yna safodd yn sydyn, a
gofynodd,
“Lle fel hyn ydi’r nefoedd, Miss?” Anaml y cofiai Elin fod gan ei “Miss” enw
Arall, a dechreuodd siarad geiriau yn gymysgedig aâ’i hwylofain. “Lle mae Iesu Grist? Ddoth O byth i’r golwg i
ddeud dim wrtha i, a medda fi wrth mam. medda fi, Sut mae O heb fod o gwmpas ’i betha, yn lle gadael i Harris y Sgriw ladd
pawb? A mi wela i’r gŵr bynheddig clws hwnw ddeudodd bod o o’ch ochor chi,
Miss, a medda fi wrtho fo — ’Lle mae Iesu Grist?’ A meddo fo — ’ ’Does dim Iesu Grist na neb, Elin — neb,’ medda
fo wrtha i, a medda fo — ’Mae yma faint fynnir o gythreuliaid hyllion,’ medda
fo. A mae Sioned William wedi marw’r bore yma, Miss. Mae pawb yn marw ond fi; a
medda mam wrtha i — ”Dwyt ti da i ddim. O be ’nai,
be ’nai? A ’dwn
i ddim sut i fyn’d i’r nefoedd yna, a medda’r gŵr bynheddig— ’ ’Does yna ’run
nefoedd.’ “
“Sioned William wedi marw, Elin bach? Nac ydi, nac ydi.”
“Ydi mae hi; mae pawb wedi marw, a mi fydd ynta a’i griw i gyd wedi marw. Mi
syrthiodd yn (x140) braf. Mi ’roedd Sioned William yn hir yn codi, a mi ae