1481ke Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_jwdas_65_1481ke.htm

0001 Yr Hafan / Home Page
or via Google: #kimkat0001

..........
2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in English to this website
          or via Google: #kimkat2659e

....................0010e Y Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
                    or via Google: #kimkat0010e

...........................................0977e Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh texts on this website - contents page  
                                           or via Google: #kimkat0977e

...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
                                                                   or via Google: #kimkat1284e

............................................................................................y tudalen hwn
/ this page


..

 

 

 

 

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les

The Wales-Catalonia Website
 
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

Y Beibl Cysegr-lân :
(65) Jwdas
(yn Gymraeg ac yn Saesneg)

The Holy Bible:
(65) Jude
(in Welsh and English)


 

(delw 6540)

Adolygiad diweddaraf / Latest update:
18 11 2002

 

 

  1480k Y dudalen hon yn Gymraeg yn unig

····· 

EPISTOL CYFFEDINOL JWDAS YR APOSTOL

1:1 JWDAS, gwasanaethwr Iesu Grist, a brawd lago, at y rhai a sancteiddiwyd gan Dduw Dad, ac a gadwyd yn Iesu Grist, ac a alwyd:           
1:1 Jude, the servant of Jesus Christ, and brother of James, to them that are sanctified by God the Father, and preserved in Jesus Christ, and called:

1:2 Trugaredd i chwi, a thangnefedd, a chariad, a luosoger.      
1:2 Mercy unto you, and peace and love, be multiplied.

1:3 Anwylyd, pan roddais bob diwydrwydd ar ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth gyffredinol, anghenraid oedd i mi ysgrifennu atoch gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a rodded unwaith i’r saint.  
1:3 Beloved, when I gave all diligence to write unto you of the common salvation, it was needful for me to write unto you, and exhort you that ye should earnestly contend for the faith which was once delivered unto the saints.

1:4 Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i mewn, y rhai a ragordeiniwyd er ys talm i’r farnedigaeth hon; annuwiolion, yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu’r unig Arglwydd Dduw, a’n Harglwydd Iesu Grist.        
1:4 For there are certain men crept in unawares, who were before of old ordained to this condemnation, ungodly men, turning the grace of our God into lasciviousness, and denying the only Lord God, and our Lord Jesus Christ.

1:5 Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffau chwi, gan eich bod unwaith yn gwybod hyn; i’r Arglwydd, wedi iddo waredu’r bobl o dir yr Aifft, ddistrywio eilwaith y rhai ni chredasant.    
1:5 I will therefore put you in remembrance, though ye once knew this, how that the Lord, having saved the people out of the land of Egypt, afterward destroyed them that believed not.

1:6 Yr angylion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch, i farn y dydd mawr.    
1:6 And the angels which kept not their first estate, but left their own habitation, he hath reserved in everlasting chains under darkness unto the judgment of the great day.

1:7 Megis y mae Sodom a Gomorra, a’r dinasoedd o’u hamgylch mewn cyffelyb fodd a hwynt, wedi puteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol.  
1:7 Even as Sodom and Gomorrha, and the cities about them in like manner, giving themselves over to fornication, and going after strange flesh, are set forth for an example, suffering the vengeance of eternal fire.

1:8 Yr un ffunud hefyd y mae’r breuddwydwyr hyn yn halogi’r cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu’r rhai sydd mewn awdurdod. 
1:8 Likewise also these filthy dreamers defile the flesh, despise dominion, and speak evil of dignities.

1:9 Eithr Michael yr archangel, pan oedd efe, wrth ymddadlau a diafol, yn ymresymu ynghylch corff Moses, ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr Arglwydd dydi.    
1:9 Yet Michael the archangel, when contending with the devil he disputed about the body of Moses, durst not bring against him a railing accusation, but said, The Lord rebuke thee.

1:10 Eithr y rhai hyn sydd yn cablu’r pethau nis gwyddant: a pha bethau bynnag y maent yn anianol, fel anifeiliaid direswm, yn eu gwybod, yn y rhai hynny ymlygru y maent. 
1:10 But these speak evil of those things which they know not: but what they know naturally, as brute beasts, in those things they corrupt themselves.

1:11 Gwae hwynt-hwy! oblegid hwy a gerddasant yn ffordd Cain, ac a’u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam, ac a’u difethwyd yng ngwrthddywediad Core.         
1:11 Woe unto them! for they have gone in the way of Cain, and ran greedily after the error of Balaam for reward, and perished in the gainsaying of Core.

1:12 Y rhai hyn sydd frychau yn eich cariad-wleddoedd chwi, yn cydwledda â chwi, yn ddi-ofn yn eu pesgi eu hunain: cymylau di-ddwfr ydynt, a gylcharweinir gan wyntoedd; prennau diflanedig heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio;      
1:12 These are spots in your feasts of charity, when they feast with you, feeding themselves without fear: clouds they are without water, carried about of winds; trees whose fruit withereth, without fruit, twice dead, plucked up by the roots;

1:13 Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; ser gwibiog, i’r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd.      
1:13 Raging waves of the sea, foaming out their own shame; wandering stars, to whom is reserved the blackness of darkness for ever.

1:14 Ac Enoch hefyd, y seithfed o Adda, a broffwydodd am y rhai hyn, gan ddywedyd, Wele, y mae’r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o’i saint,           
1:14 And Enoch also, the seventh from Adam, prophesied of these, saying, Behold, the Lord cometh with ten thousands of his saints,

1:15 I wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr argyhoeddi’r holl rai annuwiol ohonynt am holl weithredoedd eu hannuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol, ac am yr holl eiriau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid yn ei erbyn ef.       
1:15 To execute judgment upon all, and to convince all that are ungodly among them of all their ungodly deeds which they have ungodly committed, and of all their hard speeches which ungodly sinners have spoken against him.

1:16 Y rhai hyn sydd rwgnachwyr, tuchanwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain; ac y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig, yn mawrygu wynebau dynion er mwyn budd. 
1:16 These are murmurers, complainers, walking after their own lusts; and their mouth speaketh great swelling words, having men’s persons in admiration because of advantage.

1:17 Eithr chwi, O rai annwyl, cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd lesu Grist;         
1:17 But, beloved, remember ye the words which were spoken before of the apostles of our Lord Jesus Christ;

1:18 Ddywedyd ohonynt i chwi, y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain.
1:18 How that they told you there should be mockers in the last time, who should walk after their own ungodly lusts.

1:19 Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Ysbryd ganddynt.        
1:19 These be they who separate themselves, sensual, having not the Spirit.

1:20 Eithr chwychwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddio yn yr Ysbryd Glân,   
1:20 But ye, beloved, building up yourselves on your most holy faith, praying in the Holy Ghost,

1:21 Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol.        
1:21 Keep yourselves in the love of God, looking for the mercy of our Lord Jesus Christ unto eternal life.

1:22 A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor:     
1:22 And of some have compassion, making a difference:

1:23 Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o’r tân; gan gasau hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd.   
1:23 And others save with fear, pulling them out of the fire; hating even the garment spotted by the flesh.

1:24 Eithr i’r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp, a’ch gosod gerbron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd,           
1:24 Now unto him that is able to keep you from falling, and to present you faultless before the presence of his glory with exceeding joy,

1:25 I’r unig ddoeth Dduw, ein Hiachawdwr ni, y byddo gogoniant a mawredd, gallu ac awdurdod, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.          
1:25 To the only wise God our Saviour, be glory and majesty, dominion and power, both now and for ever. Amen.

·····

Sumbolau arbennig: ŷŵ

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc?
Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website

 

CYMRU-CATALONIA

 

Edrychwych ar fy ystadegau / View My Stats