1278k Gwefan Cymru-Catalonia /
la Web de Gal·les i Catalunya - Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân yn yr iaith
Gymraeg. La Bíblia en gal·lès. Dhø Báibøl in Welsh. The Bible in Welsh..
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_salmau_19_rhan_1_1278k.htm
0001z Y Tudalen Blaen
..........1863c Y Porth Cymraeg
....................0009k Y Gwegynllun
..............................0977e Y
Gyfeirddalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg) / Welsh texts on this website
- contents page
........................................1281k Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620
..................................................y dudalen hon
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan
Cymru-Catalonia
|
Adolygiadau diweddaraf: |
2206ke This page with an
English translation (Y Salmau / Pslams)
SALM 1
1:1 Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng
nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid ac nid eistedd yn
eisteddfa gwatwarwyr.
1:2 Ond sydd â’i ewyllys yng
nghyfraith yr ARGLWYDD; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.
1:3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei
blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen
ni wywa; a pha beth bynnag a wnêl, efe a lwydda.
1:4 Nid felly y bydd yr annuwiol;
ond fel mân us yr hwn a chwâl y gwynt ymaith.
1:5 Am hynny yr annuwiolion ni
safant yn y farn, na phechaduriaid yng nghynulleidfa y rhai cyfiawn.
1:6 Canys yr ARGLWYDD a edwyn ffordd
y rhai cyfiawn: ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.
SALM 2
2:1 Paham y terfysga y cenhedloedd,
ac y myfyria y bobloedd beth ofer?
2:2 Y mae brenhinoedd y ddaear yn
ymosod a’r penaethiaid yn ymgynghori ynghyd yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn erbyn
ei Grist ef, gan ddywedyd,
2:3 Drylliwn eu rhwymau hwy, a
thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym.
2:4 Yr hwn sydd yn preswylio yn y
nefoedd a chwardd: yr ARGLWYDD a’u gwatwar hwynt.
2:5 Yna llefara efe wrthynt yn ei
lid, ac yn ei ddicllonrwydd y dychryna efe hwynt.
2:6 Minnau a osodais fy Mrenin ar
Seion fy mynydd sanctaidd.
2:7 Mynegaf y ddeddf: dywedodd yr
ARGLWYDD wrthyf, Fy Mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais.
2:8 Gofyn i mi, a rhoddaf y
cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i’th feddiant
2:9 Drylli hwynt â gwialen haearn;
maluri hwynt fel llestr pridd.
2:10 Gan hynny yr awr hon,
frenhinoedd, byddwch synhwyrol: barnwyr y ddaear, cymerwch ddysg.
2:11 Gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn
ofn, ac ymlawenhewch mewn dychryn.
2:12 Cusenwch y Mab, rhag iddo
ddigio, a’ch difetha chwi o’r ffordd, pan gyneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu
byd pawb a ymddiriedant ynddo ef
SALM 3
3:1 Salm Dafydd, pan ffodd efe rhag
Absalom ei fab. ARGLWYDD, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer yw y rhai sydd yn
codi i’m herbyn.
3:2 Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd
am fy enaid, Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei DDUW. Sela.
3:3 Ond tydi, ARGLWYDD, ydwyt
darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen
3:4 A’m llef y gelwais ar yr
ARGLWYDD, ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd. Sela.
3:5 Mi a orweddais, ac a gysgais, ac
a ddeffroais: canys yr ARGLWYDD a’m cynhaliodd.
3:6 Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y
rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn.
3:7 Cyfod, ARGLWYDD; achub fi, fy
Nuw: canys trewaist fy holl elynion ar gar yr ên; torraist ddannedd yr
annuwiolion.
3:8 Iachawdwriaeth sydd eiddo yr
ARGLWYDD: dy fendith sydd ar dy bobl. Sela.
SALM 4
4:1 Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.
Gwrando fi pan alwyf, O DDUW fy nghyfiawnder: mewn cyfyngder yr ehengaist
arnaf; trugarha wrthyf, ac erglyw fy ngweddi.
4:2 O feibion dynion, pa hyd y
trowch fy ngogoniant yn warth? yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd? Sela.
4:3 Ond gwybyddwch i’r ARGLWYDD
neilltuo y duwiol iddo ei hun: yr ARGLWYDD a wrendy pan alwyf arno
4:4 Ofnwch, ac na phechwch:
ymddiddenwch â’ch calon ar eich gwely, a thewch. Sela.
4:5 Aberthwch ebyrth cyfiawnder; a
gobeithiwch yn yr ARGLWYDD.
4:6 Llawer sydd yn dywedyd, Pwy a
ddengys i ni ddaioni? ARGLWYDD, dyrcha arnom lewyrch dy wyneb.
4:7 Rhoddaist lawenydd yn fy
nghalon, mwy na’r amser yr amlhaodd eu hŷd a’u gwin hwynt.
4:8 Mewn heddwch hefyd y gorweddaf,
ac yr hunaf: canys ti, ARGLWYDD, yn unig a wnei i mi drigo mewn diogelwch.
SALM 5
5:1 I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm
Dafydd. Gwrando fy ngeiriau, ARGLWYDD; deall fy myfyrdod.
5:2 Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy
Mrenin, a’m Duw: canys arnat y gweddïaf.
5:3 Yn fore, ARGLWYDD, y clywi fy
llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny.
5:4 Oherwydd nid wyt ti DDUW yn
ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi.
5:5 Ynfydion ni safant yn dy olwg:
caseaist holl weithredwyr anwiredd.
5:6 Difethi y rhai a ddywedant
gelwydd: yr ARGLWYDD a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus.
5:7 A minnau a ddeuaf ith dŷ di
yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di.
5:8 ARGLWYDD, arwain fi yn dy
gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o’m blaen.
5:9 Canys nid oes uniondeb yn eu
genau; eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu ceg; gwenieithiant â’u
tafod.
5:10 Distrywia hwynt, O Dduw;
syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau:
canys gwrthryfelasant i’th erbyn.
5:11 Ond llawenhaed y rhai oll a
ymddiriedant ynot ti: llafarganant yn dragywydd, am i ti orchuddio drostynt:
a’r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot.
5:12 Canys ti, ARGLWYDD, a fendithi
y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.
SALM 6
6:1 I’r Pencerdd ar Neginoth ar
Seminith, Salm Dafydd. ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na
chosba fi yn dy lid.
6:2 Trugarha wrthyf, ARGLWYDD: canys
llesg ydwyf fi: iachâ fi, O ARGLWYDD, canys fy esgyrn a gystuddiwyd.
6:3 A’m henaid a ddychrynwyd yn
ddirfawr: tithau, ARGLWYDD, pa hyd?
6:4 Dychwel, ARGLWYDD, gwared fy
enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd.
6:5 Canys yn angau nid oes goffa
amdanat; yn y bedd pwy a’th folianna?
6:6 Diffygiais gan fy ochain; bob
nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy
ngorweddfa â’m dagrau.
6:7 Treuliodd fy llygad gan ddicter:
heneiddiodd oherwydd fy holl elynion.
6:8 Ciliwch oddi wrthyf, holl
weithredwyr anwiredd; canys yr ARGLWYDD a glywodd lef fy wylofain.
6:9 Clybu yr ARGLWYDD fy neisyfiad:
yr ARGLWYDD a dderbyn fy ngweddi.
6:10 Gwaradwydder a thralloder yn
ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.
SALM 7
7:1 Sigaion Dafydd, yr hwn a ganodd efe
i’r ARGLWYDD, oblegid geiriau Cus mab Jemini. ARGLWYDD fy NUW, ynot yr
ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlidwyr a gwared fi:
7:2 Rhag iddo larpio fy enaid fel
llew, gan ei rwygo, pryd na byddo gwaredydd.
7:3 ARGLWYDD fy NUW, os gwneuthum
hyn; od oes anwiredd yn fy nwylo;
7:4 O thelais ddrwg i’r neb oedd
heddychol â mi, (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos;)
7:5 Erlidied y gelyn fy enaid, a
goddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i’r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y
llwch. Sela.
7:6 Cyfod, ARGLWYDD, yn dy
ddicllonedd, ymddtrcha, oherwydd llid fy ngely: deffro hefyd drosof i’r farn a
orchmynnaist.
7:7 Felly cynulleidfa y bobloedd
a’th amgylchynant: er eu mwyn dychwel dithau i’r uchelder.
7:8 Yr ARGLWYDD a farn y bobloedd:
barn fi, O ARGLWYDD, yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd
ynof.
7:9 Darfydded weithian anwiredd yr
annuwiolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y
calonnau a’r arennau.
7:10 Fy amddiffyn sydd o DDUW,
Iachawdwr y rhai uniawn o galon.
7:11 Duw sydd Farnydd cyfiawn, a Duw
sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol.
7:12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a
hoga ei gleddyf: efe a anelodd ei fwa, ac a’i paratôdd.
7:13 Paratôdd hefyd iddo arfau
angheuol: efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr.
7:14 Wele, efe a ymddŵg
anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd gelwydd.
7:15 Torrodd bwll, cloddiodd ef,
syrthiodd i hefyd yn y clawdd a wnaeth.
7:16 Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben
ei hun, a’i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun.
7:17 Clodforaf yr ARGLWYDD yn ôl ei
gyfiawnder; a chanmolaf enw yr ARGLWYDD goruchaf.
SALM 8
8:1 I’r Pencerdd ar Gittith, Salm
Dafydd. ARGLWYDD ein IOR ni, mor arddercog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn
a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd.
8:2 O enau plant bychain a rhai yn
sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd.
8:3 Pan edrychwyf ar y nefoedd,
gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordenaist;
8:4 Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio?
a mab dyn i ti i ymweled ag ef?
8:5 Canys gwnaethost ef ychydig is
na’r angylion, ac a’i coronaist i gogoniant ac â harddwch.
8:6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu
ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef:
8:7 Defaid ac ychen oll, ac
anifeiliaid y maes hefyd;
8:8 Ehediaid y nefoedd, a physgod y
môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd.
8:9 ARGLWYDD ein IOR, mor ardderchog
yw dy enw ar yr holl ddaear!
SALM 9
9:1 I’r Pencerdd ar Muth-labben,
Salm Dafydd. Clodforaf di, O ARGLWYDD, â’m holl galon: mynegaf dy holl
ryfeddodau.
9:2 Llawenychaf a gorfoleddaf ynot:
canaf i’th enw di, y Goruchaf.
9:3 Pan ddychweler fy ngelynion yn
eu hôl, hwy a gwympant ac a ddifethir o’th flaen di.
9:4 Canys gwnaethost fy mam a’m
mater yn dda: eisteddaist ar orseddfainc, gan farnu yn gyfiawn.
9:5 Ceryddaist y cenhedloedd,
distrywiaist yr annuwiol; eu henw hwynt a ddileaist byth bythol.
9:6 Ha elyn, darfu am ddinistr yn
dragywydd: a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyda hwynt.
9:7 Ond yr ARGLWYDD a bery yn
dragywydd: efe a baratôdd ei orseddfainc i farn.
9:8 Ac efe a farn y byd mewn
cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb.
9:9 Yr ARGLWYDD hefyd fydd noddfa
i’r gorthrymedig, noddfa yn amser trallod.
9:10 A’r rhai a adwaenant dy enw, a
ymddiriedant ynot: canys ni adewaist, O ARGLWYDD, y rhai a’th geisient.
9:11 Canmolwch yr ARGLWYDD, yr hwn
sydd yn preswylio yn Seion: mynegwch ymysg y bobloedd ei weithredoedd ef.
9:12 Pan ymofynno efe am waed, efe,
a’u cofia hwynt: nid anghofia waed y cystuddiol.
9:13 Trugarha wrthyf, ARGLWYDD; gwêl
fy mlinder gan fy nghaseion, fy nyrchafydd o byrth angau:
9:14 Fel y mynegwyf dy holl foliant
ym mhyrth merch Seion: llawenychaf yn dy iachawdwriaeth.
9:15 Y cenhedloedd a
soddasant yn y ffos a wnaethant: yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu
hun.
9:16 Adwaenir yr ARGLWYDD wrth y
farn a.wna: yr annuwiol a faglwyd yng ngweithredoedd ei ddwylo ei hun. Higgaion. Sela.
9:17 Y rhai drygionus a ymchwelant i
uffem, a’r holl genhedloedd a anghofiant DDUW.
9:18 Canys nid anghofir y tlawd
byth: gobaith y trueiniaid ni chollir byth.
9:19 Cyfod, ARGLWYDD; na orfydded
dyn: barner y cenhedloedd ger dy fron di.
9:20 Gosod, ARGLWYDD, ofn arnynt:
fel y gwybyddo y cenhedloedd mai dynion ydynt. Sela.
SALM 10
10:1 Paham, ARGLWYDD, y sefi o bell?
Pam yr ymguddi yn amser cyfyngder?
10:2 Yr annuwiol mewn balchder a
erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant.
10:3 Canys yr annuwiol a ymffrostia
am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr ARGLWYDD yn ei
ffieiddio.
10:4 Yr annuwiol, gan uchder ei
ffroen, ni chais DDUW: nid yw DUW yn ei holl feddyliau ef.
10:5 Ei ffyrdd sydd flin bob amser;
uchel yw dy farnedigaethau allan o’i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl
elynion.
10:6 Dywedodd yn ei galon, Ni’m
symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
10:7 Ei enau sydd yn llawn melltith,
a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd.
10:8 Y mae efe yn eistedd yng
nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a
dremiant yn ddirgel ar y tlawd.
10:9 Efe a gynllwyna mewn dirgelwch
megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y tlawd, gan
ei dynnu i’w rwyd.
10:10 Efe a ymgryma, ac a ymostwng,
fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef.
10:11 Dywedodd yn ei galon,
Anghofiodd DUW: cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth.
10:12 Cyfod, ARGLWYDD; 0O DDUW,
dyrcha dy law: nac anghofia y cystuddiol.
10:13 Paham y dirmyga yr annuwiol
DDUW? dywedodd yn ei galon, nid ymofynni.
10:14 Gwelaist hyn; canys ti a
ganfydd anwiredd a cham, i roddi tâl a’th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y
tlawd; ti yw cynorthwywr yr amddifad.
10:15 Tor fraich yr annuwiol a’r
drygionus: cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim.
10:16 Yr ARGLWYDD sydd frenin byth
ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef.
10:17 ARGLWYDD, clywaist ddymuniad y
tlodion: paratoi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt;
10:18 I farnu yr amddifad a’r
gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.
SALM 11
11:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Yn
yr ARGLWYDD yr wyf yn ymddiried: pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, Eheda i’ch
mynydd fel aderyn?
11:2 Canys wele, y drygionus a
anelant fwa, paratoesant eu saethau ar y llinyn i saethu yn ddirgel y rhai
uniawn o galon.
11:3 Canys y seiliau a
ddinistriwyd; pa beth a wna y cyfiawn?
11:4 Yr ARGLWYDD sydd yn nheml ei
sancteiddrwydd; gorseddfa yr ARGLWYDD sydd yn y nefoedd: y mae ei lygaid ef yn
gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion.
11:5 Yr ARGLWYDD a brawf y cyfiawn:
eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a’r hwn sydd hoff ganddo drawster.
11:6 Ar yr annuwiolion y glawia efe
faglau, tân a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dyma ran eu ffiol hwynt.
11:7 Canys yr ARGLWYDD cyfiawn a gâr
gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.
SALM 12
12:1 I’r Pencerdd ar Seminith, Salm
Dafydd. Achub, ARGLWYDD; canys darfu y trugarog: oherwydd pallodd y
ffyddloniaid o blith meibion dynion.
12:2 Oferedd a ddywedant bob un wrth
ei gymydog: â gwefus wenieithgar, ac â chalon ddauddyblyg, y llefarant.
12:3 Torred yr ARGLWYDD yr holl
wefusau gwenieithus, a’r tafod a ddywedo fawrhydi:
12:4 Y rhai a ddywedant, A’n tafod y
gorfyddwn; ein gwefusau sydd eiddom ni: pwy sydd arglwydd arnom ni?
12:5 Oherwydd anrhaith y rhai
cystuddiedig, oherwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr ARGLWYDD;
rhoddaf rnewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo.
12:6 Geiriau yr ARGLWYDD ydynt
eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro
seithwaith.
12:7 Ti, ARGLWYDD, a’u cedwi hwynt:
cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd.
12:8 Yr
annuwiolion a rodiant o amgylch, pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion.
SALM 13
13:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Pa
hyd, ARGLWYDD, y’m hanghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof?
13:2 Pa hyd y cymeraf gynghorion yn
fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn
arnaf?
13:3 Edrych, a chlyw fi, O ARGLWYDD
fy NUW; ac goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau:
13:4 Rhag dywedyd o’m gelyn,
Gorchfygais ef; ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf.
13:5 Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy
drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth: canaf i’r
ARGLWYDD, am iddo synio arnaf.
SALM 14
14:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Yr
ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un DUW. Ymlygrasant; ffieiddwaith a
wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni.
14:2 Yr ARGLWYDD a edrychodd i lawr
o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â DUW.
14:3 Ciliodd pawb;
cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.
14:4 Oni ŵyr holl weithredwyr
anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr
ARGLWYDD.
14:5 Yno y dychrynasant gan ofn;
canys y mae DUW yng nghenhedlaeth y cyfiawn.
14:6 Cyngor y tlawd a waradwyddasoch
chwi; am fod yr ARGLWYDD yn obaith iddo.
14:7 Pwy a ddyry iachawdwriaeth i
Israel o Seion! pan ddychwelo yr ARGLWYDD gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda
Jacob, ac y llawenha Israel.
SALM 15
15:1 Salm Dafydd. ARGLWYDD, pwy a
drig yn dy babell? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd?
15:2 Yr hwn a rodia yn berffaith, ac
a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wir yn ei galon:
15:3 Heb absennu â’i dafod, heb
wneuthur drwg i’w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog
15:4 Yr hwn y mae y drygionus yn
ddirmygus yn ei olwg; ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr ARGLWYDD: yr hwn a
dwng i’w niwed ei hun, ac ni newidia.
15:5 Yr hwn ni roddes ei arian ar
usuriaeth, ac ni chymer wobr yn erbyn y gwirion. A wnelo hyn, nid ysgogir yn
dragywydd.
SALM 16
16:1 Michtam Dafydd. Cadw fi, O
DDUW: canys ynot yr ymddiriedaf.
16:2 Fy enaid, dywedaist wrth yr
ARGLWYDD, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti:
16:3 Ond i’r saint sydd ar y ddaear,
a’r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch.
16:4 Gofidiau a amlhânt i’r rhai a
frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod-offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni
chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau.
16:5 Yr ARGLWYDD yw rhan fy
etifeddiaeth, i a’m ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren.
16:6 Y llinynnau a syrthiodd i mi
mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg.
16:7 Bendithiaf yr ARGLWYDD, yr hwn
a’m cynghorodd: fy arennau hefyd a’m dysgant y nos.
16:8 Gosodais yr ARGLWYDD bob amser
ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir.
16:9 Oherwydd hynny llawenychodd fy
nghalon ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith:
16:10 Canys ni adewi fy enaid yn
uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth.
16:11 Dangosi i mi lwybr bywyd:
digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn
dragywydd.
SALM 17
17:1 Gweddi Dafydd. Clyw, ARGLWYDD,
gyfiawnder; ystyria fy llefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll.
17:2 Deued fy marn oddi ger dy fron:
edryched dy lygaid at uniondeb.
17:3 Profaist fy nghalon; gofwyaist
fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau.
17:4 Tuag at am weithredoedd dynion,
wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd.
17:5 Cynnal fy ngherddediad yn dy
lwybrau, fel na lithro fy nhraed.
17:6 Mi a elwais arnat; canys
gwrandewi arnaf fi, O DDUW: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd.
17:7 Dangos dy ryfedd drugareddau. O
Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy
ddeheulaw.
17:8 Cadw fi fel cannwyll llygad:
cudd fi dan gysgod dy adenydd,
17:9 Rhag yr annuwiolion, y rhai a’m
gorthrymant; rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant.
17:10 Caeasant gan eu
braster: â’u genau y llefarant mewn balchder.
17:11 Ein cyniweirfa ni a
gylchynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear.
17:12 Eu dull sydd fel llew a
chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn lleoedd dirgel.
17:13 Cyfod, ARGLWYDD, achub ei
flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwiol, yr hwn yw dy gleddyf di;
17:14 Rhag dynion, y rhai yw dy law,
ARGLWYDD, rhag dynion y byd, y rhai mae eu rhan yn y bywyd yma, a’r rhai
llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu
gweddill i’w rhai bychain.
17:15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb
mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.
SALM 18
18:1
I’r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr ARGLWYDD yr hwn a lefarodd wrth yr ARGLWYDD
eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion, ac
o law Saul: ac efe a ddywedodd, Caraf di, ARGLWYDD fy nghadernid.
18:2 Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, a’m
hamddiffynfa, a’m gwaredydd; fy NUW, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf fy
nharian, a chorn fy iachawdwriaeth a’m huchel dŵr.
18:3 Galwaf ar yr ARGLWYDD
canmoladwy felly y’m cedwir rhag fy ngelynion.
18:4 Gofidion angau a’m
cylchynasant, ac afonydd y fall a’m dychrynasant i.
18:5
Gofidiau uffern a’m cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen.
18:6 Yn fy nghyfyngder y gelwais ar
yr ARGLWYDD, ac y gwaeddais ar fy NUW: efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd
ger ei fron a ddaeth i’w glustiau ef.
18:7 Yna y siglodd ac y crynodd y
ddaear; a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio.
18:8 Dyrchafodd mwg o’i ffroenau, a
thân a ysodd o’i enau: glo a enynasant ganddo.
18:9 Efe hefyd a ostyngodd y
nefoedd, ac a ddisgynnodd: a thywyllwch oedd dan ei draed ef.
18:10 Marchogodd hefyd ar y ceriwb,
ac a ehedodd: ie, efe a ehedodd ar adenydd y gwynt.
18:11 Efe a wnaeth dywyllwch yn
ddirgelfa iddo; a’i babell o’i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd, a thew gymylau
yr awyr.
18:12 Gan y disgleirdeb oedd ger ei
fron, a aethant heibio; cenllysg a marwor tanllyd.
18:13 Yr ARGLWYDD hefyd a daranodd
yn y nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef; cenllysg a marwor tanllyd.
18:14 Ie, efe a anfonodd ei saethau,
ac a’u gwasgarodd hwynt; ac a saethodd ei fellt, ac a’u gorchfygodd hwynt.
18:15 Gwaelodion y dyfroedd a
welwyd, a seiliau y byd a ddinoethwyd gan dy gerydd di, O ARGLWYDD, a chan
chwythad anadl dy ffroenau.
18:16 Anfonodd oddi uchod, cymerodd
fi, tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer.
18:17 Efe a’m gwaredodd oddi wrth fy
ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion: canys yr oeddynt yn drech na mi.
18:18 Achubasant fy mlaen yn nydd fy
ngofid; ond yr ARGLWYDD oedd gynhaliad i mi.
18:19 Dug fi hefyd i ehangder:
gwaredodd fi; canys ymhoffodd ynof.
18:20 Yr ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn
ôl fy nghyfiawnder; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi.
18:21 Canys cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD,
ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy NUW.
18:22 Oherwydd ei holl
farnedigaethau ef oedd ger fy mron i, a’i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf.
18:23 Bûm hefyd yn berffaith gydag
ef, ac ymgedwais rhag fy anwiredd.
18:24 A’r ARGLWYDD a’m gobrwyodd yn
ôl fy nghyfiawnder, yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef.
18:25 A’r trugarog y gwnei
drugaredd; â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.
18:26 A’r glân y gwnei lendid; ac
â’r cyndyn yr ymgyndynni.
18:27 Canys ti a waredi y bobl
gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel.
18:28 Oherwydd ti a oleui fy
nghannwyll: yr ARGLWYDD fy NUW a lewyrcha fy nhywyllwch.
18:29 Oblegid ynot ti yr hedais trwy
fyddin; ac yn fy NUW y llemais dros fur.
18:30 DUW sydd berffaith ei ffordd:
gair yr ARGLWYDD sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.
18:31 Canys pwy sydd DDUW heblaw yr
ARGLWYDD? a phwy sydd graig ond ein DUW ni?
18:32 DUW sydd yn fy ngwregysu â
nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith.
18:33 Gosod y mae efe fy nhraed fel
traed ewigod; ac ar fy uchelfannau y’m sefydla.
18:34 Efe sydd yn dysgu fy nwylo i
ryfel; fel y dryllier bwa dur yn fy mreichiau.
18:35 Rhoddaist hefyd i mi darian dy
iachawdwriaeth; a’th ddeheulaw a’m cynhaliodd, a’th fwynder a’m lluosogodd.
18:36 Ehengaist fy ngherddediad
danaf; fel na lithrodd fy nhraed.
18:37 Erlidiais fy ngelynion, ac a’u
goddiweddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.
18:38 Archollais hwynt, fel na
allent godi: syrthiasant dan fy nhraed.
18:39 Canys gwregysaist fi â nerth i
ryfel: darostyngaist danaf y rhai a ymgododd i’m herbyn.
18:40 Rhoddaist hefyd i mi warrau fy
ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.
18:41 Gwaeddasant, ond nid oedd
achubydd - sef ar yr ARGLWYDD, ond nid atebodd efe hwynt.
18:42 Maluriais hwynt hefyd fel
llwch o flaen y gwynt: teflais hwynt allan megis tom yr heolydd.
18:43 Gwaredaist fi rhag cynhennau y
bobl; gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid adnabûm a’m gwasanaethant.
18:44 Pan glywant amdanaf, ufuddhant
i mi: meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi.
18:45 Meibion dieithr a ballant, ac
a ddychrynant allan o’u dirgel fannau.
18:46 Byw yw yr ARGLWYDD, a
bendithier fy nghraig: a dyrchafer DUW fy iachawdwriaeth.
18:47 DUW sydd yn rhoddi i mi
ymddial, ac a ddarostwng y bobloedd danaf.
18:48 Efe sydd yn fy ngwared oddi
wrth fy ngelynion: ie, ti a’m dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i’m herbyn:
achubaist fi rhag y gŵr traws.
18:49 Am hynny y moliannaf di, O
ARGLWYDD, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw.
18:50 Efe sydd yn gwneuthur mawr
ymwared i’w Frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac i’w
had ef byth.
SALM 19
19:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Dduw; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei
ddwylo ef.
19:2 Dydd i ddydd a draetha
ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth.
19:3 Nid oes iaith nac ymadrodd, lle
ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt,
19:4 Eu llinyn a aeth trwy yr holl
ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt;
19:5 Yr hwn sydd fel gŵr priod
yn dyfod allan o’i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa.
19:6 O eithaf y nefoedd y mae ei
fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi
wrth ei wres ef.
19:7 Cyfraith yr ARGLWYDD sydd
berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr ARGLWYDD sydd sicr, ac yn gwneuthur
y gwirion yn ddoeth.
19:8 Deddfau yr ARGLWYDD sydd
uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr ARGLWYDD sydd bur, yn goleuo y
llygaid.
19:9 Ofn yr ARGLWYDD sydd lân, yn
parhau yn dragwydd; barnau yr ARGLWYDD ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd.
19:10 Mwy dymunol ŷnt nag aur,
ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl.
19:11 Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir
was: o’u cadw y mae gwobr lawer.
19:12 Pwy a ddeall ei gamweddau?
glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig.
19:13 Atal hefyd dy was oddi wrth
bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m
glanheir oddi wrth anwiredd lawer.
19:14 Bydded ymadroddion fy ngenau,
myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O ARGLWYDD, fy nghraig a’m
prynwr.
SALM 20
20:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
Wrandawed yr ARGLWYDD arnat yn nydd cyfyngder: enw DUW Jacob a’th ddiffynno.
20:2 Anfoned i ti gymorth o’r
cysegr, a nerthed di o Seion.
20:3 Cofied dy holl offrymau, a
bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela.
20:4 Rhodded i ti wrth fodd dy
galon, chyfiawned dy holl gyngor.
20:5 Gorfoleddwn yn dy
iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein DUW; cyfiawned yr ARGLWYDD dy
holl dymuniadau.
20:6 Yr awr hon y gwn y gwared yr
ARGLWYDD ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth
iechyd ei ddeheulaw ef.
20:7 Ymddiried rhai mewn cerbydau, a
rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr ARGLWYDD ein DUW.
20:8 Hwy a gwympasant, ac a
syrthiasant ond nyni a gyfodasom, ac a safasom.
20:9 Achub, ARGLWYDD:
gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.
SALM 21
21:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
ARGLWYDD, yn dy nerth y llawenycha y Brenin; ac yn dy iachawdwriaeth di mor
ddirfawr yr ymhyfryda!
21:2
Deisyfiad ei galon a roddaist iddo; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist. Sela.
21:3 Canys achubaist ei flaen ef a
bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.
21:4 Gofynnodd oes gennyt, a
rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd.
21:5 Mawr yw ei ogoniant yn dy
iachawdwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch.
21:6 Canys gwnaethost ef yn
fendithion yn dragywyddol; llawenychaist ef â llawenydd â’th wynepryd.
21:7 Oherwydd bod y Brenin yn
ymddiried yn yr ARGLWYDD, a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef.
21:8 Dy law a gaiff afael ar dy holl
elynion: dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gareion.
21:9 Ti a’u gwnei hwynt fel ffwrn
danllyd yn amser dy lid: yr ARGLWYDD yn ei ddicllonedd a’u llwnc hwynt, a’r tân
a’u hysa hwynt.
21:10 Eu ffrwyth hwynt a ddinistri
di oddi ar y ddaear, a’u had o blith meibion dynion.
21:11 Canys bwriadasant ddrwg i’th
erbyn: meddyliasant amcan, heb allu ohonynt ei gwblhau.
21:12 Am hynny y gwnei iddynt droi
eu cefnau: ar dy linynnau y paratöi di saethau yn erbyn eu hwynebau.
21:13 Ymddyrcha, ARGLWYDD, yn dy
nerth; canwn, a chanmolwn dy gadernid.
SALM 22
22:1 I’r Pencerdd ar
Aieleth-hasahar, Salm Dafydd. Fy NUW, fy NUW, paham y’m gwrthodaist? paham yr
ydwyt mor bell oddi wrth fy iawchawdwriaeth, a geiriau fy llefain?
22:2 Fy NUW, llefain yr ydwyf y
dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi.
22:3 Ond tydi wyt sanctaidd, O dydi
yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel.
22:4 Ein tadau a obeithiasant ynot:
gobeithiasant, a gwaredaist hwynt.
22:5 Arnat ti y llefasant , ac
achubwyd hwynt; ynot yr ymddiriedasant, ac nis gwaradwyddwyd hwynt.
22:6 A minnau, pryf ydwyf, ac nid gŵr;
gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl.
22:7 Pawb a’r a’m gwelant a’m
gwatwarant: llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd,
22:8 Ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD;
gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo
22:9 Canys ti a’m tynnaist o’r
groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam.
22:10 Arnat ti y’m bwriwyd o’r bru:
o groth fy mam fy NUW ydwyt.
22:11 Nac ymbellha oddi wrthyf;
oherwydd cyfyngder sydd agos: canys nid oes cynorthwywr.
22:12 Teirw lawer a’m cylchynasant:
gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant.
22:13 Agorasant arnaf eu genau, fel
llew rheibus a rhuadwy.
22:14 Fel dwfr y’m tywalltwyd, a’m
hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol
fy mherfedd.
22:15 Fy nerth a wywodd fel
priddlestr; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau; ac i lwch angau y’m
dygaist.
22:16 Canys cŵn a’m
cylchynasant: cynulleidfa y drygionus a’m hamgylchasant: trywanasant fy nwylo
a’m traed.
22:17 Gallaf gyfrif fy holl esgyrn:
y maent yn tremio ac yn edrych arnaf.
22:18 Y maent yn rhannu fy nillad yn
eu mysg, ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren.
22:19 Ond tydi, ARGLWYDD, nac
ymbellha: fy nghadernid, brysia i’m cynorthwyo.
22:20 Gwared fy enaid rhag y
cleddyf, fy unig enaid o feddiant y ci.
22:21 Achub fi rhag safn y llew:
canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist.
22:22 Mynegaf dy enw i’m brodyr: yng
nghanol y gynulleidfa y’th folaf.
22:23 Y rhai sydd yn ofni yr
ARGLWYDD, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch
ef.
22:24 Canys ni ddirmygodd, ac ni
ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd
efe arno, efe a wrandawodd.
22:25 Fy mawl sydd ohonot ti yn y
gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a’i hofnant ef.
22:26 Y tlodion a fwytânt, ac a
ddiwellir: y rhai a geisiant yr ARGLWYDD, a’i moliannant ef: eich calon fydd
byw yn dragywydd.
22:27 Holl derfynau y ddaear a
gofiant, ac a droant at yr ARGLWYDD: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant
ger dy fron di.
22:28 Canys eiddo yr ARGLWYDD yw y
deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd.
22:29 Yr holl rai breision ar y
ddaear a fwytânt, ac a addolant: y rhai a ddisgynnant i’r llwch, a ymgrymant
ger ei fron ef; ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun.
22:30 Eu had a’i gwasanaetha ef:
cyfrifir ef i’r ARGLWYDD yn genhedlaeth.
22:31 Deuant, ac adroddant ei
gyfiawnder ef i’r bobl a enir, mai efe a wnaeth hyn.
SALM 23
23:1 Salm Dafydd. YR ARGLWYDD yw fy
Mugail; ni bydd eisiau arnaf.
23:2 Efe a wna i mi orwedd mewn
porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel.
23:3 Efe a ddychwel fy enaid: efe
a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.
23:4 Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn
cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m
cysurant.
23:5 Ti a arlwyi ford ger fy mron
yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn.
23:6 Daioni a thrugaredd yn ddiau
a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr ARGLWYDD yn
dragywydd.
SALM 24
24:1 Salm Dafydd. Eiddo yr ARGLWYDD
y ddaear, a’i chyfiawnder; y byd, ac a breswylia ynddo.
24:2 Canys efe a'i seiliodd ar y
moroedd, ac a'i sicrhaodd ar yr afonydd.
24:3 Pwy a esgyn i fynydd yr
ARGLWYDD? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef?
24:4 Y glân ei ddwylo, a'r pur ei
galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo.
24:5 Efe a dderbyn fendith gan yr
ARGLWYDD, a chyfiawnder gan DDUW ei iachawdwriaeth.
24:6 Dyma genhedlaeth y rhai a'i
ceisiant ef, y rhai a geisiant dy wyneb di, O Jacob. Sela.
24:7 O byrth, dyrchefwch eich
pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i
mewn.
24:8 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn?
yr ARGLWYDD nerthol a chadarn, yr ARGLWYDD cadarn mewn rhyfel.
24:9 O byrth, dyrchefwch eich
pennau; a ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i
mewn.
24:10 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn?
ARGLWYDD y lluoedd, efe yw Brenin y gogoniant. Sela.
SALM 25
25:1 Salm Dafydd. Atat ti, O
ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid.
25:2 O fy NUW, ynot ti yr
ymddiriedais; na'm gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf
25:3 Ie, na waradwydder neb sydd yn
disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos.
25:4 Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O
ARGLWYDD: dysg i mi dy lwybrau.
25:5 Tywys fi yn dy wirionedd, a
dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y
dydd
25:6 Cofia, ARGLWYDD, dy
dosturiaethau a'th drugareddau: canys erioed y maent hwy.
25:7 Na chofia bechodau fy ieuenctid
na'm camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy ddaioni,
ARGLWYDD.
25:8 Da ac uniawn yw yr ARGLWYDD:
oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd.
25:9 Y rhai llariaidd a hyffordda
efe mewn barn: a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig.
25:10 Holl lwybrau yr ARGLWYDD ydynt
drugaredd a gwirionedd, i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i dystiolaethau ef.
25:11 Er mwyn dy enw, ARGLWYDD,
maddau fy anwiredd: canys mawr yw.
25:12 Pa ŵr yw efe sydd yn
ofni’r ARGLWYDD? efe a’i dysg ef yn y ffordd a ddewiso.
25:13 Ei enaid ef a erys mewn
daioni: a’i had a etifedda y ddaear.
25:14 Dirgelwch yr ARGLWYDD sydd
gyda’r rhai a’i hofnant ef: a’i gyfamod hefyd, i’w cyfarwyddo hwynt.
25:15 Fy llygaid sydd yn wastad ar
yr ARGLWYDD: canys efe a ddwg fy nhraed allan o’r rhwyd.
25:16 Tro ataf, a thrugarha wrthyf:
canys unig a thlawd ydwyf.
25:17 Gofidiau fy nghalon a
helaethwyd: dwg fi allan o’m cyfyngderau.
25:18 Gwêl fy nghystudd a’m helbul,
a maddau fy holl bechodau.
25:19 Edrych ar fy ngelynion; canys
amlhasant; â chasineb traws hefyd y’m casasant.
25:20 Cadw fy enaid, ac achub fi:
na’m gwaradwydder: canys ymddiriedais ynot.
25:21 Cadwed perffeithrwydd ac
uniondeb fi: canys yr wyf yn disgwyl wrthy.
25:22 O DDUW, gwared Israel o’i holl
gyfyngderau.
SALM 26
26:1 Salm Dafydd. Barn fi, ARGLWYDD;
canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr ARGLWYDD: am
hynny ni lithraf.
26:2 Hola fi, ARGLWYDD, a phrawf fi:
chwilia fy arennau a’m calon.
26:3 Canys dy drugaredd sydd o flaen
fy llygaid: ac mi a rodiais yn dy wirionedd.
26:4 Nid eisteddais gyda dynion
coegion; a chyda’r rhai trofaus nid af.
26:5 Caeais gynulleidfa y drygionus;
a chyda’r annuwiolion nid eisteddai.
26:6 Golchaf fy nwylo mewn
diniweidrwydd: a’th allor, O ARGLWYDD, a amgylchynaf:
26:7 I gyhoeddi â llef clodforedd,
ac i fynegi dy holl ryfeddodau.
26:8 ARGLWYDD, hoffais drigfan dy dŷ,
a lle preswylfa dy ogoniant.
26:9 Na chasgl fy enaid gyda
phechaduriaid, na’m bywyd gyda dynion gwaedlyd:
26:10 Y rhai y mae ysgelerder yn eu
dwylo, a’u deheulaw yn llawn gwobrau.
26:11 Eithr mi a rodiaf yn fy
mherffeithrwydd: gwared fi, a thrugarha wrthyf.
26:12 Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr
uniawn: yn y cynulleidfaoedd y’th fendithiaf, O ARGLWYDD.
SALM 27
27:1 Salm Dafydd. Yr ARGLWYDD yw fy
ngoleuni a’m hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr ARGLWYDD yw nerth fy mywyd;
rhag pwy y dychrynaf?
27:2 Pan nesaodd y rhai drygionus,
sef fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion, i’m herbyn, i fwyta fy nghnawd, hwy a
dramgwyddasant ac a syrthiasant.
27:3 Pe gwersyllai llu i’m herbyn,
nid ofna fy nghalon: pe cyfodai cad i’m herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus.
27:44 Un peth a ddeisyfais i gan yr
ARGLWYDD, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr ARGLWYDD holl
ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr ARGLWYDD, ac i ymofyn yn ei
deml.
27:5 Canys yn y dydd blin y’m cuddia
o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i.
27:6 Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen
goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth
gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr ARGLWYDD.
27:7 Clyw, O ARGLWYDD, fy lleferydd
pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf.
27:8 Pan ddywedaist, Ceisiwch fy
wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O ARGLWYDD.
27:9 Na chuddia dy wyneb oddi
wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na
wrthod fi. O DDUW fy iachawdwriaeth.
27:10 Pan yw fy nhad a’m mam yn fy
ngwrthod, yr ARGLWYDD a’m derbyn.
27:11 Dysg i mi dy ffordd, ARGLWYDD,
ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion.
27:12 Na ddyro fi i fyny i ewyllys
fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m
herbyn.
27:13 Diffygiaswn, pe na chredaswn
weled daioni yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw.
27:14 Disgwyl wrth yr ARGLWYDD:
ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr ARGLWYDD.
SALM 28
28:1 Salm Dafydd. Arnat ti,
ARGLWYDD, y gwaeddaf; fy nghraig, na ddistawa wrthyf: rhag, o thewi wrthyf, i
mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll.
28:2 Erglyw lef fy ymbil pan
waeddwyf arnat, pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd.
28:3 Na thyn fi gyda’r annuwiolion,
a chyda gweithredwyr anwiredd; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion, a
drwg yn eu calon.
28:4 Dyro iddynt yn ôl eu gweithred,
ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo; tâl
iddynt eu haeddedigaethau.
28:5 Am nad ystyriant weithredoedd
yr ARGLWYDD, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada
hwynt.
28:6 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD:
canys, clybu lef fy ngweddïau.
28:7 Yr ARGLWYDD yw fy nerth, a’m
tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd
hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef.
28:8 Yr ARGLWYDD sydd nerth i’r
cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe.
28:9 Cadw dy bobl, a bendithia dy
etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.
SALM 29
29:1 Salm Dafydd. Moeswch i’r
ARGLWYDD, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.
29:2 Moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant
ei enw: addolwch yr ARGLWYDD ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd.
29:3 Llef yr ARGLWYDD sydd ar y
dyfroedd: DUW y gogoniant a darana; yr ARGLWYDD sydd ar y dyfroedd mawrion.
29:4 Llef yr ARGLWYDD sydd mewn
grym: llef yr ARGTWYDD sydd mewn prydferthwch.
29:55 Llef yr ARGLWYDD sydd yn
dryllio y cedrwydd; ie, dryllia yr ARGLWYDD gedrwydd Libanus.
29:6 Efe a wna iddynt lamu
fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn.
29:7 Llef yr ARGLWYDD a wasgara y
fflamau tân.
29:8 Llef yr ARGLWYDD a wna i’r
anialwch grynu: yr ARGLWYDD a wna i anialwch Cades grynu.
29:9 Llef yr ARGLWYDD a wna i’r
ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei
ogoniant ef.
29:10 Yr ARGLWYDD sydd yn eistedd ar
y llifeiriant; ie, yr ARGLWYDD eistedd yn Frenin yn dragywydd.
29:11 Yr
ARGLWYDD a ddyry nerth i’w bobl: yr ARGLWYDD a fendithia ei bobl â thangnefedd.
SALM 30
30:1 Salm neu Gân o gysegriad tŷ
Dafydd. Mawrygaf di, O ARGLWYDD: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy
ngelynion o’m plegid.
30:2 ARGLWYDD fy NUW, llefais arnat,
a thithau a’m hiacheaist.
30:3 ARGLWYDD, dyrchefaist fy enaid
o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll.
30:4 Cenwch i’r ARGLWYDD, ei saint
ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
30:5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei
lid; ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y
bore y bydd gorfoledd.
30:6 Ac mi a ddywedais yn fy
llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd.
30:7 O’th daioni, ARGLWYDD; y
gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus.
30:8 Arnat ti, ARGLWYDD, y llefais,
ac â’r ARGLWYDD yr ymbiliais.
30:9 Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan
ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd?
30:10 Clyw, ARGLWYDD, a thrugarha
wrthyf: ARGLWYDD, bydd gynorthwywr i mi.
30:11 Troaist fy ngalar yn llawenydd
i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd;
30:12 Fel y cano fy ngogoniant i ti,
ac na thawo. O ARGLWYDD fy NUW, yn dragwyddol y’th foliannaf.
SALM 31
31:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Ynot
ti, ARGLWYDD, yr ymddiriedais: na’m gwaradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy
gyfiawnder.
31:2 Gogwydda dy glust ataf; gwared
fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i’m cadw.
31:3 Canys fy nghraig a’m castell
ydwyt: gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi.
31:4 Tyn fi allan o’r rhwyd a
guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth.
31:5 I’th law y gorchmynnaf fy
ysbryd: gwaredaist fi, O ARGLWYDD DDUW y gwirionedd.
31:6 Caseais y rhai sydd yn dal ar
ofer wagedd: minnau a obeithiaf yn yr ARGLWYDD.
31:7 Ymlawenhaf ac ymhyfrydaf yn dy
drugaredd: canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau;
31:8 Ac ni warchaeaist fi yn llaw y
gelyn; ond gosodaist fy nhraed mewn ehangder.
31:9 Trugarha wrthyf, ARGLWYDD;
canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a’m bol
31:10 Canys fy mywyd a ballodd gan
ofid, a’m blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a’m
hesgyrn a bydrasant.
31:11 Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy
holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i’r rhai
a’m hadwaenant: y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf.
31:12 Anghofiwyd fi fel un marw
allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig.
31:13 Canys clywais ogan llaweroedd;
dychryn oedd o bob parth - pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy
nieneidio.
31:14 Ond mi a obeithiais ynot ti,
ARGLWYDD: dywedais, Fy NUW ydwyt.
31:15 Yn dy law di y mae fy amserau:
gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr.
31:16 Llewyrcha dy wyneb ar dy was,
achub fi er mwyn dy drugaredd.
31:17 ARGLWYDD, na waradwydder fi;
canys gelwais arnat: gwaradwydder yr annuwiolion, torrer hwynt i’r bedd.
31:18 Gosteger y gwefusau celwyddog,
y rhai a ddywedant yn galed, trwy falchder a diystyrwch, yn erbyn y cyfiawn.
31:19 Mor fawr yw dy ddaioni a
roddaist i gadw i’r sawl a’th ofnant; ac a wnaethost i’r rhai a ymddiriedant
ynot, gerbron meibion dynion!
31:20 Cuddi hwynt yn nirgelfa dy
wyneb rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau.
31:21 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD:
canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn.
31:22 Canys mi a ddywedais yn fy
ffrwst, Fe’m bwriwyd allan o’th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fy
ngweddïau pan lefais arnat.
31:23 Cerwch yr ARGLWYDD, ei holl
saint ef: yr ARGLWYDD a geidw y ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i’r neb a
wna falchder.
31:24 Ymwrolwch, ac efe a gryfha
eich calon, chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr ARGLWYDD
SALM 32
32:1 Salm Dafydd, er athrawiaeth. Gwyn
ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod.
32:2 Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr
ARGLWYDD iddo anwiredd, ac ni byddo dichell yn ei ysbryd.
32:3 Tra y tewais, heneiddiodd fy
esgyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd.
32:4 Canys trymhaodd dy law arnaf
ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder haf. Sela.
32:5 Addefais fy mhechod wrthyt, a’m
hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r
ARGLWYDD; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela.
32:6 Am hyn y gweddïa pob duwiol
arnat ti yn yr amser y’th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni
chânt nesáu ato ef.
32:7 Ti ydwyt loches i mi; cedwi fi
rhag ing: amgylchyni fi â chaniadau ymwared. Sela.
32:8 Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn
y ffordd yr elych: i’m llygad arnat y’th gynghoraf.
32:9 Na fyddwch fel march, neu ful,
heb ddeall: yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei
ddynesáu atat.
32:10 Gofidiau lawer fydd i’r
annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, trugaredd a’i cylchyna ef.
32:11 Y rhai cyfiawn, byddwch lawen
a hyfryd yn yr ARGLWYDD: a’r rhai uniawn galon oll, cenwch yn llafar.
SALM 33
33:1 Ymlawenhewch, y rhai cyfiawn,
yn yr ARGLWYDD: i’r rhai uniawn gweddus yw mawl.
33:2 Molwch yr ARGLWYDD â’r delyn:
cenwch iddo â’r nabl, ac â’r dectant.
33:3 Cenwch iddo ganiad newydd:
cenwch yn gerddgar, yn soniarus
33:4 Canys uniawn yw gair yr
ARGLWYDD; a’i holl weithredoedd a wnaed mewn a ffyddlondeb.
33:5 Efe a gâr gyfiawnder a
barn, o drugaredd yr ARGLWYDD y mae y ddaear yn gyflawn.
33:6 Trwy air yr ARGLWYDD y
gwnaethpwyd y nefoedd; a’u holl luoedd hwy trwy ysbryd ei enau ef.
33:7 Casglu y mae efe ddyfroedd y
môr ynghyd megis pentwr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn trysorau.
33:8 Ofned
yr holl ddaear yr ARGLWYDD: holl drigolion y byd arswydant ef.
33:9 Canys efe a ddywedodd, ac felly
y bu: efe a orchmynnodd, a hynny a safodd.
33:10 Yr ARGLWYDD sydd yn diddymu
cyngor y cenhedloedd, y mae efe yn diddymu amcanion pobloedd.
33:11 Cyngor yr ARGLWYDD a saif yn
dragywydd; meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth.
33:12 Gwyn ei byd y genedl y mae yr
ARGLWYDD yn DDUW iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.
33:13 Yr ARGLWYDD sydd yn edrych i
lawr o’r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion.
33:14 O breswyl ei drigfa yr edrych
efe ar holl drigolion y ddaear.
33:15 Efe a gydluniodd eu calon
hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd.
33:16 Ni waredir brenin gan
liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder.
33:17 Peth
ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder.
33:18 Wele, y mae llygad yr ARGLWYDD
ar y rhai a’i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef;
33:19 I waredu eu henaid rhag angau,
ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn.
33:20 Ein henaid sydd yn disgwyl am
yr ARGLWYDD: efe yw ein porth a’n tarian.
33:21 Canys ynddo ef y llawenycha
ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef.
33:22 Bydded dy drugaredd, ARGLWYDD,
arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.
SALM 34
34:2 Salm Dafydd, pan newidiodd efe
ei wedd o flaen Abimelech; yr hwn a’i gyrrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd.
Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad.
34:2 Yn yr ARGLWYDD y gorfoledda fy
enaid: y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant.
34:3 Mawrygwch yr ARGLWYDD
gyda mi; a chyd-ddyrchafwn ei enw ef.
34:4 Ceisiais yr ARGLWYDD, ac
efe a’m gwrandawodd; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn.
34:5 Edrychasant arno, a hwy
a oleuwyd; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd.
34:6 Y tlawd hwn a lefodd,
a’r ARGLWYDD a’i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau.
34:7 Angel yr ARGLWYDD a
gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a’u gwared hwynt.
34:8 Profwch, a gwelwch mor
dda yw yr ARGLWYDD: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.
34:9 Ofnwch Yr ARGLWYDD, ei
saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef.
34:10 Y mae eisiau a newyn ar y
llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr ARGLWYDD, ni bydd arnynt eisiau dim
daioni.
34:11 Deuwch, blant, gwrandewch
arnaf: dysgaf i chwi ofn yr ARGLWYDD.
34:12 Pwy yw y gŵr a chwennych
fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni?
34:13 Cadw dy dafod rhag drwg, a’th
wefusau rhag traethu twyll.
34:14 Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna
dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi.
34:15 Llygaid yr ARGLWYDD sydd ar y
cyfiawn: a’i glustiau sydd yn agored i’w llefain hwynt.
34:16 Wyneb yr ARGLWYDD sydd yn
erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa oddi ar y ddaear.
34:17 Y rhai cyfiawn a lefant; a’r
ARGLWYDD a glyw, ac a’u gwared o’u holl drallodau.
34:18 Agos yw yr ARGLWYDD at y rhai
drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd.
34:19 Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn:
ond yr ARGLWYDD a’i gwared ef oddi wrthynt oll.
34:20 Efe a geidw ei holl esgyrn ef:
ni thorrir un ohonynt.
34:21 Drygioni a ladd yr annuwiol:
a’r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir.
34:22 Yr ARGLWYDD a wared eneidiau
ei weision: a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.
SALM 35
35:1 Salm Dafydd. Dadlau fy nadl,
ARGLWYDD, yn erbyn y rhai a ddadleuant i’m herbyn: ymladd â’r rhai a ymladdant
â mi.
35:2 Ymafael yn y darian a’r
astalch, a chyfod i’m cymorth.
35:3 Dwg allan y waywffon, ac argaea
yn erbyn fy erlidwyr: dywed wrth fy enaid, Myfi yw dy iachawdwriaeth.
35:4 Cywilyddier a gwaradwydder y
rhai a geisiant fy enaid: ymchweler yn eu hôl a gwarthaer y sawl a fwriadant fy
nrygu.
35:5 Byddant fel us o flaen y gwynt:
ac angel yr ARGLWYDD yn eu herlid.
35:6 Bydded eu ffordd yn dywyllwch
ac yn llithrigfa: ac angel yr ARGLWYDD yn eu hymlid.
35:7 Canys heb achos y cuddiasant eu
rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddiasant i’m henaid.
35:8 Deued arno ddistryw ni wypo;
a’i rwyd yr hon a guddiodd, a’i dalio: syrthied yn y distryw hwnnw.
35:9 A llawenycha fy enaid i yn yr
ARGLWYDD: efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef.
35:10 Fy holl esgyrn a ddywedant, O
ARGLWYDD, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo drech nag
ef: y truan hefyd a’r tlawd, rhag y neb â’i hysbeilio?
35:11 Tystion gau a gyfodasant:
holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho.
35:12 Talasant i mi ddrwg dros dda,
i ysbeilio fy enaid.
35:13 A ninnau, pan glafychent hwy,
oeddwn â’m gwisg o sachlen: gostyngais fy enaid ag ympryd, a’m gweddi a
ddychwelodd i’m mynwes fy hun.
35:14 Ymddygais fel pe buasai yn
gyfaill, neu yn frawd i mi: ymostyngais mewn galarwisg, fel un yn galaru am ei
fam.
35:15 Ond ymlawenhasant hwy yn fy
adfyd i, ac ymgasglasant; ie, ymgasglodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn;
rhwygasant fi, ac ni pheidient.
35:16 Ymysg y gwatwarwyr rhagrithiol
mewn gwleddoedd, ysgyrnygasant eu dannedd arnaf.
35:17 Arglwydd, pa hyd yr edrychi di
ar hyn? gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt, fy unig enaid rhag y llewod.
35:18 Mi a’th glodforaf yn y
gynulleidfa fawr: moliannaf di ymhhth pobl lawer.
35:19 Na lawenychant o’m herwydd y
rhai sydd elynion i mi heb achos: y sawl a’m casânt yn ddiachos, nac amneidiant
â llygad.
35:20 Gan nad ymddiddanant yn
dangnefeddus; eithr dychmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd yn y
tir.
35:21 Lledasant eu safn
arnaf, gan ddywedyd, Ha, Ha, gwelodd ein llygad.
35:22 Gwelaist hyn, ARGLWYDD: na
thaw dithau; nac ymbella oddi wrthyf, O ARGLWYDD:
35:23 Cyfod, a deffro i’m barn, sef
i’m dadl, fy NUW a’m Harglwydd.
35:24 Barn fi, ARGLWYDD fy NUW, yn
ôl dy gyfiawnder; ac na lawenhânt o’m plegid.
35:25 Na ddywedant yn eu calon, O
ein gwynfyd: na ddywedant, Llyncasom ef.
35:26 Cywilyddier a gwaradwydder hwy
i gyd, y rhai sydd lawen am fy nrygfyd: gwisger â gwarth ac â chywilydd y rhai
a ymfawrygant i’m herbyn.
35:27 Caned a llawenyched y rhai a
hoffant fy nghyfiawnder: dywedant hefyd yn wastad, Mawryger yr ARGLWYDD, yr hwn
a gâr lwyddiant ei was.
35:28 Fy
nhafod innau a lefara am dy gyfiawnder a’th foliant ar hyd y dydd.
SALM 36
36:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd gwas
yr ARGLWYDD. Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon, nad oes
ofn DUW o flaen ei lygaid ef.
36:2 Oherwydd ymwenieithio y mae efe
iddo ei hun yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atgas.
36:3 Geiriau ei enau ydynt anwiredd
a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni.
36:4 Anwiredd a ddychymyg efe ar ei
wely: efe a'i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda; nid ffiaidd ganddo ddrygioni.
36:5 Dy drugaredd, ARGLWYDD, sydd
hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.
36:6 Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy
gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di,
ARGLWYDD.
36:7 Mor werthfawr yw dy drugaredd,
O DDUW! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd.
36:8 Llawn ddigonir hwynt â braster
dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt.
36:9 Canys gyda thi y mae ffynnon y
bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni.
36:10 Estyn dy drugaredd i'r rhai
a'th adwaenant, a’th gyfiawnder i'r rhai uniawn o galon.
36:11 Na ddeued troed balchder i'm
herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi.
36:12 Yno y syrthiodd gweithwyr
anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.
SALM 37
37:1 Salm Dafydd. Nac ymddigia
oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd.
37:2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt
i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant gwyrddlysiau.
37:3 Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a
gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau.
37:4 Ymddigrifa hefyd yn yr ARGLWYDD
ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon.
37:5 Treigla dy ffordd ar yr
ARGLWYDD, ymddiried ynddo; ac efe a'i dwg i ben.
37:6 Efe a ddwg allan dy gyfiawnder
fel y goleuni, a'th farn fel hanner dydd.
37:7 Distawa yn yr ARGLWYDD, a
disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr
sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion.
37:8 Paid â digofaint, a gad ymaith
gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg.
37:9 Canys torrir ymaith y drwg
ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr ARGLWYDD, hwynt-hwy a etifeddant y
tir.
37:10 Canys eto ychydigyn, ac ni
welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono.
37:11 Eithr y rhai gostyngedig a
etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd.
37:12 Yr annuwiol a amcana yn erbyn
y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno.
37:13 Yr ARGLWYDD a chwardd am ei
ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod.
37:14 Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf,
ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai
uniawn eu ffordd.
37:15 Eu cleddyf a â yn eu
calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir.
37:16 Gwell yw yr ychydig sydd gan y
cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer.
37:17 Canys
breichiau yr annuwiolion a dorrir: ond yr ARGLWYDD a gynnal y rhai cyfiawn.
37:18 Yr ARGLWYDD a edwyn ddyddiau y
rhai perffaith: a’u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.
37:19 Nis gwaradwyddir hwy yn amser
drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon.
37:20 Eithr collir yr annuwiolion, a
gelynion yr ARGLWYDD fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg y diflannant
hwy.
37:21 Yr annuwiol a echwynna, ac ni
thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.
37:22 Canys y rhai a fendigo
efe, a etifeddant y tir; a’r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith.
37:23 Yr ARGLWYDD a fforddia
gerddediad gŵr da; a da fydd ganddo ei ffordd ef.
37:24 Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir
ef i lawr: canys yr ARGLWYDD sydd yn ei gynnal ef â’i law.
37:25 Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf
yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu na’i had yn cardota bara.
37:26 Bob
amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg; a’i had a fendithir.
37:27 Cilia di oddi wrth ddrwg, a
gwna dda; a chyfanhedda yn dragywydd.
37:28 Canys yr ARGLWYDD a gâr farn,
ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a dorrir
ymaith.
37:29 Y rhai cyfiawn a etifeddant y
ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd.
37:30 Genau y cyfiawn a fynega
ddoethineb, a’i dafod a draetha farn.
37:31 Deddf ei DDUW sydd yn ei galon
ef; a’i gamre ni lithrant.
37:32 Yr annuwiol a wylia ar y
cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.
37:33 Ni ad yr ARGLWYDD ef yn ei law
ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner.
37:34 Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a
chadw ei ffordd ef, ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir: pan
ddifether yr annuwiolion, ti a’i gweli.
37:35 Gwelais yr annuwiol yn gadarn,
ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd.
37:36 Er hynny efe a aeth ymaith, ac
wele, nid oedd mwy ohono: a mi a’i ceisiais, ac nid oedd i’w gael.
37:37 Ystyr y perffaith, ac edrych
at yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd.
37:38 Ond y troseddwyr a
gyd-ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith.
37:39 A iachawdwriaeth y cyfiawn
sydd oddi wrth yr ARGLWYDD: efe yw eu nerth yn amser trallod.
37:40 A’r ARGLWYDD a’u cymorth
hwynt, ac a’u gwared: efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a’u ceidw
hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.
SALM 38
38:1 Salm Dafydd, er coffa.
ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd.
38:2 Canys y mae dy saethau ynglŷn
ynof, a’th law yn drom arnaf.
38:3 Nid oes iechyd yn fy nghnawd,
oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i’m hesgyrn, oblegid fy mhechod.
38:4 Canys fy nghamweddau a aethant
dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi.
38:5 Fy nghleisiau a bydrasant ac a
lygrasant, gan fy ynfydrwydd.
38:6 Crymwyd a darostyngwyd fi yn
ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus.
38:7 Canys fy lwynau a lanwyd o
ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd.
38:8 Gwanhawyd, a drylliwyd fi yn
dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon.
38:9 O’th flaen di, ARGLWYDD, y mae
fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt.
38:10 Fy nghalon sydd yn llamu; fy
nerth a’m gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf.
38:11 Fy ngharedigion a’m cyfeillion
a safent oddi ar gyfer fy mhla; a’m cyfneseifiaid a safent o hirbell.
38:12 Y rhai hefyd a geisient fy
einioes, a osodasent faglau; a’r rhai a geisient fy niwed, a draethent
anwireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd.
38:13 A minnau fel byddar ni chlywn;
eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau.
38:14 Felly yr oeddwn fel gŵr
ni chlywai, ac heb argyhoeddion yn ei enau.
38:15 Oherwydd i mi obeithio ynot,
ARGLWYDD; ti, ARGLWYDD fy NUW, a wrandewi.
38:16 Canys dywedais, Gwrando fi
rhag llawenychu ohonynt i’m herbyn: pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i’m
herbyn.
38:17 Canys parod wyf i gloffi, a’m
dolur sydd ger fy mron yn wastad.
38:18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac
y pryderaf oherwydd fy mhechod.
38:19 Ac y mae fy ngelynion yn fyw,
ac yn gedyrn: amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam.
38:20 A’r rhai a dalant ddrwg dros
dda, a’m gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni.
38:21 Na ad fi, O ARGLWYDD: fy NUW,
nac ymhell oddi wrthyf.
38:22 Brysia i’m cymorth, O ARGLWYDD
fy iachawdwriaeth.
SALM 39
39:1 Salm Dafydd i’r Pencerdd, sef i
Jedwthwn. Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â’m tafod: cadwaf ffrwyn yn fy
ngenau, tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg.
39:2 Tewais yn ddistaw, ie, tewais â
daioni; a’m dolur a gyffrôdd.
39:3 Gwresogodd fy nghalon o’m mewn:
tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â’m tafod.
39:4 ARGLWYDD, pâr i mi wybod fy
niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi.
39:5 Wele, gwnaethost fy nyddiau fel
dyrnfedd; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw
pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela.
39:6 Dyn yn ddiau sydd yn rhodio
mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy
a’i casgl.
39:7 Ac yn awr beth a ddisgwyliaf, O
ARGLWYDD? fy ngobaith sydd ynot ti.
39:8 Gwared fi o’m holl gamweddau;
ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd.
39:9 Euthum yn fud, ac nid agorais
fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn.
39:10 Tyn dy bla oddi wrthyf: gan
ddyrnod dy law y darfûm i.
39:11 Pan gosbit ddyn â cheryddon am
anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pob
dyn. Sela.
39:12 Gwrando fy ngweddi, ARGLWYDD,
a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac
alltud, fel fy holl dadau.
39:13 Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn
fy myned, ac na byddwyf mwy.
SALM 40
40:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
Disgwyliais yn ddyfal am yr ARGLWYDD; ac efe a ymostyngodd ataf; ac a glybu fy
llefain.
40:2 Cyfododd fi hefyd o’r pydew
erchyll, o’r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy
ngherddediad.
40:3 A rhoddodd yn fy ngenau ganiad
newydd o foliant i’n DUW ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a
ymddiriedant yn yr ARGLWYDD.
40:4 Gwyn ei fyd y gŵr a osodo
yr ARGLWYDD yn ymddiried iddo; ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a ŵyrant
at gelwydd.
40:5 Lluosog y gwnaethost ti, O
ARGLWYDD fy NUW, dy ryfeddodau, a’th amcanion tuag atom: ni ellir yn drefnus eu
cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir
eu rhifo.
40:6 Aberth ac offrwm nid
ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech-aberth nis
gofynnaist.
40:7 Yna y dywedais, Wele yr ydwyf
yn yfod: yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf.
40:8 Da gennyf wneuthur dy ewyllys,
O NUW: a’th gyfraith, sydd o fewn fy ghalon.
40:9 Pregethais gyfiawnder yn y
gynulleidfa fawr: wele, nid ateliais fy ngwefusau; ti, ARGLWYDD a’i gwyddost.
40:10 Ni chuddiais dy gyfiawnder o
fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb, a’th iachawdwriaeth: ni chelais dy
drugaredd na’th wirionedd yn y gynulleidfa luosog.
40:11 Tithau, ARGLWYDD, nac atal dy
drugareddau oddi wrthyf: cadwed dy drugaredd a’th wirionedd fi byth.
40:12 Canys drygau annifeiriol a’m
cylchynasant o amgylch: fy mhechodau a’m daliasant, fel na allwn edrych i fyny:
amlach ydynt na gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf.
40:13 Rhynged bodd i ti, ARGLWYDD,
fy ngwaredu: brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth.
40:14 Cydgywilyddier a gwaradwydder
y rhai a geisiant fy einioes i’w difetha; gyrrer yn eu hôl a chywilyddier y
rhai a ewyllysiant i mi ddrwg.
40:15 Anrheithier hwynt yn wobr am
eu gwaradwydd, y rhai a ddywedant wrthyf, Ha, ha.
40:16 Llawenyched ac ymhyfryded ynot
ti y rhai oll a’th geisiant: dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth bob
amser, Mawryger yr ARGLWYDD.
40:17 Ond yr wyf fi yn dlawd ac yn
anghenus; eto yr ARGLWYDD a feddwl amdanaf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt
ti; fy NUW, na hir drig.
SALM 41
41:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Gwyn
ei fyd a ystyria wrth y tlawd: yr ARGLWYDD a’i gwared ef yn amser adfyd.
41:2 Yr ARGLWYDD a’i ceidw, ac a’i
bywha; gwynfydedig fydd ar y ddaear: na ddod dithau ef wrth ewyllys ei elynion.
41:3 Yr ARGLWYDD a’i nertha ef ar ei
glaf wely: cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.
41:4 Mi a ddywedais, ARGLWYDD,
trugarha wrthyf: iachâ fy enaid; canys pechais i’th erbyn.
41:5 Fy ngelynion a lefarant ddrwg
amdanaf, gan ddywedyd, Pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?
41:6 Ac os daw i’m hedrych, efe a
ddywed gelwydd; ei galon a gasgl ati anwiredd: pan êl allan, efe a’i traetha.
41:7 Fy holl gaseion a gydhustyngant
i’m herbyn: yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi.
41:8 Aflwydd, meddant, a lŷn
wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy.
41:9 Hefyd y gŵr oedd annwyl
gennyf, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ac a fwytaodd fy mara, a ddyrchafodd ei
sawdl i’m herbyn.
41:10 Eithr ti, ARGLWYDD, trugarha
wrthyf; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt.
41:11 Wrth hyn y gwn hoffi ohonot
fi, am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i’m herbyn.
41:12 Ond amdanaf fi, yn fy
mherffeithrwydd y’m cynheli, ac y’m gosodi ger dy fron yn dragywydd.
41:13 Bendigedig fyddo ARGLWYDD
DDUW; Israel, o dragwyddoldeb a hyd dragwyddoldeb. Amen, ac Amen.
SALM 42
42:1 I’r Pencerdd, Maschil, i
feibion Cora. Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy
enaid amdanat ti, O DDUW.
42:2 Sychedig yw fy enaid am DDUW,
am y DUW byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron DUW?
42:3 Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd
a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy DDUW?
42:4 Tywalltwn fy enaid ynof, pan
gofiwn hynny: canys aethwn gyda’r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ
DDUW, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl.
42:5 Paham, fy enaid, y’th
ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn NUW: oblegid moliannaf ef
eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd.
42:6 Fy NUW, fy enaid a ymddarostwng
ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar.
42:7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder,
wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant
drosof fi.
42:8 Eto yr ARGLWYDD a orchymyn ei
drugaredd liw dydd, a’i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar DDUW fy
einioes.
42:9 Dywedaf wrth DDUW fy nghraig,
Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn?
42:10 Megis â chleddyf yn fy esgyrn
y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa
le y mae dy DDUW?
42:11 Paham y’th ddarostyngir, fy
enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn NUW; canys eto y moliannaf ef,
sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m DUW.
SALM 43
43:1 Barn fi, O DDUW, a dadlau fy
nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog: gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac
anghyfiawn.
43:2 Canys ti yw DUW fy nerth: paham
y’m bwri ymaith? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn?
43:3 Anfon dy oleuni a’th wirionedd:
tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bebyll.
43:4 Yna yr af at allor DUW, at DDUW
hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a’th foliannaf ar y delyn, O DDUW, fy NUW.
43:5 Paham y’th ddarostyngir, fy
enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn NUW; canys eto y moliannaf ef,
iachawdwriaeth fy wyneb, a’m DUW.
SALM 44
44:1 I’r Pencerdd, i feibion Cora,
Maschil. DUW, clywsom â’n clustiau, ein tadau a fynegasant i ni, y weithred a
wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt.
44:2 Ti â’th law a yrraist allan y
cenhedloedd, ac a’u plennaist hwythau; ti a ddrygaist y bobloedd, ac a’u
cynyddaist hwythau.
44:3 Canys nid â’u cleddyf eu hun y
goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt; eithr dy
ddeheulaw di, a’th fraich, a llewyrch dy wyneb, oherwydd i ti eu hoffi hwynt.
44:4 Ti, DDUW, yw fy mrenin:
gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob.
44:5 Ynot ti y cilgwthiwn ni ein
gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i’n herbyn.
44:6 Oherwydd nid yn fy mwa yr
ymddiriedaf; nid fy nghleddyf chwaith a’m hachub.
44:7 Eithr ti a’n hachubaist ni oddi
wrth ein gwrthwynebwyr, ac a waradwyddaist ein caseion.
44:8 Yn NUW yr ymffrostiwn trwy y
dydd; a ni a glodforwn dy enw yn dragywydd. Sela.
44:9 Ond ti a’n bwriaist ni ymaith,
ac a’n gwaradwyddaist; ac nid wyt yn myned allan gyda’n lluoedd.
44:10 Gwnaethost i ni droi yn ôl
oddi wrth y gelyn: a’n caseion a anrheithiasant eu hun.
44:11 Rhoddaist ni fel defaid i’w
bwyta; gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd.
44:12 Gwerthaist dy bobl heb elw, ac
ni chwanegaist dy olud o’u gwerth hwynt.
44:13 Gosodaist ni yn warthrudd i’n
watwargerdd ac yn wawd i’r rhai o’n hamgylch.
44:14 Gosodaist ni yn ddihareb ymysg
y cenhedloedd, yn rhai i ysgwyd pen arnynt ymysg y bobloedd.
44:15 Fy ngwarthrudd sydd beunydd
ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a’m todd:
44:16 Gan lais y gwarthruddwr a’r
cablwr; oherwydd y gelyn a’r ymddialwr.
44:17 Hyn oll a ddaeth arnom; eto
ni’th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfamod.
44:18 Ni throdd ein calon yn ei hôl,
ac nid aeth ein cerddediad allan o’th lwybr di;
44:19 Er i ti ein curo yn nhrigfa
dreigiau, a rhoi drosom â chysgod angau.
44:20 Os anghofiasom enw ein DUW,
neu estyn ein dwylo at dduw dieithr:
44:21 Oni chwilia DUW hyn allan?
canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon.
44:22 Ie, er dy fwyn di y’n lleddir
beunydd; cyfrifir ni fel defaid i’w lladd.
44:23 Deffro, paham y cysgi, O
ARGLWYDD? cyfod, na fwrw ni ymaith yn dragywydd.
44:24 Paham y cuddi dy wyneb? ac yr anghofi
ein cystudd a’n gorthrymder?
44:25 Canys gostyngwyd ein henaid
i’r llwch: glynodd ein bol wrth y ddaear.
44:26 Cyfod yn gynhorthwy i ni, a
gwared ni er mwyn dy drugaredd.
SALM 45
45:1 I’r Pencerdd ar Sosannim, i
feibion Cora, Maschil, Cân cariadau. Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr
ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan.
45:2 Tecach ydwyt na meibion dynion:
tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y’th fendithiodd DUW yn
dragywydd.
45:3 Gwregysa dy gleddyf ar dy glun,
O Gadarn, a’th ogoniant a’th harddwch.
45:4 Ac yn dy harddwch marchoga yn
llwyddiannus, oherwydd gwirionedd, a lledneisrwydd, a’th ddeheulaw a ddysg i ti
bethau ofnadwy.
45:5 Pobl a syrthiant danat;
oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin.
45:6 Dy orsedd di, O DDUW, sydd byth
ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di.
45:7 Ceraist gyfiawnder, a chaseaist
ddrygioni: am hynny y’th eneiniodd DUW, sef dy DDUW di, ag olew llawenydd yn
fwy na’th gyfeillion.
45:8 Arogl myrr, aloes, a chasia,
sydd ar dy holl wisgoedd: allan o’r palasau ifori, â’r rhai y’th lawenhasant.
45:9 Merched brenhinoedd oedd
ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o
Offir.
45:10 Gwrando, ferch, a gwêl, a
gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad.
45:11 A’r Brenin a chwennych dy
degwch; canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef.
45:12 Merch Tyrus hefyd fydd yno ag
anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb.
45:13 Merch y Brenin sydd oll yn
ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi.
45:14 Mewn gwaith edau a nodwydd y
dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant, ar ei hôl, yn gyfeillesau
iddi, a ddygir atat ti.
45:15 Mewn llawenydd a gorfoledd y
dygir hwynt: deuant i lys y Brenin.
45:16 Dy feibion fydd yn lle dy
dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir.
45:17 Paraf gofio dy enw ym mhob
cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a’th folianniant byth ac yn dragywydd.
SALM 46
46:1 I’r Pencerdd o feibion Cora,
Cân ar Alamoth. Duw sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn
cyfyngder.
46:2 Am hynny nid ofnwn pe symudai y
ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr.
46:3 Er rhuo a therfysgu o’i
ddyfroedd, er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef. Sela.
46:4 Y mae afon, a’i ffrydiau a
lawenhânt ddinas DUW; cysegr preswylfeydd y Goruchaf.
46:5 DUW sydd yn ei chanol; nid
ysgog hi: DUW a’i cynorthwya yn fore iawn.
46:6 Y cenhedloedd a derfysgasant,
y teyrnasoedd a ysgogasant: efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear.
46:7 Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda
ni; y mae DUW Jacob yn amddiffynfa i ni. Sela.
46:8 Deuwch, gwelwch weithredoedd yr
ARGLWYDD; pa anghyfanhedd-dra a wnaeth efe ar y ddaear.
46:9 Gwna i ryfeloedd beidio hyd
eithaf y ddaear; efe a ddryllia y bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y
cerbydau â thân.
46:10 Peidiwch, a gwybyddwch mai
myfi sydd DDUW: dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear.
46:11 Y mae ARGLWYDD y lluoedd gyda
ni; amddiffynfa i ni yw DUW Jacob. Sela.
SALM 47
47:1 I’r Pencerdd, Salm i feibion
Cora. Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i DDUW â llef gorfoledd.
47:2 Canys yr ARGLWYDD goruchaf sydd
ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear.
47:3 Efe a ddwg y bobl danom ni, a’r
cenhedloedd dan ein traed.
47:4 Efe a
ddethol ein hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe.
Sela.
47:5 Dyrchafodd DUW â llawen floedd,
yr ARGLWYDD â sain utgorn.
47:6 Cenwch fawl i DDUW, Cenwch:
cenwch fawl i’n Brenin, cenwch.
47:7 Canys Brenin yr holl ddaear yw
DUW: cenwch fawl yn ddeallus.
47:8 DUW sydd yn teyrnasu ar y
cenhedloedd: eistedd y mae DUW ar orseddfainc ei sancteiddrwydd.
47:9 Pendefigion y bobl a
ymgasglasant ynghyd, sef pobl DUW Abraham - canys tarianau y ddaear ydynt eiddo
DUW, dirfawr y dyrchafwyd ef.
SALM 48
48:1 Cân a Salm i feibion Cora. Mawr
yw yr ARGLWYDD, a thra moliannus, yn ninas ein DUW yn ei fynydd sanctaidd.
48:2 Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear,
yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr.
48:3 DUW yn ei phalasau a adwaenir
yn amddiffynfa.
48:4 Canys, wele, y brenhinoedd a
ymgynullasant, aethant heibio ynghyd.
48:5 Hwy a welsant, felly y
rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst.
48:6 Dychryn a ddaeth arnynt yno, a
dolur, megis gwraig yn esgor.
48:7 Â gwynt y dwyrain y drylli
longau y môr.
48:8 Megis y clywsom, felly y
gwelsom yn ninas ARGLWYDD y lluoedd, yn ninas ein DUW ni: DUW a’i sicrha hi yn
dragywydd. Sela.
48:9 Meddyliasom, O DDUW, am dy
drugaredd yng nghanol dy deml.
48:10 Megis y mae dy enw, O DDUW,
felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyfiawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw.
48:11 Llawenyched mynydd Seion, ac
ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau.
48:12 Amgylchwch Seion, ac ewch o’i
hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi.
48:13 Ystyriwch ei rhagfuriau,
edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl.
48:14 Canys y DUW hwn yw ein DUW ni
byth ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angau.
SALM 49
49:1 I’r Pencerdd, Salm i feibion
Cora. Clywch hyn, yr holl bobloedd, gwrandewch hyn, holl drigolion y byd;
49:2 Yn gystal gwreng a bonheddig,
cyfoethog a thlawd ynghyd.
49:3 Fy ngenau a draetha ddoethineb;
a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall.
49:4 Gostyngaf fy nghlust at
ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda’r delyn.
49:5 Paham yr ofnaf yn amser adfyd,
pan y’m hamgylchyno anwiredd fy sodlau?
49:6 Rhai a ymddiriedant yn eu
golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth.
49:7 Gan waredu ni wared neb ei
frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i DDUW:
49:8 (Canys gwerthfawr yw pryniad eu
henaid, a hynny a baid byth:)
49:9 Fel y byddo efe byw byth, ac na
welo lygredigaeth.
49:10 Canys efe a wêl fod y doethion
yn yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill.
49:11 Eu meddwl yw, y pery eu tai yn
dragywydd, a’u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: enwant eu tiroedd ar
eu henwau eu hunain.
49:12 Er hynny dyn mewn anrhydedd,
nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.
49:13 Eu ffordd yma yw eu
hynfydrwydd: eto eu hiliogaeth ydynt fodlon i’w hymadrodd. Sela.
49:14 Fel defaid y gosodir hwynt yn
uffern; angau a ymborth arnynt; a’r rhai a lywodraetha arnynt y bore; a’u tegwch
a dderfydd yn y bedd, o’u cartref.
49:15 Eto DUW a wared fy enaid i o
feddiant uffern: canys efe a’m derbyn i. Sela.
49:16 Nac ofna pan gyfoethogo un,
pan ychwanego gogoniant ei dŷ ef:
49:17 Canys wrth farw ni ddwg efe
ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ôl ef.
49:18 Er iddo yn ei fywyd fendithio
ei enaid: canmolant dithau, o byddi da wrthyt dy hun.
49:19 Efe a â at genhedlaeth ei
dadau, ac ni welant oleuni byth.
49:20 Dyn mewn anrhydedd, ac heb
ddeall, sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir.
SALM 50
50:1 Salm Asaff. DUW y duwiau, sef
yr ARGLWYDD, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad.
50:2 Allan o Seion, perffeithrwydd
tegwch, y llewyrchodd DUW.
50:3 Ein DUW ni a ddaw, ac ni bydd
distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch.
50:4 Geilw at y nefoedd oddi uchod,
ac ar y ddaear, i farnu ei bobl.
50:5 Cesglwch fy saint ynghyd ataf
fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth.
50:6 A’r nefoedd a fynegant ei
gyfiawnder ef: canys DUW ei hun sydd Farnwr. Sela.
50:7 Clywch, fy mhobl, a mi a
lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: DUW, sef dy DDUW di, ydwyf
fi.
50:8 Nid am dy aberthau y’th
geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.
50:9 Ni chymeraf fustach o’th dŷ,
na bychod o’th gorlannau.
50:10 Canys holl fwystfilod y coed
ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd.
50:11 Adwaen holl adar y mynyddoedd:
a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi.
50:12 Os bydd newyn arnaf, ni
ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyfiawnder sydd eiddof fi.
50:13 A fwytfâf fi gig teirw? neu a
yfaf fi waed bychod?
50:14 Abertha foliant i DDUW; a thâl
i’r Goruchaf dy addunedau:
50:15 A galw arnaf fi yn nydd
trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi.
50:16 Ond wrth yr annuwiol y
dywedodd DUW, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy
nghyfamod yn dy enau?
50:17 Gan dy fod yn casáu addysg, ac
yn taflu fy ngeiriau i’th ôl.
50:18 Pan welaist leidr, cytunaist
ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr.
50:19 Gollyngaist dy safn i
ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell.
50:20 Eisteddaist a dywedaist yn
erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam.
50:21 Hyn a wnaethost, a mi a
dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf,
ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid.
50:22 Deellwch hyn yn awr, y rhai
ydych yn anghofio DUW; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd.
50:23 Yr hwn a abertho foliant, a’m
gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth
DUW.
SALM 51
51:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd, pan
ddaeth Nathan y proffwyd ato, wedi iddo fyned i mewn at Bathseba. Trugarha
wrthyf, O DDUW, yn ôl dy drugarowgrwydd:, yn ôl lliaws dy dosturiaethau, dilea
fy anwireddau.
51:2 Golch fi yn llwyr ddwys oddi
wrth fy anwiredd, a glanha fi oddi wrth fy mhechod.
51:3 Canys yr wyf yn cydnabod fy
nghamweddau: a’m pechod rydd yn wastad ger fy mron.
51:4 Yn dy erbyn di, dydi dy hunan,
y pechais ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg: fel y’th gyfiawnhaer pan
leferych, ac y byddit bur pan farnech.
51:5 Wele, mewn anwiredd y’m
lluniwyd; ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.
51:6 Wele, ceraist wirionedd oddi
mewn: a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel.
51:7 Glanha fi ag isop, a mi a
lanheir: golch fi, a byddaf wynnach na’r eira.
51:8 Pâr i mi glywed gorfoledd a
llawenydd; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist.
51:9 Cuddia dy wyneb oddi wrth fy
mhechodau, a dilea fy holl anwireddau.
51:10 Crea galon lân ynof, O DDUW;
ac adnewydda ysbryd uniawn o’m mewn.
51:11 Na fwrw fi ymaith oddi ger dy
fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf.
51:12 Dyro drachefn i mi orfoledd dy
iachawdwriaeth; ac â’th hael ysbryd cynnal fi.
51:13 Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai
anwir; a phechaduriaid a droir atat.
51:14 Gwared fi oddi wrth waed, O
DDUW, DUW fy iachawdwriaeth: a’m tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.
51:15 ARGLWYDD, agor fy ngwefusau,
a’m genau a fynega dy foliant.
51:16 Canys ni chwenychi aberth; pe
amgen, mi a’i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni.
51:17 Aberthau DUW ydynt ysbryd
drylliedig: calon ddrylliog gystuddiedig, O DDUW, ni ddirmygi.
51:18 Gwna ddaioni yn dy
ewyllysgarwch i Seion: adeilada furiau Jerusalem.
51:19 Yna y byddi fodlon i ebyrth
cyfiawnder, i boethoffrwm ac aberth llosg: yna yr offrymant fustych ar dy
allor.
SALM 52
52:1 I’r Pencerdd, Maschil, Salm
Dafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a mynegi i Saul, a dywedyd wrtho, Daeth
Dafydd i dŷ Ahimelech. Paham yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn? y mae
trugaredd DUW yn parhau yn wastadol.
52:2 Dy dafod a ddychymyg
ysgelerder; fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll.
52:3 Hoffaist ddrygioni yn fwy na
daioni; a chelwydd yn fwy na thraethu cyflawnder. Sela.
52:4 Hoffaist bob geiriau distryw, O
dafod twyllodrus.
52:5 DUW a’th ddistrywia dithau yn
dragywydd: efe a’th gipia di ymaith, ac a’th dynn allan o’th babell, ac a’th
ddiwreiddia o dir y rhai byw. Sela.
52:6 Y cyfiawn hefyd a welant, ac a
ofnant, ac a chwarddant am ei ben.
52:7 Wele y gŵr ni osododd DDUW
yn gadernid iddo; eithr ymddiriedodd yn lluosowgrwydd ei olud, ac a ymnerthodd
yn ei ddrygioni.
52:8 Ond myfi sydd fel olewydden
werdd yn nhŷ DDUW: ymddiriedaf yn nhrugaredd DUW byth ac yn dragywydd.
52:9 Clodforaf di yn dragywydd,
oherwydd i ti wneuthur hyn: a disgwyliaf wrth dy enw; canys da yw gerbron dy
saint.
SALM 53
53:1 I'r Pencerdd ar y Mahalath,
Maschil, Salm Dafydd. Dywedodd yr ynfyd yn ei galon, Nid oes un Duw.
Ymlygrasant, a gwnaethant ffiaidd anwiredd: nid oes un yn gwneuthur daioni.
53:2 Edrychodd Duw i lawr o'r
nefoedd ar feibion dynion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw.
53:3 Ciliasai pob un ohonynt yn wysg
ei gefn: cydymddifwynasent; nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.
53:4 Oni ŵyr gweithredwyr
anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl, fel y bwytaent fara: ni alwasant ar
DDUW.
53:5 Yno yr ofnasant gan ofn, lle
nid oedd ofn: canys DUW a wasgarodd esgyrn yr hwn a'th warchaeodd:
gwdradwyddaist hwynt am i DDUW eu dirmygu hwy.
53:6 O na roddid iachawdwriaeth i
Israel o Seion! pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl, y llawenycha Jacob, ac yr
ymhyfryda Israel.
SALM 54
54:1 I’r Pencerdd ar Neginoth,
Maschib Salm Dafydd, pan ddaeth y Siffiaid a dywedyd wrth Saul. Onid ydyw Dafydd
yn ymguddio gyda ni? Achub fi, O DDUW, yn dy enw; a barn fi yn dy gadernid.
54:2 DUW, clyw fy ngweddi; gwrando
ymadrodd fy ngenau.
54:3 Canys dieithriaid a gyfodasant
i’m herbyn, a’r trawsion a geisiant fy enaid: ni osodasant DDUW o’u blaen. Sela.
54:4 Wele, DUW sydd yn fy
nghynorthwyo: yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid.
54:5 Efe a ddâl ddrwg i’m gelynion:
tor hwynt ymaith yn dy wirionedd.
54:6 Aberthaf i ti yn ewyllysgar:
clodforaf dy enw, O ARGLWYDD; canys da yw.
54:7 Canys efe a’m gwaredodd o bob
trallod; a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.
SALM 55
55:1 I’r Pencerdd ar Neginoth,
Maschil, Salm Dafydd Gwrando fy ngweddi, O DDUW; ac ymguddia rhag fy neisyfiad.
55:2 Gwrando arnaf, ac erglyw fi:
cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan,
55:3 Gan lais y gelyn, gan
orthrymder yr annuwiol: oherydd y maent yn bwrw arnaf, ac yn fy nghasáu yn
llidiog.
55:4 Fy nghalon a ofidia o’m mewn:
ac ofn angau a syrthiodd arnaf.
55:5 Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a
dychryn a’m gorchuddiodd.
55:6 A dywedais, O na bai i mi
adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn.
55:7 Wele, crwydrwn ymhell, ac
arhoswn yn yr anialwch. Sela.
55:8 Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt
ystormus a’r dymestl.
55:9 Dinistria, O ARGLWYDD, a
gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas.
55:10 Dydd a nos yr amgylchant hi ar
ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi.
55:11 Anwireddau sydd yn ei chanol
hi; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi.
55:12 Canys nid gelyn a’m difenwodd;
yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi a
ymguddiasiwn rhagddo ef:
55:13 Eithr tydi, ddyn, fy
nghydradd, fy fforddwr, a’m cydnabod,
55:14 Y rhai oedd felys gennym
gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ DDUW ynghyd.
55:15
Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd
yn eu cartref, ac yn eu mysg.
55:16 Myfi a waeddaf ar DDUW; a’r
ARGLWYDD a’m hachub i.
55:17 Hwyr a bore, a hanner dydd, y
gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd.
55:18 Efe a waredodd fy enaid mewn
heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i’m herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi.
55:19 DUW a glyw, ac a’u darostwng
hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau iddynt, am
hynny nid ofnant DDUW.
55:20 Efe a estynnodd ei law yn
erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod.
55:21 Llyfnach oedd ei enau nag
ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn
gleddyfau noethion.
55:22 Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD,
ac efe a’th gynnal di: ni ad i’r cyfiawn ysgogi byth.
55:23 Tithau, DDUW, a’u disgynni
hwynt i bydew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner
eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti.
SALM 56
56:1 I’r Pencerdd ar
Jonath-Elem-Rechocim, Michtam Dafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath.
Trugarha wrthyf, O DDUW: canys a’m llyncai: beunydd, gan ymladd, y’m gorthryma.
56:2 Beunydd y’m llyncai fy
ngelynion: canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn, O DDUW Goruchaf.
56:3 Y dydd yr ofnwyf, mi a
ymddiriedaf ynot ti.
56:4 Yn NUW y clodforaf ei air, yn
NUW y gobeithiaf; nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi.
56:5 Beunydd y camgymerant fy
ngeiriau: eu holl feddyliau sydd i’m herbyn er drwg.
56:6 Hwy a ymgasglant, a lechant, ac
a wyliant fy nghamre, pan ddisgwyliant am fy enaid.
56:7 A ddihangant hwy trwy anwiredd?
disgyn y bobloedd hyn, O DDUW, yn dy lidiowgrwydd.
56:8 Ti a gyfrifaist fy symudiadau:
dod fy nagrau yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di?
56:9 Y dydd y llefwyf arnat, yna y
dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod DUW gyda mi.
56:10 Yn NUW y moliannaf ei air: yn
yr ARGLWYDD y moliannaf ei air.
56:11 Yn NUW yr ymddiriedais: nid
ofnaf beth a wnêl dyn i mi.
56:12 Arnaf fi, O DDUW, y mae dy
addunedau: talaf i ti foliant.
56:13 Canys gwaredaist fy enaid rhag
angau: oni waredi fy nhraed rhag syrthio, fel y rhodiwyf gerbron DUW yng
ngoleuni y rhai byw?
SALM 57
57:1 I'r Pencerdd, Al-taschith,
Michtam. Dafydd, pan ffodd rhag Saul i'r ogof. Trugarha wrthyf, O DDUW,
trugarha wrthyf: canys ynot y gobeithiodd fy enaid; ie, yng nghysgod dy adenydd
y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hwn heibio.
57:2 Galwaf ar DDUW Goruchaf; ar
DDUW a gwblha â mi.
57:3 Efe a enfyn o'r nefoedd, ac a’m
gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a’m llyncai. Sela. Denfyn Duw ei drugaredd
a’i wirionedd.
57:4 Fy enaid sydd ymysg llewod:
gorwedd yr wyf ymysg dynion poethion, sef meibion dynion, y rhai y mae eu
dannedd yn waywffyn a saethau, a'u tafod yn gleddyf llym.
57:5 Ymddyrcha, DDUW, uwch y
nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.
57:6 Darparasant rwyd i'm traed;
crymwyd fy enaid; cloddiasant bydew o’m blaen; syrthiasant yn ei ganol. Sela.
57:7 Parod yw fy nghalon, O DDUW,
parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf.
57:8 Deffro, fy ngogoniant; deffro,
nabl a thelyn: deffroaf yn fore.
57:9 Clodforaf di, ARGLWYDD, ymysg
bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.
57:10 Canys mawr yw dy drugaredd hyd
y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.
57:11 Ymddyrcha, DDUW, uwch y
nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr ddaear.
SALM 58
58:1 I’r Pencerdd, Al-taschith,
Michtam Dafydd. Ai cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi, O gynulleidfa? a
fernwch uniondeb, O feibion dynion?
58:2 Anwiredd yn hytrach a
weithredwch yn y galon: trawster eich dwylo yr ydych yn ei bwyso ar y ddaear.
58:3 O’r groth yr ymddieithriodd yr
annuwiol: o’r bru y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd.
58:4 Eu gwenwyn sydd fel gwenwyn
sarff: y maent fel y neidr fyddar yr hon a gae ei chlustiau;
58:5 Yr hon ni wrendy ar lais y
rhinwyr, er cyfarwydded fyddo y swynwr.
58:6 Drylla, O DDUW, eu
dannedd yn eu geneuau: tor, O ARGLWYDD, gilddannedd y llewod ieuainc.
58:7 Todder hwynt fel dyfroedd sydd
yn rhedeg yn wastad: pan saetho eu saethau, byddant megis wedi eu torri.
58:8 Aed
ymaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig; fel na welont yr haul.
58:9 Cyn i’ch crochanau glywed y
mieri, efe a’u cymer hwynt ymaith megis â chorwynt, yn fyw, ac yn ei
ddigofaint.
58:10 Y cyfiawn a lawenycha pan welo
ddial: efe a ylch ei draed yng ngwaed yr annuwiol.
58:11 Fel y dywedo dyn, Diau fod
ffrwyth i’r cyfiawn: diau fod DUW a farna ar y ddaear.
SALM 59
59:1 I’r pencerdd, Al-taschith,
Michtam Dafydd, pan yrrodd Saul rai i gadw y tŷ i’w ladd ef. Fy NUW,
gwared fi oddi wrth fy ngelynion: amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant
i’m herbyn.
59:2 Gwared fi oddi wrth weithredwyr
anwiredd, ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd.
59:3 Canys wele, cynllwynasant yn
erbyn fy enaid: ymgasglodd cedyrn i’m herbyn; nid ar fy mai na’m pechod i, O
ARGLWYDD.
59:4 Rhedant, ymbaratoant, heb
anwiredd ynof fi: deffro dithau i’m cymorth, ac edrych.
59:5 A thi, ARGLWYDD DDUW y lluoedd,
DUW Israel, deffro i ymweled â’r holl genhedloedd: na thrugarha wrth neb a
wnânt anwiredd yn faleisus. Sela.
59:6 Dychwelant gyda’r hwyr,
cyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.
59:7 Wele, bytheiriant â’u genau:
cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy, meddant, a glyw?
59:8 Ond tydi, O ARGLWYDD, a’u gwatweri
hwynt; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.
59:9 Oherwydd ei nerth ef, y
disgwyliaf wrthyt ti: canys DUW yw fy amddiffynfa.
59:10 Fy NUW trugarog a’m
rhagflaena: DUW a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion.
59:11 Na ladd hwynt, rhag i’m pobl
anghofio: gwasgar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, O ARGLWYDD ein tarian.
59:12 Am bechod eu genau, ac
ymadrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felltith a’r celwydd
a draethant.
59:13 Difa hwynt yn dy lid, difa,
fel na byddont: a gwybyddant mai DUW sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd
eithafoedd y ddaear. Sela.
59:14 A dychwelant gyda’r hwyr, a
chyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.
59:15 Crwydrant am fwyd; ac onis
digonir, grwgnachant.
59:16 Minnau a ganaf am dy nerth,
ie, llafarganaf am dy drugaredd yn fore: canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn
noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf.
59:17 I ti, fy nerth, y canaf; canys
DUW yw fy amddiffynfa, a DUW fy nhrugaredd.
SALM 60
60:1 I’r Pencerdd ar Susan-eduth, Michtam
Dafydd, i ddysgu; pan ymladdodd yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid Soba,
pan ddychwelodd Joab, a lladd deuddeng mil o’r Edomiaid yn nyffryn yr halen.
DDUW, bwriaist ni ymaith, gwasgeraist ni, a sorraist: dychwel atom drachefn.
60:2 Gwnaethost i’r ddaear grynu, a
holltaist hi: iachâ ei briwiau; canys y mae yn crynu.
60:3 Dangosaist i’th bobl galedi:
diodaist ni â gwin madrondod.
60:4 Rhoddaist faner i’r rhai a’th
ofnant, i’w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Sela.
60:5 Fel y gwareder dy rai annwyl:
achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi.
60:6 DUW a lefarodd yn ei
sancteiddrwydd, Llawenychaf: rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.
60:7 Eiddof fi yw Gilead, ac eiddof
fi Manasse: Effraim hefyd yw nerth fy mhen; Jwda yw fy neddfwr.
60:8 Moab yw fy nghrochan golchi;
dros Edom y bwriaf fy esgid: Philistia, ymorfoledda di o’m plegid i.
60:9 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn?
pwy a’m harwain hyd yn Edom?
60:10 Onid tydi, DDUW, yr hwn a’n
bwriaist ymaith? a thydi, O DDUW, yr hwn nid ait allan gyda’n lluoedd?
60:11 Moes i ni gynhorthwy rhag
cyfyngder: canys ofer yw ymwared dyn.
60:12 Yn NUW y gwnawn wroldeb: canys
efe a sathr ein gelynion.
SALM 61
61:1 I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm
Dafydd. Clyw, O DDUW, fy llefain; gwrando ar fy ngweddi.
61:2 O eithaf y ddaear y llefaf
atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi.
61:3 Canys buost yn noddfa i mi, ac
yn dŵr cadarn rhag y gelyn.
61:4 Preswyliaf yn dy babell byth:
a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela.
61:5 Canys ti, DDUW, a llywaist fy
addunedau: rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw.
61:6 Ti a estynni oes y Brenin; ei
flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer.
61:7 Efe a erys byth gerbron DUW;
darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef.
61:8 Felly y canmolaf dy enw yn
dragywydd, fel y talwyf fy addunedau beunydd.
SALM 62
62:1 I'r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm
Dafydd. Wrth DDUW yn unig y disgwyl fy enaid: ohono ef y daw fy iachawdwriaeth.
62:2 Efe yn unig yw fy nghraig, a'm hiachawdwriaeth,
a'm hamddiffyn; ni'm mawr ysgogir.
62:3 Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn
erbyn gŵr? lleddir chwi oll; a byddwch fel magwyr ogwyddedig, neu bared ar
ei ogwydd.
62:4 Ymgyngorasant yn unig i'w fwrw
ef i lawr o'i fawredd; hoffasant gelwydd: â'u geneuau y bendithiant, ond o'u
mewn y melltithiant. Sela.
62:5 O fy enaid, disgwyl wrth DDUW
yn unig: canys ynddo ef y mae fy ngobaith.
62:6 Efe yn unig yw fy nghraig, a'm
hiachawdwriaeth: efe yw fy amddiffynfa: ni'm hysgogir.
62:7 Yn NUW y mae fy iachawdwriaeth
a'm gogoniant: craig fy nghadernid, a’m noddfa, sydd yn NUW.
62:8 Gobeithiwch ynddo ef bob amser;
O bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: DUW sydd noddfa i ni. Sela.
62:9 Gwagedd yn ddiau yw meibion
dynion, geudeb yw meibion gwŷr: i’w gosod yn y clorian, ysgafnach ydynt
hwy i gyd na gwegi.
62:10 Nac ymddiriedwch mewn
trawster, ac mewn trais na fyddwch ofer: os cynydda golud, na roddwch eich
calon arno.
62:11 Unwaith y dywedodd DUW,
clywais hynny ddwywaith; mai eiddo DUW yw cadernid.
62:12 Trugaredd hefyd sydd eiddot
ti, O ARGLWYDD: canys ti a deli i bob yn ôl ei weithred.
SALM 63
63:1 Salm Dafydd, pan oedd efe yn
niffeithwch Jwda. Ti, O DDUW, yw fy NUW i; yn fore y'th geisiaf: sychedodd fy
enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb
ddwfr;
63:2 I weled dy nerth a’th ogoniant,
fel y'th welais yn y cysegr.
63:3 Canys gwell yw dy drugaredd di
na'r bywyd: fy ngwefusau a'th foliannant.
63:4 Fel hyn y'th glodforaf yn fy
mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw.
63:5 Megis â mer ac â braster y
digonir fy enaid; a'm genau a'th fawl â gwefusau llafar
63:6 Pan y'th gofiwyf ar fy ngwely,
myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos.
63:7 Canys buost gynhorthwy i mi; am
hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf.
63:8 Fy enaid a lŷn wrthyt: dy
ddeheulaw a'm cynnal.
63:9 Ond y rhai a geisiant fy enaid
i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear.
63:10 Syrthiant ar fin y cleddyf:
rhan llwynogod fyddant.
63:11 Ond y Brenin a lawenycha yn NUW:
gorfoledda pob un a dyngo iddo ef: eithr caeir genau y rhai a ddywedant
gelwydd.
SALM 64
64:1 I'r Pencerdd, Salm Dafydd. Clyw
fy llef, O DDUW, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn.
64:2 Cudd fi rhag cyfrinach y rhai
drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd:
64:3 Y rhai a hogant eu tafod fel
cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon:
64:4 I saethu y perffaith yn
ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant.
64:5 Ymwrolant mewn peth drygionus,
ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a'u gwêl hwynt?
64:6 Chwiliant allan anwireddau;
gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn.
64:7 Eithr DUW a'u saetha hwynt; â
saeth ddisymwth yr archollir hwynt.
64:8 Felly hwy a wnânt i’w tafodau
eu hun syrthio arnynt: pob un a'u gwelo a gilia.
64:9 A phob dyn a ofna, ac a fynega
waith DUW: canys doeth ystyriant ei waith ef.
64:10 Y cyfiawn a lawenycha yn yr
ARGLWYDD, ac a obeithia ynddo; a'r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant.
SALM 65
65:1 I'r Pencerdd, Salm a Chân
Dafydd. Mawl a’th erys di yn Seion, O DDUW: ac i ti y telir yr adduned.
65:2 Ti yw yr hwn a wrandewi weddi,
atat ti y daw pob cnawd.
65:3 Pethau anwir a’m gorchfygasant:
ein camweddau ni, ti a’u glanhei.
65:4 Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech,
ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ,
sef dy deml sanctaidd.
65:5 Atebi i ni trwy bethau ofnadwy,
yn dy gyfiawnder, O DDUW ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a’r
rhai sydd bell ar y môr.
65:6 Yr hwn a sicrha y mynyddoedd
trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid.
65:7 Yr hwn a ostega dwrf y moroedd,
twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd.
65:8 A phreswylwyr eithafoedd y byd
a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu.
65:9 Yr wyt yn ymweled â'r ddaear,
ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon DUW, yr
hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly
iddi.
65:10 Gan ddyfrhau ei chefnau, a
gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei
chnwd hi.
65:11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn
â’th ddaioni; a'th lwybrau a ddiferant fraster.
65:12 Diferant ar borfeydd yr
anialwch: a'r bryniau a ymwgregysant â hyfrydwch.
65:13 Y dolydd a wisgir â defaid,
a'r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.
SALM 66
66:1 I'r Pencerdd, Cân neu Salm.
Llawenfloeddiwch i DDUW, yr holl ddaear:
66:2 Datgenwch ogoniant ei enw:
gwnewch ei foliant yn ogoneddus.
66:3 Dywedwch wrth DDUW, Mor ofnadwy
wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod
yn ddarostyngedig i ti.
66:4 Yr holl ddaear a’th addolant
di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela.
66:5 Deuwch, a gwelwch weithredoedd
DUW: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion.
66:6 Trodd efe y môr yn sychdir:
aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo.
66:7 Efe a lywodraetha trwy ei
gadernid byth; ei lygaid a edrychant at y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai
anufudd. Sela.
66:8 O bobloedd, bendithiwch ein
DUW, a pherwch glywed llais ei fawl ef.
66:9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid
mewn bywyd, ac ni ad i'n troed lithro.
66:10 Canys profaist ni, O DDUW:
coethaist, fel coethi arian.
66:11 Dygaist ni i’r rhwyd:
gosodaist wasgfa at ein llwynau.
66:12 Peraist i ddynion farchogaeth
ar ein pennau; aethom trwy y tân a'r dwfr: a thi a'n dygaist allan i le diwall.
66:13 Deuaf i'th dŷ ag offrymau
poeth: talaf i ti fy addunedau,
66:14 Y rhai a adroddodd fy
ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.
66:15 Offrymaf i ti boethoffrymau
breision, ynghyd ag arogl-darth hyrddod; aberthaf ychen a bychod. Sela.
66:16 Deuwch, gwrandewch, y rhai oll
a ofnwch DDUW; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i'm henaid.
66:17 Llefais arno â’m genau, ac efe
a ddyrchafwyd â’m tafod.
66:18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn
fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd.
66:19 DUW yn ddiau a glybu, ac a
wrandawodd ar lais fy ngweddi
66:20 Bendigedig fyddo DUW, yr hwn
ni throdd fy ngweddi oddi wrtho, na’i drugaredd ef oddi wrthyf finnau.
SALM 67
ç67:1 I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm
neu Gân. DUW a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio; a thywynned ei wyneb arnom:
Sela:
67:2 Fel yr adwaener dy ffordd ar y
ddaear, a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd.
67:3 Molianned y bobl di, O DDUW;
molianned yr holl bobl dydi.
67:4 Llawenhaed y cenhedloedd, a
byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y
cenhedloedd ar y ddaear. Sela.
67:5 Molianned y bobl di, O DDUW;
molianned yr holl bobl dydi.
67:6 Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth;
a DUW, sef ein DUW ni, a’n bendithia.
67:7 DUW a’n bendithia; a holl
derfynau y ddaear a’i hofnant ef.
SALM 68
68:1 I’r Pencerdd, Salm neu Gân
Dafydd. Cyfoded DUW, gwasgarer ei elynion: a ffoed ei gaseion o’i flaen ef.
68:2 Chweli hwynt fel chwalu mwg:
fel y tawdd cwyr wrth y tân, difether y rhai annuwiol o flaen DUW.
68:3 Ond llawenycher y rhai cyfiawn,
a gorfoleddant gerbron DUW; a byddant hyfryd o lawenydd.
68:4 Cenwch i DDUW, canmolwch ei
enw: dyrchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, a’i enw yn JAH, a
gorfoleddwch ger ei fron ef.
68:5 Tad yr amddifaid, a Barnwr y
gweddwon, yw DUW, yn ei breswylfa sanctaidd.
68:6 DUW sydd yn gosod yr unig mewn
teulu: yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau; ond y rhai cyndyn a
breswyliant grastir.
68:7 Pan aethost, O DDUW, O flaen dy
bobl, pan gerddaist trwy yr anialwch; Sela:
68:8 Y ddaear a grynodd, a’r nefoedd
a ddiferasant o flaen DUW: Sinai yntau a grynodd o flaen DUW, sef DUW Israel.
68:9 Dihidlaist law graslon, O DDUW,
at dy etifeddiaeth: ti a’i gwrteithiaist wedi ei blino.
68:10 Dy gynulleidfa di sydd yn
trigo ynddi: yn dy ddaioni, O DDUW, yr wyt yn darparu i’r tlawd.
68:11 Yr ARGLWYDD a roddes y gair;
mawr oedd mintai y rhai a’i pregethent.
68:12 Brenhinoedd byddinog a
ffoesant ar ffrwst: a’r hon a drigodd yn tŷ, rannodd yr ysbail.
68:13 Er gorwedd ohonoch ymysg y
crochanau, byddwch fel esgyll colomen wedi eu gwisgo ag arian, a’i hadenydd ag
aur melyn.
68:14 Pan wasgarodd yr Hollalluog
frenhinoedd ynddi, yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon.
68:15 Mynydd DUW sydd fel mynydd
Basan; yn fynydd cribog fel mynydd Basan.
68:16 Paham y llemwch, chwi fynyddoedd
cribog? dyma y mynydd a chwenychodd DUW ei breswylio; ie, preswylia yr ARGLWYDD
ynddo byth.
68:17 Cerbydau DUW ydynt ugain mil,
sef miloedd o angylion: yr Arglwydd sydd yn eu plith, megis yn Sinai yn y
cysegr.
68:18 Dyrchefaist i’r uchelder, caethgludaist
gaethiwed: derbyniaist roddion i ddynion; ie, i’r rhai cyndyn hefyd, fel yr
ARGLWYDD DDUW yn eu plith.
68:19 Bendigedig fyddo yr Arglwydd,
yr hwn a’n llwytha beunydd â daioni; sef DUW ein hiachawdwriaeth. Sela.
68:20 Ein DUW ni sydd DDUW iachawdwriaeth;
ac i’r ARGLWYDD DDUW y perthyn diangfâu rhag marwolaeth.
68:21 DUW yn ddiau a archolla ben ei
elynion; a chopa walltog yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau.
68:22 Dywedodd yr Arglwydd, Dygaf fy
mhobl drachefn o Basan, dygaf hwynt drachefn o ddyfnder y môr;
68:23 Fel y trocher dy droed yng
ngwaed dy elynion, a thafod dy gŵn yn yr unrhyw.
68:24 Gwelsant dy fynediad, O DDUW;
mynediad fy NUW, fy Mrenin, yn y cysegr.
68:25 Y cantorion a aethant
o’r blaen, a’r cerddorion ar ôl; yn eu mysg yr oedd y llancesau yn canu
tympanau.
68:26 Bendithiwch DDUW yn y
cynlleidfaoedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel.
68:27 Yno y mae Benjamin fychan â’u
llywydd, tywysogion Jwda â’u cynulleidfa; tywysogion Sabulon, a thywysogion
Nafftali.
68:28 Dy
DDUW a orchmynnodd dy nerth: cadarnha, O DDUW, yr hyn a wnaethost ynom ni.
68:29 Brenhinoedd a ddygant i ti
anrheg er mwyn dy deml yn Jerwsalem.
68:30 Cerydda dyrfa y gwaywffyn,
cynulleidfa y gwrdd deirw, gyda lloi y bobl, fel y delont yn ostyngedig â
darnau arian: gwasgar y bobl sydd dda ganddynt ryfel.
68:31 Pendefigion a ddeuant o’r
Aifft; Ethiopia a estyn ei dwylo yn brysur at DDUW.
68:32 Teyrnasoedd y ddaear, cenwch i
DDUW; canmolwch yr Arglwydd: Sela:
68:33 Yr hwn a ferchyg ar nef y
nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol.
68:34 Rhoddwch i DDUW gadernid: ei
oruchelder sydd ar Israel, a’i nerth yn yr wybrennau.
68:35 Ofnadwy wyt, O DDUW, o’th
gysegr: DUW Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i’r bobl. Bendigedig
fyddo DUW.
SALM 69
69:1 I’r Pencerdd ar Sosannim, Salm
Dafydd. Achub fi, O DDUW, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid.
69:2 Soddais mewn tom dwfn, lle nid oes
sefyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a’r ffrwd a lifodd drosof.
69:3 Blinais yn llefain, sychodd fy
ngheg: pallodd fy llygaid, tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy NUW.
69:4 Amlach na gwallt fy mhen yw y
rhai a’m casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a’m
difethent: yna y telais yr hyn ni chymerais.
69:5 O DDUW, ti a adwaenost fy
ynfydrwydd; ac nid yw fy nghamweddau guddiedig rhagot.
69:6 Na chywilyddier o’m plegid i y
rhai a obeithiant ynot ti, Arglwydd DDUW y lluoedd: na waradwydder o’m plegid i
y rhai a’th geisiant di, O DDUW Israel.
69:7 Canys er dy fwyn di y dygais
warthrudd, ac y todd cywilydd fy wyneb.
69:8 Euthum yn ddieithr i’m brodyr,
ac fel estron gan blant fy mam.
69:9 Canys sêl dy dŷ a’m
hysodd; a gwaradwyddiad y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiodd arnaf fi.
69:10 Pan wylais, gan gystuddio fy
enaid ag ympryd, bu hynny yn waradwydd i mi.
69:11 Gwisgais hefyd sachliain; ac
euthum yn ddihareb iddynt.
69:12 Yn fy erbyn y chwedleuai y
rhai a eisteddent yn y porth; ac i’r meddwon yr oeddwn yn wawd.
69:13 Ond myfi, fy ngweddi sydd atat
ti, O ARGLWYDD, mewn amser cymeradwy: O DDUW, yn lluosowgrwydd dy drugaredd
gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth.
69:14 Gwared fi o’r dom, ac na
soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o’r dyfroedd dyfnion.
69:15 Na lifed y ffrwd ddwfr drosof,
ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf.
69:16 Clyw fi, ARGLWYDD; canys da yw
dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.
69:17 Ac na chuddia dy wyneb oddi
wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf: brysia, gwrando fi.
69:18 Nesâ at fy enaid, a gwared ef:
achub fi oherwydd fy ngelynion.
69:19 Ti a adwaenost fy ngwarthrudd,
a’m cywilydd, a’m gwaradwydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron di.
69:20 Gwarthrudd a dorrodd fy
nghalon; yr ydwyf mewn gofid: a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf, ac nid
oedd neb; ac am gysurwyr, ac ni chefais neb.
69:21 Rhoddasant hefyd fustl yn fy
mwyd, ac a’m diodasant yn fy syched â finegr.
69:22 Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu
bron, a’u llwyddiant yn dramgwydd.
69:23 Tywyller eu llygaid, fel na
welont; a gwna i’w llwynau grynu bob amser.
69:24 Tywallt dy ddig arnynt; a
chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt.
69:25 Bydded eu preswylfod yn
anghyfannedd; ac na fydded a drigo yn eu pebyll.
69:26 Canys erlidiasant yr hwn a
drawsit ti; ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant.
69:27 Dod ti anwiredd at eu
hanwiredd hwynt; ac na ddelont i’th gyfiawnder di.
69:28 Dileer hwynt o lyfr y rhai
byw; ac na ysgrifenner hwynt gyda’r rhai cyfiawn.
69:29 Minnau, truan a gofidus ydwyf:
dy iachawdwriaeth di, O DDUW, a’m dyrchafo.
69:30 Moliannaf enw DUW ar gân, a
mawrygaf ef mewn mawl.
69:31 A hyn fydd well gan yr
ARGLWYDD nag ych neu fustach corniog, carnol.
69:32 Y trueiniaid a lawenychant pan
welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch DDUW, a fydd byw.
69:33 Canys gwrendy yr ARGLWYDD ar
dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion.
69:34 Nefoedd a daear, y môr a’r hyn
oll a ymlusgo ynddo, molant ef.
69:35 Canys DUW a achub Seion, ac a
adeilada ddinasoedd Jwda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi.
69:36 A hiliogaeth ei weision a’i
meddiannant hi: a’r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.
SALM 70
70:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd i
goffa. O DDUW, prysura i’m gwaredu; brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth.
70:2 Cywilyddier a gwarthrudder y
rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant
ddrwg i mi.
70:3 Datroer yn lle gwobr am
eu cywilydd y rhai a ddywedant, Ha, ha.
70:4 Llawenyched, a gorfoledded ynot
ti y rhai oll a’th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn
wastad, Mawryger Duw. i
70:5 Minnau ydwyf dlawd ac anghenus;
O DDUW, brysia ataf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti, O ARGLWYDD; na hir
drig.
SALM 71
71:1 Ynot ti, O ARGLWYDD, y
gobeithiais; na’m cywilyddier byth.
71:2 Achub fi, a gwared fi yn dy
iawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi.
71:3 Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod
iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a’m
hamddiffynfa.
71:4 Gwared fi, O fy NUW, o law yr
annuwiol, o law yr anghyfiawn a’r traws.
71:5 Canys ti yw fy ngobaith, O
Arglwydd DDUW; fy ymddiried o’m hieuenctid.
71:6 Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r
bru; ti a’m tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti.
71:7 Oeddwn i lawer megis yn
rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.
71:8 Llanwer fy ngenau â’th foliant,
ac â’th ogoniant beunydd.
71:9 Na fwrw fi ymaith yn amser
henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth.
71:10 Canys fy ngelynion sydd yn
dywedyd i’m herbyn; a’r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant,
71:11 Gan ddywedyd, DUW a’i
gwrthododd ef: erlidiwch a deliwch ef; canys nid oes gwaredydd.
71:12 O DDUW, na fydd bell oddi
wrthyf: fy NUW, brysia i’m cymorth.
71:13 Cywilyddier a difether y rhai
a wrthwynebant fy enaid: â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a
geisiant ddrwg i mi.
71:14 Minnau a obeithiaf yn wastad,
ac a’th foliannaf di fwyfwy.
71:15 Fy ngenau a fynega dy
gyfiawnder a’th iachawdwriaeth beunydd; canys ni wn rifedi arnynt.
71:16 Yng nghadernid yr Arglwydd
DDUW y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi.
71:17 O’m hieuenctid y’m dysgaist, O
DDUW: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.
71:18 Na wrthod fi chwaith, O DDUW,
mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth hon, a’th
gadernid i bob un a ddelo.
71:19 Dy gyfiawnder hefyd, O DDUW,
sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O DDUW, sydd debyg i ti?
71:20 Ti, yr hwn a wnaethost i mi
weled aml a blin gystuddiau, a’m bywhei ac a’m cyfodi drachefn o orddyfnder y
ddaear.
71:21 Amlhei fy mawredd, ac a’m
cysuri oddi amgylch.
71:22 Minnau a’th foliannaf ar
offeryn nabl, sef dy wirionedd, O fy NUW: canaf i ti â’r delyn, O Sanct Israel.
71:23 Fy ngwefusau a fyddant hyfryd
pan ganwyf i ti; a’m henaid, yr hwn a waredaist.
71:24 Fy nhafod hefyd a draetha dy
gyfiawnder beunydd: oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant
niwed i mi.
SALM 72
72:1 Salm i Solomon. O DDUW, dod i’r
Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder.
72:2 Efe a farn dy bobl mewn
cyfiawnder,a’th drueiniaid â barn.
72:3 Y mynyddoedd a ddygant
heddwchi’r bobl, a’r bryniau, trwy gyfiawnder
72:4 Efe a farn, drueiniaid y bobl,
efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd.
72:5 Tra fyddo haul a lleuad
y’th ofnant, yn oes oesoedd.
72:6 Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu
gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear.
72:7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua y
cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad.
72:8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd
fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaear.
72:9 O’i flaen ef yr ymgryma
trigolion yr anialwch: a’i elynion a lyfant y llwch.
72:10
Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a
ddygant rodd.
72:11 Ie, yr holl frenhinoedd a
ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef.
72:12 Canys efe a wared yr anghenog
pan waeddo: y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo.
72:13 Efe a arbed y tlawd a’r
rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus.
72:14 Efe a wared eu henaid oddi
wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.
72:15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir
iddo aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef.
72:16 Bydd dyrnaid o ŷd ar y
ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas
a flodeuant fel gwellt y ddaear.
72:17 Ei enw fydd yn dragywydd: ei
enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a’i
galwant yn wynfydedig.
72:18 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD
DDUW, DUW Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.
72:19 Bendigedig hefyd fyddo ei enw
gogoneddus ef yn dragywydd; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen, ac
Amen.
72:20 Gorffen gweddïau Dafydd mab
Jesse.
SALM 73
73:1 Salm Asaff. Yn ddiau da
yw DUW i Israel; sef i’r rhai glân o galon.
73:2 Minnau,
braidd na lithrodd fy nhraed: prin na thripiodd fy ngherddediad.
73:3 Canys cenfigennais wrth y rhai
ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol.
73:4 Canys nid oes rhwymau yn eu
marwolaeth; a’u cryfder sydd heini.
73:5 Nid ydynt mewn blinder fel
dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill.
73:6 Am hynny y cadwynodd balchder
hwynt, ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn.
73:7 Eu llygaid a saif allan gan
fraster: aethant dros feddwl calon o gyfoeth.
73:8 Y maent wedi llygru, yn
chwedleua yn ddrygionus am drawster; yn dywedyd yn uchel.
73:9 Gosodasant eu genau yn
erbyn y nefoedd: a’u tafod a gerdd trwy y ddaear.
73:10 Am hynny y dychwel ei bobl ef
yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn.
73:11 Dywedant hefyd, Pa fodd y gŵyr
DUW? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?
73:12 Wele, dyma y rhai annuwiol,
a’r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud.
73:13 Diau mai yn ofer y glanheais
fy nghalon, ac y golchiais fy nwylo mewn diniweidrwydd.
73:14 Canys ar hyd y dydd y’m
maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore.
73:15 Os dywedwn, Mynegaf fel hyn;
wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam.
73:16 Pan amcenais wybod hyn, blin
oedd hynny yn fy ngolwg i;
73:17 Hyd onid euthum i gysegr DUW:
yna y deellais eu diwedd hwynt.
73:18 Diau
osod ohonot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr.
73:19 Mor ddisymwth yr aethant yn
anghyfannedd! pallasant, a darfuant gan ofn.
73:20 Fel breuddwyd wrth ddihuno un;
felly, O Arglwydd, pan ddeffroech, dirmygi eu gwedd hwynt.
73:21 Fel hyn y gofidiodd fy
nghalon, ac y’m pigwyd yn fy arennau.
73:22 Mor ynfyd oeddwn, ac heb
wybod; anifail oeddwn o’th flaen di.
73:23 Eto yr ydwyf yn wastad gyda
thi: ymaflaist yn fy llaw ddeau.
73:24 A’th gyngor y’m harweini; ac
wedi hynny y’m cymeri i ogoniant.
73:25 Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd
ond tydi? ac ni ewyllysiais at y ddaear neb gyda thydi.
73:26 Pallodd fy nghnawd a’m calon:
ond nerth fy nghalon a’m rhan yw DUW yn dragywydd.
73:27 Canys wele, difethir y rhai a
bellhânt oddi wrthyt: torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt.
73:28 Minnau, nesáu at DDUW sydd i
mi: yn yr Arglwydd DDUW y gosodais fy ngobaith, i draethu dy holl weithredoedd.
SALM 74
74:1 Maschil Asaff. Paham, DDUW, y’n
bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?
74:2 Cofia dy gynulleidfa, yr hon a
brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion hwn,
y preswyli ynddo.
74:3 Dyrcha dy draed at anrhaith
dragywyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr.
74:4 Dy elynion a ruasant yng
nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion.
74:5 Hynod oedd gŵr, fel y
codasai fwyell mewn drysgoed.
74:6 Ond yn awr y maent yn dryllio
ei cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac morthwylion.
74:7 Bwriasant dy gysegroedd yn tân;
hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw.
74:8 Dywedasant yn eu calonnau,
Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau DUW yn y tir.
74:9 Ni welwn ein harwyddion: nid
oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd.
74:10 Pa hyd, DDUW, y gwarthrudda y
gwrthwynebwyr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd?
74:11 Paham y tynni yn ei hôl dy
law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes.
74:12 Canys DUW yw fy Mrenin o’r
dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir.
74:13 Ti yn dy nerth a berthaist y
môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd.
74:14 Ti a ddrylliaist ben
lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch.
74:15 Ti a holltaist y ffynnon a’r
afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion.
74:16 Y dydd sydd eiddot ti, y nos
hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul.
74:17 Ti a osodaist holl derfynau y
ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf.
74:18 Cofia hyn, i’r gelyn gablu, O
ARGLWYDD, ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy enw.
74:19 Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa
y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth.
74:20 Edrych ar y cyfamod: canys
llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster.
74:21 Na ddychweled y tlawd yn
waradwyddus: molianned y truan a’r anghenus dy enw.
74:22 Cyfod, O DDUW, dadlau dy
ddadl: cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd.
74:23 Nac anghofia lais dy elynion:
dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.
SALM 75
75:1 I’r Pencerdd, Al-teschith, Salm
neu Gân Asaff. Clodforwn dydi, O DDUW, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy
ryfeddodau a fynegant hynny.
75:2 Pan dderbyniaf y gynulleidfa,
mi a farnaf yn gyfiawn.
75:3 Ymddatadodd y ddaear, a’i holl
drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela.
75:4 Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac
ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn:
75:5 Na ddyrchefwch eich corn yn
uchel: na ddywedwch yn warsyth.
75:6 Canys nid o’r dwyrain, nac o’r
gorllewin, nac o’r deau, y daw goruchafiaeth.
75:7 Ond DUW sydd yn barnu; efe a
ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.
75:8 Oblegid y mae ffiol yn llaw yr
ARGLWYDD, a’r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto
holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion.
75:9 Minnau a fynegaf yn dragywydd,
ac a ganaf i DDUW Jacob.
75:10 Torraf hefyd holl gyrn y rhai
annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.
SALM 76
76:1 I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm
neu Gân Asaff. Hynod yw DUW yn Jwda; mawr yw ei enw ef yn Israel.
76:2 Ei babell hefyd sydd yn Salem,
a’i drigfa yn Seion.
76:3 Yna y torrodd efe
saethau y bwa, y darian, y cleddyf hefyd, a’r frwydr. Sela.
76:4 Gogoneddusach wyt a chadarnach
na mynyddoedd yr ysbail.
76:5 Ysbeiliwyd y cedyrn galon,
hunasant eu hun: a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo.
76:6 Gan dy
gerydd di, O DDUW Jacob, y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu.
76:7 Tydi, tydi, wyt ofnadwy; a phwy
a saif o’th flaen pan enynno dy ddicter?
76:8 O’r nefoedd y peraist glywed
barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear,
76:9 Pan gyfododd DUW i farn, i
achub holl rai llednais y tir. Sela.
76:10 Diau cynddaredd dyn a’th
folianna di: gweddill cynddaredd a waherddi.
76:11 Addunedwch, a thelwch i’r
ARGLWYDD eich DUW: y rhai oll ydynt o’i amgylch ef, dygant anrheg i’r ofnadwy.
76:12 Efe a dyr ymaith ysbryd
tywysogion: y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.
SALM 77
77:1 I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm
Asaff. A’m llef y gwaeddais ar DDUW, â’m nef ar DDUW; ac efe a’m gwrandawodd.
77:2 Yn nydd fy nhrallod y ceisiais
yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd
ei ddiddanu.
77:3 Cofiais DDUW, ac a’m
cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela.
77:4 Deliaist fy llygaid yn neffro:
synodd arnaf, fel na allaf lefaru.
77:5 Ystyriais y dyddiau gynt,
blynyddoedd yr hen oesoedd.
77:6 Cofio yr ydwyf fy nghân y nos:
yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal.
77:7 Ai yn dragywydd y bwrw yr
ARGLWYDD heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy?
77:8 A ddarfu ei drugaredd ef dros
byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd?
77:9 A anghofiodd DUW drugarhau? a
gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela.
77:10 A dywedais, Dyma fy ngwendid:
eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf.
77:11 Cofiaf weithredoedd yr
ARGLWYDD; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt.
77:12 Myfyriaf hefyd ar dy holl
waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf.
77:13 Dy ffordd, O DDUW, sydd yn y
cysegr: pa dduw mor fawr â’n DUW ni?
77:14 Ti yw y DUW sydd yn gwneuthur
rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd.
77:15 Gwaredaist â’th fraich dy
bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela.
77:16 Y dyfroedd a’th welsant, O
DDUW, Y dyfroedd a’th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd.
77:17 Y cymylau a dywalltasant
ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant.
77:18 Twrf dy daran a glywyd o
amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear.
77:19 Dy ffordd sydd yn y môr, a’th
lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl.
77:20 Tywysaist dy bobl fel defaid,
trwy law Moses ac Aaron.
SALM 78
78:1 Maschil i Asaff. Gwrando fy
nghyfraith, fy mhobl: Gostyngwch eich
clust at eiriau fy ngenau.
78:2 Agoraf fy ngenau mewn dihareb:
traethaf ddamhegion o’r cynfyd:
78:3 Y rhai a glywsom, ac a wybuom,
ac a fynegodd ein tadau i ni,
78:4 Ni chelwn rhag eu meibion, gan
fynegi i’r oes a ddêl foliant yr ARGLWYDD, a’i nerth, a’i ryfeddodau y rhai a
wnaeth efe.
78:5 Canys efe a sicrhaodd
dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel y rhai a orchmynnodd efe
i’n tadau eu dysgu i’w plant:
78:6 Fel y gwybyddai yr oes a ddêl,
sef y plant a enid; a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau:
78:7 Fel y gosodent eu gobaith ar
DDUW, heb anghofio gweithredoedd DUW, eithr cadw ei orchmynion ef:
78:8 Ac na byddent fel eu tadau, yn
genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar; yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn
uniawn, ac nid yw ei hysbryd ffyddlon gyda DUW.
78:9 Meibion Effraim, yn arfog ac yn
saethu â bwa, a droesant eu cefnau yn nydd y frwydr.
78:10 Ni chadwasant gyfamod DUW,
eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef;
78:11 Ac anghofiasant ei
weithredoedd a’i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt.
78:12 Efe a wnaethai wyrthiau o
flaen eu tadau hwynt yn nhir yr Aifft, ym maes Soan.
78:13 Efe a barthodd y môr, ac a
aeth â hwynt drwodd; gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pentwr.
78:14 Y dydd hefyd y tywysodd efe
hwynt â chwmwl, ac ar hyd y nos â goleuni tân.
78:15 Efe a holltodd y creigiau yn
anialwch; a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr.
78:16 Canys efe a ddug ffrydiau
allan o’r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.
78:17 Er hynny chwanegasant eto
bechu yn eu erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch.
78:18 A themtiasant DDUW yn eu
calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys.
78:19 Llefarasant hefyd yn erbyn
DUW; dywedasant, A ddichon DUW arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
78:20 Wele, efe a drawodd y
graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara
hefyd? a ddarpara efe gig i’w bobl?
78:21 Am hynny y clybu yr ARGLWYDD,
ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn
erbyn Israel;
78:22 Am na chredent yn NUW, ac na
obeithient yn ei iachawdwriaeth ef:
78:23 Er iddo ef orchymyn i’r
wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd,
78:24 A glawio manna arnynt i’w
fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd.
78:25 Dyn a
fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.
78:26 Gyrrodd y dwyreinwynt yn y
nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt.
78:27 Glawiodd hefyd gig arnynt fel
llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr.
78:28 Ac a wnaeth iddynt gwympo o
fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd.
78:29 Felly y bwytasant, ac y llwyr
ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt;
78:30 Ni omeddwyd hwynt o’r hyn a
flysiasant: er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau,
78:31 Dicllonedd DUW a gyneuodd yn
eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt, ac a gwympodd etholedigion
Israel.
78:32 Er hyn oll pechasant eto, ac
ni chredasant i’w ryfeddodau ef.
78:33 Am hynny y treuliodd efe eu
dyddiau hwynt mewn oferedd, a’u blynyddoedd mewn dychryn.
78:34 Pan laddai efe hwynt, hwy a’i
ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient DDUW yn fore.
78:35 Cofient hefyd mai DUW oedd eu
Craig, ac mai y Gorachaf DDUW oedd eu Gwaredydd.
78:36 Er hynny, rhagrithio yr
oeddynt iddo ef â’u genau, a dywedyd celwydd wrtho â’u tafod:
78:37 A’u calon heb fod yn uniawn
gydag ef, na’u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef.
78:38 Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd
eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt - ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn
fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid.
78:39 Canys efe a gofiai mai cnawd
oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.
78:40 Pa sawl gwaith y digiasant ef yn
yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch?
78:41 Ie, troesant a phrofasant
DDUW, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.
78:42 Ni chofiasant ei law ef, na’r
dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.
78:43 Fel y gosodasai efe ei arwyddion
yn yr Aifft, a’i ryfeddodau ym maes Soan:
78:44 Ac y troesai eu hafonydd yn
waed; a’u ffrydiau, fel na allent yfed.
78:45 Anfonodd gymysgbla yn eu
plith, yr hon a’u difaodd hwynt; a llyffaint i’w difetha.
78:46 Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt
i’r lindys, a’u llafur i’r locust.
78:47 Distrywiodd eu gwinwydd â
chenllysg, a’u sycamorwydd â rhew.
78:48 Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid
i’r cenllysg, a’u golud i’r mellt.
78:49 Anfonodd arnynt gynddaredd ei
lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg.
78:50 Cymhwysodd ffordd i’w
ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe
i’r haint.
78:51 Trawodd hefyd bob
cyntaf-anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham:
78:52 Ond efe a yrrodd ei bobl ei
hun fel defaid, ac a’u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch.
78:53 Tywysodd hwynt hefyd yn
ddiogel, fel nad ofnasant: a’r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt.
78:54 Hwythau a ddug efe i oror ei
sancteiddrwydd; i’r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef.
78:55 Ac efe a yrrodd allan y
cenhedloedd o’u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a
wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.
78:56 Er hynny temtiasant a
digiasant DDUW Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau:
78:57 Eithr ciliasant a buant
anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus.
78:58 Digiasant ef hefyd â’u
huchelfannau; a gyrasant eiddigedd arno â’u cerfiedig ddelwau.
78:59 Clybu DUW hyn, ac a ddigiodd,
ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr:
78:60 Fel y gadawodd efe dabernacl
Seilo, y babell a osodasai efe ymysg dynion;
78:61 Ac y rhoddodd ei nerth mewn
caethiwed, a’i brydferthwch yn llaw y gelyn.
78:62 Rhoddes hefyd ei bobl i’r
cleddyf; a digiodd wrth ei etifeddiaeth.
78:63 Tân a ysodd eu gwŷr
ieuainc; a’u morynion ni phriodwyd.
78:64 Eu hoffeiriaid a laddwyd â’r
cleddyf; a’u gwragedd gweddwon nid wylasant.
78:65 Yna y deffrodd yr
Arglwydd fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin.
78:66 Ac efe
a drawodd ei elynion o’r tu ôl: rhoddes iddynt warth tragwyddol.
78:67 Gwrthododd hefyd babell
Joseff, ac ni etholodd lwyth Effraim:
78:68 Ond efe a etholodd lwyth Jwda,
mynydd Seion, yr hwn a hoffodd.
78:69 Ac a adeiladodd ei gysegr fel
llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.
78:70 Etholodd hefyd Dafydd ei was,
ac a’i cymerth o gorlannau y defaid:
78:71 Oddi ar ôl y defaid cyfebron y
daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth.
78:72 Yntau a’u porthodd hwynt yn ôl
perffeithrwydd ei galon; ac a’u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.
SALM 79
79:1 Salm Asaff. Y cenhedloedd, O
DDUW, y ddaethant i’th etifeddiaeth; halogasant dy deml sanctaidd: gosodasant
Jerwsalem yn garneddau.
79:2 Rhoddasant gelanedd dy weision
yn fwyd i adar y nefoedd, a chig dy saint i fwystfilod y ddaear.
79:3 Tywalltasant eu gwaed fel dwfr
o amgylch Jerwsalem: ac nid oedd a’u claddai.
79:4 Yr ydym ni yn warthrudd i’n
cymdogion; dirmyg a gwatwargerdd i’r rhai sydd o’n hamgylch.
79:5 Pa hyd, ARGLWYDD? a ddigi di yn
dragywydd? a lysg dy eiddigedd di fel tân?
79:6 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd
ni’th adnabuant, ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw.
79:7 Canys ysasant Jacob, ac a
wnaethant ei breswylfa yn anghyfannedd.
79:8 Na chofia yr anwireddau gynt
i’n herbyn: brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesg iawn y’n
gwnaethpwyd.
79:9 Cynorthwya ni, O DDUW ein
hiachawdwriaeth, er mwyn gogoniant dy enw: gwared ni hefyd, a thrugarha wrth ei
pechodau, er mwyn dy enw.
79:10 Paham y dywed y cenhedloedd,
Pa le y mae eu DUW hwynt? bydded hysbys ymhlith y cenhedloedd yn ein golwg ni,
wrth ddial gwaed dy weision yr hwn dywalltwyd.
79:11 Deued uchenaid y carcharorion
ger dy fron: yn ôl mawredd dy nerth cadw blant marwolaeth.
79:12 A thâl i’n cymdogion ar y
seithfed i’w mynwes, eu cabledd trwy yr hon y’th gablasant di, O Arglwydd.
79:13 A ninnau dy bobl a defaid dy
borfa, a’th foliannwn di yn dragywydd: datganwn dy foliant o genhedlaeth i
genhedlaeth.
SALM 80
80:1 I’r Pencerdd ar Sosannim Edith,
Salm Asaff. Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd;
ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid.
80:2 Cyfod dy nerth o flaen Effraim
a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni.
80:3 Dychwel ni, O DDUW, a
llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
80:4 O ARGLWYDD DDUW y lluoedd, pa
hyd y sorri wrth weddi dy bobl?
80:5 Porthaist hwynt â bara dagrau;
a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr.
80:6 Gosodaist ni yn gynnen i’n
cymdogion; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun.
80:7 O DDUW y lluoedd, dychwel ni, a
llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
80:8 Mudaist
winwydden o’r Affft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi.
80:9 Arloesaist o’i blaen, a pheraist
i’w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir.
80:10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei
chysgod; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol.
80:11 Hi a estynnodd ei changau hyd
y môr, a’i blagur hyd yr afon.
80:12 Paham y rhwygaist ei chaeau,
fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi?
80:13 Y baedd o’r coed a’i
turia, a bwystfil y maes a’i pawr.
80:14 O DDUW y lluoedd, dychwel,
atolwg, edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwydden hon;
80:15 A’r winllan a blannodd dy
ddeheulaw, ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun.
80:16 Llosgwyd hi â thân; torrwyd hi
i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt.
80:17 Bydded
dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i i
ti dy hun.
80:18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi
wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw.
80:19 O ARGLWYDD DDUW y lluoedd,
dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
SALM 81
81:1 I’r Pencerdd ar Gittith, Salm
Asaff. Cenwch yn llafar i DDUW ein cadernid: cenwch yn llawen i DDUW Jacob.
81:2 Cymerwch Salm, a moeswch
dympan, y delyn fwyn a’r nabl.
81:3 Utgenwch utgorn yn y lloer
newydd, yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchel ŵyl.
81:4 Canys deddf yw hyn i Israel, a
defod i DDUW Jacob.
81:5 Efe a’i gosododd yn dystiolaeth
yn Joseff, pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft: lle y clywais iaith ni
ddeallwn.
81:6 Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y
baich: ei ddwylo a ymadawsant â’r crochanau.
81:7 Mewn cyfyngder y gelwaist, ac
mi a’th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di wrth
ddyfroedd Meriba. Sela.
81:8 Clyw, fy mhobl, a mi a
dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf.
81:9 Na
fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr.
81:10 Myfi yr ARGLWYDD dy DDUW yw yr
hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a’i llanwaf.
81:11 Ond ni wrandawai fy mhobl ar
fy llef; ac Israel ni’m mynnai.
81:12 Yna y gollyngais hwynt yng
nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain.
81:13 O na wrandawsai fy
mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd!
81:14 Buan y gostyngaswn eu
gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr.
81:15 Caseion yr ARGLWYDD a
gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd.
81:16 Bwydasai hwynt hefyd â braster
gwenith: ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn.
SALM 82
82:1 Salm Asaff. DUW sydd yn sefyll
yng nghynulleidfa y galluog: ymhlith y duwiau y barn efe.
82:2 Pa hyd y bernwch ar gam? ac y
derbyniwch wyneb y rhai annuwiol? Sela.
82:3 Bernwch y tlawd a’r amddifad: cyfiawnhewch
y cystuddiedig a’r rheidus.
82:4
Gwaredwch y tlawd a’r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.
82:5 Ni wyddant, ac ni ddeallant;
mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o’u lle.
82:6 Myfi a ddywedais, Duwiau ydych
chwi; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll.
82:7 Eithr byddwch feirw fel dynion,
ac fel un o’r tywysogion y syrthiwch.
82:8 Cyfod, O Dduw, barna y ddaear
canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd.
SALM 83
83:1 Cân neu Salm Asaff. O DDUW na
ostega: na thaw, ac na fydd lonydd, O DDUW.
83:2 Canys wele, dy elynion, sydd yn
terfysgu; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau.
83:3 Ymgyfrinachasant yn ddichellgar
yn erbyn dy bobl, ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di.
83:4 Dywedasant, Deuwch, a difethwn
hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach.
83:5 Canys ymgyngorasant yn unfryd;
ac ymwnaethant i’th erbyn;
83:6 Pebyll Edam, a’r Ismaeliaid; y
Moabiaid, a’r Hagariaid;
83:7 Gebal, ac Ammon, ac Amalec; y
Philistiaid, gyda phreswylwyr Tyrus.
83:8 Assur hefyd a ymgyplysodd â
hwynt: buant fraich i blant Lot. Sela.
83:9 Gwna di iddynt fel i Midian;
megis i Sisera, megis i Jabin, wrth afon Cison:
83:10 Yn Endor y difethwyd hwynt:
aethant yn dail i’r ddaear.
83:11 Gwna eu pendefigion fel Oreb,
ac fel Seeb; a’u holl dywysogion fel Seba, ac fel Salmunna:
83:12 Y rhai a ddywedasant, Cymerwn
i ni gyfanheddau DUW i’w meddiannu.
83:13 Gosod hwynt, O fy NUW,
fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt.
83:14 Fel y llysg tân goed, ac fel y
goddeithia fflam fynyddoedd;
83:15 Felly erlid di hwynt â’th
dymestl, a dychryna hwynt â’th gorwynt.
83:16 Llanw eu hwynebau â gwarth;
fel y ceisiont dy enw, O ARGLWYDD.
83:17 Cywilyddier a thralloder hwynt
yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt:
83:18 Fel y gwypont mai tydi, yr hwn
yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.
SALM 84
84:1 I’r Pencerdd ar Gittith, Salm
meibion Cora. Mor hawddgar yw dy bebyll di, O ARGLWYDD y lluoedd!
84:2 Fy
enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr ARGLWYDD: fy nghalon a’m
cnawd a waeddant am y DUW byw.
84:3 Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ,
a’r wennol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion; sef dy allorau di, O ARGLWYDD y
lluoedd, fy Mrenin, a’m DUW.
84:4 Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ:
yn wastad y’th foliannant. Sela.
84:5 Gwyn ei fyd y dyn y mae ei
gadernid ynot; a’th ffyrdd yn eu calon:
84:6 Y rhai yn myned trwy ddyffryn
Bacha a’i gwnânt yn ffynnon: a’r glaw a leinw y llynnau.
84:7 Ant o nerth i nerth; ymddengys
pob un gerbron DUW yn Seion.
84:8 O ARGLWYDD DDUW y lluoedd, clyw
fy ngweddi: gwrando, O DDUW Jacob. Sela.
84:9 O Dduw ein tarian, gwêl, ac
edrych ar wyneb dy Eneiniog.
84:10 Canys gwell yw diwrnod yn dy
gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy NUW, o flaen trigo ym
mhebyll annuwioldeb.
84:11 Canys haul a tharian yw yr
ARGLWYDD DUW: yr ARGLWYDD a rydd ras a gogoniant - ni atal efe ddim daioni oddi
wrth y rhai a rodiant yn berffaith.
84:12 O ARGLWYDD y lluoedd,
gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.
SALM 85
85:1 I’r Pencerdd, Salm meibion
Cora. Graslon fuost, O ARGLWYDD, i’th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob.
85:2 Maddeuaist anwiredd dy bobl:
cuddiaist eu holl bechod. Sela.
85:3 Tynnaist ymaith dy holl lid:
troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter.
85:4 Tro ni,
O DDUW, ein hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym.
85:5 Ai byth y digi wrthym? a
estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?
85:6 Oni throi di a’n bywhau ni, fel
y llawenycho dy bobl ynot ti?
85:7 Dangos i ni, ARGLWYDD dy
drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth.
85:8 Gwrandawaf beth a ddywed yr
ARGLWYDD DDUW: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na
throant at ynfydrwydd.
85:9 Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r
rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni.
85:10 Trugaredd a gwirionedd a
ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant.
85:11 Gwirionedd a dardda o’r
ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd.
85:12 Yr ARGLWYDD hefyd a rydd
ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd.
85:13 Cyfiawnder a â o’i flaen ef;
ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.
SALM 86
86:1 Gweddi Dafydd. Gostwng, O
ARGLWYDD, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf.
86:2 Cadw fy enaid; canys sanctaidd
ydwyf: achub di dy was, O fy NUW, yr hwn sydd yn ymddiried ynot.
86:3 Trugarha wrthyf, ARGLWYDD:
canys arnat y llefaf beunydd.
86:4 Llawenha enaid dy was: canys
atat ti, ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid.
86:5 Canys ti, O ARGLWYDD, ydwyt
dda, a maddeugar; ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat.
86:6 Clyw, ARGLWYDD, fy ngweddi; ac
ymwrando â llais fy ymbil.
86:7 Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf
arnat: canys gwrandewi fi.
86:8 Nid oes fel tydi ymysg y
duwiau, O ARGLWYDD; na gweithredoedd fel dy weithredoedd di.
86:9 Yr holl genhedloedd y rhai a
wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, O Arglwydd; ac a ogoneddant
dy enw.
86:10 Canys ydwyt fawr, ac yn
gwneuthur rhyfeddodau: ti yn unig wyt DDUW.
86:11 Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD;
mi a rodiaf yn dy, wirionedd: una fy nghalon i ofni dy enw.
86:12 Moliannaf di, O Arglwydd fy
NUW â’m holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd.
86:13 Canys mawr yw dy drugaredd
tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod.
86:14 Rhai beilchion a gyfodasant
i’m herbyn, O DDUW, a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni’th
osodasant di ger eu bron.
86:15 Eithr ti, O Arglwydd, wyt DDUW
trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd.
86:16 Edrych arnaf, a thrugarha
wrthyf: dyro dy nerth i’th was, ac achub fab dy wasanaethferch.
86:17 Gwna i mi arwydd er daioni:
fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt; am i ti, O ARGLWYDD, fy
nghynorthwyo a’m diddanu.
SALM 87
87:1 Salm neu Gân meibion, Cora. Ei
sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd.
87:2 Yr ARGLWYDD a gâr byrth Seion
yn yn fwy na holl breswylfeydd Jacob.
87:3 Gogoneddus bethau a ddywedir
amdanat ti, O ddinas DUW. Sela.
87:4 Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy
nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn.
87:5 Ac am Seion y dywedir, Y gŵr
a’r gŵr a anwyd ynddi: a’r Goruchaf ei hun a’i sicrha hi.
87:6 Yr ARGLWYDD a gyfrif pan
ysgrifenno y bobl, eni hwn yno. Sela.
87:7 Y cantorion a’r cerddorion a
fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.
SALM 88
88:1 Salm neu Gân meibion Cora, i’r
Pencerdd ar Mahalath Leannoth, Maschil Heman yr Esrahiad. ARGLWYDD DDUW fy
iachawdwriaeth, gwaeddais o’th flaen ddydd a nos.
88:2 Deued fy ngweddi ger dy fron:
gostwng dy glust at fy llefain.
88:33 Canys fy enaid a lanwyd o
flinderau; a’m heinioes a nesâ i’r beddrod.
88:4 Cyfrifwyd fi gyda’r rhai a
ddisgynnant i’r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth.
88:5 Yn rhydd ymysg y meirw, fel
rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd, y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd
oddi wrth dy law.
88:6 Gosodaist fi yn y pwll isaf,
mewn tywyllwch, yn y dyfnderau.
88:7 Y mae dy ddigofaint yn pwyso
arnaf: ac â’th holl donnau y’m cystuddiaist. Sela.
88:8 Pellheaist fy nghydnabod oddi
wrthyf; gwnaethost fi yn ffieidd-dra iddynt: gwarchaewyd fi fel nad awn allan.
88:9 Fy llygad a ofidiodd gan fy
nghystudd: llefais arnat ARGLWYDD, beunydd; estynnais fy nwylo atat.
88:10 Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod?
a gyfyd y meirw a’th foliannu di? Sela.
88:11 A draethir dy drugaredd mewn
bedd? a’th wirionedd yn nistryw?
88:12 A adwaenir dy ryfeddod yn y
tywyllwch? a’th gyfiawnder yn nhir angof?
88:13 Ond myfi a lefais arnat,
ARGLWYDD; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen.
88:14 Paham, ARGLWYDD, y gwrthodi fy
enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf?
88:15 Truan ydwyf fi, ac ar
drancedigaeth o’m hieuenctid: dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso.
88:16 Dy soriant a aeth drosof; dy
ddychrynedigaethau a’m torrodd ymaith.
88:17 Fel dwfr y’m cylchynasant beunydd,
ac y’m cydamgylchasant.
88:18 Câr a chyfaill a yrraist
ymhell oddi wrthyf, a’m cydnabod i dywyllwch.
SALM 89
89:1 Maschil Ethan yr Esrahiad.
Trugareddau yr ARGLWYDD a ddatganaf byth: â’m genau y mynegaf dy wirionedd o
genhedlaeth hyd genhedlaeth.
89:2 Canys dywedais, Adeiledir
trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd.
89:3 Gwneuthum amod i’m hetholedig,
tyngais i’m gwas Dafydd.
89:4 Yn dragywydd y sicrhaf dy had
di: ac o genhedlaeth i genhediaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela.
89:5 A’r nefoedd, O ARGLWYDD, a
foliannant dy ryfeddod; a’th wirionedd yng nghynulleidfa y saint.
89:6 Canys pwy yn y nef a gystedlir
â’r ARGLWYDD? pwy a gyffelybir i’r ARGLWYDD ymysg meibion y cedyrn?
89:7 DUW sydd ofnadwy iawn yng nghynulleidfa
y saint, ac i’w arswydo yn ei holl amgylchoedd.
89:8 O ARGLWYDD DDUW y lluoedd, pwy
sydd fel tydi, yn gadarn IÔR? a’th wirionedd o’th amgylch?
89:9 Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd
môr: pan gyfodo ei donnau, ti a’u gostegi.
89:10 Ti a ddrylliaist yr Aifft, fel
un lladdedig: trwy nerth dy fraich y gwasgeraist dy elynion.
89:11 Y nefoedd ydynt eiddot ti, a’r
ddaear sydd eiddot ti: ti a seiliaist y byd a’i gyfiawnder.
89:12 Ti a greaist ogledd a deau:
Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw.
89:13 Y mae i ti fraich a chadernid:
cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw.
89:14 Cyfiawnder a barn yw trigfa dy
orseddfainc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb.
89:15 Gwyn eu byd y bobl a adwaenant
yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb, ARGLWYDD, y rhodiant hwy.
89:16 Yn dy enw di y gorfoleddant
beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant.
89:17 Canys godidowgrwydd eu
cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni.
89:18 Canys yr ARGLWYDD yw ein
tarian a Sanct Israel yw ein Brenin.
89:19 Yna yr ymddiddenaist mewn
gweledigaeth â’th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn:
dyrchefais un etholedig o’r bobl.
89:20 Cefais Dafydd fy
ngwasanaethwr: eneiniais ef â’m holew sanctaidd:
89:21 Yr hwn y sicrheir fy llaw
gydag ef: a’m braich a’i nertha ef.
89:22 Ni orthryma y gelyn ef; a’r
mab anwir nis cystuddia ef.
89:23 Ac mi a goethaf ei elynion o’i
flaen; a’i gaseion a drawaf.
89:24 Fy ngwirionedd hefyd a’m
trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef.
89:25 A gosodaf ei law yn y môr, a’i
ddeheulaw yn yr afonydd.
89:26 Efe a lefa arnaf, Ti yw fy
Nhad, fy NUW, a Chraig fy iachawdwriaeth.
89:27 Minnau a’i gwnaf yntau yn
gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaear.
89:28 Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn
dragywydd; a’m cyfamod fydd sicr iddo.
89:29 Gosodaf hefyd ei had yn
dragywydd; a’i orseddfainc fel dyddiau y nefoedd.
89:30 Os ei feibion a adawant fy
nghyfraith, ac ni rodiant yn fy marnedigethau;
89:31 Os fy neddfau a halogant, a’m
gorchmynion ni chadwant:
89:32 Yna mi a ymwelaf â’u camwedd â
gwialen ac â’u hanwiredd â ffrewyllau.
89:33 Ond ni thorraf fy nhrugaredd
oddi wrtho, ac ni pharaf o’m gwirionedd.
89:34 Ni thorraf fy nghyfamod, ac ni
newidiaf yr hyn a ddaeth allan o’m genau.
89:35 Tyngais unwaith i’m
sancteiddrwydd na ddywedwn gelwydd i Dafydd
89:36 Bydd ei had ef yn dragywydd,
a’i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i.
89:37 Sicrheir ef yn dragywydd fel y
lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela.
89:38 Ond ti a wrthodaist ac a
ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy Eneiniog.
89:39 Diddymaist gyfamod dy was;
halogaist ei goron, gan ei thaflu i lawr.
89:40 Drylliaist ei holl gaeau ef;
gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau.
89:41 Yr holl fforddolion a’i
hysbeiliant ef: aeth yn warthrudd i’w gymdogion.
89:42 Dyrchefaist ddeheulaw ei
wrthwynebwyr; llawenheaist ei holl elynion.
89:43 Troaist hefyd fin ei gleddyf,
ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel.
89:44 Peraist i’w harddwch ddarfod, a
bwrwiaist ei orseddfainc i lawr.
89:45 Byrheaist ddyddiau ei
ieuenctid: toaist gywilydd drosto ef. Sela.
89:46 Pa hyd, ARGLWYDD, yr ymguddi?
ai yn dragywydd? a lysg dy ddigofaint di fel tân?
89:47 Cofia pa amser sydd i mi:
paham y creaist holl blant dynion yn ofer?
89:48 Pa ŵr a fydd byw, ac ni
wêl farwolaeth? a wared efe ei enaid o law y bedd? Sela.
89:49 Pa le y mae dy hen
drugareddau, O ARGLWYDD, y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd?
89:50 Cofia, O ARGLWYDD, waradwydd
dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion;
89:51 A’r hwn y gwaradwyddodd dy
elynion, O ARGLWYDD; â’r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Eneiniog.
89:52 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD
yn dragywydd. Amen, ac Amen.
SALM 90
90:1 Gweddi Moses gŵr DUW. Ti,
ARGLWYDD, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth.
90:2 Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a
llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt DDUW, o dragwyddoldeb hyd
dragwyddoldeb.
90:3 Troi ddyn i ddinistr; a dywedi,
Dychwelwch, feibion dynion.
90:4 Canys mil o flynyddoedd ydynt
yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos.
90:5 Dygi hwynt ymaith megis â
llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir.
90:6 Y bore y blodeua, ac y
tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa.
90:7 Canys yn dy ddig y difethwyd
ni, ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd.
90:8
Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb.
90:9 Canys ein holl ddyddiau ni a
ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl.
90:10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y
mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd,
eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith.
90:11 Pwy a edwyn nerth dy soriant?
canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter.
90:12 Dysg i ni felly gyfrif ein
dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb.
90:13 Dychwel, ARGLWYDD, pa hyd? ac
edifarha o ran dy weision.
90:14 Diwalla ni yn fore â’th
drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau.
90:15 Llawenha ni yn ôl y dyddiau: y
cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.
90:16 Gweler dy waith tuag at dy
weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy.
90:17 A bydded prydferthwch yr
ARGLWYDD ein DUW arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna
waith ein dwylo.
SALM 91
91:1 Yr hwn sydd yn trigo yn
nirgelwch y y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog.
91:2 Dywedaf am yr ARGLWYDD, Fy
noddfa a’m hamddiffynfa ydyw: fy NUW; ynddo yr ymddiriedaf.
91:3 Canys efe a’th wareda di o fagl
yr heliwr, ac oddi wrth haint echryslon.
91:4 A’i asgell y cysgoda efe
trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch
i ti.
91:5 Nid ofni rhag dychryn nos; na
rhag y saeth a ehedo y dydd:
91:6 Na rhag yr haint a rodio yn y
tywyllwch; na rhag y dinistria a ddinistrio ganol dydd.
91:7 Wrth dy ystlys y cwymp mil, a
deng mil wrth dy ddeheulaw, ond ni ddaw yn agos atat ti.
91:8 Yn unig ti a ganfyddi â’th
lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol.
91:9 Am i ti wneuthur yr ARGLWYDD fy
noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti;
91:10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni
ddaw pla yn agos i’th babell.
91:11 Canys efe a orchymyn i’w
angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.
91:12 Ar eu dwylo, y’th ddygant rhag
taro dy droed wrth garreg.
91:13 Ar y llew a’r asb y
cerddi: y cenau llew a’r ddraig a fethri.
91:14 Am
iddo toddi ei serch arnaf, a hynny gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod
fy enw.
91:15 Efe a eilw arnaf, a mi a’i
gwrandawaf mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef.
91:16 Digonaf ef â hir ddyddiau; a
dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.
SALM 92
92:1 Salm neu Gân ar y dydd Saboth. A
yw moliannu yr ARGLWYDD, a chanu mawl i’th enw di, Y Goruchaf:
92:2 A mynegi y bore am dy
drugaredd, a’th wirionedd y nosweithiau;
92:3 Ar ddectant, ac ar y nabl; ac
ar y delyn yn fyfyriol.
92:4 Canys llawenychaist fi, O
ARGLWYDD â’th weithred: yng ngwaith dy ddwylo gorfoleddaf.
92:5 Mor fawredig, O ARGLWYDD, yw dy
weithredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau.
92:6 Gŵr annoeth ni ŵyr,
a’r ynfyd ni ddeall hyn.
92:7 Pan flodeuo y rhai annuwiol fel
y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i’w dinistrio byth
bythoedd.
92:8 Tithau, ARGLWYDD, wyt
ddyrchafedig yn dragywydd.
92:9 Canys wele, dy elynion, O
ARGLWYDD, wele, dy elynion a ddifethir: gwasgerir holl weithredwyr anwiredd.
92:10 Ond fy nghorn i a ddyrchefi
fel unicorn: ag olew ir y’m heneinir.
92:11 Fy llygad hefyd a wêl fy
ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai
drygionus a gyfodant i’m herbyn.
92:12 Y cyfiawn a flodeua fel
palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus.
92:13 Y rhai a blannwyd yn nhŷ
yr ARGLWYDD a flodeuant yng nghynteddoedd ein DUW.
92:14 Ffrwythant eto yn eu henaint;
tirfion ac iraidd fyddant:
92:15 I fynegi mai uniawn yw yr
ARGLWYDD fy nghraig; ac nad oes anwiredd ynddo.
SALM 93
93:1 Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu,
efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr ARGLWYDD nerth, ac ymwregysodd: y
byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo.
93:2 Darparwyd dy orseddfainc
erioed: ti wyt er tragwyddoldeb.
93:3 Y llifeiriaint, O ARGLWYDD, a
ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf, y llifeiriaint a
ddyrchafasant eu tonnau.
93:4 Yr ARGLWYDD yn yr uchelder sydd
gadernach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr.
93:5 Sicr iawn yw dy dystiolaethau:
sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ, O ARGLWYDD, byth.
SALM 94
94:1 O ARGLWYDD DDUW y dial, O DDUW
y dial, ymddisgleiria.
94:2 Ymddyrcha, Farnwr y byd: tâl eu
gwobr i’r beilchion.
94:3 Pa hyd, ARGLWYDD, y caiff yr
annuwiolion, pa hyd, y caiff yr annuwiol orfoleddu?
94:4 Pa hyd
y siaradant ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd?
94:5 Dy bobl, ARGLWYDD, a
ddrylliant; a’th etifeddiaeth a gystuddiant.
94:6 Y weddw a’r dieithr a laddant,
a’r amddifad a ddieneidiant.
94:7 Dywedant hefyd, Ni wêl yr
ARGLWYDD; ac nid ystyria DUW Jacob hyn.
94:8 Ystyriwch, chwi rai annoeth
ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?
94:9 Oni chlyw yr hwn a blannodd y
glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?
94:10 Oni cherydda yr hwn a gosba y
cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn?
94:11 Gŵyr yr ARGLWYDD
feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt.
94:12 Gwyn ei fyd y gŵr a
geryddi di, O ARGLWYDD, ac a ddysgi yn dy gyfraith:
94:13 I beri iddo lonydd oddi wrth
ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol.
94:14 Canys ni ad yr ARGLWYDD ei
bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.
94:15 Eithr barn a ddychwel at
gyfiawnder: a’r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl.
94:16 Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y
rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd?
94:17 Oni buasai yr ARGLWYDD yn
gymorth i mi, braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd.
94:18 Pan ddywedais, Llithrodd fy
nhroed dy drugaredd di, O ARGLWYDD, a’m cynhaliodd.
94:19 Yn amlder fy meddyliau o’m
mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid.
94:20 A fydd cydymdeithas i ti â
gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?
94:21 Yn finteioedd y deuant yn
erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog.
94:22 Eithr yr ARGLWYDD sydd yn amddiffynfa
i mi; a’m DUW yw craig fy nodded.
94:23 Ac efe a dâl iddynt eu
hanwiredd, ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni: yr ARGLWYDD ein DUW a’u tyr hwynt
ymaith.
SALM 95
95:1 Deuwch, canwn i’r ARGLWYDD:
ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd.
95:2 Deuwn ger ei fron ef â diolch:
canwn yn llafar iddo â Salmau.
95:3 Canys yr ARGLWYDD sydd DDUW
mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
95:4 Yr hwn y mae gorddyfnderau y
ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo.
95:5 Y môr sydd eiddo, ac efe a’i
gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir.
95:6 Deuwch, addolwn, ac yngrymwn:
gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD ein Gwneuthurwr.
95:7 Canys efe yw ein DUW ni; a
ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd,
95:8 Na chaledwch eich calonnau,
megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch:
95:9 Pan demtiodd eich tadau fi, y
profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd.
95:10 Deugain mlynedd yr ymrysonais
â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac
nid adnabuant fy ffyrdd:
95:11 Wrth y rhai y tyngais yn fy
llid, na ddelent i’m gorffwysfa.
SALM 96
96:1 Cenwch i’r ARGLWYDD ganiad
newydd; cenwch, i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear.
96:2 Cenwch i’r ARGLWYDD, bendigwch
ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.
96:3 Datgenwch ymysg y cenhedloedd
ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.
96:4 Canys mawr yw yr ARGLWYDD, a
chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.
96:5 Canys holl dduwiau y bobloedd
ydynt eilunod: ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
96:6 Gogoniant a harddwch sydd o’i
flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr.
96:7 Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r
ARGLWYDD, rhoddwch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.
96:8 Rhoddwch i’r ARGLWYDD ogoniant
ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd.
96:9 Addolwch yr ARGLWYDD mewn
prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef.
96:10 Dywedwch ymysg y cenhedloedd,
Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu; a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a
farna y bobl yn uniawn.
96:11 Llawenhaed y nefoedd, a
gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’i gyfiawnder.
96:12 Gorfoledded y maes, a’r hyn
oll sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant
96:13 O flaen yr ARGLWYDD; canys y
mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy
gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.
SALM 97
97:1 Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu;
gorfoledded y ddaear: llawenyched ynysoedd lawer.
97:2 Cymylau a thywyllwch sydd o’i
amgylch ef: cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef.
97:3 Tân a â allan o’i flaen ef, ac
a lysg ei elynion o amgylch.
97:4 Ei fellt a lewyrchasant y byd:
y ddaear a welodd, ac a grynodd.
97:5 Y mynyddoedd a doddasant fel
cwyr o flaen yr ARGLWYDD, o flaen Arglwydd yr holl ddaear.
97:6 Y nefoedd a fynegant ei
gyfiawnder ef, a’r holl bobl a welant ei ogoniant.
97:7 Gwaradwydder y rhai oll a
wasanaethant ddelw gerfiedig, y rhai a ymffrostiant mewn eilunod: addolwch ef,
yr holl dduwiau.
97:8 Seion a glywodd, ac a
lawenychodd; a merched Jwda a orfoleddasant, oherwydd dy farnedigaethau di, O
ARGLWYDD.
97:9 Canys ti, ARGLWYDD, wyt oruchel
goruwch yr holl ddaear: dirfawr y’th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau.
97:10 Y rhai a gerwch yr ARGLWYDD,
casewch ddrygioni: efe sydd yn cadw eneidiau ei saint; efe a’u gwared o law y
rhai annuwiol.
97:11 Heuwyd goleuni i’r cyfiawn, a
llawenydd i’r rhai uniawn o galon.
97:12 Y rhai cyfiawn, llawenychwch
yn yr ARGLWYDD; a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
SALM 98
98:1 Salm. Cenwch i’r ARGLWYDD
ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a’i fraich
sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth
98:2 Hysbysodd yr ARGLWYDD ei
iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd.
98:3 Cofiodd ei drugaredd a’i
wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein
DUW ni.
98:4 Cenwch yn llafar i’r ARGLWYDD,
yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.
98:5 Cenwch i’r ARGLWYDD gyda’r
delyn; gyda’r delyn, a llef salm.
98:6 Ar utgyrn a sain cornet, cenwch
yn llafar o flaen yr ARGLWYDD y Brenin.
98:7 Rhued y môr a’i gyfiawnder; y
byd a’r rhai a drigant o’i fewn.
98:8 Cured y llifeiriaint eu dwylo;
a chydganed y mynyddoedd.
98:9 O flaen yr ARGLWYDD; canys y
mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag
uniondeb.
SALM 99
99:1 YR ARGLWYDD sydd yn teyrnasu;
cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear.
99:2 Mawr yw yr ARGLWYDD yn Seion, a
dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd.
99:3 Moliannant dy enw mawr ac
ofnadwy; canys sanctaidd yw.
99:4 A nerth y Brenin a hoffa farn:
ti a sicrhei uniondeb, barn a chyflawnder a wnei di yn Jacob.
99:5 Dyrchefwch yr ARGLWYDD ein DUW;
ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw.
99:6 Moses ac Aaron ymhlith ei
offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw; galwasant ar yr
ARGLWYDD, ac efe a’u gwrandawodd hwynt.
99:7 Llefarodd wrthynt yn y golofn
gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt.
99:8 Gwrandewaist arnynt, O ARGLWYDD
ein Duw: DUW oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion.
99:9 Dyrchefwch yr ARGLWYDD ein Duw,
ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr ARGLWYDD ein Duw.
SALM 100
100:1 Salm o foliant. Cenwch yn
llafar i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear.
100:2 Gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn
llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân.
100:3 Gwybyddwch mai yr ARGLWYDD sydd
DDUW: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei
borfa.
100:4 Ewch i mewn i’w byrth ef â
diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw.
100:5 Canys da yw yr ARGLWYDD: ei
drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
SALM 101
101:1 Salm Dafydd. Canaf am
drugaredd a barn: i ti, O ARGLWYDD, y canaf.
101:2 Byddaf ddeallus mewn ffordd
berffaith. Pa bryd y deui ataf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn
fy nhŷ.
101:3 Ni osodaf ddim anwir o flaen
fy llygaid: cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi.
101:4 Calon gyndyn a gilia oddi
wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus.
101:5 Torraf ymaith yr hwn a
enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a’r balch ei galon, ni allaf
ei ddioddef.
101:6 Fy llygaid fydd ar
ffyddloniaid y tir, fel y trigont gyda mi: yr hwn a rodio mewn ffordd
berffaith, hwnnw a’m gwasanaetha i.
101:7 Ni thrig o fewn fy nhŷ
yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd.
101:8 Yn
fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir, i ddiwreiddio holl weithredwyr
anwiredd o ddinas yr ARGLWYDD.
SALM 102
102:1 Gweddi'r cystuddiedig, pan
fyddo mewn blinder, ac yn tywallt ei gŵyn gerbron yr ARGLWYDD. ARGLWYDD,
clyw fy ngweddi, a deled fy llef atat.
102:2 Na chudd dy wyneb oddi wrthyf
yn nydd fy nghyfyngder, gostwng dy glust ataf: yn y dydd y galwyf, brysia,
gwrando fi.
102:3 Canys fy nyddiau a ddarfuant
fel mwg, a'm hesgyrn a boethasant fel aelwyd.
102:4 Fy nghalon a drawyd, ac a
wywodd fel llysieuyn; fel yr anghofiais fy mara.
102:5 Gan lais fy nhuchan y glynodd
fy esgyrn wrth fy nghnawd.
102:6 Tebyg wyf i belican yr
anialwch: ydwyf fel tylluan y diffeithwch.
102:7 Gwyliais, ac ydwyf fel aderyn
y to, unig ar ben y tŷ.
102:8 Fy ngelynion a’m gwaradwyddant
beunydd: y rhai a ynfydant wrthyf, a dyngasant yn fy erbyn.
102:9 Canys bwyteais ludw fel bara,
a chymysgais fy niod ag wylofain;
102:10 Oherwydd dy lid di a’th
ddigofaint: canys codaist fi i fyny, a theflaist fi i lawr.
102:11 Fy nyddiau sydd fel cysgod yn
cilio; a minnau fel glaswelltyn a wywais.
102:12 Tithau, ARGLWYDD, a barhei ya
dragwyddol, a’th gofradwriaeth hyd
genhedlaeth a chenhedlaeth.
102:13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei
wrth Seion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig, a ddaeth.
102:14 Oblegid y mae dy weision yn
hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi.
102:15 Felly y cenhedloedd a ofnant
enw yr ARGLWYDD, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogonoiant.
102:16 Pan adeilado yr ARGLWYDD
Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant.
102:17 Efe a edrych at weddi y
gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad.
102:18 Hyn a ysgrifennir i’r
genhedlaeth a ddêl: a’r bobl a grëir a foliannant yr ARGLWYDD.
102:19 Canys efe a edrychodd o
uchelder ei gysegr: yr ARGLWYDD a edrychodd o’r nefoedd ar y ddaear;
102:20 I wrando uchenaid y
carcharorion; ac i ryddhau plant angau;
102:21 I fynegi enw yr ARGLWYDD yn
Seion, a’i foliant yn Jerwsalem:
102:22 Pan gasgler y bobl ynghyd,
a’r teyrnasoedd i wasanaethu yr ARGLWYDD.
102:23 Gostyngodd efe fy nerth ar y
ffordd; byrhaodd fy nyddiau.
102:24 Dywedais, Fy NUW, na chymer
fi ymaith yng nghanol, fy nyddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd.
102:25 Yn y dechreuad y seiliaist y
ddaear; a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylo.
102:26 Hwy a ddarfyddant, a thi a
barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy
a newidir.
102:27 Tithau yr un ydwyt, a’th
flynyddoedd ni ddarfyddant.
102:28 Plant dy weision a barhânt,
a’u had a sicrheir ger dy fron di.
SALM 103
103:1 Salm Dafydd. Fy enaid,
bendithia yr ARGLWYDD; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef.
103:2 Fy enaid, bendithia yr
ARGLWYDD; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef:
103:3 Yr hwn sydd yn maddau dy holl
anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd:
103:4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy
fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi:
103:5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau
â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr.
103:6 Yr ARGLWYDD sydd: yn gwneuthur
cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll.
103:77 Hysbysodd ei ffyrdd i Moses;
ei weithredoedd i feibion Israel.
103:8 Trugarog a graslon yw yr
ARGLWYDD; hwyrfrydig ei lid, a mawr o drugarowgrwydd.
103:9 Nid byth yr ymryson efe: ac
nid byth y ceidw efe ei ddigofaint.
103:10 Nid yn ôl ein pechodau
y gwnaeth efe a ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe ini.
103:11 Canys cyfuwch ag yw y nefoedd
uwchlaw y ddaear, y rhagorodd e drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef.
103:12 Cyn belled ag yw y dwyrain
oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ei camweddau oddi wrthym.
103:13 Fel y tosturia tad wrth ei
blant, felly y tosturia yr ARGLWYDD wrth y rhai a’i hofnant ef.
103:14 Canys efe a edwyn ein defnydd
ni: cofia mai llwch ydym.
103:15 Dyddiau dyn sydd fel
glaswelltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe.
103:16 Canys y gwynt a â drosto, ac
ni bydd mwy ohono; a’i le nid edwyn ddim ohono ef mwy.
103:17 Ond trugaredd yr ARGLWYDD
sydd o drawyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a’i hofnant ef; a’i gyfiawnder
i blant eu plant;
103:18 I’r sawl a gadwant ei gyfamod
ef, ac a gofiant ei orchmynion i’w gwneuthur.
103:19 Yr ARGLWYDD a baratôdd ei
orseddfa yn y nefoedd: a’i frenhiniaeth ef sydd yn draethu ar bob peth.
103:20
Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion ef, cedyrn o nerth, yn gwneuthur ei air
ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.
103:21 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei
holl luoedd e; ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef.
103:22 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei
holl weithredoedd ef, ym mhob man o’i lywodraeth: fy enaid, bendithia yr
ARGLWYDD.
SALM 104
104:1 Fy enaid, bendithia yr
ARGLWYDD. O ARGLWYDD fy NUW, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch.
104:2 Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni
fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen.
104:3 Yr hwn sydd yn gosod tulathau
ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn
rhodio ar adenydd y gwynt.
104:4 Yr hwn sydd yn gwneuthur ei
genhadon yn ysbrydion; a’i weinidogion yn dân fflamllyd.
104:5 Yr hwn a seiliodd y ddaear ar
ei symudo byth yn dragywydd.
104:6 Toaist hi â’r gorddyfnder,
megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd.
104:7 Gan dy gerydd di y ffoesant:
rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith.
104:8 Gan y mynyddoedd yr ymgodant:
ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnaist, i’r lle a seiliaist iddynt.
104:9 Gosodaist derfyn, fel nad
elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear.
104:10 Yr hwn a yrr y ffynhonnau i’r
dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau.
104:11 Diodant holl fwystfilod y
maes: yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched.
104:12 Adar y nefoedd a drigant
gerllaw iddynt, y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau.
104:13 Y mae efe yn dyfrhau y bryniau
o’i ystafelloedd: y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd.
104:14 Y mae yn peri i’r gwellt dyfu
i’r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o’r ddaear;
104:15 A gwin, yr hwn a lawenycha
galon dyn; ac olew, i beri i’w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon
dyn.
104:16 Prennau yr ARGLWYDD sydd lawn
sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe;
104:17 Lle y nytha yr adar: y
ffynidwydd yw tŷ y ciconia.
104:18 Y mynyddoedd uchel sydd
noddfa i’r geifr; a’r creigiau i’r cwningod.
104:19 Efe a wnaeth y lleuad i
amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad.
104:20 Gwnei dywyllwch, a nos fydd:
ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed.
104:21 Y cenawon llewod a ruant am
ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan DDUW.
104:22 Pan godo haul, ymgasglant, a
gorweddant yn eu llochesau.
104:23 Dyn a â allan i’w waith, ac
i’w orchwyl hyd yr hwyr.
104:24 Mor lluosog yw dy
weithredoedd, O ARGLWYDD! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y
ddaear o’th gyfoeth.
104:25 Felly y mae y môr mawr,
llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion.
104:26 Yno yr â y llongau:
yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo.
104:27 Y
rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd.
104:28 A roddech iddynt, a gasglant:
agori dy law, a diwellir hwynt â daioni.
104:29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau
a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch.
104:30 Pan ollyngych dy ysbryd, y
creir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear.
104:31 Gogoniant yr ARGLWYDD fydd yn
dragywydd: yr ARGLWYDD a lawenycha yn ei weithredoedd.
104:32 Efe a edrych ar y ddaear, a
hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant.
104:33 Canaf i’r ARGLWYDD tra
fyddwyf fyw: canaf i’m DUW tra fyddwyf.
104:34 Bydd melys fy myfyrdod
amdano: mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD.
104:35 Darfydded y pechaduriaid o’r
tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr ARGLWYDD. Molwch
yr ARGLWYDD.
SALM 105
105:1 Clodforwch yr ARGLWYDD; gelwch
ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
105:2 Cenwch iddo, canmolwch ef:
ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef.
105:3 Gorfoleddwch yn ei enw
sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr ARGLWYDD.
105:4 Ceisiwch yr ARGLWYDD a’i
nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser.
105:5 Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a
wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau;
105:6 Chwi had Abraham ei was ef,
chwi feibion Jacob ei etholedigion.
105:7 Efe yw yr ARGLWYDD ein DUW ni:
ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.
105:8 Cofiodd ei gyfamod byth, y
gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau:
105:9 Yr hyn a amododd efe ag
Abraham, a’i lw i Isaac;
105:10 A’r hyn a osododd efe yn
ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel;
105:11 Gan ddywedyd, i ti y rhoddaf
dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
105:12 Pan oeddynt ychydig o rifedi,
ie, ychydig, a dieithriaid ynddi:
105:13 Pan rodient o genhedlaeth i
genhedlaeth, o’r naill deyrnas at bobl arall:
105:14 Ni adawodd i neb eu
gorthrymu; ie, ceryddodd frenhinoedd o’u plegid;
105:15 Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch
â’m rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.
105:16 Galwodd hefyd am newyn ar y
tir a dinistriodd holl gynhaliaeth bara.
105:17 Anfonodd ŵr o’u blaen
hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was.
105:18 Cystuddiasant ei draed ef
mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn:
105:19 Hyd yr amser y daeth ei air
ef: gair yr ARGLWYDD a’i profodd ef.
105:20 Y brenin a anfonodd, ac a’i gollyngodd
ef; llywodraethwr y bobl, ac a rhyddhaodd ef.
105:21 Gosododd ef yn arglwydd ar ei
dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth:
105:22 I rwymo ei dywysogion ef wrth
ei ewyllys; ac i ddysgu doethhineb i’w henuriaid ef.
105:23 Aeth Israel hefyd i’r Aifft;
a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham.
105:24 Ac efe a gynyddodd ei bobl yn
ddirfawr; ac a’u gwnaeth yn gryfach na’u gwrthwynebwyr.
105:25 Trodd eu calon hwynt i gasâu
ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â’i weision.
105:26 Efe a anfonodd Moses ei was;
a Aaron, yr hwn a ddewisasai.
105:27 Hwy a ddangosasant ei
arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham.
105:28 Efe a anfonodd dywyllwch, ac
a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef.
105:29 Efe a drodd eu dyfroedd yn
waed, ac a laddodd eu pysgod.
105:30 Eu tir a heigiodd lyffaint yn
ystafelloedd eu brenhinoedd.
105:31 Efe a ddywedodd, a daeth
cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt.
105:32 Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn
genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir.
105:33 Trawodd hefyd eu gwinwydd,
a’u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.
105:34 Efe a ddywedodd, a daeth y
locustiaid, a’r lindys, yn aneirif;
105:35 Y rhai a fwytasant yr holl
laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt.
105:36 Trawodd hefyd bob
cyntaf-anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt.
105:37 Ac a’u dug hwynt allan ag
arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau.
105:38 Llawenychodd yr Aifft pan
aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy.
105:39 Efe a daenodd gwmwl yn do, a
thân i oleuo liw nos.
105:40 Gofynasant, ac efe a ddug
soffleir; ac a’u diwallodd â bara nefol.
105:41 Efe a holltodd y graig, a’r
dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd.
105:42 Canys efe a gofiodd ei air
sanctaidd, ac Abraham ei was.
105:43 Ac a ddug ei bobl allan mewn
llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd.
105:44 Ac a roddes iddynt diroedd y
cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd.
105:45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef,
ac y cyhalient ei gyfreithiau. Molwch yr ARGLWYDD.
SALM 106
106:1 Molwch yr ARGLWYDD. Clodforwch
yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
106:2 Pwy a draetha nerthoedd yr
ARGLWYDD? ac a fynega ei holl fawl ef?
106:3 Gwyn eu byd a gadwant farn,
a’r hwn wnêl gyfiawnder bob amser.
106:4 Cofia fi, ARGLWYDD, yn ôl dy
raslonrwydd i’th bobl; ymwel â mi â’th iachawdwriaeth.
106:5 Fel y gwelwyf ddaioni dy
etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf
gyda’th etifeddiaeth.
106:6 Pechasom gyda’n tadau;
gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom.
106:7 Ein tadau ni ddeallasant dy
ryfeddodau yn yr Aifft, ni chofiasant luosowgrwydd dy drugareddau; eithr
gwrthryfelgar fuont wrth y môr, sef y môr coch.
106:8 Eto efe a’u hachubodd hwynt er
mwyn ei enw, i beri adnabod ei gadernid.
106:9 Ac a geryddodd y môr coch, fel
y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy’r dyfnder, megis trwy’r anialwch.
106:10 Achubodd hwynt hefyd o law eu
digasog; ac a’u gwaredodd o law y gelyn.
106:11 A’r dyfroedd a doesant eu
gwrthwynebwyr; ni adawyd un ohonynt.
106:12 Yna y credasant ei eiriau ef;
canasant ei fawl ef.
106:13 Yn y fan yr anghofiasant ei
weithredoedd ef; ni ddisgwyliasant am ei gyngor ef.
106:14 Eithr blysiasant yn ddirfawr
yn yr anialwch; a themtiasant DDUW yn y diffeithwch.
106:15 Ac efe a roddes eu dymuniad
iddynt; eithr efe a anfonodd gulni i’w henaid.
106:16 Cenfigenasant hefyd wrth
Moses yn y gwersyll, ac wrth Aaron sant yr ARGLWYDD.
106:17 Y ddaear a agorodd, ac a
lyncodd Dathan, ac a orchuddiodd gynulleidfa Abiram.
106:18 Cyneuodd tân hefyd yn eu
cynulleidfa hwynt: fflam a losgodd y rhai annuwiol.
106:19 Llo a wnaethant yn Horeb; ac
ymgrymasant i’r ddelw dawdd.
106:20 Felly y troesant eu gogoniant
i lun eidion yn pori glaswellt.
106:21 Anghofiasant DDUW eu
Hachubwr, yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft;
106:22 Pethau rhyfedd yn nhir Ham;
pethau ofnadwy wrth y môr coch.
106:23 Am hynny y dywedodd y
dinistriai efe hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o’i
flaen ef; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef, rhag eu dinistrio.
106:24 Diystyrasant hefyd y tir
dymunol, ni chredasant ei air ef:
106:25 Ond grwgnachasant yn eu
pebyll;, ac ni wrandawsant ar lais yr ARGLWYDD,
106:26 Yna y dyrchafodd efe ei law
yn eu herbyn hwynt, i’w cwympo yn yr anialwch;
106:27 Ac i gwympo eu had ymysg y
cenhedloedd; ac i’w gwasgaru yn y tiroedd.
106:28 Ymgysylltasant hefyd â
Baal-Peor, a bwytasant ebyrth y meirw.
106:29 Felly y digiasant ef
â’u dychmygion eu hun; ac y trawodd pla yn eu mysg hwy.
106:30 Yna y safodd Phinees, ac a
iawn farnodd: a’r pla a ataliwyd.
106:31 A chyfrifwyd hyn iddo, yn
gyfiawnder, o genhedlaeth i genhedlaeth byth.
106:32 Llidiasant ef hefyd wrth
ddyfroedd y gynnen; fel y bu ddrwg i Moses o’u plegid hwynt:
106:33 Oherwydd cythruddo ohonynt ei
ysbryd ef, fel y camddywedodd â’i wefusau.
106:34 Ni ddinistriasant y bobloedd,
am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrthynt:
106:35 Eithr ymgymysgasant â’r
cenhedloedd; a dysgasant eu gweithredoedd hwynt:
106:36 A gwasanaethasant eu delwau
hwynt; y rhai a fu yn fagl iddynt.
106:37 Aberthasant hefyd eu meibion
a’u merched i gythreuliaid,
106:38 Ac a dywallasant waed
gwirion, sef gwaed eu meibion a’u merched, y rhai a aberthasant i ddelwau
Canaan: a’r tir a halogwyd â gwaed.
106:39 Felly yr ymhalogasant yn eu
gweithredoedd eu hun, ac y puteiniasant gyda’u dychmygion.
106:40 Am hynny y cyneuodd dig yr
ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, fel y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth.
106:41 Ac efe a’u rhoddes hwynt yn
llaw y cenhedloedd; a’u caseion a lywodraethasant arnynt.
106:42 Eu gelynion hefyd a’u
gorthrymasant; a darostyngwyd hwynt dan eu dwylo hwy.
106:43 Llawer gwaith y gwaredodd efe
hwynt; hwythau a’i digiasant ef â’u cyngor eu hun, a hwy a wanychwyd am eu
hanwiredd.
106:44 Eto
efe a edrychodd pan oedd ing arnynt, pan glywodd eu llefain hwynt.
106:45 Ac efe a gofiodd ei gyfamod â
hwynt, ac a edifarhaodd yn ôl lluosowgrwydd ei drugareddau.
106:46 Ac a wnaeth iddynt gael
trugaredd gan y rhai oll a’u caethiwai.
106:47 Achub ni, O ARGLWYDD ein DUW,
a chynnull ni o blith y cenhedloedd: glodfori dy enw sanctaidd, ac i orfoleddu
yn dy foliant.
106:48 Bendigedig fyddo ARGLWYDD
DDUW Israel erioed ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr
ARGLWYDD.
SALM 107
107:1 Clodforwch yr ARGLWYDD; canys
da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
107:2 Felly dyweded gwaredigion yr
ARGLWYDD, y rhai a waredodd efe o law y gelyn;
107:3 Ac a gasglodd efe o’r tiroedd,
o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau.
107:4 Crwydrasant yn yr anialwch
mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi:
107:5 Yn newynog ac yn sychedig, eu
henaid a lewygodd ynddynt.
107:6 Yna y llefasant ar yr ARGLWYDD
yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau;
107:7 Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y
ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol.
107:8 O na foliannent yr ARGLWYDD am
ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!
107:9 Canys efe a ddiwalla yr enaid
sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.
107:10 Y rhai a breswyliant yn y
tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn:
107:11 Oherwydd anufuddhau ohonynt
eiriau DUW, a dirmygu cyngor y Goruchaf.
107:12 Am hynny yntau a ostyngodd eu
calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr.
107:13 Yna y gwaeddasant ar yr
ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.
107:14 Dug hwynt allan o dywyllwch a
chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau.
107:15 O na foliannent yr ARGLWYDD
am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!
107:16 Canys efe a dorrodd y pyrth
pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn.
107:17 Ynfydion, oblegid eu
camweddau, ac oherwydd eu hanwireddau, a gystuddir.
107:18 Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd;
a daethant hyd byrth angau.
107:19 Yna y gwaeddasant ar yr
ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.
107:20 Anfonodd ei air, ac iachaodd
hwynt, ac a’u gwaredodd o’u dinistr.
107:21 O na foliannent yr ARGLWYDD
am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion!
107:22 Aberthant hefyd aberth
moliant; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.
107:23 Y rhai a ddisgynnant mewn
llongau môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion.
107:24 Hwy a welant weithredoedd yr
ARGLWYDD, a’i ryfeddodau yn y dyfnder.
107:25 Canys efe a orchymyn, a
chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef.
107:26 Hwy a esgynnant i’r nefoedd,
disgynnant i’r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder.
107:27 Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn:
a’u holl ddoethineb a ballodd.
107:28 Yna y gwaeddant ar yr
ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau.
107:29 Efe a wna yr ystorm yn dawel;
a’i thonnau a ostegant.
107:30 Yna y llawenhânt am eu
gostegu; efe a’u dwg i’r porthladd a ddymunent.
107:31 O na foliannent yr ARGLWYDD
am ei ddaioni, ai ryfedodau i feibion dynion!
107:32 A dyrchafant ef yng
nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.
107:33 Efe a wna afonydd yn
ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir.
107:34 A thir ffrwythlon yn
ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo.
107:35 Efe a dry yr anialwch yn llyn
dwfr, a’r tir cras yn ffynhonnau dwfr.
107:36 Ac yno y gwna i’r newynog
aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu:
107:37 Ac yr heuont feysydd, ac y
plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.
107:38 Ac efe a’u bendithia hwynt
fel yr amlhânt yn ddirfawr, ac ni ad i’w hanifeiliaid leihau.
107:39 Lleiheir hwynt hefyd, a
gostyngir hwynt, gan gyfyngder, drygfyd, a chyni.
107:40 Efe a dywallt ddirmyg ar
foneddigion, ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.
107:41 Ond efe a gyfyd y tlawd o
gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.
107:42 Y rhai uniawn a welant hyn,
ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn.
107:43 Y neb sydd ddoeth, ac a gadwo
hyn, a ddeallant drugareddau yr ARGLWYDD.
SALM 108
108:1 Cân neu Salm Dafydd. Parod yw
fy nghalon, O DDUW: canaf a chanmolaf â’m gogoniant.
108:2 Deffro, y nabl ar delyn:
minnau a deffroaf yn fore.
108:3 Clodforaf di, ARGLWYDD, ymysg
y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.
108:4 Canys mawr yw dy drugaredd
oddi ar y nefoedd: a’th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren.
108:5 Ymddyrcha, O DDUW, uwch y
nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear;
108:6 Fel y gwareder dy rai annwyl:
achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi.
108:7 DUW a lefarodd yn ei
sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.
108:8 Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi
Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr.
108:9 Moab yw fy nghrochan golchi;
tros Edom y taflaf fy esgid: buddugoliaethaf ar Philistia.
108:10 Pwy a’m dwg i’r ddinas
gadarn? pwy a’m dwg hyd yn Edom?
108:11 Onid tydi, O DDUW, yr hwn a’n
bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O DDUW, gyda’n lluoedd?
108:12 Dyro i ni gynhorthwy rhag
cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn.
108:13 Trwy DDUW y gwnawn wroldeb:
canys efe a sathr ein gelynion.
SALM 109
109:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Na
thaw, O DDUW fy moliant.
109:2 Canys genau yr annuwiol a
genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: A thafod celwyddog y llefarasant i’m
herbyn.
109:3 Cylchynasant fi hefyd â
geiriau cas; ac ymladdasant â mi heb achos.
109:4 Am fy ngharedigrwydd y’m
gwrthwynebant: minnau a arferaf weddi.
109:5 Talasant hefyd i mi ddrwg am
dda, a chas am fy nghariad.
109:6 Gosod dithau un annuwiol arno
ef; a safed Satan wrth ei ddeheulaw ef.
109:7 Pan farner ef, eled yn euog; a
bydded ei weddi yn bechod.
109:8 Ychydig fyddo ei ddyddiau; a
chymered arall ei swydd ef.
109:9 Bydded ei blant yn amddifaid,
a’i wraig yn weddw.
109:10 Gan grwydro hefyd crwydred ei
blant ef, a chardotant: ceisiant hefyd eu bara o’u hanghyfannedd leoedd.
109:11 Rhwyded y ceisiad yr hyn oll
sydd ganddo; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef.
109:12 Na fydded neb a estynno
drugaredd iddo; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef.
109:13 Torrer ymaith ei hiliogaeth
ef: dileer eu henw yn yr oes nesaf.
109:14 Cofier anwiredd ei dadau o
flaen yr ARGLWYDD; ac na ddileer pechod ei fam ef.
109:15 Byddant bob amser gerbron yr
ARGLWYDD, fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o’r tir:
109:16 Am na chollodd wneuthur
trugaredd, eithr erlid ohono y truan a’r tlawd, a’r cystuddiedig o galon, i’w
ladd.
109:17 Hoffodd felltith, a hi a
ddaeth iddo: ni fynnai fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho.
109:18 Ie, gwisgodd felltith fel
dilledyn; hi a ddaeth fel dwfr i’w fewn, ac fel olew i’w esgyrn.
109:19 Bydded iddo fel dilledyn yr
hwn wisgo efe, ac fel gwregys a’i gwregyso efe yn wastadol.
109:20 Hyn fyddo tâl fy
ngwrthwynebwyr gan yr ARGLWYDD, a’r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid.
109:21 Tithau, ARGLWYDD DDUW, gwn
erof fi er mwyn dy enw: am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi.
109:22 Canys truan a thlawd ydwyf
fi, a’m calon a archollwyd o’m mewn.
109:23 Euthum fel cysgod pan gilio:
fel locust y’m hysgydwir.
109:24 Fy ngliniau a aethant yn
egwan gan ympryd; a’m cnawd a guriodd o eisiau braster.
109:25 Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt:
pan welent fi, siglent eu pennau.
109:26 Cynorthwya fi, O ARGLWYDD fy
NUW; achub fi yn ôl dy drugaredd:
109:27 Fel y gwypont mai dy law di
yw hyn; mai ti, ARGLWYDD, a’i gwnaethost.
109:28 Melltithiant hwy, ond
bendithia di: cywilyddier hwynt, pan gyfodant; a llawenyched dy was.
109:29 Gwisger fy ngwrthwynebwyr â
gwarth, ac ymwisgant â’u cywilydd, megis â chochl.
109:30 Clodforaf yr ARGLWYDD yn
ddirfawr â’m genau; ie, moliannaf ef ymysg llawer.
109:31 Oherwydd efe a saif ar
ddeheulaw y tlawd, i’w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.
SALM 110
110:1 Salm Dafydd. Dywedodd yr
ARGLWYDD wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion
yn fainc i’th draed.
110:2 Gwialen dy nerth a enfyn yr
ARGLWYDD o Seion: llywodraetha di yng nghanol dy elynion.
110:3 Dy bobl a fyddant ewyllysgar
yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy
enedigaeth i ti.
110:4 Tyngodd yr ARGLWYDD, ac nid
edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec.
110:5 Yr ARGLWYDD ar dy ddeheulaw a
drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint.
110:6 Efe a farn ymysg y
cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad.
110:7 Efe a yf o’r afon ar y
ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.
SALM 111
111:1 Molwch yr ARGLWYDD. Clodforaf
yr ARGLWYDD â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa.
111:2 Mawr yw gweithredoedd yr
ARGLWYDD, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant.
111:3
Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
111:4 Gwnaeth gofio ei ryfeddodau:
graslon a thrugarog yw yr ARGLWYDD.
111:5 Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i
hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd.
111:6 Mynegodd i’w bobl gadernid ei
weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
111:7 Gwirionedd a barn yw
gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr:
111:8 Wedi eu sicrhau byth ac yn
dragywdd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder.
111:9 Anfonodd ymwared i’w bobl: gorchmynnodd
ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef.
111:10 Dechreuad doethineb yw ofn yr
ARGLWYDD: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant
ef yn parhau byth.
SALM 112
112:1 Molwch yr ARGLWYDD. Gwyn ei
fyd y gŵr a ofna yr ARGLWYDD, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn
ddirfawr.
112:2 Ei had fydd gadarn ar y
ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir.
112:3 Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ
ef: a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
112:4 Cyfyd goleuni i’r rhai uniawn
yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe.
112:5 Gŵr da sydd gymwynasgar,
ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion.
112:6 Yn ddiau nid ysgogir ef byth:
y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth.
112:7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg:
ei galon sydd ddi-sigl, yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
112:8 Ategwyd ei galon: nid ofna
efe, hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion.
112:9 Gwasgarodd, rhoddodd i’r
tlodion; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth; ei gorn a ddyrchefir mewn
gogoniant.
112:10 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a
ddigia; efe a ysgyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ymaith: derfydd am ddymuniad y
rhai annuwiol.
SALM 113
113:1 Molwch yr ARGLWYDD. Gweision
yr ARGLWYDD, molwch, ie, molwch enw yr ARGLWYDD.
113:2 Bendigedig fyddo enw yr
ARGLWYDD o hyn allan ac yn dragywydd.
113:3 O godiad haul hyd ei
fachludiad, moliannus yw enw yr ARGLWYDD.
113:4 Uchel yw yr ARGLWYDD goruwch
yr holl genhedloedd; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd.
113:5 Pwy sydd fel yr ARGLWYDD ein
DUW ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel,
113:6 Yr hwn a ymddarostwng i edrych
y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear?
113:7 Efe sydd yn codi’r tlawd o’r
llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen,
113:8 I’w osod gyda phendefigion,
ie, gyda phendefigion ei bobl.
113:9 Yr hwn a wna i’r amhlantadwy
gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr ARGLWYDD.
SALM 114
114:1 Pan aeth Israel o’r Aifft, tŷ
Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith;
114:2 Jwda oedd ei sancteiddrwydd,
ac Israel ei arglwyddiaeth.
114:3 Y môr a welodd hyn, ac a
giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl.
114:4 Y mynyddoedd a neidiasant fel
hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid.
114:5 Beth ddarfu i ti, O fôr, pan
giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl?
114:6 Paham, fynyddoedd, y neidiech
fel hyrddod? a’r bryniau fel y defaid?
114:7 Ofna, di ddaear, rhag yr
ARGLWYDD, rhag DUW Jacob:
114:8 Yr hwn sydd yn troi y graig yn
llyn dwfr, ar gallestr yn ffynnon dyfroedd.
SALM 115
115:1 Nid i ni, O ARGLWYDD, nid i
ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy
wirionedd.
115:2 Paham y dywedai y
cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu DUW hwynt?
115:3 Ond
ein DUW, ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.
115:4 Eu delwau hwy ydynt o aur ac
arian, gwaith dwylo dynion.
115:5 Genau sydd iddynt, ond ni
lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant:
115:6 Y mae clustiau iddynt, ond ni
chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant:
115:7 Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant;
traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â’u gwddf.
115:8 Y rhai a’u gwnânt ydynt fel
hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt.
115:9 O Israel, ymddiried di
yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a'u tarian.
115:10 Tŷ Aaron, ymddiriedwch
yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a'u tarian.
115:11 Y rhai a ofnwch yr ARGLWYDD,
ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD: efe eu porth a'u tarian.
115:12 Yr ARGLWYDD a’n cofiodd ni:
efe a'n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron.
115:13 Bendithia
efe y rhai a ofnant yr ARGLWYDD, fychain a mawrion.
115:14 Yr ARGLWYDD a'ch chwanega
chwi fwyfwy, chwychwi a'ch plant hefyd.
115:15 Bendigedig ydych chwi gan yr
ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nef a daear.
115:16 Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt
eiddo yr ARGLWYDD: a'r ddaear a roddes efe i feibion dynion.
115:17 Y meirw ni foliannant yr
ARGLWYDD, na'r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd.
115:18 Ond nyni a fendithiwn yr
ARGLWYDD o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr ARGLWYDD.
SALM 116
116:1 Da gennyf wrando ar ARGLWYDD
ar fy llef, a'm gweddïau.
116:2 Am ostwng ohono ei glust ataf,
am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef.
116:3 Gofidion angau a'm
cylchynasant, a gofidiau uffern a'm daliasant: ing a blinder a gefais.
116:4 Yna y gelwais ar enw yr
ARGLWYDD; Atolwg, ARGLWYDD gwared fy enaid.
116:5 Graslon yw yr ARGLWYDD, a
chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni.
116:6 Yr ARGLWYDD sydd yn cadw y
rhai annichellgar: tlodais, ac efe a'm hachubodd.
116:7 Dychwel, O fy enaid, i'th
orffwysfa; canys yr ARGLWYDD fu dda wrthyt.
116:8 Oherwydd i ti waredu fy enaid
oddi wrth angau, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a'm traed rhag llithro.
116:9 Rhodiaf o flaen yr ARGLWYDD yn
nhir y rhai byw.
116:10 Credais, am hynny y
lleferais: cystuddiwyd fi yn ddirfawr.
116:11 Mi a ddywedais yn fy ffrwst,
Pob dyn sydd gelwyddog.
116:12 Beth a dalaf i’r ARGLWYDD, am
ei holl ddoniau i mi?
116:13 Ffiol iachawdwriaeth a
gymeraf, ac ar enw yr ARGLWYDD y galwaf.
116:14 Fy addunedau a dalaf i’r
ARGLWYDD, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef.
116:15 Gwerthfawr yng ngolwg yr
ARGLWYDD yw marwolaeth ei saint ef.
116:16 ARGLWYDD, yn ddiau dy was di
ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau.
116:17 Aberthaf i ti aberth moliant;
a galwaf ar enw yr ARGLWYDD.
116:18 Talaf fy addunedau i’r
ARGLWYDD, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl,
116:19 Yng nghynteddoedd tŷ yr
ARGLWYDD, yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.
SALM 117
117:1 Molwch yr ARGLWYDD, yr holl
genhedloedd: clodforwch ef, yr yr holl bobloedd.
117:2 Oherwydd ei drugaredd ef tuag
atom ni sydd fawr: a gwirionedd yr ARGLWYDD a bery yn dragywydd. Molwch yr
ARGLWYDD.
SALM 118
118:1 Clodforwch yr ARGLWYDD; canys
da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
118:2 Dyweded Israel yr awr hon, fod
ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
118:3 Dyweded tŷ Aaron yn awr,
fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
118:4 Yn awr dyweded y rhai a ofnant
yr ARGLWYDD, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
118:5 Mewn ing y gelwais ar yr
ARGLWYDD; yr ARGLWYDD a’m clybu, ac a’m gosododd mewn ehangder.
118:6 Yr ARGLWYDD sydd gyda mi, nid
ofnaf: beth a wna dyn i mi?
118:7 Yr ARGLWYDD sydd gyda mi
ymhlith fy nghynorthwywyr: am hynny y caf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.
118:8 Gwell yw gobeithio yn yr
ARGLWYDD, nag ymddiried mewn dyn.
118:9 Gwell yw gobeithio yn yr
ARGLWYDD, nag ymddiried mewn tywysogion.
118:10 Yr holl genhedloedd a’m
hamgylchynasant fi: ond yn enw yr ARGLWYDD mi a’u torraf hwynt ymaith.
118:11 Amgylchynasant fi; ie,
amgylchynasant fi: ond yn enw yr ARGLWYDD mi a’u torraf hwynt ymaith.
118:12 Amgylchynasant fi fel gwenyn;
diffoddasant fel tân drain: oherwydd yn enw yr ARGLWYDD mi a’u torraf hwynt
ymaith.
118:13 Gan wthio y gwthiaist fi, fel
y syrthiwn: ond yr ARGLWYDD a’m cynorthwyodd.
118:14 Yr ARGLWYDD yw fy nerth a’m
cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi.
118:15 Llef gorfoledd a
iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr ARGLWYDD sydd yn
gwneuthur grymuster.
118:16 Deheulaw. yr ARGLWYDD a
ddyrchafwyd: deheulaw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur grymuster.
118:17 Ni byddaf farw, ond byw; a
mynegaf weithredoedd yr ARGLWYDD.
118:18 Gan gosbi y’m cosbodd yr
ARGLWYDD: ond ni’m rhoddodd i farwolaeth.
118:19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder:
af i mewn iddynt, a chlodforaf yr ARGLWYDD.
118:20 Dyma borth yr ARGLWYDD; y
rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo.
118:21 Clodforaf di; oherwydd i ti
fy ngwrando, a’th fod yn iachawdwriaeth i mi.
118:22 Y maen a wrthododd yr
adeiladwyr, a aeth yn ben i’r gongl.
118:23 O’r ARGLWYDD y daeth hyn; hyn
oedd ryfedd yn ein golwg ni.
118:24 Dyma y dydd a wnaeth yr
ARGLWYDD; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo.
118:25 Atolwg, ARGLWYDD, achub yn
awr: atolwg, ARGLWYDD, pâr yn awr lwyddiant.
118:26 Bendigedig yw a ddêl yn enw
yr ARGLWYDD: bendithiasom chwi o dŷ yr ARGLWYDD.
118:27 DUW yw yr ARGLWYDD, yr hwn a
lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau, hyd wrth gyrn yr allor.
118:28 Fy NUW ydwyt ti, a mi a’th
glodforaf: dyrchafaf di, fy NUW.
118:29 Clodforwch yr ARGLWYDD; canys
da yw: oherwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.
SALM 119
119:1 ALEFF. Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a
rodiant yng nghyfraith yr ARGLWYDD.
119:2 Gwyn fyd y rhai a gadwant ei
dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon.
119:3 Y rhai hefyd ni wnânt
anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef.
119:4 Ti a orchmynnaist gadw dy
orchmynion yn ddyfal.
119:5 O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw
dy ddeddfau!
119:6 Yna ni’m gwaradwyddid, pan
edrychwn ar dy holl orchmynion.
119:7 Clodforaf di ag uniondeb
calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.
119:8 Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi
yn hollol.
119:9 BETH. Pa fodd y glanha lanc ei
lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.
119:10 A’m holl galon y’th geisiais:
na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion.
119:11 Cuddiais dy ymadroddion yn fy
nghalon, fel na phechwn i’th erbyn.
119:12 Ti, ARGLWYDD, wyt fendigedig:
dysg i mi dy ddeddfau.
119:13 A’m gwefusau y traethais holl
farnedigaethau dy enau.
119:14 Bu mor llawen gennyf ffordd
dy dystiolaethau, â’r holl olud.
119:15 Yn dy orchmynion y myfyriaf,
ac ar dy lwybrau yr edrychaf.
119:16 Yn dy ddeddfau yr
ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.
119:17 GIMEL. Bydd dda wrth dy was,
fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.
119:18 Datguddia fy llygaid, fel y
gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di.
119:19 Dieithr ydwyf fi ar y ddaear:
na chudd di rhagof dy orchmynion.
119:20 Drylliwyd fy enaid gan awydd
i’th farnedigaethau bob amser.
119:21 Ceryddaist y beilchion
melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion.
119:22 Tro oddi wrthyf gywilydd a
dirmyg oblegid dy dystiolaethau di a gedwais.
119:23 Tywysogion hefyd a
eisteddasant ac a ddywedasant i’m herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy
ddeddfau.
119:24 A’th dystiolaethau oeddynt fy
hyfrydwch a’m cynghorwyr.
119:25 DALETH. Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl
dy air.
119:26 Fy ffyrdd a fynegais, a
gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau.
119:27 Gwna i mi ddeall ffordd dy
orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.
119:28 Diferodd fy enaid gan ofid:
nertha fi yn ôl dy air.
119:29 Cymer oddi wrthyf ffordd y
celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith.
119:30 Dewisais ffordd gwirionedd:
gosodais dy farnedigaethau o’m blaen.
119:31 Glynais wrth dy
dystiolaethau: O ARGLWYDD, na’m gwaradwydda.
119:32 Ffordd dy orchmynion a redaf,
pan ehangech fy nghalon
119:33 HE. Dysg i mi, O ARGLWYDD, ffordd dy ddeddfau, a
chadwaf hi hyd y diwedd.
119:34 Gwna i mi ddeall, a chadwaf
dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon.
119:35 Gwna i mi gerdded yn llwybr
dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys.
119:36 Gostwng fy nghalon at dy
dystiolaethau, ac nid at gybydd-dra.
119:37 Tro heibio fy llygaid, rhag
edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd.
119:38 Sicrha dy air i’th was, yr
hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di.
119:39 Tro heibio fy ngwaradwydd yr
wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.
119:40 Wele, awyddus ydwyf i’th
orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.
119:41 FAU. Deued i mi dy drugaredd, ARGLWYDD, a’th
iachawdwriaeth yn ôl dy air.
119:42 Yna yr atebaf i’m cablydd:
oherwydd yn dy air y gobeithiais.
119:43 Na ddwg dithau air y
gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais.
119:44 A’th gyfraith a gadwaf yn
wastadol, byth ac yn dragywydd.
119:45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder:
oherwydd dy orchmynion di a geisiaf.
119:46 Ac am dy dystiolaethau di y
llefaraf flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf.
119:47 Ac ymddigrifaf yn dy
orchmynion, y rhai a hoffais.
119:48 A’m dwylo a ddyrchafaf at dy
orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.
119:49 SAIN. Cofia y gair wrth dy
was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio.
119:50 Dyma fy nghysur yn fy
nghystudd: canys dy air di a’m bywhaodd i.
119:51 Y beilchion a’m gwatwarasant
yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di.
119:52 Cofiais, O ARGLWYDD, dy
farnedigaethau erioed; ac ymgysurais.
119:53 Dychryn a ddaeth arnaf,
oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.
119:54 Dy ddeddfau oedd fy nghân yn
nhŷ fy mhererindod.
119:55 Cofiais dy enw, ARGLWYDD, y
nos; a chedwais dy gyfraith.
119:56 Hyn oedd gennyf, am gadw
ohonof dy orchmynion di.
119:57 CHETH. O ARGLWYDD, fy rhan
ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau.
119:58 Ymbiliais â’th wyneb â’m holl
galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air.
119:59 Meddyliais am fy ffyrdd, a
throais fy nhraed at dy dystiolaethau di.
119:60 Brysiais, ac nid oedais gadw
dy orchmynion.
119:61 Minteioedd yr annuwiolion a’m
hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di.
119:62 Hanner nos y cyfodaf i’th
foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder.
119:63 Cyfaill ydwyf fi i’r rhai oll
a’th ofnant, ac i’r rhai a gadwant dy orchmynion.
119:64 Llawn yw y ddaear o’th
drugaredd, O ARGLWYDD: dysg i mi dy ddeddfau.
119:65 TETH. Gwnaethost yn dda i’th
was, O ARGLWYDD, yn ôl dy air.
119:66 Dysg i mi iawn ddeall a
gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais.
119:67 Cyn fy nghystuddio yr oeddwn
yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.
119:68 Da ydwyt, a daionus: dysg i
mi dy ddeddfau.
119:69 Y beilchion a glytiasant
gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon.
119:70 Cyn frased â’r bloneg yw eu
calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di.
119:71 Da yw i mi fy
nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau.
119:72 Gwell
i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.
119:73 IOD. Dy ddwylo a’m
gwnaethant, ac a’m lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion.
119:74 Y rhai a’th ofnant a’m
gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di.
119:75 Gwn, ARGLWYDD, mai cyfiawn yw
dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist.
119:76 Bydded, atolwg, dy drugaredd
i’m cysuro, yn ôl dy air i’th wasanaethwr.
119:77 Deued i mi dy drugareddau,
fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch.
119:78 Cywilyddier y beilchion,
canys gwnânt gam â mi yn ddiachos, ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di.;
119:79 Troer ataf fi y rhai a’th
ofnant di, a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau.
119:80 Bydded fy nghalon yn
berffaith yn dy ddeddfau; fel na’m cywilyddier.
119:81 CAFF. Diffygiodd fy enaid am
dy iachawdwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl.
119:82 Y mae fy llygaid yn pallu am
dy air, gan ddywedyd, Pa bryd y’m diddeni?
119:83 Canys ydwyf fel costrel mewn
mwg; ond nid anghofiais dy ddeddfau.
119:84 Pa nifer yw dyddiau dy was?
pa bryd y gwnei farn ar y rhai a’m herlidiant?
119:85 Y beilchion a gloddiasant
byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.
119:86 Dy holl orchmynion ydynt
wirionedd: ar gam y’m herlidiasant; cymorth fi.
119:87 Braidd na’m difasant ar y
daear; minnau ni adewais dy orchmynion.
119:88 Bywha fi yn ôl dy drugaredd;
felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.
119:89 LAMED. Yn dragywydd, O
ARGLWYDD, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd.
119:90 Dy wirionedd sydd hyd
genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif.
119:91 Wrth dy farnedigaethau y
safant heddiw: canys dy weision yw pob peth.
119:92 Oni bai fod dy ddeddf yn
hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd.
119:93 Byth nid anghofiaf dy
orchmynion: canys â hwynt y’m bywheaist.
119:94 Eiddot ti ydwyf, cadw fi:
oherwydd dy orchmynion a geisiais.
119:95 Y rhai annunwiol a
ddisgwyliasant amdanaf i’m difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi.
119:96 Yr ydwyf yn gweled diwedd ar
bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.
119:97 MEM. Mor gu gennyf dy gyfraith
di! hi yw fy myfyrdod beunydd.
119:98 A’th orchmynion yr ydwyt yn
fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi.
119:99 Deellais fwy na’m holl
athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.
119:100 Deellais yn well na’r
henuriaid, fy mod yn cadw dy orchmynion di.
119:101 Ateliais fy nhraed oddi wrth
bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.
119:102 Ni chiliais oddi wrth dy
farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist.
119:103 Mor felys yw dy eiriau i’m
genau, melysach na mêl i’m safn.
119:104 Trwy dy orchmynion di y
pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.
119:105 NUN. Llusern yw dy air i’m
traed, a llewyrch i’m llwybr.
119:106 Tyngais, a chyfiawnaf, y
cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.
119:107 Cystuddiwyd fi yn ddirfawr:
bywha fi, O ARGLWYDD, yn ôl dy air.
119:108 Atolwg, ARGLWYDD, bydd
fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau.
119:109 Y mae fy enaid yn fy law yn
wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith.
119:110 Y rhai annuwiol a osodasant
fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion.
119:111 Cymerais dy orchmynion yn
etifeddiaeth dros byth - oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt.
119:112 Gostyngais fy nghalon i
wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.
119:113 SAMECH. Meddyliau ofer a
gaseais: a’th gyfraith di a hoffais.
119:114 Fy lloches a’m tarian ydwyt:
yn dy air y gobeithiaf.
119:115 Ciliwch oddi wrthyf, rai
drygionus: canys cadwaf orchmynion fy NUW.
119:116 Cynnal fi yn ôl dy air, fel
y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith.
119:117 Cynnal fi, a dihangol
fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol.
119:118 Sethraist y rhai oll a
gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt.
119:119 Bwriaist heibio holl
annuwiolion y tir fel sothach: am hynny yr hoffais dy dystiolaethau.
119:120 Dychrynodd fy nghnawd rhag
dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.
119:121 AIN. Gwneuthum farn a
chyfiawnder: na ad fi i’m gorthrymwyr.
119:122 Mechnïa dros dy was er
daioni: na ad i’r beilchion fy ngorthrymu.
119:123 Fy llygaid a ballasant am dy
iawchadwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder.
119:124 Gwna i’th was yn ôl dy
drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau.
119:125 Dy was ydwyf fi; pâr i mi
ddeall fel y gwypwyf dy dystiolaethau.
119:126 Amser yw i’r ARGLWYDD
weithio: diddymasant dy gyfraith di.
119:127 Am hynny yr hoffais dy
orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth.
119:128 Am hynny uniawn y cyfrifais
dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.
119:129 PE. Rhyfedd yw dy
dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt.
119:130 Agoriad dy eiriau a rydd
oleuni: pair ddeall i rai annichellgar.
119:131 Agorais fy ngenau, a
dyheais: oblegid awyddus oeddwn i’th orchmynion di.
119:132 Edrych arnaf, a thrugarha
wrthyf, yn ôl dy arfer i’r rhai a garant dy enw.
119:133 Cyfarwydda fy nghamre yn dy
air: na lywodraethed dim anwiredd arnaf.
119:134 Gwared fi oddi wrth
orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion.
119:135 Llewyrcha dy wyneb ar dy
was: a dysg i mi dy ddeddfau.
119:136 Afonydd o ddyfroedd a redant
o’m llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.
119:137 TSADI. Cyfiawn ydwyt ti, O
ARGLWYDD, ac uniawn yw dy farnedigaethau.
119:138 Dy dystiolaethau y rhai a
orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn.
119:139 Fy sêl a’m difaodd; oherwydd
i’m gelynion anghofio dy eiriau di.
119:140 Purwyd dy ymadrodd yn
ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi.
119:141 Bychan ydwyf fi, a dirmygus:
ond nid anghofiais dy orchmynion.
119:142 Dy gyfiawnder sydd
gyfiawnder byth, a’th gyfraith sydd wirionedd.
119:143 Adfyd a chystudd a’m
goddiweddasant; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch.
119:144 Cyfiawnder dy dystiolaethau
a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.
119:145 COFF. Llefais â’m holl
galon; clyw fi, O ARGLWYDD: dy ddeddfau a gadwaf.
119:146 Llefais arnat; achub fi, a
chadwaf dy dystiolaethau.
119:147 Achubais flaen y cyfddydd, a
gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais
119:148 Fy llygaid a achubasant
flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di.
119:149 Clyw fy llef yn ôl dy
drugaredd: ARGLWYDD, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.
119:150 Y rhai a ddilynant
ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di.
119:151 Tithau, ARGLWYDD, wyt agos;
a’th holl orchmynion sydd wirionedd.
119:152 Er ys talm y gwyddwn am dy
dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd.
119:153 RESH. Gwêl fy nghystudd, a
gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith.
119:154 Dadlau fy nadl, a gwared fi:
bywha fi yn ôl dy air.
119:155 Pell yw iachawdwriaeth oddi
wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.
119:156 Dy drugareddau, ARGLWYDD,
sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.
119:157 Llawer sydd yn fy erlid, ac
yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.
119:158 Gwelais y troseddwyr, a
gresynais; am na chadwent dy air di.
119:159 Gwêl fy mod yn hoffi dy
orchmynion: ARGLWYDD, bywha fi ôl yn ôl dy drugarowgrwydd.
119:160 Gwirionedd o’r dechreuad yw
dy air; a phob un o’th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd.
119:161 SCHIN. Tywysogion a’m
herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di.
119:162 Llawen ydwyf fi oblegid dy
air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer.
119:163 Celwydd a gaseais, ac a
ffieiddiais: a’th gyfraith di a hoffais.
119:164 Seithwaith yn y dydd yr
ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau.
119:165 Heddwch mawr fydd i’r rhai a
garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.
119:166 Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth
di, O ARGLWYDD; a gwneuthum dy orchmynion.
119:167 Fy enaid a gadwodd dy
dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt.
119:168 Cedwais dy orchmynion a’th
dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.
119:169 TAU. Nesaed fy ngwaedd o’th
flaen, ARGLWYDD: gwna i mi ddeall yn ôl dy air.
119:170 Deued fy ngweddi ger dy
fron: gwared fi yn ôl dy air.
119:171 Fy ngwefusau a draetha
foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau.
119:172 Fy nhafod a ddatgan dy air:
oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder.
119:173 Bydded dy law i’m
cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais.
119:174 Hiraethais, O ARGLWYDD, am
dy iachawdwriaeth; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch.
119:175 Bydded byw fy enaid, fel
y’th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi.
119:176 Cyfeiliornais fel dafad wedi
colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.
SALM 120
120:1 Caniad y graddau. Ar yr
ARGLWYDD y gwaeddais yn fy nghyfyngder, ac efe a’m gwrandawodd i.
120:2 ARGLWYDD, gwared fy enaid oddi
wrth wefusau celwyddog, ac oddi wrth dafod twyllodrus.
120:3 Beth a roddir i ti? neu pa
beth a wneir i ti, dydi dafod twyllodrus?
120:4 Llymion saethau cawr, ynghyd â
marwor meryw.
120:5 Gwae fi, fy mod yn preswylio
ym Mesech, yn cyfanheddu ym mhebyll Cedar.
120:6 Hir y trigodd fy enaid gyda’r
hwn oedd yn casáu tangnefedd.
120:7 Heddychol ydwyf fi: ond pan
lefarwyf, y maent yn barod i ryfel.
SALM 121
121:1 Caniad y graddau. Dyrchafaf fy
llygaid i’r mynyddoedd, o’r lle y daw fy nghymorth.
121:2 Fy nghymorth a ddaw oddi wrth
yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd daear.
121:3 Ni ad efe i’th droed
lithro: ac ni huna dy geidwad.
121:4 Wele, ni huna ac ni chwsg
ceidwad Israel.
121:5 Yr ARGLWYDD yw dy geidwad: yr
ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw.
121:6 Ni’th dery yr haul y dydd,
na’r lleuad y nos.
121:7 Yr
ARGLWYDD a’th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid.
121:8 Yr ARGLWYDD a geidw dy
fynediad a’th ddyfodiad, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
SALM 122
122:1 Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr ARGLWYDD.
122:2 Ein traed a safant o fewn dy
byrth di, O Jerwsalem.
122:3 Jerwsalem a adeiladwyd fel
dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun.
122:4 Yno yr esgyn y llwythau,
llwythau yr ARGLWYDD, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr ARGLWYDD.
122:5 Canys yno y gosodwyd
gorseddbarn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd.
122:6 Dymunwch heddwch Jerwsalem:
llwydded y rhai a’th hoffant.
122:7 Heddwch fyddo o fewn dy
ragfur, a ffyniant yn dy balasau.
122:8 Er mwyn fy mrodyr a’m
cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti.
122:9 Er mwyn tŷ yr ARGLWYDD
ein DUW, y ceisiaf i ti ddaioni.
SALM 123
123:1 Caniad y graddau. Atat ti y
dyrchafaf fy llygaid, ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd.
123:2 Wele, fel y mae llygaid
gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei
meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr ARGLWYDD ein DUW, hyd oni thrugarhao
efe wrthym ni.
123:3 Trugarha wrthym, ARGLWYDD,
trugurha wrthym; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr.
123:4 Yn ddirfawr y llanwyd ein
henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.
SALM 124
124:1 Caniad y graddau, o’r eiddo
Dafydd. Oni buasai yr ARGLWYDD yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel ddywedyd yn
awr;
124:2 Oni buasai yr ARGLWYDD yr hwn
a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn:
124:3 Yna y’n llyncasent ni yn fyw,
pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn:
124:4 Yna y dyfroedd a lifasai
drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid:
124:5 Yna yr aethai dros ein henaid
ddyfroedd chwyddedig.
124:6 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD,
yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt.
124:7 Ein henaid a ddihangodd fel
aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom.
124:8 Ein porth ni sydd yn enw yr
ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.
SALM 125
125:1 Caniad y graddau. Y rhai a
ymddiriedant yn yr ARGLWYDD fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir, ond a
bery yn dragywydd.
125:2 Fel y mae Jerwsalem a’r
mynyddoedd o’i hamgylch, felly y mae yr ARGLWYDD o amgylch ei bobl, o’r pryd
hwn hyd yn dragywydd.
125:3 Canys ni orffwys gwialen
annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn; rhag i’r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at
anwiredd.
125:4 O ARGLWYDD, gwna ddaioni i’r
rhai daionus, ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau.
125:5 Ond y rhai a ymdroant i’w
trofeydd, yr ARGLWYDD a’u gyr gyda gweithredwyr anwiredd: a bydd tangnefedd ar
Israel.
SALM 126
126:1 Caniad y graddau. Pan
ddychwelodd yr ARGLWYDD gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio.
126:2 Yna y llanwyd ein genau â
chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD
a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn.
126:3 Yr ARGLWYDD a wnaeth i ni
bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen.
126:4 Dychwel, ARGLWYDD, ein
caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau.
126:5 Y rhai sydd yn hau mewn
dagrau, a fedant mewn gorfoledd.
126:6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo,
ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan
gludo ei ysgubau.
SALM 127
127:1 Caniad y graddau, i Solomon.
Os yr ARGLWYDD nid adeilada y tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os
yr ARGLWYDD ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwad.
127:2 Ofer i chwi foregodi, myned yn
hwyr i gysgu, bwyta bara gofidiau: felly y rhydd efe hun i’w anwylyd.
127:3 Wele,
plant ydynt etifeddiaeth yr ARGLWYDD: ei wobr ef yw ffrwyth y groth.
127:4 Fel y mae saethau yn
llaw y cadarn; felly y mae plant ieuenctid.
127:5 Gwyn ei fyd y gŵr a
lanwodd ei gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â’r
gelynion yn y porth.
SALM 128
128:1 Gwyn ei fyd pob
un sydd yn ofni yr ARGLWYDD; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.
128:2 Canys mwynhei lafur dy ddwylo:
gwyn dy fyd, a da fydd i ti.
128:3 Dy wraig fydd fel gwinwydden
ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion olewydd o
amgylch dy ford.
128:4 Wele, fel hyn yn ddiau y
bendithir y gŵr a ofno yr ARGLWYDD.
128:5 Yr ARGLWYDD a’th fendithia
allan o Seion; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy einioes.
128:6 A thi a gei weled plant dy
blant, a thangnefedd ar Israel.
SALM 129
129:1 Caniad y graddau. Llawer
gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr:
129:2 Llawer gwaith y’m
cystuddiasant o’m hieuenctid: eto ni’m gorfuant.
129:3 Yr arddwyr a arddasant ar fy
nghefn: estynasant eu cwysau yn hirion.
129:4 Yr ARGLWYDD sydd gyfiawn: efe
a dorrodd raffau y rhai annuwiol.
129:5 Gwaradwydder hwy oll, a gyrrer
yn eu hôl, y rhai a gasânt Seion.
129:6 Byddant fel glaswellt pen tai,
yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith.
129:7 A’r hwn ni leinw y pladurwr ei
law; na’r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau, ei fynwes.
129:8 Ac ni ddywed y rhai a ânt
heibio, Bendith yr ARGLWYDD arnoch; bendithiwn chwi yn enw yr ARGLWYDD.
SALM 130
130:1 Caniad y graddau. O’r dyfnder
y llefais arnat, O ARGLWYDD.
130:2 ARGLWYDD, clyw fy llefain;
ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau.
130:3 Os creffi ar anwireddau,
ARGLWYDD, O ARGLWYDD, pwy a saif?
130:4 Ond y mae gyda thi faddeuant,
fel y’th ofner.
130:5 Disgwyliaf am yr ARGLWYDD,
disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf.
130:6 Fy enaid sydd yn disgwyl am yr
ARGLWYDD yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y
bore;
130:7 Disgwylied Israel am yr
ARGLWYDD; oherwydd y mae trugaredd gyda’r ARGLWYDD, ac aml ymwared gydag ef.
130:8 Ac efe a wared Israel oddi
wrth ei holl anwireddau.
SALM 131
131:1 Caniad y graddau, o’r eiddo
Dafydd. O ARGLWYDD, nid ymfalchïodd fy nghalon, ac nid ymddyrchafodd fy llygaid:
ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy uchel i mi.
131:2 Eithr gosodais a gostegais fy
enaid, fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel un
wedi ei ddiddyfnu.
131:3 Disgwylied Israel wrth yr
ARGLWYDD, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
SALM 132
132:1 Caniad y graddau. O ARGLWYDD,
cofia Dafydd, a'i holl flinder;
132:2 Y modd y tyngodd efe wrth yr
ARGLWYDD, ac yr addunodd i rymus DDUW Jacob:
132:3 Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ,
Ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely;
132:4 Ni roddaf gwsg i'm llygaid, na
hun i'm hamrantau,
132:5 Hyd oni chaffwyf le i’r
ARGLWYDD preswylfod i rymus DDUW Jacob.
132:6 Wele, clywsom amdani yn
Effrata; cawsom hi ym meysydd y coed.
132:7 Awn i'w bebyll ef; ymgrymwn o
flaen ei fainc draed ef.
132:8 Cyfod, ARGLWYDD, i'th orffwysfa; ti ac arch dy
gadernid.
132:9 Gwisged dy offeiriaid
gyfiawnder; a gorfoledded dy saint.
132:10 Er mwyn Dafydd dy was, na
thro ymaith wyneb dy Eneiniog.
132:11 Tyngodd yr ARGLWYDD mewn
gwirionedd i Dafydd; ni thry efe oddi wrth hynny; o ffrwyth dy gorff y gosodaf
ar dy orseddfainc.
132:12 Os ceidw dy feibion fy
nghyfamod a’m tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt; eu meibion hwythau yn
dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc.
132:13 Canys dewisodd yr ARGLWYDD
Seion: ac a'i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun.
132:14 Dyma fy ngorffwysfa yn
dragywydd; yma y trigaf; canys chwenychais hi.
132:15 Gan fendithio y bendithiaf ei
lluniaeth: diwallaf ei thlodion â bara.
132:16 Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf
ag iachawdwriaeth: a’i saint dan ganu a ganant.
132:17 Yna y paraf i gorn Dafydd
flaguro: darperais lamp i'm Heneiniog.
132:18 Ei elynion ef a wisgaf â
chywilydd: arno yntau y blodeua ei goron.
SALM 133
133:1 Caniad y graddau, o’r eiddo
Dafydd. Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd!
133:2 Y mae fel yr ennaint
gwerthfawr ar y pen yn disgyn ar hyd y farf, sef barf Aaron; yr hwn oedd yn
disgyn ar hyd ei wisgoedd ef:
133:3 Fel gwlith Hermon, ac fel y
gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion: canys yno y gorchmynnodd yr ARGLWYDD y
fendith, sef bywyd yn dragywydd.
SALM 134
134:1 Caniad y graddau. Wele, holl
weision yr ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD, y rhai ydych yn sefyll yn nhy’r
ARGLWYDD y nos.
134:2 Dyrchefwch eich dwylo yn y cysegr;
a bendithiwch yr ARGLWYDD.
134:3 Yr ARGLWYDD yr hwn a wnaeth
nefoedd a daear, a’th fendithio di allan o Seion.
SALM 135
135:1 Molwch yr ARGLWYDD. Molwch enw
yr ARGLWYDD; gweision yr ARGLWYDD, molwch ef.
135:2 Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ
yr ARGLWYDD yng nghynteddoedd tŷ ein DUW ni,
135:3 Molwch yr ARGLWYDD; canys da
yw yr ARGLWYDD: cenwch i’w enw; canys hyfryd yw.
135:4 Oblegid yr ARGLWYDD a
ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel, yn briodoriaeth iddo.
135:5 Canys mi a wn mai mawr yw yr
ARGLWYDD; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.
135:6 Yr ARGLWYDD a wnaeth yr hyn
oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau.
135:7 Y mae yn codi tarth o
eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â’r glaw; gan ddwyn y gwynt
allan o’i drysorau.
135:8 Yr hwn a drawodd gyntaf-anedig
yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail.
135:9 Danfonodd arwyddion a
rhyfeddodau i’th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision.
135:10 Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer,
ac a laddodd frenhinoedd cryfion;
135:11 Seion brenin yr Amoriaid, ac
Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan:
135:12 Ac a roddodd eu tir hwynt yn
etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.
135:13 Dy enw, O ARGLWYDD, a bery yn
dragywydd; dy goffadwriaeth, O ARGLWYDD, o genhedlaeth i genhedlaeth.
135:14 Canys yr ARGLWYDD a farna ei
bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision.
135:15 Delwau y cenhedloedd ydynt
arian ac aur, gwaith dwylo dyn.
135:16 Genau sydd iddynt, ond ni lefant;
llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.
135:17 Y mae clustiau iddynt, ond ni
chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau.
135:18 Fel hwynt y mae y rhai a’u
gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt.
135:19 Tŷ Israel, bendithiwch
yr ARGLWYDD: bendithiwch yr ARGLWYDD, tŷ Aaron.
135:20 Tŷ Lefi, bendithiwch yr
ARGLWYDD: y rhai a ofnwch yr ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD.
135:21 Bendithier yr ARGLWYDD o
Seion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.
SALM 136
136:1 Clodforwch yr ARGLWYDD; canys
da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:2 Clodforwch DDUW y duwiau:
oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:3 Clodforwch ARGLWYDD yr
arglwyddi: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:4 Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur
rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:5 Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn
doethineb: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:6 Yr hwn a estynnodd y ddaear
oddi ar y dyfroedd: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:7 Yr hwn a wnaeth oleuadau
mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:8 Yr haul, i lywodraethu y dydd:
canys, ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:9 Y lleuad a’r sêr, i
lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:10 Yr hwn a drawodd yr Aifft yn
eu cyntaf-anedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;
136:11 Ac a ddug Israel o’u mysg
hwynt: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:12 A law gref, ac â braich
estynedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:13 Yr hwn a rannodd y môr coch
yn ddwy ran: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:14 Ac a wnaeth i Israel fyned
trwy ei ganol: oherwydd ei drugaredd sydd dragywydd.
136:15 Ac a ysgytiodd Pharo a’i lu
yn y môr coch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:16 Ac a dywysodd ei bobl trwy yr
anialwch: oherwydd ei drugaredd syd yn dragywydd.
136:17 Yr hwn a drawodd frenhinoedd
mawrion: oherwydd ei drugaredd syd yn dragywydd:
136:18 Ac a laddodd frenhinoedd
ardderchog: oherwydd ei drugaredd sydd dragywydd:
136:19 Sehon brenin yr Amoraid:
oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:20 Ac Og brenin Basan: oherwydd
ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:21 Ac a roddodd eu tir hwynt yn
etifeddiaeth: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:22 Yn etifeddiaeth i Israel ei
was: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:23 Yr hwn yn ein hiselradd a’n
cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
136:24 Ac a’n hachubodd ni oddi wrth
ei gelynion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:25 Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth
i bob cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
136:26 Clodforwch DDUW y nefoedd:
canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
SALM 137
137:1 Wrth afonydd Babilon, yno yr
eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion.
137:2 Ar yr helyg o’u mewn y
crogasom ein telynau.
137:3 Canys yno y gofynnodd y rhai
a’n caethiwasent i ni gân; a’r rhai a’n hanrheithiasai, lawenydd, gan ddywedyd;
Cenwch i ni rai o ganiadau Seion.
137:4 Pa fodd y canwn gerdd yr
ARGLWYDD mewn gwlad ddieithr?
137:5 Os anghofiaf di, Jerwsalem,
anghofied fy neheulaw ganu.
137:6 Glyned fy nhafod wrth daflod
ngenau, oni chollaf di; oni chodaf Jerusalem goruwch fy llawenydd pennaf.
137:7 Cofia, ARGLWYDD, blant Edom yn
nydd Jerwsalem; y rhai a ddywedent. Dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen.
137:8 O ferch Babilon, a anrheithir:
gwyn ei fyd os dalo i ti fel y gwnaethost i ninnau.
137:9 Gwyn ei fyd a gymero ac a
drawo dy rai bach wrth y meini.
SALM 138
138:1 Clodforaf di â'm holl galon:
yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti.
138:2 Ymgrymaf tua'th deml
sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a
fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll.
138:3 Y dydd y llefais, y'm
gwrandewaist; ac a'm cadarnheaist â nerth yn fy enaid.
138:4 Holl frenhinoedd y ddaear a'th
glodforant, O ARGLWYDD, pan glywant eiriau dy enau.
138:5 Canant hefyd am ffyrdd yr
ARGLWYDD: canys mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD.
138:6 Er bod yr ARGLWYDD yn uchel,
eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell.
138:7 Pe rhodiwn yng nghanol
cyfyngder, ti a'm bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion,
a'th ddeheulaw a’m hachubai.
138:8 Yr ARGLWYDD a gyflawna â mi:
dy drugaredd, ARGLWYDD, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.
SALM 139
139:1 I'r Pencerdd, Salm Dafydd.
ARGLWYDD, chwiliaist, ac adnabuost fi.
139:2 Ti a adwaenost fy eisteddiad
a'm cyfodiad: deelli fy meddwl o bell.
139:3 Amgylchyni fy llwybr a'm
gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd.
139:4 Canys nid oes air ar fy
nhafod, ond wele, ARGLWYDD, ti a'i gwyddost oll.
139:5 Amgylchynaist fi yn ôl ac
ymlaen, a gosodaist dy law arnaf.
139:6 Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi:
uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.
139:7 I ba le yr af oddi wrth dy
ysbryd? ac i ba le y ffoaf o'th ŵydd?
139:8 Os dringaf i'r nefoedd, yno yr
wyt ti: Os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno.
139:9 Pe cymerwn adenydd y wawr, a
phe trigwn yn eithafoedd y môr:
139:10 Yno hefyd y'm tywysai dy law,
ac y'm daliai dy ddeheulaw.
139:11 Pe dywedwn, Diau y tywyllwch
a’m cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o'm hamgylch.
139:12 Ni thywylla y tywyllwch
rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti.
139:13 Canys ti a feddiennaist fy
arennau: toaist fi yng nghroth fy mam.
139:14 Clodforaf di; canys ofnadwy a
rhyfedd y'm gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a'm henaid a ŵyr hynny yn
dda.
139:15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi
wrthyt, pan y'm gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y'm cywreiniwyd yn iselder y ddaear.
139:16 Dy lygaid a welsant fy
annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y
lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt.
139:17 Am hynny mor werthfawr yw dy
feddyliau gennyf, O DDUW! mor fawr yw eu swm hwynt!
139:18 Pe cyfrifywn hwynt, amlach
ydynt na'r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.
139:19 Yn ddiau, O DDUW, ti a leddi
yr annuwiol: am hynny y gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthyf:
139:20 Y rhai a ddywedant ysgelerder
yn dy erbyn; dy elynion a gymerant dy enw yn ofer
139:21 Onid cas gennyf, O ARGLWYDD,
dy gaseion di? onid ffiaidd gennyf y rhai a gyfodant i'th erbyn?
139:22 A chas cyflawn y caseais
hwynt: cyfrifais hwynt i mi yn elynion.
139:23 Chwilia fi, O DDUW, a gwybydd
fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau;
139:24 A gwêl a oes ffordd annuwiol
gennyf, a thywys fi yn y ffordd dragwyddol.
SALM 140
140:1 I'r Pencerdd, Salm Dafydd.
Gwared fi, O ARGLWYDD, oddi wrth y dyn drwg: cadw fi rhag y gŵr traws:
140:2 Y rhai sydd yn bwriadu
drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel.
140:3 Golymasant eu tafodau
fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela.
140:4 Cadw fi, O ARGLWYDD, rhag
dwylo’r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant fachellu
fy nhraed.
140:5 Y beilchion a guddiasant
faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant
hoenynnau ar fy medr. Sela.
140:6 Dywedais wrth yr ARGLWYDD, Fy
NUW ydwyt ti: clyw, O ARGLWYDD, lef fy ngweddïau.
140:7 ARGLWYDD DDUW, nerth fy iachawdwriaeth,
gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.
140:8 Na chaniatâ, ARGLWYDD,
ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela.
140:9 Y pennaf o'r rhai a'm
hamgylchyno, blinder eu gwefusau a’u gorchuddio.
140:10 Syrthied
marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant.
140:11 Na sicrhaer dyn
siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i’w ddistryw.
140:12 Gwn y dadlau yr ARGLWYDD
ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion.
140:13 Y cyfiawn
yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.
SALM 141
141:1 Salm Dafydd. ARGLWYDD, yr wyf
yn gweiddi arnat: brysia ataf; clyw fy llais, pan lefwyf arnat.
141:2 2 Cyfeirier fy ngweddi ger dy
fron fel arogl-darth, a dyrchafiad fy nwylo fel offrwm prynhawnol.
141:3 Gosod, ARGLWYDD, gadwraeth o
flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau.
141:4 Na ostwng fy nghalon at ddim
drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weithredant anwiredd:
ac na ad i mi fwyta o'u danteithion hwynt.
141:5 Cured y cyfiawn fi yn garedig,
a cherydded fi: na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy ngweddi fydd
eto yn eu drygau hwynt.
141:6 Pan dafler eu barnwyr i lawr
mewn lleoedd caregog, clywant fy ngeiriau canys melys ydynt.
141:7 Y mae ein hesgyrn ar
wasgar ar fin y bedd, megis un yn torri neu yn hollti coed ar y ddaear.
141:8 Eithr arnat ti, O ARGLWYDD
DDUW, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais; na ad fy enaid yn ddiymgeledd.
141:9 Cadw
fi rhag y fagl a osodasant i mi, a hoenynnau gweithredwyr anwiredd.
141:10 Cydgwymped y rhai annuwiol yn
eu rhwydau eu hun, tra yr elwyf fi heibio.
SALM 142
142:1 Maschil Dafydd; Gweddi pan
oedd efe yn yr ogof. Gwaeddais â'm llef ar yr ARGLWYDD; â'm llef yr ymbiliais
â’r ARGLWYDD.
142:2 Tywelltais fy myfyrdod o’i
flaen ef; a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef.
142:3 Pan ballodd fy ysbryd o'm
mewn, tithau a adwaenit fy llwybr. Yn y ffordd y rhodiwn, y cuddiasant i
mi fagl.
142:4 Edrychais ar y tu deau, a
deliais sylw, ac nid oedd neb a’m hadwaenai: pallodd nodded i mi; nid oedd neb
yn ymofyn am fy enaid.
142:5 Llefais arnat, O ARGLWYDD;
dywedais, ti yw fy ngobaith, a'm rhan yn nhir y rhai byw.
142:6 Ystyr wrth fy ngwaedd: canys
truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlidwyr; canys trech ydynt na mi.
142:7 Dwg fy enaid allan o garchar,
fel y moliannwyf dy enw: y rhai cyfiawn a’m cylchynant: canys ti a fyddi da
wrthyf.
SALM 143
143:1 Salm Dafydd. ARGLWYDD, clyw fy
ngweddi, a gwrando ar fy neisyfiadau: erglyw fi yn dy wirionedd, ac yn dy
gyfiawnder.
143:2 Ac na ddos i farn â'th was:
oherwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di.
143:3 Canys y gelyn a erlidiodd fy
enaid: curodd fy enaid i lawr: gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a
fu feirw er ys talm.
143:4 Yna y pallodd fy ysbryd o'm
mewn: ac y synnodd fy nghalon ynof.
143:5 Cofiais y dyddiau gynt;
myfyriais ar dy holl waith: ac yng ngweithredoedd dy ddwylo y myfyriaf.
143:6
Lledais fy nwylo atat: fy enaid fel tir sychedig sydd yn hiraethu amdanat.
Sela.
143:7 O ARGLWYDD, gwrando fi yn
ebrwydd: pallodd fy ysbryd: na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; rhag fy mod yn
gyffelyb i'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.
143:8 Pâr i mi glywed dy
drugarowgrwydd y bore; oherwydd ynot ti y gobeithiaf: pâr i mi wybod y ffordd y
rhodiwyf; oblegid atat ti y dyrchafaf fy enaid.
143:9 Gwared fi oddi wrth fy
ngelynion, O ARGLWYDD: gyda thi yr ymguddiais.
143:10 Dysg i mi wneuthur dy ewyllys
di; canys ti yw fy NUW: tywysed dy ysbryd daionus fi i dir uniondeb
143:11 Bywha fi, O ARGLWYDD, er mwyn
dy enw: dwg fy enaid allan o ing, er mwyn dy gyfiawnder.
143:12 Ac er dy drugaredd dinistria
fy ngelynion, a difetha holl gystuddwyr fy enaid: oblegid dy was di ydwyf fi.
SALM 144
144:1 Salm Dafydd. Bendigedig fyddo
yr ARGLWYDD fy nerth, yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i ymladd, a’m bysedd i
ryfela.
144:2 Fy nhrugaredd, a’m
hamddiffynfa; fy nhŵr, a’m gwaredydd: fy nharian yw efe, ac ynddo y
gobeithiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf.
144:3 ARGLWYDD, beth yw dyn, pan
gydnabyddit ef? neu fab dyn, pan wneit gyfrif ohono?
144:4 Dyn sydd debyg i wagedd; ei
ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio.
144:5 ARGLWYDD, gostwng dy nefoedd,
a disgyn: cyffwrdd â’r mynyddoedd, a mygant.
144:6 Saetha fellt, a gwasgar hwynt;
ergydia dy saethau, a difa hwynt.
144:7 Anfon dy law oddi uchod; achub
a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;
144:8 Y rhai y llefara eu genau
wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster.
144:9 Canaf i ti, O DDUW, ganiad newydd:
ar y nabl a’r dectant y canaf i ti.
144:10 Efe sydd yn rhoddi
iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y
cleddyf niweidiol.
144:11 Achub fi, a gwared fi o law
meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn
ddeheulaw ffalster:
144:12 Fel y byddo ein meibion fel
planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a’n merched fel conglfaen nadd, wrth
gyffelybrwydd palas:
144:13 Fel y byddo ein celloedd yn
llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a’n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn
ein heolydd:
144:14 A’n hychen yn gryfion i
lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan; na gwaedd yn ein heolydd.
144:15 Gwyn eu byd y bobl y mae
felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr ARGLWYDD yn DDUW iddynt.
SALM 145
145:1 Salm Dafydd o foliant.
Dyrchafaf di, fy NUW, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd.
145:2 Beunydd y’th fendithiaf; a’th
enw a folaf byth ac yn dragywydd.
145:3 Mawr yw yr ARGLWYDD, a
chanmoladwy iawn; a’i fawredd sydd anchwiliadwy.
145:4 Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a
fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid.
145:5 Ardderchowgrwydd gogoniant dy
fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf.
145:6 Traethant hwy gadernid dy
weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd.
145:7 Coffadwriaeth amlder dy
ddaioni a draethant; a’th gyfiawnder a ddatganant.
145:8 Graslon a thrugarog yw yr
ARGLWYDD; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd.
145:9 Daionus yw yr ARGLWYDD i bawb:
a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.
145:10 Dy holl weithredoedd a’th
glodforant, O ARGLWYDD; a’th saint a’th fendithiant.
145:11 Dywedant am ogoniant dy
frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid:
145:12 I beri i feibion dynion
adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth.
145:13 Dy frenhiniaeth di sydd
frenhiniaeth dragwyddol: a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd.
145:14 Yr ARGLWYDD sydd yn cynnal y
rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.
145:15 Llygaid pob peth a
ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd;
145:16 Gan agoryd dy law, a diwallu
pob peth byw â’th ewyllys da.
145:17 Cyfiawn yw yr ARGLWYDD yn ei
holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.
145:18 Agos yw yr ARGLWYDD at y rhai
oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd.
145:19 Efe a wna ewyllys y rhai a’i
hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a’u hachub hwynt.
145:20 Yr ARGLWYDD sydd yn cadw pawb
a’i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe.
145:21 Traetha fy ngenau foliant yr
ARGLWYDD: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.
SALM 146
146:1 Molwch yr ARGLWYDD. Fy enaid,
mola di yr ARGLWYDD.
146:2 Molaf yr ARGLWYDD yn fy myw:
canaf i’m DUW tra fyddwyf.
146:3 Na hyderwch ar dywysogion, nac
ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo.
146:4 Ei anadl a â allan, efe a
ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.
146:5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae DUW
Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr ARGLWYDD ei DDUW:
146:6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a
daear, môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn
dragywydd:
146:7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn
i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr ARGLWYDD sydd yn gollwng
y carcharorion yn rhydd.
146:8 Yr ARGLWYDD sydd yn agoryd
llygaid y deillion: yr ARGLWYDD sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr
ARGLWYDD sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.
146:9 Yr ARGLWYDD sydd yn cadw y
dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai
annuwiol.
146:10 Yr ARGLWYDD a deyrnasa byth,
sef dy DDUW di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr ARGLWYDD.
SALM 147
147:1 Molwch yr ARGLWYDD: canys da
yw canu i’n DUW ni; oherwydd hyfryd yw, ie, gweddus yw mawl.
147:2 Yr ARGLWYDD sydd yn adeiladu
Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel.
147:3 Efe sydd yn iachau y rhai
briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.
147:4 Y mae efe yn rhifo rhifedi y
sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau.
147:5 Mawr yw ein HARGLWYDD, a mawr
ei nerth: aneirif yw ei ddeall.
147:6 Yr ARGLWYDD sydd yn dyrchafu
rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.
147:7 Cydgenwch i’r ARGLWYDD mewn
diolchgarwch: cenwch i’n DUW â’r delyn;
147:8 Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â
chymylau, yn paratoi glaw i’r ddaear, gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd.
147:9 Efe, sydd yn rhoddi i’r
anifail ei borthant, ac i gywion y gigfran, pan lefant.
147:10 Nid oes hyfrydwch ganddo yn
nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr.
147:11 Yr ARGLWYDD sydd hoff ganddo
y rhai a’i hofnant ef; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef.
147:12 Jerwsalem, mola di yr
ARGLWYDD: Seion, molianna dy DDUW.
147:13 Oherwydd efe a gadarnhaodd
farrau byrth: efe a fendithiodd dy blant o’th fewn.
147:14 Yr hwn sydd yn gwneuthur dy
fro yn heddychol, ac a’th ddiwalla di â braster gwenith.
147:15 Yr hwn sydd yn anfon ei
orchymyn ar y ddaear: a’i air a red yn dra buan.
147:16 Yr hwn sydd yn rhoddi eira
fel gwlân; ac a daena rew fel lludw.
147:17 Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel
tameidiau: pwy a erys gan ei oerni ef?
147:18 Efe a enfyn ei air, ac a’u
tawdd hwynt: â’i wynt y chwyth efe, ar dyfroedd a lifant.
147:19 Y mae efe yn mynegi ei eiriau
i Jacob, ei ddeddfau a’i farnedigaethau i Israel.
147:20 Ni wnaeth efe felly ag un
genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr ARGLWYDD.
SALM 148
148:1 Molwch yr ARGLWYDD. Molwch yr
ARGLWYDD o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau.
148:2 Molwch ef, ei holl angylion:
molwch ef, ei holl luoedd.
148:3 Molwch ef, haul a lleuad:
molwch ef, yr holl sêr goleuni.
148:4 Molwch ef, nef y nefoedd; a’r
dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.
148:5 Molant enw yr ARGLWYDD
oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd.
148:6 A gwnaeth iddynt barhau byth
yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi.
148:7 Molwch yr ARGLWYDD. o’r
ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau:
148:8 Tân a chenllysg, eira a
tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef:
148:9 Y mynyddoedd a’r bryniau oll;
y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd:
148:10 Y bwystfilod a phob anifail;
yr ymlusgiaid ac adar asgellog:
148:11 Brenhinoedd y ddaear a’r holl
bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd:
148:12 Gwŷr ieuainc a gwyryfon
hefyd; hynafgwyr a llanciau:
148:13 Molant enw yr ARGLWYDD:
oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd
uwchlaw daear a nefoedd.
148:14 Ac efe sydd yn dyrchafu corn
ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr
ARGLWYDD.
SALM 149
149:1 Molwch yr ARGLWYDD. Cenwch i’r
ARGLWYDD ganiad newydd, a’i foliant ef yng nghynulleidfa y saint.
149:2 Llawenhaed Israel yn yr hwn
a’i gwnaeth: gorfoledded meibion Seion yn eu Brenin.
149:3 Molant ei enw ef ar y dawns:
canant iddo ar dympan a thelyn.
149:4 Oherwydd hoffodd yr ARGLWYDD
ei bobl: efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth.
149:5 Gorfoledded y saint mewn
gogoniant: a chanant ar eu gwelyau.
149:6 Bydded ardderchog foliant DUW
yn eu genau, a chleddyf daufiniog yn eu dwylo;
149:7 I wneuthur dial ar y
cenhedloedd, a chosb ar y bobloedd;
149:8 I rwymo eu brenhinoedd â
chadwynau, a’u pendefigion â gefynnau heyrn;
149:9 I wneuthur arnynt y farn
ysgrifenedig: yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef. Molwch yr
ARGLWYDD.
SALM 150
150:1 Molwch yr ARGLWYDD. Molwch
DDUW yn ei sancteiddrwydd: molwch ef yn ffurfafen ei nerth.
150:2 Molwch ef am ei gadernid:
molwch ef yn ôl amlder ei fawredd.
150:3 Molwch ef â llais utgorn:
molwch ef â nabl ac â thelyn.
150:4 Molwch ef â thympan ac â
dawns: molwch ef â thannau ac ag organ.
150:5 Molwch ef â symbylau soniarus:
molwch ef â symbylau llafar.
150:6 Pob perchen anadl, molianned
yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD.
DIWEDD
Sumbolau arbennig: ŵ ŷ
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n
ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Weør àm ai? Yùu àar vízïting ø peij fròm dhø
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the
"CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA